<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:</urn><passage>Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear . A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag , a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder , ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd . A Duw a ddywedodd , Bydded goleuni , a goleuni a fu . A Duw a welodd y goleuni , mai da oedd : a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch . A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd , a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos : a’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y dydd cyntaf . Duw hefyd a ddywedodd , Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd , a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd . A Duw a wnaeth y ffurfafen , ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen , a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen : ac felly y bu . A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd : a’r hwyr a fu , a’r bore a fu , yr ail ddydd . Duw hefyd a ddywedodd , Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle , ac ymddangosed y sychdir : ac felly y bu . A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear , a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd : a Duw a welodd mai da oedd . A Duw a ddywedodd , Egined y ddaear egin , sef llysiau yn hadu had , a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth , wrth eu rhywogaeth , y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear : ac felly y bu . A’r ddaear a ddug egin , sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth , a phrennau yn dwyn ffrwyth , y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth : a Duw a welodd mai da oedd . A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y trydydd dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd , i wahanu rhwng y dydd a’r nos ; a byddant yn arwyddion , ac yn dymhorau , ac yn ddyddiau , a blynyddoedd . A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd , i oleuo ar y ddaear : ac felly y bu . A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion ; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd , a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos : a’r sêr hefyd a wnaeth efe . Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt , i oleuo ar y ddaear , Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos , ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch : a gwelodd Duw mai da oedd . A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y pedwerydd dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw , ac eheded ehediaid uwch y ddaear , yn wyneb ffurfafen y nefoedd . A Duw a greodd y morfeirch mawrion , a phob ymlusgiad byw , y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth , a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth : a gwelodd Duw mai da oedd . A Duw a’u bendigodd hwynt , gan ddywedyd , Ffrwythwch , ac amlhewch , a llenwch y dyfroedd yn y moroedd , a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear , A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y pumed dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth , yr anifail , a’r ymlusgiad , a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth : ac felly y bu . A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth , a’r anifail wrth ei rywogaeth , a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth : a gwelodd Duw mai da oedd . Duw hefyd a ddywedodd , Gwnawn ddyn ar ein delw ni , wrth ein llun ein hunain : ac arglwyddiaethant ar bysg y môr , ac ar ehediad y nefoedd , ac ar yr anifail , ac ar yr holl ddaear , ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear . Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun , ar ddelw Duw y creodd efe ef : yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt . Duw hefyd a’u bendigodd hwynt , a Duw a ddywedodd wrthynt , Ffrwythwch , ac amlhewch , a llenwch y ddaear , a darostyngwch hi ; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr , ac ar ehediad y nefoedd , ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear . A Duw a ddywedodd , Wele , mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had , yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear , a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had , i fod yn fwyd i chwi . Hefyd i bob bwystfil y ddaear , ac i bob ehediad y nefoedd , ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear , yr hwn y mae einioes ynddo , y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd : ac felly y bu . A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai , ac wele da iawn ydoedd : felly yr hwyr a fu , a’r bore a fu , y chweched dydd . Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear , a’u holl lu hwynt . Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith , yr hwn a wnaethai efe , ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith , yr hwn a wnaethai efe . A Duw a fendigodd y seithfed dydd , ac a’i sancteiddiodd ef : oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith , yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur . Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear , pan grewyd hwynt , yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd , A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear , a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan : oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear , ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear . Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear , ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear . A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear , ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes : a’r dyn a aeth yn enaid byw . Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden , o du’r dwyrain , ac a osododd yno y dyn a luniasai efe . A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg , a daionus yn fwyd , ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd , ac i bren gwybodaeth da a drwg , dyfu allan o’r ddaear . Ac afon a aeth allan o Eden , i ddyfrhau yr ardd , ac oddi yno hi a rannwyd , ac a aeth yn bedwar pen . Enw y gyntaf yw Pison : hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila , lle y mae yr aur : Ac aur y wlad honno sydd dda : yno mae bdeliwm a’r maen onics . Ac enw yr ail afon yw Gihon : honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia . Ac enw y drydedd afon yw Hidecel : honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria : a’r bedwaredd afon yw Ewffrates . A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn , ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden , i’w llafurio ac i’w chadw hi . A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn , gan ddywedyd , O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta : Ond o bren gwybodaeth da a drwg , na fwyta ohono ; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono , gan farw y byddi farw . Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd , Nid da bod y dyn ei hunan ; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo . A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes , a holl ehediaid y nefoedd , ac a’u dygodd at Adda , i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy : a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw , hynny fu ei enw ef . Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid , ac ar ehediaid y nefoedd , ac ar holl fwystfilod y maes : ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda , ac efe a gysgodd : ac efe a gymerodd un o’i asennau ef , ac a gaeodd gig yn ei lle hi . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn , yn wraig , ac a’i dug at y dyn . Ac Adda a ddywedodd , Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i , a chnawd o’m cnawd i : hon a elwir gwraig , oblegid o ŵr y cymerwyd hi . Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad , ac â’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig : a hwy a fyddant yn un cnawd . Ac yr oeddynt ill dau yn noethion , Adda a’i wraig , ac nid oedd arnynt gywilydd . A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes , y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw . A hi a ddywedodd wrth y wraig , Ai diau ddywedyd o Dduw , Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd ? A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff , O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta : Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd , Duw a ddywedodd , Na fwytewch ohono , ac na chyffyrddwch ag ef , rhag eich marw . A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig , Ni byddwch feirw ddim . Canys gwybod y mae Duw , mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef , yr agorir eich llygaid , ac y byddwch megis duwiau , yn gwybod da a drwg . A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd , ac mai teg mewn golwg ydoedd , a’i fod yn bren dymunol i beri deall , hi a gymerth o’i ffrwyth ef , ac a fwytaodd , ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi , ac efe a fwytaodd . A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd , a hwy a wybuant eu bod yn noethion , ac a wniasant ddail y ffigysbren , ac a wnaethant iddynt arffedogau . A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd , gydag awel y dydd ; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw , ymysg prennau yr ardd . A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda , ac a ddywedodd wrtho , Pa le yr wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Dy lais a glywais yn yr ardd ; a mi a ofnais , oblegid noeth oeddwn , ac a ymguddiais . A dywedodd Duw , Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth ? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono , y bwyteaist ? Ac Adda a ddywedodd , Y wraig a roddaist gyda mi , hi a roddodd i mi o’r pren , a mi a fwyteais . A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig , Paham y gwnaethost ti hyn ? A’r wraig a ddywedodd , Y sarff a’m twyllodd , a bwyta a wneuthum . A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff , Am wneuthur ohonot hyn , melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid , ac na holl fwystfilod y maes : ar dy dor y cerddi , a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes . Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig , a rhwng dy had di a’i had hithau : efe a ysiga dy ben di , a thithau a ysigi ei sawdl ef . Wrth y wraig y dywedodd , Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi : mewn poen y dygi blant , a’th ddymuniad fydd at dy ŵr , ac efe a lywodraetha arnat ti . Hefyd wrth Adda y dywedodd , Am wrando ohonot ar lais dy wraig , a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti , gan ddywedyd , Na fwyta ohono ; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di : trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes . Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti ; a llysiau y maes a fwytei di . Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara , hyd pan ddychwelech i’r ddaear ; oblegid ohoni y’th gymerwyd : canys pridd wyt ti , ac i’r pridd y dychweli . A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa ; oblegid hi oedd fam pob dyn byw . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn , ac a’u gwisgodd amdanynt hwy . Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd , Wele y dyn sydd megis un ohonom ni , i wybod da a drwg . Ac weithian , rhag iddo estyn ei law , a chymryd hefyd o bren y bywyd , a bwyta , a byw yn dragwyddol : Am hynny yr Arglwydd Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden , i lafurio’r ddaear , yr hon y cymerasid ef ohoni . Felly efe a yrrodd allan y dyn , ac a osododd , o’r tu dwyrain i ardd Eden , y ceriwbiaid , a chleddyf tanllyd ysgydwedig , i gadw ffordd pren y bywyd . Ac Adda a adnabu Efa ei wraig : a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar Cain ; ac a ddywedodd , Cefais ŵr gan yr Arglwydd . A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel ; ac Abel oedd fugail defaid , ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear . A bu , wedi talm o ddyddiau , i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd . Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid , ac o’u braster hwynt . A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel , ac ar ei offrwm : Ond nid edrychodd efe ar Cain , nac ar ei offrwm ef . A dicllonodd Cain yn ddirfawr , fel y syrthiodd ei wynepryd ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain , Paham y llidiaist ? a phaham y syrthiodd dy wynepryd ? Os da y gwnei , oni chei oruchafiaeth ? ac oni wnei yn dda , pechod a orwedd wrth y drws : atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef , a thi a lywodraethi arno ef . A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd : ac fel yr oeddynt hwy yn y maes , Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd , ac a’i lladdodd ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain , Mae Abel dy frawd di ? Yntau a ddywedodd , Nis gwn ; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi ? A dywedodd Duw , Beth a wnaethost ? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear . Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear , yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di . Pan lafuriech y ddaear , ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti ; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear . Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd , Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau . Wele , gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear , ac o’th ŵydd di y’m cuddir : gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear ; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain . A’r Arglwydd a osododd nod ar Cain , rhag i neb a’i caffai ei ladd ef . A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd , ac a drigodd yn nhir Nod , o’r tu dwyrain i Eden . Cain hefyd a adnabu ei wraig ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar Enoch : yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas , ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab , Enoch . Ac i Enoch y ganwyd Irad : ac Irad a genhedlodd Mehwiael , a Mehwiael a genhedlodd Methwsael , a Methwsael a genhedlodd Lamech . A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd : enw y gyntaf oedd Ada , ac enw yr ail Sila . Ac Ada a esgorodd ar Jabal ; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell , a pherchen anifail . Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal ; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ . Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain , gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn : a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama . A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd , Ada a Sila , Clywch fy llais , gwragedd Lamech , gwrandewch fy lleferydd ; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl , a llanc i’m clais . Os Cain a ddielir seithwaith , yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith . Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn ; a hi a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Seth : Oherwydd Duw ( eb hi ) a osododd i mi had arall yn lle Abel , am ladd o Cain ef . I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab ; ac efe a alwodd ei enw ef Enos : yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd . Dyma lyfr cenedlaethau Adda : yn y dydd y creodd Duw ddyn , ar lun Duw y gwnaeth efe ef . Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt : ac efe a’u bendithiodd hwynt , ac a alwodd eu henw hwynt Adda , ar y dydd y crewyd hwynt . Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant , ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun , ac a alwodd ei enw ef Seth . A dyddiau Adda , wedi iddo genhedlu Seth , oedd wyth gan mlynedd , ac efe a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Adda , y rhai y bu efe fyw , oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain ; ac efe a fu farw . Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd , ac a genhedlodd Enos . A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos , saith mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain , ac a genhedlodd Cenan . Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan , bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Mahalaleel . A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd , ac a genhedlodd Jered . A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered , ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd ; ac efe a fu farw . A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd , ac a genhedlodd Enoch . A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Methwsela . Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela , dri chant o flynyddoedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd . A rhodiodd Enoch gyda Duw , ac ni welwyd ef ; canys Duw a’i cymerodd ef . Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant , ac a genhedlodd Lamech . A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech , ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd , ac a genhedlodd fab ; Ac a alwodd ei enw ef Noa , gan ddywedyd , Hwn a’n cysura ni am ein gwaith , a llafur ein dwylo , oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd . A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa , bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd ; ac efe a fu farw . A Noa ydoedd fab pum can mlwydd ; a Noa a genhedlodd Sem , Cham , a Jaffeth . Yna y bu , pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear , a geni merched iddynt , Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy ; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant . A dywedodd yr Arglwydd , Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd , oblegid mai cnawd yw efe : a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant . Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny : ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion , a phlanta o’r rhai hynny iddynt : dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt . A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear , a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser . Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear , ac efe a ymofidiodd yn ei galon . A’r Arglwydd a ddywedodd , Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear , o ddyn hyd anifail , hyd yr ymlusgiad , a hyd ehediad y nefoedd : canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt . Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd . Dyma genedlaethau Noa : Noa oedd ŵr cyfiawn , perffaith yn ei oes : gyda Duw y rhodiodd Noa . A Noa a genhedlodd dri o feibion , Sem , Cham , a Jaffeth . A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw ; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd . A Duw a edrychodd ar y ddaear , ac wele hi a lygrasid ; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear . A Duw a ddywedodd wrth Noa , Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron : oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy : ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear . Gwna i ti arch o goed Goffer ; yn gellau y gwnei yr arch , a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg . Ac fel hyn y gwnei di hi : tri chan cufydd fydd hyd yr arch , deg cufydd a deugain ei lled , a deg cufydd ar hugain ei huchder . Gwna ffenestr i’r arch , a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd ; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys : o dri uchder y gwnei di hi . Ac wele myfi , ie myfi , yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear , i ddifetha pob cnawd , yr hwn y mae anadl einioes ynddo , oddi tan y nefoedd : yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga . Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod ; ac i’r arch yr ei di , tydi a’th feibion , a’th wraig , a gwragedd dy feibion gyda thi . Ac o bob peth byw , o bob cnawd , y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi ; gwryw a benyw fyddant . O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth , ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth , o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth ; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw . A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir , a chasgl atat ; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau . Felly y gwnaeth Noa , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo , felly y gwnaeth efe . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa , Dos di , a’th holl dŷ i’r arch : canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon . O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith , y gwryw a’i fenyw ; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân , y gwryw a’i fenyw : O ehediaid y nefoedd hefyd , bob yn saith , yn wryw ac yn fenyw , i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear . Oblegid wedi saith niwrnod eto , mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos : a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i . A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo . Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear . A Noa a aeth i mewn , a’i feibion , a’i wraig , a gwragedd ei feibion gydag ef , i’r arch , rhag y dwfr dilyw . O anifeiliaid glân , ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân , o ehediaid hefyd , ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear , Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau , yn wryw ac yn fenyw , fel y gorchmynasai Duw i Noa . Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear . Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa , yn yr ail mis , ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis , ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr , a ffenestri’r nefoedd a agorwyd . A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos . O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa , a Sem , a Cham , a Jaffeth , meibion Noa , a gwraig Noa , a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt , i’r arch ; Hwynt , a phob bwystfil wrth ei rywogaeth , a phob anifail wrth ei rywogaeth , a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth , a phob ehediad wrth ei rywogaeth , pob aderyn o bob rhyw . A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau , o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes . A’r rhai a ddaethant , yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd , fel y gorchmynasai Duw iddo . A’r Arglwydd a gaeodd arno ef . A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear ; a’r dyfroedd a gynyddasant , ac a godasant yr arch , a hi a godwyd oddi ar y ddaear . A’r dyfroedd a ymgryfhasant , ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear ; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd . A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear , a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd . Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny : a’r mynyddoedd a orchuddiwyd . A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear , yn ehediaid , ac yn anifeiliaid , ac yn fwystfilod , ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear , a phob dyn hefyd . Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau , o’r hyn oll oedd ar y sychdir , a fuant feirw . Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear , yn ddyn ac yn anifail , yn ymlusgiaid , ac yn ehediaid y nefoedd ; ie , dilewyd hwynt o’r ddaear : a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch , yn unig , a adawyd yn fyw . A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant . A Duw a gofiodd Noa , a phob peth byw , a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch : a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear , a’r dyfroedd a lonyddasant . Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd ; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd . A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear , gan fyned a dychwelyd : ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant , y dyfroedd a dreiasai . Ac yn y seithfed mis , ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis , y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat . A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio , hyd y degfed mis : yn y degfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y gwelwyd pennau’r mynyddoedd . Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe . Ac efe a anfonodd allan gigfran ; a hi a aeth , gan fyned allan a dychwelyd , hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear . Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho , i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear . Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed ; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch , am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir : ac efe a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd hi , ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch . Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill , ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch . A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn ; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi , wedi ei thynnu : yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear . Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill , ac a anfonodd y golomen ; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy . Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant , yn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir : a Noa a symudodd gaead yr arch , ac a edrychodd , ac wele , sychasai wyneb y ddaear . Ac yn yr ail fis , ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis , y ddaear a sychasai . A llefarodd Duw wrth Noa , gan ddywedyd , Dos allan o’r arch , ti , a’th wraig , a’th feibion , a gwragedd dy feibion , gyda thi . Pob peth byw a’r sydd gyda thi , o bob cnawd , yn adar , ac yn anifeiliaid , ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , a ddygi allan gyda thi : epiliant hwythau yn y ddaear , a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear . A Noa a aeth allan , a’i feibion , a’i wraig , a gwragedd ei feibion , gydag ef . Pob bwystfil , pob ymlusgiad , a phob ehediad , pob peth a ymlusgai ar y ddaear , wrth eu rhywogaethau , a ddaethant allan o’r arch . A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd , ac a gymerodd o bob anifail glân , ac o bob ehediad glân , ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor . A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth ; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon , Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn : oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid : ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw , fel y gwneuthum . Pryd hau , a chynhaeaf , ac oerni , a gwres , a haf , a gaeaf , a dydd , a nos , ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear . Duw hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion , ac a ddywedodd wrthynt , Ffrwythwch a lluosogwch , a llenwch y ddaear . Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear , ac ar holl ehediaid y nefoedd , a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear , ac ar holl bysgod y môr ; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt . Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw , fydd i chwi yn fwyd : fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim . Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes , sef ei waed . Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi : o law pob bwystfil y gofynnaf ef ; ac o law dyn , o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn . A dywallto waed dyn , trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau , oherwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn . Ond chwychwi , ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear , a lluosogwch ynddi . A Duw a lefarodd wrth Noa , ac wrth ei feibion gydag ef , gan ddywedyd , Ac wele myfi , ie myfi , ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi , ac â’ch had ar eich ôl chwi ; Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi , â’r ehediaid , â’r anifeiliaid , ac â phob bwystfil y tir gyda chwi , o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch , hyd holl fwystfilod y ddaear . A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi , ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw , ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear . A Duw a ddywedodd , Dyma arwydd y cyfamod , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi , ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi , tros oesoedd tragwyddol : Fy mwa a roddais yn y cwmwl , ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear . A bydd , pan godwyf gwmwl ar y ddaear , yr ymddengys y bwa yn y cwmwl . A mi a gofiaf fy nghyfamod , yr hwn sydd rhyngof fi a chwi , ac a phob peth byw o bob cnawd : ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy , i ddifetha pob cnawd . A’r bwa a fydd yn y cwmwl ; a mi a edrychaf arno ef , i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw , o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear . A Duw a ddywedodd wrth Noa , Dyma arwydd y cyfamod , yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear . A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch , oedd Sem , Cham , a Jaffeth ; a Cham oedd dad Canaan . Y tri hyn oedd feibion Noa : ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear . A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr , ac a blannodd winllan : Ac a yfodd o’r gwin , ac a feddwodd , ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell . A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad , ac a fynegodd i’w ddau frawd allan . A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn , ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau , ac a gerddasant yn wysg eu cefn , ac a orchuddiasant noethni eu tad ; a’u hwynebau yn ôl , fel na welent noethni eu tad . A Noa a ddeffrôdd o’i win , ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo . Ac efe a ddywedodd , Melltigedig fyddo Canaan ; gwas gweision i’w frodyr fydd . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem ; a Chanaan fydd was iddo ef . Duw a helaetha ar Jaffeth , ac efe a breswylia ym mhebyll Sem ; a Chanaan fydd was iddo ef . A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain . Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain ; ac efe a fu farw . Adyma genedlaethau meibion Noa : Sem , Cham , a Jaffeth ; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw . Meibion Jaffeth oedd Gomer , a Magog , a Madai , a Jafan , a Thubal , a Mesech , a Thiras . Meibion Gomer hefyd ; Ascenas , a Riffath , a Thogarma . A meibion Jafan ; Elisa , a Tharsis , Cittim , a Dodanim . O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd , pawb wrth eu hiaith eu hun , trwy eu teuluoedd , yn eu cenhedloedd . A meibion Cham oedd Cus , a Misraim , a Phut , a Chanaan . A meibion Cus ; Seba , a Hafila , a Sabta , a Raama , a Sabteca : a meibion Raama ; Seba , a Dedan . Cus hefyd a genhedlodd Nimrod : efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear . Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd : am hynny y dywedir , Fel Nimrod , heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd . A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel , ac Erech , ac Accad , a Chalne , yng ngwlad Sinar . O’r wlad honno yr aeth Assur allan , ac a adeiladodd Ninefe , a dinas Rehoboth , a Chala , A Resen , rhwng Ninefe a Chala ; honno sydd ddinas fawr . Misraim hefyd a genhedlodd Ludim , ac Anamim , a Lehabim , a Nafftwhim , Pathrusim hefyd a Chasluhim , ( o’r rhai y daeth Philistim , ) a Chafftorim . Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig , a Heth , A’r Jebusiad , a’r Amoriad , a’r Girgasiad , A’r Hefiad , a’r Arciad , a’r Siniad , A’r Arfadiad , a’r Semariad , a’r Hamathiad : ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid . Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon , ffordd yr elych i Gerar , hyd Gasa : y ffordd yr elych i Sodom , a Gomorra , ac Adma , a Seboim , hyd Lesa . Dyma feibion Cham , yn ôl eu teuluoedd , wrth eu hieithoedd , yn eu gwledydd , ac yn eu cenhedloedd . I Sem hefyd y ganwyd plant ; yntau oedd dad holl feibion Heber , a brawd Jaffeth yr hynaf . Meibion Sem oedd Elam , ac Assur , ac Arffacsad , a Lud , ac Aram . A meibion Aram ; Us , a Hul , a Gether , a Mas . Ac Arffacsad a genhedlodd Sela , a Sela a genhedlodd Heber . Ac i Heber y ganwyd dau o feibion : enw un oedd Peleg ; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear ; ac enw ei frawd , Joctan . A Joctan a genhedlodd Almodad , a Saleff , a Hasarmafeth , a Jera , Hadoram hefyd , ac Usal , a Dicla , Obal hefyd , ac Abinael , a Seba , Offir hefyd , a Hafila , a Jobab : yr holl rai hyn oedd feibion Joctan . A’u preswylfa oedd o Mesa , ffordd yr elych i Seffar , mynydd y dwyrain . Dyma feibion Sem , wrth eu teuluoedd , yn ôl eu hieithoedd , yn eu gwledydd , trwy eu cenhedloedd . Dyma deuluoedd meibion Noa , wrth eu cenedlaethau , yn ôl eu cenhedloedd : ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw . A’r holl ddaear ydoedd o un iaith , ac o un ymadrodd . A bu , a hwy yn ymdaith o’r dwyrain , gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar ; ac yno y trigasant . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Deuwch , gwnawn briddfeini , a llosgwn yn boeth : ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig , a chlai oedd ganddynt yn lle calch . A dywedasant , Moeswch , adeiladwn i ni ddinas , a thŵr , a’i nen hyd y nefoedd , a gwnawn i ni enw , rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear . A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion . A dywedodd yr Arglwydd , Wele y bobl yn un , ac un iaith iddynt oll , a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio : ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur . Deuwch , disgynnwn , a chymysgwn yno eu hiaith hwynt , fel na ddeallont iaith ei gilydd . Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear ; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas . Am hynny y gelwir ei henw hi Babel ; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear , ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear . Dyma genedlaethau Sem : Sem ydoedd fab can mlwydd , ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw . A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad , bum can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Sela . Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela , dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Heber . A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber , dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain , ac a genhedlodd Peleg . A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg , ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Reu . A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu , naw o flynyddoedd a dau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Serug . A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug , saith o flynyddoedd a dau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Nachor . A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor , ddau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Tera . A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera , onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Abram , Nachor , a Haran . A dyma genedlaethau Tera : Tera a genhedlodd Abram , Nachor , a Haran ; a Haran a genhedlodd Lot . A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad , yng ngwlad ei enedigaeth , o fewn Ur y Caldeaid . Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd : enw gwraig Abram oedd Sarai ; ac enw gwraig Nachor , Milca , merch Haran , tad Milca , a thad Isca . A Sarai oedd amhlantadwy , heb blentyn iddi . A Thera a gymerodd Abram ei fab , a Lot fab Haran , mab ei fab , a Sarai ei waudd , gwraig Abram ei fab ; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid , i fyned i dir Canaan ; ac a ddaethant hyd yn Haran , ac a drigasant yno . A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd : a bu farw Tera yn Haran . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram , Dos allan o’th wlad , ac oddi wrth dy genedl , ac o dŷ dy dad , i’r wlad a ddangoswyf i ti . A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr , ac a’th fendithiaf , mawrygaf hefyd dy enw ; a thi a fyddi yn fendith . Bendithiaf hefyd dy fendithwyr , a’th felltithwyr a felltigaf : a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti . Yna yr aeth Abram , fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho ; a Lot a aeth gydag ef : ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran . Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig , a Lot mab ei frawd , a’u holl olud a gasglasent hwy , a’r eneidiau a enillasent yn Haran , ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan ; ac a ddaethant i wlad Canaan . Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem , hyd wastadedd More : a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw . A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram , ac a ddywedodd , I’th had di y rhoddaf y tir hwn : yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , yr hwn a ymddangosasai iddo . Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd , o du dwyrain Bethel , ac a estynnodd ei babell , gan adael Bethel tua’r gorllewin , a Hai tua’r dwyrain : ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , ac a alwodd ar enw yr Arglwydd . Ac Abram a ymdeithiodd , gan fyned ac ymdaith tua’r deau . Ac yr oedd newyn yn y tir ; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft , i ymdeithio yno , am drymhau o’r newyn yn y wlad . A bu , ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft , ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig , Wele , yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti : A phan welo’r Eifftiaid dydi , hwy a ddywedant , Dyma’i wraig ef ; a hwy a’m lladdant i , a thi a adawant yn fyw . Dywed , atolwg , mai fy chwaer wyt ti : fel y byddo da i mi er dy fwyn di , ac y byddwyf fyw o’th blegid di . A bu , pan ddaeth Abram i’r Aifft , i’r Eifftiaid edrych ar y wraig , mai glân odiaeth oedd hi . A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi , ac a’i canmolasant hi wrth Pharo : a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo . Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi : ac yr oedd ganddo ef ddefaid , a gwartheg , ac asynnod , a gweision , a morynion , ac asennod , a chamelod . A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion , o achos Sarai gwraig Abram . A Pharo a alwodd Abram , ac a ddywedodd , Paham y gwnaethost hyn i mi ? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi ? Paham y dywedaist , Fy chwaer yw hi ? fel y cymerwn hi yn wraig i mi : ond yr awr hon wele dy wraig , cymer hi , a dos ymaith . A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef : a hwy a’i gollyngasant ef ymaith , a’i wraig , a’r hyn oll oedd eiddo ef . Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft , efe a’i wraig , a’r hyn oll oedd eiddo , a Lot gydag ef , i’r deau . Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid , ac o arian , ac aur . Ac efe a aeth ar ei deithiau , o’r deau hyd Bethel , hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad , rhwng Bethel a Hai ; I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf : ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd . Ac i Lot hefyd , yr hwn a aethai gydag Abram , yr oedd defaid , a gwartheg , a phebyll . A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd ; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth , fel na allent drigo ynghyd . Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot : y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad . Ac Abram a ddywedodd wrth Lot , Na fydded cynnen , atolwg , rhyngof fi a thi , na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di ; oherwydd brodyr ydym ni . Onid yw yr holl dir o’th flaen di ? Ymneilltua , atolwg , oddi wrthyf : os ar y llaw aswy y troi di , minnau a droaf ar y ddeau ; ac os ar y llaw ddeau , minnau a droaf ar yr aswy . A Lot a gyfododd ei olwg , ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen , mai dyfradwy ydoedd oll , cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra , fel gardd yr Arglwydd , fel tir yr Aifft , ffordd yr elych i Soar . A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen , a Lot a aeth tua’r dwyrain : felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd . Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd , ac a luestodd hyd Sodom . A dynion Sodom oedd ddrygionus , ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram , wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef , Cyfod dy lygaid , ac edrych o’r lle yr wyt ynddo , tua’r gogledd , a’r deau , a’r dwyrain , a’r gorllewin . Canys yr holl dir a weli , i ti y rhoddaf ef , ac i’th had byth . Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear ; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear , yna y rhifir dy had dithau . Cyfod , rhodia trwy’r wlad , ar ei hyd , ac ar ei lled ; canys i ti y rhoddaf hi . Ac Abram a symudodd ei luest , ac a ddaeth , ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre , yr hwn sydd yn Hebron , ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd . Abu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar , Arioch brenin Elasar , Cedorlaomer brenin Elam , a Thidal brenin y cenhedloedd ; Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom , ac â Birsa brenin Gomorra , â Sinab brenin Adma , ac â Semeber brenin Seboim , ac â brenin Bela , hon yw Soar . Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim : hwnnw yw’r môr heli . Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer , a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant . A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer , a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef , ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim , a’r Susiaid yn Ham , a’r Emiaid yn Safe-Ciriathaim , A’r Horiaid yn eu mynydd Seir , hyd wastadedd Paran , yr hwn sydd wrth yr anialwch . Yna y dychwelasant , ac y daethant i Enmispat , honno yw Cades , ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid , a’r Amoriaid hefyd , y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar . Allan hefyd yr aeth brenin Sodom , a brenin Gomorra , a brenin Adma , a brenin Seboim , a brenin Bela , honno yw Soar : ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt ; A Chedorlaomer brenin Elam , a Thidal brenin y cenhedloedd , ac Amraffel brenin Sinar , ac Arioch brenin Elasar : pedwar brenin yn erbyn pump . A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai ; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant , ac a syrthiasant yno : a’r lleill a ffoesant i’r mynydd . A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra , a’u holl luniaeth hwynt , ac a aethant ymaith . Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram , a’i gyfoeth , ac a aethant ymaith ; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo . A daeth un a ddianghasai , ac a fynegodd i Abram yr Hebread , ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad , brawd Escol , a brawd Aner ; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram . A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd , efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef , ddeunaw a thri chant , ac a ymlidiodd hyd Dan . As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos , efe a’i weision , ac a’u trawodd hwynt , ac a’u hymlidiodd hyd Hoba , yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus . Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth , a’i frawd Lot hefyd , a’i gyfoeth , a ddug efe drachefn , a’r gwragedd hefyd , a’r bobl . A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef , ( wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer , a’r brenhinoedd oedd gydag ef , ) i ddyffryn Safe , hwn yw dyffryn y brenin . Melchisedec hefyd , brenin Salem , a ddug allan fara a gwin ; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf : Ac a’i bendithiodd ef , ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf , meddiannydd nefoedd a daear : A bendigedig fyddo Duw goruchaf , yr hwn a roddes dy elynion yn dy law . Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl . A dywedodd brenin Sodom wrth Abram , Dod i mi y dynion , a chymer i ti y cyfoeth . Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom , Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf , meddiannydd nefoedd a daear , Na chymerwn o edau hyd garrai esgid , nac o’r hyn oll sydd eiddot ti ; rhag dywedyd ohonot , Myfi a gyfoethogais Abram : Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau , a rhan y gwŷr a aethant gyda mi , Aner , Escol , a Mamre : cymerant hwy eu rhan . Wedi ’r pethau hyn , y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth , gan ddywedyd , Nac ofna , Abram ; myfi ydyw dy darian , dy wobr mawr iawn . A dywedodd Abram , Arglwydd Dduw , beth a roddi di i mi ? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant , a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus . Abram hefyd a ddywedodd , Wele , ni roddaist i mi had ; ac wele , fy nghaethwas fydd fy etifedd . Ac wele air yr Arglwydd ato ef , gan ddywedyd , Nid hwn fydd dy etifedd , onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd . Ac efe a’i dug ef allan , ac a ddywedodd , Golyga yn awr y nefoedd , a rhif y sêr , o gelli eu cyfrif hwynt : dywedodd hefyd wrtho , Felly y bydd dy had di . Yntau a gredodd yn yr Arglwydd , ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder . Ac efe a ddywedodd wrtho , Myfi yw yr Arglwydd , yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid , i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu . Yntau a ddywedodd , Arglwydd Dduw , trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer i mi anner dair blwydd , a gafr dair blwydd , a hwrdd tair blwydd , a thurtur , a chyw colomen . Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll , ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol , ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd ; ond ni holltodd efe yr adar . A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau , yna Abram a’u tarfai hwynt . A phan oedd yr haul ar fachludo , y syrthiodd trymgwsg ar Abram : ac wele ddychryn , a thywyllni mawr , yn syrthio arno ef . Ac efe a ddywedodd wrth Abram , Gan wybod gwybydd , y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt , ac a’u gwasanaethant , a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd . A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant , a farnaf fi : ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr . A thi a ei at dy dadau mewn heddwch : ti a gleddir mewn henaint teg . Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma ; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid . A bu , pan fachludodd yr haul , a hi yn dywyll , wele ffwrn yn mygu , a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny . Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddais y wlad hon , o afon yr Aifft hyd yr afon fawr , afon Ewffrates : Y Ceneaid , a’r Cenesiaid , a’r Cadmoniaid . Yr Hethiaid hefyd , a’r Pheresiaid , a’r Reffaimiaid , Yr Amoriaid hefyd , a’r Canaaneaid , a’r Girgasiaid , a’r Jebusiaid . Sarai hefyd , gwraig Abram , ni phlantasai iddo ; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes , a’i henw Agar . A Sarai a ddywedodd wrth Abram , Wele yn awr , yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta : dos , atolwg , at fy llawforwyn ; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi : ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai . A Sarai , gwraig Abram , a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes , wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan , a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo . Ac efe a aeth i mewn at Agar , a hi a feichiogodd : a phan welodd hithau feichiogi ohoni , yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi . Yna y dywedodd Sarai wrth Abram , Bydded fy ngham i arnat ti : mi a roddais fy morwyn i’th fynwes , a hithau a welodd feichiogi ohoni , a gwael ydwyf yn ei golwg hi : barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi . Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai , Wele dy forwyn yn dy law di : gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun : yna Sarai a’i cystuddiodd hi , a hithau a ffodd rhagddi hi . Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr , yn yr anialwch , wrth y ffynnon yn ffordd Sur : Ac efe a ddywedodd , Agar , morwyn Sarai , o ba le y daethost ? ac i ba le yr ei di ? A hi a ddywedodd , Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi , Dychwel at dy feistres , ac ymddarostwng tan ei dwylo hi . Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi , Gan amlhau yr amlhaf dy had di , fel na rifir ef o luosowgrwydd . Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi , Wele di yn feichiog , a thi a esgori ar fab , ac a elwi ei enw ef Ismael : canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di . Ac efe a fydd ddyn gwyllt , a’i law yn erbyn pawb , a llaw pawb yn ei erbyn yntau ; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr . A hi a alwodd enw yr Arglwydd , yr hwn oedd yn llefaru wrthi , Ti , O Dduw , wyt yn edrych arnaf fi : canys dywedodd , Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf ? Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi : wele , rhwng Cades a Bered y mae hi . Ac Agar a ymddûg fab i Abram : ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar , Ismael . Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd , pan ymddûg Agar Ismael i Abram . Aphan oedd Abram onid un mlwydd cant , yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram , ac a ddywedodd wrtho , Myfi yw Duw Hollalluog ; rhodia ger fy mron i , a bydd berffaith . A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi , ac a’th amlhaf di yn aml iawn . Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb ; a llefarodd Duw wrtho ef , gan ddywedyd , Myfi , wele , mi a wnaf fy nghyfamod â thi , a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd . A’th enw ni elwir mwy Abram , onid dy enw fydd Abraham ; canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum . A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn , ac a wnaf genhedloedd ohonot ti , a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti . Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi , ac a’th had ar dy ôl di , trwy eu hoesoedd , yn gyfamod tragwyddol , i fod yn Dduw i ti , ac i’th had ar dy ôl di . A mi a roddaf i ti , ac i’th had ar dy ôl di , wlad dy ymdaith , sef holl wlad Canaan , yn etifeddiaeth dragwyddol ; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt . A Duw a ddywedodd wrth Abraham , Cadw dithau fy nghyfamod i , ti a’th had ar dy ôl , trwy eu hoesoedd . Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi , a’th had ar dy ôl di : enwaedir pob gwryw ohonoch chwi . A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad : a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau . Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau : yr hwn a aner yn tŷ , ac a bryner am arian gan neb dieithr , yr hwn nid yw o’th had di . Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di , ac a bryner am dy arian di : a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi , yn gyfamod tragwyddol . A’r gwryw dienwaededig , yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl : oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i . Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham , Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai , onid Sara fydd ei henw hi . Bendithiaf hi hefyd , a rhoddaf i ti fab ohoni : ie bendithiaf hi , fel y byddo yn genhedloedd ; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi . Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb , ac a chwarddodd , ac a ddywedodd yn ei galon , A blentir i fab can mlwydd ? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain ? Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw , O na byddai fyw Ismael ger dy fron di ! A Duw a ddywedodd , Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau ; a thi a elwi ei enw ef Isaac : a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol , ac â’i had ar ei ôl ef . Am Ismael hefyd y’th wrandewais : wele , mi a’i bendithiais ef , a mi a’i ffrwythlonaf ef , ac a’i lluosogaf yn aml iawn : deuddeg tywysog a genhedla efe , a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr . Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac , yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn , y flwyddyn nesaf . Yna y peidiodd â llefaru wrtho ; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham . Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab , a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef , a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian , pob gwryw o ddynion tŷ Abraham , ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw , fel y llefarasai Duw wrtho ef . Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant , pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef . Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg , pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef . O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham , ac Ismael ei fab . A holl ddynion ei dŷ ef , y rhai a anesid yn tŷ , ac a brynesid ag arian gan neb dieithr , a enwaedwyd gydag ef . A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre , ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell , yng ngwres y dydd . Ac efe a gododd ei lygaid , ac a edrychodd , ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron : a phan eu gwelodd , efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt , ac a ymgrymodd tua’r ddaear , Ac a ddywedodd , Fy Arglwydd , os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di , na ddos heibio , atolwg , oddi wrth dy was . Cymerer , atolwg , ychydig ddwfr , a golchwch eich traed , a gorffwyswch dan y pren ; Ac mi a ddygaf damaid o fara , a chryfhewch eich calon ; wedi hynny y cewch fyned ymaith : oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas . A hwy a ddywedasant , Gwna felly , fel y dywedaist . Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara , ac a ddywedodd , Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid , tylina , a gwna yn deisennau . Ac Abraham a redodd at y gwartheg , ac a gymerodd lo tyner a da , ac a’i rhoddodd at y llanc , yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef . Ac efe a gymerodd ymenyn , a llaeth , a’r llo a baratoesai efe , ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt : ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren ; a hwy a fwytasant . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Mae Sara dy wraig ? Ac efe a ddywedodd , Wele hi yn y babell . Ac un a ddywedodd , Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth ; ac wele fab i Sara dy wraig . A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell , yr hwn oedd o’i ôl ef . Abraham hefyd a Sara oedd hen , wedi myned mewn oedran ; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd . Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun , gan ddywedyd , Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch , a’m harglwydd yn hen hefyd ? A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham , Paham y chwarddodd Sara fel hyn , gan ddywedyd , A blantaf finnau yn wir , wedi fy heneiddio ? A fydd dim yn anodd i’r Arglwydd ? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat , ynghylch amser bywoliaeth , a mab fydd i Sara . A Sara a wadodd , gan ddywedyd , Ni chwerddais i : oherwydd hi a ofnodd . Yntau a ddywedodd , Nage , oblegid ti a chwerddaist . A’r gwŷr a godasant oddi yno , ac a edrychasant tua Sodom : ac Abraham a aeth gyda hwynt , i’w hanfon hwynt . A’r Arglwydd a ddywedodd , A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf ? Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref , ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear . Canys mi a’i hadwaen ef , y gorchymyn efe i’w blant , ac i’w dylwyth ar ei ôl , gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd , gan wneuthur cyfiawnder a barn ; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd , Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr , a’u pechod hwynt yn drwm iawn ; Disgynnaf yn awr , ac edrychaf , ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi , y gwnaethant yn hollol : ac onid e , mynnaf wybod . A’r gwŷr a droesant oddi yno , ac a aethant tua Sodom : ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd . Abraham hefyd a nesaodd , ac a ddywedodd , A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol ? Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas : a ddifethi di hwynt hefyd , ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi ? Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth , gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol , fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol : na byddo hynny i ti : oni wna Barnydd yr holl ddaear farn ? A dywedodd yr Arglwydd , Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas , mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt . Ac Abraham a atebodd , ac a ddywedodd , Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd , a mi yn llwch ac yn lludw . Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn : a ddifethi di yr holl ddinas er pump ? Yntau a ddywedodd , Na ddifethaf , os caf yno bump a deugain . Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto , ac a ddywedodd , Ond odid ceir yno ddeugain . Yntau a ddywedodd , Nis gwnaf er mwyn y deugain . Ac efe a ddywedodd , O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf : Ceir yno ond odid ddeg ar hugain . Yntau a ddywedodd , Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain . Yna y dywedodd efe , Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd : Ond odid ceir yno ugain . Yntau a ddywedodd , Nis difethaf er mwyn ugain . Yna y dywedodd , O na ddigied fy Arglwydd , a llefaraf y waith hon yn unig : Ond odid ceir yno ddeg . Yntau a ddywedodd , Nis difethaf er mwyn deg . A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham : ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun . A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr , a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom : a phan welodd Lot , efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt , ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear ; Ac efe a ddywedodd , Wele yn awr , fy Arglwyddi , trowch , atolwg , i dŷ eich gwas ; lletywch heno hefyd , a golchwch eich traed : yna codwch yn fore , ac ewch i’ch taith . A hwy a ddywedasant , Nage ; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol . Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy : yna y troesant ato , ac y daethant i’w dŷ ef ; ac efe a wnaeth iddynt wledd , ac a bobodd fara croyw , a hwy a fwytasant . Eithr cyn gorwedd ohonynt , gwŷr y ddinas , sef gwŷr Sodom , a amgylchasant o amgylch y tŷ , hen ac ieuanc , sef yr holl bobl o bob cwr ; Ac a alwasant ar Lot , ac a ddywedasant wrtho , Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno ? dwg hwynt allan atom ni , fel yr adnabyddom hwynt . Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws , ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl ; Ac a ddywedodd , Atolwg , fy mrodyr , na wnewch ddrwg . Wele yn awr , y mae dwy ferch gennyf fi , y rhai nid adnabuant ŵr ; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr , a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda : yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn ; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i . A hwy a ddywedasant , Saf hwnt : dywedasant hefyd , Efe a ddaeth i ymdaith yn unig , ac yn awr ai gan farnu y barna efe ? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy . A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr , sef ar Lot , a hwy a nesasant i dorri’r ddôr . A’r gwŷr a estynasant eu llaw , ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ , ac a gaeasant y ddôr . Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb , o fychan i fawr , fel y blinasant yn ceisio’r drws . A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot , A oes gennyt ti yma neb eto ? mab yng nghyfraith , a’th feibion , a’th ferched , a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas , a ddygi di allan o’r fangre hon . Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn ; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef . Yna yr aeth Lot allan , ac a lefarodd wrth ei ddawon , y rhai oedd yn priodi ei ferched ef , ac a ddywedodd , Cyfodwch , deuwch allan o’r fan yma ; oherwydd y mae’r Arglwydd yn difetha’r ddinas hon : ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair . Ac ar godiad y wawr , yr angylion a fuant daer ar Lot , gan ddywedyd , Cyfod , cymer dy wraig , a’th ddwy ferch , y rhai sydd i’w cael ; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas . Yntau a oedd hwyrfrydig , a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef , ac yn llaw ei wraig , ac yn llaw ei ddwy ferch ; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef ; ac a’i dygasant ef allan , ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas . Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan , efe a ddywedodd , Dianc am dy einioes ; nac edrych ar dy ôl , ac na saf yn yr holl wastadedd : dianc i’r mynydd , rhag dy ddifetha . A dywedodd Lot wrthynt , O nid felly , fy Arglwydd . Wele yn awr , cafodd dy was ffafr yn dy olwg , a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi , gan gadw fy einioes ; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd , rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd , a marw ohonof . Wele yn awr , y ddinas hon yn agos i ffoi iddi , a bechan yw : O gad i mi ddianc yno , ( onid bechan yw hi ? ) a byw fydd fy enaid . Yntau a ddywedodd wrtho , Wele , mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn , fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist . Brysia , dianc yno ; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno : am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar . Cyfodasai yr haul ar y ddaear , pan ddaeth Lot i Soar . Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd , allan o’r nefoedd . Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny , a’r holl wastadedd , a holl drigolion y dinasoedd , a chnwd y ddaear . Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef , a hi a aeth yn golofn halen . Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd . Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra , a thua holl dir y gwastadedd ; ac a edrychodd , ac wele , cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn . A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd , yna y cofiodd Duw am Abraham , ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr , pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt . A Lot a esgynnodd o Soar , ac a drigodd yn y mynydd , a’i ddwy ferch gydag ef : oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar ; ac a drigodd mewn ogof , efe a’i ddwy ferch . A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf , Ein tad ni sydd hen , a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni , wrth ddefod yr holl ddaear . Tyred , rhoddwn i’n tad win i’w yfed , a gorweddwn gydag ef , fel y cadwom had o’n tad . A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno : a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad ; ac ni wybu efe pan orweddodd hi , na phan gyfododd hi . A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf , Wele , myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad ; rhoddwn win iddo ef i’w yfed heno hefyd , a dos dithau a gorwedd gydag ef , fel y cadwom had o’n tad . A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd : a’r ieuangaf a gododd , ac a orweddodd gydag ef ; ac ni wybu efe pan orweddodd hi , na phan gyfododd hi . Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad . A’r hynaf a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Moab : efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw . A’r ieuangaf , hefyd , a esgorodd hithau ar fab , ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi : efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw . Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau , ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur , ac a ymdeithiodd yn Gerar . A dywedodd Abraham am Sara ei wraig , Fy chwaer yw hi : ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd , ac a gymerth Sara . Yna y daeth Duw at Abimelech , noswaith , mewn breuddwyd , ac a ddywedodd wrtho , Wele , dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist , a hithau yn berchen gŵr . Ond Abimelech ni nesasai ati hi : ac efe a ddywedodd , Arglwydd , a leddi di genedl gyfiawn hefyd ? Oni ddywedodd efe wrthyf fi , Fy chwaer yw hi ? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd , Fy mrawd yw efe : ym mherffeithrwydd fy nghalon , ac yng nglendid fy nwylo , y gwneuthum hyn . Yna y dywedodd Duw wrtho ef , mewn breuddwyd , Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn ; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn : am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi . Yn awr gan hynny , dod y wraig drachefn i’r gŵr ; oherwydd proffwyd yw efe , ac efe a weddïa trosot , a byddi fyw : ond oni roddi hi drachefn , gwybydd y byddi farw yn ddiau , ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti . Yna y cododd Abimelech yn fore , ac a alwodd am ei holl weision , ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy : a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr . Galwodd Abimelech hefyd am Abraham , a dywedodd wrtho , Beth a wnaethost i ni ? a pheth a bechais i’th erbyn , pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi , ac ar fy nheyrnas ? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur . Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham , Beth a welaist , pan wnaethost y peth hyn ? A dywedodd Abraham , Am ddywedyd ohonof fi , Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn : a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig . A hefyd yn wir fy chwaer yw hi : merch fy nhad yw hi , ond nid merch fy mam ; ac y mae hi yn wraig i mi . Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad , yna y dywedais wrthi hi , Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo ; dywed amdanaf fi , Fy mrawd yw efe . Yna y cymerodd Abimelech ddefaid , a gwartheg , a gweision , a morynion , ac a’u rhoddes i Abraham : rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn . A dywedodd Abimelech , Wele fy ngwlad ger dy fron di , trig lle y byddo da yn dy olwg . Ac wrth Sara y dywedodd , Wele , rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian : wele ef yn orchudd llygaid i ti , i’r rhai oll sydd gyda thi , a chyda phawb eraill : fel hyn y ceryddwyd hi . Yna Abraham a weddïodd ar Dduw : a Duw a iachaodd Abimelech , a’i wraig , a’i forynion ; a hwy a blantasant . Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech , o achos Sara gwraig Abraham . A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai , a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai . Oherwydd Sara a feichiogodd , ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint , ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef . Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo ( yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef ) Isaac . Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab , yn wyth niwrnod oed ; fel y gorchmynasai Duw iddo ef . Ac Abraham oedd fab can mlwydd , pan anwyd iddo ef Isaac ei fab . A Sara a ddywedodd , Gwnaeth Duw i mi chwerthin ; pob un a glywo a chwardd gyda mi . Hi a ddywedodd hefyd , Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant ? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef . A’r bachgen a gynyddodd , ac a ddiddyfnwyd : ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac . A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes , yr hwn a ddygasai hi i Abraham , yn gwatwar . A hi a ddywedodd wrth Abraham , Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab ; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac . A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham , er mwyn ei fab . A Duw a ddywedodd wrth Abraham , Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc , nac am dy gaethforwyn ; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt , gwrando ar ei llais : oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had . Ac am fab y forwyn gaeth hefyd , mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth , oherwydd dy had di ydyw ef . Yna y cododd Abraham yn fore , ac a gymerodd fara , a chostrel o ddwfr , ac a’i rhoddes at Agar , gan osod ar ei hysgwydd hi hynny , a’r bachgen hefyd , ac efe a’i gollyngodd hi ymaith : a hi a aeth , ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba . A darfu’r dwfr yn y gostrel ; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd . A hi a aeth , ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer , megis ergyd bwa : canys dywedasai , Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw . Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer , ac a ddyrchafodd ei llef , ac a wylodd . A Duw a wrandawodd ar lais y llanc ; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd , ac a ddywedodd wrthi , Beth a ddarfu i ti , Agar ? nac ofna , oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe . Cyfod , cymer y llanc , ac ymafael ynddo â’th law ; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr . A Duw a agorodd ei llygaid hi , a hi a ganfu bydew dwfr ; a hi a aeth , ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr , ac a ddiododd y llanc . Ac yr oedd Duw gyda’r llanc ; ac efe a gynyddodd , ac a drigodd yn yr anialwch , ac a aeth yn berchen bwa . Ac yn anialwch Paran y trigodd efe ; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft . Ac yn yr amser hwnnw , Abimelech , a Phichol tywysog ei lu ef , a ymddiddanasant ag Abraham , gan ddywedyd , Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur . Yn awr gan hynny , twng wrthyf fi yma i Dduw , na fyddi anffyddlon i mi , nac i’m mab , nac i’m hŵyr : yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau , ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi . Ac Abraham a ddywedodd , Mi a dyngaf . Ac Abraham a geryddodd Abimelech , o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais . Ac Abimelech a ddywedodd , Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn : tithau hefyd ni fynegaist i mi , a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw . Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg , ac a’u rhoddes i Abimelech ; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau . Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain . Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham , Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain ? Ac yntau a ddywedodd , Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw , i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn . Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba : oblegid yno y tyngasant ill dau . Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba : a chyfododd Abimelech , a Phichol tywysog ei lu ef , ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid . Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba , ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol . Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid . Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham , a dywedyd wrtho , Abraham . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Yna y dywedodd Duw , Cymer yr awr hon dy fab , sef dy unig fab Isaac , yr hwn a hoffaist , a dos rhagot i dir Moreia , ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt . Ac Abraham a foregododd , ac a gyfrwyodd ei asyn , ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef , ac Isaac ei fab ; ac a holltodd goed y poethoffrwm , ac a gyfododd , ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho . Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid , ac efe a welai’r lle o hirbell . Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau , Arhoswch chwi yma gyda’r asyn ; a mi a’r llanc a awn hyd acw , ac a addolwn , ac a ddychwelwn atoch . Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm , ac a’i gosododd ar Isaac ei fab ; ac a gymerodd y tân , a’r gyllell yn ei law ei hun : a hwy a aethant ill dau ynghyd . A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad , ac a ddywedodd , Fy nhad . Yntau a ddywedodd , Wele fi , fy mab . Yna eb efe , Wele dân a choed ; ond mae oen y poethoffrwm ? Ac Abraham a ddywedodd , Fy mab , Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm . Felly yr aethant ill dau ynghyd : Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef ; ac yno yr adeiladodd Abraham allor , ac a osododd y coed mewn trefn , ac a rwymodd Isaac ei fab , ac a’i gosododd ef ar yr allor , ar uchaf y coed . Ac Abraham a estynnodd ei law , ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab ; Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd , ac a ddywedodd , Abraham , Abraham . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Na ddod dy law ar y llanc , ac na wna ddim iddo : oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw , gan nad ateliaist dy fab , dy unig fab , oddi wrthyf fi . Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele o’i ôl ef hwrdd , wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni : ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd , ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab . Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire ; fel y dywedir heddiw , Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir . Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd ; Ac a ddywedodd , I mi fy hun y tyngais , medd yr Arglwydd , oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn , ac nad ateliaist dy fab , dy unig fab : Mai gan fendithio y’th fendithiaf , a chan amlhau yr amlhaf dy had , fel sêr y nefoedd , ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr ; a’th had a feddianna borth ei elynion ; Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear : o achos gwrando ohonot ar fy llais i . Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau ; a hwy a godasant , ac a aethant ynghyd i Beer‐seba : ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba . Darfu hefyd , wedi’r pethau hyn , fynegi i Abraham , gan ddywedyd , Wele , dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd ; Hus ei gyntaf‐anedig , a Bus ei frawd ; Cemuel hefyd tad Aram , A Chesed , a Haso , a Phildas , ac Idlaff , a Bethuel . A Bethuel a genhedlodd Rebeca : yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham . Ei ordderchwraig hefyd , a’i henw Reuma , a esgorodd hithau hefyd ar Teba , a Gaham , a Thahas , a Maacha . Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain ; dyma flynyddoedd oes Sara . A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba ; honno yw Hebron yn nhir Canaan : ac Abraham a aeth i alaru am Sara , ac i wylofain amdani hi . Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw , ac a lefarodd wrth feibion Heth , gan ddywedyd , Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi : rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi , fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg . A meibion Heth a atebasant Abraham , gan ddywedyd wrtho , Clyw ni , fy arglwydd : tywysog Duw wyt ti yn ein plith : cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni : ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw . Yna y cyfododd Abraham , ac a ymgrymodd i bobl y tir , sef i feibion Heth ; Ac a ymddiddanodd â hwynt , gan ddywedyd , Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg , gwrandewch fi , ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar ; Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela , yr hon sydd eiddo ef , ac sydd yng nghwr ei faes ; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi , yn feddiant beddrod yn eich plith chwi . Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth : ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham , lle y clywodd meibion Heth , yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef , gan ddywedyd , Nage , fy arglwydd , clyw fi : rhoddais y maes i ti , a’r ogof sydd ynddo , i ti y rhoddais hi ; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti : cladd di dy farw . Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir . Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir , gan ddywedyd , Eto , os tydi a’i rhoddi , atolwg , gwrando fi : rhoddaf werth y maes ; cymer gennyf , a mi a gladdaf fy marw yno . Ac Effron a atebodd Abraham , gan ddywedyd wrtho , Gwrando fi , fy arglwydd ; y tir a dâl bedwar can sicl o arian : beth yw hynny rhyngof fi a thithau ? am hynny cladd dy farw . Felly Abraham a wrandawodd ar Effron : a phwysodd Abraham i Effron yr arian , a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth : pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr . Felly y sicrhawyd maes Effron , yr hwn oedd ym Machpela , yr hon oedd o flaen Mamre , y maes a’r ogof oedd ynddo , a phob pren a’r a oedd yn y maes , ac yn ei holl derfynau o amgylch , Yn feddiant i Abraham , yng ngolwg meibion Heth , yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef . Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela , o flaen Mamre ; honno yw Hebron , yn nhir Canaan . A sicrhawyd y maes , a’r ogof yr hon oedd ynddo , i Abraham , yn feddiant beddrod , oddi wrth feibion Heth . Ac Abraham oedd hen , wedi myned yn oedrannus ; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim . A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ , yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo , Gosod , atolwg , dy law dan fy morddwyd : A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd , a Duw y ddaear , na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid , y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg : Ond i’m gwlad i yr ei , ac at fy nghenedl i yr ei di , ac a gymeri wraig i’m mab Isaac . A’r gwas a ddywedodd wrtho ef , Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon : gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono ? A dywedodd Abraham wrtho , Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno . Arglwydd Dduw y nefoedd , yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad , ac o wlad fy nghenedl , yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi , ac a dyngodd wrthyf , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf y tir hwn ; efe a enfyn ei angel o’th flaen di , a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno . Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di , yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn : yn unig na ddychwel di fy mab i yno . A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr , ac a dyngodd iddo am y peth hyn . A chymerodd y gwas ddeg camel , o gamelod ei feistr , ac a aeth ymaith : ( canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef ; ) ac efe a gododd , ac a aeth i Mesopotamia , i ddinas Nachor . Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas , wrth bydew dwfr ar brynhawn , ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr . Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , atolwg , pâr i mi lwyddiant heddiw ; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham . Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr , a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr : A bydded , mai y llances y dywedwyf wrthi , Gogwydda , atolwg , dy ystên , fel yr yfwyf ; os dywed hi , Yf , a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd ; honno a ddarperaist i’th was Isaac : ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr . A bu , cyn darfod iddo lefaru , wele Rebeca yn dyfod allan , ( yr hon a anesid i Bethuel fab Milca , gwraig Nachor , brawd Abraham , ) a’i hystên ar ei hysgwydd . A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg , yn forwyn , a heb i ŵr ei hadnabod ; a hi a aeth i waered i’r ffynnon , ac a lanwodd ei hystên , ac a ddaeth i fyny . A’r gwas a redodd i’w chyfarfod , ac a ddywedodd , Atolwg , gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên . A hi a ddywedodd , Yf , fy meistr : a hi a frysiodd , ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw , ac a’i diododd ef . A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef , hi a ddywedodd , Tynnaf hefyd i’th gamelod , hyd oni ddarffo iddynt yfed . A hi a frysiodd , ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn , ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu , ac a dynnodd i’w holl gamelod ef . A’r gŵr , yn synnu o’i phlegid hi , a dawodd , i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef , ai naddo . A bu , pan ddarfu i’r camelod yfed , gymryd o’r gŵr glustlws aur , yn hanner sicl ei bwys ; a dwy freichled i’w dwylo hi , yn ddeg sicl o aur eu pwys . Ac efe a ddywedodd , Merch pwy ydwyt ti ? mynega i mi , atolwg : a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad ? A hi a ddywedodd wrtho , Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca , yr hwn a ymddûg hi i Nachor . A hi a ddywedodd wrtho ef , Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni , a lle i letya . A’r gŵr a ymgrymodd , ac a addolodd yr Arglwydd . Ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb : yr ydwyf fi ar y ffordd ; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr . A’r llances a redodd , ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn . Ac i Rebeca yr oedd brawd , a’i enw Laban : a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon . A phan welodd efe y clustlws , a’r breichledau am ddwylo ei chwaer , a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd , Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi ; yna efe a aeth at y gŵr ; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon . Ac efe a ddywedodd , Tyred i mewn , ti fendigedig yr Arglwydd ; paham y sefi di allan ? canys mi a baratoais y tŷ , a lle i’r camelod . A’r gŵr a aeth i’r tŷ : ac yntau a ryddhaodd y camelod , ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod ; a dwfr i olchi ei draed ef , a thraed y dynion oedd gydag ef . A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta ; ac efe a ddywedodd , Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau . A dywedodd yntau , Traetha . Ac efe a ddywedodd , Gwas Abraham ydwyf fi . A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr , ac efe a gynyddodd : canys rhoddodd iddo ddefaid , a gwartheg , ac arian , ac aur , a gweision , a morynion , a chamelod , ac asynnod . Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr , wedi ei heneiddio hi ; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo . A’m meistr a’m tyngodd i , gan ddywedyd , Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid , y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir . Ond ti a ei i dŷ fy nhad , ac at fy nhylwyth , ac a gymeri wraig i’m mab . A dywedais wrth fy meistr , Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron , a enfyn ei angel gyda thi , ac a lwydda dy daith di ; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth , ac o dŷ fy nhad . Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw , os ti a ddaw at fy nhylwyth ; ac oni roddant i ti , yna y byddi rydd oddi wrth fy llw . A heddiw y deuthum at y ffynnon , ac a ddywedais , Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith , yr hon yr wyf fi yn myned arni : Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr ; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu , ac y dywedwyf wrthi , Dod i mi , atolwg , ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên ; Ac a ddywedo wrthyf finnau , Yf di , a thynnaf hefyd i’th gamelod : bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr . A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon , wele Rebeca yn dyfod allan , a’i hystên ar ei hysgwydd ; a hi a aeth i waered i’r ffynnon , ac a dynnodd : yna y dywedais wrthi , Dioda fi , atolwg . Hithau a frysiodd , ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni , ac a ddywedodd , Yf ; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd . Felly yr yfais ; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd . A mi a ofynnais iddi , ac a ddywedais , Merch pwy ydwyt ti ? Hithau a ddywedodd , Merch Bethuel mab Nachor , yr hwn a ymddûg Milca iddo ef . Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb , a’r breichledau am ei dwylo hi : Ac a ymgrymais , ac a addolais yr Arglwydd , ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd , i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef . Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr , mynegwch i mi : ac onid e , mynegwch i mi ; fel y trowyf ar y llaw ddeau , neu ar y llaw aswy . Yna yr atebodd Laban a Bethuel , ac a ddywedasant , Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn : ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg , na da . Wele Rebeca o’th flaen ; cymer hi , a dos , a bydded wraig i fab dy feistr , fel y llefarodd yr Arglwydd . A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt , yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd . A thynnodd y gwas allan dlysau arian , a thlysau aur , a gwisgoedd , ac a’u rhoddodd i Rebeca : rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi , ac i’w mam . A hwy a fwytasant ac a yfasant , efe a’r dynion oedd gydag ef , ac a letyasant dros nos : a chodasant yn fore ; ac efe a ddywedodd , Gollyngwch fi at fy meistr . Yna y dywedodd ei brawd a’i mam , Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o’r lleiaf ; wedi hynny hi a gaiff fyned . Yntau a ddywedodd wrthynt , Na rwystrwch fi , gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith ; gollyngwch fi , fel yr elwyf at fy meistr . Yna y dywedasant , Galwn ar y llances , a gofynnwn iddi hi . A hwy a alwasant ar Rebeca , a dywedasant wrthi , A ei di gyda’r gŵr hwn ? A hi a ddywedodd , Af . A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer , a’i mamaeth , a gwas Abraham , a’i ddynion ; Ac a fendithiasant Rebeca , ac a ddywedasant wrthi , Ein chwaer wyt , bydd di fil fyrddiwn ; ac etifedded dy had borth ei gaseion . Yna y cododd Rebeca , a’i llancesau , ac a farchogasant ar y camelod , ac a aethant ar ôl y gŵr ; a’r gwas a gymerodd Rebeca , ac a aeth ymaith . Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi ; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau . Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes , ym min yr hwyr ; ac a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd , ac wele y camelod yn dyfod . Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid ; a phan welodd hi Isaac , hi a ddisgynnodd oddi ar y camel . Canys hi a ddywedasai wrth y gwas , Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni ? A’r gwas a ddywedasai , Fy meistr yw efe : a hi a gymerth orchudd , ac a ymwisgodd . A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe . Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam ; ac efe a gymerth Rebeca , a hi a aeth yn wraig iddo , ac efe a’i hoffodd hi : ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam . Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig , a’i henw Cetura . A hi a esgorodd iddo ef Simran , a Jocsan , a Medan , a Midian , ac Isbac , a Sua . A Jocsan a genhedlodd Seba , a Dedan : a meibion Dedan oedd Assurim , a Letusim , a Lewmmim . A meibion Midian oedd Effa , ac Effer , a Hanoch , ac Abida , ac Eldaa : yr holl rai hyn oedd feibion Cetura . Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac . Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion ; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab , tua’r dwyrain , i dir y dwyrain , ac efe eto yn fyw . A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham , y rhai y bu efe fyw ; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain . Ac Abraham a drengodd , ac a fu farw mewn oed teg , yn hen , ac yn gyflawn o ddyddiau ; ac efe a gasglwyd at ei bobl . Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela , ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad , yr hwn sydd o flaen Mamre ; Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth ; yno y claddwyd Abraham , a Sara ei wraig . Ac wedi marw Abraham , bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef : ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi . A dyma genedlaethau Ismael , fab Abraham , yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes , morwyn Sara , i Abraham . A dyma enwau meibion Ismael , erbyn eu henwau , trwy eu cenedlaethau : Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael , a Chedar , ac Adbeel , a Mibsam , Misma hefyd , a Duma , a Massa , Hadar , a Thema , Jetur , Naffis , a Chedema . Dyma hwy meibion Ismael , a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd , ac wrth eu cestyll ; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd . A dyma flynyddoedd einioes Ismael ; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd : yna y trengodd , ac y bu farw , ac y casglwyd ef at ei bobl . Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur , yr hon sydd o flaen yr Aifft , ffordd yr ei di i Asyria : ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw . A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham : Abraham a genhedlodd Isaac . Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad , o Mesopotamia , chwaer Laban y Syriad , yn wraig iddo . Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig , am ei bod hi yn amhlantadwy ; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef , a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd . A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi : yna y dywedodd hi , Os felly , beth a wnaf fi fel hyn ? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi , Dwy genedl sydd yn dy groth di , a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di ; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall , a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf . A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor , wele , gefeilliaid oedd yn ei chroth hi . A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog : a galwasant ei enw ef Esau . Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan , a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau : a galwyd ei enw ef Jacob . Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt . A’r llanciau a gynyddasant : ac Esau oedd ŵr yn medru hela , a gŵr o’r maes ; a Jacob oedd ŵr disyml , yn cyfanheddu mewn pebyll . Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau , am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef : a Rebeca a hoffai Jacob . A Jacob a ferwodd gawl : yna Esau a ddaeth o’r maes , ac efe yn ddiffygiol . A dywedodd Esau wrth Jacob , Gad i mi yfed , atolwg , o’r cawl coch yma ; oherwydd diffygiol wyf fi : am hynny y galwyd ei enw ef Edom . A dywedodd Jacob , Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint . A dywedodd Esau , Wele fi yn myned i farw , a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi ? A dywedodd Jacob , Twng i mi heddiw . Ac efe a dyngodd iddo ; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob . A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys ; ac efe a fwytaodd , ac a yfodd , ac a gododd , ac a aeth ymaith : felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint . A bu newyn yn y tir , heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham : ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar . A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef , ac a ddywedasai , Na ddos i waered i’r Aifft : aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt . Ymdeithia yn y wlad hon , a mi a fyddaf gyda thi , ac a’th fendithiaf : oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn , a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di . A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd , a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn : a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di : Am wrando o Abraham ar fy llais i , a chadw fy nghadwraeth , fy ngorchmynion , fy neddfau , a’m cyfreithiau . Ac Isaac a drigodd yn Gerar . A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef . Ac efe a ddywedodd , Fy chwaer yw hi : canys ofnodd ddywedyd , Fy ngwraig yw ; rhag ( eb efe ) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca : canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg . A bu , gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer , i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr , a chanfod ; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig . Ac Abimelech a alwodd ar Isaac , ac a ddywedodd , Wele , yn ddiau dy wraig yw hi : a phaham y dywedaist , Fy chwaer yw hi ? Yna y dywedodd Isaac wrtho , Am ddywedyd ohonof , Rhag fy marw o’i phlegid hi . A dywedodd Abimelech , Paham y gwnaethost hyn â ni ? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di ; felly y dygasit arnom ni bechod . A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl , gan ddywedyd , Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn , neu â’i wraig , a leddir yn farw . Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw , ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint . A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef . A’r gŵr a gynyddodd , ac a aeth rhagddo , ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn . Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid , a chyfoeth o wartheg , a gweision lawer : a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef . A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef , yn nyddiau Abraham ei dad ef , y Philistiaid a’u caeasant hwy , ac a’u llanwasant â phridd . Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac , Dos oddi wrthym ni : canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni . Ac Isaac a aeth oddi yno , ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar , ac a breswyliodd yno . Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef , ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham ; ac a enwodd enwau arnynt , yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy . Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn , ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog . A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac , gan ddywedyd , Y dwfr sydd eiddom ni . Yna efe a alwodd enw y ffynnon , Esec ; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef . Cloddiasant hefyd bydew arall : ac ymrysonasant am hwnnw : ac efe a alwodd ei enw ef Sitna . Ac efe a fudodd oddi yno , ac a gloddiodd bydew arall ; ac nid ymrysonasant am hwnnw : ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth ; ac a ddywedodd , Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom , a ni a ffrwythwn yn y tir . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba . A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno , ac a ddywedodd , Myfi yw Duw Abraham dy dad di : nac ofna ; canys byddaf gyda thi , ac a’th fendithiaf , ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas . Ac efe a adeiladodd yno allor , ac a alwodd ar enw yr Arglwydd ; ac yno y gosododd efe ei babell : a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew . Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar , ac Ahussath ei gyfaill , a Phichol tywysog ei lu . Ac Isaac a ddywedodd wrthynt , Paham y daethoch chwi ataf fi ; gan i chwi fy nghasáu , a’m gyrru oddi wrthych ? Yna y dywedasant , Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyda thi : a dywedasom , Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni , sef rhyngom ni a thi ; a gwnawn gyfamod â thi ; Na wnei i ni ddrwg , megis na chyffyrddasom ninnau â thi , a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi , ac y’th anfonasom mewn heddwch ; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd . Ac efe a wnaeth iddynt wledd ; a hwy a fwytasant ac a yfasant . Yna y codasant yn fore , a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd : ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith , a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch . A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod , a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent ; a dywedasant wrtho , Cawsom ddwfr . Ac efe a’i galwodd ef Seba : am hynny enw y ddinas yw Beer‐seba hyd y dydd hwn . Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd , ac efe a gymerodd yn wraig , Judith ferch Beeri yr Hethiad , a Basemath ferch Elon yr Hethiad . A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca . A bu , wedi heneiddio o Isaac , a thywyllu ei lygaid fel na welai , alw ohono ef Esau ei fab hynaf , a dywedyd wrtho , Fy mab . Yntau a ddywedodd wrtho ef , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Wele , mi a heneiddiais yn awr , ac nis gwn ddydd fy marwolaeth . Ac yn awr cymer , atolwg , dy offer , dy gawell saethau , a’th fwa , a dos allan i’r maes , a hela i mi helfa . A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf , a dwg i mi , fel y bwytawyf ; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw . A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab : ac Esau a aeth i’r maes , i hela helfa i’w dwyn . A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab , gan ddywedyd , Wele , clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd , gan ddywedyd , Dwg i mi helfa , a gwna i mi flasusfwyd , fel y bwytawyf , ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw . Ond yn awr , fy mab , gwrando ar fy llais i , am yr hyn a orchmynnaf i ti . Dos yn awr i’r praidd , a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da ; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad , o’r fath a gâr efe . A thi a’u dygi i’th dad , fel y bwytao , ac y’th fendithio cyn ei farw . A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam , Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog , a minnau yn ŵr llyfn : Fy nhad , ond odid , a’m teimla ; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr ; ac a ddygaf arnaf felltith , ac nid bendith . A’i fam a ddywedodd wrtho , Arnaf fi y byddo dy felltith , fy mab , yn unig gwrando ar fy llais ; dos a dwg i mi . Ac efe a aeth , ac a gymerth y mynnod , ac a’u dygodd at ei fam : a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef . Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf , y rhai oedd gyda hi yn tŷ , ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf . A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef , ac am lyfndra ei wddf ef : Ac a roddes y bwyd blasus , a’r bara a arlwyasai hi , yn llaw Jacob ei mab . Ac efe a ddaeth at ei dad , ac a ddywedodd , Fy nhad . Yntau a ddywedodd , Wele fi : pwy wyt ti , fy mab ? A dywedodd Jacob wrth ei dad , Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig : gwneuthum fel y dywedaist wrthyf : cyfod , atolwg , eistedd , a bwyta o’m helfa , fel y’m bendithio dy enaid . Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab , Pa fodd , fy mab , y cefaist mor fuan â hyn ? Yntau a ddywedodd , Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen . A dywedodd Isaac wrth Jacob , Tyred yn nes yn awr , fel y’th deimlwyf , fy mab ; ai tydi yw fy mab Esau , ai nad e . A nesaodd Jacob at Isaac ei dad : yntau a’i teimlodd ; ac a ddywedodd , Y llais yw llais Jacob ; a’r dwylo , dwylo Esau ydynt . Ac nid adnabu efe ef , am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau , yn flewog : felly efe a’i bendithiodd ef . Dywedodd hefyd , Ai ti yw fy mab Esau ? Yntau a ddywedodd , Myfi yw . Ac efe a ddywedodd , Dwg yn nes ataf fi , a mi a fwytâf o helfa fy mab , fel y’th fendithio fy enaid . Yna y dug ato ef , ac efe a fwytaodd : dug iddo win hefyd ac efe a yfodd . Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef , Tyred yn nes yn awr , a chusana fi , fy mab . Yna y daeth efe yn nes , ac a’i cusanodd ef ; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef , ac a’i bendithiodd ef , ac a ddywedodd , Wele arogl fy mab fel arogl maes , yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd . A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd , ac o fraster y ddaear , ac amldra o ŷd a gwin : Gwasanaethed pobloedd dydi , ac ymgrymed cenhedloedd i ti : bydd di arglwydd ar dy frodyr , ac ymgrymed meibion dy fam i ti : melltigedig fyddo a’th felltithio , a bendigedig a’th fendithio . A bu , pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob , ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad , yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela . Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus , ac a’i dug at ei dad ; ac a ddywedodd wrth ei dad , Cyfoded fy nhad , a bwytaed o helfa ei fab , fel y’m bendithio dy enaid . Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho , Pwy wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Myfi yw dy fab , dy gyntaf‐anedig Esau . Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn , ac a ddywedodd , Pwy ? pa le mae yr hwn a heliodd helfa , ac a’i dug i mi , a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod , ac a’i bendithiais ef ? bendigedig hefyd fydd efe . Pan glybu Esau eiriau ei dad , efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn , ac a ddywedodd wrth ei dad , Bendithia fi , ie finnau , fy nhad . Ac efe a ddywedodd , Dy frawd a ddaeth mewn twyll , ac a ddug dy fendith di . Dywedodd yntau , Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob ? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach : dug fy ngenedigaeth‐fraint ; ac wele , yn awr efe a ddygodd fy mendith : dywedodd hefyd , Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau ? Ac Isaac a atebodd , ac a ddywedodd wrth Esau , Wele , mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti , a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef ; ag ŷd a gwin y cynheliais ef : a pheth a wnaf i tithau , fy mab , weithian ? Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad , Ai un fendith sydd gennyt , fy nhad ? bendithia finnau , finnau hefyd , fy nhad . Felly Esau a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . Yna yr atebodd Isaac ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod , ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod ; Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw , a’th frawd a wasanaethi : ond bydd amser pan feistrolech di , ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf . Ac Esau a gasaodd Jacob , am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef : ac Esau a ddywedodd yn ei galon , Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad ; yna lladdaf Jacob fy mrawd . A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf . Hithau a anfonodd , ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf , ac a ddywedodd wrtho , Wele , Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di , ar fedr dy ladd di . Ond yn awr , fy mab , gwrando ar fy llais : cyfod , ffo at Laban fy mrawd , i Haran ; Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau , hyd oni chilio llid dy frawd ; Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt , ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo : yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno . Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd ? Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac , Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth : os cymer Jacob wraig o ferched Heth , fel y rhai hyn o ferched y wlad , i ba beth y chwenychwn fy einioes ? Yna y galwodd Isaac ar Jacob , ac a’i bendithiodd ef : efe a orchmynnodd iddo hefyd , ac a ddywedodd wrtho , Na chymer wraig o ferched Canaan . Cyfod , dos i Mesopotamia , i dŷ Bethuel tad dy fam ; a chymer i ti wraig oddi yno , o ferched Laban brawd dy fam : A Duw Hollalluog a’th fendithio , ac a’th ffrwythlono , ac a’th luosogo , fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd : Ac a roddo i ti fendith Abraham , i ti ac i’th had gyda thi , i etifeddu ohonot dir dy ymdaith , yr hwn a roddodd Duw i Abraham . Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob : ac efe a aeth i Mesopotamia , at Laban fab Bethuel y Syriad , brawd Rebeca , mam Jacob ac Esau . Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob , a’i anfon ef i Mesopotamia , i gymryd iddo wraig oddi yno , a gorchymyn iddo wrth ei fendithio , gan ddywedyd , Na chymer wraig o ferched Canaan ; A gwrando o Jacob ar ei dad , ac ar ei fam , a’i fyned i Mesopotamia ; Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad ; Yna Esau a aeth at Ismael , ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham , chwaer Nebaioth , yn wraig iddo , at ei wragedd eraill . A Jacob a aeth allan o Beer‐seba , ac a aeth tua Haran . Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre , ac a letyodd yno dros nos ; oblegid machludo’r haul : ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw , ac a osododd dan ei ben , ac a gysgodd yn y fan honno . Ac efe a freuddwydiodd ; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear , a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd : ac wele angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi . Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni : ac efe a ddywedodd , Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad , a Duw Isaac ; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno , i ti y rhoddaf ef , ac i’th had . A’th had di fydd fel llwch y ddaear ; a thi a dorri allan i’r gorllewin , ac i’r dwyrain , ac i’r gogledd , ac i’r deau : a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti , ac yn dy had di . Ac wele fi gyda thi ; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych , ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon : oherwydd ni’th adawaf , hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt . A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg ; ac a ddywedodd , Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn , ac nis gwyddwn i . Ac efe a ofnodd , ac a ddywedodd , Mor ofnadwy yw’r lle hwn ! nid oes yma onid tŷ i Dduw , a dyma borth y nefoedd . A Jacob a gyfododd yn fore , ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben , ac efe a’i gosododd hi yn golofn , ac a dywalltodd olew ar ei phen hi . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw , Bethel : ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf . Yna yr addunodd Jacob adduned , gan ddywedyd , Os Duw fydd gyda myfi , ac a’m ceidw yn y ffordd yma , yr hon yr ydwyf yn ei cherdded , a rhoddi i mi fara i’w fwyta , a dillad i’w gwisgo , A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad ; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi . A’r garreg yma , yr hon a osodais yn golofn , a fydd yn dŷ Dduw ; ac o’r hyn oll a roddech i mi , gan ddegymu mi a’i degymaf i ti . A Jacob a gymerth ei daith , ac a aeth i wlad meibion y dwyrain . Ac efe a edrychodd , ac wele bydew yn y maes , ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho ; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd : a charreg fawr oedd ar enau’r pydew . Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd : a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew , ac a ddyfrhaent y praidd ; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle . A dywedodd Jacob wrthynt , Fy mrodyr , o ba le yr ydych chwi ? A hwy a ddywedasant , O Haran yr ydym ni . Ac efe a ddywedodd wrthynt , A adwaenoch chwi Laban fab Nachor ? A hwy a ddywedasant , Adwaenom . Yntau a ddywedodd wrthynt hwy , A oes llwyddiant iddo ef ? A hwy a ddywedasant , Oes , llwyddiant : ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid . Yna y dywedodd efe , Wele eto y dydd yn gynnar , nid yw bryd casglu’r anifeiliaid dyfrhewch y praidd , ac ewch , a bugeiliwch . A hwy a ddywedasant , Ni allwn ni , hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd , a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew ; yna y dyfrhawn y praidd . Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt , daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad ; oblegid hi oedd yn bugeilio . A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam , a phraidd Laban brawd ei fam ; yna y nesaodd Jacob , ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew , ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam . A Jacob a gusanodd Rahel , ac a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . A mynegodd Jacob i Rahel , mai brawd ei thad oedd efe , ac mai mab Rebeca oedd efe : hithau a redodd , ac a fynegodd i’w thad . A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer , yna efe a redodd i’w gyfarfod ef , ac a’i cofleidiodd ef , ac a’i cusanodd , ac a’i dug ef i’w dŷ : ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn . A dywedodd Laban wrtho ef , Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti . Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau . A Laban a ddywedodd wrth Jacob , Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti , y’m gwasanaethi yn rhad ? mynega i mi beth fydd dy gyflog ? Ac i Laban yr oedd dwy o ferched : enw yr hynaf oedd Lea , ac enw yr ieuangaf Rahel . A llygaid Lea oedd weiniaid ; ond Rahel oedd deg ei phryd , a glandeg yr olwg . A Jacob a hoffodd Rahel ; ac a ddywedodd , Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf . A Laban a ddywedodd , Gwell yw ei rhoddi hi i ti , na’i rhoddi i ŵr arall : aros gyda mi . Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd : ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau , am fod yn hoff ganddo efe hi . A dywedodd Jacob wrth Laban , Moes i mi fy ngwraig , ( canys cyflawnwyd fy nyddiau , ) fel yr elwyf ati hi . A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno , ac a wnaeth wledd . Ond bu yn yr hwyr , iddo gymryd Lea ei ferch , a’i dwyn hi ato ef ; ac yntau a aeth ati hi . A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn , yn forwyn i Lea ei ferch . A bu , y bore , wele Lea oedd hi : yna y dywedodd efe wrth Laban , Paham y gwnaethost hyn i mi ? onid am Rahel y’th wasanaethais ? a phaham y’m twyllaist ? A dywedodd Laban , Ni wneir felly yn ein gwlad ni , gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf . Cyflawna di wythnos hon , a ni a roddwn i ti hon hefyd , am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill . A Jacob a wnaeth felly , ac a gyflawnodd ei hwythnos hi : ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo . Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch , Bilha ei forwyn , yn forwyn iddi hi . Ac efe a aeth hefyd at Rahel , ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea , ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill . A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea , yna efe a agorodd ei chroth hi : a Rahel oedd amhlantadwy . A Lea a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Reuben : oherwydd hi a ddywedodd , Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd ; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi ; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd : a hi a alwodd ei enw ef Simeon . A hi a feichiogodd drachefn , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi , canys plentais iddo dri mab : am hynny y galwyd ei enw ef Lefi . A hi a feichiogodd drachefn , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Weithian y moliannaf yr Arglwydd : am hynny y galwodd ei enw ef Jwda . A hi a beidiodd â phlanta . Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob , yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer , ac a ddywedodd wrth Jacob , Moes feibion i mi ; ac onid e mi a fyddaf farw . A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel ; ac efe a ddywedodd , Ai myfi sydd yn lle Duw , yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti ? A dywedodd hithau , Wele fy llawforwyn Bilha , dos i mewn ati hi ; a hi a blanta ar fy ngliniau i , fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi . A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig , a Jacob a aeth i mewn ati . A Bilha a feichiogodd , ac a ymddûg fab i Jacob . A Rahel a ddywedodd , Duw a’m barnodd i , ac a wrandawodd hefyd ar fy llais , ac a roddodd i mi fab : am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan . Hefyd Bilha , llawforwyn Rahel , a feichiogodd eilwaith , ac a ymddûg yr ail fab i Jacob . A Rahel a ddywedodd , Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer , a gorchfygais : a hi a alwodd ei enw ef Nafftali . Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta , hi a gymerth ei llawforwyn Silpa , ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob . A Silpa , llawforwyn Lea , a ymddûg fab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Y mae tyrfa yn dyfod : a hi a alwodd ei enw ef Gad . A Silpa , llawforwyn Lea , a ymddûg yr ail fab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Yr ydwyf yn ddedwydd ; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd : a hi a alwodd ei enw ef Aser . Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith , ac a gafodd fandragorau yn y maes , ac a’u dug hwynt at Lea ei fam : yna Rahel a ddywedodd wrth Lea , Dyro , atolwg , i mi o fandragorau dy fab . Hithau a ddywedodd wrthi , Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr ? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab ? A Rahel a ddywedodd , Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab . A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr ; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , Ataf fi y deui : oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab . Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno . A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd , ac a ymddûg y pumed mab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi , oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr : a hi a alwodd ei enw ef Issachar . Lea hefyd a feichiogodd eto , ac a ymddûg y chweched mab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda ; fy ngŵr a drig weithian gyda mi , oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef : a hi a alwodd ei enw ef Sabulon . Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch , ac a alwodd ei henw hi Dina . A Duw a gofiodd Rahel , a Duw a wrandawodd arni , ac a agorodd ei chroth hi . A hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith . A hi a alwodd ei enw ef Joseff , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall . A bu , wedi esgor o Rahel ar Joseff , ddywedyd o Jacob wrth Laban , Gollwng fi ymaith , fel yr elwyf i’m bro , ac i’m gwlad fy hun . Dyro fy ngwragedd i mi , a’m plant , y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi , fel yr elwyf ymaith : oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti . A Laban a ddywedodd wrtho , Os cefais ffafr yn dy olwg , na syfl : da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di . Hefyd efe a ddywedodd , Dogna dy gyflog arnaf , a mi a’i rhoddaf . Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi ; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi . Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i , ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd ; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i : bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun ? Dywedodd yntau , Pa beth a roddaf i ti ? A Jacob a atebodd , Ni roddi i mi ddim ; os gwnei i mi y peth hyn , bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn . Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw , gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith , a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid ; y mawr‐frith hefyd a’r mân‐frith ymhlith y geifr : ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog . A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan , pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di : yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr , neu gochddu ymhlith y defaid , lladrad a fydd hwnnw gyda myfi . A dywedodd Laban , Wele , O na byddai yn ôl dy air di ! Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion , a’r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion , yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno , a phob cochddu ymhlith y defaid , ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun . Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob : a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban . A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys , a chyll , a ffawydd ; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion , gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail . Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe , yn y cwterydd , o fewn y cafnau dyfroedd , lle y deuai’r praidd i yfed , ar gyfer y praidd : fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed . A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail ; a’r praidd a ddug rai cylch‐frithion , a mân‐frithion , a mawr‐frithion . A Jacob a ddidolodd yr ŵyn , ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion , ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban ; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu , ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt . A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf , Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd , i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail ; Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid , ni osodai efe ddim : felly y gwannaf oedd eiddo Laban , a’r cryfaf eiddo Jacob . A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol ; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth , a morynion , a gweision , a chamelod , ac asynnod . Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd , Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni , ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn . Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban , ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob , Dychwel i wlad dy dadau , ac at dy genedl ; a mi a fyddaf gyda thi . A Jacob a anfonodd , ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes , at ei braidd , Ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi , nad yw fel cynt tuag ataf fi : a Duw fy nhad a fu gyda myfi . A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad . A’ch tad a’m twyllodd i , ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith : ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg . Os fel hyn y dywedai ; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di , yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion : ond os fel hyn y dywedai ; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di , yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion . Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi , ac a’u rhoddes i mi . Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd , ddyrchafu ohonof fy llygaid , ac mewn breuddwyd y gwelais , ac wele yr hyrddod , ( y rhai oedd yn llamu’r praidd , ) yn glych‐frithion , yn fân‐frithion , ac yn fawr‐frithion . Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd , Jacob . Minnau a atebais , Wele fi . Yntau a ddywedodd , Dyrchafa weithian dy lygaid , a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch‐frithion , yn fân‐frithion , ac yn fawr‐frithion ; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti . Myfi yw Duw Bethel , lle yr eneiniaist y golofn , a lle yr addunaist adduned i mi : cyfod bellach , dos allan o’r wlad hon , dychwel i wlad dy genedl dy hun . A Rahel a Lea a atebasant , ac a ddywedasant wrtho , A oes eto i ni ran , neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad ? Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni ? oblegid efe a’n gwerthodd ; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni . Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni , nyni a’n plant a’i piau : ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt , gwna . Yna Jacob a gyfododd , ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod ; Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid , a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai , sef ei anifeiliaid meddiannol , y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia , i fyned at Isaac ei dad , i wlad Canaan . Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid : a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi . A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd , heb wybod i Laban y Syriad : canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd . Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo , ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon , ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead . A mynegwyd i Laban , ar y trydydd dydd , ffoi o Jacob . Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef , ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod ; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead . A Duw a ddaeth at Laban y Syriad , liw nos , mewn breuddwyd , ac a ddywedodd wrtho , Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg . Yna Laban a oddiweddodd Jacob : a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd ; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead . A Laban a ddywedodd wrth Jacob , Pa beth a wnaethost ? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi , ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf . Am ba beth y ffoaist yn ddirgel , ac y lladrateaist oddi wrthyf fi , ac ni fynegaist i mi , fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd , ac â chaniadau , â thympan , ac â thelyn ? Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched ? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl , gan wneuthur hyn . Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg ; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr , gan ddywedyd , Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg . Weithian gan hynny , ti a fynnit fyned ymaith , oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad . Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i ? A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban , Am ofni ohonof ; oblegid dywedais , Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais . Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau , na chaffed fyw : gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi , a chymer i ti : ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt . A Laban a aeth i mewn i babell Jacob , ac i babell Lea , ac i babell y ddwy lawforwyn , ac nis cafodd hwynt : yna yr aeth allan o babell Lea , ac y daeth i babell Rahel . A Rahel a gymerasai’r delwau , ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel , ac a eisteddasai arnynt ; a Laban a chwiliodd yr holl babell , ac nis cafodd . A hi a ddywedodd wrth ei thad , Na ddigied fy arglwydd , am nas gallaf gyfodi ger dy fron di ; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi : ac efe a chwiliodd , ac ni chafodd y delwau . A Jacob a ddigiodd , ac a roes sen i Laban : a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban , Pa beth yw fy nghamwedd i ? pa beth yw fy mhechod , gan erlid ohonot ar fy ôl ? Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i , pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di ? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau , fel y barnont rhyngom ni ein dau . Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi ; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant , ac ni fwyteais hyrddod dy braidd . Ni ddygais ysglyfaeth atat ti : myfi a’i gwnawn ef yn dda ; o’m llaw i y gofynnit hynny , yr hyn a ladrateid y dydd , a’r hyn a ladrateid y nos . Bûm y dydd , y gwres a’m treuliodd , a rhew y nos ; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid . Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di : pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch , a chwe blynedd am dy braidd ; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau . Oni buasai fod Duw fy nhad , Duw Abraham , ac arswyd Isaac gyda mi , diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw . Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo , ac a’th geryddodd di neithiwr . Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob , Y merched hyn ydynt fy merched i , a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i , a’r praidd yw fy mhraidd i ; a’r hyn oll a weli , eiddo fi yw : a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn , ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant ? Tyred gan hynny yn awr , gwnawn gyfamod , mi a thi ; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau . A Jacob a gymerth garreg , ac a’i cododd hi yn golofn . Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr , Cesglwch gerrig : a hwy a gymerasant gerrig , ac a wnaethant garnedd , ac a fwytasant yno ar y garnedd . A Laban a’i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha : a Jacob a’i galwodd hi Galeed . A Laban a ddywedodd , Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw : am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed , A Mispa ; oblegid efe a ddywedodd , Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau , pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd . Os gorthrymi di fy merched , neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i ; nid oes neb gyda ni ; edrych , Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau . Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob , Wele y garnedd hon , ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi : Tyst a fydd y garnedd hon , a thyst a fydd y golofn , na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti , ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi , er niwed . Duw Abraham , a Duw Nachor , a farno rhyngom ni , Duw eu tadau hwynt . A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac . Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd , ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara : a hwy a fwytasant fara , ac a drigasant dros nos yn y mynydd . A Laban a gyfododd yn fore , ac a gusanodd ei feibion a’i ferched , ac a’u bendithiodd hwynt : felly Laban a aeth ymaith , ac a ddychwelodd i’w fro ei hun . A Jacob a gerddodd i’w daith yntau : ac angylion Duw a gyfarfu ag ef . A Jacob a ddywedodd , pan welodd hwynt , Dyma wersyll Duw : ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim . A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau , i wlad Seir , i wlad Edom : Ac a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau ; Fel hyn y dywed dy was di Jacob ; Gyda Laban yr ymdeithiais , ac y trigais hyd yn hyn . Ac y mae i mi eidionau , ac asynnod , defaid , a gweision , a morynion : ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd , i gael ffafr yn dy olwg . A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob , gan ddywedyd , Daethom at dy frawd Esau ; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di , a phedwar cant o wŷr gydag ef . Yna Jacob a ofnodd yn fawr , a chyfyng oedd arno : ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef , a’r defaid , a’r eidionau , a’r camelod , yn ddwy fintai ; Ac a ddywedodd , Os daw Esau at y naill fintai , a tharo honno , yna y fintai arall a fydd ddihangol . A dywedodd Jacob , O Dduw fy nhad Abraham , a Duw fy nhad Isaac , O Arglwydd , yr hwn a ddywedaist wrthyf , Dychwel i’th wlad , ac at dy genedl , a mi a wnaf ddaioni i ti ! Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di , nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was : oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon ; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai . Achub fi , atolwg , o law fy mrawd , o law Esau : oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef , rhag dyfod ohono a’m taro , a’r fam gyda’r plant . A thydi a ddywedaist , Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau ; a’th had di a wnaf fel tywod y môr , yr hwn o amlder ni ellir ei rifo . Ac yno y lletyodd efe y noson honno : ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau ; Dau gant o eifr , ac ugain o fychod , dau gant o ddefaid , ac ugain o hyrddod , Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod , deugain o wartheg , a deg o deirw , ugain o asennod , a deg o ebolion . Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilltu ; ac a ddywedodd wrth ei weision , Ewch trosodd o’m blaen i , a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd . Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf , gan ddywedyd , Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di , ac a ymofyn â thydi , gan ddywedyd , I bwy y perthyni di ? ac i ba le yr ei ? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di ? Yna y dywedi , Eiddo dy was Jacob ; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau : ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni . Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail , ac i’r trydydd , ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd , gan ddywedyd , Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau , pan gaffoch afael arno . A dywedwch hefyd , Wele dy was Jacob ar ein hôl ni . Oblegid ( eb efe ) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen : ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef ; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau . Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef : ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll . Ac efe a gyfododd y noson honno , ac a gymerth ei ddwy wraig , a’i ddwy lawforwyn , a’i un mab ar ddeg , ac a aeth dros ryd Jabboc . Ac a’u cymerth hwynt , ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon : felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo . A Jacob a adawyd ei hunan : yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr . A phan welodd na byddai drech nag ef , efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef ; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob , wrth ymdrech ohono ag ef . A’r angel a ddywedodd , Gollwng fi ymaith ; oblegid y wawr a gyfododd . Yntau a atebodd , Ni’th ollyngaf , oni’m bendithi . Hefyd efe a ddywedodd wrtho , Beth yw dy enw ? Ac efe a atebodd , Jacob . Yntau a ddywedodd , Mwyach ni elwir dy enw di Jacob , ond Israel : oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog , a chyda dynion , ac a orchfygaist . A Jacob a ymofynnodd , ac a ddywedodd , Mynega , atolwg , dy enw . Ac yntau a atebodd , I ba beth y gofynni hyn am fy enw i ? Ac yno efe a’i bendithiodd ef . A Jacob a alwodd enw y fan Peniel : oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb , a dihangodd fy einioes . A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel , ac yr oedd efe yn gloff o’i glun . Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd , yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd , hyd y dydd hwn : oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd . A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele Esau yn dyfod , a phedwar cant o wŷr gydag ef : ac efe a rannodd y plant at Lea , ac at Rahel , ac at y ddwy lawforwyn . Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn , a’u plant hwy , a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny , a Rahel a Joseff yn olaf . Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt , ac a ymostyngodd i lawr seithwaith , oni ddaeth efe yn agos at ei frawd . Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef , ac a’i cofleidiodd ef , ac a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a’i cusanodd ef : a hwy a wylasant . Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu’r gwragedd , a’r plant ; ac a ddywedodd , Pwy yw y rhai hyn gennyt ti ? Yntau a ddywedodd , Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di . Yna y llawforynion a nesasant , hwynt‐hwy a’u plant , ac a ymgrymasant . A Lea a nesaodd a’i phlant hithau , ac a ymgrymasant : ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel , ac a ymgrymasant . Ac efe a ddywedodd , Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i ? Yntau a ddywedodd , Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd . Ac Esau a ddywedodd , Y mae gennyf fi ddigon , fy mrawd ; bydded i ti yr hyn sydd gennyt . A Jacob a ddywedodd , Nage ; atolwg , os cefais yn awr ffafr yn dy olwg , cymer fy anrheg o’m llaw i : canys am hynny y gwelais dy wyneb , fel pe gwelswn wyneb Duw , a thi yn fodlon i mi . Cymer , atolwg , fy mendith , yr hon a dducpwyd i ti ; oblegid Duw a fu raslon i mi , ac am fod gennyf fi bob peth . Ac efe a fu daer arno : ac yntau a gymerodd ; Ac a ddywedodd , Cychwynnwn , ac awn : a mi a af o’th flaen di . Yntau a ddywedodd wrtho , Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant , a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi ; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn , marw a wna’r holl braidd . Aed , atolwg , fy arglwydd o flaen ei was ; a minnau a ddeuaf yn araf , fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i , ac y gallo’r plant , hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir . Ac Esau a ddywedodd , Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi . Yntau a ddywedodd , I ba beth y gwnei hynny ? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd . Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir . A Jacob a gerddodd i Succoth , ac a adeiladodd iddo dŷ , ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid : am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth . Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem , yr hon sydd yng ngwlad Canaan , pan ddaeth efe o Mesopotamia ; ac a wersyllodd o flaen y ddinas . Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo , o law meibion Hemor tad Sichem , am gan darn o arian : Ac a osododd yno allor , ac a’i henwodd El‐Elohe‐Israel . A Dina merch Lea , yr hon a ymddygasai hi i Jacob , a aeth allan i weled merched y wlad . A Sichem mab Hemor yr Hefiad , tywysog y wlad , a’i canfu hi , ac a’i cymerth hi , ac a orweddodd gyda hi , ac a’i treisiodd . A’i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob ; ie , efe a hoffodd y llances , ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances . Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad , gan ddywedyd , Cymer y llances hon yn wraig i mi . A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch : ( a’i feibion ef oedd gyda’i anifeiliaid ef yn y maes ) ; a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref . A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob , i ymddiddan ag ef . A meibion Jacob a ddaethant o’r maes , wedi clywed ohonynt ; a’r gwŷr a ymofidiasant , a digiasant yn ddirfawr , oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel , gan orwedd gyda merch Jacob ; canys ni ddylesid gwneuthur felly . A Hemor a ymddiddanodd â hwynt , gan ddywedyd , Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi : rhoddwch hi , atolwg , yn wraig iddo ef . Ac ymgyfathrechwch â ni ; rhoddwch eich merched chwi i ni , a chymerwch ein merched ni i chwithau . A chwi a gewch breswylio gyda ni , a’r wlad fydd o’ch blaen chwi : trigwch a negeseuwch ynddi , a cheisiwch feddiannau ynddi . Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi , ac wrth ei brodyr , Caffwyf ffafr yn eich golwg , a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf . Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd , a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf : rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig . A meibion Jacob a atebasant Sichem , a Hemor ei dad ef , yn dwyllodrus , ac a ddywedasant , oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt ; Ac a ddywedasant wrthynt , Ni allwn wneuthur y peth hyn , gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig : oblegid gwarthrudd yw hynny i ni . Ond yn hyn y cytunwn â chwi : Os byddwch fel nyni , gan enwaedu pob gwryw i chwi ; Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi , ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau , a ni a gyd‐drigwn â chwi , a ni a fyddwn yn un bobl . Ond oni wrandewch arnom ni i’ch enwaedu ; yna y cymerwn ein merch , ac a awn ymaith . A’u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor , ac yng ngolwg Sichem mab Hemor . Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth , oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob : ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad . A Hemor , a Sichem ei fab ef , a aethant i borth eu dinas , ac a lefarasant wrth eu dinasyddion , gan ddywedyd , Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni ; trigant hwythau yn y wlad , a gwnânt eu negesau ynddi ; a’r wlad , wele , sydd ddigon eang iddynt hwy : cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd , a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy . Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni , i drigo gyda ni , ar fod yn un bobl , os enwaedir pob gwryw i ni , fel y maent hwy yn enwaededig . Eu hanifeiliaid hwynt , a’u cyfoeth hwynt , a’u holl ysgrubliaid hwynt , onid eiddom ni fyddant hwy ? yn unig cytunwn â hwynt , a hwy a drigant gyda ni . Ac ar Hemor , ac ar Sichem ei fab ef , y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef : ac enwaedwyd pob gwryw , sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef . A bu ar y trydydd dydd , pan oeddynt hwy yn ddolurus , gymryd o ddau o feibion Jacob , Simeon a Lefi , brodyr Dina , bob un ei gleddyf , a dyfod ar y ddinas yn hyderus , a lladd pob gwryw . Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf ; a chymerasant Dina o dŷ Sichem , ac a aethant allan . Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion , ac a ysbeiliasant y ddinas , am halogi ohonynt eu chwaer hwynt . Cymerasant eu defaid hwynt , a’u gwartheg , a’u hasynnod hwynt , a’r hyn oedd yn y ddinas , a’r hyn oedd yn y maes , A’u holl gyfoeth hwynt ; a’u holl rai bychain , a’u gwragedd , a gaethgludasant hwy ; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai . A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi , Trallodasoch fi , gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad , gan y Canaaneaid a’r Pheresiaid : a minnau yn ychydig o nifer , hwy a ymgasglant yn fy erbyn , a thrawant fi : felly y difethir fi , mi a’m tŷ . Hwythau a atebasant , Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni ? A Duw a ddywedodd wrth Jacob , Cyfod , esgyn i Bethel , a thrig yno ; a gwna yno allor i Dduw , yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd . Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu , ac wrth y rhai oll oedd gydag ef , Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi , ac ymlanhewch , a newidiwch eich dillad ; A chyfodwn , ac esgynnwn i Bethel : ac yno y gwnaf allor i Dduw , yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder , ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais . A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt , a’r clustlysau oedd yn eu clustiau : a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem . A hwy a gychwynasant : ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt , ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob . A Jacob a ddaeth i Lus , yng ngwlad Canaan , hon yw Bethel , efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef ; Ac a adeiladodd yno allor , ac a enwodd y lle El‐bethel , oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef , pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd . A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca ; a hi a gladdwyd islaw Bethel , dan dderwen : a galwyd enw honno Alhon‐bacuth . Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob , pan ddaeth efe o Mesopotamia ; ac a’i bendithiodd ef . A Duw a ddywedodd wrtho , Dy enw di yw Jacob : ni elwir dy enw di Jacob mwy , ond Israel a fydd dy enw di : ac efe a alwodd ei enw ef Israel . Hefyd Duw a ddywedodd wrtho , Myfi yw Duw Hollalluog : cynydda , ac amlha ; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti ; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di . A’r wlad yr hon a roddais i Abraham , ac i Isaac , a roddaf i ti , ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad . A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef , yn y fan lle y llefarasai efe wrtho . A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef , sef colofn faen : ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm , ac a dywalltodd olew arni . A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef , Bethel . A hwy a aethant ymaith o Bethel ; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath : yno yr esgorodd Rahel , a bu galed arni wrth esgor . A darfu , pan oedd galed arni wrth esgor , i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi , Nac ofna ; oblegid dyma hefyd i ti fab . Darfu hefyd , wrth ymadael o’i henaid hi ( oblegid marw a wnaeth hi ) , iddi alw ei enw ef Ben‐oni : ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin . A Rahel a fu farw , ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath ; hon yw Bethlehem . A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi : honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw . Yna Israel a gerddodd , ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal‐Edar . A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno , yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad ; a chlybu Israel hynny . Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg : Meibion Lea ; Reuben , cyntaf‐anedig Jacob , a Simeon , a Lefi , a Jwda , ac Issachar , a Sabulon . Meibion Rahel ; Joseff a Benjamin . A meibion Bilha , llawforwyn Rahel ; Dan a Nafftali . A meibion Silpa , llawforwyn Lea ; Gad ac Aser . Dyma feibion Jacob , y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia . A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre , i Gaer‐Arba , hon yw Hebron , lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac . A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd . Ac Isaac a drengodd , ac a fu farw , ac a gasglwyd at ei bobl , yn hen , ac yn gyflawn o ddyddiau : a’i feibion , Esau a Jacob , a’i claddasant ef . A dyma genedlaethau Esau : efe yw Edom . Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan ; Ada , merch Elon yr Hethiad , ac Aholibama , merch Ana , merch Sibeon yr Hefiad ; Basemath hefyd , merch Ismael , chwaer Nebaioth . Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau : a Basemath a esgorodd ar Reuel . Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus , a Jalam , a Chora : dyma feibion Esau , y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan . Ac Esau a gymerodd ei wragedd , a’i feibion , a’i ferched , a holl ddynion ei dŷ , a’i anifeiliaid , a’i holl ysgrubliaid , a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan ; ac a aeth ymaith i’r wlad , o ŵydd ei frawd Jacob . Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo : ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt , gan eu hanifeiliaid . Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir : Esau yw Edom . A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir . Dyma enwau meibion Esau : Eliffas , mab Ada gwraig Esau ; Reuel , mab Basemath gwraig Esau . A meibion Eliffas oedd Teman , Omar , Seffo , a Gatam , a Chenas . A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas , mab Esau , ac a esgorodd Amalec i Eliffas : dyma feibion Ada gwraig Esau . A dyma feibion Reuel ; Nahath a Sera , Samma a Missa : y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau . Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana , merch Sibeon gwraig Esau : a hi a ymddûg i Esau , Jeus , a Jalam , a Chora . Dyma ddugiaid o feibion Esau ; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau , dug Teman , dug Omar , dug Seffo , dug Cenas , Dug Cora , dug Gatam , dug Amalec : dyma y dugiaid o Eliffas , yng ngwlad Edom : dyma feibion Ada . A dyma feibion Reuel mab Esau ; dug Nahath , dug Sera , dug Samma , dug Missa : dyma y dugiaid o Reuel , yng ngwlad Edom : dyma feibion Basemath gwraig Esau . Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau : dug Jeus , dug Jalam , dug Cora ; dyma y dugiaid o Aholibama , merch Ana , gwraig Esau . Dyma feibion Esau ( hwn yw Edom ) , a dyma eu dugaid hwynt . Dyma feibion Seir yr Horiad , cyfanheddwyr y wlad ; Lotan , a Sobal , a Sibeon , ac Ana . A Dison , ac Eser , a Disan : a dyma ddugiaid yr Horiaid , meibion Seir , yng ngwlad Edom . A meibion Lotan oedd Hori , a Hemam : a chwaer Lotan oedd Timna . A dyma feibion Sobal ; Alfan , a Manahath , ac Ebal , Seffo , ac Onam . A dyma feibion Sibeon ; Aia ac Ana : hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad . A dyma feibion Ana ; Dison ac Aholibama merch Ana . Dyma hefyd feibion Dison ; Hemdan , ac Esban , ac Ithran , a Cheran . Dyma feibion Eser ; Bilhan , a Saafan , ac Acan . Dyma feibion Disan ; Us ac Aran . Dyma ddugiaid yr Horiaid ; dug Lotan , dug Sobal , dug Sibeon , dug Ana , Dug Dison , dug Eser , dug Disan . Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir . Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom , cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel . A Bela , mab Beor , a deyrnasodd yn Edom : ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba . A Bela a fu farw ; a Jobab , mab Sera o Bosra , a deyrnasodd yn ei le ef . Jobab hefyd a fu farw ; a Husam , o wlad Temani , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Husam farw ; a Hadad , mab Bedad , yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab , a deyrnasodd yn ei le ef : ac enw ei ddinas ef oedd Afith . Marw hefyd a wnaeth Hadad ; a Samla , o Masreca , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Samla farw ; a Saul , o Rehoboth wrth yr afon , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Saul farw ; a Baalhanan , mab Achbor , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Baalhanan , mab Achbor , farw ; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef : ac enw ei ddinas ef oedd Pau ; ac enw ei wraig Mehetabel , merch Matred , merch Mesahab . A dyma enwau y dugiaid o Esau , yn ôl eu teuluoedd , wrth eu trigleoedd , erbyn eu henwau ; dug Timna , dug Alfa , dug Jetheth , Dug Aholibama , dug Ela , dug Pinon , Dug Cenas , dug Teman , dug Mibsar , Dug Magdiel , dug Iram . Dyma y dugiaid o Edom , yn ôl eu preswylfeydd , yng ngwlad eu perchenogaeth : dyma Esau , tad yr Edomiaid . A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad , yng ngwlad Canaan . Dyma genedlaethau Jacob . Joseff , yn fab dwy flwydd ar bymtheg , oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd : a’r llanc oedd gyda meibion Bilha , a chyda meibion Silpa , gwragedd ei dad ; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad . Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion , oblegid efe oedd fab ei henaint ef : ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef . A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr , hwy a’i casasant ef , ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol . A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd , ac a’i mynegodd i’w frodyr : a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch , atolwg , y breuddwyd hwn a freuddwydiais i . Ac wele , rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes ; ac wele , fy ysgub i a gyfododd , ac a safodd hefyd ; ac wele , eich ysgubau chwi a safasant o amgylch , ac a ymgrymasant i’m hysgub i . A’i frodyr a ddywedasant wrtho , Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni ? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni ? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef , oblegid ei freuddwydion , ac oblegid ei eiriau . Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall , ac a’i mynegodd i’w frodyr , ac a ddywedodd , Wele , breuddwydiais freuddwyd eto ; ac wele , yr haul , a’r lleuad , a’r un seren ar ddeg , yn ymgrymu i mi . Ac efe a’i mynegodd i’w dad , ac i’w frodyr . A’i dad a feiodd arno , ac a ddywedodd wrtho , Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti ? Ai gan ddyfod y deuwn ni , mi , a’th fam , a’th frodyr , i ymgrymu i lawr i ti ? A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef ; ond ei dad a ddaliodd ar y peth . A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad , yn Sichem . Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff , Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem ? Tyred , a mi a’th anfonaf atynt . Yntau a ddywedodd wrtho , Wele fi . A dywedodd wrtho , Dos weithian , edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr , a pha lwyddiant sydd i’r praidd ; a dwg eilchwyl air i mi . Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron ; ac efe a ddaeth i Sichem . A chyfarfu gŵr ag ef ; ac wele efe yn crwydro yn y maes : a’r gŵr a ymofynnodd ag ef , gan ddywedyd , Pa beth yr wyt ti yn ei geisio ? Yntau a ddywedodd , Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi ; mynega , atolwg , i mi , pa le y maent hwy yn bugeilio ? A’r gŵr a ddywedodd , Hwy a aethant oddi yma ; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd , Awn i Dothan . A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr , ac a’u cafodd hwynt yn Dothan . Hwythau a’i canfuant ef o bell ; a chyn ei ddynesu ef atynt , hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef , i’w ladd ef . A dywedasant wrth ei gilydd , Wele y breuddwydiwr yn dyfod . Deuwch gan hynny yn awr , a lladdwn ef , a thaflwn ef yn un o’r pydewau ; a dywedwn , Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef : yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef . A Reuben a glybu , ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt ; ac a ddywedodd , Na laddwn ef . Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt , Na thywelltwch waed ; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch , ac nac estynnwch law arno : fel yr achubai ef o’u llaw hwynt , i’w ddwyn eilwaith at ei dad . A bu , pan ddaeth Joseff at ei frodyr , iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff , sef y siaced fraith ydoedd amdano ef . A chymerasant ef , a thaflasant i bydew : a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo . A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd ; ac a ddyrchafasant eu llygaid , ac a edrychasant , ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead , yn myned i waered i’r Aifft , a’u camelod yn dwyn llysiau , a balm , a myrr . A dywedodd Jwda wrth ei frodyr , Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd , a chelu ei waed ef ? Deuwch , a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid , ac na fydded ein llaw ni arno ef ; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe . A’i frodyr a gytunasant . A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio , y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew , ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian : hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft . A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew ; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew : ac yntau a rwygodd ei ddillad ; Ac a ddychwelodd at ei frodyr , ac a ddywedodd , Y llanc nid yw acw ; a minnau , i ba le yr af fi ? A hwy a gymerasant siaced Joseff , ac a laddasant fyn gafr , ac a drochasant y siaced yn y gwaed . Ac a anfonasant y siaced fraith , ac a’i dygasant at eu tad , ac a ddywedasant , Hon a gawsom : myn wybod yn awr , ai siaced dy fab yw hi , ai nad e . Yntau a’i hadnabu hi , ac a ddywedodd , Siaced fy mab yw hi ; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef : gan larpio y llarpiwyd Joseff . A Jacob a rwygodd ei ddillad , ac a osododd sachlen am ei lwynau , ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer . A’i holl feibion , a’i holl ferched , a godasant i’w gysuro ef ; ond efe a wrthododd gymryd cysur , ac a ddywedodd , Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod : a’i dad a wylodd amdano ef . A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft , i Potiffar tywysog Pharo , a’r distain . Ac yn y cyfamser hwnnw , y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr , a throi at ŵr o Adulam , a’i enw Hira . Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan , a’i enw ef oedd Sua ; ac a’i cymerodd hi , ac a aeth ati hi . A hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Er . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar fab ; a hi a alwodd ei enw ef Onan . A thrachefn hi a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Sela . Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn . A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf‐anedig , a’i henw Tamar . Ac yr oedd Er , cyntaf‐anedig Jwda , yn ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd ; a’r Arglwydd a’i lladdodd ef . A Jwda a ddywedodd wrth Onan , Dos at wraig dy frawd , a phrioda hi , a chyfod had i’th frawd . Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai’r had : a phan elai efe at wraig ei frawd , yna y collai efe ei had ar y llawr , rhag rhoddi ohono had i’w frawd . A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr Arglwydd : am hynny efe a’i lladdodd yntau . Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd , Trig yn weddw yn nhŷ dy dad , hyd oni chynyddo fy mab Sela : ( oblegid efe a ddywedodd , Rhag ei farw yntau fel ei frodyr . ) A Thamar a aeth , ac a drigodd yn nhŷ ei thad . Ac wedi llawer o ddyddiau , marw a wnaeth merch Sua , gwraig Jwda : a Jwda a gymerth gysur , ac a aeth i fyny i Timnath , at gneifwyr ei ddefaid , efe a’i gyfaill Hira yr Adulamiad . Mynegwyd hefyd i Tamar , gan ddywedyd , Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath , i gneifio ei ddefaid . Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani , ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd , ac a ymwisgodd , ac a eisteddodd yn nrws Enaim , yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath : oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr , ac na roddasid hi yn wraig iddo ef . A Jwda a’i canfu hi , ac a dybiodd mai putain ydoedd hi ; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb . Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd , ac a ddywedodd , Tyred , atolwg , gad i mi ddyfod atat : ( oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi . ) Hithau a ddywedodd , Beth a roddi i mi , os cei ddyfod ataf ? Yntau a ddywedodd , Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd . Hithau a ddywedodd , A roddi di wystl hyd oni hebryngech ? Yntau a ddywedodd , Pa wystl a roddaf i ti ? Hithau a ddywedodd , Dy sêl , a’th freichledau , a’th ffon sydd yn dy law . Ac efe a’u rhoddes iddi , ac a aeth ati ; a hi a feichiogodd ohono ef . Yna y cyfododd hi , ac a aeth ymaith , ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani , ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod . A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill , i gymryd y gwystl o law y wraig : ond ni chafodd hwnnw hi . Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno , gan ddywedyd , Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd ? A hwythau a ddywedasant , Nid oedd yma un butain . Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd , Ni chefais hi ; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant , Nid oedd yma un butain . A Jwda a ddywedodd , Cymered iddi hi , rhag i ni gael cywilydd : wele , mi a hebryngais y myn hwn , a thithau ni chefaist hi . Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda , gan ddywedyd , Tamar dy waudd di a buteiniodd ; ac wele , hi a feichiogodd hefyd mewn godineb . A dywedodd Jwda , Dygwch hi allan , a llosger hi . Yna hi , pan ddygwyd hi allan , a anfonodd at ei chwegrwn , gan ddywedyd , O’r gŵr biau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog : hefyd hi a ddywedodd , Adnebydd , atolwg , eiddo pwy yw y sêl , a’r breichledau , a’r ffon yma . A Jwda a adnabu y pethau hynny , ac a ddywedodd , Cyfiawnach yw hi na myfi ; oherwydd na roddais hi i’m mab Sela : ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy . Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi , wele efeilliaid yn ei chroth hi . Bu hefyd pan esgorodd hi , i un roddi allan ei law : a’r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch , gan ddywedyd , Hwn a ddaeth yn gyntaf allan . A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl , yna wele , ei frawd ef a ddaeth allan : a hithau a ddywedodd , Pa fodd y torraist allan ? bid y toriad hwn arnat ti ; am hynny y galwyd ei enw ef Phares . Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan , yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law : a galwyd ei enw ef Sera . A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft : a Potiffar yr Eifftwr , tywysog Pharo a’i ddistain , a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid , y rhai a’i dygasant ef i waered yno . Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff , ac efe oedd ŵr llwyddiannus : ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad . A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef , a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe . A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef , ac a’i gwasanaethodd ef : yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ , ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef . Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ , ac ar yr hyn oll oedd eiddo , bu i’r Arglwydd fendithio tŷ’r Eifftiad , er mwyn Joseff : ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef , yn y tŷ , ac yn y maes . Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff ; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef , oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta : Joseff hefyd oedd deg o bryd , a glân yr olwg . A darfu wedi’r pethau hynny , i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff , a dywedyd , Gorwedd gyda mi . Yntau a wrthododd , ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr , Wele , fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i . Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi ; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi ; oblegid ei wraig ef wyt ti : pa fodd , gan hynny , y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn , a phechu yn erbyn Duw ! A bu , fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd , ac yntau heb wrando arni hi , i orwedd yn ei hymyl hi , neu i fod gyda hi . A bu , ynghylch yr amser hwnnw , i Joseff ddyfod i’r tŷ , i wneuthur ei orchwyl ; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ . Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg , gan ddywedyd , Gorwedd gyda mi . Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi , ac a ffodd , ac a aeth allan . A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi , a ffoi ohono allan ; Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ , ac a draethodd wrthynt , gan ddywedyd , Gwelwch , efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo : daeth ataf fi i orwedd gyda myfi ; minnau a waeddais â llef uchel ; A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef , a gweiddi ; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i , ac a ffodd , ac a aeth allan . A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl , hyd oni ddaeth ei feistr ef adref . A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn , gan ddywedyd , Yr Hebrewas , yr hwn a ddygaist i ni , a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo ; Ond pan ddyrchefais fy llef , a gweiddi , yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl , ac a ffodd allan . A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig , y rhai a lefarodd hi wrtho ef , gan ddywedyd , Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi ; yna yr enynnodd ei lid ef . A meistr Joseff a’i cymerth ef , ac a’i rhoddes yn y carchardy , yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym . Ac yno y bu efe yn y carchardy . Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff , ac a ddangosodd iddo ef drugaredd , ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy . A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy ; a pha beth bynnag a wnaent yno , efe oedd yn ei wneuthur . Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef , am fod yr Arglwydd gydag ef ; a’r hyn a wnâi efe , yr Arglwydd a’i llwyddai . A Darfu wedi’r pethau hynny , i drulliad brenin yr Aifft , a’r pobydd , bechu yn erbyn eu harglwydd , brenin yr Aifft . A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr , sef wrth y pen‐trulliad , a’r pen‐pobydd : Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa , yn nhŷ’r distain , sef yn y carchardy , y lle yr oedd Joseff yn rhwym . A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy ; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt : a buont mewn dalfa dros amser . A breuddwydiasant freuddwyd ill dau , pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos , pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun , trulliad a phobydd brenin yr Aifft , y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy . A’r bore y daeth Joseff atynt , ac a edrychodd arnynt ; ac wele hwynt yn athrist . Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo , y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd , gan ddywedyd , Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw ? A dywedasant wrtho , Breuddwydiasom freuddwyd , ac nid oes a’i dehonglo . A Joseff a ddywedodd wrthynt , Onid i Dduw y perthyn dehongli ? mynegwch , atolwg , i mi . A’r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff ; ac a ddywedodd wrtho , Yn fy mreuddwyd yr oeddwn , ac wele winwydden o’m blaen ; Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc : ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu ; ei blodeuyn a dorasai allan , ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed . Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw : a chymerais y grawnwin , a gwesgais hwynt i gwpan Pharo ; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo . A Joseff a ddywedodd wrtho , Dyma ei ddehongliad ef . Tri diwrnod yw’r tair cainc . O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di , ac a’th rydd di eilwaith yn dy le ; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef , fel y buost arferol yn y cyntaf , pan oeddit drulliad iddo . Eto cofia fi gyda thi , pan fo daioni i ti , a gwna , atolwg , â mi drugaredd , a chofia fi wrth Pharo , a dwg fi allan o’r tŷ hwn : Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid ; ac yma hefyd ni wneuthum ddim , fel y bwrient fi yng ngharchar . Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad , efe a ddywedodd wrth Joseff , Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd ; ac wele , dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen . Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd ; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen . A Joseff a atebodd ac a ddywedodd , Dyma ei ddehongliad ef . Tri diwrnod yw y tri chawell . O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat , ac a’th groga di ar bren ; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat . Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo : ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision : ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad , a’r pen‐pobydd ymysg ei weision . Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd ; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo . A’r pen‐pobydd a grogodd efe ; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy . Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff , eithr anghofiodd ef . Yna ymhen dwy flynedd lawn , y bu i Pharo freuddwydio ; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon . Ac wele , yn esgyn o’r afon , saith o wartheg teg yr olwg , a thewion o gig ; ac mewn gweirglodd‐dir y porent . Wele hefyd , saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon , yn ddrwg yr olwg , ac yn gulion o gig ; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill , ar lan yr afon . A’r gwartheg drwg yr olwg , a chulion o gig , a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg , a breision . Yna y dihunodd Pharo . Ac efe a gysgodd , ac a freuddwydiodd eilwaith : ac wele , saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen , o rai breisgion a da . Wele hefyd , saith o dywysennau teneuon , ac wedi deifio gan wynt y dwyrain , yn tarddu allan ar eu hôl hwynt . A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn . A deffrôdd Pharo ; ac wele breuddwyd oedd . A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu ; ac efe a anfonodd , ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi : a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion ; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo . Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo , gan ddywedyd , Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw . Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision ; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain , myfi a’r pen‐pobydd . A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos , mi ac efe : breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd . Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread , gwas i’r distain ; a ni a fynegasom iddo ef : yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion ; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe . A darfu , fel y dehonglodd i ni , felly y bu : rhodd fi eilwaith i’m swydd ; ac yntau a grogodd efe . Pharo , gan hynny , a anfonodd ac a alwodd am Joseff : hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar : yntau a eilliodd ei wallt , ac a newidiodd ei ddillad , ac a ddaeth at Pharo . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Breuddwydiais freuddwyd , ac nid oes a’i dehonglo : a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti , y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli . A Joseff a atebodd Pharo , gan ddywedyd , Nid myfi ; Duw a etyb lwyddiant i Pharo . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon . Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig , a theg yr olwg ; ac mewn gweirglodd‐dir y porent . Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt , truain , a drwg iawn yr olwg , ac yn gulion o gig : ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft . A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf . Ac er eu myned i’w boliau , ni wyddid iddynt fyned i’w boliau ; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg , megis yn y dechreuad . Yna mi a ddeffroais . Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd , ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen . Ac wele saith o dywys mân , teneuon , wedi deifio gan ddwyreinwynt , yn tyfu ar eu hôl hwynt . A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda ; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid ; ond nid oedd a’i dehonglai i mi . A dywedodd Joseff wrth Pharo , Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo . Y saith o wartheg teg , saith mlynedd ydynt ; a’r saith dywysen deg , saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw . Hefyd y saith muwch culion a drwg , y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt , saith mlynedd ydynt ; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt , a fyddant saith mlynedd o newyn . Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo : Yr hyn a wna Duw , efe a’i dangosodd i Pharo . Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr , trwy holl wlad yr Aifft . Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn ; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft : a’r newyn a ddifetha’r wlad . Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad , oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny : oblegid trwm iawn fydd . Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith , hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan Dduw , a bod Duw yn brysio i’w wneuthur . Yn awr , gan hynny , edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth , a gosoded ef ar wlad yr Aifft . Gwnaed Pharo hyn , a gosoded olygwyr ar y wlad , a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra . A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod , a chasglant ŷd dan law Pharo , a chadwant ymborth yn y dinasoedd . A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn , y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft , fel na ddifether y wlad gan y newyn . A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo , ac yng ngolwg ei holl weision . A dywedodd Pharo wrth ei weision , A gaem ni ŵr fel hwn , yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo ? Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff , Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll , nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi . Tydi a fyddi ar fy nhŷ , ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll : yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi . Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff , Edrych , gosodais di ar holl wlad yr Aifft . A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law , ac a’i rhoddes hi ar law Joseff , ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan , ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef ; Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo ; a llefwyd o’i flaen ef , Abrec : felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft . Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff , Myfi yw Pharo , ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed , trwy holl wlad yr Aifft . A Pharo a alwodd enw Joseff , Saffnath‐Panea ; ac a roddes iddo Asnath , merch Potiffera offeiriad On , yn wraig : yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft . A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft : a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo , ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft . A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau . Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft , ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd : ymborth y maes , yr hwn fyddai o amgylch pob dinas , a roddes efe i gadw ynddi . A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr , yn dra lluosog , hyd oni pheidiodd â’i rifo : oblegid yr ydoedd heb rifedi . Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn , y ganwyd i Joseff ddau fab , y rhai a ymddûg Asnath , merch Potiffera offeiriad On , iddo ef . A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig , Manasse : Oblegid ( eb efe ) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll , a thylwyth fy nhad oll . Ac efe a alwodd enw yr ail , Effraim : Oblegid ( eb efe ) Duw a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder . Darfu’r saith mlynedd o amldra , y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft . A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod , fel y dywedasai Joseff : ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd ; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara . A phan newynodd holl wlad yr Aifft , y bobl a waeddodd ar Pharo am fara : a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid , Ewch at Joseff ; yr hyn a ddywedo efe wrthych , gwnewch . Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear : a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt , ac a werthodd i’r Eifftiaid ; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft . A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Joseff i brynu ; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd . Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft , dywedodd Jacob wrth ei feibion , Paham yr edrychwch ar eich gilydd ? Dywedodd hefyd , Wele , clywais fod ŷd yn yr Aifft : ewch i waered yno , a phrynwch i ni oddi yno ; fel y bôm fyw , ac na byddom feirw . A deg brawd Joseff a aethant i waered , i brynu ŷd , i’r Aifft . Ond ni ollyngai Jacob Benjamin , brawd Joseff , gyda’i frodyr : oblegid efe a ddywedodd , Rhag digwydd niwed iddo ef . A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod ; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan . A Joseff oedd lywydd ar y wlad , ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad : a brodyr Joseff a ddaethant , ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau . A Joseff a ganfu ei frodyr , ac a’u hadnabu hwynt , ac a ymddieithrodd iddynt hwy , ac a lefarodd wrthynt yn arw , ac a ddywedodd wrthynt , O ba le y daethoch ? Hwythau a atebasant , O wlad Canaan , i brynu lluniaeth . A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr ; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef . A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy ; ac a ddywedodd wrthynt , Ysbïwyr ydych chwi ; i edrych noethder y wlad y daethoch . Hwythau a ddywedasant wrtho ef , Nage , fy arglwydd ; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth . Nyni oll ydym feibion un gŵr : gwŷr cywir ydym ni ; nid yw dy weision di ysbïwyr . Yntau a ddywedodd wrthynt hwy , Nage ; ond i edrych noethder y wlad y daethoch . Hwythau a ddywedasant , Dy weision di oedd ddeuddeg brawd , meibion un gŵr yng ngwlad Canaan : ac wele , y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni , a’r llall nid yw fyw . A Joseff a ddywedodd wrthynt , Dyma yr hyn a adroddais , wrthych , gan ddywedyd , Ysbïwyr ydych chwi . Wrth hyn y’ch profir : Myn einioes Pharo , nid ewch allan oddi yma , onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma . Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd , a rhwymer chwithau ; fel y profer eich geiriau chwi , a oes gwirionedd ynoch : oblegid onid e , myn einioes Pharo , ysbïwyr yn ddiau ydych chwi . As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau . Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt , Gwnewch hyn , fel y byddoch fyw : ofni Duw yr wyf fi . Os gwŷr cywir ydych chwi , rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy ; ac ewch chwithau , dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth . A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi : felly y cywirir eich geiriau chwi , ac ni byddwch feirw . Hwythau a wnaethant felly . Ac a ddywedasant wrth ei gilydd , Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd ; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef , pan ymbiliodd efe â ni , ac ni wrandawsom ef : am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni . A Reuben a’u hatebodd hwynt , gan ddywedyd , Oni ddywedais i wrthych , gan ddywedyd , Na phechwch yn erbyn yr herlod ; ac ni wrandawech chwi ? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef . Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall ; am fod cyfieithydd rhyngddynt . Yntau a drodd oddi wrthynt , ac a wylodd ; ac a ddaeth eilchwyl atynt , ac a lefarodd wrthynt hwy , ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon , ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt . Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd , a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach , a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd : ac felly y gwnaeth iddynt hwy . Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod , ac a aethant oddi yno . Ac un a agorodd ei sach , ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety ; ac a ganfu ei arian ; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef . Ac a ddywedodd wrth ei frodyr , Rhoddwyd adref fy arian ; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan : yna y digalonasant hwy , ac a ofnasant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Paham y gwnaeth Duw i ni hyn ? A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan ; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau , gan ddywedyd , Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni , ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad . Ninnau a ddywedasom wrtho ef , Gwŷr cywir ydym ni ; nid ysbïwyr ydym . Deuddeg o frodyr oeddem ni , meibion ein tad ni : un nid yw fyw , ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan . A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni , Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi ; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr , a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd , ac ewch ymaith . A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi , fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi , ond eich bod yn gywir : yna y rhoddaf eich brawd i chwi , a chewch farchnata yn y wlad . Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau , yna wele godaid arian pob un yn ei sach : a phan welsant y codau arian , hwynt‐hwy a’u tad , ofni a wnaethant . A Jacob , eu tad hwynt , a ddywedodd wrthynt hwy , Diblantasoch fi : Joseff nid yw fyw , a Simeon yntau nid yw fyw , a Benjamin a ddygech ymaith : yn fy erbyn i y mae hyn oll . A dywedodd Reuben wrth ei dad , gan ddywedyd , Lladd fy nau fab i , oni ddygaf ef drachefn atat ti : dyro ef yn fy llaw i , a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith . Yntau a ddywedodd , Nid â fy mab i waered gyda chwi : oblegid bu farw ei frawd , ac yntau a adawyd ei hunan : pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi , yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch . A’r newyn oedd drwm yn y wlad . A bu , wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft , ddywedyd o’u tad wrthynt hwy , Ewch eilwaith , prynwch i ni ychydig luniaeth . A Jwda a atebodd , gan ddywedyd , Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni , gan ddywedyd , Nac edrychwch yn fy wyneb , oni bydd eich brawd gyda chwi . Os anfoni ein brawd gyda ni , ni a awn i waered , ac a brynwn i ti luniaeth . Ond os ti nid anfoni , nid awn i waered ; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni , Nac edrychwch yn fy wyneb , oni bydd eich brawd gyda chwi . Ac Israel a ddywedodd , Paham y drygasoch fi , gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd ? Hwythau a ddywedasant , Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni , ac am ein cenedl , gan ddywedyd , Ai byw eich tad chwi eto ? Oes frawd arall i chwi ? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny : a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe , Dygwch eich brawd i waered ? Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel , Gollwng y bachgen gyda mi , ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith ; fel y byddom byw , ac na byddom feirw , nyni , a thithau , a’n plant hefyd . Myfi a fechnïaf amdano ef ; o’m llaw i y gofynni ef : onis dygaf ef atat ti , a’i osod ef ger dy fron di , yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth . Canys , pe na buasem hwyrfrydig , daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach . Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt , Os rhaid yn awr felly , gwnewch hyn ; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri , a dygwch yn anrheg i’r gŵr , ychydig falm , ac ychydig fêl , llysiau , a myrr , cnau , ac almonau . Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi ; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau : ond odid amryfusedd fu hynny . Hefyd cymerwch eich brawd , a chyfodwch , ewch eilwaith at y gŵr . A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr , fel y gollyngo i chwi eich brawd arall , a Benjamin : minnau fel y’m diblantwyd , a ddiblentir . A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno , a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw , a Benjamin hefyd ; a chyfodasant , ac a aethant i waered i’r Aifft , a safasant gerbron Joseff . A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt ; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ , Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ , a lladd laddfa , ac arlwya : oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd . A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff : a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff . A’r gwŷr a ofnasant , pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff ; ac a ddywedasant , Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf , y ducpwyd nyni i mewn ; i fwrw hyn arnom ni , ac i ruthro i ni , ac i’n cymryd ni yn gaethion , a’n hasynnod hefyd . A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff , ac a lefarasant wrtho , wrth ddrws y tŷ , Ac a ddywedasant , Fy arglwydd , gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth . A bu , pan ddaethom i’r llety , ac agoryd ein sachau , yna wele arian pob un yng ngenau ei sach ; ein harian ni , meddaf , yn ei bwys : ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw . Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw , i brynu lluniaeth : nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau . Yntau a ddywedodd , Heddwch i chwi ; nac ofnwch : eich Duw chwi , a Duw eich tad , a roddes i chwi drysor yn eich sachau ; daeth eich arian chwi ataf fi . Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy . A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff , ac a roddes ddwfr , a hwy a olchasant eu traed ; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt . Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd : oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara . Pan ddaeth Joseff i’r tŷ , hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ , ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr . Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd , ac a ddywedodd , Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi , yr hwn y soniasoch amdano ? ai byw efe eto ? Hwythau a ddywedasant , Iach yw dy was , ein tad ni : byw yw efe eto . Yna yr ymgrymasant , ac yr ymostyngasant . Yntau a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu ei frawd Benjamin , mab ei fam ei hun ; ac a ddywedodd , Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi , am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi ? Yna y dywedodd , Duw a roddo ras i ti , fy mab . A Joseff a frysiodd , ( oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd , ) ac a geisiodd le i wylo ; ac a aeth i mewn i’r ystafell , ac a wylodd yno . Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb , ac a ddaeth allan , ac a ymataliodd , ac a ddywedodd , Gosodwch fara . Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun , ac iddynt hwy wrthynt eu hun , ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain : oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid ; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid . Yna yr eisteddasant ger ei fron ef , y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth , a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid : a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd . Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy : a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll . Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef . Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef , gan ddywedyd , Llanw sachau’r gwŷr o fwyd , cymaint ag a allant ei ddwyn , a dod arian pob un yng ngenau ei sach . A dod fy nghwpan fy hun , sef y cwpan arian , yng ngenau sach yr ieuangaf , gydag arian ei ŷd ef . Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff , yr hwn a ddywedasai efe . Y bore a oleuodd , a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith , hwynt a’u hasynnod . Hwythau a aethant allan o’r ddinas . Ac nid aethant nepell , pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ , Cyfod , a dilyn ar ôl y gwŷr : a phan oddiweddech hwynt , dywed wrthynt , Paham y talasoch ddrwg am dda ? Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo , ac yr arferai ddewiniaeth wrtho ? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch . Yntau a’u goddiweddodd hwynt , ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy . Y rhai a ddywedasant wrtho yntau , Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau ? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth . Wele , ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau ; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di ? Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef , bydded hwnnw farw ; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd . Yntau a ddywedodd , Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi : yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi , a chwithau a fyddwch ddieuog . Hwythau a frysiasant , ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr , ac a agorasant bawb ei ffetan . Yntau a chwiliodd ; ar yr hynaf y dechreuodd , ac ar yr ieuangaf y diweddodd : a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin . Yna y rhwygasant eu dillad , ac a byniasant bawb ar ei asyn , ac a ddychwelasant i’r ddinas . A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff , ac efe eto yno ; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef . A dywedodd Joseff wrthynt , Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi ? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth ? A dywedodd Jwda , Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd ? pa beth a lefarwn ? pa fodd yr ymgyfiawnhawn ? cafodd Duw allan anwiredd dy weision : wele ni yn weision i’m harglwydd , ie nyni , a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd . Yntau a ddywedodd , Na ato Duw i mi wneuthur hyn : y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law , efe fydd was i mi ; ewch chwithau i fyny , mewn heddwch , at eich tad . Yna yr aeth Jwda ato ef , ac a ddywedodd , Fy arglwydd , caffed , atolwg , dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd , ac na enynned dy lid wrth dy was : oherwydd yr wyt ti megis Pharo . Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision , gan ddywedyd , A oes i chwi dad , neu frawd ? Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd , Y mae i ni dad , yn hen ŵr ; a phlentyn ei henaint ef , un bychan : a’i frawd a fu farw , ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef ; a’i dad sydd hoff ganddo ef . Tithau a ddywedaist wrth dy weision , Dygwch ef i waered ataf fi , fel y gosodwyf fy llygaid arno . A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd , Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad : oblegid os ymedy efe â’i dad , marw fydd ei dad . Tithau a ddywedaist wrth dy weision , Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi , nac edrychwch yn fy wyneb mwy . Bu hefyd , wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad , mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd . A dywedodd ein tad , Ewch eilwaith , prynwch i ni ychydig luniaeth . Dywedasom ninnau , Nis gallwn fyned i waered : os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni , nyni a awn i waered ; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr , oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni . A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni , Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi ; Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi ; minnau a ddywedais , Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef ; ac nis gwelais ef hyd yn hyn : Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg , a digwyddo niwed iddo ef ; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd . Bellach gan hynny , pan ddelwyf at dy was fy nhad , heb fod y llanc gyda ni ; ( gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau ; ) Yna pan welo efe na ddaeth y llanc , marw fydd efe ; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd . Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad , gan ddywedyd , Onis dygaf ef atat ti , yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth . Gan hynny weithian , atolwg , arhoseddy was dros y llanc , yn was i’m harglwydd ; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr : Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad , a’r llanc heb fod gyda mi ? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad . Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef : ac efe a lefodd , Perwch allan bawb oddi wrthyf . Yna nid arhosodd neb gydag ef , pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr . Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain : a chlybu’r Eifftiaid , a chlybu tŷ Pharo . A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr , Myfi yw Joseff : ai byw fy nhad eto ? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo ; oblegid brawychasent ger ei fron ef . Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr , Dyneswch , atolwg , ataf fi . Hwythau a ddynesasant . Yntau a ddywedodd , Myfi yw Joseff eich brawd chwi , yr hwn a werthasoch i’r Aifft . Weithian gan hynny na thristewch , ac na ddigiwch wrthych eich hunain , am werthu ohonoch fyfi yma ; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi . Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad ; ac fe a fydd eto bum mlynedd , y rhai a fydd heb nac âr na medi . A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi , i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad , ac i beri bywyd i chwi , trwy fawr ymwared . Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma , ond Duw : ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo , ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef , ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft . Brysiwch , ac ewch i fyny at fy nhad , a dywedwch wrtho , Fel hyn y dywed dy fab Joseff : Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft : tyred i waered ataf ; nac oeda : A chei drigo yng ngwlad Gosen , a bod yn agos ataf fi , ti a’th feibion , a meibion dy feibion , a’th ddefaid , a’th wartheg , a’r hyn oll sydd gennyt : Ac yno y’th borthaf ; ( oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto ; ) rhag dy fyned mewn tlodi , ti , a’th deulu , a’r hyn oll sydd gennyt . Ac wele eich llygaid chwi , a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled , mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych . Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft , a’r hyn oll a welsoch ; brysiwch hefyd , a dygwch fy nhad i waered yma . Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin , ac a wylodd ; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau . Ac efe a gusanodd ei holl frodyr , ac a wylodd arnynt : ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef . A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo , gan ddywedyd , Brodyr Joseff a ddaethant : a da oedd hyn yng ngolwg Pharo , ac yng ngolwg ei weision . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Dywed wrth dy frodyr , Gwnewch hyn ; Llwythwch eich ysgrubliaid , a cherddwch , ac ewch i wlad Canaan ; A chymerwch eich tad , a’ch teuluoedd , a deuwch ataf fi : a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft , a chewch fwyta braster y wlad . Gorchymyn yn awr a gefaist , gwnewch hyn : cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach , ac i’ch gwragedd ; a chymerwch eich tad , a deuwch . Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn ; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi . A meibion Israel a wnaethant felly : a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau , yn ôl gorchymyn Pharo , a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd . I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad : ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian , a phum pâr o ddillad . Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn ; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft , a deg o asennod yn dwyn ŷd , bara , a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd . Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr : a hwy a aethant ymaith : ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Nac ymrysonwch ar y ffordd . Felly yr aethant i fyny o’r Aifft , ac a ddaethant i wlad Canaan , at eu tad Jacob ; Ac a fynegasant iddo , gan ddywedyd , Y mae Joseff eto yn fyw , ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft . Yna y llesgaodd ei galon yntau ; oblegid nid oedd yn eu credu . Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff , y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy . A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef , yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt . A dywedodd Israel , Digon ydyw ; y mae Joseff fy mab eto yn fyw : af , fel y gwelwyf ef cyn fy marw . Yna y cychwynnodd Israel , a’r hyn oll oedd ganddo , ac a ddaeth i Beer‐seba , ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac . A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos , ac a ddywedodd , Jacob , Jacob . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Duw , Duw dy dad : nac ofna fyned i waered i’r Aifft ; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr . Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft ; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn : Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di . A chyfododd Jacob o Beer‐seba : a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad , a’u rhai bach , a’u gwragedd , yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef . Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid , a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan , ac a ddaethant i’r Aifft , Jacob , a’i holl had gydag ef : Ei feibion , a meibion ei feibion gydag ef , ei ferched , a merched ei feibion , a’i holl had , a ddug efe gydag ef i’r Aifft . A dyma enwau plant Israel , y rhai a ddaethant i’r Aifft , Jacob a’i feibion : Reuben , cynfab Jacob . A meibion Reuben ; Hanoch , a Phalu , Hesron hefyd , a Charmi . A meibion Simeon ; Jemwel , a Jamin , ac Ohad , a Jachin , a Sohar , a Saul mab Canaanëes . Meibion Lefi hefyd ; Gerson , Cohath , a Merari . A meibion Jwda ; Er , ac Onan , a Sela , Phares hefyd , a Sera : a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan . A meibion Phares oedd Hesron a Hamul . Meibion Issachar hefyd ; Tola , a Phufa , a Job , a Simron . A meibion Sabulon ; Sered , ac Elon , a Jaleel . Dyma feibion Lea , y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia , a Dina ei ferch : ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain . A meibion Gad ; Siffion , a Haggi , Suni , ac Esbon , Eri , ac Arodi , ac Areli . A meibion Aser ; Jimna , ac Isua , ac Isui , a Bereia , a Sera eu chwaer hwynt . A meibion Bereia ; Heber a Malchiel . Dyma feibion Silpa , yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch : a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob , sef un dyn ar bymtheg . Meibion Rahel , gwraig Jacob , oedd Joseff a Benjamin . Ac i Joseff y ganwyd , yn nhir yr Aifft , Manasse ac Effraim , y rhai a blantodd Asnath , merch Potiffera offeiriad On , iddo ef . A meibion Benjamin ; Bela , a Becher , ac Asbel , Gera , a Naaman , Ehi , a Ros , Muppim , a Huppim , ac Ard . Dyma feibion Rahel , y rhai a blantodd hi i Jacob ; yn bedwar dyn ar ddeg oll . A meibion Dan oedd Husim . A meibion Nafftali ; Jahseel , a Guni , a Jeser , a Silem . Dyma feibion Bilha , yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch : a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob , yn saith dyn oll . Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft , yn dyfod allan o’i lwynau ef , heblaw gwragedd meibion Jacob , oeddynt oll chwe enaid a thrigain . A meibion Joseff , y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft , oedd ddau enaid : holl eneidiau tŷ Jacob , y rhai a ddaethant i’r Aifft , oeddynt ddeg a thrigain . Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff , i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen : yna y daethant i dir Gosen . A Joseff a baratôdd ei gerbyd , ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen ; ac a ymddangosodd iddo : ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd . A dywedodd Israel wrth Joseff , Byddwyf farw bellach , wedi i mi weled dy wyneb , gan dy fod di yn fyw eto . A dywedodd Joseff wrth ei frodyr , ac wrth deulu ei dad , Mi a af i fyny , ac a fynegaf i Pharo , ac a ddywedaf wrtho , Fy mrodyr , a theulu fy nhad , y rhai oedd yn nhir Canaan , a ddaethant ataf fi . A’r gwŷr , bugeiliaid defaid ydynt : canys perchen anifeiliaid ydynt ; a dygasant yma eu praidd , a’u gwartheg , a’r hyn oll oedd ganddynt . A phan alwo Pharo amdanoch , a dywedyd , Beth yw eich gwaith ? Dywedwch , Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon , nyni a’n tadau hefyd ; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen : canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid . Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo , ac a ddywedodd , Fy nhad , a’m brodyr , a’u defaid , a’u gwartheg , a’r hyn oll oedd ganddynt , a ddaethant o dir Canaan ; ac wele hwynt yn nhir Gosen . Ac efe a gymerth rai o’i frodyr , sef pum dyn , ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo . A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef , Beth yw eich gwaith chwi ? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo , Bugeiliaid defaid yw dy weision , nyni a’n tadau hefyd . Dywedasant hefyd wrth Pharo , I orymdaith yn y wlad y daethom , am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision ; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan : ac yr awr hon , atolwg , caed dy weision drigo yn nhir Gosen . A llefarodd Pharo wrth Joseff , gan ddywedyd , Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat . Tir yr Aifft sydd o’th flaen ; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad ; trigant yn nhir Gosen : ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus , gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi . A dug Joseff Jacob ei dad , ac a’i gosododd gerbron Pharo : a Jacob a fendithiodd Pharo . A dywedodd Pharo wrth Jacob , Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di ? A Jacob a ddywedodd wrth Pharo , Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd : ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes , ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt . A bendithiodd Jacob Pharo , ac a aeth allan o ŵydd Pharo . A Joseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr , ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft , yng nghwr gorau y wlad , yn nhir Rameses , fel y gorchmynasai Pharo . Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad , a’i frodyr , a holl dylwyth ei dad , â bara , yn ôl eu teuluoedd . Ac nid oedd bara yn yr holl wlad : canys y newyn oedd drwm iawn ; fel yr oedd gwlad yr Aifft , a gwlad Canaan , yn dyddfu gan y newyn . Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft , ac yn nhir Canaan , am yr ymborth a brynasent hwy : a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo . Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft , ac yng ngwlad Canaan , yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff , gan ddywedyd , Moes i ni fara : canys paham y byddem ni feirw ger dy fron ? oherwydd darfu’r arian . A dywedodd Joseff , Moeswch eich anifeiliaid ; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid , os darfu’r arian . A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff : a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch , ac am y diadelloedd defaid , ac am y gyrroedd gwartheg , ac am yr asynnod ; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara , am eu holl anifeiliaid , dros y flwyddyn honno . A phan ddarfu’r flwyddyn honno , y daethant ato ef yr ail flwyddyn , ac a ddywedasant wrtho , Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian , a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd ; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir . Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid , nyni a’n tir ? prŷn ni a’n tir am fara ; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo : dod dithau i ni had , fel y byddom fyw , ac na fyddom feirw , ac na byddo’r tir yn anghyfannedd . A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo : canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes ; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt : felly yr aeth y tir i Pharo . Y bobl hefyd , efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd , o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall . Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe : canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo , a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy ; am hynny ni werthasant hwy eu tir . Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl , Wele , prynais chwi heddiw , a’ch tir , i Pharo : wele i chwi had , heuwch chwithau y tir . A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd ; a bydd y pedair rhan i chwi , yn had i’r maes , ac yn ymborth i chwi , ac i’r rhai sydd yn eich tai , ac yn fwyd i’ch rhai bach . A dywedasant , Cedwaist ni yn fyw : gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd , a byddwn weision i Pharo . A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft , gael o Pharo y bumed ran ; ond o dir yr offeiriaid yn unig , yr hwn nid oedd eiddo Pharo . Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen , ac a gawsant feddiannau ynddi ; cynyddasant hefyd , ac amlhasant yn ddirfawr . Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg ; felly yr oedd dyddiau Jacob , sef blynyddoedd ei einioes ef , yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd . A dyddiau Israel a nesasant i farw : ac efe a alwodd am ei fab Joseff , ac a ddywedodd wrtho , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg , gosod , atolwg , dy law dan fy morddwyd , a gwna â mi drugaredd a gwirionedd ; na chladd fi , atolwg , yn yr Aifft : Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau ; yna dwg fi allan o’r Aifft , a chladd fi yn eu beddrod hwynt . Yntau a ddywedodd , Mi a wnaf yn ôl dy air . Ac efe a ddywedodd , Twng wrthyf . Ac efe a dyngodd wrtho . Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely . A bu , wedi’r pethau hyn , ddywedyd o un wrth Joseff , Wele , y mae dy dad yn glaf . Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef , Manasse ac Effraim . A mynegodd un i Jacob , ac a ddywedodd , Wele dy fab Joseff yn dyfod atat . Ac Israel a ymgryfhaodd , ac a eisteddodd ar y gwely . A dywedodd Jacob wrth Joseff , Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus , yng ngwlad Canaan , ac a’m bendithiodd : Dywedodd hefyd wrthyf , Wele , mi a’th wnaf yn ffrwythlon , ac a’th amlhaf , ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf , a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di , yn etifeddiaeth dragwyddol . Ac yr awr hon , dy ddau fab , y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft , cyn fy nyfod atat i’r Aifft , eiddof fi fyddant hwy : Effraim a Manasse fyddant eiddof fi , fel Reuben a Simeon . A’th epil , y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt , fyddant eiddot ti dy hun ; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth . A phan ddeuthum i o Mesopotamia , bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan , ar y ffordd , pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath : a chleddais hi yno ar ffordd Effrath : honno yw Bethlehem . A gwelodd Israel feibion Joseff , ac a ddywedodd , Pwy yw y rhai hyn ? A Joseff a ddywedodd wrth ei dad , Dyma fy meibion i , a roddodd Duw i mi yma . Yntau a ddywedodd , Dwg hwynt , atolwg , ataf fi , a mi a’u bendithiaf hwynt . Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint , fel na allai efe weled ; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef : yntau a’u cusanodd hwynt , ac a’u cofleidiodd . Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff , Ni feddyliais weled dy wyneb ; eto , wele , parodd Duw i mi weled dy had hefyd . A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef , ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb . Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau , Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel , a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel ; ac a’u nesaodd hwynt ato ef . Ac Israel a estynnodd ei law ddeau , ac a’i gosododd ar ben Effraim , ( a hwn oedd yr ieuangaf , ) a’i law aswy ar ben Manasse : gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod ; canys Manasse oedd y cynfab . Ac efe a fendithiodd Joseff , ac a ddywedodd , Duw , yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron , Duw , yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf , hyd y dydd hwn , Yr angel yr hwn a’m gwaredodd i oddi wrth bob drwg , a fendithio’r llanciau ; fy enw hefyd , ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac , a alwer arnynt : heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad . Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim , bu anfodlon ganddo : ac efe a ddaliodd law ei dad , i’w symud hi oddi ar ben Effraim , ar ben Manasse . Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad , Nid felly , fy nhad : canys dyma’r cynfab , gosod dy law ddeau ar ei ben ef . A’i dad a omeddodd , ac a ddywedodd , Mi a wn , fy mab , mi a wn : bydd hwn hefyd yn bobl , a mawr fydd hwn hefyd ; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef , a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd . Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Ynot ti y bendithia Israel , gan ddywedyd , Gwnaed Duw di fel Effraim , ac fel Manasse . Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse . Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff , Wele fi yn marw ; a bydd Duw gyda chwi , ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau . A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr , yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa . Yna y galwodd Jacob ar ei feibion , ac a ddywedodd , Ymgesglwch , fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf . Ymgesglwch , a chlywch , meibion Jacob ; ie , gwrandewch ar Israel eich tad . Reuben fy nghynfab , tydi oedd fy ngrym , a dechreuad fy nerth , rhagoriaeth braint , a rhagoriaeth cryfder . Ansafadwy oeddit fel dwfr : ni ragori di ; canys dringaist wely dy dad : yna yr halogaist ef : fy ngwely a ddringodd . Simeon a Lefi sydd frodyr ; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau . Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt : fy ngogoniant , na fydd un â’u cynulleidfa hwynt : canys yn eu dig y lladdasant ŵr , ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer . Melltigedig fyddo eu dig , canys tost oedd ; a’u llid , canys creulon fu : rhannaf hwynt yn Jacob , a gwasgaraf hwynt yn Israel . Tithau , Jwda , dy frodyr a’th glodforant di : dy law fydd yng ngwar dy elynion ; meibion dy dad a ymgrymant i ti . Cenau llew wyt ti , Jwda ; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny , fy mab : ymgrymodd , gorweddodd fel llew , ac fel hen lew : pwy a’i cyfyd ef ? Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda , na deddfwr oddi rhwng ei draed ef , hyd oni ddêl Seilo ; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd . Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden , a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden : golchodd ei wisg mewn gwin , a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin . Coch fydd ei lygaid gan win , a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth . Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr ; ac efe a fydd yn borthladd llongau , a’i derfyn fydd hyd Sidon . Issachar sydd asyn asgyrnog , yn gorwedd rhwng dau bwn . Ac a wêl lonyddwch mai da yw , a’r tir mai hyfryd : efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn , ac a fydd yn gaeth dan deyrnged . Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel . Dan fydd sarff ar y ffordd , a neidr ar y llwybr ; yn brathu sodlau’r march , fel y syrthio ei farchog yn ôl . Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais , Arglwydd . Gad , llu a’i gorfydd ; ac yntau a orfydd o’r diwedd . O Aser bras fydd ei fwyd ef , ac efe a rydd ddanteithion brenhinol . Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng , yn rhoddi geiriau teg . Joseff fydd gangen ffrwythlon , cangen ffrwythlon wrth ffynnon , ceinciau yn cerdded ar hyd mur . A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef , ac a saethasant , ac a’i casasant ef . Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf , a breichiau ei ddwylo a gryfhasant , trwy ddwylo grymus Dduw Jacob : oddi yno y mae y bugail , maen Israel : Trwy Dduw dy dad , yr hwn a’th gynorthwya , a’r Hollalluog , yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod , â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod , â bendithion y bronnau a’r groth . Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni , hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb : byddant ar ben Joseff , ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr . Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd : y bore y bwyty’r ysglyfaeth , a’r hwyr y rhan yr ysbail . Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll ; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt , ac y bendithiodd efe hwynt : pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt . Yna y gorchmynnodd efe iddynt , ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a gesglir at fy mhobl : cleddwch fi gyda’m tadau , yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad ; Yn yr ogof sydd ym maes Machpela , yr hon sydd o flaen Mamre , yng ngwlad Canaan , yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad , yn feddiant beddrod . Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig ; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig ; ac yno y cleddais i Lea . Meddiant y maes , a’r ogof sydd ynddo , a gaed gan feibion Heth . Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion , efe a dynnodd ei draed i’r gwely , ac a fu farw ; a chasglwyd ef at ei bobl . Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad , ac a wylodd arno ef , ac a’i cusanodd ef . Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision , y meddygon , berarogli ei dad ef : felly y meddygon a beraroglasant Israel . Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod , ( canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir , ) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain . Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio , yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo , gan ddywedyd , Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg , lleferwch wrth Pharo , atolwg , gan ddywedyd , Fy nhad a’m tyngodd , gan ddywedyd , Wele fi yn marw : yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan , yno y’m cleddi . Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny , atolwg , fel y claddwyf fy nhad ; yna mi a ddychwelaf . A dywedodd Pharo , Dos i fyny , a chladd dy dad , fel y’th dyngodd . A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad : a holl weision Pharo , sef henuriaid ei dŷ ef , a holl henuriaid gwlad yr Aifft , a aethant i fyny gydag ef , A holl dŷ Joseff , a’i frodyr , a thŷ ei dad : eu rhai bach yn unig , a’u defaid , a’u gwartheg , a adawsant yn nhir Gosen . Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau , a gwŷr meirch hefyd : ac yr oedd yn llu mawr iawn . A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad , yr hwn sydd dros yr Iorddonen ; ac a alarasant yno alar mawr , a thrwm iawn : canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod . Pan welodd y Canaaneaid , y rhai oedd yn preswylio yn y wlad , y galar yn llawr dyrnu Atad ; yna y dywedasant , Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid : am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim , yr hwn sydd dros yr Iorddonen . A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt . Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan , ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela : yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes , yn feddiant beddrod , gan Effron yr Hethiad , o flaen Mamre . A dychwelodd Joseff i’r Aifft , efe , a’i frodyr , a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad , wedi iddo gladdu ei dad . Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad , hwy a ddywedasant , Joseff ond odid a’n casâ ni , a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef . A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd , Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth Joseff ; Atolwg , maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr , a’u pechod hwynt ; canys gwnaethant i ti ddrwg : ond yr awr hon , maddau , atolwg , gamwedd gweision Duw dy dad . Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho . A’i frodyr a ddaethant hefyd , ac a syrthiasant ger ei fron ef ; ac a ddywedasant , Wele ni yn weision i ti . A dywedodd Joseff wrthynt , Nac ofnwch ; canys a ydwyf fi yn lle Duw ? Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn ; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni , i ddwyn i ben , fel y gwelir heddiw , i gadw yn fyw bobl lawer . Am hynny , nac ofnwch yr awr hon : myfi a’ch cynhaliaf chwi , a’ch rhai bach . Ac efe a’u cysurodd hwynt , ac a lefarodd wrth fodd eu calon . A Joseff a drigodd yn yr Aifft , efe , a theulu ei dad : a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg . Gwelodd Joseff hefyd , o Effraim , orwyrion : maethwyd hefyd blant Machir , fab Manasse , ar liniau Joseff . A dywedodd Joseff wrth ei frodyr , Myfi sydd yn marw : a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi , ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon , i’r wlad a dyngodd efe i Abraham , i Isaac , ac i Jacob . A thyngodd Joseff feibion Israel , gan ddywedyd , Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi ; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma . A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant : a hwy a’i peraroglasant ef ; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft . Dyma yn awr enwau meibion Israel , y rhai a ddaethant i’r Aifft : gyda Jacob y daethant , bob un a’i deulu . Reuben , Simeon , Lefi , a Jwda , Issachar , Sabulon , a Benjamin , Dan , a Nafftali , Gad , ac Aser . A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain : a Joseff oedd yn yr Aifft . A Joseff a fu farw , a’i holl frodyr , a’r holl genhedlaeth honno . A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant , amlhasant hefyd , a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth ; a’r wlad a lanwyd ohonynt . Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft , yr hwn nid adnabuasai mo Joseff . Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl , Wele bobl plant Israel yn amlach , ac yn gryfach , na nyni . Deuwch , gwnawn yn gall â hwynt ; rhag amlhau ohonynt , a bod , pan ddigwyddo rhyfel , ymgysylltu ohonynt â’n caseion , a rhyfela i’n herbyn , a myned i fyny o’r wlad . Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith , i’w gorthrymu â’u beichiau ; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau , sef Pithom a Raamses . Ond fel y gorthryment hwynt , felly yr amlhaent , ac y cynyddent : a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel . A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed . A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled , mewn clai , ac mewn priddfaen , ac ym mhob gwasanaeth yn y maes ; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed . A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau ; a ba rai enw un oedd Sipra , ac enw yr ail Pua : Ac efe a ddywedodd , Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau , a gweled ohonoch hwynt yn esgor ; os mab fydd , lleddwch ef ; ond os merch , bydded fyw . Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw , ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt ; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw . Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y gwnaethoch y peth hyn , ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw ? A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo , Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau ; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt . Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd : a’r bobl a amlhaodd , ac a aeth yn gryf iawn . Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw , yntau a wnaeth dai iddynt hwythau . A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl , gan ddywedyd , Pob mab a’r a enir , bwriwch ef i’r afon ; ond cedwch yn fyw bob merch . Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth , ac a briododd ferch i Lefi . A’r wraig a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab : a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe , hi a’i cuddiodd ef dri mis . A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy , hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn , ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg ; ac a osododd y bachgen ynddo , ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon . A’i chwaer ef a safodd o bell , i gael gwybod beth a wneid iddo ef . A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi ; ( a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon ; ) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg , ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef . Ac wedi iddi ei agoryd , hi a ganfu’r bachgen ; ac wele y plentyn yn wylo : a hi a dosturiodd wrtho , ac a ddywedodd , Un o blant yr Hebreaid yw hwn . Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo , A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau , fel y mago hi y bachgen i ti ? A merch Pharo a ddywedodd wrthi , Dos . A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen . A dywedodd merch Pharo wrthi , Dwg ymaith y bachgen hwn , a maga ef i mi , a minnau a roddaf i ti dy gyflog . A’r wraig a gymerodd y bachgen , ac a’i magodd . Pan aeth y bachgen yn fawr , hi a’i dug ef i ferch Pharo ; ac efe a fu iddi yn fab : a hi a alwodd ei enw ef Moses ; Oherwydd ( eb hi ) o’r dwfr y tynnais ef . A bu yn y dyddiau hynny , pan aeth Moses yn fawr , fyned ohono allan at ei frodyr , ac edrych ar eu beichiau hwynt , a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr , un o’i frodyr . Ac efe a edrychodd yma ac acw ; a phan welodd nad oedd yno neb , efe a laddodd yr Eifftiad , ac a’i cuddiodd yn y tywod . Ac efe a aeth allan yr ail ddydd ; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson : ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam , Paham y trewi dy gyfaill ? A dywedodd yntau , Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni ? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i , megis y lleddaist yr Eifftiad ? A Moses a ofnodd , ac a ddywedodd , Diau y gwyddir y peth hyn . Pan glybu Pharo y peth hyn , efe a geisiodd ladd Moses : ond Moses a ffodd rhag Pharo , ac a arhosodd yn nhir Midian ; ac a eisteddodd wrth bydew . Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched : a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr , ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad . Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith : yna y cododd Moses , ac a’u cynorthwyodd hwynt , ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt . Yna y daethant at Reuel eu tad : ac efe a ddywedodd , Paham y daethoch heddiw cyn gynted ? A hwy a ddywedasant , Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid ; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni , ac a ddyfrhaodd y praidd . Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched , Pa le y mae efe ? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr ? Gelwch arno , a bwytaed fara . A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr : ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses . A hi a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom : Oherwydd dieithr ( eb efe ) a fûm i mewn gwlad ddieithr . Ac yn ôl dyddiau lawer , bu farw brenin yr Aifft ; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed , ac a waeddasant ; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw , oblegid y caethiwed . A Duw a glybu eu huchenaid hwynt ; a Duw a gofiodd ei gyfamod ag Abraham , ag Isaac , ac â Jacob . A Duw a edrychodd ar blant Israel ; Duw hefyd a gydnabu â hwynt . A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn , offeiriad Midian : ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch , ac a ddaeth i fynydd Duw , Horeb . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth : ac efe a edrychodd , ac wele y berth yn llosgi yn dân , a’r berth heb ei difa . A dywedodd Moses , Mi a droaf yn awr , ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon , paham nad yw’r berth wedi llosgi . Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych , Duw a alwodd arno o ganol y berth , ac a ddywedodd , Moses , Moses . A dywedodd yntau , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Na nesâ yma : diosg dy esgidiau oddi am dy draed ; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd . Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Duw dy dad , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob . A Moses a guddiodd ei wyneb ; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw . A dywedodd yr Arglwydd , Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft , a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais ; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau . A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid , ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth , i wlad yn llifeirio o laeth a mêl ; i le y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid . Ac yn awr wele , gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi ; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt . Tyred gan hynny yn awr , a mi a’th anfonaf at Pharo ; fel y dygech fy mhobl , plant Israel , allan o’r Aifft . A dywedodd Moses wrth Dduw , Pwy ydwyf fi , fel yr awn i at Pharo , ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft ? Dywedodd yntau , Diau y byddaf gyda thi ; a hyn a fydd arwydd i ti , mai myfi a’th anfonodd : Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft , chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn . A dywedodd Moses wrth Dduw , Wele , pan ddelwyf fi at feibion Israel , a dywedyd wrthynt , Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch ; os dywedant wrthyf , Beth yw ei enw ef ? beth a ddywedaf fi wrthynt ? A Duw a ddywedodd wrth Moses , YDWYF YR HWN YDWYF : dywedodd hefyd , Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel ; YDWYF a’m hanfonodd atoch . A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses , Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel ; Arglwydd Dduw eich tadau , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob , a’m hanfonodd atoch : dyma fy enw byth , a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth . Dos a chynnull henuriaid Israel , a dywed wrthynt , Arglwydd Dduw eich tadau , Duw Abraham , Isaac , a Jacob , a ymddangosodd i mi , gan ddywedyd , Gan ymweled yr ymwelais â chwi , a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft . A dywedais , Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft , i wlad y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid ; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl . A hwy a wrandawant ar dy lais ; a thi a ddeui , ti a henuriaid Israel , at frenin yr Aifft , a dywedwch wrtho , Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni ; ac yn awr gad i ni fyned , atolwg , daith tri diwrnod i’r anialwch , fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw . A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned , ond mewn llaw gadarn . Am hynny mi a estynnaf fy llaw , ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau , y rhai a wnaf yn ei chanol ; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith . A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid : a bydd , pan eloch , nad eloch yn waglaw ; Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges , a chan yr hon fyddo yn cytal â hi , ddodrefn arian , a dodrefn aur , a gwisgoedd : a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched ; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid . A Moses a atebodd , ac a ddywedodd , Eto , wele , ni chredant i mi , ac ni wrandawant ar fy llais ; ond dywedant , Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Beth sydd yn dy law ? Dywedodd yntau , Gwialen . Ac efe a ddywedodd , Tafl hi ar y ddaear . Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear ; a hi a aeth yn sarff : a Moses a giliodd rhagddi . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law , ac ymafael yn ei llosgwrn hi . ( Ac efe a estynnodd ei law , ac a ymaflodd ynddi ; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef : ) Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob . A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn , Dod yn awr dy law yn dy fynwes . Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes : a phan dynnodd efe hi allan , wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira . Ac efe a ddywedodd , Dod eilwaith dy law yn dy fynwes . Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes , ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes ; ac wele , hi a droesai fel ei gnawd arall ef . A bydd , oni chredant i ti , ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf , eto y credant i lais yr ail arwydd . A bydd , oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn , ac oni wrandawant ar dy lais , ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir ; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , O fy Arglwydd , ni bûm ŵr ymadroddus , na chyn hyn , nac er pan leferaist wrth dy was ; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pwy a wnaeth enau i ddyn ? neu pwy a ordeiniodd fudan , neu fyddar , neu y neb sydd yn gweled , neu y dall ? onid myfi yr Arglwydd ? Am hynny dos yn awr ; a mi a fyddaf gyda’th enau , ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych . Dywedodd yntau , O fy Arglwydd , danfon , atolwg , gyda’r hwn a ddanfonych . Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses ; ac efe a ddywedodd , Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad ? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw : ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod ; a phan y’th welo , efe a lawenycha yn ei galon . Llefara dithau wrtho ef , a gosod y geiriau hyn yn ei enau : a minnau a fyddaf gyda’th enau di , a chyda’i enau yntau , a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch . A llefared yntau trosot ti wrth y bobl : ac felly y bydd efe yn lle genau i ti , a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau . Cymer hefyd y wialen hon yn dy law , yr hon y gwnei wyrthiau â hi . A Moses a aeth , ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn , ac a ddywedodd wrtho , Gad i mi fyned , atolwg , a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft , a gweled a ydynt eto yn fyw . A dywedodd Jethro wrth Moses , Dos mewn heddwch . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian , Dos , dychwel i’r Aifft ; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes . A Moses a gymerth ei wraig , a’i feibion , ac a’u gosododd hwynt ar asyn , ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft : cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft , gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law : ond mi a galedaf ei galon ef , fel na ollyngo ymaith y bobl . A dywed wrth Pharo , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Fy mab i , sef fy nghyntaf‐anedig , yw Israel . A dywedais wrthyt , Gollwng fy mab , fel y’m gwasanaetho : ond os gwrthodi ei ollwng ef , wele , mi a laddaf dy fab di , sef dy gyntaf‐anedig . A bu , ar y ffordd yn y llety , gyfarfod o’r Arglwydd ag ef , a cheisio ei ladd ef . Ond Seffora a gymerth gyllell lem , ac a dorrodd ddienwaediad ei mab , ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef ; ac a ddywedodd , Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi . A’r Arglwydd a beidiodd ag ef : yna y dywedodd hi , Priod gwaedlyd wyt , oblegid yr enwaediad . A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch . Ac efe a aeth , ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw , ac a’i cusanodd ef . A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd , yr hwn a’i hanfonasai ef , a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo . A Moses ac Aaron a aethant , ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel . Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses , ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl . A chredodd y bobl : a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel , ac iddo edrych ar eu gorthrymder , yna hwy a ymgrymasant , ac a addolasant . Ac wedi hynny , Moses ac Aaron a aethant i mewn , ac a ddywedasant wrth Pharo , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch . A dywedodd Pharo , Pwy yw yr Arglwydd , fel y gwrandawn i ar ei lais , i ollwng Israel ymaith ? Yr Arglwydd nid adwaen , ac Israel ni ollyngaf . A dywedasant hwythau , Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni : gad i ni fyned , atolwg , daith tridiau yn yr anialwch , ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw ; rhag iddo ein rhuthro â haint , neu â chleddyf . A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt , Moses ac Aaron , paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith ? ewch at eich beichiau . Pharo hefyd a ddywedodd , Wele , pobl y wlad yn awr ydynt lawer , a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau . A gorchmynnodd Pharo , y dydd hwnnw , i’r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl , a’u swyddogion , gan ddywedyd , Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini , megis o’r blaen ; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain . A rhifedi’r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt ; na leihewch o hynny : canys segur ydynt ; am hynny y maent yn gweiddi , gan ddywedyd , Gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw . Trymhaer y gwaith ar y gwŷr , a gweithiant ynddo ; fel nad edrychant am eiriau ofer . A meistriaid gwaith y bobl , a’u swyddogion , a aethant allan , ac a lefarasant wrth y bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Pharo , Ni roddaf wellt i chwi . Ewch chwi , a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch ; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith . A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft , i gasglu sofl yn lle gwellt . A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro , gan ddywedyd , Gorffennwch eich gwaith , dogn dydd yn ei ddydd , megis pan oedd gwellt . A churwyd swyddogion meibion Israel , y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy ; a dywedwyd , Paham na orffenasoch eich tasg , ar wneuthur priddfeini , ddoe a heddiw , megis cyn hynny ? Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo , gan ddywedyd , Paham y gwnei fel hyn â’th weision ? Gwellt ni roddir i’th weision ; a Gwnewch briddfeini i ni , meddant : ac wele dy weision a gurwyd ; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai . Ac efe a ddywedodd , Segur , segur ydych ; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd , Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd . Am hynny ewch yn awr , gweithiwch ; ac ni roddir gwellt i chwi ; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini . A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg , pan ddywedid , Na leihewch ddim o’ch priddfeini , dogn dydd yn ei ddydd . A chyfarfuant â Moses ac Aaron , yn sefyll ar eu ffordd , pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo : A dywedasant wrthynt , Edryched yr Arglwydd arnoch chwi , a barned ; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo , a cherbron ei weision , gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni . A dychwelodd Moses at yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , paham y drygaist y bobl hyn ? i ba beth y’m hanfonaist ? Canys er pan ddeuthum at Pharo , i lefaru yn dy enw di , efe a ddrygodd y bobl hyn ; a chan waredu ni waredaist dy bobl . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo : canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt , a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o’i wlad . Duw hefyd a lefarodd wrth Moses , ac a ddywedodd wrtho , Myfi yw JEHOFAH . A mi a ymddangosais i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , dan enw Duw Hollalluog ; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt . Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt , am roddi iddynt wlad Canaan , sef gwlad eu hymdaith , yr hon yr ymdeithiasant ynddi . A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel , y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo ; a chofiais fy nghyfamod . Am hynny dywed wrth feibion Israel , Myfi yw yr Arglwydd ; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid , ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt ; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig , ac â barnedigaethau mawrion . Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi , ac a fyddaf yn Dduw i chwi : a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid . A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad , am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham , i Isaac , ac i Jacob ; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth : myfi yw yr Arglwydd . A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel : ond ni wrandawsant ar Moses , gan gyfyngdra ysbryd , a chan gaethiwed caled . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dos i mewn ; dywed wrth Pharo , brenin yr Aifft , am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad . A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd , gan ddywedyd , Wele , plant Israel ni wrandawsant arnaf fi ; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo , a minnau yn ddienwaededig o wefusau ? A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel , ac at Pharo brenin yr Aifft , i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft . Dyma eu pencenedl hwynt : meibion Reuben , y cyntaf‐anedig i Israel : Hanoch , a Phalu , Hesron , a Charmi : dyma deuluoedd Reuben . A meibion Simeon ; Jemwel , a Jamin , Ohad , a Jachin , Sohar hefyd , a Saul mab y Ganaanëes : dyma deuluoedd Simeon . Dyma hefyd enwau meibion Lefi , yn ôl eu cenedlaethau ; Gerson , Cohath hefyd , a Merari : a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain . Meibion Gerson ; Libni , a Simi , yn ôl eu teuluoedd . A meibion Cohath ; Amram , ac Ishar , Hebron hefyd , ac Ussiel : a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd . Meibion Merari oedd Mahali a Musi : dyma deuluoedd Lefi , yn ôl eu cenedlaethau . Ac Amram a gymerodd Jochebed , ei fodryb chwaer ei dad , yn wraig iddo ; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses : a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd . A meibion Ishar ; Cora , a Neffeg , a Sicri . A meibion Ussiel ; Misael , ac Elsaffan , a Sithri . Ac Aaron a gymerodd Eliseba , merch Aminadab , chwaer Nahason , yn wraig iddo ; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . Meibion Cora hefyd ; Assir , ac Elcana , ac Abiasaff : dyma deuluoedd y Corahiaid . Ac Eleasar , mab Aaron , a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel ; a hi a ymddûg iddo ef Phineas : dyma bennau cenedl y Lefiaid , yn ôl eu teuluoedd . Dyma Aaron a Moses , y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt , Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft , yn ôl eu lluoedd . Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo , brenin yr Aifft , am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft : dyma y Moses ac Aaron hwnnw . A bu , ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft , Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd : dywed wrth Pharo , brenin yr Aifft , yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt . A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd , Wele fi yn ddienwaededig o wefusau ; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Gwêl , mi a’th wneuthum yn dduw i Pharo : ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau . Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti ; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo , ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad . A minnau a galedaf galon Pharo , ac a amlhaf fy arwyddion a’m rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft . Ond ni wrendy Pharo arnoch : yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft ; ac y dygaf allan fy lluoedd , fy mhobl , meibion Israel , o wlad yr Aifft , trwy farnedigaethau mawrion . A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft , a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt . A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddynt ; ie , felly y gwnaethant . A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd , ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain , pan lefarasant wrth Pharo . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Pan lefaro Pharo wrthych , gan ddywedyd , Dangoswch gennych wyrthiau ; yna y dywedi wrth Aaron , Cymer dy wialen , a bwrw hi gerbron Pharo ; a hi a â yn sarff . A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo , ac a wnaethant felly , megis y gorchmynasai yr Arglwydd : ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo , a cherbron ei weision ; a hi a aeth yn sarff . A Pharo hefyd a alwodd am y doethion , a’r hudolion : a hwythau hefyd , sef swynwyr yr Aifft , a wnaethant felly trwy eu swynion . Canys bwriasant bob un ei wialen ; a hwy a aethant yn seirff : ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt . A chalon Pharo a galedodd , fel na wrandawai arnynt hwy ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Caledodd calon Pharo ; gwrthododd ollwng y bobl ymaith . Dos at Pharo yn fore : wele efe a ddaw allan i’r dwfr ; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef ; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff . A dywed wrtho ef , Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd atat , i ddywedyd , Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch : ac wele , hyd yn hyn , ni wrandewit . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : wele , myfi â’r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon , fel y troer hwynt yn waed . A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw , a’r afon a ddrewa ; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Cymer dy wialen , ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft , ar eu ffrydiau , ar eu hafonydd , ac ar eu pyllau , ac ar eu holl lynnau dyfroedd , fel y byddont yn waed ; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft , yn eu llestri coed a cherrig hefyd . A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd : ac efe a gododd ei wialen , ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon , yng ngŵydd Pharo , ac yng ngŵydd ei weision ; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed . A’r pysgod , y rhai oeddynt yn yr afon , a fuant feirw ; a’r afon a ddrewodd , ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon ; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft . A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion : a chaledodd calon Pharo , ac ni wrandawodd arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A Pharo a drodd ac a aeth i’w dŷ , ac ni osododd hyn at ei galon . A’r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed ; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon . A chyflawnwyd saith o ddyddiau , wedi i’r Arglwydd daro’r afon . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos at Pharo , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Ac os gwrthodi eu gollwng , wele , mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint . A’r afon a heigia lyffaint , y rhai a ddringant , ac a ddeuant i’th dŷ , ac i ystafell dy orweddle , ac ar dy wely , ac i dŷ dy weision , ac ar dy bobl , ac i’th ffyrnau , ac ar dy fwyd gweddill . A’r llyffaint a ddringant arnat ti , ac ar dy bobl , ac ar dy holl weision . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Estyn dy law â’th wialen ar y ffrydiau , ar yr afonydd , ac ar y llynnoedd ; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft . Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft ; a’r llyffaint a ddaethant i fyny , ac a orchuddiasant dir yr Aifft . A’r swynwyr a wnaethant yr un modd , trwy eu swynion ; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft . Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Gweddïwch ar yr Arglwydd , ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi , ac oddi wrth fy mhobl ; a mi a ollyngaf ymaith y bobl , fel yr aberthont i’r Arglwydd . A Moses a ddywedodd wrth Pharo , Cymer ogoniant arnaf fi ; Pa amser y gweddïaf trosot , a thros dy weision , a thros dy bobl , am ddifa’r llyffaint oddi wrthyt , ac o’th dai , a’u gadael yn unig yn yr afon ? Ac efe a ddywedodd , Yfory . A dywedodd yntau , Yn ôl dy air y bydd ; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni . A’r llyffaint a ymadawant â thi , ac â’th dai , ac â’th weision , ac â’th bobl ; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt . A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo . A Moses a lefodd ar yr Arglwydd , o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo . A’r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses ; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai , o’r pentrefydd , ac o’r meysydd . A chasglasant hwynt yn bentyrrau ; fel y drewodd y wlad . Pan welodd Pharo fod seibiant iddo , efe a galedodd ei galon , ac ni wrandawodd arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Estyn dy wialen , a tharo lwch y ddaear , fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft . Ac felly y gwnaethant : canys Aaron a estynnodd ei law â’i wialen , ac a drawodd lwch y ddaear ; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail : holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft . A’r swynwyr a wnaethant felly , trwy eu swynion , i ddwyn llau allan ; ond ni allasant : felly y bu’r llau ar ddyn ac ar anifail . Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo , Bys Duw yw hyn : a chaledwyd calon Pharo , ac ni wrandawai arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cyfod yn fore , a saf gerbron Pharo ; wele , efe a ddaw allan i’r dwfr : yna dywed wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oherwydd , os ti ni ollyngi fy mhobl , wele fi yn gollwng arnat ti , ac ar dy weision , ac ar dy bobl , ac i’th dai , gymysgbla : a thai’r Eifftiaid a lenwir o’r gymysgbla , a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni . A’r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen , yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi , fel na byddo’r gymysgbla yno ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear . A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di : yfory y bydd yr arwydd hwn . A’r Arglwydd a wnaeth felly ; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo , ac i dai ei weision , ac i holl wlad yr Aifft ; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla . A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Ewch , aberthwch i’ch Duw yn y wlad . A dywedodd Moses , Nid cymwys gwneuthur felly ; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid : wele , os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt , oni labyddiant hwy ni ? Taith tridiau yr awn i’r anialwch , a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw , megis y dywedo efe wrthym ni . A dywedodd Pharo , Mi a’ch gollyngaf chwi , fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch ; ond nac ewch ymhell : gweddïwch trosof fi . A dywedodd Moses , Wele , myfi a af allan oddi wrthyt , ac a weddïaf ar yr Arglwydd , ar gilio’r gymysgbla oddi wrth Pharo , oddi wrth ei weision , ac oddi wrth ei bobl , yfory : ond na thwylled Pharo mwyach , heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd . A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses : a’r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo , oddi wrth ei weision , ac oddi wrth ei bobl ; ni adawyd un . A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd , ac ni ollyngodd ymaith y bobl . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos i mewn at Pharo , a llefara wrtho ef , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oblegid , os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith , ac atal ohonot hwynt eto , Wele , llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid , y rhai sydd yn y maes ; ar feirch , ar asynnod , ar gamelod , ar y gwartheg , ac ar y defaid , y daw haint trwm iawn . A’r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid ; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel . A gosododd yr Arglwydd amser nodedig , gan ddywedyd , Yfory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad . A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth : a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid ; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un . A Pharo a anfonodd ; ac wele , ni buasai farw un o anifeiliaid Israel : a chalon Pharo a galedwyd , ac ni ollyngodd y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron , Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn , a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo : Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft ; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog , trwy holl wlad yr Aifft . A hwy a gymerasant ludw y ffwrn , ac a safasant gerbron Pharo : a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd ; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail . A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses , gan y cornwyd ; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr , ac ar yr holl Eifftiaid . A’r Arglwydd a galedodd galon Pharo , fel na wrandawai arnynt ; megis y llefarasai’r Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Cyfod yn fore , a saf gerbron Pharo , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Gollwng fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon , ac ar dy weision , ac ar dy bobl ; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear . Oherwydd yn awr , mi a estynnaf fy llaw , ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau ; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear . Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di , i ddangos i ti fy nerth ; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear . A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto , heb eu gollwng hwynt ymaith ? Wele , mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn ; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft , o’r dydd y sylfaenwyd hi , hyd yr awr hon . Anfon gan hynny yn awr , casgl dy anifeiliaid , a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes : pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes , ac nis dyger i dŷ , y disgyn y cenllysg arnynt , a byddant feirw . Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo , a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai ; A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd , a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law tua’r nefoedd ; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft , ar ddyn ac ar anifail , ac ar holl lysiau y maes , o fewn tir yr Aifft . A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd : a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg , a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear ; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft . Felly yr ydoedd cenllysg , a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg , yn flin iawn ; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft , er pan ydoedd yn genhedlaeth . A’r cenllysg a gurodd , trwy holl wlad yr Aifft , gwbl a’r oedd yn y maes , yn ddyn ac yn anifail : y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes , ac a ddrylliodd holl goed y maes . Yn unig yng ngwlad Gosen , yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi , nid oedd dim cenllysg . A Pharo a anfonodd , ac a alwodd ar Moses ac Aaron , ac a ddywedodd wrthynt , Pechais y waith hon ; yr Arglwydd sydd gyfiawn , a minnau a’m pobl yn annuwiol . Gweddïwch ar yr Arglwydd ( canys digon yw hyn ) na byddo taranau Duw na chenllysg ; a mi a’ch gollyngaf , ac ni arhoswch yn hwy . A dywedodd Moses wrtho , Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd : a’r taranau a beidiant , a’r cenllysg ni bydd mwy ; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear . Ond mi a wn nad wyt ti eto , na’th weision , yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw . A’r llin a’r haidd a gurwyd ; canys yr haidd oedd wedi hedeg , a’r llin wedi hadu : A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd ; oherwydd diweddar oeddynt hwy . A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas , ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd ; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant , ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear . A phan welodd Pharo beidio o’r glaw , a’r cenllysg , a’r taranau , efe a chwanegodd bechu ; ac a galedodd ei galon , efe a’i weision . A chaledwyd calon Pharo , ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith ; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos at Pharo : oherwydd mi a galedais ei galon ef , a chalon ei weision ; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef : Ac fel y mynegit wrth dy fab , a mab dy fab , yr hyn a wneuthum yn yr Aifft , a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt ; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo , a dywedasant wrtho , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron ? gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl , wele , yfory y dygaf locustiaid i’th fro ; A hwynt‐hwy a orchuddiant wyneb y ddaear , fel na allo un weled y ddaear : a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg ; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes . Llanwant hefyd dy dai di , a thai dy holl weision , a thai yr holl Eifftiaid , y rhai ni welodd dy dadau , na thadau dy dadau , er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn . Yna efe a drodd , ac a aeth allan oddi wrth Pharo . A gweision Pharo a ddywedasant wrtho , Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni ? gollwng ymaith y gwŷr , fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw : Oni wyddost ti eto ddifetha’r Aifft ? A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo : ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw : ond pa rai sydd yn myned ? A Moses a ddywedodd , A’n llanciau , ac â’n hynafgwyr , yr awn ni ; â’n meibion hefyd , ac â’n merched , â’n defaid , ac â’n gwartheg , yr awn ni : oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yr un modd y byddo’r Arglwydd gyda chwi , ag y gollyngaf chwi , a’ch rhai bach : gwelwch , mai ar ddrwg y mae eich bryd . Nid felly ; ewch yn awr , y gwŷr , a gwasanaethwch yr Arglwydd : canys hyn yr oeddech yn ei geisio . Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid , fel y delont i fyny ar dir yr Aifft ; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear , sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg . A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft : a’r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw , a’r holl nos honno ; a phan ddaeth y bore , gwynt y dwyrain a ddug locustiaid . A’r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft , ac a arosasant ym mhob ardal i’r Aifft : blin iawn oeddynt ; ni bu’r fath locustiaid o’u blaen hwynt , ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb . Canys toesant wyneb yr holl dir , a thywyllodd y wlad ; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear , a holl ffrwythau y coed , yr hyn a weddillasai y cenllysg : ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed , nac ar lysiau y maes , o fewn holl wlad yr Aifft . Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys ; ac a ddywedodd , Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw , ac yn eich erbyn chwithau . Ac yn awr maddau , atolwg , fy mhechod y waith hon yn unig , a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw , ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig . A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn , ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid , ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch : ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft . Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharo , fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Estyn dy law tua’r nefoedd , fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft , tywyllwch a aller ei deimlo . A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd : a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod . Ni welai neb ei gilydd , ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod : ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau . A galwodd Pharo am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Ewch , gwasanaethwch yr Arglwydd ; arhoed eich defaid , a’ch gwartheg yn unig ; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi . A dywedodd Moses , Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau , fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw . Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni ; ni adewir ewin yn ôl : oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw : ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd , hyd oni ddelom yno . Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharo , ac ni fynnai eu gollwng hwynt . A dywedodd Pharo wrtho , Dos oddi wrthyf , gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy : oblegid y dydd y gwelych fy wyneb , y byddi farw . A dywedodd Moses , Uniawn y dywedaist , ni welaf dy wyneb mwy . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Un pla eto a ddygaf ar Pharo , ac ar yr Aifft ; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma : pan y’ch gollyngo , gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl . Dywed yn awr lle y clywo y bobl ; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog , a phob gwraig gan ei chymdoges , ddodrefn arian , a dodrefn aur . A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid : ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft , yng ngolwg gweision Pharo , ac yng ngolwg y bobl . Moses hefyd a ddywedodd , Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd ; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft . A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw , o gyntaf‐anedig Pharo , yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair , hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin ; a phob cyntaf‐anedig o anifail . A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft , yr hwn ni bu ei fath , ac ni bydd mwyach ei gyffelyb . Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod , ar ddyn nac anifail ; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel . A’th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi , ac a ymgrymant i mi , gan ddywedyd , Dos allan , a’r holl bobl sydd ar dy ôl ; ac wedi hynny yr af fi allan . Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Ni wrendy Pharo arnoch ; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft . A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo : a’r Arglwydd a galedodd galon Pharo , fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft , gan ddywedyd , Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd : cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn . Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel , gan ddywedyd , Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen , yn ôl teulu eu tadau , sef oen dros bob teulu . Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen , efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer , wrth y rhifedi o ddynion ; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen . Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl , yn wryw , ac yn llwdn blwydd : o’r defaid , neu o’r geifr , y cymerwch ef . A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn : a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos . A chymerant o’r gwaed , a rhoddant ar y ddau ystlysbost , ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt . A’r cig a fwytânt y nos honno , wedi ei rostio wrth dân , a bara croyw ; gyda dail surion y bwytânt ef . Na fwytewch ohono yn amrwd , na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr , eithr wedi ei rostio wrth dân ; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd . Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore : a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore , llosgwch yn tân . Ac fel hyn y bwytewch ef ; wedi gwregysu eich lwynau , a’ch esgidiau am eich traed , a’ch ffyn yn eich dwylo : a bwytewch ef ar ffrwst ; Pasg yr Arglwydd ydyw efe . Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon , ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft , yn ddyn ac yn anifail ; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft : myfi yw yr Arglwydd . A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi ; a phan welwyf y gwaed , yna yr af heibio i chwi , ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi , pan drawyf dir yr Aifft . A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi ; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau : cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol . Saith niwrnod y bwytewch fara croyw ; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai : oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd , yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel . Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd , a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd : dim gwaith ni wneir ynddynt , onid yr hyn a fwyty pob dyn , hynny yn unig a ellwch ei wneuthur . Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw ; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft : am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau , trwy ddeddf dragwyddol . Yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr , y bwytewch fara croyw , hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr . Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod : canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd , yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel , yn gystal y dieithr a’r priodor . Na fwytewch ddim lefeinllyd : bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau . A galwodd Moses am holl henuriaid Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd , a lleddwch y Pasg . A chymerwch dusw o isop , a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg , a rhoddwch ar gapan y drws , ac ar y ddau ystlysbost , o’r gwaed a fyddo yn y cawg ; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore . Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid : a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws , ac ar y ddau ystlysbost , yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws , ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio . A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti , ac i’th feibion yn dragywydd . A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi , megis yr addawodd , yna cedwch y gwasanaeth hwn . A bydd , pan ddywedo eich meibion wrthych , Pa wasanaeth yw hwn gennych ? Yna y dywedwch , Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw , yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft , pan drawodd efe yr Eifftiaid , ac yr achubodd ein tai ni . Yna yr ymgrymodd y bobl , ac yr addolasant . A meibion Israel a aethant ymaith , ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron ; felly y gwnaethant . Ac ar hanner nos y trawodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , o gyntaf‐anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc , hyd gyntaf‐anedig y gaethes oedd yn y carchardy ; a phob cyntaf‐anedig i anifail . A Pharo a gyfododd liw nos , efe a’i holl weision , a’r holl Eifftiaid ; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft : oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo . Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos , ac a ddywedodd , Codwch , ewch allan o fysg fy mhobl , chwi a meibion Israel hefyd ; ac ewch , a gwasanaethwch yr Arglwydd , fel y dywedasoch . Cymerwch eich defaid , a’ch gwartheg hefyd , fel y dywedasoch , ac ewch ymaith , a bendithiwch finnau . A’r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl , gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad ; oblegid dywedasant , Dynion meirw ydym ni oll . A’r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio , a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau . A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses ; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian , a thlysau aur , a gwisgoedd . A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid , fel yr echwynasant iddynt : a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid . A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth , ynghylch chwe chan mil o wŷr traed , heblaw plant . A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt ; defaid hefyd a gwartheg , sef da lawer iawn . A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o’r Aifft yn deisennau croyw ; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio : canys gwthiasid hwynt o’r Aifft , ac ni allasant aros , ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth . A phreswyliad meibion Israel , tra y trigasant yn yr Aifft , oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd . Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd , ie , o fewn corff y dydd hwnnw , yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft . Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd , ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft : nos yr Arglwydd yw hon , i holl feibion Israel i’w chadw trwy eu hoesoedd . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron , Dyma ddeddf y Pasg : na fwytaed neb dieithr ohono . Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian , gwedi yr enwaedych ef , a fwyty ohono . Yr alltud , a’r gwas cyflog , ni chaiff fwyta ohono . Mewn un tŷ y bwyteir ef : na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ ; ac na thorrwch asgwrn ohono . Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny . A phan arhoso dieithr gyda thi , ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd , enwaeder ei holl wrywiaid ef , ac yna nesaed i wneuthur hynny ; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad : ond na fwytaed neb dienwaededig ohono . Yr un gyfraith fydd i’r priodor , ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg . Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron ; felly y gwnaethant . Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft , yn ôl eu lluoedd . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig , sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel , o ddyn ac anifail : eiddof fi yw . A dywedodd Moses wrth y bobl , Cofiwch y dydd hwn , ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft , o dŷ y caethiwed : oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno : am hynny na fwytaer bara lefeinllyd . Heddiw yr ydych chwi yn myned allan , ar y mis Abib . A phan ddygo’r Arglwydd di i wlad y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid , yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti , sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl ; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn . Saith niwrnod y bwytei fara croyw ; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r Arglwydd . Bara croyw a fwyteir saith niwrnod : ac na weler bara lefeinllyd gyda thi ; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau . A mynega i’th fab y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Oherwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft , y gwneir hyn . A bydded i ti yn arwydd ar dy law , ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid ; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau : oherwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aifft . Am hynny cadw y ddeddf hon , yn ei hamser nodedig , o flwyddyn i flwyddyn . A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid , megis y tyngodd efe wrthyt , ac wrth dy dadau , a’i rhoddi i ti , Yna y neilltui i’r Arglwydd bob cyntaf‐anedig : a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti , y gwrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant . A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen ; ac oni phryni di ef , yna torfynygla ef : a phob dyn cyntaf‐anedig o’th feibion a bryni di hefyd . A phan ofynno dy fab ar ôl hyn , gan ddywedyd , Beth yw hyn ? yna dywed wrtho , A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft , o dŷ y caethiwed . A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni , y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , o gyntaf‐anedig anifail : am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth ; ond pob cyntaf‐anedig o’m meibion a brynaf . A bydded hynny yn arwydd ar dy law , ac yn rhactalau rhwng dy lygaid : canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft . A phan ollyngodd Pharo y bobl , nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid , er ei bod yn agos : oblegid dywedodd Duw , Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel , a dychwelyd i’r Aifft . Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch , trwy anialwch y môr coch : ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft . A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef : oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw , gan ddywedyd , Duw a ymwêl â chwi yn ddiau ; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi . A hwy a aethant o Succoth ; ac a wersyllasant yn Etham , yng nghwr yr anialwch . A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl , i’w harwain ar y ffordd ; a’r nos mewn colofn o dân , i oleuo iddynt : fel y gallent fyned ddydd a nos . Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd , na’r golofn dân y nos , o flaen y bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth feibion Israel , am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth , rhwng Migdol a’r môr , o flaen Baal‐seffon : ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr . Canys dywed Pharo am feibion Israel , Rhwystrwyd hwynt yn y tir ; caeodd yr anialwch arnynt . A mi a galedaf galon Pharo , fel yr erlidio ar eu hôl hwynt : felly y’m gogoneddir ar Pharo , a’i holl fyddin ; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Ac felly y gwnaethant . A mynegwyd i frenin yr Aifft , fod y bobl yn ffoi : yna y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl ; a dywedasant , Beth yw hyn a wnaethom , pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu ? Ac efe a daclodd ei gerbyd , ac a gymerodd ei bobl gydag ef . A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau , a holl gerbydau yr Aifft , a chapteiniaid ar bob un ohonynt . A’r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft , ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel : ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel . A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt , sef holl feirch a cherbydau Pharo , a’i wŷr meirch , a’i fyddin , ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr , gerllaw Pihahiroth , o flaen Baal‐seffon . A phan nesaodd Pharo , meibion Israel a godasant eu golwg ; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl ; a hwy a ofnasant yn ddirfawr : a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd . A dywedasant wrth Moses , Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft , y dygaist ni i farw yn yr anialwch ? Paham y gwnaethost fel hyn â ni , gan ein dwyn allan o’r Aifft ? Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft , gan ddywedyd , Paid â ni , fel y gwasanaethom yr Eifftiaid ? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid , na marw yn yr anialwch . A Moses a ddywedodd wrth y bobl , Nac ofnwch ; sefwch , ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd , yr hwn a wna efe i chwi heddiw ; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw , ni chewch eu gweled byth ond hynny . Yr Arglwydd a ymladd drosoch ; am hynny tewch chwi â sôn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Paham y gwaeddi arnaf ? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt . A chyfod dithau dy wialen , ac estyn dy law ar y môr , a hollta ef : a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych . Wele , fi , ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid , fel y delont ar eu hôl hwynt : a mi a ogoneddir ar Pharo , ac ar ei holl fyddin , ar ei gerbydau ef , ac ar ei farchogion . A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd , pan y’m gogoneddir ar Pharo , ar ei gerbydau , ac ar ei farchogion . Ac angel Duw , yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel , a symudodd , ac a aeth o’u hôl hwynt ; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt , ac a safodd o’u hôl hwynt . Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel ; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid , ac yn goleuo y nos i Israel : ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos . A Moses a estynnodd ei law ar y môr : a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl , trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos , ac a wnaeth y môr yn sychdir , a holltwyd y dyfroedd . A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych : a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt , o’r tu deau , ac o’r tu aswy . A’r Eifftiaid a erlidiasant , ac a ddaethant ar eu hôl hwynt ; sef holl feirch Pharo , a’i gerbydau , a’r farchogion , i ganol y môr . Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl , ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid . Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau ; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm : fel y dywedodd yr Eifftiaid , Ffown oddi wrth Israel ; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law ar y môr ; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid , ar eu cerbydau , ac ar eu marchogion . A Moses a estynnodd ei law ar y môr : a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth ; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef : a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr . A’r dyfroedd a ddychwelasant , ac a orchuddiasant gerbydau , a marchogion , a holl fyddin Pharo , y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr : ni adawyd ohonynt gymaint ag un . Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr : a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt , ar y llaw ddeau , ac ar y llaw aswy . Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid : a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr . A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid : a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd , ac a gredasant i’r Arglwydd , ac i’w was ef Moses . Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd , ac a lefarasant , gan ddywedyd , Canaf i’r Arglwydd ; canys gwnaeth yn rhagorol iawn : taflodd y march a’i farchog i’r môr . Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd ; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi : efe yw fy Nuw , efe a ogoneddaf fi ; Duw fy nhad , a mi a’i dyrchafaf ef . Yr Arglwydd sydd ryfelwr : yr Arglwydd yw ei enw . Efe a daflodd gerbydau Pharo a’i fyddin yn y môr : ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch . Y dyfnderau a’u toesant hwy ; disgynasant i’r gwaelod fel carreg . Dy ddeheulaw , Arglwydd , sydd ardderchog o nerth ; a’th ddeheulaw , Arglwydd , a ddrylliodd y gelyn . Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn : dy ddigofaint a anfonaist allan , ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl . Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd : y ffrydiau a safasant fel pentwr ; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr . Y gelyn a ddywedodd , Mi a erlidiaf , mi a oddiweddaf , mi a rannaf yr ysbail : caf fy ngwynfyd arnynt ; tynnaf fy nghleddyf , fy llaw a’u difetha hwynt . Ti a chwythaist â’th wynt ; y môr a’u todd hwynt : soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion . Pwy sydd debyg i ti , O Arglwydd , ymhlith y duwiau ? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd , yn ofnadwy mewn moliant , yn gwneuthur rhyfeddodau ? Estynnaist dy ddeheulaw ; llyncodd y ddaear hwynt . Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist : yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd . Y bobloedd a glywant , ac a ofnant : dolur a ddeil breswylwyr Palesteina . Yna y synna ar ddugiaid Edom : cedyrn hyrddod Moab , dychryn a’u deil hwynt : holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith . Ofn ac arswyd a syrth arnynt ; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg , nes myned trwodd o’th bobl di , Arglwydd , nes myned o’r bobl a enillaist ti trwodd . Ti a’u dygi hwynt i mewn , ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth , y lle a wnaethost , O Arglwydd , yn anheddle i ti ; y cysegr , Arglwydd , a gadarnhaodd dy ddwylo . Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd . Oherwydd meirch Pharo , a’i gerbydau , a’i farchogion , a aethant i’r môr ; a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt : ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr . A Miriam y broffwydes , chwaer Aaron , a gymerodd dympan yn ei llaw , a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi , â thympanau ac â dawnsiau . A dywedodd Miriam wrthynt , Cenwch i’r Arglwydd ; canys gwnaeth yn ardderchog ; bwriodd y march a’r marchog i’r môr . Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch ; ac aethant allan i anialwch Sur : a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch , ac ni chawsant ddwfr . A phan ddaethant i Mara , ni allent yfed dyfroedd Mara , am eu bod yn chwerwon : oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara . A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses , gan ddywedyd , Beth a yfwn ni ? Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren ; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd , a’r dyfroedd a bereiddiasant : yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith , ac yno y profodd efe hwynt , Ac a ddywedodd , Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef , a rhoddi clust i’w orchmynion ef , a chadw ei holl ddeddfau ef ; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid ; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di . A daethant i Elim ; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr , a deg palmwydden a thrigain : a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd . A hwy a symudasant o Elim ; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin , yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai , ar y pymthegfed dydd o’r ail fis , wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft . A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch . A meibion Israel a ddywedasant wrthynt , O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft , pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig , ac yn bwyta bara ein gwala : ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn , i ladd yr holl dyrfa hon â newyn . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd : a’r bobl a ânt allan , ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd ; fel y gallwyf eu profi , a rodiant yn fy nghyfraith , ai nas gwnânt . Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn ; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd . A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel , Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft . Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd ; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd : a pha beth ydym ni , i chwi i duchan i’n herbyn ? Moses hefyd a ddywedodd , Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta , a’r bore fara eich gwala ; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi , yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef : oherwydd beth ydym ni ? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan , ond yn erbyn yr Arglwydd . A Moses a ddywedodd wrth Aaron , Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel , Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd : oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi . Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel , yna yr edrychasant tua’r anialwch ; ac wele , gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Clywais duchan meibion Israel : llefara wrthynt , gan ddywedyd , Yn yr hwyr cewch fwyta cig , a’r bore y’ch diwellir o fara : cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant , ac a orchuddiasant y wersyllfa ; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll . A phan gododd y gaenen wlith , wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear . Pan welodd meibion Israel hynny , hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Manna yw : canys ni wyddent beth ydoedd . A dywedodd Moses wrthynt , Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta . Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd ; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta : omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau ; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll . A meibion Israel a wnaethant felly ; ac a gasglasant , rhai fwy , a rhai lai . A phan fesurasant wrth yr omer , nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer , ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig : casglasant bob un yn ôl ei fwyta . A dywedodd Moses wrthynt , Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore . Er hynny ni wrandawsant ar Moses , ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore ; ac efe a fagodd bryfed , ac a ddrewodd : am hynny Moses a ddigiodd wrthynt . A hwy a’i casglasant ef bob bore , pob un yn ôl ei fwyta : a phan wresogai yr haul , efe a doddai . Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara , dau omer i un : a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd ; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd : pobwch heddiw yr hyn a boboch , a berwch yr hyn a ferwoch ; a’r holl weddill , rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore . A hwy a’i cadwasant hyd y bore , fel y gorchmynasai Moses : ac ni ddrewodd , ac nid oedd pryf ynddo . A dywedodd Moses , Bwytewch hwn heddiw ; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd : ni chewch hwn yn y maes heddiw . Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef ; ond ar y seithfed dydd , yr hwn yw y Saboth , ni bydd efe . Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd , i gasglu ; ond ni chawsant ddim . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau ? Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth ; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd : arhoswch bawb gartref ; nac aed un o’i le y seithfed dydd . Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd . A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna : ac yr oedd efe fel had coriander , yn wyn , a’i flas fel afrllad o fêl . A Moses a ddywedodd , Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd ; Llanw omer ohono , i’w gadw i’ch cenedlaethau ; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch , pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft . A Moses a ddywedodd wrth Aaron , Cymer grochan , a dod ynddo lonaid omer o’r manna ; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses , felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth . A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd , nes eu dyfod i dir cyfanheddol : manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan . A’r omer ydoedd ddegfed ran effa . A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin , wrth eu teithiau , yn ôl gorchymyn yr Arglwydd ; ac a wersyllasant yn Reffidim : ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed . Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses , ac a ddywedasant , Rhoddwch i ni ddwfr i yfed . A dywedodd Moses wrthynt , Paham yr ymgynhennwch â mi ? Paham y temtiwch yr Arglwydd ? A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr ; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses , ac a ddywedodd , Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft , i’n lladd ni , a’n plant , a’n hanifeiliaid , â syched ? A Moses a lefodd ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , Beth a wnaf i’r bobl hyn ? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cerdda o flaen y bobl , a chymer gyda thi o henuriaid Israel : cymer hefyd dy wialen yn dy law , yr hon y trewaist yr afon â hi , a cherdda . Wele , mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb ; taro dithau y graig , a daw dwfr allan ohoni , fel y gallo’r bobl yfed . A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel . Ac efe a alwodd enw y lle Massa , a Meriba ; o achos cynnen meibion Israel , ac am iddynt demtio’r Arglwydd , gan ddywedyd , A ydyw yr Arglwydd yn ein plith , ai nid yw ? Yna y daeth Amalec , ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim . A dywedodd Moses wrth Josua , Dewis i ni wŷr , a dos allan ac ymladd ag Amalec : yfory mi a safaf ar ben y bryn , â gwialen Duw yn fy llaw . Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho ; ac a ymladdodd ag Amalec : a Moses , Aaron , a Hur a aethant i fyny i ben y bryn . A phan godai Moses ei law , y byddai Israel yn drechaf ; a phan ollyngai ei law i lawr , Amalec a fyddai drechaf . A dwylo Moses oedd drymion ; a hwy a gymerasant faen , ac a’i gosodasant dano ef ; ac efe a eisteddodd arno : ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef , un ar y naill du , a’r llall ar y tu arall ; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul . A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Ysgrifenna hyn mewn llyfr , yn goffadwriaeth ; a mynega i Josua : canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd . A Moses a adeiladodd allor , ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi . Canys efe a ddywedodd , Oherwydd tyngu o’r Arglwydd , y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth . Pan glywodd Jethro , offeiriad Midian , chwegrwn Moses , yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses , ac i Israel ei bobl , a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft ; Yna Jethro , chwegrwn Moses , a gymerodd Seffora gwraig Moses , ( wedi ei hebrwng hi yn ei hôl , ) A’i dau fab hi ; o ba rai enw un oedd Gersom : oblegid efe a ddywedasai , Dieithr fûm mewn gwlad estronol . Ac enw y llall oedd Elieser : oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi ( eb efe ) , ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo . A Jethro , chwegrwn Moses , a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch , lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw . Ac efe a ddywedodd wrth Moses , Myfi Jethro , dy chwegrwn di , sydd yn dyfod atat ti , a’th wraig a’i dau fab gyda hi . A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn ; ac a ymgrymodd , ac a’i cusanodd ; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd : a daethant i’r babell . A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid , er mwyn Israel ; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd , ac achub o’r Arglwydd hwynt . A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel ; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid . A dywedodd Jethro , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid , ac o law Pharo ; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid . Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau : oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono , yr oedd efe yn uwch na hwynt . A Jethro , chwegrwn Moses , a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw : a daeth Aaron , a holl henuriaid Israel , i fwyta bara gyda chwegrwn Moses , gerbron Duw . A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl : a safodd y bobl gerbron Moses , o’r bore hyd yr hwyr . A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl , efe a ddywedodd , Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl ? Paham yr eisteddi dy hun , ac y saif yr holl bobl ger dy fron di , o’r bore hyd yr hwyr ? A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn , Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw . Pan fyddo iddynt achos , ataf fi y deuant ; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd , ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau . A dywedodd chwegrwn Moses wrtho , Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur . Tydi a lwyr ddiffygi , a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi : canys rhy drwm yw’r peth i ti ; ni elli ei wneuthur ef dy hun . Gwrando ar fy llais i yn awr ; mi a’th gynghoraf di , a bydd Duw gyda thi : Bydd di dros y bobl gerbron Duw , a dwg eu hachosion at Dduw . Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau ; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi , a’r gweithredoedd a wnânt . Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol , yn ofni Duw , gwŷr geirwir , yn casáu cybydd‐dod ; a gosod y rhai hyn arnynt hwy , yn dywysogion ar filoedd , yn dywysogion ar gannoedd , ac yn dywysogion ar ddegau a deugain , ac yn dywysogion ar ddegau . A barnant hwy y bobl bob amser : ond dygant bob peth mawr atat ti , a barnant eu hun bob peth bychan : felly yr ysgafnhei arnat dy hun , a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi . Os y peth hyn a wnei , a’i orchymyn o Dduw i ti ; yna ti a elli barhau , a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch . A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn ; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe . A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel , ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl ; yn dywysogion ar filoedd , yn dywysogion ar gannoedd , yn dywysogion ar ddegau a deugain , ac yn dywysogion ar ddegau . A hwy a farnasant y bobl bob amser : y pethau caled a ddygent at Moses , a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain . A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn ; ac efe a aeth adref i’w wlad . Yn y trydydd mis , wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft , y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai . Canys hwy a aethant o Reffidim , ac a ddaethant i anialwch Sinai ; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch : ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd . A Moses a aeth i fyny at Dduw : a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob , ac y mynegi wrth feibion Israel ; Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid ; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod , ac y’ch dygais ataf fi fy hun . Yn awr , gan hynny , os gan wrando y gwrandewch ar fy llais , a chadw fy nghyfamod , chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd : canys eiddof fi yr holl ddaear . A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid , ac yn genhedlaeth sanctaidd . Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel . A daeth Moses , ac a alwodd am henuriaid y bobl ; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo . A’r holl bobl a gydatebasant , ac a ddywedasant , Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd . A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Wele , mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew , fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi , ac fel y credont i ti byth . A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dos at y bobl , a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory ; a golchant eu dillad , A byddant barod erbyn y trydydd dydd : oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai . A gosod derfyn i’r bobl o amgylch , gan ddywedyd , Gwyliwch arnoch , rhag myned i fyny i’r mynydd , neu gyffwrdd â’i gwr ef : pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw . Na chyffyrdded llaw ag ef , ond gan labyddio llabyddier ef , neu gan saethu saether ef ; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo , ni chaiff fyw : pan gano’r utgorn yn hirllaes , deuant i’r mynydd . A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl , ac a sancteiddiodd y bobl ; a hwy a olchasant eu dillad . Ac efe a ddywedodd wrth y bobl , Byddwch barod erbyn y trydydd dydd ; nac ewch yn agos at eich gwragedd . A’r trydydd dydd , ar y boreddydd , yr oedd taranau , a mellt , a chwmwl tew ar y mynydd , a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn ; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll . A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw ; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd . A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu , oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân : a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn , a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr . Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir , ac yn cryfhau fwyfwy , Moses a lefarodd ; a Duw a atebodd mewn llais . A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai , ar ben y mynydd : a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd ; a Moses a aeth i fyny . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos i waered , gorchymyn i’r bobl ; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu , a chwympo llawer ohonynt . Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd , y rhai a nesânt at yr Arglwydd ; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai : oblegid ti a dystiolaethaist wrthym , gan ddywedyd , Gosod derfyn ynghylch y mynydd , a sancteiddia ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos , cerdda i waered ; a thyred i fyny , ac Aaron gyda thi : ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl , i ddyfod i fyny at yr Arglwydd ; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy . Yna yr aeth Moses i waered at y bobl , ac a ddywedodd wrthynt . A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i . Na wna i ti ddelw gerfiedig , na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod , nac a’r y sydd yn y ddaear isod , nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear . Nac ymgryma iddynt , ac na wasanaetha hwynt : oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw , wyf Dduw eiddigus ; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt ; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant , ac a gadwant fy ngorchmynion . Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer : canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer . Cofia y dydd Saboth , i’w sancteiddio ef . Chwe diwrnod y gweithi , ac y gwnei dy holl waith : Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw : na wna ynddo ddim gwaith , tydi , na’th fab , na’th ferch , na’th wasanaethwr , na’th wasanaethferch , na’th anifail , na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth : Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear , y môr , a’r hyn oll sydd ynddynt ; ac a orffwysodd y seithfed dydd : am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth , ac a’i sancteiddiodd ef . Anrhydedda dy dad a’th fam ; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Na ladd . Na wna odineb . Na ladrata . Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog . Na chwennych dŷ dy gymydog , na chwennych wraig dy gymydog , na’i wasanaethwr , na’i wasanaethferch , na’i ych , na’i asyn , na dim a’r sydd eiddo dy gymydog . A’r holl bobl a welsant y taranau , a’r mellt , a sain yr utgorn , a’r mynydd yn mygu : a phan welodd y bobl , ciliasant , a safasant o hirbell . A dywedasant wrth Moses , Llefara di wrthym ni , a nyni a wrandawn : ond na lefared Duw wrthym , rhag i ni farw . A dywedodd Moses wrth y bobl , Nac ofnwch ; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw , ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau , fel na phechech . A safodd y bobl o hirbell ; a nesaodd Moses i’r tywyllwch , lle yr ydoedd Duw . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel ; Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych . Na wnewch gyda mi dduwiau arian , ac na wnewch i chwi dduwiau aur . Gwna i mi allor bridd , ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd , dy ddefaid , a’th eidionau : ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw , y deuaf atat , ac y’th fendithiaf . Ond os gwnei i mi allor gerrig , na wna hi o gerrig nadd : pan gotech dy forthwyl arni , ti a’i halogaist hi . Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor ; fel nad amlyger dy noethni wrthi . Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt . Os pryni was o Hebread , gwasanaethed chwe blynedd ; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd . Os ar ei ben ei hun y daeth , ar ei ben ei hun y caiff fyned allan : os perchen gwraig fydd efe , aed ei wraig allan gydag ef . Os ei feistr a rydd wraig iddo , a hi yn planta iddo feibion , neu ferched ; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr , ac aed efe allan ar ei ben ei hun . Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed , Hoff gennyf fi fy meistr , fy ngwraig , a’m plant ; nid af fi allan yn rhydd : Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr ; a dyged ef at y ddôr , neu at yr orsin : a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd ; ac efe a’i gwasanaetha ef byth . Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth , ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan . Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi , yr hwn a’i cymerodd hi yn ddyweddi ; yna gadawed ei hadbrynu hi : ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr , wedi iddo ef ei thwyllo hi . Ac os i’w fab y dyweddiodd efe hi , gwnaed iddi yn ôl deddf y merched . Ac os arall a brioda efe , na wnaed yn llai ei hymborth , ei dillad , na’i dyled priodas . Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi ; yna aed hi allan yn rhad heb arian . Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr , fel y byddo marw . Ond yr hwn ni chynllwynodd , ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef , mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi . Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog , i’w ladd ef trwy dwyll ; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor . Y neb a drawo ei dad , neu ei fam , rhodder ef i farwolaeth . Yr hwn a ladratao ddyn , ac a’i gwertho , neu os ceir ef yn ei law ef , rhodder ef i farwolaeth . Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad , neu ei fam . A phan ymrysono dynion , a tharo o’r naill y llall â charreg , neu â dwrn , ac efe heb farw , ond gorfod iddo orwedd ; Os cyfyd efe , a rhodio allan wrth ei ffon ; yna y trawydd a fydd dihangol : yn unig rhodded ei golled am ei waith , a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef . Ac os tery un ei wasanaethwr , neu ei wasanaethferch , â gwialen , fel y byddo farw dan ei law ef ; gan ddial dialer arno . Ond os erys ddiwrnod , neu ddau ddiwrnod , na ddialer arno ; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe . Ac os ymrafaelia dynion , a tharo ohonynt wraig feichiog , fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi , ac heb fod marwolaeth : gan gosbi cosber ef , fel y gosodo gŵr y wraig arno ; a rhodded hynny trwy farnwyr . Ac os marwolaeth fydd ; rhodder einioes am einioes , Llygad am lygad , dant am ddant , llaw am law , troed am droed , Llosg am losg , archoll am archoll , a chlais am glais . Os tery un lygad ei wasanaethwr , neu lygad ei wasanaethferch , fel y llygro ef ; gollynged ef yn rhydd am ei lygad : Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr , neu ddant ei wasanaethferch ; gollynged ef yn rhydd am ei ddant . Ac os ych a gornia ŵr neu wraig , fel y byddo farw : gan labyddio llabyddier yr ych , ac na fwytaer ei gig ef ; ac aed perchen yr ych yn rhydd . Ond os yr ych oedd yn cornio o’r blaen , a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog ; ac efe heb ei gadw ef , ond lladd ohono ŵr neu wraig : yr ych a labyddir , a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd . Os iawn a roddir arno , rhodded werth am ei einioes , yn ôl yr hyn oll a osoder arno . Os mab a gornia efe , neu ferch a gornia efe ; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon . Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych ; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian , a llabyddier yr ych . Ac os egyr gŵr bydew , neu os cloddia un bydew , ac heb gau arno ; a syrthio yno ych , neu asyn ; Perchen y pydew a dâl amdanynt : arian a dâl efe i’w perchennog ; a’r anifail marw a fydd iddo yntau . Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog , fel y byddo efe farw ; yna gwerthant yr ych byw , a rhannant ei werth ef , a’r ych marw a rannant hefyd . Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o’r blaen , a’i berchennog heb ei gadw ef ; gan dalu taled ych am ych , a bydded y marw yn eiddo ef . Os lladrata un ych neu ddafad , a’i ladd , neu ei werthu ; taled bum ych am ych , a phedair dafad am ddafad . Os ceir lleidr yn torri tŷ , a’i daro fel y byddo farw ; na choller gwaed amdano . Os bydd yr haul wedi codi arno , coller gwaed amdano ; efe a ddyly gwbl dalu : oni bydd dim ganddo , gwerther ef am ei ladrad . Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw , o eidion , neu asyn , neu ddafad ; taled yn ddwbl . Os pawr un faes , neu winllan , a gyrru ei anifail i bori maes un arall ; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun , ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun . Os tân a dyr allan , ac a gaiff afael mewn drain , fel y difaer das o ŷd , neu ŷd ar ei droed , neu faes ; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân . Os rhydd un i’w gymydog arian , neu ddodrefn i gadw , a’i ladrata o dŷ y gŵr ; os y lleidr a geir , taled yn ddwbl : Os y lleidr ni cheir , dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu , a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog . Am bob math ar gamwedd , am eidion , am asyn , am ddafad , am ddilledyn , ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo : deued achos y ddau gerbron y barnwyr ; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn , taled i’w gymydog yn ddwbl . Os rhydd un asyn , neu eidion , neu ddafad , neu un anifail , at ei gymydog i gadw , a marw ohono , neu ei friwo , neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled : Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau , na roddes efe ei law at dda ei gymydog ; a chymered ei berchennog hynny , ac na wnaed y llall iawn . Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho ; gwnaed iawn i’w berchennog . Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef ; dyged ef yn dystiolaeth , ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd . Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim , a’i friwo , neu ei farw , heb fod ei berchennog gydag ef ; gan dalu taled . Os ei berchennog fydd gydag ef , na thaled : os llog yw efe , am ei log y daeth . Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd , a gorwedd gyda hi ; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun . Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion . Na chaffed hudoles fyw . Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail . Lladder yn farw a abertho i dduwiau , onid i’r Arglwydd yn unig . Na orthryma , ac na flina y dieithr : canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft . Na chystuddiwch un weddw , nac amddifad . Os cystuddiwch hwynt mewn un modd , a gweiddi ohonynt ddim arnaf ; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt ; A’m digofaint a ennyn , a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf ; a bydd eich gwragedd yn weddwon , a’ch plant yn amddifaid . Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl , na fydd fel ocrwr iddynt : na ddod usuriaeth arnynt . Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl , dyro ef adref iddo erbyn machludo haul : Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef ; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef : mewn pa beth y gorwedd ? A bydd , os gwaedda efe arnaf , i mi wrando ; canys trugarog ydwyf fi . Na chabla’r swyddogion ; ac na felltithia bennaeth dy bobl . Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed , ac o’th bethau gwlybion : dod i mi y cyntaf‐anedig o’th feibion . Felly y gwnei am dy eidion , ac am dy ddafad ; saith niwrnod y bydd gyda’i fam , a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi . A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi : ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes ; teflwch ef i’r ci . Na chyfod enllib ; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir . Na ddilyn liaws i wneuthur drwg ; ac nac ateb mewn ymrafael , gan bwyso yn ôl llaweroedd , i ŵyro barn . Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael . Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn , neu â’i asyn , yn myned ar gyfrgoll ; dychwel ef adref iddo . Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn ; a beidi â’i gynorthwyo ? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef . Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael . Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater : na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn : canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol . Na dderbyn wobr : canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled , ac a ŵyra eiriau y cyfiawn . Na orthryma’r dieithr : chwi a wyddoch galon y dieithr ; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft . Chwe blynedd yr heui dy dir , ac y cesgli ei ffrwyth : A’r seithfed paid ag ef , a gad ef yn llonydd ; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta : a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt . Felly y gwnei am dy winllan , ac am dy olewydden . Chwe diwrnod y gwnei dy waith ; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi : fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch , ac y cymero mab dy forwyn gaeth , a’r dieithr ddyn , ei anadl ato . Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych : na chofiwch enw duwiau eraill ; na chlywer hynny o’th enau . Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi . Gŵyl y bara croyw a gedwi : saith niwrnod y bwytei fara croyw , fel y gorchmynnais i ti , ar yr amser gosodedig o fis Abib : canys ynddo y daethost allan o’r Aifft : ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw : A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur , yr hwn a heuaist yn y maes ; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn , pan gynullech dy lafur o’r maes . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd ; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore . Dwg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd , ac i’th arwain i’r man a baratoais . Gwylia rhagddo , a gwrando ar ei lais ef ; na chyffroa ef : canys ni ddioddef eich anwiredd : oblegid y mae fy enw ynddo ef . Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef , a gwneuthur y cwbl a lefarwyf ; mi a fyddaf elyn i’th elynion , ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr . Oherwydd fy angel a â o’th flaen di , ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid , a’r Hethiaid , a’r Pheresiaid , a’r Canaaneaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; a mi a’u difethaf hwynt . Nac ymgryma i’w duwiau hwynt , ac na wasanaetha hwynt , ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt ; ond llwyr ddinistria hwynt , dryllia eu delwau hwynt yn gandryll . A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw , ac efe a fendithia dy fara , a’th ddwfr ; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg . Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu , na heb hilio : mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau . Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen , ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt , ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau atat . A mi a anfonaf gacwn o’th flaen , a hwy a yrrant yr Hefiaid , a’r Canaaneaid , a’r Hethiaid , allan o’th flaen di . Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn ; rhag bod y wlad yn anghyfannedd , ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di . O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di , nes i ti gynyddu ac etifeddu’r tir . A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid , ac o’r diffeithwch hyd yr afon : canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir ; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen . Na wna amod â hwynt , nac â’u duwiau . Na ad iddynt drigo yn dy wlad ; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn : canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt , diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti . Ac efe a ddywedodd wrth Moses , Tyred i fyny at yr Arglwydd , ti ac Aaron , Nadab ac Abihu , a’r deg a thrigain o henuriaid Israel ; ac addolwch o hirbell . Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd ; ac na ddelont hwy , ac nac aed y bobl i fyny gydag ef . A Moses a ddaeth , ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd , a’r holl farnedigaethau . Ac atebodd yr holl bobl yn unair , ac a ddywedasant , Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd . A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd ; ac a gododd yn fore , ac a adeiladodd allor islaw y mynydd , a deuddeg colofn , yn ôl deuddeg llwyth Israel . Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel ; a hwy a offrymasant boethoffrymau , ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd . A chymerodd Moses hanner y gwaed , ac a’i gosododd mewn cawgiau , a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor . Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod , ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl . A dywedasant , Ni a wnawn , ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd . A chymerodd Moses y gwaed , ac a’i taenellodd ar y bobl ; ac a ddywedodd , Wele waed y cyfamod , yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi , yn ôl yr holl eiriau hyn . Yna yr aeth Moses i fyny , ac Aaron , Nadab ac Abihu , a deg a thrigain o henuriaid Israel . A gwelsant Dduw Israel ; a than ei draed megis gwaith o faen saffir , ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder . Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel ; ond gwelsant Dduw , a bwytasant ac yfasant . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Tyred i fyny ataf i’r mynydd , a bydd yno : a mi a roddaf i ti lechau cerrig , a chyfraith , a gorchmynion , y rhai a ysgrifennais , i’w dysgu hwynt . A chododd Moses , a Josua ei weinidog ; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw . Ac wrth yr henuriaid y dywedodd , Arhoswch ni yma , hyd oni ddelom ni atoch drachefn : ac wele , Aaron a Hur gyda chwi ; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo , deued atynt hwy . A Moses a aeth i fyny i’r mynydd ; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd . A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai , a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod : ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl . A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd , yng ngolwg meibion Israel . A Moses a aeth i ganol y cwmwl , ac a aeth i fyny i’r mynydd : a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth feibion Israel , am ddwyn ohonynt i mi offrwm : gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm . A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt ; aur , ac arian , a phres , A sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , A chrwyn hyrddod yn gochion , a chrwyn daearfoch , a choed Sittim , Olew i’r goleuni , llysieuau i olew yr ennaint , ac i’r perarogl‐darth , Meini onics , a meini i’w gosod yn yr effod , ac yn y ddwyfronneg . A gwnânt i mi gysegr ; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt . Yn ôl holl waith y tabernacl , a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti , felly y gwnewch . A gwnânt arch o goed Sittim , o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled , a chufydd a hanner ei huchder . A gwisg hi ag aur coeth ; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi : a gwna arni goron o aur o amgylch . Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur , a dod ar ei phedair congl ; dwy fodrwy ar un ystlys iddi , a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi . A gwna drosolion o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur . A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch , i ddwyn yr arch arnynt . Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion ; na symuder hwynt oddi wrthi . A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti . A gwna drugareddfa o aur coeth , o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled . A gwna ddau geriwb o aur ; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt , yn nau gwr y drugareddfa . Un ceriwb a wnei yn y naill ben , a’r ceriwb arall yn y pen arall : o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid . A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny , gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll , a’u hwynebau bob un at ei gilydd : tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid . A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch , ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti . A mi a gyfarfyddaf â thi yno , ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa , oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth , yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel . A gwna di fwrdd o goed Sittim , o ddau gufydd ei hyd , a chufydd ei led , a chufydd a hanner ei uchder . A gosod aur coeth drosto , a gwna iddo goron o aur o amgylch . A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch , a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch . A gwna iddo bedair modrwy o aur , a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed . Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau , yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd . A gwna y trosolion o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur , fel y dyger y bwrdd arnynt . A gwna ei ddysglau ef , a’i lwyau , a’i gaeadau , a’i ffiolau , y rhai y tywelltir â hwynt : o aur coeth y gwnei hwynt . A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol . Gwna hefyd ganhwyllbren : o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren ; ei baladr , ei geinciau , ei bedyll , ei gnapiau , a’i flodau , a fyddant o’r un . A bydd chwe chainc yn dyfod allan o’i ystlysau ; tair cainc o’r canhwyllbren o un tu , a thair cainc o’r canhwyllbren o’r tu arall . Tair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar un gainc ; a thair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar gainc arall : felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren . Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau , a’u cnapiau a’u blodau . A bydd cnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , yn ôl y chwe chainc a ddeuant o’r canhwyllbren . Eu cnapiau a’u ceinciau a fyddant o’r un : y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl . A thi a wnei ei saith lusern ef , ac a oleui ei lusernau ef , fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb . A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth . O dalent o aur coeth y gwnei ef , a’r holl lestri hyn . Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt , a ddangoswyd i ti yn y mynydd . Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd , ac o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad : yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt . Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain , a lled un llen fydd pedwar cufydd : yr un mesur a fydd i’r holl lenni . Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd ; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd . A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen , ar y cwr , yn y cydiad ; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall , yn yr ail gydiad . Deg dolen a deugain a wnei di i un llen , a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad : y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd . Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur , a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd ; fel y byddo yn un tabernacl . A gwna lenni o flew geifr , i fod yn babell‐len ar y tabernacl : un llen ar ddeg a wnei . Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain , a lled un llen fydd pedwar cufydd ; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg . A chydia bum llen wrthynt eu hun , a chwe llen wrthynt eu hun ; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len . A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len , ar y cwr , yn y cydiad cyntaf ; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall , yn yr ail gydiad . A gwna ddeg bach a deugain o bres ; a dod y bachau yn y dolennau , a chlyma’r babell‐len , fel y byddo yn un . A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell‐len , sef yr hanner llen weddill , a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl ; Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du , a chufydd o’r tu arall , o hyd y babell‐len : bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl , o’r tu yma ac o’r tu acw , i’w orchuddio . A gwna do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a tho o grwyn daearfoch yn uchaf . A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim , yn eu sefyll . Deg cufydd fydd hyd ystyllen , a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen . Bydded dau dyno i un bwrdd , wedi eu gosod mewn trefn , bob un ar gyfer ei gilydd : felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl . A gwna ystyllod i’r tabernacl , ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau . A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen ; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno , a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno . A gwna i ail ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , ugain ystyllen , A deugain mortais o arian ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Hefyd i ystlys y tabernacl , o du’r gorllewin , y gwnei chwech ystyllen . A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl , yn y ddau ystlys . A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd ; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy : felly y bydd iddynt ill dau ; i’r ddwy gongl y byddant . A byddant yn wyth ystyllen , a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Gwna hefyd farrau o goed Sittim , pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl , A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl , a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin . A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod , a gyrraedd o gwr i gwr . Gosod hefyd aur dros yr ystyllod , a gwna eu modrwyau o aur , i osod y barrau trwyddynt : gwisg y barrau hefyd ag aur . A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad , yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd . A gwna wahanlen o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi . A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur ; a’u pennau o aur , ar bedair mortais arian . A dod y wahanlen wrth y bachau , fel y gellych ddwyn yno , o fewn y wahanlen , arch y dystiolaeth : a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf . Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf . A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r i’r wahanlen , a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl : a dod y bwrdd ar du’r gogledd . A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith . A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur ; a’u pennau fydd o aur : a bwrw iddynt bum mortais bres . Gwna hefyd allor o goed Sittim , o bum cufydd o hyd , a phum cufydd o led : yn bedeirongl y bydd yr allor , a’i huchder o dri chufydd . A gwna ei chyrn ar ei phedair congl : o’r un y bydd ei chyrn : a gwisg hi â phres . Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw , a’i rhawiau , a’i chawgiau , a’i chigweiniau , a’i phedyll tân : ei holl lestri a wnei o bres . A gwna iddi alch o bres , ar waith rhwyd ; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl . A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd , fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor . A gwna drosolion i’r allor , sef trosolion o goed Sittim ; a gwisg hwynt â phres . A dod ei throsolion trwy’r modrwyau ; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor , i’w dwyn hi . Gwna hi ag ystyllod yn gau : fel y dangoswyd i ti yn y mynydd , felly y gwnânt hi . A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau , tua’r deau : llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd , o gan cufydd o hyd , i un ystlys . A’i hugain colofn , a’u hugain mortais , fydd o bres : pennau y colofnau , a’u cylchau , fydd o arian . Felly o du’r gogledd ar hyd , y bydd llenni o gan cufydd o hyd , a’u hugain colofn , a’u hugain mortais , o bres ; a phennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian . Ac i led y cynteddfa , o du’r gorllewin , y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain : eu colofnau fyddant ddeg , a’u morteisiau yn ddeg . A lled y cynteddfa , tua’r dwyrain , o godiad haul , a fydd ddeg cufydd a deugain . Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd ; eu colofnau yn dair , a’u morteisiau yn dair . Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd , o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith ; eu pedair colofn , a’u pedair mortais . Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian ; a’u pennau yn arian , a’u morteisiau yn bres . Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd , a’i led yn ddeg a deugain o bob tu ; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd , a’u morteisiau o bres . Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth , a’i holl hoelion hefyd , a holl hoelion y cynteddfa , fyddant o bres . A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig , yn oleuni , i beri i’r lamp losgi yn wastad . Ym mhabell y cyfarfod , o’r tu allan i’r wahanlen , yr hon fydd o flaen y dystiolaeth , y trefna Aaron a’i feibion hwnnw , o’r hwyr hyd y bore , gerbron yr Arglwydd : deddf dragwyddol fydd , trwy eu hoesoedd , gan feibion Israel . A chymer Aaron dy frawd atat , a’i feibion gydag ef , o blith meibion Israel , i offeiriadu i mi ; sef Aaron , Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar , meibion Aaron . Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd , er gogoniant a harddwch . A dywed wrth yr holl rai doeth o galon , y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb , am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef , i offeiriadu i mi . A dyma y gwisgoedd a wnânt . Dwyfronneg , ac effod , mantell hefyd , a phais o waith edau a nodwydd , meitr , a gwregys : felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd , ac i’w feibion , i offeiriadu i mi . Cymerant gan hynny aur , a sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main . A gwnânt yr effod o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , o waith cywraint . Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr ; ac felly y cydir hi ynghyd . A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni , fydd o’r un , yn unwaith â hi ; o aur , sidan glas , a phorffor , ysgarlad hefyd , a lliain main cyfrodedd . Cymer hefyd ddau faen onics , a nadd ynddynt enwau meibion Israel : Chwech o’u henwau ar un maen , a’r chwech enw arall ar yr ail faen , yn ôl eu genedigaeth . A gwaith naddwr mewn maen , fel naddiadau sêl , y neddi di y ddau faen , ag enwau meibion Israel : gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch . A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod , yn feini coffadwriaeth i feibion Israel . Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd , yn goffadwriaeth . Gwna hefyd foglynnau aur ; A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau : o blethwaith y gwnei hwynt ; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau . Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth , o waith cywraint ; ar waith yr effod y gwnei hi : o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , y gwnei hi . Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg ; yn rhychwant ei hyd , ac yn rhychwant ei lled . Llanw hi yn llawn o feini , sef pedair rhes o feini : un rhes fydd sardius , a thopas , a smaragdus : hyn fydd y rhes gyntaf . A’r ail res fydd carbuncl , saffir , ac adamant . A’r drydedd res fydd lygur , ac acat , ac amethyst . Y bedwaredd res fydd beryl , ac onics , a iasbis : byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd . A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel , yn ddeuddeg , yn ôl eu henwau hwynt ; o naddiad sêl , bob un wrth ei enw y byddant , yn ôl y deuddeg llwyth . A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau , yn blethwaith , o aur coeth . Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur , a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg . A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg . A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn , a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen . Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur , a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg , ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn . A gwna ddwy fodrwy o aur , a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd , tua’i thu blaen , ar gyfer ei chydiad , oddi ar wregys yr effod . A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas , fel y byddo oddi ar wregys yr effod , fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod . A dyged Aaron , yn nwyfronneg y farnedigaeth , enwau meibion Israel ar ei galon , pan ddelo i’r cysegr , yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol . A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth , yr Urim a’r Thummim ; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd : ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon , gerbron yr Arglwydd , yn wastadol . Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas . A bydd twll yn ei phen uchaf hi , ar ei chanol : gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll , megis twll llurig , fydd iddi , rhag rhwygo . A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , ar ei godre o amgylch ; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch . Cloch aur a phomgranad , a chloch aur a phomgranad , ar odre’r fantell o amgylch . A hi a fydd am Aaron wrth weini : a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr , gerbron yr Arglwydd , a phan elo allan ; fel na byddo farw . Gwna hefyd ddalen o aur coeth ; a nadd arni , fel naddiadau sêl , SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD . A gosod hi wrth linyn o sidan glas , a bydded ar y meitr : o’r tu blaen i’r meitr y bydd . A hi a fydd ar dalcen Aaron , fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd : ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef , fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd . Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main ; a gwna feitr o liain main ; a’r gwregys a wnei o wniadwaith . I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau , a gwna iddynt wregysau ; gwna hefyd iddynt gapiau , er gogoniant a harddwch . A gwisg hwynt am Aaron dy frawd , a’i feibion gydag ef : ac eneinia hwynt , cysegra hwynt hefyd , a sancteiddia hwynt , i offeiriadu i mi . Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth : o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant . A byddant am Aaron , ac am ei feibion , pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod , neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr : fel na ddygont anwiredd , a marw . Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef , ac i’w had ar ei ôl . Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cysegru hwynt , i offeiriadu i mi . Cymer un bustach ieuanc , a dau hwrdd perffeithgwbl , A bara croyw , a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew , ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew : o beilliaid gwenith y gwnei hwynt . A dod hwynt mewn un cawell , a dwg hwynt yn y cawell , gyda’r bustach a’r ddau hwrdd . Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod , a golch hwynt â dwfr . A chymer y gwisgoedd , a gwisg am Aaron y bais , a mantell yr effod , a’r effod hefyd , a’r ddwyfronneg ; a gwregysa ef â gwregys yr effod . A gosod y meitr ar ei ben ef , a dod y goron gysegredig ar y meitr . Yna y cymeri olew yr eneiniad , ac y tywellti ar ei ben ef , ac yr eneini ef . A dwg ei feibion ef , a gwisg beisiau amdanynt . A gwregysa hwynt â gwregysau , sef Aaron a’i feibion , a gwisg hwynt â chapiau : a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol : a thi a gysegri Aaron a’i feibion . A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod ; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben y bustach . A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A chymer o waed y bustach , a dod ar gyrn yr allor â’th fys ; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor . Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio’r perfedd , a’r rhwyden a fyddo ar yr afu , a’r ddwy aren , a’r braster a fyddo arnynt , a llosg ar yr allor . Ond cig y bustach , a’i groen , a’i fiswail , a losgi mewn tân , o’r tu allan i’r gwersyll : aberth dros bechod yw . Cymer hefyd un hwrdd ; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd . A lladd yr hwrdd ; a chymer ei waed ef , a thaenella ar yr allor o amgylch . A thor yr hwrdd yn ddarnau ; a golch ei berfedd , a’i draed , a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau , ac â’i ben . A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor : poethoffrwm i’r Arglwydd yw : arogl peraidd , aberth tanllyd i’r Arglwydd yw . A chymer yr ail hwrdd ; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd . Yna lladd yr hwrdd , a chymer o’i waed , a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron , ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion , ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt , ac ar fawd eu troed deau hwynt ; a thaenella’r gwaed arall ar yr allor o amgylch . A chymer o’r gwaed a fyddo ar yr allor , ac o olew yr eneiniad , a thaenella ar Aaron , ac ar ei wisgoedd , ar ei feibion hefyd , ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef : felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd , ei feibion hefyd , a gwisgoedd ei feibion gydag ef . Cymer hefyd o’r hwrdd , y gwêr a’r gloren , a’r gwêr sydd yn gorchuddio’r perfedd , a rhwyden yr afu , a’r ddwy aren , a’r gwêr sydd arnynt , a’r ysgwyddog ddeau ; canys hwrdd cysegriad yw : Ac un dorth o fara , ac un deisen o fara olewedig , ac un afrlladen o gawell y bara croyw , yr hwn sydd gerbron yr Arglwydd . A dod y cwbl yn nwylo Aaron , ac yn nwylo ei feibion : a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A chymer hwynt o’u dwylo , a llosg ar yr allor yn boethoffrwm , yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd : aberth tanllyd i’r Arglwydd yw . Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron , a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd ; a’th ran di fydd . A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan , ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael , yr hon a gyhwfanwyd , a’r hon a ddyrchafwyd , o hwrdd y cysegriad , o’r hwn a fyddo dros Aaron , ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion . Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel : canys offrwm dyrchafael yw ; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd , sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd . A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ôl ef , i’w heneinio ynddynt , ac i’w cysegru ynddynt . Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef , a’u gwisg hwynt saith niwrnod , pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr . A chymer hwrdd y cysegriad , a berwa ei gig yn y lle sanctaidd . A bwytaed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd , a’r bara yr hwn fydd yn y cawell , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt , i’w cysegru hwynt ac i’w sancteiddio : ond y dieithr ni chaiff eu bwyta ; canys cysegredig ydynt . Ac os gweddillir o gig y cysegriad , neu o’r bara , hyd y bore ; yna ti a losgi’r gweddill â thân : ni cheir ei fwyta , oblegid cysegredig yw . A gwna fel hyn i Aaron , ac i’w feibion , yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti : saith niwrnod y cysegri hwynt . A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod , er cymod : a glanha yr allor , wedi i ti wneuthur cymod drosti , ac eneinia hi , i’w chysegru . Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor , ac y sancteiddi hi : felly yr allor fydd sanctaidd : pob peth a gyffyrddo â’r allor , a sancteiddir . A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor . Dau oen blwyddiaid , bob dydd yn wastadol . Yr oen cyntaf a offrymi di y bore ; a’r ail oen a offrymi di yn y cyfnos . A chyda’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig : a phedwaredd ran hin o win , yn ddiod‐offrwm . A’r oen arall a offrymi di yn y cyfnos , ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore , ac i’w ddiod‐offrwm , i fod yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd : Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd ; lle y cyfarfyddaf â chwi , i lefaru wrthyt yno . Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel ; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant . A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor ; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf , i offeiriadu i mi . A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel , ac a fyddaf yn Dduw iddynt . A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aifft , fel y trigwn yn eu plith hwynt : myfi yw yr Arglwydd eu Duw . Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth : o goed Sittim y gwnei di hi . Yn gufydd ei hyd , ac yn gufydd ei lled , ( pedeirongl fydd hi , ) ac yn ddau gufydd ei huchder : ei chyrn fyddant o’r un . A gwisg hi ag aur coeth , ei chefn a’i hystlysau o amgylch , a’i chyrn : a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch . A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron , wrth ei dwy gongl : ar ei dau ystlys y gwnei hwynt ; fel y byddant i wisgo am drosolion , i’w dwyn hi arnynt . A’r trosolion a wnei di o goed Sittim : a gwisg hwynt ag aur . A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth ; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth , lle y cyfarfyddaf â thi . Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore : pan daclo efe y lampau , yr arogldartha efe . A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos , arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd , trwy eich cenedlaethau . Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr , na phoethoffrwm , na bwyd‐offrwm ; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni . A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn , â gwaed pech-aberth y cymod : unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau : sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Pan rifech feibion Israel , dan eu rhifedi ; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd , pan rifer hwynt : fel na byddo pla yn eu plith , pan rifer hwynt . Hyn a ddyry pob un a elo dan rif . Hanner sicl , yn ôl sicl y cysegr : ugain gera yw y sicl : hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd . Pob un a elo dan rif , o fab ugeinmlwydd ac uchod , a rydd offrwm i’r Arglwydd . Ni rydd y cyfoethog fwy , ac ni rydd y tlawd lai , na hanner sicl , wrth roddi offrwm i’r Arglwydd , i wneuthur cymod dros eich eneidiau . A chymer yr arian cymod gan feibion Israel , a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod ; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd , i wneuthur cymod dros eich eneidiau . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwna noe bres , a’i throed o bres , i ymolchi : a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor : a dod ynddi ddwfr . A golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed . Pan ddelont i babell y cyfarfod , ymolchant â dwfr , fel na byddont feirw ; neu pan ddelont wrth yr allor i weini , gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd . Golchant eu dwylo a’u traed , fel na byddont feirw : a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol , iddo ef , ac i’w had , trwy eu cenedlaethau . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer i ti ddewis lysiau , o’r myrr pur , bwys pum can sicl , a hanner hynny o’r sinamon peraidd , sef pwys deucant a deg a deugain o siclau , ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau ; Ac o’r casia pwys pum cant o siclau , yn ôl sicl y cysegr ; a hin o olew olewydden . A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd , yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari : olew eneiniad sanctaidd fydd efe . Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod , ac arch y dystiolaeth , Y bwrdd hefyd a’i holl lestri , a’r canhwyllbren a’i holl lestri , ac allor yr arogl‐darth . Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri , a’r noe a’i throed . A chysegra hwynt , fel y byddant yn sancteiddiolaf : pob peth a gyffyrddo â hwynt , a fydd sanctaidd . Eneinia hefyd Aaron a’i feibion , a chysegra hwynt , i offeiriadu i mi . A llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi , trwy eich cenedlaethau . Nac eneinier ag ef gnawd dyn , ac ar ei waith ef na wnewch ei fath : sanctaidd yw , bydded sanctaidd gennych . Pwy bynnag a gymysgo ei fath , a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Cymer i ti lysiau peraidd , sef stacte , ac onycha , a galbanum ; y llysiau hyn , a thus pur ; yr un faint o bob un . A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari , wedi ei gyd‐dymheru , yn bur ac yn sanctaidd . Gan guro cur yn fân beth ohono , a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod , lle y cyfarfyddaf â thi : sancteiddiolaf fydd efe i chwi . A’r arogl‐darth a wnelech , na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef : bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd . Pwy bynnag a wnêl ei fath ef , i arogli ohono , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwêl , mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri , fab Hur , o lwyth Jwda ; Ac a’i llenwais ef ag ysbryd Duw , mewn doethineb , ac mewn deall , ac mewn gwybodaeth hefyd , ac ym mhob rhyw waith , I ddychmygu cywreinrwydd , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , Ac mewn cyfarwyddyd , i osod meini , ac mewn saernïaeth pren , i weithio ym mhob gwaith . Ac wele , mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach , o lwyth Dan : ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt . Pabell y cyfarfod , ac arch y dystiolaeth , a’r drugareddfa yr hon sydd arni , a holl lestri y babell , A’r bwrdd a’i lestri , a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri , ac allor yr arogl‐darth , Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri , a’r noe a’i throed , A gwisgoedd y weinidogaeth , a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef , i offeiriadu ynddynt , Ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr ; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd , Llefara hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Diau y cedwch fy Sabothau : canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau , trwy eich cenedlaethau ; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd , sydd yn eich sancteiddio . Am hynny cedwch y Saboth ; oblegid sanctaidd yw i chwi : llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef ; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno , torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl . Chwe diwrnod y gwneir gwaith , ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r Arglwydd : pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd , llwyr rodder ef i farwolaeth . Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth , gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau , yn gyfamod tragwyddol . Rhyngof fi a meibion Israel , y mae yn arwydd tragwyddol , mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear ; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd , ac y gorffwysodd efe . Ac efe a roddodd i Moses , wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai , ddwy lech y dystiolaeth ; sef llechau o gerrig , wedi eu hysgrifennu â bys Duw . Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd ; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron , ac y dywedasant wrtho , Cyfod , gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen : canys y Moses hwn , y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft , ni wyddom beth a ddaeth ohono . A dywedodd Aaron wrthynt , Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd , a’ch meibion , a’ch merched , a dygwch ataf fi . A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau , ac a’u dygasant at Aaron . Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo , ac a’i lluniodd â chŷn , ac a’i gwnaeth yn llo tawdd : a hwy a ddywedasant , Dyma dy dduwiau di , Israel , y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft . A phan ei gwelodd Aaron , efe a adeiladodd allor ger ei fron ef : ac Aaron a gyhoeddodd , ac a ddywedodd , Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory . A hwy a godasant yn fore drannoeth , ac a offrymasant boethoffrymau , ac a ddygasant aberthau hedd : a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed , ac a godasant i fyny i chwarae . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cerdda , dos i waered : canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft . Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt : gwnaethant iddynt lo tawdd , ac addolasant ef , ac aberthasant iddo ; dywedasant hefyd , Dyma dy dduwiau di , Israel , y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Gwelais y bobl hyn ; ac wele , pobl wargaled ydynt . Am hynny yn awr gad i mi lonydd , fel yr enynno fy llid yn eu herbyn , ac y difethwyf hwynt : a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr . A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw , ac a ddywedodd , Paham , Arglwydd , yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl , y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft , trwy nerth mawr , a llaw gadarn ? Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru , gan ddywedyd , Mewn malais y dygodd efe hwynt allan , i’w lladd yn y mynyddoedd , ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear ? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint , a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl . Cofia Abraham , Isaac , ac Israel , dy weision , y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun , ac y dywedaist wrthynt , Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd ; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais , a roddaf i’ch had chwi , a hwy a’i hetifeddant byth . Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl . A Moses a drodd , ac a ddaeth i waered o’r mynydd , a dwy lech y dystiolaeth yn ei law : y llechau a ysgrifenasid o’u dau du ; hwy a ysgrifenasid o bob tu . A’r llechau hynny oedd o waith Duw : yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau . A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio , efe a ddywedodd wrth Moses , Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll . Yntau a ddywedodd , Nid llais bloeddio am oruchafiaeth , ac nid llais gweiddi am golli’r maes ; ond sŵn canu a glywaf fi . A bu , wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll , iddo weled y llo a’r dawnsiau : ac enynnodd digofaint Moses : ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd . Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy , ac a’i llosgodd â thân , ac a’i malodd yn llwch , ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr , ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel . A dywedodd Moses wrth Aaron , Beth a wnaeth y bobl hyn i ti , pan ddygaist arnynt bechod mor fawr ? A dywedodd Aaron , Nac enynned digofaint fy arglwydd : ti a adwaenost y bobl , mai ar ddrwg y maent . Canys dywedasant wrthyf , Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen : canys y Moses hwn , y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft , ni wyddom beth a ddaeth ohono . A dywedais wrthynt , I’r neb y mae aur , tynnwch ef : a hwy a’i rhoddasant i mi : a mi a’i bwriais yn tân , a daeth y llo hwn allan . A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth , ( canys Aaron a’u noethasai hwynt , i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion ; ) Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll , ac a ddywedodd , Pwy sydd ar du’r Arglwydd ? deued ataf fi . A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun , ac ewch , cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll , a lleddwch bob un ei frawd , a phob un ei gyfaill , a phob un ei gymydog . A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses : a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr . Canys dywedasai Moses , Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd , bob un ar ei fab , ac ar ei frawd ; fel y rhodder heddiw i chwi fendith . A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl , Chwi a bechasoch bechod mawr : ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd ; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi . A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Och ! pechodd y bobl hyn bechod mawr , ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur . Ac yn awr , os maddeui eu pechod ; ac os amgen , dilea fi , atolwg , allan o’th lyfr a ysgrifennaist . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn , hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr . Am hynny dos yn awr , arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt : wele , fy angel a â o’th flaen di : a’r dydd yr ymwelwyf , yr ymwelaf â hwynt am eu pechod . A’r Arglwydd a drawodd y bobl , am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Cerdda , dos i fyny oddi yma , ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft , i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham , Isaac , a Jacob , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf hi . A mi a anfonaf angel o’th flaen di ; ac a yrraf allan y Canaanead , yr Amoriad , a’r Hethiad , y Pheresiad , yr Hefiad , a’r Jebusiad : I wlad yn llifeirio o laeth a mêl : oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith ; oblegid pobl wargaled wyt : rhag i mi dy ddifa ar y ffordd . A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn , galaru a wnaethant : ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano . Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses , Dywed wrth feibion Israel , Pobl wargaled ydych chwi ; yn ddisymwth y deuaf i fyny i’th ganol di , ac y’th ddifethaf : am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat , fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti . A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb . A Moses a gymerodd y babell , ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll , ymhell oddi wrth y gwersyll ; ac a’i galwodd , Pabell y cyfarfod ; a phob un a geisiai yr Arglwydd , a âi allan i babell y cyfarfod , yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll . A phan aeth Moses i’r babell , yr holl bobl a godasant , ac a safasant bob un ar ddrws ei babell ; ac a edrychasant ar ôl Moses , nes ei ddyfod i’r babell . A phan aeth Moses i’r babell , y disgynnodd colofn y cwmwl , ac a safodd wrth ddrws y babell : a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses . A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell : a’r holl bobl a gododd , ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb , fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill . Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll : ond y llanc Josua , mab Nun , ei weinidog ef , ni syflodd o’r babell . A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd , Gwêl , ti a ddywedi wrthyf , Dwg y bobl yma i fyny ; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi : a thi a ddywedaist , Mi a’th adwaen wrth dy enw , a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg . Yn awr gan hynny , o chefais ffafr yn dy olwg , hysbysa i mi dy ffordd , atolwg , fel y’th adwaenwyf , ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg : gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon . Yntau a ddywedodd , Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi , a rhoddaf orffwystra i ti . Ac efe a ddywedodd wrtho , Onid â dy wyneb gyda ni , nac arwain ni i fyny oddi yma . Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg , mi a’th bobl ? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni ? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist : oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg , a mi a’th adwaen wrth dy enw . Yntau a ddywedodd , Dangos i mi , atolwg , dy ogoniant . Ac efe a ddywedodd , Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb , a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di : a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno , ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf . Ac efe a ddywedodd , Ni elli weled fy wyneb : canys ni’m gwêl dyn , a byw . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd , Wele fan yn fy ymyl , lle y cei sefyll ar graig . A thra yr elo fy ngogoniant heibio , mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig ; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw , nes i mi fyned heibio . Yna y tynnaf ymaith fy llaw , a’m tu cefn a gei di ei weled : ond ni welir fy wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Nadd i ti ddwy o lechau cerrig , fel y rhai cyntaf : a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf , y rhai a dorraist . A bydd barod erbyn y bore ; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai , a saf i mi yno ar ben y mynydd . Ond na ddeued neb i fyny gyda thi , ac na weler neb ar yr holl fynydd : na phored hefyd na dafad , nac eidion , ar gyfer y mynydd hwn . Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig , o fath y rhai cyntaf : a Moses a gyfododd yn fore , ac a aeth i fynydd Sinai , fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg . A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl , ac a safodd gydag ef yno , ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd . A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef , ac a lefodd JEHOFAH , JEHOFAH , y Duw trugarog a graslon , hwyrfrydig i ddig , ac aml o drugaredd a gwirionedd ; Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd , gan faddau anwiredd , a chamwedd , a phechod , a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn ; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant , ac ar blant y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth . A Moses a frysiodd , ac a ymgrymodd tua’r llawr , ac a addolodd ; Ac a ddywedodd , Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg , O Arglwydd , eled fy Arglwydd , atolwg , yn ein plith ni , ( canys pobl wargaled yw , ) a maddau ein hanwiredd , a’n pechod , a chymer ni yn etifeddiaeth i ti . Yntau a ddywedodd , Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl : gwnaf ryfeddodau , y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear , nac yn yr holl genhedloedd ; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd : canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi . Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw : wele , mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad , a’r Canaanead , a’r Hethiad , a’r Pheresiad , yr Hefiad hefyd , a’r Jebusiad . A chadw arnat , rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi ; rhag eu bod yn fagl yn dy blith . Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt , drylliwch eu delwau hwynt , a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt . Canys ni chei ymgrymu i dduw arall : oblegid yr Arglwydd , Eiddigus yw ei enw ; Duw eiddigus yw efe ; Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir ; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau , ac aberthu i’w duwiau , a’th alw di , ac i tithau fwyta o’u haberth ; A chymryd ohonot o’u merched i’th feibion ; a phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt , a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt . Na wna i ti dduwiau tawdd . Cadw ŵyl y bara croyw : saith niwrnod y bwytei fara croyw , fel y gorchmynnais i ti , ar yr amser ym mis Abib : oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aifft . Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth ; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid , yn eidionau , ac yn ddefaid . Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen ; ac oni phryni , tor ei wddf : prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o’th feibion : ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw . Chwe diwrnod y gweithi ; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi : yn amser aredig , ac yn y cynhaeaf , y gorffwysi . Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau , o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith ; a gŵyl y cynnull , ar ddiwedd y flwyddyn . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw , Duw Israel . Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di , ac a helaethaf dy derfynau di : ac ni chwennych neb dy dir di , pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw , dair gwaith yn y flwyddyn . Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd ; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore . Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Ysgrifenna i ti y geiriau hyn : oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi , ac ag Israel . Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos ; ni fwytaodd fara , ac nid yfodd ddwfr : ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod , sef y deg gair . A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai , a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses , pan ddaeth efe i waered o’r mynydd , ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho . A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses , wele , yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio ; a hwy a ofnasant nesáu ato ef . A Moses a alwodd arnynt . Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef : a Moses a lefarodd wrthynt hwy . Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel : ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai . Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt , efe a roddes len gudd ar ei wyneb . A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho , efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan : a phan ddelai efe allan , y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo . A meibion Israel a welsant wyneb Moses , fod croen wyneb Moses yn disgleirio : a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb , hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw . Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel , a dywedodd wrthynt , Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur . Chwe diwrnod y gwneir gwaith ; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd , Saboth gorffwys i’r Arglwydd : llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno . Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth . A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cymerwch o’ch plith offrwm yr Arglwydd : pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd ; aur , ac arian , a phres , A sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a chrwyn daearfoch , a choed Sittim , Ac olew i’r goleuni , a llysiau i olew yr ennaint , ac i’r arogl‐darth peraidd , A meini onics , a meini i’w gosod yn yr effod , ac yn y ddwyfronneg . A phob doeth ei galon yn eich plith , deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ; Y tabernacl , ei babell‐len a’i do , ei fachau a’i ystyllod , ei farrau , ei golofnau , a’i forteisiau , Yr arch , a’i throsolion , y drugareddfa , a’r wahanlen , yr hon a’i gorchuddia , Y bwrdd , a’i drosolion , a’i holl lestri , a’r bara dangos , A chanhwyllbren y goleuni , a’i offer , a’i lampau , ac olew y goleuni , Ac allor yr arogl‐darth , a’i throsolion , ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth peraidd , a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl , Allor y poethoffrwm a’i halch bres , ei throsolion , a’i holl lestri , y noe a’i throed , Llenni’r cynteddfa , ei golofnau , a’i forteisiau , caeadlen porth y cynteddfa , Hoelion y tabernacl , a hoelion y cynteddfa , a’u rhaffau hwynt , A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr , sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef , i offeiriadu ynddynt . A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses . A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef , a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar , a ddaethant , ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd , tuag at waith pabell y cyfarfod , a thuag at ei holl wasanaeth hi , a thuag at y gwisgoedd sanctaidd . A daethant yn wŷr ac yn wragedd ; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau , a chlustlysau , a modrwyau , a chadwynau , pob math ar dlysau aur ; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm , a offrymodd aur i’r Arglwydd . A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a chrwyn daearfoch , a’u dygasant . Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres , a ddygasant offrwm i’r Arglwydd : a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant . A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo ; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main . A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd , a nyddasant flew geifr . A’r penaethiaid a ddygasant feini onics , a meini i’w gosod ar yr effod , ac ar y ddwyfronneg ; A llysiau , ac olew i’r goleuni , ac i olew yr ennaint , ac i’r arogl‐darth peraidd . Holl blant Israel , yn wŷr ac yn wragedd , y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur , a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar . A dywedodd Moses wrth feibion Israel , Gwelwch , galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw , Besaleel , fab Uri , fab Hur , o lwyth Jwda : Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw , mewn cyfarwyddyd , mewn deall , ac mewn gwybodaeth , ac mewn pob gwaith ; I ddychmygu cywreinrwydd , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini , ac mewn saernïaeth pren , i weithio ym mhob gwaith cywraint . Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill ; efe , ac Aholïab , mab Achisamach , o lwyth Dan . Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon , i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith , a gwaith edau a nodwydd , mewn sidan glas , ac mewn porffor , ac mewn ysgarlad , ac mewn lliain main , ac i wau , gan wneuthur pob gwaith , a dychmygu cywreinrwydd . Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab , a phob gŵr doeth o galon , y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt , i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd . A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab , a phob gŵr celfydd , y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo ; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef . A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr , i’w weithio ef . A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore . A’r holl rai celfydd , a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr , a ddaethant bob un oddi wrth ei waith , yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur . A llefarasant wrth Moses , gan ddywedyd , Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur . A Moses a roes orchymyn ; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll , gan ddywedyd , Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr . Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy . Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur , a gweddill . A’r holl rai celfydd , o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl , a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd , a sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt . Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain ; a lled un llen pedwar cufydd : yr un mesur oedd i’r holl lenni . Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd ; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd . Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen , ar ei chwr eithaf yn y cydiad : felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall , yng nghydiad yr ail . Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen , a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i’r llen ydoedd yng nghydiad yr ail : y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall . Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur , ac a gydiodd y naill len wrth y llall â’r bachau ; fel y byddai yn un tabernacl . Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr , i fod yn babell‐len ar y tabernacl : yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt . Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain , a lled un llen oedd bedwar cufydd : a’r un mesur oedd i’r un llen ar ddeg . Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain , a chwe llen wrthynt eu hunain . Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad ; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail . Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres , i gydio y babell‐len i fod yn un . Ac efe a wnaeth do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a tho o grwyn daearfoch yn uchaf . Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim , yn eu sefyll . Deg cufydd oedd hyd ystyllen ; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen . Dau dyno oedd i’r un ystyllen , wedi eu gosod mewn trefn , y naill ar gyfer y llall : felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl . Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl ; ugain ystyllen i’r tu deau , tua’r deau . A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen : dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno , a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno . Ac i ail ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , efe a wnaeth ugain ystyllen , A’u deugain mortais o arian ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Ac i ystlysau’r tabernacl , tua’r gorllewin , y gwnaeth efe chwech ystyllen . A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys . Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd ; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy : felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl . Ac yr oedd wyth ystyllen ; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian : dwy fortais dan bob ystyllen . Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim : pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl , A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl , a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin . Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr . Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod , ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur , i fyned am y barrau ; ac a wisgodd y barrau ag aur . Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi . Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur ; a’u pennau oedd o aur : ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian . Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , o waith edau a nodwydd ; A’i phum colofn , a’u pennau ; ac a oreurodd eu pennau hwynt , a’u cylchau , ag aur : ond eu pum mortais oedd o bres . A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim ; o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled , a chufydd a hanner ei huchder . Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan ; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch . Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl : sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys , a dwy fodrwy ar ei hystlys arall . Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch , i ddwyn yr arch . Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth ; o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled . Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur : o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt , ar ddau ben y drugareddfa ; Un ceriwb ar y pen o’r tu yma , a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall : o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid , ar ei dau ben hi . A’r ceriwbiaid oeddynt , gan ledu esgyll tuag i fyny , a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa , a’u hwynebau bob un at ei gilydd : wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa . Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim : dau gufydd ei hyd , a chufydd ei led , a chufydd a hanner ei uchder . Ac a osododd aur pur drosto , ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch . Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw ; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch . Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur ; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl , y rhai oedd yn ei bedwar troed . Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau , yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd . Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd , ei ddysglau ef , a’i lwyau , a’i ffiolau , a’i gaeadau i gau â hwynt , o aur pur . Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth ; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren , ei baladr , ei geinciau , ei bedyll , ei gnapiau , a’i flodau , oedd o’r un . A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau : tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys , a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall . Tair padell ar waith almonau , cnap a blodeuyn oedd ar un gainc ; a thair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar gainc arall : yr un modd yr oedd ar y chwe chainc , y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren . Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau , ei gnapiau a’i flodau . A chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono ; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono . Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un : y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth . Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef , a’i efeiliau , a’i gafnau , o aur pur . O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef , a’i holl lestri . Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim : o gufydd ei hyd , a chufydd ei lled , yn bedeirongl : ac o ddau gufydd ei huchder : ei chyrn oedd o’r un . Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth , ei chaead , a’i hystlysau o amgylch , a’i chyrn ; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch . Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl , ar ei dau ystlys , oddi tan ei choron , i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim ; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd , a’r arogl‐darth llysieuog pur , o waith yr apothecari . Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim : o bum cufydd ei hyd , a phum cufydd ei lled , yn bedeirongl ; ac yn dri chufydd ei huchder . Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl : ei chyrn hi oedd o’r un ; ac efe a’i gwisgodd hi â phres . Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor , y crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau , a’r cigweiniau , a’r pedyll tân : ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres . Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres , ar waith rhwyd , dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi . Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres , i fyned am drosolion . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim ; ac a’u gwisgodd hwynt â phres . Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor , i’w dwyn hi arnynt : yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod . Ac efe a wnaeth noe bres , a’i throed o bres , o ddrychau gwragedd , y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod . Ac efe a wnaeth y cynteddfa : ar yr ystlys deau , tua’r deau , llenni’r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd , o gan cufydd : A’u hugain colofn , ac a’u hugain mortais , o bres : a phennau’r colofnau a’u cylchau , o arian yr oeddynt . Ac ar du’r gogledd , y llenni oedd gan cufydd ; eu hugain colofn , a’u hugain mortais , o bres : a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian . Ac o du’r gorllewin , llenni o ddeg cufydd a deugain : eu deg colofn , a’u deg mortais , a phennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian . Ac i du’r dwyrain tua’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain . Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys , oddeutu drws porth y cynteddfa , lenni o bymtheg cufydd ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Holl lenni’r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd . A morteisiau’r colofnau , oedd o bres ; pennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian ; a gwisg eu pennau , o arian ; a holl golofnau’r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian . A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd ; ac yn ugain cufydd o hyd , a’i huchder o’i lled yn bum cufydd , ar gyfer llenni’r cynteddfa . Eu pedair colofn hefyd , a’u pedair mortais , oedd o bres ; a’u pennau o arian ; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian . A holl hoelion y tabernacl , a’r cynteddfa oddi amgylch , oedd bres . Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl , sef tabernacl y dystiolaeth , y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses , i wasanaeth y Lefiaid , trwy law Ithamar , mab Aaron yr offeiriad . A Besaleel , mab Uri , mab Hur , o lwyth Jwda , a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A chydag ef yr ydoedd Aholïab , mab Achisamach , o lwyth Dan , saer cywraint , a gwniedydd mewn sidan glas , ac mewn porffor , ac mewn ysgarlad , ac mewn lliain main . Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith , sef yn holl waith y cysegr , sef aur yr offrwm , ydoedd naw talent ar hugain , a saith gan sicl a deg ar hugain , yn ôl sicl y cysegr . Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa , oedd gan talent , a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain , yn ôl sicl y cysegr . Beca am bob pen ; sef hanner sicl , yn ôl sicl y cysegr , am bob un a elai heibio dan rif , o fab ugeinmlwydd ac uchod : sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ac o’r can talent arian y bwriwyd morteisiau’r cysegr , a morteisiau’r wahanlen ; can mortais o’r can talent , talent i bob mortais . Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain , y gwnaeth efe bennau’r colofnau ; ac y gwisgodd eu pennau , ac y cylchodd hwynt . A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain , a dwy fil a phedwar cant o siclau . Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod , a’r allor bres , a’r alch bres yr hon oedd iddi , a holl lestri’r allor ; A morteisiau’r cynteddfa o amgylch , a morteisiau porth y cynteddfa , a holl hoelion y tabernacl , a holl hoelion y cynteddfa o amgylch . Ac o’r sidan glas , a’r porffor , a’r ysgarlad , y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth , i weini yn y cysegr : gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . Ac efe a wnaeth yr effod o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd . A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon , ac a’i torasant yn edafedd , i weithio yn y sidan glas , ac yn y porffor , ac yn yr ysgarlad , ac yn y lliain main , yn waith cywraint . Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio : wrth ei dau gwr y cydiwyd hi . A gwregys cywraint ei effod ef , yr hwn oedd arni , ydoedd o’r un , yn unwaith â hi ; o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd : megis y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur , wedi eu naddu â naddiadau sêl , ag enwau meibion Israel ynddynt . A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod , yn feini coffadwriaeth i feibion Israel ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint , ar waith yr effod ; o aur , sidan glas , porffor hefyd , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd . Pedeirongl ydoedd ; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg : o rychwant ei hyd , a rhychwant ei lled , yn ddau ddyblyg . A gosodasant ynddi bedair rhes o feini : rhes o sardius , topas , a smaragdus , ydoedd y rhes gyntaf . A’r ail res oedd , carbuncl , saffir , ac adamant . A’r drydedd res ydoedd , lygur , acat , ac amethyst . A’r bedwaredd res ydoedd , beryl , onics , a iasbis ; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd . A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel , yn ddeuddeg , yn ôl eu henwau hwynt ; pob un wrth ei enw oeddynt , o naddiadau sêl , yn ôl y deuddeg llwyth . A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau , yn blethwaith o aur pur . A gwnaethant ddau foglyn aur , a dwy fodrwy o aur ; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg . A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg . A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn ; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod , o’r tu blaen . Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur , ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg , ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod , o’r tu mewn . A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur , ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod , oddi tanodd tua’i thu blaen , ar gyfer ei chydiad , oddi ar wregys yr effod . Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg , erbyn ei modrwyau , wrth fodrwyau yr effod , â llinyn o sidan glas , i fod oddi ar wregys yr effod , fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas , yn weadwaith . A thwll y fantell oedd yn ei chanol , fel twll llurig , a gwrym o amgylch y twll , rhag ei rhwygo . A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau , o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , a lliain cyfrodedd . Gwnaethant hefyd glych o aur pur , ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau , ar odre’r fantell , o amgylch , ymysg y pomgranadau , Cloch a phomgranad , a chloch a phomgranad , ar odre’r fantell o amgylch , i weini ynddynt : megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A hwy a wnaethant beisiau o liain main , o weadwaith , i Aaron ac i’w feibion . A meitr o liain main , a chapiau hardd o liain main , a llodrau lliain o liain main cyfrodedd , A gwregys o liain main cyfrodedd , ac o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , o waith edau a nodwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur ; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen , fel naddiad sêl : SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD . A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas , i’w dal hi i fyny ar y meitr ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl , sef pabell y cyfarfod : a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ; felly y gwnaethant . Dygasant hefyd y tabernacl at Moses , y babell a’i holl ddodrefn , ei bachau , ei hystyllod , ei barrau , a’i cholofnau , a’i morteisiau , A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a’r to o grwyn daearfoch , a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio ; Arch y dystiolaeth , a’i throsolion , a’r drugareddfa ; Y bwrdd hefyd , a’i holl lestri , a’r bara dangos ; Y canhwyllbren pur , a’i lampau , a’r lampau i’w gosod mewn trefn , ei holl lestri , ac olew i’r goleuni ; A’r allor aur , ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth llysieuog , a chaeadlen drws y babell ; Yr allor bres , a’r alch bres yr hon oedd iddi , ei throsolion , a’i holl lestri ; y noe a’i throed ; Llenni’r cynteddfa , ei golofnau , a’i forteisiau , a chaeadlen porth y cynteddfa , ei rhaffau , a’i hoelion , a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl , sef pabell y cyfarfod ; Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr , sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu . Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith . A Moses a edrychodd ar yr holl waith ; ac wele , hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd , felly y gwnaethent : a Moses a’u bendithiodd hwynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Yn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y cyfodi y tabernacl , pabell y cyfarfod . A gosod yno arch y dystiolaeth ; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen . Dwg i mewn hefyd y bwrdd , a threfna ef yn drefnus : dwg i mewn hefyd y canhwyllbren , a goleua ei lampau ef . Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth ; a gosod gaeadlen drws y tabernacl . Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod . Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor , a dod ynddi ddwfr . A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch ; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa . A chymer olew yr eneiniad , ac eneinia’r tabernacl , a’r hyn oll sydd ynddo , a chysegra ef a’i holl lestri ; a sanctaidd fydd . Eneinia hefyd allor y poethoffrwm , a’i holl lestri ; a’r allor a gysegri : a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf . Eneinia y noe a’i throed , a sancteiddia hi . A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod , a golch hwynt â dwfr . A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd ; ac eneinia ef , a sancteiddia ef , i offeiriadu i mi . Dwg hefyd ei feibion ef , a gwisg hwynt â pheisiau . Ac eneinia hwynt , megis yr eneiniaist eu tad hwynt , i offeiriadu i mi : felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol , trwy eu cenedlaethau . Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo ; felly y gwnaeth efe . Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn , ar y dydd cyntaf o’r mis , y codwyd y tabernacl . A Moses a gododd y tabernacl , ac a sicrhaodd ei forteisiau , ac a osododd i fyny ei ystyllod , ac a roddes i mewn ei farrau , ac a gododd ei golofnau ; Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl , ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch , a gosododd y trosolion wrth yr arch , ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch . Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl , ac a osododd y wahanlen orchudd , i orchuddio arch y dystiolaeth ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod , ar ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , o’r tu allan i’r wahanlen . Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara , gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod , ar gyfer y bwrdd , ar ystlys y tabernacl , o du’r deau . Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod , o flaen y wahanlen . Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl . Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod ; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor , ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi . A Moses , ac Aaron , a’i feibion , a olchasant yno eu dwylo a’u traed . Pan elent i babell y cyfarfod , a phan nesaent at yr allor , yr ymolchent ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor , ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa . Felly y gorffennodd Moses y gwaith . Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod : a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl . Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod ; am fod y cwmwl yn aros arni , a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl . A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl , y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau . Ac oni chyfodai’r cwmwl , yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai . Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd , a thân ydoedd arno y nos , yng ngolwg holl dŷ Israel , yn eu holl deithiau hwynt . A’r Arglwydd a alwodd ar Moses , ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd , o anifail , sef o’r eidionau , neu o’r praidd , yr offrymwch eich offrwm . Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef , offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl ; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm ; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo , i wneuthur cymod drosto . Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd ; a dyged meibion Aaron , yr offeiriaid , y gwaed , a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A blinged y poethoffrwm , a thorred ef yn ei ddarnau . A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor , a gosodant goed mewn trefn ar y tân . A gosoded meibion Aaron , yr offeiriaid , y darnau , y pen , a’r braster , mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor . Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr : a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor , yn boethoffrwm , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os o’r praidd , sef o’r defaid , neu o’r geifr , yr offryma efe boethoffrwm ; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl . A lladded ef gerbron yr Arglwydd , o du’r gogledd i’r allor ; a thaenelled meibion Aaron , yr offeiriaid , ei waed ef ar yr allor o amgylch . A thorred ef yn ei ddarnau , gyda’i ben a’i fraster ; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor . Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr : a dyged yr offeiriad y cwbl , a llosged ar yr allor . Hwn sydd boethoffrwm , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd ; yna dyged ei offrwm o durturau , neu o gywion colomennod . A dyged yr offeiriad ef at yr allor , a thorred ei ben ef , a llosged ef ar yr allor ; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor . A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu , a bwried hwynt gerllaw yr allor , o du’r dwyrain , i’r lle y byddo y lludw . Hollted ef , a’i esgyll hefyd ; eto na wahaned ef : a llosged yr offeiriad ef ar yr allor , ar y coed a fyddant ar y tân . Dyma boethoffrwm , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd , bydded ei offrwm ef o beilliaid ; a thywallted olew arno , a rhodded thus arno . A dyged ef at feibion Aaron , yr offeiriaid : a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid , ac o’i olew , ynghyd â’i holl thus ; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor , yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion : sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw . Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm , wedi ei bobi mewn ffwrn , teisen beilliaid groyw , wedi ei chymysgu trwy olew , neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew , a fydd . Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di , bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew . Tor ef yn ddarnau , a thywallt arno olew ; bwyd‐offrwm yw . Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm , gwneler o beilliaid trwy olew . A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm , yr hwn a wneir o’r rhai hyn : ac wedi y dyger at yr offeiriad , dyged yntau ef at yr allor . A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm , a llosged ef ar yr allor ; yn offrwm tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm : sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw . Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd ; canys dim surdoes , na mêl , ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd . Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth ; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd . Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen ; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm : offryma halen ar bob offrwm i ti . Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf ; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân , sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn , a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf . A dod olew arno , a gosod thus arno : bwyd‐offrwm yw . A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan , ac o’i olew , ynghyd â’i holl thus : offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw . Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef , pan offrymo efe eidion , offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl ; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw . A rhodded ei law ar ben ei offrwm , a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod : a thaenelled meibion Aaron , yr offeiriaid , y gwaed ar yr allor o amgylch . Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd ; sef y weren fol , a’r holl wêr a fydd ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn , a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu , a dynn efe ymaith , ynghyd â’r arennau . A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor , ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd , offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl . Os oen a offryma efe yn ei offrwm ; yna dyged gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ben ei offrwm , a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod ; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch . Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd ; ei weren , a’r gloren i gyd : torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn , ynghyd â’r weren fol , a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor : bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw . Ac os gafr fydd ei offrwm ef ; dyged hi gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ei phen , a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod ; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch . Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd ; sef y weren fol , a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor : bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw . Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau , yw : na fwytaoch ddim gwêr , na dim gwaed . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur : Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl ; offrymed , dros ei bechod a wnaeth , fustach ieuanc perffaith‐gwbl , yn aberth dros bechod i’r Arglwydd . A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd , a gosoded ei law ar ben y bustach , a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach , a dyged ef i babell y cyfarfod . A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed , a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith , o flaen gwahanlen y cysegr . A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd , yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod ; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho ; y weren fol , a’r holl wêr fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a dynn efe ymaith , ynghyd â’r arennau ; Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd : a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm . Ond croen y bustach , a’i holl gig , ynghyd â’i ben , a’i draed , a’i berfedd , a’i fiswail , A’r holl fustach hefyd , a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll , i le glân , wrth dywalltfa’r lludw ; ac a’i llysg ar goed yn tân ; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef . Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod , a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa , a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur , a myned yn euog : Pan wypir y pechod y pechasant ynddo ; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod , a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod . A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd , a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd . A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod . A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed , a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith , o flaen y wahanlen . A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd , sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod ; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A thynned ei holl wêr allan ohono , a llosged ar yr allor . A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth ; felly gwnaed iddo : a’r offeiriad a wna gymod drostynt ; ac fe a faddeuir iddynt . A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll , a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf . Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa . Os pecha pennaeth , a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur , a bod yn euog ; Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth : dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl . A gosoded ei law ar ben y llwdn , a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm , gerbron yr Arglwydd . Dyma aberth dros bechod . A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys , a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm . A llosged ei holl wêr ar yr allor , fel gwêr yr aberth hedd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod ; a maddeuir iddo . Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod , gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur , a bod yn euog ; Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef : yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe . A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod , a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm . A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys , a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor . A thynned ei holl wêr hi , fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd ; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor , yn arogl peraidd i’r Arglwydd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ; a maddeuir iddo . Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen , dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl . A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod , a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm . A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod , a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor . A thynned ei holl wêr hi , fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd ; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor , fel aberth tanllyd i’r Arglwydd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd ; a maddeuir iddo . Os pecha dyn , a chlywed llais llw , ac yntau yn dyst , naill ai yn gweled ai yn gwybod ; oni fynega , yna efe a ddwg ei anwiredd . Os dyn a gyffwrdd â dim aflan , pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan , ai burgyn anifail aflan , ai burgyn ymlusgiad aflan ; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef , aflan ac euog yw efe . Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn , pa aflendid bynnag iddo , yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid , a’r peth yn guddiedig rhagddo ; pan gaffo wybod , yna euog yw . Neu os dyn a dwng , gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg , neu wneuthur da ; beth bynnag a draetho dyn trwy lw , a’r peth yn guddiedig rhagddo ; pan gaffo efe wybod , euog yw o un o hyn . A phan fyddo efe euog o un o hyn ; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo : A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd ; sef benyw o’r praidd , oen neu fyn gafr , yn aberth dros bechod ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod . Ond os ei law ni chyrraedd werth oen , dyged i’r Arglwydd , am ei gamwedd yr hwn a bechodd , ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; y naill yn aberth dros bechod , a’r llall yn boethoffrwm . A dyged hwynt at yr offeiriad ; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf , a thorred ei ben wrth ei wegil ; ond na thorred ef ymaith . A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor ; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor . Dyma aberth dros bechod . A’r ail a wna efe yn offrwm poeth , yn ôl y ddefod : a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd ; a maddeuir iddo . Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod : na osoded olew ynddo , ac na rodded thus arno ; canys aberth dros bechod yw . A dyged hynny at yr offeiriad : a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth , a llosged ar yr allor , fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . Dyma aberth dros bechod . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn , a maddeuir iddo : a bydded i’r offeiriad y gweddill , megis o’r bwyd‐offrwm . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Os gwna dyn gamwedd , a phechu trwy amryfusedd , yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd ; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd , hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di o siclau arian , yn ôl sicl y cysegr , yn aberth dros gamwedd . A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig , a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato , a rhodded ef at yr offeiriad : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd ; a maddeuir iddo . Ac os pecha enaid , a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur ; er na wyddai , eto euog fydd , a’i anwiredd a ddwg . A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di , at yr offeiriad , yn offrwm dros gamwedd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe , ac yntau heb wybod ; a maddeuir iddo . Aberth dros gamwedd yw hyn : camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Os pecha dyn , a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd , a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw , neu am yr hyn y rhoddes efe ei law , neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe , neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog ; Neu os cafodd beth gwedi ei golli , a dywedyd celwydd amdano , neu dyngu yn anudon ; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn , gan bechu ynddynt : Yna , am iddo bechu , a bod yn euog ; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe , neu y peth a gafodd trwy dwyll , neu y peth a adawyd i gadw gydag ef , neu y peth wedi ei golli a gafodd efe , Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano ; taled hynny erbyn ei ben , a chwaneged ei bumed ran ato : ar y dydd yr offrymo dros gamwedd , rhodded ef i’r neb a’i piau . A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd , hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di , yn offrwm dros gamwedd , at yr offeiriad . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd : a maddeuir iddo , am ba beth bynnag a wnaeth , i fod yn euog ohono . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i Aaron , ac i’w feibion , gan ddywedyd , Dyma gyfraith y poethoffrwm : ( poethoffrwm yw , oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore , a thân yr allor a gyneuir arni . ) Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano , a gwisged lodrau lliain am ei gnawd , a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor , a gosoded ef gerllaw yr allor . A diosged ei wisgoedd , a gwisged ddillad eraill , a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll , i le glân . A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni ; na ddiffodded : ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore ; a threfned y poethoffrwm arni , a llosged wêr yr aberth hedd arni . Cyneuer y tân bob amser ar yr allor ; na ddiffodded . Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm . Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd , o flaen yr allor : A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm , ac o’i olew , a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm ; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor , yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion : yn groyw y bwyteir ef : yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef . Na phober ef trwy lefain . Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd : peth sancteiddiolaf yw hyn , megis yr aberth dros bechod , a’r aberth dros gamwedd . Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn : deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd ; pob un a gyffyrddo â hwynt , fydd sanctaidd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma offrwm Aaron a’i feibion , yr hwn a offrymant i’r Arglwydd , ar y dydd yr eneinier ef . Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol , ei hanner y bore , a’i hanner brynhawn . Gwneler ef trwy olew mewn padell : yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu ; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu , yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A’r offeiriad o’i feibion ef , yr hwn a eneinir yn ei le ef , gwnaed hyn , trwy ddeddf dragwyddol : llosger y cwbl i’r Arglwydd . A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll : na fwytaer ef . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion , gan ddywedyd , Dyma gyfraith yr aberth dros bechod . Yn y lle y lleddir y poethoffrwm , y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd : sancteiddiolaf yw efe . Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod , a’i bwyty : yn y lle sanctaidd y bwyteir ef , yng nghynteddfa pabell y cyfarfod . Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef , a fydd sanctaidd : a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn , golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno . A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo : ond os mewn llestr pres y berwir ef , ysgwrier a golcher ef mewn dwfr . Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef : sancteiddiolaf yw efe . Ac na fwytaer un offrwm dros bechod , yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod , i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd ; ond llosger mewn tân . Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd : sancteiddiolaf yw . Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm , y lladdant yr aberth dros gamwedd ; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch . A’i holl wêr a offryma efe ohono ; y gloren hefyd , a’r weren fol . A’r ddwy aren , a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd : aberth dros gamwedd yw . Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty : yn y lle sanctaidd y bwyteir ef : sancteiddiolaf yw . Fel y mae yr aberth dros bechod , felly y bydd yr aberth dros gamwedd ; un gyfraith sydd iddynt : yr offeiriad , yr hwn a wna gymod ag ef , a’i piau . A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb , yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe . A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn , a’r hyn oll a wneler mewn padell , neu ar radell , fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo . A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew , neu yn sych , a fydd i holl feibion Aaron , bob un fel ei gilydd . Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd . Os yn lle diolch yr offryma efe hyn ; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw , wedi eu cymysgu trwy olew ; ac afrllad croyw , wedi eu hiro ag olew ; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau , wedi eu cymysgu ag olew . Heblaw’r teisennau , offrymed fara lefeinllyd , yn ei offrwm , gyda’i hedd‐aberth o ddiolch . Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm , yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd ; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd . A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef : na adawer dim ohono hyd y bore . Ond os adduned , neu offrwm gwirfodd , fydd aberth ei offrwm ef ; y dydd yr offrymo efe ei aberth , bwytaer ef : a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono . Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd , llosger yn tân . Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd , ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef , ac nis cyfrifir iddo , ffieiddbeth fydd : a’r dyn a fwyty ohono , a ddwg ei anwiredd . A’r cig a gyffyrddo â dim aflan , ni fwyteir ; mewn tân y llosgir ef : a’r cig arall , pob glân a fwyty ohono . A’r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth , yr hwn a berthyn i’r Arglwydd , a’i aflendid arno ; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan , sef ag aflendid dyn , neu ag anifail aflan , neu ag un ffieiddbeth aflan , a bwyta o gig yr hedd‐aberth , yr hwn a berthyn i’r Arglwydd ; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Na fwytewch ddim gwêr eidion , neu ddafad , neu afr . Eto gwêr burgyn , neu wêr ysglyfaeth , a ellir ei weithio mewn pob gwaith ; ond gan fwyta na fwytewch ef . Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail , o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd ; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl . Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau , o’r eiddo aderyn , nac o’r eiddo anifail . Pob enaid a fwytao ddim gwaed , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd , dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd . Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd ; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe ; y barwyden fydd i’w chyhwfanu , yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor : a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion . Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad , o’ch ebyrth hedd . Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd , a’r gwêr ; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan . Oherwydd parwyden y cyhwfan , ac ysgwyddog y dyrchafael , a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd , ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad , ac i’w feibion , trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel . Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion , o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd ; Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt , y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel , trwy ddeddf dragwyddol , trwy eu cenedlaethau . Dyma gyfraith y poethoffrwm , y bwyd‐offrwm , a’r aberth dros bechod , a’r aberth dros gamwedd , a’r cysegriadau , a’r aberth hedd ; Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai , yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd , yn anialwch Sinai . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer Aaron a’i feibion gydag ef , a’r gwisgoedd , ac olew yr eneiniad , a bustach yr aberth dros bechod , a dau hwrdd , a chawell y bara croyw : A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod . A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo : a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod . A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa , Dyma’r peth a orchmynnodd’ yr Arglwydd ei wneuthur . A Moses a ddug Aaron a’i feibion , ac a’u golchodd hwynt â dwfr . Ac efe a roddes amdano ef y bais , ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys , ac a wisgodd y fantell amdano , ac a roddes yr effod amdano , ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod , ac a’i caeodd amdano ef . Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno , ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg . Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef ; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef , y dalaith aur , y goron sanctaidd ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd i Moses . A Moses a gymerodd olew yr eneiniad , ac a eneiniodd y tabernacl , a’r hyn oll oedd ynddo ; ac a’u cysegrodd hwynt . Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith , ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri , a’r noe hefyd a’i throed , i’w cysegru . Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron , ac a’i heneiniodd ef , i’w gysegru . A Moses a ddug feibion Aaron , ac a wisgodd beisiau amdanynt , a gwregysodd hwynt â gwregysau , ac a osododd gapiau am eu pennau ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod : ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod ; Ac efe a’i lladdodd : a Moses a gymerth y gwaed , ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys , ac a burodd yr allor ; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor , ac a’i cysegrodd hi , i wneuthur cymod arni . Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a’r ddwy aren a’u gwêr ; a Moses a’i llosgodd ar yr allor . A’r bustach , a’i groen , a’i gig , a’i fiswail , a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll : fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm : ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd : Ac efe a’i lladdodd ; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch . Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau ; a llosgodd Moses y pen , y darnau , a’r gwêr . Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr ; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor . Poethoffrwm yw hwn , i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses . Ac efe a ddug yr ail hwrdd , sef hwrdd y cysegriad : ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd . Ac efe a’i lladdodd ; a Moses a gymerodd o’i waed , ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau . Ac efe a ddug feibion Aaron : a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau , ac ar fawd eu llaw ddeau , ac ar fawd eu troed deau ; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch . Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr , a’r gloren , a’r holl wêr oedd ar y perfedd , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a’r ddwy aren a’u braster , a’r ysgwyddog ddeau . A chymerodd o gawell y bara croyw , yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd , un deisen groyw , ac un deisen o fara olewedig , ac un afrlladen ; ac a’u gosododd ar y gwêr , ac ar yr ysgwyddog ddeau : Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron , ac ar ddwylo ei feibion , ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt , ac a’u llosgodd ar yr allor , ar yr offrwm poeth . Dyma gysegriadau o arogl peraidd : dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd . Cymerodd Moses y barwyden hefyd , ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A chymerodd Moses o olew yr eneiniad , ac o’r gwaed oedd ar yr allor , ac a’i taenellodd ar Aaron , ar ei wisgoedd , ar ei feibion hefyd , ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef : ac efe a gysegrodd Aaron , a’i wisgoedd , a’i feibion hefyd , a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef . A dywedodd Moses wrth Aaron , ac wrth ei feibion , Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod : ac yno bwytewch ef , a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau ; megis y gorchmynnais , gan ddywedyd , Aaron a’i feibion a’i bwyty ef . A’r gweddill o’r cig , ac o’r bara , a losgwch yn tân . Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod , hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau : oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi . Megis y gwnaeth efe heddiw , y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur , i wneuthur cymod drosoch . Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod , ddydd a nos , a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd , fel na byddoch feirw : canys fel hyn y’m gorchmynnwyd . A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses . Yna y bu , ar yr wythfed dydd , i Moses alw Aaron a’i feibion , a henuriaid Israel ; Ac efe a ddywedodd wrth Aaron , Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod , a hwrdd yn boethoffrwm , o rai perffaith‐gwbl , a dwg hwy gerbron yr Arglwydd . Llefarodd hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Cymerwch fyn gafr , yn aberth dros bechod ; a llo , ac oen , blwyddiaid , perffaith‐gwbl , yn boethoffrwm ; Ac eidion , a hwrdd , yn aberth hedd , i aberthu gerbron yr Arglwydd ; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew : oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi . A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod : a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos , ac a safasant gerbron yr Arglwydd . A dywedodd Moses , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur ; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi . Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron , Dos at yr allor , ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm , a gwna gymod drosot dy hun , a thros y bobl ; ac abertha offrwm y bobl , a gwna gymod drostynt ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd . Yna y nesaodd Aaron at yr allor , ac a laddodd lo yr aberth dros bechod , yr hwn oedd drosto ef ei hun . A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato : ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed , ac a’i gosododd ar gyrn yr allor , ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor . Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau , a’r rhwyden oddi ar yr afu ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân , o’r tu allan i’r gwersyll . Ac efe a laddodd y poethoffrwm : a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato ; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch . A dygasant y poethoffrwm ato , gyda’i ddarnau , a’i ben hefyd ; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor . Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed , ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor . Hefyd efe a ddug offrwm y bobl ; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl , ac a’i lladdodd , ac a’i hoffrymodd dros bechod , fel y cyntaf . Ac efe a ddug y poethoffrwm , ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod . Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm : ac a lanwodd ei law ohono , ac a’i llosgodd ar yr allor , heblaw poethoffrwm y bore . Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd , yn aberth hedd , yr hwn oedd dros y bobl : a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato ; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch . Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd , y gloren , a’r weren fol , a’r arennau , a’r rhwyden oddi ar yr afu . A gosodasant y gwêr ar y parwydennau ; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor . Y parwydennau hefyd , a’r ysgwyddog ddeau , a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynnodd Moses . A chododd Aaron ei law tuag at y bobl , ac a’u bendithiodd ; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod , a’r poethoffrwm , a’r ebyrth hedd . A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod ; a daethant allan , ac a fendithiasant y bobl : a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl . A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a ysodd y poethoffrwm , a’r gwêr , ar yr allor : a gwelodd yr holl bobl ; a gwaeddasant , a chwympasant ar eu hwynebau . Yna Nadab ac Abihu , meibion Aaron , a gymerasant bob un ei thuser , ac a roddasant dân ynddynt , ac a osodasant arogl‐darth ar hynny ; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt . A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a’u difaodd hwynt ; a buant feirw gerbron yr Arglwydd . A dywedodd Moses wrth Aaron , Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf , a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir . A thewi a wnaeth Aaron . A galwodd Moses Misael ac Elsaffan , meibion Ussiel , ewythr Aaron , a dywedodd wrthynt , Deuwch yn nes ; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr , allan o’r gwersyll . A nesáu a wnaethant , a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll ; fel y llefarasai Moses . A dywedodd Moses wrth Aaron , ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion , Na ddiosgwch oddi am eich pennau , ac na rwygwch eich gwisgoedd : rhag i chwi farw , a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa : ond wyled eich brodyr chwi , holl dŷ Israel , am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd . Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod ; rhag i chwi farw : oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi . A gwnaethant fel y llefarodd Moses . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron , gan ddywedyd , Gwin a diod gadarn nac yf di , na’th feibion gyda thi , pan ddeloch i babell y cyfarfod ; fel na byddoch feirw . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn : A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig , a rhwng aflan a glân ; Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses . A llefarodd Moses wrth Aaron , ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar , y rhai a adawsid o’i feibion ef , Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor : oherwydd sancteiddiolaf yw . A bwytewch ef yn y lle sanctaidd : oherwydd dy ran di , a rhan dy feibion di , o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , yw hyn : canys fel hyn y’m gorchmynnwyd . Y barwyden gyhwfan hefyd , a’r ysgwyddog ddyrchafael , a fwytewch mewn lle glân ; tydi , a’th feibion , a’th ferched , ynghyd â thi : oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti , ac yn rhan i’th feibion di , o ebyrth hedd meibion Israel . Yr ysgwyddog ddyrchafael , a’r barwyden gyhwfan , a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr , i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : a bydded i ti , ac i’th feibion gyda thi , yn rhan dragwyddol ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd . A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod ; ac wele ef wedi ei losgi : ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar , y rhai a adawsid o feibion Aaron , gan ddywedyd , Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd ; oherwydd sancteiddiolaf yw , a Duw a’i rhoddodd i chwi , i ddwyn anwiredd y gynulleidfa , gan wneuthur cymod drostynt , gerbron yr Arglwydd ? Wele , ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr : ei fwyta a ddylasech yn y cysegr ; fel y gorchmynnais . A dywedodd Aaron wrth Moses , Wele , heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod , a’u poethoffrwm , gerbron yr Arglwydd ; ac fel hyn y digwyddodd i mi ; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw , a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd ? A phan glybu Moses hynny , efe a fu fodlon . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd wrthynt , Llefarwch wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r anifeiliaid a fwytewch , o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear . Beth bynnag a hollto’r ewin , ac a fforchogo hollt yr ewinedd , ac a gno ei gil , o’r anifeiliaid ; hwnnw a fwytewch . Ond y rhai hyn ni fwytewch ; o’r rhai a gnoant eu cil ac o’r rhai a holltant yr ewin : y camel , er ei fod yn cnoi ei gil , am nad yw yn hollti’r ewin ; aflan fydd i chwi . A’r gwningen , am ei bod yn cnoi ei chil , ac heb fforchogi’r ewin ; aflan yw i chwi . A’r ysgyfarnog , am ei bod yn cnoi ei chil , ac heb fforchogi’r ewin ; aflan yw i chwi . A’r llwdn hwch , am ei fod yn hollti’r ewin , ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin , a heb gnoi ei gil ; aflan yw i chwi . Na fwytewch o’u cig hwynt , ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt : aflan ydynt i chwi . Hyn a fwytewch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd : pob peth y mae iddo esgyll a chen , yn y dyfroedd , yn y moroedd , ac yn yr afonydd ; y rhai hynny a fwytewch . A phob dim nid oes iddo esgyll a chen , yn y moroedd , ac yn yr afonydd , o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd , ac o bob peth byw , y rhai fyddant yn y dyfroedd ; byddant ffiaidd gennych . Byddant ffiaidd gennych : na fwytewch o’u cig hwynt , a ffieiddiwch eu burgyn hwy . Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo , ffieiddbeth fydd i chwi . A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar ; na fwytewch hwynt , ffieidd‐dra ydynt : sef yr eryr , a’r wyddwalch , a’r fôr‐wennol ; A’r fwltur , a’r barcud yn ei ryw ; Pob cigfran yn ei rhyw ; A chyw’r estrys , a’r frân nos , a’r gog , a’r gwalch yn ei ryw ; Ac aderyn y cyrff , a’r fulfran , a’r dylluan , A’r gogfran , a’r pelican , a’r biogen , A’r ciconia , a’r crŷr yn ei ryw , a’r gornchwigl , a’r ystlum . Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed , ffieidd‐dra yw i chwi . Ond hyn a fwytewch , o bob ehediad a ymlusgo , ac a gerddo ar bedwar troed , yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed , i neidio wrthynt ar hyd y ddaear ; O’r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch : y locust yn ei ryw , a’r selam yn ei ryw , a’r hargol yn ei ryw , a’r hagab yn ei ryw . A phob ehediad arall a ymlusgo , yr hwn y mae pedwar troed iddo , ffieidd‐dra fydd i chwi . Ac am y rhai hyn y byddwch aflan : pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt , a fydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt , golched ei ddillad ; ac aflan fydd hyd yr hwyr . Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin , ac heb ei fforchogi , ac heb gnoi ei gil , aflan yw y rhai hynny i chwi ; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt . Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau , o bob anifail a gerddo ar bedwar troed , aflan ydynt i chwi : pob un a gyffyrddo â’u burgyn , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr : aflan ydynt i chwi . A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear : y wenci , a’r llygoden , a’r llyffant yn ei ryw ; A’r draenog , a’r lysard , a’r ystelio , a’r falwoden , a’r wadd . Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid : pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw , a fydd aflan hyd yr hwyr . A phob dim y cwympo un ohonynt arno , wedi marw , a fydd aflan ; pob llestr pren , neu wisg , neu groen , neu sach , pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo , rhodder mewn dwfr , a bydded aflan hyd yr hwyr : felly y bydd lân . A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn , aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn ; a thorrwch yntau . Aflan fydd pob bwyd a fwyteir , o’r hwn y dêl dwfr aflan arno ; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan . Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno ; y ffwrn a’r badell a dorrir : aflan ydynt , ac aflan fyddant i chwi . Eto glân fydd y ffynnon a’r pydew , lle mae dyfroedd lawer : ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn , a fydd aflan . Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig , yr hwn a heuir ; glân yw efe . Ond os rhoddir dwfr ar yr had , a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef ; aflan fydd efe i chwi . Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd ; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a fwyty o’i furgyn ef , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr ; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr . A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , fydd ffieidd‐dra : na fwytaer ef . Pob peth a gerddo ar ei dor , a phob peth a gerddo ar bedwar troed , a phob peth aml ei draed , o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , na fwytewch hwynt : canys ffieidd‐dra ydynt . Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo , ac na fyddwch aflan o’u plegid , fel y byddech aflan o’u herwydd . Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi : ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd ; oherwydd sanctaidd ydwyf fi : ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear . Canys myfi yw yr Arglwydd , yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft , i fod yn Dduw i chwi : byddwch chwithau sanctaidd ; canys sanctaidd ydwyf fi . Dyma gyfraith yr anifeiliaid , a’r ehediaid , a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd , ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear ; I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân , a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Os gwraig a feichioga , ac a esgor ar wryw ; yna bydded aflan saith niwrnod : fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan . A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef . A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth : na chyffyrdded â dim sanctaidd , ac na ddeued i’r cysegr , nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth . Ond os ar fenyw yr esgor hi ; yna y bydd hi aflan bythefnos , megis yn ei gwahaniaeth : a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth . A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch ; dyged oen blwydd yn offrwm poeth , a chyw colomen , neu durtur , yn aberth dros bechod , at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod : Ac offrymed efe hynny gerbron yr Arglwydd , a gwnaed gymod drosti : a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed . Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw . Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen , yna cymered ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; y naill yn offrwm poeth , a’r llall yn aberth dros bechod : a gwnaed yr offeiriad gymod drosti ; a glân fydd . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Dyn ( pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd , neu gramen , neu ddisgleirder , a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla’r clwyf gwahanol , ) a ddygir at Aaron yr offeiriad , neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid . A’r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd : os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn , a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef ; pla gwahanglwyf yw hwnnw : a’r offeiriad a’i hedrych , ac a’i barn yn aflan . Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef , ac heb fod yn is ei welediad na’r croen , a’i flewyn heb droi yn wyn ; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod . A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef : ac wele , os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef , heb ledu o’r pla yn y croen ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith . Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd : ac wele , os bydd y pla yn odywyll , heb ledu o’r pla yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn lân : cramen yw honno : yna golched ei wisgoedd a glân fydd . Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen , wedi i’r offeiriad ei weled , i’w farnu yn lân ; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad . Ac os gwêl yr offeiriad , ac wele , ledu o’r gramen yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : gwahanglwyf yw . Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf , dyger ef at yr offeiriad ; Ac edryched yr offeiriad : yna , os chwydd gwyn a fydd yn y croen , a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wyn , a dim cig noeth byw yn y chwydd ; Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef ; a barned yr offeiriad ef yn aflan : na chaeed arno ; oherwydd y mae efe yn aflan . Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen , a gorchuddio o’r gwahanglwyf holl groen y clwyfus , o’i ben hyd ei draed , pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad ; Yna edryched yr offeiriad : ac wele , os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef ; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân : trodd yn wyn i gyd : glân yw . A’r dydd y gwelir ynddo gig byw , aflan fydd . Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw , a barned ef yn aflan : aflan yw y cig byw hwnnw ; gwahanglwyf yw . Neu os dychwel y cig byw , a throi yn wyn ; yna deued at yr offeiriad : Ac edryched yr offeiriad arno : ac wele , os trodd y pla yn wyn ; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân : glân yw efe . Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen , a’i iacháu ; A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn , neu ddisgleirder gwyngoch , a’i ddangos i’r offeiriad : Os , pan edrycho yr offeiriad arno , y gwelir ef yn is na’r croen , a’i flewyn wedi troi yn wyn ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd . Ond os yr offeiriad a’i hedrych ; ac wele , ni bydd ynddo flewyn gwyn , ac ni bydd is na’r croen , ond ei fod yn odywyll ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod . Ac os gan ledu y lleda yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : pla yw efe . Ond os y disgleirder a saif yn ei le , heb ymledu , craith cornwyd yw efe ; a barned yr offeiriad ef yn lân . Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen , a bod i’r cig byw sydd yn llosgi , ddisgleirder gwyngoch , neu wyn ; Yna edryched yr offeiriad ef : ac wele , os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn , ac yn is i’w weled na’r croen ; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad ; a barned yr offeiriad ef yn aflan : pla gwahanglwyf yw hwnnw . Ond os yr offeiriad a’i hedrych ; ac wele , ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder , ac ni bydd is na’r croen , ond ei fod yn odywyll ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod . Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd : os gan ledu y lledodd yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : pla gwahanglwyf yw hwnnw . Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le , heb ledu yn y croen , ond ei fod yn odywyll ; chwydd y llosgiad yw efe ; barned yr offeiriad ef yn lân : canys craith y llosgiad yw hwnnw . Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf ; Yna edryched yr offeiriad y pla : ac wele , os is y gwelir na’r croen , a blewyn melyn main ynddo ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : y ddufrech yw hwnnw ; gwahanglwyf pen neu farf yw . Ac os yr offeiriad a edrych ar bla’r ddufrech ; ac wele , ni bydd yn is ei weled na’r croen , ac heb flewyn du ynddo ; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech , saith niwrnod . Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd : ac wele , os y ddufrech ni bydd wedi lledu , ac ni bydd blewyn melyn ynddi , a heb fod yn is gweled y ddufrech na’r croen ; Yna eillier ef , ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech ; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith . A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech : ac wele , os y ddufrech ni ledodd yn y croen , ac ni bydd is ei gweled na’r croen ; yna barned yr offeiriad ef yn lân , a golched ei ddillad , a glân fydd . Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen , wedi ei lanhau ef ; Yna edryched yr offeiriad ef : ac wele , os lledodd y ddufrech yn y croen , na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn : y mae efe yn aflan . Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef , a blewyn du wedi tyfu ynddi ; aeth y ddufrech yn iach , glân yw hwnnw ; a barned yr offeiriad ef yn lân . Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion ; Yna edryched yr offeiriad : ac wele , os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo ; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen : glân yw efe . A gŵr pan syrthio gwallt ei ben , moel yw ; eto glân fydd . Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben , efe a fydd talfoel ; eto glân fydd efe . Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd ; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd , neu yn ei dalfoeledd ef . Ac edryched yr offeiriad arno : ac wele , os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch , yn ei benfoeledd , neu yn ei dalfoeledd ef , fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd ; Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw , aflan yw ; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr aflan : yn ei ben y mae ei bla . A’r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno , bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo , a’i ben yn noeth , a rhodded gaead ar ei wefus uchaf , a llefed , Aflan , aflan . Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno , bernir ef yn aflan : aflan yw efe : triged ei hunan ; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll . Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo , o ddilledyn gwlân , neu o ddilledyn llin , Pa un bynnag ai yn yr ystof , ai yn yr anwe , o lin , neu o wlân , neu mewn croen , neu mewn dim a wnaed o groen ; Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn , neu yn y croen , neu yn yr ystof , neu yn yr anwe , neu mewn dim o groen : pla’r gwahanglwyf yw efe ; a dangoser ef i’r offeiriad . Ac edryched yr offeiriad ar y pla ; a chaeed ar y peth y bo y pla arno , saith niwrnod . A’r seithfed dydd edryched ar y pla : os y pla a ledodd yn y dilledyn , pa un bynnag ai mewn ystof , ai mewn anwe , ai mewn croen , neu beth bynnag a wnaed o groen ; gwahanglwyf ysol yw y pla ; aflan yw . Am hynny llosged y dilledyn hwnnw , pa un bynnag ai ystof , ai anwe , o wlân , neu o lin , neu ddim o groen , yr hwn y byddo pla ynddo : canys gwahanglwyf ysol yw efe ; llosger yn tân . Ac os edrych yr offeiriad ; ac wele , ni ledodd y pla mewn dilledyn , mewn ystof , neu mewn anwe , neu ddim o groen ; Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo , a chaeed arno saith niwrnod eilwaith . Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi : ac wele , os y pla ni throdd ei liw , ac ni ledodd y pla ; efe a fydd aflan ; llosg ef yn tân ; ysiad yw , pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan . Ac os edrych yr offeiriad ; ac wele’r pla yn odywyll , ar ôl ei olchi ; yna torred ef allan o’r dilledyn , neu o’r croen , neu o’r ystof , neu o’r anwe . Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn , yn yr ystof , neu yn yr anwe , neu mewn dim o groen ; tarddu y mae efe : llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân . A’r dilledyn , neu yr ystof , neu yr anwe , neu pa beth bynnag o groen , y rhai a olcher , os ymadawodd y pla â hwynt , a olchir eilwaith ; a glân fydd . Dyma gyfraith pla gwahanglwyf , mewn dilledyn gwlân , neu lin , mewn ystof , neu anwe , neu pa beth bynnag o groen , i’w farnu yn lân , neu i’w farnu yn aflan . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma gyfraith y gwahanglwyfus , y dydd y glanheir ef . Dyger ef at yr offeiriad : A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll ; ac edryched yr offeiriad : ac wele , os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus ; Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir , gymryd dau aderyn y to , byw a glân , a choed cedr , ac ysgarlad , ac isop . A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd , oddi ar ddwfr rhedegog . A chymered efe yr aderyn byw , a’r coed cedr , a’r ysgarlad , a’r isop , a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog . A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf , a barned ef yn lân ; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes . A golched yr hwn a lanheir ei ddillad , ac eillied ei holl flew , ac ymolched mewn dwfr ; a glân fydd : a deued wedi hynny i’r gwersyll , a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod . A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew , sef ei ben , a’i farf , ac aeliau ei lygaid ; ie , eillied ei holl flew ; a golched ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr ; a glân fydd . A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl , ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl , a thair degfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , ac un log o olew . A gosoded yr offeiriad a lanhao , y gŵr a lanheir , a hwynt hefyd , gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A chymered yr offeiriad un hesbwrn , ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd , a’r log o olew , a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth , a’r poethoffrwm ; sef yn y lle sanctaidd : oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad , yn gystal â’r pech‐aberth : sancteiddiolaf yw . A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd , a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau ef . A chymered yr offeiriad o’r log olew , a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun : A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy , a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd . Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law , y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau , ar waed yr offrwm dros gamwedd . A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad , a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd . Ie , offrymed yr offeiriad aberth dros bechod , a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid ; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm . Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm , a’r bwyd‐offrwm , ar yr allor ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ; a glân fydd . Ond os tlawd fydd , a’i law heb gyrhaeddyd hyn ; yna cymered un oen , yn aberth dros gamwedd , i’w gyhwfanu , i wneuthur cymod drosto , ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm , a log o olew ; A dwy durtur , neu ddau gyw colomen , y rhai a gyrhaeddo ei law : a bydded un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm . A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd , a’r log olew , a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A lladded oen yr offrwm dros gamwedd ; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd , a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau . A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun : Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy , seithwaith gerbron yr Arglwydd . A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law , ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau , ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd . A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad , a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir , i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd . Yna offrymed un o’r turturau , neu o’r cywion colomennod , sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef ; Y rhai , meddaf , a gyrhaeddo ei law ef , un yn bech‐aberth , ac un yn boethoffrwm , ynghyd â’r bwyd‐offrwm : a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd . Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno , yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhad . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Pan ddeloch i dir Canaan , yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant , os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant ; A dyfod o’r hwn biau’r tŷ , a dangos i’r offeiriad , gan ddywedyd , Gwelaf megis pla yn y tŷ : Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ , cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla ; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ : ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ ; Ac edryched ar y pla : ac wele , os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ , yn agennau gwyrddleision neu gochion , a’r olwg arnynt yn is na’r pared ; Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ , i ddrws y tŷ , a chaeed y tŷ saith niwrnod . A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn , ac edryched : ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ ; Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt , a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan . A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch ; a thywalltant y llwch a grafont , o’r tu allan i’r ddinas i le aflan . A chymerant gerrig eraill , a gosodant yn lle y cerrig hynny ; a chymered bridd arall , a phridded y tŷ . Ond os daw’r pla drachefn , a tharddu yn y tŷ , wedi tynnu’r cerrig , ac wedi crafu’r tŷ , ac wedi priddo ; Yna doed yr offeiriad , ac edryched : ac wele , os lledodd y pla yn y tŷ , gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ : aflan yw efe . Yna tynned y tŷ i lawr , ei gerrig , a’i goed , a holl bridd y tŷ ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan . A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau , efe a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a gysgo yn y tŷ , golched ei ddillad : felly yr hwn a fwytao yn y tŷ , golched ei ddillad . Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw , ac a edrych ; ac wele , ni ledodd y pla yn y tŷ , wedi priddo’r tŷ : yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân , oherwydd iacháu y pla . A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to , a choed cedr ac ysgarlad , ac isop . A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd , oddi ar ddwfr rhedegog . A chymered y coed cedr , a’r isop , a’r ysgarlad , a’r aderyn byw , a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd , ac yn y dwfr rhedegog , a thaenelled ar y tŷ seithwaith . A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn , ac â’r dwfr rhedegog , ac â’r aderyn byw , ac â’r coed cedr , ac â’r isop , ac â’r ysgarlad . A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes , a gwnaed gymod dros y tŷ ; a glân fydd . Dyma gyfraith am bob pla’r clwyf gwahanol , ac am y ddufrech , Ac am wahanglwyf gwisg , a thŷ , Ac am chwydd , a chramen , a disgleirdeb ; I ddysgu pa bryd y bydd aflan , a pha bryd yn lân . Dyma gyfraith y gwahanglwyf . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Llefarwch wrth feibion Israel , a dywedwch wrthynt , Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o’i gnawd , a fydd aflan oblegid ei ddiferlif . A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif : os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif , neu ymatal o’i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif ; ei aflendid ef yw hyn . Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd , a fydd aflan ; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno . A’r neb a gyffyrddo â’i wely ef , golched ei ddillad , ac ymdroched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phan boero’r diferllyd ar un glân , golched hwnnw ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo’r diferllyd ynddo . A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano , bydd aflan hyd yr hwyr : a’r hwn a’u dyco hwynt , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag y cyffyrddo’r diferllyd ag ef , heb olchi ei ddwylo mewn dwfr , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r llestr pridd y cyffyrddo’r diferllyd ag ef , a ddryllir : a phob llestr pren a olchir mewn dwfr . A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif ; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i’w lanhau , a golched ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog , a glân fydd . A’r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur , neu ddau gyw colomen , a deued gerbron yr Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , a rhodded hwynt i’r offeiriad . Ac offrymed yr offeiriad hwynt , un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif , gerbron yr Arglwydd . Ac os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had ; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phob dilledyn , a phob croen , y byddo disgyniad had arno , a olchir mewn dwfr , ac a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi ; ymolchant mewn dwfr , a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau . A phan fyddo gwraig â diferlif arni , a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed ; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth : a phwy bynnag a gyffyrddo â hi , bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth , fydd aflan ; a’r hyn oll yr eisteddo hi arno , a fydd aflan . A phwy bynnag a gyffyrddo â’i gwely hi , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac os ar y gwely y bydd efe , neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno , wrth gyffwrdd ag ef ; hyd yr hwyr y bydd efe aflan . Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi , fel y byddo o’i misglwyf hi arno ef ; aflan fydd efe saith niwrnod , ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno . A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau , allan o amser ei hanhwyl , neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl ; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth : aflan fydd hi . Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif , fydd iddi fel gwely ei misglwyf ; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan , megis aflendid ei misglwyf hi . A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt , aflan fydd ; a golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac os glanheir hi o’i diferlif ; yna cyfrifed iddi saith niwrnod : ac wedi hynny glân fydd . A’r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur , neu ddau gyw colomen , a dyged hwynt at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod . Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd , am ddiferlif ei haflendid . Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid , fel na byddant feirw yn eu haflendid , pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg . Dyma gyfraith yr hwn y byddo’r diferlif arno , a’r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had , fel y byddo aflan o’u herwydd ; A’r glaf o’i misglwyf , a’r neb y byddo’r diferlif arno , o wryw , ac o fenyw , ac i’r gŵr a orweddo ynghyd â’r hon a fyddo aflan . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , wedi marwolaeth dau fab Aaron , pan offrymasant gerbron yr Arglwydd , ac y buant feirw ; A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Llefara wrth Aaron dy frawd , na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen , gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch ; fel na byddo efe farw : oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl . A hyn y daw Aaron i’r cysegr : â bustach ieuanc yn bech‐aberth , ac â hwrdd yn boethoffrwm . Gwisged bais liain sanctaidd , a bydded llodrau lliain am ei gnawd , a gwregyser ef â gwregys lliain , a gwisged feitr lliain : gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn ; golched yntau ei gnawd mewn dwfr , pan wisgo hwynt . A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth , ac un hwrdd yn boethoffrwm . Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ . A chymered y ddau fwch , a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch ; un coelbren dros yr Arglwydd , a’r coelbren arall dros y bwch dihangol . A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno , ac offrymed ef yn bech‐aberth . A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol , a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd , i wneuthur cymod ag ef , ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol . A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun : A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor , oddi gerbron yr Arglwydd , a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân , a dyged o fewn y wahanlen : A rhodded yr arogl‐darth ar y tân , gerbron yr Arglwydd ; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa , yr hon sydd ar y dystiolaeth , ac na byddo efe farw : A chymered o waed y bustach , a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain : a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa . Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl , a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen ; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach , a thaenelled ef ar y drugareddfa , ac o flaen y drugareddfa : A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel , ac oddi wrth eu hanwireddau , yn eu holl bechodau : a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod , yr hon sydd yn aros gyda hwynt , ymysg eu haflendid hwynt . Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod , pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr , hyd oni ddelo efe allan , a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ , a thros holl gynulleidfa Israel . Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd , a gwnaed gymod arni ; a chymered o waed y bustach , ac o waed y bwch , a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch . A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys , a glanhaed hi , a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel . A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr , a phabell y cyfarfod , a’r allor , dyged y bwch byw : A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw , a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel , a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau ; a rhodded hwynt ar ben y bwch , ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch . A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno , i dir neilltuaeth : am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch . Yna deued Aaron i babell y cyfarfod , a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr , a gadawed hwynt yno . A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd , a gwisged ei ddillad , ac aed allan , ac offrymed ei boethoffrwm ei hun , a phoethoffrwm y bobl , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros y bobl . A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor . A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol , ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr ; ac yna deued i’r gwersyll . A bustach y pech‐aberth , a bwch y pech‐aberth , y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr , a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll ; a hwy a losgant eu crwyn hwynt , a’u cnawd , a’u biswail , yn tân . A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad , golched hefyd ei gnawd mewn dwfr ; wedi hynny deued i’r gwersyll . A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi : y seithfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y cystuddiwch eich eneidiau , a dim gwaith nis gwnewch , y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith . Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch , i’ch glanhau o’ch holl bechodau , fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd . Saboth gorffwystra yw hwn i chwi ; yna cystuddiwch eich eneidiau , trwy ddeddf dragwyddol . A’r offeiriad , yr hwn a eneinio efe , a’r hwn a gysegro efe , i offeiriadu yn lle ei dad , a wna’r cymod , ac a wisg y gwisgoedd lliain , sef y gwisgoedd sanctaidd : Ac a lanha’r cysegr sanctaidd , ac a lanha babell y cyfarfod , a’r allor ; ac a wna gymod dros yr offeiriaid , a thros holl bobl y gynulleidfa . A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi , i wneuthur cymod dros feibion Israel , am eu pechodau oll , un waith yn y flwyddyn . Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel , a dywed wrthynt , Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pob un o dŷ Israel a laddo ych , neu oen , neu afr , o fewn y gwersyll , neu a laddo allan o’r gwersyll , Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod , i offrymu offrwm i’r Arglwydd , o flaen tabernacl yr Arglwydd ; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw ; gwaed a dywalltodd efe : a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl . Oherwydd yr hwn beth , dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes ; ie , dygant hwynt i’r Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , at yr offeiriad , ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd . A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod , a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid , y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl . Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt , trwy eu cenedlaethau . Dywed gan hynny wrthynt , Pwy bynnag o dŷ Israel , ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg , a offrymo boethoffrwm , neu aberth , Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod , i’w offrymu i’r Arglwydd ; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl . A phwy bynnag o dŷ Israel , ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg , a fwytao ddim gwaed ; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed , a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl . Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed ; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor , i wneuthur cymod dros eich eneidiau ; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid . Am hynny y dywedais wrth feibion Israel , Na fwytaed un enaid ohonoch waed ; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg , na fwytaed waed . A phwy bynnag o feibion Israel , neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg , a helio helfa o fwystfil , neu o aderyn a fwytaer ; tywallted ymaith ei waed ef , a chuddied ef â llwch . Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed ; yn lle ei einioes ef y mae : am hynny y dywedais wrth feibion Israel , Na fwytewch waed un cnawd ; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed : pwy bynnag a’i bwytao , a dorrir ymaith . A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun , neu ysglyfaeth , pa un bynnag ai priodor , ai dieithrddyn ; golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydded aflan hyd yr hwyr : yna glân fydd . Ond os efe nis gylch hwynt , ac ni ylch ei gnawd ; yna y dwg efe ei anwiredd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft , yr hon y trigasoch ynddi ; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan , yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi ; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt . Fy marnedigaethau i a wnewch , a’m deddfau a gedwch , i rodio ynddynt : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Ie , cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau : a’r dyn a’u cadwo , a fydd byw ynddynt : myfi yw yr Arglwydd . Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd , i ddinoethi eu noethni : myfi yw yr Arglwydd . Noethni dy dad , neu noethni dy fam , na ddinoetha : dy fam yw hi , na ddinoetha ei noethni . Na ddinoetha noethni gwraig dy dad : noethni dy dad yw . Noethni dy chwaer , merch dy dad , neu ferch dy fam , yr hon a anwyd gartref , neu a anwyd allan ; na ddinoetha eu noethni hwynt . Noethni merch dy fab , neu ferch dy ferch ; na ddinoetha eu noethni hwynt : canys dy noethni di ydyw . Noethni merch gwraig dy dad , plentyn dy dad , dy chwaer dithau yw hi ; na ddinoetha ei noethni hi . Na ddinoetha noethni chwaer dy dad : cyfnesaf dy dad yw hi . Na ddinoetha noethni chwaer dy fam : canys cyfnesaf dy fam yw hi . Na noetha noethni brawd dy dad ; sef na nesâ at ei wraig ef : dy fodryb yw hi . Na noetha noethni dy waudd : gwraig dy fab yw hi ; na noetha ei noethni hi . Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd : noethni dy frawd yw . Na noetha noethni gwraig a’i merch ; na chymer ferch ei mab hi , neu ferch ei merch hi , i noethi ei noethni hi : ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn : ysgelerder yw hyn . Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer , i’w chystuddio hi , gan noethi noethni honno gyda’r llall , yn ei byw hi . Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid , i noethi ei noethni hi . Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog , i fod yn aflan o’i phlegid . Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch : ac na haloga enw dy Dduw : myfi yw yr Arglwydd . Ac na orwedd gyda gwryw , fel gorwedd gyda benyw : ffieidd‐dra yw hynny . Ac na chydorwedd gydag un anifail , i fod yn aflan gydag ef ; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano : cymysgedd yw hynny . Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn : canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi : A’r wlad a halogwyd : am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn , fel y chwydo’r wlad ei thrigolion . Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i , ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn ; na’r priodor , na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg : ( Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad , y rhai a fu o’ch blaen , a’r wlad a halogwyd ; ) Fel na chwydo’r wlad chwithau , pan halogoch hi , megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen . Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn ; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl . Am hynny cedwch fy neddf i , heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi , ac nac ymhalogwch ynddynt : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel , a dywed wrthynt , Byddwch sanctaidd : canys sanctaidd ydwyf fi , yr Arglwydd eich Duw chwi . Ofnwch bob un ei fam , a’i dad ; a chedwch fy Sabothau : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Na throwch at eilunod , ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . A phan aberthoch hedd‐aberth i’r Arglwydd , yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny . Ar y dydd yr offrymoch , a thrannoeth , y bwyteir ef : a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd . Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd , ffiaidd fydd efe ; ni bydd gymeradwy . A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd , am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd ; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl . A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir , na feda yn llwyr gonglau dy faes , ac na chynnull loffion dy gynhaeaf . Na loffa hefyd dy winllan , ac na chynnull rawn gweddill dy winllan ; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr : yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi . Na ladratewch , ac na ddywedwch gelwydd , ac na thwyllwch bob un ei gymydog . Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon , ac na haloga enw dy Dduw ; yr Arglwydd ydwyf fi . Na chamatal oddi wrth dy gymydog , ac nac ysbeilia ef : na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore . Na felltiga’r byddar , ac na ddod dramgwydd o flaen y dall ; ond ofna dy Dduw : yr Arglwydd ydwyf fi . Na wnewch gam mewn barn ; na dderbyn wyneb y tlawd , ac na pharcha wyneb y cadarn : barna dy gymydog mewn cyfiawnder . Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl ; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog : yr Arglwydd ydwyf fi . Na chasâ dy frawd yn dy galon : gan geryddu cerydda dy gymydog , ac na ddioddef bechod ynddo . Na ddiala , ac na chadw lid i feibion dy bobl ; ond câr dy gymydog megis ti dy hun : yr Arglwydd ydwyf fi . Cedwch fy neddfau : na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth , ac na heua dy faes ag amryw had ; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân . A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw , a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr , ac heb ei rhyddhau ddim , neu heb roddi rhyddid iddi ; bydded iddynt gurfa ; ac na ladder hwynt , am nad oedd hi rydd . A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , hwrdd dros gamwedd . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd , gerbron yr Arglwydd , am ei bechod a bechodd efe : a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe . A phan ddeloch i’r tir , a phlannu ohonoch bob pren ymborth ; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef ; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi : na fwytaer ohono . A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef . A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth , fel y chwanego efe ei gnwd i chwi : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed : nac arferwch na swynion , na choel ar frudiau . Na thalgrynnwch odre eich pen , ac na thor gyrrau dy farf . Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw , ac na roddwch brint nod arnoch : yr Arglwydd ydwyf fi . Na haloga dy ferch , gan beri iddi buteinio : rhag puteinio’r tir , a llenwi’r wlad o ysgelerder . Cedwch fy Sabothau , a pherchwch fy nghysegr : yr Arglwydd ydwyf fi . Nac ewch ar ôl dewiniaid , ac nac ymofynnwch â’r brudwyr , i ymhalogi o’u plegid : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Cyfod gerbron penwynni , a pharcha wyneb henuriad ; ac ofna dy Dduw : yr Arglwydd ydwyf fi . A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad , na flinwch ef . Bydded y dieithr i chwi , yr hwn a ymdeithio yn eich plith , fel yr un a hanffo ohonoch , a châr ef fel ti dy hun ; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Na wnewch gam ar farn , ar lathen , ar bwys , nac ar fesur . Bydded i chwi gloriannau cyfiawn , gerrig cyfiawn , effa gyfiawn , a hin gyfiawn : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi , yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft . Cedwch chwithau fy holl ddeddfau , a’m holl farnedigaethau , a gwnewch hwynt : yr Arglwydd ydwyf fi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed hefyd wrth feibion Israel , Pob un o feibion Israel , neu o’r dieithr a ymdeithio yn Israel , yr hwn a roddo o’i had i Moloch , a leddir yn farw ; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig . A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw , ac a’i torraf o fysg ei bobl ; am iddo roddi o’i had i Moloch , i aflanhau fy nghysegr , ac i halogi fy enw sanctaidd . Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw , ( pan roddo efe ei had i Moloch , ) ac nis lladdant ef : Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw , ac yn erbyn ei dylwyth , a thorraf ymaith ef , a phawb a ddilynant ei buteindra ef , gan buteinio yn ôl Moloch , o fysg eu pobl . A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid , a brudwyr , i buteinio ar eu hôl hwynt ; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd , a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl . Ymsancteiddiwch gan hynny , a byddwch sanctaidd : canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Cedwch hefyd fy neddfau , a gwnewch hwynt : myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd . Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam , lladder ef yn farw : ei dad neu ei fam a felltigodd efe ; ei waed fydd arno ei hun . A’r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall , sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog , lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad , a noethodd noethni ei dad : lladder yn feirw hwynt ill dau ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . Am y gŵr a orweddo ynghyd â’i waudd , lladder yn feirw hwynt ill dau : cymysgedd a wnaethant ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A’r gŵr a orweddo gyda gŵr , fel gorwedd gyda gwraig , ffieidd‐dra a wnaethant ill dau : lladder hwynt yn feirw ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . Y gŵr a gymero wraig a’i mam , ysgelerder yw hynny : llosgant ef a hwythau yn tân ; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg . A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail ; lladdant hefyd yr anifail . A’r wraig a êl at un anifail , i orwedd dano , lladd di y wraig a’r anifail hefyd : lladder hwynt yn feirw ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A’r gŵr a gymero ei chwaer , merch ei dad , neu ferch ei fam , ac a welo ei noethni hi , ac y gwelo hithau ei noethni yntau : gwaradwydd yw hynny ; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl : noethni ei chwaer a noethodd efe ; efe a ddwg ei anwiredd . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf , ac a noetho ei noethni hi ; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe , a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun : am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl . Ac na noetha noethni chwaer dy fam , neu chwaer dy dad ; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi : dygant eu hanwiredd . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad , a noetha noethni ei ewythr : eu pechod a ddygant ; byddant feirw yn ddi‐blant . A’r gŵr a gymero wraig ei frawd , ( peth aflan yw hynny , ) efe a noethodd noethni ei frawd : di‐blant fyddant . Am hynny cedwch fy holl ddeddfau , a’m holl farnedigaethau , a gwnewch hwynt ; fel na chwydo’r wlad chwi , yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi . Ac na rodiwch yn neddfau’r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi : oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant ; am hynny y ffieiddiais hwynt . Ac wrthych y dywedais , Chwi a etifeddwch eu tir hwynt ; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu ; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi , yr hwn a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill . Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan , a rhwng yr aderyn aflan a’r glân ; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail , neu oherwydd aderyn , neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear , yr hwn a neilltuais i chwi i’w gyfrif yn aflan . Byddwch chwithau sanctaidd i mi : oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd , ac a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill , i fod yn eiddof fi . Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth , neu frud , hwy a leddir yn farw : â cherrig y llabyddiant hwynt ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Llefara wrth yr offeiriaid , meibion Aaron , a dywed wrthynt , Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl . Ond am ei gyfnesaf agos iddo ; am ei fam , am ei dad , ac am ei fab , ac am ei ferch , ac am ei frawd , Ac am ei chwaer o forwyn , yr hon sydd agos iddo , yr hon ni fu eiddo gŵr : am honno y gall ymhalogi . Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl , i’w aflanhau ei hun . Na wnânt foelni ar eu pennau , ac nac eilliant gyrrau eu barfau , ac na thorrant doriadau ar eu cnawd . Sanctaidd fyddant i’w Duw , ac na halogant enw eu Duw : oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a bara eu Duw ; am hynny byddant sanctaidd . Na chymerant buteinwraig , neu un halogedig , yn wraig : ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr ; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw . A chyfrif di ef yn sanctaidd ; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu : bydded sanctaidd i ti ; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd . Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio , halogi ei thad y mae : llosger hi yn tân . A’r offeiriad pennaf o’i frodyr , yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben , ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd , na ddiosged oddi am ei ben , ac na rwyged ei ddillad : Ac na ddeued at gorff un marw , nac ymhaloged am ei dad , nac am ei fam : Ac nac aed allan o’r cysegr , ac na haloged gysegr ei Dduw ; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef : myfi yw yr Arglwydd . A chymered efe wraig yn ei morwyndod . Gwraig weddw , na gwraig wedi ysgar , nac un halogedig , na phutain ; y rhai hyn na chymered : ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig . Ac na haloged ei had ymysg ei bobl : canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , gan ddywedyd , Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau , yr hwn y byddo anaf arno , i offrymu bara ei Dduw : Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu ; y gŵr dall , neu’r cloff , neu’r trwyndwn , neu’r neb y byddo dim gormod ynddo ; Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn , neu law don ; Neu a fyddo yn gefngrwm , neu yn gor , neu â magl neu bysen ar ei lygad , neu yn grachlyd , neu yn glafrllyd , neu wedi ysigo ei eirin . Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad , yr hwn y byddo anaf arno , i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd : anaf sydd arno ; na nesaed i offrymu bara ei Dduw . Bara ei Dduw , o’r pethau sanctaidd cysegredig , ac o’r pethau cysegredig , a gaiff efe ei fwyta . Eto nac aed i mewn at y wahanlen , ac na nesaed at yr allor , am fod anaf arno ; ac na haloged fy nghysegroedd : canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt . A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel , ac na halogant fy enw sanctaidd , yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi : myfi yw yr Arglwydd . Dywed wrthynt , Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth , trwy eich cenedlaethau , a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd , a’i aflendid arno ; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron : myfi yw yr Arglwydd . Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig , ac yntau yn wahanglwyfus , neu yn ddiferllyd , hyd oni lanhaer ef : na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw , na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had ; Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad , trwy yr hwn y gallo fod yn aflan , neu â dyn y byddai aflan o’i blegid , pa aflendid bynnag fyddo arno : A’r dyn a gyffyrddo ag ef , a fydd aflan hyd yr hwyr ; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig , oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr . A phan fachludo’r haul , glân fydd ; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig : canys ei fwyd ef yw hwn . Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun , neu wedi ei ysglyfaethu , i fod yn aflan o’i blegid : myfi yw yr Arglwydd . Ond cadwant fy neddf i , ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain , i farw o’i blegid , pan halogant hi : myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt . Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig : dieithrddyn yr offeiriad , a’r gwas cyflog , ni chaiff fwyta’r peth cysegredig . Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian , hwnnw a gaiff fwyta ohono , a’r hwn a aner yn ei dŷ ef : y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef . A merch yr offeiriad , pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr , ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig . Ond merch yr offeiriad , os gweddw fydd hi , neu wedi ysgar , a heb blant iddi , ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad , a gaiff fwyta o fara ei thad , megis yn ei hieuenctid ; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono . A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod ; yna chwaneged ei bumed ran ato , a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad . Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel , y rhai a offrymant i’r Arglwydd . Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd , pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt : oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel , a dywed wrthynt , Pwy bynnag o dŷ Israel , ac o ddieithr yn Israel , a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau , ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd , y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm ; Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun , un gwryw perffaith‐gwbl , o’r eidionau , o’r defaid , neu o’r geifr . Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno ; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch . A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd , gan neilltuo ei adduned , neu rodd ewyllysgar o’r eidionau , neu o’r praidd , bydded berffaith‐gwbl , fel y byddo gymeradwy : na fydded un anaf arno . Y dall , neu’r ysig , neu’r anafus , neu’r dafadennog , neu’r crachlyd , neu’r clafrllyd , nac offrymwch hwy i’r Arglwydd , ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd . A’r eidion , neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau , gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd ; ond dros adduned ni bydd cymeradwy . Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu , neu ysigo , neu ddryllio , neu dorri ; ac na wnewch yn eich tir y fath beth . Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn : canys y mae eu llygredigaeth ynddynt ; anaf sydd arnynt : ni byddant gymeradwy drosoch . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Pan aner eidion , neu ddafad , neu afr , bydded saith niwrnod dan ei fam ; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ac am fuwch neu ddafad , na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd . A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd , offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain . Y dydd hwnnw y bwyteir ef ; na weddillwch ohono hyd y bore : myfi yw yr Arglwydd . Cedweh chwithau fy ngorchmynion , a gwnewch hwynt : myfi yw yr Arglwydd . Ac na halogwch fy enw sanctaidd , ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel : myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd , Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , i fod yn Dduw i chwi : myfi yw yr Arglwydd . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Gwyliau yr Arglwydd , y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd , ydyw fy ngwyliau hyn . Chwe diwrnod y gwneir gwaith ; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra , sef cymanfa sanctaidd ; dim gwaith nis gwnewch : Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau . Dyma wyliau yr Arglwydd , y cymanfeydd sanctaidd , y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor . O fewn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , yn y cyfnos , y bydd Pasg yr Arglwydd . A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd : saith niwrnod y bwytewch fara croyw . Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd : dim caethwaith ni chewch ei wneuthur . Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod ; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd ; na wnewch ddim caethwaith . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi , a medi ohonoch ei gynhaeaf ; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad . Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd , i’ch gwneuthur yn gymeradwy : trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi . Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub , oen blwydd , perffaith‐gwbl , yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd , yn arogl peraidd : a’i ddiod‐offrwm fyddo win , pedwaredd ran hin . Bara hefyd , nac ŷd wedi ei grasu , na thywysennau ir , ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw , nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau , fydd hyn . A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth , o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan ; saith Saboth cyflawn fyddant : Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth , y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain ; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd . A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan , dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant : yn lefeinllyd y pobi hwynt , yn flaenffrwyth i’r Arglwydd . Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl , ac un bustach ieuanc , a dau hwrdd : poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy , ynghyd â’u bwyd‐offrwm a’u diod‐offrwm ; sef aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth , a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd . A chyhwfaned yr offeiriad hwynt , ynghyd â bara’r blaenffrwyth , yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd , ynghyd â’r ddau oen : cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant . A chyhoeddwch , o fewn corff y dydd hwnnw , y bydd cymanfa sanctaidd i chwi ; dim caethwaith nis gwnewch . Deddf dragwyddol , yn eich holl drigfannau , trwy eich cenedlaethau , fydd hyn . A phan fedoch gynhaeaf eich tir , na lwyr feda gyrrau dy faes , ac na loffa loffion dy gynhaeaf ; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd , Ar y seithfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y bydd i chwi Saboth , yn goffadwriaeth caniad utgyrn , a chymanfa sanctaidd . Dim caethwaith nis gwnewch ; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn , y bydd dydd cymod ; cymanfa sanctaidd fydd i chwi : yna cystuddiwch eich eneidiau , ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw : oherwydd dydd cymod yw , i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw . Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw , difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl . Na wnewch ddim gwaith . Deddf dragwyddol , trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau , yw hyn . Saboth gorffwystra yw efe i chwi ; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis , yn yr hwyr : o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd . Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd . Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd : dim caethwaith nis gwnewch . Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd : ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi ; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd : uchel ŵyl yw hi ; na wnewch ddim caethwaith . Dyma wyliau yr Arglwydd , y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd , i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd , offrwm poeth , bwyd‐offrwm , aberth , a diod‐offrwm ; pob peth yn ei ddydd : Heblaw Sabothau yr Arglwydd , ac heblaw eich rhoddion chwi , ac heblaw eich holl addunedau , ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd , a roddoch i’r Arglwydd . Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis , pan gynulloch ffrwyth eich tir , cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod : bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf , a gorffwystra ar yr wythfed dydd . A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth , canghennau palmwydd , a brig pren caeadfrig , a helyg afon ; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod . A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn : deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw ; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl . Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod ; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod : Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo , pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur , coethedig , i’r goleuni , i beri i’r lampau gynnau bob amser . O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth , ym mhabell y cyfarfod , y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore , gerbron yr Arglwydd , bob amser . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn . Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser . A chymer beilliaid , a phoba ef yn ddeuddeg teisen : dwy ddegfed ran fydd pob teisen . A gosod hwynt yn ddwy res , chwech yn y rhes , ar y bwrdd pur , gerbron yr Arglwydd . A dod thus pur ar bob rhes , fel y byddo ar y bara , yn goffadwriaeth , ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser , yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel . A bydd eiddo Aaron a’i feibion ; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd : canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , trwy ddeddf dragwyddol . A mab gwraig o Israel , a hwn yn fab gŵr o’r Aifft , a aeth allan ymysg meibion Israel ; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll . A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd , ac a felltigodd : yna y dygasant ef at Moses : ac enw ei fam oedd Selomith , merch Dibri , o lwyth Dan . A gosodasant ef yng ngharchar , fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll : a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef , a llabyddied yr holl gynulleidfa ef . A llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pwy bynnag a gablo ei Dduw , a ddwg ei bechod . A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd ; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef : lladder yn gystal y dieithr a’r priodor , pan gablo efe enw yr Arglwydd . A’r neb a laddo ddyn , lladder yntau yn farw . A’r hwn a laddo anifail , taled amdano ; anifail am anifail . A phan wnelo un anaf ar ei gymydog ; fel y gwnaeth , gwneler iddo : Toriad am doriad , llygad am lygad , dant am ddant : megis y gwnaeth anaf ar ddyn , felly gwneler iddo yntau . A’r hwn a laddo anifail , a dâl amdano : a laddo ddyn , a leddir . Bydded un farn i chwi ; bydded i’r dieithr , fel i’r priodor : myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw . A mynegodd Moses hyn i feibion Israel : a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll , ac a’i llabyddiasant ef â cherrig . Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , ym mynydd Sinai , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi ; yna gorffwysed y tir Saboth i’r Arglwydd . Chwe blynedd yr heui dy faes , a chwe blynedd y torri dy winllan , ac y cesgli ei chnwd . Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir , sef Saboth i’r Arglwydd : na heua dy faes , ac na thor dy winllan . Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun , ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist : bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir . Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi ; sef i ti , ac i’th wasanaethwr , ac i’th wasanaethferch , ac i’th weinidog cyflog , ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi . I’th anifail hefyd , ac i’r bwystfil fydd yn dy dir , y bydd ei holl gnwd yn ymborth . Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd , sef saith mlynedd seithwaith ; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain . Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis , ar y degfed dydd o’r mis ; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad . A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain , a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion : jiwbili fydd hi i chwi ; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth , ie , dychwelwch bob un at ei deulu . Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi : na heuwch , ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun ; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd . Am ei bod yn jiwbili , bydded sanctaidd i chwi : o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi . O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth . Pan werthech ddim i’th gymydog , neu brynu ar law dy gymydog , na orthrymwch bawb eich gilydd . Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili ; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau . Yn ôl amldra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris , ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris ; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti . Ac na orthrymwch bob un ei gymydog ; ond ofna dy Dduw : canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi . Gwnewch chwithau fy neddfau , a chedwch fy marnedigaethau , a gwnewch hwynt ; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel . Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth ; a chewch fwyta digon , a thrigo ynddo yn ddiogel . Ac hefyd os dywedwch , Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn ? wele , ni chawn hau , ac ni chawn gynnull ein cnwd : Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn ; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd . A’r wythfed flwyddyn yr heuwch ; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn : nes dyfod ei chnwd hi , y bwytewch o’r hen . A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr : canys eiddof fi yw y tir ; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi . Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir . Os tloda dy frawd , a gwerthu dim o’i etifeddiaeth , a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng ; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd . Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo , a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng : Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad , a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo ; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth . Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo ; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili ; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd , ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth . A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog ; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu : dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef . Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan ; yna sicrhaer y tŷ , yr hwn fydd yn y ddinas gaerog , yn llwyr i’r neb a’i prynodd , ac i’w hiliogaeth : nid â yn rhydd yn y jiwbili . Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt , a gyfrifir fel meysydd : bid gollyngdod iddynt , ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd . Ond dinasoedd y Lefiaid , a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt , bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser . Ac os prŷn un gan y Lefiaid ; yna aed y tŷ a werthwyd , a dinas ei etifeddiaeth ef , allan yn y jiwbili : canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel . Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt : canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt . A phan dlodo dy frawd gyda thi , a llesgáu o’i law ; cynorthwya ef , fel y byddo byw gyda thi ; er ei fod yn ddieithrddyn , neu yn alltud . Na chymer ganddo ocraeth na llog ; ond ofna dy Dduw : a gad i’th frawd fyw gyda thi . Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth , ac na ddod dy fwyd iddo ar log . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi , yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft , i roddi i chwi dir Canaan , ac i fod yn Dduw i chwi . A phan dlodo dy frawd gyda thi , a’i werthu ef i ti ; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas . Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog , fel ymdeithydd ; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi . Yna aed oddi wrthyt ti , efe a’i blant gydag ef , a dychweled at ei dylwyth , ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau . Canys fy ngweision i ydynt , y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft : na werther hwynt fel caethweision . Na feistrola arno ef yn galed ; ond ofna dy Dduw . A chymer dy wasanaethwr , a’th wasanaethferch , y rhai fyddant i ti , o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch : ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch . A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi , prynwch o’r rhai hyn , ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi , y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi : byddant hwy i chwi yn feddiant . Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl , i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth ; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth : ond eich brodyr , meibion Israel , na feistrolwch yn galed y naill ar y llall . A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi , ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef , a’i werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi , neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn : Wedi ei werthu , ceir ei ollwng yn rhydd ; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd ; Naill ai ei ewythr , ai mab ei ewythr , a’i gollwng ef yn rhydd ; neu un o’i gyfnesaf ef , o’i dylwyth ei hun , a’i gollwng yn rhydd ; neu , os ei law a gyrraedd , gollynged efe ef ei hun . A chyfrifed â’i brynwr , o’r flwyddyn y gwerthwyd ef , hyd flwyddyn y jiwbili : a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi’r blynyddoedd ; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef . Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl ; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny . Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili , pan gyfrifo ag ef ; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd . Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef : ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di . Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn ; yna aed allan flwyddyn y jiwbili , efe a’i blant gydag ef . Canys gweision i mi yw meibion Israel ; fy ngweision ydynt , y rhai a ddygais o dir yr Aifft : myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi . Na wnewch eilunod i chwi , ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig , na cholofn , ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi : canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Fy Sabothau i a gedwch , a’m cysegr i a berchwch : myfi ydwyf yr Arglwydd . Os yn fy neddfau i y rhodiwch , a’m gorchmynion a gedwch , a’u gwneuthur hwynt ; Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser , a rhydd y ddaear ei chynnyrch , a choed y maes a rydd eu ffrwyth . A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin , a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau ; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol , ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel . Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir , a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd : a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir ; ac nid â cleddyf trwy eich tir . Eich gelynion hefyd a erlidiwch , a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf . A phump ohonoch a erlidia gant , a chant ohonoch a erlidia ddengmil ; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf . A mi a edrychaf amdanoch , ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon , ac a’ch amlhaf , ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi . A’r hen ystôr a fwytewch , ie , yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd . Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg ; ac ni ffieiddia fy enaid chwi . A mi a rodiaf yn eich plith ; a byddaf yn Dduw i chwi , a chwithau a fyddwch yn bobl i mi . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , rhag eich bod yn gaethweision iddynt ; a thorrais rwymau eich iau , a gwneuthum i chwi rodio yn sythion . Ond os chwi ni wrandewch arnaf , ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn ; Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch , ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau , heb wneuthur fy holl orchmynion , ond torri fy nghyfamod ; Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi : gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn , darfodedigaeth , a’r cryd poeth , y rhai a wna i’r llygaid ballu , ac a ofidiant eich eneidiau : a heuwch eich had yn ofer ; canys eich gelynion a’i bwyty : Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn , a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion ; a’ch caseion a feistrola arnoch ; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid . Ac os er hyn ni wrandewch arnaf , yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau . A mi a dorraf falchder eich nerth chwi ; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn , a’ch tir chwi fel pres : A’ch cryfder a dreulir yn ofer : canys eich tir ni rydd ei gynnyrch , a choed y tir ni roddant eu ffrwyth . Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi , ac ni fynnwch wrando arnaf fi ; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau . Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn , ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant , ac a ddifetha eich anifeiliaid , ac a’ch lleiha chwi ; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch . Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf , ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi ; Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau , a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau . A dygaf arnoch gleddyf , yr hwn a ddial fy nghyfamod : a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd , yna yr anfonaf haint i’ch mysg ; a chwi a roddir yn llaw y gelyn . A phan dorrwyf ffon eich bara , yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn , ac a ddygant eich bara adref dan bwys : a chwi a fwytewch , ac ni’ch digonir chwi . Ac os er hyn ni wrandewch arnaf , ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi ; Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid ; a myfi , ie myfi , a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau . A chwi a fwytewch gnawd eich meibion , a chnawd eich merched a fwytewch . Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf , ac a dorraf eich delwau , ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod , a’m henaid a’ch ffieiddia chwi . A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd , ac a ddinistriaf eich cysegroedd , ac ni aroglaf eich aroglau peraidd . A mi a ddinistriaf y tir ; fel y byddo aruthr gan eich gelynion , y rhai a drigant ynddo , o’i herwydd . Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd , a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl ; a’ch tir fydd ddiffeithwch , a’ch dinasoedd yn anghyfannedd . Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch , a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion ; yna y gorffwys y tir , ac y mwynha ei Sabothau . Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys ; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi , pan oeddech yn trigo ynddo . A’r hyn a weddillir ohonoch , dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion ; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt ; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf ; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid . A syrthiant bawb ar ei gilydd , megis o flaen cleddyf , heb neb yn eu herlid : ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion . Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd , a thir eich gelynion a’ch bwyty . A’r rhai a weddillir ohonoch , a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion ; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant . Os cyffesant eu hanwiredd , ac anwiredd eu tadau , ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn , a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi ; A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau , a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion ; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig , a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth : Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob , a’m cyfamod hefyd ag Isaac , a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf ; ac a gofiaf y tir hefyd . A’r tir a adewir ganddynt , ac a fwynha ei Sabothau , tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt : a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth ; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau , a ffieiddio o’u henaid fy neddfau . Ac er hyn hefyd , pan fyddont yn nhir eu gelynion , nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha , gan dorri fy nghyfamod â hwynt : oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt . Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt , y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd , i fod iddynt yn Dduw : myfi ydwyf yr Arglwydd . Dyma’r deddfau , a’r barnedigaethau , a’r cyfreithiau , y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel , ym mynydd Sinai , trwy law Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan addunedo neb adduned neilltuol , y dynion fydd eiddo yr Arglwydd , yn dy bris di . A bydd dy bris , am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd , ie , bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian , yn ôl sicl y cysegr . Ac os benyw fydd , bydded dy bris ddeg sicl ar hugain . Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd , bydded dy bris am wryw ugain sicl , ac am fenyw ddeg sicl . A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd , bum sicl o arian ; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian . Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod , os gwryw fydd , bydded dy bris bymtheg sicl , ac am fenyw ddeg sicl . Ond os tlotach fydd efe na’th bris di ; yna safed gerbron yr offeiriad , a phrisied yr offeiriad ef : yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd , felly y prisia’r offeiriad ef . Ond os anifail , yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd , fydd ei adduned ; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd , sanctaidd fydd . Na rodded un arall amdano , ac na newidied ef , y da am y drwg , neu y drwg am y da : ac os gan newidio y newidia anifail am anifail ; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd . Ac os adduneda efe un anifail aflan , yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd ; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad A phrisied yr offeiriad ef , os da os drwg fydd : fel y prisiech di yr offeiriad ef , felly y bydd . Ac os efe gan brynu a’i prŷn ; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg . A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd ; yna yr offeiriad a’i prisia , os da os drwg fydd : megis y prisio’r offeiriad ef , felly y saif . Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd ; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato , a bydded eiddo ef . Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd ; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad : heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian . Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes , yn ôl dy bris di y saif . Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes ; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo , yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl , hyd flwyddyn y jiwbili , a lleihaer ar dy bris di . Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes ; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato , a bydded iddo ef . Ac onis gollwng y maes , neu os gwerthodd y maes i ŵr arall ; ni cheir ei ollwng mwy . A’r maes fydd , pan elo efe allan yn y jiwbili , yn gysegredig i’r Arglwydd , fel maes diofryd : a bydded yn feddiant i’r offeiriad . Ac os ei dir prŷn , yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth , a sancteiddia efe i’r Arglwydd ; Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili ; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd , y dydd hwnnw . Y maes a â yn ei ôl , flwyddyn y jiwbili , i’r hwn y prynasid ef ganddo , sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir . A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr : ugain gera fydd y sicl . Ond y cyntaf‐anedig o anifail , yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd , na chysegred neb ef , pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo : eiddo yr Arglwydd yw efe . Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan ; yna rhyddhaed ef yn dy bris di , a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato : ac onis rhyddha , yna gwerther ef yn dy bris di . Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd , o’r hyn oll a fyddo eiddo ef , o ddyn neu o anifail , neu o faes ei etifeddiaeth , ni werthir , ac ni ryddheir : pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd . Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog , yr hwn a ddiofryder gan ddyn : lladder yn farw . A holl ddegwm y tir , o had y tir , ac o ffrwyth y coed , yr Arglwydd a’u piau : cysegredig i’r Arglwydd yw . Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm , rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato . A phob degwm eidion , neu ddafad , yr hyn oll a elo dan y wialen ; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd . Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe , ac na newidied ef : ond os gan newidio y newidia efe hwnnw , bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig ; ni ellir ei ollwng yn rhydd . Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , i feibion Israel , ym mynydd Sinai . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , yn anialwch Sinai , ym mhabell y cyfarfod , ar y dydd cyntaf o’r ail fis , yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft , gan ddywedyd , Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel , yn ôl eu teuluoedd , wrth dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , pob gwryw wrth eu pennau ; O fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a allo fyned i ryfel yn Israel : ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd . A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth ; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau . A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi . O lwyth Reuben ; Elisur mab Sedeur . O lwyth Simeon ; Selumiel mab Surisadai . O lwyth Jwda ; Nahson mab Aminadab . O lwyth Issachar ; Nethaneel mab Suar . O lwyth Sabulon ; Elïab mab Helon . O feibion Joseff : dros Effraim , Elisama mab Ammihud ; dros Manasse , Gamaliel mab Pedasur . O lwyth Benjamin ; Abidan mab Gideoni . O lwyth Dan ; Ahieser mab Ammisadai . O lwyth Aser ; Pagiel mab Ocran . O lwyth Gad ; Elisaff mab Deuel . O lwyth Nafftali ; Anira mab Enan . Dyma rai enwog y gynulleidfa , tywysogion llwythau eu tadau , penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy . A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau ; Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis ; a rhoddasant eu hachau , trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , erbyn eu pennau . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses , felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai . A meibion Reuben , cyntaf‐anedig Israel , wrth eu cenedl eu hun , yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , erbyn eu pennau , pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a allai fyned i ryfel ; Y rhai a rifwyd ohonynt , sef o lwyth Reuben , oedd chwe mil a deugain a phum cant . O feibion Simeon , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , eu rhifedigion oedd , dan rif eu henwau , erbyn eu pennau , pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod , sef pob un a’r a allai fyned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Simeon , oedd onid un fil trigain mil a thri chant . O feibion Gad , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a allai fyned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Gad , oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain . O feibion Jwda , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Jwda , oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant . O feibion Issachar , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Issachar , oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . O feibion Sabulon , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Sabulon , oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant . O feibion Joseff , sef o feibion Effraim , wrth eu cenedlaethau , yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Effraim , oedd ddeugain mil a phum cant . O feibion Manasse , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Manasse , oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant . O feibion Benjamin , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Benjamin , oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant . O feibion Dan , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Dan , oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant . O feibion Aser , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Aser , oeddynt un fil a deugain a phum cant . O feibion Nafftali , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Nafftali , oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Dyma’r rhifedigion , y rhai a rifodd Moses , ac Aaron , a thywysogion Israel ; sef y deuddengwr , y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau . Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel , wrth dŷ eu tadau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel ; A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ond y Lefiaid , trwy holl lwythau eu tadau , ni rifwyd yn eu mysg hwynt : Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Ond na chyfrif lwyth Lefi , ac na chymer eu nifer hwynt , ymysg meibion Israel . Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth , ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi : hwynt‐hwy a ddygant y babell , a’i holl ddodrefn , ac a’i gwasanaethant , ac a wersyllant o amgylch i’r babell . A phan symudo’r babell , y Lefiaid a’i tyn hi i lawr ; a phan arhoso’r babell , y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny : lladder y dieithr a ddelo yn agos . A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun , a phob un wrth ei luman ei hun , trwy eu lluoedd . A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth , fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel : a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth . A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ; felly y gwnaethant . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun , dan arwyddion tŷ eu tadau : o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell . A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul , fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab . A’i lu ef , a’u rhai rhifedig hwynt , fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant . A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato : a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Yna llwyth Sabulon : ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd , yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant . Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn . Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant chwe mil a deugain a phum cant . A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon : a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fydd onid un trigain mil a thri chant . Yna llwyth Gad : a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel . A’i lu ef , a’u rhifedigion hwynt , fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain . Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd , a phedwar cant a deg a deugain , yn ôl eu lluoedd . Ac yn ail y cychwynnant hwy . A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd , gyda gwersyll y Lefiaid : fel y gwersyllant , felly y symudant , pob un yn ei le , wrth eu llumanau . Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddeugain mil a phum cant . Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse ; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant . Yna llwyth Benjamin : a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant , yn ôl eu lluoedd , gan mil ac wyth mil a chant . Ac a gychwynnant yn drydydd . Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant . A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser : a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant un fil a deugain a phum cant . Yna llwyth Nafftali : a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant . Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau . Dyma rifedigion meibion Israel , wrth dŷ eu tadau . Holl rifedigion y gwersylloedd , yn ôl eu lluoedd , oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses : felly y gwersyllasant wrth eu llumanau , ac felly y cychwynasant , bob un yn ei deuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau . Adyma genedlaethau Aaron a Moses , ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai . Dyma enwau meibion Aaron : Nadab y cyntaf‐anedig , ac Abihu , Eleasar , ac Ithamar . Dyma enwau meibion Aaron , yr offeiriaid eneiniog , y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu . A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd , pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd , yn anialwch Sinai ; a meibion nid oedd iddynt : ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Nesâ lwyth Lefi , a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad , fel y gwasanaethont ef . A hwy a gadwant ei gadwraeth ef , a chadwraeth yr holl gynulleidfa , o flaen pabell y cyfarfod , i wneuthur gwasanaeth y tabernacl . A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod , a chadwraeth meibion Israel , i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl . A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron , ac i’w feibion : y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel . Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth : a’r dieithrddyn a ddelo yn agos , a roddir i farw . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Ac wele , mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel , yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel ; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi : Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft , cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail : eiddof fi ydynt : myfi yw yr Arglwydd . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai , gan ddywedyd Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau , trwy eu teuluoedd : cyfrif hwynt , bob gwryw , o fab misyriad ac uchod . A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd , fel y gorchmynasid iddo . A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau ; Gerson , a Cohath , a Merari . A dyma enwau meibion Gerson , yn ôl eu teuluoedd ; Libni a Simei . A meibion Cohath , yn ôl eu teuluoedd Amram , Ishar , Hebron , ac Ussiel . A meibion Merari , yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi . Dyma deuluoedd Lefi , wrth dŷ eu tadau . O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid , a thylwyth y Simiaid : dyma deuluoedd y Gersoniaid . Eu rhifedigion hwynt , dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod , eu rhifedigion , meddaf , oedd saith mil a phum cant . Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin . A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael . A chadwraeth meibion Gerson , ym mhabell y cyfarfod , fydd y tabernacl , a’r babell , ei tho hefyd , a chaeadlen drws pabell y cyfarfod , A llenni’r cynteddfa , a chaeadlen drws y cynteddfa , yr hwn sydd ynghylch y tabernacl , a’r allor o amgylch , a’i rhaffau i’w holl wasanaeth . Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid , a thylwyth yr Ishariaid , a thylwyth yr Hebroniaid , a thylwyth yr Ussieliaid : dyma dylwyth y Cohathiaid . Rhifedi yr holl wrywiaid , o fab misyriad ac uchod , oedd wyth mil a chwe chant , yn cadw cadwraeth y cysegr . Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua’r deau . A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel . A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch , a’r bwrdd , a’r canhwyllbren , a’r allorau , a llestri’r cysegr , y rhai y gwasanaethant â hwynt , a’r gaeadlen , a’i holl wasanaeth . A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad ; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef . O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid , a thylwyth y Musiaid : dyma dylwyth Merari . A’u rhifedigion hwynt , wrth gyfrif pob gwryw , o fab misyriad ac uchod , oedd chwe mil a deucant . A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael . Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd . Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl , a’i drosolion , a’i golofnau , a’i forteisiau , a’i holl offer , a’i holl wasanaeth , A cholofnau’r cynteddfa o amgylch , a’u morteisiau , a’u hoelion , a’u rhaffau . A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain , o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul , fydd Moses , ac Aaron a’i feibion , y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr , a chadwraeth meibion Israel : a’r dieithr a ddelo yn agos , a roddir i farwolaeth . Holl rifedigion y Lefiaid , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , yn ôl gair yr Arglwydd , trwy eu teuluoedd , sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod , oedd ddwy fil ar hugain . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel , o fab misyriad ac uchod , a chymer rifedi eu henwau hwynt . A chymer y Lefiaid i mi , ( myfi yw yr Arglwydd , ) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel , ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel . A Moses a rifodd , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo , bobcyntaf‐anedig o feibion Israel . A’r rhai cyntaf‐anedig oll , o rai gwryw , dan rif eu henwau , o fab misyriad ac uchod , o’u rhifedigion hwynt , oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd , Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel , ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt ; a bydded y Lefiaid i mi : myfi yw yr Arglwydd . Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant , o gyntaf‐anedig meibion Israel , y rhai sydd dros ben y Lefiaid ; Cymer bum sicl am bob pen ; yn ôl sicl y cysegr y cymeri . Ugain gera fydd y sicl . A dod yr arian , gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt , i Aaron ac i’w feibion . A chymerodd Moses arian y prynedigaeth , y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid : Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian ; pump a thrigain a thri chant a mil , o siclau y cysegr . A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion , yn ôl gair yr Arglwydd , megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi , wrth eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau ; O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab deng mlwydd a deugain , pob un a elo i’r llu , i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Dyma weinidogaeth meibion Cohath , ym mhabell y cyfarfod , ynghylch y pethau sancteiddiolaf . A deued Aaron a’i feibion , pan gychwynno’r gwersyll , a thynnant i lawr y wahanlen orchudd , a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth ; A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch , a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd , a gosodant ei throsolion wrthi . Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas , a gosodant ar hynny y dysglau , a’r cwpanau , a’r ffiolau , a’r caeadau i gau : a bydded y bara bob amser arno . A thaenant arnynt wisg o ysgarlad , a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ei drosolion wrtho . Cymerant hefyd wisg o sidan glas , a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni , a’i lampau , a’i efeiliau , a’i gafnau , a holl lestri yr olew , y rhai y gwasanaethant ef â hwynt . A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ef ar drosol . A thaenant frethyn glas ar yr allor aur , a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ei throsolion wrthi . Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth , y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr , a rhoddant mewn brethyn glas , a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ar drosol . A thynnant allan ludw yr allor , a thaenant arni wisg borffor . A rhoddant arni ei holl lestri , â’r rhai y gwasanaethant hi , sef y pedyll tân , y cigweiniau , a’r rhawiau , a’r cawgiau , ie , holl lestri’r allor ; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch , a gosodant ei throsolion wrthi . Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cysegr , a holl ddodrefn y cysegr , pan gychwynno’r gwersyll ; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt : ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cysegredig , rhag iddynt farw . Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod . Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni , a’r arogl‐darth peraidd , a’r bwyd‐offrwm gwastadol , ac olew yr eneiniad , a goruchwyliaeth yr holl dabernacl , a’r hyn oll fydd ynddo , yn y cysegr , ac yn ei ddodrefn A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid : Ond hyn a wnewch iddynt , fel y byddont fyw , ac na fyddont feirw , pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf : Aaron a’i feibion a ânt i mewn , ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud . Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio’r hyn sydd gysegredig , rhag marw ohonynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer nifer meibion Gerson hefyd , trwy dŷ eu tadau , wrth eu teuluoedd ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , y rhifi hwynt ; pob un a ddêl i ddwyn swydd , i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid , o wasanaeth ac o glud . Sef dwyn ohonynt lenni’r tabernacl , a phabell y cyfarfod , ei len do ef , a’r to o grwyn daearfoch , yr hwn sydd yn uchaf arno , a chuddlen drws pabell y cyfarfod , A llenni’r cynteddfa , a chaeadlen drws porth y cynteddfa , yr hwn sydd ynghylch y tabernacl , a’r allor o amgylch , a’i rhaffau , a holl offer eu gwasanaeth hwynt , a’r hyn oll a wnaed iddynt : felly y gwasanaethant hwy . Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid , yn eu holl glud , ac yn eu holl wasanaeth : a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw . Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod ; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt . A meibion Merari , trwy eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau , y cyfrifi hwynt ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , y rhifi hwynt ; pob un a ddêl i ddwyn swydd , i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod . A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt , yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod ; sef ystyllod y tabernacl , a’i farrau , a’i golofnau , a’i forteisiau , A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch a’u morteisiau , a’u hoelion , a’u rhaffau , ynghyd â’u holl offer , ac ynghyd â’u holl wasanaeth : rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy . Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari , yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod , dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad . A rhifodd Moses ac Aaron , a phenaethiaid y gynulleidfa , feibion Cohath , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau : O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd , oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain . Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid , sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod ; y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . Rhifedigion meibion Gerson hefyd , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau , oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain . Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson , sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod ; y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd . A rhifedigion tylwyth meibion Merari , trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd , oeddynt dair mil a dau cant . Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . Yr holl rifedigion , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , a phenaethiaid Israel , o’r Lefiaid , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth , neu waith clud ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain . Wrth orchymyn yr Arglwydd , trwy law Moses y rhifodd efe hwy , pob un wrth ei wasanaeth , ac wrth ei glud : fel hyn y rhifwyd hwynt , fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus , a phob un y byddo diferlif arno , a phob un a halogir wrth y marw . Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt , allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt ; fel na halogont eu gwersylloedd , y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith . A meibion Israel a wnaethant felly , ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll : megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol , gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd , a bod o’r enaid hwnnw yn euog : Yna cyffesant eu pechod a wnaethant ; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben , a chwaneged ei bumed ran ato , a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef . Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo , yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd , fydd eiddo yr offeiriad ; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto . A phob offrwm dyrchafael , o holl sanctaidd bethau meibion Israel , y rhai a offrymant at yr offeiriad , fydd eiddo ef . A sancteiddio gŵr , eiddo ef fyddant : hyn a roddo neb i’r offeiriad , eiddo ef fydd . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pob gŵr pan wyro ei wraig ef , a gwneuthur bai yn ei erbyn ef ; A bod i ŵr a wnelo â hi , a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi , ac yn gyfrinachol , a hithau wedi ei halogi , ac heb dyst yn ei herbyn , a hithau heb ei dal ar ei gweithred ; A dyfod gwŷn eiddigedd arno , ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig , a hithau wedi ei halogi ; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno , ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig , a hithau heb ei halogi : Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad , a dyged ei hoffrwm drosti hi , degfed ran effa o flawd haidd : na thywallted olew arno , ac na rodded thus arno ; canys offrwm eiddigedd yw , offrwm cof yn coffáu anwiredd . A nesaed yr offeiriad hi , a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd , a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl , a rhodded yn y dwfr . A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr Arglwydd , a diosged oddi am ben y wraig , a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa ; offrwm eiddigedd yw efe : ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith . A thynged yr offeiriad hi , a dyweded wrth y wraig , Oni orweddodd gŵr gyda thi , ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr , bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith . Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di , a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun : Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith , a dyweded yr offeiriad wrth y wraig , Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl , pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr , a’th groth yn chwyddedig ; Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion , i chwyddo dy groth , ac i bydru dy forddwyd . A dyweded y wraig , Amen , amen . Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr , a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw . A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith : ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi , yn chwerw . A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd ; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd , ac offrymed ef ar yr allor . A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law , ei goffadwriaeth , a llosged ar yr allor ; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr . Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr , bydd , os hi a halogwyd , ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr , yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi , ac a chwydda ei chroth , ac a bydra ei morddwydd : a’r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl . Ond os y wraig ni halogwyd , eithr glân yw ; yna hi a fydd ddihangol , ac a blanta . Dyma gyfraith eiddigedd , pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr , ac ymhalogi : Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd , a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig ; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd , a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon . A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd , a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread , i ymneilltuo i’r Arglwydd : Ymneilltued oddi wrth win a diod gref ; nac yfed finegr gwin , na finegr diod gref ; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin , ac na fwytaed rawnwin irion , na sychion . Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin , o’r dincod hyd y bilionen . Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben : nes cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r Arglwydd , sanctaidd fydd ; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu . Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r Arglwydd , na ddeued at gorff marw . Nac ymhaloged wrth ei dad , neu wrth ei fam , wrth ei frawd , neu wrth ei chwaer , pan fyddant feirw ; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef . Holl ddyddiau ei Nasareaeth , sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd . Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth , a halogi pen ei Nasareaeth ; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth , ar y seithfed dydd yr eillia efe ef . Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen , at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod . Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth , ac un yn boethoffrwm , a gwnaed gymod drosto , am yr hyn a becho wrth y marw ; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw . A neilltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth , a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd ; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer , am halogi ei Nasareaeth ef . A dyma gyfraith y Nasaread : pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth , dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod . A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd , un hesbwrn blwydd , perffaith‐gwbl yn boethoffrwm ; ac un hesbin flwydd , berffaith‐gwbl , yn bech‐aberth ; ac un hwrdd perffaith‐gwbl , yn aberth hedd ; Cawellaid o fara croyw hefyd , sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew , ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew , a’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm hwy . A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd , ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef . Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd , ynghyd â’r cawellaid bara croyw ; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef . Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth ; a chymered flew pen ei Nasareaeth , a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd . Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi , ac un deisen groyw o’r cawell , ac un afrlladen groyw ; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread , wedi eillio ohono ei Nasareaeth ; A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : sanctaidd yw hyn i’r offeiriad , heblaw parwyden y cyhwfan , a phalfais y dyrchafael . Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin . Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd , a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth , heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef : fel y byddo ei adduned a addunedo , felly gwnaed , heblaw cyfraith ei Nasareaeth . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion , gan ddywedyd , Fel hyn y bendithiwch feibion Israel , gan ddywedyd wrthynt , Bendithied yr Arglwydd di , a chadwed di : A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat , a thrugarhaed wrthyt : Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat , a rhodded i ti dangnefedd . Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel , a mi a’u bendithiaf hwynt . Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl , a’i eneinio a’i sancteiddio ef , a’i holl ddodrefn , yr allor hefyd a’i holl ddodrefn , a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt ; Yr offrymodd tywysogion Israel , penaethiaid tŷ eu tadau , ( y rhai oedd dywysogion y llwythau , ac wedi eu gosod ar y rhifedigion : ) A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd , chwech o fenni diddos , a deuddeg o ychen ; men dros bob dau dywysog , ac ych dros bob un : a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer ganddynt , a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod ; a dod hwynt i’r Lefiaid , i bob un yn ôl ei wasanaeth . A chymerodd Moses y menni , a’r ychen , ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid . Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson , yn ôl eu gwasanaeth hwynt ; A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari , yn ôl eu gwasanaeth hwynt , dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad . Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim , am fod gwasanaeth y cysegr arnynt : ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw . A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor , ar y dydd yr eneiniwyd hi ; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau , tuag at gysegru’r allor . Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm , Nahson mab Aminadab , dros lwyth Jwda . A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid . Dyma offrwm Nahson mab Aminadab . Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar , tywysog Issachar . Efe a offrymodd ei offrwm , sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar . Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon , tywysog meibion Sabulon . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elïab mab Helon . Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur , tywysog meibion Reuben . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisur mab Sedeur . Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai , tywysog meibion Simeon . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai . Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel , tywysog meibion Gad . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel . Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud , tywysog meibion Effraim . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud . Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur , tywysog meibion Manasse . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur . Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni , tywysog meibion Benjamin . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni . Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai , tywysog meibion Dan . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai . Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran , tywysog meibion Aser . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran . Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan , tywysog meibion Nafftali . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan . Dyma gysegriad yr allor , gan dywysogion Israel , ar y dydd yr eneiniwyd hi : deuddeg dysgl arian , deuddeg ffiol arian , deuddeg llwy aur : Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl , a deg a thrigain pob ffiol : holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau , yn ôl y sicl sanctaidd Y llwyau aur oedd ddeuddeg , yn llawn arogl‐darth , o ddeg sicl bob llwy , yn ôl y sicl sanctaidd : holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl . Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach , deuddeg o hyrddod , deuddeg o ŵyn blwyddiaid , a’u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr , yn offrwm dros bechod . A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych , trigain o hyrddod , trigain o fychod , trigain o hesbyrniaid . Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio . Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw ; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa , yr hon oedd ar arch y dystiolaeth , oddi rhwng y ddau geriwb , ac efe a ddywedodd wrtho . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , a dywed wrtho , Pan oleuech y lampau , llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren . Ac felly y gwnaeth Aaron ; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Dyma waith y canhwyllbren : cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr , ie , hyd ei flodau cyfanwaith fydd ; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses , felly y gwnaeth efe y canhwyllbren . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel , a glanha hwynt . Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau : taenella arnynt ddwfr puredigaeth , a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd , a golchant eu gwisgoedd , ac felly ymlanhânt . Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod . A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod ; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd . A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd ; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid . Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd , yn offrwm gan feibion Israel , fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd . A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych : ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd , i wneuthur cymod dros y Lefiaid . A gosod y Lefiaid gerbron Aaron , a cherbron ei feibion , ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd . A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel , a bydded y Lefiaid yn eiddof fi . Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod ; a glanha di hwynt , ac offryma hwynt yn offrwm . Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel : yn lle agorydd pob croth , sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel , y cymerais hwynt i mi . Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel , o ddyn ac o anifail : er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , y sancteiddiais hwynt i mi fy hun . A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel . A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron , ac i’w feibion , o blith meibion Israel , i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod , ac i wneuthur cymod dros feibion Israel ; fel na byddo pla ar feibion Israel , pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr . A gwnaeth Moses ac Aaron , a holl gynulleidfa meibion Israel , i’r Lefiaid , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid : felly y gwnaeth meibion Israel iddynt . A’r Lefiaid a lanhawyd , ac a olchasant eu dillad : ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd : a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt . Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod , gerbron Aaron a’i feibion ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid , felly y gwnaethant iddynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid : o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod , y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod . Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth , fel na wasanaetho mwy . Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod , i oruchwylio ; ac na wasanaethed wasanaeth : fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai , yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft , ar y mis cyntaf , gan ddywedyd , Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor . Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn , yn y cyfnos , y cedwch ef yn ei dymor : yn ôl ei holl ddeddfau , ac yn ôl ei holl ddefodau , y cedwch ef . A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg . A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , yn y cyfnos , yn anialwch Sinai : yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel . Ac yr oedd dynion , y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn , fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw : a hwy a ddaethant gerbron Moses , a cherbron Aaron , ar y dydd hwnnw . A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho , Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw : paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel ? A dywedodd Moses wrthynt , Sefwch , a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw , neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell , eto cadwed Basg i’r Arglwydd . Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis . yn y cyfnos , y cadwant ef : ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef . Na weddillant ddim ohono hyd y bore , ac na thorrant asgwrn ohono : yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef . A’r gŵr a fyddo glân , ac heb fod mewn taith , ac a beidio â chadw y Pasg , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl , am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor : ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw . A phan ymdeithio dieithr gyda chwi , ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd ; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod , felly y ceidw : yr un ddeddf fydd i chwi , sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad . Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl , y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth ; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore . Felly yr ydoedd yn wastadol ; y cwmwl a gaeai amdano y dydd , a’r gwelediad tân y nos . A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell , wedi hynny y cychwynnai meibion Israel : ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo , yno y gwersyllai meibion Israel . Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel , ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent : yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl , yr arhosent yn y gwersyll . A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau , yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd , ac ni chychwynnent . Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl , wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent , ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent . Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore , a chyfodi o’r cwmwl y bore , hwythau a symudent : pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl , yna y cychwynnent . Os deuddydd , os mis , os blwyddyn fyddai , tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl , gan aros arno , meibion Israel a arhosent yn eu pebyll , ac ni chychwynnent : ond pan godai efe , y cychwynnent . Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent , ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent : felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd , yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses . Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwna i ti ddau utgorn arian ; yn gyfanwaith y gwnei hwynt : a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd , ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn . A phan ganant â hwynt , yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat , wrth ddrws pabell y cyfarfod . Ond os ag un y canant ; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel , a ymgasglant . Pan ganoch larwm ; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain , a gychwynnant . Pan ganoch larwm yr ail waith ; yna y gwersylloedd , y rhai a wersyllant tua’r deau , a gychwynnant : larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn . Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa , cenwch yr utgyrn ; ond na chenwch larwm . A meibion Aaron , yr offeiriaid , a ganant ar yr utgyrn ; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi ; cenwch larwm mewn utgyrn : yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw , ac yr achubir chwi rhag eich gelynion . Ar ddydd eich llawenydd hefyd , ac ar eich gwyliau gosodedig , ac ar ddechrau eich misoedd , y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth , ac uwchben eich aberthau hedd ; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . A bu yn yr ail flwyddyn , ar yr ail fis , ar yr ugeinfed dydd o’r mis , gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth . A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai ; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran . Felly y cychwynasant y waith gyntaf , wrth air yr Arglwydd trwy law Moses . Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd : ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab . Ac ar lu llwyth meibion Issachar , Nethaneel mab Suar . Ac ar lu llwyth meibion Sabulon , Elïab mab Helon . Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl ; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant , gan ddwyn y tabernacl . Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd : ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur . Ac ar lu llwyth meibion Simeon , Selumiel mab Surisadai . Ac ar lu llwyth meibion Gad , Eliasaff mab Deuel . A’r Cohathiaid a gychwynasant , gan ddwyn y cysegr ; a’r lleill a godent y tabernacl , tra fyddent hwy yn dyfod . Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd : ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud . Ac ar lu llwyth meibion Manasse , Gamaliel mab Pedasur . Ac ar lu llwyth meibion Benjamin , Abidan mab Gideoni . Yna lluman gwersyll meibion Dan , yn olaf o’r holl wersylloedd , a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd : ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai . Ac ar lu llwyth meibion Aser , Pagiel mab Ocran . Ac ar lu llwyth meibion Nafftali , Ahira mab Enan . Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd , pan gychwynasant . A dywedodd Moses wrth Hobab , mab Raguel y Midianiad , chwegrwn Moses , Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd , Rhoddaf hwnnw i chwi : tyred gyda ni , a gwnawn ddaioni i ti ; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel . Dywedodd yntau wrtho , Nid af ddim ; ond i’m gwlad fy hun , ac at fy nghenedl fy hun , yr af . Ac efe a ddywedodd , Na ad ni , atolwg ; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch , ac a fyddi yn lle llygaid i ni , A phan ddelych gyda ni , a dyfod o’r daioni hwnnw , yr hwn a wna’r Arglwydd i ni , ninnau a wnawn ddaioni i tithau . A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod : ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod , i chwilio am orffwysfa iddynt . A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd , pan elent o’r gwersyll . A hefyd pan gychwynnai yr arch , Moses a ddywedai , Cyfod , Arglwydd , a gwasgarer dy elynion ; a ffoed dy gaseion o’th flaen . A phan orffwysai hi , y dywedai efe , Dychwel , Arglwydd , at fyrddiwn miloedd Israel . A’r bobl , fel tuchanwyr , oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd : a chlywodd yr Arglwydd hyn ; a’i ddig a enynnodd ; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt , ac a ysodd gwr y gwersyll . A llefodd y bobl ar Moses : a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd ; a’r tân a ddiffoddodd . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw , Tabera : am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy . A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr : a meibion Israel hefyd a ddychwelasant , ac a wylasant , ac a ddywedasant , Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta ? Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad , y cucumerau , a’r pompionau , a’r cennin , a’r winwyn , a’r garlleg : Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo , heb ddim ond y manna yn ein golwg . A’r manna hwnnw oedd fel had coriander , a’i liw fel lliw bdeliwm . Y bobl a aethant o amgylch , ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau , neu a’i curasant mewn morter , ac a’i berwasant mewn peiriau , ac a’i gwnaethant yn deisennau : a’i flas ydoedd fel blas olew ir . A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll , disgynnai’r manna arno ef . A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau , bob un yn nrws ei babell : ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr ; a drwg oedd gan Moses . Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd , Paham y drygaist dy was ? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg , gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf ? Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn ? ai myfi a’u cenhedlais , fel y dywedech wrthyf , Dwg hwynt yn dy fynwes , ( megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno , ) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau ? O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn ? canys wylo y maent wrthyf , gan ddywedyd , Dod i ni gig i’w fwyta . Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn ; canys rhy drwm ydyw i mi . Ac os felly y gwnei i mi , atolwg , gan ladd lladd fi , os cefais ffafr yn dy olwg di ; fel na welwyf fy nrygfyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel , y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl , ac yn swyddogion arnynt ; a dwg hwynt i babell y cyfarfod , a safant yno gyda thi . Canys disgynnaf , a llefaraf wrthyt yno : a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti , ac a’i gosodaf arnynt hwy ; felly y dygant gyda thi faich y bobl , fel na ddygech di ef yn unig . Am hynny dywed wrth y bobl , Ymsancteiddiwch erbyn yfory , a chewch fwyta cig : canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta ? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft : am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig , a chwi a fwytewch . Nid un dydd y bwytewch , ac nid dau , ac nid pump o ddyddiau , ac nid deg diwrnod , ac nid ugain diwrnod ; Ond hyd fis o ddyddiau , hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau , a’i fod yn ffiaidd gennych : am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith , ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef , gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft ? A dywedodd Moses , Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith ; a thi a ddywedi , Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau . Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt , fel y byddo digon iddynt ? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt , fel y byddo digon iddynt ? A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , A gwtogwyd llaw yr Arglwydd ? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti , ai na ddigwydd . A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl , ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl , ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell . Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl , ac a lefarodd wrtho ; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno , ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain . A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt , y proffwydent , ac ychwaneg ni wnaent . A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll , ( enw un ydoedd Eldad , enw y llall Medad : ) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy , am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid ; ond nid aethant i’r babell , eto proffwydasant yn y gwersyll . A rhedodd llanc , a mynegodd i Moses , ac a ddywedodd , Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll . A Josua mab Nun , gweinidog Moses o’i ieuenctid , a atebodd ac a ddywedodd Moses , fy arglwydd , gwahardd iddynt . A dywedodd Moses wrtho , Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi ? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi , a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt ! A Moses a aeth i’r gwersyll , efe a henuriaid Israel . Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd , ac a ddug soflieir oddi wrth y môr , ac a’u taenodd wrth y gwersyll , megis taith diwrnod ar y naill du , a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll , a hynny ynghylch dau gufydd , ar wyneb y ddaear . Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll , a’r nos oll , a’r holl ddydd drannoeth , ac a gasglasant y soflieir : yr hwn a gasglodd leiaf , a gasglodd ddeg homer : a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll . A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi , pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl ; a’r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa ; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent . O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth ; ac arosasant yn Haseroth . Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses , o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe : canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig . A dywedasant , Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd ? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd ? A’r Arglwydd a glybu hynny . A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear . A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses , ac wrth Aaron , ac wrth Miriam , Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod . A hwy a aethant allan ill trioedd . Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl , ac a safodd wrth ddrws y babell , ac a alwodd Aaron a Miriam . A hwy a aethant allan ill dau . Ac efe a ddywedodd , Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau . Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg , mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo , neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho . Nid felly y mae fy ngwas Moses , yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ . Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho , mewn gwelediad , nid mewn damhegion ; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd : paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas , sef yn erbyn Moses ? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt ; ac efe a aeth ymaith . A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell : ac wele , Miriam ydoedd wahanglwyfus , fel yr eira . Ac edrychodd Aaron ar Miriam ; ac wele hi yn wahanglwyfus . Yna y dywedodd Aaron wrth Moses , O fy arglwydd , atolwg , na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom , a thrwy yr hwn y pechasom . Na fydded hi , atolwg , fel un marw , yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam . A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , O Dduw , atolwg , meddyginiaetha hi yr awr hon . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Os ei thad a boerai yn ei hwyneb , oni chywilyddiai hi saith niwrnod ? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi . A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod : a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn . Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth , ac a wersyllasant yn anialwch Paran . Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel : gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch ; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt . A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran , wrth orchymyn yr Arglwydd : penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll . A dyma eu henwau hwynt . Dros lwyth Reuben , Sammua mab Saccur . Dros lwyth Simeon , Saffat mab Hori . Dros lwyth Jwda , Caleb mab Jeffunne . Dros lwyth Issachar , Igal mab Joseff . Dros lwyth Effraim , Osea mab Nun . Dros lwyth Benjamin , Palti mab Raffu . Dros lwyth Sabulon , Gadiel mab Sodi . O lwyth Joseff , dros lwyth Manasse , Gadi mab Susi . Dros lwyth Dan , Amiel mab Gemali . Dros lwyth Aser , Sethur mab Michael . Dros lwyth Nafftali , Nahbi mab Foffsi . Dros lwyth Gad , Geuel mab Maci . Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad . A Moses a enwodd Osea mab Nun , Josua . A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan ; ac a ddywedodd wrthynt , Ewch yma tua’r deau , a dringwch i’r mynydd . Ac edrychwch y wlad beth yw hi , a’r bobl sydd yn trigo ynddi , pa un ai cryf ai gwan , ai ychydig ai llawer ydynt : A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo , ai da ai drwg ; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio , ai mewn pebyll , ai mewn amddiffynfeydd ; A pha dir , ai bras yw efe ai cul ; a oes coed ynddo , ai nad oes . Ac ymwrolwch , a dygwch o ffrwyth y tir . A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin . A hwy a aethant i fyny , ac a chwiliasant y tir , o anialwch Sin hyd Rehob , ffordd y deuir i Hamath . Ac a aethant i fyny i’r deau , ac a ddaethant hyd Hebron : ac yno yr oedd Ahiman , Sesai , a Thalmai , meibion Anac . ( A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft . ) A daethant hyd ddyffryn Escol ; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin , ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau : dygasant rai o’r pomgranadau hefyd , ac o’r ffigys . A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol ; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno . A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod . A myned a wnaethant , a dyfod at Moses ac at Aaron , ac at holl gynulleidfa meibion Israel , i Cades , yn anialwch Paran ; a dygasant yn eu hôl air iddynt , ac i’r holl gynulleidfa , ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir . A mynegasant iddo , a dywedasant , Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni ; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl : a dyma ei ffrwyth ef . Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion , a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn ; a gwelsom yno hefyd feibion Anac . Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau ; a’r Hethiaid , a’r Jebusiaid , a’r Amoriaid , yn gwladychu yn y mynydd‐dir ; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr , a cherllaw yr Iorddonen . A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses , ac a ddywedodd , Gan fyned awn i fyny , a pherchenogwn hi : canys gan orchfygu y gorchfygwn hi . Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant , Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl ; canys cryfach ydynt na nyni . A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent , wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Y tir yr aethom drosto i’w chwilio , tir yn difa ei breswylwyr yw efe ; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol : Ac yno y gwelsom y cewri , meibion Anac , y rhai a ddaethant o’r cewri ; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn , ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau . Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef , ac a waeddodd ; a’r bobl a wylasant y nos honno . A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron : a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt , O na buasem feirw yn nhir yr Aifft ! neu , O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn ! A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn , i gwympo ar y cleddyf ? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail . Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft ? A dywedasant bawb wrth ei gilydd , Gosodwn ben arnom , a dychwelwn i’r Aifft . Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel . Josua hefyd mab Nun , a Chaleb mab Jeffunne , dau o ysbiwyr y tir , a rwygasant eu dillad ; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel , gan ddywedyd , Y tir yr aethom drosto i’w chwilio , sydd dir da odiaeth . Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni , efe a’n dwg ni i’r tir hwn , ac a’i rhydd i ni ; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl . Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd , ac nac ofnwch bobl y tir ; canys bara i ni ydynt : ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt , a’r Arglwydd sydd gyda ni : nac ofnwch hwynt . A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini . A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pa hyd y digia’r bobl yma fi ? a pha hyd y byddant heb gredu i mi , am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith ? Trawaf hwynt â haint , a gwasgaraf hwy , a gwnaf di yn genhedlaeth fwy , a chryfach na hwynt‐hwy . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , Felly yr Eifftiaid a glyw , ( canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth , ) Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn , ( canys clywsant dy fod di , Arglwydd , ymysg y bobl yma , a’th fod di , Arglwydd , yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb , a bod dy gwmwl di yn aros arnynt , a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd , ac mewn colofn dân y nos ; ) Os lleddi y bobl yma fel un gŵr ; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat , gan ddywedyd , O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt , am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch . Yr awr hon , gan hynny , mawrhaer , atolwg , nerth yr Arglwydd , fel y lleferaist , gan ddywedyd , Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig , ac aml o drugaredd , yn maddau anwiredd a chamwedd , a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog ; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth . Maddau , atolwg , anwiredd y bobl yma , yn ôl dy fawr drugaredd , ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn , o’r Aifft hyd yma . A dywedodd yr Arglwydd , Maddeuais , yn ôl dy air : Ond os byw fi , yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd . Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant , a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft , ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn , ac ni wrandawsant ar fy llais , Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt ; sef y rhai oll a’m digiasant , nis gwelant ef : Ond fy ngwas Caleb , am fod ysbryd arall gydag ef , ac iddo fy nghyflawn ddilyn , dygaf ef i’r tir y daeth iddo : a’i had a’i hetifedda ef . ( Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn ; ) yfory trowch , ac ewch i’r diffeithwch , ar hyd ffordd y môr coch . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn ? clywais duchan meibion Israel , y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn . Dywed wrthynt , Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , fel y llefarasoch yn fy nghlustiau , felly y gwnaf i chwi . Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau : a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif , o fab ugain mlwydd ac uchod , y rhai a duchanasoch yn fy erbyn , Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw , am wneuthur i chwi breswylio ynddo , ond Caleb mab Jeffunne , a Josua mab Nun . Ond eich plant chwi , y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail , hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad , a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi . A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn . A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd , ac a ddygant gosb eich puteindra chwi , nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch . Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir , sef deugain niwrnod , ( pob diwrnod am flwyddyn , ) y dygwch eich anwireddau , sef deugain mlynedd ; a chewch wybod toriad fy ngair i . Myfi yr Arglwydd a leferais , diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma , sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i : yn y diffeithwch hwn y darfyddant , ac yno y byddant feirw . A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir , y rhai a ddychwelasant , ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef , gan roddi allan anair am y tir ; Y dynion , meddaf , y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir , a fuant feirw o’r pla , gerbron yr Arglwydd . Ond Josua mab Nun , a Chaleb mab Jeffunne , a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir . A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel : a’r bobl a alarodd yn ddirfawr . A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd , gan ddywedyd , Wele ni , a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd : canys ni a bechasom . A dywedodd Moses , Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd ? a hyn ni lwydda . Nac ewch i fyny ; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith : rhag eich taro o flaen eich gelynion . Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi , a chwi a syrthiwch ar y cleddyf : canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd , ni bydd yr Arglwydd gyda chwi . Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd : ond arch cyfamod yr Arglwydd , a Moses , ni symudasant o ganol y gwersyll . Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid , y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw , ac a’u trawsant , ac a’u difethasant hyd Horma . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion , Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i dir eich preswylfod , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi , Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i’r Arglwydd , offrwm poeth , neu aberth , wrth dalu adduned , neu mewn offrwm gwirfodd , neu ar eich gwyliau gosodedig , gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd , o’r eidionau , neu o’r praidd : Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i’r Arglwydd , o beilliaid ddegfed ran , wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew , yn fwyd‐offrwm . Ac offrwm di gyda’r offrwm poeth , neu yr aberth , bedwaredd ran hin o win am bob oen , yn ddiod‐offrwm . A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd , o beilliaid ddwy ddegfed ran , wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew . A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth , neu yn aberth yn talu adduned , neu aberth hedd i’r Arglwydd ; Yna offrymed yn fwyd‐offrwm gyda llo y fuwch , o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew . Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod‐offrwm , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Felly y gwneir am bob ych , neu am bob hwrdd , neu am oen , neu am fyn . Yn ôl y rhifedi a ddarparoch , felly y gwnewch i bob un , yn ôl eu rhifedi . Pob priodor a wna’r pethau hyn felly , wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd . A phan ymdeithio dieithrddyn , neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau , a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd ; fel y gwneloch chwi , felly gwnaed yntau . Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa , ac i’r ymdeithydd dieithr ; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau : megis yr ydych chwi , felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd . Un gyfraith , ac un ddefod , fydd i chwi , ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo ; Yna pan fwytaoch o fara’r tir , y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd . O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael : fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu , felly y dyrchefwch hithau . O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau . A phan eloch dros y ffordd , ac na wneloch yr holl orchmynion hyn , y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses , Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses , o’r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd , ac o hynny allan , trwy eich cenedlaethau ; Yna bydded , os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod , i’r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth , i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd , â’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm , wrth y ddefod , ac un bwch geifr yn bech‐aberth . A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel , a maddeuir iddynt ; canys anwybodaeth yw : a dygant eu hoffrwm , aberth tanllyd i’r Arglwydd , a’u pech‐aberth , gerbron yr Arglwydd , am eu hanwybodaeth . A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg ; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod . Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd ; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod . A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus , pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd , gan wneuthur cymod drosto ; a maddeuir iddo . Yr hwn a aned o feibion Israel , a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg , un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd . Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg , o briodor , neu o ddieithr ; cablu yr Arglwydd y mae : torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd , a thorri ei orchymyn ef ; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw : ei anwiredd fydd arno . Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch , cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth . A’r rhai a’i cawsant ef , a’i dygasant ef , sef y cynutwr , at Moses , ac at Aaron , ac at yr holl gynulleidfa . Ac a’i dodasant ef mewn dalfa , am nad oedd hysbys beth a wneid iddo . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Lladder y gŵr yn farw : llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll . A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll , ac a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad , trwy eu cenedlaethau , a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre . A bydded i chwi yn rhidens , i edrych arno , ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd , ac i’w gwneuthur hwynt ; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain , nac yn ôl eich llygaid eich hunain , y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl : Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i , ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw . Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , i fod i chwi yn Dduw : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Yna Cora , mab Ishar , mab Cohath , mab Lefi ; a Dathan ac Abiram , meibion Elïab , ac On mab Peleth , meibion Reuben , a gymerasant wŷr : A hwy a godasant o flaen Moses , ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel , penaethiaid y gynulleidfa , pendefigion y gymanfa , gwŷr enwog . Ac ymgasglasant yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron , ac a ddywedasant wrthynt , Gormod i chwi hyn ; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt , ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg : paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd ? A phan glybu Moses , efe a syrthiodd ar ei wyneb . Ac efe a lefarodd wrth Cora , ac wrth ei holl gynulleidfa ef , gan ddywedyd , Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef , a’r sanctaidd ; a phwy a ddylai nesáu ato ef : canys yr hwn a ddewisodd efe , a nesâ efe ato . Hyn a wnewch : Cymerwch i chwi , sef Cora a’i holl gynulleidfa , thuserau ; A rhoddwch ynddynt dân , agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd : yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd , yr hwn a ddewiso yr Arglwydd : gormod i chwi hyn , meibion Lefi . A dywedodd Moses wrth Cora , Gwrandewch , atolwg , meibion Lefi . Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel , gan eich nesáu chwi ato ei hun , i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd , ac i sefyll gerbron y gynulleidfa , i’w gwasanaethu hwynt ? Canys efe a’th nesaodd di , a’th holl frodyr , meibion Lefi , gyda thi : ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd ? Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd : ond Aaron , beth yw efe , i chwi i duchan yn ei erbyn ? A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram , meibion Elïab . Hwythau a ddywedasant , Ni ddeuwn ni ddim i fyny . Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl , i’n lladd ni yn y diffeithwch , oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni ? Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl , ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan : a dynni di lygaid y gwŷr hyn ? ni ddeuwn ni i fyny ddim . Yna y digiodd Moses yn ddirfawr , ac y dywedodd wrth yr Arglwydd , Nac edrych ar eu hoffrwm hwy : ni chymerais un asyn oddi arnynt , ac ni ddrygais un ohonynt . A dywedodd Moses wrth Cora , Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd , ti , a hwynt , ac Aaron , yfory . A chymerwch bob un ei thuser , a rhoddwch arnynt arogl‐darth ; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd , sef dau cant a deg a deugain o thuserau : dwg dithau hefyd , ac Aaron , bob un ei thuser . A chymerasant bob un ei thuser , a rhoddasant dân ynddynt , a gosodasant arogl‐darth arnynt ; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod , ynghyd â Moses ac Aaron . Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt , i ddrws pabell y cyfarfod : a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon , a mi a’u difâf hwynt ar unwaith . A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a ddywedasant , O Dduw , Duw ysbrydion pob cnawd , un dyn a bechodd , ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd . Llefara wrth y gynulleidfa , gan ddywedyd , Ewch ymaith o gylch pabell Cora , Dathan , ac Abiram . A chyfododd Moses , ac a aeth at Dathan ac Abiram : a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef . Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa , gan ddywedyd , Ciliwch , atolwg , oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn , ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt ; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt . Yna yr aethant oddi wrth babell Cora , Dathan , ac Abiram , o amgylch : a Dathan ac Abiram , eu gwragedd hefyd , a’u meibion , a’u plant , a ddaethant allan , gan sefyll wrth ddrws eu pebyll . A dywedodd Moses , Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn ; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt . Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn , ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn ; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i . Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth , fel yr agoro’r ddaear ei safn , a’u llyncu hwynt , a’r hyn oll sydd eiddynt , fel y disgynnont yn fyw i uffern ; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd . A bu , wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn , hollti o’r ddaear oedd danynt hwy . Agorodd y ddaear hefyd ei safn , a llyncodd hwynt , a’u tai hefyd , a’r holl ddynion oedd gan Cora , a’u holl gyfoeth . A hwynt , a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt , a ddisgynasant yn fyw i uffern ; a’r ddaear a gaeodd arnynt : a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa . A holl Israel , y rhai oedd o’u hamgylch hwynt , a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt : canys dywedasant , Ciliwn , rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau . Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd , ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth Eleasar , mab Aaron yr offeiriad , am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg ; a gwasgara y tân oddi yno allan : canys sanctaidd ydynt : Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun ; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain , i fod yn gaead i’r allor ; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd ; am hynny sanctaidd ydynt : a byddant yn arwydd i feibion Israel . A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres , â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid ; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor : Yn goffadwriaeth i feibion Israel ; fel na nesao gŵr dieithr , yr hwn ni byddo o had Aaron , i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd ; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa : megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef . A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron , gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd . A bu , wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron , edrych ohonynt ar babell y cyfarfod : ac wele , toasai y cwmwl hi , ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd . Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Ciliwch o blith y gynulleidfa hon , a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth . A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau . Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron , Cymer thuser , a dod dân oddi ar yr allor ynddi , a gosod arogl‐darth arni , a dos yn fuan at y gynulleidfa , a gwna gymod drostynt : canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd ; dechreuodd y pla . A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses , ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele , dechreuasai y pla ar y bobl : ac efe a rodd arogl‐darth , ac a wnaeth gymod dros y bobl . Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw ; a’r pla a ataliwyd . A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant , heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora . A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod : a’r pla a ataliwyd A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a chymer gan bob un ohonynt wialen , yn ôl tŷ eu tadau , sef gan bob un o’u penaethiaid , yn ôl tŷ eu tadau , deuddeg gwialen : ysgrifenna enw pob un ar ei wialen . Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi : canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau . A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod , gerbron y dystiolaeth , lle y cyfarfyddaf â chwi . A gwialen y gŵr a ddewiswyf , a flodeua : a mi a wnaf i furmur meibion Israel , y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn , beidio â mi . A llefarodd Moses wrth feibion Israel : a’u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth , yn ôl tŷ eu tadau , sef deuddeg gwialen ; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt . A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd , ym mhabell y dystiolaeth . A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth : ac wele , gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai , ac a fwriasai flagur , ac a flodeuasai flodau , ac a ddyg asai almonau . A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel . Hwythau a edrychasant , ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth , i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar ; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi , ac na byddont feirw . A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo ; felly y gwnaeth efe . A meibion Israel a lefarasant wrth Moses , gan ddywedyd , Wele ni yn trengi ; darfu amdanom , darfu amdanom ni oll . Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd . A wneir pen amdanom gan drengi ? Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Tydi a’th feibion , a thylwyth dy dad gyda thi , a ddygwch anwiredd y cysegr : a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth . A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi , sef llwyth dy dad , i lynu wrthyt ti , ac i’th wasanaethu : tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth . A hwy a gadwant dy gadwraeth di , a chadwraeth yr holl babell : ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr , nac at yr allor , rhag eu marw hwynt , a chwithau hefyd . Ond hwy a lynant wrthyt , ac a oruchwyliant babell y cyfarfod , yn holl wasanaeth y babell : ac na ddeued y dieithr yn agos atoch . Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr , a goruchwyliaeth yr allor ; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel . Ac wele , mi a gymerais dy frodyr di , y Lefiaid , o fysg meibion Israel : i ti y rhoddwyd hwynt , megis rhodd i’r Arglwydd , i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod . Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth ; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor , ac o fewn y llen wahan , y gwasanaethwch : yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi ; a’r dieithr a ddelo yn agos , a leddir . A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron , Wele , mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael , o holl gysegredig bethau meibion Israel ; rhoddais hwynt i ti , oherwydd yr eneiniad , ac i’th feibion , trwy ddeddf dragwyddol . Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân : eu holl offrymau hwynt , eu holl fwyd‐offrwm , a’u holl aberthau dros bechod , a’u holl aberthau dros gamwedd , y rhai a dalant i mi , fyddant sancteiddiolaf i ti , ac i’th feibion . O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef ; pob gwryw a’i bwyty ef : cysegredig fydd efe i ti . Hyn hefyd fydd i ti ; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt , ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel : i ti y rhoddais hwynt , ac i’th feibion , ac i’th ferched gyda thi , trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono . Holl oreuon yr olew , a holl oreuon y gwin a’r ŷd , sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd , a roddais i ti . Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd , fydd eiddot ti : pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono . Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti . Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd , o ddyn ac o anifail , fydd eiddot ti : ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn ; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan . A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad , yn dy bris di , er pum sicl o arian , wrth sicl y cysegr : ugain gera yw hynny . Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion , neu gyntaf‐anedig dafad , neu gyntaf‐anedig gafr ; sanctaidd ydynt hwy : eu gwaed a daenelli ar yr allor , a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ond eu cig fydd eiddot ti ; fel parwyden y cyhwfan , ac fel yr ysgwyddog ddeau , y mae yn eiddot ti . Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd , y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd , a roddais i ti , ac i’th feibion , ac i’th ferched gyda thi , trwy ddeddf dragwyddol : cyfamod halen tragwyddol fydd hyn , gerbron yr Arglwydd , i ti , ac i’th had gyda thi . A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt , ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt : myfi yw dy ran di , a’th etifeddiaeth , ymysg meibion Israel . Ac wele , mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel , yn etifeddiaeth , am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod . Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod ; rhag iddynt ddwyn pechod , a marw . Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod , a dygant eu hanwiredd : deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau , nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel . Canys degwm meibion Israel , yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth : am hynny y dywedais wrthynt , nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara hefyd wrth y Lefiaid , a dywed wrthynt , Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt ; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , sef degwm o’r degwm . A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael , fel yr ŷd o’r ysgubor , ac fel cyflawnder o’r gwinwryf . Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel ; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad . O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono , sef y rhan gysegredig , allan ohono ef . A dywed wrthynt , Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono , cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor , a thoreth y gwinwryf . A bwytewch ef ym mhob lle , chwi a’ch tylwyth : canys gwobr yw efe i chwi , am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd , gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono : na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel ; fel na byddoch feirw . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd . Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl , yr hon ni byddo anaf arni , ac nid aeth iau arni . A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad : a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll ; a lladded un hi ger ei fron ef . A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys , a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith . A llosged un yr anner yn ei olwg ef : ei chroen , a’i chig , a’i gwaed , ynghyd â’i biswail , a lysg efe . A chymered yr offeiriad goed cedr , ac isop , ac ysgarlad ; a bwried i ganol llosgfa yr anner . A golched yr offeiriad ei wisgoedd , troched hefyd ei gnawd mewn dwfr , ac wedi hynny deued i’r gwersyll ; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr . Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr , a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr ; ac aflan fydd hyd yr hwyr . A chasgled un glân ludw yr anner , a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân ; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel , yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw . A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner , ei ddillad ; aflan fydd hyd yr hwyr : a bydd hyn i feibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt , yn ddeddf dragwyddol . A gyffyrddo â chorff marw dyn , aflan fydd saith niwrnod . Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd , a’r seithfed dydd glân fydd : ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe , yna ni bydd efe lân y seithfed dydd . Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw , ac nid ymlanhao , sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd ; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel : am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno , aflan fydd efe ; ei aflendid sydd eto arno . Dyma’r gyfraith , pan fyddo marw dyn mewn pabell : pob un a ddelo i’r babell , a phob un a fyddo yn y babell , fydd aflan saith niwrnod . A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno , aflan yw efe . Pob un hefyd a gyffyrddo , ar wyneb y maes , ag un wedi ei ladd â chleddyf , neu ag un marw , neu ag asgwrn dyn , neu â bedd , a fydd aflan saith niwrnod . Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod ; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr ; A chymered isop , a golched un dihalogedig ef mewn dwfr , a thaenelled ar y babell , ac ar yr holl lestri , ac ar yr holl ddynion oedd yno , ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn , neu un wedi ei ladd , neu un wedi marw , neu fedd : A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd , a’r seithfed dydd ; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd , a golched ei ddillad , ymolched mewn dwfr , a glân fydd yn yr hwyr . Ond y gŵr a haloger , ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa : canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd , ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth ; aflan yw efe . A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth , olchi ei ddillad ; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef , fydd aflan : a’r dyn a gyffyrddo â hynny , fydd aflan hyd yr hwyr . A meibion Israel , sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin , yn y mis cyntaf ; ac arhodd y bobl yn Cades ; yno hefyd y bu farw Miriam : ac yno y claddwyd hi . Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa : a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron . Ac ymgynhennodd y bobl â Moses , a llefarasant , gan ddywedyd , O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd ! Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn , i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo ? A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft , i’n dwyn ni i’r lle drwg yma ? lle heb had , na ffigysbren , na gwinwydden , na phomgranatbren , ac heb ddwfr i’w yfed ? A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa , i ddrws pabell y cyfarfod ; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer y wialen , a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd ; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig , a hi a rydd ei dwfr : a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig , a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid . A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd , megis y gorchmynasai efe iddo . A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig : ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch yn awr , chwi wrthryfelwyr ; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr ? A Moses a gododd ei law , ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen : a daeth dwfr lawer allan ; a’r gynulleidfa a yfodd , a’u hanifeiliaid hefyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , ac wrth Aaron , Am na chredasoch i mi , i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel : am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt . Dyma ddyfroedd Meriba ; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd , ac y sancteiddiwyd ef ynddynt . A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Israel dy frawd ; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni : Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft , ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau ; ac y drygodd yr Eifftiaid ni , a’n tadau . A ni a waeddasom ar yr Arglwydd ; ac efe a glybu ein llef ni , ac a anfonodd angel , ac a’n dug ni allan o’r Aifft : ac wele ni yn Cades , dinas ar gwr dy ardal di . Atolwg , gad i ni fyned trwy dy wlad : nid awn trwy faes , na gwinllan , ac nid yfwn ddwfr un ffynnon : priffordd y brenin a gerddwn ; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy , nes i ni fyned allan o’th derfynau di . A dywedodd Edom wrtho , Na thyred heibio i mi , rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod . A meibion Israel a ddywedasant wrtho , Ar hyd y briffordd yr awn i fyny ; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di , rhoddaf ei werth ef ; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed . Yntau a ddywedodd , Ni chei fyned trwodd . A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef , â phobl lawer , ac â llaw gref . Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro : am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef . A meibion Israel , sef yr holl gynulleidfa , a deithiasant o Cades , ac a ddaethant i fynydd Hor . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor , wrth derfyn tir Edom , gan ddywedyd , Aaron a gesglir at ei bobl : ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel ; am i chwi anufuddhau i’m gair , wrth ddwfr Meriba . Cymer Aaron ac Eleasar ei fab , a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor ; A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron , a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef : canys Aaron a gesglir at ei bobl , ac a fydd farw yno . A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd : a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor , yng ngŵydd yr holl gynulleidfa . A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd , ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef : a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd . A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd . A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron ; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain . A’r brenin Arad , y Canaanead , preswylydd y deau , a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr ; ac a ryfelodd yn erbyn Israel , ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion . Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd , ac a ddywedodd , Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw , yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt . A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel ; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef ; ac efe a’u difrododd hwynt , a’u dinasoedd ; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma . A hwy a aethant o fynydd Hor , ar hyd ffordd y môr coch , i amgylchu tir Edom : a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl , oherwydd y ffordd . A llefarodd y bobl yn erbyn Duw , ac yn erbyn Moses , Paham y dygasoch ni o’r Aifft , i farw yn yr anialwch ? canys nid oes na bara na dwfr ; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn . A’r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd ; a hwy a frathasant y bobl : a bu feirw o Israel bobl lawer . A daeth y bobl at Moses , adywedasant Pechasom ; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd , ac yn dy erbyn dithau : gweddïa ar yr Arglwydd , ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym . A gweddïodd Moses dros y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Gwna i ti sarff danllyd , a gosod ar drostan : a phawb a frather , ac a edrycho ar honno , fydd byw . A gwnaeth Moses sarff bres , ac a’i gosododd ar drostan : yna os brathai sarff ŵr , ac edrych ohono ef ar y sarff bres , byw fyddai . A meibion Israel a gychwynasant oddi yno , ac a wersyllasant yn Oboth . A hwy a aethant o Oboth , ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim , yn yr anialwch , yr hwn oedd ar gyfer Moab , tua chodiad haul . Cychwynasant oddi yno , a gwersyllasant wrth afon Sared . Cychwynasant oddi yno , a gwersyllasant wrth ryd Arnon , yr hon sydd yn yr anialwch , yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid : canys Arnon oedd derfyn Moab , rhwng Moab a’r Amoriaid . Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd , Y peth a wnaeth efe yn y môr coch , ac yn afonydd Arnon , Ac wrth raeadr yr afonydd , yr hwn a dreigla i breswylfa Ar , ac a bwysa at derfyn Moab . Ac oddi yno yr aethant i Beer : honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Casgl y bobl ynghyd , a mi a roddaf iddynt ddwfr . Yna y canodd Israel y gân hon : Cyfod , ffynnon ; cenwch iddi . Ffynnon a gloddiodd y tywysogion , ac a gloddiodd penaethiaid y bobl , ynghyd â’r deddfwr , â’u ffyn . Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana : Ac o Mattana i Nahaliel ; ac o Nahaliel i Bamoth : Ac o Bamoth , yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab , i ben y bryn sydd yn edrych tua’r diffeithwch . Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid , gan ddywedyd , Gad i mi fyned trwy dy dir : ni thrown i faes , na gwinllan ; nid yfwn ddwfr un ffynnon : ar hyd ffordd y brenin y cerddwn , hyd onid elom allan o’th derfynau di . Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad : ond casglodd Sehon ei holl bobl , ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch : ac efe a ddaeth i Jahas , ac a ymladdodd yn erbyn Israel . Ac Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf ; ac a oresgynnodd ei dir ef , o Arnon hyd Jabboc , hyd at feibion Ammon : canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon . A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny : a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid , yn Hesbon , ac yn ei holl bentrefydd . Canys dinas Sehon , brenin yr Amoriaid , ydoedd Hesbon , ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab , yr hwn a fuasai o’r blaen , ac a ddug ei dir ef oddi arno , hyd Arnon . Am hynny y dywed y diarhebwyr , Deuwch i Hesbon ; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon . Canys tân a aeth allan o Hesbon , a fflam o ddinas Sehon : bwytaodd Ar ym Moab , a pherchenogion Bamoth Arnon . Gwae di , Moab ; darfu amdanat , bobl Cemos : rhoddodd ei feibion dihangol , a’i ferched , mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid . Saethasom hwynt : darfu am Hesbon , hyd Dibon : ac anrheithiasom hyd Noffa , yr hon sydd hyd Medeba . A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid . A Moses a anfonodd i chwilio Jaser : a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi , ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno . Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan : ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel , hyd Edrei , efe a’i holl bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Nac ofna ef : canys yn dy law di y rhoddais ef , a’i holl bobl , a’i dir ; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon . Am hynny y trawsant ef , a’i feibion , a’i holl bobl , fel na adawyd iddo ef weddill : a hwy a berchenogasant ei dir ef . Ameibion Israel a gychwynasant , ac a wersyllasant yn rhosydd Moab , am yr Iorddonen â Jericho . A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid . As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr ; canys llawer oedd : a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel . A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian , Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd , fel y llyf yr ych wellt y maes . A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw . Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor , i Pethor , ( yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl , ) i’w gyrchu ef ; gan ddywedyd , Wele bobl a ddaeth allan o’r Aifft : wele , y maent yn cuddio wyneb y ddaear ; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i . Yr awr hon , gan hynny , tyred , atolwg , melltithia i mi y bobl yma ; canys cryfach ydynt na mi : ond odid mi allwn ei daro ef , a’u gyrru hwynt o’r tir : canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di , a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech . A henuriaid Moab , a henuriaid Midian , a aethant , â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo : daethant hefyd at Balaam , a dywedasant iddo eiriau Balac . A dywedodd yntau wrthynt , Lletywch yma heno ; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf . A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam . A daeth Duw at Balaam , ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi ? A dywedodd Balaam wrth Dduw , Balac mab Sippor , brenin Moab , a ddanfonodd ataf , gan ddywedyd , Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft , ac yn gorchuddio wyneb y ddaear : yr awr hon tyred , rhega hwynt i mi ; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt , a’u gyrru allan . A dywedodd Duw wrth Balaam , Na ddos gyda hwynt ; na felltithia’r bobl : canys bendigedig ydynt . A Balaam a gododd y bore , ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac , Ewch i’ch gwlad : oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi . A thywysogion Moab a godasant , ac a ddaethant at Balac ; ac a ddywedasant , Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni . A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion , anrhydeddusach na’r rhai hyn . A hwy a ddaethant at Balaam ; ac a ddywedasant wrtho , Fel hyn y dywed Balac mab Sippor ; Atolwg , na luddier di rhag dyfod ataf : Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr ; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf , a wnaf : tyred dithau , atolwg , rhega i mi y bobl hyn . A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac , Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ , ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw , i wneuthur na bychan na mawr . Ond , atolwg , yn awr , arhoswch chwithau yma y nos hon ; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg . A daeth Duw at Balaam liw nos , a dywedodd wrtho , Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn , cyfod , dos gyda hwynt : ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt , hynny a wnei di . Yna y cododd Balaam yn fore , ac a gyfrwyodd ei asen , ac a aeth gyda thywysogion Moab . A dig Duw a enynnodd , am iddo ef fyned : ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef ; ac efe yn marchogaeth ar ei asen , a’i ddau lanc gydag ef . A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd , a’i gleddyf yn noeth yn ei law : a chiliodd yr asen allan o’r ffordd , ac a aeth i’r maes : a thrawodd Balaam yr asen , i’w throi i’r ffordd . Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd , a magwyr o’r ddeutu . Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd , yna hi a ymwasgodd at y fagwyr ; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr : ac efe a’i trawodd hi eilwaith . Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach ; ac a safodd mewn lle cyfyng , lle nid oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy . A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd , ac a orweddodd dan Balaam : yna yr enynnodd dig Balaam , ac efe a drawodd yr asen â ffon . A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen ; a hi a ddywedodd wrth Balaam , Beth a wneuthum i ti , pan drewaist fi y tair gwaith hyn ? A dywedodd Balaam wrth yr asen , Am i ti fy siomi . O na byddai gleddyf yn fy llaw ; canys yn awr y’th laddwn . A dywedodd yr asen wrth Balaam , Onid myfi yw dy asen , yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti , hyd y dydd hwn ? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn ? Ac efe a ddywedodd , Naddo . A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam ; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd , a’i gleddyf noeth yn ei law : ac efe a ogwyddodd ei ben , ac a ymgrymodd ar ei wyneb . A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho , Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn ? Wele , mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti ; canys cyfeiliornus yw’r ffordd hon yn fy ngolwg . A’r asen a’m gwelodd ; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn : oni buasai iddi gilio rhagof , diau yn awr y lladdaswn di , ac a’i gadawswn hi yn fyw . A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd , Pechais ; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn : ac yr awr hon , os drwg yw yn dy olwg , dychwelaf adref . A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam , Dos gyda’r dynion ; a’r gair a lefarwyf wrthyt , hynny yn unig a leferi . Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac . A chlybu Balac ddyfod Balaam : ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab ; yr hon sydd ar ardal Arnon , yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn . A dywedodd Balac wrth Balaam , Onid gan anfon yr anfonais atat i’th gyrchu ? paham na ddeuit ti ataf ? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus ? A dywedodd Balaam wrth Balac , Wele , mi a ddeuthum atat : gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon ? y gair a osodo Duw yn fy ngenau , hwnnw a lefaraf fi . A Balaam a aeth gyda Balac ; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth . A lladdodd Balac wartheg a defaid ; ac a anfonodd ran i Balaam , ac i’r tywysogion oedd gydag ef . A’r bore Balac a gymerodd Balaam , ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal ; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl . Adywedodd Balaam wrth Balac , Adeilada i mi yma saith allor ; a darpara i mi yma saith o fustych , a saith o hyrddod . A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam . Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor . A dywedodd Balaam wrth Balac , Saf di wrth dy boethoffrwm ; myfi a af oddi yma : ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod ; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi . Ac efe a aeth i le uchel . A chyfarfu Duw â Balaam ; a dywedodd Balaam wrtho , Darperais saith allor , ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor . A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam ; ac a ddywedodd , Dychwel at Balac , a dywed fel hyn . Ac efe a ddychwelodd ato . Ac wele , efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi , o fynyddoedd y dwyrain , gan ddywedyd , Tyred , melltithia i mi Jacob ; tyred , a ffieiddia Israel . Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw ? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd ? Canys o ben y creigiau y gwelaf ef , ac o’r bryniau yr edrychaf arno ; wele bobl yn preswylio eu hun , ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd . Pwy a rif lwch Jacob , a rhifedi pedwaredd ran Israel ? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn , a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau . A dywedodd Balac wrth Balaam , Beth a wnaethost i mi ? I regi fy ngelynion y’th gymerais ; ac wele , gan fendithio ti a’u bendithiaist . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau , sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd ? A dywedodd Balac wrtho ef , Tyred , atolwg , gyda myfi i le arall , lle y gwelych hwynt : oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig , ac ni chei eu gweled hwynt i gyd : rhega dithau hwynt i mi oddi yno . Ac efe a’i dug ef i faes amlwg , i ben bryn ; ac a adeiladodd saith allor , ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor . Ac a ddywedodd wrth Balac , Saf yma wrth dy boethoffrwm , a mi a af acw i gyfarfod â’r Arglwydd . A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam ; ac a osododd air yn ei enau ef , ac a ddywedodd Dychwel at Balac , a dywed fel hyn . Ac efe a ddaeth ato . Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm , a thywysogion Moab gydag ef . A dywedodd Balac wrtho , Beth a ddywedodd yr Arglwydd ? Yna y cymerodd efe ei ddameg , ac a ddywedodd , Cyfod , Balac , a gwrando ; mab Sippor , clustymwrando â mi . Nid dyn yw Duw , i ddywedyd celwydd ; na mab dyn , i edifarhau : a ddywedodd efe , ac nis cyflawna ? a lefarodd efe , ac oni chywira ? Wele , cymerais arnaf fendithio ; a bendithiodd efe ; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl . Ni wêl efe anwiredd yn Jacob , ac ni wêl drawsedd yn Israel ; yr Arglwydd ei Dduw sydd gydag ef , ac y mae utgorn-floedd brenin yn eu mysg hwynt . Duw a’u dug hwynt allan o’r Aifft : megis nerth unicorn sydd iddo . Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob , na dewiniaeth yn erbyn Israel : y pryd hwn y dywedir am Jacob , ac am Israel , Beth a wnaeth Duw ! Wele , y bobl a gyfyd fel llew mawr , ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd : ni orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth , ac yfed gwaed y lladdedigion . A dywedodd Balac wrth Balaam , Gan regi na rega ef mwy : gan fendithio na fendithia ef chwaith . Yna yr atebodd Balaam , ac a ddywedodd wrth Balac , Oni fynegais i ti , gan ddywedyd , Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd , hynny a wnaf fi ? A dywedodd Balac wrth Balaam , Tyred , atolwg , mi a’th ddygaf i le arall : ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regi ef i mi oddi yno . A Balac a ddug Balaam i ben Peor , yr hwn sydd yn edrych tua’r diffeithwch . A dywedodd Balaam wrth Balac , Adeilada i mi yma saith allor ; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd . A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam ; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor . Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel ; nid aeth efe , megis o’r blaen , i gyrchu dewiniaeth ; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch . A chododd Balaam ei lygaid : ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau : a daeth ysbryd Duw arno ef . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Balaam mab Beor a ddywed , a’r gŵr a agorwyd ei lygaid , a ddywedodd ; Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog , yr hwn a syrthiodd , ac a agorwyd ei lygaid : Mor hyfryd yw dy bebyll di , O Jacob ! dy gyfanheddau di , O Israel ! Ymestynnant fel dyffrynnoedd , ac fel gerddi wrth afon , fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd , fel y cedrwydd wrth ddyfroedd . Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau , a’i had fydd mewn dyfroedd lawer , a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag , a’i frenhiniaeth a ymgyfyd . Duw a’i dug ef allan o’r Aifft ; megis nerth unicorn sydd iddo : efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion , ac a ddryllia eu hesgyrn , ac â’i saethau y gwana efe hwynt . Efe a gryma , ac a orwedd fel llew , ac fel llew mawr : pwy a’i cyfyd ef ? Bendigedig fydd dy fendithwyr , a melltigedig dy felltithwyr . Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam ; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd . Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam , I regi fy ngelynion y’th gyrchais ; ac wele , ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn . Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun : dywedais , gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn ; ac wele , ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd . A dywedodd Balaam wrth Balac , Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf , gan ddywedyd , Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ , ni allwn droseddu gair yr Arglwydd , i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun : yr hyn a lefaro yr Arglwydd , hynny a lefaraf fi ? Ond yr awr hon , wele fi yn myned at fy mhobl : tyred , mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf . Ac efe a gymerth ei ddameg , ac a ddywedodd , Balaam mab Beor a ddywed , a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed ; Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw , gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf , a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog , yr hwn a syrthiodd , ac yr agorwyd ei lygaid : Gwelaf ef , ac nid yr awr hon ; edrychaf arno , ond nid o agos : daw seren o Jacob , a chyfyd teyrnwialen o Israel , ac a ddryllia gonglau Moab , ac a ddinistria holl feibion Seth . Ac Edom a feddiennir , Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion ; ac Israel a wna rymuster . Ac arglwyddiaetha un o Jacob , ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas . A phan edrychodd ar Amalec , efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Dechrau y cenhedloedd yw Amalec ; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth . Edrychodd hefyd ar y Ceneaid ; ac a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Cadarn yw dy annedd ; gosod yr wyt dy nyth yn y graig . Anrheithir y Ceneaid , hyd oni’th gaethiwo Assur . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Och ! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn ? Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur , ac a orthrymant Eber ; ac yntau a dderfydd amdano byth . A chododd Balaam ac a aeth , ac a ddychwelodd adref : a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau . A thrigodd Israel yn Sittim ; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab . A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt ; a bwytaodd y bobl , ac addolasant eu duwiau hwynt . Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐Peor ; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cymer holl benaethiaid y bobl , a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul ; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel . A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel , Lleddwch bob un ei ddynion , y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐Peor . Ac wele , gŵr o feibion Israel a ddaeth , ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr , yng ngolwg Moses , ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel , a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod . A gwelodd Phinees mab Eleasar , mab Aaron yr offeiriad ; ac a gododd o ganol y gynulleidfa , ac a gymerodd waywffon yn ei law ; Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell ; ac a’u gwanodd hwynt ill dau , sef y gŵr o Israel , a’r wraig trwy ei cheudod . Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel . A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Phinees mab Eleasar , mab Aaron yr offeiriad , a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel , ( pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg , ) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd . Am hynny dywed , Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch . A bydd iddo ef , ac i’w had ar ei ôl ef , amod o offeiriadaeth dragwyddol ; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw , a gwneuthur cymod dros feibion Israel . Ac enw y gŵr o Israel , yr hwn a laddwyd , sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees , oedd Simri , mab Salu , pennaeth tŷ ei dad , o lwyth Simeon . Ac enw y wraig o Midian a laddwyd , oedd Cosbi , merch Sur : pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Blina’r Midianiaid , a lleddwch hwynt : Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn , yn achos Peor , ac yn achos Cosbi , merch tywysog Midian , eu chwaer hwynt , yr hon a laddwyd yn nydd y pla , o achos Peor . Abu , wedi’r pla , lefaru o’r Arglwydd wrth Moses , ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad , gan ddywedyd , Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel , o fab ugain mlwydd ac uchod , trwy dŷ eu tadau , pob un a allo fyned i ryfel yn Israel . A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho , gan ddywedyd Rhifwch y bobl , o fab ugain mlwydd ac uchod ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , a meibion Israel , y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft . Reuben , cyntaf‐anedig Israel . Meibion Reuben ; o Hanoch , tylwyth yr Hanochiaid : o Phalu , tylwyth y Phaluiaid : O Hesron , tylwyth yr Hesroniaid : o Carmi , tylwyth y Carmiaid . Dyma dylwyth y Reubeniaid : a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain . A meibion Phalu oedd Elïab . A meibion Elïab ; Nemuel , a Dathan , ac Abiram . Dyma y Dathan ac Abiram , rhai enwog yn y gynulleidfa , y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora , pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd . Ac agorodd y ddaear ei safn , ac a’u llyncodd hwynt , a Cora hefyd , pan fu farw y gynulleidfa , pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant : a hwy a aethant yn arwydd . Ond meibion Cora ni buant feirw . Meibion Simeon , wrth eu tylwythau . O Nemuel , tylwyth y Nemueliaid : o Jamin , tylwyth y Jaminiaid : o Jachin , tylwyth y Jachiniaid : O Sera , tylwyth y Serahiaid : o Saul , tylwyth y Sauliaid . Dyma dylwyth y Simeoniaid ; dwy fil ar hugain a dau cant . Meibion Gad , wrth eu tylwythau . O Seffon , tylwyth y Seffoniaid : o Haggi , tylwyth yr Haggiaid : o Suni , tylwyth y Suniaid : O Osni , tylwyth yr Osniaid : o Eri , tylwyth yr Eriaid : O Arod , tylwyth yr Arodiaid : o Areli , tylwyth yr Areliaid . Dyma deuluoedd meibion Gad , dan eu rhif ; deugain mil a phum cant . Meibion Jwda oedd , Er ac Onan : a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan . A meibion Jwda , wrth eu teuluoedd . O Sela , tylwyth y Selaniaid : o Phares , tylwyth y Pharesiaid : o Sera , tylwyth y Serahiaid . A meibion Phares oedd ; o Hesron , tylwyth yr Hesroniaid : o Hamul , tylwyth yr Hamuliaid . Dyma dylwyth Jwda , dan eu rhif ; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant . Meibion Issachar , wrth eu tylwythau oedd ; o Tola , tylwyth y Tolaiaid : o Pua , tylwyth y Puhiaid : O Jasub , tylwyth y Jasubiaid : o Simron , tylwyth y Simroniaid . Dyma deuluoedd Issachar , dan eu rhif ; pedair mil a thrigain mil a thri chant . Meibion Sabulon , wrth eu teuluoedd oedd ; o Sered , tylwyth y Sardiaid : o Elon , tylwyth yr Eloniaid : o Jahleel , tylwyth y Jahleeliaid . Dyma deuluoedd y Sabuloniaid , dan eu rhif ; trigain mil a phum cant . Meibion Joseff , wrth eu teuluoedd oedd ; Manasse ac Effraim . Meibion Manasse oedd ; o Machir , tylwyth y Machiriaid : a Machir a genhedlodd Gilead : o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid . Dyma feibion Gilead . O Jeeser , tylwyth Jeeseriaid : o Helec , tylwyth yr Heleciaid : Ac o Asriel , tylwyth yr Asrieliaid : ac o Sechem , tylwyth y Sechemiaid : Ac o Semida , tylwyth y Semidiaid : ac o Heffer , tylwyth yr Hefferiaid . A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion , ond merched : ac enwau merched Salffaad oedd , Mala , a Noa , Hogla , Milca , a Tirsa . Dyma dylwyth Manasse : a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant . Dyma feibion Effraim , wrth eu teuluoedd . O Suthela , tylwyth y Sutheliaid ; o Becher , tylwyth y Becheriaid : o Tahan , tylwyth y Tahaniaid . A dyma feibion Suthela : o Eran , tylwyth yr Eraniaid . Dyma dylwyth meibion Effraim , trwy eu rhifedigion ; deuddeng mil ar hugain a phum cant . Dyma feibion Joseff , wrth eu teuluoedd . Meibion Benjamin , wrth eu teuluoedd oedd ; o Bela , tylwyth y Belaiaid : o Asbel , tylwyth yr Asbeliaid : o Ahiram , tylwyth yr Ahiramiaid : O Seffuffam , tylwyth y Seffuffamiaid : o Huffam , tylwyth yr Huffamiaid . A meibion Bela oedd , Ard a Naaman : o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid : o Naaman , tylwyth y Naamaniaid . Dyma feibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd : dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant . Dyma feibion Dan , yn ôl eu teuluoedd . O Suham , tylwyth y Suhamiaid . Dyma dylwyth Dan , yn ôl eu teuluoedd . A holl dylwyth y Suhamiaid oedd , yn ôl eu rhifedigion , bedair mil a thrigain a phedwar cant . Meibion Aser , wrth eu teuluoedd , oedd ; o Jimna , tylwyth y Jimniaid : o Jesui , tylwyth y Jesuiaid : o Bereia tylwyth y Bereiaid . O feibion Bereia , yr oedd ; o Heber , tylwyth yr Heberiaid : o Malciel , tylwyth y Malcieliaid . Ac enw merch Aser ydoedd Sara . Dyma deuluoedd meibion Aser , yn ôl eu rhifedigion ; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Meibion Nafftali , wrth eu teuluoedd oedd ; o Jahseel , tylwyth y Jahseeliaid : o Guni , tylwyth y Guniaid : O Jeser , tylwyth y Jeseriaid : o Silem , tylwyth y Silemiaid . Dyma dylwyth Nafftali , yn ôl eu teuluoedd , dan eu rhif ; pum mil a deugain a phedwar cant . Dyma rifedigion meibion Israel ; chwe chan mil , a mil saith gant a deg ar hugain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth , yn ôl rhifedi yr enwau . I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth , ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth : rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion . Eto wrth goelbren y rhennir y tir : wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth , rhwng llawer ac ychydig . A dyma rifedigion y Lefiaid , wrth eu teuluoedd . O Gerson , tylwyth y Gersoniaid : o Cohath , tylwyth y Cohathiaid : o Merari , tylwyth y Merariaid . Dyma dylwythau y Lefiaid . Tylwyth y Libniaid , tylwyth yr Hebroniaid , tylwyth y Mahliaid , tylwyth y Musiaid , tylwyth y Corathiaid : Cohath hefyd a genhedlodd Amram . Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed , merch Lefi , yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft : a hi a ddug i Amram , Aaron a Moses , a Miriam eu chwaer hwynt . A ganed i Aaron , Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . A bu farw Nadab ac Abihu , pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd . A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain ; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod : canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel , am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel . Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad , y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad , pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai . Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt , Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch . Ac ni adawsid ohonynt un , ond Caleb mab Jeffunne , a Josua mab Nun . Yna y daeth merched Salffaad , mab Heffer , mab Gilead , mab Machir , mab Manasse , o dylwyth Manasse mab Joseff ; ( a dyma enwau ei ferched ef ; Mala , Noa , Hogla , Milca , a Tirsa ; ) Ac a safasant gerbron Moses , a cherbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron y penaethiaid , a’r holl gynulleidfa , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gan ddywedyd , Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch ; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora , ond yn ei bechod ei hun y bu farw ; ac nid oedd meibion iddo . Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth , am nad oes iddo fab ? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad . A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn ; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad : trosa iddynt etifeddiaeth eu tad . Llefara hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan fyddo marw un , ac heb fab iddo , troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch . Ac oni bydd merch iddo , rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr . Ac oni bydd brodyr iddo ; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad . Ac oni bydd brodyr i’w dad ; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth ; a meddianned hwnnw hi : a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dring i’r mynydd Abarim hwn , a gwêl y tir a roddais i feibion Israel . Ac wedi i ti ei weled , tithau a gesglir at dy bobl , fel y casglwyd Aaron dy frawd . Canys yn anialwch Sin , wrth gynnen y gynulleidfa , y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair , i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt : dyma ddwfr cynnen Cades , yn anialwch Sin . A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Gosoded yr Arglwydd , Duw ysbrydion pob cnawd , un ar y gynulleidfa , Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt , ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt , a’r hwn a’u dygo hwynt allan , ac a’u dygo hwynt i mewn ; fel na byddo cynulleidfa’r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cymer atat Josua mab Nun , y gŵr y mae yr ysbryd ynddo , a gosod dy law arno ; A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron yr holl gynulleidfa ; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt . A dod o’th ogoniant di arno ef , fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno . A safed gerbron Eleasar yr offeiriad , yr hwn a ofyn gyngor drosto ef , yn ôl barn Urim , gerbron yr Arglwydd : wrth ei air ef yr ânt allan , ac wrth ei air ef y deuant i mewn , efe a holl feibion Israel gydag ef , a’r holl gynulleidfa . A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo : ac a gymerodd Josua , ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron yr holl gynulleidfa . Ac efe a osododd ei ddwylo arno , ac a roddodd orchymyn iddo ; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , a dywed wrthynt , Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm , a’m bara i’m hebyrth tanllyd , o arogl peraidd yn eu tymor . A dywed wrthynt , Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd . Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl , bob dydd , yn boethoffrwm gwastadol . Un oen a offrymi di y bore , a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr ; A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig . Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai , yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen : pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd , yn y cysegr . Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr : megis bwyd‐offrwm y bore , a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac ar y dydd Saboth , dau oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl , a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , a’i ddiod‐offrwm . Dyma boethoffrwm pob Saboth , heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch , yn boethoffrwm i’r Arglwydd , ddau o fustych ieuainc , ac un hwrdd , a saith oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl A thair degfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob bustach ; a dwy ddegfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob hwrdd ; A phob yn ddegfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob oen , yn offrwm poeth o arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach , a thrydedd ran hin gyda hwrdd , a phedwaredd ran hin o win gydag oen . Dyma boethoffrwm mis yn ei fis , trwy fisoedd y flwyddyn . Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd : heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef , a’i ddiod‐offrwm . Ac yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , y bydd Pasg yr Arglwydd . Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl : saith niwrnod y bwyteir bara croyw . Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd : na wnewch ddim caethwaith ynddo . Ond offrymwch yn aberth tanllyd , ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd , ddau o fustych ieuainc , ac un hwrdd , a saith oen blwyddiaid : byddant gennych yn berffaith‐gwbl . Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew : tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd , a offrymwch chwi ; Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen , o’r saith oen : Ac un bwch yn bech‐aberth , i wneuthur cymod drosoch . Heblaw poethoffrwm y bore , yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol , yr offrymwch hyn . Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod , fwyd‐aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd : heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch . Ac ar ddydd eich blaenffrwythau , pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd , wedi eich wythnosau , cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch . Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd , a saith oen blwyddiaid , yn boethoffrwm , o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda phob bustach , dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd ; Bob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Un bwch geifr , i wneuthur cymod drosoch . Heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , yr offrymwch hyn , ( byddant gennych yn berffaith‐gwbl , ) ynghyd â’u diod‐offrwm . Ac yn y seithfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y bydd i chwi gymanfa sanctaidd ; dim caethwaith nis gwnewch : dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi . Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd ; un bustach ieuanc , un hwrdd , saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl : A’u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd ; Ac un ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth , i wneuthur cymod drosoch : Heblaw poethoffrwm y mis , a’i fwyd‐offrwm , a’r poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm hwynt , wrth eu defod hwynt , yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi : yna cystuddiwch eich eneidiau : dim gwaith nis gwnewch ynddo . Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd , yn arogl peraidd , un bustach ieuanc , un hwrdd , saith oen blwyddiaid : byddant berffaith‐gwbl gennych . A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd ; Bob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw pech‐aberth y cymod , a’r poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’u diod‐offrymau . Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis , cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch ; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod . Ac offrymwch offrwm poeth , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd ; tri ar ddeg o fustych ieuainc , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid : byddant berffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda phob bustach , o’r tri bustach ar ddeg ; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd , o’r ddau hwrdd ; A phob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r pedwar oen ar ddeg : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr , yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm a’u diod‐offrymau . Ac ar y trydydd dydd , un bustach ar ddeg , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl : A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y pedwerydd dydd , deng mustach , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl : Eu bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y pumed dydd , naw bustach , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod ; Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y chweched dydd , wyth o fustych , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y seithfed dydd , saith o fustych , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth eu defod : Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ar yr wythfed dydd , uchel ŵyl fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch ynddo . Ond offrymwch offrwm poeth , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd ; un bustach , un hwrdd , saith o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . Eu bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustach , a chyda’r hwrdd , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch yn bech‐aberth : heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau ; heblaw eich addunedau , a’ch offrymau gwirfodd , gyda’ch offrymau poeth , a’ch offrymau bwyd , a’ch offrymau diod , a’ch offrymau hedd . A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd . Os adduneda gŵr adduned i’r Arglwydd , neu dyngu llw , gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun ; na haloged ei air : gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau . Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd , a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad , yn ei hieuenctid ; A chlywed o’i thad ei hadduned , a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid , a thewi o’i thad wrthi : yna safed ei holl addunedau ; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid , a saif . Ond os ei thad a bair iddi dorri , ar y dydd y clywo efe ; o’i holl addunedau , a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid , ni saif un : a maddau yr Arglwydd iddi , o achos mai ei thad a barodd iddi dorri . Ac os hi oedd yn eiddo gŵr , pan addunedodd , neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi ; A chlywed o’i gŵr , a thewi wrthi y dydd y clywo : yna safed ei haddunedau ; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid , a safant . Ond os ei gŵr , ar y dydd y clywo , a bair iddi dorri ; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni , a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid : a’r Arglwydd a faddau iddi . Ond adduned y weddw , a’r ysgaredig , yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid , a saif arni . Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd , neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw ; A chlywed o’i gŵr , a thewi wrthi , heb beri iddi dorri : yna safed ei holl addunedau ; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid , a saif . Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo ; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau , o’i haddunedau , ac o rwymedigaeth ei henaid : ei gŵr a’u diddymodd hwynt ; a’r Arglwydd a faddau iddi . Pob adduned , a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio’r enaid , ei gŵr a’i cadarnha , a’i gŵr a’i diddyma . Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd ; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau , neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni : cadarnhaodd hwynt , pan dawodd wrthi , y dydd y clybu efe hwynt . Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed ; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi . Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , rhwng gŵr a’i wraig , a rhwng tad a’i ferch , yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dial feibion Israel ar y Midianiaid : wedi hynny ti a gesglir at dy bobl . A llefarodd Moses wrth y bobl , gan ddywedyd , Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel , ac ânt yn erbyn Midian , i roddi dial yr Arglwydd ar Midian . Mil o bob llwyth , o holl lwythau Israel , a anfonwch i’r rhyfel . A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth , sef deuddeng mil , o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel . Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel , mil o bob llwyth : hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad , a anfonodd efe i’r rhyfel , â dodrefn y cysegr , a’r utgyrn i utganu yn ei law . A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ; ac a laddasant bob gwryw . Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy , gyda’u lladdedigion eraill : sef Efi , a Recem , a Sur , a Hur , a Reba , pum brenin Midian : Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf . Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian , a’u plant ; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt , a’u holl dda hwynt , a’u holl olud hwynt . Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau , a’u holl dyrau , a losgasant â thân . A chymerasant yr holl ysbail , a’r holl gaffaeliad , o ddyn ac o anifail . Ac a ddygasant at Moses , ac at Eleasar yr offeiriad , ac at gynulleidfa meibion Israel , y carcharorion , a’r caffaeliad , a’r ysbail , i’r gwersyll , yn rhosydd Moab , y rhai ydynt wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad , a holl benaduriaid y gynulleidfa , a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin , capteiniaid y miloedd , a chapteiniaid y cannoedd , y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel . A dywedodd Moses wrthynt , A adawsoch chwi bob benyw yn fyw ? Wele , hwynt , trwy air Balaam , a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor ; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd . Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn ; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr , trwy orwedd gydag ef . A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr , cedwch yn fyw i chwi . Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod : pob un a laddodd ddyn , a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig , ymlanhewch y trydydd dydd , a’r seithfed dydd , chwi a’ch carcharorion . Pob gwisg hefyd , a phob dodrefnyn croen , a phob gwaith o flew geifr , a phob llestr pren , a lanhewch chwi . A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel , Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses : Yn unig yr aur , a’r arian , y pres , yr haearn , yr alcam , a’r plwm ; Pob dim a ddioddefo dân , a dynnwch trwy’r tân , a glân fydd ; ac eto efe a lanheir â’r dwfr neilltuaeth : a’r hyn oll ni ddioddefo dân , tynnwch trwy y dwfr yn unig . A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd , a glân fyddwch ; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer nifer yr ysbail a gaed , o ddyn ac o anifail , ti ac Eleasar yr offeiriad , a phennau‐cenedl y gynulleidfa : A rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran ; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth , a’r holl gynulleidfa . A chyfod deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth ; un enaid o bob pum cant o’r dynion , ac o’r eidionau , ac o’r asynnod , ac o’r defaid . Cymerwch hyn o’u hanner hwynt , a dyro i Eleasar yr offeiriad , yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd . Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain , o’r dynion , o’r eidionau , o’r asynnod , ac o’r defaid , ac o bob anifail , a dod hwynt i’r Lefiaid , y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd . A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A’r caffaeliad , sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth , oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid , A deuddeg a thrigain mil o eidionau , Ac un fil a thrigain o asynnod , Ac o ddynion , o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr , trwy orwedd gydag ef , ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau . A’r hanner , sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel , oedd , o rifedi defaid , dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd , a phum cant ; A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain . A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain . A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain . A’r dynion oedd un fil ar bymtheg ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain . A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad , megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac o ran meibion Israel , yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr , Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid , oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd , a phum cant ; Ac o’r eidionau , un fil ar bymtheg ar hugain ; Ac o’r asynnod , deng mil ar hugain a phum cant ; Ac o’r dynion , un fil ar bymtheg . Ie , cymerodd Moses o hanner meibion Israel , un rhan o bob deg a deugain , o’r dynion , ac o’r anifeiliaid , ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r swyddogion , y rhai oedd ar filoedd y llu , a ddaethant at Moses , sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd : A dywedasant wrth Moses , Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni ; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom . Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd , pob un yr hyn a gafodd , yn offerynnau aur , yn gadwynau , yn freichledau , yn fodrwyau , yn glustlysau , ac yn dorchau , i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd . A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt , y dodrefn gweithgar oll . Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael , yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd , oddi wrth gapteiniaid y miloedd , ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd , yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau . ( Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun . ) A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd , ac a’i dygasant i babell y cyfarfod , yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd . Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben , a llawer iawn i feibion Gad : a gwelsant dir Jaser , a thir Gilead ; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid . A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant , ac a ddywedasant wrth Moses , ac wrth Eleasar yr offeiriad , ac wrth benaduriaid y gynulleidfa , gan ddywedyd , Atoroth , a Dibon , a Jaser , a Nimra , a Hesbon , ac Eleale , a Sebam , a Nebo , a Beon , Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel , tir i anifeiliaid yw efe ; ac y mae i’th weision anifeiliaid . A dywedasant , Os cawsom ffafr yn dy olwg , rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant : na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen . A dywedodd Moses wrth feibion Gad , ac wrth feibion Reuben , A â eich brodyr i’r rhyfel , ac a eisteddwch chwithau yma ? A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt ? Felly y gwnaeth eich tadau , pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir . Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol , a gwelsant y tir ; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt . Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw ; ac efe a dyngodd , gan ddywedyd , Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft , o fab ugain mlwydd ac uchod , weled y tir a addewais trwy lw i Abraham , i Isaac , ac i Jacob : am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i : Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad , a Josua mab Nun ; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd . Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd , nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd . Ac wele , chwi a godasoch yn lle eich tadau , yn gynnyrch dynion pechadurus , i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel . Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef ; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch , a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn . A hwy a ddaethant ato ef , ac a ddywedasant , Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid , a dinasoedd i’n plant . A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel , hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun ; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog , rhag trigolion y tir . Ni ddychwelwn ni i’n tai , nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth . Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen , ac oddi yno allan ; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen , tua’r dwyrain . A dywedodd Moses wrthynt , Os gwnewch y peth hyn , os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd , Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd , nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen , A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd ; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd , a cherbron Israel ; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd . Ond os chwi ni wna fel hyn ; wele , pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd : a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi . Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant , a chorlannau i’ch defaid ; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau . A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses , gan ddywedyd , Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn . Ein plant , ein gwragedd , ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid , fyddant yma yn ninasoedd Gilead . A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel , pob un yn arfog i’r filwriaeth , megis y mae fy arglwydd yn llefaru . A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad , ac i Josua mab Nun , ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel , o’u plegid hwynt : A dywedodd Moses wrthynt , Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi , pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd , a darostwng y wlad o’ch blaen ; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth : Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion , cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan . A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant , gan ddywedyd , Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision , felly y gwnawn ni . Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd , fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni . A rhoddodd Moses iddynt , sef i feibion Gad , ac i feibion Reuben , ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff , frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid , a brenhiniaeth Og brenin Basan , y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau , sef dinasoedd y wlad oddi amgylch . A meibion Gad a adeiladasant Dibon , ac Ataroth , ac Aroer , Ac Atroth , Soffan , a Jaaser , a Jogbea , A Beth‐nimra , a Beth‐haran , dinasoedd caerog ; a chorlannau defaid . A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon , Eleale , a Chiriathaim ; Nebo hefyd , a Baal‐meon , ( wedi troi eu henwau , ) a Sibma : ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant . A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead , ac a’i henillasant hi , ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi . A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse ; ac efe a drigodd ynddi . Ac aeth Jair mab Manasse , ac a enillodd eu pentrefydd hwynt , ac a’u galwodd hwynt Hafoth‐Jair . Ac aeth Noba , ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd , ac a’i galwodd ar ei enw ei hun , Noba . Dyma deithiau meibion Israel , y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft , yn eu lluoedd , dan law Moses ac Aaron . A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau , wrth orchymyn yr Arglwydd : a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan . A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf , ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf : trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll . ( A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig , y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg ; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd . ) A meibion Israel a gychwynasant o Rameses , ac a wersyllasant yn Succoth . A chychwynasant o Succoth , a gwersyllasant yn Etham , yr hon sydd yng nghwr yr anialwch . A chychwynasant o Etham , a throesant drachefn i Pi‐hahiroth , yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon ; ac a wersyllasant o flaen Migdol . A chychwynasant o Pi‐hahiroth , ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch ; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham , a gwersyllasant ym Mara . A chychwynasant o Mara , a daethant i Elim ; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr , a deg a thrigain o balmwydd ; a gwersyllasant yno . A chychwynasant o Elim , a gwersyllasant wrth y môr coch . A chychwynasant oddi wrth y môr coch , a gwersyllasant yn anialwch Sin . Ac o anialwch Sin y cychwynasant , ac y gwersyllasant yn Doffca . A chychwynasant o Doffca , a gwersyllasant yn Alus . A chychwynasant o Alus , a gwersyllasant yn Reffidim , lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed . A chychwynasant o Reffidim , a gwersyllasant yn anialwch Sinai . A chychwynasant o anialwch Sinai , a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa . A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa , a gwersyllasant yn Haseroth . A chychwynasant o Haseroth , a gwersyllasant yn Rithma . A chychwynasant o Rithma , a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares . A chychwynasant o Rimmon‐Pares , a gwersyllasant yn Libna . A chychwynasant o Libna , a gwersyllasant yn Rissa . A chychwynasant o Rissa , a gwersyllasant yn Cehelatha . A chychwynasant o Cehelatha , a gwersyllasant ym mynydd Saffer . A chychwynasant o fynydd Saffer , a gwersyllasant yn Harada . A chychwynasant o Harada , a gwersyllasant ym Maceloth . A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath . A chychwynasant o Tahath , a gwersyllasant yn Tara . A chychwynasant o Tara , a gwersyllasant ym Mithca . A chychwynasant o Mithca , a gwersyllasant yn Hasmona . A chychwynasant o Hasmona , a gwersyllasant ym Moseroth . A chychwynasant o Moseroth , a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan . A chychwynasant o Bene‐Jaacan , a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad . A chychwynasant o Hor‐hagidgad , a gwersyllasant yn Jotbatha . A chychwynasant o Jotbatha , a gwersyllasant yn Ebrona . A chychwynasant o Ebrona , a gwersyllasant yn Esion‐Gaber . A chychwynasant o Esion‐Gaber , a gwersyllasant yn anialwch Sin ; hwnnw yw Cades . A chychwynasant o Cades , a gwersyllasant ym mynydd Hor , yng nghwr tir Edom . Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor , wrth orchymyn yr Arglwydd ; ac a fu farw yno , yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft , yn y pumed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis . Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor . A’r brenin Arad , y Canaanead , yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan , a glybu am ddyfodiad meibion Israel . A chychwynasant o fynydd Hor , a gwersyllasant yn Salmona . A chychwynasant o Salmona , a gwersyllasant yn Punon , A chychwynasant o Punon , a gwersyllasant yn Oboth . A chychwynasant o Oboth , a gwersyllasant yn Ije‐Abarim , ar derfyn Moab . A chychwynasant o Ije‐Abarim , a gwersyllasant yn Dibon‐Gad . A chychwynasant o Dibon‐Gad , a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim . A chychwynasant o Almon‐Diblathaim , a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim , o flaen Nebo . A chychwynasant o fynyddoedd Abarim , a gwersyllasant yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . A gwersyllasant wrth yr Iorddonen , o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim , yn rhosydd Moab . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen , i dir Canaan ; Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen , a dinistriwch eu holl luniau hwynt ; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd , a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt . A goresgynnwch y tir , a thrigwch ynddo : canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi . Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren ; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth , ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth : bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo ; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch . Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen ; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid , ac yn ddrain yn eich ystlysau , a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo . A bydd , megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy , y gwnaf i chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch chwi i dir Canaan , ( dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth , sef gwlad Canaan a’i therfynau , ) A’ch tu deau fydd o anialwch Sin , gerllaw Edom : a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua’r dwyrain . A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau i riw Acrabbim , ac a â trosodd i Sin ; a’i fynediad allan fydd o’r deau i Cades‐Barnea , ac a â allan i Hasar‐Adar , a throsodd i Asmon : A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft ; a’i fynediad ef allan a fydd tua’r gorllewin . A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi ; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin . A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi : o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor . O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath ; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad . A’r terfyn a â allan tua Siffron ; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan : hwn fydd terfyn y gogledd i chwi . A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam . Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla , ar du dwyrain Ain ; a disgynned y terfyn , ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua’r dwyrain . A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen ; a’i ddiwedd fydd y môr heli . Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch . A gorchmynnodd Moses i feibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren , yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth , ac i’r hanner llwyth . Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau , a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau , a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau , a hanner llwyth Manasse , cymerasant , meddaf , eu hetifeddiaeth . Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen , yn agos i Jericho , tua’r dwyrain a chodiad haul . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi : Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun . Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch , i rannu y tir yn etifeddiaethau . Ac fel dyma enwau y gwŷr : o lwyth Jwda , Caleb mab Jeffunne . Ac o lwyth meibion Simeon , Semuel mab Ammihud . O lwyth Benjamin , Elidad mab Cislon . A Bucci mab Jogli , yn bennaeth o lwyth meibion Dan . O feibion Joseff , Haniel mab Effod , yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse . Cemuel hefyd mab Sifftan , yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim . Ac Elisaffan mab Pharnach , yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon . Paltiel hefyd mab Assan , yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar . Ac Ahihud mab Salomi , yn bennaeth dros lwyth meibion Aser . Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali , Pedahel mab Ammihud . Dyma y rhai a orchmynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel , yn nhir Canaan . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , yn agos i Jericho , gan ddywedyd Gorchymyn i feibion Israel , roddi ohonynt i’r Lefiaid , o etifeddiaeth eu meddiant , ddinasoedd i drigo ynddynt : rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch . A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt ; a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hanifeiliaid , ac i’w cyfoeth , ac i’w holl fwystfilod . A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid , a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan , fil o gufyddau o amgylch . A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas , o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau , a thua’r deau ddwy fil o gufyddau , a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau , a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau ; a’r ddinas fydd yn y canol : hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd . Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid , bydded chwech yn ddinasoedd noddfa , y rhai a roddwch , fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno : a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg . Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid , fyddant wyth ddinas a deugain , hwynt a’u pentrefol feysydd . A’r dinasoedd y rhai a roddwch , fydd o feddiant meibion Israel : oddi ar yr aml eu dinasoedd , y rhoddwch yn aml ; ac oddi ar y prin , y rhoddwch yn brin : pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant , a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan ; Yna gosodwch i chwi ddinasoedd ; dinasoedd noddfa fyddant i chwi : ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd . A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd ; fel na ladder y llawruddiog , hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn . Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch , chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa . Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddonen , a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan : dinasoedd noddfa fyddant hwy . I feibion Israel , ac i’r dieithr , ac i’r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg , y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa ; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd , ffoi yno . Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef , fel y bu farw , llawruddiog yw efe : lladder y llawruddiog yn farw . Ac os â charreg law , yr hon y byddai efe farw o’i phlegid , y trawodd ef , a’i farw ; llawruddiog yw efe ; lladder y llawruddiog yn farw . Neu os efe a’i trawodd ef â llawffon , yr hon y byddai efe farw o’i phlegid , a’i farw ; llawruddiog yw efe : lladder y llawruddiog yn farw . Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef , efe a’i lladd ef . Ac os mewn cas y gwthia efe ef , neu y teifl ato mewn bwriad , fel y byddo efe farw ; Neu ei daro ef â’i law , mewn galanastra , fel y byddo farw : lladder yn farw yr hwn a’i trawodd ; llofrudd yw hwnnw : dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef . Ond os yn ddisymwth , heb alanastra , y gwthia efe ef , neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad ; Neu ei daro ef â charreg , y byddai efe farw o’i phlegid , heb ei weled ef ; a pheri iddi syrthio arno , fel y byddo farw , ac efe heb fod yn elyn , ac heb geisio niwed iddo ef : Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed , yn ôl y barnedigaethau hyn . Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed , a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa , yr hon y ffodd efe iddi : a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad , yr hwn a eneiniwyd â’r olew cysegredig . Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa , yr hon y ffodd efe iddi ; A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa , a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd ; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn : Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo , hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth . A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau . Pwy bynnag a laddo ddyn , wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd : ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn , i beri iddo farw . Hefyd , na chymerwch iawn am einioes y llofrudd , yr hwn sydd euog i farw ; ond lladder ef yn farw . Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa , er cael dychwelyd i drigo yn y tir , hyd farwolaeth yr offeiriad ; Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo ; canys y gwaed hwn a haloga’r tir : a’r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno , ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd . Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo , yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol : canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel . Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead , mab Machir , mab Manasse , o dylwyth meibion Joseff , a ddaethant hefyd , ac a lefarasant gerbron Moses , a cherbron y penaduriaid , sef pennau‐cenedl meibion Israel ; Ac a ddywedasant , Yr Arglwydd a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren : a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd , i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched . Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel ; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni , ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt : a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni . A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel , yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt : a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni . A gorchmynnodd Moses i feibion Israel , yn ôl gair yr Arglwydd , gan ddywedyd , Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn . Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad , gan ddywedyd , Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun ; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd . Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth : canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun . A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel , a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun ; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun . Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall ; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth merched Salffaad . Canys Mala , Tirsa , a Hogla , a Milca , a Noa , merched Salffaad , fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd . I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd ; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad . Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Israel , trwy law Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , yn agos i Jericho . Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel , o’r tu yma i’r Iorddonen , yn yr anialwch , ar y rhos gyferbyn â’r môr coch , rhwng Paran , a Toffel , a Laban , a Haseroth , a Disahab . ( Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb , ffordd yr eir i fynydd Seir , hyd Cades‐Barnea . ) A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn , yn yr unfed mis ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , i Moses lefaru wrth feibion Israel , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt ; Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , ac Og brenin Basan , yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth , o fewn Edrei ; O’r tu yma i’r Iorddonen , yng ngwlad Moab , y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon , gan ddywedyd . Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb , gan ddywedyd , Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn : Dychwelwch , a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid , ac i’w holl gyfagos leoedd ; i’r rhos , i’r mynydd , ac i’r dyffryn , ac i’r deau , ac i borthladd y môr , i dir y Canaaneaid , ac i Libanus , hyd yr afon fawr , afon Ewffrates . Wele , rhoddais y wlad o’ch blaen chwi : ewch i mewn , a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi , i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , ar ei rhoddi iddynt , ac i’w had ar eu hôl hwynt . A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi : Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi ; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd . ( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych , ac a’ch bendithio , fel y llefarodd efe wrthych ! ) Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder , a’ch baich , a’ch ymryson chwi ? Moeswch i chwi wŷr doethion , a deallus , a rhai hynod trwy eich llwythau ; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi . Ac atebasoch fi , a dywedasoch , Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist . Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi , sef gwŷr doethion , a rhai hynod , ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch ; sef yn gapteiniaid ar filoedd , ac yn gapteiniaid ar gannoedd , ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain , ac yn gapteiniaid ar ddegau , ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi . A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi , gan ddywedyd , Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd , ac a’r dieithr sydd gydag ef . Na chydnabyddwch wynebau mewn barn ; gwrandewch ar y lleiaf , yn gystal ag ar y mwyaf : nac ofnwch wyneb gŵr ; oblegid y farn sydd eiddo Duw : a’r peth a fydd rhy galed i chwi , a ddygwch ataf fi , a mi a’i gwrandawaf . Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur . A phan fudasom o Horeb , ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw , yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid , fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni : ac a ddaethom i Cades‐Barnea . A dywedais wrthych , Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid , yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni . Wele , yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen : dos i fyny a pherchenoga hi , fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt ; nac ofna , ac na lwfrha . A chwi oll a ddaethoch ataf , ac a ddywedasoch , Anfonwn wŷr o’n blaen , a hwy a chwiliant y wlad i ni , ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi , ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt . A’r peth oedd dda yn fy ngolwg : ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch , un gŵr o bob llwyth . A hwy a droesant , ac a aethant i fyny i’r mynydd , ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol , ac a’i chwiliasant ef . Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw , ac a’i dygasant i waered atom ni , ac a ddygasant air i ni drachefn , ac a ddywedasant , Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni . Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw . Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch , Am gasáu o’r Arglwydd nyni , y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid , i’n difetha . I ba le yr awn i fyny ? ein brodyr a’n digalonasant ni , gan ddywedyd , Pobl fwy a hwy na nyni ydynt ; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd : meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno . Yna y dywedais wrthych , Nac arswydwch , ac nac ofnwch rhagddynt hwy . Yr Arglwydd eich Duw , yr hwn sydd yn myned o’ch blaen , efe a ymladd drosoch , yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid ; Ac yn yr anialwch , lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw , fel y dwg gŵr ei fab , yn yr holl ffordd a gerddasoch , nes eich dyfod i’r man yma . Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw , Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd , i chwilio i chwi am le i wersyllu ; y nos mewn tân , i ddangos i chwi pa ffordd yr aech , a’r dydd mewn cwmwl . A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau ; ac a ddigiodd , ac a dyngodd , gan ddywedyd , Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn , o’r genhedlaeth ddrwg hon , weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi ; Oddieithr Caleb mab Jeffunne : efe a’i gwêl hi , ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni , ac i’w feibion ; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd . Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi , gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno . Josua mab Nun , yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di , efe a â i mewn yno : cadarnha di ef ; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel . Eich plant hefyd , y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail , a’ch meibion chwi , y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg , hwynt‐hwy a ânt i mewn yno , ac iddynt hwy y rhoddaf hi , a hwy a’i perchenogant hi . Trowch chwithau , ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch . Yna yr atebasoch , ac a ddywedasoch wrthyf , Pechasom yn erbyn yr Arglwydd : nyni a awn i fyny ac a ymladdwn , yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni . A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel , ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Dywed wrthynt , Nac ewch i fyny , ac na ryfelwch ; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi ; rhag eich taro o flaen eich gelynion Felly y dywedais wrthych ; ond ni wrandawsoch , eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd ; rhyfygasoch hefyd , ac aethoch i fyny i’r mynydd . A daeth allan yr Amoriaid , oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw , i’ch cyfarfod chwi ; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn , ac a’ch difethasant chwi yn Seir , hyd Horma . A dychwelasoch , ac wylasoch gerbron yr Arglwydd : ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef , ac ni roddes glust i chwi . Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer , megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen . Yna y troesom , ac yr aethom i’r anialwch , ar hyd ffordd y môr coch , fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf , ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf gan ddywedyd , Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn ; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd . A gorchymyn i’r bobl , gan ddywedyd , Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr , meibion Esau , y rhai sydd yn trigo yn Seir : a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal . Nac ymyrrwch arnynt : oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint â lled troed ; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir ; Prynwch fwyd ganddynt am arian , fel y bwytaoch : a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian , fel yr yfoch . Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law : gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn : y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi ; ni bu arnat eisiau dim . Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr , meibion Esau , y rhai ydynt yn trigo yn Seir , o ffordd y rhos o Elath , ac o Esion‐Gaber , ni a ddychwelasom , ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Na orthryma Moab , ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt : oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef ; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth ( Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi ; pobl fawr ac aml , ac uchel , fel yr Anaciaid ; Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd , fel yr Anaciaid ; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid . Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen ; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt , ac a’u difethasant o’u blaen , a thrigasant yn eu lle hwynt ; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau , yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt . ) Yna y dywedais , Cyfodwch yn awr , a thramwywch rhagoch dros afon Sared . A ni a aethom dros afon Sared . A’r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea , hyd pan ddaethom dros afon Sared , oedd onid dwy flynedd deugain ; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau , fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt . Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt , i’w torri hwynt o ganol y gwersyll , hyd oni ddarfuant . A bu , wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd , Lefaru o’r Arglwydd wrthyf , gan ddywedyd , Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab , sef trwy Ar : A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon , na orthryma hwynt , ac nac ymyrr arnynt ; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti ; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot . ( Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi : cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen ; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Samsummiaid : Pobl fawr ac aml , ac uchel , fel yr Anaciaid , a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy ; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt , ac a drigasant yn eu lle hwynt . Fel y gwnaeth i feibion Esau , y rhai sydd yn trigo yn Seir , pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen , fel y daethant ar eu hôl hwynt , ac y trigasant yn eu lle hwynt , hyd y dydd hwn ; Felly am yr Afiaid , y rhai oedd yn trigo yn Haserim , hyd Assa , y Cafftoriaid , y rhai a ddaethant allan o Cafftor , a’u difethasant hwy , ac a drigasant yn eu lle hwynt . ) Cyfodwch , cychwynnwch , ac ewch dros afon Arnon : wele , rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon , yr Amoriad , a’i wlad ef ; dechrau ei meddiannu hi , a rhyfela yn ei erbyn ef . Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd : y rhai a glywant dy enw di , a ddychrynant , ac a lesgânt rhagot ti . A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth , at Sehon brenin Hesbon , â geiriau heddwch , gan ddywedyd , Gad i mi fyned trwy dy wlad di : ar hyd y briffordd y cerddaf ; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy . Gwerth fwyd am arian i mi , fel y bwytawyf ; a dyro ddwfr am arian i mi , fel yr yfwyf : ar fy nhraed yn unig y tramwyaf ; ( Fel y gwnaeth meibion Esau i mi , y rhai sydd yn trigo yn Seir , a’r Moabiaid , y rhai sydd yn trigo yn Ar ; ) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen , i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni . Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law : oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei ysbryd ef , ac a gadarnhasai ei galon ef , er mwyn ei roddi ef yn dy law di ; megis heddiw y gwelir . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Wele , dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di : dechrau feddiannu , fel yr etifeddech ei wlad ef . Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni , efe a’i holl bobl , i ryfel yn Jahas . Ond yr Arglwydd ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen ; ac ni a’i trawsom ef , a’i feibion , a’i holl bobl : Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw , ac a ddifrodasom bob dinas , yn wŷr , yn wragedd , yn blant ; ac ni adawsom un yng ngweddill . Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni , ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom . O Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , ac o’r ddinas sydd ar yr afon , a hyd at Gilead , ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom : yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni . Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon , sef holl lan afon Jabboc , nac i ddinasoedd y mynydd , nac i’r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni . Yna y troesom , ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan ; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni , efe a’i holl bobl , i ryfel , i Edrei . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Nac ofna ef : oblegid yn dy law di y rhoddaf ef , a’i holl bobl , a’i wlad ; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon . Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan , a’i holl bobl ; ac ni a’i trawsom ef , hyd na adawyd iddo un yng ngweddill : Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw , fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt ; trigain dinas , holl wlad Argob , brenhiniaeth Og o fewn Basan . Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel , pyrth , a barrau , heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn . A difrodasom hwynt , fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon , gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr , y gwragedd , a’r plant . Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain . A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen , o afon Arnon hyd fynydd Hermon ; ( Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion , a’r Amoriaid a’i galwant Senir ; ) Holl ddinasoedd y gwastad , a holl Gilead , a holl Basan hyd Selcha ac Edrei , dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan . Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri : wele , ei wely ef oedd wely haearn : onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon ? naw cufydd oedd ei hyd , a phedwar cufydd ei led , wrth gufydd gŵr . A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw , o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon , a hanner mynydd Gilead , a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid . A’r gweddill o Gilead , a holl Basan , sef brenhiniaeth Og , a roddais i hanner llwyth Manasse ; sef holl wlad Argob , a holl Basan , yr hon a elwid Gwlad y cewri . Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob , hyd fro Gesuri , a Maachathi ; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun , Basan Hafoth‐Jair , hyd y dydd hwn . Ac i Machir y rhoddais i Gilead . Ac i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon , hanner yr afon a’r terfyn , a hyd yr afon Jabboc , terfyn meibion Ammon : Hefyd y rhos , a’r Iorddonen , a’r terfyn o Cinnereth , hyd fôr y rhos , sef y môr heli , dan Asdoth‐Pisga , tua’r dwyrain . Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu : ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel , pob rhai pybyr ohonoch . Yn unig eich gwragedd , a’ch plant , a’ch anifeiliaid , ( gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi , ) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi . Hyd pan wnelo’r Arglwydd i’ch brodyr orffwyso fel chwithau , a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen : yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi . Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn : felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt . Nac ofnwch hwynt : oblegid yr Arglwydd eich Duw , efe a ymladd drosoch chwi . Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw , gan ddywedyd , O Arglwydd Dduw , tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd , a’th law gadarn ; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd , neu ar y ddaear , yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di ? Gad i mi fyned drosodd , atolwg , a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen , a’r mynydd da hwnnw , a Libanus . Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi , ac ni wrandawodd arnaf : ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf , Digon yw hynny i ti ; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn . Dos i fyny i ben Pisga , a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin , a’r gogledd , a’r deau a’r dwyrain , ac edrych arni â’th lygaid : oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon . Gorchymyn hefyd i Josua , a nertha a chadarnha ef : oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma , ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di . Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor . Bellach gan hynny , O Israel , gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur ; fel y byddoch byw , ac yr eloch , ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi . Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi , ac na leihewch ddim ohono ef , gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi . Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal‐peor ; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal‐peor , yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di . Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw , byw ydych heddiw oll . Wele , dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi ; i wneuthur ohonoch felly , yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu . Cedwch gan hynny , a gwnewch hwynt : oblegid hyn yw eich doethineb , a’ch deall chwi , yng ngolwg y bobloedd , y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn , ac a ddywedant , Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon . Oblegid pa genedl mor fawr , yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati , fel yr Arglwydd ein Duw ni , ym mhob dim a’r y galwom arno ? A pha genedl mor fawr , yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn , megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi ? Ond gochel arnat , a chadw dy enaid yn ddyfal , rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid , a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes ; ond hysbysa hwynt i’th feibion , ac i feibion dy feibion : Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb , pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cynnull i mi y bobl , fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau , y rhai a ddysgant i’m hofni i , yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear , ac y dysgont hwynt i’w meibion . A nesasoch , a safasoch dan y mynydd a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr , yn dywyllwch , a chwmwl , a thywyllwch dudew . A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân , a chwi a glywsoch lais y geiriau , ac nid oeddech yn gweled llun dim , ond llais . Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur , sef y dengair ; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen . A’r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau , i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu . Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau , ( oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb , o ganol y tân , ) Rhag ymlygru ohonoch , a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig , cyffelybrwydd un ddelw , llun gwryw neu fenyw , Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear , llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr , Llun un ymlusgiad ar y ddaear , llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear ; Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd , a gweled yr haul , a’r lleuad , a’r sêr , sef holl lu y nefoedd , a’th yrru di i ymgrymu iddynt , a gwasanaethu ohonot hwynt , y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd . Ond yr Arglwydd a’ch cymerodd chwi , ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn , o’r Aifft , i fod iddo ef yn bobl , yn etifeddiaeth ; fel y gwelir y dydd hwn . A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi , ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen , ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth . Oblegid byddaf farw yn y wlad hon ; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen : ond chwychwi a ewch drosodd , ac a feddiennwch y wlad dda honno . Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a amododd efe â chwi , a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig , llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol , a Duw eiddigus . Pan genhedlych feibion , ac wyrion , a hir drigo ohonoch yn y wlad , ac ymlygru ohonoch , a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig , llun dim , a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef ; Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear , gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu : nid estynnwch ddyddiau ynddo , ond gan ddifetha y’ch difethir . A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd , a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd , y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt : Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn , sef pren a maen , y rhai ni welant , ac ni chlywant , ac ni fwytânt ac nid aroglant . Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw , ti a’i cei ef , os ceisi ef â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Pan gyfyngo arnat , a digwyddo yr holl bethau hyn i ti , yn y dyddiau diwethaf , os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef : ( Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog ; ) ni edy efe di , ac ni’th ddifetha , ac nid anghofia gyfamod dy dadau , yr hwn a dyngodd efe wrthynt . Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt , a fu o’th flaen di , o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear , ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd , a fu megis y mawrbeth hwn , neu a glybuwyd ei gyffelyb ef : A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân , fel y clywaist ti , a byw ? A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl , trwy brofedigaethau , trwy arwyddion , a thrwy ryfeddodau , a thrwy ryfel , a thrwy law gadarn , a thrwy fraich estynedig , a thrwy ofn mawr , fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid ? Gwnaethpwyd i ti weled hynny , i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw , nad oes neb arall ond efe . O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais , i’th hyfforddi di ; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr , a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef . Ac o achos iddo garu dy dadau , am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl ; ac a’th ddug di o’i flaen , â’i fawr allu , allan o’r Aifft : I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di , i’th ddwyn di i mewn , i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth , fel heddiw . Gwybydd gan hynny heddiw , ac ystyria yn dy galon , mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd , ac ar y ddaear oddi tanodd ; ac nid neb arall . Cadw dithau ei ddeddfau ef , a’i orchmynion , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw ; fel y byddo yn dda i ti , ac i’th feibion ar dy ôl di , fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth . Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad haul ; I gael o’r llofrudd ffoi yno , yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus , ac efe heb ei gasáu o’r blaen ; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny , a byw : Sef Beser yn yr anialwch , yng ngwastatir y Reubeniaid ; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid ; a Golan o fewn Basan y Manassiaid . A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel ; Dyma ’r tystiolaethau , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , a lefarodd Moses wrth feibion Israel , gwedi eu dyfod allan o’r Aifft : Tu yma i’r Iorddonen , yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor , yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel , wedi eu dyfod allan o’r Aifft : Ac a berchenogasant ei wlad ef , a gwlad Og brenin Basan , dau o frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad haul ; O Aroer , yr hon oedd ar lan afon Arnon , hyd fynydd Seion , hwn yw Hermon ; A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain , a hyd at fôr y rhos , dan Asdoth‐Pisga . A Moses a alwodd holl Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Clyw , O Israel , y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw ; fel y byddo i chwi eu dysgu , a’u cadw , a’u gwneuthur . Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb . Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn , ond â nyni ; nyni , y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw . Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd , o ganol y tân , ( Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi , i fynegi i chwi air yr Arglwydd : canys ofni a wnaethoch rhag y tân , ac nid esgynnech i’r mynydd , ) gan ddywedyd , Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi , yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i . Na wna i ti ddelw gerfiedig , na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod , nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod , nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear : Nac ymgryma iddynt , ac na wasanaetha hwynt : oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus , yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt ; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant , ac a gadwant fy ngorchmynion . Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer : canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer . Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Chwe diwrnod y gweithi , ac y gwnei dy holl waith : Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw : na wna ynddo ddim gwaith , tydi , na’th fab , na’th ferch , na’th was , na’th forwyn , na’th ych , na’th asyn , nac yr un o’th anifeiliaid , na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth ; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn , fel ti dy hun . A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft , a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn , ac â braich estynedig : am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth . Anrhydedda dy dad a’th fam , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti ; fel yr estynner dy ddyddiau , ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Na ladd . Ac na wna odineb . Ac na ladrata . Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog . Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog , na’i faes , na’i was , na’i forwyn , na’i ych , na’i asyn , na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog . Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd , o ganol y tân , y cwmwl , a’r tywyllwch , â llais uchel ; ac ni chwanegodd ddim ; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig , ac a’u rhoddes ataf fi . A darfu , wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch , ( a’r mynydd yn llosgi gan dân , ) yna nesasoch ataf , sef holl benaethiaid eich llwythau , a’ch henuriaid chwi ; Ac a ddywedasoch , Wele , yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant , a’i fawredd ; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân : heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn , a byw ohono . Weithian gan hynny paham y byddwn feirw ? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni : canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach , marw a wnawn . Oblegid pa gnawd oll sydd , yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân , fel nyni , ac a fu fyw ? Nesâ di , a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw ; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti : a nyni a wrandawn , ac a wnawn hynny . A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi , pan lefarasoch wrthyf ; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Clywais lais geiriau y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyt : da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant . O na byddai gyfryw galon ynddynt , i’m hofni i , ac i gadw fy holl orchmynion bob amser ; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol ! Dos , dywed wrthynt , Dychwelwch i’ch pebyll . Ond saf di yma gyda myfi ; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion , a’r deddfau , a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt , ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi : na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy . Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi ; fel y byddoch fyw , ac y byddo yn dda i chwi , ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch . Adyma ’r gorchmynion , y deddfau , a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi ; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu : Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw ei holl ddeddfau , a’i orchmynion ef , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti ; ti , a’th fab , a mab dy fab , holl ddyddiau dy einioes : ac fel yr estynner dy ddyddiau . Clyw gan hynny , O Israel , ac edrych am eu gwneuthur hwynt ; fel y byddo yn ddaionus i ti , ac fel y cynyddoch yn ddirfawr , fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti , mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . Clyw , O Israel ; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd . Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl nerth . A bydded y geiriau hyn , yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw , yn dy galon . A hysbysa hwynt i’th blant ; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ , a phan gerddych ar y ffordd , a phan orweddych i lawr , a phan gyfodych i fyny . A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law ; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid . Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ , ac ar dy byrth . Ac fe a dderfydd , wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad , ( yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob , ar ei rhoddi i ti , ) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist , A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist , a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist , i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist , wedi i ti fwyta , a’th ddigoni ; Yna cadw arnat , rhag anghofio ohonot yr Arglwydd , yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Yr Arglwydd dy Dduw a ofni , ac ef a wasanaethi , ac i’w enw ef y tyngi . Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr , o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi : ( Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di , ) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn , a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear . Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw , fel y temtiasoch ef ym Massa . Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw , a’i dystiolaethau , a’i ddeddfau , y rhai a orchmynnodd efe i ti . A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd : fel y byddo da i ti , a myned ohonot i mewn , a pherchenogi’r wlad dda , yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di ; Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen , fel y llefarodd yr Arglwydd . Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn , gan ddywedyd , Beth yw y tystiolaethau , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi ? Yna dywed wrth dy fab , Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft ; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn . Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol , ar yr Aifft , ar Pharo a’i holl dŷ , yn ein golwg ni ; Ac a’n dug ni allan oddi yno , fel y dygai efe nyni i mewn , i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni . A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn , i ofni yr Arglwydd ein Duw , er daioni i ni yr holl ddyddiau ; fel y cadwai efe nyni yn fyw , megis y mae y dydd hwn . A chyfiawnder a fydd i ni , os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll , o flaen yr Arglwydd ein Duw , fel y gorchmynnodd efe i ni . Pan y’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu , a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di , yr Hethiaid , a’r Girgasiaid , a’r Amoriaid , a’r Canaaneaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid , saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi ; A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di , a tharo ohonot ti hwynt : gan ddifrodi difroda hwynt ; na wna gyfamod â hwynt , ac na thrugarha wrthynt . Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt : na ddod dy ferch i’w fab ef , ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau . Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i , fel y gwasanaethont dduwiau dieithr : felly yr ennyn llid yr Arglwydd i’ch erbyn chwi , ac a’th ddifetha di yn ebrwydd Ond fel hyn y gwnewch iddynt : Dinistriwch eu hallorau , a thorrwch eu colofnau hwynt ; cwympwch hefyd eu llwynau , a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân . Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw : yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun , o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear . Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd , yr hoffodd yr Arglwydd chwi , ac y’ch dewisodd ; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd Ond oherwydd caru o’r Arglwydd chwi , ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau , y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn , ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed , o law Pharo brenin yr Aifft . Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw , sef y Duw ffyddlon , yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef , ac a gadwant ei orchmynion , hyd fil o genedlaethau ; Ac yn talu’r pwyth i’w gas , yn ei wyneb gan ei ddifetha ef : nid oeda efe i’w gas ; yn ei wyneb y tâl efe iddo . Cadw gan hynny y gorchmynion , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw , i’w gwneuthur . A bydd , o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn , a’u cadw , a’u gwneuthur hwynt ; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod , a’r drugaredd , a addawodd efe trwy lw i’th dadau di : Ac a’th gâr , ac a’th fendithia , ac a’th amlha di ; ac a fendiga ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir di , dy ŷd , a’th win , a’th olew , a chynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid , yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau , ar ei roddi i ti . Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd : ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon , nac ymhlith dy anifeiliaid di . Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid , ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft , y rhai a adwaenost : ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt . Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti : nac arbeded dy lygad hwynt , ac na wasanaetha eu duwiau hwynt ; oblegid magl i ti a fyddai hynny . Os dywedi yn dy galon , Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi ; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith ? Nac ofna rhagddynt : gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo , ac i’r holl Aifft : Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid , a’r arwyddion , a’r rhyfeddodau , a’r llaw gadarn , a’r braich estynedig , â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan : felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni . A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt , hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill , a’r rhai a ymguddiant rhagot ti . Nac ofna rhagddynt : oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di , yn Dduw mawr , ac ofnadwy . A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di , bob ychydig ac ychydig : ni elli eu difetha hwynt ar unwaith , rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi . Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di , ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr , nes eu difetha hwynt ; Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di , a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd : ni saif gŵr yn dy wyneb di , nes difetha ohonot ti hwynt . Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân : na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt , i’w cymryd i ti ; rhag dy faglu ag ef : oblegid ffieidd‐dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw . Na ddwg dithau ffieidd‐dra i’th dŷ , fel y byddech ysgymunbeth megis yntau : gan ddirmygu dirmyga ef , a chan ffieiddio ffieiddia ef : oblegid ysgymunbeth yw efe . Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw ; fel y byddoch fyw , ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn , ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw . A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn , trwy’r anialwch , er mwyn dy gystuddio di , gan dy brofi , i wybod yr hyn oedd yn dy galon , a gedwit ti ei orchmynion ef , ai nas cedwit . Ac efe a’th ddarostyngodd , ac a oddefodd i ti newynu , ac a’th fwydodd â manna , yr hwn nid adwaenit , ac nid adwaenai dy dadau ; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn , ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn . Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat , a’th droed ni chwyddodd , y deugain mlynedd hyn . Cydnebydd dithau yn dy galon , fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di , fel y dysg gŵr ei fab ei hun . A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd , ac i’w ofni ef . Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda , i wlad afonydd dyfroedd , ffynhonnau , a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn , ac yn y mynydd ; Gwlad gwenith , a haidd , a gwinwydd , a ffigyswydd , a phomgranadwydd ; gwlad olew olewydden , a mêl ; Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder , ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi ; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn , ac o’i mynyddoedd y cloddi bres . Pan fwyteych , a’th ddigoni ; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti . Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw , heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau , a’i ddeddfau ef , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw : Rhag wedi i ti fwyta , a’th ddigoni , ac adeiladu tai teg , a thrigo ynddynt ; A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di , ac amlhau o arian ac aur gennyt , ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt : Yna ymddyrchafu o’th galon , ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw , ( yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed ; Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy , lle yr ydoedd seirff tanllyd , ac ysgorpionau , a syched lle nid oedd dwfr ; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr ; Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna , yr hwn nid adwaenai dy dadau , er dy ddarostwng , ac er dy brofi di , i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd , ) A dywedyd ohonot yn dy galon , Fy nerth fy hun , a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn . Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw : oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth , fel y cadarnhao efe ei gyfamod , yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau , fel y mae y dydd hwn . Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw , a dilyn duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt , ac ymgrymu iddynt ; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw , gan ddifetha y’ch difethir . Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi , felly y difethir chwithau ; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw . Gwrando , Israel : Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon , i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi , dinasoedd mwy a chryfach na thi , dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd ; Pobl fawr ac uchel , meibion Anac , y rhai a adnabuost , ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt , Pwy a saif o flaen meibion Anac ? Gwybydd gan hynny heddiw , fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol : efe a’u difetha hwynt , ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di : felly y gyrri hwynt ymaith , ac y difethi hwynt yn fuan , megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt . Na ddywed yn dy galon , wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di , gan ddywedyd , Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn : ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn , y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di . Nid am dy gyfiawnder di , nac am uniondeb dy galon , yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt : ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di , ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob . Gwybydd dithau , nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu : canys pobl wargaled ydych . Meddwl , ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch : o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft , hyd eich dyfod i’r lle hwn , gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd . Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd ; a digiodd yr Arglwydd wrthych i’ch difetha . Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini , sef llechau y cyfamod , yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi ; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos : bara ni fwyteais , a dwfr nid yfais . A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen , wedi eu hysgrifennu â bys Duw ; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd , o ganol y tân , ar ddydd y gymanfa . A bu , ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos , roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen ; sef llechau y cyfamod . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos oddi yma i waered yn fuan : canys ymlygrodd dy bobl , y rhai a ddygaist allan o’r Aifft : ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt ; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd . A llefarodd yr Arglwydd wrthyf , gan ddywedyd , Gwelais y bobl hyn ; ac wele , pobl wargaled ydynt . Paid â mi , a mi a’u distrywiaf hwynt , ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd ; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach , ac amlach na hwynt‐hwy . A mi a ddychwelais , ac a ddeuthum i waered o’r mynydd , a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân ; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo . Edrychais hefyd ; ac wele , pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw : gwnaethech i chwi lo tawdd : ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi . A mi a ymeflais yn y ddwy lech , ac a’u teflais hwynt o’m dwylo , ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid . A syrthiais gerbron yr Arglwydd , fel y waith gyntaf , ddeugain niwrnod a deugain nos ; ni fwyteais fara , ac nid yfais ddwfr : oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech , gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef . ( Canys ofnais rhag y soriant a’r dig , trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych , i’ch dinistrio chwi . ) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd . Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr , i’w ddifetha ef : a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno . Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch , sef y llo , a gymerais , ac a’i llosgais yn tân ; curais ef hefyd , gan ei falurio yn dda , nes ei falu yn llwch : a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd . O fewn Tabera hefyd , ac o fewn Massa , ac o fewn Beddau’r blys , yr oeddech yn digio’r Arglwydd . A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea , gan ddywedyd , Ewch i fyny , a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi , yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw : ni chredasoch hefyd iddo , ac ni wrandawsoch ar ei lais ef . Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi . A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos , fel y syrthiaswn o’r blaen ; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi . Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd , a dywedais , Arglwydd Dduw , na ddifetha dy bobl , a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd , yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref . Cofia dy weision , Abraham , Isaac , a Jacob ; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn , nac ar eu drygioni , nac ar eu pechod : Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni , O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt , ac o’i gas arnynt , y dug efe hwynt allan , i’w lladd yn yr anialwch . Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy , y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth , ac â’th estynedig fraich . Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Nadd i ti ddwy lech faen , fel y rhai cyntaf ; a thyred i fyny ataf fi i’r mynydd , a gwna i ti arch bren . A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf , y rhai a dorraist ; a gosod dithau hwynt yn yr arch . Yna gwneuthum arch o goed Sittim ; ac a neddais ddwy lech faen , fel y rhai cyntaf ; ac a euthum i fyny i’r mynydd , a’r ddwy lech yn fy llaw . Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau , fel yr ysgrifen gyntaf , y dengair , a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd , o ganol y tân , yn nydd y gymanfa : a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi . Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd , ac a osodais y llechau yn yr arch , yr hon a wnaethwn , ac yno y maent ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi . A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera : yno y bu farw Aaron , ac efe a gladdwyd yno ; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef . Oddi yno yr aethant i Gudgoda ; ac o Gudgoda i Jotbath , tir afonydd dyfroedd Yr amser hwnnw y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi , i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd , i sefyll gerbron yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef , ac i fendigo yn ei enw ef , hyd y dydd hwn . Am hynny ni bydd rhan i Lefi , nac etifeddiaeth gyda’i frodyr : yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef ; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef . A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos , fel y dyddiau cyntaf : a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd ; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos i’th daith o flaen y bobl ; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir , yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt . Ac yr awr hon , Israel , beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt , ond ofni yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei holl ffyrdd , a’i garu ef , a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , Cadw gorchmynion yr Arglwydd , a’i ddeddfau , y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn , er daioni i ti ? Wele , y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw , y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi . Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch , gan eu hoffi hwynt ; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt , sef ohonoch chwi , o flaen yr holl bobloedd , megis heddiw y gwelir . Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon , ac na chaledwch eich gwar mwyach . Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau , ac Arglwydd yr arglwyddi , Duw mawr , cadarn , ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb , ac ni chymer wobr . Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw ; ac y sydd yn hoffi’r dieithr , gan roddi iddo fwyd a dillad . Hoffwch chwithau y dieithr : canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft . Yr Arglwydd dy Dduw a ofni , ac ef a wasanaethi : wrtho ef hefyd y glyni , ac i’w enw ef y tyngi . Efe yw dy fawl , ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn , y rhai a welodd dy lygaid . Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft yn ddeg enaid a thrigain ; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd . Car dithau yr Arglwydd dy Dduw , a chadw ei gadwraeth ef , a’i ddeddfau a’i farnedigaethau , a’i orchmynion , byth . A chydnabyddwch heddiw : canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant , y rhai nid adnabuant , ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi , ei fawredd , ei law gref , a’i fraich estynedig ; Ei arwyddion hefyd , a’i weithredoedd , y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft , i Pharo brenin yr Aifft , ac i’w holl dir ; A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft , i’w feirch ef , ac i’w gerbydau ; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt , pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl , ac y difethodd yr Arglwydd hwynt , hyd y dydd hwn : A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch , nes eich dyfod i’r lle hwn ; A’r hyn a wnaeth efe i Dathan , ac i Abiram , meibion Elïab , mab Reuben ; y modd yr agorodd y ddaear ei safn , ac a’u llyncodd hwynt , a’u teuluoedd , a’u pebyll , a’r holl olud oedd ganddynt , ymysg holl Israel . Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd , y rhai a wnaeth efe . Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw ; fel y byddoch gryfion , ac yr eloch i mewn , ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu : Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau , ar ei roddi iddynt , ac i’w had ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu , nid fel tir yr Aifft y mae , yr hwn y daethoch allan ohono , lle yr heuaist dy had , ac y dyfrheaist â’th droed , fel gardd lysiau : Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu , sydd fynydd‐dir , a dyffryndir , yn yfed dwfr o law y nefoedd ; Tir yw , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu : llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno , o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd . A bydd , os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw , i garu yr Arglwydd eich Duw , ac i’w wasanaethu , â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid ; Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser , sef y cynnar‐law , a’r diweddar‐law ; fel y casglech dy ŷd , a’th win , a’th olew ; A rhoddaf laswellt yn dy faes , i’th anifeiliaid ; fel y bwytaech , ac y’th ddigoner . Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon , a chilio ohonoch , a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt ; Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn , a chau ohono ef y nefoedd , fel na byddo glaw , ac na roddo y ddaear ei chnwd , a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi . Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon , ac yn eich meddwl , a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo , a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid : A dysgwch hwynt i’ch plant ; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ , a phan rodiech ar y ffordd , pan orweddych hefyd , a phan godych . Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ , ac ar dy byrth ; Fel yr amlhao eich dyddiau chwi , a dyddiau eich plant chwi , ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt , fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear . Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur , i garu yr Arglwydd eich Duw , i rodio yn ei holl ffyrdd ef , ac i lynu wrtho ef ; Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi , a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi . Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno , fydd eiddo chwi : o’r anialwch , a Libanus , ac o’r afon , sef afon Ewffrates , hyd y môr eithaf , y bydd eich terfyn chwi . Ni saif gŵr yn eich wyneb : eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno , megis y llefarodd wrthych Wele , rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith : Bendith , os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw ; A melltith , oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw , ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw , i fyned ar ôl duwiau dieithr , y rhai nid adnabuoch Bydded gan hynny , pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu , roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim , a’r felltith ar fynydd Ebal . Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen , tua’r lle y machluda’r haul , yn nhir y Canaaneaid , yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal , gerllaw gwastadedd More ? Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen , i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi ; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo . Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau , y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw . Dyma ’r deddfau a’r barnedigaethau , y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur , yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu , yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear . Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau , y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt , ar y mynyddoedd uchel , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt , a thorrwch eu colofnau hwynt , a llosgwch eu llwynau hwynt â thân , a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt , a dinistriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw . Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw . Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi , i osod ei enw yno , ei drigfa ef a geisiwch , ac yno y deuwch : A dygwch yno eich poethoffrymau , a’ch aberthau , a’ch degymau , ac offrwm dyrchafael eich llaw , eich addunedau hefyd , a’ch offrymau gwirfodd , a chyntaf‐anedig eich gwartheg a’ch defaid . A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw , a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno , chwychwi a’ch teuluoedd , yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw . Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw , pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun . Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orffwysfa , ac i’r etifeddiaeth , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Ond pan eloch dros yr Iorddonen , a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi , a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch , fel y preswylioch yn ddiogel : Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo , i beri i’w enw aros ynddo ; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi ; sef eich poethoffrymau , a’ch aberthau , eich degymau , a dyrchafael‐offrwm eich llaw , a’ch holl ddewis addunedau , y rhai a addunedoch i’r Arglwydd . A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw ; chwi , a’ch meibion , a’ch merched , a’ch gweision , a’ch morynion , a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi : canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi . Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a’r a welych : Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o’th lwythau di , yno yr offrymi dy boethoffrymau , ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti . Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon , yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw , yr hon a rydd efe i ti , yn dy holl byrth : yr aflan a’r glân a fwyty ohono , megis o’r iwrch a’r carw . Ond na fwytewch y gwaed ; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr . Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd , na’th win , na’th olew , na chyntaf‐anedig dy wartheg , na’th ddefaid , na’th holl addunedau y rhai a addunech , na’th offrymau gwirfodd , na dyrchafael‐offrwm dy law : Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw ; ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di : llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno . Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad , tra fyddech byw ar y ddaear . Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di , megis y dywedodd wrthyt , os dywedi , Bwytâf gig , ( pan ddymuno dy galon fwyta cig , ) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig . Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo , fydd pell oddi wrthyt ; yna lladd o’th wartheg , ac o’th ddefaid , y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti , megis y gorchmynnais i ti , a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon . Eto fel y bwyteir yr iwrch a’r carw , felly y bwytei ef : yr aflan a’r glân a’i bwyty yn yr un ffunud . Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed : canys y gwaed yw yr einioes ; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â’r cig . Na fwyta ef ; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr . Na fwyta ef ; fel y byddo daioni i ti , ac i’th feibion ar dy ôl , pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt , a’th addunedau , a thyred i’r lle a ddewiso yr Arglwydd . Ac offryma dy boethoffrwm , ( y cig a’r gwaed , ) ar allor yr Arglwydd dy Dduw : a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw ; a’r cig a fwytei di . Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti ; fel y byddo daioni i ti , ac i’th feibion ar dy ôl byth , pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw . Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd , y rhai yr wyt ti yn myned atynt i’w meddiannu , o’th flaen di , a dyfod ohonot yn eu lle hwynt , a phreswylio yn eu tir hwynt : Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt , wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di ; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt , gan ddywedyd , Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau ? myfi a wnaf felly hefyd . Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw : canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd , a wnaethant hwy i’w duwiau : canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau . Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi , edrychwch am wneuthur hynny : na chwanega ato , ac na thyn oddi wrtho . Pan godo yn dy fysg di broffwyd , neu freuddwydydd breuddwyd , ( a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod , A dyfod i ben o’r arwydd , neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt , ) gan ddywedyd , Awn ar ôl duwiau dieithr , ( y rhai nid adwaenost , ) a gwasanaethwn hwynt ; Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw , neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw : canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi , i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid . Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch , ac ef a ofnwch , a’i orchmynion ef a gedwch , ac ar ei lais ef y gwrandewch , ac ef a wasanaethwch , ac wrtho ef y glynwch . A’r proffwyd hwnnw , neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw , a roddir i farwolaeth ; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft , ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed , i’th wthio di allan o’r ffordd , yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi . Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg . Os dy frawd , mab dy fam , neu dy fab dy hun , neu dy ferch , neu wraig dy fynwes , neu dy gyfaill , yr hwn sydd fel dy enaid dy hun , a’th annog yn ddirgel , gan ddywedyd , Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuost ti , na’th dadau ; Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi , yn agos atat , neu ymhell oddi wrthyt , o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir : Na chydsynia ag ef , ac na wrando arno , ac nac arbeded dy lygad ef , ac nac eiriach ef , ac na chela arno : Ond gan ladd lladd ef ; bydded dy law di arno ef yn gyntaf , i’w roddi i farwolaeth , a llaw yr holl bobl wedi hynny . A llabyddia ef â meini , fel y byddo marw : canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed . A holl Israel a glywant , ac a ofnant , ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith . Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt , gan ddywedyd , Aeth dynion , meibion y fall , allan o’th blith , a gyrasant drigolion eu dinas , gan ddywedyd , Awn , gwasanaethwn dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuoch ; Yna ymofyn , a chwilia , a chais yn dda : ac wele , os gwirionedd yw , a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg ; Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf ; difroda hi , a’r rhai oll a fyddant ynddi , a’i hanifeiliaid hefyd , â min y cleddyf . A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi , ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl , i’r Arglwydd dy Dduw , â thân : felly bydded yn garnedd byth ; nac adeilader hi mwy . Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd‐beth : fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig , ac y rhoddo i ti drugaredd , ac y tosturio wrthyt , ac y’th amlhao , megis y tyngodd wrth dy dadau : Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw ei holl orchmynion ef , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw , gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw . Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw : na thorrwch mohonoch eich hunain , ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid , dros y marw . Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw , a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef , o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear . Na fwyta ddim ffiaidd . Dyma’r anifeiliaid a fwytewch : eidion , llwdn dafad , a llwdn gafr , Y carw , a’r iwrch , a’r llwdn hydd , a’r bwch gwyllt , a’r unicorn , a’r ych gwyllt , a’r afr wyllt . A phob anifail yn hollti’r ewin , ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin , ac yn cnoi cil , ymysg yr anifeiliaid ; hwnnw a fwytewch . Ond hyn ni fwytewch , o’r rhai a gnoant y cil , neu a holltant yr ewin yn fforchog : y camel , a’r ysgyfarnog , a’r gwningen : er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil , am nad ydynt yn fforchogi’r ewin , aflan ydynt i chwi . Yr hwch hefyd , er ei bod yn fforchogi’r ewin , ac heb gnoi cil , aflan yw i chwi : na fwytewch o’u cig hwynt , ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt . Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd : yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch . A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen , ni fwytewch : aflan yw i chwi . Pob aderyn glân a fwytewch . A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr , a’r wyddwalch , a’r fôr‐wennol , A’r bod , a’r barcud , a’r fwltur yn ei rhyw , A phob cigfran yn ei rhyw , A chyw yr estrys , a’r frân nos , a’r gog , a’r hebog yn ei ryw , Aderyn y cyrff , a’r dylluan , a’r gogfran , A’r pelican , a’r biogen , a’r fulfran , A’r ciconia , a’r crŷr yn ei ryw , a’r gornchwigl , a’r ystlum . A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi : na fwytaer hwynt . Pob ehediad glân a fwytewch . Na fwytewch ddim a fo marw ei hun : dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth , a bwytaed ef ; neu gwerth ef i’r dieithr : canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had , sef ffrwyth dy faes , bob blwyddyn . A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo , ddegwm dy ŷd , dy win , a’th olew , a chyntaf‐anedig dy wartheg , a’th ddefaid ; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser . A phan fyddo y ffordd ry hir i ti , fel na ellych ei ddwyn ef , neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt , yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo , pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw : Yna dod ei werth yn arian ; a rhwym yr arian yn dy law , a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon ; am wartheg , neu am ddefaid , neu am win , neu am ddiod gref , neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon : a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw , a llawenycha di , a’th deulu . A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth , na wrthod ef : am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi . Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno : a dyro ef i gadw o fewn dy byrth . A’r Lefiad , ( am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi , ) a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , y rhai fydd yn dy byrth di , a ddeuant , ac a fwytânt , ac a ddigonir ; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law . Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod . A dyma wedd y gollyngdod . Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe : na fynned hynny drachefn gan ei gymydog , neu ei frawd ; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd . Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr ; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd : Megis na byddo ohonot ti gardotyn : canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu ; Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw . Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia , megis y llefarodd wrthyt , fel y benthyciech i genhedloedd lawer , ac na fenthyciech di ganddynt ; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer , ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti . Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth , yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , na chaleda dy galon , ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd : Ond gan agoryd agor dy law iddo , a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef , yr hyn fyddo arno ei eisiau . Gwylia arnat , rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd , Agos yw’r seithfed flwyddyn , blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd , rhag rhoddi iddo , a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot , a’i fod yn bechod i ti . Gan roddi dod iddo , ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo : canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith , ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno . Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir : am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti , gan ddywedyd , Gan agoryd agor dy law i’th frawd , i’th anghenus ac i’th dlawd , yn dy dir . Os gwerthir dy frawd , Hebread , neu Hebrees , i ti , a’th wasanaethu chwe blynedd ; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt . A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt , na ollwng ef yn wag : Gan lwytho llwytha ef o’th braidd , ac o’th ysgubor , ac o’th winwryf : o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw , dod iddo . A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft , a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw : am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw . Ond os dywed wrthyt , Nid af allan oddi wrthyt ; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi : Yna cymer fynawyd , a dod trwy ei glust ef , ac yn y ddôr ; a bydded yn was i ti byth : felly hefyd y gwnei i’th forwyn . Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt , canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog , chwe blynedd : a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych . Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg , neu o’th ddefaid , yn wryw , a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw : na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen , ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid . Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd , ti a’th deulu . Ond os bydd anaf arno , os cloff neu ddall fydd , neu arno ryw ddrwg anaf arall ; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw . O fewn dy byrth y bwytei ef : yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty , megis yr iwrch , ac megis y carw . Eto na fwyta ei waed ef ; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr . Cadw y mis Abib , a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw : canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft , o hyd nos . Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw , o ddefaid a gwartheg , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno . Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef : saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw , sef bara cystudd : ( canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft : ) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes . Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod ; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr , ar y dydd cyntaf . Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti : Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo ; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr , ar fachludiad haul , y pryd y daethost allan o’r Aifft . Yna y rhosti , ac y bwytei ef , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : a’r bore y dychweli , ac yr ei i’th babellau . Chwe diwrnod y bwytei fara croyw : ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw ; ni chei wneuthur gwaith ynddo . Cyfrif i ti saith wythnos : pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd , y dechreui rifo’r saith wythnos . A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw , ag offrwm gwirfodd dy law , yr hwn a roddi , megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw . A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth , a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , sydd yn dy fysg , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo . Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft : a chadw a gwna y deddfau hyn . Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod , wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win . A llawenycha yn dy ŵyl , ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad , a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , y rhai fyddant o fewn dy byrth . Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd : canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd , ac yn holl waith dy ddwylo ; am hynny bydd dithau lawen . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe ; ar ŵyl y bara croyw , ac ar ŵyl yr wythnosau , ac ar ŵyl y pebyll : ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw . Pob un yn ôl rhodd ei law , yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti . Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau ; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn . Na ŵyra farn , ac na chydnebydd wynebau ; na dderbyn wobr chwaith : canys gwobr a ddalla lygaid y doethion , ac a ŵyra eiriau y cyfiawn . Cyfiawnder , cyfiawnder a ddilyni ; fel y byddych fyw , ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti . Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw , yr hon a wnei i ti . Ac na chyfod i ti golofn ; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw . Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf , neu ddim gwrthuni : canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny . Pan gaffer yn dy blith di , o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti , ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw , gan droseddu ei gyfamod ef , Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr , ac a ymgrymodd iddynt , i’r haul , neu i’r lleuad , neu i holl lu y nefoedd , yr hyn ni orchmynnais ; Pan ddangoser i ti , a chlywed ohonot , yna cais yn dda : ac wele , os gwirionedd yw , a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel ; Yna dwg allan y gŵr hwnnw , neu y wraig honno , a wnaethant y peth drygionus hyn , i’th byrth , sef y gŵr neu y wraig , a llabyddia hwynt â meini , fel y byddont feirw . Wrth dystiolaeth dau o dystion , neu dri o dystion , y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw : na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst . Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef , a llaw yr holl bobl wedi hynny : a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith . Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti , rhwng gwaed a gwaed , rhwng hawl a hawl , neu rhwng pla a phla , mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth ; yna cyfod , a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : A dos at yr offeiriaid y Lefiaid , ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny , ac ymofyn ; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth . A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti , o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd ; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti . Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti , ac yn ôl y farn a ddywedont i ti , y gwnei : na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti , i’r tu deau nac i’r tu aswy . A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg , heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw , neu ar y barnwr ; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw : a thyn ymaith y drwg o Israel . A’r holl bobl a glywant , ac a ofnant ; ac ni ryfygant mwy . Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , a’i feddiannu , a thrigo ynddo , os dywedi , Gosodaf arnaf frenin , megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch : Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin ; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti . Ond nac amlhaed iddo feirch , ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch ; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych , Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy . Ac nac amlhaed iddo wragedd , fel na ŵyro ei galon ; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo . A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth , ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr , allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid . A bydded gydag ef , a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd : fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw , i gadw holl eiriau y gyfraith hon , a’r deddfau hyn , i’w gwneuthur hwynt : Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr , ac na chilio oddi wrth y gorchymyn , i’r tu deau nac i’r tu aswy : fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel . Ni bydd i’r offeiriaid , i’r Lefiaid , i holl lwyth Lefi , ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel : ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a’i etifeddiaeth ef , a fwytânt hwy . Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr : yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy , megis ag y dywedodd wrthynt . A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl , oddi wrth y rhai a aberthant aberth , pa un bynnag ai eidion ai dafad ; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên , a’r boten . Blaenffrwyth dy ŷd , dy win , a’th olew , a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid , a roddi iddo ef . Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di , i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd , efe a’i feibion yn dragywydd . A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel , lle y byddo efe yn ymdaith , a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd ; Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw , megis ei holl frodyr y Lefiaid , y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd . Rhan am ran a fwytânt , heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau . Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny . Na chaffer ynot a wnelo i’w fab , neu i’w ferch , fyned trwy y tân ; neu a arfero ddewiniaeth , na phlanedydd , na daroganwr , na hudol , Na swynwr swynion , nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr , neu frudiwr , nac a ymofynno â’r meirw : Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn ; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di . Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw . Canys y cenhedloedd hyn , y rhai a feddienni di , a wrandawsant ar blanedyddion , ac ar ddewiniaid : ond amdanat ti , nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti , o’th blith dy hun , o’th frodyr dy hun , Broffwyd megis finnau ; arno ef y gwrandewch Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb , yn nydd y gymanfa , gan ddywedyd , Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw , ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach , rhag fy marw . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr , fel tithau , a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef ; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo . A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau , y rhai a lefara efe yn fy enw , myfi a’i gofynnaf ganddo . Y proffwyd hefyd , yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru , neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr ; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth . Ac os dywedi yn dy galon , Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd ? Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd , a’r gair heb fod , ac heb ddyfod i ben , hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd ; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg : nac ofna ef . Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti , a’i feddiannu ohonot ti , a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai ; Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu . Paratoa ffordd i ti , a thraeana derfyn dy dir , yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti , fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno . Dyma gyfraith y llofrudd , yr hwn a ffy yno , i fyw : yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod , ac yntau heb ei gasáu ef o’r blaen ; Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren , ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren , a syrthio yr haearn o’r menybr , a chyrhaeddyd ei gymydog , fel y byddo farw ; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn , a byw : Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd , a’i galon yn llidiog , a’i oddiweddyd , am fod y ffordd yn hir , a’i daro ef yn farw , er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth , am nad oedd efe yn ei gasáu ef o’r blaen . Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti , gan ddywedyd , Tair dinas a neilltui i ti . A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn , fel y tyngodd wrth dy dadau , a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau ; Os cedwi y gorchmynion hyn oll , gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw , i garu yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser ; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn : Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth ; ac na byddo gwaed i’th erbyn . Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog , ac yn cynllwyn iddo , a chodi yn ei erbyn , a’i ddieneidio fel y byddo farw , a ffoi i un o’r dinasoedd hyn : Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef , a chymerant ef oddi yno , a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed , fel y byddo farw . Nac arbeded dy lygad ef , ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel , fel y byddo daioni i ti . Na symud derfyn dy gymydog , yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen , o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu . Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd , neu ddim pechod , o’r holl bechodau a becho efe : wrth dystiolaeth dau o dystion , neu wrth dystiolaeth tri o dystion , y bydd safadwy y peth . Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb , gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef ; Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd , o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny . Ac ymofynned y barnwyr yn dda : ac os y tyst fydd dyst ffals , ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd ; Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd : a thyn ymaith y drwg o’th fysg . A’r lleill a glywant , ac a ofnant , ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith . Ac nac arbeded dy lygad : bydded einioes am einioes , llygad am lygad , dant am ddant , llaw am law , troed am droed . Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion , a gweled meirch a cherbydau , a phobl fwy na thi , nac ofna rhagddynt : oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi , yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft . A bydd , pan nesaoch i’r frwydr , yna ddyfod o’r offeiriad , a llefaru wrth y bobl , A dywedyd wrthynt , Clyw , Israel : Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion : na feddalhaed eich calon , nac ofnwch , na synnwch , ac na ddychrynwch rhagddynt . Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi , i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi , ac i’ch achub chwi . A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl , gan ddywedyd , Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd , ac nis cysegrodd ef ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw yn y frwydr , ac i ŵr arall ei gysegru ef . A pha ŵr sydd a blannodd winllan , ac nis mwynhaodd hi ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw yn y frwydr , ac i ŵr arall ei mwynhau hi . A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig , ac ni chymerodd hi ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw mewn rhyfel , ac i ŵr arall ei chymryd hi . Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl , ac a ddywedant , Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon ? eled a dychweled i’w dŷ , fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau . A bydded , pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl , osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl . Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn , cyhoedda iddi heddwch . A bydded , os heddwch a etyb hi i ti , ac agoryd i ti ; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi , fod i ti dan deyrnged , a’th wasanaethu . Ac oni heddycha hi â thi , ond gwneuthur rhyfel â thi ; yna gwarchae arni hi . Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di , taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf . Yn unig y benywaid , a’r plant , a’r anifeiliaid , a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas , sef ei holl ysbail , a ysbeili i ti : a thi a fwynhei ysbail dy elynion , yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt , y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn . Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth , na chadw un enaid yn fyw : Ond gan ddifrodi difroda hwynt ; sef yr Hethiaid , a’r Amoriaid , y Canaaneaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt , y rhai a wnaethant i’w duwiau , a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw . Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau , gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi , na ddifetha ei choed hi , gan daro bwyell arnynt : canys ohonynt y bwytei ; na thor dithau hwynt i lawr , ( oherwydd bywyd dyn yw pren y maes , ) i’w gosod yn y gwarchglawdd . Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw , hwnnw a ddifethi ac a dorri : ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi , hyd oni orchfyger hi . Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu , yn gorwedd yn y maes , heb wybod pwy a’i lladdodd ; Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan , a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig . A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig , sef henuriaid y ddinas honno , gymryd anner o’r gwartheg , yr hon ni weithiwyd â hi , ac ni thynnodd dan iau . A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw , yr hwn ni lafuriwyd , ac ni heuwyd ynddo ; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn . A nesaed yr offeiriaid , meibion Lefi , ( oherwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef , ac i fendigo yn enw yr Arglwydd , ) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla . A holl henuriaid y ddinas honno , y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig , a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn . A hwy a atebant ac a ddywedant , Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn , ac nis gwelodd ein llygaid . Trugarha wrth dy bobl Israel , y rhai a waredaist , O Arglwydd , ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel . A maddeuir y gwaed iddynt hwy . Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg , os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd . Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion , a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di , a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt ; A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol , a’i bod wrth dy fodd , i’w chymryd i ti yn wraig : Yna dwg hi i fewn dy dŷ , ac eillied hi ei phen , a thorred ei hewinedd ; A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani , a thriged yn dy dŷ di , ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau : ac wedi hynny yr ei di ati , ac y byddi ŵr iddi , a hithau fydd wraig i ti . Ac oni bydd hi wrth dy fodd ; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun , a chan werthu na werth hi er arian ; na chais elw ohoni , am i ti ei darostwng hi . Pan fyddo i ŵr ddwy wraig , un yn gu , ac un yn gas ; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef , a bod y mab cyntaf‐anedig o’r un gas : Yna bydded , yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo , na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas , yr hwn sydd gyntaf‐anedig ; Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe , gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef : o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef ; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig . Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd , heb wrando ar lais ei dad , neu ar lais ei fam ; a phan geryddant ef , ni wrendy arnynt : Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo , ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas , ac i borth ei drigfan ; A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef , Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd , heb wrando ar ein llais ; glwth a meddwyn yw efe . Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini , fel y byddo farw : felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg ; a holl Israel a glywant , ac a ofnant . Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau , a’i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren ; Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren , ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw : oherwydd melltith Dduw sydd i’r hwn a grogir : ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth . Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni , ac ymguddio oddi wrthynt : gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd . Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat , neu onid adwaenost ef ; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ , a bydded gyda thi , hyd pan ymofynno dy frawd amdano ; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef . Ac felly y gwnei i’w asyn ef , ac felly y gwnei i’w ddillad ef , ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd , yr hwn a gyll oddi wrtho ef , a thithau yn ei gael : ni elli ymguddio . Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd , ac ymguddio oddi wrthynt ; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef . Na fydded dilledyn gŵr am wraig , ac na wisged gŵr ddillad gwraig : oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn . Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd , mewn un pren , neu ar y ddaear , â chywion , neu ag wyau ynddo , a’r fam yn eistedd ar y cywion , neu ar yr wyau ; na chymer y fam gyda’r cywion . Gan ollwng ti a ollyngi y fam , a’r cywion a gymeri i ti ; fel y byddo daioni i ti , ac yr estynnech dy ddyddiau . Pan adeiledych dŷ newydd , yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen ; fel na osodych waed ar dy dŷ , pan syrthio neb oddi arno . Na heua dy winllan ag amryw had ; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech , a chnwd y winllan . Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd . Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd , megis o wlân a llin ynghyd . Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi . O chymer gŵr wraig , ac wedi myned ati , ei chasáu ; A gosod yn ei herbyn anair , a rhoddi allan enw drwg iddi , a dywedyd , Y wraig hon a gymerais ; a phan euthum ati , ni chefais ynddi forwyndod : Yna cymered tad y llances a’i mam , a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth . A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid , Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig , a’i chasáu y mae efe . Ac wele , efe a gododd iddi anair , gan ddywedyd , Ni chefais yn dy ferch forwyndod ; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch . Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas . A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr , ac a’i cosbant ef . A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian , ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances ; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel : a bydd hi yn wraig iddo ; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau . Ond os gwir fydd y peth , ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances : Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad , a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini , oni byddo farw ; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel , gan buteinio yn nhŷ ei thad : a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg . O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr ; byddant feirw ill dau , sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig , a’r wraig hefyd : felly y tynni ymaith ddrwg o Israel . O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr , a chael o ŵr hi mewn dinas , a gorwedd gyda hi ; Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno , ac a’u llabyddiwch hwynt â meini , fel y byddont feirw : y llances , oblegid na waeddodd , a hithau yn y ddinas ; a’r gŵr , oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog : felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg . Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo , a’i threisio o’r gŵr , a gorwedd gyda hi ; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig . Ond i’r llances ni chei wneuthur dim ; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth : oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog , a’i ddieneidio ef , yr un modd y mae y peth hyn : Oblegid yn y maes y cafodd efe hi : gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo ; ac nid oedd achubydd iddi . O chaiff gŵr lances o forwyn , heb ei dyweddïo , ac ymaflyd ynddi , a gorwedd gyda hi , a’u dala hwynt : Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi , i dad y llances , ddeg a deugain o arian ; ac iddo y bydd yn wraig , am iddo ei darostwng hi : ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau . Na chymered neb wraig ei dad , ac na ddinoethed odre ei dad . Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin , na disbaidd , i gynulleidfa yr Arglwydd . Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd ; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd . Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd ; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth : Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd , wrth eich dyfod o’r Aifft ; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia , i’th felltithio di . Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam : ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti ; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi . Na chais eu heddwch hwynt , na’u daioni hwynt , dy holl ddyddiau byth . Na ffieiddia Edomiad ; canys dy frawd yw : na ffieiddia Eifftiad ; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef . Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt . Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg . O bydd un ohonot heb fod yn lân , oherwydd damwain nos ; eled allan o’r gwersyll ; na ddeued o fewn y gwersyll . Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr : yna wedi machludo’r haul , deued i fewn y gwersyll . A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll ; ac yno yr ei di allan . A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau ; a bydded pan eisteddych allan , gloddio ohonot â hi , a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt . Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau , i’th waredu , ac i roddi dy elynion o’th flaen di ; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd ; fel na welo ynot ti ddim brynti , a throi oddi wrthyt . Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr . Gyda thi y trig yn dy fysg , yn y fan a ddewiso , yn un o’th byrth di , lle byddo da ganddo ; ac na chystuddia ef . Na fydded putain o ferched Israel , ac na fydded puteiniwr o feibion Israel . Na ddwg wobr putain , na gwerth ci , i dŷ yr Arglwydd dy Dduw , mewn un adduned : canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw . Na chymer ocraeth gan dy frawd ; ocraeth arian , ocraeth bwyd , ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano . Gan estron y cymeri ocraeth ; ond na chymer ocraeth gan dy frawd : fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno , yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu Pan addunedych adduned i’r Arglwydd dy Dduw , nac oeda ei thalu : canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt ; a byddai yn bechod ynot . Ond os peidi ag addunedu , ni bydd pechod ynot . Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau ; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd , yr hwn a draethaist â’th enau . Pan ddelych i winllan dy gymydog , yna bwyta o rawnwin dy wala , wrth dy feddwl ; ond na ddod yn dy lestr yr un . Pan ddelych i ŷd dy gymydog , yna y cei dynnu y tywysennau â’th law ; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog . Pan gymero gŵr wraig , a’i phriodi ; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef , o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi ; ysgrifenned iddi lythyr ysgar , a rhodded yn ei llaw hi , a gollynged hi ymaith o’i dŷ . Pan elo hi allan o’i dŷ ef , a myned ymaith , a bod yn eiddo gŵr arall : Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi , ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi , ac a’i rhydd yn ei llaw hi , ac a’i gollwng hi o’i dŷ ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo : Ni ddichon ei phriod cyntaf , yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith , ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo , wedi iddi ymhalogi : canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd ; ac na wna i’r wlad bechu , yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth . Pan gymero gŵr wraig newydd , nac eled i ryfel , ac na rodder gofal dim arno : caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn , a llawenhau ei wraig a gymerodd . Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl : canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl . Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel , ac yn ymelwa arno , neu yn ei werthu ; yna lladder y lleidr hwnnw , a thyn di ymaith y drwg o’th fysg . Gwylia ym mhla y gwahanglwyf , ar ddyfal gadw , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi : edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy . Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd , wedi eich dyfod allan o’r Aifft . Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim , na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef . Allan y sefi ; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti . Ac os gŵr tlawd fydd efe , na chwsg â’i wystl gyda thi . Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul , fel y gorweddo yn ei wisg , ac y’th fendithio di : a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw . Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus , o’th frodyr , neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di : Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog ; ac na fachluded yr haul arno : canys tlawd yw , ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes : fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn , a bod pechod ynot . Na rodder i farwolaeth dadau dros blant , ac na rodder plant i farw dros dadau : pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun . Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw . Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft , a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno : am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn . Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes , ac anghofio ysgub yn y maes , na ddychwel i’w chymryd : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw ; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo . Pan ysgydwych dy olewydden , na loffa ar dy ôl : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw . Pan gesglych rawnwin dy winllan , na loffa ar dy ôl : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw . Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft : am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn . Pan fyddo ymrafael rhwng dynion , a dyfod i farn i’w barnu ; yna cyfiawnhânt y cyfiawn , a chondemniant y beius . Ac o bydd y mab drygionus i’w guro , pared y barnwr iddo orwedd , a phared ei guro ef ger ei fron , yn ôl ei ddryganiaeth , dan rifedi . Deugain gwialennod a rydd iddo , ac na chwaneged : rhag os chwanega , a’i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn , a dirmygu dy frawd yn dy olwg . Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu . Os brodyr a drigant ynghyd , a marw un ohonynt , ac heb blentyn iddo ; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan : aed ei chyfathrachwr ati , a chymered hi yn wraig iddo , a gwnaed iddi ran cyfathrachwr . A bydded i’r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw ; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel . Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig ; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid , a dyweded , Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel : ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi . Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef , ac ymddiddanant ag ef : o saif efe , a dywedyd , Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi ; Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid , a datoded ei esgid ef oddi am ei droed , a phoered yn ei wyneb ef ; ac atebed , a dyweded , Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd . A gelwir ei enw ef yn Israel , Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid . Os ymryson dynion ynghyd , sef gŵr â’i frawd , a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd , ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef ; Tor ymaith ei llaw hi : nac arbeded dy lygad hi . Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys , mawr a bychan . Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur , mawr a bychan . Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn ; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn : fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn , sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder . Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd , pan ddaethoch allan o’r Aifft : Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd , ac a laddodd y rhai olaf ohonot , yr holl weiniaid o’th ôl di , a thi yn lluddedig , ac yn ddiffygiol ; ac nid ofnodd efe Dduw . Am hynny bydded , pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu , dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd : nac anghofia hyn . Aphan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth , a’i feddiannu , a phreswylio ynddo ; Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear , yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , a gosod mewn cawell , a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo : A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny , a dywed wrtho , Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r Arglwydd dy Dduw , fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni . A chymered yr offeiriad y cawell o’th law di , a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw : A llefara dithau , a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw , Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad ; ac efe a ddisgynnodd i’r Aifft , ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl , ac a aeth yno yn genedl fawr , gref , ac aml . A’r Eifftiaid a’n drygodd ni , a chystuddiasant ni , a rhoddasant arnom gaethiwed caled . A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau , clybu yr Arglwydd ein llais ni , a gwelodd ein cystudd , a’n llafur , a’n gorthrymder . A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac ag ofn mawr , ac ag arwyddion , ac â rhyfeddodau . Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn , ac a roes i ni y tir hwn ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Ac yn awr , wele , mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi , O Arglwydd : a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , ac i’th deulu , tydi , a’r Lefiad , a’r dieithr a fyddo yn dy fysg . Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd , yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm ; yna y rhoddi i’r Lefiad , i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw ; fel y bwytaont yn dy byrth di , ac y digoner hwynt . A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw , Dygais y peth cysegredig allan o’m tŷ , ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad , ac i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw , yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi : ni throseddais ddim o’th orchmynion ac nis anghofiais . Ni fwyteais ohono yn fy ngalar , ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid , ac ni roddais ohono dros y marw : gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw ; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi . Edrych o drigle dy sancteiddrwydd , sef o’r nefoedd , a bendithia dy bobl Israel , a’r tir a roddaist i ni , megis y tyngaist wrth ein tadau ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau : cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti , ac i rodio yn ei ffyrdd ef , ac i gadw ei ddeddfau , a’i orchmynion , a’i farnedigaethau , ac i wrando ar ei lais ef . Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef , megis y llefarodd wrthyt , ac i gadw ohonot ei holl orchmynion : Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe , mewn clod , ac mewn enw , ac mewn gogoniant ; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw , megis y llefarodd efe . Yna y gorchmynnodd Moses , gyda henuriaid Israel , i’r bobl , gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw . A bydded , yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , osod ohonot i ti gerrig mawrion , a chalcha hwynt â chalch . Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon , pan elych drosodd , i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , sef tir yn llifeirio o laeth a mêl ; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt . A phan eloch dros yr Iorddonen , gosodwch y cerrig hyn , yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw , ym mynydd Ebal , a chalcha hwynt â chalch . Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw , sef allor gerrig : na chyfod arnynt arf haearn . A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw ; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw . Offryma hefyd hedd‐aberthau , a bwyta yno , a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon , yn eglur iawn . A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel , gan ddywedyd , Gwrando a chlyw , O Israel : Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw . Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw , a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw . A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw , gan ddywedyd . Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim , wedi eich myned dros yr Iorddonen : Simeon , a Lefi , a Jwda , ac Issachar , a Joseff , a Benjamin . A’r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal : Reuben , Gad , ac Aser , a Sabulon , Dan , a Nafftali . A’r Lefiaid a lefarant , ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel , Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig , sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd , gwaith dwylo crefftwr , ac a’i gosodo mewn lle dirgel . A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant , Amen . Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr , yr amddifad , a’r weddw . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad ; oherwydd datguddiodd odre ei dad . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer , merch ei dad , neu ferch ei fam ef . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr , er dieneidio gwaed gwirion . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon , gan eu gwneuthur hwynt . A dyweded yr holl bobl , Amen . Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw ; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear . A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat , ac a’th oddiweddant , os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw . Bendigedig fyddi di yn y ddinas , a bendigedig yn y maes . Bendigedig fydd ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir , a ffrwyth dy anifail di , cynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid . Bendigedig fydd dy gawell a’th does di . Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn , a bendigedig yn dy fynediad allan . Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di : trwy un ffordd y deuant i’th erbyn , a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen . Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti , yn dy drysordai , ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno ; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti . Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun , megis y tyngodd wrthyt , os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei ffyrdd ef . A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd , ac a ofnant rhagot . A’r Arglwydd a’th lwydda di mewn daioni , yn ffrwyth dy fru , ac yn ffrwyth dy anifeiliaid , ac yn ffrwyth dy ddaear , yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti . Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti , sef y nefoedd , i roddi glaw i’th dir di yn ei amser , ac i fendigo holl waith dy law : a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer , ac ni cheisi echwyn . A’r Arglwydd a’th wna di yn ben , ac nid yn gynffon ; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig , ac nid yn isaf : os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw , i’w cadw , ac i’w gwneuthur ; Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw , i’r tu deau neu i’r tu aswy , gan fyned ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt . A bydd , oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw ; y daw arnat yr holl felltithion hyn , ac y’th oddiweddant . Melltigedig fyddi di yn y ddinas , a melltigedig yn y maes . Melltigedig fydd dy gawell a’th does di . Melltigedig fydd ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir , cynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid . Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn , a melltigedig yn dy fynediad allan . Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith , trallod , a cherydd , yn yr hyn oll y dodych dy law arno , ac yn yr hyn a wnelych ; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym ; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i . Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt , nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu . Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth , ac â llosgfa , ac â gwres , ac â chleddyf , ac â diflaniad , ac â mallter ; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha . Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres , a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn . Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear , lwch a lludw : o’r nefoedd y disgyn arnat , hyd oni’th ddinistrier . Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion : trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt , a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt : a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear . A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear ; ac ni bydd a’u tarfo . Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aifft , ac â chlwyf y marchogion , ac â chrach , ac ag ysfa ; o’r rhai ni ellir dy iacháu . Yr Arglwydd a’th dery di ag ynfydrwydd , ac â dallineb , ac â syndod calon . Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd , fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch ; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd : a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth , ac ni bydd a’th waredo . Ti a ymgredi â gwraig , a gŵr arall a gydorwedd â hi : ti a adeiledi dŷ , ac ni thrigi ynddo : ti a blenni winllan , ac ni chesgli ei ffrwyth . Dy ych a leddir yn dy olwg , ac ni fwytei ohono : dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb , ac ni ddaw adref atat : dy ddefaid a roddir i’th elynion , ac ni bydd i ti achubydd . Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill , a’th lygaid yn gweled , ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd ; ac ni bydd gallu ar dy law . Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost ; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser : A byddi wallgofus , gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych . Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus , yn y gliniau ac yn yr esgeiriau , yr hwn ni ellir ei iacháu , o wadn dy droed hyd dy gorun . Yr Arglwydd a’th ddwg di , a’th frenin a osodych arnat , at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di ; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr , pren a maen . A byddi yn syndod , yn ddihareb , ac yn watwargerdd , ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt . Had lawer a ddygi allan i’r maes , ac ychydig a gesgli : oherwydd y locust a’i hysa . Gwinllannoedd a blenni , ac a goleddi ; ond gwin nid yfi , ac ni chesgli y grawnwin : canys pryfed a’u bwyty . Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau , ac ag olew ni’th irir : oherwydd dy olewydden a ddihidla . Meibion a merched a genhedli , ac ni byddant i ti : oherwydd hwy a ânt i gaethiwed . Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust . Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel ; a thi a ddisgynni yn isel isel . Efe a fenthycia i ti , a thi ni fenthyci iddo ef : efe a fydd yn ben , a thi a fyddi yn gynffon . A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat , ac a’th erlidiant , ac a’th oddiweddant , hyd oni’th ddinistrier ; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef , y rhai a orchmynnodd efe i ti . A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti , ac ar dy had hyd byth . Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd , ac mewn hyfrydwch calon , am amldra pob dim : Am hynny y gwasanaethi di dy elynion , y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn , mewn newyn , ac mewn syched , ac mewn noethni , ac mewn eisiau pob dim ; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf , hyd oni ddinistrio efe dydi . Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell , sef o eithaf y ddaear , mor gyflym ag yr eheda yr eryr ; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith ; Cenedl wyneb‐galed , yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr , ac ni bydd raslon i’r llanc . A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid , a ffrwyth dy ddaear , hyd oni’th ddinistrier : yr hon ni ad i ti ŷd , gwin , nac olew , cynnydd dy wartheg , na diadellau dy ddefaid , hyd oni’th ddifetho di . A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth , hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau , y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt , trwy dy holl dir : hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth , o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Ffrwyth dy fru , sef cig dy feibion a’th ferched , y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , a fwytei yn y gwarchae , ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat . Y gŵr tyner yn dy blith , a’r moethus iawn , a greulona ei lygad wrth ei frawd , ac wrth wraig ei fynwes , ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe : Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion , y rhai a fwyty efe ; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth . Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg , yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear , gan fwythau a thynerwch , a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes , ac wrth ei mab , ac wrth ei merch , Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorff , a’i meibion y rhai a blanta hi : canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel , pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra , â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth . Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon , y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn , gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn , YR ARGLWYDD DY DDUW ; Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd , a phlâu dy had ; sef plâu mawrion a pharhaus , a chlefydau drwg a pharhaus . Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft , y rhai yr ofnaist rhagddynt ; a glynant wrthyt . Ie , pob clefyd , a phob pla , yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon , a ddwg yr Arglwydd arnat , hyd oni’th ddinistrier . Felly chwi a adewir yn ychydig bobl , lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw . A bydd , megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi , ac i’ch amlhau ; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinistrio , ac i’ch difetha chwi : a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu . A’r Arglwydd a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd , o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuost ti na’th dadau ; sef pren a maen . Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi , ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed : canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus , a darfodedigaeth llygaid , a thristwch meddwl . A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi ; a thi a ofni nos a dydd , ac ni byddi sicr o’th einioes . Y bore y dywedi , O na ddeuai yr hwyr ! ac yn yr hwyr y dywedi , O na ddeuai y bore ! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni , a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych . A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aifft , mewn llongau , ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt , na chwanegit ei gweled mwy : a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion , ac ni bydd a’ch pryno . Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel , yn nhir Moab , heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb . A Moses a alwodd ar holl Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft , i Pharo , ac i’w holl weision , ac i’w holl dir ; Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid , yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny : Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod , na llygaid i weled , na chlustiau i glywed , hyd y dydd hwn . Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd : ni heneiddiodd eich dillad amdanoch , ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed . Bara ni fwytasoch , a gwin neu ddiod gref nid yfasoch : fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A daethoch hyd y lle hwn : yna daeth allan Sehon brenin Hesbon , ac Og brenin Basan , i’n cyfarfod mewn rhyfel ; a ni a’u lladdasom hwynt : Ac a ddygasom eu tir hwynt , ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , ac i hanner llwyth Manasse . Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn , a gwnewch hwynt : fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch . Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw ; penaethiaid eich llwythau , eich henuriaid , a’ch swyddogion , a holl wŷr Israel , Eich plant , eich gwragedd , a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll , o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr : I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw , a than ei gynghrair ef , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw : I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun , ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti , megis y llefarodd wrthyt , ac fel y tyngodd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob . Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn , a’r cynghrair yma ; Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw , ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw : ( Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft , a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt ; A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a’u heilun‐dduwiau , pren a maen , arian ac aur , y rhai oedd yn eu mysg hwynt : ) Rhag bod yn eich mysg ŵr , neu wraig , neu deulu , neu lwyth , yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw , i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn ; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod : A bod , pan glywo efe eiriau y felltith hon , ymfendithio ohono yn ei galon ei hun , gan ddywedyd , Heddwch fydd i mi , er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon , i chwanegu meddwdod at syched : Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo ; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw , a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef , a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd . A’r Arglwydd a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel , i gael drwg , yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon . A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl , sef eich plant chwi , y rhai a godant ar eich ôl chwi , a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell , pan welont blâu y wlad hon , a’i chlefydau , trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi ; A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen , na heuir ef , ac na flaendardda , ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra , Adma a Seboim , y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint : Ie , yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn ? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn ? Yna y dywedir , Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft . Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr , ac ymgrymasant iddynt ; sef duwiau nid adwaenent hwy , ac ni roddasai efe iddynt . Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon , i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . A’r Arglwydd a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint , ac mewn dicter , ac mewn llid mawr , ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall , megis y gwelir heddiw . Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw , a’r pethau amlwg a roddwyd i ni , ac i’n plant hyd byth ; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon . A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat , sef y fendith a’r felltith , y rhai a roddais o’th flaen , ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt ; A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef , yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw , ti a’th blant , â’th holl galon , ac â’th holl enaid : Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed , ac y cymer drugaredd arnat , ac y try , ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di . Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd , oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw , ac oddi yno y’th gymerai . A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau , a thithau a’i meddienni : ac efe a fydd dda wrthyt , ac a’th wna yn amlach na’th dadau . A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon , a chalon dy had , i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , er mwyn cael ohonot fyw . A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion , ac ar dy gaseion , y rhai a’th erlidiant di . Tithau a ddychweli , ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd , ac a wnei ei holl orchmynion ef , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw . A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law , yn ffrwyth dy fru , ac yn ffrwyth dy anifeiliaid , ac yn ffrwyth dy dir , er daioni : canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot , i wneuthur daioni i ti , fel y llawenychodd yn dy dadau ; Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon ; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Oherwydd y gorchymyn yma , yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw , nid yw guddiedig oddi wrthyt , ac nid yw bell . Nid yn y nefoedd y mae , i ddywedyd ohonot , Pwy a ddring drosom i’r nefoedd , ac a’i dwg i ni , fel y clywom , ac y gwnelom ef ? Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae , i ddywedyd ohonot , Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr , ac a’i dwg ef i ni , fel y clywom , ac y gwnelom ef ? Canys y gair sydd agos iawn atat , yn dy enau , ac yn dy galon , i’w wneuthur ef . Wele , rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni , ac angau a drygioni : Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd ef , ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau , a’i farnedigaethau ef ; fel y byddych fyw , ac y’th amlhaer , ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu . Ond os try dy galon ymaith , fel na wrandawech , a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt ; Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw , y difethir chwi yn ddiau , ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi . Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear , roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau , fendith a melltith : dewis dithau yr einioes , fel y byddych fyw , ti a’th had ; I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef , a glynu wrtho , ( canys efe yw dy einioes di , ac estyniad dy ddyddiau , ) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob , ar ei roddi iddynt . A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel ; Ac a ddywedodd wrthynt , Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw ; ni allaf mwy fyned allan , a dyfod i mewn : yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf , Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon . Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o’th flaen di ; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen , a thi a’u meddienni hwynt : Josua hefyd , efe a â drosodd o’th flaen , fel y llefarodd yr Arglwydd . A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og , brenhinoedd yr Amoriaid , ac i’w tir hwynt , y rhai a ddinistriodd efe . A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi ; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi . Ymgryfhewch , ac ymnerthwch ; nac ofnwch , ac na ddychrynwch rhagddynt : canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi ; ni’th edy , ac ni’th wrthyd . A Moses a alwodd ar Josua , ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel , Ymgadarnha , ac ymnertha : canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt ; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt . A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di ; efe a fydd gyda thi ; ni’th edy , ac ni’th wrthyd : nac ofna , ac na lwfrha . A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon , ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi , y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd , ac at holl henuriaid Israel . A Moses a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Yn ôl pob saith mlynedd , ar yr amser nodedig , ar flwyddyn y gollyngdod , ar ŵyl y pebyll , Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe ; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel , lle y clywant . Cynnull y bobl ynghyd , y gwŷr , y gwragedd , a’r plant , a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth ; fel y gwrandawont , ac fel y dysgont , ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw , ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon ; Ac y byddo i’w plant , y rhai ni wybuant ddim , glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw , yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , nesaodd y dyddiau i ti i farw : galw Josua , a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod , fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef . Yna yr aeth Moses a Josua , ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod . A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl : a’r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , ti a orweddi gyda’th dadau ; a’r bobl yma a gyfyd , ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo , ac a’m gwrthyd i , ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef . A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw ; a mi a’u gwrthodaf hwynt , ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt ; a bwyteir ef , a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef ; a’r dydd hwnnw y dywed efe , Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi ? Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw , am yr holl ddrygioni a wnaeth efe , pan drodd at dduwiau dieithr . Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon : dysg hi hefyd i feibion Israel , a gosod hi yn eu genau hwynt ; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel . Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl , yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef ; fel y bwytao , ac y digoner , ac yr elo yn fras : ond efe a dry at dduwiau dieithr , ac a’u gwasanaetha hwynt , ac a’m dirmyga i , ac a ddiddyma fy nghyfamod . Yna , pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau , y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef : canys nid anghofir hi o enau ei had ef : oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw , cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw . A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw , ac a’i dysgodd hi i feibion Israel . Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun , ac a ddywedodd , Ymgryfha , ac ymnertha : canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw : a mi a fyddaf gyda thi . A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr , hyd eu diwedd hwynt ; Yna y gorchmynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cymerwch lyfr y gyfraith hon , a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw ; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn . Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd , a’th wargaledrwydd : wele , a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw , gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch ; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw ? Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau , a’ch swyddogion : fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy , ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy . Canys mi a wn , wedi fy marw , gan lygru yr ymlygrwch , ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi ; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf ; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo . A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon , hyd eu diwedd hwynt . Gwrandewch , y nefoedd , a llefaraf ; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau . Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw : fy ymadrodd a ddifera fel gwlith ; fel gwlithlaw ar irwellt , ac fel cawodydd ar laswellt . Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi : rhoddwch fawredd i’n Duw ni . Efe yw y Graig ; perffaith yw ei weithred ; canys ei holl ffyrdd ydynt farn : Duw gwirionedd , a heb anwiredd , cyfiawn ac uniawn yw efe . Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai , heb fod yn blant iddo ef . Ai hyn a delwch i’r Arglwydd , bobl ynfyd ac angall ? onid efe yw dy dad a’th brynwr ? onid efe a’th wnaeth , ac a’th sicrhaodd ? Cofia y dyddiau gynt ; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth : gofyn i’th dad , ac efe a fynega i ti ; i’th henuriaid , a hwy a ddywedant wrthyt . Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd , pan neilltuodd efe feibion Adda , y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel . Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl ; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef . Efe a’i cafodd ef mewn tir anial , ac mewn diffeithwch gwag erchyll : arweinioddef o amgylch , a pharodd iddo ddeall , a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad . Fel y cyfyd eryr ei nyth , y castella dros ei gywion , y lleda ei esgyll , y cymer hwynt , ac a’u dwg ar ei adenydd ; Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau , ac nid oedd duw dieithr gydag ef . Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear , a bwyta cnwd y maes , a sugno mêl o’r graig , ac olew o’r graig gallestr ; Ymenyn gwartheg , a llaeth defaid , ynghyd â braster ŵyn , a hyrddod o rywogaeth Basan , a bychod , ynghyd â braster grawn gwenith , a phurwaed grawnwin a yfaist . A’r uniawn a aeth yn fras , ac a wingodd ; braseaist , tewychaist , pwyntiaist : yna efe a wrthododd Dduw , yr hwn a’i gwnaeth , ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth . A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno ; â ffieidd‐dra y digiasant ef . Aberthasant i gythreuliaid , nid i Dduw ; i dduwiau nid adwaenent , i rai newydd diweddar , y rhai nid ofnodd eich tadau . Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti , a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof . Yna y gwelodd yr Arglwydd , ac a’u ffieiddiodd hwynt ; oherwydd ei ddigio gan ei feibion , a’i ferched . Ac efe a ddywedodd , Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt , edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt : canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy , meibion heb ffyddlondeb ynddynt . Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw ; digiasant fi â’u hoferedd : minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl ; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt . Canys tân a gyneuwyd yn fy nig , ac a lysg hyd uffern isod , ac a ddifa y tir a’i gynnyrch , ac a wna i sylfeini’r mynyddoedd ffaglu . Casglaf ddrygau arnynt ; treuliaf fy saethau arnynt . Llosgedig fyddant gan newyn , ac wedi eu bwyta gan wres poeth , a chwerw ddinistr : anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod , ynghyd â gwenwyn seirff y llwch . Y cleddyf oddi allan , a dychryn oddi fewn , a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry hefyd , y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd . Dywedais , Gwasgaraf hwynt i gonglau , paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion ; Oni bai i mi ofni dig y gelyn , rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt , Ein llaw uchel ni , ac nid yr Arglwydd , a wnaeth hyn oll . Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy , ac heb ddeall ynddynt . O na baent ddoethion , na ddeallent hyn , nad ystyrient eu diwedd ! Pa fodd yr ymlidiai un fil , ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi , onid am werthu o’u Craig hwynt , a chau o’r Arglwydd arnynt ? Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt ; a bydded ein gelynion yn farnwyr . Canys o winwydden Sodom , ac o feysydd Gomorra , y mae eu gwinwydden hwynt : eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd ; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt . Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt , a chreulon wenwyn asbiaid . Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi , wedi ei selio ymysg fy nhrysorau ? I mi y perthyn dial , a thalu’r pwyth ; mewn pryd y llithr eu troed hwynt : canys agos yw dydd eu trychineb , a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt . Canys yr Arglwydd a farna ei bobl , ac a edifarha am ei weision ; pan welo ymado o’u nerth , ac nad oes na gwarchaeëdig , na gweddilledig . Ac efe a ddywed , Pa le y mae eu duwiau hwynt , a’r graig yr ymddiriedasant ynddi , Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau , ac a yfasant win eu diod‐offrwm ? codant a chynorthwyant chwi , a byddant loches i chwi . Gwelwch bellach mai myfi , myfi yw efe ; ac nad oes duw ond myfi : myfi sydd yn lladd , ac yn bywhau ; myfi a archollaf , ac mi a feddyginiaethaf : ac ni bydd a achubo o’m llaw . Canys codaf fy llaw i’r nefoedd , a dywedaf , Mi a fyddaf fyw byth . Os hogaf fy nghleddyf disglair , ac ymaflyd o’m llaw mewn barn ; dychwelaf ddial ar fy ngelynion , a thalaf y pwyth i’m caseion . Meddwaf fy saethau â gwaed , ( a’m cleddyf a fwyty gig , ) â gwaed y lladdedig a’r caeth , o ddechrau dial ar y gelyn . Y cenhedloedd , llawenhewch gyda’i bobl ef : canys efe a ddial waed ei weision , ac a ddychwel ddial ar ei elynion , ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun . A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu’r bobl , efe a Josua mab Nun . A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel : A dywedodd wrthynt , Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw ; y rhai a orchmynnwch i’ch plant , i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon . Canys nid gair ofer yw hwn i chwi : oherwydd eich einioes chwi yw efe ; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Esgyn i’r mynydd Abarim hwn , sef mynydd Nebo , yr hwn sydd yn nhir Moab , ar gyfer Jericho ; ac edrych ar wlad Canaan , yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth . A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo , a chasgler di at dy bobl , megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor , ac y casglwyd ef at ei bobl : Oherwydd gwrthryfelasoch i’m herbyn ymysg meibion Israel , wrth ddyfroedd cynnen Cades , yn anialwch Sin ; oblegid ni’m sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel . Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer ; ond yno nid ei , i’r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel . Adyma’r fendith â’r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel , cyn ei farwolaeth . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai , ac a gododd o Seir iddynt ; ymlewyrchodd o fynydd Paran , ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint , a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt . Caru y mae efe y bobl : ei holl saint ydynt yn dy law : a hwy a ymlynasant wrth dy draed ; pob un a dderbyn o’th eiriau . Moses a orchmynnodd gyfraith i ni , yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob . Ac efe oedd frenin yn Israel , pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel . Bydded fyw Reuben , ac na fydded farw , ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi . Bydded hyn hefyd i Jwda . Ac efe a ddywedodd , Clyw , O Arglwydd , lais Jwda , ac at ei bobl dwg ef : digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun , a bydd gymorth rhag ei elynion . Ac am Lefi y dywedodd , Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa , ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba ; Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam , Ni welais ef ; a’i frodyr nis adnabu , ac nid adnabu ei blant ei hun : canys cadwasant dy eiriau , a chynaliasant dy gyfamod . Dysgant dy farnedigaethau i Jacob , a’th gyfraith i Israel : gosodant arogldarth ger dy fron , a llosg‐aberth ar dy allor . Bendithia , O Arglwydd , ei olud ef , a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef : archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn , a’i gaseion , fel na chodont . Am Benjamin y dywedodd efe , Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef ; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd , ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef . Ac am Joseff y dywedodd efe , Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd , â hyfrydwch y nefoedd , â gwlith , ac â dyfnder yn gorwedd isod ; Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul , ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau , Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain , ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb , Ac â hyfrydwch y ddaear , ac â’i chyflawnder , ac ag ewyllys da preswylydd y berth ; delo bendith ar ben Joseff , ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr . Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych , a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn : â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear : a dyma fyrddiwn Effraim , ie , dyma filoedd Manasse . Ac am Sabulon y dywedodd efe , Ymlawenycha , Sabulon , yn dy fynediad allan ; a thi , Issachar , yn dy bebyll . Galwant bobloedd i’r mynydd ; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder : canys cyfoeth y moroedd a sugnant , a chuddiedig drysorau y tywod . Ac am Gad y dywedodd efe , Bendigedig yw ehangydd Gad : megis llew y mae efe yn aros , fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen . Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad : canys yno , yn rhan y cyfreithwr , y gosodwyd ef : efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl ; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd , a’i farnedigaethau gydag Israel . Am Dan hefyd y dywedodd , Dan yn genau llew a neidia o Basan . Ac am Nafftali y dywedodd , O Nafftali , llawn o hawddgarwch , a chyflawn o fendith yr Arglwydd : meddianna di y gorllewin a’r deau . Ac am Aser y dywedodd , Bendithier Aser â phlant : bydded gymeradwy gan ei frodyr : ac efe a wlych ei droed mewn olew . Haearn a phres fydd dan dy esgid di ; a megis dy ddyddiau , y bydd dy nerth . Nid oes megis Duw Israel , yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti , a’r wybrennau yn ei fawredd . Dy noddfa yw Duw tragwyddol , ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o’th flaen , ac a ddywed , Difetha ef . Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel ; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin ; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith . Gwynfydedig wyt , O Israel ; pwy sydd megis ti , O bobl gadwedig gan yr Arglwydd , tarian dy gynhorthwy , yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd ! a’th elynion a ymostyngant i ti , a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt . A Moses a esgynnodd o rosydd Moab , i fynydd Nebo , i ben Pisga , yr hwn sydd ar gyfer Jericho : a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead , hyd Dan , A holl Nafftali , a thir Effraim a Manasse , a holl dir Jwda , hyd y môr eithaf , Y deau hefyd , a gwastadedd dyffryn Jericho , a dinas y palmwydd , hyd Soar . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dyma’r tir a fynegais i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf ef ; perais i ti ei weled â’th lygaid , ond nid ei di drosodd yno . A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno , yn nhir Moab , yn ôl gair yr Arglwydd . Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab , gyferbyn â Beth‐peor : ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn . A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw : ni thywyllasai ei lygad , ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef . A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain : a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses . A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb ; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno : a meibion Israel a wrandawsant arno , ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses , yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb ; Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aifft , ar Pharo , ac ar ei holl weision , ac ar ei holl dir ef , Ac yn yr holl law gadarn , ac yn yr holl ofn mawr , y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel . Ac wedi marwolaeth Moses , gwas yr Arglwydd , y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun , gweinidog Moses , gan ddywedyd , Moses fy ngwas a fu farw : gan hynny cyfod yn awr , dos dros yr Iorddonen hon , ti , a’r holl bobl hyn , i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy , meibion Israel . Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno , a roddais i chwi ; fel y lleferais wrth Moses . O’r anialwch , a’r Libanus yma , hyd yr afon fawr , afon Ewffrates , holl wlad yr Hethiaid , hyd y môr mawr , tua machludiad yr haul , fydd eich terfyn chwi . Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes : megis y bûm gyda Moses , y byddaf gyda thithau : ni’th adawaf , ac ni’th wrthodaf . Ymgryfha , ac ymwrola : canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt . Yn unig ymgryfha , ac ymwrola yn lew , i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti : na ogwydda oddi wrthi , ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy ; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych . Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau , eithr myfyria ynddo ddydd a nos ; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo : canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd , ac yna y ffynni . Oni orchmynnais i ti ? Ymgryfha , ac ymwrola ; nac arswyda , ac nac ofna : canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi , i ba le bynnag yr elych . Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl , gan ddywedyd , Tramwywch trwy ganol y llu , a gorchmynnwch i’r bobl , gan ddywedyd , Paratowch i chwi luniaeth : canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon , i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu . Wrth y Reubeniaid hefyd , ac wrth y Gadiaid , ac wrth hanner llwyth Manasse , y llefarodd Josua , gan ddywedyd , Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch , ac a roddodd i chwi y wlad hon . Eich gwragedd , eich plant , a’ch anifeiliaid , a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen : ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr , y sawl ydych gedyrn o nerth , a chynorthwywch hwynt ; Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr , fel i chwithau , a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt : yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth , a meddiennwch hi , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , o’r tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad yr haul . Hwythau a atebasant Josua , gan ddywedyd , Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni ; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni . Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth , felly y gwrandawn arnat tithau : yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi , megis y bu gyda Moses . Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn , ac ni wrandawo ar dy ymadroddion , yn yr hyn oll a orchmynnych iddo , rhodder ef i farwolaeth : yn unig ymgryfha , ac ymwrola . A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr , i chwilio yn ddirgel , gan ddywedyd , Ewch , edrychwch y wlad , a Jericho . A hwy a aethant , ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab , ac a letyasant yno . A mynegwyd i frenin Jericho , gan ddywedyd , Wele , gwŷr a ddaethant yma heno , o feibion Israel , i chwilio’r wlad . A brenin Jericho a anfonodd at Rahab , gan ddywedyd , Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat , y rhai a ddaeth i’th dŷ di ; canys i chwilio yr holl wlad y daethant . Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr , ac a’u cuddiasai hwynt , ac a ddywedodd fel hyn ; Gwŷr a ddaeth ataf fi , ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy . A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch , y gwŷr a aeth allan ; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr : canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt ; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt . Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ , ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin , y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ . A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt , tua’r Iorddonen , hyd y rhydau : a’r porth a gaewyd , cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan . A chyn iddynt hwy gysgu , hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ : A hi a ddywedodd wrth y gwŷr , Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad ; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni , a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn . Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi , pan ddaethoch allan o’r Aifft ; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid , y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen , sef i Sehon ac i Og , y rhai a ddifrodasoch chwi . A phan glywsom , yna y’n digalonnwyd , fel na safodd mwyach gysur yn neb , rhag eich ofn : canys yr Arglwydd eich Duw , efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod , ac ar y ddaear isod . Yn awr gan hynny , tyngwch , atolwg , wrthyf , myn yr Arglwydd , oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi , y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau ; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir : Ac y cedwch yn fyw fy nhad , a’m mam , a’m brodyr , a’m chwiorydd , a’r hyn oll sydd ganddynt , ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau . A’r gwŷr a ddywedasant wrthi , Ein heinioes a roddwn i farw drosoch , ( os chwi ni fynegwch ein neges hyn , ) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon , oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd . Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr : canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas , ac ar y mur yr oedd hi yn trigo . A hi a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r mynydd , rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi : ac ymguddiwch yno dridiau , nes dychwelyd yr erlidwyr ; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd . A’r gwŷr a ddywedasant wrthi , Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist . Wele , pan ddelom ni i’r wlad , rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi : casgl hefyd dy dad , a’th fam , a’th frodyr , a holl dylwyth dy dad , atat i’r tŷ yma . A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol , ei waed ef fydd ar ei ben ei hun , a ninnau a fyddwn ddieuog : a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ , bydded ei waed ef ar ein pennau ni , o bydd llaw arno ef . Ac os mynegi di ein neges hyn , yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist . A hi a ddywedodd , Yn ôl eich geiriau , felly y byddo hynny . Yna hi a’u gollyngodd hwynt ; a hwy a aethant ymaith . A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr . A hwy a aethant , ac a ddaethant i’r mynydd ; ac a arosasant yno dridiau , nes i’r erlidwyr ddychwelyd . A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd ; ond nis cawsant . Felly y ddau ŵr a ddychwelasant , ac a ddisgynasant o’r mynydd , ac a aethant drosodd , a daethant at Josua mab Nun ; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt : A dywedasant wrth Josua , Yn ddiau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni ; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni . A Josua a gyfododd yn fore , a chychwynasant o Sittim , a daethant hyd yr Iorddonen , efe a holl feibion Israel : lletyasant yno , cyn iddynt fyned drosodd . Ac ymhen y tridiau , y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu ; Ac a orchmynasant i’r bobl , gan ddywedyd , Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw , a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi ; yna cychwynnwch chwi o’ch lle , ac ewch ar ei hôl hi . Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau , ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur : na nesewch ati , fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi : canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen . A Josua a ddywedodd wrth y bobl , Ymsancteiddiwch : canys yfory y gwna’r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi . Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid , gan ddywedyd , Codwch arch y cyfamod , ac ewch drosodd o flaen y bobl . A hwy a godasant arch y cyfamod , ac a aethant o flaen y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel : fel y gwypont , mai megis y bûm gyda Moses , y byddaf gyda thithau . Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod , gan ddywedyd , Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen , sefwch yn yr Iorddonen . A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel , Nesewch yma , a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw . Josua hefyd a ddywedodd , Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi ; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Hefiaid , a’r Pheresiaid , a’r Girgasiaid , yr Amoriaid hefyd , a’r Jebusiaid , o’ch blaen chwi . Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen . Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel , un gŵr o bob llwyth . A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid , sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd , yn nyfroedd yr Iorddonen , yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod : hwy a safant yn bentwr . A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll , i fyned dros yr Iorddonen , a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl ; A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen , a gwlychu o draed yr offeiriaid , oedd yn dwyn yr arch , yng nghwr y dyfroedd , ( a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf , ) Yna y dyfroedd , y rhai oedd yn disgyn oddi uchod , a safasant ; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam , yr hon sydd o ystlys Saretan : a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos , sef i’r môr heli , a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith . Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho . A’r offeiriaid , y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , a safasant ar dir sych , yng nghanol yr Iorddonen , yn daclus : a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych , nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen . A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen , yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua , gan ddywedyd , Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl , un gŵr o bob llwyth ; A gorchmynnwch iddynt , gan ddywedyd , Cymerwch i chwi oddi yma , o ganol yr Iorddonen , o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus , ddeuddeg o gerrig ; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi , a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno . Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel , un gŵr o bob llwyth : A dywedodd Josua wrthynt , Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw , trwy ganol yr Iorddonen ; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd , yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel : Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi , pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn , gan ddywedyd , Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi ? Yna y dywedwch wrthynt , Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd ; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen , dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith . Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth . A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua ; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen , fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua , yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel , ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno . A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen , yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid , oedd yn dwyn arch y cyfamod , yn sefyll : ac y maent yno hyd y dydd hwn . A’r offeiriaid , y rhai oedd yn dwyn yr arch , a safasant yng nghanol yr Iorddonen , nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua : a’r bobl a frysiasant , ac a aethant drosodd . A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd , yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd , a’r offeiriaid , yng ngŵydd y bobl . Meibion Reuben hefyd , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel , fel y llefarasai Moses wrthynt : Ynghylch deugain mil , yn arfogion i ryfel , a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel , i rosydd Jericho . Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel ; a hwy a’i hofnasant ef , fel yr ofnasant Moses , holl ddyddiau ei einioes . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua , gan ddywedyd , Gorchymyn i’r offeiriaid , sydd yn dwyn arch y dystiolaeth , ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen . Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid , gan ddywedyd , Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen . A phan ddaeth yr offeiriaid , oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , i fyny o ganol yr Iorddonen , a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir ; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle , ac a aethant , megis cynt , dros ei holl geulennydd . A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf ; ac a wersyllasant yn Gilgal , yn eithaf tu dwyrain Jericho . A’r deuddeg carreg hynny , y rhai a ddygasent o’r Iorddonen , a sefydlodd Josua yn Gilgal . Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau , gan ddywedyd , Beth yw y cerrig hyn ? Yna yr hysbyswch i’ch meibion , gan ddywedyd , Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych . Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi , nes i chwi fyned drwodd ; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch , yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni , nes i ni fyned drwodd : Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd , mai nerthol yw ; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser . Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin , a holl frenhinoedd y Canaaneaid , y rhai oedd wrth y môr , sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel , nes eu myned hwy drwodd ; yna y digalonnwyd hwynt , fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt , rhag ofn meibion Israel . Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Gwna i ti gyllyll llymion , ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith . A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion , ac a enwaedodd ar feibion Israel , ym mryn y blaengrwyn . A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu : Yr holl bobl , sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft , yr holl ryfelwyr , a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd , wedi eu dyfod allan o’r Aifft . Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan , oedd enwaededig ; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch , ar y ffordd , wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft , nid enwaedasent arnynt . Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch , nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft , y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd : y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt , na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni ; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy , y rhai a gododd yn eu lle hwynt : canys dienwaededig oeddynt hwy , am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd . A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl ; yna yr arosasant yn eu hunlle , yn y gwersyll , nes eu hiacháu . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch : am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal , hyd y dydd heddiw . A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal : a hwy a gynaliasant y Pasg , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , brynhawn , yn rhosydd Jericho . A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad , drannoeth wedi’r Pasg , fara croyw , a chras ŷd , o fewn corff y dydd hwnnw . A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad ; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach , eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno . A phan oedd Josua wrth Jericho , yna efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef , â’i gleddyf noeth yn ei law . A Josua a aeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Ai gyda ni yr ydwyt ti , ai gyda’n gwrthwynebwyr ? Dywedodd yntau , Nage ; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum . A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a addolodd ; ac a ddywedodd wrtho ef , Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was ? A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Datod dy esgidiau oddi am dy draed : canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno , sydd sanctaidd . A Josua a wnaeth felly . A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig , oherwydd meibion Israel : nid oedd neb yn myned allan , nac yn dyfod i mewn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Gwêl , rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin , gwŷr grymus o nerth . A chwi a amgylchwch y ddinas , chwi ryfelwyr oll , gan fyned o amgylch y ddinas un waith : gwnewch felly chwe diwrnod . A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch : a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith ; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn . A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd , a phan glywoch sain yr utgorn , bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel : a syrth mur y ddinas dani hi , ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer . A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid , ac a ddywedodd wrthynt , Codwch arch y cyfamod , a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd . Ac efe a ddywedodd wrth y bobl , Cerddwch , ac amgylchwch y ddinas ; a’r hwn sydd arfog , eled o flaen arch yr Arglwydd . A phan ddywedodd Josua wrth y bobl , yna y saith offeiriad , y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod , a gerddasant o flaen yr Arglwydd , ac a leisiasant â’r utgyrn : ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt . A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn ; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch , a’r offeiriaid yn myned rhagddynt , ac yn lleisio â’r utgyrn . A Josua a orchmynasai i’r bobl , gan ddywedyd , Na floeddiwch , ac na edwch glywed eich llais , ac nac eled gair allan o’ch genau , hyd y dydd y dywedwyf wrthych , Bloeddiwch ; yna y bloeddiwch . Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas , gan fyned o’i hamgylch un waith : a daethant i’r gwersyll , a lletyasant yn y gwersyll . A Josua a gyfododd yn fore ; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd . A’r saith offeiriad , yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd , oeddynt yn myned dan gerdded , ac yn lleisio â’r utgyrn : a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt : a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd , a’r offeiriaid yn myned rhagddynt , ac yn lleisio â’r utgyrn . Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd ; a dychwelasant i’r gwersyll : fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod . Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr , ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw , saith waith : yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith . A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith , yna Josua a ddywedodd wrth y bobl , Bloeddiwch ; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi . A’r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth , hi , a’r hyn oll sydd ynddi , i’r Arglwydd : yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw , hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni . Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth , rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth , os cymerwch o’r diofryd‐beth ; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth , ac y trallodech hi . Ond yr holl arian a’r aur , a’r llestri pres a haearn , fyddant gysegredig i’r Arglwydd : deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd . A bloeddiodd y bobl , pan leisiasant â’r utgyrn . A phan glybu y bobl lais yr utgyrn , yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel ; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd . Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas , pob un ar ei gyfer , ac a enillasant y ddinas . A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas , yn ŵr ac yn wraig , yn fachgen ac yn hynafgwr , yn eidion , ac yn ddafad , ac yn asyn , â min y cleddyf . A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad , Ewch i dŷ y buteinwraig , a dygwch allan oddi yno y wraig , a’r hyn oll sydd iddi , fel y tyngasoch wrthi . Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad , a aethant i mewn , ac a ddygasant allan Rahab , a’i thad , a’i mam , a’i brodyr , a chwbl a’r a feddai hi : dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi , a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel . A llosgasant y ddinas â thân , a’r hyn oll oedd ynddi : yn unig yr arian a’r aur , a’r llestri pres a haearn , a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd . A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig , a thylwyth ei thad , a’r hyn oll oedd ganddi ; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn : am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho . A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw , gan ddywedyd , Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho : yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi , ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi . Felly yr Arglwydd oedd gyda Josua ; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad . Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth : canys Achan mab Carmi , mab Sabdi , mab Sera , o lwyth Jwda , a gymerodd o’r diofryd‐beth : ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel . A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai , yr hon sydd wrth Bethafen , o du’r dwyrain i Bethel , ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Ewch i fyny , ac edrychwch y wlad . A’r gwŷr a aethant i fyny , ac a edrychasant ansawdd Ai . A hwy a ddychwelasant at Josua , ac a ddywedasant wrtho . Nac eled yr holl bobl i fyny ; ond ynghylch dwy fil o wŷr , neu dair mil o wŷr , a ânt i fyny , ac a drawant Ai : na phoenwch yr holl bobl yno ; canys ychydig ydynt hwy . Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr : a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai . A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt ; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim , a thrawsant hwynt yn y goriwaered : am hynny y toddodd calonnau y bobl , ac yr aethant fel dwfr . A Josua a rwygodd ei ddillad , ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd , hyd yr hwyr , efe a henuriaid Israel , ac a ddodasant lwch ar eu pennau . A dywedodd Josua , Ah , ah , O Arglwydd IOR , i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen , i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid , i’n difetha ? O na buasem fodlon , ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen ! O Arglwydd , beth a ddywedaf , pan dry Israel ei war o flaen ei elynion ! Canys y Canaaneaid , a holl drigolion y wlad , a glywant , ac a’n hamgylchynant , ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear : a pha beth a wnei i’th enw mawr ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Cyfod ; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb ? Israel a bechodd , a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt : cymerasant hefyd o’r diofryd‐beth , lladratasant , a gwadasant ; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun . Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion , eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion ; am eu bod yn ysgymunbeth : ni byddaf mwyach gyda chwi , oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg . Cyfod , sancteiddia y bobl , a dywed , Ymsancteiddiwch erbyn yfory : canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di , O Israel : ni elli sefyll yn wyneb dy elynion , nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o’ch mysg . Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau : a’r llwyth a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn deulu ; a’r teulu a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn dŷ ; a’r tŷ a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn ŵr . A’r hwn a ddelir a’r diofryd‐beth ganddo , a losgir â thân , efe ac oll sydd ganddo : oherwydd iddo droseddu cyfamod yr Arglwydd , ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel . Felly Josua a gyfododd yn fore , ac a ddug Israel wrth eu llwythau : a llwyth Jwda a ddaliwyd . Ac efe a ddynesodd deulu Jwda ; a daliwyd teulu y Sarhiaid : ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr ; a daliwyd Sabdi : Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr ; a daliwyd Achan mab Carmi , mab Sabdi , mab Sera , o lwyth Jwda . A Josua a ddywedodd wrth Achan , Fy mab , atolwg , dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel , a chyffesa iddo ; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost : na chela oddi wrthyf . Ac Achan a atebodd Josua , ac a ddywedodd , Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel ; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum . Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg , a dau can sicl o arian , ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys ; yna y chwenychais hwynt , ac a’u cymerais : ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell , a’r arian danynt . Yna Josua a anfonodd genhadau ; a hwy a redasant i’r babell : ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef , a’r arian danynt . Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell , ac a’u dygasant at Josua , ac at holl feibion Israel ; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd . A Josua a gymerth Achan mab Sera , a’r arian , a’r fantell , a’r llafn aur , ei feibion hefyd , a’i ferched , a’i wartheg , a’i asynnod , ei ddefaid hefyd , a’i babell , a’r hyn oll a feddai efe : a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor . A Josua a ddywedodd , Am i ti ein blino ni , yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn . A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini , ac a’u llosgasant hwy â thân , wedi eu llabyddio â meini . A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn . Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint . Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor , hyd y dydd hwn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Nac ofna , ac nac arswyda : cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel , a chyfod , dos i fyny i Ai : gwêl , mi a roddais yn dy law di frenin Ai , a’i bobl , ei ddinas hefyd , a’i wlad . A thi a wnei i Ai a’i brenin , megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin : eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain : gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas , o’r tu cefn iddi . Yna Josua a gyfododd , a’r holl bobl o ryfel , i fyned i fyny i Ai : a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol , ac a’u hanfonodd ymaith liw nos : Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Gwelwch , chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas , o’r tu cefn i’r ddinas : nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas , ond byddwch bawb oll yn barod . Minnau hefyd , a’r holl bobl sydd gyda mi , a nesawn at y ddinas : a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni , megis y waith gyntaf , yna ni a ffown o’u blaen hwynt , ( Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni , ) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas ; oblegid hwy a ddywedant , Ffoi y maent o’n blaen ni , fel y waith gyntaf : felly y ffown o’u blaen hwynt . Yna chwi a godwch o’r cynllwyn , ac a oresgynnwch y ddinas : canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi . A phan enilloch y ddinas , llosgwch y ddinas â thân : gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd . Gwelwch , mi a orchmynnais i chwi . Felly Josua a’u hanfonodd ; a hwy a aethant i gynllwyn , ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai , o du’r gorllewin i Ai : a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl . A Josua a gyfododd yn fore , ac a gyfrifodd y bobl ; ac a aeth i fyny , efe a henuriaid Israel , o flaen y bobl , tuag at Ai . A’r holl bobl o ryfel , y rhai oedd gydag ef , a aethant i fyny , ac a nesasant ; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas , a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai : a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai . Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr , ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai , o du’r gorllewin i’r ddinas . A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau , y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas , a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas : a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn . A phan welodd brenin Ai hynny , yna gwŷr y ddinas a frysiasant , ac a foregodasant , ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel , efe a’i holl bobl , ar amser nodedig , ar hyd wyneb y gwastadedd : canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo , o’r tu cefn i’r ddinas . A Josua a holl Israel , fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt , a ffoesant ar hyd yr anialwch . A’r holl bobl , y rhai oedd yn y ddinas , a alwyd ynghyd , i erlid ar eu hôl hwynt : a hwy a erlidiasant ar ôl Josua , ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas . Ac ni adawyd gŵr yn Ai , nac yn Bethel , a’r nad aethant allan ar ôl Israel : a gadawsant y ddinas yn agored , ac erlidiasant ar ôl Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai : canys yn dy law di y rhoddaf hi . A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas . A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle , ac a redasant , pan estynnodd efe ei law : daethant hefyd i’r ddinas , ac enillasant hi ; ac a frysiasant , ac a losgasant y ddinas â thân . A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl , ac a edrychasant ; ac wele , mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd ; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw : canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch , a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid . A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas , a dyrchafu o fwg y ddinas , yna hwy a ddychwelasant , ac a drawsant wŷr Ai . A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod ; felly yr oeddynt yng nghanol Israel , y rhai hyn o’r tu yma , a’r lleill o’r tu acw : a thrawsant hwynt , fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt . A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw ; a dygasant ef at Josua . Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes , yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt , a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf , nes eu darfod ; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai , a thrawsant hi â min y cleddyf . A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw , yn wŷr ac yn wragedd , oeddynt ddeuddeng mil ; sef holl wŷr Ai . Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl , yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon , nes difetha holl drigolion Ai . Yn unig yr anifeiliaid , ac anrhaith y ddinas , a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun ; yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a orchmynasai efe i Josua . A Josua a losgodd Ai , ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd , ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn . Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr : ac wedi machlud haul , y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren , a’i bwrw i ddrws porth y ddinas ; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn . Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal , Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses , allor o gerrig cyfain , y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt : a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd , ac a aberthasant ebyrth hedd . Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses , yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel . A holl Israel , a’u henuriaid , eu swyddogion hefyd , a’u barnwyr , oedd yn sefyll oddeutu yr arch , gerbron yr offeiriaid y Lefiaid , y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , yn gystal yr estron a’r priodor : eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim , a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal ; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel . Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith , y fendith a’r felltith , yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith . Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses , a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel , a’r gwragedd , a’r plant , a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt . Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd , y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen , yn y mynydd , ac yn y gwastadedd , ac yn holl lannau y môr mawr , ar gyfer Libanus ; sef yr Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Canaaneaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid ; Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua , ac yn erbyn Israel , o unfryd . A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai . A hwy a wnaethant yn gyfrwys , ac a aethant , ac a ymddangosasant fel cenhadon : cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod , a hen gostrelau gwin , wedi eu hollti hefyd , ac wedi eu rhwymo , A hen esgidiau baglog am eu traed , a hen ddillad amdanynt ; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd : Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal ; a dywedasant wrtho ef , ac wrth wŷr Israel , O wlad bell y daethom : ac yn awr gwnewch gyfamod â ni . A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid , Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo ; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi ? A hwy a ddywedasant wrth Josua , Dy weision di ydym ni . A Josua a ddywedodd wrthynt , Pwy ydych ? ac o ba le y daethoch ? A hwy a ddywedasant wrtho , Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn , oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw : canys ni a glywsom ei glod ef , a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft ; A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; i Sehon brenin Hesbon , ac i Og brenin Basan , yr hwn oedd yn Astaroth . Am hynny ein henuriaid ni , a holl breswylwyr ein gwlad , a lefarasant wrthym ni , gan ddywedyd , Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith , ac ewch i’w cyfarfod hwynt ; a dywedwch wrthynt , Eich gweision ydym : yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni . Dyma ein bara ni : yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch ; ac yn awr , wele , sych a brithlwyd yw . Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion ; ac wele hwynt wedi hollti : ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant , rhag meithed y daith . A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt , ac nid ymgyngorasant â genau yr Arglwydd . Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt , ac a wnaeth gyfamod â hwynt , ar eu cadw hwynt yn fyw : tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt . Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt , hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy , ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros . A meibion Israel a gychwynasant , ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd : a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon , a Cheffira , Beeroth hefyd , a Chiriathjearim . Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy ; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel : a’r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion . A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa , Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel : am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt . Hyn a wnawn ni iddynt hwy : Cadwn hwynt yn fyw , fel na byddo digofaint arnom ni ; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt . A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt , Byddant fyw , ( ond byddant yn torri cynnud , ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa , ) fel y dywedasai’r tywysogion wrthynt . Yna Josua a alwodd arnynt ; ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Paham y twyllasoch ni , gan ddywedyd , Pell iawn ydym ni oddi wrthych ; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni ? Yn awr gan hynny melltigedig ydych : ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision , ac yn torri cynnud , ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw . A hwy a atebasant Josua , ac a ddywedasant , Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision , ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon , a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi ; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes , ac y gwnaethom y peth hyn . Ac yn awr , wele ni yn dy law di : fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni , gwna . Ac felly y gwnaeth efe iddynt ; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel , fel na laddasant hwynt . A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed , ac yn wehynwyr dwfr , i’r gynulleidfa , ac i allor yr Arglwydd , hyd y dydd hwn , yn y lle a ddewisai efe . A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai , a’i difrodi hi , ( fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin , felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin , ) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel , a’u bod yn eu mysg hwynt : Yna yr ofnasant yn ddirfawr ; oblegid dinas fawr oedd Gibeon , fel un o’r dinasoedd brenhinol ; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai ; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn . Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron , ac at Piram brenin Jarmuth , ac at Jaffia brenin Lachis , ac at Debir brenin Eglon , gan ddywedyd . Deuwch i fyny ataf fi , a chynorthwywch fi , fel y trawom ni Gibeon : canys hi a heddychodd â Josua , ac â meibion Israel . Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant , ac a ddaethant i fyny , sef brenin Jerwsalem , brenin Hebron , brenin Jarmuth , brenin Lachis , a brenin Eglon , hwynt‐hwy a’u holl fyddinoedd , ac a wersyllasant wrth Gibeon , ac a ryfelasant yn ei herbyn hi . A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal , gan ddywedyd , Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision : tyred i fyny yn fuan atom ni , achub ni hefyd , a chynorthwya ni : canys holl frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir , a ymgynullasant i’n herbyn ni . Felly Josua a esgynnodd o Gilgal , efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef , a’r holl gedyrn nerthol . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Nac ofna rhagddynt : canys yn dy law di y rhoddais hwynt ; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di . Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy : canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal . A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon , ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon , ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca , ac hyd Macceda . A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel , a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon , yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca ; a buant feirw : amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg , na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf . Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel : ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel , O haul , aros yn Gibeon ; a thithau , leuad , yn nyffryn Ajalon . A’r haul a arhosodd , a’r lleuad a safodd , nes i’r genedl ddial ar eu gelynion . Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn ? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd , ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan . Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef , nac ar ei ôl ef , fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn : canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel . A Josua a ddychwelodd , a holl Israel gydag ef , i’r gwersyll i Gilgal . Ond y pum brenin hynny a ffoesant , ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda . A mynegwyd i Josua , gan ddywedyd , Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda . A dywedodd Josua , Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof , a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt : Ac na sefwch chwi ; erlidiwch ar ôl eich gelynion , a threwch y rhai olaf ohonynt ; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd : canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi . A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn , nes eu difa ; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog . A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch , heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel . A Josua a ddywedodd , Agorwch enau yr ogof , a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof . A hwy a wnaethant felly , ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof ; sef brenin Jerwsalem , brenin Hebron , brenin Jarmuth , brenin Lachis , a brenin Eglon . A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua , yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel , ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr , y rhai a aethai gydag ef , Nesewch , gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn . A hwy a nesasant , ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt . A Josua a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch , ac nac arswydwch ; eithr ymwrolwch , ac ymegnïwch : canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn . Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt , ac a’u rhoddodd i farwolaeth , ac a’u crogodd hwynt ar bum pren : a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr . Ac ym mhryd machludo haul , y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau , a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi ; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof , y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn . Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw , ac a’i trawodd hi â min y cleddyf , ac a ddifrododd ei brenin hi , hwynt‐hwy , a phob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un gweddill : canys efe a wnaeth i frenin Macceda , fel y gwnaethai i frenin Jericho . Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna , ac a ymladdodd yn erbyn Libna . A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau , a’i brenin , yn llaw Israel ; ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf , a phob enaid a’r oedd ynddi ; ni adawodd ynddi un yng ngweddill : canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho . A Josua a dramwyodd , a holl Israel gydag ef , o Libna i Lachis ; ac a wersyllodd wrthi , ac a ymladdodd i’w herbyn . A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel ; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd , ac a’i trawodd hi â min y cleddyf , a phob enaid ag oedd ynddi , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna . Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis : a Josua a’i trawodd ef a’i bobl , fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill . A Josua a dramwyodd , a holl Israel gydag ef , o Lachis i Eglon : a hwy a wersyllasant wrthi , ac a ymladdasant i’w herbyn . A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw , ac a’i trawsant hi â min y cleddyf ; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis . A Josua a esgynnodd , a holl Israel gydag ef , o Eglon i Hebron ; a hwy a ryfelasant i’w herbyn . A hwy a’i henillasant hi , ac a’i trawsant hi â min y cleddyf , a’i brenin , a’i holl ddinasoedd , a phob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un yng ngweddill , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon : canys efe a’i difrododd hi , a phob enaid ag oedd ynddi . A Josua a ddychwelodd , a holl Israel gydag ef , i Debir ; ac a ymladdodd i’w herbyn . Ac efe a’i henillodd hi , ei brenin , a’i holl ddinasoedd ; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf , ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un yng ngweddill : fel y gwnaethai efe i Hebron , felly y gwnaeth efe i Debir , ac i’w brenin ; megis y gwnaethai efe i Libna , ac i’w brenin . Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir , a’r deau , y gwastadedd hefyd , a’r bronnydd , a’u holl frenhinoedd : ni adawodd efe un yng ngweddill ; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl , fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel . A Josua a’u trawodd hwynt o Cades‐Barnea , hyd Gasa , a holl wlad Gosen , hyd Gibeon . Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith : canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel . Yna y dychwelodd Josua , a holl Israel gydag ef , i’r gwersyll yn Gilgal . A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny , efe a anfonodd at Jobab brenin Madon , ac at frenin Simron , ac at frenin Achsaff , Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir , ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth , ac yn y dyffryn , ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin ; At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin , ac at yr Amoriaid , a’r Hethiaid , a’r Pheresiaid , a’r Jebusiaid , yn y mynydd‐dir , ac at yr Hefiaid dan Hermon , yng ngwlad Mispe . A hwy a aethant allan , a’u holl fyddinoedd gyda hwynt , pobl lawer , fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra ; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn . A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant ; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom , i ymladd yn erbyn Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Nac ofna rhagddynt hwy : canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel : llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri , a’u cerbydau a losgi di â thân . Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef , yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron ; a hwy a ruthrasant arnynt . A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel ; a hwy a’u trawsant hwynt , ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr , ac hyd Misreffoth‐maim , ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain ; a hwy a’u trawsant hwynt , fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill . A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo : llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe , a’u cerbydau a losgodd â thân . A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd , ac a enillodd Hasor , ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf : canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny . Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf , gan eu difrodi hwynt : ni adawyd un perchen anadl : ac efe a losgodd Hasor â thân . A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny , a’u holl frenhinoedd hwynt , a enillodd Josua , ac a’u trawodd â min y cleddyf , gan eu difrodi hwynt : megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd . Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid ; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua . A holl anrhaith y dinasoedd hynny , a’r anifeiliaid , a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun : yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf , nes iddynt eu difetha ; ni adawsant berchen anadl . Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was , felly y gorchmynnodd Moses i Josua , ac felly y gwnaeth Josua ; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses . Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw , y mynyddoedd , a’r holl ddeau , a holl wlad Gosen , a’r dyffryn , a’r gwastadedd , a mynydd Israel , a’i ddyffryn ; O fynydd Halac , yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir , hyd Baal‐Gad , yng nglyn Libanus , dan fynydd Hermon : a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe ; trawodd hwynt hefyd , ac a’u rhoddodd i farwolaeth . Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer . Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel , heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon ; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel . Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel , fel y difrodai efe hwynt , ac na fyddai iddynt drugaredd ; ond fel y difethai efe hwynt , fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd‐dir , o Hebron , o Debir , o Anab , ac o holl fynyddoedd Jwda , ac o holl fynyddoedd Israel : Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd . Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel : yn unig yn Gasa , yn Gath , ac yn Asdod , y gadawyd hwynt . Felly Josua a enillodd yr holl wlad , yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses ; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel , yn ôl eu rhannau hwynt , trwy eu llwythau . A’r wlad a orffwysodd heb ryfel . Dyma frenhinoedd y wlad , y rhai a drawodd meibion Israel , ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul ; o afon Arnon hyd fynydd Hermon , a’r holl wastadedd tua’r dwyrain : Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , ac yn arglwyddiaethu o Aroer , yr hon sydd ar fin yr afon Arnon , ac o ganol yr afon , ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc , ym mro meibion Ammon ; Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain , ac hyd fôr y gwastadedd , sef y môr heli , o du y dwyrain , tua Beth‐jesimoth ; ac o du y deau , dan Asdoth‐Pisga : A goror Og brenin Basan , yr hwn oedd o weddill y cewri , ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei ; Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon , ac yn Salcha , ac yn holl Basan , hyd derfyn y Gesuriaid , a’r Maachathiaid , a hanner Gilead , terfyn Sehon brenin Hesbon . Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u trawsant hwy : a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , ac i hanner llwyth Manasse . Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin , o Baal‐Gad , yng nglyn Libanus , hyd fynydd Halac , yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir ; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau ; Yn y mynydd , ac yn y dyffryn , ac yn y gwastadedd , ac yn y bronnydd , ac yn yr anialwch , ac yn y deau ; yr Hethiaid , yr Amoriaid , a’r Canaaneaid , y Pheresiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid : Brenin Jericho , yn un ; brenin Ai , yr hwn oedd o ystlys Bethel , yn un ; Brenin Jerwsalem , yn un ; brenin Hebron , yn un ; Brenin Jarmuth , yn un ; brenin Lachis , yn un ; Brenin Eglon , yn un ; brenin Geser , yn un ; Brenin Debir , yn un ; brenin Geder , yn un ; Brenin Horma , yn un ; brenin Arad , yn un ; Brenin Libna , yn un ; brenin Adulam , yn un ; Brenin Macceda , yn un ; brenin Bethel , yn un ; Brenin Tappua , yn un ; brenin Heffer , yn un ; Brenin Affec , yn un ; brenin Lasaron , yn un ; Brenin Madon , yn un ; brenin Hasor , yn un ; Brenin Simron‐Meron , yn un ; brenin Achsaff , yn un ; Brenin Taanach , yn un ; brenin Megido , yn un ; Brenin Cades , yn un ; brenin Jocneam o Carmel , yn un ; Brenin Dor yn ardal Dor , yn un ; brenin y cenhedloedd o Gilgal , yn un ; Brenin Tirsa , yn un : yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain . A Phan heneiddiodd Josua , a phwyso ohono mewn oedran , dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Tydi a heneiddiaist , daethost i ddyddiau oedrannus , a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu . Dyma y wlad sydd eto yn ôl : holl derfynau y Philistiaid , a holl Gesuri , O Sihor , yr hon sydd o flaen yr Aifft , hyd derfyn Ecron tua’r gogledd , yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid : pum tywysog y Philistiaid : y Gasathiaid , a’r Asdodiaid , yr Escaloniaid , y Githiaid , yr Ecroniaid ; yr Afiaid : O’r deau , holl wlad y Canaaneaid , a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid , hyd Affec , hyd derfyn yr Amoriaid : A gwlad y Gibliaid , a holl Libanus , tua chyfodiad haul , o Baal‐Gad dan fynydd Hermon , nes dyfod i Hamath . Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim , a’r holl Sidoniaid , y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel : yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth , fel y gorchmynnais i ti . Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth , ac i hanner llwyth Manasse . Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth , yr hon a roddodd Moses iddynt hwy , o’r tu hwnt i’r Iorddonen , tua’r dwyrain , fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt ; O Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn , a holl wastadedd Medeba , hyd Dibon : A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon , hyd ardal meibion Ammon ; Gilead hefyd , a therfyn y Gesuriaid , y Maachathiaid hefyd , a holl fynydd Hermon , a holl Basan hyd Salcha ; Holl frenhiniaeth Og yn Basan , yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth , ac yn Edrei ; efe a adawyd o weddill y cewri : canys Moses a’u trawsai hwynt , ac a’u gyrasai ymaith . Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid ; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn . Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth ; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef , fel y llefarasai efe wrtho . A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd : A’u terfyn hwynt oedd o Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn , a’r holl wastadedd wrth Medeba ; Hesbon a’i holl ddinasoedd , y rhai sydd yn y gwastadedd ; Dibon , a Bamoth-Baal , a Beth‐Baalmeon ; Jahasa hefyd , a Cedemoth , a Meffaath ; Ciriathaim hefyd , a Sibma , a Sarethsahar , ym mynydd‐dir y glyn ; Beth‐peor hefyd , ac Asdoth‐Pisga , a Beth‐Jesimoth , A holl ddinasoedd y gwastadedd , a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon , yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro , gyda thywysogion Midian , Efi , a Recem , a Sur , a Hur , a Reba , dugiaid Sehon , y rhai oedd yn preswylio yn y wlad . Balaam hefyd mab Beor , y dewin , a laddodd meibion Israel â’r cleddyf , ymhlith eu lladdedigion hwynt . A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror . Dyma etifeddiaeth meibion Reuben , yn ôl eu teuluoedd , y dinasoedd , a’u trefi . Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad , sef i feibion Gad , trwy eu teuluoedd ; A Jaser oedd derfyn iddynt hwy , a holl ddinasoedd Gilead , a hanner gwlad meibion Ammon , hyd Aroer , yr hon sydd o flaen Rabba ; Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe , a Betonim ; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir ; Ac yn y dyffryn , Beth‐Aram , a Beth‐Nimra , a Succoth , a Saffon , gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon , yr Iorddonen a’i therfyn , hyd gwr môr Cinneroth , o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du y dwyrain . Dyma etifeddiaeth meibion Gad , yn ôl eu teuluoedd , y dinasoedd , a’u trefydd . Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse : a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse , yn ôl eu teuluoedd : A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim , holl Basan , holl frenhiniaeth Og brenin Basan , a holl drefi Jair , y rhai sydd yn Basan , trigain dinas ; A hanner Gilead , ac Astaroth , ac Edrei , dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan , a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse , sef i hanner meibion Machir , yn ôl eu teuluoedd . Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu , yn rhosydd Moab , am yr Iorddonen â Jericho , o du y dwyrain . Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth : Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt , fel y llefarodd efe wrthynt . Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan , y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun , a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel , iddynt hwy i’w hetifeddu . Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth , ac i’r hanner llwyth . Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth , ac i hanner llwyth , o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt ; Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth , Manasse ac Effraim : am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir , ond dinasoedd i drigo , a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid , ac i’w golud . Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses , felly y gwnaeth meibion Israel , a hwy a ranasant y wlad . Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal : a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef , Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i , ac o’th blegid dithau , yn Cades‐Barnea . Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐Barnea , i edrych ansawdd y wlad ; a mi a ddygais air iddo ef drachefn , fel yr oedd yn fy nghalon . Ond fy mrodyr , y rhai a aethant i fyny gyda mi , a ddigalonasant y bobl : eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw . A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw , gan ddywedyd , Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni , yn etifeddiaeth i ti , ac i’th feibion hyd byth ; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw . Ac yn awr , wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw , fel y llefarodd efe , y pum mlynedd a deugain hyn , er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses , tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch : ac yn awr , wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain . Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi : fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw , felly y mae fy nerth i yn awr , i ryfela , ac i fyned allan , ac i ddyfod i mewn . Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma , am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw , ( canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno , a dinasoedd mawrion caerog ; ) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi , fel y gyrrwyf hwynt allan , megis y llefarodd yr Arglwydd . A Josua a’i bendithiodd ef , ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth . Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn : oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel . Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba : yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid . A’r wlad a orffwysodd heb ryfel . A rhandir llwyth meibion Jwda , yn ôl eu teuluoedd , ydoedd tua therfyn Edom : anialwch Sin , tua’r deau , oedd eithaf y terfyn deau . A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli , o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau . Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim , ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin , ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea ; ac yn myned hefyd i Hesron , ac yn esgyn i Adar , ac yn amgylchynu i Carcaa . Ac yr oedd yn myned tuag Asmon , ac yn myned allan i afon yr Aifft ; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr : hyn fydd i chwi yn derfyn deau . A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli , hyd eithaf yr Iorddonen : a’r terfyn o du y gogledd , sydd o graig y môr , yn eithaf yr Iorddonen . A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla , ac yn myned o’r gogledd hyd Beth‐Araba ; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben . A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor , a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal , o flaen rhiw Adummim , yr hon sydd o du y deau i’r afon : y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes , a’i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel . A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom , gan ystlys y Jebusiaid o du y deau , honno yw Jerwsalem : y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom , tua’r gorllewin , yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri , tua’r gogledd . A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa , ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron : y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala , honno yw Ciriath‐jearim . A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin , i fynydd Seir , ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim , o du y gogledd , honno yw Chesalon , ac y mae yn disgyn i Beth‐semes , ac yn myned i Timna . A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron , tua’r gogledd : a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron , ac yn myned rhagddo i fynydd Baala , ac yn cyrhaeddyd i Jabneel ; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr . A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn . Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch , wrth eu teuluoedd . Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda , yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua ; sef Caer‐Arba , tad yr Anaciaid , honno yw Hebron . A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac , Sesai , ac Ahiman , a Thalmai , meibion Anac . Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir ; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐Seffer . A dywedodd Caleb , Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer , ac a’i henillo hi ; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig . Ac Othniel mab Cenas , brawd Caleb , a’i henillodd hi . Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig . A phan ddaeth hi i mewn ato ef , yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes : ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn . A dywedodd Caleb wrthi , Beth a fynni di ? A hi a ddywedodd , Dyro i mi rodd ; canys gwlad y deau a roddaist i mi : dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd . Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf , a’r ffynhonnau isaf . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda , wrth eu teuluoedd . A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda , tua therfyn Edom , ar du y deau , oeddynt Cabseel , ac Eder , a Jagur , Cina hefyd , a Dimona , ac Adada , Cedes hefyd , a Hasor , ac Ithnan , A Siff , a Thelem , a Bealoth , A Hasor , Hadatta , a Cirioth , a Hesron , honno yw Hasor , Ac Amam , a Sema , a Molada , A Hasar‐Gada , a Hesmon , a Beth‐palet , A Hasar‐sual , a Beer‐seba , a Bisiothia , Baala , ac Iim , ac Asem , Ac Eltolad , a Chesil , a Horma , A Siclag , a Madmanna , a Sansanna , A Lebaoth , a Silhim , ac Ain , a Rimmon : yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain , a’u pentrefydd . Ac yn y dyffryn , Esthaol , a Sorea , ac Asna , A Sanoa , ac En‐gannim , Tappua , ac Enam , Jarmuth , ac Adulam , Socho , ac Aseca , A Saraim , ac Adithaim , a Gedera , a Gederothaim ; pedair ar ddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Senan , a Hadasa , a Migdal‐Gad , A Dilean , a Mispe , a Joctheel , Lachis , a Boscath , ac Eglon , Chabbon hefyd , a Lahmam , a Chithlis , A Gederoth , Beth‐Dagon , a Naama , a Macceda ; un ddinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Libna , ac Ether , ac Asan , A Jiffta , ac Asna , a Nesib , Ceila hefyd , ac Achsib , a Maresa ; naw o ddinasoedd , a’u pentrefi . Ecron , a’i threfi , a’i phentrefydd : O Ecron hyd y môr , yr hyn oll oedd gerllaw Asdod , a’u pentrefydd : Asdod , a’i threfydd , a’i phentrefydd ; Gasa , a’i threfydd , a’i phentrefydd , hyd afon yr Aifft ; a’r môr mawr , a’i derfyn . Ac yn y mynydd‐dir ; Samir , a Jattir , a Socho , A Danna , a Ciriath‐sannath , honno yw Debir , Ac Anab , ac Astemo , ac Anim , A Gosen , a Holon , a Gilo ; un ddinas ar ddeg , a’u pentrefydd . Arab , a Duma , ac Esean , A Janum , a Beth‐tappua , ac Affeca , A Humta , a Chaer‐Arba , honno yw Hebron , a Sïor ; naw dinas , a’u trefydd . Maon , Carmel , a Siff , a Jutta , A Jesreel , a Jocdeam , a Sanoa , Cain , Gibea , a Thimna ; deg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Halhul , Beth‐sur , a Gedor , A Maarath , a Beth‐anoth , ac Eltecon ; chwech o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ciriath‐baal , honno yw Ciriath‐jearim , a Rabba ; dwy ddinas , a’u pentrefydd . Yn yr anialwch ; Beth‐araba , Midin , a Sechacha , A Nibsan , a dinas yr halen , ac En‐gedi ; chwech o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid , trigolion Jerwsalem : am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn . A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho , i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain , i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel ; Ac yn myned o Bethel i Lus , ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth ; Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti , hyd derfyn Beth‐horon isaf , ac hyd Geser : a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr . Felly meibion Joseff , Manasse ac Effraim , a gymerasant eu hetifeddiaeth . A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd ; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain , oedd Ataroth‐adar , hyd Beth‐horon uchaf . A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr , i Michmethath o du y gogledd ; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo , ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha : Ac yn myned i waered o Janoha , i Ataroth , a Naarath ; ac yn cyrhaeddyd i Jericho , ac yn myned allan i’r Iorddonen . O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana ; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim , yn ôl eu teuluoedd . A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse ; yr holl ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid , y rhai oedd yn trigo yn Geser : am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn , ac y maent yn gwasanaethu dan dreth . Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse , ( canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff , ) i Machir , cyntaf‐anedig Manasse , tad Gilead : oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr , yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef . Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse , yn ôl eu teuluoedd ; sef i feibion Abieser , ac i feibion Helec , ac i feibion Asriel , ac i feibion Sichem , ac i feibion Heffer , ac i feibion Semida : dyma feibion Manasse mab Joseff , sef y gwrywiaid , yn ôl eu teuluoedd . Ond Salffaad mab Heffer , mab Gilead , mab Machir , mab Manasse , nid oedd iddo feibion , ond merched : a dyma enwau ei ferched ef ; Mala , a Noa , Hogla , Milca , a Thirsa : Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad , ac o flaen Josua mab Nun , ac o flaen y tywysogion , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr : am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth , yn ôl gair yr Arglwydd , ymysg brodyr eu tad . A deg rhandir a syrthiodd i Manasse , heblaw gwlad Gilead a Basan , y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen ; Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef : a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse . A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath , yr hon sydd gyferbyn â Sichem ; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau , hyd breswylwyr Entappua . Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse : ond Tappua , yr hon oedd ar derfyn Manasse , oedd eiddo meibion Effraim . A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana , o du deau yr afon . Y dinasoedd hyn , eiddo Effraim , oedd ymhlith dinasoedd Manasse : a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon , a’i ddiwedd oedd y môr . Y deau oedd eiddo Effraim , a’r gogledd eiddo Manasse ; a’r môr oedd ei derfyn ef : ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod , o’r gogledd ; ac yn Issachar , o’r dwyrain . Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse , Beth‐sean a’i threfydd , ac Ibleam a’i threfydd , a thrigolion Dor a’i threfydd , a thrigolion En‐dor a’i threfydd , a phreswylwyr Taanach a’i threfydd , a thrigolion Megido a’i threfydd ; tair talaith . Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny ; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno . Eto pan gryfhaodd meibion Israel , hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth : ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr . A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua , gan ddywedyd , Paham y rhoddaist i mi , yn etifeddiaeth , un afael ac un rhan , a minnau yn bobl aml , wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio ? A Josua a ddywedodd wrthynt , Os pobl aml ydwyt , dos i fyny i’r coed , a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid , a’r cewri , od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti . A meibion Joseff a ddywedasant , Ni bydd y mynydd ddigon i ni : hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir , gan y rhai sydd yn Beth‐sean a’i threfi , a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel . A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff , wrth Effraim ac wrth Manasse , gan ddywedyd , Pobl aml ydwyt , a nerth mawr sydd gennyt : ni fydd i ti un rhan yn unig : Eithr bydd y mynydd eiddot ti : canys coediog yw , arloesa ef ; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti : canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid , er bod cerbydau heyrn ganddynt , ac er eu bod yn gryfion . A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo , ac a osodasant yno babell y cyfarfod : a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt . A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel , i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto . A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel , Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi ? Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth ; fel yr anfonwyf hwynt , ac y cyfodont , ac y rhodiont y wlad , ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt ; ac y delont ataf drachefn . A hwy a’i rhannant hi yn saith ran . Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau , a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd . A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran , a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma ; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma , o flaen yr Arglwydd ein Duw . Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi ; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt . Gad hefyd , a Reuben , a hanner llwyth Manasse , a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du’r dwyrain , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt . A’r gwŷr a gyfodasant , ac a aethant : a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad , gan ddywedyd , Ewch , a rhodiwch trwy’r wlad , a dosberthwch hi , a dychwelwch ataf fi ; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo . A’r gwŷr a aethant ymaith , ac a gerddasant trwy’r wlad , ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas , yn saith ran , mewn llyfr ; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo . A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo : a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau . A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd : a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff . A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen : y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho , o du’r gogledd , ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin : a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen . Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus , gan ystlys Lus , honno yw Bethel , tua’r deau ; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar , i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth‐horon isaf . A’r terfyn sydd yn tueddu , ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau , o’r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua’r deau ; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal , honno yw Ciriath‐jearim , dinas meibion Jwda . Dyma du y gorllewin . A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim ; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin , ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa . Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom , yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd ; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom , gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau , ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel . Ac y mae yn tueddu o’r gogledd , ac yn myned i En‐semes , ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth , yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim , ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben : Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd , ac yn disgyn i Araba . Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua’r gogledd : a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd , hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau . Dyma derfyn y deau . Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain . Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin , trwy eu terfynau o amgylch , yn ôl eu teuluoedd . A dinasoedd llwyth meibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd , oedd , Jericho , a Beth‐hogla , a glyn Cesis , A Beth‐araba , a Semaraim , a Bethel , Ac Afim , a Phara , ac Offra , A Cheffar‐haammonai , ac Offni , a Gaba ; deuddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd : Gibeon , a Rama , a Beeroth , A Mispe , a Cheffira , a Mosa , A Recem , ac Irpeel , a Tharala , A Sela , Eleff , a Jebusi , ( honno yw Jerwsalem , ) Gibeath , a Chiriath ; pedair ar ddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd . A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon , dros lwyth meibion Simeon , yn ôl eu teuluoedd : a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda . Ac yr oedd ganddynt hwy , yn eu hetifeddiaeth , Beer‐seba , a Seba , a Molada , A Hasar‐sual , a Bala , ac Asem , Ac Eltolad , a Bethul , a Horma , A Siclag , a Beth‐marcaboth , a Hasar‐susa , A Beth‐lebaoth , a Saruhen ; tair dinas ar ddeg , a’u pentrefydd : Ain , Rimmon , ac Ether , ac Asan ; pedair o ddinasoedd , a’u pentrefydd : A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn , hyd Baalath‐beer , Ramath o’r deau . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon , yn ôl eu teuluoedd . O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon : canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt ; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt . A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon , yn ôl eu teuluoedd : a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid . A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr , a Marala , ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth ; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam ; Ac yn troi o Sarid , o du y dwyrain tua chyfodiad haul , hyd derfyn Cisloth‐Tabor ; ac yn myned i Daberath , ac yn esgyn i Jaffia ; Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain , i Gittah‐Heffer , i Ittah‐Casin ; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar , i Nea . A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon ; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel . Cattath hefyd , a Nahalal , a Simron , ac Idala , a Bethlehem : deuddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd yma , a’u pentrefydd . Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar ; dros feibion Issachar , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel , a Chesuloth , a Sunem . A Haffraim , a Sihon , ac Anaharath . A Rabbith , a Cision , ac Abes , A Remeth , ac En‐gannim , ac Enhada , a Beth‐passes . A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor , a Sahasima , a Beth‐semes ; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen : un ddinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd , a’u pentrefydd . A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwynt oedd , Helcath , a Hali , a Beten , ac Achsaff , Ac Alammelech , ac Amad , a Misal ; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin , ac i Sihor‐Libnath : Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon , ac yn cyrhaeddyd i Sabulon , ac i ddyffryn Jifftahel , tua’r gogledd i Beth‐Emec , ac i Neiel , ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul ; A Hebron , a Rehob , a Hammon , a Cana , hyd Sidon fawr . A’r terfyn sydd yn troi i Rama , ac hyd Sor , y ddinas gadarn : a’r terfyn sydd yn troi i Hosa ; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr , o randir Achsib . Umma hefyd , ac Affec , a Rehob : dwy ddinas ar hugain , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd . Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali , dros feibion Nafftali , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwy oedd o Heleff , o Alon i Saanannim , ac Adami , Neceb , a Jabneel hyd Lacum : a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen . A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth‐Tabor , ac yn myned oddi yno i Huccoc ; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau , ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin , ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul . A’r dinasoedd caerog , Sidim , Ser , a Hammath , Raccath , a Chinnereth , Ac Adama , a Rama , a Hasor , A Cedes , ac Edrei , ac En‐hasor , Ac Iron , a Migdal‐el , Horem , a Beth‐anath , a Beth‐semes : pedair dinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd , a’u pentrefydd . Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan , yn ôl eu teuluoedd . A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora , ac Estaol , ac Ir‐Semes , A Saalabbin , ac Ajalon , ac Ithla , Ac Elon , a Thimnatha , ac Ecron , Ac Eltece , a Gibbethon , a Baalath , A Jehud , a Bene‐berac , a Gath‐rimmon , A Meiarcon , a Raccon , gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo . A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt : am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem , ac a’i henillasant hi ; trawsant hefyd hi â min y cleddyf , a meddianasant hi , a thrigasant ynddi : a galwasant Lesem yn Dan , yn ôl enw Dan eu tad . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd hyn , a’u pentrefydd . Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau , meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg : Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe ; sef Timnath‐Sera , ym mynydd Effraim : ac efe a adeiladodd y ddinas , ac a drigodd ynddi . Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun , a phennau tadau llwythau meibion Israel , yn etifeddiaeth , wrth goelbren , yn Seilo , o flaen yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . Felly y gorffenasant rannu’r wlad . A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josua , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Moeswch i chwi ddinasoedd nodded , am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses : Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd , neu mewn anwybod : a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed . A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny , a sefyll wrth ddrws porth y ddinas , a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno ; cymerant ef atynt i’r ddinas , a rhoddant le iddo , fel y trigo gyda hwynt . Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef , na roddant y lleiddiad yn ei law ef : canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog , ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen . Ac efe a drig yn y ddinas honno , nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn , ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny : yna dychweled y llofrudd , a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun ; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni . Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea , ym mynydd Nafftali , a Sichem ym mynydd Effraim , a Chaer‐Arba , hon yw Hebron , ym mynydd Jwda . Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du y dwyrain i Jericho , y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd , o lwyth Reuben , a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad , a Golan yn Basan o lwyth Manasse . Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt ; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd ; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed , nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa . Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad , ac at Josua mab Nun , ac at bennau tadau llwythau meibion Israel ; Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo , o fewn gwlad Canaan , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a orchmynnodd , trwy law Moses , roddi i ni ddinasoedd i drigo , a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth , wrth orchymyn yr Arglwydd , y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol . A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid : ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad , y rhai oedd o’r Lefiaid , allan o lwyth Jwda , ac o lwyth Simeon , ac o lwyth Benjamin , dair dinas ar ddeg , wrth goelbren . Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd , o deuluoedd llwyth Effraim , ac o lwyth Dan , ac o hanner llwyth Manasse , ddeg dinas , wrth goelbren . Ac i feibion Gerson yr oedd , o deuluoedd llwyth Issachar , ac o lwyth Aser , ac o lwyth Nafftali , ac o hanner llwyth Manasse yn Basan , dair dinas ar ddeg , wrth goelbren . I feibion Merari , wrth eu teuluoedd , yr oedd , o lwyth Reuben , ac o lwyth Gad , ac o lwyth Sabulon , ddeuddeg o ddinasoedd . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn , a’u meysydd pentrefol , fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses , wrth goelbren . A hwy a roddasant , o lwyth meibion Jwda , ac o lwyth meibion Simeon , y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau ; Fel y byddent i feibion Aaron , o deuluoedd y Cohathiaid , o feibion Lefi : canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf . A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba , tad Anac , honno yw Hebron , ym mynydd‐dir Jwda , a’i meysydd pentrefol oddi amgylch . Ond maes y ddinas , a’i phentrefydd , a roddasant i Caleb mab Jeffunne , yn etifeddiaeth iddo ef . Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pentrefol , yn ddinas nodded i’r llofrudd ; a Libna a’i meysydd pentrefol , A Jattir a’i meysydd pentrefol , ac Estemoa a’i meysydd pentrefol , A Holon a’i meysydd pentrefol , a Debir a’i meysydd pentrefol , Ac Ain a’i meysydd pentrefol , a Jwtta a’i meysydd pentrefol , a Beth‐semes a’i meysydd pentrefol : naw dinas o’r ddau lwyth hynny . Ac o lwyth Benjamin , Gibeon a’i meysydd pentrefol , a Geba a’i meysydd pentrefol , Anathoth a’i meysydd pentrefol , ac Almon a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid , oedd dair dinas ar ddeg , a’u meysydd pentrefol . A chan deuluoedd meibion Cohath , y Lefiaid , y rhan arall o feibion Cohath , yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim . A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad , Sichem a’i meysydd pentrefol , ym mynydd Effraim , a Geser a’i meysydd pentrefol , A Cibsaim a’i meysydd pentrefol , a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol : pedair o ddinasoedd . Ac o lwyth Dan , Eltece a’i meysydd pentrefol , Gibbethon a’i meysydd pentrefol . Ajalon a’i meysydd pentrefol , Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol : pedair o ddinasoedd . Ac o hanner llwyth Manasse , Tanac a’i meysydd pentrefol , a Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol : dwy ddinas . Yr holl ddinasoedd , y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath , oedd ddeg , a’u meysydd pentrefol . Ac i feibion Gerson , o deuluoedd y Lefiaid , y rhoddasid , o hanner arall llwyth Manasse , yn ddinas nodded y llofrudd , Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol , a Beestera a’i meysydd pentrefol : dwy ddinas . Ac o lwyth Issachar , Cison a’i meysydd pentrefol , Dabareth a’i meysydd pentrefol , Jarmuth a’i meysydd pentrefol , En‐gannim a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Aser , Misal a’i meysydd pentrefol , Abdon a’i meysydd pentrefol , Helcath a’i meysydd pentrefol , a Rehob a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Nafftali , yn ddinas nodded y lleiddiad , Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol , a Hammoth‐dor a’i meysydd pentrefol : tair dinas . Holl ddinasoedd y Gersoniaid , yn ôl eu teuluoedd , oedd dair dinas ar ddeg , a’u meysydd pentrefol . Ac i deuluoedd meibion Merari , y rhan arall o’r Lefiaid , y rhoddasid , o lwyth Sabulon , Jocnean a’i meysydd pentrefol , a Carta a’i meysydd pentrefol , Dimna a’i meysydd pentrefol , Nahalal a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Reuben , Beser a’i meysydd pentrefol , a Jahasa a’i meysydd pentrefol , Cedemoth a’i meysydd pentrefol , Meffaath a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Gad , yn ddinas noddfa y llofrudd , Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol , a Mahanaim a’i meysydd pentrefol , Hesbon a’i meysydd pentrefol , Jaser a’i meysydd pentrefol ; pedair dinas o gwbl . Holl ddinasoedd meibion Merari , yn ôl eu teuluoedd , sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid , oedd , wrth eu coelbren , ddeuddeng ninas . Holl ddinasoedd y Lefiaid , ym meddiant meibion Israel , oedd wyth ddinas a deugain , a’u meysydd pentrefol . Y dinasoedd hyn oedd bob un â’u meysydd pentrefol o’u hamgylch . Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn . A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt : a hwy a’i meddianasant hi , ac a wladychasant ynddi . Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch , yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt ; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion ; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt . Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel : daeth y cwbl i ben . Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , Ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi . Ni adawsoch eich brodyr , er ys llawer o ddyddiau bellach , hyd y dydd hwn ; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw . Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr , fel y llefarodd wrthynt : yn awr gan hynny trowch , ac ewch rhagoch i’ch pebyll , i wlad eich meddiant , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , o’r tu hwnt i’r Iorddonen . Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi ; sef caru yr Arglwydd eich Duw , a rhodio yn ei holl ffyrdd ef , a chadw ei orchmynion ef , a glynu wrtho ef , a’i wasanaethu ef â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid . A Josua a’u bendithiodd hwynt , ac a’u gollyngodd ymaith . A hwy a aethant i’w pebyll . Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan ; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua , gyda’u brodyr , tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin . Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll , yna efe a’u bendithiodd hwynt ; Ac efe a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll , ag anifeiliaid lawer iawn , ag arian , ac ag aur , â phres hefyd , ac â haearn , ac â gwisgoedd lawer iawn : rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion . A meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a ddychwelasant , ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel , o Seilo , yr hon sydd yng ngwlad Canaan , i fyned i wlad Gilead , i wlad eu meddiant hwy , yr hon a feddianasant , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen , y rhai sydd yng ngwlad Canaan , meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen , allor fawr mewn golwg . A chlybu meibion Israel ddywedyd , Wele , meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan , wrth derfynau yr Iorddonen , gan ystlys meibion Israel . A phan glybu meibion Israel hynny , yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo , i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel . A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben , ac at feibion Gad , ac at hanner llwyth Manasse , i wlad Gilead , Phinees mab Eleasar yr offeiriad , A deg o dywysogion gydag ef , un tywysog o bob tŷ , pennaf trwy holl lwythau Israel ; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau , ymysg miloedd Israel . A hwy a ddaethant at feibion Reuben , ac at feibion Gad , ac at hanner llwyth Manasse , i wlad Gilead ; ac a ymddiddanasant â hwynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr Arglwydd , Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel , gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd , pan adeiladasoch i chwi allor , i wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd ? Ai bychan gennym ni anwiredd Peor , yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn , er bod pla ymysg cynulleidfa yr Arglwydd , Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd ? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd , efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel . Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan , deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd , yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi , a chymerwch feddiant yn ein mysg ni : ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd , ac na childynnwch i’n herbyn ninnau , trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor , heblaw allor yr Arglwydd ein Duw . Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd , oherwydd y diofryd‐beth , fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel ? ac efe oedd un gŵr ; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd . Yna meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a atebasant , ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel ; Arglwydd Dduw y duwiau , Arglwydd Dduw y duwiau , efe sydd yn gwybod , ac Israel yntau a gaiff wybod , os mewn gwrthryfel , neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn , ( na wareder ni y dydd hwn , ) Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd , neu os offrymasom arni boethoffrwm , neu fwyd‐offrwm , neu os aberthasom arni ebyrth hedd ; yr Arglwydd ei hun a’i gofynno : Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn ; gan ddywedyd , Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau , gan ddywedyd , Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel ? Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi : meibion Reuben , a meibion Gad , nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd . Felly y gwnâi eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd . Am hynny y dywedasom , Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor : nid i boethoffrwm , nac i aberth ; Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi , a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl , i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef , â’n poethoffrymau , ac â’n hebyrth , ac â’n hoffrymau hedd ; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni , Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd . Am hynny y dywedasom , Pan ddywedont hwy felly wrthym ni , neu wrth ein hepil ar ôl hyn ; yna y dywedwn ninnau , Gwelwch lun allor yr Arglwydd , yr hon a wnaeth ein tadau ni , nid i boethoffrwm , nac i aberth ; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi . Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd ; gan adeiladu allor i boethoffrwm , i fwyd‐offrwm , neu i aberth , heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef . A phan glybu Phinees yr offeiriad , a thywysogion y gynulleidfa , a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef , y geiriau a lefarasai meibion Reuben , a meibion Gad , a meibion Manasse , da oedd y peth yn eu golwg hwynt . Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben , ac wrth feibion Gad , ac wrth feibion Manasse , Heddiw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith ; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd : yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd . Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad , a’r tywysogion , oddi wrth feibion Reuben , ac oddi wrth feibion Gad , o wlad Gilead , i wlad Canaan , at feibion Israel , ac a ddygasant drachefn air iddynt . A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel ; a meibion Israel a fendithiasant Dduw , ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel , i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi . A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed : canys tyst fydd hi rhyngom ni , mai yr Arglwydd sydd Dduw . A Darfu , ar ôl dyddiau lawer , wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch , i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau . A Josua a alwodd am holl Israel , am eu henuriaid , ac am eu penaethiaid , ac am eu barnwyr , ac am eu swyddogion ; ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus : Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn , er eich mwyn chwi : canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch . Gwelwch , rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd , yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi , o’r Iorddonen , a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith , hyd y môr mawr tua’r gorllewin . A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi , ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi ; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt , megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych . Am hynny ymwrolwch yn lew , i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses ; fel na chilioch oddi wrthynt , tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy ; Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma , y rhai a adawyd gyda chwi ; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt , ac na thyngoch iddynt , na wasanaethoch hwynt chwaith , ac nac ymgrymoch iddynt : Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw , fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn . Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol : ac amdanoch chwi , ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn . Un gŵr ohonoch a erlid fil : canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch , fel y llefarodd wrthych . Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau , ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw . Canys , os gan ddychwelyd y dychwelwch , ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma , y rhai a adawyd gyda chwi ; os ymgyfathrechwch â hwynt , ac os ewch i mewn atynt hwy , a hwythau atoch chwithau : Gan wybod gwybyddwch , na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi ; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd , ac yn ffrewyll yn eich ystlysau , ac yn ddrain yn eich llygaid , nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi . Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear : a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau , ac yn eich holl eneidiau , na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi ; hwy a ddaethant oll i chwi , ac ni phallodd dim ohonynt . Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych ; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus , nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi . Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw , a orchmynnodd efe i chwi , a myned a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt ; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi , ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi . A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem ; ac a alwodd am henuriaid Israel , ac am eu penaethiaid , ac am eu barnwyr , ac am eu swyddogion : a hwy a safasant gerbron Duw . A dywedodd Josua wrth yr holl bobl , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt , sef Tera tad Abraham , a thad Nachor : a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr . Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon , ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan , ac a amlheais hefyd ei had ef , ac a roddais iddo Isaac . Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau : ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu ; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft . A mi a anfonais Moses ac Aaron , ac a drewais yr Eifftiaid , yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg : ac wedi hynny y dygais chwi allan , Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft : a chwi a ddaethoch at y môr ; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau , ac â gwŷr meirch , hyd y môr coch . A phan waeddasant ar yr Arglwydd , efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid , ac a ddug y môr arnynt hwy , ac a’u gorchuddiodd : eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft : trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer . A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid , y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn : a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi , fel y meddianasoch eu gwlad hwynt ; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi . Yna Balac mab Sippor brenin Moab , a gyfododd , ac a ryfelodd yn erbyn Israel ; ac a anfonodd , ac a alwodd am Balaam mab Beor , i’ch melltigo chwi . Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam ; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi : felly y gwaredais chwi o’i law ef . A chwi a aethoch dros yr Iorddonen , ac a ddaethoch i Jericho : a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn , yr Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Girgasiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi . A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi , a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi ; sef dau frenin yr Amoriaid : nid â’th gleddyf di , ac nid â’th fwa . A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani , a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch , ac yr ydych yn trigo ynddynt : o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch , yr ydych yn bwyta ohonynt . Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd , a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon , ac yn yr Aifft ; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd . Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd , dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch , ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon , ai ynteu duwiau yr Amoriaid , y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad : ond myfi , mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd . Yna yr atebodd y bobl , ac y dywedodd , Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd , i wasanaethu duwiau dieithr ; Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed ; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni , ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi , ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith : A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd , a’r Amoriaid , preswylwyr y wlad , o’n blaen ni : am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd ; canys efe yw ein Duw ni . A Josua a ddywedodd wrth y bobl , Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd ; canys Duw sancteiddiol yw efe : Duw eiddigus yw ; ni ddioddef efe eich anwiredd , na’ch pechodau . O gwrthodwch yr Arglwydd , a gwasanaethu duwiau dieithr ; yna efe a dry , ac a’ch dryga chwi , ac efe a’ch difa chwi , wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni . A’r bobl a ddywedodd wrth Josua , Nage ; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd . A dywedodd Josua wrth y bobl , Tystion ydych yn eich erbyn eich hun , ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu . Dywedasant hwythau , Tystion ydym . Am hynny yn awr ( eb efe ) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg , a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel . A’r bobl a ddywedasant wrth Josua , Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn , ac ar ei lais ef y gwrandawn . Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw , ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem . A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw , ac a gymerth faen mawr , ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd . A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl , Wele , y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni ; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a lefarodd efe wrthym : am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi , rhag i chwi wadu eich Duw . Felly Josua a ollyngodd y bobl , bob un i’w etifeddiaeth . Ac wedi’r pethau hyn , y bu farw Josua mab Nun , gwas yr Arglwydd , yn fab dengmlwydd a chant . A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth , o fewn Timnath‐sera ; yr hon sydd ym mynydd Effraim , o du y gogledd i fynydd Gaas . Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua , a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua , ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel . Ac esgyrn Joseff , y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft , a gladdasant hwy yn Sichem , mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem , er can darn o arian ; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth . Ac Eleasar mab Aaron a fu farw : a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab , yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim . Ac wedi marw Josua , meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd , gan ddywedyd , Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf , i ymladd â hwynt ? A dywedodd yr Arglwydd , Jwda a â i fyny : wele , rhoddais y wlad yn ei law ef . A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd , Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir , fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid ; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau . Felly Simeon a aeth gydag ef . A Jwda a aeth i fyny ; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt : a lladdasant ohonynt , yn Besec , ddengmil o wŷr . A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec : ac a ymladdasant yn ei erbyn ; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid . Ond Adoni‐besec a ffodd ; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef , ac a’i daliasant ef , ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed . Ac Adoni‐besec a ddywedodd , Deg a thrigain o frenhinoedd , wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed , a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i : fel y gwneuthum , felly y talodd Duw i mi . A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem ; ac efe a fu farw yno . A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem ; ac a’i henillasant hi , ac a’i trawsant â min y cleddyf ; a llosgasant y ddinas â thân . Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd , ac yn y deau , ac yn y gwastadedd . A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron : ( ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba : ) a hwy a laddasant Sesai , ac Ahiman , a Thalmai . Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir : ( ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐seffer : ) A dywedodd Caleb , Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer , ac a’i henillo hi , mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo . Ac Othniel mab Cenas , brawd Caleb , ieuangach nag ef , a’i henillodd hi . Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo . A phan ddaeth hi i mewn ato ef , hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes : a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn . A dywedodd Caleb wrthi , Beth a fynni di ? A hi a ddywedodd wrtho , Dyro i mi fendith : canys gwlad y deau a roddaist i mi ; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd . A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf , a’r ffynhonnau isaf . A meibion Ceni , chwegrwn Moses , a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda , i anialwch Jwda , yr hwn sydd yn neau Arad : a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl . A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd : a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath , ac a’i difrodasant hi . Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma . Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau , ac Ascalon a’i therfynau , ac Ecron a’i therfynau . A’r Arglwydd oedd gyda Jwda ; ac efe a oresgynnodd y mynydd : ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn ; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt . Ac i Caleb y rhoesant Hebron ; fel y llefarasai Moses : ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac . Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem : ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn . A thŷ Joseff , hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel : a’r Arglwydd oedd gyda hwynt . A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel : ( ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus . ) A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas ; ac a ddywedasant wrtho , Dangos i ni , atolwg , y ffordd yr eir i’r ddinas , a ni a wnawn drugaredd â thi . A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas , hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf ; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu . A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid ; ac a adeiladodd ddinas , ac a alwodd ei henw Lus : dyma ei henw hi hyd y dydd hwn . Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na’i threfydd , na Thaanach na’i threfydd , na thrigolion Dor na’i threfydd , na thrigolion Ibleam na’i threfydd , na thrigolion Megido na’i threfydd : eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno . Ond pan gryfhaodd Israel , yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth ; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr . Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser ; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser . A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron , na phreswylwyr Nahalol ; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt , ac a aethant dan dreth . Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco , na thrigolion Sidon , nac Alab , nac Achsib , na Helba , nac Affic , na Rehob : Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid , trigolion y wlad ; canys ni yrasant hwynt allan . A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes , na thrigolion Beth‐anath ; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid , trigolion y wlad : er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt . A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd : canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn . A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon , ac yn Saalbim : eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd , a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt . A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim , o’r graig , ac uchod . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim , ac a ddywedodd , Dygais chwi i fyny o’r Aifft , ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau ; ac a ddywedais , Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth . Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon ; ond bwriwch i lawr eu hallorau : eto ni wrandawsoch ar fy llef : paham y gwnaethoch hyn ? Am hynny y dywedais , Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi : eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau , a’u duwiau fydd yn fagl i chwi . A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel , yna y bobl a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim : ac yna yr aberthasant i’r Arglwydd . A Josua a ollyngodd y bobl ymaith ; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth , i feddiannu y wlad . A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua , a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua , y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd , yr hwn a wnaethai efe er Israel . A bu farw Josua mab Nun , gwas yr Arglwydd , yn fab dengmlwydd a chant . A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth , o fewn Timnath‐heres , ym mynydd Effraim , o du y gogledd i fynydd Gaas . A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau : a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt , y rhai nid adwaenent yr Arglwydd , na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel . A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baalim : Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft , ac a aethant ar ôl duwiau dieithr , sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch , ac a ymgrymasant iddynt , ac a ddigiasant yr Arglwydd . A hwy a wrthodasant yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth . A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr , y rhai a’u hanrheithiasant hwy ; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch , fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion . I ba le bynnag yr aethant , llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt ; fel y llefarasai yr Arglwydd , ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy : a bu gyfyng iawn arnynt . Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr , y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr . Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr ; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr , ac ymgrymasant iddynt : ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi , gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd ; ond ni wnaethant hwy felly . A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy , yna yr Arglwydd fyddai gyda’r barnwr , ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr : canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt , rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr . A phan fyddai farw y barnwr , hwy a ddychwelent , ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau , gan fyned ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt , ac i ymgrymu iddynt : ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain , nac â’u ffordd wrthnysig . A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel : ac efe a ddywedai , Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt , ac na wrandawsant ar fy llais ; Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw : I brofi Israel trwyddynt hwy , a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd , gan rodio ynddi , fel y cadwodd eu tadau hwynt , neu beidio . Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny , heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd ; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua . Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt , ( sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan ; Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod , i’w dysgu hwynt i ryfel ; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen ; ) Pum tywysog y Philistiaid , a’r holl Ganaaneaid , a’r Sidoniaid , a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus , o fynydd Baal‐hermon , hyd y ffordd y deuir i Hamath . A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt , i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd , y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses . A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid , yr Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid : Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd , ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau , ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt . Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw , ac a wasanaethasant Baalim , a’r llwyni . Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel ; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim , brenin Mesopotamia : a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd . A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel , yr hwn a’u hachubodd hwynt ; sef Othniel mab Cenas , brawd Caleb , ieuangach nag ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef , ac efe a farnodd Israel , ac a aeth allan i ryfel : a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim , brenin Mesopotamia ; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd . A bu farw Othniel mab Cenas . A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel , am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd . Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon , ac Amalec , ac a aeth ac a drawodd Israel ; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd . Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd . Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a gododd achubwr iddynt ; sef Ehwd mab Gera , fab Jemini , gŵr llawchwith : a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab . Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd , ac a’i gwregysodd dan ei ddillad , ar ei glun ddeau . Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab . Ac Eglon oedd ŵr tew iawn . A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg , efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg . Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal , ac a ddywedodd , Y mae i mi air o gyfrinach â thi , O frenin . Dywedodd yntau , Gosteg . A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef . Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef : ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf , yr hon oedd iddo ef ei hunan . A dywedodd Ehwd , Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti . Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa . Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy , ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau , ac a’i brathodd hi yn ei boten ef : A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn , a’r braster a ymgaeodd am y llafn , fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten ; a’r dom a ddaeth allan . Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd , ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno , ac a’u clodd . Pan aeth efe ymaith , ei weision a ddaethant : a phan welsant , wele , fod drysau yr ystafell yn gloëdig , hwy a ddywedasant , Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf . A hwy a ddisgwyliasant , nes cywilyddio ohonynt : ac wele , nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell . Yna hwy a gymerasant agoriad , ac a agorasant : ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw . Ac Ehwd a ddihangodd , tra fuant hwy yn aros ; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau , ac a ddihangodd i Seirath . A phan ddaeth , efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim : a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o’r mynydd , ac yntau o’u blaen hwynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Canlynwch fi : canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi , sef Moab , yn eich llaw chwi . A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef , ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab , ac ni adawsant i neb fyned drwodd . A hwy a drawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr , pawb yn rymus , a phawb yn wŷr nerthol ; ac ni ddihangodd neb . Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel . A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd . Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath ; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen : yntau hefyd a waredodd Israel . A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd , wedi marw Ehwd . A’r Arglwydd a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan , yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor : a thywysog ei lu ef oedd Sisera ; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd . A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd : canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef ; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd . A Debora y broffwydes , gwraig Lapidoth , hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw . Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora , rhwng Rama a Bethel , ym mynydd Effraim : a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn . A hi a anfonodd , ac a alwodd am Barac mab Abinoam , o Cedes‐Nafftali ; ac a ddywedodd wrtho , Oni orchmynnodd Arglwydd Dduw Israel , gan ddywedyd , Dos , a thyn tua mynydd Tabor , a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr , o feibion Nafftali , ac o feibion Sabulon ? A mi a dynnaf atat , i afon Cison , Sisera tywysog llu Jabin , a’i gerbydau , a’i liaws ; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di . A Barac a ddywedodd wrthi , Od ei di gyda mi , minnau a af ; ac onid ei gyda mi , nid af . A hi a ddywedodd , Gan fyned yr af gyda thi : eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi ; canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera . A Debora a gyfododd , ac a aeth gyda Barac i Cedes . A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes ; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed : a Debora a aeth i fyny gydag ef . A Heber y Cenead , o feibion Hobab , chwegrwn Moses , a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid , ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim , yr hwn sydd yn ymyl Cedes . A mynegasant i Sisera , fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor . A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau , sef naw can cerbyd haearn , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison . A Debora a ddywedodd wrth Barac , Cyfod ; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di : onid aeth yr Arglwydd allan o’th flaen di ? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor , a deng mil o wŷr ar ei ôl . A’r Arglwydd a ddrylliodd Sisera , a’i holl gerbydau , a’i holl fyddin , â min y cleddyf , o flaen Barac : a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd , ac a ffodd ar ei draed . Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau , ac ar ôl y fyddin , hyd Haroseth y cenhedloedd : a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf : ni adawyd un ohonynt . Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael , gwraig Heber y Cenead : canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead . A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera ; ac a ddywedodd wrtho , Tro i mewn , fy arglwydd , tro i mewn ataf fi ; nac ofna . Yna efe a drodd ati i’r babell , a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban . Ac efe a ddywedodd wrthi , Dioda fi , atolwg , ag ychydig ddwfr ; canys sychedig wyf . Yna hi a agorodd gunnog o laeth , ac a’i diododd ef , ac a’i gorchuddiodd . Dywedodd hefyd wrthi , Saf wrth ddrws y babell ; ac os daw neb i mewn , a gofyn i ti , a dywedyd , A oes yma neb ? yna dywed dithau , Nac oes . Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell , ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw , ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw , ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef , ac a’i gwthiodd i’r ddaear ; canys yr oedd efe yn cysgu , ac yn lluddedig ; ac felly y bu efe farw . Ac wele , a Barac yn erlid Sisera , Jael a aeth i’w gyfarfod ef ; ac a ddywedodd wrtho , Tyred , a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio . Ac efe a ddaeth i mewn ati ; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw , a’r hoel yn ei arlais . Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel . A llaw meibion Israel a lwyddodd , ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan , nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan . Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam , y diwrnod hwnnw , gan ddywedyd , Am ddial dialeddau Israel , ac ymgymell o’r bobl , bendithiwch yr Arglwydd . Clywch , O frenhinoedd ; gwrandewch , O dywysogion : myfi , myfi a ganaf i’r Arglwydd ; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel . O Arglwydd , pan aethost allan o Seir , pan gerddaist o faes Edom , y ddaear a grynodd , a’r nefoedd a ddiferasant , a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr . Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd , sef y Sinai hwnnw , o flaen Arglwydd Dduw Israel . Yn nyddiau Samgar mab Anath , yn nyddiau Jael , y llwybrau a aeth yn anhygyrch , a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion . Y maestrefi a ddarfuant yn Israel : darfuant , nes i mi , Debora , gyfodi ; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel . Dewisasant dduwiau newyddion ; yna rhyfel oedd yn y pyrth : a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel ? Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel , y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl . Bendithiwch yr Arglwydd . Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion , y rhai sydd yn eistedd mewn barn , ac yn rhodio ar hyd y ffordd , lleferwch . Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr ; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd , cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel : yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth . Deffro , deffro , Debora ; deffro , deffro ; traetha gân : cyfod , Barac , a chaethgluda dy gaethglud , O fab Abinoam . Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl : yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn . O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec ; ar dy ôl di , Benjamin , ymysg dy bobl : y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir , yr ysgrifenyddion o Sabulon . A thywysogion Issachar oedd gyda Debora ; ie , Issachar , a Barac : efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn . Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon . Paham yr arhosaist rhwng y corlannau , i wrando brefiadau y defaid ? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon . Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen : a phaham yr erys Dan mewn llongau ? Aser a drigodd wrth borthladd y môr , ac a arhosodd ar ei adwyau . Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw ; felly Nafftali ar uchelfannau y maes . A brenhinoedd a ddaethant , ac a ymladdasant ; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach , wrth ddyfroedd Megido ; ni chymerasant elw o arian . O’r nefoedd yr ymladdasant ; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera . Afon Cison a’u hysgubodd hwynt ; yr hen afon , yr afon Cison . Fy enaid , ti a sethraist gadernid . Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau , carlamau ei gryfion ef . Melltigwch Meros , eb angel yr Arglwydd , gan felltigo melltigwch ei thrigolion : am na ddaethant yn gynhorthwy i’r Arglwydd , yn gynhorthwy i’r Arglwydd yn erbyn y cedyrn . Bendithier Jael , gwraig Heber y Cenead , goruwch gwragedd ; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell . Dwfr a geisiodd efe , llaeth a roddes hithau : mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn . Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel , a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr : a hi a bwyodd Sisera , ac a dorrodd ei ben ef ; gwanodd hefyd , a thrywanodd ei arlais ef . Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe ; syrthiodd , gorweddodd : wrth ei thraed yr ymgrymodd efe , y syrthiodd : lle yr ymgrymodd , yno y syrthiodd yn farw . Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr , ac a waeddodd trwy’r dellt , Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod ? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau ? Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant ; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun , Oni chawsant hwy ? oni ranasant yr anrhaith , llances neu ddwy i bob gŵr ? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera , anrhaith o wniadwaith symudliw , symudliw o wniadwaith o’r ddeutu , cymwys i yddfau yr anrheithwyr ? Felly y darfyddo am dy holl elynion , O Arglwydd : a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd . A Meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd . A llaw Midian a orthrechodd Israel : a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd , a’r ogofeydd , a’r amddiffynfaoedd . A phan heuasai Israel , yna Midian a ddaeth i fyny , ac Amalec , a meibion y dwyrain ; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy : Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt , ac a ddinistriasant gnwd y ddaear , hyd oni ddelych i Gasa ; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel , na dafad , nac eidion , nac asyn . Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid , ac â’u pebyll , a daethant fel locustiaid o amldra ; ac nid oedd rifedi arnynt hwy , nac ar eu camelod : a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi . Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid : a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd . A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid , Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel , yr hwn a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft , ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed ; Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid , ac o law eich holl orthrymwyr ; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi , a rhoddais eu tir hwynt i chwi : A dywedais wrthych , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi ; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid , y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad : ond ni wrandawsoch ar fy llais i . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth , ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra , yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad : a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf , i’w guddio rhag y Midianiaid . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef , ac a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd sydd gyda thi , ŵr cadarn nerthol . A Gedeon a ddywedodd wrtho , O fy arglwydd , od yw yr Arglwydd gyda ni , paham y digwyddodd hyn oll i ni ? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef , y rhai a fynegodd ein tadau i ni , gan ddywedyd , Oni ddug yr Arglwydd ni i fyny o’r Aifft ? Ond yn awr yr Arglwydd a’n gwrthododd ni , ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid . A’r Arglwydd a edrychodd arno ef , ac a ddywedodd , Dos yn dy rymustra yma ; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid : oni anfonais i dydi ? Dywedodd yntau wrtho ef , O fy arglwydd , pa fodd y gwaredaf fi Israel ? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse , a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad . A dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Diau y byddaf fi gyda thi ; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr . Ac efe a ddywedodd wrtho , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg , gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf . Na chilia , atolwg , oddi yma , hyd oni ddelwyf atat , ac oni ddygwyf fy anrheg , a’i gosod ger dy fron . Dywedodd yntau , Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd . A Gedeon a aeth i mewn , ac a baratôdd fyn gafr , ac effa o beilliaid yn fara croyw : y cig a osododd efe mewn basged , a’r isgell a osododd efe mewn crochan ; ac a’i dug ato ef dan y dderwen , ac a’i cyflwynodd . Ac angel Duw a ddywedodd wrtho , Cymer y cig , a’r bara croyw , a gosod ar y graig hon , a thywallt yr isgell . Ac efe a wnaeth felly . Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law , ac a gyffyrddodd â’r cig , ac â’r bara croyw : a’r tân a ddyrchafodd o’r graig , ac a ysodd y cig , a’r bara croyw . Ac angel yr Arglwydd a aeth ymaith o’i olwg ef . A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe , y dywedodd Gedeon , Och , O Arglwydd Dduw ! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Tangnefedd i ti : nac ofna ; ni byddi farw . Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , ac a’i galwodd Jehofah-shalom : hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid . A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Cymer y bustach sydd eiddo dy dad , sef yr ail fustach saith mlwydd oed ; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad , a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi : Ac adeilada allor i’r Arglwydd dy Dduw ar ben y graig hon , yn y lle trefnus ; a chymer yr ail fustach , ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn , yr hwn a dorri di . Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o’i weision , ac a wnaeth fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho : ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad , a gwŷr y ddinas , fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd , efe a’i gwnaeth liw nos . A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore , yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr , a’r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri , a’r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid . A dywedodd pawb wrth ei gilydd , Pwy a wnaeth y peth hyn ? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio , y dywedasant , Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn . Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas , Dwg allan dy fab , fel y byddo marw : am iddo fwrw i lawr allor Baal , ac am iddo dorri’r llwyn oedd yn ei hymyl hi . A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef , A ddadleuwch chwi dros Baal ? ai chwi a’i ceidw ef ? yr hwn a ddadleuo drosto ef , bydded farw y bore hwn : os Duw yw efe , dadleued drosto ei hun , am fwrw ei allor ef i lawr . Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal ; gan ddywedyd , Dadleued Baal drosto ei hun , am fwrw ei allor i lawr . Yna y Midianiaid oll , a’r Amaleciaid , a meibion y dwyrain , a gasglwyd ynghyd , ac a aethant drosodd , ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel . Ond ysbryd yr Arglwydd a ddaeth ar Gedeon ; ac efe a utganodd mewn utgorn , ac Abieser a aeth ar ei ôl ef . Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse , yr hwn hefyd a’i canlynodd ef : anfonodd hefyd genhadau i Aser , ac i Sabulon , ac i Nafftali ; a hwy a ddaethant i fyny i’w cyfarfod hwynt . A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw , O gwaredi di Israel trwy fy llaw i , megis y lleferaist ; Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu : os gwlith a fydd ar y cnu yn unig , a sychder ar yr holl ddaear ; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i , fel y lleferaist . Ac felly y bu : canys cyfododd yn fore drannoeth , ac a sypiodd y cnu ynghyd , ac a wasgodd wlith o’r cnu , lonaid ffiol o ddwfr . A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw , Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn , a mi a lefaraf unwaith eto . Profaf yn awr , y waith hon yn unig , trwy’r cnu : bydded , atolwg , sychder ar y cnu yn unig , ac ar yr holl ddaear bydded gwlith . A Duw a wnaeth felly y noson honno : canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig , ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith . Yna Jerwbbaal , hwnnw yw Gedeon , a gyfododd yn fore , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod : a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt , wrth fryn More , yn y dyffryn . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi , i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo ; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn , gan ddywedyd , Fy llaw fy hun a’m gwaredodd . Am hynny , yn awr , cyhoedda lle y clywo y bobl , gan ddywedyd , Yr hwn sydd ofnus ac arswydus , dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead . A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain , a deng mil a arosasant . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Eto y mae gormod o bobl . Dwg hwynt i waered at y dyfroedd , a mi a’u profaf hwynt yno i ti : ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt , Hwn a â gyda thi , eled hwnnw gyda thi ; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt , Hwn nid â gyda thi , nac eled hwnnw gyda thi . Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci , gosod ef o’r neilltu ; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed . A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â’u llaw at eu genau , oedd dri channwr : a’r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr , y gwaredaf chwi , ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di : ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun . Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo , a’u hutgyrn ; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel , pob un i’w babell , a’r tri channwr a ataliodd efe : a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn . A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Cyfod , dos i waered i’r gwersyll ; canys mi a’i rhoddais yn dy law di . Ac od wyt yn ofni myned i waered , dos di a Phura dy lanc i waered i’r gwersyll : A chei glywed beth a ddywedant ; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo , ac yr elych i waered i’r gwersyll . Yna efe a aeth i waered , a Phura ei lanc , i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll . A’r Midianiaid , a’r Amaleciaid , a holl feibion y dwyrain , oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra ; a’u camelod oedd heb rif , fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra . A phan ddaeth Gedeon , wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd , ac yn dywedyd , Wele , breuddwyd a freuddwydiais ; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid , a hi a ddaeth hyd at babell , ac a’i trawodd fel y syrthiodd , a hi a’i hymchwelodd , fel y syrthiodd y babell . A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd , Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas , gŵr o Israel : Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef . A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd , a’i ddirnad , efe a addolodd , ac a ddychwelodd i wersyll Israel ; ac a ddywedodd , Cyfodwch : canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi . Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin , ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt , a phiserau gwag , a lampau yng nghanol y piserau . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Edrychwch arnaf fi , a gwnewch yr un ffunud : ac wele , pan ddelwyf i gwr y gwersyll , yna fel y gwnelwyf fi , gwnewch chwithau . Pan utganwyf fi mewn utgorn , myfi a’r holl rai sydd gyda mi , utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll , a dywedwch , Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon . Felly Gedeon a ddaeth i mewn , a’r cannwr oedd gydag ef , i gwr y gwersyll , yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol , a’r gwylwyr wedi eu newydd osod , ac a utganasant mewn utgyrn , ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo . A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn , ac a ddrylliasant y piserau , ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy , a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu : a hwy a lefasant , Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon . A safasant bob un yn ei le , o amgylch y gwersyll : a’r holl wersyll a redodd , ac a waeddodd , ac a ffodd . A’r tri chant a utganasant ag utgyrn ; a’r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd , trwy’r holl wersyll : felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta , yn Sererath , hyd fin Abel‐mehola , hyd Tabbath . A gwŷr Israel a ymgasglasant , o Nafftali , ac o Aser , ac o holl Manasse , ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid . A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim , gan ddywedyd , Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid , ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen : a holl wŷr Effraim a ymgasglasant , ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen . A daliasant ddau o dywysogion Midian , Oreb a Seeb ; a lladdasant Oreb ar graig Oreb , a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb , ac a erlidiasant Midian , ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon , i’r tu arall i’r Iorddonen . A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef , Paham y gwnaethost y peth hyn â ni , heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid ? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi ? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim , na chasgliad grawnwin Abieser ? Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian , Oreb a Seeb : a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi ? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef , pan lefarodd efe y gair hwn . A daeth Gedeon i’r Iorddonen ; ac a aeth drosti hi , efe a’r tri channwr oedd gydag ef , yn ddiffygiol , ac eto yn eu herlid hwy . Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth , Rhoddwch , atolwg , dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i : canys lluddedig ydynt hwy ; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna , brenhinoedd Midian . A dywedodd tywysogion Succoth , A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di , fel y rhoddem ni fara i’th lu di ? A dywedodd Gedeon , Oherwydd hynny , pan roddo yr Arglwydd Seba a Salmunna yn fy llaw i , yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch , ac â mieri . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel , ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd . A gwŷr Penuel a’i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth . Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel , gan ddywedyd , Pan ddychwelwyf mewn heddwch , mi a ddistrywiaf y tŵr yma . A Seba a Salmunna oedd yn Carcor , a’u lluoedd gyda hwynt , ynghylch pymtheng mil , yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain : canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf . A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll , o’r tu dwyrain i Noba a Jogbeha : ac efe a drawodd y fyddin : canys y fyddin oedd ysgafala . A Seba a Salmunna a ffoesant : ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt ; ac a ddaliodd ddau frenin Midian , Seba a Salmunna , ac a darfodd yr holl lu . A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn codi yr haul . Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth , ac a ymofynnodd ag ef . Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth , a’r henuriaid ; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain . Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth , ac a ddywedodd , Wele Seba a Salmunna , trwy y rhai y danodasoch i mi , gan ddywedyd , A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di , fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedig ? Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas , a drain yr anialwch , a mieri , ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt . Tŵr Penuel hefyd a ddinistriodd efe , ac a laddodd wŷr y ddinas . Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna , Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor ? A hwy a ddywedasant , Tebyg i ti , pob un o ddull meibion brenin . Ac efe a ddywedodd , Fy mrodyr , meibion fy mam , oeddynt hwy : fel mai byw yr Arglwydd , pe gadawsech hwynt yn fyw , ni laddwn chwi . Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf‐anedig , Cyfod , lladd hwynt . Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf : oherwydd efe a ofnodd , canys bachgen oedd efe eto . Yna y dywedodd Seba a Salmunna , Cyfod di , a rhuthra i ni : canys fel y byddo y gŵr , felly y bydd ei rym . A Gedeon a gyfododd , ac a laddodd Seba a Salmunna , ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt . A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon , Arglwyddiaetha arnom ni , tydi , a’th fab , a mab dy fab hefyd : canys gwaredaist ni o law Midian . A Gedeon a ddywedodd wrthynt , Ni arglwyddiaethaf fi arnoch , ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch , eithr yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch . Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt , Gofynnaf ddymuniad gennych , ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth : canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy , oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy . A dywedasant , Gan roddi y rhoddwn hwynt . A lledasant ryw wisg , a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth . A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe , oedd fil a saith gant o siclau aur ; heblaw y colerau , a’r arogl‐bellennau , a’r gwisgoedd porffor , y rhai oedd am frenhinoedd Midian ; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt . A Gedeon a wnaeth ohonynt effod , ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun , Offra : a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno : a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon , ac i’w dŷ . Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel , fel na chwanegasant godi eu pennau . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon . A Jerwbbaal mab Joas a aeth , ac a drigodd yn ei dŷ ei hun . Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain , a ddaethai o’i gorff ef : canys gwragedd lawer oedd iddo ef . A’i ordderchwraig ef , yr hon oedd yn Sichem , a ymddûg hefyd iddo fab : ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech . Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg , ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad , yn Offra yr Abiesriaid . A phan fu farw Gedeon , yna meibion Israel a ddychwelasant , ac a buteiniasant ar ôl Baalim ; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt . Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch ; Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal , sef Gedeon , yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel . Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem , at frodyr ei fam , ac a ymddiddanodd â hwynt , ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam , gan ddywedyd , Dywedwch , atolwg , lle y clywo holl wŷr Sichem , Pa un orau i chwi , ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain , sef holl feibion Jerwbbaal , ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch ? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi . A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef , lle y clybu holl wŷr Sichem , yr holl eiriau hyn : a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech ; canys dywedasant , Ein brawd ni yw efe . A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith : ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal , y rhai a aethant ar ei ôl ef . Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra , ac a laddodd ei frodyr , meibion Jerwbbaal , y rhai oedd ddengwr a thrigain , ar un garreg : ond Jotham , mab ieuangaf Jerwbbaal , a adawyd ; canys efe a ymguddiasai . A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant , ac a aethant , ac a urddasant Abimelech yn frenin , wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem . A phan fynegasant hynny i Jotham , efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim , ac a ddyrchafodd ei lef , ac a waeddodd , dywedodd hefyd wrthynt , Gwrandewch arnaf fi , O wŷr Sichem , fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau . Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt ; a dywedasant wrth yr olewydden , Teyrnasa arnom ni . Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt , A ymadawaf fi â’m braster , â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn , a myned i lywodraethu ar y prennau eraill ? A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren , Tyred di , teyrnasa arnom ni . Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt , A ymadawaf fi â’m melystra , ac â’m ffrwyth da , ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill ? Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden , Tyred di , teyrnasa arnom ni . A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy , A ymadawaf fi â’m melyswin , yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn , a myned i lywodraethu ar y prennau eraill ? Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren , Tyred di , teyrnasa arnom ni . A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau , Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch , deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i : ac onid e , eled tân allan o’r fiaren , ac ysed gedrwydd Libanus . Yn awr gan hynny , os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch , yn gosod Abimelech yn frenin , ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal , ac â’i dŷ , ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo : ( Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi , ac a anturiodd ei einioes ymhell , ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian : A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw , ac a laddasoch ei feibion ef , sef dengwr a thrigain , ar un garreg , ac a osodasoch Abimelech , mab ei lawforwyn ef , yn frenin ar wŷr Sichem , oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi : ) Gan hynny , os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal , ac â’i dŷ ef , y dydd hwn ; llawenychwch yn Abimelech , a llawenyched yntau ynoch chwithau : Ac onid e , eled tân allan o Abimelech , ac ysed wŷr Sichem , a thŷ Milo ; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem , ac o dŷ Milo , ac ysed Abimelech . A Jotham a giliodd , ac a ffodd , ac a aeth ymaith i Beer , ac a drigodd yno , rhag ofn Abimelech ei frawd . Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd . A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem ; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech : Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal , ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd , yr hwn a’u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem , y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr . A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd ; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd . A mynegwyd hynny i Abimelech . A Gaal mab Ebed a ddaeth , efe a’i frodyr , ac a aethant drosodd i Sichem : a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno . A hwy a aethant i’r meysydd , ac a gasglasant eu gwinllannoedd , ac a sangasant eu grawnwin , ac a wnaethant yn llawen , ac a aethant i mewn i dŷ eu duw , ac a fwytasant ac a yfasant , ac a felltithiasant Abimelech . A Gaal mab Ebed a ddywedodd , Pwy yw Abimelech , a phwy yw Sichem , fel y gwasanaethem ef ? onid mab Jerwbbaal yw efe ? onid Sebul yw ei swyddog ? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem : canys paham y gwasanaethem ni ef ? O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i , fel y bwriwn ymaith Abimelech ! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech , Amlha dy lu , a thyred allan . A phan glybu Sebul , llywodraethwr y ddinas , eiriau Gaal mab Ebed , y llidiodd ei ddicllonedd ef . Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel , gan ddywedyd , Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem ; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn . Gan hynny cyfod yn awr liw nos , ti a’r bobl sydd gyda thi , a chynllwyn yn y maes : A chyfod yn fore ar godiad yr haul , a rhuthra yn erbyn y ddinas : ac wele , pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn , yna gwna iddo yr hyn a ellych . Ac Abimelech a gyfododd , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , liw nos , ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin . A Gaal mab Ebed a aeth allan , ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas : ac Abimelech a gyfododd , a’r bobl y rhai oedd gydag ef , o’r cynllwyn . A phan welodd Gaal y bobl , efe a ddywedodd wrth Sebul , Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd . A dywedodd Sebul wrtho , Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion . A Gaal a chwanegodd eto lefaru , ac a ddywedodd , Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir , a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim . Yna y dywedodd Sebul wrtho ef , Pa le yn awr y mae dy enau di , â’r hwn y dywedaist , Pwy yw Abimelech , pan wasanaethem ef ? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti ? dos allan , atolwg , yn awr , ac ymladd i’w herbyn . A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem , ac a ymladdodd ag Abimelech . Ac Abimelech a’i herlidiodd ef , ac efe a ffodd o’i flaen ef ; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth . Ac Abimelech a drigodd yn Aruma : a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem . A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes : a mynegwyd hynny i Abimelech . Ac efe a gymerth y bobl , ac a’u rhannodd yn dair byddin , ac a gynllwynodd yn y maes , ac a edrychodd , ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas ; ac efe a gyfododd yn eu herbyn , ac a’u trawodd hwynt . Ac Abimelech , a’r fyddin oedd gydag ef , a ruthrasant , ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas : a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes , ac a’u trawsant hwy . Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw : ac efe a enillodd y ddinas , ac a laddodd y bobl oedd ynddi , ac a ddistrywiodd y ddinas , ac a’i heuodd â halen . A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny , hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith . A mynegwyd i Abimelech , ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem . Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon , efe a’r holl bobl oedd gydag ef : ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law , ac a dorrodd gangen o’r coed , ac a’i cymerth hi , ac a’i gosododd ar ei ysgwydd ; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef , Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur , brysiwch , gwnewch fel finnau . A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen , ac a aethant ar ôl Abimelech ; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa , ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân : felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw , ynghylch mil o wŷr a gwragedd . Yna Abimelech a aeth i Thebes ; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes , ac a’i henillodd hi . Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas ; a’r holl wŷr a’r gwragedd , a’r holl rai o’r ddinas , a ffoesant yno , ac a gaea ant arnynt , ac a ddringasant ar nen y tŵr . Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr , ac a ymladdodd yn ei erbyn ; ac a nesaodd at ddrws y tŵr , i’w losgi ef â thân . A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech , ac a ddrylliodd ei benglog ef . Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , ac a ddywedodd wrtho , Tyn dy gleddyf , a lladd fi ; fel na ddywedant amdanaf , Gwraig a’i lladdodd ef . A’i lanc a’i trywanodd ef , ac efe a fu farw . A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech , hwy a aethant bob un i’w fangre . Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech , yr hwn a wnaethai efe i’w dad , gan ladd ei ddeg brawd a thrigain . A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt : a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy . Ac ar ôl Abimelech , y cyfododd i waredu Israel , Tola , mab Pua , mab Dodo , gŵr o Issachar ; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim . Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain , ac a fu farw , ac a gladdwyd yn Samir . Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair , Gileadiad ; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain . Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod ; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt , y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn , y rhai ydynt yng ngwlad Gilead . A Jair a fu farw , ac a gladdwyd yn Camon . A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baalim , ac Astaroth , a duwiau Syria , a duwiau Sidon , a duwiau Moab , a duwiau meibion Ammon , a duwiau y Philistiaid ; a gwrthodasant yr Arglwydd , ac ni wasanaethasant ef . A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid , ac yn llaw meibion Ammon . A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno : tair blynedd ar bymtheg , holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen , yng ngwlad yr Amoriaid , yr hon sydd yn Gilead . A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen , i ymladd hefyd yn erbyn Jwda , ac yn erbyn Benjamin , ac yn erbyn tŷ Effraim ; fel y bu gyfyng iawn ar Israel . A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pechasom yn dy erbyn ; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw , a gwasanaethu Baalim hefyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel , Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid , a rhag yr Amoriaid , a rhag meibion Ammon , a rhag y Philistiaid ? Y Sidoniaid hefyd , a’r Amaleciaid , a’r Maoniaid , a’ch gorthrymasant chwi ; a llefasoch arnaf , a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt . Eto chwi a’m gwrthodasoch i , ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr : am hynny ni waredaf chwi mwyach . Ewch , a llefwch at y duwiau a ddewisasoch : gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra . A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd , Pechasom ; gwna di i ni fel y gwelych yn dda : eto gwared ni , atolwg , y dydd hwn . A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o’u mysg , ac a wasanaethasant yr Arglwydd : a’i enaid ef a dosturiodd , oherwydd adfyd Israel . Yna meibion Ammon a ymgynullasant , ac a wersyllasant yn Gilead : a meibion Israel a ymgasglasant , ac a wersyllasant ym Mispa . Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd , Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon ? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead . A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol , ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig : a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw . A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion : a meibion y wraig a gynyddasant , ac a fwriasant ymaith Jefftha , ac a ddywedasant wrtho , Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni ; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti . Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr , ac a drigodd yng ngwlad Tob ; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha , ac a aethant allan gydag ef . Ac wedi talm o ddyddiau , meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel . A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel , yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob : Ac a ddywedasant wrth Jefftha , Tyred a bydd yn dywysog i ni , fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon . A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead , Oni chasasoch chwi fi , ac a’m gyrasoch o dŷ fy nhad ? a phaham y deuwch ataf fi yn awr , pan yw gyfyng arnoch ? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha , Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti , fel y delit gyda ni , ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon , ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead . A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead , O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon , a rhoddi o’r Arglwydd hwynt o’m blaen i ; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi ? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha , Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni , oni wnawn ni felly yn ôl dy air di . Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead ; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt : a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr Arglwydd ym Mispa . A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon , gan ddywedyd , Beth sydd i ti a wnelych â mi , fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i ? A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha , Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft , o Arnon hyd Jabboc , a hyd yr Iorddonen : yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch . A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon ; Ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Jefftha ; Ni ddug Israel dir Moab , na thir meibion Ammon : Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft , a rhodio trwy’r anialwch , hyd y môr coch , a dyfod i Cades ; Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom , gan ddywedyd , Gad i mi dramwy , atolwg , trwy dy wlad di . Ond ni wrandawodd brenin Edom . A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab : ond ni fynnai yntau . Felly Israel a arhosodd yn Cades . Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch , ac a amgylchynasant wlad Edom , a gwlad Moab ; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab , ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon ; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab : canys Arnon oedd derfyn Moab . Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid , brenin Hesbon ; ac Israel a ddywedodd wrtho , Gad i ni dramwy , atolwg , trwy dy wlad di , hyd fy mangre . Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef : eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl , a hwy a wersyllasant yn Jahas , ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel . Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel ; a hwy a’u trawsant hwynt . Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid , trigolion y wlad honno . Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid , o Arnon hyd Jabboc , ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen . Felly yn awr , Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel : gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi ? Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu ? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau . Ac yn awr , a wyt ti yn well na Balac mab Sippor , brenin Moab ? a ymrysonodd efe erioed ag Israel , neu gan ymladd a ymladdodd efe i’w herbyn hwy ? Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd , ac yn Aroer a’i threfydd , ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon , dri chan mlynedd ; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw ? Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di ; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi , gan ymladd yn fy erbyn i ; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon . Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha , y rhai a anfonodd efe ato . Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha ; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse ; ac a aeth dros Mispa Gilead , ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon . A Jefftha a addunedodd adduned i’r Arglwydd , ac a ddywedodd , Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i ; Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod , pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon , a fydd eiddo yr Arglwydd , a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm . Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn ; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef . Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith , sef ugain dinas , a hyd wastadedd y gwinllannoedd , â lladdfa fawr iawn . Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel . A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun : ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau , ac â dawnsiau ; a hi oedd ei unig etifedd ef ; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi . A phan welodd efe hi , efe a rwygodd ei ddillad , ac ddywedodd , Ah ! ah ! fy merch , gan ddarostwng y darostyngaist fi ; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu : canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd , ac ni allaf gilio . A hi a ddywedodd wrtho , Fy nhad , od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd , gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau ; gan i’r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion , meibion Ammon . Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad , Gwneler i mi y peth hyn ; paid â mi ddau fis , fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd , ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod , mi a’m cyfeillesau . Ac efe a ddywedodd , Dos . Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis . A hi a aeth â’i chyfeillesau , ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd . Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad : ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe : a hi ni adnabuasai ŵr . A bu hyn yn ddefod yn Israel , Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad , bedwar diwrnod yn y flwyddyn . A Gwŷr Effraim a ymgasglasant , ac a sethant tua’r gogledd , ac a ddywedasant wrth Jefftha , Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon , ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi ? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân . A Jefftha a ddywedodd wrthynt hwy , Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon ; a mi a’ch gelwais chwi , ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt . A phan welais i nad oeddech yn fy achub , mi a osodais fy einioes yn fy llaw , ac a euthum yn erbyn meibion Ammon ; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i : paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn , i ymladd i’m herbyn ? Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead , ac a ymladdodd ag Effraim : a gwŷr Gilead a drawsant Effraim , am ddywedyd ohonynt hwy , Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid , ac ymysg Manasse , ydych chwi y Gileadiaid . A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid : a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent , Gedwch i mi fyned drwodd : yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho , Ai Effraimiaid ydwyt ti ? Os dywedai yntau , Nage ; Yna y dywedent wrtho , Dywed yn awr , Shibboleth . Dywedai yntau , Sibboleth ; canys ni fedrai efe lefaru felly . Yna y dalient ef , ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen . A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain . A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd . Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad , ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead . Ac ar ei ôl ef , Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel . Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain , a deng merch ar hugain , y rhai a anfonodd efe allan , a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allan . Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd . Yna y bu farw Ibsan , ac a gladdwyd yn Bethlehem . Ac ar ei ôl ef , Elon y Sabuloniad a farnodd Israel : ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd . Ac Elon y Sabuloniad a fu farw , ac a gladdwyd yn Ajalon , yng ngwlad Sabulon . Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef . Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion , a deg ar hugain o wyrion , yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod : ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd . Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw : ac a gladdwyd yn Pirathon , yng ngwlad Effraim , ym mynydd yr Amaleciaid . A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd . Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora , o dylwyth y Daniaid , a’i enw ef oedd Manoa ; a’i wraig ef oedd amhlantadwy , heb esgor . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i’r wraig , ac a ddywedodd wrthi , Wele , yn awr amhlantadwy ydwyt ti , ac heb esgor : ond ti a feichiogi , ac a esgori ar fab . Ac yn awr , atolwg , ymochel , ac nac yf win na diod gadarn , ac na fwyta ddim aflan . Canys wele , ti a feichiogi , ac a esgori ar fab ; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef : canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o’r groth : ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid . Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr , gan ddywedyd , Gŵr Duw a ddaeth ataf fi ; a’i bryd ef oedd fel pryd angel Duw , yn ofnadwy iawn : ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd , ac ni fynegodd yntau i mi ei enw . Ond efe a ddywedodd wrthyf , Wele , ti a feichiogi , ac a esgori ar fab . Ac yn awr nac yf win na diod gadarn , ac na fwyta ddim aflan : canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen , o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth . Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Atolwg , fy Arglwydd , gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist , ddyfod eilwaith atom ni , a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir . A Duw a wrandawodd ar lef Manoa : ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig , a hi yn eistedd yn y maes ; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi . A’r wraig a frysiodd , ac a redodd , ac a fynegodd i’w gŵr , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ymddangosodd y gŵr i mi , yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall . A Manoa a gyfododd , ac a aeth ar ôl ei wraig , ac a ddaeth at y gŵr , ac a ddywedodd wrtho , Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig ? Dywedodd yntau , Ie , myfi . A dywedodd Manoa , Deled yn awr dy eiriau i ben . Pa fodd y trinwn y bachgen , ac y gwnawn iddo ef ? Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa , Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig , ymocheled hi . Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden , nac yfed win na diod gadarn , ac na fwytaed ddim aflan : cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi . A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd , Gad , atolwg , i ni dy atal , tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa , Ped atelit fi , ni fwytawn o’th fara di : os gwnei boethoffrwm , gwna ef i’r Arglwydd . Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe . A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd , Beth yw dy enw , fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben ? Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho , Paham yr ymofynni am fy enw , gan ei fod yn rhyfeddol ? Felly Manoa a gymerth fyn gafr , a bwyd‐offrwm , ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r Arglwydd . A’r angel a wnaeth yn rhyfedd : a Manoa a’i wraig oedd yn edrych . Canys , pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd , yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor : a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny , ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau . ( Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa , nac i’w wraig . ) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe . A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig , Gan farw y byddwn feirw ; canys gwelsom Dduw . Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef , Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni , ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o’n llaw ni , ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn , ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau . A’r wraig a ymddûg fab , ac a alwodd ei enw ef Samson . A’r bachgen a gynyddodd ; a’r Arglwydd a’i bendithiodd ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan , rhwng Sora ac Estaol . A Samson a aeth i waered i Timnath ; ac a ganfu wraig yn Timnath , o ferched y Philistiaid . Ac efe a ddaeth i fyny , ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam , ac a ddywedodd , Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid : cymerwch yn awr honno yn wraig i mi . Yna y dywedodd ei dad a’i fam wrtho , Onid oes ymysg merched dy frodyr , nac ymysg fy holl bobl , wraig , pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig ? A dywedodd Samson wrth ei dad , Cymer hi i mi ; canys y mae hi wrth fy modd i . Ond ni wyddai ei dad ef na’i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn , mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid : canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel . Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam , i Timnath ; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath : ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef ; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn , ac nid oedd dim yn ei law ef : ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai . Ac efe a aeth i waered , ac a ymddiddanodd â’r wraig ; ac yr oedd hi wrth fodd Samson . Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi ; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew : ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew . Ac efe a’i cymerth yn ei law , ac a gerddodd dan fwyta ; ac a ddaeth at ei dad a’i fam , ac a roddodd iddynt ; a hwy a fwytasant : ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl . Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig ; a Samson a wnaeth yno wledd : canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc . A phan welsant hwy ef , yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef . A Samson a ddywedodd wrthynt , Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr : os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd , ac a’i cewch ; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau , a deg pâr ar hugain o ddillad : Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi ; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau , a deg pâr ar hugain o wisgoedd . Hwythau a ddywedasant wrtho , Traetha dy ddychymyg , fel y clywom ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Allan o’r bwytawr y daeth bwyd , ac o’r cryf y daeth allan felystra . Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod . Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson , Huda dy ŵr , fel y mynego efe i ni y dychymyg ; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân : ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch ? onid felly y mae ? A gwraig Samson a wylodd wrtho ef , ac a ddywedodd , Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi , ac nid wyt yn fy ngharu : dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl , ac nis mynegaist i mi . A dywedodd yntau wrthi , Wele , nis mynegais i’m tad nac i’m mam : ac a’i mynegwn i ti ? A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny , tra yr oeddid yn cynnal y wledd : ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi , canys yr oedd hi yn ei flino ef : a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl . A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd , cyn machludo’r haul , Beth sydd felysach na mêl ? a pheth gryfach na llew ? Dywedodd yntau wrthynt , Oni buasai i chwi aredig â’m hanner i , ni chawsech allan fy nychymyg . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef ; ac efe a aeth i waered i Ascalon , ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain , ac a gymerth eu hysbail , ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dychymyg : a’i ddicllonedd ef a lidiodd , ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad . A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun , yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill . Ac wedi talm o ddyddiau , yn amser cynhaeaf y gwenith , Samson a aeth i ymweled â’i wraig â myn gafr ; ac a ddywedodd , Mi a af i mewn at fy ngwraig i’r ystafell . Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn . A’i thad a lefarodd , gan ddywedyd , Tybiaswn i ti ei chasáu hi ; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di : onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi ? bydded honno i ti , atolwg , yn ei lle hi . A Samson a ddywedodd wrthynt , Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid , er i mi wneuthur niwed iddynt . A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod ; ac a gymerth ffaglau , ac a drodd gynffon at gynffon , ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol . Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau , ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid ; ac a losgodd hyd yn oed y dasau , a’r ŷd ar ei droed , y gwinllannoedd hefyd , a’r olewydd . Yna y Philistiaid a ddywedasant , Pwy a wnaeth hyn ? Hwythau a ddywedasant , Samson daw y Timniad ; am iddo ddwyn ei wraig ef , a’i rhoddi i’w gyfaill ef . A’r Philistiaid a aethant i fyny , ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân . A dywedodd Samson wrthynt , Er i chwi wneuthur fel hyn , eto mi a ymddialaf arnoch chwi ; ac wedi hynny y peidiaf . Ac efe a’u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr : ac efe a aeth i waered , ac a arhosodd yng nghopa craig Etam . Yna y Philistiaid a aethant i fyny , ac a wersyllasant yn Jwda , ac a ymdaenasant yn Lehi . A gwŷr Jwda a ddywedasant , Paham y daethoch i fyny i’n herbyn ni ? Dywedasant hwythau , I rwymo Samson y daethom i fyny , i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau . Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam , ac a ddywedasant wrth Samson , Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni ? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni ? Dywedodd yntau wrthynt , Fel y gwnaethant hwy i mi , felly y gwneuthum innau iddynt hwythau . Dywedasant hwythau wrtho , I’th rwymo di y daethom i waered , ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid . A Samson a ddywedodd wrthynt , Tyngwch wrthyf , na ruthrwch arnaf fi eich hunain . Hwythau a’i hatebasant ef , gan ddywedyd , Na ruthrwn : eithr gan rwymo y’th rwymwn di , ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt ; ond ni’th laddwn di . A rhwymasant ef â dwy raff newydd , ac a’i dygasant ef i fyny o’r graig . A phan ddaeth efe i Lehi , y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef ; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân , a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef . Ac efe a gafodd ên asyn ir ; ac a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd , ac a laddodd â hi fil o wŷr . A Samson a ddywedodd , A gên asyn , pentwr ar bentwr ; â gên asyn y lleddais fil o wŷr . A phan orffennodd efe lefaru , yna efe a daflodd yr ên o’i law , ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi . Ac efe a sychedodd yn dost ; ac a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma : ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched , a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig ? Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên , fel y daeth allan ddwfr ohono ; ac efe a yfodd , a’i ysbryd a ddychwelodd , ac efe a adfywiodd : am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore , yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn . Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd . Yna Samson a aeth i Gasa ; ac a ganfu yno buteinwraig , ac a aeth i mewn ati hi . A mynegwyd i’r Gasiaid , gan ddywedyd , Daeth Samson yma . A hwy a gylchynasant , ac a gynllwynasant iddo , ar hyd y nos , ym mhorth y ddinas ; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos , gan ddywedyd , Y bore pan oleuo hi , ni a’i lladdwn ef . A Samson a orweddodd hyd hanner nos ; ac a gyfododd ar hanner nos , ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas , ac yn y ddau bost , ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â’r bar , ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau , ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron . Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec , a’i henw Dalila . Ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi , ac a ddywedasant wrthi , Huda ef , ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef , a pha fodd y gorthrechwn ef , fel y rhwymom ef i’w gystuddio : ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian . A Dalila a ddywedodd wrth Samson , Mynega i mi , atolwg , ym mha fan y mae dy fawr nerth di , ac â pha beth y’th rwymid i’th gystuddio . A Samson a ddywedodd wrthi , Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion , y rhai ni sychasai ; yna y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion , y rhai ni sychasent ; a hi a’i rhwymodd ef â hwynt . ( A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell . ) A hi a ddywedodd wrtho ef , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a dorrodd y gwdyn , fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â’r tân : felly ni wybuwyd ei gryfder ef . A dywedodd Dalila wrth Samson , Ti a’m twyllaist , ac a ddywedaist gelwydd wrthyf : yn awr mynega i mi , atolwg , â pha beth y gellid dy rwymo . Ac efe a ddywedodd wrthi , Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion , y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt ; yna y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion , ac a’i rhwymodd ef â hwynt ; ac a ddywedodd wrtho , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . ( Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell . ) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau . A Dalila a ddywedodd wrth Samson , Hyd yn hyn y twyllaist fi , ac y dywedaist gelwydd wrthyf : mynega i mi , â pha beth y’th rwymid . Dywedodd yntau wrthi hi , Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â’r we . A hi a’i gwnaeth yn sicr â’r hoel ; ac a ddywedodd wrtho ef , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg , ac a aeth ymaith â hoel y garfan , ac â’r we . A hi a ddywedodd wrtho ef , Pa fodd y dywedi , Cu gennyf dydi , a’th galon heb fod gyda mi ? Teirgwaith bellach y’m twyllaist , ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth . Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd , ac yn ei boeni ef , ei enaid a ymofidiodd i farw : Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon ; ac a ddywedodd wrthi , Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i : canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam . Ped eillid fi , yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf , ac y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon , hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid , gan ddywedyd , Deuwch i fyny unwaith ; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi , ac a ddygasant arian yn eu dwylo . A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau ; ac a alwodd ar ŵr , ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef : a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef ; a’i nerth a ymadawodd oddi wrtho . A hi a ddywedodd , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg , ac a ddywedodd , Af allan y waith hon fel cynt , ac ymysgydwaf . Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho . Ond y Philistiaid a’i daliasant ef , ac a dynasant ei lygaid ef , ac a’i dygasant ef i waered i Gasa , ac a’i rhwymasant ef â gefynnau pres ; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy . Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn , ar ôl ei eillio . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw , ac i orfoleddu : canys dywedasant , Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni . A phan welodd y bobl ef , hwy a ganmolasant eu duw : canys dywedasant , Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni , yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni , yr hwn a laddodd lawer ohonom ni . A phan oedd eu calon hwynt yn llawen , yna y dywedasant , Gelwch am Samson , i beri i ni chwerthin . A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy , fel y chwaraeai o’u blaen hwynt ; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau . A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef , Gollwng , a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt , fel y pwyswyf arnynt . A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd ; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno : ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae . A Samson a alwodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd IOR , cofia fi , atolwg , a nertha fi , atolwg , yn unig y waith hon , O Dduw , fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad . A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol , y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt , ac a ymgynhaliodd wrthynt , un yn ei ddeheulaw , a’r llall yn ei law aswy . A dywedodd Samson , Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid . Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth ; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion , ac ar yr holl bobl oedd ynddo : a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw , oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd . A’i frodyr ef , a holl dŷ ei dad ef , a ddaethant i waered , ac a’i cymerasant ef , ac a’i dygasant i fyny , ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol , ym meddrod Manoa ei dad . Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd . Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim , a’i enw Mica . Ac efe a ddywedodd wrth ei fam , Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat , ac y rhegaist amdanynt , ac y dywedaist hefyd lle y clywais ; wele yr arian gyda mi , myfi a’i cymerais . A dywedodd ei fam , Bendigedig fyddych , fy mab , gan yr Arglwydd . A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam , ei fam a ddywedodd , Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r Arglwydd o’m llaw , i’m mab , i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig : am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti . Eto efe a dalodd yr arian i’w fam . A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian , ac a’u rhoddodd i’r toddydd ; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig , a thoddedig : a hwy a fuant yn nhŷ Mica . A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau ; ac efe a wnaeth effod , a theraffim , ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel ; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun . Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda , o dylwyth Jwda , a Lefiad oedd efe ; ac efe a ymdeithiai yno . A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Bethlehem Jwda , i drigo pa le bynnag y caffai le : ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica , yn ei ymdaith . A Mica a ddywedodd wrtho , O ba le y daethost ti ? Dywedodd yntau wrtho , Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda ; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le . A Mica a ddywedodd wrtho . Trig gyda mi , a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad ; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn , a phâr o ddillad , a’th luniaeth . Felly y Lefiad a aeth i mewn . A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr ; a’r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o’i feibion . A Mica a urddodd y Lefiad ; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo , ac a fu yn nhŷ Mica . Yna y dywedodd Mica , Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi ; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel : ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo ; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel . A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro , gwŷr grymus , o Sora , ac o Estaol , i ysbïo’r wlad , ac i’w chwilio ; ac a ddywedasant wrthynt , Ewch , chwiliwch y wlad . A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica , hwy a letyasant yno . Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica , hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad ; ac a droesant yno , ac a ddywedasant wrtho , Pwy a’th ddug di yma ? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma ? a pheth sydd i ti yma ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi ; ac efe a’m cyflogodd i , a’i offeiriad ef ydwyf fi . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Ymgynghora , atolwg , â Duw , fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni . A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt , Ewch mewn heddwch : gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi , yr hon a gerddwch . Yna y pumwr a aethant ymaith , ac a ddaethant i Lais ; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch , yn ôl arfer y Sidoniaid , yn llonydd ac yn ddiofal ; ac nid oedd swyddwr yn y wlad , yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim : a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid , ac heb negesau rhyngddynt a neb . A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol . A’u brodyr a ddywedasant wrthynt , Beth a ddywedwch chwi ? Hwythau a ddywedasant , Cyfodwch , ac awn i fyny arnynt : canys gwelsom y wlad ; ac wele , da iawn yw hi . Ai tewi yr ydych chwi ? na ddiogwch fyned , i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad . Pan eloch , chwi a ddeuwch at bobl ddiofal , a gwlad eang : canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi : sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear . Ac fe aeth oddi yno , o dylwyth y Daniaid , o Sora ac o Estaol , chwe channwr , wedi ymwregysu ag arfau rhyfel . A hwy a aethant i fyny , ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim , yn Jwda : am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan , hyd y dydd hwn : wele , y mae o’r tu ôl i Ciriath‐jearim . A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim , ac a ddaethant hyd dŷ Mica . A’r pumwr , y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais , a lefarasant , ac a ddywedasant wrth eu brodyr , Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim , a delw gerfiedig , a thoddedig ? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch . A hwy a droesant tuag yno ; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad , i dŷ Mica ; ac a gyfarchasant well iddo . A’r chwe channwr , y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel , oedd yn sefyll wrth ddrws y porth , sef y rhai oedd o feibion Dan . A’r pumwr , y rhai a aethent i chwilio’r wlad , a esgynasant , ac a aethant i mewn yno ; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig , a’r effod , a’r teraffim , a’r ddelw doddedig : a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth , gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel . A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica , ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig , yr effod , a’r teraffim , a’r ddelw doddedig . Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt , Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Taw â sôn ; gosod dy law ar dy safn , a thyred gyda ni , a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad : ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr , na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel ? A da fu gan galon yr offeiriad ; ac efe a gymerth yr effod , a’r teraffim , a’r ddelw gerfiedig , ac a aeth ymysg y bobl . A hwy a droesant , ac a aethant ymaith ; ac a osodasant y plant , a’r anifeiliaid , a’r clud , o’u blaen . A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica , y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant , ac a erlidiasant feibion Dan . A hwy a waeddasant ar feibion Dan . Hwythau a droesant eu hwynebau , ac a ddywedasant wrth Mica , Beth a ddarfu i ti , pan wyt yn dyfod â’r fath fintai ? Yntau a ddywedodd , Fy nuwiau , y rhai a wneuthum i , a ddygasoch chwi ymaith , a’r offeiriad , ac a aethoch i ffordd : a pheth sydd gennyf fi mwyach ? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf , Beth a ddarfu i ti ? A meibion Dan a ddywedasant wrtho , Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni ; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti , a cholli ohonot dy einioes , ac einioes dy deulu . A meibion Dan a aethant i’w ffordd . A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef , efe a drodd , ac a ddychwelodd i’w dŷ . A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica , a’r offeiriad oedd ganddo ef , ac a ddaethant i Lais , at bobl lonydd a diofal ; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf , ac a losgasant y ddinas â thân . Ac nid oedd waredydd ; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon , ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb ; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob : a hwy a adeiladasant ddinas , ac a drigasant ynddi . A hwy a alwasant enw y ddinas Dan , yn ôl enw Dan eu tad , yr hwn a anesid i Israel : er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf . A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig : a Jonathan mab Gerson , mab Manasse , efe a’i feibion , fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad . A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica , yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo . Ac yn y dyddiau hynny , pan nad oedd frenin yn Israel , yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Effraim , ac efe a gymerodd iddo ordderchwraig o Bethlehem Jwda . A’i ordderchwraig a buteiniodd yn ei erbyn ef , ac a aeth ymaith oddi wrtho ef i dŷ ei thad , i Bethlehem Jwda ; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau . A’i gŵr hi a gyfododd , ac a aeth ar ei hôl , i ddywedyd yn deg wrthi hi , ac i’w throi adref ; a’i lanc oedd gydag ef , a chwpl o asynnod . A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad : a phan welodd tad y llances ef , bu lawen ganddo gyfarfod ag ef . A’i chwegrwn ef , tad y llances , a’i daliodd ef yno ; ac efe a dariodd gydag ef dridiau . Felly bwytasant ac yfasant , a lletyasant yno . A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore ; yntau a gyfododd i fyned ymaith . A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw , Nertha dy galon â thamaid o fara , ac wedi hynny ewch ymaith . A hwy a eisteddasant , ac a fwytasant ill dau ynghyd , ac a yfasant . A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr , Bydd fodlon , atolwg , ac aros dros nos , a llawenyched dy galon . A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith , ei chwegrwn a fu daer arno : am hynny efe a drodd ac a letyodd yno . Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith . A thad y llances a ddywedodd , Cysura dy galon , atolwg . A hwy a drigasant hyd brynhawn , ac a fwytasant ill dau . A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith , efe a’i ordderch , a’i lanc ; ei chwegrwn , tad y llances , a ddywedodd wrtho , Wele , yn awr , y dydd a laesodd i hwyrhau ; arhoswch dros nos , atolwg : wele yr haul yn machludo ; trig yma , fel y llawenycho dy galon : a chodwch yn fore yfory i’ch taith , fel yr elych i’th babell . A’r gŵr ni fynnai aros dros nos ; eithr cyfododd , ac a aeth ymaith : a daeth hyd ar gyfer Jebus , hon yw Jerwsalem , a chydag ef gwpl o asynnod llwythog , a’i ordderchwraig gydag ef . A phan oeddynt hwy wrth Jebus , yr oedd y dydd ar ddarfod : a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr , Tyred , atolwg , trown i ddinas hon y Jebusiaid , a lletywn ynddi . A’i feistr a ddywedodd wrtho , Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel ; eithr nyni a awn hyd Gibea . Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc , Tyred , a nesawn i un o’r lleoedd hyn , i letya dros nos , yn Gibea , neu Rama . Felly y cerddasant , ac yr aethant : a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin . A hwy a droesant yno , i fyned i mewn i letya i Gibea . Ac efe a ddaeth i mewn , ac a eisteddodd yn heol y ddinas : canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dŷ i letya . Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr ; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim , ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea ; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini . Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas : a’r hen ŵr a ddywedodd , I ba le yr ei di ? ac o ba le y daethost ? Yntau a ddywedodd wrtho , Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda , i ystlys mynydd Effraim , o’r lle yr hanwyf : a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda , a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd ; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ . Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i’n hasynnod ; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn , ac i’r llanc sydd gyda’th weision : nid oes eisiau dim . A’r hen ŵr a ddywedodd , Tangnefedd i ti : bydded dy holl eisiau arnaf fi ; yn unig na letya yn yr heol . Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ , ac a borthodd yr asynnod : a hwy a olchasant eu traed , ac a fwytasant ac a yfasant . A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon , wele , gwŷr y ddinas , rhai o feibion Belial , a amgylchynasant y tŷ , a gurasant y drws , ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ , sef yr hen ŵr , gan ddywedyd , Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ , fel yr adnabyddom ef . A’r gŵr , perchen y tŷ , a aeth allan atynt , ac a ddywedodd wrthynt , Nage , fy mrodyr , nage , atolwg , na wnewch mor ddrygionus : gan i’r gŵr hwn ddyfod i’m tŷ i , na wnewch yr ysgelerder hyn . Wele fy merch , yr hon sydd forwyn , a’i ordderch yntau ; dygaf hwynt allan yn awr , a darostyngwch hwynt , a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg : ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler . Ond ni wrandawai y gwŷr arno : am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch , ac a’i dug hi allan atynt hwy . A hwy a’i hadnabuant hi , ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore : a phan gyfododd y wawr , hwy a’i gollyngasant hi ymaith . Yna y wraig a ddaeth , pan ymddangosodd y bore , ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo , hyd oleuni y dydd . A’i harglwydd a gyfododd y bore , ac a agorodd ddrysau y tŷ , ac a aeth allan i fyned i’w daith : ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ , a’i dwy law ar y trothwy . Ac efe a ddywedodd wrthi , Cyfod , fel yr elom ymaith . Ond nid oedd yn ateb . Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn ; a’r gŵr a gyfododd , ac a aeth ymaith i’w fangre . A phan ddaeth i’w dŷ , efe a gymerth gyllell , ac a ymaflodd yn ei ordderch . ac a’i darniodd hi , ynghyd â’i hesgyrn , yn ddeuddeg darn , ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel . A phawb a’r a welodd hynny , a ddywedodd , Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth , er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft , hyd y dydd hwn : ystyriwch ar hynny , ymgynghorwch , a thraethwch eich meddwl . Yna holl feibion Israel a aethant allan ; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn , o Dan hyd Beerseba , a gwlad Gilead , at yr Arglwydd , i Mispa . A phenaethiaid yr holl bobl , o holl lwythau Israel , a safasant yng nghynulleidfa pobl Dduw ; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf . ( A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa . ) Yna meibion Israel a ddywedasant , Dywedwch , pa fodd y bu y drygioni hyn ? A’r gŵr y Lefiad , gŵr y wraig a laddesid , a atebodd ac a ddywedodd , I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i , mi a’m gordderch , i letya . A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m herbyn , ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos , ac a amcanasant fy lladd i ; a threisiasant fy ngordderch , fel y bu hi farw . A mi a ymeflais yn fy ngordderch , ac a’i derniais hi , ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel : canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel . Wele , meibion Israel ydych chwi oll ; moeswch rhyngoch air a chyngor yma . A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr , gan ddywedyd , Nac eled neb ohonom i’w babell , ac na throed neb ohonom i’w dŷ . Ond yn awr , hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea : Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren ; A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel , a chant o’r mil , a mil o’r deng mil , i ddwyn lluniaeth i’r bobl ; i wneuthur , pan ddelont i Gibea Benjamin , yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel . Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr . A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin , gan ddywedyd , Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi ? Ac yn awr rhoddwch y gwŷr , meibion Belial , y rhai sydd yn Gibea , fel y lladdom hwynt , ac y dileom ddrygioni o Israel . Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel : Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o’r dinasoedd i Gibea , i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel . A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw , o’r dinasoedd , yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf , heblaw trigolion Gibea , y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig . O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig ; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn , heb fethu . Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd , heblaw Benjamin , yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf ; pawb ohonynt yn rhyfelwyr . A meibion Israel a gyfodasant , ac a aethant i fyny i dŷ Dduw , ac a ymgyngorasant â Duw , ac a ddywedasant , Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin ? A dywedodd yr Arglwydd , Jwda a â yn gyntaf . A meibion Israel a gyfodasant y bore , ac a wersyllasant yn erbyn Gibea . A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin ; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea . A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea , ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr . A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant , ac a ymosodasant drachefn i ymladd , yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf . ( A meibion Israel a aethent i fyny , ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr : ymgyngorasent hefyd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd ? A dywedasai yr Arglwydd , Dos i fyny yn ei erbyn ef . ) A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd . A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd ; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr : y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf . Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw , ac a wylasant , ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd , ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr , ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd . A meibion Israel a ymgyngorasant â’r Arglwydd , ( canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny ; A Phinees mab Eleasar , mab Aaron , oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny ; ) gan ddywedyd , A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd , neu a beidiaf fi ? A dywedodd yr Arglwydd , Ewch i fyny ; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di . Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea . A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd , ac a ymosodasant wrth Gibea , fel cynt . A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl ; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas : a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig , fel cynt , yn y priffyrdd , o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw , a’r llall i Gibea yn y maes , ynghylch dengwr ar hugain o Israel . A meibion Benjamin a ddywedasant , Cwympwyd hwynt o’n blaen ni , fel ar y cyntaf . Ond meibion Israel a ddywedasant , Ffown , fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd . A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle , ac a fyddinasant yn Baal‐tamar : a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn , a ddaeth allan o’u mangre , sef o weirgloddiau Gibea . A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel ; a’r gad a fu dost : ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt . A’r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel : a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid , y dwthwn hwnnw , bum mil ar hugain a channwr ; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf . Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid : canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid ; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr , y rhai a osodasent yn ymyl Gibea . A’r cynllwynwyr a frysiasant , ac a ruthrasant ar Gibea : a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes , ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf . Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr ; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas . A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel , Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain : canys dywedasant , Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni , fel yn y cyntaf . A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg , Benjamin a edrychodd yn ei ôl ; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd . Yna gwŷr Israel a droesant drachefn ; a gwŷr Benjamin a frawychasant : oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt . Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel , tua ffordd yr anialwch ; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt : a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd , yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol . Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid ; erlidiasant hwynt , a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea , tua chodiad haul . A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr : y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol . A hwy a droesant , ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon . A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd , bum mil o wŷr : erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom , ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr . A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw , oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf : hwynt oll oedd wŷr nerthol . Eto chwe channwr a droesant , ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon , ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis . A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin , ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf , yn ddyn o bob dinas , ac yn anifail , a pheth bynnag a gafwyd : yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd , a losgasant hwy â thân . A Gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa , gan ddywedyd , Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig . A daeth y bobl i dŷ Dduw , ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw , ac a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant ag wylofain mawr : Ac a ddywedasant , O Arglwydd Dduw Israel , paham y bu y peth hyn yn Israel , fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel ? A thrannoeth y bobl a foregodasant , ac a adeiladasant yno allor , ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd . A meibion Israel a ddywedasant , Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr Arglwydd ? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa , gan ddywedyd , Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau . A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd : a dywedasant , Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel : Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd , gan dyngu ohonom ni i’r Arglwydd , na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd ? Dywedasant hefyd , Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa ? Ac wele , ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll , at y gynulleidfa . Canys y bobl a gyfrifwyd ; ac wele , nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead . A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus ; ac a orchmynasant iddynt , gan ddywedyd , Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf , y gwragedd hefyd a’r plant . Dyma hefyd y peth a wnewch chwi : Difethwch bob gwryw , a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr . A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead , bedwar cant o lancesau yn wyryfon , y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr : a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo , yr hon sydd yng ngwlad Canaan . A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin , y rhai oedd yng nghraig Rimmon , ac i gyhoeddi heddwch iddynt . A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw ; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead : ond ni chawsant hwy ddigon felly . A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin , oherwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel . Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant , Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill , gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin ? Dywedasant hefyd , Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin , fel na ddileer llwyth allan o Israel . Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni : canys meibion Israel a dyngasant , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin . Yna y dywedasant , Wele , y mae gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo , o du y gogledd i Bethel , tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem , ac o du y deau i Libanus . Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin , gan ddywedyd , Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd : Edrychwch hefyd ; ac wele , os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau ; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd , a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo , ac ewch i wlad Benjamin . A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni , yna y dywedwn wrthynt , Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni ; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel : o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn , ni byddwch chwi euog . A meibion Benjamin a wnaethant felly ; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi , o’r rhai a gipiasent , ac a oeddynt yn dawnsio : a hwy a aethant ymaith , a dychwelasant i’w hetifeddiaeth , ac a adgyweiriasant y dinasoedd , ac a drigasant ynddynt . A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw , bob un at ei lwyth , ac at ei deulu ; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel : pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun . Abu , yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu , fod newyn yn y wlad : a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab , efe a’i wraig , a’i ddau fab . Ac enw y gŵr oedd Elimelech , ac enw ei wraig Naomi , ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion , Effrateaid o Bethlehem Jwda . A hwy a ddaethant i wlad Moab , ac a fuant yno . Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw ; a hithau a’i dau fab a adawyd . A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau ; enw y naill oedd Orpa , ac enw y llall , Ruth . A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd . A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau ; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab , ac o’i gŵr . A hi a gyfododd , a’i merched yng nghyfraith , i ddychwelyd o wlad Moab : canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara . A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo , a’i dwy waudd gyda hi : a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda . A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd , Ewch , dychwelwch bob un i dŷ ei mam : gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi , fel y gwnaethoch chwi â’r meirw , ac â minnau . Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr . Yna y cusanodd hi hwynt : a hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . A hwy a ddywedasant wrthi , Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di . A dywedodd Naomi , Dychwelwch , fy merched : i ba beth y deuwch gyda mi ? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth , i fod yn wŷr i chwi ? Dychwelwch , fy merched , ewch ymaith : canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr . Pe dywedwn , Y mae gennyf obaith , a bod heno gyda gŵr , ac ymddŵyn meibion hefyd ; A arhosech chwi amdanynt hwy , hyd oni chynyddent hwy ? a ymarhosech chwi amdanynt hwy , heb wra ? Nage , fy merched : canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi , am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn . A hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant eilwaith : ac Orpa a gusanodd ei chwegr ; ond Ruth a lynodd wrthi hi . A dywedodd Naomi , Wele , dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl , ac at ei duwiau : dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith . A Ruth a ddywedodd , Nac erfyn arnaf fi ymado â thi , i gilio oddi ar dy ôl di : canys pa le bynnag yr elych di , yr af finnau ; ac ym mha le bynnag y lletyech di , y lletyaf finnau : dy bobl di fydd fy mhobl i , a’th Dduw di fy Nuw innau : Lle y byddych di marw , y byddaf finnau farw , ac yno y’m cleddir ; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi , ac fel hyn y chwanego , os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau . Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi , yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi . Felly hwynt ill dwy a aethant , nes iddynt ddyfod i Bethlehem . A phan ddaethant i Bethlehem , yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt ; a dywedasant , Ai hon yw Naomi ? A hi a ddywedodd wrthynt hwy , Na elwch fi Naomi ; gelwch fi Mara : canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi . Myfi a euthum allan yn gyflawn , a’r Arglwydd a’m dug i eilwaith yn wag : paham y gelwch chwi fi Naomi , gan i’r Arglwydd fy narostwng , ac i’r Hollalluog fy nrygu ? Felly y dychwelodd Naomi , a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi , yr hon a ddychwelodd o wlad Moab : a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau . Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr , o ŵr cadarn nerthol , o dylwyth Elimelech , a’i enw Boas . A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi , Gad i mi fyned yn awr i’r maes , a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg . Hithau a ddywedodd wrthi , Dos , fy merch . A hi a aeth , ac a ddaeth , ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr : a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas , yr hwn oedd o dylwyth Elimelech . Ac wele , Boas a ddaeth o Bethlehem , ac a ddywedodd wrth y medelwyr , Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi . Hwythau a ddywedasant wrtho ef , Yr Arglwydd a’th fendithio . Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr , Pwy biau y llances hon ? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd , ac a ddywedodd , Y llances o Moab ydyw hi , yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab : A hi a ddywedodd , Atolwg yr ydwyf gael lloffa , a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr : a hi a ddaeth , ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon , oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ . Yna y dywedodd Boas wrth Ruth , Oni chlywi di , fy merch ? Na ddos i loffa i faes arall , ac na cherdda oddi yma ; eithr aros yma gyda’m llancesau i . Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi ; a dos ar eu hôl hwynt : oni orchmynnais i’r llanciau , na chyffyrddent â thi ? A phan sychedych , dos at y llestri , ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau . Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd i lawr , ac a ddywedodd wrtho ef , Paham y cefais ffafr yn dy olwg di , fel y cymerit gydnabod arnaf , a minnau yn alltudes ? A Boas a atebodd , ac a ddywedodd wrthi , Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr ; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam , a gwlad dy enedigaeth , ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen . Yr Arglwydd a dalo am dy waith ; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel , yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd . Yna hi a ddywedodd , Caffwyf ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd ; gan i ti fy nghysuro i , a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch , er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di . A dywedodd Boas wrthi hi , Yn amser bwyd tyred yma , a bwyta o’r bara , a gwlych dy damaid yn y finegr . A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr : ac efe a estynnodd iddi gras ŷd ; a hi a fwytaodd , ac a ddigonwyd , ac a adawodd weddill . A hi a gyfododd i loffa : a gorchmynnodd Boas i’w weision , gan ddywedyd , Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau , ac na feiwch arni : A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau ; a gadewch hwynt , fel y lloffo hi hwynt ; ac na cheryddwch hi . Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr : a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai , ac yr oedd ynghylch effa o haidd . A hi a’i cymerth , ac a aeth i’r ddinas : a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi : hefyd hi a dynnodd allan , ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi , wedi cael digon . A dywedodd ei chwegr wrthi hi , Pa le y lloffaist heddiw , a pha le y gweithiaist ? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig . A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef ; ac a ddywedodd , Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw , yw Boas . A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd , Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd , yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw . Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi , Agos i ni yw y gŵr hwnnw , o’n cyfathrach ni y mae efe . A Ruth y Foabes a ddywedodd , Efe a ddywedodd hefyd wrthyf , Gyda’m llanciau i yr arhosi , nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i . A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd , Da yw , fy merch , i ti fyned gyda’i lancesi ef , fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall . Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa , nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith : ac a drigodd gyda’i chwegr . Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi , Fy merch , oni cheisiaf fi orffwystra i ti , fel y byddo da i ti ? Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni , yr hwn y buost ti gyda’i lancesi ? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu . Ymolch gan hynny , ac ymira , a gosod dy ddillad amdanat , a dos i waered i’r llawr dyrnu : na fydd gydnabyddus i’r gŵr , nes darfod iddo fwyta ac yfed . A phan orweddo efe , yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi ; a dos , a dinoetha ei draed ef , a gorwedd ; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych . A hi a ddywedodd wrthi , Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi . A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu , ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi . Ac wedi i Boas fwyta ac yfed , fel y llawenhaodd ei galon , efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn . Hithau a ddaeth yn ddistaw , ac a ddinoethodd ei draed , ac a orweddodd . Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd , ac a ymdrôdd : ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef . Ac efe a ddywedodd , Pwy ydwyt ti ? A hi a ddywedodd , Myfi yw Ruth dy lawforwyn : lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn , canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddych , fy merch , gan yr Arglwydd : dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd , nag yn y dechrau ; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc , na thlawd na chyfoethog . Ac yn awr , fy merch , nac ofna ; yr hyn oll a ddywedaist , a wnaf i ti : canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti . Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos : er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi . Aros heno ; a’r bore , os efe a wna ran cyfathrachwr â thi , da ; gwnaed ran cyfathrachwr : ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi ; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi , fel mai byw yr Arglwydd : cwsg hyd y bore . A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore : a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd . Ac efe a ddywedodd , Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu . Ac efe a ddywedodd , Moes dy fantell sydd amdanat , ac ymafael ynddi . A hi a ymaflodd ynddi ; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd , ac a’i gosododd arni : a hi a aeth i’r ddinas . A phan ddaeth hi at ei chwegr , hi a ddywedodd , Pwy ydwyt ti , fy merch ? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi . A hi a ddywedodd , Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi : canys dywedodd wrthyf , Nid ei yn waglaw at dy chwegr . Yna y dywedodd hithau , Aros fy merch , oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn : canys ni orffwys y gŵr , nes gorffen y peth hyn heddiw . Yna Boas a aeth i fyny i’r porth , ac a eisteddodd yno . Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio , am yr hwn y dywedasai Boas . Ac efe a ddywedodd wrtho , Ho , hwn a hwn ! tyred yn nes ; eistedd yma . Ac efe a nesaodd , ac a eisteddodd . Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas , ac a ddywedodd , Eisteddwch yma . A hwy a eisteddasant . Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr , Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi , yr hon a ddychwelodd o wlad Moab . A dywedais y mynegwn i ti , gan ddywedyd , Prŷn ef gerbron y trigolion , a cherbron henuriaid fy mhobl . Os rhyddhei , rhyddha ef ; ac oni ryddhei , mynega i mi , fel y gwypwyf : canys nid oes ond ti i’w ryddhau , a minnau sydd ar dy ôl di . Ac efe a ddywedodd , Myfi a’i rhyddhaf . Yna y dywedodd Boas , Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi , ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes , gwraig y marw , i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef . A’r cyfathrachwr a ddywedodd , Ni allaf ei ryddhau i mi , rhag colli fy etifeddiaeth fy hun : rhyddha di i ti dy hun fy rhan i ; canys ni allaf fi ei ryddhau . A hyn oedd ddefod gynt yn Israel , am ryddhad , ac am gyfnewid , i sicrhau pob peth : Gŵr a ddiosgai ei esgid , ac a’i rhoddai i’w gymydog : a hyn oedd dystiolaeth yn Israel . Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas , Prŷn i ti dy hun : ac efe a ddiosgodd ei esgid . A dywedodd Boas wrth yr henuriaid , ac wrth yr holl bobl , Tystion ydych chwi heddiw , i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech , a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon , o law Naomi . Ruth hefyd y Foabes , gwraig Mahlon , a brynais i mi yn wraig , i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef , fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr , nac oddi wrth borth ei fangre : tystion ydych chwi heddiw . A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth , a’r henuriaid , a ddywedasant , Yr ydym yn dystion : Yr Arglwydd a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dŷ di fel Rahel , ac fel Lea , y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel ; a gwna di rymustra yn Effrata , bydd enwog yn Bethlehem : Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares , yr hwn a ymddûg Tamar i Jwda , o’r had yr hwn a ddyry yr Arglwydd i ti o’r llances hon . Felly Boas a gymerodd Ruth ; a hi a fu iddo yn wraig : ac efe a aeth i mewn ati hi ; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi , a hi a ymddûg fab . A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw , fel y gelwid ei enw ef yn Israel . Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes , ac yn ymgeleddwr i’th benwynni : canys dy waudd , yr hon a’th gâr di , a blantodd iddo ef , a hon sydd well i ti na saith o feibion . A Naomi a gymerth y plentyn , ac a’i gosododd ef yn ei mynwes , ac a fu famaeth iddo . A’i chymdogesau a roddasant iddo enw , gan ddywedyd , Ganwyd mab i Naomi ; ac a alwasant ei enw ef Obed : hwn oedd dad Jesse , tad Dafydd . Dyma genedlaethau Phares : Phares a genhedlodd Hesron , A Hesron a genhedlodd Ram , a Ram a genhedlodd Aminadab , Ac Aminadab a genhedlodd Nahson , a Nahson a genhedlodd Salmon , A Salmon a genhedlodd Boas , a Boas a genhedlodd Obed , Ac Obed a genhedlodd Jesse , a Jesse a genhedlodd Dafydd . Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim , o fynydd Effraim , a’i enw Elcana , mab Jeroham , mab Elihu , mab Tohu , mab Suff , Effratëwr : A dwy wraig oedd iddo ; enw y naill oedd Hanna , ac enw y llall Peninna : ac i Peninna yr ydoedd plant , ond i Hanna nid oedd plant . A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli , ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd , yn Seilo ; a dau fab Eli , Hoffni a Phinees , oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno . Bu hefyd , y diwrnod yr aberthodd Elcana , roddi ohono ef i Peninna ei wraig , ac i’w meibion a’i merched oll , rannau . Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd : canys efe a garai Hanna , ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi ; A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo , am i’r Arglwydd gau ei bru hi . Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn , pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd , hi a’i cythruddai hi felly ; fel yr wylai , ac na fwytâi . Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi , Hanna , paham yr wyli ? a phaham na fwytei ? a phaham y mae yn flin ar dy galon ? onid wyf fi well i ti na deg o feibion ? Felly Hanna a gyfododd , wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo . ( Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd . ) Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid , ac a weddïodd ar yr Arglwydd , a chan wylo hi a wylodd . Hefyd hi a addunodd adduned , ac a ddywedodd , O Arglwydd y lluoedd , os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn , ac a’m cofi i , ac nid anghofi dy lawforwyn , ond rhoddi i’th lawforwyn fab : yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes , ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef . A bu , fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd , i Eli ddal sylw ar ei genau hi . A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon , yn unig ei gwefusau a symudent ; a’i llais ni chlywid : am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw . Ac Eli a ddywedodd wrthi hi , Pa hyd y byddi feddw ? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt . A Hanna a atebodd , ac a ddywedodd , Nid felly , fy arglwydd ; gwraig galed arni ydwyf fi : gwin hefyd na diod gadarn nid yfais ; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd . Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial : canys o amldra fy myfyrdod , a’m blinder , y lleferais hyd yn hyn . Yna yr atebodd Eli , ac a ddywedodd , Dos mewn heddwch : a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef . A hi a ddywedodd , Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg . Felly yr aeth y wraig i’w thaith , ac a fwytaodd ; ac ni bu athrist mwy . A hwy a gyfodasant yn fore , ac a addolasant gerbron yr Arglwydd ; ac a ddychwelasant , ac a ddaethant i’w tŷ i Rama . Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig ; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi . A bu , pan ddaeth yr amser o amgylch , wedi beichiogi o Hanna , esgor ohoni ar fab ; a hi a alwodd ei enw ef Samuel : Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef , eb hi . A’r gŵr Elcana a aeth i fyny , a’i holl dylwyth , i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol , a’i adduned . Ond Hanna nid aeth i fyny : canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr , Ni ddeuaf fi , hyd oni ddiddyfner y bachgen : yna y dygaf ef , fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd , ac y trigo byth . Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi , Gwna yr hyn a welych yn dda : aros hyd oni ddiddyfnych ef ; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air . Felly yr arhodd y wraig , ac a fagodd ei mab , nes iddi ei ddiddyfnu ef . A phan ddiddyfnodd hi ef , hi a’i dug ef i fyny gyda hi , â thri o fustych , ac un effa o beilliaid , a chostrelaid o win ; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo : a’r bachgen yn ieuanc . A hwy a laddasant fustach , ac a ddygasant y bachgen at Eli . A hi a ddywedodd , O fy arglwydd , fel y mae dy enaid yn fyw , fy arglwydd , myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di , yn gweddïo ar yr Arglwydd . Am y bachgen hwn y gweddïais ; a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo : Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r Arglwydd ; yr holl ddyddiau y byddo efe byw , y rhoddwyd ef i’r Arglwydd . Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno . A Hanna a weddïodd , ac a ddywedodd , Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd ; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd : fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion : canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di . Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd ; canys nid dim hebot ti : ac nid oes graig megis ein Duw ni . Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel ; na ddeued allan ddim balch o’ch genau : canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd , a’i amcanion ef a gyflawnir . Bwâu y cedyrn a dorrwyd , a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth . Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara ; a’r rhai newynog a beidiasant ; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith , a llesgáu yr aml ei meibion . Yr Arglwydd sydd yn marwhau , ac yn bywhau : efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd , ac yn dwyn i fyny . Yr Arglwydd sydd yn tlodi , ac yn cyfoethogi ; yn darostwng , ac yn dyrchafu . Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch , ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau , i’w gosod gyda thywysogion , ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant : canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear , ac efe a osododd y byd arnynt . Traed ei saint a geidw efe , a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch : canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr . Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd , a ddryllir : efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd : yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear ; ac a ddyry nerth i’w frenin , ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog . Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ ; a’r bachgen a fu weinidog i’r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad . A meibion Eli oedd feibion Belial : nid adwaenent yr Arglwydd . A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd , pan offrymai neb aberth , gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi , â chigwain dridant yn ei law ; Ac a’i trawai hi yn y badell , neu yn yr efyddyn , neu yn y crochan , neu yn y pair : yr hyn oll a gyfodai y gigwain , a gymerai yr offeiriad iddo . Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno . Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster , y deuai gwas yr offeiriad hefyd , ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu , Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad : canys ni fyn efe gennyt gig berw , ond amrwd . Ac os gŵr a ddywedai wrtho , Gan losgi llosgant yn awr y braster , ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon : yntau a ddywedai wrtho , Nage ; yn awr y rhoddi ef : ac onid e , mi a’i cymeraf trwy gryfder . Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd : canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd . A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd , yn fachgen , wedi ymwregysu ag effod liain . A’i fam a wnâi iddo fantell fechan , ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn , pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol . Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig , ac a ddywedodd , Rhodded yr Arglwydd i ti had o’r wraig hon , am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd . A hwy a aethant i’w mangre eu hun . A’r Arglwydd a ymwelodd â Hanna ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar dri o feibion , a dwy o ferched : a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd . Ac Eli oedd hen iawn ; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel , a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Paham y gwnaethoch y pethau hyn ? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi . Nage , fy meibion : canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed ; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu . Os gŵr a becha yn erbyn gŵr , y swyddogion a’i barnant ef : ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr , pwy a eiriol drosto ef ? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad , am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt . A’r bachgen Samuel a gynyddodd , ac a aeth yn dda gan Dduw , a dynion hefyd . A daeth gŵr i Dduw at Eli , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad , pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo ? Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi , i offrymu ar fy allor , i losgi arogl-darth , i wisgo effod ger fy mron ? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel ? Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm , y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa , ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi , gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel ? Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel , Gan ddywedyd y dywedais , Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth : eithr yn awr medd yr Arglwydd , Pell fydd hynny oddi wrthyf fi ; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi , a’m dirmygwyr a ddirmygir . Wele y dyddiau yn dyfod , pan dorrwyf dy fraich di , a braich tŷ dy dad , fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di . A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa , yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel : ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth . A’r gŵr o’r eiddot , yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor , fydd i beri i’th lygaid ballu , ac i beri i’th galon ofidio : a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr . A hyn fydd i ti yn arwydd , yr hwn a ddaw ar dy ddau fab , ar Hoffni a Phinees : Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau . A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl ; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr , ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd . A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara , a dywedyd , Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth , i gael bwyta tamaid o fara . A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli . A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny ; nid oedd weledigaeth eglur . A’r pryd hwnnw , pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre , wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu , fel na allai weled ; A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd , lle yr oedd arch Duw , a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu : Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel . Dywedodd yntau , Wele fi . Ac efe a redodd at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . Yntau a ddywedodd , Ni elwais i ; dychwel a gorwedd . Ac efe a aeth ac a orweddodd . A’r Arglwydd a alwodd eilwaith , Samuel . A Samuel a gyfododd , ac a aeth at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . Yntau a ddywedodd , Na elwais , fy mab ; dychwel a gorwedd . Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd , ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto . A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith . Ac efe a gyfododd , ac a aeth at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen . Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel , Dos , gorwedd : ac os geilw efe arnat , dywed , Llefara , Arglwydd ; canys y mae dy was yn clywed . Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le . A daeth yr Arglwydd , ac a safodd , ac a alwodd megis o’r blaen , Samuel , Samuel . A dywedodd Samuel , Llefara ; canys y mae dy was yn clywed . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel , yr hwn pwy bynnag a’i clywo , fe a ferwina ei ddwy glust ef . Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef , gan ddechrau a diweddu ar unwaith . Mynegais hefyd iddo ef , y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd , am yr anwiredd a ŵyr efe ; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith , ac nas gwaharddodd efe iddynt . Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli , na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth , nac â bwyd-offrwm byth . A Samuel a gysgodd hyd y bore , ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd : a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli . Ac Eli a alwodd ar Samuel , ac a ddywedodd , Samuel fy mab . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt ? na chela , atolwg , oddi wrthyf : fel hyn y gwnelo Duw i ti , ac fel hyn y chwanego , os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt . A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau , ac nis celodd ddim rhagddo . Dywedodd yntau , Yr Arglwydd yw efe : gwnaed a fyddo da yn ei olwg . A chynyddodd Samuel ; a’r Arglwydd oedd gydag ef , ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear . A gwybu holl Israel , o Dan hyd Beerseba , mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel . A’r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo : canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd . A Daeth gair Samuel i holl Israel . Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel : a gwersyllasant gerllaw Ebeneser : a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec . A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel : a’r gad a ymgyfarfu ; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid : a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr . A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll , henuriaid Israel a ddywedasant , Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid ? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd , a deled i’n mysg ni ; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion . Felly y bobl a anfonodd i Seilo , ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid : ac yno yr oedd dau fab Eli , Hoffni a Phinees , gydag arch cyfamod Duw . A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i’r gwersyll , holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr , fel y datseiniodd y ddaear . A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd , hwy a ddywedasant , Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid ? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i’r gwersyll . A’r Philistiaid a ofnasant : oherwydd hwy a ddywedasant , Daeth Duw i’r gwersyll . Dywedasant hefyd , Gwae ni ! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn . Gwae ni ! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn ? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch . Ymgryfhewch , a byddwch wŷr , O Philistiaid ; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid , fel y gwasanaethasant hwy chwi : byddwch wŷr , ac ymleddwch . A’r Philistiaid a ymladdasant ; a lladdwyd Israel , a ffodd pawb i’w babell : a bu lladdfa fawr iawn ; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed . Ac arch Duw a ddaliwyd ; a dau fab Eli , Hoffni a Phinees , a fuant feirw . A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin , ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw , â’i ddillad wedi eu rhwygo , a phridd ar ei ben . A phan ddaeth efe , wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd , yn disgwyl : canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw . A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas , a mynegi hyn , yr holl ddinas a waeddodd . A phan glywodd Eli lais y waedd , efe a ddywedodd , Beth yw llais y cynnwrf yma ? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys , ac a fynegodd i Eli . Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain ; a phallasai ei lygaid ef , fel na allai efe weled . A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli , Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin , myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin . A dywedodd yntau , Pa beth a ddigwyddodd , fy mab ? A’r gennad a atebodd , ac a ddywedodd , Israel a ffodd o flaen y Philistiaid ; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl ; a’th ddau fab hefyd , Hoffni a Phinees , a fuant feirw , ac arch Duw a ddaliwyd . A phan grybwyllodd efe am arch Duw , yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth ; a’i wddf a dorrodd , ac efe a fu farw : canys y gŵr oedd hen a thrwm . Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd . A’i waudd ef , gwraig Phinees , oedd feichiog , yn agos i esgor : a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw , a marw o’i chwegrwn a’i gŵr , hi a ymgrymodd , ac a glafychodd : canys ei gwewyr a ddaeth arni . Ac ynghylch y pryd y bu hi farw , y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi , Nac ofna ; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi , ac nid ystyriodd . A hi a alwodd y bachgen Ichabod ; gan ddywedyd , Y gogoniant a ymadawodd o Israel ; ( am ddal arch Duw , ac am ei chwegrwn a’i gŵr . ) A hi a ddywedodd , Y gogoniant a ymadawodd o Israel ; canys arch Duw a ddaliwyd . Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw , ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod . A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw , ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon , ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon . A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth ; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb , gerbron arch yr Arglwydd . A hwy a gymerasant Dagon , ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le . Codasant hefyd yn fore drannoeth ; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb , gerbron arch yr Arglwydd : a phen Dagon , a dwy gledr ei ddwylo , oedd wedi torri ar y trothwy ; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef . Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon , na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon , ar drothwy Dagon yn Asdod , hyd y dydd hwn . A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid ; ac efe a’u distrywiodd hwynt , ac a’u trawodd hwynt , sef Asdod a’i therfynau , â chlwyf y marchogion . A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd , dywedasant , Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni : canys caled yw ei law ef arnom , ac ar Dagon ein duw . Am hynny yr anfonasant , ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt ; ac a ddywedasant , Beth a wnawn ni i arch Duw Israel ? A hwy a atebasant , Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath . A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno . Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch , bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn : ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr , a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd . Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron . A phan ddaeth arch Duw i Ecron , yr Ecroniaid a waeddasant , gan ddywedyd , Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel , i’n lladd ni a’n pobl . Am hynny yr anfonasant , ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid : ac a ddywedasant , Danfonwch ymaith arch Duw Israel , a dychweler hi adref ; fel na laddo hi ni a’n pobl : canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas ; trom iawn oedd llaw Duw yno . A’r gwŷr , y rhai ni buant feirw , a drawyd â chlwyf y marchogion : a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd . Abu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd . A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid , gan ddywedyd , Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd ? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref . Dywedasant hwythau , Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel , nac anfonwch hi yn wag ; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd : yna y’ch iacheir , ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi . Yna y dywedasant hwythau , Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo ? A hwy a ddywedasant , Pump o ffolennau aur , a phump o lygod aur , yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid : canys yr un pla oedd arnoch chwi oll , ac ar eich arglwyddi . Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau , a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir ; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel : ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch , ac oddi ar eich duwiau , ac oddi ar eich tir . A phaham y caledwch chwi eich calonnau , megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon ? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy , oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith ? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd , a chymerwch ddwy fuwch flith , y rhai nid aeth iau arnynt ; a deliwch y buchod dan y fen , a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ : A chymerwch arch yr Arglwydd , a rhoddwch hi ar y fen ; a’r tlysau aur , y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd , a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi , a gollyngwch hi i fyned ymaith . Ac edrychwch , os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes ; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn : ac onid e , yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni ; ond mai damwain oedd hyn i ni . A’r gwŷr a wnaethant felly : ac a gymerasant ddwy fuwch flithion , ac a’u daliasant hwy dan y fen , ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ : Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen , a’r gist â’r llygod aur , a lluniau eu ffolennau hwynt . A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes ; ar hyd y briffordd yr aethant , dan gerdded a brefu , ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy ; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes . A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn : ac a ddyrchafasant eu llygaid , ac a ganfuant yr arch ; ac a lawenychasant wrth ei gweled . A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad , ac a safodd yno ; ac yno yr oedd maen mawr : a hwy a holltasant goed y fen , ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd , a’r gist yr hon oedd gyda hi , yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi , ac a’u gosodasant ar y maen mawr : a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau , ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw . A phum arglwydd y Philistiaid , pan welsant hynny , a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw . A dyma’r ffolennau aur , y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r Arglwydd ; dros Asdod un , dros Gasa un , dros Ascalon un , dros Gath un , dros Ecron un : A’r llygod aur , yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid , yn perthynu i’r pum arglwydd , yn gystal y dinasoedd caerog , a’r trefi heb gaerau , hyd y maen mawr Abel , yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd ; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad . Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes , am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd , ie , trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr . A’r bobl a alarasant , am i’r Arglwydd daro’r bobl â lladdfa fawr . A gwŷr Bethsemes a ddywedasant , Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn ? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni ? A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim , gan ddywedyd , Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd ; deuwch i waered , a chyrchwch hi i fyny atoch chwi . A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant , ac a gyrchasant i fyny arch yr Arglwydd , ac a’i dygasant hi i dŷ Abinadab , yn y bryn , ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr Arglwydd . Ac o’r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim , y bu ddyddiau lawer ; nid amgen nag ugain mlynedd : a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd . A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel , gan ddywedyd , Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â’ch holl galon , bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg , ac Astaroth , a pharatowch eich calon at yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef yn unig ; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid . Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth , a’r Arglwydd yn unig a wasanaethasant . A dywedodd Samuel , Cesglwch holl Israel i Mispa , a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd . A hwy a ymgasglasant i Mispa , ac a dynasant ddwfr , ac a’i tywalltasant gerbron yr Arglwydd , ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw , ac a ddywedasant yno , Pechasom yn erbyn yr Arglwydd . A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa . A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa , arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel : a meibion Israel a glywsant , ac a ofnasant rhag y Philistiaid . A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel , Na thaw di â gweiddi drosom at yr Arglwydd ein Duw , ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid . A Samuel a gymerth laethoen , ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r Arglwydd : a Samuel a waeddodd ar yr Arglwydd dros Israel ; a’r Arglwydd a’i gwrandawodd ef . A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm , y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel : a’r Arglwydd a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw , ac a’u drylliodd hwynt , a lladdwyd hwynt o flaen Israel . A gwŷr Israel a aethant o Mispa , ac a erlidiasant y Philistiaid , ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar . A chymerodd Samuel faen , ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen , ac a alwodd ei enw ef Ebeneser ; ac a ddywedodd , Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni . Felly y darostyngwyd y Philistiaid , ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel : a llaw yr Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel . A’r dinasoedd , y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel , a roddwyd adref i Israel , o Ecron hyd Gath ; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid : ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid . A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd . Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel , a Gilgal , a Mispa , ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny . A’i ddychwelfa ydoedd i Rama ; canys yno yr oedd ei dŷ ef : yno hefyd y barnai efe Israel ; ac yno yr adeiladodd efe allor i’r Arglwydd . Ac wedi heneiddio Samuel , efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel . Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel ; ac enw yr ail , Abeia : y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba . A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef , eithr troesant ar ôl cybydd-dra , a chymerasant obrwy , a gwyrasant farn . Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant , ac a ddaethant at Samuel i Rama , Ac a ddywedasant wrtho ef , Wele , ti a heneiddiaist , a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di : yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu , megis yr holl genhedloedd . A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel , pan ddywedasant , Dyro i ni frenin i’n barnu : a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt : canys nid ti y maent yn ei wrthod , ond myfi a wrthodasant , rhag i mi deyrnasu arnynt . Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant , o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn , ac fel y gwrthodasant fi , ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr ; felly y gwnânt hwy hefyd i ti . Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt : eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt , a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt . A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl , y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo . Ac efe a ddywedodd , Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi : Efe a gymer eich meibion , ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau , ac yn wŷr meirch iddo , ac i redeg o flaen ei gerbydau ef : Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd , ac yn dywysogion deg a deugain , ac i aredig ei âr , ac i fedi ei gynhaeaf , ac i wneuthur arfau ei ryfel , a pheiriannau ei gerbydau . A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau , yn gogesau hefyd , ac yn bobyddesau . Ac efe a gymer eich meysydd , a’ch gwinllannoedd , a’ch olewlannoedd gorau , ac a’u dyry i’w weision . Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe , ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision . Eich gweision hefyd , a’ch morynion , eich gwŷr ieuainc gorau hefyd , a’ch asynnod , a gymer efe , ac a’u gesyd i’w waith . Eich defaid hefyd a ddegyma efe : chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef . A’r dydd hwnnw y gwaeddwch , rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi : ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw . Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel ; ac a ddywedasant , Nage , eithr brenin fydd arnom ni : Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd ; a’n brenin a’n barna ni , efe a â allan hefyd o’n blaen ni , ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni . A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl , ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Gwrando ar eu llais hwynt , a gosod frenin arnynt . A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel , Ewch bob un i’w ddinas ei hun . Ac yr oedd gŵr o Benjamin , a’i enw Cis , mab Abiel , mab Seror , mab Bechorath , mab Affeia , mab i ŵr o Jemini , yn gadarn o nerth . Ac iddo ef yr oedd mab , a’i enw Saul , yn ŵr ieuanc , dewisol a glân : ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef : o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl . Ac asynnod Cis , tad Saul , a gyfrgollasant : a dywedodd Cis wrth Saul ei fab , Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi , a chyfod , dos , cais yr asynnod . Ac efe a aeth trwy fynydd Effraim , ac a dramwyodd trwy wlad Salisa , ac nis cawsant hwynt : yna y tramwyasant trwy wlad Salim , ac nis cawsant hwynt : ac efe a aeth trwy wlad Jemini , ond nis cawsant hwynt . Pan ddaethant i wlad Suff , y dywedodd Saul wrth ei lanc oedd gydag ef , Tyred , a dychwelwn ; rhag i’m tad beidio â’r asynnod , a gofalu amdanom ni . Dywedodd yntau wrtho ef , Wele , yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i Dduw , a’r gŵr sydd anrhydeddus ; yr hyn oll a ddywedo efe , gan ddyfod a ddaw : awn yno yn awr ; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi . Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc , Wele , od awn ni , pa beth a ddygwn ni i’r gŵr ? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni , a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw : beth sydd gennym ? A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul , ac a ddywedodd , Wele , cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian : mi a roddaf hynny i ŵr Duw , er mynegi i ni ein ffordd . ( Gynt yn Israel , fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori â Duw ; Deuwch , ac awn hyd at y gweledydd : canys y Proffwyd heddiw , a elwid gynt yn Weledydd . ) Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc , Da y dywedi ; tyred , awn . Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi . Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas , hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr ; ac a ddywedasant wrthynt , A yw y gweledydd yma ? Hwythau a’u hatebasant hwynt , ac a ddywedasant , Ydyw ; wele efe o’th flaen ; brysia yr awr hon ; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas ; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa . Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas , chwi a’i cewch ef , cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta ; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe , oherwydd efe a fendiga yr aberth ; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd : am hynny ewch i fyny ; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef . A hwy a aethant i fyny i’r ddinas ; a phan ddaethant i ganol y ddinas , wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod , i fyned i fyny i’r uchelfa . A’r Arglwydd a fynegasai yng nghlust Samuel , ddiwrnod cyn dyfod Saul , gan ddywedyd . Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin ; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel , ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid : canys edrychais ar fy mhobl ; oherwydd daeth eu gwaedd ataf . A phan ganfu Samuel Saul , yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef , Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt : hwn a lywodraetha ar fy mhobl . Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth , ac a ddywedodd , Mynega i mi , atolwg , pa le yma y mae tŷ y gweledydd . A Samuel a atebodd Saul , ac a ddywedodd , Myfi yw y gweledydd : dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa ; canys bwytewch gyda myfi heddiw : a mi a’th ollyngaf y bore , ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon . Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau , na ofala amdanynt ; canys cafwyd hwynt . Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel ? onid i ti , ac i holl dŷ dy dad ? A Saul a atebodd ac a ddywedodd , Onid mab Jemini ydwyf fi , o’r lleiaf o lwythau Israel ? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin ? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn ? A Samuel a gymerth Saul a’i lanc , ac a’u dug hwynt i’r ystafell , ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion ; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain . A Samuel a ddywedodd wrth y cog , Moes y rhan a roddais atat ti , am yr hon y dywedais wrthyt , Cadw hon gyda thi . A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog , a’r hyn oedd arni , ac a’i gosododd gerbron Saul . A Samuel a ddywedodd , Wele yr hyn a adawyd ; gosod ger dy fron , a bwyta : canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti , er pan ddywedais , Y bobl a wahoddais i . A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw . A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas , Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ . A hwy a gyfodasant yn fore : ac ynghylch codiad y wawr , galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ , gan ddywedyd , Cyfod , fel y’th hebryngwyf ymaith . A Saul a gyfododd , ac efe a Samuel a aethant ill dau allan . Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas , Samuel a ddywedodd wrth Saul , Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni ; ( felly yr aeth efe ; ) ond saf di yr awr hon , a mynegaf i ti air Duw . Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew , ac a’i tywalltodd ar ei ben ef , ac a’i cusanodd ef ; ac a ddywedodd , Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth ? Pan elych di heddiw oddi wrthyf , yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel , yn nherfyn Benjamin , yn Selsa : a hwy a ddywedant wrthyt , Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio : ac wele , dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod , a gofalu y mae amdanoch chwi , gan ddywedyd , Beth a wnaf am fy mab ? Yna yr ei di ymhellach oddi yno , ac y deui hyd wastadedd Tabor : ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel ; un yn dwyn tri o fynnod , ac un yn dwyn tair torth o fara , ac un yn dwyn costrelaid o win . A hwy a gyfarchant well i ti , ac a roddant i ti ddwy dorth o fara ; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt . Ar ôl hynny y deui i fryn Duw , yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid : a phan ddelych yno i’r ddinas , ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa , ac o’u blaen hwynt nabl , a thympan , a phibell , a thelyn ; a hwythau yn proffwydo . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti ; a thi a broffwydi gyda hwynt , ac a droir yn ŵr arall . A phan ddelo yr argoelion hyn i ti , gwna fel y byddo yr achos : canys Duw sydd gyda thi . A dos i waered o’m blaen i Gilgal : ac wele , mi a ddeuaf i waered atat ti , i offrymu offrymau poeth , ac i aberthu ebyrth hedd : aros amdanaf saith niwrnod , hyd oni ddelwyf atat , a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych . A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel , Duw a roddodd iddo galon arall : a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben . A phan ddaethant yno i’r bryn , wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef : ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau , ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt . A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant ; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo . Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd , Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis ? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? Ac un oddi yno a atebodd , ac a ddywedodd , Eto pwy yw eu tad hwy ? Am hynny yr aeth yn ddihareb , A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? Ac wedi darfod iddo broffwydo , efe a ddaeth i’r uchelfa . Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef , ac wrth ei lanc ef , I ba le yr aethoch ? Ac efe a ddywedodd , I geisio’r asynnod : a phan welsom nas ceid , ni a ddaethom at Samuel . Ac ewythr Saul a ddywedodd , Mynega , atolwg , i mi , beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi . A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr , Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael . Ond am chwedl y frenhiniaeth , yr hwn a ddywedasai Samuel , nid ynganodd efe wrtho . A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa ; Ac a ddywedodd wrth feibion Israel , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft , ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid , ac o law yr holl deyrnasoedd , a’r rhai a’ch gorthryment chwi . A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw , yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd , a’ch helbul ; ac a ddywedasoch wrtho ef , Nid felly ; eithr gosod arnom ni frenin . Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau , ac wrth eich miloedd . A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu : a daliwyd llwyth Benjamin . Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd , daliwyd teulu Matri ; a Saul mab Cis a ddaliwyd : a phan geisiasant ef , nis ceid ef . Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd , a ddeuai y gŵr yno eto . A’r Arglwydd a ddywedodd , Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn . A hwy a redasant , ac a’i cyrchasant ef oddi yno . A phan safodd yng nghanol y bobl , yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl . A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl . A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd , nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl ? A’r holl bobl a floeddiasant , ac a ddywedasant , Byw fyddo’r brenin . Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl , ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr , ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd . A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl , bob un i’w dŷ . A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea ; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw â’u calon , a aeth gydag ef . Ond meibion Belial a ddywedasant , Pa fodd y gwared hwn ni ? A hwy a’i dirmygasant ef , ac ni ddygasant anrheg iddo ef . Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn . Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny , ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead : a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas , Gwna gyfamod â ni , ac ni a’th wasanaethwn di . A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt , Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi ; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi , fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel . A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho , Caniatâ i ni saith niwrnod , fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel : ac oni bydd a’n gwaredo , ni a ddeuwn allan atat ti . A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul , ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl . A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes . A dywedodd Saul , Beth sydd yn peri i’r bobl wylo ? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul , pan glybu efe y geiriau hynny ; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr . Ac efe a gymerth bâr o ychen , ac a’u drylliodd , ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau ; gan ddywedyd , Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel , fel hyn y gwneir i’w wartheg ef . Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl , a hwy a ddaethant allan yn unfryd . A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec , meibion Israel oedd dri chan mil , a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain . A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai , Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead ; Yfory , erbyn gwresogi yr haul , bydd i chwi ymwared . A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes ; a hwythau a lawenychasant . Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant , Yfory y deuwn allan atoch chwi ; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda . A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin ; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore , ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd : a’r gweddillion a wasgarwyd , fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd . A dywedodd y bobl wrth Samuel , Pwy yw yr hwn a ddywedodd , A deyrnasa Saul arnom ni ? moeswch y gwŷr hynny , fel y rhoddom hwynt i farwolaeth . A Saul a ddywedodd , Ni roddir neb i farwolaeth heddiw : canys heddiw , y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel . Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl , Deuwch , fel yr elom i Gilgal , ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno . A’r holl bobl a aethant i Gilgal , ac yno y gwnaethant Saul yn frenin , gerbron yr Arglwydd yn Gilgal : a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd . A Saul a lawenychodd yno , a holl wŷr Israel , yn ddirfawr . A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel , Wele , gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf , a gosodais frenin arnoch . Ac yr awr hon , wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi : a minnau a heneiddiais , ac a benwynnais ; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi ; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn . Wele fi ; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr Arglwydd , a cherbron ei eneiniog : ych pwy a gymerais ? neu asyn pwy a gymerais ? neu pwy a dwyllais ? neu pwy a orthrymais i ? neu o law pwy y cymerais wobr , i ddallu fy llygaid ag ef ? a mi a’i talaf i chwi . A hwy a ddywedasant , Ni thwyllaist ni , ni orthrymaist ni chwaith , ac ni chymeraist ddim o law neb . Dywedodd yntau wrthynt , Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi , ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn , na chawsoch ddim yn fy llaw i . A’r bobl a ddywedasant , Tyst ydyw . A Samuel a ddywedodd wrth y bobl , Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron , a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft . Yn awr gan hynny sefwch , fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd , am holl gyfiawnderau yr Arglwydd , y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau . Wedi i Jacob ddyfod i’r Aifft , a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr Arglwydd , yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron : a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Aifft , ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn . A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw , efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera , tywysog milwriaeth Hasor , ac i law y Philistiaid , ac i law brenin Moab ; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt . A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd , ac a ddywedasant , Pechasom , am i ni wrthod yr Arglwydd , a gwasanaethu Baalim ac Astaroth : er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion , a nyni a’th wasanaethwn di . A’r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal , a Bedan , a Jefftha , a Samuel , ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch , a chwi a breswyliasoch yn ddiogel . A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn , dywedasoch wrthyf , Nage ; ond brenin a deyrnasa arnom ni ; a’r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi . Ac yn awr , wele y brenin a ddewisasoch chwi , a’r hwn a ddymunasoch : ac wele , yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi . Os ofnwch chwi yr Arglwydd , a’i wasanaethu ef , a gwrando ar ei lais , heb anufuddhau gair yr Arglwydd ; yna y byddwch chwi , a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch , ar ôl yr Arglwydd eich Duw . Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd , eithr anufuddhau gair yr Arglwydd ; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi , fel yn erbyn eich tadau . Sefwch gan hynny yn awr , a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi . Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw ? Galwaf ar yr Arglwydd ; ac efe a ddyry daranau , a glaw : fel y gwybyddoch ac y gweloch , mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd , yn gofyn i chwi frenin . Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd ; a’r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw ; a’r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr . A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel , Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw , fel na byddom feirw ; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau , wrth geisio i ni frenin . A dywedodd Samuel wrth y bobl , Nac ofnwch ; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn : eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd , ond gwasanaethwch yr Arglwydd â’ch holl galon ; Ac na chiliwch : canys felly yr aech ar ôl oferedd , y rhai ni lesânt , ac ni’ch gwaredant ; canys ofer ydynt hwy . Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl , er mwyn ei enw mawr : oherwydd rhyngodd bodd i’r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun . A minnau , na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd , trwy beidio â gweddïo drosoch : eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn . Yn unig ofnwch yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon : canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch . Ond os dilynwch ddrygioni , chwi a’ch brenin a ddifethir . Saul a deyrnasodd un flwyddyn ; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel , Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel ; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel , a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin : a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun . A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid , yr hon oedd yn Geba : a chlybu y Philistiaid hynny . A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir , gan ddywedyd , Clywed yr Hebreaid . A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid , a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid : a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal . A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel , deng mil ar hugain o gerbydau , a chwe mil o wŷr meirch , a phobl eraill cyn amled â’r tywod sydd ar fin y môr . A hwy a ddaethant i fyny , ac a wersyllasant ym Michmas , o du y dwyrain i Beth-afen . Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt , ( canys gwasgasid ar y bobl , ) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd , ac mewn drysni , ac mewn creigiau , ac mewn tyrau , ac mewn pydewau . A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen , i dir Gad a Gilead : a Saul oedd eto yn Gilgal , a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu . Ac efe a arhosodd saith niwrnod , hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel . Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal ; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef . A Saul a ddywedodd , Dygwch ataf fi boethoffrwm , ac offrymau hedd . Ac efe a offrymodd y poethoffrwm . Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm , wele , Samuel a ddaeth : a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef , ac i gyfarch gwell iddo . A dywedodd Samuel , Beth a wnaethost ti ? A Saul a ddywedodd , Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf , ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig , ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas ; Am hynny y dywedais , Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal , ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd : am hynny yr anturiais i , ac yr offrymais boethoffrwm . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Ynfyd y gwnaethost : ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a orchmynnodd efe i ti : canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd . Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di : yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun : yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl ; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti . A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin : a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef , ynghylch chwe chant o wŷr . A Saul a Jonathan ei fab , a’r bobl a gafwyd gyda hwynt , oedd yn aros yn Gibea Benjamin : a’r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas . A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr , yn dair byddin : un fyddin a drodd tua ffordd Offra , tua gwlad Sual ; A’r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon : a’r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim , tua’r anialwch . Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel : canys dywedasai y Philistiaid , Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn . Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid , i flaenllymu bob un ei swch , a’i gwlltwr , a’i fwyell , a’i gaib . Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau , ac ar y cylltyrau , ac ar y picffyrch , ac ar y bwyeill , ac i flaenllymu’r symbylau . Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan , ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab . A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas . A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyred , ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid , yr hon sydd o’r tu hwnt : ond ni fynegodd efe i’w dad . A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea , dan bren pomgranad , yr hwn oedd ym Migron : a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr ; Ac Ahia mab Ahitub , brawd Ichabod , mab Phinees , mab Eli , offeiriad yr Arglwydd yn Seilo , oedd yn gwisgo effod . Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith . A rhwng y bylchau , lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid , yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch , a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch ; ac enw y naill oedd Boses , ac enw y llall Sene . A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas , a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea . A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyred , ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn ; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni : canys nid oes rwystr i’r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig . A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho , Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon : cerdda rhagot ; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon . Yna y dywedodd Jonathan , Wele , ni a awn trosodd at y gwŷr hyn , ac a ymddangoswn iddynt . Os dywedant fel hyn wrthym , Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi ; yna y safwn yn ein lle , ac nid awn i fyny atynt hwy . Ond os fel hyn y dywedant , Deuwch i fyny atom ni ; yna yr awn i fyny : canys yr Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni ; a hyn fydd yn argoel i ni . A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid . A’r Philistiaid a ddywedasant , Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt . A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan , a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau , ac a ddywedasant , Deuwch i fyny atom ni , ac ni a ddangoswn beth i chwi . A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau , Tyred i fyny ar fy ôl : canys yr Arglwydd a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel . A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo , ac ar ei draed ; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl . A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan : ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef . A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau , oedd ynghylch ugeinwr , megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir . A bu fraw yn y gwersyll , yn y maes , ac ymysg yr holl bobl : yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant : y ddaear hefyd a grynodd ; a bu dychryn Duw . A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant ; ac wele y lliaws yn ymwasgaru , ac yn myned dan ymguro . Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef , Cyfrifwch yn awr , ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni . A phan gyfrifasant , wele , Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno . A Saul a ddywedodd wrth Ahia , Dwg yma arch Duw . ( Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel . ) A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad , y terfysg , yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid , gan fyned a aeth , ac a anghwanegodd . A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad , Tyn atat dy law . A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant , ac a ddaethant i’r rhyfel : ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf ; a dinistr mawr iawn oedd yno . Yr Hebreaid hefyd , y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen , y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch , hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan . A holl wŷr Israel , y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim , a glywsant ffoi o’r Philistiaid ; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel . Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw ; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen . A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw : oherwydd tyngedasai Saul y bobl , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr , fel y dialwyf ar fy ngelynion : Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd . A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed , lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir . A phan ddaeth y bobl i’r coed , wele y mêl yn diferu ; eto ni chododd un ei law at ei enau : canys ofnodd y bobl y llw . Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl : am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law , ac a’i gwlychodd yn nil y mêl , ac a drodd ei law at ei enau ; a’i lygaid a oleuasant . Yna un o’r bobl a atebodd , ac a ddywedodd , Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw . A’r bobl oedd luddedig . Yna y dywedodd Jonathan , Fy nhad a flinodd y wlad . Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i , oherwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn : Pa faint mwy , pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion , yr hon a gawsant hwy ? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid ? A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon : a’r bobl oedd ddiffygiol iawn . A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith , ac a gymerasant ddefaid , a gwartheg , a lloi , ac a’u lladdasant ar y ddaear : a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed . Yna y mynegasant hwy i Saul , gan ddywedyd , Wele , y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr Arglwydd , gan fwyta ynghyd â’r gwaed . Ac efe a ddywedodd , Troseddasoch : treiglwch ataf fi heddiw faen mawr . Dywedodd Saul hefyd , Ymwasgerwch ymysg y bobl , a dywedwch wrthynt , Dygwch ataf fi bob un ei ych , a phob un ei lwdn dafad , a lleddwch hwynt yma , a bwytewch ; ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd , gan fwyta ynghyd â’r gwaed . A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno , ac a’u lladdasant yno . A Saul a adeiladodd allor i’r Arglwydd . Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r Arglwydd . A dywedodd Saul , Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos , ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore , ac na adawn un ohonynt . Hwythau a ddywedasant , Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg . Yna y dywedodd yr offeiriad , Nesawn yma at Dduw . Ac ymofynnodd Saul â Duw , A af fi i waered ar ôl y Philistiaid ? a roddi di hwynt yn llaw Israel ? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw . A dywedodd Saul , Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl : mynnwch wybod hefyd , ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw . Canys , megis mai byw yr Arglwydd , yr hwn sydd yn gwaredu Israel , pe byddai hyn yn Jonathan fy mab , diau y llwyr roddir ef i farwolaeth . Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef . Yna y dywedodd efe wrth holl Israel , Chwi a fyddwch ar y naill du ; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall . A dywedodd y bobl wrth Saul , Gwna a fyddo da yn dy olwg . Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel , Dod oleufynag . A daliwyd Jonathan a Saul : ond y bobl a ddihangodd . Dywedodd Saul hefyd , Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab . A daliwyd Jonathan . Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan , Mynega i mi beth a wnaethost . A Jonathan a fynegodd iddo , ac a ddywedodd , Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw ; ac wele , a fyddaf fi farw ? Dywedodd Saul hefyd , Felly gwneled Duw i mi , ac felly chwaneged , onid gan farw y byddi di farw , Jonathan . A dywedodd y bobl wrth Saul , A leddir Jonathan , yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel ? Na ato Duw : fel mai byw yr Arglwydd , ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear ; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw . A’r bobl a waredasant Jonathan , fel na laddwyd ef . Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid : a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun . Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel ; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch , yn erbyn Moab , ac yn erbyn meibion Ammon , ac yn erbyn Edom , ac yn erbyn brenhinoedd Soba , ac yn erbyn y Philistiaid : ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd , efe a orchfygodd . Cynullodd lu hefyd , a thrawodd Amalec ; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr . A meibion Saul oedd Jonathan , ac Issui , a Malci-sua . Dyma enwau ei ddwy ferch ef : enw yr hynaf oedd Merab , ac enw yr ieuangaf Michal . Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas : ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner , ewythr frawd ei dad i Saul . Cis hefyd oedd dad Saul ; a Ner tad Abner oedd fab Abiel . A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul : a phan welai Saul ŵr glew a nerthol , efe a’i cymerai ato ei hun . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Yr Arglwydd a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl , sef ar Israel : ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd . Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd ; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel , y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd , pan ddaeth efe i fyny o’r Aifft . Dos yn awr , a tharo Amalec , a dinistria yr hyn oll sydd ganddo , ac nac eiriach ef ; ond lladd hwynt , yn ŵr ac yn wraig , yn ddyn bach ac yn blentyn sugno , yn ych ac yn oen , yn gamel ac yn asyn . A Saul a gynullodd y bobl , ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim , dau can mil o wŷr traed , a deng mil o wŷr Jwda . A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec , ac a gynllwynodd yn y dyffryn . Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid , Cerddwch , ciliwch , ewch i waered o fysg yr Amaleciaid ; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt : herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel , pan ddaethant i fyny o’r Aifft . A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid . A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila , ffordd y delych di i Sur , yr hon sydd ar gyfer yr Aifft . Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw , ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf . Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag , a’r gorau o’r defaid , a’r ychen , a’r brasaf o’r ŵyn , a’r hyn oll ydoedd dda , ac ni ddistrywient hwynt : a phob peth gwael a salw , hwnnw a ddifrodasant hwy . Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel , gan ddywedyd , Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin : canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i , ac ni chyflawnodd fy ngeiriau . A bu ddrwg gan Samuel ; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos . A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul , mynegwyd i Samuel , gan ddywedyd , Daeth Saul i Carmel ; ac wele , efe a osododd iddo le , efe a amgylchodd hefyd , ac a dramwyodd , ac a aeth i waered i Gilgal . A Samuel a ddaeth at Saul . A Saul a ddywedodd wrtho ef , Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd : mi a gyflewnais air yr Arglwydd . A dywedodd Samuel , Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau , a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed ? A Saul a ddywedodd , Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy : canys y bobl a arbedodd y defaid gorau , a’r ychen , i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw ; a’r rhan arall a ddifrodasom ni . Yna y dywedodd Samuel wrth Saul , Aros , a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr . Yntau a ddywedodd wrtho , Llefara . A Samuel a ddywedodd , Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun , y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel , ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel ? A’r Arglwydd a’th anfonodd di i daith , ac a ddywedodd , Dos , a difroda y pechaduriaid , yr Amaleciaid , ac ymladd i’w herbyn , nes eu difa hwynt . Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd , eithr troaist at yr anrhaith , a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ? A Saul a ddywedodd wrth Samuel , Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd , ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr Arglwydd iddi , a dygais Agag brenin Amalec , ac a ddifrodais yr Amaleciaid . Ond y bobl a gymerth o’r ysbail , ddefaid a gwartheg , blaenion y ddifrodaeth , i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal . A Samuel a ddywedodd , A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau , neu ebyrth , megis ar wrando ar lais yr Arglwydd ? Wele , gwrando sydd well nag aberth , ac ufuddhau na braster hyrddod . Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth ; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth . Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd , yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin . A Saul a ddywedodd wrth Samuel , Pechais : canys troseddais air yr Arglwydd , a’th eiriau dithau ; oherwydd i mi ofni y bobl , a gwrando ar eu llais hwynt . Ond yn awr maddau , atolwg , fy mhechod , a dychwel gyda mi , fel yr addolwyf yr Arglwydd . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Ni ddychwelaf gyda thi ; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd , a’r Arglwydd a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel . A phan drodd Samuel i fyned ymaith , efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef ; a hi a rwygodd . A Samuel a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw , ac a’i rhoddes i gymydog i ti , gwell na thydi . A hefyd , Cadernid Israel ni ddywed gelwydd , ac nid edifarha : canys nid dyn yw efe , i edifarhau . Yna y dywedodd Saul , Pechais : anrhydedda fi , atolwg , yn awr gerbron henuriaid fy mhobl , a cherbron Israel , a dychwel gyda mi , fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw . Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul : a Saul a addolodd yr Arglwydd . Yna y dywedodd Samuel , Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid . Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw . Ac Agag a ddywedodd , Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith . A Samuel a ddywedodd , Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd , felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd . A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal . Yna Samuel a aeth i Rama ; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul . Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth ; ond Samuel a alarodd am Saul : ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel , Pa hyd y galeri di am Saul , gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel ? Llanw dy gorn ag olew , a dos ; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad : canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin . A Samuel a ddywedodd , Pa fodd yr af fi ? os Saul a glyw , efe a’m lladd i . A dywedodd yr Arglwydd , Cymer anner-fuwch gyda thi , a dywed , Deuthum i aberthu i’r Arglwydd . A galw Jesse i’r aberth , a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych : a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt . A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr Arglwydd , ac a ddaeth i Bethlehem . A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef ; ac a ddywedasant , Ai heddychlon dy ddyfodiad ? Ac efe a ddywedodd , Heddychlon : deuthum i aberthu i’r Arglwydd : ymsancteiddiwch , a deuwch gyda mi i’r aberth . Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion , ac a’u galwodd hwynt i’r aberth . A phan ddaethant , efe a edrychodd ar Eliab ; ac a ddywedodd , Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel , Nac edrych ar ei wynepryd ef , nac ar uchder ei gorffolaeth ef : canys gwrthodais ef . Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn : canys dyn a edrych ar y golygiad ; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon . Yna Jesse a alwodd Abinadab , ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel . A dywedodd yntau , Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith . Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod . A dywedodd yntau , Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith . Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel . A Samuel a ddywedodd wrth Jesse , Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn . Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse , Ai dyma dy holl blant ? Yntau a ddywedodd , Yr ieuangaf eto sydd yn ôl ; ac wele , mae efe yn bugeilio’r defaid . A dywedodd Samuel wrth Jesse , Danfon , a chyrch ef : canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma . Ac efe a anfonodd , ac a’i cyrchodd ef . Ac efe oedd writgoch , a theg yr olwg , a hardd o wedd . A dywedodd yr Arglwydd , Cyfod , eneinia ef : canys dyma efe . Yna y cymerth Samuel gorn yr olew , ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr . A daeth ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd , o’r dydd hwnnw allan . Yna Samuel a gyfododd , ac a aeth i Rama . Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul ; ac ysbryd drwg oddi wrth yr Arglwydd a’i blinodd ef . A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef , Wele yn awr , drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di . Dyweded , atolwg , ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron , am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn : a bydd , pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti , yna iddo ef ganu â’i law ; a da fydd i ti . A dywedodd Saul wrth ei weision , Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda , a dygwch ef ataf fi . Ac un o’r llanciau a atebodd , ac a ddywedodd , Wele , gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad , yn medru canu , ac yn rymus o nerth , ac yn rhyfelwr , yn ddoeth o ymadrodd hefyd , ac yn ŵr lluniaidd ; a’r Arglwydd sydd gydag ef . Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse , ac a ddywedodd , Anfon ataf fi Dafydd dy fab , yr hwn sydd gyda’r praidd . A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara , a chostrelaid o win , a myn gafr , ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul . A Dafydd a ddaeth at Saul , ac a safodd ger ei fron ef : yntau a’i hoffodd ef yn fawr ; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef . A Saul a anfonodd at Jesse , gan ddywedyd , Arhosed Dafydd , atolwg , ger fy mron i : canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg . A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul , y cymerai Dafydd delyn , ac y canai â’i ddwylo ; a byddai esmwythdra i Saul ; a da oedd hynny iddo , a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho . Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel , ac a ymgynullasant yn Socho , yr hon sydd yn Jwda , ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca , yng nghwr Dammim . Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant , ac a wersyllasant yn nyffryn Ela , ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid . A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du , ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall : a dyffryn oedd rhyngddynt . A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid , a’i enw Goleiath , o Gath : ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant . A helm o bres ar ei ben , a llurig emog a wisgai : a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres . A botasau pres oedd am ei draed ef , a tharian bres rhwng ei ysgwyddau . A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd ; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn : ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef . Ac efe a safodd , ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel , ac a ddywedodd wrthynt , I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd ? Onid ydwyf fi Philistiad , a chwithau yn weision i Saul ? dewiswch i chwi ŵr , i ddyfod i waered ataf fi . Os gall efe ymladd â mi , a’m lladd i ; yna y byddwn ni yn weision i chwi : ond os myfi a’i gorchfygaf ef , ac a’i lladdaf ef ; yna y byddwch chwi yn weision i ni , ac y gwasanaethwch ni . A’r Philistiad a ddywedodd , Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn : moeswch ataf fi ŵr , fel yr ymladdom ynghyd . Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad , yna y digalonasant , ac yr ofnasant yn ddirfawr . A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda , a’i enw Jesse ; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion : a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr . A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel : ac enw ei dri mab ef , y rhai a aethant i’r rhyfel , oedd Eliab y cyntaf-anedig , ac Abinadab yr ail , a Samma y trydydd . A Dafydd oedd ieuangaf : a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul . Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul , i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem . A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr , ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod . A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab , Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn , a’r deg torth hyn , ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr . Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil , ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach , a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt . Yna Saul , a hwythau , a holl wŷr Israel , oeddynt yn nyffryn Ela , yn ymladd â’r Philistiaid . A Dafydd a gyfododd yn fore , ac a adawodd y defaid gyda cheidwad , ac a gymerth , ac a aeth , megis y gorchmynasai Jesse iddo ef ; ac efe a ddaeth i’r gwersyll , a’r llu yn myned allan i’r gad , ac yn bloeddio i’r frwydr . Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant , fyddin yn erbyn byddin . A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn , ac a redodd i’r llu , ac a ddaeth , ac a gyfarchodd well i’w frodyr . A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt , wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu , yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid , Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw , ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau , fel y clybu Dafydd . A holl wŷr Israel , pan welsant y gŵr hwnnw , a ffoesant rhagddo ef , ac a ofnasant yn ddirfawr . A dywedodd gwŷr Israel , Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny ? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny : a’r gŵr a’i lladdo ef , y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr ; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef ; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel . A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl , gan ddywedyd , Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn , ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel ? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn , pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw ? A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn , gan ddywedyd . Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef . Ac Eliab , ei frawd hynaf , a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr : a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd ; ac efe a ddywedodd , Paham y daethost i waered yma ? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch ? Myfi a adwaen dy falchder di , a drygioni dy galon : canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered . A dywedodd Dafydd , Beth a wneuthum i yn awr ? Onid oes achos ? Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall , ac a ddywedodd yr un modd : a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen . A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd , yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul : ac efe a anfonodd amdano ef . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef : dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn , i ymladd ag ef : canys llanc ydwyt ti , ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad ; a daeth llew ac arth , ac a gymerasant oen o’r praidd . A mi a euthum ar ei ôl ef , ac a’i trewais ef , ac a’i hachubais o’i safn ef : a phan gyfododd efe i’m herbyn i , mi a ymeflais yn ei farf ef , ac a’i trewais , ac a’i lleddais ef . Felly dy was di a laddodd y llew , a’r arth : a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt , gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw . Dywedodd Dafydd hefyd , Yr Arglwydd , yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew , ac o balf yr arth , efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Dos , a’r Arglwydd fyddo gyda thi . A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun , ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef , ac a’i gwisgodd ef mewn llurig . A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau , ac a geisiodd gerdded ; am na phrofasai efe . A dywedodd Dafydd wrth Saul , Ni allaf gerdded yn y rhai hyn : canys ni phrofais i . A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano . Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law , ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon , ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo , sef yn yr ysgrepan : a’i ffon dafl oedd yn ei law : ac efe a nesaodd at y Philistiad . A’r Philistiad a gerddodd , gan fyned a nesáu at Dafydd ; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef . A phan edrychodd y Philistiad o amgylch , a chanfod Dafydd , efe a’i diystyrodd ef ; canys llanc oedd efe , a gwritgoch , a theg yr olwg . A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd , Ai ci ydwyf fi , gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn ? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef . Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd , Tyred ataf fi , a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y maes . Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad , Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf , ac â gwaywffon , ac â tharian ; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd , Duw byddinoedd Israel , yr hwn a geblaist ti . Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i , a mi a’th drawaf di , ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat ; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd , ac i fwystfilod y ddaear ; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel . A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod , nad â chleddyf , nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd : canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel , ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni . A phan gyfododd y Philistiad , a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd ; yna y brysiodd Dafydd , ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad . A Dafydd a estynnodd ei law i’r god , ac a gymerth oddi yno garreg , ac a daflodd , ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen ; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef : ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb . Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg , ac a drawodd y Philistiad , ac a’i lladdodd ef ; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd . Yna y rhedodd Dafydd , ac a safodd ar y Philistiad , ac a gymerth ei gleddyf ef , ac a’i tynnodd o’r wain , ac a’i lladdodd ef , ac a dorrodd ei ben ef ag ef . A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant . A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant , ac a floeddiasant ; ac a erlidiasant y Philistiaid , hyd y ffordd y delych i’r dyffryn , a hyd byrth Ecron . A’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim , sef hyd Gath , a hyd Ecron . A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid , ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt . A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad , ac a’i dug i Jerwsalem ; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell . A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad , efe a ddywedodd wrth Abner , tywysog y filwriaeth , Mab i bwy yw y llanc hwn , Abner ? Ac Abner a ddywedodd , Fel y mae yn fyw dy enaid , O frenin , nis gwn i . A dywedodd y brenin , Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn . A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad , Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul , a phen y Philistiad yn ei law . A Saul a ddywedodd wrtho ef , Mab i bwy wyt ti , y gŵr ieuanc ? A dywedodd Dafydd , Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad . Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul , enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd ; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun . A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw , ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad . Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod ; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun . A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun , ac a’i rhoddes i Dafydd , a’i wisgoedd , ie , hyd yn oed ei gleddyf , a’i fwa , a’i wregys . A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef , ac a ymddug yn ddoeth . A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr : ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl , ac yng ngolwg gweision Saul hefyd . A bu , wrth ddyfod ohonynt , pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad , ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel , dan ganu a dawnsio , i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau , â gorfoledd , ac ag offer cerdd dannau . A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent , ac a ddywedent , Lladdodd Saul ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn . A digiodd Saul yn ddirfawr , a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef ; ac efe a ddywedodd , Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn , ac i mi y rhoddasant filoedd : beth mwy a roddent iddo ef , ond y frenhiniaeth ? A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan . Bu hefyd drannoeth , i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul ; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ : a Dafydd a ganodd â’i law , fel o’r blaen : a gwaywffon oedd yn llaw Saul . A Saul a daflodd y waywffon ; ac a ddywedodd , Trawaf trwy Dafydd yn y pared . A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef . A Saul oedd yn ofni Dafydd ; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef , a chilio ohono oddi wrth Saul . Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho , ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil : ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl . A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd ; a’r Arglwydd oedd gydag ef . A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn , efe a’i hofnodd ef . Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd , am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Wele Merab fy merch hynaf , hi a roddaf fi i ti yn wraig : yn unig bydd i mi yn fab nerthol , ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd . ( Canys dywedasai Saul , Ni bydd fy llaw i arno ef , ond llaw y Philistiaid fydd arno ef . ) A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Pwy ydwyf fi ? a pheth yw fy mywyd , neu dylwyth fy nhad i yn Israel , fel y byddwn yn ddaw i’r brenin ? Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd , hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig . A Michal merch Saul a garodd Dafydd : a mynegasant hynny i Saul ; a’r peth fu fodlon ganddo . A dywedodd Saul , Rhoddaf hi iddo ef , fel y byddo hi iddo yn fagl , ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef . Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd , Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw . A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn ; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel , gan ddywedyd , Wele , y brenin sydd hoff ganddo dydi , a’i holl weision ef a’th garant di : yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin . A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn . A Dafydd a ddywedodd , Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin , a minnau yn ŵr tlawd a gwael ? A gweision Saul a fynegasant iddo , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd Dafydd . A dywedodd Saul , Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd ; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth , ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid , i ddial ar elynion y brenin . Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid . A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn ; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin ; ac ni ddaethai yr amser eto . Am hynny y cyfododd Dafydd , ac efe a aeth , a’i wŷr , ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid : a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt , a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin , i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin . A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef . A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd , a bod Michal merch Saul yn ei garu ef . A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto : a bu Saul yn elyn i Dafydd byth . Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan : a phan elent hwy , Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul ; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn . A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab , ac wrth ei holl weision , am ladd Dafydd . Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd . A mynegodd Jonathan i Dafydd , gan ddywedyd , Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di : ac yn awr ymgadw , atolwg , hyd y bore , ac aros mewn lle dirgel , ac ymguddia : A mi a af allan , ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo , a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di ; a’r hyn a welwyf , mi a’i mynegaf i ti . A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Na pheched y brenin yn erbyn ei was , yn erbyn Dafydd : oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di , ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti . Canys efe a osododd ei einioes yn ei law , ac a drawodd y Philistiad ; a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel : ti a’i gwelaist , ac a lawenychaist : paham , gan hynny , y pechi yn erbyn gwaed gwirion , gan ladd Dafydd yn ddiachos ? A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan ; a Saul a dyngodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni leddir ef . A Jonathan a alwodd ar Dafydd ; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn . A Jonathan a ddug Dafydd at Saul : ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt . A bu chwaneg o ryfel : a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr ; a hwy a ffoesant rhagddo ef . A’r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul , pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law : a Dafydd oedd yn canu â’i law . A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd , yn y pared : ond efe a giliodd o ŵydd Saul ; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared . A Dafydd a ffodd , ac a ddihangodd y nos honno . Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd , i’w wylied ef , ac i’w ladd ef y bore : a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd , gan ddywedyd , Onid achubi dy einioes heno , yfory y’th leddir . Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr : ac efe a aeth , ac a ffodd , ac a ddihangodd . A Michal a gymerodd ddelw , ac a’i gosododd yn y gwely ; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi , ac a’i gorchuddiodd â dillad . A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd , hi a ddywedodd , Y mae efe yn glaf . A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd , gan ddywedyd , Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely , fel y lladdwyf ef . A phan ddaeth y cenhadau , wele y ddelw ar y gwely , a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi . A dywedodd Saul wrth Michal , Paham y twyllaist fi fel hyn , ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc ? A Michal a ddywedodd wrth Saul , Efe a ddywedodd wrthyf , Gollwng fi ; onid e , mi a’th laddaf di . Felly Dafydd a ffodd , ac a ddihangodd , ac a ddaeth at Samuel i Rama ; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef . Ac efe a aeth at Samuel , a hwy a drigasant yn Naioth . A mynegwyd i Saul , gan ddywedyd , Wele , y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama . A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd . A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo , a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy , yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw , fel y proffwydasant hwythau hefyd . A phan fynegwyd hyn i Saul , efe a anfonodd genhadau eraill ; a hwythau hefyd a broffwydasant . A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith ; a phroffwydasant hwythau hefyd . Yna yntau hefyd a aeth i Rama ; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu : ac efe a ofynnodd , ac a ddywedodd , Pa le y mae Samuel a Dafydd ? Ac un a ddywedodd , Wele , y maent yn Naioth o fewn Rama . Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama . Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw ; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd , nes ei ddyfod i Naioth yn Rama . Ac efe a ddiosgodd ei ddillad , ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel , ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw , a’r holl nos . Am hynny y dywedent , A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama : ac a ddaeth , ac a ddywedodd gerbron Jonathan , Beth a wneuthum i ? beth yw fy anwiredd ? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di , gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Na ato Duw ; ni byddi farw : wele , ni wna fy nhad ddim , na mawr na bychan , heb ei fynegi i mi : paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi ? Nid felly y mae . A Dafydd a dyngodd eilwaith , ac a ddywedodd , Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di ; am hynny y dywed , Na chaed Jonathan wybod hyn , rhag ei dristáu ef : cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw , a’th enaid dithau yn fyw , nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau . Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Dywed beth yw dy ewyllys , a mi a’i cwblhaf i ti . A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan , Wele , y dydd cyntaf o’r mis yw yfory , a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta : ond gollwng fi , fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd . Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf ; yna dywed , Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi , i redeg i Bethlehem , ei ddinas ei hun : canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl . Os fel hyn y dywed efe , Da ; heddwch fydd i’th was : ond os gan ddigio y digia efe , gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg . Gwna gan hynny drugaredd â’th was ; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi : ac od oes anwiredd ynof fi , lladd di fi ; canys i ba beth y dygi fi at dy dad ? A dywedodd Jonathan , Na ato Duw hynny i ti : canys , os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn , onis mynegwn i ti ? A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan , Pwy a fynega i mi ? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw ? A dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Tyred , ac awn i’r maes . A hwy a aethant ill dau i’r maes . A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd , O Arglwydd Dduw Israel , wedi i mi chwilio meddwl fy nhad , ynghylch y pryd hwn yfory , neu drennydd ; ac wele , os daioni fydd tuag at Dafydd , ac oni anfonaf yna atat ti , a’i fynegi i ti ; Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan , ac ychwaneg : os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti ; yna y mynegaf i ti , ac a’th ollyngaf ymaith , fel yr elych mewn heddwch : a bydded yr Arglwydd gyda thi , megis y bu gyda’m tad i . Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw , y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi , fel na byddwyf fi marw : Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth : na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd , bob un oddi ar wyneb y ddaear . Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd ; ac efe a ddywedodd , Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd . A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu , oherwydd efe a’i carai ef : canys fel y carai ei enaid ei hun , y carai efe ef . A Jonathan a ddywedodd wrtho ef , Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis : ac ymofynnir amdanat ; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag . Ac wedi i ti aros dridiau , yna tyred i waered yn fuan ; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith , ac aros wrth faen Esel . A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef , fel pes gollyngwn hwynt at nod . Wele hefyd , mi a anfonaf lanc , gan ddywedyd , Dos , cais y saethau . Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc , Wele y saethau o’r tu yma i ti , dwg hwynt ; yna tyred di : canys heddwch sydd i ti , ac nid oes dim niwed , fel mai byw yw yr Arglwydd . Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc , Wele y saethau o’r tu hwnt i ti ; dos ymaith ; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith . Ac am y peth a leferais i , mi a thi , wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd . Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes . A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis , y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd . A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa , megis ar amseroedd eraill ; sef ar yr eisteddfa wrth y pared ; a Jonathan a gyfododd , ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul ; a lle Dafydd oedd wag . Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw : canys meddyliodd mai damwain oedd hyn ; nad oedd efe lân , a’i fod yn aflan . A bu drannoeth , yr ail ddydd o’r mis , fod lle Dafydd yn wag . A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab , Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd , na doe na heddiw ? A Jonathan a atebodd Saul , Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem : Ac efe a ddywedodd , Gollwng fi , atolwg ; oherwydd i’n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas , a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno : ac yn awr , o chefais ffafr yn dy olwg , gad i mi fyned , atolwg , fel y gwelwyf fy mrodyr . Oherwydd hyn , ni ddaeth efe i fwrdd y brenin . Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan ; ac efe a ddywedodd wrtho , Ti fab y gyndyn wrthnysig , oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti , ac yn gywilydd i noethder dy fam ? Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear , ni’th sicrheir di na’th deyrnas : yn awr gan hynny anfon , a chyrch ef ataf ; canys marw a gaiff efe . A Jonathan a atebodd Saul ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Paham y bydd efe marw ? beth a wnaeth efe ? A Saul a ergydiodd waywffon ato ef , i’w daro ef . Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd . Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon , ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis : canys drwg oedd ganddo dros Dafydd , oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef . A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd , a bachgen bychan gydag ef . Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen , Rhed , cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu . A’r bachgen a redodd : yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef . A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan , y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen , ac a ddywedodd , Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti ? A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen , Cyflyma , brysia , na saf . A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau , ac a ddaeth at ei feistr . A’r bachgen ni wyddai ddim : yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth . A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen , ac a ddywedodd wrtho , Dos , dwg y rhai hyn i’r ddinas . A’r bachgen a aeth ymaith ; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau , ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a ymgrymodd dair gwaith . A hwy a gusanasant bob un ei gilydd , ac a wylasant y naill wrth y llall ; a Dafydd a ragorodd . A dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Dos mewn heddwch : yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi , a rhwng fy had i a’th had dithau , safed hynny yn dragywydd . Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith : a Jonathan a aeth i’r ddinas . Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad . Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd ; ac a ddywedodd wrtho , Paham yr ydwyt ti yn unig , ac heb neb gyda thi ? A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad , Y brenin a orchmynnodd i mi beth , ac a ddywedodd wrthyf , Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais , ac y gorchmynnais i ti : a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle . Ac yn awr beth sydd dan dy law ? dod i mi bum torth yn fy llaw , neu y peth sydd i’w gael . A’r offeiriad a atebodd Dafydd , ac a ddywedodd , Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i ; eithr y mae bara cysegredig : os y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd . A Dafydd a atebodd yr offeiriad , ac a ddywedodd wrtho , Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri , er pan gychwynnais i ; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd , a’r bara sydd megis cyffredin , ie , petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr . Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd : canys nid oedd yno fara , ond y bara gosod , yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd , i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith . Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd , a’i enw Doeg , Edomiad , y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul . A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech , Onid oes yma dan dy law di waywffon , neu gleddyf ? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw , oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst . A dywedodd yr offeiriad , Cleddyf Goleiath y Philistiad , yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela ; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod : o chymeri hwnnw i ti , cymer ; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw . A Dafydd a ddywedodd , Nid oes o fath hwnnw ; dyro ef i mi . Dafydd hefyd a gyfododd , ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul , ac a aeth at Achis brenin Gath . A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef , Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad ? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau , gan ddywedyd , Saul a laddodd ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn ? A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon , ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath . Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt ; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt , ac a gripiodd ddrysau y porth , ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf . Yna y dywedodd Achis wrth ei weision , Wele , gwelwch y gŵr yn gwallgofi ; paham y dygasoch ef ataf fi ? Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi , pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i ? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i ? A Dafydd a aeth ymaith oddi yno , ac a ddihangodd i ogof Adulam : a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny , hwy a aethant i waered ato ef yno . Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus , a phob gŵr a oedd mewn dyled , a phob gŵr cystuddiedig o feddwl ; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy : ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr . A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab ; ac a ddywedodd wrth frenin Moab , Deled , atolwg , fy nhad a’m mam i aros gyda chwi , hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi . Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab : ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa . A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd , Nac aros yn yr amddiffynfa ; dos ymaith , a cherdda rhagot i wlad Jwda . Felly Dafydd a ymadawodd , ac a ddaeth i goed Hareth . A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd , a’r gwŷr oedd gydag ef , ( a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama , a’i waywffon yn ei law , a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch ; ) Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch , Clywch , atolwg , feibion Jemini : A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd , a gwinllannoedd ? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd , ac yn dywysogion ar gannoedd ; Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i , ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse , ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i , nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn , megis y dydd hwn ? Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad , yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul , ac a ddywedodd , Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub . Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r Arglwydd ; ac a roddes fwyd iddo ef ; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo . Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad , mab Ahitub , a holl dŷ ei dad ef , sef yr offeiriaid oedd yn Nob . A hwy a ddaethant oll at y brenin . A Saul a ddywedodd , Gwrando yn awr , mab Ahitub . Dywedodd yntau , Wele fi , fy arglwydd . A dywedodd Saul wrtho ef , Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i , ti a mab Jesse , gan i ti roddi iddo fara , a chleddyf , ac ymgynghori â Duw drosto ef , fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn , megis heddiw ? Ac Ahimelech a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd , ac yn ddaw i’r brenin , ac yn myned wrth dy orchymyn , ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di ? Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef ? na ato Duw i mi . Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was , nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad : canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll , nac ychydig na llawer . A dywedodd y brenin , Gan farw y byddi farw , Ahimelech , tydi a holl dŷ dy dad . A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef , Trowch , a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd ; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd , ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef , ac na fynegasant i mi . Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd . A dywedodd y brenin wrth Doeg , Tro di , a rhuthra ar yr offeiriaid . A Doeg yr Edomiad a drodd , ac a ruthrodd ar yr offeiriaid , ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr , yn dwyn effod liain . Efe a drawodd hefyd Nob , dinas yr offeiriaid , â min y cleddyf , yn ŵr ac yn wraig , yn ddyn bach ac yn blentyn sugno , ac yn ych , ac yn asyn , ac yn oen , â min y cleddyf . Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub , a’i enw Abiathar , a ddihangodd , ac a ffodd ar ôl Dafydd . Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd , ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd . A dywedodd Dafydd wrth Abiathar , Gwybûm y dydd hwnnw , pan oedd Doeg yr Edomiad yno , gan fynegi y mynegai efe i Saul : myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di . Aros gyda mi ; nac ofna : canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i , sydd yn ceisio dy einioes dithau : ond gyda mi y byddi di gadwedig . Yna y mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila ; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau . Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi a tharo’r Philistiaid hyn ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd , Dos , a tharo’r Philistiaid , ac achub Ceila . A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef , Wele ni yn ofnus yma yn Jwda : pa faint mwy os awn i Ceila , yn erbyn byddinoedd y Philistiaid ? Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â’r Arglwydd . A’r Arglwydd a’i hatebodd ef , ac a ddywedodd , Cyfod , dos i waered i Ceila ; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di . A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila , ac a ymladdodd â’r Philistiaid : ac a ddug eu gwartheg hwynt , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr . Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila . A bu , pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila , ddwyn ohono ef effod yn ei law . A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila . A dywedodd Saul , Duw a’i rhoddodd ef yn fy llaw i : canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi . A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel , i fyned i waered i Ceila , i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr . A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef : ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad , Dwg yr effod . Yna y dywedodd Dafydd , O Arglwydd Dduw Israel , gan glywed y clybu dy was , fod Saul yn ceisio dyfod i Ceila , i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i . A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef ? a ddaw Saul i waered , megis y clybu dy was ? O Arglwydd Dduw Israel , mynega , atolwg , i’th was . A’r Arglwydd a ddywedodd , Efe a ddaw i waered . Yna y dywedodd Dafydd , A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Rhoddant . Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr , y rhai oedd ynghylch chwe chant , ac a aethant o Ceila , ac a rodiasant lle y gallent . A mynegwyd i Saul , fod Dafydd wedi dianc o Ceila ; ac efe a beidiodd â myned allan . A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd , ac a arhodd mewn mynydd , yn anialwch Siff : a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd : ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef . A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef : a Dafydd oedd yn anialwch Siff , mewn coed . A Jonathan mab Saul a gyfododd , ac a aeth at Dafydd i’r coed ; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw . Dywedodd hefyd wrtho ef , Nac ofna : canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di ; a thi a deyrnesi ar Israel , a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti : a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd . A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd . A Dafydd a arhosodd yn y coed ; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun . Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea , gan ddywedyd , Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed , ym mryn Hachila , yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch ? Ac yn awr , O frenin , tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon ; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin . A dywedodd Saul , Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd : canys tosturiasoch wrthyf . Ewch , atolwg , paratowch ; eto mynnwch wybod hefyd , ac edrychwch am ei gyniweirfa ef , lle y mae efe yn tramwy , a phwy a’i gwelodd ef yno ; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn . Edrychwch gan hynny , a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt , a dychwelwch ataf fi â sicrwydd , fel yr elwyf gyda chwi ; ac os bydd efe yn y wlad , mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda . A hwy a gyfodasant , ac a aethant i Siff o flaen Saul : ond Dafydd a’i wŷr oedd yn anialwch Maon , yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch . Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef . A mynegwyd i Dafydd : am hynny efe a ddaeth i waered i graig , ac a arhosodd yn anialwch Maon . A phan glybu Saul hynny , efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon . A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd , a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd ; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul ; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr , i’w dala hwynt . Ond cennad a ddaeth at Saul , gan ddywedyd , Brysia , a thyred : canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad . Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd ; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid : oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth . A Dafydd a aeth i fyny oddi yno , ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi . A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid , mynegwyd iddo , gan ddywedyd , Wele Dafydd yn anialwch En-gedi . Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel ; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr , ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion . Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid , ar y ffordd ; ac yno yr oedd ogof : a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff . A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof . A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef , Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt , Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di , fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg . Yna Dafydd a gyfododd , ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel . Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef , oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul . Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr , Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr , eneiniog yr Arglwydd , i estyn fy llaw yn ei erbyn ef ; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe . Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn , ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul . A Saul a gododd i fyny o’r ogof , ac a aeth i ffordd . Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd , ac a aeth allan o’r ogof ; ac a lefodd ar ôl Saul , gan ddywedyd , Fy arglwydd frenin . A phan edrychodd Saul o’i ôl , Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Paham y gwrandewi eiriau dynion , gan ddywedyd , Wele , y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti ? Wele , dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof : a dywedwyd wrthyf am dy ladd di ; ond fy enaid a’th arbedodd di : a dywedais , Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr ; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe . Fy nhad hefyd , gwêl , ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i : canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di , heb dy ladd ; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd , ac na phechais i’th erbyn : eto yr wyt ti yn hela fy einioes i , i’w dala hi . Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau , a dialed yr Arglwydd fi arnat ti : ond ni bydd fy llaw i arnat ti . Megis y dywed yr hen ddihareb , Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd : ond ni bydd fy llaw i arnat ti . Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan ? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid ? ar ôl ci marw , ar ôl chwannen . Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr , a barned rhyngof fi a thi : edryched hefyd , a dadleued fy nadl , ac achubed fi o’th law di . A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul , yna y dywedodd Saul , Ai dy lef di yw hon , fy mab Dafydd ? A Saul a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd , Cyfiawnach wyt ti na myfi : canys ti a delaist i mi dda , a minnau a delais i ti ddrwg . A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni : oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di , ac ni’m lleddaist . Oblegid os caffai ŵr ei elyn , a ollyngai efe ef mewn ffordd dda ? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni , am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn . Ac wele yn awr , mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di , ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di . Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd , na thorri ymaith fy had i ar fy ôl , ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad . A Dafydd a dyngodd wrth Saul . A Saul a aeth i’w dŷ : Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa . A bu farw Samuel ; a holl Israel a ymgynullasant , ac a alarasant amdano ef , ac a’i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama . A Dafydd a gyfododd , ac a aeth i waered i anialwch Paran . Ac yr oedd gŵr ym Maon , a’i gyfoeth yn Carmel ; a’r gŵr oedd fawr iawn , ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid , a mil o eifr : ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel . Ac enw y gŵr oedd Nabal ; ac enw ei wraig Abigail : a’r wraig oedd yn dda ei deall , ac yn deg ei gwedd : a’r gŵr oedd galed , a drwg ei weithredoedd ; a Chalebiad oedd efe . A chlybu Dafydd yn yr anialwch , fod Nabal yn cneifio ei ddefaid . A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau ; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau , Cerddwch i fyny i Carmel , ac ewch at Nabal , a chyferchwch well iddo yn fy enw i . Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant , Caffech di heddwch , a’th dŷ heddwch , a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch . Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti : yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni , ni wnaethom sarhad arnynt hwy , ac ni bu ddim yn eisiau iddynt , yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel . Gofyn i’th lanciau , a hwy a fynegant i ti : gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di ; canys ar ddiwrnod da y daethom ni ; dyro , atolwg , yr hyn a ddelo i’th law , i’th weision , ac i’th fab Dafydd . Ac wedi dyfod llanciau Dafydd , hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd , ac a dawsant . A Nabal a atebodd weision Dafydd , ac a ddywedodd , Pwy yw Dafydd ? a phwy yw mab Jesse ? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr . A gymeraf fi fy mara a’m dwfr , a’m cig a leddais i’m cneifwyr , a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent ? Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd , ac a ddychwelasant , ac a ddaethant , ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny . A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr , Gwregyswch bob un ei gleddyf . Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf : ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf : ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd , a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn . Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal , gan ddywedyd , Wele , Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni ; ond efe a’u difenwodd hwynt . A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni ; ac ni wnaed sarhad arnom ni , ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt , pan oeddem yn y maes . Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd , yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid . Yn awr gan hynny gwybydd , ac ystyria beth a wnelych : canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni , ac yn erbyn ei holl dŷ ef : canys efe sydd fab i Belial , fel na ellir ymddiddan ag ef . Yna Abigail a frysiodd , ac a gymerth ddau cant o fara , a dwy gostrelaid o win , a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod , a phum hobaid o gras ŷd , a chan swp o resin , a dau can teisen o ffigys , ac a’u gosododd ar asynnod . A hi a ddywedodd wrth ei gweision , Cerddwch o’m blaen i ; wele fi yn dyfod ar eich ôl : ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi . Ac a hi yn marchogaeth ar asyn , ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd ; yna , wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn ; a hi a gyfarfu â hwynt . A dywedasai Dafydd , Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch , fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef : canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda . Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd , ac ychwaneg , os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef , erbyn goleuni y bore , un gwryw . A phan welodd Abigail Dafydd , hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn , ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd hyd lawr , Ac a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a ddywedodd , Arnaf fi , fy arglwydd , arnaf fi bydded yr anwiredd ; a llefared dy wasanaethferch , atolwg , wrthyt , a gwrando eiriau dy lawforwyn . Atolwg , na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn , sef Nabal : canys fel y mae ei enw ef , felly y mae yntau ; Nabal yw ei enw ef , ac ynfydrwydd sydd gydag ef : a minnau dy wasanaethferch , ni welais weision fy arglwydd , y rhai a anfonaist . Ac yn awr , fy arglwydd , fel y mae yr Arglwydd yn fyw , ac mai byw dy enaid di , gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed , ac i ymddial â’th law dy hun ; yn awr bydded dy elynion di , a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd , megis Nabal . Ac yn awr yr anrheg yma , yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd , rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd . A maddau , atolwg , gamwedd dy wasanaethferch : canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr ; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd , a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau . Er cyfodi o ddyn i’th erlid di , ac i geisio dy enaid ; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw ; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe , fel o ganol ceudeb y ffon dafl . A phan wnelo yr Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat , a phan y’th osodo di yn flaenor ar Israel ; Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti , nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd , ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos , neu ddial o’m harglwydd ef ei hun : ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd , yna cofia di dy lawforwyn . A dywedodd Dafydd wrth Abigail , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i : Bendigedig hefyd fo dy gyngor , a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed , ac i ymddial â’m llaw fy hun . Canys yn wir , fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw , yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di , oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod , diau na adawsid i Nabal , erbyn goleuni y bore , un gwryw . Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef ; ac a ddywedodd wrthi hi , Dos i fyny mewn heddwch i’th dŷ : gwêl , mi a wrandewais ar dy lais , ac a dderbyniais dy wyneb . Ac Abigail a ddaeth at Nabal ; ac wele , yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ , fel gwledd brenin : a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef ; canys meddw iawn oedd efe : am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air , na bychan na mawr , nes goleuo y bore . A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal , mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny ; a’i galon ef a fu farw o’i fewn , ac efe a aeth fel carreg . Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal , fel y bu efe farw . A phan glybu Dafydd farw Nabal , efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal , ac a ataliodd ei was rhag drwg : canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun . Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail , am ei chymryd hi yn wraig iddo . A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel , hwy a lefarasant wrthi , gan ddywedyd , Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti , i’th gymryd di yn wraig iddo . A hi a gyfododd , ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr ; ac a ddywedodd , Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd . Abigail hefyd a frysiodd , ac a gyfododd , ac a farchogodd ar asyn , a phump o’i llancesau yn ei chanlyn : a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd , ac a aeth yn wraig iddo ef . A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel ; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef . A Saul a roddasai Michal ei ferch , gwraig Dafydd , i Phalti mab Lais , o Alim . A’r Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea , gan ddywedyd , Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila , ar gyfer y diffeithwch ? Yna y cyfododd Saul , ac a aeth i waered i anialwch Siff , a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef , i geisio Dafydd yn anialwch Siff . A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila , yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch , wrth y ffordd : a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch ; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch . Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr , ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr . A Dafydd a gyfododd , ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo : a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo , ac Abner mab Ner , tywysog ei lu . A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa , a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef . Yna y llefarodd Dafydd , ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad , ac wrth Abisai mab Serfia , brawd Joab , gan ddywedyd , Pwy a â i waered gyda mi at Saul i’r gwersyll ? A dywedodd Abisai , Myfi a af i waered gyda thi . Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos . Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa , a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear wrth ei obennydd ef : ac Abner a’r bobl oedd yn gorwedd o’i amgylch ef . Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd , Duw a roddes heddiw dy elyn yn dy law di : yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef , atolwg , â gwaywffon , hyd y ddaear un waith , ac nis aildrawaf ef . A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai , Na ddifetha ef : canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd , ac a fyddai ddieuog ? Dywedodd Dafydd hefyd , Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , naill ai yr Arglwydd a’i tery ef ; ai ei ddydd ef a ddaw i farw ; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel , ac a ddifethir . Yr Arglwydd a’m cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd : ond yn awr , cymer , atolwg , y waywffon sydd wrth ei obennydd ef , a’r llestr dwfr , ac awn ymaith . A Dafydd a gymerth y waywffon , a’r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul ; a hwy a aethant ymaith ; ac nid oedd neb yn gweled , nac yn gwybod , nac yn neffro : canys yr oeddynt oll yn cysgu ; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy . Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt , ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell ; ac encyd fawr rhyngddynt ; A Dafydd a lefodd ar y bobl , ac ar Abner mab Ner , gan ddywedyd , Onid atebi di , Abner ? Yna Abner a atebodd , ac a ddywedodd , Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin ? A Dafydd a ddywedodd wrth Abner , Onid gŵr ydwyt ti ? a phwy sydd fel ti yn Israel ? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin ? canys daeth un o’r bobl i ddifetha’r brenin dy arglwydd di . Nid da y peth hyn a wnaethost ti . Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , meibion euog o farwolaeth ydych chwi , am na chadwasoch eich meistr , eneiniog yr Arglwydd . Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin , a’r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef . A Saul a adnabu lais Dafydd , ac a ddywedodd , Ai dy lais di yw hwn , fy mab Dafydd ? A dywedodd Dafydd , Fy llais i ydyw , fy arglwydd frenin . Dywedodd hefyd , Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was ? canys beth a wneuthum ? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw ? Yn awr gan hynny , atolwg , gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr . Os yr Arglwydd a’th anogodd di i’m herbyn , arogled offrwm : ond os meibion dynion , melltigedig fyddant hwy gerbron yr Arglwydd ; oherwydd hwy a’m gyrasant i allan heddiw , fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dos , gwasanaetha dduwiau dieithr . Yn awr , gan hynny , na syrthied fy ngwaed i i’r ddaear o flaen wyneb yr Arglwydd : canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen , megis un yn hela petris yn y mynyddoedd . Yna Saul a ddywedodd , Pechais : dychwel , Dafydd fy mab : canys ni’th ddrygaf mwy ; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn : wele , ynfyd y gwneuthum , a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr . A Dafydd a atebodd , ac a ddywedodd , Wele waywffon y brenin ; deled un o’r llanciau drosodd , a chyrched hi . Yr Arglwydd a dalo i bob un ei gyfiawnder a’i ffyddlondeb : canys yr Arglwydd a’th roddodd di heddiw yn fy llaw i ; ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd . Ac wele , megis y bu werthfawr dy einioes di heddiw yn fy ngolwg i , felly gwerthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr Arglwydd , a gwareded fi o bob cyfyngdra . Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd , Bendigedig fych di , fy mab Dafydd : hefyd ti a wnei fawredd , ac a orchfygi rhag llaw . A Dafydd a aeth i ffordd ; a Saul a ddychwelodd i’w fangre ei hun . A Dafydd a ddywedodd yn ei galon , Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul : nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid ; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi , ac na’m ceisio mwy yn holl derfynau Israel . Felly y dihangaf o’i law ef . A Dafydd a gyfododd , ac a dramwyodd , efe a’r chwe channwr oedd gydag ef , at Achis mab Maoch , brenin Gath . A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath , efe a’i wŷr , pob un gyda’i deulu ; Dafydd a’i ddwy wraig , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail gwraig Nabal , y Garmeles . A mynegwyd i Saul , ffoi o Dafydd i Gath : ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy . A Dafydd a ddywedodd wrth Achis , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di , rhodder i mi le yn un o’r maestrefi , fel y trigwyf yno : canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi ? Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag ; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn . A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid , oedd flwyddyn a phedwar mis . A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny , ac a ruthrasant ar y Gesuriaid , a’r Gesriaid , a’r Amaleciaid : canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad , ffordd yr elych i Sur , ie , hyd wlad yr Aifft . A Dafydd a drawodd y wlad ; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig ; ac a ddug y defaid , a’r gwartheg , a’r asynnod , a’r camelod , a’r gwisgoedd , ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis . Ac Achis a ddywedodd , I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw ? A dywedodd Dafydd , Yn erbyn tu deau Jwda , ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid , ac yn erbyn tu deau y Ceneaid . Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig , i ddwyn chwedlau i Gath ; gan ddywedyd , Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnaeth Dafydd , ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid . Ac Achis a gredodd Dafydd , gan ddywedyd , Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel ; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd . A’r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu , i ymladd yn erbyn Israel . A dywedodd Achis wrth Dafydd , Gwybydd di yn hysbys , yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd , ti a’th wŷr . A dywedodd Dafydd wrth Achis , Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur . A dywedodd Achis wrth Dafydd , Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth . A Samuel a fuasai farw ; a holl Israel a alarasent amdano ef , ac a’i claddasent yn Rama , sef yn ei ddinas ei hun . A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad . A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem : a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd ; a hwy a wersyllasant yn Gilboa . A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid , efe a ofnodd , a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr . A phan ymgynghorodd Saul â’r Arglwydd , nid atebodd yr Arglwydd iddo , na thrwy freuddwydion , na thrwy Urim , na thrwy broffwydi . Yna y dywedodd Saul wrth ei weision , Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth , fel yr elwyf ati , ac yr ymofynnwyf â hi . A’i weision a ddywedasant wrtho , Wele , y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor . A Saul a newidiodd ei ddull , ac a wisgodd ddillad eraill ; ac efe a aeth , a dau ŵr gydag ef , a hwy a ddaethant at y wraig liw nos . Ac efe a ddywedodd , Dewinia , atolwg , i mi trwy ysbryd dewiniaeth , a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt . A’r wraig a ddywedodd wrtho ef , Wele , ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul , yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad : paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i , i beri i mi farw ? A Saul a dyngodd wrthi hi i’r Arglwydd , gan ddywedyd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn . Yna y dywedodd y wraig , Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti ? Ac efe a ddywedodd , Dwg i mi Samuel i fyny . A’r wraig a ganfu Samuel , ac a lefodd â llef uchel : a’r wraig a lefarodd wrth Saul , gan ddywedyd , Paham y twyllaist fi ? canys ti yw Saul . A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Nac ofna : canys beth a welaist ti ? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul , Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear . Yntau a ddywedodd wrthi , Pa ddull sydd arno ef ? A hi a ddywedodd , Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny , a hwnnw yn gwisgo mantell . A gwybu Saul mai Samuel oedd efe ; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr , ac a ymgrymodd . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Paham yr aflonyddaist arnaf , gan beri i mi ddyfod i fyny ? A dywedodd Saul , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi : canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i , a Duw a giliodd oddi wrthyf fi , ac nid yw yn fy ateb mwyach , na thrwy law proffwydi , na thrwy freuddwydion : am hynny y gelwais arnat ti , i hysbysu i mi beth a wnawn . Yna y dywedodd Samuel , Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi , gan i’r Arglwydd gilio oddi wrthyt , a bod yn elyn i ti ? Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo , megis y llefarodd trwy fy llaw i : canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o’th law di , ac a’i rhoddes hi i’th gymydog , i Dafydd : Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd , ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec ; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn . Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid : ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi : a’r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid . Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o’i hyd gyhyd ar y ddaear , ac a ofnodd yn ddirfawr , oherwydd geiriau Samuel : a nerth nid oedd ynddo ; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na’r holl noson honno . A’r wraig a ddaeth at Saul , ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn ; a hi a ddywedodd wrtho ef , Wele , gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di , a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd , ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf : Yn awr gan hynny gwrando dithau , atolwg , ar lais dy wasanaethferch , a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara ; a bwyta , fel y byddo nerth ynot , pan elych i’th ffordd . Ond efe a wrthododd , ac a ddywedodd , Ni fwytâf . Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef ; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt . Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear , ac a eisteddodd ar y gwely . Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ ; a hi a frysiodd , ac a’i lladdodd ef , ac a gymerth beilliaid , ac a’i tylinodd , ac a’i pobodd yn gri : A hi a’i dug gerbron Saul , a cherbron ei weision : a hwy a fwytasant . Yna hwy a gyfodasant , ac a aethant ymaith y noson honno . Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec : a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel . A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd , ac yn filoedd : ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis . Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant , Beth a wna yr Hebreaid hyn yma ? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid , Onid dyma Dafydd , gwas Saul brenin Israel , yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn , neu y blynyddoedd hyn , ac ni chefais ddim bai ynddo ef , er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn ? A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho ; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho , Gwna i’r gŵr hwn ddychwelyd i’w le a osodaist iddo , ac na ddeled i waered gyda ni i’r rhyfel ; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel : canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i’w feistr ? onid â phennau y gwŷr hyn ? Onid hwn yw Dafydd , am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau , gan ddywedyd , Saul a laddodd ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn ? Yna Achis a alwodd Dafydd , ac a ddywedodd wrtho , Fel mai byw yr Arglwydd , diau dy fod di yn uniawn , ac yn dda yn fy ngolwg i , pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll : canys ni chefais ynot ddrygioni , o’r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn : eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion . Dychwel yn awr , gan hynny , a dos mewn heddwch , ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid . A dywedodd Dafydd wrth Achis , Ond beth a wneuthum i ? a pheth a gefaist ti yn dy was , o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn , fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin ? Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd , Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i , megis angel Duw : ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant , Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel . Am hynny yn awr cyfod yn fore , a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi : a phan gyfodoch yn fore , a phan oleuo i chwi ewch ymaith . Felly Dafydd a gyfododd , efe a’i wŷr , i fyned ymaith y bore , i ddychwelyd i dir y Philistiaid . A’r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel . A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd , yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau , ac ar Siclag , ac a drawsent Siclag , ac a’i llosgasent hi â thân . Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi : o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb , eithr dygasent hwy ymaith , ac aethent i’w ffordd . Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas ; ac wele hi wedi ei llosgi â thân : eu gwragedd hwynt hefyd , a’u meibion , a’u merched , a gaethgludasid . Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef , ac a wylasant , hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo . Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail , gwraig Nabal y Carmeliad . A bu gyfyng iawn ar Dafydd ; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef ; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl , bob un am ei feibion , ac am ei ferched : ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw . A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad , mab Ahimelech , Dwg i mi , atolwg , yr effod , Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon ? a oddiweddaf fi hi ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Erlid : canys gan oddiweddyd y goddiweddi , a chan waredu y gwaredi . Felly Dafydd a aeth , efe a’r chwe channwr oedd gydag ef , a hwy a ddaethant hyd afon Besor , lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl . A Dafydd a erlidiodd , efe a phedwar cant o wŷr ; canys dau cannwr a arosasant yn ôl , y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor . A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes , ac a’i dygasant ef at Dafydd ; ac a roddasant iddo fara , ac efe a fwytaodd ; a hwy a’i diodasant ef â dwfr . A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys , a dau swp o resin : ac efe a fwytaodd , a’i ysbryd a ddychwelodd ato : canys ni fwytasai fara , ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos . A Dafydd a ddywedodd wrtho , Gwas i bwy wyt ti ? ac o ba le y daethost ti ? Ac efe a ddywedodd , Llanc o’r Aifft ydwyf fi , gwas i ŵr o Amalec ; a’m meistr a’m gadawodd , oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach . Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid , a’r hyn sydd eiddo Jwda , a thu deau Caleb : Siclag hefyd a losgasom ni â thân . A Dafydd a ddywedodd wrtho , A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon ? Yntau a ddywedodd , Twng wrthyf fi i Dduw , na leddi fi , ac na roddi fi yn llaw fy meistr , a mi a af â thi i waered at y dorf hon . Ac efe a’i dug ef i waered : ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir , yn bwyta , ac yn yfed , ac yn dawnsio ; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid , ac o wlad Jwda . A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth : ac ni ddihangodd un ohonynt , oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc , y rhai a farchogasant ar gamelod , ac a ffoesant . A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid : Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig . Ac nid oedd yn eisiau iddynt , na bychan na mawr , na mab na merch , na’r anrhaith , na dim ag a ddygasent hwy ganddynt : hyn oll a ddug Dafydd adref . Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid , a’r gwartheg ; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill , ac a ddywedasant , Dyma anrhaith Dafydd . A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent , fel na allent ganlyn Dafydd , ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor : a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd , ac i gyfarfod â’r bobl oedd gydag ef . A phan nesaodd Dafydd at y bobl , efe a gyfarchodd well iddynt . Yna yr atebodd pob gŵr drygionus , ac eiddo y fall , o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd , ac a ddywedasant , Oherwydd nad aethant hwy gyda ni , ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni ; eithr i bob un ei wraig , a’i feibion : dygant hwynt ymaith , ac ymadawant . Yna y dywedodd Dafydd , Ni wnewch chwi felly , fy mrodyr , am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni , yr hwn a’n cadwodd ni , ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn , yn ein llaw ni . Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn ? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel , a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn : hwy a gydrannant . Ac o’r dydd hwnnw allan , efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel , hyd y dydd hwn . A phan ddaeth Dafydd i Siclag , efe a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid Jwda , sef i’w gyfeillion , gan ddywedyd , Wele i chwi anrheg , o anrhaith gelynion yr Arglwydd ; Sef i’r rhai oedd yn Bethel , ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau , ac i’r rhai oedd yn Jattir , Ac i’r rhai oedd yn Aroer , ac i’r rhai oedd yn Siffmoth , ac i’r rhai oedd yn Estemoa , Ac i’r rhai oedd yn Rachal , ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid , ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid , Ac i’r rhai oedd yn Horma , ac i’r rhai oedd yn Chorasan , ac i’r rhai oedd yn Athac , Ac i’r rhai oedd yn Hebron , ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt . A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel : a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid , ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa . A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion ; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan , ac Abinadab , a Malci-sua , meibion Saul . A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul , a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef ; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion . Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyn dy gleddyf , a thrywana fi ag ef ; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i , a’m gwaradwyddo . Ond ni fynnai ei yswain ef ; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr : am hynny Saul a gymerodd gleddyf , ac a syrthiodd arno . A phan welodd ei yswain farw o Saul , yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf , ac a fu farw gydag ef . Felly y bu farw Saul , a’i dri mab , a’i yswain , a’i holl wŷr , y dydd hwnnw ynghyd . A phan welodd gwŷr Israel , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn , a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen , ffoi o wŷr Israel , a marw Saul a’i feibion , hwy a adawsant y dinasoedd , ac a ffoesant ; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt . A’r bore , pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion , hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa . A hwy a dorasant ei ben ef , ac a ddiosgasant ei arfau ef , ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth , i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt , ac ymysg y bobl . A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth ; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan . A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul ; Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant , a gerddasant ar hyd y nos , ac a ddygasant ymaith gorff Saul , a chyrff ei feibion ef , oddi ar fur Bethsan , ac a ddaethant i Jabes , ac a’u llosgasant hwynt yno . A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt , ac a’u claddasant dan bren yn Jabes , ac ymprydiasant saith niwrnod . Ac ar ôl marwolaeth Saul , pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid , wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag ; Yna y trydydd dydd , wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul , a’i ddillad wedi eu rhwygo , a phridd ar ei ben : a phan ddaeth efe at Dafydd , efe a syrthiodd i lawr , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd wrtho ef , O ba le y daethost ti ? Yntau a ddywedodd wrtho , O wersyll Israel y dihengais i . A dywedodd Dafydd wrtho ef , Pa fodd y bu ? mynega , atolwg , i mi . Yntau a ddywedodd , Y bobl a ffodd o’r rhyfel , a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd , ac a fuant feirw ; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw . A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo , Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab ? A’r llanc , yr hwn oedd yn mynegi iddo , a ddywedodd , Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa ; ac wele , Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon : wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef . Ac efe a edrychodd o’i ôl , ac a’m canfu i , ac a alwodd arnaf fi . Minnau a ddywedais , Wele fi . Dywedodd yntau wrthyf , Pwy wyt ti ? Minnau a ddywedais wrtho , Amaleciad ydwyf fi . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Saf , atolwg , arnaf , a lladd fi : canys cyfyngder a ddaeth arnaf , oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto . Felly mi a sefais arno ef , ac a’i lleddais ef ; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo : a chymerais y goron oedd ar ei ben ef , a’r freichled oedd am ei fraich ef , ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd . Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad , ac a’u rhwygodd hwynt ; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef . Galarasant hefyd , ac wylasant , ac ymprydiasant hyd yr hwyr , am Saul ac am Jonathan ei fab , ac am bobl yr Arglwydd , ac am dŷ Israel ; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf . A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo , O ba le yr hanwyt ti ? Yntau a ddywedodd , Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi . A dywedodd Dafydd wrtho , Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd ? A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision , ac a ddywedodd , Nesâ , rhuthra iddo ef . Ac efe a’i trawodd ef , fel y bu efe farw . A dywedodd Dafydd wrtho ef , Bydded dy waed di ar dy ben dy hun : canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn , gan ddywedyd , Myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd . A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab : ( Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa : wele , y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser . ) O ardderchowgrwydd Israel , efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di : pa fodd y cwympodd y cedyrn ! Nac adroddwch hyn yn Gath ; na fynegwch yn heolydd Ascalon : rhag llawenychu merched y Philistiaid , rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig . O fynyddoedd Gilboa , na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw , na meysydd o offrymau ! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus , tarian Saul , fel pe buasai heb ei eneinio ag olew . Oddi wrth waed y lladdedigion , oddi wrth fraster y cedyrn , ni throdd bwa Jonathan yn ôl , a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag . Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd , ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt : cynt oeddynt na’r eryrod , a chryfach oeddynt na’r llewod . Merched Israel , wylwch am Saul , yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad , gyda hyfrydwch , yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi . Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel ! Jonathan , ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd . Gofid sydd arnaf amdanat ti , fy mrawd Jonathan : cu iawn fuost gennyf fi : rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi , tu hwnt i gariad gwragedd . Pa fodd y syrthiodd y cedyrn , ac y difethwyd arfau rhyfel ! Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef , Dos i fyny . A dywedodd Dafydd , I ba le yr af i fyny ? Dywedodd yntau , I Hebron . A Dafydd a aeth i fyny yno , a’i ddwy wraig hefyd , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad . A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef , pob un â’i deulu : a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron . A gwŷr Jwda a ddaethant , ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda . A mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul . A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead , ac a ddywedodd wrthynt , Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd , y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul , ac a’i claddasoch ef . Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd a gwirionedd : minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn , oblegid i chwi wneuthur y peth hyn . Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo , a byddwch feibion grymus : canys marw a fu eich arglwydd Saul , a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt . Ond Abner mab Ner , tywysog y filwriaeth oedd gan Saul , a gymerth Isboseth mab Saul , ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim ; Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead , ac ar yr Assuriaid , ac ar Jesreel , ac ar Effraim , ac ar Benjamin , ac ar holl Israel . Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul , pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel ; a dwy flynedd y teyrnasodd efe . Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd . A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda , oedd saith mlynedd a chwe mis . Ac Abner mab Ner , a gweision Isboseth mab Saul , a aethant allan o Mahanain i Gibeon . Joab hefyd mab Serfia , a gweision Dafydd , a aethant allan , ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon : a hwy a eisteddasant wrth y llyn , rhai o’r naill du , a’r lleill wrth y llyn o’r tu arall . Ac Abner a ddywedodd wrth Joab , Cyfoded yn awr y llanciau , a chwaraeant ger ein bronnau ni . A dywedodd Joab , Cyfodant . Yna y cyfodasant , ac yr aethant drosodd dan rif , deuddeg o Benjamin , sef oddi wrth Isboseth mab Saul , a deuddeg o weision Dafydd . A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd , ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill ; felly y cydsyrthiasant hwy . Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim , yn Gibeon . A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw ; a thrawyd Abner , a gwŷr Israel , o flaen gweision Dafydd . A thri mab Serfia oedd yno , Joab , ac Abisai , ac Asahel : ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes . Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner ; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy , oddi ar ôl Abner . Yna Abner a edrychodd o’i ôl , ac a ddywedodd , Ai tydi yw Asahel ? A dywedodd yntau , Ie , myfi . A dywedodd Abner wrtho ef , Tro ar dy law ddeau , neu ar dy law aswy , a dal i ti un o’r llanciau , a chymer i ti ei arfau ef . Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef . Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel , Cilia oddi ar fy ôl i : paham y trawaf di i lawr ? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny ? Ond efe a wrthododd ymado . Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais , a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo ; ac efe a syrthiodd yno , ac a fu farw yn ei le : a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo , ac y buasai farw , a safasant . Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner : pan fachludodd yr haul , yna y daethant hyd fryn Amma , yr hwn sydd gyferbyn â Gia , tuag anialwch Gibeon . A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner , ac a aethant yn un fintai , ac a safasant ar ben bryn . Yna Abner a alwodd ar Joab , ac a ddywedodd , Ai byth y difa y cleddyf ? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd ? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr ? A dywedodd Joab , Fel mai byw Duw , oni buasai yr hyn a ddywedaist , diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny , bob un oddi ar ôl ei frawd . Felly Joab a utganodd mewn utgorn ; a’r holl bobl a safasant , ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel , ac ni chwanegasant ymladd mwyach . Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno , ac a aethant dros yr Iorddonen , ac a aethant trwy holl Bithron , a daethant i Mahanaim . A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner : ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd , yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg , ac Asahel . A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin , ac o wŷr Abner , dri chant a thrigain gŵr , fel y buant feirw . A hwy a gymerasant Asahel , ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad , yr hwn oedd ym Methlehem . A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos , ac yn Hebron y goleuodd arnynt . A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd : a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach , ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach . A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron : a’i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon , o Ahinoam y Jesreeles ; A’i ail fab oedd Chileab , o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad ; a’r trydydd , Absalom , mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur ; A’r pedwerydd , Adoneia , mab Haggith ; a’r pumed , Seffatia , mab Abital : A’r chweched , Ithream , o Egla gwraig Dafydd . Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron . A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd , yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul . Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa , merch Aia : ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner , Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad ? Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth , ac a ddywedodd , Ai pen ci ydwyf fi , yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di , â’i frodyr , ac â’i gyfeillion , a heb dy roddi di yn llaw Dafydd , pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw ? Fel hyn y gwnelo Duw i Abner , ac fel hyn y chwanego iddo , onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Dafydd , felly y gwnaf iddo ef ; Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul , a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel , ac ar Jwda , o Dan hyd Beer‐seba . Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner , rhag ei ofn ef . Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun , gan ddywedyd , Eiddo pwy yw y wlad ? a chan ddywedyd , Gwna gynghrair â mi ; ac wele , fy llaw i fydd gyda thi , i droi atat ti holl Israel . A dywedodd yntau , Da ; myfi a wnaf gyfamod â thi : eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt , gan ddywedyd , Ni weli fy wyneb , oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul , pan ddelych i edrych yn fy wyneb . A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul , gan ddywedyd , Dyro i mi fy ngwraig Michal , yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid . Ac Isboseth a anfonodd , ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr , sef oddi wrth Phaltiel mab Lais . A’i gŵr a aeth gyda hi , gan fyned ac wylo ar ei hôl hi , hyd Bahurim . Yna y dywedodd Abner wrtho ef , Dos , dychwel . Ac efe a ddychwelodd . Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel , gan ddywedyd , Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch . Ac yn awr gwnewch hynny : canys yr Arglwydd a lefarodd am Dafydd , gan ddywedyd , Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid , ac o law eu holl elynion . Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin : ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron , am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel , ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin . Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron , ac ugeinwr gydag ef . A Dafydd a wnaeth wledd i Abner , ac i’r gwŷr oedd gydag ef . A dywedodd Abner wrth Dafydd , Mi a gyfodaf ac a af , ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin , fel y gwnelont gyfamod â thi , ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon . A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith ; ac efe a aeth mewn heddwch . Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf , ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt : ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron ; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith , ac yntau a aethai mewn heddwch . Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef , mynegwyd i Joab , gan ddywedyd , Abner mab Ner a ddaeth at y brenin ; ac efe a’i gollyngodd ef ymaith , ac efe a aeth mewn heddwch . A Joab a ddaeth at y brenin , ac a ddywedodd , Beth a wnaethost ti ? wele , daeth Abner atat ti ; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith ? Ti a adwaenit Abner mab Ner , mai i’th dwyllo di y daeth efe , ac i wybod dy fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur . A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd , ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner ; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira , heb wybod i Dafydd . A phan ddychwelodd Abner i Hebron , Joab a’i trodd ef o’r neilltu yn y porth , i ymddiddan ag ef mewn heddwch ; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais , fel y bu efe farw , oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef . Ac wedi hynny y clybu Dafydd , ac y dywedodd , Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth , oddi wrth waed Abner mab Ner : Syrthied ar ben Joab , ac ar holl dŷ ei dad ef : fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd , neu yn wahanglwyfus , neu yn ymgynnal wrth fagl , neu yn syrthio ar gleddyf , neu mewn eisiau bara . Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner , oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon . A Dafydd a ddywedodd wrth Joab , ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef , Rhwygwch eich dillad , ac ymwregyswch mewn sachliain , a galerwch o flaen Abner . A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor . A hwy a gladdasant Abner yn Hebron . A’r brenin a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd wrth fedd Abner ; a’r holl bobl a wylasant . A’r brenin a alarnadodd am Abner , ac a ddywedodd , Ai fel y mae yr ynfyd yn marw , y bu farw Abner ? Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym , ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd : syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir . A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef . A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara , a hi eto yn ddydd , Dafydd a dyngodd , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , os archwaethaf fara , na dim oll , nes machludo’r haul . A’r holl bobl a wybuant hynny , a da oedd hyn yn eu golwg hwynt : a’r hyn oll a wnâi y brenin , oedd dda yng ngolwg y bobl . A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw , na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner . A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision , Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel ? A minnau ydwyf eiddil heddiw , er fy eneinio yn frenin ; a’r gwŷr hyn , meibion Serfia , sydd ry galed i mi . Yr Arglwydd a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni . Aphan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron , ei ddwylo a laesasant , a holl Israel a ofnasant . A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd : enw un oedd Baana , ac enw yr ail Rechab , meibion Rimmon y Beerothiad , o feibion Benjamin : ( canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin : A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim , ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn . ) Ac i Jonathan , mab Saul , yr oedd mab cloff o’i draed . Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel ; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd : a bu , wrth frysio ohoni i ffoi , iddo ef syrthio , fel y cloffodd efe . A’i enw ef oedd Meffiboseth . A meibion Rimmon y Beerothiad , Rechab a Baana , a aethant ac a ddaethant , pan wresogasai y dydd , i dŷ Isboseth ; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd . Ac wele , hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ , fel rhai yn prynu gwenith ; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen : a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant . A phan ddaethant i’r tŷ , yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely : a hwy a’i trawsant ef , ac a dorasant ei ben ef ; ac a gymerasant ei ben ef , ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos . A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron ; ac a ddywedasant wrth y brenin , Wele ben Isboseth mab Saul , dy elyn di , yr hwn a geisiodd dy einioes di : a’r Arglwydd a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul , ac ar ei had . A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd , meibion Rimon y Beerothiad , ac a ddywedodd wrthynt , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra , Pan fynegodd un i mi , gan ddywedyd , Wele , bu farw Saul , ( ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl , ) mi a ymeflais ynddo , ac a’i lleddais ef yn Siclag , yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl : Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ , ar ei wely ? Yn awr , gan hynny , oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi ? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear ? A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau ; a hwy a’u lladdasant hwy , ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed , ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron . Ond pen Isboseth a gymerasant hwy , ac a’i claddasant ym meddrod Abner , yn Hebron . Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron , ac a lefarasant , gan ddywedyd , Wele , dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni . Cyn hyn hefyd , pan oedd Saul yn frenin arnom ni , ti oeddit yn arwain Israel allan , ac yn eu dwyn i mewn : a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti , Ti a borthi fy mhobl Israel , a thi a fyddi yn flaenor ar Israel . Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron : a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron , gerbron yr Arglwydd : a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel . Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu ; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe . Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis : ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda . A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem , at y Jebusiaid , preswylwyr y wlad : y rhai a lefarasant wrth Dafydd , gan ddywedyd , Ni ddeui di yma , oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion : gan dybied , Ni ddaw Dafydd yma . Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion : honno yw dinas Dafydd . A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw , Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter , ac a drawo’r Jebusiaid , a’r cloffion , a’r deillion , y rhai sydd gas gan enaid Dafydd , hwnnw fydd blaenor . Am hynny y dywedasant , Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ . A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa , ac a’i galwodd hi , Dinas Dafydd . A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch , o Milo ac oddi mewn . A Dafydd a aeth rhagddo , ac a gynyddodd yn fawr ; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef . A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd , a choed cedr , a seiri prennau , a seiri meini : a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd . A gwybu Dafydd i’r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel , a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel . A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem , wedi iddo ddyfod o Hebron : a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched . A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem ; Sammua , a Sobab , a Nathan , a Solomon , Ibhar hefyd , ac Elisua , a Neffeg , a Jaffia , Elisama hefyd , ac Eliada , ac Eliffalet . Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel , yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd . A Dafydd a glybu , ac a aeth i waered i’r amddiffynfa . A’r Philistiaid a ddaethant , ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi i fyny at y Philistiaid ? a roddi di hwynt yn fy llaw i ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd , Dos i fyny : canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di . A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim ; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno ; ac a ddywedodd , Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i , megis gwahanu dyfroedd . Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw , Baal‐perasim . Ac yno y gadawsant hwy eu delwau ; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt . A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny , ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd ; ac efe a ddywedodd , Na ddos i fyny : amgylchyna o’r tu ôl iddynt , a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd . A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd , yna ymegnïa : canys yna yr Arglwydd a â allan o’th flaen di , i daro gwersyll y Philistiaid . A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef ; ac a drawodd y Philistiaid o Geba , hyd oni ddelech i Gaser . A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel , sef deng mil ar hugain . A Dafydd a gyfododd , ac a aeth , a’r holl bobl oedd gydag ef , o Baale Jwda , i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw ; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid . A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd ; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea : Ussa hefyd ac Ahio , meibion Abinadab , oedd yn gyrru y fen newydd . A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea , gydag arch Duw ; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch . Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd , â phob offer o goed ffynidwydd , sef â thelynau , ac â nablau , ac â thympanau , ac ag utgyrn , ac â symbalau . A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon , Ussa a estynnodd ei law at arch Duw , ac a ymaflodd ynddi hi ; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd . A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa : a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn ; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw . A bu ddrwg gan Dafydd , am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa : ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa , hyd y dydd hwn . A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw ; ac a ddywedodd , Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi ? Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd : ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad . Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis : a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom , a’i holl dŷ . A mynegwyd i’r brenin Dafydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom , a’r hyn oll oedd ganddo , er mwyn arch Duw . Yna Dafydd a aeth , ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom , i ddinas Dafydd , mewn llawenydd . A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau , yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion . A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd ; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain . Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd , trwy floddest , a sain utgorn . Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd , yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr , ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio , ac yn llemain o flaen yr Arglwydd ; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon . A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd , ac a’i gosodasant yn ei lle , yng nghanol y babell , yr hon a osodasai Dafydd iddi . A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd . Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd , efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd . Ac efe a rannodd i’r holl bobl , sef i holl dyrfa Israel , yn ŵr ac yn wraig , i bob un deisen o fara , ac un dryll o gig , ac un gostrelaid o win . Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun . Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ : a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd ; ac a ddywedodd , O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw , yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision , fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg . A dywedodd Dafydd wrth Michal , Gerbron yr Arglwydd , yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di , ac o flaen ei holl dŷ ef , gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd , ar Israel , y chwaraeais : a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd . Byddaf eto waelach na hyn , a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun : a chyda’r llawforynion , am y rhai y dywedaist wrthyf , y’m gogoneddir . Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth . Aphan eisteddodd y brenin yn ei dŷ , a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch : Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd , Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd , ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau . A Nathan a ddywedodd wrth y brenin , Dos , gwna yr hyn oll sydd yn dy galon : canys yr Arglwydd sydd gyda thi . A bu , y noson honno , i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth fy ngwas Dafydd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ , lle y cyfanheddwyf fi ? Canys nid arhosais mewn tŷ , er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft , hyd y dydd hwn , eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl . Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel , a yngenais i air wrth un o lwythau Israel , i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel , gan ddywedyd , Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd ? Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd ; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan , oddi ar ôl y praidd , i fod yn flaenor ar fy mhobl , ar Israel . A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist ; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen , a gwneuthum enw mawr i ti , megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear . Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le ; a phlannaf ef , fel y trigo efe yn ei le ei hun , ac na symudo mwyach : a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef , megis cynt ; Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel , ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion . A’r Arglwydd sydd yn mynegi i ti , y gwna efe dŷ i ti . A phan gyflawner dy ddyddiau di , a huno ohonot gyda’th dadau , mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl , yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di , a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef . Efe a adeilada dŷ i’m henw i ; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth . Myfi a fyddaf iddo ef yn dad , ac yntau fydd i mi yn fab . Os trosedda efe , mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol , ac â dyrnodiau meibion dynion : Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef , megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul , yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di . A’th dŷ di a sicrheir , a’th frenhiniaeth , yn dragywydd o’th flaen di : dy orseddfainc a sicrheir byth . Yn ôl yr holl eiriau hyn , ac yn ôl yr holl weledigaeth hon , felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd . Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn , ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd : ac a ddywedodd , Pwy ydwyf fi , O Arglwydd Dduw ? a pheth yw fy nhŷ , pan ddygit fi hyd yma ? Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di , O Arglwydd Dduw ; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser : ai dyma arfer dyn , O Arglwydd Dduw ? A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt ? canys ti a adwaenost dy was , O Arglwydd Dduw . Er mwyn dy air di , ac yn ôl dy feddwl dy hun , y gwnaethost yr holl fawredd hyn , i beri i’th was eu gwybod . Am hynny y’th fawrhawyd , O Arglwydd Dduw ; canys nid oes neb fel tydi , ac nid oes Duw onid ti , yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau . A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl , megis Israel , yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun , ac i osod iddo enw , ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir , gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft , oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau ? Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth : a thi , Arglwydd , ydwyt iddynt hwy yn Dduw . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw , cwblha byth y gair a leferaist am dy was , ac am ei dŷ ef , a gwna megis y dywedaist . A mawrhaer dy enw yn dragywydd ; gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel : a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di . Canys ti , O Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , a fynegaist i’th was , gan ddywedyd , Adeiladaf dŷ i ti : am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw , tydi sydd Dduw , a’th eiriau di sydd wirionedd , a thi a leferaist am dy was y daioni hwn . Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was , i fod ger dy fron di yn dragywydd : canys ti , O Arglwydd Dduw , a leferaist , ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd . Ac wedi hyn trawodd Dafydd y Philistiaid , ac a’u darostyngodd hwynt : a Dafydd a ddug ymaith Metheg‐amma o law y Philistiaid . Ac efe a drawodd Moab , ac a’u mesurodd hwynt â llinyn , gan eu cwympo hwynt i lawr : ac efe a fesurodd â dau linyn , i ladd ; ac â llinyn llawn , i gadw yn fyw . Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision , yn dwyn treth . Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob , brenin Soba , pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates . A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau , a saith gant o farchogion , ac ugain mil o wŷr traed : a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd , ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd . A phan ddaeth y Syriad o Damascus , i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba , Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr . A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus ; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd , yn dwyn treth . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe . Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser , ac a’u dug hwynt i Jerwsalem . O Beta hefyd , ac o Berothai , dinasoedd Hadadeser , y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres . Pan glybu Toi brenin Hamath , daro o Dafydd holl lu Hadadeser ; Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd , i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio , am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser , a’i faeddu ef ; ( canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi : ) a llestri arian , a llestri aur , a llestri pres ganddo : Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd , gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe ; Oddi ar Syria , ac oddi ar Moab , ac oddi ar feibion Ammon , ac oddi ar y Philistiaid , ac oddi ar Amalec , ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob , brenin Soba . A Dafydd a enillodd iddo enw , pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid , yn nyffryn yr halen , sef tair mil ar bymtheg . Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom ; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid , a bu holl Edom yn weision i Dafydd . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd , i ba le bynnag yr aeth efe . A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel ; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl . A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; A Sadoc mab Ahitub , ac Ahimelech mab Abiathar , oedd offeiriaid ; a Seraia yn ysgrifennydd : Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid ; a meibion Dafydd oedd dywysogion . A Dafydd a ddywedodd , A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul , fel y gwnelwyf drugaredd ag ef , er mwyn Jonathan ? Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba . A hwy a’i galwasant ef at Dafydd . A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , Ai tydi yw Siba ? A dywedodd yntau , Dy was yw efe . A dywedodd y brenin , A oes neb eto o dŷ Saul , fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef ? A dywedodd Siba wrth y brenin , Y mae eto fab i Jonathan , yn gloff o’i draed . A dywedodd y brenin wrtho , Pa le y mae efe ? A Siba a ddywedodd wrth y brenin , Wele ef yn nhŷ Machir , mab Ammïel , yn Lo‐debar . Yna y brenin Dafydd a anfonodd , ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir , mab Ammïel , o Lo‐debar . A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan , mab Saul , at Dafydd , efe a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd , Meffiboseth . Dywedodd yntau , Wele dy was . A Dafydd a ddywedodd wrtho ef , Nac ofna : canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi , er mwyn Jonathan dy dad , a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad ; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol . Ac efe a ymgrymodd , ac a ddywedodd , Beth ydyw dy was di , pan edrychit ar gi marw o’m bath i ? Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul , ac a ddywedodd wrtho , Yr hyn oll oedd eiddo Saul , ac eiddo ei holl dŷ ef , a roddais i fab dy feistr di . A thi a erddi y tir iddo ef , ti , a’th feibion , a’th weision , ac a’u dygi i mewn , fel y byddo bara i fab dy feistr di , ac y bwytao efe : a Meffiboseth , mab dy feistr di , a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i . Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion , ac ugain o weision . Yna y dywedodd Siba wrth y brenin , Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was , felly y gwna dy was . Yna y dywedodd Dafydd , Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i , fel un o feibion y brenin . Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan , a’i enw oedd Micha . A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth . A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem : canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol : ac yr oedd efe yn gloff o’i ddeudroed . Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw , a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yna y dywedodd Dafydd , Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas , megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi . A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad . A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon . A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd , Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd , oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti ? onid er mwyn chwilio’r ddinas , a’i throedio , a’i difetha , yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti ? Yna Hanun a gymerth weision Dafydd , ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt , ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner , hyd eu cluniau , ac a’u gollyngodd hwynt ymaith . Pan fynegwyd hyn i Dafydd , efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt ; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr . A dywedodd y brenin , Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi ; ac yna dychwelwch . A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd ; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob , a’r Syriaid o Soba , ugain mil o wŷr traed , a chan frenin Maacha fil o wŷr , ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr . A phan glybu Dafydd , efe a anfonodd Joab , a holl lu y cedyrn . A meibion Ammon a ddaethant , ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth : a’r Syriaid o Soba , a Rehob , ac o Istob , a Maacha , oedd o’r neilltu yn y maes . Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl , efe a etholodd o holl etholedigion Israel , ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid . A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd , i’w byddino yn erbyn meibion Ammon . Ac efe a ddywedodd , Os trech fydd y Syriaid na mi , yna bydd di i mi yn gynhorthwy ; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi , yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau . Bydd bybyr , ac ymwrolwn dros ein pobl , a thros ddinasoedd ein Duw : a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef . A nesaodd Joab , a’r bobl oedd gydag ef , yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel : a hwy a ffoesant o’i flaen ef . A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid , hwythau a ffoesant o flaen Abisai , ac a aethant i’r ddinas . A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon , ac a ddaeth i Jerwsalem . A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel , hwy a ymgynullasant ynghyd . A Hadareser a anfonodd , ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon : a hwy a ddaethant i Helam , a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen . A phan fynegwyd i Dafydd hynny , efe a gasglodd holl Israel , ac a aeth dros yr Iorddonen , ac a ddaeth i Helam : a’r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd , ac a ymladdasant ag ef . A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel ; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid , wŷr saith gant o gerbydau , a deugain mil o wŷr meirch : ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt , fel y bu efe farw yno . A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser , eu lladd hwynt o flaen Israel , hwy a heddychasant ag Israel , ac a’u gwasanaethasant hwynt . A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach . Ac wedi pen y flwyddyn , yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel , danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef , a holl Israel ; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon , ac a warchaeasant ar Rabba : ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem . A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely , a rhodio ar nen tŷ y brenin : ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi ; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg . A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig : ac un a ddywedodd , Onid hon yw Bathseba merch Elïam , gwraig Ureias yr Hethiad ? A Dafydd a anfonodd genhadau , ac a’i cymerth hi ; a hi a ddaeth i mewn ato ef , ac efe a orweddodd gyda hi : ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid : a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun . A’r wraig a feichiogodd , ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd , ac a ddywedodd , Yr ydwyf fi yn feichiog . A Dafydd a anfonodd at Joab , gan ddywedyd , Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad . A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd . A phan ddaeth Ureias ato ef , Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab , ac am lwyddiant y bobl , ac am ffyniant y rhyfel . Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias , Dos i waered i’th dŷ , a golch dy draed . Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin , a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef . Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd , ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun . Yna y mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun . A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias , Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod ? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun ? A dywedodd Ureias wrth Dafydd , Yr arch , ac Israel hefyd , a Jwda , sydd yn aros mewn pebyll ; a Joab fy arglwydd , a gweision fy arglwydd , sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes : a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun , i fwyta , ac i yfed , ac i orwedd gyda’m gwraig ? fel mai byw di , ac fel mai byw dy enaid di , ni wnaf y peth hyn . A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias , Aros yma eto heddiw , ac yfory y’th ollyngaf di . Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth . A Dafydd a’i galwodd ef , i fwyta ac i yfed ger ei fron ef , ac a’i meddwodd ef : ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd , ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun . A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab , ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias . Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr , gan ddywedyd , Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf ; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef , fel y trawer ef , ac y byddo marw . A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas , efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo . A gwŷr y ddinas a aethant allan , ac a ymladdasant â Joab : a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd ; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Yna Joab a anfonodd , ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel : Ac a orchmynnodd i’r gennad , gan ddywedyd , Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin : Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin , ac os dywed wrthyt , Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd ? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer ? Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth ? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur , fel y bu efe farw yn Thebes ? paham y nesasoch at y mur ? yna y dywedi , Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Felly y gennad a aeth , ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid . A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd , Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni , ac a ddaethant atom ni i’r maes , a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth . A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur ; a rhai o weision y brenin a fuant feirw ; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad , Fel hyn y dywedi di wrth Joab ; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di : canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf : cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas , a distrywiwch hi ; a chysura dithau ef . A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr , hi a alarodd am ei phriod . A phan aeth y galar heibio , Dafydd a anfonodd , ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ , i fod iddo yn wraig ; a hi a ymddûg iddo fab . A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd . A’r Arglwydd a anfonodd Nathan at Dafydd . Ac efe a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Dau ŵr oedd yn yr un ddinas ; y naill yn gyfoethog , a’r llall yn dlawd . Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg : A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan , yr hon a brynasai efe , ac a fagasai ; a hi a gynyddasai gydag ef , a chyda’i blant : o’i damaid ef y bwytâi hi , ac o’i gwpan ef yr yfai hi , ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi , ac yr oedd hi iddo megis merch . Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog ; ond efe a arbedodd gymryd o’i ddefaid ei hun , ac o’i wartheg ei hun , i arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato ; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd , ac a’i paratôdd i’r gŵr a ddaethai ato . A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr ; ac efe a ddywedodd wrth Nathan , Fel mai byw yr Arglwydd , euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn . A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg ; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn , ac nad arbedodd . A dywedodd Nathan wrth Dafydd , Ti yw y gŵr . Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel , myfi hefyd a’th waredais di o law Saul : Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd , a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes , a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda ; a phe rhy fychan fuasai hynny , myfi a roddaswn i ti fwy o lawer . Paham y dirmygaist air yr Arglwydd , i wneuthur drwg yn ei olwg ef ? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf , a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig , a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon . Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth ; oherwydd i ti fy nirmygu i , a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun , a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid , ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog , ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn . Er i ti wneuthur mewn dirgelwch ; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel , a cherbron yr haul . A dywedodd Dafydd wrth Nathan , Pechais yn erbyn yr Arglwydd . A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd , Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di : ni byddi di marw . Eto , oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn , y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau . A Nathan a aeth i’w dŷ . A’r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd ; ac efe a aeth yn glaf iawn . Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen ; a Dafydd a ymprydiodd ympryd , ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos . A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef , i beri iddo godi oddi ar y ddaear : ond ni fynnai efe , ac ni fwytâi fara gyda hwynt . Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn . A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen : canys dywedasant , Wele , tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho , ond ni wrandawai ar ein llais , pa fodd gan hynny yr ymofidia , os dywedwn wrtho farw y plentyn ? Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd , deallodd Dafydd farw y plentyn : a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision , A fu farw y plentyn ? A hwy a ddywedasant , Efe a fu farw . Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear , ac a ymolchodd , ac a ymeneiniodd , ac a newidiodd ei ddillad , ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd , ac a addolodd : wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun ; ac a ofynnodd , a hwy a roddasant iddo fara , ac efe a fwytaodd . Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef , Pa beth yw hyn a wnaethost ti ? dros y plentyn byw yr ymprydiaist , ac yr wylaist ; ond pan fu y plentyn farw , ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara . Ac efe a ddywedodd , Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw , yr ymprydiais ac yr wylais : canys mi a ddywedais , Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf , fel y byddo byw y plentyn ? Ond yn awr efe fu farw , i ba beth yr ymprydiwn ? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach ? myfi a af ato ef , ond ni ddychwel efe ataf fi . A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig , ac a aeth i mewn ati hi , ac a orweddodd gyda hi : a hi a ymddûg fab , ac efe a alwodd ei enw ef Solomon . A’r Arglwydd a’i carodd ef . Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd ; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd . A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon , ac a enillodd y frenhinol ddinas . A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd , ac a ddywedodd , Rhyfelais yn erbyn Rabba , ac a enillais ddinas y dyfroedd . Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl , a gwersylla yn erbyn y ddinas , ac ennill hi ; rhag i mi ennill y ddinas , a galw fy enw i arni hi . A Dafydd a gasglodd yr holl bobl , ac a aeth i Rabba , ac a ymladdodd yn ei herbyn , ac a’i henillodd hi . Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben ; a’i phwys hi oedd dalent o aur , gyda’r maen gwerthfawr : a hi a osodwyd ar ben Dafydd . Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn . Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi , ac a’u gosododd dan lifiau , a than ogau heyrn , a than fwyeill heyrn , ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch : ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon . A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem . Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg , a’i henw Tamar : ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi . Ac yr oedd mor flin ar Amnon , fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer : canys gwyry oedd hi ; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi . Ond gan Amnon yr oedd cyfaill , a’i enw Jonadab , mab Simea , brawd Dafydd : a Jonadab oedd ŵr call iawn . Ac efe a ddywedodd wrtho ef , Ti fab y brenin , paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd ? oni fynegi di i mi ? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef , Caru yr ydwyf fi Tamar , chwaer Absalom fy mrawd . A Jonadab a ddywedodd wrtho ef , Gorwedd ar dy wely , a chymer arnat fod yn glaf : a phan ddelo dy dad i’th edrych , dywed wrtho ef , Deued , atolwg , Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi , ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg , fel y gwelwyf , ac y bwytawyf o’i llaw hi . Felly Amnon a orweddodd , ac a gymerth arno fod yn glaf . A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef ; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin , Deued , atolwg , Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i , fel y bwytawyf o’i llaw hi . Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar , gan ddywedyd , Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd , a pharatoa fwyd iddo . Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd ; ac efe oedd yn gorwedd : a hi a gymerth beilliaid , ac a’i tylinodd , ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef , ac a grasodd y teisennau . A hi a gymerth badell , ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef : ond efe a wrthododd fwyta . Ac Amnon a ddywedodd , Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi . A phawb a aethant allan oddi wrtho ef . Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar , Dwg y bwyd i’r ystafell , fel y bwytawyf o’th law di . A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi , ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell . A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta , efe a ymaflodd ynddi hi , ac a ddywedodd wrthi hi , Tyred , gorwedd gyda mi , fy chwaer . A hi a ddywedodd wrtho , Paid , fy mrawd ; na threisia fi : canys ni wneir fel hyn yn Israel : na wna di yr ynfydrwydd hyn . A minnau , i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth ? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel . Yn awr , gan hynny , ymddiddan , atolwg , â’r brenin : canys ni omedd efe fi i ti . Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi ; eithr efe a fu drech na hi , ac a’i treisiodd , ac a orweddodd gyda hi . Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn : canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi , na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi . Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi , Cyfod , dos ymaith . A hi a ddywedodd wrtho ef , Nid oes achos : y drygioni hwn , sef fy ngyrru ymaith , sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi . Ond ni wrandawai efe arni hi . Eithr efe a alwodd ar ei lanc , ei weinidog , ac a ddywedodd , Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi ; a chloa’r drws ar ei hôl hi . Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw : canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin , y rhai oedd forynion . Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan , ac a glodd y drws ar ei hôl hi . A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen , ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani , ac a osododd ei llaw ar ei phen , ac a aeth ymaith dan weiddi . Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi , Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi ? er hynny yn awr taw â sôn , fy chwaer : dy frawd di yw efe ; na osod dy galon ar y peth hyn . Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd . Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny , efe a ddigiodd yn aruthr . Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da : canys Absalom a gasaodd Amnon , oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef . Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau , yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor , yr hwn sydd wrth Effraim : ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin . Ac Absalom a ddaeth at y brenin , ac a ddywedodd , Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di ; deued , atolwg , y brenin a’i weision gyda’th was . A dywedodd y brenin wrth Absalom , Nage , fy mab , ni ddeuwn ni i gyd yn awr ; rhag i ni ormesu arnat ti . Ac efe a fu daer arno : ond ni fynnai efe fyned ; eithr efe a’i bendithiodd ef . Yna y dywedodd Absalom , Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni ? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , I ba beth yr â efe gyda thi ? Eto Absalom a fu daer arno , fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef , a holl feibion y brenin . Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau , gan ddywedyd , Edrychwch , atolwg , pan fyddo llawen calon Amnon gan win , a phan ddywedwyf wrthych , Trewch Amnon ; yna lleddwch ef , nac ofnwch : oni orchmynnais i chwi ? ymwrolwch , a byddwch feibion glewion . A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom . A holl feibion y brenin a gyfodasant , a phob un a farchogodd ar ei ful , ac a ffoesant . A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd , y daeth y chwedl at Dafydd , gan ddywedyd , Absalom a laddodd holl feibion y brenin , ac ni adawyd un ohonynt . Yna y brenin a gyfododd , ac a rwygodd ei ddillad , ac a orweddodd ar y ddaear ; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw , â’u gwisgoedd yn rhwygedig . A Jonadab mab Simea , brawd Dafydd , a atebodd ac a ddywedodd , Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau , sef meibion y brenin ; canys Amnon yn unig a fu farw : canys yr oedd ym mryd Absalom hynny , er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef . Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon , gan dybied farw holl feibion y brenin : canys Amnon yn unig a fu farw . Ond Absalom a ffodd . A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef , ar hyd ystlys y mynydd . A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin , Wele feibion y brenin yn dyfod : fel y dywedodd dy was , felly y mae . A phan orffenasai efe ymddiddan , wele , meibion y brenin a ddaethant , ac a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn . Ac Absalom a ffodd , ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur : a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd . Ond Absalom a ffodd , ac a aeth i Gesur ; ac yno y bu efe dair blynedd . Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom : canys efe a gysurasid am Amnon , gan ei farw efe . Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom . A Joab a anfonodd i Tecoa , ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth , ac a ddywedodd wrthi , Cymer arnat , atolwg , alaru , a gwisg yn awr alarwisg , ac nac ymira ag olew , eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw : A thyred at y brenin , a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn . A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi . A’r wraig o Tecoa , pan ddywedodd wrth y brenin , a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd , ac a ddywedodd , Cynorthwya , O frenin . A dywedodd y brenin wrthi hi , Beth a ddarfu i ti ? A hi a ddywedodd , Yn wir gwraig weddw ydwyf fi , a’m gŵr a fu farw . Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab , a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes ; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy ; ond y naill a drawodd y llall , ac a’i lladdodd ef . Ac wele , yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn , a hwy a ddywedasant , Dyro yr hwn a drawodd ei frawd , fel y lladdom ni ef , am einioes ei frawd a laddodd efe ; ac y difethom hefyd yr etifedd : felly y diffoddent fy marworyn , yr hwn a adawyd , heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear . A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig , Dos i’th dŷ ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di . A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin , Bydded y camwedd hwn arnaf fi , fy arglwydd frenin , ac ar dŷ fy nhad i , a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog . A’r brenin a ddywedodd , Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt , ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi . Yna hi a ddywedodd , Cofied , atolwg , y brenin dy Arglwydd Dduw , rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio , a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i . Ac efe a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr . Yna y dywedodd y wraig , Atolwg , gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin . Yntau a ddywedodd , Dywed . A’r wraig a ddywedodd , Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw ? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius , gan na ddug y brenin adref ei herwr . Canys gan farw yr ydym ni yn marw , ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear , y rhai ni chesglir : gan na ddug Duw ei einioes , efe a feddyliodd foddion , fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho . Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn , oblegid i’r bobl fy nychrynu i : am hynny y dywedodd dy lawforwyn , Ymddiddanaf yn awr â’r brenin ; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn . Canys y brenin a wrendy , fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw . A’th lawforwyn a ddywedodd , Bydded , atolwg , gair fy arglwydd frenin yn gysur : canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin , i wrando’r da a’r drwg : a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi . Yna yr atebodd y brenin , ac y dywedodd wrth y wraig , Na chela , atolwg , oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti . A dywedodd y wraig , Llefared yn awr fy arglwydd frenin . A’r brenin a ddywedodd , A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll ? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd , Fel mai byw dy enaid di , fy arglwydd frenin , nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin : canys dy was Joab a orchmynnodd i mi , ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn : Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn : ond fy arglwydd sydd ddoeth , fel doethineb angel Duw , i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear . A’r brenin a ddywedodd wrth Joab , Wele yn awr , gwneuthum y peth hyn : dos , a dwg y llanc Absalom yn ei ôl . A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a ymgrymodd , ac a fendithiodd y brenin . A Joab a ddywedodd , Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd frenin , am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was . A Joab a gyfododd , ac a aeth i Gesur , ac a ddug Absalom i Jerwsalem . A’r brenin a ddywedodd , Troed i’w dŷ ei hun ; ac nac edryched yn fy wyneb i . Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun , ac ni welodd wyneb y brenin . Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel : o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef . A phan gneifiai efe ei ben , ( canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt : oherwydd ei fod yn drwm arno , am hynny efe a’i torrai ef ; ) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl , wrth bwys y brenin . A thri mab a anwyd i Absalom , ac un ferch , a’i henw hi oedd Tamar : yr oedd hi yn wraig deg yr olwg . Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem , ac ni welodd wyneb y brenin . Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab , i’w anfon ef at y brenin ; ond ni ddeuai efe ato ef : ac efe a anfonodd eto yr ail waith , ond ni ddeuai efe ddim . Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision , Gwelwch randir Joab ger fy llaw i , a haidd sydd ganddo ef yno ; ewch a llosgwch hi â thân . A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân . Yna Joab a gyfododd , ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ , ac a ddywedodd wrtho , Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân ? Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab , Wele , mi a anfonais atat ti , gan ddywedyd , Tyred yma , fel y’th anfonwyf at y brenin , i ddywedyd , I ba beth y deuthum i o Gesur ? gwell fuasai i mi fy mod yno eto : ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin ; ac od oes gamwedd ynof , lladded fi . Yna Joab a ddaeth at y brenin , ac a fynegodd iddo ef . Ac efe a alwodd am Absalom . Yntau a ddaeth at y brenin , ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin . A’r brenin a gusanodd Absalom . Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau , a meirch , a dengwr a deugain i redeg o’i flaen . Ac Absalom a gyfodai yn fore , ac a safai gerllaw ffordd y porth : ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn , ac a ddywedai , O ba ddinas yr ydwyt ti ? Yntau a ddywedai , O un o lwythau Israel y mae dy was . Ac Absalom a ddywedai wrtho ef , Wele , y mae dy faterion yn dda , ac yn uniawn ; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti . Dywedai Absalom hefyd , O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad , fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws ; myfi a wnawn gyfiawnder iddo ! A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef , efe a estynnai ei law , ac a ymaflai ynddo ef , ac a’i cusanai . Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin . Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel . Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin , Gad i mi fyned , atolwg , a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd , yn Hebron . Canys dy was a addunedodd adduned , pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria , gan ddywedyd , Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem , yna y gwasanaethaf yr Arglwydd . A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , Dos mewn heddwch . Felly efe a gyfododd , ac a aeth i Hebron . Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel , gan ddywedyd , Pan glywoch lais yr utgorn , yna dywedwch , Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron . A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem , ar wahodd ; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb , ac heb wybod dim oll . Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad , cynghorwr Dafydd , o’i ddinas , o Gilo , tra oedd efe yn offrymu aberthau . A’r cydfradwriaeth oedd gryf ; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol . A daeth cennad at Dafydd , gan ddywedyd , Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom . A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem , Cyfodwch , a ffown ; canys ni ddihangwn ni gan Absalom : brysiwch i fyned ; rhag iddo ef frysio a’n dala ni , a dwyn drwg arnom ni , a tharo’r ddinas â min y cleddyf . A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin , Wele dy weision yn barod , ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin . A’r brenin a aeth , a’i holl dylwyth ar ei ôl . A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ . A’r brenin a aeth ymaith , a’r holl bobl ar ei ôl ; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell . A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef : yr holl Gerethiaid , a’r holl Belethiaid , a’r holl Gethiaid , y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath , oedd yn cerdded o flaen y brenin . Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad , Paham yr ei di hefyd gyda ni ? Dychwel , a thrig gyda’r brenin : canys alltud ydwyt ti , a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun . Doe y daethost ti ; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni ? Myfi a af : dychwel di , a dwg dy frodyr gyda thi : trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi . Ac Ittai a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw fy arglwydd frenin , yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo , pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes , yno y bydd dy was hefyd . A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai , Dos , a cherdda drosodd . Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd , a’i holl wŷr , a’r holl blant oedd gydag ef . A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel ; a’r holl bobl a aethant drosodd . A’r brenin a aeth dros afon Cidron , a’r holl bobl a aeth drosodd , tua ffordd yr anialwch . Ac wele Sadoc , a’r holl Lefiaid oedd gydag ef , yn dwyn arch cyfamod Duw ; a hwy a osodasant i lawr arch Duw : ac Abiathar a aeth i fyny , nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas . A dywedodd y brenin wrth Sadoc , Dychwel ag arch Duw i’r ddinas : os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd , efe a’m dwg eilwaith , ac a bair i mi ei gweled hi , a’i babell . Ond os fel hyn y dywed efe ; Nid wyf fodlon i ti ; wele fi , gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg . A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad , Onid gweledydd ydwyt ti ? dychwel i’r ddinas mewn heddwch , a’th ddau fab gyda thi , sef Ahimaas dy fab , a Jonathan mab Abiathar . Gwelwch , mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch , nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi . Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem ; ac a arosasant yno . A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd ; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo , a’i ben wedi ei orchuddio , ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth . A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben , ac a aethant i fyny , gan fyned ac wylo . A mynegwyd i Dafydd , gan ddywedyd , Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom . A Dafydd a ddywedodd , O Arglwydd , tro , atolwg , gyngor Ahitoffel yn ffolineb . A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo , wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef , wedi rhwygo ei bais , a phridd ar ei ben . A Dafydd a ddywedodd wrtho , Od ei drosodd gyda mi , ti a fyddi yn faich arnaf : Ond os dychweli i’r ddinas , a dywedyd wrth Absalom , Dy was di , O frenin , fyddaf fi ; gwas dy dad fûm hyd yn hyn , ac yn awr dy was dithau fyddaf : ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel . Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid ? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin , mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid . Wele , y mae yno gyda hwynt eu dau fab , Ahimaas mab Sadoc , a Jonathan mab Abiathar : danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch . Felly Husai , cyfaill Dafydd , a ddaeth i’r ddinas ; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem . Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn , wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo , ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara , a chan swp o resinau , a chant o ffrwythydd haf , a chostrelaid o win . A dywedodd y brenin wrth Siba , Beth yw y rhai hyn sydd gennyt ? A Siba a ddywedodd , Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth , a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta , a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch , ydynt hwy . A’r brenin a ddywedodd , A pha le y mae mab dy feistr ? A Siba a ddywedodd wrth y brenin , Wele , y mae efe yn aros yn Jerwsalem : canys efe a ddywedodd , Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad . Yna y dywedodd y brenin wrth Siba , Wele , eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth . A Siba a ddywedodd , Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd frenin . A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim , wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno , a’i enw ef oedd Simei , mab Gera : efe a ddaeth allan , dan gerdded a melltigo . Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig , a holl weision y brenin Dafydd : ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef . Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio ; Tyred allan , tyred allan , ŵr gwaedlyd , a gŵr i’r fall . Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul , yr hwn y teyrnesaist yn ei le ; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab : ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni ; canys gŵr gwaedlyd wyt ti . Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin , Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin ? gad i mi fyned drosodd , atolwg , a thorri ei ben ef . A’r brenin a ddywedodd , Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi , meibion Serfia ? felly melltithied , oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho , Melltithia Dafydd . Am hynny pwy a ddywed , Paham y gwnei fel hyn ? A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai , ac wrth ei holl weision , Wele fy mab , yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i , yn ceisio fy einioes : ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn ? Gadewch iddo , a melltithied : canys yr Arglwydd a archodd iddo . Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i , ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn . Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd , Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd , ar ei gyfer ef ; ac fel yr oedd efe yn myned , efe a felltithiai , ac a daflai gerrig , ac a fwriai lwch i’w erbyn ef . A daeth y brenin , a’r holl bobl oedd gydag ef , yn lluddedig , ac a orffwysodd yno . Ac Absalom a’r holl bobl , gwŷr Israel , a ddaethant i Jerwsalem , ac Ahitoffel gydag ef . A phan ddaeth Husai yr Arciad , cyfaill Dafydd , at Absalom , Husai a ddywedodd wrth Absalom , Byw fo’r brenin , byw fyddo’r brenin . Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai , Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill ? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill ? A Husai a ddywedodd wrth Absalom , Nage ; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd , a’r bobl yma , a holl wŷr Israel , eiddo ef fyddaf fi , a chydag ef yr arhosaf fi . A phwy hefyd a wasanaethaf ? onid gerbron ei fab ef ? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di , felly y byddaf ger dy fron dithau . Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel , Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni . Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom , Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad , y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ : pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad , yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi . Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ : ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad , yng ngŵydd holl Israel . A chyngor Ahitoffel , yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny , oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw : felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel , gyda Dafydd a chydag Absalom . Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom , Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr , a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon . A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig , ac yn wan ei ddwylo , ac a’i brawychaf ef : a ffy yr holl bobl sydd gydag ef ; a mi a drawaf y brenin yn unig . A throaf yr holl bobl atat ti : megis pe dychwelai pob un , yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio : felly yr holl bobl fydd mewn heddwch . A da fu’r peth yng ngolwg Absalom , ac yng ngolwg holl henuriaid Israel . Yna y dywedodd Absalom , Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad , a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd . A phan ddaeth Husai at Absalom , llefarodd Absalom wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd Ahitoffel : a wnawn ni ei gyngor ef ? onid e , dywed di . A dywedodd Husai wrth Absalom , Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon . Canys , eb Husai , ti a wyddost am dy dad a’i wŷr , mai cryfion ydynt hwy , a chreulon eu meddwl , megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes : dy dad hefyd sydd ryfelwr , ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl . Wele , yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof , neu mewn rhyw le : a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau , yna y bobl a glyw , ac a ddywed , Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom . Yna yr un grymus , yr hwn y mae ei galon fel calon llew , a lwfrha : canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di , ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef . Am hynny y cynghoraf , lwyr gasglu atat ti holl Israel , o Dan hyd Beer‐seba , fel y tywod wrth y môr o amldra , a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel . Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo , ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear : ac ni adewir dim ohono ef , nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef . Ond os i ddinas yr ymgasgl efe , yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno , a ni a’i tynnwn hi i’r afon , fel na chaffer yno un garegan . A dywedodd Absalom , a holl wŷr Israel , Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel . Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel , fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom . Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid , Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel : ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau . Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan , a mynegwch i Dafydd , gan ddywedyd , Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch , ond gan fyned dos ; rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef . Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel ; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt . Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd : canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas . Eto llanc a’u gwelodd hwynt , ac a fynegodd i Absalom : ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan , ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim , ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd ; a hwy a aethant i waered yno . A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew , ac a daenodd arno falurion ŷd ; fel na wybuwyd y peth . A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ , hwy a ddywedasant , Pa le y mae Ahimaas a Jonathan ? A’r wraig a ddywedodd wrthynt , Hwy a aethant dros yr aber ddwfr . A phan geisiasant , ac nas cawsant hwynt , yna y dychwelasant i Jerwsalem . Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith , yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew , ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd ; ac a ddywedasant wrth Dafydd , Cyfodwch , ac ewch yn fuan dros y dwfr ; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi . Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , ac a aethant dros yr Iorddonen : erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen . A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef , efe a gyfrwyodd ei asyn , ac a gyfododd , ac a aeth i’w dŷ ei hun , i’w ddinas , ac a wnaeth drefn ar ei dŷ , ac a ymgrogodd , ac a fu farw , ac a gladdwyd ym meddrod ei dad . Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim . Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen , efe a holl wŷr Israel gydag ef . Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu , Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra , yr hwn oedd Israeliad , yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas , chwaer Serfia , mam Joab . Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead . A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim , Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon , a Machir mab Ammïel o Lo‐debar , a Barsilai y Gileadiad o Rogelim , A ddygasant welyau , a chawgiau , a llestri pridd , a gwenith , a haidd , a blawd , a chras ŷd , a ffa , a ffacbys , a chras bys , A mêl , ac ymenyn , a defaid , a chaws gwartheg , i Dafydd , ac i’r bobl oedd gydag ef , i’w bwyta . Canys dywedasant , Y mae y bobl yn newynog , yn flin hefyd , ac yn sychedig yn yr anialwch . A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef , ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid . A Dafydd a anfonodd o’r bobl y drydedd ran dan law Joab , a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia , brawd Joab , a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad . A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl , Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi . Ond y bobl a atebodd , Nid ei di allan : canys os gan ffoi y ffown ni , ni osodant hwy eu meddwl arnom ni ; ac os bydd marw ein hanner ni , ni osodant eu meddwl arnom : ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni : yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas . A dywedodd y brenin wrthynt hwy , Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi . A’r brenin a safodd gerllaw y porth ; a’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd . A’r brenin a orchmynnodd i Joab , ac Abisai , ac Ittai , gan ddywedyd , Byddwch esmwyth , er fy mwyn i , wrth y llanc Absalom . A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom . Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel : a’r rhyfel fu yng nghoed Effraim . Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd : ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw , sef ugain mil . Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad : a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw . Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb . Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful , a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr , a’i ben ef a lynodd yn y dderwen : felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear ; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith . A rhyw un a ganfu hynny , ac a fynegodd i Joab , ac a ddywedodd , Wele , gwelais Absalom ynghrog mewn derwen . A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo , Ac wele , ti a’i gwelaist ef ; paham nas trewaist ef yno i’r llawr , ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian , ac un gwregys ? A dywedodd y gŵr wrth Joab , Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian , nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin : canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti , ac wrth Abisai , ac wrth Ittai , gan ddywedyd , Gwyliwch gyffwrdd o neb â’r llanc Absalom . Os amgen , mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes : canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin ; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn . Yna y dywedodd Joab , Nid arhoaf fel hyn gyda thi . Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law , ac a’u brathodd trwy galon Absalom , ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen . A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant , ac a drawsant Absalom , ac a’i lladdasant ef . A Joab a utganodd mewn utgorn ; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel : canys Joab a ataliodd y bobl . A hwy a gymerasant Absalom , ac a’i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed , ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn : a holl Israel a ffoesant bob un i’w babell . Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn , yn nyffryn y brenin : canys efe a ddywedodd , Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw : ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun . A hi a elwir Lle Absalom , hyd y dydd hwn . Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd , Gad i mi redeg yn awr , a mynegi i’r brenin , ddarfod i’r Arglwydd ei ddial ef ar ei elynion . A Joab a ddywedodd wrtho ef , Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn , eithr mynegi ddiwrnod arall : ond heddiw ni byddi di gennad , oherwydd marw mab y brenin . Yna y dywedodd Joab wrth Cusi , Dos , dywed i’r brenin yr hyn a welaist . A Chusi a ymgrymodd i Joab , ac a redodd . Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab , Beth bynnag a fyddo , gad i minnau , atolwg , redeg ar ôl Cusi . A dywedodd Joab , I ba beth y rhedi di , fy mab , gan nad oes gennyt genadwriaeth addas ? Ond beth bynnag a fyddo , eb efe , gad i mi redeg . A dywedodd yntau wrtho , Rhed . Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd , ac a aeth heibio i Cusi . A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth : a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur , ac a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan . A’r gwyliedydd a waeddodd , ac a fynegodd i’r brenin . A’r brenin a ddywedodd , Os ei hun y mae efe , cenadwriaeth sydd yn ei enau ef . Ac efe a ddaeth yn fuan , ac a nesaodd . A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg : a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor , ac a ddywedodd , Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan . A dywedodd y brenin , Hwn hefyd sydd gennad . A’r gwyliedydd a ddywedodd , Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc . A dywedodd y brenin , Gŵr da yw hwnnw , ac â chenadwriaeth dda y daw efe . Ac Ahimaas a alwodd , ac a ddywedodd wrth y brenin , Heddwch : ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin , ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin . A’r brenin a ddywedodd , Ai dihangol y llanc Absalom ? A dywedodd Ahimaas , Gwelais gythrwfl mawr , pan anfonodd Joab was y brenin , a’th was dithau , ond ni wybûm i beth ydoedd . A’r brenin a ddywedodd , Tro heibio ; saf yma . Ac efe a drodd heibio , ac a safodd . Ac wele , Cusi a ddaeth . A dywedodd Cusi , Cenadwri , arglwydd frenin : canys yr Arglwydd a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn . A dywedodd y brenin wrth Cusi , A ddihangodd y llanc Absalom ? A dywedodd Cusi , Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin , a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti . A’r brenin a gyffrôdd , ac a aeth i fyny i ystafell y porth , ac a wylodd : ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned ; O fy mab Absalom , fy mab , fy mab Absalom ! O na buaswn farw drosot ti , Absalom , fy mab , fy mab ! Amynegwyd i Joab , Wele y brenin yn wylo , ac yn galaru am Absalom . A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl : canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd , dristáu o’r brenin am ei fab . A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas , fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel . Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb ; a’r brenin a waeddodd â llef uchel , O fy mab Absalom , Absalom , fy mab , fy mab ! A Joab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin , ac a ddywedodd , Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision , y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw , ac einioes dy feibion a’th ferched , ac einioes dy wragedd , ac einioes dy ordderchwragedd ; Gan garu dy gaseion , a chasáu dy garedigion : canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion , na’th weision : oherwydd mi a wn heddiw , pe Absalom fuasai byw , a ninnau i gyd yn feirw heddiw , mai da fuasai hynny yn dy olwg di . Cyfod yn awr gan hynny , cerdda allan , a dywed yn deg wrth dy weision : canys yr wyf fi yn tyngu i’r Arglwydd , os ti nid ei allan , nad erys neb gyda thi y nos hon ; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon . Yna y brenin a gyfododd , ac a eisteddodd yn y porth . A mynegwyd i’r holl bobl , gan ddywedyd , Wele y brenin yn eistedd yn y porth . A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin : canys Israel a ffoesai bob un i’w babell . Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel , gan ddywedyd , Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion , ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid ; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom . Ac Absalom , yr hwn a eneiniasom ni arnom , a fu farw mewn rhyfel : ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn ? A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid , gan ddywedyd , Lleferwch wrth henuriaid Jwda , gan ddywedyd , Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin , hyd ei dŷ . Fy mrodyr ydych chwi ; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi : paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref ? Dywedwch hefyd wrth Amasa , Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti ? Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth . Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda , fel calon un gŵr : a hwy a anfonasant at y brenin , gan ddywedyd , Dychwel di a’th holl weision . Felly y brenin a ddychwelodd , ac a ddaeth i’r Iorddonen . A Jwda a ddaeth i Gilgal , i fyned i gyfarfod â’r brenin , i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen . A Simei mab Gera , mab Jemini , yr hwn oedd o Bahurim , a frysiodd , ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda , i gyfarfod â’r brenin Dafydd . A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef ; Siba hefyd gwas tŷ Saul , a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef : a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin . Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin , ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef . A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin , pan ddaeth efe dros yr Iorddonen ; Ac a ddywedodd wrth y brenin , Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd , ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem , i osod o’r brenin hynny at ei galon . Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi : ac wele , deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff , i ddyfod i waered i gyfarfod â’m harglwydd frenin . Ac Abisai mab Serfia a atebodd , ac a ddywedodd , Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth , am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd ? A dywedodd Dafydd , Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi , meibion Serfia , fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw ? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel ? canys oni wn i , mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel ? A’r brenin a ddywedodd wrth Simei , Ni byddi di farw : a’r brenin a dyngodd wrtho ef . Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â’r brenin ; ac ni olchasai efe ei draed , ac ni thorasai ei farf , ac ni olchasai ei ddillad , er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch . A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â’r brenin , yna y dywedodd y brenin wrtho ef , Paham nad aethost ti gyda mi , Meffiboseth ? Ac efe a ddywedodd , Fy arglwydd frenin , fy ngwas a’m twyllodd i : canys dywedodd dy was , Cyfrwyaf i mi asyn , fel y marchogwyf arno , ac yr elwyf at y brenin ; oherwydd cloff yw dy was . Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin ; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw : am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg . Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin ; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun : pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin ? A’r brenin a ddywedodd wrtho , I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach ? dywedais , Ti a Siba rhennwch y tir . A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin , Ie , cymered efe y cwbl , gan ddyfod fy arglwydd frenin i’w dŷ mewn heddwch . A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim , ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin , i’w hebrwng ef dros yr Iorddonen . A Barsilai oedd hen iawn , yn fab pedwar ugain mlwydd : efe oedd yn darparu lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim ; canys gŵr mawr iawn oedd efe . A’r brenin a ddywedodd wrth Barsilai , Tyred drosodd gyda mi , a mi a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem . A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin , Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i , fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem ? Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw : a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg ? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf , neu yr hyn a yfaf ? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau ? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin ? Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin : a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth ? Gad , atolwg , i’th was ddychwelyd yn fy ôl , fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun , ac fel y’m cladder ym meddrod fy nhad a’m mam : ac wele , Chimham dy was , efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin , a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg . A dywedodd y brenin , Chimham a â gyda mi , a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di : a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi , mi a’i gwnaf erot . A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen . Y brenin hefyd a aeth drosodd : a’r brenin a gusanodd Barsilai , ac a’i bendithiodd ef ; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun . Yna y brenin a aeth i Gilgal , a Chimham a aeth gydag ef . A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin , a hanner pobl Israel hefyd . Ac wele , holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin , ac a ddywedasant wrth y brenin , Paham y lladrataodd ein brodyr ni , gwŷr Jwda , dydi , ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen , a holl wŷr Dafydd gydag ef ? Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel , Oblegid câr agos yw y brenin i ni : paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn ? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin ? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg ? A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda , ac a ddywedasant , Deg rhan sydd i ni yn y brenin ; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi : paham gan hynny y diystyraist fi ? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin ? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel . Ac yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall , a’i enw Seba , mab Bichri , gŵr o Jemini ; ac efe a utganodd mewn utgorn , ac a ddywedodd , Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd , nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse : pawb i’w babell , O Israel . Felly holl wŷr Israel a aethant i fyny oddi ar ôl Dafydd , ar ôl Seba mab Bichri : ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin , o’r Iorddonen hyd Jerwsalem . A daeth Dafydd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem ; a’r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ , ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwraeth , ac a’u porthodd hwynt ; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy : eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth , yn byw mewn gweddwdod . Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa , Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd ; a bydd dithau yma . Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda : ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo . A dywedodd Dafydd wrth Abisai , Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waeth nag Absalom : cymer di weision dy arglwydd , ac erlid ar ei ôl ef , rhag iddo gael y dinasoedd caerog , ac ymachub o’n golwg ni . A gwŷr Joab , a’r Cerethiaid , y Pelethiaid hefyd , a’r holl gedyrn , a aethant ar ei ôl ef ; ac a aethant allan o Jerwsalem , i erlid ar ôl Seba mab Bichri . Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon , Amasa a aeth o’u blaen hwynt . A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano , ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain ; a phan gerddai efe , y cleddyf a syrthiai . A dywedodd Joab wrth Amasa , A wyt ti yn llawen , fy mrawd ? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef . Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab : felly efe a’i trawodd ef ag ef dan y bumed ais , ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr , ac nid aildrawodd ef : ac efe a fu farw . Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri . Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef , ac a ddywedodd , Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab , a phwy bynnag sydd gyda Dafydd , eled ar ôl Joab . Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd . A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll , efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes , ac a daflodd gadach arno , pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll . Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd , yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab , i erlid ar ôl Seba mab Bichri . Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel , ac i Beth‐maacha , ac i holl leoedd Berim : a hwy a ymgasglasant , ac a aethant ar ei ôl ef . Felly y daethant hwy , ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha , ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas , yr hon a safodd ar y rhagfur : a’r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo’r mur , i’w fwrw i lawr . Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a lefodd , Clywch , clywch : dywedwch , atolwg , wrth Joab , Nesâ hyd yma , fel yr ymddiddanwyf â thi . Pan nesaodd efe ati hi , y wraig a ddywedodd , Ai ti yw Joab ? Dywedodd yntau , Ie , myfi . A hi a ddywedodd wrtho ef , Gwrando eiriau dy lawforwyn . Dywedodd yntau , Yr ydwyf yn gwrando . Yna hi a ddywedodd , Hwy a lefarent gynt , gan ddywedyd , Diau yr ymofynnant ag Abel : ac felly y dibennent . Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel : yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel : paham y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd ? A Joab a atebodd ac a ddywedodd , Na ato Duw , na ato Duw , i mi na difetha na dinistrio ! Nid felly y mae y peth : eithr gŵr o fynydd Effraim , Seba mab Bichri dan ei enw , a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin , yn erbyn Dafydd . Rhoddwch ef yn unig , a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas . A dywedodd y wraig wrth Joab , Wele , ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur . Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl . A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri , ac a’i taflasant allan i Joab . Ac efe a utganodd mewn utgorn ; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas , bob un i’w pabellau . A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin . Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel ; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid , ac ar y Pelethiaid ; Ac Adoram oedd ar y dreth ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; Sefa hefyd yn ysgrifennydd ; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid ; Ira hefyd y Jairiad oedd ben‐llywydd ynghylch Dafydd . A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol . A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd , Oherwydd Saul , ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef , y mae hyn ; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid . A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid , ac a ymddiddanodd â hwynt ; ( a’r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel , ond o weddill yr Amoriaid ; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy : eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt , o’i serch i feibion Israel a Jwda . ) A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid , Beth a wnaf i chwi ? ac â pha beth y gwnaf gymod , fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd ? A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho , Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul , na chan ei dŷ ef ; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel . Ac efe a ddywedodd , Yr hyn a ddywedoch chwi , a wnaf i chwi . A hwy a ddywedasant wrth y brenin , Y gŵr a’n difethodd ni , ac a fwriadodd i’n herbyn ni , i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel , Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef , fel y crogom ni hwynt i’r Arglwydd yn Gibea Saul , dewisedig yr Arglwydd . A dywedodd y brenin , Myfi a’u rhoddaf . Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth , mab Jonathan , mab Saul , oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy , rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul . Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia , y rhai a ymddûg hi i Saul , sef Armoni a Meffiboseth ; a phum mab Michal merch Saul , y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad : Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid ; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr Arglwydd : a’r saith hyn a gydgwympasant , ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf , yn nechreuad cynhaeaf yr haidd . A Rispa merch Aia a gymerth sachliain , a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig , o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd , ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd , na bwystfil y maes liw nos . A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia , gordderchwraig Saul . A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul , ac esgyrn Jonathan ei fab , oddi wrth berchenogion Jabes Gilead , y rhai a’u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi , y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa . Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul , ac esgyrn Jonathan ei fab : a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid . A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin , yn Sela , ym meddrod Cis ei dad : a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin . A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn . A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel ; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef , ac a ymladdasant â’r Philistiaid . A diffygiodd Dafydd . Ac Isbi‐benob , yr hwn oedd o feibion y cawr , ( a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres , ) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd , a feddyliodd ladd Dafydd . Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef , ac a drawodd y Philistiad , ac a’i lladdodd ef . Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef , gan ddywedyd , Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel , rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel . Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid : yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Saff , yr hwn oedd o feibion y cawr . A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid : ac Elhanan mab Jaareoregim , y Bethlehemiad , a drawodd frawd Goleiath y Gethiad ; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd . A bu eto ryfel yn Gath : ac yr oedd gŵr corffol , a chwech o fysedd ar bob llaw iddo , a chwech o fysedd ar bob troed iddo , pedwar ar hugain o rifedi ; efe hefyd oedd fab i’r cawr . Ac efe a amharchodd Israel ; a Jonathan mab Simea , brawd Dafydd , a’i lladdodd ef . Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath , ac a gwympasant trwy law Dafydd , a thrwy law ei weision ef . A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon , yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion , ac o law Saul . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd yw fy nghraig , a’m hamddiffynfa , a’m gwaredydd i ; Duw fy nghraig , ynddo ef yr ymddiriedaf : fy nharian , a chorn fy iachawdwriaeth , fy uchel dŵr a’m noddfa , fy achubwr ; rhag trais y’m hachubaist . Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy : felly y’m cedwir rhag fy ngelynion . Canys gofidion angau a’m cylchynasant ; afonydd y fall a’m dychrynasant i . Doluriau uffern a’m hamgylchynasant ; maglau angau a’m rhagflaenasant . Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd , ac y gwaeddais ar fy Nuw ; ac efe a glybu fy llef o’i deml , a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef . Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear : seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant , am iddo ef ddigio . Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef , a thân o’i enau ef a ysodd : glo a enynasant ganddo ef . Efe a ogwyddodd y nefoedd , ac a ddisgynnodd ; a thywyllwch oedd dan ei draed ef . Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb , ac a ehedodd : ie , efe a welwyd ar adenydd y gwynt . Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch ; sef casgliad y dyfroedd , a thew gymylau yr awyr . Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd . Yr Arglwydd a daranodd o’r nefoedd , a’r Goruchaf a roddes ei lef . Ac efe a anfonodd ei saethau , ac a’u gwasgarodd hwynt ; mellt , ac a’u drylliodd hwynt . Gwaelodion y môr a ymddangosodd , a seiliau y byd a ddinoethwyd , gan gerydd yr Arglwydd , a chan chwythad anadl ei ffroenau ef . Efe a anfonodd oddi uchod : cymerodd fi ; tynnodd fi o ddyfroedd lawer . Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn , a rhag fy nghaseion ; am eu bod yn drech na mi . Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid : ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi . Efe a’m dug i ehangder : efe a’m gwaredodd i , am iddo ymhoffi ynof . Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder : yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi . Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd , ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw . Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i : ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i . Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef ; ac ymgedwais rhag fy anwiredd . A’r Arglwydd a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder ; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef . A’r trugarog y gwnei drugaredd : â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd . A’r glân y gwnei lendid ; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni . Y bobl gystuddiedig a waredi : ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel , i’w darostwng . Canys ti yw fy nghannwyll i , O Arglwydd ; a’r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch . Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin : trwy fy Nuw y llamaf dros fur . Duw sydd berffaith ei ffordd ; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig : tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo . Canys pwy sydd Dduw , heblaw yr Arglwydd ? a phwy sydd graig , eithr ein Duw ni ? Duw yw fy nghadernid a’m nerth ; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith . Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod ; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd . Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel ; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau . Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth ; ac â’th fwynder y lluosogaist fi . Ehengaist fy ngherddediad danaf ; fel na lithrodd fy sodlau . Erlidiais fy ngelynion , a difethais hwynt ; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt . Difeais hwynt hefyd , a thrywenais hwynt , fel na chyfodent ; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i . Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel : y rhai a ymgyfodent i’m herbyn , a ddarostyngaist danaf . Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion ; fel y difethwn fy nghaseion . Disgwyliasant , ond nid oedd achubydd ; sef am yr Arglwydd , ond nid atebodd hwynt . Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear ; melais hwynt fel tom yr heolydd , a thaenais hwynt . Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl ; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd : pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant . Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi : pan glywant , gwrandawant arnaf fi . Meibion dieithr a ballant , ac a ddychrynant o’u carchardai . Byw fyddo yr Arglwydd , a bendigedig fyddo fy nghraig ; a dyrchafer Duw , craig fy iachawdwriaeth . Duw sydd yn fy nial i , ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi , Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion : ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn ; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i . Am hynny y moliannaf di , O Arglwydd , ymhlith y cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin ; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog , i Dafydd , ac i’w had yn dragywydd . Dyma eiriau diwethaf Dafydd . Dywedodd Dafydd mab Jesse , a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel , eneiniog Duw Jacob , a pheraidd ganiedydd Israel ; Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi , a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod . Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi , Craig Israel a ddywedodd , Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn , yn llywodraethu mewn ofn Duw : Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni , pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau : fel eginyn a dyf o’r ddaear , gan lewyrchiad yn ôl glaw . Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw ; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi , wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr ; canys fy holl iachawdwriaeth , a’m holl ddymuniad yw , er nad yw yn peri iddo flaguro . A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio : canys mewn llaw nis cymerir hwynt . Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn , ac â phaladr gwaywffon ; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle . Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd . Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair , yn bennaeth y tywysogion ; hwnnw oedd Adino yr Esniad : efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant , y rhai a laddodd efe ar unwaith . Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo , mab Ahohi , ymhlith y tri chadarn , gyda Dafydd , pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel , a phan aeth gwŷr Israel ymaith . Efe a gyfododd , ac a drawodd ar y Philistiaid , nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf : a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw ; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio . Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad . A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf ; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys : a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid . Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir , ac a’i hachubodd , ac a laddodd y Philistiaid . Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr . A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant , ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam : a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim . A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa : a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem . A blysiodd Dafydd , a dywedodd , Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem , yr hwn sydd wrth y porth ? A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid , ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn oedd wrth y porth , ac a’i cymerasant hefyd , ac a’i dygasant at Dafydd : ond ni fynnai efe ei yfed , eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd ; Ac a ddywedodd , Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn ; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn ? Am hynny ni fynnai efe ei yfed . Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny . Ac Abisai brawd Joab , mab Serfia , oedd bennaf o’r tri . Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant , ac a’u lladdodd hwynt : ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri . Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri ? a bu iddynt yn dywysog : eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf . A Benaia mab Jehoiada , mab gŵr grymus o Cabseel , aml ei weithredoedd , efe a laddodd ddau o gedyrn Moab : ac efe a aeth i waered , ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira . Ac efe a drawodd Eifftddyn , gŵr golygus o faint : ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon ; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon , ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad , ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun . Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada : ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn . Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain ; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf : a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard . Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain ; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad , Samma yr Harodiad , Elica yr Harodiad , Heles y Paltiad , Ira mab Icces y Tecoiad , Abieser yr Anathothiad , Mebunnai yr Husathiad , Salmon yr Ahohiad , Maharai y Netoffathiad , Heleb mab Baana y Netoffathiad , Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin , Benaia y Pirathoniad , Hidai o afonydd Gaas , Abi‐albon yr Arbathiad , Asmafeth y Barhumiad , Eliahba y Saalboniad ; o feibion Jasen , Jonathan , Samma yr Harariad , Ahïam mab Sarar yr Harariad , Eliffelet mab Ahasbai , mab y Maachathiad , Elïam mab Ahitoffel y Giloniad , Hesrai y Carmeliad , Paarai yr Arbiad , Igal mab Nathan o Soba , Bani y Gadiad , Selec yr Ammoniad , Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia , Ira yr Ithriad , Gareb yr Ithriad , Ureias yr Hethiad : dau ar bymtheg ar hugain o gwbl . A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel ; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt , i ddywedyd , Dos , cyfrif Israel a Jwda . Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef , Dos yn awr trwy holl lwythau Israel , o Dan hyd Beer‐seba , a chyfrif y bobl , fel y gwypwyf rifedi y bobl . A Joab a ddywedodd wrth y brenin , Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent , fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin : ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn ? A gair y brenin fu drech na Joab , ac na thywysogion y llu . Joab am hynny a aeth allan , a thywysogion y llu , o ŵydd y brenin , i gyfrif pobl Israel . A hwy a aethant dros yr Iorddonen , ac a wersyllasant yn Aroer , o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad , a thua Jaser . Yna y daethant i Gilead , ac i wlad Tahtim‐hodsi ; daethant hefyd i Dan-jaan , ac o amgylch i Sidon ; Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus , ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid , a’r Canaaneaid ; a hwy a aethant i du deau Jwda , i Beer‐seba . Felly y cylchynasant yr holl wlad , ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem . A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin : ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf ; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr . A chalon Dafydd a’i trawodd ef , ar ôl iddo gyfrif y bobl . A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd , Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum : ac yn awr dilea , atolwg , O Arglwydd , anwiredd dy was ; canys ynfyd iawn y gwneuthum . A phan gyfododd Dafydd y bore , daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd , gweledydd Dafydd , gan ddywedyd , Dos a dywed wrth Dafydd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di ; dewis i ti un ohonynt , a gwnaf hynny i ti . Felly Gad a ddaeth at Dafydd , ac a fynegodd iddo , ac a ddywedodd wrtho , A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad ? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion , a hwy yn dy erlid ? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod ? Yn awr ymgynghora , ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i . A dywedodd Dafydd wrth Gad , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi : bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd , canys aml yw ei drugareddau ef , ac na chwympwyf yn llaw dyn . Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel , o’r bore hyd yr amser nodedig : a bu farw o’r bobl , o Dan hyd Beer‐seba , ddeng mil a thrigain o wŷr . A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi , edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn , ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl , Digon bellach : atal dy law . Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad . A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd , pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl , a dywedodd , Wele , myfi a bechais , ac a wneuthum yn ddrygionus : ond y defaid hyn , beth a wnaethant hwy ? bydded , atolwg , dy law arnaf fi , ac ar dŷ fy nhad . A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw , ac a ddywedodd wrtho , Dos i fyny , cyfod allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad . A Dafydd a aeth i fyny , yn ôl gair Gad , fel y gorchmynasai yr Arglwydd . Ac Arafna a edrychodd , ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato . Ac Arafna a aeth allan , ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin . Ac Arafna a ddywedodd , Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was ? A dywedodd Dafydd , I brynu gennyt ti y llawr dyrnu , i adeiladu allor i’r Arglwydd , fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl . A dywedodd Arafna wrth Dafydd , Cymered , ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg : wele yr ychen yn boethoffrwm , a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud . Hyn oll a roddodd Arafna , megis brenin , i’r brenin . A dywedodd Arafna wrth y brenin , Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti . A dywedodd y brenin wrth Arafna , Nage ; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt : ac nid offrymaf i’r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad . Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen , er deg a deugain o siclau arian . Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd , ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd . A’r Arglwydd a gymododd â’r wlad , a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel . A’r brenin Dafydd oedd hen , ac a aethai mewn oedran ; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad , eto ni chynhesai efe . Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho , Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn ; a safed hi o flaen y brenin , a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo , a gorwedded yn dy fynwes , fel y gwresogo fy arglwydd frenin . A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel ; ac a gawsant Abisag y Sunamees , ac a’i dygasant hi at y brenin . A’r llances oedd deg iawn , ac oedd yn ymgeleddu’r brenin , ac yn ei wasanaethu ef : ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi . Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd , gan ddywedyd , Myfi a fyddaf frenin : ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch , a dengwr a deugain i redeg o’i flaen . A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau , gan ddywedyd , Paham y gwnaethost fel hyn ? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd ; ac efe a anesid wedi Absalom . Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia , ac Abiathar yr offeiriad : a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia . Ond Sadoc yr offeiriad , a Benaia mab Jehoiada , a Nathan y proffwyd , a Simei , a Rei , a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd , nid oeddynt gydag Adoneia . Ac Adoneia a laddodd ddefaid , a gwartheg , a phasgedigion , wrth faen Soheleth , yr hwn sydd wrth En‐rogel , ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin , a holl wŷr Jwda gweision y brenin . Ond Nathan y proffwyd , a Benaia , a’r gwŷr cedyrn , a Solomon ei frawd , ni wahoddodd efe . Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon , gan ddywedyd , Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu , a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny ? Tyred gan hynny yn awr , atolwg , rhoddaf i ti gyngor , fel yr achubych dy einioes dy hun , ac einioes Solomon dy fab . Dos , a cherdda i mewn at y brenin Dafydd , a dywed wrtho , Oni thyngaist ti , fy arglwydd frenin , wrth dy wasanaethwraig , gan ddywedyd , Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i ? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu ? Wele , tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin , minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di , ac a sicrhaf dy eiriau di . A Bathseba a aeth i mewn at y brenin , i’r ystafell . A’r brenin oedd hen iawn ; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin . A Bathseba a ostyngodd ei phen , ac a ymgrymodd i’r brenin . A’r brenin a ddywedodd , Beth a fynni di ? Hithau a ddywedodd wrtho , Fy arglwydd , ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes , gan ddywedyd , Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i : Ac yn awr , wele , Adoneia sydd frenin ; ac yr awr hon , fy arglwydd frenin , nis gwyddost ti hyn . Ac efe a laddodd wartheg , ac anifeiliaid breision , a defaid lawer iawn , ac a wahoddodd holl feibion y brenin , ac Abiathar yr offeiriad , a Joab tywysog y filwriaeth : ond dy was Solomon ni wahoddodd efe . Tithau , fy arglwydd frenin , y mae llygaid holl Israel arnat ti , am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef . Os amgen , pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau , yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechaduriaid . Ac wele , tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin , y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn . A hwy a fynegasant i’r brenin , gan ddywedyd , Wele Nathan y proffwyd . Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin , ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr . A dywedodd Nathan , Fy arglwydd frenin , a ddywedaist ti , Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc ? Canys efe a aeth i waered heddiw , ac a laddodd ychen , ac anifeiliaid breision , a defaid lawer , ac a wahoddodd holl feibion y brenin , a thywysogion y filwriaeth , ac Abiathar yr offeiriad ; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef , ac y maent yn dywedyd , Bydded fyw y brenin Adoneia . Ond myfi dy was , a Sadoc yr offeiriad , a Benaia mab Jehoiada , a’th was Solomon , ni wahoddodd efe . Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn , heb ddangos ohonot i’th was , pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef ? A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd , Gelwch Bathseba ataf fi . A hi a ddaeth o flaen y brenin , ac a safodd gerbron y brenin . A’r brenin a dyngodd , ac a ddywedodd , Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder , Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel , gan ddywedyd , Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i ; felly y gwnaf y dydd hwn . Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr , ac a ymgrymodd i’r brenin , ac a ddywedodd , Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth . A’r brenin Dafydd a ddywedodd , Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada . A hwy a ddaethant o flaen y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrthynt , Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun , a dygwch ef i waered i Gihon . Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel : ac utgenwch mewn utgorn , a dywedwch , Bydded fyw y brenin Solomon . Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef , a deued efe i fyny , ac eistedded ar fy ngorseddfa i ; ac efe a deyrnasa yn fy lle i : canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda . A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Amen : yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin . Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin , felly bydded gyda Solomon , a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd . Felly Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada , a’r Cerethiaid , a’r Pelethiaid , a aethant i waered , ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd , ac a aethant ag ef i Gihon . A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell , ac a eneiniodd Solomon . A hwy a utganasant mewn utgorn : a’r holl bobl a ddywedasant , Bydded fyw y brenin Solomon . A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef , yn canu pibellau , ac yn llawenychu â llawenydd mawr , fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt . A chlybu Adoneia , a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef , pan ddarfuasai iddynt fwyta . Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn ; ac a ddywedodd , Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol ? Ac efe eto yn llefaru , wele , daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad . A dywedodd Adoneia , Tyred i mewn : canys gŵr grymus ydwyt ti , a daioni a fynegi di . A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia , Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin . A’r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada , a’r Cerethiaid , a’r Pelethiaid ; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin . A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon : a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen ; a’r ddinas a derfysgodd . Dyna’r twrf a glywsoch chwi . Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth . A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd , gan ddywedyd , Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di , ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di . A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely . Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin : Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc , a’m llygaid innau yn gweled hynny . A’r holl wahoddedigion , y rhai oedd gydag Adoneia , a ddychrynasant , ac a gyfodasant , ac a aethant bob un ei ffordd . Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon ; ac a gyfododd , ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor . A mynegwyd i Solomon , gan ddywedyd , Wele , y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon : canys wele , efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor , gan ddywedyd , Tynged y brenin Solomon i mi heddiw , na ladd efe ei was â’r cleddyf . A dywedodd Solomon , Os bydd efe yn ŵr da , ni syrth un o’i wallt ef i lawr ; ond os ceir drygioni ynddo ef , efe a fydd marw . A’r brenin Solomon a anfonodd , a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor . Ac efe a ddaeth , ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon . A dywedodd Solomon wrtho , Dos i’th dŷ . Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw ; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab , gan ddywedyd , Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear ; am hynny ymnertha , a bydd ŵr ; A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd ef , i gadw ei ddeddfau ef , a’i orchmynion , a’i farnedigaethau , a’i dystiolaethau , fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses ; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych , ac i ba le bynnag y tröech : Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf , gan ddywedyd , Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd , i rodio ger fy mron mewn gwirionedd , â’u holl galon , ac â’u holl enaid , ni thorrir ( eb efe ) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel . Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi , a’r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel , i Abner mab Ner , ac i Amasa mab Jether , y rhai a laddodd efe , ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch , ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau , ac yn ei esgidiau oedd am ei draed . Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb , ac na ad i’w benllwydni ef ddisgyn i’r bedd mewn heddwch . Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd , a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di : canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di . Wele hefyd Simei mab Gera , mab Jemini , o Bahurim , gyda thi , yr hwn a’m melltithiodd i â melltith dost , y dydd yr euthum i Mahanaim : ond efe a ddaeth i waered i’r Iorddonen i gyfarfod â mi ; a mi a dyngais i’r Arglwydd wrtho ef , gan ddywedyd , Ni’th laddaf â’r cleddyf . Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth : canys gŵr doeth ydwyt ti , a gwyddost beth a wnei iddo : dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed . Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd . A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd : saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron , a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad ; a’i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr . Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon . A hi a ddywedodd , Ai heddychlon dy ddyfodiad ? Yntau a ddywedodd , Heddychlon . Ac efe a ddywedodd , Y mae i mi air â thi . Hithau a ddywedodd , Dywed . Yntau a ddywedodd , Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth , ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin : eithr trodd y frenhiniaeth , ac a aeth i’m brawd : canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef . Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad ; na omedd fi . Hithau a ddywedodd wrtho , Dywed . Yntau a ddywedodd , Dywed , atolwg , wrth y brenin Solomon , ( canys ni omedd efe dydi , ) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi . A dywedodd Bathseba , Da ; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin . Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon , i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia . A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi , ac a ostyngodd iddi , ac a eisteddodd ar ei orseddfainc , ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin : a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef . Yna hi a ddywedodd , Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt ; na omedd fi . A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Gofyn , fy mam : canys ni’th omeddaf . A hi a ddywedodd , Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd . A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam , Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia ? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef ; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe ; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad , a Joab mab Serfia . A’r brenin Solomon a dyngodd i’r Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn . Yn awr gan hynny , fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a’m sicrhaodd i , ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad , yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ , megis y dywedasai efe : heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth . A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada ; ac efe a ruthrodd arno ef , fel y bu efe farw . Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin , Dos i Anathoth , i’th fro dy hun ; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti : ond ni laddaf di y pryd hwn ; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd , ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad . Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r Arglwydd ; fel y cyflawnai air yr Arglwydd , yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo . A’r chwedl a ddaeth at Joab : canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia , er na wyrasai efe ar ôl Absalom . A ffodd Joab i babell yr Arglwydd , ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor . A mynegwyd i’r brenin Solomon , ffoi o Joab i babell yr Arglwydd ; ac wele , y mae efe wrth yr allor . A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada , gan ddywedyd , Dos , rhuthra arno ef . A daeth Benaia i babell yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrtho ef , Fel hyn y dywed y brenin ; Tyred allan . Yntau a ddywedodd , Na ddeuaf ; eithr yma y byddaf farw . A Benaia a ddug drachefn air at y brenin , gan ddywedyd , Fel hyn’y dywedodd Joab , ac fel hyn y’m hatebodd . A dywedodd y brenin wrtho ef , Gwna fel y dywedodd efe , a rhuthra arno ef , a chladd ef ; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab , oddi arnaf fi , ac oddi ar dŷ fy nhad i . A’r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun ; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun , ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod ; sef Abner mab Ner , tywysog llu Israel , ac Amasa mab Jether , tywysog llu Jwda . A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab , ac ar ben ei had ef yn dragywydd : ond i Dafydd , ac i’w had , ac i’w dŷ , ac i’w orseddfainc , y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd . Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny , ac a ruthrodd arno , ac a’i lladdodd . Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch . A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth . A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar . A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei , ac a ddywedodd wrtho , Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem , ac aros yno , ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw . Canys bydd , y dydd yr elych allan , ac yr elych dros afon Cidron , gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw : dy waed fydd ar dy ben dy hun . A dywedodd Simei wrth y brenin , Da yw y gair : fel y dywedodd fy arglwydd frenin , felly y gwna dy was . A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer . Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis , mab Maacha , brenin Gath . A mynegwyd i Simei , gan ddywedyd , Wele dy weision di yn Gath . A Simei a gyfododd , ac a gyfrwyodd ei asyn , ac a aeth i Gath at Achis , i geisio ei weision : ie , Simei a aeth , ac a gyrchodd ei weision o Gath . A mynegwyd i Solomon , fyned o Simei o Jerwsalem i Gath , a’i ddychwelyd ef . A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei , ac a ddywedodd wrtho . Oni pherais i ti dyngu i’r Arglwydd , ac oni thystiolaethais wrthyt , gan ddywedyd , Yn y dydd yr elych allan , ac yr elych nac yma nac acw , gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw ? a thi a ddywedaist wrthyf , Da yw y gair a glywais . Paham gan hynny na chedwaist lw yr Arglwydd , a’r gorchymyn a orchmynnais i ti ? A dywedodd y brenin wrth Simei , Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon , yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad : yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun ; A bendigedig fydd y brenin Solomon , a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd . Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada ; ac efe a aeth allan , ac a ruthrodd arno ef , fel y bu efe farw . A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon . A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft , ac a briododd ferch Pharo , ac a’i dug hi i ddinas Dafydd , nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun , a thŷ yr Arglwydd , a mur Jerwsalem oddi amgylch . Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd , oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr Arglwydd , hyd y dyddiau hynny . A Solomon a garodd yr Arglwydd , gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad : eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu . A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno : canys honno oedd uchelfa fawr . Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno . Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Solomon mewn breuddwyd liw nos : a dywedodd Duw , Gofyn beth a roddaf i ti . A dywedodd Solomon , Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd , megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd , ac mewn cyfiawnder , ac mewn uniondeb calon gyda thi ; ie , cedwaist iddo y drugaredd fawr hon , a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc , fel y gwelir heddiw . Ac yn awr , O Arglwydd fy Nuw , ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad : a minnau yn fachgen bychan : ni fedraf fyned nac allan nac i mewn . A’th was sydd ymysg dy bobl , y rhai a ddewisaist ti ; pobl aml , y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd . Am hynny dyro i’th was galon ddeallus , i farnu dy bobl , i ddeall rhagor rhwng da a drwg : canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn ? A’r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd , am ofyn o Solomon y peth hyn . A Duw a ddywedodd wrtho , Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn , ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer , ac na ofynnaist i ti olud , ac na cheisiaist einioes dy elynion , eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn : Wele , gwneuthum yn ôl dy eiriau ; wele , rhoddais i ti galon ddoeth a deallus , fel na bu dy fath o’th flaen , ac na chyfyd dy fath ar dy ôl . A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist , golud , a gogoniant hefyd ; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd , dy holl ddyddiau di . Ac os rhodi yn fy ffyrdd i , gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion , megis y rhodiodd Dafydd dy dad , estynnaf hefyd dy ddyddiau di . A Solomon a ddeffrôdd ; ac wele , breuddwyd oedd . Ac efe a ddaeth i Jerwsalem , ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd , ac a offrymodd offrymau poeth , ac a aberthodd aberthau hedd , ac a wnaeth wledd i’w holl weision . Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin , ac a safasant ger ei fron ef . A’r naill wraig a ddywedodd , O fy arglwydd , myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi . Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi , yr esgorodd y wraig hon hefyd ; ac yr oeddem ni ynghyd , heb arall yn tŷ gyda ni , ond nyni ein dwyoedd yn tŷ . A mab y wraig hon a fu farw liw nos ; oherwydd hi a orweddodd arno ef . A hi a gododd yng nghanol y nos , ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl , tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu , ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi , a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau . A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno , wele , marw oedd efe ; ac wedi i mi ddal arno y bore , wele , nid fy mab i , yr hwn a esgoraswn i , ydoedd efe . A’r wraig arall a ddywedodd , Nage ; eithr fy mab i yw y byw , a’th fab dithau yw y marw . A hon a ddywedodd , Nage ; eithr dy fab di yw y marw , a’m mab i yw y byw . Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin . Yna y dywedodd y brenin , Hon sydd yn dywedyd , Dyma fy mab i sydd fyw , a’th fab dithau yw y marw : a hon acw sydd yn dywedyd , Nage ; eithr dy fab di yw y marw , a’m mab innau yw y byw . A dywedodd y brenin , Dygwch i mi gleddyf . A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin . A’r brenin a ddywedodd , Rhennwch y bachgen byw yn ddau , a rhoddwch yr hanner i’r naill , a’r hanner i’r llall . Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin , ( canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab , ) ac a lefarodd , O fy arglwydd , rhoddwch iddi hi y bachgen byw , ac na leddwch ef ddim : ond y llall a ddywedodd , Na fydded eiddof fi na thithau , eithr rhennwch ef . Yna yr atebodd y brenin , ac y dywedodd , Rhoddwch y bachgen byw iddi hi , ac na leddwch ef ddim : dyna ei fam ef . A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin ; a hwy a ofnasant y brenin : canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn . A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel . A dyma y tywysogion oedd ganddo ef : Asareia mab Sadoc , yr offeiriad ; Elihoreff ac Ahia , meibion Sisa , oedd ysgrifenyddion ; Jehosaffat mab Ahilud , yn gofiadur ; Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu ; a Sadoc ac Abiathar , yn offeiriaid ; Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion ; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd , ac yn gyfaill i’r brenin ; Ac Ahisar oedd benteulu ; ac Adoniram mab Abda , ar y deyrnged . A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel , y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ : mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu . Dyma eu henwau hwynt . Mab Hur , ym mynydd Effraim . Mab Decar ym Macas , ac yn Saalbim , a Beth‐semes , ac Elon‐bethanan . Mab Hesed , yn Aruboth : iddo ef yr oedd Socho , a holl dir Heffer . Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor : Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef . Baana mab Ahilud oedd yn Taanach , a Megido , a Bethsean oll , yr hon sydd gerllaw Sartana , islaw Jesreel , o Bethsean hyd Abel‐mehola , hyd y tu hwnt i Jocneam . Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead : iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse , y rhai sydd yn Gilead : eiddo ef oedd ardal Argob , yr hon sydd yn Basan ; sef trigain o ddinasoedd mawrion , â chaerau a barrau pres . Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim . Ahimaas oedd yn Nafftali : yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig . Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth . Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar . Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin . Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead , gwlad Sehon brenin yr Amoriaid , ac Og brenin Basan ; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe . Jwda ac Israel oedd aml , fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra , yn bwyta ac yn yfed , ac yn gwneuthur yn llawen . A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd , o’r afon hyd wlad y Philistiaid , ac hyd derfyn yr Aifft : yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion , ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef . A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid , a thrigain corus o flawd ; Deg o ychen pasgedig , ac ugain o ychen porfadwy , a chant o ddefaid , heblaw ceirw , ac iyrchod , a buail , ac ednod breision . Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll , o Tiffsa hyd Assa , ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon : ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch . Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel , bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren , o Dan hyd Beer‐seba , holl ddyddiau Solomon . Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch . A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin , ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon , pob un yn ei fis : ni adawsant eisiau dim . Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch , ac i’r cyflym gamelod , i’r fan lle y byddai y swyddogion , pob un ar ei ran . A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon , a deall mawr iawn , a helaethdra calon , fel y tywod sydd ar fin y môr . A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain , ac na holl ddoethineb yr Aifft . Ie , doethach oedd efe nag un dyn ; nag Ethan yr Esrahiad , na Heman , na Chalcol , na Darda , meibion Mahol : a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch . Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion : a’i ganiadau ef oedd fil a phump . Llefarodd hefyd am brennau , o’r cedrwydd sydd yn Libanus , hyd yr isop a dyf allan o’r pared : ac efe a lefarodd am anifeiliaid , ac am ehediaid , ac am ymlusgiaid , ac am bysgod . Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon , oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear , y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef . Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon ; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad : canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser . A Solomon a anfonodd at Hiram , gan ddywedyd , Ti a wyddost am Dafydd fy nhad , na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw , gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef , nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef . Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch , fel nad oes na gwrthwynebydd , nac ymgyfarfod niweidiol . Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw ; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad , gan ddywedyd , Dy fab , yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di , efe a adeilada dŷ i’m henw i . Yn awr , gan hynny , gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus ; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di : a rhoddaf atat gyflog dy weision , yn ôl yr hyn a ddywedych : canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid . A bu , pan glybu Hiram eiriau Solomon , lawenychu ohono ef yn ddirfawr , a dywedyd , Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw , yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma . A Hiram a anfonodd at Solomon , gan ddywedyd , Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf : mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd , a choed ffynidwydd . Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr : a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr , hyd y fan a osodych di i mi ; ac yno y datodaf hwynt , a chymer di hwynt : ond ti a wnei fy ewyllys innau , gan roddi ymborth i’m teulu i . Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd , ac o goed ffynidwydd , ei holl ddymuniad . A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ , ac ugain corus o olew coeth : felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn . A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon , fel y dywedasai wrtho : a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon ; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau . A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel , a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr . Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus , deng mil yn y mis ar gylch : mis y byddent yn Libanus , a dau fis gartref . Ac Adoniram oedd ar y dreth . Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau , a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd ; Heb law pen‐swyddogion Solomon , y rhai oedd ar y gwaith , sef tair mil a thri chant , yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith . A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr , a meini costus , a meini nadd , i sylfaenu y tŷ . Felly seiri Solomon , a seiri Hiram , a’r Gibliaid , a naddasant , ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ . Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft , yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel , yn y mis Sif , hwnnw yw yr ail fis , y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd . A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd , ac ugain cufydd ei led , a deg cufydd ar hugain ei uchder . A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd , yn un hyd â lled y tŷ ; ac yn ddeg cufydd ei led , o flaen y tŷ . Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri , yn llydain oddi fewn , ac yn gyfyng oddi allan . Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ , ynghylch y deml , a’r gafell ; ac a wnaeth gelloedd o amgylch . Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled , a’r ganol chwe chufydd ei lled , a’r drydedd yn saith gufydd ei lled : canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch , fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ . A’r tŷ , pan adeiladwyd ef , a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno ; fel na chlybuwyd na morthwylion , na bwyeill , nac un offeryn haearn yn y tŷ , wrth ei adeiladu . Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i’r ganol , ac o’r ganol i’r drydedd . Felly yr adeiladodd efe y tŷ , ac a’i gorffennodd ; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd . Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ , yn bum cufydd eu huchder : ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ . A daeth gair yr Arglwydd at Solomon , gan ddywedyd , Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu , os rhodi di yn fy neddfau i , a gwneuthur fy marnedigaethau , a chadw fy holl orchmynion , gan rodio ynddynt ; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad : A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel , ac ni adawaf fy mhobl Israel . Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ , ac a’i gorffennodd . Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd , o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn : byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd . Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr , o’r llawr hyd y parwydydd : felly yr adeiladodd iddo o fewn , sef i’r gafell , i’r cysegr sancteiddiolaf . A’r tŷ , sef y deml o’i flaen ef , oedd ddeugain cufydd ei hyd . A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau , ac yn flodau agored : y cwbl oedd gedrwydd ; ni welid carreg . A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn , i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd . A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd , ac ugain cufydd o led , ac ugain cufydd ei huchder : ac efe a’i gwisgodd ag aur pur ; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd . Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur ; ac a roddes farrau ar draws , wrth gadwyni aur , o flaen y gafell , ac a’u gwisgodd ag aur . A’r holl dŷ a wisgodd efe ag aur , nes gorffen yr holl dŷ : yr allor hefyd oll , yr hon oedd wrth y gafell , a wisgodd efe ag aur . Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid , o bren olewydd , pob un yn ddeg cufydd ei uchder . A’r naill adain i’r ceriwb oedd bum cufydd , a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd : deg cufydd oedd o’r naill gwr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef . A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd : un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb . Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd ; ac felly yr oedd y ceriwb arall . Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn : ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant , fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared , ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall ; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd . Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur . A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored ; o fewn ac oddi allan . Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur , oddi fewn ac oddi allan . Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd ; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared . Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored , ac a’u gwisgodd ag aur , ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid , ac ar y palmwydd . Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd , y rhai oedd bedwaredd ran y pared . Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd : dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr , a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall . Ac efe a gerfiodd geriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored , arnynt ; ac a’u gwisgodd ag aur , yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad . Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd , ac â rhes o drawstiau cedrwydd . Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd , ym mis Sif : Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg , ym mis Bul , ( dyna yr wythfed mis , ) y gorffennwyd y tŷ , a’i holl rannau , a’i holl berthynasau . Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef . Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg , ac a orffennodd ei holl dŷ . Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus , yn gan cufydd ei hyd , ac yn ddeg cufydd a deugain ei led , ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder , ar bedair rhes o golofnau cedrwydd , a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau . Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain , pymtheg yn y rhes . Ac yr oedd tair rhes o ffenestri , golau ar gyfer golau , yn dair rhenc . A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr , felly yr oedd y ffenestri ; a golau ar gyfer golau , yn dair rhenc . Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau , yn ddeg cufydd a deugain ei hyd , ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led : a’r porth oedd o’u blaen hwynt ; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau . Porth yr orseddfa hefyd , yr hwn y barnai efe ynddo , a wnaeth efe yn borth barn : ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall . Ac i’w dŷ ei hun , yr hwn y trigai efe ynddo , yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith . Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo , yr hon a briodasai Solomon , fel y porth hwn . Hyn oll oedd o feini costus , wedi eu naddu wrth fesur , a’u lladd â llif , oddi fewn ac oddi allan , a hynny o’r sylfaen hyd y llogail ; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr . Ac efe a sylfaenesid â meini costus , â meini mawr , â meini o ddeg cufydd , ac â meini o wyth gufydd . Ac oddi arnodd yr oedd meini costus , wedi eu naddu wrth fesur , a chedrwydd . Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch , dair rhes o gerrig nadd , a rhes o drawstiau cedrwydd , i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn , ac i borth y tŷ . A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus . Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali , a’i dad yn ŵr o Tyrus : gof pres ydoedd efe ; a llawn ydoedd o ddoethineb , a deall , a gwybodaeth , i weithio pob gwaith o bres . Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon , ac a weithiodd ei holl waith ef . Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres ; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn ; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy . Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd , i’w rhoddi ar bennau y colofnau ; pum cufydd oedd uchder y naill gnap , a phum cufydd uchder y cnap arall . Efe a wnaeth rwydwaith , a phlethiadau o gadwynwaith , i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau ; saith i’r naill gnap , a saith i’r cnap arall . Ac efe a wnaeth y colofnau , a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith , i guddio’r cnapiau oedd uwchben ; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall . A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili , yn y porth , yn bedwar cufydd . Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd , ar gyfer y canol , yr oedd pomgranadau , y rhai oedd wrth y rhwydwaith ; a’r pomgranadau oedd ddau cant , yn rhesau o amgylch , ar y cnap arall . Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml : ac a gyfododd y golofn ddeau , ac a alwodd ei henw hi Jachin ; ac efe a gyfododd y golofn aswy , ac a alwodd ei henw hi Boas . Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili . Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau . Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl : yn grwn oddi amgylch , ac yn bum cufydd ei uchder ; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch . A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch , deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch : y cnapiau oedd yn ddwy res , wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau . Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen ; tri oedd yn edrych tua’r gogledd , a thri yn edrych tua’r gorllewin , a thri yn edrych tua’r deau , a thri yn edrych tua’r dwyrain : a’r môr arnynt oddi arnodd , a’u pennau ôl hwynt oll o fewn . Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd , a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan , a blodau lili : dwy fil o bathau a annai ynddo . Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres ; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl , a phedwar cufydd ei lled , a thri chufydd ei huchder . A dyma waith yr ystolion : ystlysau oedd iddynt , a’r ystlysau oedd rhwng y delltennau : Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau , yr oedd llewod , ychen , a cheriwbiaid ; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd ; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau . A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl , a phlanciau pres ; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt : dan y noe yr oedd ysgwyddau , wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad . A’i genau oddi fewn y cwmpas , ac oddi arnodd , oedd gufydd ; a’i genau hi oedd grwn , ar waith yr ystôl , yn gufydd a hanner ; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau , a’i hystlysau yn bedwar ochrog , nid yn grynion . A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau , ac echelau yr olwynion yn yr ystôl ; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd . Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men ; eu hechelau , a’u bothau , a’u camegau , a’u hadenydd , oedd oll yn doddedig . Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl : o’r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi . Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch , o hanner cufydd o uchder ; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un . Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi , ac ar ei thaleithiau hi , geriwbiaid , llewod , a phalmwydd , wrth noethder pob un , a chysylltiadau oddi amgylch . Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl : un toddiad , un mesur , ac un agwedd , oedd iddynt hwy oll . Gwnaeth hefyd ddeng noe bres : deugain bath a ddaliai pob noe ; yn bedwar cufydd bob noe ; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl . Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ , a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ : a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ , tua’r dwyrain , ar gyfer y deau . Gwnaeth Hiram hefyd y noeau , a’r rhawiau , a’r cawgiau : a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith , yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr Arglwydd . Y ddwy golofn , a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn ; a’r ddau rwydwaith , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau ; A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith , dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau ; A’r deg ystôl , a’r deg noe ar yr ystolion ; Ac un môr , a deuddeg o ychen dan y môr ; A’r crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau ; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon , i dŷ yr Arglwydd , oedd o bres gloyw . Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir , rhwng Succoth a Sarthan . A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri , oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt : ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith . A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr Arglwydd ; yr allor aur , a’r bwrdd aur , yr hwn yr oedd y bara gosod arno ; A phum canhwyllbren o’r tu deau , a phump o’r tu aswy , o flaen y gafell , yn aur pur ; a’r blodau , a’r llusernau , a’r gefeiliau , o aur ; Y ffiolau hefyd , a’r saltringau , a’r cawgiau , a’r llwyau , a’r thuserau , o aur coeth ; a bachau dorau y tŷ , o fewn y cysegr sancteiddiaf , a dorau tŷ y deml , oedd aur . Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr Arglwydd . A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad ; yr arian , a’r aur , a’r dodrefn , a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr Arglwydd . Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel , a holl bennau y llwythau , a thywysogion tadau meibion Israel , at y brenin Solomon , yn Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd , honno yw Seion . A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon , ar yr ŵyl , ym mis Ethanim , hwnnw yw y seithfed mis . A holl henuriaid Israel a ddaethant , a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny . A hwy a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd , a phabell y cyfarfod , a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell , a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny . A’r brenin Solomon , a holl gynulleidfa Israel , y rhai a ymgynullasai ato ef , oedd gydag ef o flaen yr arch , yn aberthu defaid , a gwartheg , y rhai ni rifid ac ni chyfrifid , gan luosowgrwydd . Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun , i gafell y tŷ , i’r cysegr sancteiddiaf , dan adenydd y ceriwbiaid . Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch ; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch , a’i barrau oddi arnodd . A’r barrau a estynasant , fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell , ond nis gwelid oddi allan : yno y maent hwy hyd y dydd hwn . Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb , lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel , pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft . A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr , y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd , Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu , oherwydd y cwmwl : canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd . Yna y dywedodd Solomon , Yr Arglwydd a ddywedodd , y preswyliai efe yn y tywyllwch . Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti ; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo . A’r brenin a drodd ei wyneb , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel . A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad , ac a’i cwblhaodd â’i law , gan ddywedyd , Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft , ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ , fel y byddai fy enw i yno : eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel . Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad , Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i , da y gwnaethost fod hynny yn dy galon : Eto nid adeiledi di y tŷ ; ond dy fab di , yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di , efe a adeilada y tŷ i’m henw i . A’r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe ; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad , ac a eisteddais ar deyrngadair Israel , megis y llefarodd yr Arglwydd , ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . A mi a osodais yno le i’r arch , yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd , yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni , pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft . A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd , yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd : Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , nid oes Duw fel tydi , yn y nefoedd oddi uchod , nac ar y ddaear oddi isod , yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon ; Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho : traethaist hefyd â’th enau , a chwblheaist â’th law , megis heddiw y mae . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw Israel , cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel ; os dy feibion a gadwant eu ffordd , i rodio ger fy mron i , megis y rhodiaist ti ger fy mron . Ac yn awr , O Dduw Israel , poed gwir , atolwg , fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad . Ai gwir yw , y preswylia Duw ar y ddaear ? wele , y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ni allant dy gynnwys di ; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i ! Eto edrych ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiad ef , O Arglwydd fy Nuw , i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di : Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd , tua’r lle y dywedaist amdano , Fy enw a fydd yno : i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn . Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was , a’th bobl Israel , pan weddïant yn y lle hwn : clyw hefyd o le dy breswylfa , sef o’r nefoedd ; a phan glywych , maddau . Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog , a gofyn ganddo raith , gan ei dyngu ef , a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn : Yna clyw di yn y nefoedd , gwna hefyd , a barna dy weision , gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben ; a chan gyfiawnhau y cyfiawn , trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder . Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn , am iddynt bechu yn dy erbyn di , os dychwelant atat ti , a chyfaddef dy enw , a gweddïo , ac ymbil â thi yn y tŷ hwn : Yna gwrando di yn y nefoedd , a maddau bechod dy bobl Israel , a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt . Pan gaeer y nefoedd , fel na byddo glaw , oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn ; os gweddïant yn y lle hwn , a chyfaddef dy enw , a dychwelyd oddi wrth eu pechod , pan gystuddiech di hwynt : Yna gwrando di yn y nefoedd , a maddau bechod dy weision , a’th bobl Israel , fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi , a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth . Os bydd newyn yn y tir , os bydd haint , llosgfa , malltod , locustiaid , os bydd y lindys ; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd ; pa bla bynnag , pa glefyd bynnag , a fyddo ; Pob gweddi , pob deisyfiad , a fyddo gan un dyn , neu gan dy holl bobl Israel , y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun , ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn : Yna gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , a maddau ; gwna hefyd , a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd , yr hwn yr adwaenost ei galon ; ( canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion ; ) Fel y’th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i’n tadau ni . Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel , ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw ; ( Canys clywant am dy enw mawr di , a’th law gref , a’th fraich estynedig ; ) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn : Gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano : fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di , i’th ofni di , fel y mae dy bobl Israel , ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i . Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn , ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt , os gweddïant ar yr Arglwydd tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti , a’r tŷ yr hwn a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt , ac ar eu deisyfiad , a gwna farn iddynt . Os pechant i’th erbyn , ( canys nid oes dyn ni phecha , ) a digio ohonot wrthynt , a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion , fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn , ymhell neu yn agos ; Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi , a dychwelyd , ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant , gan ddywedyd , Pechasom , troseddasom hefyd , a gwnaethom yn annuwiol ; A dychwelyd atat ti â’u holl galon , ac â’u holl enaid , yng ngwlad eu gelynion a’u caethgludasant hwynt , a gweddïo arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau , a’r ddinas a ddewisaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , eu gweddi hwynt , a’u deisyfiad , a gwna farn iddynt , A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn , a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn , a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant , fel y trugarhaont wrthynt hwy : Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy , y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft , o ganol y ffwrn haearn : Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was , a deisyfiad dy bobl Israel , i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti . Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear , fel y lleferaist trwy law Moses dy was , pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft , O Arglwydd Dduw . Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a’r deisyfiad yma , efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd , o ostwng ar ei liniau , ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd . Ac efe a safodd , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel , gan ddywedyd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel , yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe : ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef , y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was . Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni , fel y bu gyda’n tadau : na wrthoded ni , ac na’n gadawed ni : I ostwng ein calonnau ni iddo ef , i rodio yn ei holl ffyrdd ef , ac i gadw ei orchmynion ef , a’i ddeddfau , a’i farnedigaethau , y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni . A bydded fy ngeiriau hyn , y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd , yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos , i wneuthur barn â’i was , a barn â’i bobl Israel beunydd , fel y byddo’r achos : Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw , ac nad oes arall . Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni , i rodio yn ei ddeddfau ef , ac i gadw ei orchmynion ef , fel heddiw . A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd . A Solomon a aberthodd aberth hedd , yr hwn a offrymodd efe i’r Arglwydd , sef dwy fil ar hugain o wartheg , a chwech ugain mil o ddefaid . Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd . Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd : canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau , a’r bwyd‐offrymau , a braster yr offrymau hedd : oherwydd yr allor bres , yr hon oedd gerbron yr Arglwydd , oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau , a’r bwyd‐offrymau , a braster yr offrymau hedd . A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl , a holl Israel gydag ef , cynulleidfa fawr , o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft , gerbron yr Arglwydd ein Duw , saith o ddyddiau a saith o ddyddiau , sef pedwar diwrnod ar ddeg . A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl : a hwy a fendithiasant y brenin , ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen , am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was , ac i Israel ei bobl . A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur ; Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith , fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di , yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i : cysegrais y tŷ yma a adeiledaist , i osod fy enw ynddo byth ; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol . Ac os rhodi di ger fy mron i , megis y rhodiodd Dafydd dy dad , mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti , ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau : Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd , fel y lleferais wrth Dafydd dy dad , gan ddywedyd , Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel . Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i , ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau , y rhai a roddais o’ch blaen chwi , eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt hwy : Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy ; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw , a fwriaf allan o’m golwg ; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd : A’r tŷ uchel hwn , pawb a gyniweiro heibio iddo , a synna wrtho , ac a chwibana ; dywedant hefyd , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon , ac i’r tŷ yma ? A hwy a ddywedant , Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft , ac ymaflyd mewn duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt , a’u gwasanaethu hwynt ; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn . Ac ymhen yr ugain mlynedd , wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ , sef tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ( Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr , a choed ffynidwydd , ac aur , yn ôl ei holl ewyllys ef , ) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea . A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef ; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef . Ac efe a ddywedodd , Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi , fy mrawd ? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul , hyd y dydd hwn . A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur . A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon , i adeiladu tŷ yr Arglwydd , a’i dŷ ei hun , a Milo , a mur Jerwsalem , Hasor , a Megido , a Geser . Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny , ac a enillasai Geser , ac a’i llosgasai hi â thân , ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas , ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch , gwraig Solomon . A Solomon a adeiladodd Geser , a Beth‐horon isaf , A Baalath , a Thadmor yn yr anialwch , o fewn y wlad , A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon , a dinasoedd y cerbydau , a dinasoedd y gwŷr meirch , a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem , ac yn Libanus , ac yn holl dir ei lywodraeth . Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid , Hethiaid , Peresiaid , Hefiaid , a’r Jebusiaid , y rhai nid oeddynt o feibion Israel ; Sef eu meibion hwy , y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad , y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd ; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn . Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas : rhyfelwyr iddo ef oeddynt , a gweision iddo , a thywysogion iddo , a chapteiniaid iddo , a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch . Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon , pum cant a deg a deugain , oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith . A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun , yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi : yna efe a adeiladodd Milo . A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r Arglwydd : ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd . Felly efe a orffennodd y tŷ . A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber , yr hon sydd wrth Eloth , ar fin y môr coch , yng ngwlad Edom . A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau , y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr , gyda gweision Solomon . A hwy a ddaethant i Offir , ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur , ac a’u dygasant at y brenin Solomon . A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd , hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled . A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn , â chamelod yn dwyn aroglau , ac aur lawer iawn , a meini gwerthfawr . A hi a ddaeth at Solomon , ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon . A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion : nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin , a’r na fynegodd efe iddi hi . A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon , a’r tŷ a adeiladasai efe , A bwyd ei fwrdd , ac eisteddiad ei weision , a threfn ei weinidogion , a’u dillad hwynt , a’i drulliadau ef , a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd mwyach ysbryd ynddi . A hi a ddywedodd wrth y brenin , Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di , ac am dy ddoethineb . Eto ni chredais y geiriau , nes i mi ddyfod , ac i’m llygaid weled : ac wele , ni fynegasid i mi yr hanner : mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i . Gwyn fyd dy wŷr di , gwyn fyd dy weision hyn , y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di , yn clywed dy ddoethineb . Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th hoffodd di , i’th roddi ar deyrngadair Israel : oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd , y gosododd efe di yn frenin , i wneuthur barn a chyfiawnder . A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur , a pheraroglau lawer iawn , a meini gwerthfawr . Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach , cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon . A llongau Hiram hefyd , y rhai a gludent aur o Offir , a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim , ac o feini gwerthfawr . A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd , ac i dŷ y brenin , a thelynau a saltringau i gantorion . Ni ddaeth y fath goed almugim , ac ni welwyd hyd y dydd hwn . A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad , yr hyn a ofynnodd hi , heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni . Felly hi a ddychwelodd , ac a aeth i’w gwlad , hi a’i gweision . A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn , oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur ; Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr , ac o farsiandïaeth y llysieuwyr , a chan holl frenhinoedd Arabia , a thywysogion y wlad . A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin ; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian : A thri chant o fwcledi o aur dilin ; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled . A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus . A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori , ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau . Chwech o risiau oedd i’r orseddfainc ; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi , a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle , a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau . A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu . Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas . A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur ; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur : nid oedd arian ynddynt . Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon . Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr , gyda llongau Hiram . Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis , yn dwyn aur , ac arian , ac ifori , ac epaod , a pheunod . A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear , mewn cyfoeth a doethineb . A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon , i glywed ei ddoethineb ef , a roddasai Duw yn ei galon ef . A hwy a ddygasant bob un ei anrheg , llestri arian , a llestri aur , a gwisgoedd , ac arfau , a pheraroglau , meirch , a mulod , dogn bob blwyddyn . A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion : ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau , a deuddeng mil o farchogion ; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau , a chyda’r brenin yn Jerwsalem . A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig , a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir , o amldra . A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft , ac edafedd llin : marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris . A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian , a march am gant a deg a deugain : ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid , ac i frenhinoedd Syria , y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt . Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr , heblaw merch Pharo , Moabesau , Ammonesau , Edomesau , Sidonesau , a Hethesau ; O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel , Nac ewch i mewn atynt hwy , ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi : diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt . Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad . Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd , yn freninesau ; a thri chant o ordderchwragedd : a’i wragedd a droesant ei galon ef . A phan heneiddiodd Solomon , ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr : ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw , fel y buasai calon Dafydd ei dad ef . Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid , ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid . A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos , ffieidd‐dra Moab , yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem ; ac i Moloch , ffieidd-dra meibion Ammon . Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr , y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i’w duwiau . A’r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon , oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith , Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn , nad elai efe ar ôl duwiau dieithr : ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd . Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon , Oherwydd bod hyn ynot ti , ac na chedwaist fy nghyfamod a’m deddfau a orchmynnais i ti ; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti , ac a’i rhoddaf hi i’th was di . Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn , er mwyn Dafydd dy dad : o law dy fab di y rhwygaf hi . Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth ; un llwyth a roddaf i’th fab di , er mwyn Dafydd fy ngwas , ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais . A’r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon , Hadad yr Edomiad : o had y brenin yn Edom yr oedd efe . Canys pan oedd Dafydd yn Edom , a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion , wedi iddo daro pob gwryw yn Edom ; ( Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel , nes difetha pob gwryw yn Edom : ) Yr Hadad hwnnw a ffodd , a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef , i fyned i’r Aifft ; a Hadad yn fachgen bychan eto . A hwy a gyfodasant o Midian , ac a ddaethant i Paran : ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran , ac a ddaethant i’r Aifft , at Pharo brenin yr Aifft ; ac efe a roddes iddo ef dŷ , ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo , ac a roddodd dir iddo . A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo , ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun , chwaer Tahpenes y frenhines . A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab ; a Thahpenes a’i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo : a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo . A phan glybu Hadad yn yr Aifft , huno o Dafydd gyda’i dadau , a marw o Joab tywysog y filwriaeth , Hadad a ddywedodd wrth Pharo , Gollwng fi , fel yr elwyf i’m gwlad fy hun . A dywedodd Pharo wrtho ef , Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi , pan wyt , wele , yn ceisio myned i’th wlad dy hun ? Ac efe a ddywedodd , Dim ; eithr gan ollwng gollwng fi . A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef , Reson mab Eliada , yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd : Ac efe a gynullodd wŷr ato , ac a aeth yn dywysog ar fyddin , pan laddodd Dafydd hwynt o Soba ; a hwy a aethant i Damascus , ac a drigasant ynddi , ac a deyrnasasant yn Damascus . Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon , heblaw y drwg a wnaeth Hadad : ac efe a ffieiddiodd Israel , ac a deyrnasodd ar Syria . A Jeroboam mab Nebat , Effratead o Sereda , ( ac enw ei fam ef oedd Serfa , yr hon oedd wraig weddw , ) gwas i Solomon , a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin . Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin : Solomon a adeiladodd Milo , ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad . A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth : a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith , ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff . A’r pryd hwnnw , a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem , y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd , ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd , a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes . Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef , ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau . Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam , Cymer i ti ddeg darn : canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon , a rhoddaf ddeg llwyth i ti : ( Ond un llwyth fydd iddo ef , er mwyn fy ngwas Dafydd , ac er mwyn Jerwsalem , y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel : ) Oblegid iddynt fy ngwrthod i , ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid , ac i Cemos duw y Moabiaid , ac i Milcom duw meibion Ammon , ac na rodiasant yn fy ffyrdd i , i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i , ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau , fel Dafydd ei dad . Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef : eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes , er mwyn Dafydd fy ngwas , yr hwn a ddewisais i , yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i : Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef , a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth . Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth ; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno . A thi a gymeraf fi , fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon ; a thi a fyddi frenin ar Israel . Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti , a rhodio yn fy ffyrdd i , a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i , i gadw fy neddfau a’m gorchmynion , fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas ; yna mi a fyddaf gyda thi , ac a adeiladaf i ti dŷ sicr , fel yr adeiledais i Dafydd , a mi a roddaf Israel i ti . A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn ; eto nid yn dragywydd . Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam . A Jeroboam a gyfododd , ac a ffodd i’r Aifft , at Sisac brenin yr Aifft ; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon . A’r rhan arall o weithredoedd Solomon , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i ddoethineb ef , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon ? A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem , ar holl Israel , oedd ddeugain mlynedd . A Solomon a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad ; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yna Rehoboam a aeth i Sichem : canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin . A phan glybu Jeroboam mab Nebat , ac efe eto yn yr Aifft , ( canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin , a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft ; ) Hwy a anfonasant , ac a alwasant arno ef . A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant , ac a ymddiddanasant â Rehoboam , gan ddywedyd , Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom : ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad , ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni , ac ni a’th wasanaethwn di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch eto dridiau ; yna dychwelwch ataf fi . A’r bobl a aethant ymaith . A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef , tra yr ydoedd efe yn fyw , ac a ddywedodd , Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn ? A hwy a lefarasant wrtho ef , gan ddywedyd , Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn , a’u gwasanaethu hwynt , a’u hateb hwynt , a llefaru wrthynt eiriau teg ; yna y byddant weision i ti byth . Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid , yr hwn a gyngorasent iddo ef ; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef , a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef : Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Beth yr ydych chwi yn ei gynghori , fel yr atebom y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyf , gan ddywedyd , Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni ? A’r gwŷr ieuainc , y rhai a gynyddasent gydag ef , a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma , y rhai a lefarasant wrthyt , gan ddywedyd , Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni , ond ysgafnha di hi arnom ni ; fel hyn y lleferi di wrthynt ; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad . Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd â iau drom , a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch cosbodd chwi â ffrewyllau , a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau . A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd , fel y llefarasai y brenin , gan ddywedyd , Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd . A’r brenin a atebodd y bobl yn arw , ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo ; Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc , gan ddywedyd , Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom , a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau . Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl . Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd , fel y cwblheid ei air ef , yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat . A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy , y bobl a atebasant y brenin , gan ddywedyd , Pa ran sydd i ni yn Dafydd ? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse : O Israel , dos i’th bebyll ; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun , Dafydd . Felly Israel a aethant i’w pebyll . Ond meibion Israel , y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda , Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy . A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram , yr hwn oedd ar y dreth ; a holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw . Am hynny y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd , i ffoi i Jerwsalem . Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn . A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam , hwy a anfonasant ac a’i galwasant ef at y gynulleidfa , ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel : nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd , ond llwyth Jwda yn unig . A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem , efe a gasglodd holl dŷ Jwda , a llwyth Benjamin , cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol , cymwys i ryfel , i ymladd yn erbyn tŷ Israel , i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon . Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw , gan ddywedyd , Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda , ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin , a gweddill y bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Nac ewch i fyny , ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel ; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun : canys trwof fi y mae y peth hyn . A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd , ac a ddychwelasant i fyned ymaith , yn ôl gair yr Arglwydd . Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim , ac a drigodd ynddi hi ; ac a aeth oddi yno , ac adeiladodd Penuel . A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon , Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd . Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem , yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda , a hwy a’m lladdant i , ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda . Yna y brenin a ymgynghorodd , ac a wnaeth ddau lo aur , ac a ddywedodd wrthynt hwy , Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem : wele dy dduwiau di , O Israel , y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft . Ac efe a osododd un yn Bethel , ac a osododd y llall yn Dan . A’r peth hyn a aeth yn bechod : oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan . Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd , ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl , y rhai nid oedd o feibion Lefi . A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis , ar y pymthegfed dydd o’r mis , fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda ; ac efe a offrymodd ar yr allor . Felly y gwnaeth efe yn Bethel , gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe : ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe . Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel , y pymthegfed dydd o’r wythfed mis , sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun ; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel : ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu . Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda , trwy air yr Arglwydd , i Bethel : a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu . Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor , trwy air yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O allor , allor , fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Wele , mab a enir i dŷ Dafydd , a’i enw Joseia ; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti , a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti . Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw , gan ddywedyd , Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd ; Wele , yr allor a rwygir , a’r lludw sydd arni a dywelltir . A phan glybu y brenin air gŵr Duw , yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel , yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor , gan ddywedyd , Deliwch ef . A diffrwythodd ei law ef , yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef , fel na allai efe ei thynnu hi ato . Yr allor hefyd a rwygodd , a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor , yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd . A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw , Gweddïa , atolwg , gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ac ymbil drosof fi , fel yr adferer fy llaw i mi . A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd ; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef , ac a fu fel cynt . A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw , Tyred adref gyda mi , a chymer luniaeth , a mi a roddaf rodd i ti . A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin , Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ , ni ddeuwn i gyda thi ; ac ni fwytawn fara , ac nid yfwn ddwfr , yn y fan hon : Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd , gan ddywedyd , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr ; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost . Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall , ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel . Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel ; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel : a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin . A’u tad a ddywedodd wrthynt , Pa ffordd yr aeth efe ? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw , yr hwn a ddaethai o Jwda . Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion , Cyfrwywch i mi yr asyn . A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn ; ac efe a farchogodd arno . Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw , ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen ; ac a ddywedodd wrtho , Ai tydi yw gŵr Duw , yr hwn a ddaethost o Jwda ? Ac efe a ddywedodd , Ie , myfi . Yna efe a ddywedodd wrtho , Tyred adref gyda mi , a bwyta fara . Yntau a ddywedodd , Ni allaf ddychwelyd gyda thi , na dyfod gyda thi ; ac ni fwytâf fara , ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon . Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr yno ; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi . Dywedodd yntau wrtho , Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau ; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dychwel ef gyda thi i’th dŷ , fel y bwytao fara , ac yr yfo ddwfr . Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho . Felly efe a ddychwelodd gydag ef , ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef , ac a yfodd ddwfr . A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd , daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd : Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd , ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , Eithr dychwelaist , a bwyteaist fara , ac yfaist ddwfr , yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr ; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau . Ac wedi iddo fwyta bara , ac wedi iddo yfed , efe a gyfrwyodd iddo yr asyn , sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd . Ac wedi iddo fyned ymaith , llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd , ac a’i lladdodd ef : a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd , a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef , a’r llew yn sefyll wrth y gelain . Ac wele wŷr yn myned heibio , ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd , a’r llew yn sefyll wrth y gelain : a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi . A phan glybu y proffwyd , yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd , efe a ddywedodd , Gŵr Duw yw efe , yr hwn a anufuddhaodd air yr Arglwydd : am hynny yr Arglwydd a’i rhoddodd ef i’r llew , yr hwn a’i drylliodd ef , ac a’i lladdodd ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe wrtho ef . Ac efe a lefarodd wrth ei feibion , gan ddywedyd , Cyfrwywch i mi yr asyn . A hwy a’i cyfrwyasant . Ac efe a aeth , ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd , a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain : ac ni fwytasai y llew y gelain , ac ni ddrylliasai efe yr asyn . A’r proffwyd a gymerth gelain gŵr Duw , ac a’i gosododd hi ar yr asyn , ac a’i dug yn ei hôl . A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas , i alaru , ac i’w gladdu ef . Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun ; a hwy a alarasant amdano ef , gan ddywedyd , O fy mrawd ! Ac wedi iddo ei gladdu ef , efe a lefarodd wrth ei feibion , gan ddywedyd , Pan fyddwyf farw , cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo ; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef . Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel , ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria . Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus ; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd : y neb a fynnai , efe a’i cysegrai ef , ac efe a gâi fod yn offeiriad i’r uchelfeydd . A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam , i’w ddiwreiddio hefyd , ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear . Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam . A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig , Cyfod atolwg , a newid dy ddillad , fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam ; a dos i Seilo : wele , yno y mae Ahïa y proffwyd , yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma . A chymer yn dy law ddeg o fara , a theisennau , a chostrelaid o fêl , a dos ato ef : efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen . A gwraig Jeroboam a wnaeth felly ; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo , ac a ddaeth i dŷ Ahïa . Ond ni allai Ahïa weled ; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint . A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahïa , Wele , y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab ; canys claf yw efe : fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi : canys pan ddelo hi i mewn , hi a ymddieithra . A phan glybu Ahïa drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws , efe a ddywedodd , Tyred i mewn , gwraig Jeroboam ; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro ? canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion caled . Dos , dywed wrth Jeroboam , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl , a’th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel , A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd , a’i rhoddi i ti ; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd , yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion , a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon , i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i ; Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o’th flaen di ; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr , a delwau toddedig , i’m digio i , ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn : Am hynny , wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam ; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw , y gwarchaeëdig a’r gweddilledig yn Israel ; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam , fel y bwrir allan dom , nes ei ddarfod . Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes : canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Cyfod di gan hynny , dos i’th dŷ : a phan ddelo dy draed i’r ddinas , bydd marw y bachgen . A holl Israel a alarant amdano ef , ac a’i claddant ef : canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i’r bedd ; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel , yn nhŷ Jeroboam . Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel , yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw : ond pa beth ? ie , yn awr . Canys yr Arglwydd a dery Israel , megis y siglir y gorsen mewn dwfr ; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt , ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon ; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni , gan annog yr Arglwydd i ddigofaint . Ac efe a ddyry heibio Israel , er mwyn pechodau Jeroboam , yr hwn a bechodd , a’r hwn a wnaeth i Israel bechu . A gwraig Jeroboam a gyfododd , ac a aeth ymaith , ac a ddaeth i Tirsa : ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ , bu farw y bachgen . A hwy a’i claddasant ef ; a holl Israel a alarasant amdano , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd . A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam , fel y rhyfelodd efe , ac fel y teyrnasodd efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain : ac efe a hunodd gyda’i dadau ; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda . Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel , i osod ei enw yno . Ac enw ei fam ef oedd Naama , Ammones . A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd ; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd , rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau , yn eu pechodau a wnaethent . Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd , a delwau , a llwyni ar bob bryn uchel , a than bob pren gwyrddlas . A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad : gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam , Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem . Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin ; efe a’u dug hwynt ymaith oll : dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon . A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres , ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr , y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin . A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd , y rhedegwyr a’u dygent hwy , ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr . A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau . A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd . Ac enw ei fam ef oedd Naama , Ammones . Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat , yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda . Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Maacha , merch Abisalom . Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad , y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef : ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw , fel calon Dafydd ei dad . Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem ; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef , ac i sicrhau Jerwsalem : Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes , ond yn achos Ureia yr Hethiad . A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes . A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam . Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau , a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd . Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda . Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Maacha , merch Abisalom . Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad , ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau . Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines , oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn ; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi , ac a’i llosgodd wrth afon Cidron . Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd : eto calon Asa oedd berffaith gyda’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef . Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad , a’r pethau a gysegrasai efe ei hun , i dŷ yr Arglwydd , yn arian , yn aur , ac yn llestri . A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt . A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda , ac a adeiladodd Rama ; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda . Yna Asa a gymerodd yr holl arian a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision : a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon , mab Hesion , brenin Syria , yr hwn oedd yn trigo yn Damascus , gan ddywedyd , Cyfamod sydd rhyngof fi a thi , rhwng fy nhad i a’th dad di : wele , mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur ; tyred , diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel , fel y cilio efe oddi wrthyf fi . Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa , ac a anfonodd dywysogion y lluoedd , y rhai oedd ganddo ef , yn erbyn dinasoedd Israel , ac a drawodd Ijon , a Dan , ac Abel‐beth‐maacha , a holl Cinneroth , gyda holl wlad Nafftali . A phan glybu Baasa hynny , efe a beidiodd ag adeiladu Rama ; ac a drigodd yn Tirsa . Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda , heb lysu neb : a hwy a gymerasant gerrig Rama , a’i choed , â’r rhai yr adeiladasai Baasa ; a’r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin , a Mispa . A’r rhan arall o holl hanes Asa , a’i holl gadernid ef , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’r dinasoedd a adeiladodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed . Ac Asa a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad ; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda ; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd . Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd ei dad , ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu . A Baasa mab Ahïa , o dŷ Issachar , a gydfwriadodd yn ei erbyn ef ; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid : canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon . A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A phan deyrnasodd , efe a drawodd holl dŷ Jeroboam ; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam , nes ei ddifetha ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad : Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe , a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu ; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel . A’r rhan arall o hanes Nadab , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt . Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa , bedair blynedd ar hugain . Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam , ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa , gan ddywedyd , Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch , a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel , a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam , a pheri i’m pobl Israel bechu , gan fy nigio â’u pechodau ; Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa , a hiliogaeth ei dŷ ef : a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat . Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes . A’r rhan arall o hanes Baasa , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid ef , onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Baasa a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Tirsa ; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa , ac yn erbyn ei dŷ ef , oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd , gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo ; gan fod fel tŷ Jeroboam , ac oblegid iddo ei ladd ef . Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa , ddwy flynedd . A Simri ei was ef , tywysog ar hanner y cerbydau , a gydfwriadodd yn ei erbyn ef , ac efe yn yfed yn feddw , yn Tirsa , yn nhŷ Arsa , yr hwn oedd benteulu yn Tirsa . A Simri a aeth ac a’i trawodd ef , ac a’i lladdodd , yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A phan ddechreuodd efe deyrnasu , ac eistedd ar ei deyrngadair , efe a laddodd holl dŷ Baasa : ni adawodd efe iddo ef un gwryw , na’i geraint , na’i gyfeillion . Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd . Oherwydd holl bechodau Baasa , a phechodau Ela ei fab ef , trwy y rhai y pechasant hwy , a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu , gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd . A’r rhan arall o hanes Ela , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa : a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid . A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd , Simri a gydfwriadodd , ac a laddodd y brenin . A holl Israel a goronasant Omri , tywysog y llu , yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel , yn y gwersyll . Ac Omri a aeth i fyny , a holl Israel gydag ef , o Gibbethon ; a hwy a warchaeasant ar Tirsa . A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill , efe a aeth i balas tŷ y brenin , ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân , ac a fu farw ; Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe , gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd , gan rodio yn ffordd Jeroboam , ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu . A’r rhan arall o hanes Simri , a’i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe ; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran : rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath , i’w osod ef yn frenin , a rhan ar ôl Omri . A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath : felly Tibni a fu farw , ac Omri a deyrnasodd . Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd : yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd . Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer , er dwy dalent o arian ; ac a adeiladodd yn y mynydd , ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe , ar ôl enw Semer , arglwydd y mynydd , Samaria . Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd , ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef . Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat , ac yn ei bechod ef , trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu , gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd hwynt . A’r rhan arall o hanes Omri , yr hyn a wnaeth efe , a’i rymuster a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Ac Omri a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Samaria , ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda : ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain . Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o’i flaen ef . Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat , ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid , ac a aeth ac a wasanaethodd Baal , ac a ymgrymodd iddo . Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal , yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria . Ac Ahab a wnaeth lwyn . Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef . Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho : yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi , ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun . Ac Eleias y Thesbiad , un o breswylwyr Gilead , a ddywedodd wrth Ahab , Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw , ond yn ôl fy ngair i . A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Dos oddi yma , a thro tua’r dwyrain , ac ymguddia wrth afon Cerith , yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen . Ac o’r afon yr yfi ; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno . Felly efe a aeth , ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd ; canys efe a aeth , ac a arhosodd wrth afon Cerith , yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen . A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore , a bara a chig brynhawn : ac efe a yfai o’r afon . Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon , oblegid na buasai law yn y wlad . A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Sareffta , yr hon sydd yn perthyn i Sidon , ac aros yno : wele , gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno . Felly efe a gyfododd , ac a aeth i Sareffta . A phan ddaeth efe at borth y ddinas , wele yno wraig weddw yn casglu briwydd : ac efe a alwodd arni , ac a ddywedodd , Dwg , atolwg , i mi ychydig ddwfr mewn llestr , fel yr yfwyf . Ac a hi yn myned i’w gyrchu , efe a alwodd arni , ac a ddywedodd , Dwg , atolwg , i mi damaid o fara yn dy law . A hi a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw , nid oes gennyf deisen , ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn , ac ychydig olew mewn ystên : ac wele fi yn casglu dau o friwydd , i fyned i mewn , ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab , fel y bwytaom hynny , ac y byddom feirw . Ac Eleias a ddywedodd wrthi , Nac ofna ; dos , gwna yn ôl dy air : eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf , a dwg i mi ; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny . Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Y blawd yn y celwrn ni threulir , a’r olew o’r ystên ni dderfydd , hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear . A hi a aeth , ac a wnaeth yn ôl gair Eleias : a hi a fwytaodd , ac yntau , a’i thylwyth , ysbaid blwyddyn . Ni ddarfu y celwrn blawd , a’r ystên olew ni ddarfu , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias . Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ , ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf , fel na thrigodd anadl ynddo . A hi a ddywedodd wrth Eleias , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , gŵr Duw ? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd , ac i ladd fy mab ? Ac efe a ddywedodd wrthi , Moes i mi dy fab . Ac efe a’i cymerth ef o’i mynwes hi , ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi , ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun . Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd fy Nuw , a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi , gan ladd ei mab hi ? Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith , ac a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd fy Nuw , dychweled , atolwg , enaid y bachgen hwn iddo eilwaith . A’r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias ; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo , ac efe a ddadebrodd . Ac Eleias a gymerodd y bachgen , ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ , ac a’i rhoddes ef i’w fam : ac Eleias a ddywedodd , Gwêl , byw yw dy fab . A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias , Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti , ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di . Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias , yn y drydedd flwyddyn , gan ddywedyd , Dos , ymddangos i Ahab ; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear . Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab . A’r newyn oedd dost yn Samaria . Ac Ahab a alwodd Obadeia , yr hwn oedd benteulu iddo : ( ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr : Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd , Obadeia a gymerodd gant o broffwydi , ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof , ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr . ) Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia , Dos i’r wlad , at bob ffynnon ddwfr , ac at yr holl afonydd : ysgatfydd ni a gawn laswellt , fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod , fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli . Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded : Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan , ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan . Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd , wele Eleias yn ei gyfarfod ef : ac efe a’i hadnabu ef , ac a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ddywedodd , Onid ti yw fy arglwydd Eleias ? Yntau a ddywedodd wrtho , Ie , myfi : dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias . Dywedodd yntau , Pa bechod a wneuthum i , pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd ? Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw , nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di ; a phan ddywedent , Nid yw efe yma , efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl , na chawsent dydi . Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd , Dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias . A phan elwyf fi oddi wrthyt ti , ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i ; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab , ac yntau heb dy gael di , efe a’m lladd i : ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd . Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i , pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd , fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd , bob yn ddengwr a deugain mewn ogof , ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr ? Ac yn awr ti a ddywedi , Dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias : ac efe a’m lladd i . A dywedodd Eleias , Fel mai byw Arglwydd y lluoedd , yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron , heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef . Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab , ac a fynegodd iddo . Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias . A phan welodd Ahab Eleias , Ahab a ddywedodd wrtho , Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel ? Ac efe a ddywedodd , Ni flinais i Israel ; ond tydi , a thŷ dy dad : am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd , ac i ti rodio ar ôl Baalim . Yn awr gan hynny anfon , a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel , a phroffwydi Baal , pedwar cant a deg a deugain , a phroffwydi y llwyni , pedwar cant , y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel . Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel , ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel . Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl , ac a ddywedodd , Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl ? os yr Arglwydd sydd Dduw , ewch ar ei ôl ef ; ond os Baal , ewch ar ei ôl yntau . A’r bobl nid atebasant iddo air . Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl , Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd ; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain . Rhodder gan hynny i ni ddau fustach : a dewisant hwy iddynt un bustach , a darniant ef , a gosodant ar goed , ond na osodant dân dano : a minnau a baratoaf y bustach arall , ac a’i gosodaf ar goed , ac ni roddaf dân dano . A gelwch chwi ar enw eich duwiau , a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd : a’r Duw a atebo trwy dân , bydded efe Dduw . A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant , Da yw y peth . Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal , Dewiswch i chwi un bustach , a pharatowch ef yn gyntaf ; canys llawer ydych chwi : a gelwch ar enw eich duwiau , ond na osodwch dân dano . A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt , ac a’i paratoesant , ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd , gan ddywedyd , Baal , gwrando ni ; ond nid oedd llef , na neb yn ateb : a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid . A bu , ar hanner dydd , i Eleias eu gwatwar hwynt , a dywedyd , Gwaeddwch â llef uchel : canys duw yw efe ; naill ai ymddiddan y mae , neu erlid , neu ymdeithio y mae efe ; fe a allai ei fod yn cysgu , ac mai rhaid ei ddeffro ef . A hwy a waeddasant â llef uchel , ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod , nes i’r gwaed ffrydio arnynt . Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd , a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm ; eto nid oedd llef , na neb yn ateb , nac yn ystyried . A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl , Nesewch ataf fi . A’r holl bobl a nesasant ato ef . Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd , yr hon a ddrylliasid . Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig , yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob , yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Israel fydd dy enw di . Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd ; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had , o amgylch yr allor . Ac efe a drefnodd y coed , ac a ddarniodd y bustach , ac a’i gosododd ar y coed ; Ac a ddywedodd , Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr , a thywelltwch ar y poethoffrwm , ac ar y coed . Ac efe a ddywedodd , Gwnewch eilwaith ; a hwy a wnaethant eilwaith . Ac efe a ddywedodd , Gwnewch y drydedd waith ; a hwy a wnaethant y drydedd waith . A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor , ac a lanwodd y ffos o ddwfr . A phan offrymid yr hwyr‐offrwm , Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel , a minnau yn was i ti , ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn . Gwrando fi , O Arglwydd , gwrando fi , fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw , ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn . Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd , ac a ysodd y poethoffrwm , a’r coed , a’r cerrig , a’r llwch , ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos . A’r holl bobl a welsant , ac a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a ddywedasant , Yr Arglwydd , efe sydd Dduw , yr Arglwydd , efe sydd Dduw . Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy , Deliwch broffwydi Baal ; na ddihanged gŵr ohonynt . A hwy a’u daliasant : ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison , ac a’u lladdodd hwynt yno . Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab , Dos i fyny , bwyta ac yf ; canys wele drwst llawer o law . Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed . Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel ; ac a ymostyngodd ar y ddaear , ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau ; Ac a ddywedodd wrth ei lanc , Dos i fyny yn awr , edrych tua’r môr . Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd , ac a ddywedodd , Nid oes dim . Dywedodd yntau , Dos eto saith waith . A’r seithfed waith y dywedodd efe , Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr . A dywedodd yntau , Dos i fyny , dywed wrth Ahab , Rhwym dy gerbyd , a dos i waered , fel na’th rwystro y glaw . Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt ; a bu glaw mawr . Ac Ahab a farchogodd , ac a aeth i Jesreel . A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias ; ac efe a wregysodd ei lwynau , ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel . Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias ; a chyda phob peth , y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf . Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo y duwiau , ac fel hyn y chwanegont , oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy . A phan welodd efe hynny , efe a gyfododd , ac a aeth am ei einioes , ac a ddaeth i Beerseba , yr hon sydd yn Jwda , ac a adawodd ei lanc yno . Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod , ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen ; ac a ddeisyfodd iddo gael marw : dywedodd hefyd , Digon yw ; yn awr , Arglwydd , cymer fy einioes : canys nid ydwyf fi well na’m tadau . Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen , wele , angel a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd wrtho , Cyfod , bwyta . Ac efe a edrychodd : ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor , a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef . Ac efe a fwytaodd ac a yfodd , ac a gysgodd drachefn . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith , ac a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd , Cyfod a bwyta ; canys y mae i ti lawer o ffordd . Ac efe a gyfododd , ac a fwytaodd ac a yfodd ; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos , hyd Horeb mynydd Duw . Ac yno yr aeth efe i fewn ogof , ac a letyodd yno . Ac wele air yr Arglwydd ato ef ; ac efe a ddywedodd wrtho , Beth a wnei di yma , Eleias ? Ac efe a ddywedodd , Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd ; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di , a distrywio dy allorau di , a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd ; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau . Ac efe a ddywedodd , Dos allan , a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd . Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio , a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd , ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt : ac ar ôl y gwynt , daeargryn ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn : Ac ar ôl y ddaeargryn , tân ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân : ac ar ôl y tân , llef ddistaw fain . A phan glybu Eleias , efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell , ac a aeth allan , ac a safodd wrth ddrws yr ogof . Ac wele lef yn dyfod ato , yr hon a ddywedodd , Beth a wnei di yma , Eleias ? Dywedodd yntau , Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd ; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di , a distrywio dy allorau , a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd ; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos , dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus : a phan ddelych , eneinia Hasael yn frenin ar Syria ; A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel ; ac Eliseus mab Saffat , o Abel‐mehola , a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun . A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael , Jehu a’i lladd ef : ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu . A mi a adewais yn Israel saith o filoedd , y gliniau oll ni phlygasant i Baal , a phob genau a’r nis cusanodd ef . Felly efe a aeth oddi yno , ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig , â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen , ac efe oedd gyda’r deuddegfed . Ac Eleias a aeth heibio iddo ef , ac a fwriodd ei fantell arno ef . Ac efe a adawodd yr ychen , ac a redodd ar ôl Eleias , ac a ddywedodd , Atolwg , gad i mi gusanu fy nhad a’m mam , ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl . Ac yntau a ddywedodd wrtho , Dos , dychwel ; canys beth a wneuthum i ti ? Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef , ac a gymerth gwpl o ychen , ac a’u lladdodd , ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt , ac a’i rhoddodd i’r bobl , a hwy a fwytasant . Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias , ac a’i gwasanaethodd ef . A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu , a deuddeg brenin ar hugain gydag ef , a meirch , a cherbydau : ac efe a aeth i fyny , ac a warchaeodd ar Samaria , ac a ryfelodd i’w herbyn hi . Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel , i’r ddinas , Ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Benhadad , Dy arian a’th aur sydd eiddof fi ; dy wragedd hefyd , a’th feibion glanaf , ydynt eiddof fi . A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Yn ôl dy air di , fy arglwydd frenin , myfi a’r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti . A’r cenhadau a ddychwelasant , ac a ddywedasant , Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad , gan ddywedyd , Er i mi anfon atat ti , gan ddywedyd , Dy arian a’th aur , a’th wragedd , a’th feibion , a roddi di i mi : Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti , a hwy a chwiliant dy dŷ di , a thai dy weision : a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo , ac a’i dygant ymaith . Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad , ac a ddywedodd , Gwybyddwch , atolwg , a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn : canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd , ac am fy meibion , ac am fy arian , ac am fy aur ; ac nis gomeddais ef . Yr holl henuriaid hefyd , a’r holl bobl , a ddywedasant wrtho ef , Na wrando , ac na chytuna ag ef . Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad , Dywedwch i’m harglwydd y brenin , Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf , mi a’i gwnaf : ond ni allaf wneuthur y peth hyn . A’r cenhadau a aethant , ac a ddygasant air iddo drachefn . A Benhadad a anfonodd ato ef , ac a ddywedodd , Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi , ac fel hyn y chwanegont , os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i . A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Dywedwch wrtho , Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau , fel yr hwn sydd yn eu diosg . A phan glywodd efe y peth hyn , ( ac efe yn yfed , efe a’r brenhinoedd , yn y pebyll , ) efe a ddywedodd wrth ei weision , Ymosodwch . A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas . Ac wele , rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon ? wele , mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw , fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Ac Ahab a ddywedodd , Trwy bwy ? Dywedodd yntau , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau . Ac efe a ddywedodd , Pwy a drefna y fyddin ? Dywedodd yntau , Tydi . Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau , ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain : ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl , cwbl o feibion Israel , yn saith mil . A hwy a aethant allan ganol dydd . A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll , efe a’r brenhinoedd , y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef . A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf : a Benhadad a anfonodd allan , a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd , Daeth gwŷr allan o Samaria . Ac efe a ddywedodd , Os am heddwch y daethant allan , deliwch hwynt yn fyw ; ac os i ryfel y daethant allan , deliwch hwynt yn fyw . Felly yr aethant hwy allan o’r ddinas , sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau , a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt . A hwy a laddasant bawb ei ŵr : a’r Syriaid a ffoesant , ac Israel a’u herlidiodd hwynt : a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch , gyda’r gwŷr meirch . A brenin Israel a aeth allan , ac a drawodd y meirch a’r cerbydau , ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr . A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel , ac a ddywedodd wrtho , Dos , ymgryfha , gwybydd hefyd , ac edrych beth a wnelych ; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di . A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef , Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt , am hynny trech fuant na ni : ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd , a ni a’u gorthrechwn hwynt . A gwna hyn ; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o’i le , a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt . Rhifa hefyd i ti lu , fel y llu a gollaist , meirch am feirch , a cherbyd am gerbyd : a ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastatir , ac a’u gorthrechwn hwynt . Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt , ac a wnaeth felly . Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid , ac a aeth i fyny i Affec , i ryfela yn erbyn Israel . A meibion Israel a gyfrifwyd , ac oeddynt oll yn bresennol , ac a aethant i’w cyfarfod hwynt : a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt , fel dwy ddiadell fechan o eifr ; a’r Syriaid oedd yn llenwi’r wlad . A gŵr i Dduw a nesaodd , ac a lefarodd wrth frenin Israel , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid , Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd , ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe ; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di , a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod . Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd : a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod . A’r lleill a ffoesant i Affec , i’r ddinas ; a’r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gwŷr a adawsid : a Benhadad a ffodd , ac a ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell . A’i weision a ddywedasant wrtho , Wele yn awr , clywsom am frenhinoedd tŷ Israel , mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy : gosodwn , atolwg , sachliain am ein llwynau , a rhaffau am ein pennau , ac awn at frenin Israel ; ond odid efe a geidw dy einioes di . Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau , a rhaffau am eu pennau , ac a ddaethant at frenin Israel , ac a ddywedasant , Benhadad dy was a ddywed , Atolwg , gad i mi fyw . Dywedodd yntau , A ydyw efe eto yn fyw ? fy mrawd yw efe . A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef , ac a’i cipiasant ar frys : ac a ddywedasant , Dy frawd Benhadad . Dywedodd yntau , Ewch , dygwch ef . Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef ; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i’r cerbyd . A Benhadad a ddywedodd wrtho , Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di , a roddaf drachefn ; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus , fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria . A dywedodd Ahab , Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn . Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef , ac a’i gollyngodd ef ymaith . A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd , Taro fi , atolwg . A’r gŵr a wrthododd ei daro ef . Dywedodd yntau wrtho , Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd , wele , pan elych oddi wrthyf , llew a’th ladd di . Ac efe a aeth oddi wrtho ef , a llew a’i cyfarfu ef , ac a’i lladdodd . Yna efe a gafodd ŵr arall , ac a ddywedodd , Taro fi , atolwg . A’r gŵr a’i trawodd ef , gan ei daro a’i archolli . Felly y proffwyd a aeth ymaith , ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd , ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb . A phan ddaeth y brenin heibio , efe a lefodd ar y brenin , ac a ddywedodd , Dy was a aeth i ganol y rhyfel , ac wele , gŵr a drodd heibio , ac a ddug ŵr ataf fi , ac a ddywedodd , Cadw y gŵr hwn : os gan golli y cyll efe , yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef , neu ti a deli dalent o arian . A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw , efe a ddihangodd . A brenin Israel a ddywedodd wrtho , Felly y bydd dy farn di ; ti a’i rhoddaist ar lawr . Ac efe a frysiodd , ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb : a brenin Israel a’i hadnabu ef , mai o’r proffwydi yr oedd efe . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha , dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef , a’th bobl di yn lle ei bobl ef . A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon , ac a ddaeth i Samaria . A digwyddodd ar ôl y pethau hyn , fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad , yr hon oedd yn Jesreel , wrth balas Ahab brenin Samaria . Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth , gan ddywedyd , Dyro i mi dy winllan , fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau , canys y mae hi yn agos i’m tŷ i : a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi ; neu , os da fydd gennyt , rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian . A Naboth a ddywedodd wrth Ahab , Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti . Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon , oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef ; canys efe a ddywedasai , Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid . Ac efe a orweddodd ar ei wely , ac a drodd ei wyneb ymaith , ac ni fwytâi fara . Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Paham y mae dy ysbryd mor athrist , ac nad wyt yn bwyta bara ? Ac efe a ddywedodd wrthi , Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad , a dywedyd wrtho , Dyro i mi dy winllan er arian : neu , os mynni di , rhoddaf i ti winllan amdani . Ac efe a ddywedodd , Ni roddaf i ti fy ngwinllan . A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho , Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel ? cyfod , bwyta fara , a llawenyched dy galon ; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad . Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab , ac a’u seliodd â’i sêl ef , ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid , ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth . A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau , gan ddywedyd , Cyhoeddwch ympryd , a gosodwch Naboth uwchben y bobl . Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall , gyferbyn ag ef , i dystiolaethu i’w erbyn ef , gan ddywedyd , Ti a geblaist Dduw a’r brenin . Ac yna dygwch ef allan , a llabyddiwch ef , fel y byddo efe marw . A gwŷr ei ddinas , sef yr henuriaid a’r penaethiaid , y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef , a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy , ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy . Cyhoeddasant ympryd , a chyfleasant Naboth uwchben y bobl . A dau ŵr , o feibion y fall , a ddaethant , ac a eisteddasant ar ei gyfer ef : a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef , sef yn erbyn Naboth , gerbron y bobl , gan ddywedyd , Naboth a gablodd Dduw a’r brenin . Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas , ac a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw . Yna yr anfonasant hwy at Jesebel , gan ddywedyd , Naboth a labyddiwyd , ac a fu farw . A phan glybu Jesebel labyddio Naboth , a’i farw , Jesebel a ddywedodd wrth Ahab , Cyfod , perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian ; canys nid byw Naboth , eithr marw yw . A phan glybu Ahab farw Naboth , Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad , i gymryd meddiant ynddi . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Cyfod , dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel , yr hwn sydd yn Samaria : wele efe yng ngwinllan Naboth , yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu . A llefara wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , A leddaist ti , ac a feddiennaist hefyd ? Llefara hefyd wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth , y llyf cŵn dy waed dithau hefyd . A dywedodd Ahab wrth Eleias , A gefaist ti fi , O fy ngelyn ? Dywedodd yntau , Cefais : oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Wele fi yn dwyn drwg arnat ti , a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di , ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw , y gwarchaeëdig hefyd , a’r gweddilledig yn Israel : A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat , ac fel tŷ Baasa mab Ahïa , oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist , ac y gwnaethost i Israel bechu . Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel . Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas : a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd . Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd : oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef . Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn , gan fyned ar ôl delwau , yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid , y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . A phan glybu Ahab y geiriau hyn , efe a rwygodd ei ddillad , ac a osododd sachliain am ei gnawd , ac a ymprydiodd , ac a orweddodd mewn sachliain , ac a gerddodd yn araf . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron ? am iddo ymostwng ger fy mron i , ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef ; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef . A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel . Ac yn y drydedd flwyddyn , Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel . A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision , Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead , a’n bod ni yn tewi , heb ei dwyn hi o law brenin Syria ? Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat , A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead ? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel , Yr ydwyf fi fel tithau , fy mhobl i fel dy bobl dithau , fy meirch i fel dy feirch dithau . Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel , Ymgynghora , atolwg , heddiw â gair yr Arglwydd . Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi , ynghylch pedwar cant o wŷr , ac a ddywedodd wrthynt , A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel , neu a beidiaf fi ? Dywedasant hwythau , Dos i fyny ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd mwyach , fel yr ymgynghorem ag ef ? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd : eithr cas yw gennyf fi ef ; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni , namyn drygioni ; Michea mab Jimla yw efe . A dywedodd Jehosaffat , Na ddyweded y brenin felly . Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion , ac a ddywedodd , Prysura yma Michea mab Jimla . A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair , wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd , mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria ; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt . A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn ; ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , A’r rhai hyn y corni di y Syriaid , nes i ti eu difa hwynt . A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn , gan ddywedyd , Dos i fyny i Ramoth‐Gilead , a llwydda ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef , gan ddywedyd , Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin : bydded , atolwg , dy air dithau fel gair un ohonynt , a dywed y gorau . A dywedodd Michea , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf , hynny a lefaraf fi . Felly efe a ddaeth at y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Michea , a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead , ai peidio ? Dywedodd yntau wrtho , Dos i fyny , a llwydda ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di , na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd , fel defaid ni byddai iddynt fugail . A dywedodd yr Arglwydd , Nid oes feistr arnynt hwy ; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn heddwch . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Oni ddywedais i wrthyt ti , na phroffwydai efe ddaioni i mi , eithr drygioni ? Ac efe a ddywedodd , Clyw gan hynny air yr Arglwydd : Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa , a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl , ar ei law ddeau ac ar ei law aswy . A’r Arglwydd a ddywedodd , Pwy a dwylla Ahab , fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead ? Ac un a ddywedodd fel hyn , ac arall oedd yn dywedyd fel hyn . Ac ysbryd a ddaeth allan , ac a safodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a’i twyllaf ef . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pa fodd ? Dywedodd yntau , Mi a af allan , ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef . Ac efe a ddywedodd , Twylli a gorchfygi ef : dos ymaith , a gwna felly . Ac yn awr wele , yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn ; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti . Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd , ac a drawodd Michea dan ei gern , ac a ddywedodd , Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi ? A Michea a ddywedodd , Wele , ti a gei weled y dwthwn hwnnw , pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio . A brenin Israel a ddywedodd , Cymer Michea , a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas , ac at Joas mab y brenin ; A dywed , Fel hyn y dywed y brenin ; Rhowch hwn yn y carchardy , a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder , nes i mi ddyfod mewn heddwch . A dywedodd Michea , Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch , ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi . Dywedodd hefyd , Gwrandewch hyn yr holl bobl . Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Mi a newidiaf fy nillad , ac a af i’r rhyfel ; ond gwisg di dy ddillad dy hun . A brenin Israel a newidiodd ei ddillad , ac a aeth i’r rhyfel . A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo , sef deuddeg ar hugain , gan ddywedyd , Nac ymleddwch â bychan nac â mawr , ond â brenin Israel yn unig . A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat , hwy a ddywedasant , Diau brenin Israel yw efe . A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef : a Jehosaffat a waeddodd . A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe , hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef . A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan , ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig ; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr , Tro dy law , a dwg fi allan o’r fyddin ; canys fe a’m clwyfwyd i . A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw : a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid ; ac efe a fu farw gyda’r hwyr : a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd . Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul , gan ddywedyd , Eled pob un i’w ddinas , a phob un i’w wlad ei hun . Felly y bu farw y brenin , ac y daeth efe i Samaria ; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria . A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria ; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef : yr arfau hefyd a olchwyd ; yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe . A’r rhan arall o hanesion Ahab , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’r tŷ ifori a adeiladodd efe , a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau ; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel . Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin : a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Asuba , merch Silhi . Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad , ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd ; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel . A’r rhan arall o hanes Jehosaffat , a’i rymustra a wnaeth efe , a’r modd y rhyfelodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef , efe a’u dileodd o’r wlad . Yna nid oedd brenin yn Edom : ond rhaglaw oedd yn lle brenin . Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur : ond nid aethant ; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber . Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat , Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau : ond ni fynnai Jehosaffat . A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad ; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria , yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda ; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd . Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd ei dad , ac yn ffordd ei fam , ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Canys efe a wasanaethodd Baal , ac a ymgrymodd iddo , ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad . Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel , wedi marwolaeth Ahab . Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft , yr hon oedd yn Samaria , ac a glafychodd ; ac efe a anfonodd genhadau , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron , a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad , Cyfod , dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria , a dywed wrthynt , Ai am nad oedd Duw yn Israel , yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron ? Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Ac Eleias a aeth ymaith . A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef , efe a ddywedodd wrthynt , Paham y dychwelasoch chwi ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni , ac a ddywedodd wrthym ni , Ewch , dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd , a lleferwch wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ai am nad oes Duw yn Israel , yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron ? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi , ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gŵr blewog oedd efe , wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau . Dywedodd yntau , Eleias y Thesbiad oedd efe . Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain , ynghyd a’i ddeg a deugain : ac efe a aeth i fyny ato ef ; ( ac wele ef yn eistedd ar ben bryn ; ) ac a lefarodd wrtho , Ti ŵr Duw , y brenin a lefarodd , Tyred i waered . Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain , Os gŵr Duw ydwyf fi , disgynned tân o’r nefoedd , ac ysed di a’th ddeg a deugain . A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain . A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain , â’i ddeg a deugain : ac efe a atebodd ac a ddywedodd , O ŵr Duw , fel hyn y dywedodd y brenin , Tyred i waered yn ebrwydd . Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy , Os gŵr Duw ydwyf fi , disgynned tân o’r nefoedd , ac ysed di a’th ddeg a deugain . A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain . A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain , â’i ddeg a deugain : a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny , ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias , ac a ymbiliodd ag ef , ac a lefarodd wrtho , O ŵr Duw , atolwg , bydded fy einioes i , ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn , yn werthfawr yn dy olwg di . Wele , disgynnodd tân o’r nefoedd , ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain , a’u deg a deugeiniau : am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di . Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias , Dos i waered gydag ef , nac ofna ef . Ac efe a gyfododd , ac a aeth i waered gydag ef at y brenin . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron , ( ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air ? ) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Felly efe a fu farw , yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarasai Eleias : a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef , yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda ; am nad oedd mab iddo ef . A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A phan oedd yr Arglwydd ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd , aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal . Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus , Aros , atolwg , yma : canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Bethel . Ac Eliseus a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . Felly hwy a aethant i waered i Bethel . A meibion y proffwydi , y rhai oedd yn Bethel , a ddaethant allan at Eliseus , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti ? Dywedodd yntau , Mi a wn hynny hefyd , tewch chwi â sôn . Ac Eleias a ddywedodd wrtho , Aros yma , atolwg , Eliseus ; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Jericho . Dywedodd yntau , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . Felly hwy a ddaethant i Jericho . A meibion y proffwydi , y rhai oedd yn Jericho , a ddaethant at Eliseus , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti ? Yntau a ddywedodd , Mi a wn hynny hefyd , tewch chwi â sôn . Ac Eleias a ddywedodd wrtho , Aros yma , atolwg ; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i’r Iorddonen . Dywedodd yntau , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . A hwy a aethant ill dau rhagddynt . A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant , ac a safasant ar gyfer o bell : a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen . Ac Eleias a gymerth ei fantell , ac a’i plygodd ynghyd , ac a drawodd y dyfroedd , a hwy a ymwahanasant yma ac acw , fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych . Ac wedi iddynt fyned drosodd , Eleias a ddywedodd wrth Eliseus , Gofyn y peth a wnelwyf i ti , cyn fy nghymryd oddi wrthyt . A dywedodd Eliseus , Bydded gan hynny , atolwg , ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi . Dywedodd yntau , Gofynnaist beth anodd : os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt , fe fydd i ti felly ; ac onid e , ni bydd . Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan , wele gerbyd tanllyd , a meirch tanllyd , a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau . Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd . Ac Eliseus oedd yn gweled , ac efe a lefodd , Fy nhad , fy nhad , cerbyd Israel , a’i farchogion . Ac nis gwelodd ef mwyach : ac efe a ymaflodd yn ei ddillad , ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn . Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef ; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen . Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef , ac a drawodd y dyfroedd , ac a ddywedodd , Pa le y mae Arglwydd Dduw Eleias ? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd , hwy a wahanwyd yma ac acw . Ac Eliseus a aeth drosodd . A phan welodd meibion y proffwydi ef , y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer , hwy a ddywedasant , Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus . A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef , ac a ymgrymasant hyd lawr iddo . A hwy a ddywedasant wrtho , Wele yn awr , y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion ; elont yn awr , ni a atolygwn , a cheisiant dy feistr : rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef , a’i fwrw ar ryw fynydd , neu mewn rhyw ddyffryn . Dywedodd yntau , Na anfonwch . Eto buant daer arno , nes cywilyddio ohono , ac efe a ddywedodd , Anfonwch . A hwy a anfonasant ddengwr a deugain , y rhai a’i ceisiasant ef dridiau , ond nis cawsant . A hwy a ddychwelasant ato ef , ac efe oedd yn aros yn Jericho ; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Oni ddywedais i wrthych , Nac ewch ? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus , Wele , atolwg , ansawdd y ddinas , da yw , fel y mae fy arglwydd yn gweled : ond y dyfroedd sydd ddrwg , a’r tir yn ddiffaith . Ac efe a ddywedodd , Dygwch i mi ffiol newydd , a dodwch ynddi halen . A hwy a’i dygasant ato ef . Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd , ac a fwriodd yr halen yno , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Mi a iacheais y dyfroedd hyn ; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach , na diffrwythdra . Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn , yn ôl gair Eliseus , yr hwn a ddywedasai efe . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel : ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd , plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas , ac a’i gwatwarasant ef , ac a ddywedasant wrtho ef , Dos i fyny , moelyn , dos i fyny , moelyn . Ac efe a drodd yn ei ôl , ac a edrychodd arnynt , ac a’u melltithiodd yn enw yr Arglwydd . A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig , ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain . Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel , ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria . A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria , yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda , ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd . Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ond nid fel ei dad nac fel ei fam : canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal , yr hon a wnaethai ei dad . Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu : ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy . A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid , ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn , a chan mil o hyrddod gwlanog . Ond wedi marw Ahab , brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel . A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria , ac a gyfrifodd holl Israel . Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda , gan ddywedyd , Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i : a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab ? Dywedodd yntau , Mi a af i fyny ; myfi a fyddaf fel tithau , fy mhobl i fel dy bobl dithau , fy meirch i fel dy feirch dithau . Ac efe a ddywedodd , Pa ffordd yr awn ni i fyny ? Dywedodd yntau , Ffordd anialwch Edom . Felly yr aeth brenin Israel , a brenin Jwda , a brenin Edom ; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod : ac nid oedd dwfr i’r fyddin , nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt . A brenin Israel a ddywedodd , Gwae fi ! oherwydd i’r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab . A Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma broffwyd i’r Arglwydd , fel yr ymofynnom ni â’r Arglwydd trwyddo ef ? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Y mae yma Eliseus mab Saffat , yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias . A Jehosaffat a ddywedodd , Y mae gair yr Arglwydd gydag ef . Felly brenin Israel , a Jehosaffat , a brenin Edom , a aethant i waered ato ef . Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi ? dos at broffwydi dy dad , ac at broffwydi dy fam . A brenin Israel a ddywedodd wrtho , Nage : canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab . Ac Eliseus a ddywedodd , Fel mai byw Arglwydd y lluoedd , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda , nid edrychaswn i arnat ti , ac ni’th welswn . Ond yn awr dygwch i mi gerddor . A phan ganodd y cerddor , daeth llaw yr Arglwydd arno ef . Ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ni welwch wynt , ac ni welwch law ; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr , fel yr yfoch chwi , a’ch anifeiliaid , a’ch ysgrubliaid . A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr Arglwydd : efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd . A chwi a drewch bob dinas gaerog , a phob dinas ddetholedig ; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr ; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi , a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig . A’r bore pan offrymwyd y bwyd‐offrwm , wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom ; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd . A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt , y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau , ac uchod , a hwy a safasant ar y terfyn . A hwy a gyfodasant yn fore , a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd ; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed : A hwy a ddywedasant , Gwaed yw hwn : gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd , a hwy a drawsant bawb ei gilydd : am hynny yn awr at yr anrhaith , Moab . A phan ddaethant at wersyll Israel , yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid , fel y ffoesant o’u blaen hwynt : a hwy a aethant rhagddynt , gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun . A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd , ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg , ac a’i llanwasant ; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy , a phob pren da a gwympasant hwy i lawr : yn unig yn Cir‐haraseth y gadawsant ei cherrig ; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant , ac a’i trawsant hi . A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef , efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf , i ruthro ar frenin Edom : ond nis gallasant hwy . Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf‐anedig ef , yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef , ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur . A bu llid mawr yn erbyn Israel : a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef , ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun . A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus , gan ddywedyd , Dy was fy ngŵr a fu farw ; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd : a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo . Ac Eliseus a ddywedodd wrthi , Beth a wnaf fi i ti ? mynega i mi , beth sydd gennyt ti yn dy dŷ ? Dywedodd hithau , Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ , ond ystenaid o olew . Ac efe a ddywedodd , Dos , cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion , sef llestri gweigion , nid ychydig . A phan ddelych i mewn , cae y drws arnat , ac ar dy feibion , a thywallt i’r holl lestri hynny ; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn . Felly hi a aeth oddi wrtho ef , ac a gaeodd y drws arni , ac ar ei meibion : a hwynt‐hwy a ddygasant y llestri ati hi ; a hithau a dywalltodd . Ac wedi llenwi y llestri , hi a ddywedodd wrth ei mab , Dwg i mi eto lestr . Dywedodd yntau wrthi , Nid oes mwyach un llestr . A’r olew a beidiodd . Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw . Dywedodd yntau , Dos , gwerth yr olew , a thâl dy ddyled ; a bydd di fyw , ti a’th feibion , ar y rhan arall . A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem ; ac yno yr oedd gwraig oludog , yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara . A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio , efe a droai yno i fwyta bara . A hi a ddywedodd wrth ei gŵr , Wele yn awr , mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn , sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol . Gwnawn , atolwg , ystafell fechan ar y mur ; a gosodwn iddo yno wely , a bwrdd , ac ystôl , a chanhwyllbren : fel y tro efe yno , pan ddelo efe atom ni . Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno , ac a drodd i’r ystafell , ac a orffwysodd yno . Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was , Galw ar y Sunamees hon . Yntau a alwodd arni hi : hithau a safodd ger ei fron ef . Dywedodd hefyd wrtho , Dywed yn awr wrthi hi , Wele , ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma ; beth sydd i’w wneuthur erot ti ? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin , neu wrth dywysog y llu ? Hithau a ddywedodd , Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo . Ac efe a ddywedodd , Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi ? A Gehasi a ddywedodd , Yn ddiau nid oes iddi fab , a’i gŵr sydd hen . Ac efe a ddywedodd , Galw hi . Ac efe a’i galwodd hi ; a hi a safodd yn y drws . Ac efe a ddywedodd , Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth , ti a gofleidi fab . Hithau a ddywedodd , Nage , fy arglwydd , gŵr Duw , na ddywed gelwydd i’th lawforwyn . A’r wraig a feichiogodd , ac a ddug fab y pryd hwnnw , yn ôl amser bywoliaeth , yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi . A’r bachgen a gynyddodd , ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr . Ac efe a ddywedodd wrth ei dad , Fy mhen , fy mhen . Dywedodd yntau wrth lanc , Dwg ef at ei fam . Ac efe a’i cymerth , ac a’i dug ef at ei fam . Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd , ac a fu farw . A hi a aeth i fyny , ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw , ac a gaeodd y drws arno , ac a aeth allan . A hi a alwodd ar ei gŵr , ac a ddywedodd , Anfon , atolwg , gyda mi un o’r llanciau , ac un o’r asynnod : canys mi a redaf hyd at ŵr Duw , ac a ddychwelaf . Dywedodd yntau , Paham yr ei di ato ef heddiw ? nid yw hi na newyddloer , na Saboth . Hithau a ddywedodd , Pob peth yn dda . Yna hi a gyfrwyodd yr asyn ; ac a ddywedodd wrth ei llanc , Gyr , a dos rhagot : nac aros amdanaf fi i farchogaeth , onid archwyf i ti . Felly hi a aeth , ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel . A phan welodd gŵr Duw hi o bell , efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was , Wele y Sunamees honno . Rhed yn awr , atolwg , i’w chyfarfod , a dywed wrthi hi , A wyt ti yn iach ? a ydyw dy ŵr yn iach ? a ydyw y bachgen yn iach ? Dywedodd hithau , Iach . A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd , hi a ymaflodd yn ei draed ef : a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith . A gŵr Duw a ddywedodd , Gad hi yn llonydd : canys ei henaid sydd ofidus ynddi ; a’r Arglwydd a’i celodd oddi wrthyf fi , ac nis mynegodd i mi . Yna hi a ddywedodd , A ddymunais i fab gan fy arglwydd ? oni ddywedais , Na thwylla fi ? Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi , Gwregysa dy lwynau , a chymer fy ffon yn dy law , a dos ymaith : o chyfarfyddi â neb , na chyfarch iddo ; ac o chyfarch neb di , nac ateb ef : a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen . A mam y bachgen a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid di , nid ymadawaf fi â thi . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ar ei hôl hi . A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt , ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen : ond nid oedd na lleferydd , na chlywed . Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef ; ac a fynegodd iddo , gan ddywedyd , Ni ddeffrôdd y bachgen . A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ , wele y bachgen wedi marw , yn gorwedd ar ei wely ef . Felly efe a ddaeth i mewn , ac a gaeodd y drws arnynt ill dau , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . Ac efe a aeth i fyny , ac a orweddodd ar y bachgen , ac a osododd ei enau ar ei enau yntau , a’i lygaid ar ei lygaid ef , a’i ddwylo ar ei ddwylo ef , ac efe a ymestynnodd arno ef ; a chynhesodd cnawd y bachgen . Ac efe a ddychwelodd , ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered ; ac a aeth i fyny , ac a ymestynnodd arno ef : a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith , a’r bachgen a agorodd ei lygaid . Ac efe a alwodd ar Gehasi , ac a ddywedodd , Galw y Sunamees hon . Ac efe a alwodd arni hi . A hi a ddaeth ato ef . Dywedodd yntau , Cymer dy fab . A hi a aeth i mewn , ac a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a ymgrymodd hyd lawr , ac a gymerodd ei mab , ac a aeth allan . Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal . Ac yr oedd newyn yn y wlad ; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef : ac efe a ddywedodd wrth ei was , Trefna’r crochan mawr , a berw gawl i feibion y proffwydi . Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych , ac a gafodd winwydden wyllt , ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg , ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl : canys nid adwaenent hwynt . Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta . A phan fwytasant o’r cawl , hwy a waeddasant , ac a ddywedasant , O ŵr Duw , y mae angau yn y crochan : ac ni allent ei fwyta . Ond efe a ddywedodd , Dygwch flawd . Ac efe a’i bwriodd yn y crochan : dywedodd hefyd , Tywallt i’r bobl , fel y bwytaont . Ac nid oedd dim niwed yn y crochan . A daeth gŵr o Baal‐salisa , ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth , ugain torth haidd , a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau . Ac efe a ddywedodd , Dod i’r bobl , fel y bwytaont . A’i weinidog ef a ddywedodd , I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr ? Dywedodd yntau , Dyro i’r bobl , fel y bwytaont : canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Hwy a fwytânt , a bydd gweddill . Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt : a hwy a fwytasant , ac a weddillasant , yn ôl gair yr Arglwydd . A Naaman , tywysog llu brenin Syria , oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd , ac yn anrhydeddus ; canys trwyddo ef y rhoddasai yr Arglwydd ymwared i Syria : ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol , ond yr oedd yn wahanglwyfus . A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd , ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan ; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman . A hi a ddywedodd wrth ei meistres , O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria ! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf . Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel . A brenin Syria a ddywedodd , Dos , cerdda , a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel . Ac efe a aeth ymaith , ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian , a chwe mil o aur , a deg pâr o ddillad . Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel , gan ddywedyd , Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti , wele , anfonais atat ti Naaman fy ngwas , fel yr iacheit ef o’i wahanglwyf . A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ddywedodd , Ai Duw ydwyf fi , i farwhau , ac i fywhau , pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf ? gwybyddwch gan hynny , atolwg , a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i . A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad , efe a anfonodd at y brenin , gan ddywedyd , Paham y rhwygaist dy ddillad ? deued yn awr ataf fi , ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel . Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau , ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus . Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad , gan ddywedyd , Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen ; a’th gnawd a ddychwel i ti , a thithau a lanheir . Ond Naaman a ddigiodd , ac a aeth ymaith ; ac a ddywedodd , Wele , mi a feddyliais ynof fy hun , gan ddyfod y deuai efe allan , ac y safai efe , ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw , ac y gosodai ei law ar y fan , ac yr iachâi y gwahanglwyfus . Onid gwell Abana a Pharpar , afonydd Damascus , na holl ddyfroedd Israel ? oni allaf ymolchi ynddynt hwy , ac ymlanhau ? Felly efe a drodd , ac a aeth ymaith mewn dicter . A’i weision a nesasant , ac a lefarasant wrtho , ac a ddywedasant , Fy nhad , pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti , onis gwnelsit ? pa faint mwy , gan iddo ddywedyd wrthyt , Ymolch , a bydd lân ? Ac yna efe a aeth i waered , ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen , yn ôl gair gŵr Duw : a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach , ac efe a lanhawyd . Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw , efe a’i holl fintai , ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef ; ac a ddywedodd , Wele , yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear , ond yn Israel : am hynny cymer yn awr , atolwg , rodd gan dy was . Ond efe a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , ni chymeraf . Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd ; eto efe a’i gwrthododd . A Naaman a ddywedodd , Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear ? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill , ond i’r Arglwydd . Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i’th was ; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno , a phwyso ar fy llaw i , a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon ; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon , maddeued yr Arglwydd i’th was yn y peth hyn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Dos mewn heddwch . Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd . Ond Gehasi , gwas Eliseus gŵr Duw , a ddywedodd , Wele , fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn , heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe : fel mai byw yr Arglwydd , mi a redaf ar ei ôl ef , ac a gymeraf ryw beth ganddo ef . Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman . A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl , efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , A yw pob peth yn dda ? Dywedodd yntau , Y mae pob peth yn dda . Fy meistr a’m hanfonodd i , gan ddywedyd , Wele , yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim , o feibion y proffwydi , a ddaeth ataf fi : dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian , a dau bâr o ddillad . A Naaman a ddywedodd , Bydd fodlon , cymer ddwy dalent . Ac efe a fu daer arno ef ; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god , a deubar o ddillad ; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision , i’w dwyn o’i flaen ef . A phan ddaeth efe i’r bwlch , efe a’u cymerth o’u llaw hwynt , ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr , a hwy a aethant ymaith . Ond efe a aeth i mewn , ac a safodd o flaen ei feistr . Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef , O ba le y daethost ti , Gehasi ? Dywedodd yntau , Nid aeth dy was nac yma na thraw . Ac efe a ddywedodd wrtho , Onid aeth fy nghalon gyda thi , pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di ? a ydoedd hi amser i gymryd arian , ac i gymryd gwisgoedd , ac olewyddlannau , a gwinllannau , a defaid , a gwartheg , a gweision , a morynion ? Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti , ac wrth dy had yn dragywydd . Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira . A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus , Wele yn awr , y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di , sydd ry gyfyng i ni . Awn yn awr hyd yr Iorddonen , fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst , ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo . Dywedodd yntau , Ewch . Ac un a ddywedodd , Bydd fodlon , atolwg , a thyred gyda’th weision . Dywedodd yntau , Mi a ddeuaf . Felly efe a aeth gyda hwynt . A hwy a ddaethant at yr Iorddonen , ac a dorasant goed . A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst , ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr . Ac efe a waeddodd , ac a ddywedodd , Och fi , fy meistr ! canys benthyg oedd . A gŵr Duw a ddywedodd , Pa le y syrthiodd ? Yntau a ddangosodd iddo y fan . Ac efe a dorrodd bren , ac a’i taflodd yno ; a’r haearn a nofiodd . Ac efe a ddywedodd , Cymer i fyny i ti . Ac efe a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd . A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel ; ac efe a ymgynghorodd â’i weision , gan ddywedyd , Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa . A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel , gan ddywedyd , Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle : canys yno y disgynnodd y Syriaid . A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho , ac y rhybuddiasai ef , ac a ymgadwodd yno , nid unwaith , ac nid dwywaith . A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn ; ac efe a alwodd ar ei weision , ac a ddywedodd wrthynt , Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel ? Ac un o’i weision ef a ddywedodd , Nid oes neb , fy arglwydd frenin : ond Eliseus y proffwyd , yr hwn sydd yn Israel , a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely . Ac efe a ddywedodd , Ewch , ac edrychwch pa le y mae efe , fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef . A mynegwyd iddo , gan ddywedyd , Wele , yn Dothan y mae efe . Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau , a llu mawr : a hwy a ddaethant liw nos , ac a amgylchynasant y ddinas . A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore , a myned allan , wele lu yn amgylchynu y ddinas , â meirch ac â cherbydau . A’i was a ddywedodd wrtho ef , Aha , fy meistr ! pa fodd y gwnawn ? Ac efe a ddywedodd , Nac ofna : canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt . Ac Eliseus a weddïodd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , agor , atolwg , ei lygaid ef , fel y gwelo . A’r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc ; ac efe a edrychodd : ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus . A phan ddaethant i waered ato ef , Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Taro , atolwg , y genedl hon â dallineb . Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb , yn ôl gair Eliseus . Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt , Nid hon yw y ffordd , ac nid hon yw y ddinas : deuwch ar fy ôl i , a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio . Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria . A phan ddaethant hwy i Samaria , Eliseus a ddywedodd , O Arglwydd , agor lygaid y rhai hyn , fel y gwelont . A’r Arglwydd a agorodd eu llygaid hwynt ; a hwy a welsant : ac wele , yng nghanol Samaria yr oeddynt . A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus , pan welodd efe hwynt , Gan daro a drawaf hwynt , fy nhad ? Dywedodd yntau , Na tharo : a drewit ti y rhai a gaethiwaist â’th gleddyf ac â’th fwa dy hun ? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt , fel y bwytaont ac yr yfont , ac yr elont at eu harglwydd . Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr : a hwy a fwytasant ac a yfasant ; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith , a hwy a aethant at eu harglwydd . Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel . Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu , ac a aeth i fyny , ac a warchaeodd ar Samaria . Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria : ac wele , yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi , nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian , a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian . Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur , gwraig a lefodd arno ef , gan ddywedyd , Achub , fy arglwydd frenin . Dywedodd yntau , Oni achub yr Arglwydd dydi , pa fodd yr achubaf fi di ? Ai o’r ysgubor , neu o’r gwinwryf ? A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Beth a ddarfu i ti ? Hithau a ddywedodd , Y wraig hon a ddywedodd wrthyf , Dyro dy fab , fel y bwytaom ef heddiw ; a’m mab innau a fwytawn ni yfory . Felly ni a ferwasom fy mab i , ac a’i bwytasom ef : a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall , Dyro dithau dy fab , fel y bwytaom ef : ond hi a guddiodd ei mab . A phan glybu y brenin eiriau y wraig , efe a rwygodd ei ddillad , ac a aeth heibio ar y mur ; a’r bobl a edrychodd , ac wele , sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn . Ac efe a ddywedodd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw . Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ , a’r henuriaid yn eistedd gydag ef . A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen : ond cyn dyfod y gennad ato ef , efe a ddywedodd wrth yr henuriaid , A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i ? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn , caewch y drws , a deliwch ef wrth y drws : onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef ? Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt , wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef : ac efe a ddywedodd , Wele , y drwg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd ; paham y disgwyliaf wrth yr Arglwydd mwy ? Yna Eliseus a ddywedodd , Gwrandewch air yr Arglwydd : Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl , a dau sat o haidd er sicl , ym mhorth Samaria . Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw , ac a ddywedodd , Wele , pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd , a fyddai y peth hyn ? Dywedodd yntau , Wele , ti a’i gweli â’th lygaid , ond ni fwytei ohono . Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth , a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw ? Os dywedwn ni , Awn i mewn i’r ddinas , newyn sydd yn y ddinas , a ni a fyddwn feirw yno ; ac os trigwn yma , ni a fyddwn feirw hefyd . Am hynny deuwch yn awr , ac awn i wersyll y Syriaid : o chadwant ni yn fyw , byw fyddwn ; ac os lladdant ni , byddwn feirw . A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid . A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid , wele , nid oedd neb yno . Canys yr Arglwydd a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau , a thrwst meirch , trwst llu mawr : a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Wele , brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid , a brenhinoedd yr Aifft , i ddyfod arnom ni . Am hynny hwy a gyfodasant , ac a ffoesant , ar lasiad dydd , ac a adawsant eu pebyll , a’u meirch , a’u hasynnod , sef y gwersyll fel yr ydoedd , ac a ffoesant am eu heinioes . A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll , hwy a aethant i un babell , ac a fwytasant , ac a yfasant , ac a gymerasant oddi yno arian , ac aur , a gwisgoedd , ac a aethant , ac a’i cuddiasant , ac a ddychwelasant ; ac a aethant i babell arall , ac a gymerasant oddi yno , ac a aethant , ac a’i cuddiasant . Yna y dywedodd y naill wrth y llall , Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn ; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl , ac yr ydym ni yn tewi â sôn ; os arhoswn ni hyd oleuni y bore , rhyw ddrwg a ddigwydd i ni : deuwch gan hynny yn awr , ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin . Felly hwy a ddaethant , ac a waeddasant ar borthor y ddinas ; a hwy a fynegasant iddynt , gan ddywedyd , Daethom i wersyll y Syriaid , ac wele , nid oedd yno neb , na llais dyn , ond y meirch yn rhwym , a’r asynnod yn rhwym , a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen . Ac efe a alwodd ar y porthorion ; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn . A’r brenin a gyfododd liw nos , ac a ddywedodd wrth ei weision , Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni . Gwyddent mai newynog oeddem ni ; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes , gan ddywedyd , Pan ddelont hwy allan o’r ddinas , ni a’u daliwn hwynt yn fyw , ac a awn i mewn i’r ddinas . Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd , Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd , y rhai a adawyd yn y ddinas , ( wele , y maent hwy fel holl liaws Israel , y rhai a arosasant ynddi ; wele , y maent hwy fel holl liaws Israel , y rhai a ddarfuant ; ) ac anfonwn , ac edrychwn . Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd : a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid , gan ddywedyd , Ewch ac edrychwch . A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen , ac wele , yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri , y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio : a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin . A’r bobl a aethant allan , ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid : a bu sat o beilliaid er sicl , a dau sat o haidd er sicl , yn ôl gair yr Arglwydd . A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth : a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth , ac efe fu farw , megis y llefarasai gŵr Duw , yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef . A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin , gan ddywedyd , Dau sat o haidd er sicl , a sat o beilliaid er sicl , fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria . A’r tywysog a atebasai ŵr Duw , ac a ddywedasai , Wele , pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd , a fyddai y peth hyn ? Dywedodd yntau , Wele , ti a’i gweli â’th lygaid , ond ni fwytei ohono . Ac felly y bu iddo ef : canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth , ac efe a fu farw . Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab , gan ddywedyd , Cyfod , a dos , ti a’th dylwyth , ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio : canys yr Arglwydd a alwodd am newyn , a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd . A’r wraig a gyfododd , ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw : a hi a aeth , hi a’i thylwyth , ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd . Ac ymhen y saith mlynedd , y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid : a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ , ac am ei thir . A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw , gan ddywedyd , Adrodd i mi , atolwg , yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus . Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw , yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ , ac am ei thir . A Gehasi a ddywedodd , Fy arglwydd frenin , dyma’r wraig , a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau . A’r brenin a ofynnodd i’r wraig ; a hithau a fynegodd iddo ef . A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd , gan ddywedyd , Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi , a holl gnwd y maes , o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn . A daeth Eliseus i Damascus : a Benhadad brenin Syria oedd glaf ; a mynegwyd iddo ef , gan ddywedyd , Daeth gŵr Duw yma . A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael , Cymer anrheg yn dy law , a dos i gyfarfod â gŵr Duw ; ac ymofyn â’r Arglwydd trwyddo ef , gan ddywedyd , A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn ? Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef , ac a gymerth anrheg yn ei law , a phob peth a’r a oedd dda o Damascus , sef llwyth deugain o gamelod ; ac a ddaeth , ac a safodd o’i flaen ef , ac a ddywedodd , Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat , gan ddywedyd , A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn ? Ac Eliseus a ddywedodd wrtho , Dos , a dywed wrtho , Diau y gelli fyw : eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau . Ac efe a osododd ei wyneb , ac a ddaliodd sylw arno , nes cywilyddio ohono ef : a gŵr Duw a wylodd . A Hasael a ddywedodd , Paham y mae fy arglwydd yn wylo ? Dywedodd yntau , Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel : eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân , a’u gwŷr ieuainc a leddi â’r cleddyf , a’u plant a bwyi , a’u gwragedd beichiogion a rwygi . A Hasael a ddywedodd , Pa beth ! ai ci yw dy was , fel y gwnelai efe y mawr beth hyn ? Ac Eliseus a ddywedodd , Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria . Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus , ac a ddaeth at ei arglwydd ; yr hwn a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti ? Ac efe a atebodd , Efe a ddywedodd wrthyf , y byddit ti byw yn ddiau . A thrannoeth efe a gymerth wrthban , ac a’i gwlychodd mewn dwfr , ac a’i lledodd ar ei wyneb ef , fel y bu efe farw : a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel , a Jehosaffat yn frenin yn Jwda , y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu ; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , fel y gwnâi tŷ Ahab : canys merch Ahab oedd yn wraig iddo : felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda , er mwyn Dafydd ei was ; megis yr addawsai efe , y rhoddai iddo oleuni , ac i’w feibion yn dragywydd . Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda , ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain . A Joram a aeth trosodd i Sair , a’r holl gerbydau gydag ef ; ac efe a gyfododd liw nos , ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef , a thywysogion y cerbydau : a’r bobl a ffodd i’w pebyll . Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn . Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw . A’r rhan arall o hanes Joram , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Joram a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin ; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Athaleia , merch Omri brenin Israel . Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab , ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel tŷ Ahab : canys daw tŷ Ahab ydoedd efe . Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead ; a’r Syriaid a drawsant Joram . A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama , wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria : ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel ; canys claf ydoedd . Ac Eliseus y proffwyd a alwodd un o feibion y proffwydi , ac a ddywedodd wrtho , Gwregysa dy lwynau , a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law , a dos i Ramoth‐Gilead . A phan ddelych yno , edrych yno am Jehu mab Jehosaffat , mab Nimsi ; a dos i mewn , a phâr iddo godi o fysg ei frodyr , a dwg ef i ystafell ddirgel : Yna cymer y ffiolaid olew , a thywallt ar ei ben ef , a dywed , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel ; yna agor y drws , a ffo , ac nac aros . Felly y llanc , sef llanc y proffwyd , a aeth i Ramoth‐Gilead . A phan ddaeth efe , wele , tywysogion y llu oedd yn eistedd : ac efe a ddywedodd , Y mae i mi air â thi , O dywysog . A dywedodd Jehu , A pha un ohonom ni oll ? Dywedodd yntau , A thydi , O dywysog . Ac efe a gyfododd , ac a aeth i mewn i’r tŷ : ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd , sef ar Israel . A thi a drewi dŷ Ahab dy arglwydd ; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi , a gwaed holl weision yr Arglwydd , ar law Jesebel . Canys holl dŷ Ahab a ddifethir : a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw , y gwarchaeëdig hefyd , a’r hwn a adawyd yn Israel . A mi a wnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat , ac fel tŷ Baasa mab Ahïa . A’r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel , ac ni bydd a’i claddo hi . Ac efe a agorodd y drws , ac a ffodd . A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd , a dywedwyd wrtho ef , A yw pob peth yn dda ? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti ? Dywedodd yntau wrthynt , Chwi a adwaenoch y gŵr , a’i ymadroddion . Dywedasant hwythau , Celwydd ; mynega yn awr i ni . Dywedodd yntau , Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel . A hwy a frysiasant , ac a gymerasant bob un ei wisg , ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau , ac a ganasant mewn utgorn , ac a ddywedasant , Jehu sydd frenin . A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram : ( a Joram oedd yn cadw Ramoth‐Gilead , efe a holl Israel , rhag Hasael brenin Syria : Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel , o’r archollion â’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria . ) A dywedodd Jehu , Os mynnwch chwi , nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel . Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd , ac a aeth i Jesreel ; canys Joram oedd yn gorwedd yno . Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram . A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel , ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod , ac a ddywedodd , Yr ydwyf yn gweled mintai . A Joram a ddywedodd , Cymer ŵr march , ac anfon i’w cyfarfod hwynt , a dyweded , Ai heddwch ? A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed y brenin , A oes heddwch ? A dywedodd Jehu , Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch ? tro yn fy ôl i . A’r gwyliwr a fynegodd , gan ddywedyd , Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy , ond nid yw efe yn dychwelyd . Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march , ac efe a ddaeth atynt hwy , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd y brenin , A oes heddwch ? A dywedodd Jehu , Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch ? tro yn fy ôl i . A’r gwyliwr a fynegodd , gan ddywedyd , Efe a ddaeth hyd atynt hwy , ond nid yw efe yn dychwelyd : a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi ; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd . A Joram a ddywedodd , Rhwym y cerbyd . Yntau a rwymodd ei gerbyd ef . A Joram brenin Israel a aeth allan , ac Ahaseia brenin Jwda , pob un yn ei gerbyd , a hwy a aethant yn erbyn Jehu , a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad . A phan welodd Joram Jehu , efe a ddywedodd , A oes heddwch , Jehu ? Dywedodd yntau , Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di , a’i hudoliaeth , mor aml ? A Joram a drodd ei law , ac a ffodd , ac a ddywedodd wrth Ahaseia , Y mae bradwriaeth , O Ahaseia . A Jehu a gymerth fwa yn ei law , ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau , fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef , ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd . A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog , Cymer , bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad : canys cofia pan oeddem ni , mi a thi , yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef , roddi o’r Arglwydd arno ef y baich hwn . Diau , meddai yr Arglwydd , gwaed Naboth , a gwaed ei feibion , a welais i neithiwr , a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon , medd yr Arglwydd . Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon , yn ôl gair yr Arglwydd . Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny , efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd . A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef , ac a ddywedodd , Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd . A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur , yr hon sydd wrth Ibleam ; ac efe a ffodd i Megido , ac a fu farw yno . A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem , ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau , yn ninas Dafydd . Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda . A phan ddaeth Jehu i Jesreel , Jesebel a glybu hynny , ac a golurodd ei hwyneb , ac a wisgodd yn wych am ei phen , ac a edrychodd trwy ffenestr . A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth , hi a ddywedodd , A fu heddwch i Simri , yr hwn a laddodd ei feistr ? Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr , ac a ddywedodd , Pwy sydd gyda mi , pwy ? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef . Yntau a ddywedodd , Teflwch hi i lawr . A hwy a’i taflasant hi i lawr ; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared , ac ar y meirch : ac efe a’i mathrodd hi . A phan ddaeth efe i mewn , efe a fwytaodd ac a yfodd , ac a ddywedodd , Edrychwch am y wraig felltigedig honno , a chleddwch hi ; canys merch brenin ydyw hi . A hwy a aethant i’w chladdu hi ; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed , a chledrau’r dwylo . Am hynny hwy a ddychwelasant , ac a fynegasant iddo ef . Dywedodd yntau , Dyma air yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel : A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes , yn rhandir Jesreel ; fel na ellir dywedyd , Dyma Jesebel . Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria . A Jehu a ysgrifennodd lythyrau , ac a anfonodd i Samaria , at dywysogion Jesreel , ac at yr henuriaid , ac at dadmaethod Ahab , gan ddywedyd , Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi , canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd , a chennych chwi y mae cerbydau , a meirch , a dinasoedd caerog , ac arfau : Yna edrychwch yr hwn sydd orau , ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd , a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad , ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd . A hwy a ofnasant yn ddirfawr , ac a ddywedasant , Wele , dau frenin ni safasant o’i flaen ef : pa fodd gan hynny y safwn ni ? Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ , a’r hwn oedd ar y ddinas , a’r henuriaid , a’r tadmaethod , at Jehu , gan ddywedyd , Dy weision di ydym ni , a’r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni ; ni wnawn ni neb yn frenin : gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg . Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy , gan ddywedyd , Os eiddof fi fyddwch , ac os ar fy llais i y gwrandewch , cymerwch bennau y gwŷr , meibion eich arglwydd , a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel . A meibion y brenin , sef deng nyn a thrigain , oedd gyda phenaethiaid y ddinas , y rhai oedd yn eu meithrin hwynt . A phan ddaeth y llythyr atynt , hwy a gymerasant feibion y brenin , ac a laddasant ddeng nyn a thrigain , ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau , ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel . A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef , gan ddywedyd , Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin . Dywedodd yntau , Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore . A’r bore efe a aeth allan , ac a safodd , ac a ddywedodd wrth yr holl bobl , Cyfiawn ydych chwi : wele , myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd , ac a’i lleddais ef : ond pwy a laddodd yr holl rai hyn ? Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i’r ddaear , yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab : canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was . Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel , a’i holl benaethiaid ef , a’i gyfneseifiaid ef , a’i offeiriaid , fel na adawyd un yng ngweddill . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ymaith hefyd , ac a ddaeth i Samaria . Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd , Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda , ac a ddywedodd , Pwy ydych chwi ? Dywedasant hwythau , Brodyr Ahaseia ydym ni ; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin , ac i feibion y frenhines . Ac efe a ddywedodd , Deliwch hwynt yn fyw . A hwy a’u daliasant hwy yn fyw , ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio , sef dau ŵr a deugain , ac ni adawodd efe ŵr ohonynt . A phan aethai efe oddi yno , efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef , ac a gyfarchodd well iddo , ac a ddywedodd wrtho , A yw dy galon di yn uniawn , fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di ? A dywedodd Jehonadab , Ydyw . Od ydyw , eb efe , moes dy law . Rhoddodd yntau ei law , ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd . Ac efe a ddywedodd , Tyred gyda mi , a gwêl fy sêl i tuag at yr Arglwydd . Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef . A phan ddaeth efe i Samaria , efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria , nes iddo ei ddinistrio ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias . A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd , ac a ddywedodd wrthynt , Ahab a wasanaethodd Baal ychydig , ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer . Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal , ei holl weision , a’i holl offeiriaid ef , na fydded un yn eisiau ; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal : pwy bynnag a fyddo yn eisiau , ni bydd efe byw . Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra , fel y difethai efe addolwyr Baal . A Jehu a ddywedodd , Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal . A hwy a’i cyhoeddasant . A Jehu a anfonodd trwy holl Israel ; a holl addolwyr Baal a ddaethant , ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai : a hwy a ddaethant i dŷ Baal , a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd . Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd , Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal . Ac efe a ddug wisgoedd iddynt . A Jehu a aeth i mewn , a Jehonadab mab Rechab , i dŷ Baal , ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal , Chwiliwch ac edrychwch , rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd , ond addolwyr Baal yn unig . A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau , a phoethoffrymau , Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr , ac a ddywedodd , Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi , einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef . A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm , Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion , Ewch i mewn , lleddwch hwynt , na ddeled neb allan . Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf : a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan , ac a aethant i ddinas tŷ Baal . A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal , ac a’u llosgasant hwy . A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal , ac a ddinistriasant dŷ Baal , ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw . Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel . Eto pechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy , sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel , a’r rhai oedd yn Dan . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu , Oherwydd i ti wneuthur yn dda , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i , yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab , meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel . Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â’i holl galon : canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel : a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel ; O’r Iorddonen tua chodiad haul , sef holl wlad Gilead , y Gadiaid , a’r Reubeniaid , a’r Manassiaid , o Aroer , yr hon sydd wrth afon Arnon , Gilead a Basan hefyd . A’r rhan arall o hanes Jehu , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , a’i holl gadernid ef ; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Jehu a hunodd gyda’i dadau , a chladdwyd ef yn Samaria , a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain . A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab , hi a gyfododd , ac a ddifethodd yr holl had brenhinol . Ond Joseba merch y brenin Joram , chwaer Ahaseia , a gymerth Joas mab Ahaseia , ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd : a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau , rhag Athaleia , fel na laddwyd ef . Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr Arglwydd chwe blynedd : ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad . Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada , ac y cymerth dywysogion y cannoedd , a’r capteiniaid , a’r swyddogion , ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr Arglwydd , ac a wnaeth â hwynt gyfamod , ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr Arglwydd , ac a ddangosodd iddynt fab y brenin . Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Dyma’r peth a wnewch chwi ; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth , a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin : A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur : a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion : felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri . A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth , a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd , ynghylch y brenin . A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth , pob un â’i arfau yn ei law ; a’r hwn a ddelo i’r rhesau , lladder ef : a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan , a phan ddelo efe i mewn . A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad , a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth , gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth ; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad . A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd , y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd . A’r swyddogion a safasant bob un â’i arfau yn ei law , o’r tu deau i’r tŷ , hyd y tu aswy i’r tŷ , wrth yr allor a’r tŷ , amgylch ogylch y brenin . Ac efe a ddug allan fab y brenin , ac a roddodd y goron arno ef , a’r dystiolaeth : a hwy a’i hurddasant ef yn frenin , ac a’i heneiniasant ef ; curasant hefyd eu dwylo , a dywedasant , Byw fyddo’r brenin . A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg , hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd . A phan edrychodd hi , wele , y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer , a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin , a holl bobl y wlad yn llawen , ac yn canu mewn utgyrn . Ac Athaleia a rwygodd ei dillad , ac a waeddodd , Bradwriaeth , bradwriaeth ! A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd , y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu , ac a ddywedodd wrthynt , Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau ; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi , lladder ef â’r cleddyf : canys dywedasai yr offeiriad , Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a osodasant ddwylo arni hi , a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin , ac yno y lladdwyd hi . A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr Arglwydd a’r brenin a’r bobl , i fod ohonynt yn bobl i’r Arglwydd ; a rhwng y brenin a’r bobl . A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal , ac a’i dinistriasant ef a’i allorau , ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw , lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau . A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd . Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd , a’r capteiniaid , a’r swyddogion , a holl bobl y wlad , a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd , ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion , i dŷ y brenin : ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd . A holl bobl y wlad a lawenychasant , a’r ddinas a lonyddodd : a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dŷ y brenin . Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin . Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu , a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba . A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau , yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef . Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid , Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr Arglwydd , arian y gŵr a gyniweirio , arian gwerth eneidiau pob un , a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr Arglwydd ; Cymered yr offeiriaid hynny iddynt , pawb gan ei gydnabod , a chyweiriant adwyau y tŷ , pa le bynnag y caffer adwy ynddo . Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas , nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ . Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad , a’r offeiriaid eraill , ac a ddywedodd wrthynt , Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ ? yn awr gan hynny , na dderbyniwch arian gan eich cydnabod , ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ . A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl , ac na chyweirient agennau y tŷ . Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist , ac a dyllodd dwll yn ei chaead , ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor , ffordd y delai un i mewn i dŷ yr Arglwydd : a’r offeiriaid , y rhai oedd yn cadw y drws , a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr Arglwydd . A phan welent fod llawer o arian yn y gist , y deuai ysgrifennydd y brenin , a’r archoffeiriad , i fyny , ac a roent mewn codau , ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif , yn nwylo gweithwyr y gwaith , goruchwylwyr tŷ yr Arglwydd : a hwy a’i talasant i’r seiri pren , ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr Arglwydd . Ac i’r seiri meini , ac i’r naddwyr cerrig , ac i brynu coed a cherrig nadd , i gyweirio adwyau tŷ yr Arglwydd , ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ . Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian , saltringau , cawgiau , utgyrn , na llestri aur , na llestri arian , o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd . Eithr hwy a’i rhoddasant i weithwyr y gwaith ; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr Arglwydd . Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith : canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon . Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau , ni dducpwyd i mewn i dŷ yr Arglwydd : eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy . Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny , ac a ymladdodd yn erbyn Gath , ac a’i henillodd hi : a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem . A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat , a Jehoram , ac Ahaseia , ei dadau ef , brenhinoedd Jwda , a’i gysegredig bethau ef ei hun , a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria , ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem . A’r rhan arall o hanes Joas , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A’i weision ef a gyfodasant , ac a gydfwriadasant fradwriaeth ; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo , wrth ddyfod i waered i Sila . A Josachar mab Simeath , a Josabad mab Somer , ei weision ef , a’i trawsant ef , ac efe a fu farw ; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd : ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda , y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu ; ni throdd oddi wrthynt hwy . A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel ; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria , ac yn llaw Benhadad mab Hasael , eu holl ddyddiau hwynt . A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd , a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef ; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel , canys brenin Syria a’u gorthrymai hwynt . ( A’r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel , fel yr aethant oddi tan law y Syriaid : a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt . Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , eithr rhodiasant ynddynt hwy : a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria . ) Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl , ond deg a deugain o wŷr meirch , a deg cerbyd , a deng mil o wŷr traed : oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt , ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu . A’r rhan arall o hanes Joahas , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joahas a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn Samaria , a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda , y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria : un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu ; eithr efe a rodiodd ynddynt . A’r rhan arall o hanes Joas , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid , trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joas a hunodd gyda’i dadau , a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef : a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel . Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono : a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef , ac a wylodd ar ei wyneb ef , ac a ddywedodd , O fy nhad , fy nhad , cerbyd Israel , a’i farchogion . Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef , Cymer fwa a saethau . Ac efe a gymerth fwa a saethau . Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel , Dod dy law ar y bwa . Ac efe a roddodd ei law : ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin . Ac efe a ddywedodd , Agor y ffenestr tua’r dwyrain . Yntau a’i hagorodd . Yna y dywedodd Eliseus , Saetha . Ac efe a saethodd . Dywedodd yntau , Saeth ymwared yr Arglwydd , a saeth ymwared rhag Syria ; a thi a drewi y Syriaid yn Affec , nes eu difa hwynt . Hefyd efe a ddywedodd , Cymer y saethau . Ac efe a’u cymerodd . Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel , Taro y ddaear . Ac efe a drawodd dair gwaith , ac a beidiodd . A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef , ac a ddywedodd , Dylesit daro bump neu chwech o weithiau , yna y trawsit Syria nes ei difa : ac yn awr tair gwaith y trewi Syria . Ac Eliseus a fu farw , a hwy a’i claddasant ef . A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno . A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr , wele , hwy a ganfuant dorf , ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus . A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus , efe a ddadebrodd , ac a gyfododd ar ei draed . A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas . A’r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy , ac a dosturiodd wrthynt hwy , ac a drodd atynt hwy , er mwyn ei gyfamod ag Abraham , Isaac , a Jacob , ac ni fynnai eu dinistrio hwynt , ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn . Felly Hasael brenin Syria a fu farw ; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael , y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel : Joas a’i trawodd ef dair gwaith , ac a ddug adref ddinasoedd Israel . Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , eto nid fel Dafydd ei dad ; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef , efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef . Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid ; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses , yn yr hon y gorchmynasai yr Arglwydd , gan ddywedyd , Na ladder y tadau dros y meibion , ac na ladder y meibion dros y tadau ; ond lladder pob un am ei bechod ei hun . Efe a drawodd o’r Edomiaid , yn nyffryn yr halen , ddeng mil , ac a enillodd y graig mewn rhyfel , ac a alwodd ei henw Joctheel , hyd y dydd hwn . Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas , mab Jehu , brenin Israel , gan ddywedyd , Tyred , gwelwn wyneb ein gilydd . A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus , gan ddywedyd , Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig . A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn . Gan daro y trewaist yr Edomiaid , am hynny dy galon a’th falchïodd : ymffrostia , ac eistedd yn dy dŷ : canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun , fel y syrthit ti , a Jwda gyda thi ? Ond ni wrandawai Amaseia . Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny , a hwy a welsant wynebau ei gilydd , efe ac Amaseia brenin Jwda , yn Beth‐semes , yr hon sydd yn Jwda . A Jwda a drawyd o flaen Israel ; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll . A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda , mab Joas , mab Ahaseia , yn Beth‐semes , ac a ddaeth i Jerwsalem , ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem , o borth Effraim hyd borth y gongl , bedwar can cufydd . Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian , a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin , a gwystlon , ac a ddychwelodd i Samaria . A’r rhan arall o hanes Joas , yr hyn a wnaeth efe , a’i gadernid , ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joas a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel ; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd . A’r rhan arall o hanes Amaseia , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem ; ac efe a ffodd i Lachis : eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis , ac a’i lladdasant ef yno . A hwy a’i dygasant ef ar feirch , ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau , yn ninas Dafydd . A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia , ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad . Efe a adeiladodd Elath , ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda , ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau . Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria ; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos , yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd , yr hwn oedd o Gath‐Heffer . Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flin iawn : canys nid oedd neb gwarchaeëdig , na neb wedi ei adael , na chynorthwyydd i Israel . Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd : ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas . A’r rhan arall o hanes Jeroboam , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , a’i gadernid ef , y modd y rhyfelodd efe , a’r modd y dug efe adref Damascus a Hamath , i Jwda yn Israel , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau , sef gyda brenhinoedd Israel ; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda . Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef : Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A’r Arglwydd a drawodd y brenin , fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth , ac y trigodd mewn tŷ o’r neilltu : a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad . A’r rhan arall o hanes Asareia , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda , y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , megis y gwnaethai ei dadau : ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef , ac a’i trawodd ef gerbron y bobl , ac a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Sachareia , wele , y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Dyma air yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu , gan ddywedyd , Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel . Ac felly y bu . Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia , brenin Jwda , a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria . Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa , ac a ddaeth i Samaria , ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria , ac a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Salum , a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yna Menahem a drawodd Tiffsa , a’r rhai oll oedd ynddi , a’i therfynau , o Tirsa : oherwydd nad agorasant iddo ef , am hynny y trawodd efe hi ; a’i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe . Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel , a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad ; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian , fel y byddai ei law gydag ef , i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef . A Menahem a gododd yr arian ar Israel , sef ar yr holl rai cedyrn o allu , ar bob un ddeg sicl a deugain o arian , i’w rhoddi i frenin Asyria ; felly brenin Asyria a ddychwelodd , ac nid arhosodd yno yn y wlad . A’r rhan arall o hanes Menahem , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Menahem a hunodd gyda’i dadau ; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria , a dwy flynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef , ac a’i trawodd ef yn Samaria , yn llys y brenin , gydag Argob , ac Arie , a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid : ac efe a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Pecaheia , a’r hyn oll a wnaeth efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria , ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria , ac a enillodd Ijon , ac Abel‐beth‐maacha , a Janoa , Cedes hefyd , a Hasor , a Gilead , a Galilea , holl wlad Nafftali , ac a’u caethgludodd hwynt i Asyria . A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia , ac a’i trawodd ef , ac a’i lladdodd , ac a deyrnasodd yn ei le ef , yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia . A’r rhan arall o hanes Peca , a’r hyn oll a wnaeth efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jerwsa , merch Sadoc . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd ; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd . A’r rhan arall o hanes Jotham , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Jwda , Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia . A Jotham a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad , ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu . Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw , fel Dafydd ei dad : Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , ac a dynnodd ei fab trwy’r tân , yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Yna y daeth Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia brenin Israel , i fyny i Jerwsalem i ryfel ; a hwy a warchaeasant ar Ahas ; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef . Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria , ac a yrrodd yr Iddewon o Elath : a’r Syriaid a ddaethant i Elath , ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn . Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath‐pileser brenin Asyria , gan ddywedyd , Dy was di a’th fab di ydwyf fi : tyred i fyny , a gwared fi o law brenin Syria , ac o law brenin Israel , y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i . Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin , ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria . A brenin Asyria a wrandawodd arno ef ; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus , ac a’i henillodd hi , ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir , ac a laddodd Resin . A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria , ac a welodd allor oedd yn Damascus : a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad , yn ôl ei holl wneuthuriad . Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus : felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad , erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus . A phan ddaeth y brenin o Damascus , y brenin a ganfu yr allor : a’r brenin a nesaodd at yr allor , ac a offrymodd arni hi . Ac efe a losgodd ei boethoffrwm , a’i fwyd‐offrwm , ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm , ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor . A’r allor bres , yr hon oedd gerbron yr Arglwydd , a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ , oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd , ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor . A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd , Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol , a’r bwyd‐offrwm prynhawnol , poethoffrwm y brenin hefyd , a’i fwyd‐offrwm ef , a phoethoffrwm holl bobl y wlad , a’u bwyd‐offrwm hwynt , a’u diodydd‐offrwm hwynt ; a holl waed y poethoffrwm , a holl waed yr aberth , a daenelli di arni hi : a bydded yr allor bres i mi i ymofyn . Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas . A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion , ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy , ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano , ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig . A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ , a dyfodfa’r brenin oddi allan , a drodd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd , o achos brenin Asyria . A’r rhan arall o hanes Ahas , yr hyn a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda , y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel ; naw mlynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef . A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef , a Hosea a aeth yn was iddo ef , ac a ddug iddo anrhegion . A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea : canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft , ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria , fel y byddai efe arferol bob blwyddyn : am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef , ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy . Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad , ac a aeth i fyny i Samaria , ac a warchaeodd arni hi dair blynedd . Yn y nawfed flwyddyn i Hosea , yr enillodd brenin Asyria Samaria , ac y caethgludodd efe Israel i Asyria , ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor , wrth afon Gosan , ac yn ninasoedd y Mediaid . Felly y bu , am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft , oddi tan law Pharo brenin yr Aifft , ac am iddynt ofni duwiau dieithr , A rhodio yn neddfau y cenhedloedd , y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel , ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel . A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw , ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd , o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog . Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel , a than bob pren irlas : Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd , fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o’u blaen hwynt ; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r Arglwydd . A hwy a wasanaethasant eilunod , am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt , Na wnewch y peth hyn . Er i’r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel , ac yn erbyn Jwda , trwy law yr holl broffwydi , a phob gweledydd , gan ddywedyd , Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus , a chedwch fy ngorchmynion , a’m deddfau , yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau , a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi . Eto ni wrandawsant , eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau , y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw . A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef , a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â’u tadau hwynt , a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn ; a rhodiasant ar ôl oferedd , ac a aethant yn ofer : aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch , am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt , na wnelent fel hwynt . A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw , ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd , nid amgen dau lo : gwnaethant hefyd lwyn , ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd , a gwasanaethasant Baal . A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân , ac a arferasant ddewiniaeth , a swynion , ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel , ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg : ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig . Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw , eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy . A’r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel , ac a’u cystuddiodd hwynt , ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr , nes iddo eu bwrw allan o’i olwg . Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd ; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin : a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd , ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr . Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam , y rhai a wnaeth efe , heb gilio oddi wrthynt : Nes i’r Arglwydd fwrw Israel allan o’i olwg , fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi : ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria , hyd y dydd hwn . A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon , ac o Cutha , ac o Afa , o Hamath hefyd , ac o Seffarfaim , ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria , yn lle meibion Israel . A hwy a feddianasant Samaria , ac a drigasant yn ei dinasoedd hi . Ac yn nechrau eu trigias hwy yno , nid ofnasant hwy yr Arglwydd ; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt , y rhai a laddasant rai ohonynt . Am hynny y mynegasant i frenin Asyria , gan ddywedyd , Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti , ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria , nid adwaenant ddefod Duw y wlad : am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt , ac wele , lladdasant hwynt , am na wyddent ddefod Duw y wlad . Yna brenin Asyria a orchmynnodd , gan ddywedyd , Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno , i fyned ac i drigo yno , ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad . Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel , ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd . Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun , ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid , pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt . A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth , a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal , a gwŷr Hamath a wnaethant Asima , A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac , a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech , duwiau Seffarfaim . Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd , ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd , y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd . Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni , a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau , yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno . Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion : nid ydynt yn ofni yr Arglwydd , ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt , nac yn ôl eu harfer , nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob , yr hwn y gosododd efe ei enw , Israel . A’r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt , ac a orchmynasai iddynt , gan ddywedyd , Nac ofnwch dduwiau dieithr , ac nac ymgrymwch iddynt , ac na wasanaethwch hwynt , ac nac aberthwch iddynt : Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr , ac â braich estynedig , ef a ofnwch chwi , ac iddo ef yr ymgrymwch , ac iddo ef yr aberthwch . Y deddfau hefyd , a’r barnedigaethau , a’r gyfraith , a’r gorchymyn , a ysgrifennodd efe i chwi , a gedwch chwi i’w gwneuthur byth ; ac nac ofnwch dduwiau dieithr . Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi , ac nac ofnwch dduwiau dieithr : Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw ; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion . Ond ni wrandawsant hwy , eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy . Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni’r Arglwydd , ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig ; eu plant a’u hwyrion : fel y gwnaeth eu tadau , y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn . Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel , y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Abi , merch Sachareia . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef . Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd , ac a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni , ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses ; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi : ac efe a’i galwodd hi Nehustan . Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe , ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda , nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef . Canys efe a lynodd wrth yr Arglwydd , ni throdd efe oddi ar ei ôl ef , eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef , y rhai a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd fu gydag ef ; i ba le bynnag yr aeth , efe a lwyddodd : ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria , ac nis gwasanaethodd ef . Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau , o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia , honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel , y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria , ac a warchaeodd arni hi . Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi ; yn y chweched flwyddyn i Heseceia , honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel , yr enillwyd Samaria . A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria , ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor , wrth afon Gosan , ac yn ninasoedd y Mediaid : Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw , eithr troseddu ei gyfamod ef , a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr Arglwydd , ac na wrandawent arnynt , ac nas gwnaent hwynt . Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia , y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda , ac a’u henillodd hwynt . A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis , gan ddywedyd , Pechais , dychwel oddi wrthyf : dygaf yr hyn a roddych arnaf . A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda , dri chant o dalentau arian , a deg ar hugain o dalentau aur . A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin . Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd , ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda , ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria . A brenin Asyria a anfonodd Tartan , a Rabsaris , a Rabsace , o Lachis , at y brenin Heseceia , â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem . A hwy a aethant i fyny , ac a ddaethant i Jerwsalem . Ac wedi eu dyfod i fyny , hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf , yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr . Ac wedi iddynt alw ar y brenin , daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur . A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy , Dywedwch yn awr wrth Heseceia , Fel hyn y dywedodd y brenin mawr , brenin Asyria , Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo ? Dywedyd yr ydwyt , ( ond nid ydynt ond geiriau ofer , ) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel . Ar bwy y mae dy hyder , pan wrthryfelaist i’m herbyn i ? Wele yn awr , y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon , ar yr Aifft , yr hon pwy bynnag a bwyso arni , hi a â i gledr ei law ef , ac a dylla trwyddi hi : felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef . Ac os dywedwch wrthyf , Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried ; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd , a’i allorau , ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem , O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem ? Yn awr gan hynny dod wystlon , atolwg , i’m harglwydd , brenin Asyria , a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch , os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy . A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd , ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch ? Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn , i’w ddinistrio ef ? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos i fyny yn erbyn y wlad hon , a dinistria hi . Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia , a Sebna , a Joa , wrth Rabsace , Llefara , atolwg , wrth dy weision yn Syriaeg , canys yr ydym ni yn ei deall hi ; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon , lle y clywo y bobl sydd ar y mur . Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt , Ai at dy feistr di , ac atat tithau , yr anfonodd fy meistr fi , i lefaru y geiriau hyn ? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur , fel y bwytaont eu tom eu hun , ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi , yr anfonodd fi ? Felly Rabsace a safodd , ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon , llefarodd hefyd , a dywedodd , Gwrandewch air y brenin mawr , brenin Asyria . Fel hyn y dywedodd y brenin , Na thwylled Heseceia chwi : canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i . Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan waredu a’n gwared ni , ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria . Na wrandewch ar Heseceia : canys fel hyn y dywed brenin Asyria , Gwnewch fwynder â mi , a deuwch allan ataf fi , ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun , a phob un o’i ffigysbren , ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun : Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun , gwlad ŷd a gwin , gwlad bara a gwinllannoedd , gwlad olew olewydd a mêl , fel y byddoch fyw , ac na byddoch feirw : ac na wrandewch ar Heseceia , pan hudo efe chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’n gwared ni . A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria ? Mae duwiau Hamath ac Arpad ? mae duwiau Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i ? Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i , fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw i ? Eithr y bobl a dawsant , ac nid atebasant air iddo : canys gorchymyn y brenin oedd hyn , gan ddywedyd , Nac atebwch ef . Yna y daeth Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur , at Heseceia , a’u dillad yn rhwygedig , ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace . A phan glybu y brenin Heseceia hynny , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ymwisgodd â sachliain , ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd . Ac efe a anfonodd Eliacim , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a henuriaid yr offeiriaid , wedi ymwisgo mewn sachliain , at Eseia y proffwyd mab Amos . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Fel hyn y dywed Heseceia , Diwrnod cyfyngdra , a cherydd , a chabledd yw y dydd hwn : canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth , ond nid oes grym i esgor . Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace , yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw , ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw : am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael . Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia . Ac Eseia a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ofna y geiriau a glywaist , trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi . Wele fi yn rhoddi arno ef wynt , ac efe a glyw sŵn , ac a ddychwel i’w wlad : gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun . Yna y dychwelodd Rabsace , ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna : canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis . A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia , gan ddywedyd , Wele , efe a ddaeth allan i ryfela â thi ; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Na thwylled dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo , gan ddywedyd , Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria . Wele , ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd , gan eu difrodi hwynt : ac a waredir di ? A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt , y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio ; sef Gosan , a Haran , a Reseff , a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar ? Mae brenin Hamath , a brenin Arpad , a brenin dinas Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau , ac a’u darllenodd hwy : a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , ac a’u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd . A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid , tydi sydd Dduw , tydi yn unig , i holl deyrnasoedd y ddaear ; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear . Gogwydda , Arglwydd , dy glust , a gwrando : agor dy lygaid , Arglwydd , ac edrych ; a gwrando eiriau Senacherib , yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw . Gwir yw , O Arglwydd , i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir , A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân : canys nid oeddynt hwy dduwiau , eithr gwaith dwylo dyn , o goed a maen : am hynny y dinistriasant hwynt . Yn awr gan hynny , O Arglwydd ein Duw ni , achub ni , atolwg , o’i law ef , fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw , tydi yn unig . Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria . Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef , Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di , ac a’th watwarodd ; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di . Pwy a ddifenwaist ti , ac a geblaist ? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef , ac y codaist yn uchel dy lygaid ? yn erbyn Sanct Israel . Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd , ac y dywedaist , Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd , i ystlysau Libanus ; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef , a’i ddewis ffynidwydd ef , af hefyd i’w lety eithaf , ac i goedwig ei ddoldir ef . Myfi a gloddiais , ac a yfais ddyfroedd dieithr , ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig . Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm , ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt ? yn awr y dygais hynny i ben , fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol . Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd , ac a gywilyddiwyd : oeddynt megis gwellt y maes , fel gwyrddlysiau , neu laswelltyn ar bennau tai , neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu . Dy eisteddiad hefyd , a’th fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , a adnabûm i , a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn . Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn , ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i ; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen , a’m ffrwyn yn dy weflau , ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost . A hyn fydd yn argoel i ti , O Heseceia : Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun , ac yn yr ail flwyddyn yr atwf ; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch , a medwch , plennwch winllannoedd hefyd , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir , a wreiddia eilwaith i waered , ac a ddwg ffrwyth i fyny . Canys gweddill a â allan o Jerwsalem , a’r rhai dihangol o fynydd Seion : sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria , Ni ddaw efe i’r ddinas hon , ac nid ergydia saeth yno ; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian , ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi . Ar hyd yr un ffordd ag y daeth , y dychwel efe , ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon , medd yr Arglwydd . Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon , i’w chadw hi er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . A’r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd , ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd : a phan gyfodasant yn fore drannoeth , wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon . Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd , ac a aeth ymaith , ac a ddychwelodd , ac a drigodd yn Ninefe . A bu , fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw , i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia : ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw : ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Trefna dy dŷ ; canys marw fyddi , ac ni byddi byw . Yna efe a drodd ei wyneb at y pared , ac a weddïodd at yr Arglwydd , gan ddywedyd , Atolwg , Arglwydd , cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd , ac â chalon berffaith , a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di . A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr . A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol , daeth gair yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Dychwel , a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Clywais dy weddi di , gwelais dy ddagrau ; wele fi yn dy iacháu di ; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr Arglwydd . A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd , ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria : diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . A dywedodd Eseia , Cymerwch swp o ffigys . A hwy a gymerasant , ac a’i gosodasant ar y cornwyd , ac efe a aeth yn iach . A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia , Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi , ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd ? Ac Eseia a ddywedodd , Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd , y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe : A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen , neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl ? A Heseceia a ddywedodd , Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau : nid felly , ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau . Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd : ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau , ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas , ddeg o raddau yn ei ôl . Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan , mab Baladan brenin Babilon , lythyrau ac anrheg at Heseceia : canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf . A Heseceia a wrandawodd arnynt , ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor , yr arian , a’r aur , a’r peraroglau , a’r olew gorau , a holl dŷ ei arfau , a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef : nid oedd dim yn ei dŷ ef , nac yn ei holl gyfoeth ef , a’r nas dangosodd Heseceia iddynt . Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd y gwŷr hyn ? ac o ba le y daethant atat ti ? A dywedodd Heseceia , O wlad bell y daethant hwy , sef o Babilon . Yntau a ddywedodd , Beth a welsant hwy yn dy dŷ di ? A dywedodd Heseceia , Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy : nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy . Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia , Gwrando air yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di , a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn : ni adewir dim , medd yr Arglwydd . Cymerant hefyd o’th feibion di , y rhai a ddaw allan ohonot , y rhai a genhedli di , a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon . Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia , Da yw gair yr Arglwydd , yr hwn a leferaist . Dywedodd hefyd , Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i ? A’r rhan arall o hanes Heseceia , a’i holl rym ef , ac fel y gwnaeth efe y llyn , a’r pistyll , ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Heseceia a hunodd gyda’i dadau : a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu , a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Heffsiba . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef ; ac a gyfododd allorau i Baal , ac a wnaeth lwyn , fel y gwnaethai Ahab brenin Israel , ac a addolodd holl lu’r nefoedd , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd , am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd , Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw . Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân , ac a arferodd hudoliaeth , a brudiau , ac a fawrhaodd swynyddion , a dewiniaid : efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe , yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd , ac wrth Solomon ei fab , Yn y tŷ hwn , ac yn Jerwsalem , yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel , y gosodaf fi fy enw yn dragywydd : Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt : yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt , ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt . Ond ni wrandawsant hwy : a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi , gan ddywedyd , Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn , a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef , a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod : Oblegid hynny , fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda , fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant . A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem , a phwys tŷ Ahab : golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan , yr hwn pan olcho , efe a’i try ar ei wyneb . A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth , ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion , a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion : Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i , a’u bod yn fy nigio i , er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft , hyd y dydd hwn . Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion , hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd ; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu , gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . A’r rhan arall o hanes Manasse , a’r hyn a wnaeth efe , a’i bechod a bechodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Manasse a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun , sef yng ngardd Ussa ; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth , merch Harus o Jotba . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel y gwnaethai Manasse ei dad . Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt , ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad , ac a ymgrymodd iddynt : Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau , ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd . A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef , ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun . A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon : a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Amon , yr hyn a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa ; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin , ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jedida , merch Adaia o Boscath . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dad , ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia , y brenin a anfonodd Saffan , mab Asaleia , mab Mesulam , yr ysgrifennydd , i dŷ yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad , fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd , y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl : A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith , y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd ; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd , i gyweirio agennau y tŷ , I’r seiri coed , ac i’r adeiladwyr , ac i’r seiri maen , ac i brynu coed a cherrig nadd , i atgyweirio’r tŷ . Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt , am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon . A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd , Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd : a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan , ac efe a’i darllenodd ef . A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin , ac a adroddodd y peth i’r brenin , ac a ddywedodd , Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ , ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith , y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd . A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin , gan ddywedyd , Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr : a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin . A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith , efe a rwygodd ei ddillad . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad , ac i Ahicam mab Saffan , ac i Achbor mab Michaia , ac i Saffan yr ysgrifennydd , ac i Asaheia gwas y brenin , gan ddywedyd , Ewch , ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi , a thros y bobl , a thros holl Jwda , am eiriau y llyfr hwn a gafwyd : canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni , oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn , i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni . Felly Hilceia yr offeiriad , ac Ahicam , ac Achbor , a Saffan , ac Asaheia , a aethant at Hulda y broffwydes , gwraig Salum mab Ticfa , mab Harhas , ceidwad y gwisgoedd : a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy ; a hwy a ymddiddanasant â hi . A hi a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel , Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn , ac ar ei drigolion , sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda : Am iddynt fy ngwrthod i , ac arogldarthu i dduwiau dieithr , i’m digio i â holl waith eu dwylo : am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn , ac nis diffoddir ef . Ond wrth frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd , fel hyn y dywedwch wrtho ef , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Am y geiriau a glywaist ti ; Oblegid i’th galon feddalhau , ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd , pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn , ac yn erbyn ei drigolion , y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith , ac am rwygo ohonot dy ddillad , ac wylo ger fy mron i ; minnau hefyd a wrandewais , medd yr Arglwydd . Oherwydd hynny , wele , mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau , a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch , fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon . A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn . A’r brenin a anfonodd , a holl henuriaid Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef . A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , a holl wŷr Jwda , a holl drigolion Jerwsalem gydag ef , yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a’r holl bobl o fychan hyd fawr : ac efe a ddarllenodd , lle y clywsant hwy , holl eiriau llyfr y cyfamod , yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A’r brenin a safodd wrth y golofn , ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd , ar fyned ar ôl yr Arglwydd , ac ar gadw ei orchmynion ef , a’i dystiolaethau , a’i ddeddfau , â’i holl galon , ac â’i holl enaid , i gyflawni geiriau y cyfamod hwn , y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad , ac i’r offeiriaid o’r ail radd , ac i geidwaid y drws , ddwyn allan o deml yr Arglwydd yr holl lestri a wnaethid i Baal , ac i’r llwyn , ac i holl lu’r nefoedd : ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem , ym meysydd Cidron , ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel . Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd , yn ninasoedd Jwda , ac yn amgylchoedd Jerwsalem : a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal , i’r haul , ac i’r lleuad , ac i’r planedau , ac i holl lu’r nefoedd . Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd , i’r tu allan i Jerwsalem , hyd afon Cidron , ac a’i llosgodd ef wrth afon Cidron , ac a’i malodd yn llwch , ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl . Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid , y rhai oedd wrth dŷ yr Arglwydd , lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn . Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda , ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt , o Geba hyd Beerseba , ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth , y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas , y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas . Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem , ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr . Ac efe a halogodd Toffeth , yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom , fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dân i Moloch . Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul , wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd , wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd , yr hwn oedd yn y pentref , ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân . Yr allorau hefyd , y rhai oedd ar nen ystafell Ahas , y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda , a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd , a ddistrywiodd y brenin , ac a’u bwriodd hwynt i lawr oddi yno , ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron . Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem , y rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llygredigaeth , y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra’r Sidoniaid , ac i Cemos ffieidd‐dra’r Moabiaid , ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon . Ac efe a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni , ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion . Yr allor hefyd , yr hon oedd yn Bethel , a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , ie , yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe , ac a losgodd yr uchelfa , ac a’i malodd yn llwch , ac a losgodd y llwyn . A Joseia a edrychodd , ac a ganfu feddau , y rhai oedd yno yn y mynydd , ac a anfonodd , ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau , ac a’u llosgodd ar yr allor , ac a’i halogodd hi , yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw , yr hwn a bregethasai y geiriau hyn . Yna efe a ddywedodd , Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled ? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho , Bedd gŵr Duw , yr hwn a ddaeth o Jwda , ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel , ydyw . Ac efe a ddywedodd , Gadewch ef yn llonydd : nac ymyrred neb â’i esgyrn ef . Felly yr achubasant ei esgyrn ef , gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria . Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd , y rhai oedd yn ninasoedd Samaria , y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd , ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel . Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno , ar yr allorau , ac a losgodd esgyrn dynion arnynt , ac a ddychwelodd i Jerwsalem . A’r brenin a orchmynnodd i’r holl bobl , gan ddywedyd , Gwnewch Basg i’r Arglwydd eich Duw , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn . Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn , er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel , nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel , na brenhinoedd Jwda . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r Arglwydd yn Jerwsalem . Y swynyddion hefyd , a’r dewiniaid , a’r delwau , a’r eilunod , a’r holl ffieidd‐dra , y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda , ac yn Jerwsalem , a dynnodd Joseia ymaith : fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith ; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd . Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef , yr hwn a drodd at yr Arglwydd â’i holl galon , ac â’i holl enaid , ac â’i holl egni , yn ôl cwbl o gyfraith Moses ; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef . Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr , trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda , oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef . A dywedodd yr Arglwydd , Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg , fel y bwriais ymaith Israel , ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem , yr hon a ddetholais , a’r tŷ am yr hwn y dywedais , Fy enw a fydd yno . A’r rhan arall o hanes Joseia , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria , hyd afon Ewffrates : a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef , a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido , pan ei gwelodd ef . A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido , ac a’i dygasant ef i Jerwsalem , ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun . A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia , ac a’i heneiniasant ef , ac a’i hurddasant yn frenin yn lle ei dad . Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin , a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef . A Pharo‐Necho a’i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath , fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem : ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian , a thalent o aur . A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad , ac a drodd ei enw ef Joacim : ac efe a ddug ymaith Joahas , ac efe a ddaeth i’r Aifft , ac yno y bu efe farw . A Joacim a roddodd i Pharo yr arian , a’r aur ; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo : efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad , ar bob un yn ôl ei dreth , i’w rhoddi i Pharo‐Necho . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Sebuda , merch Pedaia o Ruma . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau . Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny , a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd : yna efe a drodd , ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef . A’r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid , a thorfoedd o’r Syriaid , a thorfoedd o’r Moabiaid , a thorfoedd o feibion Ammon , ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi . Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda , i’w bwrw allan o’i olwg ef , o achos pechodau Manasse , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe ; A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe : canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion ; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau . A’r rhan arall o hanes Joacim , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Joacim a hunodd gyda’i dadau ; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad : canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft , o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates . Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin ; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Nehusta , merch Elnathan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad . Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem , a gwarchaewyd ar y ddinas . A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas , a’i weision ef a warchaeasant arni hi . A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon , efe , a’i fam , a’i weision , a’i dywysogion , a’i ystafellyddion : a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad . Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd , fel y llefarasai yr Arglwydd . Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem , yr holl dywysogion hefyd , a’r holl gedyrn nerthol , sef deng mil o gaethion , a phob saer , a gof : ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno . Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon , a mam y brenin , a gwragedd y brenin , a’i ystafellyddion , a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon . A’r holl wŷr nerthol , sef saith mil ; ac o seiri a gofaint , mil , y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr : hwynt‐hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon . A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef , ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin . Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda , nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg , fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon . Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a wersyllodd yn ei herbyn hi , a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi . A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia . Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas , ac nid oedd bara i bobl y wlad . A’r ddinas a dorrwyd , a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth , rhwng y ddau fur , y rhai sydd wrth ardd y brenin , ( a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch ; ) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos . A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin , ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho : a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho . Felly hwy a ddaliasant y brenin , ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla ; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef . Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid , ac a dynasant lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres , ac a’i dygasant ef i Babilon . Ac yn y pumed mis , ar y seithfed dydd o’r mis , honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon , y daeth Nebusaradan y distain , gwas brenin Babilon , i Jerwsalem . Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , a holl dai Jerwsalem , a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân . A holl lu’r Caldeaid , y rhai oedd gyda’r distain , a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch . A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas , a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon , gyda gweddill y dyrfa . Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai , yn winllanwyr , ac yn arddwyr . Y colofnau pres hefyd , y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a’r ystolion , a’r môr pres , yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a ddrylliodd y Caldeaid , a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon . Y crochanau hefyd , a’r rhawiau , a’r saltringau , y llwyau , a’r holl lestri pres , y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt , a ddygasant hwy ymaith . Y pedyll tân hefyd , a’r cawgiau , y rhai oedd o aur yn aur , a’r rhai oedd o arian yn arian , a ddug y distain ymaith . Y ddwy golofn , yr un môr , a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn . Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn , a chnap pres oedd arni ; ac uchder y cnap oedd dri chufydd ; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch , yn bres i gyd : ac felly yr oedd yr ail golofn , â phlethwaith . A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf , a Seffaneia , yr ail offeiriad , a’r tri oedd yn cadw y drws . Ac o’r ddinas efe a gymerth ystafellydd , yr hwn oedd ar y rhyfelwyr , a phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin , y rhai a gafwyd yn y ddinas , ac ysgrifennydd tywysog y llu , yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad ; a thrigeinwr o bobl y wlad , y rhai a gafwyd yn y ddinas . A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn , ac a’u dug at frenin Babilon , i Ribla . A brenin Babilon a’u trawodd hwynt , ac a’u lladdodd hwynt , yn Ribla , yng ngwlad Hamath . Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun . Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda , y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy , Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan . A phan glybu holl dywysogion y lluoedd , hwynt‐hwy a’u gwŷr , wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog , hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa , sef Ismael mab Nethaneia , a Johanan mab Carea , a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad , a Jaasaneia mab Maachathiad , hwynt a’u gwŷr . A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy , ac wrth eu gwŷr , ac a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid : trigwch yn y tir , a gwasanaethwch frenin Babilon , a bydd da i chwi . Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia , mab Elisama , o’r had brenhinol , a dengwr gydag ef , a hwy a drawsant Gedaleia , fel y bu efe farw : trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa . A’r holl bobl o fychan hyd fawr , a thywysogion y lluoedd , a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft : canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid . Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda , yn y deuddegfed mis , ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis , Efilmerodach brenin Babilon , yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin , a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy . Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho , ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon . Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef : ac efe a fwytaodd fwyd yn wastadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei einioes . A’i ran ef oedd ran feunyddiol , a roddid iddo gan y brenin , dogn dydd yn ei ddydd , holl ddyddiau ei einioes ef . Adda , Seth , Enos , Cenan , Mahalaleel , Jered , Enoch , Methusela , Lamech , Noa , Sem , Cham , a Jaffeth . Meibion Jaffeth ; Gomer , a Magog , a Madai , a Jafan , a Thubal , a Mesech , a Thiras . A meibion Gomer ; Aschenas , a Riffath , a Thogarma . A meibion Jafan ; Elisa , a Tharsis , Cittim , a Dodanim . Meibion Cham ; Cus , a Misraim , Put , a Chanaan . A meibion Cus ; Seba , a Hafila , a Sabta , a Raama , a Sabtecha : a Seba , a Dedan , meibion Raama . A Chus a genhedlodd Nimrod : hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear . A Misraim a genhedlodd Ludim , ac Anamim , a Lehabim , a Nafftuhim , Pathrusim hefyd , a Chasluhim , ( y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt , ) a Chafftorim . A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig , a Heth , Y Jebusiad hefyd , a’r Amoriad , a’r Girgasiad , A’r Hefiad , a’r Arciad , a’r Siniad , A’r Arfadiad , a’r Semariad , a’r Hamathiad . Meibion Sem ; Elam , ac Assur , ac Arffacsad , a Lud , ac Aram , ac Us , a Hul , a Gether , a Mesech . Ac Arffacsad a genhedlodd Sela , a Sela a genhedlodd Eber . Ac i Eber y ganwyd dau o feibion : enw y naill ydoedd Peleg ; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear : ac enw ei frawd oedd Joctan . A Joctan a genhedlodd Almodad , a Seleff , a Hasarmafeth , a Jera , Hadoram hefyd , ac Usal , a Dicla , Ac Ebal , ac Abimael , a Seba , Offir hefyd , a Hafila , a Jobab . Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan . Sem , Arffacsad , Sela , Eber , Peleg , Reu , Serug , Nachor , Tera , Abram , hwnnw yw Abraham . Meibion Abraham ; Isaac , ac Ismael . Dyma eu cenedlaethau hwynt : cyntaf‐anedig Ismael oedd Nebaioth , yna Cedar , ac Adbeel , a Mibsam , Misma , a Duma , Massa , Hadad , a Thema , Jetur , Naffis , a Chedema . Dyma feibion Ismael . A meibion Cetura , gordderchwraig Abraham : hi a ymddûg Simran , a Jocsan , a Medan , a Midian , ac Isbac , a Sua . A meibion Jocsan ; Seba , a Dedan . A meibion Midian ; Effa , ac Effer , a Henoch , ac Abida , ac Eldaa : y rhai hyn oll oedd feibion Cetura . Ac Abraham a genhedlodd Isaac . Meibion Isaac ; Esau , ac Israel . Meibion Esau ; Eliffas , Reuel , a Jëus , a Jaalam , a Chora . Meibion Eliffas ; Teman , ac Omar , Seffi , a Gatam , Cenas , a Thimna , ac Amalec . Meibion Reuel ; Nahath , Sera , Samma , a Missa . A meibion Seir ; Lotan , a Sobal , a Sibeon , ac Ana , a Dison , ac Eser , a Disan . A meibion Lotan ; Hori , a Homam : a chwaer Lotan oedd Timna . Meibion Sobal ; Alïan , a Manahath , ac Ebal , Seffi , ac Onam . A meibion Sibeon ; Aia , ac Ana . Meibion Ana ; Dison . A meibion Dison ; Amram , ac Esban , ac Ithran , a Cheran . Meibion Eser ; Bilhan , a Safan , a Jacan . Meibion Dison ; Us , ac Aran . Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom , cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel ; Bela mab Beor : ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba . A phan fu farw Bela , y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra . A phan fu farw Jobab , Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef . A phan fu farw Husam , yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad , yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab : ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith . A phan fu farw Hadad , y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca . A phan fu farw Samla , Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef . A phan fu farw Saul , y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor . A bu farw Baalhanan , a theyrnasodd yn ei le ef Hadad : ac enw ei ddinas ef oedd Pai ; ac enw ei wraig ef Mehetabel , merch Matred , merch Mesahab . A bu farw Hadad . A dugiaid Edom oedd ; dug Timna , dug Alia , dug Jetheth , Dug Aholibama , dug Ela , dug Pinon , Dug Cenas , dug Teman , dug Mibsar , Dug Magdiel , dug Iram . Dyma ddugiaid Edom . Dyma feibion Israel ; Reuben , Simeon , Lefi , a Jwda , Issachar , a Sabulon , Dan , Joseff , a Benjamin , Nafftali , Gad , ac Aser . Meibion Jwda ; Er , ac Onan , a Sela . Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees . Ond Er , cyntaf‐anedig Jwda , ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd , ac efe a’i lladdodd ef . A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera . Holl feibion Jwda oedd bump . Meibion Phares ; Hesron a Hamul . A meibion Sera ; Simri , ac Ethan , a Heman , a Chalcol , a Dara ; hwynt oll oedd bump . A meibion Carmi ; Achar , yr hwn a flinodd Israel , ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth . A meibion Ethan ; Asareia . A meibion Hesron , y rhai a anwyd iddo ef ; Jerahmeel , a Ram , a Chelubai . A Ram a genhedlodd Amminadab ; ac Amminadab a genhedlodd Nahson , pennaeth meibion Jwda ; A Nahson a genhedlodd Salma ; a Salma a genhedlodd Boas ; A Boas a genhedlodd Obed ; ac Obed a genhedlodd Jesse ; A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab , ac Abinadab yn ail , a Simma yn drydydd , Nethaneel yn bedwerydd , Radai yn bumed , Osem yn chweched , Dafydd yn seithfed : A’u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail . A meibion Serfia ; Abisai , a Joab , ac Asahel , tri . Ac Abigail a ymddûg Amasa . A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad . A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig , ac o Jerioth : a dyma ei meibion hi ; Jeser , Sobab , ac Ardon . A phan fu farw Asuba , Caleb a gymerth iddo Effrath , a hi a ymddûg iddo Hur . A Hur a genhedlodd Uri , ac Uri a genhedlodd Besaleel . Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir , tad Gilead , ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd ; a hi a ddug iddo Segub . A Segub a genhedlodd Jair : ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead . Ac efe a enillodd Gesur , ac Aram , a threfydd Jair oddi arnynt , a Chenath a’i phentrefydd , sef trigain o ddinasoedd . Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead . Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata , Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur , tad Tecoa . A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd , Ram yr hynaf , Buna , ac Oren , ac Osem , ac Ahïa . A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel , a’i henw Atara : hon oedd fam Onam . A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd , Maas , a Jamin , ac Ecer . A meibion Onam oedd Sammai , a Jada . A meibion Sammai ; Nadab , ac Abisur . Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail : a hi a ymddûg iddo Aban , a Molid . A meibion Nadab ; Seled , ac Appaim . A bu farw Seled yn ddi‐blant . A meibion Appaim ; Isi . A meibion Isi ; Sesan . A meibion Sesan ; Alai . A meibion Jada brawd Sammai ; Jether , a Jonathan . A bu farw Jether yn ddi‐blant . A meibion Jonathan ; Peleth , a Sasa . Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel . Ac nid oedd i Sesan feibion , ond merched : ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad , a’i enw Jarha . A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was . A hi a ymddûg iddo Attai . Ac Attai a genhedlodd Nathan , a Nathan a genhedlodd Sabad . A Sabad a genhedlodd Efflal , ac Efflal a genhedlodd Obed , Ac Obed a genhedlodd Jehu , a Jehu a genhedlodd Asareia , Ac Asareia a genhedlodd Heles , a Heles a genhedlodd Eleasa , Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai , a Sisamai a genhedlodd Salum , A Salum a genhedlodd Jecameia , a Jecameia a genhedlodd Elisama . Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd , Mesa ei gyntaf‐anedig , hwn oedd dad Siff : a meibion Maresa tad Hebron . A meibion Hebron ; Cora , a Thappua , a Recem , a Sema . A Sema a genhedlodd Raham , tad Jorcoam : a Recem a genhedlodd Sammai . A mab Sammai oedd Maon : a Maon oedd dad Bethsur . Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran , a Mosa , a Gases : a Haran a genhedlodd Gases . A meibion Jahdai ; Regem , a Jotham , a Gesan , a Phelet , ac Effa , a Saaff . Gordderchwraig Caleb , sef Maacha , a ymddûg Seber a Thirhana . Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna , Sefa tad Machbena , a thad Gibea : a merch Caleb oedd Achsa . Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur , cyntaf‐anedig Effrata ; Sobal tad Ciriath‐jearim , Salma tad Bethlehem , Hareff tad Beth‐gader . A meibion oedd i Sobal , tad Ciriath‐jearim : Haroe , a hanner y Manahethiaid , A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid , a’r Puhiaid , a’r Sumathiaid , a’r Misraiaid : o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid . Meibion Salma ; Bethlehem , a’r Netoffathiaid , Ataroth tŷ Joab , a hanner y Manahethiaid , y Soriaid . A thylwyth yr ysgrifenyddion , y rhai a breswylient yn Jabes ; y Tirathiaid , y Simeathiaid , y Suchathiaid . Dyma y Ceniaid , y rhai a ddaethant o Hemath , tad tylwyth Rechab . Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd , y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron ; y cyntaf‐anedig Amnon , o Ahinoam y Jesreeles : yr ail , Daniel , o Abigail y Garmeles : Y trydydd , Absalom mab Maacha , merch Talmai brenin Gesur : y pedwerydd , Adoneia mab Haggith : Y pumed , Seffateia o Abital : y chweched , Ithream o Egla ei wraig . Chwech a anwyd iddo yn Hebron ; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis : a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem ; Simea , a Sobab , a Nathan , a Solomon , pedwar , o Bathsua merch Ammiel : Ibhar hefyd , ac Elisama , ac Eliffelet , A Noga , a Neffeg , a Jaffia , Ac Elisama , Eliada , ac Eliffelet , naw . Dyma holl feibion Dafydd , heblaw meibion y gordderchwragedd , a Thamar eu chwaer hwynt . A mab Solomon ydoedd Rehoboam : Abeia ei fab yntau ; Asa ei fab yntau ; a Jehosaffat ei fab yntau ; Joram ei fab yntau ; Ahaseia ei fab yntau ; Joas ei fab yntau ; Amaseia ei fab yntau ; Asareia ei fab yntau ; Jotham ei fab yntau ; Ahas ei fab yntau ; Heseceia ei fab yntau ; Manasse ei fab yntau ; Amon ei fab yntau ; Joseia ei fab yntau . A meibion Joseia ; y cyntaf‐anedig oedd Johanan , yr ail Joacim , y trydydd Sedeceia , y pedwerydd Salum . A meibion Joacim ; Jechoneia ei fab ef , Sedeceia ei fab yntau . A meibion Jechoneia ; Assir , Salathiel ei fab yntau , Malciram hefyd , a Phedaia , a Senasar , Jecameia , a Hosama , a Nedabeia . A meibion Pedaia ; Sorobabel , a Simei a meibion Sorobabel ; Mesulam , a Hananeia , a Selomith eu chwaer hwynt : A Hasuba , ac Ohel , a Berecheia , a Hasadeia , Jusab‐hesed , pump . A meibion Hananeia ; Pelatia a Jesaia : meibion Reffaia , meibion Arnan , meibion Obadeia , meibion Sechaneia . A meibion Sechaneia ; Semaia : a meibion Semaia ; Hattus , ac Igeal , a Bareia , a Nearia , a Saffat , chwech . A meibion Nearia ; Elioenai , a Heseceia , ac Asricam , tri . A meibion Elioenai oedd , Hodaia , ac Eliasib , a Phelaia , ac Accub , a Johanan , a Dalaia , ac Anani , saith . Meibion Jwda ; Phares , Hesron , a Charmi , a Hur , a Sobal . A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath ; a Jahath a genhedlodd Ahumai , a Lahad . Dyma deuluoedd y Sorathiaid . A’r rhai hyn oedd o dad Etam ; Jesreel , ac Isma , ac Idbas : ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi . A Phenuel tad Gedor , ac Eser tad Husa . Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata , tad Bethlehem . Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig , Hela a Naara . A Naara a ddug iddo Ahusam , a Heffer , a Themeni , ac Hahastari . Dyma feibion Naara . A meibion Hela oedd , Sereth , a Jesoar , ac Ethnan . A Chos a genhedlodd Anub , a Sobeba , a theuluoedd Aharhel mab Harum . Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr ; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes , gan ddywedyd , Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid . A Jabes a alwodd ar Dduw Israel , gan ddywedyd , O na lwyr fendithit fi , ac na ehengit fy nherfynau , a bod dy law gyda mi , a’m cadw oddi wrth ddrwg , fel na’m gofidier ! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai . A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir , yr hwn oedd dad Eston . Ac Eston a genhedlodd Bethraffa , a Phasea , a Thehinna tad dinas Nahas . Dyma ddynion Recha . A meibion Cenas ; Othniel , a Seraia : a meibion Othniel ; Hathath . A Meonothai a genhedlodd Offra : a Seraia a genhedlodd Joab , tad glyn y crefftwyr ; canys crefftwyr oeddynt hwy . A meibion Caleb mab Jeffunne ; Iru , Ela , a Naam : a meibion Ela oedd , Cenas . A meibion Jehaleleel ; Siff , a Siffa , Tiria , ac Asareel . A meibion Esra oedd , Jether , a Mered , ac Effer , a Jalon : a hi a ddug Miriam , a Sammai , ac Isba tad Estemoa . A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor , a Heber tad Socho , a Jecuthiel tad Sanoa . A dyma feibion Bitheia merch Pharo , yr hon a gymerth Mered . A meibion ei wraig Hodeia , chwaer Naham , tad Ceila y Garmiad , ac Estemoa y Maachathiad . A meibion Simon oedd , Amnon , a Rinna , Benhanan , a Thilon . A meibion Isi oedd , Soheth , a Bensoheth . A meibion Sela mab Jwda oedd , Er tad Lecha , a Laada tad Maresa , a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main , o dŷ Asbea , A Jocim , a dynion Choseba , a Joas , a Saraff , y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab , a Jasubilehem . Ac y mae y pethau hyn yn hen . Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau ; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef . Meibion Simeon oedd , Nemuel , a Jamin , Jarib , Sera , a Saul : Salum ei fab yntau , Mibsam ei fab yntau , Misma ei fab yntau . A meibion Misma ; Hamuel ei fab yntau , Sacchur ei fab yntau , Simei ei fab yntau . Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion , a chwech o ferched , ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion : ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda . A hwy a breswyliasant yn Beerseba , a Molada , a Hasar‐sual , Yn Bilha hefyd , ac yn Esem , ac yn Tolad , Ac yn Bethuel , ac yn Horma , ac yn Siclag , Ac yn Beth‐marcaboth , ac yn Hasarsusim , ac yn Beth‐birei , ac yn Saaraim . Dyma eu dinasoedd hwynt , nes teyrnasu o Dafydd . A’u trefydd hwynt oedd , Etam , ac Ain , Rimmon , a Thochen , ac Asan ; pump o ddinasoedd . A’u holl bentrefi hwynt hefyd , y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal . Dyma eu trigfannau hwynt , a’u hachau . A Mesobab , a Jamlech , a Josa mab Amaseia , A Joel , a Jehu mab Josibia , fab Seraia , fab Asiel , Ac Elioenai , a Jaacoba , a Jesohaia , ac Asaia , ac Adiel , a Jesimiel , a Benaia , A Sisa mab Siffi , fab Alon , fab Jedaia , fab Simri , fab Semaia . Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd , ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr . A hwy a aethant i flaenau Gedor , hyd at du dwyrain y dyffryn , i geisio porfa i’w praidd . A hwy a gawsant borfa fras , a da , a gwlad eang ei therfynau , a heddychlon a thangnefeddus : canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham . A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda , ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno , ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn , a thrigasant yn eu lle hwynt ; am fod porfa i’w praidd hwynt yno . Ac ohonynt hwy , sef o feibion Simeon , yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir , a Phelatia , a Nearia , a Reffaia , ac Ussiel , meibion Isi , yn ben arnynt . Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec , ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn . A meibion Reuben , cyntaf‐anedig Israel , ( canys efe oedd gyntaf‐anedig , ond am iddo halogi gwely ei dad , rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff , mab Israel ; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint : Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr , ac ohono ef y daeth blaenor : a’r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff . ) Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd , Hanoch , a Phalu , Hesron , a Charmi . Meibion Joel ; Semaia ei fab ef , Gog ei fab yntau , Simei ei fab yntau , Micha ei fab yntau , Reaia ei fab yntau , Baal ei fab yntau , Beera ei fab yntau , yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria : hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid . A’i frodyr ef yn eu teuluoedd , wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau : y pennaf oedd Jeiel , a Sechareia , A Bela mab Asas , fab Sema , fab Joel , yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer , a hyd at Nebo , a Baalmeon . Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe , hyd y lle yr eler i’r anialwch , oddi wrth afon Ewffrates : canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead . Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid , y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt ; a thrigasant yn eu pebyll hwynt , trwy holl du dwyrain Gilead . A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan , hyd at Salcha : Joel y pennaf , a Saffam yr ail , a Jaanai , a Saffat , yn Basan . A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd , Michael , a Mesulam , a Seba , a Jorai , a Jacan , a Sïa , a Heber , saith . Dyma feibion Abihail fab Huri , fab Jaroa , fab Gilead , fab Michael , fab Jesisai , fab Jahdo , fab Bus ; Ahi mab Abdiel , fab Guni , y pennaf o dŷ eu tadau . A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan , ac yn ei threfydd , ac yn holl bentrefi Saron , wrth eu terfynau . Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn nyddiau Jotham brenin Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel . Meibion Reuben , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , o wŷr nerthol , dynion yn dwyn tarian a chleddyf , ac yn tynnu bwa , ac wedi eu dysgu i ryfel , oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain , yn myned allan i ryfel . A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid , a Jetur , a Neffis , a Nodab . A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny , a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt , a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt : canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel , ac efe a wrandawodd arnynt , oherwydd iddynt obeithio ynddo . A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt ; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain , ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd , ac o asynnod ddwy fil , ac o ddynion gan mil . Canys llawer yn archolledig a fuant feirw , am fod y rhyfel oddi wrth Dduw ; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed . A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir : o Basan hyd Baal‐hermon , a Senir , a mynydd Hermon , yr aethant hwy yn aml . Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau , sef Effer , ac Isi , ac Eliel , ac Asriel , a Jeremeia , a Hodafia , a Jadiel , gwŷr cedyrn o nerth , gwŷr enwog , a phennau tŷ eu tadau . A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau , ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad , y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt . A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria , ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria , ac a’u caethgludodd hwynt , sef y Reubeniaid , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , ac a’u dug hwynt i Hala , a Habor , a Hara , ac i afon Gosan , hyd y dydd hwn . Meibion Lefi ; Gerson , Cohath , a Merari . A meibion Cohath ; Amram , Ishar , a Hebron , ac Ussiel . A phlant Amram ; Aaron , Moses , a Miriam : a meibion Aaron ; Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . Eleasar a genhedlodd Phinees , Phinees a genhedlodd Abisua , Ac Abisua a genhedlodd Bucci , a Bucci a genhedlodd Ussi , Ac Ussi a genhedlodd Seraheia , a Seraheia a genhedlodd Meraioth . Meraioth a genhedlodd Amareia , ac Amareia a genhedlodd Ahitub , Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc , a Sadoc a genhedlodd Ahimaas , Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia , ac Asareia a genhedlodd Johanan , A Johanan a genhedlodd Asareia ; ( hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem : ) Ac Asareia a genhedlodd Amareia , ac Amareia a genhedlodd Ahitub , Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc , a Sadoc a genhedlodd Salum , A Salum a genhedlodd Hilceia , a Hilceia a genhedlodd Asareia , Ac Asareia a genhedlodd Seraia , a Seraia a genhedlodd Jehosadac : A Jehosadac a ymadawodd , pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor . Meibion Lefi ; Gersom , Cohath , a Merari . A dyma enwau meibion Gersom ; Libni , a Simei . A meibion Cohath ; Amram , ac Ishar , a Hebron , ac Ussiel . Meibion Merari ; Mahli , a Musi . A dyma dylwyth y Lefiaid , yn ôl eu tadau . I Gersom ; Libni ei fab , Jahath ei fab yntau , Simma ei fab yntau , Joa ei fab yntau , Ido ei fab yntau , Sera ei fab yntau , a Jeaterai ei fab yntau . Meibion Cohath ; Aminadab ei fab ef , Cora ei fab yntau , Assir ei fab yntau , Elcana ei fab yntau , ac Ebiasaff ei fab yntau , ac Assir ei fab yntau , Tahath ei fab yntau , Uriel ei fab yntau , Usseia ei fab yntau , a Saul ei fab yntau . A meibion Elcana ; Amasai , ac Ahimoth . Elcana : meibion Elcana ; Soffai ei fab ef , a Nahath ei fab yntau . Eliab ei fab yntau , Jeroham ei fab yntau , Elcana ei fab yntau . A meibion Samuel ; y cyntaf‐anedig , Fasni , yna Abeia . Meibion Merari ; Mahli , Libni ei fab yntau , Simei ei fab yntau , Ussa ei fab yntau , Simea ei fab yntau , Haggia ei fab yntau , Asaia ei fab yntau . Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd , ar ôl gorffwys o’r arch . A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod , nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem : a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth . A dyma y rhai a weiniasant , a’u meibion hefyd : o feibion y Cohathiaid ; Heman y cantor , mab Joel , fab Semuel , Fab Elcana , fab Jeroham , fab Eliel , fab Toa , Fab Suff , fab Elcana , fab Mahath , fab Amasai , Fab Elcana , fab Joel , fab Asareia , fab Seffaneia , Fab Tahath , fab Assir , fab Ebiasaff , fab Cora , Fab Ishar , fab Cohath , fab Lefi , fab Israel . A’i frawd Asaff , yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau , sef Asaff mab Beracheia , fab Simea , Fab Michael , fab Baaseia , fab Malcheia , Fab Ethni , fab Sera , fab Adaia , Fab Ethan , fab Simma , fab Simei , Fab Jahath , fab Gersom , fab Lefi . A’u brodyr hwynt , meibion Merari , oedd ar y llaw aswy : Ethan mab Cisi , fab Abdi , fab Maluc , Fab Hasabeia , fab Amaseia , fab Hilceia , Fab Amsi , fab Bani , fab Samer , Fab Mahli , fab Musi , fab Merari , fab Lefi . A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw . Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm , ac ar allor yr arogl‐darth , i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf , ac i wneuthur cymod dros Israel , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw . Dyma hefyd feibion Aaron ; Eleasar ei fab ef , Phinees ei fab yntau , Abisua ei fab yntau , Bucci ei fab yntau , Ussi ei fab yntau , Seraheia ei fab yntau , Meraioth ei fab yntau , Amareia ei fab yntau , Ahitub ei fab yntau , Sadoc ei fab yntau , Ahimaas ei fab yntau . A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau , yn eu terfynau ; sef meibion Aaron , o dylwyth y Cohathiaid : oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon . A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda , a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch . Ond meysydd y ddinas , a’i phentrefi , a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne . Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda , sef Hebron , y ddinas noddfa , a Libna a’i meysydd pentrefol , a Jattir ac Estemoa , a’u meysydd pentrefol , A Hilen a’i meysydd pentrefol , a Debir a’i meysydd pentrefol , Ac Asan a’i meysydd pentrefol , a Bethsemes a’i meysydd pentrefol : Ac o lwyth Benjamin ; Geba a’i meysydd pentrefol , ac Alemeth a’i meysydd pentrefol , ac Anathoth a’i meysydd pentrefol : eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg . Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw , y rhoddwyd o’r hanner llwyth , sef hanner Manasse , ddeg dinas wrth goelbren . Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd , o lwyth Issachar , ac o lwyth Aser , ac o lwyth Nafftali , ac o lwyth Manasse yn Basan , dair ar ddeg o ddinasoedd . I feibion Merari trwy eu teuluoedd , o lwyth Reuben , ac o lwyth Gad , ac o lwyth Sabulon , y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol . A hwy a roddasant trwy goelbren , o lwyth meibion Jwda , ac o lwyth meibion Simeon , ac o lwyth meibion Benjamin , y dinasoedd hyn , y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt . I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath , yr ydoedd dinasoedd eu terfyn , o lwyth Effraim . A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa , sef Sichem a’i meysydd pentrefol , ym mynydd Effraim ; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol , Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol , a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol , Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol , a Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol . Ac o hanner llwyth Manasse ; Aner a’i meysydd pentrefol , a Bileam a’i meysydd pentrefol , i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath . I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd , Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol , Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Issachar ; Cedes a’i meysydd pentrefol , Daberath a’i meysydd pentrefol , Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol , ac Anem a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Aser ; Masal a’i meysydd pentrefol , ac Abdon a’i meysydd pentrefol , Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol , a Rehob a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Nafftali ; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol , Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol , a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol . I’r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon , Rimmon a’i meysydd pentrefol , a Thabor a’i meysydd pentrefol . Ac am yr Iorddonen a Jericho , sef o du dwyrain yr Iorddonen , y rhoddwyd o lwyth Reuben , Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol , Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol , Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol , a Meffaath a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Gad , Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol , Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol , Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol , a Jaser a’i meysydd pentrefol . A meibion Issachar oedd , Tola , a Phua , Jasub , a Simron , pedwar . A meibion Tola ; Ussi , a Reffaia , a Jeriel , a Jahmai , a Jibsam , a Semuel , penaethiaid ar dŷ eu tadau : o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau ; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant . A meibion Ussi ; Israhïa : a meibion Israhïa ; Michael , ac Obadeia , a Joel , Isia , pump : yn benaethiaid oll . A chyda hwynt yn eu cenedlaethau , ac yn ôl tŷ eu tadau , yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel , un fil ar bymtheg ar hugain : canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion . A’u brodyr cedyrn o nerth , o holl deuluoedd Issachar , a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn saith mil a phedwar ugain mil oll . A meibion Benjamin oedd , Bela , a Becher , a Jediael , tri . A meibion Bela ; Esbon , ac Ussi , ac Ussiel , a Jerimoth , ac Iri ; pump o bennau tŷ eu tadau , cedyrn o nerth , a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain . A meibion Becher oedd , Semira , a Joas , ac Elieser , ac Elioenai , ac Omri , a Jerimoth , ac Abeia , ac Anathoth , ac Alemeth : y rhai hyn oll oedd feibion Becher . A hwy a rifwyd wrth eu hachau , yn ôl eu cenedlaethau , yn bennau tŷ eu tadau , yn gedyrn o nerth , yn ugain mil a dau cant . A meibion Jediael ; Bilhan : a meibion Bilhan ; Jeus , a Benjamin , ac Ehud , a Chenaana , a Sethan , a Tharsis , ac Ahisahar . Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael , yn bennau eu tadau , yn gedyrn o nerth , yn myned allan mewn llu i ryfel , yn ddwy fil ar bymtheg a deucant . Suppim hefyd , a Huppim , meibion Ir ; Husim , meibion Aher . Meibion Nafftali ; Jasiel , a Guni , a Geser , a Salum , meibion Bilha . Meibion Manasse ; Asriel , yr hwn a ymddûg ei wraig : ( ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead : A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim , ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha : ) ac enw yr ail fab Salffaad : ac i Salffaad yr oedd merched . A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab , a hi a alwodd ei enw ef Peres , ac enw ei frawd ef Seres , a’i feibion ef oedd Ulam a Racem . A meibion Ulam ; Bedan . Dyma feibion Gilead fab Machir , fab Manasse . A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod , ac Abieser , a Mahala . A meibion Semida oedd , Ahïan , a Sechem , a Lichi , ac Aniham . A meibion Effraim ; Suthela , a Bered ei fab ef , a Thahath ei fab yntau , ac Elada ei fab yntau , a Thahath ei fab yntau , A Sabad ei fab yntau , a Suthela ei fab yntau , ac Eser , ac Elead : a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir , a’u lladdodd hwynt , oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt . Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer ; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef . A phan aeth efe at ei wraig , hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia , am fod drygfyd yn ei dŷ ef . ( Seera hefyd oedd ei ferch ef , a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf , a’r uchaf hefyd , ac Ussen‐sera . ) A Reffa oedd ei fab ef , a Reseff , a Thela ei fab yntau , a Thahan ei fab yntau , Laadan ei fab yntau , Ammihud ei fab yntau , Elisama ei fab yntau , Nun ei fab yntau , Josua ei fab yntau . A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd , Bethel a’i phentrefi , ac o du y dwyrain Naaran , ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi ; a Sichem a’i phentrefi , hyd Gasa a’i phentrefi : Ac ar derfynau meibion Manasse , Beth‐sean , a’i phentrefi , Taanach a’i phentrefi , Megido a’i phentrefi , Dor a’i phentrefi . Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn . Meibion Aser ; Imna , ac Isua , ac Isuai , a Bereia , a Sera eu chwaer hwynt . A meibion Bereia ; Heber , a Malchiel , hwn yw tad Birsafith . A Heber a genhedlodd Jafflet , a Somer , a Hotham , a Sua eu chwaer hwynt . A meibion Jafflet ; Pasach , a Bimhal , ac Asuath . Dyma feibion Jafflet . A meibion Samer ; Ahi , a Roga , Jehubba , ac Aram . A meibion ei frawd ef Helem ; Soffa , ac Imna , a Seles , ac Amal . Meibion Soffa ; Sua , a Harneffer , a Sual , a Beri , ac Imra , Beser , a Hod , a Samma , a Silsa , ac Ithran , a Beera . A meibion Jether ; Jeffunne , Pispa hefyd , ac Ara . A meibion Ula ; Ara , a Haniel , a Resia . Y rhai hyn oll oedd feibion Aser , pennau eu cenedl , yn ddewis wŷr o nerth , yn bennau‐capteiniaid . A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel , oedd chwe mil ar hugain o wŷr . Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig , Asbel yr ail , ac Ahara y trydydd , Noha y pedwerydd , a Raffa y pumed . A meibion Bela oedd , Adar , a Gera , ac Abihud , Ac Abisua , a Naaman , ac Ahoa , A Gera , a Seffuffan , a Huram . Dyma hefyd feibion Ehud ; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba , a hwy a’u mudasant hwynt i Manahath : Naaman hefyd , ac Ahïa , a Gera , efe a’u symudodd hwynt , ac a genhedlodd Ussa , ac Ahihud . Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab , gwedi eu gollwng hwynt ymaith : Husim a Baara oedd ei wragedd . Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig , Jobab , a Sibia , a Mesa , a Malcham , A Jeus , a Sabia , a Mirma . Dyma ei feibion ef , pennau‐cenedl . Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal . A meibion Elpaal oedd , Eber , a Misam , a Samed , yr hwn a adeiladodd Ono , a Lod a’i phentrefi . Bereia hefyd , a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon ; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath . Ahïo hefyd , Sasac , a Jeremoth , Sebadeia hefyd , ac Arad , ac Ader , Michael hefyd , ac Ispa , a Joha , meibion Bereia ; Sebadeia hefyd , a Mesulam , a Heseci , a Heber , Ismerai hefyd , a Jeslïa , a Jobab , meibion Elpaal ; Jacim hefyd , a Sichri , a Sabdi , Elienai hefyd , a Silthai , ac Eliel , Adaia hefyd , a Beraia , a Simrath , meibion Simhi ; Ispan hefyd , a Heber , ac Eliel , Abdon hefyd , a Sichri , a Hanan , Hananeia hefyd , ac Elam , ac Antotheia , Iffedeia hefyd , a Phenuel , meibion Sasac ; Samserai hefyd , a Sehareia , ac Athaleia , Jareseia hefyd , ac Eleia , a Sichri , meibion Jeroham . Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl , sef penaethiaid ar eu cenedlaethau . Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem . Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon , ac enw ei wraig ef oedd Maacha . Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef , Sur hefyd , a Chis , a Baal , a Nadab , Gedor hefyd , ac Ahïo , a Sacher . Micloth hefyd a genhedlodd Simea : y rhai hyn hefyd , ar gyfer eu brodyr , a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr . Ner hefyd a genhedlodd Cis , a Chis a genhedlodd Saul , a Saul a genhedlodd Jonathan , a Malcisua , ac Abinadab , ac Esbaal . A mab Jonathan oedd Meribbaal ; a Meribbaal a genhedlodd Micha . A meibion Micha ; Pithon , a Melech , a Tharea , ac Ahas . Ac Ahas a genhedlodd Jehoada , a Jehoada a genhedlodd Alemeth , ac Asmafeth , a Simri : a Simri a genhedlodd Mosa , A Mosa a genhedlodd Binea : Raffa oedd ei fab ef , Eleasa ei fab yntau , Asel ei fab yntau . Ac i Asel y bu chwech o feibion , a dyma eu henwau hwynt , Asricam , Bocheru , ac Ismael , a Seareia , ac Obadeia , a Hanan . Y rhai hyn oll oedd feibion Asel . A meibion Esec ei frawd ef oedd , Ulam ei gyntaf‐anedig ef , Jehus yr ail , ac Eliffelet y trydydd . A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth , yn saethyddion , ac yn aml eu meibion a’u hwyrion , sef cant a deg a deugain . Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin . A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau , ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda ; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd . Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd , yr Israeliaid , yr offeiriaid , y Lefiaid , a’r Nethiniaid . Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda , ac o feibion Benjamin , ac o feibion Effraim , a Manasse : Uthai mab Ammihud , fab Omri , fab Imri , fab Bani , o feibion Phares fab Jwda . Ac o’r Siloniaid ; Asaia y cyntaf‐anedig , a’i feibion . Ac o feibion Sera ; Jeuel , a’u brodyr , chwe chant a deg a phedwar ugain . Ac o feibion Benjamin , Salu mab Mesulam , fab Hodafia , fab Hasenua , Ibneia hefyd mab Jeroham , ac Ela mab Ussi , fab Michri , a Mesulam mab Seffatia , fab Reuel , fab Ibnija ; A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau , naw cant a deg a deugain a chwech . Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau . Ac o’r offeiriaid ; Jedaia , a Jehoiarib , a Jachin , Asareia hefyd mab Hilceia , fab Mesulam , fab Sadoc , fab Meraioth , fab Ahitub , tywysog tŷ Dduw ; Adaia hefyd mab Jeroham , fab Passur , fab Malceia ; a Maasia , mab Adiel , fab Jasera , fab Mesulam , fab Mesilemith , fab Immer . A’u brodyr , pennaf ar dŷ eu tadau , yn fil a saith gant a thrigain ; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw . Ac o’r Lefiaid ; Semaia mab Hassub , fab Asricam , fab Hasabeia , o feibion Merari , Bacbaccar hefyd , Heres , a Galal , a Mataneia mab Micha , fab Sichri , fab Asaff ; Obadeia hefyd mab Semaia , fab Galal , fab Jeduthun ; a Berecheia mab Asa , fab Elcana , yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid . Y porthorion hefyd oedd , Salum , ac Accub , a Thalmon , ac Ahiman , a’u brodyr ; Salum ydoedd bennaf ; A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain . Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion . Salum hefyd mab Core , fab Ebiasaff , fab Cora , a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad , oedd ar waith y weinidogaeth , yn cadw pyrth y babell : a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd , oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn . Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen : a’r Arglwydd ydoedd gydag ef . Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod . Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau , oedd ddau cant a deuddeg . Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau ; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd . Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd , sef tŷ y babell , i wylied wrth wyliadwriaethau . Y porthorion oedd ar bedwar o fannau , dwyrain , gorllewin , gogledd , a deau . A’u brodyr , y rhai oedd yn eu trefydd , oedd i ddyfod ar y seithfed dydd , o amser i amser , gyda hwynt . Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn , y pedwar pen porthor , yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw . Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy , canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth , ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore . Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth , ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn , ac mewn rhif y dygent hwynt allan . A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri , ac ar holl ddodrefn y cysegr , ac ar y peilliaid , a’r gwin , a’r olew , a’r thus , a’r aroglau peraidd . Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd . A Matitheia , un o’r Lefiaid , yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad , ydoedd mewn swydd ar waith y radell . Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt , oedd ar y bara gosod , i’w ddarparu bob Saboth . A dyma y cantorion , pennau‐cenedl y Lefiaid , y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala ; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos . Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid , pennau trwy eu cenedlaethau : hwy a drigent yn Jerwsalem . Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon , Jehiel ; ac enw ei wraig ef oedd Maacha : A’i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon , yna Sur , a Chis , a Baal , a Ner , a Nadab , A Gedor , ac Ahïo , a Sechareia a Micloth . A Micloth a genhedlodd Simeam : a hwythau hefyd , ar gyfer eu brodyr , a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr . Ner hefyd a genhedlodd Cis , a Chis a genhedlodd Saul , a Saul a genhedlodd Jonathan , a Malcisua , ac Abinadab , ac Esbaal . A mab Jonathan oedd Meribbaal ; a Meribbaal a genhedlodd Micha . A meibion Micha oedd , Pithon , a Melech , a Tharea , ac Ahas . Ac Ahas a genhedlodd Jara , a Jara a genhedlodd Alemeth , ac Asmafeth , a Simri ; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa : A Mosa a genhedlodd Binea ; a Reffaia oedd ei fab ef , Elasa ei fab yntau , Asel ei fab yntau . Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion , a dyma eu henwau hwynt ; Asricam , Bocheru , ac Ismael , a Seareia , ac Obadeia , a Hanan . Dyma feibion Asel . A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel , a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid , ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa . A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul , ac ar ôl ei feibion : a’r Philistiaid a laddasant Jonathan , ac Abinadab , a Malcisua , meibion Saul . A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul , a’r perchen bwâu a’i cawsant ef , ac efe a archollwyd gan y saethyddion . Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyn dy gleddyf , a gwân fi ag ef , rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i . Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi , canys ofnodd yn ddirfawr . Yna y cymerth Saul gleddyf , ac a syrthiodd arno . A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul , syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf , ac a fu farw . Felly y bu farw Saul , a’i dri mab ef , a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd . A phan welodd holl wŷr Israel , y rhai oedd yn y dyffryn , ffoi ohonynt hwy , a marw Saul a’i feibion ; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd , ac a ffoesant ; a’r Philistiaid a ddaethant , ac a drigasant ynddynt . A thrannoeth , pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion , hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa . Ac wedi iddynt ei ddiosg , hwy a gymerasant ei ben ef , a’i arfau , ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch , i ddangos i’w delwau , ac i’r bobl . A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau , a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon . A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul , Pob gŵr nerthol a godasant , ac a gymerasant ymaith gorff Saul , a chyrff ei feibion ef , ac a’u dygasant i Jabes , ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes , ac a ymprydiasant saith niwrnod . Felly y bu farw Saul , am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd , sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe , ac am iddo ymgynghori â dewines , i ymofyn â hi ; Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd : am hynny y lladdodd efe ef , ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse . Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron , gan ddywedyd , Wele , dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni . Doe hefyd , ac echdoe , pan ydoedd Saul yn frenin , tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan : a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt , Ti a borthi fy mhobl Israel , a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel . A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron , a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron , gerbron yr Arglwydd ; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel , yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel . A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem , hon yw Jebus , ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir . A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd , Ni ddeui i mewn yma . Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion , yr hwn yw dinas Dafydd . A dywedodd Dafydd , Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf , efe a fydd yn bennaf , ac yn dywysog . Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf , ac a fu bennaf . A thrigodd Dafydd yn y tŵr : oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd . Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch , o Milo amgylch ogylch : a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas . A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy , ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef . Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd , yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas , a chyda holl Israel , i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel , yn ôl gair yr Arglwydd . A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd ; Jasobeam mab Hachmoni , pen y capteiniaid : hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant , y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo . Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo , yr Ahohiad , hwn oedd un o’r tri chadarn . Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim ; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel , ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd , a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid . A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno , ac a’i hachubasant hi , ac a drawsant y Philistiaid : felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr . A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd , i ogof Adulam ; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim . A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa , a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem . A Dafydd a flysiodd , ac a ddywedodd , O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn sydd wrth y porth ? A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid , ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn oedd wrth y porth , ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd : ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef , ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd : Ac efe a ddywedodd , Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn . A yfaf fi waed y dynion hyn , a beryglasant eu heinioes ? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef : am hynny ni fynnai efe ei yfed . Y tri chadarn a wnaethant hyn . Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri . A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant , ac a’u lladdodd hwynt : ac iddo y bu enw ymhlith y tri . O’r tri , anrhydeddusach na’r ddau eraill , a thywysog iddynt , oedd efe : ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf . Benaia mab Jehoiada , mab gŵr grymus o Cabseel , mawr ei weithredoedd : efe a laddodd ddau o gedyrn Moab ; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira . Ac efe a laddodd Eifftddyn , gŵr pum cufydd o fesur ; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd ; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon , ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn , ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun . Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada , ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn . Wele , anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain , ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe : a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard . A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab , Elhanan mab Dodo o Bethlehem , Sammoth yr Harodiad , Heles y Peloniad , Ira mab Icces y Tecoiad , Abieser yr Anthothiad , Sibbechai yr Husathiad , Ilai yr Ahohiad , Maharai y Netoffathiad , Heled mab Baana y Netoffathiad , Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin , Benaia y Pirathoniad , Hurai o afonydd Gaas , Abiel yr Arbathiad , Asmafeth y Baharumiad , Eliahba y Saalboniad , Meibion Hasem y Gisoniad , Jonathan mab Sageth yr Harariad , Ahïam mab Sachar yr Harariad , Eliffal mab Ur , Heffer y Mecherathiad , Ahïa y Peloniad , Hesro y Carmeliad , Naarai mab Esbai , Joel brawd Nathan , Mibhar mab Haggeri , Selec yr Ammoniad , Naharai y Berothiad , yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia , Ira yr Ithriad , Gareb yr Ithriad , Ureias yr Hethiad , Sabad mab Ahlai , Adina mab Sisa y Reubeniad , pennaeth y Reubeniaid , a chydag ef ddeg ar hugain , Hanan mab Maacha , a Josaffat y Mithniad , Usseia yr Asterathiad , Sama a Jehiel , meibion Hothan yr Aroeriad , Jediael mab Simri , a Joha ei frawd ef , y Tisiad , Eliel y Mahafiad , a Jeribai , a Josafia , meibion Elnaam , ac Ithma y Moabiad , Eliel , ac Obed , a Jasiel y Mesobaiad . A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag , ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis : a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn , cynorthwywyr y rhyfel , Yn arfogion â bwâu , yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig , a saethu mewn bwâu : o frodyr Saul , o Benjamin . Y pennaf oedd Ahieser , yna Joas , meibion Semaa y Gibeathiad , a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth , a Beracha , a Jehu yr Anthothiad , Ac Ismaia y Gibeoniad , grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain , a goruwch y deg ar hugain ; Jeremeia hefyd , a Jehasiel , a Johanan , a Josabad y Gederathiad , Elusai , a Jerimoth , a Bealeia , a Semareia , Seffatia yr Haruffiad . Elcana , a Jeseia , ac Asareel , a Joeser , a Jasobeam , y Corhiaid , A Joela , a Sebadeia , meibion Jeroham o Gedor . A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch , yn gedyrn o nerth , gwŷr milwraidd i ryfel , yn medru trin tarian a bwcled , ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt , ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy . Eser y cyntaf , Obadeia yr ail , Eliab y trydydd , Mismanna y pedwerydd , Jeremeia y pumed , Attai y chweched , Eliel y seithfed , Johanan yr wythfed , Elsabad y nawfed , Jeremeia y degfed , Machbanai yr unfed ar ddeg . Y rhai hyn oedd o feibion Gad , yn gapteiniaid y llu : yr un lleiaf oedd ar gant , a’r mwyaf ar fil . Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf , a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau , ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain , a thua’r gorllewin . A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd . A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt , ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt , Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo , bydd fy nghalon yn un â chwi : ond os i’m bradychu i’m gelynion , a minnau heb gamwedd yn fy nwylo , Duw ein tadau ni a edrycho , ac a geryddo . A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid , ac efe a ddywedodd , Eiddot ti , Dafydd , a chyda thi , mab Jesse , y byddwn ni ; heddwch , heddwch i ti , a hedd i’th gynorthwywyr ; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di . Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt , ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin . A rhai o Manasse a droes at Dafydd , pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel , ond ni chynorthwyasant hwynt : canys penaduriaid y Philistiaid , wrth gyngor , a’i gollyngasant ef ymaith , gan ddywedyd , Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni . Fel yr oedd efe yn myned i Siclag , trodd ato ef o Manasse , Adna , a Josabad , a Jediael , a Michael , a Josabad , ac Elihu , a Silthai , y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse . A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf : canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll , a chapteiniaid ar y llu . Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw , i’w gynorthwyo ef , hyd onid oedd efe yn llu mawr , megis llu Duw . A dyma rifedi y pennau , y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron , i droi brenhiniaeth Saul ato ef , yn ôl gair yr Arglwydd . O feibion Jwda , yn dwyn tarian a ffonwayw , chwe mil ac wyth cant , yn arfog i ryfel . O feibion Simeon , yn gedyrn nerthol i ryfel , saith mil a chant . O feibion Lefi , pedair mil a chwe chant . A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid , a chydag ef dair mil a saith cant . Sadoc hefyd , llanc grymus nerthol , ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid . Ac o feibion Benjamin brodyr Saul , tair mil : canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul . Ac o feibion Effraim , ugain mil ac wyth cant , yn rymus nerthol , yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau . Ac o hanner llwyth Manasse , tair mil ar bymtheg , y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau , i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin . Ac o feibion Issachar , y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur , eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant , a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt . O Sabulon , y rhai a aent allan i ryfel , yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel , deng mil a deugain , yn medru byddino , a hynny yn ffyddlon . Ac o Nafftali , mil o dywysogion , a chyda hwynt , â tharian a gwaywffon , ddwy fil ar bymtheg ar hugain . Ac o’r Daniaid , wyth mil ar hugain a chwe chant , yn medru rhyfela . Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin , yn medru rhyfela . Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o’r Reubeniaid , ac o’r Gadiaid , ac o hanner llwyth Manasse , y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel . Yr holl ryfelwyr hyn , yn medru byddino , a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron , i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel : a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin . A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau , yn bwyta ac yn yfed : canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy . A hefyd , y rhai oedd agos atynt hwy , hyd Issachar , a Sabulon , a Nafftali , a ddygasant fara ar asynnod , ac ar gamelod , ac ar fulod , ac ar ychen , yn fwyd , yn flawd , yn ffigys , ac yn resingau , ac yn win , ac yn olew , ac yn wartheg , ac yn ddefaid yn helaeth : oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel . A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd , ac â’r holl dywysogion . A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel , Os da gennych chwi , a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw , danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel , a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol , i’w cynnull hwynt atom ni . A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni ; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul . A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly : canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl . Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd , o Sihor yr Aifft , hyd y ffordd y delir i Hamath , i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim . A Dafydd a aeth i fyny , a holl Israel , i Baala , sef Ciriath‐jearim , yr hon sydd yn Jwda , i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw , yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid , ar yr hon y gelwir ei enw ef . A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab : ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen . A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw , â’u holl nerth , ac â chaniadau , ac â thelynau , ac â nablau , ac â thympanau , ac â symbalau , ac ag utgyrn . A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon , Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch , canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi . Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa , ac efe a’i lladdodd ef , oblegid iddo estyn ei law at yr arch ; ac yno y bu efe farw gerbron Duw . A bu ddrwg gan Dafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa ; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa , hyd y dydd hwn . A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi ? Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd , ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad . Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom , yn ei dŷ ef , dri mis . A’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom , a’r hyn oll ydoedd eiddo . A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd , a choed cedr , a seiri meini , a seiri prennau , i adeiladu iddo ef dŷ . A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel : canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel , oherwydd ei bobl Israel . A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem : a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg , a merched . A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem : Sammua , a Sobab , Nathan , a Solomon , Ac Ibhar , ac Elisua , ac Elpalet , A Noga , a Neffeg , a Jaffa , Ac Elisama , a Beeliada , ac Eliffalet . A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel , y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd : a chlybu Dafydd , ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt . A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymgynghorodd â Duw , gan ddywedyd , A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid ? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cerdda i fyny , canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di . Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim , a Dafydd a’u trawodd hwynt yno . A Dafydd a ddywedodd , Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i , fel rhwygo dyfroedd : am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim . A phan adawsant hwy eu duwiau , dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân . A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn . A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn ; a Duw a ddywedodd wrtho , Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt , tro ymaith oddi wrthynt , a thyred arnynt ar gyfer y morwydd . A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd , yna dos allan i ryfel : canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di , i daro llu y Philistiaid . A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo ; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser . Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd ; a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd . A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd , ac a baratôdd le i arch Duw , ac a osododd iddi babell . A Dafydd a ddywedodd , Nid yw i neb ddwyn arch Duw , ond i’r Lefiaid : canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn arch Duw , ac i weini iddo ef yn dragywydd . A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch yr Arglwydd i’w lle a baratoesai efe iddi hi . A Dafydd a gynullodd feibion Aaron , a’r Lefiaid . O feibion Cohath ; Uriel y pennaf , a’i frodyr , cant ac ugain . O feibion Merari ; Asaia y pennaf , a’i frodyr , dau cant ac ugain . O feibion Gersom ; Joel y pennaf , a’i frodyr , cant a deg ar hugain . O feibion Elisaffan ; Semaia y pennaf , a’i frodyr , dau cant . O feibion Hebron ; Eliel y pennaf , a’i frodyr , pedwar ugain . O feibion Ussiel ; Amminadab y pennaf , a’i frodyr , cant a deuddeg . A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid , ac am y Lefiaid , am Uriel , Asaia , a Joel , Semaia , ac Eliel , ac Amminadab , Ac a ddywedodd wrthynt , Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid : ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr , fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i’r lle a baratoais iddi hi . Oherwydd nas gwnaethoch o’r dechreuad , y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni , oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem . Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel . A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau , wrth drosolion , megis y gorchmynnodd Moses , yn ôl gair yr Arglwydd . A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid , ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd , nablau , a thelynau , a symbalau , yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd . Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel ; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia ; ac o feibion Merari eu brodyr , Ethan mab Cusaia . A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd , Sechareia , Ben , a Jaasiel , a Semiramoth , a Jehiel , ac Unni , Eliab , a Benaia , a Maaseia , a Matitheia , ac Eliffele , a Micneia , ac Obed‐edom , a Jehiel , y porthorion . Felly Heman , Asaff , ac Ethan , y cerddorion , oeddynt i leisio â symbalau pres . A Sechareia , ac Asiel , a Semiramoth , a Jehiel , ac Unni , ac Eliab , a Maaseia , a Benaia , a ganent nablau ar Alamoth . A Matitheia , ac Eliffele , a Micneia , ac Obed‐edom , a Jehiel , ac Asaseia , oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori . Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân : efe a ddysgai eraill am y gân , canys cyfarwydd ydoedd . A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch . A Sebaneia , a Jehosaffat , a Nathaneel , ac Amasai , a Sechareia , a Benaia , ac Elieser , yr offeiriaid , oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw : Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch . Felly Dafydd a henuriaid Israel , a thywysogion y miloedd , a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd . A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , hwy a offrymasant saith o fustych , a saith o hyrddod . A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main ; a’r holl Lefiaid , y rhai oedd yn dwyn yr arch , a’r cantorion , Chenaneia hefyd meistr y gân , a’r cerddorion . Ac am Dafydd yr oedd effod liain . A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd , â llais trwmped , ag utgyrn , ac â symbalau , yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau . A phan ydoedd arch cyfamod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd , Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr , ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae : a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon . Felly y dygasant hwy arch Duw i mewn , ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi : a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw . Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd , efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd . Ac efe a rannodd i bob un o Israel , yn ŵr ac yn wraig , dorth o fara , a dryll o gig , a chostrelaid o win . Ac efe a osododd gerbron arch yr Arglwydd weinidogion o’r Lefiaid , i gofio , ac i foliannu , ac i glodfori Arglwydd Dduw Israel . Asaff oedd bennaf , ac yn ail iddo ef Sechareia , Jeiel , a Semiramoth , a Jehiel , a Matitheia , ac Eliab , a Benaia , ac Obed‐edom : a Jeiel ag offer nablau , a thelynau ; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau . Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw . Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd , yn llaw Asaff a’i frodyr . Moliennwch yr Arglwydd , gelwch ar ei enw ef , hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd . Cenwch iddo , clodforwch ef , ymadroddwch am ei holl ryfeddodau . Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef ; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd . Ceiswch yr Arglwydd a’i nerth ef , ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol . Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe , ei ryfeddodau , a barnedigaethau ei enau ; Chwi had Israel ei was ef , chwi feibion Jacob ei etholedigion ef . Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni ; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear . Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod ; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau ; Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham , a’i lw i Isaac : Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob , ac yn gyfamod tragwyddol i Israel , Gan ddywedyd , I ti y rhoddaf dir Canaan , rhandir eich etifeddiaeth . Pan nad oeddech ond ychydig , ie , ychydig , a dieithriaid ynddi ; A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth , ac o un frenhiniaeth at bobl eraill ; Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu : ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy , gan ddywedyd , Na chyffyrddwch â’m heneiniog , ac na ddrygwch fy mhroffwydi . Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaear : mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef . Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd ; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd . Canys mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn : ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau . Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod ; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd . Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef : nerth a gorfoledd yn ei fangre ef . Moeswch i’r Arglwydd , chwi deuluoedd y bobloedd , moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : dygwch aberth , a deuwch ger ei fron ef ; ymgrymwch i’r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd . Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear : y byd hefyd a sicrheir , fel na syflo . Ymlawenyched y nefoedd , ac ymhyfryded y ddaear ; a dywedant ymhlith y cenhedloedd , Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu . Rhued y môr a’i gyflawnder ; llawenhaed y maes , a’r hyn oll y sydd ynddo . Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd , am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . A dywedwch , Achub ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , casgl ni hefyd , a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd , i foliannu dy enw sanctaidd di , ac i ymogoneddu yn dy foliant . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . A dywedodd yr holl bobl , Amen , gan foliannu yr Arglwydd . Ac efe a adawodd yno , o flaen arch cyfamod yr Arglwydd , Asaff a’i frodyr , i weini gerbron yr arch yn wastadol , gwaith dydd yn ei ddydd : Ac Obed‐edom a’u brodyr , wyth a thrigain ; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun , a Hosa , i fod yn borthorion : Sadoc yr offeiriad , a’i frodyr yr offeiriaid , o flaen tabernacl yr Arglwydd , yn yr uchelfa oedd yn Gibeon , I offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr , yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd , yr hon a orchmynnodd efe i Israel : A chyda hwynt Heman , a Jedwthwn , a’r etholedigion eraill , y rhai a hysbysasid wrth eu henwau , i foliannu yr Arglwydd , am fod ei drugaredd ef yn dragywydd : A chyda hwynt Heman , a Jedwthwn , yn lleisio ag utgyrn , ac â symbalau i’r cerddorion , ac offer cerdd Duw : a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth . A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun : a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau . A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ , Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd , Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd , ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau . Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd , Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon ; canys y mae Duw gyda thi . A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth Dafydd fy ngwas , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo . Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn , ond bûm o babell i babell , ac o dabernacl bwygilydd . Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel , a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel , i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl , gan ddywedyd , Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd ? Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Myfi a’th gymerais di o’r gorlan , oddi ar ôl y praidd , i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel . A bûm gyda thi , i ba le bynnag y rhodiaist , torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen , a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear . Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le , ac a’u plannaf , a hwy a drigant yn eu lle , ac ni symudir hwynt mwyach ; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio , megis yn y cyntaf , Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel ; darostyngaf hefyd dy holl elynion di , a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ . A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau , y cyfodaf dy had ar dy ôl di , yr hwn a fydd o’th feibion di , a mi a sicrhaf ei deyrnas ef . Efe a adeilada i mi dŷ , a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth . Myfi a fyddaf iddo ef yn dad , ac yntau fydd i mi yn fab , a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef , megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di . Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ , ac yn fy nheyrnas byth ; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth . Yn ôl yr holl eiriau hyn , ac yn ôl yr holl weledigaeth hon , felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd . A daeth Dafydd y brenin , ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Pwy ydwyf fi , O Arglwydd Dduw , a pheth yw fy nhŷ , pan ddygit fi hyd yma ? Eto bychan yw hyn yn dy olwg di , O Dduw ; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser , a thi a edrychaist arnaf , O Arglwydd Dduw , fel ar gyflwr dyn uchelradd . Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was ? canys ti a adwaenost dy was . O Arglwydd , er mwyn dy was , ac yn ôl dy feddwl dy hun , y gwnaethost yr holl fawredd hyn , i ddangos pob mawredd . O Arglwydd , nid oes neb fel tydi , ac nid oes Duw ond tydi , yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau . A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel , yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun , i osod i ti enw mawr ac ofnadwy , gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl , y rhai a waredaist ti o’r Aifft ? Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth : a thi , Arglwydd , a aethost yn Dduw iddynt hwy . Am hynny yr awr hon , Arglwydd , y gair a leferaist am dy was , ac am ei dŷ ef , poed sicr fyddo byth : gwna fel y lleferaist . A phoed sicr fyddo , fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd , gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , sydd Dduw i Israel : a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di . Canys ti , O fy Nuw , a ddywedaist i’th was , yr adeiladit ti dŷ iddo ef : am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di . Ac yr awr hon , Arglwydd , ti ydwyt Dduw , a thi a leferaist am dŷ dy was , y daioni hwn ; Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was , i fod ger dy fron yn dragywydd : am i ti , O Arglwydd , ei fendigo , bendigedig fydd yn dragywydd . A darfu wedi hyn , i Dafydd daro’r Philistiaid , a’u darostwng hwynt , a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid . Hefyd efe a drawodd Moab ; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd , yn dwyn treth . Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath , pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates . A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau , a saith mil o wŷr meirch , ac ugain mil o wŷr traed ; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau , ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd . A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba , Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr . A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus : a bu y Syriaid yn weision i Dafydd , yn dwyn treth . A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth . A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser , ac a’u dug hwynt i Jerwsalem . Dug Dafydd hefyd o Tibhath , ac o Chun , dinasoedd Hadareser , lawer iawn o bres , â’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres , a’r colofnau , a’r llestri pres . A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba ; Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab , a phob llestri aur , ac arian a phres , gydag ef , i ymofyn am ei iechyd ef , ac i’w fendithio ef , am iddo ryfela yn erbyn Hadareser , a’i daro ef : canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou . Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd , gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd , sef oddi ar Edom , ac oddi ar Moab , ac oddi ar feibion Ammon , ac oddi ar y Philistiaid , ac oddi ar Amalec . Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom , yn nyffryn yr halen , dair mil ar bymtheg . Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom ; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe . A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel , ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl . A Joab mab Serfia oedd ar y llu ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; A Sadoc mab Ahitub , ac Abimelech mab Abiathar , oedd offeiriaid ; a Safsa yn ysgrifennydd ; Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid ; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin . Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw ; a’i fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Dafydd a ddywedodd , Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas , oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd . Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad . A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon , at Hanun , i’w gysuro ef . A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun , Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di , am iddo anfon cysurwyr atat ti ? onid i chwilio , ac i ddifetha , ac i droedio y wlad , y daeth ei weision ef atat ti ? Yna y cymerth Hanun weision Dafydd , ac a’u heilliodd hwynt , ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner , wrth eu cluniau , ac a’u gyrrodd hwynt ymaith . A hwy a aethant , ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr . Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt : canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr . A dywedodd y brenin , Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau ; yna dychwelwch . Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd ; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian , i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia , ac o Syria‐maacha ac o Soba . A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau , a brenin Maacha a’i bobl ; y rhai a ddaethant , ac a wersyllasant o flaen Medeba . A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd , ac a ddaethant i ryfel . A phan glybu Dafydd , efe a anfonodd Joab , a holl lu y cedyrn . A meibion Ammon a aethant allan , ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas : a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilltu yn y maes . A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl , efe a etholodd o holl etholedigion Israel , ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid . A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd ; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon . Ac efe a ddywedodd , Os trech fydd y Syriaid na mi , yna bydd di yn gynhorthwy i mi : ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi , yna mi a’th gynorthwyaf dithau . Bydd rymus , ac ymwrolwn dros ein pobl , a thros ddinasoedd ein Duw ; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef . Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef , yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel ; a hwy a ffoesant o’i flaen ef . A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid , hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef , ac a aethant i’r ddinas ; a Joab a ddaeth i Jerwsalem . A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel , hwy a anfonasant genhadau , ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon ; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt . A mynegwyd i Dafydd ; ac efe a gasglodd holl Israel , ac a aeth dros yr Iorddonen , ac a ddaeth arnynt hwy , ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt . A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid , hwy a ryfelasant ag ef . Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel ; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau , a deugain mil o wŷr traed , ac a laddodd Soffach capten y llu . A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel , hwy a heddychasant â Dafydd , a gwasanaethasant ef : ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach . Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn , yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela , arwain o Joab gadernid y llu , ac anrheithio gwlad meibion Ammon , ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba : ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem : a Joab a drawodd Rabba , ac a’i dinistriodd hi . A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben , a chafodd hi o bwys talent o aur , ac ynddi feini gwerthfawr , a hi a roed am ben Dafydd : ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas . A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan , ac a’u torrodd hwynt â llifiau , ac ag ogau heyrn , ac â bwyeill : ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon . A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem . Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid : yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr ; felly y darostyngwyd hwynt . A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid , ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi , brawd Goleiath y Gethiad , a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd . Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath , ac yr oedd gŵr hir , a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech , sef pedwar ar hugain ; yntau hefyd a anesid i’r cawr . Ond pan ddifenwodd efe Israel , Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef . Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath , ac a laddwyd trwy law Dafydd , a thrwy law ei weision ef . A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel , ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel . A dywedodd Dafydd wrth Joab , ac wrth benaethiaid y bobl , Ewch , cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan ; a dygwch ataf fi , fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt . A dywedodd Joab , Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt : O fy arglwydd frenin , onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll ? paham y cais fy arglwydd hyn ? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel ? Ond gair y brenin a fu drech na Joab : a Joab a aeth allan , ac a dramwyodd trwy holl Israel , ac a ddaeth i Jerwsalem . A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd . A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf ; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf . Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt ; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin . A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw , ac efe a drawodd Israel . A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw , Pechais yn ddirfawr , oherwydd i mi wneuthur y peth hyn : ac yr awr hon , dilea , atolwg , anwiredd dy was , canys gwneuthum yn ynfyd iawn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad , gweledydd Dafydd , gan ddywedyd , Dos , a llefara wrth Dafydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di ; dewis i ti un ohonynt , a mi a’i gwnaf i ti . Yna Gad a ddaeth at Dafydd , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Cymer i ti . Naill ai tair blynedd o newyn ; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr , a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd ; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd , sef haint y nodau , yn y tir dri diwrnod , ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel . Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd . A Dafydd a ddywedodd wrth Gad , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi ; syrthiwyf , atolwg , yn llaw yr Arglwydd , canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn , ac na syrthiwyf yn llaw dyn . Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel : a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr . A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi : ac fel yr oedd yn ei dinistrio , yr Arglwydd a edrychodd , ac a edifarhaodd am y drwg , ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio , Digon , bellach , atal dy law . Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad . A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd , a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem . A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid , y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain , ar eu hwynebau . A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw , Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl ? a mi yw yr hwn a bechais , ac a wneuthum fawr ddrwg ; ond y defaid hyn , beth a wnaethant hwy ? O Arglwydd fy Nuw , bydded , atolwg , dy law arnaf fi , ac ar dŷ fy nhad , ac nid yn bla ar dy bobl . Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd , am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad . A Dafydd a aeth i fyny , yn ôl gair Gad , yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd . Yna y trodd Ornan , ac a ganfu yr angel , a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant ; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith . A Dafydd a ddaeth at Ornan ; ac edrychodd Ornan , ac a ganfu Dafydd , ac a aeth allan o’r llawr dyrnu , ac a ymgrymodd i Dafydd , â’i wyneb tua’r ddaear . A dywedodd Dafydd wrth Ornan , Moes i mi le y llawr dyrnu , fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd : dyro ef i mi am ei lawn werth ; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl . Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd , Cymer i ti , a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg . Wele , rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm , a’r offer dyrnu yn gynnud , a’r gwenith yn fwyd‐offrwm : hyn oll a roddaf . A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan , Nid felly , ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth : canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti , ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad . Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys . Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd , ac a offrymodd boethoffrymau , ac ebyrth hedd , ac a alwodd ar yr Arglwydd ; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm . A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel ; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn . Y pryd hwnnw , pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad , efe a aberthodd yno . Ond tabernacl yr Arglwydd , yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch , ac allor y poethoffrwm , oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon : Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw ; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd . A Dywedodd Dafydd , Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw , a dyma allor y poethoffrwm i Israel . Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel ; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd , i adeiladu tŷ Dduw . A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth , tuag at hoelion drysau y pyrth , ac i’r cysylltiadau , a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys ; Coed cedr hefyd allan o rif : canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd . A dywedodd Dafydd , Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner , a’r tŷ a adeiledir i’r Arglwydd , rhaid iddo fod mewn mawredd , mewn rhagoriaeth , mewn enw , ac mewn gogoniant , trwy yr holl wledydd : paratoaf yn awr tuag ato ef . Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth . Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab , ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel . Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon , Fy mab , yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw . Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Gwaed lawer a dywelltaist ti , a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti : nid adeiledi di dŷ i’m henw i , canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i . Wele , mab a enir i ti , efe a fydd ŵr llonydd , a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch : canys Solomon fydd ei enw ef , heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef . Efe a adeilada dŷ i’m henw , ac efe a fydd i mi yn fab , a minnau yn dad iddo yntau : sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth . Yn awr fy mab , yr Arglwydd fyddo gyda thi , a ffynna dithau , ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw , megis ag y llefarodd efe amdanat ti . Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb , a deall , a rhodded i ti orchmynion am Israel , fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw . Yna y ffynni , os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel . Ymgryfha , ac ymwrola ; nac ofna , ac nac arswyda . Ac wele , yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur , a mil o filoedd o dalentau arian ; ar bres hefyd , ac ar haearn , nid oes bwys ; canys y mae yn helaeth : coed hefyd a meini a baratoais i ; ychwanega dithau atynt hwy . Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith , sef cymynwyr , a seiri maen a phren , a phob rhai celfydd ym mhob gwaith . Ar aur , ar arian , ar bres , ac ar haearn , nid oes rifedi . Cyfod dithau , a gweithia , a’r Arglwydd a fydd gyda thi . A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab , gan ddywedyd , Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi ? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch ? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir ; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd , ac o flaen ei bobl ef . Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw ; cyfodwch hefyd , ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw , i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd , a sanctaidd lestri Duw , i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd . A phan oedd Dafydd yn hen , ac yn llawn o ddyddiau , efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel . Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid . A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain , ac uchod : a’u nifer hwy wrth eu pennau , bob yn ŵr , oedd onid dwy fil deugain . O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd ; ac yn swyddogion , ac yn farnwyr , chwe mil : A phedair mil yn borthorion , a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â’r offer a wnaethwn i , ebe Dafydd , i foliannu . A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi , sef Gerson , Cohath , a Merari . O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei . Meibion Laadan ; y pennaf Jehiel , a Setham , a Joel , tri . Meibion Simei ; Selomith , a Hasiel , a Haran , tri . Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan . Meibion Simei hefyd oedd , Jahath , Sina , a Jeus , a Bereia . Dyma bedwar mab Simei . A Jahath oedd bennaf , a Sisa yn ail : ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt ; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad . Meibion Cohath ; Amram , Ishar , Hebron , ac Ussiel , pedwar . Meibion Amram oedd , Aaron a Moses ; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf , efe a’i feibion byth , i arogldarthu gerbron yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef , ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd . A Moses gŵr Duw , ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi . Meibion Moses oedd , Gersom ac Elieser . O feibion Gersom ; Sebuel oedd y pennaf . A meibion Elieser oedd , Rehabia y cyntaf . Ac i Elieser nid oedd meibion eraill ; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr . O feibion Ishar ; Selomith y pennaf . O feibion Hebron ; Jereia y cyntaf , Amareia yr ail , Jahasiel y trydydd , a Jecameam y pedwerydd . O feibion Ussiel ; Micha y cyntaf , a Jeseia yr ail . Meibion Merari oedd , Mahli a Musi . Meibion Mahli ; Eleasar a Chis . A bu farw Eleasar , a meibion nid oedd iddo ef , ond merched ; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt . Meibion Musi ; Mahli , ac Eder a Jerimoth , tri . Dyma feibion Lefi , yn ôl tŷ eu tadau , pennau eu cenedl , wrth eu rhifedi , dan nifer eu henwau wrth eu pennau , y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd , o fab ugain mlwydd ac uchod . Canys dywedodd Dafydd , Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl , i aros yn Jerwsalem byth ; A hefyd i’r Lefiaid : ni ddygant mwyach y tabernacl , na dim o’i lestri , i’w wasanaeth ef . Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi , o fab ugain mlwydd ac uchod : A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd , yn y cynteddau , ac yn y celloedd , ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth , ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw ; Yn y bara gosod hefyd , ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm , ac yn y teisennau croyw , yn y radell hefyd , ac yn y badell ffrio , ac ym mhob mesur a meidroldeb : Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd , felly hefyd brynhawn : Ac i offrymu pob offrwm poeth i’r Arglwydd ar y Sabothau , ar y newyddloerau , ac ar y gwyliau gosodedig , wrth rifedi , yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd : Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod , a goruchwyliaeth y cysegr , a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr , yng ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron . Meibion Aaron oedd , Nadab , ac Abihu , Eleasar , ac Ithamar . A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad , ac nid oedd meibion iddynt : am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant . A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt , Sadoc o feibion Eleasar , ac Ahimelech o feibion Ithamar , yn ôl eu swyddau , yn eu gwasanaeth . A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar ; ac fel hyn y rhannwyd hwynt . Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg ; ac o feibion Ithamar , yn ôl tŷ eu tadau , wyth . Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau , y naill gyda’r llall ; canys tywysogion y cysegr , a thywysogion tŷ Dduw , oedd o feibion Eleasar , ac o feibion Ithamar . A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd , o lwyth Lefi , a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin , a’r tywysogion , a Sadoc yr offeiriad , ac Ahimelech mab Abiathar , a phencenedl yr offeiriaid , a’r Lefiaid ; un teulu a ddaliwyd i Eleasar , ac un arall a ddaliwyd i Ithamar . A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib , a’r ail i Jedaia , Y trydydd i Harim , y pedwerydd i Seorim , Y pumed i Malcheia , y chweched i Mijamin , Y seithfed i Haccos , yr wythfed i Abeia , Y nawfed i Jesua , y degfed i Sechaneia , Yr unfed ar ddeg i Eliasib , y deuddegfed i Jacim , Y trydydd ar ddeg i Huppa , y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab , Y pymthegfed i Bilga , yr unfed ar bymtheg i Immer , Y ddeufed ar bymtheg i Hesir , y deunawfed i Affses , Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia , yr ugeinfed i Jehesecel , Yr unfed ar hugain i Jachin , y ddeufed ar hugain i Gamul , Y trydydd ar hugain i Delaia , y pedwerydd ar hugain i Maaseia . Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth , i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod , dan law Aaron eu tad , fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef . A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn . O feibion Amram ; Subael : o feibion Subael ; Jehdeia . Am Rehabia ; Isia oedd ben ar feibion Rehabia . O’r Ishariaid ; Selomoth : o feibion Selomoth ; Jahath . A meibion Hebron oedd , Jereia y cyntaf , Amareia yr ail , Jahasiel y trydydd , a Jecameam y pedwerydd . O feibion Ussiel ; Micha : o feibion Micha ; Samir . Brawd Micha oedd Isia ; o feibion Isia ; Sechareia . Meibion Merari oedd , Mahli a Musi : meibion Jaasei ; Beno . Meibion Merari o Jaaseia ; Beno , a Soham , a Saccur , ac Ibri . O Mahli y daeth Eleasar , ac ni bu iddo ef feibion . Am Cis : mab Cis oedd Jerahmeel . A meibion Musi oedd , Mahli , ac Eder , a Jerimoth . Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau . A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron , gerbron Dafydd y brenin , a Sadoc , ac Ahimelech , a phennau‐cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid ; ie , y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf . A neilltuodd Dafydd , a thywysogion y llu , tuag at y gwasanaeth , o feibion Asaff , a Heman , a Jedwthwn , y rhai a broffwydent â thelynau , ac â nablau , ac â symbalau ; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd : O feibion Asaff ; Saccur , a Joseff , a Nethaneia , Asarela , meibion Asaff , dan law Asaff , yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin . A Jedwthwn : meibion Jedwthwn ; Gedaleia , a Seri , a Jesaia , a Hasabeia . Matitheia , chwech , dan law Jedwthwn eu tad , ar y delyn yn proffwydo , i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd . O Heman : meibion Heman ; Bucceia , Mataneia , Ussiel , Sebuel , a Jerimoth , Hananeia , Hanani , Eliatha , Gidalti , a Romamti‐ieser , Josbecasa , Malothi , Hothir , a Mahasioth : Y rhai hyn oll oedd feibion Heman , gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw , i ddyrchafu’r corn . Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion , a thair o ferched . Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd , â symbalau , a nablau , a thelynau , i wasanaeth tŷ Dduw ; yn ôl trefn y brenin i Asaff , a Jedwthwn , a Heman . A’u nifer hwynt , ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd , sef pob un cyfarwydd , oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth . A hwy a fwriasant goelbrennau , cylch yn erbyn cylch , bychan a mawr , athro a disgybl . A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff : yr ail i Gedaleia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd i Saccur ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd i Isri ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pumed i Nethaneia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y chweched i Bucceia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y seithfed i Jesarela ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr wythfed i Jesaia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y nawfed i Mataneia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y degfed i Simei ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar ddeg i Asareel ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y deuddegfed i Hasabeia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd ar ddeg i Subael ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pymthegfed i Jerimoth ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar bymtheg i Hananeia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y deunawfed i Hanani ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr ugeinfed i Eliatha ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar hugain i Hothir ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y ddeufed ar hugain i Gidalti ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd ar hugain i Mahasioth ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Am ddosbarthiad y porthorion : O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core , o feibion Asaff . A meibion Meselemia oedd , Sechareia y cyntaf‐anedig , Jediael yr ail , Sebadeia y trydydd , Jathniel y pedwerydd , Elam y pumed , Jehohanan y chweched , Elioenai y seithfed . A meibion Obed‐edom ; Semaia y cyntaf‐anedig , Jehosabad yr ail , Joa y trydydd , a Sachar y pedwerydd , a Nethaneel y pumed , Ammiel y chweched , Issachar y seithfed , Peulthai yr wythfed : canys Duw a’i bendithiodd ef . Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion , y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad : canys cedyrn o nerth oeddynt hwy . Meibion Semaia ; Othni , a Reffael , ac Obed , Elsabad ; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol , sef Elihu , a Semacheia . Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom : hwynt‐hwy , a’u meibion , a’u brodyr , yn wŷr nerthol mewn cryfder , tuag at y weinidogaeth , oedd drigain a dau o Obed‐edom . Ac i Meselemia , yn feibion ac yn frodyr , yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol . O Hosa hefyd , o feibion Merari , yr oedd meibion ; Simri y pennaf , ( er nad oedd efe gyntaf‐anedig , eto ei dad a’i gosododd ef yn ben ; ) Hilceia yr ail , Tebaleia y trydydd , Sechareia y pedwerydd : holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg . Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion , sef ymhlith y penaethiaid , ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a fwriasant goelbrennau , fychan a mawr , yn ôl tŷ eu tadau , am bob porth . A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain : a thros Sechareia ei fab , cynghorwr deallgar , y bwriasant hwy goelbrennau ; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd . I Obed‐edom tua’r deau , ac i’w feibion , y daeth tŷ Asuppim . I Suppim , a Hosa , tua’r gorllewin , gyda phorth Salecheth , yn ffordd y rhiw , yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall . Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid , tua’r gogledd pedwar beunydd , tua’r deau pedwar beunydd , a thuag Asuppim dau a dau . A Pharbar tua’r gorllewin , pedwar ar y ffordd , a dau yn Parbar . Dyma ddosbarthiadau y porthorion , o feibion Core , ac o feibion Merari . Ac o’r Lefiaid , Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw , ac ar drysorau y pethau cysegredig . Am feibion Laadan : meibion y Gersoniad Laadan , pennau tylwyth Laadan y Gersoniad , oedd Jehieli . Meibion Jehieli ; Setham , a Joel ei frawd , oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd . O’r Amramiaid , a’r Ishariaid , o’r Hebroniaid , a’r Ussieliaid : A Sebuel mab Gersom , mab Moses , oedd olygwr ar y trysorau . A’i frodyr ef o Eleasar ; Rehabia ei fab ef , a Jesaia ei fab yntau , a Joram ei fab yntau , a Sichri ei fab yntau , a Selomith ei fab yntau . Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin , a’r tadau pennaf , a thywysogion y miloedd a’r cannoedd , a thywysogion y llu . O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd . A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd , a Saul mab Cis , ac Abner mab Ner , a Joab mab Serfia , a phwy bynnag a gysegrasai ddim , yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr . O’r Ishariaid , Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion , ac yn farnwyr , ar y gwaith oddi allan . O’r Hebroniaid , Hasabeia a’i frodyr , meibion nerthol , mil a saith gant , oedd mewn swydd yn Israel , o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin , yn holl waith yr Arglwydd , ac yng ngwasanaeth y brenin . O’r Hebroniaid , Jereia oedd ben o’r Hebroniaid , yn ôl cenedlaethau ei dadau : yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt , a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol , yn Jaser Gilead . A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl : a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , ym mhob gorchwyl Duw , a gorchwyl y brenin . Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif , yn bennau‐cenedl , ac yn dywysogion miloedd a channoedd , a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau , yn dyfod i mewn , ac yn myned allan , o fis i fis , trwy holl fisoedd y flwyddyn . Ar y dosbarthiad cyntaf , dros y mis cyntaf , yr oedd Jasobeam mab Sabdiel ; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain . O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf . Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad , ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain , ac oddi ar y deg ar hugain ; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef . Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab , a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog , Samhuth yr Israhiad ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad , o feibion Effraim ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad , o’r Sarhiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad , o’r Benjaminiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad , o’r Sarhiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad , o feibion Effraim ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad , o Othniel ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Ac ar lwythau Israel : ar y Reubeniaid , Elieser mab Sichri oedd dywysog : ar y Simeoniaid , Seffatia mab Maacha : Ar y Lefiaid , Hasabeia mab Cemuel : ar yr Aaroniaid , Sadoc : Ar Jwda , Elihu , un o frodyr Dafydd : ar Issachar , Omri mab Michael : Ar Sabulon , Ismaia mab Obadeia : ar Nafftali , Jerimoth mab Asriel : Ar feibion Effraim , Hosea mab Asaseia : ar hanner llwyth Manasse , Joel mab Pedaia : Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead , Ido mab Sechareia : ar Benjamin , Jaasiel mab Abner : Ar Dan , Asarel mab Jeroham . Dyma dywysogion llwythau Israel . Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod ; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd . Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif , ond ni orffennodd efe , am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel , ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd . Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel : ac ar y trysordai yn y meysydd , yn y dinasoedd , yn y pentrefi hefyd , ac yn y tyrau , yr oedd Jehonathan mab Usseia . Ac ar weithwyr y maes , y rhai oedd yn llafurio y ddaear , yr oedd Esri mab Celub . Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad : ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin , yr oedd Sabdi y Siffmiad . Ac ar yr olewydd , a’r sycamorwydd , y rhai oedd yn y dyffrynnoedd , yr oedd Baalhanan y Gederiad : ac ar y selerau olew yr oedd Joas . Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron , yr oedd Sitrai y Saroniad : ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd , yr oedd Saffat mab Adlai . Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad : ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad . Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad . Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd . A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr , gŵr doeth , ac ysgrifennydd : Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin . Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin ; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin . Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia , ac Abiathar : a thywysog llu y brenin oedd Joab . A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel , tywysogion y llwythau , a thywysogion y dosbarthiadau , y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin , tywysogion y miloedd hefyd , a thywysogion y cannoedd , a thywysogion holl olud a meddiant y brenin , a’i feibion , gyda’r ystafellyddion , a’r cedyrn , a phob un grymusol o nerth , i Jerwsalem . A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed , ac a ddywedodd , Gwrandewch arnaf fi , fy mrodyr , a’m pobl ; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd , ac i ystôl draed ein Duw ni , a mi a baratoais tuag at adeiladu . Ond Duw a ddywedodd wrthyf , Nid adeiledi di dŷ i’m henw i , canys rhyfelwr fuost , a gwaed a dywelltaist . Er hynny Arglwydd Dduw Israel a’m hetholodd i o holl dŷ fy nhad , i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd : canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr ; ac o dŷ Jwda , tŷ fy nhad i ; ac o feibion fy nhad , efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel : Ac o’m holl feibion innau , ( canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi , ) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab , i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd , ar Israel . Dywedodd hefyd wrthyf , Solomon dy fab , efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i ; canys dewisais ef yn fab i mi , a minnau a fyddaf iddo ef yn dad . A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd , os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a’m barnedigaethau i , megis y dydd hwn . Yn awr gan hynny , yng ngŵydd holl Israel , cynulleidfa yr Arglwydd , a lle y clywo ein Duw ni , cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw , fel y meddiannoch y wlad dda hon , ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd . A thithau Solomon fy mab , adnebydd Dduw dy dad , a gwasanaetha ef â chalon berffaith , ac â meddwl ewyllysgar : canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau , ac yn deall pob dychymyg meddyliau . O cheisi ef , ti a’i cei ; ond os gwrthodi ef , efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd . Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr : ymgryfha , a gwna . Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth , a’i dai , a’i selerau , a’i gellau , a’i ystafelloedd oddi fewn , a thŷ y drugareddfa , A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd , am gynteddau tŷ yr Arglwydd , ac am yr holl ystafelloedd o amgylch , am drysorau tŷ Dduw , ac am drysorau y pethau cysegredig : Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd , ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Efe a roddes o aur wrth bwys , i’r pethau o aur , tuag at holl lestri pob gwasanaeth , ac arian i’r holl lestri arian , mewn pwys , tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth : Sef pwys y canwyllbrenni aur , a’u lampau aur , wrth bwys i bob canhwyllbren ac i’w lampau : ac i’r canwyllbrennau arian wrth bwys , i’r canhwyllbren ac i’w lampau , yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren . Aur hefyd dan bwys , tuag at fyrddau y bara gosod , i bob bwrdd ; ac arian i’r byrddau arian ; Ac aur pur i’r cigweiniau , ac i’r ffiolau , ac i’r dysglau , ac i’r gorflychau aur , wrth bwys pob gorflwch : ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch ; Ac i allor yr arogl‐darth , aur pur wrth bwys ; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu , ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd . Hyn oll , ebe Dafydd , a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen , trwy ei law ef arnaf fi , sef holl waith y portreiad hwn . A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab , Ymgryfha , ac ymegnïa , a gweithia ; nac ofna , ac nac arswyda : canys yr Arglwydd Dduw , fy Nuw i , fydd gyda thi ; nid ymedy efe â thi , ac ni’th wrthyd , nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , i holl wasanaeth tŷ Dduw , a chyda thi y maent yn yr holl waith , a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth ; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl . Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa , Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon , ac y mae efe yn ieuanc , ac yn dyner , a’r gwaith sydd fawr ; canys nid i ddyn y mae y llys , ond i’r Arglwydd Dduw . Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw , aur i’r gwaith aur , ac arian i’r arian , a phres i’r pres , a haearn i’r haearn , a choed i’r gwaith coed ; meini onics , a meini gosod , meini carbunculus , ac o amryw liw , a phob maen gwerthfawr , a meini marmor yn aml . Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw , y mae gennyf o’m heiddo fy hun , aur ac arian , yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy Nuw ; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd : Tair mil o dalentau aur , o aur Offir ; a saith mil o dalentau arian puredig , i oreuro parwydydd y tai : Yr aur i’r gwaith aur , a’r arian i’r arian ; a thuag at yr holl waith , trwy law y rhai celfydd . Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r Arglwydd ? Yna tywysogion y teuluoedd , a thywysogion llwythau Israel , a thywysogion y miloedd a’r cannoedd , a swyddogion gwaith y brenin , a offrymasant yn ewyllysgar , Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw , bum mil o dalentau aur , a deng mil o sylltau , a deng mil o dalentau arian , a deunaw mil o dalentau pres , a chan mil o dalentau haearn . A chyda’r hwn y ceid meini , hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd , trwy law Jehiel y Gersoniad . A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd ; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r Arglwydd : a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr . Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa , a dywedodd Dafydd , Bendigedig wyt ti , Arglwydd Dduw Israel , ein tad ni , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . I ti , Arglwydd , y mae mawredd , a gallu , a gogoniant , a goruchafiaeth , a harddwch : canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti ; y deyrnas sydd eiddot ti , Arglwydd , yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth . Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti , a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth , ac yn dy law di y mae nerth a chadernid ; yn dy law di hefyd y mae mawrhau , a nerthu pob dim . Ac yn awr , ein Duw ni , yr ydym ni yn dy foliannu , ac yn clodfori dy enw gogoneddus . Eithr pwy ydwyf fi , a phwy yw fy mhobl i , fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn ? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth , ac o’th law dy hun y rhoesom i ti . Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di , ac alltudion fel ein holl dadau : fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear , ac nid oes ymaros . O Arglwydd ein Duw , yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd , o’th law di y mae , ac eiddot ti ydyw oll . Gwn hefyd , O fy Nuw , mai ti sydd yn profi y galon , ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder . Myfi yn uniondeb fy nghalon , o wirfodd a offrymais hyn oll ; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti , a hynny mewn llawenydd . Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , ein tadau , cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl ; a pharatoa eu calon hwynt atat ti . A dyro i Solomon fy mab galon berffaith , i gadw dy orchmynion , dy dystiolaethau , a’th ddeddfau , ac i’w gwneuthur hwynt oll , ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo . Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa , Bendithiwch , atolwg , yr Arglwydd eich Duw . A’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau , a blygasant eu pennau , ac a ymgrymasant i’r Arglwydd , ac i’r brenin . Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd , a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i’r Arglwydd , fil o fustych , mil o hyrddod , a mil o ŵyn , a’u diod‐offrymau , ac ebyrth yn lluosog , dros holl Israel : Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr . A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith ; ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor , a Sadoc yn offeiriad . Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin , yn lle Dafydd ei dad , ac a lwyddodd ; a holl Israel a wrandawsant arno . Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn , a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd , a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin . A’r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel , ac a roddes iddo ogoniant brenhinol , math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel . Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel . A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd : saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron , a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a fu farw mewn oedran teg , yn gyflawn o ddyddiau , cyfoeth , ac anrhydedd : a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd , wele , y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd , ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd , ac yng ngeiriau Gad y gweledydd , Gyda’i holl frenhiniaeth ef , a’i gadernid , a’r amserau a aethant drosto ef , a thros Israel , a thros holl deyrnasoedd y gwledydd . A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas , a’r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef , ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr . A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel , wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd , ac wrth y barnwyr , ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel , sef y pennau-cenedl . Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon : canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw , yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch . Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim , i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi : canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem . Hefyd , yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri , mab Hur , oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd : a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi . A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres , gerbron yr Arglwydd , yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod , a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi . Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon , ac y dywedodd wrtho ef , Gofyn yr hyn a roddaf i ti . A dywedodd Solomon wrth Dduw , Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd , ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef . Yn awr , O Arglwydd Dduw , sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd ; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear . Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth , fel yr elwyf allan , ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn : canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn ? A dywedodd Duw wrth Solomon , Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di , ac na ofynnaist na chyfoeth , na golud , na gogoniant , nac einioes dy elynion , ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith ; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb , a gwybodaeth , fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt : Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti , cyfoeth hefyd , a golud , a gogoniant , a roddaf i ti , y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di , ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di . A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon , i Jerwsalem , oddi gerbron pabell y cyfarfod , ac a deyrnasodd ar Israel . A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion ; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch , ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau , ac yn Jerwsalem gyda’r brenin . A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig , a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra , y rhai sydd yn tyfu yn y doldir . A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft , ac edafedd llin : marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris . Canys deuent i fyny , a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian ; a march am gant a hanner ; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid , ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt . A SOLOMON a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd , a brenhindy iddo ei hun . A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr , a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd , ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant . A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus , gan ddywedyd , Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad , ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo , felly gwna â minnau . Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw , i’w gysegru iddo , ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef , ac i’r gwastadol osodiad bara , a’r poethoffrymau bore a hwyr , ar y Sabothau , ac ar y newyddloerau , ac ar osodedig wyliau yr Arglwydd ein Duw ni . Hyd byth y mae hyn ar Israel . A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr : canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau . A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ , gan na all y nefoedd , ie , nefoedd y nefoedd ei amgyffred ? a phwy ydwyf fi , fel yr adeiladwn iddo ef dŷ , ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef ? Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , ac mewn haearn , ac mewn porffor , ac ysgarlad , a glas , ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem , y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd . Anfon hefyd i mi goed cedr , a ffynidwydd , ac algumimwydd , o Libanus : canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus : ac wele , fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau ; A hynny i ddarparu i mi lawer o goed : canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol . Ac wele , i’th weision , i’r seiri a naddant y coed , y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro , ac ugain mil o haidd , ac ugain mil bath o win , ac ugain mil bath o olew . A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen , ac a’i hanfonodd at Solomon , O gariad yr Arglwydd ar ei bobl , y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy . Dywedodd Hiram hefyd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a wnaeth nef a daear , yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth , gwybodus o synnwyr a deall , i adeiladu tŷ i’r Arglwydd , a brenhindy iddo ei hun . Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd , cywraint , a deallus , o’r eiddo fy nhad Hiram : Mab gwraig o ferched Dan , a’i dad yn ŵr o Tyrus , yn medru gweithio mewn aur , ac mewn arian , mewn pres , mewn haearn , mewn cerrig , ac mewn coed , mewn porffor , ac mewn glas , ac mewn lliain main , ac mewn ysgarlad ; ac i gerfio pob cerfiad , ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef , gyda’th rai cywraint di , a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad . Ac yn awr , y gwenith , a’r haidd , yr olew , a’r gwin , y rhai a ddywedodd fy arglwydd , anfoned hwynt i’w weision : A ni a gymynwn goed o Libanus , yn ôl dy holl raid , ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa : dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem . A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel , wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt : a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant . Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr , a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd , a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith . A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia , lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef , yn y lle a ddarparasai Dafydd , yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad . Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis , yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad . A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw . Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd ; a’r lled yn ugain cufydd . A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ , yn ugain cufydd , a’i uchder yn chwech ugain cufydd ; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur . A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd , y rhai a wisgodd efe ag aur dilin , ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef . Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd ; a’r aur oedd aur Parfaim . Ie , efe a wisgodd y tŷ , y trawstiau , y rhiniogau , a’i barwydydd , a’i ddorau , ag aur , ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd . Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf ; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ , yn ugain cufydd , a’i led yn ugain cufydd : ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da , sef â chwe chan talent . Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur ; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur . Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd : y naill adain o bum cufydd , yn cyrhaeddyd pared y tŷ ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall . Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd , yn cyrhaeddyd pared y tŷ ; a’r adain arall o bum cufydd , ynghyd ag adain y ceriwb arall . Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd : ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed , a’u hwynebau tuag i mewn . Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny . Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ , yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd , a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd . Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell , ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau ; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau , ac a’u rhoddodd ar y cadwynau . A chyfododd y colofnau o flaen y deml , un o’r tu deau , ac un o’r tu aswy ; ac a alwodd enw y ddeau , Jachin ; ac enw yr aswy , Boas . Ac efe a wnaeth allor bres , o ugain cufydd ei hyd , ac ugain cufydd ei lled , a deg cufydd ei huchder . Gwnaeth hefyd fôr tawdd , yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl , yn grwn o amgylch , ac yn bum cufydd ei uchder , a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch . A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch , mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch : dwy res o ychen oedd wedi eu toddi , pan doddwyd yntau . Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen ; tri yn edrych tua’r gogledd , a thri yn edrych tua’r gorllewin , a thri yn edrych tua’r deau , a thri yn edrych tua’r dwyrain : a’r môr arnynt oddi arnodd , a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn . A’i dewder oedd ddyrnfedd , a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan , â blodau lili : a thair mil o bathau a dderbyniai , ac a ddaliai . Gwnaeth hefyd ddeg o noeau , ac efe a roddodd bump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy , i ymolchi ynddynt : trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm ; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo . Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad , ac a’u gosododd yn y deml , pump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy . Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau , ac a’u gosododd yn y deml , pump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy : ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur . Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid , a’r cyntedd mawr , a dorau i’r cynteddoedd ; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres . Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau , tua’r dwyrain , ar gyfer y deau . Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau : a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw : Y ddwy golofn , a’r cnapiau , a’r coronau ar ben y ddwy golofn , a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog , y rhai oedd ar ben y colofnau : A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth ; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau . Ac efe a wnaeth ystolion , ac a wnaeth noeau ar yr ystolion ; Un môr , a deuddeg o ychen dano : Y crochanau hefyd , a’r rhawiau , a’r cigweiniau , a’u holl lestri hwynt , a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon , yn nhŷ yr Arglwydd , o bres gloyw . Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt , mewn cleidir , rhwng Succoth a Seredatha . Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn , yn lluosog iawn ; canys anfeidrol oedd bwys y pres . A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw , a’r allor aur , a’r byrddau oedd â’r bara gosod arnynt , A’r canwyllbrennau , a’u lampau , i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell , o aur pur ; Y blodau hefyd , a’r lampau , a’r gefeiliau , oedd aur , a hwnnw yn aur perffaith . Y saltringau hefyd , a’r cawgiau , a’r llwyau , a’r thuserau , oedd aur pur : a drws y tŷ , a’i ddorau , o du mewn y cysegr sancteiddiolaf , a dorau tŷ y deml , oedd aur . Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd ; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad ; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw , yr arian , a’r aur , a’r holl lestri . Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel , a holl bennau y llwythau , pennau-cenedl meibion Israel , i Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd , honno yw Seion . Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis . A holl henuriaid Israel a ddaethant , a’r Lefiaid a godasant yr arch . A hwy a ddygasant i fyny yr arch , a phabell y cyfarfod , a holl lestri y cysegr , y rhai oedd yn y babell , yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny . Hefyd y brenin Solomon , a holl gynulleidfa Israel , y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch , a aberthasant o ddefaid , a gwartheg , fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd . A’r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle , i gafell y tŷ , i’r cysegr sancteiddiolaf , hyd dan adenydd y ceriwbiaid . A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch : a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion , oddi arnodd . A thynasant allan y trosolion , fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell , ac ni welid hwynt oddi allan . Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn . Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb , lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel , pan ddaethant hwy allan o’r Aifft . A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr ; canys yr holl offeiriaid , y rhai a gafwyd , a ymsancteiddiasent , heb gadw dosbarthiad : Felly y Lefiaid , y rhai oedd gantorion , hwynt-hwy oll o Asaff , o Heman , o Jeduthun , â’u meibion hwynt , ac â’u brodyr , wedi eu gwisgo â lliain main , â symbalau , ac â nablau a thelynau , yn sefyll o du dwyrain yr allor , a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn . Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion , megis un , i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd ; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn , ac mewn symbalau , ac mewn offer cerdd , ac wrth foliannu yr Arglwydd , gan ddywedyd , Canys da yw ; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef : yna y llanwyd y tŷ â chwmwl , sef tŷ yr Arglwydd ; Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl : oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw . Yna y llefarodd Solomon , Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch ; A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti , a lle i’th breswylfod yn dragywydd . A’r brenin a drodd ei wyneb , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel : a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad , ac a gwblhaodd â’i ddwylo , gan ddywedyd , Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft , ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ , i fod fy enw ynddo ; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel : Ond mi a etholais Jerwsalem , i fod fy enw yno ; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel . Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad , Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i , da y gwnaethost fod hynny yn dy galon : Er hynny nid adeiledi di y tŷ ; ond dy fab di , yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau , efe a adeilada y tŷ i’m henw i . Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe : canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad , ac a eisteddais ar orseddfa Israel , fel y llefarodd yr Arglwydd , ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . Ac yno y gosodais yr arch ; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd , yr hwn a amododd efe â meibion Israel . A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd , yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo : Canys Solomon a wnaethai bulpud pres , ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd , yn bum cufydd ei hyd , a phum cufydd ei led , a thri chufydd ei uchder ; ac a safodd arno , ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd : Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd , nac ar y ddaear ; yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision , sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon : Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho ; fel y lleferaist â’th enau , felly y cwblheaist â’th law , megis y mae y dydd hwn . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw Israel , cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel ; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd , i rodio yn fy nghyfraith i , fel y rhodiaist ti ger fy mron i . Yn awr gan hynny , O Arglwydd Dduw Israel , poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd . Ai gwir yw , y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear ? Wele y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ni allant dy amgyffred ; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i ? Edrych gan hynny ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiad ef , O Arglwydd fy Nuw , i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron : Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos , tua’r lle am yr hwn y dywedaist , y gosodit dy enw yno ; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon . Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was , a’th bobl Israel , y rhai a weddïant yn y lle hwn : gwrando di hefyd o le dy breswylfod , sef o’r nefoedd ; a phan glywech , maddau . Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog , a gofyn ganddo raith , gan ei dyngu ef , a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd ; gwna hefyd , a barna dy weision ; gan dalu i’r drygionus , trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun ; a chan gyfiawnhau y cyfiawn , trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder . A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn , am iddynt bechu yn dy erbyn ; os dychwelant , a chyfaddef dy enw , a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , a maddau bechod dy bobl Israel , a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy , ac i’w tadau . Pan gaeer y nefoedd , fel na byddo glaw , oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn ; os gweddïant yn y lle hwn , a chyfaddef dy enw , a dychwelyd oddi wrth eu pechod , pan gystuddiech hwynt : Yna gwrando di o’r nefoedd , a maddau bechod dy weision , a’th bobl Israel , pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi ; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth . Os bydd newyn yn y tir , os bydd haint , deifiad , neu falltod , os bydd locustiaid neu lindys ; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad ; neu pa bla bynnag , neu glefyd bynnag a fyddo ; Pob gweddi , pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn , neu gan holl bobl Israel ; pan wypo pawb ei bla ei hun , a’i ddolur , ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , a maddau , a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd , yr hwn a adwaenost ei galon ef , ( canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion ; ) Fel y’th ofnont , gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear , yr hon a roddaist i’n tadau ni . Ac am y dieithrddyn hefyd , yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel , ond wedi dyfod o wlad bell , er mwyn dy enw mawr , a’th law gadarn , a’th fraich estynedig ; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat ; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di , ac y’th ofnont , fel y mae dy bobl Israel , ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i . Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt , os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad , a gwna farn iddynt . Os pechant i’th erbyn , ( canys nid oes dyn ni phecha , ) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt , a’u rhoddi o flaen eu gelynion , ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos ; Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi , a dychwelyd , ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed , gan ddywedyd , Pechasom , troseddasom , a gwnaethom yn annuwiol ; Os dychwelant atat â’u holl galon , ac â’u holl enaid , yng ngwlad eu caethiwed , lle y caethgludasant hwynt , a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau , a’r ddinas a ddetholaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau , a gwna farn iddynt , a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn . Yn awr , O fy Nuw , bydded , atolwg , dy lygaid yn agored , a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma . Ac yn awr cyfod , O Arglwydd Dduw , i’th orffwysfa , ti ac arch dy gadernid : dillader dy offeiriaid , O Arglwydd Dduw , â iachawdwriaeth , a llawenyched dy saint mewn daioni . O Arglwydd Dduw , na thro ymaith wyneb dy eneiniog : cofia drugareddau Dafydd dy was . Ac wedi gorffen o Solomon weddïo , tân a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth ; a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tŷ . Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd , oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd . A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn , a gogoniant yr Arglwydd ar y tŷ , hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant , ac a addolasant , ac a glodforasant yr Arglwydd , canys daionus yw efe ; oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd . Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr Arglwydd . A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen , a chwech ugain mil o ddefaid : felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ Dduw . A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth : a’r Lefiaid ag offer cerdd yr Arglwydd , y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr Arglwydd , oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef , pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy : a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt , a holl Israel oedd yn sefyll . A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd : canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau , a braster yr aberthau hedd ; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm , a’r bwyd-offrwm , a’r braster . A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod , a holl Israel gydag ef , cynulleidfa fawr iawn , o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft . Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa : canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod , a’r ŵyl saith niwrnod . Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau , yn hyfryd ac yn llawen eu calon , am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd , ac i Solomon , ac i Israel ei bobl . Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin : a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn ei dŷ ei hun , a wnaeth efe yn llwyddiannus . A’r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos , ac a ddywedodd wrtho , Gwrandewais dy weddi , a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth . Os caeaf fi y nefoedd , fel na byddo glaw , neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear , ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl ; Os fy mhobl , y rhai y gelwir fy enw arnynt , a ymostyngant , ac a weddïant , ac a geisiant fy wyneb , ac a droant o’u ffyrdd drygionus : yna y gwrandawaf o’r nefoedd , ac y maddeuaf iddynt eu pechodau , ac yr iachâf eu gwlad hwynt . Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored , a’m clustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir yn y fan hon . Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn , i fod fy enw yno hyd byth : fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol . A thithau , os rhodi ger fy mron i , fel y rhodiodd Dafydd dy dad , a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti , a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau : Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di , megis yr amodais â Dafydd dy dad , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel . Ond os dychwelwch , ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron , ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt hwy : Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt , a’r tŷ a sancteiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg , a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb , ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd . A’r tŷ yma , yr hwn sydd uchel , a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu : fel y dywedo , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon , ac i’r tŷ hwn ? Yna y dywedant , Am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft , ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt , a’u gwasanaethu hwynt : am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy . Ac ymhen yr ugain mlynedd , yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd , a’i dŷ ei hun , Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon , ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno . A Solomon a aeth i Hamath-soba , ac a’i gorchfygodd hi . Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch , a holl ddinasoedd y trysorau , y rhai a adeiladodd efe yn Hamath . Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf , a Beth-horon isaf , dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau , pyrth , a barrau ; Baalath hefyd , a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon , a holl ddinasoedd y cerbydau , a dinasoedd y marchogion , a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem , ac yn Libanus , ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef . Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid , y rhai nid oeddynt o Israel ; Ond o’u meibion hwynt , y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad , y rhai ni ddifethasai meibion Israel , Solomon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn . Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith : canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr , a thywysogion ei gapteiniaid ef , a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef . A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon , sef dau cant a deg a deugain , yn arglwyddiaethu ar y bobl . A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi : canys efe a ddywedodd , Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel , oherwydd sanctaidd yw , oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo . Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd , yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth ; I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd , yn ôl gorchymyn Moses , ar y Sabothau , ac ar y newyddloerau , ac ar y gwyliau arbennig , dair gwaith yn y flwyddyn ; sef ar ŵyl y bara croyw , ac ar ŵyl yr wythnosau , ac ar ŵyl y pebyll . Ac efe a osododd , yn ôl trefn Dafydd ei dad , ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth , a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth , i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid , fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd , a’r porthorion yn eu dosbarthiadau , wrth bob porth : canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw . Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid , am un peth , nac am y trysorau . A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd , a hyd oni orffennwyd ef . Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd . Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber , ac i Eloth , ar fin y môr , yng ngwlad Edom . A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau , a gweision cyfarwydd ar y môr ; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir , ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur , ac a’u dygasant i’r brenin Solomon . A phan glybu brenhines Seba glod Solomon , hi a ddaeth i Jerwsalem , i brofi Solomon â chwestiynau caled , â llu mawr iawn , ac â chamelod yn dwyn aroglau , ac aur lawer , a meini gwerthfawr : a hi a ddaeth at Solomon , ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon . A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion : ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi . A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon , a’r tŷ a adeiladasai efe , A bwyd ei fwrdd , ac eisteddiad ei weision , a threfn ei weinidogion , a’u dillad , a’i drulliadau ef , a’u gwisgoedd , a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd mwyach ysbryd ynddi . A hi a ddywedodd wrth y brenin , Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad , am dy weithredoedd di , ac am dy ddoethineb : Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt , nes i mi ddyfod , ac i’m llygaid weled . Ac wele , ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb : ychwanegaist at y clod a glywais i . Gwyn fyd dy wŷr di , a gwynfydedig yw dy weision hyn , y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron , ac yn clywed dy ddoethineb . Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th hoffodd di , i’th osod ar ei orseddfa ef , yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw : oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel , i’w sicrhau yn dragywydd ; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy , i wneuthur barn a chyfiawnder . A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur , a pheraroglau lawer iawn , a meini gwerthfawr : ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon . Gweision Hiram hefyd , a gweision Solomon , y rhai a ddygasant aur o Offir , a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr . A’r brenin a wnaeth o’r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd , ac i dŷ y brenin , a thelynau a nablau i’r cantorion : ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda . A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad , a’r hyn a ofynnodd hi , heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin . Felly hi a ddychwelodd , ac a aeth i’w gwlad , hi a’i gweision . A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn , oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur ; Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn : a holl frenhinoedd Arabia , a thywysogion y wlad , oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon . A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin : chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian . A thri chant o fwcledi o aur dilin : tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled . A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus . A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori , ac a’i gwisgodd ag aur pur . A chwech o risiau oedd i’r orseddfa , a throedle o aur , ynglŷn wrth yr orseddfa , a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle , a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau ; A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu . Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas . A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur , a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur : nid oedd yr un o arian ; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon . Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram : unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur , ac arian , ac ifori , ac epaod , a pheunod . A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb . A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon , i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef . A hwy a ddygasant bob un ei anrheg , llestri arian , a llestri aur , a gwisgoedd , arfau , a pheraroglau , meirch , a mulod , dogn bob blwyddyn . Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch ; ac efe a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau , a chyda’r brenin yn Jerwsalem . Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd , o’r afon hyd wlad y Philistiaid , a hyd derfyn yr Aifft . A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig , a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir , o amldra . Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft , ac o bob gwlad . A’r rhan arall o weithredoedd Solomon , cyntaf a diwethaf , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd , ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad , ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat ? A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd . A Solomon a hunodd gyda’i dadau , a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad ; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Rehoboam a aeth i Sichem ; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin . A phan glybu Jeroboam mab Nebat , ac yntau yn yr Aifft , lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin , Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft . Canys hwy a anfonasent , ac a alwasent amdano ef . A Jeroboam a holl Israel a ddaethant , ac a ymddiddanasant â Rehoboam , gan ddywedyd , Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom ; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad , ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni , a ni a’th wasanaethwn di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi . A’r bobl a aethant ymaith . A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw , gan ddywedyd , Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn ? A hwy a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Os byddi yn dda i’r bobl yma , a’u bodloni hwynt , ac os dywedi wrthynt eiriau teg , hwy a fyddant yn weision i ti byth . Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo ; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef , a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Beth yr ydych chwi yn ei gynghori , fel yr atebom y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyf , gan ddywedyd , Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni ? A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt , gan ddywedyd , Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom , ysgafnha dithau hi oddi arnom ni : fel hyn y dywedi wrthynt ; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad . Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom , minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau . Yna y daeth Jeroboam , a’r holl bobl , at Rehoboam y trydydd dydd , fel y llefarasai y brenin , gan ddywedyd , Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd . A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw : a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid ; Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc , gan ddywedyd , Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom , a minnau a chwanegaf arni hi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau . Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl : oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw , fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat . A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy , y bobl a atebasant y brenin , gan ddywedyd , Pa ran sydd i ni yn Dafydd ? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse : O Israel , aed pawb i’w pebyll , edrych yn awr ar dy dŷ dy hun , Dafydd . Felly holl Israel a aethant i’w pebyll . Ond meibion Israel , y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda , Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy . A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram , yr hwn oedd ar y dreth , a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw : ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd , i ffoi i Jerwsalem . Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn . A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem , efe a gasglodd o holl dŷ Jwda , ac o Benjamin , gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol , cymwys i ryfel , i ymladd ag Israel , ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam . Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw , gan ddywedyd , Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda , ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ewch i fyny , ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr ; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun : canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn . A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd , ac a ddychwelasant , heb fyned yn erbyn Jeroboam . A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem , ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda . Ac efe a adeiladodd Bethlehem , ac Etam , a Thecoa , A Bethsur , a Socho , ac Adulam , A Gath , a Maresa , a Siff , Ac Adoraim , a Lachis , ac Aseca , A Sora , ac Ajalon , a Hebron , y rhai oedd yn Jwda , ac yn Benjamin ; dinasoedd o gadernid . Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd , ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy , a chellau bwyd , ac olew , a gwin . Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau , a gwaywffyn , ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn , ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin . A’r offeiriaid a’r Lefiaid , y rhai oedd yn holl Israel , a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau . Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol , a’u meddiant , ac a ddaethant i Jwda , ac i Jerwsalem : canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r Arglwydd . Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd , ac i’r cythreuliaid , ac i’r lloi a wnaethai efe . Ac ar eu hôl hwynt , o holl lwythau Israel , y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel , a ddaethant i Jerwsalem , i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau . Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda , ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon , dros dair blynedd : canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd . A Rehoboam a gymerth Mahalath , merch Jerimoth mab Dafydd , yn wraig iddo , ac Abihail merch Eliab mab Jesse : A hi a ymddûg iddo ef feibion , sef Jeus , a Samareia , a Saham . Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom : a hi a ymddûg iddo ef Abeia , ac Attai , a Sisa , a Selomith . A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon : canys deunaw o wragedd a gymerth efe , a thrigain o ordderchadon ; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion , a thrigain o ferched . A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben , yn flaenor ar ei frodyr ; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin . Ac efe a fu gall , ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin , i bob dinas gadarn , ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth : ac efe a geisiodd liaws o wragedd . Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth , a’i chadarnhau , efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd , a holl Israel gydag ef . Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam , y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem , oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd , A mil a dau cant o gerbydau , a thrigeinmil o wŷr meirch ; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft , sef y Lubiaid , y Succiaid , a’r Ethiopiaid . Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn , y rhai oedd yn Jwda , ac a ddaeth hyd Jerwsalem . Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda , y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac , ac a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Chwi a’m gwrthodasoch i , am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac . Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant , Cyfiawn yw yr Arglwydd . A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng , daeth gair yr Arglwydd at Semaia , gan ddywedyd , Hwy a ymostyngasant ; am hynny ni ddifethaf hwynt , ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder ; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac . Eto byddant yn weision iddo ef , fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i , a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd . Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem , ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac a’u dug hwynt ymaith oll : dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon . A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres , ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard , y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin . A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd , gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy , ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard . A phan ymostyngodd efe , llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef , fel nas dinistriai ef yn hollol ; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda . Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem , ac a deyrnasodd : a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi , o holl lwythau Israel : ac enw ei fam oedd Naama , Ammones . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg , canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd . Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd , ac Ido y gweledydd , yn yr achau ? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol . A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda . Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Michaia , merch Uriel o Gibea . Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam . Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus , sef pedwar can mil o wŷr etholedig : a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig , grymus , nerthol . Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim , yr hwn sydd ym mynydd Effraim , ac a ddywedodd , O Jeroboam , a holl Israel , gwrandewch fi ; Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd , iddo ef ac i’w feibion , trwy gyfamod halen ? Eto Jeroboam mab Nebat , gwas Solomon mab Dafydd , a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd . Ac ofer ddynion , sef meibion y fall , a ymgasglasant ato ef , ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon , pan oedd Rehoboam yn fachgen , ac yn wan ei galon , ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt . Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd , yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd ; ac yr ydych yn dyrfa fawr , a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi . Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd , meibion Aaron , a’r Lefiaid ? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill ? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod , hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau . Ninnau , yr Arglwydd yw ein Duw ni , ac nis gwrthodasom ef ; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron , a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl . Ac y maent hwy yn llosgi i’r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr , ac arogl-darth peraidd ; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur , a’r canhwyllbren aur a’i lampau , i losgi bob prynhawn : canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw ; ond chwi a’i gwrthodasoch ef . Ac wele , Duw sydd ben gyda ni , a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi . O feibion Israel , nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau ; canys ni lwyddwch chwi . Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch , a dyfod o’u hôl hwynt : felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda , a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt . A Jwda a edrychodd yn ôl , ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl ; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd , a’r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn . A gwŷr Jwda a floeddiasant : a phan waeddodd gwŷr Jwda , Duw a drawodd Jeroboam , a holl Israel , a flaen Abeia a Jwda . A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda : a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt . Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr : a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig . Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw ; a meibion Jwda a orfuant , oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau . Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam , ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd , Bethel a’i phentrefi , a Jesana a’i phentrefi , ac Effraim a’i phentrefi . Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia : ond yr Arglwydd a’i trawodd ef , fel y bu efe farw . Ond Abeia a ymgryfhaodd , ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd , ac a genhedlodd ddau fab ar hugain , ac un ar bymtheg o ferched . A’r rhan arall o hanes Abeia , a’i ffyrdd ef , a’i eiriau , y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido . Felly Abeia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ninas Dafydd ; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd . Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw . Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr , a’r uchelfeydd , ac a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni : Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau , a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn . Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau : a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef . Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda , oherwydd bod y wlad yn cael llonydd , ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny ; oblegid yr Arglwydd a roddasai lonyddwch iddo . Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda , Adeiladwn y dinasoedd hyn , ac amgylchwn hwynt â mur , â thyrau , â drysau , ac â barrau , tra fyddo y wlad o’n blaen ni ; oherwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw , ni a’i ceisiasom , ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch . Felly hwy a adeiladasant , ac a lwyddasant . Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn , o Jwda tri chan mil , ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau , ac yn tynnu bwa : y rhai hyn oll oedd wŷr grymus . A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt , â llu o fil o filoedd , ac â thri chant o gerbydau ; ac a ddaeth hyd Maresa . Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef , a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa . Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw , ac a ddywedodd , O Arglwydd , nid yw ddim i ti gynorthwyo , pa un bynnag ai gyda llawer , ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder : cynorthwya di ni , O Arglwydd ein Duw ; canys pwyso yr ydym ni arnat ti , ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon : O Arglwydd , ein Duw ni ydwyt ti , na orfydded dyn i’th erbyn . Felly yr Arglwydd a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa , ac o flaen Jwda ; a’r Ethiopiaid a ffoesant . Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar : a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau ; canys drylliasid hwynt o flaen yr Arglwydd , ac o flaen ei lu ef ; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn . A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar ; canys yr oedd dychryn yr Arglwydd arnynt hwy : a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd ; canys anrhaith fawr oedd ynddynt . Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy , ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod , ac a ddychwelasant i Jerwsalem . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded . Ac efe a aeth allan o flaen Asa , ac a ddywedodd wrtho , O Asa , a holl Jwda , a Benjamin , gwrandewch fi ; Yr Arglwydd sydd gyda chwi , tra fyddoch gydag ef ; ac os ceisiwch ef , chwi a’i cewch ef : ond os gwrthodwch chwi ef , yntau a’ch gwrthyd chwithau . Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw , a heb offeiriad yn ddysgawdwr , a heb gyfraith . Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel , a’i geisio ef , efe a geid ganddynt . Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan , nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn : ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd . A chenedl a ddinistriwyd gan genedl , a dinas gan ddinas : oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd . Ymgryfhewch gan hynny , ac na laesed eich dwylo : canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi . A phan glybu Asa y geiriau hyn , a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd , efe a gryfhaodd , ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda , a Benjamin , ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim , ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd , yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd . Ac efe a gynullodd holl Jwda , a Benjamin , a’r dieithriaid gyda hwynt , o Effraim a Manasse , ac o Simeon : canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel , pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef . Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem , yn y trydydd mis , yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa . A hwy a aberthasant i’r Arglwydd y dwthwn hwnnw , o’r anrhaith a ddygasent , saith gant o eidionau , a saith mil o ddefaid . A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau , â’u holl galon , ac â’u holl enaid : A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel , fod ei roddi ef i farwolaeth , yn fychan ac yn fawr , yn ŵr ac yn wraig . A hwy a dyngasant i’r Arglwydd â llef uchel , ac â bloedd , ag utgyrn hefyd , ac â thrwmpedau . A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw ; canys â’u holl galon y tyngasent , ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef , a hwy a’i cawsant ef : a’r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch . A’r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines ; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn : ac Asa a dorrodd ei delw hi , ac a’i drylliodd , ac a’i llosgodd wrth afon Cidron . Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel : eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef . Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad , a’r hyn a gysegrasai efe ei hun , arian , ac aur , a llestri . Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa . Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa , y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda , ac a adeiladodd Rama , fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda . Yna Asa a ddug allan arian , ac aur , o drysorau tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria , yr hwn oedd yn trigo yn Damascus , gan ddywedyd , Cyfamod sydd rhyngof fi a thi , fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau : wele , anfonais atat arian , ac aur ; dos , tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel , fel y cilio efe oddi wrthyf fi . A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa , ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel , a hwy a drawsant Ijon , a Dan , ac Abel-maim , a holl drysor-ddinasoedd Nafftali . A phan glybu Baasa hynny , efe a beidiodd ag adeiladu Rama , ac a adawodd ei waith i sefyll . Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda , a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama , a’i choed , â’r rhai yr adeiladai Baasa ; ac a adeiladodd â hwynt Geba , a Mispa . Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda , ac a ddywedodd wrtho , Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria , ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw , am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di . Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr , â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn ? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd , efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di . Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear , i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef . Ynfyd y gwnaethost yn hyn ; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan . Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd , ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy ; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn . Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw . Ac wele , gweithredoedd Asa , y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf , wele , y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad , nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr ; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd , ond y meddygon . Ac Asa a hunodd gyda’i dadau , ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad . A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun , yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd , a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau , wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari ; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn . A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef , ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel . Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda , ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda , ac yn ninasoedd Effraim , y rhai a enillasai Asa ei dad ef . A’r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat , oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad , ac nad ymofynnodd â Baalim : Eithr Duw ei dad a geisiodd efe , ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd , ac nid yn ôl gweithredoedd Israel . Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef ; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat ; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth . Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd : ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda . Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad , efe a anfonodd at ei dywysogion , sef Benhail , ac Obadeia , a Sechareia , a Nethaneel , a Michaia , i ddysgu yn ninasoedd Jwda . A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid , Semaia , a Nethaneia , a Sebadeia , ac Asahel , a Semiramoth a Jehonathan , ac Adoneia , a Thobeia , a Thob Adoneia , y Lefiaid ; a chyda hwynt Elisama , a Jehoram , yr offeiriaid . A hwy a ddysgasant yn Jwda , a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd : felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda , ac y dysgasant y bobl . Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda , fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat . A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion , a theyrnged o arian : yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd , saith mil a saith gant o hyrddod , a saith mil a saith gant o fychod . Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo , ac yn cynyddu yn uchel ; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau , a dinasoedd trysorau . A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda ; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem . A dyma eu rhifedi hwynt , yn ôl tŷ eu tadau : O Jwda yn dywysogion miloedd , yr oedd Adna y pennaf , a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol . A cher ei law ef , Jehohanan y tywysog , a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil . A cherllaw iddo ef , Amaseia mab Sichri , yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r Arglwydd ; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol . Ac o Benjamin , yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol , a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau . A cherllaw iddo ef , Jehosabad , a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel . Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin , heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog , trwy holl Jwda . Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth ; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab . Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria . Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer , iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef , ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead . Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda , A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead ? Yntau a ddywedodd wrtho , Yr ydwyf fi fel tithau , a’m pobl i fel dy bobl dithau , a byddwn gyda thi yn y rhyfel . Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel , Ymgynghora , atolwg , heddiw â gair yr Arglwydd . Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr , ac a ddywedodd wrthynt , A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel , neu a beidiaf fi ? Dywedasant hwythau , Dos i fyny ; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin . Ond Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd eto mwyach , fel yr ymgynghorem ag ef ? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd : ond y mae yn gas gennyf fi ef : canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni , ond drygioni erioed : efe yw Michea mab Imla . A dywedodd Jehosaffat , Na ddyweded y brenin felly . A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion , ac a ddywedodd , Prysura Michea mab Imla . A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair , wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd , eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria ; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt . A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn , ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , A’r rhai hyn y corni di y Syriaid , nes i ti eu difa hwynt . A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn , gan ddywedyd , Dos i fyny i Ramoth-Gilead , a ffynna : canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r gennad a aethai i alw Michea , a lefarodd wrtho ef , gan ddywedyd , Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin : bydded gan hynny , atolwg , dy air dithau fel un o’r rhai hynny , a dywed y gorau . A Michea a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hyn a ddywedo fy Nuw , hynny a lefaraf fi . A phan ddaeth efe at y brenin , y brenin a ddywedodd wrtho , Michea , a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead , neu a beidiaf fi ? Dywedodd yntau , Ewch i fyny , a ffynnwch , a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di , na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw , yr Arglwydd ? Yna efe a ddywedodd , Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd , fel defaid ni byddai iddynt fugail . A dywedodd yr Arglwydd , Nid oes feistr arnynt hwy ; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd . ( A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Oni ddywedais i wrthyt , na phroffwydai efe ddaioni i mi , ond drygioni ? ) Yntau a ddywedodd , Gan hynny gwrando air yr Arglwydd : Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa , a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw , ac ar ei law aswy . A dywedodd yr Arglwydd , Pwy a dwylla Ahab brenin Israel , fel yr elo efe i fyny , ac y syrthio yn Ramoth-Gilead ? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn , ac arall gan ddywedyd fel hyn . Yna ysbryd a aeth allan , ac a safodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a’i twyllaf ef . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pa fodd ? Dywedodd yntau , Myfi a af allan , ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef . A dywedodd yr Arglwydd , Twylli , a gorchfygi : dos allan , a gwna felly . Ac yn awr wele , yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn ; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti . Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd , ac a drawodd Michea dan ei gern , ac a ddywedodd , Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi ? A Michea a ddywedodd , Wele , ti a gei weled y dwthwn hwnnw , pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio . A brenin Israel a ddywedodd , Cymerwch Michea , a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas , ac at Joas mab y brenin ; A dywedwch , Fel hyn y dywedodd y brenin , Rhowch hwn yn y carchardy , a bwydwch ef â bara cystudd , ac â dwfr blinder , nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch . Yna y dywedodd Michea , Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch , ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi . Efe a ddywedodd hefyd , Gwrandewch hyn , yr holl bobl . Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Mi a newidiaf fy nillad , ac a af i’r rhyfel ; ond gwisg di dy ddillad . Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad , a hwy a aethant i’r rhyfel . A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef , gan ddywedyd , Nac ymleddwch â bychan nac â mawr , ond â brenin Israel yn unig . A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat , hwy a ddywedasant , Brenin Israel yw efe . A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef : ond Jehosaffat a waeddodd , a’r Arglwydd a’i cynorthwyodd ef , a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef . A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe , hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef . A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan , ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig : am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr , Tro dy law , a dwg fi allan o’r gad ; canys fe’m clwyfwyd i . A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw ; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr : ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul . A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch . A Jehu mab Hanani y gweledydd , a aeth o’i flaen ef , ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat , Ai cynorthwyo yr annuwiol , a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd , a wneit ti ? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti . Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti ; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad , ac a baratoaist dy galon i geisio Duw . A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem : ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim , ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau . Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad , trwy holl ddinasoedd caerog Jwda , o ddinas bwygilydd ; Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr , Edrychwch beth a wneloch : canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu , ond dros yr Arglwydd ; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn . Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi ; gwyliwch a gwnewch hynny : oherwydd nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw , na derbyn wyneb , na chymryd gwobr . A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid , ac o’r offeiriaid , ac o bennau tadau Israel , i drin barnedigaethau yr Arglwydd , ac amrafaelion , pan ddychwelent i Jerwsalem . Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd , mewn ffyddlondeb , ac â chalon berffaith . A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr , y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd , rhwng gwaed a gwaed , rhwng cyfraith a gorchymyn , deddfau a barnedigaethau , rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd , a bod digofaint arnoch chwi , ac ar eich brodyr : felly gwnewch ac na throseddwch . Ac wele , Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd ; a Sebadeia mab Ismael , blaenor tŷ Jwda , ym mhob achos i’r brenin ; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi . Ymwrolwch , a gwnewch hynny , a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus . Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant , a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid , yn erbyn Jehosaffat , i ryfel . Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat , gan ddywedyd , Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr , o Syria ; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar , honno yw En-gedi . A Jehosaffat a ofnodd , ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd ; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda . A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd : canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd . A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem , yn nhŷ yr Arglwydd , o flaen y cyntedd newydd , Ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw ein tadau , onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd , ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd ; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid , fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di ? Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel , ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd ? A thrigasant ynddi , ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw , gan ddywedyd , Pan ddêl niwed arnom ni , sef cleddyf , barnedigaeth , neu haint y nodau , neu newyn ; os safwn o flaen y tŷ hwn , a cher dy fron di , ( canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn , ) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra , ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni . Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab , a thrigolion mynydd Seir , y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt , pan ddaethant o wlad yr Aifft ; ond hwy a droesant oddi wrthynt , ac ni ddifethasant hwynt : Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni , gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di , yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu . O ein Duw ni , oni ferni di hwynt ? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn ; ac ni wyddom ni beth a wnawn : ond arnat ti y mae ein llygaid . A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd , â’u rhai bach , eu gwragedd , a’u plant . Yna ar Jahasiel mab Sechareia , fab Benaia , fab Jeiel , fab Mataneia , Lefiad o feibion Asaff , y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa . Ac efe a ddywedodd , Gwrandewch holl Jwda , a thrigolion Jerwsalem , a thithau frenin Jehosaffat , Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi , Nac ofnwch , ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon : canys nid eiddoch chwi y rhyfel , eithr eiddo Dduw . Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt ; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis , a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon , tuag anialwch Jeruel . Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn : sefwch yn llonydd , a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch , O Jwda a Jerwsalem : nac ofnwch , ac na ddigalonnwch : ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt , a’r Arglwydd fydd gyda chwi . A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb : holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd , gan addoli yr Arglwydd . A’r Lefiaid , o feibion y Cohathiaid , ac o feibion y Corhiaid , a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig . A hwy a gyfodasant yn fore , ac a aethant i anialwch Tecoa : ac wrth fyned ohonynt , Jehosaffat a safodd , ac a ddywedodd , Gwrandewch fi , O Jwda , a thrigolion Jerwsalem ; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw , a chwi a sicrheir ; coeliwch ei broffwydi ef , a chwi a ffynnwch . Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl , ac a osododd gantorion i’r Arglwydd , a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd , pan aent allan o flaen y rhyfelwyr ; ac i ddywedyd , Clodforwch yr Arglwydd , oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant , y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon , Moab , a thrigolion mynydd Seir , y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda ; a hwy a laddasant bawb ei gilydd . Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir , i’w difrodi , ac i’w difetha hwynt : a phan orffenasant hwy drigolion Seir , hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd . A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch , hwy a edrychasant ar y dyrfa , ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear , ac heb un dihangol . A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt , hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud , gyda’r cyrff meirw , a thlysau dymunol , yr hyn a ysglyfaethasant iddynt , beth anfeidrol : a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail ; canys mawr oedd . Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith ; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd : am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith , hyd heddiw . Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem , a Jehosaffat yn flaenor iddynt , i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd ; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion . A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau , a thelynau , ac utgyrn , i dŷ yr Arglwydd . Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear , pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel . Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd : canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch . A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda : mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi . Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad , ac ni chiliodd oddi wrthi , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith : canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau . A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat , wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani , yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel . Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel , yr hwn a ymroddasai i ddrygioni . Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis : a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber . Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat , gan ddywedyd , Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia , yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di . A’r llongau a ddrylliwyd , fel na allasant fyned i Tarsis . A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd . A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac iddo ef yr oedd brodyr , meibion Jehosaffat ; Asareia , a Jehiel , a Sechareia , ac Asareia , a Michael , a Seffatia : y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel . A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer , o arian , ac aur , a gwerthfawr bethau , gyda dinasoedd caerog yn Jwda : ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram , canys efe oedd y cyntaf-anedig . A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad , ac a ymgadarnhaodd , ac a laddodd ei holl frodyr â’r cleddyf , a rhai hefyd o dywysogion Israel . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , fel y gwnaethai tŷ Ahab ; canys merch Ahab oedd wraig iddo : ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha tŷ Dafydd , er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd , fel y dywedasai , y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth . Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda , ac y gosodasant frenin arnynt eu hun . A Jehoram a aeth allan , a’i dywysogion , a’i holl gerbydau gydag ef : ac efe a gyfododd liw nos , ac a drawodd yr Edomiaid , y rhai oedd yn ei amgylchu ef , a thywysogion y cerbydau . Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn : a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef : oherwydd iddo ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau . Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda , ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio , ac a gymhellodd Jwda i hynny . A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad , nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda ; Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel , a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio , fel y puteiniodd tŷ Abab , a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad , y rhai oedd well na thydi : Wele , yr Arglwydd a dery â phla mawr dy bobl di , a’th blant , a’th wragedd , a’th holl olud . A thi a gei glefyd mawr , clefyd o’th ymysgaroedd , nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd , o ddydd i ddydd . Felly yr Arglwydd a gyffrôdd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid , a’r Arabiaid , y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid : A hwy a ddaethant i fyny i Jwda , ac a’i drylliasant hi , ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin , a’i feibion hefyd a’i wragedd ; fel na adawyd mab iddo , ond Jehoahas , yr ieuangaf o’i feibion . Ac wedi hyn oll yr Arglwydd a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele . A bu , ar ôl talm o ddyddiau , ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd , ei ymysgaroedd ef a aeth allan gan ei glefyd : felly y bu efe farw o glefydau drwg . A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau , megis cynnau ei dadau . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano : a chladdasant ef yn ninas Dafydd , ond nid ym meddrod y brenhinoedd . A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef : canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll , a laddasai y rhai hynaf oll . Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd . Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu ; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri . Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab : canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel tŷ Ahab : canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef , ar ôl marwolaeth ei dad , i’w ddinistr ef . Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt , ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel , yn erbyn Hasael brenin Syria , yn Ramoth-Gilead : a’r Syriaid a drawsant Joram . Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel , oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama , pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria . Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel , canys claf oedd efe . A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw , wrth ddyfod at Joram : canys pan ddaeth , efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi , yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab . A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab , efe a gafodd dywysogion Jwda , a meibion brodyr Ahaseia , y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia , ac efe a’u lladdodd hwynt . Ac efe a geisiodd Ahaseia ; a hwy a’i daliasant ef , ( canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria ; ) a hwy a’i dygasant ef at Jehu : lladdasant ef hefyd , a chladdasant ef ; canys dywedasant , Mab Jehosaffat yw efe , yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon . Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas . Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab , hi a gyfododd , ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda . Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia , ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd , ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau . Felly Josabea merch y brenin Jehoram , gwraig Jehoiada yr offeiriad , ( canys chwaer Ahaseia ydoedd hi , ) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia , fel na laddodd hi ef . Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd : ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad . Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada , ac y cymerodd dywysogion y cannoedd , Asareia mab Jeroham , ac Ismael mab Johanan , ac Asareia mab Obed , a Maaseia mab Adaia , ac Elisaffat mab Sichri , gydag ef mewn cyfamod . A hwy a aethant o amgylch yn Jwda , ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda , a phennau-cenedl Israel , ac a ddaethant i Jerwsalem . A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ Dduw : ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Wele , mab y brenin a deyrnasa , fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd . Dyma y peth a wnewch chwi ; Y drydedd ran ohonoch , yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth , o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid , fydd yn borthorion i’r trothwyau ; A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin ; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen ; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd . Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd , ond yr offeiriaid , a’r gweinidogion o’r Lefiaid ; deuant hwy i mewn , canys sanctaidd ydynt : ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd . A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu , pob un â’i arfau yn ei law ; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ , lladder ef : ond byddwch chwi gyda’r brenin , pan ddelo efe i mewn , a phan elo efe allan . A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad , a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr , y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth , gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth : ( canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau . ) A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd , y gwaywffyn , a’r tarianau , a’r estylch , a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd , y rhai oedd yn nhŷ Dduw . Ac efe a gyfleodd yr holl bobl , a phob un â’i arf yn ei law , o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ , ynghylch yr allor a’r tŷ , yn ymyl y brenin oddi amgylch . Yna y dygasant allan fab y brenin , a rhoddasant y goron arno ef , a’r dystiolaeth , ac a’i hurddasant ef yn frenin : Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef , ac a ddywedasant , Byw fyddo y brenin . A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg , ac yn moliannu y brenin , hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd . A hi a edrychodd , ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa , a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin ; a holl bobl y wlad yn llawen , ac yn lleisio mewn utgyrn ; a’r cantorion ag offer cerdd , a’r rhai a fedrent foliannu . Yna Athaleia a rwygodd ei dillad , ac a ddywedodd , Bradwriaeth , bradwriaeth ! A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd , sef swyddogion y llu , ac a ddywedodd wrthynt , Dygwch hi allan o’r rhesau : a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi , lladder ef â’r cleddyf . Canys dywedasai yr offeiriad , Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a roddasant ddwylo arni hi , a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin , ac yno y lladdasant hwy hi . A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun , a rhwng yr holl bobl , a rhwng y brenin , i fod yn bobl i’r Arglwydd . Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal , ac a’i distrywiasant ef , a’i allorau , ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy , ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor . A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd , dan law yr offeiriaid y Lefiaid , y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd , i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd , fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses , mewn llawenydd a chân , yn ôl trefn Dafydd . Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd , fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll . Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd , a’r pendefigion , a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl , a holl bobl y wlad , ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd : a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin , ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth . A holl bobl y wlad a lawenychasant , a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â’r cleddyf . Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu , a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba . A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad . A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig : ac efe a genhedlodd feibion a merched . Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd . Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch i ddinasoedd Jwda , a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw , o flwyddyn i flwyddyn : prysurwch chwithau y peth . Ond ni frysiodd y Lefiaid . A’r brenin a alwodd am Jehoiada , yr offeiriad pennaf , ac a ddywedodd wrtho , Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda , ac o Jerwsalem , dreth Moses gwas yr Arglwydd , a chynulleidfa Israel , i babell y dystiolaeth ? Canys meibion Athaleia , y wraig ddrygionus honno , a rwygasent dŷ Dduw ; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim . Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist , ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan . A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda , ac yn Jerwsalem , ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw , yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch . A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant , ac a ddygasant , ac a fwriasant i’r gist , nes gorffen ohonynt . A bu , yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid , a phan welsant fod llawer o arian , ddyfod o ysgrifennydd y brenin , a swyddog yr archoffeiriad , a thywallt y gist , a’i chymryd hi , a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun . Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd , a chasglasant arian lawer . A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd ; a chyflogasant seiri maen , a seiri pren , i gyweirio tŷ yr Arglwydd ; a gofaint haearn a phres , i gadarnhau tŷ yr Arglwydd . Felly y gweithwyr a weithiasant , a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt : a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun , ac a’i cadarnhasant ef . A phan orffenasant hwy ef , hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada ; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd , sef llestri y weinidogaeth , a’r morterau , a’r llwyau , a’r llestri aur ac arian . Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol , holl ddyddiau Jehoiada . Ond Jehoiada a heneiddiodd , ac oedd gyflawn o ddyddiau , ac a fu farw : mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw . A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd ; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel , tuag at Dduw a’i dŷ . Ac wedi marw Jehoiada , tywysogion Jwda a ddaethant , ac a ymgrymasant i’r brenin : yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy . A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau , ac a wasanaethasant y llwyni , a’r delwau : a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem , oherwydd eu camwedd hyn . Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi , i’w troi hwynt at yr Arglwydd ; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt , ond ni wrandawsant hwy . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad , ac efe a safodd oddi ar y bobl , ac a ddywedodd wrthynt hwy , Fel hyn y dywedodd Duw , Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd ? diau na ffynnwch chwi ; canys gwrthodasoch yr Arglwydd , am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau . A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef , ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin , yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef , ond efe a laddodd ei fab ef : a phan oedd efe yn marw , efe a ddywedodd , Edryched yr Arglwydd , a gofynned . Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef : a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem , ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl , ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus . Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr , a’r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn , am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau : felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas . A phan aethant hwy oddi wrtho ef , ( canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion , ) ei weision ei hun a gydfwriadodd i’w erbyn ef , oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad , ac a’i lladdasant ef ar ei wely ; ac efe a fu farw : a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd , ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd . A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef ; Sabad mab Simeath yr Ammones , a Jehosabad mab Simrith y Foabes . Am ei feibion ef , a maint y baich a roddwyd arno , a sylfaeniad tŷ Dduw , wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd . Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ond nid â chalon berffaith . A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef , efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef . Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt , ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses , lle y gorchmynasai yr Arglwydd , gan ddywedyd , Ni bydd marw y tadau dros y meibion , ac ni bydd marw y meibion dros y tadau , ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun . Ac Amaseia a gynullodd Jwda , ac a’u gwnaeth hwy , yn ôl tŷ eu tadau , yn dywysogion ar filoedd , ac yn dywysogion ar gannoedd , trwy holl Jwda a Benjamin : ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod , ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel , yn medru trin gwaywffon a tharian . Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol , er can talent o arian . Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , O frenin , nac aed llu Israel gyda thi : canys nid yw yr Arglwydd gydag Israel , sef gyda holl feibion Effraim . Ond os myned a fynni , gwna , ymgadarnha i ryfel : ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion ; canys y mae gan Dduw nerth i gynorthwyo , ac i gwympo . Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr Duw , Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel ? A dywedodd gŵr Duw , Y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy na hynny . Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt , sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim , i fyned i’w mangre eu hun . A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda , a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon . Ac Amaseia a ymgadarnhaodd , ac a dywysodd allan ei bobl , ac a aeth i ddyffryn yr halen , ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil . Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw , ac a’u dygasant i ben y graig , ac a’u taflasant hwy o ben y graig , fel y drylliwyd hwynt oll . A’r rhyfelwyr , y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel , a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda , o Samaria hyd Beth-horon , ac a drawsant ohonynt dair mil , ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr . Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid , efe a ddug dduwiau meibion Seir , ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau , ac a addolodd ger eu bron hwynt , ac a arogldarthodd iddynt . Am hynny y llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amaseia ; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef , yr hwn a ddywedodd wrtho ef , Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl , y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di ? A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef , y brenin a ddywedodd wrtho yntau , A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin ? paid , i ba beth y’th drewid ? A’r proffwyd a beidiodd , ac a ddywedodd , Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di , am i ti wneuthur hyn , ac na wrandewaist ar fy nghyngor i . Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd , ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel , gan ddywedyd , Tyred , gwelwn wyneb ein gilydd . A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus , gan ddywedyd , Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig : a bwystfil y maes , yr hwn oedd yn Libanus , a dramwyodd , ac a sathrodd yr ysgellyn . Dywedaist , Wele , trewaist yr Edomiaid , a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio ; eistedd yn awr yn dy dŷ ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun , fel y syrthit ti , a Jwda gyda thi ? Ond ni wrandawai Amaseia ; canys oddi wrth Dduw yr oedd hynny , fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn , am iddynt geisio duwiau Edom . Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny , a hwy a welsant wynebau ei gilydd , efe ac Amaseia brenin Jwda , yn Bethsemes , yr hon oedd yn Jwda . A Jwda a drawyd o flaen Israel , a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll . A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas , fab Jehoahas brenin Jwda , yn Bethsemes , ac a’i dug ef i Jerwsalem , ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem , o borth Effraim hyd borth y gongl , pedwar can cufydd . Ac efe a gymerth yr holl aur , a’r arian , a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ Dduw gydag Obed-edom , a thrysorau tŷ y brenin , a’r gwystlon hefyd , ac a ddychwelodd i Samaria . Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw , wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel , bymtheng mlynedd . A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia , wele , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel ? Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr Arglwydd , hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem , ac efe a ffodd i Lachis : ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis , ac a’i lladdasant ef yno . A hwy a’i dygasant ef ar feirch , ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda . Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia , ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad . Efe a adeiladodd Eloth , ac a’i dug hi drachefn i Jwda , ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau . Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef . Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia , yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw : a’r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd , Duw a’i llwyddodd ef . Ac efe a aeth allan , ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid , ac a dorrodd i lawr fur Gath , a mur Jabne , a mur Asdod , ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod , ac ymysg y Philistiaid . A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid , ac yn erbyn yr Arabiaid , y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal , a’r Mehuniaid . A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia : a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft ; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr . Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl , ac wrth borth y glyn , ac wrth droad y mur , ac a’u cadarnhaodd hwynt . Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch , ac a gloddiodd bydewau lawer ; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid , yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd : a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd , ac yn Carmel : canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear . Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr , yn myned allan yn fyddinoedd , yn ôl nifer eu cyfrif hwynt , trwy law Jeiel yr ysgrifennydd , a Maaseia y llywydd , dan law Hananeia , un o dywysogion y brenin . Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant . A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus , tri chan mil a saith mil a phum cant , yn rhyfela â chryfder nerthol , i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn . Ac Usseia a ddarparodd iddynt , sef i’r holl lu , darianau , a gwaywffyn , a helmau , a llurigau , a bwâu , a thaflau i daflu cerrig . Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint , i fod ar y tyrau ac ar y conglau , i ergydio saethau a cherrig mawrion : a’i enw ef a aeth ymhell , canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef , nes ei gadarnhau . Ond pan aeth yn gryf , ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun ; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw : ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth . Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef , a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd , yn feibion grymus : A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin , ac a ddywedasant wrtho , Ni pherthyn i ti , Usseia , arogldarthu i’r Arglwydd , ond i’r offeiriaid meibion Aaron , y rhai a gysegrwyd i arogldarthu : dos allan o’r cysegr ; canys ti a droseddaist , ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw . Yna y llidiodd Usseia , a’r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef : a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid , gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef , yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd , gerllaw allor yr arogl-darth . Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a’r holl offeiriaid arno ef , ac wele , yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen , a gwnaethant iddo frysio oddi yno : ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan , oherwydd i’r Arglwydd ei daro ef . Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth , ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol ; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd : a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin , yn barnu pobl y wlad . A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia , a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos . Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd ; canys dywedasant , Gwahanglwyfus ydyw efe . A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad : eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd . A’r bobl oedd eto yn ymlygru . Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd ; ac ar fur y tŵr yr adeiladodd efe lawer . Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda , ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau . Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon , ac a aeth yn drech na hwynt . A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno , a deng mil corus o wenith , a deng mil corus o haidd . Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd . Felly Jotham a aeth yn gadarn , oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw . A’r rhan arall o hanes Jotham , a’i holl ryfeloedd ef , a’i ffyrdd , wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A Jotham a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ninas Dafydd . Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ond ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel , ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig . Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom , ac a losgodd ei blant yn tân , yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Efe a aberthodd hefyd , ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Am hynny yr Arglwydd ei Dduw a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria ; a hwy a’i trawsant ef , ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr , ac a’u dygasant i Damascus . Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef , yr hwn a’i trawodd ef â lladdfa fawr . Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod , hwynt oll yn feibion grymus : am wrthod ohonynt Arglwydd Dduw eu tadau . A Sichri , gŵr grymus o Effraim , a laddodd Maaseia mab y brenin , ac Asricam llywodraethwr y tŷ , ac Elcana y nesaf at y brenin . A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil , yn wragedd , yn feibion , ac yn ferched , ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt , ac a ddygasant yr ysbail i Samaria . Ac yno yr oedd proffwyd i’r Arglwydd , a’i enw Oded ; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , oherwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Jwda , y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi , a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd . Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem , yn gaethweision , ac yn gaethforynion i chwi : onid oes gyda chwi , ie , gyda chwi , bechodau yn erbyn yr Arglwydd eich Duw ? Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi , a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr : oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi . Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim , Asareia mab Johanan , Berecheia mab Mesilemoth , a Jehisceia mab Salum , ac Amasa mab Hadlai , a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth , Ac a ddywedasant wrthynt , Ni ddygwch y gaethglud yma : canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr Arglwydd , yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni , ac ar ein camweddau : canys y mae ein camwedd ni yn fawr , ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel . Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion , a’r holl gynulleidfa . A’r gwŷr , y rhai a enwyd wrth eu henwau , a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud , ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt â’r ysbail , a dilladasant hwynt , a rhoddasant iddynt esgidiau , ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed ; eneiniasant hwynt hefyd , a dygasant ar asynnod bob un llesg , ie , dygasant hwynt i Jericho , dinas y palmwydd , at eu brodyr . Yna hwy a ddychwelasant i Samaria . Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef . A’r Edomiaid a ddaethent eto , ac a drawsent Jwda , ac a gaethgludasent gaethglud . Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinasoedd y gwastadedd , a thu deau Jwda , ac a enillasent Beth-semes , ac Ajalon , a Gederoth , a Socho a’i phentrefi , Timna hefyd a’i phentrefi , a Gimso a’i phentrefi ; ac a drigasant yno . Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Jwda , o achos Ahas brenin Israel : oblegid efe a noethodd Jwda , gan droseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr . A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef , ac a gyfyngodd arno ef , ac nis cynorthwyodd ef . Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr Arglwydd , ac o dŷ y brenin , a chan y tywysogion , a’i rhoddi i frenin Asyria ; eto nis cynorthwyodd efe ef . A’r amser yr oedd yn gyfyng arno , efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr Arglwydd : hwn yw y brenin Ahas . Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus , y rhai a’i trawsent ef ; ac efe a ddywedodd , Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt , minnau a aberthaf iddynt hwy , fel y’m cynorthwyont innau : ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd . Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ Dduw , ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw , ac a gaeodd ddrysau tŷ yr Arglwydd , ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem . Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr , ac a ddicllonodd Arglwydd Dduw ei dadau . A’r rhan arall o’i hanes ef , a’i holl ffyrdd , cyntaf a diwethaf , wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau , a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas yn Jerwsalem , ond ni ddygasant hwy ef i feddrod brenhinoedd Israel . A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad . Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef , yn y mis cyntaf , efe a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd , ac a’u cyweiriodd hwynt . Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid , a’r Lefiaid , ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain , Ac a ddywedodd wrthynt hwy , Gwrandewch fi , O Lefiaid , ymsancteiddiwch yn awr , a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau , a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd . Canys ein tadau ni a droseddasant , ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw , ac a’i gwrthodasant ef , ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd , ac a droesant eu gwarrau . Caeasant hefyd ddrysau y porth , ac a ddiffoddasant y lampau , ac nid arogldarthasant arogl-darth , ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel . Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem , ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro , yn syndod , ac yn watwargerdd , fel yr ydych yn gweled â’ch llygaid . Canys wele , ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf , ein meibion hefyd , a’n merched , a’n gwragedd , ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn . Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel ; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni . Fy meibion , na fyddwch ddifraw yn awr : canys yr Arglwydd a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef , i weini iddo ef , ac i fod yn gweini , ac yn arogldarthu iddo ef . Yna y Lefiaid a gyfodasant , Mahath mab Amasai , a Joel mab Asareia , o feibion y Cohathiaid : ac o feibion Merari ; Cis mab Abdi , ac Asareia mab Jehaleleel : ac o’r Gersoniaid ; Joa mab Simma , ac Eden mab Joa : Ac o feibion Elisaffan ; Simri , a Jeiel ; ac o feibion Asaff ; Sechareia , a Mataneia : Ac o feibion Heman ; Jehiel , a Simei : ac o feibion Jedwthwn ; Semaia , ac Ussiel . A hwy a gynullasant eu brodyr , ac a ymsancteiddiasant , ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin , trwy eiriau yr Arglwydd , i lanhau tŷ yr Arglwydd . A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i’w lanhau ef , ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd , i gyntedd tŷ yr Arglwydd . A’r Lefiaid a’i cymerasant , i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron . Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio , ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr Arglwydd : ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd , ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant . Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin , ac a ddywedasant , Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd , ac allor y poethoffrwm , a’i holl lestri , a bwrdd y bara gosod , a’i holl lestri . A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd , pan oedd efe yn teyrnasu , a baratoesom , ac a sancteiddiasom ni : ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd . Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore , ac a gasglodd dywysogion y ddinas , ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd . A hwy a ddygasant saith o fustych , a saith o hyrddod , a saith o ŵyn , a saith o fychod geifr , yn bech-aberth dros y frenhiniaeth , a thros y cysegr , a thros Jwda : ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron , am offrymu y rhai hynny ar allor yr Arglwydd . Felly hwy a laddasant y bustych , a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed , ac a’i taenellasant ar yr allor : lladdasant hefyd yr hyrddod , a thaenellasant y gwaed ar yr allor : a hwy a laddasant yr ŵyn , ac a daenellasant y gwaed ar yr allor . A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa , ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy . A’r offeiriaid a’u lladdasant hwy , ac a wnaethant gymod ar yr allor â’u gwaed hwynt , i wneuthur cymod dros holl Israel : canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a’r pech-aberth . Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr Arglwydd , â symbalau , ac â nablau , ac â thelynau , yn ôl gorchymyn Dafydd , a Gad gweledydd y brenin , a Nathan y proffwyd : canys y gorchymyn oedd trwy law yr Arglwydd , trwy law ei broffwydi ef . A’r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd , a’r offeiriaid â’r utgyrn . A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor : a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm , y dechreuodd cân yr Arglwydd , â’r utgyrn , ac ag offer Dafydd brenin Israel . A’r holl gynulleidfa oedd yn addoli , a’r cantorion yn canu , a’r utgyrn yn lleisio ; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm . A phan orffenasant hwy offrymu , y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef , a ymgrymasant , ac a addolasant . A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd , â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd . Felly hwy a folianasant â llawenydd , ac a ymostyngasant , ac a addolasant . A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd , Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r Arglwydd ; nesewch , a dygwch ebyrth , ac ebyrth moliant , i dŷ yr Arglwydd . A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth , ac ebyrth moliant , a phob ewyllysgar o galon , boethoffrymau . A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa , oedd ddeg a thrigain o fustych , cant o hyrddod , dau cant o ŵyn : y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych , a thair mil o ddefaid . Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid , fel na allent flingo yr holl boethoffrymau : am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy , nes gorffen y gwaith , ac nes i’r offeiriaid ymgysegru : canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na’r offeiriaid . Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml , gyda braster yr hedd-offrwm , a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau . Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . A Heseceia a lawenychodd , a’r holl bobl , oherwydd paratoi o Dduw y bobl : oblegid yn ddisymwth y bu y peth . A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda , ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse , i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i Jerwsalem i gynnal Pasg i Arglwydd Dduw Israel . A’r brenin a ymgynghorodd , a’i dywysogion , a’r holl gynulleidfa , yn Jerwsalem , am gynnal y Pasg yn yr ail fis . Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw ; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon , ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem . A da oedd y peth yng ngolwg y brenin , ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa . A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel , o Beerseba hyd Dan , am ddyfod i gynnal y Pasg i Arglwydd Dduw Israel yn Jerwsalem : canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig . Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda , ac wrth orchymyn y brenin , gan ddywedyd , O feibion Israel , dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria . Ac na fyddwch fel eich tadau , nac fel eich brodyr , y rhai a droseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau ; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd , megis y gwelwch chwi . Yn awr na chaledwch eich gwar , fel eich tadau ; rhoddwch law i’r Arglwydd , a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd : a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw , fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi . Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd , eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt , fel y dychwelont i’r wlad yma : oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw , ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych , os dychwelwch ato ef . Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse , hyd Sabulon : ond hwy a wawdiasant , ac a’u gwatwarasant hwy . Er hynny gwŷr o Aser , a Manasse , ac o Sabulon , a ymostyngasant , ac a ddaethant i Jerwsalem . Llaw Duw hefyd fu yn Jwda , i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion , yn ôl gair yr Arglwydd . A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem , i gynnal gŵyl y bara croyw , yn yr ail fis ; cynulleidfa fawr iawn . A hwy a gyfodasant , ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem : bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth , a thaflasant hwynt i afon Cidron . Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis : yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant , ac a ymsancteiddiasant , ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd . A hwy a safasant yn eu lle , wrth eu harfer , yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw : yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid . Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent : ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan , i’w sancteiddio i’r Arglwydd . Oherwydd llawer o’r bobl , sef llawer o Effraim a Manasse , Issachar , a Sabulon , nid ymlanhasent ; eto hwy a fwytasant y Pasg , yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig . Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy , gan ddywedyd , Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un A baratôdd ei galon i geisio Duw , sef Arglwydd Dduw ei dadau , er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr . A’r Arglwydd a wrandawodd ar Heseceia , ac a iachaodd y bobl . A meibion Israel , y rhai a gafwyd yn Jerwsalem , a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr : y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr Arglwydd o ddydd i ddydd , gan ganu ag offer soniarus i’r Arglwydd . A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid , y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr Arglwydd ; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod , ac a aberthasant ebyrth hedd , ac a gyffesasant i Arglwydd Dduw eu tadau . A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill : felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd . Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych , a saith mil o ddefaid : a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych , a deng mil o ddefaid : a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant . A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant , gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid , a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel , a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel , ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda . Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem : canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem . Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant , ac a fendithiasant y bobl ; a gwrandawyd ar eu llef hwynt , a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef , i’r nefoedd . Ac wedi gorffen hyn i gyd , holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda , ac a ddrylliasant y delwau , ac a dorasant y llwyni , ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin , yn Effraim hefyd a Manasse , nes eu llwyr ddifa . Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant , i’w dinasoedd . A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , yn eu cylchoedd , pob un yn ôl ei weinidogaeth , yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm , ac i’r ebyrth hedd , i weini , ac i foliannu , ac i ganmol , ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd . A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau , sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr , ac i boethoffrymau y Sabothau , a’r newyddloerau , a’r gwyliau arbennig , fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd . Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl , trigolion Jerwsalem , am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid , fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd . A phan gyhoeddwyd y gair hwn , meibion Israel a ddygasant yn aml , flaenffrwyth yr ŷd , y gwin , a’r olew , a’r mêl , ac o holl gnwd y maes , a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth . A meibion Israel a Jwda , y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda , hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid , a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r Arglwydd eu Duw , ac a’u gosodasant bob yn bentwr . Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau , ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt . A phan ddaeth Heseceia a’r tywysogion , a gweled y pentyrrau , hwy a fendithiasant yr Arglwydd , a’i bobl Israel . A Heseceia a ymofynnodd â’r offeiriaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau . Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc , a ddywedodd wrtho , ac a lefarodd , Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd , bwytasom a digonwyd ni , gweddillasom hefyd lawer iawn : canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl ; a’r gweddill yw yr amldra hyn . A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd ; a hwy a’u paratoesant , Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth , a’r degwm , a’r pethau cysegredig , yn ffyddlon : a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy , a Simei ei frawd ef yn ail . Jehiel hefyd , ac Asaseia , a Nahath , ac Asahel , a Jerimoth , a Josabad , ac Eliel , ac Ismachia , a Mahath , a Benaia , oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef , trwy orchymyn Heseceia y brenin , ac Asareia blaenor tŷ Dduw . A Chore mab Imna y Lefiad , y porthor tua’r dwyrain , oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw , i rannu offrymau yr Arglwydd , a’r pethau sancteiddiolaf . Ac wrth ei law ef yr oedd Eden , a Miniamin , a Jesua , a Semaia , Amareia , a Sechaneia , yn ninasoedd yr offeiriaid , yn eu swydd , i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan , i fawr ac i fychan : Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt , o fab tair blwydd ac uchod , i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd , ddogn dydd yn ei ddydd , yn eu gwasanaeth hwynt , o fewn eu goruchwyliaethau , yn ôl eu dosbarthiadau ; I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau , ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod , yn ôl eu goruchwyliaethau , yn eu dosbarthiadau ; Ac i genedl eu holl blant hwy , eu gwragedd , a’u meibion , a’u merched , trwy’r holl gynulleidfa : oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd : Ac i feibion Aaron , yr offeiriaid , y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd , ym mhob dinas , y gwŷr a enwasid wrth eu henwau , i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid , ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid . Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda , ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn , a’r gwirionedd , gerbron yr Arglwydd ei Dduw . Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw , ac yn y gyfraith , ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw , efe a’i gwnaeth â’i holl galon , ac a ffynnodd . Wedi y pethau hyn , a’u sicrhau , y daeth Senacherib brenin Asyria , ac a ddaeth i mewn i Jwda ; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog , ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun . A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib , a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem , Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion , ac â’i gedyrn , am argae dyfroedd y ffynhonnau , y rhai oedd allan o’r ddinas . A hwy a’i cynorthwyasant ef . Felly pobl lawer a ymgasglasant , ac a argaeasant yr holl ffynhonnau , a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad , gan ddywedyd , Paham y daw brenhinoedd Asyria , ac y cânt ddyfroedd lawer ? Ac efe a ymgryfhaodd , ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig , ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau , a mur arall oddi allan , ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd , ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau . Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl , ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas , ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt , gan ddywedyd , Ymwrolwch , ac ymgadarnhewch ; nac ofnwch , ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria , na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef : canys y mae gyda ni fwy na chydag ef . Gydag ef y mae braich cnawdol ; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni , i’n cynorthwyo , ac i ryfela ein rhyfeloedd . A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda . Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem , ( ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis , a’i holl allu gydag ef , ) at Heseceia brenin Jwda , ac at holl Jwda , y rhai oedd yn Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria , Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu , chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem ? Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi , i’ch rhoddi chwi i farw trwy newyn , a thrwy syched , gan ddywedyd , Yr Arglwydd ein Duw a’n gwared ni o law brenin Asyria . Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef , a’i allorau , ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem , gan ddywedyd , O flaen un allor yr addolwch , ac ar honno yr aroglderthwch ? Oni wyddoch chwi beth a wneuthum , mi a’m tadau , i holl bobl y tiroedd ? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o’m llaw i ? Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn , y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha , a allai waredu ei bobl o’m llaw i , fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i ? Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi , ac na huded mohonoch fel hyn , ac na choeliwch iddo ef : canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o’m llaw i , nac o law fy nhadau : pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o’m llaw i ? A’i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw , ac yn erbyn Heseceia ei was ef . Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel , ac i lefaru yn ei erbyn ef , gan ddywedyd , Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i , felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i . Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel , yn iaith yr Iddewon , ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur , i’w hofni hwynt , ac i’w brawychu ; fel yr enillent hwy y ddinas . A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad , sef gwaith dwylo dyn . Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin , ac Eseia y proffwyd mab Amos , ac a waeddasant i’r nefoedd . A’r Arglwydd a anfonodd angel , yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol , a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria . Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun . A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw , y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf . Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria , ac o law pawb eraill , ac a’u cadwodd hwynt oddi amgylch . A llawer a ddygasant roddion i’r Arglwydd i Jerwsalem , a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda ; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw , ac a weddïodd ar yr Arglwydd : yntau a lefarodd wrtho , ac a roddes argoel iddo . Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo ; canys ei galon ef a ddyrchafodd : a digofaint a ddaeth arno ef , ac ar Jwda a Jerwsalem . Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon , efe a thrigolion Jerwsalem ; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia . Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn : ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian , ac o aur , ac o feini gwerthfawr , o beraroglau hefyd , ac o darianau , ac o bob llestri hyfryd ; A selerau i gnwd yr ŷd , a’r gwin , a’r olew ; a phresebau i bob math ar anifail , a chorlannau i’r diadellau . Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd , a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer : canys Duw a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn . A’r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon , ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd , tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd . A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith . Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon , y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad , Duw a’i gadawodd ef , i’w brofi ef , i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon . A’r rhan arall o hanes Heseceia , a’i garedigrwydd ef , wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos , ac yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . A Heseceia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd . A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth . A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu , a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd , y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef , ac a gyfododd allorau i Baalim , ac a wnaeth lwyni , ac a addolodd holl lu’r nefoedd , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd , am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd , Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd . Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom , ac a arferodd frud , a hudoliaeth , a chyfareddion , ac a fawrhaodd swynyddion , a dewiniaid : efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig , y ddelw a wnaethai efe , yn nhŷ Dduw , am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd , ac wrth Solomon ei fab , Yn y tŷ hwn , ac yn Jerwsalem , yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel , y gosodaf fy enw yn dragywydd . Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi ; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt , yn ôl yr holl gyfraith , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , trwy law Moses . Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni , a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel . Er llefaru o’r Arglwydd wrth Manasse , ac wrth ei bobl , eto ni wrandawsant hwy . Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria , a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni , ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn , ac a’i dygasant ef i Babilon . A phan oedd gyfyng arno ef , efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw , ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau , Ac a weddïodd arno ef : ac efe a fu fodlon iddo , ac a wrandawodd ei ddymuniad ef , ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth . Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw . Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd , o du’r gorllewin i Gihon , yn y dyffryn , hyd y ddyfodfa i borth y pysgod , ac a amgylchodd Offel , ac a’i cyfododd yn uchel iawn , ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda . Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr , a’r ddelw , allan o dŷ yr Arglwydd , a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd , ac yn Jerwsalem , ac a’u taflodd allan o’r ddinas . Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd , ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant ; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel . Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd : eto i’r Arglwydd eu Duw yn unig . A’r rhan arall o hanes Manasse , a’i weddi ef at ei Dduw , a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel , wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel . Ei weddi ef hefyd , a’r modd y cymododd Duw ag ef , a’i holl bechod ef , a’i gamwedd , a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd , ac y gosododd lwyni , a delwau cerfiedig , cyn ymostwng ohono ef ; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion . Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun ; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel y gwnaethai Manasse ei dad ef : canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd , fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef : eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy . A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef , ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun . Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon ; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad , ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy . Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad , tra yr ydoedd efe eto yn fachgen , efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad : ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd , a’r llwyni , a’r delwau cerfiedig , a’r delwau toddedig . Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim ; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe : y llwyni hefyd , a’r delwau cerfiedig , a’r delwau toddedig , a ddrylliodd efe , ac a faluriodd , taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy . Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau , ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem . Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasse , ac Effraim , a Simeon , a hyd Nafftali , â’u ceibiau oddi amgylch . A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni , a dryllio ohono y delwau cerfiedig , gan eu malurio yn llwch , a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel , efe a ddychwelodd i Jerwsalem . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , wedi glanhau y wlad , a’r tŷ , efe a anfonodd Saffan mab Asaleia , a Maaseia tywysog y ddinas , a Joa mab Joahas y cofiadur , i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw . A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad , hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw , y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau , o law Manasse ac Effraim , ac oddi gan holl weddill Israel , ac oddi ar holl Jwda a Benjamin , a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem . A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr , y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd : hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith , y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr Arglwydd , i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ . Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr , i brynu cerrig nadd , a choed tuag at y cysylltiadau , ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda . A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon : ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath , ac Obadeia , y Lefiaid , o feibion Merari ; a Sechareia , a Mesulam , o feibion y Cohathiaid , i’w hannog : ac o’r Lefiaid , pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd . Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr , ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith : ac o’r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion , a swyddogion , a phorthorion . A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr Arglwydd , Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd , yr hwn a roddasid trwy law Moses . A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd , Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd . A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan : A Saffan a ddug y llyfr at y brenin , ac a ddug air drachefn i’r brenin , gan ddywedyd , Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di , y maent hwy yn ei wneuthur . Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr , ac yn llaw y gweithwyr . Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i’r brenin , gan ddywedyd , Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr . A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin . A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith , efe a rwygodd ei ddillad . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia , ac i Ahicam mab Saffan , ac i Abdon mab Micha , ac i Saffan yr ysgrifennydd , ac i Asaia gwas y brenin , gan ddywedyd , Ewch , ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi , a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda , am eiriau y llyfr a gafwyd : canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni , oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd , gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . Yna yr aeth Hilceia , a’r rhai a yrrodd y brenin , at Hulda y broffwydes , gwraig Salum mab Ticfath , fab Hasra , ceidwad y gwisgoedd ; ( a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy ; ) ac a ymddiddanasant â hi felly . A hi a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel , Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn , ac ar ei drigolion , sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda : Am iddynt fy ngwrthod i , ac arogldarthu i dduwiau dieithr , i’m digio i â holl waith eu dwylo ; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn , ac nis diffoddir ef . Ond am frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn â’r Arglwydd , fel hyn y dywedwch wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist ; Oblegid i’th galon feddalhau , ac i tithau ymostwng o flaen Duw , pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion , ac ymostwng ohonot ger fy mron , a rhwygo dy ddillad , ac wylo o’m blaen i ; am hynny y gwrandewais innau , medd yr Arglwydd . Wele , mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau , a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch , fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon , ac yn erbyn ei phreswylwyr . Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn . Yna y brenin a anfonodd , ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem . A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , a holl wŷr Jwda , a thrigolion Jerwsalem , yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid , a’r holl bobl o fawr i fychan ; ac efe a ddarllenodd , lle y clywsant hwy , holl eiriau llyfr y cyfamod , yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A’r brenin a safodd yn ei le , ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd , ar rodio ar ôl yr Arglwydd , ac ar gadw ei orchmynion ef , a’i dystiolaethau , a’i ddefodau , â’i holl galon , ac â’i holl enaid ; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw . Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem , ac yn Benjamin , sefyll wrth yr amod : trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw , sef Duw eu tadau . Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel , ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu , sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw . Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau . A Joseia a gynhaliodd Basg i’r Arglwydd yn Jerwsalem : a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf . Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau , ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr Arglwydd ; Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid , y rhai oedd yn dysgu holl Israel , ac oedd sanctaidd i’r Arglwydd , Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel ; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd : gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw , a’i bobl Israel , Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau , yn ôl eich dosbarthiadau , yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel , ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef . A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl , ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid . Felly lleddwch y Pasg , ac ymsancteiddiwch , a pharatowch eich brodyr , i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses . A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn , a mynnod , i gyd tuag at y Pasg-aberthau , sef i bawb a’r a gafwyd , hyd rifedi deng mil ar hugain , a thair mil o eidionau ; hyn oedd o gyfoeth y brenin . A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl , i’r offeiriaid , ac i’r Lefiaid : Hilceia , a Sechareia , a Jehiel , blaenoriaid tŷ Dduw , a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau , ddwy fil a chwe chant o ddefaid , a thri chant o eidionau . Cononeia hefyd , a Semaia , a Nethaneel , ei frodyr , a Hasabeia , a Jehiel , a Josabad , tywysogion y Lefiaid , a roddasant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth , bum mil o ddefaid , a phum cant o eidionau . Felly y paratowyd y gwasanaeth ; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle , a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau , yn ôl gorchymyn y brenin . A hwy a laddasant y Pasg ; a’r offeiriaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt , a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt . A chymerasant ymaith y poethoffrymau , i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl , i offrymu i’r Arglwydd , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses : ac felly am yr eidionau . A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod : a’r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau , ac mewn pedyll , ac mewn peiriau , ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl bobl . Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain , ac i’r offeiriaid ; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos ; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain , ac i’r offeiriaid meibion Aaron . A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa , yn ôl gorchymyn Dafydd , ac Asaff , a Heman , a Jeduthun gweledydd y brenin ; a’r porthorion ym mhob porth : ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth ; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy . Felly y paratowyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw , i gynnal y Pasg , ac i offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd , yn ôl gorchymyn y brenin Joseia . A meibion Israel y rhai a gafwyd , a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw , a gŵyl y bara croyw , saith niwrnod . Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel , er dyddiau Samuel y proffwyd : ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a holl Jwda , a’r neb a gafwyd o Israel , a thrigolion Jerwsalem . Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn . Wedi hyn oll , pan baratoesai Joseia y tŷ , Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates : a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef . Yntau a anfonodd genhadau ato ef , gan ddywedyd , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , O frenin Jwda ? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw , ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i ; a Duw a archodd i mi frysio : paid di â Duw , yr hwn sydd gyda mi , fel na ddifetho efe dydi . Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef , eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef , ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw , ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido . A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia : a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision , Dygwch fi ymaith , canys clwyfwyd fi yn dost . Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd , ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo : dygasant ef hefyd i Jerwsalem , ac efe fu farw , ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau . A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia . Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia , a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw , a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel ; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau . A’r rhan arall o hanes Joseia a’i ddaioni ef , yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd , A’i weithredoedd ef , cyntaf a diwethaf , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem . Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu ; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem ; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian , a thalent o aur . A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem , ac a drodd ei enw ef yn Joacim . A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef , ac a’i dug i’r Aifft . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw . Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef , ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres , i’w ddwyn i Babilon . Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon , ac a’u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon . A’r rhan arall o hanes Joacim , a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe , a’r hyn a gafwyd arno ef , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu , a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor , ac a’i dug ef i Babilon , gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd : ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw , ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd , yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd . Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor , yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw : ond efe a galedodd ei war , ac a gryfhaodd ei galon , rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel . Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd , a’r bobl , a chwanegasant gamfucheddu , yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd ; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd , yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem . Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau , gan foregodi , ac anfon : am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl , ac wrth ei breswylfod . Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw , ac yn tremygu ei eiriau ef , ac yn gwawdio ei broffwydi ef ; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , fel nad oedd iachâd . Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid , yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr , ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn , na hen , na’r hwn oedd yn camu gan oedran : efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef . Holl lestri tŷ Dduw hefyd , mawrion a bychain , a thrysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau y brenin a’i dywysogion : y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon . A hwy a losgasant dŷ Dduw , ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem ; a’i holl balasau hi a losgasant hwy â than , a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant . A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon ; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion , nes teyrnasu o’r Persiaid : I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia , nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau ; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd , y gorffwysodd hi , i gyflawni deng mlynedd a thrigain . Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia , fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia , yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia , fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth , a hynny mewn ysgrifen , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia , Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi , ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda . Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef ? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef , ac eled i fyny . Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia , i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia , y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia , fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas , a hynny hefyd mewn ysgrifen , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia , Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear , ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda . Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef ? bydded ei Dduw gydag ef , ac eled i fyny i Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda , ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel , ( dyna y Duw , ) yr hwn sydd yn Jerwsalem . A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio , cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian , ac ag aur , ac â golud , ac ag anifeiliaid , gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw , yr hwn sydd yn Jerwsalem . Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin , a’r offeiriaid a’r Lefiaid , a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd , i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem . A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian , ac aur , a golud , ac ag anifeiliaid , ac â phethau gwerthfawr , heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar . A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd , y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem , ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun : Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd , ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda . A dyma eu rhifedi hwynt ; Deg ar hugain o gawgiau aur , mil o gawgiau arian , naw ar hugain o gyllyll , Deg ar hugain o orflychau aur , deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian , a mil o lestri eraill . Yr holl lestri , yn aur ac yn arian , oedd bum mil a phedwar cant . Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem . A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud , yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon , ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda , pob un i’w ddinas ei hun ; Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel : Jesua , Nehemeia , Seraia , Reelaia , Mordecai , Bilsan , Mispar , Bigfai , Rehum , Baana . Rhifedi gwŷr pobl Israel : Meibion Paros , dwy fil a deuddeg ac wyth ugain . Meibion Seffatia , tri chant a deuddeg a thrigain . Meibion Ara , saith gant a phymtheg a thrigain . Meibion Pahath‐Moab , o feibion Jesua a Joab , dwy fil wyth gant a deuddeg . Meibion Elam , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Sattu , naw cant a phump a deugain . Meibion Saccai , saith gant a thrigain . Meibion Bani , chwe chant a dau a deugain . Meibion Bebai , chwe chant a thri ar hugain . Meibion Asgad , mil dau cant a dau ar hugain . Meibion Adonicam , chwe chant a chwech a thrigain . Meibion Bigfai , dwy fil ac onid pedwar trigain . Meibion Adin , pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Ater o Heseceia , onid dau pum ugain . Meibion Besai , tri chant a thri ar hugain . Meibion Jora , cant a deuddeg . Meibion Hasum , dau cant a thri ar hugain . Meibion Gibbar , pymtheg a phedwar ugain . Meibion Bethlehem , cant a thri ar hugain . Gwŷr Netoffa , onid pedwar trigain . Gwŷr Anathoth , cant ac wyth ar hugain . Meibion Asmafeth , dau a deugain . Meibion Ciriath‐arim , Ceffira , a Beeroth , saith gant a thri a deugain . Meibion Rama a Gaba , chwe chant ac un ar hugain . Gwŷr Michmas , cant a dau ar hugain . Gwŷr Bethel ac Ai , dau cant a thri ar hugain . Meibion Nebo , deuddeg a deugain . Meibion Magbis , cant ac onid pedwar trigain . Meibion Elam arall , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Harim , tri chant ac ugain . Meibion Lod , Hadid , ac Ono , saith gant a phump ar hugain . Meibion Jericho , tri chant a phump a deugain . Meibion Senaa , tair mil a chwe chant a deg ar hugain . Yr offeiriaid : meibion Jedaia , o dŷ Jesua , naw cant deg a thrigain a thri . Meibion Immer , mil a deuddeg a deugain . Meibion Pasur , mil dau cant a saith a deugain . Meibion Harim , mil a dau ar bymtheg . Y Lefiaid : meibion Jesua a Chadmiel , o feibion Hodafia , pedwar ar ddeg a thrigain . Y cantoriaid : meibion Asaff , cant ac wyth ar hugain . Meibion y porthorion : sef meibion Salum , meibion Ater , meibion Talmon , meibion Accub , meibion Hatita , meibion Sobai , oedd oll gant ac onid un deugain . Y Nethiniaid : meibion Siha , meibion Hasuffa , meibion Tabbaoth , Meibion Ceros , meibion Sïaha , meibion Padon , Meibion Lebana , meibion Hagaba , meibion Accub , Meibion Hagab , meibion Samlai , meibion Hanan , Meibion Gidel , meibion Gahar , meibion Reaia , Meibion Resin , meibion Necoda , meibion Gassam , Meibion Ussa , meibion Pasea , meibion Besai , Meibion Asna , meibion Mehunim , meibion Neffusim , Meibion Bacbuc , meibion Hacuffa , meibion Harhur , Meibion Basluth , meibion Mehida , meibion Harsa , Meibion Barcos , meibion Sisera , meibion Thama , Meibion Neseia , meibion Hatiffa . Meibion gweision Solomon : meibion Sotai meibion Soffereth , meibion Peruda , Meibion Jaala , meibion Darcon , meibion Gidel , Meibion Seffatia , meibion Hattil , meibion Pochereth o Sebaim , meibion Ami . Yr holl Nethiniaid , a meibion gweision Solomon , oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain . A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela , Tel‐harsa , Cerub , Adan , ac Immer : ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau , na’u hiliogaeth , ai o Israel yr oeddynt : Meibion Delaia , meibion Tobeia , meibion Necoda , chwe chant a deuddeg a deugain . A meibion yr offeiriaid : meibion Habaia , meibion Cos , meibion Barsilai ; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad , ac a alwasid ar eu henw hwynt . Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau , ond ni chafwyd hwynt : am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth . A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt , na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf , hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim . Yr holl dyrfa ynghyd , oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain : Heblaw eu gweision a’u morynion ; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain : ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau . Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain ; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain ; Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain ; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain . Ac o’r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd , yr hwn oedd yn Jerwsalem , rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd , i’w gyfodi yn ei le . Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith , un fil a thrigain o ddracmonau aur , a phum mil o bunnoedd o arian , a chant o wisgoedd offeiriaid . Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid , a rhai o’r bobl , a’r cantorion , a’r porthorion , a’r Nethiniaid , a drigasant yn eu dinasoedd ; a holl Israel yn eu dinasoedd . A phan ddaeth y seithfed mis , a meibion Israel yn eu dinasoedd , y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr . Yna y cyfododd Jesua mab Josadac , a’i frodyr yr offeiriaid , a Sorobabel mab Salathiel , a’i frodyr , ac a adeiladasant allor Duw Israel , i offrymu arni offrymau poeth , fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw . A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion , ( canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad , ) ac a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd , poethoffrymau bore a hwyr . Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll , fel y mae yn ysgrifenedig , ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi , yn ôl y ddefod , dogn dydd yn ei ddydd ; Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol , ac offrwm y newyddloerau , a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd , offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun , a offrymasant i’r Arglwydd . O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd . Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto . Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen , ac i’r seiri pren ; a bwyd , a diod , ac olew , i’r Sidoniaid , ac i’r Tyriaid , am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa : yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy . Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerwsalem , yn yr ail fis , y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel , a Jesua mab Josadac , a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeiriaid a’r Lefiaid , a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem ; ac a osodasant y Lefiaid , o fab ugeinmlwydd ac uchod , yn olygwyr ar waith tŷ yr Arglwydd . Yna y safodd Jesua , a’i feibion a’i frodyr , Cadmiel a’i feibion , meibion Jwda yn gytûn , i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw : meibion Henadad , â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid . A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd , hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn , a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau , i foliannu yr Arglwydd , yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel . A hwy a gydganasant , wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd , mai da oedd , mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel . A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr , gan foliannu yr Arglwydd , am sylfaenu tŷ yr Arglwydd . Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid , a’r pennau‐cenedl , y rhai oedd hen , ac a welsent y tŷ cyntaf , wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg , a wylasant â llef uchel ; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd : Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl : canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr , a’r sŵn a glywid ymhell . Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel ; Ac a ddaethant at Sorobabel , ac at y pennau‐cenedl , ac a ddywedasant wrthynt , Adeiladwn gyda chwi : canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi ; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu , er dyddiau Esarhadon brenin Assyria , yr hwn a’n dug ni i fyny yma . Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua , a’r rhan arall o bennau‐cenedl Israel , wrthynt , Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni ; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel , megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus , brenin Persia . A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda , ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu , Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt , i ddiddymu eu cyngor hwynt , holl ddyddiau Cyrus brenin Persia , a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia . Ac yn nheyrnasiad Ahasferus , yn nechreuad ei deyrnasiad ef , yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem . Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam , Mithredath , Tabeel , a’r rhan arall o’u cyfeillion , at Artacsercses brenin Persia ; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg , ac a eglurwyd yn Syriaeg . Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin , fel hyn : Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur , a Simsai yr ysgrifennydd , a’r rhan arall o’u cyfeillion , y Dinaiaid , yr Affarsathchiaid , y Tarpeliaid , yr Affarsiaid , yr Archefiaid , y Babiloniaid , y Susanchiaid , y Dehafiaid , yr Elamiaid , A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog , ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria , a’r rhan arall tu yma i’r afon , a’r amser a’r amser . Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef , sef at Artacsercses y brenin ; Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon , a’r amser a’r amser . Bid hysbys i’r brenin , fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni , wedi dyfod i Jerwsalem , ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus , a’r muriau a sylfaenasant hwy , ac a gydwniasant y sylfaenau . Yn awr bydded hysbys i’r brenin , os adeiledir y ddinas hon , a gorffen ei chaerau , na roddant na tholl , na theyrnged , na threth ; felly y drygi drysor y brenhinoedd . Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin , ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin ; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin , Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau : a thi a gei yn llyfr yr historïau , ac a elli wybod , fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar , niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau , a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm : am hynny y dinistriwyd y ddinas hon . Yr ydym yn hysbysu i’r brenin , os y ddinas hon a adeiledir , a’r muriau a sylfaenir , wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon . Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur , a Simsai yr ysgrifennydd , a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria , ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon , Tangnefedd , a’r amser a’r amser . Y llythyr a anfonasoch ataf , a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron . A mi a osodais orchymyn , a chwiliwyd ; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd , a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel . A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem , yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon ; ac iddynt hwy y rhoddid toll , teyrnged , a threth . Yn awr rhoddwch orchymyn , i beri i’r gwŷr hynny beidio , ac nad adeilader y ddinas honno , hyd oni roddwyf fi orchymyn eto . A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn : paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd ? Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd , a’u cyfeillion , hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon , ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder . Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem ; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia . Yna y proffwydi , Haggai y proffwyd , a Sechareia mab Ido , a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem ; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt . Yna Sorobabel mab Salathiel , a Jesua mab Josadac , a godasant , ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem : a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo . Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , a Setharbosnai , a’u cyfeillion , ac fel hyn y dywedasant wrthynt ; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn , ac i sylfaenu y muriau hyn ? Yna fel hyn y dywedasom wrthynt ; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma ? A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon , fel na wnaethant iddynt beidio , nes dyfod yr achos at Dareius : ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn . Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , a Setharbosnai , a’i gyfeillion yr Affarsachiaid , y rhai oedd o’r tu yma i’r afon , at y brenin Dareius : Anfonasant lythyr ato ef , ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo ; Pob heddwch i’r brenin Dareius . Bydded hysbys i’r brenin , fyned ohonom ni i dalaith Jwdea , i dŷ y Duw mawr , a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr , a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef ; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys , a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt . Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny , ac a ddywedasom wrthynt fel hyn ; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn , ac i sylfaenu y mur yma ? Gofynasom hefyd iddynt eu henwau , fel yr hysbysem i ti , ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt . A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni , gan ddywedyd , Nyni ydym weision Duw nef a daear , ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd ; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd , ac a’i seiliodd ef . Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd , efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , y Caldead ; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe , ac a gaethgludodd y bobl i Babilon . Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn . A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian , y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem , ac a’u dygasai i deml Babilon , y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon , a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw , yr hwn a osodasai efe yn dywysog ; Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer y llestri hyn , dos , dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem , ac adeilader tŷ Dduw yn ei le . Yna y daeth y Sesbassar hwnnw , ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem . Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu , ac nis gorffennwyd ef . Ac yn awr , os da gan y brenin , ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon , a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem ; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn . Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn ; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau , lle y cedwid y trysorau yn Babilon . A chafwyd yn Achmetha , yn y llys yn nhalaith Media , ryw lyfr , ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth : Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem , Adeilader y tŷ , y fan lle yr aberthent aberthau , a gwnaer yn gadarn ei sylfeini ; yn drigain cufydd ei uchder , ac yn drigain cufydd ei led : Yn dair rhes o feini mawr , a rhes o goed newydd : a rhodder y draul o dŷ y brenin . A llestri tŷ Dduw hefyd , yn aur ac yn arian , y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem , ac a ddug efe adref i Babilon , rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem , i’w lle , a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw . Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon , Setharbosnai , a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid , y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon , ciliwch oddi yno . Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn : adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le . Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn ; mai o gyfoeth y brenin , sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon , y rhoddir traul i’r gwŷr hyn , fel na pheidio y gwaith . A’r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd , yn eidionau , neu yn hyrddod , neu yn ŵyn , yn ŷd , yn halen , yn win , ac yn olew , yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem , rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid : Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd , ac y gweddïont dros einioes y brenin , a’i feibion . Gosodais hefyd orchymyn , pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn , tynner coed o’i dŷ ef , a gosoder i sefyll , ac ar hwnnw croger ef ; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny . A’r Duw , yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno , a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem . Myfi Dareius a osodais y gorchymyn ; gwneler ef yn ebrwydd . Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , Setharbosnai , a’u cyfeillion , megis yr anfonodd y brenin Dareius , felly y gwnaethant yn ebrwydd . A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant , ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd , a Sechareia mab Ido ; ie , adeiladasant , a gorffenasant , wrth orchymyn Duw Israel , ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius , ac Artacsercses brenin Persia . A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar , pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius . A meibion Israel , yr offeiriaid a’r Lefiaid , a’r rhan arall o feibion y gaethglud , a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd ; Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw , gant o ychen , dau cant o hyrddod , pedwar cant o ŵyn , a deuddeg o fychod geifr , yn bech‐aberth dros Israel , yn ôl rhifedi llwythau Israel . Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau , a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau , i wasanaeth Duw yn Jerwsalem , yn ôl ysgrifen llyfr Moses . Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf . Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn , yn lân i gyd oll , ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud , a thros eu brodyr yr offeiriaid , a throstynt eu hunain . A meibion Israel , y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud , a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy , i geisio Arglwydd Dduw Israel , a fwytasant , Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd : canys yr Arglwydd a’u llawenhasai hwynt , ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy , i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw , Duw Israel . Ac wedi y pethau hyn , yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia , Esra , mab Seraia , fab Asareia , fab Hilceia , Fab Salum , fab Sadoc , fab Ahitub , Fab Amareia , fab Asareia , fab Meraioth , Fab Seraheia , fab Ussi , fab Bucci , Fab Abisua , fab Phinees , fab Eleasar , fab Aaron yr offeiriad pennaf : Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon ; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses , yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel : a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad , fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef . A rhai a aethant i fyny o feibion Israel , ac o’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r cantorion , a’r porthorion , a’r Nethiniaid , i Jerwsalem , yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses . Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis , yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin . Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon ; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem , fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef . Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd , ac i’w gwneuthur , ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau . A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd , sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd , a’i ddeddfau ef i Israel . Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad , ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd , perffaith dangnefedd , a’r amser a’r amser . Myfi a osodais orchymyn , fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel , ac o’i offeiriaid ef , a’i Lefiaid , sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem , gael myned gyda thi . Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin , a’i saith gynghoriaid , i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem , wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di ; Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid , ohonynt eu hunain , i Dduw Israel , yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem , A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon , gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid , y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem : Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen , hyrddod , ŵyn , a’u bwyd‐offrymau , a’u diod‐offrymau , a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem . A’r hyn a fyddo da gennyt ti , a chan dy frodyr , ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur , gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw . A’r llestri , y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw , dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem . A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw , yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi , a roddi di o drysordy y brenin . A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon , beth bynnag a geisio Esra , offeiriad , ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd , gennych , gwneler yn ebrwydd ; Hyd gan talent o arian , a hyd gan corus o wenith , a hyd gan bath o win , a hyd gan bath o olew , a halen heb fesur . Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd , gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd : canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion ? Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd , am yr holl offeiriaid , a’r Lefiaid , cantorion , porthorion , Nethiniaid , a gweinidogion y tŷ Dduw hwn , na ellir bwrw arnynt doll , na theyrnged , na threth . Tithau , Esra , yn ôl doethineb dy Dduw , yr hwn sydd yn dy law , gosod swyddogion a barnwyr , i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon , y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw ; a dysgwch y rhai nis medrant . A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw , a chyfraith y brenin , gwneler barn yn ebrwydd arno ef , pa un bynnag ai i farwolaeth , ai i’w ddeol , ai i ddirwy o dda , ai i garchar . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau , yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin , i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem : Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid , ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin . A mi a gynorthwywyd , fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi , a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi . A dyma eu pennau‐cenedl hwynt , a’u hachau , y rhai a aeth i fyny gyda mi , yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin , allan o Babilon . O feibion Phinees ; Gersom : o feibion Ithamar ; Daniel : o feibion Dafydd ; Hattus : O feibion Sechaneia , o feibion Pharos ; Sechareia : a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid . O feibion Pahath‐Moab ; Elihoenai mab Seraheia , a chydag ef ddau cant o wrywiaid . O feibion Sechaneia ; mab Jahasiel , a chydag ef dri chant o wrywiaid . O feibion Adin hefyd ; Ebed mab Jonathan , a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid . Ac o feibion Elam ; Jesaia mab Athaleia , a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid . Ac o feibion Seffatia ; Sebadeia mab Michael , a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid . O feibion Joab ; Obadeia mab Jehiel , a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid . Ac o feibion Selomith ; mab Josiffia , a chydag ef wyth ugain o wrywiaid . Ac o feibion Bebai ; Sechareia mab Bebai , a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid . Ac o feibion Asgad ; Johanan mab Haccatan , a chydag ef ddeng mab a chant . Ac o feibion olaf Adonicam , dyma hefyd eu henwau hwynt , Eliffelet , Jeiel , a Semaia , a chyda hwynt drigain o wrywiaid . Ac o feibion Bigfai ; Uthai , a Sabbud , a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid . A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa ; ac yno y gwersyllasom ni dridiau : a mi a ystyriais y bobl , a’r offeiriaid , ond ni chefais yno neb o feibion Lefi . Yna yr anfonais am Elieser , am Ariel , am Semaia , ac am Elnathan , ac am Jarib , ac am Elnathan , ac am Nathan , ac am Sechareia , ac am Mesulam , y penaethiaid ; ac am Joiarib , ac am Elnathan , y rhai doethion : A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido , pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia ; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido , a’i frodyr y Nethiniaid , yn y fan a elwir Chasiffia , fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw . A hwy a ddygasant atom , fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni , ŵr deallgar o feibion Mahli , fab Lefi , fab Israel , a Serebeia , a’i feibion , a’i frodyr , ddeunaw ; A Hasabeia , a chydag ef Jesaia o feibion Merari , a’i frodyr , a’u meibion , ugain ; Ac o’r Nethiniaid , a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid , dau cant ac ugain o Nethiniaid : hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau . Ac yno , wrth afon Ahafa , y cyhoeddais ympryd , i ymgystuddio gerbron ein Duw ni , i geisio ganddo ef ffordd union i ni , ac i’n plant , ac i’n golud oll . Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch , i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd : canys llefarasem wrth y brenin , gan ddywedyd , Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef , a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef . Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn ; ac efe a wrandawodd arnom . Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid , Serebeia , Hasabeia , a deg o’u brodyr gyda hwynt ; Ac a bwysais atynt hwy yr arian , a’r aur , a’r llestri , sef offrwm tŷ ein Duw ni , yr hyn a offrymasai y brenin , a’i gynghoriaid , a’i dywysogion , a holl Israel , y rhai a gawsid yno . Ie , pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian , ac o lestri arian gan talent , a chan talent o aur ; Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau ; a dau lestr o bres melyn da , mor brydferth ag aur . A dywedais wrthynt , Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd ; a’r llestri ydynt sanctaidd ; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau . Gwyliwch , a chedwch hwynt , hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid , a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem , yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd . Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian , a’r aur , a’r llestri , i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni . A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa , ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf , i fyned i Jerwsalem : a llaw ein Duw oedd arnom ni , ac a’n gwaredodd o law y gelyn , a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd . A ni a ddaethom i Jerwsalem , ac a arosasom yno dridiau . Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian , a’r aur , a’r llestri , yn nhŷ ein Duw ni , trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad ; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef ; a Josabad mab Jesua , a Noadeia mab Binnui , y Lefiaid , oedd gyda hwynt ; Wrth rifedi , ac wrth bwys pob un : a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw . Meibion y gaethglud , y rhai a ddaeth o’r caethiwed , a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel , sef deuddeg o fustych dros holl Israel , onid pedwar pum ugain o hyrddod , namyn tri pedwar ugain o ŵyn , a deuddeg o fychod yn bech‐aberth : y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd . A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin , a thywysogion y tu hwnt i’r afon : a hwy a gynorthwyasant y bobl , a thŷ Duw . Ac wedi darfod hynny , y tywysogion a ddaethant ataf fi , gan ddywedyd , Nid ymneilltuodd pobl Israel , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid , oddi wrth bobl y gwledydd : gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt ; sef y Canaaneaid , yr Hethiaid , y Pheresiaid , y Jebusiaid , yr Ammoniaid , y Moabiaid , yr Eifftiaid , a’r Amoriaid . Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun , ac i’w meibion ; a’r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd : a llaw y penaethiaid a’r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn . Pan glywais innau hyn , mi a rwygais fy nillad a’m gwisg , ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf , ac a eisteddais yn syn . Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel , am gamwedd y rhai a gaethgludasid ; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol . Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd ; ac wedi i mi rwygo fy nillad a’m gwisg , mi a ostyngais ar fy ngliniau , ac a ledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw , Ac a ddywedais , O fy Nuw , y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti , fy Nuw ; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben , a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd . Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn ; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni , ein brenhinoedd , a’n hoffeiriaid , i law brenhinoedd y gwledydd , i’r cleddyf , i gaethiwed , ac i anrhaith , ac i warthrudd wyneb , megis heddiw . Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr Arglwydd ein Duw , i adael i ni weddill i ddianc , ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef ; fel y goleuai ein Duw ein llygaid , ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed . Canys caethion oeddem ni ; ond ni adawodd ein Duw ni yn ein caethiwed , eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia , i roddi i ni orffwystra i ddyrchafu tŷ ein Duw ni , ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef , ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem . Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn , O ein Duw ? canys gadawsom dy orchmynion di , Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi , gan ddywedyd , Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu , gwlad halogedig yw hi , trwy halogedigaeth pobl y gwledydd , oblegid eu ffieidd‐dra hwynt , y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd . Ac yn awr , na roddwch eich merched i’w meibion hwynt , ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi , ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth : fel y cryfhaoch , ac y mwynhaoch ddaioni y wlad , ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth . Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd , a’n mawr gamwedd , am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd , a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn ; A dorrem ni drachefn dy orchmynion di , ac ymgyfathrachu â’r ffiaidd bobl hyn ? oni ddigit ti wrthym , nes ein difetha , fel na byddai un gweddill na dihangol ? Arglwydd Dduw Israel , cyfiawn ydwyt ti ; eithr gweddill dihangol ydym ni , megis heddiw : wele ni o’th flaen di yn ein camweddau ; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di am hyn . Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu , gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw , tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef , yn wŷr , ac yn wragedd , ac yn blant : canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr . Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel , o feibion Elam , ac a ddywedodd wrth Esra , Ni a bechasom yn erbyn ein Duw , ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad : eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn . Yn awr , gan hynny , gwnawn gyfamod â’n Duw , ar fwrw allan yr holl wragedd , a’u plant , wrth gyngor yr Arglwydd , a’r rhai a ofnant orchmynion ein Duw : a gwneler yn ôl y gyfraith . Cyfod ; canys arnat ti y mae y peth : a ni a fyddwn gyda thi : ymwrola , a gwna . Yna y cyfododd Esra , ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid , a holl Israel , ar wneuthur yn ôl y peth hyn . A hwy a dyngasant . Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw , ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib : a phan ddaeth yno , ni fwytaodd fara , ac nid yfodd ddwfr ; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud . A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem , ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem ; A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau , yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid , efe a gollai ei holl olud , ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid . Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau : hynny oedd y nawfed mis , ar yr ugeinfed dydd o’r mis ; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw , yn crynu o achos y peth hyn , ac o achos y glawogydd . Ac Esra yr offeiriad a gyfododd , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a bechasoch , ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr , gan ychwanegu ar bechod Israel . Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau , a gwnewch ei ewyllys ef ; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir , ac oddi wrth y gwragedd dieithr . A holl dyrfa Israel a atebasant , ac a ddywedasant â llef uchel , Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur . Eithr y bobl sydd lawer , a’r amser yn lawog , ac ni ellir sefyll allan , ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw : canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn . Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa , a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr , ar amseroedd gosodedig , a henuriaid pob dinas , a’u barnwyr gyda hwynt , nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn . Yn unig Jonathan mab Asahel , a Jahaseia mab Ticfa , a osodwyd ar hyn : Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy . A meibion y gaethglud a wnaethant felly . Ac Esra yr offeiriad , a’r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau , a hwynt oll wrth eu henwau , a neilltuwyd , ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis , i ymofyn am y peth hyn . A hwy a wnaethant ben â’r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr , erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf . A chafwyd o feibion yr offeiriaid , y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr : o feibion Jesua mab Josadac , a’i frodyr ; Maaseia , ac Elieser , a Jarib , a Gedaleia . A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd ; a chan iddynt bechu , a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd . Ac o feibion Immer ; Hanani , a Sebadeia . Ac o feibion Harim ; Maaseia , ac Eleia , a Semaia , a Jehiel , ac Usseia . Ac o feibion Pasur ; Elioenai , Maaseia , Ismael , Nethaneel , Josabad , ac Elasa . Ac o’r Lefiaid ; Josabad , a Simei , a Chelaia , ( hwnnw yw Celita , ) Pethaheia , Jwda , ac Elieser . Ac o’r cantorion ; Eliasib : ac o’r porthorion ; Salum , a Thelem , ac Uri . Ac o Israel : o feibion Paros ; Rameia , a Jeseia , a Malcheia , a Miamin , ac Eleasar , a Malcheia , a Benaia . Ac o feibion Elam ; Mataneia , Sechareia , a Jehiel , ac Abdi , a Jeremoth , ac Eleia . Ac o feibion Sattu ; Elioenai , Eliasib , Mataneia , a Jeremoth , a Sabad , ac Asisa . Ac o feibion Bebai ; Jehohanan , Hananeia , Sabbai , ac Athlai . Ac o feibion Bani ; Mesulam , Maluch , ac Adaia , Jasub , a Seal , a Ramoth . Ac o feibion Pahath‐Moab ; Adna , a Chelal , Benaia , Maaseia , Mataneia , Besaleel , a Binnui , a Manasse . Ac o feibion Harim ; Elieser , Isia , Malcheia , Semaia , Simeon , Benjamin , Maluch , a Semareia . O feibion Hasum ; Matenai , Matatha , Sabad , Eliffelet , Jeremai , Manasse , a Simei . O feibion Bani ; Maadai , Amram , ac Uel , Benaia , Bedeia , Celu , Faneia , Meromoth , Eliasib , Mataneia , Matenai , a Jaasau , A Bani , a Binnui , Simei , A Selemeia , a Nathan , ac Adaia , Machnadebai , Sasai , Sarai , Asareel , a Selemeia , a Semareia , Salum , Amareia , a Joseff . O feibion Nebo ; Jeiel , Matitheia , Sabad , Sebina , Jadua , a Joel , a Benaia . Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr : ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt . Geiriau Nehemeia mab Hachaleia . A bu ym mis Cisleu , yn yr ugeinfed flwyddyn , pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan , Ddyfod o Hanani , un o’m brodyr , efe a gwŷr o Jwda ; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai , y rhai a adawsid o’r caethiwed , ac am Jerwsalem . A hwy a ddywedasant wrthyf , Y gweddillion , y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd : mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd , a’i phyrth a losgwyd â thân . A phan glywais y geiriau hyn , myfi a eisteddais ac a wylais , ac a alerais dalm o ddyddiau ; a bûm yn ymprydio , ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd ; A dywedais , Atolwg , Arglwydd Dduw y nefoedd , y Duw mawr ac ofnadwy , yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion : Bydded , atolwg , dy glust yn clywed , a’th lygaid yn agored , i wrando ar weddi dy was , yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos , dros feibion Israel dy weision , ac yn cyffesu pechodau meibion Israel , y rhai a bechasom i’th erbyn : myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom . Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn , ac ni chadwasom y gorchmynion , na’r deddfau , na’r barnedigaethau , a orchmynnaist i Moses dy was . Cofia , atolwg , y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was , gan ddywedyd , Os chwi a droseddwch , myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd : Ond os dychwelwch ataf fi , a chadw fy ngorchmynion , a’u gwneuthur hwynt ; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd , eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno , ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo . A hwy ydynt dy weision a’th bobl , y rhai a waredaist â’th fawr allu , ac â’th law nerthol . Atolwg , Arglwydd , bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was , ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw : llwydda hefyd , atolwg , dy was heddiw , a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn . Canys myfi oedd drulliad i’r brenin . Ac ym mis Nisan , yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin , yr oedd gwin o’i flaen ef : a mi a gymerais y gwin , ac a’i rhoddais i’r brenin . Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef . Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf , Paham y mae dy wynepryd yn drist , a thithau heb fod yn glaf ? nid yw hyn ond tristwch calon . Yna yr ofnais yn ddirfawr : A dywedais wrth y brenin , Byw fyddo’r brenin yn dragywydd : paham na thristâi fy wyneb , pan fyddai y ddinas , tŷ beddrod fy nhadau , wedi ei dinistrio , a’i phyrth wedi eu hysu â thân ? A’r brenin a ddywedodd wrthyf , Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno ? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd . A mi a ddywedais wrth y brenin , O rhynga bodd i’r brenin , ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di , ar i ti fy anfon i Jwda , i ddinas beddrod fy nhadau , fel yr adeiladwyf hi . A’r brenin a ddywedodd wrthyf , a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef , Pa hyd y bydd dy daith di , a pha bryd y dychweli ? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i , a minnau a nodais iddo amser . Yna y dywedais wrth y brenin , O rhynga bodd i’r brenin , rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon , fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda ; A llythyr at Asaff , ceidwad coedwig y brenin , fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ , ac i fur y ddinas , ac i’r tŷ yr elwyf iddo . A’r brenin a roddodd i mi , fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi . Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon , ac a roddais iddynt lythyrau y brenin . A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu , a marchogion gyda mi . Pan glybu Sanbalat yr Horoniad , a Thobeia y gwas , yr Ammoniad , y peth hyn , bu ddrwg iawn ganddynt , am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel . Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem , ac a fûm yno dridiau . A chyfodais liw nos , myfi ac ychydig wŷr gyda mi ; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem : ac anifail nid oedd gennyf , ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno . A mi a euthum allan liw nos , trwy borth y glyn , ar gyfer ffynnon y ddraig , ac at borth y dom ; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio , a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân . Yna y tramwyais i borth y ffynnon , ac at bysgodlyn y brenin : ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio . A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos , ac a ddeliais sylw ar y mur , ac a ddychwelais , ac a ddeuthum trwy borth y glyn , ac felly y troais yn ôl . A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i , na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur ; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon , nac i’r offeiriaid , nac i’r pendefigion , nac i’r penaethiaid , nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith . Yna y dywedais wrthynt , Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo , fod Jerwsalem wedi ei dinistrio , a’i phyrth wedi eu llosgi â thân : deuwch , ac adeiladwn fur Jerwsalem , fel na byddom mwyach yn waradwydd . Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf ; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf . A hwy a ddywedasant , Cyfodwn , ac adeiladwn . Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni . Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad , a Thobeia y gwas , yr Ammoniad , a Gesem yr Arabiad , hyn , hwy a’n gwatwarasant ni , ac a’n dirmygasant , ac a ddywedasant , Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur ? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin ? Yna yr atebais hwynt , ac y dywedais wrthynt , Duw y nefoedd , efe a’n llwydda ni ; a ninnau ei weision ef a gyfodwn , ac a adeiladwn : ond nid oes i chwi ran , na chyfiawnder , na choffadwriaeth yn Jerwsalem . Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd , a’i frodyr yr offeiriaid , a hwy a adeiladasant borth y defaid ; hwy a’i cysegrasant , ac a osodasant ei ddorau ef ; ie , hyd dŵr Mea y cysegrasant ef , a hyd dŵr Hananeel . A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho . A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri . A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod ; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef , ac a osodasant ei ddorau , ei gloeau , a’i farrau . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia , mab Cos . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia , mab Mesesabeel . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana . A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid ; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd . A Jehoiada mab Pasea , a Mesulam mab Besodeia , a gyweiriasant yr hen borth ; hwy a osodasant ei drawstiau ef , ac a osodasant i fyny ei ddorau , a’i gloeau , a’i farrau . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad , a Jadon y Meronothiad , gwŷr Gibeon a Mispa , hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon . Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia , o’r gofaint aur . Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia , mab un o’r apothecariaid : a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur , tywysog hanner rhan Jerwsalem . A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff , ar gyfer ei dŷ . A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau . Malcheia mab Harim , a Hasub mab Pahath‐Moab , a gyweiriasant ran arall , a thŵr y ffyrnau . A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes , tywysog hanner rhan Jerwsalem , efe a’i ferched . Porth y glyn a gyweiriodd Hanun , a thrigolion Sanoa ; hwynt‐hwy a’i hadeiladasant ef , ac a osodasant ei ddorau ef , ei gloeau , a’i farrau , a mil o gufyddau ar y mur , hyd borth y dom . Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab , tywysog rhan o Beth‐haccerem ; efe a’i hadeiladodd , ac a osododd ei ddorau , ei gloeau , a’i farrau . A Salum mab Col‐hose , tywysog rhan o Mispa , a gyweiriodd borth y ffynnon ; efe a’i hadeiladodd , ac a’i todd , ac a osododd ei ddorau ef , ei gloeau , a’i farrau , a mur pysgodlyn Siloa , wrth ardd y brenin , a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc , tywysog hanner rhan Beth‐sur , hyd ar gyfer beddrod Dafydd , a hyd y pysgodlyn a wnaethid , a hyd dŷ y cedyrn . Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid , Rehum mab Bani . Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia , tywysog hanner rhan Ceila , yn ei fro ei hun . Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant , Bafai mab Henadad , tywysog hanner rhan Ceila . A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua , tywysog Mispa , ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau , wrth y drofa . Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall , o’r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad . Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia , fab Cos , a gyweiriodd y mesur arall , o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib . Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid , gwŷr y gwastadedd , a gyweiriasant . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin , a Hasub , gyferbyn â’u tŷ . Wedi yntau Asareia mab Maaseia , mab Ananeia , a gyweiriodd wrth ei dŷ . Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall , o dŷ Asareia hyd y drofa , sef hyd y gongl . Palal mab Usai , ar gyfer y drofa , a’r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin , yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar . Ar ei ôl ef , Pedaia mab Paros . A’r Nethiniaid , y rhai oedd yn trigo yn Offel , hyd ar gyfer porth y dwfr , tua’r dwyrain , a’r tŵr oedd yn myned allan . Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall , ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan , hyd fur Offel . Oddi ar borth y meirch , yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â’i dŷ . Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ . Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia , ceidwad porth y dwyrain . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia , a Hanun chweched mab Salaff , y mesur arall . Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell . Ar ei ôl yntau Malcheia , mab y gof aur , a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid , a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad , hyd ystafell y gongl . A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid , yr eurychod a’r marchnadyddion a gyweiriasant . Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur , efe a gynddeiriogodd ynddo , ac a lidiodd yn ddirfawr , ac a watwarodd yr Iddewon . Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria , ac a ddywedodd , Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur ? a adewir iddynt hwy ? a aberthant ? a orffennant mewn diwrnod ? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch , wedi eu llosgi ? A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl , ac efe a ddywedodd , Er eu bod hwy yn adeiladu , eto ped elai lwynog i fyny , efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt . Gwrando , O ein Duw ; canys yr ydym yn ddirmygus : dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt , a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed : Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt , ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di : canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr . Felly nyni a adeiladasom y mur : a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner : canys yr oedd gan y bobl galon i weithio . Ond pan glybu Sanbalat , a Thobeia , a’r Arabiaid , a’r Ammoniaid , a’r Asdodiaid , gwbl gyweirio muriau Jerwsalem , a dechrau cau yr adwyau ; yna y llidiasant yn ddirfawr : A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem , ac i’w rhwystro . Yna y gweddiasom ar ein Duw , ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos , o’u plegid hwynt . A Jwda a ddywedodd , Nerth y cludwyr a wanhaodd , a phridd lawer sydd , fel na allwn ni adeiladu y mur . A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant , Ni chânt wybod , na gweled , nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt , a’u lladd , a rhwystro eu gwaith hwynt . A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt , dywedasant wrthym ddengwaith , O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni , y byddant arnoch chwi . Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf , o’r tu ôl i’r mur , ac yn y lleoedd uchaf ; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl , â’u cleddyfau , â’u gwaywffyn , ac â’u bwâu . A mi a edrychais , ac a gyfodais , ac a ddywedais wrth y pendefigion , a’r swyddogion , ac wrth y rhan arall o’r bobl , Nac ofnwch rhagddynt : cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy , ac ymleddwch dros eich brodyr , eich meibion a’ch merched , eich gwragedd a’ch tai . A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni , Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt ; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur , bawb i’w waith . Ac o’r dydd hwnnw , hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith , a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn , a tharianau , a bwâu , a llurigau ; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda . Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur , ac yn dwyn beichiau , a’r rhai oedd yn llwytho , oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith , ac â’r llaw arall yn dal arf . Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun , ac yn adeiladu : a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i . A mi a ddywedais wrth y pendefigion , ac wrth y swyddogion , ac wrth y rhan arall o’r bobl , Y gwaith sydd fawr a helaeth , a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur , ymhell oddi wrth ein gilydd . Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn , yno ymgesglwch atom . Ein Duw ni a ymladd drosom . Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith : a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn , o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr . Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl , Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem , fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos , a’r dydd mewn gwaith . Felly myfi , a’m brodyr , a’m gweision , a’r gwylwyr oedd ar fy ôl , ni ddiosgasom ein dillad , ond a ddiosgai pob un i’w golchi . Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl , a’u gwragedd , yn erbyn yr Iddewon eu brodyr . Canys yr oedd rhai yn dywedyd , Y mae llawer ohonom ni , ein meibion , a’n merched : am hynny yr ydym yn cymryd ŷd , fel y bwytaom , ac y byddom byw . Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd , Ein meysydd , a’n gwinllannoedd , a’n tai , yr ydym ni yn eu gwystlo , fel y prynom ŷd rhag y newyn . Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd , Benthyciasom arian i dalu treth y brenin , a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd . Ac yn awr , ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr , ein plant ni fel eu plant hwy : ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision , ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo , ac heb fod gennym i’w rhyddhau ; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn . Yna y llidiais yn ddirfawr , pan glywais eu gwaedd hwynt , a’r geiriau hyn . Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof , a mi a ddwrdiais y pendefigion , a’r swyddogion , ac a ddywedais wrthynt , Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd . A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr . Dywedais hefyd wrthynt , Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon , y rhai a werthasid i’r cenhedloedd ; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr ? neu a werthir hwynt i ni ? Yna y tawsant , ac ni chawsant air i ateb . A mi a ddywedais , Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur : oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni , o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion ? Myfi hefyd , a’m brodyr , a’m llanciau , ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd : peidiwn , atolwg , â’r ocraeth yma . Rhoddwch atolwg , iddynt heddiw eu meysydd , eu gwinllannoedd , a’u holewyddlannoedd , a’u tai drachefn ; a chanfed ran yr arian , a’r ŷd , y gwin , a’r olew , yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt . Hwythau a ddywedasant , Nyni a’u rhoddwn drachefn , ac ni cheisiwn ddim ganddynt ; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru . Yna y gelwais yr offeiriaid , ac a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn . A mi a ysgydwais odre fy ngwisg , ac a ddywedais , Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o’i dŷ , ac o’i lafur , yr hwn ni chwblhao y gair hwn , ac felly y byddo efe yn ysgydwedig , ac yn wag . A’r holl gynulleidfa a ddywedasant , Amen : ac a folianasant yr Arglwydd . A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn . Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda , o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin , sef deuddeng mlynedd , ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog . Ond y tywysogion cyntaf , y rhai a fuasai o’m blaen i , fuasent drymion ar y bobl , ac a gymerasent ganddynt fara a gwin , heblaw deugain sicl o arian ; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl : ond ni wneuthum i felly , rhag ofn Duw . Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn , ac ni phrynasom un maes : a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith . Ac yr oedd ar fy mwrdd i , o Iddewon ac o swyddogion , ddengwr a saith ugain , heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch . A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych , chwech o ddefaid dewisol , ac adar wedi eu paratoi i mi ; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math , yn ddiamdlawd : ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog ; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma . Cofia fi , O fy Nuw , er lles i mi , yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn . Aphan glybu Sanbalat , a Thobeia , a Gesem yr Arabiad , a’r rhan arall o’n gelynion , adeiladu ohonof fi y mur , ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo ; ( er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth ; ) Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf , gan ddywedyd , Tyred , ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono . Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi . Minnau a anfonais genhadau atynt hwy , gan ddywedyd , Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur ; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered : paham y safai y gwaith , pan ymadawn ag ef , a dyfod i waered atoch chwi ? Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith ; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt . Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud , â llythyr agored yn ei law : Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig , Ymysg y cenhedloedd y mae y gair , a Gasmu sydd yn dywedyd , dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela : oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur , fel y byddit frenin arnynt , yn ôl y geiriau hyn ; A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem , gan ddywedyd , Y mae brenin yn Jwda . Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin : gan hynny tyred yn awr , ac ymgynghorwn ynghyd . Yna yr anfonais ato , gan ddywedyd , Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd : ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt . Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni , gan ddywedyd , Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith , fel nas gwneir ef . Gan hynny cryfha yn awr , O Dduw , fy nwylo i . A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia , mab Mehetabeel , yr hwn oedd wedi cau arno ; ac efe a ddywedodd , Cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw , a chaewn ddrysau y deml : canys y maent yn dyfod i’th ladd di ; a lliw nos y deuant i’th ladd di . Yna y dywedais , a ffy gŵr o’m bath i ? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml , fel y byddai byw ? Nid af i mewn . Ac wele , gwybûm nad Duw a’i hanfonasai ef ; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i : canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef . Oherwydd hyn y cyflogasid ef , fel y’m hofnid i , ac y gwnawn felly , ac y pechwn ; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn , fel y’m gwaradwyddent . O fy Nuw , cofia Tobeia a Sanbalat , yn ôl eu gweithredoedd hynny ; a Noadeia y broffwydes hefyd , a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i . A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul , mewn deuddeng niwrnod a deugain . A phan glybu ein holl elynion ni hynny , a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch , hwy a ofnasant , ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun : canys gwybuant mai trwy ein Duw ni y gwnaethid y gwaith hwn . Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia ; a’r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau . Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef ; oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara ; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo . A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i ; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau . A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i . Ac wedi adeiladu y mur , a chyfodi ohonof y dorau , a gosod y porthorion , a’r cantorion , a’r Lefiaid ; Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd , ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem , canys efe oedd ŵr ffyddlon , ac yn ofni Duw yn fwy na llawer : A mi a ddywedais wrthynt , Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul ; a thra fyddont hwy yn sefyll yno , caeant y drysau , a phreniant : a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem , pob un yn ei wyliadwriaeth , a phob un ar gyfer ei dŷ . A’r ddinas oedd eang a mawr ; ac ychydig bobl ynddi : a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu . A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion , y tywysogion hefyd , a’r bobl , i’w cyfrif wrth eu hachau . A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf , a chefais yn ysgrifenedig ynddo , Dyma feibion y dalaith , y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon , ac a ddychwelasant i Jerwsalem , ac i Jwda , pob un i’w ddinas ei hun ; Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel : Jesua , Nehemeia , Asareia , Raamia , Nahamani , Mordecai , Bilsan , Mispereth , Bigfai , Nehum , Baana . Dyma rifedi dynion pobl Israel ; Meibion Paros , dwy fil cant a deuddeg a thrigain . Meibion Seffatia , tri chant a deuddeg a thrigain . Meibion Ara , chwe chant a deuddeg a deugain . Meibion Pahath‐Moab , o feibion Jesua a Joab , dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg . Meibion Elam , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Sattu , wyth gant a phump a deugain . Meibion Saccai , saith gant a thrigain . Meibion Binnui , chwe chant ac wyth a deugain . Meibion Bebai , chwe chant ac wyth ar hugain . Meibion Asgad , dwy fil tri chant a dau ar hugain . Meibion Adonicam , chwe chant a saith a thrigain . Meibion Bigfai , dwy fil a saith a thrigain . Meibion Adin , chwe chant a phymtheg a deugain . Meibion Ater o Heseceia , tri ar bymtheg a phedwar ugain . Meibion Hasum , tri chant ac wyth ar hugain . Meibion Besai , tri chant a phedwar ar hugain . Meibion Hariff , cant a deuddeg . Meibion Gibeon , pymtheg a phedwar ugain . Gwŷr Bethlehem a Netoffa , cant ac wyth a phedwar ugain . Gwŷr Anathoth , cant ac wyth ar hugain . Gwŷr Beth‐asmafeth , dau a deugain . Gwŷr Ciriath‐jearim , Ceffira , a Beeroth , saith gant a thri a deugain . Gwŷr Rama a Gaba , chwe chant ac un ar hugain . Gwŷr Michmas , cant a dau ar hugain . Gwŷr Bethel ac Ai , cant a thri ar hugain . Gwŷr Nebo arall , deuddeg a deugain . Meibion Elam arall , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Harim , tri chant ac ugain . Meibion Jericho , tri chant a phump a deugain . Meibion Lod , Hadid , ac Ono , saith gant ac un ar hugain . Meibion Senaa , tair mil naw cant a deg ar hugain . Yr offeiriaid : meibion Jedaia , o dŷ Jesua , naw cant a thri ar ddeg a thrigain . Meibion Immer , mil a deuddeg a deugain . Meibion Pasur , mil dau cant a saith a deugain . Meibion Harim , mil a dau ar bymtheg . Y Lefiaid : meibion Jesua , o Cadmiel , ac o feibion Hodefa , pedwar ar ddeg a thrigain . Y cantorion : meibion Asaff , cant ac wyth a deugain . Y porthorion : meibion Salum , meibion Ater , meibion Talmon , meibion Accub , meibion Hatita , meibion Sobai , cant a thri ar bymtheg ar hugain . Y Nethiniaid : meibion Siha , meibion Hasuffa , meibion Tabbaoth , Meibion Ceros , meibion Sïa , meibion Padon , Meibion Lebana , meibion Hagaba , meibion Salmai , Meibion Hanan , meibion Gidel , meibion Gahar , Meibion Reaia , meibion Resin , meibion Necoda , Meibion Gassam , meibion Ussa , meibion Phasea , Meibion Besai , meibion Meunim , meibion Neffisesim , Meibion Bacbuc , meibion Hacuffa , meibion Harhur , Meibion Baslith , meibion Mehida , meibion Harsa , Meibion Barcos , meibion Sisera , meibion Thama , Meibion Neseia , meibion Hatiffa . Meibion gweision Solomon : meibion Sotai , meibion Soffereth , meibion Perida , Meibion Jaala , meibion Darcon , meibion Gidel , Meibion Seffatia , meibion Hattil , meibion Pochereth o Sebaim , meibion Amon . Yr holl Nethiniaid , a meibion gweision Solomon , oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain . A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela , Tel‐haresa , Cerub , Adon , ac Immer : ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau , na’u hiliogaeth , ai o Israel yr oeddynt . Meibion Delaia , meibion Tobeia , meibion Necoda , chwe chant a dau a deugain . Ac o’r offeiriaid : meibion Habaia , meibion Cos , meibion Barsilai , yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig , ac a alwyd ar eu henw hwynt . Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau , ond nis cafwyd : am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth . A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt , na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf , hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim . Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain . Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion , y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain : a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau . Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain ; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain ; Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain ; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain . A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith . Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur , deg a deugain o ffiolau , pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid . A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur , a dwy fil a deucant o bunnau o arian . A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur , a dwy fil o bunnau yn arian , a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid . A’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r porthorion , a’r cantorion , a rhai o’r bobl , a’r Nethiniaid , a holl Israel , a drigasant yn eu dinasoedd . A phan ddaeth y seithfed mis , yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd . A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr , ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd , am ddwyn llyfr cyfraith Moses , yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel . Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr , a gwragedd , a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus , ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis . Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr , o’r bore hyd hanner dydd , gerbron y gwŷr , a’r gwragedd , a’r rhai oedd yn medru deall : a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith . Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed , yr hwn a wnaethid i’r peth hyn ; a chydag ef y safodd Matitheia , a Sema , ac Anaia , ac Ureia , a Hilceia , a Maaseia , ar ei law ddeau ef ; a Phedaia , a Misael , a Malcheia , a Hasum , a Hasbadana , Sechareia , a Mesulam , ar ei law aswy ef . Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl ; ( canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl ; ) a phan agorodd , yr holl bobl a safasant . Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd , y Duw mawr . A’r holl bobl a atebasant , Amen , Amen , gan ddyrchafu eu dwylo : a hwy a ymgrymasant , ac a addolasant yr Arglwydd â’u hwynebau tua’r ddaear . Jesua hefyd , a Bani , Serebeia , Jamin , Accub , Sabbethai , Hodeia , Maaseia , Celita , Asareia , Josabad , Hanan , Pelaia , a’r Lefiaid , oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl , a’r bobl yn sefyll yn eu lle . A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr , yng nghyfraith Dduw : gan osod allan y synnwyr , fel y deallent wrth ddarllen . A Nehemeia , efe yw y Tirsatha , ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd , a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl , a ddywedasant wrth yr holl bobl , Y mae heddiw yn sanctaidd i’r Arglwydd eich Duw ; na alerwch , ac nac wylwch : canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , bwytewch y breision , ac yfwch y melysion , ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod ; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd : am hynny na thristewch ; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi . A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl , gan ddywedyd , Tewch : canys y dydd heddiw sydd sanctaidd , ac na thristewch . A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed , ac i anfon ymaith rannau , ac i wneuthur llawenydd mawr ; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt . A’r ail ddydd , tadau pennaf yr holl bobl , yr offeiriaid , a’r Lefiaid , a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd , i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith . A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith , yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses , y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis ; Ac y dylent gyhoeddi , a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd , a thrwy Jerwsalem , gan ddywedyd , Ewch i’r mynydd , a dygwch ganghennau olewydd , a changau pinwydd , a changau y myrtwydd , a changau y palmwydd , a changhennau o’r prennau caeadfrig , i wneuthur bythod , fel y mae yn ysgrifenedig . Felly y bobl a aethant allan , ac a’u dygasant , ac a wnaethant iddynt fythod , bob un ar ei nen , ac yn eu cynteddoedd , ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw , ac yn heol porth y dwfr , ac yn heol porth Effraim . A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed , a wnaethant fythod , ac a eisteddasant yn y bythod : canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly . Ac yr oedd llawenydd mawr iawn . Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd , o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf . A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod ; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa , yn ôl y ddefod . Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn , meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd , ac mewn sachliain , a phridd arnaddynt . A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid , ac a safasant , ac a gyffesasant eu pechodau , ac anwireddau eu tadau . A chodasant i fyny yn eu lle , ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw , bedair gwaith yn y dydd ; a phedair gwaith yr ymgyffesasant , ac yr ymgrymasant i’r Arglwydd eu Duw . Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid , Jesua , a Bani , Cadmiel , Sebaneia , Bunni , Serebeia , Bani , a Chenani ; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw : A’r Lefiaid , Jesua , a Chadmiel , Bani , Hasabneia , Serebeia , Hodeia , Sebaneia , a Phethaheia , a ddywedasant , Cyfodwch , bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb : a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig , goruwch pob bendith a moliant . Ti yn unig wyt Arglwydd : ti a wnaethost y nefoedd , nefoedd y nefoedd , a’u holl luoedd hwynt , y ddaear a’r hyn oll sydd arni , y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt ; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll ; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti . Ti yw yr Arglwydd Dduw , yr hwn a ddetholaist Abram , ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid , ac a roddaist iddo enw Abraham : A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di , ac a wnaethost gyfamod ag ef , ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid , yr Hefiaid , yr Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Jebusiaid , a’r Girgasiaid ; ac a gwblheaist dy eiriau : oherwydd cyfiawn wyt . Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft ; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch : A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo , ac ar ei holl weision , ac ar holl bobl ei wlad ef : canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt . A gwnaethost i ti enw , fel y gwelir y dydd hwn . Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt , fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir ; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod , fel maen i ddyfroedd cryfion : Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl , a lliw nos mewn colofn dân , i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi . Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd ; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn , a chyfreithiau gwir , deddfau a gorchmynion daionus : A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt ; gorchmynion hefyd , a deddfau , a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt , trwy law Moses dy was : Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn , a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched ; a thi a ddywedaist wrthynt , y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt . Ond hwynt‐hwy a’n tadau ni a falchiasant , ac a galedasant eu gwarrau , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di ; Ac a wrthodasant wrando , ac ni chofiasant dy ryfeddodau , y rhai a wnaethit ti erddynt ; caledasant hefyd eu gwarrau , a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd : eto ti ydwyt Dduw parod i faddau , graslon , a thrugarog , hwyrfrydig i ddicter , ac aml o drugaredd , ac ni wrthodaist hwynt . Hefyd , pan wnaethent iddynt lo toddedig , a dywedyd , Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft , a chablasent yn ddirfawr ; Er hynny , yn dy aml dosturiaethau , ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch : y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd , i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd ; na’r golofn dân trwy y nos , i oleuo iddynt , ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi . Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt , ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau ; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched . Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch , heb fod arnynt eisiau dim : eu gwisgoedd ni heneiddiasant , a’u traed ni chwyddasant . A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd , a rhennaist hwynt i gonglau . Felly hwy a feddianasant wlad Sihon , a gwlad brenin Hesbon , a gwlad Og brenin Basan . Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd , ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu . Felly y meibion a aethant i mewn , ac a feddianasant y wlad , a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad , y Canaaneaid , o’u blaen hwynt , ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt , eu brenhinoedd hefyd , a phobloedd y wlad , fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys . A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn , a daear fras , ac a feddianasant dai llawn o bob daioni , pydewau cloddiedig , gwinllannoedd , ac olewyddlannoedd , a choed ffrwythlon yn aml ; a hwy a fwytasant , ac a ddigonwyd , ac a frasawyd , ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di . Eto hwy a anufuddhasant , ac a wrthryfelasant yn dy erbyn , taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn , a’th broffwydi a laddasant , y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat ; ac a gablasant yn ddirfawr . Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr , y rhai a’u cystuddiasant : ac yn amser eu cyfyngdra , pan waeddasant arnat , a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd , ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr , y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr . Ond pan lonyddodd arnynt , dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di : am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion , y rhai a arglwyddiaethasant arnynt : eto pan ddychwelasant , a gweiddi arnat , tithau o’r nefoedd a wrandewaist , ac a’u gwaredaist hwynt , yn ôl dy dosturiaethau , lawer o amseroedd . A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt , i’w dychwelyd at dy gyfraith di : ond hwy a falchiasant , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion , eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau , ( y rhai os gwna dyn hwynt , efe fydd byw ynddynt , ) a gwnaethant ysgwydd i gilio , ac a galedasant eu gwarrau , ac ni wrandawsant . Er hynny ti a’u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer , ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi ; ond ni wrandawsant : am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd . Eto , er mwyn dy fawr drugareddau , ni lwyr ddifethaist hwynt , ac ni wrthodaist hwynt ; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt . Ac yn awr , O ein Duw ni , y Duw mawr , cadarn , ac ofnadwy , yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd ; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni , i’n brenhinoedd , i’n tywysogion , ac i’n hoffeiriaid , ac i’n proffwydi , ac i’n tadau , ac i’th holl bobl , er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn . Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni : canys gwirionedd a wnaethost ti , a ninnau a wnaethom yn annuwiol . Ein brenhinoedd hefyd , ein tywysogion , ein hoffeiriaid , a’n tadau , ni chadwasant dy gyfraith , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion , na’th dystiolaethau , y rhai a dystiolaethaist wrthynt . A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth , nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt , nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt ; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd . Wele ni heddiw yn weision ; ac am y wlad a roddaist i’n tadau ni , i fwyta ei ffrwyth a’i daioni , wele ni yn weision ynddi . A mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau : ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff , ac ar ein hanifeiliaid , yn ôl eu hewyllys ; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr . Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr , ac yn ei ysgrifennu ; ac y mae ein tywysogion , ein Lefiaid , a’n hoffeiriaid , yn ei selio . A’r rhai a seliodd oedd , Nehemeia y Tirsatha , mab Hachaleia , a Sidcia , Seraia , Asareia , Jeremeia , Pasur , Amareia , Malcheia , Hattus , Sebaneia , Maluch , Harim , Meremoth , Obadeia , Daniel , Ginnethon , Baruch , Mesulam , Abeia , Miamin , Maaseia , Bilgai , Semaia : dyma yr offeiriaid . A’r Lefiaid : Jesua mab Asaneia , Binnui o feibion Henadad , Cadmiel ; A’u brodyr hwynt ; Sebaneia , Hodeia , Celita , Pelaia , Hanan , Micha , Rehob , Hasabeia , Saccur , Serebeia , Sebaneia , Hodeia , Bani , Beninu . Penaethiaid y bobl ; Paros , Pahath‐Moab , Elam , Sattu , Bani , Bunni , Asgad , Bebai , Adoneia , Bigfai , Adin , Ater , Hisceia , Assur , Hodeia , Hasum , Besai , Hariff , Anathoth , Nebai , Magpias , Mesulam , Hesir , Mesesabeel , Sadoc , Jadua , Pelatia , Hanan , Anaia , Hosea , Hananeia , Hasub , Halohes , Pileha , Sobec , Rehum , Hasabna , Maaseia , Ac Ahïa , Hanan , Anan , Maluch , Harim , Baana . A’r rhan arall o’r bobl , yr offeiriaid , y Lefiaid , y porthorion , y cantorion , y Nethiniaid , a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw , eu gwragedd hwynt , eu meibion , a’u merched , pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo ; Hwy a lynasant wrth eu brodyr , eu penaethiaid , ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw , yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw : ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni , a’i farnedigaethau , a’i ddeddfau : Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad : ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni : Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd , neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu , na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth , neu ar y dydd sanctaidd ; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn , a chodi pob dyled . A ni a osodasom arnom ddeddfau , ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn , tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni , A thuag at y bara gosod , a’r bwyd‐offrwm gwastadol , a thuag at y poethoffrwm gwastadol , y Sabothau , y newyddloerau , a’r gwyliau arbennig , a thuag at y cysegredig bethau , a thuag at y pech-ebyrth , i wneuthur cymod dros Israel ; a thuag at holl waith tŷ ein Duw . A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid , y Lefiaid , a’r bobl , am goed yr offrwm , fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni , yn ôl tai ein tadau ni , ar amserau nodedig , o flwyddyn i flwyddyn , i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw , fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith : Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir , a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren , o flwyddyn i flwyddyn , i dŷ yr Arglwydd : A’r rhai cyntaf‐anedig o’n meibion , ac o’n hanifeiliaid , fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith , a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a’n defaid , i’w dwyn i dŷ ein Duw , at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni . A blaenion ein toes , a’n hoffrymau , a ffrwyth pob pren , gwin ac olew , a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw , a degwm ein tir i’r Lefiaid ; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni . A bydd yr offeiriad , mab Aaron , gyda’r Lefiaid , pan fyddo’r Lefiaid yn degymu : a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni , i’r celloedd yn y trysordy . Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd , y gwin , a’r olew , i’r ystafelloedd , lle y mae llestri’r cysegr , a’r offeiriaid sydd yn gweini , a’r porthorion , a’r cantorion ; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw . A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem : a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd , a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill . A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem . A dyma benaethiaid y dalaith , y rhai a drigasant yn Jerwsalem : ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd , sef Israel , yr offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r Nethiniaid , a meibion gweision Solomon . A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem . O feibion Jwda ; Athaia mab Usseia , fab Sechareia , fab Amareia , fab Seffatia , fab Mahalaleel , o feibion Peres ; Maaseia hefyd mab Baruch , fab Col‐hose , fab Hasaia , fab Adaia , fab Joiarib , fab Sechareia , fab Siloni . Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem , oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus . A dyma feibion Benjamin ; Salu mab Mesulam , fab Joed , fab Pedaia , fab Colaia , fab Maaseia , fab Ithiel , fab Jesaia . Ac ar ei ôl ef Gabai , Salai ; naw cant ac wyth ar hugain . A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy : a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas . O’r offeiriaid : Jedaia mab Joiarib , Jachin . Seraia mab Hilceia , fab Mesulam , fab Sadoc , fab Meraioth , fab Ahitub , blaenor tŷ Dduw . A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ , oedd wyth cant a dau ar hugain : ac Adaia mab Jeroham , fab Pelalia , fab Amsi , fab Sechareia , fab Pasur , fab Malcheia , A’i frodyr , pennau‐cenedl , dau cant a dau a deugain : ac Amasai mab Asareel , fab Ahasai , fab Mesilemoth , fab Immer , A’u brodyr hwynt , yn gedyrn o nerth , oedd gant ac wyth ar hugain : a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt . Ac o’r Lefiaid : Semaia mab Hasub , fab Asricam , fab Hasabeia fab Bunni . Sabbethai hefyd , a Josabad , o benaethiaid y Lefiaid , oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw . Mataneia hefyd mab Micha , fab Sabdi , fab Asaff , oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi : a Bacbuceia yn ail o’i frodyr ; ac Abda mab Sammua , fab Galal , fab Jedwthwn . Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd , oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain . A’r porthorion , Accub , Talmon , a’u brodyr yn cadw y pyrth , oedd gant a deuddeg a thrigain . A’r rhan arall o Israel , o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda , pob un yn ei etifeddiaeth . Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr : Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid . A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem , oedd Ussi mab Bani , fab Hasabeia , fab Mataneia , fab Micha : o feibion Asaff , y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw . Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd , fod ordinhad safadwy i’r cantorion , dogn dydd yn ei ddydd . A Phethaheia mab Mesesabeel , o feibion Sera mab Jwda , oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl . Ac am y trefydd a’u meysydd , rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a’i phentrefi , ac yn Dibon a’i phentrefi , ac yn Jecabseel a’i phentrefi , Ac yn Jesua , ac ym Molada , ac yn Beth‐phelet , Ac yn Hasar‐sual , ac yn Beerseba a’i phentrefi , Ac yn Siclag , ac ym Mechona ac yn ei phentrefi , Ac yn En‐rimmon , ac yn Sarea , ac yn Jarmuth , Sanoa , Adulam , a’u trefydd , Lachis a’i meysydd , yn Aseca a’i phentrefi . A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom . A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas , ac Aia , a Bethel , a’u pentrefi , Yn Anathoth , Nob , Ananeia , Hasor , Rama , Gittaim , Hadid , Seboim , Nebalat , Lod , ac Ono , glyn y crefftwyr . Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda , ac yn Benjamin . Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid , y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel , a Jesua : sef Seraia , Jeremeia , Esra , Amareia , Maluch , Hattus , Sechaneia , Rehum , Meremoth , Ido , Ginnetho , Abeia , Miamin , Maadia , Bilga , Semaia , a Joiarib , Jedaia , Salu , Amoc , Hilceia , Jedaia : dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua . A’r Lefiaid : Jesua , Binnui , Cadmiel , Serebeia , Jwda ; a Mataneia oedd ar y gerdd , efe a’i frodyr . Bacbuceia hefyd ac Unni , eu brodyr hwynt , oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau . A Jesua a genhedlodd Joiacim , a Joiacim a genhedlodd Eliasib , ac Eliasib a genhedlodd Joiada , A Joiada a genhedlodd Jonathan , a Jonathan a genhedlodd Jadua . Ac yn nyddiau Joiacim , yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl : o Seraia , Meraia ; o Jeremeia , Hananei ; O Esra , Mesulam ; o Amareia Jehohanan ; O Melichu , Jonathan ; o Sebaneia , Joseff ; O Harim , Adna ; o Meraioth , Helcai ; O Ido , Sechareia ; o Ginnethon , Mesulam ; O Abeia , Sichri ; o Miniamin , o Moadeia , Piltai ; O Bilga , Sammua ; o Semaia , Jehonathan ; Ac o Joiarib , Matenai ; o Jedaia , Ussi ; O Salai , Calai ; o Amoc , Eber ; O Hilceia , Hasabeia : o Jedaia , Nethaneel . Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib , Joiada , a Johanan , a Jadua , oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl : a’r offeiriaid , hyd deyrnasiad Dareius y Persiad . Meibion Lefi , y pennau‐cenedl , wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau , hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib . A phenaethiaid y Lefiaid , oedd Hasabeia , Serebeia , a Jesua mab Cadmiel , a’u brodyr ar eu cyfer , i ogoneddu ac i foliannu , yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw , gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth . Mataneia , a Bacbuceia , Obadeia , Mesulam , Talmon , Accub , oedd borthorion , yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth . Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua , fab Josadac , ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog , ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd . Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd , i’w dwyn i Jerwsalem , i wneuthur y cysegriad â gorfoledd , mewn diolchgarwch , ac mewn cân , â symbalau , nablau , ac â thelynau . A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem , ac o drefydd Netoffathi , Ac o dŷ Gilgal , ac o feysydd Geba ac Asmafeth : canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem . Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant ; glanhasant hefyd y bobl , a’r pyrth , a’r mur . A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur ; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu ; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom : Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia , a hanner tywysogion Jwda , Asareia hefyd , Esra , a Mesulam , Jwda , a Benjamin , a Semaia , a Jeremeia , Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn , Sechareia mab Jonathan , fab Semaia , fab Mataneia , fab Michaia , fab Saccur , fab Asaff ; A’i frodyr ef , Semaia , ac Asarael , Milalai , Gilalai , Maai , Nethaneel , a Jwda , Hanani , ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw , ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt . Ac wrth borth y ffynnon , yr hon oedd ar eu cyfer hwynt , y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur , oddi ar dŷ Dafydd , hyd borth y dwfr tua’r dwyrain . A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu , oedd yn myned ar eu cyfer hwynt , a minnau ar eu hôl ; a hanner y bobl oedd ar y mur , oddi ar dŵr y ffyrnau , hyd y mur llydan ; Ac oddi ar borth Effraim , ac oddi ar yr hen borth , ac oddi ar borth y pysgod , a thŵr Hananeel , a thŵr Mea , hyd borth y defaid ; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth . Felly y ddwy fintai , y rhai oedd yn moliannu , a safasant yn nhŷ Dduw , a minnau , a hanner y swyddogion gyda mi : Yr offeiriaid hefyd ; Eliacim , Maaseia , Miniamin , Michaia , Elioenai , Sechareia , Hananeia , ag utgyrn : Maaseia hefyd , a Semaia , ac Eleasar , ac Ussi , a Jehohanan , a Malcheia , ac Elam , ac Esra . A’r cantorion a ganasant yn groch , a Jasraheia eu blaenor . A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion , ac y llawenhasant : canys Duw a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr : y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant : fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell . A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau , ar yr offrymau , ar y blaenffrwyth , ac ar y degymau , i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid : canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno . Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw , a gwyliadwriaeth y glanhad , yn ôl gorchymyn Dafydd , a Solomon ei fab . Canys gynt , yn nyddiau Dafydd ac Asaff , yr oedd y pen‐cantorion , a chaniadau canmoliaeth a moliant i Dduw . Ac yn nyddiau Sorobabel , ac yn nyddiau Nehemeia , holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion , a’r porthorion , dogn dydd yn ei ddydd : a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid ; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron . Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl ; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo , na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd ; Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr , eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt : eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith . A phan glywsant hwy y gyfraith , hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel . Ac o flaen hyn , Eliasib yr offeiriad , yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni , oedd gyfathrachwr i Tobeia : Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr ; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau , y thus , a’r llestri , a degwm yr ŷd , y gwin , a’r olew , a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid , a’r cantorion , a’r porthorion , ac offrymau yr offeiriaid . Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem : canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin , ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin ; Ac a ddeuthum i Jerwsalem , ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia , gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw . A bu ddrwg iawn gennyf ; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell . Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd : a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw , yr offrwm a’r thus . Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt : canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion , y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith , bob un i’w faes . Yna y dwrdiais y swyddogion , ac y dywedais , Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw ? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd , ac a’u gosodais yn eu lle . Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd , a’r gwin , a’r olew , i’r trysordai . A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau , Selemeia yr offeiriad , a Sadoc yr ysgrifennydd , a Phedaia , o’r Lefiaid : a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur , mab Mataneia : canys ffyddlon y cyfrifid hwynt , ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr . Cofia fi , fy Nuw oherwydd hyn ; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw , ac i’w wyliadwriaethau ef . Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth , ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd , ac yn llwytho asynnod , gwin hefyd , a grawnwin , a ffigys , a phob beichiau , ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth : a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth . Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi , ac yn dwyn pysgod , a phob peth gwerthadwy , y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda , ac yn Jerwsalem . Yna y dwrdiais bendefigion Jwda , ac y dywedais wrthynt , Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur , gan halogi’r dydd Saboth ? Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi ? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni , ac ar y ddinas hon ? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel , trwy halogi’r Saboth . A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth , yr erchais gau’r dorau , ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth : a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth , fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth . Felly y marchnadwyr , a gwerthwyr pob peth gwerthadwy , a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy . A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt , ac a ddywedais wrthynt , Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur ? os gwnewch eilwaith , mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn . O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach . A mi a ddywedais wrth y Lefiaid , am iddynt ymlanhau , a dyfod i gadw y pyrth , gan sancteiddio’r dydd Saboth . Am hyn hefyd cofia fi , fy Nuw , ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd . Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau , Ammonesau , a Moabesau , yn wragedd iddynt : A’u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o’r Asdodeg , ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon , ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl . Yna yr ymrysonais â hwynt , ac y melltithiais hwynt ; trewais hefyd rai ohonynt , ac a bliciais eu gwallt hwynt : a mi a’u tyngais hwynt trwy Dduw , gan ddywedyd , Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt , ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion , nac i chwi eich hunain . Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel ? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer , yr hwn oedd hoff gan ei Dduw , a Duw a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel ; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu . Ai arnoch chwi y gwrandawn , i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn , gan droseddu yn erbyn ein Duw , trwy briodi gwragedd dieithr ? Ac un o feibion Joiada , mab Eliasib yr archoffeiriad , oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad : yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf . O fy Nuw , cofia hwynt , am iddynt halogi’r offeiriadaeth , a chyfamod yr offeiriadaeth , a’r Lefiaid . Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron ; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid , pob un yn ei waith ; Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig , ac at y blaenffrwythau . Cofia fi , O fy Nuw , er daioni . Yn nyddiau Ahasferus , ( efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia , sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau ; ) Yn y dyddiau hynny , pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth , yr hon oedd yn Susan y brenhinllys , Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad , efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision ; cadernid Persia , a Media , y rhaglawiaid , a thywysogion y taleithiau , oedd ger ei fron ef : Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas , ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd , ddyddiau lawer , sef cant a phedwar ugain o ddyddiau . Ac wedi gorffen y dyddiau hynny , y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys , o’r mwyaf hyd y lleiaf , wledd dros saith niwrnod , yng nghyntedd gardd palas y brenin : Lle yr oedd llenni gwynion , gwyrddion , a rhuddgochion , wedi eu clymu â llinynnau sidan , ac â phorffor , wrth fodrwyau arian , a cholofnau marmor : y gwelyau oedd o aur ac arian , ar balmant o faen grisial , a marmor , ac alabaster , a iasinct . Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur , a chyfnewid amryw lestri , a gwin brenhinol lawer , yn ôl gallu y brenin . Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod , nid oedd neb yn cymell : canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ , ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb . Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin . Ar y seithfed dydd , pan oedd lawen calon y brenin gan win , efe a ddywedodd wrth Mehuman , Bistha , Harbona , Bigtha , ac Abagtha , Sethar , a Charcas , y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus , Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin , yn y frenhinol goron , i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi : canys glân yr olwg ydoedd hi . Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion : am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr , a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo . Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau , ( canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn : A nesaf ato ef oedd Carsena , Sethar , Admatha , Tarsis , Meres , Marsena , a Memuchan , saith dywysog Persia a Media , y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin , ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth ; ) Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti , am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion ? Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion , Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai , ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd , a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus . Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd , fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun , pan ddywedant , Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen ; ond ni ddaeth hi . Arglwyddesau Persia a Media , y rhai a glywsant weithred y frenhines , a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin . Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter . Os bydd bodlon gan y brenin , eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef , ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid , fel na throsedder ef , na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus ; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi . A phan glywer gorchymyn y brenin , yr hwn a wnelo efe , trwy ei holl frenhiniaeth , ( yr hon sydd fawr , ) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr , o’r mwyaf hyd y lleiaf . A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion ; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan : Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin , ie , i bob talaith yn ôl ei ysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun ; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun ; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl . Wedi y pethau hyn , pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus , efe a gofiodd Fasti , a’r hyn a wnaethai hi , a’r hyn a farnasid arni . Am hynny gweision y brenin , y rhai oedd yn gweini iddo , a ddywedasant , Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon : A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth , a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg , o wyry , i Susan y brenhinllys , i dŷ y gwragedd , dan law Hegai , ystafellydd y brenin , ceidwad y gwragedd ; a rhodder iddynt bethau i’w glanhau : A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin , a deyrnasa yn lle Fasti . A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin ; ac felly y gwnaeth efe . Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai , mab Jair , fab Simei , fab Cis , gŵr o Jemini : Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda , yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo . Ac efe a fagasai Hadassa , honno yw Esther , merch ei ewythr ef frawd ei dad ; canys nid oedd iddi dad na mam : a’r llances oedd weddeiddlwys , a glân yr olwg ; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw , Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo . A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith , pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai , cymerwyd Esther i dŷ y brenin , dan law Hegai ceidwad y gwragedd . A’r llances oedd deg yn ei olwg ef , a hi a gafodd ffafr ganddo ; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau , a’i rhannau , a rhoddi iddi saith o lancesau golygus , o dŷ y brenin : ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd . Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl : canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai . A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd , i wybod llwyddiant Esther , a pheth a wnelid iddi . A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus , wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis , ( canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt ; chwe mis mewn olew myrr , a chwe mis mewn peraroglau , a phethau eraill i lanhau y gwragedd ; ) Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin ; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi , i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin . Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn , a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd , dan law Saasgas , ystafellydd y brenin , ceidwad y gordderchadon : ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach , oddieithr i’r brenin ei chwennych hi , a’i galw hi wrth ei henw . A phan ddigwyddodd amser Esther , merch Abihail ewythr Mordecai , yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo , i fyned i mewn at y brenin , ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai , ystafellydd y brenin , ceidwad y gwragedd : ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni . Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus , i’w frenhindy ef , yn y degfed mis , hwnnw yw mis Tebeth , yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef . A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd , a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon ; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi , ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti . Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision , sef gwledd Esther ; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau , ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin . A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith , yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin . Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl , na’i phobl ; megis y gorchmynasai Mordecai iddi : canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai , fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef . Yn y dyddiau hynny , pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin , y llidiodd Bigthan a Theres , dau o ystafellyddion y brenin , sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy , a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus . A’r peth a wybu Mordecai ; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines ; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin , yn enw Mordecai . A phan chwilwyd y peth , fe a gafwyd felly : am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren . Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin . Wedi y pethau hyn , y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad , ac a’i dyrchafodd ef ; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef . A holl weision y brenin , y rhai oedd ym mhorth y brenin , oedd yn ymgrymu , ac yn ymostwng i Haman ; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef : ond nid ymgrymodd Mordecai , ac nid ymostyngodd . Yna gweision y brenin , y rhai oedd ym mhorth y brenin , a ddywedasant wrth Mordecai , Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin ? Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn , eto ni wrandawai efe arnynt hwy ; am hynny y mynegasant i Haman , i edrych a safai geiriau Mordecai : canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe . A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu , nac yn ymostwng iddo , Haman a lanwyd o ddicllonedd . Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan ; canys mynegasant iddo bobl Mordecai : am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon , y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus , sef pobl Mordecai . Yn y mis cyntaf , hwnnw yw mis Nisan , yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus , efe a barodd fwrw Pwr , ( hwnnw yw , y coelbren , ) gerbron Haman , o ddydd i ddydd , ac o fis i fis , hyd y deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar . A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus , Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd , trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth ; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl , ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin ; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt . O bydd bodlon gan y brenin , ysgrifenner am eu difetha hwynt : a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnânt y weithred hon , i’w dwyn i drysorau y brenin . A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law , ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad , gwrthwynebwr yr Iddewon . A’r brenin a ddywedodd wrth Haman , Rhodder yr arian i ti , a’r bobl , i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg . Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin , yn y mis cyntaf , ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw , ac yr ysgrifennwyd , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman , at bendefigion y brenin , ac at y dugiaid oedd ar bob talaith , ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith ; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid , ac â modrwy y brenin y seliasid hyn . A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin ; i ddinistrio , i ladd , ac i ddifetha yr holl Iddewon , yn ieuainc ac yn hen , yn blant ac yn wragedd , mewn un dydd , sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar , ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt . Testun yr ysgrifen , i roi gorchymyn ym mhob talaith , a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd , i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw . Y rhedegwyr a aethant , wedi eu cymell trwy air y brenin , a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys . Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed , a dinasyddion Susan oedd yn athrist . Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid , Mordecai a rwygodd ei ddillad , ac a wisgodd sachliain a lludw , ac a aeth allan i ganol y ddinas , ac a waeddodd â chwerw lef uchel . Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin : ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach . Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo , yr oedd galar mawr gan yr Iddewon , ac ympryd , ac wylofain , ac oernad ; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw . Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi . A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr ; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai , ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano ; ond ni chymerai efe hwynt . Am hynny Esther a alwodd ar Hathach , un o ystafellyddion y brenin , yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi ; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai , fynnu gwybod pa beth oedd hyn , ac am ba beth yr ydoedd hyn . Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin . A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo ; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon , i’w difetha hwynt . Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt , i’w ddangos i Esther , ac i’w fynegi iddi , ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin , i ymbil ag ef , ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl . A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai . Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach , ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai ; Holl weision y brenin , a phobl taleithiau y brenin , ydynt yn gwybod , mai pa ŵr bynnag , neu wraig , a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn , heb ei alw , un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef , oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo , fel y byddo byw : ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin , bellach er ys deng niwrnod ar hugain . A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther . Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther , Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon . Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn , esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall , tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir : a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth ? Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn : Dos , a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan , ac ymprydiwch drosof fi , na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau , nos na dydd : a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly : ac felly yr af i mewn at y brenin , yr hwn beth nid yw gyfreithlon : ac o derfydd amdanaf , darfydded . Felly Mordecai a aeth ymaith , ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo . Ac ar y trydydd dydd , Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd , ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn , ar gyfer tŷ y brenin : a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ . A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd , hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef : a’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther ; ac Esther a nesaodd , ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen . Yna y brenin a ddywedodd wrthi , Beth a fynni di , y frenhines Esther ? a pha beth yw dy ddeisyfiad ? hyd yn hanner y frenhiniaeth , ac fe a’i rhoddir i ti . A dywedodd Esther , O rhynga bodd i’r brenin , deled y brenin a Haman heddiw i’r wledd a wneuthum iddo . A’r brenin a ddywedodd , Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther . Felly y daeth y brenin a Haman i’r wledd a wnaethai Esther . A’r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin , Beth yr wyt ti yn ei ofyn , ac fe a roddir i ti ? a pheth yr wyt ti yn ei geisio ? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth , ac fe a’i cwblheir . Ac Esther a atebodd , ac a ddywedodd , Fy nymuniad a’m deisyfiad yw , O chefais ffafr yng ngolwg y brenin , ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad , a gwneuthur fy neisyfiad ; deled y brenin a Haman i’r wledd a arlwywyf iddynt , ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin . Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen , ac yn hyfryd ei galon : ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin , na chyfodasai efe , ac na syflasai erddo ef , Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai . Er hynny Haman a ymataliodd ; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun , efe a anfonodd , ac a alwodd am ei garedigion , a Seres ei wraig . A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth , ac amldra ei feibion , a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt , ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin . A dywedodd Haman hefyd , Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi , ond myfi ; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin . Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi , tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin . Yna y dywedodd Seres ei wraig , a’i holl garedigion wrtho , Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder , a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno ; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen . A da oedd y peth gerbron Haman , am hynny efe a baratôdd y crocbren . Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith ; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd ; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin . Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres , dau o ystafellyddion y brenin , o’r rhai oedd yn cadw y trothwy ; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus . A dywedodd y brenin , Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn ? A gweision y brenin , sef ei weinidogion ef , a ddywedasant , Ni wnaed dim erddo ef . A’r brenin a ddywedodd , Pwy sydd yn y cyntedd ? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin , i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo . A gweision y brenin a ddywedasant wrtho , Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd . A dywedodd y brenin , Deled i mewn . A phan ddaeth Haman i mewn , dywedodd y brenin wrtho , Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu ? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon , I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi ? A Haman a ddywedodd wrth y brenin , Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu , Dygant y wisg frenhinol iddo , yr hon a wisg y brenin , a’r march y merchyg y brenin arno , a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef : A rhodder y wisg , a’r march , yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin , a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu , a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas , a chyhoeddant o’i flaen ef , Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu . Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman , Brysia , cymer y wisg a’r march , fel y lleferaist , a gwna felly i Mordecai yr Iddew , yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin : na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist . Felly Haman a gymerth y wisg a’r march , ac a wisgodd am Mordecai , ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas , ac a gyhoeddodd o’i flaen ef , Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu . A dychwelodd Mordecai i borth y brenin . A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus , wedi gorchuddio ei ben . A Haman a adroddodd i Seres ei wraig , ac i’w holl garedigion , yr hyn oll a ddigwyddasai iddo . Yna ei ddoethion , a Seres ei wraig , a ddywedasant wrtho , Os o had yr Iddewon y mae Mordecai , yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen , ni orchfygi mohono , ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef . Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef , ystafellyddion y brenin a ddaethant , ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther . Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines . A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd , wrth gyfeddach y gwin , Beth yw dy ddymuniad , Esther y frenhines ? ac fe a roddir i ti ; a pha beth yw dy ddeisyfiad ? gofyn hyd yn hanner y deyrnas , ac fe a’i cwblheir . A’r frenhines Esther a atebodd , ac a ddywedodd , O chefais ffafr yn dy olwg di , O frenin , ac o rhyglydda bodd i’r brenin , rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad , a’m pobl ar fy neisyfiad . Canys gwerthwyd ni , myfi a’m pobl , i’n dinistrio , i’n lladd , ac i’n difetha : ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion , mi a dawswn â sôn , er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin . Yna y llefarodd y brenin Ahasferus , ac y dywedodd wrth Esther y frenhines , Pwy yw hwnnw ? a pha le y mae efe , yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly ? A dywedodd Esther , Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn . Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines . A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin , ac a aeth i ardd y palas : a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes ; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin . Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin . Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno . Yna y dywedodd y brenin , Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi ? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin , hwy a orchuddiasant wyneb Haman . A Harbona , un o’r ystafellyddion , a ddywedodd yng ngŵydd y brenin , Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai , yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin , yn sefyll yn nhŷ Haman , yn ddeg cufydd a deugain o uchder . Yna y dywedodd y brenin , Crogwch ef ar hwnnw . Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai . Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd . Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon . A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin ; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi . A’r brenin a dynnodd ymaith y fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman , ac a’i rhoddodd i Mordecai . Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman . Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin , ac a syrthiodd wrth ei draed ef ; wylodd hefyd , ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad , a’i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon . A’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther . Yna Esther a gyfododd , ac a safodd o flaen y brenin , Ac a ddywedodd , O bydd bodlon gan y brenin , ac o chefais ffafr o’i flaen ef , ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin , a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef ; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad , y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin . Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl ? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl ? A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines , ac wrth Mordecai yr Iddew , Wele , tŷ Haman a roddais i Esther , a hwy a’i crogasant ef ar y pren , am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon . Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda , yn enw y brenin , ac inseliwch â modrwy y brenin : canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin , ni all neb ei datroi . Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis , hwnnw yw y mis Sifan , ar y trydydd dydd ar hugain ohono , ac ysgrifennwyd , yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai , at yr Iddewon , ac at y rhaglawiaid , y penaduriaid hefyd , a thywysogion y taleithiau , y rhai oedd o India hyd Ethiopia , sef cant a saith ar hugain o daleithiau , i bob talaith wrth ei hysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith : at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt , ac yn ôl eu tafodiaith . Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus , ac a’i seliodd â modrwy y brenin ; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch , dromedariaid , mulod , ac ebolion cesig : Trwy y rhai y caniataodd y brenin i’r Iddewon , y rhai oedd ym mhob dinas , ymgynnull , a sefyll am eu heinioes , i ddinistrio , i ladd , ac i ddifetha holl allu y bobl a’r dalaith a osodai arnynt , yn blant ac yn wragedd , ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt ; Mewn un dydd , trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar . Testun yr ysgrifen , i roddi gorchymyn ym mhob talaith , a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl ; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion . Y rhedegwyr , y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod , a aethant ar frys , wedi eu gyrru trwy air y brenin ; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys . A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn , ac â choron fawr o aur , ac mewn dillad sidan a phorffor ; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd : I’r Iddewon yr oedd goleuni , a llawenydd , a hyfrydwch , ac anrhydedd . Ac ym mhob talaith , ac ym mhob dinas , lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn , yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon , gwledd hefyd a diwrnod daionus : a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon ; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy . Felly yn y deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar , ar y trydydd dydd ar ddeg ohono , pan nesaodd gair y brenin a’i orchymyn i’w cwblhau ; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt , ( ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu , canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion ; ) Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd , trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt : ac ni safodd neb yn eu hwynebau ; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd . A holl dywysogion y taleithiau , a’r pendefigion , a’r dugiaid , a’r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin , oedd yn cynorthwyo’r Iddewon : canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy . Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin , a’i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau : oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo , ac yn cynyddu . Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf , a lladdedigaeth , a distryw ; a gwnaethant i’w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun . Ac yn Susan y brenhinllys , yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr . Parsandatha hefyd , a Dalffon , ac Aspatha , Poratha hefyd , ac Adalia , ac Aridatha , Parmasta hefyd , ac Arisai , Aridai hefyd , a Bajesatha , Deng mab Haman mab Hammedatha , gwrthwynebwr yr Iddewon , a laddasant hwy : ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith . Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin . A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines , Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys , bum cant o wŷr , a deng mab Haman ; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy ? beth gan hynny yw dy ddymuniad ? ac fe a roddir i ti ; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach ? ac fe a’i gwneir . Yna y dywedodd Esther , O rhyglydda bodd i’r brenin , caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw : a chrogant ddeng mab Haman ar y pren . A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly , a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan : a hwy a grogasant ddeng mab Haman . Felly yr Iddewon , y rhai oedd yn Susan , a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd , ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan : ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail . A’r rhan arall o’r Iddewon , y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant , ac a safasant am eu heinioes , ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion , ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o’u caseion : ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith . Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn , ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant , ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd . Ond yr Iddewon , y rhai oedd yn Susan , a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono , ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono ; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant , a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd . Am hynny Iddewon y pentrefi , y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau , oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis Adar , mewn llawenydd a chyfeddach , ac yn ddiwrnod daionus , ac i anfon rhannau i’w gilydd . A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn , ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , yn agos ac ymhell , I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar , a’r pymthegfed dydd ohono , bob blwyddyn ; Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion , a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd , ac o alar yn ddydd daionus : gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd , a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd , a rhoddion i’r rhai anghenus . A’r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent , ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt . Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad , gwrthwynebwr yr holl Iddewon , a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon , am eu difetha hwynt ; ac efe a fwriasai Pwr , hwnnw yw y coelbren , i’w dinistrio hwynt , ac i’w difetha : A phan ddaeth Esther o flaen y brenin , efe a archodd trwy lythyrau , ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef , yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon , ar ei ben ei hun ; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren . Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim , ar enw y Pwr : am hynny , oherwydd holl eiriau y llythyr hwn , ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn , a’r peth a ddigwyddasai iddynt , Yr Iddewon a ordeiniasant , ac a gymerasant arnynt , ac ar eu had , ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt , na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny , yn ôl eu hysgrifen hwynt , ac yn ôl eu tymor , bob blwyddyn : Ac y byddai y dyddiau hynny i’w cofio , ac i’w cynnal trwy bob cenhedlaeth , a phob teulu , pob talaith , a phob dinas ; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon , ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had . Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail , a Mordecai yr Iddew , trwy eu holl rym , i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn . Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon , trwy y cant a’r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus , â geiriau heddwch a gwirionedd ; I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau , fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew , ac Esther y frenhines , iddynt hwy , ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun , a thros eu had , eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd . Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny : ac ysgrifennwyd hyn mewn llyfr . A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad , ac ar ynysoedd y môr . A holl weithredoedd ei rym ef , a’i gadernid , a hysbysrwydd o fawredd Mordecai , â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia ? Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus , ac yn fawr gan yr Iddewon , ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr ; yn ceisio daioni i’w bobl , ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth . Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job ; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn , ac yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni . Ac iddo y ganwyd saith o feibion , a thair o ferched . A’i olud oedd saith mil o ddefaid , a thair mil o gamelod , a phum can iau o ychen , a phum cant o asynnod , a llawer iawn o wasanaethyddion ; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain . A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai , bob un ar ei ddiwrnod ; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt . A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch , yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt , ac a gyfodai yn fore , ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll : canys dywedodd Job , Fy meibion ond odid a bechasant , ac a felltithiasant Dduw yn eu calonnau . Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny . A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd ; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , O ba le yr ydwyt ti yn dyfod ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O dramwy ar hyd y ddaear , ac o ymrodio ynddi . A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan , A ddeliaist ti ar fy ngwas Job , nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear , yn ŵr perffaith ac uniawn , yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni ? Yna Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw ? Oni chaeaist o’i amgylch ef , ac o amgylch ei dŷ , ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch ? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef , a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear . Eithr estyn yn awr dy law , a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo , ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Wele , yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di ; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law . Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd . A dydd a ddaeth , pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf . A daeth cennad at Job , ac a ddywedodd , Yr ychen oedd yn aredig , a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt ; A’r Sabeaid a ruthrasant , ac a’u dygasant ymaith ; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf , a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr oedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd , ac a losgodd y defaid , a’r gweision , ac a’u hysodd hwynt ; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr ydoedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Y Caldeaid a osodasant dair byddin , ac a ruthrasant i’r camelod , ac a’u dygasant ymaith , ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf ; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr ydoedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf : Ac wele , gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch , ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ , ac efe a syrthiodd ar y llanciau , a buant feirw ; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Yna y cyfododd Job , ac a rwygodd ei fantell , ac a eilliodd ei ben , ac a syrthiodd i lawr , ac a addolodd ; Ac a ddywedodd , Noeth y deuthum o groth fy mam , a noeth y dychwelaf yno . Yr Arglwydd a roddodd , ar Arglwydd a ddygodd ymaith ; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd . Yn hyn i gyd ni phechodd Job , ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw . A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd ; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , O ba le yr ydwyt ti yn dyfod ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O dramwy ar hyd y ddaear , ac o ymrodio ynddi . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , A ddeliaist ti ar fy ngwas Job , nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear , yn ŵr perffaith ac uniawn , yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni ? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd , er i ti fy annog i yn ei erbyn ef , i’w ddifa ef heb achos ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Croen am groen , a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes . Eithr estyn yn awr dy law , a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd , ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Wele ef yn dy law di ; eto cadw ei hoedl ef . Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a drawodd Job â chornwydydd blin , o wadn ei droed hyd ei gorun . Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi ; ac a eisteddodd yn y lludw . Yna ei wraig a ddywedodd wrtho , A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd ? melltithia Dduw , a bydd farw . Ond efe a ddywedodd wrthi , Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion : a dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda , ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg ? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau . A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef , hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun ; Eliffas y Temaniad , a Bildad y Suhiad , a Soffar y Naamathiad : canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef , ac i’w gysuro . A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell , ac heb ei adnabod ef , hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant ; rhwygasant hefyd bob un ei fantell , a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd . Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith ; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef : canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn . Wedi hyn Job a agorodd ei enau , ac a felltithiodd ei ddydd . A Job a lefarodd , ac a ddywedodd , Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo , a’r nos y dywedwyd , Enillwyd gwryw . Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch , a Duw oddi uchod heb ei ystyried ; ac na thywynned llewyrch arno . Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo , ac arhosed cwmwl arno ; dued y diwrnod a’i dychryno . Y nos honno , tywyllwch a’i cymero ; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn , ac na ddeued i rifedi y misoedd . Bydded y noswaith honno yn unig , ac na fydded gorfoledd ynddi . A’r rhai a felltithiant y dydd , ac sydd barod i gyffroi eu galar , a’i melltithio hi . A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll : disgwylied am oleuni ac na fydded iddi ; ac na chaffed weled y wawrddydd : Am na chaeodd ddrysau croth fy mam , ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid . Paham na bûm farw o’r bru ? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth ? Paham y derbyniodd gliniau fyfi ? a phaham y cefais fronnau i sugno ? Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd , a gorffwys , a huno : yna y buasai llonyddwch i mi . Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear , y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd ; Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt , y rhai a lanwasant eu tai ag arian ; Neu fel erthyl cuddiedig , ni buaswn ddim ; megis plant bychain heb weled goleuni . Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro ; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig . Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd ; ni chlywant lais y gorthrymydd . Bychan a mawr sydd yno ; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr . Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur , a bywyd i’r gofidus ei enaid ? Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth , ac heb ei chael ; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig ? Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch , ac a orfoleddant , pan gaffont y bedd ? Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig , ac y caeodd Duw arno ? Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid ; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd . Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf , a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi . Ni chefais na llonydd nac esmwythdra , ac ni orffwysais : er hynny daeth cynnwrf . Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , Pe profem ni air wrthyt , a fyddai blin gennyt ti ? ond pwy a all atal ei ymadroddion ? Wele , ti a ddysgaist lawer , ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu . Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio ; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu . Ond yn awr , daeth arnat tithau , ac y mae yn flin gennyt ; cyffyrddodd â thi , a chyffroaist . Onid dyma dy ofn di , dy hyder , perffeithrwydd dy ffyrdd , a’th obaith ? Cofia , atolwg , pwy , ac efe yn ddiniwed , a gollwyd ? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith ? Hyd y gwelais i , y rhai a arddant anwiredd , ac a heuant ddrygioni , a’u medant . Gan anadl Duw y difethir hwynt , a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant . Rhuad y llew , a llais y llew creulon , a dannedd cenawon y llewod , a dorrwyd . Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth ; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd . Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel : a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono . Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos , pan syrthio trymgwsg ar ddynion , Ofn a ddaeth arnaf , a dychryn , ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu . Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb ; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll . Efe a safodd , ac nid adwaenwn ei agwedd ef : drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid , bu distawrwydd , a mi a glywais lef yn dywedyd , A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw ? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr ? Wele , yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried ; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd : Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai , y rhai sydd â’u sail mewn pridd , y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn ? O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt ; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried . Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith ? hwy a fyddant feirw , ac nid mewn doethineb . Galw yn awr , od oes neb a etyb i ti , ac at bwy o’r saint y troi di ? Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd , a chenfigen a ladd yr annoeth . Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio : ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth . Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth : dryllir hwynt hefyd yn y porth , ac nid oes gwaredydd . Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf , wedi iddo ei gymryd o blith drain , a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth . Er na ddaw cystudd allan o’r pridd , ac na flagura gofid allan o’r ddaear : Ond dyn a aned i flinder , fel yr eheda gwreichionen i fyny . Eto myfi a ymgynghorwn â Duw : ac ar Dduw y rhoddwn fy achos : Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy ; rhyfeddol heb rifedi : Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear ; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd : Gan osod rhai isel mewn uchelder ; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth . Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys , fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben . Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra : a chyngor y cyndyn a ddiddymir . Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch , a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos . Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf , rhag eu safn hwy , a rhag llaw y cadarn . Felly y mae gobaith i’r tlawd , ac anwiredd yn cau ei safn . Wele , gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw ; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog . Canys efe a glwyfa , ac a rwym : efe a archolla , a’i ddwylo ef a iachânt . Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di ; ie , mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi . Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth : ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf . Rhag ffrewyll tafod y’th guddir ; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo . Mewn dinistr a newyn y chwerddi ; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear . Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair ; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi . A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest : a thi a ymweli â’th drigfa , ac ni phechi . A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had , a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear . Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd , tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser . Wele hyn , ni a’i chwiliasom , felly y mae : gwrando hynny , a gwybydd er dy fwyn dy hun . A Job a atebodd ac a ddywedodd , O gan bwyso na phwysid fy ngofid , ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau ! Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr : am hynny y pallodd geiriau gennyf . Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof , y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd : dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn . A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt ? a fref ych uwchben ei borthiant ? A fwyteir peth diflas heb halen ? a oes blas ar wyn wy ? Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd , sydd megis bwyd gofidus i mi . O na ddeuai fy nymuniad ! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl ! Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio , a gollwng ei law yn rhydd , a’m torri ymaith . Yna cysur a fyddai eto i mi , ie , mi a ymgaledwn mewn gofid ; nac arbeded , canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd . Pa nerth sydd i mi i obeithio ? a pha ddiwedd fydd i mi , fel yr estynnwn fy hoedl ? Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder ? a ydyw fy nghnawd o bres ? Onid ydyw fy nghymorth ynof fi ? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf ? I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill ; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog . Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon : aethant heibio fel llifeiriant afonydd ; Y rhai a dduasant gan rew , ac yr ymguddiodd eira ynddynt : Yr amser y cynhesant , hwy a dorrir ymaith : pan wresogo yr hin , hwy a ddarfyddant allan o’u lle . Llwybrau eu ffordd hwy a giliant : hwy a ânt yn ddiddim , ac a gollir . Byddinoedd Tema a edrychasant , minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt . Hwy a gywilyddiwyd , am iddynt obeithio ; hwy a ddaethant hyd yno , ac a wladeiddiasant . Canys yn awr nid ydych chwi ddim ; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr , ac a ofnasoch . A ddywedais i , Dygwch i mi ? neu , O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi ? Neu , Gwaredwch fi o law y gelyn ? neu , Rhyddhewch fi o law y cedyrn ? Dysgwch fi , a myfi a dawaf : a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais . Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb ! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi ? Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith , y rhai sydd megis gwynt ? Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad , ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill . Yn awr gan hynny byddwch fodlon ; edrychwch arnaf fi ; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd . Dychwelwch , atolwg , na fydded anwiredd ; ie , trowch eto , y mae fy nghyfiawnder yn hyn . A oes anwiredd yn fy nhafod ? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas ? Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear ? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog ? Megis y dyhea gwas am gysgod , ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith : Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd , a nosweithiau blinion a osodwyd i mi . Pan orweddwyf , y dywedaf , Pa bryd y codaf , ac yr ymedy y nos ? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd . Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd : fy nghroen a agennodd , ac a aeth yn ffiaidd . Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd , ac a ddarfuant heb obaith . Cofia mai gwynt yw fy hoedl : ni wêl fy llygad ddaioni mwyach . Y llygad a’m gwelodd , ni’m gwêl mwyach : dy lygaid sydd arnaf , ac nid ydwyf . Fel y derfydd y cwmwl , ac yr â ymaith : felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd , ni ddaw i fyny mwyach . Ni ddychwel mwy i’w dŷ : a’i le nid edwyn ef mwy . Gan hynny ni warafunaf i’m genau ; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd ; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid . Ai môr ydwyf , neu forfil , gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf ? Pan ddywedwyf , Fy ngwely a’m cysura , fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan ; Yna y’m brawychi â breuddwydion , ac y’m dychryni â gweledigaethau : Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu , a marwolaeth yn fwy na’m hoedl . Ffieiddiais einioes , ni fynnwn fyw byth : paid â mi , canys oferedd ydyw fy nyddiau . Pa beth ydyw dyn , pan fawrheit ef ? a phan osodit dy feddwl arno ? Ac ymweled ag ef bob bore , a’i brofi ar bob moment ? Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf , ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn ? Myfi a bechais ; beth a wnaf i ti , O geidwad dyn ? paham y gosodaist fi yn nod i ti , fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun ? A phaham na faddeui fy nghamwedd , ac na fwri heibio fy anwiredd ? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf , a thi a’m ceisi yn fore , ond ni byddaf . Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Pa hyd y dywedi di hynny ? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf ? A ŵyra Duw farn ? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder ? Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef ; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd ; Os tydi a foregodi at Dduw , ac a weddïi ar yr Hollalluog ; Os pur ac uniawn fyddi , yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron , ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus . Er bod dy ddechreuad yn fychan , eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr . Oblegid gofyn , atolwg , i’r oes gynt , ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt : ( Canys er doe yr ydym ni , ac ni wyddom ddim , oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear : ) Oni ddysgant hwy di ? ac oni ddywedant i ti ? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon ? A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth ? a dyf hesg heb ddwfr ? Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri , hi a wywa o flaen pob glaswelltyn . Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof , ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr : Yr hwn y torrir ymaith ei obaith ; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef . Efe a bwysa ar ei dŷ , ond ni saif ; efe a ymeifl ynddo , ond ni phery . Y mae efe yn ir o flaen yr haul , ac yn ei ardd y daw ei frig allan . Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr , ac efe a wêl le cerrig . Os diwreiddia efe ef allan o’i le , efe a’i gwad ef , gan ddywedyd , Ni’th welais . Wele , dyma lawenydd ei ffordd ef : ac o’r ddaear y blagura eraill . Wele , ni wrthyd Duw y perffaith , ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus ; Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin , a’th wefusau â gorfoledd . A gwisgir dy gaseion di â chywilydd , ac ni bydd lluesty yr annuwiol . Yna Job a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir mi a wn mai felly y mae : canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ? Os myn efe ymryson ag ef , ni all ateb iddo am un peth o fil . Y mae efe yn ddoeth o galon , ac yn alluog o nerth : pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef , ac a lwyddodd ? Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd , ac heb wybod iddynt : yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint . Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle , fel y cryno ei cholofnau hi . Yr hwn a ddywed wrth yr haul , ac ni chyfyd : ac a selia ar y sêr . Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd , ac yn sathru ar donnau y môr . Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus , Orion , a Phleiades , ac ystafelloedd y deau . Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy , a rhyfeddodau aneirif . Wele , efe a â heibio i mi , ac nis gwelaf ef ; ac efe a â rhagddo , ac ni chanfyddaf ef . Wele , efe a ysglyfaetha , pwy a’i lluddia ? pwy a ddywed wrtho , Pa beth yr wyt yn ei wneuthur ? Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith , dano ef y cryma cynorthwywyr balchder . Pa faint llai yr atebaf iddo ef , ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef ? I’r hwn , pe bawn gyfiawn , nid atebwn , eithr ymbiliwn â’m barnwr . Pe galwaswn , a phed atebasai efe i mi , ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd . Canys efe a’m dryllia â chorwynt , ac a amlha fy archollion yn ddiachos . Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl : ond efe a’m lleinw â chwerwder . Os soniaf am gadernid , wele ef yn gadarn : ac os am farn , pwy a ddadlau drosof fi ? Os myfi a ymgyfiawnhaf , fy ngenau a’m barn yn euog : os perffaith y dywedaf fy mod , efe a’m barn yn gildyn . Pe byddwn berffaith , eto nid adwaenwn fy enaid ; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes . Dyma un peth , am hynny mi a’i dywedais : y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol . Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth , efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed . Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol : efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi : onid e , pa le y mae , a phwy yw efe ? A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr : ffoant ymaith heb weled daioni . Aethant heibio megis llongau buain ; megis yr eheda eryr at ymborth . Os dywedaf , Gollyngaf fy nghwyn dros gof ; mi a adawaf fy nhrymder , ac a ymgysuraf : Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau : gwn na’m berni yn wirion . Os euog fyddaf , paham yr ymflinaf yn ofer ? Os ymolchaf mewn dwfr eira , ac os glanhaf fy nwylo yn lân ; Eto ti a’m trochi yn y pwll ; a’m dillad a’m ffieiddiant . Canys nid gŵr fel myfi yw efe , fel yr atebwn iddo , ac y delem ynghyd i farn . Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau . Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf ; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi : Yna y dywedwn , ac nid ofnwn ef : ond nid felly y mae gyda myfi . Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes : arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn ; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf . Dywedaf wrth Dduw , Na farn fi yn euog ; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi . Ai da i ti orthrymu , fel y diystyrit waith dy ddwylo , ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol ? Ai llygaid o gnawd sydd i ti ? ai fel y gwêl dyn y gweli di ? A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn ? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr , Pan geisi fy anwiredd , a phan ymofynni am fy mhechod ? Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol ; ac nid oes a waredo o’th law di . Dy ddwylo di a’m gweithiasant , ac a’m cydluniasant o amgylch ; eto fy nifetha yr wyt . Cofia , atolwg , mai fel clai y gwnaethost fi ; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn ? Oni thywelltaist fi fel llaeth ; ac oni cheulaist fi fel caws ? Ti a’m gwisgaist i â chroen , ac â chnawd ; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â giau . Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi , a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd . A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon : gwn fod hyn gyda thi . Os pechaf , ti a’m gwyli , ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd . Os ydwyf annuwiol , gwae fi ; ac os cyfiawn ydwyf , er hynny ni chodaf fy mhen : yr ydwyf yn llawn o warthrudd , am hynny gwêl fy nghystudd ; Canys cynyddu y mae : fy hela yr ydwyt fel llew creulon : er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi . Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn , ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf ; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn . Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth ? O na buaswn farw , ac na’m gwelsai llygad ! Mi a fuaswn megis pe na buaswn , a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd . Onid ychydig yw fy nyddiau ? paid gan hynny , gad im lonydd , fel yr ymgysurwyf ychydig ; Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf , i dir tywyllwch a chysgod angau ; Tir tywyllwch fel y fagddu , a chysgod angau , a heb drefn ; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch . A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd , Oni atebir amlder geiriau ? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus ? Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi ? a phan watwarech , oni bydd a’th waradwyddo ? Canys dywedaist , Pur ydyw fy nysgeidiaeth , a glân ydwyf yn dy olwg di . Ond , O na lefarai Duw , ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn , A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb , eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd ! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd . A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw ? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd ? Cyfuwch â’r nefoedd ydyw , beth a wnei di ? dyfnach nag uffern yw , beth a elli di ei wybod ? Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear , ac yn lletach na’r môr . Os tyr efe ymaith , ac os carchara : os casgl ynghyd , pwy a’i rhwystra ef ? Canys efe a edwyn ofer ddynion , ac a wêl anwiredd ; onid ystyria efe gan hynny ? Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth ; er geni dyn fel llwdn asen wyllt . Os tydi a baratoi dy galon , ac a estynni dy ddwylo ato ef ; Od oes drygioni yn dy law , bwrw ef ymaith ymhell , ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai : Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau ; ie , byddi safadwy , ac nid ofni : Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof : fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef . Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd ; llewyrchi , a byddi fel y boreddydd . Hyderus fyddi hefyd , oherwydd bod gobaith : ie , ti a gloddi , ac a orweddi mewn diogelwch . Ti a orweddi hefyd , ac ni bydd a’th ddychryno , a llawer a ymbiliant â’th wyneb . Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant , metha ganddynt ffoi , a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Diau mai chwychwi sydd bobl ; a chyda chwi y bydd marw doethineb . Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau , nid ydwyf fi waeth na chwithau ; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn ? Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog , yr hwn a eilw ar Dduw , ac efe a’i hetyb : gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith . Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus , yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed . Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr , ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi Duw , y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo . Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid , a hwy a’th ddysgant ; ac i ehediaid yr awyr , a hwy a fynegant i ti . Neu dywed wrth y ddaear , a hi a’th ddysg ; a physgod y môr a hysbysant i ti . Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll , mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn ? Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law , ac anadl pob math ar ddyn . Onid y glust a farna ymadroddion ? a’r genau a archwaetha ei fwyd ? Doethineb sydd mewn henuriaid ; a deall mewn hir ddyddiau . Gydag ef y mae doethineb a chadernid ; cyngor a deall sydd ganddo . Wele , efe a ddistrywia , ac nid adeiledir : efe a gae ar ŵr , ac nid agorir arno . Wele , efe a atal y dyfroedd , a hwy a sychant : efe a’u denfyn hwynt , a hwy a ddadymchwelant y ddaear . Gydag ef y mae nerth a doethineb : efe biau y twylledig , a’r twyllodrus . Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith ; ac efe a ynfyda farnwyr . Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd , ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt . Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith ; ac a blyga y rhai cedyrn . Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon ; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen . Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion ; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion . Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch ; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni . Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd , ac yn eu distrywio hwynt : efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd , ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra . Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear ; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd . Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni ; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn . Wele , fy llygad a welodd hyn oll ; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd . Mi a wn yn gystal â chwithau : nid ydwyf waeth na chwithau . Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog , ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw . Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi : meddygon diddim ydych chwi oll . O gan dewi na thawech ! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb . Clywch , atolwg , fy rheswm , a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau . A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw ? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef ? A dderbyniwch chwi ei wyneb ef ? a ymrysonwch chwi dros Dduw ? Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi ? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn ? Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi , os derbyniwch wyneb yn ddirgel . Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi ? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch ? Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi ; a’ch cyrff i gyrff o glai . Tewch , gadewch lonydd , fel y llefarwyf finnau ; a deued arnaf yr hyn a ddelo . Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd ? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw ? Pe lladdai efe fi , eto mi a obeithiaf ynddo ef : er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef . Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi : canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef . Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd , ac a fynegwyf , â’ch clustiau . Wele yn awr , trefnais fy achos ; gwn y’m cyfiawnheir . Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi ? canys yn awr os tawaf , mi a drengaf . Ond dau beth na wna i mi : yna nid ymguddiaf rhagot . Pellha dy law oddi arnaf : ac na ddychryned dy ddychryn fi . Yna galw , a myfi a atebaf : neu myfi a lefaraf , ac ateb di fi . Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof ? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod . Paham y cuddi dy wyneb , ac y cymeri fi yn elyn i ti ? A ddrylli di ddeilen ysgydwedig ? a ymlidi di soflyn sych ? Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn ; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid . Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion , ac yn gwylied ar fy holl lwybrau ; ac yn nodi gwadnau fy nhraed . Ac efe , megis pydrni , a heneiddia , fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn . Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau , a llawn o helbul . Fel blodeuyn y daw allan , ac y torrir ef ymaith ; ac efe â gilia fel cysgod , ac ni saif . A agori di dy lygaid ar y fath yma ? ac a ddygi di fi i farn gyda thi ? Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan ? neb . Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu , rhifedi ei fisoedd ef gyda thi , a gosod ohonot ei derfynau , fel nad êl drostynt : Tro oddi wrtho , fel y gorffwyso , hyd oni orffenno , fel gwas cyflog , ei ddiwrnod . Canys y mae gobaith o bren , er ei dorri , y blagura efe eto , ac na phaid ei flagur ef â thyfu . Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear , a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd ; Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd , ac a fwrw ganghennau fel planhigyn . Ond gŵr a fydd marw , ac a dorrir ymaith ; a dyn a drenga , a pha le y mae ? Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr , a’r afon yn myned yn ddihysbydd , ac yn sychu : Felly gŵr a orwedd , ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd ; ni ddihunant , ac ni ddeffroant o’u cwsg . O na chuddit fi yn y bedd ! na’m cedwit yn ddirgel , nes troi dy lid ymaith ! na osodit amser nodedig i mi , a’m cofio ! Os bydd gŵr marw , a fydd efe byw drachefn ? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth , hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad . Gelwi , a myfi a’th atebaf ; chwenychi waith dy ddwylo . Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre : onid wyt yn gwylied ar fy mhechod ? Fy nghamwedd a selied mewn cod ; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd . Ac yn wir , y mynydd a syrthio a ddiflanna ; a’r graig a symudir o’i lle . Dyfroedd a dreuliant y cerrig ; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear , ac yn gwneuthur i obaith dyn golli . Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd , fel yr elo ymaith : a chan newidio ei wyneb ef , yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd . Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd , ac nis gwybydd efe : a hwy a ostyngir , ac ni ŵyr efe oddi wrthynt : Ond ei gnawd arno a ddoluria , a’i enaid ynddo a alara . Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt ? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt ? A ymresyma efe â gair ni fuddia ? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt ? Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn : yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw . Canys dy enau a draetha dy anwiredd ; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys . Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog , ac nid myfi : a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn . A aned tydi yn gyntaf dyn ? a lunied tydi o flaen y bryniau ? A glywaist ti gyfrinach Duw ? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun ? Beth a wyddost ti a’r nas gwyddom ni ? beth a ddeelli di , heb fod hynny hefyd gennym ninnau ? Y mae yn ein mysg ni y penllwyd , a’r oedrannus hefyd ; hŷn o oedran na’th dad di . Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw ? a oes dim dirgel gyda thi ? Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat ? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid , Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw , a gollwng y fath eiriau allan o’th enau ? Pa beth yw dyn , i fod yn lân ? a’r hwn a aned o wraig , i fod yn gyfiawn ? Wele , ni roddes efe ymddiried yn ei saint ; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef . Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn , yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr ? Dangosaf i ti , gwrando arnaf ; a’r hyn a welais a fynegaf . Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau , ac nis celasant : I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear : ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy . Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio : a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws . Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef : mewn heddwch y daw y dinistrydd arno . Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch : ac y mae y cleddyf yn gwylied arno . Y mae efe yn crwydro am fara , pa le y byddo : efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law . Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef ; hwy a’i gorchfygant , fel brenin parod i ryfel . Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw ; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd . Efe a red yn y gwddf iddo ef , trwy dewdwr torrau ei darianau : Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster : ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau . A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio , a thai anghyfannedd , y rhai sydd barod i fod yn garneddau . Ni chyfoethoga efe , ni phery ei olud ef chwaith ; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear . Nid ymedy efe allan o dywyllwch , y fflam a wywa ei frig ef ; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef . Yr hwn a dwylled , nac ymddirieded mewn oferedd : canys oferedd fydd ei wobr ef . Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd ; a’i gangen ni lasa . Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden ; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden . Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig : a thân a ysa luestai gwobrwyr . Y maent yn ymddŵyn blinder , ac yn esgor ar wagedd ; a’u bol sydd yn darpar twyll . Ajob a atebodd ac a ddywedodd , Clywais lawer o’r fath hyn : cysurwyr gofidus ydych chwi oll . Oni cheir diwedd ar eiriau ofer ? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb ? Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau : pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i , medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn , ac ysgwyd fy mhen arnoch . Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau ; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid . Os llefaraf fi , nid esmwytha fy nolur ; ac os peidiaf , ai llai fy ngofid ? Ond yn awr efe a’m blinodd i ; anrheithiaist fy holl gynulleidfa : A chroengrychaist fi , a hynny sydd dystiolaeth : a’m culni yn codi ynof , a dystiolaetha yn fy wyneb . Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ : efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf ; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn . Hwy a ledasant eu safnau arnaf ; trawsant fy nghernau yn ddirmygus ; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn . Duw a’m rhoddes i’r anwir ; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion . Yr oeddwn yn esmwyth ; ond efe a’m drylliodd , ac a ymaflodd yn fy ngwddf , ac a’m drylliodd yn chwilfriw , ac a’m cododd yn nod iddo ei hun . Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu ; y mae efe yn hollti fy arennau , ac nid ydyw yn arbed ; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear . Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad : y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr . Gwnïais sachlen ar fy nghroen , a halogais fy nghorn yn y llwch . Fy wyneb sydd fudr gan wylo , a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau : Er nad oes gamwedd yn fy nwylo ; a bod fy ngweddi yn bur . O ddaearen , na orchuddia fy ngwaed , ac na fydded lle i’m gwaedd . Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd ; a’m tystiolaeth yn yr uchelder . Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio : fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw . O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn , fel mab dyn dros ei gymydog ! Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd , yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf . Fy anadl a lygrwyd , fy nyddiau a ddiffoddwyd , beddau sydd barod i mi . Onid oes watwarwyr gyda mi ? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt ? Dyro i lawr yn awr , dyro i mi feichiau gyda thi : pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i ? Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall : am hynny ni ddyrchefi di hwynt . Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion , llygaid ei feibion ef a ballant . Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl , ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt . Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd , ac y mae fy aelodau oll fel cysgod . Y rhai uniawn a synnant am hyn ; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr . Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd ; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder . Ond chwi oll , dychwelwch , a deuwch yn awr : am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi . Fy nyddiau a aeth heibio , fy amcanion a dynned ymaith ; sef meddyliau fy nghalon . Gwnânt y nos yn ddydd : byr yw y goleuni , oherwydd tywyllwch . Os disgwyliaf , y bedd sydd dŷ i mi : mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely . Gelwais ar y pwll , Tydi yw fy nhad : ar y pryf , Fy mam a’m chwaer wyt . A pha le yn awr y mae fy ngobaith ? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith ? Disgynnant i farrau y pwll , pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch . A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Pa bryd y derfydd eich ymadrodd ? ystyriwch , wedi hynny ninnau a lefarwn . Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid ? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi ? O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb , ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear ? neu y symudir y graig allan o’i lle ? Ie , goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir , a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha . Goleuni a dywylla yn ei luesty ef ; a’i lusern a ddiffydd gydag ef . Camre ei gryfder ef a gyfyngir , a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr . Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed , ac ar faglau y rhodia efe . Magl a ymeifl yn ei sawdl ef , a’r gwylliad fydd drech nag ef . Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear , a magl iddo ar y llwybr . Braw a’i brawycha ef o amgylch , ac a’i gyr i gymryd ei draed . Ei gryfder fydd newynllyd , a dinistr fydd parod wrth ei ystlys . Efe a ysa gryfder ei groen ef : cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef . Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty : a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau . Efe a drig yn ei luest ef , am nad eiddo ef ydyw : brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef . Ei wraidd a sychant oddi tanodd , a’i frig a dorrir oddi arnodd . Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear , ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol . Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch : efe a ymlidir allan o’r byd . Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl ; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef . Y rhai a ddêl ar ei ôl , a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef ; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw . Yn wir , dyma drigleoedd yr anwir ; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Pa hyd y cystuddiwch fy enaid ? ac y’m drylliwch â geiriau ? Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch ; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn . Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus ; gyda mi y trig fy amryfusedd . Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn , a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn : Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i , ac a’m hamgylchodd â’i rwyd . Wele , llefaf rhag trawster , ond ni’m hatebir : gwaeddaf , ond nid oes farn . Efe a gaeodd fy ffordd , fel nad elwyf drosodd : y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau . Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf ; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen . Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch , ac yr ydwyf yn myned ymaith : ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren . Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn ; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion . Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd , ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn , ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell . Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf , a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf . Fy nghyfnesaf a ballasant , a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant . Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ , a’m morynion , sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr : alltud ydwyf yn eu golwg . Gelwais ar fy ngwasanaethwr , ac nid atebodd ; ymbiliais ag ef â’m genau . Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig , er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff . Plant hefyd a’m diystyrent : cyfodais , a dywedasant i’m herbyn . Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio : a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn . Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen , ac wrth fy nghnawd ; ac â chroen fy nannedd y dihengais . Trugarhewch wrthyf , trugarhewch wrthyf , fy nghyfeillion ; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi . Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw , heb gael digon ar fy nghnawd ? O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr ! O nad argreffid hwynt mewn llyfr ! O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm ! Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw , ac y saif yn y diwedd ar y ddaear . Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn , eto caf weled Duw yn fy nghnawd : Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled , a’m llygaid a’i gwelant , ac nid arall ; er i’m harennau ddarfod ynof . Eithr chwi a ddylech ddywedyd , Paham yr erlidiwn ef ? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof . Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf : canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf , fel y gwybyddoch fod barn . Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd , Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb : ac am hyn y mae brys arnaf . Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi ; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb . Oni wyddost ti hyn erioed , er pan osodwyd dyn ar y ddaear , Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion , a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr ? Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd , a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau ; Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom : y rhai a’i gwelsant a ddywedant , Pa le y mae efe ? Efe a eheda ymaith megis breuddwyd , ac ni cheir ef : ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos . Y llygad a’i gwelodd , ni wêl ef mwy : a’i le ni chenfydd mwy ohono . Ei feibion a gais fodloni’r tlodion : a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt . Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid , yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd . Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef ; er iddo ei gau dan ei dafod ; Er iddo ei arbed , ac heb ei ado ; eithr ei atal o fewn taflod ei enau : Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd : bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef . Efe a lyncodd gyfoeth , ac efe a’i chwyda : Duw a’i tyn allan o’i fol ef . Efe a sugn wenwyn asbiaid : tafod gwiber a’i lladd ef . Ni chaiff weled afonydd , ffrydiau , ac aberoedd o fêl ac ymenyn . Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano , ac nis llwnc : yn ôl ei olud y rhydd adref , ac heb gael llawenydd ohono . Am iddo ddryllio , a gado’r tlodion ; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd ; Diau na chaiff lonydd yn ei fol , na weddill o’r hyn a ddymunodd . Ni bydd gweddill o’i fwyd ef ; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef . Pan gyflawner ei ddigonoldeb , cyfyng fydd arno ; llaw pob dyn blin a ddaw arno . Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol , Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint ; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd . Efe a ffy oddi wrth arfau haearn ; a’r bwa dur a’i trywana ef . Efe a dynnir , ac a ddaw allan o’r corff , a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef ; dychryn fydd arno . Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef : tân heb ei chwythu a’i hysa ef : yr hyn a adawer yn ei luestai ef , a ddrygir . Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef , a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef . Cynnydd ei dŷ ef a gilia : ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef . Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw ; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd ; a bydded hyn yn lle eich cysur . Dioddefwch fi , a minnau a lefaraf ; ac wedi i mi ddywedyd , gwatwerwch . A minnau , ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn ? ac os ydwyf , paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd ? Edrychwch arnaf , a synnwch : a gosodwch eich llaw ar eich genau . Minnau pan gofiwyf , a ofnaf ; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd . Paham y mae yr annuwiolion yn byw , yn heneiddio , ac yn cryfhau mewn cyfoeth ? Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt , a’u hiliogaeth yn eu golwg . Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn ; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy . Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi , ac ni chyll ei had ; ei fuwch ef a fwrw lo , ac nid erthyla . Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell , a’u bechgyn a neidiant . Cymerant dympan a thelyn , a llawenychant wrth lais yr organ . Treuliant eu dyddiau mewn daioni , ac mewn moment y disgynnant i’r bedd . Dywedant hefyd wrth Dduw , Cilia oddi wrthym ; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd . Pa beth ydyw yr Hollalluog , fel y gwasanaethem ef ? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno ? Wele , nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun : pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi . Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion ? ac y daw eu dinistr arnynt hwy ? Duw a ran ofidiau yn ei ddig . Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt , ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt . Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion : efe a dâl iddo , ac efe a’i gwybydd . Ei lygaid a welant ei ddinistr ef ; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog . Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl , pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef ? A ddysg neb wybodaeth i Dduw ? gan ei fod yn barnu y rhai uchel . Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth , ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl . Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth , a’i esgyrn yn iraidd gan fêr . A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid , ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch . Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd , a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt . Wele , mi a adwaen eich meddyliau , a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn . Canys dywedwch , Pa le y mae tŷ y pendefig ? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion ? Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd ? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy , Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus ? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan . Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef ? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth ? Eto efe a ddygir i’r bedd , ac a erys yn y pentwr . Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo , a phob dyn a dynn ar ei ôl ef , megis yr aeth aneirif o’i flaen ef . Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd , gan fod camwedd yn eich atebion chwi ? Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , A wna gŵr lesâd i Dduw , fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun ? Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn ? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd ? Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi ? neu yr â efe gyda thi i farn ? Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml ? a’th anwireddau heb derfyn ? Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos ; a diosgaist ddillad y rhai noethion . Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig ; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog . Ond y gŵr cadarn , efe bioedd y ddaear ; a’r anrhydeddus a drigai ynddi . Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw ; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd . Am hynny y mae maglau o’th amgylch , ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di ; Neu dywyllwch rhag gweled ohonot : a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant . Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd ? gwêl hefyd uchder y sêr , mor uchel ydynt . A thi a ddywedi , Pa fodd y gŵyr Duw ? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll ? Y tew gymylau sydd loches iddo , ac ni wêl ; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd . A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir ? Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser ; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy . Hwy a ddywedasant wrth Dduw , Cilia oddi wrthym : a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy ? Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni : ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi . Y rhai cyfiawn a welant , ac a lawenychant : a’r diniwed a’u gwatwar hwynt . Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni , eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy . Ymarfer , atolwg , ag ef , a bydd heddychlon : o hyn y daw i ti ddaioni . Cymer y gyfraith , atolwg , o’i enau ef , a gosod ei eiriau ef yn dy galon . Os dychweli at yr Hollalluog , ti a adeiledir , symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai . Rhoddi aur i gadw fel pridd , ac aur Offir fel cerrig yr afonydd . A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti , a thi a gei amldra o arian . Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog , ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw . Ti a weddïi arno ef , ac efe a’th wrendy ; a thi a deli dy addunedau . Pan ragluniech di beth , efe a sicrheir i ti ; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd . Pan ostynger hwynt , yna y dywedi di , Y mae goruchafiaeth ; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg . Efe a wareda ynys y diniwed : a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw : fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid . O na wyddwn pa le y cawn ef ! fel y deuwn at ei eisteddfa ef ! Trefnwn fy mater ger ei fron ef , a llanwn fy ngenau â rhesymau . Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai ; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf . A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid ? Na wna ; ond efe a osodai nerth ynof . Yno yr uniawn a ymresymai ag ef : felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr . Wele , ymlaen yr af , ond nid ydyw efe yno ; yn ôl hefyd , ond ni fedraf ei ganfod ef : Ar y llaw aswy , lle y mae efe yn gweithio , ond ni fedraf ei weled ef : ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio , fel na chaf ei weled : Ond efe a edwyn fy ffordd i : wedi iddo fy mhrofi , myfi a ddeuaf allan fel aur . Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef : cedwais ei ffordd ef , ac ni ŵyrais . Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef : hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol . Ond y mae efe yn un , a phwy a’i try ef ? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu , efe a’i gwna . Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi : ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau . Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef : ystyriais , ac ofnais ef . Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon , a’r Hollalluog a’m cythryblodd : Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch , ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd . Paham , gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog , na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef , ei ddyddiau ef ? Y mae rhai yn symudo terfynau ; yn ysglyfaethu defaid , ac yn ymborthi arnynt . Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith : maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl . Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd : tlodion y ddaear a ymgydlechant . Wele , y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch , yn myned allan i’w gwaith , gan geisio ysglyfaeth yn fore : y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd , ac i’w plant . Medant eu hŷd yn y maes ; a gwinllan yr annuwiol a gasglant . Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad , ac heb wisg mewn oerni . Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd ; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig . Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron : cymerant wystl gan y tlawd . Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad ; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog . Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt , ac sydd yn sathru eu cafnau gwin , ydynt sychedig . Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas , ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi ; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn . Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni ; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd , nac yn aros yn ei lwybrau . Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad , ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog ; a’r nos y bydd efe fel lleidr . A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos , gan ddywedyd , Ni chaiff llygad fy ngweled ; ac efe a esyd hug ar ei wyneb . Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai , y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd : nid adwaenant hwy oleuni . Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy : dychryn cysgod marwolaeth yw , os edwyn neb hwynt . Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd ; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear : ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd . Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira : felly y bedd y rhai a bechasant . Y groth a’i gollwng ef dros gof , melys fydd gan y pryf ef ; ni chofir ef mwy : ac anwiredd a dorrir fel pren . Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy , yr hon ni phlanta ; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw . Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth : y mae efe yn codi , ac nid oes neb diogel o’i einioes . Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch , ar yr hyn y mae ei bwys ; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy . Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig , ond hwy a ddarfuant , ac a ostyngwyd ; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill , ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen . Ac onid ydyw felly yn awr , pwy a’m gwna i yn gelwyddog , ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim ? Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef : y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau . A oes gyfrif o’i luoedd ef ? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni ? Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân ? Wele hyd yn oed y lleuad , ac ni lewyrcha hi ; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef : Pa faint llai dyn , yr hwn sydd bryf ; a mab dyn , yr hwn sydd abwydyn ? A Job a atebodd ac a ddywedodd , Pwy a gynorthwyaist ti ? ai y di‐nerth ? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid ? Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth ? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae ? Wrth bwy y mynegaist ymadroddion ? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti ? Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd , a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy . Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef : ac nid oes do ar ddistryw . Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle : y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim . Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau ; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy . Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc : y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi . Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau , nes dibennu goleuni a thywyllwch . Y mae colofnau y nefoedd yn crynu , ac yn synnu wrth ei gerydd ef . Efe a ranna y môr â’i nerth ; ac a dery falchder â’i ddoethineb . Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd : ei law ef a luniodd y sarff dorchog . Wele , dyma rannau ei ffyrdd ef : ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef ! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef ? A Job a barablodd eilwaith , ac a ddywedodd , Y mae Duw yn fyw , yr hwn a ddug ymaith fy marn ; a’r Hollalluog , yr hwn a ofidiodd fy enaid ; Tra fyddo fy anadl ynof , ac ysbryd Duw yn fy ffroenau ; Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd , ac ni thraetha fy nhafod dwyll . Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi : oni threngwyf , ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf . Yn fy nghyfiawnder y glynais , ac nis gollyngaf hi : ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw . Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol ; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn , fel yr anwir . Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr , er elwa ohono ef , pan dynno Duw ei enaid ef allan ? A wrendy Duw ar ei lef , pan ddelo cyfyngder arno ? A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog ? a eilw efe ar Dduw bob amser ? Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw : ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog . Wele , chwychwi oll a’i gwelsoch ; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd ? Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw ; ac etifeddiaeth y rhai traws , yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog . Os ei feibion ef a amlheir , hwy a amlheir i’r cleddyf : a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara . Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth : a’i wragedd gweddwon nid wylant . Er iddo bentyrru arian fel llwch , a darparu dillad fel clai ; Efe a’i darpara , ond y cyfiawn a’i gwisg : a’r diniwed a gyfranna yr arian . Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn , ac fel bwth a wna gwyliwr . Y cyfoethog a huna , ac nis cesglir ef : efe a egyr ei lygaid , ac nid yw . Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd : corwynt a’i lladrata ef liw nos . Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd , ac efe a â ymaith ; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le . Canys Duw a deifl arno ef , ac nid arbed : gan ffoi , efe a fynnai ffoi rhag ei law ef . Curant eu dwylo arno , ac a’i hysiant allan o’i le . Diau fod gwythen i’r arian ; a lle i’r aur , lle y coethant ef . Haearn a dynnir allan o’r pridd ; ac o’r garreg y toddir pres . Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch , ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd ; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau . Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion , y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed : hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion . Y ddaearen , ohoni y daw bara : trowyd megis tân oddi tani . Ei cherrig hi a fyddant le i saffir ; a phriddellau aur sydd iddi . Y mae llwybr nid adnabu aderyn , ac ni chanfu llygad barcud : Yr hwn ni sathrodd cenawon llew ; nid aeth hen lew trwyddo . Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr : y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd . Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau ; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr . Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo , ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni . Ond pa le y ceir doethineb ? a pha le y mae trigle deall ? Ni ŵyr dyn beth a dâl hi ; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw . Y mae y dyfnder yn dywedyd , Nid ydyw hi ynof fi : ac y mae y môr yn dywedyd , Nid ydyw hi gyda myfi . Ni cheir hi er aur pur ; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian . Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir ; nac i’r onics gwerthfawr , nac i’r saffir . Nid aur a grisial a’i cystadla hi : na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi . Ni chofir y cwrel , na’r gabis : canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau . Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi : ni chydbrisir hi ag aur pur . Gan hynny o ba le y daw doethineb ? a pha le y mae mangre deall ? Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw ; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd . Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd , Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi . Duw sydd yn deall ei ffordd hi ; ac efe a edwyn ei lle hi . Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear , ac yn gweled dan yr holl nefoedd ; I wneuthur pwys i’r gwynt ; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur . Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw , a ffordd i fellt y taranau : Yna efe a’i gwelodd hi , ac a’i mynegodd hi ; efe a’i paratôdd hi , a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan . Ac wrth ddyn efe a ddywedodd , Wele , ofn yr Arglwydd , hynny ydyw doethineb ; a chilio oddi wrth ddrwg , sydd ddeall . Yna Job a barablodd drachefn , ac a ddywedodd , O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen , fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi ; Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen , wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch ; Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid , a dirgelwch Duw ar fy mhabell ; Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi , a’m plant o’m hamgylch ; Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn , a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew ! Pan awn i allan i’r porth trwy y dref ; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol , Llanciau a’m gwelent , ac a ymguddient ; a henuriaid a gyfodent , ac a safent i fyny . Tywysogion a atalient eu hymadroddion , ac a osodent eu llaw ar eu genau . Pendefigion a dawent â sôn , a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau . Pan y’m clywai clust , hi a’m bendithiai ; a phan y’m gwelai llygad , efe a dystiolaethai gyda mi : Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi , a’r amddifad , a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo . Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf ; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu . Gwisgwn gyfiawnder , a hithau a wisgai amdanaf fi : a’m barn fyddai fel mantell a choron . Llygaid oeddwn i’r dall ; a thraed oeddwn i’r cloff . Tad oeddwn i’r anghenog ; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan . Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn , ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef . Yna y dywedwn , Byddaf farw yn fy nyth ; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod . Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd ; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig . Fy ngogoniant oedd ir ynof fi ; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw . Hwy a wrandawent arnaf , ac a ddisgwylient ; distawent wrth fy nghyngor . Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith ; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy . A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw ; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law . Os chwarddwn arnynt hwy , ni chredent ; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio . Dewiswn eu ffordd hwynt , eisteddwn yn bennaf , a thrigwn fel brenin mewn llu , megis yr hwn a gysura rai galarus . Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar , y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid . I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi ? darfuasai am henaint ynddynt hwy . Gan angen a newyn , unig oeddynt : yn ffoi i’r anialwch gynt , yn ddiffaith ac yn wyllt : Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni , a gwraidd meryw yn fwyd iddynt . Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion , ( gwaeddent ar eu hôl hwy , fel ar ôl lleidr ; ) I drigo mewn holltau afonydd , mewn tyllau y ddaear , ac yn y creigiau . Hwy a ruent ymhlith perthi : hwy a ymgasglent dan ddanadl . Meibion yr ynfyd , a meibion rhai anenwog oeddynt : gwaelach na’r ddaear oeddynt . Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi , a myfi sydd yn destun iddynt . Y maent yn fy ffieiddio , yn cilio ymhell oddi wrthyf : ac nid arbedant boeri yn fy wyneb . Oblegid iddo ddatod fy rhaff , a’m cystuddio ; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i . Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau ; y maent yn gwthio fy nhraed , ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr . Anrheithiant fy llwybr , ychwanegant fy nhrueni , heb fod help iddynt . Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan : y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith . Dychryniadau a drowyd arnaf : fel gwynt yr erlidiant fy enaid : a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl . Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf ; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof . Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn : a’m gïau nid ydynt yn gorffwys . Trwy fawr nerth fy nghlefyd , fy ngwisg a newidiodd : efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais . Efe a’m taflodd yn y clai ; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw . Yr ydwyf yn llefain arnat ti , ac nid ydwyt yn gwrando : yr ydwyf yn sefyll , ac nid ystyri wrthyf . Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn ; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law . Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt ; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno , ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd . Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth ; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw . Diau nad estyn ef law i’r bedd , er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef . Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd ? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog ? Pan edrychais am ddaioni , drygfyd a ddaeth : pan ddisgwyliais am oleuni , tywyllwch a ddaeth . Fy ymysgaroedd a ferwasant , ac ni orffwysasant : dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant . Cerddais yn alarus heb yr haul : codais , a gwaeddais yn y gynulleidfa . Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau , ac yn gyfaill i gywion yr estrys . Fy nghroen a dduodd amdanaf , a’m hesgyrn a losgasant gan wres . Aeth fy nhelyn hefyd yn alar , a’m horgan fel llais rhai yn wylo . Myfi a wneuthum amod â’m llygaid ; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn ? Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod ? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder ? Onid oes dinistr i’r anwir ? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd ? Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i ? ac yn cyfrif fy holl gamre ? Os rhodiais mewn oferedd , ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo ; Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn , a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd . Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd ; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid ; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo : Yna heuwyf fi , a bwytaed arall ; ie , dadwreiddier fy hiliogaeth i . Os twylled fy nghalon gan wraig , ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog ; Maled fy ngwraig innau i ŵr arall ; ac ymgrymed eraill arni hi . Canys ysgelerder ydyw hyn , ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr . Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio , ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth . Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch , pan ymrysonent â mi ; Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw ? a phan ymwelo efe , pa beth a atebaf iddo ? Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth , a’i gwnaeth yntau ? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru ? Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd , ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio ; Ac os bwyteais fy mwyd yn unig , ac oni fwytaodd yr amddifad ohono ; ( Canys efe a gynyddodd gyda mi , fel gyda thad , o’m hieuenctid ; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi ; ) Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad , a’r anghenog heb wisg : Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant , ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i ; Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad , pan welwn fy nghymorth yn y porth : Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd , a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal . Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf ; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef . Os gosodais fy ngobaith mewn aur ; ac os dywedais wrth aur coeth , Fy ymddiried wyt ; Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr , ac oblegid i’m llaw gael llawer ; Os edrychais ar yr haul pan dywynnai , a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair ; Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig , ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw : Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr : canys gwadaswn Dduw uchod . Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi , ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo : ( Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu ; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio . ) Oni ddywedodd dynion fy mhabell , O na chaem o’i gnawd ef ! ni ddigonir ni . Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol : agorais fy nrysau i’r fforddolion . Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda ; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes ; A ofnais i dyrfa luosog , neu a’m dychrynai dirmyg teulu ; fel y tawn , heb fyned allan o’m drws ? O am un a’m gwrandawai ! wele , fy nymuniad yw , i’r Hollalluog fy ateb i , ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr . Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd ; a rhwymwn ef yn lle coron i mi . Mynegwn iddo rifedi fy nghamre ; fel tywysog y nesawn ato . Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn , ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo ; Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian , ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef : Tyfed ysgall yn lle gwenith , a bulwg yn lle haidd . Diweddwyd geiriau Job . Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job , am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun . Yna digofaint Elihu , mab Barachel y Busiad , o genedl Ram , a gyneuodd : ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job , am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw . A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill , am na chawsent hwy ateb , ac er hynny , farnu ohonynt Job yn euog . Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru : canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran . Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn , yna y cyneuodd ei ddigofaint ef . Ac Elihu , mab Barachel y Busiad , a atebodd ac a ddywedodd , Ieuanc ydwyf o oedran , chwithau ydych hen iawn : am hynny yr arswydais , ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi . Dywedais , Dyddiau a draethant , a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb . Ond y mae ysbryd mewn dyn ; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall . Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser : ac nid yw hynafgwyr yn deall barn . Am hynny y dywedais , Gwrando fi ; minnau a ddangosaf fy meddwl . Wele , disgwyliais wrth eich geiriau ; clustymwrandewais â’ch rhesymau , tra y chwiliasoch chwi am eiriau . Ie , mi a ddeliais arnoch : ac wele , nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job , gan ateb ei eiriau ef : Rhag dywedyd ohonoch , Ni a gawsom ddoethineb : Duw sydd yn ei wthio ef i lawr , ac nid dyn . Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i : ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi . Hwy a synasant , nid atebasant mwy ; peidiasant â llefaru . Wedi disgwyl ohonof , ( canys ni lefarant , eithr sefyll heb ateb mwy , ) Dywedais , Minnau a atebaf fy rhan , minnau a ddangosaf fy meddwl . Canys yr ydwyf yn llawn geiriau : y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i . Wele , fy mol sydd fel gwin nid agorid arno : y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion . Dywedaf , fel y caffwyf fy anadl : agoraf fy ngwefusau , ac atebaf . Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb : ni wenieithiaf wrth ddyn . Canys ni fedraf wenieithio ; pe gwnelwn , buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith . Oherwydd paham , Job , clyw , atolwg , fy ymadroddion ; a gwrando fy holl eiriau . Wele , yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau ; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau . O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau ; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur . Ysbryd Duw a’m gwnaeth i ; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i . Os gelli , ateb fi : ymbaratoa , a saf o’m blaen i . Wele fi , yn ôl dy ddymuniad di , yn lle Duw : allan o’r clai y torrwyd finnau . Wele , ni’th ddychryna fy arswyd i , ac ni bydd fy llaw yn drom arnat . Dywedaist yn ddiau lle y clywais i , a myfi a glywais lais dy ymadroddion : Pur ydwyf fi heb gamwedd : glân ydwyf , ac heb anwiredd ynof . Wele , efe a gafodd achosion yn fy erbyn : y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo . Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion ; y mae yn gwylied fy holl lwybrau . Wele , yn hyn nid ydwyt gyfiawn . Mi a’th atebaf , mai mwy ydyw Duw na dyn . Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef ? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd . Canys y mae Duw yn llefaru unwaith , ie , ddwywaith ; ond ni ddeall dyn . Trwy hun , a thrwy weledigaeth nos , pan syrthio trymgwsg ar ddynion , wrth hepian ar wely ; Yna yr egyr efe glustiau dynion , ac y selia efe addysg iddynt : I dynnu dyn oddi wrth ei waith , ac i guddio balchder oddi wrth ddyn . Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll ; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf . Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely ; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled : Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara , a’i enaid fwyd blasus . Derfydd ei gnawd ef allan o olwg : saif ei esgyrn allan , y rhai ni welid o’r blaen . Nesáu y mae ei enaid i’r bedd , a’i fywyd i’r dinistrwyr . Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd , un o fil , i ddangos i ddyn ei uniondeb : Yna efe a drugarha wrtho , ac a ddywed , Gollwng ef , rhag disgyn ohono i’r clawdd : myfi a gefais iawn . Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen : efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid . Efe a weddïa ar Dduw , ac yntau a fydd bodlon iddo ; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd : canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder . Efe a edrych ar ddynion , ac os dywed neb , Mi a bechais , ac a ŵyrais uniondeb , ac ni lwyddodd i mi ; Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd , a’i fywyd a wêl oleuni . Wele , hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn , I ddwyn ei enaid ef o’r pwll , i’w oleuo â goleuni y rhai byw . Gwrando , Job , clyw fi : taw , a mi a lefaraf . Od oes geiriau gennyt , ateb fi : llefara , canys chwenychwn dy gyfiawnhau di . Onid e , gwrando arnaf fi : bydd ddistaw , a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb . Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd , Ha wŷr doethion , gwrandewch fy ymadroddion ; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod , clustymwrandewch . Canys y glust a farn ymadroddion , fel yr archwaetha y genau fwyd . Dewiswn i ni farn , gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda . Canys dywedodd Job , Cyfiawn ydwyf : a Duw a ddug ymaith fy marn . A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun ? anaele yw fy archoll heb gamwedd . Pa ŵr sydd fel Job , yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr ? Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd , ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol . Canys dywedodd , Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw . Am hynny chwychwi wŷr calonnog , gwrandewch arnaf . Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb , ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd . Canys efe a dâl i ddyn ei waith ; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun . Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol ; ac na ŵyra yr Hollalluog farn . Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear ? a phwy a osododd yr holl fyd ? Os gesyd ei galon ar ddyn , os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef ; Pob cnawd a gyd‐drenga , a dyn a ddychwel i’r pridd . Ac od oes ddeall ynot , gwrando hyn : clustymwrando â llef fy ymadroddion . A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn , lywodraethu ? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth , yn annuwiol ? A ddywedir wrth frenin , Drygionus ydwyt ? ac , Annuwiol ydych , wrth dywysogion ? Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion , ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd ? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll . Hwy a fyddant feirw mewn moment , a hanner nos y cynhyrfa y bobl , ac yr ânt ymaith : a’r cadarn a symudir heb waith llaw . Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef . Nid oes dywyllwch , na chysgod angau , lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd , ymguddio . Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo ; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw . Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif , ac a esyd eraill yn eu lle hwynt . Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy : a phan newidio efe y nos , hwy a ddryllir . Efe a’u tery hwynt , megis rhai annuwiol , yn amlwg : Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef , ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef : Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef , ac efe a wrendy waedd y cystuddiol . Pan esmwythao efe , pwy a anesmwytha ? a phan guddio efe ei wyneb , pwy a edrych arno ? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl , ai yn erbyn dyn yn unig : Fel na theyrnasai dyn ffuantus , ac na rwyder y bobl . Ond wrth Dduw , yr hwn a ddywed , Mi a faddeuais , nid anrheithiaf , y dylid dywedyd ; Heblaw a welaf , dysg di fi : o gwneuthum anwiredd , ni wnaf fi mwy . Ai wrth dy feddwl di y byddai ? efe a’i tâl , pa un bynnag a wnelych ai gwrthod , ai dewis ; ac nid myfi : am hynny dywed yr hyn a wyddost . Gwŷr call , dywedant i mi ; a’r gŵr doeth , clywed fi . Job a ddywedodd yn annoeth ; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb . Fy Nhad , profer Job hyd y diwedd , am roddi atebion dros ddynion anwir . Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod ; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni , ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw . Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd , A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot , Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw ? Canys dywedaist , Pa les a wna hynny i ti ? pa beth a enillaf , er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod ? Myfi a atebaf i ti , ac i’th gyfeillion gyda thi . Edrych ar y nefoedd , a gwêl ; ac edrych ar y cymylau , y rhai sydd uwch na thi . Os pechi , pa niwed a wnei di iddo ef ? os aml fydd dy anwireddau , pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef ? Os cyfiawn fyddi , pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef ? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di ? I ŵr fel tydi , dy annuwioldeb , ac i fab dyn , dy gyfiawnder , a all ryw beth . Gan faint y gorthrymder , hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain : hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn . Ond ni ddywed neb , Pa le y mae Duw , yr hwn a’m gwnaeth i ; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos ? Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear , ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd . Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg , ac ni chlyw efe . Diau na wrendy Duw oferedd , ac nad edrych yr Hollalluog arno . Er dywedyd ohonot na weli ef , eto y mae barn ger ei fron ef : disgwyl dithau wrtho . Ac yn awr , am nad yw felly , efe a ymwelodd yn ei ddigofaint ; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi : Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer ; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth . Ac Elihu a aeth rhagddo , ac a ddywedodd , Goddef i mi ychydig , a myfi a fynegaf i ti , fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw . O bell y cymeraf fy ngwybodaeth , ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder . Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion : y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi . Wele , cadarn ydyw Duw , ac ni ddiystyra efe neb : cadarn o gadernid a doethineb yw efe . Nid achub efe fywyd yr annuwiol ; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid . Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn ; eithr y maent gyda brenhinoedd , ar yr orseddfainc ; ie , efe a’u sicrha yn dragywydd , a hwy a ddyrchefir . Ac os hwy a rwymir â gefynnau , ac a ddelir â rhaffau gorthrymder ; Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith , a’u hanwireddau , amlhau ohonynt : Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd ; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd . Os gwrandawant hwy , a’i wasanaethu ef , hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni , a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch . Ac oni wrandawant , difethir hwy gan y cleddyf ; a hwy a drengant heb wybodaeth . Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig : ni waeddant pan rwymo efe hwynt . Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid , a’u bywyd gyda’r aflan . Efe a wared y truan yn ei gystudd , ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder . Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder , lle nid oes gwasgfa ; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster . Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol : barn a chyfiawnder a ymaflant ynot . Oherwydd bod digofaint , gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod : yna ni’th wared iawn mawr . A brisia efe ar dy olud di ? na phrisia , ar aur , nac ar holl gadernid nerth . Na chwennych y nos , pan dorrer pobl ymaith yn eu lle . Ymochel , nac edrych ar anwiredd : canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd . Wele , Duw trwy ei nerth a ddyrchafa ; pwy sydd yn dysgu fel efe ? Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo ? a phwy a ddywed , Gwnaethost anwiredd ? Cofia fawrhau ei waith ef , ar yr hwn yr edrych dynion . Pob dyn a’i gwêl ; a dyn a’i cenfydd o bell . Wele , mawr yw Duw , ac nid adwaenom ef ; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef . Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân : hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth ; Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth . Hefyd , a ddeall dyn daeniadau y cymylau , a thwrf ei babell ef ? Wele , efe a daenodd ei oleuni arno , ac a orchuddiodd waelod y môr . Canys â hwynt y barn efe y bobloedd , ac y rhydd efe fwyd yn helaeth . Efe a guddia y goleuni â chymylau ; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt . Ei dwrf a fynega amdano , a’r anifeiliaid am y tarth . Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon , ac y dychlama hi o’i lle . Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef , ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef . Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd , a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear . Sŵn a rua ar ei ôl ef : efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd , ac ni oeda efe hwynt , pan glywir ei dwrf ef . Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd : y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni . Canys efe a ddywed wrth yr eira , Bydd ar y ddaear ; ac wrth gawod o law , ac wrth law mawr ei nerth ef . Efe a selia law pob dyn , fel yr adwaeno pawb ei waith ef . Yna yr â y bwystfil i’w loches , ac y trig yn ei le . O’r deau y daw corwynt ; ac oerni oddi wrth y gogledd . Â’i wynt y rhydd Duw rew : a lled y dyfroedd a gyfyngir . Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau ; efe a wasgar ei gwmwl golau . Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef : fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt , ar hyd wyneb y byd ar y ddaear . Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth , ai i’w ddaear , ai er daioni , efe a bair iddo ddyfod . Gwrando hyn , Job ; saf , ac ystyria ryfeddodau Duw . A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt , ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu ? A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau , rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth ? Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes , pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt ? A daenaist ti gydag ef yr wybren , yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig ? Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho : ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch . A fynegir iddo ef os llefaraf ? os dywed neb , diau y llyncir ef . Ac yn awr , ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau : ond myned y mae y gwynt , a’u puro hwynt . O’r gogleddwynt y daw hindda : y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy . Am yr Hollalluog , ni allwn ni mo’i gael ef : ardderchog yw o nerth , a barn , a helaethrwydd cyfiawnder : ni chystuddia efe . Am hynny yr ofna dynion ef : nid edrych efe ar neb doeth eu calon . Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt , ac a ddywedodd , Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth . Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr ; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti . Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear ? mynega , os medri ddeall . Pwy a osododd ei mesurau hi , os gwyddost ? neu pwy a estynnodd linyn arni hi ? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi ? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi , Pan gydganodd sêr y bore , ac y gorfoleddodd holl feibion Duw ? A phwy a gaeodd y môr â dorau , pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth ? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo , a niwl tew yn rhwymyn iddo , Pan osodais fy ngorchymyn arno , a phan osodais drosolion a dorau , Gan ddywedyd , Hyd yma y deui , ac nid ymhellach ; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di . A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau ? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle , I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear , fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi ? Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl ; a hwy a safant fel dillad . Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol : dryllir y braich dyrchafedig . A ddaethost ti i eigion y môr ? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder ? A agorwyd pyrth marwolaeth i ti ? neu a welaist ti byrth cysgod angau ? A ystyriaist ti led y ddaear ? mynega , os adwaenost ti hi i gyd . Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni ? a pha le y mae lle y tywyllwch , Fel y cymerit ef hyd ei derfyn , ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef ? A wyddit ti yna y genid tydi ? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr ? A aethost ti i drysorau yr eira ? neu a welaist ti drysorau y cenllysg , Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder , hyd ddydd ymladd a rhyfel ? Pa ffordd yr ymranna goleuni , yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear ? Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd ? a ffordd i fellt y taranau , I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn ; ar yr anialwch , sydd heb ddyn ynddo ? I ddigoni y tir diffaith a gwyllt , ac i beri i gnwd o laswellt dyfu ? A oes dad i’r glaw ? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith ? O groth pwy y daeth yr iâ allan ? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd ? Y dyfroedd a guddir megis â charreg , ac wyneb y dyfnder a rewodd . A rwymi di hyfrydwch Pleiades ? neu a ddatodi di rwymau Orion ? A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser ? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion ? A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd ? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear ? A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl , fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi ? A ddanfoni di fellt allan , fel yr elont , ac y dywedont wrthyt , Wele ni ? Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd ? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon ? Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb ? a phwy a all atal costrelau y nefoedd . Pan droer y llwch yn dom , fel y glyno y priddellau ynghyd ? A elli di hela ysglyfaeth i’r llew ? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod , Pan ymgrymant yn eu llochesau , pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn ? Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd ? pan lefo ei chywion ar Dduw , gwibiant o eisiau bwyd . A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu ? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi ? A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy ? ac a wyddost ti yr amser y llydnant ? Ymgrymant , bwriant eu llydnod , ac ymadawant â’u gofid . Eu llydnod a gryfha , cynyddant yn y maes : ânt allan , ac ni ddychwelant atynt hwy . Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd ? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt ? Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo , a’r diffeithwch yn drigfa iddo . Efe a chwardd am ben lliaws tref : ni wrendy ar lais y geilwad . Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef , ac efe a chwilia am bob glaswelltyn . A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di ? a erys efe wrth dy bresebau di ? A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych ? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di ? A ymddiriedi wrtho , am fod ei gryfder yn fawr ? a adewi di dy lafur iddo ? A goeli di ef , y dwg efe dy had di drachefn , ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di ? A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod ? neu adenydd a phlu i’r estrys ? Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear , ac a’u cynhesa yn y llwch ; Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt , neu anifail y maes eu sathru . Caled yw hi wrth ei chywion , fel pe na byddent eiddi hi : ei gwaith hi sydd ofer , heb ofn ; Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb , ac na chyfrannodd iddi ddeall . Yr amser yr ymgodo hi yn uchel , hi a ddiystyra y march a’i farchog . A roddaist ti gryfder i farch ? neu a ddysgaist iddo weryru ? A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn ? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef . Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn , ac efe a lawenycha yn ei gryfder : efe a â allan i gyfarfod arfau . Efe a ddiystyra arswyd , ac ni ddychryna efe ; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf . Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn , y ddisglair waywffon a’r darian . Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd : ac ni chred mai llais yr utgorn yw . Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn , Ha , ha ; ac a arogla o bell ryfel , twrf tywysogion , a’r bloeddio . Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch , ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau ? Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr , ac y gwna efe ei nyth yn uchel ? Y trig efe ac yr erys mewn craig ; ac ar ysgithredd y graig , a’r lle cadarn ? Oddi yno y chwilia am fwyd ; ei lygaid a ganfyddant o bell . Ei gywion hefyd a sugnant waed : a lle y byddo celanedd , yno y bydd efe . Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job , ac a ddywedodd , Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog ? a argyhoeddo Dduw , atebed i hynny . A Job a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Wele , gwael ydwyf ; pa beth a atebaf i ti ? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau . Dywedais unwaith ; ond nid atebaf : ie , ddwywaith ; ond ni chwanegaf . A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt , ac a ddywedodd , Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr ; a myfi a ofynnaf i ti , mynega dithau i mi . A wnei di fy marn i yn ofer ? a ferni di fi yn anghyfiawn , i’th gyfiawnhau dy hun ? A oes i ti fraich fel i Dduw ? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau ? Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd , ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch . Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint ; ac edrych ar bob balch , a thafl ef i lawr . Edrych ar bob balch , a gostwng ef ; a mathra yr annuwiol yn eu lle . Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd , a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig . Yna hefyd myfi a addefaf i ti , y gall dy ddeheulaw dy achub . Yn awr wele y behemoth , yr hwn a wneuthum gyda thi ; glaswellt a fwyty efe fel ych . Wele yn awr , ei gryfder ef sydd yn ei lwynau , a’i nerth ym mogel ei fol . Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden : gewynnau ei arennau ef sydd blethedig . Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef : ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn . Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe : yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef . Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo : ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes . Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr , mewn lloches o gyrs a siglennydd . Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod : helyg yr afon a’i hamgylchant . Wele , efe a yf yr afon , ac ni phrysura : efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn . A ddeil neb ef o flaen ei lygaid ? a dylla neb ei drwyn ef â bachau ? A dynni di y lefiathan allan â bach ? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff ? A osodi di fach yn ei drwyn ef ? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd ? A fawr ymbil efe â thi ? a ddywed efe wrthyt ti yn deg ? A wna efe amod â thi ? a gymeri di ef yn was tragwyddol ? A chwaraei di ag ef fel ag aderyn ? neu a rwymi di ef i’th lancesau ? A swpera cyfeillion arno ? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr ? A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn ? neu ei ben â thryferau ? Gosod dy law arno ef ; cofia y rhyfel ; na wna mwy . Wele , ofer ydyw ei obaith ef : oni chwymp un gan ei olwg ef ? Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef : a phwy a saif ger fy mron i ? Pwy a roddodd i mi yn gyntaf , a mi a dalaf ? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd , eiddof fi yw . Ni chelaf ei aelodau ef , na’i gryfder , na gweddeidd‐dra ei ystum ef . Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef ? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg ? Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef ? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef . Ei falchder yw ei emau , wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth . Y mae y naill mor agos at y llall , fel na ddaw gwynt rhyngddynt . Pob un a lŷn wrth ei gilydd ; hwy a gydymgysylltant , fel na wahenir hwy . Wrth ei disian ef y tywynna goleuni , a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore . Ffaglau a ânt allan , a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef . Mwg a ddaw allan o’i ffroenau , fel o bair neu grochan berwedig . Ei anadl a wna i’r glo losgi , a fflam a ddaw allan o’i enau . Yn ei wddf y trig cryfder , a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef . Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd : caledodd ynddo ei hun , fel na syflo . Caled ydyw ei galon fel carreg : a chaled fel darn o’r maen isaf i felin . Rhai cryfion a ofnant pan godo efe : rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt . Cleddyf yr hwn a’i trawo , ni ddeil ; y waywffon , y bicell , na’r llurig . Efe a gyfrif haearn fel gwellt , a phres fel pren pwdr . Ni phair saeth iddo ffoi : cerrig tafl a droed iddo yn sofl . Picellau a gyfrifir fel soflyn ; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon . Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd : efe a daena bethau llymion ar hyd y clai . Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan : efe a esyd y môr fel crochan o ennaint . Efe a wna lwybr golau ar ei ôl ; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn . Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo , yr hwn a wnaethpwyd heb ofn . Efe a edrych ar bob peth uchel : brenin ydyw ar holl feibion balchder . A Job a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a wn y gelli di bob peth ; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt . Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth ? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais ; pethau rhy ryfedd i mi , y rhai nis gwyddwn . Gwrando , atolwg , a myfi a lefaraf : gofynnaf i ti , dysg dithau finnau . Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat : ond yn awr fy llygad a’th welodd di . Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun ; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw . Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job , yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad , Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di , ac yn erbyn dy ddau gyfaill ; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job . Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych , a saith o hyrddod , ac ewch at fy ngwasanaethwr Job , ac offrymwch boethaberth drosoch ; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch : canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef : fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb , am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi , fel fy ngwasanaethwr Job . Felly Eliffas y Temaniad , a Bildad y Suhiad , a Soffar y Naamathiad , a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt . A’r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job . Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job , pan weddïodd efe dros ei gyfeillion : a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg . Yna ei holl geraint , a’i holl garesau , a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen , a ddaethant ato , ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ , ac a gwynasant iddo , ac a’i cysurasant ef , am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef : a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian , a phob un dlws o aur . Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad : canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid , a chwe mil o gamelod , a mil o gyplau ychen , a mil o asynnod . Ac yr oedd iddo saith o feibion , a thair o ferched . Ac efe a alwodd enw y gyntaf , Jemima ; ac enw yr ail Ceseia ; ac enw y drydedd , Ceren‐happuc . Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno : a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr . A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd ; ac a welodd o’i feibion , a meibion ei feibion , bedair cenhedlaeth . Felly Job a fu farw yn hen , ac yn llawn o ddyddiau . Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion , ac ni saif yn ffordd pechaduriaid , ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr . Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd ; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos . Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd , yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd ; a’i ddalen ni wywa ; a pha beth bynnag a wnêl , efe a lwydda . Nid felly y bydd yr annuwiol ; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith . Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn , na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn . Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn : ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir . Paham y terfysga y cenhedloedd , ac y myfyria y bobloedd beth ofer ? Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod , a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd , yn erbyn yr Arglwydd , ac yn erbyn ei Grist ef , gan ddywedyd , Drylliwn eu rhwymau hwy , a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym . Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd : yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt . Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid , ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt . Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd . Mynegaf y ddeddf : dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Fy Mab ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais . Gofyn i mi , a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti , a therfynau y ddaear i’th feddiant . Drylli hwynt â gwialen haearn ; maluri hwynt fel llestr pridd . Gan hynny yr awr hon , frenhinoedd , byddwch synhwyrol : barnwyr y ddaear , cymerwch ddysg . Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn , ac ymlawenhewch mewn dychryn . Cusenwch y Mab , rhag iddo ddigio , a’ch difetha chwi o’r ffordd , pan gyneuo ei lid ef ond ychydig . Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef . Arglwydd , mor aml yw fy nhrallodwyr ! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn . Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid , Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw . Sela . Ond tydi , Arglwydd , ydwyt darian i mi ; fy ngogoniant , a dyrchafydd fy mhen . A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd , ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd . Sela . Mi a orweddais , ac a gysgais , ac a ddeffroais : canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd . Nid ofnaf fyrddiwn o bobl , y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn . Cyfod , Arglwydd ; achub fi , fy Nuw : canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên ; torraist ddannedd yr annuwiolion . Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd : dy fendith sydd ar dy bobl . Sela . Gwrando fi pan alwyf , O Dduw fy nghyfiawnder : mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf ; trugarha wrthyf , ac erglyw fy ngweddi . O feibion dynion , pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth ? yr hoffwch wegi , ac yr argeisiwch gelwydd ? Sela . Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun : yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno . Ofnwch , ac na phechwch : ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely , a thewch . Sela . Aberthwch ebyrth cyfiawnder ; a gobeithiwch yn yr Arglwydd . Llawer sydd yn dywedyd , Pwy a ddengys i ni ddaioni ? Arglwydd , dyrcha arnom lewyrch dy wyneb . Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon , mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt . Mewn heddwch hefyd y gorweddaf , ac yr hunaf : canys ti , Arglwydd , yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch . Gwrando fy ngeiriau , Arglwydd ; deall fy myfyrdod . Erglyw ar lef fy ngwaedd , fy Mrenin , a’m Duw : canys arnat y gweddïaf . Yn fore , Arglwydd , y clywi fy llef ; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat , ac yr edrychaf i fyny . Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd : a drwg ni thrig gyda thi . Ynfydion ni safant yn dy olwg : caseaist holl weithredwyr anwiredd . Difethi y rhai a ddywedant gelwydd : yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus . A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd ; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di . Arglwydd , arwain fi yn dy gyfiawnder , o achos fy ngelynion ; ac uniona dy ffordd o’m blaen . Canys nid oes uniondeb yn eu genau ; eu ceudod sydd anwireddau : bedd agored yw eu ceg ; gwenieithiant â’u tafod . Distrywia hwynt , O Dduw ; syrthiant oddi wrth eu cynghorion : gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau : canys gwrthryfelasant i’th erbyn . Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti : llafarganant yn dragywydd , am i ti orchuddio drostynt : a’r rhai a garant dy enw , gorfoleddant ynot . Canys ti , Arglwydd , a fendithi y cyfiawn : â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef . Arglwydd , na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd , ac na chosba fi yn dy lid . Trugarha wrthyf , Arglwydd : canys llesg ydwyf fi : iachâ fi , O Arglwydd ; canys fy esgyrn a gystuddiwyd . A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr : tithau , Arglwydd , pa hyd ? Dychwel , Arglwydd , gwared fy enaid : achub fi er mwyn dy drugaredd . Canys yn angau nid oes goffa amdanat : yn y bedd pwy a’th folianna ? Diffygiais gan fy ochain ; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa : yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau . Treuliodd fy llygad gan ddicter : heneiddiodd oherwydd fy holl elynion . Ciliwch oddi wrthyf , holl weithredwyr anwiredd : canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain . Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad : yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi . Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion : dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth . Arglwydd fy Nuw , ynot yr ymddiriedais : achub fi rhag fy holl erlidwyr , a gwared fi . Rhag iddo larpio fy enaid fel llew , gan ei rwygo , pryd na byddo gwaredydd . O Arglwydd fy Nuw , os gwneuthum hyn ; od oes anwiredd yn fy nwylo ; O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi , ( ie , mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos ; ) Erlidied y gelyn fy enaid , a goddiwedded : sathred hefyd fy mywyd i’r llawr , a gosoded fy ngogoniant yn y llwch . Sela . Cyfod , Arglwydd , yn dy ddicllonedd , ymddyrcha , oherwydd llid fy ngelynion : deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist . Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant : er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder . Yr Arglwydd a farn y bobloedd : barn fi , O Arglwydd , yn ôl fy nghyfiawnder , ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof . Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion , eithr cyfarwydda di y cyfiawn : canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau . Fy amddiffyn sydd o Dduw , Iachawdwr y rhai uniawn o galon . Duw sydd Farnydd cyfiawn , a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol . Oni ddychwel yr annuwiol , efe a hoga ei gleddyf : efe a anelodd ei fwa , ac a’i paratôdd . Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol : efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr . Wele , efe a ymddŵg anwiredd , ac a feichiogodd ar gamwedd , ac a esgorodd ar gelwydd . Torrodd bwll , cloddiodd ef , syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth . Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun , a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun . Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder , a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf . Arglwydd ein Ior ni , mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear ! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd . O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth , o achos dy elynion , i ostegu y gelyn a’r ymddialydd . Pan edrychwyf ar y nefoedd , gwaith dy fysedd ; y lloer a’r sêr , y rhai a ordeiniaist ; Pa beth yw dyn , i ti i’w gofio ? a mab dyn , i ti i ymweled ag ef ? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion , ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch . Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo ; gosodaist bob peth dan ei draed ef : Defaid ac ychen oll , ac anifeiliaid y maes hefyd ; Ehediaid y nefoedd , a physgod y môr , ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd . Arglwydd ein Ior , mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear ! Clodforaf di , O Arglwydd , â’m holl galon : mynegaf dy holl ryfeddodau . Llawenychaf a gorfoleddaf ynot : canaf i’th enw di , y Goruchaf . Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl , hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di . Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda : eisteddaist ar orseddfainc , gan farnu yn gyfiawn . Ceryddaist y cenhedloedd , distrywiaist yr annuwiol ; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol . Ha elyn , darfu am ddinistr yn dragywydd : a diwreiddiaist y dinasoedd ; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt . Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd : efe a baratôdd ei orseddfainc i farn . Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder : efe a farn y bobloedd mewn uniondeb . Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig , noddfa yn amser trallod . A’r rhai a adwaenant dy enw , a ymddiriedant ynot : canys ni adewaist , O Arglwydd , y rhai a’th geisient . Canmolwch yr Arglwydd , yr hwn sydd yn preswylio yn Seion : mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef . Pan ymofynno efe am waed , efe a’u cofia hwynt : nid anghofia waedd y cystuddiol . Trugarha wrthyf , Arglwydd ; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion , fy nyrchafydd o byrth angau : Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion : llawenychaf yn dy iachawdwriaeth . Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant : yn y rhwyd a guddiasant , y daliwyd eu troed eu hun . Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna : yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun . Higgaion . Sela . Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern , a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw . Canys nid anghofir y tlawd byth : gobaith y trueiniaid ni chollir byth . Cyfod , Arglwydd ; na orfydded dyn : barner y cenhedloedd ger dy fron di . Gosod , Arglwydd , ofn arnynt : fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt . Sela . Paham , Arglwydd , y sefi o bell ? yr ymguddi yn amser cyfyngder ? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd : dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant . Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon ; ac a fendithia y cybydd , yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio . Yr annuwiol , gan uchder ei ffroen , ni chais Dduw : nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef . Ei ffyrdd sydd flin bob amser ; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef : chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion . Dywedodd yn ei galon , Ni’m symudir : oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Ei enau sydd yn llawn melltith , a dichell , a thwyll : dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd . Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi : mewn cilfachau y lladd efe y gwirion : ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd . Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau : cynllwyn y mae i ddal y tlawd : efe a ddeil y tlawd , gan ei dynnu i’w rwyd . Efe a ymgryma , ac a ymostwng , fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef . Dywedodd yn ei galon , Anghofiodd Duw : cuddiodd ei wyneb ; ni wêl byth . Cyfod , Arglwydd ; O Dduw , dyrcha dy law : nac anghofia y cystuddiol . Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw ? dywedodd yn ei galon , Nid ymofynni . Gwelaist hyn ; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham , i roddi tâl â’th ddwylo dy hun : arnat ti y gedy y tlawd ; ti yw cynorthwywr yr amddifad . Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus : cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim . Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd : difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef . Arglwydd , clywaist ddymuniad y tlodion : paratôi eu calon hwynt , gwrendy dy glust arnynt ; I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig , fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach . Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried : pa fodd y dywedwch wrth fy enaid , Eheda i’ch mynydd fel aderyn ? Canys wele , y drygionus a anelant fwa , paratoesant eu saethau ar y llinyn ; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon . Canys y seiliau a ddinistriwyd ; pa beth a wna y cyfiawn ? Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd ; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd : y mae ei lygaid ef yn gweled , ei amrantau yn profi meibion dynion . Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn : eithr cas gan ei enaid ef y drygionus , a’r hwn sydd hoff ganddo drawster . Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau , tân a brwmstan , a phoethwynt ystormus : dyma ran eu ffiol hwynt . Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder : ei wyneb a edrych ar yr uniawn . Achub , Arglwydd ; canys darfu y trugarog : oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion . Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog : â gwefus wenieithgar , ac â chalon ddauddyblyg , y llefarant . Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus , a’r tafod a person ddywedo fawrhydi : Y rhai a ddywedant , Â’n tafod y gorfyddwn ; ein gwefusau a sydd eiddom ni : pwy sydd arglwydd arnom ni ? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig , oherwydd uchenaid y tlodion , y cyfodaf yn awr , medd yr Arglwydd ; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo . Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion ; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd , wedi ei buro seithwaith . Ti , Arglwydd , a’u cedwi hwynt : cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd . Yr annuwiolion a rodiant o amgylch , pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion . Pa hyd , Arglwydd , y’m hanghofi ? ai yn dragywydd ? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof ? Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid , gan fod blinder beunydd yn fy nghalon ? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf ? Edrych , a chlyw fi , O Arglwydd fy Nuw : goleua fy llygaid , rhag i mi huno yn yr angau : Rhag dywedyd o’m gelyn , Gorchfygais ef ; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu , os gogwyddaf . Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di ; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth : canaf i’r Arglwydd , am iddo synio arnaf . Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon , Nid oes un Duw . Ymlygrasant ; ffieiddwaith a wnaethant : nid oes a wnêl ddaioni . Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion , i weled a oedd neb deallgar , yn ymgeisio â Duw . Ciliodd pawb ; cydymddifwynasant : nid oes a wnêl ddaioni , nac oes un . Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd ? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara : ni alwasant ar yr Arglwydd . Yno y dychrynasant gan ofn ; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn . Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi ; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo . Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion ! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl , yr ymhyfryda Jacob , ac y llawenha Israel . Arglwydd , pwy a drig yn dy babell ? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd ? Yr hwn a rodia yn berffaith , ac a wnêl gyfiawnder , ac a ddywed wir yn ei galon : Heb absennu â’i dafod , heb wneuthur drwg i’w gymydog , ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog . Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg ; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd : yr hwn a dwng i’w niwed ei hun , ac ni newidia . Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth , ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion . A wnelo hyn , nid ysgogir yn dragywydd . Cadw fi , O Dduw : canys ynot yr ymddiriedaf . Fy enaid , dywedaist wrth yr Arglwydd , Fy Arglwydd ydwyt ti : fy na nid yw ddim i ti : Ond i’r saint sydd ar y ddaear , a’r rhai rhagorol , yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch . Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr : eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi , ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau . Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol : ti a gynheli fy nghoelbren . Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd : ie , y mae i mi etifeddiaeth deg . Bendithiaf yr Arglwydd , yr hwn a’m cynghorodd : fy arennau hefyd a’m dysgant y nos . Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron : am ei fod ar fy neheulaw , ni’m hysgogir . Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon , ac ymhyfrydodd fy ngogoniant : fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith . Canys ni adewi fy enaid yn uffern ; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth . Dangosi i mi lwybr bywyd : digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron , ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd . Clyw , Arglwydd , gyfiawnder , ystyria fy lefain , gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll . Deued fy marn oddi ger dy fron : edryched dy lygaid ar uniondeb . Profaist fy nghalon ; gofwyaist fi y nos ; chwiliaist fi , ac ni chei ddim : bwriedais na throseddai fy ngenau . Tuag at am weithredoedd dynion , wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd . Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau , fel na lithro fy nhraed . Mi a elwais arnat ; canys gwrandewi arnaf fi , O Dduw : gostwng dy glust ataf , ac erglyw fy ymadrodd . Dangos dy ryfedd drugareddau , O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot , rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw . Cadw fi fel cannwyll llygad : cudd fi dan gysgod dy adenydd , Rhag yr annuwiolion , y rhai a’m gorthrymant , rhag fy ngelynion marwol , y rhai a’m hamgylchant . Caesant gan eu braster : â’u genau y llefarant mewn balchder . Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron : gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear . Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu , ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel . cyfod , Arglwydd , achub ei flaen ef , cwympa ef : gwared fy enaid rhag yr annuwio , yr hwn yw dy gleddyf di ; Rhag dynion , y rhai yw dy law , O Arglwydd , rhag dynion y byd , y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma , a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor : llawn ydynt o feibion , a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain . Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder : digonir fi , pan ddihunwyf , â’th ddelw di . Caraf di , Arglwydd fy nghadernid . Yr Arglwydd yw fy nghraig , a’m hamddiffynfa , a’m gwaredydd ; fy Nuw , fy nghadernid , yn yr hwn yr ymddiriedaf ; fy nharian , a chorn fy iachawdwriaeth , a’m huchel dŵr . Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy : felly y’m cedwir rhag fy ngelynion . Gofidion angau a’m cylchynasant , ac afonydd y fall a’m dychrynasant i . Gofidiau uffern a’m cylchynasant : maglau angau a achubasant fy mlaen . Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd , ac y gwaeddais ar fy Nuw : efe a glybu fy llef o’i deml , a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef . Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear ; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd , am iddo ef ddigio . Dyrchafodd mwg o’i ffroenau , a thân a ysodd o’i enau : glo a enynasant ganddo . Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd , ac a ddisgynnodd : a thywyllwch oedd dan ei draed ef . Marchogodd hefyd ar y ceriwb , ac a ehedodd : ie , efe a ehedodd ar adenydd y gwynt . Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo ; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd , a thew gymylau yr awyr . Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron , ei gymylau a aethant heibio ; cenllysg a marwor tanllyd . Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd , a’r Goruchaf a roddes ei lef ; cenllysg a marwor tanllyd . Ie , efe a anfonodd ei saethau , ac a’u gwasgarodd hwynt ; ac a saethodd ei fellt , ac a’u gorchfygodd hwynt . Gwaelodion y dyfroedd a welwyd , a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di , O Arglwydd , a chan chwythad anadl dy ffroenau . Anfonodd oddi uchod , cymerodd fi , tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer . Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn , a rhag fy nghaseion : canys yr oeddynt yn drech na mi . Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid : ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi . Dug fi hefyd i ehangder : gwaredodd fi ; canys ymhoffodd ynof . Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder ; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi . Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd , ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw . Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i , a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf . Bûm hefyd yn berffaith gydag ef , ac ymgedwais rhag fy anwiredd . A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder , yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef . A’r trugarog y gwnei drugaredd ; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd . A’r glân y gwnei lendid ; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni . Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig : ond ti a ostyngi olygon uchel . Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll : yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch . Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin ; ac yn fy Nuw y llemais dros fur . Duw sydd berffaith ei ffordd : gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro : tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo . Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd ? a phwy sydd graig ond ein Duw ni ? Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth , ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith . Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod ; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla . Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel ; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau . Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth ; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd , a’th fwynder a’m lluosogodd . Ehengaist fy ngherddediad danaf ; fel na lithrodd fy nhraed . Erlidiais fy ngelynion , ac a’u goddiweddais : ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt . Archollais hwynt , fel na allent godi : syrthiasant dan fy nhraed . Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel : darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn . Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion ; fel y difethwn fy nghaseion . Gwaeddasant , ond nid oedd achubydd : sef ar yr Arglwydd , ond nid atebodd efe hwynt . Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt : teflais hwynt allan megis tom yr heolydd . Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl ; gosodaist fi yn ben cenhedloedd : pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant . Pan glywant amdanaf , ufuddhânt i mi : meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi . Meibion dieithr a ballant , ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau . Byw yw yr Arglwydd , a bendithier fy nghraig : a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth . Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial , ac a ddarostwng y bobloedd danaf . Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion : ie , ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn : achubaist fi rhag y gŵr traws . Am hynny y moliannaf di , O Arglwydd , ymhlith y cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin ; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog , i Dafydd , ac i’w had ef byth . Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw ; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef . Dydd i ddydd a draetha ymadrodd , a nos i nos a ddengys wybodaeth . Nid oes iaith nac ymadrodd , lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt . Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear , a’u geiriau hyd eithafoedd byd : i’r haul y gosododd efe babell ynddynt ; Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell : ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa . O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan , a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt : ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef . Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith , yn troi yr enaid : tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr , ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth . Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn , yn llawenhau y galon : gorchymyn yr Arglwydd sydd bur , yn goleuo y llygaid . Ofn yr Arglwydd sydd lân , yn parhau yn dragywydd ; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd , cyfiawn ydynt i gyd . Mwy dymunol ŷnt nag aur , ie , nag aur coeth lawer : melysach hefyd na’r mêl , ac na diferiad diliau mêl . Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was : o’u cadw y mae gwobr lawer . Pwy a ddeall ei gamweddau ? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig . Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus : na arglwyddiaethont arnaf : yna y’m perffeithir , ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer . Bydded ymadroddion fy ngenau , a myfyrdod fy nghalon , yn gymeradwy ger dy fron , O Arglwydd , fy nghraig a’m prynwr . Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder : enw Duw Jacob a’th ddiffynno . Anfoned i ti gymorth o’r cysegr , a nerthed di o Seion . Cofied dy holl offrymau , a bydded fodlon i’th boethoffrwm . Sela . Rhodded i ti wrth fodd dy galon ; a chyflawned dy holl gyngor . Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di , a dyrchafwn faner yn enw ein Duw : cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau . Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog : efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd , yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef . Ymddiried rhai mewn cerbydau , a rhai mewn meirch : ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw . Hwy a gwympasant , ac a syrthiasant ; ond nyni a gyfodasom , ac a safasom . Achub , Arglwydd : gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom . Arglwydd , yn dy nerth y llawenycha y Brenin ; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda ! Deisyfiad ei galon a roddaist iddo ; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist . Sela . Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni : gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth . Gofynnodd oes gennyt , a rhoddaist iddo : ie , hir oes , byth ac yn dragywydd . Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth : gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch . Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol ; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd . Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd , a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef . Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion : dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion . Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid : yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt , a’r tân a’u hysa hwynt . Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear , a’u had o blith meibion dynion . Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn : meddyliasant amcan , heb allu ohonynt ei gwblhau . Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau : ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau . Ymddyrcha , Arglwydd , yn dy nerth ; canwn , a chanmolwn dy gadernid . Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gwrthodaist ? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth , a geiriau fy llefain ? Fy Nuw , llefain yr ydwyf y dydd , ac ni wrandewi ; y nos hefyd , ac nid oes osteg i mi . Ond tydi wyt sanctaidd , O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel . Ein tadau a obeithiasant ynot : gobeithiasant , a gwaredaist hwynt . Arnat ti y llefasant , ac achubwyd hwynt : ynot yr ymddiriedasant , ac nis gwaradwyddwyd hwynt . A minnau , pryf ydwyf , ac nid gŵr ; gwarthrudd dynion , a dirmyg y bobl . Pawb a’r a’m gwelant , a’m gwatwarant : llaesant wefl , ysgydwant ben , gan ddywedyd , Ymddiriedodd yn yr Arglwydd ; gwareded ef : achubed ef , gan ei fod yn dda ganddo . Canys ti a’m tynnaist o’r groth : gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam . Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru : o groth fy mam fy Nuw ydwyt . Nac ymbellha oddi wrthyf ; oherwydd cyfyngder sydd agos : canys nid oes cynorthwywr . Teirw lawer a’m cylchynasant : gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant . Agorasant arnaf eu genau , fel llew rheibus a rhuadwy . Fel dwfr y’m tywalltwyd , a’m hesgyrn oll a ymwahanasant : fy nghalon sydd fel cwyr ; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd . Fy nerth a wywodd fel priddlestr ; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau : ac i lwch angau y’m dygaist . Canys cŵn a’m cylchynasant : cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant : trywanasant fy nwylo a’m traed . Gallaf gyfrif fy holl esgyrn : y maent yn tremio ac yn edrych arnaf . Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg , ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren . Ond tydi , Arglwydd , nac ymbellha : fy nghadernid , brysia i’m cynorthwyo . Gwared fy enaid rhag y cleddyf , fy unig enaid o feddiant y ci . Achub fi rhag safn y llew : canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist . Mynegaf dy enw i’m brodyr : yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf . Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd , molwch ef : holl had Jacob , gogoneddwch ef ; a holl had Israel , ofnwch ef . Canys ni ddirmygodd , ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd ; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo : ond pan lefodd efe arno , efe a wrandawodd . Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr : fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef . Y tlodion a fwytânt , ac a ddiwellir : y rhai a geisiant yr Arglwydd , a’i moliannant ef : eich calon fydd byw yn dragywydd . Holl derfynau y ddaear a gofiant , ac a droant at yr Arglwydd : a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di . Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas : ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd . Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt , ac a addolant : y rhai a ddisgynnant i’r llwch , a ymgrymant ger ei fron ef ; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun . Eu had a’i gwasanaetha ef : cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth . Deuant , ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir , mai efe a wnaeth hyn . Yr Arglwydd yw fy Mugail ; ni bydd eisiau arnaf . Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog : efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel . Efe a ddychwel fy enaid : efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw . Ie , pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau , nid ofnaf niwed : canys yr wyt ti gyda mi ; dy wialen a’th ffon a’m cysurant . Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr : iraist fy mhen ag olew ; fy ffiol sydd lawn . Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd : a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd . Eiddo yr Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder ; y byd , ac a breswylia ynddo . Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd , ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd . Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd ? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef ? Y glân ei ddwylo , a’r pur ei galon ; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd , ac ni thyngodd i dwyllo . Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd , a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth . Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef , y rhai a geisiant dy wyneb di , O Jacob . Sela . O byrth , dyrchefwch eich pennau ; ac ymddyrchefwch , ddrysau tragwyddol ; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn . Pwy yw y Brenin gogoniant hwn ? yr Arglwydd nerthol a chadarn , yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel . O byrth , dyrchefwch eich pennau ; ac ymddyrchefwch , ddrysau tragwyddol ; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn . Pwy yw y Brenin gogoniant hwn ? Arglwydd y lluoedd , efe yw Brenin y gogoniant . Sela . Atat ti , O Arglwydd , y dyrchafaf fy enaid . O fy Nuw , ynot ti yr ymddiriedais ; na’m gwaradwydder ; na orfoledded fy ngelynion arnaf . Ie , na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti : gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos . Pâr i mi wybod dy ffyrdd , O Arglwydd : dysg i mi dy lwybrau . Tywys fi yn dy wirionedd , a dysg fi : canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth ; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd . Cofia , Arglwydd , dy dosturiaethau , a’th drugareddau : canys erioed y maent hwy . Na chofia bechodau fy ieuenctid , na’m camweddau : yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf , er mwyn dy ddaioni , Arglwydd . Da ac uniawn yw yr Arglwydd : oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd . Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn : a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig . Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd , i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef . Er mwyn dy enw , Arglwydd , maddau fy anwiredd : canys mawr yw . Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd ? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso . Ei enaid ef a erys mewn daioni : a’i had a etifedda y ddaear . Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef : a’i gyfamod hefyd , i’w cyfarwyddo hwynt . Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd : canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd . Tro ataf , a thrugarha wrthyf : canys unig a thlawd ydwyf . Gofidiau fy nghalon a helaethwyd : dwg fi allan o’m cyfyngderau . Gwêl fy nghystudd a’m helbul , a maddau fy holl bechodau . Edrych ar fy ngelynion ; canys amlhasant ; â chasineb traws hefyd y’m casasant . Cadw fy enaid , ac achub fi : na’m gwaradwydder : canys ymddiriedais ynot . Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi : canys yr wyf yn disgwyl wrthyt . O Dduw , gwared Israel o’i holl gyfyngderau . Barn fi , Arglwydd ; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd : ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd : am hynny ni lithraf . Hola fi , Arglwydd , a phrawf fi : chwilia fy arennau a’m calon . Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid : ac mi a rodiais yn dy wirionedd . Nid eisteddais gyda dynion coegion ; a chyda’r rhai trofaus nid af . Caseais gynulleidfa y drygionus ; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf . Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd : a’th allor , O Arglwydd , a amgylchynaf : I gyhoeddi â llef clodforedd , ac i fynegi dy holl ryfeddodau . Arglwydd , hoffais drigfan dy dŷ , a lle preswylfa dy ogoniant . Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid , na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd : Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo , a’u deheulaw yn llawn gwobrau . Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd : gwared fi , a thrugarha wrthyf . Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn : yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf , O Arglwydd . Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth ; rhag pwy yr ofnaf ? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd ; rhag pwy y dychrynaf ? Pan nesaodd y rhai drygionus , sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion , i’m herbyn , i fwyta fy nghnawd , hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant . Pe gwersyllai llu i’m herbyn , nid ofna fy nghalon : pe cyfodai cad i’m herbyn , yn hyn mi a fyddaf hyderus . Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd , hynny a geisiaf ; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd , i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd , ac i ymofyn yn ei deml . Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell : yn nirgelfa ei babell y’m cuddia ; ar graig y’m cyfyd i . Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch : am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd ; canaf , ie , canmolaf yr Arglwydd . Clyw , O Arglwydd , fy lleferydd pan lefwyf : trugarha hefyd wrthyf , a gwrando arnaf . Pan ddywedaist , Ceisiwch fy wyneb ; fy nghalon a ddywedodd wrthyt , Dy wyneb a geisiaf , O Arglwydd . Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf ; na fwrw ymaith dy was mewn soriant : fy nghymorth fuost ; na ad fi , ac na wrthod fi , O Dduw fy iachawdwriaeth . Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod , yr Arglwydd a’m derbyn . Dysg i mi dy ffordd , Arglwydd , ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb , oherwydd fy ngelynion . Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion : canys gau dystion , a rhai a adroddant drawster , a gyfodasant i’m herbyn . Diffygiaswn , pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw . Disgwyl wrth yr Arglwydd : ymwrola , ac efe a nertha dy galon : disgwyl , meddaf , wrth yr Arglwydd . Arnat ti , Arglwydd , y gwaeddaf ; fy nghraig , na ddistawa wrthyf : rhag , o thewi wrthyf , i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll . Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat , pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd . Na thyn fi gyda’r annuwiolion , a chyda gweithredwyr anwiredd ; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion , a drwg yn eu calon . Dyro iddynt yn ôl eu gweithred , ac yn ôl drygioni eu dychmygion : dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo ; tâl iddynt eu haeddedigaethau . Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd , na gwaith ei ddwylo ef , y dinistria efe hwynt , ac nis adeilada hwynt . Bendigedig fyddo yr Arglwydd : canys clybu lef fy ngweddïau . Yr Arglwydd yw fy nerth , a’m tarian ; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon , a myfi a gynorthwywyd : oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon , ac ar fy nghân y clodforaf ef . Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai , a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe . Cadw dy bobl , a bendithia dy etifeddiaeth : portha hwynt hefyd , a dyrcha hwynt yn dragywydd . Moeswch i’r Arglwydd , chwi feibion cedyrn , moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd . Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd : Duw y gogoniant a darana ; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion . Llef yr Arglwydd sydd mewn grym : llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch . Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd : ie , dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus . Efe a wna iddynt lamu fel llo ; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn . Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân . Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu : yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu . Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu , ac a ddinoetha y coedydd : ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef . Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant ; ie , yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd . Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl : yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd . Mawrygaf di , O Arglwydd : canys dyrchefaist fi , ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid . Arglwydd fy Nuw , llefais arnat , a thithau a’m hiacheaist . Arglwydd , dyrchefaist fy enaid o’r bedd : cedwaist fi yn fyw , rhag disgyn ohonof i’r pwll . Cenwch i’r Arglwydd , ei saint ef ; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef . Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid ; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd : dros brynhawn yr erys wylofain , ac erbyn y bore y bydd gorfoledd . Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant , Ni’m syflir yn dragywydd . O’th ddaioni , Arglwydd , y gosodaist gryfder yn fy mynydd : cuddiaist dy wyneb , a bûm helbulus . Arnat ti , Arglwydd , y llefais , ac â’r Arglwydd yr ymbiliais . Pa fudd sydd yn fy ngwaed , pan ddisgynnwyf i’r ffos ? a glodfora y llwch di ? a fynega efe dy wirionedd ? Clyw , Arglwydd , a thrugarha wrthyf : Arglwydd , bydd gynorthwywr i mi . Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi : diosgaist fy sachwisg , a gwregysaist fi â llawenydd ; Fel y cano fy ngogoniant i ti , ac na thawo . O Arglwydd fy Nuw , yn dragwyddol y’th foliannaf . Ynot ti , Arglwydd , yr ymddiriedais : na’m gwaradwydder yn dragywydd : gwared fi yn dy gyfiawnder . Gogwydda dy glust ataf ; gwared fi ar frys : bydd i mi yn graig gadarn , yn dŷ amddiffyn i’m cadw . Canys fy nghraig a’m castell ydwyt : gan hynny er mwyn dy enw tywys fi , ac arwain fi . Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi : canys ti yw fy nerth . I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd : gwaredaist fi , O Arglwydd Dduw y gwirionedd . Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd : minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd . Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd : canys gwelaist fy adfyd ; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau ; Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn ; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder . Trugarha wrthyf , Arglwydd ; canys cyfyng yw arnaf : dadwinodd fy llygad gan ofid , ie , fy enaid a’m bol . Canys fy mywyd a ballodd gan ofid , a’m blynyddoedd gan ochain : fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd , a’m hesgyrn a bydrasant . Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion , a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion ; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant : y rhai a’m gwelent allan , a gilient oddi wrthyf . Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl : yr ydwyf fel llestr methedig . Canys clywais ogan llaweroedd ; dychryn oedd o bob parth : pan gydymgyngorasant yn fy erbyn , y bwriadasant fy nieneidio . Ond mi a obeithiais ynot ti , Arglwydd : dywedais , Fy Nuw ydwyt . Yn dy law di y mae fy amserau : gwared fi o law fy ngelynion , ac oddi wrth fy erlidwyr . Llewyrcha dy wyneb ar dy was : achub fi er mwyn dy drugaredd . Arglwydd , na waradwydder fi ; canys gelwais arnat : gwaradwydder yr annuwiolion , torrer hwynt i’r bedd . Gosteger y gwefusau celwyddog , y rhai a ddywedant yn galed , trwy falchder a diystyrwch , yn erbyn y cyfiawn . Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant ; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot , gerbron meibion dynion ! Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion : cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau . Bendigedig fyddo yr Arglwydd : canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn . Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst , Fe’m bwriwyd allan o’th olwg : er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat . Cerwch yr Arglwydd , ei holl saint ef : yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid , ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder . Ymwrolwch , ac efe a gryfha eich calon , chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd , ac y cuddiwyd ei bechod . Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd , ac ni byddo dichell yn ei ysbryd . Tra y tewais , heneiddiodd fy esgyrn , gan fy rhuad ar hyd y dydd . Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos : fy irder a drowyd yn sychder haf . Sela . Addefais fy mhechod wrthyt , a’m hanwiredd ni chuddiais : dywedais , Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd ; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod . Sela . Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir : yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion , ni chânt nesáu ato ef . Ti ydwyt loches i mi ; cedwi fi rhag ing : amgylchyni fi â chaniadau ymwared . Sela . Cyfarwyddaf di , a dysgaf di yn y ffordd yr elych : â’m llygad arnat y’th gynghoraf . Na fyddwch fel march , neu ful , heb ddeall : yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa , ac â ffrwyn , rhag ei ddynesáu atat . Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , trugaredd a’i cylchyna ef . Y rhai cyfiawn , byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd : a’r rhai uniawn o galon oll , cenwch yn llafar . Ymlawenhewch , y rhai cyfiawn , yn yr Arglwydd : i’r rhai uniawn gweddus yw mawl . Molwch yr Arglwydd â’r delyn : cenwch iddo â’r nabl , ac â’r dectant . Cenwch iddo ganiad newydd : cenwch yn gerddgar , yn soniarus . Canys uniawn yw gair yr Arglwydd ; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb . Efe a gâr gyfiawnder a barn : o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn . Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd ; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef . Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr : y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau . Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd : holl drigolion y byd arswydant ef . Canys efe a ddywedodd , ac felly y bu : efe a orchmynnodd , a hynny a safodd . Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd : y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd . Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd ; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth . Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi ; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun . Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd : y mae yn gweled holl feibion dynion . O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear . Efe a gydluniodd eu calon hwynt : efe a ddeall eu holl weithredoedd . Ni waredir brenin gan liaws llu : ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder . Peth ofer yw march i ymwared : ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder . Wele , y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef , sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef ; I waredu eu henaid rhag angau , ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn . Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd : efe yw ein porth a’n tarian . Canys ynddo ef y llawenycha ein calon , oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef . Bydded dy drugaredd , Arglwydd , arnom ni , megis yr ydym yn ymddiried ynot . Bendithiaf yr Arglwydd bob amser : ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad . Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid : y rhai gostyngedig a glywant hyn , ac a lawenychant . Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi ; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef . Ceisiais yr Arglwydd , ac efe a’m gwrandawodd ; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn . Edrychasant arno , a hwy a oleuwyd ; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd . Y tlawd hwn a lefodd , a’r Arglwydd a’i clybu , ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau . Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef , ac a’u gwared hwynt . Profwch , a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd : gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo . Ofnwch yr Arglwydd , ei saint ef : canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef . Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc : ond y sawl a geisiant yr Arglwydd , ni bydd arnynt eisiau dim daioni . Deuwch , blant , gwrandewch arnaf : dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd . Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd , ac a gâr hir ddyddiau , i weled daioni ? Cadw dy dafod rhag drwg , a’th wefusau rhag traethu twyll . Cilia oddi wrth ddrwg , a gwna dda ; ymgais â thangnefedd , a dilyn hi . Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn : a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt . Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg , i dorri eu coffa oddi ar y ddaear . Y rhai cyfiawn a lefant ; a’r Arglwydd a glyw , ac a’u gwared o’u holl drallodau . Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon ; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd . Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn : ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll . Efe a geidw ei holl esgyrn ef : ni thorrir un ohonynt . Drygioni a ladd yr annuwiol : a’r rhai a gasânt y cyfiawn , a anrheithir . Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision : a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef , nid anrheithir hwynt . Dadlau fy nadl , Arglwydd , yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn : ymladd â’r rhai a ymladdant â mi . Ymafael yn y darian a’r astalch , a chyfod i’m cymorth . Dwg allan y waywffon , ac argaea yn erbyn fy erlidwyr : dywed wrth fy enaid , Myfi yw dy iachawdwriaeth . Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid : ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu . Byddant fel us o flaen y gwynt : ac angel yr Arglwydd yn eu herlid . Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa : ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid . Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew , yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid . Deued arno ddistryw ni wypo ; a’i rwyd yr hon a guddiodd , a’i dalio : syrthied yn y distryw hwnnw . A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd : efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef . Fy holl esgyrn a ddywedant , O Arglwydd , pwy sydd fel tydi , yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef : y truan hefyd a’r tlawd , rhag y neb a’i hysbeilio ? Tystion gau a gyfodasant : holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho . Talasant i mi ddrwg dros dda , i ysbeilio fy enaid . A minnau , pan glafychent hwy , oeddwn â’m gwisg o sachlen : gostyngais fy enaid ag ympryd , a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun . Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill , neu yn frawd i mi : ymostyngais mewn galarwisg , fel un yn galaru am ei fam . Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i , ac ymgasglasant ; ie , ymgasglodd efryddion yn fy erbyn , ac nis gwyddwn ; rhwygasant fi , ac ni pheidient . Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd , ysgyrnygasant eu dannedd arnaf . Arglwydd , pa hyd yr edrychi di ar hyn ? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt , fy unig enaid rhag y llewod . Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr : moliannaf di ymhlith pobl lawer . Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos : y sawl a’m casânt yn ddiachos , nac amneidiant â llygad . Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus ; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir . Lledasant eu safn arnaf , gan ddywedyd , Ha , ha , gwelodd ein llygad . Gwelaist hyn , Arglwydd : na thaw dithau ; nac ymbellha oddi wrthyf , O Arglwydd . Cyfod , a deffro i’m barn , sef i’m dadl , fy Nuw a’m Harglwydd . Barn fi , Arglwydd fy Nuw , yn ôl dy gyfiawnder ; ac na lawenhânt o’m plegid . Na ddywedant yn eu calon , O ein gwynfyd : na ddywedant , Llyncasom ef . Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd , y rhai sydd lawen am fy nrygfyd : gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn . Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder : dywedant hefyd yn wastad , Mawryger yr Arglwydd , yr hwn a gâr lwyddiant ei was . Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd . Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon , nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef . Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan , nes cael ei anwiredd yn atgas . Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll : peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni . Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely : efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda ; nid ffiaidd ganddo ddrygioni . Dy drugaredd , Arglwydd , sydd hyd y nefoedd , a’th wirionedd hyd y cymylau . Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder ; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau : dyn ac anifail a gedwi di , Arglwydd . Mor werthfawr yw dy drugaredd , O Dduw ! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd . Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt . Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd : yn dy oleuni di y gwelwn oleuni . Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant , a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon . Na ddeued troed balchder i’m herbyn : na syfled llaw yr annuwiol fi . Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd : gwthiwyd hwynt i lawr , ac ni allant gyfodi . Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus , ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd . Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt , ac y gwywant fel gwyrddlysiau . Gobeithia yn yr Arglwydd , a gwna dda ; felly y trigi yn y tir , a thi a borthir yn ddiau . Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd ; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon . Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd , ac ymddiried ynddo ; ac efe a’i dwg i ben . Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni , a’th farn fel hanner dydd . Distawa yn yr Arglwydd , a disgwyl wrtho : nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd , wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion . Paid â digofaint , a gad ymaith gynddaredd : nac ymddigia er dim i wneuthur drwg . Canys torrir ymaith y drwg ddynion : ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd , hwynt‐hwy a etifeddant y tir . Canys eto ychydigyn , ac ni welir yr annuwiol : a thi a edrychi am ei le ef , ac ni bydd dim ohono . Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear ; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd . Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn , ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno . Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef : canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod . Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf , ac a anelasant eu bwa , i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog , ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd . Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain , a’u bwâu a ddryllir . Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer . Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir : ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn . Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith : a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd . Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd : ac yn amser newyn y cânt ddigon . Eithr collir yr annuwiolion , a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant : yn fwg y diflannant hwy . Yr annuwiol a echwynna , ac ni thâl adref : ond y cyfiawn sydd drugarog , ac yn rhoddi . Canys y rhai a fendigo efe , a etifeddant y tir ; a’r rhai a felltithio efe , a dorrir ymaith . Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da : a da fydd ganddo ei ffordd ef . Er iddo gwympo , ni lwyr fwrir ef i lawr : canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law . Mi a fûm ieuanc , ac yr ydwyf yn hen ; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu , na’i had yn cardota bara . Bob amser y mae efe yn drugarog , ac yn rhoddi benthyg ; a’i had a fendithir . Cilia di oddi wrth ddrwg , a gwna dda ; a chyfanhedda yn dragywydd . Canys yr Arglwydd a gâr farn , ac ni edy ei saint ; cedwir hwynt yn dragywydd : ond had yr annuwiol a dorrir ymaith . Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear , ac a breswyliant ynddi yn dragywydd . Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb , a’i dafod a draetha farn . Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef ; a’i gamre ni lithrant . Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn , ac a gais ei ladd ef . Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef , ac ni ad ef yn euog pan ei barner . Gobeithia yn yr Arglwydd , a chadw ei ffordd ef , ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir : pan ddifether yr annuwiolion , ti a’i gweli . Gwelais yr annuwiol yn gadarn , ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd . Er hynny efe a aeth ymaith , ac wele , nid oedd mwy ohono : a mi a’i ceisiais , ac nid oedd i’w gael . Ystyr y perffaith , ac edrych ar yr uniawn : canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd . Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir : diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith . A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd : efe yw eu nerth yn amser trallod . A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt , ac a’u gwared : efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion , ac a’u ceidw hwynt , am iddynt ymddiried ynddo . Arglwydd , na cherydda fi yn dy lid : ac na chosba fi yn dy ddicllonedd . Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof , a’th law yn drom arnaf . Nid oes iechyd yn fy nghnawd , oherwydd dy ddicllonedd ; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn , oblegid fy mhechod . Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen : megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi . Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant , gan fy ynfydrwydd . Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr : beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus . Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf ; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd . Gwanhawyd , a drylliwyd fi yn dra mawr : rhuais gan aflonyddwch fy nghalon . O’th flaen di , Arglwydd , y mae fy holl ddymuniad ; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt . Fy nghalon sydd yn llamu ; fy nerth a’m gadawodd ; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf . Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla ; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell . Y rhai hefyd a geisient fy einioes , a osodasent faglau ; a’r rhai a geisient fy niwed , a draethent anwireddau , ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd . A minnau fel byddar ni chlywn ; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau . Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai , ac heb argyhoeddion yn ei enau . Oherwydd i mi obeithio ynot , Arglwydd ; ti , Arglwydd fy Nuw , a wrandewi . Canys dywedais , Gwrando fi , rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn : pan lithrai fy nhroed , ymfawrygent i’m herbyn . Canys parod wyf i gloffi , a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad . Diau y mynegaf fy anwiredd , ac y pryderaf oherwydd fy mhechod . Ac y mae fy ngelynion yn fyw , ac yn gedyrn : amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam . A’r rhai a dalant ddrwg dros dda , a’m gwrthwynebant ; am fy mod yn dilyn daioni . Na ad fi , O Arglwydd : fy Nuw , nac ymbellha oddi wrthyf . Brysia i’m cymorth , O Arglwydd fy iachawdwriaeth . Dywedais , Cadwaf fy ffyrdd , rhag pechu â’m tafod : cadwaf ffrwyn yn fy ngenau , tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg . Tewais yn ddistaw , ie , tewais â daioni ; a’m dolur a gyffrôdd . Gwresogodd fy nghalon o’m mewn : tra yr oeddwn yn myfyrio , enynnodd tân , a mi a leferais â’m tafod . Arglwydd , pâr i mi wybod fy niwedd , a pheth yw mesur fy nyddiau ; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi . Wele , gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd ; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di : diau mai cwbl wagedd yw pob dyn , pan fo ar y gorau . Sela . Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod , ac yn ymdrafferthu yn ofer : efe a dyrra olud , ac nis gŵyr pwy a’i casgl . Ac yn awr beth a ddisgwyliaf , O Arglwydd ? fy ngobaith sydd ynot ti . Gwared fi o’m holl gamweddau ; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd . Euthum yn fud , ac nid agorais fy ngenau : canys ti a wnaethost hyn . Tyn dy bla oddi wrthyf : gan ddyrnod dy law y darfûm i . Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd , datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef : gwagedd yn ddiau yw pob dyn . Sela . Gwrando fy ngweddi , Arglwydd , a chlyw fy llef ; na thaw wrth fy wylofain : canys ymdeithydd ydwyf gyda thi , ac alltud , fel fy holl dadau . Paid â mi , fel y cryfhawyf cyn fy myned , ac na byddwyf mwy . Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd ; ac efe a ymostyngodd ataf , ac a glybu fy llefain . Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll , allan o’r pridd tomlyd ; ac a osododd fy nhraed ar graig , gan hwylio fy ngherddediad . A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni : llawer a welant hyn , ac a ofnant , ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo ; ac ni thry at feilchion , nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd . Lluosog y gwnaethost ti , O Arglwydd fy Nuw , dy ryfeddodau , a’th amcanion tuag atom : ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti : pe mynegwn , a phe traethwn hwynt , amlach ydynt nag y gellir eu rhifo . Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist ; agoraist fy nghlustiau : poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist . Yna y dywedais , Wele yr ydwyf yn dyfod : yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf . Da gennyf wneuthur dy ewyllys , O fy Nuw : a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon . Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr : wele , nid ateliais fy ngwefusau ; ti , Arglwydd , a’i gwyddost . Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon ; traethais dy ffyddlondeb , a’th iachawdwriaeth : ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog . Tithau , Arglwydd , nac atal dy drugareddau oddi wrthyf : cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth . Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch : fy mhechodau a’m daliasant , fel na allwn edrych i fyny : amlach ydynt na gwallt fy mhen ; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf . Rhynged bodd i ti , Arglwydd , fy ngwaredu : brysia , Arglwydd , i’m cymorth . Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha ; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg . Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd , y rhai a ddywedant wrthyf , Ha , ha . Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant : dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser , Mawryger yr Arglwydd . Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus ; eto yr Arglwydd a feddwl amdanaf : fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti ; fy Nuw , na hir drig . Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd : yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd . Yr Arglwydd a’i ceidw , ac a’i bywha ; gwynfydedig fydd ar y ddaear : na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion . Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely : cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd . Mi a ddywedais , Arglwydd , trugarha wrthyf : iachâ fy enaid ; canys pechais i’th erbyn . Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf , gan ddywedyd , Pa bryd y bydd efe farw , ac y derfydd am ei enw ef ? Ac os daw i’m hedrych , efe a ddywed gelwydd ; ei galon a gasgl ati anwiredd : pan êl allan , efe a’i traetha . Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn : yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi . Aflwydd , meddant , a lŷn wrtho : a chan ei fod yn gorwedd , ni chyfyd mwy . Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf , yr hwn yr ymddiriedais iddo , ac a fwytaodd fy mara , a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn . Eithr ti , Arglwydd , trugarha wrthyf ; a chyfod fi , fel y talwyf iddynt . Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi , am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn . Ond amdanaf fi , yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli , ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb . Amen , ac Amen . Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd , felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti , O Dduw . Sychedig yw fy enaid am Dduw , am y Duw byw : pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw ? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos , tra dywedant wrthyf bob dydd , Pa le y mae dy Dduw ? Tywalltwn fy enaid ynof , pan gofiwn hynny : canys aethwn gyda’r gynulleidfa , cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw , mewn sain cân a moliant , fel tyrfa yn cadw gŵyl . Paham , fy enaid , y’th ddarostyngir , ac yr ymderfysgi ynof ? gobeithia yn Nuw : oblegid moliannaf ef eto , am iachawdwriaeth ei wynepryd . Fy Nuw , fy enaid a ymddarostwng ynof : am hynny y cofiaf di , o dir yr Iorddonen , a’r Hermoniaid , o fryn Misar . Dyfnder a eilw ar ddyfnder , wrth sŵn dy bistylloedd di : dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi , Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd , a’i gân fydd gyda mi liw nos ; sef gweddi ar Dduw fy einioes . Dywedaf wrth Dduw fy nghraig , Paham yr anghofiaist fi ? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn ? Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo , pan ddywedant wrthyf bob dydd , Pa le y mae dy Dduw ? Paham y’th ddarostyngir , fy enaid ? a phaham y terfysgi ynof ? ymddiried yn Nuw ; canys eto y moliannaf ef , sef iachawdwriaeth fy wyneb , a’m Duw . Barn fi , O Dduw , a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog : gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn . Canys ti yw Duw fy nerth : paham y’m bwri ymaith ? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn ? Anfon dy oleuni a’th wirionedd : tywysant hwy fi ; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd , ac i’th bebyll . Yna yr af at allor Duw , at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd ; a mi a’th foliannaf ar y delyn , O Dduw , fy Nuw . Paham y’th ddarostyngir , fy enaid ? a phaham y terfysgi ynof ? gobeithia yn Nuw ; canys eto y moliannaf ef , sef iachawdwriaeth fy wyneb , a’m Duw . Duw , clywsom â’n clustiau , ein tadau a fynegasant i ni , y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt , yn y dyddiau gynt . Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd , ac a’u plennaist hwythau ; ti a ddrygaist y bobloedd , ac a’u cynyddaist hwythau . Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir , nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt ; eithr dy ddeheulaw di , a’th fraich , a llewyrch dy wyneb , oherwydd i ti eu hoffi hwynt . Ti , Dduw , yw fy Mrenin : gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob . Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion : yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn . Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf ; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub . Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr , ac a waradwyddaist ein caseion . Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd ; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd . Sela . Ond ti a’n bwriaist ni ymaith , ac a’n gwaradwyddaist ; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd . Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn : a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun . Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta ; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd . Gwerthaist dy bobl heb elw , ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt . Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion , yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch . Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd , yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd . Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron , a chywilydd fy wyneb a’m todd : Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr ; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr . Hyn oll a ddaeth arnom ; eto ni’th anghofiasom di , ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod . Ni throdd ein calon yn ei hôl , ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di ; Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau , a thoi drosom â chysgod angau . Os anghofiasom enw ein Duw , neu estyn ein dwylo at dduw dieithr : Oni chwilia Duw hyn allan ? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon . Ie , er dy fwyn di y’n lleddir beunydd ; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd . Deffro , paham y cysgi , O Arglwydd ? cyfod , na fwrw ni ymaith yn dragywydd . Paham y cuddi dy wyneb ? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder ? Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch : glynodd ein bol wrth y ddaear . Cyfod yn gynhorthwy i ni , a gwared ni er mwyn dy drugaredd . Traetha fy nghalon beth da : dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin : fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan . Tecach ydwyt na meibion dynion : tywalltwyd gras ar dy wefusau : oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd . Gwregysa dy gleddyf ar dy glun , O Gadarn , â’th ogoniant a’th harddwch . Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus , oherwydd gwirionedd , a lledneisrwydd , a chyfiawnder ; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy . Pobl a syrthiant danat ; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin . Dy orsedd di , O Dduw , sydd byth ac yn dragywydd : teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di . Ceraist gyfiawnder , a chaseaist ddrygioni : am hynny y’th eneiniodd Duw , sef dy Dduw di , ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion . Arogl myrr , aloes , a chasia , sydd ar dy holl wisgoedd : allan o’r palasau ifori , â’r rhai y’th lawenhasant . Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau : safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir . Gwrando , ferch , a gwêl , a gostwng dy glust ; ac anghofia dy bobl dy hun , a thŷ dy dad . A’r Brenin a chwennych dy degwch : canys efe yw dy Iôr di ; ymostwng dithau iddo ef . Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg ; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb . Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn : gemwaith aur yw ei gwisg hi . Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin : y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl , yn gyfeillesau iddi , a ddygir atat ti . Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt : deuant i lys y Brenin . Dy feibion fydd yn lle dy dadau , y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir . Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes : am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd . Duw sydd noddfa a nerth i ni , cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder . Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear , a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr : Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd , er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef . Sela . Y mae afon , a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw ; cysegr preswylfeydd y Goruchaf . Duw sydd yn ei chanol ; nid ysgog hi : Duw a’i cynorthwya yn fore iawn . Y cenhedloedd a derfysgasant , y teyrnasoedd a ysgogasant : efe a roddes ei lef , toddodd y ddaear . Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni ; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni . Sela . Deuwch , gwelwch weithredoedd yr Arglwydd ; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear . Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear ; efe a ddryllia y bwa , ac a dyr y waywffon , efe a lysg y cerbydau â thân . Peidiwch , a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw : dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd , dyrchefir fi ar y ddaear . Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni ; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob . Sela . Yr holl bobl , curwch ddwylo ; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd . Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy ; Brenin mawr ar yr holl ddaear . Efe a ddwg y bobl danom ni , a’r cenhedloedd dan ein traed . Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni , ardderchowgrwydd Jacob , yr hwn a hoffodd efe . Sela . Dyrchafodd Duw â llawen floedd , yr Arglwydd â sain utgorn . Cenwch fawl i Dduw , cenwch : cenwch fawl i’n Brenin , cenwch . Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw : cenwch fawl yn ddeallus . Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd : eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd . Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd , sef pobl Duw Abraham : canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw : dirfawr y dyrchafwyd ef . Mawr yw yr Arglwydd , a thra moliannus , yn ninas ein Duw ni , yn ei fynydd sanctaidd . Tegwch bro , llawenydd yr holl ddaear , yw mynydd Seion , yn ystlysau y gogledd , dinas y Brenin mawr . Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa . Canys , wele , y brenhinoedd a ymgynullasant , aethant heibio ynghyd . Hwy a welsant , felly y rhyfeddasant ; brawychasant , ac aethant ymaith ar ffrwst . Dychryn a ddaeth arnynt yno , a dolur , megis gwraig yn esgor . Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr . Megis y clywsom , felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd , yn ninas ein Duw ni : Duw a’i sicrha hi yn dragywydd . Sela . Meddyliasom , O Dduw , am dy drugaredd yng nghanol dy deml . Megis y mae dy enw , O Dduw , felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir : cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw . Llawenyched mynydd Seion , ac ymhyfryded merched Jwda , oherwydd dy farnedigaethau . Amgylchwch Seion , ac ewch o’i hamgylch hi ; rhifwch ei thyrau hi . Ystyriwch ei rhagfuriau , edrychwch ar ei phalasau ; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl . Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd : efe a’n tywys ni hyd angau . Clywch hyn , yr holl bobloedd ; gwrandewch hyn , holl drigolion y byd : Yn gystal gwreng a bonheddig , cyfoethog a thlawd ynghyd . Fy ngenau a draetha ddoethineb ; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall . Gostyngaf fy nghlust at ddihareb ; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn . Paham yr ofnaf yn amser adfyd , pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau ? Rhai a ymddiriedant yn eu golud , ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth . Gan waredu ni wared neb ei frawd , ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw : ( Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid , a hynny a baid byth : ) Fel y byddo efe byw byth , ac na welo lygredigaeth . Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw , yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd , gadawant eu golud i eraill . Eu meddwl yw , y pery eu tai yn dragywydd , a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain . Er hynny dyn mewn anrhydedd , nid erys : tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir . Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd : eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd . Sela . Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern ; angau a ymborth arnynt ; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore ; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd , o’u cartref . Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern : canys efe a’m derbyn i . Sela . Nac ofna pan gyfoethogo un , pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef : Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith , ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef . Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid : canmolant dithau , o byddi da wrthyt dy hun . Efe a â at genhedlaeth ei dadau , ac ni welant oleuni byth . Dyn mewn anrhydedd , ac heb ddeall , sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir . Duw y duwiau , sef yr Arglwydd , a lefarodd , ac a alwodd y ddaear , o godiad haul hyd ei fachludiad . Allan o Seion , perffeithrwydd tegwch , y llewyrchodd Duw . Ein Duw ni a ddaw , ac ni bydd distaw : tân a ysa o’i flaen ef , a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch . Geilw ar y nefoedd oddi uchod , ac ar y ddaear , i farnu ei bobl . Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi , y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth . A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef : canys Duw ei hun sydd Farnwr . Sela . Clywch , fy mhobl , a mi a lefaraf ; O Israel , a mi a dystiolaethaf i’th erbyn : Duw , sef dy Dduw di , ydwyf fi . Nid am dy aberthau y’th geryddaf , na’th boethoffrymau , am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad . Ni chymeraf fustach o’th dŷ , na bychod o’th gorlannau . Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi , a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd . Adwaen holl adar y mynyddoedd : a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi . Os bydd newyn arnaf , ni ddywedaf i ti : canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi . A fwytâf fi gig teirw ? neu a yfaf fi waed bychod ? Abertha foliant i Dduw ; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau : A galw arnaf fi yn nydd trallod : mi a’th waredaf , a thi a’m gogoneddi . Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw , Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau , neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau ? Gan dy fod yn casáu addysg , ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl . Pan welaist leidr , cytunaist ag ef ; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr . Gollyngaist dy safn i ddrygioni , a’th dafod a gydbletha ddichell . Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd : rhoddaist enllib i fab dy fam . Hyn a wnaethost , a mi a dewais : tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun : ond mi a’th argyhoeddaf , ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid . Deellwch hyn yn awr , y rhai ydych yn anghofio Duw ; rhag i mi eich rhwygo , ac na byddo gwaredydd . Yr hwn a abertho foliant , a’m gogonedda i : a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn , dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw . Trugarha wrthyf , O Dduw , yn ôl dy drugarowgrwydd : yn ôl lliaws dy dosturiaethau , dilea fy anwireddau . Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd , a glanha fi oddi wrth fy mhechod . Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau : a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron . Yn dy erbyn di , dydi dy hunan , y pechais , ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg : fel y’th gyfiawnhaer pan leferych , ac y byddit bur pan farnech . Wele , mewn anwiredd y’m lluniwyd ; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf . Wele , ceraist wirionedd oddi mewn : a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel . Glanha fi ag isop , a mi a lanheir : golch fi , a byddaf wynnach na’r eira . Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd ; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist . Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau , a dilea fy holl anwireddau . Crea galon lân ynof , O Dduw ; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn . Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron ; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf . Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth ; ac â’th hael ysbryd cynnal fi . Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir ; a phechaduriaid a droir atat . Gwared fi oddi wrth waed , O Dduw , Duw fy iachawdwriaeth : a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder . Arglwydd , agor fy ngwefusau , a’m genau a fynega dy foliant . Canys ni chwenychi aberth ; pe amgen , mi a’i rhoddwn : poethoffrwm ni fynni . Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig : calon ddrylliog gystuddiedig , O Dduw , ni ddirmygi . Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion : adeilada furiau Jerwsalem . Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder , i boethoffrwm ac aberth llosg : yna yr offrymant fustych ar dy allor . Paham yr ymffrosti mewn drygioni , O gadarn ? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol . Dy dafod a ddychymyg ysgelerder ; fel ellyn llym , yn gwneuthur twyll . Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni ; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder . Sela . Hoffaist bob geiriau distryw , O dafod twyllodrus . Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd : efe a’th gipia di ymaith , ac a’th dynn allan o’th babell , ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw . Sela . Y cyfiawn hefyd a welant , ac a ofnant , ac a chwarddant am ei ben . Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo ; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud , ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni . Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw : ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd . Clodforaf di yn dragywydd , oherwydd i ti wneuthur hyn : a disgwyliaf wrth dy enw ; canys da yw gerbron dy saint . Dywedodd yr ynfyd yn ei galon , Nid oes un Duw . Ymlygrasant , a gwnaethant ffiaidd anwiredd : nid oes un yn gwneuthur daioni . Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion , i edrych a oedd neb yn ddeallus , ac yn ceisio Duw . Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn : cydymddifwynasent ; nid oes a wnêl ddaioni , nac oes un . Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd ? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl , fel y bwytaent fara : ni alwasant ar Dduw . Yno yr ofnasant gan ofn , lle nid oedd ofn : canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd : gwaradwyddaist hwynt , am i Dduw eu dirmygu hwy . O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion ! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl , y llawenycha Jacob , ac yr ymhyfryda Israel . Achub fi , O Dduw , yn dy enw ; a barn fi yn dy gadernid . Duw , clyw fy ngweddi ; gwrando ymadrodd fy ngenau . Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn , a’r trawsion a geisiant fy enaid : ni osodasant Dduw o’u blaen . Sela . Wele , Duw sydd yn fy nghynorthwyo : yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid . Efe a dâl ddrwg i’m gelynion : tor hwynt ymaith yn dy wirionedd . Aberthaf i ti yn ewyllysgar : clodforaf dy enw , O Arglwydd ; canys da yw . Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod ; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion . Gwrando fy ngweddi , O Dduw ; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad . Gwrando arnaf , ac erglyw fi : cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi , a thuchan , Gan lais y gelyn , gan orthrymder yr annuwiol : oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf , ac yn fy nghasáu yn llidiog . Fy nghalon a ofidia o’m mewn : ac ofn angau a syrthiodd arnaf . Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf , a dychryn a’m gorchuddiodd . A dywedais , O na bai i mi adenydd fel colomen ! yna yr ehedwn ymaith , ac y gorffwyswn . Wele , crwydrwn ymhell , ac arhoswn yn yr anialwch . Sela . Brysiwn i ddianc , rhag y gwynt ystormus a’r dymestl . Dinistria , O Arglwydd , a gwahan eu tafodau : canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas . Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau : ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi . Anwireddau sydd yn ei chanol hi ; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi . Canys nid gelyn a’m difenwodd ; yna y dioddefaswn : nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn ; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef : Eithr tydi , ddyn , fy nghydradd , fy fforddwr , a’m cydnabod , Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu , ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd . Rhuthred marwolaeth arnynt , a disgynnant i uffern yn fyw : canys drygioni sydd yn eu cartref , ac yn eu mysg . Myfi a waeddaf ar Dduw ; a’r Arglwydd a’m hachub i . Hwyr a bore , a hanner dydd , y gweddïaf , a byddaf daer : ac efe a glyw fy lleferydd . Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn : canys yr oedd llawer gyda mi . Duw a glyw , ac a’u darostwng hwynt , yr hwn sydd yn aros erioed : Sela : am nad oes gyfnewidiau iddynt , am hynny nid ofnant Dduw . Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef : efe a dorrodd ei gyfamod . Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn , a rhyfel yn ei galon : tynerach oedd ei eiriau nag olew , a hwynt yn gleddyfau noethion . Bwrw dy faich ar yr Arglwydd , ac efe a’th gynnal di : ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth . Tithau , Dduw , a’u disgynni hwynt i bydew dinistr : gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau ; ond myfi a obeithiaf ynot ti . Trugarha wrthyf , O Dduw : canys dyn a’m llyncai : beunydd , gan ymladd , y’m gorthryma . Beunydd y’m llyncai fy ngelynion : canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn , O Dduw Goruchaf . Y dydd yr ofnwyf , mi a ymddiriedaf ynot ti . Yn Nuw y clodforaf ei air , yn Nuw y gobeithiaf ; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi . Beunydd y camgymerant fy ngeiriau : eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg . Hwy a ymgasglant , a lechant , ac a wyliant fy nghamre , pan ddisgwyliant am fy enaid . A ddihangant hwy trwy anwiredd ? disgyn y bobloedd hyn , O Dduw , yn dy lidiowgrwydd . Ti a gyfrifaist fy symudiadau : dod fy nagrau yn dy gostrel : onid ydynt yn dy lyfr di ? Y dydd y llefwyf arnat , yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol : hyn a wn ; am fod Duw gyda mi . Yn Nuw y moliannaf ei air : yn yr Arglwydd y moliannaf ei air . Yn Nuw yr ymddiriedais : nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi . Arnaf fi , O Dduw , y mae dy addunedau : talaf i ti foliant . Canys gwaredaist fy enaid rhag angau : oni waredi fy nhraed rhag syrthio , fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw ? Trugarha wrthyf , O Dduw , trugarha wrthyf : canys ynot y gobeithiodd fy enaid ; ie , yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf , hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio . Galwaf ar Dduw Goruchaf ; ar Dduw a gwblha â mi . Efe a enfyn o’r nefoedd , ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai . Sela . Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd . Fy enaid sydd ymysg llewod : gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion , sef meibion dynion , y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau , a’u tafod yn gleddyf llym . Ymddyrcha , Dduw , uwch y nefoedd ; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear . Darparasant rwyd i’m traed ; crymwyd fy enaid ; cloddiasant bydew o’m blaen ; syrthiasant yn ei ganol . Sela . Parod yw fy nghalon , O Dduw , parod yw fy nghalon : canaf a chanmolaf . Deffro , fy ngogoniant ; deffro , nabl a thelyn : deffroaf yn fore . Clodforaf di , Arglwydd , ymysg y bobloedd : canmolaf di ymysg y cenhedloedd . Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd , a’th wirionedd hyd y cymylau . Ymddyrcha , Dduw , uwch y nefoedd ; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear . Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi , O gynulleidfa ? a fernwch chwi uniondeb , O feibion dynion ? Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon : trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear . O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol : o’r bru y cyfeiliornasant , gan ddywedyd celwydd . Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff : y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau ; Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr , er cyfarwydded fyddo y swynwr . Dryllia , O Dduw , eu dannedd yn eu geneuau : tor , O Arglwydd , gilddannedd y llewod ieuainc . Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad : pan saetho eu saethau , byddant megis wedi eu torri . Aed ymaith fel malwoden dawdd , neu erthyl gwraig ; fel na welont yr haul . Cyn i’ch crochanau glywed y mieri , efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt , yn fyw , ac yn ei ddigofaint . Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial : efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol . Fel y dywedo dyn , Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn : diau fod Duw a farna ar y ddaear . Fy Nuw , gwared fi oddi wrth fy ngelynion : amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn . Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd , ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd . Canys wele , cynllwynasant yn erbyn fy enaid : ymgasglodd cedyrn i’m herbyn ; nid ar fy mai na’m pechod i , O Arglwydd . Rhedant , ymbaratoant , heb anwiredd ynof fi : deffro dithau i’m cymorth , ac edrych . A thi , Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel , deffro i ymweled â’r holl genhedloedd : na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus . Sela . Dychwelant gyda’r hwyr , cyfarthant fel cŵn , ac amgylchant y ddinas . Wele , bytheiriant â’u genau : cleddyfau sydd yn eu gwefusau : canys pwy , meddant , a glyw ? Ond tydi , O Arglwydd , a’u gwatweri hwynt ; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd . Oherwydd ei nerth ef , y disgwyliaf wrthyt ti : canys Duw yw fy amddiffynfa . Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena : Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion . Na ladd hwynt , rhag i’m pobl anghofio : gwasgar hwynt yn dy nerth , a darostwng hwynt , O Arglwydd ein tarian . Am bechod eu genau , ac ymadrodd eu gwefusau , dalier hwynt yn eu balchder : ac am y felltith a’r celwydd a draethant . Difa hwynt yn dy lid , difa , fel na byddont : a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob , hyd eithafoedd y ddaear . Sela . A dychwelant gyda’r hwyr , a chyfarthant fel cŵn , ac amgylchant y ddinas . Crwydrant am fwyd ; ac onis digonir , grwgnachant . Minnau a ganaf am dy nerth , ie , llafarganaf am dy drugaredd yn fore : canys buost yn amddiffynfa i mi , ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf . I ti , fy nerth , y canaf ; canys Duw yw fy amddiffynfa , a Duw fy nhrugaredd . O Dduw , bwriaist ni ymaith , gwasgeraist ni , a sorraist : dychwel atom drachefn . Gwnaethost i’r ddaear grynu , a holltaist hi : iachâ ei briwiau ; canys y mae yn crynu . Dangosaist i’th bobl galedi : diodaist ni â gwin madrondod . Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant , i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd . Sela . Fel y gwareder dy rai annwyl : achub â’th ddeheulaw , a gwrando fi . Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd , Llawenychaf : rhannaf Sichem , a mesuraf ddyffryn Succoth . Eiddof fi yw Gilead , ac eiddof fi Manasse : Effraim hefyd yw nerth fy mhen ; Jwda yw fy neddfwr . Moab yw fy nghrochan golchi ; dros Edom y bwriaf fy esgid : Philistia , ymorfoledda di o’m plegid i . Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn ? pwy a’m harwain hyd yn Edom ? Onid tydi , Dduw , yr hwn a’n bwriaist ymaith ? a thydi , O Dduw , yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd ? Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys ofer yw ymwared dyn . Yn Nuw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion . Clyw , O Dduw , fy llefain ; gwrando ar fy ngweddi . O eithaf y ddaear y llefaf atat , pan lesmeirio fy nghalon : arwain fi i graig a fyddo uwch na mi . Canys buost yn noddfa i mi , ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn . Preswyliaf yn dy babell byth : a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd . Sela . Canys ti , Dduw , a glywaist fy addunedau : rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw . Ti a estynni oes y Brenin ; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer . Efe a erys byth gerbron Duw ; darpar drugaredd a gwirionedd , fel y cadwont ef . Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd , fel y talwyf fy addunedau beunydd . Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid : ohono ef y daw fy iachawdwriaeth . Efe yn unig yw fy nghraig , a’m hiachawdwriaeth , a’m hamddiffyn ; ni’m mawr ysgogir . Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr ? lleddir chwi oll ; a byddwch fel magwyr ogwyddedig , neu bared ar ei ogwydd . Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd ; hoffasant gelwydd : â’u geneuau y bendithiant , ond o’u mewn y melltithiant . Sela . O fy enaid , disgwyl wrth Dduw yn unig : canys ynddo ef y mae fy ngobaith . Efe yn unig yw fy nghraig , a’m hiachawdwriaeth : efe yw fy amddiffynfa : ni’m hysgogir . Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant : craig fy nghadernid , a’m noddfa , sydd yn Nuw . Gobeithiwch ynddo ef bob amser ; O bobl , tywelltwch eich calon ger ei fron ef : Duw sydd noddfa i ni . Sela . Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion , geudeb yw meibion gwŷr : i’w gosod yn y clorian , ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi . Nac ymddiriedwch mewn trawster , ac mewn trais na fyddwch ofer : os cynydda golud , na roddwch eich calon arno . Unwaith y dywedodd Duw , clywais hynny ddwywaith ; mai eiddo Duw yw cadernid . Trugaredd hefyd sydd eiddot ti , O Arglwydd : canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred . Ti , O Dduw , yw fy Nuw i ; yn fore y’th geisiaf : sychedodd fy enaid amdanat , hiraethodd fy nghnawd amdanat , mewn tir cras a sychedig heb ddwfr ; I weled dy nerth a’th ogoniant , fel y’th welais yn y cysegr . Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd : fy ngwefusau a’th foliannant . Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd : dyrchafaf fy nwylo yn dy enw . Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid ; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar : Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely , myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos . Canys buost gynhorthwy i mi ; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf . Fy enaid a lŷn wrthyt : dy ddeheulaw a’m cynnal . Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw , a ânt i iselderau y ddaear . Syrthiant ar fin y cleddyf : rhan llwynogod fyddant . Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw : gorfoledda pob un a dyngo iddo ef : eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd . Clyw fy llef , O Dduw , yn fy ngweddi : cadw fy einioes rhag ofn y gelyn . Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus ; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd : Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf , ac a ergydiant eu saethau , sef geiriau chwerwon : I saethu y perffaith yn ddirgel : yn ddisymwth y saethant ef , ac nid ofnant . Ymwrolant mewn peth drygionus , ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel ; dywedant , Pwy a’u gwêl hwynt ? Chwiliant allan anwireddau ; gorffennant ddyfal chwilio : ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn . Eithr Duw a’u saetha hwynt ; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt . Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt : pob un a’u gwelo a gilia . A phob dyn a ofna , ac a fynega waith Duw : canys doeth ystyriant ei waith ef . Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd , ac a obeithia ynddo ; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant . Mawl a’th erys di yn Seion , O Dduw : ac i ti y telir yr adduned . Ti yr hwn a wrandewi weddi , atat ti y daw pob cnawd . Pethau anwir a’m gorchfygasant : ein camweddau ni , ti a’u glanhei . Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech , ac a nesaech atat ; fel y trigo yn dy gynteddoedd : nyni a ddigonir â daioni dy dŷ , sef dy deml sanctaidd . Atebi i ni trwy bethau ofnadwy , yn dy gyfiawnder , O Dduw ein hiachawdwriaeth ; gobaith holl gyrrau y ddaear , a’r rhai sydd bell ar y môr . Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth , ac a wregysir â chadernid . Yr hwn a ostega dwrf y moroedd , twrf eu tonnau , a therfysg y bobloedd . A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion : gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu . Yr wyt yn ymweled â’r ddaear , ac yn ei dyfrhau hi ; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw , yr hon sydd yn llawn dwfr : yr wyt yn paratoi ŷd iddynt , pan ddarperaist felly iddi . Gan ddyfrhau ei chefnau , a gostwng ei rhychau , yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau , ac yn bendithio ei chnwd hi . Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni ; a’th lwybrau a ddiferant fraster . Diferant ar borfeydd yr anialwch : a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch . Y dolydd a wisgir â defaid , a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd ; am hynny y bloeddiant , ac y canant . Llawenfloeddiwch i Dduw , yr holl ddaear : Datgenwch ogoniant ei enw : gwnewch ei foliant yn ogoneddus . Dywedwch wrth Dduw , Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd ! oherwydd maint dy nerth , y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti . Yr holl ddaear a’th addolant di , ac a ganant i ti ; ie , canant i’th enw . Sela . Deuwch , a gwelwch weithredoedd Duw : ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion . Trodd efe y môr yn sychdir : aethant trwy yr afon ar draed : yna y llawenychasom ynddo . Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth ; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd : nac ymddyrchafed y rhai anufudd . Sela . O bobloedd , bendithiwch ein Duw , a pherwch glywed llais ei fawl ef : Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd , ac ni ad i’n troed lithro . Canys profaist ni , O Dduw : coethaist ni , fel coethi arian . Dygaist ni i’r rhwyd : gosodaist wasgfa ar ein llwynau . Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau ; aethom trwy y tân a’r dwfr : a thi a’n dygaist allan i le diwall . Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth : talaf i ti fy addunedau , Y rhai a adroddodd fy ngwefusau , ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder . Offrymaf i ti boethoffrymau breision , ynghyd ag arogl‐darth hyrddod ; aberthaf ychen a bychod . Sela . Deuwch , gwrandewch , y rhai oll a ofnwch Dduw ; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid . Llefais arno â’m genau , ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod . Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon , ni wrandawsai yr Arglwydd . Duw yn ddiau a glybu , ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi . Bendigedig fyddo Duw , yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho , na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau . Duw a drugarhao wrthym , ac a’n bendithio ; a thywynned ei wyneb arnom : Sela : Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear , a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd . Molianned y bobl di , O Dduw ; molianned yr holl bobl dydi . Llawenhaed y cenhedloedd , a byddant hyfryd : canys ti a ferni y bobl yn uniawn , ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear . Sela . Molianned y bobl di , O Dduw ; molianned yr holl bobl dydi . Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth ; a Duw , sef ein Duw ni , a’n bendithia . Duw a’n bendithia ; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef . Cyfoded Duw , gwasgarer ei elynion : a ffoed ei gaseion o’i flaen ef . Chweli hwynt fel chwalu mwg : fel y tawdd cwyr wrth y tân , difether y rhai annuwiol o flaen Duw . Ond llawenycher y rhai cyfiawn , a gorfoleddant gerbron Duw ; a byddant hyfryd o lawenydd . Cenwch i Dduw , canmolwch ei enw : dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd , a’i enw yn JAH , a gorfoleddwch ger ei fron ef . Tad yr amddifaid , a Barnwr y gweddwon , yw Duw , yn ei breswylfa sanctaidd . Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu : yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau ; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir . Pan aethost , O Dduw , o flaen dy bobl , pan gerddaist trwy yr anialwch ; Sela : Y ddaear a grynodd , a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw : Sinai yntau a grynodd o flaen Duw , sef Duw Israel . Dihidlaist law graslon , O Dduw , ar dy etifeddiaeth : ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino . Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi : yn dy ddaioni , O Dduw , yr wyt yn darparu i’r tlawd . Yr Arglwydd a roddes y gair ; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent . Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst : a’r hon a drigodd yn tŷ , a rannodd yr ysbail . Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau , byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian , a’i hadenydd ag aur melyn . Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi , yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon . Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan ; yn fynydd cribog fel mynydd Basan . Paham y llemwch , chwi fynyddoedd cribog ? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio ; ie , preswylia yr Arglwydd ynddo byth . Cerbydau Duw ydynt ugain mil , sef miloedd o angylion : yr Arglwydd sydd yn eu plith , megis yn Sinai yn y cysegr . Dyrchefaist i’r uchelder , caethgludaist gaethiwed : derbyniaist roddion i ddynion ; ie , i’r rhai cyndyn hefyd , fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith . Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni ; sef Duw ein hiachawdwriaeth . Sela . Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth ; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth . Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion ; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau . Dywedodd yr Arglwydd , Dygaf fy mhobl drachefn o Basan , dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr ; Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion , a thafod dy gŵn yn yr unrhyw . Gwelsant dy fynediad , O Dduw ; mynediad fy Nuw , fy Mrenin , yn y cysegr . Y cantorion a aethant o’r blaen , a’r cerddorion ar ôl ; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau . Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd , sef yr Arglwydd , y rhai ydych o ffynnon Israel . Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd , tywysogion Jwda â’u cynulleidfa ; tywysogion Sabulon , a thywysogion Nafftali . Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth : cadarnha , O Dduw , yr hyn a wnaethost ynom ni . Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem . Cerydda dyrfa y gwaywffyn , cynulleidfa y gwrdd deirw , gyda lloi y bobl , fel y delont yn ostyngedig â darnau arian : gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel . Pendefigion a ddeuant o’r Aifft ; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw . Teyrnasoedd y ddaear , cenwch i Dduw ; canmolwch yr Arglwydd : Sela : Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd , y rhai oedd erioed : wele efe yn anfon ei lef , a honno yn llef nerthol . Rhoddwch i Dduw gadernid : ei oruchelder sydd ar Israel , a’i nerth yn yr wybrennau . Ofnadwy wyt , O Dduw , o’th gysegr : Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl . Bendigedig fyddo Duw . Achub fi , O Dduw , canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid . Soddais mewn tom dwfn , lle nid oes sefyllfa : deuthum i ddyfnder dyfroedd , a’r ffrwd a lifodd drosof . Blinais yn llefain , sychodd fy ngheg : pallodd fy llygaid , tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw . Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos : cedyrn yw fy ngelynion diachos , y rhai a’m difethent : yna y telais yr hyn ni chymerais . O Dduw , ti a adwaenost fy ynfydrwydd ; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot . Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti , Arglwydd Dduw y lluoedd : na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di , O Dduw Israel . Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd , ac y todd cywilydd fy wyneb . Euthum yn ddieithr i’m brodyr , ac fel estron gan blant fy mam . Canys sêl dy dŷ a’m hysodd ; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di , a syrthiodd arnaf fi . Pan wylais , gan gystuddio fy enaid ag ympryd , bu hynny yn waradwydd i mi . Gwisgais hefyd sachliain ; ac euthum yn ddihareb iddynt . Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth ; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd . Ond myfi , fy ngweddi sydd atat ti , O Arglwydd , mewn amser cymeradwy : O Dduw , yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi , yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth . Gwared fi o’r dom , ac na soddwyf : gwareder fi oddi wrth fy nghaseion , ac o’r dyfroedd dyfnion . Na lifed y ffrwd ddwfr drosof , ac na lynced y dyfnder fi ; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf . Clyw fi , Arglwydd ; canys da yw dy drugaredd : yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf . Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was ; canys y mae cyfyngder arnaf : brysia , gwrando fi . Nesâ at fy enaid , a gwared ef : achub fi oherwydd fy ngelynion . Ti a adwaenost fy ngwarthrudd , a’m cywilydd , a’m gwaradwydd : fy holl elynion ydynt ger dy fron di . Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon ; yr ydwyf mewn gofid : a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf , ac nid oedd neb ; ac am gysurwyr , ac ni chefais neb . Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd , ac a’m diodasant yn fy syched â finegr . Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron , a’u llwyddiant yn dramgwydd . Tywyller eu llygaid , fel na welont ; a gwna i’w llwynau grynu bob amser . Tywallt dy ddig arnynt ; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt . Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd ; ac na fydded a drigo yn eu pebyll . Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti ; ac am ofid y rhai a archollaist ti , y chwedleuant . Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt ; ac na ddelont i’th gyfiawnder di . Dileer hwynt o lyfr y rhai byw ; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn . Minnau , truan a gofidus ydwyf : dy iachawdwriaeth di , O Dduw , a’m dyrchafo . Moliannaf enw Duw ar gân , a mawrygaf ef mewn mawl . A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog , carnol . Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn : eich calon chwithau , y rhai a geisiwch Dduw , a fydd byw . Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion , ac ni ddiystyra efe ei garcharorion . Nefoedd a daear , y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo , molant ef . Canys Duw a achub Seion , ac a adeilada ddinasoedd Jwda ; fel y trigont yno , ac y meddiannont hi . A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi : a’r rhai a hoffant ei enw ef , a breswyliant ynddi . O Dduw , prysura i’m gwaredu ; brysia , Arglwydd , i’m cymorth . Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid : troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi . Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd , y rhai a ddywedant , Ha , ha . Llawenyched , a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant ; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad , Mawryger Duw . Minnau ydwyf dlawd ac anghenus ; O Dduw , brysia ataf : fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti , O Arglwydd ; na hir drig . Ynot ti , O Arglwydd , y gobeithiais ; na’m cywilyddier byth . Achub fi , a gwared fi yn dy gyfiawnder : gostwng dy glust ataf , ac achub fi . Bydd i mi yn drigfa gadarn , i ddyfod iddi bob amser : gorchmynnaist fy achub ; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa . Gwared fi , O fy Nuw , o law yr annuwiol , o law yr anghyfiawn a’r traws . Canys ti yw fy ngobaith , O Arglwydd Dduw ; fy ymddiried o’m hieuenctid . Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru ; ti a’m tynnaist o groth fy mam : fy mawl fydd yn wastad amdanat ti . Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod : eithr tydi yw fy nghadarn noddfa . Llanwer fy ngenau â’th foliant , ac â’th ogoniant beunydd . Na fwrw fi ymaith yn amser henaint : na wrthod fi pan ballo fy nerth . Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn ; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant , Gan ddywedyd , Duw a’i gwrthododd ef : erlidiwch a deliwch ef ; canys nid oes gwaredydd . O Dduw , na fydd bell oddi wrthyf : fy Nuw , brysia i’m cymorth . Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid : â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi . Minnau a obeithiaf yn wastad , ac a’th foliannaf di fwyfwy . Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd ; canys ni wn rifedi arnynt . Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf : dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi . O’m hieuenctid y’m dysgaist , O Dduw : hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau . Na wrthod fi chwaith , O Dduw , mewn henaint a phenllwydni ; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon , a’th gadernid i bob un a ddelo . Dy gyfiawnder hefyd , O Dduw , sydd uchel , yr hwn a wnaethost bethau mawrion : pwy , O Dduw , sydd debyg i ti ? Ti , yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau , a’m bywhei drachefn , ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear . Amlhei fy mawredd , ac a’m cysuri oddi amgylch . Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl , sef dy wirionedd , O fy Nuw : canaf i ti â’r delyn , O Sanct Israel . Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti ; a’m henaid , yr hwn a waredaist . Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd : oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi . O Dduw , dod i’r Brenin dy farnedigaethau , ac i fab y Brenin dy gyfiawnder . Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder , a’th drueiniaid â barn . Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl , a’r bryniau , trwy gyfiawnder . Efe a farn drueiniaid y bobl , efe a achub feibion yr anghenus , ac a ddryllia y gorthrymydd . Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant , yn oes oesoedd . Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân ; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear . Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn ; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad . Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr , ac o’r afon hyd derfynau y ddaear . O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch : a’i elynion a lyfant y llwch . Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg : brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd . Ie , yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo : yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef . Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo : y truan hefyd , a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo . Efe a arbed y tlawd a’r rheidus , ac a achub eneidiau y rhai anghenus . Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster : a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef . Byw hefyd fydd efe , a rhoddir iddo o aur Seba : gweddïant hefyd drosto ef yn wastad : beunydd y clodforir ef . Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd : ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus ; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear . Ei enw fydd yn dragywydd : ei enw a bery tra fyddo haul ; ac ymfendithiant ynddo : yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig . Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw , Duw Israel , yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau . Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd ; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant . Amen , ac Amen . Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse . Yn ddiau da yw Duw i Israel ; sef i’r rhai glân o galon . Minnau , braidd na lithrodd fy nhraed : prin na thripiodd fy ngherddediad . Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd , pan welais lwyddiant y rhai annuwiol . Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth ; a’u cryfder sydd heini . Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill ; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill . Am hynny y cadwynodd balchder hwynt , ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn . Eu llygaid a saif allan gan fraster : aethant dros feddwl calon o gyfoeth . Y maent wedi llygru , yn chwedleua yn ddrygionus am drawster ; yn dywedyd yn uchel . Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd : a’u tafod a gerdd trwy y ddaear . Am hynny y dychwel ei bobl ef yma ; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn . Dywedant hefyd , Pa fodd y gŵyr Duw ? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf ? Wele , dyma y rhai annuwiol , a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd , ac a amlhasant olud . Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon , ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd . Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd ; fy ngherydd a ddeuai bob bore . Os dywedwn , Mynegaf fel hyn ; wele , â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam . Pan amcenais wybod hyn , blin oedd hynny yn fy ngolwg i ; Hyd onid euthum i gysegr Duw : yna y deellais eu diwedd hwynt . Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa , a chwympo ohonot hwynt i ddinistr . Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd ! pallasant , a darfuant gan ofn . Fel breuddwyd wrth ddihuno un ; felly , O Arglwydd , pan ddeffroech , y dirmygi eu gwedd hwynt . Fel hyn y gofidiodd fy nghalon , ac y’m pigwyd yn fy arennau . Mor ynfyd oeddwn , ac heb wybod ; anifail oeddwn o’th flaen di . Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi : ymaflaist yn fy llaw ddeau . A’th gyngor y’m harweini ; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant . Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi ? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi . Pallodd fy nghnawd a’m calon : ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd . Canys wele , difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt : torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt . Minnau , nesáu at Dduw sydd dda i mi : yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith , i draethu dy holl weithredoedd . Paham , Dduw , y’n bwriaist heibio yn dragywydd , ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa ? Cofia dy gynulleidfa , yr hon a brynaist gynt ; a llwyth dy etifeddiaeth , yr hwn a waredaist ; mynydd Seion hwn , y preswyli ynddo . Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol ; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr . Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd ; gosodasant eu banerau yn arwyddion . Hynod oedd gŵr , fel y codasai fwyeill mewn drysgoed . Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion . Bwriasant dy gysegroedd yn tân ; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw . Dywedasant yn eu calonnau , Cydanrheithiwn hwynt : llosgasant holl synagogau Duw yn y tir . Ni welwn ein harwyddion : nid oes broffwyd mwy , nid oes gennym a ŵyr pa hyd . Pa hyd , Dduw , y gwarthrudda y gwrthwynebwr ? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd ? Paham y tynni yn ei hôl dy law , sef dy ddeheulaw ? tyn hi allan o ganol dy fynwes . Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad , gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir . Ti yn dy nerth a berthaist y môr : drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd . Ti a ddrylliaist ben lefiathan ; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch . Ti a holltaist y ffynnon a’r afon ; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion . Y dydd sydd eiddot ti , y nos hefyd sydd eiddot ti : ti a baratoaist oleuni a haul . Ti a osodaist holl derfynau y ddaear : ti a luniaist haf a gaeaf . Cofia hyn , i’r gelyn gablu , O Arglwydd , ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw . Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion : nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth . Edrych ar y cyfamod : canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster . Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus : molianned y truan a’r anghenus dy enw . Cyfod , O Dduw , dadlau dy ddadl : cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd . Nac anghofia lais dy elynion : dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol . Clodforwn dydi , O Dduw , clodforwn ; canys agos yw dy enw ; dy ryfeddodau a fynegant hynny . Pan dderbyniwyf y gynulleidfa , mi a farnaf yn uniawn . Ymddatododd y ddaear , a’i holl drigolion : myfi sydd yn cynnal ei cholofnau . Sela . Dywedais wrth y rhai ynfyd , Nac ynfydwch ; ac wrth y rhai annuwiol , Na ddyrchefwch eich corn : Na ddyrchefwch eich corn yn uchel : na ddywedwch yn warsyth . Canys nid o’r dwyrain , nac o’r gorllewin , nac o’r deau , y daw goruchafiaeth . Ond Duw sydd yn barnu ; efe a ostwng y naill , ac a gyfyd y llall . Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd , a’r gwin sydd goch ; yn llawn cymysg , ac efe a dywalltodd ohono : eto holl annuwiolion y tir a wasgant , ac a yfant ei waelodion . Minnau a fynegaf yn dragywydd , ac a ganaf i Dduw Jacob . Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol ; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir . Hynod yw Duw yn Jwda ; mawr yw ei enw ef yn Israel . Ei babell hefyd sydd yn Salem , a’i drigfa yn Seion . Yna y torrodd efe saethau y bwa , y darian , y cleddyf hefyd , a’r frwydr . Sela . Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail . Ysbeiliwyd y cedyrn galon , hunasant eu hun : a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo . Gan dy gerydd di , O Dduw Jacob , y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu . Tydi , tydi , wyt ofnadwy ; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter ? O’r nefoedd y peraist glywed barn ; ofnodd , a gostegodd y ddaear , Pan gyfododd Duw i farn , i achub holl rai llednais y tir . Sela . Diau cynddaredd dyn a’th folianna di : gweddill cynddaredd a waherddi . Addunedwch , a thelwch i’r Arglwydd eich Duw : y rhai oll ydynt o’i amgylch ef , dygant anrheg i’r ofnadwy . Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion : y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear . A’m llef y gwaeddais ar Dduw , â’m llef ar Dduw ; ac efe a’m gwrandawodd . Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd : fy archoll a redodd liw nos , ac ni pheidiodd : fy enaid a wrthododd ei ddiddanu . Cofiais Dduw , ac a’m cythryblwyd : cwynais , a therfysgwyd fy ysbryd . Sela . Deliaist fy llygaid yn neffro : synnodd arnaf , fel na allaf lefaru . Ystyriais y dyddiau gynt , blynyddoedd yr hen oesoedd . Cofio yr ydwyf fy nghân y nos : yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon ; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal . Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio ? ac oni bydd efe bodlon mwy ? A ddarfu ei drugaredd ef dros byth ? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd ? A anghofiodd Duw drugarhau ? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant ? Sela . A dywedais , Dyma fy ngwendid : eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf . Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd ; ie , cofiaf dy wyrthiau gynt . Myfyriaf hefyd ar dy holl waith , ac am dy weithredoedd y chwedleuaf . Dy ffordd , O Dduw , sydd yn y cysegr : pa dduw mor fawr â’n Duw ni ? Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau : dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd . Gwaredaist â’th fraich dy bobl , meibion Jacob a Joseff . Sela . Y dyfroedd a’th welsant , O Dduw , y dyfroedd a’th welsant : hwy a ofnasant ; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd . Y cymylau a dywalltasant ddwfr : yr wybrennau a roddasant dwrf : dy saethau hefyd a gerddasant . Twrf dy daran a glywyd o amgylch : mellt a oleuasant y byd ; cyffrôdd a chrynodd y ddaear . Dy ffordd sydd yn y môr , a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion ; ac nid adwaenir dy ôl . Tywysaist dy bobl fel defaid , trwy law Moses ac Aaron . Gwrando fy nghyfraith , fy mhobl : gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau . Agoraf fy ngenau mewn dihareb : traethaf ddamhegion o’r cynfyd : Y rhai a glywsom , ac a wybuom , ac a fynegodd ein tadau i ni . Ni chelwn rhag eu meibion , gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd , a’i nerth , a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe . Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob , ac a osododd gyfraith yn Israel , y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant : Fel y gwybyddai yr oes a ddêl , sef y plant a enid ; a phan gyfodent , y mynegent hwy i’w plant hwythau : Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw , heb anghofio gweithredoedd Duw , eithr cadw ei orchmynion ef : Ac na byddent fel eu tadau , yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar ; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn , ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw . Meibion Effraim , yn arfog ac yn saethu â bwa , a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr . Ni chadwasant gyfamod Duw , eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef ; Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau , y rhai a ddangosasai efe iddynt . Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft , ym maes Soan . Efe a barthodd y môr , ac a aeth â hwynt drwodd ; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr . Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl , ac ar hyd y nos â goleuni tân . Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch ; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr . Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig , ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd . Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef , gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch . A themtiasant Dduw yn eu calon , gan ofyn bwyd wrth eu blys . Llefarasant hefyd yn erbyn Duw ; dywedasant , A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch ? Wele , efe a drawodd y graig , fel y pistyllodd dwfr , ac y llifodd afonydd ; a ddichon efe roddi bara hefyd ? a ddarpara efe gig i’w bobl ? Am hynny y clybu yr Arglwydd , ac y digiodd : a thân a enynnodd yn erbyn Jacob , a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel ; Am na chredent yn Nuw , ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef : Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod , ac agoryd drysau y nefoedd , A glawio manna arnynt i’w fwyta , a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd . Dyn a fwytaodd fara angylion : anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol . Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd ; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt . Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch , ac adar asgellog fel tywod y môr . Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll , o amgylch eu preswylfeydd . Felly y bwytasant , ac y llwyr ddiwallwyd hwynt ; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt ; Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant : er hynny , tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau , Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt , ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt , ac a gwympodd etholedigion Israel . Er hyn oll pechasant eto , ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef . Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd , a’u blynyddoedd mewn dychryn . Pan laddai efe hwynt , hwy a’i ceisient ef , ac a ddychwelent , ac a geisient Dduw yn fore . Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig , ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd . Er hynny , rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau , a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod : A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef , na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef . Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd , ac ni ddifethodd hwynt : ie , trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych , ac ni chyffrôdd ei holl lid . Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt , a gwynt yn myned , ac heb ddychwelyd . Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch , ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch ? Ie , troesant a phrofasant Dduw , ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel . Ni chofiasant ei law ef , na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn . Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft , a’i ryfeddodau ym maes Soan : Ac y troesai eu hafonydd yn waed ; a’u ffrydiau , fel na allent yfed . Anfonodd gymysgbla yn eu plith , yr hon a’u difaodd hwynt ; a llyffaint i’w difetha . Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys , a’u llafur i’r locust . Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg , a’u sycamorwydd â rhew . Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg , a’u golud i’r mellt . Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid , llidiowgrwydd , a dicter , a chyfyngder , trwy anfon angylion drwg . Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint : nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau ; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint . Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft ; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham : Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid , ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch . Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel , fel nad ofnasant : a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt . Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd ; i’r mynydd hwn , a enillodd ei ddeheulaw ef . Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt , ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn , ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt . Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf , ac ni chadwasant ei dystiolaethau : Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau : troesant fel bwa twyllodrus . Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau ; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau . Clybu Duw hyn , ac a ddigiodd , ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr : Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo , y babell a osodasai efe ymysg dynion ; Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed , a’i brydferthwch yn llaw y gelyn . Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf ; a digiodd wrth ei etifeddiaeth . Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc ; a’u morynion ni phriodwyd . Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf ; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant . Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu , fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin . Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl : rhoddes iddynt warth tragwyddol . Gwrthododd hefyd babell Joseff , ac ni etholodd lwyth Effraim : Ond efe a etholodd lwyth Jwda , mynydd Seion , yr hwn a hoffodd . Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel , fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd . Etholodd hefyd Dafydd ei was , ac a’i cymerth o gorlannau y defaid : Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl , ac Israel ei etifeddiaeth . Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon ; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo . Y cenhedloedd , O Dduw , a ddaethant i’th etifeddiaeth ; halogasant dy deml sanctaidd : gosodasant Jerwsalem yn garneddau . Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd , a chig dy saint i fwystfilod y ddaear . Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem : ac nid oedd a’u claddai . Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion ; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch . Pa hyd , Arglwydd ? a ddigi di yn dragywydd ? a lysg dy eiddigedd di fel tân ? Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant , ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw . Canys ysasant Jacob , ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd . Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn : brysia , rhagflaened dy dostur drugareddau ni : canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd . Cynorthwya ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , er mwyn gogoniant dy enw : gwared ni hefyd , a thrugarha wrth ein pechodau , er mwyn dy enw . Paham y dywed y cenhedloedd , Pa le y mae eu Duw hwynt ? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni , wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd . Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron : yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth . A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes , eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di , O Arglwydd . A ninnau dy bobl a defaid dy borfa , a’th foliannwn di yn dragywydd : datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth . Gwrando , O Fugail Israel , yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd ; ymddisgleiria , yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid . Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse , a thyred yn iachawdwriaeth i ni . Dychwel ni , O Dduw , a llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . O Arglwydd Dduw y lluoedd , pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl ? Porthaist hwynt â bara dagrau ; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr . Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion ; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun . O Dduw y lluoedd , dychwel ni , a llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . Mudaist winwydden o’r Aifft : bwriaist y cenhedloedd allan , a phlennaist hi . Arloesaist o’i blaen , a pheraist i’w gwraidd wreiddio , a hi a lanwodd y tir . Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod ; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol . Hi a estynnodd ei changau hyd y môr , a’i blagur hyd yr afon . Paham y rhwygaist ei chaeau , fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi ? Y baedd o’r coed a’i turia , a bwystfil y maes a’i pawr . O Dduw y lluoedd , dychwel , atolwg : edrych o’r nefoedd , a chenfydd , ac ymwêl â’r winwydden hon ; A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw , ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun . Llosgwyd hi â thân ; torrwyd hi i lawr : gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt . Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw , a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun . Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti : bywha ni , a ni a alwn ar dy enw . O Arglwydd Dduw y lluoedd , dychwel ni , llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid : cenwch yn llawen i Dduw Jacob . Cymerwch salm , a moeswch dympan , y delyn fwyn a’r nabl . Utgenwch utgorn yn y lloer newydd , yn yr amser nodedig , yn nydd ein huchel ŵyl . Canys deddf yw hyn i Israel , a defod i Dduw Jacob . Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff , pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft : lle y clywais iaith ni ddeallwn . Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich : ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau . Mewn cyfyngder y gelwaist , ac mi a’th waredais : gwrandewais di yn nirgelwch y daran : profais di wrth ddyfroedd Meriba . Sela . Clyw , fy mhobl , a mi a dystiolaethaf i ti : Israel , os gwrandewi arnaf ; Na fydded ynot dduw arall ; ac nac ymgryma i dduw dieithr . Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft : lleda dy safn , a mi a’i llanwaf . Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef ; ac Israel ni’m mynnai . Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon : aethant wrth eu cyngor eu hunain . O na wrandawsai fy mhobl arnaf ; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd ! Buan y gostyngaswn eu gelynion , ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr . Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef : a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd . Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith : ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn . Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog : ymhlith y duwiau y barn efe . Pa hyd y bernwch ar gam ? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol ? Sela . Bernwch y tlawd a’r amddifad : cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus . Gwaredwch y tlawd a’r anghenus : achubwch hwynt o law y rhai annuwiol . Ni wyddant , ac ni ddeallant ; mewn tywyllwch y rhodiant : holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle . Myfi a ddywedais , Duwiau ydych chwi ; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll . Eithr byddwch feirw fel dynion , ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch . Cyfod , O Dduw , barna y ddaear : canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd . O Dduw , na ostega : na thaw , ac na fydd lonydd , O Dduw . Canys wele , dy elynion sydd yn terfysgu ; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau . Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl , ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di . Dywedasant , Deuwch , a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl ; ac na chofier enw Israel mwyach . Canys ymgyngorasant yn unfryd ; ac ymwnaethant i’th erbyn ; Pebyll Edom , a’r Ismaeliaid ; y Moabiaid , a’r Hagariaid ; Gebal , ac Ammon , ac Amalec ; y Philistiaid , gyda phreswylwyr Tyrus . Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt : buant fraich i blant Lot . Sela . Gwna di iddynt fel i Midian ; megis i Sisera , megis i Jabin , wrth afon Cison : Yn Endor y difethwyd hwynt : aethant yn dail i’r ddaear . Gwna eu pendefigion fel Oreb , ac fel Seeb ; a’u holl dywysogion fel Seba , ac fel Salmunna : Y rhai a ddywedasant , Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i’w meddiannu . Gosod hwynt , O fy Nuw , fel olwyn ; fel sofl o flaen y gwynt . Fel y llysg tân goed , ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd ; Felly erlid di hwynt â’th dymestl , a dychryna hwynt â’th gorwynt . Llanw eu hwynebau â gwarth ; fel y ceisiont dy enw , O Arglwydd . Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd ; ie , gwaradwydder a difether hwynt : Fel y gwypont mai tydi , yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw , wyt Oruchaf ar yr holl ddaear . Mor hawddgar yw dy bebyll di , O Arglwydd y lluoedd ! Fy enaid a hiraetha , ie , ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd : fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw . Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ , a’r wennol nyth iddi , lle y gesyd ei chywion ; sef dy allorau di , O Arglwydd y lluoedd , fy Mrenin , a’m Duw . Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ : yn wastad y’th foliannant . Sela . Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot ; a’th ffyrdd yn eu calon : Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon : a’r glaw a leinw y llynnau . Ant o nerth i nerth ; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion . O Arglwydd Dduw y lluoedd , clyw fy ngweddi : gwrando , O Dduw Jacob . Sela . O Dduw ein tarian , gwêl , ac edrych ar wyneb dy Eneiniog . Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil : dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw , o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb . Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw : yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant : ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith . O Arglwydd y lluoedd , gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot . Graslon fuost , O Arglwydd , i’th dir : dychwelaist gaethiwed Jacob . Maddeuaist anwiredd dy bobl : cuddiaist eu holl bechod . Sela . Tynnaist ymaith dy holl lid : troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter . Tro ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym . Ai byth y digi wrthym ? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth ? Oni throi di a’n bywhau ni , fel y llawenycho dy bobl ynot ti ? Dangos i ni , Arglwydd , dy drugaredd , a dod i ni dy iachawdwriaeth . Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw : canys efe a draetha heddwch i’w bobl , ac i’w saint : ond na throant at ynfydrwydd . Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant ; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni . Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant ; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant . Gwirionedd a dardda o’r ddaear ; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd . Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni ; a’n daear a rydd ei chnwd . Cyfiawnder a â o’i flaen ef ; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd . Gostwng , O Arglwydd , dy glust , gwrando fi : canys truan ac anghenus ydwyf . Cadw fy enaid ; canys sanctaidd ydwyf : achub di dy was , O fy Nuw , yr hwn sydd yn ymddiried ynot . Trugarha wrthyf , Arglwydd : canys arnat y llefaf beunydd . Llawenha enaid dy was : canys atat ti , Arglwydd , y dyrchafaf fy enaid . Canys ti , O Arglwydd , ydwyt dda , a maddeugar ; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat . Clyw , Arglwydd , fy ngweddi ; ac ymwrando â llais fy ymbil . Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat : canys gwrandewi fi . Nid oes fel tydi ymysg y duwiau , O Arglwydd ; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di . Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant , ac a addolant ger dy fron di , O Arglwydd ; ac a ogoneddant dy enw . Canys ydwyt fawr , ac yn gwneuthur rhyfeddodau : ti yn unig wyt Dduw . Dysg i mi dy ffordd , O Arglwydd ; mi a rodiaf yn dy wirionedd : una fy nghalon i ofni dy enw . Moliannaf di , O Arglwydd fy Nuw , â’m holl galon : a gogoneddaf dy enw yn dragywydd . Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi : a gwaredaist fy enaid o uffern isod . Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn , O Dduw , a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid ; ac ni’th osodasant di ger eu bron . Eithr ti , O Arglwydd , wyt Dduw trugarog a graslon ; hwyrfrydig i lid , a helaeth o drugaredd a gwirionedd . Edrych arnaf , a thrugarha wrthyf : dyro dy nerth i’th was , ac achub fab dy wasanaethferch . Gwna i mi arwydd er daioni : fel y gwelo fy nghaseion , ac y gwaradwydder hwynt ; am i ti , O Arglwydd , fy nghynorthwyo a’m diddanu . Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd . Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob . Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti , O ddinas Duw . Sela . Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod : wele Philistia , a Thyrus , ynghyd ag Ethiopia . Yno y ganwyd hwn . Ac am Seion y dywedir , Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi : a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi . Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl , eni hwn yno . Sela . Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno : fy holl ffynhonnau sydd ynot ti . O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth , gwaeddais o’th flaen ddydd a nos . Deued fy ngweddi ger dy fron : gostwng dy glust at fy llefain . Canys fy enaid a lanwyd o flinderau ; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod . Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll : ydwyf fel gŵr heb nerth . Yn rhydd ymysg y meirw , fel rhai wedi eu lladd , yn gorwedd mewn bedd , y rhai ni chofi mwy ; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law . Gosodaist fi yn y pwll isaf , mewn tywyllwch , yn y dyfnderau . Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf : ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist . Sela . Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf ; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt : gwarchaewyd fi , fel nad awn allan . Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd : llefais arnat Arglwydd , beunydd ; estynnais fy nwylo atat . Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod ? a gyfyd y meirw a’th foliannu di ? Sela . A draethir dy drugaredd mewn bedd ? a’th wirionedd yn nistryw ? A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch ? a’th gyfiawnder yn nhir angof ? Ond myfi a lefais arnat , Arglwydd ; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen . Paham , Arglwydd , y gwrthodi fy enaid ? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf ? Truan ydwyf fi , ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid : dygais dy ofn , ac yr ydwyf yn petruso . Dy soriant a aeth drosof ; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith . Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd , ac y’m cydamgylchasant . Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf , a’m cydnabod i dywyllwch . Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth : â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth . Canys dywedais , Adeiledir trugaredd yn dragywydd : yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd . Gwneuthum amod â’m hetholedig , tyngais i’m gwas Dafydd . Yn dragywydd y sicrhaf dy had di ; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di . Sela . A’r nefoedd , O Arglwydd , a foliannant dy ryfeddod ; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint . Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd ? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn ? Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint , ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd . O Arglwydd Dduw y lluoedd , pwy sydd fel tydi , yn gadarn Iôr ? a’th wirionedd o’th amgylch ? Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr : pan gyfodo ei donnau , ti a’u gostegi . Ti a ddrylliaist yr Aifft , fel un lladdedig : trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion . Y nefoedd ydynt eiddot ti , a’r ddaear sydd eiddot ti : ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder . Ti a greaist ogledd a deau : Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw . Y mae i ti fraich a chadernid : cadarn yw dy law , ac uchel yw dy ddeheulaw . Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc : trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb . Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais : yn llewyrch dy wyneb , O Arglwydd , y rhodiant hwy . Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd ; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant . Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti ; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni . Canys yr Arglwydd yw ein tarian ; a Sanct Israel yw ein Brenin . Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct , ac a ddywedaist , Gosodais gymorth ar un cadarn : dyrchefais un etholedig o’r bobl . Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr : eneiniais ef â’m holew sanctaidd : Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef : a’m braich a’i nertha ef . Ni orthryma y gelyn ef ; a’r mab anwir nis cystuddia ef . Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen ; a’i gaseion a drawaf . Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef ; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef . A gosodaf ei law yn y môr , a’i ddeheulaw yn yr afonydd . Efe a lefa arnaf , Ti yw fy Nhad , fy Nuw , a Chraig fy iachawdwriaeth . Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab , goruwch brenhinoedd y ddaear . Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd ; a’m cyfamod fydd sicr iddo . Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd ; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd . Os ei feibion a adawant fy nghyfraith , ac ni rodiant yn fy marnedigaethau ; Os fy neddfau a halogant , a’m gorchmynion ni chadwant : Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen , ac â’u hanwiredd â ffrewyllau . Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho , ac ni phallaf o’m gwirionedd . Ni thorraf fy nghyfamod , ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau . Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd , na ddywedwn gelwydd i Dafydd . Bydd ei had ef yn dragywydd , a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i . Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad , ac fel tyst ffyddlon yn y nef . Sela . Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist , ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog . Diddymaist gyfamod dy was ; halogaist ei goron , gan ei thaflu i lawr . Drylliaist ei holl gaeau ef ; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau . Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef : aeth yn warthrudd i’w gymdogion . Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr ; llawenheaist ei holl elynion . Troaist hefyd fin ei gleddyf , ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel . Peraist i’w harddwch ddarfod , a bwriaist ei orseddfainc i lawr . Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid : toaist gywilydd drosto ef . Sela . Pa hyd , Arglwydd , yr ymguddi ? ai yn dragywydd ? a lysg dy ddigofaint di fel tân ? Cofia pa amser sydd i mi : paham y creaist holl blant dynion yn ofer ? Pa ŵr a fydd byw , ac ni wêl farwolaeth ? a wared efe ei enaid o law y bedd ? Sela . Pa le y mae dy hen drugareddau , O Arglwydd , y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd ? Cofia , O Arglwydd , waradwydd dy weision , yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion ; A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion , O Arglwydd ; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog . Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd . Amen , ac Amen . Ti , Arglwydd , fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth . Cyn gwneuthur y mynyddoedd , a llunio ohonot y ddaear , a’r byd ; ti hefyd wyt Dduw , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . Troi ddyn i ddinistr ; a dywedi , Dychwelwch , feibion dynion . Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe , wedi yr êl heibio , ac fel gwyliadwriaeth nos . Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant ; y maent fel hun : y bore y maent fel llysieuyn a newidir . Y bore y blodeua , ac y tyf ; prynhawn y torrir ef ymaith , ac y gwywa . Canys yn dy ddig y difethwyd ni , ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd . Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron , ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb . Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di : treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl . Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain : ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd , eto eu nerth sydd boen a blinder ; canys ebrwydd y derfydd , a ni a ehedwn ymaith . Pwy a edwyn nerth dy soriant ? canys fel y mae dy ofn , y mae dy ddicter . Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau , fel y dygom ein calon i ddoethineb . Dychwel , Arglwydd , pa hyd ? ac edifarha o ran dy weision . Diwalla ni yn fore â’th drugaredd ; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau . Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni , a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd . Gweler dy waith tuag at dy weision , a’th ogoniant tuag at eu plant hwy . A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni : a threfna weithred ein dwylo ynom ni ; ie , trefna waith ein dwylo . Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf , a erys yng nghysgod yr Hollalluog . Dywedaf am yr Arglwydd , Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw : fy Nuw ; ynddo yr ymddiriedaf . Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr , ac oddi wrth haint echryslon . A’i asgell y cysgoda efe trosot , a than ei adenydd y byddi ddiogel : ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti . Nid ofni rhag dychryn nos ; na rhag y saeth a ehedo y dydd : Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch ; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd . Wrth dy ystlys y cwymp mil , a deng mil wrth dy ddeheulaw : ond ni ddaw yn agos atat ti . Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid , ac a weli dâl y rhai annuwiol . Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa , sef y Goruchaf , yn breswylfa i ti ; Ni ddigwydd i ti niwed , ac ni ddaw pla yn agos i’th babell . Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti , dy gadw yn dy holl ffyrdd . Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg . Ar y llew a’r asb y cerddi : y cenau llew a’r ddraig a fethri . Am iddo roddi ei serch arnaf , am hynny y gwaredaf ef : dyrchafaf ef , am iddo adnabod fy enw . Efe a eilw arnaf , a mi a’i gwrandawaf : mewn ing y byddaf fi gydag ef , y gwaredaf , ac y gogoneddaf ef . Digonaf ef â hir ddyddiau ; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth . Da yw moliannu yr Arglwydd , a chanu mawl i’th enw di , y Goruchaf : A mynegi y bore am dy drugaredd , a’th wirionedd y nosweithiau ; Ar ddectant , ac ar y nabl ; ac ar y delyn yn fyfyriol . Canys llawenychaist fi , O Arglwydd , â’th weithred : yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf . Mor fawredig , O Arglwydd , yw dy weithredoedd ! dwfn iawn yw dy feddyliau . Gŵr annoeth ni ŵyr , a’r ynfyd ni ddeall hyn . Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn , a blaguro holl weithredwyr anwiredd ; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd . Tithau , Arglwydd , wyt ddyrchafedig yn dragywydd . Canys wele , dy elynion , O Arglwydd , wele , dy elynion a ddifethir : gwasgerir holl weithredwyr anwiredd . Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn : ag olew ir y’m heneinir . Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr : fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn . Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden ; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus . Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd , a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw . Ffrwythant eto yn eu henaint ; tirfion ac iraidd fyddant : I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig ; ac nad oes anwiredd ynddo . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu , efe a wisgodd ardderchowgrwydd ; gwisgodd yr Arglwydd nerth , ac ymwregysodd : y byd hefyd a sicrhawyd , fel na syflo . Darparwyd dy orseddfainc erioed : ti wyt er tragwyddoldeb . Y llifeiriaint , O Arglwydd , a ddyrchafasant , y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf ; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau . Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer , na chedyrn donnau y môr . Sicr iawn yw dy dystiolaethau : sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ , O Arglwydd , byth . O Arglwydd Dduw y dial , O Dduw y dial , ymddisgleiria . Ymddyrcha , Farnwr y byd : tâl eu gwobr i’r beilchion . Pa hyd , Arglwydd , y caiff yr annuwiolion , pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu ? Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed ? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd ? Dy bobl , Arglwydd , a ddrylliant ; a’th etifeddiaeth a gystuddiant . Y weddw a’r dieithr a laddant , a’r amddifad a ddieneidiant . Dywedant hefyd , Ni wêl yr Arglwydd ; ac nid ystyria Duw Jacob hyn . Ystyriwch , chwi rai annoeth ymysg y bobl : ac ynfydion , pa bryd y deellwch ? Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust ? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad ? Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd ? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn ? Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn , mai gwagedd ydynt . Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di , O Arglwydd , ac a ddysgi yn dy gyfraith : I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd , hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol . Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl , ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth . Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder : a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl . Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus ? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd ? Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi , braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd . Pan ddywedais , Llithrodd fy nhroed : dy drugaredd di , O Arglwydd , a’m cynhaliodd . Yn amlder fy meddyliau o’m mewn , dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid . A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd , yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith ? Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn , a gwaed gwirion a farnant yn euog . Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi : a’m Duw yw craig fy nodded . Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd , ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni : yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith . Deuwch , canwn i’r Arglwydd : ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd . Deuwn ger ei fron ef â diolch : canwn yn llafar iddo â salmau . Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr , a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau . Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law , ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo . Y môr sydd eiddo , ac efe a’i gwnaeth : a’i ddwylo a luniasant y sychdir . Deuwch , addolwn , ac ymgrymwn : gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr . Canys efe yw ein Duw ni ; a ninnau ŷm bobl ei borfa , a defaid ei law . Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd , Na chaledwch eich calonnau , megis yn yr ymrysonfa , fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch : Pan demtiodd eich tadau fi , y profasant fi , ac y gwelsant fy ngweithredoedd . Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon , a dywedais , Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy , ac nid adnabuant fy ffyrdd : Wrth y rhai y tyngais yn fy llid , na ddelent i’m gorffwysfa . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd ; cenwch i’r Arglwydd , yr holl ddaear . Cenwch i’r Arglwydd , bendigwch ei enw ; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef . Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef , ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau . Canys mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn : ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau . Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod : ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd . Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef ; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr . Tylwythau y bobl , rhoddwch i’r Arglwydd , rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : dygwch offrwm , a deuwch i’w gynteddoedd . Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd : yr holl ddaear , ofnwch ger ei fron ef . Dywedwch ymysg y cenhedloedd , Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; a’r byd a sicrhaodd efe , fel nad ysgogo : efe a farna y bobl yn uniawn . Llawenhaed y nefoedd , a gorfoledded y ddaear ; rhued y môr a’i gyflawnder . Gorfoledded y maes , a’r hyn oll y sydd ynddo : yna holl brennau y coed a ganant . O flaen yr Arglwydd ; canys y mae yn dyfod , canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear : efe a farna y byd trwy gyfiawnder , a’r bobloedd â’i wirionedd . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; gorfoledded y ddaear : llawenyched ynysoedd lawer . Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef : cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef . Tân a â allan o’i flaen ef , ac a lysg ei elynion o amgylch . Ei fellt a lewyrchasant y byd : y ddaear a welodd , ac a grynodd . Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd , o flaen Arglwydd yr holl ddaear . Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef , a’r holl bobl a welant ei ogoniant . Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig , y rhai a ymffrostiant mewn eilunod : addolwch ef , yr holl dduwiau . Seion a glywodd , ac a lawenychodd ; a merched Jwda a orfoleddasant , oherwydd dy farnedigaethau di , O Arglwydd . Canys ti , Arglwydd , wyt oruchel goruwch yr holl ddaear : dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau . Y rhai a gerwch yr Arglwydd , casewch ddrygioni : efe sydd yn cadw eneidiau ei saint ; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol . Heuwyd goleuni i’r cyfiawn , a llawenydd i’r rhai uniawn o galon . Y rhai cyfiawn , llawenychwch yn yr Arglwydd ; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd : canys efe a wnaeth bethau rhyfedd : ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth . Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd . Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni . Cenwch yn llafar i’r Arglwydd , yr holl ddaear : llefwch , ac ymlawenhewch , a chenwch . Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn ; gyda’r delyn , a llef salm . Ar utgyrn a sain cornet , cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin . Rhued y môr a’i gyflawnder ; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn . Cured y llifeiriaint eu dwylo ; a chydganed y mynyddoedd O flaen yr Arglwydd ; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear : efe a farna y byd â chyfiawnder , a’r bobloedd ag uniondeb . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; cryned y bobloedd : eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid ; ymgynhyrfed y ddaear . Mawr yw yr Arglwydd yn Seion , a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd . Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy ; canys sanctaidd yw . A nerth y Brenin a hoffa farn : ti a sicrhei uniondeb , barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob . Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw , ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef : canys sanctaidd yw . Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef ; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw : galwasant ar yr Arglwydd , ac efe a’u gwrandawodd hwynt . Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl : cadwasant ei dystiolaethau , a’r ddeddf a roddodd efe iddynt . Gwrandewaist arnynt , O Arglwydd ein Duw : Duw oeddit yn eu harbed , ie , pan ddielit am eu dychmygion . Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw , ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd : canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw . Cenwch yn llafar i’r Arglwydd , yr holl ddaear . Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd : deuwch o’i flaen ef â chân . Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw : efe a’n gwnaeth , ac nid ni ein hunain : ei bobl ef ydym , a defaid ei borfa . Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch , ac i’w gynteddau â mawl : diolchwch iddo , a bendithiwch ei enw . Canys da yw yr Arglwydd : ei drugaredd sydd yn dragywydd ; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Canaf am drugaredd a barn : i ti , Arglwydd , y canaf . Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith . Pa bryd y deui ataf ? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ . Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid : cas gennyf waith y rhai cildynnus ; ni lŷn wrthyf fi . Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf : nid adnabyddaf ddyn drygionus . Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel : yr uchel o olwg , a’r balch ei galon , ni allaf ei ddioddef . Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir , fel y trigont gyda mi : yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith , hwnnw a’m gwasanaetha i . Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll : ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd . Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir , i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd . Arglwydd , clyw fy ngweddi , a deled fy llef atat . Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder , gostwng dy glust ataf : yn y dydd y galwyf , brysia , gwrando fi . Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg , a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd . Fy nghalon a drawyd , ac a wywodd fel llysieuyn ; fel yr anghofiais fwyta fy mara . Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd . Tebyg wyf i belican yr anialwch : ydwyf fel tylluan y diffeithwch . Gwyliais , ac ydwyf fel aderyn y to , unig ar ben y tŷ . Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd : y rhai a ynfydant wrthyf , a dyngasant yn fy erbyn . Canys bwyteais ludw fel bara , a chymysgais fy niod ag wylofain ; Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint : canys codaist fi i fyny , a theflaist fi i lawr . Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio ; a minnau fel glaswelltyn a wywais . Tithau , Arglwydd , a barhei yn dragwyddol , a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Ti a gyfodi , ac a drugarhei wrth Seion : canys yr amser i drugarhau wrthi , ie , yr amser nodedig , a ddaeth . Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini , ac yn tosturio wrth ei llwch hi . Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd , a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant . Pan adeilado yr Arglwydd Seion , y gwelir ef yn ei ogoniant . Efe a edrych ar weddi y gwael , ac ni ddiystyrodd eu dymuniad . Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl : a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd . Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr : yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear ; I wrando uchenaid y carcharorion ; ac i ryddhau plant angau ; I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion , a’i foliant yn Jerwsalem : Pan gasgler y bobl ynghyd , a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd . Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd ; byrhaodd fy nyddiau . Dywedais , Fy Nuw , na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau : dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd . Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear ; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo . Hwy a ddarfyddant , a thi a barhei : ie , hwy oll a heneiddiant fel dilledyn ; fel gwisg y newidi hwynt , a hwy a newidir . Tithau yr un ydwyt , a’th flynyddoedd ni ddarfyddant . Plant dy weision a barhânt , a’u had a sicrheir ger dy fron di . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd ; a chwbl sydd ynof , ei enw sanctaidd ef . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd ; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef : Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau ; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd : Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw : yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi : Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni ; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr . Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll . Hysbysodd ei ffyrdd i Moses ; ei weithredoedd i feibion Israel . Trugarog a graslon yw yr Arglwydd ; hwyrfrydig i lid , a mawr o drugarowgrwydd . Nid byth yr ymryson efe : ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint . Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni ; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni . Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear , y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef . Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin , y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym . Fel y tosturia tad wrth ei blant , felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef . Canys efe a edwyn ein defnydd ni : cofia mai llwch ydym . Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn : megis blodeuyn y maes , felly y blodeua efe . Canys y gwynt a â drosto , ac ni bydd mwy ohono ; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy . Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb , ar y rhai a’i hofnant ef ; a’i gyfiawnder i blant eu plant ; I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef , ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur . Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd : a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth . Bendithiwch yr Arglwydd , ei angylion ef , cedyrn o nerth , yn gwneuthur ei air ef , gan wrando ar leferydd ei air ef . Bendithiwch yr Arglwydd , ei holl luoedd ef ; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef . Bendithiwch yr Arglwydd , ei holl weithredoedd ef , ym mhob man o’i lywodraeth : fy enaid , bendithia yr Arglwydd . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd . O Arglwydd fy Nuw , tra mawr ydwyt ; gwisgaist ogoniant a harddwch . Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn : ac yn taenu y nefoedd fel llen . Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd ; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo ; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt . Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion ; a’i weinidogion yn dân fflamllyd . Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini , fel na symudo byth yn dragywydd . Toaist hi â’r gorddyfnder , megis â gwisg : y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd . Gan dy gerydd di y ffoesant : rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith . Gan y mynyddoedd yr ymgodant : ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant , i’r lle a seiliaist iddynt . Gosodaist derfyn , fel nad elont drosodd ; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear . Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd , y rhai a gerddant rhwng y bryniau . Diodant holl fwystfilod y maes : yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched . Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt , y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau . Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd : y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd . Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid , a llysiau i wasanaeth dyn : fel y dyco fara allan o’r ddaear ; A gwin , yr hwn a lawenycha galon dyn ; ac olew , i beri i’w wyneb ddisgleirio : a bara , yr hwn a gynnal galon dyn . Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn : cedrwydd Libanus , y rhai a blannodd efe ; Lle y nytha yr adar : y ffynidwydd yw tŷ y ciconia . Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr ; a’r creigiau i’r cwningod . Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig : yr haul a edwyn ei fachludiad . Gwnei dywyllwch , a nos fydd : ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed . Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth , ac a geisiant eu bwyd gan Dduw . Pan godo haul , ymgasglant , a gorweddant yn eu llochesau . Dyn a â allan i’w waith , ac i’w orchwyl hyd yr hwyr . Mor lluosog yw dy weithredoedd , O Arglwydd ! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb : llawn yw y ddaear o’th gyfoeth . Felly y mae y môr mawr , llydan : yno y mae ymlusgiaid heb rifedi , bwystfilod bychain a mawrion . Yno yr â y llongau : yno y mae y lefiathan , yr hwn a luniaist i chwarae ynddo . Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt ; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd . A roddech iddynt , a gasglant : agori dy law , a diwellir hwynt â daioni . Ti a guddi dy wyneb , hwythau a drallodir : dygi ymaith eu hanadl , a threngant , a dychwelant i’w llwch . Pan ollyngych dy ysbryd , y crëir hwynt ; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear . Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd : yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd . Efe a edrych ar y ddaear , a hi a gryna : efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd , a hwy a fygant . Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw : canaf i’m Duw tra fyddwyf . Bydd melys fy myfyrdod amdano : mi a lawenychaf yn yr Arglwydd . Darfydded y pechaduriaid o’r tir , na fydded yr annuwiolion mwy . Fy enaid , bendithia di yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; gelwch ar ei enw : mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd . Cenwch iddo , canmolwch ef : ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef . Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd : llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd . Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth : ceisiwch ei wyneb ef bob amser . Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe ; ei wyrthiau , a barnedigaethau ei enau ; Chwi had Abraham ei was ef , chwi feibion Jacob ei etholedigion . Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni : ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear . Cofiodd ei gyfamod byth , y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau : Yr hyn a amododd efe ag Abraham , a’i lw i Isaac ; A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob , ac yn gyfamod tragwyddol i Israel ; Gan ddywedyd , I ti y rhoddaf dir Canaan , rhandir eich etifeddiaeth . Pan oeddynt ychydig o rifedi , ie , ychydig , a dieithriaid ynddi : Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth , o’r naill deyrnas at bobl arall : Ni adawodd i neb eu gorthrymu ; ie , ceryddodd frenhinoedd o’u plegid ; Gan ddywedyd , Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog , ac na ddrygwch fy mhroffwydi . Galwodd hefyd am newyn ar y tir ; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara . Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt , Joseff , yr hwn a werthwyd yn was . Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn : ei enaid a aeth mewn heyrn : Hyd yr amser y daeth ei air ef : gair yr Arglwydd a’i profodd ef . Y brenin a anfonodd , ac a’i gollyngodd ef ; llywodraethwr y bobl , ac a’i rhyddhaodd ef . Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ , ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth : I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys ; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef . Aeth Israel hefyd i’r Aifft ; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham . Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr ; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr . Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef , i wneuthur yn ddichellgar â’i weision . Efe a anfonodd Moses ei was ; ac Aaron , yr hwn a ddewisasai . Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt , a rhyfeddodau yn nhir Ham . Efe a anfonodd dywyllwch , ac a dywyllodd : ac nid anufuddhasant hwy ei air ef . Efe a drodd eu dyfroedd yn waed , ac a laddodd eu pysgod . Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd . Efe a ddywedodd , a daeth cymysgbla , a llau yn eu holl fro hwynt . Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg , ac yn fflamau tân yn eu tir . Trawodd hefyd eu gwinwydd , a’u ffigyswydd ; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt . Efe a ddywedodd , a daeth y locustiaid , a’r lindys , yn aneirif ; Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt , ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt . Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt , blaenffrwyth eu holl nerth hwynt . Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur ; ac heb un llesg yn eu llwythau . Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan : canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy . Efe a daenodd gwmwl yn do , a thân i oleuo liw nos . Gofynasant , ac efe a ddug soflieir ; ac a’u diwallodd â bara nefol . Efe a holltodd y graig , a’r dyfroedd a ddylifodd ; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd . Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd , ac Abraham ei was . Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd ; ei etholedigion mewn gorfoledd . Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd : a meddianasant lafur y bobloedd . Fel y cadwent ei ddeddfau ef , ac y cynhalient ei gyfreithiau . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd ? ac a fynega ei holl fawl ef ? Gwyn eu byd a gadwant farn , a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser . Cofia fi , Arglwydd , yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl ; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth . Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion , fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di , fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth . Pechasom gyda’n tadau ; gwnaethom gamwedd , anwireddus fuom . Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft , ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau ; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr , sef y môr coch . Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw , i beri adnabod ei gadernid . Ac a geryddodd y môr coch , fel y sychodd efe : a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder , megis trwy’r anialwch . Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog ; ac a’u gwaredodd o law y gelyn . A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr ; ni adawyd un ohonynt . Yna y credasant ei eiriau ef ; canasant ei fawl ef . Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef ; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef . Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch ; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch . Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt ; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid . Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll , ac wrth Aaron sant yr Arglwydd . Y ddaear a agorodd , ac a lyncodd Dathan , ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram . Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt : fflam a losgodd y rhai annuwiol . Llo a wnaethant yn Horeb ; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd . Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt . Anghofiasant Dduw eu Hachubwr , yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft ; Pethau rhyfedd yn nhir Ham ; pethau ofnadwy wrth y môr coch . Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt , oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef ; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef , rhag eu dinistrio . Diystyrasant hefyd y tir dymunol : ni chredasant ei air ef : Ond grwgnachasant yn eu pebyll ; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd . Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt , i’w cwympo yn yr anialwch ; Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd ; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd . Ymgysylltasant hefyd â Baal‐Peor , a bwytasant ebyrth y meirw . Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun ; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy . Yna y safodd Phinees , ac a iawn farnodd : a’r pla a ataliwyd . A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder , o genhedlaeth i genhedlaeth byth . Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen ; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt : Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef , fel y camddywedodd â’i wefusau . Ni ddinistriasant y bobloedd , am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt : Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd ; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt : A gwasanaethasant eu delwau hwynt ; y rhai a fu yn fagl iddynt . Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid , Ac a dywalltasant waed gwirion , sef gwaed eu meibion a’u merched , y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan : a’r tir a halogwyd â gwaed . Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun , ac y puteiniasant gyda’u dychmygion . Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth . Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd ; a’u caseion a lywodraethasant arnynt . Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant ; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy . Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt ; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun , a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd . Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt , pan glywodd eu llefain hwynt . Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt , ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau : Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai . Achub ni , O Arglwydd ein Duw , a chynnull ni o blith y cenhedloedd , i glodfori dy enw sanctaidd , ac i orfoleddu yn dy foliant . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd : a dyweded yr holl bobl , Amen . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd , y rhai a waredodd efe o law y gelyn ; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd , o’r dwyrain , ac o’r gorllewin , o’r gogledd , ac o’r deau . Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr , heb gael dinas i aros ynddi : Yn newynog ac yn sychedig , eu henaid a lewygodd ynddynt . Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau ; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn , i fyned i ddinas gyfanheddol . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig , ac a leinw yr enaid newynog â daioni . Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau , yn rhwym mewn cystudd a haearn : Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw , a dirmygu cyngor y Goruchaf . Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder : syrthiasant , ac nid oedd cynorthwywr . Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau . Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau ; a drylliodd eu rhwymau hwynt . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Canys efe a dorrodd y pyrth pres , ac a ddrylliodd y barrau heyrn . Ynfydion , oblegid eu camweddau , ac oherwydd eu hanwireddau , a gystuddir . Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd ; a daethant hyd byrth angau . Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau . Anfonodd ei air , ac iachaodd hwynt , ac a’u gwaredodd o’u dinistr . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Aberthant hefyd aberth moliant ; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd . Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr , gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion . Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd , a’i ryfeddodau yn y dyfnder . Canys efe a orchymyn , a chyfyd tymhestlwynt , yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef . Hwy a esgynnant i’r nefoedd , disgynnant i’r dyfnder : tawdd eu henaid gan flinder . Ymdroant , ac ymsymudant fel meddwyn : a’u holl ddoethineb a ballodd . Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau . Efe a wna yr ystorm yn dawel ; a’i thonnau a ostegant . Yna y llawenhânt am eu gostegu ; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl , a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid . Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch , a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir ; A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth , am ddrygioni y rhai a drigant ynddo . Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr , a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr . Ac yno y gwna i’r newynog aros ; fel y darparont ddinas i gyfanheddu : Ac yr heuont feysydd , ac y plannont winllannoedd , y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog . Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr , ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau . Lleiheir hwynt hefyd , a gostyngir hwynt , gan gyfyngder , drygfyd , a chyni . Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion , ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd . Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd , ac a wna iddo deuluoedd fel praidd . Y rhai uniawn a welant hyn , ac a lawenychant : a phob anwiredd a gae ei safn . Y neb sydd ddoeth , ac a gadwo hyn , hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd . Parod yw fy nghalon , O Dduw : canaf a chanmolaf â’m gogoniant . Deffro , y nabl a’r delyn : minnau a ddeffroaf yn fore . Clodforaf di , Arglwydd , ymysg y bobloedd : canmolaf di ymysg y cenhedloedd . Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd : a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren . Ymddyrcha , O Dduw , uwch y nefoedd : a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear ; Fel y gwareder dy rai annwyl : achub â’th ddeheulaw , a gwrando fi . Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd , Llawenychaf , rhannaf Sichem , a mesuraf ddyffryn Succoth . Eiddof fi yw Gilead ; eiddof fi Manasse ; Effraim hefyd yw nerth fy mhen : Jwda yw fy neddfwr . Moab yw fy nghrochan golchi ; tros Edom y taflaf fy esgid : buddugoliaethaf ar Philistia . Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn ? pwy a’m dwg hyd yn Edom ? Onid tydi , O Dduw , yr hwn a’n bwriaist ymaith ? ac onid ei di allan , O Dduw , gyda’n lluoedd ? Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys gau yw ymwared dyn . Trwy Dduw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion . Na thaw , O Dduw fy moliant . Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf : â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn . Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas ; ac ymladdasant â mi heb achos . Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant : minnau a arferaf weddi . Talasant hefyd i mi ddrwg am dda , a chas am fy nghariad . Gosod dithau un annuwiol arno ef ; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef . Pan farner ef , eled yn euog ; a bydded ei weddi yn bechod . Ychydig fyddo ei ddyddiau ; a chymered arall ei swydd ef . Bydded ei blant yn amddifaid , a’i wraig yn weddw . Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef , a chardotant : ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd . Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo ; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef . Na fydded neb a estynno drugaredd iddo ; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef . Torrer ymaith ei hiliogaeth ef : dileer eu henw yn yr oes nesaf . Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd ; ac na ddileer pechod ei fam ef . Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd , fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir : Am na chofiodd wneuthur trugaredd , eithr erlid ohono y truan a’r tlawd , a’r cystuddiedig o galon , i’w ladd . Hoffodd felltith , a hi a ddaeth iddo : ni fynnai fendith , a hi a bellhaodd oddi wrtho . Ie , gwisgodd felltith fel dilledyn ; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn , ac fel olew i’w esgyrn . Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe , ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol . Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd , a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid . Tithau , Arglwydd Dduw , gwna erof fi er mwyn dy enw : am fod yn dda dy drugaredd , gwared fi . Canys truan a thlawd ydwyf fi , a’m calon a archollwyd o’m mewn . Euthum fel cysgod pan gilio : fel locust y’m hysgydwir . Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd ; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster . Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt : pan welent fi , siglent eu pennau . Cynorthwya fi , O Arglwydd fy Nuw ; achub fi yn ôl dy drugaredd : Fel y gwypont mai dy law di yw hyn ; mai ti , Arglwydd , a’i gwnaethost . Melltithiant hwy , ond bendithia di : cywilyddier hwynt , pan gyfodant ; a llawenyched dy was . Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth , ac ymwisgant â’u cywilydd , megis â chochl . Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau ; ie , moliannaf ef ymysg llawer . Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd , i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid . Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed . Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion : Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion . Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth , mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr : y mae gwlith dy enedigaeth i ti . Tyngodd yr Arglwydd , ac nid edifarha , Ti wyt offeiriad yn dragwyddol , yn ôl urdd Melchisedec . Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint . Efe a farn ymysg y cenhedloedd ; lleinw leoedd â chelaneddau : archolla ben llawer gwlad . Efe a yf o’r afon ar y ffordd : am hynny y dyrcha efe ei ben . Molwch yr Arglwydd . Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon , yng nghymanfa y rhai uniawn , ac yn y gynulleidfa . Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd , wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant . Gogoniant a harddwch yw ei waith ef ; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth . Gwnaeth gofio ei ryfeddodau : graslon a thrugarog yw yr Arglwydd . Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef : efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd . Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd , i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd . Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef : ei holl orchmynion ydynt sicr : Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd , a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder . Anfonodd ymwared i’w bobl : gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol : sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef . Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd : deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef : y mae ei foliant ef yn parhau byth . Molwch yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd , ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr . Ei had fydd gadarn ar y ddaear : cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir . Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef : a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth . Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch : trugarog , a thosturiol , a chyfiawn , yw efe . Gŵr da sydd gymwynasgar , ac yn rhoddi benthyg : wrth farn y llywodraetha efe ei achosion . Yn ddiau nid ysgogir ef byth : y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth . Nid ofna efe rhag chwedl drwg : ei galon sydd ddi‐sigl , yn ymddiried yn yr Arglwydd . Ategwyd ei galon : nid ofna efe , hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion . Gwasgarodd , rhoddodd i’r tlodion ; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth ; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant . Yr annuwiol a wêl hyn , ac a ddigia ; efe a ysgyrnyga ei ddannedd , ac a dawdd ymaith : derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol . Molwch yr Arglwydd . Gweision yr Arglwydd , molwch , ie , molwch enw yr Arglwydd . Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd . O godiad haul hyd ei fachludiad , moliannus yw enw yr Arglwydd . Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd ; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd . Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni , yr hwn sydd yn preswylio yn uchel , Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd , ac yn y ddaear ? Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch , ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen , I’w osod gyda phendefigion , ie , gyda phendefigion ei bobl . Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ , a bod yn llawen fam plant . Canmolwch yr Arglwydd . Pan aeth Israel o’r Aifft , tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith ; Jwda oedd ei sancteiddrwydd , ac Israel ei arglwyddiaeth . Y môr a welodd hyn , ac a giliodd ; yr Iorddonen a drodd yn ôl . Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod , a’r bryniau fel ŵyn defaid . Beth ddarfu i ti , O fôr , pan giliaist ? tithau Iorddonen , paham y troaist yn ôl ? Paham , fynyddoedd , y neidiech fel hyrddod ? a’r bryniau fel ŵyn defaid ? Ofna , di ddaear , rhag yr Arglwydd , rhag Duw Jacob : Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr , a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd . Nid i ni , O Arglwydd , nid i ni , ond i’th enw dy hun dod ogoniant , er mwyn dy drugaredd , ac er mwyn dy wirionedd . Paham y dywedai y cenhedloedd , Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt ? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd : efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll . Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian , gwaith dwylo dynion . Genau sydd iddynt , ond ni lefarant ; llygaid sydd ganddynt , ond ni welant : Y mae clustiau iddynt , ond ni chlywant ; ffroenau sydd ganddynt , ond ni aroglant : Dwylo sydd iddynt , ond ni theimlant ; traed sydd iddynt , ond ni cherddant ; ni leisiant chwaith â’u gwddf . Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau , a phob un a ymddiriedo ynddynt . O Israel , ymddiried di yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Tŷ Aaron , ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Y rhai a ofnwch yr Arglwydd , ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Yr Arglwydd a’n cofiodd ni : efe a’n bendithia : bendithia efe dŷ Israel ; bendithia efe dŷ Aaron . Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd , fychain a mawrion . Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy , chwychwi a’ch plant hefyd . Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nef a daear . Y nefoedd , ie , y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd : a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion . Y meirw ni foliannant yr Arglwydd , na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd . Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef , a’m gweddïau . Am ostwng ohono ei glust ataf , am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef . Gofidion angau a’m cylchynasant , a gofidiau uffern a’m daliasant : ing a blinder a gefais . Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd ; Atolwg , Arglwydd , gwared fy enaid . Graslon yw yr Arglwydd , a chyfiawn ; a thosturiol yw ein Duw ni . Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar : tlodais , ac efe a’m hachubodd . Dychwel , O fy enaid , i’th orffwysfa ; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt . Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau , fy llygaid oddi wrth ddagrau , a’m traed rhag llithro . Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw . Credais , am hynny y lleferais : cystuddiwyd fi yn ddirfawr . Mi a ddywedais yn fy ffrwst , Pob dyn sydd gelwyddog . Beth a dalaf i’r Arglwydd , am ei holl ddoniau i mi ? Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf , ac ar enw yr Arglwydd y galwaf . Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd , yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef . Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef . O Arglwydd , yn ddiau dy was di ydwyf fi ; dy was di ydwyf fi , mab dy wasanaethwraig : datodaist fy rhwymau . Aberthaf i ti aberth moliant ; a galwaf ar enw yr Arglwydd . Talaf fy addunedau i’r Arglwydd , yn awr yng ngŵydd ei holl bobl , Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd , yn dy ganol di , O Jerwsalem . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd , yr holl genhedloedd : clodforwch ef , yr holl bobloedd . Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr : a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Dyweded Israel yr awr hon , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Dyweded tŷ Aaron yn awr , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd ; yr Arglwydd a’m clybu , ac a’m gosododd mewn ehangder . Yr Arglwydd sydd gyda mi , nid ofnaf : beth a wna dyn i mi ? Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr : am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion . Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd , nag ymddiried mewn dyn . Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd , nag ymddiried mewn tywysogion . Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant : ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Amgylchynasant fi ; ie , amgylchynasant fi : ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Amgylchynasant fi fel gwenyn ; diffoddasant fel tân drain : oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Gan wthio y gwthiaist fi , fel y syrthiwn : ond yr Arglwydd a’m cynorthwyodd . Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân ; ac sydd iachawdwriaeth i mi . Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn : deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster . Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd : deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster . Ni byddaf farw , ond byw ; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd . Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd : ond ni’m rhoddodd i farwolaeth . Agorwch i mi byrth cyfiawnder : af i mewn iddynt , a chlodforaf yr Arglwydd . Dyma borth yr Arglwydd ; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo . Clodforaf di ; oherwydd i ti fy ngwrando , a’th fod yn iachawdwriaeth i mi . Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , a aeth yn ben i’r gongl . O’r Arglwydd y daeth hyn ; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni . Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd ; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo . Atolwg , Arglwydd , achub yn awr : atolwg , Arglwydd pâr yn awr lwyddiant . Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd : bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd . Duw yw yr Arglwydd , yr hwn a lewyrchodd i ni : rhwymwch yr aberth â rhaffau , hyd wrth gyrn yr allor . Fy Nuw ydwyt ti , a mi a’th glodforaf : dyrchafaf di , fy Nuw . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef . Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd , y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd . Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef ; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon . Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd , hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef . Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal . O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau ! Yna ni’m gwaradwyddid , pan edrychwn ar dy holl orchmynion . Clodforaf di ag uniondeb calon , pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder . Cadwaf dy ddeddfau ; O na ad fi yn hollol . Pa fodd y glanha llanc ei lwybr ? wrth ymgadw yn ôl dy air di . A’m holl galon y’th geisiais : na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion . Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon , fel na phechwn i’th erbyn . Ti , Arglwydd , wyt fendigedig : dysg i mi dy ddeddfau . A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau . Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau , â’r holl olud . Yn dy orchmynion y myfyriaf , ac ar dy lwybrau yr edrychaf . Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf : nid anghofiaf dy air . Bydd dda wrth dy was , fel y byddwyf byw , ac y cadwyf dy air . Datguddia fy llygaid , fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di . Dieithr ydwyf fi ar y ddaear : na chudd di rhagof dy orchmynion . Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser . Ceryddaist y beilchion melltigedig , y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion . Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg : oblegid dy dystiolaethau di a gedwais . Tywysogion hefyd a eisteddasant , ac a ddywedasant i’m herbyn : dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau . A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr . Glynodd fy enaid wrth y llwch : bywha fi yn ôl dy air . Fy ffyrdd a fynegais , a gwrandewaist fi : dysg i mi dy ddeddfau . Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion ; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau . Diferodd fy enaid gan ofid : nertha fi yn ôl dy air . Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd ; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith . Dewisais ffordd gwirionedd : gosodais dy farnedigaethau o’m blaen . Glynais wrth dy dystiolaethau : O Arglwydd , na’m gwaradwydda . Ffordd dy orchmynion a redaf , pan ehangech fy nghalon . Dysg i mi , O Arglwydd , ffordd dy ddeddfau , a chadwaf hi hyd y diwedd . Gwna i mi ddeall , a chadwaf dy gyfraith ; ie , cadwaf hi â’m holl galon . Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion : canys ynddo y mae fy ewyllys . Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau , ac nid at gybydd‐dra . Tro heibio fy llygaid , rhag edrych ar wagedd ; a bywha fi yn dy ffyrdd . Sicrha dy air i’th was , yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di . Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni : canys dy farnedigaethau sydd dda . Wele , awyddus ydwyf i’th orchmynion : gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder . Deued i mi dy drugaredd , Arglwydd , a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air . Yna yr atebaf i’m cablydd : oherwydd yn dy air y gobeithiais . Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr : oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais . A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol , byth ac yn dragywydd . Rhodiaf hefyd mewn ehangder : oherwydd dy orchmynion di a geisiaf . Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd , ac ni bydd cywilydd gennyf . Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion , y rhai a hoffais . A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion , y rhai a gerais ; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau . Cofia y gair wrth dy was , yn yr hwn y peraist i mi obeithio . Dyma fy nghysur yn fy nghystudd : canys dy air di a’m bywhaodd i . Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr : er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di . Cofiais , O Arglwydd , dy farnedigaethau erioed ; ac ymgysurais . Dychryn a ddaeth arnaf , oblegid yr annuwiolion , y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di . Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod . Cofiais dy enw , Arglwydd , y nos ; a chedwais dy gyfraith . Hyn oedd gennyf , am gadw ohonof dy orchmynion di . O Arglwydd , fy rhan ydwyt ; dywedais y cadwn dy eiriau . Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon : trugarha wrthyf yn ôl dy air . Meddyliais am fy ffyrdd , a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di . Brysiais , ac nid oedais gadw dy orchmynion . Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant : ond nid anghofiais dy gyfraith di . Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu , am farnedigaethau dy gyfiawnder . Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant , ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion . Llawn yw y ddaear o’th drugaredd , O Arglwydd : dysg i mi dy ddeddfau . Gwnaethost yn dda â’th was , O Arglwydd , yn ôl dy air . Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth : oherwydd dy orchmynion di a gredais . Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni : ond yn awr cedwais dy air di . Da ydwyt , a daionus : dysg i mi dy ddeddfau . Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn ; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon . Cyn frased â’r bloneg yw eu calon : minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di . Da yw i mi fy nghystuddio ; fel y dysgwn dy ddeddfau . Gwell i mi gyfraith dy enau , na miloedd o aur ac arian . Dy ddwylo a’m gwnaethant , ac a’m lluniasant : pâr i mi ddeall , fel y dysgwyf dy orchmynion . Y rhai a’th ofnant a’m gwelant , ac a lawenychant ; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di . Gwn , Arglwydd , mai cyfiawn yw dy farnedigaethau ; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist . Bydded , atolwg , dy drugaredd i’m cysuro , yn ôl dy air i’th wasanaethwr . Deued i mi dy drugareddau , fel y byddwyf byw ; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch . Cywilyddier y beilchion , canys gwnânt gam â mi yn ddiachos : ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di . Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di , a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau . Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau ; fel na’m cywilyddier . Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth : wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl . Y mae fy llygaid yn pallu am dy air , gan ddywedyd , Pa bryd y’m diddeni ? Canys ydwyf fel costrel mewn mwg ; ond nid anghofiais dy ddeddfau . Pa nifer yw dyddiau dy was ? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant ? Y beilchion a gloddiasant byllau i mi , yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di . Dy holl orchmynion ydynt wirionedd : ar gam y’m herlidiasant ; cymorth fi . Braidd na’m difasant ar y ddaear ; minnau ni adewais dy orchmynion . Bywha fi yn ôl dy drugaredd ; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau . Yn dragywydd , O Arglwydd , y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd . Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : seiliaist y ddaear , a hi a saif . Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw : canys dy weision yw pob peth . Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi , darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd . Byth nid anghofiaf dy orchmynion : canys â hwynt y’m bywheaist . Eiddot ti ydwyf , cadw fi : oherwydd dy orchmynion a geisiais . Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha : ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi . Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd : ond dy orchymyn di sydd dra eang . Mor gu gennyf dy gyfraith di ! hi yw fy myfyrdod beunydd . A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion : canys byth y maent gyda mi . Deellais fwy na’m holl athrawon : oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod . Deellais yn well na’r henuriaid , am fy mod yn cadw dy orchmynion di . Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg , fel y cadwn dy air di . Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau : oherwydd ti a’m dysgaist . Mor felys yw dy eiriau i’m genau ! melysach na mêl i’m safn . Trwy dy orchmynion di y pwyllais : am hynny y caseais bob gau lwybr . Llusern yw dy air i’m traed , a llewyrch i’m llwybr . Tyngais , a chyflawnaf , y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder . Cystuddiwyd fi yn ddirfawr : bywha fi , O Arglwydd , yn ôl dy air . Atolwg , Arglwydd , bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau , a dysg i mi dy farnedigaethau . Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol : er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith . Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi : ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion . Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth : oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt . Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth , hyd y diwedd . Meddyliau ofer a gaseais : a’th gyfraith di a hoffais . Fy lloches a’m tarian ydwyt : yn dy air y gobeithiaf . Ciliwch oddi wrthyf , rai drygionus : canys cadwaf orchmynion fy Nuw . Cynnal fi yn ôl dy air , fel y byddwyf byw : ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith . Cynnal fi , a dihangol fyddaf : ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol . Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau : canys twyllodrus yw eu dichell hwynt . Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach : am hynny yr hoffais dy dystiolaethau . Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn , ac ofnais rhag dy farnedigaethau . Gwneuthum farn a chyfiawnder : na ad fi i’m gorthrymwyr . Mechnïa dros dy was er daioni : na ad i’r beilchion fy ngorthrymu . Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth , ac am ymadrodd dy gyfiawnder . Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd , a dysg i mi dy ddeddfau . Dy was ydwyf fi ; pâr i mi ddeall , fel y gwypwyf dy dystiolaethau . Amser yw i’r Arglwydd weithio : diddymasant dy gyfraith di . Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur ; ie , yn fwy nag aur coeth . Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth ; a chaseais bob gau lwybr . Rhyfedd yw dy dystiolaethau : am hynny y ceidw fy enaid hwynt . Agoriad dy eiriau a rydd oleuni : pair ddeall i rai annichellgar . Agorais fy ngenau , a dyheais : oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di . Edrych arnaf , a thrugarha wrthyf , yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw . Cyfarwydda fy nghamre yn dy air : ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf . Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion : felly y cadwaf dy orchmynion . Llewyrcha dy wyneb ar dy was : a dysg i mi dy ddeddfau . Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid , am na chadwasant dy gyfraith di . Cyfiawn ydwyt ti , O Arglwydd , ac uniawn yw dy farnedigaethau . Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist , ydynt gyfiawn , a ffyddlon iawn . Fy sêl a’m difaodd ; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di . Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr : am hynny y mae dy was yn ei hoffi . Bychan ydwyf fi , a dirmygus : ond nid anghofiais dy orchmynion . Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth , a’th gyfraith sydd wirionedd . Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant ; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch . Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd : gwna i mi ddeall , a byw fyddaf . Llefais â’m holl galon ; clyw fi , O Arglwydd : dy ddeddfau a gadwaf . Llefais arnat ; achub fi , a chadwaf dy dystiolaethau . Achubais flaen y cyfddydd , a gwaeddais ; wrth dy air y disgwyliais . Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos , i fyfyrio yn dy air di . Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd : Arglwydd , bywha fi yn ôl dy farnedigaethau . Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf : ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di . Tithau , Arglwydd , wyt agos ; a’th holl orchmynion sydd wirionedd . Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau , seilio ohonot hwynt yn dragywydd . Gwêl fy nghystudd , a gwared fi : canys nid anghofiais dy gyfraith . Dadlau fy nadl , a gwared fi : bywha fi yn ôl dy air . Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol : oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di . Dy drugareddau , Arglwydd , sydd aml : bywha fi yn ôl dy farnedigaethau . Llawer sydd yn fy erlid , ac yn fy ngwrthwynebu ; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau . Gwelais y troseddwyr , a gresynais ; am na chadwent dy air di . Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion : Arglwydd , bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd . Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air ; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd . Tywysogion a’m herlidiasant heb achos : er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di . Llawen ydwyf fi oblegid dy air , fel un yn cael ysglyfaeth lawer . Celwydd a gaseais , ac a ffieiddiais : a’th gyfraith di a hoffais . Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori ; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau . Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith : ac nid oes dramgwydd iddynt . Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di , O Arglwydd ; a gwneuthum dy orchmynion . Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau ; a hoff iawn gennyf hwynt . Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau : canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di . Nesaed fy ngwaedd o’th flaen , Arglwydd : gwna i mi ddeall yn ôl dy air . Deued fy ngweddi ger dy fron : gwared fi yn ôl dy air . Fy ngwefusau a draetha foliant , pan ddysgech i mi dy ddeddfau . Fy nhafod a ddatgan dy air : oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder . Bydded dy law i’m cynorthwyo : oherwydd dy orchmynion di a ddewisais . Hiraethais , O Arglwydd , am dy iachawdwriaeth ; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch . Bydded byw fy enaid , fel y’th folianno di ; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi . Cyfeiliornais fel dafad wedi colli : cais dy was ; oblegid nid anghofiais dy orchmynion . Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder , ac efe a’m gwrandawodd i . Arglwydd , gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog , ac oddi wrth dafod twyllodrus . Beth a roddir i ti ? neu pa beth a wneir i ti , dydi dafod twyllodrus ? Llymion saethau cawr , ynghyd â marwor meryw . Gwae fi , fy mod yn preswylio ym Mesech , yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar . Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd . Heddychol ydwyf fi : ond pan lefarwyf , y maent yn barod i ryfel . Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd , o’r lle y daw fy nghymorth . Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nefoedd a daear . Ni ad efe i’th droed lithro : ac ni huna dy geidwad . Wele , ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel . Yr Arglwydd yw dy geidwad : yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw . Ni’th dery yr haul y dydd , na’r lleuad y nos . Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg : efe a geidw dy enaid . Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . Llawenychais pan ddywedent wrthyf , Awn i dŷ yr Arglwydd . Ein traed a safant o fewn dy byrth di , O Jerwsalem . Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun . Yno yr esgyn y llwythau , llwythau yr Arglwydd , yn dystiolaeth i Israel , i foliannu enw yr Arglwydd . Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn , gorseddfeinciau tŷ Dafydd . Dymunwch heddwch Jerwsalem : llwydded y rhai a’th hoffant . Heddwch fyddo o fewn dy ragfur , a ffyniant yn dy balasau . Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr , Heddwch fyddo i ti . Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw , y ceisiaf i ti ddaioni . Atat ti y dyrchafaf fy llygaid , ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd . Wele , fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid , neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres ; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw , hyd oni thrugarhao efe wrthym ni . Trugarha wrthym , Arglwydd , trugarha wrthym ; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr . Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog , ac â diystyrwch y beilchion . Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni , y gall Israel ddywedyd yn awr ; Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni , pan gyfododd dynion yn ein herbyn : Yna y’n llyncasent ni yn fyw , pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn : Yna y dyfroedd a lifasai drosom , y ffrwd a aethai dros ein henaid : Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig . Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt . Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr : y fagl a dorrwyd , a ninnau a ddianghasom . Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nefoedd a daear . Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd , fyddant fel mynydd Seion , yr hwn ni syflir , ond a bery yn dragywydd . Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch , felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn ; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd . O Arglwydd , gwna ddaioni i’r rhai daionus , ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau . Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd , yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd : a bydd tangnefedd ar Israel . Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion , yr oeddem fel rhai yn breuddwydio . Yna y llanwyd ein genau â chwerthin , a’n tafod â chanu : yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd , Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn . Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion ; am hynny yr ydym yn llawen . Dychwel , Arglwydd , ein caethiwed ni , fel yr afonydd yn y deau . Y rhai sydd yn hau mewn dagrau , a fedant mewn gorfoledd . Yr hwn sydd yn myned rhagddo , ac yn wylo , gan ddwyn had gwerthfawr , gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd , dan gludo ei ysgubau . Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ , ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho : os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas , ofer y gwylia y ceidwad . Ofer i chwi foregodi , myned yn hwyr i gysgu , bwyta bara gofidiau : felly y rhydd efe hun i’w anwylyd . Wele , plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd : ei wobr ef yw ffrwyth y groth . Fel y mae saethau yn llaw y cadarn ; felly y mae plant ieuenctid . Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt : nis gwaradwyddir hwy , pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth . Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd ; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef . Canys mwynhei lafur dy ddwylo : gwyn dy fyd , a da fydd i ti . Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ : dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford . Wele , fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd . Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion ; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes . A thi a gei weled plant dy blant , a thangnefedd ar Israel . Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid , y dichon Israel ddywedyd yn awr : Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid : eto ni’m gorfuant . Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn : estynasant eu cwysau yn hirion . Yr Arglwydd sydd gyfiawn : efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol . Gwaradwydder hwy oll , a gyrrer yn eu hôl , y rhai a gasânt Seion . Byddant fel glaswellt pen tai , yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith : A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law ; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau , ei fynwes . Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio , Bendith yr Arglwydd arnoch : bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd . O’r dyfnder y llefais arnat , O Arglwydd . Arglwydd , clyw fy llefain ; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau . Os creffi ar anwireddau , Arglwydd , O Arglwydd , pwy a saif ? Ond y mae gyda thi faddeuant , fel y’th ofner . Disgwyliaf am yr Arglwydd , disgwyl fy enaid , ac yn ei air ef y gobeithiaf . Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore ; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore . Disgwylied Israel am yr Arglwydd ; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd , ac aml ymwared gydag ef . Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau . O Arglwydd , nid ymfalchïodd fy nghalon , ac nid ymddyrchafodd fy llygaid : ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr , a rhy uchel i mi . Eithr gosodais a gostegais fy enaid , fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam : fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu . Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . O Arglwydd , cofia Dafydd , a’i holl flinder ; Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd , ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob : Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ , ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely ; Ni roddaf gwsg i’m llygaid , na hun i’m hamrantau , Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd , preswylfod i rymus Dduw Jacob . Wele , clywsom amdani yn Effrata : cawsom hi ym meysydd y coed . Awn i’w bebyll ef ; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef . Cyfod , Arglwydd , i’th orffwysfa ; ti ac arch dy gadernid . Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder ; a gorfoledded dy saint . Er mwyn Dafydd dy was , na thro ymaith wyneb dy Eneiniog . Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd ; ni thry efe oddi wrth hynny ; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc . Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth , y rhai a ddysgwyf iddynt ; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc . Canys dewisodd yr Arglwydd Seion : ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun . Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd : yma y trigaf ; canys chwenychais hi . Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth : diwallaf ei thlodion â bara . Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth : a’i saint dan ganu a ganant . Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro : darperais lamp i’m Heneiniog . Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd : arno yntau y blodeua ei goron . Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd ! Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen , yn disgyn ar hyd y farf , sef barf Aaron ; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef : Fel gwlith Hermon , ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion : canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith , sef bywyd yn dragywydd . Wele , holl weision yr Arglwydd , bendithiwch yr Arglwydd , y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos . Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr ; a bendithiwch yr Arglwydd . Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear , a’th fendithio di allan o Seion . Molwch yr Arglwydd . Molwch enw yr Arglwydd ; gweision yr Arglwydd , molwch ef . Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd , yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni , Molwch yr Arglwydd ; canys da yw yr Arglwydd : cenwch i’w enw ; canys hyfryd yw . Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun , ac Israel yn briodoriaeth iddo . Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd ; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau . Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd , ac yn y ddaear , yn y môr , ac yn yr holl ddyfnderau . Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear ; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw ; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau . Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft , yn ddyn ac yn anifail . Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di , yr Aifft ; ar Pharo , ac ar ei holl weision . Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer , ac a laddodd frenhinoedd cryfion ; Sehon brenin yr Amoriaid , ac Og brenin Basan , a holl freniniaethau Canaan : Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth , yn etifeddiaeth i Israel ei bobl . Dy enw , O Arglwydd , a bery yn dragywydd ; dy goffadwriaeth , O Arglwydd , o genhedlaeth i genhedlaeth . Canys yr Arglwydd a farna ei bobl , a bydd edifar ganddo o ran ei weision . Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur , gwaith dwylo dyn . Genau sydd iddynt , ond ni lefarant ; llygaid sydd ganddynt , ond ni welant . Y mae clustiau iddynt , ond ni chlywant ; nid oes chwaith anadl yn eu genau . Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt , a phob un a ymddiriedo ynddynt . Tŷ Israel , bendithiwch yr Arglwydd : bendithiwch yr Arglwydd , tŷ Aaron . Tŷ Lefi , bendithiwch yr Arglwydd : y rhai a ofnwch yr Arglwydd , bendithiwch yr Arglwydd . Bendithier yr Arglwydd o Seion , yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Dduw y duwiau : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd : Yr haul , i lywodraethu y dydd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd : Y lleuad a’r sêr , i lywodraethu y nos : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd ; Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : A llaw gref , ac â braich estynedig : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Sehon brenin yr Amoriaid : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac Og brenin Basan : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Yn etifeddiaeth i Israel ei was : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Dduw y nefoedd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Wrth afonydd Babilon , yno yr eisteddasom , ac wylasom , pan feddyliasom am Seion . Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau . Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân ; a’r rhai a’n hanrheithiasai , lawenydd , gan ddywedyd ; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion . Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr ? Os anghofiaf di , Jerwsalem , anghofied fy neheulaw ganu . Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau , oni chofiaf di ; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf . Cofia , Arglwydd , blant Edom yn nydd Jerwsalem ; y rhai a ddywedent . Dinoethwch , dinoethwch hi , hyd ei sylfaen . O ferch Babilon , a anrheithir : gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau . Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini . Clodforaf di â’m holl galon : yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti . Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd , a chlodforaf dy enw , am dy drugaredd a’th wirionedd : oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll . Y dydd y llefais , y’m gwrandewaist ; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid . Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant , O Arglwydd , pan glywant eiriau dy enau . Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd : canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd . Er bod yr Arglwydd yn uchel , eto efe a edrych ar yr isel : ond y balch a edwyn efe o hirbell . Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder , ti a’m bywheit : estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion , a’th ddeheulaw a’m hachubai . Yr Arglwydd a gyflawna â mi : dy drugaredd , Arglwydd , sydd yn dragywydd : nac esgeulusa waith dy ddwylo . Arglwydd , chwiliaist , ac adnabuost fi . Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad : deelli fy meddwl o bell . Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa ; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd . Canys nid oes air ar fy nhafod , ond wele , Arglwydd , ti a’i gwyddost oll . Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen , a gosodaist dy law arnaf . Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi : uchel yw , ni fedraf oddi wrthi . I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd ? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd ? Os dringaf i’r nefoedd , yno yr wyt ti : os cyweiriaf fy ngwely yn uffern , wele di yno . Pe cymerwn adenydd y wawr , a phe trigwn yn eithafoedd y môr : Yno hefyd y’m tywysai dy law , ac y’m daliai dy ddeheulaw . Pe dywedwn , Diau y tywyllwch a’m cuddiai ; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch . Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti ; ond y nos a oleua fel dydd : un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti . Canys ti a feddiennaist fy arennau : toaist fi yng nghroth fy mam . Clodforaf di ; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed : rhyfedd yw dy weithredoedd ; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda . Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt , pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel , ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear . Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd ; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll , y dydd y lluniwyd hwynt , pan nad oedd yr un ohonynt . Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf , O Dduw ! mor fawr yw eu swm hwynt ! Pe cyfrifwn hwynt , amlach ydynt na’r tywod : pan ddeffrowyf , gyda thi yr ydwyf yn wastad . Yn ddiau , O Dduw , ti a leddi yr annuwiol : am hynny y gwŷr gwaedlyd , ciliwch oddi wrthyf : Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn ; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer . Onid cas gennyf , O Arglwydd , dy gaseion di ? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn ? A chas cyflawn y caseais hwynt : cyfrifais hwynt i mi yn elynion . Chwilia fi , O Dduw , a gwybydd fy nghalon : prawf fi , a gwybydd fy meddyliau ; A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf , a thywys fi yn y ffordd dragwyddol . Gwared fi , O Arglwydd , oddi wrth y dyn drwg : cadw fi rhag y gŵr traws : Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon : ymgasglant beunydd i ryfel . Golymasant eu tafodau fel sarff : gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau . Sela . Cadw fi , O Arglwydd , rhag dwylo’r annuwiol ; cadw fi rhag y gŵr traws : y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed . Y beilchion a guddiasant faglau i mi , ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau : gosodasant hoenynnau ar fy medr . Sela . Dywedais wrth yr Arglwydd , Fy Nuw ydwyt ti : clyw , O Arglwydd , lef fy ngweddïau . Arglwydd Dduw , nerth fy iachawdwriaeth , gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr . Na chaniatâ , Arglwydd , ddymuniad yr annuwiol : na lwydda ei ddrwg feddwl ; rhag eu balchïo hwynt . Sela . Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno , blinder eu gwefusau a’u gorchuddio . Syrthied marwor arnynt : a bwrier hwynt yn tân ; ac mewn ceuffosydd , fel na chyfodant . Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear : drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw . Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan , ac y barna efe y tlodion . Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di : y rhai uniawn a drigant ger dy fron di . Arglwydd , yr wyf yn gweiddi arnat : brysia ataf ; clyw fy llais , pan lefwyf arnat . Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth , a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol . Gosod , Arglwydd , gadwraeth o flaen fy ngenau : cadw ddrws fy ngwefusau . Na ostwng fy nghalon at ddim drwg , i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd : ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt . Cured y cyfiawn fi yn garedig , a cherydded fi : na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen : canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt . Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog , clywant fy ngeiriau ; canys melys ydynt . Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd , megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear . Eithr arnat ti , O Arglwydd Dduw , y mae fy llygaid : ynot ti y gobeithiais ; na ad fy enaid yn ddiymgeledd . Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi , a hoenynnau gweithredwyr anwiredd . Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun , tra yr elwyf fi heibio . Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd ; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd . Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef ; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef . Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn , tithau a adwaenit fy llwybr . Yn y ffordd y rhodiwn , y cuddiasant i mi fagl . Edrychais ar y tu deau , a deliais sylw , ac nid oedd neb a’m hadwaenai : pallodd nodded i mi ; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid . Llefais arnat , O Arglwydd ; a dywedais , Ti yw fy ngobaith , a’m rhan yn nhir y rhai byw . Ystyr wrth fy ngwaedd : canys truan iawn ydwyf : gwared fi oddi wrth fy erlidwyr ; canys trech ydynt na mi . Dwg fy enaid allan o garchar , fel y moliannwyf dy enw : y rhai cyfiawn a’m cylchynant : canys ti a fyddi da wrthyf . Arglwydd , clyw fy ngweddi , a gwrando ar fy neisyfiadau : erglyw fi yn dy wirionedd , ac yn dy gyfiawnder . Ac na ddos i farn â’th was : oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di . Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid : curodd fy enaid i lawr : gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch , fel y rhai a fu feirw er ys talm . Yna y pallodd fy ysbryd o’m mewn : ac y synnodd fy nghalon ynof . Cofiais y dyddiau gynt ; myfyriais ar dy holl waith : ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf . Lledais fy nwylo atat : fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat . Sela . O Arglwydd , gwrando fi yn ebrwydd : pallodd fy ysbryd : na chuddia dy wyneb oddi wrthyf ; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore ; oherwydd ynot ti y gobeithiaf : pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf ; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid . Gwared fi oddi wrth fy ngelynion , O Arglwydd : gyda thi yr ymguddiais . Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di ; canys ti yw fy Nuw : tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb . Bywha fi , O Arglwydd , er mwyn dy enw : dwg fy enaid allan o ing , er mwyn dy gyfiawnder . Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion , a difetha holl gystuddwyr fy enaid : oblegid dy was di ydwyf fi . Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth , yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd , a’m bysedd i ryfela . Fy nhrugaredd , a’m hamddiffynfa ; fy nhŵr , a’m gwaredydd : fy nharian yw efe , ac ynddo y gobeithiais ; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf . Arglwydd , beth yw dyn , pan gydnabyddit ef ? neu fab dyn , pan wneit gyfrif ohono ? Dyn sydd debyg i wagedd ; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio . Arglwydd , gostwng dy nefoedd , a disgyn : cyffwrdd â’r mynyddoedd , a mygant . Saetha fellt , a gwasgar hwynt ; ergydia dy saethau , a difa hwynt . Anfon dy law oddi uchod ; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion , o law plant estron ; Y rhai y llefara eu genau wagedd , ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster . Canaf i ti , O Dduw , ganiad newydd : ar y nabl a’r dectant y canaf i ti . Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd ; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol . Achub fi , a gwared fi o law meibion estron , y rhai y llefara eu genau wagedd , ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster : Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid ; a’n merched fel conglfaen nadd , wrth gyffelybrwydd palas : Fel y byddo ein celloedd yn llawn , yn trefnu pob rhyw luniaeth ; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd : A’n hychen yn gryfion i lafurio ; heb na rhuthro i mewn , na myned allan ; na gwaedd yn ein heolydd . Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt : gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt . Dyrchafaf di , fy Nuw , O Frenin ; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd . Beunydd y’th fendithiaf ; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd . Mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn ; a’i fawredd sydd anchwiliadwy . Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd , ac a fynega dy gadernid . Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd , a’th bethau rhyfedd , a draethaf . Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy : mynegaf finnau dy fawredd . Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant ; a’th gyfiawnder a ddatganant . Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd ; hwyrfrydig i ddig , a mawr ei drugaredd . Daionus yw yr Arglwydd i bawb : a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd . Dy holl weithredoedd a’th glodforant , O Arglwydd ; a’th saint a’th fendithiant . Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth ; a thraethant dy gadernid : I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef , a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth . Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol : a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd . Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant , ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd . Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt ; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd ; Gan agoryd dy law , a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da . Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd , a sanctaidd yn ei holl weithredoedd . Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno , at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd . Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant : gwrendy hefyd eu llefain , ac a’u hachub hwynt . Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef ; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe . Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd : a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Fy enaid , mola di yr Arglwydd . Molaf yr Arglwydd yn fy myw : canaf i’m Duw tra fyddwyf . Na hyderwch ar dywysogion , nac ar fab dyn , yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo . Ei anadl a â allan , efe a ddychwel i’w ddaear : y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef . Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo , sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw : Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear , y môr , a’r hyn oll y sydd ynddynt : yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd : Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig , yn rhoddi bara i’r newynog . Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd . Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion : yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd : yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn . Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid : efe a gynnal yr amddifad a’r weddw ; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol . Yr Arglwydd a deyrnasa byth , sef dy Dduw di , Seion , dros genhedlaeth a chenhedlaeth . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd : canys da yw canu i’n Duw ni ; oherwydd hyfryd yw , ie , gweddus yw mawl . Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem : efe a gasgl wasgaredigion Israel . Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon , ac yn rhwymo eu doluriau . Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr : geilw hwynt oll wrth eu henwau . Mawr yw ein Harglwydd , a mawr ei nerth : aneirif yw ei ddeall . Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd , gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr . Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch : cenwch i’n Duw â’r delyn ; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau , yn paratoi glaw i’r ddaear , gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd . Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant , ac i gywion y gigfran , pan lefant . Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march : ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr . Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef ; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef . Jerwsalem , mola di yr Arglwydd : Seion , molianna dy Dduw . Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth : efe a fendithiodd dy blant o’th fewn . Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol , ac a’th ddiwalla di â braster gwenith . Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear : a’i air a red yn dra buan . Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân ; ac a daena rew fel lludw . Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau : pwy a erys gan ei oerni ef ? Efe a enfyn ei air , ac a’u tawdd hwynt : â’i wynt y chwyth efe , a’r dyfroedd a lifant . Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob , ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel . Ni wnaeth efe felly ag un genedl ; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd : molwch ef yn yr uchelderau . Molwch ef , ei holl angylion : molwch ef , ei holl luoedd . Molwch ef , haul a lleuad : molwch ef , yr holl sêr goleuni . Molwch ef , nef y nefoedd ; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd . Molant enw yr Arglwydd : oherwydd efe a orchmynnodd , a hwy a grewyd . A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd : gosododd ddeddf , ac nis troseddir hi . Molwch yr Arglwydd o’r ddaear , y dreigiau , a’r holl ddyfnderau : Tân a chenllysg , eira a tharth ; gwynt ystormus , yn gwneuthur ei air ef : Y mynyddoedd a’r bryniau oll ; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd : Y bwystfilod a phob anifail ; yr ymlusgiaid ac adar asgellog : Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd ; tywysogion a holl farnwyr y byd : Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd ; hynafgwyr a llanciau : Molant enw yr Arglwydd : oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy ; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd . Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl , moliant ei holl saint ; sef meibion Israel , pobl agos ato . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd , a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint . Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth : gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin . Molant ei enw ef ar y dawns : canant iddo ar dympan a thelyn . Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl : efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth . Gorfoledded y saint mewn gogoniant : a chanant ar eu gwelyau . Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau , a chleddyf daufiniog yn eu dwylo ; I wneuthur dial ar y cenhedloedd , a chosb ar y bobloedd ; I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau , a’u pendefigion â gefynnau heyrn ; I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig : yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd : molwch ef yn ffurfafen ei nerth . Molwch ef am ei gadernid : molwch ef yn ôl amlder ei fawredd . Molwch ef â llais utgorn : molwch ef â nabl ac â thelyn . Molwch ef â thympan ac â dawns : molwch ef â thannau ac ag organ . Molwch ef â symbalau soniarus : molwch ef â symbalau llafar . Pob perchen anadl , molianned yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Diarhebion Solomon mab Dafydd , brenin Israel ; I wybod doethineb ac addysg , i ddeall geiriau synnwyr ; I gymryd athrawiaeth deall , cyfiawnder , a barn , ac uniondeb ; I roi callineb i’r angall , ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr . Y doeth a wrendy , ac a chwanega addysg ; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog : I ddeall dihareb , a’i deongl ; geiriau y doethion , a’u damhegion . Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth : ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg . Fy mab , gwrando addysg dy dad , ac nac ymado â chyfraith dy fam : Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben , a chadwyni am dy wddf di . Fy mab , os pechaduriaid a’th ddenant , na chytuna . Os dywedant , Tyred gyda ni , cynllwynwn am waed , ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos : Llyncwn hwy yn fyw , fel y bedd ; ac yn gyfan , fel rhai yn disgyn i’r pydew : Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr , nyni a lanwn ein tai ag ysbail : Bwrw dy goelbren yn ein mysg ; bydded un pwrs i ni i gyd : Fy mab , na rodia yn y ffordd gyda hwynt ; atal dy droed rhag eu llwybr hwy . Canys eu traed a redant i ddrygioni , ac a brysurant i dywallt gwaed . Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain . Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun : am eu heinioes eu hun y maent yn llechu . Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw ; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion . Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan ; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd : Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa , yn nrysau y pyrth ; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion , gan ddywedyd , Pa hyd , chwi ynfydion , y cerwch ynfydrwydd ? a chwi watwarwyr , y bydd hoff gennych watwar ? ac y casâ ffyliaid wybodaeth ? Dychwelwch wrth fy ngherydd : wele , mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi , fy ngeiriau a hysbysaf i chwi . Yn gymaint ag i mi eich gwahodd , ac i chwithau wrthod ; i mi estyn fy llaw , a neb heb ystyried ; Ond diystyrasoch fy holl gyngor i , ac ni fynnech ddim o’m cerydd : Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi ; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni ; Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw , ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt ; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi : Yna y galwant arnaf , ond ni wrandawaf ; yn fore y’m ceisiant , ond ni’m cânt : Canys cas fu ganddynt wybodaeth , ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant : Ni chymerent ddim o’m cyngor i ; dirmygasant fy holl gerydd . Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain , a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain . Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd ; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha . Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi , a gaiff aros yn ddiogel , ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg . Fy mab , os derbynni di fy ngeiriau , ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi ; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb , ac y gogwyddech dy galon at ddeall ; Ie , os gwaeddi ar ôl gwybodaeth , os cyfodi dy lef am ddeall ; Os ceisi hi fel arian , os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig ; Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd , ac y cei wybodaeth o Dduw . Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb : allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod . Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb : tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn . Y mae efe yn cadw llwybrau barn , ac yn cadw ffordd ei saint . Yna y cei di ddeall cyfiawnder , a barn , ac uniondeb , a phob llwybr daionus . Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon , a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth ; Yna cyngor a’th gynnal , a synnwyr a’th geidw : I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg , ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd ; Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb , i rodio mewn ffyrdd tywyllwch ; Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg , ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus ; Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion , ac yn gildyn yn eu llwybrau : I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd , oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau ; Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid , ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw . Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau , a’i llwybrau at y meirw . Pwy bynnag a elo i mewn ati hi , ni ddychwelant , ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd . Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da , a chadw llwybrau y cyfiawn . Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear , a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi . Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear , a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni . Fy mab , na ollwng fy nghyfraith dros gof ; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion : Canys hir ddyddiau , a blynyddoedd bywyd , a heddwch , a chwanegant hwy i ti . Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf , ysgrifenna hwy ar lech dy galon . Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion . Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon ; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun . Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef , ac efe a hyfforddia dy lwybrau . Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun : ofna yr Arglwydd , a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni . Hynny a fydd iechyd i’th fogail , a mêr i’th esgyrn . Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth , ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth : Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb , a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd . Fy mab , na ddirmyga gerydd yr Arglwydd ; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef ; Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu , efe a’i cerydda , megis tad ei fab annwyl ganddo . Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb , a’r dyn a ddygo ddeall allan . Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian , a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth . Gwerthfawrocach yw hi na gemau : a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi . Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant . Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch , a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch . Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi : a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi . Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear ; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd . Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau , ac y defnynna yr wybrennau wlith . Fy mab , na ollwng hwynt allan o’th olwg : cadw ddoethineb a phwyll . Yna y byddant yn fywyd i’th enaid , ac yn ras i’th wddf . Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal , a’th droed ni thramgwydda . Pan orweddych , nid ofni ; ti a orweddi , a’th gwsg fydd felys . Nac ofna rhag braw disymwth , na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo . Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di , ac a geidw dy droed rhag ei ddal . Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt , pan fyddo ar dy law ei wneuthur . Na ddywed wrth dy gymydog , Cerdda ymaith , a thyred amser arall , ac yfory mi a roddaf ; a chennyt beth yn awr . Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog , ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl . Nac ymryson â neb heb achos , os efe ni wnaeth ddrwg i ti . Na chenfigenna wrth ŵr traws , ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef . Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn : ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef . Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol : ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn . Diau efe a watwar y gwatwarus : ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig . Y doethion a etifeddant anrhydedd , a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid . Gwrandewch , blant , addysg tad , ac erglywch i ddysgu deall . Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda : na wrthodwch fy nghyfraith . Canys yr oeddwn yn fab i’m tad , yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam . Efe a’m dysgai , ac a ddywedai wrthyf , Dalied dy galon fy ngeiriau : cadw fy ngorchmynion , a bydd fyw . Cais ddoethineb , cais ddeall : na ad dros gof , ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau . Nac ymâd â hi , a hi a’th geidw : câr hi , a hi a’th wared di . Pennaf peth yw doethineb : cais ddoethineb ; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall . Dyrchafa di hi , a hithau a’th ddyrchafa di : hi a’th ddwg di i anrhydedd , os cofleidi hi . Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di : ie , hi a rydd i ti goron gogoniant . Gwrando , fy mab , a derbyn fy ngeiriau ; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir . Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb ; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb . Pan rodiech , dy gerddediad ni bydd gyfyng ; a phan redech , ni thramgwyddi . Ymafael mewn addysg , ac na ollwng hi : cadw hi ; canys dy fywyd di yw hi . Na ddos i lwybr yr annuwiolion , ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus . Gochel hi , na ddos ar hyd‐ddi ; cilia oddi wrthi hi , a dos heibio . Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg ; a’u cwsg a gollant , nes iddynt gwympo rhyw ddyn . Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb , ac yn yfed gwin trais . Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni , yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd . Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch : ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant . Fy mab , gwrando ar fy ngeiriau : gogwydda dy glust at fy ymadroddion . Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg : cadw hwynt yng nghanol dy galon . Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont , ac iechyd i’w holl gnawd . Cadw dy galon yn dra diesgeulus ; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod . Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd , a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt . Edryched dy lygaid yn uniawn ; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen . Ystyria lwybr dy draed : a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn . Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy ; symud dy droed oddi wrth ddrygioni . Fy mab , gwrando ar fy noethineb , a gostwng dy glust at fy neall : Fel y gellych ystyried pwyll , a’th wefusau gadw gwybodaeth . Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl , a’i genau sydd lyfnach nag olew : Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod , yn llym fel cleddyf daufiniog . Ei thraed hi a ddisgynnant i angau ; a’i cherddediad a sang uffern . Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd , y symud ei chamre hi , heb wybod i ti . Yr awr hon gan hynny , O blant , gwrandewch arnaf fi , ac na ymadewch â geiriau fy ngenau . Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi , ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi : Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill , a’th flynyddoedd i’r creulon : Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di , ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr ; Ac o’r diwedd i ti ochain , wedi i’th gnawd a’th gorff gurio , A dywedyd , Pa fodd y caseais i addysg ! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd ! Ac na wrandewais ar lais fy athrawon , ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr ! Bûm o fewn ychydig at bob drwg , yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa . Yf ddwfr o’th bydew dy hun , a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun . Tardded dy ffynhonnau allan , a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd . Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig , ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi . Bydded dy ffynnon yn fendigedig : ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid . Bydded fel ewig gariadus , ac fel iyrches hawddgar : gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser , ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol . A phaham , fy mab , yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr , ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti ? Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd , ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef . Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol , ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun . Efe a fydd farw o eisiau addysg ; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn . Fy mab , os mechnïaist dros dy gymydog , ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr , Ti a faglwyd â geiriau dy enau , ti a ddaliwyd â geiriau dy enau . Gwna hyn yr awr hon , fy mab , a gwared dy hun , gan i ti syrthio i law dy gymydog ; cerdda , ac ymostwng iddo , ac ymbil â’th gymydog . Na ddyro gwsg i’th lygaid , na hun i’th amrantau . Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr , ac fel aderyn o law yr adarwr . Cerdda at y morgrugyn , tydi ddiogyn ; edrych ar ei ffyrdd ef , a bydd ddoeth : Nid oes ganddo neb i’w arwain , i’w lywodraethu , nac i’w feistroli ; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf , ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf . Pa hyd , ddiogyn , y gorweddi ? pa bryd y cyfodi o’th gwsg ? Eto ychydig gysgu , ychydig hepian , ychydig blethu dwylo i gysgu . Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd , a’th angen fel gŵr arfog . Dyn i’r fall , a gŵr anwir , a rodia â genau cyndyn . Efe a amneidia â’i lygaid , efe a lefara â’i draed , efe a ddysg â’i fysedd . Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon ; y mae yn dychymyg drygioni bob amser , yn peri cynhennau . Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth : yn ddisymwth y dryllir ef , fel na byddo meddyginiaeth . Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd : ie , saith beth sydd ffiaidd ganddo ef : Llygaid beilchion , tafod celwyddog , a’r dwylo a dywalltant waed gwirion , Y galon a ddychmygo feddyliau drwg , traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni , Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd , a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr . Fy mab , cadw orchymyn dy dad , ac nac ymado â chyfraith dy fam . Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol ; clwm hwynt am dy wddf . Pan rodiech , hi a’th gyfarwydda ; pan orweddych , hi a’th wylia ; pan ddeffroych , hi a gydymddiddan â thi . Canys cannwyll yw y gorchymyn ; a goleuni yw y gyfraith ; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg : I’th gadw rhag y fenyw ddrwg , a rhag gweniaith tafod y ddieithr . Na chwennych ei phryd hi yn dy galon ; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau . Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara ; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr . A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes , heb losgi ei ddillad ? A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor , ac heb losgi ei draed ? Felly , pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog ; y neb a gyffyrddo â hi , ni bydd lân . Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid , pan fyddo arno newyn : Ond os delir ef , efe a dâl yn saith ddyblyg ; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ . Ond y neb a wnêl odineb â benyw , sydd heb synnwyr ; y neb a’i gwnêl , a ddifetha ei enaid ei hun . Archoll a gwarth a gaiff efe ; a’i gywilydd ni ddileir . Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr ; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial . Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn ; ac ni fodlonir ef , er rhoi rhoddion lawer . Fy mab , cadw fy ngeiriau , a chuddia fy ngorchmynion gyda thi . Cadw fy ngorchmynion , a bydd fyw ; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad . Rhwym hwynt am dy fysedd , ysgrifenna hwynt ar lech dy galon . Dywed wrth ddoethineb , Fy chwaer wyt ti ; galw ddeall yn gares : Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr , a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus . Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt , A mi a welais ymysg y ffyliaid , ie , mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid , ddyn ieuanc heb ddeall ganddo , Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi ; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi , Yn y cyfnos gyda’r hwyr , pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll : Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef , a chanddi ymddygiad putain , ac â chalon ddichellgar . ( Siaradus ac anufudd yw hi ; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ : Weithiau yn y drws , weithiau yn yr heolydd , ac yn cynllwyn ym mhob congl . ) Hi a ymafaelodd ynddo , ac a’i cusanodd , ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho , Yr oedd arnaf fi aberthau hedd ; heddiw y cywirais fy adduned : Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi , i chwilio am dy wyneb ; a chefais afael arnat . Mi a drwsiais fy ngwely â llenni , ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft . Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr , aloes , a sinamon . Tyred , moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore ; ymhyfrydwn â chariad . Canys nid yw y gŵr gartref ; efe a aeth i ffordd bell : Efe a gymerth godaid o arian yn ei law ; efe a ddaw adref ar y dydd amodol . Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg , ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef . Efe a’i canlynodd hi ar frys , fel yr ych yn myned i’r lladdfa , neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi : Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef ; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl , heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef . Yn awr gan hynny , fy meibion , gwrandewch arnaf fi , ac ystyriwch eiriau fy ngenau . Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi , na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi . Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig ; ie , gwŷr grymus lawer a laddodd hi . Ffordd i uffern yw ei thŷ hi , yn disgyn i ystafelloedd angau . Onid yw doethineb yn gweiddi ? a deall yn llefain ? Ym mhen lleoedd uchel , gerllaw y ffordd , lle mae llwybrau lawer , y mae hi yn sefyll . Gerllaw y pyrth , ym mhen y dref , yn ymyl y drysau , y mae hi yn llefain : Arnoch chwi , wŷr , yr wyf fi yn galw ; ac at feibion dynion y mae fy llais . Ha ynfydion , deellwch gyfrwyster ; a chwi wŷr angall , byddwch o galon ddeallus . Gwrandewch : canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog ; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn . Canys fy ngenau a draetha wirionedd ; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni . Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn ; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd . Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo , ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth . Derbyniwch fy addysg , ac nid arian ; a gwybodaeth o flaen aur etholedig . Canys gwell yw doethineb na gemau : nid oes dim dymunol cyffelyb iddi . Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb : yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor . Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni : balchder , ac uchder , a ffordd ddrygionus , a’r genau traws , sydd gas gennyf fi . Mi biau cyngor , a gwir ddoethineb : deall ydwyf fi ; mi biau nerth . Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd , ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder . Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion , sef holl farnwyr y ddaear . Y sawl a’m carant i , a garaf finnau ; a’r sawl a’m ceisiant yn fore , a’m cânt . Gyda myfi y mae cyfoeth , ac anrhydedd , golud parhaus , a chyfiawnder . Gwell yw fy ffrwyth i nag aur , ie , nag aur coeth ; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig . Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf , ar hyd canol llwybrau barn : I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd : a mi a lanwaf eu trysorau . Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd , cyn ei weithredoedd erioed . Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd , er y dechreuad , cyn bod y ddaear . Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd , cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd . Cyn sylfaenu y mynyddoedd , o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd : Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear , na’r meysydd , nac uchder llwch y byd . Pan baratôdd efe y nefoedd , yr oeddwn i yno : pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder : Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben : a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder : Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr , ac i’r dyfroedd , na thorrent ei orchymyn ef : pan osododd efe sylfeini y ddaear : Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef : ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd , yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser ; Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef ; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion . Yr awron gan hynny , O feibion , gwrandewch arnaf ; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i . Gwrandewch addysg , a byddwch ddoethion ; nac ymwrthodwch â hi . Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf , ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau , gan warchod wrth byst fy mhyrth i . Canys y neb a’m caffo i , a gaiff fywyd , ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd . Ond y neb a becho yn fy erbyn , a wna gam â’i enaid ei hun : fy holl gaseion a garant angau . Doethineb a adeiladodd ei thŷ , hi a naddodd ei saith golofn . Hi a laddodd ei hanifeiliaid ; hi a gymysgodd ei gwin , ac a huliodd ei bwrdd . Hi a yrrodd ei llawforynion : y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas : Pwy bynnag sydd annichellgar , tröed i mewn yma : ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd , Deuwch , a bwytewch o’m bara , ac yfwch o’r gwin a gymysgais . Ymadewch â’r rhai ffôl , a byddwch fyw ; a cherddwch yn ffordd deall . Yr hwn a geryddo watwarwr , a gaiff waradwydd iddo ei hun : a’r hwn a feio ar y drygionus , a gaiff anaf . Na cherydda watwarwr , rhag iddo dy gasáu : cerydda y doeth , ac efe a’th gâr di . Dyro addysg i’r doeth , ac efe fydd doethach : dysg y cyfiawn , ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth . Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd : a gwybodaeth y sanctaidd yw deall . Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau , ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes . Os doeth fyddi , doeth fyddi i ti dy hun : ond os gwatwarwr fyddi , tydi dy hun a’i dygi . Gwraig ffôl a fydd siaradus ; angall yw , ac ni ŵyr ddim : Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ , ar fainc , yn y lleoedd uchel yn y ddinas , I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio , y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn : Pwy bynnag sydd ehud , tröed yma : a phwy bynnag sydd ddisynnwyr , a hi a ddywed wrtho , Dyfroedd lladrad sydd felys , a bara cudd sydd beraidd . Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno ; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern . Diarhebion Solomon . Mab doeth a wna dad llawen , a mab ffôl a dristâ ei fam . Ni thycia trysorau drygioni : ond cyfiawnder a wared rhag angau . Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu : ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus . Y neb a weithio â llaw dwyllodrus , fydd dlawd : ond llaw y diwyd a gyfoethoga . Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf : ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf . Bendithion fydd ar ben y cyfiawn : ond trawsedd a gae ar enau y drygionus . Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig : ond enw y drygionus a bydra . Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion : ond y ffôl ei wefusau a gwymp . Y neb a rodio yn uniawn , a rodia yn ddiogel : ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd , a fydd hynod . Y neb a amneidio â’i lygaid , a bair flinder : a’r ffôl ei wefusau a gwymp . Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn : ond trawsedd a gae ar enau y drygionus . Casineb a gyfyd gynhennau : ond cariad a guddia bob camwedd . Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb : ond gwialen a weddai i gefn yr angall . Y doethion a ystoriant wybodaeth : ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl . Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef : ond dinistr y tlodion yw eu tlodi . Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd : ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod . Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg : ond y neb a wrthodo gerydd , sydd yn cyfeiliorni . A guddio gas â gwefusau celwyddog , a’r neb a ddywed enllib , sydd ffôl . Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod : ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol . Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig : calon y drygionus ni thâl ond ychydig . Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer : ond y ffyliaid , o ddiffyg synnwyr , a fyddant feirw . Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga ; ac ni ddwg flinder gyda hi . Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg : a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb . Y peth a ofno y drygionus , a ddaw iddo : ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn , Duw a’i rhydd . Fel y mae y corwynt yn myned heibio , felly ni bydd y drygionus mwy : ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth . Megis finegr i’r dannedd , a mwg i’r llygaid , felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant . Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau : ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir . Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd : ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano . Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i’r perffaith : ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd . Y cyfiawn nid ysgog byth : ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear . Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb : a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith . Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy ; ond genau y drygionus a lefara drawsedd . Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef . Pan ddêl balchder , fe ddaw gwarth : ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb . Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt : ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt . Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint : ond cyfiawnder a wared rhag angau . Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef : ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus . Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt : ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni . Pan fyddo marw dyn drygionus , fe a ddarfu am ei obaith ef : a gobaith y traws a gyfrgollir . Y cyfiawn a waredir o gyfyngder , a’r drygionus a ddaw yn ei le ef . Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog : ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth . Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn : a phan gyfrgoller y drygionus , y bydd gorfoledd . Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas : ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi . Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog ; ond y synhwyrol a dau â sôn . Yr hwn a rodia yn athrodwr , a ddatguddia gyfrinach : ond y ffyddlon ei galon a gela y peth . Lle ni byddo cyngor , y bobl a syrthiant : ond lle y byddo llawer o gynghorwyr , y bydd diogelwch . Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn : ond y neb a gasao fachnïaeth , fydd ddiogel . Gwraig rasol a gaiff anrhydedd ; a’r galluog a gânt gyfoeth . Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun : ond y creulon a flina ei gnawd ei hun . Y drygionus a wna waith twyllodrus : ond i’r neb a heuo gyfiawnder , y bydd gwobr sicr . Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd : felly dilyn drygioni a dywys i angau . Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau : eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd . Er maint fyddo cymorth , y drygionus ni bydd ddieuog : ond had y cyfiawn a waredir . Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch , yw benyw lân heb synnwyr . Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig : ond gobaith y drygionus sydd ddicter . Rhyw un a wasgar ei dda , ac efe a chwanegir iddo : a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai , ac a syrth i dlodi . Yr enaid hael a fraseir : a’r neb a ddyfrhao , a ddyfrheir yntau hefyd . Y neb a atalio ei ŷd , y bobl a’i melltithia : ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho . Y neb a ddyfal geisio ddaioni , a ennill ewyllys da : ond y neb a geisio ddrwg , iddo ei hun y daw . Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth , a syrth : ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen . Y neb a flino ei dŷ ei hun , a berchenoga y gwynt : a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon . Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd : a’r neb a enillo eneidiau , sydd ddoeth . Wele , telir i’r cyfiawn ar y ddaear : pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur ? Yneb a garo addysg , a gâr wybodaeth : ond y neb a gasao gerydd , anifeilaidd yw . Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd : ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe . Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni : ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga . Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr : ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef . Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn : a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus . Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed : ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt . Difethir y drygionus , fel na byddont hwy : ond tŷ y cyfiawn a saif . Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr : ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir . Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael , ac sydd was iddo ei hun , na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun , ac sydd arno eisiau bara . Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail : ond tosturi y drygionus sydd greulon . Y neb a lafurio ei dir , a ddigonir o fara : ond y neb a ganlyno oferwyr , disynnwyr yw . Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus : ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth . Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus : ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder . Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni ; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo . Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun ; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall . Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd : ond y call a guddia gywilydd . Y neb a ddywedo y gwir , a ddengys gyfiawnder ; ond gau dyst a draetha dwyll . Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf : ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth . Gwefus gwirionedd a saif byth : ond tafod celwyddog ni saif funud awr . Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg : ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd . Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder ; ond y drygionus a lenwir â drwg . Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog : ond y rhai a wnânt yn ffyddlon , a ryngant fodd iddo ef . Gŵr pwyllog a gela wybodaeth : ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb . Llaw y diesgeulus a deyrnasa : a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged . Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu : ond gair da a’i llawenha hi . Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog : ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt . Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth : ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr . Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd ; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth . Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad : ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd . Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau : ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd . Y neb a geidw ei enau , a geidw ei einioes : ond y neb a ledo ei wefusau , a ddinistrir . Enaid y diog a ddeisyf , ac ni chaiff ddim : ond enaid y diwyd a wneir yn fras . Cas gan y cyfiawn gelwydd : ond y drygionus sydd ffiaidd , ac a ddaw i gywilydd . Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd : ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur . Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog , ac heb ddim ganddo : ac arall ei fod yn dlawd , a chyfoeth lawer iddo . Iawn am einioes gŵr yw ei dda : ond y tlawd ni chlyw gerydd . Goleuni y cyfiawn a lawenha : ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir . Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen : ond gyda’r pwyllog y mae doethineb . Golud a gasgler trwy oferedd , a leiheir ; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega . Gobaith a oeder a wanha y galon : ond pren y bywyd yw deisyfiad , pan ddêl i ben . Yr hwn a ddirmygo y gair , a ddifethir : ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn , a obrwyir . Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd , i gilio oddi wrth faglau angau . Deall da a ddyry ras : ond ffordd troseddwyr sydd galed . Pob call a wna bethau trwy wybodaeth : ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd . Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni ; ond cennad ffyddlon sydd iechyd . Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg : ond yr hwn a gadwo gerydd , a anrhydeddir . Dymuniad wedi ei gyflawni , sydd felys gan yr enaid : ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni . Yr hwn a rodia gyda doethion , fydd doeth : ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion , a gystuddir . Drygfyd a erlyn bechaduriaid : ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn . Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion : a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn . Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion : ond y mae a ddinistrir o eisiau barn . Yr hwn a arbedo y wialen , sydd yn casáu ei fab : ond yr hwn a’i câr ef , a’i cerydda mewn amser . Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid : ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau . Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ : ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo . Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder , sydd yn ofni yr Arglwydd ; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd , sydd yn ei ddirmygu ef . Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder : ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt . Lle nid oes ychen , glân yw y preseb : ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych . Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd ; ond gau dyst a draetha gelwyddau . Y gwatwarwr a gais ddoethineb , ac nis caiff : ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus . Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth . Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun : ond ffolineb y ffyliaid yw twyll . Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd : ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da . Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun : a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi . Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir : ond pabell y rhai uniawn a flodeua . Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn : ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau . Ie , wrth chwerthin y bydd blin ar y galon ; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch . Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun : ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef . Yr ehud a goelia bob gair : a’r call a ddeil ar ei gamre . Y doeth sydd yn ofni , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni : ond y ffôl sydd ffrom a hyderus . Gŵr dicllon a wna ffolineb : a chas yw y gŵr dichellgar . Y rhai ehud a etifeddant ffolineb : ond y rhai call a goronir â gwybodaeth . Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus : a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn . Y tlawd a gaseir , ie , gan ei gymydog ei hun : ond llawer fydd yn caru y cyfoethog . A ddirmygo ei gymydog , sydd yn pechu : ond y trugarog wrth y tlawd , gwyn ei fyd ef . Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni ? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni . Ym mhob llafur y mae elw : ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi . Coron y doethion yw eu cyfoeth : ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb . Tyst ffyddlon a weryd eneidiau : ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau . Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn : ac i’w blant ef y bydd noddfa . Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd , i ddianc rhag maglau angau . Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin : ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog . Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr : ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd . Calon iach yw bywyd y cnawd : ond cenfigen a bydra yr esgyrn . Y neb a orthryma y tlawd , a gywilyddia ei Greawdydd : ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus , a’i hanrhydedda ef . Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni : ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw . Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call : ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir . Cyfiawnder a ddyrchafa genedl : ond cywilydd pobloedd yw pechod . Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol : ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus . Ateb arafaidd a ddetry lid : ond gair garw a gyffry ddigofaint . Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda : ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb . Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd , yn canfod y drygionus a’r daionus . Pren y bywyd yw tafod iach : ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd . Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad : ond y neb a ddioddefo gerydd , sydd gall . Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth : ond am olud yr annuwiol y mae trallod . Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth : ond calon y ffyliaid ni wna felly . Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo . Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder . Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd : a’r neb a gasao gerydd , a fydd marw . Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd : pa faint mwy , calonnau plant dynion ? Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo ; ac nid â at y doethion . Calon lawen a wna wyneb siriol : ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd . Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth : ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb . Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin : ond gwledd wastadol yw calon lawen . Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd , na thrysor mawr a thrallod gydag ef . Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad , nag ych pasgedig a chas gydag ef . Gŵr dicllon a gyffry gynnen : ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson . Ffordd y diog sydd fel cae drain : ond ffordd yr uniawn sydd wastad . Mab doeth a lawenha ei dad : ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam . Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd : ond gŵr deallus a rodia yn uniawn . Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor : ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt . Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau ; ac O mor dda yw gair yn ei amser ! Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol , i ochel uffern obry . Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion : ond efe a sicrha derfyn y weddw . Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond geiriau y glân ŷnt beraidd . Y neb a fyddo dra chwannog i elw , a derfysga ei dŷ : ond y neb a gasao roddion , fydd byw . Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb : ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg . Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol : ond efe a wrendy weddi y cyfiawn . Llewyrch y llygaid a lawenha y galon : a gair da a frasâ yr esgyrn . Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd , a breswylia ymhlith y doethion . Y neb a wrthodo addysg , a ddiystyra ei enaid ei hun : ond y neb a wrandawo ar gerydd , a feddianna ddeall . Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd ; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd . Paratoad y galon mewn dyn , ac ymadrodd y tafod , oddi wrth yr Arglwydd y mae . Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun : ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion . Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd , a’th feddyliau a safant . Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun : a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg . Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon : er maint fyddo ei gymorth , ni bydd dieuog . Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod : a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg . Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd , efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef . Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder , na chnwd mawr trwy gam . Calon dyn a ddychymyg ei ffordd : ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef . Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin : ni ŵyra ei enau ef mewn barn . Pwys a chloriannau cywir , yr Arglwydd a’u piau : ei waith ef yw holl gerrig y god . Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb : canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd . Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd ; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn . Digofaint y brenin sydd megis cennad angau ; ond gŵr doeth a’i gostega . Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd : a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar . Cael doethineb , O mor well yw nag aur coeth ! a chael deall , mwy dymunol yw nag arian . Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg : y neb a gadwo ei ffordd , a geidw ei enaid . Balchder sydd yn myned o flaen dinistr : ac uchder ysbryd o flaen cwymp . Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig , na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion . A drino fater yn ddoeth , a gaiff ddaioni : a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , O gwyn ei fyd hwnnw ! Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus ; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth . Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog : ond addysg ffyliaid yw ffolineb . Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol , ac a chwanega addysg i’w wefusau . Geiriau teg ydynt megis dil mêl , yn felys i’r enaid , ac yn iachus i’r esgyrn . Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn : ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth . Y neb a lafurio , a lafuria iddo ei hun : canys ei enau a’i gofyn ganddo . Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg : ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth . Dyn cyndyn a bair ymryson : a’r hustyngwr a neilltua dywysogion . Gŵr traws a huda ei gymydog , ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda . Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd ; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben . Coron anrhydeddus yw penllwydni , os bydd mewn ffordd cyfiawnder . Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn ; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun , na’r hwn a enillo ddinas . Y coelbren a fwrir i’r arffed : ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef . Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef , na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson . Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus ; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr . Y tawddlestr sydd i’r arian , a’r ffwrn i’r aur : ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd . Y drygionus a wrendy ar wefus anwir : a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg . Y neb a watwaro y tlawd , sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef : a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd , ni bydd dieuog . Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion : ac anrhydedd y plant yw eu tadau . Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol ; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog . Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog : pa le bynnag y tro , hi a ffynna . Y neb a guddia bechod , sydd yn ceisio cariad : ond y neb a adnewydda fai , sydd yn neilltuo tywysogion . Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith . Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig : a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef . Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon , nag â’r ffôl yn ei ffolineb . Y neb a dalo ddrwg dros dda , nid ymedy drwg â’i dŷ ef . Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae : am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni . Y neb a gyfiawnhao y drygionus , ac a gondemnio y gwirion ; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau . Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb , ac yntau heb galon ganddo ? Cydymaith a gâr bob amser : a brawd a anwyd erbyn caledi . Dyn heb bwyll a dery ei law , ac a fachnïa o flaen ei gyfaill . Y neb sydd hoff ganddo ymsennu , sydd hoff ganddo bechod ; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel , sydd yn ceisio niwed . Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni : a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod , a syrth i ddrwg . Y neb a genhedlo un ffôl , a ennill iddo ei hun dristwch : ac ni bydd lawen tad yr ynfyd . Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth : ond meddwl trwm a sych yr esgyrn . Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes , i gamdroi llwybrau barn . Doethineb sydd yn wyneb y deallgar : ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd . Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad , a chwerwder i’w fam . Hefyd nid da cosbi y cyfiawn , na tharo penaethiaid , pan fyddant ar yr iawn . Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion : a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd . Y ffôl , tra tawo , a gyfrifir yn ddoeth ; a’r neb a gaeo ei wefusau , yn ddeallus . Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun , ac a ymyrra â phob peth . Y ffôl nid hoff ganddo ddeall ; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun . Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch , a chyda gogan , gwaradwydd . Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion ; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo . Nid da derbyn wyneb yr annuwiol , i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn . Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen , a’i enau a eilw am ddyrnodiau . Genau y ffôl yw ei ddinistr , a’i wefusau sydd fagl i’w enaid . Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion , ac a ddisgynnant i gilfachau y bol . Y neb a fyddo diog yn ei waith , sydd frawd i’r treulgar . Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd : ato y rhed y cyfiawn , ac y mae yn ddiogel . Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn , ac yn fur uchel , yn ei dyb ei hun . Cyn dinistr y balchïa calon gŵr ; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd . Y neb a atebo beth cyn ei glywed , ffolineb a chywilydd fydd iddo . Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef : ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd ? Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth ; a chlust y doethion a gais wybodaeth . Rhodd dyn a ehanga arno , ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid . Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn : ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef . Y coelbren a wna i gynhennau beidio , ac a athrywyn rhwng cedyrn . Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier , na dinas gadarn : a’u hymryson sydd megis trosol castell . A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol ; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef . Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod : a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef . Y neb sydd yn cael gwraig , sydd yn cael peth daionus , ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd . Y tlawd a ymbil ; a’r cyfoethog a etyb yn erwin . Y neb y mae iddo gyfeillion , cadwed gariad : ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd . Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb , na’r traws ei wefusau , ac yntau yn ffôl . Hefyd , bod yr enaid heb wybodaeth , nid yw dda ; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha . Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef : a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd . Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion : ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog . Tyst celwyddog ni bydd dieuog : a lluniwr celwyddau ni ddianc . Llawer a ymbiliant o flaen pendefig : a phawb sydd gyfaill i’r hael . Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef : pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho ? er maint a ymnheddo , ni throant ato . A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid : a gadwo ddeall a ennill ddaioni . Tyst celwyddog ni bydd dieuog ; a thraethwr celwyddau a ddifethir . Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch : anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid . Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef : a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd . Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc : ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt . Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad : ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus . Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau : ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog . Syrthni a bair drymgwsg : ac enaid twyllodrus a newyna . Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid : a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw . Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd , sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd ; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn . Cerydda dy fab tra fyddo gobaith ; ac nac arbeded dy enaid ef , i’w ddifetha . Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth : canys os ti a’i gwaredi , rhaid i ti wneuthur hynny drachefn . Gwrando gyngor , a chymer addysg ; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd . Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn : ond cyngor yr Arglwydd , hwnnw a saif . Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef : a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog . Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd : a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall , heb i ddrwg ymweled ag ef . Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes , ac ni estyn hi at ei enau . Taro watwarwr , a’r ehud fydd gyfrwysach : a phan geryddych y deallus , efe a ddeall wybodaeth . Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr . Fy mab , paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth . Tyst y fall a watwar farn : a genau y drygionus a lwnc anwiredd . Barn sydd barod i’r gwatwarwyr , a chleisiau i gefn y ffyliaid . Gwatwarus yw gwin , a therfysgaidd yw diod gadarn : pwy bynnag a siomir ynddi , nid yw ddoeth . Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin : y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun . Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson : ond pob ffôl a fyn ymyrraeth . Y diog nid ardd , oherwydd oerder y gaeaf ; am hynny y cardota efe y cynhaeaf , ac ni chaiff ddim . Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr : eto y gŵr call a’i tyn allan . Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun : ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon ? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb : gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef . Brenin yn eistedd ar orsedd barn , a wasgar â’i lygaid bob drwg . Pwy a ddichon ddywedyd , Mi a lanheais fy nghalon , glân wyf oddi wrth fy mhechod ? Amryw bwysau , ac amryw fesurau , ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau . Bachgen a adwaenir wrth ei waith , ai pur ai uniawn yw ei waith . Y glust yn clywed , a’r llygad yn gweled , yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau . Na châr gysgu , rhag dy fyned yn dlawd : agor dy lygaid , fel y’th ddigoner â bara . Drwg , drwg , medd y prynwr : ond pan êl o’r neilltu , efe a ymffrostia . Y mae aur , a gemau lawer : ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr . Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron ; a chymer wystl ganddo dros estrones . Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd : ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean . Bwriadau a sicrheir trwy gyngor : a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela . Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach : am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau . Y neb a felltithio ei dad neu ei fam , ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du . Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad ; ond ei diwedd ni fendithir . Na ddywed , Mi a dalaf ddrwg : disgwyl wrth yr Arglwydd , ac efe a’th achub . Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau ; a chlorian twyllodrus nid yw dda . Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr : ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun ? Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig ; ac wedi addunedu , ymofyn . Brenin doeth a wasgar yr annuwiol , ac a dry yr olwyn arnynt . Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn , yn chwilio holl gelloedd y bol . Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin ; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd . Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth ; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn . Cleisiau briw a lanha ddrwg : felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol . Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd : efe a’i try hi lle y mynno . Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun : ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau . Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth . Uchder golwg , a balchder calon , ac âr yr annuwiol , sydd bechod . Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig : ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig . Trysorau a gasgler â thafod celwyddog , a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau . Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt , am iddynt wrthod gwneuthur barn . Trofaus a dieithr yw ffordd dyn : ond y pur sydd uniawn ei waith . Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ , na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang . Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg : nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef . Pan gosber gwatwarwr , y bydd yr ehud gallach : a phan ddysger y doeth , efe a dderbyn wybodaeth . Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol : ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni . Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd , a lefain ei hunan , ac nis gwrandewir ef . Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint ; a gwobr yn y fynwes , lid cryf . Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn : ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd . Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall , a orffwys yng nghynulleidfa y meirw . Y neb a garo ddifyrrwch , a ddaw i dlodi : a’r neb a garo win ac olew , ni bydd gyfoethog . Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn , a’r troseddwr dros yr uniawn . Gwell yw aros yn yr anialwch , na chyda gwraig anynad ddicllon . Y mae trysor dymunol , ac olew , yn nhrigfa y doeth ; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt . Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd , a gaiff fywyd , cyfiawnder , ac anrhydedd . Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn , ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno . Y neb a gadwo ei enau a’i dafod , a geidw ei enaid rhag cyfyngder . Y balch a’r gwatwarwr uchel , yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch . Deisyfiad y diog a’i lladd : canys ei ddwylo a wrthodant weithio : Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd : ond y cyfiawn a rydd , ac ni arbed . Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd : pa faint mwy , pan offrymant mewn meddwl drwg ? Tyst celwyddog a ddifethir : ond y gŵr a wrandawo , a lefara yn wastad . Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb : ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd . Nid oes doethineb , na deall , na chyngor , yn erbyn yr Arglwydd . Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr : ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd . Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer ; a gwell yw ffafr dda nag arian , ac nag aur . Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant : yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll . Y call a genfydd y drwg , ac a ymgûdd : ond y ffyliaid a ânt rhagddynt , ac a gosbir . Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd , yw cyfoeth , ac anrhydedd , a bywyd . Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn : y neb a gadwo ei enaid , a fydd bell oddi wrthynt hwy . Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd ; a phan heneiddio nid ymedy â hi . Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd ; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg . Y neb a heuo anwiredd a fed flinder ; a gwialen ei ddigofaint ef a balla . Yr hael ei lygad a fendithir : canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd . Bwrw allan y gwatwarwr , a’r gynnen a â allan ; ie , yr ymryson a’r gwarth a dderfydd . Y neb a garo lendid calon , am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo . Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth ; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr . Medd y diog , Y mae llew allan ; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd . Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr : y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho , a syrth yno . Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn ; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho . Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth , a’r neb a roddo i’r cyfoethog , a ddaw i dlodi yn ddiamau . Gogwydda dy glust , a gwrando eiriau y doethion , a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth . Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon ; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau . Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd , yr hysbysais i ti heddiw , ie , i ti . Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth , I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd , fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonant atat ? Nac ysbeilia mo’r tlawd , oherwydd ei fod yn dlawd : ac na orthryma y cystuddiol yn y porth . Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt , ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt . Na fydd gydymaith i’r dicllon ; ac na chydgerdda â gŵr llidiog : Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef , a chael magl i’th enaid . Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo , o’r rhai a fachnïant am ddyled . Oni bydd gennyt i dalu , paham y cymerai efe dy wely oddi tanat ? Na symud mo’r hen derfyn , yr hwn a osododd dy dadau . A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl ? efe a saif gerbron brenhinoedd , ac ni saif gerbron rhai iselradd . Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog , ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron : A gosod gyllell ar dy geg , os byddi ddyn blysig . Na ddeisyf ei ddanteithion ef : canys bwyd twyllodrus ydyw . Nac ymflina i ymgyfoethogi : dod heibio dy synnwyr dy hun . A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw ? canys golud yn ddiau a gymer adenydd , ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr . Na fwyta fwyd y drwg ei lygad ; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef . Canys fel y meddylia yn ei galon , felly efe a ddywed wrthyt , Bwyta ac yf ; a’i galon heb fod gyda thi . Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny , a’th eiriau melys a golli . Na lefara lle y clywo y ffôl : canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau . Na symud mo’r hen derfyn ; ac na ddos i feysydd yr amddifaid : Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol ; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di . Gosod dy galon ar addysg , a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth . Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn : os curi ef â gwialen , ni bydd efe farw . Cur ef â gwialen , a thi a achubi ei enaid rhag uffern . Fy mab , os dy galon di fydd doeth , fy nghalon innau a lawenycha ; Ie , fy arennau a grychneidiant , pan draetho dy wefusau di gyfiawnder . Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid : ond aros yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd . Canys yn ddiau y mae gwobr ; ac ni phalla dy ddisgwyliad . Erglyw , fy mab , a bydd ddoeth ; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd . Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win ; ymysg y rhai glythion ar gig . Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi : a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog . Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd : ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio . Prŷn y gwir , ac na werth ; felly doethineb , ac addysg , a deall . Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr ; a’r neb a genhedlo fab doeth , a lawenha o’i blegid . Dy dad a’th fam a lawenycha ; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda . Fy mab , moes i mi dy galon ; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i . Canys ffos ddofn yw putain : a phydew cyfyng yw y ddieithr . Ie , hi a gynllwyn fel gwilliad ; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion . I bwy y mae gwae ? i bwy y mae ochain ? i bwy y mae cynnen ? i bwy y mae dadwrdd ? ac i bwy y mae gwelïau heb achos ? i bwy y mae llygaid cochion ? I’r neb sydd yn aros wrth y gwin : i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig . Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch , pan ddangoso ei liw yn y cwpan , pan ymgynhyrfo yn iawn . Yn y diwedd efe a frath fel sarff , ac a biga fel neidr . Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr , a’th galon a draetha drawsedd . Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr , ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren . Curent fi , meddi , ac ni chlafychais ; dulient fi , ac nis gwybûm : pan ddeffrowyf , mi a af rhagof ; mi a’i ceisiaf drachefn . Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol ; ac na chwennych fod gyda hwynt : Canys eu calon a fyfyria anrhaith , a’u gwefusau a draetha flinder . Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ , a thrwy ddeall y sicrheir ef : A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd . Gŵr doeth sydd nerthol ; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth . Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel : a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch . Rhy uchel yw doethineb i ffôl ; ni egyr efe ei enau yn y porth . Y neb a fwriada ddrygau , a elwir yn ysgeler . Bwriad y ffôl sydd bechod ; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus . Os llwfrhei mewn amser cyfyngder , bychan yw dy nerth . Gwared y rhai a lusgir i angau : a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd ? Os dywedi , Wele , ni wyddom ni hyn : onid yw pwyswr y calonnau yn deall ? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid , oni ŵyr efe ? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred ? Fy mab , bwyta fêl , canys da yw ; a’r dil mêl , canys melys yw i’th enau . Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid : os cei di hi , yn ddiau fe fydd gwobr , a’th obaith ni phalla . Na chynllwyn di , O annuwiol , wrth drigfa y cyfiawn ; na anrheithia ei orffwysfa ef . Canys seithwaith y syrth y cyfiawn , ac efe a gyfyd drachefn : ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni . Pan syrthio dy elyn , na lawenycha : a phan dramgwyddo , na orfoledded dy galon : Rhag i’r Arglwydd weled , a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef , ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti . Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr ; na chenfigenna wrth yr annuwiolion : Canys ni bydd gwobr i’r drygionus : cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir . Fy mab , ofna yr Arglwydd a’r brenin , ac nac ymyrr â’r rhai anwastad : Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy : a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau ? Dyma hefyd bethau doethion . Nid da derbyn wyneb mewn barn . Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol , Cyfiawn wyt ; y bobl a’i melltithiant ef , cenhedloedd a’i ffieiddiant ef : Ond i’r neb a’i ceryddo , y bydd hyfrydwch ; a bendith dda a ddigwydd iddynt . Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn . Darpara dy orchwyl oddi allan , a dosbartha ef i ti yn y maes : ac wedi hynny adeilada dy dŷ . Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog : ac na huda â’th wefusau . Na ddywed , Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau ; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred . Mi a euthum heibio i faes y dyn diog , a heibio i winllan yr angall ; Ac wele , codasai drain ar hyd-ddo oll ; danadl a guddiasai ei wyneb ef ; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr . Gwelais hyn , a mi a ystyriais yn ddwys ; edrychais arno , a chymerais addysg . Ychydig gysgu , ychydig hepian , ychydig wasgu dwylo i gysgu : Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd , a’th angen fel gŵr arfog . Dyma hefyd ddiarhebion Solomon , y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda . Anrhydedd Duw yw dirgelu peth : ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan . Y nefoedd am uchder , y ddaear am ddyfnder , a chalon brenhinoedd , ni ellir eu chwilio . Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian , a daw i’r gof arian lestr . Tyn yr annuwiol o olwg y brenin , a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder . Nac ymogonedda gerbron y brenin ; ac na saf yn lle gwŷr mawr : Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt , Tyred yma i fyny , na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid . Na ddos allan i gynhennu ar frys : rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd , wedi dy gywilyddio gan dy gymydog . Ymresyma â’th gymydog ei hun : ond na ddatguddia gyfrinach i arall : Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti ; ac i’th gywilydd na thro ymaith . Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig . Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo , sydd fel anwyldlws euraid , a gwisg o aur rhagorol . Megis oerder eira yn amser cynhaeaf , yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant : canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid . Y neb a ymffrostio o achos gau rodd , sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law . Trwy hirymaros y bodlonir pendefig : a thafod esmwyth a dyr asgwrn . Pan gaffech fêl , bwyta a’th wasanaetho : rhag wedi dy lenwi ohono , i ti ei chwydu ef . Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog : rhag iddo flino arnat , a’th gasáu . Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog , sydd megis gordd , a chleddyf , a saeth lem . Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder , sydd megis dant wedi ei dorri , a throed wedi tyrfu . Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel , ac fel finegr ar nitr , felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist . Os dy elyn a newyna , portha ef â bara ; ac os sycheda , dod iddo ddiod i’w hyfed : Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef ; a’r Arglwydd a dâl i ti . Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith : felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar . Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ , na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang . Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig , yw newyddion da o wlad bell . Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus , sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr . Nid da bwyta llawer o fêl : ac felly chwilio eu hanrhydedd , nid anrhydedd yw . Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun , sydd megis dinas ddrylliog heb gaer . Megis ôd yr haf , neu law y cynhaeaf , felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd . Fel yr aderyn wrth grwydro , a’r wennol wrth ehedeg , felly y felltith ddiachos ni ddaw . Ffrewyll i farch , ffrwyn i asyn , a gwialen i gefn yr ynfyd . Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd ; rhag dy fod yn gyffelyb iddo . Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd ; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun . Y neb a yrro negesau gydag un angall , a dyr ymaith y traed , ac a yf golled . Nid gogyhyd esgeiriau y cloff : felly dameg yng ngenau ffyliaid . Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl ; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl . Fel draen yn myned i law dyn meddw ; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall . Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth , sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr . Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa ; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb . A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun ? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw . Y mae llew mawr ar y ffordd , medd y diog , y mae llew yn yr heolydd . Fel y drws yn troi ar ei golyn , felly y try y diog yn ei wely . Y diog a guddia ei law yn ei fynwes ; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn . Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun , na seithwyr yn adrodd rheswm . Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo , sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau . Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân , saethau , ac arfau marwolaeth ; Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog , ac a ddywed , Onid cellwair yr ydwyf ? Megis pan ddarfyddo y coed , y diffydd y tân : felly pryd na byddo athrodwr , derfydd y gynnen . Fel glo i’r marwor , a choed i’r tân ; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen . Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion , a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol . Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd ; felly y mae gwefusau poeth , a chalon ddrwg . Y digasog a ragrithia â’i wefusau , ac yn ei galon yn bwriadu twyll : Pan ddywedo efe yn deg , nac ymddiried iddo : canys y mae saith ffieidd‐dra yn ei galon ef . Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd : ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa . Y neb a gloddio bydew , a syrth ynddo ; a’r neb a dreiglo garreg , ato y dychwel . Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe ; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr . Nac ymffrostia o’r dydd yfory : canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod . Canmoled arall dydi , ac nid dy enau dy hun ; estron , ac nid dy wefusau dy hunan . Trom yw y garreg , a phwysfawr yw y tywod : ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau . Creulon yw llid , fel llifddwfr yw digofaint ; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen ? Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig . Ffyddlon yw archollion y caredig : ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus . Y dyn llawn a fathra y dil mêl : ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys . Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun , sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth . Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon ; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon . Nac ymado â’th gydymaith dy hun , a chydymaith dy dad ; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder : canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell . Bydd ddoeth , fy mab , a llawenycha fy nghalon ; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo . Y call a wêl y drwg yn dyfod , ac a ymgûdd : ond yr angall a ânt rhagddynt , ac a gosbir . Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr ; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr . Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo , cyfrifir hyn yn felltith iddo . Defni parhaus ar ddiwrnod glawog , a gwraig anynad , cyffelyb ydynt . Y mae yr hwn a’i cuddio hi , megis yn cuddio y gwynt , ac olew ei ddeheulaw , yr hwn a ymddengys . Haearn a hoga haearn : felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill . Y neb a gadwo ei ffigysbren , a fwyty o’i ffrwyth ef : a’r neb a wasanaetho ei feistr , a ddaw i anrhydedd . Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb : felly y mae calon dyn i ddyn . Ni lenwir uffern na distryw : felly ni lenwir llygaid dyn . Fel y tawddlestr i’r arian , a’r ffwrnais i’r aur : felly y mae gŵr i’w glod . Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith , eto nid ymedy ei ffolineb ag ef . Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid , a gofala am dy braidd . Canys cyfoeth ni phery byth : ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth ? Y gwair a flaendardda , a’r glaswellt a ymddengys , a llysiau y mynyddoedd a gesglir . Yr ŵyn a’th ddillada , ac o’r geifr y cei werth tir . Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti , yn fwyd i’th dylwyth , ac yn gynhaliaeth i’th lancesau . Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid : ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew . Oherwydd camwedd gwlad , aml fydd ei phenaethiaid : ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol , y pery hi yn hir . Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion , sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth . Y rhai a ymadawant â’r gyfraith , a ganmolant yr annuwiol : ond y neb a gadwant y gyfraith , a ymladd â hwynt . Dynion annuwiol ni ddeallant farn : ond y neb a geisiant yr Arglwydd , a ddeallant bob peth . Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb , na’r traws ei ffyrdd , er ei fod yn gyfoethog . Y neb a gadwo y gyfraith , sydd fab deallus : ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr , a gywilyddia ei dad . Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth , sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd . Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith , fydd ffiaidd ei weddi hefyd . Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg , a syrth yn ei bydew ei hun : ond y cyfiawn a feddianna ddaioni . Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun : ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan . Pan fyddo llawen y cyfiawn , y mae anrhydedd mawr : ond pan ddyrchafer yr annuwiolion , y chwilir am ddyn . Y neb a guddio ei bechodau , ni lwydda : ond y neb a’u haddefo , ac a’u gadawo , a gaiff drugaredd . Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol : ond y neb a galedo ei galon , a ddigwydda i ddrwg . Fel y llew rhuadus , a’r arth wancus , yw llywydd annuwiol i bobl dlodion . Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd : ond y neb a gasao gybydd‐dra , a estyn ei ddyddiau . Dyn a wnelo drawsedd i waed neb , a ffy i’r pwll ; nac atalied neb ef . Y neb a rodio yn uniawn , a waredir : ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd , a syrth ar unwaith . Y neb a lafurio ei dir , a ddigonir o fara : ond y neb a ganlyno oferwyr , a gaiff ddigon o dlodi . Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion : ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog , ni bydd digerydd . Nid da derbyn wyneb : canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam . Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi : ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno . Y neb a geryddo ddyn , a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod . Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam , ac a ddywed , Nid yw hyn gamwedd , sydd gymar i ddinistriwr . Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , a wneir yn fras . Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun , sydd ffôl : ond y neb a rodio yn bwyllog , a achubir . Y neb a roddo i’r tlawd , ni bydd angen arno : ond y neb a guddio ei lygaid , a gaiff lawer o felltithion . Pan ddyrchafer yr annuwiol , dynion a ymguddia : ond wedi darfod amdanynt , yr amlheir y cyfiawn . Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war , a ddryllir yn ddisymwth , fel na byddo meddyginiaeth . Pan amlhaer y cyfiawn , y bobl a lawenychant : ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu , y bobl a ocheneidia . Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad : ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid , a ddifa ei dda . Brenin trwy farn a gadarnha y wlad : ond y neb a garo anrhegion , a’i dinistria hi . Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog , sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef . Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl : ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen . Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion : ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod . Dynion gwatwarus a faglant ddinas : ond y doethion a droant ymaith ddigofaint . Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl , pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin , eto ni bydd llonyddwch . Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn : ond yr uniawn a gais ei enaid ef . Y ffôl a dywallt ei holl feddwl : ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl . Os llywydd a wrendy ar gelwydd , ei holl weision fyddant annuwiol . Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant ; a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau . Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon , ei orsedd a sicrheir byth . Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb : ond mab a gaffo ei rwysg ei hun , a gywilyddia ei fam . Pan amlhao y rhai annuwiol , yr amlha camwedd : ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy . Cerydda dy fab , ac efe a bair i ti lonyddwch ; ac a bair hyfrydwch i’th enaid . Lle ni byddo gweledigaeth , methu a wna y bobl : ond y neb a gadwo y gyfraith , gwyn ei fyd ef . Ni chymer gwas addysg ar eiriau : canys er ei fod yn deall , eto nid etyb . A weli di ddyn prysur yn ei eiriau ? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef . Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd , o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo . Gŵr dicllon a ennyn gynnen ; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd . Balchder dyn a’i gostwng ef : ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd . Y neb a fo cyfrannog â lleidr , a gasâ ei enaid ei hun : efe a wrendy ar felltith , ac nis mynega . Ofn dyn sydd yn dwyn magl : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir . Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd : ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn . Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn : a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd . Geiriau Agur mab Jace , sef y broffwydoliaeth : y gŵr a lefarodd wrth Ithiel , wrth Ithiel , meddaf , ac Ucal . Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb , ac nid oes deall dyn gennyf . Ni ddysgais ddoethineb , ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd . Pwy a esgynnodd i’r nefoedd , neu a ddisgynnodd ? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau ? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn ? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear ? beth yw ei enw ef , a pheth yw enw ei fab , os gwyddost ? Holl air Duw sydd bur : tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo . Na ddyro ddim at ei eiriau ef , rhag iddo dy geryddu , a’th gael yn gelwyddog . Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt , na omedd hwynt i mi cyn fy marw . Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd ; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth ; portha fi â’m digonedd o fara . Rhag i mi ymlenwi , a’th wadu di , a dywedyd , Pwy yw yr Arglwydd ? a rhag i mi fyned yn dlawd , a lladrata , a chymryd enw fy Nuw yn ofer . Nac achwyn ar was wrth ei feistr , rhag iddo dy felltithio , a’th gael yn euog . Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad , a’i mam ni fendithia . Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun , er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid . Y mae cenhedlaeth , O mor uchel yw ei llygaid ! a’i hamrantau a ddyrchafwyd . Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau , a’i childdannedd yn gyllyll , i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear , a’r anghenus o blith dynion . I’r gele y mae dwy ferch , yn llefain , Moes , moes . Tri pheth ni ddiwellir : ie , pedwar peth ni ddywedant byth , Digon : Y bedd ; y groth amhlantadwy ; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd ; a’r tân ni ddywed , Digon . Llygad yr hwn a watwaro ei dad , ac a ddiystyro ufuddhau ei fam , a dynn cigfrain y dyffryn , a’r cywion eryrod a’i bwyty . Tri pheth sydd guddiedig i mi ; ie , pedwar peth nid adwaen : Ffordd eryr yn yr awyr , ffordd neidr ar graig , ffordd llong yng nghanol y môr , a ffordd gŵr gyda morwyn . Felly y mae ffordd merch odinebus ; hi a fwyty , ac a sych ei safn , ac a ddywed , Ni wneuthum i anwiredd . Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear , ac oherwydd pedwar , y rhai ni ddichon hi eu dioddef : Oherwydd gwas pan deyrnaso ; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd ; Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi ; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres . Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear , ac eto y maent yn ddoeth iawn : Nid yw y morgrug bobl nerthol , eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf ; Y cwningod nid ydynt bobl rymus , eto hwy a wnânt eu tai yn y graig ; Y locustiaid nid oes brenin iddynt , eto hwy a ânt allan yn dorfeydd ; Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo , ac y mae yn llys y brenin . Y mae tri pheth a gerddant yn hardd , ie , pedwar peth a rodiant yn weddus : Llew cryf ymhlith anifeiliaid , ni thry yn ei ôl er neb ; Milgi cryf yn ei feingefn , a bwch , a brenin , yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn . Os buost ffôl yn ymddyrchafu , ac os meddyliaist ddrwg , dyro dy law ar dy enau . Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn , a gwasgu ffroenau a dynn allan waed : felly cymell llid a ddwg allan gynnen . Geiriau Lemwel frenin ; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo . Pa beth , fy mab ? pa beth , mab fy nghroth ? ie , pa beth , mab fy addunedau ? Na ddyro i wragedd dy nerth ; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd . Nid gweddaidd i frenhinoedd , O Lemwel , nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin ; nac i benaduriaid ddiod gadarn : Rhag iddynt yfed , ac ebargofi y ddeddf ; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig . Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano ; a gwin i’r rhai trwm eu calon . Yfed efe , fel yr anghofio ei dlodi ; ac na feddylio am ei flinfyd mwy . Agor dy enau dros y mud , yn achos holl blant dinistr . Agor dy enau , barn yn gyfiawn ; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus . Pwy a fedr gael gwraig rinweddol ? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl . Calon ei gŵr a ymddiried ynddi , fel na bydd arno eisiau anrhaith . Hi a wna iddo les , ac nid drwg , holl ddyddiau ei bywyd . Hi a gais wlân a llin , ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar . Tebyg yw hi i long marsiandwr ; hi a ddwg ei hymborth o bell . Hi a gyfyd hefyd liw nos , ac a rydd fwyd i’w thylwyth , a’u dogn i’w llancesau . Hi a feddwl am faes , ac a’i prŷn ef ; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan . Hi a wregysa ei llwynau â nerth , ac a gryfha ei breichiau . Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol ; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos . Hi a rydd ei llaw ar y werthyd , a’i llaw a ddeil y cogail . Hi a egyr ei llaw i’r tlawd , ac a estyn ei dwylo i’r anghenus . Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira ; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad . Hi a weithia iddi ei hun garpedau ; ei gwisg yw sidan a phorffor . Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth , pan eisteddo gyda henuriaid y wlad . Hi a wna liain main , ac a’i gwerth , ac a rydd wregysau at y marsiandwr . Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg ; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd . Hi a egyr ei genau yn ddoeth : a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi . Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ : ac ni fwyty hi fara seguryd . Ei phlant a godant , ac a’i galwant yn ddedwydd ; ei gŵr hefyd , ac a’i canmol hi : Llawer merch a weithiodd yn rymus ; ond ti a ragoraist arnynt oll . Siomedig yw ffafr , ac ofer yw tegwch ; ond benyw yn ofni yr Arglwydd , hi a gaiff glod . Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo ; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth . Geiriau y Pregethwr , mab Dafydd , brenin yn Jerwsalem . Gwagedd o wagedd , medd y Pregethwr , gwagedd o wagedd ; gwagedd yw y cwbl . Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul ? Un genhedlaeth a â ymaith , a chenhedlaeth arall a ddaw : ond y ddaear a saif byth . Yr haul hefyd a gyfyd , a’r haul a fachlud , ac a brysura i’w le lle y mae yn codi . Y gwynt a â i’r deau , ac a amgylcha i’r gogledd : y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol , y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd . Yr holl afonydd a redant i’r môr , eto nid yw y môr yn llawn : o’r lle y daeth yr afonydd , yno y dychwelant eilwaith . Pob peth sydd yn llawn blinder ; ni ddichon dyn ei draethu : ni chaiff y llygad ddigon o edrych , ac ni ddigonir y glust â chlywed . Y peth a fu , a fydd ; a’r peth a wnaed , a wneir : ac nid oes dim newydd dan yr haul . A oes dim y gellir dywedyd amdano , Edrych ar hwn , dyma beth newydd ? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni . Nid oes goffa am y pethau gynt ; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw , gan y rhai a ddaw ar ôl . Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem ; Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb , am bob peth a wnaed dan y nefoedd : y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo . Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul ; ac wele , gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl . Ni ellir unioni yr hyn sydd gam , na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol . Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun , gan ddywedyd , Wele , mi a euthum yn fawr , ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem ; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth . Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb , ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb : mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd . Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig : a’r neb a chwanego wybodaeth , a chwanega ofid . Mi a ddywedais yn fy nghalon , Iddo yn awr , mi a’th brofaf â llawenydd ; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr : ac wele , hyn hefyd sydd wagedd . Mi a ddywedais am chwerthin , Ynfyd yw : ac am lawenydd , Pa beth a wna ? Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win , ( eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb , ) ac i gofleidio ffolineb , hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion , yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd . Mi a wneuthum i mi waith mawr ; mi a adeiledais i mi dai ; mi a blennais i mi winllannoedd : Mi a wneuthum erddi a pherllannau , ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth : Mi a wneuthum lynnau dwfr , i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed : Mi a ddarperais weision a morynion ; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ ; ie , yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid , tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem : Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur , a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau : mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau , a phob rhyw offer cerdd , difyrrwch meibion dynion . A mi a euthum yn fawr , ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem : a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi . A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid , ni omeddwn hwynt : ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd ; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur ; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur . Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo , ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur : ac wele , hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd , ac nid oedd dim budd dan yr haul . A mi a droais i edrych ar ddoethineb , ac ar ynfydrwydd a ffolineb : canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin ? y peth a wnaed eisoes . Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb , fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch . Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben ; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch : ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll . Yna y dywedais yn fy nghalon , Fel y digwydd i’r ffôl , y digwydd i minnau ; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach ? Yna y dywedais yn fy nghalon , fod hyn hefyd yn wagedd . Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd ; y pethau sydd yr awr hon , yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof : a pha fodd y mae y doeth yn marw ? fel yr annoeth . Am hynny cas gennyf einioes , canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul ; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl . Ie , cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul ; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i . A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe ? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais , ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul . Dyma wagedd hefyd . Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul . Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog , yn synhwyrol , ac yn uniawn : ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho . Hyn hefyd sydd wagedd , a gorthrymder mawr . Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon , yr hwn a gymerodd efe dan haul ? Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder , a’i lafur yn ofid : ie , ni chymer ei galon esmwythdra y nos . Hyn hefyd sydd wagedd . Nid oes daioni mwy i ddyn , nag iddo fwyta ac yfed , a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur . Hyn hefyd a welais , mai o law Duw yr oedd hyn . Canys pwy a ddichon fwyta , a phwy a’i mwynhâi , o’m blaen i ? Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef , y rhydd Duw ddoethineb , a gwybodaeth , a llawenydd ; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru , i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw . Hynny hefyd sydd wagedd , a gorthrymder ysbryd . Y mae amser i bob peth , ac amser i bob amcan dan y nefoedd : Amser i eni , ac amser i farw ; amser i blannu , ac amser i dynnu y peth a blannwyd ; Amser i ladd , ac amser i iacháu ; amser i fwrw i lawr , ac amser i adeiladu ; Amser i wylo , ac amser i chwerthin ; amser i alaru , ac amser i ddawnsio ; Amser i daflu cerrig ymaith , ac amser i gasglu cerrig ynghyd ; amser i ymgofleidio , ac amser i ochel ymgofleidio ; Amser i geisio , ac amser i golli ; amser i gadw , ac amser i fwrw ymaith ; Amser i rwygo , ac amser i wnïo ; amser i dewi , ac amser i ddywedyd ; Amser i garu , ac amser i gasáu ; amser i ryfel , ac amser i heddwch . Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio ? Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion , i ymflino ynddo . Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser : efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy , fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd . Mi a wn nad oes dim da ynddynt , ond bod i ddyn fod yn llawen , a gwneuthur daioni yn ei fywyd . A bod i bob dyn fwyta ac yfed , a mwynhau daioni o’i holl lafur ; rhodd Duw yw hynny . Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw , y bydd hynny byth ; ni ellir na bwrw ato , na thynnu dim oddi wrtho : ac y mae Duw yn gwneuthur hyn , fel yr ofnai dynion ger ei fron ef . Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon ; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen : Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio . Hefyd mi a welais dan yr haul le barn , yno yr oedd annuwioldeb ; a lle cyfiawnder , yno yr oedd anwiredd . Mi a ddywedais yn fy nghalon , Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn : canys y mae amser i bob amcan , ac i bob gwaith yno . Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion ; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt , ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt . Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid ; yr un digwydd sydd iddynt : fel y mae y naill yn marw , felly y bydd marw y llall ; ie , yr un chwythad sydd iddynt oll ; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail : canys gwagedd yw y cwbl . Y mae y cwbl yn myned i’r un lle : pob un sydd o’r pridd , a phob un a dry i’r pridd eilwaith . Pwy a edwyn ysbryd dyn , yr hwn sydd yn esgyn i fyny , a chwythad anifail , yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear ? Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun ; canys hyn yw ei ran ef : canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl ? Felly mi a ddychwelais , ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul : ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro ; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu , a hwythau heb neb i’w cysuro . A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw , yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto . Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed , yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul . A mi a welais fod pob llafur , a phob uniondeb gwaith dyn , yn peri iddo genfigen gan ei gymydog . Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd . Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd , ac a fwyty ei gnawd ei hun . Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch , na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd . Yna mi a droais , ac a welais wagedd dan yr haul . Y mae un yn unig , ac heb ail ; ie , nid oes iddo na mab na brawd ; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll : ie , ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth ; ni ddywed efe , I bwy yr ydwyf yn llafurio , ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch ? Hyn hefyd sydd wagedd , a dyma drafferth flin . Gwell yw dau nag un , o achos bod iddynt wobr da am eu llafur . Canys os syrthiant , y naill a gyfyd y llall : ond gwae yr unig ; canys pan syrthio efe , nid oes ail i’w gyfodi . Hefyd os dau a gydorweddant , hwy a ymgynhesant ; ond yr unig , pa fodd y cynhesa efe ? Ac os cryfach fydd un nag ef , dau a’i gwrthwynebant yntau ; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys . Gwell yw bachgen tlawd a doeth , na brenin hen ac ynfyd , yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach : Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu , a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth , yn myned yn dlawd . Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul , gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef . Nid oes diben ar yr holl bobl , sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt ; a’r rhai a ddêl ar ôl , ni lawenychant ynddo : gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd . Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw , a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid ; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg . Na fydd ry brysur â’th enau , ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw : canys Duw sydd yn y nefoedd , a thithau sydd ar y ddaear ; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml . Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer : ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau . Pan addunedech adduned i Dduw , nac oeda ei thalu : canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd ; y peth a addunedaist , tâl . Gwell i ti fod heb addunedu , nag i ti addunedu a bod heb dalu . Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu ; ac na ddywed gerbron yr angel , Amryfusedd fu : paham y digiai Duw wrth dy leferydd , a difetha gwaith dy ddwylo ? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd , ac mewn llawer o eiriau : ond ofna di Dduw . Os gweli dreisio y tlawd , a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad , na ryfedda o achos hyn : canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied ; ac y mae un sydd uwch na hwynt . Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth : wrth dir llafur y mae y brenin yn byw . Y neb a garo arian , ni ddigonir ag arian ; na’r neb a hoffo amldra , â chynnyrch . Hyn hefyd sydd wagedd . Lle y byddo llawer o dda , y bydd llawer i’w ddifa : pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog , ond eu gweled â’u llygaid ? Melys yw hun y gweithiwr , pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao : ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu . Y mae trueni blin a welais dan yr haul , cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog . Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin ; ac efe a ennill fab , ac nid oes dim yn ei law ef . Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth , y dychwel i fyned modd y daeth , ac ni ddwg ddim o’i lafur , yr hyn a ddygo ymaith yn ei law . A hyn hefyd sydd ofid blin ; yn hollol y modd y daeth , felly yr â efe ymaith : a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt ? Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch , mewn dicter mawr , gofid , a llid . Wele y peth a welais i : da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed , a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul , holl ddyddiau ei fywyd , y rhai a roddes Duw iddo : canys hynny yw ei ran ef . Ie , i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud ; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt , ac i gymryd ei ran , ac i lawenychu yn ei lafur ; rhodd Duw yw hyn . Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd ; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef . Y mae drwg a welais dan haul , a hwnnw yn fawr ymysg dynion : Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth , a golud , ac anrhydedd , heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai ; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni , ond estron a’i bwyty . Dyma wagedd , ac y mae yn ofid blin . Os ennill gŵr gant o blant , ac a fydd byw lawer o flynyddoedd , fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer , os ei enaid ni ddiwellir â daioni , ac oni bydd iddo gladdedigaeth ; mi a ddywedaf , mai gwell yw erthyl nag ef . Canys mewn oferedd y daeth , ac yn y tywyllwch yr ymedy , a’i enw a guddir â thywyllwch . Yntau ni welodd mo’r haul , ac ni wybu ddim : mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall . Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd , eto ni welodd efe ddaioni : onid i’r un lle yr â pawb ? Holl lafur dyn sydd dros ei enau , ac eto ni ddiwellir ei enaid ef . Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth ? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw ? Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid . Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd . Beth bynnag fu , y mae enw arno ; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe : ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef . Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd , beth yw dyn well ? Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer , y rhai a dreulia efe fel cysgod ? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul ? Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr ; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth . Gwell yw myned i dŷ galar , na myned i dŷ gwledd : canys hynny yw diwedd pob dyn ; a’r byw a’i gesyd at ei galon . Gwell yw dicter na chwerthin : canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon . Calon doethion fydd yn nhŷ y galar ; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd . Gwell yw gwrando sen y doeth , na gwrando cân ffyliaid . Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan . Dyma wagedd hefyd . Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth , a rhodd a ddifetha y galon . Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad : gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd . Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio : oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid . Na ddywed , Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn ? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn . Da yw doethineb gydag etifeddiaeth : ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul . Canys cysgod yw doethineb , a chysgod yw arian : ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog . Edrych ar orchwyl Duw : canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe ? Yn amser gwynfyd bydd lawen ; ond yn amser adfyd ystyria : Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall , er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef . Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd : y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder , ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni . Na fydd ry gyfiawn ; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth : paham y’th ddifethit dy hun ? Na fydd ry annuwiol ; ac na fydd ffôl : paham y byddit farw cyn dy amser ? Da i ti ymafael yn hyn ; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law : canys y neb a ofno Dduw , a ddaw allan ohonynt oll . Doethineb a nertha y doeth , yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas . Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni , ac ni phecha . Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder ; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio . Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon , ddarfod i ti dy hun felltithio eraill . Hyn oll a brofais trwy ddoethineb : mi a ddywedais , Mi a fyddaf ddoeth ; a hithau ymhell oddi wrthyf . Y peth sydd bell a dwfn iawn , pwy a’i caiff ? Mi a droais â’m calon i wybod , ac i chwilio , ac i geisio doethineb , a rheswm ; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb , sef ffolineb ac ynfydrwydd : Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau , y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau , a’i dwylo yn rhwymau : y neb sydd dda gan Dduw , a waredir oddi wrthi hi ; ond pechadur a ddelir ganddi . Wele , hyn a gefais , medd y Pregethwr , wrth chwilio o’r naill beth i’r llall , i gael y rheswm ; Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano , ac ni chefais : un gŵr a gefais ymhlith mil ; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais . Wele , hyn yn unig a gefais ; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn : ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion . Pwy sydd debyg i’r doeth ? a phwy a fedr ddeongl peth ? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb , a nerth ei wyneb ef a newidir . Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin , a hynny oherwydd llw Duw . Na ddos ar frys allan o’i olwg ef ; na saf mewn peth drwg : canys efe a wna a fynno ei hun . Lle y byddo gair y brenin , y mae gallu : a phwy a ddywed wrtho , Beth yr wyt ti yn ei wneuthur ? Y neb a gadwo y gorchymyn , ni wybydd oddi wrth ddrwg ; a chalon y doeth a edwyn amser a barn . Canys y mae amser a barn i bob amcan ; ac y mae trueni dyn yn fawr arno . Canys ni ŵyr efe beth a fydd : canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd ? Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd , i atal yr ysbryd ; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth : ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw ; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog . Hyn oll a welais i , a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul : y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo . Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol , y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd ; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly . Gwagedd yw hyn hefyd . Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan , am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg . Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith , ac estyn ei ddyddiau ef ; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant Dduw , y rhai a arswydant ger ei fron ef . Ond ni bydd daioni i’r annuwiol , ac ni estyn efe ei ddyddiau , y rhai sydd gyffelyb i gysgod ; am nad yw yn ofni gerbron Duw . Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear ; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus ; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn . Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd . Yna mi a ganmolais lawenydd , am nad oes dim well i ddyn dan haul , na bwyta ac yfed , a bod yn llawen : canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur , ddyddiau ei fywyd , y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul . Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb , ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear , ( canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos ; ) Yna mi a edrychais ar holl waith Duw , na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul : oblegid er i ddyn lafurio i geisio , eto nis caiff ; ie , pe meddyliai y doeth fynnu gwybod , eto ni allai efe gael hynny . Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon , i ddangos hyn oll ; bod y cyfiawn , a’r doethion , a’u gweithredoedd , yn llaw Duw : ni ŵyr dyn gariad , neu gas , wrth yr hyn oll sydd o’u blaen . Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd : yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn , ac i’r annuwiol ; i’r da ac i’r glân , ac i’r aflan ; i’r neb a abertha , ac i’r neb nid abertha : fel y mae y da , felly y mae y pechadur ; a’r neb a dyngo , fel y neb a ofno dyngu . Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul ; sef bod yr un diben i bawb : hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni , ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw , ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw . Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll , y mae gobaith : canys gwell yw ci byw na llew marw . Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw : ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw , ac nid oes iddynt wobr mwyach ; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd . Eu cariad hefyd , a’u cas , a’u cenfigen , a ddarfu yn awr ; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul . Dos , bwyta dy fwyd yn llawen , ac yf dy win â chalon hyfryd : canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd . Bydded dy ddillad yn wynion bob amser ; ac na fydded diffyg olew ar dy ben . Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd , y rhai a roddes efe i ti dan yr haul , holl ddyddiau dy oferedd : canys dyna dy ran di yn y bywyd yma , ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul . Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur , gwna â’th holl egni : canys nid oes na gwaith , na dychymyg , na gwybodaeth , na doethineb , yn y bedd , lle yr wyt ti yn myned . Mi a droais , ac a welais dan haul , nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym , na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn , na’r bwyd yn eiddo y doethion , na chyfoeth yn eiddo y pwyllog , na ffafr yn eiddo y cyfarwydd : ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll . Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser : fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol , ac fel yr adar a ddelir yn y delm ; felly y delir plant dynion yn amser drwg , pan syrthio arnynt yn ddisymwth . Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul , ac sydd fawr gennyf fi : Yr oedd dinas fechan , ac ynddi ychydig wŷr ; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi , ac a’i hamgylchynodd , ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn : A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth , ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb : eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw . Yna y dywedais , Gwell yw doethineb na nerth : er hynny dirmygir doethineb y tlawd , ac ni wrandewir ar ei eiriau ef . Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd , rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid . Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel ; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni . Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi ; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd . Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw ; a chalon y ffôl ar ei law aswy . Ie , y ffôl pan rodio ar y ffordd , sydd â’i galon yn pallu , ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl . Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn , nac ymado â’th le : canys ymostwng a ostega bechodau mawrion . Y mae drwg a welais dan yr haul , cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd : Gosodir ffolineb mewn graddau uchel , a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel . Mi a welais weision ar feirch , a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear . Y sawl a gloddio bwll , a syrth ynddo ; a’r neb a wasgaro gae , sarff a’i brath . Y sawl a symudo gerrig , a gaiff ddolur oddi wrthynt ; a’r neb a hollto goed , a gaiff niwed oddi wrthynt . Os yr haearn a byla , oni hoga efe y min , rhaid iddo roddi mwy o nerth : eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo . Os brath sarff heb swyno , nid gwell yw dyn siaradus . Geiriau genau y doeth sydd rasol : ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun . Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef : a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd . Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau : ni ŵyr neb beth a fydd ; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef ? Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt : canys ni fedr efe fyned i’r ddinas . Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti , a’th dywysogion yn bwyta yn fore . Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion , a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser , er cryfder , ac nid er meddwdod . Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad ; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni . Arlwyant wledd i chwerthin , a gwin a lawenycha y rhai byw ; ond arian sydd yn ateb i bob peth . Na felltithia y brenin yn dy feddwl ; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog : canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais , a pherchen adain a fynega y peth . Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd ; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau . Dyro ran i saith , a hefyd i wyth : canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear . Os bydd y cymylau yn llawn glaw , hwy a ddefnynnant ar y ddaear : ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren ; lle y syrthio y pren , yno y bydd efe . Y neb a ddalio ar y gwynt , ni heua ; a’r neb a edrycho ar y cymylau , ni feda . Megis na wyddost ffordd yr ysbryd , na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog ; felly ni wyddost waith Duw , yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl . Y bore heua dy had , a phrynhawn nac atal dy law : canys ni wyddost pa un a ffynna , ai hyn yma ai hyn acw , ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud . Melys yn ddiau yw y goleuni , a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul . Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd , a bod yn llawen ynddynt oll ; eto cofied ddyddiau tywyllwch ; canys llawer fyddant . Beth bynnag a ddigwydda , oferedd yw . Gwna yn llawen , ŵr ieuanc , yn dy ieuenctid , a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid , a rhodia yn ffyrdd dy galon , ac yng ngolwg dy lygaid : ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll . Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon , a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd : canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid . Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid , cyn dyfod y dyddiau blin , a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi , Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt : Cyn tywyllu yr haul , a’r goleuni , a’r lleuad , a’r sêr , a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw : Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ , ac y cryma y gwŷr cryfion , ac y metha y rhai sydd yn malu , am eu bod yn ychydig , ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri ; A chau y pyrth yn yr heolydd , pan fo isel sŵn y malu , a’i gyfodi wrth lais yr aderyn , a gostwng i lawr holl ferched cerdd : Ie , yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel , ac yr arswydant yn y ffordd , ac y blodeua y pren almon , ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich , ac y palla chwant : pan elo dyn i dŷ ei hir gartref , a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol : Cyn torri y llinyn arian , a chyn torri y cawg aur , a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon , neu dorri yr olwyn wrth y pydew . Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu , ac y dychwel yr ysbryd at Dduw , yr hwn a’i rhoes ef . Gwagedd o wagedd , medd y Pregethwr ; gwagedd yw y cwbl . A hefyd , am fod y Pregethwr yn ddoeth , efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl ; ie , efe a ystyriodd , ac a chwiliodd allan , ac a drefnodd ddiarhebion lawer . Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy ; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn , sef geiriau gwirionedd . Geiriau y doethion sydd megis symbylau , ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa , y rhai a roddir oddi wrth un bugail . Ymhellach hefyd , fy mab , cymer rybudd wrth y rhai hyn ; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer , a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd . Swm y cwbl a glybuwyd yw , Ofna Dduw , a chadw ei orchmynion : canys hyn yw holl ddyled dyn . Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn , a phob peth dirgel , pa un bynnag fyddo ai da ai drwg . Can y caniadau , eiddo Solomon . Cusaned fi â chusanau ei fin : canys gwell yw dy gariad na gwin . Oherwydd arogl dy ennaint daionus , ennaint tywalltedig yw dy enw : am hynny y llancesau a’th garant . Tyn fi , ni a redwn ar dy ôl . Y brenin a’m dug i i’w ystafellau : ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot ; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin : y rhai uniawn sydd yn dy garu . Du ydwyf fi , ond hawddgar , merched Jerwsalem , fel pebyll Cedar , fel llenni Solomon . Nac edrychwch arnaf , am fy mod yn ddu , ac am i’r haul edrych arnaf : meibion fy mam a ddigiasant wrthyf , gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill ; fy ngwinllan fy hun nis cedwais . Mynega i mi , yr hwn a hoffodd fy enaid , pa le yr wyt yn bugeilio , pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd : canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion ? Oni wyddost ti , y decaf o’r gwragedd , dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd , a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid . I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais , fy anwylyd . Hardd yw dy ruddiau gan dlysau , a’th wddf gan gadwyni . Tlysau o aur , a boglynnau o arian , a wnawn i ti . Tra yw y brenin ar ei fwrdd , fy nardus i a rydd ei arogl . Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr ; rhwng fy mronnau yr erys dros nos . Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi , yng ngwinllannoedd Engedi . Wele di yn deg , fy anwylyd , wele di yn deg ; y mae i ti lygaid colomennod . Wele di , fy anwylyd , yn deg , ac yn hawddgar ; ein gwely hefyd sydd iraidd . Swmerau ein tai sydd gedrwydd ; ein distiau sydd ffynidwydd . Rhosyn Saron , a lili y dyffrynnoedd , ydwyf fi . Megis lili ymysg y drain , felly y mae fy anwylyd ymysg y merched . Megis pren afalau ymysg prennau y coed , felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion : bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef , a’i ffrwyth oedd felys i’m genau . Efe a’m dug i’r gwindy , a’i faner drosof ydoedd gariad . Cynheliwch fi â photelau , cysurwch fi ag afalau ; canys claf ydwyf fi o gariad . Ei law aswy sydd dan fy mhen , a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio . Merched Jerwsalem , tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes , na chyffrôch , ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Dyma lais fy anwylyd ! wele ef yn dyfod , yn neidio ar y mynyddoedd , ac yn llamu ar y bryniau . Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd ; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared , yn edrych trwy y ffenestri , yn ymddangos trwy y dellt . Fy anwylyd a lefarodd , ac a ddywedodd wrthyf , Cyfod , fy anwylyd , a thyred di , fy mhrydferth : Canys wele , y gaeaf a aeth heibio , y glaw a basiodd , ac a aeth ymaith ; Gwelwyd y blodau ar y ddaear , daeth amser i’r adar i ganu , clywyd llais y durtur yn ein gwlad ; Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion , a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg . Cyfod di , fy anwylyd , a thyred di , fy mhrydferth . Fy ngholomen , yr hon wyt yn holltau y graig , yn lloches y grisiau , gad i mi weled dy wyneb , gad i mi glywed dy lais : canys dy lais sydd beraidd , a’th olwg yn hardd . Deliwch i ni y llwynogod , y llwynogod bychain , y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd : canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin . Fy anwylyd sydd eiddof fi , a minnau yn eiddo yntau ; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili . Hyd oni wawrio’r dydd , a chilio o’r cysgodau ; tro , bydd debyg , fy anwylyd , i iwrch , neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether . Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid : ceisiais ef , ac nis cefais . Codaf yn awr , ac af o amgylch y ddinas , trwy yr heolydd a’r ystrydoedd , ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid : ceisiais ef , ac nis cefais . Y gwylwyr , y rhai a aent o amgylch y ddinas , a’m cawsant : gofynnais , A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid ? Nid aethwn i nepell oddi wrthynt , hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid : deliais ef , ac nis gollyngais , hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam , ac i ystafell yr hon a’m hymddûg . Merched Jerwsalem , tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes , na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg , wedi ei pherarogli â myrr , ac â thus , ac â phob powdr yr apothecari ? Wele ei wely ef , sef yr eiddo Solomon ; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch , sef o gedyrn Israel . Hwynt oll a ddaliant gleddyf , wedi eu dysgu i ryfel , pob un â’i gleddyf ar ei glun , rhag ofn liw nos . Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus . Ei byst ef a wnaeth efe o arian , ei lawr o aur , ei lenni o borffor ; ei ganol a balmantwyd â chariad , i ferched Jerwsalem . Ewch allan , merched Seion , ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef , ac yn nydd llawenydd ei galon ef . Wele di yn deg , fy anwylyd , wele di yn deg ; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau ; dy wallt sydd fel diadell o eifr , y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead . Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif , y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa ; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen , ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil . Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad , a’th barabl yn weddus : dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad . Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd , yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau ; tarianau fil sydd yn crogi ynddo , i gyd yn estylch y cedyrn . Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili . Hyd oni wawrio’r dydd , a chilio o’r cysgodau , af i fynydd y myrr , ac i fryn y thus . Ti oll ydwyt deg , fy anwylyd ; ac nid oes ynot frycheuyn . Tyred gyda mi o Libanus , fy nyweddi , gyda mi o Libanus : edrych o ben Amana , o gopa Senir a Hermon , o lochesau y llewod , o fynyddoedd y llewpardiaid . Dygaist fy nghalon , fy chwaer a’m dyweddi ; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid , ag un gadwyn wrth dy wddf . Mor deg yw dy gariad , fy chwaer , a’m dyweddi ! pa faint gwell yw dy gariad na gwin , ac arogl dy olew na’r holl beraroglau ! Dy wefusau , fy nyweddi , sydd yn diferu fel dil mêl : y mae mêl a llaeth dan dy dafod , ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus . Gardd gaeëdig yw fy chwaer , a’m dyweddi : ffynnon gloëdig , ffynnon seliedig yw . Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau , a ffrwyth peraidd , camffir , a nardus ; Ie , nardus a saffrwn , calamus a sinamon , a phob pren thus , myrr , ac aloes , ynghyd â phob rhagorol berlysiau : Ffynnon y gerddi , ffynnon y dyfroedd byw , a ffrydiau o Libanus . Deffro di , ogleddwynt , a thyred , ddeheuwynt , chwyth ar fy ngardd , fel y gwasgarer ei pheraroglau : deued fy anwylyd i’w ardd , a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun . Deuthum i’m gardd , fy chwaer , a’m dyweddi : cesglais fy myrr gyda’m perarogl , bwyteais fy nil gyda’m mêl , yfais fy ngwin gyda’m llaeth : bwytewch , gyfeillion , yfwch , ie , yfwch yn helaeth , fy rhai annwyl . Myfi sydd yn cysgu , a’m calon yn neffro : llais fy anwylyd yw yn curo , gan ddywedyd , Fy chwaer , fy anwylyd , fy ngholomen , fy nihalog , agor i mi : canys llanwyd fy mhen â gwlith , a’m gwallt â defnynnau y nos . Diosgais fy mhais ; pa fodd y gwisgaf hi ? golchais fy nhraed ; pa fodd y diwynaf hwynt ? Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll ; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn . Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd ; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr , a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo . Agorais i’m hanwylyd ; ond fy anwylyd a giliasai , ac a aethai ymaith : fy enaid a lewygodd pan lefarodd : ceisiais , ac nis cefais ; gelwais ef , ond ni’m hatebodd . Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas , a’m cawsant , a’m trawsant , a’m harchollasant : gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf . Merched Jerwsalem , gorchmynnaf i chwi , os cewch fy anwylyd , fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad . Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall , y decaf o’r gwragedd ? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall , pan orchmynni i ni felly ? Fy anwylyd sydd wyn a gwridog , yn rhagori ar ddengmil . Ei ben fel aur coeth , ei wallt yn grych , yn ddu fel y frân . Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd , wedi eu golchi â llaeth , wedi eu gosod yn gymwys . Ei ruddiau fel gwely perlysiau , fel blodau peraidd : ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol . Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur , wedi eu llenwi o beryl : ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir . Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth : ei wynepryd fel Libanus , mor ddewisol â chedrwydd . Melys odiaeth yw ei enau ; ie , y mae efe oll yn hawddgar . Dyma fy anwylyd , dyma fy nghyfaill , O ferched Jerwsalem . I ba le yr aeth dy anwylyd , y decaf o’r gwragedd ? i ba le y trodd dy anwylyd ? fel y ceisiom ef gyda thi . Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd , i welyau y perlysiau , i ymborth yn y gerddi , ac i gasglu lili . Myfi wyf eiddo fy anwylyd , a’m hanwylyd yn eiddof finnau , yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili . Teg ydwyt ti , fy anwylyd , megis Tirsa , gweddus megis Jerwsalem , ofnadwy megis llu banerog . Tro dy lygaid oddi wrthyf , canys hwy a’m gorchfygasant : dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead . Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa , y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen , ac heb un yn ddiepil yn eu mysg . Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad . Y mae trigain o freninesau , ac o ordderchwragedd bedwar ugain , a llancesau heb rifedi . Un ydyw hi , fy ngholomen , fy nihalog ; unig ei mam yw hi , dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd : y merched a’i gwelsant , ac a’i galwasant yn ddedwydd ; y breninesau a’r gordderchwragedd , a hwy a’i canmolasant hi . Pwy yw hon a welir fel y wawr , yn deg fel y lleuad , yn bur fel yr haul , yn ofnadwy fel llu banerog ? Euthum i waered i’r ardd gnau , i edrych am ffrwythydd y dyffryn , i weled a flodeuasai y winwydden , a flodeuasai y pomgranadau . Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib . Dychwel , dychwel , y Sulamees ; dychwel , dychwel , fel yr edrychom arnat . Beth a welwch chwi yn y Sulamees ? Megis tyrfa dau lu . Mor deg yw dy draed mewn esgidiau , ferch pendefig ! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau , gwaith dwylo y cywraint . Dy fogail sydd fel gorflwch crwn , heb eisiau lleithder : dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili . Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid . Dy wddf fel tŵr o ifori ; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim ; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus . Dy ben sydd arnat fel Carmel , a gwallt dy ben fel porffor ; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd . Mor deg ydwyt , ac mor hawddgar , fy nghariad , a’m hyfrydwch ! Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden , a’th fronnau i’r grawnsypiau . Dywedais , Dringaf i’r balmwydden , ymaflaf yn ei cheinciau : ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden , ac arogl dy ffroenau megis afalau ; A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd , yn myned i waered yn felys , ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru . Eiddo fy anwylyd ydwyf fi , ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef . Tyred , fy anwylyd , awn i’r maes , a lletywn yn y pentrefi . Boregodwn i’r gwinllannoedd ; edrychwn a flodeuodd y winwydden , a agorodd egin y grawnwin , a flodeuodd y pomgranadau : yno y rhoddaf fy nghariad i ti . Y mandragorau a roddasant arogledd , ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau , newydd a hen , y rhai a rois i gadw i ti , fy anwylyd . O na bait megis brawd i mi , yn sugno bronnau fy mam ! pan y’th gawn allan , cusanwn di ; eto ni’m dirmygid . Arweiniwn , a dygwn di i dŷ fy mam , yr hon a’m dysgai : parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau . Ei law aswy fyddai dan fy mhen , a’i law ddeau a’m cofleidiai . Tynghedaf chwi , ferched Jerwsalem , na chyffrôch , ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch , ac yn pwyso ar ei hanwylyd ? Dan yr afallen y’th gyfodais : yno y’th esgorodd dy fam ; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg . Gosod fi megis sêl ar dy galon , fel sêl ar dy fraich : canys cariad sydd gryf fel angau ; eiddigedd sydd greulon fel y bedd : ei farwor sydd farwor tanllyd , a fflam angerddol iddynt . Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad , ac afonydd nis boddant : pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad , gan ddirmygu y dirmygid hynny . Y mae i ni chwaer fechan , ac nid oes fronnau iddi : beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani ? Os caer yw hi , ni a adeiladwn arni balas arian ; ac os drws yw hi , ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd . Caer ydwyf fi , a’m bronnau fel tyrau : yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd . Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon : efe a osododd y winllan i warcheidwaid ; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian . Fy ngwinllan sydd ger fy mron : mil a roddir i ti , Solomon , a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi . O yr hon a drigi yn y gerddi , y cyfeillion a wrandawant ar dy lais : pâr i mi ei glywed . Brysia , fy anwylyd , a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau . Gweledigaeth Eseia mab Amos , yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem , yn nyddiau Usseia , Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda . Gwrandewch , nefoedd ; clyw dithau , ddaear : canys yr Arglwydd a lefarodd , Megais a meithrinais feibion , a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn . Yr ych a edwyn ei feddiannydd , a’r asyn breseb ei berchennog : ond Israel nid edwyn , fy mhobl ni ddeall . O genhedlaeth bechadurus , pobl lwythog o anwiredd , had y rhai drygionus , meibion yn llygru : gwrthodasant yr Arglwydd , digiasant Sanct Israel , ciliasant yn ôl ! I ba beth y’ch trewir mwy ? cildynrwydd a chwanegwch : y pen oll sydd glwyfus , a’r holl galon yn llesg . O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo ; ond archollion , a chleisiau , a gwelïau crawnllyd : ni wasgwyd hwynt , ac ni rwymwyd , ac ni thynerwyd ag olew . Y mae eich gwlad yn anrheithiedig , eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân : eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd , ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef . Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan , megis llety mewn gardd cucumerau , megis dinas warchaeëdig . Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill , fel Sodom y buasem , a chyffelyb fuasem i Gomorra . Gwrandewch air yr Arglwydd , tywysogion Sodom ; clywch gyfraith ein Duw ni , pobl Gomorra . Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi ? medd yr Arglwydd : llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod , ac o fraster anifeiliaid breision ; gwaed bustych hefyd , ac ŵyn , a bychod , nid ymhyfrydais ynddynt . Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron , pwy a geisiodd hyn ar eich llaw , sef sengi fy nghynteddau ? Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer : arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf ; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau , cyhoeddi cymanfa ; anwiredd ydyw , sef yr uchel ŵyl gyfarfod . Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid : y maent yn faich arnaf ; blinais yn eu dwyn . A phan estynnoch eich dwylo , mi a guddiaf fy llygaid rhagoch : hefyd pan weddïoch lawer , ni wrandawaf : eich dwylo sydd lawn o waed . Ymolchwch , ymlanhewch , bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid ; peidiwch â gwneuthur drwg ; Dysgwch wneuthur daioni : ceisiwch farn , gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig , gwnewch farn i’r amddifad , dadleuwch dros y weddw . Deuwch yr awr hon , ac ymresymwn , medd yr Arglwydd : pe byddai eich pechodau fel ysgarlad , ânt cyn wynned â’r eira ; pe cochent fel porffor , byddant fel gwlân . Os byddwch ewyllysgar ac ufudd , daioni y tir a fwytewch . Ond os gwrthodwch , ac os anufuddhewch , â chleddyf y’ch ysir : canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd . Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain ! cyflawn fu o farn : lletyodd cyfiawnder ynddi ; ond yr awr hon lleiddiaid . Dy arian a aeth yn sothach , dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr : Dy dywysogion sydd gyndyn , ac yn gyfranogion â lladron ; pob un yn caru rhoddion , ac yn dilyn gwobrau : ni farnant yr amddifad , a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt . Am hynny medd yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , cadarn Dduw Israel , Aha , ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr , ac ymddialaf ar fy ngelynion . A mi a ddychwelaf fy llaw arnat , ac a lân buraf dy sothach , ac a dynnaf ymaith dy holl alcam . Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt , a’th gynghoriaid megis yn y dechrau : wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder , yn Dref ffyddlon . Seion a waredir â barn , a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder . A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd ; a’r rhai a ymadawant â’r Arglwydd , a ddifethir . Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch ; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch . Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio , ac fel gardd heb ddwfr iddi . A’r cadarn fydd fel carth , a’i weithydd fel gwreichionen : a hwy a losgant ill dau ynghyd , ac ni bydd a’u diffoddo . Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos , am Jwda a Jerwsalem . A bydd yn y dyddiau diwethaf , fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd , ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau ; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato . A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant , Deuwch , ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd , i dŷ Duw Jacob ; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd , a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef ; canys y gyfraith a â allan o Seion , a gair yr Arglwydd o Jerwsalem . Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd , ac a gerydda bobloedd lawer : a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau , a’u gwaywffyn yn bladuriau : ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl , ac ni ddysgant ryfel mwyach . Tŷ Jacob , deuwch , a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd . Am hynny y gwrthodaist dy bobl , tŷ Jacob , am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain , a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid , ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant . A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur , ac nid oes diben ar eu trysorau ; a’u tir sydd lawn o feirch , ac nid oes diben ar eu cerbydau . Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod ; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant , i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun : A’r gwrêng sydd yn ymgrymu , a’r bonheddig yn ymostwng : am hynny na faddau iddynt . Dos i’r graig , ac ymgûdd yn y llwch , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef . Uchel drem dyn a iselir , ac uchder dynion a ostyngir ; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw . Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel , ac ar bob dyrchafedig ; ac efe a ostyngir : Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus , ac ar holl dderw Basan , Ac ar yr holl fynyddoedd uchel , ac ar yr holl fryniau dyrchafedig , Ac ar bob tŵr uchel , ac ar bob magwyr gadarn , Ac ar holl longau Tarsis , ac ar yr holl luniau dymunol . Yna yr iselir uchelder dyn , ac y gostyngir uchder dynion : a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw . A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol . A hwy a ânt i dyllau y creigiau , ac i ogofau llychlyd , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef , pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear . Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian , a’i eilunod aur , y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli , i’r wadd ac i’r ystlumod : I fyned i agennau y creigiau , ac i gopâu y clogwyni , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef , pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear . Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau : canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono ? Canys wele , yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , a dynn ymaith o Jerwsalem , ac o Jwda , y gynhaliaeth a’r ffon , holl gynhaliaeth bara , a holl gynhaliaeth dwfr , Y cadarn , a’r rhyfelwr , y brawdwr , a’r proffwyd , y synhwyrol , a’r henwr , Y tywysog deg a deugain , a’r anrhydeddus , a’r cynghorwr , a’r crefftwr celfydd , a’r areithiwr huawdl . A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt , a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt . A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall , a phob un gan ei gymydog : y bachgen yn erbyn yr henwr , a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus , a ymfalchïa . Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad , gan ddywedyd , Y mae dillad gennyt , bydd dywysog i ni ; a bydded y cwymp hwn dan dy law di : Yntau a dwng yn y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Ni byddaf iachawr ; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad : na osodwch fi yn dywysog i’r bobl . Canys cwympodd Jerwsalem , a syrthiodd Jwda : oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd , i gyffroi llygaid ei ogoniant ef . Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn ; a’u pechod fel Sodom a fynegant , ac ni chelant : gwae eu henaid , canys talasant ddrwg iddynt eu hunain . Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn : canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt . Gwae yr anwir , drwg fydd iddo : canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo . Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn , a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt . O fy mhobl , y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni , a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant . Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau , ac yn sefyll i farnu y bobloedd . Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl , a’u tywysogion : canys chwi a borasoch y winllan ; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai . Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl , ac a faloch ar wynebau y tlodion ? medd Arglwydd Dduw y lluoedd . A’r Arglwydd a ddywedodd , Oherwydd balchïo o ferched Seion , a rhodio â gwddf estynedig , ac â llygaid gwamal , gan rodio a rhygyngu wrth gerdded , a thrystio â’u traed : Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion ; a’r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt . Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau , y rhwydwaith hefyd , a’r lloerawg wisgoedd , Y cadwynau , a’r breichledau , a’r moledau , Y penguwch , ac addurn y coesau , a’r ysnodennau , a’r dwyfronegau , a’r clustlysau , Y modrwyau , ac addurn y trwyn , Y gwisgoedd symudliw , a’r mentyll , a’r misyrnau , a’r crychnodwyddau , Y drychau hefyd , a’r lliain meinwych , a’r cocyllau , a’r gynau . A bydd yn lle perarogl , ddrewi ; bydd hefyd yn lle gwregys , rwygiad ; ac yn lle iawn drefn gwallt , foelni ; ac yn lle dwyfronneg , gwregys o sachliain ; a llosgfa yn lle prydferthwch . Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf , a’th gadernid trwy ryfel . A’i phyrth hi a ofidiant , ac a alarant : a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear . Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr , gan ddywedyd , Ein bara ein hun a fwytawn , a’n dillad ein hun a wisgwn : yn unig galwer dy enw di arnom ni ; cymer ymaith ein gwarth ni . Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch ac yn ogoniant ; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel . A bydd , am yr hwn a adewir yn Seion , ac a weddillir yn Jerwsalem , y dywedir wrtho , O sanct ; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem : Pan ddarffo i’r Arglwydd olchi budreddi merched Seion , a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol , mewn ysbryd barn , ac mewn ysbryd llosgfa . A’r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion , ac ar ei gymanfaoedd , gwmwl a mwg y dydd , a llewyrch tân fflamllyd y nos : canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn . A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres , ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw . Canaf yr awr hon i’m hanwylyd , ganiad fy anwylyd am ei winllan . Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon : Ac efe a’i cloddiodd hi , ac a’i digaregodd , ac a’i plannodd o’r winwydden orau , ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol , ac a drychodd winwryf ynddi : ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin , hithau a ddug rawn gwylltion . Ac yr awr hon , preswylwyr Jerwsalem , a gwŷr Jwda , bernwch , atolwg , rhyngof fi a’m gwinllan . Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan , nag a wneuthum ynddi ? paham , a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin , y dug hi rawn gwylltion ? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan : tynnaf ymaith ei chae , fel y porer hi ; torraf ei magwyr , fel y byddo hi yn sathrfa ; A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod : nid ysgythrir hi , ac ni chloddir hi ; ond mieri a drain a gyfyd : ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni . Diau , gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel , a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef : ac efe a ddisgwyliodd am farn , ac wele drais ; am gyfiawnder , ac wele lef . Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ , ac yn cydio maes wrth faes , hyd oni byddo eisiau lle , ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir . Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd , Yn ddiau bydd tai lawer , mawrion a theg , yn anghyfannedd heb drigiannydd . Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath , a lle homer a ddwg effa . Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn , a arhosant hyd yr hwyr , hyd oni enynno y gwin hwynt . Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn , a’r nabl , y dympan , a’r bibell , a’r gwin : ond am waith yr Arglwydd nid edrychant , a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant . Am hynny y caethgludwyd fy mhobl , am nad oes ganddynt wybodaeth : a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog , a’u lliaws a wywodd gan syched . Herwydd hynny yr ymehangodd uffern , ac yr agorodd ei safn yn anferth ; ac yno y disgyn eu gogoniant , a’u lliaws , a’u rhwysg , a’r hwn a lawenycha ynddi . A’r gwrêng a grymir , a’r galluog a ddarostyngir , a llygaid y rhai uchel a iselir . Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn ; a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder . Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer ; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision . Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd , a phechod megis â rhaffau men : Y rhai a ddywedant , Brysied , a phrysured ei orchwyl , fel y gwelom ; nesaed hefyd , a deued cyngor Sanct yr Israel , fel y gwypom . Gwae y rhai a ddywedant am y drwg , Da yw ; ac am y da , Drwg yw ; gan osod tywyllwch am oleuni , a goleuni am dywyllwch : y rhai a osodant chwerw am felys , a melys am chwerw . Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun , a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun . Gwae y rhai cryfion i yfed gwin , a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn : Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr , ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt . Am hynny , megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl , ac y difa y fflam y mân us : felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd , a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch ; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd , a dirmygu gair Sanct yr Israel . Am hynny yr enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , ac yr estynnodd efe ei law arnynt , ac a’u trawodd hwynt ; a chrynodd y mynyddoedd , a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan . Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell , ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear : ac wele , ar frys yn fuan y deuant . Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith ; ni huna yr un , ac ni chwsg : ac ni ddatodir gwregys ei lwynau , ac ni ddryllir carrai ei esgidiau . Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion , a’i holl fwâu yn anelog : carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr , a’i olwynion fel corwynt . Ei ruad fydd fel llew ; efe a rua fel cenawon llew : efe a chwyrna hefyd , ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth ; efe a ddianc hefyd , ac a’i dwg ymaith yn ddiogel , ac ni bydd achubydd . Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw , fel rhuad y môr : os edrychir ar y tir , wele dywyllwch , a chyfyngder , a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd . Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia , y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig , a’i odre yn llenwi y deml . Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny : chwech adain ydoedd i bob un : â dwy y cuddiai ei wyneb , ac â dwy y cuddiai ei draed , ac â dwy yr ehedai . A llefodd y naill wrth y llall , ac a ddywedodd , Sanct , Sanct , Sanct , yw Arglwydd y lluoedd , yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef . A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain , a’r tŷ a lanwyd gan fwg . Yna y dywedais , Gwae fi ! canys darfu amdanaf : oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi , ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo : canys fy llygaid a welsant y brenin , Arglwydd y lluoedd . Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid , ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel : Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau , ac a ddywedodd , Wele , cyffyrddodd hwn â’th wefusau , ac ymadawodd dy anwiredd , a glanhawyd dy bechod . Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd , Pwy a anfonaf ? a phwy a â drosom ni ? Yna y dywedais , Wele fi , anfon fi . Ac efe a ddywedodd , Dos , a dywed wrth y bobl hyn , Gan glywed clywch , ond na ddeellwch ; a chan weled gwelwch , ond na wybyddwch . Brasâ galon y bobl hyn , a thrymha eu clustiau , a chae eu llygaid ; rhag iddynt weled â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’u calon , a dychwelyd , a’u meddyginiaethu . Yna y dywedais , Pa hyd , Arglwydd ? Ac efe a atebodd , Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd , a’r tai heb ddyn , a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd , Ac i’r Arglwydd bellhau dynion , a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad . Ac eto bydd ynddi ddegwm , a hi a ddychwel , ac a borir ; fel y llwyfen a’r dderwen , y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt : felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi . Abu yn nyddiau Ahas mab Jotham , mab Usseia brenin Jwda , ddyfod o Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia , brenin Israel , i fyny tua Jerwsalem , i ryfela arni : ond ni allodd ei gorchfygu . A mynegwyd i dŷ Dafydd , gan ddywedyd , Syria a gydsyniodd ag Effraim . A’i galon ef a gyffrôdd , a chalon ei bobl , megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia , Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas , ti a Sear‐jasub dy fab , wrth ymyl pistyll y llyn uchaf , ym mhriffordd maes y pannwr : A dywed wrtho , Ymgadw , a bydd lonydd ; nac ofna , ac na feddalhaed dy galon , rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn , rhag angerdd llid Resin , a Syria , a mab Remaleia : Canys Syria , ac Effraim , a mab Remaleia , a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn , gan ddywedyd , Esgynnwn yn erbyn Jwda , a blinwn hi , torrwn hi hefyd atom , a gosodwn frenin yn ei chanol hi ; sef mab Tabeal . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ni saif , ac ni bydd hyn . Canys pen Syria yw Damascus , a phen Damascus yw Resin ; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl . Hefyd pen Effraim yw Samaria , a phen Samaria yw mab Remaleia . Oni chredwch , diau ni sicrheir chwi . A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd , Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw ; gofyn o’r dyfnder , neu o’r uchelder oddi arnodd . Ond Ahas a ddywedodd , Ni ofynnaf , ac ni themtiaf yr Arglwydd . A dywedodd yntau , Gwrandewch yr awr hon , tŷ Dafydd ; Ai bychan gennych flino dynion , oni flinoch hefyd fy Nuw ? Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd ; Wele , morwyn a fydd feichiog , ac a esgor ar fab , ac a eilw ei enw ef , Immanuel . Ymenyn a mêl a fwyty efe ; fel y medro ymwrthod â’r drwg , ac ethol y da . Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg , ac ethol y da , y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist , gan ei dau frenin . Yr Arglwydd a ddwg arnat ti , ac ar dy bobl , ac ar dŷ dy dadau , ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda , sef brenin Asyria . A bydd yn y dydd hwnnw , i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft , ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria : A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol , ac yng nghromlechydd y creigiau , ac yn yr ysbyddaid oll , ac yn y perthi oll . Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir , sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon , sef â brenin Asyria , y pen , a blew y traed ; a’r farf hefyd a ddifa efe . A bydd yn y dydd hwnnw , i ŵr fagu anner‐fuwch , a dwy ddafad : Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant , iddo fwyta ymenyn : canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir . A bydd y dydd hwnnw , fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol , yn fieri ac yn ddrain y bydd . Â saethau ac â bwâu y daw yno : canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad . Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau , ni ddaw yno ofn mieri na drain : ond bydd yn hebryngfa gwartheg , ac yn sathrfa defaid . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cymer i ti rol fawr , ac ysgrifenna arni â phin dyn , am Maher‐shalal‐has‐bas . A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon , Ureia yr offeiriad , a Sechareia mab Jeberecheia . A mi a neseais at y broffwydes ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Galw ei enw ef , Maher‐shalal‐has‐bas . Canys cyn y medro y bachgen alw , Fy nhad , neu , Fy mam , golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria . A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn , gan ddywedyd , Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa , y rhai sydd yn cerdded yn araf , a chymryd llawenydd o Resin , a mab Remaleia : Am hynny , wele , mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon , yn gryfion ac yn fawrion , sef brenin Asyria , a’i holl ogoniant ; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd , ac ar ei holl geulennydd ef . Ie , trwy Jwda y treiddia ef : efe a lifa , ac a â drosodd , efe a gyrraedd hyd y gwddf ; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di , O Immanuel . Ymgyfeillechwch , bobloedd , a chwi a ddryllir : gwrandewch , holl belledigion y gwledydd ; ymwregyswch , a chwi a ddryllir ; ymwregyswch , a chwi a ddryllir . Ymgynghorwch gyngor , ac fe a ddiddymir ; dywedwch y gair , ac ni saif : canys y mae Duw gyda ni . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref , ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn , gan ddywedyd , Na ddywedwch , Cydfwriad , wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn , Cydfwriad : nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt , ac na arswydwch . Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch ; a bydded efe yn ofn i chwi , a bydded efe yn arswyd i chwi : Ac efe a fydd yn noddfa ; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel , yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem . A llawer yn eu mysg a dramgwyddant , ac a syrthiant , ac a ddryllir , ac a rwydir , ac a ddelir . Rhwym y dystiolaeth , selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion . A minnau a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob , ac a wyliaf amdano . Wele fi a’r plant a roddes yr Arglwydd i mi , yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel : oddi wrth Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion . A phan ddywedant wrthych , Ymofynnwch â’r swynyddion , ac â’r dewiniaid , y rhai sydd yn hustyng , ac yn sibrwd : onid â’u Duw yr ymofyn pobl ? dros y byw at y meirw ? At y gyfraith , ac at y dystiolaeth : oni ddywedant yn ôl y gair hwn , hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt . A hwy a dramwyant trwyddi , yn galed arnynt ac yn newynog : a bydd pan newynont , yr ymddigiant , ac y melltithiant eu brenin a’u Duw , ac a edrychant i fyny . A hwy a edrychant ar y ddaear ; ac wele drallod a thywyllwch , niwl cyfyngder ; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch . Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid ; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali , ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr , tu hwnt i’r Iorddonen , yn Galilea y cenhedloedd . Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch , a welsant oleuni mawr : y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt . Amlheaist y genhedlaeth , ni chwanegaist lawenydd ; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf , ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail . Canys drylliaist iau ei faich ef , a ffon ei ysgwydd ef , gwialen ei orthrymwr , megis yn nydd Midian . Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst , a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed ; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân . Canys bachgen a aned i ni , mab a roddwyd i ni , a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef : a gelwir ei enw ef , Rhyfeddol , Cynghorwr , y Duw cadarn , Tad tragwyddoldeb , Tywysog tangnefedd . Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd , ar orseddfa Dafydd , ac ar ei frenhiniaeth ef , i’w threfnu hi , ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder , o’r pryd hwn , a hyd byth . Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob ; ac efe a syrthiodd ar Israel . A’r holl bobl a wybydd , sef Effraim a thrigiannydd Samaria , y rhai a ddywedant mewn balchder , ac mewn mawredd calon , Y priddfeini a syrthiasant , ond â cherrig nadd yr adeiladwn : y sycamorwydd a dorrwyd , ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd . Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef , ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd ; Y Syriaid o’r blaen , a’r Philistiaid hefyd o’r ôl : a hwy a ysant Israel yn safnrhwth . Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd , ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd . Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon , cangen a brwynen , yn yr un dydd . Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen : a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd , efe yw y gynffon . Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni , a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt . Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy , ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia : canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus , a phob genau yn traethu ynfydrwydd . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Oherwydd anwiredd a lysg fel tân ; y mieri a’r drain a ysa efe , ac a gynnau yn nrysni y coed ; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg . Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear , ac y bydd y bobl fel ymborth tân : nid eiriach neb ei frawd . Ac efe a gipia ar y llaw ddeau , ac a newyna ; bwyty hefyd ar y llaw aswy , ac nis digonir hwynt : bwytânt bawb gig ei fraich ei hun : Manasse , Effraim ; ac Effraim , Manasse : hwythau ynghyd yn erbyn Jwda . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir , a’r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder ; I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn , ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl : fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt , ac yr anrheithiont yr amddifaid . A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad , ac yn y distryw a ddaw o bell ? at bwy y ffowch am gynhorthwy ? a pha le y gadewch eich gogoniant ? Hebof fi y crymant dan y carcharorion , a than y rhai a laddwyd y syrthiant . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Gwae Assur , gwialen fy llid , a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint . At genedl ragrithiol yr anfonaf ef , ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail , ac ysglyfaethu ysglyfaeth , a’u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd . Ond nid felly yr amcana efe , ac nid felly y meddwl ei galon ; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig . Canys efe a ddywed , Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd ? Onid fel Charcemis yw Calno ? onid fel Arpad yw Hamath ? onid fel Damascus yw Samaria ? Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod , a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria : Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod , felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau ? A bydd , pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion , ac yn Jerwsalem , yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur , ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef : Canys dywedodd , Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn , a thrwy fy noethineb ; oherwydd doeth ydwyf : ac mi a symudais derfynau pobloedd , a’u trysorau a ysbeiliais , ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus : A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth ; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado , y cesglais yr holl ddaear ; ac nid oedd a symudai adain , nac a agorai safn , nac a ynganai . A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi ? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno ? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny , neu megis pe ymddyrchafai y ffon , fel pe na byddai yn bren . Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , ymhlith ei freision ef gulni ; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân . A bydd goleuni Israel yn dân , a’i Sanct ef yn fflam : ac efe a lysg , ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd : Gogoniant ei goed hefyd , a’i ddoldir , a ysa efe , enaid a chorff : a byddant megis pan lesmeirio banerwr . A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi , fel y rhifo plentyn hwynt . A bydd yn y dydd hwnnw , na chwanega gweddill Israel , a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob , ymgynnal mwyach ar yr hwn a’u trawodd ; ond pwysant ar yr Arglwydd , Sanct Israel , mewn gwirionedd . Y gweddill a ddychwel , sef gweddill Jacob , at y Duw cadarn . Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr , gweddill ohonynt a ddychwel : darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder . Canys darfodedigaeth , a honno yn derfynedig , a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion , nac ofna rhag yr Asyriad : â gwialen y’th dery di , ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn , yn ôl ffordd yr Aifft . Canys eto ychydig bach , ac fe a dderfydd y llid , a’m digofaint yn eu dinistr hwy . Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef , megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb : ac fel y bu ei wialen ar y môr , felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft . A bydd yn y dydd hwnnw , y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di , a’i iau ef oddi ar dy war di ; a dryllir yr iau , oherwydd yr eneiniad . Daeth at Aiath , tramwyodd i Migron ; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw . Aethant trwy y rhyd , yn Geba y lletyasant : dychrynodd Rama ; Gibea Saul a ffoes . Bloeddia â’th lef , merch Galim : pâr ei chlywed hyd Lais , O Anathoth dlawd . Ymbellhaodd Madmena : trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi . Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob ; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion , bryn Jerwsalem . Wele , yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , yn ysgythru y gangen â dychryn : a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith , a’r rhai goruchel a ostyngir . Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn ; a Libanus trwy un cryf a gwymp . Yna y daw allan wialen o gyff Jesse ; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef ; ysbryd doethineb a deall , ysbryd cyngor a chadernid , ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd ; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd : ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe , nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe . Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder , ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb : ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau , ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir . A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef , a ffyddlondeb yn wregys ei arennau . A’r blaidd a drig gyda’r oen , a’r llewpard a orwedd gyda’r myn ; y llo hefyd , a chenau y llew , a’r anifail bras , fyddant ynghyd , a bachgen bychan a’u harwain . Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd ; eu llydnod a gydorweddant : y llew , fel yr ych , a bawr wellt . A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb ; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law . Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd : canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd , megis y mae y dyfroedd yn toi y môr . Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse , yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd : ag ef yr ymgais y cenhedloedd : a’i orffwysfa fydd yn ogoniant . Bydd hefyd yn y dydd hwnnw , i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl , y rhai a weddillir gan Asyria , a chan yr Aifft , a chan Pathros , a chan Ethiopia , a chan Elam , a chan Sinar , a chan Hamath , a chan ynysoedd y môr . Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd , ac a gynnull grwydraid Israel , ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear . Cenfigen Effraim a ymedy hefyd , a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith : ni chenfigenna Effraim wrth Jwda , ac ni chyfynga Jwda ar Effraim . Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin ; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain : hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab , a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt . Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft , ac â’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon , ac a’i tery hi yn y saith ffrwd , ac a wna fyned drosodd yn droetsych . A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria , megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft . Yna y dywedi yn y dydd hwnnw , Molaf di , O Arglwydd : er i ti sorri wrthyf , dychwelir dy lid , a thi a’m cysuri . Wele , Duw yw fy iachawdwriaeth ; gobeithiaf , ac nid ofnaf : canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân ; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth . Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth . A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw , Molwch yr Arglwydd , gelwch ar ei enw , hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd , cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef . Cenwch i’r Arglwydd ; canys godidowgrwydd a wnaeth efe : hysbys yw hyn yn yr holl dir . Bloeddia a chrochlefa , breswylferch Seion ; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di . Baich Babilon , yr hwn a welodd Eseia mab Amos . Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel , dyrchefwch lef atynt , ysgydwch law , fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion . Myfi a orchmynnais i’m rhai sanctaidd ; gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter , y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad . Llef tyrfa yn y mynyddoedd , yn gyffelyb i bobl lawer ; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull : Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel . Dyfod y maent o wlad bell , o eithaf y nefoedd ; sef yr Arglwydd , ac arfau ei lidiowgrwydd , i ddifa yr holl dir . Udwch ; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd ; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw . Am hynny yr holl ddwylo a laesa ; a chalon pob dyn a dawdd : A hwy a ofnant ; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt ; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant ; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda ; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd . Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod , yn greulon â digofaint a dicter llidiog , i osod y wlad yn ddiffeithwch ; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni . Canys sêr y nefoedd , a’u planedau , ni roddant eu llewyrch : yr haul a dywyllir yn ei godiad , a’r lloer ni oleua â’i llewyrch . A mi a ymwelaf â’r byd am ei ddrygioni , ac â’r annuwiolion am eu hanwiredd : a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio ; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy . Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth ; ie , dyn na chŷn o aur Offir . Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd , a’r ddaear a grŷn o’i lle , yn nigofaint Arglwydd y lluoedd , ac yn nydd llid ei ddicter ef . A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu , ac fel dafad heb neb a’i coleddo ; pawb a wynebant at eu pobl eu hun , a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant . Pob un a geffir ynddi a drywenir ; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf . Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid ; eu tai a ysbeilir , a’u gwragedd a dreisir . Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy , y rhai ni roddant fri ar arian ; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo . Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc , ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant : eu llygad nid eiriach y rhai bach . A Babilon , prydferthwch y teyrnasoedd , gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid , fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra . Ni chyfanheddir hi yn dragywydd , ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth ; ac ni phabella yr Arabiad yno , a’r bugeiliaid ni chorlannant yno . Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno ; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid , a chywion yr estrys a drigant yno , a’r ellyllon a lamant yno : A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi , a’r dreigiau yn y palasoedd hyfryd : a’i hamser sydd yn agos i ddyfod , a’i dyddiau nid oedir . Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob , ac a ddethol Israel eto , ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain : a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt , a hwy a lynant wrth dŷ Jacob . Y bobl hefyd a’u cymer hwynt , ac a’u dygant i’w lle , a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr Arglwydd , yn weision ac yn forynion : a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau , ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr . A bydd , yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid , ac oddi wrth dy ofn , ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo , I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon , a dywedyd , Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr ? ac y peidiodd y dref aur ? Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid , a theyrnwialen y llywiawdwyr . Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol , yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd , a erlidir heb neb yn lluddias . Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear ; canasant o lawenydd . Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn , gan ddywedyd , Er pan orweddaist , nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn . Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos , i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad : hi a gyfododd y meirw i ti , sef holl dywysogion y ddaear ; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd . Y rhai hynny oll a lefarant , ac a ddywedant wrthyt , A wanhawyd tithau fel ninnau ? a aethost ti yn gyffelyb i ni ? Disgynnwyd dy falchder i’r bedd , a thrwst dy nablau : tanat y taenir pryf , pryfed hefyd a’th doant . Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd , Lusiffer , mab y wawr ddydd ! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr , yr hwn a wanheaist y cenhedloedd ! Canys ti a ddywedaist yn dy galon , Mi a ddringaf i’r nefoedd ; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa ; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa , yn ystlysau y gogledd ; Dringaf yn uwch na’r cymylau ; tebyg fyddaf i’r Goruchaf . Er hynny i uffern y’th ddisgynnir , i ystlysau y ffos . Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff , ac a’th ystyriant , gan ddywedyd , Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu , ac a gynhyrfodd deyrnasoedd ? A osododd y byd fel anialwch , ac a ddinistriodd ei ddinasoedd , heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref ? Holl frenhinoedd y cenhedloedd , ie , hwy oll a orweddasant mewn gogoniant , bob un yn ei dŷ ei hun : Eithr tydi a fwriwyd allan o’th fedd , fel cangen ffiaidd , neu wisg y lladdedigion , y rhai a drywanwyd â chleddyf ; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos , fel celain wedi ei mathru . Ni byddi mewn un bedd â hwynt , oherwydd dy dir a ddifethaist , a’th bobl a leddaist : ni bydd had yr annuwiol enwog byth . Darperwch laddfa i’w feibion ef , am anwiredd eu tadau ; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir , a llenwi wyneb y byd â dinasoedd . Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt , medd Arglwydd y lluoedd , ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill , a mab , ac ŵyr , medd yr Arglwydd : Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn , ac yn byllau dyfroedd ; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw , medd Arglwydd y lluoedd . Tyngodd Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Diau megis yr amcenais , felly y bydd ; ac fel y bwriedais , hynny a saif ; Am ddryllio Assur yn fy nhir : canys mathraf ef ar fy mynyddoedd ; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt , ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt . Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear : a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd . Oherwydd Arglwydd y lluoedd a’i bwriadodd , a phwy a’i diddyma ? ei law ef hefyd a estynnwyd , a phwy a’i try yn ôl ? Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas , y bu y baich hwn . Palesteina , na lawenycha di oll , er torri gwialen dy drawydd : oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan , a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog . A chynblant y tlodion a ymborthant , a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch : a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn , yntau a ladd y weddill . Uda , borth ; gwaedda , ddinas ; Palesteina , ti oll a doddwyd : canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd , ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef . A pha beth a atebir i genhadau y genedl ? Seilio o’r Arglwydd Seion , ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi . Baich Moab . Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab , ac y distawyd hi ; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab , ac y distawyd hi . Aeth i fyny i Baith , ac i Dibon , i’r uchelfeydd , i wylo : am Nebo , ac am Medeba , yr uda Moab ; bydd moelni ar eu holl bennau , a phob barf wedi ei heillio . Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain : ar bennau eu tai , ac yn eu heolydd , yr uda pob un , gan wylo yn hidl . Gwaedda Hesbon hefyd , ac Eleale : hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt : am hynny arfogion Moab a floeddiant , pob un a flina ar ei einioes . Fy nghalon a waedda am Moab , ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar , fel anner deirblwydd ; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith : canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim . Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith : canys gwywodd y llysiau , darfu y gwellt ; nid oes gwyrddlesni . Am hynny yr helaethrwydd a gawsant , a’r hyn a roesant i gadw , a ddygant i afon yr helyg . Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab , eu hudfa hyd Eglaim , a’u hochain hyd Beer‐elim . Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed ; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon , llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab , ac ar weddill y wlad . Anfonwch oen i lywodraethwr y tir , o Sela i’r anialwch , i fynydd merch Seion . Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth ; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon . Ymgynghora , gwna farn , gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd ; cuddia y rhai gwasgaredig , na ddatguddia y crwydrad . Triged fy ngwasgaredigion gyda thi ; Moab , bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd ; canys diweddwyd y gorthrymydd , yr anrheithiwr a beidiodd , y mathrwyr a ddarfuant o’r tir . A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd ; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd , o fewn pabell Dafydd , yn barnu ac yn ceisio barn , ac yn prysuro cyfiawnder . Clywsom am falchder Moab , ( balch iawn yw , ) am ei falchder , a’i draha , a’i ddicllonedd : ond nid felly y bydd ei gelwyddau . Am hynny yr uda Moab am Moab , pob un a uda : am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch ; yn ddiau hwy a drawyd . Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant ; ac am winwydden Sibma , arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi ; hyd Jaser y cyraeddasant ; crwydrasant ar hyd yr anialwch ; ei changhennau a ymestynasant , ac a aethant dros y môr . Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser , gwinwydden Sibma ; dyfrhaf di , Hesbon , ac Eleale , â’m dagrau : canys ar dy ffrwythydd haf , ac ar dy gynhaeaf , y syrthiodd bloedd . Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd : ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd ; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd ; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio . Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn , a’m perfedd am Cir‐hares . A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan , yna y daw efe i’w gysegr i weddïo ; ond ni thycia iddo . Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab , er yr amser hwnnw . Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , O fewn tair blynedd , fel blynyddoedd gwas cyflog , y dirmygir gogoniant Moab , a’r holl dyrfa fawr ; a’r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym . Baich Damascus . Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas , a charnedd wedi syrthio a fydd hi . Gwrthodwyd dinasoedd Aroer : i ddiadellau y byddant , y rhai a orweddant , ac ni bydd a’u dychryno . A derfydd amddiffynfa o Effraim , a brenhiniaeth o Damascus , a gweddill Syria : fel gogoniant meibion Israel y byddant , medd Arglwydd y lluoedd . Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau , a braster ei gig ef a gulha . Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd , a medi â’i fraich y tywysennau : a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim . Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin , fel ysgydwad olewydden , sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig , a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf , medd Arglwydd Dduw Israel . Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr , a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel : Ac nid edrych am yr allorau , y rhai ydynt waith ei ddwylo ; ie , nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd , na’r llwyni , na’r delwau . Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig , a’r brig , y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel : felly y bydd anghyfanhedd‐dra . Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth , ac na chofiaist graig dy gadernid : am hynny y plenni blanhigion hyfryd , ac yr impi hwynt â changhennau dieithr . Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu , a’r bore y gwnei i’th had flodeuo : ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus . Gwae dyrfa pobloedd lawer , fel twrf y môr y trystiant ; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer . Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl ; a Duw a’u cerydda hwynt , a hwy a ffoant ymhell , ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt , ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt . Ac wele drallod ar brynhawn , a chyn y bore ni bydd . Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni , a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni . Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd , yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia : Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr , ac ar hyd wyneb y dyfroedd , mewn llestri brwyn , gan ddywedyd , Ewch , genhadon cyflym , at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig , at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto , cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru , yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir . Holl drigolion y byd , a phreswylwyr y ddaear , gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd , a chlywch pan utgano ag utgorn . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Byddaf lonydd , a mi a ystyriaf yn fy annedd , megis gwres eglur ar lysiau , fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf . Canys o flaen cynhaeaf , pan fyddo y blodeuyn yn berffaith , a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn : efe a dyr y brig â chrymanau , ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau . Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd , ac i anifeiliaid y ddaear : ac arnynt y bwrw yr adar yr haf , a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt . Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig , a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto , cenedl wedi ei mesur a’i sathru , yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir , i le enw Arglwydd y lluoedd , sef i fynydd Seion . Baich yr Aifft . Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn , ac efe a ddaw i’r Aifft : ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef , a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol . Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid , a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd , a phob un yn erbyn ei gymydog ; dinas yn erbyn dinas , a theyrnas yn erbyn teyrnas . Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol , a mi a ddiddymaf ei chyngor hi : yna yr ymofynnant ag eilunod , ac â swynyddion , ac â dewiniaid , ac â brudwyr . A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled ; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt , medd yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd . A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr , yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech . A hwy a droant yr afonydd ymhell ; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir , ac a sychant : torrir ymaith bob corsen a hesgen . Y papurfrwyn wrth yr afon , ar fin yr afon , a phob peth a heuwyd wrth yr afon , a wywa , a chwelir , ac ni bydd mwy . Y pysgodwyr hefyd a dristânt , a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant : felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt . Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin , a’r rhai a weant rwydwaith . A hwy a dorrir yn eu bwriadau , y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau . Diau ynfydion yw tywysogion Soan ; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd : pa fodd y dywedwch wrth Pharo , Mab y doethion ydwyf fi , mab hen frenhinoedd ? Mae hwynt ? mae dy ddoethion ? a mynegant i ti yr awr hon , a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft . Tywysogion Soan a ynfydasant ; twyllwyd tywysogion Noff , a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft . Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd ; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith , fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa . Ac ni bydd gwaith i’r Aifft , yr hwn a wnelo y pen na’r gloren , y gangen na’r frwynen . Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd ; canys hi a ddychryna , ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd , yr hon a ysgydwa efe arni hi . A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft : pwy bynnag a’i cofia hi , a ofna ynddo ei hun ; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd , yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi . Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan , ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd : Dinas distryw y gelwir un . Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft , a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi . Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft . Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr ; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth , ac efe a’u gwared hwynt . A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft ; ie , yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw : gwnânt hefyd aberth ac offrwm , ac addunant adduned i’r Arglwydd , ac a’i talant . Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft ; efe a’i tery , ac a’i hiachâ ; hwythau a droant at yr Arglwydd , ac efe a’u gwrendy hwynt , ac a’u hiachâ hwynt . A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria , ac yr â yr Asyriad i’r Aifft , a’r Eifftiad i Asyria : a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant . Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft , a chydag Asyria , sef yn fendith o fewn y tir : Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i , ac Asyria gwaith fy nwylo , ac Israel fy etifeddiaeth . Yn y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod , pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef , ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi ; Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Eseia mab Amos , gan ddywedyd , Dos , a datod y sachliain oddi am dy lwynau , a diosg dy esgidiau oddi am dy draed . Ac efe a wnaeth felly , gan rodio yn noeth , ac heb esgidiau . Dywedodd yr Arglwydd hefyd , Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft , ac yn erbyn Ethiopia ; Felly yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft , a chaethglud Ethiopia , sef yn llanciau a hynafgwyr , yn noethion ac heb esgidiau , ac yn dinnoeth , yn warth i’r Aifft . Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia eu gobaith hwynt , ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy . A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon , Wele , fel hyn y mae ein gobaith ni , lle y ffoesom am gymorth i’n gwared rhag brenin Asyria : a pha fodd y dihangwn ? Baich anialwch y môr . Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd ; felly y daw o’r anialwch , o wlad ofnadwy . Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi . Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni , a’r dinistrydd sydd yn dinistrio . Elam , dring ; Media , gwarchae ; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod . Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur ; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor ; syrthiais wrth ei glywed , brawychais wrth ei weled . Cyfeiliornodd fy nghalon , braw a’m dychrynodd ; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi . Paratoa y bwrdd , gwylia yn y ddisgwylfa , bwyta , yf ; cyfodwch , dywysogion ; eneiniwch y darian . Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Dos , gosod wyliedydd , myneged yr hyn a welo . Ac efe a welodd gerbyd , a dau o wŷr meirch , cerbyd asynnod , a cherbyd camelod ; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben . Ac efe a lefodd , Llew : fy arglwydd , ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad , ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos . Ac wele , yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr , a dau o wŷr meirch . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon ; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr . O fy nyrniad , a chnwd fy llawr dyrnu ! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , a fynegais i chwi . Baich Duma , Arnaf fi y mae yn galw o Seir , Y gwyliedydd , beth am y nos ? y gwyliedydd , beth am y nos ? y gwyliedydd , beth am y nos ? Dywedodd y gwyliedydd , Daeth y bore a’r nos hefyd : os ceisiwch , ceisiwch : dychwelwch , deuwch . Baich ar Arabia . Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi , fforddolion Dedanim . Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig , trigolion tir Tema , achubwch flaen y crwydrus â’i fara . Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant , rhag y cleddyf noeth , a rhag y bwa anelog , a rhag trymder rhyfel . Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi , Cyn pen blwyddyn , o fath blwyddyn gwas cyflog , y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar : A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar , a leiheir : canys Arglwydd Dduw Israel a’i dywedodd . Baich glyn gweledigaeth . Beth a ddarfu i ti yn awr , pan ddringaist ti oll i nennau y tai ? Ti yr hon wyt yn llawn terfysg , yn ddinas derfysgol , yn ddinas lawen : dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf , na’th feirw mewn rhyfel . Dy holl dywysogion a gydffoesant , gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt : y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd , y rhai a ffoesant o bell . Am hynny y dywedais , Edrychwch oddi wrthyf ; mi a wylaf yn chwerw , na lafuriwch fy nghysuro , am ddinistr merch fy mhobl . Oherwydd diwrnod blinder yw , a mathru , a drysni , gan Arglwydd Dduw y lluoedd , yng nglyn gweledigaeth , yn difurio y gaer , ac yn gweiddi i’r mynydd . Elam hefyd a ddug y cawell saethau , mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch ; Cir hefyd a ddinoethodd y darian . A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau , a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth . Ac efe a ddinoethodd do Jwda , ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig . A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd , mai aml oeddynt ; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf . Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem , a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur . A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn : ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr , nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm . A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain , ac i alarnad , ac i foeledd , ac i ymwregysu â sachliain : Ac wele lawenydd a gorfoledd , gan ladd gwartheg , a lladd defaid , gan fwyta cig , ac yfed gwin : bwytawn ac yfwn ; canys yfory , meddant , y byddwn feirw . A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd , Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn , hyd oni byddoch feirw , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Cerdda , dos at y trysorydd hwn , sef at Sebna , yr hwn sydd benteulu , a dywed , Beth sydd i ti yma ? a phwy sydd gennyt ti yma , pan drychaist i ti yma fedd , fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel , ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig ? Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost , a chan wisgo a’th wisg di . Gan dreiglo y’th dreigla di , fel treiglo pêl i wlad eang ; yno y byddi farw , ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr . Yna y’th yrraf o’th sefyllfa , ac o’th sefyllfa y dinistria efe di . Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia : A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef , ac â’th wregys di y nerthaf ef ; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di : ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem , ac i dŷ Jwda . Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef : yna yr egyr efe , ac ni bydd a gaeo ; ac efe a gae , ac ni bydd a agoro . A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr ; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad . Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad , hil ac epil ; yr holl fân lestri ; o’r llestri meiliau , hyd yr holl offer cerdd . Yn y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr , a hi a dorrir , ac a syrth : torrir hefyd y llwyth oedd arni ; canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Baich Tyrus . Llongau Tarsis , udwch : canys anrheithiwyd hi , fel nad oes na thŷ , na chyntedd : o dir Chittim y datguddiwyd iddynt . Distewch , drigolion yr ynys , yr hon y mae marchnadyddion Sidon , y rhai sydd yn tramwy y môr , yn dy lenwi . Ac wrth ddyfroedd lawer , had Sihor , cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi : felly marchnadfa cenhedloedd yw hi . Cywilyddia , Sidon ; canys y môr , ie , cryfder y môr , a lefarodd , gan ddywedyd , Nid ymddygais , ac nid esgorais , ni fegais wŷr ieuainc chwaith , ac ni feithrinais forynion . Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid , yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus . Ewch trosodd i Tarsis ; udwch , breswylyr yr ynys . Ai hon yw eich dinas lawen chwi , yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt ? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell . Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog , yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion , a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear ? Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn , i ddifwyno balchder pob gogoniant , ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear . Dos trwy dy wlad fel afon , O ferch Tarsis : nid oes nerth mwyach . Estynnodd ei law ar y môr , dychrynodd y teyrnasoedd ; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth , ddinistrio ei chadernid . Ac efe a ddywedodd , Ni chei orfoleddu mwyach , yr orthrymedig forwyn , merch Sidon ; cyfod , dos i Chittim ; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch . Wele dir y Caldeaid ; nid oedd y bobl hyn , nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch : dyrchafasant ei thyrau , cyfodasant ei phalasau ; ac efe a’i tynnodd hi i lawr . Llongau Tarsis , udwch ; canys anrheithiwyd eich nerth . A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain , megis dyddiau un brenin : ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain . Cymer y delyn , amgylchyna y ddinas , ti butain anghofiedig : cân gerdd yn dda : cân lawer fel y’th gofier . Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus , a hi a ddychwel at ei helw , ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear . Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r Arglwydd : ni thrysorir ac nis cedwir : canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth , i fwyta yn ddigonol , ac yn ddillad parhaus . Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag , ac yn ei difwyno hi ; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion . Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad , i’r gwas ac i’w feistr , i’r llawforwyn ac i’w meistres , i’r prynydd ac i’r gwerthydd , i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn , i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo . Gan wacáu y gwacéir , a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad ; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn . Galarodd a diflannodd y ddaear , llesgaodd a dadwinodd y byd , dihoenodd pobl feilchion y ddaear . Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr : canys troseddasant y cyfreithiau , newidiasant y deddfau , diddymasant y cyfamod tragwyddol . Am hynny melltith a ysodd y tir , a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd ; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd , ac ychydig ddynion a adawyd . Galarodd y gwin , llesgaodd y winwydden , y rhai llawen galon oll a riddfanasant . Darfu llawenydd y tympanau , peidiodd trwst y gorfoleddwyr , darfu hyfrydwch y delyn . Nid yfant win dan ganu ; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant . Drylliwyd y ddinas wagedd ; caewyd pob tŷ , fel na ddeler i mewn . Y mae llefain am win yn yr heolydd ; tywyllodd pob llawenydd , hyfrydwch y tir a fudodd ymaith . Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd , ag anrhaith hefyd y dryllir y porth . Oblegid bydd o fewn y tir , yng nghanol y bobloedd , megis ysgydwad olewydden , ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin . Hwy a ddyrchafant eu llef , ac a ganant ; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd , bloeddiant o’r môr . Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd , enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr . O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau , sef gogoniant i’r cyfiawn . A dywedais , O fy nghulni , O fy nghulni , gwae fi ! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon , ie , gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf . Dychryn , a ffos , a magl fydd arnat ti , breswylydd y ddaear . A’r hwn a ffy rhag trwst y dychryn , a syrth yn y ffos ; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos , a ddelir yn y fagl : oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd , a seiliau y ddaear sydd yn crynu . Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear , gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear , gan symud yr ymsymudodd y ddaear . Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn , ac a ymsigla megis bwth ; a’i chamwedd fydd drwm arni ; a hi a syrth , ac ni chyfyd mwy . Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel , yr hwn sydd yn yr uchelder , ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear . A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy , a hwy a garcherir mewn carchar , ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt . Yna y lleuad a wrida , a’r haul a gywilyddia , pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem , ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant . O Arglwydd , fy Nuw ydwyt ; dyrchafaf di , moliannaf dy enw ; canys gwnaethost ryfeddodau : dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd . Canys gosodaist ddinas yn bentwr , a thref gadarn yn garnedd ; palas dieithriaid , fel na byddo ddinas ; nid adeiledir hi byth . Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda , dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda : Canys buost nerth i’r tlawd , a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder , yn nodded rhag tymestl , yn gysgod rhag gwres , pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur . Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid ; sef gwres â chysgod cwmwl ; darostyngir cangen yr ofnadwy . Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion , gwledd o loyw‐win ; o basgedigion breision , a gloyw‐win puredig . Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd , a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd . Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth ; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb ; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear : canys yr Arglwydd a’i llefarodd . A’r dydd hwnnw y dywedir , Wele , dyma ein Duw ni ; gobeithiasom ynddo , ac efe a’n ceidw : dyma yr Arglwydd ; gobeithiasom ynddo , gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef . Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn , a Moab a sethrir tano , fel sathru gwellt mewn tomen . Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy , fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio ; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo . Felly y gogwydda , y gostwng , ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch , gadernid uchelder dy gaerau . Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda : Dinas gadarn sydd i ni ; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur . Agorwch y pyrth , fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn , yr hon a geidw wirionedd . Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti ; am ei fod yn ymddiried ynot . Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth ; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol . Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder ; tref uchel a ostwng efe : efe a’i darostwng hi i’r llawr , ac a’i bwrw hi i’r llwch . Troed a’i sathr hi , sef traed y trueiniaid , a chamre’r tlodion . Uniondeb yw llwybr y cyfiawn ; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn . Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom , Arglwydd ; dymuniad ein henaid sydd at dy enw , ac at dy goffadwriaeth . A’m henaid y’th ddymunais liw nos ; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf : canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder , pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear . Gwneler cymwynas i’r annuwiol , eto ni ddysg efe gyfiawnder ; yn nhir uniondeb y gwna ar gam , ac ni wêl uchelder yr Arglwydd . Ni welant , Arglwydd , pan ddyrchafer dy law : eithr cânt weled , a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl ; ie , tân dy elynion a’u hysa hwynt . Arglwydd , ti a drefni i ni heddwch : canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni . O Arglwydd ein Duw , arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni ; yn unig trwot ti y coffawn dy enw . Meirw ydynt , ni byddant fyw ; ymadawsant , ni chyfodant ; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt , dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt . Ychwanegaist ar y genedl , O Arglwydd , ychwanegaist ar y genedl ; ti a ogoneddwyd ; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear . Mewn adfyd , Arglwydd , yr ymwelsant â thi ; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt . Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr , pan fyddo agos i esgor ; felly yr oeddem o’th flaen di , Arglwydd . Beichiogasom , gofidiasom , oeddem fel ped esgorem ar wynt ; ni wnaethom ymwared ar y ddaear , a phreswylwyr y byd ni syrthiasant . Dy feirw a fyddant byw , fel fy nghorff i yr atgyfodant . Deffrowch a chenwch , breswylwyr y llwch : canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau , a’r ddaear a fwrw y meirw allan . Tyred , fy mhobl , dos i’th ystafelloedd , a chae dy ddrysau arnat : llecha megis ennyd bach , hyd onid elo y llid heibio . Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i fangre , i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear : a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed , ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion . Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â’i gleddyf caled , mawr , a chadarn , â lefiathan y sarff hirbraff , ie , â lefiathan y sarff dorchog : ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr . Yn y dydd hwnnw cenwch iddi , Gwinllan y gwin coch . Myfi yr Arglwydd a’i ceidw ; ar bob moment y dyfrhaf hi : cadwaf hi nos a dydd , rhag i neb ei drygu . Nid oes lidiowgrwydd ynof : pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel ? myfi a awn trwyddynt , mi a’u llosgwn hwynt ynghyd . Neu ymafled yn fy nerth i , fel y gwnelo heddwch â mi , ac efe a wna heddwch â mi . Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio ; Israel a flodeua , ac a flaendardda ; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd . A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef ? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef ? Wrth fesur , pan êl allan , yr ymddadlau ag ef : y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt . Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob ; a dyna’r holl ffrwyth , tynnu ymaith ei bechod : pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig , ni saif y llwyni na’r delwau . Eto y ddinas gadarn fydd unig , a’r annedd wedi ei adael , a’i wrthod megis yn anialwch : yno y pawr y llo , ac y gorwedd , ac y difa ei blagur hi . Pan wywo ei brig hi , hwy a dorrir : gwragedd a ddaw , ac a’i llosgant hi ; canys nid pobl ddeallgar ydynt : am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt , a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt . A’r dydd hwnnw y bydd i’r Arglwydd ddyrnu , o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft : a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un . Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr ; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria , a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft , ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem . Gwae goron balchder , meddwon Effraim ; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig , yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision , y rhai a orchfygwyd gan win . Wele , un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd , fel tymestl cenllysg , neu gorwynt dinistriol , fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd , yr hwn a fwrw i lawr â llaw . Dan draed y sethrir coron balchder , meddwon Effraim . Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant , yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras , fydd blodeuyn diflanedig , megis ffigysen gynnar cyn yr haf , yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni , efe a’i llwnc hi , a hi eto yn ei law . Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd , ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl ; Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn , ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth . Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win , ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn : yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn , difawyd hwy gan win , cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn , amryfusasant mewn gweledigaeth , tramgwyddasant mewn barn . Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi , heb le glân . I bwy y dysg efe wybodaeth ? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo ? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth , y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau . Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn , gorchymyn ar orchymyn ; llin ar lin , llin ar lin ; ychydig yma , ac ychydig acw . Canys â bloesgni gwefusau , ac â thafodiaith ddieithr , y llefara efe wrth y bobl hyn . Y rhai y dywedodd efe wrthynt , Dyma orffwystra , gadewch i’r diffygiol orffwyso , a dyma esmwythder ; ond ni fynnent wrando . Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn , yn orchymyn ar orchymyn ; yn llin ar lin , yn llin ar lin ; ychydig yma , ac ychydig acw ; fel yr elent ac y syrthient yn ôl , ac y dryllier , ac y magler , ac y dalier hwynt . Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd , ddynion gwatwarus , llywodraethwyr y bobl hyn , y rhai sydd yn Jerwsalem . Am i chwi ddywedyd , Gwnaethom amod ag angau , ac ag uffern y gwnaethom gynghrair ; pan ddêl ffrewyll lifeiriol , ni ddaw atom ni : canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd , a than ffalster y llechasom . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion , maen profedig , conglfaen gwerthfawr , sylfaen safadwy ; ni frysia yr hwn a gredo . A mi a osodaf farn wrth linyn , a chyfiawnder wrth bwys ; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd , a’r dyfroedd a foddant y lloches . A diddymir eich amod ag angau , a’ch cynghrair ag uffern ni saif ; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol , byddwch yn sathrfa iddi . O’r amser y delo , y cymer chwi : canys daw bob bore , ddydd a nos ; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir . Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo ; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo . Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim , efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon , i wneuthur ei waith , ei ddieithr waith ; ac i wneuthur ei weithred , ei ddieithr weithred . Ac yn awr na watwerwch , rhag cadarnhau eich rhwymau ; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir . Clywch , a gwrandewch fy llais ; ystyriwch , a gwrandewch fy lleferydd . Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau ? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir ? Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb , y taena efe y ffacbys , ac y gwasgar y cwmin , ac y bwrw y gwenith ardderchog , a’r haidd nodedig , a’r rhyg yn ei gyfle ? Canys ei Dduw a’i hyfforddia ef mewn synnwyr , ac a’i dysg ef . Canys nid ag og y dyrnir ffacbys , ac ni throir olwyn men ar gwmin ; eithr dyrnir ffacbys â ffon , a chwmin â gwialen . Yd bara a felir ; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol , ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen , ac nis mâl ef â’i wŷr meirch . Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor , ac ardderchog yn ei waith . Gwae Ariel , Ariel , y ddinas y trigodd Dafydd ynddi ! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn ; lladdant ebyrth . Eto mi a gyfyngaf ar Ariel , a bydd galar a griddfan ; a hi a fydd i mi fel Ariel . A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn , ac a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr , ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn . A thi a ostyngir ; o’r ddaear y lleferi , ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd ; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr , a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch . A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân , a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio ; ie , bydd yn ddisymwth ddiatreg . Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau , a thrwy ddaeargryn , a thwrf mawr , trwy gorwynt , a thymestl , a fflam dân ysol . Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel , fel breuddwyd gweledigaeth nos , sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa , ac a warchaeant arni . Ie , bydd megis newynog a freuddwydio , ac wele ef yn bwyta ; a phan ddeffrô , gwag fydd ei enaid : ac megis y sychedig a freuddwydio , ac wele ef yn yfed ; a phan ddeffrô , wele ef yn ddiffygiol , a’i enaid yn chwennych diod : felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion . Arefwch , a rhyfeddwch ; bloeddiwch , a gwaeddwch : meddwasant , ac nid trwy win ; penfeddwasant , ac nid trwy ddiod gadarn . Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg , ac a gaeodd eich llygaid chwi : eich proffwydi , a’ch penaethiaid , y gweledyddion , a orchuddiodd efe . A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig , yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr , gan ddywedyd , Darllen hwn , atolwg : yna y dywed , Ni allaf ; canys seliwyd ef . Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr , gan ddywedyd , Darllen hwn , atolwg : yna y dywed , Ni fedraf ar lyfr . Am hynny y dywedodd yr Arglwydd , Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau , ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau , a phellhau eu calon oddi wrthyf , a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion ; Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn , sef gwyrthiau a rhyfeddod : canys difethir doethineb eu doethion hwynt , a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia . Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd , ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch , ac a ddywedant , Pwy a’n gwêl ni ? a phwy a’n hedwyn ? Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi . Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd , Ni’m gwnaeth i ? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd , Nid yw ddeallus ? Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir , a’r doldir a gyfrifir yn goed ? A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr , a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch . A’r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd ; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel . Canys darfu am yr ofnadwy , a difethwyd y gwatwarus , a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith ; Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair , ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth , ac a wnânt i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a waredodd Abraham , am dŷ Jacob , Weithian ni chywilyddir Jacob , ac ni lasa ei wyneb ef . Eithr pan welo efe ei feibion , gwaith fy nwylo , o’i fewn , hwy a sancteiddiant fy enw , ie , sancteiddiant Sanct Jacob , ac a ofnant Dduw Israel . A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall , a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg . Gwae y meibion cyndyn , medd yr Arglwydd , a gymerant gyngor , ond nid gennyf fi ; ac a orchuddiant â gorchudd , ac nid o’m hysbryd i , i chwanegu pechod ar bechod : Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i’r Aifft , heb ymofyn â mi , i ymnerthu yn nerth Pharo , ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft . Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi , a’r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd . Canys bu ei dywysogion yn Soan , a’i genhadau a ddaethant i Hanes . Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt , ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd , eithr yn warth ac yn waradwydd . Baich anifeiliaid y deau . I dir cystudd ac ing , lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc , y wiber a’r sarff danllyd hedegog , y dygant eu golud ar gefnau asynnod , a’u trysorau ar gefnau camelod , at bobl ni wna les . Canys yn ddi‐les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid : am hynny y llefais arni , Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd . Dos yn awr , ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt , ac ysgrifenna mewn llyfr , fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd ; Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn , plant celwyddog , plant ni fynnant wrando cyfraith yr Arglwydd : Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion , Na welwch ; ac wrth y proffwydi , Na phroffwydwch i ni bethau uniawn ; traethwch i ni weniaith , proffwydwch i ni siomedigaeth : Ciliwch o’r ffordd , ciliwch o’r llwybr ; perwch i Sanct Israel beidio â ni . Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel , Am wrthod ohonoch y gair hwn , ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham , a phwyso ar hynny : Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio , yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg . Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd , gan guro heb arbed ; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o’r aelwyd , nac i godi dwfr o’r ffos . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Sanct Israel , Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig ; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid : ond ni fynnech . Eithr dywedasoch , Nid felly ; canys ni a ffown ar feirch ; am hynny y ffowch : a marchogwn ar feirch buain ; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio . Mil a ffy wrth gerydd un ; ac wrth gerydd pump y ffowch , hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd , ac fel baner ar fryn . Ac am hynny y disgwyl yr Arglwydd i drugarhau wrthych , ie , am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych ; canys Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd . Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho . Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem : gan wylo nid wyli ; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt ; wrth lef dy waedd , pan ei clywo , efe a’th ateb di . A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder , ond ni chornelir dy athrawon mwy , eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon : A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd , Dyma y ffordd , rhodiwch ynddi , pan bwysoch ar y llaw ddeau , neu pan bwysoch ar y llaw aswy . Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian , ac effod dy dawdd‐ddelw aur ; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf , a dywedi wrthynt , Dos ymaith . Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir , a bara cnwd y ddaear , ac efe a fydd yn dew ac yn aml ; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth . Dy ychen hefyd a’th asynnod , y rhai a lafuriant y tir , a borant ebran pur , yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr . Bydd hefyd ar bob mynydd uchel , ac ar bob bryn dyrchafedig , afonydd a ffrydiau dyfroedd , yn nydd y lladdfa fawr , pan syrthio y tyrau . A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul , a llewyrch yr haul fydd saith mwy , megis llewyrch saith niwrnod , yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl , ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt . Wele enw yr Arglwydd yn dyfod o bell , yn llosgi gan ei ddigofaint ef , a’i faich sydd drwm ; ei wefusau a lanwyd o ddicter , a’i dafod sydd megis tân ysol . Ei anadl hefyd , megis afon lifeiriol , a gyrraedd hyd hanner y gwddf , i nithio’r cenhedloedd â gogr oferedd ; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd , yn eu gyrru ar gyfeiliorn . Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl ; a llawenydd calon , megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd , at Gadarn yr Israel . A’r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais , ac a ddengys ddisgyniad ei fraich , mewn dicter llidiog , ac â fflam dân ysol , â gwasgarfa , ac â thymestl , ac â cherrig cenllysg . Canys â llais yr Arglwydd y distrywir Assur , yr hwn a drawai â’r wialen . A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog , yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef , gyda thympanau a thelynau y bydd : ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn . Canys darparwyd Toffet er doe , ie , paratowyd hi i’r brenin : efe a’i dyfnhaodd hi , ac a’i ehangodd : ei chyneuad sydd dân a choed lawer ; anadl yr Arglwydd , megis afon o frwmstan , sydd yn ei hennyn hi . Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy , ac a ymddiriedant mewn meirch , ac a hyderant ar gerbydau , am eu bod yn aml ; ac ar wŷr meirch , am eu bod yn nerthol iawn : ond nid edrychant am Sanct Israel , ac ni cheisiant yr Arglwydd . Eto y mae efe yn ddoeth , ac a ddaw â chosbedigaeth , ac ni eilw ei air yn ôl ; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus , ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd . Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion , ac nid Duw ; a’u meirch yn gnawd , ac nid yn ysbryd . Pan estynno yr Arglwydd ei law , yna y syrth y cynorthwywr , ac y cwymp y cynorthwyedig , a hwynt oll a gydballant . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth , yr hwn , er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn , ni ddychryn rhag eu llef hwynt , ac nid ymostwng er eu twrf hwynt : felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion , a thros ei fryn ef . Megis adar yn ehedeg , felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem ; gan amddiffyn a gwared , gan basio heibio ac achub . Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho . Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian , a’i eilunod aur , y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi . A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf , nid eiddo gŵr grymus ; a chleddyf , nid eiddo dyn gwael , a’i difa ef : ac efe a ffy rhag y cleddyf , a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth . Ac efe a â i’w graig rhag ofn ; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner , medd yr Arglwydd , yr hwn y mae ei dân yn Seion , a’i ffwrn yn Jerwsalem . Wele , brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder , a thywysogion a lywodraethant mewn barn . A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt , ac yn lloches rhag y dymestl ; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir , megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig . Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir , a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant . Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth , a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur . Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig , ac ni ddywedir am y cybydd , Hael yw . Canys coegwr a draetha goegni , a’i galon a wna anwiredd , i ragrithio , ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd , i ddiddymu enaid y newynog ; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu . Arfau y cybydd sydd ddrygionus : efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau , pan draetho yr anghenus yr uniawn . Ond yr hael a ddychymyg haelioni ; ac ar haelioni y saif efe . Cyfodwch , wragedd di‐waith ; clywch fy llais : gwrandewch fy ymadrodd , ferched diofal . Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi , wragedd difraw : canys darfu y cynhaeaf gwin , ni ddaw cynnull . Ofnwch , rai difraw ; dychrynwch , rai diofal : ymddiosgwch , ac ymnoethwch , a gwregyswch sachliain am eich llwynau . Galarant am y tethau , am y meysydd hyfryd , am y winwydden ffrwythlon . Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl , ie , ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd . Canys y palasau a wrthodir , lluosowgrwydd y ddinas a adewir , yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth , yn hyfrydwch asynnod gwylltion , yn borfa diadellau ; Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder , a bod yr anialwch yn ddoldir , a chyfrif y doldir yn goetir . Yna y trig barn yn yr anialwch , a chyfiawnder a erys yn y doldir . A gwaith cyfiawnder fydd heddwch ; ie , gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch , hyd byth . A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon , ac mewn anheddau diogel , ac mewn gorffwysfaoedd llonydd . Pan ddisgynno cenllysg ar y coed , ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel . Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd , y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno . Gwae di anrheithiwr , a thi heb dy anrheithio ; a thi anffyddlon , er na wnaed yn anffyddlon â thi : pan ddarffo i ti anrheithio , y’th anrheithir ; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon , byddant anffyddlon i ti . Arglwydd , trugarha wrthym ; wrthyt y disgwyliasom : bydd fraich iddynt bob bore , a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd . Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl ; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd . A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys ; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt . Dyrchafwyd yr Arglwydd ; canys preswylio y mae yn yr uchelder : efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder . A sicrwydd dy amserau , a nerth iachawdwriaeth , fydd doethineb a gwybodaeth : ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef . Wele , eu rhai dewrion a waeddant oddi allan : cenhadon heddwch a wylant yn chwerw . Aeth y priffyrdd yn ddisathr , darfu cyniweirydd llwybr : diddymodd y cyfamod , diystyrodd y dinasoedd , ni wnaeth gyfrif o ddynion . Galarodd a llesgaodd y ddaear ; cywilyddiodd Libanus , a thorrwyd ef ; Saron a aeth megis anialwch , ysgydwyd Basan hefyd a Charmel . Cyfodaf yn awr , medd yr Arglwydd : ymddyrchafaf weithian ; ymgodaf bellach . Chwi a ymddygwch us , ac a esgorwch ar sofl ; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi . A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch , fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân . Gwrandewch , belledigion , yr hyn a wneuthum ; a gwybyddwch , gymdogion , fy nerth . Pechaduriaid a ofnasant yn Seion , dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr : pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol ? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol ? Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder , ac a draetha uniondeb , a wrthyd elw trawster , a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr , a gaeo ei glust rhag clywed celanedd , ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni ; Efe a breswylia yr uchelderau ; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef : ei fara a roddir iddo , ei ddwfr fydd sicr . Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch : gwelant y tir pell . Dy galon a fyfyria ofn ; pa le y mae yr ysgrifennydd ? pa le y mae y trysorwr ? pa le y mae rhifwr y tyrau ? Ni chei weled pobl greulon , pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di , neu floesg dafod , fel na ddeallech . Gwêl Seion , dinas ein cyfarfod : dy lygaid a welant Jerwsalem , y breswylfa lonydd , y babell ni thynnir i lawr , ac ni syflir un o’i hoelion byth , ac ni thorrir un o’i rhaffau . Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni , yn fangre afonydd a ffrydiau llydain : y rhwyflong nid â trwyddo , a llong odidog nid â drosto . Canys yr Arglwydd yw ein barnwr , yr Arglwydd yw ein deddfwr , yr Arglwydd yw ein brenin ; efe a’n ceidw . Gollyngasant dy raffau , ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn , ni thaenasant yr hwyl ; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr , y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth . Ac ni ddywed y preswylydd , Claf ydwyf : maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi . Nesewch , genhedloedd , i glywed , a gwrandewch , bobloedd ; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi , y byd a’i holl gnwd . Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd , a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt : difrododd hwynt , rhoddes hwynt i’r lladdfa . A’u lladdedigion a fwrir allan , a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny , y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed hwynt . Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir , a’r nefoedd a blygir fel llyfr : a’i holl lu a syrth , fel y syrthiai deilen o’r winwydden , ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren . Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd : wele , ar Edom y disgyn i farn , ac ar y bobl a ysgymunais . Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed , tewychodd gan fraster , a chan waed ŵyn a bychod , gan fraster arennau hyrddod : canys mae i’r Arglwydd aberth yn Bosra , a lladdfa fawr yn nhir Edom . A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt , a’r bustych gyda’r teirw ; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt , a’u llwch fydd dew o fraster . Canys diwrnod dial yr Arglwydd , blwyddyn taledigaeth yn achos Seion , yw . A’i hafonydd a droir yn byg , a’i llwch yn frwmstan , a’i daear yn byg llosgedig . Nis diffoddir nos na dydd ; ei mwg a ddring byth : o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi ; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd . Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna ; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi ; ac efe a estyn arni linyn anhrefn , a meini gwagedd . Ei phendefigion hi a alwant i’r frenhiniaeth , ond ni bydd yr un yno , a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim . Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain , danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd : a hi a fydd yn drigfa dreigiau , yn gyntedd i gywion yr estrys . Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch , a’r cathod , a ymgyfarfyddant : yr ellyll a eilw ar ei gyfaill ; yr ŵyll a orffwys yno hefyd , ac a gaiff orffwysfa iddi . Yno y nytha y dylluan , ac y dodwa , ac y deora , ac a gasgl yn ei chysgod ; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd , pob un gyda’i gymar . Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd , a darllenwch ; ni phalla un o hyn , ni bydd un heb ei gymar ; canys fy ngenau , efe a orchmynnodd , a’i ysbryd , efe a’u casglodd hwynt . Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt , a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn : meddiannant hi hyd byth , a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth . Yr anialwch a’r anghyfanheddle a lawenychant o’u plegid ; y diffeithwch hefyd a orfoledda , ac a flodeua fel rhosyn . Gan flodeuo y blodeua , ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân : gogoniant Libanus a roddir iddo , godidowgrwydd Carmel a Saron : hwy a welant ogoniant yr Arglwydd , a godidowgrwydd ein Duw ni . Cadarnhewch y dwylo llesg , a chryfhewch y gliniau gweiniaid . Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon , Ymgryfhewch , nac ofnwch : wele , eich Duw chwi a ddaw â dial , ie , Duw â thaledigaeth ; efe a ddaw , ac a’ch achub chwi . Yna yr agorir llygaid y deillion , a chlustiau y byddarion a agorir . Yna y llama y cloff fel hydd , ac y cân tafod y mudan : canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch , ac afonydd yn y diffeithwch . Y crastir hefyd fydd yn llyn , a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd ; yn nhrigfa y dreigiau , a’u gorweddfa , y bydd cyfle corsennau a brwyn . Yna y bydd priffordd , a ffordd ; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi : yr halogedig nid â ar hyd‐ddi ; canys hi a fydd i’r rhai hynny : a rodio y ffordd , pe byddent ynfydion , ni chyfeiliornant . Ni bydd yno lew , a bwystfil gormesol ni ddring iddi , ac nis ceir yno ; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno . A gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant , ac a ddeuant i Seion â chaniadau , ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen : goddiweddant lawenydd a hyfrydwch , a chystudd a galar a ffy ymaith . Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia , y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda , ac a’u goresgynnodd hwynt . A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem , at y brenin Heseceia , â llu dirfawr . Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf , ym mhriffordd maes y pannwr . Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur . A dywedodd Rabsace wrthynt , Dywedwch yn awr wrth Heseceia , Fel hyn y dywed y brenin mawr , brenin Asyria , Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo ? Dywedais , meddi , ( ond nid ydynt ond geiriau ofer , ) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel : ar bwy , atolwg , yr hyderi , pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn ? Wele , hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno , ar yr Aifft ; yr hon pwy bynnag a bwyso arni , hi a â i gledr ei law ef , ac a dylla trwyddi : felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno . Ond os dywedi wrthyf , Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried : onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd , a’i allorau , a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem , O flaen yr allor hon yr addolwch ? Ac yn awr dod wystlon , atolwg , i’m harglwydd brenin Asyria , a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch , os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt . A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd , ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion ? Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinistrio ? yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos i fyny yn erbyn y wlad hon , a dinistria hi . Yna y dywedodd Eliacim , a Sebna , a Joa , wrth Rabsace , Llefara , atolwg , wrth dy weision yn Syriaeg : canys yr ydym ni yn ei deall ; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon , lle y clywo y bobl sydd ar y mur . Ond Rabsace a ddywedodd , Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn ? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi , fel y bwytaont eu tom eu hun , ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi ? A safodd Rabsace , a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon , ac a ddywedodd , Gwrandewch eiriau y brenin mawr , brenin Asyria : Fel hyn y dywed y brenin , Na thwylled Heseceia chwi : canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi . Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi , ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria . Na wrandewch ar Heseceia : canys fel hyn y dywed brenin Asyria , Gwnewch fwynder â mi , a deuwch allan ataf , a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun , a phob un o’i ffigysbren , ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun ; Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun , gwlad ŷd a gwin , gwlad bara a gwinllannoedd . Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’n gwared ni . A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria ? Mae duwiau Hamath ac Arffad ? mae duwiau Seffarfaim ? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i ? Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i , fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw ? Eithr hwy a dawsant , ac nid atebasant air iddo : canys gorchymyn y brenin oedd hyn , gan ddywedyd , Nac atebwch ef . Yna y daeth Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur , at Heseceia , â’u dillad yn rhwygedig , ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace . A Phan glybu y brenin Heseceia hynny , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ymwisgodd mewn sachliain , ac a aeth i dŷ yr Arglwydd . Ac a anfonodd Eliacim y penteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a henuriaid yr offeiriaid , wedi ymwisgo mewn sachliain , at Eseia y proffwyd mab Amos . A hwy a ddywedasant wrtho , Fel hyn y dywedodd Heseceia , Diwrnod cyfyngder , a cherydd , a chabledd , yw y dydd hwn : canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth , ond nid oes grym i esgor . Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace , yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw , ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw : am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael . Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia . A dywedodd Eseia wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ofna y geiriau a glywaist , trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi . Wele fi yn rhoddi arno ef wynt , ac efe a glyw sŵn , ac a ddychwel i’w wlad : gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun . Yna y dychwelodd Rabsace , ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna : canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis . Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia , gan ddywedyd , Efe a aeth allan i ryfela â thi . A phan glywodd hynny , efe a anfonodd genhadau at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Na thwylled dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo , gan ddywedyd , Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria . Wele , ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd , gan eu difrodi hwynt ; ac a waredir di ? A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt , y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio , sef Gosan , a Haran , a Reseff , a meibion Eden , y rhai oedd o fewn Telassar ? Mae brenin Hamath , a brenin Arffad , a brenin dinas Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau , ac a’i darllenodd ; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , ac a’i lledodd gerbron yr Arglwydd . A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd , gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid , ti ydwyt Dduw , ie , tydi yn unig , i holl deyrnasoedd y ddaear : ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear . Gogwydda , Arglwydd , dy glust , a gwrando ; agor dy lygaid , Arglwydd , ac edrych : gwrando hefyd holl eiriau Senacherib , yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw . Gwir yw , O Arglwydd , i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd , A rhoddi eu duwiau hwy yn tân ; canys nid oeddynt hwy dduwiau , ond gwaith dwylo dyn , o goed a maen : am hynny y dinistriasant hwynt . Yr awr hon gan hynny , O Arglwydd ein Duw , achub ni o’i law ef ; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd , tydi yn unig . Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria : Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef ; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd , ac a’th watwarodd ; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl . Pwy a ddifenwaist ac a geblaist ? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef , ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid ? yn erbyn Sanct Israel . Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd , ac y dywedaist , A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd , i ystlysau Libanus ; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd , a’i ddewis ffynidwydd ; af hefyd i’w gwr uchaf , ac i goed ei ddoldir . Myfi a gloddiais , ac a yfais ddwfr ; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig . Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm , a’i lunio er y dyddiau gynt ? yn awr y dygais hynny i ben , fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol . Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd : oeddynt megis gwellt y maes , fel gwyrddlysiau , a glaswellt ar bennau tai , neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu . Dy eisteddiad hefyd , a’th fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , a adnabûm , a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn . Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn , ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau ; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di , a’m ffrwyn yn dy weflau , ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost . A hyn fydd yn arwydd i ti , Heseceia : Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun ; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf ; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch , plennwch winllannoedd hefyd , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A’r gweddill o dŷ Jwda , yr hwn a adewir , a wreiddia eilwaith i waered , ac a ddwg ffrwyth i fyny . Canys gweddill a â allan o Jerwsalem , a’r rhai dihangol o fynydd Seion : sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria , Ni ddaw efe i’r ddinas hon , ac nid ergydia efe saeth yno ; hefyd ni ddaw o’i blaen â tharian , ac ni fwrw glawdd i’w herbyn . Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel , ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon , medd yr Arglwydd . Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon , i’w chadw hi er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . Yna yr aeth angel yr Arglwydd , ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd : a phan gyfodasant yn fore drannoeth , wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon . Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd , ac a aeth , ac a ddychwelodd , ac a drigodd yn Ninefe . A bu , fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw , i Adrammelech a Sareser ei feibion , ei daro ef â’r cleddyf ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia . Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw . Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Trefna dy dŷ ; canys marw fyddi , ac ni byddi byw . Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared , ac a weddïodd at yr Arglwydd : A dywedodd , Atolwg , Arglwydd , cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac â chalon berffaith , a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg . A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr . Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Eseia , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth Heseceia , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Clywais dy weddi di , gwelais dy ddagrau ; wele , mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd . Ac o law brenin Asyria y’th waredaf di a’r ddinas : a mi a ddiffynnaf y ddinas hon . A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd , y gwna yr Arglwydd y gair hwn a lefarodd ; Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau , yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda’r haul , ddeg o raddau yn ei ôl . Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau , ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd‐ddynt . Ysgrifen Heseceia brenin Jwda , pan glafychasai , a byw ohono o’i glefyd : Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau , Af i byrth y bedd ; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd . Dywedais , Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw : ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd . Fy nhrigfa a aeth , ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail : torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd ; â nychdod y’m tyr ymaith : o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf . Cyfrifais hyd y bore , mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn : o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf . Megis garan neu wennol , felly trydar a wneuthum ; griddfenais megis colomen ; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny : O Arglwydd , gorthrymwyd fi ; esmwythâ arnaf . Beth a ddywedaf ? canys dywedodd wrthyf , ac efe a’i gwna : mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid . Arglwydd , trwy y pethau hyn yr ydys yn byw , ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i ; felly yr iachei , ac y bywhei fi . Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw : ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth : canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn . Canys y bedd ni’th fawl di , angau ni’th glodfora : y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd . Y byw , y byw , efe a’th fawl di , fel yr wyf fi heddiw : y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd . Yr Arglwydd sydd i’m cadw : am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr Arglwydd . Canys Eseia a ddywedasai , Cymerant swp o ffigys , a rhwymant yn blastr ar y cornwyd , ac efe a fydd byw . A dywedasai Heseceia , Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr Arglwydd ? Yn yr amser hwnnw Merodach‐Baladan , mab Baladan , brenin Babilon , a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia : canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf , a’i fyned yn iach . A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt , ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau , yr arian , a’r aur , a’r llysieuau , a’r olew gwerthfawr , a holl dŷ ei arfau , a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef : nid oedd dim yn ei dŷ ef , nac yn ei holl gyfoeth ef , a’r nas dangosodd Heseceia iddynt . Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd y gwŷr hyn ? ac o ba le y daethant atat ? A dywedodd Heseceia , O wlad bell y daethant ataf fi , sef o Babilon . Yntau a ddywedodd , Beth a welsant hwy yn dy dŷ di ? A dywedodd Heseceia , Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant : nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt . Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia , Gwrando air Arglwydd y lluoedd . Wele y dyddiau yn dyfod , pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di , a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn : ni adewir dim , medd yr Arglwydd . Cymerant hefyd o’th feibion di , y rhai a ddaw ohonot , sef y rhai a genhedli , fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon . Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia , Da yw gair yr Arglwydd , yr hwn a leferaist . Dywedodd hefyd , Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i . Cysurwch , cysurwch fy mhobl , medd eich Duw . Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem , llefwch wrthi hi , gyflawni ei milwriaeth , ddileu ei hanwiredd : oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau . Llef un yn llefain yn yr anialwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch . Pob pant a gyfodir , a phob mynydd a bryn a ostyngir : y gŵyr a wneir yn union , a’r anwastad yn wastadedd . A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir , a phob cnawd ynghyd a’i gwêl ; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn . Y llef a ddywedodd , Gwaedda . Yntau a ddywedodd , Beth a waeddaf ? Pob cnawd sydd wellt , a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes . Gwywa y gwelltyn , syrth y blodeuyn ; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno : gwellt yn ddiau yw y bobl . Gwywa y gwelltyn , syrth y blodeuyn ; ond gair ein Duw ni a saif byth . Dring rhagot , yr efengyles Seion , i fynydd uchel ; dyrchafa dy lef trwy nerth , O efengyles Jerwsalem : dyrchafa , nac ofna ; dywed wrth ddinasoedd Jwda , Wele eich Duw chwi . Wele , yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn , a’i fraich a lywodraetha drosto : wele ei wobr gydag ef , a’i waith o’i flaen . Fel bugail y portha efe ei braidd ; â’i fraich y casgl ei ŵyn , ac a’u dwg yn ei fynwes , ac a goledda y mamogiaid . Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn , ac a fesurodd y nefoedd â’i rychwant , ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur , ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau , a’r bryniau mewn cloriannau ? Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd , ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef ? A phwy yr ymgynghorodd efe , ie , pwy a’i cyfarwyddodd , ac a’i dysgodd yn llwybr barn , ac a ddysgodd iddo wybodaeth , ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth ? Wele , y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn , ac fel mân lwch y cloriannau ; wele , fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny . Ac nid digon Libanus i gynnau tân ; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm . Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef ; yn llai na dim , ac na gwagedd , y cyfrifwyd hwynt ganddo . I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw ? a pha ddelw a osodwch iddo ? Y crefftwr a dawdd gerfddelw , a’r eurych a’i goreura , ac a dawdd gadwyni arian . Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra ; efe a gais ato saer cywraint , i baratoi cerfddelw , yr hon ni syfl . Oni wybuoch ? oni chlywsoch ? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad ? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear ? Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear , a’i thrigolion sydd fel locustiaid ; yr hwn a daena y nefoedd fel llen , ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi : Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim ; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear . Ie , ni phlennir hwynt , nis heuir chwaith ; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear : ac efe a chwyth arnynt , a hwy a wywant , a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel sofl . I bwy gan hynny y’m cyffelybwch , ac y’m cystedlir ? medd y Sanct . Dyrchefwch eich llygaid i fyny , ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn , a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi : efe a’u geilw hwynt oll wrth eu henwau ; gan amlder ei rym ef , a’i gadarn allu , ni phalla un . Paham y dywedi , Jacob , ac y lleferi , Israel , Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd , a’m barn a aeth heibio i’m Duw ? Oni wyddost , oni chlywaist , na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb , yr Arglwydd , Creawdwr cyrrau y ddaear ? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef . Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol , ac a amlha gryfder i’r di‐rym . Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina , a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant : Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth ; ehedant fel eryrod ; rhedant , ac ni flinant ; rhodiant , ac ni ddiffygiant . Distewch , ynysoedd , ger fy mron ; adnewydded y cenhedloedd eu nerth : deuant yn nes , yna llefarant ; cyd-nesawn i farn . Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain , a’i galwodd at ei droed , a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef , ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd ? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf , ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef . Y mae efe yn eu herlid hwynt , ac yn myned yn ddiogel ; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed . Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn , gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad ? Myfi yr Arglwydd y cyntaf , myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf . Yr ynysoedd a welsant , ac a ofnasant ; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant , a nesasant , ac a ddaethant . Pob un a gynorthwyodd ei gymydog , ac a ddywedodd wrth ei frawd , Ymgryfha . Felly y saer a gysurodd yr eurych , a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion , gan ddywedyd , Y mae yn barod i’w asio ; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion , fel nad ysgogir . Eithr ti , Israel , fy ngwas ydwyt ti , Jacob yr hwn a etholais , had Abraham fy anwylyd . Ti , yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear , ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion , ac y dywedais wrthyt , Fy ngwas wyt ti ; dewisais di , ac ni’th wrthodais . Nac ofna ; canys yr ydwyf fi gyda thi : na lwfrha ; canys myfi yw dy Dduw : cadarnhaf di , cynorthwyaf di hefyd , a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder . Wele , cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt : dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim , ac a ddifethir . Ti a’u ceisi , ac nis cei hwynt , sef y dynion a ymgynenasant â thi : y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim , a megis peth heb ddim . Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw , a ddywed wrthyt , Nac ofna , myfi a’th gynorthwyaf . Nac ofna , di bryf Jacob , gwŷr Israel ; myfi a’th gynorthwyaf , medd yr Arglwydd , a’th Waredydd , Sanct Israel . Wele , gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog ; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli , gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg . Nithi hwynt , a’r gwynt a’u dwg ymaith , a’r corwynt a’u gwasgar hwynt : a thi a lawenychi yn yr Arglwydd , yn Sanct Israel y gorfoleddi . Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr , ac nis cânt , pan ballo eu tafod o syched , myfi yr Arglwydd a’u gwrandawaf hwynt , myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt . Agoraf afonydd ar leoedd uchel , a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd : gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr , a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd . Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd , sita , myrtwydd , ac olewydd ; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd , ffawydd , a’r pren bocs ynghyd ; Fel y gwelont , ac y gwybyddont , ac yr ystyriont , ac y deallont ynghyd , mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn , a Sanct Israel a’i creodd . Deuwch yn nes â’ch cwyn , medd yr Arglwydd ; dygwch eich rhesymau cadarnaf , medd brenin Jacob . Dygant hwynt allan , a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant : mynegwch y pethau gynt , beth ydynt , fel yr ystyriom , ac y gwypom eu diwedd hwynt ; neu traethwch i ni y pethau a ddaw . Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn , fel y gwypom mai duwiau ydych chwi ; gwnewch hefyd dda neu ddrwg , fel y synno arnom , ac y gwelom ynghyd . Wele , peth heb ddim ydych chwi , a’ch gwaith sydd ddiddim : ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi . Cyfodais un o’r gogledd , ac efe a ddaw ; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw ; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai , ac fel y sathr crochenydd bridd . Pwy a fynegodd o’r dechreuad , fel y gwybyddom ? ac ymlaen llaw , fel y dywedom , Cyfiawn yw ? nid oes a fynega , nid oes a draetha chwaith , ac nid oes a glyw eich ymadroddion . Y cyntaf a ddywed wrth Seion , Wele , wele hwynt ; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem . Canys edrychais , ac nid oedd neb , ie , yn eu plith , ac nid oedd gynghorwr , pan ofynnais iddynt , a fedrai ateb gair . Wele , hwynt oll ydynt wagedd , a’u gweithredoedd yn ddiddim : gwynt a gwagedd yw eu tawdd‐ddelwau . Wele fy ngwas , yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal ; fy etholedig , i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon : rhoddais fy ysbryd arno ; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd . Ni waedda , ac ni ddyrchafa , ac ni phair glywed ei lef yn yr heol . Ni ddryllia gorsen ysig , ac ni ddiffydd lin yn mygu : efe a ddwg allan farn at wirionedd . Ni phalla efe , ac ni ddigalonna , hyd oni osodo farn ar y ddaear ; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd ; lledydd y ddaear a’i chnwd ; rhoddydd anadl i’r bobl arni , ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi : Myfi yr Arglwydd a’th elwais mewn cyfiawnder , ac ymaflaf yn dy law , cadwaf di hefyd , a rhoddaf di yn gyfamod pobl , ac yn oleuni Cenhedloedd ; I agoryd llygaid y deillion , i ddwyn allan y carcharor o’r carchar , a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy . Myfi yw yr Arglwydd ; dyma fy enw : a’m gogoniant ni roddaf i arall , na’m mawl i ddelwau cerfiedig . Wele , y pethau o’r blaen a ddaethant i ben , a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd ; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan . Cenwch i’r Arglwydd gân newydd , a’i fawl ef o eithaf y ddaear ; y rhai a ddisgynnwch i’r môr , ac sydd ynddo ; yr ynysoedd a’u trigolion . Y diffeithwch a’i ddinasoedd , dyrchafant eu llef , y maestrefi a breswylia Cedar ; caned preswylwyr y graig , bloeddiant o ben y mynyddoedd . Rhoddant ogoniant i’r Arglwydd , a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd . Yr Arglwydd a â allan fel cawr , fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd ; efe a waedda , ie , efe a rua ; ac a fydd drech na’i elynion . Tewais er ys talm , distewais , ymateliais ; llefaf fel gwraig yn esgor , difwynaf , a difethaf ar unwaith . Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch , a’u holl wellt a wywaf ; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd , a’r llynnoedd a sychaf . Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant ; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant ; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt , a’r pethau ceimion yn union . Dyma y pethau a wnaf iddynt , ac nis gadawaf hwynt . Troir yn eu hôl , a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig , y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd , Chwi yw ein duwiau ni . O fyddariaid , gwrandewch ; a’r deillion , edrychwch i weled . Pwy sydd ddall ond fy ngwas i ? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais ? pwy mor ddall â’r perffaith , a dall fel gwas yr Arglwydd ? Er gweled llawer , eto nid ystyri ; er agoryd clustiau , eto ni wrendy . Yr Arglwydd sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder ; efe a fawrha y gyfraith , ac a’i gwna yn anrhydeddus . Eto dyma bobl a ysbeiliwyd , ac a anrheithiwyd : hwy a faglwyd oll mewn tyllau , mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt : y maent yn ysbail , ac heb waredydd ; yn anrhaith , ac heb a ddywedai , Dyro yn ei ôl . Pwy ohonoch a wrendy hyn ? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw ? Pwy a roddes Jacob yn anrhaith , ac Israel i’r ysbeilwyr ? onid yr Arglwydd , yr hwn y pechasom i’w erbyn ? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd , ac nid ufuddhaent i’w gyfraith . Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel : efe a’i henynnodd oddi amgylch , ond ni wybu efe ; llosgodd ef hefyd , ond nid ystyriodd . Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di , Jacob , a’th Luniwr di , Israel , Nac ofna ; canys gwaredais di : gelwais di erbyn dy enw ; eiddof fi ydwyt . Pan elych trwy y dyfroedd , myfi a fyddaf gyda thi ; a thrwy yr afonydd , fel na lifant drosot : pan rodiech trwy’r tân , ni’th losgir ; ac ni ennyn y fflam arnat . Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , Sanct Israel , dy Waredydd : myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot , Ethiopia a Seba amdanat . Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg , y’th ogoneddwyd , a mi a’th hoffais ; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti , a phobloedd dros dy einioes di . Nac ofna ; canys yr ydwyf fi gyda thi : o’r dwyrain y dygaf dy had , ac o’r gorllewin y’th gasglaf . Dywedaf wrth y gogledd , Dod ; ac wrth y deau , Nac atal : dwg fy meibion o bell , a’m merched o eithaf y ddaear ; Sef pob un a elwir ar fy enw : canys i’m gogoniant y creais ef , y lluniais ef , ac y gwneuthum ef . Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt , a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt . Casgler yr holl genhedloedd ynghyd , a chynuller y bobloedd ; pwy yn eu mysg a fynega hyn , ac a draetha i ni y pethau o’r blaen ? dygant eu tystion , fel y cyfiawnhaer hwynt ; neu wrandawant , a dywedant , Gwir yw . Fy nhystion i ydych chwi , medd yr Arglwydd , a’m gwas yr hwn a ddewisais ; fel yr adnabyddoch , ac y credoch fi , ac y dealloch mai myfi yw : o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio , ac ni bydd ar fy ôl . Myfi , myfi yw yr Arglwydd ; ac nid oes geidwad ond myfi . Myfi a fynegais , ac a achubais , ac a ddangosais , pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg : am hynny chwi ydych fy nhystion , medd yr Arglwydd , mai myfi sydd Dduw . Ie , cyn bod dydd yr ydwyf fi ; ac nid oes a wared o’m llaw : gwnaf , a phwy a’i lluddia ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd , eich Gwaredydd chwi , Sanct Israel : Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon , ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid , a’r Caldeaid , sydd â’u bloedd mewn llongau . Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi , Creawdydd Israel , eich Brenin chwi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a wna ffordd yn y môr , a llwybr yn y dyfroedd cryfion ; Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march , y llu a’r cryfder ; cydorweddant , ni chodant : darfuant , fel llin y diffoddasant . Na chofiwch y pethau o’r blaen , ac nac ystyriwch y pethau gynt . Wele fi yn gwneuthur peth newydd : yr awr hon y dechrau ; oni chewch ei wybod ? Gwnaf ffordd yn yr anialwch , ac afonydd yn y diffeithwch . Bwystfil y maes , y dreigiau , a chywion yr estrys , a’m gogoneddant ; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch , a’r afonydd yn y diffeithwch , i roddi diod i’m pobl , fy newisedig . Y bobl hyn a luniais i mi fy hun ; fy moliant a fynegant . Eithr ni elwaist arnaf , Jacob ; ond blinaist arnaf , Israel . Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth , ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth : ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm , ac ni’th flinais ag arogl‐darth . Ni phrynaist i mi galamus ag arian , ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth : eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau , blinaist fi â’th anwireddau . Myfi , myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun , ac ni chofiaf dy bechodau . Dwg ar gof i mi , cydymddadleuwn : adrodd di , fel y’th gyfiawnhaer . Dy dad cyntaf a bechodd , a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn . Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr , ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth , ac Israel yn waradwydd . Ac yn awr gwrando , Jacob fy ngwas , ac Israel yr hwn a ddewisais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a’th wnaeth , ac a’th luniodd o’r groth , efe a’th gynorthwya : Nac ofna , fy ngwas Jacob ; a thi , Jeswrwn , yr hwn a ddewisais . Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig , a ffrydiau ar y sychdir : tywalltaf fy Ysbryd ar dy had , a’m bendith ar dy hiliogaeth : A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt , fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd . Hwn a ddywed , Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi ; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob ; ac arall a ysgrifenna â’i law , Eiddo yr Arglwydd ydwyf , ac a ymgyfenwa ar enw Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Brenin Israel , a’i Waredydd , Arglwydd y lluoedd ; Myfi yw y cyntaf , diwethaf ydwyf fi hefyd ; ac nid oes Duw ond myfi . Pwy hefyd , fel fi , a eilw , a fynega , ac a esyd hyn yn drefnus i mi , er pan osodais yr hen bobl ? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod , a’r pethau a ddaw . Nac ofnwch , ac nac arswydwch ; onid er hynny o amser y traethais i ti , ac y mynegais ? a’m tystion ydych chwi . A oes Duw ond myfi ? ie , nid oes Duw : nid adwaen i yr un . Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig ; ni wna eu pethau dymunol lesâd : tystion ydynt iddynt eu hun , na welant , ac na wyddant ; fel y byddo cywilydd arnynt . Pwy a luniai dduw , neu a fwriai ddelw gerfiedig , heb wneuthur dim lles ? Wele , ei holl gyfeillion a gywilyddir , y seiri hefyd , o ddynion y maent : casgler hwynt oll , safant i fyny ; eto hwy a ofnant , ac a gydgywilyddiant . Y gof â’r efel a weithia yn y glo , ac a’i llunia â morthwylion , ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi : newynog yw hefyd , a’i nerth a balla ; nid yf ddwfr , ac y mae yn diffygio . Y saer pren a estyn ei linyn ; efe a’i llunia hi wrth linyn coch ; efe a’i cymhwysa hi â bwyeill , ac a’i gweithia wrth gwmpas , ac a’i gwna ar ôl delw dyn , fel prydferthwch dyn , i aros mewn tŷ . Efe a dyr iddo gedrwydd , ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen , ac a ymegnïa ymysg prennau y coed ; efe a blanna onnen , a’r glaw a’i maetha . Yna y bydd i ddyn i gynnau tân : canys efe a gymer ohoni , ac a ymdwyma ; ie , efe a’i llysg , ac a boba fara ; gwna hefyd dduw , ac a’i haddola ef ; gwna ef yn ddelw gerfiedig , ac a ymgryma iddo . Rhan ohono a lysg efe yn tân ; wrth ran ohono y bwyty gig , y rhostia rost , fel y diwaller ef : efe a ymdwyma hefyd , ac a ddywed , Aha , ymdwymais , gwelais dân . A’r rhan arall yn dduw y gwna , yn ddelw gerfiedig iddo ; efe a ymgryma iddo , ac a’i haddola , ac a weddïa arno , ac a ddywed , Gwared fi ; canys fy nuw ydwyt . Ni wyddant , ac ni ddeallant ; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled , a’u calonnau rhag deall . Ie , ni feddwl neb yn ei galon , ie , nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd , Llosgais ran ohono yn tân , ac ar ei farwor y pobais fara , y rhostiais gig , ac y bwyteais ; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth ? a ymgrymaf i foncyff o bren ? Ymborth ar ludw y mae ; calon siomedig a’i gwyrdrôdd ef , fel na waredo ei enaid , ac na ddywedo , Onid oes celwydd yn fy neheulaw ? Meddwl hyn , Jacob ac Israel ; canys fy ngwas ydwyt ti ; lluniais di , gwas i mi ydwyt ; Israel , ni’th anghofir gennyf . Dileais dy gamweddau fel cwmwl , a’th bechodau fel niwl : dychwel ataf fi ; canys myfi a’th waredais di . Cenwch , nefoedd : canys yr Arglwydd a wnaeth hyn : bloeddiwch , gwaelodion y ddaear ; bloeddiwch ganu , fynyddoedd , y coed a phob pren ynddo : canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob , ac yn Israel yr ymogonedda efe . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy Waredydd , a’r hwn a’th luniodd o’r groth , Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth , yn estyn y nefoedd fy hunan , yn lledu y ddaear ohonof fy hun : Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog , ac yn ynfydu dewiniaid ; yn troi y doethion yn eu hôl , ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd : Yr hwn a gyflawna air ei was , ac a gwblha gyngor ei genhadon ; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem , Ti a breswylir ; ac wrth ddinasoedd Jwda , Chwi a adeiledir , a chyfodaf ei hadwyau : Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder , Bydd sych ; a mi a sychaf dy afonydd : Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus , Fy mugail yw , ac efe a gyflawna fy holl ewyllys : gan ddywedyd wrth Jerwsalem , Ti a adeiledir ; ac wrth y deml , Ti a sylfaenir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog , wrth Cyrus , yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw , i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef : a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd ; i agoryd y dorau o’i flaen ef ; a’r pyrth ni chaeir : Mi a af o’th flaen di , ac a unionaf y gwyrgeimion ; y dorau pres a dorraf , a’r barrau heyrn a ddrylliaf : Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig , a chuddfeydd dirgel , fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd , yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw , yw Duw Israel . Er mwyn Jacob fy ngwas , ac Israel fy etholedig , y’th elwais erbyn dy enw : mi a’th gyfenwais , er na’m hadwaenit . Myfi ydwyf yr Arglwydd , ac nid arall , nid oes Duw ond myfi ; gwregysais di , er na’m hadwaenit : Fel y gwypont o godiad haul , ac o’r gorllewin , nad neb ond myfi : myfi yw yr Arglwydd , ac nid arall : Yn llunio goleuni , ac yn creu tywyllwch ; yn gwneuthur llwyddiant , ac yn creu drygfyd : myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll . Defnynnwch , nefoedd , oddi uchod , a thywallted yr wybrennau gyfiawnder ; ymagored y ddaear , ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder , cyd‐darddant : myfi yr Arglwydd a’u creais . Gwae a ymrysono â’i Luniwr . Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear . A ddywed y clai wrth ei luniwr , Beth a wnei ? neu , Y mae dy waith heb ddwylo iddo ? Gwae a ddywedo wrth ei dad , Beth a genhedli ? neu wrth y wraig , Beth a esgoraist ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Sanct Israel , a’i Luniwr , Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion , a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo . Myfi a wneuthum y ddaear , ac a greais ddyn arni : myfi , ie , fy nwylo i a estynasant y nefoedd , ac a orchmynnais eu holl luoedd . Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder , a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf ; efe a adeilada fy ninas , efe a ollwng fy ngharcharorion , heb na gwerth na gobrwy , medd Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Llafur yr Aifft , a marsiandïaeth Ethiopia , a’r Sabeaid hirion , a ddeuant atat ti , ac eiddot ti fyddant ; ar dy ôl y deuant ; mewn cadwyni y deuant trosodd , ac ymgrymant i ti ; atat y gweddïant , gan ddywedyd , Yn ddiau ynot ti y mae Duw , ac nid oes arall , nac oes Duw . Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio , O Dduw Israel yr Achubwr ! Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll ; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd . Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol : ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Creawdydd y nefoedd , y Duw ei hun a luniodd y ddaear , ac a’i gwnaeth ; efe a’i sicrhaodd hi , ni chreodd hi yn ofer , i’w phreswylio y lluniodd hi : Myfi yw yr Arglwydd , ac nid neb amgen . Ni leferais mewn dirgelwch , mewn man tywyll o’r ddaear ; ni ddywedais wrth had Jacob , Ceisiwch fi yn ofer . Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder , ac yn mynegi pethau uniawn . Ymgesglwch , a deuwch ; cydnesewch , rai dihangol y cenhedloedd ; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw , ac a weddïant dduw ni all achub . Mynegwch , a nesewch hwynt ; cydymgynghorant hefyd ; pwy a draethodd hyn er cynt ? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw ? onid myfi yr Arglwydd ? ac nid oes Duw arall ond myfi ; yn Dduw cyfiawn , ac yn achubydd ; nid oes ond myfi . Trowch eich wynebau ataf fi , holl gyrrau y ddaear , fel y’ch achuber : canys myfi wyf Dduw , ac nid neb arall . I mi fy hun y tyngais , aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder , ac ni ddychwel , Mai i mi y plyga pob glin , y twng pob tafod . Yn ddiau yn yr Arglwydd , medd un , y mae i mi gyfiawnder a nerth ; ato ef y deuir ; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho . Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir , ac yr ymogonedda holl had Israel . Crymodd Bel , plygodd Nebo ; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid : eich clud a lwythwyd yn drwm ; llwyth ydynt i’r diffygiol . Gostyngant , cydgrymant : ni allent achub y llwyth , ond aethant mewn caethiwed eu hunain . Tŷ Jacob , gwrandewch arnaf fi , a holl weddill tŷ Israel , y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth , ac a arweddwyd o’r bru : Hyd henaint hefyd myfi yw ; ie , myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch : gwneuthum , arweddaf hefyd ; ie , dygaf , a gwaredaf chwi . I bwy y’m gwnewch yn debyg , ac y’m cystedlwch , ac y’m cyffelybwch , fel y byddom debyg ? Hwy a wastraffant aur o’r pwrs , ac a bwysant arian mewn clorian , a gyflogant eurych , ac efe a’i gweithia yn dduw : gostyngant , ac ymgrymant . Dygant ef ar ysgwyddau , dygant ef , ac a’i gosodant yn ei le , ac efe a saif ; ni syfl o’i le : os llefa un arno , nid etyb , ac nis gwared ef o’i gystudd . Cofiwch hyn , a byddwch wŷr : atgofiwch , droseddwyr . Cofiwch y pethau gynt erioed ; canys myfi ydwyf Dduw , ac nid neb arall ; Duw ydwyf , ac heb fy math ; Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad , ac er cynt yr hyn ni wnaed eto , yn dywedyd , Fy nghyngor a saif , a’m holl ewyllys a wnaf : Yn galw aderyn o’r dwyrain , y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell : dywedais , a mi a’i dygaf i ben ; mi a’i lluniais , a mi a’i gwnaf . Gwrandewch arnaf fi , y rhai cedyrn galon , y rhai pell oddi wrth gyfiawnder : Neseais fy nghyfiawnder ; ni bydd bell , a’m hiachawdwriaeth nid erys : rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel . Disgyn , ac eistedd yn y llwch , ti forwynferch Babilon , eistedd ar lawr : nid oes orseddfainc , ti ferch y Caldeaid ; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus . Cymer y meini melin , a mala flawd ; datguddia dy lywethau , noetha dy sodlau , dinoetha dy forddwydydd , dos trwy yr afonydd . Dy noethni a ddatguddir , dy warth hefyd a welir : dialaf , ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf . Ein gwaredydd ni , ei enw yw Arglwydd y lluoedd , Sanct Israel . Eistedd yn ddistaw , a dos i dywyllwch , ti ferch y Caldeaid : canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd . Digiais wrth fy mhobl , halogais fy etifeddiaeth , a rhoddais hwynt yn dy law di : ni chymeraist drugaredd arnynt ; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid . A dywedaist , Byth y byddaf arglwyddes : felly nid ystyriaist hyn , ac ni chofiaist ei diwedd hi . Am hynny yn awr gwrando hyn , y foethus , yr hon a drigi yn ddiofal , yr hon a ddywedi yn dy galon , Myfi sydd , ac nid neb ond myfi : nid eisteddaf yn weddw , ac ni chaf wybod beth yw diepiledd . Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd , diepiledd a gweddwdod : yn gwbl y deuant arnat , am amlder dy hudoliaethau , a mawr nerth dy swynion . Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni : dywedaist , Ni’m gwêl neb . Dy ddoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant ; a dywedaist yn dy galon , Myfi sydd , ac nid neb arall ond myfi . Am hynny y daw arnat ddrygfyd , yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad ; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd : ie , daw arnat ddistryw yn ddisymwth , heb wybod i ti . Saf yn awr gyda’th swynion , a chydag amlder dy hudoliaethau , yn y rhai yr ymflinaist o’th ieuenctid ; i edrych a elli wneuthur lles , i edrych a fyddi grymus . Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun . Safed yn awr astronomyddion y nefoedd , y rhai a dremiant ar y sêr , y rhai a hysbysant am y misoedd , ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat . Wele , hwy a fyddant fel sofl ; y tân a’u llysg hwynt ; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam : ni bydd marworyn i ymdwymo , na thân i eistedd ar ei gyfer . Felly y byddant hwy i ti gyda’r rhai yr ymflinaist , sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid ; crwydrasant bob un ar ei duedd ; nid oes un yn dy achub di . Gwrandewch hyn , tŷ Jacob , y rhai a elwir ar enw Israel , ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda ; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd , ac a goffânt am Dduw Israel , nid mewn gwirionedd , nac mewn cyfiawnder . Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd , ac a bwysant ar Dduw Israel ; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd . Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw , a daethant o’m genau , a mi a’u traethais ; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth , daethant i ben . Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed , a’th war fel giewyn haearn , a’th dalcen yn bres ; Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw ; adroddais i ti cyn ei ddyfod ; rhag dywedyd ohonot , Fy nelw a’u gwnaeth , fy ngherfddelw a’m tawdd‐ddelw a’u gorchmynnodd . Ti a glywaist , gwêl hyn oll ; ac oni fynegwch chwithau ef ? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn , a phethau cuddiedig , y rhai ni wyddit oddi wrthynt . Yn awr y crewyd hwynt , ac nid er y dechreuad , cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt : rhag dywedyd ohonot , Wele , gwyddwn hwynt . Ie , nis clywsit , ac nis gwyddit chwaith , nid agorasid dy glust y pryd hwnnw : canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon , a’th alw o’r groth yn droseddwr . Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid , ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt , rhag dy ddifetha . Wele , myfi a’th burais , ond nid fel arian ; dewisais di mewn pair cystudd . Er fy mwyn fy hun , er fy mwyn fy hun , y gwnaf hyn ; canys pa fodd yr halogid fy enw ? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall . Gwrando arnaf fi , Jacob , ac Israel , yr hwn a elwais : myfi yw ; myfi yw y cyntaf , a mi yw y diwethaf . Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear , a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd : pan alwyf fi arnynt , hwy a gydsafant . Ymgesglwch oll , a gwrandewch ; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn ? Yr Arglwydd a’i hoffodd ; efe a wna ei ewyllys ar Babilon , a’i fraich a fydd ar y Caldeaid . Myfi , myfi a leferais , ac a’i gelwais ef : dygais ef , ac efe a lwydda ei ffordd ef . Nesewch ataf , gwrandewch hyn ; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel ; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno : ac yn awr yr Arglwydd Dduw a’i Ysbryd a’m hanfonodd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd , Sanct Israel ; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau , gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio . O na wrandawsit ar fy ngorchmynion ! yna y buasai dy heddwch fel afon , a’th gyfiawnder fel tonnau y môr : A buasai dy had fel y tywod , ac epil dy gorff fel ei raean ef : ni thorasid , ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron . Ewch allan o Babilon , ffowch oddi wrth y Caldeaid , â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn , traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear ; dywedwch , Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob . Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch : gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig : holltodd y graig hefyd , a’r dwfr a ddylifodd . Nid oes heddwch , medd yr Arglwydd , i’r rhai annuwiol . Gwrandewch arnaf , ynysoedd ; ac ystyriwch , bobl o bell ; Yr Arglwydd a’m galwodd o’r groth ; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw . Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym , yng nghysgod ei law y’m cuddiodd ; a gwnaeth fi yn saeth loyw , cuddiodd fi yn ei gawell saethau ; Ac a ddywedodd wrthyf , Fy ngwas i ydwyt ti , Israel , yr hwn yr ymogoneddaf ynot . Minnau a ddywedais , Yn ofer y llafuriais , yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth ; er hynny y mae fy marn gyda’r Arglwydd , a’m gwaith gyda’m Duw . Ac yn awr , medd yr Arglwydd yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo , i ddychwelyd Jacob ato ef , Er nad ymgasglodd Israel , eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd , a’m Duw fydd fy nerth . Ac efe a ddywedodd , Gwael yw dy fod yn was i mi , i gyfodi llwythau Jacob , ac i adferu rhai cadwedig Israel : mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd , fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gwaredydd Israel , a’i Sanct , wrth y dirmygedig o enaid , wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl , wrth was llywodraethwyr ; Brenhinoedd a welant , ac a gyfodant ; tywysogion hefyd a ymgrymant , er mwyn yr Arglwydd , yr hwn sydd ffyddlon , Sanct Israel , ac efe a’th ddewisodd di . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Mewn amser bodlongar y’th wrandewais , ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais ; a mi a’th gadwaf , ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl , i sicrhau y ddaear , i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol ; Fel y dywedych wrth y carcharorion , Ewch allan ; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch , Ymddangoswch . Ar y ffyrdd y porant , ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt . Ni newynant , ac ni sychedant ; ac nis tery gwres na haul hwynt : oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys , ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd . A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd , a’m priffyrdd a gyfodir . Wele , y rhai hyn a ddeuant o bell : ac wele , y rhai acw o’r gogledd , ac o’r gorllewin ; a’r rhai yma o dir Sinim . Cenwch , nefoedd ; a gorfoledda , ddaear ; bloeddiwch ganu , y mynyddoedd : canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl , ac a drugarha wrth ei drueiniaid . Eto dywedodd Seion , Yr Arglwydd a’m gwrthododd , a’m Harglwydd a’m hanghofiodd . A anghofia gwraig ei phlentyn sugno , fel na thosturio wrth fab ei chroth ? ie , hwy a allant anghofio , eto myfi nid anghofiaf di . Wele , ar gledr fy nwylo y’th argreffais ; dy furiau sydd ger fy mron bob amser . Dy blant a frysiant ; y rhai a’th ddinistriant , ac a’th ddistrywiant , a ânt allan ohonot . Dyrcha dy lygaid oddi amgylch , ac edrych : y rhai hyn oll a ymgasglant , ac a ddeuant atat . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg , ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch . Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch , a’th dir dinistriol , yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr ; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhânt . Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych , Cyfyng yw y lle hwn i mi ; dod le i mi , fel y preswyliwyf . Yna y dywedi yn dy galon , Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi , a mi yn ddiepil , ac yn unig , yn gaeth , ac ar grwydr ? a phwy a fagodd y rhai hyn ? Wele , myfi a adawyd fy hunan ; o ba le y daeth y rhai hyn ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele , cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd , a dyrchafaf fy maner at y bobloedd ; a dygant dy feibion yn eu mynwes , a dygir dy ferched ar ysgwyddau . Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod , a’u breninesau dy famaethod ; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr , a llyfant lwch dy draed ; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi . A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn ? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn ? Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ie , carcharorion y cadarn a ddygir , ac anrhaith y creulon a ddianc : canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd , a myfi a achubaf dy feibion . Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain , ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys ; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd , a’th gadarn Waredydd di , Jacob . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pa le y mae llythyr ysgar eich mam , trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith ? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo ? Wele , am eich anwireddau yr ymwerthasoch , ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam . Paham , pan ddeuthum , nad oedd neb i’m derbyn ? pan elwais , nad atebodd neb ? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw , fel na allai ymwared ? neu onid oes ynof nerth i achub ? wele , â’m cerydd y sychaf y môr , gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch : eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr , ac a fyddant feirw o syched . Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch , a gosodaf sachliain yn do iddynt . Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig , i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol : deffry fi bob bore , deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig . Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust , a minnau ni wrthwynebais , ac ni chiliais yn fy ôl . Fy nghorff a roddais i’r curwyr , a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew : ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd . Oherwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymorth ; am hynny ni’m cywilyddir : am hynny gosodais fy wyneb fel callestr , a gwn na’m cywilyddir . Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha ; pwy a ymryson â mi ? safwn ynghyd : pwy yw fy ngwrthwynebwr ? nesaed ataf . Wele , yr Arglwydd Dduw a’m cynorthwya ; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog ? wele , hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn ; y gwyfyn a’u hysa hwynt . Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd , yn gwrando ar lais ei was ef , yn rhodio mewn tywyllwch , ac heb lewyrch iddo ? gobeithied yn enw yr Arglwydd , ac ymddirieded yn ei Dduw . Wele , chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân , ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion ; rhodiwch wrth lewyrch eich tân , ac wrth y gwreichion a gyneuasoch . O’m llaw i y bydd hyn i chwi ; mewn gofid y gorweddwch . Gwrandewch arnaf fi , ddilynwyr cyfiawnder , y rhai a geisiwch yr Arglwydd : edrychwch ar y graig y’ch naddwyd , ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt . Edrychwch ar Abraham eich tad , ac ar Sara a’ch esgorodd : canys ei hunan y gelwais ef , ac y bendithiais , ac yr amlheais ef . Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion : efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi ; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden , a’i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd : ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch , diolch , a llais cân . Gwrandewch arnaf , fy mhobl ; clustymwrandewch â mi , fy nghenedl : canys cyfraith a â allan oddi wrthyf , a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd . Agos yw fy nghyfiawnder ; fy iachawdwriaeth a aeth allan , fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd : yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf , ac a ymddiriedant yn fy mraich . Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd , ac edrychwch ar y ddaear isod : canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg , a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn , a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw ; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth , a’m cyfiawnder ni dderfydd . Gwrandewch arnaf , y rhai a adwaenoch gyfiawnder , y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon : nac ofnwch waradwydd dynion , ac nac arswydwch rhag eu difenwad . Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn , a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân : eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd , a’m hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth . Deffro , deffro , gwisg nerth , O fraich yr Arglwydd ; deffro , fel yn y dyddiau gynt , yn yr oesoedd gynt . Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab , ac a archollaist y ddraig ? Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr , dyfroedd y dyfnder mawr ? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd ? Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd , a hwy a ddeuant i Seion â chanu , ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau : goddiweddant lawenydd a hyfrydwch ; gofid a griddfan a ffy ymaith . Myfi , myfi , yw yr hwn a’ch diddana chwi : pwy wyt ti , fel yr ofnit ddyn , yr hwn fydd farw ; a mab dyn , yr hwn a wneir fel glaswelltyn ? Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr , yr hwn a estynnodd y nefoedd , ac a seiliodd y ddaear ? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd , fel pe darparai i ddinistrio ? a pha le y mae llid y gorthrymydd ? Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd , fel na byddo farw yn y pwll , ac na phallo ei fara ef . Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a barthodd y môr , pan ruodd ei donnau : ei enw yw Arglwydd y lluoedd . Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau , ac yng nghysgod fy llaw y’th doais , fel y plannwn y nefoedd , ac y seiliwn y ddaear , ac y dywedwn wrth Seion , Fy mhobl ydwyt . Deffro , deffro , cyfod , Jerwsalem , yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef ; yfaist waddod y cwpan erchyll , ie , sugnaist ef . Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd ; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd . Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti ; pwy a ofidia trosot ? dinistr a distryw , a newyn a chleddyf ; trwy bwy y’th gysuraf ? Dy feibion a lewygasant , gorweddant ym mhen pob heol , fel tarw gwyllt mewn magl : llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd , a cherydd dy Dduw . Am hynny gwrando fi yn awr , y druan , a’r feddw , ac nid trwy win . Fel hyn y dywed dy Arglwydd , yr Arglwydd , a’th Dduw di , yr hwn a ddadlau dros ei bobl , Wele , cymerais o’th law y cwpan erchyll , sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd : ni chwanegi ei yfed mwy : Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr ; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid , Gostwng , fel yr elom drosot : a thi a osodaist dy gorff fel y llawr , ac fel heol i’r rhai a elent drosto . Deffro , deffro , gwisg dy nerth , Seion ; gwisg wisgoedd dy ogoniant , sanctaidd ddinas Jerwsalem : canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan . Ymysgwyd o’r llwch , cyfod , eistedd , Jerwsalem : ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf , ti gaethferch Seion . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Yn rhad yr ymwerthasoch ; ac nid ag arian y’ch gwaredir . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw , Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad , i ymdaith yno ; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos . Ac yn awr beth sydd yma i mi , medd yr Arglwydd , pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad ? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo , medd yr Arglwydd ; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw . Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw : am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw , mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd : wele , myfi ydyw . Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu , yn cyhoeddi heddwch ; a’r hwn sydd yn mynegi daioni , yn cyhoeddi iachawdwriaeth ; yn dywedyd wrth Seion , Dy Dduw di sydd yn teyrnasu . Dy wylwyr a ddyrchafant lef ; gyda’r llef y cydganant : canys gwelant lygad yn llygad , pan ddychwelo yr Arglwydd Seion . Bloeddiwch , cydgenwch , anialwch Jerwsalem : canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl , efe a waredodd Jerwsalem . Diosgodd yr Arglwydd fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd : a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni . Ciliwch , ciliwch , ewch allan oddi yno , na chyffyrddwch â dim halogedig ; ewch allan o’i chanol ; ymlanhewch , y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd . Canys nid ar frys yr ewch allan , ac nid ar ffo y cerddwch : canys yr Arglwydd a â o’ch blaen chwi , a Duw Israel a’ch casgl chwi . Wele , fy ngwas a lwydda ; efe a godir , a ddyrchefir , ac a fydd uchel iawn . Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt , ( mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb , a’i bryd yn anad meibion dynion , ) Felly y taenella efe genhedloedd lawer ; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef ; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt , a deallant yr hyn ni chlywsent . Pwy a gredodd i’n hymadrodd ? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd ? Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn , ac fel gwreiddyn o dir sych : nid oes na phryd na thegwch iddo : pan edrychom arno , ni bydd pryd fel y dymunem ef . Dirmygedig yw , a diystyraf o’r gwŷr ; gŵr gofidus , a chynefin â dolur : ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho : dirmygedig oedd , ac ni wnaethom gyfrif ohono . Diau efe a gymerth ein gwendid ni , ac a ddug ein doluriau : eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu , ei daro gan Dduw , a’i gystuddio . Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni , efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni : cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef : a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni . Nyni oll a grwydrasom fel defaid ; troesom bawb i’w ffordd ei hun : a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd . Efe a orthrymwyd , ac efe a gystuddiwyd , ac nid agorai ei enau : fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa , ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai , felly nid agorai yntau ei enau . O garchar ac o farn y cymerwyd ef : a phwy a draetha ei oes ef ? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw ; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl . Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir , a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth ; am na wnaethai gam , ac nad oedd twyll yn ei enau . Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef ; efe a’i clwyfodd : pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod , efe a wêl ei had , efe a estyn ei ddyddiau ; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef . O lafur ei enaid y gwêl , ac y diwellir : fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth ; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt . Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer , ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn : am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth : ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr ; ac efe a ddug bechodau llaweroedd , ac a eiriolodd dros y troseddwyr . Cân , di amhlantadwy nid esgorodd ; bloeddia ganu , a gorfoledda , yr hon nid esgorodd : oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd , na’r hon y mae gŵr iddi , medd yr Arglwydd . Helaetha le dy babell , ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd : nac atal , estyn dy raffau , a sicrha dy hoelion . Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy ; a’th had a etifedda y Cenhedloedd , a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol . Nac ofna ; canys ni’th gywilyddir : ac na’th waradwydder , am na’th warthruddir ; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid , a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach . Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw : dy Waredydd hefyd , Sanct Israel , Duw yr holl ddaear y gelwir ef . Canys fel gwraig wrthodedig , a chystuddiedig o ysbryd , y’th alwodd yr Arglwydd , a gwraig ieuenctid , pan oeddit wrthodedig , medd dy Dduw . Dros ennyd fechan y’th adewais ; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf . Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr ; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt , medd yr Arglwydd dy Waredydd . Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi : canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear ; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt , ac na’th geryddwn . Canys y mynyddoedd a giliant , a’r bryniau a symudant : eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt , a chyfamod fy hedd ni syfl , medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt . Y druan , helbulus gan dymestl , y ddigysur , wele , mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl , ac a’th sylfaenaf â meini saffir . Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial , a’th byrth o feini disglair , a’th holl derfynau o gerrig dymunol . Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd ; a mawr fydd heddwch dy feibion . Mewn cyfiawnder y’th sicrheir : byddi bell oddi wrth orthrymder , canys nid ofni ; ac oddi wrth ddychryn , canys ni nesâ atat . Wele , gan ymgasglu hwy a ymgasglant , ond nid ohonof fi : pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn , efe a syrth . Wele , myfi a greais y gof , yr hwn a chwyth y marwor yn tân , ac a ddefnyddia arf i’w waith ; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio . Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn ; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn . Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd , a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi , medd yr Arglwydd . O Deuwch i’r dyfroedd , bob un y mae syched arno , ie , yr hwn nid oes arian ganddo ; deuwch , prynwch , a bwytewch ; ie , deuwch , prynwch win a llaeth , heb arian , ac heb werth . Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara ? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni ? gan wrando gwrandewch arnaf fi , a bwytewch yr hyn sydd dda ; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster . Gogwyddwch eich clust , a deuwch ataf ; gwrandewch , a bydd byw eich enaid : a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi , sef sicr drugareddau Dafydd . Wele , rhoddais ef yn dyst i’r bobl , yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd . Wele , cenedl nid adwaeni a elwi , a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat , er mwyn yr Arglwydd dy Dduw , ac oherwydd Sanct Israel : canys efe a’th ogoneddodd . Ceisiwch yr Arglwydd , tra y galler ei gael ef ; gelwch arno , tra fyddo yn agos . Gadawed y drygionus ei ffordd , a’r gŵr anwir ei feddyliau ; a dychweled at yr Arglwydd , ac efe a gymer drugaredd arno ; ac at ein Duw ni , oherwydd efe a arbed yn helaeth . Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi , ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i , medd yr Arglwydd . Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear , felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi , a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi . Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd , ac ni ddychwel yno , eithr dyfrha y ddaear , ac a wna iddi darddu a thyfu , fel y rhoddo had i’r heuwr , a bara i’r bwytawr : Felly y bydd fy ngair , yr hwn a ddaw o’m genau : ni ddychwel ataf yn wag ; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf , ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid . Canys mewn llawenydd yr ewch allan , ac mewn hedd y’ch arweinir ; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen , a holl goed y maes a gurant ddwylo . Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd , yn lle mieri y cyfyd myrtwydd : a hyn fydd i’r Arglwydd yn enw , ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Cedwch farn , a gwnewch gyfiawnder : canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod , a’m cyfiawnder ar ymddangos . Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn , a mab y dyn a ymaflo ynddo ; gan gadw y Saboth heb ei halogi , a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg . Ac na lefared y dieithrfab , yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl ; ac na ddyweded y disbaddedig , Wele fi yn bren crin . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig , y rhai a gadwant fy Sabothau , ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf , ac a ymaflant yn fy nghyfamod i ; Ie , rhoddaf iddynt yn fy nhŷ , ac o fewn fy magwyrydd , le ac enw gwell na meibion ac na merched : rhoddaf iddynt enw tragwyddol , yr hwn ni thorrir ymaith . A’r meibion dieithr , y rhai a lynant wrth yr Arglwydd , gan ei wasanaethu ef , a chan garu enw yr Arglwydd , i fod yn weision iddo ef , pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi , ac a ymaflo yn fy nghyfamod ; Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd , a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi : eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor : canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd . Medd yr Arglwydd Dduw , yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel , Eto mi a gasglaf eraill ato ef , gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato . Pob bwystfil y maes , deuwch i ddifa , a phob bwystfil yn y coed . Deillion yw ei wyliedyddion : ni wyddant hwy oll ddim , cŵn mudion ydynt hwy oll , heb fedru cyfarth ; yn cysgu , yn gorwedd , ac yn caru hepian . Ie , cŵn gwancus ydynt , ni chydnabyddant â’u digon , a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall ; wynebant oll ar eu ffordd eu hun , pob un at ei elw ei hun o’i gwr . Deuwch , meddant , cyrchaf win , ac ymlanwn o ddiod gref ; a bydd yfory megis heddiw , a mwy o lawer iawn . Darfu am y cyfiawn , ac ni esyd neb at ei galon ; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith , heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith . Efe a â i dangnefedd : hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd , sef pob un a rodia yn ei uniondeb . Nesewch yma , meibion yr hudoles , had y godinebus a’r butain . Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch ? yn erbyn pwy y lledwch safn , ac yr estynnwch dafod ? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi ? Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog , gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau . Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran ; hwynt‐hwy yw dy gwtws : iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm , ac yr offrymaist fwyd‐offrwm . Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn ? Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely : dringaist hefyd yno i aberthu aberth . Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth : canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i , a dringaist ; helaethaist dy wely , ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt ; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist . Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint , ac amlheaist dy beraroglau : anfonaist hefyd dy genhadau i bell , ac ymostyngaist hyd uffern . Ym maint dy ffordd yr ymflinaist ; ac ni ddywedaist , Nid oes obaith : cefaist fywyd dy law ; am hynny ni chlefychaist . Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist , fel y dywedaist gelwydd , ac na chofiaist fi , ac nad ystyriaist yn dy galon ? oni thewais i â sôn er ys talm , a thithau heb fy ofni ? Myfi a fynegaf dy gyfiawnder , a’th weithredoedd : canys ni wnânt i ti les . Pan waeddech , gwareded dy gynulleidfaoedd di : eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll ; oferedd a’u cymer hwynt : ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir , ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd . Ac efe a ddywed , Palmentwch , palmentwch , paratowch y ffordd , cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl . Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig , yr hwn a breswylia dragwyddoldeb , ac y mae ei enw yn Sanctaidd , Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf ; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd , i fywhau y rhai isel o ysbryd , ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig . Canys nid byth yr ymrysonaf , ac nid yn dragywydd y digiaf : oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i , a’r eneidiau a wneuthum i . Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais , ac y trewais ef : ymguddiais , a digiais , ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon . Ei ffyrdd a welais , a mi a’i hiachâf ef : tywysaf ef hefyd , ac adferaf gysur iddo , ac i’w alarwyr . Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau ; Heddwch , heddwch , i bell , ac i agos , medd yr Arglwydd : a mi a’i hiachâf ef . Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor , pan na allo fod yn llonydd , yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid . Ni bydd heddwch , medd fy Nuw , i’r rhai annuwiol . Llefa â’th geg , nac arbed ; dyrchafa dy lais fel utgorn , a mynega i’m pobl eu camwedd , a’u pechodau i dŷ Jacob . Eto beunydd y’m ceisiant , ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd , fel cenedl a wnelai gyfiawnder , ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw : gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder , ewyllysiant nesáu at Dduw . Paham , meddant , yr ymprydiasom , ac nis gwelaist ? y cystuddiasom ein henaid , ac nis gwybuost ? Wele , yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd , ac yn mynnu eich holl ddyledion . Wele , i ymryson a chynnen yr ymprydiwch , ac i daro â dwrn anwiredd : nac ymprydiwch fel y dydd hwn , i beri clywed eich llais yn yr uchelder . Ai dyma yr ympryd a ddewisais ? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid ? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw , a thaenu sachliain a lludw dano ? ai hyn a elwi yn ympryd , ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd ? Onid dyma yr ympryd a ddewisais ? datod rhwymau anwiredd , tynnu ymaith feichiau trymion , a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion , a thorri ohonoch bob iau ? Onid torri dy fara i’r newynog , a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ ? a phan welych y noeth , ei ddilladu ; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun ? Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr , a’th iechyd a dardda yn fuan : a’th gyfiawnder a â o’th flaen ; gogoniant yr Arglwydd a’th ddilyn . Yna y gelwi , a’r Arglwydd a etyb ; y gwaeddi , ac efe a ddywed , Wele fi . Os bwri o’th fysg yr iau , estyn bys , a dywedyd oferedd ; Os tynni allan dy enaid i’r newynog , a diwallu yr enaid cystuddiedig : yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch , a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd : A’r Arglwydd a’th arwain yn wastad , ac a ddiwalla dy enaid ar sychder , ac a wna dy esgyrn yn freision : a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau , ac megis ffynnon ddwfr , yr hon ni phalla ei dyfroedd . A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd ; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth : a thi a elwir yn gaewr yr adwy , yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt . O throi dy droed oddi wrth y Saboth , heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd ; a galw y Saboth yn hyfrydwch , sanct yr Arglwydd yn ogoneddus ; a’i anrhydeddu ef , heb wneuthur dy ffyrdd dy hun , heb geisio dy ewyllys dy hun , na dywedyd dy eiriau dy hun : Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd , ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear , ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad : canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd . Wele , ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd , fel na allo achub ; ac ni thrymhaodd ei glust ef , fel na allo glywed : Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw , a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych , fel na chlywo . Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed , a’ch bysedd â chamwedd : eich gwefusau a draethasant gelwydd , eich tafod a fyfyriodd anwiredd . Nid oes a alwo am gyfiawnder , nac a ddadlau dros y gwirionedd : y maent yn gobeithio mewn gwagedd , ac yn dywedyd celwydd ; yn beichiogi ar flinder , ac yn esgor ar anwiredd . Wyau asb a ddodwasant , a gweoedd y pryf copyn a weant : yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw , a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber . Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd , ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd : eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd , a gwaith trawster sydd yn eu dwylo . Eu traed a redant i ddrygioni , a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion : eu meddyliau sydd feddyliau anwir ; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt . Ffordd heddwch nid adwaenant ; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau : gwnaethant iddynt lwybrau ceimion : pwy bynnag a rodio yno , nid edwyn heddwch . Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym , ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder : disgwyliasom am oleuni , ac wele dywyllwch ; am ddisgleirdeb , ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio . Palfalasom fel deillion â’r pared , ie , fel rhai heb lygaid y palfalasom : tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos ; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw . Nyni oll a ruasom fel eirth , a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod : disgwyliasom am farn , ac nid oes dim : am iachawdwriaeth , ac ymbellhaodd oddi wrthym . Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron , a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn : oherwydd ein camweddau sydd gyda ni ; a’n hanwireddau , ni a’u hadwaenom : Camweddu , a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd , a chilio oddi ar ôl ein Duw , dywedyd trawster ac anufudd‐dod , myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau . Barn hefyd a droed yn ei hôl , a chyfiawnder a safodd o hirbell : canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol , ac uniondeb ni all ddyfod i mewn . Ie , gwirionedd sydd yn pallu , a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail : a gwelodd yr Arglwydd hyn , a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn . Gwelodd hefyd nad oedd gŵr , a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr : am hynny ei fraich a’i hachubodd , a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd . Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig , a helm iachawdwriaeth am ei ben ; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad ; ie , gwisgodd sêl fel cochl . Yn ôl y gweithredoedd , ie , yn eu hôl hwynt , y tâl efe , llid i’w wrthwynebwyr , taledigaeth i’w elynion ; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe . Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o’r gorllewin , a’i ogoniant ef o godiad haul . Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon , Ysbryd yr Arglwydd a’i hymlid ef ymaith . Ac i Seion y daw y Gwaredydd , ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob , medd yr Arglwydd . A minnau , dyma fy nghyfamod â hwynt , medd yr Arglwydd : Fy ysbryd yr hwn sydd arnat , a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau , ni chiliant o’th enau , nac o enau dy had , nac o enau had dy had , medd yr Arglwydd , o hyn allan byth . Cyfod , llewyrcha ; canys daeth dy oleuni , a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat . Canys wele , tywyllwch a orchuddia y ddaear , a’r fagddu y bobloedd : ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd , a’i ogoniant a welir arnat . Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni , a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad . Cyfod dy lygaid oddi amgylch , ac edrych ; ymgasglasant oll , daethant atat : dy feibion a ddeuant o bell , a’th ferched a fegir wrth dy ystlys . Yna y cei weled , ac yr ymddisgleiri ; dy galon hefyd a ofna , ac a helaethir ; am droi atat luosowgrwydd y môr , golud y cenhedloedd a ddaw i ti . Lliaws y camelod a’th orchuddiant , sef cyflym gamelod Midian ac Effa ; hwynt oll o Seba a ddeuant ; aur a thus a ddygant ; a moliant yr Arglwydd a fynegant . Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti , hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant : hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor , a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant . Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl , ac fel colomennod i’w ffenestri ? Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant , a llongau Tarsis yn bennaf , i ddwyn dy feibion o bell , eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt , i enw yr Arglwydd dy Dduw , ac i Sanct Israel , am iddo dy ogoneddu di . A meibion dieithr a adeiladant dy furiau , a’u brenhinoedd a’th wasanaethant ; canys yn fy nig y’th drewais , ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt . Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad , ni chaeir hwynt na dydd na nos , i ddwyn atat olud y cenhedloedd , fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd . Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di , a ddifethir ; a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir . Gogoniant Libanus a ddaw atat , y ffynidwydd , ffawydd , a bocs ynghyd , i harddu lle fy nghysegr ; harddaf hefyd le fy nhraed . A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig : a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed , ac a’th alwant yn Ddinas yr Arglwydd , yn Seion Sanct Israel . Lle y buost yn wrthodedig , ac yn gas , ac heb gyniweirydd trwot , gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol , ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau . Sugni hefyd laeth y cenhedloedd , ie , bronnau brenhinoedd a sugni ; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd , a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob . Yn lle pres y dygaf aur , ac yn lle haearn y dygaf arian , ac yn lle coed , bres , ac yn lle cerrig , haearn ; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol , a’th drethwyr yn gyfiawn . Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad , na distryw na dinistr yn dy derfynau : eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth , a’th byrth yn Foliant . Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd , a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti : eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol , a’th Dduw yn ogoniant i ti . Ni fachluda dy haul mwyach , a’th leuad ni phalla : oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol , a dyddiau dy alar a ddarfyddant . Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll : etifeddant y tir byth , sef blaguryn fy mhlanhigion , gwaith fy nwylo , fel y’m gogonedder . Y bychan a fydd yn fil , a’r gwael yn genedl gref . Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser . Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf ; oherwydd yr Arglwydd a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd ; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon , i gyhoeddi rhyddid i’r caethion , ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym ; I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd , a dydd dial ein Duw ni ; i gysuro pob galarus ; I osod i alarwyr Seion , ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw , olew llawenydd yn lle galar , gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig ; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder , yn blanhigyn yr Arglwydd , fel y gogonedder ef . Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa , cyfodant yr anghyfanheddfa gynt , ac adnewyddant ddinasoedd diffaith , ac anghyfanhedd‐dra llawer oes . A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd , a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi . Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r Arglwydd : Gweinidogion ein Duw ni , meddir wrthych ; golud y cenhedloedd a fwynhewch , ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch . Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg ; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan : am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl ; llawenydd tragwyddol fydd iddynt . Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder ; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm , ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd , ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol . Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd , a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl : y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant , mai hwynt‐hwy yw yr had a fendithiodd yr Arglwydd . Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd , fy enaid a orfoledda yn fy Nuw : canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth , gwisgodd fi â mantell cyfiawnder ; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg , ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau . Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu , ac fel y gwna gardd i’w hadau egino , felly y gwna yr Arglwydd Ior i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd . Er mwyn Seion ni thawaf , ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf , hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb , a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi . A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder , a’r holl frenhinoedd dy ogoniant : yna y gelwir arnat enw newydd , yr hwn a enwa genau yr Arglwydd . Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd , ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw . Ni ddywedir amdanat mwy , Gwrthodedig ; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy , Anghyfannedd : eithr ti a elwir Heffsiba ; a’th dir , Beula : canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi , a’th dir a briodir . Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn , y prioda dy feibion dydi ; ac â llawenydd priodfab am briodferch , y llawenycha dy Dduw o’th blegid di . Ar dy furiau di , Jerwsalem , y gosodais geidwaid , y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad : y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd , na ddistewch , Ac na adewch ddistawrwydd iddo , hyd oni sicrhao , ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear . Tyngodd yr Arglwydd i’w ddeheulaw , ac i’w fraich nerthol , Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion ; a meibion dieithr nid yfant dy win , yr hwn y llafuriaist amdano : Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt , ac a foliannant yr Arglwydd ; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd . Cyniweiriwch , cyniweiriwch trwy y pyrth : paratowch ffordd y bobl ; palmentwch , palmentwch briffordd ; digaregwch hi : cyfodwch faner i’r bobloedd . Wele , yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear , Dywedwch wrth ferch Seion , Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod , wele ei gyflog gydag ef , a’i waith o’i flaen . Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd , yn Waredigion yr Arglwydd : tithau a elwir , Yr hon a geisiwyd , Dinas nis gwrthodwyd . Pwy yw hwn yn dyfod o Edom , yn goch ei ddillad o Bosra ? hwn sydd hardd yn ei wisg , yn ymdaith yn amlder ei rym ? Myfi , yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder , ac wyf gadarn i iacháu . Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad , a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf ? Sethrais y gwinwryf fy hunan , ac o’r bobl nid oedd un gyda mi ; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig , ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd ; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad , a’m holl wisgoedd a lychwinaf . Canys dydd dial sydd yn fy nghalon , a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth . Edrychais hefyd , ac nid oedd gynorthwywr ; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr : yna fy mraich fy hun a’m hachubodd , a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd . A mi a sathraf y bobl yn fy nig , ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd ; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr . Cofiaf drugareddau yr Arglwydd , a moliant Duw , yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni , ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel , yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau , ac yn ôl amlder ei drugareddau . Canys efe a ddywedodd , Diau fy mhobl ydynt hwy , meibion ni ddywedant gelwydd ; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt . Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd , ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt ; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt : efe a’u dygodd hwynt , ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt . Hwythau oeddynt wrthryfelgar , ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef : am hynny y trodd efe yn elyn iddynt , ac yr ymladdodd yn eu herbyn . Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt , Moses a’i bobl , gan ddywedyd , Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr , gyda bugail ei braidd ? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef ? Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses , ac â’i ogoneddus fraich , gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt , i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol ? Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau , fel march yn yr anialwch , fel na thramgwyddent ? Fel y disgyn anifail i’r dyffryn , y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys : felly y tywysaist dy bobl , i wneuthur i ti enw gogoneddus . Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant : mae dy sêl a’th gadernid , lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi ? a ymataliasant ? Canys ti yw ein Tad ni , er nad edwyn Abraham ni , ac na’n cydnebydd Israel : ti , Arglwydd , yw ein Tad ni , ein Gwaredydd ; dy enw sydd erioed . Paham , Arglwydd , y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ffyrdd ? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn ? Dychwel er mwyn dy weision , llwythau dy etifeddiaeth . Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd : ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di . Nyni ydym eiddot ti : erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy ; ac ni elwid dy enw arnynt . Ona rwygit y nefoedd , a disgyn , fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di , Fel pan losgo’r tân greision , y pair y tân i’r dwfr ferwi ; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr , fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot ! Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt , y disgynnaist , a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen . Ac erioed ni chlywsant , ni dderbyniasant â chlustiau , ac ni welodd llygad , O Dduw , ond tydi , yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho . Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen , ac a wna gyfiawnder ; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di : wele , ti a ddigiaist , pan bechasom : ynddynt hwy y mae para , a ni a fyddwn cadwedig . Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan , ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau ; a megis deilen y syrthiasom ni oll ; a’n hanwireddau , megis gwynt , a’n dug ni ymaith . Ac nid oes a alwo ar dy enw , nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot : canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym ; difeaist ni , oherwydd ein hanwireddau . Ond yn awr , O Arglwydd , ein Tad ni ydwyt ti : nyni ydym glai , a thithau yw ein lluniwr ni ; ie , gwaith dy law ydym ni oll . Na ddigia , Arglwydd , yn ddirfawr , ac na chofia anwiredd yn dragywydd : wele , edrych , atolwg , dy bobl di ydym ni oll . Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch ; Seion sydd yn ddiffeithwch , a Jerwsalem yn anghyfannedd . Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni , lle y moliannai ein tadau dydi , a losgwyd â thân ; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith . A ymateli di , Arglwydd , wrth y pethau hyn ? a dewi di , ac a gystuddi di ni yn ddirfawr ? Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf ; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant : dywedais , Wele fi , wele fi , wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i . Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar , y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda , yn ôl eu meddyliau eu hun ; Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb ; yn aberthu mewn gerddi , ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini ; Y rhai a arhoent ymysg y beddau , ac a letyent yn y mynwentau ; y rhai a fwytaent gig moch , ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri ; Y rhai a ddywedent , Saf ar dy ben dy hun ; na nesâ ataf fi : canys sancteiddiach ydwyf na thydi . Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau , tân yn llosgi ar hyd y dydd . Wele , ysgrifennwyd ger fy mron : ni thawaf ; eithr talaf , ie , talaf i’w mynwes , Eich anwireddau chwi , ac anwireddau eich tadau ynghyd , medd yr Arglwydd , y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd , ac a’m cablasant ar y bryniau : am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn , ac y dywedir , Na ddifwyna ef ; canys y mae bendith ynddo : felly y gwnaf er mwyn fy ngweision , na ddistrywiwyf hwynt oll . Eithr dygaf had allan o Jacob , ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd : a’m hetholedigion a’i hetifeddant , a’m gweision a drigant yno . Saron hefyd fydd yn gorlan defaid , a glyn Achor yn orweddfa gwartheg , i’m pobl y rhai a’m ceisiasant . Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd , a anghofiwch fy mynydd sanctaidd , a arlwywch fwrdd i’r llu acw , ac a lenwch ddiod‐offrwm i’r niferi acw . Rhifaf chwithau i’r cleddyf , a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth : oherwydd pan elwais chwi , nid atebasoch ; pan leferais , ni wrandawsoch ; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg , a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele , fy ngweision a fwytânt , a chwithau a newynwch : wele , fy ngweision a yfant , a chwithau a sychedwch : wele , fy ngweision a lawenychant , a chwithau a fydd cywilydd arnoch : Wele , fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon , a chwithau a waeddwch rhag gofid calon , ac a udwch rhag cystudd ysbryd . A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion : canys yr Arglwydd Dduw a’th ladd di , ac a eilw ei weision ar enw arall : Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear , ymfendigo yn Nuw y gwirionedd ; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear , dyngu i Dduw y gwirionedd : am anghofio y trallodau gynt , ac am eu cuddio hwynt o’m golwg . Canys wele fi yn creu nefoedd newydd , a daear newydd : a’r rhai cyntaf ni chofir , ac ni feddylir amdanynt . Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi : canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd , a’i phobl yn llawenydd . Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem , a llawenychaf yn fy mhobl : ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain , na llef gwaedd . Ni bydd o hynny allan blentyn o oed , na hynafgwr , yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau : canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd ; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir . A hwy a adeiladant dai , ac a’u cyfanheddant ; plannant hefyd winllannoedd , a bwytânt eu ffrwyth . Nid adeiladant hwy , fel y cyfanheddo arall ; ac ni phlannant , fel y bwytao arall : eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl , a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo . Ni lafuriant yn ofer , ac ni chenhedlant i drallod : canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy , a’u hepil gyda hwynt . A bydd , cyn galw ohonynt , i mi ateb : ac a hwy eto yn llefaru , mi a wrandawaf . Y blaidd a’r oen a borant ynghyd ; y llew fel ych a bawr wellt ; a’r sarff , llwch fydd ei bwyd hi : ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y nef yw fy ngorseddfainc , a’r ddaear yw lleithig fy nhraed : mae y tŷ a adeiledwch i mi ? ac mae y fan y gorffwysaf ? Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw , a thrwof fi y mae hyn oll , medd yr Arglwydd : ond ar hwn yr edrychaf , sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd , ac sydd yn crynu wrth fy ngair . Yr hwn a laddo ych , sydd fel yr hwn a laddo ŵr ; yr hwn a abertho oen , sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi ; yr hwn a offrymo offrwm , sydd fel ped offrymai waed moch ; yr hwn a arogldartho thus , sydd fel pe bendigai eilun : ie , hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun , a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd‐dra . Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt , ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant : am alw ohonof , ac nid oedd a atebai ; lleferais , ac ni wrandawsant : eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg , a’r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant . Gwrandewch air yr Arglwydd , y rhai a grynwch wrth ei air ef ; Eich brodyr y rhai a’ch casasant , ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i , a ddywedasant , Gogonedder yr Arglwydd : eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef , a hwynt a waradwyddir . Llef soniarus o’r ddinas , llef o’r deml , llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i’w elynion . Cyn ei chlafychu , yr esgorodd ; cyn dyfod gwewyr arni , y rhyddhawyd hi ar fab . Pwy a glybu y fath beth â hyn ? pwy a welodd y fath bethau â hyn ? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd ? a enir cenedl ar unwaith ? Pan glafychodd Seion , yr esgorodd hefyd ar ei meibion . A ddygaf fi i’r enedigaeth , ac oni pharaf esgor ? medd yr Arglwydd : a baraf fi esgor , ac a luddiaf ? medd dy Dduw . Llawenhewch gyda Jerwsalem , a byddwch hyfryd gyda hi , y rhai oll a’i cerwch hi : llawenhewch gyda hi yn llawen , y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi : Fel y sugnoch , ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi ; fel y godroch , ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , mi a estynnaf iddi heddwch fel afon , a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol : yna y sugnwch , ar ei hystlys hi y’ch dygir , ac ar ei gliniau y’ch diddenir . Fel un yr hwn y diddana ei fam ef , felly y diddanaf fi chwi ; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir . A phan weloch hyn , y llawenycha eich calon ; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn : ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision , a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion . Canys , wele , yr Arglwydd a ddaw â thân , ac â’i gerbydau fel trowynt , i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd , a’i gerydd â fflamau tân . Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â’i gleddyf yn erbyn pob cnawd ; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml . Y rhai a ymsancteiddiant , ac a ymlanhânt yn y gerddi , yn ôl ei gilydd , yn y canol , gan fwyta cig moch , a ffieidd‐dra , a llygod , a gyd‐ddiweddir , medd yr Arglwydd . Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau : y mae yr amser yn dyfod , i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd ; a hwy a ddeuant , ac a welant fy ngogoniant . A gosodaf yn eu mysg arwydd , ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd , i Tarsis , Affrica , a Lydia , y rhai a dynnant mewn bwa , i Italia , a Groeg , i’r ynysoedd pell , y rhai ni chlywsant sôn amdanaf , ac ni welsant fy ngogoniant ; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd . A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd , yn offrwm i’r Arglwydd , ar feirch , ac ar gerbydau , ac ar elorau meirch , ac ar fulod , ac ar anifeiliaid buain , i’m mynydd sanctaidd Jerwsalem , medd yr Arglwydd , megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd . Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid , medd yr Arglwydd . Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a’r ddaear newydd , y rhai a wnaf fi , medd yr Arglwydd , felly y saif eich had chwi , a’ch enw chwi . Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer , ac o Saboth i Saboth , i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i , medd yr Arglwydd . A hwy a ânt allan , ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn : canys eu pryf ni bydd marw , a’u tân ni ddiffydd ; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd . Geiriau Jeremeia mab Hilceia , o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth , o fewn tir Benjamin : Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato , yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda , yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef . Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda , hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cyn i mi dy lunio di yn y groth , mi a’th adnabûm ; a chyn dy ddyfod o’r groth , y sancteiddiais di ; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , ni fedraf ymadrodd ; canys bachgen ydwyf fi . Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Na ddywed , Bachgen ydwyf fi : canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf , a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi . Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt : canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu , medd yr Arglwydd . Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law , ac a gyffyrddodd â’m genau . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Wele , rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di . Gwêl , heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd , ac ar y teyrnasoedd , i ddiwreiddio , ac i dynnu i lawr , i ddifetha , ac i ddistrywio , i adeiladu , ac i blannu . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Jeremeia , beth a weli di ? Minnau a ddywedais , Gwialen almon a welaf fi . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Da y gwelaist ; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith , gan ddywedyd , Beth a weli di ? A mi a ddywedais , Mi a welaf grochan berwedig , a’i wyneb tua’r gogledd . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir . Canys wele , myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd , medd yr Arglwydd , a hwy a ddeuant , ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem , ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch , ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda . A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn , am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant , ac a arogldarthasant i dduwiau eraill , ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain . Am hynny gwregysa dy lwynau , a chyfod , a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti : na arswyda eu hwynebau , rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt . Canys wele , heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog , ac yn golofn haearn , ac yn fur pres , yn erbyn yr holl dir , yn erbyn brenhinoedd Jwda , yn erbyn ei thywysogion , yn erbyn ei hoffeiriaid , ac yn erbyn pobl y tir . Ymladdant hefyd yn dy erbyn , ond ni’th orchfygant : canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared , medd yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Cerdda , a llefa yng nghlustiau Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd . Cofiais di , caredigrwydd dy ieuenctid , a serch dy ddyweddi , pan y’m canlynaist yn y diffeithwch , mewn tir ni heuwyd . Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r Arglwydd , a blaenffrwyth ei gnwd ef : pawb oll a’r a’i bwytao , a bechant ; drwg a ddigwydd iddynt , medd yr Arglwydd . Gwrandewch air yr Arglwydd , tŷ Jacob , a holl deuluoedd tŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi , gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf , a rhodio ar ôl oferedd , a myned yn ofer ? Ac ni ddywedant , Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft ; a’n harweiniodd trwy yr anialwch ; trwy dir diffaith , a phyllau ; trwy dir sychder , a chysgod angau ; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo , ac ni thrigodd dyn ynddo ? Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr , i fwyta ei ffrwyth a’i daioni : eithr pan ddaethoch i mewn , halogasoch fy nhir i , a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra . Yr offeiriaid ni ddywedasant , Pa le y mae yr Arglwydd ? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi : y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn , a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal , ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd . Oblegid hyn , mi a ddadleuaf â chwi eto , medd yr Arglwydd ; ie , dadleuaf â meibion eich meibion chwi . Canys ewch dros ynysoedd Chittim , ac edrychwch ; a danfonwch i Cedar , ac ystyriwch yn ddiwyd , ac edrychwch a fu y cyfryw beth . A newidiodd un genedl eu duwiau , a hwy heb fod yn dduwiau ? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd . O chwi nefoedd , synnwch wrth hyn , ac ofnwch yn aruthrol , a byddwch anghyfannedd iawn , medd yr Arglwydd . Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl ; hwy a’m gadawsant i , ffynnon y dyfroedd byw , ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau , ie , pydewau wedi eu torri , ni ddaliant ddwfr . Ai gwas ydyw Israel ? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe ? paham yr ysbeiliwyd ef ? Y llewod ieuainc a ruasant arno , ac a leisiasant ; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith , a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd . Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di . Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun , am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw , pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd ? A’r awr hon , beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft , i yfed dwfr Nilus ? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria , i yfed dwfr yr afon ? Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di , a’th wrthdro a’th gerydda : gwybydd dithau a gwêl , mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw , ac nad ydyw fy ofn i ynot ti , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di , ac a ddrylliais dy rwymau ; a thi a ddywedaist , Ni throseddaf ; er hynny ti a wibiaist , gan buteinio ar bob bryn uchel , a than bob pren deiliog . Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden , o’r iawn had oll : pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr ? Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr , a chymryd i ti lawer o sebon ; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i , medd yr Arglwydd Dduw . Pa fodd y dywedi , Ni halogwyd fi , ac nid euthum ar ôl Baalim ? Edrych dy ffordd yn y glyn , gwybydd beth a wnaethost ; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd . Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch , wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt , wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith ? pawb a’r a’i ceisiant hi , nid ymflinant ; yn ei mis y cânt hi . Cadw dy droed rhag noethni , a’th geg rhag syched . Tithau a ddywedaist , Nid oes obaith . Nac oes : canys cerais ddieithriaid , ac ar eu hôl hwynt yr af fi . Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef , felly y cywilyddia tŷ Israel ; hwynt‐hwy , eu brenhinoedd , eu tywysogion , a’u hoffeiriaid , a’u proffwydi ; Y rhai a ddywedant wrth bren , Tydi yw fy nhad ; ac wrth garreg , Ti a’m cenhedlaist . Canys hwy a droesant ataf fi wegil , ac nid wyneb : ond yn amser eu hadfyd y dywedant , Cyfod , a chadw ni . Eithr pa le y mae dy dduwiau , y rhai a wnaethost i ti ? codant , os gallant dy gadw yn amser dy adfyd : canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di , O Jwda . Paham yr ymddadleuwch â mi ? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn , medd yr Arglwydd . Yn ofer y trewais eich plant chwi , ni dderbyniasant gerydd : eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi , megis llew yn distrywio . O genhedlaeth , gwelwch air yr Arglwydd : A fûm i yn anialwch i Israel ? yn dir tywyllwch ? paham y dywed fy mhobl , Arglwyddi ydym ni , ni ddeuwn ni mwy atat ti ? A anghofia morwyn ei harddwisg ? neu y briodasferch ei thlysau ? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif . Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad ? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus . Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed ; nid wrth chwilio y cefais hyn , eithr ar y rhai hyn oll . Eto ti a ddywedi , Am fy mod yn ddiniwed , yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf . Wele , dadleuaf â thi , am ddywedyd ohonot , Ni phechais . Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd ? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft , fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria . Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho , a’th ddwylo ar dy ben : oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di , ac ni lwyddi ynddynt . Hwy a ddywedant , O gyr gŵr ei wraig ymaith , a myned ohoni oddi wrtho ef , ac iddi fod yn eiddo gŵr arall , a ddychwel efe ati hi mwyach ? oni lwyr halogir y tir hwnnw ? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer ; eto dychwel ataf fi , medd yr Arglwydd . Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel , ac edrych pa le ni phuteiniaist . Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy , megis Arabiad yn yr anialwch ; ac a halogaist y tir â’th buteindra , ac â’th ddrygioni . Am hynny yr ataliwyd y cafodydd , ac ni bu glaw diweddar ; a thalcen puteinwraig oedd i ti ; gwrthodaist gywilyddio . Oni lefi di arnaf fi o hyn allan , Fy nhad , ti yw tywysog fy ieuenctid ? A ddeil efe ei ddig byth ? a’i ceidw yn dragywydd ? Wele , dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin , A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig ? Hi a aeth i bob mynydd uchel , a than bob pren deiliog , ac a buteiniodd yno . A mi a ddywedais , wedi iddi wneuthur hyn i gyd , Dychwel ataf fi . Ond ni ddychwelodd . A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny . A gwelais yn dda , am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig , ollwng ohonof hi ymaith , ac a roddais iddi ei llythyr ysgar : er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon ; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd . A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir ; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi . Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon , eithr mewn rhagrith , medd yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon . Cerdda , a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd , a dywed , Ti Israel wrthnysig , dychwel , medd yr Arglwydd , ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch : canys trugarog ydwyf fi , medd yr Arglwydd , ni ddaliaf lid yn dragywydd . Yn unig cydnebydd dy anwiredd , droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw , a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog , ac ni wrandawech ar fy llef , medd yr Arglwydd . Trowch , chwi blant gwrthnysig , medd yr Arglwydd ; canys myfi a’ch priodais chwi : a mi a’ch cymeraf chwi , un o ddinas , a dau o deulu , ac a’ch dygaf chwi i Seion : Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon , y rhai a’ch porthant chwi â gwybodaeth , ac â deall . Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear , yn y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd , ni ddywedant mwy , Arch cyfamod yr Arglwydd ; ac ni feddwl calon amdani , ac ni chofir hi ; nid ymwelant â hi chwaith , ac ni wneir hynny mwy . Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd ; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd , at enw yr Arglwydd , i Jerwsalem : ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus . Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel , a hwy a ddeuant ynghyd , o dir y gogledd , i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi . Ond mi a ddywedais , Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant , ac y rhoddaf i ti dir dymunol , sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd ? ac a ddywedais , Ti a elwi arnaf fi , Fy nhad , ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i . Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill ; felly , tŷ Israel , y buoch anffyddlon i mi , medd yr Arglwydd . Llef a glywyd yn y mannau uchel , wylofain a dymuniadau meibion Israel : canys gwyrasant eu ffordd , ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw . Ymchwelwch , feibion gwrthnysig , a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi . Wele ni yn dyfod atat ti ; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw . Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau , ac o liaws y mynyddoedd : diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni . Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid ; eu defaid a’u gwartheg , eu meibion a’u merched . Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd , a’n gwarth a’n todd ni : canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom , nyni a’n tadau , o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw , ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw . Israel , os dychweli , dychwel ataf fi , medd yr Arglwydd : hefyd os rhoi heibio dy ffieidd‐dra oddi ger fy mron , yna ni’th symudir . A thi a dyngi , Byw yw yr Arglwydd , mewn gwirionedd , mewn barn , ac mewn cyfiawnder : a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo ; ie , ynddo ef yr ymglodforant . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Jwda , ac wrth Jerwsalem : Braenerwch i chwi fraenar , ac na heuwch mewn drain . Ymenwaedwch i’r Arglwydd , a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon , chwi gwŷr Jwda , a thrigolion Jerwsalem : rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân , a llosgi fel na byddo diffoddydd , oherwydd drygioni eich amcanion . Mynegwch yn Jwda , a chyhoeddwch yn Jerwsalem , a dywedwch , Utgenwch utgorn yn y tir : gwaeddwch , ymgesglwch , a dywedwch , Ymgynullwch , ac awn i’r dinasoedd caerog . Codwch faner tua Seion ; ffowch , ac na sefwch ; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd , a dinistr mawr . Y llew a ddaeth i fyny o’i loches , a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd , ac a aeth allan o’i drigle , i wneuthur dy dir yn orwag ; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd . Am hyn ymwregyswch â lliain sach ; galerwch ac udwch : canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni . Ac yn y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y derfydd am galon y brenin , ac am galon y penaethiaid : yr offeiriaid hefyd a synnant , a’r proffwydi a ryfeddant . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem , gan ddywedyd , Bydd heddwch i chwi ; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid . Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn , ac wrth Jerwsalem , Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl , nid i nithio , ac nid i buro ; Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi : weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy . Wele , megis cymylau y daw i fyny , a’i gerbydau megis corwynt : ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod . Gwae nyni ! canys ni a anrheithiwyd . O Jerwsalem , golch dy galon oddi wrth ddrygioni , fel y byddech gadwedig : pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion ? Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan , ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim . Coffewch i’r cenhedloedd , wele , cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem , ddyfod gwylwyr o wlad bell , a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda . Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn ; am iddi fy niclloni , medd yr Arglwydd . Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti : dyma dy ddrygioni di ; am ei fod yn chwerw , am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di . Fy mol , fy mol ; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon ; mae fy nghalon yn terfysgu ynof : ni allaf dewi , am i ti glywed sain yr utgorn , O fy enaid , a gwaedd rhyfel . Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd ; canys yr holl dir a anrheithiwyd : yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i , a’m cortenni yn ddiatreg . Pa hyd y gwelaf faner , ac y clywaf sain yr utgorn ? Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i ; meibion angall ydynt , ac nid deallgar hwynt : y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg , eithr gwneuthur da ni fedrant . Mi a edrychais ar y ddaear , ac wele , afluniaidd a gwag oedd ; ac ar y nefoedd , a goleuni nid oedd ganddynt . Mi a edrychais ar y mynyddoedd , ac wele , yr oeddynt yn crynu ; a’r holl fryniau a ymysgydwent . Mi a edrychais , ac wele , nid oedd dyn , a holl adar y nefoedd a giliasent . Mi a edrychais , ac wele y doldir yn anialwch , a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr Arglwydd , gan lidiowgrwydd ei ddicter ef . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Y tir oll fydd diffeithwch : ac eto ni wnaf ddiben . Am hynny y galara y ddaear , ac y tywylla y nefoedd oddi uchod : oherwydd dywedyd ohonof fi , Mi a’i bwriedais , ac ni bydd edifar gennyf , ac ni throaf oddi wrtho . Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas ; hwy a ânt i’r drysni , ac a ddringant ar y creigiau : yr holl ddinasoedd a adewir , ac heb neb a drigo ynddynt . A thithau yr anrheithiedig , beth a wnei ? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad , er i ti ymdrwsio â thlysau aur , er i ti liwio dy wyneb â lliwiau , yn ofer y’th wnei dy hun yn deg ; dy gariadau a’th ddirmygant , ac a geisiant dy einioes . Canys clywais lef megis gwraig yn esgor , cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf , llef merch Seion yn ochain , ac yn lledu ei dwylo , gan ddywedyd , Gwae fi yr awr hon ! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid . Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem , ac edrychwch yr awr hon , mynnwch wybod hefyd , a cheisiwch yn ei heolydd hi , o chewch ŵr , a oes a wnêl farn , a gais wirionedd , a myfi a’i harbedaf hi . Ac er dywedyd ohonynt , Byw yw yr Arglwydd , eto yn gelwyddog y tyngant . O Arglwydd , onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di ? ti a’u trewaist hwynt , ac nid ymofidiasant ; difeaist hwynt , eithr gwrthodasant dderbyn cerydd : hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig , gwrthodasant ddychwelyd . A mi a ddywedais , Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn , ynfydion ydynt : canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd , na barn eu Duw . Mi a af rhagof at y gwŷr mawr , ac a ymddiddanaf â hwynt ; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd , a barn eu Duw : eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau , ac a ddrylliasant y rhwymau . Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy , blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy , llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy : pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir : canys eu camweddau a amlhasant , eu gwrthdrofeydd a chwanegasant . Pa fodd y’th arbedwn am hyn ? dy blant a’m gadawsant i , ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau : a phan ddiwellais hwynt , gwnaethant odineb , ac a heidiasant i dŷ y butain . Oeddynt fel meirch porthiannus y bore ; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog . Onid ymwelaf am y pethau hyn ? medd yr Arglwydd : oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Dringwch ar ei muriau hi , a distrywiwch , ond na orffennwch yn llwyr : tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi : canys nid eiddo’r Arglwydd ydynt . Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi , medd yr Arglwydd . Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd , a dywedasant , Nid efe yw ; ac ni ddaw drygfyd arnom , ac ni welwn gleddyf na newyn : A’r proffwydi a fuant fel gwynt , a’r gair nid yw ynddynt : fel hyn y gwneir iddynt hwy . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Am i chwi ddywedyd y gair hwn , wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân , a’r bobl hyn yn gynnud , ac efe a’u difa hwynt . Wele , mi a ddygaf arnoch chwi , tŷ Israel , genedl o bell , medd yr Arglwydd ; cenedl nerthol ydyw , cenedl a fu er ys talm , cenedl ni wyddost ei hiaith , ac ni ddeelli beth a ddywedant . Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored , cedyrn ydynt oll . A hi a fwyty dy gynhaeaf di , a’th fara , yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta : hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg ; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd : dy ddinasoedd cedyrn , y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt , a dloda hi â’r cleddyf . Ac er hyn , yn y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd , ni wnaf fi gwbl ben â chwi . A bydd pan ddywedoch , Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni ? ddywedyd ohonot tithau wrthynt , Megis y gwrthodasoch fi , ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun ; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi . Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob , a chyhoeddwch hyn yn Jwda , gan ddywedyd , Gwrando hyn yn awr , ti bobl ynfyd ac heb ddeall ; y rhai y mae llygaid iddynt , ac ni welant ; a chlustiau iddynt , ac ni chlywant : Onid ofnwch chwi fi ? medd yr Arglwydd : oni chrynwch rhag fy mron , yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol , fel nad elo dros hwnnw ; er i’r tonnau ymgyrchu , eto ni thycia iddynt ; er iddynt derfysgu , eto ni ddeuant dros hwnnw ? Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar : hwynt‐hwy a giliasant , ac a aethant ymaith . Ac ni ddywedant yn eu calon , Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw , yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser : efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf . Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn , a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych . Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid , y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau : gosodant offer dinistr , dynion a ddaliant . Fel cawell yn llawn o adar , felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll : am hynny y cynyddasant , ac yr ymgyfoethogasant . Tewychasant , disgleiriasant , aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus ; ni farnant farn yr amddifad , eto ffynasant ; ac ni farnant farn yr anghenus . Onid ymwelaf am y pethau hyn ? medd yr Arglwydd ; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir : Y proffwydi a broffwydant gelwydd , yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt ; a’m pobl a hoffant hynny : eto beth a wnewch yn niwedd hyn ? Ymgynullwch i ffoi , meibion Benjamin , o ganol Jerwsalem , ac yn Tecoa utgenwch utgorn ; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem : canys drwg a welir o’r gogledd , a dinistr mawr . Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus . Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau : yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll ; porant bob un yn ei le . Paratowch ryfel yn ei herbyn hi ; codwch , ac awn i fyny ar hanner dydd . Gwae ni ! oherwydd ciliodd y dydd , canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant . Codwch , ac awn i fyny o hyd nos , a distrywiwn ei phalasau hi . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Torrwch goed , a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem . Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi ; gorthrymder yw hi oll o’i mewn . Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan , felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni : trais ac ysbail a glywir ynddi ; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron . Cymer addysg , O Jerwsalem , rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt ; rhag i mi dy osod di yn anrhaith , yn dir anghyfanheddol . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden ; tro dy law yn ei hôl , megis casglydd grawnwin i’r basgedau . Wrth bwy y dywedaf fi , a phwy a rybuddiaf , fel y clywant ? Wele , eu clust hwy sydd ddienwaededig , ac ni allant wrando : wele , dirmygus ganddynt air yr Arglwydd ; nid oes ganddynt ewyllys iddo . Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd ; blinais yn ymatal : tywalltaf ef ar y plant yn yr heol , ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd : canys y gŵr a’r wraig a ddelir , yr henwr a’r llawn o ddyddiau . A’u tai a ddigwyddant i eraill , eu meysydd a’u gwragedd hefyd : canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad , medd yr Arglwydd . Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf , pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod : ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad , pob un sydd yn gwneuthur ffalster . A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth , gan ddywedyd , Heddwch , heddwch ; er nad oedd heddwch . A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd‐dra ? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd , ac ni fedrent wrido : am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant ; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Sefwch ar y ffyrdd , ac edrychwch , a gofynnwch am yr hen lwybrau , lle mae ffordd dda , a rhodiwch ynddi ; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau . Ond hwy a ddywedasant , Ni rodiwn ni ynddi . A mi a osodais wylwyr arnoch chwi , gan ddywedyd , Gwrandewch ar sain yr utgorn . Hwythau a ddywedasant , Ni wrandawn ni ddim . Am hynny clywch , genhedloedd : a thi gynulleidfa , gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt . Gwrando , tydi y ddaear ; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn , sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain ; am na wrandawsant ar fy ngeiriau , na’m cyfraith , eithr gwrthodasant hi . I ba beth y daw i mi thus o Seba , a chalamus peraidd o wlad bell ? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy , ac nid melys eich aberthau gennyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn , fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd ; cymydog a’i gyfaill a ddifethir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd , a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear . Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant ; creulon ydynt , ac ni chymerant drugaredd : eu llais a rua megis y môr , ac ar feirch y marchogant yn daclus , megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di , merch Seion . Clywsom sôn amdanynt ; ein dwylo a laesasant ; blinder a’n daliodd , fel gofid gwraig yn esgor . Na ddos allan i’r maes , ac na rodia ar hyd y ffordd : canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch . Merch fy mhobl , ymwregysa â sachliain , ac ymdroa yn y lludw ; gwna i ti gwynfan a galar tost , megis am unig fab : canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni . Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl , i wybod ac i brofi eu ffordd hwy . Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll , yn rhodio ag enllib ; efydd a haearn ŷnt ; llygru y maent hwy oll . Llosgodd y fegin ; gan dân y darfu y plwm ; yn ofer y toddodd y toddydd : canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith . Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt ; am wrthod o’r Arglwydd hwynt . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd , a chyhoedda y gair hwn yno , a dywed , Gwrandewch air yr Arglwydd , chwi holl Jwda , y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Gwellhewch eich ffyrdd , a’ch gweithredoedd ; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma . Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog , gan ddywedyd , Teml yr Arglwydd , teml yr Arglwydd , teml yr Arglwydd ydynt . Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd ; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog ; Ac ni orthrymwch y dieithr , yr amddifad , a’r weddw ; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon ; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr , i’ch niwed eich hun ; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon , yn y tir a roddais i’ch tadau chwi , yn oes oesoedd . Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les . Ai yn lladrata , yn lladd , ac yn godinebu , a thyngu anudon , ac arogldarthu i Baal , a rhodio ar ôl duwiau dieithr , y rhai nid adwaenoch ; Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn , yr hwn y gelwir fy enw i arno , ac y dywedwch , Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll ? Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma , ar yr hwn y gelwir fy enw i , gerbron eich llygaid ? wele , minnau a welais hyn , medd yr Arglwydd . Eithr , atolwg , ewch i’m lle , yr hwn a fu yn Seilo , lle y gosodais fy enw ar y cyntaf , ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw , oherwydd anwiredd fy mhobl Israel . Ac yn awr , am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn , medd yr Arglwydd , minnau a leferais wrthych , gan godi yn fore , a llefaru , eto ni chlywsoch ; a gelwais arnoch , ond nid atebasoch : Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno , yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo , ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau , megis y gwneuthum i Seilo . A mi a’ch taflaf allan o’m golwg , fel y teflais eich holl frodyr , sef holl had Effraim . Am hynny na weddïa dros y bobl hyn , ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt , ac nac eiriol arnaf : canys ni’th wrandawaf . Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ? Y plant sydd yn casglu cynnud , a’r tadau yn cynnau tân , a’r gwragedd yn tylino toes , i wneuthur teisennau i frenhines y nef , ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr , i’m digio i . Ai fi y maent hwy yn ei ddigio ? medd yr Arglwydd : ai hwynt eu hun , er cywilydd i’w hwynebau eu hun ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele , fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma , ar ddyn ac ar anifail , ar goed y maes , ac ar ffrwyth y ddaear ; ac efe a lysg , ac nis diffoddir . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau , a bwytewch gig . Canys ni ddywedais i wrth eich tadau , ac ni orchmynnais iddynt , y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft , am boethoffrymau neu aberthau : Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llef , a mi a fyddaf Dduw i chwi , a chwithau fyddwch yn bobl i minnau ; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi , fel y byddo yn ddaionus i chwi . Eithr ni wrandawsant , ac ni ostyngasant eu clust , ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus , ac aethant yn ôl , ac nid ymlaen . O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn , mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi , bob dydd gan foregodi , ac anfon : Er hynny ni wrandawsant arnaf fi , ac ni ostyngasant eu clust , eithr caledasant eu gwarrau ; gwnaethant yn waeth na’u tadau . Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt ; ond ni wrandawant arnat : gelwi hefyd arnynt ; ond nid atebant di . Eithr ti a ddywedi wrthynt , Dyma genedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw , ac ni dderbyn gerydd : darfu am y gwirionedd , a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt . Cneifia dy wallt , O Jerwsalem , a bwrw i ffordd ; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel : canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint . Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg , medd yr Arglwydd : gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno , i’w halogi ef . A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet , yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom , i losgi eu meibion a’u merched yn tân , yr hyn ni orchmynnais , ac ni feddyliodd fy nghalon . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , na elwir hi mwy Toffet , na glyn mab Hinnom , namyn glyn lladdedigaeth ; canys claddant o fewn Toffet , nes bod eisiau lle . A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear ; ac ni bydd a’u tarfo . Yna y gwnaf i lais llawenydd , a llais digrifwch , llais priodfab , a llais priodferch , ddarfod allan o ddinasoedd Jwda , ac o heolydd Jerwsalem ; canys yn anrhaith y bydd y wlad . Yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda , ac esgyrn ei dywysogion , ac esgyrn yr offeiriaid , ac esgyrn y proffwydi , ac esgyrn trigolion Jerwsalem , allan o’u beddau . A hwy a’u taenant o flaen yr haul , ac o flaen y lleuad , a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy , a’r rhai a wasanaethasant , a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl , a’r rhai a geisiasant , a’r rhai a addolasant : ni chesglir hwynt , ac nis cleddir ; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant . Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn , y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno , medd Arglwydd y lluoedd . Ti a ddywedi wrthynt hefyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; A gwympant hwy , ac ni chodant ? a dry efe ymaith , ac oni ddychwel ? Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol ? glynasant mewn twyll , gwrthodasant ddychwelyd . Mi a wrandewais ac a glywais , ond ni ddywedent yn iawn : nid edifarhaodd neb am ei anwiredd , gan ddywedyd , Beth a wneuthum i ? pob un oedd yn troi i’w yrfa , megis march yn rhuthro i’r frwydr . Ie , y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau ; y durtur hefyd , a’r aran , a’r wennol , a gadwant amser eu dyfodiad ; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd . Pa fodd y dywedwch , Doethion ydym ni , a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni ? wele , yn ddiau ofer y gwnaeth hi ; ofer yw pin yr ysgrifenyddion . Y doethion a waradwyddwyd , a ddychrynwyd , ac a ddaliwyd : wele , gwrthodasant air yr Arglwydd ; a pha ddoethineb sydd ynddynt ? Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill , a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno : canys o’r lleiaf hyd y mwyaf , pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod ; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad , pawb sydd yn gwneuthur ffalster . Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn , gan ddywedyd , Heddwch , heddwch ; pryd nad oedd heddwch . A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra ? na fu ddim cywilydd arnynt , ac ni fedrasant wrido : am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant : yn amser eu hymweliad y syrthiant , medd yr Arglwydd . Gan ddifa y difâf hwynt , medd yr Arglwydd ; ni bydd grawnwin ar y winwydden , na ffigys ar y ffigysbren , a’r ddeilen a syrth ; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt . Paham yr ydym ni yn aros ? ymgesglwch ynghyd , ac awn i’r dinasoedd cedyrn , a distawn yno : canys yr Arglwydd ein Duw a’n gostegodd , ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed , oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd . Disgwyl yr oeddem am heddwch , eto ni ddaeth daioni ; am amser meddyginiaeth , ac wele ddychryn . O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef ; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear : canys hwy a ddaethant , ac a fwytasant y tir , ac oll a oedd ynddo ; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi . Canys wele , mi a ddanfonaf seirff , asbiaid i’ch mysg , y rhai nid oes swyn rhagddynt : a hwy a’ch brathant chwi , medd yr Arglwydd . Pan ymgysurwn yn erbyn gofid , fy nghalon sydd yn gofidio ynof . Wele lais gwaedd merch fy mhobl , oblegid y rhai o wlad bell : Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion ? onid yw ei brenin hi ynddi ? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig , ac ag oferedd dieithr ? Y cynhaeaf a aeth heibio , darfu yr haf , ac nid ydym ni gadwedig . Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i : galerais ; daliodd synder fi . Onid oes driagl yn Gilead ? onid oes yno ffisigwr ? paham na wellha iechyd merch fy mhobl ? O na bai fy mhen yn ddyfroedd , a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau , fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl ! O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion , fel y gadawn fy mhobl , ac yr elwn oddi wrthynt ! canys hwynt oll ydynt odinebus , a chymanfa anffyddloniaid . A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd ; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear : canys aethant o ddrwg i ddrwg , ac nid adnabuant fi , medd yr Arglwydd . Gochelwch bawb ei gymydog , ac na choelied neb ei frawd : canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla , a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus . Pob un hefyd a dwylla ei gymydog , a’r gwir nis dywedant : hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd , ymflinasant yn gwneuthur anwiredd . Dy drigfan sydd yng nghanol twyll : oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i , medd yr Arglwydd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn eu toddi hwynt , ac yn eu profi hwynt : canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl ? Saeth lem yw eu tafod hwy , yn dywedyd twyll : â’i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog , eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo . Onid ymwelaf â hwynt am hyn ? medd yr Arglwydd : oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan , a galar dros lanerchau yr anialwch ; am eu llosgi hwynt , fel na thramwyo neb trwyddynt , ac na chlywir llais ysgrubliaid : adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant , aethant ymaith . A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau , ac yn drigfan dreigiau ; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd . Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn ? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho , fel y mynego paham y darfu am y tir , ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd ? A dywedodd yr Arglwydd , Am wrthod ohonynt fy nghyfraith , yr hon a roddais ger eu bron hwynt , ac na wrandawsant ar fy llef , na rhodio ynddi ; Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun , ac yn ôl Baalim , yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Wele , mi a’u bwydaf hwynt , y bobl hyn , â wermod , ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl . Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau : a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf , hyd oni ddifethwyf hwynt . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Edrychwch , a gelwch am alarwragedd i ddyfod , a danfonwch am y rhai cyfarwydd , i beri iddynt ddyfod , A brysio , a chodi cwynfan amdanom ni , fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau , ac y difero ein hamrantau ni ddwfr . Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion , Pa wedd y’n hanrheithiwyd ! Ni a lwyr waradwyddwyd ; oherwydd i ni adael y tir , oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan . Eto gwrandewch air yr Arglwydd , O wragedd , a derbynied eich clust air ei enau ef ; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched , a galar bob un i’w gilydd . Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri , ac efe a ddaeth i’n palasau , i ddistrywio y rhai bychain oddi allan , a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd . Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes , ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr , ac ni chynnull neb hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb , ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder , ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth ; Eithr y neb a ymffrostio , ymffrostied yn hyn , ei fod yn deall , ac yn fy adnabod i , mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd , barn , a chyfiawnder , yn y ddaear : oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig ; A’r Aifft , ac â Jwda , ac ag Edom , ac â meibion Ammon , ac â Moab , ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf , a’r rhai a drigant yn yr anialwch : canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig , a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig . Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi , tŷ Israel : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd , ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd : canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy . Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd : oherwydd cymyna un bren o’r coed , gwaith llaw y saer , â bwyell . Ag arian ac ag aur yr harddant ef ; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef , fel na syflo . Megis palmwydden , syth ydynt hwy , ac ni lefarant : y mae yn rhaid eu dwyn hwy , am na allant gerdded . Nac ofnwch hwynt ; canys ni allant wneuthur drwg , a gwneuthur da nid oes ynddynt . Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi , Arglwydd : mawr wyt , a mawr yw dy enw mewn cadernid . Pwy ni’th ofna di , Brenin y cenhedloedd ? canys i ti y gweddai : oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd , ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy , nid oes neb fel tydi . Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant : athrawiaeth oferedd yw cyff . Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis , ac aur o Uffas , gwaith y celfydd , a dwylo’r toddydd : sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy ; gwaith y celfydd ŷnt oll . Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw , efe yw y Duw byw , a’r Brenin tragwyddol : rhag ei lid ef y cryna y ddaear , a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef . Fel hyn y dywedwch wrthynt ; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear , difethir hwynt o’r ddaear , ac oddi tan y nefoedd . Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth , efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb , ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr . Pan roddo efe ei lais , y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd , ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear : efe a wna fellt gyda’r glaw , ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau . Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth ; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig : canys celwydd yw ei ddelw dawdd , ac nid oes anadl ynddynt . Oferedd ŷnt , a gwaith cyfeiliorni : yn amser eu gofwy y difethir hwynt . Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob : canys lluniwr pob peth yw efe , ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef . Arglwydd y lluoedd yw ei enw . Casgl o’r tir dy farsiandïaeth , yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon , a chyfyngaf arnynt , fel y caffont felly . Gwae fi am fy mriw ! dolurus yw fy archoll : ond mi a ddywedais , Yn ddiau dyma ofid , a mi a’i dygaf . Fy mhabell i a anrheithiwyd , a’m rhaffau oll a dorrwyd ; fy mhlant a aethant oddi wrthyf , ac nid ydynt : nid oes mwy a ledo fy mhabell , nac a gyfyd fy llenni . Canys y bugeiliaid a ynfydasant , ac ni cheisiasant yr Arglwydd : am hynny ni lwyddant ; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir . Wele , trwst y sôn a ddaeth , a chynnwrf mawr o dir y gogledd , i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch , ac yn drigfan dreigiau . Gwn , Arglwydd , nad eiddo dyn ei ffordd : nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad . Cosba fi , Arglwydd , eto mewn barn ; nid yn dy lid , rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim . Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant , ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw : canys bwytasant Jacob , ie , bwytasant ef , difasant ef hefyd , ac anrheithiasant ei gyfannedd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn , a dywedwch wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem ; Dywed hefyd wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel : Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn , Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft , o’r ffwrn haearn , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llef , a gwnewch hwynt , yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi : felly chwi a fyddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau : Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau , ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl , megis y mae heddiw . Yna yr atebais , ac y dywedais , O Arglwydd , felly y byddo . Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , gan ddywedyd , Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn , a gwnewch hwynt . Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau , y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft , hyd y dydd hwn , trwy godi yn fore , a thystiolaethu , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llais . Ond ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust , eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus : am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn , yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur , ond ni wnaethant . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda , ac ymysg trigolion Jerwsalem . Troesant at anwiredd eu tadau gynt , y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau : a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy : tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg arnynt , yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho : yna y gwaeddant arnaf , ac ni wrandawaf hwynt . Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt , ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt : ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd . Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau , O Jwda ; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw , ie , allorau i fwgdarthu i Baal . Am hynny na weddïa dros y bobl hyn , ac na chyfod waedd neu weddi drostynt : canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd . Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ , gan iddi wneuthur ysgelerder lawer ? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt : pan wnelit ddrygioni , yna y llawenychit . Olewydden ddeiliog deg , o ffrwyth prydferth , y galwodd yr Arglwydd dy enw : trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi , a’i changhennau a dorrwyd . Canys Arglwydd y lluoedd , yr hwn a’th blannodd , a draethodd ddrwg yn dy erbyn , oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda , y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun , i’m digio i , trwy fwgdarthu i Baal . A’r Arglwydd a hysbysodd i mi , a mi a’i gwn ; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy . A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd ; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i , gan ddywedyd , Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth , a difethwn ef o dir y rhai byw , fel na chofier ei enw ef mwy . Eithr , O Arglwydd y lluoedd , barnwr cyfiawnder , a chwiliwr yr arennau a’r galon , gwelwyf dy ddialedd arnynt ; canys i ti y datguddiais fy nghwyn . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth , y rhai a geisiant dy einioes , gan ddywedyd , Na phroffwyda yn enw yr Arglwydd , rhag dy farw trwy ein dwylo ni : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn ymweled â hwynt : y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf , a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn . Ac ni bydd gweddill ohonynt ; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth , sef blwyddyn eu gofwy . Cyfiawn wyt , Arglwydd , pan ddadleuwyf â thi : er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau : Paham y llwydda ffordd yr anwir , ac y ffynna yr anffyddloniaid oll ? Plennaist hwy , ie , gwreiddiasant ; cynyddant , ie , dygant ffrwyth ; agos wyt yn eu genau , a phell oddi wrth eu harennau . Ond ti , Arglwydd , a’m hadwaenost i ; ti a’m gwelaist , ac a brofaist fy nghalon tuag atat ; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa , a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa . Pa hyd y galara y tir , ac y gwywa gwellt yr holl faes , oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo ? methodd yr anifeiliaid a’r adar , oblegid iddynt ddywedyd , Ni wêl efe ein diwedd ni . O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed , a hwy yn dy flino , pa fodd yr ymdrewi â’r meirch ? ac os blinasant di mewn tir heddychlon , yn yr hwn yr ymddiriedaist , yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen ? Canys dy frodyr , a thŷ dy dad , ie , y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi ; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl : na choelia hwy , er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt . Gadewais fy nhŷ , gadewais fy etifeddiaeth ; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion . Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed , rhuo y mae i’m herbyn ; am hynny caseais hi . Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith ; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi : deuwch , ymgesglwch , holl fwystfilod y maes , deuwch i ddifa . Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan ; sathrasant fy rhandir , fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol . Gwnaethant hi yn anrhaith , ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf : y tir i gyd a anrheithiwyd , am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon . Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch : canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : nid oes heddwch i un cnawd . Heuasant wenith , ond hwy a fedant ddrain ; ymboenasant , ond ni thycia iddynt : a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi , oherwydd llid digofaint yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg , y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu , Wele , mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir , ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt . Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan , mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt ; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth , a phob un i’w dir . Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl , i dyngu i’m henw , Byw yw yr Arglwydd , ( megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal , ) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl . Eithr oni wrandawant , yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon , a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf , Dos a chais i ti wregys lliain , a dod ef am dy lwynau , ac na ddod ef mewn dwfr . Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd , ac a’i dodais am fy llwynau . A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith , gan ddywedyd , Cymer y gwregys a gefaist , ac sydd am dy lwynau , a chyfod , dos i Ewffrates , a chuddia ef mewn twll o’r graig . Felly mi a euthum , ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates , megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi . Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos i Ewffrates , a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno . Yna yr euthum i Ewffrates , ac a gloddiais , ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef : ac wele , pydrasai y gwregys , ac nid oedd efe dda i ddim . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Felly y gwnaf i falchder Jwda , a mawr falchder Jerwsalem bydru . Y bobl ddrygionus hyn , y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i , y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon , ac a ânt ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt , ac i ymostwng iddynt , a fyddant fel y gwregys yma , yr hwn nid yw dda i ddim . Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr , felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf , medd yr Arglwydd , i fod i mi yn bobl , ac yn enw , ac yn foliant , ac yn ogoniant : ond ni wrandawent . Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma : Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Pob costrel a lenwir â gwin . A dywedant wrthyt ti , Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin ? Yna y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn , ie , y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef , yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a holl breswylwyr Jerwsalem , â meddwdod . Trawaf hwy y naill wrth y llall , y tadau a’r meibion ynghyd , medd yr Arglwydd : nid arbedaf , ac ni thrugarhaf , ac ni resynaf , ond eu difetha hwynt . Clywch , a gwrandewch ; na falchïwch : canys yr Arglwydd a lefarodd . Rhoddwch ogoniant i’r Arglwydd eich Duw , cyn iddo ef ddwyn tywyllwch , a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll ; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni , iddo ef ei droi yn gysgod angau , a’i wneuthur yn dywyllwch . Ond oni wrandewch chwi hyn , fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder ; a’m llygaid gan wylo a wylant , ac a ollyngant ddagrau , o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed . Dywed wrth y brenin a’r frenhines , Ymostyngwch , eisteddwch i lawr : canys disgynnodd eich pendefigaeth , sef coron eich anrhydedd . Dinasoedd y deau a gaeir , ac ni bydd a’u hagoro ; Jwda i gyd a gaethgludir , yn llwyr y dygir hi i gaethiwed . Codwch i fyny eich llygaid , a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd : pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti , sef dy ddiadell brydferth ? Beth a ddywedi pan ymwelo â thi ? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion , ac yn ben arnat : oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor ? Ac o dywedi yn dy galon , Paham y digwydd hyn i mi ? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre , ac y dinoethwyd dy sodlau . A newidia yr Ethiopiad ei groen , neu y llewpard ei frychni ? felly chwithau a ellwch wneuthur da , y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg . Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch . Dyma dy gyfran di , y rhan a fesurais i ti , medd yr Arglwydd ; am i ti fy anghofio i , ac ymddiried mewn celwydd . Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb , fel yr amlyger dy warth . Gwelais dy odineb a’th weryriad , brynti dy buteindra a’th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd . Gwae di , Jerwsalem ! a ymlanhei di ? pa bryd bellach ? Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth . Galara Jwda , a’i phyrth a lesgânt ; y maent yn ddu hyd lawr , a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny . A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr : daethant i’r ffosydd , ni chawsant ddwfr ; dychwelasant â’u llestri yn weigion : cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant , a chuddio eu pennau . Oblegid agennu o’r ddaear , am nad oedd glaw ar y ddaear , cywilyddiodd y llafurwyr , cuddiasant eu pennau . Ie , yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes , ac a’i gadawodd , am nad oedd gwellt . A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel ; yfasant wynt fel dreigiau : eu llygaid hwy a ballasant , am nad oedd gwellt . O Arglwydd , er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn , gwna di er mwyn dy enw : canys aml yw ein cildynrwydd ni ; pechasom i’th erbyn . Gobaith Israel , a’i geidwad yn amser adfyd , paham y byddi megis pererin yn y tir , ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith ? Paham y byddi megis gŵr wedi synnu ? fel gŵr cadarn heb allu achub ? eto yr ydwyt yn ein mysg ni , Arglwydd , a’th enw di a elwir arnom : na ad ni . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn , Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro , ac ni ataliasant eu traed : am hynny nis myn yr Arglwydd hwy ; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy , ac a ymwêl â’u pechodau . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni . Pan ymprydiant , ni wrandawaf eu gwaedd hwynt ; a phan offrymant boeth‐offrwm a bwyd‐offrwm , ni byddaf bodlon iddynt : ond â’r cleddyf , ac â newyn , ac â haint , y difâf hwynt . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt , Ni welwch chwi gleddyf , ac ni ddaw newyn atoch ; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i ; nid anfonais hwy , ni orchmynnais iddynt chwaith , ac ni leferais wrthynt : gau weledigaeth , a dewiniaeth , a choegedd , a thwyll eu calon eu hun , y maent hwy yn eu proffwydo i chwi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i , a minnau heb eu hanfon hwynt , eto hwy a ddywedant , Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn ; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny . A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt , a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem , oherwydd y newyn a’r cleddyf ; ac ni bydd neb i’w claddu , hwynt‐hwy , na’u gwragedd , na’u meibion , na’u merched : canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni . Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma , Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd , ac na pheidiant : canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl , ac â phla tost iawn . Os af fi allan i’r maes , wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf ; ac o deuaf i mewn i’r ddinas , wele rai llesg o newyn : canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant . Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda ? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion ? paham y trewaist ni , ac nad oes i ni feddyginiaeth ? disgwyliasom am heddwch , ac nid oes daioni ; ac am amser iachâd , ac wele flinder . Yr ydym yn cydnabod , Arglwydd , ein camwedd , ac anwiredd ein tadau ; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di . Na ffieiddia ni , er mwyn dy enw , ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant : cofia , na thor dy gyfamod â ni . A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio ? neu a rydd y nefoedd gawodau ? Onid ti yw efe , O Arglwydd ein Duw ni ? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni : canys ti a wnaethost y pethau hyn oll . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Pe safai Moses a Samuel ger fy mron , eto ni byddai fy serch ar y bobl yma ; bwrw hwy allan o’m golwg , ac elont ymaith . Ac os dywedant wrthyt , I ba le yr awn ? tithau a ddywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Y sawl sydd i angau , i angau ; a’r sawl i’r cleddyf , i’r cleddyf ; a’r sawl i’r newyn , i’r newyn ; a’r sawl i gaethiwed , i gaethiwed . A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth , medd yr Arglwydd : y cleddyf , i ladd ; a’r cŵn , i larpio ; ac adar y nefoedd , ac anifeiliaid y ddaear , i ysu ac i ddifa . Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear ; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda , am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem . Canys pwy a drugarha wrthyt ti , O Jerwsalem ? a phwy a gwyna i ti ? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti ? Ti a’m gadewaist , medd yr Arglwydd , ac a aethost yn ôl : am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di , ac a’th ddifethaf ; myfi a flinais yn edifarhau . A mi a’u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad : diblantaf , difethaf fy mhobl , gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd . Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr : dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc , anrheithiwr ganol dydd ; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi , a dychryn ar y ddinas . Yr hon a blantodd saith , a lesgaodd : ei henaid hi a lesmeiriodd , ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd ; hi a gywilyddiodd , ac a waradwyddwyd ; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion , medd yr Arglwydd . Gwae fi , fy mam , ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear ! ni logais , ac ni logwyd i mi ; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i . Yr Arglwydd a ddywedodd , Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni ; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt , yn amser adfyd ac yn amser cystudd . A dyr haearn yr haearn o’r gogledd , a’r dur ? Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail , nid am werth , ond oblegid dy holl bechodau , trwy dy holl derfynau . Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elynion i dir nid adwaenost : canys tân a enynnodd yn fy nigofaint , arnoch y llysg . Ti a wyddost , Arglwydd ; cofia fi , ac ymwêl â mi , a dial drosof ar fy erlidwyr ; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros : gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di . Dy eiriau a gaed , a mi a’u bwyteais hwynt ; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon : canys dy enw di a alwyd arnaf fi , O Arglwydd Dduw y lluoedd . Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr , ac nid ymhyfrydais : eisteddais fy hunan oherwydd dy law di ; canys ti a’m llenwaist i o lid . Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol ? a’m pla yn anaele , fel na ellir ei iacháu ? a fyddi di i mi megis celwyddog , neu fel dyfroedd a ballant ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os dychweli , yna y’th ddygaf eilwaith , a thi a sefi ger fy mron ; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael , byddi fel fy ngenau i : dychwelant hwy atat ti , ond na ddychwel di atynt hwy . Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn ; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di , eithr ni’th orchfygant : canys yr ydwyf fi gyda thi , i’th achub ac i’th wared , medd yr Arglwydd . A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus , ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy . Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd ataf fi , gan ddywedyd , Na chymer i ti wraig , ac na fydded i ti feibion na merched , yn y lle hwn . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn , ac am eu mamau a’u dug hwynt , ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon ; O angau nychlyd y byddant feirw : ni alerir amdanynt , ac nis cleddir hwynt : byddant fel tail ar wyneb y ddaear , a darfyddant trwy y cleddyf , a thrwy newyn ; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Na ddos i dŷ y galar , ac na ddos i alaru , ac na chwyna iddynt : canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn , medd yr Arglwydd , sef trugaredd a thosturi . A byddant feirw yn y wlad hon , fawr a bychan : ni chleddir hwynt , ac ni alerir amdanynt ; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt . Ni rannant iddynt fwyd mewn galar , i roi cysur iddynt am y marw ; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur , am eu tad , neu am eu mam . Na ddos i dŷ gwledd , i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd , i lais y priodfab , ac i lais y briodferch , ddarfod o’r lle hwn , o flaen eich llygaid , ac yn eich dyddiau chwi . A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn , ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt , Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni ? neu , Pa beth yw ein hanwiredd ? neu , Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw ? Yna y dywedi wrthynt , Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i , medd yr Arglwydd , a myned ar ôl duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt , ac ymgrymu iddynt , a’m gwrthod i , a bod heb gadw fy nghyfraith ; A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau , canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg , heb wrando arnaf ; Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn , i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau ; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos , lle ni ddangosaf i chwi ffafr . Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na ddywedir mwyach , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft : Eithr , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd , ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt : a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau . Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer , medd yr Arglwydd , a hwy a’u pysgotant hwy ; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer , a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd , ac oddi ar bob bryn , ac o ogofeydd y creigiau . Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt : nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i , ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid . Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt ; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd ; ie , â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth . O Arglwydd , fy nerth a’m cadernid , a’m noddfa yn nydd blinder ; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear , ac a ddywedant , Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu , oferedd , a phethau heb les ynddynt . A wna dyn dduwiau iddo ei hun , a hwythau heb fod yn dduwiau ? Am hynny wele , mi a wnaf iddynt wybod y waith hon , dangosaf iddynt fy llaw a’m grym : a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw . Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn , ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon , ac ar gyrn eich allorau ; Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel . O fy mynydd yn y maes , dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith , a’th uchelfeydd i bechod , trwy dy holl derfynau . Ti a adewir hefyd dy hunan , heb dy etifeddiaeth a roddais i ti ; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost : canys cyneuasoch dân yn fy nig , yr hwn a lysg byth . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn , ac a wnelo gnawd yn fraich iddo , a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd . Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch , ac ni wêl pan ddêl daioni ; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch , mewn tir hallt ac anghyfanheddol . Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd , ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo . Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd , ac a estyn ei wraidd wrth yr afon , ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres ; ei ddeilen fydd ir , ac ar flwyddyn sychder ni ofala , ac ni phaid â ffrwytho . Y galon sydd fwy ei thwyll na dim , a drwg ddiobaith ydyw ; pwy a’i hedwyn ? Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon , yn profi ’r arennau , i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd , ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd . Fel petris yn eistedd , ac heb ddeor , yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng : yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt , ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd . Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad , yw lle ein cysegr ni . O Arglwydd , gobaith Israel , y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir , ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf , am iddynt adael yr Arglwydd , ffynnon y dyfroedd byw . Iachâ fi , O Arglwydd , a mi a iacheir ; achub fi , a mi a achubir : canys tydi yw fy moliant . Wele hwynt yn dywedyd wrthyf , Pa le y mae gair yr Arglwydd ? deued bellach . Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di : ac ni ddymunais y dydd blin , ti a’i gwyddost : yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di . Na fydd yn ddychryn i mi ; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd . Gwaradwydder fy erlidwyr , ac na’m gwaradwydder i ; brawycher hwynt , ac na’m brawycher i : dwg arnynt ddydd drwg , a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cerdda , a saf ym mhorth meibion y bobl , trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn , a thrwy yr hwn y deuant allan , ac yn holl byrth Jerwsalem ; A dywed wrthynt , Gwrandewch air yr Arglwydd , brenhinoedd Jwda , a holl Jwda , a holl breswylwyr Jerwsalem , y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Disgwyliwch ar eich eneidiau , ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth , ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem ; Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth , ac na wnewch ddim gwaith ; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth , fel y gorchmynnais i’ch tadau . Ond ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust ; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando , a rhag derbyn addysg . Er hynny os dyfal wrandewch arnaf , medd yr Arglwydd , heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth , ond sancteiddio y dydd Saboth , heb wneuthur dim gwaith arno : Yna y daw trwy byrth y ddinas hon , frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd , yn marchogaeth mewn cerbydau , ac ar feirch , hwy a’u tywysogion , gwŷr Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem ; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth . Ac o ddinasoedd Jwda , ac o amgylchoedd Jerwsalem , ac o wlad Benjamin , ac o’r gwastadedd , ac o’r mynydd , ac o’r deau , y daw rhai yn dwyn poethoffrymau , ac aberthau , a bwyd‐offrymau , a thus , ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd . Ond os chwi ni wrendy arnaf , i sancteiddio y dydd Saboth , heb ddwyn baich , wrth ddyfod i byrth Jerwsalem , ar y dydd Saboth : yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi , ac efe a ysa balasau Jerwsalem , ac nis diffoddir . Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cyfod , a dos i waered i dŷ y crochenydd , ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau . Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd , ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau . A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai , a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd ; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall , fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Oni allaf fi , fel y crochenydd hwn , wneuthur i chwi , tŷ Israel ? medd yr Arglwydd . Wele , megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd , felly yr ydych chwithau yn fy llaw i , tŷ Israel . Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio , a thynnu i lawr , a difetha cenedl neu frenhiniaeth ; Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni , myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi . A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu , ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth ; Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg , heb wrando ar fy llais , minnau a edifarhaf am y daioni â’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi . Yn awr gan hynny , atolwg , dywed wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn , ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn : dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg , a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda . Hwythau a ddywedasant , Nid oes obaith ; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn , a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gofynnwch , atolwg , ymysg y cenhedloedd , pwy a glywodd y cyfryw bethau ? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn . A wrthyd dyn eira Libanus , yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes ? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall ? Oherwydd i’m pobl fy anghofio i , hwy a arogldarthasant i wagedd , ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd , allan o’r hen lwybrau , i gerdded llwybrau ffordd ddisathr ; I wneuthur eu tir yn anghyfannedd , ac yn chwibaniad byth : pob un a elo heibio iddo a synna , ac a ysgwyd ei ben . Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn ; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd . Yna y dywedasant , Deuwch , a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia ; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad , na chyngor gan y doeth , na’r gair gan y proffwyd : deuwch , trawn ef â’r tafod , ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef . Ystyria di wrthyf , O Arglwydd , a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi . A delir drwg dros dda ? canys cloddiasant ffos i’m henaid : cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt , ac i droi dy ddig oddi wrthynt . Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn , a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf ; a bydded eu gwragedd heb eu plant , ac yn weddwon ; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw , a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel . Clywer eu gwaedd o’u tai , pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth ; canys cloddiasant ffos i’m dal , a chuddiasant faglau i’m traed . Tithau , O Arglwydd , a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i : na faddau eu hanwiredd , ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd ; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron ; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dos , a chais ystên bridd y crochenydd , a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid , A dos allan i ddyffryn mab Hinnom , yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain , a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt ; A dywed , Brenhinoedd Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem , clywch air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg , yr hwn pwy bynnag a’i clywo , ei glustiau a ferwinant . Am iddynt fy ngwrthod i , a dieithrio y lle hwn , ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr , y rhai nid adwaenent hwy , na’u tadau , na brenhinoedd Jwda , a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid ; Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal , i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal ; yr hyn ni orchmynnais , ac ni ddywedais , ac ni feddyliodd fy nghalon : Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet , na Dyffryn mab Hinnom , ond Dyffryn y lladdfa . A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn , a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion , a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy : rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd , ac yn ffiaidd ; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana , oherwydd ei holl ddialeddau hi . A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion , a chnawd eu merched , bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill , yn y gwarchae a’r cyfyngder , â’r hwn y cyfynga eu gelynion , a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes , arnynt . Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi , Ac y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn , a’r ddinas hon , fel y dryllia un lestr pridd , yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach ; ac yn Toffet y cleddir hwynt , o eisiau lle i gladdu . Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn , medd yr Arglwydd , ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo ; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet . A thai Jerwsalem , a thai brenhinoedd Jwda , a fyddant halogedig fel mangre Toffet : oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd , ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr . Yna y daeth Jeremeia o Toffet , lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo , ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrth yr holl bobl , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon , ac ar ei holl drefydd , yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn , am galedu ohonynt eu gwarrau , rhag gwrando fy ngeiriau . Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad , yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd , i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn ; Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd , ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin , yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd . A thrannoeth , Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar . Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef , Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur , ond Magor-missabib . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun , ac i’r rhai oll a’th garant ; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion , a’th lygaid di yn gweled : rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon , ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon , ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf . Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon , a’i holl lafur , a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi , a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion , y rhai a’u hanrheithiant hwynt , ac a’u cymerant , ac a’u dygant i Babilon . A thithau , Pasur , a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ , a ewch i gaethiwed ; a thi a ddeui i Babilon , ac yno y byddi farw , ac yno y’th gleddir , ti , a’r rhai oll a’th garant , y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog . O Arglwydd , ti a’m hudaist , a mi a hudwyd : cryfach oeddit na mi , a gorchfygaist : yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd , pob un sydd yn fy ngwatwar . Canys er pan leferais , mi a waeddais , trais ac anrhaith a lefais ; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd . Yna y dywedais , Ni soniaf amdano ef , ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach : ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân , wedi ei gau o fewn fy esgyrn , a mi a flinais yn ymatal , ac ni allwn beidio . Canys clywais ogan llawer , dychryn o amgylch : Mynegwch , meddant , a ninnau a’i mynegwn : pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi , gan ddywedyd , Ysgatfydd efe a hudir , a ni a’i gorchfygwn ef , ac a ymddialwn arno . Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy : am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant , ac ni orchfygant ; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr , canys ni lwyddant : nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth . Ond tydi , Arglwydd y lluoedd , yr hwn wyt yn profi y cyfiawn , yn gweled yr arennau a’r galon , gad i mi weled dy ddialedd arnynt : canys i ti y datguddiais fy nghwyn . Cenwch i’r Arglwydd , moliennwch yr Arglwydd : canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus . Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno : na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam . Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad , gan ddywedyd , Ganwyd i ti blentyn gwryw ; gan ei lawenychu ef yn fawr . A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr Arglwydd , ac ni bu edifar ganddo : a chaffed efe glywed gwaedd y bore , a bloedd bryd hanner dydd : Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth ; neu na buasai fy mam yn fedd i mi , a’i chroth yn feichiog arnaf byth . Paham y deuthum i allan o’r groth , i weled poen a gofid , fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth ? Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia , a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , gan ddywedyd , Ymofyn , atolwg , â’r Arglwydd drosom ni , ( canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni , ) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau , fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni . Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia ; Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo , y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon , ac yn erbyn y Caldeaid , y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer , a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon . A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig , ac â braich gref , mewn soriant , a llid , a digofaint mawr . Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon , yn ddyn , ac yn anifail : byddant feirw o haint mawr . Ac wedi hynny , medd yr Arglwydd , y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i weision , a’r bobl , a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon , gan yr haint , gan y cleddyf , a chan y newyn , i law Nebuchodonosor brenin Babilon , ac i law eu gelynion , ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes : ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf ; ni thosturia wrthynt , ac nid erbyd , ac ni chymer drugaredd . Ac wrth y bobl hyn y dywedi , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes , a ffordd angau . Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf , a chan y newyn , a chan yr haint ; ond y neb a elo allan , ac a gilio at y Caldeaid , y rhai sydd yn gwarchae arnoch , a fydd byw , a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo . Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon , er drwg , ac nid er da , medd yr Arglwydd : yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi , ac efe a’i llysg hi â thân . Ac am dŷ brenin Jwda , dywed , Gwrandewch air yr Arglwydd . O dŷ Dafydd , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Bernwch uniondeb y bore , ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr , rhag i’m llid dorri allan fel tân , a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd , oherwydd drygioni eich gweithredoedd . Wele fi yn dy erbyn , yr hon wyt yn preswylio y dyffryn , a chraig y gwastadedd , medd yr Arglwydd ; y rhai a ddywedwch , Pwy a ddaw i waered i’n herbyn ? neu , Pwy a ddaw i’n hanheddau ? Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd , medd yr Arglwydd ; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig , ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Dos di i waered i dŷ brenin Jwda , a llefara yno y gair hwn ; A dywed , Gwrando air yr Arglwydd , frenin Jwda , yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd , ti , a’th weision , a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gwnewch farn a chyfiawnder , a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr : na wnewch gam , ac na threisiwch y dieithr , yr amddifad , na’r weddw , ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn . Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn , daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd , yn marchogaeth mewn cerbydau , ac ar feirch , efe , a’i weision , a’i bobl . Eithr oni wrandewch y geiriau hyn , i mi fy hun y tyngaf , medd yr Arglwydd , y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda ; Gilead wyt i mi , a phen Libanus : eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch , ac yn ddinasoedd anghyfanheddol . Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr , pob un â’i arfau : a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd , ac a’u bwriant i’r tân . A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon , ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon ? Yna yr atebant , Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw , ac addoli duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt . Nac wylwch dros y marw , ac na ymofidiwch amdano , ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith : canys ni ddychwel mwyach , ac ni wêl wlad ei enedigaeth . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda , yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad , yr hwn a aeth allan o’r lle hwn ; Ni ddychwel efe yno mwyach . Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo , yno y bydd efe farw ; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach . Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder , a’i ystafellau trwy gam ; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad , ac heb roddi iddo am ei waith : Yr hwn a ddywed , Mi a adeiladaf i mi dŷ eang , ac ystafellau helaeth ; ac a nadd iddo ffenestri , a llofft o gedrwydd , wedi ei lliwio â fermilion . A gei di deyrnasu , am i ti ymgau mewn cedrwydd ? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad , ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder , ac yna y bu dda iddo ? Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus ; yna y llwyddodd : onid fy adnabod i oedd hyn ? medd yr Arglwydd , Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod , ac ar dywallt gwaed gwirion , ac ar wneuthur trais , a cham . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , Ni alarant amdano , gan ddywedyd , O fy mrawd ! neu , O fy chwaer ! ni alarant amdano ef , gan ddywedyd , O iôr ! neu , O ei ogoniant ef ! Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef , wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem . Dring i Libanus , a gwaedda ; cyfod dy lef yn Basan , a bloeddia o’r bylchau : canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant . Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat ; tithau a ddywedaist , Ni wrandawaf . Dyma dy arfer o’th ieuenctid , na wrandewaist ar fy llais . A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid , a’th gariadau a ânt i gaethiwed : yna y’th gywilyddir , ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni . Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus , yn nythu yn y cedrwydd , mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat , fel cnofeydd gwraig yn esgor ! Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw , diau y tynnwn di oddi yno : A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes , ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau , sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon , ac i law y Caldeaid . Bwriaf dithau hefyd , a’th fam a’th esgorodd , i wlad ddieithr , yr hon ni’ch ganwyd ynddi , ac yno y byddwch farw . Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi , ni ddychwelant yno . Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia ? ai llestr yw heb hoffter ynddo ? paham y bwriwyd hwynt ymaith , efe a’i had , ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant ? O ddaear , ddaear , ddaear , gwrando air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant , gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau : canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd , nac a lywodraetho mwyach yn Jwda . Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa ! medd yr Arglwydd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl ; Chwi a wasgarasoch fy nefaid , ac a’u hymlidiasoch , ac nid ymwelsoch â hwynt : wele fi yn ymweled â chwi , am ddrygioni eich gweithredoedd , medd yr Arglwydd . A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt , a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau ; yna yr amlhânt ac y chwanegant . Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid , y rhai a’u bugeilia hwynt ; ac nid ofnant mwyach , ac ni ddychrynant , ac ni byddant yn eisiau , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn , a Brenin a deyrnasa ac a lwydda , ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear . Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda , ac Israel a breswylia yn ddiogel : a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef , YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na ddywedant mwyach , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft : Eithr , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug i fyny , ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd , ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt ; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun . Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof , fy holl esgyrn a grynant : yr ydwyf fel un meddw , ac fel un wedi i win ei orchfygu ; oherwydd yr Arglwydd , ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef . Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr : canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear , ac y sychodd tirion leoedd yr anialwch ; a’u helynt sydd ddrwg , a’u cadernid nid yw uniawn . Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant : yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt , medd yr Arglwydd . Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch ; gyrrir hwynt rhagddynt , a syrthiant ynddi : canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd , sef blwyddyn eu gofwy , medd yr Arglwydd . Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas : proffwydasant yn Baal , a hudasant fy mhobl Israel . Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll : torri priodas , a rhodio mewn celwydd : cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus , fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni : y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom , a’i thrigolion fel Gomorra . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi , Wele , mi a’u bwydaf hwynt â’r wermod , ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl : canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi : y maent yn eich gwneuthur yn ofer : gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant , ac nid o enau yr Arglwydd . Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr , Yr Arglwydd a ddywedodd , Bydd i chwi heddwch ; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant , Ni ddaw arnoch niwed . Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd , ac a welodd ac a glywodd ei air ef ? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef , ac a’i gwrandawodd ? Wele , corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd , sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus . Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel , nes iddo wneuthur , a nes iddo gwblhau meddwl ei galon : yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur . Ni hebryngais i y proffwydi hyn , eto hwy a redasant ; ni leferais wrthynt , er hynny hwy a broffwydasant . A phe safasent yn fy nghyngor , a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl ; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg , ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd . Ai Duw o agos ydwyf fi , medd yr Arglwydd , ac nid Duw o bell ? A lecha un mewn dirgel leoedd , fel nas gwelwyf fi ef ? medd yr Arglwydd : onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear ? medd yr Arglwydd . Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw , gan ddywedyd , Breuddwydiais , breuddwydiais . Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd ? ie , proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt . Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog ; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw , er mwyn Baal . Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo , myneged freuddwyd ; a’r hwn y mae ganddo fy ngair , llefared fy ngair mewn gwirionedd : beth yw yr us wrth y gwenith ? medd yr Arglwydd . Onid yw fy ngair i megis tân ? medd yr Arglwydd ; ac fel gordd yn dryllio’r graig ? Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi , medd yr Arglwydd , y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau , bob un oddi ar ei gymydog . Wele fi yn erbyn y proffwydi , medd yr Arglwydd , y rhai a lyfnhânt eu tafodau , ac a ddywedant , Efe a ddywedodd . Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog , medd yr Arglwydd , ac a’u mynegant , ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau , ac â’u gwagedd , a mi heb eu gyrru hwynt , ac heb orchymyn iddynt : am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn , medd yr Arglwydd . A phan ofynno y bobl hyn , neu y proffwyd , neu yr offeiriad , i ti , gan ddywedyd , Beth yw baich yr Arglwydd ? yna y dywedi wrthynt , Pa faich ? eich gwrthod a wnaf , medd yr Arglwydd . A’r proffwyd , a’r offeiriad , a’r bobl , y rhai a ddywedo , Baich yr Arglwydd , myfi a ymwelaf â’r gŵr hwnnw , ac â’i dŷ . Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog , a phob un wrth ei frawd , Beth a atebodd yr Arglwydd ? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd ? Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach ; canys baich i bawb fydd ei air ei hun : oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw , Arglwydd y lluoedd , ein Duw ni . Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd , Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti ? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd ? Ond gan eich bod yn dywedyd , Baich yr Arglwydd ; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Am i chwi ddywedyd y gair hwn , Baich yr Arglwydd , a mi wedi anfon atoch , gan ddywedyd , Na ddywedwch , Baich yr Arglwydd : Am hynny wele , myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi , ac mi a’ch gadawaf chwi , a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau , ac a’ch bwriaf allan o’m golwg . A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol , a gwaradwydd tragywydd , yr hwn nid anghofir . Yr Arglwydd a ddangosodd i mi , ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd , wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda , a thywysogion Jwda , gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem , a’u dwyn i Babilon . Un cawell oedd o ffigys da iawn , fel ffigys yr aeddfediad cyntaf : a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn , y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Beth a weli di , Jeremeia ? A mi a ddywedais , Ffigys : y ffigys da , yn dda iawn ; a’r rhai drwg , yn ddrwg iawn , y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , Fel y ffigys da hyn , felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda , y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni . Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni , ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon , ac a’u hadeiladaf hwynt , ac ni thynnaf i lawr ; plannaf hefyd hwynt , ac nis diwreiddiaf . Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod , mai yr Arglwydd ydwyf fi : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy : canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon . Ac fel y ffigys drwg , y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced , ( diau fel hyn y dywed yr Arglwydd , ) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i benaethiaid , a gweddill Jerwsalem , y rhai a weddillwyd yn y wlad hon , a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft : Ie , rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear , er drwg iddynt , i fod yn waradwydd ac yn ddihareb , yn watwargerdd ac yn felltith , ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt . A mi a anfonaf arnynt y cleddyf , newyn , a haint , nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon ; Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda , ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem , gan ddywedyd , Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda , hyd y dydd hwn , honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain , y daeth gair yr Arglwydd ataf , ac mi a ddywedais wrthych , gan foregodi a llefaru , ond ni wrandawsoch . A’r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi , gan foregodi a’u hanfon ; ond ni wrandawsoch , ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed . Hwy a ddywedent , Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg , ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd ; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i’ch tadau , byth ac yn dragywydd : Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu , ac i ymgrymu iddynt ; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo , ac ni wnaf niwed i chwi . Er hynny ni wrandawsoch arnaf , medd yr Arglwydd , fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo , er drwg i chwi eich hunain . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau , Wele , mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd , medd yr Arglwydd , a Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas , a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon , ac yn erbyn ei phreswylwyr , ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch ; difrodaf hwynt hefyd , a gosodaf hwynt yn syndod , ac yn chwibaniad , ac yn anrhaith tragwyddol . Paraf hefyd i lais hyfrydwch , ac i lais llawenydd , i lais y priodfab , ac i lais y briodferch , i sŵn y meini melinau , ac i lewyrch y canhwyllau , ballu ganddynt . A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch , ac yn syndod : a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain . A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain , myfi a ymwelaf â brenin Babilon , ac â’r genedl honno , medd yr Arglwydd , am eu hanwiredd , ac â gwlad y Caldeaid ; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol . Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau , y rhai a leferais i yn ei herbyn , sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn ; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd . Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau : a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd , ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , wrthyf fi ; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw , a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt . A hwy a yfant , ac a frawychant , ac a wallgofant , oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith . Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd , ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt : I Jerwsalem , ac i ddinasoedd Jwda , ac i’w brenhinoedd , ac i’w thywysogion : i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch , yn syndod , yn chwibaniad , ac yn felltith , fel y mae heddiw ; I Pharo brenin yr Aifft , ac i’w weision , ac i’w dywysogion , ac i’w holl bobl ; Ac i’r holl bobl gymysg , ac i holl frenhinoedd gwlad Us , a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid , ac i Ascalon , ac Assa , ac Ecron , a gweddill Asdod ; I Edom , a Moab , a meibion Ammon ; I holl frenhinoedd Tyrus hefyd , ac i holl frenhinoedd Sidon , ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr ; I Dedan , a Thema , a Bus ; ac i bawb o’r cyrrau eithaf ; Ac i holl frenhinoedd Arabia , ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg , y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch ; Ac i holl frenhinoedd Simri , ac i holl frenhinoedd Elam , ac i holl frenhinoedd y Mediaid ; Ac i holl frenhinoedd y gogledd , agos a phell , bob un gyda’i gilydd ; ac i holl deyrnasoedd y byd , y rhai sydd ar wyneb y ddaear : a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt . A thi a ddywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Yfwch a meddwch , a chwydwch , a syrthiwch , ac na chyfodwch , oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith . Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed , yna y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Diau yr yfwch : Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni , ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd ? Na ddihengwch ; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear , medd Arglwydd y lluoedd . Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn , a dywed wrthynt , Yr Arglwydd oddi uchod a rua , ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd ; gan ruo y rhua efe ar ei drigle ; bloedd , fel rhai yn sathru grawnwin , a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear . Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear ; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd : efe a ymddadlau â phob cnawd , y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl , a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear . A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : ni alerir drostynt , ac nis cesglir , ac nis cleddir hwynt ; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear . Udwch , fugeiliaid , a gwaeddwch ; ac ymdreiglwch mewn lludw , chwi flaenoriaid y praidd : canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa ; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol . Metha gan y bugeiliaid ffoi , a chan flaenoriaid y praidd ddianc . Clywir llef gwaedd y bugeiliaid , ac udfa blaenoriaid y praidd : canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt . A’r anheddau heddychlon a ddryllir , gan lid digofaint yr Arglwydd . Efe a wrthododd ei loches , fel cenau llew : canys y mae eu tir yn anghyfannedd , gan lid y gorthrymwr , a chan lid ei ddigofaint ef . Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Saf yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd , a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda , y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr Arglwydd , yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt ; na atal air : I edrych a wrandawant , ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg ; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt , am ddrygioni eu gweithredoedd . A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith , yr hon a roddais ger eich bron , I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi , y rhai a anfonais atoch , gan godi yn fore , ac anfon , ond ni wrandawsoch chwi ; Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo , a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear . Yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd . A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl ; yna yr offeiriaid , a’r proffwydi , a’r holl bobl a’i daliasant ef , gan ddywedyd , Ti a fyddi farw yn ddiau . Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel Seilo y bydd y tŷ hwn , a’r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr ? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd . Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn , yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd , ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd . Yna yr offeiriaid a’r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion , ac wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn : canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon , megis y clywsoch â’ch clustiau . Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion , ac wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’m hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn , ac yn erbyn y ddinas hon , yr holl eiriau a glywsoch . Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd , a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw ; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn . Ac amdanaf fi , wele fi yn eich dwylo ; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn . Ond gwybyddwch yn sicr , os chwi a’m lladd , eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain , ac ar y ddinas hon , ac ar ei thrigolion : canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd atoch i lefaru , lle y clywech , yr holl eiriau hyn . Yna y tywysogion , a’r holl bobl , a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi , Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth : canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym . Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant , ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl , gan ddywedyd , Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda , ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Seion a erddir fel maes , a Jerwsalem a fydd yn garneddau , a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed . A roddodd Heseceia brenin Jwda , a holl Jwda , ef i farwolaeth ? oni ofnodd efe yr Arglwydd , ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd , fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn ? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau . Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd , Ureia mab Semaia , o Ciriath‐jearim , yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon , ac yn erbyn y wlad hon , yn ôl holl eiriau Jeremeia . A phan glywodd y brenin Jehoiacim , a’i holl gedyrn , a’r holl dywysogion , ei eiriau ef , y brenin a geisiodd ei ladd ef : ond pan glywodd Ureia , efe a ofnodd , ac a ffodd , ac a aeth i’r Aifft . A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft , sef Elnathan mab Achbor , a gwŷr gydag ef i’r Aifft : A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft , ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim , yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf , ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin . Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia , fel na roddwyd ef i law y bobl i’w ladd . Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf , Gwna i ti rwymau a gefynnau , a dod hwynt am dy wddf ; Ac anfon hwynt at frenin Edom , ac at frenin Moab , ac at frenin meibion Ammon , ac at frenin Tyrus , ac at frenin Sidon , yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda ; A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi ; Myfi a wneuthum y ddaear , y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear , â’m grym mawr , ac â’m braich estynedig , ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda . Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas ; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef . A’r holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef , a’i fab , a mab ei fab , nes dyfod gwir amser ei wlad ef ; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef . Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef , sef Nebuchodonosor brenin Babilon , a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon ; â’r cleddyf , ac â newyn , ac â haint , yr ymwelaf â’r genedl honno , medd yr Arglwydd , nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef . Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi , nac ar eich dewiniaid , nac ar eich breuddwydwyr , nac ar eich hudolion , nac ar eich swynyddion , y rhai sydd yn llefaru wrthych , gan ddywedyd , Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon : Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi , i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad , ac fel y bwriwn chwi ymaith , ac y methoch . Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon , ac a’i gwasanaetho ef , y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun , medd yr Arglwydd ; a hwy a’i llafuriant hi , ac a drigant ynddi . Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn , gan ddywedyd , Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon , a gwasanaethwch ef a’i bobl , fel y byddoch byw . Paham y byddwch feirw , ti a’th bobl , trwy y cleddyf , trwy newyn , a thrwy haint , fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon ? Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych , gan ddywedyd , Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon : canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi . Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt , medd yr Arglwydd ; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd , fel y gyrrwn chwi ymaith , ac y darfyddai amdanoch chwi , a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi . Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid , a’r holl bobl hyn , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi , y rhai sydd yn proffwydo i chwi , gan ddywedyd , Wele , llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys ; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi . Na wrandewch arnynt ; gwasanaethwch chwi frenin Babilon , a byddwch fyw : paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch ? Ond os proffwydi ydynt hwy , ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt , eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd , nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhŷ brenin Jwda , ac yn Jerwsalem , i Babilon . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , am y colofnau , ac am y môr , ac am yr ystolion , ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon , Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith , pan gaethgludodd efe Jechoneia , mab Jehoiacim brenin Jwda , o Jerwsalem i Babilon , a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem ; Ie , fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem ; Hwy a ddygir i Babilon , ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt , medd yr Arglwydd : yna y dygaf hwynt i fyny , ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn . Ac yn y flwyddyn honno , yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda , yn y bedwaredd flwyddyn , ar y pumed mis , y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd , yr hwn oedd o Gibeon , wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd , yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Myfi a dorrais iau brenin Babilon . O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd , y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn , ac a’u dug i Babilon ; Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda , a holl gaethglud Jwda , y rhai a aethant i Babilon , drachefn i’r lle hwn , medd yr Arglwydd ; canys mi a dorraf iau brenin Babilon . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd , yng ngŵydd yr offeiriaid , ac yng ngŵydd yr holl bobl , y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd ; Ie , y proffwyd Jeremeia a ddywedodd , Amen , poed felly y gwnelo yr Arglwydd : yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di , y rhai a broffwydaist , am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd , a’r holl gaethglud , o Babilon i’r lle hwn . Eto , gwrando di yr awr hon y gair yma , yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl ; Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i , ac o’th flaen dithau erioed , a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer , ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion , am ryfel , ac am ddrygfyd , ac am haint . Y proffwyd a broffwydo am heddwch , pan ddêl gair y proffwyd i ben , yr adnabyddir y proffwyd , mai yr Arglwydd a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd . Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd , ac a’i torrodd ef . A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl . A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd , wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia , gan ddywedyd , Dos di , a dywed i Hananeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Gefynnau pren a dorraist ti ; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn , fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon , a hwy a’i gwasanaethant ef : mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd , Gwrando yn awr , Hananeia ; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti ; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear : o fewn y flwyddyn hon y byddi farw , oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd . Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno , yn y seithfed mis . Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud , ac at yr offeiriaid , ac at y proffwydi , ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon ; ( Wedi myned Jechoneia y brenin , a’r frenhines , a’r ystafellyddion , tywysogion Jwda a Jerwsalem , a’r seiri a’r gofaint , allan o Jerwsalem ; ) Yn llaw Elasa mab Saffan , a Gemareia mab Hilceia , y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , wrth yr holl gaethglud , yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon ; Adeiledwch dai , a phreswyliwch ynddynt ; a phlennwch erddi , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . Cymerwch wragedd , ac enillwch feibion a merched ; a chymerwch wragedd i’ch meibion , a rhoddwch eich merched i wŷr , fel yr esgoront ar feibion a merched , ac yr amlhaoch chwi yno , ac na leihaoch . Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi , a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi ; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau . Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch , na’ch dewiniaid ; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio : Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i ; ni anfonais i mohonynt , medd yr Arglwydd . Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain , yr ymwelaf â chwi , ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus , trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn . Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi , medd yr Arglwydd , meddyliau heddwch ac nid niwed , i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl . Yna y gelwch chwi arnaf , ac yr ewch , ac y gweddïwch arnaf fi , a minnau a’ch gwrandawaf . Ceisiwch fi hefyd , a chwi a’m cewch , pan y’m ceisioch â’ch holl galon . A mi a adawaf i chwi fy nghael , medd yr Arglwydd , a mi a ddychwelaf eich caethiwed , ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd , ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt , medd yr Arglwydd ; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono . Oherwydd i chwi ddywedyd , Yr Arglwydd a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon ; Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr Arglwydd am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd , ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon , ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud ; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf , a newyn , a haint , a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion , y rhai ni ellir eu bwyta , rhag eu dryced . A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf , â newyn , ac â haint ; ac mi a’u rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear , yn felltith , ac yn chwithdra , ac yn chwibaniad , ac yn warth , ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt ; Am na wrandawsant ar fy ngeiriau , medd yr Arglwydd , y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi , gan gyfodi yn fore , a’u hanfon ; ond ni wrandawech , medd yr Arglwydd . Gan hynny gwrandewch air yr Arglwydd , chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon : Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , am Ahab mab Colaia , ac am Sedeceia mab Maaseia , y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i ; Wele , myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi . A holl gaethglud Jwda , yr hon sydd yn Babilon , a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy , gan ddywedyd , Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeceia ac fel Ahab , y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân ; Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel , a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion , a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i , y rhai ni orchmynnais iddynt ; a minnau yn gwybod , ac yn dyst , medd yr Arglwydd . Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem , ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , ac at yr holl offeiriaid , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad , i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd , ar bob gŵr gorffwyllog , ac yn cymryd arno broffwydo , i’w roddi ef mewn carchar , a chyffion : Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth , yr hwn sydd yn proffwydo i chwi ? Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon , gan ddywedyd , Hir fydd y caethiwed hwn : adeiledwch dai , a phreswyliwch ynddynt ; a phlennwch erddi , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Anfon at yr holl gaethglud , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad ; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi , a minnau heb ei anfon ef , a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad , ac â’i had ef : ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn , ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl , medd yr Arglwydd ; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd , Duw Israel , gan ddywedyd , Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr . Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd , i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda , medd yr Arglwydd : a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau , a hwy a’i meddiannant hi . Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Israel , ac am Jwda : Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Llef dychryn a glywsom ni , ofn , ac nid heddwch . Gofynnwch yr awr hon , ac edrychwch a esgora gwryw ; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau , fel gwraig wrth esgor , ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni ? Och ! canys mawr yw y dydd hwn , heb gyffelyb iddo : amser blinder yw hwn i Jacob ; ond efe a waredir ohono . Canys y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di , a mi a ddrylliaf dy rwymau , ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach . Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw , a Dafydd eu brenin , yr hwn a godaf fi iddynt . Ac nac ofna di , O fy ngwas Jacob , medd yr Arglwydd ; ac na frawycha di , O Israel : canys wele , mi a’th achubaf di o bell , a’th had o dir eu caethiwed ; a Jacob a ddychwel , ac a orffwys , ac a gaiff lonydd , ac ni bydd a’i dychryno . Canys yr ydwyf fi gyda thi , medd yr Arglwydd , i’th achub di : er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais , eto ni wnaf ben amdanat ti ; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn , ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd . Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Anafus yw dy ysictod , a dolurus yw dy archoll . Nid oes a ddadleuo dy gŵyn , fel y’th iachaer ; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti . Dy holl gariadau a’th anghofiasant : ni cheisiant mohonot ti ; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn , sef â chosbedigaeth y creulon , am amlder dy anwiredd : oblegid dy bechodau a amlhasant . Paham y bloeddi am dy ysictod ? anafus yw dy ddolur , gan amlder dy anwiredd : oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti . Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir ; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed ; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith , a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail . Canys myfi a roddaf iechyd i ti , ac a’th iachâf di o’th friwiau , medd yr Arglwydd ; oblegid hwy a’th alwasant di , Yr hon a yrrwyd ymaith , gan ddywedyd , Dyma Seion , yr hon nid oes neb yn ei cheisio . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob , ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef ; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd , a’r llys a erys yn ôl ei arfer . A moliant a â allan ohonynt , a llais rhai yn gorfoleddu : a mi a’u hamlhaf hwynt , ac ni byddant anaml ; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt , ac ni byddant wael . Eu meibion hefyd fydd megis cynt , a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron ; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt . A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun , a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun ; a mi a baraf iddo nesáu , ac efe a ddaw ataf : canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi ? medd yr Arglwydd . A chwi a fyddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau . Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter , corwynt parhaus ; ar ben annuwiolion yr erys . Ni ddychwel digofaint llidiog yr Arglwydd , nes iddo ei wneuthur , ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon : yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn . Yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel ; a hwythau a fyddant bobl i mi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf , a gafodd ffafr yn yr anialwch , pan euthum i beri llonyddwch iddo ef , sef i Israel . Er ys talm yr ymddangosodd yr Arglwydd i mi , gan ddywedyd , A chariad tragwyddol y’th gerais : am hynny tynnais di â thrugaredd . Myfi a’th adeiladaf eto , a thi a adeiledir , O forwyn Israel : ymdrwsi eto â’th dympanau , ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns . Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria : y planwyr a blannant , ac a’u mwynhânt yn gyffredin . Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim , Codwch , ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Cenwch orfoledd i Jacob , a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd : cyhoeddwch , molwch , a dywedwch , O Arglwydd , cadw dy bobl , gweddill Israel . Wele , mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd , ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear , y dall a’r cloff , y feichiog a’r hon sydd yn esgor , ar unwaith gyda hwynt : cynulleidfa fawr a ddychwelant yma . Mewn wylofain y deuant , ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt : gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi : oblegid myfi sydd dad i Israel , ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig . Gwrandewch air yr Arglwydd , O genhedloedd , a mynegwch yn yr ynysoedd o bell , a dywedwch , Yr hwn a wasgarodd Israel , a’i casgl ef , ac a’i ceidw fel bugail ei braidd . Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob , ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef . Am hynny y deuant , ac y canant yn uchelder Seion ; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd , am wenith , ac am win , ac am olew , ac am epil y defaid a’r gwartheg : a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy ; ac ni ofidiant mwyach . Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns , a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd : canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd , ac a’u diddanaf hwynt , ac a’u llawenychaf o’u tristwch . A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster , a’m pobl a ddigonir â’m daioni , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Llef a glywyd yn Rama , cwynfan ac wylofain chwerw ; Rahel yn wylo am ei meibion , ni fynnai ei chysuro am ei meibion , oherwydd nad oeddynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Atal dy lef rhag wylo , a’th lygaid rhag dagrau : canys y mae tâl i’th lafur , medd yr Arglwydd ; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn . Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd , medd yr Arglwydd , y dychwel dy blant i’w bro eu hun . Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn ; Cosbaist fi , a mi a gosbwyd , fel llo heb ei gynefino â’r iau : dychwel di fi , a mi a ddychwelir , oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw . Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd , mi a edifarheais ; ac wedi i mi wybod , mi a drewais fy morddwyd : myfi a gywilyddiwyd , ac a waradwyddwyd hefyd , am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid . Ai mab hoff gennyf yw Effraim ? ai plentyn hyfrydwch yw ? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef , gan gofio y cofiaf ef eto : am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef ; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef , medd yr Arglwydd . Cyfod i ti arwyddion ffordd , gosod i ti garneddau uchel : gosod dy galon tua’r briffordd , y ffordd yr aethost : dychwel , forwyn Israel , dychwel i’th ddinasoedd hyn . Pa hyd yr ymgrwydri , O ferch wrthnysig ? oblegid yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear ; Benyw a amgylcha ŵr . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda , ac yn ei dinasoedd , pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt ; Yr Arglwydd a’th fendithio , trigfa cyfiawnder , mynydd sancteiddrwydd . Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda , ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd . Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais , a phob enaid trist a lenwais . Ar hyn y deffroais , ac yr edrychais , a melys oedd fy hun gennyf . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail . Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio , ac i dynnu i lawr , ac i ddinistrio , ac i ddifetha , ac i ddrygu ; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu , medd yr Arglwydd . Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach , Y tadau a fwytasant rawnwin surion , ac ar ddannedd y plant y mae dincod . Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun : pob un a’r a fwytao rawnwin surion , ar ei ddannedd ef y bydd dincod . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel , ac â thŷ Jwda : Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft ; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu , er fy mod i yn briod iddynt , medd yr Arglwydd . Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt , ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt ; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw , a hwythau a fyddant yn bobl i mi . Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog , a phob un ei frawd , gan ddywedyd , Adnabyddwch yr Arglwydd : oherwydd hwynt‐hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant , medd yr Arglwydd ; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd , a’u pechod ni chofiaf mwyach . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd , defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos , yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw : Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd i , medd yr Arglwydd , yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod , a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod , minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel , am yr hyn oll a wnaethant hwy , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , yr adeiledir y ddinas i’r Arglwydd , o dŵr Hananeel hyd borth y gongl . A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef , ar fryn Gareb , ac a amgylcha hyd Goath . A holl ddyffryn y celaneddau , a’r lludw , a’r holl feysydd , hyd afon Cidron , hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain , a fydd sanctaidd i’r Arglwydd ; nis diwreiddir , ac nis dinistrir mwyach byth . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda , honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor . Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem : a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar , yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda . Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef , gan ddywedyd , Paham y proffwydi , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon , ac efe a’i hennill hi ; Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid , ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon , ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau , a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau ; Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon , ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef , medd yr Arglwydd : er i chwi ymladd â’r Caldeaid , ni lwyddwch . A Jeremeia a lefarodd , Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat , gan ddywedyd , Prŷn i ti fy maes , yr hwn sydd yn Anathoth : oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef . Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy , yn ôl gair yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrthyf , Prŷn , atolwg , fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin : canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth , ac i ti y perthyn ei ollwng ; prŷn ef i ti . Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn . A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad , ac a bwysais iddo yr arian , saith sicl a deg darn o arian . A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr , ac a’i seliais ; cymerais hefyd dystion , a phwysais yr arian mewn cloriannau . Yna mi a gymerais lyfr y pryniad , sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod , a’r hwn oedd yn agored . A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia , mab Maaseia , yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr , ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth , yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy . A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Cymer y llyfrau hyn , sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig , a’r llyfr agored hwn , a dod hwynt mewn llestr pridd , fel y parhaont ddyddiau lawer . Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Tai , a meysydd , a gwinllannoedd , a feddiennir eto yn y wlad hon . Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia , myfi a weddïais ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , O Arglwydd Dduw , wele , ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear , â’th fawr allu ac â’th fraich estynedig ; nid oes dim rhy anodd i ti . Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd , ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt : y Duw mawr , cadarn , Arglwydd y lluoedd yw ei enw ; Mawr mewn cyngor , a galluog ar weithred ; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion , i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd , ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd ; Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn , ac yn Israel , ac ymysg dynion eraill ; ac a wnaethost i ti enw , megis heddiw ; Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft , ag arwyddion , ac â rhyfeddodau , ac â llaw gref , ac â braich estynedig , ac ag ofn mawr ; Ac a roddaist iddynt y wlad yma , yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt , sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . A hwy a ddaethant i mewn , ac a’i meddianasant hi ; ond ni wrandawsant ar dy lais , ac ni rodiasant yn dy gyfraith : ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur : am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt . Wele , peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi ; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid , y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn , oherwydd y cleddyf , a’r newyn , a’r haint : a’r hyn a ddywedaist ti , a gwblhawyd ; ac wele , ti a’i gweli . A thi a ddywedaist wrthyf , O Arglwydd Dduw , Prŷn i ti y maes ag arian , a chymer dystion : gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Wele , myfi yw yr Arglwydd , Duw pob cnawd : a oes dim rhy anodd i mi ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid , ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a’i hennill hi . A’r Caldeaid , y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon , a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân , ac a’i llosgant hi , a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal , ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr , i’m digio i . Oblegid meibion Israel , a meibion Jwda , oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd : oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo , medd yr Arglwydd . Canys i’m digofaint , ac i’m llid , y bu y ddinas hon i mi , er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn , i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb : Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda , y rhai a wnaethant i’m digio i , hwynt‐hwy , eu brenhinoedd , eu tywysogion , eu hoffeiriaid , a’u proffwydi , a gwŷr Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem . Er i mi eu dysgu , gan foregodi i roddi addysg iddynt , eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth ; eithr troesant ataf fi eu gwarrau , ac nid eu hwynebau : Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno , i’w halogi ef . A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal , y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom , i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch ; yr hyn ni orchmynnais iddynt , ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn , i beri i Jwda bechu . Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , am y ddinas hon , am yr hon y dywedwch chwi , Rhoddir hi i law brenin Babilon , trwy y cleddyf , a thrwy newyn , a thrwy haint ; Wele , myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd , y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt ; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn , ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel . A hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau . A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd , i’m hofni byth , er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl . A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol , na throaf oddi wrthynt , heb wneuthur lles iddynt ; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau , fel na chiliont oddi wrthyf . Ie , mi a lawenychaf ynddynt , gan wneuthur lles iddynt , a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr , â’m holl galon , ac â’m holl enaid . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn , felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt . A meysydd a feddiennir yn y wlad yma , am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd , Anghyfannedd yw hi , heb ddyn nac anifail ; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi . Meysydd a brynant am arian , ac a ysgrifennant mewn llyfrau , ac a’u seliant , ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin , ac yn amgylchoedd Jerwsalem , ac yn ninasoedd Jwda , ac yn ninasoedd y mynyddoedd , ac yn ninasoedd y gwastad , ac yn ninasoedd y deau : canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt , medd yr Arglwydd . Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith , ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth , yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau , yr Arglwydd yw ei enw : Galw arnaf , a mi a’th atebaf , ac a ddangosaf i ti bethau mawrion , a chedyrn , y rhai nis gwyddost . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , am dai y ddinas hon , ac am dai brenhinoedd Jwda , y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel , ac â chleddyf ; Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid , ond i’w llenwi â chelanedd dynion , y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint , ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt . Wele , myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth , a mi a’u meddyginiaethaf hwynt , ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd . A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda , a chaethiwed Israel , a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad . A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn ; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn , a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn . A hyn fydd i mi yn enw llawenydd , yn glod ac yn ogoniant , o flaen holl genhedloedd y ddaear , y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt : a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Clywir eto yn y lle hwn , ( am yr hwn y dywedwch , Anialwch yw efe , heb ddyn ac heb anifail , yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , y rhai a wnaed yn anghyfannedd , heb ddyn , ac heb breswylwr , ac heb anifail , ) Llef gorfoledd a llef llawenydd , llef y priodfab a llef y briodferch , llef rhai yn dywedyd , Molwch Arglwydd y lluoedd ; oherwydd daionus yw yr Arglwydd , oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd ; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd : canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad , megis yn y dechreuad , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Bydd eto yn y lle yma , yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail , ac yn ei holl ddinasoedd , drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd . Yn ninasoedd y mynydd , yn ninasoedd y gwastad , ac yn ninasoedd y deau , ac yng ngwlad Benjamin , ac yn amgylchoedd Jerwsalem , ac yn ninasoedd Jwda , yr â defaid eto , dan law yr hwn sydd yn eu rhifo , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel , ac i dŷ Jwda . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd ; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir . Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir , a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel ; a hwn yw yr enw y gelwir ef , Yr Arglwydd ein cyfiawnder . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel . Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i , i offrymu poethoffrwm , ac i offrymu bwyd‐offrwm , ac i wneuthur aberth , yn dragywydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd , a’m cyfamod â’r nos , ac na byddo dydd a nos yn eu hamser ; Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas , na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef , ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion . Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd , ac na ellir mesur tywod y môr ; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas , a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi . Hefyd , gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , gan ddywedyd , Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru , gan ddywedyd , Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd , efe a’u gwrthododd hwynt ? felly y dirmygasant fy mhobl , fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif , ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear : Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi , fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham , Isaac , a Jacob : canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt , ac a drugarhaf wrthynt . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon , a’i holl lu , a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef , a’r holl bobloedd , yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem , ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel ; Dos , a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon , ac efe a’i llysg hi â thân : Ac ni ddihengi dithau o’i law ef , canys diau y’th ddelir , ac y’th roddir i’w law ef ; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon , a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di , a thithau a ei i Babilon . Er hynny , O Sedeceia brenin Jwda , gwrando air yr Arglwydd ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti , Ni byddi di farw trwy y cleddyf : Mewn heddwch y byddi farw : a hwy a losgant beraroglau i ti , fel y llosgwyd i’th dadau , y brenhinoedd gynt , y rhai a fu o’th flaen di : a hwy a alarant amdanat ti , gan ddywedyd , O arglwydd ! canys myfi a ddywedais y gair , medd yr Arglwydd . Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem , Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem , ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid , yn erbyn Lachis , ac yn erbyn Aseca : canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem , am gyhoeddi iddynt ryddid ; I ollwng o bob un ei wasanaethwr , a phob un ei wasanaethferch , y rhai fyddent Hebread neu Hebrees , yn rhyddion ; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt , sef gan ei frawd o Iddew . A phan glybu yr holl benaethiaid , a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod , am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion , fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach , yna hwy a wrandawsant , ac a’u gollyngasant ymaith . Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt , a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion , y rhai a ollyngasent yn rhyddion , ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion . Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi , y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed , gan ddywedyd , Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread , yr hwn a werthwyd i ti , ac a’th wasanaethodd chwe blynedd ; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt : ond ni wrandawodd eich tadau arnaf , ac ni ogwyddasant eu clustiau . A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw , ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg , am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog ; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i , yn y tŷ y gelwir fy enw arno : Ond chwi a ddychwelasoch , ac a halogasoch fy enw , ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr , a phob un ei wasanaethferch , y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun : caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ni wrandawsoch arnaf fi , gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd , a phob un i’w gymydog : wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn , medd yr Arglwydd , ryddid i’r cleddyf , i’r haint , ac i’r newyn , ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear . A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod , y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron , wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo , yr hwn a holltasent yn ddau ; Tywysogion Jwda , a thywysogion Jerwsalem , yr ystafellyddion , a’r offeiriaid , a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo ; Ie , mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion , ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes : a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i dywysogion , i law eu gelynion , ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes , ac yn llaw llu brenin Babilon , y rhai a aethant i fyny oddi wrthych . Wele , mi a orchmynnaf , medd yr Arglwydd , ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon , a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi , ac a’i goresgynnant hi , ac a’i llosgant hi â thân : ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda , gan ddywedyd , Dos di i dŷ y Rechabiaid , a llefara wrthynt , a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd , i un o’r ystafelloedd , a dod iddynt win i’w yfed . Yna myfi a gymerais Jaasaneia , mab Jeremeia , mab Habasineia , a’i frodyr , a’i holl feibion , a holl deulu y Rechabiaid ; A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd , i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia , gŵr i Dduw , yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion , yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum , ceidwad y drws . A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win , a chwpanau , a mi a ddywedais wrthynt , Yfwch win . Ond hwy a ddywedasant , Nid yfwn ni ddim gwin : oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn , gan ddywedyd , Nac yfwch win , na chwychwi na’ch plant , yn dragywydd : Na adeiledwch dŷ , ac na heuwch had , ac na phlennwch winllan , ac na fydded gennych chwi : ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau : fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear , lle yr ydych yn ddieithriaid . A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad , am bob peth a orchmynnodd efe i ni ; nad yfem ni win ein holl ddyddiau , nyni , ein gwragedd , ein meibion , a’n merched ; Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio ; ac nid oes gennym na gwinllan , na maes , na had : Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll , a gwrando , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni . Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad , nyni a ddywedasom , Deuwch , ac awn i Jerwsalem , rhag llu y Caldeaid , a rhag llu yr Asyriaid : ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Dos , a dywed wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem , Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau ? medd yr Arglwydd . Geiriau Jonadab mab Rechab , y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion , nad yfent win , a gyflawnwyd : canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn ; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad : a minnau a ddywedais wrthych chwi , gan godi yn fore , a llefaru ; ond ni wrandawsoch arnaf . Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi , gan godi yn fore , ac anfon , gan ddywedyd , Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg , a gwellhewch eich gweithredoedd , ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt ; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau : ond ni ogwyddasoch eich clustiau , ac ni wrandawsoch arnaf . Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad , yr hwn a orchmynnodd efe iddynt ; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar Jwda , ac ar holl drigolion Jerwsalem , yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn : oherwydd i mi ddywedyd wrthynt , ond ni wrandawsant ; a galw arnynt , ond nid atebasant . A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad , a chadw ei holl orchmynion ef , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Cymer i ti blyg llyfr , ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel , ac yn erbyn Jwda , ac yn erbyn yr holl genhedloedd , o’r dydd y lleferais i wrthyt ti , er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn . Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt , y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus , fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod . Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia ; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a lefarasai efe wrtho , mewn plyg llyfr . A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch , gan ddywedyd , Caewyd arnaf fi , ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd . Am hynny dos di , a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau , eiriau yr Arglwydd , lle y clywo y bobl , yn nhŷ yr Arglwydd , ar y dydd ympryd ; a lle y clywo holl Jwda hefyd , y rhai a ddelont o’u dinasoedd , y darlleni di hwynt . Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd , ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus : canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn . Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo , gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd . Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , ar y nawfed mis , y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd , i’r holl bobl yn Jerwsalem , ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem . Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia , yn nhŷ yr Arglwydd , yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd , yn y cyntedd uchaf , wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd , lle y clybu yr holl bobl . Pan glybu Michaia mab Gemareia , mab Saffan , holl eiriau yr Arglwydd allan o’r llyfr , Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd : ac wele , yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd ; sef Elisama yr ysgrifennydd , a Delaia mab Semaia , ac Elnathan mab Achbor , a Gemareia mab Saffan , a Sedeceia mab Hananeia , a’r holl dywysogion . A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl . Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia , mab Selemeia , mab Cusi , at Baruch , gan ddywedyd , Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl , a thyred . Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law , ac a ddaeth atynt . A hwy a ddywedasant wrtho , Eistedd yn awr , a darllen ef lle y clywom ni . Felly Baruch a’i darllenodd lle y clywsant hwy . A phan glywsant yr holl eiriau , hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd ; a hwy a ddywedasant wrth Baruch , Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin . A hwy a ofynasant i Baruch , gan ddywedyd , Mynega i ni yn awr , Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef ? Yna Baruch a ddywedodd wrthynt , Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â’i enau , a minnau a’u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc . Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch , Dos ac ymguddia , ti a Jeremeia ; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi . A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd , ( ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd , ) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin . A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr . Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd . A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin , a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin . A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy , yn y nawfed mis ; a thân wedi ei gynnau ger ei fron . A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair , yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd , ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd , nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd . Eto nid ofnasant , ac ni rwygasant eu dillad , na’r brenin , nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn . Eto Elnathan , a Delaia , a Gemareia , a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr ; ond ni wrandawai efe arnynt . Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech , a Seraia mab Asriel , a Selemeia mab Abdiel , ddala Baruch yr ysgrifennydd , a Jeremeia y proffwyd : ond yr Arglwydd a’u cuddiodd hwynt . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , ( wedi i’r brenin losgi y llyfr , a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia , ) gan ddywedyd , Cymer i ti eto lyfr arall , ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf , yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda : A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ti a losgaist y llyfr hwn , gan ddywedyd , Paham yr ysgrifennaist ynddo , gan ddywedyd , Diau y daw brenin Babilon , ac a anrheithia y wlad hon ; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim brenin Jwda ; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd : a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd , ac i rew y nos . A mi a ymwelaf ag ef , ac â’i had , ac â’i weision , am eu hanwiredd ; a mi a ddygaf arnynt hwy , ac ar drigolion Jerwsalem , ac ar wŷr Jwda , yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn , ond ni wrandawsant . Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall , ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd ; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân : a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau . A’r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim , yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda . Ond ni wrandawodd efe , na’i weision na phobl y tir , ar eiriau yr Arglwydd , y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd . A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia , a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , at Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Gweddïa , atolwg , drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw . A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl : canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy . A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft : a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt , hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem . Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel ; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi ; Wele , llu Pharo , yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi , a ddychwel i’w wlad ei hun , i’r Aifft . A’r Caldeaid a ddychwelant , ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon , ac a’i henillant , ac a’i llosgant â thân . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Na thwyllwch eich hunain , gan ddywedyd , Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni : oblegid nid ânt hwy . Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn ; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig , eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell , ac a losgent y ddinas hon â thân . A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem , rhag llu Pharo , Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem , i fyned i wlad Benjamin , i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl . A phan oedd efe ym mhorth Benjamin , yr oedd yno ben‐swyddog , a’i enw ef oedd Ireia , mab Selemeia , mab Hananeia ; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Cilio at y Caldeaid yr wyt ti . Yna y dywedodd Jeremeia , Nid gwir ; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid . Ond ni wrandawai efe arno : felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia , ac a’i dygodd ef at y tywysogion . Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia , ac a’i trawsant , ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd : oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy . Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy , ac i’r cabanau , ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer ; Yna y brenin Sedeceia a anfonodd , ac a’i cymerodd ef allan : a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun , ac a ddywedodd , A oes gair oddi wrth yr Arglwydd ? A dywedodd Jeremeia , Oes ; canys tydi ( eb efe ) a roddir yn llaw brenin Babilon . Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia , Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di , neu yn erbyn dy weision , neu yn erbyn y bobl hyn , pan y’m rhoddasoch yn y carchardy ? Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi , gan ddywedyd , Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn , nac yn erbyn y wlad hon ? Ac yn awr gwrando , atolwg , O fy arglwydd frenin : atolwg , deued fy ngweddi ger dy fron ; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd , rhag fy marw yno . Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy , a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion , nes darfod yr holl fara yn y ddinas . Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy . Yna Seffatia mab Mattan , a Gedaleia mab Pasur , a Jucal mab Selemeia , a Phasur mab Malcheia , a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon , a fydd farw trwy y cleddyf , trwy newyn , a thrwy haint : ond y neb a elo allan at y Caldeaid , a fydd byw ; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo , a byw fydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon , yr hwn a’i hennill hi . Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin , Rhodder , atolwg , y gŵr hwn i farwolaeth : oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon , a dwylo’r holl bobl , wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn : oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn , ond niwed . A’r brenin Sedeceia a ddywedodd , Wele ef yn eich llaw chwi : canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi . Yna hwy a gymerasant Jeremeia , ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech , yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy : a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau . Ac nid oedd dwfr yn y daeardy , ond tom : felly Jeremeia a lynodd yn y dom . A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad , un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin , iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy , ( a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin , ) Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin , ac a lefarodd wrth y brenin , gan ddywedyd , O fy arglwydd frenin , drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd , yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy ; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae , oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas . Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad , gan ddywedyd , Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi , a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw . Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef , ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy , ac a gymerodd oddi yno hen garpiau , a hen bwdr fratiau , ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau . Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia , Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau . A Jeremeia a wnaeth felly . Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau , ac a’i codasant ef o’r daeardy ; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy . Yna y brenin Sedeceia a anfonodd , ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd , yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd ; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia , Mi a ofynnaf i ti beth : na chela ddim oddi wrthyf fi . A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia , Os mynegaf i ti , oni roddi di fi i farwolaeth ? ac os rhoddaf i ti gyngor , oni wrandewi di arnaf ? Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol , gan ddywedyd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn , ni roddaf fi di i farwolaeth , ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes . Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw y lluoedd , Duw Israel ; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon , yna y bydd dy enaid fyw , ac ni losgir y ddinas hon â thân ; a thithau a fyddi fyw , ti a’th deulu . Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon , yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid , a hwy a’i llosgant hi â thân , ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt . A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia , Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid , rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt , ac i’r rhai hynny fy ngwatwar . A Jeremeia a ddywedodd , Ni roddant ddim : gwrando , atolwg , ar lais yr Arglwydd , yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti ; felly y bydd yn dda i ti , a’th enaid a fydd byw . Ond os gwrthodi fyned allan , dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi : Ac wele , yr holl wragedd , y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda , a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon ; a hwy a ddywedant , Dy gyfeillion a’th hudasant , ac a’th orchfygasant ; dy draed a lynasant yn y dom , a hwythau a droesant yn eu hôl . Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid , ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt ; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir ; a’r ddinas hon a losgi â thân . Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia , Na chaffed neb wybod y geiriau hyn , ac ni’th roddir i farwolaeth . Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi , ac os deuant atat ti , a dywedyd wrthyt , Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin ; na chela oddi wrthym ni , ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth ; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau : Yna dywed wrthynt , Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin , na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan , i farw yno . Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia , ac a’i holasant ef : ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn , y rhai a orchmynasai y brenin : felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef , canys ni chafwyd clywed y peth . A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem ; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem . Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda , ar y degfed mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a warchaeasant arni . Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia , yn y pedwerydd mis , ar y nawfed dydd o’r mis , y torrwyd y ddinas . A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn , ac a eisteddasant yn y porth canol , sef Nergal‐sareser , Samgar-nebo , Sarsechim , Rabsaris , Nergal‐sareser , Rabmag , a holl dywysogion eraill brenin Babilon . A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt , a’r holl ryfelwyr , hwy a ffoesant , ac a aethant allan o’r ddinas liw nos , trwy ffordd gardd y brenin , i’r porth rhwng y ddau fur : ac efe a aeth allan tua’r anialwch . A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt , ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho , ac a’i daliasant ef , ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon , i Ribla yng ngwlad Hamath ; lle y rhoddodd efe farn arno . Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef : brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda . Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon . A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl , â thân ; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem . Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas , a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef , ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid . A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl , y rhai nid oedd dim ganddynt , yng ngwlad Jwda , ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw . A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr , gan ddywedyd , Cymer ef , a bwrw olwg arno , ac na wna iddo ddim niwed ; ond megis y dywedo efe wrthyt ti , felly gwna iddo . Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd , Nebusasban hefyd , Rabsaris , a Nergal‐sareser , Rabmag , a holl benaethiaid brenin Babilon ; Ie , hwy a anfonasant , ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy , ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan , i’w ddwyn adref : felly efe a drigodd ymysg y bobl . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar , gan ddywedyd , Dos , a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed , ac nid er lles , a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw . Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt . Canys gan achub mi a’th achubaf , ac ni syrthi trwy y cleddyf , eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti , am i ti ymddiried ynof fi , medd yr Arglwydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama , wedi iddo ei gymryd ef , ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda , y rhai a gaethgludasid i Babilon . A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia , ac a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn . A’r Arglwydd a’i dug i ben , ac a wnaeth megis y llefarodd : am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd , ac na wrandawsoch ar ei lais ef , am hynny y daeth y peth hyn i chwi . Ac yn awr wele , mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo : os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon , tyred , a myfi a fyddaf da wrthyt : ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon , paid ; wele yr holl dir o’th flaen di : i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned , yno dos . Ac yn awr , ac efe eto heb ddychwelyd , efe a ddywedodd , Dychwel at Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan , yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda , ac aros gydag ef ymhlith y bobl : neu dos lle y gwelych di yn dda fyned . Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd , ac a’i gollyngodd ef ymaith . Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa , ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad . A phan glybu holl dywysogion y lluoedd , y rhai oedd ar hyd y wlad , hwynt‐hwy a’u gwŷr , i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad , ac iddo roddi dan ei law ef wŷr , a gwragedd , a phlant , ac o dlodion y wlad , o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon ; Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa , sef Ismael mab Nethaneia , a Johanan a Jonathan meibion Carea , a Seraia mab Tanhumeth , a meibion Effai y Netoffathiad , a Jesaneia mab Maachathiad , hwynt‐hwy a’u gwŷr . A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy , ac wrth eu gwŷr , gan ddywedyd , Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid : trigwch yn y wlad , a gwasanaethwch frenin Babilon , felly y bydd daioni i chwi . Amdanaf finnau , wele , mi a drigaf ym Mispa , i wasanaethu y Caldeaid , y rhai a ddeuant atom ni : chwithau , cesglwch win , a ffrwythydd haf , ac olew , a dodwch hwynt yn eich llestri , a thrigwch yn eich dinasoedd , y rhai yr ydych yn eu meddiannu . A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab , ac ymysg meibion Ammon , ac yn Edom , ac yn yr holl wledydd , i frenin Babilon adael gweddill o Jwda , a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy ; Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt , ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa , ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn . Johanan hefyd mab Carea , a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad , a ddaethant at Gedaleia i Mispa , Ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti yn hysbys i Baalis , brenin meibion Ammon , anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di ? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy . Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol , gan ddywedyd , Gad i mi fyned , atolwg , a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia , ac ni chaiff neb wybod : paham y lladdai efe di , fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti , ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda ? Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea , Na wna y peth hyn : canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael . Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol , a phendefigion y brenin , sef dengwr gydag ef , at Gedaleia mab Ahicam i Mispa : a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa . Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd , efe a’r dengwr oedd gydag ef , ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf , ac a’i lladdasant ef , yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad . Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef , sef gyda Gedaleia , ym Mispa , a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno , y rhyfelwyr . A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia , heb neb yn gwybod , Yna y daeth gwŷr o Sichem , o Seilo , ac o Samaria , sef pedwar ugeinwr , wedi eillio eu barfau , a rhwygo eu dillad , ac ymdorri , ag offrymau ac â thus yn eu dwylo , i’w dwyn i dŷ yr Arglwydd . Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt , gan gerdded rhagddo , ac wylo ; a phan gyfarfu efe â hwynt , efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch at Gedaleia mab Ahicam . A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas , yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt , ac a’u bwriodd i ganol y pydew , efe a’r gwŷr oedd gydag ef . Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt , y rhai a ddywedasant wrth Ismael , Na ladd ni : oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes , o wenith , ac o haidd , ac o olew , ac o fêl . Felly efe a beidiodd , ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr . A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia , yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa , rhag ofn Baasa brenin Israel : hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â’r rhai a laddasid . Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa , sef merched y brenin , a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa , ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd : ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt , ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon . Ond pan glybu Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia ; Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr , ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia , ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon . A phan welodd yr holl bobl , y rhai oedd gydag Ismael , Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , yna hwy a lawenychasant . Felly yr holl bobl , y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa , a droesant ac a ddychwelasant , ac a aethant at Johanan mab Carea . Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd , ynghyd ag wythnyn , oddi gan Johanan , ac a aeth at feibion Ammon . Yna Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , a gymerasant holl weddill y bobl , y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia , o Mispa , ( wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam , ) sef cedyrn ryfelwyr , a’r gwragedd , a’r plant , a’r ystafellyddion , y rhai a ddygasai efe o Gibeon . A hwy a aethant oddi yno , ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham , yn agos at Bethlehem , i fyned i’r Aifft , Rhag y Caldeaid : oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt , am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam , yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad . Felly holl dywysogion y llu , a Johanan mab Carea , a Jesaneia mab Hosaia , a’r holl bobl , o fychan hyd fawr , a nesasant , Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd , Atolwg , gwrando ein deisyfiad ni , a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw , sef dros yr holl weddill hyn ; ( canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig , fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni ; ) Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi , a’r peth a wnelom . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt , Myfi a’ch clywais chwi ; wele , mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi , a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch , myfi a’i mynegaf i chwi : nid ataliaf ddim oddi wrthych . A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia , Yr Arglwydd fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni , onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr Arglwydd dy Dduw gyda thi atom ni . Os da neu os drwg fydd , ar lais yr Arglwydd ein Duw , yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato , y gwrandawn ni ; fel y byddo da i ni , pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw . Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia . Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea , ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr , Ac a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef ; Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon , myfi a’ch adeiladaf chwi , ac nis tynnaf i lawr , myfi a’ch plannaf chwi , ac nis diwreiddiaf : oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi . Nac ofnwch rhag brenin Babilon , yr hwn y mae arnoch ei ofn ; nac ofnwch ef , medd yr Arglwydd : canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub , ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef . A mi a roddaf i chwi drugaredd , fel y trugarhao efe wrthych , ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun . Ond os dywedwch , Ni thrigwn ni yn y wlad hon , heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw , Gan ddywedyd , Nage : ond i wlad yr Aifft yr awn ni , lle ni welwn ryfel , ac ni chlywn sain utgorn , ac ni bydd arnom newyn bara , ac yno y trigwn ni : Am hynny , O gweddill Jwda , gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft , ac a ewch i ymdeithio yno , Yna y bydd i’r cleddyf , yr hwn yr ydych yn ei ofni , eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft ; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo , a’ch dilyn chwi yn yr Aifft ; ac yno y byddwch feirw . Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft , i aros yno , hwy a leddir â’r cleddyf , â newyn , ac â haint : ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill , neu yn ddihangol , gan y dialedd a ddygaf fi arnynt . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem ; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau , pan ddeloch i’r Aifft : a chwi a fyddwch yn felltith , ac yn syndod , ac yn rheg , ac yn warth , ac ni chewch weled y lle hwn mwyach . O gweddill Jwda , yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch , Nac ewch i’r Aifft : gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw . Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau , wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw , gan ddywedyd , Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw , a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw , a nyni a’i gwnawn . A mi a’i mynegais i chwi heddiw , ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw , nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid . Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys , mai trwy y cleddyf , a thrwy newyn , a thrwy haint , y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo . A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw , am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt , sef yr holl eiriau hyn : Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia , a Johanan mab Carea , a’r holl ddynion beilchion , gan ddywedyd wrth Jeremeia , Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd ; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd , Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno . Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni , i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid , i’n lladd , ac i’n caethgludo i Babilon . Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea , na holl dywysogion y llu , na’r holl bobl , ar lais yr Arglwydd , i drigo yn nhir Jwda : Eithr Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu , a ddygasant ymaith holl weddill Jwda , y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt , i aros yng ngwlad Jwda ; Yn wŷr , a gwragedd , a phlant , a merched y brenin , a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan , y proffwyd Jeremeia hefyd , a Baruch mab Nereia . Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft : canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd ; fel hyn y daethant i Tapanhes . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes , gan ddywedyd , Cymer yn dy law gerrig mawrion , a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen , yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo , yn Tapanhes , yng ngolwg gwŷr Jwda ; A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , mi a anfonaf , ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas , ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais , ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt . A phan ddelo , efe a dery wlad yr Aifft ; y rhai sydd i angau , ag angau ; a’r rhai sydd i gaethiwed , â chaethiwed ; a’r rhai sydd i’r cleddyf , â’r cleddyf . A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft , ac efe a’u llysg hwynt , ac a’u caethgluda hwynt ; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad : ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch . Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul , yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft ; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia , am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft , ac yn preswylio ym Migdol , ac yn Tapanhes , ac yn Noff , ac yng ngwlad Pathros , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem , ac ar holl ddinasoedd Jwda ; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd , ac heb breswylydd ynddynt : O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i , gan fyned i arogldarthu , ac i wasanaethu duwiau dieithr , y rhai nid adwaenent , na hwy , na chwithau , na’ch tadau . Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi , gan foregodi , ac anfon , i ddywedyd , Na wnewch , atolwg , y ffieiddbeth hyn , yr hwn sydd gas gennyf fi : Eto ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust , i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni , fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr . Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint , ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ; ac y maent hwy yn anghyfannedd , ac yn ddiffeithwch , fel y gwelir heddiw . Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel ; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau , i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig , plentyn , a’r hwn sydd yn sugno , allan o Jwda , fel na adawer i chwi weddill ? Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo , gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft , yr hon yr aethoch i aros ynddi , i’ch difetha eich hunain , ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear . A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau , a drygioni brenhinoedd Jwda , a drygioni eu gwragedd hwynt , a’ch drygioni eich hunain , a drygioni eich gwragedd , y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ? Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn , ac nid ofnasant , ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith , nac yn fy neddfau , y rhai a roddais i o’ch blaen chwi , ac o flaen eich tadau . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed , ac i ddifetha holl Jwda . A mi a gymeraf weddill Jwda , y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno , a hwy a ddifethir oll ; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant : trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt : o fychan hyd fawr , trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw : a hwy a fyddant yn felltith , ac yn syndod , ac yn rheg , ac yn warth . Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlad yr Aifft , fel yr ymwelais â Jerwsalem , â chleddyf , â newyn , ac â haint : Fel na byddo un a ddihango , nac a adawer o weddill Jwda , y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft , i ddychwelyd i wlad Jwda , yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi ; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant . Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogldarthu i dduwiau dieithr , a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno , cynulleidfa fawr , yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft , yn Pathros , a atebasant Jeremeia , gan ddywedyd , Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd , ni wrandawn ni arnat . Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau , gan arogldarthu i frenhines y nefoedd , a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm , megis y gwnaethom , nyni a’n tadau , ein brenhinoedd a’n tywysogion , yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem : canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara , ac yn dda , ac heb weled drwg . Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi , bu arnom eisiau pob dim : trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni . A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac yn tywallt diod‐offrwm iddi ; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi , ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi ? Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl , wrth y gwŷr , ac wrth y gwragedd , ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly , gan ddywedyd , Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , chwychwi a’ch tadau , eich brenhinoedd a’ch tywysogion , a phobl y wlad ? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef ? Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy , o achos drygioni eich gweithredoedd , a chan y ffiaidd bethau a wnaethech : am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd , ac yn syndod , ac yn felltith , heb breswylydd , megis y gwelir y dydd hwn . Oherwydd i chwi arogldarthu , ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd , ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd , ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef , nac yn ei ddeddfau , nac yn ei dystiolaethau ; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw . A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl , ac wrth yr holl wragedd , Gwrandewch air yr Arglwydd , holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft . Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch â’ch genau , ac a gyflawnasoch â’ch dwylo , gan ddywedyd , Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom , am arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac am dywallt diod‐offrwm iddi ; llwyr y cwblhewch eich addunedau , a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch . Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd , holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft ; Wele , myfi a dyngais i’m henw mawr , medd yr Arglwydd , na elwir fy enw i mwyach , o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda , gan ddywedyd , Byw yw yr Arglwydd Dduw . Wele , mi a wyliaf arnynt hwy er niwed , ac nid er daioni : a holl wŷr Jwda , y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft , a ddifethir â’r cleddyf , ac â newyn , hyd oni ddarfyddont . A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf , ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda , fyddant ychydig o nifer : a holl weddill Jwda , y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno , a gânt wybod gair pwy a saif , ai yr eiddof fi , ai yr eiddynt hwy . A hyn fydd yn arwydd i chwi , medd yr Arglwydd , sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn , fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion , ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef , fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn , a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes . Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia , pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , wrthyt ti , Baruch ; Tydi a ddywedaist , Gwae fi yn awr ! canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid ; myfi a ddiffygiais yn fy ochain , ac nid wyf yn cael gorffwystra . Fel hyn y dywedi wrtho ef , Yr Arglwydd a ddywed fel hyn ; Wele , myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais , a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais , nid amgen yr holl wlad hon . Ac a geisi di fawredd i ti dy hun ? Na chais : canys wele , myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd , medd yr Arglwydd : ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd , yn erbyn y Cenhedloedd , Yn erbyn yr Aifft , yn erbyn llu Pharo‐necho brenin yr Aifft , yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis , yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda . Teclwch y darian a’r astalch , a nesewch i ryfel . Cenglwch y meirch , ac ewch arnynt , farchogion ; sefwch yn eich helmau , gloywch y gwaywffyn , gwisgwch y llurigau . Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig , wedi cilio yn eu hôl , a’u cedyrn wedi eu curo i lawr , a ffoi ar ffrwst , ac heb edrych yn eu hôl ? dychryn sydd o amgylch , medd yr Arglwydd . Na chaed y buan ffoi , na’r cadarn ddianc ; tua’r gogledd , gerllaw afon Ewffrates , y tripiant , ac y syrthiant . Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon , a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd ? Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi , a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd : a hi a ddywed , Mi a af i fyny , ac a orchuddiaf y ddaear ; myfi a ddifethaf y ddinas , a’r rhai sydd yn trigo ynddi . O feirch , deuwch i fyny ; a chwithau gerbydau , ymgynddeiriogwch ; a deuwch allan y cedyrn ; yr Ethiopiaid , a’r Libiaid , y rhai sydd yn dwyn tarian ; a’r Lydiaid , y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa . Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn , dydd dial , fel yr ymddialo efe ar ei elynion : a’r cleddyf a ysa , ac a ddigonir , ac a feddwir â’u gwaed hwynt : canys aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates . O forwyn , merch yr Aifft , dos i fyny i Gilead , a chymer driagl : yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau ; canys ni bydd iachâd i ti . Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd , a’th waedd a lanwodd y wlad ; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd , a hwy ill dau a gydsyrthiasant . Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremeia y proffwyd , y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon , ac y trawai wlad yr Aifft . Mynegwch yn yr Aifft , cyhoeddwch ym Migdol , hysbyswch yn Noff , ac yn Tapanhes : dywedwch , Saf , a bydd barod ; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd . Paham y syrthiodd dy rai cryfion ? ni safasant , am i’r Arglwydd eu gwthio hwynt . Efe a wnaeth i lawer syrthio , ie , pawb a syrthiodd ar ei gilydd ; a hwy a ddywedasant , Cyfodwch , a dychwelwn at ein pobl , i wlad ein genedigaeth , rhag cleddyf y gorthrymwr . Yno y gwaeddasant , Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst ; aeth dros yr amser nodedig . Fel mai byw fi , medd y Brenin , enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd , cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd , a Charmel yn y môr , efe a ddaw . O ferch drigiannol yr Aifft , gwna i ti offer caethglud ; canys Noff a fydd anghyfannedd , ac a ddifethir heb breswylydd . Yr Aifft sydd anner brydferth , y mae dinistr yn dyfod : o’r gogledd y mae yn dyfod . Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig : canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau , ac a gydffoesant ; ac ni safasant , oherwydd dydd eu gofid , ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt . Ei llais hi a â allan fel sarff : canys â llu yr ânt hwy , ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi , fel cymynwyr coed . Hwy a gymynant i lawr ei choed hi , medd yr Arglwydd , er na ellir ei chwilio : canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn , ac heb rifedi arnynt . Merch yr Aifft a gywilyddir ; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd . Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , sydd yn dywedyd , Wele , myfi a ymwelaf â lliaws No , ac â Pharo , ac â’r Aifft , ac â’i duwiau hi , ac â’i brenhinoedd , sef â Pharo , ac â’r rhai sydd yn ymddiried ynddo ; A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes , ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac yn llaw ei weision ef ; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt , medd yr Arglwydd . Ond nac ofna di , O fy ngwas Jacob ; a thithau Israel , na ddychryna ; canys wele , myfi a’th gadwaf di o bell , a’th had o wlad eu caethiwed ; a Jacob a ddychwel , ac a orffwys , ac a fydd esmwyth arno , ac heb neb a’i dychryno . O fy ngwas Jacob , nac ofna , medd yr Arglwydd ; canys yr ydwyf fi gyda thi ; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt ; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti ; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn , ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid , cyn i Pharo daro Gasa . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , dyfroedd a gyfodant o’r gogledd , ac a fyddant fel afon lifeiriol , a hwy a lifant dros y wlad , a’r hyn sydd ynddi ; y ddinas , a’r rhai sydd yn aros ynddi ; yna y dynion a waeddant , a holl breswylwyr y wlad a udant . Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion , rhag trwst ei gerbydau , a thrwst ei olwynion ef , y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant , gan wendid dwylo : O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid , ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill : oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid , gweddill ynys Cafftor . Moelni a ddaeth ar Gasa , torrwyd ymaith Ascalon , gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt : pa hyd yr ymrwygi di ? O cleddyf yr Arglwydd , pa hyd ni lonyddi ? dychwel i’th wain , gorffwys a bydd ddistaw . Pa fodd y llonydda efe , gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon , ac yn erbyn glan y môr ? yno y gosododd ef . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , yn erbyn Moab ; Gwae Nebo ! canys hi a anrheithiwyd : gwaradwyddwyd Ciriathaim , ac enillwyd hi ; Misgab a waradwyddwyd , ac a ddychrynwyd . Ni bydd ymffrost Moab mwy : yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi : Deuwch , dinistriwn hi i lawr , fel na byddo yn genedl . Tithau , Madmen , a dorrir i lawr , y cleddyf a’th erlid . Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim ; anrhaith , a dinistr mawr . Moab a ddistrywiwyd ; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd . Canys yn rhiw Luhith , galar a â i fyny mewn wylofain , ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr . Ffowch , achubwch eich einioes ; a byddwch fel y grug yn yr anialwch . Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun , tithau a ddelir : Cemos hefyd a â allan i gaethiwed , a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd . A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas , ac ni ddianc un ddinas : eithr derfydd am y dyffryn , a’r gwastad a ddifwynir , megis y dywedodd yr Arglwydd . Rhoddwch adenydd i Moab , fel yr ehedo ac yr elo ymaith ; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd , heb breswylydd ynddynt . Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus , a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed . Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid , a hi a orffwysodd ar ei gwaddod , ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr , ac nid aeth hi i gaethiwed : am hynny y safodd ei blas arni , ac ni newidiodd ei harogl . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan anfonwyf fudwyr , y rhai a’i mudant hi , ac a wacânt ei llestri hi , ac a ddrylliant eu costrelau . A Moab a gywilyddia oblegid Cemos , fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt . Pa fodd y dywedwch chwi , Cedyrn ydym ni , a gwŷr nerthol i ryfel ? Moab a anrheithiwyd , ac a aeth i fyny o’i dinasoedd , a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa , medd y Brenin , a’i enw Arglwydd y lluoedd . Agos yw dinistr Moab i ddyfod , a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest . Alaethwch drosti hi , y rhai ydych o’i hamgylch ; a phawb a’r a edwyn ei henw hi , dywedwch , Pa fodd y torrwyd y ffon gref , a’r wialen hardd ! O breswylferch Dibon , disgyn o’th ogoniant , ac eistedd mewn syched ; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn , ac a ddinistria dy amddiffynfeydd . Preswylferch Aroer , saf ar y ffordd , a gwylia ; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi , ac i’r hwn a ddihango , a dywed , Beth a ddarfu ? Gwaradwyddwyd Moab , canys hi a ddinistriwyd : udwch , a gwaeddwch ; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab ; A barn a ddaw ar y tir gwastad , ar Holon , ac ar Jahasa , ac ar Meffaath , Ac ar Dibon , ac ar Nebo , ac ar Beth‐diblathaim , Ac ar Ciriathaim , ac ar Beth‐gamul , ac ar Beth‐meon . Ac ar Cerioth , ac ar Bosra , ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab , ymhell ac yn agos . Corn Moab a ysgythrwyd , a’i braich hi a dorrwyd , medd yr Arglwydd . Meddwwch hi , oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd : ie , Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa ; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd . Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti ? a gafwyd ef ymysg lladron ? canys er pan soniaist amdano , yr ymgynhyrfaist . Trigolion Moab , gadewch y dinasoedd , ac arhoswch yn y graig , a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll . Nyni a glywsom falchder Moab , ( y mae hi yn falch iawn , ) ei huchder , ei rhyfyg , a’i hymchwydd , ac uchder ei chalon . Myfi a adwaen ei llid hi , medd yr Arglwydd ; ond nid felly y bydd ; ei chelwyddau hi ni wnânt felly . Am hynny yr udaf fi dros Moab , ac y gwaeddaf dros holl Moab : fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres . Myfi a wylaf drosot ti , gwinwydden Sibma , ag wylofain Jaser ; dy gangau a aethant dros y môr , hyd fôr Jaser y cyrhaeddant : yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf , ac ar dy gynhaeaf gwin . A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir , ac o wlad Moab , a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau : ni sathr neb trwy floddest ; eu bloddest ni bydd bloddest . O floedd Hesbon hyd Eleale , a hyd Jahas , y llefasant , o Soar hyd Horonaim , fel anner deirblwydd : canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd . Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd , a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau . Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau , ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau ; oblegid darfod y golud a gasglodd . Oblegid pob pen a fydd moel , a phob barf a dorrir ; ar bob llaw y bydd rhwygiadau , ac am y llwynau , sachliain . Ar holl bennau tai Moab , a’i heolydd oll , y bydd alaeth : oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo , medd yr Arglwydd . Hwy a udant , gan ddywedyd , Pa fodd y bwriwyd hi i lawr ! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd ! Felly Moab a fydd yn watwargerdd , ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , efe a eheda fel eryr , ac a leda ei adenydd dros Moab . Y dinasoedd a oresgynnir , a’r amddiffynfeydd a enillir , a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor . A Moab a ddifethir o fod yn bobl , am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd . Ofn , a ffos , a magl a ddaw arnat ti , trigiannol Moab , medd yr Arglwydd . Y neb a ffy rhag yr ofn , a syrth yn y ffos ; a’r hwn a gyfyd o’r ffos , a ddelir yn y fagl : canys myfi a ddygaf arni , sef ar Moab , flwyddyn eu hymweliad , medd yr Arglwydd . Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid : eithr tân a ddaw allan o Hesbon , a fflam o ganol Sihon , ac a ysa gongl Moab , a chorun y meibion trystfawr . Gwae di , Moab ! darfu am bobl Cemos : canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion , a’th ferched yn gaethion . Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf , medd yr Arglwydd . Hyd yma y mae barn Moab . Am feibion Ammon , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Onid oes meibion i Israel ? onid oes etifedd iddo ? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad , a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef ? Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon ; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol , a’i merched hi a losgir â thân : yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef , medd yr Arglwydd . Uda , Hesbon , am anrheithio Ai : gwaeddwch , chwi ferched Rabba , ymwregyswch mewn sachliain ; alaethwch , a gwibiwch gan y gwrychoedd : oblegid eu brenin a â i gaethiwed , ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd . Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd ? llifodd dy ddyffryn di ymaith , O ferch wrthnysig , yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau , gan ddywedyd , Pwy a ddaw ataf fi ? Wele , myfi a ddygaf arswyd arnat ti , medd Arglwydd Dduw y lluoedd , rhag pawb o’th amgylch : a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen , ac ni bydd a gasglo y crwydrad . Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom ; Onid oes doethineb mwy yn Teman ? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar ? a fethodd eu doethineb hwynt ? Ffowch , trowch eich cefnau , ewch yn isel i drigo , preswylwyr Dedan : canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno , amser ei ofwy . Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti , oni weddillent hwy loffion grawn ? pe lladron liw nos , hwy a anrheithient nes cael digon . Ond myfi a ddinoethais Esau , ac a ddatguddiais ei lochesau ef , fel na allo lechu : ei had ef a ddifethwyd , a’i frodyr a’i gymdogion , ac nid yw efe . Gad dy amddifaid , myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw ; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol , gan yfed a yfasant , ac a ddihengi di yn ddigerydd ? na ddihengi ; eithr tithau a yfi yn sicr . Canys i mi fy hun y tyngais , medd yr Arglwydd , mai yn anghyfannedd , yn warth , yn anialwch , ac yn felltith , y bydd Bosra ; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol . Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr Arglwydd , bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd , yn dywedyd , Ymgesglwch , a deuwch yn ei herbyn hi , a chyfodwch i’r rhyfel . Oherwydd wele , myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd , ac yn wael ymhlith dynion . Dy erwindeb a’th dwyllodd , a balchder dy galon , ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig , ac yn meddiannu uchelder y bryn : er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr , myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno , medd yr Arglwydd . Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd : pawb a’r a elo heibio iddi a synna , ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi . Fel yn ninistr Sodom a Gomorra , a’i chymdogesau , medd yr Arglwydd ; ni phreswylia neb yno , ac nid erys mab dyn ynddi . Wele , fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen , i drigfa y cadarn ; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi : a phwy sydd ŵr dewisol , a osodwyf fi arni hi ? canys pwy sydd fel myfi ? a phwy a esyd i mi amser ? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i ? Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd , yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom , a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman : yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy ; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt . Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear : llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch . Wele , fel eryr y daw i fyny , ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra : yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor . Am Damascus . Hamath ac Arpad a waradwyddwyd ; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg ; llesmeiriasant ; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys . Damascus a lesgaodd , ac a ymdrŷ i ffoi , ond dychryn a’i goddiweddodd hi ; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor . Pa fodd na adewir dinas moliant , caer fy llawenydd ? Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd , a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd . A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus , ac efe a ddifa lysoedd Benhadad . Am Cedar , ac am deyrnasoedd Hasor , y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Cyfodwch , ewch i fyny yn erbyn Cedar , ac anrheithiwch feibion y dwyrain . Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith ; eu llenni , a’u holl lestri , a’u camelod , a gymerant iddynt eu hunain ; a hwy a floeddiant arnynt , Y mae ofn o amgylch . Ffowch , ciliwch ymhell , ewch yn isel i drigo , preswylwyr Hasor , medd yr Arglwydd : oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi , ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi . Cyfodwch , ac ewch i fyny at y genedl oludog , yr hon sydd yn trigo yn ddiofal , medd yr Arglwydd , heb ddorau na barrau iddi ; wrthynt eu hunain y maent yn trigo . A’u camelod a fydd yn anrhaith , a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail , a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf ; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt , medd yr Arglwydd . Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau , ac yn anghyfannedd byth : ni phreswylia neb yno , ac nid erys mab dyn ynddi . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam , yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd : Wele fi yn torri bwa Elam , eu cadernid pennaf hwynt . A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd , a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn ; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam . Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion , a’r rhai a geisiant eu heinioes ; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd , sef angerdd fy nigofaint , medd yr Arglwydd ; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl , nes i mi eu difetha hwynt . A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam , a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion , medd yr Arglwydd . Ond yn y dyddiau diwethaf , myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam , medd yr Arglwydd . Y gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon , ac yn erbyn gwlad y Caldeaid , trwy Jeremeia y proffwyd . Mynegwch ymysg y cenhedloedd , a chyhoeddwch , a chodwch arwydd ; cyhoeddwch , na chelwch : dywedwch , Goresgynnwyd Babilon , gwaradwyddwyd Bel , drylliwyd Merodach : ei heilunod a gywilyddiwyd , a’i delwau a ddrylliwyd . Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi , yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd , fel na byddo preswylydd ynddi : yn ddyn ac yn anifail y mudant , ac y ciliant ymaith . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , meibion Israel a ddeuant , hwy a meibion Jwda ynghyd , dan gerdded ac wylo yr ânt , ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw . Hwy a ofynnant y ffordd i Seion , tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt : Deuwch , meddant , a glynwn wrth yr Arglwydd , trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir . Fy mhobl a fu fel praidd colledig ; eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn , ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith : aethant o fynydd i fryn , anghofiasant eu gorweddfa . Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant , a’u gelynion a ddywedasant , Ni wnaethom ni ar fai ; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd , trigle cyfiawnder ; sef yr Arglwydd , gobaith eu tadau . Ciliwch o ganol Babilon , ac ewch allan o wlad y Caldeaid ; a byddwch fel bychod o flaen y praidd . Oherwydd wele , myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd : a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn ; oddi yno y goresgynnir hi : eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd ; ni ddychwelant yn ofer . A Chaldea fydd yn ysbail : pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir , medd yr Arglwydd . Am i chwi fod yn llawen , am i chwi fod yn hyfryd , chwi fathrwyr fy etifeddiaeth , am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt , a beichio fel teirw ; Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr , a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir : wele , yr olaf o’r cenhedloedd yn anialwch , yn grastir , ac yn ddiffeithwch . Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi , eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd : pawb a êl heibio i Babilon a synna , ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi . Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch ; yr holl berchen bwâu , saethwch ati , nac arbedwch saethau : oblegid hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd . Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch ; hi a roddes ei llaw : ei sylfeini hi a syrthiasant , ei muriau a fwriwyd i lawr ; oherwydd dial yr Arglwydd yw hyn : dielwch arni : fel y gwnaeth , gwnewch iddi . Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon , a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf : rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun , ac y ffoant bob un i’w wlad . Fel dafad ar wasgar yw Israel ; llewod a’i hymlidiasant ymaith : brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd , a’r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a ymwelaf â brenin Babilon , ac â’i wlad , fel yr ymwelais â brenin Asyria . A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa , ac efe a bawr ar Carmel a Basan ; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y ceisir anwiredd Israel , ac ni bydd ; a phechodau Jwda , ond nis ceir hwynt : canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf . Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim , ie , yn ei herbyn hi , ac yn erbyn trigolion Pecod : anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt , medd yr Arglwydd , a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti . Trwst rhyfel sydd yn y wlad , a dinistr mawr . Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear ! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd ! Myfi a osodais fagl i ti , a thithau Babilon a ddaliwyd , a heb wybod i ti : ti a gafwyd ac a ddaliwyd , oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd . Yr Arglwydd a agorodd ei drysor , ac a ddug allan arfau ei ddigofaint : canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid . Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf , agorwch ei hysguboriau hi ; dyrnwch hi fel pentwr ŷd , a llwyr ddinistriwch hi : na fydded gweddill ohoni . Lleddwch ei holl fustych hi ; disgynnant i’r lladdfa : gwae hwynt ! canys eu dydd a ddaeth , ac amser eu hymweliad . Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon , i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni , dial ei deml ef . Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon ; y perchen bwâu oll , gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch ; na chaffed neb ddianc ohoni : telwch iddi yn ôl ei gweithred ; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi , gwnewch iddi : oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd , yn erbyn Sanct Israel . Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi ; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd . Wele fi yn dy erbyn di , O falch , medd Arglwydd Dduw y lluoedd : oherwydd dy ddydd a ddaeth , yr amser yr ymwelwyf â thi . A’r balch a dramgwydda ac a syrth , ac ni bydd a’i cyfodo : a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd , ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd ; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn , ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith . Eu Gwaredwr sydd gryf ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw ; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt , i beri llonydd i’r wlad , ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon . Cleddyf sydd ar y Caldeaid , medd yr Arglwydd , ac ar drigolion Babilon , ac ar ei thywysogion , ac ar ei doethion . Cleddyf sydd ar y celwyddog , a hwy a ynfydant : cleddyf sydd ar ei chedyrn , a hwy a ddychrynant . Cleddyf sydd ar ei meirch , ac ar ei cherbydau , ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi ; a hwy a fyddant fel gwragedd : cleddyf sydd ar ei thrysorau ; a hwy a ysbeilir . Sychder sydd ar ei dyfroedd hi , a hwy a sychant : oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi , ac mewn eilunod y maent yn ynfydu . Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch , a chathod , a arhosant yno , a chywion yr estrys a drigant ynddi : ac ni phreswylir hi mwyach byth ; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth . Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra , a’i chymdogesau , medd yr Arglwydd ; felly ni phreswylia neb yno , ac ni erys mab dyn ynddi . Wele , pobl a ddaw o’r gogledd , a chenedl fawr , a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear . Y bwa a’r waywffon a ddaliant ; creulon ydynt , ac ni thosturiant : eu llef fel môr a rua , ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di , merch Babilon , fel gŵr i ryfel . Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt , a’i ddwylo ef a lesgasant : gwasgfa a’i daliodd ef , a gwewyr fel gwraig wrth esgor . Wele , fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn : eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi : a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi ? canys pwy sydd fel myfi ? a phwy a esyd i mi yr amser ? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i ? Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd , yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon , a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid : yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy ; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt . Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear , ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon , ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i ; A mi a anfonaf i Babilon nithwyr , a hwy a’i nithiant hi , ac a wacânt ei thir hi ; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder . Yn erbyn yr hwn a anelo , aneled y saethydd ei fwa , ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig ; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc , difrodwch ei holl lu hi . Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid , a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi . Canys Israel ni adawyd , na Jwda , gan ei Dduw , gan Arglwydd y lluoedd : er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel . Ffowch o ganol Babilon , ac achubwch bawb ei enaid ei hun : na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi : oblegid amser dial yw hwn i’r Arglwydd ; efe a dâl y pwyth iddi hi . Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd , yn meddwi pob gwlad : yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi ; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant . Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon , ac y drylliwyd hi : udwch drosti , cymerwch driagl i’w dolur hi , i edrych a iachâ hi . Nyni a iachasom Babilon , ond nid aeth hi yn iach : gadewch hi , ac awn bawb i’w wlad : canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd , ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau . Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni : deuwch , a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw . Gloywch y saethau ; cesglwch y tarianau : yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media : oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon , i’w dinistrio hi ; canys dial yr Arglwydd yw hyn , dial ei deml ef . Dyrchefwch faner ar furiau Babilon ; cadarnhewch yr wyliadwriaeth ; gosodwch i fyny y gwylwyr ; darperwch y cynllwynwyr ; canys yr Arglwydd a fwriadodd , ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon . Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer , yn aml dy drysorau , dy ddiwedd di a ddaeth , sef mesur dy gybydd‐dod . Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun , gan ddywedyd , Diau y’th lanwaf â dynion megis â lindys ; a hwy a ganant floddest i’th erbyn . Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth , ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb , ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall . Pan roddo efe ei lef , y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd , ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear : ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw , ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau . Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth ; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig : canys celwyddog yw ei ddelw dawdd , ac nid oes chwythad ynddynt . Oferedd ydynt , gwaith cyfeiliorni : yn amser eu hymweliad y difethir hwynt . Nid fel y rhai hyn , eithr Lluniwr y cwbl oll , yw rhan Jacob ; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef : Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef . Ti wyt forthwyl i mi , ac arfau rhyfel : canys â thi y drylliaf y cenhedloedd , ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd ; A thi hefyd y gwasgaraf y march a’r marchwr ; ac â thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog ; A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig ; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc ; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn ; A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd ; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen ; ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid . A mi a dalaf i Babilon , ac i holl breswylwyr Caldea , eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion , yn eich golwg chwi , medd yr Arglwydd . Wele fi i’th erbyn di , O fynydd dinistriol , yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear , medd yr Arglwydd ; a myfi a estynnaf fy llaw arnat , ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau , ac a’th wnaf di yn fynydd llosg . Ac ni chymerant ohonot faen congl , na sylfaen ; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di , medd yr Arglwydd . Dyrchefwch faner yn y tir ; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd ; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi ; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat , Minni , ac Aschenas , yn ei herbyn hi ; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi ; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â’r lindys blewog . Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi , gyda brenhinoedd Media , a’i thywysogion , a’i holl benaethiaid , a holl wlad ei lywodraeth ef . Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia ; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon , i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi . Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd , ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd : pallodd eu nerth hwynt ; aethant yn wrageddos : ei hanheddau hi a losgwyd , a’i barrau a dorrwyd . Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr , a chennad i gyfarfod â chennad , i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr , Ac ennill y rhydau , a llosgi ohonynt y cyrs â thân , a synnu ar y rhyfelwyr . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu ; amser ei dyrnu hi a ddaeth : ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi . Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd , ac a’m hysigodd i ; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag ; efe a’m llyncodd fel draig , ac a lanwodd ei fol o’m danteithion ; efe a’m bwriodd i allan . Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd , a ddelo ar Babilon , medd preswylferch Seion ; a’m gwaed i ar drigolion Caldea , medd Jerwsalem . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a ddadleuaf dy ddadl di , ac a ddialaf drosot ti ; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi , ac a sychaf ei ffynhonnau hi . A bydd Babilon yn garneddau , yn drigfa dreigiau , yn syndra , ac yn chwibaniad , heb breswylydd . Cydruant fel llewod ; bloeddiant fel cenawon llewod . Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt , a mi a’u meddwaf hwynt , fel y llawenychont , ac y cysgont hun dragwyddol , ac na ddeffrônt , medd yr Arglwydd . Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa , fel hyrddod a bychod . Pa fodd y goresgynnwyd Sesach ! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear ! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd ! Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon : hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef . Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd , yn grastir , ac yn ddiffeithwch ; gwlad ni thrig un gŵr ynddi , ac ni thramwya mab dyn trwyddi . A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon , a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd ; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach ; ie , mur Babilon a syrth . Deuwch allan o’i chanol , O fy mhobl , ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd , A rhag llwfrhau eich calonnau , ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad : a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd , ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall ; a thrais yn y wlad , llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon ; a’i holl wlad hi a waradwyddir , a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol . Yna y nefoedd a’r ddaear , a’r hyn oll sydd ynddynt , a ganant oherwydd Babilon : oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati , medd yr Arglwydd . Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio , felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear . Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf , ewch ymaith ; na sefwch : cofiwch yr Arglwydd o bell , a deued Jerwsalem yn eich cof chwi . Gwaradwyddwyd ni , am i ni glywed cabledd : gwarth a orchuddiodd ein hwynebau ; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan ymwelwyf fi â’i delwau hi ; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan . Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd , ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel ; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi , medd yr Arglwydd . Sain gwaedd a glywir o Babilon , a dinistr mawr o wlad y Caldeaid . Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon , ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi , er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer , a rhoddi twrf eu llef hwynt . Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi , sef yn erbyn Babilon , a’i chedyrn hi a ddaliwyd ; eu bwa a dorrwyd : canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr . A myfi a feddwaf ei thywysogion hi , a’i doethion , ei phenaethiaid , a’i swyddogion , a’i chedyrn : a hwy a gysgant hun dragwyddol , ac ni ddeffroant , medd y Brenin , enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon , a’i huchel byrth a losgir â thân ; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd , a’r cenhedloedd mewn tân , a hwy a ddiffygiant . Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia , mab Maaseia , pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon , yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef . A Seraia oedd dywysog llonydd . Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon , mewn un llyfr ; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon . A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia , Pan ddelych i Babilon , a gweled , a darllen yr holl eiriau hyn ; Yna dywed , O Arglwydd , ti a leferaist yn erbyn y lle hwn , am ei ddinistrio , fel na byddai ynddo breswylydd , na dyn nac anifail , eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol . A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn , rhwym faen wrtho , a bwrw ef i ganol Ewffrates : A dywed , Fel hyn y soddir Babilon , ac ni chyfyd hi , gan y drwg a ddygaf fi arni : a hwy a ddiffygiant . Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu ; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim . Oherwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu , yn Jerwsalem ac yn Jwda , hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg , wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon . Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a wersyllasant yn ei herbyn hi , ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch . Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia . Yn y pedwerydd mis , yn y nawfed dydd o’r mis , y newyn a drymhaodd yn y ddinas , fel nad oedd bara i bobl y wlad . Yna y torrwyd y ddinas ; a’r holl ryfelwyr a ffoesant , ac a aethant allan o’r ddinas liw nos , ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur , yr hwn oedd wrth ardd y brenin , ( a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch , ) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos . Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin , ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho , a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho . Yna hwy a ddaliasant y brenin , ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath ; ac efe a roddodd farn arno ef . A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef : efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla . Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymodd ef â chadwyni : a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon , ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth . Ac yn y pumed mis , ar y degfed dydd o’r mis , ( hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon , ) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr , yr hwn a safai gerbron brenin Babilon , i Jerwsalem ; Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin ; a holl dai Jerwsalem , a phob tŷ mawr , a losgodd efe â thân . A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr , a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch . Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael , a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas , a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon , a’r gweddill o’r bobl . Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr . A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a’r ystolion , a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd ; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon . A hwy a ddygasant ymaith y crochanau , a’r rhawiau , a’r saltringau , a’r cawgiau , a’r thuserau , a’r holl lestri pres , y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt . A’r ffiolau , a’r pedyll tân , a’r cawgiau , a’r crochanau , a’r canwyllbrennau , a’r thuserau , a’r cwpanau , y rhai oedd o aur yn aur , a’r rhai oedd o arian yn arian , a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith . Y ddwy golofn , un môr , a deuddeg o ychen pres , y rhai oedd dan yr ystolion , y rhai a wnaethai y brenin Solomon , yn nhŷ yr Arglwydd : nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn . Ac am y colofnau , deunaw cufydd oedd uchder un golofn , a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu : a’i thewder yn bedair modfedd ; ac yn gau yr oedd . A chnap pres oedd arni , a phum cufydd oedd uchder un cnap ; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch , yn bres i gyd : ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau . A’r pomgranadau oeddynt , onid pedwar , cant ar ystlys : yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant . A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad , a Seffaneia yr ail offeiriad , a’r tri oedd yn cadw y drws . Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystafellydd , yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr ; a seithwyr o weision pennaf y brenin , y rhai a gafwyd yn y ddinas ; a phen-ysgrifennydd y llu , yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad ; a thri ugeinwr o bobl y wlad , y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas . A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn , ac a aeth â hwynt i Ribla , at frenin Babilon . A brenin Babilon a’u trawodd hwynt , ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla , yng ngwlad Hamath . Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun . Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn , tair mil a thri ar hugain o Iddewon . Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion . Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor , Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon : yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant . Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda , yn y deuddegfed mis , ar y pumed dydd ar hugain o’r mis , Efil‐merodach brenin Babilon , yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad , a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda , ac a’i dug ef allan o’r carchardy ; Ac a ddywedodd yn deg wrtho , ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd , y rhai oedd gydag ef yn Babilon . Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef : ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad , holl ddyddiau ei einioes . Ac am ei luniaeth ef , lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon , dogn dydd yn ei ddydd , hyd ddydd ei farwolaeth , holl ddyddiau ei einioes . Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan ! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw ! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged ! Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos , ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau , heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro : ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi , ac a aethant yn elynion iddi . Jwda a fudodd ymaith gan flinder , a chan faint caethiwed ; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd , heb gael gorffwystra : ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng . Y mae ffyrdd Seion yn galaru , o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig : ei holl byrth hi sydd anghyfannedd , ei hoffeiriaid yn ucheneidio , ei morynion yn ofidus , a hithau yn flin arni . Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf , y mae ei gelynion yn ffynnu : canys yr Arglwydd a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau : ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn . A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi ; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa , ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr . Y mae Jerwsalem , yn nyddiau ei blinder a’i chaledi , yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt , pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn , heb neb yn ei chynorthwyo hi : y gelynion a’i gwelsant hi , ac a chwarddasant am ben ei sabothau . Jerwsalem a bechodd bechod ; am hynny y symudwyd hi : yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi , oherwydd iddynt weled ei noethni hi : ie , y mae hi yn ucheneidio , ac yn troi yn ei hôl . Ei haflendid sydd yn ei godre , nid yw hi yn meddwl am ei diwedd ; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd , heb neb yn ei chysuro . Edrych , Arglwydd , ar fy mlinder ; canys ymfawrygodd y gelyn . Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi : hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr , i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa . Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio , yn ceisio bwyd : hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid : edrych , Arglwydd , a gwêl ; canys dirmygus ydwyf fi . Onid gwaeth gennych chwi , y fforddolion oll ? gwelwch ac edrychwch , a oes y fath ofid â’m gofid i , yr hwn a wnaethpwyd i mi , â’r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter . O’r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i , yr hwn a aeth yn drech na hwynt : efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed , ac a’m dychwelodd yn fy ôl ; efe a’m gwnaeth yn anrheithiedig , ac yn ofidus ar hyd y dydd . Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef : hwy a blethwyd , ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf : efe a wnaeth i’m nerth syrthio ; yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo , oddi tan y rhai ni allaf gyfodi . Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o’m mewn ; efe a gyhoeddodd i’m herbyn gymanfa , i ddifetha fy ngwŷr ieuainc : fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn , merch Jwda . Am hyn yr ydwyf yn wylo ; y mae fy llygad , fy llygad , yn rhedeg gan ddwfr , oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid : fy meibion sydd anrheithiedig , am i’r gelyn orchfygu . Seion a ledodd ei dwylo , heb neb yn ei diddanu : yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob , fod ei elynion yn ei gylch : Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt . Cyfiawn yw yr Arglwydd ; oblegid myfi a fûm anufudd i’w air ef : gwrandewch , atolwg , bobloedd oll , a gwelwch fy ngofid : fy morynion a’m gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed . Gelwais am fy nghariadau , a hwy a’m twyllasant ; fy offeiriaid a’m hynafgwyr a drengasant yn y ddinas , tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid . Gwêl , O Arglwydd ; canys y mae yn gyfyng arnaf : fy ymysgaroedd a gyffroesant , fy nghalon a drodd ynof ; oherwydd fy mod yn rhy anufudd : y mae y cleddyf yn difetha oddi allan , megis marwolaeth sydd gartref . Clywsant fy mod i yn ucheneidio : nid oes a’m diddano : fy holl elynion , pan glywsant fy nrygfyd , a lawenychasant am i ti wneuthur hynny : ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist , a hwy a fyddant fel finnau . Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di ; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau , am fy holl gamweddau : oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml , a’m calon yn ofidus . Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant , ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd , ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint ! Yr Arglwydd a lyncodd , heb arbed , holl anheddau Jacob ; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda ; efe a’u tynnodd hwynt i lawr , ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion . Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel : efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn ; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd , yr hon a ddifa o amgylch . Efe a anelodd ei fwa fel gelyn ; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr , ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion : fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint . Yr Arglwydd sydd megis gelyn : efe a lyncodd Israel , efe a lyncodd ei holl balasau hi : efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd , ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda . Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd ; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa : yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth , ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad . Yr Arglwydd a wrthododd ei allor , a ffieiddiodd ei gysegr ; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn : rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd , megis ar ddydd uchel ŵyl . Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion ; efe a estynnodd linyn , ac nid ataliodd ei law rhag difetha : am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru ; cydlesgasant . Ei phyrth a soddasant i’r ddaear ; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi : ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd : heb gyfraith y mae ; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd . Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr , a dawant â sôn ; gosodasant lwch ar eu pennau ; ymwregysasant â sachliain : gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr . Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau , fy ymysgaroedd a gyffroesant , fy afu a dywalltwyd ar y ddaear ; oherwydd dinistr merch fy mhobl , pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas . Hwy a ddywedant wrth eu mamau , Pa le y mae ŷd a gwin ? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas , pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau . Pa beth a gymeraf yn dyst i ti ? beth a gyffelybaf i ti , O ferch Jerwsalem ? beth a gystadlaf â thi , fel y’th ddiddanwyf , O forwyn , merch Seion ? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr ; pwy a’th iachâ di ? Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd ; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd , i droi ymaith dy gaethiwed : eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog , ac achosion deol . Y rhai oll a dramwyent y ffordd , a gurent eu dwylo arnat ti ; chwibanent , ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem , gan ddywedyd , Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch , yn llawenydd yr holl ddaear ? Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti ; a chwibanasant , ac a ysgyrnygasant ddannedd , ac a ddywedasant , Llyncasom hi : yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni ; ni a’i cawsom , ni a’i gwelsom . Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd ; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt : efe a ddifrododd , ac nid arbedodd ; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di ; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di . Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd , O fur merch Seion , tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon ; na orffwys , ac na pheidied cannwyll dy lygad . Cyfod , cyhoedda liw nos ; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd : dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant , y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol . Edrych , Arglwydd , a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn : a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun , plant o rychwant o hyd ? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd ? Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd : fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf : ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant , lleddaist hwy heb arbed . Gelwaist , megis ar ddydd uchel ŵyl , fy nychryn o amgylch , fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd : y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i . Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef . I dywyllwch , ac nid i oleuni , yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi . Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe , ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd . Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen ; efe a ddrylliodd fy esgyrn . Efe a adeiladodd i’m herbyn , ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder . Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd , fel y rhai sydd wedi marw er ys talm . Efe a gaeodd o’m hamgylch , fel nad elwyf allan : efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom . Pan lefwyf , a phan floeddiwyf , efe a gae allan fy ngweddi . Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd ; efe a wyrodd fy llwybrau . Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn , neu lew mewn llochesau . Efe a wyrodd fy ffyrdd , ac a’m drylliodd ; yn anrheithiedig y gwnaeth fi . Efe a anelodd ei fwa , ac a’m gosododd fel nod i saeth . Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau . Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl , a’u cân ar hyd y dydd . Efe a’m llanwodd â chwerwder ; efe a’m meddwodd i â’r wermod . Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig , ac a’m trybaeddodd yn y llwch . A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch ; anghofiais ddaioni . A mi a ddywedais , Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd . Cofia fy mlinder a’m gofid , y wermod a’r bustl . Fy enaid gan gofio a gofia , ac a ddarostyngwyd ynof fi . Hyn yr ydwyf yn ei atgofio ; am hynny y gobeithiaf . Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni : oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef . Bob bore y deuant o newydd : mawr yw dy ffyddlondeb . Yr Arglwydd yw fy rhan i , medd fy enaid ; am hynny y gobeithiaf ynddo . Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho , ac i’r enaid a’i ceisio . Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd . Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid . Efe a eistedd ei hunan , ac a dau â sôn ; am iddo ei dwyn hi arno . Efe a ddyry ei enau yn y llwch , i edrych a oes obaith . Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo : efe a lenwir â gwaradwydd . Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd : Ond er iddo gystuddio , eto efe a dosturia , yn ôl amlder ei drugareddau . Canys nid o’i fodd y blina efe , nac y cystuddia blant dynion . I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed , I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf , Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater . Pwy a ddywed y bydd dim , heb i’r Arglwydd ei orchymyn ? Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da ? Paham y grwgnach dyn byw , gŵr am gosbedigaeth ei bechod ? Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd , a dychwelwn at yr Arglwydd . Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd . Nyni a wnaethom gamwedd , ac a fuom anufudd ; tithau nid arbedaist . Gorchuddiaist ni â soriant , ac erlidiaist ni : lleddaist , nid arbedaist . Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl , fel na ddeuai ein gweddi trwodd . Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl . Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn . Dychryn a magl a ddaeth arnom , anrhaith a dinistr . Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr , oherwydd dinistr merch fy mhobl . Fy llygad a ddiferodd , ac ni pheidiodd , am nad oes gorffwystra ; Hyd oni edrycho , ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd . Y mae fy llygad yn blino fy enaid , oherwydd holl ferched fy ninas . Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos , fel aderyn . Torasant ymaith fy einioes yn y pwll , a bwriasant gerrig arnaf . Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen : dywedais , Torrwyd fi ymaith . Gelwais ar dy enw di , O Arglwydd , o’r pwll isaf . Ti a glywaist fy llef : na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd . Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat : dywedaist , Nac ofna . Ti , O Arglwydd , a ddadleuaist gyda’m henaid : gwaredaist fy einioes . Ti , O Arglwydd , a welaist fy ngham : barn di fy marn i . Ti a welaist eu holl ddial hwynt , a’u holl amcanion i’m herbyn i . Clywaist eu gwaradwydd , O Arglwydd , a’u holl fwriadau i’m herbyn ; Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn , a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd . Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad ; myfi yw eu cân hwynt . Tâl y pwyth iddynt , O Arglwydd , yn ôl gweithred eu dwylo . Dod iddynt ofid calon , dy felltith iddynt . Erlid hwynt â digofaint , a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd . Pa fodd y tywyllodd yr aur ! y newidiodd yr aur coeth da ! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol . Gwerthfawr feibion Seion , a chystal ag aur pur , pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd , gwaith dwylo’r crochenydd ! Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau , a roddant sugn i’w cenawon : merch fy mhobl a aeth yn greulon , fel yr estrysiaid yn yr anialwch . Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched : y plant a ofynnant fara , ond nid oedd a dorrai iddynt . Y rhai a ymborthent yn foethus , a ddifethwyd yn yr heolydd : y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad , a gofleidiant y tomennydd . Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom , yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth , ni safodd llaw arni . Purach oedd ei Nasareaid hi na’r eira , gwynnach oeddynt na’r llaeth , gwridocach oeddynt o gorff na’r cwrel , a’u trwsiad oedd o saffir . Duach yw yr olwg arnynt na’r glöyn ; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd : eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn ; gwywodd , aeth yn debyg i bren . Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf , na’r rhai a laddwyd â newyn ; oblegid y rhai hyn a ddihoenant , wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes . Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun : eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl . Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddicter , a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant , ac a gyneuodd dân yn Seion , yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi . Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear , na holl drigolion y byd , y deuai y gwrthwynebwr a’r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem . Am bechodau ei phroffwydi , ac anwiredd ei hoffeiriaid , y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o’i mewn hi ; Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd , ac ymddifwynasant gan waed , fel na ellid cyffwrdd â’u dillad hwynt . Gwaeddasant arnynt , Ciliwch ; aflan yw ; ciliwch , ciliwch , na chyffyrddwch ; pan ffoesant , ac yr aethant ymaith . Dywedent ymysg y cenhedloedd , Ni thrigant hwy yma mwyach . Soriant yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt ; nid edrych efe arnynt mwy : ni pharchent hwy yr offeiriaid , ni thosturient wrth yr hynafgwyr . Ninnau hefyd , ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer : gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub . Hwy a olrheiniant ein cerddediad , fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd : y mae ein diwedd ni yn agos , ein dyddiau ni a gyflawnwyd ; canys daeth ein diwedd ni . Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr ; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd , yn ein cynllwyn yn yr anialwch . Anadl ein ffroenau , eneiniog yr Arglwydd , a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt , am yr hwn y dywedasem , Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd . Bydd lawen a hyfryd , merch Edom , yr hon wyt yn trigo yn nhir Us : daw y cwpan atat tithau hefyd ; ti a feddwi , ac a ymnoethi . Gorffennwyd dy gosbedigaeth di , merch Seion ; ni chaethgluda efe di mwy : efe a ymwêl â’th anwiredd di , merch Edom ; efe a ddatguddia dy bechodau . Cofia , O Arglwydd , beth a ddaeth i ni : edrych a gwêl ein gwaradwydd . Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid , a’n tai i ddieithriaid . Amddifaid ydym heb dadau ; ein mamau sydd megis gweddwon . Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian ; ein coed sydd yn dyfod am werth . Ein gwarrau sydd dan erlid ; llafurio yr ydym , nid oes gorffwystra i ni . Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid , i’r Asyriaid , i gael digon o fara . Ein tadau a bechasant , ac nid ydynt : ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt . Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni , heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt . Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn , oherwydd cleddyf yr anialwch . Ein croen a dduodd fel ffwrn , gan y newyn tost . Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion , a’r morynion yn ninasoedd Jwda . Crogasant dywysogion â’u dwylo ; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr . Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu ; a’r plant a syrthiasant dan y coed . Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth ; y gwŷr ieuainc â’u cerdd . Darfu llawenydd ein calon : ein dawns a drodd yn alar . Syrthiodd y goron oddi am ein pen : gwae ni yn awr bechu ohonom ! Am hyn y mae ein calon yn ofidus ; am hyn y tywyllodd ein llygaid . Oherwydd mynydd Seion , yr hwn a anrheithiwyd , y mae y llwynogod yn rhodio ynddo . Ti , Arglwydd , a barhei byth ; dy orseddfainc yn oes oesoedd . Paham yr anghofi ni byth , ac y gadewi ni dros hir ddyddiau ? Dychwel ni , O Arglwydd , atat ti , a ni a ddychwelir : adnewydda ein dyddiau megis cynt . Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni : ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr . Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain , yn y pedwerydd mis , ar y pumed dydd o’r mis , ( a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar , ) agoryd y nefoedd , a gwelwn weledigaethau Duw . Yn y pumed dydd o’r mis , honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin , Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad , mab Busi , yn nhir y Caldeaid , wrth afon Chebar ; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef . Yna yr edrychais , ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt , a chwmwl mawr , a thân yn ymgymryd , a disgleirdeb o amgylch iddo ; ac o’i ganol , sef o ganol y tân , fel lliw ambr . Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw . A dyma eu hagwedd hwynt ; dull dyn oedd iddynt . A phedwar wyneb i bob un , a phedair adain i bob un ohonynt . A’u traed yn draed union ; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo ; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw . Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd , ar eu pedwar ystlys ; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar . Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall : pan gerddent , ni throent ; aent bob un yn union rhag ei wyneb . Dyma ddull eu hwynebau hwynt ; Wyneb dyn , ac wyneb llew , oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar : ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar , ac wyneb eryr iddynt ill pedwar . Dyma eu hwynebau hwynt ; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd , dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd , a dwy oedd yn cuddio eu cyrff . Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb ; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned , yno yr aent ; ni throent pan gerddent . Dyma ddull y pethau byw ; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi , ac fel gwelediad ffaglau : yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw , a disglair oedd y tân , a mellt yn dyfod allan o’r tân . Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw , fel gwelediad mellten . Edrychais hefyd ar y pethau byw : ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn , gyda’i bedwar wyneb . Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl : a’r un dull oedd iddynt ill pedair ; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn . Pan elent , aent ar eu pedwar ochr : ni throent pan gerddent . Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy : a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar . A phan gerddai y pethau byw , yr olwynion a gerddent wrthynt ; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear , yr ymgodai yr olwynion . I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned , yr aent , yno yr oedd eu hysbryd ar fyned ; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt : canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion . Cerddent pan gerddent hwythau , a safent pan safent hwythau ; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear , yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau : canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion . Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen , fel lliw grisial ofnadwy , wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd . A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union , y naill tuag at y llall : dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du , a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall . A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt , fel sŵn dyfroedd lawer , fel sŵn yr Hollalluog , pan gerddent : sŵn lleferydd , fel sŵn llu : pan safent , llaesent eu hadenydd . Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt , pan safent , ac y llaesent eu hadenydd . Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt , yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc , fel gwelediad maen saffir ; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn . Gwelais hefyd megis lliw ambr , fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch : o welediad ei lwynau ac uchod , ac o welediad ei lwynau ac isod , y gwelais megis gwelediad tân , a disgleirdeb iddo oddi amgylch . Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog , fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch . Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd . A phan welais , syrthiais ar fy wyneb , a chlywais lais un yn llefaru . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , saf ar dy draed , a mi a lefaraf wrthyt . A’r ysbryd a aeth ynof , pan lefarodd efe wrthyf , ac a’m gosododd ar fy nhraed , fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel , at genedl wrthryfelgar , y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn ; hwynt‐hwy a’u tadau a droseddasant i’m herbyn , hyd gorff y dydd hwn . Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt : dywed dithau wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw . A pha un bynnag a wnelont ai gwrando , ai peidio , ( canys tŷ gwrthryfelgar ydynt , ) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt . Tithau fab dyn , nac ofna rhagddynt , ac na arswyda er eu geiriau hwynt , er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi , a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau : nac ofna rhag eu geiriau hwynt , ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt , er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt . Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt , pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio ; canys gwrthryfelgar ydynt . Tithau fab dyn , gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt , Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn : lleda dy safn , a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti . Yna yr edrychais , ac wele law wedi ei hanfon ataf , ac wele ynddi blyg llyfr . Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i : ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn ; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno , galar , a griddfan , a gwae . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , bwyta yr hyn a geffych , bwyta y llyfr hwn a dos , a llefara wrth dŷ Israel . Yna mi a agorais fy safn , ac efe a wnaeth i mi fwyta’r llyfr hwnnw . Dywedodd hefyd wrthyf , Bwyda dy fol , a llanw dy berfedd , fab dyn , â’r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat . Yna y bwyteais ; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cerdda , dos at dŷ Israel , a llefara â’m geiriau wrthynt . Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y’th anfonir di , ond at dŷ Israel ; Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed , y rhai ni ddeelli eu hymadroddion . Oni wrandawsai y rhai hynny arnat , pe y’th anfonaswn atynt ? Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti ; canys ni fynnant wrando arnaf fi : oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy , holl dŷ Israel . Wele , gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt , a’th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt . Gwneuthum dy dalcen fel adamant , yn galetach na’r gallestr : nac ofna hwynt , ac na ddychryna rhag eu hwynebau , er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt . Dywedodd hefyd wrthyf , Ha fab dyn , derbyn â’th galon , a chlyw â’th glustiau , fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt . Cerdda hefyd , a dos at y gaethglud , at feibion dy bobl , a llefara hefyd wrthynt , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio . Yna yr ysbryd a’m cymerodd , a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl , yn dywedyd , Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le . A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd , a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt , a sŵn cynnwrf mawr . A’r ysbryd a’m cyfododd , ac a’m cymerodd ymaith , a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd ; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf . A mi a ddeuthum i Tel‐abib , at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar , a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd , ie , eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt . Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel : am hynny gwrando y gair o’m genau , a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi . Pan ddywedwyf wrth y drygionus , Gan farw y byddi farw ; oni rybuddi ef , ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd , fel y byddo byw ; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd : ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di . Ond os rhybuddi y drygionus , ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni , na’i ffordd ddrygionus , efe a fydd marw yn ei ddrygioni ; ond ti a achubaist dy enaid . Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur camwedd , a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef , efe fydd farw : am na rybuddiaist ef , am ei bechod y bydd efe farw , a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir ; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di . Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn , rhag pechu o’r cyfiawn , ac na phecho efe ; gan fyw y bydd efe byw , am ei rybuddio : a thithau a achubaist dy enaid . Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf , ac efe a ddywedodd wrthyf , Cyfod , dos i’r gwastadedd , ac yno y llefaraf wrthyt . Yna y cyfodais , ac yr euthum i’r gwastadedd : ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno , fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar : a mi a syrthiais ar fy wyneb . Yna yr aeth yr ysbryd ynof , ac a’m gosododd ar fy nhraed , ac a ymddiddanodd â mi , ac a ddywedodd wrthyf , Dos , a chae arnat o fewn dy dŷ . Tithau fab dyn , wele , hwy a roddant rwymau arnat , ac a’th rwymant â hwynt , ac na ddos allan yn eu plith . A mi a wnaf i’th dafod lynu wrth daflod dy enau , a thi a wneir yn fud , ac ni byddi iddynt yn geryddwr : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . Ond pan lefarwyf wrthyt , yr agoraf dy safn , a dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw : Yr hwn a wrandawo , gwrandawed ; a’r hwn a beidio , peidied : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . Tithau fab dyn , cymer i ti briddlech , a dod hi o’th flaen , a llunia arni ddinas Jerwsalem : A gwarchae yn ei herbyn hi , ac adeilada wrthi warchglawdd , a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd ; dod hefyd wersylloedd wrthi , a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch . Cymer i ti hefyd badell haearn , a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas ; a chyfeiria dy wyneb ati , a bydd mewn gwarchaeedigaeth , a gwarchae di arni . Arwydd fydd hyn i dŷ Israel . Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy , a gosod anwiredd tŷ Israel arni ; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni , y dygi eu hanwiredd hwynt . Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt , wrth rifedi y dyddiau , tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain : felly y dygi anwiredd tŷ Israel . A phan orffennych y rhai hynny , gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau , a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod : pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti . A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem , a’th fraich yn noeth ; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi . Wele hefyd rhoddais rwymau arnat , fel na throech o ystlys i ystlys , nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth . Cymer i ti hefyd wenith , a haidd , a ffa , a ffacbys , a milet , a chorbys , a dod hwynt mewn un llestr , a gwna hwynt i ti yn fara , dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys : tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef . A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys , ugain sicl yn y dydd : o amser i amser y bwytei ef . Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur ; chweched ran hin a yfi , o amser i amser . Ac fel teisen haidd y bwytei ef ; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn , yn eu gŵydd hwynt . A dywedodd yr Arglwydd , Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , ni halogwyd fy enaid , ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon ; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd . Yntau a ddywedodd wrthyf , Wele , mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn , ac â hwynt y gwnei dy fara . Dywedodd hefyd wrthyf , Mab dyn , wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem , fel y bwytaont fara dan bwys , ac mewn gofal ; ac yr yfont ddwfr dan fesur , ac mewn syndod . Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr , ac y synnont un gydag arall , ac y darfyddont yn eu hanwiredd . Tithau fab dyn , cymer i ti gyllell lem , cymer i ti ellyn eillio , ac eillia dy ben a’th farf : yna y cymeri i ti gloriannau pwys , ac y rhenni hwynt . Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas , pan gyflawner dyddiau y gwarchae ; traean a gymeri hefyd , ac a’i trewi â’r gyllell o’i amgylch ; a thraean a daeni gyda’r gwynt : a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer , a chlyma hwynt yn dy odre . A chymer eilwaith rai ohonynt hwy , a thafl hwynt i ganol y tân , a llosg hwynt yn tân : ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Jerwsalem yw hon : gosodais hi ymysg y cenhedloedd a’r tiroedd o’i hamgylch . A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd , a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd sydd o’i hamgylch : canys gwrthodasant fy marnedigaethau a’m deddfau , ni rodiasant ynddynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am i chwi amlhau yn fwy na’r cenhedloedd sydd o’ch amgylch , heb rodio ohonoch yn fy neddfau , na gwneuthur fy marnedigaethau , ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o’ch amgylch ; Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi , ie , myfi , ydwyf yn dy erbyn , a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd . A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum , ac nis gwnaf ei fath mwy , am dy holl ffieidd‐dra . Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di , a’r plant a fwyty eu tadau ; a gwnaf ynot farnedigaethau , a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt . Am hynny , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â’th holl ffieidd‐dra ac â’th holl frynti , am hynny hefyd y prinhaf finnau di ; ac nid arbed fy llygad , ac ni thosturiaf chwaith . Dy draean fyddant feirw o’r haint , ac a ddarfyddant o newyn , yn dy ganol ; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch : a thraean a daenaf gyda phob gwynt : a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . Felly y gorffennir fy nig , ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt , ac ymgysuraf : a hwy a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais yn fy ngwŷn , pan orffennwyf fy llid ynddynt . A rhoddaf di hefyd yn anrhaith , ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o’th amgylch , yng ngolwg pawb a êl heibio . Yna y bydd y gwaradwydd a’r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i’r cenhedloedd sydd o’th amgylch , pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig , a llidiowgrwydd , a cherydd llidiog . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais . Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn , y rhai fyddant i’w difetha , y rhai a ddanfonaf i’ch difetha : casglaf hefyd newyn arnoch , a thorraf eich ffon bara : Anfonaf hefyd arnoch newyn , a bwystfil drwg ; ac efe a’th ddiblanta di : haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti ; a dygaf gleddyf arnat . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel , a phroffwyda yn eu herbyn ; A dywed , Mynyddoedd Israel , gwrandewch air yr Arglwydd Dduw : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd ; Wele fi , ie , myfi yn dwyn cleddyf arnoch , a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd . Eich allorau hefyd a ddifwynir , a’ch haul‐ddelwau a ddryllir : a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod . A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod , a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau . Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir , a’r uchelfeydd a ddifwynir ; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau , ac y torrer ac y peidio eich eilunod , ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau , ac y dileer eich gweithredoedd . Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Eto gadawaf weddill , fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd , pan wasgarer chwi trwy y gwledydd . A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt , am fy nryllio â’u calon buteinllyd , yr hon a giliodd oddi wrthyf ; ac â’u llygaid , y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod : yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Taro â’th law , a chur â’th droed , a dywed , O , rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel ! canys trwy gleddyf , trwy newyn , a thrwy haint , y syrthiant . Y pellennig a fydd farw o’r haint , a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf ; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn : fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau , ar bob bryn uchel , ar holl bennau y mynyddoedd , a than bob pren ir , a than bob derwen gaeadfrig , lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod . Felly yr estynnaf fy llaw arnynt , a gwnaf y tir yn anrhaith ; ie , yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath , trwy eu holl drigfeydd : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel ; Diwedd , diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir . Daeth yr awr hon ddiwedd arnat , a mi a anfonaf fy nig arnat ti ; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd , a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat . Fy llygad hefyd ni’th arbed di , ac ni thosturiaf : eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti , a’th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Drwg , drwg unig , wele , a ddaeth . Diwedd a ddaeth , daeth diwedd : y mae yn gwylio amdanat ; wele , efe a ddaeth . Daeth y boregwaith atat , breswylydd y tir : daeth yr amser , agos yw y dydd terfysg , ac nid atsain mynyddoedd . Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat , ac y gorffennaf fy nig wrthyt : barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd , a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat . A’m llygad nid arbed , ac ni thosturiaf : rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd , a’th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di ; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro . Wele y dydd , wele efe yn dyfod : y boregwaith a aeth allan ; blodeuodd y wialen , blagurodd balchder . Cyfododd traha yn wialen drygioni : ni bydd un ohonynt , nac o’u lliaws , nac o’r eiddynt , na galar drostynt . Yr amser a ddaeth , y dydd a nesaodd : na lawenyched y prynwr , ac na thristaed y gwerthwr : canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi . Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd , er eu bod eto yn fyw : oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws , y rhai ni ddychwelant : ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd . Utganasant yr utgorn , i baratoi pawb : eto nid â neb i’r rhyfel ; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws . Y cleddyf fydd oddi allan , yr haint hefyd a’r newyn o fewn : yr hwn fyddo yn y maes , a fydd farw gan gleddyf ; a’r hwn a fyddo yn y ddinas , newyn a haint a’i difa ef . Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant , ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn , yn griddfan , bob un am ei anwiredd . Yr holl ddwylo a laesant , a’r holl liniau a ânt yn ddwfr . Ymwregysant hefyd mewn sachliain , ac arswyd a’u toa hwynt ; a bydd cywilydd ar bob wyneb , a moelni ar eu holl bennau hwynt . Eu harian a daflant i’r heolydd , a’u haur a roir heibio : eu harian na’u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd : eu henaid ni ddiwallant , a’u coluddion ni lanwant : oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw . A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth : ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a’u brynti : am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt . Ac mi a’i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail , ac yn anrhaith i rai drygionus y tir ; a hwy a’i halogant ef . Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt , a halogant fy nirgelfa : ie , anrheithwyr a ddaw iddi , ac a’i halogant . Gwna gadwyn ; canys llanwyd y tir o farn waedlyd , a’r ddinas sydd lawn o drais . Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd , fel y meddiannont eu tai hwynt : gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio ; a’u cysegroedd a halogir . Y mae dinistr yn dyfod ; a hwy a geisiant heddwch , ac nis cânt . Daw trychineb ar drychineb , a bydd chwedl ar chwedl : yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd ; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad , a chyngor gan yr henuriaid . Y brenin a alara , a’r tywysog a wisgir ag anrhaith , a dwylo pobl y tir a drallodir : gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd , ac â’u barnedigaethau y barnaf hwynt ; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd . A bu yn y chweched flwyddyn , yn y chweched mis , ar y pumed dydd o’r mis , a mi yn eistedd yn fy nhŷ , a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron , syrthio o law yr Arglwydd Dduw arnaf yno . Yna yr edrychais , ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân ; o welediad ei lwynau ac isod , yn dân ; ac o’i lwynau ac uchod , fel gwelediad disgleirdeb , megis lliw ambr . Ac efe a estynnodd lun llaw , ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen : a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd , ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau Duw , hyd ddrws y porth nesaf i mewn , yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd , lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd , yr hon a wna eiddigedd . Ac wele yno ogoniant Duw Israel , fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd . Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd ; ac wele , tua’r gogledd ; wrth borth yr allor , ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur , y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma , i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr ? ac eto dychwel , cei weled ffieidd‐dra mwy . Ac efe a’m dug i ddrws y cyntedd ; a phan edrychais , wele dwll yn y pared . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cloddia yn y pared : a phan gloddiais yn y pared , wele ddrws . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dos i mewn , ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma . Felly mi a euthum , ac a edrychais ; ac wele bob llun ymlusgiad , ac anifail ffiaidd , a holl eilunod tŷ Israel , wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch : A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt , a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol , pob un â’i thuser yn ei law ; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu . Ac efe a ddywedodd wrthyf , a weli di , fab dyn , yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch , bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd ? canys dywedant , Nid yw yr Arglwydd yn ein gweled ; gadawodd yr Arglwydd y ddaear . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Tro eto , cei weled ffieidd‐dra mwy , y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur . Ac efe a’m dug i ddrws porth tŷ yr Arglwydd , yr hwn oedd tua’r gogledd ; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A weli di hyn , fab dyn ? dychwel eto , cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn . Ac efe a’m dug i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn , ac wele wrth ddrws teml yr Arglwydd , rhwng y porth a’r allor , ynghylch pumwr ar hugain , a’u cefnau tuag at deml yr Arglwydd , a’u hwynebau tua’r dwyrain ; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i’r haul tua’r dwyrain . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A weli di hyn , fab dyn ? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd‐dra a wnânt yma ? canys llanwasant y tir â thrais , a gwrthdroesant i’m cyffroi i ; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn . Minnau hefyd a wnaf mewn llid : nid arbed fy llygad , ac ni thosturiaf : ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel , ni wrandawaf hwynt . Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais , gan ddywedyd , Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu , a phob un â’i arf dinistr yn ei law . Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf , yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd , a phob un â’i arf dinistr yn ei law : ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain , a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun ; a hwy a aethant i mewn , ac a safasant wrth yr allor bres . A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno , hyd riniog y tŷ . Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain , yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun : A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos trwy ganol y ddinas , trwy ganol Jerwsalem , a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi . Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais , Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef , a threwch ; nac arbeded eich llygad , ac na thosturiwch . Lleddwch yn farw yr henwr , y gŵr ieuanc , a’r forwyn , y plant hefyd , a’r gwragedd ; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo’r nod arno : ac ar fy nghysegr y dechreuwch . Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen , y rhai oedd o flaen y tŷ . Dywedodd wrthynt hefyd , Halogwch y tŷ , a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig : ewch allan . Felly hwy a aethant allan , ac a drawsant yn y ddinas . A bu , a hwy yn lladd , a’m gado innau , i mi syrthio ar fy wyneb , a gweiddi , a dywedyd , O Arglwydd Dduw , a ddifethi di holl weddill Israel , wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben ; a llawn yw y tir o waed , a llanwyd y ddinas o gamwedd : oherwydd dywedant , Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear , ac nid yw yr Arglwydd yn gweled . Ac amdanaf fi , nid erbyd fy llygad , ac ni thosturiaf ; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau . Ac wele , y gŵr wedi ei wisgo â lliain , yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun , yn dwyn gair drachefn , gan ddywedyd , Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi . Yna yr edrychais , ac wele yn y ffurfafen , yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid , megis maen saffir , fel dull cyffelybrwydd gorseddfa , a welid arnynt hwy . Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain , ac a ddywedodd , Dos i mewn rhwng yr olwynion , hyd dan y ceriwb , a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid , a thaena ar y ddinas . Ac efe a aeth o flaen fy llygaid . A’r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ , pan aeth y gŵr i mewn ; a’r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn . Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb , ac a safodd oddi ar riniog y tŷ ; a’r tŷ a lanwyd â’r cwmwl , a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd . A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan , fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai . Bu hefyd , wedi iddo orchymyn i’r gŵr a wisgasid â lliain , gan ddywedyd , Cymer dân oddi rhwng yr olwynion , oddi rhwng y ceriwbiaid ; fyned ohono ef , a sefyll wrth yr olwynion . Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i’r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid , ac a gymerth , ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain : yntau a’i cymerodd , ac a aeth allan . A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd . Edrychais hefyd , ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid , un olwyn wrth un ceriwb , ac un olwyn wrth geriwb arall : a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl . A’u gwelediad , un wedd oedd iddynt ill pedair , fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn . Pan gerddent , ar eu pedwar ochr y cerddent ; ni throent pan gerddent , ond lle yr edrychai y pen , y cerddent ar ei ôl ef ; ni throent pan gerddent . Eu holl gnawd hefyd , a’u cefnau , a’u dwylo , a’u hadenydd , a’r olwynion , oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar . Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy , sef ar yr olwynion , O olwyn . A phedwar wyneb oedd i bob un ; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb , a’r ail wyneb yn wyneb dyn , a’r trydydd yn wyneb llew , a’r pedwerydd yn wyneb eryr . A’r ceriwbiaid a ymddyrchafasant . Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar . A phan gerddai y ceriwbiaid , y cerddai yr olwynion wrthynt ; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear , yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt . Safent , pan safent hwythau ; a chodent gyda hwy , pan godent hwythau ; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt . Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ , ac a safodd ar y ceriwbiaid . A’r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd , ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid : a’r olwynion oedd yn eu hymyl , pan aethant allan : a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd ; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd . Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel , wrth afon Chebar : a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt . Pedwar wyneb oedd i bob un , a phedair adain i bob un , a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd . Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar , eu dull hwynt a hwythau : cerddent bob un yn union rhag ei wyneb . Yna y’m cyfododd yr ysbryd , ac y’m dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain : ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth ; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur , a Phelatia mab Benaia , tywysogion y bobl . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd , ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon : Y rhai a ddywedant , Nid yw yn agos ; adeiladwn dai ; hi yw y crochan , a ninnau y cig . Am hynny proffwyda i’w herbyn hwynt , proffwyda , fab dyn . Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf , ac a ddywedodd wrthyf , Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Tŷ Israel , fel hyn y dywedasoch : canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i’ch meddwl chwi , bob un ohonynt . Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon , a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau . Am hynny , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi , yw y cig ; a hithau yw y crochan : chwithau a ddygaf allan o’i chanol . Y cleddyf a ofnasoch , a’r cleddyf a ddygaf arnoch , medd yr Arglwydd Dduw . Dygaf chwi hefyd allan o’i chanol hi , a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid , a gwnaf farn yn eich mysg . Ar y cleddyf y syrthiwch , ar derfyn Israel y barnaf chwi : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan , ni byddwch chwithau yn gig o’i mewn ; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd : canys ni rodiasoch yn fy neddfau , ac ni wnaethoch fy marnedigaethau ; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o’ch amgylch y gwnaethoch . A phan broffwydais , bu farw Pelatia mab Benaia : yna syrthiais ar fy wyneb , a gwaeddais â llef uchel , a dywedais , O Arglwydd Dduw , a wnei di dranc ar weddill Israel ? A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dy frodyr , dy frodyr , dynion dy geraint , a holl dŷ Israel yn gwbl , ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt , Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd ; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth . Dywed am hynny , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd , ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd , eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant . Dywed gan hynny , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd , a chynullaf chwi o’r gwledydd y’ch gwasgarwyd ynddynt , a rhoddaf i chwi dir Israel . A hwy a ddeuant yno , ac a symudant ei holl frynti hi a’i holl ffieidd‐dra allan ohoni hi . A rhoddaf iddynt un galon , ac ysbryd newydd a roddaf ynoch ; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o’u cnawd hwynt , a rhoddaf iddynt galon gig : Fel y rhodiont yn fy neddfau , ac y cadwont fy marnedigaethau , ac y gwnelont hwynt : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf Dduw iddynt hwy . Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a’u ffeidd-dra , rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun , medd yr Arglwydd Dduw . Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd , a’r olwynion yn eu hymyl , a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd . A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas , ac a safodd ar y mynydd sydd o’r tu dwyrain i’r ddinas . Yna yr ysbryd a’m cododd i , ac a’m dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw . A’r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf . Yna y lleferais wrth y rhai o’r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a ddangosasai efe i mi . A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Trigo yr wyt ti , fab dyn , yng nghanol tŷ gwrthryfelgar , y rhai y mae llygaid iddynt i weled , ac ni welant ; clustiau iddynt i glywed , ac ni chlywant : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . A thithau , fab dyn , gwna i ti offer caethglud , a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt ; ie , muda o’th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt : nid hwyrach y gwelant , er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar . A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid , fel dodrefn caethglud : a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid , fel rhai yn myned allan i gaethglud . Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur , a dwg allan trwy hwnnw . Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt , yn y tywyll y dygi allan : dy wyneb a guddi , fel na welych y ddaear : canys yn arwydd y’th roddais i dŷ Israel . Ac mi a wneuthum felly fel y’m gorchmynnwyd : dygais fy offer allan liw dydd , fel offer caethglud ; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â’m llaw : yn y tywyll y dygais allan , ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt . A’r bore y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , oni ddywedodd tŷ Israel , y tŷ gwrthryfelgar , wrthyt , Beth yr wyt ti yn ei wneuthur ? Dywed di wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , I’r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn , ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg . Dywed , Eich arwydd chwi ydwyf fi ; fel y gwneuthum i , felly y gwneir iddynt hwy : mewn caethglud yr ânt i gaethiwed . A’r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll , ac a â allan : cloddiant trwy y mur , i ddwyn allan trwyddo : ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â’i lygaid . A mi a daenaf fy rhwyd arno ef , fel y dalier ef yn fy rhwyd : a dygaf ef i Babilon , tir y Caldeaid ; ac ni wêl efe hi , eto yno y bydd efe farw . A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i’w gynorthwyo , a’i holl fyddinoedd , tua phob gwynt ; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd , a’u taenu ar hyd y gwledydd . Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf , oddi wrth y newyn , ac oddi wrth yr haint ; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd , lle y delont : a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd . Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , bwytei dy fara dan grynu , a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal : A dywed wrth bobl y tir , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem , ac am wlad Israel ; Eu bara a fwytânt mewn gofal , a’u dwfr a yfant mewn syndod , fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder , am drais y rhai oll a drigant ynddi . A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir , a’r tir a fydd anrheithiol ; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel , gan ddywedyd , Y dyddiau a estynnwyd , a darfu am bob gweledigaeth ? Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio , fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel : ond dywed wrthynt , Y dyddiau sydd agos , a sylwedd pob gweledigaeth . Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer , na dewiniaeth wenieithus , o fewn tŷ Israel . Canys myfi yw yr Arglwydd : mi a lefaraf , a’r gair a lefarwyf a wneir ; nid oedir ef mwy : oherwydd yn eich dyddiau chwi , O dŷ gwrthryfelgar , y dywedaf y gair , ac a’i gwnaf , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , wele dŷ Israel yn dywedyd , Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer , a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Nid oedir dim o’m geiriau mwy , ond y gair a ddywedais a wneir , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , yn erbyn proffwydi Israel , y rhai sydd yn proffwydo , a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun , Gwrandewch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae y proffwydi ynfyd , y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun , ac heb weled dim . Dy broffwydi , Israel , ydynt fel llwynogod yn yr anialwch . Ni safasoch yn yr adwyau , ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel , i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd . Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant , y rhai a ddywedant , Dywedodd yr Arglwydd ; a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt : a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair . Onid ofer weledigaeth a welsoch , a gau ddewiniaeth a draethasoch , pan ddywedasoch , Yr Arglwydd a ddywedodd ; a minnau heb ddywedyd ? Am hynny , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am lefaru ohonoch wagedd , a gweled ohonoch gelwydd ; am hynny wele fi i’ch erbyn , medd yr Arglwydd Dduw . A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd , ac yn dewinio celwydd ; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant , ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt , i dir Israel hefyd ni ddeuant ; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . O achos , ie , o achos hudo ohonynt fy mhobl , gan ddywedyd , Heddwch ; ac nid oedd heddwch ; un a adeiladai bared , ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru . Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd , y syrth efe : canys curlaw a fydd , a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch ; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga . Wele , pan syrthio y pared , oni ddywedir wrthych , Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid ; a churlaw fydd yn fy nig , a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd , i’w ddifetha . Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru , ac a’i tynnaf hyd lawr , fel y dinoether ei sylfaen , ac efe a syrth , a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared , ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru ; a dywedaf wrthych , Y pared nid yw , na’r rhai a’i priddasant : Sef proffwydi Israel , y rhai a broffwydant am Jerwsalem , ac a welant iddi weledigaethau heddwch , ac nid oes heddwch , medd yr Arglwydd Dduw . Tithau fab dyn , gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl , y rhai a broffwydant o’u calon eu hun ; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl , a’r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth , i hela eneidiau . Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi , ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch ? Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd , ac am dameidiau o fara , i ladd yr eneidiau ni ddylent farw , a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw , gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl , y rhai a wrandawent gelwydd ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi , â’r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau , i beri iddynt ehedeg , a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau ; a gollyngaf yr eneidiau , sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela , i beri iddynt ehedeg . Rhwygaf hefyd eich moledau chwi , a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw , ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd , a minnau heb ei ofidio ef ; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol , fel na ddychwelai o’i ffordd ddrygionus , trwy addo iddo einioes ; Oherwydd hynny ni welwch wagedd , ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy ; canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel , ac a eisteddasant o’m blaen . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Y gwŷr hyn , O fab dyn , a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau , ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau : gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi ? Am hynny ymddiddan â hwynt , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pob un o dŷ Israel , yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon , ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb , ac a ddaw at y proffwyd ; myfi yr Arglwydd a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod , I ddal tŷ Israel yn eu calonnau , am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Trowch , a dychwelwch oddi wrth eich eilunod , a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra . Canys pob un o dŷ Israel , ac o’r dieithr a ymdeithio o fewn Israel , a ymneilltuo oddi ar fy ôl i , ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon , ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb , ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef ; myfi yr Arglwydd a atebaf iddo trwof fy hun . Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny : a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb , a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air , myfi yr Arglwydd a dwyllodd y proffwyd hwnnw ; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef , ac a’i difethaf o fysg fy mhobl Israel . A hwy a ddygant eu hanwiredd : un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd : Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl , ac na haloger hwy mwy â’u holl droseddau ; ond bod ohonynt i mi yn bobl , a minnau iddynt hwy yn Dduw , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Ha fab dyn , pan becho gwlad i’m herbyn trwy wneuthur camwedd , yna yr estynnaf fy llaw arni , a thorraf ffon ei bara hi , ac anfonaf arni newyn , ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail . Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn , Noa , Daniel , a Job , hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig , medd yr Arglwydd Dduw . Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad , a’i difa o hwnnw , fel y byddo yn anghyfannedd , heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil : Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni waredent na meibion na merched ; hwynt‐hwy yn unig a waredid , a’r tir a fyddai yn anghyfannedd . Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw , a dywedyd ohonof , Cyniwair , gleddyf , trwy y tir ; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail : A’r triwyr hyn yn ei ganol , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni achubent na meibion na merched , ond hwynt‐hwy yn unig a achubid . Neu os haint a anfonaf i’r wlad honno , a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed , gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail ; A Noa , Daniel , a Job , yn ei chanol hi ; fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni waredent na mab na merch ; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pa faint mwy , pan anfonwyf fy mhedair drygfarn , cleddyf , a newyn , a bwystfil niweidiol , a haint , ar Jerwsalem , i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail ? Eto wele , bydd ynddi weddill dihangol , y rhai a ddygir allan , yn feibion a merched : wele hwynt yn dyfod allan atoch , a chewch weled eu ffyrdd hwynt a’u gweithredoedd ; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem , sef yr hyn oll a ddygais arni . Ie , cysurant chwi , pan weloch eu ffordd a’u gweithredoedd : a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i’w herbyn hi , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , beth yw coed y winwydden fwy na phob coed arall , neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed ? A gymerir ohoni goed i wneuthur gwaith ? a gymerant ohoni hoel i grogi un offeryn arni ? Wele , yn ymborth i’r tân y rhoddir hi ; difaodd y tân ei deuben hi , ei chanol a olosgwyd : a wasanaetha hi mewn gwaith ? Wele , pan oedd gyfan , nid oedd gymwys i ddim gwaith : pa faint llai , gan ei difa o dân a’i golosgi , y bydd hi eto gymwys i waith ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Megis pren y winwydden ymysg prennau y coed , yr hon a roddais yn ymborth i’r tân , felly y rhoddaf drigolion Jerwsalem . A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt : o’r naill dân y deuant allan , a thân arall a’u difa hwynt ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd , pan osodwyf fy wyneb i’w herbyn hwynt . Gwnaf hefyd y wlad yn anrhaith , am wneuthur ohonynt gamwedd , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem ; Dy drigfa a’th enedigaeth sydd o wlad Canaan : dy dad oedd Amoriad , a’th fam yn Hittees . Ac am dy enedigaeth , ar y dydd y’th anwyd ni thorrwyd dy fogail , ac mewn dwfr ni’th olchwyd i’th feddalhau : ni’th gyweiriwyd chwaith â halen , ac ni’th rwymwyd â rhwymyn . Ni thosturiodd llygad wrthyt , i wneuthur i ti un o hyn , i dosturio wrthyt ; ond ar wyneb y maes y’th daflwyd , i ffieiddio dy einioes , ar y dydd y’th aned . A phan dramwyais heibio i ti , a’th weled yn ymdrybaeddu yn dy waed , dywedais wrthyt yn dy waed , Bydd fyw ; ie , dywedais wrthyt yn dy waed , Bydd fyw . Yn fyrddiwn y’th wneuthum fel gwellt y maes , a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr , ac a ddaethost i harddwch godidog : dy fronnau a chwyddasant , a’th wallt a dyfodd , a thi yn llom ac yn noeth o’r blaen . Pan euthum heibio i ti , ac edrych arnat , wele dy amser yn amser serchowgrwydd : yna lledais fy adain drosot , a chuddiais dy noethni : tyngais hefyd i ti , ac euthum mewn cyfamod â thi , medd yr Arglwydd Dduw , a thi a aethost yn eiddof fi . Yna mi a’th olchais â dwfr ; ie , golchais dy waed oddi wrthyt , ac irais di ag olew . Mi a’th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd , rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch , a gwregysais di â lliain main , a gorchuddiais di â sidan . Mi a’th herddais hefyd â harddwch , a rhoddais freichledau am dy ddwylo , a chadwyn am dy wddf . Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen , a thlysau wrth dy glustiau , a choron hardd am dy ben . Felly y’th harddwyd ag aur ac arian ; a’th wisg oedd liain main , a sidan , a gwaith edau a nodwydd ; peilliaid , a mêl , ac olew a fwyteit : teg hefyd odiaeth oeddit , a ffynnaist yn frenhiniaeth . Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd , am dy degwch : canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat , medd yr Arglwydd Dduw . Ond ti a ymddiriedaist i’th degwch , a phuteiniaist oherwydd dy enw , a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd ; eiddo ef ydoedd . Cymeraist hefyd o’th ddillad , a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion , a phuteiniaist arnynt : y fath ni ddaw , ac ni bydd felly . A chymeraist offer dy harddwch o’m haur ac o’m harian i , y rhai a roddaswn i ti , a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr , a phuteiniaist gyda hwynt . Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd , ac a’u gwisgaist hwynt : fy olew hefyd a’m harogl‐darth a roddaist o’u blaen hwynt . Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti , yn beilliaid , ac yn olew , ac yn fêl , â’r rhai y’th borthaswn di ; rhoddaist hynny hefyd o’u blaen hwynt yn arogl peraidd : fel hyn y bu , medd yr Arglwydd Dduw . Cymeraist hefyd dy feibion a’th ferched , y rhai a blantasit i mi ; y rhai hyn a aberthaist iddynt i’w bwyta . Ai bychan hyn o’th buteindra di , Ladd ohonot fy mhlant , a’u rhoddi hwynt i’w tynnu trwy y tân iddynt ? Ac yn dy holl ffieidd‐dra a’th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid , pan oeddit lom a noeth , a’th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed . A bu ar ôl dy holl ddrygioni , ( Gwae , gwae i ti ! medd yr Arglwydd Dduw , ) Adeiladu ohonot i ti uchelfa , a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol . Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa , a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd , ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd , ac amlheaist dy buteindra . Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion , mawr eu cnawd ; ac a amlheaist dy buteindra , i’m digio i . Am hynny wele , estynnais fy llaw arnat , a phrinheais dy ran , a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion , merched y Philistiaid , y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler . Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur , o eisiau cael dy ddigon ; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt , ni’th ddigonwyd . Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea ; ac eto ni’th ddigonwyd â hyn . Mor llesg yw dy galon , medd yr Arglwydd Dduw , gan i ti wneuthur hyn oll , sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu ! Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd , ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol ; ac nid oeddit fel putain , gan dy fod yn dirmygu gwobr ; Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas , ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr . I bob putain y rhoddant wobr ; ond tydi a roddi dy wobr i’th holl gariadau , ac a’u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i’th buteindra . Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra , gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di : canys lle y rhoddi wobr , ac na roddir gwobr i ti , yna yr wyt yn y gwrthwyneb . Gan hynny , O butain , clyw air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am dywallt dy frynti , a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda’th gariadau , a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra , a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt ; Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda’r rhai yr ymddigrifaist , a’r rhai oll a geraist , gyda’r rhai oll a gaseaist ; ie , casglaf hwynt i’th erbyn oddi amgylch , ac a ddinoethaf dy noethni iddynt , fel y gwelont dy holl noethni . Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid , a’r rhai a dywalltant waed ; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd . Ie , rhoddaf di yn eu dwylo hwynt , a hwy a ddinistriant dy uchelfa , ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd : diosgant di hefyd o’th ddillad , a chymerant ddodrefn dy harddwch , ac a’th adawant yn llom ac yn noeth . Dygant hefyd dyrfa i’th erbyn , ac a’th labyddiant â meini , ac â’u cleddyfau y’th drywanant . Llosgant hefyd dy dai â thân , a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer : a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio , a hefyd ni roddi wobr mwy . Felly y llonyddaf fy llid i’th erbyn , a symud fy eiddigedd oddi wrthyt ; mi a lonyddaf hefyd , ac ni ddigiaf mwy . Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid , ond anogaist fi i lid yn hyn oll ; am hynny wele , myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben , medd yr Arglwydd Dduw : fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra . Wele , pob diarhebydd a ddiarheba amdanat , gan ddywedyd , Fel y fam y mae y ferch . Merch dy fam , yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a’i meibion , ydwyt ti ; a chwaer dy chwiorydd ydwyt , y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a’u meibion : eich mam oedd Hittees , a’ch tad yn Amoriad . A’th chwaer hynaf yw Samaria , hi a’i merched yn trigo ar dy law aswy a’th chwaer ieuangach na thi , yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau , yw Sodom a’i merched . Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt , ac nid yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt y gwnaethost : megis petai hynny ychydig bach , ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni wnaeth Sodom dy chwaer , na hi na’i merched , fel y gwnaethost ti a’th ferched . Wele , hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom , Balchder , digonedd bara , ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched , ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a’r tlawd . A hwy a ymddyrchafasant , ac a wnaethant ffieidd‐dra o’m blaen i : am hynny y symudais hwynt , fel y gwelais yn dda . Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di ; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt , ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost . Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd , dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt : cyfiawnach ydynt na thi : cywilyddia dithau , a dwg dy waradwydd , gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd . Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt , caethiwed Sodom a’i merched , a chaethiwed Samaria a’i merched , yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a’th ferched yn eu canol hwynt : Fel y dygech dy warth , ac y’th waradwydder , am yr hyn oll a wnaethost , gan gysuro ohonot hwynt . Pan ddychwelo dy chwiorydd , Sodom a’i merched , i’w hen gyflwr , a phan ddychwelo Samaria a’i merched i’w hen gyflwr , yna tithau a’th ferched a ddychwelwch i’ch hen gyflwr . Canys nid oedd mo’r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder , Cyn datguddio dy ddrygioni , megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria , a’r holl rai o’i hamgylch , merched y Philistiaid , y rhai a’th ddiystyrant o bob parth . Dy ysgelerder , a’th ffieidd‐dra hefyd , ti a’u dygaist hwynt , medd yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost , yr hon a ddiystyraist lw , i ddiddymu’r cyfamod . Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid , ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol . Yna y cofi dy ffyrdd , ac y cywilyddi , pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi , gyda’r rhai ieuangach na thi : a rhoddaf hwynt yn ferched i ti , a hynny nid wrth dy amod di . A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi ; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : Fel y cofiech di , ac y cywilyddiech , ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd , pan ddyhudder fi tuag atat , am yr hyn oll a wnaethost , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , traetha ddychymyg , a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eryr mawr , mawr ei adenydd , hir ei asgell , llawn plu , yr hwn oedd iddo amryw liwiau , a ddaeth i Libanus , ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden . Torrodd frig ei blagur hi , ac a’i dug i dir marsiandïaeth : yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef . A chymerth o had y tir , ac a’i bwriodd mewn maes ffrwythlon ; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer , ac a’i plannodd fel helygen . Ac efe a dyfodd , ac a aeth yn winwydden wasgarog , isel o dwf , a’i changau yn troi ato ef ; a’i gwraidd oedd dano ef : felly yr aeth yn winwydden , ac y dug geinciau , ac y bwriodd frig . Yr oedd hefyd ryw eryr mawr , mawr ei esgyll , ac â llawer o blu : ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef , ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato , i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad . Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi , i fwrw brig , ac i ddwyn ffrwyth , fel y byddai yn winwydden hardd‐deg . Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw : A lwydda hi ? oni thyn efe ei gwraidd hi ? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi , fel y gwywo ? sych holl ddail ei brig , ac nid trwy fraich mawr , na thrwy bobl lawer , i’w thynnu hi o’i gwraidd . Ie , wele , wedi ei phlannu , a lwydda hi ? gan wywo oni wywa , pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi ? yn rhigolau ei thwf y gwywa . Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar , Oni wyddoch beth yw hyn ? dywed , Wele , daeth brenin Babilon i Jerwsalem , ac efe a gymerodd ei brenin hi , a’i thywysogion , ac a’u dug hwynt gydag ef i Babilon : Ac a gymerodd o’r had brenhinol , ac a wnaeth ag ef gyfamod , ac a’i dug ef dan lw ; cymerodd hefyd gedyrn y wlad : Fel y byddai y deyrnas yn isel , heb ymddyrchafu , eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef . Ond gwrthryfelodd i’w erbyn , gan anfon ei genhadau i’r Aifft , fel y rhoddid iddo feirch , a phobl lawer . A lwydda efe ? a ddianc yr hwn a wnelo hyn ? neu a ddiddyma efe y cyfamod , ac a waredir ef ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , yng nghartref y brenin yr hwn a’i gwnaeth ef yn frenin , yr hwn y diystyrodd efe ei lw , a’r hwn y diddymodd efe ei gyfamod , gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon . Ac ni wna Pharo â’i lu mawr , ac â’i fintai luosog , ddim gydag ef mewn rhyfel , wrth godi clawdd , ac wrth adeiladu cestyll , i dorri ymaith lawer einioes . Gan ddiystyru ohono y llw , gan ddiddymu y cynghrair , ( canys wele , efe a roddasai ei law , ) a gwneuthur ohono hynny oll , ni ddianc . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Fel mai byw fi , fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe , a’m cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe , hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef . Canys taenaf fy rhwyd arno , ac efe a ddelir yn fy rhwyd , a dygaf ef i Babilon , ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i’m herbyn . A’i holl ffoaduriaid ynghyd â’i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf , a’r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt ; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel , ac a’i gosodaf : o frig ei blagur y torraf un tyner , a mi a’i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig . Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef : ac efe a fwrw frig , ac a ddwg ffrwyth , ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg : a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani ; dan gysgod ei changhennau y trigant . A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel , ac a ddyrchefais y pren isel ; a sychais y pren ir , ac a ireiddiais y pren crin : myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwneuthum . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel , gan ddywedyd , Y tadau a fwytasant rawnwin surion , ac ar ddannedd y plant y mae dincod ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel . Wele , yr holl eneidiau eiddof fi ydynt ; fel enaid y tad , felly hefyd enaid y mab , eiddof fi ydynt ; yr enaid a becho , hwnnw a fydd farw . Canys os bydd gŵr yn gyfiawn , ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder , Heb fwyta ar y mynyddoedd , na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel , ac heb halogi gwraig ei gymydog , na nesáu at wraig fisglwyfus , Na gorthrymu neb , ond a roddes ei wystl i’r dyledwr yn ei ôl , ni threisiodd drais , ei fara a roddodd i’r newynog , ac a ddilladodd y noeth , Ni roddes ar usuriaeth , ac ni chymerodd ychwaneg , ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd , gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr . Yn fy neddfau y rhodiodd , a’m barnedigaethau a gadwodd , i wneuthur gwirionedd : cyfiawn yw ; gan fyw efe a fydd byw , medd yr Arglwydd Dduw . Os cenhedla efe fab yn lleidr , ac yn tywallt gwaed , ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn , Ac ni wna yr un o’r pethau hynny , ond ar y mynyddoedd y bwyty , a gwraig ei gymydog a haloga , Yr anghenus a’r tlawd a orthryma , trais a dreisia , gwystl ni rydd drachefn , ac at eilunod y cyfyd ei lygaid , a wnaeth ffieidd‐dra , Ar usuriaeth y rhoddes , ac ychwaneg a gymerth ; gan hynny a fydd efe byw ? Ni bydd byw : gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn ; gan farw y bydd farw ; ei waed a fydd arno ei hun . Ac wele , os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe , ac a ystyria , ac ni wna felly , Ar y mynyddoedd ni fwyty , a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel , ni haloga wraig ei gymydog , Ni orthryma neb chwaith , ni atal wystl , ac ni threisia drais , ei fara a rydd i’r newynog , a’r noeth a ddillada , Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog , usuriaeth na llog ni chymer , fy marnau a wna , yn fy neddfau y rhodia : hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad ; gan fyw y bydd efe byw . Ei dad , am orthrymu yn dost , a threisio ei frawd trwy orthrech , a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl , wele , efe a fydd marw yn ei anwiredd . Eto chwi a ddywedwch , Paham ? oni ddwg y mab anwiredd y tad ? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder , a chadw fy holl ddeddfau , a’u gwneuthur hwynt , gan fyw efe a fydd byw . Yr enaid a becho , hwnnw a fydd marw . Y mab ni ddwg anwiredd y tad , a’r tad ni ddwg anwiredd y mab : cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef , a drygioni y drygionus fydd arno yntau . Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth , a chadw fy holl ddeddfau , a gwneuthur barn a chyfiawnder , efe gan fyw a fydd byw ; ni bydd efe marw . Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth : yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw . Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol , medd yr Arglwydd Dduw , ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd , a byw ? Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol ; a fydd efe byw ? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe : yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth , ac yn ei bechod a bechodd , ynddynt y bydd efe marw . Eto chwi a ddywedwch , Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd . Gwrandewch yr awr hon , tŷ Israel , onid yw gymwys fy ffordd i ? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys ? Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , a marw ynddynt ; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw . A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth , a gwneuthur barn a chyfiawnder , hwnnw a geidw yn fyw ei enaid . Am iddo ystyried , a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth , gan fyw y bydd byw , ni bydd marw . Eto tŷ Israel a ddywedant , Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd . Tŷ Israel , onid cymwys fy ffyrdd i ? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys ? Am hynny barnaf chwi , tŷ Israel , bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun , medd yr Arglwydd Dduw . Dychwelwch , a throwch oddi wrth eich holl gamweddau ; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi . Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt , a gwnewch i chwi galon newydd , ac ysbryd newydd : canys paham , tŷ Israel , y byddwch feirw ? Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw , medd yr Arglwydd Dduw . Dychwelwch gan hynny , a byddwch fyw . Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel , A dywed , Beth yw dy fam ? llewes : gorweddodd ymysg llewod , yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon . A hi a ddug i fyny un o’i chenawon : efe a aeth yn llew ieuanc , ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth ; bwytaodd ddynion . Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano ; daliwyd ef yn eu ffos hwynt , a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft . A phan welodd iddi ddisgwyl , a darfod am ei gobaith , hi a gymerodd un arall o’i chenawon , ac a’i gwnaeth ef yn llew ieuanc . Yntau a dramwyodd ymysg y llewod ; efe a aeth yn llew ieuanc , ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth ; bwytaodd ddynion . Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt , a’u dinasoedd a anrheithiodd efe ; ie , anrheithiwyd y tir a’i gyflawnder gan lais ei ruad ef . Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o’r taleithiau , ac a daenasant eu rhwyd arno ; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt . A hwy a’i rhoddasant ef yng ngharchar mewn cadwyni , ac a’i dygasant at frenin Babilon : dygasant ef i amddiffynfeydd , fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel . Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di , wedi ei phlannu wrth ddyfroedd : ffrwythlon a brigog oedd , oherwydd dyfroedd lawer . Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr , a’i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig ; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau . Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd , bwriwyd hi i’r llawr , a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi : ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant ; tân a’u hysodd . Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch , mewn tir cras a sychedig . A thân a aeth allan o wialen ei changhennau , ysodd ei ffrwyth hi , fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu . Galarnad yw hwn , ac yn alarnad y bydd . Yn y seithfed flwyddyn , o fewn y pumed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â’r Arglwydd , ac a eisteddasant ger fy mron i . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , llefara wrth henuriaid Israel , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni fynnaf gennych ymofyn â mi . A ferni di hwynt , mab dyn , a ferni di hwynt ? gwna iddynt wybod ffieidd‐dra eu tadau : A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ar y dydd y dewisais Israel , ac y tyngais wrth had tŷ Jacob , ac y’m gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft , pan dyngais wrthynt , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi ; Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft , i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt , yn llifeirio o laeth a mêl , yr hon yw gogoniant yr holl diroedd : Yna y dywedais wrthynt , Bwriwch ymaith bob un ffieidd‐dra ei lygaid , ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Er hynny gwrthryfelasant i’m herbyn , ac ni fynnent wrando arnaf : ni fwriasant ymaith ffieidd‐dra eu llygaid bob un , ac ni adawsant eilunod yr Aifft . Yna y dywedais , Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd , a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft . Eto gwneuthum er mwyn fy enw , rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg ; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy , wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft . Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft , ac a’u dygais hwynt i’r anialwch . A rhoddais iddynt fy neddfau , a hysbysais iddynt fy marnedigaethau , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwna hwynt . Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau , i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt , a wybod mai myfi yw yr Arglwydd a’u sancteiddiodd hwynt . Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i’m herbyn yn yr anialwch : ni rodiasant yn fy neddfau , ond diystyrasant fy marnedigaethau , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt ; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr . Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch , i’w difetha hwynt . Eto gwneuthum er mwyn fy enw , fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd , y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd . Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch , na ddygwn hwynt i’r wlad a roddaswn iddynt , yn llifeirio o laeth a mêl ; honno yw gogoniant yr holl wledydd : Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau , ac na rodiasant yn fy neddfau , ond halogi fy Sabothau : canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod . Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio , ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch . Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch , Na rodiwch yn neddfau eich tadau , ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt , nac ymhalogwch chwaith â’u heilunod hwynt . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi : rhodiwch yn fy neddfau , a chedwch fy marnedigaethau , a gwnewch hwynt : Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau ; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau , i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Y meibion hwythau a wrthryfelasant i’m herbyn ; yn fy neddfau ni rodiasant , a’m barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt : halogasant fy Sabothau : yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt , i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch . Eto troais heibio fy llaw , a gwneuthum er mwyn fy enw , fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd . Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch , ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd , a’u taenu hwynt ar hyd y gwledydd ; Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent , ond fy neddfau a ddiystyrasent , fy Sabothau hefyd a halogasent , a’u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau . Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda , a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt : Ac a’u halogais hwynt yn eu hoffrymau , wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth , fel y dinistriwn hwynt ; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd . Am hynny , fab dyn , llefara wrth dŷ Israel , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eto yn hyn y’m cablodd eich tadau , gan wneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn . Canys dygais hwynt i’r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt , a gwelsant bob bryn uchel , a phob pren brigog ; ac aberthasant yno eu hebyrth , ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd : yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd , ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau . Yna y dywedais wrthynt , Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi ? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi ? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt ? Canys pan offrymoch eich offrymau , gan dynnu eich meibion trwy y tân , yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw : a fynnaf fi gennych ymofyn â mi , tŷ Israel ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , nid ymofynnir â mi gennych . Eich bwriad hefyd ni bydd ddim , yr hyn a ddywedwch , Byddwn fel y cenhedloedd , fel teuluoedd y gwledydd , i wasanaethu pren a maen . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , yn ddiau â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac â llidiowgrwydd tywalltedig , y teyrnasaf arnoch . A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd , a chasglaf chwi o’r gwledydd y rhai y’ch gwasgarwyd ynddynt , â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac â llidiowgrwydd tywalltedig . A dygaf chwi i anialwch y bobloedd , ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb . Fel yr ymddadleuais â’ch tadau yn anialwch tir yr Aifft , felly yr ymddadleuaf â chwithau , medd yr Arglwydd Dduw . A gwnaf i chwi fyned dan y wialen , a dygaf chwi i rwym y cyfamod . A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar , a’r rhai a droseddant i’m herbyn : dygaf hwynt o wlad eu hymdaith , ac i wlad Israel ni ddeuant : a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Chwithau , tŷ Israel , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ewch , gwasanaethwch bob un ei eilunod , ac ar ôl hyn hefyd , oni wrandewch arnaf fi : ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau , ac â’ch eilunod . Canys yn fy mynydd sanctaidd , ym mynydd uchelder Israel , medd yr Arglwydd Dduw , yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel , cwbl o’r wlad : yno y byddaf fodlon iddynt ; ac yno y gofynnaf eich offrymau , a blaenffrwyth eich offrymau , gyda’ch holl sanctaidd bethau . Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd , pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd , a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt ; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd . Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan ddygwyf chwi i dir Israel , i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau . Ac yno y cofiwch eich ffyrdd , a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt ; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw , nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi , nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig , O dŷ Israel , medd yr Arglwydd Dduw . Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tua’r deau , ie , difera eiriau tua’r deau , a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau ; A dywed wrth goed y deau , Gwrando air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cynnau ynot ti dân , ac efe a ysa ynot ti bob pren ir , a phob pren sych : ffagl y fflam ni ddiffydd , a’r holl wynebau o’r deau hyd y gogledd a losgir ynddo . A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a’i cyneuais : nis diffoddir ef . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , y maent hwy yn dywedyd amdanaf , Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu ? Adaeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tua Jerwsalem , a difera dy eiriau tua’r cysegroedd , a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel , A dywed wrth wlad Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi i’th erbyn , tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain , a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn . Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn , am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd , o’r deau hyd y gogledd ; Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o’i wain : ni ddychwel efe mwy . Ochain dithau , fab dyn , gydag ysictod lwynau ; ie , ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt . A bydd , pan ddywedant wrthyt , Am ba beth yr ydwyt yn ochain ? yna ddywedyd ohonot , Am y chwedl newydd , am ei fod yn dyfod , fel y toddo pob calon , ac y llaeso y dwylo oll , ac y pallo pob ysbryd , a’r gliniau oll a ânt fel dwfr ; wele efe yn dyfod , ac a fydd , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dywed , Cleddyf , cleddyf a hogwyd , ac a loywyd . Efe a hogwyd i ladd lladdfa , efe a loywyd fel y byddai ddisglair : a lawenychwn ni ? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab , fel pob pren . Ac efe a’i rhoddes i’w loywi , i’w ddal mewn llaw ; y cleddyf hwn a hogwyd , ac a loywyd , i’w roddi yn llaw y lleiddiad . Gwaedda ac uda , fab dyn ; canys hwn fydd ar fy mhobl , hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel ; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl : am hynny taro law ar forddwyd . Canys profiad yw ; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen ? ni bydd efe mwy , medd yr Arglwydd Dduw . Tithau , fab dyn , proffwyda , a tharo law wrth law , a dybler y cleddyf y drydedd waith : cleddyf y lladdedigion , cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw , yn myned i’w hystafelloedd hwynt . Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt , i doddi eu calon , ac i amlhau eu tramgwyddiadau : O , gwnaed ef yn loyw , hogwyd ef i ladd ! Dos ryw ffordd , naill ai ar y llaw ddeau , ai ar y llaw aswy , lle y tueddo dy wyneb . Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall , ac a lonyddaf fy llid : myfi yr Arglwydd a’i lleferais . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , gosod i ti ddwy ffordd , fel y delo cleddyf brenin Babilon ; o un tir y deuant ill dwy : a dewis le , ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef . Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon , a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog . Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd , ym mhen y ddwyffordd , i ddewinio dewiniaeth : gloywodd ei saethau , ymofynnodd â delwau , edrychodd mewn afu . Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem , am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth , i ddyrchafu llef gyda bloedd , i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth , i fwrw clawdd , i adeiladu amddiffynfa . A hyn fydd ganddynt , fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt , i’r rhai a dyngasant lwon : ond efe a gofia yr anwiredd , i’w dal hwynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am beri ohonoch gofio eich anwiredd , gan amlygu eich camweddau , fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd ; am beri ohonoch eich cofio , y’ch delir â llaw . Tithau , halogedig annuwiol dywysog Israel , yr hwn y daeth ei ddydd , yn amser diwedd anwiredd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Symud y meitr , a thyn ymaith y goron ; nid yr un fydd hon : cyfod yr isel , gostwng yr uchel . Dymchwelaf , dymchwelaf , dymchwelaf hi ; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo ; ac iddo ef y rhoddaf hi . Proffwyda dithau , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon , ac am eu gwaradwydd hwynt ; dywed di , Y cleddyf , y cleddyf a dynnwyd : i ladd y gloywyd ef , i ddifetha oherwydd y disgleirdeb : Wrth weled gwagedd i ti , wrth ddewinio i ti gelwydd , i’th roddi ar yddfau y lladdedigion , y drygionus y rhai y daeth eu dydd , yn amser diwedd eu hanwiredd . A ddychwelaf fi ef i’w wain ? yn y lle y’th grewyd , yn nhir dy gynefin , y’th farnaf . A thywalltaf fy nicllonedd arnat , â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat , a rhoddaf di yn llaw dynion poethion , cywraint i ddinistrio . I’r tân y byddi yn ymborth ; dy waed fydd yng nghanol y tir ; ni’th gofir mwyach : canys myfi yr Arglwydd a’i dywedais . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , a ferni di , a ferni ddinas y gwaed ? ie , ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra . Dywed dithau , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol , i ddyfod o’i hamser , ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi . Euog wyt yn dy waed , yr hwn a dywelltaist ; a halogedig yn dy eilunod , y rhai a wnaethost ; a thi a neseaist dy ddyddiau , a daethost hyd at dy flynyddoedd : am hynny y’th wneuthum yn warth i’r cenhedloedd , ac yn watwargerdd i’r holl wledydd . Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthyt a’th watwarant , yr halogedig o enw , ac aml dy drallod . Wele , tywysogion Israel oeddynt ynot , bob un yn ei allu i dywallt gwaed . Dirmygasant ynot dad a mam ; gwnaethant yn dwyllodrus â’r dieithr o’th fewn : gorthrymasant ynot yr amddifad a’r weddw . Dirmygaist fy mhethau sanctaidd , a halogaist fy Sabothau . Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed ; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti : gwnânt ysgelerder o’th fewn . Ynot ti y datguddient noethni eu tad : yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot . Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog ; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder ; ie , darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun , merch ei dad . Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed ; cymeraist usuriaeth ac ocraeth , ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll , ac anghofiaist fi , medd yr Arglwydd Dduw . Am hynny wele , trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost , ac am y gwaed oedd o’th fewn . A bery dy galon , a gryfha dy ddwylo , yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi ? myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwnaf . Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd , a thaenaf di ar hyd y gwledydd , a gwnaf i’th aflendid ddarfod allan ohonot . A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd : a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd : pres , ac alcam , a haearn , a phlwm , ydynt oll yng nghanol y pair : amhuredd arian ydynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am eich bod chwi oll yn amhuredd , am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem . Fel casglu arian , a phres , a haearn , a phlwm , ac alcam , i ganol y ffwrn , i chwythu tân arnynt i’w toddi ; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi , ac a’ch gadawaf yno , ac a’ch toddaf . Ie , casglaf chwi , a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd , fel y todder chwi yn ei chanol hi . Fel y toddir arian yng nghanol y pair , felly y toddir chwi yn ei chanol hi ; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrthi hi , fab dyn , Ti yw y tir sydd heb ei buro , heb lawio arno yn nydd dicter . Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn , sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth ; eneidiau a ysasant ; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant ; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn . Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith , ac a halogasant fy mhethau sanctaidd : ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig , ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân ; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau , a halogwyd fi yn eu mysg hwynt . Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth , i dywallt gwaed , i ddifetha eneidiau , er elwa elw . Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus , gan weled gwagedd , a dewinio iddynt gelwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , a’r Arglwydd heb ddywedyd . Pobl y tir a arferasant dwyll , ac a dreisiasant drais , ac a orthrymasant y truan a’r tlawd ; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn . Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae , ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad , rhag ei dinistrio ; ac nis cefais . Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt , â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt ; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dwy wraig oedd ferched i’r un fam ; A phuteiniasant yn yr Aifft , yn eu hieuenctid y puteiniasant : yno y pwyswyd ar eu bronnau , ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod . A’u henwau hwynt oedd , Ahola yr hynaf , ac Aholiba ei chwaer : ac yr oeddynt yn eiddof fi , a phlantasant feibion a merched . Dyma eu henwau ; Samaria yw Ahola , a Jerwsalem Aholiba . Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi , ac a ymserchodd yn ei chariadau , ei chymdogion yr Asyriaid ; Y rhai a wisgid â glas , yn ddugiaid ac yn dywysogion , o wŷr ieuainc dymunol i gyd , yn farchogion yn marchogaeth meirch . Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt , â dewis feibion Assur oll , a chyda’r rhai oll yr ymserchodd ynddynt ; â’u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi . Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o’r Aifft : canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid , a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi , ac a dywalltasent eu puteindra arni . Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau , sef yn llaw meibion Assur , y rhai yr ymserchodd hi ynddynt . Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi : hwy a gymerasant ei meibion hi a’i merched , ac a’i lladdasant hithau â’r cleddyf : a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd : canys gwnaethent farn arni . A phan welodd ei chwaer Aholiba , hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi , a’i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer . Ymserchodd ym meibion Assur , y dugiaid a’r tywysogion o gymdogion , wedi eu gwisgo yn wych iawn , yn farchogion yn marchogaeth meirch , yn wŷr ieuainc dymunol i gyd . Yna y gwelais ei halogi hi , a bod un ffordd ganddynt ill dwy , Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra : canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared , delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion , Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau , yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau , mewn golwg yn dywysogion oll , o ddull meibion Babilon yn Caldea , tir eu genedigaeth : Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â’i llygaid , ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea . A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad , ac a’i halogasant hi â’u puteindra ; a hi a ymhalogodd gyda hwynt , a’i meddwl a giliodd oddi wrthynt . Felly y datguddiodd hi ei phuteindra , ac y datguddiodd ei noethni . Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi , fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi . Eto hi a chwanegodd ei phuteindra , gan gofio dyddiau ei hieuenctid , yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft . Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr , y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod , a’u diferlif fel diferlif meirch . Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid , pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid , am fronnau dy ieuenctid . Am hynny , Aholiba , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i’th erbyn , y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt , a dygaf hwynt i’th erbyn o amgylch : Meibion Babilon a’r holl Galdeaid , Pecod , a Soa , a Coa , a holl feibion Assur gyda hwynt ; yn wŷr ieuainc dymunol , yn ddugiaid a thywysogion i gyd , yn benaethiaid ac yn enwog , yn marchogaeth meirch , bawb ohonynt . A deuant i’th erbyn â menni , cerbydau , ac olwynion , ac â chynulleidfa o bobl ; gosodant i’th erbyn oddi amgylch astalch , a tharian , a helm : a rhoddaf o’u blaen hwynt farnedigaeth , a hwy a’th farnant â’u barnedigaethau eu hun . A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn , a hwy a wnânt â thi yn llidiog : dy drwyn a’th glustiau a dynnant ymaith , a’th weddill a syrth gan y cleddyf : hwy a ddaliant dy feibion a’th ferched ; a’th weddill a ysir gan y tân . Diosgant hefyd dy ddillad , a dygant dy ddodrefn hyfryd . Felly y gwnaf i’th ysgelerder , a’th buteindra o dir yr Aifft , beidio â thi ; fel na chodech dy lygaid atynt , ac na chofiech yr Aifft mwy . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist , yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt . A gwnânt â thi yn atgas , ac a gymerant dy holl lafur , ac a’th adawant di yn llom ac yn noeth : a datguddir noethni dy buteindra ; ie , dy ysgelerder a’th buteindra . Mi a wnaf hyn i ti , am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd , am dy halogi gyda’u heilunod hwynt . Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer ; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi : ti a fyddi i’th watwar ac i’th ddirmygu : y mae llawer yn genni ynddo . Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid , o gwpan syndod ac anrhaith , o gwpan dy chwaer Samaria . Canys ti a yfi , ac a sugni ohono ; drylli hefyd ei ddarnau ef , ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun : canys myfi a’i lleferais , medd yr Arglwydd Dduw . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd i ti fy anghofio , a’m bwrw ohonot tu ôl i’th gefn ; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a’th buteindra . Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthyf , A ferni di , fab dyn , Ahola ac Aholiba ? ie , mynega iddynt eu ffieidd‐dra ; Iddynt dorri priodas , a bod gwaed yn eu dwylo ; ie , gyda’u heilunod y puteiniasant ; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi , a dynasant trwy dân iddynt i’w hysu . Gwnaethant hyn ychwaneg i mi ; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw , a’m Sabothau a halogasant . Canys pan laddasant eu meibion i’w heilunod , yna y daethant i’m cysegr yn y dydd hwnnw , i’w halogi ef : ac wele , fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ . A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell , y rhai yr anfonwyd cennad atynt , ac wele daethant : er mwyn y rhai yr ymolchaist , y lliwiaist dy lygaid , ac yr ymherddaist â harddwch . Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus , a bord drefnus o’i flaen , a gosodaist arno fy arogl‐darth a’m holew i . A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi : a chyda’r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o’r anialwch , y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt , a choronau hyfryd am eu pennau hwynt . Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra , A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi , a hithau gyda hwythau ? Eto aethant ati fel myned at buteinwraig ; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba , y gwragedd ysgeler . A’r gwŷr cyfiawn hwythau a’u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid , ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed : canys puteinio y maent , a gwaed sydd yn eu dwylo . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy , a rhoddaf hwynt i’w mudo ac i’w hanrheithio . A’r dyrfa a’u llabyddiant hwy â meini , ac a’u torrant hwy â’u cleddyfau : eu meibion a’u merched a laddant , a’u tai a losgant â thân . Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o’r wlad , fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi . A hwy a roddant eich ysgelerder i’ch erbyn , a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod ; ac a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Drachefn yn y nawfed flwyddyn , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn , fab dyn , ie , corff y dydd hwn : ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn . A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gosod y crochan , gosod , a thywallt hefyd ddwfr ynddo . Casgl ei ddrylliau iddo , pob dryll teg , y morddwyd , a’r ysgwyddog ; llanw ef â’r dewis esgyrn . Cymer ddewis o’r praidd , a chynnau yr esgyrn dano , a berw ef yn ferwedig ; ie , berwed ei esgyrn o’i fewn . Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn , Gwae ddinas y gwaed , y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo , ac nid aeth ei ysgum allan ohono : tyn ef allan bob yn ddryll : na syrthied coelbren arno . Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol : ar gopa craig y gosododd hi ef ; nis tywalltodd ar y ddaear , i fwrw arno lwch : I beri i lid godi i wneuthur dial ; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig , rhag ei guddio . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Gwae ddinas y gwaed ! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr . Amlha y coed , cynnau y tân , difa y cig , a gwna goginiaeth , a llosger yr esgyrn . A dod ef ar ei farwor yn wag , fel y twymo , ac y llosgo ei bres , ac y toddo ei aflendid ynddo , ac y darfyddo ei ysgum . Ymflinodd â chelwyddau , ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni : yn tân y bwrir ei hysgum hi . Yn dy aflendid y mae ysgelerder : oherwydd glanhau ohonof di , ac nid wyt lân , o’th aflendid ni’th lanheir mwy , hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais : daw , a gwnaf ; nid af yn ôl ac nid arbedaf , ac nid edifarhaf . Yn ôl dy ffyrdd , ac yn ôl dy weithredoedd , y barnant di , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Wele , fab dyn , fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod : eto na alara ac nac wyla , ac na ddeued dy ddagrau . Taw â llefain , na wna farwnad ; rhwym dy gap am dy ben , a dod dy esgidiau am dy draed , ac na chae ar dy enau , na fwyta chwaith fara dynion . Felly y lleferais wrth y bobl y bore ; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr ; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi . A’r bobl a ddywedasant wrthyf , Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni , gan i ti wneuthur felly ? Yna y dywedais wrthynt , Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn halogi fy nghysegr , godidowgrwydd eich nerth , dymuniant eich llygaid , ac anwyldra eich enaid : a’ch meibion a’ch merched , y rhai a adawsoch , a syrthiant gan y cleddyf . Ac fel y gwneuthum i , y gwnewch chwithau ; ni chaewch ar eich geneuau , ac ni fwytewch fara dynion . Byddwch â’ch capiau am eich pennau , a’ch esgidiau am eich traed : ni alerwch , ac nid wylwch ; ond am eich anwiredd y dihoenwch , ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd . Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi : yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe , y gwnewch chwithau : a phan ddelo hyn , chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Tithau fab dyn , onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth , llawenydd eu gogoniant , dymuniant eu llygaid , ac anwyldra eu henaid , eu meibion a’u merched , Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango , atat , i beri i ti ei glywed â’th glustiau ? Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango ; lleferi hefyd , ac ni byddi fud mwy : a byddi iddynt yn arwydd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd , Ha fab dyn , gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon , a phroffwyda yn eu herbyn hwynt ; A dywed wrth feibion Ammon , Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am ddywedyd ohonot , Ha , ha , yn erbyn fy nghysegr , pan halogwyd ; ac yn erbyn tir Israel , pan anrheithiwyd ; ac yn erbyn tŷ Jwda , pan aethant mewn caethglud : Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain , fel y gosodant eu palasau ynot , ac y gosodant eu pebyll o’th fewn : hwy a ysant dy ffrwyth , a hwy a yfant dy laeth . Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod , a meibion Ammon yn orweddfa defaid : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo , a churo ohonot â’th draed , a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel ; Am hynny wele , mi a estynnaf fy llaw arnat , ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd , ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd , ac a’th ddifethaf o’r tiroedd : dinistriaf di ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am ddywedyd o Moab a Seir , Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd : Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd , o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau , gogoniant y wlad , Beth‐jesimoth , Baal‐meon , a Ciriathaim , I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon , a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth ; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd . Gwnaf farn hefyd ar Moab ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial , a gwneuthur camwedd mawr , ac ymddial arnynt ; Am hynny , medd yr Arglwydd Dduw , yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom , a thorraf ohoni ddyn ac anifail ; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman ; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf . A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel : a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd , ac yn ôl fy llid ; fel y gwypont fy nialedd , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial , a dialu dial trwy ddirmyg calon , i’w dinistrio am yr hen gas ; Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid , a thorraf ymaith y Cerethiaid , a difethaf weddill porthladd y môr . A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan roddwyf fy nialedd arnynt . Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem , Aha , torrwyd hi , pyrth y bobloedd : trodd ataf fi : fo’m llenwir ; anrheithiedig yw hi : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , O Tyrus , a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn , fel y cyfyd y môr ei donnau . A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus , a’i thyrau a ddinistriant : minnau a grafaf ei llwch ohoni , ac a’i gwnaf yn gopa craig . Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr : canys myfi a lefarodd hyn , medd yr Arglwydd Dduw : a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd . Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dwyn ar Tyrus , o’r gogledd , Nebuchodonosor brenin Babilon , brenin brenhinoedd , â meirch ac â cherbydau , ac â marchogion , a thorfoedd , a phobl lawer . Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf ; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn , ac a fwrw glawdd i’th erbyn , ac a gyfyd darian i’th erbyn . Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd , a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill . Gan amlder ei feirch ef , eu llwch a’th doa : dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion , a’r olwynion , a’r cerbydau , pan ddelo trwy dy byrth di , fel dyfod i ddinas adwyog . A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll : dy bobl a ladd efe â’r cleddyf , a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr . A hwy a anrheithiant dy gyfoeth , ac a ysbeiliant dy farchnadaeth ; ac a ddinistriant dy geyrydd , a’th dai dymunol a dynnant i lawr : a’th gerrig , a’th goed , a’th bridd , a osodant yng nghanol y dyfroedd . A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio ; ac ni chlywir mwy lais dy delynau . A gwnaf di yn gopa craig : taenfa rhwydau fyddi : ni’th adeiledir mwy : canys myfi yr Arglwydd a’i lleferais , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus : Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp , pan waeddo yr archolledig , pan ladder lladdfa yn dy ganol ? Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau , ac a fwriant ymaith eu mantelloedd , ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw : dychryn a wisgant , ar y ddaear yr eisteddant , ac a ddychrynant ar bob moment , ac a synnant wrthyt . Codant hefyd alarnad amdanat , a dywedant wrthyt , Pa fodd y’th ddifethwyd , yr hon a breswylir gan forwyr , y ddinas ganmoladwy , yr hon oedd gref ar y môr , hi a’i thrigolion , y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi ? Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp ; ie , yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig , fel y dinasoedd nis cyfanheddir ; gan ddwyn arnat y dyfnder , fel y’th guddio dyfroedd lawer ; A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll , at y bobl gynt , a’th osod yn iselderau y ddaear , yn yr hen anrhaith , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll , fel na’th breswylier ; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw ; Gwnaf di yn ddychryn , ac ni byddi : er dy geisio , ni’th geir mwy , medd yr Arglwydd Dduw . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Tithau fab dyn , cyfod alarnad am Tyrus ; A dywed wrth Tyrus , O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr , marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Tyrus , ti a ddywedaist , Myfi wyf berffaith o degwch . Dy derfynau sydd yng nghanol y môr ; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch . Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir : cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti . Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan ; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim . Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti ; glas a phorffor o ynysoedd Elisa , oedd dy do . Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr : dy ddoethion di , Tyrus , o’th fewn , oedd dy long‐lywiawdwyr . Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau : holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad . Y Persiaid , a’r Ludiaid , a’r Phutiaid , oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd : tarian a helm a grogasant ynot ; hwy a roddasant i ti harddwch . Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch , a’r Gammadiaid yn dy dyrau : crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch ; hwy a berffeithiasant dy degwch . Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud ; ag arian , haearn , alcam , a phlwm , y marchnatasant yn dy ffeiriau . Jafan , Tubal , a Mesech , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres . Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch , a marchogion , a mulod . Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr ; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law : dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti . Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di : am garbuncl , porffor , a gwaith edau a nodwydd , a lliain meinllin , a chwrel , a gemau , y marchnatasant yn dy ffeiriau . Jwda a thir Israel , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith , a Phannag , a mêl , ac olew , a thriagl . Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud ; am win Helbon , a gwlân gwyn . Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd : haearn wedi ei weithio , casia , a’r calamus , oedd yn dy farchnad . Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau . Arabia , a holl dywysogion Cedar , oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn , hyrddod , a bychod : yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion . Marchnadyddion Seba a Rama , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau , ac am bob maen gwerthfawr , ac aur . Haran , a Channe , ac Eden , marchnadyddion Seba , Assur , a Chilmad , oedd yn marchnata â thi . Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith , am frethynnau gleision , a gwaith edau a nodwydd , ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr , wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd , ymysg dy farchnadaeth . Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad ; a thi a lanwyd , ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd . Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer : gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng nghanol y moroedd . Dy olud , a’th ffeiriau , dy farchnadaeth , dy forwyr , a’th feistriaid llongau , cyweirwyr dy agennau , a marchnadwyr dy farchnad , a’th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot , a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol , a syrthiant yng nghanol y môr , ar ddydd dy gwymp di . Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau , y tonnau a gyffroant . Yna pob rhwyfwr , y morwyr , holl lywyddion y moroedd , a ddisgynnant o’u llongau , ar y tir y safant ; A gwnânt glywed eu llef amdanat , a gwaeddant yn chwerw , a chodant lwch ar eu pennau , ac ymdrybaeddant yn y lludw . A hwy a’u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat , ac a ymwregysant â sachliain , ac a wylant amdanat â chwerw alar , mewn chwerwedd calon . A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan , a galarant amdanat , gan ddywedyd , Pwy oedd fel Tyrus , fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr ! Pan ddelai dy farchnadaeth o’r moroedd , diwellit bobloedd lawer ; ag amlder dy olud a’th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear . Y pryd y’th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd , dy farchnad a’th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol . Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat , a’u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn ; hwy a drallodir yn eu hwynebau . Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat : dychryn fyddi , ac ni byddi byth mwyach . Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dywed wrth dywysog Tyrus , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am falchïo dy galon , a dywedyd ohonot , Duw ydwyf fi , eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd ; a thi yn ddyn , ac nid yn Dduw , er gosod ohonot dy galon fel calon Duw : Wele di yn ddoethach na Daniel ; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt : Trwy dy ddoethineb a’th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti , ie , y cefaist aur ac arian i’th drysorau : Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth , a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw , Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid , y trawsaf o’r cenhedloedd ; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb , a halogant dy loywder . Disgynnant di i’r ffos , a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr . Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad , Duw ydwyf fi ? a thi a fyddi yn ddyn , ac nid yn Dduw , yn llaw dy leiddiad . Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig , trwy law dieithriaid : canys myfi a’i dywedais , medd yr Arglwydd Dduw . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Cyfod , fab dyn , alarnad am frenin Tyrus , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ti seliwr nifer , llawn o ddoethineb , a chyflawn o degwch , Ti a fuost yn Eden , gardd Duw : pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai , sardius , topas , ac adamant , beryl , onics , a iasbis , saffir , rubi , a smaragdus , ac aur : gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd . Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio ; ac felly y’th roddaswn ; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw : ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd . Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd , hyd oni chaed ynot anwiredd . Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais , a thi a bechaist : am hynny y’th halogaf allan o fynydd Duw , ac y’th ddifethaf di , geriwb yn gorchuddio , o ganol y cerrig tanllyd . Balchïodd dy galon yn dy degwch , llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder : bwriaf di i’r llawr ; o flaen brenhinoedd y’th osodaf , fel yr edrychont arnat . Trwy amlder dy anwiredd , ag anwiredd dy farchnadaeth , yr halogaist dy gysegroedd : am hynny y dygaf dân allan o’th ganol , hwnnw a’th ysa ; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant . Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd , a synnant o’th achos : dychryn fyddi , ac ni byddi byth . Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Gosod , fab dyn , dy wyneb yn erbyn Sidon , a phroffwyda yn ei herbyn hi , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , Sidon ; fel y’m gogonedder yn dy ganol , ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf ynddi farnedigaethau , ac y’m sancteiddier ynddi . Canys anfonaf iddi haint , a gwaed i’w heolydd ; a bernir yr archolledig o’i mewn â’r cleddyf , yr hwn fydd arni oddi amgylch ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Ac ni bydd mwy i dŷ Israel , o’r holl rai o’u hamgylch a’r a’u dirmygasant , ysbyddaden bigog , na draenen ofidus ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith , ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd ; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i’m gwas Jacob . Ie , trigant ynddi yn ddiogel , ac adeiladant dai , a phlannant winllannoedd ; a phreswyliant mewn diogelwch , pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll a’u dirmygant hwy o’u hamgylch ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw . Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn , ar y deuddegfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod , fab dyn , dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft , a phroffwyda yn ei erbyn ef , ac yn erbyn yr Aifft oll . Llefara , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , Pharo brenin yr Aifft , y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd , yr hwn a ddywedodd , Eiddof fi yw fy afon , a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun . Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau , a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau , a chodaf di o ganol dy afonydd ; ie , holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau . A mi a’th adawaf yn yr anialwch , ti a holl bysgod dy afonydd : syrthi ar wyneb y maes , ni’th gesglir , ac ni’th gynullir ; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth . A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel . Pan ymaflasant ynot erbyn dy law , ti a dorraist , ac a rwygaist eu holl ysgwydd : a phan bwysasant arnat , ti a dorraist , ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf , a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail . A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd : am iddo ddywedyd , Eiddof fi yw yr afon , a myfi a’i gwneuthum . Am hynny wele fi yn dy erbyn di , ac yn erbyn dy afonydd , a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig , ac yn anghyfannedd , o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia . Ni chyniwair troed dyn trwyddi , ac ni chyniwair troed anifail trwyddi , ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd . A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol , a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig ; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd . Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt . A dychwelaf gaethiwed yr Aifft , ie , dychwelaf hwynt i dir Pathros , i dir eu preswylfa ; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel . Isaf fydd o’r breniniaethau , ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd ; canys lleihaf hwynt , rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd . Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder , yn dwyn ar gof eu hanwiredd , pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau : eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Ac yn y mis cyntaf o’r seithfed flwyddyn ar hugain , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i’w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus : pob pen a foelwyd , a phob ysgwydd a ddinoethwyd ; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo , ac i’w lu , am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a gymer ei lliaws hi , ac a ysbeilia ei hysbail hi , ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi , fel y byddo hi yn gyflog i’w lu ef . Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi , y rhoddais iddo dir yr Aifft ; oherwydd i mi y gweithiasant , medd yr Arglwydd Dduw . Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro , a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Udwch , Och o’r diwrnod ! Canys agos dydd , ie , agos dydd yr Arglwydd , dydd cymylog ; amser y cenhedloedd fydd efe . A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft , a bydd gofid blin yn Ethiopia , pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft , a chymryd ohonynt ei lliaws hi , a dinistrio ei seiliau . Ethiopia , a Libya , a Lydia , a’u gwerin oll , Chub hefyd , a meibion y tir sydd yn y cyfamod , a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd , a balchder ei nerth hi a ddisgyn : syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene , medd yr Arglwydd Dduw . A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol , a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan roddwyf dân yn yr Aifft , ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi . Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau , i ddychrynu Ethiopia ddiofal , a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft : canys wele ef yn dyfod . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon . Efe a’i bobl gydag ef , y rhai trawsion o’r cenhedloedd , a ddygir i ddifetha y tir : a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft , ac a lanwant y wlad â chelanedd . Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder , a gwerthaf y wlad i law y drygionus ; ie , anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid : myfi yr Arglwydd a’i dywedodd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Difethaf hefyd y delwau , a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff ; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft : ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft . Pathros hefyd a anrheithiaf , a rhoddaf dân yn Soan , a gwnaf farnedigaethau yn No . A thywalltaf fy llid ar Sin , cryfder yr Aifft ; ac a dorraf ymaith liaws No . A mi a roddaf dân yn yr Aifft ; gan ofidio y gofidia Sin , a No a rwygir , a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd . Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf ; ac i gaethiwed yr ânt hwy . Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod , pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft : a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi : cwmwl a’i cuddia hi , a’i merched a ânt i gaethiwed . Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg , ar y seithfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , torrais fraich Pharo brenin yr Aifft ; ac wele , nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho , i osod rhwymyn i rwymo , i’w gryfhau i ddal y cleddyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft , a mi a dorraf ei freichiau ef , y cryf , a’r hwn oedd ddrylliedig ; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef . A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd . A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon , ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef : ond mi a dorraf freichiau Pharo , ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig . Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon , a breichiau Pharo a syrthiant ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd , wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon , ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft . A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd Ac yn y trydydd mis o’r unfed flwyddyn ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Dywed , fab dyn , wrth Pharo brenin yr Aifft , ac wrth ei liaws , I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd ? Wele , Assur oedd gedrwydden yn Libanus , yn deg ei cheinciau , a’i brig yn cysgodi , ac yn uchel ei huchder , a’i brigyn oedd rhwng y tewfrig . Dyfroedd a’i maethasai hi , y dyfnder a’i dyrchafasai , â’i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa ; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes . Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes , a’i cheinciau a amlhasant , a’i changhennau a ymestynasant , oherwydd dyfroedd lawer , pan fwriodd hi allan . Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi , a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi ; ie , yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi . Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd , yn hyd ei brig ; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer . Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi : y ffynidwydd nid oeddynt debyg i’w cheinciau hi , a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi ; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch . Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau : a holl goed Eden , y rhai oedd yng ngardd Duw , a genfigenasant wrthi hi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder , a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig , ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder ; Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd : gan wneuthur y gwna efe iddi ; am ei drygioni y bwriais hi allan . A dieithriaid , rhai ofnadwy y cenhedloedd , a’i torasant hi ymaith , ac a’i gadawsant hi : ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi , a’i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear ; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o’i chysgod hi , ac a’i gadawsant hi . Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi , a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi ; Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder , ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig , ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder : canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yn y dydd y disgynnodd hi i’r bedd , gwneuthum alaru : toais y dyfnder amdani hi , ac ateliais ei hafonydd , fel yr ataliwyd dyfroedd lawer ; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi , ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi . Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd , pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll ; a holl goed Eden , y dewis a’r gorau yn Libanus , y dyfradwy oll , a ymgysurant yn y tir isaf . Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf , a’r rhai oedd fraich iddi hi , y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd . I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd ? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i’r tir isaf ; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig , gyda lladdedigion y cleddyf . Dyma Pharo a’i holl liaws , medd yr Arglwydd Dduw . Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft , a dywed wrtho , Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd , ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd : a daethost allan gyda’th afonydd ; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed , a methraist eu hafonydd hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer ; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i . Gadawaf di hefyd ar y tir , taflaf di ar wyneb y maes , a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti ; ie , ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear . Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd , a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di . Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo , hyd y mynyddoedd ; a llenwir yr afonydd ohonot . Ie , cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi , a thywyllaf eu sêr hwynt : yr haul a guddiaf â chwmwl , a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo . Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd , a rhoddaf dywyllwch ar dy dir , medd yr Arglwydd Dduw . A digiaf galon pobloedd lawer , pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost . A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt , a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid , pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt ; a hwy ar bob munud a ddychrynant , bob un am ei einioes , yn nydd dy gwymp . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti . A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws , byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd ; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft , a’i holl liaws hi a ddinistrir . Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer ; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy , ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt . Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt , a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew , medd yr Arglwydd Dduw . Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith , ac anrheithio y wlad o’i llawnder , pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi , yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Dyma y galar a alarant amdani hi : merched y cenhedloedd a alarant amdani hi ; galarant amdani hi , sef am yr Aifft , ac am ei lliaws oll , medd yr Arglwydd Dduw . Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn , ar y pymthegfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cwyna , fab dyn , am liaws yr Aifft , a disgyn hi , hi a merched y cenhedloedd enwog , i’r tir isaf , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Tecach na phwy oeddit ? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig . Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf : i’r cleddyf y rhoddwyd hi ; llusgwch hi a’i lliaws oll . Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr : disgynasant , gorweddant yn ddienwaededig , wedi eu lladd â’r cleddyf . Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa , a’i feddau o amgylch ; wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf . Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll , a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd ; wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf , y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw . Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd , wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf , y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf , y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw ; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws ; a’i beddau o’i amgylch : y rhai hynny oll yn ddienwaededig , a laddwyd â’r cleddyf : er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw , eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll : yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef . Yno y mae Mesech , Tubal , a’i holl liaws ; a’i beddau o amgylch : y rhai hynny oll yn ddienwaededig , wedi eu lladd â’r cleddyf , er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw . Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig , y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel : a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau ; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy , er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw . A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig , ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf . Yno y mae Edom , a’i brenhinoedd , a’i holl dywysogion , y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf : hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig , a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Yno y mae holl dywysogion y gogledd , a’r holl Sidoniaid , y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion ; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid ; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf , ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Pharo a’u gwêl hwynt , ac a ymgysura yn ei holl liaws , Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf , medd yr Arglwydd Dduw . Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw ; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig , gyda lladdedigion y cleddyf , sef i Pharo ac i’w holl liaws , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Llefara , fab dyn , wrth feibion dy bobl , a dywed wrthynt , Pan ddygwyf gleddyf ar wlad , a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau , a’i roddi yn wyliedydd iddynt : Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad , ac utganu mewn utgorn , a rhybuddio y bobl ; Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn , ac ni chymer rybudd ; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith , ei waed fydd ar ei ben ei hun . Efe a glybu lais yr utgorn , ac ni chymerodd rybudd ; ei waed fydd arno : ond yr hwn a gymero rybudd , a wared ei enaid . Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod , ac ni utgana mewn utgorn , a’r bobl heb eu rhybuddio ; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt , efe a ddaliwyd yn ei anwiredd , ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd . Felly dithau , fab dyn , yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel ; fel y clywech air o’m genau , ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi . Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol , Ti annuwiol , gan farw a fyddi farw ; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd , yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd , ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef . Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd , i ddychwelyd ohoni ; os efe ni ddychwel o’i ffordd , efe fydd farw yn ei anwiredd , a thithau a waredaist dy enaid . Llefara hefyd wrth dŷ Israel , ti fab dyn , Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch ; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom , a ninnau yn dihoeni ynddynt , pa fodd y byddem ni byw ? Dywed wrthynt , Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol ; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd , a byw : dychwelwch , dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus ; canys , tŷ Israel , paham y byddwch feirw ? Dywed hefyd , fab dyn , wrth feibion dy bobl , Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd : felly am annuwioldeb yr annuwiol , ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd ; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder , yn y dydd y pecho . Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn , Gan fyw y caiff fyw ; os efe a hydera ar ei gyfiawnder , ac a wna anwiredd , ei holl gyfiawnderau ni chofir ; ond am ei anwiredd a wnaeth , amdano y bydd efe marw . A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol , Gan farw y byddi farw ; os dychwel efe oddi wrth ei bechod , a gwneuthur barn a chyfiawnder ; Os yr annuwiol a ddadrydd wystl , ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd , a rhodio yn neddfau y bywyd , heb wneuthur anwiredd ; gan fyw y bydd efe byw , ni bydd marw : Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd : barn a chyfiawnder a wnaeth ; efe gan fyw a fydd byw . A meibion dy bobl a ddywedant , Nid yw union ffordd yr Arglwydd : eithr eu ffordd hwynt nid yw union . Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , efe a fydd marw ynddynt . A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb , a gwneuthur barn a chyfiawnder , yn y rhai hynny y bydd efe byw . Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd . Barnaf chwi , tŷ Israel , bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun . Ac yn y degfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn o’n caethgludiad ni , ar y pumed dydd o’r mis , y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi , gan ddywedyd , Trawyd y ddinas . A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr , cyn dyfod y dihangydd , ac a agorasai fy safn , nes ei ddyfod ataf y bore ; ie , ymagorodd fy safn , ac ni bûm fud mwyach . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru , gan ddywedyd , Abraham oedd un , ac a feddiannodd y tir ; ninnau ydym lawer , i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yr ydych yn bwyta ynghyd â’r gwaed , ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau , ac yn tywallt gwaed ; ac a feddiennwch chwi y tir ? Sefyll yr ydych ar eich cleddyf , gwnaethoch ffieidd‐dra , halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog ; ac a feddiennwch chwi y tir ? Fel hyn y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Fel mai byw fi , trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch ; a’r hwn sydd ar wyneb y maes , i’r bwystfil y rhoddaf ef i’w fwyta ; a’r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd , a fyddant feirw o’r haint . Canys gwnaf y tir yn anrhaith , ie , yn anrhaith ; a balchder ei nerth ef a baid , ac anrheithir mynyddoedd Israel , heb gyniweirydd ynddynt . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf y tir yn anrhaith , ie , yn anrhaith , am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant . Tithau fab dyn , meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd , ac o fewn drysau y tai , ac yn dywedyd y naill wrth y llall , pob un wrth ei gilydd , gan ddywedyd , Deuwch , atolwg , a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd . Deuant hefyd atat fel y daw y bobl , ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl , gwrandawant hefyd dy eiriau , ond nis gwnânt hwy : canys â’u geneuau y dangosant gariad , a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod . Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais , ac yn canu yn dda : canys gwrandawant dy eiriau , ond nis gwnânt hwynt . A phan ddelo hyn , ( wele ef yn dyfod , ) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , yn erbyn bugeiliaid Israel ; proffwyda , a dywed wrthynt , wrth y bugeiliaid , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain : oni phortha y bugeiliaid y praidd ? Y braster a fwytewch , a’r gwlân a wisgwch , y bras a leddwch ; ond ni phorthwch y praidd . Ni chryfhasoch y rhai llesg , ac ni feddyginiaethasoch y glaf , ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith , a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref , a’r golledig ni cheisiasoch ; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb . A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail : a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes , pan wasgarwyd hwynt . Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd , ac ar bob bryn uchel : ie , gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear , ac nid oedd a’u ceisiai , nac a ymofynnai amdanynt . Am hynny , fugeiliaid , gwrandewch air yr Arglwydd . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , am fod fy mhraidd yn ysbail , a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes , o eisiau bugail , ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd , eithr y bugeiliaid a’u porthasant eu hun , ac ni phorthasant fy mhraidd : Am hynny , O fugeiliaid , gwrandewch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid : a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt , a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd ; a’r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy : canys gwaredaf fy mhraidd o’u safn hwy , fel na byddont yn ymborth iddynt . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele myfi , ie , myfi a ymofynnaf am fy mhraidd , ac a’u ceisiaf hwynt . Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig , felly y ceisiaf finnau fy nefaid , ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll . A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd , a chasglaf hwynt o’r tiroedd , a dygaf hwynt i’w tir eu hun , a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd , ac yn holl drigfannau y wlad . Mewn porfa dda y porthaf hwynt , ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt : yno y gorweddant mewn corlan dda , ie , mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel . Myfi a borthaf fy mhraidd , a myfi a’u gorweddfâf hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Y golledig a geisiaf , a’r darfedig a ddychwelaf , a’r friwedig a rwymaf , a’r lesg a gryfhaf : eithr dinistriaf y fras a’r gref ; â barn y porthaf hwynt . Chwithau , fy mhraidd , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn , rhwng yr hyrddod a’r bychod . Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda , oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfeydd ? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion , oni bydd i chwi sathru y rhan arall â’ch traed ? A’m praidd i , y maent yn pori sathrfa eich traed chwi ; a mathrfa eich traed a yfant . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy ; Wele myfi , ie , myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul . Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd , a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll , hyd oni wasgarasoch hwynt allan : Am hynny y gwaredaf fy mhraidd , fel na byddont mwy yn ysbail ; a barnaf rhwng milyn a milyn . Cyfodaf hefyd un bugail arnynt , ac efe a’u portha hwynt , sef fy ngwas Dafydd ; efe a’u portha hwynt , ac efe a fydd yn fugail iddynt . A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt , a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg : myfi yr Arglwydd a leferais hyn . Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch , a gwnaf i’r bwystfil drwg beidio o’r tir : a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch , ac a gysgant yn y coedydd . Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith : a gwnaf i’r glaw ddisgyn yn ei amser ; cawodydd bendith a fydd . A rhydd pren y maes ei ffrwyth , a’r tir a rydd ei gynnyrch , a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch , ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt , a’u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt . Ac ni byddant mwyach yn ysbail i’r cenhedloedd , a bwystfil y tir nis bwyty hwynt ; eithr trigant mewn diogelwch , ac ni bydd a’u dychryno . Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog , ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir , ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd . Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt , ac mai hwythau , tŷ Israel , yw fy mhobl i , medd yr Arglwydd Dduw . Chwithau , fy mhraidd , defaid fy mhorfa , dynion ydych chwi , myfi yw eich Duw chwi , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tuag at fynydd Seir , a phroffwyda yn ei erbyn , A dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn di , mynydd Seir ; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn , a gwnaf di yn anghyfannedd , ac yn ddiffeithwch . Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch , a thithau a fyddi yn anghyfannedd ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Am fod gennyt alanastra tragwyddol , a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf , yn amser eu gofid , yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt : Am hynny fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , mi a’th wnaf di yn waed , a gwaed a’th ymlid di : gan na chasei waed , gwaed a’th ddilyn . Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch ; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan , a’r hwn a ddychwelo . Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion : yn dy fryniau , a’th ddyffrynnoedd , a’th holl afonydd , y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf . Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol , a’th ddinasoedd ni ddychwelant ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Am ddywedyd ohonot , Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi , a nyni a’i meddiannwn ; er bod yr Arglwydd yno : Am hynny fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , gwnaf yn ôl dy ddig , ac yn ôl dy genfigen , y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost ; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt , pan y’th farnwyf di . A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd , ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel , gan ddywedyd , Anrheithiwyd hwynt , i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa . Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i , ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn : mi a’u clywais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan lawenycho yr holl wlad , mi a’th wnaf di yn anghyfannedd . Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel , oherwydd ei anrheithio , felly y gwnaf i tithau : anrhaith fyddi di , mynydd Seir , ac Edom oll i gyd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Tithau fab dyn , proffwyda wrth fynyddoedd Israel , a dywed , Gwrandewch , fynyddoedd Israel , air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Oherwydd dywedyd o’r gelyn hyn amdanoch chwi , Aha , aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni : Am hynny proffwyda , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; oherwydd iddynt eich anrheithio , a’ch llyncu o amgylch , i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd , a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau , ac yn ogan pobloedd : Am hynny , mynyddoedd Israel , gwrandewch air yr Arglwydd Dduw ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd , wrth y diffeithwch anghyfanheddol , ac wrth y dinasoedd gwrthodedig , y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i’r rhan arall o’r cenhedloedd o’u hamgylch : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o’r cenhedloedd , ac yn erbyn holl Edom , y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun , â llawenydd eu holl galon , trwy feddwl dirmygus , i’w yrru allan yn ysbail . Am hynny proffwyda am dir Israel , a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele , yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais , oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Myfi a dyngais , Diau y dwg y cenhedloedd sydd o’ch amgylch chwi eu gwaradwydd . A chwithau , mynyddoedd Israel , a fwriwch allan eich ceinciau , ac a ddygwch eich ffrwyth i’m pobl Israel ; canys agos ydynt ar ddyfod . Canys wele fi atoch , ie , troaf atoch , fel y’ch coledder ac y’ch heuer . Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd , holl dŷ Israel i gyd , fel y cyfanhedder y dinasoedd , ac yr adeilader y diffeithwch . Ie , amlhaf ynoch ddyn ac anifail ; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant ; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt ; ie , gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad , tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Ie , gwnaf i ddynion rodio arnoch , sef fy mhobl Israel ; a hwy a’th etifeddant di , a byddi yn etifeddiaeth iddynt , ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych , Yr wyt ti yn difa dynion , ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid : Am hynny ni fwytei ddynion mwy , ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid , medd yr Arglwydd Dduw . Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy , ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach , ac ni wnei mwy i’th genhedloedd syrthio , medd yr Arglwydd Dduw . Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun , hwy a’i halogasant ef â’u ffordd ac â’u gweithredoedd eu hun : eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus . Yna y tywelltais fy llid arnynt , am y gwaed a dywalltasent ar y tir , ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef ; Ac a’u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd , a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd ; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt . A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt , hwy a halogasant fy enw sanctaidd , pan ddywedid wrthynt , Dyma bobl yr Arglwydd , ac o’i wlad ef yr aethant allan . Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd , yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Nid er eich mwyn chwi , tŷ Israel , yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn , ond er mwyn fy enw sanctaidd , yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch . A mi a sancteiddiaf fy enw mawr , yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd , yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt ; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd , medd yr Arglwydd Dduw , pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid . Canys mi a’ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd , ac a’ch casglaf chwi o’r holl wledydd , ac a’ch dygaf i’ch tir eich hun . Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân , fel y byddoch lân : oddi wrth eich holl frynti , ac oddi wrth eich holl eilunod , y glanhaf chwi . A rhoddaf i chwi galon newydd , ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi ; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi , ac mi a roddaf i chwi galon gig . Rhoddaf hefyd fy ysbryd o’ch mewn , a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau , a chadw fy marnedigaethau , a’u gwneuthur . Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i’ch tadau ; a byddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf Dduw i chwithau . Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid : a galwaf am yr ŷd , ac a’i hamlhaf ; ac ni roddaf arnoch newyn . Amlhaf hefyd ffrwyth y coed , a chynnyrch y maes , fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd . Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus , a’ch gweithredoedd nid oeddynt dda , a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra . Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn , medd yr Arglwydd Dduw ; bydded hysbys i chwi : tŷ Israel , gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yn y dydd y glanhawyf chwi o’ch holl anwireddau , y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd , ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd . A’r tir anrheithiedig a goleddir , lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd . A hwy a ddywedant , Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden , a’r dinasoedd anghyfannedd , ac anrheithiedig , a dinistriol , a aethant yn gaerog , ac a gyfanheddir . Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o’ch amgylch , a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol , ac yn plannu eich mannau anrheithiedig : myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwnaf . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel , i wneuthur hyn iddynt ; amlhaf hwynt â dynion fel praidd . Fel y praidd sanctaidd , fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau , felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Bu llaw yr Arglwydd arnaf , ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd , ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn , a hwnnw oedd yn llawn esgyrn . Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch : ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn ; wele hefyd , sychion iawn oeddynt . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , a fydd byw yr esgyrn hyn ? A mi a ddywedais , O Arglwydd Dduw , ti a’i gwyddost . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Proffwyda am yr esgyrn hyn , a dywed wrthynt , O esgyrn sychion , clywch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn ; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn , fel y byddoch byw . Giau hefyd a roddaf arnoch , a pharaf i gig gyfodi arnoch , gwisgaf chwi hefyd â chroen , a rhoddaf anadl ynoch : fel y byddoch byw , ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid ; ac fel yr oeddwn yn proffwydo , bu sŵn , ac wele gynnwrf , a’r esgyrn a ddaethant ynghyd , asgwrn at ei asgwrn . A phan edrychais , wele , cyfodasai giau a chig arnynt , a gwisgasai croen amdanynt ; ond nid oedd anadl ynddynt . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Proffwyda tua’r gwynt , proffwyda , fab dyn , a dywed wrth y gwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; O anadl , tyred oddi wrth y pedwar gwynt , ac anadla ar y lladdedigion hyn , fel y byddont byw . Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid ; a’r anadl a ddaeth ynddynt , a buant fyw , a safasant ar eu traed , yn llu mawr iawn . Yna y dywedodd wrthyf , Ha fab dyn , yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll : wele , dywedant , Ein hesgyrn a wywasant , a’n gobaith a gollodd ; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni . Am hynny proffwyda , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn agori eich beddau , fy mhobl , codaf chwi hefyd o’ch beddau , a dygaf chwi i dir Israel . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan agorwyf eich beddau , a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau , fy mhobl ; Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch , ac y byddoch byw , ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun : yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais , ac a wneuthum hyn , medd yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Tithau fab dyn , cymer i ti un pren , ac ysgrifenna arno , I Jwda , ac i feibion Israel ei gyfeillion . A chymer i ti bren arall , ac ysgrifenna arno , I Joseff , pren Effraim , ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion : A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti ; fel y byddont yn un yn dy law di . A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt , gan ddywedyd , Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt ? Dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cymryd pren Joseff , yr hwn sydd yn llaw Effraim , a llwythau Israel ei gyfeillion , a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef , sef gyda phren Jwda , ac a’u gwnaf hwynt yn un pren , fel y byddont yn fy llaw yn un . A bydded yn dy law , o flaen eu llygaid hwynt , y prennau yr ysgrifennych arnynt ; A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt , ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch , ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun ; A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel , ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll : ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl , ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth : Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod , na thrwy eu ffieidd‐dra , nac yn eu holl anwireddau : eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon , y rhai y pechasant ynddynt , a mi a’u glanhaf hwynt ; fel y byddont yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau . A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt ; ie , un bugail fydd iddynt oll : yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant , a’m deddfau a gadwant ac a wnânt . Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob , yr hwn y trigodd eich tadau ynddo ; a hwy a drigant ynddo , hwy a’u meibion , a meibion eu meibion byth ; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd . Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd ; amod tragwyddol a fydd â hwynt : a gosodaf hwynt , ac a’u hamlhaf , a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd . A’m tabernacl fydd gyda hwynt ; ie , myfi a fyddaf iddynt yn Dduw , a hwythau a fyddant i mi yn bobl . A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel ; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , yn erbyn Gog , tir Magog , pen‐tywysog Mesech a Thubal , a phroffwyda yn ei erbyn , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dy erbyn di , Gog , pen‐tywysog Mesech a Thubal . Dychwelaf di hefyd , a rhoddaf fachau yn dy fochgernau , a mi a’th ddygaf allan , a’th holl lu , y meirch a’r marchogion , wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau , yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch , hwynt oll yn dwyn cleddyfau : Persia , Ethiopia , a Libya , gyda hwynt ; hwynt oll yn dwyn tarian a helm : Gomer a’i holl fyddinoedd ; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd , a’i holl fyddinoedd ; a phobl lawer gyda thi . Ymbaratoa , ie , paratoa i ti dy hun , ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat , a bydd yn gadwraeth iddynt . Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi ; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf , wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel , y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser : eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd , a hwynt oll a drigant mewn diogelwch . Dringi hefyd fel tymestl ; deui , a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear , ti a’th holl fyddinoedd , a phobloedd lawer gyda thi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl , a thi a feddyli feddwl drwg . A thi a ddywedi , Mi a af i fyny i wlad maestrefydd ; af at y rhai llonydd , y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel , gan drigo oll heb gaerau , ac heb drosolion na dorau iddynt , I ysbeilio ysbail , i ysglyfaethu ysglyfaeth , i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd , y rhai a gyfanheddir yr awr hon , ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd , y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud , ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad . Seba , a Dedan , a marchnadyddion Tarsis hefyd , â’u holl lewod ieuainc , a ddywedant wrthyt , Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti ? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa ? ai i ddwyn ymaith arian ac aur , i gymryd anifeiliaid a golud , i ysbeilio ysbail fawr ? Am hynny proffwyda , fab dyn , a dywed wrth Gog , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Y dydd hwnnw , pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal , oni chei di wybod ? A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd , ti , a phobl lawer gyda thi , hwynt oll yn marchogaeth ar feirch , yn dyrfa fawr , ac yn llu lluosog . A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel , fel cwmwl i guddio y ddaear : yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn ; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir , fel yr adwaeno y cenhedloedd fi , pan ymsancteiddiwyf ynot ti , Gog , o flaen eu llygaid hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt , trwy law fy ngweision , proffwydi Israel , y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer , y dygwn di yn eu herbyn hwynt ? A bydd yn y dydd hwnnw , yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel , medd yr Arglwydd Dduw , i’m llid gyfodi yn fy soriant . Canys yn fy eiddigedd , ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais , Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel ; Fel y cryno pysgod y môr , ac ehediaid y nefoedd , a bwystfilod y maes , a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , a phob dyn ar wyneb y ddaear , ger fy mron i ; a’r mynyddoedd a ddryllir i lawr , a’r grisiau a syrthiant , a phob mur a syrth i lawr . A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd , medd yr Arglwydd Dduw : cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd . Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed : glawiaf hefyd gurlaw , a cherrig cenllysg , tân a brwmstan , arno ef , ac ar ei holl fyddinoedd , ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef . Fel hyn yr ymfawrygaf , ac yr ymsancteiddiaf ; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer , fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Proffwyda hefyd , fab dyn , yn erbyn Gog , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dy erbyn di , Gog , pen‐tywysog Mesech a Thubal . A mi a’th ddychwelaf , ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran , ac a’th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd , ac a’th ddygaf ar fynyddoedd Israel : Ac a drawaf dy fwa o’th law aswy , a gwnaf i’th saethau syrthio o’th law ddeau . Ar fynyddoedd Israel y syrthi , ti a’th holl fyddinoedd , a’r bobloedd sydd gyda thi : i’r ehediaid , i bob rhyw aderyn , ac i fwystfilod y maes , y’th roddaf i’th ddifa . Ar wyneb y maes y syrthi ; canys myfi a’i dywedais , medd yr Arglwydd Dduw . Anfonaf hefyd dân ar Magog , ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel , ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy : a’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , y Sanct yn Israel . Wele , efe a ddaeth , ac a ddarfu , medd yr Arglwydd Dduw ; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais . A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan , ac a gyneuant ac a losgant yr arfau , a’r darian a’r astalch , y bwa a’r saethau , a’r llawffon a’r waywffon ; ie , losgant hwynt yn tân saith mlynedd . Ac ni ddygant goed o’r maes , ac ni thorrant ddim o’r coedydd ; canys â’r arfau y cyneuant dân : a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr , ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr , medd yr Arglwydd Dduw . Bydd hefyd yn y dydd hwnnw , i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel , dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr : ac efe a gae ffroenau y fforddolion : ac yno y claddant Gog a’i holl dyrfa , a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog . A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis , er mwyn glanhau y tir . Ie , holl bobl y tir a’u claddant ; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y’m gogonedder , medd yr Arglwydd Dduw . A hwy a neilltuant wŷr gwastadol , y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda’r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear , i’w glanhau hi : ymhen saith mis y chwiliant . A’r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir , pan welo un asgwrn dyn , efe a gyfyd nod wrtho , hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog . Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona . Felly y glanhânt y wlad . Tithau fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dywed wrth bob rhyw aderyn , ac wrth holl fwystfilod y maes , Ymgesglwch , a deuwch ; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi , aberth mawr ar fynyddoedd Israel , fel y bwytaoch gig , ac yr yfoch waed . Cig y cedyrn a fwytewch , a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear , hyrddod , ŵyn , a bychod , bustych , yn basgedigion Basan oll . Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon , ac yfwch waed hyd oni feddwoch , o’m haberth a aberthais i chwi . Felly y’ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau , â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr , medd yr Arglwydd Dduw . A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd , a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum , a’m llaw yr hon a osodais arnynt . A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan . Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel : oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn , am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt , ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion : felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf . Yn ôl eu haflendid eu hun , ac yn ôl eu hanwireddau , y gwneuthum â hwynt , ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob , tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel , a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd ; Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd , a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn , pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw , a heb ddychrynydd . Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd , a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion , ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer ; Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt , yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd , ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun , ac ni adewais mwy un ohonynt yno . Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt : oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel , medd yr Arglwydd Dduw . Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni , yn nechrau y flwyddyn , ar y degfed dydd o’r mis , yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas , o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf , ac a’m dug yno . Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel , ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn , ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau . Ac efe a’m dug yno : ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres , ac yn ei law linyn llin , a chorsen fesur : ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth . A dywedodd y gŵr wrthyf , Ha fab dyn , gwêl â’th lygaid , gwrando hefyd â’th glustiau , a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti : oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma : mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli . Ac wele fur o’r tu allan i’r tŷ o amgylch ogylch : a chorsen fesur yn llaw y gŵr , yn chwe chufydd o hyd , wrth gufydd a dyrnfedd : ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen , a’r uchder yn un gorsen . Ac efe a ddaeth i’r porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain , ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef , ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led , a’r rhiniog arall yn un gorsen o led . A phob ystafell oedd un gorsen o hyd , ac un gorsen o led : a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd : a rhiniog y porth , wrth gyntedd y porth o’r tu mewn , oedd un gorsen . Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn , yn un gorsen . Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd , a’i byst yn ddau gufydd , a chyntedd y porth oedd o’r tu mewn . Ac ystafelloedd y porth tua’r dwyrain oedd dair o’r tu yma , a thair o’r tu acw ; un fesur oeddynt ill tair : ac un mesur oedd i’r pyst o’r tu yma ac o’r tu acw . Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd , a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg . A’r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o’r naill du , a’r terfyn o’r tu arall yn un cufydd ; a’r ystafelloedd oedd chwe chufydd o’r tu yma , a chwe chufydd o’r tu acw . Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall , yn bum cufydd ar hugain o led , drws ar gyfer drws . Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd , a hynny hyd bost y cyntedd , o amgylch ogylch y porth . Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn , hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn , yr oedd deg cufydd a deugain . A ffenestri cyfyng oedd i’r ystafelloedd , ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch ; ac felly yr oedd i’r bwâu meini : a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn ; ac yr oedd palmwydd ar bob post . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , ac wele yno ystafelloedd , a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch ; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant . A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth , oedd y palmant oddi tanodd . Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn , yn gan cufydd oddi allan tua’r dwyrain a’r gogledd . A’r porth yr hwn oedd â’i wyneb tua’r gogledd , ar y cyntedd nesaf allan , a fesurodd efe , ei hyd a’i led . A’i ystafelloedd ef oedd dair o’r tu yma , a thair o’r tu acw ; ac yr ydoedd ei byst , a’i fwâu meini , wrth fesur y porth cyntaf , yn ddeg cufydd a deugain eu hyd , a’r lled yn bum cufydd ar hugain . Eu ffenestri hefyd , a’u bwâu meini , a’u palmwydd , oedd wrth fesur y porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain ; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo ; a’i fwâu meini oedd o’u blaen hwynt . A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua’r gogledd , a thua’r dwyrain : ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd . Wedi hynny efe a’m dug i tua’r deau , ac wele borth tua’r deau , ac efe a fesurodd ei byst a’i fwâu meini wrth y mesurau hyn . Ffenestri hefyd oedd iddo ac i’w fwâu meini , o amgylch ogylch , fel y ffenestri hynny , yn ddeg cufydd a deugain o hyd , ac yn bum cufydd ar hugain o led . Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef , a’i fwâu meini o’u blaen hwynt : yr oedd hefyd iddo balmwydd , un o’r tu yma , ac un o’r tu acw , ar ei byst ef . Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua’r deau : ac efe a fesurodd o borth i borth , tua’r deau , gan cufydd . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau : ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn ; A’i ystafelloedd , a’i byst , a’i fwâu meini , wrth y mesurau hyn : ac yr oedd ffenestri ynddo , ac yn ei fwâu meini , o amgylch ogylch : deg cufydd a deugain oedd yr hyd , a phum cufydd ar hugain y lled . A’r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd , a phum cufydd o led . A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd oedd ar ei byst ; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain : ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn . A’i ystafelloedd , a’i byst , a’i fwâu meini , oedd wrth y mesurau hyn : ac yr oedd ffenestri ynddo ef , ac yn ei fwâu meini , o amgylch ogylch : yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain , a’r lled yn bum cufydd ar hugain . A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd oedd ar ei byst o’r tu yma , ac o’r tu acw ; a’i esgynfa oedd wyth o risiau . Ac efe a’m dug i borth y gogledd , ac a’i mesurodd wrth y mesurau hyn : Ei ystafelloedd , ei byst , a’i fwâu meini , a’r ffenestri iddo o amgylch ogylch : yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain , a’r lled oedd bum cufydd ar hugain . A’i byst oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd ar ei byst o’r tu yma , ac o’r tu acw ; a’i esgynfa oedd wyth o risiau . A’r celloedd a’u drysau oedd wrth byst y pyrth , lle y golchent y poethoffrwm . Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o’r tu yma , a dau fwrdd o’r tu acw , i ladd y poethoffrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd , arnynt . Ac ar yr ystlys oddi allan , lle y dringir i ddrws porth y gogledd , yr oedd dau fwrdd ; a dau fwrdd ar yr ystlys arall , yr hwn oedd wrth gyntedd y porth . Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma , a phedwar bwrdd o’r tu acw , ar ystlys y porth ; wyth bwrdd , ar y rhai y lladdent eu haberthau . A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd , yn un cufydd a hanner o hyd , ac yn un cufydd a hanner o led , ac yn un cufydd o uchder : arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt . Hefyd yr oedd bachau , o un ddyrnfedd , wedi eu paratoi o fewn , o amgylch ogylch : a chig yr offrwm oedd ar y byrddau . Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn , yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd ; a’u hwynebau oedd tua’r deau : un oedd ar ystlys porth y dwyrain , â’i wyneb tua’r gogledd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Yr ystafell hon , yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau , sydd i’r offeiriaid , ceidwaid cadwraeth y tŷ . A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd , sydd i’r offeiriaid , ceidwaid cadwraeth yr allor : y rhai hyn yw meibion Sadoc , y rhai ydynt o feibion Lefi , yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo . Felly efe a fesurodd y cyntedd , yn gan cufydd o hyd , ac yn gan cufydd o led , yn bedeirongl ; a’r allor oedd o flaen y tŷ . Ac efe a’m dug i borth y tŷ , ac a fesurodd bob post i’r porth , yn bum cufydd o’r naill du , ac yn bum cufydd o’r tu arall : a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du , a thri chufydd o’r tu arall . Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd , ac un cufydd ar ddeg o led : ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo : hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst , un o’r naill du , ac un o’r tu arall . Ac efe a’m dug i i’r deml , ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o’r naill du , ac yn chwe chufydd o led o’r tu arall , fel yr oedd lled y babell . Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd ; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o’r naill du , ac yn bum cufydd o’r tu arall : ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd , a’r lled yn ugain cufydd . Ac efe a aeth tuag i mewn , ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd , a’r drws yn chwe chufydd , a lled y drws yn saith gufydd . Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd ; a’r lled yn ugain cufydd o flaen y deml : ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y cysegr sancteiddiolaf . Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd ; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i’r tŷ . A’r celloedd oedd dair , cell ar gell , ac yn ddeg ar hugain o weithiau : ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i’r ystafelloedd o amgylch ogylch , fel y byddent ynglŷn ; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ . Ac fe a ehangwyd , ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i’r celloedd : oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ : am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd ; ac felly y dringid o’r isaf i’r uchaf trwy y ganol . Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch : seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion . A thewder y mur yr hwn oedd i’r gell o’r tu allan , oedd bum cufydd ; a’r gweddill oedd le i’r celloedd y rhai oedd o fewn . A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch . A drysau yr ystlysgell oedd tua’r llannerch weddill ; un drws tua’r gogledd , ac un drws tua’r deau : a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch . A’r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol , ar y cwr tua’r gorllewin , oedd ddeg cufydd a thrigain o led ; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch , a’i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain . Ac efe a fesurodd y tŷ , yn gan cufydd o hyd ; a’r llannerch neilltuol , a’r adeiladaeth , a’i pharwydydd , yn gan cufydd o hyd . A lled wyneb y tŷ , a’r llannerch neilltuol tua’r dwyrain , oedd gan cufydd . Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o’r tu cefn iddo , a’i ystafelloedd o’r naill du , ac o’r tu arall , yn gan cufydd , gyda’r deml oddi fewn , a drysau y cyntedd . Y gorsingau , a’r ffenestri cyfyng , a’r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder , ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch , ac o’r llawr hyd y ffenestri , a’r ffenestri hefyd a ystyllenasid ; Hyd uwchben y drws , a hyd y tŷ o fewn ac allan , ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan , wrth fesurau . A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef , palmwydden rhwng pob dau geriwb : a dau wyneb oedd i bob ceriwb . Canys wyneb dyn oedd tua’r balmwydden o’r naill du , ac wyneb llew tua’r balmwydden o’r tu arall : yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch . Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o’r ddaear hyd oddi ar y drws , ac ar bared y deml . Pedwar ochrog oedd pyst y deml , ac wyneb y cysegr ; gwelediad y naill fel gwelediad y llall . Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder , a’i hyd yn ddau gufydd : a’i chonglau , a’i huchder , a’i pharwydydd , oedd o bren . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd . Ac yr ydoedd dau ddrws i’r deml ac i’r cysegr : A dwy ddôr i’r drysau , sef dwy ddôr blygedig ; dwy ddôr i’r naill ddrws , a dwy ddôr i’r llall . A gwnaethid arnynt , ar ddrysau y deml , geriwbiaid a phalmwydd , fel y gwnaethid ar y parwydydd : ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o’r tu allan . Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu , ar ystlysau y porth , ac ar ystafelloedd y tŷ , a’r trawstiau . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , y ffordd tua’r gogledd ; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol , yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd . Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd , a lled y deg cufydd a deugain . Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn , ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan , yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder . Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn , ffordd o un cufydd , a’u drysau tua’r gogledd . A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion : oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn , na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth . Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy , ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd : am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny . A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd , tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd , oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd . Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain : ac wele , o flaen y deml yr oedd can cufydd . Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain , ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan . O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain , ar gyfer y llannerch neilltuol , ac ar gyfer yr adeiladaeth , yr oedd yr ystafelloedd . A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd ; un hyd â hwynt oeddynt , ac un lled â hwynt : a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt , ac yn ôl eu drysau hwynt . Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau , yr oedd drws ym mhen y ffordd , y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain , yn y ddyfodfa i mewn . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau , y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol , ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny , lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd , y pethau sanctaidd cysegredig : yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig , a’r bwyd‐offrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd ; canys y lle sydd sanctaidd . A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt , nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan , eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt ; am eu bod yn sanctaidd ; ac a wisgant wisgoedd eraill , ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl . Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn , efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain , ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch . Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur , yn bum cant o gorsennau , wrth y gorsen fesur oddi amgylch . Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen , wrth y gorsen fesur oddi amgylch . Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen , wrth y gorsen fesur . Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin , ac a fesurodd bum can corsen , wrth y gorsen fesur . Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef : mur oedd iddo ef o amgylch ogylch , yn bum can corsen o hyd , ac yn bum can corsen o led , i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr . Ac efe a’m dug i’r porth , sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain . Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain ; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer , a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef . Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais , sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas : a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar : yna y syrthiais ar fy wyneb . A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain . Felly yr ysbryd a’m cododd , ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn ; ac wele , llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ . Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , dyma le fy ngorseddfa , a lle gwadnau fy nhraed , lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd ; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy , na hwynt‐hwy , na’u brenhinoedd , trwy eu puteindra , na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd . Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i , a’u gorsin wrth fy ngorsin i , a phared rhyngof fi a hwynt , hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant : am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid . Pellhânt yr awr hon eu puteindra , a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi , a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd . Ti fab dyn , dangos y tŷ i dŷ Israel , fel y cywilyddiont am eu hanwireddau ; a mesurant y portreiad . Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant , hysbysa iddynt ddull y tŷ , a’i osodiad , a’i fynediadau allan , a’i ddyfodiadau i mewn , a’i holl ddull , a’i holl ddeddfau , a’i holl ddull , a’i holl gyfreithiau ; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt , fel y cadwont ei holl ddull ef , a’i holl ddeddfau , ac y gwnelont hwynt . Dyma gyfraith y tŷ ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef , yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch . Wele , dyma gyfraith y tŷ . A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau . Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd ; y gwaelod fydd yn gufydd , a’r lled yn gufydd , a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant : a dyma le uchaf yr allor . Ac o’r gwaelod ar y llawr , hyd yr ystôl isaf , y bydd dau gufydd , ac un cufydd o led ; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf , a chufydd o led . Felly yr allor fydd bedwar cufydd ; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn . A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd , a deuddeg o led , yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys . A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd , a phedwar ar ddeg o led , yn ei phedwar ystlys ; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd ; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch : a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dyma ddeddfau yr allor , yn y dydd y gwneler hi , i boethoffrymu poethoffrwm arni , ac i daenellu gwaed arni . Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid , ( y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi , medd yr Arglwydd Dduw , i’m gwasanaethu , ) fustach ieuanc yn bech‐aberth . A chymer o’i waed ef , a dyro ar ei phedwar corn hi , ac ar bedair congl yr ystôl , ac ar yr ymyl o amgylch : fel hyn y glanhei ac y cysegri hi . Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth , ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ , o’r tu allan i’r cysegr . Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth ; a hwy a lanhânt yr allor , megis y glanhasant hi â’r bustach . Pan orffennych ei glanhau , ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl , a hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd . Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt ; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt , ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd . Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd ; darparant hefyd fustach ieuanc , a hwrdd o’r praidd , o rai perffaith‐gwbl . Saith niwrnod y cysegrant yr allor , ac y glanhânt hi , ac yr ymgysegrant . A phan ddarffo y dyddiau hyn , bydd ar yr wythfed dydd , ac o hynny allan , i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd : a mi a fyddaf fodlon i chwi , medd yr Arglwydd Dduw . Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain , ac yr oedd yn gaead . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Y porth hwn fydd gaead ; nid agorir ef , ac nid â neb i mewn trwyddo ef : oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef ; am hynny y bydd yn gaead . I’r tywysog y mae ; y tywysog , efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd : ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn , a hyd ffordd yr un yr â efe allan . Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ : a mi a edrychais , ac wele , llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd : a mi a syrthiais ar fy wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Gosod dy galon , fab dyn , a gwêl â’th lygaid , clyw hefyd â’th glustiau , yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt , am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd , ac am ei holl gyfreithiau ; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ , ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr . A dywed wrth y gwrthryfelgar , sef tŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Digon i chwi hyn , tŷ Israel , o’ch holl ffieidd‐dra ; Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon , a dienwaededig o gnawd , i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef , sef fy nhŷ i , pan offrymasoch fy mara , y braster a’r gwaed ; a hwy a dorasant fy nghyfamod , oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi . Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig ; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon , a dienwaededig o gnawd , o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel . A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf , pan gyfeiliornodd Israel , y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau , hwy a ddygant eu hanwiredd . Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr , yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ , ac yn gweini i’r tŷ : hwy a laddant yr offrwm poeth , ac aberth y bobl , a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt . Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod , a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd , am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt , medd yr Arglwydd Dduw , a hwy a ddygant eu hanwiredd . Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi , nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf : eithr dygant eu cywilydd , a’u ffieidd‐dra a wnaethant . Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ , yn ei holl wasanaeth , ac yn yr hyn oll a wneir ynddo . Yna yr offeiriaid y Lefiaid , meibion Sadoc , y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr , pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf , hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu , ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed , medd yr Arglwydd Iôr : Hwy a ânt i mewn i’m cysegr , a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu , ac a gadwant fy nghadwraeth . A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn , gwisgant wisgoedd lliain ; ac na ddeued gwlân amdanynt , tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn , ac o fewn . Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt , a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt : nac ymwregysant â dim a baro chwys . A phan elont i’r cyntedd nesaf allan , sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan , diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt , a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr , a gwisgant ddillad eraill ; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd . Eu pennau hefyd nid eilliant , ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes : gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau . Hefyd , nac yfed un offeiriad win , pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn . Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw , neu ysgaredig ; eithr morynion o had tŷ Israel , neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad , a gymerant . A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig , a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân . Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn , ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i : cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau ; a sancteiddiant fy Sabothau . Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi : eithr wrth dad , ac wrth fam , ac wrth fab , ac wrth ferch , wrth frawd , ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr , y gallant ymhalogi . Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod . A’r dydd yr elo i’r cysegr , o fewn y cyntedd nesaf i mewn , i weini yn y cysegr , offrymed ei bech‐aberth , medd yr Arglwydd Dduw . A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy ; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy . Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel ; myfi yw eu perchenogaeth hwy . Y bwyd‐offrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd , a fwytânt hwy ; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy . A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth , a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau , fydd eiddo yr offeiriaid : blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad , i osod bendith ar dy dŷ . Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun , neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail . A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth , yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir ; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd , a dengmil o led . Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch . O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd , a phum cant ar led , yn bedeirongl oddi amgylch ; a deg cufydd a deugain , yn faes pentrefol iddo o amgylch . Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led ; ac yn hwnnw y bydd y cysegr , a’r lle sancteiddiolaf . Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid , y rhai a wasanaethant y cysegr , y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd ; ac efe a fydd iddynt yn lle tai , ac yn gysegrfa i’r cysegr . A’r pum mil ar hugain o hyd , a’r dengmil o led , fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ , yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd . Rhoddwch hefyd bum mil o led , a phum mil ar hugain o hyd , yn berchenogaeth i’r ddinas , ar gyfer offrwm y rhan gysegredig : i holl dŷ Israel y bydd hyn . A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig , ac i berchenogaeth y ddinas , ar gyfer y rhan gysegredig , ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas , o du y gorllewin tua’r gorllewin , ac o du y dwyrain tua’r dwyrain : a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau , o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain . Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel , ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy ; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Digon i chwi hyn , tywysogion Israel ; bwriwch ymaith drawster a difrod , gwnewch hefyd farn a chyfiawnder , tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl , medd yr Arglwydd Dduw . Bydded gennych gloriannau uniawn , ac effa uniawn , a bath uniawn . Bydded yr effa a’r bath un fesur ; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer , a’r effa ddegfed ran homer : wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt . Y sicl fydd ugain gera : ugain sicl , a phum sicl ar hugain , a phymtheg sicl , fydd mane i chwi . Dyma yr offrwm a offrymwch : chweched ran effa o homer o wenith ; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd . Am ddeddf yr olew , bath o olew , degfed ran bath a roddwch o’r corus ; yr hyn yw homer o ddeg bath : oherwydd deg bath yw homer . Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant , allan o ddolydd Israel , yn fwyd‐offrwm , ac yn boethoffrwm , ac yn aberthau hedd , i wneuthur cymod drostynt , medd yr Arglwydd Dduw . Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel . Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm , a bwyd‐offrwm , a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau , a’r newyddloerau , a’r Sabothau , trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel : efe a ddarpara bech‐aberth , a bwyd‐offrwm , a phoethoffrwm , ac aberthau hedd , i wneuthur cymod dros dŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; O fewn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl , ac y puri y cysegr . Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth , ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ , ac ar bedair congl ystôl yr allor , ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn . Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis , dros y neb a becho yn amryfus , a thros yr ehud : felly y purwch y tŷ . Yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , y bydd i chwi y pasg ; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod : bara croyw a fwytewch . A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun , a thros holl bobl y wlad , fustach yn bech‐aberth . A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd , saith o fustych , a saith o hyrddod perffaith‐gwbl , bob dydd o’r saith niwrnod ; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd . Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe , sef effa gyda phob bustach , ac effa gyda phob hwrdd , a hin o olew gyda’r effa . Yn y seithfed mis , ar y pymthegfed dydd o’r mis , y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod ; sef fel y pech‐aberth , fel y poethoffrwm , ac fel y bwyd‐offrwm , ac fel yr olew . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Porth y cyntedd nesaf i mewn , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain , fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith ; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef , ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer . A’r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan , ac a saif wrth orsing y porth ; a’r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a’i aberthau hedd , ac efe a addola wrth riniog y porth : ac a â allan : a’r porth ni chaeir hyd yr hwyr . Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw , ar y Sabothau ac ar y newyddloerau , o flaen yr Arglwydd . A’r offrwm poeth a offrymo y tywysog i’r Arglwydd ar y dydd Saboth , fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl , a hwrdd perffaith‐gwbl : A bwyd‐offrwm o effa gyda’r hwrdd , a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda’r ŵyn , a hin o olew gyda’r effa . Ac ar ddydd y newyddloer , bustach ieuanc perffaith‐gwbl , a chwech o ŵyn , a hwrdd ; perffaith‐gwbl fyddant . Ac efe a ddarpara effa gyda’r bustach , ac effa gyda’r hwrdd , yn fwyd‐offrwm ; a chyda’r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef , a hin o olew gyda phob effa . A phan ddelo y tywysog i mewn , ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn , ac ar hyd y ffordd honno yr â allan . A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig , yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli , a â allan i ffordd porth y deau ; a’r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau , a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd : na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo , eithr eled allan ar ei gyfer . A phan ddelont hwy i mewn , y daw y tywysog yn eu mysg hwy ; a phan elont allan , yr â yntau allan . Ac ar y gwyliau a’r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach , ac effa gyda phob hwrdd , a rhodd ei law gyda’r ŵyn , a hin o olew gyda’r effa . A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd , neu aberthau hedd gwirfodd i’r Arglwydd , yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain , ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a’i aberthau hedd , fel y gwnaeth ar y dydd Saboth ; ac a â allan : ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan . Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i’r Arglwydd beunydd : o fore i fore y darperi ef . Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore , chweched ran effa , a thrydedd ran hin o olew , i gymysgu y peilliaid , yn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd , trwy ddeddf dragwyddol byth . Fel hyn y darparant yr oen , a’r bwyd‐offrwm , a’r olew , o fore i fore , yn boethoffrwm gwastadol . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Os rhydd y tywysog rodd i neb o’i feibion o’i etifeddiaeth , eiddo ei feibion fydd hynny , eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth . Ond pan roddo efe rodd o’i etifeddiaeth i un o’i weision , bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid ; yna y dychwel i’r tywysog : eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion , iddynt hwy . Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl , i’w gorthrymu hwynt allan o’u perchenogaeth ; eithr rhodded etifeddiaeth i’w feibion o’i berchenogaeth ei hun : fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o’i berchenogaeth . Ac efe a’m dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth , i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid , y rhai oedd yn edrych tua’r gogledd : ac wele yno le ar y ddau ystlys tua’r gorllewin . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a’r pech‐aberth , a lle y pobant y bwyd‐offrwm ; fel na ddygont hwynt i’r cyntedd nesaf allan , i sancteiddio y bobl . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , ac a’m tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd ; ac wele gyntedd ym mhob congl i’r cyntedd . Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd , a deg ar hugain o led : un fesur oedd y conglau ill pedair . Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair , a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma dŷ y cogau , lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl . Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua’r dwyrain : oherwydd wyneb y tŷ oedd tua’r dwyrain ; a’r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ , o du y deau i’r allor . Ac efe a’m dug i ar hyd ffordd y porth tua’r gogledd , ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua’r dwyrain ; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau . A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â’r llinyn yn ei law allan tua’r dwyrain , efe a fesurodd fil o gufyddau , ac a’m tywysodd i trwy y dyfroedd ; a’r dyfroedd hyd y fferau . Ac efe a fesurodd fil eraill , ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd ; a’r dyfroedd hyd y gliniau : ac a fesurodd fil eraill , ac a’m tywysodd trwodd ; a’r dyfroedd hyd y lwynau : Ac efe a fesurodd fil eraill ; ac afon oedd , yr hon ni allwn fyned trwyddi : canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy , yn afon ni ellid myned trwyddi . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A welaist ti hyn , fab dyn ? Yna y’m tywysodd , ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon . Ac wedi i mi ddychwelyd , wele ar fin yr afon goed lawer iawn o’r tu yma ac o’r tu acw . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain , ac a ddisgynnant i’r gwastad , ac a ânt i’r môr : ac wedi eu myned i’r môr , yr iacheir y dyfroedd . A bydd i bob peth byw , yr hwn a ymlusgo , pa le bynnag y delo yr afonydd , gael byw : ac fe fydd pysgod lawer iawn , oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno : canys iacheir hwynt , a phob dim lle y delo yr afon fydd byw . A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni , o En‐gedi hyd En‐eglaim ; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau : eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw , fel pysgod y môr mawr , yn llawer iawn . Ei lleoedd lleidiog a’i chorsydd ni iacheir ; i halen y rhoddir hwynt . Ac wrth yr afon y cyfyd , ar ei min o’r ddeutu , bob pren ymborth ; ei ddalen ni syrth , a’i ffrwyth ni dderfydd : yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd ; oherwydd ei ddyfroedd , hwy a ddaethant allan o’r cysegr : am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth , a’i ddalen yn feddyginiaeth . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel : Joseff a gaiff ddwy o rannau . Hefyd chwi a’i hetifeddwch ef , bob un cystal â’i gilydd ; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i’ch tadau : a’r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth . A dyma derfyn y tir o du y gogledd , o’r môr mawr tua Hethlon , ffordd yr eir i Sedad : Hannath , Berotha , Sibraim , yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath : Hasar‐hattichon , yr hwn sydd ar derfyn Hauran . A’r terfyn o’r môr fydd Hasarenan , terfyn Damascus , a’r gogledd tua’r gogledd , a therfyn Hamath . A dyma du y gogledd . Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran , ac o Damascus , ac o Gilead , ac o dir Israel wrth yr Iorddonen , o’r terfyn hyd fôr y dwyrain . A dyma du y dwyrain . A’r ystlys deau tua’r deau , o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades , yr afon hyd y môr mawr . A dyma yr ystlys ddeau tua Theman . A thu y gorllewin fydd y môr mawr , o’r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath . Dyma du y gorllewin . Felly y rhennwch y tir hwn i chwi , yn ôl llwythau Israel . Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi , ac i’r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg , y rhai a genhedla blant yn eich plith : a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel ; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel . A bydd , ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr , yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef , medd yr Arglwydd Dduw . A dyma enwau y llwythau . O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon , ffordd yr eir i Hamath , Hasar‐enan , terfyn Damascus tua’r gogledd , i duedd Hamath , ( canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin , ) rhan i Dan . Ac ar derfyn Dan , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Aser . Ac ar derfyn Aser , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Nafftali ran . Ac ar derfyn Nafftali , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Manasse ran . Ac ar derfyn Manasse , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Effraim ran . Ac ar derfyn Effraim , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Reuben ran . Ac ar derfyn Reuben , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Jwda ran . Ac ar derfyn Jwda , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led , ac o hyd fel un o’r rhannau , o du y dwyrain hyd du y gorllewin ; a’r cysegr fydd yn ei ganol . Yr offrwm a offrymoch i’r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led . Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig , sef eiddo yr offeiriaid , fydd pum mil ar hugain tua’r gogledd o hyd , a dengmil tua’r gorllewin o led ; felly dengmil tua’r dwyrain o led , a phum mil ar hugain tua’r deau o hyd : a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol . I’r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd , y rhai a gadwasant fy nghadwraeth , y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel , megis y cyfeiliornodd y Lefiaid . A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir , yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid . A’r Lefiaid a gânt , ar gyfer terfyn yr offeiriaid , bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led : pob hyd fydd bum mil ar hugain , a’r lled yn ddengmil . Hefyd ni werthant ddim ohono , ac ni chyfnewidiant , ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir ; oherwydd cysegredig yw i’r Arglwydd . A’r pum mil gweddill o’r lled , ar gyfer y pum mil ar hugain , fydd digysegredig , yn drigfa ac yn faes pentrefol i’r ddinas ; a’r ddinas fydd yn ei ganol . A dyma ei fesurau ef ; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil , ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil , felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil , a thua’r gorllewin yn bum cant a phedair mil . A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua’r gogledd yn ddeucant a deg a deugain , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r deau , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r dwyrain , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r gorllewin . A’r gweddill o’r hyd , ar gyfer offrwm y rhan gysegredig , fydd yn ddengmil tua’r dwyrain , ac yn ddengmil tua’r gorllewin : ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd ; a’i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas . A gweinidogion y ddinas a’i gwasanaethant o holl lwythau Israel . Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain , wrth bum mil ar hugain : yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig , gyda pherchenogaeth y ddinas . A’r hyn a adewir fydd i’r tywysog , oddeutu yr offrwm cysegredig , ac o berchenogaeth y ddinas , ar gyfer y pum mil ar hugain o’r offrwm tua therfyn y dwyrain , a thua’r gorllewin , ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin , gyferbyn â rhannau y tywysog : a’r offrwm cysegredig fydd ; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny . Felly o berchenogaeth y Lefiaid , ac o berchenogaeth y ddinas , yng nghanol yr hyn sydd i’r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin , eiddo y tywysog fydd . Ac am y rhan arall o’r llwythau , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd rhan i Benjamin . Ac ar derfyn Benjamin , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd rhan i Simeon . Ac ar derfyn Simeon , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Issachar . Ac ar derfyn Issachar , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Sabulon . Ac ar derfyn Sabulon , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Gad . Ac ar derfyn Gad , ar y tu deau tua’r deau , y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades , a hyd yr afon tua’r môr mawr . Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel , a dyma eu rhannau hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Dyma hefyd fynediad allan y ddinas , o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau . A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel : tri phorth tua’r gogledd ; porth Reuben yn un , porth Jwda yn un , porth Lefi yn un . Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil : a thri phorth ; sef porth Joseff yn un , porth Benjamin yn un , porth Dan yn un . A thua’r deau pum cant a phedair mil o fesurau : a thri phorth ; porth Simeon yn un , a phorth Issachar yn un , a phorth Sabulon yn un . Tua’r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil , a’u tri phorth ; porth Gad yn un , porth Aser yn un , a phorth Nafftali yn un . Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch : ac enw y ddinas o’r dydd hwnnw allan fydd , Yr Arglwydd sydd yno . Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem , ac a warchaeodd arni . A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda , a rhan o lestri tŷ Dduw ; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar , i dŷ ei dduw ef ; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri . A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd , am ddwyn o feibion Israel , ac o’r had brenhinol , ac o’r tywysogion , Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni , eithr yn dda yr olwg , a deallgar ym mhob doethineb , ac yn gwybod gwybodaeth , ac yn deall cyfarwyddyd , a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin , i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid . A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin , ac o’r gwin a yfai efe ; felly i’w maethu hwynt dair blynedd , fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin . Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda , Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia : A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau : canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar ; ac ar Hananeia , Sadrach ; ac ar Misael , Mesach ; ac ar Asareia , Abednego . A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin , na thrwy y gwin a yfai efe : am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd , na byddai raid iddo ymhalogi . A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd . A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel , Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin , yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi : oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau ? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin . Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar , yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia , Prawf , atolwg , dy weision ddeg diwrnod , a rhoddant i ni ffa i’w bwyta , a dwfr i’w yfed . Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni , a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin : ac fel y gwelych , gwna â’th weision . Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn , ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau . Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach , ac yn dewach o gnawd , na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin . Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt , a’r gwin a yfent ; ac a roddes iddynt ffa . A’r bechgyn hynny ill pedwar , Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb : a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion . Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn , yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor . A’r brenin a chwedleuodd â hwynt ; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia : am hynny y safasant hwy gerbron y brenin . Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt , efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef . A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus . Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor , y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion , a thrallodwyd ei ysbryd ef , a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho . A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid , ac am yr astronomyddion , ac am yr hudolion , ac am y Caldeaid , i fynegi i’r brenin ei freuddwydion : a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrthynt , Breuddwydiais freuddwyd , a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd . Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg , O frenin , bydd fyw yn dragywydd : adrodd dy freuddwyd i’th weision , a mynegwn y dehongliad . Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid , Aeth y peth oddi wrthyf : oni fynegwch y breuddwyd i mi , a’i ddehongliad , gwneir chwi yn ddrylliau , a’ch tai a osodir yn domen . Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch , cewch roddion , a gwobrau , ac anrhydedd mawr o’m blaen i : am hynny dangoswch y breuddwyd , a’i ddehongliad . Atebasant eilwaith a dywedasant , Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision , ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef . Atebodd y brenin a dywedodd , Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi ; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf . Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd , un gyfraith fydd i chwi : canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen , nes newid yr amser : am hynny dywedwch i mi y breuddwyd , a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef . Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin , ac a ddywedasant , Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn ; ac ni cheisiodd un brenin , na phennaeth , na llywydd , y fath beth â hwn gan un dewin , nac astronomydd , na Chaldead . Canys dieithr yw y peth a gais y brenin , ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin , ond y duwiau , y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd . O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr , ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon . Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion ; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeillion i’w lladd . Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch , pen‐distain y brenin , yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon : Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch , distain y brenin , Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin ? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel . Yna Daniel a aeth i mewn , ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser , ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin . Yna yr aeth Daniel i’w dŷ , ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion , Hananeia , Misael , ac Asareia ; Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn ; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon . Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos : yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd . Atebodd Daniel a dywedodd , Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb : canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef : Ac efe sydd yn newid amserau , a thymhorau : efe sydd yn symud brenhinoedd , ac yn gosod brenhinoedd : efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion , a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall : Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig : efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch , a chydag ef y mae y goleuni yn trigo . Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo , ac yn ei foliannu , oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi , a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt : canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin . Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch , yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon : efe a aeth , ac a ddywedodd wrtho fel hyn ; Na ddifetha ddoethion Babilon ; dwg fi o flaen y brenin , a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad . Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys , ac a ddywedodd wrtho fel hyn ; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda , yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad . Atebodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar , A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais , a’i ddehongliad ? Atebodd Daniel o flaen y brenin , a dywedodd , Ni all doethion , astronomyddion , dewiniaid , na brudwyr , ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn : Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau , ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf . Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma : Ti frenin , dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely , beth oedd i ddyfod ar ôl hyn : a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau , a fynegodd i ti beth a fydd . Minnau hefyd , nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw , y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn : ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin , ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon . Ti , frenin , oeddit yn gweled , ac wele ryw ddelw fawr : y ddelw fawr hon , yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol , oedd yn sefyll gyferbyn â thi ; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy . Pen y ddelw hon ydoedd o aur da , ei dwyfron a’i breichiau o arian , ei bol a’i morddwydydd o bres , Ei choesau o haearn , ei thraed oedd beth ohonynt o haearn , a pheth ohonynt o bridd . Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg , nid trwy waith dwylo , a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd , ac a’u maluriodd hwynt . Yna yr haearn , y pridd , y pres , yr arian , a’r aur , a gydfaluriasant , ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf ; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith , ac ni chaed lle iddynt ; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr , ac a lanwodd yr holl ddaear . Dyma y breuddwyd : dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin . Ti , frenin , wyt frenin brenhinoedd : canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth , gallu , a nerth , a gogoniant . A pha le bynnag y preswylia plant dynion , efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes , ac ehediaid y nefoedd , ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll : ti yw y pen aur hwnnw . Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi , a thrydedd frenhiniaeth arall o bres , yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear . Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn : canys yr haearn a ddryllia , ac a ddofa bob peth : ac fel haearn , yr hwn a ddryllia bob peth , y maluria ac y dryllia hi . A lle y gwelaist y traed a’r bysedd , peth ohonynt o bridd crochenydd , a pheth ohonynt o haearn , brenhiniaeth ranedig fydd ; a bydd ynddi beth o gryfder haearn , oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd . Ac fel yr ydoedd bysedd y traed , peth o haearn , a pheth o bridd ; felly y bydd y frenhiniaeth , o ran yn gref , ac o ran yn frau . A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd , ymgymysgant â had dyn ; ond ni lynant y naill wrth y llall , megis nad ymgymysga haearn â phridd . Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn , y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth , yr hon ni ddistrywir byth : a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill ; ond hi a faluria , ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn , a hi a saif yn dragywydd . Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd , yr hon ni thorrwyd â llaw , a malurio ohoni yr haearn , y pres , y pridd , yr arian , a’r aur ; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn : felly y breuddwyd sydd wir , a’i ddehongliad yn ffyddlon . Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb , ac a addolodd Daniel ; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth . Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel , Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau , ac Arglwydd y brenhinoedd , a datguddydd dirgeledigaethau , oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn . Yna y brenin a fawrygodd Daniel , ac a roddes iddo roddion mawrion lawer ; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon , ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon . Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin , ac yntau a osododd Sadrach , Mesach , ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon : ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin . Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur , ei huchder oedd yn drigain cufydd , ei lled yn chwe chufydd ; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura , o fewn talaith Babilon . Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion , dugiaid , a phendefigion , y rhaglawiaid , y trysorwyr , y cyfreithwyr , y trethwyr , a holl lywodraethwyr y taleithiau , i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin . Yna y tywysogion , dugiaid , a phendefigion , rhaglawiaid , y trysorwyr , y cyfreithwyr , y trethwyr , a holl lywodraethwyr y taleithiau , a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin : a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor . A chyhoeddwr a lefodd yn groch , Wrthych chwi , bobloedd , genhedloedd , a ieithoedd , y dywedir , Pan glywoch sŵn y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , y symffon , a phob rhyw gerdd , y syrthiwch , ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin . A’r hwn ni syrthio ac ni addolo , yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth . Am hynny yr amser hwnnw , pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a phob rhyw gerdd , y bobloedd , y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , a syrthiasant , ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin . O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea , ac a gyhuddasant yr Iddewon . Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin , Bydd fyw , frenin , yn dragywydd . Ti , frenin , a osodaist orchymyn , ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a’r symffon , a phob rhyw gerdd , syrthio ac ymgrymu i’r ddelw aur : A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai , y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth . Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon , Sadrach , Mesach , ac Abednego ; y gwŷr hyn , O frenin , ni wnaethant gyfrif ohonot ti ; dy dduwiau nid addolant , ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist . Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach , Mesach , ac Abednego . Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin . Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt , Ai gwir hyn , Sadrach , Mesach , ac Abednego ? oni addolwch chwi fy nuwiau i , ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i ? Yr awr hon wele , os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a’r symffon , a phob rhyw gerdd , i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum , da : ac onid ymgrymwch , yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth ; a pha Dduw yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i ? Sadrach , Mesach , ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin , Nebuchodonosor , nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn . Wele , y mae ein Duw ni , yr hwn yr ydym ni yn ei addoli , yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth : ac efe a’n gwared ni o’th law di , O frenin . Ac onid e , bydded hysbys i ti , frenin , na addolwn dy dduwiau , ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist . Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd , a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach , Mesach , ac Abednego ; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi . Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol , y rhai oedd yn ei lu ef , am rwymo Sadrach , Mesach , ac Abednego , i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth . Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau , eu llodrau , a’u cwcyllau , a’u dillad eraill , ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth . Gan hynny , o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth , a’r ffwrn yn boeth ragorol , fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach , Mesach , ac Abednego . A’r triwyr hyn , Sadrach , Mesach , ac Abednego , a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym . Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin , ac y cyfododd ar frys , atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid , Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym ? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin , Gwir , O frenin . Atebodd a dywedodd yntau , Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân , ac nid oes niwed arnynt ; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw . Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth , ac a lefarodd ac a ddywedodd , O Sadrach , Mesach , ac Abednego , gwasanaethwyr y Duw goruchaf , deuwch allan , a deuwch yma . Yna Sadrach , Mesach , ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân . A’r tywysogion , dugiaid , a phendefigion , a chynghoriaid y brenin , a ymgasglasant ynghyd , ac a welsant y gwŷr hyn , y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff , ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen , ni newidiasai eu peisiau chwaith , ac nid aethai sawr y tân arnynt . Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd , Bendigedig yw Duw Sadrach , Mesach , ac Abednego , yr hwn a anfonodd ei angel , ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo , ac a dorasant orchymyn y brenin , ac a roddasant eu cyrff , rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw , ond i’w Duw eu hun . Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi , Pob pobl , cenedl , a iaith , yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach , Mesach , ac Abednego , a wneir yn ddrylliau , a’u tai a wneir yn domen : oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn . Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach , Mesach , ac Abednego , o fewn talaith Babilon . Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd , cenhedloedd , a ieithoedd , y rhai a drigant yn yr holl ddaear ; Aml fyddo heddwch i chwi . Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi . Mor fawr yw ei arwyddion ef ! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau ! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol , a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth . Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ , ac yn hoyw yn fy llys . Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd ; meddyliau hefyd yn fy ngwely , a gweledigaethau fy mhen , a’m dychrynasant . Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi , ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon , fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd . Yna y dewiniaid , yr astronomyddion , y Caldeaid , a’r brudwyr , a ddaethant : a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt ; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi . Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i , ( yr hwn yw ei enw Beltesassar , yn ôl enw fy nuw i , yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo , ) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef , gan ddywedyd , Beltesassar , pennaeth y dewiniaid , oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti , ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti , dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais , a’i ddehongliad . A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely ; Edrych yr oeddwn , ac wele bren yng nghanol y ddaear , a’i uchder yn fawr . Mawr oedd y pren a chadarn , a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd ; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear . Ei ganghennau oedd deg , a’i ffrwyth yn aml , ac ymborth arno i bob peth : dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes , ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef , a phob cnawd a fwytâi ohono . Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely , ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd , Yn llefain yn groch , ac yn dywedyd fel hyn , Torrwch y pren , ac ysgythrwch ei wrysg ef , ysgydwch ei ddail ef , a gwasgerwch ei ffrwyth : cilied y bwystfil oddi tano , a’r adar o’i ganghennau . Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear , mewn rhwym o haearn a phres , ymhlith gwellt y maes ; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd , a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear . Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn , a rhodder iddo galon bwystfil : a chyfnewidier saith amser arno . O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn , a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd ; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion , ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe , ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion . Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin . Tithau , Beltesassar , dywed ei ddehongliad ef , oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi : eithr ti a elli ; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti . Yna Daniel , yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar , a synnodd dros un awr , a’i feddyliau a’i dychrynasant ef . Atebodd y brenin , a dywedodd , Beltesassar , na ddychryned y breuddwyd di , na’i ddehongliad . Atebodd Beltesassar , a dywedodd , Fy arglwydd , deued y breuddwyd i’th gaseion , a’i ddehongliad i’th elynion . Y pren a welaist , yr hwn a dyfasai , ac a gryfhasai , ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd , ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear ; A’i ddail yn deg , a’i ffrwyth yn aml , ac ymborth i bob peth ynddo ; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes , ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau : Ti , frenin , yw efe ; tydi a dyfaist , ac a gryfheaist : canys dy fawredd a gynyddodd , ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd , a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear . A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd , ac yn dywedyd , Torrwch y pren , a dinistriwch ef , er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear , mewn rhwym o haearn a phres , ymhlith gwellt y maes , a gwlycher ef â gwlith y nefoedd , a bydded ei ran gyda bwystfil y maes , hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef : Dyma y dehongliad , O frenin , a dyma ordinhad y Goruchaf , yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin . Canys gyrrant di oddi wrth ddynion , a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa , â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau , ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd , a saith amser a gyfnewidia arnat ti , hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno . A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren ; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti , wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu . Am hynny , frenin , bydded fodlon gennyt fy nghyngor , a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder , a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid , i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch . Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin . Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon . Llefarodd y brenin , a dywedodd , Onid hon yw Babilon fawr , yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth , ac er gogoniant fy mawrhydi ? A’r gair eto yng ngenau y brenin , syrthiodd llef o’r nefoedd , yn dywedyd , Wrthyt ti , frenin Nebuchodonosor , y dywedir , Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt . A thi a yrrir oddi wrth ddynion , a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes ; â gwellt y’th borthant fel eidionau ; a chyfnewidir saith amser arnat ; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno . Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor , ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion , ac y porodd wellt fel eidionau , ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd , hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod , a’i ewinedd fel ewinedd adar . Ac yn niwedd y dyddiau , myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd , a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf , a bendithiais y Goruchaf , a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth , am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol , a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim : ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd , ac â thrigolion y ddaear ; ac nid oes a atalio ei law ef , neu a ddywedo wrtho , Beth yr wyt yn ei wneuthur ? Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi , a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth , fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi , a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant ; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas , a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol . Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu , ac yn mawrygu , ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd , yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd , a’i lwybrau yn farn , ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder . Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion , ac a yfodd win yng ngŵydd y mil . Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian , a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem , fel yr yfai y brenin a’i dywysogion , ei wragedd a’i ordderchadon , ynddynt . Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw , yr hwn oedd yn Jerwsalem : a’r brenin a’i dywysogion , ei wragedd a’i ordderchadon , a yfasant ynddynt . Yfasant win , a molianasant y duwiau o aur , ac o arian , o bres , o haearn , o goed , ac o faen . Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan , ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin ; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd . Yna y newidiodd lliw y brenin , a’i feddyliau a’i cyffroesant ef , fel y datododd rhwymau ei lwynau ef , ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall . Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion , y Caldeaid , a’r brudwyr : a llefarodd y brenin , a dywedodd wrth ddoethion Babilon , Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon , ac a ddangoso i mi ei dehongliad , efe a wisgir â phorffor , ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf , a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas . Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn ; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen , na mynegi i’r brenin ei dehongliad . Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar , a’i wedd a ymnewidiodd ynddo , a’i dywysogion a synasant . Y frenhines , oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion , a ddaeth i dŷ y wledd : a llefarodd y frenhines , a dywedodd , Bydd fyw byth , frenin ; na chyffroed dy feddyliau di , ac na newidied dy wedd . Y mae gŵr yn dy deyrnas , yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo ; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni , a deall , a doethineb fel doethineb y duwiau : a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid , astronomyddion , Caldeaid , a brudwyr , sef y brenin dy dad di . Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw , yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar , ysbryd rhagorol , a gwybodaeth a deall , deongl breuddwydion , ac egluro damhegion , a datod clymau : galwer Daniel yr awron , ac efe a ddengys y dehongliad . Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin : a llefarodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , Ai tydi yw Daniel , yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda , y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda ? Myfi a glywais sôn amdanat , fod ysbryd y duwiau ynot , a chael ynot ti oleuni , a deall , a doethineb rhagorol . Ac yr awr hon dygwyd y doethion , yr astronomyddion , o’m blaen , i ddarllen yr ysgrifen hon , ac i fynegi i mi ei dehongliad : ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth . Ac mi a glywais amdanat ti , y medri ddeongl deongliadau , a datod clymau ; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen , a hysbysu i mi ei dehongliad , tydi a wisgir â phorffor , ac a gei gadwyn aur am dy wddf , ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas . Yna yr atebodd Daniel , ac y dywedodd o flaen y brenin , Bydded dy roddion i ti , a dod dy anrhegion i arall ; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin , a’r dehongliad a hysbysaf iddo . O frenin , y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth , a mawredd , a gogoniant , ac anrhydedd . Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo , y bobloedd , y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef : yr hwn a fynnai a laddai , a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw ; hefyd y neb a fynnai a gyfodai , a’r neb a fynnai a ostyngai . Eithr pan ymgododd ei galon ef , a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder , efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth , a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho : Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion , a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil , a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa : â gwellt y porthasant ef fel eidion , a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd , hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn gosod arni y neb a fynno . A thithau , Belsassar ei fab ef , ni ddarostyngaist dy galon , er gwybod ohonot hyn oll ; Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd , a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di , a thithau a’th dywysogion , dy wragedd a’th ordderchadon , a yfasoch win ynddynt ; a thi a foliennaist dduwiau o arian , ac o aur , o bres , haearn , pren , a maen , y rhai ni welant , ac ni chlywant , ac ni wyddant ddim : ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law , a’th holl ffyrdd yn eiddo . Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef , ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon . A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd : MENE , MENE , TECEL , UFFARSIN . Dyma ddehongliad y peth : MENE ; Duw a rifodd dy frenhiniaeth , ac a’i gorffennodd . TECEL ; Ti a bwyswyd yn y cloriannau , ac a’th gaed yn brin . PERES : Rhannwyd dy frenhiniaeth , a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid . Yna y gorchmynnodd Belsassar , a hwy a wisgasant Daniel â phorffor , ac â chadwyn aur am ei wddf ; a chyhoeddwyd amdano , y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth . Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid . A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth , ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed . Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion , i fod ar yr holl deyrnas ; Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw , y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt , i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif , fel na byddai y brenin mewn colled . Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion , oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef : a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas . Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth : ond ni fedrent gael un achos na bai ; oherwydd ffyddlon oedd efe , fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai . Yna y dywedodd y gwŷr hyn , Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur , oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef . Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin , ac a ddywedasant wrtho fel hyn ; Dareius frenin , bydd fyw byth . Holl raglawiaid y deyrnas , y swyddogion , a’r tywysogion , y cynghoriaid , a’r dugiaid , a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol , a chadarnhau gorchymyn , fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain , ond gennyt ti , O frenin . Yr awr hon , O frenin , sicrha y gorchymyn , a selia yr ysgrifen , fel nas newidier ; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid , yr hon ni newidir . Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn . Yna Daniel , pan wybu selio yr ysgrifen , a aeth i’w dŷ , a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem ; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau , ac y gweddïai , ac y cyffesai o flaen ei Dduw , megis y gwnâi efe cyn hynny . Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd , ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw . Yna y nesasant , ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin ; Oni seliaist ti orchymyn , mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain , ond gennyt ti , O frenin ? Atebodd y brenin , a dywedodd , Y mae y peth yn wir , yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid , yr hon ni newidir . Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin , Y Daniel , yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda , ni wnaeth gyfrif ohonot ti , frenin , nac o’r gorchymyn a seliaist , eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi . Yna y brenin , pan glybu y gair hwn , a aeth yn ddrwg iawn ganddo , ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef : ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef . Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin , ac a ddywedasant wrth y brenin , Gwybydd , frenin , mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw , na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin . Yna yr archodd y brenin , a hwy a ddygasant Daniel , ac a’i bwriasant i ffau y llewod . Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel , Dy Dduw , yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad , efe a’th achub di . A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau ; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun , ac â sêl ei dywysogion , fel na newidid yr ewyllys am Daniel . Yna yr aeth y brenin i’w lys , ac a fu y noson honno heb fwyd : ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen ; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho . Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd , ac a aeth ar frys at ffau y llewod . A phan nesaodd efe at y ffau , efe a lefodd ar Daniel â llais trist . Llefarodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , Daniel , gwasanaethwr y Duw byw , a all dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad , dy gadw di rhag y llewod ? Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin , O frenin , bydd fyw byth . Fy Nuw a anfonodd ei angel , ac a gaeodd safnau y llewod , fel na wnaethant i mi niwed : oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef ; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau , frenin . Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef , ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau . Yna y codwyd Daniel o’r ffau ; ac ni chaed niwed arno , oherwydd credu ohono yn ei Dduw . Yna y gorchmynnodd y brenin , a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel , ac a’u bwriasant i ffau y llewod , hwy , a’u plant , a’u gwragedd ; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt , a dryllio eu holl esgyrn . Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd , at y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear ; Heddwch a amlhaer i chwi . Gennyf fi y gosodwyd cyfraith , ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas , i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel : oherwydd efe sydd Dduw byw , ac yn parhau byth ; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir , a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd . Y mae yn gwaredu ac yn achub , ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear ; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod . A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius , ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad . Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon , y gwelodd Daniel freuddwyd , a gweledigaethau ei ben ar ei wely . Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd , ac a draethodd swm y geiriau . Llefarodd Daniel , a dywedodd , Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos , ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr . A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr , yn amryw y naill oddi wrth y llall . Y cyntaf oedd fel llew , ac iddo adenydd eryr : edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd , a’i gyfodi oddi wrth y ddaear , a sefyll ohono ar ei draed fel dyn , a rhoddi iddo galon dyn . Ac wele anifail arall , yr ail , yn debyg i arth ; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys , ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd : ac fel hyn y dywedent wrtho , Cyfod , bwyta gig lawer . Wedi hyn yr edrychais , ac wele un arall megis llewpard , ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn : a phedwar pen oedd i’r bwystfil ; a rhoddwyd llywodraeth iddo . Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos , ac wele bedwerydd bwystfil , ofnadwy , ac erchyll , a chryf ragorol ; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn : yr oedd yn bwyta , ac yn dryllio , ac yn sathru y gweddill dan ei draed : hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef ; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn . Yr oeddwn yn ystyried y cyrn ; ac wele , cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy , a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef : ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw , a genau yn traethu mawrhydri . Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd , a’r Hen ddihenydd a eisteddodd : ei wisg oedd cyn wynned â’r eira , a gwallt ei ben fel gwlân pur ; ei orseddfa yn fflam dân , a’i olwynion yn dân poeth . Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef : mil o filoedd a’i gwasanaethent , a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron : y farn a eisteddodd , ac agorwyd y llyfrau . Edrychais yna , o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn ; ie , edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil , a difetha ei gorff ef , a’i roddi i’w losgi yn tân . A’r rhan arall o’r bwystfilod , eu llywodraeth a dducpwyd ymaith ; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser . Mi a welwn mewn gweledigaethau nos , ac wele , megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd ; ac at yr Hen ddihenydd y daeth , a hwy a’i dygasant ger ei fron ef . Ac efe a roddes iddo lywodraeth , a gogoniant , a brenhiniaeth , fel y byddai i’r holl bobloedd , cenhedloedd , a ieithoedd ei wasanaethu ef : ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol , yr hon nid â ymaith , a’i frenhiniaeth ni ddifethir . Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff , a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant . Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw , a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll . Ac efe a ddywedodd i mi , ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau . Y bwystfilod mawrion hyn , y rhai sydd bedwar , ydynt bedwar brenin , y rhai a gyfodant o’r ddaear . Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth , ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth , a hyd byth bythoedd . Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil , yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll , yn ofnadwy iawn , a’i ddannedd o haearn , a’i ewinedd o bres ; yn bwyta , ac yn dryllio , ac yn sathru y gweddill â’i draed : Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef , a’r llall yr hwn a gyfodasai , ac y syrthiasai tri o’i flaen ; sef y corn yr oedd llygaid iddo , a genau yn traethu mawrhydri , a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion . Edrychais , a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint , ac a fu drech na hwynt ; Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd , a rhoddi barn i saint y Goruchaf , a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth . Fel hyn y dywedodd efe ; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear , yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau , ac a ddifa yr holl ddaear , ac a’i sathr hi , ac a’i dryllia . A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin , y rhai a gyfodant : ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt , ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf , ac a ddarostwng dri brenin . Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf , ac a ddifa saint y Goruchaf , ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau : a hwy a roddir yn ei law ef , hyd amser ac amseroedd a rhan amser . Yna yr eistedd y farn , a’i lywodraeth a ddygant , i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd . A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth , a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd , a roddir i bobl saint y Goruchaf , yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol , a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo . Hyd yma y mae diwedd y peth . Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr , a’m gwedd a newidiodd ynof ; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon . Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin , yr ymddangosodd i mi weledigaeth , sef i myfi Daniel , wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf . Gwelais hefyd mewn gweledigaeth , ( a bu pan welais , mai yn Susan y brenhinllys , yr hwn sydd o fewn talaith Elam , yr oeddwn i , ) ie , gwelais mewn gweledigaeth , ac yr oeddwn i wrth afon Ulai . Yna y cyfodais fy llygaid , ac a welais , ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon , a deugorn iddo ; a’r ddau gorn oedd uchel , ac un yn uwch na’r llall ; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf . Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin , tua’r gogledd , a thua’r deau , fel na safai un bwystfil o’i flaen ef ; ac nid oedd a achubai o’i law ef ; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun , ac a aeth yn fawr . Ac fel yr oeddwn yn ystyried , wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin , ar hyd wyneb yr holl ddaear , ac heb gyffwrdd â’r ddaear ; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid . Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon , ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth . Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd , ac efe a fu chwerw wrtho , ac a drawodd yr hwrdd , ac a dorrodd ei ddau gorn ef , ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef , eithr efe a’i bwriodd ef i lawr , ac a’i sathrodd ef ; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef . Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn ; ac wedi ei gryfhau , torrodd y corn mawr : a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef , tua phedwar gwynt y nefoedd . Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan , ac a dyfodd yn rhagorol , tua’r deau , a thua’r dwyrain , a thua’r hyfryd wlad . Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd , a bwriodd i lawr rai o’r llu , ac o’r sêr , ac a’u sathrodd hwynt . Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu , a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef , a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef . A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd , ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr ; felly y gwnaeth , ac y llwyddodd . Yna y clywais ryw sant yn llefaru , a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru , Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol , a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau : yna y purir y cysegr . A phan welais i Daniel y weledigaeth , a cheisio ohonof y deall , yna wele , safodd ger fy mron megis rhith gŵr . A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai , ac efe a lefodd ac a ddywedodd , Gabriel , gwna i hwn ddeall y weledigaeth . Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn ; a phan ddaeth , mi a ddychrynais , ac a syrthiais ar fy wyneb : ac efe a ddywedodd wrthyf , Deall , fab dyn ; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd . A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf , syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb : ac efe a gyffyrddodd â mi , ac a’m cyfododd yn fy sefyll . Dywedodd hefyd , Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter ; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd . Yr hwrdd deugorn a welaist , yw brenhinoedd Media a Phersia . A’r bwch blewog yw brenin Groeg ; a’r corn mawr , yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef , dyna y brenin cyntaf . Lle y torrwyd ef , ac y cyfododd pedwar yn ei le , pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl , ond nid un nerth ag ef . A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt , pan gyflawner y troseddwyr , y cyfyd brenin wyneb‐greulon , ac yn deall damhegion . A’i nerth ef a gryfha , ond nid trwy ei nerth ei hun ; ac efe a ddinistria yn rhyfedd , ac a lwydda , ac a wna , ac a ddinistria y cedyrn , a’r bobl sanctaidd . A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo ; ac efe a ymfawryga yn ei galon , a thrwy heddwch y dinistria efe lawer : ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion ; ond efe a ddryllir heb law . A gweledigaeth yr hwyr a’r bore , yr hon a draethwyd , sydd wirionedd : selia dithau y weledigaeth , oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd . Minnau Daniel a euthum yn llesg , ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau ; yna y cyfodais , ac y gwneuthum orchwyl y brenin , ac a synnais oherwydd y weledigaeth , ond nid oedd neb yn ei deall . Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus , o had y Mediaid , yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid , Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef , myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd , am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd , y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem . Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw , i geisio trwy weddi ac ymbil , ynghyd ag ympryd , a sachliain , a lludw . A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw , a chyffesais , a dywedais , Atolwg , Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy , ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant , ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion ; Pechasom , a gwnaethom gamwedd , a buom anwir , gwrthryfelasom hefyd , sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion , ac oddi wrth dy farnedigaethau . Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision , y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd , ein tywysogion , ein tadau , ac wrth holl bobl y tir . I ti , Arglwydd , y perthyn cyfiawnder , ond i ni gywilydd wynebau , megis heddiw ; i wŷr Jwda , ac i drigolion Jerwsalem , ac i holl Israel , yn agos ac ymhell , trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt , am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn . Arglwydd , y mae cywilydd wynebau i ni , i’n brenhinoedd , i’n tywysogion , ac i’n tadau , oherwydd i ni bechu i’th erbyn . Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant , er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn . Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw , i rodio yn ei gyfreithiau ef , y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi . Ie , holl Israel a droseddasant dy gyfraith di , sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di : am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw , am bechu ohonom yn ei erbyn ef . Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni , ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent , gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr ; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem . Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni : eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw , gan droi oddi wrth ein hanwiredd , a chan ddeall dy wirionedd di . Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd , ac a’i dug arnom ni ; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur : canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef . Eto yr awr hon , O Arglwydd ein Duw , yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref , ac a wnaethost i ti enw megis heddiw , nyni a bechasom , ni a wnaethom anwiredd . O Arglwydd , yn ôl dy holl gyfiawnderau , atolwg , troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem , dy fynydd sanctaidd ; oherwydd am ein pechodau , ac am anwireddau ein tadau , y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch . Ond yr awr hon gwrando , O ein Duw ni , ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiadau , a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig , er mwyn yr Arglwydd . Gostwng dy glust , O fy Nuw , a chlyw ; agor dy lygaid , a gwêl ein hanrhaith ni , a’r ddinas y gelwir dy enw di arni : oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron , eithr oherwydd dy aml drugareddau di . Clyw , Arglwydd ; arbed , Arglwydd ; ystyr , O Arglwydd , a gwna ; nac oeda , er dy fwyn dy hun , O fy Nuw : oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon , ac ar dy bobl . A mi eto yn llefaru , ac yn gweddïo , ac yn cyffesu fy mhechod , a phechod fy mhobl Israel , ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr Arglwydd fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw ; Ie , a mi eto yn llefaru mewn gweddi , yna y gŵr Gabriel , yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad , gan ehedeg yn fuan , a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol . Ac efe a barodd i mi ddeall , ac a ymddiddanodd â mi , ac a ddywedodd , Daniel , deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall . Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan , ac mi a ddeuthum i’w fynegi i ti : canys annwyl ydwyt ti : ystyr dithau y peth , a deall y weledigaeth . Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl , ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd , ac i selio pechodau , ac i wneuthur cymod dros anwiredd , ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol , ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth , ac i eneinio y sancteiddiolaf . Gwybydd gan hynny a deall , y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem , hyd y blaenor Meseia , saith wythnos , a dwy wythnos a thrigain : yr heol a adeiledir drachefn , a’r mur , sef mewn amseroedd blinion . Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia , ond nid o’i achos ei hun : a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr ; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant , a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol . Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos : ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd‐offrwm beidio ; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi , hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig . Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia , y datguddiwyd peth i Daniel , yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar ; a’r peth oedd wir , ond yr amser nodedig oedd hir ; ac efe a ddeallodd y peth , ac a gafodd wybod y weledigaeth . Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau . Ni fwyteais fara blasus , ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau ; gan ymiro hefyd nid ymirais , nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau . Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf , fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr , honno yw Hidecel ; Yna y cyfodais fy llygaid , ac yr edrychais , ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain , a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas : A’i gorff oedd fel maen beryl , a’i wyneb fel gwelediad mellten , a’i lygaid fel lampau tân , a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw , a sain ei eiriau fel sain tyrfa . A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth ; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth ; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr , fel y ffoesant i ymguddio . A mi a adawyd fy hunan , ac a welais y weledigaeth fawr hon , ac ni thrigodd nerth ynof : canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth , ac nid ateliais nerth . Eto mi a glywais sain ei eiriau ef : a phan glywais sain ei eiriau ef , yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb , a’m hwyneb tua’r ddaear . Ac wele , llaw a gyffyrddodd â mi , ac a’m gosododd ar fy ngliniau , ac ar gledr fy nwylo . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Daniel , ŵr annwyl , deall y geiriau a lefaraf wrthyt , a saf yn dy sefyll : canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon . Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn , sefais gan grynu . Yna efe a ddywedodd wrthyf , Nac ofna , Daniel : oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall , ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw , y gwrandawyd dy eiriau ; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i . Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain : ond wele Michael , un o’r tywysogion pennaf , a ddaeth i’m cynorthwyo ; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia . A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf : oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer . Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn , gosodais fy wyneb tua’r ddaear , ac a euthum yn fud . Ac wele , tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau : yna yr agorais fy safn , ac y lleferais , ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer , O fy arglwydd , fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth , ac nid ateliais nerth . A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma ? a minnau yna ni safodd nerth ynof , ac nid arhodd ffun ynof . Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn , ac a’m cryfhaodd i , Ac a ddywedodd , Nac ofna , ŵr annwyl ; heddwch i ti , ymnertha , ie , ymnertha . A phan lefarasai efe wrthyf , ymnerthais , a dywedais , Llefared fy arglwydd ; oherwydd cryfheaist fi . Ac efe a ddywedodd , a wyddost ti paham y deuthum atat ? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia : ac wedi i mi fyned allan , wele , tywysog tir Groeg a ddaw . Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd ; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn , ond Michael eich tywysog chwi . Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad , y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef . Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti ; Wele , tri brenin eto a safant o fewn Persia , a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll : ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth , y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg . A brenin cadarn a gyfyd , ac a lywodraetha â llywodraeth fawr , ac a wna fel y mynno . A phan safo efe , dryllir ei deyrnas , ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd ; ac nid i’w hiliogaeth ef , nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe : oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny . Yna y cryfha brenin y deau , ac un o’i dywysogion : ac efe a gryfha uwch ei law ef , ac a lywodraetha : llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef . Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant ; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod ; ond ni cheidw hi nerth y braich ; ac ni saif yntau , na’i fraich : eithr rhoddir hi i fyny , a’r rhai a’i dygasant hi , a’r hwn a’i cenhedlodd hi , a’i chymhorthwr , yn yr amseroedd hyn . Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi , yr hwn a ddaw â llu , ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd , ac a wna yn eu herbyn hwy , ac a orchfyga ; Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft , eu duwiau hwynt , a’u tywysogion , a’u dodrefn annwyl o arian ac aur ; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd . A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas , ac a ddychwel i’w dir ei hun . A’i feibion a gyffroir , ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion : a chan ddyfod y daw un , ac a lifeiria , ac a â trosodd : yna efe a ddychwel , ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef . Yna y cyffry brenin y deau , ac yr â allan , ac a ymladd ag ef , sef â brenin y gogledd : ac efe a gyfyd dyrfa fawr ; ond y dyrfa a roddir i’w law ef . Pan gymerer ymaith y dyrfa , yr ymddyrchafa ei galon , ac efe a gwympa fyrddiwn ; er hynny ni bydd efe gryf . Canys brenin y gogledd a ddychwel , ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf , ac ymhen ennyd o flynyddoedd , gan ddyfod y daw â llu mawr , ac â chyfoeth mawr . Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau ; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth ; ond hwy a syrthiant . Yna y daw brenin y gogledd , ac a fwrw glawdd , ac a ennill y dinasoedd caerog , ond breichiau y deau ni wrthsafant , na’i bobl ddewisol ef ; ac ni bydd nerth i sefyll . A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno , ac ni bydd a safo o’i flaen ; ac efe a saif yn y wlad hyfryd , a thrwy ei law ef y difethir hi . Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas , a rhai uniawn gydag ef ; fel hyn y gwna : ac efe a rydd iddo ferch gwragedd , gan ei llygru hi ; ond ni saif hi ar ei du ef , ac ni bydd hi gydag ef . Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd , ac a ennill lawer ; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio , er ei fwyn ei hun , heb warth iddo ei hun : efe a’i detry arno ef . Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun : ond efe a dramgwydda , ac a syrth , ac nis ceir ef . Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas ; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef ; ac nid mewn dig , nac mewn rhyfel . Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus , ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas : eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol , ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith . Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef , ac y dryllir hwynt , a thywysog y cyfamod hefyd . Ac wedi ymgyfeillach ag ef , y gwna efe dwyll : canys efe a ddaw i fyny , ac a ymgryfha ag ychydig bobl . I’r dalaith heddychol a bras y daw efe , ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau , na thadau ei dadau : ysglyfaeth , ac ysbail , a golud , a daena efe yn eu mysg : ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau , sef dros amser . Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr : a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn ; ond ni saif efe : canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef . Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef , a’i lu ef a lifeiria ; a llawer a syrth yn lladdedig . A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg , ac ar un bwrdd y traethant gelwydd ; ond ni thycia : canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig . Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr ; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd : felly y gwna efe , ac y dychwel i’w wlad . Ar amser nodedig y dychwel , ac y daw tua’r deau ; ac ni bydd fel y daith gyntaf , neu fel yr olaf . Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef ; am hynny yr ymofidia , ac y dychwel , ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd : felly y gwna efe , ac y dychwel ; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd . Breichiau hefyd a safant ar ei du ef , ac a halogant gysegr yr amddiffynfa , ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth , ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol . A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith : eithr y bobl a adwaenant eu Duw , a fyddant gryfion , ac a ffynnant . A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer ; eto syrthiant trwy y cleddyf , a thrwy dân , trwy gaethiwed , a thrwy ysbail , ddyddiau lawer . A phan syrthiant , â chymorth bychan y cymhorthir hwynt : eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith . A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro , ac i’w glanhau , ac i’w cannu , hyd amser y diwedd : canys y mae eto dros amser nodedig . A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun , ac a ymddyrcha , ac a ymfawryga uwchlaw pob duw ; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd , ac a lwydda nes diweddu y dicter ; canys yr hyn a ordeiniwyd , a fydd . Nid ystyria efe Dduw ei dadau , na serch ar wragedd , ie , nid ystyria un duw : canys goruwch pawb yr ymfawryga . Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef : ie , duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian , ac â meini gwerthfawr , ac â phethau dymunol . Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr , yr hwn a gydnebydd efe , ac a chwanega ei ogoniant : ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer , ac a ranna y tir am werth . Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef , a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef , â cherbydau , ac â marchogion , ac â llongau lawer ; ac efe a ddaw i’r tiroedd , ac a lifa , ac a â trosodd . Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad , a llawer o wledydd a syrthiant : ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef , Edom , a Moab , a phennaf meibion Ammon . Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd ; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol . Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian , ac ar holl annwyl bethau yr Aifft : y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef . Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef : ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha , ac i ddifrodi llawer . Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd , ar yr hyfryd fynydd sanctaidd : eto efe a ddaw hyd ei derfyn , ac ni bydd cynorthwywr iddo . Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr , yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl : yna y bydd amser blinder , y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw : ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl , y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr . A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant , rhai i fywyd tragwyddol , a rhai i warth a dirmyg tragwyddol . A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen ; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder , a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd . Tithau , Daniel , cae ar y geiriau , a selia y llyfr hyd amser y diwedd : llawer a gyniweirant , a gwybodaeth a amlheir . Yna myfi Daniel a edrychais , ac wele ddau eraill yn sefyll , un o’r tu yma ar fin yr afon , ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon . Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain , yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon , Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn ? Clywais hefyd y gŵr , a wisgasid â lliain , yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon , pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd , ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd , y bydd dros amser , amserau , a hanner : ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd , y gorffennir hyn oll . Yna y clywais , ond ni ddeellais : eithr dywedais , O fy arglwydd , beth fydd diwedd y pethau hyn ? Ac efe a ddywedodd , Dos , Daniel : canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd . Llawer a burir , ac a gennir , ac a brofir ; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni : ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus ; ond y rhai doethion a ddeallant . Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth , ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol , y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau . Gwyn ei fyd a ddisgwylio , ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau . Dos dithau hyd y diwedd : canys gorffwysi , a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea , mab Beeri , yn nyddiau Usseia , Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas , brenin Israel . Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea . Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea , Dos , cymer i ti wraig o odineb , a phlant o odineb : oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd . Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim ; a hi a feichiogodd , ac a ddug iddo ef fab . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Galw ei enw ef Jesreel : canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu , ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod . A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar ferch . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Galw ei henw hi Lo‐rwhama ; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel ; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr . Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda , ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw ; ac nid â bwa , nac â chleddyf , nac â rhyfel , nac â meirch nac â marchogion , y cadwaf hwynt . A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama , ac a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab . A Duw a ddywedodd , Galw ei enw ef Lo‐ammi : canys nid ydych bobl i mi , ac ni byddaf i chwithau yn Dduw . Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr , yr hwn nis mesurir , ac nis cyfrifir : a bydd , yn y man lle y dywedwyd wrthynt , Nid pobl i mi ydych chwi , y dywedir yno wrthynt , Meibion y Duw byw ydych . Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd , a hwy a osodant iddynt un pen ; a deuant i fyny o’r tir : canys mawr fydd dydd Jesreel . Dywedwch wrth eich brodyr , Ammi ; ac wrth eich chwiorydd , Rwhama . Dadleuwch â’ch mam , dadleuwch : canys nid fy ngwraig yw hi , ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau : bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg , a’i godineb oddi rhwng ei bronnau ; Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun , a’i gosod fel y dydd y ganed hi , a’i gwneuthur fel anialwch , a’i gosod fel tir diffaith , a’i lladd â syched . Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd ; am eu bod yn blant godineb . Canys eu mam hwynt a buteiniodd ; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt : canys dywedodd hi , Af ar ôl fy nghariadau , y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr , fy ngwlân a’m llin , fy olew a’m diodydd . Am hynny wele , mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain , ac a furiaf fur , fel na chaffo hi ei llwybrau . A hi a ddilyn ei chariadau , ond nis goddiwedd hwynt ; a hi a’u cais hwynt , ond nis caiff : yna y dywed , Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf ; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon . Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd , a gwin , ac olew , ac a amlheais ei harian a’i haur , y rhai a ddarparasant hwy i Baal . Am hynny y dychwelaf , a chymeraf fy ŷd yn ei amser , a’m gwin yn ei dymor ; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi . A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau ; ac nis gwared neb hi o’m llaw i . Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi , ei gwyliau , ei newyddleuadau , a’i Sabothau , a’i holl uchel wyliau , beidio . A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd , am y rhai y dywedodd , Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi ; ac mi a’u gosodaf yn goedwig , a bwystfilod y maes a’u difa hwynt . A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim , yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt , ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau , ac yr aeth ar ôl ei chariadau , ac yr anghofiodd fi , medd yr Arglwydd . Am hynny wele , mi a’i denaf hi , ac a’i dygaf i’r anialwch , ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon . A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno , a dyffryn Achor yn ddrws gobaith ; ac yno y cân hi , fel yn nyddiau ei hieuenctid , ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft . Y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y’m gelwi Issi , ac ni’m gelwi mwyach Baali . Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi , ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau . A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes , ac ag ehediaid y nefoedd , ac ag ymlusgiaid y ddaear ; a’r bwa , a’r cleddyf , a’r rhyfel , a dorraf ymaith o’r ddaear , a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel . A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd ; ie , dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder , ac mewn barn , ac mewn tiriondeb , ac mewn trugareddau . A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb ; a thi a adnabyddi yr Arglwydd . A’r dydd hwnnw y gwrandawaf , medd yr Arglwydd , ar y nefoedd y gwrandawaf ; a hwythau a wrandawant ar y ddaear ; A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd , a’r gwin , a’r olew ; a hwythau a wrandawant ar Jesreel . A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear , ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd ; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi , Fy mhobl wyt ti : a hwythau a ddywedant , O fy Nuw . Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos eto , câr wraig , ( hoff gan ei chyfaill , a hithau wedi torri ei phriodas , ) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel , a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr , ac yn hoffi costrelau gwin . A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian , ac er homer o haidd , a hanner homer o haidd : A dywedais wrthi , Aros amdanaf lawer o ddyddiau ; na phuteinia , ac na fydd i ŵr arall : a minnau a fyddaf felly i tithau . Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin , a heb dywysog , a heb aberth , a heb ddelw , a heb effod , a heb deraffim . Wedi hynny y dychwel meibion Israel , ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw , a Dafydd eu brenin ; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf . Meibion Israel , gwrandewch air yr Arglwydd : canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad , am nad oes na gwirionedd , na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw , yn y wlad . Trwy dyngu , a dywedyd celwydd , a lladd celain , a lladrata , a thorri priodas , y maent yn torri allan , a gwaed a gyffwrdd â gwaed . Am hynny y galara y wlad , ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi , ynghyd â bwystfilod y maes , ac ehediaid y nefoedd ; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant . Er hynny nac ymrysoned , ac na cherydded neb ei gilydd : canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad . Am hynny ti a syrthi y dydd , a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos , a mi a ddifethaf dy fam . Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth : am i ti ddiystyru gwybodaeth , minnau a’th ddiystyraf dithau , fel na byddych offeiriad i mi ; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw , minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd . Fel yr amlhasant , felly y pechasant i’m herbyn : am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth . Bwyta y maent bechod fy mhobl , ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon . A bydd yr un fath , bobl ac offeiriad : ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd , a thalaf iddynt eu gweithredoedd . Bwytânt , ac nis diwellir ; puteiniant , ac nid amlhânt ; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd . Godineb , a gwin , a gwin newydd , a ddwg y galon ymaith . Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion , a’u ffon a ddengys iddynt : canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt , a phuteiniasant oddi wrth eu Duw . Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant , ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth , dan y dderwen , a’r boplysen , a’r llwyfen , am fod yn dda eu cysgod : am hynny y puteinia eich merched chwi , a’ch gwragedd a dorrant briodas . Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont , nac â’ch gwragedd pan dorront briodas : am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid , ac aberthasant gyda dihirogod ; a’r bobl ni ddeallant , a dramgwyddant . Er i ti , Israel , buteinio , eto na pheched Jwda : nac ewch i Gilgal , nac ewch i fyny i Beth‐afen ; ac na thyngwch , Byw yw yr Arglwydd . Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel : yr Arglwydd yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder . Effraim a ymgysylltodd ag eilunod : gad iddo . Surodd eu diod hwy ; gan buteinio y puteiniasant : hoff yw , Moeswch , trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi . Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd , a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau . Clywch hyn , chwi offeiriaid ; gwrandewch , tŷ Israel ; a thŷ y brenin , rhoddwch glust : canys y mae barn tuag atoch , am eich bod yn fagl ar Mispa , ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor . Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn , er i mi eu ceryddu hwynt oll . Myfi a adwaen Effraim , ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf : canys yn awr ti , Effraim , a buteiniaist , ac Israel a halogwyd . Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw ; am fod ysbryd godineb o’u mewn , ac nid adnabuant yr Arglwydd . A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb : am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd ; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt . A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr Arglwydd ; ond nis cânt ef : ciliodd efe oddi wrthynt . Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffyddlon : canys cenedlasant blant dieithr : mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau . Cenwch y corn yn Gibea , yr utgorn yn Rama ; bloeddiwch yn Beth‐afen ar dy ôl di , Benjamin . Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd : ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr . Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn : am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr . Gorthrymwyd Effraim , drylliwyd ef mewn barn , am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn . Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim , ac fel pydredd i dŷ Jwda . Pan welodd Effraim ei lesgedd , a Jwda ei archoll ; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad , ac a hebryngodd at frenin Jareb : eto ni allai efe eich meddyginiaethu , na’ch iacháu o’ch archoll . Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew , ac i dŷ Jwda fel cenau llew : myfi a ysglyfaethaf , ac a af ymaith ; dygaf ymaith , ac ni bydd a achubo . Af a dychwelaf i’m lle , hyd oni chydnabyddont eu bai , a cheisio fy wyneb : pan fyddo adfyd arnynt , y’m boregeisiant . Deuwch , a dychwelwn at yr Arglwydd : canys efe a’n drylliodd , ac efe a’n hiachâ ni ; efe a drawodd , ac efe a’n meddyginiaetha ni . Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd , a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny , a byddwn fyw ger ei fron ef . Yna yr adnabyddwn , os dilynwn adnabod yr Arglwydd : ei fynediad a ddarperir fel y bore ; ac efe a ddaw fel glaw atom , fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear . Beth a wnaf i ti , Effraim ? beth a wnaf i ti , Jwda ? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore , ac fel gwlith boreol . Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi ; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau : a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan . Canys ewyllysiais drugaredd , ac nid aberth ; a gwybodaeth o Dduw , yn fwy na phoethoffrymau . A’r rhai hyn , fel dynion , a dorasant y cyfamod : yno y buant anffyddlon i’m herbyn . Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead , wedi ei halogi gan waed . Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr , felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn : canys gwnânt ysgelerder . Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll : yno y mae godineb Effraim ; halogwyd Israel . Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau , Jwda , a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl . A mi yn ewyllysio iacháu Israel , datguddiwyd anwiredd Effraim , a drygioni Samaria : canys gwnânt ffalster ; a’r lleidr a ddaw i mewn , a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan . Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt : weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd : y maent gerbron fy wyneb . Llawenhânt y brenin â’u drygioni , a’r tywysogion â’u celwyddau . Pawb ohonynt sydd yn torri priodas , fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd , yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes , hyd oni byddo wedi ei lefeinio . Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin : estynnodd ei law gyda gwatwarwyr . Fel yr oeddynt yn cynllwyn , darparasant eu calon fel ffwrn : eu pobydd a gwsg ar hyd y nos ; y bore y llysg fel fflam dân . Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn , ac a ysant eu barnwyr : eu holl frenhinoedd a gwympasant , heb un ohonynt yn galw arnaf fi . Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd ; Effraim sydd fel teisen heb ei throi . Estroniaid a fwytânt ei gryfder , ac nis gŵyr efe : ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo , ac nis gwybu efe . Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb ; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw , ac nis ceisiant ef . Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon ; galwant ar yr Aifft , ânt i Asyria . Pan elont , taenaf fy rhwyd drostynt , a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd : cosbaf hwynt , fel y clybu eu cynulleidfa hwynt . Gwae hwynt ! canys ffoesant oddi wrthyf : dinistr arnynt ; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn : er i mi eu gwared hwynt , eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi . Ac ni lefasant arnaf â’u calon , pan udasant ar eu gwelyau : am ŷd a melys win yr ymgasglant ; ciliasant oddi wrthyf . Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt , eto meddyliasant ddrwg i mi . Dychwelasant , nid at y Goruchaf : y maent fel bwa twyllodrus : eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod . Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft . At dy safn â’r utgorn . Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd , am iddynt droseddu fy nghyfamod , a phechu yn erbyn fy nghyfraith . Israel a lefant arnaf , Fy Nuw , nyni a’th adwaenom di . Israel a fwriodd heibio ddaioni : y gelyn a’i herlid yntau . Hwy a wnaethant frenhinoedd , ac nid trwof fi ; gwnaethant dywysogion , ac nis gwybûm : o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau , fel y torrer hwynt ymaith . Samaria , dy lo a’th fwriodd heibio : fy nig a gyneuodd i’w herbyn ; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd ? Canys o Israel y mae ; y saer a’i gwnaeth ; am hynny nid yw efe Dduw : ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria . Canys gwynt a heuasant , a chorwynt a fedant : corsen ni bydd iddo : y dywysen ni wna flawd : ac os gwna , dieithriaid a’i llwnc . Israel a lyncwyd : bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo . Canys hwy a aethant i fyny i Asyria , yn asyn gwyllt unig iddo ei hun : Effraim a gyflogodd gariadau . Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd , yn awr mi a’u casglaf hwynt : canys tristânt ychydig , oherwydd baich brenin y tywysogion . Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu , allorau fydd ganddo i bechu . Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith , ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd . Yn lle ebyrth fy offrymau , cig a aberthant , ac a fwytânt ; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt : efe a gofia bellach eu hanwiredd , ac efe a ofwya eu pechodau ; dychwelant i’r Aifft . Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr , ac a adeiladodd demlau ; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog : ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd , ac efe a ysa ei balasau . Israel , na orfoledda gan lawenydd , fel pobloedd eraill : canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw , gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd . Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt , a’r gwin newydd a’i twylla hi . Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd ; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft , ac yn Asyria y bwytânt beth aflan . Nid offrymant win i’r Arglwydd , a’u haberthau ni bydd melys ganddo ; byddant iddynt fel bara galarwyr ; pawb a fwytao ohono a halogir : oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd . Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl , ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd ? Canys wele , aethant ymaith gan ddinistr ; yr Aifft a’u casgl hwynt , Memffis a’u cladd hwynt : danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt ; drain a dyf yn eu pebyll . Dyddiau i ymweled a ddaethant , dyddiau talu’r pwyth a ddaethant ; Israel a gânt wybod hyn : y proffwyd sydd ffôl , ynfyd yw y gŵr ysbrydol , am amlder dy anwiredd , a’r cas mawr . Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw ; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau , ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw . Ymlygrasant yn ddwfn , megis yn amser Gibea : am hynny efe a goffa eu hanwiredd , efe a ymwêl â’u pechod . Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch ; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad : ond hwy a aethant at Baal‐peor , ymddidolasant at y gwarth hwnnw ; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant . Am Effraim , eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn ; o’r enedigaeth , o’r groth , ac o’r beichiogi . Er iddynt fagu eu plant , gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion : a gwae hwynt , pan ymadawyf oddi wrthynt ! Effraim , fel y gwelais Tyrus , a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd : eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad . Dyro iddynt , Arglwydd : beth a roddi ? dyro iddynt groth yn erthylu , a bronnau hysbion . Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal : canys yno y caseais hwynt : am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ ; ni chwanegaf eu caru hwynt : eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar . Effraim a drawyd , eu gwraidd a wywodd , dwyn ffrwyth nis gwnânt : ac os cenhedlant , eto lladdaf annwyl blant eu crothau . Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt , am na wrandawsant arno ef : am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd . Gwinwydden wag yw Israel ; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun : yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau ; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg . Eu calon a ymrannodd ; yn awr y ceir hwy yn feius : efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt ; efe a ddistrywia eu delwau . Canys yr awr hon y dywedant , Nid oes i ni frenin , am nad ofnasom yr Arglwydd ; a pheth a wnâi brenin i ni ? Dywedasant eiriau , gan dyngu anudon wrth wneuthur amod ; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd . Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen ; canys ei bobl a alara drosto , a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo , o achos ei ogoniant , am iddo ymado oddi wrtho ef . Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb : Effraim a dderbyn gywilydd , ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun . Samaria , ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr . A distrywir uchelfeydd Afen , pechod Israel ; dring drain a mieri ar eu hallorau : a dywedant wrth y mynyddoedd , Gorchuddiwch ni ; ac wrth y bryniau , Syrthiwch arnom . O Israel , ti a bechaist er dyddiau Gibea : yno y safasant ; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt . Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt : a phobl a gesglir yn eu herbyn , pan ymrwymont yn eu dwy gŵys . Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu , yn dda ganddi ddyrnu ; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi : paraf i Effraim farchogaeth : Jwda a ardd , a Jacob a lyfna iddo . Heuwch i chwi mewn cyfiawnder , medwch mewn trugaredd ; braenerwch i chwi fraenar : canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd , hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch . Arddasoch i chwi ddrygioni , medasoch anwiredd , bwytasoch ffrwyth celwydd ; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun , yn lluosowgrwydd dy gedyrn . Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl , a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir , fel y darfu i Salman ddinistrio Beth‐arbel yn amser rhyfel ; lle y drylliwyd y fam ar y plant . Fel hynny y gwna Bethel i chwi , am eich mawrddrwg : gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith . Pan oedd Israel yn fachgen , mi a’i cerais ef , ac a elwais fy mab o’r Aifft . Fel y galwent arnynt , felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy ; aberthasant i Baalim , llosgasant arogl‐darth i ddelwau cerfiedig . Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded , gan eu cymryd erbyn eu breichiau ; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt . Tynnais hwynt â rheffynnau dynol , â rhwymau cariad ; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt ; a bwriais atynt fwyd . Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft ; ond yr Asyriad fydd ei frenin , am iddynt wrthod troi . A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef , ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef , am eu cynghorion eu hun . A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi ; er iddynt eu galw at y Goruchaf , eto ni ddyrchafai neb ef . Pa fodd y’th roddaf ymaith , Effraim ? y’th roddaf i fyny , Israel ? pa fodd y’th wnaf fel Adma ? ac y’th osodaf megis Seboim ? trodd fy nghalon ynof , a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd . Ni chyflawnaf angerdd fy llid : ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim , canys Duw ydwyf fi , ac nid dyn ; y Sanct yn dy ganol di ; ac nid af i mewn i’r ddinas . Ar ôl yr Arglwydd yr ânt ; efe a rua fel llew : pan ruo efe , yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant . Dychrynant fel aderyn o’r Aifft , ac fel colomen o dir Asyria : a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai , medd yr Arglwydd . Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd , a thŷ Israel â thwyll ; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw , ac yn ffyddlon gyda’r saint . Effraim sydd yn ymborthi ar wynt , ac yn dilyn gwynt y dwyrain : ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr ; amod a wnaethant â’r Asyriaid ; ac olew a ddygwyd i’r Aifft . Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda ; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd : yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth . Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd , ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw . Ie , cafodd nerth ar yr angel , a gorchfygodd ; wylodd , ac ymbiliodd ag ef : cafodd ef yn Bethel , ac yno yr ymddiddanodd â ni ; Sef Arglwydd Dduw y lluoedd : yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth . Tro dithau at dy Dduw ; cadw drugaredd a barn , a disgwyl wrth dy Dduw bob amser . Marsiandwr yw efe ; yn ei law ef y mae cloriannau twyll : da ganddo orthrymu . A dywedodd Effraim , Eto mi a gyfoethogais , cefais i mi olud ; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof , a fyddai bechod . A mi , yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft , a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll , megis ar ddyddiau uchel ŵyl . Ymddiddenais trwy y proffwydi , a mi a amlheais weledigaethau , ac a arferais gyffelybiaethau , trwy law y proffwydi . A oes anwiredd yn Gilead ? yn ddiau gwagedd ydynt ; yn Gilgal yr aberthant ychen : eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd . Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria , a gwasanaethodd Israel am wraig , ac am wraig y cadwodd ddefaid . A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft , a thrwy broffwyd y cadwyd ef . Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd ; am hynny y gad efe ei waed ef arno , a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd . Pan lefarodd Effraim â dychryn , ymddyrchafodd efe yn Israel ; ond pan bechodd gyda Baal , y bu farw . Ac yr awr hon ychwanegasant bechu , ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd , ac eilunod , yn ôl eu deall eu hun , y cwbl o waith y crefftwyr , am y rhai y maent yn dywedyd , Y rhai a aberthant , cusanant y lloi . Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl , ac megis y gwlith yr ymedy yn fore , fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu , ac fel mwg o’r ffumer . Eto myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , a’th ddug di o dir yr Aifft ; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi : ac nid oes Iachawdwr ond myfi . Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch , yn nhir sychder mawr . Fel yr oedd eu porfa , y cawsant eu gwala : cawsant eu gwala , a chodasant eu calonnau ; ac anghofiasant fi . Ond mi a fyddaf fel llew iddynt ; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt . Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon ; rhwygaf orchudd eu calon hwynt ; ac yna fel llew y difâf hwynt : bwystfil y maes a’u llarpia hwynt . O Israel , tydi a’th ddinistriaist dy hun ; ond ynof fi y mae dy gymorth . Dy frenin fyddaf : pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd ? a’th frawdwyr , am y rhai y dywedaist , Dyro i mi frenin a thywysogion ? Rhoddais i ti frenin yn fy nig , a dygais ef ymaith yn fy llid . Rhwymwyd anwiredd Effraim ; cuddiwyd ei bechod ef . Gofid un yn esgor a ddaw arno : mab angall yw efe ; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant . O law y bedd yr achubaf hwynt ; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt : byddaf angau i ti , O angau ; byddaf dranc i ti , y bedd : cuddir edifeirwch o’m golwg . Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr , daw gwynt y dwyrain , gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a ddyrchafa , a’i ffynhonnell a sych , a’i ffynnon a â yn hesb : efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol . Diffeithir Samaria , am ei bod yn anufudd i’w Duw : syrthiant ar y cleddyf : eu plant a ddryllir , a’u gwragedd beichiogion a rwygir . Ymchwel , Israel , at yr Arglwydd dy Dduw ; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd . Cymerwch eiriau gyda chwi , a dychwelwch at yr Arglwydd : dywedwch wrtho , Maddau yr holl anwiredd ; derbyn ni yn ddaionus : a thalwn i ti loi ein gwefusau . Ni all Assur ein hachub ni ; ni farchogwn ar feirch ; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo , O ein duwiau : oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd . Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt , caraf hwynt yn rhad : canys trodd fy nig oddi wrtho . Byddaf fel gwlith i Israel : efe a flodeua fel y lili , ac a leda ei wraidd megis Libanus . Ei geinciau a gerddant , a bydd ei degwch fel yr olewydden , a’i arogl fel Libanus . Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant : adfywiant fel ŷd , blodeuant hefyd fel y winwydden : bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus . Effraim a ddywed , Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod ? Gwrandewais , ac edrychais arno : myfi sydd fel ffynidwydden ir ; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di . Pwy sydd ddoeth , ac efe a ddeall hyn ? a deallgar , ac efe a’i gwybydd ? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd , a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt : ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel . Gwrandewch hyn , chwi henuriaid ; a rhoddwch glust , holl drigolion y wlad : a fu hyn yn eich dyddiau , neu yn nyddiau eich tadau ? Mynegwch hyn i’ch plant , a’ch plant i’w plant hwythau , a’u plant hwythau i genhedlaeth arall . Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn , a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd , a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust . Deffrowch , feddwyr , ac wylwch ; ac udwch , holl yfwyr gwin , am y gwin newydd ; canys torrwyd ef oddi wrth eich min . Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir ; dannedd llew yw ei dannedd , a childdannedd hen lew sydd iddi . Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod , a’m ffigysbren a ddirisglodd : gan ddinoethi dinoethodd hi , a thaflodd hi ymaith : ei changau a wynasant . Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid . Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd , a’r offrwm diod : y mae yr offeiriaid , gweinidogion yr Arglwydd , yn galaru . Difrodwyd y maes , y ddaear a alara ; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd : sychodd y gwin newydd , llesgaodd yr olew . Cywilyddiwch , y llafurwyr ; udwch , y gwinwyddwyr , am y gwenith , ac am yr haidd : canys darfu am gynhaeaf y maes . Gwywodd y winwydden , llesgaodd y ffigysbren , y pren pomgranad , y balmwydden hefyd , a’r afallen , a holl brennau y maes , a wywasant ; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion . Ymwregyswch a griddfenwch , chwi offeiriaid ; udwch , weinidogion yr allor ; deuwch , weinidogion fy Nuw , gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain : canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd , a’r offrwm diod . Cysegrwch ympryd , gelwch gymanfa , cesglwch yr henuriaid , a holl drigolion y wlad , i dŷ yr Arglwydd eich Duw , a gwaeddwch ar yr Arglwydd ; Och o’r diwrnod ! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos , ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw . Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw , y bwyd , y llawenydd , a’r digrifwch ? Pydrodd yr hadau dan eu priddellau , yr ysguboriau a anrheithiwyd , yr ydlannau a fwriwyd i lawr ; canys yr ŷd a wywodd . O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid ! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg , am nad oes borfa iddynt ; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd . Arnat ti , Arglwydd , y llefaf ; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch , y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes . Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat ; canys sychodd y ffrydiau dwfr , a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch . Cenwch yr utgorn yn Seion , a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd : dychryned holl breswylwyr y wlad ; canys daeth dydd yr Arglwydd , canys y mae yn agos . Diwrnod tywyll du , diwrnod cymylog a niwlog , fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd : pobl fawr a chryfion , ni bu eu bath erioed , ac ni bydd eilwaith ar eu hôl , hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth . O’u blaen y difa y tân , ac ar eu hôl y fflam ; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys , ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig ; a hefyd ni ddianc dim ganddynt . Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch ; ac fel marchogion , felly y rhedant . Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant , fel sŵn tân ysol yn difa y sofl , ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel . O’u blaen yr ofna y bobl ; pob wyneb a gasgl barddu . Rhedant fel glewion , dringant y mur fel rhyfelwyr , a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun , ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau . Ni wthiant y naill y llall ; cerddant bob un ei lwybr ei hun : ac er eu syrthio ar y cleddyf , nid archollir hwynt . Gwibiant ar hyd y ddinas ; rhedant ar y mur , dringant i’r tai ; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr . O’u blaen y crŷn y ddaear , y nefoedd a gynhyrfir ; yr haul a’r lleuad a dywyllir , a’r sêr a ataliant eu llewyrch . A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu : canys mawr iawn yw ei wersyll ef : canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef : oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd , ac ofnadwy iawn ; a phwy a’i herys ? Ond yr awr hon , medd yr Arglwydd , Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon , ag ympryd hefyd , ac ag wylofain , ac â galar . A rhwygwch eich calon , ac nid eich dillad ; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw : oherwydd graslon a thrugarog yw efe , hwyrfrydig i ddigofaint , a mawr ei drugaredd , ac edifeiriol am ddrwg . Pwy a ŵyr a dry efe , ac edifarhau , a gweddill bendith ar ei ôl , sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r Arglwydd eich Duw ? Cenwch utgorn yn Seion , cysegrwch ympryd , gelwch gymanfa : Cesglwch y bobl ; cysegrwch y gynulleidfa : cynullwch yr henuriaid ; cesglwch y plant , a’r rhai yn sugno bronnau : deued y priodfab allan o’i ystafell , a’r briodferch allan o ystafell ei gwely . Wyled yr offeiriaid , gweinidogion yr Arglwydd , rhwng y porth a’r allor , a dywedant , Arbed dy bobl , O Arglwydd , ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth , i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt : paham y dywedent ymhlith y bobloedd , Pa le y mae eu Duw hwynt ? Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir , ac a arbed ei bobl . A’r Arglwydd a etyb , ac a ddywed wrth ei bobl , Wele fi yn anfon i chwi ŷd , a gwin , ac olew ; a diwellir chwi ohono : ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd . Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu , a gyrraf ef i dir sych diffaith , a’i wyneb tua môr y dwyrain , a’i ben ôl tua’r môr eithaf : a’i ddrewi a gyfyd , a’i ddrycsawr a â i fyny , am iddo wneuthur mawrhydri . Nac ofna di , ddaear ; gorfoledda a llawenycha : canys yr Arglwydd a wna fawredd . Nac ofnwch , anifeiliaid y maes : canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch ; canys y pren a ddwg ei ffrwyth , y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd . Chwithau , plant Seion , gorfoleddwch , ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw : canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol , ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf . A’r ysguboriau a lenwir o ŷd , a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri . A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn , pryf y rhwd , a’r locust , a’r lindys , fy llu mawr i , yr hwn a anfonais yn eich plith . Yna y bwytewch , gan fwyta ac ymddigoni ; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd : ac ni waradwyddir fy mhobl byth . A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel , ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , ac nid neb arall : a’m pobl nis gwaradwyddir byth . A bydd ar ôl hynny , y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd ; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant , eich henuriaid a welant freuddwydion , eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau : Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny . A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd ; ac yn y ddaear , gwaed , a thân , a cholofnau mwg . Yr haul a droir yn dywyllwch , a’r lleuad yn waed , o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd . A bydd , yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd : canys bydd ymwared , fel y dywedodd yr Arglwydd , ym mynydd Seion , ac yn Jerwsalem , ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd . Canys wele , yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem , Casglaf hefyd yr holl genhedloedd , a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat ; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl , a’m hetifeddiaeth Israel , y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd , a rhanasant fy nhir . Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau , a rhoddasant y bachgen er putain , a gwerthasant fachgennes er gwin , fel yr yfent . Tyrus hefyd a Sidon , a holl ardaloedd Palesteina , beth sydd i chwi a wneloch â mi ? a delwch i mi y pwyth ? ac os telwch i mi , buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain ; Am i chwi gymryd fy arian a’m haur , a dwyn i’ch temlau fy nhlysau dymunol . Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid , i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd . Wele , mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo , ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain . A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda , a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid , i genedl o bell ; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn . Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd , gosodwch ryfel , deffrowch y gwŷr cryfion , nesaed y gwŷr o ryfel , deuant i fyny . Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau , a’ch pladuriau yn waywffyn : dyweded y llesg , Cryf ydwyf . Ymgesglwch , a deuwch , y cenhedloedd o amgylch ogylch , ac ymgynullwch : yno disgyn , O Arglwydd , dy gedyrn . Deffroed y cenhedloedd , a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat : oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch . Rhowch i mewn y cryman ; canys aeddfedodd y cynhaeaf : deuwch , ewch i waered ; oherwydd y gwryf a lanwodd , a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd , am amlhau eu drygioni hwynt . Torfeydd , torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad : canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad . Yr haul a’r lloer a dywyllant , a’r sêr a ataliant eu llewyrch . A’r Arglwydd a rua o Seion , ac a rydd ei lef o Jerwsalem ; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant : ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl , a chadernid meibion Israel . Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yn trigo yn Seion , fy mynydd sanctaidd : yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd , ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach . A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin , a’r bryniau a lifeiriant o laeth , a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr , a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd , ac a ddyfrha ddyffryn Sittim . Yr Aifft a fydd anghyfannedd , ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol , am y traha yn erbyn meibion Jwda , am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt . Eto Jwda a drig byth , a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth . Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais : canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion . Geiriau Amos , ( yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa , ) y rhai a welodd efe am Israel , yn nyddiau Usseia brenin Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel , ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd a rua o Seion , ac a rydd ei lef o Jerwsalem ; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant , a phen Carmel a wywa . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd tair o anwireddau Damascus , ac oherwydd pedair , ni throaf ymaith ei chosb hi : am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn . Ond anfonaf dân i dŷ Hasael , ac efe a ddifa balasau Benhadad . Drylliaf drosol Damascus , a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen , a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden ; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Gasa , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn , i’w rhoddi i fyny i Edom . Eithr anfonaf dân ar fur Gasa , ac efe a ddifa ei phalasau hi . A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod , a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon ; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron , a derfydd am weddill y Philistiaid , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Tyrus , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom , ac na chofiasant y cyfamod brawdol . Eithr anfonaf dân i fur Tyrus , ac efe a ddifa ei phalasau hi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Edom , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf , a llygru ei drugaredd , a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol , a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol . Eithr anfonaf dân i Teman , yr hwn a ddifa balasau Bosra . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau meibion Ammon , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead , er mwyn helaethu eu terfynau . Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba , ac efe a ddifa ei phalasau , gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel , gyda thymestl ar ddydd corwynt . A’u brenin a â yn gaeth , efe a’i benaethiaid ynghyd , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Moab , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch . Eithr anfonaf dân i Moab , yr hwn a ddifa balasau Cerioth : a Moab fydd marw mewn terfysg , gweiddi , a llais utgorn . A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi , a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Jwda , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd , ac na chadwasant ei ddeddfau ef ; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt , y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl . Eithr anfonaf dân i Jwda , ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Israel , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt werthu y cyfiawn am arian , a’r tlawd er pâr o esgidiau : Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion , ac a wyrant ffordd y gostyngedig : a gŵr a’i dad a â at yr un llances , i halogi fy enw sanctaidd . Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor ; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw . Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt , yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd , ac efe oedd gryf fel derw ; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd , a’i wraidd oddi tanodd . Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft , ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch , i feddiannu gwlad yr Amoriad . A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi , ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid . Oni bu hyn , O meibion Israel ? medd yr Arglwydd Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed ; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi , gan ddywedyd , Na phroffwydwch . Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau . A metha gan y buan ddianc , a’r cryf ni chadarnha ei rym , a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun : Ni saif a ddalio y bwa , ni ddianc y buan o draed , nid achub marchog march ei einioes ei hun . A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd . Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi , plant Israel , yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft , gan ddywedyd , Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear : am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau . A rodia dau ynghyd , heb fod yn gytûn ? A rua y llew yn y goedwig , heb ganddo ysglyfaeth ? a leisia cenau llew o’i ffau , heb ddal dim ? A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear , heb fod croglath iddo ? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear , heb ddal dim ? A genir utgorn yn y ddinas , heb ddychrynu o’r bobl ? a fydd niwed yn y ddinas , heb i’r Arglwydd ei wneuthur ? Canys ni wna yr Arglwydd ddim , a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi . Rhuodd y llew , pwy nid ofna ? yr Arglwydd Iôr a lefarodd , pwy ni phroffwyda ? Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod , ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft , a dywedwch , Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria , a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn , a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi . Canys ni fedrant wneuthur uniondeb , medd yr Arglwydd : pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gelyn fydd o amgylch y tir ; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt , a’th balasoedd a ysbeilir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes , neu ddarn o glust ; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely , ac yn Damascus mewn gorweddle . Gwrandewch , a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob , medd yr Arglwydd Dduw , Duw y lluoedd , Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef , y gofwyaf hefyd allorau Bethel : a chyrn yr allor a dorrir , ac a syrthiant i’r llawr . A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy ; a derfydd am y tai ifori , a bydd diben ar y teiau mawrion , medd yr Arglwydd . Gwrandewch y gair hwn , gwartheg Basan , y rhai ydych ym mynydd Samaria , y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd , yn ysigo yr anghenog , yn dywedyd wrth eu meistriaid , Dygwch , ac yfwn . Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd , y daw , wele , y dyddiau arnoch , y dwg efe chwi ymaith â drain , a’ch hiliogaeth â bachau pysgota . A chwi a ewch allan i’r adwyau , bob un ar ei chyfer ; a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas , medd yr Arglwydd . Deuwch i Bethel , a throseddwch ; i Gilgal , a throseddwch fwyfwy : dygwch bob bore eich aberthau , a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau ; Ac offrymwch o surdoes aberth diolch , cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd : canys hyn a hoffwch , meibion Israel , medd yr Arglwydd Dduw . A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd , ac eisiau bara yn eich holl leoedd : eto ni ddychwelasoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch , pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf : glawiais hefyd ar un ddinas , ac ni lawiais ar ddinas arall : un rhan a gafodd law ; a’r rhan ni chafodd law a wywodd . Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas , i yfed dwfr ; ond nis diwallwyd : eto ni ddychwelasoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Trewais chwi â diflaniad , ac â mallter : pan amlhaodd eich gerddi , a’ch gwinllannoedd , a’ch ffigyswydd , a’ch olewydd , y lindys a’u hysodd : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Anfonais yr haint yn eich mysg , megis yn ffordd yr Aifft : eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf , gyda chaethgludo eich meirch ; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Mi a ddymchwelais rai ohonoch , fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra ; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti , Israel : ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti , bydd barod , Israel , i gyfarfod â’th Dduw . Canys wele , Lluniwr y mynyddoedd , a Chreawdwr y gwynt , yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl , ac a wna y bore yn dywyllwch , ac a gerdd ar uchelderau y ddaear , yr Arglwydd , Duw y lluoedd , yw ei enw . Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn , sef galarnad , O dŷ Israel . Y wyry Israel a syrthiodd ; ni chyfyd mwy : gadawyd hi ar ei thir ; nid oes a’i cyfyd . Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Y ddinas a aeth allan â mil , a weddill gant ; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed , a weddill ddeg i dŷ Israel . Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel ; Ceisiwch fi , a byw fyddwch . Ond nac ymgeisiwch â Bethel , ac nac ewch i Gilgal , ac na thramwywch i Beerseba : oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal , a Bethel a fydd yn ddiddim . Ceisiwch yr Arglwydd , a byw fyddwch ; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân , a’i ddifa , ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel . Y rhai a drowch farn yn wermod , ac a adewch gyfiawnder ar y llawr , Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren , ac Orion , ac a dry gysgod angau yn foreddydd , ac a dywylla y dydd yn nos ; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr , ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear : Yr Arglwydd yw ei enw : Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf , fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa . Cas ganddynt a geryddo yn y porth , a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith . Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd , a dwyn y beichiau gwenith oddi arno ; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd , ond ni thrigwch ynddynt ; planasoch winllannoedd hyfryd , ac nid yfwch eu gwin hwynt . Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer , a’ch pechodau cryfion : y maent yn blino y cyfiawn , yn cymryd iawn , ac yn troi heibio y tlawd yn y porth . Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw : canys amser drwg yw . Ceisiwch ddaioni , ac nid drygioni ; fel y byddoch fyw : ac felly yr Arglwydd , Duw y lluoedd , fydd gyda chwi , fel y dywedasoch . Casewch ddrygioni , a hoffwch ddaioni , a gosodwch farn yn y porth : fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw y lluoedd , yr Arglwydd ; Ym mhob heol y bydd cwynfan , ac ym mhob priffordd y dywedant , O ! O ! a galwant yr arddwr i alaru ; a’r neb a fedro alaru , i gwynfan . Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan : canys tramwyaf trwy dy ganol di , medd yr Arglwydd . Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd ! beth yw hwnnw i chwi ? tywyllwch , ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd . Megis pe ffoai gŵr rhag llew , ac arth yn cyfarfod ag ef ; a myned i’r tŷ , a phwyso ei law ar y pared , a’i frathu o sarff . Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch , ac nid yn oleuni ? yn dywyll iawn , ac heb lewyrch ynddo ? Caseais a ffieiddiais eich gwyliau , ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd . Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau , a’ch offrymau bwyd , ni fyddaf fodlon iddynt ; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion . Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau : canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau . Ond rheded barn fel dyfroedd , a chyfiawnder fel ffrwd gref . A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd , tŷ Israel ? Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn , eich delwau , seren eich duw , a wnaethoch i chwi eich hunain . Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus , medd yr Arglwydd ; Duw y lluoedd yw ei enw . Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion , ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria , y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd , y rhai y daeth tŷ Israel atynt ! Tramwywch i Calne , ac edrychwch , ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf ; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid : ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn ? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi ? Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg , ac yn nesáu eisteddle trais ; Gorwedd y maent ar welyau ifori , ac ymestyn ar eu glythau , a bwyta yr ŵyn o’r praidd , a’r lloi o ganol y cut ; Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl ; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd , megis Dafydd ; Y rhai a yfant win mewn ffiolau , ac a ymirant â’r ennaint pennaf ; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff . Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth ; a gwledd y rhai a ymestynnant , a symudir . Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun , Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob , a chaseais ei balasau : am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . A bydd , os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion , y byddant feirw . Ei ewythr a’i cyfyd i fyny , a’r hwn a’i llysg , i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ , ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ , A oes eto neb gyda thi ? ac efe a ddywed , Nac oes : yna y dywed yntau , Taw ; am na wasanaetha cofio enw yr Arglwydd . Oherwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn , ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau , a’r tŷ bychan â holltau . A red meirch ar y graig ? a ardd neb hi ag ychen ? canys troesoch farn yn fustl , a ffrwyth cyfiawnder yn wermod . O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim , yn dywedyd , Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder ? Ond wele , mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi , tŷ Israel , medd Arglwydd Dduw y lluoedd , genedl ; a hwy a’ch cystuddiant chwi , o’r ffordd yr ewch i Hamath , hyd afon y diffeithwch . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi ; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi ; ac wele , adladd wedi lladd gwair y brenin oedd . A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir , yna y dywedais , Arbed , Arglwydd , atolwg : pwy a gyfyd Jacob ? canys bychan yw . Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn : Ni bydd hyn , eb yr Arglwydd . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi : ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân ; a difaodd y tân y dyfnder mawr , ac a ysodd beth . Yna y dywedais , Arglwydd Dduw , paid , atolwg : pwy a gyfyd Jacob ? canys bychan yw . Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn : Ni bydd hyn chwaith , eb yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dangosodd efe i mi : ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn , ac yn ei law linyn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di , Amos ? a mi a ddywedais , Llinyn . A’r Arglwydd a ddywedodd , Wele , gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel , ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach . Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd , a chysegrau Israel a ddifethir ; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf . Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel , gan ddywedyd , Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel : ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef . Canys fel hyn y dywed Amos , Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf , ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad . Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos , Ti weledydd , dos , ffo ymaith i wlad Jwda ; a bwyta fara yno , a phroffwyda yno : Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy : canys capel y brenin a llys y brenin yw . Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia , Nid proffwyd oeddwn i , ac nid mab i broffwyd oeddwn i : namyn bugail oeddwn i , a chasglydd ffigys gwylltion : A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd ; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos , a phroffwyda i’m pobl Israel . Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd ; Ti a ddywedi , Na phroffwyda yn erbyn Israel , ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dy wraig a buteinia yn y ddinas , dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf , a’th dir a rennir wrth linyn ; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig , a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi ; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf . Ac efe a ddywedodd , Beth a weli di , Amos ? A mi a ddywedais , Cawellaid o ffrwythydd haf . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel ; nid af heibio iddynt mwyach . Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd Dduw : llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle ; bwrir hwynt allan yn ddistaw . Gwrandewch hyn , y sawl ydych yn llyncu yr anghenog , i ddifa tlodion y tir , Gan ddywedyd , Pa bryd yr â y mis heibio , fel y gwerthom ŷd ? a’r Saboth , fel y dygom allan y gwenith , gan brinhau yr effa , a helaethu y sicl , ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll ? I brynu y tlawd er arian , a’r anghenus er pâr o esgidiau , ac i werthu gwehilion y gwenith ? Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob , Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt . Oni chrŷn y ddaear am hyn ? ac oni alara ei holl breswylwyr ? cyfyd hefyd i gyd fel llif ; a bwrir hi ymaith , a hi a foddir , megis gan afon yr Aifft . A’r dydd hwnnw , medd yr Arglwydd Dduw , y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd , a thywyllaf y ddaear liw dydd golau . Troaf hefyd eich gwyliau yn alar , a’ch holl ganiadau yn oernad : dygaf sachliain ar yr holl lwynau , a moelni ar bob pen : a mi a’i gwnaf fel galar am unmab , a’i ddiwedd fel dydd chwerw . Wele , y mae y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd Dduw , yr anfonaf newyn i’r tir ; nid newyn am fara , ac nid syched am ddwfr , ond am wrando geiriau yr Arglwydd . A hwy a grwydrant o fôr i fôr , ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain , i geisio gair yr Arglwydd , ac nis cânt . Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched . Y rhai a dyngant i bechod Samaria , ac a ddywedant , Byw yw dy dduw di , O Dan ; a , Byw yw ffordd Beerseba ; hwy a syrthiant , ac ni chodant mwy . Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor : ac efe a ddywedodd , Taro gapan y drws , fel y siglo y gorsingau ; a thor hwynt oll yn y pen ; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf : ni ffy ymaith ohonynt a ffo , ac ni ddianc ohonynt a ddihango . Pe cloddient hyd uffern , fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno ; a phe dringent i’r nefoedd , mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno : A phe llechent ar ben Carmel , chwiliwn , a chymerwn hwynt oddi yno ; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr , oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt : Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion , oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf , ac efe a’u lladd hwynt : a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg , ac nid er da iddynt . Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear , a hi a dawdd ; a galara pawb a’r a drig ynddi , a hi a gyfyd oll fel llifeiriant , ac a foddir megis gan afon yr Aifft . Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd , ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear , yr hwn a eilw ddyfroedd y môr , ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear : Yr Arglwydd yw ei enw . Onid ydych chwi , meibion Israel , i mi fel meibion yr Ethiopiaid ? medd yr Arglwydd : oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft , a’r Philistiaid o Cafftor , a’r Syriaid o Cir ? Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus , a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear : ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob , medd yr Arglwydd . Canys wele , myfi a orchmynnaf , ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd , fel y gogrynir ŷd mewn gogr ; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr . Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf , y rhai a ddywedant , Ni oddiwedd drwg ni , ac ni achub ein blaen . Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd , yr hon a syrthiodd , ac a gaeaf ei bylchau , ac a godaf ei hadwyau , ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt : Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt , weddill Edom , a’r holl genhedloedd , medd yr Arglwydd , yr hwn a wna hyn . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y goddiwedd yr arddwr y medelwr , a sathrydd y grawnwin yr heuwr had ; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin , a’r holl fryniau a doddant . A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel ; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd , ac a’u preswyliant ; a hwy a blannant winllannoedd , ac a yfant o’u gwin ; gwnânt hefyd erddi , a bwytânt eu ffrwyth hwynt . Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir , ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt , medd yr Arglwydd dy Dduw . Gweledigaeth Obadeia . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom ; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd , a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd ; Codwch , a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi . Wele , mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd ; dibris iawn wyt . Balchder dy galon a’th dwyllodd : ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig , yn uchel ei drigfa ; yr hwn a ddywed yn ei galon , Pwy a’m tyn i’r llawr ? Ped ymddyrchefit megis yr eryr , a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr , mi a’th ddisgynnwn oddi yno , medd yr Arglwydd . Pe delai lladron atat , neu ysbeilwyr nos , ( pa fodd y’th dorrwyd ymaith ! ) oni ladratasent hwy eu digon ? pe delsai cynullwyr grawnwin atat , oni weddillasent rawn ? Pa fodd y chwiliwyd Esau , ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef ! Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt , a’th yrasant hyd y terfyn ; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt , a’th dwyllasant , ac a’th orfuant , bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat : nid oes deall ynddo . Oni ddinistriaf y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y doethion allan o Edom , a’r deall allan o fynydd Esau ? Dy gedyrn di , Teman , a ofnant ; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa . Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob , gwarth a’th orchuddia , a thi a dorrir ymaith byth . Y dydd y sefaist o’r tu arall , y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef , a myned o ddieithriaid i’w byrth ef , a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem , tithau hefyd oeddit megis un ohonynt . Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd , y dydd y dieithriwyd ef ; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda , y dydd y difethwyd hwynt ; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd . Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd ; ie , ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd ; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt : Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd , i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono ; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd . Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd : fel y gwnaethost , y gwneir i tithau ; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun . Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd , felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad ; ie , yfant , a llyncant , a byddant fel pe na buasent . Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared , ac y bydd sancteiddrwydd ; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt . Yna y bydd tŷ Jacob yn dân , a thŷ Joseff yn fflam , a thŷ Esau yn sofl , a chyneuant ynddynt , a difânt hwynt ; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau : canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau . a’r gwastadedd y Philistiaid ; a pherchenogant feysydd Effraim , a meysydd Samaria , a Benjamin a feddianna Gilead ; A chaethglud y llu hwn o blant Israel , yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid , hyd Sareffath ; a chaethion Jerwsalem , y rhai sydd yn Seffarad , a feddiannant ddinasoedd y deau . A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau : a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Ninefe y ddinas fawr , a llefa yn ei herbyn ; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron . A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd : ac efe a aeth i waered i Jopa , ac a gafodd long yn myned i Tarsis , ac a dalodd ei llong-log hi , ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis , oddi gerbron yr Arglwydd . Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr , a bu yn y môr dymestl fawr , fel y tybygwyd y drylliai y llong . Yna y morwyr a ofnasant , ac a lefasant bob un ar ei dduw , a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr , i ymysgafnhau ohonynt : ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong , ac a orweddasai , ac a gysgasai . A meistr y llong a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddarfu i ti , gysgadur ? cyfod , galw ar dy Dduw : fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym , fel na’n coller . A dywedasant bob un wrth ei gyfaill , Deuwch , a bwriwn goelbrennau , fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom . A bwriasant goelbrennau , a’r coelbren a syrthiodd ar Jona . A dywedasant wrtho , Atolwg , dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn : beth yw dy gelfyddyd di ? ac o ba le y daethost ? pa le yw dy wlad ? ac o ba bobl yr wyt ti ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hebread ydwyf fi ; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd , yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir . A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr , ac a ddywedasant wrtho , Paham y gwnaethost hyn ? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd , oherwydd efe a fynegasai iddynt . A dywedasant wrtho , Beth a wnawn i ti , fel y gostego y môr oddi wrthym ? canys gweithio yr oedd y môr , a therfysgu . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Cymerwch fi , a bwriwch fi i’r môr ; a’r môr a ostega i chwi ; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi . Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir ; ond nis gallent : am fod y môr yn gweithio , ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy . Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd , a dywedasant , Atolwg , Arglwydd , atolwg , na ddifether ni am einioes y gŵr hwn , ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion : canys ti , O Arglwydd , a wnaethost fel y gwelaist yn dda . Yna y cymerasant Jona , ac a’i bwriasant ef i’r môr : a pheidiodd y môr â’i gyffro . A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr , ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd , ac a addunasant addunedau . A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona . A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos . A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn , Ac a ddywedodd , O’m hing y gelwais ar yr Arglwydd , ac efe a’m hatebodd ; o fol uffern y gwaeddais , a chlywaist fy llef . Ti a’m bwriaist i’r dyfnder , i ganol y môr ; a’r llanw a’m hamgylchodd : dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof . A minnau a ddywedais , Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid ; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd . Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid ; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch ; ymglymodd yr hesg am fy mhen . Disgynnais i odre’r mynyddoedd ; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd : eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos , O Arglwydd fy Nuw . Pan lewygodd fy enaid ynof , cofiais yr Arglwydd ; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd . Y neb a gadwant oferedd celwydd , a wrthodant eu trugaredd eu hun . A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti , talaf yr hyn a addunedais . Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn , ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych . A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Ninefe y ddinas fawr , a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt . A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe , yn ôl gair yr Arglwydd . A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod . A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod , ac efe a lefodd ac a ddywedodd , Deugain niwrnod fydd eto , a Ninefe a gwympir . A gwŷr Ninefe a gredasant i Dduw , ac a gyhoeddasant ympryd , ac a wisgasant sachliain , o’r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt . Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe , ac efe a gyfododd o’i frenhinfainc , ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg , ac a roddes amdano liain sach , ac a eisteddodd mewn lludw . Ac efe a barodd gyhoeddi , a dywedyd trwy Ninefe , trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion , gan ddywedyd , Dyn ac anifail , eidion a dafad , na phrofant ddim ; na phorant , ac nac yfant ddwfr . Gwisger dyn ac anifail â sachlen , a galwant ar Dduw yn lew : ie , dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus , ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo . Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau , a throi oddi wrth angerdd ei ddig , fel na ddifether ni ? A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt , droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus ; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt , ac nis gwnaeth . A bu ddrwg iawn gan Jona hyn , ac efe a ddigiodd yn fawr . Ac efe a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Atolwg i ti , Arglwydd , oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad ? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis ; am y gwyddwn dy fod di yn Dduw graslon a thrugarog , hwyrfrydig i ddig , aml o drugaredd , ac edifeiriol am ddrwg . Am hynny yn awr , O Arglwydd , cymer , atolwg , fy einioes oddi wrthyf : canys gwell i mi farw na byw . A’r Arglwydd a ddywedodd , Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot ? A Jona a aeth allan o’r ddinas , ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas , ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun , ac a eisteddodd dano yn y cysgod , hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas . A’r Arglwydd Dduw a ddarparodd gicaion , ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona , i fod yn gysgod uwch ei ben ef , i’w waredu o’i ofid : a bu Jona lawen iawn am y cicaion . A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth , ac efe a drawodd y cicaion , ac yntau a wywodd . A phan gododd haul , bu i Dduw ddarparu poethwynt y dwyrain ; a’r haul a drawodd ar ben Jona , fel y llewygodd , ac y deisyfodd farw o’i einioes , ac a ddywedodd , Gwell i mi farw na byw . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona , Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion ? Ac efe a ddywedodd , Da yw i mi ymddigio hyd angau . A’r Arglwydd a ddywedodd , Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho , ac ni pheraist iddo dyfu : mewn noswaith y bu , ac mewn noswaith y darfu : Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr , yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion , y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a’u llaw aswy , ac anifeiliaid lawer ? Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda , yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem . Gwrandewch , bobl oll ; clyw dithau , y ddaear , ac sydd ynddi ; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn , yr Arglwydd o’i deml sanctaidd . Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o’i le ; efe hefyd a ddisgyn , ac a sathr ar uchelderau y ddaear . A’r mynyddoedd a doddant tano ef , a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân , ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered . Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob , ac am bechodau tŷ Israel . Beth yw anwiredd Jacob ? onid Samaria ? Pa rai yw uchel leoedd Jwda ? onid Jerwsalem ? Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan ; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn , a datguddiaf ei sylfeini . A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau , a’i holl wobrau a losgir yn tân , a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig : oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt , ac yn wobr putain y dychwelant . Oherwydd hyn galaraf ac udaf ; cerddaf yn noeth ac yn llwm : gwnaf alar fel dreigiau , a gofid fel cywion y dylluan . Oherwydd dolurus yw ei harcholl : canys daeth hyd at Jwda ; daeth hyd borth fy mhobl , hyd Jerwsalem . Na fynegwch hyn yn Gath ; gan wylo nac wylwch ddim : ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra . Dos heibio , preswylferch Saffir , yn noeth dy warth : ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel , efe a dderbyn gennych ei sefyllfan . Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni ; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem . Preswylferch Lachis , rhwym y cerbyd wrth y buanfarch : dechreuad pechod yw hi i ferch Seion : canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel . Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath : tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel . Eto mi a ddygaf etifedd i ti , preswylferch Maresa : daw hyd Adulam , gogoniant Israel . Ymfoela , ac ymeillia am dy blant moethus : helaetha dy foelder fel eryr ; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt . Gwae a ddychmygo anwiredd , ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau ! pan oleuo y bore y gwnânt hyn ; am ei fod ar eu dwylo . Meysydd a chwenychant hefyd , ac a ddygant trwy drais ; a theiau , ac a’u dygant : gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ , dyn a’i etifeddiaeth . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg , yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono , ac ni rodiwch yn falch ; canys amser drygfyd yw . Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi , ac a alara alar gofidus , gan ddywedyd , Dinistriwyd ni yn llwyr ; newidiodd ran fy mhobl : pa fodd y dug ef oddi arnaf ! gan droi ymaith , efe a rannodd ein meysydd . Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd . Na phroffwydwch , meddant wrth y rhai a broffwydant : ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd . O yr hon a elwir Tŷ Jacob , a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd ? ai dyma ei weithredoedd ef ? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn ? Y rhai oedd fy mhobl ddoe , a godasant yn elyn : diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal , fel rhai yn dychwelyd o ryfel . Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch ; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth . Codwch , ac ewch ymaith ; canys nid dyma eich gorffwysfa : am ei halogi , y dinistria hi chwi â dinistr tost . Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd , a ddywed yn gelwyddog , Proffwydaf i ti am win a diod gadarn ; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn . Gan gasglu y’th gasglaf , Jacob oll : gan gynnull cynullaf weddill Israel ; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra , fel y praidd yng nghanol eu corlan : trystiant rhag amled dyn . Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt ; rhwygasant , a thramwyasant trwy y porth , ac aethant allan trwyddo , a thramwya eu brenin o’u blaen , a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt . Dywedais hefyd , Gwrandewch , atolwg , penaethiaid Jacob , a thywysogion tŷ Israel : Onid i chwi y perthyn gwybod barn ? Y rhai ydych yn casáu y da , ac yn hoffi y drwg , gan flingo eu croen oddi amdanynt , a’u cig oddi wrth eu hesgyrn ; Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl , a’u croen a flingant oddi amdanynt , a’u hesgyrn a ddrylliant , ac a friwant , megis i’r crochan , ac fel cig yn y badell . Yna y llefant ar yr Arglwydd , ac nis etyb hwynt ; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw , fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl , y rhai a frathant â’u dannedd , ac a lefant , Heddwch : a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt , darparant ryfel yn ei erbyn . Am hynny y bydd nos i chwi , fel na chaffoch weledigaeth ; a thywyllwch i chwi , fel na chaffoch ddewiniaeth : yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi , a’r dydd a ddua arnynt . Yna y gweledyddion a gywilyddiant , a’r dewiniaid a waradwyddir ; ie , pawb ohonynt a gaeant ar eu genau , am na rydd Duw ateb . Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd , ac o farn a nerth , i ddangos ei anwiredd i Jacob , a’i bechod i Israel . Gwrandewch hyn , atolwg , penaethiaid tŷ Jacob , a thywysogion tŷ Israel , y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn , ac yn gwyro pob uniondeb . Adeiladu Seion y maent â gwaed , a Jerwsalem ag anwiredd . Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr , a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog , a’r proffwydi a ddewiniant er arian ; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant , gan ddywedyd , Onid yw yr Arglwydd i’n plith ? ni ddaw drwg arnom . Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes , a Jerwsalem a fydd yn garneddau , a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig . A bydd yn niwedd y dyddiau , i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd ; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau ; a phobloedd a ddylifant ato . A chenhedloedd lawer a ânt , ac a ddywedant , Deuwch , ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd , ac i dŷ Dduw Jacob ; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd , ac yn ei lwybrau y rhodiwn : canys y gyfraith a â allan o Seion , a gair yr Arglwydd o Jerwsalem . Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer , ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell ; a thorrant eu cleddyfau yn sychau , a’u gwaywffyn yn bladuriau : ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl , ac ni ddysgant ryfel mwyach . Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren , heb neb i’w dychrynu ; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd . Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun , a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd . Yn y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y casglaf y gloff , ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan , a’r hon a ddrygais : A gwnaf y gloff yn weddill , a’r hon a daflwyd ymhell , yn genedl gref ; a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth . A thithau , tŵr y praidd , castell merch Seion , hyd atat y daw , ie , y daw yr arglwyddiaeth bennaf , y deyrnas i ferch Jerwsalem . Paham gan hynny y gwaeddi waedd ? onid oes ynot frenin ? a ddarfu am dy gynghorydd ? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor . Ymofidia a griddfana , merch Seion , fel gwraig yn esgor : oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas , a thrigi yn y maes ; ti a ei hyd Babilon : yno y’th waredir ; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion . Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn , gan ddywedyd , Haloger hi , a gweled ein llygaid hynny ar Seion . Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd , ac ni ddeallant ei gyngor ef : canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu . Cyfod , merch Seion , a dyrna ; canys gwnaf dy gorn yn haearn , a’th garnau yn bres ; a thi a ddrylli bobloedd lawer : a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt , a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear . Yr awr hon ymfyddina , merch y fyddin ; gosododd gynllwyn i’n herbyn : trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern . A thithau , Bethlehem Effrata , er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda , eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel ; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad , er dyddiau tragwyddoldeb . Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny , hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor : yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel . Ac efe a saif , ac a bortha â nerth yr Arglwydd , yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw ; a hwy a drigant : canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear . A hwn fydd yr heddwch , pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni : a phan sathro o fewn ein palasau , yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail , ac wyth o’r dynion pennaf . A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf , a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun : ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad , pan ddêl i’n tir , a phan sathro o fewn ein terfynau . A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl , fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd , megis cawodydd ar y gwelltglas , yr hwn nid erys ar ddyn , ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion . A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd , yng nghanol pobl lawer , fel llew ymysg bwystfilod y goedwig , ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid ; yr hwn , pan êl trwodd , a sathr ac a ysglyfaetha , ac ni bydd achubydd . Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr , a’th holl elynion a dorrir ymaith . A bydd y dwthwn hwnnw , medd yr Arglwydd , i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di , a dinistrio dy gerbydau : Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad , a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd : A thorraf ymaith o’th law y swynion , ac ni bydd i ti ddewiniaid : Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig , a’th ddelwau o’th blith ; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun : Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd ; a dinistriaf dy ddinasoedd . Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant . Gwrandewch , atolwg , y peth a ddywed yr Arglwydd ; Cyfod , ymddadlau â’r mynyddoedd , a chlywed y bryniau dy lais . Gwrandewch , y mynyddoedd , a chedyrn sylfeini y ddaear , gŵyn yr Arglwydd ; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl , ac efe a ymddadlau ag Israel . Fy mhobl , beth a wneuthum i ti ? ac ym mha beth y’th flinais ? tystiolaetha i’m herbyn . Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft , ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed , ac a anfonais o’th flaen Moses , Aaron , a Miriam . Fy mhobl , cofia , atolwg , beth a fwriadodd Balac brenin Moab , a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo , o Sittim hyd Gilgal ; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd . Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd , ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw ? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau , ac â dyniewaid ? A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn , neu â myrddiwn o ffrydiau olew ? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd , ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid ? Dangosodd efe i ti , ddyn , beth sydd dda : a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt , ond gwneuthur barn , a hoffi trugaredd , ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw ? Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas , a’r doeth a wêl dy enw : gwrandewch y wialen , a phwy a’i hordeiniodd . A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir , a’r mesur prin , peth sydd ffiaidd ? A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir , ac â chod o gerrig twyllodrus ? Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais , a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd ; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau . A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro , wrth dy anrheithio am dy bechodau . Ti a fwytei , ac ni’th ddigonir ; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun : ti a ymefli , ac nid achubi ; a’r hyn a achubych , a roddaf i’r cleddyf . Ti a heui , ond ni fedi ; ti a sethri yr olewydd , ond nid ymiri ag olew ; a gwin newydd , ond nid yfi win . Cadw yr ydys ddeddfau Omri , a holl weithredoedd Ahab , a rhodio yr ydych yn eu cynghorion : fel y’th wnawn yn anghyfannedd , a’i thrigolion i’w hwtio : am hynny y dygwch warth fy mhobl . Gwae fi ! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf , fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin ; nid oes swp o rawn i’w bwyta ; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf . Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear , ac nid oes un uniawn ymhlith dynion ; cynllwyn y maent oll am waed ; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd . I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol , y tywysog a ofyn , a’r barnwr am wobr ; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl : felly y plethant ef . Y gorau ohonynt sydd fel miaren , yr unionaf yn arwach na chae drain ; dydd dy wylwyr , a’th ofwy , sydd yn dyfod : bellach y bydd eu penbleth hwynt . Na chredwch i gyfaill , nac ymddiriedwch i dywysog : cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes . Canys mab a amharcha ei dad , y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam , a’r waudd yn erbyn ei chwegr : a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ . Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd , disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth : fy Nuw a’m gwrendy . Na lawenycha i’m herbyn , fy ngelynes : pan syrthiwyf , cyfodaf ; pan eisteddwyf mewn tywyllwch , yr Arglwydd a lewyrcha i mi . Dioddefaf ddig yr Arglwydd , canys pechais i’w erbyn ; hyd oni ddadleuo fy nghwyn , a gwneuthur i mi farn : efe a’m dwg allan i’r goleuad , a mi a welaf ei gyfiawnder ef . A’m gelynes a gaiff weled , a chywilydd a’i gorchuddia hi , yr hon a ddywedodd wrthyf , Mae yr Arglwydd dy Dduw ? fy llygaid a’i gwelant hi ; bellach y bydd hi yn sathrfa , megis tom yr heolydd . Y dydd yr adeiledir dy furiau , y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf . Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria , ac o’r dinasoedd cedyrn , ac o’r cadernid hyd yr afon , ac o fôr i fôr , ac o fynydd i fynydd . Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion , am ffrwyth eu gweithredoedd . Portha dy bobl â’th wialen , defaid dy etifeddiaeth , y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig , yng nghanol Carmel : porant yn Basan a Gilead , megis yn y dyddiau gynt . Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft , y dangosaf iddo ryfeddodau . Y cenhedloedd a welant , ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt : rhoddant eu llaw ar eu genau ; eu clustiau a fyddarant . Llyfant y llwch fel sarff ; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau : arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni , ac o’th achos di yr ofnant . Pa Dduw sydd fel tydi , yn maddau anwiredd , ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth ? ni ddeil efe ei ddig byth , am fod yn hoff ganddo drugaredd . Efe a ddychwel , efe a drugarha wrthym : efe a ddarostwng ein hanwireddau ; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr . Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob , y drugaredd hefyd i Abraham , yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt . Baich Ninefe . Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad . Duw sydd eiddigus , a’r Arglwydd sydd yn dial ; yr Arglwydd sydd yn dial , ac yn berchen llid : dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr , a dal dig y mae efe i’w elynion . Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig , a mawr ei rym , ac ni ddieuoga yr anwir : yr Arglwydd sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy , a’r cymylau yw llwch ei draed ef . Efe a gerydda y môr , ac a’i sych ; yr holl afonydd a ddihysbydda efe : llesgaodd Basan a Charmel , a llesgaodd blodeuyn Libanus . Y mynyddoedd a grynant rhagddo , a’r bryniau a doddant , a’r ddaear a lysg gan ei olwg , a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo . Pwy a saif o flaen ei lid ef ? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef ? ei lid a dywelltir fel tân , a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo . Daionus yw yr Arglwydd , amddiffynfa yn nydd blinder ; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo . A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi , a thywyllwch a erlid ei elynion ef . Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd ? efe a wna dranc ; ni chyfyd blinder ddwywaith . Canys tra yr ymddrysont fel drain , a thra meddwont fel meddwon , ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo . Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd : cynghorwr drygionus . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pe byddent heddychol , ac felly yn aml , eto fel hyn y torrir hwynt i lawr , pan elo efe heibio . Er i mi dy flino , ni’th flinaf mwyach . Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat , drylliaf dy rwymau . Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid , na heuer o’th enw mwyach : torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw : gwnaf dy fedd ; canys gwael ydwyt . Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr , cyhoeddwr heddwch : cadw di , O Jwda , dy wyliau , tâl dy addunedau : canys nid â y drygionus trwot mwy ; cwbl dorrwyd ef ymaith . Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb : cadw yr amddiffynfa , gwylia y ffordd , nertha dy lwynau , cadarnha dy nerth yn fawr . Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob , fel ardderchowgrwydd Israel : canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt , ac a lygrasant eu cangau gwinwydd . Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch , ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad ; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy , a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol . Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd , trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd : eu gwelediad fydd fel fflamau , ac fel mellt y saethant . Efe a gyfrif ei weision gwychion ; tramgwyddant wrth gerdded ; prysurant at ei chaer hi , a’r amddiffyn a baratoir . Pyrth y dwfr a agorir , a’r palas a ymddetyd . A Hussab a gaethgludir , dygir hi i fyny , a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod , yn curo ar eu dwyfronnau . A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr : ond hwy a ffoant . Sefwch , sefwch , meddant ; ac ni bydd a edrycho yn ôl . Ysglyfaethwch arian , ysglyfaethwch aur ; canys nid oes diben ar yr ystôr , a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol . Gwag , a gorwag , ac anrheithiedig yw hi , a’r galon yn toddi , a’r gliniau yn taro ynghyd , ac anhwyl ar bob lwynau , a’u hwynebau oll a gasglant barddu . Pa le y mae trigfa y llewod , a phorfa cenawon y llewod ? lle y rhodiai y llew , sef yr hen lew , a’r cenau llew , ac nid oedd a’u tarfai ? Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon , ac a dagodd i’w lewesau , ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau , a’i loches ag ysbail . Wele fi yn dy erbyn , medd Arglwydd y lluoedd ; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg , a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc ; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth , ac ni chlywir mwy lais dy genhadau . Gwae ddinas y gwaed ! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd , a’r ysglyfaeth heb ymado . Bydd sŵn y ffrewyll , a sŵn cynnwrf olwynion , a’r march yn prancio , a’r cerbyd yn neidio . Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw , a’i ddisglair waywffon ; lliaws o laddedigion , ac aneirif o gelanedd ; a heb ddiwedd ar y cyrff : tripiant wrth eu cyrff hwynt : Oherwydd aml buteindra y butain deg , meistres swynion , yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra , a theuluoedd trwy ei swynion . Wele fi i’th erbyn , medd Arglwydd y lluoedd , a datguddiaf dy odre ar dy wyneb , a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni , ac i deyrnasoedd dy warth . A thaflaf ffiaidd bethau arnat , a gwnaf di yn wael , a gosodaf di yn ddrych . A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt , a dywedyd , Anrheithiwyd Ninefe , pwy a gwyna iddi ? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti ? Ai gwell ydwyt na No dylwythog , yr hon a osodir rhwng yr afonydd , ac a amgylchir â dyfroedd , i’r hon y mae y môr yn rhagfur , a’i mur o’r môr ? Ethiopia oedd ei chadernid , a’r Aifft , ac aneirif : Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti . Er hynny hi a dducpwyd ymaith , hi a gaethgludwyd ; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol ; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau , a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau . Tithau hefyd a feddwi ; byddi guddiedig ; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn . Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt : os ysgydwir hwynt , syrthiant yn safn y bwytawr . Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di : pyrth dy dir a agorir i’th elynion ; tân a ysodd dy farrau . Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae , cadarnha dy amddiffynfeydd ; dos i’r dom , sathr y clai , cryfha yr odyn briddfaen . Yno y tân a’th ddifa , y cleddyf a’th dyr ymaith , efe a’th ysa di fel pryf y rhwd ; ymluosoga fel pryf y rhwd , ymluosoga fel y ceiliog rhedyn . Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd : difwynodd pryf y rhwd , ac ehedodd ymaith . Dy rai coronog sydd fel y locustiaid , a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr , y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog , ond pan gyfodo yr haul , hwy a ehedant ymaith , ac ni adwaenir eu man lle y maent . Dy fugeiliaid , brenin Asyria , a hepiant ; a’th bendefigion a orweddant ; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd , ac ni bydd a’u casglo . Ni thynnir dy archoll ynghyd , clwyfus yw dy weli ; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat ; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser ? Y baich a welodd y proffwyd Habacuc . Pa hyd , Arglwydd , y gwaeddaf , ac nis gwrandewi ! y bloeddiaf arnat rhag trais , ac nid achubi ! Paham y gwnei i mi weled anwiredd , ac y peri i mi edrych ar flinder ? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i ; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson . Am hynny yr oedir cyfraith , ac nid â barn allan byth : am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn ; am hynny cam farn a â allan . Gwelwch ymysg y cenhedloedd , ac edrychwch , rhyfeddwch yn aruthrol : canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau , ni choeliwch er ei mynegi i chwi . Canys wele fi yn codi y Caldeaid , cenedl chwerw a phrysur , yr hon a rodia ar hyd lled y tir , i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt . Y maent i’w hofni ac i’w harswydo : ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth . A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid , a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr : eu marchogion hefyd a ymdaenant , a’u marchogion a ddeuant o bell ; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd . Hwy a ddeuant oll i dreisio ; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain , a hwy a gasglant gaethion fel y tywod . A hwy a watwarant frenhinoedd , a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt : hwy a watwarant yr holl gestyll , ac a gasglant lwch , ac a’i goresgynnant . Yna y newidia ei feddwl , ac yr â trosodd , ac a drosedda , gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun . Onid wyt ti er tragwyddoldeb , O Arglwydd fy Nuw , fy Sanctaidd ? ni byddwn feirw . O Arglwydd , ti a’u gosodaist hwy i farn , ac a’u sicrheaist , O Dduw , i gosbedigaeth . Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg , ac ni elli edrych ar anwiredd : paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid , ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun ? Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr , fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt ? Cyfodant hwynt oll â’r bach ; casglant hwynt yn eu rhwyd , a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd : am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant . Am hynny yr aberthant i’w rhwyd , ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd : canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew , a’u bwyd yn fras . A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd , ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol ? Safaf ar fy nisgwylfa , ac ymsefydlaf ar y tŵr , a gwyliaf , i edrych beth a ddywed efe wrthyf , a pha beth a atebaf pan y’m cerydder . A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd , Ysgrifenna y weledigaeth , a gwna hi yn eglur ar lechau , fel y rhedo yr hwn a’i darlleno . Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig , ond hi a ddywed o’r diwedd , ac ni thwylla : os erys , disgwyl amdani ; canys gan ddyfod y daw , nid oeda . Wele , yr hwn a ymchwydda , nid yw uniawn ei enaid ynddo : ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd . A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win , gŵr balch yw efe , ac heb aros gartref , yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern , ac y mae fel angau , ac nis digonir ; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd , ac a gynnull ato yr holl bobloedd . Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb , a gair du yn ei erbyn , a dywedyd , Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo ! pa hyd ? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew ! Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant , ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant , a thi a fyddi yn wasarn iddynt ? Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer , holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau : am waed dynion , ac am y trais ar y tir , ar y ddinas , ac ar oll a drigant ynddi . Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ , i osod ei nyth yn uchel , i ddianc o law y drwg ! Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ , wrth ddistrywio pobloedd lawer ; pechaist yn erbyn dy enaid . Oherwydd y garreg a lefa o’r mur , a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed . Gwae a adeilado dref trwy waed , ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd ! Wele , onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae , bod i’r bobl ymflino yn y tân , ac i’r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd ? Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd , fel y toa y dyfroedd y môr . Gwae a roddo ddiod i’w gymydog : yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel , ac yn ei feddwi hefyd , er cael gweled eu noethni hwynt ! Llanwyd di o warth yn lle gogoniant ; yf dithau hefyd , a noether dy flaengroen : ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti , a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant . Canys trais Libanus a’th orchuddia , ac anrhaith yr anifeiliaid , yr hwn a’u dychrynodd hwynt , o achos gwaed dynion , a thrais y tir , y ddinas ac oll a drigant ynddi . Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig , ddarfod i’w lluniwr ei cherfio ; i’r ddelw dawdd , ac athro celwydd , fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo , i wneuthur eilunod mudion ? Gwae a ddywedo wrth bren , Deffro ; wrth garreg fud , Cyfod , efe a rydd addysg : wele , gwisgwyd ef ag aur ac arian , a dim anadl nid oes o’i fewn . Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd : y ddaear oll , gostega di ger ei fron ef . Gweddi Habacuc y proffwyd , ar Sigionoth . Clywais , O Arglwydd , dy air , ac ofnais : O Arglwydd , bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd , pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd ; yn dy lid cofia drugaredd . Duw a ddaeth o Teman , a’r Sanctaidd o fynydd Paran . Sela . Ei ogoniant a dodd y nefoedd , a’r ddaear a lanwyd o’i fawl . A’i lewyrch oedd fel goleuni : yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law ; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder . Aeth yr haint o’i flaen ef , ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef . Safodd , a mesurodd y ddaear ; edrychodd , a gwasgarodd y cenhedloedd : y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd , a’r bryniau oesol a grymasant : llwybrau tragwyddol sydd iddo . Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan : crynodd llenni tir Midian . A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd ? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig ? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint , gan i ti farchogaeth ar dy feirch , ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth ? Llwyr noethwyd dy fwa , yn ôl llwon y llwythau , sef dy air di . Sela . Holltaist y ddaear ag afonydd . Y mynyddoedd a’th welsant , ac a grynasant ; y llifeiriant dwfr a aeth heibio ; y dyfnder a wnaeth dwrf ; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel . Yr haul a’r lleuad a safodd yn eu preswylfa ; wrth oleuad dy saethau yr aethant , ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair . Mewn llid y cerddaist y ddaear , a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter . Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl , er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog : torraist y pen allan o dŷ yr anwir , gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf . Sela . Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun ; rhyferthwyasant i’m gwasgaru ; ymlawenhasant , megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch . Rhodiaist â’th feirch trwy y môr , trwy bentwr o ddyfroedd mawrion . Pan glywais , fy mol a ddychrynodd ; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef : daeth pydredd i’m hesgyrn , ac yn fy lle y crynais , fel y gorffwyswn yn nydd trallod : pan ddêl efe i fyny at y bobl , efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd . Er i’r ffigysbren na flodeuo , ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd ; gwaith yr olewydd a balla , a’r meysydd ni roddant fwyd ; torrir ymaith y praidd o’r gorlan , ac ni bydd eidion yn eu beudai : Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd ; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth . Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth , a’m traed a wna efe fel traed ewigod ; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd . I’r pencerdd ar fy offer tannau . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi , fab Gedaleia , fab Amareia , fab Heseceia , yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda . Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear , medd yr Arglwydd . Distrywiaf ddyn ac anifail ; distrywiaf adar yr awyr , a physgod y môr ; a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion ; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear , medd yr Arglwydd . Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda , ac ar holl breswylwyr Jerwsalem ; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal , ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid ; A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd ; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd , a hefyd a dyngant i Malcham ; A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd ; a’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd , ac nid ymofynasant amdano . Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw ; canys agos yw dydd yr Arglwydd : oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth , gwahoddodd ei wahoddedigion . A bydd , ar ddydd aberth yr Arglwydd , i mi ymweled â’r tywysogion , ac â phlant y brenin , ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr . Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw , y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll . A’r dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y bydd llais gwaedd o borth y pysgod , ac udfa o’r ail , a drylliad mawr o’r bryniau . Udwch , breswylwyr Machtes : canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion ; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith . A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau , ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod ; y rhai a ddywedant yn eu calon , Ni wna yr Arglwydd dda , ac ni wna ddrwg . Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail , a’u teiau yn anghyfannedd : adeiladant hefyd dai , ond ni phreswyliant ynddynt ; a phlannant winllannoedd , ond nid yfant o’r gwin . Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd , agos a phrysur iawn , sef llais dydd yr Arglwydd : yno y bloeddia y dewr yn chwerw . Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw , diwrnod trallod a chyfyngdra , diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra , diwrnod tywyll a du , diwrnod cymylau a thywyllni . Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog , ac yn erbyn y tyrau uchel . A mi a gyfyngaf ar ddynion , a hwy a rodiant megis deillion , am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd ; a’u gwaed a dywelltir fel llwch , a’u cnawd fel tom . Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd ; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir : canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear . Ymgesglwch , ie , deuwch ynghyd , genedl anhawddgar ; Cyn i’r ddeddf esgor , cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn , cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd , cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd . Ceisiwch yr Arglwydd , holl rai llariaidd y ddaear , y rhai a wnaethant ei farn ef ; ceisiwch gyfiawnder , ceisiwch larieidd-dra : fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd . Canys bydd Gasa yn wrthodedig , ac Ascalon yn anghyfannedd : gyrrant allan Asdod hanner dydd , a diwreiddir Ecron . Gwae breswylwyr glan y môr , cenedl y Cerethiaid ! y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn : O Ganaan , gwlad y Philistiaid , mi a’th ddifethaf , fel na byddo cyfanheddwr . A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid , ac yn gorlannau defaid . A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda ; porant arnynt : yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr : canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt , ac a ddychwel eu caethiwed . Clywais waradwyddiad Moab , a chabledd meibion Ammon , â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl , ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt . Am hynny fel mai byw fi , medd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Fel Sodom y bydd Moab , a meibion Ammon fel Gomorra : danhadldir , a phyllau halen , ac anghyfanheddle tragwyddol : gweddill fy mhobl a’u difroda , a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt . Hyn a ddaw iddynt am eu balchder , am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd . Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt : canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear ; ac addolant ef bob un o’i fan , sef holl ynysoedd y cenhedloedd . Chwithau hefyd , yr Ethiopiaid , a leddir â’m cleddyf . Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd , ac a ddifetha Asyria , ac a wna Ninefe yn anghyfannedd , ac yn sych fel diffeithwch . A diadellau a orweddant yn ei chanol hi , holl anifeiliaid y cenhedloedd : y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws ; eu llais a gân yn y ffenestri ; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau : canys efe a ddinoetha y cedrwaith . Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal , yn dywedyd yn ei chalon , Myfi sydd , ac nid oes ond myfi : pa fodd yr aeth yn anghyfannedd , yn orweddfa anifeiliaid ! pawb a’r a êl heibio iddi , a’i hwtia , ac a ysgwyd ei law arni . Gwae y fudr a’r halogedig , y ddinas orthrymus ! Ni wrandawodd ar y llef , ni dderbyniodd gerydd ; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd , ni nesaodd at ei Duw . Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy ; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr , ni adawant asgwrn erbyn y bore . Ei phroffwydi sydd ysgafn , yn wŷr anffyddlon : ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr , treisiasant y gyfraith . Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol ; ni wna efe anwiredd : yn fore y dwg ei farn i oleuni , ni phalla ; ond yr anwir ni fedr gywilyddio . Torrais ymaith y cenhedloedd : eu tyrau sydd anghyfannedd ; diffeithiais eu heolydd , fel nad elo neb heibio ; eu dinasoedd a ddifwynwyd , heb ŵr , a heb drigiannol . Dywedais , Yn ddiau ti a’m hofni ; derbynni gerydd : felly ei thrigfa ni thorrid ymaith , pa fodd bynnag yr ymwelais â hi : eto boregodasant , a llygrasant eu holl weithredoedd . Am hynny disgwyliwch arnaf fi , medd yr Arglwydd , hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth : canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd , ar gasglu y teyrnasoedd , i dywallt arnynt fy llid , holl angerdd fy nigofaint : canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear . Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur , fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd . O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr , sef merch fy ngwasgaredig , fy offrwm . Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd , yn y rhai y pechaist i’m herbyn : canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder , fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd . Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion , ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy . Gweddill Israel ni wna anwiredd , ac ni ddywedant gelwydd ; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus : canys hwy a borant ac a orweddant , ac ni bydd a’u tarfo . Merch Seion , cân ; Israel , crechwena ; merch Jerwsalem , ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon . Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau , bwriodd allan dy elynion : yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol , nid ofni ddrwg mwyach . Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem , Nac ofna ; wrth Seion , Na laesed dy ddwylo . Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn : efe a achub , efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd ; efe a lonydda yn ei gariad , efe a ymddigrifa ynot dan ganu . Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa , y rhai sydd ohonot , i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich . Wele , mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant : ac a achubaf y gloff , a chasglaf y wasgaredig ; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth . Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn , yr amser y’ch casglaf : canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear , pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid , medd yr Arglwydd . Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius , yn y chweched mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad , gan ddywedyd , Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Y bobl hyn a ddywedant , Ni ddaeth yr amser , yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd . Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd , gan ddywedyd , Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig , a’r tŷ hwn yn anghyfannedd ? Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ystyriwch eich ffyrdd . Heuasoch lawer , a chludasoch ychydig ; bwyta yr ydych , ond nid hyd ddigon ; yfed , ac nid hyd fod yn ddiwall ; ymwisgasoch , ac nid hyd glydwr i neb ; a’r hwn a enillo gyflog , sydd yn casglu cyflog i god dyllog . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ystyriwch eich ffyrdd . Esgynnwch i’r mynydd , a dygwch goed , ac adeiledwch y tŷ ; mi a ymfodlonaf ynddo , ac y’m gogoneddir , medd yr Arglwydd . Edrychasoch am lawer , ac wele , yr oedd yn ychydig ; a phan ei dygasoch adref , chwythais arno . Am ba beth ? medd Arglwydd y lluoedd . Am fy nhŷ i , yr hwn sydd yn anghyfannedd , a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun . Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho , a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth . Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear , ac ar y mynyddoedd , ac ar yr ŷd ac ar y gwin , ac ar yr olew , ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan ; ar ddyn hefyd , ac ar anifail , ac ar holl lafur dwylo . Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel , a Josua mab Josedec yr archoffeiriad , a holl weddill y bobl , ar lais yr Arglwydd eu Duw , ac ar eiriau Haggai y proffwyd , megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef ; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd . Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl , gan ddywedyd , Yr wyf fi gyda chwi , medd yr Arglwydd . Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad , ac ysbryd holl weddill y bobl ; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt , Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis , yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin . Yn y seithfed mis , ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai , gan ddywedyd , Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad , ac wrth weddill y bobl , gan ddywedyd , Pwy yn eich plith a adawyd , yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf ? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon ? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim ? Eto yn awr ymgryfha , Sorobabel , medd yr Arglwydd ; ac ymgryfha , Josua mab Josedec yr archoffeiriad ; ac ymgryfhewch , holl bobl y tir , medd yr Arglwydd , a gweithiwch : canys yr ydwyf fi gyda chwi , medd Arglwydd y lluoedd : Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft , felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg : nac ofnwch . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Unwaith eto , ennyd fechan yw , a mi a ysgydwaf y nefoedd , a’r ddaear , a’r môr , a’r sychdir ; Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd , a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw : llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant , medd Arglwydd y lluoedd . Eiddof fi yr arian , ac eiddof fi yr aur , medd Arglwydd y lluoedd . Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf , medd Arglwydd y lluoedd : ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd , medd Arglwydd y lluoedd . Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis , yn yr ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith , gan ddywedyd , Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg , ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara , neu â’r cawl , neu â’r gwin , neu â’r olew , neu â dim o’r bwyd , a fyddant hwy sanctaidd ? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant , Na fyddant . A Haggai a ddywedodd , Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn , a fyddant hwy aflan ? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant , Byddant aflan . Yna yr atebodd Haggai , ac a ddywedodd , Felly y mae y bobl hyn , ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron , medd yr Arglwydd ; ac felly y mae holl waith eu dwylo , a’r hyn a aberthant yno , yn aflan . Ac yr awr hon meddyliwch , atolwg , o’r diwrnod hwn allan a chynt , cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd ; Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid , deg fyddai ; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn , ugain a fyddai yno . Trewais chwi â diflaniad , ac â mallter , ac â chenllysg , yn holl waith eich dwylo ; a chwithau ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt , o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis , ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd . A yw yr had eto yn yr ysgubor ? y winwydden hefyd , y ffigysbren , a’r pomgranad , a’r pren olewydd , ni ffrwythasant : o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi . A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai , ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis , gan ddywedyd , Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda , gan ddywedyd , Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear ; A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd , ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd ; ymchwelaf hefyd y cerbydau , a’r rhai a eisteddant ynddynt ; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant , bob un gan gleddyf ei frawd . Y diwrnod hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y’th gymeraf di , fy ngwas Sorobabel , mab Salathiel , medd yr Arglwydd , ac y’th wnaf fel sêl : canys mi a’th ddewisais di , medd Arglwydd y lluoedd . Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , mab Baracheia , mab Ido y proffwyd , gan ddywedyd , Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Dychwelwch ataf fi , medd Arglwydd y lluoedd , a mi a ddychwelaf atoch chwithau , medd Arglwydd y lluoedd . Na fyddwch fel eich tadau , y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg , ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus : ond ni chlywent , ac ni wrandawent arnaf , medd yr Arglwydd . Eich tadau , pa le y maent hwy ? a’r proffwydi , ydynt hwy yn fyw byth ? Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau , y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi , oddiwes eich tadau ? a hwy a ddychwelasant , ac a ddywedasant , Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni , yn ôl ein ffyrdd , ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun , felly y gwnaeth efe â ni . Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg , hwnnw yw mis Sebat , o’r ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , mab Baracheia , mab Ido y proffwyd , gan ddywedyd , Gwelais noswaith ; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch , ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant ; ac o’i ôl ef feirch cochion , brithion , a gwynion . Yna y dywedais , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf , Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn . A’r gŵr , yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd , a atebodd ac a ddywedodd , Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear . A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd , yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt , ac a ddywedasant , Rhodiasom trwy y ddaear ; ac wele yr holl ddaear yn eistedd , ac yn llonydd . Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd , O Arglwydd y lluoedd , pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem , a dinasoedd Jwda , wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn ? A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi , â geiriau daionus , a geiriau comfforddus . A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf , Gwaedda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion : A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw ; y rhai pan ddigiais ychydig , hwythau a gynorthwyasant y niwed . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau : fy nhŷ a adeiledir ynddi , medd Arglwydd y lluoedd , a llinyn a estynnir ar Jerwsalem . Gwaedda eto , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni , a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto , ac a ddewis Jerwsalem eto . A chodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele , bedwar corn . A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , Beth yw y rhai hyn ? Dywedodd yntau wrthyf , Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda , Israel , a Jerwsalem . A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd . Yna y dywedais , I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn ? Ac efe a lefarodd , gan ddywedyd , Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda , fel na chodai un ei ben : ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt , i daflu allan gyrn y Cenhedloedd , y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi . Dyrchefais fy llygaid drachefn , ac edrychais ; ac wele ŵr , ac yn ei law linyn mesur . A dywedais , I ba le yr ei di ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , I fesuro Jerwsalem , i weled beth yw ei lled hi , a pheth yw ei hyd hi . Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan , ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef . Ac efe a ddywedodd wrtho , Rhed , llefara wrth y llanc hwn , gan ddywedyd , Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi , rhag amled dyn ac anifail o’i mewn . Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch , medd yr Arglwydd , a byddaf yn ogoniant yn ei chanol . Ho , ho , deuwch allan , a ffowch o wlad y gogledd , medd yr Arglwydd : canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd , medd yr Arglwydd . O Seion , ymachub , yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi : canys a gyffyrddo â chwi , sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef . Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt , a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision : a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd . Cân a llawenycha , merch Seion : canys wele fi yn dyfod ; a mi a drigaf yn dy ganol di , medd yr Arglwydd . A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd , ac a fyddant bobl i mi : a mi a drigaf yn dy ganol di ; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat . A’r Arglwydd a etifedda Jwda , ei ran yn y tir sanctaidd , ac a ddewis Jerwsalem drachefn . Pob cnawd , taw yng ngŵydd yr Arglwydd : canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd . Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd , a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Cerydded yr Arglwydd dydi , Satan ; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem , a’th geryddo : onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân ? A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron , ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel . Ac efe a atebodd , ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron , gan ddywedyd , Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef . Wrtho yntau y dywedodd , Wele , symudais dy anwiredd oddi wrthyt , a gwisgaf di hefyd â newid dillad . A dywedais hefyd , Rhoddant feitr teg ar ei ben ef : a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef , ac a’i gwisgasant â dillad ; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw . Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Os rhodi di yn fy ffyrdd , ac os cedwi fy nghadwraeth , tithau hefyd a ferni fy nhŷ , ac a gedwi fy nghynteddoedd ; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma . Gwrando , atolwg , Josua yr archoffeiriad , ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron : canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn : oherwydd wele , dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN . Canys wele , y garreg a roddais gerbron Josua ; ar un garreg y bydd saith o lygaid : wele fi yn naddu ei naddiad hi , medd Arglwydd y lluoedd , a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod . Y dwthwn hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden , a than y ffigysbren . A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi , a ddychwelodd , ac a’m deffrôdd , fel y deffroir un o’i gwsg , Ac a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di ? A mi a ddywedais , Edrychais , ac wele ganhwyllbren i gyd o aur , a’i badell ar ei ben , a’i saith lusern arno , a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef ; A dwy olewydden wrtho , y naill o’r tu deau i’r badell , a’r llall o’r tu aswy iddi . A mi a atebais , ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , gan ddywedyd , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A’r angel oedd yn ymddiddan â mi , a atebodd , ac a ddywedodd wrthyf , Oni wyddost beth yw y rhai yma ? Yna y dywedais , Na wn , fy arglwydd . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf , gan ddywedyd , Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel , gan ddywedyd , Nid trwy lu , ac nid trwy nerth , ond trwy fy ysbryd , medd Arglwydd y lluoedd . Pwy wyt ti , y mynydd mawr ? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd ; ac efe a ddwg allan y maen pennaf , gan weiddi , Rhad , rhad iddo . Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn , gan ddywedyd , Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn , a’i ddwylo ef a’i gorffen : a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch . Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain ? canys llawenychant , a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny : llygaid yr Arglwydd ydynt , y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear . A mi a atebais ac a ddywedais wrtho , Beth yw y ddwy olewydden hyn , ar y tu deau i’r canhwyllbren , ac ar ei aswy ? A mi a atebais drachefn , ac a ddywedais wrtho , Beth yw y ddau bincyn olewydden , y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid ? Ac efe a lefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn ? A dywedais , Na wn , fy arglwydd . Ac efe a ddywedodd , Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear . Yna y troais , a chodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele blyg llyfr yn ehedeg . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di ? A dywedais , Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg , a’i hyd yn ugain cufydd , a’i led yn ddeg cufydd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear : canys pob un a ladrato , a dorrir ymaith fel o’r tu yma , yn ei hôl hi ; a phob un a dyngo , a dorrir ymaith fel o’r tu acw , yn ei hôl hi . Dygaf hi allan , medd Arglwydd y lluoedd , a hi a ddaw i dŷ y lleidr , ac i dŷ y neb a dyngo i’m henw i ar gam : a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef , ac a’i difa ef , a’i goed , a’i gerrig . Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi , a aeth allan , ac a ddywedodd wrthyf , Cyfod yn awr dy lygaid , ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan . A mi a ddywedais , Beth ydyw ? Ac efe a ddywedodd , Effa ydyw , sydd yn myned allan . Ac efe a ddywedodd , Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear . Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny : a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa . Ac efe a ddywedodd , Anwiredd yw hon . Ac efe a’i taflodd hi i ganol yr effa ; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef . A chyfodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan , a gwynt yn eu hesgyll ; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia : a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a’r nefoedd . Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , I ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r effa ? Dywedodd yntau wrthyf , I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar : a hi a sicrheir , ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun . Hefyd mi a droais , ac a ddyrchefais fy llygaid , ac a edrychais ; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd : a’r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres . Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion , ac yn yr ail gerbyd meirch duon , Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion , ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon . Yna yr atebais , ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd , Dyma bedwar ysbryd y nefoedd , y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear . Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd ; a’r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau ; a’r brithion a ânt allan i’r deheudir . A’r gwineuon a aethant allan , ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear : ac efe a ddywedodd , Ewch , cyniweirwch trwy y ddaear . Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear . Yna efe a waeddodd arnaf , ac a lefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Edrych , y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cymer gan y gaethglud , gan Heldai , gan Tobeia , a chan Jedaia , y rhai a ddaethant o Babilon , a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia : Yna cymer arian ac aur , a gwna goronau , a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad ; A llefara wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN : o’i le hefyd y blagura , ac efe a adeilada deml yr Arglwydd : Ie , teml yr Arglwydd a adeilada efe ; ac efe a ddwg y gogoniant , ac a eistedd , ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc ; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc : a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau . A’r coronau fydd i Helem , ac i Tobeia , ac i Jedaia , ac i Hen mab Seffaneia , er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd . A’r pellenigion a ddeuant , ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd , a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch . A hyn a fydd , os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis , sef Cisleu ; Pan anfonasent Sereser , a Regemmelech , a’u gwŷr , i dŷ Dduw , i weddïo gerbron yr Arglwydd , Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd , ac wrth y proffwydi , gan ddywedyd , A wylaf fi y pumed mis , gan ymneilltuo , fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd ? Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrth holl bobl y tir , ac wrth yr offeiriaid , gan lefaru , Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a’r seithfed mis , y deng mlynedd a thrigain hynny , ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd , i mi ? A phan fwytasoch , a phan yfasoch , onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain , ac yn yfed i chwi eich hunain ? Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt , pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd , ac yn llwyddiannus , a’i dinasoedd o’i hamgylch , a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir ? A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , gan ddywedyd , Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Bernwch farn gywir , gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd : Ac na orthrymwch y weddw a’r amddifad , y dieithr a’r anghenog ; ac na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau . Er hyn gwrthodasant wrando , a rhoddasant ysgwydd anhydyn , a thrymhasant eu clustiau rhag clywed . Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant , rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd , yn llaw y proffwydi gynt : am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd . A bu , megis y galwodd efe , ac na wrandawent hwy ; felly y galwasant hwy , ac nis gwrandawn innau , medd Arglwydd y lluoedd . Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent ; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt , fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai : felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch . Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dychwelais at Seion , a thrigaf yng nghanol Jerwsalem ; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd ; a mynydd Arglwydd y lluoedd , Y mynydd sanctaidd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem , a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau . A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn , ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i ? medd Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain , ac o dir machludiad haul . A mi a’u dygaf hwynt , fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Cryfhaer eich dwylo chwi , y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi , y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd , fel yr adeiledid y deml . Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn , na llog am anifail ; na heddwch i’r un a elai allan , nac a ddelai i mewn , gan y gorthrymder : oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog . Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt , medd Arglwydd y lluoedd . Canys bydd yr had yn ffynadwy ; y winwydden a rydd ei ffrwyth , a’r ddaear a rydd ei chynnyrch , a’r nefoedd a roddant eu gwlith : a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn . A bydd , mai megis y buoch chwi , tŷ Jwda a thŷ Israel , yn felltith ymysg y cenhedloedd ; felly y’ch gwaredaf chwi , a byddwch yn fendith : nac ofnwch , ond cryfhaer eich dwylo . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Fel y meddyliais eich drygu chwi , pan y’m digiodd eich tadau , medd Arglwydd y lluoedd , ac nid edifarheais ; Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem , ac i dŷ Jwda : nac ofnwch . Dyma y pethau a wnewch chwi ; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog ; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth ; Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau ; ac na hoffwch lw celwyddog : canys yr holl bethau hyn a gaseais , medd yr Arglwydd . A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ympryd y pedwerydd mis , ac ympryd y pumed , ac ympryd y seithfed , ac ympryd y degfed , a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch , ac yn uchel wyliau daionus : gan hynny cerwch wirionedd a heddwch . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Bydd eto , y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer : Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall , gan ddywedyd , Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd , ac i geisio Arglwydd y lluoedd : minnau a af hefyd . Ie , pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem , ac i weddïo gerbron yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion , o bob tafodiaith y cenhedloedd , ymaflyd , ymaflyd , meddaf , yng ngodre gŵr o Iddew , gan ddywedyd , Awn gyda chwi : canys clywsom fod Duw gyda chwi . Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach , a Damascus fydd ei orffwysfa ef : pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd , fel yr eiddo holl lwythau Israel . A Hamath hefyd a derfyna wrthi ; Tyrus a Sidon hefyd , er ei bod yn ddoeth iawn . A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa , ac a bentyrrodd arian fel llwch , ac aur coeth fel tom yr heolydd . Wele , yr Arglwydd a’i bwrw hi allan , ac a dery ei nerth hi yn y môr ; a hi a ysir â thân . Ascalon a’i gwêl , ac a ofna ; a Gasa , ac a ymofidia yn ddirfawr ; Ecron hefyd , am ei chywilyddio o’i gobaith ; difethir hefyd y brenin allan o Gasa , ac Ascalon ni chyfanheddir . Estron hefyd a drig yn Asdod , a thorraf ymaith falchder y Philistiaid . A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau , a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd : ac efe a weddillir i’n Duw ni , fel y byddo megis pennaeth yn Jwda , ac Ecron megis Jebusiad . A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu , rhag a êl heibio , a rhag a ddychwelo ; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach : canys yn awr gwelais â’m llygaid . Bydd lawen iawn , ti ferch Seion ; a chrechwena , ha ferch Jerwsalem : wele dy frenin yn dyfod atat : cyfiawn ac achubydd yw efe ; y mae efe yn llariaidd , ac yn marchogaeth ar asyn , ac ar ebol llwdn asen . Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim , a’r march oddi wrth Jerwsalem , a’r bwa rhyfel a dorrir : ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd : a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr , ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear . A thithau , trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo . Trowch i’r amddiffynfa , chwi garcharorion gobeithiol ; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg : Pan anelwyf Jwda i mi , ac y llanwyf y bwa ag Effraim , ac y cyfodwyf dy feibion di , Seion , yn erbyn dy feibion di , Groeg , ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus : A’r Arglwydd a welir trostynt , a’i saeth ef a â allan fel mellten : a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn , ac a gerdd â chorwyntoedd y deau . Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt : a hwy a ysant , ac a ddarostyngant gerrig y dafl ; yfant , a therfysgant megis mewn gwin , a llenwir hwynt fel meiliau , ac fel conglau yr allor . A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl : canys fel meini coron y byddant , wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef . Canys pa faint yw ei ddaioni ef , a pha faint ei degwch ef ! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc , a gwin y gwyryfon . Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law ; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau , ac a ddyd iddynt gawod o law , i bob un laswellt yn y maes . Canys y delwau a ddywedasant wagedd , a’r dewiniaid a welsant gelwydd , ac a ddywedasant freuddwydion ofer ; rhoddasant ofer gysur : am hynny yr aethant fel defaid , cystuddiwyd hwynt , am nad oedd bugail . Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid , a mi a gosbais y bychod : canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda , ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel . Y gongl a ddaeth allan ohono , yr hoel ohono , y bwa rhyfel ohono , a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono . A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel : a hwy a ymladdant , am fod yr Arglwydd gyda hwynt ; a chywilyddir marchogion meirch . A nerthaf dŷ Jwda , a gwaredaf dŷ Joseff , a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle ; canys trugarheais wrthynt ; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt : oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt , ac a’u gwrandawaf hwynt . Bydd Effraim hefyd fel cawr , a’u calonnau a lawenychant fel trwy win : a’u meibion a gânt weled , ac a lawenychant ; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd . Chwibanaf arnynt , a chasglaf hwynt ; canys gwaredais hwynt : ac amlhânt fel yr amlhasant . A heuaf hwynt ymysg y bobloedd : ac mewn gwledydd pell y’m cofiant , a byddant fyw gyda’u plant , a dychwelant . A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft , a chasglaf hwynt o Asyria ; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus , ac ni cheir lle iddynt . Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder , ac a dery y tonnau yn y môr ; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd : a disgynnir balchder Asyria , a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith . Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd , ac yn ei enw ef yr ymrodiant , medd yr Arglwydd . Libanus , agor dy ddorau , fel yr yso y tân dy gedrwydd . Y ffynidwydd , udwch ; canys cwympodd y cedrwydd , difwynwyd y rhai ardderchog : udwch , dderw Basan ; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf . Y mae llef udfa y bugeiliaid ! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd : llef rhuad y llewod ieuainc ! am ddifwyno balchder yr Iorddonen . Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw ; Portha ddefaid y lladdfa ; Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd , heb dybied eu bod yn euog ; a’u gwerthwyr a ddywedant , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , am fy nghyfoethogi : a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt . Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad , medd yr Arglwydd ; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog , ac i law ei frenin ; a hwy a drawant y tir , ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy . A mi a borthaf ddefaid y lladdfa , sef chwi , drueiniaid y praidd . A chymerais i mi ddwy ffon ; un a elwais Hyfrydwch , a’r llall a elwais Rhwymau ; a mi a borthais y praidd . A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis ; a’m henaid a alarodd arnynt hwy , a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau . Dywedais hefyd , Ni phorthaf chwi : a fyddo farw , bydded farw ; ac y sydd i’w dorri ymaith , torrer ef ymaith ; a’r gweddill , ysant bob un gnawd ei gilydd . A chymerais fy ffon Hyfrydwch , a thorrais hi , i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl . A’r dydd hwnnw y torrwyd hi : ac felly y gwybu trueiniaid y praidd , y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi , mai gair yr Arglwydd oedd hyn . A dywedais wrthynt , Os gwelwch yn dda , dygwch fy ngwerth ; ac onid e , peidiwch : a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Bwrw ef i’r crochenydd : pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt . A chymerais y deg ar hugain arian , a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd , i’r crochenydd . Yna mi a dorrais fy ail ffon , sef Rhwymau , i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cymer eto i ti offer bugail ffôl . Canys wele fi yn codi bugail yn y tir , yr hwn ni ofwya y cuddiedig , ni chais yr ieuanc , ni feddyginiaetha y briwedig , a fyddo yn sefyll ni phortha ; ond bwyty gig y bras , ac a ddryllia eu hewinedd hwynt . Gwae yr eilun bugail , yn gadael y praidd : y cleddyf fydd ar ei fraich , ac ar ei lygad deau : ei fraich gan wywo a wywa , a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla . Baich gair yr Arglwydd i Israel , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd , ac yn sylfaenu y ddaear , ac yn llunio ysbryd dyn ynddo . Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch , pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda , ac yn erbyn Jerwsalem . A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd : pawb a ymlwytho ag ef , yn ddiau a rwygir , er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef . Y diwrnod hwnnw , medd yr Arglwydd , y trawaf bob march â syndra , a’i farchog ag ynfydrwydd ; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda , a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb . A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon , Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt . Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed , ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt ; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy , yr holl bobloedd o amgylch : a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun , yn Jerwsalem . Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf , megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd , a gogoniant preswylwyr Jerwsalem , yn erbyn Jwda . Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem : a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd ; a thŷ Dafydd fydd fel Duw , fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt . Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem . A thywalltaf ar dŷ Dafydd , ac ar breswylwyr Jerwsalem , ysbryd gras a gweddïau ; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant ; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig , ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig . Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem , megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon . A’r wlad a alara , pob teulu wrtho ei hun ; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; Yr holl deuluoedd eraill , pob teulu wrtho ei hun , a’u gwragedd wrthynt eu hunain . Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd , ac i breswylwyr Jerwsalem , i bechod ac aflendid . A bydd y dwthwn hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir , ac nis cofir hwynt mwyach ; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad . A bydd pan broffwydo un mwyach , y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho , Ni chei fyw ; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd : a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo . A bydd y dydd hwnnw , i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth , wedi iddo broffwydo ; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo : Ond efe a ddywed , Nid proffwyd ydwyf fi ; llafurwr y ddaear ydwyf fi ; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid . A dywed un wrtho , Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo ? Yna efe a ddywed , Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion . Deffro , gleddyf , yn erbyn fy mugail , ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi , medd Arglwydd y lluoedd : taro y bugail , a’r praidd a wasgerir ; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain . A bydd yn yr holl dir , medd yr Arglwydd , y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo ; a’r drydedd a adewir ynddo . A dygaf drydedd ran trwy y tân , a phuraf hwynt fel puro arian , a choethaf hwynt fel coethi aur : hwy a alwant ar fy enw , a minnau a’u gwrandawaf : dywedaf , Fy mhobl yw efe ; ac yntau a ddywed , Yr Arglwydd yw fy Nuw . Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod , a rhennir dy ysbail yn dy ganol di . Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem : a’r ddinas a oresgynnir , y tai a anrheithir , a’r gwragedd a dreisir ; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed , a’r rhan arall o’r bobl nis torrir ymaith o’r ddinas . A’r Arglwydd a â allan , ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny , megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad . A’i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd , yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem , o du y dwyrain ; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua’r dwyrain a thua’r gorllewin , a bydd dyffryn mawr iawn : a hanner y mynydd a symud tua’r gogledd , a’i hanner tua’r deau . A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd ; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal : a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda : a daw yr Arglwydd fy Nuw , a’r holl saint gyda thi . A’r dydd hwnnw y daw i ben , na byddo goleuni disglair , na thywyll : Ond bydd un diwrnod , hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd , nid dydd , ac nid nos ; ond bydd goleuni yn yr hwyr . A bydd y dwthwn hwnnw , y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol ; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain , a’u hanner tua’r môr eithaf : haf a gaeaf y bydd hyn . A’r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear : y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd , a’i enw yn un . Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon , o’r tu deau i Jerwsalem : hi a ddyrchefir , ac a gyfanheddir yn ei lle , o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf , hyd borth y gongl , ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin . Yno y trigant ynddi , ac ni bydd yn ddifrod mwyach ; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd . A hyn fydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem ; Eu cnawd a dderfydd , er eu bod yn sefyll ar eu traed , a’u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau , a’u tafod a dderfydd yn eu safn . Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt ; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog , a’i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog . A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem : a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch , aur ac arian , a gwisgoedd lawer iawn . Ac felly y bydd pla y march , y mul , y camel , yr asyn , a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn , fel y pla hwn . A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem , fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn , i addoli y Brenin , Arglwydd y lluoedd , ac i gadw gŵyl y pebyll . A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem , i addoli y Brenin , Arglwydd y lluoedd , ni bydd glaw arnynt . Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny , ac ni ddaw , y rhai nid oes glaw arnynt ; yno y bydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll . Hyn a fydd cosb yr Aifft , a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll . Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch , SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD ; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor . Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd : a daw pob aberthwr , ac a gymerant ohonynt , ac a ferwant ynddynt : ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw . Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi . Hoffais chwi , medd yr Arglwydd : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth yr hoffaist ni ? Onid brawd oedd Esau i Jacob ? medd yr Arglwydd : eto Jacob a hoffais , Ac Esau a gaseais , ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch , a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch . Lle y dywed Edom , Tlodwyd ni , eto dychwelwn , ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd ; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Hwy a adeiladant , ond minnau a fwriaf i lawr ; a galwant hwynt yn Ardal drygioni , a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd . Eich llygaid hefyd a welant , a chwithau a ddywedwch , Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel . Mab a anrhydedda ei dad , a gweinidog ei feistr : ac os ydwyf fi dad , pa le y mae fy anrhydedd ? ac os ydwyf fi feistr , pa le y mae fy ofn ? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid , y rhai ydych yn dirmygu fy enw : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth y dirmygasom dy enw di ? Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig ; a chwi a ddywedwch , Ym mha beth yr halogasom di ? Am i chwi ddywedyd , Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd . Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth , onid drwg hynny ? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus , onid drwg hynny ? cynnig ef yr awron i’th dywysog , a fydd efe bodlon i ti ? neu a dderbyn efe dy wyneb ? medd Arglwydd y lluoedd . Ac yn awr gweddïwch , atolwg , gerbron Duw , fel y trugarhao wrthym : o’ch llaw chwi y bu hyn : a dderbyn efe wyneb un ohonoch ? medd Arglwydd y lluoedd . A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau , neu a oleuai fy allor yn rhad ? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi , medd Arglwydd y lluoedd , ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw . Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd , mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd : ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw , ac offrwm pur : canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd , medd Arglwydd y lluoedd . Ond chwi a’i halogasoch ef , pan ddywedasoch , Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig ; a’i ffrwyth , sef ei fwyd , sydd ddirmygus . Chwi hefyd a ddywedasoch , Wele , pa flinder yw ! a ffroenasoch arno , medd Arglwydd y lluoedd ; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd , a’r cloff , a’r clwyfus ; fel hyn y dygasoch offrwm : a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi ? medd yr Arglwydd . Ond melltigedig yw y twyllodrus , yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw , ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd ; canys Brenin mawr ydwyf fi , medd Arglwydd y lluoedd , a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd . Ac yr awr hon , chwi offeiriaid , i chwi y mae y gorchymyn hwn . Oni wrandewch , ac oni ystyriwch , i roddi anrhydedd i’m henw i , medd Arglwydd y lluoedd ; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi , ac a felltithiaf eich bendithion chwi : ie , myfi a’u melltithiais eisoes , am nad ydych yn ystyried . Wele fi yn llygru eich had chwi , a thaenaf dom ar eich wynebau , sef tom eich uchel wyliau ; ac un a’ch cymer chwi ato ef . Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn , fel y byddai fy nghyfamod â Lefi , medd Arglwydd y lluoedd . Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch ; a mi a’u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â’r hwn y’m hofnodd , ac yr arswydodd o flaen fy enw . Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef , ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau : mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi , a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd . Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth , a’r gyfraith a geisiant o’i enau ef : oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe . Ond chwi a giliasoch allan o’r ffordd , ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith : llygrasoch gyfamod Lefi , medd Arglwydd y lluoedd . Am hynny minnau hefyd a’ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl ; megis na chadwasoch fy ffyrdd i , ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith . Onid un Tad sydd i ni oll ? onid un Duw a’n creodd ni ? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd , gan halogi cyfamod ein tadau ? Jwda a wnaeth yn anffyddlon , a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem : canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd , yr hwn a hoffasai , ac a briododd ferch duw dieithr . Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn ; yr athro a’r disgybl o bebyll Jacob , ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd . Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch , gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi ; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm , ac na chymer ef yn fodlon o’ch llaw chwi . Er hynny chwi a ddywedwch , Pa herwydd ? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid , yr hon y buost anffyddlon iddi ; er ei bod yn gymar i ti , ac yn wraig dy gyfamod . Onid un a wnaeth efe ? a’r ysbryd yng ngweddill ganddo . A phaham un ? I geisio had duwiol . Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd , ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid . Pan gasaech di hi , gollwng hi ymaith , medd yr Arglwydd , Duw Israel : canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg , medd Arglwydd y lluoedd : gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd , na fyddoch anffyddlon . Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth y blinasom ef ? Am i chwi ddywedyd , Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd , ac iddynt y mae efe yn fodlon ; neu , Pa le y mae Duw y farn ? Wele fi yn anfon fy nghennad , ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i : ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd , yr hwn yr ydych yn ei geisio , i’w deml ; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych : wele efe yn dyfod , medd Arglwydd y lluoedd . Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef ? a phwy a saif pan ymddangoso efe ? canys y mae efe fel tân y toddydd , ac fel sebon y golchyddion . Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian : ac efe a bura feibion Lefi , ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian , fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder . Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem , megis yn y dyddiau gynt , ac fel y blynyddoedd gynt . A mi a nesâf atoch chwi i farn ; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion , ac yn erbyn y godinebwyr , ac yn erbyn yr anudonwyr , ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig , a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw , a’r amddifad , a’r dieithr , ac heb fy ofni i , medd Arglwydd y lluoedd . Canys myfi yr Arglwydd ni’m newidir ; am hynny ni ddifethwyd chwi , meibion Jacob . Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau , ac ni chadwasoch hwynt : dychwelwch ataf fi , a mi a ddychwelaf atoch chwithau , medd Arglwydd y lluoedd : ond chwi a ddywedwch , Ym mha beth y dychwelwn ? A ysbeilia dyn Dduw ? eto chwi a’m hysbeiliasoch i : ond chwi a ddywedwch , Ym mha beth y’th ysbeiliasom ? Yn y degwm a’r offrwm . Melltigedig ydych trwy felltith : canys chwi a’m hysbeiliasoch i , sef yr holl genedl hon . Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy , fel y byddo bwyd yn fy nhŷ ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn , medd Arglwydd y lluoedd , onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd , a thywallt i chwi fendith , fel na byddo digon o le i’w derbyn . Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes , ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear : a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi , medd Arglwydd y lluoedd . A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig : canys byddwch yn wlad hyfryd , medd Arglwydd y lluoedd . Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i’m herbyn , medd yr Arglwydd : eto chwi a ddywedwch , Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di ? Dywedasoch , Oferedd yw gwasanaethu Duw : a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef , ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd ? Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig : ie , gweithredwyr drygioni a adeiladwyd ; ie , y rhai a demtiant Dduw , a waredwyd . Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog : a’r Arglwydd a wrandawodd , ac a glybu ; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd , ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef . A byddant eiddof fi , medd Arglwydd y lluoedd , y dydd y gwnelwyf briodoledd ; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu . Yna y dychwelwch , ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus , rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef . Canys wele y dydd yn dyfod , yn llosgi megis ffwrn ; a’r holl feilchion , a holl weithredwyr anwiredd , a fyddant sofl : a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt , medd Arglwydd y lluoedd , fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen . Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi , y rhai ydych yn ofni fy enw , â meddyginiaeth yn ei esgyll ; a chwi a ewch allan , ac a gynyddwch megis lloi pasgedig . A chwi a fethrwch yr annuwiolion ; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi , yn y dydd y gwnelwyf hyn , medd Arglwydd y lluoedd . Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas , yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel , y deddfau a’r barnedigaethau . Wele , mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd , cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd : Ac efe a dry galon y tadau at y plant , a chalon y plant at eu tadau ; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith . Llyfr cenhedliad Iesu Grist , fab Dafydd , fab Abraham . Abraham a genhedlodd Isaac ; ac Isaac a genhedlodd Jacob ; a Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr ; A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar ; a Phares a genhedlodd Esrom ; ac Esrom a genhedlodd Aram ; Ac Aram a genhedlodd Aminadab ; ac Aminadab a genhedlodd Naason ; a Naason a genhedlodd Salmon ; A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab ; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth ; ac Obed a genhedlodd Jesse ; A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin ; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias ; A Solomon a genhedlodd Roboam ; a Roboam a genhedlodd Abeia ; ac Abeia a genhedlodd Asa ; Ac Asa a genhedlodd Josaffat ; a Josaffat a genhedlodd Joram ; a Joram a genhedlodd Oseias ; Ac Oseias a genhedlodd Joatham ; a Joatham a genhedlodd Achas ; ac Achas a genhedlodd Eseceias ; Ac Eseceias a genhedlodd Manasses ; a Manasses a genhedlodd Amon ; ac Amon a genhedlodd Joseias ; A Joseias a genhedlodd Jechoneias a’i frodyr , ynghylch amser y symudiad i Fabilon ; Ac wedi’r symudiad i Fabilon , Jechoneias a genhedlodd Salathiel ; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel ; A Sorobabel a genhedlodd Abïud ; ac Abïud a genhedlodd Eliacim ; ac Eliacim a genhedlodd Asor ; Ac Asor a genhedlodd Sadoc ; a Sadoc a genhedlodd Achim ; ac Achim a genhedlodd Elïud ; Ac Elïud a genhedlodd Eleasar ; ac Eleasar a genhedlodd Mathan ; a Mathan a genhedlodd Jacob ; A Jacob a genhedlodd Joseff , gŵr Mair , o’r hon y ganed Iesu , yr hwn a elwir Crist . Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd , sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg ; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon , pedair cenhedlaeth ar ddeg ; ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist , pedair cenhedlaeth ar ddeg . A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn : Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff , cyn eu dyfod hwy ynghyd , hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân . A Joseff ei gŵr hi , gan ei fod yn gyfiawn , ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl , a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel . Ac efe yn meddwl y pethau hyn , wele , angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd , gan ddywedyd , Joseff , mab Dafydd , nac ofna gymryd Mair dy wraig : oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân . A hi a esgor ar fab , a thi a elwi ei enw ef IESU : oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau . ( A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , Wele , morwyn a fydd feichiog , ac a esgor ar fab ; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Duw gyda ni . ) A Joseff , pan ddeffroes o gwsg , a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo , ac a gymerodd ei wraig : Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig . A galwodd ei enw ef IESU . Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea , yn nyddiau Herod frenin , wele , doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem , Gan ddywedyd , Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon ? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain , a daethom i’w addoli ef . Ond pan glybu Herod frenin , efe a gyffrowyd , a holl Jerwsalem gydag ef . A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl , efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist . A hwy a ddywedasant wrtho , Ym Methlehem Jwdea : canys felly yr ysgrifennwyd trwy’r proffwyd ; A thithau , Bethlehem , tir Jwda , nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda : canys ohonot ti y daw Tywysog , yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel . Yna Herod , wedi galw y doethion yn ddirgel , a’u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren . Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem , efe a ddywedodd , Ewch , ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan ; a phan gaffoch ef , mynegwch i mi , fel y gallwyf finnau ddyfod a’i addoli ef . Hwythau , wedi clywed y brenin , a aethant ; ac wele , y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy , hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan . A phan welsant y seren , llawenychasant â llawenydd mawr dros ben . A phan ddaethant i’r tŷ , hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam ; a hwy a syrthiasant i lawr , ac a’i haddolasant ef : ac wedi agoryd eu trysorau , a offrymasant iddo anrhegion ; aur , a thus , a myrr . Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd , na ddychwelent at Herod , hwy a aethant drachefn i’w gwlad ar hyd ffordd arall . Ac wedi iddynt ymado , wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd , gan ddywedyd , Cyfod , cymer y mab bychan a’i fam , a ffo i’r Aifft , a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti : canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef . Ac yntau pan gyfododd , a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos , ac a giliodd i’r Aifft ; Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod : fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , O’r Aifft y gelwais fy mab . Yna Herod , pan weles ei siomi gan y doethion , a ffromodd yn aruthr , ac a ddanfonodd , ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem , ac yn ei holl gyffiniau , o ddwyflwydd oed a than hynny , wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion . Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd , gan ddywedyd , Llef a glybuwyd yn Rama , galar , ac wylofain , ac ochain mawr , Rachel yn wylo am ei phlant ; ac ni fynnai ei chysuro , am nad oeddynt . Ond wedi marw Herod , wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft , Gan ddywedyd , Cyfod , a chymer y mab bychan a’i fam , a dos i dir Israel : canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw . Ac wedi ei gyfodi , efe a gymerth y mab bychan a’i fam , ac a ddaeth i dir Israel . Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod , efe a ofnodd fyned yno . Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd , efe a giliodd i barthau Galilea . A phan ddaeth , efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth : fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwydi , Y gelwid ef yn Nasaread . Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr , gan bregethu yn niffeithwch Jwdea , A dywedyd , Edifarhewch : canys nesaodd teyrnas nefoedd . Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd ; gwnewch yn union ei lwybrau ef . A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel , a gwregys o groen ynghylch ei lwynau : a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt . Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem , a holl Jwdea , a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen : A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen , gan gyffesu eu pechodau . A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef , efe a ddywedodd wrthynt hwy , O genhedlaeth gwiberod , pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd ? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch . Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain , Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y dichon Duw , ie , o’r meini hyn , gyfodi plant i Abraham . Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau : pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da , a dorrir i lawr , ac a deflir yn tân . Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch : eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , sydd gryfach na myfi , yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau : efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân , ac â thân . Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law , ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu , ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor ; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy . Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan , i’w fedyddio ganddo . Eithr Ioan a warafunodd iddo ef , gan ddywedyd , Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti , ac a ddeui di ataf fi ? Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Gad yr awr hon ; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder . Yna efe a adawodd iddo . A’r Iesu , wedi ei fedyddio , a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr : ac wele , y nefoedd a agorwyd iddo , ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen , ac yn dyfod arno ef . Ac wele lef o’r nefoedd , yn dywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd . Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd , i’w demtio gan ddiafol . Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos , ar ôl hynny efe a newynodd . A’r temtiwr pan ddaeth ato , a ddywedodd , Os mab Duw wyt ti , arch i’r cerrig hyn fod yn fara . Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Ysgrifennwyd , Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn , ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw . Yna y cymerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd , ac a’i gosododd ef ar binacl y deml ; Ac a ddywedodd wrtho , Os mab Duw wyt ti , bwrw dy hun i lawr ; canys ysgrifennwyd , Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat ; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo , rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ysgrifennwyd drachefn , Na themtia yr Arglwydd dy Dduw . Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel , ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd , a’u gogoniant ; Ac a ddywedodd wrtho , Hyn oll a roddaf i ti , os syrthi i lawr a’m haddoli i . Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ymaith , Satan ; canys ysgrifennwyd , Yr Arglwydd dy Dduw a addoli , ac ef yn unig a wasanaethi . Yna y gadawodd diafol ef : ac wele , angylion a ddaethant , ac a weiniasant iddo . A phan glybu’r Iesu draddodi Ioan , efe a aeth i Galilea . A chan ado Nasareth , efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum , yr hon sydd wrth y môr , yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali : Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Tir Sabulon , a thir Neffthali , wrth ffordd y môr , tu hwnt i’r Iorddonen , Galilea’r Cenhedloedd : Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch , a welodd oleuni mawr ; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau , y cyfododd goleuni iddynt . O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu , a dywedyd , Edifarhewch : canys nesaodd teyrnas nefoedd . A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea , efe a ganfu ddau frodyr , Simon , yr hwn a elwir Pedr , ac Andreas ei frawd , yn bwrw rhwyd i’r môr ; canys pysgodwyr oeddynt : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch ar fy ôl i , a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion . A hwy yn y fan , gan adael y rhwydau , a’i canlynasant ef . Ac wedi myned rhagddo oddi yno , efe a welodd ddau frodyr eraill , Iago fab Sebedeus , ac Ioan ei frawd , mewn llong gyda Sebedeus eu tad , yn cyweirio eu rhwydau ; ac a’u galwodd hwy . Hwythau yn ebrwydd , gan adael y llong a’u tad , a’i canlynasant ef . A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea , gan ddysgu yn eu synagogau , a phregethu efengyl y deyrnas , ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl . Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria ; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl , a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala , a’r rhai cythreulig , a’r rhai lloerig , a’r sawl oedd â’r parlys arnynt ; ac efe a’u hiachaodd hwynt . A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea , a Decapolis , a Jerwsalem , a Jwdea , ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen . A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd , efe a esgynnodd i’r mynydd : ac wedi iddo eistedd , ei ddisgyblion a ddaethant ato . Ac efe a agorodd ei enau , ac a’u dysgodd hwynt , gan ddywedyd , Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd : canys eiddynt yw teyrnas nefoedd . Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru : canys hwy a ddiddenir . Gwyn eu byd y rhai addfwyn : canys hwy a etifeddant y ddaear . Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder : canys hwy a ddiwellir . Gwyn eu byd y rhai trugarogion : canys hwy a gânt drugaredd . Gwyn eu byd y rhai pur o galon : canys hwy a welant Dduw . Gwyn eu byd y tangnefeddwyr : canys hwy a elwir yn blant i Dduw . Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder : canys eiddynt yw teyrnas nefoedd . Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant , ac y’ch erlidiant , ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i , a hwy yn gelwyddog . Byddwch lawen a hyfryd : canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd : oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi . Chwi yw halen y ddaear : eithr o diflasodd yr halen , â pha beth yr helltir ef ? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan , a’i sathru gan ddynion . Chwi yw goleuni’r byd . Dinas a osodir ar fryn , ni ellir ei chuddio . Ac ni oleuant gannwyll , a’i dodi dan lestr , ond mewn canhwyllbren ; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ . Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion , fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi , ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd . Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith , neu’r proffwydi : ni ddeuthum i dorri , ond i gyflawni . Canys yn wir meddaf i chwi , Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio , nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio , hyd oni chwblhaer oll . Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn , ac a ddysgo i ddynion felly , lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd : ond pwy bynnag a’u gwnelo , ac a’u dysgo i eraill , hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd . Canys meddaf i chwi , Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid , nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd . Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na ladd ; a phwy bynnag a laddo , euog fydd o farn : Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr , a fydd euog o farn : a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd , Raca , a fydd euog o gyngor : a phwy bynnag a ddywedo , O ynfyd , a fydd euog o dân uffern . Gan hynny , os dygi dy rodd i’r allor , ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn ; Gad yno dy rodd gerbron yr allor , a dos ymaith : yn gyntaf cymoder di â’th frawd , ac yna tyred ac offrwm dy rodd . Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys , tra fyddech ar y ffordd gydag ef ; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr , ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog , a’th daflu yng ngharchar . Yn wir meddaf i ti , Ni ddeui di allan oddi yno , hyd oni thalech y ffyrling eithaf . Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na wna odineb ; Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi , wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon . Ac os dy lygad deau a’th rwystra , tyn ef allan , a thafl oddi wrthyt : canys da i ti golli un o’th aelodau , ac na thafler dy holl gorff i uffern . Ac os dy law ddeau a’th rwystra , tor hi ymaith , a thafl oddi wrthyt : canys da i ti golli un o’th aelodau , ac na thafler dy holl gorff i uffern . A dywedwyd , Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , rhoed iddi lythyr ysgar : Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , ond o achos godineb , yn peri iddi wneuthur godineb : a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd , y mae efe yn gwneuthur godineb . Trachefn , clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na thwng anudon ; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd : Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Na thwng ddim : nac i’r nef ; canys gorseddfa Duw ydyw : Nac i’r ddaear ; canys troedfainc ei draed ydyw : nac i Jerwsalem ; canys dinas y brenin mawr ydyw . Ac na thwng i’th ben ; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn , neu yn ddu . Eithr bydded eich ymadrodd chwi , Ie , ie ; Nage , nage ; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn , o’r drwg y mae . Clywsoch ddywedyd , Llygad am lygad , a dant am ddant : Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Na wrthwynebwch ddrwg : ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau , tro’r llall iddo hefyd . Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi , a dwyn dy bais , gad iddo dy gochl hefyd . A phwy bynnag a’th gymhello un filltir , dos gydag ef ddwy . Dyro i’r hwn a ofynno gennyt ; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt . Clywsoch ddywedyd , Câr dy gymydog , a chasâ dy elyn . Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Cerwch eich gelynion , bendithiwch y rhai a’ch melltithiant , gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt , a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi , ac a’ch erlidiant ; Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd : canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da , ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn . Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro , pa wobr sydd i chwi ? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth ? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig , pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur ? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly ? Byddwch chwi gan hynny yn berffaith , fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith . Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion , er mwyn cael eich gweled ganddynt : os amgen , ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd . Am hynny pan wnelych elusen , na utgana o’th flaen , fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau , ac ar yr heolydd , fel y molianner hwy gan ddynion . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Eithr pan wnelych di elusen , na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau ; Fel y byddo dy elusen yn y dirgel : a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel , efe a dâl i ti yn yr amlwg . A phan weddïech , na fydd fel y rhagrithwyr : canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau , ac yng nghonglau’r heolydd , fel yr ymddangosont i ddynion . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Ond tydi , pan weddïech , dos i’th ystafell ; ac wedi cau dy ddrws , gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel ; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel , a dâl i ti yn yr amlwg . A phan weddïoch , na fyddwch siaradus , fel y cenhedloedd : canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau . Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy : canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau , cyn gofyn ohonoch ganddo . Am hynny gweddïwch chwi fel hyn : Ein Tad , yr hwn wyt yn y nefoedd , Sancteiddier dy enw . Deled dy deyrnas . Gwneler dy ewyllys , megis yn y nef , felly ar y ddaear hefyd . Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol . A maddau i ni ein dyledion , fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr . Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; eithr gwared ni rhag drwg . Canys eiddot ti yw’r deyrnas , a’r nerth , a’r gogoniant , yn oes oesoedd . Amen . Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau , eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau : Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau , ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau . Hefyd , pan ymprydioch , na fyddwch fel y rhagrithwyr , yn wyneptrist : canys anffurfio eu hwynebau y maent , fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Eithr pan ymprydiech di , eneinia dy ben , a golch dy wyneb ; Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio , ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel : a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel , a dâl i ti yn yr amlwg . Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear , lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru , a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata ; Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef , lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru , a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt . Canys lle y mae eich trysor , yno y bydd eich calon hefyd . Cannwyll y corff yw’r llygad : am hynny o bydd dy lygad yn syml , dy holl gorff fydd yn olau . Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg , dy holl gorff fydd yn dywyll . Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch , pa faint fydd y tywyllwch ! Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd ; canys naill ai efe a gasâ y naill , ac a gâr y llall ; ai efe a ymlŷn wrth y naill , ac a esgeulusa’r llall . Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon . Am hynny meddaf i chwi , Na ofelwch am eich bywyd , pa beth a fwytaoch , neu pa beth a yfoch ; neu am eich corff , pa beth a wisgoch . Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd , a’r corff yn fwy na’r dillad ? Edrychwch ar adar y nefoedd : oblegid nid ydynt yn hau , nac yn medi , nac yn cywain i ysguboriau ; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy . Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy ? A phwy ohonoch gan ofalu , a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli ? A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad ? Ystyriwch lili’r maes , pa fodd y maent yn tyfu ; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu : Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi , na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn . Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes , yr hwn sydd heddiw , ac yfory a fwrir i’r ffwrn , oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer , O chwi o ychydig ffydd ? Am hynny na ofelwch , gan ddywedyd , Beth a fwytawn ? neu , Beth a yfwn ? neu , A pha beth yr ymddilladwn ? ( Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio ; ) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn . Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw , a’i gyfiawnder ef , a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg . Na ofelwch gan hynny dros drannoeth : canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun . Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun . Na fernwch , fel na’ch barner : Canys â pha farn y barnoch , y’ch bernir ; ac â pha fesur y mesuroch , yr adfesurir i chwithau . A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd , ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd , Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad ; ac wele drawst yn dy lygad dy hun ? O ragrithiwr , bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun ; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd . Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn , ac na theflwch eich gemau o flaen y moch ; rhag iddynt eu sathru dan eu traed , a throi a’ch rhwygo chwi . Gofynnwch , a rhoddir i chwi ; ceisiwch , a chwi a gewch ; curwch , ac fe agorir i chwi : Canys pob un sydd yn gofyn , sydd yn derbyn ; a’r neb sydd yn ceisio , sydd yn cael ; ac i’r hwn sydd yn curo , yr agorir . Neu a oes un dyn ohonoch , yr hwn os gofyn ei fab iddo fara , a rydd iddo garreg ? Ac os gofyn efe bysgodyn , a ddyry efe sarff iddo ? Os chwychwi gan hynny , a chwi yn ddrwg , a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant , pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo ? Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi , felly gwnewch chwithau iddynt hwy : canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi . Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng : canys eang yw’r porth , a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw ; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi : Oblegid cyfyng yw’r porth , a chul yw’r ffordd , sydd yn arwain i’r bywyd ; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi . Ymogelwch rhag gau broffwydi , y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid , ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy . Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt . A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain , neu ffigys oddi ar ysgall ? Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da ; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg . Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg , na phren drwg ddwyn ffrwythau da . Pob pren heb ddwyn ffrwyth da , a dorrir i lawr , ac a deflir yn tân . Oherwydd paham , wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt . Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf , Arglwydd , Arglwydd , a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd ; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw , Arglwydd , Arglwydd , oni phroffwydasom yn dy enw di ? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di ? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di ? Ac yna yr addefaf wrthynt , Nid adnabûm chwi erioed : ewch ymaith oddi wrthyf , chwi weithredwyr anwiredd . Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn , ac yn eu gwneuthur , mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth , yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig : A’r glaw a ddisgynnodd , a’r llifeiriaint a ddaethant , a’r gwyntoedd a chwythasant , ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw ; ac ni syrthiodd : oblegid sylfaenesid ef ar y graig . A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn , ac heb eu gwneuthur , a gyffelybir i ŵr ffôl , yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod : A’r glaw a ddisgynnodd , a’r llifddyfroedd a ddaethant , a’r gwyntoedd a chwythasant , ac a gurasant ar y tŷ hwnnw ; ac efe a syrthiodd , a’i gwymp a fu fawr . A bu , wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn , y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef : Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo , ac nid fel yr ysgrifenyddion . Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd , torfeydd lawer a’i canlynasant ef . Ac wele , un gwahanglwyfus a ddaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , os mynni , ti a elli fy nglanhau i . A’r Iesu a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , gan ddywedyd , Mynnaf , glanhaer di . Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd . A dywedodd yr Iesu wrtho , Gwêl na ddywedych wrth neb ; eithr dos , dangos dy hun i’r offeiriad , ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt . Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum , daeth ato ganwriad , gan ddeisyfu arno , A dywedyd , Arglwydd , y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys , ac mewn poen ddirfawr . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Mi a ddeuaf , ac a’i hiachâf ef . A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd , Arglwydd , nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd : eithr yn unig dywed y gair , a’m gwas a iacheir . Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod , a chennyf filwyr danaf : a dywedaf wrth hwn , Cerdda , ac efe a â ; ac wrth arall , Tyred , ac efe a ddaw ; ac wrth fy ngwas , Gwna hyn , ac efe a’i gwna . A’r Iesu pan glybu , a ryfeddodd , ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn , Yn wir meddaf i chwi , Ni chefais gymaint ffydd , naddo yn yr Israel . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin , ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd : Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad , Dos ymaith ; ac megis y credaist , bydded i ti . A’i was a iachawyd yn yr awr honno . A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr , efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd , ac yn glaf o’r cryd . Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi ; a’r cryd a’i gadawodd hi : a hi a gododd , ac a wasanaethodd arnynt . Ac wedi ei hwyrhau hi , hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig : ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air , ac a iachaodd yr holl gleifion ; Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Efe a gymerodd ein gwendid ni , ac a ddug ein clefydau . A’r Iesu , pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch , a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall . A rhyw ysgrifennydd a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Athro , mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Y mae ffeuau gan y llwynogod , a chan ehediaid y nefoedd nythod ; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr . Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Arglwydd , gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Canlyn fi ; a gad i’r meirw gladdu eu meirw . Ac wedi iddo fyned i’r llong , ei ddisgyblion a’i canlynasant ef . Ac wele , bu cynnwrf mawr yn y môr , hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau : eithr efe oedd yn cysgu . A’i ddisgyblion a ddaethant ato , ac a’i deffroasant , gan ddywedyd , Arglwydd , cadw ni : darfu amdanom . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn ofnus , O chwi o ychydig ffydd ? Yna y cododd efe , ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr ; a bu dawelwch mawr . A’r dynion a ryfeddasant , gan ddywedyd , Pa ryw un yw hwn , gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo ! Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall , i wlad y Gergesiaid , dau ddieflig a gyfarfuant ag ef , y rhai a ddeuent o’r beddau , yn dra ffyrnig , fel na allai neb fyned y ffordd honno . Ac wele , hwy a lefasant , gan ddywedyd , Iesu , Fab Duw , beth sydd i ni a wnelom â thi ? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser ? Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer , yn pori . A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno , gan ddywedyd , Os bwri ni allan , caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch . A hwy wedi myned allan , a aethant i’r genfaint foch : ac wele , yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr , ac a fuant feirw yn y dyfroedd . A’r meichiaid a ffoesant : ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas , hwy a fynegasant bob peth ; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig . Ac wele , yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu : a phan ei gwelsant , atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt . Ac efe a aeth i mewn i’r llong , ac a aeth trosodd , ac a ddaeth i’w ddinas ei hun . Ac wele , hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys , yn gorwedd mewn gwely : a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy , a ddywedodd wrth y claf o’r parlys , Ha fab , cymer gysur ; maddeuwyd i ti dy bechodau . Ac wele , rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain , Y mae hwn yn cablu . A phan welodd yr Iesu eu meddyliau , efe a ddywedodd , Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau ? Canys pa un hawsaf ai dywedyd , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a rhodia ? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau , ( yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys , ) Cyfod , cymer dy wely i fyny , a dos i’th dŷ . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun . A’r torfeydd pan welsant , rhyfeddu a wnaethant , a gogoneddu Duw , yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion . Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno , efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa , a elwid Mathew , ac a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . Ac efe a gyfododd , ac a’i canlynodd ef . A bu , ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ , wele hefyd , publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion . A phan welodd y Phariseaid , hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef , Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid ? A phan glybu’r Iesu , efe a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg , ond i’r rhai cleifion . Ond ewch , a dysgwch pa beth yw hyn , Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio , ac nid aberth : canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . Yna y daeth disgyblion Ioan ato , gan ddywedyd , Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych , ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt ? ond y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodfab oddi arnynt , ac yna yr ymprydiant . Hefyd , ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn : canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn , a’r rhwyg a wneir yn waeth . Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen : os amgen , y costrelau a dyr , a’r gwin a red allan , a’r costrelau a gollir : eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion , ac felly y cedwir y ddau . Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt , wele , daeth rhyw bennaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Bu farw fy merch yr awr hon ; eithr tyred , a gosod dy law arni , a byw fydd hi . A’r Iesu a gyfododd , ac a’i canlynodd ef , a’i ddisgyblion . ( Ac wele , gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd , a ddaeth o’r tu cefn iddo , ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef : Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun , Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef , iach fyddaf . Yna yr Iesu a drodd ; a phan ei gwelodd hi , efe a ddywedodd , Ha ferch , bydd gysurus ; dy ffydd a’th iachaodd . A’r wraig a iachawyd o’r awr honno . ) A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth , a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu , Efe a ddywedodd wrthynt , Ciliwch ; canys ni bu farw y llances , ond cysgu y mae hi . A hwy a’i gwatwarasant ef . Ac wedi bwrw y dyrfa allan , efe a aeth i mewn , ac a ymaflodd yn ei llaw hi ; a’r llances a gyfododd . A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno . A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno , dau ddeillion a’i canlynasant ef , gan lefain a dywedyd , Mab Dafydd , trugarha wrthym . Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ , y deillion a ddaethant ato : a’r Iesu a ddywedodd wrthynt , a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn ? Hwy a ddywedasant wrtho , Ydym , Arglwydd . Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy , gan ddywedyd , Yn ôl eich ffydd bydded i chwi . A’u llygaid a agorwyd : a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth , gan ddywedyd , Gwelwch nas gwypo neb . Ond wedi iddynt ymado , hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno . Ac a hwy yn myned allan , wele , rhai a ddygasant ato ddyn mud , cythreulig . Ac wedi bwrw y cythraul allan , llefarodd y mudan : a’r torfeydd a ryfeddasant , gan ddywedyd , Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel . Ond y Phariseaid a ddywedasant , Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid . A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd , gan ddysgu yn eu synagogau hwynt , a chan bregethu efengyl y deyrnas , a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl . A phan welodd efe y torfeydd , efe a dosturiodd wrthynt , am eu bod wedi blino , a’u gwasgaru , fel defaid heb ganddynt fugail . Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion , Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr , ond y gweithwyr yn anaml : Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf . Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato , efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan , i’w bwrw hwynt allan , ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd . Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn : Y cyntaf , Simon , yr hwn a elwir Pedr , ac Andreas ei frawd ; Iago mab Sebedeus , ac Ioan ei frawd ; Philip , a Bartholomeus ; Thomas , a Mathew y publican ; Iago mab Alffeus , a Lebeus , yr hwn a gyfenwid Thadeus ; Simon y Canaanead , a Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a’i bradychodd ef . Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu , ac a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd , ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn : Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel . Ac wrth fyned , pregethwch , gan ddywedyd , Fod teyrnas nefoedd yn nesáu . Iachewch y cleifion , glanhewch y rhai gwahanglwyfus , cyfodwch y meirw , bwriwch allan gythreuliaid : derbyniasoch yn rhad , rhoddwch yn rhad . Na feddwch aur , nac arian , nac efydd i’ch pyrsau ; Nac ysgrepan i’r daith , na dwy bais , nac esgidiau , na ffon : canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd . Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch , ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi ; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith . A phan ddeloch i dŷ , cyferchwch well iddo . Ac os bydd y tŷ yn deilwng , deued eich tangnefedd arno : ac oni bydd yn deilwng , dychweled eich tangnefedd atoch . A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi , ac ni wrandawo eich geiriau , pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw , neu o’r ddinas honno , ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed . Yn wir meddaf i chwi , Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn , nag i’r ddinas honno . Wele , yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid ; byddwch chwithau gall fel y seirff , a diniwed fel y colomennod . Eithr ymogelwch rhag dynion ; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau , ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau . A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i , er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd . Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny , na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch : canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch . Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru , ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch . A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth , a thad ei blentyn : a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni , ac a barant eu marwolaeth hwynt . A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i : ond yr hwn a barhao hyd y diwedd , efe fydd cadwedig . A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon , ffowch i un arall : canys yn wir y dywedaf wrthych , Na orffennwch ddinasoedd Israel , nes dyfod Mab y dyn . Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro , na’r gwas yn uwch na’i arglwydd . Digon i’r disgybl fod fel ei athro , a’r gwas fel ei arglwydd . Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub , pa faint mwy ei dylwyth ef ? Am hynny nac ofnwch hwynt : oblegid nid oes dim cuddiedig , a’r nas datguddir ; na dirgel , a’r nas gwybyddir . Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch , dywedwch yn y goleuni : a’r hyn a glywch yn y glust , pregethwch ar bennau’r tai . Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff , ac ni allant ladd yr enaid ; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern . Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling ? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi . Ac y mae , ie , holl wallt eich pen wedi eu cyfrif . Nac ofnwch gan hynny : chwi a delwch fwy na llawer o adar y to . Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion , minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd : A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion , minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear : ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd , ond cleddyf . Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad , a’r ferch yn erbyn ei mam , a’r waudd yn erbyn ei chwegr . A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun . Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi , nid yw deilwng ohonof fi : a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi , nid yw deilwng ohonof fi . A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes , ac yn canlyn ar fy ôl i , nid yw deilwng ohonof fi . Y neb sydd yn cael ei einioes , a’i cyll : a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i , a’i caiff hi . Y neb sydd yn eich derbyn chwi , sydd yn fy nerbyn i ; a’r neb sydd yn fy nerbyn i , sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i . Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd , a dderbyn wobr proffwyd ; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn , a dderbyn wobr un cyfiawn . A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl , yn wir meddaf i chwi , Ni chyll efe ei wobr . A bu , pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl , efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy . A Ioan , pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist , wedi danfon dau o’i ddisgyblion , A ddywedodd wrtho , Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod , ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch . Y mae’r deillion yn gweled eilwaith , a’r cloffion yn rhodio , a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau , a’r byddariaid yn clywed ; y mae’r meirw yn cyfodi , a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt . A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi . Ac a hwy yn myned ymaith , yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan , Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano ? ai corsen yn ysgwyd gan wynt ? Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled ? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth ? wele , y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth , mewn tai brenhinoedd y maent . Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled ? ai proffwyd ? ie , meddaf i chwi , a mwy na phroffwyd : Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd , Wele , yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Yn wir meddaf i chwi , Ymhlith plant gwragedd , ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr : er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd , sydd fwy nag ef . Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr , yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd , a threiswyr sydd yn ei chipio hi . Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan . Ac os ewyllysiwch ei dderbyn , efe yw Eleias , yr hwn oedd ar ddyfod . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon ? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd , ac yn llefain wrth eu cyfeillion , Ac yn dywedyd , Canasom bibell i chwi , ac ni ddawnsiasoch ; canasom alarnad i chwi , ac ni chwynfanasoch . Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed ; ac meddant , Y mae cythraul ganddo . Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed ; ac meddant , Wele ddyn glwth , ac yfwr gwin , cyfaill publicanod a phechaduriaid . A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun . Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef , am nad edifarhasent : Gwae di , Chorasin ! gwae di , Bethsaida ! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi , hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw . Eithr meddaf i chwi , Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn , nag i chwi . A thydi , Capernaum , yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef , a dynnir i lawr hyd yn uffern : canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti , hi a fuasai yn aros hyd heddiw . Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn , nag i ti . Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu , ac y dywedodd , I ti yr ydwyf yn diolch , O Dad , Arglwydd nef a daear , am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus , a’u datguddio ohonot i rai bychain : Ie , O Dad ; canys felly y rhyngodd fodd i ti . Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad : ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad ; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab , a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo . Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog , a mi a esmwythâf arnoch . Cymerwch fy iau arnoch , a dysgwch gennyf ; canys addfwyn ydwyf , a gostyngedig o galon : a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau : Canys fy iau sydd esmwyth , a’m baich sydd ysgafn . Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd : ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion , a hwy a ddechreuasant dynnu tywys , a bwyta . A phan welodd y Phariseaid , hwy a ddywedasant wrtho , Wele , y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd , pan oedd chwant bwyd arno ef , a’r rhai oedd gydag ef ? Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw , ac y bwytaodd y bara gosod , yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta , nac i’r rhai oedd gydag ef , ond yn unig i’r offeiriaid ? Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith , fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth , a’u bod yn ddigerydd ? Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi , fod yma un mwy na’r deml . Ond pe gwybuasech beth yw hyn , Trugaredd a ewyllysiaf , ac nid aberth , ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed . Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn . Ac wedi iddo ymadael oddi yno , efe a aeth i’w synagog hwynt . Ac wele , yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Ai rhydd iacháu ar y Sabothau ? fel y gallent achwyn arno . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad , ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth , nid ymeifl ynddi , a’i chodi allan ? Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad ? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau . Yna y dywedodd efe wrth y dyn , Estyn dy law . Ac efe a’i hestynnodd ; a hi a wnaed yn iach , fel y llall . Yna yr aeth y Phariseaid allan , ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef , pa fodd y difethent ef . A’r Iesu gan wybod , a giliodd oddi yno ; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef , ac efe a’u hiachaodd hwynt oll ; Ac a orchmynnodd iddynt , na wnaent ef yn gyhoedd : Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Wele fy ngwasanaethwr , yr hwn a ddewisais ; fy anwylyd , yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon : gosodaf fy ysbryd arno , ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd . Nid ymryson efe , ac ni lefain , ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd . Corsen ysig nis tyr , a llin yn mygu nis diffydd , hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth . Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd . Yna y ducpwyd ato un cythreulig , dall , a mud : ac efe a’i hiachaodd ef , fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud . A’r holl dorfeydd a synasant , ac a ddywedasant , Ai hwn yw mab Dafydd ? Eithr pan glybu’r Phariseaid , hwy a ddywedasant , Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid , ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid . A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau , a ddywedodd wrthynt , Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , a anghyfanheddir ; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , ni saif . Ac os Satan a fwrw allan Satan , efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun : pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef ? Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid , trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan ? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi . Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw , yna y daeth teyrnas Dduw atoch . Neu , pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn , a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef , oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn ? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef . Y neb nid yw gyda mi , sydd yn fy erbyn ; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi , sydd yn gwasgaru . Am hynny y dywedaf wrthych chwi , Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion : ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion . A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn , fe a faddeuir iddo : ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân , nis maddeuir iddo , nac yn y byd hwn , nac yn y byd a ddaw . Naill ai gwnewch y pren yn dda , a’i ffrwyth yn dda ; ai gwnewch y pren yn ddrwg , a’i ffrwyth yn ddrwg : canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth . O epil gwiberod , pa wedd y gellwch lefaru pethau da , a chwi yn ddrwg ? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau . Y dyn da , o drysor da’r galon , a ddwg allan bethau da : a’r dyn drwg , o’r trysor drwg , a ddwg allan bethau drwg . Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych , Mai am bob gair segur a ddywedo dynion , y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn . Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir , ac wrth dy eiriau y’th gondemnir . Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid , gan ddywedyd , Athro , ni a chwenychem weled arwydd gennyt . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd ; ac arwydd nis rhoddir iddi , ond arwydd y proffwyd Jonas : Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil , felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear . Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemniant hi ; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas : ac wele fwy na Jonas yma . Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemnia hi ; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon : ac wele fwy na Solomon yma . A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn , efe a rodia ar hyd lleoedd sychion , gan geisio gorffwystra , ac nid yw yn ei gael . Yna medd efe , Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan . Ac wedi y delo , y mae yn ei gael yn wag , wedi ei ysgubo a’i drwsio . Yna y mae efe yn myned , ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun ; ac wedi iddynt fyned i mewn , hwy a gyfanheddant yno : ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad . Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon . Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd , wele , ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan , yn ceisio ymddiddan ag ef . A dywedodd un wrtho , Wele , y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan , yn ceisio ymddiddan â thi . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho , Pwy yw fy mam i ? a phwy yw fy mrodyr i ? Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd , Wele fy mam i , a’m brodyr i : Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd , efe yw fy mrawd i , a’m chwaer , a’m mam . Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ , ac yr eisteddodd wrth lan y môr . A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef , fel yr aeth efe i’r llong , ac yr eisteddodd : a’r holl dyrfa a safodd ar y lan . Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion , gan ddywedyd , Wele , yr heuwr a aeth allan i hau . Ac fel yr oedd efe yn hau , peth a syrthiodd ar fin y ffordd ; a’r adar a ddaethant , ac a’i difasant . Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd , lle ni chawsant fawr ddaear : ac yn y man yr eginasant , gan nad oedd iddynt ddyfnder daear : Ac wedi codi yr haul , y poethasant ; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn , hwy a wywasant . A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain ; a’r drain a godasant , ac a’u tagasant hwy . Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da , ac a ddygasant ffrwyth , peth ar ei ganfed , arall ar ei dri ugeinfed , arall ar ei ddegfed ar hugain . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . A daeth y disgyblion , ac a ddywedasant wrtho , Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd , ac ni roddwyd iddynt hwy . Oblegid pwy bynnag sydd ganddo , i hwnnw y rhoddir , ac efe a gaiff helaethrwydd : eithr pwy bynnag nid oes ganddo , oddi arno ef y dygir , ie , yr hyn sydd ganddo . Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion : canys a hwy yn gweled , nid ydynt yn gweled ; ac yn clywed , nid ydynt yn clywed , nac yn deall . Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias , yr hon sydd yn dywedyd , Gan glywed y clywch , ac ni ddeellwch ; ac yn gweled y gwelwch , ac ni chanfyddwch ; Canys brasawyd calon y bobl hyn , a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm , ac a gaeasant eu llygaid ; rhag canfod â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’r galon , a throi , ac i mi eu hiacháu hwynt . Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi , am eu bod yn gweled ; a’ch clustiau , am eu bod yn clywed : Oblegid yn wir y dywedaf i chwi , chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi , ac nis gwelsant ; a chlywed yr hyn a glywch chwi , ac nis clywsant . Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr . Pan glywo neb air y deyrnas , ac heb ei ddeall , y mae’r drwg yn dyfod , ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef . Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd . A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair , ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn ; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun , eithr dros amser y mae : a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair , yn y fan efe a rwystrir . A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair ; ac y mae gofal y byd hwn , a thwyll cyfoeth , yn tagu’r gair , ac y mae yn myned yn ddiffrwyth . Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair , ac yn ei ddeall ; sef yr hwn sydd yn ffrwytho , ac yn dwyn peth ei ganfed , arall ei dri ugeinfed , arall ei ddegfed ar hugain . Dameg arall a osododd efe iddynt , gan ddywedyd , Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes : A thra oedd y dynion yn cysgu , daeth ei elyn ef , ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith , ac a aeth ymaith . Ac wedi i’r eginyn dyfu , a dwyn ffrwyth , yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd . A gweision gŵr y tŷ a ddaethant , ac a ddywedasant wrtho , Arglwydd , oni heuaist ti had da yn dy faes ? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo ? Yntau a ddywedodd wrthynt , Y gelyn ddyn a wnaeth hyn . A’r gweision a ddywedasant wrtho , A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt ? Ac efe a ddywedodd , Na fynnaf ; rhag i chwi , wrth gasglu’r efrau , ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt . Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf : ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr , Cesglwch yn gyntaf yr efrau , a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi ; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor . Dameg arall a osododd efe iddynt , gan ddywedyd , Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard , yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes : Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau ; ond wedi iddo dyfu , mwyaf un o’r llysiau ydyw , ac y mae efe yn myned yn bren ; fel y mae adar y nef yn dyfod , ac yn nythu yn ei gangau ef . Dameg arall a lefarodd efe wrthynt ; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes , yr hwn a gymerodd gwraig , ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd , hyd oni surodd y cwbl . Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd ; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt ; Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , Agoraf fy ngenau mewn damhegion ; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd . Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith , ac yr aeth i’r tŷ : a’i ddisgyblion a ddaethant ato , gan ddywedyd , Eglura i ni ddameg efrau’r maes . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr hwn sydd yn hau’r had da , yw Mab y dyn ; A’r maes yw’r byd ; a’r had da , hwynt‐hwy yw plant y deyrnas ; a’r efrau yw plant y drwg ; A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt , yw diafol ; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd ; a’r medelwyr yw’r angylion . Megis gan hynny y cynullir yr efrau , ac a’u llwyr losgir yn tân ; felly y bydd yn niwedd y byd hwn . Mab y dyn a ddenfyn ei angylion , a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau , a’r rhai a wnânt anwiredd ; Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul , yn nheyrnas eu Tad . Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes ; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael , a’i cuddiodd , ac o lawenydd amdano , sydd yn myned ymaith , ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd , ac yn prynu’r maes hwnnw . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr , yn ceisio perlau teg : Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr , a aeth , ac a werthodd gymaint oll ag a feddai , ac a’i prynodd ef . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr , ac a gasglodd o bob rhyw beth : Yr hon , wedi ei llenwi , a ddygasant i’r lan , ac a eisteddasant , ac a gasglasant y rhai da mewn llestri , ac a fwriasant allan y rhai drwg . Felly y bydd yn niwedd y byd : yr angylion a ânt allan , ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn , Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Iesu a ddywedodd wrthynt , A ddarfu i chwi ddeall hyn oll ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Do , Arglwydd . A dywedodd yntau wrthynt , Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd , sydd debyg i ddyn o berchen tŷ , yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen . A bu , wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn , efe a ymadawodd oddi yno . Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun , ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog ; fel y synnodd arnynt , ac y dywedasant , O ba le y daeth y doethineb hwn , a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn ? Onid hwn yw mab y saer ? onid Mair y gelwir ei fam ef ? a Iago , a Joses , a Simon , a Jwdas , ei frodyr ef ? Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni ? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll ? A hwy a rwystrwyd ynddo ef . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid yw proffwyd heb anrhydedd , ond yn ei wlad ei hun , ac yn ei dŷ ei hun . Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno , oblegid eu hanghrediniaeth hwynt . Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu ; Ac efe a ddywedodd wrth ei weision , Hwn yw Ioan Fedyddiwr : efe a gyfododd o feirw ; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef . Canys Herod a ddaliasai Ioan , ac a’i rhwymasai , ac a’i dodasai yng ngharchar , oblegid Herodias , gwraig Phylip ei frawd ef . Canys Ioan a ddywedodd wrtho , Nid cyfreithlon i ti ei chael hi . Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth , a ofnodd y dyrfa ; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd . Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod , y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy , ac a ryngodd fodd Herod . O ba herwydd efe a addawodd , trwy lw , roddi iddi beth bynnag a ofynnai . A hithau , wedi ei rhagddysgu gan ei mam , a ddywedodd , Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl . A’r brenin a fu drist ganddo : eithr oherwydd y llw , a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford , efe a orchmynnodd ei roi ef iddi . Ac efe a anfonodd , ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar . A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl , ac a’i rhoddwyd i’r llances : a hi a’i dug ef i’w mam . A’i ddisgyblion ef a ddaethant , ac a gymerasant ei gorff ef , ac a’i claddasant ; ac a aethant , ac a fynegasant i’r Iesu . A phan glybu’r Iesu , efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu : ac wedi clywed o’r torfeydd , hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd . A’r Iesu a aeth allan , ac a welodd dyrfa fawr , ac a dosturiodd wrthynt ; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , daeth ei ddisgyblion ato , gan ddywedyd , Y lle sydd anghyfannedd , a’r awr a aeth weithian heibio : gollwng y dyrfa ymaith , fel yr elont i’r pentrefi , ac y prynont iddynt fwyd . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid iddynt fyned ymaith : rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwy a ddywedasant wrtho , Nid oes gennym ni yma ond pum torth , a dau bysgodyn . Ac efe a ddywedodd , Dygwch hwynt yma i mi . Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas , a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn , efe a edrychodd i fyny tua’r nef , ac a fendithiodd , ac a dorrodd ; ac a roddes y torthau i’r disgyblion , a’r disgyblion i’r torfeydd . A hwynt oll a fwytasant , ac a gawsant eu digon : ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill , ddeuddeg basgedaid yn llawn . A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr , heblaw gwragedd a phlant . Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong , ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef , tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith . Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith , efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei hun , i weddïo : ac wedi ei hwyrhau hi , yr oedd efe yno yn unig . A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr , yn drallodus gan donnau : canys gwynt gwrthwynebus ydoedd . Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt , gan rodio ar y môr . A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr , dychrynasant , gan ddywedyd , Drychiolaeth ydyw . A hwy a waeddasant rhag ofn . Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt , gan ddywedyd , Cymerwch gysur : myfi ydyw ; nac ofnwch . A Phedr a’i hatebodd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , os tydi yw , arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd . Ac efe a ddywedodd , Tyred . Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong , efe a rodiodd ar y dyfroedd , i ddyfod at yr Iesu . Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf , efe a ofnodd : a phan ddechreuodd suddo , efe a lefodd , gan ddywedyd , Arglwydd , cadw fi . Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law , ac a ymaflodd ynddo ef , ac a ddywedodd wrtho , Tydi o ychydig ffydd , paham y petrusaist ? A phan aethant hwy i mewn i’r llong , peidiodd y gwynt . A daeth y rhai oedd yn y llong , ac a’i haddolasant ef , gan ddywedyd , Yn wir Mab Duw ydwyt ti . Ac wedi iddynt fyned trosodd , hwy a ddaethant i dir Gennesaret . A phan adnabu gwŷr y fan honno ef , hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch , ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl ; Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef : a chynifer ag a gyffyrddodd , a iachawyd . Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid , y rhai oedd o Jerwsalem , a ddaethant at yr Iesu , gan ddywedyd , Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid ? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi ? Canys Duw a orchmynnodd , gan ddywedyd , Anrhydedda dy dad a’th fam : a’r hwn a felltithio dad neu fam , lladder ef yn farw . Eithr yr ydych chwi yn dywedyd , Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam , Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi , ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam , difai fydd . Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun . O ragrithwyr , da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi , gan ddywedyd , Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau , a’m hanrhydeddu â’u gwefusau ; a’u calon sydd bell oddi wrthyf . Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i , gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth . Ac wedi iddo alw y dyrfa ato , efe a ddywedodd wrthynt , Clywch , a deellwch . Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau , sydd yn halogi dyn ; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau , hynny sydd yn halogi dyn . Yna y daeth ei ddisgyblion ato , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn ? Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol , a ddiwreiddir . Gadewch iddynt : tywysogion deillion i’r deillion ydynt . Ac os y dall a dywys y dall , y ddau a syrthiant yn y ffos . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Eglura i ni’r ddameg hon . A dywedodd yr Iesu , A ydych chwithau eto heb ddeall ? Onid ydych chwi yn deall eto , fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau , yn cilio i’r bola , ac y bwrir ef allan i’r geudy ? Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau , sydd yn dyfod allan o’r galon ; a’r pethau hynny a halogant ddyn . Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan , lladdiadau , torpriodasau , godinebau , lladradau , camdystiolaethau , cablau : Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn : eithr bwyta â dwylo heb olchi , ni haloga ddyn . A’r Iesu a aeth oddi yno , ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon . Ac wele , gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny , ac a lefodd , gan ddywedyd wrtho , Trugarha wrthyf , O Arglwydd , Fab Dafydd : y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul . Eithr nid atebodd efe iddi un gair . A daeth ei ddisgyblion ato , ac a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Gollwng hi ymaith ; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel . Ond hi a ddaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , cymorth fi . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Nid da cymryd bara’r plant , a’i fwrw i’r cŵn . Hithau a ddywedodd , Gwir yw , Arglwydd : canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi . Yna yr atebodd yr Iesu , ac a ddywedodd wrthi , Ha wraig , mawr yw dy ffydd : bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio . A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan . A’r Iesu a aeth oddi yno , ac a ddaeth gerllaw môr Galilea ; ac a esgynnodd i’r mynydd , ac a eisteddodd yno . A daeth ato dorfeydd lawer , a chanddynt gyda hwynt gloffion , deillion , mudion , anafusion , ac eraill lawer : a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu , ac efe a’u hiachaodd hwynt : Fel y rhyfeddodd y torfeydd , wrth weled y mudion yn llefaru , y rhai anafus yn iach , y cloffion yn rhodio , a’r deillion yn gweled : a hwy a ogoneddasant Dduw Israel . A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd , Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa ; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian , ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta : ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng , rhag eu llewygu ar y ffordd . A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho , O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch , fel y digonid tyrfa gymaint ? A’r Iesu a ddywedai wrthynt , Pa sawl torth sydd gennych ? A hwy a ddywedasant , Saith , ac ychydig bysgod bychain . Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear . A chan gymryd y saith dorth , a’r pysgod , a diolch , efe a’u torrodd , ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion , a’r disgyblion i’r dyrfa . A hwy oll a fwytasant , ac a gawsant eu digon ; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill , saith fasgedaid yn llawn . A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr , heblaw gwragedd a phlant . Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith , efe a aeth i long , ac a ddaeth i barthau Magdala . Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato , a’i demtio , hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pan fyddo’r hwyr , y dywedwch , Tywydd teg ; canys y mae’r wybr yn goch . A’r bore , Heddiw drycin ; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd . O ragrithwyr , chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren ; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau ? Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd ; ac arwydd nis rhoddir iddi , ond arwydd y proffwyd Jonas . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth ymaith . Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall , hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid . A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Hyn sydd am na chymerasom fara gennym . A’r Iesu yn gwybod , a ddywedodd wrthynt , Chwychwi o ychydig ffydd , paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain , am na chymerasoch fara gyda chwi ? Onid ydych chwi yn deall eto , nac yn cofio pum torth y pum mil , a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny ? Na saith dorth y pedair mil , a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny ? Pa fodd nad ydych yn deall , nad am fara y dywedais wrthych , ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid ? Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara , ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid . Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi , efe a ofynnodd i’w ddisgyblion , gan ddywedyd , Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i , Mab y dyn ? A hwy a ddywedasant , Rhai , mai Ioan Fedyddiwr , a rhai , mai Eleias , ac eraill , mai Jeremeias , neu un o’r proffwydi . Efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi ? A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd , Ti yw’r Crist , Mab y Duw byw . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho , Gwyn dy fyd di , Simon mab Jona : canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti , ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti , mai ti yw Pedr , ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys ; a phyrth uffern nis gorchfygant hi . A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd : a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear , a fydd rhwymedig yn y nefoedd ; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear , a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd . Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion , na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist . O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem , a dioddef llawer gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , a chyfodi y trydydd dydd . A Phedr , wedi ei gymryd ef ato , a ddechreuodd ei geryddu ef , gan ddywedyd , Arglwydd , trugarha wrthyt dy hun ; ni bydd hyn i ti . Ac efe a drodd , ac a ddywedodd wrth Pedr , Dos yn fy ôl i , Satan : rhwystr ydwyt ti i mi : am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw , ond y pethau sydd o ddynion . Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion , Os myn neb ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a chyfoded ei groes , a chanlyned fi . Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd , a’i cyll : a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i , a’i caiff . Canys pa lesâd i ddyn , os ennill efe yr holl fyd , a cholli ei enaid ei hun ? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ? Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion ; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred . Yn wir y dywedaf wrthych , Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma , a’r ni phrofant angau , hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth . Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr , ac Iago , ac Ioan ei frawd , ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu ; A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy : a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul , a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni . Ac wele , Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt , yn ymddiddan ag ef . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu , O Arglwydd , da yw i ni fod yma : os ewyllysi , gwnawn yma dair pabell ; un i ti , ac un i Moses , ac un i Eleias . Ac efe eto yn llefaru , wele , cwmwl golau a’u cysgododd hwynt : ac wele , lef o’r cwmwl , yn dywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd : gwrandewch arno ef . A phan glybu’r disgyblion hynny : hwy a syrthiasant ar eu hwyneb , ac a ofnasant yn ddirfawr . A daeth yr Iesu , ac a gyffyrddodd â hwynt , ac a ddywedodd , Cyfodwch , ac nac ofnwch . Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid , ni welsant neb ond yr Iesu yn unig . Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd , gorchmynnodd yr Iesu iddynt , gan ddywedyd , Na ddywedwch y weledigaeth i neb , hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd , fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf , ac a adfer bob peth . Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , ddyfod o Eleias eisoes : ac nad adnabuant hwy ef , ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant : felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy . Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt . Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa , daeth ato ryw ddyn , ac a ostyngodd iddo ar ei liniau , Ac a ddywedodd , Arglwydd , trugarha wrth fy mab , oblegid y mae efe yn lloerig , ac yn flin arno : canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych , ac yn y dwfr yn fynych . Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di , ac ni allent hwy ei iacháu ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon a throfaus , pa hyd y byddaf gyda chwi ? pa hyd y dioddefaf chwi ? dygwch ef yma ataf fi . A’r Iesu a geryddodd y cythraul ; ac efe a aeth allan ohono : a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno . Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu , ac y dywedasant , Paham na allem ni ei fwrw ef allan ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Oblegid eich anghrediniaeth : canys yn wir y dywedaf i chwi , Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard , chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn , Symud oddi yma draw ; ac efe a symudai : ac ni bydd dim amhosibl i chwi . Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan , ond trwy weddi ac ympryd . Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea , dywedodd yr Iesu wrthynt , Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion : A hwy a’i lladdant ; a’r trydydd dydd y cyfyd efe . A hwy a aethant yn drist iawn . Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum , y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr , ac a ddywedasant , Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged ? Yntau a ddywedodd , Ydyw . Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ , yr Iesu a achubodd ei flaen ef , gan ddywedyd , Beth yr wyt ti yn ei dybied , Simon ? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth ? gan eu plant eu hun , ynteu gan estroniaid ? Pedr a ddywedodd wrtho , Gan estroniaid . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion . Er hynny , rhag i ni eu rhwystro hwy , dos i’r môr , a bwrw fach , a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf ; ac wedi iti agoryd ei safn , ti a gei ddarn o arian : cymer hwnnw , a dyro iddynt drosof fi a thithau . Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu , gan ddywedyd , Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd ? A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn , ac a’i gosododd yn eu canol hwynt ; Ac a ddywedodd , Yn wir y dywedaf i chwi , Oddieithr eich troi chwi , a’ch gwneuthur fel plant bychain , nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd . Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn , hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd . A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i , a’m derbyn i . A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi , da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf , a’i foddi yn eigion y môr . Gwae’r byd oblegid rhwystrau ! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau ; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr ! Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra , tor hwynt ymaith , a thafl oddi wrthyt : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff , neu yn anafus , nag a chennyt ddwy law , neu ddau droed , dy daflu i’r tân tragwyddol . Ac os dy lygad a’th rwystra , tyn ef allan , a thafl oddi wrthyt : gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd , nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern . Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Canys daeth Mab y dyn i gadw’r hyn a gollasid . Beth dybygwch chwi ? O bydd gan ddyn gant o ddefaid , a myned o un ohonynt ar ddisberod ; oni ad efe y namyn un cant , a myned i’r mynyddoedd , a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod ? Ac os bydd iddo ei chael hi , yn wir meddaf i chwi , y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod . Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd , gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn . Ac os pecha dy frawd i’th erbyn , dos , ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun . Os efe a wrendy arnat , ti a enillaist dy frawd . Ac os efe ni wrendy , cymer gyda thi eto un neu ddau , fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy . Ac os efe ni wrendy arnynt hwy , dywed i’r eglwys : ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith , bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican . Yn wir meddaf i chwi , Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear , fyddant wedi eu rhwymo yn y nef : a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear , a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef . Trachefn meddaf i chwi , Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll , beth bynnag a’r a ofynnant , efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i , yno yr ydwyf yn eu canol hwynt . Yna y daeth Pedr ato ef , ac a ddywedodd , Arglwydd , pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn , ac y maddeuaf iddo ? ai hyd seithwaith ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt , Hyd seithwaith ; ond , Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith . Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision . A phan ddechreuodd gyfrif , fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau . A chan nad oedd ganddo ddim i dalu , gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef , a’i wraig , a’i blant , a chwbl a’r a feddai , a thalu’r ddyled . A’r gwas a syrthiodd i lawr , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , bydd ymarhous wrthyf , a mi a dalaf i ti’r cwbl oll . Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho , ac a’i gollyngodd , ac a faddeuodd iddo’r ddyled . Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan , efe a gafodd un o’i gyd‐weision , yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog : ac efe a ymaflodd ynddo , ac a’i llindagodd , gan ddywedyd , Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat . Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef , ac a ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , Bydd ymarhous wrthyf , a mi a dalaf i ti’r cwbl oll . Ac nis gwnâi efe ; ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar , hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus . A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid , bu ddrwg dros ben ganddynt : a hwy a ddaethant , ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai . Yna ei arglwydd , wedi ei alw ef ato , a ddywedodd wrtho , Ha was drwg , maddeuais i ti yr holl ddyled honno , am iti ymbil â mi : Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was , megis y trugarheais innau wrthyt ti ? A’i arglwydd a ddigiodd , ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr , hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo . Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau , oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau A bu , pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn , efe a ymadawodd o Galilea , ac a ddaeth i derfynau Jwdea , tu hwnt i’r Iorddonen : A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef ; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno . A daeth y Phariseaid ato , gan ei demtio , a dywedyd wrtho , Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch , i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau , eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw ? Ac efe a ddywedodd , Oblegid hyn y gad dyn dad a mam , ac y glŷn wrth ei wraig : a’r ddau fyddant yn un cnawd . Oherwydd paham , nid ydynt mwy yn ddau , ond yn un cnawd . Y peth gan hynny a gysylltodd Duw , nac ysgared dyn . Hwythau a ddywedasant wrtho , Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar , a’i gollwng hi ymaith ? Yntau a ddywedodd wrthynt , Moses , oherwydd caledrwydd eich calonnau , a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd : eithr o’r dechrau nid felly yr oedd . Ac meddaf i chwi , Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig , ond am odineb , ac a briodo un arall , y mae efe yn torri priodas : ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd , yn torri priodas . Dywedodd ei ddisgyblion wrtho , Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig , nid da gwreica . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn , ond y rhai y rhoddwyd iddynt . Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam ; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid ; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd . Y neb a ddichon ei dderbyn , derbynied . Yna y dygwyd ato blant bychain , fel y rhoddai ei ddwylo arnynt , ac y gweddïai : a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt . A’r Iesu a ddywedodd , Gadewch i blant bychain , ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd . Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt , efe a aeth ymaith oddi yno . Ac wele , un a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Athro da , pa beth da a wnaf , fel y caffwyf fywyd tragwyddol ? Yntau a ddywedodd wrtho , Paham y gelwi fi yn dda ? nid da neb ond un , sef Duw : ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd , cadw’r gorchmynion . Efe a ddywedodd wrtho yntau , Pa rai ? A’r Iesu a ddywedodd , Na ladd , Na odineba , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Anrhydedda dy dad a’th fam , a Châr dy gymydog fel ti dy hun . Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho , Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid : beth sydd yn eisiau i mi eto ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Os ewyllysi fod yn berffaith , dos , gwerth yr hyn sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , canlyn fi . A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd , efe a aeth i ffordd yn drist : canys yr oedd yn berchen da lawer . Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion , Yn wir y dywedaf i chwi , mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd . A thrachefn meddaf i chwi , Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn , synnu a wnaethant yn ddirfawr , gan ddywedyd , Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig ? A’r Iesu a edrychodd arnynt , ac a ddywedodd wrthynt , Gyda dynion amhosibl yw hyn ; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl . Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ganlynasom di : beth gan hynny a fydd i ni ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , y cewch chwi , y rhai a’m canlynasoch i , yn yr adenedigaeth , pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant , eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd , yn barnu deuddeg llwyth Israel . A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr , neu chwiorydd , neu dad , neu fam , neu wraig , neu blant , neu diroedd , er mwyn fy enw i , a dderbyn y can cymaint , a bywyd tragwyddol a etifedda efe . Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf , a’r rhai olaf yn flaenaf . Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ , yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau , i gyflogi gweithwyr i’w winllan . Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd , efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan . Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr , ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa ; Ac a ddywedodd wrthynt , Ewch chwithau i’r winllan ; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn , mi a’i rhoddaf i chwi . A hwy a aethant ymaith . Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr , ac a wnaeth yr un modd . Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg , ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur ? Dywedasant wrtho , Am na chyflogodd neb nyni . Dywedodd yntau wrthynt , Ewch chwithau i’r winllan ; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn , chwi a’i cewch . A phan aeth hi yn hwyr , arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr , Galw’r gweithwyr , a dyro iddynt eu cyflog , gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf . A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg , hwy a gawsant bob un geiniog . A phan ddaeth y rhai cyntaf , hwy a dybiasant y caent fwy ; a hwythau a gawsant bob un geiniog . Ac wedi iddynt gael , grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ , Gan ddywedyd , Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn , a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau , y rhai a ddygasom bwys y dydd , a’r gwres . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt , Y cyfaill , nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi : onid er ceiniog y cytunaist â mi ? Cymer yr hyn sydd eiddot , a dos ymaith : yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau . Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun ? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg , am fy mod i yn dda ? Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf , a’r rhai blaenaf yn olaf : canys llawer sydd wedi eu galw , ac ychydig wedi eu dewis . Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem , efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion , a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth , Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd , i’w watwar , ac i’w fflangellu , ac i’w groeshoelio : a’r trydydd dydd efe a atgyfyd . Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion , gan addoli , a deisyf rhyw beth ganddo . Ac efe a ddywedodd wrthi , Pa beth a fynni ? Dywedodd hithau wrtho , Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd , y naill ar dy law ddeau , a’r llall ar dy law aswy , yn dy frenhiniaeth . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn . A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono , a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi ? Dywedasant wrtho , Gallwn . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Diau yr yfwch o’m cwpan , ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef : eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy , nid eiddof ei roddi ; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad . A phan glybu’r deg hyn , hwy a sorasant wrth y ddau frodyr . A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd , Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt , a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy . Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi : ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi , bydded yn weinidog i chwi ; A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith , bydded yn was i chwi : Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu , ond i wasanaethu , ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer . Ac a hwy yn myned allan o Jericho , tyrfa fawr a’i canlynodd ef . Ac wele , dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd , pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio , a lefasant , gan ddywedyd , Arglwydd , fab Dafydd , trugarha wrthym . A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt , fel y tawent : hwythau a lefasant fwyfwy , gan ddywedyd , Arglwydd , fab Dafydd , trugarha wrthym . A’r Iesu a safodd , ac a’u galwodd hwynt , ac a ddywedodd , Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi ? Dywedasant wrtho , Arglwydd , agoryd ein llygaid ni . A’r Iesu a dosturiodd wrthynt , ac a gyffyrddodd â’u llygaid : ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg , a hwy a’i canlynasant ef . Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem , a’u dyfod hwy i Bethffage , i fynydd yr Olewydd , yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl , Gan ddywedyd wrthynt , Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer , ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym , ac ebol gyda hi : gollyngwch hwynt , a dygwch ataf fi . Ac os dywed neb ddim wrthych , dywedwch , Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt : ac yn y man efe a’u denfyn hwynt . A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd , yn dywedyd , Dywedwch i ferch Seion , Wele , dy frenin yn dyfod i ti , yn addfwyn , ac yn eistedd ar asen , ac ebol llwdn asen arferol â’r iau . Y disgyblion a aethant , ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt . A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol , ac a ddodasant eu dillad arnynt , ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny . A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd ; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd , ac a’u taenasant ar hyd y ffordd . A’r torfeydd , y rhai oedd yn myned o’r blaen , a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl , a lefasant , gan ddywedyd , Hosanna i fab Dafydd : Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Hosanna yn y goruchafion . Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem , y ddinas oll a gynhyrfodd , gan ddywedyd , Pwy yw hwn ? A’r torfeydd a ddywedasant , Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea . A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw , ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml , ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian , a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ysgrifennwyd , Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i ; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml ; ac efe a’u hiachaodd hwynt . A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe , a’r plant yn llefain yn y deml , ac yn dywedyd , Hosanna i fab Dafydd ; hwy a lidiasant , Ac a ddywedasant wrtho , A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Ydwyf . Oni ddarllenasoch chwi erioed , O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant ? Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania , ac a letyodd yno . A’r bore , fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas , yr oedd arno chwant bwyd . A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd , efe a ddaeth ato , ac ni chafodd ddim arno , ond dail yn unig : ac efe a ddywedodd wrtho , Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach . Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren . A phan welodd y disgyblion , hwy a ryfeddasant , gan ddywedyd , Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren ! A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Os bydd gennych ffydd , ac heb amau , ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren , eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn , Coder di i fyny , a bwrier di i’r môr ; hynny a fydd . A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi , gan gredu , chwi a’i derbyniwch . Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml , yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato , fel yr oedd efe yn athrawiaethu , gan ddywedyd , Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn ? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Minnau a ofynnaf i chwithau un gair , yr hwn os mynegwch i mi , minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Bedydd Ioan , o ba le yr oedd ? ai o’r nef , ai o ddynion ? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed wrthym , Paham gan hynny nas credasoch ef ? Ond os dywedwn , O ddynion ; y mae arnom ofn y bobl : canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd . A hwy a atebasant i’r Iesu , ac a ddywedasant , Ni wyddom ni . Ac yntau a ddywedodd wrthynt , Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ond beth dybygwch chwi ? Yr oedd gan ŵr ddau fab : ac efe a ddaeth at y cyntaf , ac a ddywedodd , Fy mab , dos , gweithia heddiw yn fy ngwinllan . Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Nid af : ond wedi hynny efe a edifarhaodd , ac a aeth . A phan ddaeth efe at yr ail , efe a ddywedodd yr un modd . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Myfi a af , arglwydd ; ac nid aeth efe . Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad ? Dywedasant wrtho , Y cyntaf . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi . Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder , ac ni chredasoch ef ; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef : chwithau , yn gweled , nid edifarhasoch wedi hynny , fel y credech ef . Clywch ddameg arall . Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ , yr hwn a blannodd winllan , ac a osododd gae yn ei chylch hi , ac a gloddiodd ynddi winwryf , ac a adeiladodd dŵr , ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref . A phan nesaodd amser ffrwythau , efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr , i dderbyn ei ffrwythau hi . A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef , ac un a gurasant , ac arall a laddasant , ac arall a labyddiasant . Trachefn , efe a anfonodd weision eraill , fwy na’r rhai cyntaf : a hwy a wnaethant iddynt yr un modd . Ac yn ddiwethaf oll , efe a anfonodd atynt ei fab ei hun , gan ddywedyd , Hwy a barchant fy mab i . A phan welodd y llafurwyr y mab , hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun , Hwn yw’r etifedd ; deuwch , lladdwn ef , a daliwn ei etifeddiaeth ef . Ac wedi iddynt ei ddal , hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan , ac a’i lladdasant . Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan , pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny ? Hwy a ddywedasant wrtho , Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny , ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill , y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau , Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben congl : gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn , a rhyfedd yw yn ein golwg ni ? Am hynny meddaf i chwi , Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi , ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau . A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn , efe a ddryllir : ac ar bwy bynnag y syrthio , efe a’i mâl ef yn chwilfriw . A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef , hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe . Ac a hwy yn ceisio ei ddala , hwy a ofnasant y torfeydd ; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd . A’r Iesu a atebodd , ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion , gan ddywedyd , Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab , Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas : ac ni fynnent hwy ddyfod . Trachefn , efe a anfonodd weision eraill , gan ddywedyd , Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd , Wele , paratoais fy nghinio : fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd , a phob peth sydd barod : deuwch i’r briodas . A hwy yn ddiystyr ganddynt , a aethant ymaith , un i’w faes , ac arall i’w fasnach : A’r lleill a ddaliasant ei weision ef , ac a’u hamharchasant , ac a’u lladdasant . A phan glybu’r brenin , efe a lidiodd ; ac a ddanfonodd ei luoedd , ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny , ac a losgodd eu dinas hwynt . Yna efe a ddywedodd wrth ei weision , Yn wir y briodas sydd barod , ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng . Ewch gan hynny i’r priffyrdd , a chynifer ag a gaffoch , gwahoddwch i’r briodas . A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd , ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant , drwg a da : a llanwyd y briodas o wahoddedigion . A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion , efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano : Ac efe a ddywedodd wrtho , Y cyfaill , pa fodd y daethost i mewn yma , heb fod gennyt wisg priodas ? Ac yntau a aeth yn fud . Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion , Rhwymwch ei draed a’i ddwylo , a chymerwch ef ymaith , a theflwch i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Canys llawer sydd wedi eu galw , ac ychydig wedi eu dewis . Yna yr aeth y Phariseaid , ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd . A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid , gan ddywedyd , Athro , ni a wyddom dy fod yn eirwir , ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd , ac nad oes arnat ofal rhag neb : oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion . Dywed i ni gan hynny , Beth yr wyt ti yn ei dybied ? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy , ac a ddywedodd , Paham yr ydych yn fy nhemtio i , chwi ragrithwyr ? Dangoswch i mi arian y deyrnged . A hwy a ddygasant ato geiniog : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff ? Dywedasant wrtho , Eiddo Cesar . Yna y dywedodd wrthynt , Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . A phan glywsant hwy hyn , rhyfeddu a wnaethant , a’i adael ef , a myned ymaith . Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid , y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad , ac a ofynasant iddo , Gan ddywedyd , Athro , dywedodd Moses , Os bydd marw neb heb iddo blant , prioded ei frawd ei wraig ef , a chyfoded had i’w frawd . Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr : a’r cyntaf a briododd wraig , ac a fu farw ; ac efe heb hiliogaeth iddo , a adawodd ei wraig i’w frawd . Felly hefyd yr ail , a’r trydydd , hyd y seithfed . Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad , gan hynny , gwraig i bwy o’r saith fydd hi ? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr ydych yn cyfeiliorni , gan na wyddoch yr ysgrythurau , na gallu Duw . Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica , nac yn gwra ; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef . Ac am atgyfodiad y meirw , oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw , gan ddywedyd , Myfi yw Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob ? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw , ond y rhai byw . A phan glybu’r torfeydd hynny , hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef . Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid , hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle . Ac un ohonynt , yr hwn oedd gyfreithiwr , a ofynnodd iddo , gan ei demtio , a dywedyd , Athro , pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl feddwl . Hwn yw’r cyntaf , a’r gorchymyn mawr . A’r ail sydd gyffelyb iddo ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll . Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd , yr Iesu a ofynnodd iddynt , Gan ddywedyd , Beth a dybygwch chwi am Grist ? mab i bwy ydyw ? Dywedent wrtho , Mab Dafydd . Dywedai yntau wrthynt , Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd , gan ddywedyd , Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di ? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd , pa fodd y mae efe yn fab iddo ? Ac ni allodd neb ateb gair iddo , ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach . Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion , Gan ddywedyd , Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid . Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw , cedwch a gwnewch ; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch : canys dywedant , ac nis gwnânt . Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn , ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion ; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd . Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion : canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau , ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth ; A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd , a’r prif gadeiriau yn y synagogau , A chyfarch yn y marchnadoedd , a’u galw gan ddynion , Rabbi , Rabbi . Eithr na’ch galwer chwi Rabbi : canys un yw eich Athro chwi , sef Crist ; a chwithau oll brodyr ydych . Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear : canys un Tad sydd i chwi , yr hwn sydd yn y nefoedd . Ac na’ch galwer yn athrawon : canys un yw eich Athro chwi , sef Crist . A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi . A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun , a ostyngir ; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun , a ddyrchefir . Eithr gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion : canys chwi nid ydych yn myned i mewn , a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , a hynny yn rhith hir weddïo : am hynny y derbyniwch farn fwy . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir , i wneuthur un proselyt ; ac wedi y gwneler , yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern , yn ddau mwy na chwi eich hunain . Gwae chwi , dywysogion deillion ! y rhai ydych yn dywedyd , Pwy bynnag a dwng i’r deml , nid yw ddim ; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml , y mae efe mewn dyled . Ffyliaid , a deillion : canys pa un sydd fwyaf , yr aur , ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur ? A phwy bynnag a dwng i’r allor , nid yw ddim ; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni , y mae efe mewn dyled . Ffyliaid , a deillion : canys pa un fwyaf , y rhodd , ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd ? Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor , sydd yn tyngu iddi , ac i’r hyn oll sydd arni . A phwy bynnag a dwng i’r deml , sydd yn tyngu iddi , ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi . A’r hwn a dwng i’r nef , sydd yn tyngu i orseddfainc Duw , ac i’r hwn sydd yn eistedd arni . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn degymu’r mintys , a’r anis , a’r cwmin , ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith , barn , a thrugaredd , a ffydd : rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn , ac na adewid y lleill heibio . Tywysogion deillion , y rhai ydych yn hidlo gwybedyn , ac yn llyncu camel . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl , ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb . Ti Pharisead dall , glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl , fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu , y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan , ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw , a phob aflendid . Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn , ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi , ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn ; Ac yr ydych yn dywedyd , Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau , ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi . Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain , eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi . Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau . O seirff , hiliogaeth gwiberod , pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern ? Am hynny , wele , yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi , a doethion , ac ysgrifenyddion : a rhai ohonynt a leddwch , ac a groeshoeliwch ; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau , ac a erlidiwch o dref i dref . Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear , o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias , yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor . Yn wir meddaf i chwi , Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon . Jerwsalem , Jerwsalem , yr hon wyt yn lladd y proffwydi , ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat , pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd , megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd , ac nis mynnech ! Wele , yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd . Canys meddaf i chwi , Ni’m gwelwch ar ôl hyn , hyd oni ddywedoch , Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd . A’r Iesu a aeth allan , ac a ymadawodd o’r deml : a’i ddisgyblion a ddaethant ato , i ddangos iddo adeiladau’r deml . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Oni welwch chwi hyn oll ? Yn wir meddaf i chwi , Ni adewir yma garreg ar garreg , a’r ni ddatodir . Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd , y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu , gan ddywedyd , Mynega i ni , pa bryd y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad , ac o ddiwedd y byd ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi . Canys daw llawer yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; ac a dwyllant lawer . A chwi a gewch glywed am ryfeloedd , a sôn am ryfeloedd : gwelwch na chyffroer chwi : canys rhaid yw bod hyn oll ; eithr nid yw’r diwedd eto . Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : ac fe fydd newyn , a nodau , a daeargrynfâu mewn mannau . A dechreuad gofidiau yw hyn oll . Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu , ac a’ch lladdant : a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i . Ac yna y rhwystrir llawer , ac y bradychant ei gilydd , ac y casânt ei gilydd . A gau broffwydi lawer a godant , ac a dwyllant lawer . Ac oherwydd yr amlha anwiredd , fe a oera cariad llawer . Eithr y neb a barhao hyd y diwedd , hwnnw a fydd cadwedig . A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd , er tystiolaeth i’r holl genhedloedd : ac yna y daw’r diwedd . Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol , a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd , yn sefyll yn y lle sanctaidd , ( y neb a ddarlleno , ystyried ; ) Yna y rhai a fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd . Y neb a fyddo ar ben y tŷ , na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ : A’r hwn a fyddo yn y maes , na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad . A gwae’r rhai beichiogion , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny . Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf , nac ar y dydd Saboth : Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr , y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon , ac ni bydd chwaith . Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny , ni fuasai gadwedig un cnawd oll : eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny . Yna os dywed neb wrthych , Wele , llyma Grist , neu llyma ; na chredwch . Canys cyfyd gau Gristiau , a gau broffwydi , ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau , hyd oni thwyllant , pe byddai bosibl , ie , yr etholedigion . Wele , rhagddywedais i chwi . Am hynny , os dywedant wrthych , Wele , y mae efe yn y diffeithwch ; nac ewch allan : wele , yn yr ystafelloedd ; na chredwch . Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain , ac y tywynna hyd y gorllewin ; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Canys pa le bynnag y byddo’r gelain , yno yr ymgasgl yr eryrod . Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny , y tywyllir yr haul , a’r lleuad ni rydd ei goleuni , a’r sêr a syrth o’r nef , a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir . Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef : ac yna y galara holl lwythau y ddaear ; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef , gyda nerth a gogoniant mawr . Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn ; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt , o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt . Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren ; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner , a’i ddail yn torri allan , chwi a wyddoch fod yr haf yn agos : Ac felly chwithau , pan weloch hyn oll , gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau . Yn wir meddaf i chwi , Nid â’r genhedlaeth hon heibio , hyd oni wneler hyn oll . Nef a daear a ânt heibio , eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim . Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb , nac angylion y nefoedd , ond fy Nhad yn unig . Ac fel yr oedd dyddiau Noe , felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed , yn priodi ac yn rhoi i briodas , hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch , Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw , a’u cymryd hwy oll ymaith ; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Yna y bydd dau yn y maes : y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dwy a fydd yn malu mewn melin ; un a gymerir , a’r llall a adewir . Gwyliwch gan hynny ; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd . A gwybyddwch hyn , pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr , efe a wyliasai , ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd . Am hynny byddwch chwithau barod : canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn . Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth , yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu , i roddi bwyd iddynt mewn pryd ? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw , yr hwn y caiff ei arglwydd ef , pan ddelo , yn gwneuthur felly . Yn wir meddaf i chwi , Ar ei holl dda y gesyd efe ef . Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon , Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod ; A dechrau curo ei gyd‐weision , a bwyta ac yfed gyda’r meddwon ; Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano , ac mewn awr nis gŵyr efe ; Ac efe a’i gwahana ef , ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion , y rhai a gymerasant eu lampau , ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab . A phump ohonynt oedd gall , a phump yn ffôl . Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau , ac ni chymerasant olew gyda hwynt : A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau . A thra oedd y priodfab yn aros yn hir , yr hepiasant oll ac yr hunasant . Ac ar hanner nos y bu gwaedd , Wele , y mae’r priodfab yn dyfod ; ewch allan i gyfarfod ag ef . Yna y cyfododd yr holl forynion hynny , ac a drwsiasant eu lampau . A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call , Rhoddwch i ni o’ch olew chwi : canys y mae ein lampau yn diffoddi . A’r rhai call a atebasant , gan ddywedyd , Nid felly ; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau : ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu , a phrynwch i chwi eich hunain . A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu , daeth y priodfab ; a’r rhai oedd barod , a aethant i mewn gydag ef i’r briodas : a chaewyd y drws . Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd , gan ddywedyd , Arglwydd , Arglwydd , agor i ni . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nid adwaen chwi . Gwyliwch gan hynny ; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn . Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr , yr hwn a alwodd ei weision , ac a roddes ei dda atynt . Ac i un y rhoddodd efe bum talent , ac i arall ddwy , ac i arall un , i bob un yn ôl ei allu ei hun ; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref . A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth , ac a farchnataodd â hwynt , ac a wnaeth bum talent eraill . A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy , a enillodd yntau ddwy eraill . Ond yr hwn a dderbyniasai un , a aeth , ac a gloddiodd yn y ddaear , ac a guddiodd arian ei arglwydd . Ac wedi llawer o amser , y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod , ac yn cyfrif â hwynt . A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent , ac a ddug bum talent eraill , gan ddywedyd , Arglwydd , pum talent a roddaist ataf : wele , mi a enillais bum talent eraill atynt . A dywedodd ei arglwydd wrtho , Da , was da a ffyddlon : buost ffyddlon ar ychydig , mi a’th osodaf ar lawer : dos i mewn i lawenydd dy arglwydd . A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth , ac a ddywedodd , Arglwydd , dwy dalent a roddaist ataf : wele , dwy eraill a enillais atynt . Ei arglwydd a ddywedodd wrtho , Da , was da a ffyddlon : buost ffyddlon ar ychydig , mi a’th osodaf ar lawer : dos i mewn i lawenydd dy arglwydd . A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth , ac a ddywedodd , Arglwydd , mi a’th adwaenwn di , mai gŵr caled ydwyt , yn medi lle nis heuaist , ac yn casglu lle ni wasgeraist : A mi a ofnais , ac a euthum , ac a guddiais dy dalent yn y ddaear : wele , yr wyt yn cael yr eiddot dy hun . A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho , O was drwg a diog , ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais , ac yn casglu lle nis gwasgerais : Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr ; a mi , pan ddaethwn , a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog . Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho , a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent . Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir , ac efe a gaiff helaethrwydd ; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno , ie , yr hyn sydd ganddo . A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . A Mab y dyn , pan ddêl yn ei ogoniant , a’r holl angylion sanctaidd gydag ef , yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant . A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd : ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd , megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr : Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw , ond y geifr ar yr aswy . Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw , Deuwch , chwi fendigedigion fy Nhad , etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd . Canys bûm newynog , a chwi a roesoch imi fwyd : bu arnaf syched , a rhoesoch imi ddiod : bûm ddieithr , a dygasoch fi gyda chwi : Noeth , a dilladasoch fi : bûm glaf , ac ymwelsoch â mi : bûm yng ngharchar , a daethoch ataf . Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , pa bryd y’th welsom yn newynog , ac y’th borthasom ? neu yn sychedig , ac y rhoesom iti ddiod ? A pha bryd y’th welsom yn ddieithr , ac y’th ddygasom gyda ni ? neu yn noeth , ac y’th ddilladasom ? A pha bryd y’th welsom yn glaf , neu yng ngharchar , ac y daethom atat ? A’r Brenin a etyb , ac a ddywed wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf , i mi y gwnaethoch . Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy , Ewch oddi wrthyf , rai melltigedig , i’r tân tragwyddol , yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion . Canys bûm newynog , ac ni roesoch i mi fwyd : bu arnaf syched , ac ni roesoch i mi ddiod : Bûm ddieithr , ac ni’m dygasoch gyda chwi : noeth , ac ni’m dilladasoch : yn glaf ac yng ngharchar , ac nid ymwelsoch â mi . Yna yr atebant hwythau hefyd iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , pa bryd y’th welsom yn newynog , neu yn sychedig , neu yn ddieithr , neu yn noeth , neu yn glaf , neu yng ngharchar , ac ni weiniasom iti ? Yna yr etyb efe iddynt , gan ddywedyd , Yn wir meddaf i chwi , Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn , nis gwnaethoch i minnau . A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol : ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol . Abu , wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg ; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio . Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a henuriaid y bobl , i lys yr archoffeiriad , yr hwn a elwid Caiaffas : A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell , ac y lladdent ef . Eithr hwy a ddywedasant , Nid ar yr ŵyl , rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl . Ac a’r Iesu ym Methania , yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus , Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr , ac a’i tywalltodd ar ei ben , ac efe yn eistedd wrth y ford . A phan welodd ei ddisgyblion , hwy a sorasant , gan ddywedyd , I ba beth y bu’r golled hon ? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer , a’i roddi i’r tlodion . A’r Iesu a wybu , ac a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig ? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf . Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi ; a mi nid ydych yn ei gael bob amser . Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff , a wnaeth hyn i’m claddu i . Yn wir meddaf i chwi , Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd , mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd , er coffa amdani hi . Yna yr aeth un o’r deuddeg , yr hwn a elwid Jwdas Iscariot , at yr archoffeiriaid , Ac a ddywedodd wrthynt , Pa beth a roddwch i mi , a mi a’i traddodaf ef i chwi ? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian . Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef . Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw , y disgyblion a ddaethant at yr Iesu , gan ddywedyd wrtho , Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg ? Ac yntau a ddywedodd , Ewch i’r ddinas at y cyfryw un , a dywedwch wrtho , Y mae’r Athro yn dywedyd , Fy amser sydd agos : gyda thi y cynhaliaf y pasg , mi a’m disgyblion . A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt , ac a baratoesant y pasg . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , efe a eisteddodd gyda’r deuddeg . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , efe a ddywedodd , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , mai un ohonoch chwi a’m bradycha i . A hwythau yn drist iawn , a ddechreuasant ddywedyd wrtho , bob un ohonynt , Ai myfi yw , Arglwydd ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl , hwnnw a’m bradycha i . Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned , fel y mae yn ysgrifenedig amdano : eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn ! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef . A Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , a atebodd ac a ddywedodd , Ai myfi yw efe , Athro ? Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a ddywedaist . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , yr Iesu a gymerth y bara , ac wedi iddo fendithio , efe a’i torrodd , ac a’i rhoddodd i’r disgyblion , ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch : hwn yw fy nghorff . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a diolch , efe a’i rhoddes iddynt , gan ddywedyd , Yfwch bawb o hwn : Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd , yr hwn a dywelltir dros lawer , er maddeuant pechodau . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden , hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad . Ac wedi iddynt ganu hymn , hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt , Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i : canys ysgrifenedig yw , Trawaf y bugail , a defaid y praidd a wasgerir . Eithr wedi fy atgyfodi , mi a af o’ch blaen chwi i Galilea . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Pe rhwystrid pawb o’th blegid di , eto ni’m rhwystrir i byth . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti , mai’r nos hon , cyn canu o’r ceiliog , y’m gwedi deirgwaith . Pedr a ddywedodd wrtho , Pe gorfyddai imi farw gyda thi , ni’th wadaf ddim . Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion . Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane , ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Eisteddwch yma , tra elwyf a gweddïo acw . Ac efe a gymerth Pedr , a dau fab Sebedeus , ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio . Yna efe a ddywedodd wrthynt , Trist iawn yw fy enaid hyd angau : arhoswch yma , a gwyliwch gyda mi . Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen , efe a syrthiodd ar ei wyneb , gan weddïo , a dywedyd , Fy Nhad , os yw bosibl , aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf : eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio , ond fel yr ydwyt ti . Ac efe a ddaeth at y disgyblion , ac a’u cafodd hwy yn cysgu ; ac a ddywedodd wrth Pedr , Felly ; oni allech chwi wylied un awr gyda mi ? Gwyliwch a gweddïwch , fel nad eloch i brofedigaeth . Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod , eithr y cnawd sydd wan . Efe a aeth drachefn yr ail waith , ac a weddïodd , gan ddywedyd , Fy Nhad , onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf , na byddo i mi yfed ohono , gwneler dy ewyllys di . Ac efe a ddaeth , ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn : canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth ymaith drachefn , ac a weddïodd y drydedd waith , gan ddywedyd yr un geiriau . Yna y daeth efe at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd wrthynt , Cysgwch bellach , a gorffwyswch : wele , y mae’r awr wedi nesáu , a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid . Codwch , awn : wele , nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu . Ac efe eto yn llefaru , wele , Jwdas , un o’r deuddeg , a ddaeth , a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn , oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl . A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt , gan ddywedyd , Pa un bynnag a gusanwyf , hwnnw yw efe : deliwch ef . Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu , ac a ddywedodd , Henffych well , Athro ; ac a’i cusanodd ef . A’r Iesu a ddywedodd wrtho . Y cyfaill , i ba beth y daethost ? Yna y daethant , ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu , ac a’i daliasant ef . Ac wele , un o’r rhai oedd gyda’r Iesu , a estynnodd ei law , ac a dynnodd ei gleddyf , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ei glust ef . Yna y dywedodd yr Iesu wrtho , Dychwel dy gleddyf i’w le : canys pawb a’r a gymerant gleddyf , a ddifethir â chleddyf . A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad , ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion ? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau , mai felly y gorfydd bod ? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd , Ai megis at leidr y daethoch chwi allan , â chleddyfau a ffyn i’m dal i ? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml , ac ni’m daliasoch . A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi . Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef , ac a ffoesant . A’r rhai a ddaliasent yr Iesu , a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad , lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd . A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell , hyd yn llys yr archoffeiriad ; ac a aeth i mewn , ac a eisteddodd gyda’r gweision , i weled y diwedd . A’r archoffeiriaid a’r henuriaid , a’r holl gyngor , a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu , fel y rhoddent ef i farwolaeth ; Ac nis cawsant : ie , er dyfod yno gau dystion lawer , ni chawsant . Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst , Ac ddywedasant , Hwn a ddywedodd , Mi a allaf ddinistrio teml Dduw , a’i hadeiladu mewn tri diwrnod . A chyfododd yr archoffeiriad , ac a ddywedodd wrtho , A atebi di ddim ? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn ? Ond yr Iesu a dawodd . A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho , Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw , ddywedyd ohonot i ni , ai tydi yw y Crist , Mab Duw . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ti a ddywedaist : eithr meddaf i chwi , Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu , ac yn dyfod ar gymylau’r nef . Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad , gan ddywedyd , Efe a gablodd : pa raid inni mwy wrth dystion ? wele , yr awron clywsoch ei gabledd ef . Beth dybygwch chwi ? Hwythau gan ateb a ddywedasant , Y mae efe yn euog o farwolaeth . Yna y poerasant yn ei wyneb , ac a’i cernodiasant ; eraill a’i trawsant ef â gwiail , Gan ddywedyd , Proffwyda i ni , O Grist , pwy yw’r hwn a’th drawodd ? A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys : a daeth morwynig ato , ac a ddywedodd , A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead . Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll , ac a ddywedodd , Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd . A phan aeth efe allan i’r porth , gwelodd un arall ef ; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno , Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth . A thrachefn efe a wadodd trwy lw , Nid adwaen i y dyn . Ac ychydig wedi , daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw , ac a ddywedasant wrth Pedr , Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt ; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo . Yna y dechreuodd efe regi a thyngu , Nid adwaen i y dyn . Ac yn y man y canodd y ceiliog . A chofiodd Pedr air yr Iesu , yr hwn a ddywedasai wrtho , Cyn canu o’r ceiliog , ti a’m gwedi deirgwaith . Ac efe a aeth allan , ac a wylodd yn chwerw‐dost . Aphan ddaeth y bore , cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid , a henuriaid y bobl , yn erbyn yr Iesu , fel y rhoddent ef i farwolaeth . Ac wedi iddynt ei rwymo , hwy a’i dygasant ef ymaith , ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw . Yna pan welodd Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , ddarfod ei gondemnio ef , bu edifar ganddo , ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid , Gan ddywedyd , Pechais , gan fradychu gwaed gwirion . Hwythau a ddywedasant , Pa beth yw hynny i ni ? edrych di . Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml , efe a ymadawodd , ac a aeth ac a ymgrogodd . A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian , ac a ddywedasant , Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa ; canys gwerth gwaed ydyw . Ac wedi iddynt gydymgynghori , hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd , yn gladdfa dieithriaid . Am hynny y galwyd y maes hwnnw , Maes y gwaed , hyd heddiw . ( Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd , gan ddywedyd , A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian , pris y prisiedig , yr hwn a brynasant gan feibion Israel ; Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd , megis y gosododd yr Arglwydd i mi . ) A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw : a’r rhaglaw a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Yr wyt ti yn dywedyd . A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid , nid atebodd efe ddim . Yna y dywedodd Peilat wrtho , Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di ? Ac nid atebodd efe iddo i un gair ; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr . Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor , yr hwn a fynnent . Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod , a elwid Barabbas . Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd , Peilat a ddywedodd wrthynt , Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi ? Barabbas , ai’r Iesu , yr hwn a elwir Crist ? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef . Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc , ei wraig a ddanfonodd ato , gan ddywedyd , Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw : canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef . A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl , fel y gofynnent Barabbas , ac y difethent yr Iesu . A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi ? Hwythau a ddywedasant , Barabbas . Peilat a ddywedodd wrthynt , Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu , yr hwn a elwir Crist ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho , Croeshoelier ef . A’r rhaglaw a ddywedodd , Ond pa ddrwg a wnaeth efe ? Hwythau a lefasant yn fwy , gan ddywedyd , Croeshoelier ef . A Peilat , pan welodd nad oedd dim yn tycio , ond yn hytrach bod cynnwrf , a gymerth ddwfr , ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl , gan ddywedyd , Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn : edrychwch chwi . A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd , Bydded ei waed ef arnom ni , ac ar ein plant . Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt : ond yr Iesu a fflangellodd efe , ac a’i rhoddes i’w groeshoelio . Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy , ac a gynullasant ato yr holl fyddin . A hwy a’i diosgasant ef , ac a roesant amdano fantell o ysgarlad . A chwedi iddynt blethu coron o ddrain , hwy a’i gosodasant ar ei ben ef , a chorsen yn ei law ddeau ; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef , ac a’i gwatwarasant , gan ddywedyd , Henffych well , brenin yr Iddewon . A hwy a boerasant arno , ac a gymerasant y gorsen , ac a’i trawsant ar ei ben . Ac wedi iddynt ei watwar , hwy a’i diosgasant ef o’r fantell , ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun , ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio . Ac fel yr oeddynt yn myned allan , hwy a gawsant ddyn o Cyrene , a’i enw Simon ; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef . A phan ddaethant i le a elwid Golgotha , yr hwn a elwir , Lle’r benglog , Hwy a roesant iddo i’w yfed , finegr yn gymysgedig â bustl : ac wedi iddo ei brofi , ni fynnodd efe yfed . Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef , hwy a ranasant ei ddillad , gan fwrw coelbren : er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd , Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith , ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren . A chan eistedd , hwy a’i gwyliasant ef yno : A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig , HWN YW IESU , BRENIN YR IDDEWON . Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr ; un ar y llaw ddeau , ac un ar yr aswy . A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef , gan ysgwyd eu pennau , A dywedyd , Ti yr hwn a ddinistri’r deml , ac a’i hadeiledi mewn tridiau , gwared dy hun . Os ti yw Mab Duw , disgyn oddi ar y groes . A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd , gan watwar , gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid , a ddywedasant , Efe a waredodd eraill , ei hunan nis gall efe ei waredu . Os Brenin Israel yw , disgynned yr awron oddi ar y groes , ac ni a gredwn iddo . Ymddiriedodd yn Nuw ; gwareded efe ef yr awron , os efe a’i myn ef : canys efe a ddywedodd , Mab Duw ydwyf . A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo , y rhai a groeshoeliasid gydag ef . Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel , gan ddywedyd , Eli , Eli , lama sabachthani ? hynny yw , Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gadewaist ? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno , pan glywsant , a ddywedasant , Y mae hwn yn galw am Eleias . Ac yn y fan un ohonynt a redodd , ac a gymerth ysbwng , ac a’i llanwodd o finegr , ac a’i rhoddodd ar gorsen , ac a’i diododd ef . A’r lleill a ddywedasant , Paid , edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef . A’r Iesu , wedi llefain drachefn â llef uchel , a ymadawodd â’r ysbryd . Ac wele , llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered : a’r ddaear a grynodd , a’r meini a holltwyd : A’r beddau a agorwyd ; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant , Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef , ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd , ac a ymddangosasant i lawer . Ond y canwriad , a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu , wedi gweled y ddaeargryn , a’r pethau a wnaethid , a ofnasant yn fawr , gan ddywedyd , Yn wir Mab Duw ydoedd hwn . Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell , y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea , gan weini iddo ef : Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen , a Mair mam Iago a Joses , a mam meibion Sebedeus . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , daeth gŵr goludog o Arimathea , a’i enw Joseff , yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu : Hwn a aeth at Peilat , ac a ofynnodd gorff yr Iesu . Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff . A Joseff wedi cymryd y corff , a’i hamdôdd â lliain glân , Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun , yr hwn a dorasai efe yn y graig ; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd , ac a aeth ymaith . Ac yr oedd yno Mair Magdalen , a’r Fair arall , yn eistedd gyferbyn â’r bedd . A thrannoeth , yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl , yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat , Gan ddywedyd , Arglwydd , y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw , ac efe eto yn fyw , Wedi tridiau y cyfodaf . Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd ; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos , a’i ladrata ef , a dywedyd wrth y bobl , Efe a gyfododd o feirw : a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf . A dywedodd Peilat wrthynt , Y mae gennych wyliadwriaeth ; ewch , gwnewch mor ddiogel ag y medroch . A hwy a aethant , ac a wnaethant y bedd yn ddiogel , ac a seliasant y maen , gyda’r wyliadwriaeth . Ac yn niwedd y Saboth , a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos , daeth Mair Magdalen , a’r Fair arall , i edrych y bedd . Ac wele , bu daeargryn mawr : canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef , ac a ddaeth , ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws , ac a eisteddodd arno . A’i wynepryd oedd fel mellten , a’i wisg yn wen fel eira . A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid , ac a aethant megis yn feirw . A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd , Nac ofnwch : canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu , yr hwn a groeshoeliwyd . Nid yw efe yma : canys cyfododd , megis y dywedodd . Deuwch , gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd . Ac ewch ar ffrwst , a dywedwch i’w ddisgyblion , gyfodi ohono o feirw . Ac wele , y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea : yno gwelwch ef . Wele , dywedais i chwi . Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd , gydag ofn a llawenydd mawr , rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef . Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef , wele , yr Iesu a gyfarfu â hwynt , gan ddywedyd , Henffych well . A hwy a ddaethant , ac a ymafaelasant yn ei draed ef , ac a’i haddolasant . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt , Nac ofnwch : ewch , mynegwch i’m brodyr , fel yr elont i Galilea , ac yno y’m gwelant i . Ac wedi eu myned hwy , wele , rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas , ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid . Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid , a chydymgynghori , hwy a roesant arian lawer i’r milwyr , Gan ddywedyd , Dywedwch , Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos , ac a’i lladratasant ef , a nyni yn cysgu . Ac os clyw y rhaglaw hyn , ni a’i perswadiwn ef , ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal . A hwy a gymerasant yr arian , ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt : a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw . A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea , i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt . A phan welsant ef , hwy a’i haddolasant ef : ond rhai a ameuasant . A’r Iesu a ddaeth , ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear . Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd , gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad , a’r Mab , a’r Ysbryd Glân ; Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi . Ac wele , yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd . Amen . Dechrau efengyl Iesu Grist , Fab Duw ; Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi , Wele , yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , gwnewch yn union ei lwybrau ef . Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch , ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau . Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea , a’r Hierosolymitiaid , ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen , gan gyffesu eu pechodau . Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel , a gwregys croen ynghylch ei lwynau , ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt . Ac efe a bregethodd , gan ddywedyd , Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi , carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod . Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr : eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân . A bu yn y dyddiau hynny , ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea ; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen . Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr , efe a welodd y nefoedd yn agored , a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen . A llef a ddaeth o’r nefoedd , Tydi yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd . Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch . Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan : ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod : a’r angylion a weiniasant iddo . Ac ar ôl traddodi Ioan , yr Iesu a ddaeth i Galilea , gan bregethu efengyl teyrnas Dduw ; A dywedyd , Yr amser a gyflawnwyd , a theyrnas Dduw a nesaodd : edifarhewch , a chredwch yr efengyl . Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea , efe a ganfu Simon , ac Andreas ei frawd , yn bwrw rhwyd yn y môr : ( canys pysgodwyr oeddynt . ) A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Deuwch ar fy ôl i , a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion . Ac yn ebrwydd , gan adael eu rhwydau , y canlynasant ef . Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno , efe a ganfu Iago fab Sebedeus , ac Ioan ei frawd ef , a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau . Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt : a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion , ac a aethant ar ei ôl ef . A hwy a aethant i mewn i Gapernaum ; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth , wedi iddo fyned i mewn i’r synagog , efe a athrawiaethodd . A synasant wrth ei athrawiaeth ef : canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo , ac nid fel yr ysgrifenyddion . Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan : ac efe a lefodd , Gan ddywedyd , Och , beth sydd i ni a wnelom â thi , Iesu o Nasareth ? a ddaethost ti i’n difetha ni ? mi a’th adwaen pwy ydwyt , Sanct Duw . A’r Iesu a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Taw , a dos allan ohono . Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef , a gweiddi â llef uchel , efe a ddaeth allan ohono . Ac fe a aeth ar bawb fraw , fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain , gan ddywedyd , Beth yw hyn ? pa athrawiaeth newydd yw hon ? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn , ie , yr ysbrydion aflan , a hwy yn ufuddhau iddo . Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea . Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog , hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas , gydag Iago ac Ioan . Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd : ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi . Ac efe a ddaeth , ac a’i cododd hi i fyny , gan ymaflyd yn ei llaw hi : a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man ; a hi a wasanaethodd arnynt hwy . Ac wedi iddi hwyrhau , pan fachludodd yr haul , hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl , a’r rhai cythreulig . A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws . Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau , ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid ; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef . A’r bore yn blygeiniol iawn , wedi iddo godi , efe a aeth allan , ac a aeth i le anghyfannedd ; ac yno y gweddïodd . A Simon , a’r rhai oedd gydag ef , a’i dilynasant ef . Ac wedi iddynt ei gael ef , hwy a ddywedasant wrtho , Y mae pawb yn dy geisio di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Awn i’r trefydd nesaf , fel y gallwyf bregethu yno hefyd : canys i hynny y deuthum allan . Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea , ac yn bwrw allan gythreuliaid . A daeth ato ef un gwahanglwyfus , gan ymbil ag ef , a gostwng ar ei liniau iddo , a dywedyd wrtho , Os mynni , ti a elli fy nglanhau . A’r Iesu , gan dosturio , a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd wrtho , Mynnaf , bydd lân . Ac wedi iddo ddywedyd hynny , ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd , a glanhawyd ef . Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth , efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man ; Ac a ddywedodd wrtho , Gwêl na ddywedych ddim wrth neb : eithr dos ymaith , dangos dy hun i’r offeiriad , ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt hwy . Eithr efe a aeth ymaith , ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer , a thaenu’r gair ar led , fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas ; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd : ac o bob parth y daethant ato ef . Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum , wedi rhai dyddiau ; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ . Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd , hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws : ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy . A daethant ato , gan ddwyn un claf o’r parlys , yr hwn a ddygid gan bedwar . A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa , didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe : ac wedi iddynt dorri trwodd , hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys . A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt , efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys , Ha fab , maddeuwyd i ti dy bechodau . Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno , ac yn ymresymu yn eu calonnau , Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd ? pwy a all faddau pechodau , ond Duw yn unig ? Ac yn ebrwydd , pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain , efe a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau ? Pa un sydd hawsaf , ai dywedyd wrth y claf o’r parlys , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a chymer i fyny dy wely , a rhodia ? Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear , ( eb efe wrth y claf o’r parlys , ) Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd , Cyfod , a chymer i fyny dy wely , a dos i’th dŷ . Ac yn y man y cyfododd efe , ac y cymerth i fyny ei wely , ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll ; hyd oni synnodd pawb , a gogoneddu Duw , gan ddywedyd , Ni welsom ni erioed fel hyn . Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr : a’r holl dyrfa a ddaeth ato ; ac efe a’u dysgodd hwynt . Ac efe yn myned heibio , efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa , ac a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . Ac efe a gododd , ac a’i canlynodd ef . A bu , a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef , i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion ; canys llawer oeddynt , a hwy a’i canlynasent ef . A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid , hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef , Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid ? A’r Iesu , pan glybu , a ddywedodd wrthynt , Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg , ond y rhai cleifion : ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio . A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho , Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio , ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio ? A dywedodd yr Iesu wrthynt , A all plant yr ystafell briodas ymprydio , tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt ? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt , ni allant ymprydio . Eithr y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodasfab oddi arnynt ; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny . Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen : os amgen , ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen , a gwaeth fydd y rhwyg . Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau : os amgen , y gwin newydd a ddryllia’r costrelau , a’r gwin a red allan , a’r costrelau a gollir : eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion . A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth ; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys . A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho , Wele , paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd , pan oedd angen a chwant bwyd arno , efe a’r rhai oedd gydag ef ? Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw , dan Abiathar yr archoffeiriad , ac y bwytaodd y bara gosod , y rhai nid cyfreithlon eu bwyta , ond i’r offeiriaid yn unig , ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn , ac nid dyn er mwyn y Saboth : Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth . Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog ; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo . A hwy a’i gwyliasant ef , a iachâi efe ef ar y dydd Saboth ; fel y cyhuddent ef . Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo , Cyfod i’r canol . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth , ynteu gwneuthur drwg ? cadw einioes , ai lladd ? A hwy a dawsant â sôn . Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon , gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt , efe a ddywedodd wrth y dyn , Estyn allan dy law . Ac efe a’i hestynnodd : a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall . A’r Phariseaid a aethant allan , ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef , pa fodd y difethent ef . A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr : a lliaws mawr a’i canlynodd ef , o Galilea , ac o Jwdea , Ac o Jerwsalem , ac o Idumea , ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon , lliaws mawr , pan glywsant gymaint a wnaethai efe , a ddaethant ato . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo , oblegid y dyrfa , rhag iddynt ei wasgu ef . Canys efe a iachasai lawer , hyd oni phwysent arno , er mwyn cyffwrdd ag ef , cynifer ag oedd â phlâu arnynt . A’r ysbrydion aflan , pan welsant ef , a syrthiasant i lawr ger ei fron ef , ac a waeddasant , gan ddywedyd , Ti yw Mab Duw . Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth , na chyhoeddent ef . Ac efe a esgynnodd i’r mynydd , ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe : a hwy a ddaethant ato . Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg , fel y byddent gydag ef , ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu ; Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau , ac i fwrw allan gythreuliaid . Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr ; Ac Iago fab Sebedeus , ac Ioan brawd Iago , ( ac efe a roddes iddynt enwau , Boanerges ; yr hyn yw , Meibion y daran ; ) Ac Andreas , a Philip , a Bartholomeus , a Mathew , a Thomas , ac Iago fab Alffeus , a Thadeus , a Simon y Canaanead , A Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a’i bradychodd ef . A hwy a ddaethant i dŷ . A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn , fel na allent gymaint â bwyta bara . A phan glybu’r eiddo ef , hwy a aethant i’w ddal ef : canys dywedasant , Y mae ef allan o’i bwyll . A’r ysgrifenyddion , y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem , a ddywedasant fod Beelsebub ganddo , ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid . Ac wedi iddo eu galw hwy ato , efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion , Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan ? Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , ni ddichon y deyrnas honno sefyll . Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll . Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun , ac a fydd wedi ymrannu , ni all efe sefyll , eithr y mae iddo ddiwedd . Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn , ac ysbeilio ei ddodrefn ef , oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn ; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef . Yn wir y dywedaf i chwi , y maddeuir pob pechod i feibion dynion , a pha gabledd bynnag a gablant : Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân , ni chaiff faddeuant yn dragywydd , ond y mae yn euog o farn dragywydd : Am iddynt ddywedyd , Y mae ysbryd aflan ganddo . Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam ; a chan sefyll allan , hwy a anfonasant ato , gan ei alw ef . A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch , ac a ddywedasant wrtho , Wele , y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio . Ac efe a’u hatebodd hwynt , gan ddywedyd , Pwy yw fy mam i , neu fy mrodyr i ? Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch , efe a ddywedodd , Wele fy mam i , a’m brodyr i . Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw , hwnnw yw fy mrawd i , a’m chwaer , a’m mam i . Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr : a thyrfa fawr a ymgasglodd ato , hyd oni bu iddo fyned i’r llong , ac eistedd ar y môr ; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr , ar y tir . Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion , ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef , Gwrandewch : Wele , heuwr a aeth allan i hau : A darfu , wrth hau , i beth syrthio ar fin y ffordd , ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant . A pheth a syrthiodd ar greigle , lle ni chafodd fawr ddaear ; ac yn y fan yr eginodd , am nad oedd iddo ddyfnder daear . A phan gododd yr haul , y poethwyd ef ; ac am nad oedd gwreiddyn iddo , efe a wywodd . A pheth a syrthiodd ymhlith drain ; a’r drain a dyfasant , ac a’i tagasant ef , ac ni ddug ffrwyth . A pheth arall a syrthiodd mewn tir da , ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol , ac a ddug un ddeg ar hugain , ac un dri ugain , ac un gant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . A phan oedd efe wrtho’i hun , y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw : eithr i’r rhai sydd allan , ar ddamhegion y gwneir pob peth : Fel yn gweled y gwelant , ac na chanfyddant ; ac yn clywed y clywant , ac ni ddeallant ; rhag iddynt ddychwelyd , a maddau iddynt eu pechodau . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni wyddoch chwi’r ddameg hon ? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion ? Yr heuwr sydd yn hau’r gair . A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd , lle yr heuir y gair ; ac wedi iddynt ei glywed , y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd , ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt . A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle ; y rhai , wedi clywed y gair , sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen ; Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain , eithr dros amser y maent : yna , pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair , yn y man y rhwystrir hwynt . A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain ; y rhai a wrandawant y gair , Ac y mae gofalon y byd hwn , a hudoliaeth golud , a chwantau am bethau eraill , yn dyfod i mewn , ac yn tagu’r gair , a myned y mae yn ddiffrwyth . A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da ; y rhai sydd yn gwrando y gair , ac yn ei dderbyn , ac yn dwyn ffrwyth , un ddeg ar hugain , ac un dri ugain , ac un gant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr , neu dan wely ? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren ? Canys nid oes dim cuddiedig , a’r nis amlygir ; ac ni bu ddim dirgel , ond fel y delai i eglurdeb . Od oes gan neb glustiau i wrando , gwrandawed . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Edrychwch beth a wrandawoch . A pha fesur y mesuroch , y mesurir i chwithau ; a chwanegir i chwi , y rhai a wrandewch . Canys yr hwn y mae ganddo , y rhoddir iddo : a’r hwn nid oes ganddo , ie , yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno . Ac efe a ddywedodd , Felly y mae teyrnas Dduw , fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear ; A chysgu , a chodi nos a dydd , a’r had yn egino ac yn tyfu , y modd nis gŵyr efe . Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun ; yn gyntaf yr eginyn , ar ôl hynny y dywysen , yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen . A phan ymddangoso’r ffrwyth , yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo , am ddyfod y cynhaeaf . Ac efe a ddywedodd , I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw ? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni ? Megis gronyn o had mwstard ydyw , yr hwn pan heuer yn y ddaear , sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear ; Eithr wedi yr heuer , y mae yn tyfu , ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau , ac efe a ddwg ganghennau mawrion ; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef . Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair , hyd y gallent ei wrando : Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt : ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth . Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw , wedi ei hwyrhau hi , Awn trosodd i’r tu draw . Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa , hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong : ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef . Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt , a’r tonnau a daflasant i’r llong , hyd onid oedd hi yn llawn weithian . Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong , yn cysgu ar obennydd : a hwy a’i deffroesant ef , ac a ddywedasant wrtho , Athro , ai difater gennyt ein colli ni ? Ac efe a gododd i fyny , ac a geryddodd y gwynt , ac a ddywedodd wrth y môr , Gostega , distawa . A’r gwynt a ostegodd , a bu tawelwch mawr . Ac efe a ddywedodd wrthynt . Paham yr ydych mor ofnog ? pa fodd nad oes gennych ffydd ? Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr , ac a ddywedasant wrth ei gilydd , Pwy yw hwn , gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo ? A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr , i wlad y Gadareniaid . Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong , yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau , ddyn ag ysbryd aflan ynddo , Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau ; ac ni allai neb , ie , â chadwynau , ei rwymo ef : Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau , ac â chadwynau , a darnio ohono’r cadwynau , a dryllio’r llyffetheiriau : ac ni allai neb ei ddofi ef . Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd , ac ymhlith y beddau , ac yn ei dorri ei hun â cherrig . Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell , efe a redodd , ac a’i haddolodd ef ; A chan weiddi â llef uchel , efe a ddywedodd , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , Iesu Mab y Duw goruchaf ? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw , na phoenech fi . ( Canys dywedasai wrtho , Ysbryd aflan , dos allan o’r dyn . ) Ac efe a ofynnodd iddo , Beth yw dy enw ? Yntau a atebodd , gan ddywedyd , Lleng yw fy enw ; am fod llawer ohonom . Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef , na yrrai efe hwynt allan o’r wlad . Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori . A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Danfon ni i’r moch , fel y gallom fyned i mewn iddynt . Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt . A’r ysbrydion aflan , wedi myned allan , a aethant i mewn i’r moch : a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr ( ac ynghylch dwy fil oeddynt ) ac a’u boddwyd yn y môr . A’r rhai a borthent y moch a ffoesant , ac a fynegasant y peth yn y ddinas , ac yn y wlad : a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid . A hwy a ddaethant at yr Iesu , ac a welsant y cythreulig , yr hwn y buasai’r lleng ynddo , yn eistedd , ac yn ei ddillad , ac yn ei iawn bwyll ; ac a ofnasant . A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt , pa fodd y buasai i’r cythreulig , ac am y moch . A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt . Ac efe yn myned i’r llong , yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef . Ond yr Iesu ni adawodd iddo ; eithr dywedodd wrtho , Dos i’th dŷ at yr eiddot , a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot , ac iddo drugarhau wrthyt . Ac efe a aeth ymaith , ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis , pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo : a phawb a ryfeddasant . Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall , ymgasglodd tyrfa fawr ato : ac yr oedd efe wrth y môr . Ac wele , un o benaethiaid y synagog a ddaeth , a’i enw Jairus : a phan ei gwelodd , efe a syrthiodd wrth ei draed ef ; Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , Y mae fy merch fechan ar dranc : atolwg i ti ddyfod , a dodi dy ddwylo arni , fel yr iachaer hi ; a byw fydd . A’r Iesu a aeth gydag ef : a thyrfa fawr a’i canlynodd ef , ac a’i gwasgasant ef . A rhyw wraig , yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd , Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon , ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw , ac ni chawsai ddim llesâd , eithr yn hytrach myned waethwaeth , Pan glybu hi am yr Iesu , hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl , ac a gyffyrddodd â’i wisg ef ; Canys hi a ddywedasai , Os cyffyrddaf â’i ddillad ef , iach fyddaf . Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi : a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla . Ac yn y fan yr Iesu , gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono , a drodd yn y dyrfa , ac a ddywedodd , Pwy a gyffyrddodd â’m dillad ? A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu , ac a ddywedi di , Pwy a’m cyffyrddodd ? Ac yntau a edrychodd o amgylch , i weled yr hon a wnaethai hyn . Ond y wraig , gan ofni a chrynu , yn gwybod beth a wnaethid ynddi , a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef , ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd . Ac efe a ddywedodd wrthi , Ha ferch , dy ffydd a’th iachaodd : dos mewn heddwch , a bydd iach o’th bla . Ac efe eto yn llefaru , daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog , gan ddywedyd , Bu farw dy ferch : i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro ? A’r Iesu , yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid , a ddywedodd wrth bennaeth y synagog , Nac ofna ; cred yn unig . Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn , ond Pedr , ac Iago , ac Ioan brawd Iago . Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog , ac a ganfu’r cynnwrf , a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer . Ac wedi iddo fyned i mewn , efe a ddywedodd wrthynt , Paham y gwnewch gynnwrf , ac yr wylwch ? ni bu farw’r eneth , eithr cysgu y mae . A hwy a’i gwatwarasant ef . Ond efe , gwedi bwrw pawb allan , a gymerth dad yr eneth a’i mam , a’r rhai oedd gydag ef , ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd . Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth , efe a ddywedodd wrthi , Talitha , cwmi ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Yr eneth , yr wyf yn dywedyd wrthyt , cyfod . Ac yn y fan y cyfododd yr eneth , ac a rodiodd : canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi . A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr . Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth , na châi neb wybod hyn ; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta . Ac efe a aeth ymaith oddi yno , ac a ddaeth i’w wlad ei hun ; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef . Ac wedi dyfod y Saboth , efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog : a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant , gan ddywedyd , O ba le y daeth y pethau hyn i hwn ? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo , fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef ? Onid hwn yw’r saer , mab Mair , brawd Iago , a Joses , a Jwdas , a Simon ? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni ? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef . Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun , ac ymhlith ei genedl ei hun , ac yn ei dŷ ei hun . Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau , ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion , a’u hiacháu hwynt . Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth : ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch , gan athrawiaethu . Ac efe a alwodd y deuddeg , ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau ; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan ; Ac a orchmynnodd iddynt , na chymerent ddim i’r daith , ond llawffon yn unig ; nac ysgrepan , na bara , nac arian yn eu pyrsau : Eithr eu bod â sandalau am eu traed ; ac na wisgent ddwy bais . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ , arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno . A pha rai bynnag ni’ch derbyniant , ac ni’ch gwrandawant , pan eloch oddi yno , ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed , yn dystiolaeth iddynt . Yn wir meddaf i chwi , Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn , nag i’r ddinas honno . A hwy a aethant allan , ac a bregethasant ar iddynt edifarhau : Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid , ac a eliasant ag olew lawer o gleifion , ac a’u hiachasant . A’r brenin Herod a glybu ( canys cyhoedd ydoedd ei enw ef ) ; ac efe a ddywedodd , Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw , ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef . Eraill a ddywedasant , Mai Eleias yw . Ac eraill a ddywedasant , Mai proffwyd yw , neu megis un o’r proffwydi . Ond Herod , pan glybu , a ddywedodd , Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn ; efe a gyfododd o feirw . Canys yr Herod hwn a ddanfonasai , ac a ddaliasai Ioan , ac a’i rhwymasai ef yn y carchar , o achos Herodias gwraig Philip ei frawd ; am iddo ei phriodi hi . Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod , Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd . Ond Herodias a ddaliodd wg iddo , ac a chwenychodd ei ladd ef ; ac nis gallodd : Canys Herod oedd yn ofni Ioan , gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn , ac yn sanctaidd ; ac a’i parchai ef : ac wedi iddo ei glywed ef , efe a wnâi lawer o bethau , ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar . Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas , pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid , a’i flaenoriaid , a goreugwyr Galilea : Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn , a dawnsio , a boddhau Herod , a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef , y brenin a ddywedodd wrth y llances , Gofyn i mi y peth a fynnech , ac mi a’i rhoddaf i ti . Ac efe a dyngodd iddi , Beth bynnag a ofynnech i mi , mi a’i rhoddaf iti , hyd hanner fy nheyrnas . A hithau a aeth allan , ac a ddywedodd wrth ei mam , Pa beth a ofynnaf ? A hithau a ddywedodd , Pen Ioan Fedyddiwr . Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin , ac a ofynnodd , gan ddywedyd , Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law , ar ddysgl , ben Ioan Fedyddiwr . A’r brenin yn drist iawn , ni chwenychai ei bwrw hi heibio , oherwydd y llwon , a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef . Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr , ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef . Ac yntau a aeth , ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar , ac a ddug ei ben ef ar ddysgl , ac a’i rhoddes i’r llances ; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam . A phan glybu ei ddisgyblion ef , hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef , ac a’i dodasant mewn bedd . A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu , ac a fynegasant iddo yr holl bethau , y rhai a wnaethent , a’r rhai hefyd a athrawiaethasent . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu , a gorffwyswch encyd . Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned , fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta . A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu . A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith , a llawer a’i hadnabuant ef , ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd , ac a’u rhagflaenasant hwynt , ac a ymgasglasant ato ef . A’r Iesu , wedi myned allan , a welodd dyrfa fawr , ac a dosturiodd wrthynt , am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail : ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau . Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd , y daeth ei ddisgyblion ato ef , gan ddywedyd , Y lle sydd anial , ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd : Gollwng hwynt ymaith , fel yr elont i’r wlad oddi amgylch , ac i’r pentrefi , ac y prynont iddynt eu hunain fara : canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta . Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwy a ddywedasant wrtho , A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara , a’i roddi iddynt i’w fwyta ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa sawl torth sydd gennych ? ewch , ac edrychwch . Ac wedi iddynt wybod , hwy a ddywedasant , Pump , a dau bysgodyn . Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt . A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd , o fesur cannoedd , ac o fesur deg a deugeiniau . Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn , gan edrych i fyny tua’r nef , efe a fendithiodd , ac a dorrodd y bara , ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion , i’w gosod ger eu bronnau hwynt : a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll . A hwy oll a fwytasant , ac a gawsant ddigon . A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd , ac o’r pysgod . A’r rhai a fwytasent o’r torthau , oedd ynghylch pum mil o wŷr . Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong , a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida , tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl . Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith , efe a aeth i’r mynydd i weddïo . A phan aeth hi yn hwyr , yr oedd y llong ar ganol y môr , ac yntau ei hun ar y tir . Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo ; canys y gwynt oedd yn eu herbyn . Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt , gan rodio ar y môr ; ac a fynasai fyned heibio iddynt . Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr , hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd : a hwy a waeddasant . ( Canys hwynt oll a’i gwelsant ef , ac a ddychrynasant . ) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt , ac y dywedodd wrthynt , Cymerwch gysur : myfi yw ; nac ofnwch . Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong ; a’r gwynt a dawelodd . A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer , ac a ryfeddasant . Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny : canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu . Ac wedi iddynt ddyfod trosodd , hwy a ddaethant i dir Gennesaret , ac a laniasant . Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong , hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd . Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw , hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion , pa le bynnag y clywent ei fod ef . Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn , i bentrefi , neu ddinasoedd , neu wlad , hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd , ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef : a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef , a iachawyd . Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid , a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem . A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin ( hynny ydyw , heb olchi , ) yn bwyta bwyd , hwy a argyhoeddasant . Canys y Phariseaid , a’r holl Iddewon , oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych , ni fwytânt ; gan ddal traddodiad yr hynafiaid . A phan ddelont o’r farchnad , oni bydd iddynt ymolchi , ni fwytânt . A llawer o bethau eraill y sydd , y rhai a gymerasant i’w cadw ; megis golchi cwpanau , ac ystenau , ac efyddynnau , a byrddau . Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo , Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid , ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi ? Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi , ragrithwyr , fel y mae yn ysgrifenedig , Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau , ond eu calon sydd bell oddi wrthyf . Eithr ofer y maent yn fy addoli , gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth , orchmynion dynion . Canys , gan adael heibio orchymyn Duw , yr ydych yn dal traddodiad dynion ; sef golchiadau ystenau a chwpanau : a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw , fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain . Canys Moses a ddywedodd , Anrhydedda dy dad a’th fam : a’r hwn a felltithio dad neu fam , bydded farw’r farwolaeth . Ac meddwch chwithau , Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam , Corban , hynny yw , Rhodd , trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi ; difai fydd . Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam ; Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain , yr hwn a draddodasoch chwi : a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur . A chwedi galw ato yr holl dyrfa , efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch chwi oll arnaf , a deellwch . Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo , a ddichon ei halogi ef : eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono , y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn . Od oes gan neb glustiau i wrando , gwrandawed . A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl , ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg . Yntau a ddywedodd wrthynt , Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall ? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn , na all hynny ei halogi ef ? Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef , ond i’r bol ; ac yn myned allan i’r geudy , gan garthu’r holl fwydydd ? Ac efe a ddywedodd , Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn , hynny sydd yn halogi dyn . Canys oddi mewn , allan o galon dynion , y daw drwg feddyliau , torpriodasau , puteindra , llofruddiaeth , Lladradau , cybydd‐dod , drygioni , twyll , anlladrwydd , drwg lygad , cabledd , balchder , ynfydrwydd : Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn , ac yn halogi dyn . Ac efe a gyfododd oddi yno , ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon ; ac a aeth i mewn i dŷ , ac ni fynasai i neb wybod : eithr ni allai efe fod yn guddiedig . Canys pan glybu gwraig , yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi , sôn amdano , hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef : ( A Groeges oedd y wraig , Syroffeniciad o genedl . ) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch . A’r Iesu a ddywedodd wrthi , Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni : canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant , a’i daflu i’r cenawon cŵn . Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Gwir , O Arglwydd : ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant . Ac efe a ddywedodd wrthi , Am y gair hwnnw dos ymaith : aeth y cythraul allan o’th ferch . Ac wedi iddi fyned i’w thŷ , hi a gafodd fyned o’r cythraul allan , a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely . Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon , ac a ddaeth hyd fôr Galilea , trwy ganol terfynau Decapolis . A hwy a ddygasant ato un byddar , ag atal dywedyd arno ; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef . Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa , efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef ; ac wedi iddo boeri , efe a gyffyrddodd â’i dafod ef ; A chan edrych tua’r nef , efe a ochneidiodd , ac a ddywedodd wrtho , Effatha , hynny yw , Ymagor . Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd , a rhwym ei dafod a ddatodwyd ; ac efe a lefarodd yn eglur . Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb : ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt , mwy o lawer y cyhoeddasant . A synnu a wnaethant yn anfeidrol , gan ddywedyd , Da y gwnaeth efe bob peth : y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed , ac i’r mudion ddywedyd . Yn y dyddiau hynny , pan oedd y dyrfa yn fawr iawn , ac heb ganddynt ddim i’w fwyta , y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd wrthynt , Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa , oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi , ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta : Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain , hwy a lewygant ar y ffordd : canys rhai ohonynt a ddaeth o bell . A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant , O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch ? Ac efe a ofynnodd iddynt , Pa sawl torth sydd gennych ? A hwy a ddywedasant , Saith . Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr : ac a gymerodd y saith dorth , ac a ddiolchodd , ac a’u torrodd hwynt , ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion , fel y gosodent hwynt ger eu bronnau ; a gosodasant hwynt gerbron y bobl . Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain : ac wedi iddo fendithio , efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt . A hwy a fwytasant , ac a ddigonwyd : a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill , saith fasgedaid . A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil : ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith . Ac yn y man , wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion , efe a ddaeth i barthau Dalmanutha . A’r Phariseaid a ddaethant allan , ac a ddechreuasant ymholi ag ef , gan geisio ganddo arwydd o’r nef , gan ei demtio . Yntau , gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd , a ddywedodd , Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd ? Yn wir meddaf i chwi , Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth i’r llong drachefn , ac a dynnodd ymaith i’r lan arall . A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara , ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong . Yna y gorchmynnodd efe iddynt , gan ddywedyd , Gwyliwch , ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid , a surdoes Herod . Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall , gan ddywedyd , Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara . A phan wybu’r Iesu , efe a ddywedodd wrthynt , Pa ymresymu yr ydych , am nad oes gennych fara ? onid ydych chwi eto yn ystyried , nac yn deall ? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu ? A chennych lygaid , oni welwch ? a chennych glustiau , oni chlywch ? ac onid ydych yn cofio ? Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil , pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny ? Dywedasant wrtho , Deuddeg . A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil , llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny ? A hwy a ddywedasant , Saith . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa fodd nad ydych yn deall ? Ac efe a ddaeth i Fethsaida ; a hwy a ddygasant ato un dall , ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef , Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall , efe a’i tywysodd ef allan o’r dref : ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef , a dodi ei ddwylo arno , efe a ofynnodd iddo , a oedd efe yn gweled dim . Ac wedi edrych i fyny , efe a ddywedodd , Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio . Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef , ac a barodd iddo edrych i fyny : ac efe a gafodd ei olwg , ac efe a welai bawb o bell , ac yn eglur . Ac efe a’i hanfonodd ef adref , i’w dŷ , gan ddywedyd , Na ddos i’r dref , ac na ddywed i neb yn y dref . A’r Iesu a aeth allan , efe a’i ddisgyblion , i drefi Cesarea Philipi : ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion , gan ddywedyd wrthynt , Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i ? A hwy a atebasant , Ioan Fedyddiwr ; a rhai , Eleias ; ac eraill , Un o’r proffwydi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i ? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Ti yw’r Crist . Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano . Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt , fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer , a’i wrthod gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , ac wedi tridiau atgyfodi . A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur . A Phedr a ymaflodd ynddo , ac a ddechreuodd ei geryddu ef . Eithr wedi iddo droi , ac edrych ar ei ddisgyblion , efe a geryddodd Pedr , gan ddywedyd , Dos ymaith yn fy ôl i , Satan ; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw , ond y pethau sydd o ddynion . Ac wedi iddo alw ato y dyrfa , gyda’i ddisgyblion , efe a ddywedodd wrthynt , Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a chyfoded ei groes , a dilyned fi . Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes , a’i cyll hi : ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl , hwnnw a’i ceidw hi . Canys pa lesâd i ddyn , os ennill yr holl fyd , a cholli ei enaid ei hun ? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ? Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon ; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd , pan ddêl yng ngogoniant ei Dad , gyda’r angylion sanctaidd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma , ni phrofant angau , hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth . Ac wedi chwe diwrnod , y cymerth yr Iesu Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac a’u dug hwynt i fynydd uchel , eu hunain o’r neilltu : ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt . A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair , yn gannaid iawn fel eira ; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu . Ac ymddangosodd iddynt Eleias , gyda Moses : ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu , Rabbi , da yw i ni fod yma : a gwnawn dair pabell ; i ti un , ac i Moses un , ac i Eleias un . Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd : canys yr oeddynt wedi dychrynu . A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy : a llef a ddaeth allan o’r cwmwl , gan ddywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab ; gwrandewch ef . Ac yn ddisymwth , pan edrychasant o amgylch , ni welsant neb mwy , ond yr Iesu yn unig gyda hwynt . A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd , efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent , hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw . A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain , gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth ; a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn , y dioddefai lawer o bethau , ac y dirmygid ef . Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi , ddyfod Eleias yn ddiau , a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant , fel yr ysgrifennwyd amdano . A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion , efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt , a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt . Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa , pan ganfuant ef , a ddychrynasant , a chan redeg ato , a gyfarchasant iddo . Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion , Pa gydymholi yr ydych yn eich plith ? Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd , Athro , mi a ddygais fy mab atat , ag ysbryd mud ynddo : A pha le bynnag y cymero ef , efe a’i rhwyga ; ac yntau a fwrw ewyn , ac a ysgyrnyga ddannedd , ac y mae’n dihoeni : ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan ; ac nis gallasant . Ac efe a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon , pa hyd y byddaf gyda chwi ? pa hyd y goddefaf chwi ? dygwch ef ataf fi . A hwy a’i dygasant ef ato . A phan welodd ef , yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef ; a chan syrthio ar y ddaear , efe a ymdreiglodd , dan falu ewyn . A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef , Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo ? Yntau a ddywedodd , Er yn fachgen . A mynych y taflodd efe ef yn tân , ac i’r dyfroedd , fel y difethai efe ef : ond os gelli di ddim , cymorth ni , gan dosturio wrthym . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Os gelli di gredu , pob peth a all fod i’r neb a gredo . Ac yn y fan tad y bachgen , dan lefain ac wylofain , a ddywedodd , Yr wyf fi yn credu , O Arglwydd ; cymorth fy anghrediniaeth i . A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato , efe a geryddodd yr ysbryd aflan , gan ddywedyd wrtho , Tydi ysbryd mud a byddar , yr wyf fi yn gorchymyn i ti , Tyred allan ohono , ac na ddos mwy iddo ef . Ac wedi i’r ysbryd lefain , a dryllio llawer arno ef , efe a aeth allan : ac yr oedd efe fel un marw , fel y dywedodd llawer ei farw ef . A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law , ac a’i cyfododd ; ac efe a safodd i fyny . Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ , ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu , Paham na allem ni ei fwrw ef allan ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan , ond trwy weddi ac ympryd . Ac wedi ymadael oddi yno , hwy a ymdeithiasant trwy Galilea : ac ni fynnai efe wybod o neb . Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion , ac yn dywedyd wrthynt , Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion , ac y lladdent ef ; ac wedi ei ladd , yr atgyfodai y trydydd dydd . Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd , ac ofni yr oeddynt ofyn iddo . Ac efe a ddaeth i Gapernaum : a phan oedd efe yn y tŷ , efe a ofynnodd iddynt , Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd ? Ond hwy a dawsant â sôn : canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd , pwy a fyddai fwyaf . Ac efe a eisteddodd , ac a alwodd y deuddeg , ac a ddywedodd wrthynt , Os myn neb fod yn gyntaf , efe a fydd olaf o’r cwbl , a gweinidog i bawb . Ac efe a gymerth fachgennyn , ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt : ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau , efe a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i , sydd yn fy nerbyn i : a phwy bynnag a’m derbyn i , nid myfi y mae yn ei dderbyn , ond yr hwn a’m danfonodd i . Ac Ioan a’i hatebodd ef , gan ddywedyd , Athro , ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di , yr hwn nid yw yn ein dilyn ni ; ac ni a waharddasom iddo , am nad yw yn ein dilyn ni . A’r Iesu a ddywedodd , Na waherddwch iddo ; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i , ac a all yn y fan roi drygair i mi . Canys y neb nid yw i’n herbyn , o’n tu ni y mae . Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i , am eich bod yn perthyn i Grist , yn wir meddaf i chwi , Ni chyll efe ei obrwy . A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi , gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf , a’i daflu i’r môr . Ac os dy law a’th rwystra , tor hi ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus , nag â dwy law gennyt fyned i uffern , i’r tân anniffoddadwy : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Ac os dy droed a’th rwystra , tor ef ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff , nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern , i’r tân anniffoddadwy : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Ac os dy lygad a’th rwystra , bwrw ef ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog , nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Canys pob un a helltir â thân , a phob aberth a helltir â halen . Da yw’r halen : ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt , â pha beth yr helltwch ef ? Bid gennych halen ynoch eich hunain , a byddwch heddychlon â’ch gilydd . Ac efe a gyfododd oddi yno , ac a aeth i dueddau Jwdea , trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn : ac fel yr oedd yn arferu , efe a’u dysgodd hwynt drachefn . A’r Phariseaid , wedi dyfod ato , a ofynasant iddo , Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig ? gan ei demtio ef . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Beth a orchmynnodd Moses i chwi ? A hwy a ddywedasant , Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar , a’i gollwng hi ymaith . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw : Ond o ddechreuad y creadigaeth , yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt . Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig ; A hwy ill dau a fyddant un cnawd : fel nad ydynt mwy ddau , ond un cnawd . Y peth gan hynny a gysylltodd Duw , na wahaned dyn . Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig , ac a briodo un arall , y mae yn godinebu yn ei herbyn hi . Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr , a phriodi un arall , y mae hi’n godinebu . A hwy a ddygasant blant bychain ato , fel y cyffyrddai efe â hwynt : a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt . A’r Iesu pan welodd hynny , fu anfodlon , ac a ddywedodd wrthynt , Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi , ac na waherddwch iddynt : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw . Yn wir meddaf i chwi , Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach , nid â efe i mewn iddi . Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau , ac a roddes ei ddwylo arnynt , ac a’u bendithiodd . Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd , rhedodd un ato , a gostyngodd iddo , ac a ofynnodd iddo , O Athro da , beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Paham y gelwi fi yn dda ? nid oes neb da ond un , sef Duw . Ti a wyddost y gorchmynion , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na chamdystiolaetha , Na chamgolleda , Anrhydedda dy dad a’th fam . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Athro , y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid . A’r Iesu gan edrych arno , a’i hoffodd , ac a ddywedodd wrtho , Un peth sydd ddiffygiol i ti : dos , gwerth yr hyn oll sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , a chymer i fyny y groes , a dilyn fi . Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd , ac a aeth ymaith yn athrist : canys yr oedd ganddo feddiannau lawer . A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch , ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw ! A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef . Ond yr Iesu a atebodd drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , O blant , mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw ! Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A hwy a synasant yn ddirfawr , gan ddywedyd wrthynt eu hunain , A phwy a all fod yn gadwedig ? A’r Iesu , wedi edrych arnynt , a ddywedodd , Gyda dynion amhosibl yw , ac nid gyda Duw : canys pob peth sydd bosibl gyda Duw . Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ddilynasom di . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nid oes neb a’r a adawodd dŷ , neu frodyr , neu chwiorydd , neu dad , neu fam , neu wraig , neu blant , neu diroedd , o’m hachos i a’r efengyl , A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn , dai , a brodyr , a chwiorydd , a mamau , a phlant , a thiroedd , ynghyd ag erlidiau ; ac yn y byd a ddaw , fywyd tragwyddol . Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf ; a’r diwethaf fyddant gyntaf . Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem ; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt : a hwy a frawychasant ; ac fel yr oeddynt yn canlyn , yr oedd arnynt ofn . Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg , efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef : Canys wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid , ac i’r ysgrifenyddion ; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth , ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd : A hwy a’i gwatwarant ef , ac a’i fflangellant , ac a boerant arno , ac a’i lladdant : a’r trydydd dydd yr atgyfyd . A daeth ato Iago ac Ioan , meibion Sebedeus , gan ddywedyd , Athro , ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem . Yntau a ddywedodd wrthynt , Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Caniatâ i ni eistedd , un ar dy ddeheulaw , a’r llall ar dy aswy , yn dy ogoniant . Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn : a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed ? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gallwn . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi ; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau : Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy , nid eiddof fi ei roddi ; ond i’r rhai y darparwyd . A phan glybu’r deg , hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan . A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd , yn tra‐arglwyddiaethu arnynt ; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt . Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi : ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith , bydded weinidog i chwi ; A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf , bydded was i bawb . Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu , ond i wasanaethu , ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer . A hwy a ddaethant i Jericho . Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho , efe a’i ddisgyblion , a bagad o bobl , Bartimeus ddall , mab Timeus , oedd yn eistedd ar fin y ffordd , yn cardota . A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd , efe a ddechreuodd lefain , a dywedyd , Iesu , mab Dafydd , trugarha wrthyf . A llawer a’i ceryddasant ef , i geisio ganddo dewi : ond efe a lefodd yn fwy o lawer , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r Iesu a safodd , ac a archodd ei alw ef . A hwy a alwasant y dall , gan ddywedyd wrtho , Cymer galon ; cyfod : y mae efe yn dy alw di . Ond efe , wedi taflu ei gochl ymaith , a gyfododd , ac a ddaeth at yr Iesu . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti ? A’r dall a ddywedodd wrtho , Athro , caffael ohonof fy ngolwg . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Dos ymaith : dy ffydd a’th iachaodd . Ac yn y man y cafodd efe ei olwg , ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd . Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem , i Bethffage a Bethania , hyd fynydd yr Olewydd , efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , Ac a ddywedodd wrthynt , Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi : ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo , chwi a gewch ebol wedi ei rwymo , ar yr hwn nid eisteddodd neb ; gollyngwch ef yn rhydd , a dygwch ymaith . Ac os dywed neb wrthych , Paham y gwnewch hyn ? dywedwch , Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma . A hwy a aethant ymaith , ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan , mewn croesffordd ; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd . A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt , Beth a wnewch chwi , yn gollwng yr ebol yn rhydd ? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu : a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith . A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu , ac a fwriasant eu dillad arno ; ac efe a eisteddodd arno . A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd ; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd , ac a’u taenasant ar y ffordd . A’r rhai oedd yn myned o’r blaen , a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl , a lefasant , gan ddywedyd , Hosanna ; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd : Hosanna yn y goruchaf . A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem , ac i’r deml : ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch , a hi weithian yn hwyr , efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg . A thrannoeth , wedi iddynt ddyfod allan o Fethania , yr oedd arno chwant bwyd . Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail , efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno . A phan ddaeth ato , ni chafodd efe ddim ond y dail : canys nid oedd amser ffigys . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy . A’i ddisgyblion ef a glywsant . A hwy a ddaethant i Jerwsalem . A’r Iesu a aeth i’r deml , ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml ; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr , a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod : Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml . Ac efe a’u dysgodd , gan ddywedyd wrthynt , Onid yw’n ysgrifenedig , Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd ? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn , ac a geisiasant pa fodd y difethent ef : canys yr oeddynt yn ei ofni ef , am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef . A phan aeth hi yn hwyr , efe a aeth allan o’r ddinas . A’r bore , wrth fyned heibio , hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd . A Phedr wedi atgofio , a ddywedodd wrtho , Athro , wele y ffigysbren a felltithiaist , wedi crino . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Bydded gennych ffydd yn Nuw : Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn , Tynner di ymaith , a bwrier di i’r môr ; ac nid amheuo yn ei galon , ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe ; beth bynnag a ddywedo , a fydd iddo . Am hynny meddaf i chwi , Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch , ac fe fydd i chwi . A phan safoch i weddïo , maddeuwch , o bydd gennych ddim yn erbyn neb ; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau : Ond os chwi ni faddeuwch , eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau . A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem : ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml , yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’r henuriaid , a ddaethant ato , Ac a ddywedasant wrtho , Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn ? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A minnau a ofynnaf i chwithau un gair ; ac atebwch fi , a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Bedydd Ioan , ai o’r nef yr oedd , ai o ddynion ? atebwch fi . Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed , Paham gan hynny na chredech iddo ? Eithr os dywedwn , O ddynion ; yr oedd arnynt ofn y bobl : canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd . A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu , Ni wyddom ni . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau , Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion . Gŵr a blannodd winllan , ac a ddododd gae o’i hamgylch , ac a gloddiodd le i’r gwingafn , ac a adeiladodd dŵr , ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref . Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr , i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i baeddasant , ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw . A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall ; a hwnnw y taflasant gerrig ato , ac yr archollasant ei ben , ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus . A thrachefn yr anfonodd efe un arall ; a hwnnw a laddasant : a llawer eraill ; gan faeddu rhai , a lladd y lleill . Am hynny eto , a chanddo un mab , ei anwylyd , efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd , Hwy a barchant fy mab i . Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain , Hwn yw’r etifedd ; deuwch , lladdwn ef , a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i lladdasant , ac a’i bwriasant allan o’r winllan . Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan ? efe a ddaw , ac a ddifetha’r llafurwyr , ac a rydd y winllan i eraill . Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon ? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl : Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd ; a rhyfedd yw yn ein golwg ni . A hwy a geisiasant ei ddala ef ; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa : canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg : a hwy a’i gadawsant ef , ac a aethant ymaith . A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid , ac o’r Herodianiaid , i’w rwydo ef yn ei ymadrodd . Hwythau , pan ddaethant , a ddywedasant wrtho , Athro , ni a wyddom dy fod di yn eirwir , ac nad oes arnat ofal rhag neb : canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion , ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd : Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? a roddwn , ai ni roddwn hi ? Ond efe , gan wybod eu rhagrith hwynt , a ddywedodd wrthynt , Paham y temtiwch fi ? dygwch i mi geiniog , fel y gwelwyf hi . A hwy a’i dygasant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff ? A hwy a ddywedasant wrtho , Eiddo Cesar . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid . Daeth y Sadwceaid hefyd ato , y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad ; a gofynasant iddo , gan ddywedyd , Athro , Moses a ysgrifennodd i ni , O bydd marw brawd neb , a gadu ei wraig , ac heb adu plant , am gymryd o’i frawd ei wraig ef , a chodi had i’w frawd . Yr oedd gan hynny saith o frodyr : a’r cyntaf a gymerth wraig ; a phan fu farw , ni adawodd had . A’r ail a’i cymerth hi , ac a fu farw , ac ni adawodd yntau had : a’r trydydd yr un modd . A hwy a’i cymerasant hi ill saith , ac ni adawsant had . Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad gan hynny , pan atgyfodant , gwraig i ba un ohonynt fydd hi ? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig . A’r Iesu a atebodd , ac a ddywedodd wrthynt , Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni , am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau , na gallu Duw ? Canys pan atgyfodant o feirw , ni wreicant , ac ni ŵrant ; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd . Ond am y meirw , yr atgyfodir hwynt ; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses , y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth , gan ddywedyd , Myfi yw Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob ? Nid yw efe Dduw’r meirw , ond Duw’r rhai byw : am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr . Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth , wedi eu clywed hwynt yn ymresymu , a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys , ac a ofynnodd iddo , Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl ? A’r Iesu a atebodd iddo , Y cyntaf o’r holl orchmynion yw , Clyw , Israel ; Yr Arglwydd ein Duw , un Arglwydd yw : A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl feddwl , ac â’th holl nerth . Hwn yw’r gorchymyn cyntaf . A’r ail sydd gyffelyb iddo ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn . A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho , Da , Athro , mewn gwirionedd y dywedaist , mai un Duw sydd , ac nad oes arall ond efe : A’i garu ef â’r holl galon , ac â’r holl ddeall , ac â’r holl enaid , ac â’r holl nerth , a charu ei gymydog megis ei hun , sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau . A’r Iesu , pan welodd iddo ateb yn synhwyrol , a ddywedodd wrtho , Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw . Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , wrth ddysgu yn y deml , Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd ? Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed . Y mae Dafydd ei hun , gan hynny , yn ei alw ef yn Arglwydd ; ac o ba le y mae efe yn fab iddo ? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar . Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth , Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion , y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion , a chael cyfarch yn y marchnadoedd , A’r prif gadeiriau yn y synagogau , a’r prif eisteddleoedd mewn swperau ; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , ac mewn rhith yn hir weddïo : y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy . A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa , ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa : a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer . A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth , ac a fwriodd i mewn ddwy hatling , yr hyn yw ffyrling . Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa . Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt : ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai , sef ei holl fywyd . Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml , un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Athro , edrych pa ryw feini , a pha fath adeiladau sydd yma . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , A weli di’r adeiladau mawrion hyn ? ni edir maen ar faen , a’r nis datodir . Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd , gyferbyn â’r deml , Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac Andreas , a ofynasant iddo o’r neilltu , Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu ? A’r Iesu a atebodd iddynt , ac a ddechreuodd ddywedyd , Edrychwch rhag twyllo o neb chwi : Canys llawer un a ddaw yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; ac a dwyllant lawer . Ond pan glywoch am ryfeloedd , a sôn am ryfeloedd , na chyffroer chwi : canys rhaid i hynny fod ; ond nid yw’r diwedd eto . Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : a daeargrynfâu fyddant mewn mannau , a newyn a thrallod fyddant . Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn . Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain : canys traddodant chwi i’r cynghorau , ac i’r synagogau ; chwi a faeddir , ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i , er tystiolaeth iddynt hwy . Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd . Ond pan ddygant chwi , a’ch traddodi , na ragofelwch beth a ddywedoch , ac na fyfyriwch : eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno , hynny dywedwch : canys nid chwychwi sydd yn dywedyd , ond yr Ysbryd Glân . A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth , a thad ei blentyn : a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni , ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth . A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i : eithr y neb a barhao hyd y diwedd , hwnnw a fydd cadwedig . Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol , yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd , wedi ei osod lle nis dylid , ( y neb a ddarlleno , dealled ; ) yna y rhai a fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd : A’r neb a fyddo ar ben y tŷ , na ddisgynned i’r tŷ , ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ . A’r neb a fyddo yn y maes , na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg . Ond gwae’r rhai beichiog , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny ! Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf . Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder , y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw , hyd y pryd hwn , ac ni bydd chwaith . Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau , ni chadwesid un cnawd : eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd , efe a fyrhaodd y dyddiau . Ac yna os dywed neb wrthych , Wele , llyma y Crist ; neu , Wele , acw ; na chredwch : Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant , ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau , i hudo ymaith , pe byddai bosibl , ie , yr etholedigion . Eithr ymogelwch chwi : wele , rhagddywedais i chwi bob peth . Ond yn y dyddiau hynny , wedi’r gorthrymder hwnnw , y tywylla’r haul , a’r lloer ni rydd ei goleuni , A sêr y nef a syrthiant , a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir . Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau , gyda gallu mawr a gogoniant . Ac yna yr enfyn efe ei angylion , ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt , o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef . Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren : Pan fo ei gangen eisoes yn dyner , a’r dail yn torri allan , chwi a wyddoch fod yr haf yn agos : Ac felly chwithau , pan weloch y pethau hyn wedi dyfod , gwybyddwch ei fod yn agos , wrth y drysau . Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , nad â’r oes hon heibio , hyd oni wneler y pethau hyn oll . Nef a daear a ânt heibio : ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim . Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb , na’r angylion sydd yn y nef , na’r Mab , ond y Tad . Ymogelwch , gwyliwch a gweddïwch : canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser . Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell , wedi gadael ei dŷ , a rhoi awdurdod i’w weision , ac i bob un ei waith ei hun , a gorchymyn i’r drysor wylio . Gwyliwch gan hynny , ( canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ , yn yr hwyr , ai hanner nos , ai ar ganiad y ceiliog , ai’r boreddydd ; ) Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth , a’ch cael chwi’n cysgu . A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi , yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb , Gwyliwch . Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg , a gŵyl y bara croyw : a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll , ac y lladdent ef : Eithr dywedasant , Nid ar yr ŵyl , rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl . A phan oedd efe ym Methania , yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus , ac efe yn eistedd i fwyta , daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr ; a hi a dorrodd y blwch , ac a’i tywalltodd ar ei ben ef . Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain , ac yn dywedyd , I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint ? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog , a’u rhoddi i’r tlodion . A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi . A’r Iesu a ddywedodd , Gadewch iddi ; paham y gwnewch flinder iddi ? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi . Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi ; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy : ond myfi ni chewch bob amser . Hyn a allodd hon , hi a’i gwnaeth : hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth . Yn wir meddaf i chwi , Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd , yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani . A Jwdas Iscariot , un o’r deuddeg , a aeth ymaith at yr archoffeiriaid , i’w fradychu ef iddynt . A phan glywsant , fe fu lawen ganddynt , ac a addawsant roi arian iddo . Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef . A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw , pan aberthent y pasg , dywedodd ei ddisgyblion wrtho , I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti , i fwyta’r pasg ? Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r ddinas ; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr : dilynwch ef . A pha le bynnag yr êl i mewn , dywedwch wrth ŵr y tŷ , Fod yr Athro yn dywedyd , Pa le y mae’r llety , lle y gallwyf , mi a’m disgyblion , fwyta’r pasg ? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod : yno paratowch i ni . A’i ddisgyblion a aethant , ac a ddaethant i’r ddinas ; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt : ac a baratoesant y pasg . A phan aeth hi yn hwyr , efe a ddaeth gyda’r deuddeg . Ac fel yr oeddynt yn eistedd , ac yn bwyta , yr Iesu a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Un ohonoch , yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi , a’m bradycha i . Hwythau a ddechreuasant dristáu , a dywedyd wrtho bob yn un ac un , Ai myfi ? ac arall , Ai myfi ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Un o’r deuddeg , yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl , yw efe . Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith , fel y mae yn ysgrifenedig amdano : ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn ! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , yr Iesu a gymerodd fara , ac a’i bendithiodd , ac a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt ; ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch : hwn yw fy nghorff . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a rhoi diolch , efe a’i rhoddes iddynt : a hwynt oll a yfasant ohono . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd , yr hwn a dywelltir dros lawer . Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych , nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden , hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw . Ac wedi iddynt ganu mawl , hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd . A dywedodd yr Iesu wrthynt , Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon : canys ysgrifenedig yw , Trawaf y bugail , a’r defaid a wasgerir . Eithr wedi i mi atgyfodi , mi a af o’ch blaen chwi i Galilea . Ond Pedr a ddywedodd wrtho , Pe byddai pawb wedi eu rhwystro , eto ni byddaf fi . A dywedodd yr Iesu wrtho , Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti , Heddiw , o fewn y nos hon , cyn canu o’r ceiliog ddwywaith , y gwedi fi deirgwaith . Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer , Pe gorfyddai imi farw gyda thi , ni’th wadaf ddim . A’r un modd y dywedasant oll . A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane : ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Eisteddwch yma , tra fyddwyf yn gweddïo . Ac efe a gymerth gydag ef Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac a ddechreuodd ymofidio , a thristáu yn ddirfawr . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae fy enaid yn athrist hyd angau : arhoswch yma , a gwyliwch . Ac efe a aeth ychydig ymlaen , ac a syrthiodd ar y ddaear , ac a weddïodd , o bai bosibl , ar fyned yr awr honno oddi wrtho . Ac efe a ddywedodd , Abba , Dad , pob peth sydd bosibl i ti : tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf : eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio , ond y peth yr ydwyt ti . Ac efe a ddaeth , ac a’u cafodd hwy yn cysgu ; ac a ddywedodd wrth Pedr , Simon , ai cysgu yr wyt ti ? oni allit wylio un awr ? Gwyliwch a gweddïwch , rhag eich myned mewn temtasiwn . Yr ysbryd yn ddiau sydd barod , ond y cnawd sydd wan . Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn , efe a weddïodd , gan ddywedyd yr un ymadrodd . Ac wedi iddo ddychwelyd , efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu ; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau : ac ni wyddent beth a atebent iddo . Ac efe a ddaeth y drydedd waith , ac a ddywedodd wrthynt , Cysgwch weithian , a gorffwyswch : digon yw ; daeth yr awr : wele , yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid . Cyfodwch , awn ; wele , y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos . Ac yn y man , ac efe eto yn llefaru , daeth Jwdas , un o’r deuddeg , a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn , oddi wrth yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’r henuriaid . A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt , gan ddywedyd , Pwy bynnag a gusanwyf , hwnnw yw : deliwch ef , a dygwch ymaith yn sicr . A phan ddaeth , yn ebrwydd efe a aeth ato , ac a ddywedodd , Rabbi , Rabbi ; ac a’i cusanodd ef . A hwythau a roesant eu dwylo arno , ac a’i daliasant ef . A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw , a dynnodd ei gleddyf , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ai megis at leidr y daethoch allan , â chleddyfau ac â ffyn , i’m dala i ? Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml , ac ni’m daliasoch : ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau . A hwynt oll a’i gadawsant ef , ac a ffoesant . A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef , wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth ; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef . A hwn a adawodd y lliain , ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth . A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad : a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion , a ymgasglasant gydag ef . A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell , hyd yn llys yr archoffeiriad ; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr , ac yn ymdwymo wrth y tân . A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu , i’w roi ef i’w farwolaeth ; ac ni chawsant . Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef ; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson . A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn , gan ddywedyd , Ni a’i clywsom ef yn dywedyd , Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo , ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw . Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson . A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol , ac a ofynnodd i’r Iesu , gan ddywedyd , Onid atebi di ddim ? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn ? Ac efe a dawodd , ac nid atebodd ddim . Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo , ac a ddywedodd wrtho , Ai tydi yw Crist , Mab y Bendigedig ? A’r Iesu a ddywedodd , Myfi yw : a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu , ac yn dyfod yng nghymylau’r nef . Yna yr archoffeiriad , gan rwygo ei ddillad , a ddywedodd , Pa raid i ni mwy wrth dystion ? Chwi a glywsoch y gabledd : beth dybygwch chwi ? A hwynt oll a’i condemniasant ef , ei fod yn euog o farwolaeth . A dechreuodd rhai boeri arno , a chuddio ei wyneb , a’i gernodio ; a dywedyd wrtho , Proffwyda . A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail . Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered , daeth un o forynion yr archoffeiriad : A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo , hi a edrychodd arno , ac a ddywedodd , Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth . Ac efe a wadodd , gan ddywedyd , Nid adwaen i , ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd . Ac efe a aeth allan i’r porth ; a’r ceiliog a ganodd . A phan welodd y llances ef drachefn , hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno , Y mae hwn yn un ohonynt . Ac efe a wadodd drachefn . Ac ychydig wedi , y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn , Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt ; canys Galilead wyt , a’th leferydd sydd debyg . Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu , Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano . A’r ceiliog a ganodd yr ail waith . A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho , Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith , ti a’m gwedi deirgwaith . A chan ystyried hynny , efe a wylodd . Ac yn y fan , y bore , yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion , a’r holl gyngor : ac wedi iddynt rwymo’r Iesu , hwy a’i dygasant ef ymaith , ac a’i traddodasant at Peilat . A gofynnodd Peilat iddo , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Yr wyt ti yn dywedyd . A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau : eithr nid atebodd efe ddim . A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Onid atebi di ddim ? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn . Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim ; fel y rhyfeddodd Peilat . Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor , yr hwn a ofynnent iddo . Ac yr oedd un a elwid Barabbas , yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd‐derfysgwyr , y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth . A’r dyrfa gan grochlefain , a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt . A Pheilat a atebodd iddynt , gan ddywedyd , A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon ? ( Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef . ) A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl , fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt . A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt , Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon ? A hwythau a lefasant drachefn , Croeshoelia ef . Yna Peilat a ddywedodd wrthynt , Ond pa ddrwg a wnaeth efe ? A hwythau a lefasant fwyfwy , Croeshoelia ef . A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl , a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas ; a’r Iesu , wedi iddo ei fflangellu , a draddododd efe i’w groeshoelio . A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys , a elwir Pretorium : a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin ; Ac a’i gwisgasant ef â phorffor , ac a blethasant goron o ddrain , ac a’i dodasant am ei ben ; Ac a ddechreuasant gyfarch iddo , Henffych well , Brenin yr Iddewon . A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen , ac a boerasant arno , a chan ddodi eu gliniau i lawr , a’i haddolasant ef . Ac wedi iddynt ei watwar ef , hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano , ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun , ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio . A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene , yr hwn oedd yn myned heibio , wrth ddyfod o’r wlad , sef tad Alexander a Rwffus , i ddwyn ei groes ef . A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Lle’r benglog : Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd : eithr efe nis cymerth . Ac wedi iddynt ei groeshoelio , hwy a ranasant ei ddillad ef , gan fwrw coelbren arnynt , beth a gâi pob un . A’r drydedd awr oedd hi ; a hwy a’i croeshoeliasant ef . Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu , BRENIN YR IDDEWON . A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr ; un ar y llaw ddeau , ac un ar yr aswy iddo . A’r ysgrythur a gyflawnwyd , yr hon a ddywed , Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir . A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef , gan ysgwyd eu pennau , a dywedyd , Och , tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml , ac yn ei hadeiladu mewn tridiau , Gwared dy hun , a disgyn oddi ar y groes . Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar , a ddywedasant wrth ei gilydd , gyda’r ysgrifenyddion , Eraill a waredodd , ei hun nis gall ei wared . Disgynned Crist , Brenin yr Israel , yr awr hon oddi ar y groes , fel y gwelom , ac y credom . A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef , a’i difenwasant ef . A phan ddaeth y chweched awr , y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel , gan ddywedyd , Eloi , Eloi , lama sabachthani ? yr hyn o’i gyfieithu yw , Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gadewaist ? A rhai o’r rhai a safent gerllaw , pan glywsant , a ddywedasant , Wele , y mae efe yn galw ar Eleias . Ac un a redodd , ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr , ac a’i dododd ar gorsen , ac a’i diododd ef , gan ddywedyd , Peidiwch , edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr . A’r Iesu a lefodd â llef uchel , ac a ymadawodd â’r ysbryd . A llen y deml a rwygwyd yn ddwy , oddi fyny hyd i waered . A phan welodd y canwriad , yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef , ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd , efe a ddywedodd , Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn . Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell : ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen , a Mair mam Iago fychan a Jose , a Salome ; Y rhai hefyd , pan oedd efe yng Ngalilea , a’i dilynasant ef , ac a weiniasant iddo ; a gwragedd eraill lawer , y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem . Pan ydoedd hi weithian yn hwyr , ( am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl , sef y dydd cyn y Saboth , ) Daeth Joseff o Arimathea , cynghorwr pendefigaidd , yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw , ac a aeth yn hy i mewn at Peilat , ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu . A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes : ac wedi iddo alw y canwriad ato , efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin . A phan wybu gan y canwriad , efe a roddes y corff i Joseff . Ac efe a brynodd liain main , ac a’i tynnodd ef i lawr , ac a’i hamdôdd yn y lliain main , ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig ; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd . A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef . Ac wedi darfod y dydd Saboth , Mair Magdalen , a Mair mam Iago , a Salome , a brynasant beraroglau , i ddyfod i’w eneinio ef . Ac yn fore iawn , y dydd cyntaf o’r wythnos , y daethant at y bedd , a’r haul wedi codi . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd ? ( A phan edrychasant , hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith ; ) canys yr oedd efe yn fawr iawn . Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd , hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau , wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes ; ac a ddychrynasant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na ddychrynwch . Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth , yr hwn a groeshoeliwyd : efe a gyfododd ; nid yw efe yma : wele y man y dodasant ef . Eithr ewch ymaith , dywedwch i’w ddisgyblion ef , ac i Pedr , ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea : yno y cewch ei weled ef , fel y dywedodd i chwi . Ac wedi myned allan ar frys , hwy a ffoesant oddi wrth y bedd ; canys dychryn a syndod oedd arnynt . Ac ni ddywedasant ddim wrth neb : canys yr oeddynt wedi ofni . A’r Iesu , wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos , a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen , o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid . Hithau a aeth , ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef , ac oeddynt mewn galar ac wylofain . A hwythau , pan glywsant ei fod ef yn fyw , ac iddi hi ei weled ef , ni chredent . Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt , a hwynt yn ymdeithio , ac yn myned i’r wlad . A hwy a aethant , ac a fynegasant i’r lleill : ac ni chredent iddynt hwythau . Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg , a hwy yn eistedd i fwyta ; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon‐galedwch , am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r holl fyd , a phregethwch yr efengyl i bob creadur . Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig : eithr y neb ni chredo a gondemnir . A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant : Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid ; ac â thafodau newyddion y llefarant ; Seirff a godant ymaith ; ac os yfant ddim marwol , ni wna iddynt ddim niwed ; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo , a hwy a fyddant iach . Ac felly yr Arglwydd , wedi llefaru wrthynt , a gymerwyd i fyny i’r nef , ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw . A hwythau a aethant allan , ac a bregethasant ym mhob man , a’r Arglwydd yn cydweithio , ac yn cadarnhau’r gair , trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn . Amen . Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith , Megis y traddodasant hwy i ni , y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled , ac yn weinidogion y gair : Minnau a welais yn dda , wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad , ysgrifennu mewn trefn atat , O ardderchocaf Theoffilus , Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt . Yr oedd yn nyddiau Herod , brenin Jwdea , ryw offeiriad a’i enw Sachareias , o ddyddgylch Abeia : a’i wraig oedd o ferched Aaron , a’i henw Elisabeth . Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw , yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd . Ac nid oedd plentyn iddynt , am fod Elisabeth yn amhlantadwy ; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran . A bu , ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw , yn nhrefn ei ddyddgylch ef , Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid , ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd . A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad . Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth . A Sachareias , pan ganfu , a gythryblwyd , ac ofn a syrthiodd arno . Eithr yr angel a ddywedodd wrtho , Nac ofna , Sachareias : canys gwrandawyd dy weddi ; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab , a thi a elwi ei enw ef Ioan . A bydd iti lawenydd a gorfoledd ; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef . Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd , ac nid yf na gwin na diod gadarn ; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân , ie , o groth ei fam . A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw . Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias , i droi calonnau’r tadau at y plant , a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn ; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod . A dywedodd Sachareias wrth yr angel , Pa fodd y gwybyddaf fi hyn ? canys hynafgwr wyf fi , a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran . A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho , Myfi yw Gabriel , yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw , ac a anfonwyd i lefaru wrthyt , ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn . Ac wele , ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn , am na chredaist i’m geiriau i , y rhai a gyflawnir yn eu hamser . Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias : a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml . A phan ddaeth efe allan , ni allai efe lefaru wrthynt ; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml : ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt ; ac efe a arhosodd yn fud . A bu , cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef , fyned ohono i’w dŷ ei hun . Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi , ac a ymguddiodd bum mis , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf , i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion . Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw , i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth , At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff , o dŷ Dafydd ; ac enw y forwyn oedd Mair . A’r angel a ddaeth i mewn ati , ac a ddywedodd , Henffych well , yr hon a gefaist ras ; yr Arglwydd sydd gyda thi : bendigaid wyt ymhlith gwragedd . A hithau , pan ei gwelodd , a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef ; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn . A dywedodd yr angel wrthi , Nac ofna , Mair : canys ti a gefaist ffafr gyda Duw . Ac wele , ti a gei feichiogi yn dy groth , ac a esgori ar fab , ac a elwi ei enw ef IESU . Hwn fydd mawr , ac a elwir yn Fab y Goruchaf : ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd . Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd ; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd . A Mair a ddywedodd wrth yr angel , Pa fodd y bydd hyn , gan nad adwaen i ŵr ? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti , a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di : am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti , a elwir yn Fab Duw . Ac wele , Elisabeth dy gares , y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint : a hwn yw’r chweched mis iddi hi , yr hon a elwid yn amhlantadwy . Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl . A dywedodd Mair , Wele wasanaethyddes yr Arglwydd ; bydded i mi yn ôl dy air di . A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi . A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny , ac a aeth i’r mynydd‐dir ar frys , i ddinas o Jwda ; Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias , ac a gyfarchodd well i Elisabeth . A bu , pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair , i’r plentyn yn ei chroth hi lamu : ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân . A llefain a wnaeth â llef uchel , a dywedyd , Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd , a bendigedig yw ffrwyth dy groth di . Ac o ba le y mae hyn i mi , fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi ? Canys wele , er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau , y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth . A bendigedig yw’r hon a gredodd : canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd . A dywedodd Mair , Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd , A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr . Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes : oblegid , wele , o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig . Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd ; a sanctaidd yw ei enw ef . A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef . Efe a wnaeth gadernid â’i fraich : efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon . Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu , ac a ddyrchafodd y rhai isel radd . Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da ; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion . Efe a gynorthwyodd ei was Israel , gan gofio ei drugaredd ; Fel y dywedodd wrth ein tadau , Abraham a’i had , yn dragywydd . A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis , ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun . A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor ; a hi a esgorodd ar fab . A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni ; a hwy a gydlawenychasant â hi . A bu , ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach ; ac a’i galwasant ef Sachareias , yn ôl enw ei dad . A’i fam a atebodd ac a ddywedodd , Nid felly ; eithr Ioan y gelwir ef . Hwythau a ddywedasant wrthi , Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn . A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef , pa fodd y mynnai efe ei enwi ef . Yntau a alwodd am argrafflech , ac a ysgrifennodd , gan ddywedyd , Ioan yw ei enw ef . A rhyfeddu a wnaethant oll . Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd , a’i dafod ef ; ac efe a lefarodd , gan fendithio Duw . A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy : a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll . A phawb a’r a’u clywsant , a’u gosodasant yn eu calonnau , gan ddywedyd , Beth fydd y bachgennyn hwn ? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef . A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân , ac a broffwydodd , gan ddywedyd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel : canys efe a ymwelodd , ac a wnaeth ymwared i’w bobl ; Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni , yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr ; Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi , y rhai oedd o ddechreuad y byd : Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion , ac o law pawb o’n caseion ; I gwblhau’r drugaredd â’n tadau , ac i gofio ei sanctaidd gyfamod : Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham , ar roddi i ni , Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion , ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn , Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef , holl dyddiau ein bywyd . A thithau , fachgennyn , a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf : canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd , i baratoi ei ffyrdd ef ; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl , trwy faddeuant o’u pechodau , Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw ; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder , I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau , i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd . A’r bachgen a gynyddodd , ac a gryfhawyd yn yr ysbryd , ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel . Bu hefyd yn y dyddiau hynny , fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar , i drethu’r holl fyd . ( Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria . ) A phawb a aethant i’w trethu , bob un i’w ddinas ei hun . A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea , o ddinas Nasareth , i Jwdea , i ddinas Dafydd , yr hon a elwir Bethlehem ( am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd ) , I’w drethu gyda Mair , yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo , yr hon oedd yn feichiog . A bu , tra oeddynt hwy yno , cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni . A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig , ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau , ac a’i dododd ef yn y preseb ; am nad oedd iddynt le yn y llety . Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes , ac yn gwylied eu praidd liw nos . Ac wele , angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt , a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch : ac ofni yn ddirfawr a wnaethant . A’r angel a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch : canys wele , yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr , yr hwn a fydd i’r holl bobl : Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd , yr hwn yw Crist yr Arglwydd . A hyn fydd arwydd i chwi ; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau , a’i ddodi yn y preseb . Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol , yn moliannu Duw , ac yn dywedyd , Gogoniant yn y goruchaf i Dduw , ac ar y ddaear tangnefedd , i ddynion ewyllys da . A bu , pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef , y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd , Awn hyd Fethlehem , a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd , yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni . A hwy a ddaethant ar frys ; ac a gawsant Mair a Joseff , a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb . A phan welsant , hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn . A phawb a’r a’i clywsant , a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt . Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll , gan eu hystyried yn ei chalon . A’r bugeiliaid a ddychwelasant , gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent , fel y dywedasid wrthynt . A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach , galwyd ei enw ef IESU , yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth . Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi , yn ôl deddf Moses , hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem , i’w gyflwyno i’r Arglwydd ; ( Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd , Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd ; ) Ac i roddi aberth , yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd , Pâr o durturod , neu ddau gyw colomen . Ac wele , yr oedd gŵr yn Jerwsalem , a’i enw Simeon ; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol , yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel : a’r Ysbryd Glân oedd arno . Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân , na welai efe angau , cyn iddo weled Crist yr Arglwydd . Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml : a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu , i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith ; Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau , ac a fendithiodd Dduw , ac a ddywedodd , Yr awr hon , Arglwydd , y gollyngi dy was mewn tangnefedd , yn ôl dy air : Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth , Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd ; Goleuni i oleuo y Cenhedloedd , a gogoniant dy bobl Israel . Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef . A Simeon a’u bendithiodd hwynt , ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef , Wele , hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel , ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn ; ( A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf ; ) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau . Ac yr oedd Anna broffwydes , merch Phanwel , o lwyth Aser : hon oedd oedrannus iawn , ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod ; Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd , yr hon nid âi allan o’r deml , ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos . A hon hefyd yn yr awr honno , gan sefyll gerllaw , a foliannodd yr Arglwydd , ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem . Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd , hwy a ddychwelasant i Galilea , i’w dinas eu hun Nasareth . A’r bachgen a gynyddodd , ac a gryfhaodd yn yr ysbryd , yn gyflawn o ddoethineb : a gras Duw oedd arno ef . A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg . A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed , hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl . Ac wedi gorffen y dyddiau , a hwy yn dychwelyd , arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem ; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef : Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai , hwy a aethant daith diwrnod ; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod . A phryd na chawsant ef , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , gan ei geisio ef . A bu , ar ôl tridiau , gael ohonynt hwy ef yn y deml , yn eistedd yng nghanol y doctoriaid , yn gwrando arnynt , ac yn eu holi hwynt . A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef , oherwydd ei ddeall ef a’i atebion . A phan welsant ef , bu aruthr ganddynt . A’i fam a ddywedodd wrtho , Fy mab , paham y gwnaethost felly â ni ? wele , dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham y ceisiech fi ? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad ? A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt . Ac efe a aeth i waered gyda hwynt , ac a ddaeth i Nasareth , ac a fu ostyngedig iddynt . A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon . A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth , a ffafr gyda Duw a dynion . Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar , a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea , a Herod yn detrarch Galilea , a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis , a Lysanias yn detrarch Abilene , Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas , y daeth gair Duw at Ioan , mab Sachareias , yn y diffeithwch . Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen , gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau ; Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd , yr hwn sydd yn dywedyd , Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , gwnewch ei lwybrau ef yn union . Pob pant a lenwir , a phob mynydd a bryn a ostyngir , a’r gŵyrgeimion a wneir yn union , a’r geirwon yn ffyrdd gwastad : A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw . Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo , O genhedlaeth gwiberod , pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod ? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch ; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain , Y mae gennym ni Abraham yn dad : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham . Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau : pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da , a gymynir i lawr , ac a fwrir yn tân . A’r bobloedd a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Pa beth gan hynny a wnawn ni ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Y neb sydd ganddo ddwy bais , rhodded i’r neb sydd heb yr un ; a’r neb sydd ganddo fwyd , gwnaed yr un modd . A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio , ac a ddywedasant wrtho , Athro , beth a wnawn ni ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi . A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo , gan ddywedyd , A pha beth a wnawn ninnau ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na fyddwch draws wrth neb , ac na cham-achwynwch ar neb ; a byddwch fodlon i’ch cyflogau . Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl , a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan , ai efe oedd y Crist ; Ioan a atebodd , gan ddywedyd wrthynt oll , Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr : ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod , yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau : efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân , ac â thân . Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law , ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu , ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor ; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy . A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe , ac a bregethodd i’r bobl . Ond Herod y tetrarch , pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd , ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod , A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl , ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar . A bu , pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl , a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd , ac yn gweddïo , agoryd y nef , A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol , megis colomen , arno ef ; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd , Ti yw fy annwyl Fab ; ynot ti y’m bodlonwyd . A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed , mab ( fel y tybid ) i Joseff , fab Eli , Fab Mathat , fab Lefi , fab Melchi , fab Janna , fab Joseff , Fab Matathias , fab Amos , fab Naum , fab Esli , fab Naggai , Fab Maath , fab Matathias , fab Semei , fab Joseff , fab Jwda , Fab Joanna , fab Rhesa , fab Sorobabel , fab Salathiel , fab Neri , Fab Melchi , fab Adi , fab Cosam , fab Elmodam , fab Er , Fab Jose , fab Elieser , fab Jorim , fab Mathat , fab Lefi , Fab Simeon , fab Jwda , fab Joseff , fab Jonan , fab Eliacim , Fab Melea , fab Mainan , fab Matatha , fab Nathan , fab Dafydd , Fab Jesse , fab Obed , fab Boos , fab Salmon , fab Naason , Fab Aminadab , fab Aram , fab Esrom , fab Phares , fab Jwda , Fab Jacob , fab Isaac , fab Abraham , fab Thara , fab Nachor , Fab Saruch , fab Ragau , fab Phalec , fab Heber , fab Sala , Fab Cainan , fab Arffacsad , fab Sem , fab Noe , fab Lamech , Fab Mathwsala , fab Enoch , fab Jared , fab Maleleel , fab Cainan , Fab Enos , fab Seth , fab Adda , fab Duw . A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân , a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen , ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch , Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod . Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny : ac wedi eu diweddu hwynt , ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd . A dywedodd diafol wrtho , Os mab Duw ydwyt ti , dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara . A’r Iesu a atebodd iddo , gan ddywedyd , Ysgrifenedig yw , Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw , ond ar bob gair Duw . A diafol , wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel , a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr . A diafol a ddywedodd wrtho , I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll , a’u gogoniant hwynt : canys i mi y rhoddwyd ; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi . Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen , eiddot ti fyddant oll . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Dos ymaith , Satan , yn fy ôl i ; canys ysgrifenedig yw , Addoli yr Arglwydd dy Dduw , ac ef yn unig a wasanaethi . Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem , ac a’i gosododd ar binacl y deml , ac a ddywedodd wrtho , Os mab Duw ydwyt , bwrw dy hun i lawr oddi yma : Canys ysgrifenedig yw , Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di , ar dy gadw di ; Ac y cyfodant di yn eu dwylo , rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Dywedwyd , Na themtia yr Arglwydd dy Dduw . Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn , efe a ymadawodd ag ef dros amser . A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea : a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch . Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt , ac yn cael anrhydedd gan bawb . Ac efe a ddaeth i Nasareth , lle y magesid ef : ac yn ôl ei arfer , efe a aeth i’r synagog ar y Saboth , ac a gyfododd i fyny i ddarllen . A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias . Ac wedi iddo agoryd y llyfr , efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig , Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi , oherwydd iddo fy eneinio i ; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi , i iacháu’r drylliedig o galon , i bregethu gollyngdod i’r caethion , a chaffaeliad golwg i’r deillion , i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb , I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd . Ac wedi iddo gau’r llyfr , a’i roddi i’r gweinidog , efe a eisteddodd . A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt , Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi . Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo , ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef . A hwy a ddywedasant , Onid hwn yw mab Joseff ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf , Y meddyg , iachâ di dy hun : y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum , gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun . Ac efe a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun . Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi , Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias , pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis , fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir ; Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias , ond i Sarepta yn Sidon , at wraig weddw . A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd ; ac ni lanhawyd yr un ohonynt , ond Naaman y Syriad . A’r rhai oll yn y synagog , wrth glywed y pethau hyn , a lanwyd o ddigofaint ; Ac a godasant i fyny , ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas , ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno , ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr . Ond efe , gan fyned trwy eu canol hwynt , a aeth ymaith ; Ac a ddaeth i waered i Gapernaum , dinas yng Ngalilea : ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth . A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef : canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod . Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan ; ac efe a waeddodd â llef uchel , Gan ddywedyd , Och , beth sydd i ni a wnelom â thi , Iesu o Nasareth ? a ddaethost ti i’n difetha ni ? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt ; Sanct Duw . A’r Iesu a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Distawa , a dos allan ohono . A’r cythraul , wedi ei daflu ef i’r canol , a aeth allan ohono , heb wneuthur dim niwed iddo . A daeth braw arnynt oll : a chyd-ymddiddanasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Pa ymadrodd yw hwn ! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan , a hwythau yn myned allan . A sôn amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch . A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog , efe a aeth i mewn i dŷ Simon . Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin : a hwy a atolygasant arno drosti hi . Ac efe a safodd uwch ei phen hi , ac a geryddodd y cryd ; a’r cryd a’i gadawodd hi : ac yn y fan hi a gyfododd , ac a wasanaethodd arnynt hwy . A phan fachludodd yr haul , pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau , a’u dygasant hwy ato ef ; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt , ac a’u hiachaodd hwynt . A’r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd , Ti yw Crist , Mab Duw . Ac efe a’u ceryddodd hwynt , ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist . Ac wedi ei myned hi yn ddydd , efe a aeth allan , ac a gychwynnodd i le diffaith : a’r bobloedd a’i ceisiasant ef ; a hwy a ddaethant hyd ato , ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd : canys i hyn y’m danfonwyd . Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea . Bu hefyd , a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw , yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret ; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn : a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt , ac oeddynt yn golchi eu rhwydau . Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau , yr hon oedd eiddo Simon , ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir . Ac efe a eisteddodd , ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong . A phan beidiodd â llefaru , efe a ddywedodd wrth Simon , Gwthia i’r dwfn , a bwriwch eich rhwydau am helfa . A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho , O Feistr , er i ni boeni ar hyd y nos , ni ddaliasom ni ddim : eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd . Ac wedi iddynt wneuthur hynny , hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod : a’u rhwyd hwynt a rwygodd . A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion , oedd yn y llong arall , i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt . A hwy a ddaethant ; a llanwasant y ddwy long , onid oeddynt hwy ar soddi . A Simon Pedr , pan welodd hynny , a syrthiodd wrth liniau’r Iesu , gan ddywedyd , Dos ymaith oddi wrthyf ; canys dyn pechadurus wyf fi , O Arglwydd . Oblegid braw a ddaethai arno ef , a’r rhai oll oedd gydag ef , oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy ; A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd , meibion Sebedeus , y rhai oedd gyfranogion â Simon . A dywedodd yr Iesu wrth Simon , Nac ofna : o hyn allan y deli ddynion . Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir , hwy a adawsant bob peth , ac a’i dilynasant ef . A bu , fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas , wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf : a phan welodd efe yr Iesu , efe a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , O Arglwydd , os ewyllysi , ti a elli fy nglanhau . Yntau a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , gan ddywedyd , Yr wyf yn ewyllysio ; bydd lân . Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho . Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb : eithr dos ymaith , a dangos dy hun i’r offeiriad , ac offrwm dros dy lanhad , fel y gorchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt . A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led : a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef , ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau . Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch , ac yn gweddïo . A bu ar ryw ddiwrnod , fel yr oedd efe yn athrawiaethu , fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno , y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea , a Jwdea , a Jerwsalem : ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt . Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys : a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn , a’i ddodi ger ei fron ef . A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn , o achos y dyrfa , hwy a ddringasant ar nen y tŷ , ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau , yn y canol gerbron yr Iesu . A phan welodd efe eu ffydd hwynt , efe a ddywedodd wrtho , Y dyn , maddeuwyd i ti dy bechodau . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu , gan ddywedyd , Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd ? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig ? A’r Iesu , yn gwybod eu hymresymiadau hwynt , a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pa resymu yn eich calonnau yr ydych ? Pa un hawsaf , ai dywedyd , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a rhodia ? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau , ( eb efe wrth y claf o’r parlys , ) Yr wyf yn dywedyd wrthyt , Cyfod , a chymer dy wely , a dos i’th dŷ . Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt ; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno , ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun , gan ogoneddu Duw . A syndod a ddaeth ar bawb , a hwy a ogoneddasant Dduw ; a hwy a lanwyd o ofn , gan ddywedyd , Gwelsom bethau anhygoel heddiw . Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan , ac a welodd bublican , a’i enw Lefi , yn eistedd wrth y dollfa ; ac efe a ddywedodd wrtho , Dilyn fi . Ac efe a adawodd bob peth , ac a gyfododd i fyny , ac a’i dilynodd ef . A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ : ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill , yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd . Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef , gan ddywedyd , Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg ; ond i’r rhai cleifion . Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . A hwy a ddywedasant wrtho , Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych , ac yn gwneuthur gweddïau , a’r un modd yr eiddo y Phariseaid ; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed ? Yntau a ddywedodd wrthynt , A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio , tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt ? Ond y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodasfab oddi arnynt : ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny . Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt : Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn : os amgen , y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad , a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen . Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau : os amgen , y gwin newydd a ddryllia’r costrelau , ac efe a red allan , a’r costrelau a gollir . Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion ; a’r ddau a gedwir . Ac nid oes neb , gwedi iddo yfed gwin hen , a chwennych y newydd yn y fan : canys efe a ddywed , Gwell yw’r hen . A bu ar yr ail prif Saboth , fyned ohono trwy’r ŷd : a’i ddisgyblion a dynasant y tywys , ac a’u bwytasant , gwedi eu rhwbio â’u dwylo . A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau ? A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd , Oni ddarllenasoch hyn chwaith , yr hyn a wnaeth Dafydd , pan oedd chwant bwyd arno ef , a’r rhai oedd gydag ef ; Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw , ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod , ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef ; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta , ond i’r offeiriaid yn unig ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd . A bu hefyd ar Saboth arall , iddo fyned i mewn i’r synagog , ac athrawiaethu : ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef , a iachâi efe ef ar y dydd Saboth ; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef . Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt , ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo , Cyfod i fyny , a saf yn y canol . Ac efe a gyfododd i fyny , ac a safodd . Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt , Myfi a ofynnaf i chwi , Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau ? gwneuthur da , ynteu gwneuthur drwg ? cadw einioes , ai colli ? Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch , efe a ddywedodd wrth y dyn , Estyn dy law . Ac efe a wnaeth felly : a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall . A hwy a lanwyd o ynfydrwydd , ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall , pa beth a wnaent i’r Iesu . A bu yn y dyddiau hynny , fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo ; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw . A phan aeth hi yn ddydd , efe a alwodd ato ei ddisgyblion : ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg , y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion ; Simon ( yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr , ) ac Andreas ei frawd ; Iago , ac Ioan ; Philip , a Bartholomeus ; Mathew , a Thomas ; Iago mab Alffeus , a Simon a elwir Selotes ; Jwdas brawd Iago , a Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a aeth yn fradwr . Ac efe a aeth i waered gyda hwynt , ac a safodd mewn gwastatir ; a’r dyrfa o’i ddisgyblion , a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem , ac o duedd môr Tyrus a Sidon , y rhai a ddaeth i wrando arno , ac i’w hiacháu o’u clefydau , A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan : a hwy a iachawyd . A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef ; am fod nerth yn myned ohono allan , ac yn iacháu pawb . Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion , ac a ddywedodd , Gwyn eich byd y tlodion : canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw . Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon : canys chwi a ddigonir . Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon : canys chwi a chwerddwch . Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion , a phan y’ch didolant oddi wrthynt , ac y’ch gwaradwyddant , ac y bwriant eich enw allan megis drwg , er mwyn Mab y dyn . Byddwch lawen y dydd hwnnw , a llemwch ; canys wele , eich gwobr sydd fawr yn y nef : oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi . Eithr gwae chwi’r cyfoethogion ! canys derbyniasoch eich diddanwch . Gwae chwi’r rhai llawn ! canys chwi a ddygwch newyn . Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon ! canys chwi a alerwch ac a wylwch . Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch ! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi . Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando , Cerwch eich gelynion ; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt : Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant , a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant . Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern , cynnig y llall hefyd ; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl , na wahardd dy bais hefyd . A dyro i bob un a geisio gennyt ; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot , na chais eilchwyl . Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi , gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud . Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau . Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth . Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid , fel y derbyniont y cyffelyb . Eithr cerwch eich gelynion , a gwnewch dda , a rhoddwch echwyn , heb obeithio dim drachefn ; a’ch gwobr a fydd mawr , a phlant fyddwch i’r Goruchaf : canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg . Byddwch gan hynny drugarogion , megis ag y mae eich Tad yn drugarog . Ac na fernwch , ac ni’ch bernir : na chondemniwch , ac ni’ch condemnir : maddeuwch , a maddeuir i chwithau : Rhoddwch , a rhoddir i chwi ; mesur da , dwysedig , ac wedi ei ysgwyd , ac yn myned trosodd , a roddant yn eich mynwes : canys â’r un mesur ag y mesuroch , y mesurir i chwi drachefn . Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt : a ddichon y dall dywyso’r dall ? oni syrthiant ill dau yn y clawdd ? Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro : eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro . A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd , ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd , Fy mrawd , gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad , a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? O ragrithiwr , bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf , ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd . Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg ; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da . Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun : canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys , nac oddi ar berth yr heliant rawnwin . Y dyn da , o ddaionus drysor ei galon , a ddwg allan ddaioni ; a’r dyn drwg , o ddrygionus drysor ei galon , a ddwg allan ddrygioni : canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru . Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i , Arglwydd , Arglwydd , ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd ? Pwy bynnag a ddêl ataf fi , ac a wrendy fy ngeiriau , ac a’u gwnelo hwynt , mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb : Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ , yr hwn a gloddiodd , ac a aeth yn ddwfn , ac a osododd ei sail ar y graig : a phan ddaeth llifeiriant , y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw , ac ni allai ei siglo ; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig . Ond yr hwn a wrendy , ac ni wna , cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear , heb sail ; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd , ac yn y fan y syrthiodd : a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr . Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl , efe a aeth i mewn i Gapernaum . A gwas rhyw ganwriad , yr hwn oedd annwyl ganddo , oedd yn ddrwg ei hwyl , ymron marw . A phan glybu efe sôn am yr Iesu , efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon , gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef . Y rhai pan ddaethant at yr Iesu , a atolygasant arno yn daer , gan ddywedyd , Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo ; Canys y mae yn caru ein cenedl ni , ac efe a adeiladodd i ni synagog . A’r Iesu a aeth gyda hwynt . Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ , y canwriad a anfonodd gyfeillion ato , gan ddywedyd wrtho , Arglwydd , na phoena ; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd : Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat : eithr dywed y gair , a iach fydd fy ngwas . Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod , a chennyf filwyr danaf : ac meddaf wrth hwn , Dos , ac efe a â ; ac wrth arall , Tyred , ac efe a ddaw ; ac wrth fy ngwas , Gwna hyn , ac efe a’i gwna . Pan glybu’r Iesu y pethau hyn , efe a ryfeddodd wrtho , ac a drodd , ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn , Yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Ni chefais gymaint ffydd , naddo yn yr Israel . A’r rhai a anfonasid , wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ , a gawsant y gwas a fuasai glaf , yn holliach . A bu drannoeth , iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain ; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion , a thyrfa fawr . A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas , wele , un marw a ddygid allan , yr hwn oedd unig fab ei fam , a honno yn weddw : a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi . A’r Arglwydd pan welodd hi , a gymerodd drugaredd arni , ac a ddywedodd wrthi , Nac wyla . A phan ddaeth atynt , efe a gyffyrddodd â’r elor : a’r rhai oedd yn ei dwyn , a safasant . Ac efe a ddywedodd , Y mab ieuanc , yr wyf yn dywedyd wrthyt , Cyfod . A’r marw a gyfododd yn ei eistedd , ac a ddechreuodd lefaru . Ac efe a’i rhoddes i’w fam . Ac ofn a ddaeth ar bawb : a hwy a ogoneddasant Dduw , gan ddywedyd , Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith ; ac , Ymwelodd Duw â’i bobl . A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea , a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch . A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll . Ac Ioan , wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato , a anfonodd at yr Iesu , gan ddywedyd , Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod ? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl ? A’r gwŷr pan ddaethant ato , a ddywedasant , Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti , gan ddywedyd , Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod ? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl ? A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau , a phlâu , ac ysbrydion drwg ; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch ; fod y deillion yn gweled eilwaith , y cloffion yn rhodio , y gwahanglwyfus wedi eu glanhau , y byddariaid yn clywed , y meirw yn cyfodi , y tlodion yn derbyn yr efengyl . A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi . Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith , efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan . Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled ? Ai corsen yn siglo gan wynt ? Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled ? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth ? Wele , y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus , a moethau , mewn palasau brenhinoedd y maent . Eithr beth yr aethoch allan i’w weled ? Ai proffwyd ? Yn ddiau meddaf i chwi , a llawer mwy na phroffwyd . Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd , Wele , yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Canys meddaf i chwi , Ymhlith y rhai a aned o wragedd , nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr : eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw , sydd fwy nag ef . A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando , a’r publicanod , a gyfiawnhasant Dduw , gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan . Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw , heb eu bedyddio ganddo . A dywedodd yr Arglwydd , I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon ? ac i ba beth y maent yn debyg ? Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad , ac yn llefain wrth ei gilydd , ac yn dywedyd , Canasom bibau i chwi , ac ni ddawnsiasoch ; cwynfanasom i chwi , ac nid wylasoch . Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara , nac yfed gwin ; a chwi a ddywedwch , Y mae cythraul ganddo . Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed ; ac yr ydych yn dywedyd , Wele ddyn glwth , ac yfwr gwin , cyfaill publicanod a phechaduriaid . A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant . Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef : ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead , ac a eisteddodd i fwyta . Ac wele , gwraig yn y ddinas , yr hon oedd bechadures , pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead , a ddug flwch o ennaint : A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl , ac wylo , hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau , ac a’u sychodd â gwallt ei phen : a hi a gusanodd ei draed ef , ac a’u hirodd â’r ennaint . A phan welodd y Pharisead , yr hwn a’i gwahoddasai , efe a ddywedodd ynddo ei hun , gan ddywedyd , Pe bai hwn broffwyd , efe a wybuasai pwy , a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef : canys pechadures yw hi . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho , Simon , y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt . Yntau a ddywedodd , Athro , dywed . Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr : y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled , a’r llall ddeg a deugain . A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu , efe a faddeuodd iddynt ill dau . Dywed gan hynny , pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf ? A Simon a atebodd ac a ddywedodd , Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf . Yntau a ddywedodd wrtho , Uniawn y bernaist . Ac efe a drodd at y wraig , ac a ddywedodd wrth Simon , A weli di’r wraig hon ? mi a ddeuthum i’th dŷ di , ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed : ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau , ac a’u sychodd â gwallt ei phen . Ni roddaist i mi gusan : ond hon , er pan ddeuthum i mewn , ni pheidiodd â chusanu fy nhraed . Fy mhen ag olew nid iraist : ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint . Oherwydd paham y dywedaf wrthyt , Maddeuwyd ei haml bechodau hi ; oblegid hi a garodd yn fawr : ond y neb y maddeuer ychydig iddo , a gâr ychydig . Ac efe a ddywedodd wrthi , Maddeuwyd i ti dy bechodau . A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain , Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd ? Ac efe a ddywedodd wrth y wraig , Dy ffydd a’th gadwodd ; dos mewn tangnefedd . Abu wedi hynny , iddo fyned trwy bob dinas a thref , gan bregethu , ac efengylu teyrnas Dduw : a’r deuddeg oedd gydag ef ; A gwragedd rai , a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid ; Mair yr hon a elwid Magdalen , o’r hon yr aethai saith gythraul allan ; Joanna , gwraig Chusa goruchwyliwr Herod , a Susanna , a llawer eraill , y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt . Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd , a chyrchu ato o bob dinas , efe a ddywedodd ar ddameg : Yr heuwr a aeth allan i hau ei had : ac wrth hau , peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd , ac a fathrwyd ; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd . A pheth arall a syrthiodd ar y graig ; a phan eginodd , y gwywodd , am nad oedd iddo wlybwr . A pheth arall a syrthiodd ymysg drain ; a’r drain a gyd‐dyfasant , ac a’i tagasant ef . A pheth arall a syrthiodd ar dir da ; ac a eginodd , ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed . Wrth ddywedyd y pethau hyn , efe a lefodd , Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando , gwrandawed . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Pa ddameg oedd hon ? Yntau a ddywedodd , I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw ; eithr i eraill ar ddamhegion ; fel yn gweled na welant , ac yn clywed na ddeallant . A dyma’r ddameg : Yr had yw gair Duw . A’r rhai ar ymyl y ffordd , ydyw’r rhai sydd yn gwrando , wedi hynny y mae’r diafol yn dyfod , ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt , rhag iddynt gredu , a bod yn gadwedig . A’r rhai ar y graig , yw’r rhai pan glywant , a dderbyniant y gair yn llawen ; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn , y rhai sydd yn credu dros amser , ac yn amser profedigaeth yn cilio . A’r hwn a syrthiodd ymysg drain , yw’r rhai a wrandawsant ; ac wedi iddynt fyned ymaith , hwy a dagwyd gan ofalon , a golud , a melyswedd buchedd , ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd . A’r hwn ar y tir da , yw’r rhai hyn , y rhai â chalon hawddgar a da , ydynt yn gwrando’r gair , ac yn ei gadw , ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd . Nid yw neb wedi golau cannwyll , yn ei chuddio hi â llestr , neu yn ei dodi dan wely ; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren , fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni . Canys nid oes dim dirgel , a’r ni bydd amlwg ; na dim cuddiedig , a’r nis gwybyddir , ac na ddaw i’r golau . Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch : canys pwy bynnag y mae ganddo , y rhoddir iddo ; a’r neb nid oes ganddo , ie , yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo , a ddygir oddi arno . Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr ; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf . A mynegwyd iddo , gan rai , yn dywedyd , Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan , yn ewyllysio dy weled . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw , ac yn ei wneuthur . A bu ar ryw ddiwrnod , ac efe a aeth i long , efe a’i ddisgyblion : a dywedodd wrthynt , Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn . A hwy a gychwynasant . Ac fel yr oeddynt yn hwylio , efe a hunodd : a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn ; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr , ac mewn enbydrwydd . A hwy a aethant ato , ac a’i deffroesant ef , gan ddywedyd , O Feistr , Feistr , darfu amdanom . Ac efe a gyfododd , ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr : a hwy a beidiasant , a hi a aeth yn dawel . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa le y mae eich ffydd chwi ? A hwy wedi ofni , a ryfeddasant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Pwy yw hwn , gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd , a hwythau yn ufuddhau iddo ? A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid , yr hon sydd o’r tu arall , ar gyfer Galilea . Ac wedi iddo fyned allan i dir , cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas , yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser ; ac ni wisgai ddillad , ac nid arhosai mewn tŷ , ond yn y beddau . Hwn , wedi gweled yr Iesu , a dolefain , a syrthiodd i lawr ger ei fron ef , ac a ddywedodd â llef uchel , Beth sydd i mi â thi , O Iesu , Fab Duw goruchaf ? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech . ( Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn . Canys llawer o amserau y cipiasai ef : ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau , ac â llyffetheiriau ; ac wedi dryllio’r rhwymau , efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch . ) A’r Iesu a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Beth yw dy enw di ? Yntau a ddywedodd , Lleng : canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef . A hwy a ddeisyfasant arno , na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder . Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd : a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny . Ac efe a adawodd iddynt . A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn , ac a aethant i mewn i’r moch : a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn , ac a foddwyd . A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai , hwy a ffoesant , ac a aethant , ac a fynegasant yn y ddinas , ac yn y wlad . A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid ; ac a ddaethant at yr Iesu , ac a gawsant y dyn , o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan , yn ei ddillad , a’i iawn bwyll , yn eistedd wrth draed yr Iesu : a hwy a ofnasant . A’r rhai a welsent , a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig . A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt ; am eu bod mewn ofn mawr . Ac efe wedi myned i’r llong , a ddychwelodd . A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan , a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef : eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith , gan ddywedyd , Dychwel i’th dŷ , a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti . Ac efe a aeth , dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas , faint a wnaethai’r Iesu iddo . A bu , pan ddychwelodd yr Iesu , dderbyn o’r bobl ef : canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef . Ac wele , daeth gŵr a’i enw Jairus ; ac efe oedd lywodraethwr y synagog : ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu , ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef : Oherwydd yr oedd iddo ferch unig‐anedig , ynghylch deuddeng mlwydd oed , a hon oedd yn marw . Ond fel yr oedd efe yn myned , y bobloedd a’i gwasgent ef . A gwraig , yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd , yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd , ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu , A ddaeth o’r tu cefn , ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef : ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi . A dywedodd yr Iesu , Pwy yw a gyffyrddodd â mi ? Ac a phawb yn gwadu , y dywedodd Pedr , a’r rhai oedd gydag ef , O Feistr , y mae’r bobloedd yn dy wasgu , ac yn dy flino ; ac a ddywedi di , Pwy yw a gyffyrddodd â mi ? A’r Iesu a ddywedodd , Rhyw un a gyffyrddodd â mi : canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof . A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig , hi a ddaeth dan grynu , ac a syrthiodd ger ei fron ef , ac a fynegodd iddo , yng ngŵydd yr holl bobl , am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef , ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd . Yntau a ddywedodd wrthi , Cymer gysur , ferch ; dy ffydd a’th iachaodd : dos mewn tangnefedd . Ac efe eto yn llefaru , daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog , gan ddywedyd wrtho , Bu farw dy ferch : na phoena mo’r Athro . A’r Iesu pan glybu hyn , a’i hatebodd ef , gan ddywedyd , Nac ofna : cred yn unig , a hi a iacheir . Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ , ni adawodd i neb ddyfod i mewn , ond Pedr , ac Iago , ac Ioan , a thad yr eneth a’i mam . Ac wylo a wnaethant oll , a chwynfan amdani . Eithr efe a ddywedodd , Nac wylwch : nid marw hi , eithr cysgu y mae . A hwy a’i gwatwarasant ef , am iddynt wybod ei marw hi . Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan , ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw , ac a lefodd , gan ddywedyd , Herlodes , cyfod . A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn , a hi a gyfododd yn ebrwydd : ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi . A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi : ac efe a orchmynnodd iddynt , na ddywedent i neb y peth a wnaethid . Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl , ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid , ac i iacháu clefydau . Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw , ac i iacháu’r rhai cleifion . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na chymerwch ddim i’r daith , na ffyn nac ysgrepan , na bara , nac arian ; ac na fydded gennych ddwy bais bob un . Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn , arhoswch yno , ac oddi yno ymadewch . A pha rai bynnag ni’ch derbyniant , pan eloch allan o’r ddinas honno , ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed , yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt . Ac wedi iddynt fyned allan , hwy a aethant trwy’r trefi , gan bregethu’r efengyl , a iacháu ym mhob lle . A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo ; ac efe a betrusodd , am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw ; A rhai eraill , ymddangos o Eleias ; a rhai eraill , mai proffwyd , un o’r rhai gynt , a atgyfodasai . A Herod a ddywedodd , Ioan a dorrais i ei ben : ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano ? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef . A’r apostolion , wedi dychwelyd , a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent . Ac efe a’u cymerth hwynt , ac a aeth o’r neilltu , i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida . A’r bobloedd pan wybuant , a’i dilynasant ef : ac efe a’u derbyniodd hwynt , ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw , ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu . A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau ; a’r deuddeg a ddaethant , ac a ddywedasant wrtho , Gollwng y dyrfa ymaith , fel y gallont fyned i’r trefi , ac i’r wlad oddi amgylch , i letya , ac i gael bwyd : canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd . Eithr efe a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwythau a ddywedasant , Nid oes gennym ni ond pum torth , a dau bysgodyn , oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll . Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau , bob yn ddeg a deugain . Ac felly y gwnaethant ; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd . Ac efe a gymerodd y pum torth , a’r ddau bysgodyn , ac a edrychodd i fyny i’r nef , ac a’u bendithiodd hwynt , ac a’u torrodd , ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl . A hwynt‐hwy oll a fwytasant , ac a gawsant ddigon : a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd , ddeuddeg basgedaid . Bu hefyd , fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan , fod ei ddisgyblion gydag ef : ac efe a ofynnodd iddynt , gan ddywedyd , Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i ? Hwythau gan ateb a ddywedasant , Ioan Fedyddiwr ; ond eraill , mai Eleias ; ac eraill , mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i ? A Phedr gan ateb a ddywedodd , Crist Duw . Ac efe a roes orchymyn arnynt , ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb ; Gan ddywedyd , Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer , a’i wrthod gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , a’r trydydd dydd atgyfodi . Ac efe a ddywedodd wrth bawb , Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a choded ei groes beunydd , a dilyned fi . Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes , a’i cyll ; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i , hwnnw a’i ceidw hi . Canys pa lesâd i ddyn , er ennill yr holl fyd , a’i ddifetha’i hun , neu fod wedi ei golli ? Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau , hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn , pan ddelo yn ei ogoniant ei hun , a’r Tad , a’r angylion sanctaidd . Eithr dywedaf i chwi yn wir , Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau , hyd oni welont deyrnas Dduw . A bu , ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn , gymryd ohono ef Pedr , ac Ioan , ac Iago , a myned i fyny i’r mynydd i weddïo . Ac fel yr oedd efe yn gweddïo , gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd , a’i wisg oedd yn wen ddisglair . Ac wele , dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef , y rhai oedd Moses ac Eleias : Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant , ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef , yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem . A Phedr , a’r rhai oedd gydag ef , oeddynt wedi trymhau gan gysgu : a phan ddihunasant , hwy a welsant ei ogoniant ef , a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef . A bu , a hwy yn ymado oddi wrtho ef , ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu , O Feistr , da yw i ni fod yma : a gwnawn dair pabell ; un i ti , ac un i Moses , ac un i Eleias : heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn , daeth cwmwl , ac a’u cysgododd hwynt : a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl . A daeth llef allan o’r cwmwl , gan ddywedyd , Hwn yw fy Mab annwyl ; gwrandewch ef . Ac wedi bod y llef , cafwyd yr Iesu yn unig . A hwy a gelasant , ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent . A darfu drannoeth , pan ddaethant i waered o’r mynydd , i dyrfa fawr gyfarfod ag ef . Ac wele , gŵr o’r dyrfa a ddolefodd , gan ddywedyd , O Athro , yr wyf yn atolwg i ti , edrych ar fy mab ; canys fy unig‐anedig yw . Ac wele , y mae ysbryd yn ei gymryd ef , ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi ; ac y mae’n ei ddryllio ef , hyd oni falo ewyn ; a braidd yr ymedy oddi wrtho , wedi iddo ei ysigo ef . Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan ; ac nis gallasant . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon a throfaus , pa hyd y byddaf gyda chwi , ac y’ch goddefaf ? dwg dy fab yma . Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod , y cythraul a’i rhwygodd ef , ac a’i drylliodd : a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan , ac a iachaodd y bachgen , ac a’i rhoddes ef i’w dad . A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw . Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn : canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion . Eithr hwy ni wybuant y gair hwn , ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt , fel nas deallent ef : ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn . A dadl a gyfododd yn eu plith , pwy a fyddai fwyaf ohonynt . A’r Iesu , wrth weled meddwl eu calon hwynt , a gymerth fachgennyn , ac a’i gosododd yn ei ymyl , Ac a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i , sydd yn fy nerbyn i ; a phwy bynnag a’m derbynio i , sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i : canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll , hwnnw a fydd mawr . Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd , O Feistr , ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid ; ac a waharddasom iddo , am nad oedd yn canlyn gyda ni . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Na waherddwch iddo : canys y neb nid yw i’n herbyn , trosom ni y mae . A bu , pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny , yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem . Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb : a hwy wedi myned , a aethant i mewn i dref y Samariaid , i baratoi iddo ef . Ac nis derbyniasant hwy ef , oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem . A’i ddisgyblion ef , Iago ac Ioan , pan welsant , a ddywedasant , Arglwydd , a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef , a’u difa hwynt , megis y gwnaeth Eleias ? Ac efe a drodd , ac a’u ceryddodd hwynt ; ac a ddywedodd , Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi . Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion , ond i’w cadw . A hwy a aethant i dref arall . A bu , a hwy yn myned , ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef , Arglwydd , mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Y mae gan y llwynogod ffeuau , a chan adar yr awyr nythod ; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr . Ac efe a ddywedodd wrth un arall , Dilyn fi . Ac yntau a ddywedodd , Arglwydd , gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad . Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho , Gad i’r meirw gladdu eu meirw : ond dos di , a phregetha deyrnas Dduw . Ac un arall hefyd a ddywedodd , Mi a’th ddilynaf di , O Arglwydd ; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr , ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl , yn gymwys i deyrnas Dduw . Wedi’r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd , ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod . Am hynny efe a ddywedodd wrthynt , Y cynhaeaf yn wir sydd fawr , ond y gweithwyr yn anaml : gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf , am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf . Ewch : wele , yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ymysg bleiddiaid . Na ddygwch god , nac ysgrepan , nac esgidiau ; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd . Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn , yn gyntaf dywedwch , Tangnefedd i’r tŷ hwn . Ac o bydd yno fab tangnefedd , eich tangnefedd a orffwys arno : os amgen , hi a ddychwel atoch chwi . Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch , gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt : canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog . Na threiglwch o dŷ i dŷ . A pha ddinas bynnag yr eloch iddi , a hwy yn eich derbyn , bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau : Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi , a dywedwch wrthynt , Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch . Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi , a hwy heb eich derbyn , ewch allan i’w heolydd , a dywedwch , Hyd yn oed y llwch , yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas , yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi : er hynny gwybyddwch hyn , fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch . Eithr dywedaf wrthych , mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw , nag i’r ddinas honno . Gwae di , Chorasin ! gwae di , Bethsaida ! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi , hwy a edifarhasent er ys talm , gan eistedd mewn sachliain a lludw . Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn , nag i chwi . A thithau , Capernaum , yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef , a dynnir i lawr hyd yn uffern . Y neb sydd yn eich gwrando chwi , sydd yn fy ngwrando i ; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi , sydd yn fy nirmygu i ; a’r neb sydd yn fy nirmygu i , sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i . A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd , gan ddywedyd , Arglwydd , hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni , yn dy enw di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Mi a welais Satan megis mellten , yn syrthio o’r nef . Wele , yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau , ac ar holl gryfder y gelyn : ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi . Eithr yn hyn na lawenhewch , fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi ; ond llawenhewch yn hytrach , am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd . Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd , ac a ddywedodd , Yr wyf yn diolch i ti , O Dad , Arglwydd nef a daear , am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus , a’u datguddio ohonot i rai bychain : yn wir , O Dad ; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di . Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad : ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab , ond y Tad ; na phwy yw’r Tad , ond y Mab , a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo . Ac efe a drodd at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd o’r neilltu , Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled : Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled , ac nis gwelsant ; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed , ac nis clywsant . Ac wele , rhyw gyfreithiwr a gododd , gan ei demtio ef , a dywedyd , Athro , pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol ? Yntau a ddywedodd wrtho , Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith ? pa fodd y darlleni ? Ac efe gan ateb a ddywedodd , Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl nerth , ac â’th holl feddwl ; a’th gymydog fel ti dy hun . Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a atebaist yn uniawn : gwna hyn , a byw fyddi . Eithr efe , yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun , a ddywedodd wrth yr Iesu , A phwy yw fy nghymydog ? A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho , ac a syrthiodd ymysg lladron ; y rhai wedi ei ddiosg ef , a’i archolli , a aethant ymaith , gan ei adael yn hanner marw . Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno : a phan ei gwelodd , efe a aeth o’r tu arall heibio . A’r un ffunud Lefiad hefyd , wedi dyfod i’r fan , a’i weled ef , a aeth o’r tu arall heibio . Eithr rhyw Samariad , wrth ymdaith , a ddaeth ato ef : a phan ei gwelodd , a dosturiodd , Ac a aeth ato , ac a rwymodd ei archollion ef , gan dywallt ynddynt olew a gwin ; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun , ac a’i dug ef i’r llety , ac a’i hamgeleddodd . A thrannoeth wrth fyned ymaith , efe a dynnodd allan ddwy geiniog , ac a’u rhoddes i’r lletywr , ac a ddywedodd wrtho , Cymer ofal drosto : a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg , pan ddelwyf drachefn , mi a’i talaf i ti . Pwy gan hynny o’r tri hyn , yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron ? Ac efe a ddywedodd , Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef . A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho , Dos , a gwna dithau yr un modd . A bu , a hwy yn ymdeithio , ddyfod ohono i ryw dref : a rhyw wraig , a’i henw Martha , a’i derbyniodd ef i’w thŷ . Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair , yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu , ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef . Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth : a chan sefyll gerllaw , hi a ddywedodd , Arglwydd , onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu ? dywed wrthi gan hynny am fy helpio . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Martha , Martha , gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau : Eithr un peth sydd angenrheidiol : a Mair a ddewisodd y rhan dda , yr hon ni ddygir oddi arni . Abu , ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo , pan beidiodd , ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho , Arglwydd , dysg i ni weddïo , megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pan weddïoch , dywedwch , Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd , Sancteiddier dy enw . Deued dy deyrnas . Gwneler dy ewyllys , megis yn y nef , felly ar y ddaear hefyd . Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol . A maddau i ni ein pechodau : canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled . Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; eithr gwared ni rhag drwg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill , ac a â ato hanner nos , ac a ddywed wrtho , O gyfaill , moes i mi dair torth yn echwyn ; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith , ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef : Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed , Na flina fi : yn awr y mae’r drws yn gaead , a’m plant gyda mi yn y gwely ; ni allaf godi a’u rhoddi i ti . Yr wyf yn dywedyd i chwi , Er na chyfyd efe a rhoddi iddo , am ei fod yn gyfaill iddo ; eto oherwydd ei daerni , efe a gyfyd , ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Gofynnwch , a rhoddir i chwi ; ceisiwch , a chwi a gewch ; curwch , ac fe a agorir i chwi . Canys pob un sydd yn gofyn , sydd yn derbyn ; a’r neb sydd yn ceisio , sydd yn cael ; ac i’r hwn sydd yn curo , yr agorir . Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad , a ddyry efe garreg iddo ? ac os pysgodyn , a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn ? Neu os gofyn efe wy , a ddyry efe ysgorpion iddo ? Os chwychwi gan hynny , y rhai ydych ddrwg , a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi ; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo ? Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul , a hwnnw oedd fud . A bu , wedi i’r cythraul fyned allan , i’r mudan lefaru : a’r bobloedd a ryfeddasant . Eithr rhai ohonyn a ddywedasant , Trwy Beelsebub , pennaeth y cythreuliaid , y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid . Ac eraill , gan ei demtio , a geisiasant ganddo arwydd o’r nef . Yntau , yn gwybod eu meddyliau hwynt , a ddywedodd wrthynt , Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , a anghyfanheddir ; a thŷ yn erbyn tŷ , a syrth . Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , pa fodd y saif ei deyrnas ef ? gan eich bod yn dywedyd , mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid . Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid , trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan ? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi . Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid , diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi . Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd , y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch : Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno , a’i orchfygu , efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried , ac a ran ei anrhaith ef . Y neb nid yw gyda mi , sydd yn fy erbyn : a’r neb nid yw yn casglu gyda mi , sydd yn gwasgaru . Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn , efe a rodia mewn lleoedd sychion , gan geisio gorffwystra : a phryd na chaffo , efe a ddywed , Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan . A phan ddêl , y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu . Yna yr â efe , ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun ; a hwy a ânt i mewn , ac a arhosant yno : a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad . A bu , fel yr oedd efe yn dywedyd hyn , rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef , ac a ddywedodd wrtho , Gwyn fyd y groth a’th ddug di , a’r bronnau a sugnaist . Ond efe a ddywedodd , Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw , ac yn ei gadw . Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd , efe a ddechreuodd ddywedyd , Y genhedlaeth hon sydd ddrwg : y mae hi yn ceisio arwydd ; ac arwydd ni roddir iddi , ond arwydd Jonas y proffwyd : Canys fel y bu Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid , felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon . Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon , ac a’u condemnia hwynt ; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon : ac wele un mwy na Solomon yma . Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemniant hi ; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas : ac wele un mwy na Jonas yma . Ac nid yw neb wedi golau cannwyll , yn ei gosod mewn lle dirgel , na than lestr ; eithr ar ganhwyllbren , fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni . Cannwyll y corff yw’r llygad : am hynny pan fyddo dy lygad yn syml , dy holl gorff hefyd fydd olau ; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg , dy gorff hefyd fydd tywyll . Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch . Os dy holl gorff gan hynny sydd olau , heb un rhan dywyll ynddo , bydd y cwbl yn olau , megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di . Ac fel yr oedd efe yn llefaru , rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef . Ac wedi iddo ddyfod i mewn , efe a eisteddodd i fwyta . A’r Pharisead pan welodd , a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl ; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni . O ynfydion , onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan , a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd ? Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych : ac wele , pob peth sydd lân i chwi . Eithr gwae chwi’r Phariseaid ! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys , a’r ryw , a phob llysieuyn , ac yn myned heibio i farn a chariad Duw . Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur , ac na adewid y lleill heb wneuthur . Gwae chwi’r Phariseaid ! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y synagogau , a chyfarch yn y marchnadoedd . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! am eich bod fel beddau anamlwg , a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt . Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Athro , wrth ddywedyd hyn , yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd . Yntau a ddywedodd , Gwae chwithau hefyd , y cyfreithwyr ! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn , a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd . Gwae chwychwi ! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi , a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt . Yn wir yr ydych yn tystiolaethu , ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau : canys hwynt‐hwy yn wir a’u lladdasant hwy , a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt . Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw , Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion , a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant : Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi , yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd ; O waed Abel hyd waed Sachareias , yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml ; diau meddaf i chwi , Gofynnir ef i’r genhedlaeth hon . Gwae chwychwi , y cyfreithwyr ! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth : nid aethoch i mewn eich hunain , a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt , y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno , a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau ; Gan ei gynllwyn ef , a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef , i gael achwyn arno . Yn y cyfamser , wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd , hyd onid ymsathrai y naill y llall , efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion , Yn gyntaf , gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid , yr hwn yw rhagrith . Canys nid oes dim cuddiedig , a’r nas datguddir ; na dirgel , a’r nis gwybyddir . Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch , a glywir yn y golau ; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd , a bregethir ar bennau tai . Ac yr wyf yn dywedyd wrthych , fy nghyfeillion , Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff , ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur . Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch : Ofnwch yr hwn , wedi y darffo iddo ladd , sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern ; ie , meddaf i chwi , Hwnnw a ofnwch . Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling ? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw : Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll . Am hynny nac ofnwch : yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to . Ac meddaf i chwi , Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion , Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw . A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion , a wedir gerbron angylion Duw . A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn , fe a faddeuir iddo : eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân , ni faddeuir . A phan y’ch dygant i’r synagogau , ac at y llywiawdwyr , a’r awdurdodau , na ofelwch pa fodd , neu pa beth a ateboch , neu beth a ddywedoch : Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd . A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho , Athro , dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth . Yntau a ddywedodd wrtho , Y dyn , pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Edrychwch , ac ymogelwch rhag cybydd‐dod : canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo . Ac efe a draethodd wrthynt ddameg , gan ddywedyd , Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda . Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun , gan ddywedyd , Beth a wnaf , am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo ? Ac efe a ddywedodd , Hyn a wnaf : Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau , ac a adeiladaf rai mwy ; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau , a’m da . A dywedaf wrth fy enaid , Fy enaid , y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd : gorffwys , bwyta , yf , bydd lawen . Eithr Duw a ddywedodd wrtho , O ynfyd , y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt ; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist ? Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun , ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych , Na chymerwch ofal am eich bywyd , beth a fwytaoch ; nac am eich corff , beth a wisgoch . Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth , a’r corff yn fwy na’r dillad . Ystyriwch y brain : canys nid ydynt yn hau nac yn medi ; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor ; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt : o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar ? A phwy ohonoch , gan gymryd gofal , a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli ? Am hynny , oni ellwch wneuthur y peth lleiaf , paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill ? Ystyriwch y lili , pa fodd y maent yn tyfu ; nid ydynt yn llafurio , nac yn nyddu : ac yr wyf yn dywedyd i chwi , na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn . Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn , yr hwn sydd heddiw yn y maes , ac yfory a deflir i’r ffwrn : pa faint mwy y dillada efe chwychwi , O rai o ychydig ffydd ? Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch , neu pa beth a yfoch ; ac na fyddwch amheus . Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio : ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn . Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw ; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg . Nac ofna , braidd bychan : canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas . Gwerthwch yr hyn sydd gennych , a rhoddwch elusen : gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant ; trysor yn y nefoedd , yr hwn ni dderfydd , lle ni ddaw lleidr yn agos , ac ni lygra pryf . Canys lle y mae eich trysor chwi , yno y bydd eich calon hefyd . Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu , a’ch canhwyllau wedi eu golau : A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd , pa bryd y dychwel o’r neithior ; fel pan ddelo a churo , yr agoront iddo yn ebrwydd . Gwyn eu byd y gweision hynny , y rhai a gaiff eu harglwydd , pan ddêl , yn neffro : yn wir , meddaf i chwi , efe a ymwregysa , ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta , ac a ddaw , ac a wasanaetha arnynt hwy . Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth , ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw , a’u cael hwynt felly , gwyn eu byd y gweision hynny . A hyn gwybyddwch , pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr , efe a wyliasai , ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd . A chwithau gan hynny , byddwch barod : canys yr awr ni thybioch , y daw Mab y dyn . A Phedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon , ai wrth bawb hefyd ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog , yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu , i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd ? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw , yr hwn y caiff ei arglwydd ef , pan ddêl , yn gwneuthur felly . Yn wir meddaf i chwi , Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo . Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon , Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod ; a dechrau curo’r gweision a’r morynion , a bwyta ac yfed , a meddwi : Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl , ac ar awr nad yw efe yn gwybod , ac a’i gwahana ef , ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid . A’r gwas hwnnw , yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd , ac nid ymbaratôdd , ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef , a gurir â llawer ffonnod . Eithr yr hwn ni wybu , ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau , a gurir ag ychydig ffonodiau . Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer , llawer a ofynnir ganddo ; a chyda’r neb y gadawsant lawer , ychwaneg a ofynnant ganddo . Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear : a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes ? Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef ; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner ! Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear ? nage , meddaf i chwi ; ond yn hytrach ymrafael : Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu , tri yn erbyn dau , a dau yn erbyn tri . Y tad a ymranna yn erbyn y mab , a’r mab yn erbyn y tad , y fam yn erbyn y ferch , a’r ferch yn erbyn y fam ; y chwegr yn erbyn ei gwaudd , a’r waudd yn erbyn ei chwegr . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd , Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin , yn y fan y dywedwch , Y mae cawod yn dyfod : ac felly y mae . A phan weloch y deheuwynt yn chwythu , y dywedwch , Y bydd gwres : ac fe fydd . O ragrithwyr , chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr : ond yr amser hwn , pa fodd nad ydych yn ei ddeall ? A phaham nad ydych , ie , ohonoch eich hunain , yn barnu’r hyn sydd gyfiawn ? Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwr , gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho ; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr , ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog , ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar : Yr wyf yn dywedyd i ti , Nad ei di ddim oddi yno , hyd oni thelych , ie , yr hatling eithaf . Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid , y rhai , y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt , Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid , am iddynt ddioddef y cyfryw bethau ? Nac oeddynt , meddaf i chwi : eithr , onid edifarhewch , chwi a ddifethir oll yn yr un modd . Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam , ac a’u lladdodd hwynt : a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem ? Nac oeddynt , meddaf i chwi : eithr , onid edifarhewch , chwi a ddifethir oll yn yr un modd . Ac efe a ddywedodd y ddameg hon : Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan ; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno , ac nis cafodd . Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd , Wele , tair blynedd yr ydwyf yn dyfod , gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn ; ac nid ydwyf yn cael dim : tor ef i lawr ; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir ? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho , Arglwydd , gad ef y flwyddyn hon hefyd , hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch , a bwrw tail : Ac os dwg efe ffrwyth , da : onid e , gwedi hynny tor ef i lawr . Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth . Ac wele , yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd , ac oedd wedi cydgrymu , ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni . Pan welodd yr Iesu hon , efe a’i galwodd hi ato , ac a ddywedodd wrthi , Ha wraig , rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid . Ac efe a roddes ei ddwylo arni : ac yn ebrwydd hi a unionwyd , ac a ogoneddodd Dduw . A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon , am i’r Iesu iacháu ar y Saboth , ac a ddywedodd wrth y bobl , Chwe diwrnod sydd , yn y rhai y dylid gweithio : ar y rhai hyn gan hynny deuwch , a iachaer chwi : ac nid ar y dydd Saboth . Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef , ac a ddywedodd , O ragrithiwr , oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb , a’i arwain i’r dwfr ? Ac oni ddylai hon , a hi yn ferch i Abraham , yr hon a rwymodd Satan , wele , ddeunaw mlynedd , gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth ? Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn , ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant : a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo . Ac efe a ddywedodd , I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg ? ac i ba beth y cyffelybaf hi ? Tebyg yw i ronyn o had mwstard , yr hwn a gymerodd dyn , ac a’i heuodd yn ei ardd ; ac efe a gynyddodd , ac a aeth yn bren mawr , ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef . A thrachefn y dywedodd , I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw ? Cyffelyb yw i surdoes , yr hwn a gymerodd gwraig , ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd , hyd oni surodd y cwbl oll . Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi , gan athrawiaethu , ac ymdeithio tua Jerwsalem . A dywedodd un wrtho , Arglwydd , ai ychydig yw y rhai cadwedig ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng : canys llawer , meddaf i chwi , a geisiant fyned i mewn , ac nis gallant . Gwedi cyfodi gŵr y tŷ , a chau’r drws , a dechrau ohonoch sefyll oddi allan , a churo’r drws , gan ddywedyd , Arglwydd , Arglwydd , agor i ni ; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych , Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych : Yna y dechreuwch ddywedyd , Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di , a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni . Ac efe a ddywed , Yr wyf yn dywedyd i chwi , Nid adwaen chwi o ba le yr ydych : ewch ymaith oddi wrthyf , chwi holl weithredwyr anwiredd . Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd , pan weloch Abraham , ac Isaac , a Jacob , a’r holl broffwydi , yn nheyrnas Dduw , a chwithau wedi eich bwrw allan . A daw rhai o’r dwyrain , ac o’r gorllewin , ac o’r gogledd , ac o’r deau , ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw . Ac wele , olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf , a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf . Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid , gan ddywedyd wrtho , Dos allan , a cherdda oddi yma : canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , a dywedwch i’r cadno hwnnw , Wele , yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid , ac yn iacháu heddiw ac yfory , a’r trydydd dydd y’m perffeithir . Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory , a thrennydd : canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem . O Jerwsalem , Jerwsalem , yr hon wyt yn lladd y proffwydi , ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat : pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd , y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd , ac nis mynnech ! Wele , eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd . Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych , Ni welwch fi , hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch , Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd . Bu hefyd , pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth , i fwyta bara , iddynt hwythau ei wylied ef . Ac wele , yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dropsi . A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid , gan ddywedyd , Ai rhydd iacháu ar y Saboth ? A thewi a wnaethant . Ac efe a’i cymerodd ato , ac a’i hiachaodd ef , ac a’i gollyngodd ymaith ; Ac a atebodd iddynt hwythau , ac a ddywedodd , Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll , ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth ? Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn . Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg , pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf ; gan ddywedyd wrthynt , Pan y’th wahodder gan neb i neithior , nac eistedd yn y lle uchaf , rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo ; Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod , a dywedyd wrthyt , Dyro le i hwn ; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf . Eithr pan y’th wahodder , dos ac eistedd yn y lle isaf ; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di , y gallo efe ddywedyd wrthyt , Y cyfaill , eistedd yn uwch i fyny : yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd . Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun , a ostyngir ; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun , a ddyrchefir . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef , Pan wnelych ginio neu swper , na alw dy gyfeillion , na’th frodyr , na’th geraint , na’th gymdogion goludog ; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau , a gwneuthur taledigaeth i ti . Eithr pan wnelych wledd , galw’r tlodion , yr efryddion , y cloffion , y deillion : A dedwydd fyddi ; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti : canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn . A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn , efe a ddywedodd wrtho , Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw . Ac yntau a ddywedodd wrtho , Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr , ac a wahoddodd lawer : Ac a ddanfonodd ei was bryd swper , i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid , Deuwch ; canys weithian y mae pob peth yn barod . A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi . Y cyntaf a ddywedodd wrtho , Mi a brynais dyddyn , ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled : atolwg i ti , cymer fi yn esgusodol . Ac arall a ddywedodd , Mi a brynais bum iau o ychen , ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt : atolwg i ti , cymer fi yn esgusodol . Ac arall a ddywedodd , Mi a briodais wraig ; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod . A’r gwas hwnnw , pan ddaeth adref , a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd . Yna gŵr y tŷ , wedi digio , a ddywedodd wrth ei was , Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas , a dwg i mewn yma y tlodion , a’r anafus , a’r cloffion , a’r deillion . A’r gwas a ddywedodd , Arglwydd , gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist ; ac eto y mae lle . A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas , Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau , a chymell hwynt i ddyfod i mewn , fel y llanwer fy nhŷ . Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd , brofi o’m swper i . A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef : ac efe a droes , ac a ddywedodd wrthynt , Os daw neb ataf fi , ac ni chasao ei dad , a’i fam , a’i wraig , a’i blant , a’i frodyr , a’i chwiorydd , ie , a’i einioes ei hun hefyd , ni all efe fod yn ddisgybl i mi . A phwy bynnag ni ddyco ei groes , a dyfod ar fy ôl i , ni all efe fod yn ddisgybl i mi . Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd ar adeiladu tŵr , nid eistedd yn gyntaf , a bwrw’r draul , a oes ganddo a’i gorffenno ? Rhag wedi iddo osod y sail , ac heb allu ei orffen , ddechrau o bawb a’i gwelant ei watwar ef , Gan ddywedyd , Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu , ac ni allodd ei orffen . Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall , nid eistedd yn gyntaf , ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil ? Ac os amgen , tra fyddo efe ymhell oddi wrtho , efe a enfyn genadwri , ac a ddeisyf amodau heddwch . Felly hefyd , pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo , ni all fod yn ddisgybl i mi . Da yw’r halen : eithr o bydd yr halen yn ddiflas , â pha beth yr helltir ef ? Nid yw efe gymwys nac i’r tir , nac i’r domen ; ond ei fwrw ef allan y maent . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef , i wrando arno . A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant , gan ddywedyd , Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid , ac yn bwyta gyda hwynt . Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon , gan ddywedyd , Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid , ac os cyll un ohonynt , nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch , ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd , hyd oni chaffo efe hi ? Ac wedi iddo ei chael , efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen . A phan ddêl adref , efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion , gan ddywedyd wrthynt , Llawenhewch gyda mi ; canys cefais fy nafad a gollasid . Yr wyf yn dywedyd i chwi , mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao , mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn , y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch . Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian , os cyll hi un dryll , ni olau gannwyll , ac ysgubo’r tŷ , a cheisio yn ddyfal , hyd onis caffo ef ? Ac wedi iddi ei gael , hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau , gan ddywedyd , Cydlawenhewch â mi ; canys cefais y dryll a gollaswn . Felly , meddaf i chwi , y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao . Ac efe a ddywedodd , Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab : A’r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad , Fy nhad , dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da . Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd . Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd , ac a gymerth ei daith i wlad bell ; ac yno efe a wasgarodd ei dda , gan fyw yn afradlon . Ac wedi iddo dreulio’r cwbl , y cododd newyn mawr trwy’r wlad honno ; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau . Ac efe a aeth , ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno ; ac efe a’i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch . Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch ; ac ni roddodd neb iddo . A phan ddaeth ato ei hun , efe a ddywedodd , Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara , a minnau yn marw o newyn ? Mi a godaf , ac a af at fy nhad , ac a ddywedaf wrtho , Fy nhad , pechais yn erbyn y nef , ac o’th flaen dithau ; Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti : gwna fi fel un o’th weision cyflog . Ac efe a gododd , ac a aeth at ei dad . A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho , ei dad a’i canfu ef , ac a dosturiodd , ac a redodd , ac a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a’i cusanodd . A’r mab a ddywedodd wrtho , Fy nhad , pechais yn erbyn y nef , ac o’th flaen dithau ; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti . A’r tad a ddywedodd wrth ei weision , Dygwch allan y wisg orau , a gwisgwch amdano ef , a rhoddwch fodrwy ar ei law , ac esgidiau am ei draed : A dygwch y llo pasgedig , a lleddwch ef ; a bwytawn , a byddwn lawen . Canys fy mab hwn oedd farw , ac a aeth yn fyw drachefn ; ac efe a gollesid , ac a gaed . A hwy a ddechreuasant fod yn llawen . Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes ; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ , efe a glywai gynghanedd a dawnsio . Ac wedi iddo alw un o’r gweision , efe a ofynnodd beth oedd hyn . Yntau a ddywedodd wrtho , Dy frawd a ddaeth ; a’th dad a laddodd y llo pasgedig , am iddo ei dderbyn ef yn iach . Ond efe a ddigiodd , ac nid âi i mewn . Am hynny y daeth ei dad allan , ac a ymbiliodd ag ef . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad , Wele , cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di , ac ni throseddais i un amser dy orchymyn ; ac ni roddaist fyn erioed i mi , i fod yn llawen gyda’m cyfeillion : Eithr pan ddaeth dy fab hwn , yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid , ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fy mab , yr wyt ti yn wastadol gyda mi , a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti . Rhaid oedd llawenychu , a gorfoleddu : oblegid dy frawd hwn oedd yn farw , ac a aeth yn fyw drachefn ; ac a fu golledig , ac a gafwyd . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion , Yr oedd rhyw ŵr goludog , yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr ; a hwn a gyhuddwyd wrtho , ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef . Ac efe a’i galwodd ef , ac a ddywedodd wrtho , Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat ? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth : canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr . A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun , Pa beth a wnaf ? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf : cloddio nis gallaf , a chardota sydd gywilyddus gennyf . Mi a wn beth a wnaf , fel , pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth , y derbyniont fi i’w tai . Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd , efe a ddywedodd wrth y cyntaf , Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Can mesur o olew . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer dy ysgrifen , ac eistedd ar frys , ac ysgrifenna ddeg a deugain . Yna y dywedodd wrth un arall , A pha faint o ddyled sydd arnat tithau ? Ac efe a ddywedodd , Can mesur o wenith . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer dy ysgrifen , ac ysgrifenna bedwar ugain . A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn , am iddo wneuthur yn gall : oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni . Ac yr wyf yn dywedyd i chwi , Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn : fel , pan fo eisiau arnoch , y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll . Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf , sydd ffyddlon hefyd mewn llawer ; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf , sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer . Am hynny , oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn , pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud ? Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall , pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun ? Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd : canys naill ai efe a gasâ y naill , ac a gâr y llall ; ai efe a lŷn wrth y naill , ac a ddirmyga’r llall . Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon . A’r Phariseaid hefyd , y rhai oedd ariangar , a glywsant y pethau hyn oll , ac a’i gwatwarasant ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion ; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi : canys y peth sydd uchel gyda dynion , sydd ffiaidd gerbron Duw . Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan : er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw , a phob dyn sydd yn ymwthio iddi . A haws yw i nef a daear fyned heibio , nag i un tipyn o’r gyfraith ballu . Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , ac a briodo un arall , y mae efe yn godinebu ; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr , y mae efe yn godinebu . Yr oedd rhyw ŵr goludog , ac a wisgid â phorffor a lliain main , ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd : Yr oedd hefyd ryw gardotyn , a’i enw Lasarus , yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd , Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog ; ond y cŵn a ddaethant , ac a lyfasant ei gornwydydd ef . A bu , i’r cardotyn farw , a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham . A’r goludog hefyd a fu farw , ac a gladdwyd : Ac yn uffern efe a gododd ei olwg , ac efe mewn poenau , ac a ganfu Abraham o hirbell , a Lasarus yn ei fynwes . Ac efe a lefodd , ac a ddywedodd , O dad Abraham , trugarha wrthyf , a danfon Lasarus , i drochi pen ei fys mewn dwfr , ac i oeri fy nhafod : canys fe a’m poenir yn y fflam hon . Ac Abraham a ddywedodd , Ha fab , coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd , ac felly Lasarus ei adfyd : ac yn awr y diddenir ef , ac y poenir dithau . Ac heblaw hyn oll , rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr : fel na allo’r rhai a fynnent , dramwy oddi yma atoch chwi ; na’r rhai oddi yna , dramwy atom ni . Ac efe a ddywedodd , Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny , O dad , ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad ; Canys y mae i mi bump o frodyr : fel y tystiolaetho iddynt hwy , rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn . Abraham a ddywedodd wrtho , Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi ; gwrandawant arnynt hwy . Yntau a ddywedodd , Nage , y tad Abraham : eithr os â un oddi wrth y meirw atynt , hwy a edifarhânt . Yna Abraham a ddywedodd wrtho , Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi , ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw . Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Ni all na ddêl rhwystrau : ond gwae efe trwy’r hwn y deuant ! Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef , a’i daflu i’r môr , nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn . Edrychwch arnoch eich hunain . Os pecha dy frawd yn dy erbyn , cerydda ef ; ac os edifarha efe , maddau iddo . Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd , a seithwaith yn y dydd droi atat , gan ddywedyd , Y mae yn edifar gennyf ; maddau iddo . A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd , Anghwanega ein ffydd ni . A’r Arglwydd a ddywedodd , Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard , chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon , Ymddadwreiddia , a phlanner di yn y môr ; a hi a ufuddhâi i chwi . Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig , neu’n bugeilio , a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes , Dos ac eistedd i lawr i fwyta ? Ond yn hytrach a ddywed wrtho , Arlwya i mi i swperu , ac ymwregysa , a gwasanaetha arnaf fi , nes i mi fwyta ac yfed : ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau ? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw , am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo ? Nid wyf yn tybied . Felly chwithau hefyd , gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi , dywedwch , Gweision anfuddiol ydym : oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur , a wnaethom . Bu hefyd , ac efe yn myned i Jerwsalem , fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea . A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref , cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion , y rhai a safasant o hirbell : A hwy a godasant eu llef , gan ddywedyd , Iesu Feistr , trugarha wrthym . A phan welodd efe hwynt , efe a ddywedodd wrthynt , Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid . A bu , fel yr oeddynt yn myned , fe a’u glanhawyd hwynt . Ac un ohonynt , pan welodd ddarfod ei iacháu , a ddychwelodd , gan foliannu Duw â llef uchel . Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef , gan ddiolch iddo . A Samariad oedd efe . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , Oni lanhawyd y deg ? ond pa le y mae y naw ? Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw , ond yr estron hwn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos ymaith : dy ffydd a’th iachaodd . A phan ofynnodd y Phariseaid iddo , pa bryd y deuai teyrnas Dduw , efe a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl . Ac ni ddywedant , Wele yma ; neu , Wele acw : canys wele , teyrnas Dduw , o’ch mewn chwi y mae . Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn , ac nis gwelwch . A hwy a ddywedant wrthych , Wele yma ; neu , Wele acw : nac ewch , ac na chanlynwch hwynt . Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef , yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef ; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef . Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer , a’i wrthod gan y genhedlaeth hon . Ac megis y bu yn nyddiau Noe , felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn . Yr oeddynt yn bwyta , yn yfed , yn gwreica , yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch ; a daeth y dilyw , ac a’u difethodd hwynt oll . Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot : yr oeddynt yn bwyta , yn yfed , yn prynu , yn gwerthu , yn plannu , yn adeiladu ; Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom , y glawiodd tân a brwmstan o’r nef , ac a’u difethodd hwynt oll : Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn . Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ , a’i ddodrefn o fewn y tŷ , na ddisgynned i’w cymryd hwynt ; a’r hwn a fyddo yn y maes , yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl . Cofiwch wraig Lot . Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes , a’i cyll ; a phwy bynnag a’i cyll , a’i bywha hi . Yr wyf yn dywedyd i chwi , Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dwy a fydd yn malu yn yr un lle ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dau a fyddant yn y maes ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Pa le , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa le bynnag y byddo y corff , yno yr ymgasgl yr eryrod . Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt , fod yn rhaid gweddïo yn wastad , ac heb ddiffygio ; Gan ddywedyd , Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas , yr hwn nid ofnai Dduw , ac ni pharchai ddyn . Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw ; a hi a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Dial fi ar fy ngwrthwynebwr . Ac efe nis gwnâi dros amser : eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun , Er nad ofnaf Dduw , ac na pharchaf ddyn ; Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder , mi a’i dialaf hi ; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i . A’r Arglwydd a ddywedodd , Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn . Ac oni ddial Duw ei etholedigion , sydd yn llefain arno ddydd a nos , er ei fod yn hir oedi drostynt ? Yr wyf yn dywedyd i chwi , y dial efe hwynt ar frys . Eithr Mab y dyn , pan ddêl , a gaiff efe ffydd ar y ddaear ? Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn , ac yn diystyru eraill : Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo ; un yn Pharisead , a’r llall yn bublican . Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn ; O Dduw , yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill , yn drawsion , yn anghyfiawn , yn odinebwyr ; neu , fel y publican hwn chwaith . Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos ; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf . A’r publican , gan sefyll o hirbell , ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef ; eithr efe a gurodd ei ddwyfron , gan ddywedyd , O Dduw , bydd drugarog wrthyf bechadur . Dywedaf i chwi , Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall : canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun , a ostyngir ; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun , a ddyrchefir . A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd , fel y cyffyrddai efe â hwynt : a’r disgyblion pan welsant , a’u ceryddasant hwy . Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd , Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi , ac na waherddwch hwynt : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw . Yn wir meddaf i chwi , Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach , nid â efe i mewn iddi . A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Athro da , wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Paham y’m gelwi yn dda ? nid oes neb yn dda ond un , sef Duw . Ti a wyddost y gorchmynion , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Anrhydedda dy dad a’th fam . Ac efe a ddywedodd , Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid . A’r Iesu pan glybu hyn , a ddywedodd wrtho , Y mae un peth eto yn ôl i ti : gwerth yr hyn oll sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , canlyn fi . Ond pan glybu efe y pethau hyn , efe a aeth yn athrist : canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn . A’r Iesu , pan welodd ef wedi myned yn athrist , a ddywedodd , Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw ! Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A’r rhai a glywsent a ddywedasant , A phwy a all fod yn gadwedig ? Ac efe a ddywedodd , Y pethau sydd amhosibl gyda dynion , sydd bosibl gyda Duw . A dywedodd Pedr , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ganlynasom di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Nid oes neb a’r a adawodd dŷ , neu rieni , neu frodyr , neu wraig , neu blant , er mwyn teyrnas Dduw , A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn , ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol . Ac efe a gymerodd y deuddeg ato , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn . Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd , ac a watwerir , ac a amherchir , ac a boerir arno : Ac wedi iddynt ei fflangellu , y lladdant ef : a’r trydydd dydd efe a atgyfyd . A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn ; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt , ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd . A bu , ac efe yn nesáu at Jericho , i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota : A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio , efe a ofynnodd pa beth oedd hyn . A hwy a ddywedasant iddo , Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio . Ac efe a lefodd , gan ddywedyd , Iesu , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi : eithr efe a lefodd yn fwy o lawer , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r Iesu a safodd , ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato . A phan ddaeth efe yn agos , efe a ofynnodd iddo , Gan ddywedyd , Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti ? Yntau a ddywedodd , Arglwydd , cael ohonof fy ngolwg . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Cymer dy olwg : dy ffydd a’th iachaodd . Ac allan o law y cafodd efe ei olwg , ac a’i canlynodd ef , gan ogoneddu Duw . A’r holl bobl , pan welsant , a roesant foliant i Dduw . A’r Iesu a aeth i mewn , ac a aeth trwy Jericho . Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus , ac efe oedd ben‐publican , a hwn oedd gyfoethog . Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu , pwy ydoedd ; ac ni allai gan y dyrfa , am ei fod yn fychan o gorffolaeth . Ac efe a redodd o’r blaen , ac a ddringodd i sycamorwydden , fel y gallai ei weled ef ; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno . A phan ddaeth yr Iesu i’r lle , efe a edrychodd i fyny , ac a’i canfu ef ; ac a ddywedodd wrtho , Saccheus , disgyn ar frys : canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di . Ac efe a ddisgynnodd ar frys , ac a’i derbyniodd ef yn llawen . A phan welsant , grwgnach a wnaethant oll , gan ddywedyd , Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus . A Saccheus a safodd , ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd , Wele , hanner fy na , O Arglwydd , yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion ; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn , yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn , oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham . Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid . Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn , efe a chwanegodd , ac a ddywedodd ddameg , am ei fod efe yn agos i Jerwsalem , ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan . Am hynny y dywedodd efe , Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun , ac i ddychwelyd . Ac wedi galw ei ddeg gwas , efe a roddes iddynt ddeg punt , ac a ddywedodd wrthynt , Marchnatewch hyd oni ddelwyf . Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef , ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef , gan ddywedyd , Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom . A bu , pan ddaeth efe yn ei ôl , wedi derbyn y deyrnas , erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato , i’r rhai y rhoddasai efe yr arian , fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata . A daeth y cyntaf , gan ddywedyd , Arglwydd , dy bunt a enillodd ddeg punt . Yntau a ddywedodd wrtho , Da , was da : am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf , bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas . A’r ail a ddaeth , gan ddywedyd , Arglwydd , dy bunt di a wnaeth bum punt . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw , Bydd dithau ar bum dinas . Ac un arall a ddaeth , gan ddywedyd , Arglwydd , wele dy bunt , yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn : Canys mi a’th ofnais , am dy fod yn ŵr tost : yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr , ac yn medi y peth ni heuaist . Yntau a ddywedodd wrtho , O’th enau dy hun y’th farnaf , tydi was drwg . Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost , yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr , ac yn medi y peth ni heuais : A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid , fel , pan ddaethwn , y gallaswn ei gael gyda llog ? Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw , Dygwch oddi arno ef y bunt , a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo ; ( A hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , y mae ganddo ef ddeg punt ; ) Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi , mai i bob un y mae ganddo , y rhoddir iddo ; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo , y dygir oddi arno , ie , yr hyn sydd ganddo . A hefyd fy ngelynion hynny , y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt , dygwch hwynt yma , a lleddwch ger fy mron i . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , efe a aeth o’r blaen , gan fyned i fyny i Jerwsalem . Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania , i’r mynydd a elwir Olewydd , efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , Gan ddywedyd , Ewch i’r pentref ar eich cyfer ; yn yr hwn , gwedi eich dyfod i mewn , chwi a gewch ebol yn rhwym , ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed : gollyngwch ef , a dygwch yma . Ac os gofyn neb i chwi , Paham yr ydych yn ei ollwng ? fel hyn y dywedwch wrtho , Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho . A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith , ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt . Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol , ei berchenogion a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn gollwng yr ebol ? A hwy a ddywedasant , Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef . A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu : ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol , hwy a ddodasant yr Iesu arno . Ac fel yr oedd efe yn myned , hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd . Ac weithian , ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd , dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau , a chlodfori Duw â llef uchel , am yr holl weithredoedd nerthol a welsent ; Gan ddywedyd , Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Tangnefedd yn y nef , a gogoniant yn y goruchaf . A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho , Athro , cerydda dy ddisgyblion . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Pe tawai’r rhai hyn , y llefai’r cerrig yn y fan . Ac wedi iddo ddyfod yn agos , pan welodd efe y ddinas , efe a wylodd drosti , Gan ddywedyd , Pe gwybuasit tithau , ie , yn dy ddydd hwn , y pethau a berthynent i’th heddwch ! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid . Canys daw’r dyddiau arnat , a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch , ac a’th amgylchant , ac a’th warchaeant o bob parth , Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr , a’th blant o’th fewn ; ac ni adawant ynot faen ar faen ; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad . Ac efe a aeth i mewn i’r deml , ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi , ac yn prynu ; Gan ddywedyd wrthynt , Y mae yn ysgrifenedig , Fy nhŷ i , tŷ gweddi yw : eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml . A’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a phenaethiaid y bobl , a geisient ei ddifetha ef ; Ac ni fedrasant gael beth a wnaent : canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno . A Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny , ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml , ac yn pregethu’r efengyl , ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion , gyda’r henuriaid , A llefaru wrtho , gan ddywedyd , Dywed i ni , Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn ? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A minnau a ofynnaf i chwithau un gair ; a dywedwch i mi : Bedydd Ioan , ai o’r nef yr ydoedd , ai o ddynion ? Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed , Paham gan hynny na chredech ef ? Ac os dywedwn , O ddynion ; yr holl bobl a’n llabyddiant ni : canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd . A hwy a atebasant , nas gwyddent o ba le . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl ; Rhyw ŵr a blannodd winllan , ac a’i gosododd i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser . Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr , fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan : eithr y llafurwyr a’i curasant ef , ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw . Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall : eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd , ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw . Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd : a hwy a glwyfasant hwn hefyd , ac a’i bwriasant ef allan . Yna y dywedodd arglwydd y winllan , Pa beth a wnaf ? Mi a anfonaf fy annwyl fab : fe allai pan welant ef , y parchant ef . Eithr y llafurwyr , pan welsant ef , a ymresymasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Hwn yw’r etifedd : deuwch , lladdwn ef , fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni . A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan , ac a’i lladdasant . Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy ? Efe a ddaw , ac a ddifetha’r llafurwyr hyn , ac a rydd ei winllan i eraill . A phan glywsant hyn , hwy a ddywedasant , Na ato Duw . Ac efe a edrychodd arnynt , ac a ddywedodd , Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd , Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl ? Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw , a ddryllir : ac ar bwy bynnag y syrthio , efe a’i mâl ef . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno ; ac yr oedd arnynt ofn y bobl : canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon . A hwy a’i gwyliasant ef , ac a yrasant gynllwynwyr , y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn ; fel y dalient ef yn ei ymadrodd , i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw . A hwy a ofynasant iddo ef , gan ddywedyd , Athro , ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu , ac nad wyt yn derbyn wyneb , eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd . Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y temtiwch fi ? Dangoswch i mi geiniog . Llun ac argraff pwy sydd arni ? A hwy a atebasant ac a ddywedasant , Yr eiddo Cesar . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl : a chan ryfeddu wrth ei ateb ef , hwy a dawsant â sôn . A rhai o’r Sadwceaid ( y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad , ) a ddaethant ato ef , ac a ofynasant iddo , Gan ddywedyd , Athro , Moses a ysgrifennodd i ni , Os byddai farw brawd neb , ac iddo wraig , a marw ohono yn ddi‐blant , ar gymryd o’i frawd ei wraig ef , a chodi had i’w frawd . Yr oedd gan hynny saith o frodyr : a’r cyntaf a gymerodd wraig , ac a fu farw yn ddi‐blant . A’r ail a gymerth y wraig , ac a fu farw yn ddi‐blant . A’r trydydd a’i cymerth hi ; ac yr un ffunud y saith hefyd : ac ni adawsant blant , ac a fuont feirw . Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad gan hynny , gwraig i bwy un ohonynt yw hi ? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt , Plant y byd hwn sydd yn gwreica , ac yn gwra : Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw , a’r atgyfodiad oddi wrth y meirw , nid ydynt nac yn gwreica , nac yn gwra : Canys ni allant farw mwy : oblegid cyd‐stad ydynt â’r angylion : a phlant Duw ydynt , gan eu bod yn blant yr atgyfodiad . Ac y cyfyd y meirw , Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth , pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham , ac yn Dduw Isaac , ac yn Dduw Jacob . Ac nid yw efe Dduw y meirw , ond y byw : canys pawb sydd fyw iddo ef . Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant , Athro , da y dywedaist . Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd ? Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di . Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd ; a pha fodd y mae efe yn fab iddo ? Ac a’r holl bobl yn clywed , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion , y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion , ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd , a’r prif gadeiriau yn y synagogau , a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd ; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , ac mewn rhith yn hir weddïo : y rhai hyn a dderbyniant farn fwy . Ac wedi iddo edrych i fyny , efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa . Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling . Ac efe a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll : Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw : eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi . Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml , ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion , efe a ddywedodd , Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt , daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen , a’r nis datodir . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Athro , pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod ? Ac efe a ddywedodd , Edrychwch na thwyller chwi : canys llawer a ddeuant yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; a’r amser a nesaodd : nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt . A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd , na chymerwch fraw : canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf : ond ni ddaw y diwedd yn y man . Yna y dywedodd efe wrthynt , Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd , a newyn , a heintiau ; a phethau ofnadwy , ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef . Eithr o flaen hyn oll , hwy a roddant eu dwylo arnoch , ac a’ch erlidiant , gan eich traddodi i’r synagogau , ac i garcharau , wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i . Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth . Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch : Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb , yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll . A chwi a fradychir , ie , gan rieni , a brodyr , a cheraint , a chyfeillion ; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth . A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i . Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi . Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau . A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd , yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu . Yna y rhai fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd ; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi , ymadawant ; a’r rhai a fyddant yn y meysydd , nac elont i mewn iddi . Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn , i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd . Eithr gwae’r rhai beichiogion , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny ! canys bydd angen mawr yn y tir , a digofaint ar y bobl hyn . A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf , a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth : a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd , hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd . A bydd arwyddion yn yr haul , a’r lleuad , a’r sêr ; ac ar y ddaear ing cenhedloedd , gan gyfyng gyngor ; a’r môr a’r tonnau yn rhuo ; A dynion yn llewygu gan ofn , a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear : oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir . Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl , gyda gallu a gogoniant mawr . A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod , edrychwch i fyny , a chodwch eich pennau : canys y mae eich ymwared yn nesáu . Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt ; Edrychwch ar y ffigysbren , a’r holl brennau ; Pan ddeiliant hwy weithian , chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun , fod yr haf yn agos . Felly chwithau , pan weloch y pethau hyn yn digwydd , gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos . Yn wir meddaf i chwi , Nid â’r oes hon heibio , hyd oni ddêl y cwbl i ben . Y nef a’r ddaear a ânt heibio ; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim . Ac edrychwch arnoch eich hunain , rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb , a meddwdod , a gofalon y bywyd hwn , a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth ; Canys efe a ddaw , fel magl , ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear . Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser , ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod , ac i sefyll gerbron Mab y dyn . A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml ; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd . A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml , i’w glywed ef . A nesaodd gŵyl y bara croyw , yr hon a elwir y pasg . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef : oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl . A Satan a seth i mewn i Jwdas , yr hwn a gyfenwid Iscariot , yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg . Ac efe a aeth ymaith , ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid , pa fodd y bradychai efe ef iddynt . Ac yr oedd yn llawen ganddynt : a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo . Ac efe a addawodd , ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl . A daeth dydd y bara croyw , ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg . Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan , gan ddywedyd , Ewch , paratowch i ni’r pasg , fel y bwytaom . A hwy a ddywedasant wrtho , Pa le y mynni baratoi ohonom ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Wele , pan ddeloch i mewn i’r ddinas , cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr : canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn . A dywedwch wrth ŵr y tŷ , Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt , Pa le y mae’r llety , lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion ? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr , wedi ei thaenu : yno paratowch . A hwy a aethant , ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt ; ac a baratoesant y pasg . A phan ddaeth yr awr , efe a eisteddodd i lawr , a’r deuddeg apostol gydag ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof . Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Ni fwytâf fi mwyach ohono , hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a rhoddi diolch , efe a ddywedodd , Cymerwch hwn , a rhennwch yn eich plith : Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , nad yfaf o ffrwyth y winwydden , hyd oni ddêl teyrnas Dduw . Ac wedi iddo gymryd bara , a rhoi diolch , efe a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt , gan ddywedyd , Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch : gwnewch hyn er coffa amdanaf . Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu , gan ddywedyd , Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i , yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch . Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd . Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned , megis y mae wedi ei luniaethu : eithr gwae’r dyn hwnnw , trwy’r hwn y bradychir ef ! Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain , pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny . A bu ymryson yn eu plith , pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt ; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt , a elwir yn bendefigion . Ond na fyddwch chwi felly : eithr y mwyaf yn eich plith chwi , bydded megis yr ieuangaf ; a’r pennaf , megis yr hwn sydd yn gweini . Canys pa un fwyaf , ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd , ai’r hwn sydd yn gwasanaethu ? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd ? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu . A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau . Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas , megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau ; Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas , ac yr eisteddoch ar orseddfeydd , yn barnu deuddeg llwyth Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd , Simon , Simon , wele , Satan a’ch ceisiodd chwi , i’ch nithio fel gwenith : Eithr mi a weddïais drosot , na ddiffygiai dy ffydd di : tithau pan y’th droer , cadarnha dy frodyr . Ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar , ac i angau . Yntau a ddywedodd , Yr wyf yn dywedyd i ti , Pedr , Na chân y ceiliog heddiw , nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pan y’ch anfonais heb na phwrs , na chod , nac esgidiau , a fu arnoch eisiau dim ? A hwy a ddywedasant , Naddo ddim . Yna y dywedodd wrthynt , Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs , cymered ; a’r un modd god : a’r neb nid oes ganddo , gwerthed ei bais , a phryned gleddyf . Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd ; sef , A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef ; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi . A hwy a ddywedasant , Arglwydd , wele ddau gleddyf yma . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Digon yw . Ac wedi iddo fyned allan , efe a aeth , yn ôl ei arfer , i fynydd yr Olewydd ; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef . A phan ddaeth efe i’r man , efe a ddywedodd wrthynt , Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth . Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg ; ac wedi iddo fyned ar ei liniau , efe a weddïodd , Gan ddywedyd , O Dad , os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf : er hynny nid fy ewyllys i , ond yr eiddot ti a wneler . Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo , yn ei nerthu ef . Ac efe mewn ymdrech meddwl , a weddïodd yn ddyfalach : a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear . A phan gododd efe o’i weddi , a dyfod at ei ddisgyblion , efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch ; Ac a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn cysgu ? codwch , a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth . Ac efe eto yn llefaru , wele dyrfa ; a’r hwn a elwir Jwdas , un o’r deuddeg , oedd yn myned o’u blaen hwynt , ac a nesaodd at yr Iesu , i’w gusanu ef . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Jwdas , ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn ? A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod , hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , a drawn ni â chleddyf ? A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Goddefwch hyd yn hyn . Ac efe a gyffyrddodd â’i glust , ac a’i hiachaodd ef . A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid , a blaenoriaid y deml , a’r henuriaid , y rhai a ddaethent ato , Ai fel at leidr y daethoch chwi allan , â chleddyfau ac â ffyn ? Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml , nid estynasoch ddwylo i’m herbyn : eithr hon yw eich awr chwi , a gallu’r tywyllwch . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i harweiniasant , ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad . A Phedr a ganlynodd o hirbell . Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd , a chydeistedd ohonynt , eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt . A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân , a dal sylw arno , hi a ddywedodd , Yr oedd hwn hefyd gydag ef . Yntau a’i gwadodd ef , gan ddywedyd , O wraig , nid adwaen i ef . Ac ychydig wedi , un arall a’i gwelodd ef , ac a ddywedodd , Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt . A Phedr a ddywedodd , O ddyn , nid ydwyf . Ac ar ôl megis ysbaid un awr , rhyw un arall a daerodd , gan ddywedyd , Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef : canys Galilead yw . A Phedr a ddywedodd , Y dyn , nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd . Ac yn y man , ac efe eto yn llefaru , canodd y ceiliog . A’r Arglwydd a drodd , ac a edrychodd ar Pedr . A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd , fel y dywedasai efe wrtho , Cyn canu o’r ceiliog , y gwedi fi deirgwaith . A Phedr a aeth allan , ac a wylodd yn chwerw‐dost . A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu , a’i gwatwarasant ef , gan ei daro . Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef , hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb , ac a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Proffwyda , pwy yw’r hwn a’th drawodd di ? A llawer o bethau eraill , gan gablu , a ddywedasant yn ei erbyn ef . A phan aeth hi yn ddydd , ymgynullodd henuriaid y bobl , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt , Gan ddywedyd , Ai ti yw Crist ? dywed i ni . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Os dywedaf i chwi , ni chredwch ddim : Ac os gofynnaf hefyd i chwi , ni’m hatebwch , ac ni’m gollyngwch ymaith . Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw . A hwy oll a ddywedasant , Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod . Hwythau a ddywedasant , Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth ? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun . A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant , ac a’i dygasant ef at Peilat : Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef , gan ddywedyd , Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl , ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar , gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin . A Pheilat a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Ac efe a atebodd iddo , ac a ddywedodd , Yr wyt ti yn dywedyd . A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl , Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn . A hwy a fuant daerach , gan ddywedyd , Y mae efe yn cyffroi’r bobl , gan ddysgu trwy holl Jwdea , wedi dechrau o Galilea hyd yma . A phan glybu Peilat sôn am Galilea , efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn . A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod , efe a’i hanfonodd ef at Herod , yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny . A Herod , pan welodd yr Iesu , a lawenychodd yn fawr : canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef , oblegid iddo glywed llawer amdano ef ; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef . Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau ; eithr efe nid atebodd ddim iddo . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant , gan ei gyhuddo ef yn haerllug . A Herod a’i filwyr , wedi iddo ei ddiystyru ef , a’i watwar , a’i wisgo â gwisg glaerwen , a’i danfonodd ef drachefn at Peilat . A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion : canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd . A Pheilat , wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid , a’r llywiawdwyr , a’r bobl , A ddywedodd wrthynt , Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi , fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl : ac wele , myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi , ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai , o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt : Na Herod chwaith : canys anfonais chwi ato ef ; ac wele , dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo . Am hynny mi a’i ceryddaf ef , ac a’i gollyngaf ymaith . Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl . A’r holl liaws a lefasant ar unwaith , gan ddywedyd , Bwrw hwn ymaith , a gollwng i ni Barabbas yn rhydd : ( Yr hwn , am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas , a llofruddiaeth , oedd wedi ei daflu i garchar . ) Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn , gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd . Eithr hwy a lefasant arno , gan ddywedyd , Croeshoelia , croeshoelia ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith , Canys pa ddrwg a wnaeth efe ? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo ; am hynny mi a’i ceryddaf ef , ac a’i gollyngaf yn rhydd . Hwythau a fuont daerion â llefau uchel , gan ddeisyfu ei groeshoelio ef . A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant . A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt . Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar , yr hwn a ofynasant : eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt . Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith , hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene , yn dyfod o’r wlad , ac a ddodasant y groes arno ef , i’w dwyn ar ôl yr Iesu . Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl , ac o wragedd , y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef . A’r Iesu , wedi troi atynt , a ddywedodd , Merched Jerwsalem , nac wylwch o’m plegid i : eithr wylwch o’ch plegid eich hunain , ac oblegid eich plant . Canys wele , y mae’r dyddiau yn dyfod , yn y rhai y dywedant , Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy , a’r crothau nid epiliasant , a’r bronnau ni roesant sugn . Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd , Syrthiwch arnom ; ac wrth y bryniau , Cuddiwch ni . Canys os gwnânt hyn yn y pren ir , pa beth a wneir yn y crin ? Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill , drwgweithredwyr , i’w rhoi i’w marwolaeth . A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria , yno y croeshoeliasant ef , a’r drwgweithredwyr ; un ar y llaw ddeau , a’r llall ar yr aswy . A’r Iesu a ddywedodd , O Dad , maddau iddynt : canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur . A hwy a ranasant ei ddillad ef , ac a fwriasant goelbren . A’r bobl a safodd yn edrych . A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant , gan ddywedyd , Eraill a waredodd efe ; gwareded ef ei hun , os hwn yw Crist , etholedig Duw . A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef , gan ddyfod ato , a chynnig iddo finegr , A dywedyd , Os tydi yw Brenin yr Iddewon , gwared dy hun . Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef , â llythrennau Groeg , a Lladin , a Hebraeg , HWN YW BRENIN YR IDDEWON . Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef , gan ddywedyd , Os tydi yw Crist , gwared dy hun a ninnau . Eithr y llall a atebodd , ac a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Onid wyt ti yn ofni Duw , gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth ? A nyni yn wir yn gyfiawn ; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom : eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le . Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu , Arglwydd , cofia fi pan ddelych i’th deyrnas . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Yn wir meddaf i ti , Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys . Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr , a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . A’r haul a dywyllwyd , a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol . A’r Iesu , gan lefain â llef uchel , a ddywedodd , O Dad , i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a drengodd . A’r canwriad , pan welodd y peth a wnaethpwyd , a ogoneddodd Dduw , gan ddywedyd , Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn . A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn , wrth weled y pethau a wnaethpwyd , a ddychwelasant , gan guro eu dwyfronnau . A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell , a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea , yn edrych ar y pethau hyn . Ac wele , gŵr a’i enw Joseff , yr hwn oedd gynghorwr , gŵr da a chyfiawn : ( Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt ; ) o Arimathea , dinas yr Iddewon , yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw ; Hwn a ddaeth at Peilat , ac a ofynnodd gorff yr Iesu . Ac efe a’i tynnodd i lawr , ac a’i hamdôdd mewn lliain main , ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg , yn yr hwn ni roddasid dyn erioed . A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl , a’r Saboth oedd yn nesáu . A’r gwragedd hefyd , y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea , a ganlynasant , ac a welsant y bedd , a pha fodd y dodwyd ei gorff ef . A hwy a ddychwelasant , ac a baratoesant beraroglau ac ennaint ; ac a orffwysasant ar y Saboth , yn ôl y gorchymyn . A’r dydd cyntaf o’r wythnos , ar y cynddydd , hwy a ddaethant at y bedd , gan ddwyn y peraroglau a baratoesent , a rhai gyda hwynt . A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd . Ac wedi iddynt fyned i mewn , ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu . A bu , a hwy yn petruso am y peth hwn , wele , dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair . Ac wedi iddynt ofni , a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear , hwy a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw ? Nid yw efe yma , ond efe a gyfododd . Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych , ac efe eto yng Ngalilea , Gan ddywedyd , Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus , a’i groeshoelio , a’r trydydd dydd atgyfodi . A hwy a gofiasant ei eiriau ef ; Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd , ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg , ac i’r lleill oll . A Mair Magdalen , a Joanna , a Mair mam Iago , a’r lleill gyda hwynt , oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion . A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi , ac ni chredasant iddynt . Eithr Pedr a gododd i fyny , ac a redodd at y bedd ; ac wedi ymgrymu , efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu ; ac a aeth ymaith , gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai . Ac wele , dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus , yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem . Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent . A bu , fel yr oeddynt yn ymddiddan , ac yn ymofyn â’i gilydd , yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd , ac a aeth gyda hwynt . Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd , fel nas adwaenent ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd , dan rodio , ac yn wyneptrist ? Ac un ohonynt , a’i enw Cleopas , gan ateb a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem , ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa bethau ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth , yr hwn oedd ŵr o broffwyd , galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl ; A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth , ac a’i croeshoeliasant ef . Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel . Ac heblaw hyn oll , heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn . A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni , gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd : A phan na chawsant ei gorff ef , hwy a ddaethant , gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion , y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw . A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd , ac a gawsant felly , fel y dywedasai’r gwragedd : ond ef nis gwelsant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , O ynfydion , a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi ! Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn , a myned i mewn i’w ogoniant ? A chan ddechrau ar Moses , a’r holl broffwydi , efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun . Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned : ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach . A hwy a’i cymellasant ef , gan ddywedyd , Aros gyda ni ; canys y mae hi yn hwyrhau , a’r dydd yn darfod . Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt . A darfu , ac efe yn eistedd gyda hwynt , efe a gymerodd fara , ac a’i bendithiodd , ac a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt . A’u llygaid hwynt a agorwyd , a hwy a’i hadnabuant ef : ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd , a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau ? A hwy a godasant yr awr honno , ac a ddychwelasant i Jerwsalem , ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd , a’r sawl oedd gyda hwynt , Yn dywedyd , Yr Arglwydd a gyfododd yn wir , ac a ymddangosodd i Simon . A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd , a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara . Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn , yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt , ac a ddywedodd wrthynt , Tangnefedd i chwi . Hwythau , wedi brawychu ac ofni , a dybiasant weled ohonynt ysbryd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham y’ch trallodir ? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau ? Edrychwch fy nwylo a’m traed , mai myfi fy hun ydyw : teimlwch fi , a gwelwch : canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn , fel y gwelwch fod gennyf fi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed . Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd , ac yn rhyfeddu , efe a ddywedodd wrthynt , A oes gennych chwi yma ddim bwyd ? A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio , ac o ddil mêl . Yntau a’i cymerodd , ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych , pan oeddwn eto gyda chwi , bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses , a’r proffwydi , a’r salmau , amdanaf fi . Yna yr agorodd efe eu deall hwynt , fel y deallent yr ysgrythurau . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Felly yr ysgrifennwyd , ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef , a chyfodi o feirw y trydydd dydd : A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd , gan ddechrau yn Jerwsalem . Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn . Ac wele , yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch : eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem , hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder . Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania ; ac a gododd ei ddwylo , ac a’u bendithiodd hwynt . Ac fe a ddarfu , tra oedd efe yn eu bendithio hwynt , ymadael ohono ef oddi wrthynt , ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef . Ac wedi iddynt ei addoli ef , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , gyda llawenydd mawr : Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml , yn moli ac yn bendithio Duw . Amen . Yn y dechreuad yr oedd y Gair , a’r Gair oedd gyda Duw , a Duw oedd y Gair . Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw . Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth ; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd . Ynddo ef yr oedd bywyd ; a’r bywyd oedd oleuni dynion . A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch ; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred . Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw , a’i enw Ioan . Hwn a ddaeth yn dystiolaeth , fel y tystiolaethai am y Goleuni , fel y credai pawb trwyddo ef . Nid efe oedd y Goleuni , eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni . Hwn ydoedd y gwir Oleuni , yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd . Yn y byd yr oedd efe , a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef ; a’r byd nid adnabu ef . At ei eiddo ei hun y daeth , a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef . Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef , efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw , sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef : Y rhai ni aned o waed , nac o ewyllys y cnawd , nac o ewyllys gŵr , eithr o Dduw . A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd , ac a drigodd yn ein plith ni , ( ac ni a welsom ei ogoniant ef , gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad , ) yn llawn gras a gwirionedd . Ioan a dystiolaethodd amdano ef , ac a lefodd , gan ddywedyd , Hwn oedd yr un y dywedais amdano , Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , a aeth o’m blaen i : canys yr oedd efe o’m blaen i . Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll , a gras am ras . Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses , ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist . Ni welodd neb Dduw erioed : yr unig‐anedig Fab , yr hwn sydd ym mynwes y Tad , hwnnw a’i hysbysodd ef . A hon yw tystiolaeth Ioan , pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo , Pwy wyt ti ? Ac efe a gyffesodd , ac ni wadodd ; a chyffesodd , Nid myfi yw’r Crist . A hwy a ofynasant iddo , Beth ynteu ? Ai Eleias wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Nage . Ai’r Proffwyd wyt ti ? Ac efe a atebodd , Nage . Yna y dywedasant wrtho , Pwy wyt ti ? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd . Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun ? Eb efe , Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch , Unionwch ffordd yr Arglwydd , fel y dywedodd Eseias y proffwyd . A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid . A hwy a ofynasant iddo , ac a ddywedasant wrtho , Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio , onid ydwyt ti na’r Crist , nac Eleias , na’r proffwyd ? Ioan a atebodd iddynt , gan ddywedyd , Myfi sydd yn bedyddio â dwfr ; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi : Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , yr hwn a aeth o’m blaen i ; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid . Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara , y tu hwnt i’r Iorddonen , lle yr oedd Ioan yn bedyddio . Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato ; ac efe a ddywedodd , Wele Oen Duw , yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd . Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i , Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod , yr hwn a aeth o’m blaen i : canys yr oedd efe o’m blaen i . Ac myfi nid adwaenwn ef : eithr fel yr amlygid ef i Israel , i hynny y deuthum i , gan fedyddio â dwfr . Ac Ioan a dystiolaethodd , gan ddywedyd , Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen , o’r nef , ac efe a arhosodd arno ef . A myfi nid adwaenwn ef ; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr , efe a ddywedodd wrthyf , Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn , ac yn aros arno , hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân . A mi a welais , ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw . Trannoeth drachefn y safodd Ioan , a dau o’i ddisgyblion : A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio , efe a ddywedodd , Wele Oen Duw . A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru , ac a ganlynasant yr Iesu . Yna yr Iesu a droes ; a phan welodd hwynt yn canlyn , efe a ddywedodd wrthynt , Beth yr ydych chwi yn ei geisio ? A hwy a ddywedasant wrtho ef , Rabbi , ( yr hyn o’i gyfieithu yw , Athro , ) pa le yr wyt ti yn trigo ? Efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch , a gwelwch . A hwy a ddaethant , ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo , ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw : ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr . Andreas , brawd Simon Pedr , oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan , ac a’i dilynasent ef . Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon , ac a ddywedodd wrtho , Nyni a gawsom y Meseias ; yr hyn o’i ddeongl yw , Y Crist . Ac efe a’i dug ef at yr Iesu . A’r Iesu wedi edrych arno ef , a ddywedodd , Ti yw Simon mab Jona : ti a elwir Ceffas , yr hwn a gyfieithir , Carreg . Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea ; ac efe a gafodd Philip , ac a ddywedodd wrtho , Dilyn fi . A Philip oedd o Fethsaida , o ddinas Andreas a Phedr . Philip a gafodd Nathanael , ac a ddywedodd wrtho , Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith , a’r proffwydi , amdano , Iesu o Nasareth , mab Joseff . A Nathanael a ddywedodd wrtho , A ddichon dim da ddyfod o Nasareth ? Philip a ddywedodd wrtho , Tyred , a gwêl . Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato ; ac a ddywedodd amdano , Wele Israeliad yn wir , yn yr hwn nid oes dwyll . Nathanael a ddywedodd wrtho , Pa fodd y’m hadwaenost ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Cyn i Philip dy alw di , pan oeddit tan y ffigysbren , mi a’th welais di . Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Rabbi , ti yw Mab Duw ; ti yw Brenin Israel . Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Oherwydd i mi ddywedyd i ti , Myfi a’th welais di dan y ffigysbren , a ydwyt ti yn credu ? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored , ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn . A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea : a mam yr Iesu oedd yno . A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas . A phan ballodd y gwin , mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef , Nid oes ganddynt mo’r gwin . Iesu a ddywedodd wrthi , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , wraig ? ni ddaeth fy awr i eto . Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr , Beth bynnag a ddywedo efe wrthych , gwnewch . Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod , yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon , y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri . Iesu a ddywedodd wrthynt , Llenwch y dyfrlestri o ddwfr . A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gollyngwch yn awr , a dygwch at lywodraethwr y wledd . A hwy a ddygasant . A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win , ( ac ni wyddai o ba le yr ydoedd , eithr y gwasanaethwyr , y rhai a ollyngasent y dwfr , a wyddent , ) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab , Ac a ddywedodd wrtho , Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf ; ac wedi iddynt yfed yn dda , yna un a fo gwaeth : tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon . Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea , ac a eglurodd ei ogoniant ; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo . Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum , efe , a’i fam , a’i frodyr , a’i ddisgyblion : ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau . A phasg yr Iddewon oedd yn agos : a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem ; Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen , a defaid , a cholomennod , a’r newidwyr arian yn eistedd . Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau , efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml , y defaid hefyd a’r ychen ; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr , ac a ddymchwelodd y byrddau : Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod , Dygwch y rhai hyn oddi yma ; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad . A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig , Sêl dy dŷ di a’m hysodd i . Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef , Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni , gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Dinistriwch y deml hon , ac mewn tridiau y cyfodaf hi . Yna yr Iddewon a ddywedasant , Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon ; ac a gyfodi di hi mewn tridiau ? Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff . Am hynny pan gyfododd efe o feirw , ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy : a hwy a gredasant yr ysgrythur , a’r gair a ddywedasai yr Iesu . Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl , llawer a gredasant yn ei enw ef , wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe . Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun , am yr adwaenai efe hwynt oll ; Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn : oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn . Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid , a’i enw Nicodemus , pennaeth yr Iddewon : Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos , ac a ddywedodd wrtho , Rabbi , nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw : canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur , oni bai fod Duw gydag ef . Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Oddieithr geni dyn drachefn , ni ddichon efe weled teyrnas Dduw . Nicodemus a ddywedodd wrtho , Pa fodd y dichon dyn ei eni , ac efe yn hen ? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith , a’i eni ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd , ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw . Yr hyn a aned o’r cnawd , sydd gnawd ; a’r hyn a aned o’r Ysbryd , sydd ysbryd . Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt , Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn . Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno ; a thi a glywi ei sŵn ef , ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod , nac i ba le y mae yn myned : felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd . Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Pa fodd y dichon y pethau hyn fod ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel , ac ni wyddost y pethau hyn ? Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru , a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu ; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn . Os dywedais i chwi bethau daearol , a chwithau nid ydych yn credu ; pa fodd , os dywedaf i chwi bethau nefol , y credwch ? Ac nid esgynnodd neb i’r nef , oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef , sef Mab y dyn , yr hwn sydd yn y nef . Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch , felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn ; Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef , ond caffael ohono fywyd tragwyddol . Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab , fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef , ond caffael ohono fywyd tragwyddol . Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd , ond fel yr achubid y byd trwyddo ef . Yr hwn sydd yn credu ynddo ef , ni ddemnir : eithr yr hwn nid yw yn credu , a ddamniwyd eisoes ; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw . A hon yw’r ddamnedigaeth , ddyfod goleuni i’r byd , a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni ; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg . Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg , sydd yn casáu’r goleuni , ac nid yw yn dyfod i’r goleuni , fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef . Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd , sydd yn dyfod i’r goleuni , fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef , mai yn Nuw y gwnaed hwynt . Wedi’r pethau hyn , daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea ; ac a arhosodd yno gyda hwynt , ac a fedyddiodd . Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon , yn agos i Salim ; canys dyfroedd lawer oedd yno : a hwy a ddaethant , ac a’u bedyddiwyd : Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar . Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon , ynghylch puredigaeth . A hwy a ddaethant at Ioan , ac a ddywedasant wrtho , Rabbi , yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen , am yr hwn y tystiolaethaist ti , wele , y mae hwnnw yn bedyddio , a phawb yn dyfod ato ef . Ioan a atebodd ac a ddywedodd , Ni ddichon dyn dderbyn dim , oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef . Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi , ddywedyd ohonof fi , Nid myfi yw’r Crist , eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef . Yr hwn sydd ganddo y briodferch , yw’r priodfab : ond cyfaill y priodfab , yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef , sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab : y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd . Rhaid ydyw iddo ef gynyddu , ac i minnau leihau . Yr hwn a ddaeth oddi uchod , sydd goruwch pawb oll : yr hwn sydd o’r ddaear , sydd o’r ddaear , ac am y ddaear y mae yn llefaru : yr hwn sydd yn dyfod o’r nef , sydd goruwch pawb . A’r hyn a welodd efe ac a glywodd , hynny y mae efe yn ei dystiolaethu : ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef . Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef , a seliodd mai geirwir yw Duw . Canys yr hwn a anfonodd Duw , sydd yn llefaru geiriau Duw ; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd . Y mae’r Tad yn caru y Mab , ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef . Yr hwn sydd yn credu yn y Mab , y mae ganddo fywyd tragwyddol : a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab , ni wêl fywyd ; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef . Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan , ( Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun , eithr ei ddisgyblion ef , ) Efe a adawodd Jwdea , ac a aeth drachefn i Galilea . Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria . Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar , gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff : Ac yno yr oedd ffynnon Jacob . Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith , a eisteddodd felly ar y ffynnon : ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi . Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr : a’r Iesu a ddywedodd wrthi , Dyro i mi i yfed . ( Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd . ) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef , Pa fodd yr ydwyt ti , a thi yn Iddew , yn gofyn diod gennyf fi , a myfi yn wraig o Samaria ? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Ped adwaenit ti ddawn Duw , a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt , Dyro i mi i yfed ; tydi a ofynasit iddo ef , ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol . Y wraig a ddywedodd wrtho , Arglwydd , nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr , a’r pydew sydd ddwfn : o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw ? Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob , yr hwn a roddodd i ni’r pydew , ac efe ei hun a yfodd ohono , a’i feibion , a’i anifeiliaid ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn , efe a sycheda drachefn : Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo , ni sycheda yn dragywydd ; eithr y dwfr a roddwyf iddo , a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol . Y wraig a ddywedodd wrtho , Arglwydd , dyro i mi y dwfr hwn , fel na sychedwyf , ac na ddelwyf yma i godi dwfr . Iesu a ddywedodd wrthi , Dos , galw dy ŵr , a thyred yma . Y wraig a atebodd ac a ddywedodd , Nid oes gennyf ŵr . Iesu a ddywedodd wrthi , Da y dywedaist , Nid oes gennyf ŵr : Canys pump o wŷr a fu i ti ; a’r hwn sydd gennyt yr awron , nid yw ŵr i ti : hyn a ddywedaist yn wir . Y wraig a ddywedodd wrtho ef , Arglwydd , mi a welaf mai proffwyd wyt ti . Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn ; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli . Iesu a ddywedodd wrthi hi , O wraig , cred fi , y mae’r awr yn dyfod , pryd nad addoloch y Tad , nac yn y mynydd hwn , nac yn Jerwsalem . Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch : ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom : canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon . Ond dyfod y mae’r awr , ac yn awr y mae hi , pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd : canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef . Ysbryd yw Duw ; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef , addoli mewn ysbryd a gwirionedd . Y wraig a ddywedodd wrtho , Mi a wn fod y Meseias yn dyfod , yr hwn a elwir Crist : pan ddelo hwnnw , efe a fynega i ni bob peth . Iesu a ddywedodd wrthi hi , Myfi , yr hwn wyf yn ymddiddan â thi , yw hwnnw . Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion ; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig : er hynny ni ddywedodd neb , Beth a geisi ? neu , Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi ? Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr , ac a aeth i’r ddinas , ac a ddywedodd wrth y dynion , Deuwch , gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum : onid hwn yw’r Crist ? Yna hwy a aethant allan o’r ddinas , ac a ddaethant ato ef . Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Rabbi , bwyta . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho . Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd , A ddug neb iddo ddim i’w fwyta ? Iesu a ddywedodd wrthynt , Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd , a gorffen ei waith ef . Onid ydych chwi yn dywedyd , Y mae eto bedwar mis , ac yna y daw’r cynhaeaf ? Wele , yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych , Dyrchefwch eich llygaid , ac edrychwch ar y meysydd ; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf . A’r hwn sydd yn medi , sydd yn derbyn cyflog , ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol : fel y byddo i’r hwn sydd yn hau , ac i’r hwn sydd yn medi , lawenychu ynghyd . Canys yn hyn y mae’r gair yn wir , Mai arall yw’r hwn sydd yn hau , ac arall yr hwn sydd yn medi . Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch : eraill a lafuriasant , a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt . A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo , oherwydd gair y wraig , yr hon oedd yn tystiolaethu , Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum . Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef , hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt . Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd . A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun . A hwy a ddywedasant wrth y wraig , Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di : canys ni a’i clywsom ef ein hunain , ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist , Iachawdwr y byd . Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno , ac a aeth i Galilea . Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd , nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun . Yna pan ddaeth efe i Galilea , y Galileaid a’i derbyniasant ef , wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl : canys hwythau a ddaethant i’r ŵyl . Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea , lle y gwnaeth efe y dwfr yn win . Ac yr oedd rhyw bendefig , yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum . Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea , efe a aeth ato ef , ac a atolygodd iddo ddyfod i waered , a iacháu ei fab ef : canys yr oedd efe ymron marw . Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef , Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau , ni chredwch . Y pendefig a ddywedodd wrtho ef , O Arglwydd , tyred i waered cyn marw fy machgen . Iesu a ddywedodd wrtho ef , Dos ymaith ; y mae dy fab yn fyw . A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho , ac efe a aeth ymaith . Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered , ei weision a gyfarfuant ag ef , ac a fynegasant , gan ddywedyd , Y mae dy fachgen yn fyw . Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno . A hwy a ddywedasant wrtho , Doe , y seithfed awr , y gadawodd y cryd ef . Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd , yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef , Y mae dy fab yn fyw . Ac efe a gredodd , a’i holl dŷ . Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu , wedi dyfod o Jwdea i Galilea . Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon ; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem . Ac y mae yn Jerwsalem , wrth farchnad y defaid , lyn a elwir yn Hebraeg , Bethesda , ac iddo bum porth ; Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion , deillion , cloffion , gwywedigion , yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr . Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn , ac yn cynhyrfu’r dwfr : yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr , a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno . Ac yr oedd rhyw ddyn yno , yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain . Yr Iesu , pan welodd hwn yn gorwedd , a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach , a ddywedodd wrtho , A fynni di dy wneuthur yn iach ? Y claf a atebodd iddo , Arglwydd , nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn , pan gynhyrfer y dwfr : ond tra fyddwyf fi yn dyfod , arall a ddisgyn o’m blaen i . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Cyfod cymer dy wely i fyny , a rhodia . Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach ; ac efe a gododd ei wely , ac a rodiodd . A’r Saboth oedd y diwrnod hwnnw . Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach , Y Saboth yw hi : nid cyfreithlon i ti godi dy wely . Efe a atebodd iddynt , Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach , efe a ddywedodd wrthyf , Cyfod dy wely , a rhodia . Yna hwy a ofynasant iddo , Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti , Cyfod dy wely , a rhodia ? A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe : canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno . Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ti a wnaethpwyd yn iach : na phecha mwyach , rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth . Y dyn a aeth ymaith , ac a fynegodd i’r Iddewon , mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach . Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu , ac a geisiasant ei ladd ef , oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth . Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt , Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn , ac yr ydwyf finnau yn gweithio . Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef , oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth , ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo , gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw . Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan , eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur : canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur , hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur . Canys y Tad sydd yn caru’r Mab , ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur : ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn , fel y rhyfeddoch chwi . Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw , ac yn eu bywhau ; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno . Canys y Tad nid yw yn barnu neb ; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab : Fel yr anrhydeddai pawb y Mab , fel y maent yn anrhydeddu’r Tad . Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab , nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Y neb sydd yn gwrando fy ngair i , ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i , a gaiff fywyd tragwyddol , ac ni ddaw i farn ; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Y mae’r awr yn dyfod , ac yn awr y mae , pan glywo’r meirw lef Mab Duw : a’r rhai a glywant , a fyddant byw . Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan , felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun ; Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd , oherwydd ei fod yn Fab dyn . Na ryfeddwch am hyn : canys y mae’r awr yn dyfod , yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef : A hwy a ddeuant allan : y rhai a wnaethant dda , i atgyfodiad bywyd ; ond y rhai a wnaethant ddrwg , i atgyfodiad barn . Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan ; fel yr ydwyf yn clywed , yr ydwyf yn barnu : a’m barn i sydd gyfiawn ; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan , ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i . Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan , nid yw fy nhystiolaeth i wir . Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi ; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi . Chwychwi a anfonasoch at Ioan , ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd . Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn : eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd , fel y gwareder chwi . Efe oedd gannwyll yn llosgi , ac yn goleuo ; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef . Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan : canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen , y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur , sydd yn tystiolaethu amdanaf fi , mai’r Tad a’m hanfonodd i . A’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd i , efe a dystiolaethodd amdanaf fi . Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser , ac ni welsoch ei wedd ef . Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch : canys yr hwn a anfonodd efe , hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo . Chwiliwch yr ysgrythurau : canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol : a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi . Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi , fel y caffoch fywyd . Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion . Ond myfi a’ch adwaen chwi , nad oes gennych gariad Duw ynoch . Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad , ac nid ydych yn fy nerbyn i : os arall a ddaw yn ei enw ei hun , hwnnw a dderbyniwch . Pa fodd y gellwch chwi gredu , y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd , ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig ? Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad : y mae a’ch cyhudda chwi , sef Moses , yn yr hwn yr ydych yn gobeithio . Canys pe credasech chwi i Moses , chwi a gredasech i minnau : oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe . Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef , pa fodd y credwch i’m geiriau i ? Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea , hwnnw yw môr Tiberias . A thyrfa fawr a’i canlynodd ef ; canys hwy a welsent ei arwyddion , y rhai a wnaethai efe ar y cleifion . A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd , ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion . A’r pasg , gŵyl yr Iddewon , oedd yn , agos . Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid , ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato ; ac a ddywedodd wrth Philip , O ba le y prynwn ni fara , fel y caffo y rhai hyn fwyta ? ( A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef : canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur . ) Philip a’i hatebodd ef , Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy , fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig . Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Andreas , brawd Simon Pedr , Y mae yma ryw fachgennyn , a chanddo bum torth haidd , a dau bysgodyn : ond beth yw hynny rhwng cynifer ? A’r Iesu a ddywedodd , Perwch i’r dynion eistedd i lawr . Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno . Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr , ynghylch pum mil o nifer . A’r Iesu a gymerth y torthau , ac wedi iddo ddiolch , efe a’u rhannodd i’r disgyblion , a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd ; felly hefyd o’r pysgod , cymaint ag a fynasant . Ac wedi eu digoni hwynt , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Cesglwch y briwfwyd gweddill , fel na choller dim . Am hynny hwy a’u casglasant , ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent . Yna y dynion , pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu , a ddywedasant , Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd . Yr Iesu gan hynny , pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod , a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin , a giliodd drachefn i’r mynydd , ei hunan yn unig . A phan hwyrhaodd hi , ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr . Ac wedi iddynt ddringo i long , hwy a aethant dros y môr i Gapernaum . Ac yr oedd hi weithian yn dywyll , a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy . A’r môr , gan wynt mawr yn chwythu , a gododd . Yna , wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau , hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr , ac yn nesáu at y llong ; ac a ofnasant . Ond efe a ddywedodd wrthynt , Myfi yw ; nac ofnwch . Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong : ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo . Trannoeth , pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr , nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef , ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong , ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain ; ( Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara , wedi i’r Arglwydd roddi diolch : ) Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno , na’i ddisgyblion , hwythau a aethant i longau , ac a ddaethant i Gapernaum , dan geisio yr Iesu . Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr , hwy a ddywedasant wrtho , Rabbi , pa bryd y daethost ti yma ? Yr Iesu a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr ydych chwi yn fy ngheisio i , nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau , eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau , a’ch digoni . Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd , eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol , yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi : canys hwn a seliodd Duw Dad . Yna y dywedasant wrtho , Pa beth a wnawn ni , fel y gweithredom weithredoedd Duw ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Hyn yw gwaith Duw ; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe . Dywedasant gan hynny wrtho ef , Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur , fel y gwelom , ac y credom i ti ? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu ? Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch , fel y mae yn ysgrifenedig , Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef : eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef . Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef , ac yn rhoddi bywyd i’r byd . Yna hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , dyro i ni’r bara hwn yn wastadol . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Myfi yw bara’r bywyd . Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi , ni newyna ; a’r hwn sydd yn credu ynof fi , ni sycheda un amser . Eithr dywedais wrthych , i chwi fy ngweled , ac nad ydych yn credu . Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi , a ddaw ataf fi : a’r hwn a ddêl ataf fi , nis bwriaf ef allan ddim . Canys myfi a ddisgynnais o’r nef , nid i wneuthur fy ewyllys fy hun , ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd . A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i ; o’r cwbl a roddes efe i mi , na chollwn ddim ohono , eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf . A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i ; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab , ac yn credu ynddo ef , fywyd tragwyddol : a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf . Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef , oherwydd iddo ddywedyd , Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef . A hwy a ddywedasant , Onid hwn yw Iesu mab Joseff , tad a mam yr hwn a adwaenom ni ? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd , O’r nef y disgynnais ? Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Na furmurwch wrth eich gilydd . Ni ddichon neb ddyfod ataf fi , oddieithr i’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd , ei dynnu ef : a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf . Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi , A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw . Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad , ac a ddysgodd , sydd yn dyfod ataf fi . Nid oherwydd gweled o neb y Tad , ond yr hwn sydd o Dduw ; efe a welodd y Tad . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , sydd ganddo fywyd tragwyddol . Myfi yw bara’r bywyd . Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch , ac a fuont feirw . Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef , fel y bwytao dyn ohono , ac na byddo marw . Myfi yw’r bara bywiol , yr hwn a ddaeth i waered o’r nef . Os bwyty neb o’r bara hwn , efe a fydd byw yn dragywydd . A’r bara a roddaf fi , yw fy nghnawd i , yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd . Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta ? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Oni fwytewch gnawd Mab y dyn , ac onid yfwch ei waed ef , nid oes gennych fywyd ynoch . Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i , ac yn yfed fy ngwaed i , sydd ganddo fywyd tragwyddol : ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf . Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir , a’m gwaed i sydd ddiod yn wir . Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i , ac yn yfed fy ngwaed i , sydd yn aros ynof fi , a minnau ynddo yntau . Fel yr anfonodd y Tad byw fi , ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad : felly yr hwn sydd yn fy mwyta i , yntau a fydd byw trwof fi . Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef : nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna , ac y buont feirw . Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn , a fydd byw yn dragywydd . Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog , wrth athrawiaethu yng Nghapernaum . Llawer gan hynny o’i ddisgyblion , pan glywsant , a ddywedasant , Caled yw’r ymadrodd hwn ; pwy a ddichon wrando arno ? Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun , fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn , efe a ddywedodd wrthynt , A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi ? Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen ? Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau ; y cnawd nid yw yn llesáu dim : y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych , ysbryd ydynt , a bywyd ydynt . Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu . Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad , pwy oedd y rhai nid oedd yn credu , a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef . Ac efe a ddywedodd , Am hynny y dywedais wrthych , na ddichon neb ddyfod ataf fi , oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad . O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl , ac ni rodiasant mwyach gydag ef . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg , A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith ? Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef , O Arglwydd , at bwy yr awn ni ? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol . Ac yr ydym ni yn credu , ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist , Mab y Duw byw . Iesu a’u hatebodd hwynt , Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg , ac ohonoch y mae un yn ddiafol ? Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot , mab Simon : canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef , ac efe yn un o’r deuddeg . A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea : canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea , oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef . A gŵyl yr Iddewon , sef gŵyl y pebyll , oedd yn agos . Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho , Cerdda ymaith oddi yma , a dos i Jwdea ; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur . Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel , ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd : od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn , amlyga dy hun i’r byd . Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy , Ni ddaeth fy amser i eto : ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod . Ni ddichon y byd eich casáu chwi ; ond myfi y mae yn ei gasáu , oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano , fod ei weithredoedd ef yn ddrwg . Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon : nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon , oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto . Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt , efe a arhosodd yng Ngalilea . Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny , yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl ; nid yn amlwg , ond megis yn ddirgel . Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl , ac a ddywedasant , Pa le y mae efe ? A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl . Canys rhai a ddywedent , Gŵr da yw : ac eraill a ddywedent , Nage ; eithr twyllo’r bobl y mae . Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef , rhag ofn yr Iddewon . Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl , yr Iesu a aeth i fyny i’r deml , ac a athrawiaethodd . A’r Iddewon a ryfeddasant , gan ddywedyd , Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth , ac yntau heb ddysgu ? Yr Iesu a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw , eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i . Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef , efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth , pa un ai o Dduw y mae hi , ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru . Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun , yn ceisio’i ogoniant ei hun : ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd , hwnnw sydd eirwir , ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef . Oni roddes Moses i chwi y gyfraith , ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith ? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i ? Y bobl a atebodd ac a ddywedodd , Y mae gennyt ti gythraul : pwy sydd yn ceisio dy ladd di ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Un weithred a wneuthum , ac yr ydych oll yn rhyfeddu . Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad ; ( nid oherwydd ei fod o Moses , eithr o’r tadau ; ) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth . Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth , heb dorri cyfraith Moses ; a ydych yn llidiog wrthyf fi , am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth ? Na fernwch wrth y golwg , eithr bernwch farn gyfiawn . Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid , Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd ? Ac wele , y mae yn llefaru ar gyhoedd , ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef : a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir ? Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae : eithr pan ddêl Crist , nis gŵyr neb o ba le y mae . Am hynny yr Iesu , wrth athrawiaethu yn y deml , a lefodd ac a ddywedodd , Chwi a’m hadwaenoch i , ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi : ac ni ddeuthum i ohonof fy hun , eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i , yr hwn nid adwaenoch chwi . Ond myfi a’i hadwaen : oblegid ohono ef yr ydwyf fi , ac efe a’m hanfonodd i . Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef : ond ni osododd neb law arno , am na ddaethai ei awr ef eto . A llawer o’r bobl a gredasant ynddo , ac a ddywedasant , Pan ddelo Crist , a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn ? Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef ; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy , Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi , ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd . Chwi a’m ceisiwch , ac ni’m cewch : a lle yr ydwyf fi , ni ellwch chwi ddyfod . Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain , I ba le y mae hwn ar fedr myned , fel na chaffom ni ef ? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned , a dysgu’r Groegiaid ? Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe , Chwi a’m ceisiwch , ac ni’m cewch : a lle yr ydwyf fi , ni ellwch chwi ddyfod ? Ac ar y dydd diwethaf , y dydd mawr o’r ŵyl , y safodd yr Iesu , ac a lefodd , gan ddywedyd , Od oes ar neb syched , deued ataf fi , ac yfed . Yr hwn sydd yn credu ynof fi , megis y dywedodd yr ysgrythur , afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef . ( A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd , yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn : canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi , oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto . ) Am hynny llawer o’r bobl , wedi clywed yr ymadrodd hwn , a ddywedasant , Yn wir hwn yw’r Proffwyd . Eraill a ddywedasant , Hwn yw Crist . Eraill a ddywedasant , Ai o Galilea y daw Crist ? Oni ddywedodd yr ysgrythur , Mai o had Dafydd , ac o Fethlehem , y dref lle y bu Dafydd , y mae Crist yn dyfod ? Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef . A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef ; ond ni osododd neb ddwylo arno . Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy , Paham na ddygasoch chwi ef ? A’r swyddogion a atebasant , Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn . Yna y Phariseaid a atebasant iddynt , A hudwyd chwithau hefyd ? A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef , neu o’r Phariseaid ? Eithr y bobl hyn , y rhai ni wyddant y gyfraith , melltigedig ydynt . Nicodemus ( yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos , ac oedd un ohonynt ) a ddywedodd wrthynt , A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn , oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf , a gwybod beth a wnaeth efe ? Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho , A ydwyt tithau o Galilea ? Chwilia a gwêl , na chododd proffwyd o Galilea . A phob un a aeth i’w dŷ ei hun . A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd : Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml ; a’r holl bobl a ddaeth ato ef : yntau a eisteddodd , ac a’u dysgodd hwynt . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig , yr hon a ddaliesid mewn godineb ; ac wedi ei gosod hi yn y canol , Hwy a ddywedasant wrtho , Athro , y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu . A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw : beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd ? A hyn a ddywedasant hwy , gan ei demtio ef , fel y gallent ei gyhuddo ef . Eithr yr Iesu , wedi ymgrymu tua’r llawr , a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear , heb gymryd arno eu clywed . Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo , efe a ymunionodd , ac a ddywedodd wrthynt , Yr hwn sydd ddibechod ohonoch , tafled yn gyntaf garreg ati hi . Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr , efe a ysgrifennodd ar y ddaear . Hwythau , pan glywsant hyn , wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod , a aethant allan o un i un , gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf : a gadawyd yr Iesu yn unig , a’r wraig yn sefyll yn y canol . A’r Iesu wedi ymunioni , ac heb weled neb ond y wraig , a ddywedodd wrthi , Ha wraig , pa le y mae dy gyhuddwyr di ? oni chondemniodd neb di ? Hithau a ddywedodd , Naddo neb , Arglwydd . A dywedodd yr Iesu wrthi , Nid wyf finnau yn dy gondemnio di : dos , ac na phecha mwyach . Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn , gan ddywedyd , Goleuni’r byd ydwyf fi : yr hwn a’m dilyno i , ni rodia mewn tywyllwch , eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd . Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho , Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun ; nid yw dy dystiolaeth di wir . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy , Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun , y mae fy nhystiolaeth i yn wir : oblegid mi a wn o ba le y deuthum , ac i ba le yr ydwyf yn myned ; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod , nac i ba le yr wyf fi yn myned . Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd ; nid ydwyf fi yn barnu neb . Ac eto os wyf fi yn barnu , y mae fy marn i yn gywir : oblegid nid wyf fi yn unig , ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i . Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi , Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn . Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun ; ac y mae’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd i , yn tystiolaethu amdanaf fi . Yna y dywedasant wrtho , Pa le y mae dy Dad di ? Yr Iesu a atebodd , Nid adwaenoch na myfi , na’m Tad : ped adnabuasech fi , chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd . Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy , wrth athrawiaethu yn y deml : ac ni ddaliodd neb ef , am na ddaethai ei awr ef eto . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn , Yr wyf fi yn myned ymaith , a chwi a’m ceisiwch i , ac a fyddwch feirw yn eich pechod : lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod . Am hynny y dywedodd yr Iddewon , A ladd efe ei hun ? gan ei fod yn dywedyd , Lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Chwychwi sydd oddi isod ; minnau sydd oddi uchod : chwychwi sydd o’r byd hwn ; minnau nid wyf o’r byd hwn . Am hynny y dywedais wrthych , y byddwch chwi feirw yn eich pechodau : oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe , chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau . Yna y dywedasant wrtho , Pwy wyt ti ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad . Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi : eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i ; a’r pethau a glywais i ganddo , y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd . Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt , Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn , yna y cewch wybod mai myfi yw efe , ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun ; ond megis y dysgodd fy Nhad fi , yr wyf yn llefaru y pethau hyn . A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi : ni adawodd y Tad fi yn unig ; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef . Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn , llawer a gredasant ynddo ef . Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo , Os arhoswch chwi yn fy ngair i , disgyblion i mi ydych yn wir ; A chwi a gewch wybod y gwirionedd , a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi . Hwythau a atebasant iddo , Had Abraham ydym ni , ac ni wasanaethasom ni neb erioed : pa fodd yr wyt ti yn dywedyd , Chwi a wneir yn rhyddion ? Yr Iesu a atebodd iddynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod , y mae efe yn was i bechod . Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth : y Mab sydd yn aros byth . Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi , rhyddion fyddwch yn wir . Mi a wn mai had Abraham ydych chwi : ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i , am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi . Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i : a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau . Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Ein tad ni yw Abraham . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Pe plant Abraham fyddech , gweithredoedd Abraham a wnaech . Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i , dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd , yr hwn a glywais i gan Dduw : hyn ni wnaeth Abraham . Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi . Am hynny y dywedasant wrtho , Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni : un Tad sydd gennym ni , sef Duw . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy , Pe Duw fyddai eich Tad , chwi a’m carech i : canys oddi wrth Dduw y deilliais , ac y deuthum i ; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i , ond efe a’m hanfonodd i . Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i ? am na ellwch wrando fy ymadrodd i . O’ch tad diafol yr ydych chwi , a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur . Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad ; ac ni safodd yn y gwirionedd , oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef . Pan yw yn dywedyd celwydd , o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd : canys y mae yn gelwyddog , ac yn dad iddo . Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd , nid ydych yn credu i mi . Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod ? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir , paham nad ydych yn credu i mi ? Y mae’r hwn sydd o Dduw , yn gwrando geiriau Duw : am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando , am nad ydych o Dduw . Yna yr atebodd yr Iddewon , ac y dywedasant wrtho ef , Onid da yr ydym ni yn dywedyd , mai Samaritan wyt ti , a bod gennyt gythraul ? Yr Iesu a atebodd , Nid oes gennyf gythraul ; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad , ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau . Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun : y mae a’i cais , ac a farn . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Os ceidw neb fy ymadrodd i , ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd . Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho , Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul . Bu Abraham farw , a’r proffwydi ; ac meddi di , Os ceidw neb fy ymadrodd i , nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd . Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni , yr hwn a fu farw ? a’r proffwydi a fuant feirw : pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun ? Yr Iesu a atebodd , Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun , fy ngogoniant i nid yw ddim : fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i , yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd , mai eich Duw chwi yw . Ond nid adnabuoch chwi ef : eithr myfi a’i hadwaen ef . Ac os dywedaf nad adwaen ef , myfi a fyddaf debyg i chwi , yn gelwyddog : ond mi a’i hadwaen ef , ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef . Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i : ac efe a’i gwelodd hefyd , ac a lawenychodd . Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho , Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto , ac a welaist ti Abraham ? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Cyn bod Abraham , yr wyf fi . Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef . A’r Iesu a ymguddiodd , ac a aeth allan o’r deml , gan fyned trwy eu canol hwynt : ac felly yr aeth efe heibio . Ac wrth fyned heibio , efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Rabbi , pwy a bechodd , ai hwn , ai ei rieni , fel y genid ef yn ddall ? Yr Iesu a atebodd , Nid hwn a bechodd , na’i rieni chwaith : eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef . Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd , tra ydyw hi yn ddydd : y mae’r nos yn dyfod , pan na ddichon neb weithio . Tra ydwyf yn y byd , goleuni’r byd ydwyf . Wedi iddo ef ddywedyd hyn , efe a boerodd ar lawr , ac a wnaeth glai o’r poeryn , ac a irodd y clai ar lygaid y dall ; Ac a ddywedodd wrtho , Dos , ac ymolch yn llyn Siloam , ( yr hwn a gyfieithir , Anfonedig ) . Am hynny efe a aeth ymaith , ac a ymolchodd , ac a ddaeth yn gweled . Y cymdogion gan hynny , a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen , mai dall oedd efe , a ddywedasant , Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota ? Rhai a ddywedasant , Hwn yw efe : ac eraill , Y mae efe yn debyg iddo . Yntau a ddywedodd , Myfi yw efe . Am hynny y dywedasant wrtho , Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd , Dyn a elwir Iesu , a wnaeth glai , ac a irodd fy llygaid i ; ac a ddywedodd wrthyf , Dos i lyn Siloam , ac ymolch . Ac wedi i mi fyned ac ymolchi , mi a gefais fy ngolwg . Yna y dywedasant wrtho , Pa le y mae efe ? Yntau a ddywedodd , Ni wn i . Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid , yr hwn gynt a fuasai yn ddall . A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai , a phan agorodd efe ei lygaid ef . Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn , pa fodd y cawsai efe ei olwg . Yntau a ddywedodd wrthynt , Clai a osododd efe ar fy llygaid i , a mi a ymolchais , ac yr ydwyf yn gweled . Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant , Nid yw’r dyn hwn o Dduw , gan nad yw efe yn cadw’r Saboth . Eraill a ddywedasant , Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion ? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith . Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall , Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef , am agoryd ohono dy lygaid di ? Yntau a ddywedodd , Mai proffwyd yw efe . Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef , mai dall fuasai , a chael ohono ef ei olwg , nes galw ohonynt ei rieni ef , yr hwn a gawsai ei olwg . A hwy a ofynasant iddynt , gan ddywedyd , Ai hwn yw eich mab chwi , yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall ? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr ? Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy , ac a ddywedasant , Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni , ac mai yn ddall y ganwyd ef : Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron , nis gwyddom ni ; neu pwy a agorodd ei lygaid ef , nis gwyddom ni : y mae efe mewn oedran ; gofynnwch iddo ef : efe a ddywed amdano’i hun . Hyn a ddywedodd ei rieni ef , am eu bod yn ofni’r Iddewon : oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes , os cyfaddefai neb ef yn Grist , y bwrid ef allan o’r synagog . Am hynny y dywedodd ei rieni ef , Y mae efe mewn oedran ; gofynnwch iddo ef . Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall , ac a ddywedasant wrtho , Dyro’r gogoniant i Dduw : nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn . Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd , Ai pechadur yw , nis gwn i : un peth a wn i , lle yr oeddwn i yn ddall , yr wyf fi yn awr yn gweled . Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn , Beth a wnaeth efe i ti ? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di ? Yntau a atebodd iddynt , Mi a ddywedais i chwi eisoes , ac ni wrandawsoch : paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn ? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef ? Hwythau a’i difenwasant ef , ac a ddywedasant , Tydi sydd ddisgybl iddo ef ; eithr disgyblion Moses ydym ni . Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses : eithr hwn , nis gwyddom ni o ba le y mae efe . Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd , na wyddoch chwi o ba le y mae efe , ac efe a agorodd fy llygaid i . Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid : ond os yw neb yn addolwr Duw , ac yn gwneuthur ei ewyllys ef , hwnnw y mae yn ei wrando . Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall . Oni bai fod hwn o Dduw , ni allai efe wneuthur dim . Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Mewn pechodau y ganwyd ti oll ; ac a wyt ti yn ein dysgu ni ? A hwy a’i bwriasant ef allan . Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan : a phan ei cafodd , efe a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn credu ym Mab Duw ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd , Pwy yw efe , O Arglwydd , fel y credwyf ynddo ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Ti a’i gwelaist ef ; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi , hwnnw ydyw efe . Yntau a ddywedodd , Yr wyf fi yn credu , O Arglwydd . Ac efe a’i haddolodd ef . A’r Iesu a ddywedodd , I farn y deuthum i’r byd hwn ; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled , ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion . A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef , a glywsant y pethau hyn , ac a ddywedasant wrtho , Ydym ninnau hefyd yn ddeillion ? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Pe deillion fyddech , ni byddai arnoch bechod : eithr yn awr meddwch chwi , Yr ydym ni yn gweled ; am hynny y mae eich pechod yn aros . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid , eithr sydd yn dringo ffordd arall , lleidr ac ysbeiliwr yw . Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws , bugail y defaid ydyw . I hwn y mae’r drysor yn agoryd , ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef : ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw , ac yn eu harwain hwy allan . Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun , y mae efe yn myned o’u blaen hwy : a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef , oblegid y maent yn adnabod ei lais ef . Ond y dieithr nis canlynant , eithr ffoant oddi wrtho : oblegid nad adwaenant lais dieithriaid . Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt : ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Myfi yw drws y defaid . Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i , lladron ac ysbeilwyr ŷnt : eithr ni wrandawodd y defaid arnynt . Myfi yw’r drws : os â neb i mewn trwof fi , efe a fydd cadwedig ; ac efe a â i mewn ac allan , ac a gaiff borfa . Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata , ac i ladd , ac i ddistrywio : myfi a ddeuthum fel y caent fywyd , ac y caent ef yn helaethach . Myfi yw’r bugail da . Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid . Eithr y gwas cyflog , a’r hwn nid yw fugail , yr hwn nid eiddo y defaid , sydd yn gweled y blaidd yn dyfod , ac yn gadael y defaid , ac yn ffoi : a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy , ac yn tarfu’r defaid . Y mae’r gwas cyflog yn ffoi , oblegid mai gwas cyflog yw , ac nid oes ofal arno am y defaid . Myfi yw’r bugail da ; ac a adwaen yr eiddof fi , ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi . Fel yr edwyn y Tad fyfi , felly yr adwaen innau’r Tad : ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid . A defaid eraill sydd gennyf , y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon : y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu , a’m llais i a wrandawant ; a bydd un gorlan , ac un bugail . Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i , am fy mod i yn dodi fy einioes , fel y cymerwyf hi drachefn . Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi : ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun . Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr , ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn . Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad . Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon , am yr ymadroddion hyn . A llawer ohonynt a ddywedasant , Y mae cythraul ganddo , ac y mae efe yn ynfydu : paham y gwrandewch chwi arno ef ? Eraill a ddywedasant , Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo . A all cythraul agoryd llygaid y deillion ? Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem , a’r gaeaf oedd hi . Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml , ym mhorth Solomon . Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef , ac a ddywedasant wrtho , Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau ? os tydi yw’r Crist , dywed i ni yn eglur . Yr Iesu a atebodd iddynt , Mi a ddywedais i chwi , ac nid ydych yn credu . Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad , y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi . Ond chwi nid ydych yn credu : canys nid ydych chwi o’m defaid i , fel y dywedais i chwi . Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i ; a mi a’u hadwaen hwynt , a hwy a’m canlynant i : A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol ; ac ni chyfrgollant byth , ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i . Fy Nhad i , yr hwn a’u rhoddes i mi , sydd fwy na phawb : ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i . Myfi a’r Tad un ydym . Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef . Yr Iesu a atebodd iddynt , Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad : am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i ? Yr Iddewon a atebasant iddo , gan ddywedyd , Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio , ond am gabledd , ac am dy fod di , a thithau yn ddyn , yn dy wneuthur dy hun yn Dduw . Yr Iesu a atebodd iddynt , Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi , Mi a ddywedais , Duwiau ydych ? Os galwodd efe hwy yn dduwiau , at y rhai y daeth gair Duw , ( a’r ysgrythur nis gellir ei thorri ; ) A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad , ac a’i hanfonodd i’r byd , Yr wyt ti yn cablu ; am i mi ddywedyd , Mab Duw ydwyf ? Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad , na chredwch i mi : Ond os ydwyf yn eu gwneuthur , er nad ydych yn credu i mi , credwch y gweithredoedd ; fel y gwybyddoch ac y credoch , fod y Tad ynof fi , a minnau ynddo yntau . Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef : ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt . Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen , i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio ; ac a arhosodd yno . A llawer a ddaethant ato ef , ac a ddywedasant , Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd : ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn , oedd wir . A llawer yno a gredasant ynddo . Ac yr oedd un yn glaf , Lasarus o Fethania , o dref Mair a’i chwaer Martha . ( A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint , ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt , yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf . ) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef , gan ddywedyd , Arglwydd , wele , y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti , yn glaf . A’r Iesu pan glybu , a ddywedodd , Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth , ond er gogoniant Duw , fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny . A hoff oedd gan yr Iesu Martha , a’i chwaer , a Lasarus . Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf , efe a arhosodd yn y lle yr oedd , ddau ddiwrnod . Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Awn i Jwdea drachefn . Y disgyblion a ddywedasant wrtho , Rabbi , yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di ; ac a wyt ti yn myned yno drachefn ? Yr Iesu a atebodd , Onid oes deuddeg awr o’r dydd ? os rhodia neb y dydd , ni thramgwydda , am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn : Ond os rhodia neb y nos , efe a dramgwydda , am nad oes goleuni ynddo . Hyn a lefarodd efe : ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt , Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno ; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef . Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Arglwydd , os huno y mae , efe a fydd iach . Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef : eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur , Bu farw Lasarus . Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno , er eich mwyn chwi , fel y credoch ; ond awn ato ef . Yna y dywedodd Thomas , yr hwn a elwir Didymus , wrth ei gyd‐ddisgyblion , Awn ninnau hefyd , fel y byddom feirw gydag ef . Yna yr Iesu wedi dyfod , a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd . A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem , ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi : A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair , i’w cysuro hwy am eu brawd . Yna Martha , cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod , a aeth i’w gyfarfod ef : ond Mair a eisteddodd yn y tŷ . Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu , Arglwydd , pe buasit ti yma , ni buasai farw fy mrawd . Eithr mi a wn hefyd yr awron , pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw , y dyry Duw i ti . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Atgyfodir dy frawd drachefn . Dywedodd Martha wrtho , Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad , y dydd diwethaf . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Myfi yw’r atgyfodiad , a’r bywyd : yr hwn sydd yn credu ynof fi , er iddo farw , a fydd byw : A phwy bynnag sydd yn fyw , ac yn credu ynof fi , ni bydd marw yn dragywydd . A wyt ti’n credu hyn ? Dywedodd hithau wrtho , Ydwyf , Arglwydd : yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist , Mab Duw , yr hwn sydd yn dyfod i’r byd . Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn , hi a aeth ymaith , ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair , gan ddywedyd , Fe ddaeth yr Athro , ac y mae yn galw amdanat . Cyn gynted ag y clybu hi , hi a gododd yn ebrwydd , ac a ddaeth ato ef . ( A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref , ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef . ) Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ , ac yn ei chysuro hi , pan welsant Mair yn codi ar frys , ac yn myned allan , a’i canlynasant hi , gan ddywedyd , Y mae hi’n myned at y bedd , i wylo yno . Yna Mair , pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu , a’i weled ef , a syrthiodd wrth ei draed ef , gan ddywedyd wrtho , Arglwydd , pe buasit ti yma , ni buasai fy mrawd farw . Yr Iesu gan hynny , pan welodd hi yn wylo , a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo , a riddfanodd yn yr ysbryd , ac a gynhyrfwyd ; Ac a ddywedodd , Pa le y dodasoch chwi ef ? Hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , tyred a gwêl . Yr Iesu a wylodd . Am hynny y dywedodd yr Iddewon , Wele , fel yr oedd yn ei garu ef . Eithr rhai ohonynt a ddywedasant , Oni allasai hwn , yr hwn a agorodd lygaid y dall , beri na buasai hwn farw chwaith ? Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan , ac a ddaeth at y bedd . Ac ogof oedd , a maen oedd wedi ei ddodi arno . Yr Iesu a ddywedodd , Codwch ymaith y maen . Martha , chwaer yr hwn a fuasai farw , a ddywedodd wrtho , Arglwydd , y mae efe weithian yn drewi : herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Oni ddywedais i ti , pes credit , y cait ti weled gogoniant Duw ? Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod . A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny , ac a ddywedodd , Y Tad , yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf . Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser : eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais , fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a lefodd â llef uchel , Lasarus , tyred allan . A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan , yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo : a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Gollyngwch ef yn rhydd , a gadewch iddo fyned ymaith . Yna llawer o’r Iddewon , y rhai a ddaethent at Mair , ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu , a gredasant ynddo ef . Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid , ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu . Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor , ac a ddywedasant , Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur ? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion . Os gadawn ni ef fel hyn , pawb a gredant ynddo ; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid , ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd . A rhyw un ohonynt , Caiaffas , yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno , a ddywedodd wrthynt , Nid ydych chwi’n gwybod dim oll , Nac yn ystyried , mai buddiol yw i ni , farw o un dyn dros y bobl , ac na ddifether yr holl genedl . Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun : eithr , ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno , efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl ; Ac nid dros y genedl yn unig , eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid . Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef . Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon ; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch , i ddinas a elwir Effraim , ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion . A phasg yr Iddewon oedd yn agos : a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg , i’w glanhau eu hunain . Yna y ceisiasant yr Iesu ; a dywedasant wrth ei gilydd , fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml , Beth a dybygwch chwi , gan na ddaeth efe i’r ŵyl ? A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn , os gwyddai neb pa le yr oedd efe , ar fynegi ohono , fel y gallent ei ddal ef . Yna yr Iesu , chwe diwrnod cyn y pasg , a ddaeth i Fethania , lle yr oedd Lasarus , yr hwn a fuasai farw , yr hwn a godasai efe o feirw . Ac yno y gwnaethant iddo swper ; a Martha oedd yn gwasanaethu : a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef . Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr , ac a eneiniodd draed yr Iesu , ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt : a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint . Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef , Jwdas Iscariot , mab Simon , yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef , Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog , a’i roddi i’r tlodion ? Eithr hyn a ddywedodd efe , nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion ; ond am ei fod yn lleidr , a bod ganddo’r pwrs , a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo . A’r Iesu a ddywedodd , Gad iddi : erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn . Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser ; eithr myfi nid oes gennych bob amser . Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno : a hwy a ddaethant , nid er mwyn yr Iesu yn unig , ond fel y gwelent Lasarus hefyd , yr hwn a godasai efe o feirw . Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd : Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef , ac a gredasant yn yr Iesu . Trannoeth , tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl , pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem , A gymerasant gangau o’r palmwydd , ac a aethant allan i gyfarfod ag ef , ac a lefasant , Hosanna : Bendigedig yw Brenin Israel , yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd . A’r Iesu wedi cael asynnyn , a eisteddodd arno ; megis y mae yn ysgrifenedig , Nac ofna , ferch Seion : wele , y mae dy Frenin yn dyfod , yn eistedd ar ebol asyn . Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf : eithr pan ogoneddwyd yr Iesu , yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano , ac iddynt wneuthur hyn iddo . Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa , yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd , a’i godi ef o feirw . Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef , am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn . Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain , A welwch chwi nad ydych yn tycio dim ? wele , fe aeth y byd ar ei ôl ef . Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl : Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip , yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea , ac a ddymunasant arno , gan ddywedyd , Syr , ni a ewyllysiem weled yr Iesu . Philip a ddaeth , ac a ddywedodd i Andreas ; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu . A’r Iesu a atebodd iddynt , gan ddywedyd , Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear , a marw , hwnnw a erys yn unig : eithr os bydd efe marw , efe a ddwg ffrwyth lawer . Yr hwn sydd yn caru ei einioes , a’i cyll hi ; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn , a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol . Os gwasanaetha neb fi , dilyned fi : a lle yr wyf fi , yno y bydd fy ngweinidog hefyd : ac os gwasanaetha neb fi , y Tad a’i hanrhydedda ef . Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid : a pha beth a ddywedaf ? O Dad , gwared fi allan o’r awr hon : eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon . O Dad , gogonedda dy enw . Yna y daeth llef o’r nef , Mi a’i gogoneddais , ac a’i gogoneddaf drachefn . Y dyrfa gan hynny , yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed , a ddywedodd mai taran oedd : eraill a ddywedasant , Angel a lefarodd wrtho . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Nid o’m hachos i y bu’r llef hon , ond o’ch achos chwi . Yn awr y mae barn y byd hwn : yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn . A minnau , os dyrchefir fi oddi ar y ddaear , a dynnaf bawb ataf fy hun . ( A hyn a ddywedodd efe , gan arwyddo o ba angau y byddai farw . ) Y dyrfa a atebodd iddo , Ni a glywsom o’r ddeddf , fod Crist yn aros yn dragwyddol : a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd , fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn ? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn ? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi . Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni , fel na ddalio’r tywyllwch chwi : a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch , ni ŵyr i ba le y mae’n myned . Tra fyddo gennych oleuni , credwch yn y goleuni , fel y byddoch blant y goleuni . Hyn a ddywedodd yr Iesu , ac efe a ymadawodd , ac a ymguddiodd rhagddynt . Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt , ni chredasant ynddo : Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd , yr hwn a ddywedodd efe , Arglwydd , pwy a gredodd i’n hymadrodd ni ? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd ? Am hynny ni allent gredu , oblegid dywedyd o Eseias drachefn , Efe a ddallodd eu llygaid , ac a galedodd eu calon ; fel na welent â’u llygaid , a deall â’u calon , ac ymchwelyd ohonynt , ac i mi eu hiacháu hwynt . Y pethau hyn a ddywedodd Eseias , pan welodd ei ogoniant ef , ac y llefarodd amdano ef . Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo ; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef , rhag eu bwrw allan o’r synagog : Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw . A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , nid yw yn credu ynof fi , ond yn yr hwn a’m hanfonodd i . A’r hwn sydd yn fy ngweled i , sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i . Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd , fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi , nad arhoso yn y tywyllwch . Ac os clyw neb fy ngeiriau , ac ni chred , myfi nid wyf yn ei farnu ef : canys ni ddeuthum i farnu’r byd , eithr i achub y byd . Yr hwn sydd yn fy nirmygu i , ac heb dderbyn fy ngeiriau , y mae iddo un yn ei farnu : y gair a leferais i , hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf . Canys myfi ni leferais ohonof fy hun : ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i , efe a roddes orchymyn i mi , beth a ddywedwn , a pha beth a lefarwn . Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol : am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru , fel y dywedodd y Tad wrthyf , felly yr wyf yn llefaru . Achyn gŵyl y pasg , yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad , efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd , a’u carodd hwynt hyd y diwedd . Ac wedi darfod swper , wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot , mab Simon , ei fradychu ef ; Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef , a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw , ac yn myned at Dduw ; Efe a gyfododd oddi ar swper , ac a roes heibio ei gochlwisg , ac a gymerodd dywel , ac a ymwregysodd . Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg , ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion , a’u sychu â’r tywel , â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu . Yna y daeth efe at Simon Pedr : ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , a wyt ti’n golchi fy nhraed i ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur , ni wyddost ti yr awron : eithr ti a gei wybod ar ôl hyn . Pedr a ddywedodd wrtho , Ni chei di olchi fy nhraed i byth . Yr Iesu a atebodd iddo , Oni olchaf di , nid oes i ti gyfran gyda myfi . Simon Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , nid fy nhraed yn unig , eithr fy nwylo a’m pen hefyd . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Yr hwn a olchwyd , nid rhaid iddo ond golchi ei draed , eithr y mae yn lân oll : ac yr ydych chwi yn lân , eithr nid pawb oll . Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef : am hynny y dywedodd , Nid ydych chwi yn lân bawb oll . Felly wedi iddo olchi eu traed hwy , a chymryd ei gochlwisg , efe a eisteddodd drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi ? Yr ydych chwi yn fy ngalw i , Yr Athro , a’r Arglwydd : a da y dywedwch ; canys felly yr ydwyf . Am hynny os myfi , yn Arglwydd ac yn Athro , a olchais eich traed chwi ; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd ; Canys rhoddais esampl i chwi , fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd ; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd . Os gwyddoch y pethau hyn , gwyn eich byd os gwnewch hwynt . Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll ; mi a wn pwy a etholais : ond fel y cyflawnid yr ysgrythur , Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi , a gododd ei sawdl yn fy erbyn . Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod , fel pan ddêl , y credoch mai myfi yw efe . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi , sydd yn fy nerbyn i ; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i , sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i . Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn , efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd , ac a dystiolaethodd , ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , y dywedaf wrthych , y bradycha un ohonoch fi . Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd , gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd . Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu , yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu . Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw , i ofyn pwy oedd efe , am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd . Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu , a ddywedodd wrtho , Arglwydd , pwy yw efe ? Yr Iesu a atebodd , Hwnnw yw efe , i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu . Ac wedi iddo wlychu’r tamaid , efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot , mab Simon . Ac ar ôl y tamaid , yna yr aeth Satan i mewn iddo . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho , Hyn yr wyt yn ei wneuthur , gwna ar frys . Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho . Canys rhai oedd yn tybied , am fod Jwdas a’r god ganddo , fod yr Iesu yn dywedyd wrtho , Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl ; neu , ar roi ohono beth i’r tlodion . Yntau gan hynny , wedi derbyn y tamaid , a aeth allan yn ebrwydd . Ac yr oedd hi’n nos . Yna gwedi iddo fyned allan , yr Iesu a ddywedodd , Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn , a Duw a ogoneddwyd ynddo ef . Os gogoneddwyd Duw ynddo ef , Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun , ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd . O blant bychain , eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi . Chwi a’m ceisiwch : ac , megis y dywedais wrth yr Iddewon , Lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod ; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron . Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi , Ar garu ohonoch eich gilydd ; fel y cerais i chwi , ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd . Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych , os bydd gennych gariad i’ch gilydd . A Simon Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , i ba le yr wyt ti’n myned ? Yr Iesu a atebodd iddo , Lle yr ydwyf fi yn myned , ni elli di yr awron fy nghanlyn : eithr ar ôl hyn y’m canlyni . Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , paham na allaf fi dy ganlyn yr awron ? mi a roddaf fy einioes drosot . Yr Iesu a atebodd iddo , A roddi di dy einioes drosof fi ? Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith . Na thralloder eich calon : yr ydych yn credu yn Nuw , credwch ynof finnau hefyd . Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau : a phe amgen , mi a ddywedaswn i chwi . Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi . Ac os myfi a af , ac a baratoaf le i chwi , mi a ddeuaf drachefn , ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun ; fel lle yr wyf fi , y byddoch chwithau hefyd . Ac i ba le yr wyf fi yn myned , chwi a wyddoch , a’r ffordd a wyddoch . Dywedodd Thomas wrtho , Arglwydd , ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned ; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef , Myfi yw’r ffordd , a’r gwirionedd , a’r bywyd : nid yw neb yn dyfod at y Tad , ond trwof fi . Ped adnabuasech fi , fy Nhad hefyd a adnabuasech : ac o hyn allan yr adwaenoch ef , a chwi a’i gwelsoch ef . Dywedodd Philip wrtho , Arglwydd , dangos i ni y Tad , a digon yw i ni . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi , ac nid adnabuost fi , Philip ? Y neb a’m gwelodd i , a welodd y Tad : a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd , Dangos i ni y Tad ? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad , a’r Tad ynof finnau ? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych , nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru ; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof , efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd . Credwch fi , fy mod i yn y Tad , a’r Tad ynof finnau : ac onid e , credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur , yntau hefyd a’u gwna , a mwy na’r rhai hyn a wna efe : oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad . A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i , hynny a wnaf ; fel y gogonedder y Tad yn y Mab . Os gofynnwch ddim yn fy enw i , mi a’i gwnaf . O cherwch fi , cedwch fy ngorchmynion . A mi a weddïaf ar y Tad , ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall , fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol ; Ysbryd y gwirionedd , yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn , am nad yw yn ei weled , nac yn ei adnabod ef : ond chwi a’i hadwaenoch ef ; oherwydd y mae yn aros gyda chwi , ac ynoch y bydd efe . Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid : mi a ddeuaf atoch chwi . Eto ennyd bach , a’r byd ni’m gwêl mwy ; eithr chwi a’m gwelwch : canys byw wyf fi , a byw fyddwch chwithau hefyd . Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad , a chwithau ynof fi , a minnau ynoch chwithau . Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo , ac yn eu cadw hwynt , efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i : a’r hwn sydd yn fy ngharu i , a gerir gan fy Nhad i : a minnau a’i caraf ef , ac a’m hegluraf fy hun iddo . Dywedodd Jwdas wrtho , ( nid yr Iscariot , ) Arglwydd , pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni , ac nid i’r byd ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Os câr neb fi , efe a geidw fy ngair ; a’m Tad a’i câr yntau , a nyni a ddeuwn ato , ac a wnawn ein trigfa gydag ef . Yr hwn nid yw yn fy ngharu i , nid yw yn cadw fy ngeiriau : a’r gair yr ydych yn ei glywed , nid eiddof fi ydyw , ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i . Y pethau hyn a ddywedais wrthych , a mi yn aros gyda chwi . Eithr y Diddanydd , yr Ysbryd Glân , yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i , efe a ddysg i chwi’r holl bethau , ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi . Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd ; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi : nid fel y mae y byd yn rhoddi , yr wyf fi yn rhoddi i chwi . Na thralloder eich calon , ac nac ofned . Clywsoch fel y dywedais wrthych , Yr wyf yn myned ymaith , ac mi a ddeuaf atoch . Pe carech fi , chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd , Yr wyf yn myned at y Tad : canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi . Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod , fel pan ddêl , y credoch . Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach : canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod , ac nid oes iddo ddim ynof fi . Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad , ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi , felly yr wyf yn gwneuthur . Codwch , awn oddi yma . Myfi yw’r wir winwydden , a’m Tad yw’r llafurwr . Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth , y mae efe yn ei thynnu ymaith : a phob un a ddygo ffrwyth , y mae efe yn ei glanhau , fel y dygo fwy o ffrwyth . Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych . Arhoswch ynof fi , a mi ynoch chwi . Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun , onid erys yn y winwydden ; felly ni ellwch chwithau , onid arhoswch ynof fi . Myfi yw’r winwydden , chwithau yw’r canghennau . Yr hwn sydd yn aros ynof fi , a minnau ynddo yntau , hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer : oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim . Onid erys un ynof fi , efe a daflwyd allan megis cangen , ac a wywodd ; ac y maent yn eu casglu hwynt , ac yn eu bwrw yn tân , a hwy a losgir . Os arhoswch ynof fi , ac aros o’m geiriau ynoch , beth bynnag a ewyllysioch , gofynnwch , ac efe a fydd i chwi . Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad , ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer ; a disgyblion fyddwch i mi . Fel y carodd y Tad fi , felly y cerais innau chwithau : arhoswch yn fy nghariad i . Os cedwch fy ngorchmynion , chwi a arhoswch yn fy nghariad ; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad , ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef . Hyn a ddywedais wrthych , fel yr arhosai fy llawenydd ynoch , ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn . Dyma fy ngorchymyn i ; Ar i chwi garu eich gilydd , fel y cerais i chwi . Cariad mwy na hwn nid oes gan neb ; sef , bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion . Chwychwi yw fy nghyfeillion , os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi . Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision ; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur : ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion ; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad , a hysbysais i chwi . Nid chwi a’m dewisasoch i , ond myfi a’ch dewisais chwi , ac a’ch ordeiniais chwi , fel yr elech ac y dygech ffrwyth , ac yr arhosai eich ffrwyth ; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i , y rhoddo efe i chwi . Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi , garu ohonoch eich gilydd . Os yw’r byd yn eich casáu chwi , chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi . Pe byddech o’r byd , y byd a garai’r eiddo ; ond oblegid nad ydych o’r byd , eithr i mi eich dewis allan o’r byd , am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi . Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych ; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd . Os erlidiasant fi , hwy a’ch erlidiant chwithau : os cadwasant fy ngair i , yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant . Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i , am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i . Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt , ni buasai arnynt bechod : ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod . Yr hwn sydd yn fy nghasáu i , sydd yn casáu fy Nhad hefyd . Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall , ni buasai arnynt bechod : ond yr awron hwy a welsant , ac a’m casasant i a’m Tad hefyd . Eithr , fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt , Hwy a’m casasant yn ddiachos . Eithr pan ddêl y Diddanydd , yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad , ( sef Ysbryd y gwirionedd , yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad , ) efe a dystiolaetha amdanaf fi . A chwithau hefyd a dystiolaethwch , am eich bod o’r dechreuad gyda mi . Y pethau hyn a ddywedais i chwi , fel na rwystrer chwi . Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau : ac y mae’r awr yn dyfod , y tybia pwy bynnag a’ch lladdo , ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw . A’r pethau hyn a wnânt i chwi , oblegid nad adnabuant y Tad , na myfi . Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi , fel pan ddêl yr awr , y cofioch hwynt , ddarfod i mi ddywedyd i chwi : a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad , am fy mod gyda chwi . Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd ; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi , I ba le yr wyt ti’n myned ? Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi , tristwch a lanwodd eich calon . Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi ; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith : canys onid af fi , ni ddaw’r Diddanydd atoch ; eithr os mi a af , mi a’i hanfonaf ef atoch . A phan ddêl , efe a argyhoedda’r byd o bechod , ac o gyfiawnder , ac o farn : O bechod , am nad ydynt yn credu ynof fi : O gyfiawnder , am fy mod yn myned at fy Nhad , ac ni’m gwelwch i mwyach ; O farn , oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd . Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi , ond ni ellwch eu dwyn yr awron . Ond pan ddêl efe , sef Ysbryd y gwirionedd , efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd : canys ni lefara ohono’i hun ; ond pa bethau bynnag a glywo , a lefara efe : a’r pethau sydd i ddyfod , a fynega efe i chwi . Efe a’m gogonedda i : canys efe a gymer o’r eiddof , ac a’i mynega i chwi . Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad , ydynt eiddof fi : oherwydd hyn y dywedais , mai o’r eiddof fi y cymer , ac y mynega i chwi . Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch : am fy mod yn myned at y Tad . Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd , Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym , Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch : ac , Am fy mod yn myned at y Tad ? Am hynny hwy a ddywedasant , Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd , Ychydig ennyd ? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd . Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo ; ac a ddywedodd wrthynt , Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn , oblegid i mi ddywedyd , Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch ? Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Chwi a wylwch ac a alerwch , a’r byd a lawenycha : eithr chwi a fyddwch dristion ; ond eich tristwch a droir yn llawenydd . Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch , am ddyfod ei hawr : eithr wedi geni’r plentyn , nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach , gan lawenydd geni dyn i’r byd . A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch : eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn , a’ch calon a lawenycha , a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch . A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw , efe a’u rhydd i chwi . Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i : gofynnwch , a chwi a gewch ; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn . Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion : eithr y mae’r awr yn dyfod , pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach , eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad . Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw : ac nid wyf yn dywedyd i chwi , y gweddïaf fi ar y Tad trosoch : Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi , am i chwi fy ngharu i , a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw . Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad , ac a ddeuthum i’r byd : trachefn yr wyf yn gadael y byd , ac yn myned at y Tad . Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Wele , yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur , ac nid wyt yn dywedyd un ddameg . Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth , ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi : wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw . Yr Iesu a’u hatebodd hwynt , A ydych chwi yn awr yn credu ? Wele , y mae’r awr yn dyfod , ac yr awron hi a ddaeth , y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo , ac y gadewch fi yn unig : ac nid wyf yn unig , oblegid y mae’r Tad gyda myfi . Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof . Yn y byd gorthrymder a gewch : eithr cymerwch gysur , myfi a orchfygais y byd . Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu , ac efe a gododd ei lygaid i’r nef , ac a ddywedodd , Y Tad , daeth yr awr ; gogonedda dy Fab , fel y gogoneddo dy Fab dithau : Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd , fel am y cwbl a roddaist iddo , y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol . A hyn yw’r bywyd tragwyddol ; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw , a’r hwn a anfonaist ti , Iesu Grist . Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear ; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur . Ac yr awron , O Dad , gogonedda di fyfi gyda thi dy hun , â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd . Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd : eiddot ti oeddynt , a thi a’u rhoddaist hwynt i mi ; a hwy a gadwasant dy air di . Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi : Canys y geiriau a roddaist i mi , a roddais iddynt hwy ; a hwy a’u derbyniasant , ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan , ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i . Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo : nid dros y byd yr wyf yn gweddïo , ond dros y rhai a roddaist i mi ; canys eiddot ti ydynt . A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti , a’r eiddot ti sydd eiddof fi : a mi a ogoneddwyd ynddynt . Ac nid wyf mwyach yn y byd , ond y rhai hyn sydd yn y byd , a myfi sydd yn dyfod atat ti . Y Tad sancteiddiol , cadw hwynt trwy dy enw , y rhai a roddaist i mi ; fel y byddont un , megis ninnau . Tra fûm gyda hwynt yn y byd , mi a’u cedwais yn dy enw : y rhai a roddaist i mi , a gedwais , ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth ; fel y cyflawnid yr ysgrythur . Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat : a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd , fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain . Myfi a roddais iddynt hwy dy air di : a’r byd a’u casaodd hwynt , oblegid nad ydynt o’r byd , megis nad ydwyf finnau o’r byd . Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd , eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg . O’r byd nid ydynt , megis nad wyf finnau o’r byd . Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd : dy air sydd wirionedd . Fel yr anfonaist fi i’r byd , felly yr anfonais innau hwythau i’r byd . Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun , fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd . Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig , eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt : Fel y byddont oll yn un ; megis yr wyt ti , y Tad , ynof fi , a minnau ynot ti ; fel y byddont hwythau un ynom ni : fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i . A’r gogoniant a roddaist i mi , a roddais iddynt hwy : fel y byddont un , megis yr ydym ni yn un : Myfi ynddynt hwy , a thithau ynof fi ; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un , ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i , a charu ohonot hwynt , megis y ceraist fi . Y Tad , y rhai a roddaist i mi , yr wyf yn ewyllysio , lle yr wyf fi , fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi ; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi : oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd . Y Tad cyfiawn , nid adnabu’r byd dydi : eithr mi a’th adnabûm , a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i . Ac mi a hysbysais iddynt dy enw , ac a’i hysbysaf : fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi , a minnau ynddynt hwy . Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn , efe a aeth allan , efe a’i ddisgyblion , dros afon Cedron , lle yr oedd gardd , i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion . A Jwdas hefyd , yr hwn a’i bradychodd ef , a adwaenai’r lle : oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno . Jwdas gan hynny , wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid , a ddaeth yno â lanternau , a lampau , ac arfau . Yr Iesu gan hynny , yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno , a aeth allan , ac a ddywedodd wrthynt , Pwy yr ydych yn ei geisio ? Hwy a atebasant iddo , Iesu o Nasareth . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Myfi yw . A Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt . Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt , Myfi yw , hwy a aethant yn wysg eu cefnau , ac a syrthiasant i lawr . Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn , Pwy yr ydych yn ei geisio ? A hwy a ddywedasant , Iesu o Nasareth . Yr Iesu a atebodd , Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw : am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio , gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith : Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe , O’r rhai a roddaist i mi , ni chollais i’r un . Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf , a’i tynnodd ef , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef : ac enw’r gwas oedd Malchus . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr , Dod dy gleddyf yn y wain : y cwpan a roddes y Tad i mi , onid yfaf ef ? Yna’r fyddin , a’r milwriad , a swyddogion yr Iddewon , a ddaliasant yr Iesu , ac a’i rhwymasant ef , Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf : canys chwegrwn Caiaffas , yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno , ydoedd efe . A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon , mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl . Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu , Simon Pedr , a disgybl arall : a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad , ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad . A Phedr a safodd wrth y drws allan . Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad , a aeth allan , ac a ddywedodd wrth y ddrysores , ac a ddug Pedr i mewn . Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr , Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn ? Dywedodd yntau , Nac wyf . A’r gweision a’r swyddogion , gwedi gwneuthur tân glo , oherwydd ei bod hi’n oer , oeddynt yn sefyll , ac yn ymdwymo : ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll , ac yn ymdwymo . A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion , ac am ei athrawiaeth . Yr Iesu a atebodd iddo , Myfi a leferais yn eglur wrth y byd : yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog , ac yn y deml , lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser ; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim . Paham yr wyt ti yn gofyn i mi ? gofyn i’r rhai a’m clywsant , beth a ddywedais wrthynt : wele , y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i . Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw , a roddes gernod i’r Iesu , gan ddywedyd , Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad ? Yr Iesu a atebodd iddo , Os drwg y dywedais , tystiolaetha o’r drwg ; ac os da , paham yr wyt yn fy nharo i ? Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad . A Simon Pedr oedd yn sefyll , ac yn ymdwymo . Hwythau a ddywedasant wrtho , Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef ? Yntau a wadodd , ac a ddywedodd , Nac wyf . Dywedodd un o weision yr archoffeiriad , ( câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust , ) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd ? Yna Pedr a wadodd drachefn ; ac yn y man y canodd y ceiliog . Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy : a’r bore ydoedd hi ; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy , rhag eu halogi ; eithr fel y gallent fwyta’r pasg . Yna Peilat a aeth allan atynt , ac a ddywedodd , Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn ? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr , ni thraddodasem ni ef atat ti . Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt , Cymerwch chwi ef , a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi . Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho , Nid cyfreithlon i ni ladd neb : Fel y cyflawnid gair yr Iesu , yr hwn a ddywedasai efe , gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw . Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy , ac a alwodd yr Iesu , ac a ddywedodd wrtho , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Yr Iesu a atebodd iddo , Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn , ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi ? Peilat a atebodd , Ai Iddew ydwyf fi ? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi . Beth a wnaethost ti ? Yr Iesu a atebodd , Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn . Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth , fy ngweision i a ymdrechent , fel na’m rhoddid i’r Iddewon : ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma . Yna y dywedodd Peilat wrtho , Wrth hynny ai Brenin wyt ti ? Yr Iesu a atebodd , Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi . Er mwyn hyn y’m ganed , ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd , fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd . Pob un a’r sydd o’r gwirionedd , sydd yn gwrando fy lleferydd i . Peilat a ddywedodd wrtho , Beth yw gwirionedd ? Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon , ac a ddywedodd wrthynt , Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef . Eithr y mae gennych chwi ddefod , i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg : a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon ? Yna y llefasant oll drachefn , gan ddywedyd , Nid hwnnw , ond Barabbas . A’r Barabbas hwnnw oedd leidr . Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu , ac a’i fflangellodd ef . A’r milwyr a blethasant goron o ddrain , ac a’i gosodasant ar ei ben ef , ac a roesant wisg o borffor amdano ; Ac a ddywedasant , Henffych well , Brenin yr Iddewon ; ac a roesant iddo gernodiau . Peilat gan hynny a aeth allan drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi , fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai . Yna y daeth yr Iesu allan , yn arwain y goron ddrain , a’r wisg borffor . A Pheilat a ddywedodd wrthynt , Wele’r dyn . Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion , pan welsant ef , a lefasant , gan ddywedyd , Croeshoelia , croeshoelia ef . Peilat a ddywedodd wrthynt , Cymerwch chwi ef , a chroeshoeliwch : canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo . Yr Iddewon a atebasant iddo , Y mae gennym ni gyfraith , ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw , am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw . A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw , efe a ofnodd yn fwy ; Ac a aeth drachefn i’r dadleudy , ac a ddywedodd wrth yr Iesu , O ba le yr wyt ti ? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo . Yna Peilat a ddywedodd wrtho , Oni ddywedi di wrthyf fi ? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di , a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd ? Yr Iesu a atebodd , Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi , oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod : am hynny yr hwn a’m traddodes i ti , sydd fwy ei bechod . O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd : ond yr Iddewon a lefasant , gan ddywedyd , Os gollyngi di hwn yn rhydd , nid wyt ti yn garedig i Gesar . Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin , y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar . Yna Peilat , pan glybu’r ymadrodd hwn , a ddug allan yr Iesu ; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc , yn y lle a elwir y Palmant , ac yn Hebraeg , Gabbatha . A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi , ac ynghylch y chweched awr : ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon , Wele eich Brenin . Eithr hwy a lefasant , Ymaith ag ef , ymaith ag ef , croeshoelia ef . Peilat a ddywedodd wrthynt , A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi ? A’r archoffeiriaid a atebasant , Nid oes i ni frenin ond Cesar . Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio . A hwy a gymerasant yr Iesu , ac a’i dygasant ymaith . Ac efe gan ddwyn ei groes , a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog , ac a elwir yn Hebraeg , Golgotha : Lle y croeshoeliasant ef , a dau eraill gydag ef , un o bob tu , a’r Iesu yn y canol . A Pheilat a ysgrifennodd deitl , ac a’i dododd ar y groes . A’r ysgrifen oedd , IESU O NASARETH , BRENIN YR IDDEWON . Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon ; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu : ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg , Groeg , a Lladin . Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat , Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon ; eithr dywedyd ohono ef , Brenin yr Iddewon ydwyf fi . Peilat a atebodd , Yr hyn a ysgrifennais , a ysgrifennais . Yna y milwyr , wedi iddynt groeshoelio’r Iesu , a gymerasant ei ddillad ef , ac a wnaethant bedair rhan , i bob milwr ran ; a’i bais ef : a’i bais ef oedd ddiwnïad , wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll . Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd , Na thorrwn hi , ond bwriwn goelbrennau amdani , eiddo pwy fydd hi : fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd , Rhanasant fy nillad yn eu mysg , ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau . A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn . Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu , ei fam ef , a chwaer ei fam ef , Mair gwraig Cleoffas , a Mair Magdalen . Yr Iesu gan hynny , pan welodd ei fam , a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw , a ddywedodd wrth ei fam , O wraig , wele dy fab . Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl , Wele dy fam . Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref . Wedi hynny yr Iesu , yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian , fel y cyflawnid yr ysgrythur , a ddywedodd , Y mae syched arnaf . Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr ; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr , ac a’i rhoddasant ynghylch isop , ac a’i dodasant wrth ei enau ef . Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr , efe a ddywedodd , Gorffennwyd : a chan ogwyddo ei ben , efe a roddes i fyny yr ysbryd . Yr Iddewon gan hynny , fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth , oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl , ( canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw , ) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt , a’u tynnu i lawr . Yna y milwyr a ddaethant , ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf , a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef . Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu , pan welsant ef wedi marw eisoes , ni thorasant ei esgeiriau ef . Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon : ac yn y fan daeth allan waed a dwfr . A’r hwn a’i gwelodd , a dystiolaethodd ; a gwir yw ei dystiolaeth : ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir , fel y credoch chwi . Canys y pethau hyn a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr ysgrythur , Ni thorrir asgwrn ohono . A thrachefn , ysgrythur arall sydd yn dywedyd , Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant . Ac ar ôl hyn , Joseff o Arimathea ( yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu , eithr yn guddiedig , rhag ofn yr Iddewon ) a ddeisyfodd ar Peilat , gael tynnu i lawr gorff yr Iesu : a Pheilat a ganiataodd iddo . Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu . A daeth Nicodemus hefyd , ( yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos , ) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg , tua chan pwys . Yna y cymerasant gorff yr Iesu , ac a’i rhwymasant mewn llieiniau , gydag aroglau , fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu . Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef , yr oedd gardd ; a bedd newydd yn yr ardd , yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed . Ac yno , rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon , am fod y bedd hwnnw yn agos , y rhoddasant yr Iesu . Y dydd cyntaf o’r wythnos , Mair Magdalen a ddaeth y bore , a hi eto’n dywyll , at y bedd ; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd . Yna y rhedodd hi , ac a ddaeth at Simon Pedr , a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu , ac a ddywedodd wrthynt , Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd , ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef . Yna Pedr a aeth allan , a’r disgybl arall , a hwy a ddaethant at y bedd ; Ac a redasant ill dau ynghyd : a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr , ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd . Ac wedi iddo grymu , efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod : er hynny nid aeth efe i mewn . Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef , ac a aeth i mewn i’r bedd , ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod ; A’r napgyn a fuasai am ei ben ef , wedi ei osod , nid gyda’r llieiniau , ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall . Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn , yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd ; ac a welodd , ac a gredodd . Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur , fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw . Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt . Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan , yn wylo : ac fel yr oedd hi yn wylo , hi a ymostyngodd i’r bedd ; Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion , yn eistedd , un wrth ben , ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu . A hwy a ddywedasant wrthi , O wraig , paham yr wyt ti yn wylo ? Hithau a ddywedodd wrthynt , Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith , ac nas gwn pa le y dodasant ef . Ac wedi dywedyd ohoni hyn , hi a droes drach ei chefn , ac a welodd yr Iesu yn sefyll : ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , O wraig , paham yr wyt ti yn wylo ? pwy yr wyt ti yn ei geisio ? Hithau , yn tybied mai’r garddwr oedd efe , a ddywedodd wrtho , Syr , os tydi a’i dygaist ef , dywed i mi pa le y dodaist ef , a myfi a’i cymeraf ef ymaith . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Mair . Hithau a droes , ac a ddywedodd wrtho , Rabboni ; yr hyn yw dywedyd , Athro . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Na chyffwrdd â mi ; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad : eithr dos at fy mrodyr , a dywed wrthynt , Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau , a’m Duw i a’ch Duw chwithau . Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion , weled ohoni hi yr Arglwydd , a dywedyd ohono y pethau hyn iddi . Yna , a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos , a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon , daeth yr Iesu , ac a safodd yn y canol , ac a ddywedodd wrthynt , Tangnefedd i chwi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys . Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn , Tangnefedd i chwi : megis y danfonodd y Tad fi , yr wyf finnau yn eich danfon chwi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a anadlodd arnynt , ac a ddywedodd wrthynt , Derbyniwch yr Ysbryd Glân . Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau , maddeuir iddynt ; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch , hwy a ataliwyd . Eithr Thomas , un o’r deuddeg , yr hwn a elwir Didymus , nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu . Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho , Ni a welsom yr Arglwydd . Yntau a ddywedodd wrthynt , Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion , a dodi fy mys yn ôl yr hoelion , a dodi fy llaw yn ei ystlys ef , ni chredaf fi . Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn , a Thomas gyda hwynt . Yna yr Iesu a ddaeth , a’r drysau yn gaead , ac a safodd yn y canol , ac a ddywedodd , Tangnefedd i chwi . Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas , Moes yma dy fys , a gwêl fy nwylo ; ac estyn dy law , a dod yn fy ystlys : ac na fydd anghredadun , ond credadun . A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Fy Arglwydd , a’m Duw . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Am i ti fy ngweled , Thomas , y credaist : bendigedig yw y rhai ni welsant , ac a gredasant . A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion , y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn . Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd , fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist , Mab Duw ; a chan gredu , y caffoch fywyd yn ei enw ef . Gwedi’r pethau hyn , yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias : ac fel hyn yr ymddangosodd . Yr oedd ynghyd Simon Pedr , a Thomas yr hwn a elwir Didymus , a Nathanael o Gana yng Ngalilea , a meibion Sebedeus , a dau eraill o’i ddisgyblion ef . Dywedodd Simon Pedr wrthynt , Yr wyf fi yn myned i bysgota . Dywedasant wrtho , Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi . A hwy a aethant allan , ac a ddringasant i long yn y man : a’r nos honno ni ddaliasant ddim . A phan ddaeth y bore weithian , safodd yr Iesu ar y lan ; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , O blant , a oes gennych ddim bwyd ? Hwythau a atebasant iddo , Nac oes . Yntau a ddywedodd wrthynt , Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong , a chwi a gewch . Hwy a fwriasant gan hynny ; ac ni allent bellach ei thynnu , gan y lliaws pysgod . Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr , Yr Arglwydd yw . Yna Simon Pedr , pan glybu mai yr Arglwydd oedd , a wregysodd ei amwisg , ( canys noeth oedd efe , ) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr . Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong ( oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir , ond megis dau can cufydd , ) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod . A chyn gynted ag y daethant i dir , hwy a welent dân o farwor wedi ei osod , a physgod wedi eu dodi arno , a bara . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron . Simon Pedr a esgynnodd , ac a dynnodd y rhwyd i dir , yn llawn o bysgod mawrion , cant a thri ar ddeg a deugain : ac er bod cymaint , ni thorrodd y rhwyd . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Deuwch , ciniewch . Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo , Pwy wyt ti ? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd . Yna y daeth yr Iesu , ac a gymerth fara , ac a’i rhoddes iddynt , a’r pysgod yr un modd . Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion , wedi iddo gyfodi o feirw . Yna gwedi iddynt giniawa , yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn ? Dywedodd yntau wrtho , Ydwyf , Arglwydd ; ti a wyddost fy mod yn dy garu di . Dywedodd yntau wrtho , Portha fy ŵyn . Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i ? Dywedodd yntau wrtho , Ydwyf , Arglwydd ; ti a wyddost fy mod yn dy garu di . Dywedodd yntau wrtho , Bugeilia fy nefaid . Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i ? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith , A wyt ti yn fy ngharu i ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , ti a wyddost bob peth ; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Portha fy nefaid . Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Pan oeddit ieuanc , ti a’th wregysaist dy hun , ac a rodiaist lle y mynnaist : eithr pan elech yn hen , ti a estynni dy ddwylo , ac arall a’th wregysa , ac a’th arwain lle ni fynnit . A hyn a ddywedodd efe , gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . A Phedr a drodd , ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu , yn canlyn , ( yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper , ac a ddywedasai , Pwy , Arglwydd , yw’r hwn a’th fradycha di ? ) Pan welodd Pedr hwn , efe a ddywedodd wrth yr Iesu , Arglwydd , ond beth a wna hwn ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf , beth yw hynny i ti ? canlyn di fyfi . Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr , na fyddai’r disgybl hwnnw farw : ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw ; ond , Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf , beth yw hynny i ti ? Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn , ac a ysgrifennodd y pethau hyn ; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir . Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu , y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un , nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid . Amen . Y traethawd cyntaf a wneuthum , O Theoffilus , am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu , Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai : I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef , trwy lawer o arwyddion sicr ; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod , a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw . Ac wedi ymgynnull gyda hwynt , efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem , eithr disgwyl am addewid y Tad , yr hwn , eb efe , a glywsoch gennyf fi . Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr ; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân , cyn nemor o ddyddiau . Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd , hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau , y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun . Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch ; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem , ac yn holl Jwdea , a Samaria , ac hyd eithaf y ddaear . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , a hwynt‐hwy yn edrych , efe a ddyrchafwyd i fyny ; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt . Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef , ac efe yn myned i fyny , wele , dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen ; Y rhai hefyd a ddywedasant , Chwi wŷr o Galilea , paham y sefwch yn edrych tua’r nef ? yr Iesu hwn , yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef , a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef . Yna y troesant i Jerwsalem , o’r mynydd a elwir Olewydd , yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem , sef taith diwrnod Saboth . Ac wedi eu dyfod i mewn , hwy a aethant i fyny i oruwchystafell , lle yr oedd Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac Andreas , Philip , a Thomas , Bartholomew , a Mathew , Iago mab Alffeus , a Simon Selotes , a Jwdas brawd Iago , yn aros . Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil , gyda’r gwragedd , a Mair mam yr Iesu , a chyda’i frodyr ef . Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion , ac a ddywedodd , ( a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant , ) Ha wŷr frodyr , yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas , yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu : Canys efe a gyfrifwyd gyda ni , ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon . A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd ; ac wedi ymgrogi , a dorrodd yn ei ganol , a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan . A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem , hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy , Aceldama , hynny yw , Maes y gwaed . Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau , Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch , ac na bydded a drigo ynddi : a chymered arall ei esgobaeth ef . Am hynny y mae’n rhaid , o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni , Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni , bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef . A hwy a osodasant ddau gerbron , Joseff , yr hwn a enwid Barsabas , ac a gyfenwid Jwstus , a Matheias . A chan weddïo , hwy a ddywedasant , Tydi , Arglwydd , yr hwn a wyddost galonnau pawb , dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist , I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon , a’r apostoliaeth , o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas , i fyned i’w le ei hun . A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt : ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren ; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg . Ac wedi dyfod dydd y Pentecost , yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle . Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef , megis gwynt nerthol yn rhuthro , ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd . Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân , ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt . A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân , ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill , megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd . Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem . Iddewon , gwŷr bucheddol , o bob cenedl dan y nef . Ac wedi myned y gair o hyn , daeth y lliaws ynghyd , ac a drallodwyd , oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun . Synnodd hefyd ar bawb , a rhyfeddu a wnaethant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Wele , onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru ? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun , yn yr hon y’n ganed ni ? Parthiaid , a Mediaid , ac Elamitiaid , a thrigolion Mesopotamia , a Jwdea , a Chapadocia , Pontus , ac Asia , Phrygia , a Phamffylia , yr Aifft , a pharthau Libya , yr hon sydd gerllaw Cyrene , a dieithriaid o Rufeinwyr , Iddewon , a phroselytiaid , Cretiaid , ac Arabiaid , yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw . A synasant oll , ac a ameuasant , gan ddywedyd y naill wrth y llall , Beth a all hyn fod ? Ac eraill , gan watwar , a ddywedasant , Llawn o win melys ydynt . Eithr Pedr , yn sefyll gyda’r un ar ddeg , a gyfododd ei leferydd , ac a ddywedodd wrthynt , O wŷr o Iddewon , a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem , bydded hysbysol hyn i chwi , a chlustymwrandewch â’m geiriau : Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon , fel yr ydych chwi yn tybied ; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi . Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel ; A bydd yn y dyddiau diwethaf , medd Duw , y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd : a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant , a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau , a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion : Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny ; a hwy a broffwydant : A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod , ac arwyddion yn y ddaear isod ; gwaed , a thân , a tharth mwg . Yr haul a droir yn dywyllwch , a’r lloer yn waed , cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod . A bydd , pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd , a fydd cadwedig . Ha wŷr Israel , clywch y geiriau hyn ; Iesu o Nasareth , gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi , trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion , y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi , megis ag y gwyddoch chwithau : Hwn , wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw , a gymerasoch chwi , a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch , ac a laddasoch : Yr hwn a gyfododd Duw , gan ryddhau gofidiau angau : canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo . Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano , Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad ; canys ar fy neheulaw y mae , fel na’m hysgoger . Am hynny y llawenychodd fy nghalon , ac y gorfoleddodd fy nhafod ; ie , a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith : Am na adewi fy enaid yn uffern , ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth . Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd : ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd . Ha wŷr frodyr , y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd , ei farw ef a’i gladdu , ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn . Am hynny , ac efe yn broffwyd , yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw , Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd , y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef : Ac efe yn rhagweled , a lefarodd am atgyfodiad Crist , na adawyd ei enaid ef yn uffern , ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth . Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny ; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion . Am hynny , wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw , ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân , efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed . Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd : ond y mae efe yn dywedyd ei hun , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed . Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel , ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist , yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi . Hwythau , wedi clywed hyn , a ddwysbigwyd yn eu calon , ac a ddywedasant wrth Pedr , a’r apostolion eraill , Ha wŷr frodyr , beth a wnawn ni ? A Phedr a ddywedodd wrthynt , Edifarhewch , a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist , er maddeuant pechodau ; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân . Canys i chwi y mae’r addewid , ac i’ch plant , ac i bawb ymhell , cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato . Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe , gan ddywedyd , Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon . Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd ; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau . Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion , ac yn torri bara , ac mewn gweddïau . Ac ofn a ddaeth ar bob enaid : a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion . A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man , a phob peth ganddynt yn gyffredin ; A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da , ac a’u rhanasant i bawb , fel yr oedd yr eisiau ar neb . A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml , ac yn torri bara o dŷ i dŷ , a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon , Gan foli Duw , a chael ffafr gan yr holl bobl . A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig . Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi , sef y nawfed . A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid , yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml , yr hwn a elwid Prydferth , i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml . Yr hwn , pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml , a ddeisyfodd gael elusen . A Phedr yn dal sylw arno , gydag Ioan , a ddywedodd , Edrych arnom ni . Ac efe a ddaliodd sylw arnynt , gan obeithio cael rhywbeth ganddynt . Yna y dywedodd Pedr , Arian ac aur nid oes gennyf ; eithr yr hyn sydd gennyf , hynny yr wyf yn ei roddi i ti : Yn enw Iesu Grist o Nasareth , cyfod a rhodia . A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw , efe a’i cyfododd ef i fyny ; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd . A chan neidio i fyny , efe a safodd , ac a rodiodd , ac a aeth gyda hwynt i’r deml , dan rodio , a neidio , a moli Duw . A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio , ac yn moli Duw . Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod , mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml : a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo . Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan , yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon . A phan welodd Pedr , efe a atebodd i’r bobl , Ha wŷr Israeliaid , beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn ? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni , fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio ? Duw Abraham , ac Isaac , a Jacob , Duw ein tadau ni , a ogoneddodd ei Fab Iesu , yr hwn a draddodasoch chwi , ac a’i gwadasoch gerbron Peilat , pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd . Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn , ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog ; A Thywysog y bywyd a laddasoch , yr hwn a gododd Duw o feirw ; o’r hyn yr ydym ni yn dystion . A’i enw ef , trwy ffydd yn ei enw ef , a nerthodd y dyn yma , a welwch ac a adwaenoch chwi : a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef , a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll . Ac yn awr , frodyr , mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch , megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd . Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi , y dioddefai Crist , a gyflawnodd efe fel hyn . Edifarhewch gan hynny , a dychwelwch , fel y dileer eich pechodau , pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd ; Ac yr anfono efe Iesu Grist , yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi : Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn , hyd amseroedd adferiad pob peth , y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed . Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau , Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr , megis myfi : arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych . A bydd , pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw , a lwyr ddifethir o blith y bobl . A’r holl broffwydi hefyd , o Samuel ac o’r rhai wedi , cynifer ag a lefarasant , a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn . Chwychwi ydych blant y proffwydi , a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni , gan ddywedyd wrth Abraham , Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear . Duw , gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf , gan eich bendithio chwi , trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni . Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl , yr offeiriaid , a blaenor y deml , a’r Sadwceaid , a ddaethant arnynt hwy ; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl , ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw . A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy , ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth : canys yr oedd hi yn awr yn hwyr . Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant : a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil . A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy , a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion , ymgynnull i Jerwsalem , Ac Annas yr archoffeiriad , a Chaiaffas , ac Ioan , ac Alexander , a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad . Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol , hwy a ofynasant , Trwy ba awdurdod , neu ym mha enw , y gwnaethoch chwi hyn ? Yna Pedr , yn gyflawn o’r Ysbryd Glân , a ddywedodd wrthynt , Chwychwi benaethiaid y bobl , a henuriaid Israel , Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf , sef pa wedd yr iachawyd ef ; Bydded hysbys i chwi oll , ac i bawb o bobl Israel , mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth , yr hwn a groeshoeliasoch chwi , yr hwn a gyfododd Duw o feirw , trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi . Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr , yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl . Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall : canys nid oes enw arall dan y nef , wedi ei roddi ymhlith dynion , trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig . A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan , a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt , hwy a ryfeddasant ; a hwy a’u hadwaenent , eu bod hwy gyda’r Iesu . Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt , nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny . Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa , hwy a ymgyngorasant â’i gilydd , Gan ddywedyd , Beth a wnawn ni i’r dynion hyn ? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy , hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem , ac nis gallwn ni ei wadu . Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl , gan fygwth bygythiwn hwy , na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn . A hwy a’u galwasant hwynt , ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim , ac na ddysgent yn enw yr Iesu . Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt , ac a ddywedasant , Ai cyfiawn yw gerbron Duw , wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw , bernwch chwi . Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom . Eithr wedi eu bygwth ymhellach , hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion , heb gael dim i’w cosbi hwynt , oblegid y bobl : canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid . Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed , ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth . A hwythau , wedi eu gollwng ymaith , a ddaethant at yr eiddynt , ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt . Hwythau pan glywsant , o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw , ac a ddywedasant , O Arglwydd , tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef , a’r ddaear , a’r môr , ac oll sydd ynddynt ; Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân , yng ngenau dy was Dafydd , a ddywedaist , Paham y terfysgodd y cenhedloedd , ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer ? Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny , a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd , yn erbyn yr Arglwydd , ac yn erbyn ei Grist ef . Canys mewn gwirionedd , yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu , yr hwn a eneiniaist ti , Herod a Phontius Peilat , gyda’r Cenhedloedd , a phobl Israel , I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur . Ac yn awr , Arglwydd , edrych ar eu bygythion hwy , a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder ; Trwy estyn ohonot dy law i iacháu , ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu . Ac wedi iddynt weddïo , siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo ; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân , a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus . A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon , ac un enaid ; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan , eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin . A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu : a gras mawr oedd arnynt hwy oll . Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy : oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai , a’u gwerthasant , ac a ddygasant werth y pethau a werthasid , Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion : a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno . A Joseff , yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion ( yr hyn o’i gyfieithu yw , Mab diddanwch , ) yn Lefiad , ac yn Gypriad o genedl , A thir ganddo , a’i gwerthodd , ac a ddug yr arian , ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion . Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig , a werthodd dir , Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth , a’i wraig hefyd o’r gyfrinach , ac a ddug ryw gyfran , ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion . Eithr Pedr a ddywedodd , Ananeias , paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân , ac i ddarnguddio peth o werth y tir ? Tra ydoedd yn aros , onid i ti yr oedd yn aros ? ac wedi ei werthu , onid oedd yn dy feddiant di ? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon ? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion , ond wrth Dduw . Ac Ananeias , pan glybu’r geiriau hyn , a syrthiodd i lawr , ac a drengodd . A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn . A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant , ac a’i cymerasant ef , ac a’i dygasant allan , ac a’i claddasant . A bu megis ysbaid tair awr , a’i wraig ef , heb wybod y peth a wnaethid , a ddaeth i mewn . A Phedr a atebodd iddi , Dywed di i mi , Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir ? Hithau a ddywedodd , Ie , er cymaint . A Phedr a ddywedodd wrthi , Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd ? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws , a hwy a’th ddygant dithau allan . Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a drengodd : a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn , a’i cawsant hi yn farw ; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan , hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr . A bu ofn mawr ar yr holl eglwys , ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn . A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl ; ( ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon . Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt : ond y bobl oedd yn eu mawrhau . A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd , lliaws o wŷr a gwragedd hefyd : ) Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd , a’u gosod ar welyau a glythau , fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr , pan ddelai heibio , rai ohonynt . A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem , gan ddwyn rhai cleifion , a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan ; y rhai a iachawyd oll . A’r archoffeiriad a gyfododd , a’r holl rai oedd gydag ef , yr hon yw heresi’r Sadwceaid , ac a lanwyd o genfigen , Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion , ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin . Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar , ac a’u dug hwynt allan , ac a ddywedodd , Ewch , sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon . A phan glywsant , hwy a aethant yn fore i’r deml , ac a athrawiaethasant . Eithr daeth yr archoffeiriad , a’r rhai oedd gydag ef , ac a alwasant ynghyd y cyngor , a holl henuriaid plant yr Israel , ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron . A’r swyddogion , pan ddaethant , ni chawsant hwynt yn y carchar ; eithr hwy a ddychwelasant , ac a fynegasant , Gan ddywedyd , Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf , a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau ; eithr pan agorasom , ni chawsom neb i mewn . A phan glybu’r archoffeiriad , a blaenor y deml , a’r offeiriaid pennaf , yr ymadroddion hyn , amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn . Yna y daeth un , ac a fynegodd iddynt , gan ddywedyd , Wele , y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar , yn sefyll yn y deml , ac yn dysgu y bobl . Yna y blaenor , gyda’r swyddogion , a aeth , ac a’u dug hwy heb drais ; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl , rhag eu llabyddio ; Ac wedi eu dwyn , hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor : a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt , Gan ddywedyd , Oni orchmynasom ni , gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn ? ac wele , chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth , ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn . A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant , Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion . Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu , yr hwn a laddasoch chwi , ac a groeshoeliasoch ar bren . Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw , yn Dywysog , ac yn Iachawdwr , i roddi edifeirwch i Israel , a maddeuant pechodau . A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn , a’r Ysbryd Glân hefyd , yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef . A phan glywsant hwy hynny , hwy a ffromasant , ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt . Eithr rhyw Pharisead a’i enw Gamaliel , doctor o’r gyfraith , parchedig gan yr holl bobl , a gyfododd i fyny yn y cyngor , ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan ; Ac a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr o Israel , edrychwch arnoch eich hunain , pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn . Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny , gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un ; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr , ynghylch pedwar cant : yr hwn a laddwyd , a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd , ac a wnaed yn ddiddim . Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead , yn nyddiau’r dreth ; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl : ac yntau hefyd a ddarfu amdano , a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd . Ac yr awron meddaf i chwi , Ciliwch oddi wrth y dynion hyn , a gadewch iddynt : oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn , neu’r weithred hon , fe a ddiddymir ; Eithr os o Dduw y mae , ni ellwch chwi ei ddiddymu , rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw . A chytuno ag ef a wnaethant . Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt , a’u curo , hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu , ac a’u gollyngasant ymaith . A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen , am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef . A beunydd yn y deml , ac o dŷ i dŷ , ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist . Ac yn y dyddiau hynny , a’r disgyblion yn amlhau , bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid , am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol . Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion , ac a ddywedasant , Nid yw gymesur i ni adael gair Duw , a gwasanaethu byrddau . Am hynny , frodyr , edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair , yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb , y rhai a osodom ar hyn o orchwyl . Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair . A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws : a hwy a etholasant Steffan , gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân , a Philip , a Phrochorus , a Nicanor , a Thimon , a Pharmenas , a Nicolas , proselyt o Antiochia : Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion ; ac wedi iddynt weddïo , hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy . A gair Duw a gynyddodd ; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr , a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd . Eithr Steffan , yn llawn ffydd a nerth , a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl . Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid , a’r Cyreniaid , a’r Alexandriaid , a’r rhai o Cilicia , ac o Asia , gan ymddadlau â Steffan : Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru . Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd , Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw . A hwy a gynyrfasant y bobl , a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion ; a chan ddyfod arno , a’i cipiasant ef , ac a’i dygasant i’r gynghorfa ; Ac a osodasant gau dystion , y rhai a ddywedent , Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn , a’r gyfraith : Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd , y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma , ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni . Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno , hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel . Yna y dywedodd yr archoffeiriad , A ydyw’r pethau hyn felly ? Yntau a ddywedodd , Ha wŷr , frodyr , a thadau , gwrandewch : Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham , pan oedd efe ym Mesopotamia , cyn iddo drigo yn Charran ; Ac a ddywedodd wrtho , Dos allan o’th wlad , ac oddi wrth dy dylwyth , a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti . Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid , ac y preswyliodd yn Charran : ac oddi yno , wedi marw ei dad , efe a’i symudodd ef i’r tir yma , yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon . Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo , naddo led troed ; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu , ac i’w had ar ei ôl , pryd nad oedd plentyn iddo . A Duw a lefarodd fel hyn ; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr , a hwy a’i caethiwant ef , ac a’i drygant , bedwar can mlynedd . Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy , a farnaf fi , medd Duw : ac wedi hynny y deuant allan , ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn . Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad . Felly Abraham a genhedlodd Isaac , ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd : ac Isaac a genhedlodd Jacob ; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch . A’r patrieirch , gan genfigennu , a werthasant Joseff i’r Aifft : ond yr oedd Duw gydag ef , Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau , ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft ; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft , ac ar ei holl dŷ . Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan , a gorthrymder mawr ; a’n tadau ni chawsant luniaeth . Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft , efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf . A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr ; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo . Yna yr anfonodd Joseff , ac a gyrchodd ei dad Jacob , a’i holl genedl , pymtheg enaid a thrigain . Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft , ac a fu farw , efe a’n tadau hefyd . A hwy a symudwyd i Sichem , ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem . A phan nesaodd amser yr addewid , yr hwn a dyngasai Duw i Abraham , y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft , Hyd oni chyfododd brenin arall , yr hwn nid adwaenai mo Joseff . Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni , ac a ddrygodd ein tadau , gan beri iddynt fwrw allan eu plant , fel nad epilient . Ar yr hwn amser y ganwyd Moses ; ac efe oedd dlws i Dduw , ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad . Ac wedi ei fwrw ef allan , merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny , ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun . A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid , ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd . A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed , daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel . A phan welodd efe un yn cael cam , efe a’i hamddiffynnodd ef , ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid , gan daro’r Eifftiwr . Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall , fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef ; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant . A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt , a hwy yn ymrafaelio , ac a’u hanogodd hwynt i heddychu , gan ddywedyd , Ha wŷr , brodyr ydych chwi ; paham y gwnewch gam â’ch gilydd ? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog , a’i cilgwthiodd ef , gan ddywedyd , Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni ? A leddi di fi , y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe ? A Moses a ffodd ar y gair hwn , ac a fu ddieithr yn nhir Midian ; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion . Ac wedi cyflawni deugain mlynedd , yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina , angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth . A Moses , pan welodd , a fu ryfedd ganddo y golwg : a phan nesaodd i ystyried , daeth llef yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Myfi yw Duw dy dadau , Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob . A Moses , wedi myned yn ddychrynedig , ni feiddiai ystyried . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho , Datod dy esgidiau oddi am dy draed ; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd . Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft , a mi a glywais eu griddfan , ac a ddisgynnais i’w gwared hwy . Ac yn awr tyred , mi a’th anfonaf di i’r Aifft . Y Moses yma , yr hwn a wrthodasant hwy , gan ddywedyd , Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr ? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr , trwy law yr angel , yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth . Hwn a’u harweiniodd hwynt allan , gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft , ac yn y môr coch , ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd . Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel , Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi : arno ef y gwrandewch . Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch , gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina , ac â’n tadau ni ; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni . Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo , eithr cilgwthiasant ef , a throesant yn eu calonnau i’r Aifft , Gan ddywedyd wrth Aaron , Gwna i ni dduwiau i’n blaenori : oblegid y Moses yma , yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft , ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo . A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny , ac a offrymasant aberth i’r eilun , ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun . Yna y trodd Duw , ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef ; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi , A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch , chwi tŷ Israel ? A chwi a gymerasoch babell Moloch , a seren eich duw Remffan , lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli : minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon . Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch , fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses , am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai . Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd , a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd , y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau , hyd yn nyddiau Dafydd ; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw , ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob . Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef . Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo ; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd , Y nef yw fy ngorseddfainc , a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed . Pa dŷ a adeiledwch i mi ? medd yr Arglwydd ; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i ? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll ? Chwi rai gwargaled , a dienwaededig o galon ac o glustiau , yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân : megis eich tadau , felly chwithau . Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid ? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn , i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion : Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion , ac nis cadwasoch . A phan glywsant hwy’r pethau hyn , hwy a ffromasant yn eu calonnau , ac a ysgyrnygasant ddannedd arno . Ac efe , yn gyflawn o’r Ysbryd Glân , a edrychodd yn ddyfal tua’r nef ; ac a welodd ogoniant Duw , a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw . Ac efe a ddywedodd , Wele , mi a welaf y nefoedd yn agored , a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw . Yna y gwaeddasant â llef uchel , ac a gaeasant eu clustiau , ac a ruthrasant yn unfryd arno , Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas , ac a’i llabyddiasant : a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul . A hwy a labyddiasant Steffan , ac efe yn galw ar Dduw , ac yn dywedyd , Arglwydd Iesu , derbyn fy ysbryd . Ac efe a ostyngodd ar ei liniau , ac a lefodd â llef uchel , Arglwydd , na ddod y pechod hwn yn eu herbyn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a hunodd . A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef . A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem : a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria , ond yr apostolion . A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu , ac a wnaethant alar mawr amdano ef . Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys , gan fyned i mewn i bob tŷ , a chan lusgo allan wŷr a gwragedd , efe a’u rhoddes yng ngharchar . A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair . Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria , ac a bregethodd Grist iddynt . A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip , wrth glywed ohonynt , a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur . Canys ysbrydion aflan , gan lefain â llef uchel , a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt ; a llawer yn gleifion o’r parlys , ac yn gloffion , a iachawyd . Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno . Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon , oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria , gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr : Ar yr hwn yr oedd pawb , o’r lleiaf hyd y mwyaf , yn gwrando , gan ddywedyd , Mawr allu Duw yw hwn . Ac yr oeddynt â’u coel arno , oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion . Eithr pan gredasant i Philip , yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw , ac i enw Iesu Grist , hwy a fedyddiwyd , yn wŷr ac yn wragedd . A Simon yntau hefyd a gredodd ; ac wedi ei fedyddio , a lynodd wrth Philip : a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid . A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem , dderbyn o Samaria air Duw , hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan : Y rhai wedi eu dyfod i waered , a weddiasant drostynt , ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân . ( Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt ; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu . ) Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt , a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân . A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân , efe a gynigiodd iddynt arian , Gan ddywedyd , Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon , fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo , y derbynio efe yr Ysbryd Glân . Eithr Pedr a ddywedodd wrtho , Bydded dy arian gyda thi i ddistryw , am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian . Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn : canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw . Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn , a gweddïa Dduw , a faddeuir i ti feddylfryd dy galon . Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder , ac mewn rhwymedigaeth anwiredd . A Simon a atebodd ac a ddywedodd , Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd , fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch . Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid . Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip , gan ddywedyd , Cyfod , a dos tua’r deau , i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa , yr hon sydd anghyfannedd . Ac efe a gyfododd , ac a aeth . Ac wele , gŵr o Ethiopia , eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid , yr hwn oedd ar ei holl drysor hi , yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli ; Ac oedd yn dychwelyd , ac yn eistedd yn ei gerbyd , ac yn darllen y proffwyd Eseias . A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip , Dos yn nes , a glŷn wrth y cerbyd yma . A Philip a redodd ato , ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias ; ac a ddywedodd , A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen ? Ac efe a ddywedodd , Pa fodd y gallaf , oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i ? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny , ac eistedd gydag ef . A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen , oedd hwn , Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef ; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud , felly nid agorodd efe ei enau : Yn ei ostyngiad , ei farn ef a dynnwyd ymaith : eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef ? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear . A’r eunuch a atebodd Philip , ac a ddywedodd , Atolwg i ti , am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn ? amdano’i hun , ai am ryw un arall ? A Philip a agorodd ei enau , ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno , ac a bregethodd iddo yr Iesu . Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd , hwy a ddaethant at ryw ddwfr . A’r eunuch a ddywedodd , Wele ddwfr ; beth sydd yn lluddias fy medyddio ? A Philip a ddywedodd , Os wyt ti yn credu â’th holl galon , fe a ellir . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw . Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd : a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr , Philip a’r eunuch ; ac efe a’i bedyddiodd ef . A phan ddaethant i fyny o’r dwfr , Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith , ac ni welodd yr eunuch ef mwyach : ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen . Eithr Philip a gaed yn Asotus : a chan dramwy , efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea . A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd , a aeth at yr archoffeiriad , Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus , at y synagogau ; fel os câi efe neb o’r ffordd hon , na gwŷr na gwragedd , y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem . Ac fel yr oedd efe yn ymdaith , bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus : ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef . Ac efe a syrthiodd ar y ddaear , ac a glybu lais yn dywedyd wrtho , Saul , Saul , paham yr wyt yn fy erlid i ? Yntau a ddywedodd , Pwy wyt ti , Arglwydd ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Myfi yw Iesu , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid : caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau . Yntau gan grynu , ac â braw arno , a ddywedodd , Arglwydd , beth a fynni di i mi ei wneuthur ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos i’r ddinas , ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur . A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud , gan glywed y llais , ac heb weled neb . A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear ; a phan agorwyd ei lygaid , ni welai efe neb : eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law , ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus . Ac efe a fu dridiau heb weled , ac ni wnaeth na bwyta nac yfed . Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus , a’i enw Ananeias : a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth , Ananeias . Yntau a ddywedodd , Wele fi , Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos i’r heol a elwir Union , a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul , o Darsus : canys , wele , y mae yn gweddïo ; Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn , ac yn dodi ei law arno , fel y gwelai eilwaith . Yna yr atebodd Ananeias , O Arglwydd , mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn , faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem . Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid , i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Dos ymaith : canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi , i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd , a brenhinoedd , a phlant Israel . Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i . Ac Ananeias a aeth ymaith , ac a aeth i mewn i’r tŷ ; ac wedi dodi ei ddwylo arno , efe a ddywedodd , Y brawd Saul , yr Arglwydd a’m hanfonodd i , ( Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost , ) fel y gwelych drachefn , ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân . Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen : ac efe a gafodd ei olwg yn y man ; ac efe a gyfododd , ac a fedyddiwyd . Ac wedi iddo gymryd bwyd , efe a gryfhaodd . A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau . Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist , mai efe yw Mab Duw . A phawb a’r a’i clybu ef , a synasant , ac a ddywedasant , Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn , ac a ddaeth yma er mwyn hyn , fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid ? Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth , ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus , gan gadarnhau mai hwn yw y Crist . Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau , cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef . Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul : a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos , i’w ladd ef . Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos , ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged . A Saul , wedi ei ddyfod i Jerwsalem , a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion : ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef , heb gredu ei fod ef yn ddisgybl . Eithr Barnabas a’i cymerodd ef , ac a’i dug at yr apostolion , ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd , ac ymddiddan ohono ag ef , ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu . Ac yr oedd efe gyda hwynt , yn myned i mewn ac yn myned allan , yn Jerwsalem . A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu , efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid ; a hwy a geisiasant ei ladd ef . A’r brodyr , pan wybuant , a’i dygasant ef i waered i Cesarea , ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus . Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea , a Galilea , a Samaria , a gawsant heddwch , ac a adeiladwyd ; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd , ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân , hwy a amlhawyd . A bu , a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd , iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda . Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas , er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely , yr hwn oedd glaf o’r parlys . A Phedr a ddywedodd wrtho , Aeneas , y mae Iesu Grist yn dy iacháu di : cyfod , a chyweiria dy wely . Ac efe a gyfododd yn ebrwydd . A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef , ac a ymchwelasant at yr Arglwydd . Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha , ( yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas ; ) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau , y rhai a wnaethai hi . A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf , a marw : ac wedi iddynt ei golchi , hwy a’i dodasant hi mewn llofft . Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa , y disgyblion a glywsant fod Pedr yno ; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef , gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy . A Phedr a gyfododd , ac a aeth gyda hwynt . Ac wedi ei ddyfod , hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft : a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo , ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt . Eithr Pedr , wedi eu bwrw hwy i gyd allan , a dodi ei liniau ar lawr , a weddïodd ; a chan droi at y corff , a ddywedodd , Tabitha , cyfod . A hi a agorodd ei llygaid ; a phan welodd hi Pedr , hi a gododd yn ei heistedd . Ac efe a roddodd ei law iddi , ac a’i cyfododd hi i fyny . Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon , efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw . A hysbys fu trwy holl Jopa ; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd . A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon , barcer . Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea , a’i enw Cornelius , canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd ; Gŵr defosiynol , ac yn ofni Duw , ynghyd â’i holl dŷ , ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl , ac yn gweddïo Duw yn wastadol . Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur , ynghylch y nawfed awr o’r dydd , angel Duw yn dyfod i mewn ato , ac yn dywedyd wrtho , Cornelius . Ac wedi iddo graffu arno , a myned yn ofnus , efe a ddywedodd , Beth sydd , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw . Ac yn awr anfon wŷr i Jopa , a gyr am Simon , yr hwn a gyfenwir Pedr : Y mae efe yn lletya gydag un Simon , barcer ; tŷ’r hwn sydd wrth y môr : efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur . A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius , efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ , a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef : Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl , efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa . A thrannoeth , fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio , ac yn nesáu at y ddinas , Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo , ynghylch y chweched awr . Ac fe ddaeth arno newyn mawr , ac efe a chwenychai gael bwyd . Ac a hwynt yn paratoi iddo , fe syrthiodd arno lewyg : Ac efe a welai y nef yn agored , a rhyw lestr yn disgyn arno , fel llenlliain fawr , wedi rhwymo ei phedair congl , a’i gollwng i waered hyd y ddaear : Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear , a gwylltfilod , ac ymlusgiaid , ac ehediaid y nef . A daeth llef ato , Cyfod , Pedr ; lladd , a bwyta . A Phedr a ddywedodd , Nid felly , Arglwydd : canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan . A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith , Y pethau a lanhaodd Duw , na alw di yn gyffredin . A hyn a wnaed dair gwaith : a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef . Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai ; wele , y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius , wedi ymofyn am dŷ Simon , oeddynt yn sefyll wrth y porth . Ac wedi iddynt alw , hwy a ofynasant a oedd Simon , yr hwn a gyfenwid Pedr , yn lletya yno . Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth , dywedodd yr Ysbryd wrtho , Wele dri wŷr yn dy geisio di . Am hynny cyfod , disgyn , a dos gyda hwynt , heb amau dim : oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt . A Phedr , wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato , a ddywedodd , Wele , myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio : beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd ? Hwythau a ddywedasant , Cornelius y canwriad , gŵr cyfiawn , ac yn ofni Duw , ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon , a rybuddiwyd gan angel sanctaidd , i ddanfon amdanat ti i’w dŷ , ac i wrando geiriau gennyt . Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn , ac a’u lletyodd hwy . A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy , a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef . A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea . Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt ; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd . Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn , Cornelius a gyfarfu ag ef , ac a syrthiodd wrth ei draed , ac a’i haddolodd ef . Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny , gan ddywedyd , Cyfod ; dyn wyf finnau hefyd . A than ymddiddan ag ef , efe a ddaeth i mewn , ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud : eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan . O ba herwydd , ie , yn ddi‐nag , y deuthum , pan anfonwyd amdanaf : yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf . A Chornelius a ddywedodd , Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio , ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ : ac wele , safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair , Ac a ddywedodd , Cornelius , gwrandawyd dy weddi di , a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw . Am hynny anfon i Jopa , a galw am Simon , yr hwn a gyfenwir Pedr : y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon , barcer , yng nglan y môr ; yr hwn , pan ddelo atat , a lefara wrthyt . Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat ; a thi a wnaethost yn dda ddyfod . Yr awron , gan hynny , yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw , i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw . Yna yr agorodd Pedr ei enau , ac a ddywedodd , Yr wyf yn deall mewn gwirionedd , nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb : Ond ym mhob cenedl , y neb sydd yn ei ofni ef , ac yn gweithredu cyfiawnder , sydd gymeradwy ganddo ef . Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel , gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist : ( efe yw Arglwydd pawb oll : ) Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea , gan ddechrau o Galilea , wedi’r bedydd a bregethodd Ioan : Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân , ac â nerth ; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni , ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol : oblegid yr oedd Duw gydag ef . A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon , ac yn Jerwsalem ; yr hwn a laddasant , ac a groeshoeliasant ar bren : Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd , ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg ; Nid i’r bobl oll , eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw , sef i ni , y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw . Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl , a thystiolaethu , mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw . I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth , y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef . A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn , syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair . A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu , cynifer ag a ddaethent gyda Phedr , a synasant , am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd . Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau , ac yn mawrygu Duw . Yna yr atebodd Pedr , A all neb luddias dwfr , fel na fedyddier y rhai hyn , y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau ? Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd . Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau . A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea , a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw . A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem , y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef , Gan ddywedyd , Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig , ac a fwyteaist gyda hwynt . Eithr Pedr a ddechreuodd , ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn , gan ddywedyd , Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo ; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth , Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn , wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl ; a hi a ddaeth hyd ataf fi . Ar yr hon pan edrychais , yr ystyriais , ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear , a gwylltfilod , ac ymlusgiaid , ac ehediaid y nef . Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf , Cyfod , Pedr ; lladd , a bwyta . Ac mi a ddywedais , Nid felly , Arglwydd : canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau . Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef , Y pethau a lanhaodd Duw , na alw di yn gyffredin . A hyn a wnaed dair gwaith : a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn . Ac wele , yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo , wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi . A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt , heb amau dim . A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi ; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr . Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ , yn sefyll ac yn dywedyd wrtho , Anfon wŷr i Jopa , a gyr am Simon , a gyfenwir Pedr : Yr hwn a lefara eiriau wrthyt , trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ . Ac a myfi yn dechrau llefaru , syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt , megis arnom ninnau yn y dechreuad . Yna y cofiais air yr Arglwydd , y modd y dywedasai efe , Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr ; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân . Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau , y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist , pwy oeddwn i , i allu lluddias Duw ? A phan glywsant y pethau hyn , distawu a wnaethant , a gogoneddu Duw , gan ddywedyd , Fe roddes Duw , gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd . A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan , a dramwyasant hyd yn Phenice , a Cyprus , ac Antiochia , heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig . A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene , y rhai wedi dyfod i Antiochia , a lefarasant wrth y Groegiaid , gan bregethu yr Arglwydd Iesu . A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt : a nifer mawr a gredodd , ac a drodd at yr Arglwydd . A’r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn : a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia . Yr hwn pan ddaeth , a gweled gras Duw , a fu lawen ganddo , ac a gynghorodd bawb oll , trwy lwyrfryd calon , i lynu wrth yr Arglwydd . Oblegid yr oedd efe yn ŵr da , ac yn llawn o’r Ysbryd Glân , ac o ffydd : a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd . Yna yr aeth Barnabas i Darsus , i geisio Saul . Ac wedi iddo ei gael , efe a’i dug i Antiochia . A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys , a dysgu pobl lawer ; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia . Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia . Ac un ohonynt , a’i enw Agabus , a gyfododd , ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd , y byddai newyn mawr dros yr holl fyd : yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar . Yna y disgyblion , bob un yn ôl ei allu , a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea : Yr hyn beth hefyd a wnaethant , gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul . Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys . Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf . A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny , efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd . ( A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi . ) Yr hwn , wedi ei ddal , a roddes efe yng ngharchar , ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw ; gan ewyllysio , ar ôl y Pasg , ei ddwyn ef allan at y bobl . Felly Pedr a gadwyd yn y carchar : eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef . A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan , y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr , wedi ei rwymo â dwy gadwyn ; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar . Ac wele , angel yr Arglwydd a safodd gerllaw , a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar : ac efe a drawodd ystlys Pedr , ac a’i cyfododd ef , gan ddywedyd , Cyfod yn fuan . A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo . A dywedodd yr angel wrtho , Ymwregysa , a rhwym dy sandalau . Ac felly y gwnaeth efe . Yna y dywedodd , Bwrw dy wisg amdanat , a chanlyn fi . Ac efe a aeth allan , ac a’i canlynodd ef : ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel ; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd . Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth , hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas , yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun : ac wedi eu myned allan , hwy a aethant ar hyd un heol ; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho . A Phedr , wedi dyfod ato ei hun , a ddywedodd , Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel , a’m gwared i allan o law Herod , ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon . Ac wedi iddo gymryd pwyll , efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan , yr hwn oedd â’i gyfenw Marc , lle yr oedd llawer wedi ymgasglu , ac yn gweddïo . Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth , morwyn a ddaeth i ymwrando , a’i henw Rhode . A phan adnabu hi lais Pedr , nid agorodd hi y porth gan lawenydd ; eithr hi a redodd i mewn , ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth . Hwythau a ddywedasant wrthi , Yr wyt ti’n ynfydu . Hithau a daerodd mai felly yr oedd . Eithr hwy a ddywedasant , Ei angel ef ydyw . A Phedr a barhaodd yn curo : ac wedi iddynt agori , hwy a’i gwelsant ef , ac a synasant . Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi , ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar : ac efe a ddywedodd , Mynegwch y pethau hyn i Iago , ac i’r brodyr . Ac efe a ymadawodd , ac a aeth i le arall . Ac wedi ei myned hi yn ddydd , yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr , pa beth a ddaethai o Pedr . Eithr Herod , pan ei ceisiodd ef , ac heb ei gael , a holodd y ceidwaid , ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith . Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea , ac a arhosodd yno . Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon : a hwy a ddaethant yn gytûn ato ; ac wedi ennill Blastus , yr hwn oedd ystafellydd y brenin , hwy a ddeisyfasant dangnefedd ; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin . Ac ar ddydd nodedig , Herod , gwedi gwisgo dillad brenhinol , a eisteddodd ar orseddfainc , ac a areithiodd wrthynt . A’r bobl a roes floedd , Lleferydd Duw , ac nid dyn ydyw . Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef , am na roesai’r gogoniant i Dduw : a chan bryfed yn ei ysu , efe a drengodd . A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd . A Barnabas a Saul , wedi cyflawni eu gweinidogaeth , a ddychwelasant o Jerwsalem , gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd , yr hwn a gyfenwid Marc . Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia , rai proffwydi ac athrawon ; Barnabas , a Simeon , yr hwn a elwid Niger , a Lwcius o Cyrene , a Manaen , brawdmaeth Herod y tetrarch , a Saul . Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd , ac yn ymprydio , dywedodd yr Ysbryd Glân , Neilltuwch i mi Barnabas a Saul , i’r gwaith y gelwais hwynt iddo . Yna , wedi iddynt ymprydio a gweddïo , a dodi eu dwylo arnynt , hwy a’u gollyngasant ymaith . A hwythau , wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân , a ddaethant i Seleucia ; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus . A phan oeddynt yn Salamis , hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon : ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog . Ac wedi iddynt dramwy trwy’r ynys hyd Paffus , hwy a gawsant ryw swynwr , gau broffwyd o Iddew , a’i enw Bar‐iesu ; Yr hwn oedd gyda’r rhaglaw , Sergius Paulus , gŵr call : hwn , wedi galw ato Barnabas a Saul , a ddeisyfodd gael clywed gair Duw . Eithr Elymas y swynwr , ( canys felly y cyfieithir ei enw ef , ) a’u gwrthwynebodd hwynt , gan geisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddi wrth y ffydd . Yna Saul , ( yr hwn hefyd a elwir Paul , ) yn llawn o’r Ysbryd Glân , a edrychodd yn graff arno ef , Ac a ddywedodd , O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder , tydi mab diafol , a gelyn pob cyfiawnder , oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd ? Ac yn awr wele , y mae llaw yr Arglwydd arnat ti , a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser . Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch ; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law . Yna y rhaglaw , pan welodd yr hyn a wnaethid , a gredodd , gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd . A Phaul a’r rhai oedd gydag ef a aethant ymaith o Paffus , ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia : eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt , ac a ddychwelodd i Jerwsalem . Eithr hwynt‐hwy , wedi ymado o Perga , a ddaethant i Antiochia yn Pisidia , ac a aethant i mewn i’w synagog ar y dydd Saboth , ac a eisteddasant . Ac ar ôl darllen y gyfraith a’r proffwydi , llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt , gan ddywedyd , Ha wŷr , frodyr , od oes gennych air o gyngor i’r bobl , traethwch . Yna y cyfododd Paul i fyny , a chan amneidio â’i law am osteg , a ddywedodd , O wŷr o Israel , a’r rhai ydych yn ofni Duw , gwrandewch . Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni , ac a ddyrchafodd y bobl , pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft , ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan . Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch . Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan , â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy . Ac wedi’r pethau hyn , dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain , efe a roddes farnwyr iddynt , hyd Samuel y proffwyd . Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin : ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis , gŵr o lwyth Benjamin , ddeugain mlynedd . Ac wedi ei ddiswyddo ef , y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt ; am yr hwn y tystiolaethodd , ac y dywedodd , Cefais Dafydd mab Jesse , gŵr yn ôl fy nghalon , yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys . O had hwn , Duw , yn ôl ei addewid , a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu : Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn , fedydd edifeirwch i holl bobl Israel . Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa , efe a ddywedodd , Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i ? Nid myfi yw efe : eithr wele , y mae un yn dyfod ar fy ôl i , yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed . Ha wŷr frodyr , plant o genedl Abraham , a’r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw , i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon . Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem , a’u tywysogion , heb adnabod hwn , a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth , gan ei farnu ef , a’u cyflawnasant . Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau , hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef . Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a’r a ysgrifenasid amdano ef , hwy a’i disgynasant ef oddi ar y pren , ac a’i dodasant mewn bedd . Eithr Duw a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw : Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem , y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl . Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau , ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy , gan iddo atgyfodi’r Iesu : Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm , Fy Mab i ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais . Ac am iddo ei gyfodi ef o’r meirw , nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth , y dywedodd fel hyn , Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd . Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall , Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth . Canys Dafydd , wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw , a hunodd , ac a ddodwyd at ei dadau , ac a welodd lygredigaeth : Eithr yr hwn a gyfododd Duw , ni welodd lygredigaeth . Am hynny bydded hysbys i chwi , ha wŷr frodyr , mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau : A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu , oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt . Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi ; Edrychwch , O ddirmygwyr , a rhyfeddwch , a diflennwch : canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau , gwaith ni chredwch ddim , er i neb ei ddangos i chwi . A phan aeth yr Iddewon allan o’r synagog , y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu’r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf . Ac wedi gollwng y gynulleidfa , llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas ; y rhai gan lefaru wrthynt , a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw . A’r Saboth nesaf , yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw . Eithr yr Iddewon , pan welsant y torfeydd , a lanwyd o genfigen , ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul , gan wrthddywedyd a chablu . Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy , ac a ddywedasant , Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf : eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod , ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol , wele , yr ydym yn troi at y Cenhedloedd . Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni , gan ddywedyd , Mi a’th osodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd , i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear . A’r Cenhedloedd pan glywsant , a fu lawen ganddynt , ac a ogoneddasant air yr Arglwydd : a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol , a gredasant . A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy’r holl wlad . A’r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus , a phenaethiaid y ddinas , ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas , ac a’u bwriasant hwy allan o’u terfynau . Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt , ac a ddaethant i Iconium . A’r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd , ac o’r Ysbryd Glân . Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon , a llefaru felly , fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd . Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd , ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr . Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr , gan fod yn hy yn yr Arglwydd , yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras , ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt . Eithr lliaws y ddinas a rannwyd : a rhai oedd gyda’r Iddewon , a rhai gyda’r apostolion . A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon , ynghyd â’u llywodraethwyr , i’w hamherchi hwy , ac i’w llabyddio , Hwythau a ddeallasant hyn , ac a ffoesant i Lystra a Derbe , dinasoedd o Lycaonia , ac i’r wlad oddi amgylch : Ac yno y buant yn efengylu . Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed , yr hwn oedd gloff o groth ei fam , ac ni rodiasai erioed . Hwn a glybu Paul yn llefaru , yr hwn wrth edrych yn graff arno , a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd , A ddywedodd â llef uchel , Saf ar dy draed yn union . Ac efe a neidiodd i fyny , ac a rodiodd . A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul , hwy a godasant eu llef , gan ddywedyd yn iaith Lycaonia , Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom . A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter ; a Phaul yn Mercurius , oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf . Yna offeiriad Jwpiter , yr hwn oedd o flaen eu dinas , a ddug deirw a garlantau i’r pyrth , ac a fynasai gyda’r bobl aberthu . A’r apostolion Barnabas a Phaul , pan glywsant hynny , a rwygasant eu dillad , ac a neidiasant ymhlith y bobl , gan lefain , A dywedyd , Ha wŷr , paham y gwnewch chwi’r pethau hyn ? dynion hefyd ydym ninnau , yn gorfod goddef fel chwithau , ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw , yr hwn a wnaeth nef a daear , a’r môr , a’r holl bethau sydd ynddynt : Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain . Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst , gan wneuthur daioni , a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni , a thymhorau ffrwythlon , a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd . Ac er dywedyd y pethau hyn , braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt . A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium , a hwy a berswadiasant y bobl ; ac wedi llabyddio Paul , a’i llusgasant ef allan o’r ddinas , gan dybied ei fod ef wedi marw . Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch , efe a gyfododd , ac a aeth i’r ddinas : a thrannoeth efe a aeth allan , efe a Barnabas , i Derbe . Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno , ac ennill llawer o ddisgyblion , hwy a ddychwelasant i Lystra , ac Iconium , ac Antiochia , Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion , a’u cynghori i aros yn y ffydd , ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw . Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys , a gweddïo gydag ymprydiau , hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd , yr hwn y credasent ynddo . Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia , hwy a ddaethant i Pamffylia . Ac wedi pregethu’r gair yn Perga , hwy a ddaethant i waered i Attalia : Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia , o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant . Ac wedi iddynt ddyfod , a chynnull yr eglwys ynghyd , adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy , ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd . Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion . Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea , a ddysgasant y brodyr , gan ddywedyd , Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses , ni ellwch fod yn gadwedig . A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn , hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas , a rhai eraill ohonynt , i fyny i Jerwsalem , at yr apostolion a’r henuriaid , ynghylch y cwestiwn yma . Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys , hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria , gan fynegi troad y Cenhedloedd : a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll . Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys , a chan yr apostolion , a chan yr henuriaid ; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt . Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu , gan ddywedyd , Mai rhaid iddynt eu henwaedu , a gorchymyn cadw deddf Moses . A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma . Ac wedi bod ymddadlau mawr , cyfododd Pedr , ac a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr frodyr , chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i , i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl , a chredu . A Duw , adnabyddwr calonnau , a ddug dystiolaeth iddynt , gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân , megis ag i ninnau : Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt , gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd . Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw , i ddodi iau ar warrau’r disgyblion , yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn ? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist , yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig , yr un modd â hwythau . A’r holl liaws a ddistawodd , ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul , yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy . Ac wedi iddynt ddistewi , atebodd Iago , gan ddywedyd , Ha wŷr frodyr , gwrandewch arnaf fi . Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf , i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw . Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi ; megis y mae yn ysgrifenedig , Ar ôl hyn y dychwelaf , ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd , yr hwn sydd wedi syrthio ; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn , ac a’i cyfodaf eilchwyl : Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd , ac i’r holl Genhedloedd , y rhai y gelwir fy enw i arnynt , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn . Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed . Oherwydd paham fy marn i yw , na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw : Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt , ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau , a godineb , ac oddi wrth y peth a dagwyd , ac oddi wrth waed . Canys y mae i Moses ym mhob dinas , er yr hen amseroedd , rai a’i pregethant ef , gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth . Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid , ynghyd â’r holl eglwys , anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain , i Antiochia , gyda Phaul a Barnabas ; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas , a Silas , gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr : A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn ; Yr apostolion , a’r henuriaid , a’r brodyr , at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia , a Syria , a Cilicia , yn anfon annerch : Yn gymaint â chlywed ohonom ni , i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau , gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi , a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch , a chadw’r ddeddf ; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn : Ni a welsom yn dda , wedi i ni ymgynnull yn gytûn , anfon gwŷr etholedig atoch , gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul ; Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist . Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas ; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau . Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân , a chennym ninnau , na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn ; Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod , a gwaed , ac oddi wrth y peth a dagwyd , ac oddi wrth odineb : oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch , da y gwnewch . Byddwch iach . Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith , hwy a ddaethant i Antiochia : ac wedi cynnull y lliaws ynghyd , hwy a roesant y llythyr . Ac wedi iddynt ei ddarllen , llawenychu a wnaethant am y diddanwch . Jwdas hefyd a Silas , a hwythau yn broffwydi , trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr , ac a’u cadarnhasant . Ac wedi iddynt aros yno dros amser , hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch , gan y brodyr , at yr apostolion . Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno . A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia , gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd , gyda llawer eraill hefyd . Ac wedi rhai dyddiau , dywedodd Paul wrth Barnabas , Dychwelwn , ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt , i weled pa fodd y maent hwy . A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan , yr hwn a gyfenwid Marc . Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt , yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia , ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith . A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt , fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd ; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef , ac y mordwyodd i Cyprus : Eithr Paul a ddewisodd Silas , ac a aeth ymaith , wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr . Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia , gan gadarnhau’r eglwysi . Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra . Ac wele , yr oedd yno ryw ddisgybl , a’i enw Timotheus , mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes , ac yn credu ; a’i dad oedd Roegwr : Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra , ac yn Iconium . Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef ; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef , o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny : canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef . Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd , hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem . Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd , ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd . Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia , a gwlad Galatia , a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia ; Pan ddaethant i Mysia , hwy a geisiasant fyned i Bithynia : ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt . Ac wedi myned heibio i Mysia , hwy a aethant i waered i Droas . A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos : Rhyw ŵr o Facedonia a safai , ac a ddeisyfai arno , ac a ddywedai , Tyred drosodd i Facedonia , a chymorth ni . A phan welodd efe y weledigaeth , yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia ; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy . Am hynny , wedi myned ymaith o Droas , ni a gyrchasom yn union i Samothracia , a thrannoeth i Neapolis ; Ac oddi yno i Philipi , yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia , dinas rydd : ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai . Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon , lle y byddid arferol o weddïo ; ac ni a eisteddasom , ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd . A rhyw wraig a’i henw Lydia , un yn gwerthu porffor , o ddinas y Thyatiriaid , yr hon oedd yn addoli Duw , a wrandawodd ; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon , i ddal ar y pethau a leferid gan Paul . Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu , hi a ddymunodd arnom , gan ddywedyd , Os barnasoch fy mod i’n ffyddlon i’r Arglwydd , deuwch i mewn i’m tŷ , ac arhoswch yno . A hi a’n cymhellodd ni . A digwyddodd , a ni’n myned i weddïo , i ryw lances , yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth , gyfarfod â ni ; yr hon oedd yn peri llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth . Hon a ddilynodd Paul a ninnau , ac a lefodd , gan ddywedyd , Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf , y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth . A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer . Eithr Paul yn flin ganddo , a drodd , ac a ddywedodd wrth yr ysbryd , Yr ydwyf yn gorchymyn i ti , yn enw Iesu Grist , fyned allan ohoni . Ac efe a aeth allan yr awr honno . A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith , hwy a ddaliasant Paul a Silas , ac a’u llusgasant hwy i’r farchnadfa , at y llywodraethwyr ; Ac a’u dygasant hwy at y swyddogion , ac a ddywedasant , Y mae’r dynion hyn , y rhai ydynt Iddewon , yn llwyr gythryblio ein dinas ni , Ac yn dysgu defodau , y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na’u gwneuthur , y rhai ydym Rufeinwyr . A’r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy ; a’r swyddogion , gan rwygo eu dillad , a orchmynasant eu curo hwy â gwiail . Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt , hwy a’u taflasant i garchar , gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel ; Yr hwn , wedi derbyn y cyfryw orchymyn , a’u bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn , ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion . Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo , ac yn canu mawl i Dduw : a’r carcharorion a’u clywsant hwy . Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr , hyd oni siglwyd seiliau’r carchar : ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd , a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion . A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar , a chanfod drysau’r carchar yn agored , efe a dynnodd ei gleddyf , ac a amcanodd ei ladd ei hun ; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith . Eithr Paul a lefodd â llef uchel , gan ddywedyd , Na wna i ti dy hun ddim niwed ; canys yr ydym ni yma oll . Ac wedi galw am olau , efe a ruthrodd i mewn , ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas , Ac a’u dug hwynt allan , ac a ddywedodd , O feistriaid , beth sydd raid i mi ei wneuthur , fel y byddwyf gadwedig ? A hwy a ddywedasant , Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist , a chadwedig fyddi , ti a’th deulu . A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd , ac i bawb oedd yn ei dŷ ef . Ac efe a’u cymerth hwy yr awr honno o’r nos , ac a olchodd eu briwiau : ac efe a fedyddiwyd , a’r eiddo oll , yn y man . Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i’w dŷ , efe a osododd fwyd ger eu bron hwy , ac a fu lawen , gan gredu i Dduw , efe a’i holl deulu . A phan aeth hi yn ddydd , y swyddogion a anfonasant y ceisiaid , gan ddywedyd , Gollwng ymaith y dynion hynny . A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul , Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith : yn awr gan hynny cerddwch ymaith ; ewch mewn heddwch . Eithr Paul a ddywedodd wrthynt , Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu , a ninnau’n Rhufeinwyr , hwy a’n bwriasant ni i garchar ; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel ? nid felly ; ond deuant hwy eu hunain , a dygant ni allan . A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion : a hwy a ofnasant , pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt . A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt , ac a’u dygasant allan , ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas . Ac wedi myned allan o’r carchar , hwy a aethant i mewn at Lydia : ac wedi gweled y brodyr , hwy a’u cysurasant , ac a ymadawsant . Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia , hwy a ddaethant i Thesalonica , lle yr oedd synagog i’r Iddewon . A Phaul , yn ôl ei arfer , a aeth i mewn atynt , a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau , Gan egluro a dodi ger eu bronnau , mai rhaid oedd i Grist ddioddef , a chyfodi oddi wrth y meirw ; ac mai hwn yw’r Crist Iesu , yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi . A rhai ohonynt a gredasant , ac a ymwasgasant â Phaul a Silas , ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr , ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig . Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu , gan genfigennu , a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid ; ac wedi casglu tyrfa , hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas , ac a osodasant ar dŷ Jason , ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl . A phan na chawsant hwynt , hwy a lusgasant Jason , a rhai o’r brodyr , at benaethiaid y ddinas , gan lefain , Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd , y rhai hynny a ddaethant yma hefyd ; Y rhai a dderbyniodd Jason : ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar , gan ddywedyd fod brenin arall , sef Iesu . A hwy a gyffroesant y dyrfa , a llywodraethwyr y ddinas hefyd , wrth glywed y pethau hyn . Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill , hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith . A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea : y rhai wedi eu dyfod yno , a aethant i synagog yr Iddewon . Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica , y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl , gan chwilio beunydd yr ysgrythurau , a oedd y pethau hyn felly . Felly llawer ohonynt a gredasant , ac o’r Groegesau parchedig , ac o wŷr , nid ychydig . A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd , hwy a ddaethant yno hefyd , gan gyffroi’r dyrfa . Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith , i fyned megis i’r môr : ond Silas a Thimotheus a arosasant yno . A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen ; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus , ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst , hwy a aethant ymaith . A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen , ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo , wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod . Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon , ac â’r rhai crefyddol , ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef . A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid , ac o’r Stoiciaid , a ymddadleuasant ag ef ; a rhai a ddywedasant , Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd ? a rhai , Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr : am ei fod yn pregethu’r Iesu , a’r atgyfodiad , iddynt . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i dygasant i Areopagus , gan ddywedyd , A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon , a draethir gennyt ? Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni : am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod . ( A’r holl Atheniaid , a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno , nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall , ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd . ) Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus , ac a ddywedodd , Ha wŷr Atheniaid , mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol : Canys wrth ddyfod heibio , ac edrych ar eich defosiynau , mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid , I’R DUW NID ADWAENIR . Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli , hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi . Y Duw a wnaeth y byd , a phob peth sydd ynddo , gan ei fod yn Arglwydd nef a daear , nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo : Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef , fel pe bai arno eisiau dim ; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd , ac anadl , a phob peth oll . Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion , i breswylio ar holl wyneb y ddaear , ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig , a therfynau eu preswylfod hwynt ; Fel y ceisient yr Arglwydd , os gallent ymbalfalu amdano ef , a’i gael , er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom : Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw , yn symud , ac yn bod ; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain , Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni . Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw , ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur , neu arian , neu faen , o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn . A Duw , wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon , sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau : Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder , trwy y gŵr a ordeiniodd efe ; gan roddi ffydd i bawb , oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw . A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw , rhai a watwarasant ; a rhai a ddywedasant , Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn . Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt . Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho , ac a gredasant : ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad , a gwraig a’i henw Damaris , ac eraill gyda hwynt . Ar ôl y pethau hyn , Paul a ymadawodd ag Athen , ac a ddaeth i Gorinth . Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw Acwila , un o Pontus o genedl , wedi dyfod yn hwyr o’r Ital , a’i wraig Priscila , ( am orchymyn o Claudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain , ) efe a ddaeth atynt . Ac , oherwydd ei fod o’r un gelfyddyd , efe a arhoes gyda hwynt , ac a weithiodd ; ( canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd . ) Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth , ac a gynghorodd yr Iddewon , a’r Groegiaid . A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia , bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd , ac efe a dystiolaethodd i’r Iddewon , mai Iesu oedd Crist . A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn , a chablu , efe a ysgydwodd ei ddillad , ac a ddywedodd wrthynt , Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain ; glân ydwyf fi : o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd . Ac wedi myned oddi yno , efe a ddaeth i dŷ un a’i enw Jwstus , un oedd yn addoli Duw , tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r synagog . A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd , a’i holl dŷ : a llawer o’r Corinthiaid , wrth wrando , a gredasant , ac a fedyddiwyd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos , Nac ofna ; eithr llefara , ac na thaw : Canys yr wyf fi gyda thi , ac ni esyd neb arnat , i wneuthur niwed i ti : oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon . Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis , yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt . A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia , cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul , ac a’i dygasant ef i’r frawdle , Gan ddywedyd , Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf . Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau , dywedodd Galio wrth yr Iddewon , Pe buasai gam , neu ddrwg weithred , O Iddewon , wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi : Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd , ac enwau , a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi , edrychwch eich hunain ; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn . Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle . A’r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd , ac a’i curasant o flaen y frawdle . Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny . Eithr Paul , wedi aros eto ddyddiau lawer , a ganodd yn iach i’r brodyr , ac a fordwyodd ymaith i Syria , a chydag ef Priscila ac Acwila ; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea : canys yr oedd arno adduned . Ac efe a ddaeth i Effesus , ac a’u gadawodd hwynt yno ; eithr efe a aeth i’r synagog , ac a ymresymodd â’r Iddewon . A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy , ni chaniataodd efe : Eithr efe a ganodd yn iach iddynt , gan ddywedyd , Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem ; ond os myn Duw , mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn . Ac efe a aeth ymaith o Effesus . Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea , efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys , ac a ddaeth i waered i Antiochia . Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith , gan dramwy trwy wlad Galatia , a Phrygia , mewn trefn , a chadarnhau yr holl ddisgyblion . Eithr rhyw Iddew , a’i enw Apolos , Alexandriad o genedl , gŵr ymadroddus , cadarn yn yr ysgrythurau , a ddaeth i Effesus . Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd : ac efe yn wresog yn yr ysbryd , a lefarodd , ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd , heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig . A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog : a phan glybu Acwila a Phriscila , hwy a’i cymerasant ef atynt , ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach . A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia , y brodyr , gan annog , a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef : yr hwn , wedi ei ddyfod , a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras ; Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol , ar gyhoedd , gan ddangos trwy ysgrythurau , mai Iesu yw Crist . Adigwyddodd , tra fu Apolos yng Nghorinth , wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf , ddyfod ohono ef i Effesus : ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion , Efe a ddywedodd wrthynt , A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch ? A hwy a ddywedasant wrtho , Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi ? Hwythau a ddywedasant , I fedydd Ioan . A dywedodd Paul , Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch , gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef , sef yng Nghrist Iesu . A phan glywsant hwy hyn , hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu . Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt , yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt ; a hwy a draethasant â thafodau , ac a broffwydasant . A’r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg . Ac efe a aeth i mewn i’r synagog , ac a lefarodd yn hy dros dri mis , gan ymresymu a chynghori’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw . Eithr pan oedd rhai wedi caledu , ac heb gredu , gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws , efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt , ac a neilltuodd y disgyblion ; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus . A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd , hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia , yn Iddewon a Groegiaid , glywed gair yr Arglwydd Iesu . A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul : Hyd oni ddygid at y cleifion , oddi wrth ei gorff ef , napgynau neu foledau ; a’r clefydau a ymadawai â hwynt , a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt . Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd , y rhai oedd gonsurwyr , a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt , enw yr Arglwydd Iesu , gan ddywedyd , Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu , yr hwn y mae Paul yn ei bregethu . Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa , Iddew ac archoffeiriad , y rhai oedd yn gwneuthur hyn . A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd , Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod , a Phaul a adwaen ; eithr pwy ydych chwi ? A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo , a ruthrodd arnynt , ac a’u gorchfygodd , ac a fu drwm yn eu herbyn ; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw , yn noethion ac yn archolledig . A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd , y rhai oedd yn preswylio yn Effesus ; ac ofn a syrthiodd arnynt oll , ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd . A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant , ac a gyffesasant , ac a fynegasant eu gweithredoedd . Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith , a ddygasant eu llyfrau ynghyd , ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb : a hwy a fwriasant eu gwerth hwy , ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian . Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd , ac y cryfhaodd . A phan gyflawnwyd y pethau hyn , arfaethodd Paul yn yr ysbryd , gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia , fyned i Jerwsalem ; gan ddywedyd , Gwedi imi fod yno , rhaid imi weled Rhufain hefyd . Ac wedi anfon i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo , sef Timotheus ac Erastus , efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia . A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno . Canys rhyw un a’i enw Demetrius , gof arian , yn gwneuthur temlau arian i Diana , oedd yn peri elw nid bychan i’r crefftwyr ; Y rhai a alwodd efe , ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd , ac a ddywedodd , Ha wŷr , chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni : Chwi a welwch hefyd ac a glywch , nid yn unig yn Effesus , eithr agos dros Asia oll , ddarfod i’r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith , wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo . Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni , ddyfod y rhan hon i ddirmyg ; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim , a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi , yr hon y mae Asia oll a’r byd yn ei haddoli . A phan glywsant , hwy a lanwyd o ddigofaint ; ac a lefasant , gan ddywedyd , Mawr yw Diana’r Effesiaid . A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl : a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd , gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia , cydymdeithion Paul . A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl , ni adawodd y disgyblion iddo . Rhai hefyd o benaethiaid Asia , y rhai oedd gyfeillion iddo , a yrasant ato , i ddeisyf arno , nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd . A rhai a lefasant un peth , ac eraill beth arall : canys y gynulleidfa oedd yn gymysg ; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd . A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa , a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen . Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg , ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl . Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe , pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr , Mawr yw Diana’r Effesiaid . Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl , efe a ddywedodd , Ha wŷr Effesiaid , pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana , a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter ? A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn , rhaid i chwi fod yn llonydd , ac na wneloch ddim mewn byrbwyll . Canys dygasoch yma y gwŷr hyn , y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau , nac yn cablu eich duwies chwi . Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef , un hawl yn erbyn neb , y mae cyfraith i’w chael , ac y mae rhaglawiaid : rhodded pawb yn erbyn ei gilydd . Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill , mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny . Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw ; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith . Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl , Paul , wedi galw’r disgyblion ato , a’u cofleidio , a ymadawodd i fyned i Facedonia . Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny , a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd , efe a ddaeth i dir Groeg . Ac wedi aros dri mis , a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo , fel yr oedd ar fedr morio i Syria , efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia . A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia , Sopater o Berea ; ac o’r Thesaloniaid , Aristarchus a Secundus ; a Gaius o Derbe , a Timotheus ; ac o’r Asiaid , Tychicus a Troffimus . Y rhai hyn a aethant o’r blaen , ac a arosasant amdanom yn Nhroas . A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi , ar ôl dyddiau’r bara croyw , ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod ; lle yr arosasom saith niwrnod . Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos , wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara , Paul a ymresymodd â hwynt , ar fedr myned ymaith drannoeth ; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos . Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu . A rhyw ŵr ieuanc , a’i enw Eutychus , a eisteddai mewn ffenestr : ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg , tra oedd Paul yn ymresymu yn hir , wedi ei orchfygu gan gwsg , ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft ; ac a gyfodwyd i fyny yn farw . A Phaul a aeth i waered , ac a syrthiodd arno ef , a chan ei gofleidio , a ddywedodd , Na chyffroed arnoch : canys y mae ei enaid ynddo ef . Ac wedi iddo ddyfod i fyny , a thorri bara , a bwyta , ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd ; felly efe a aeth ymaith . A hwy a ddygasant y llanc yn fyw , ac a gysurwyd yn ddirfawr . Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong , ac a hwyliasom i Asos ; ar fedr oddi yno dderbyn Paul : canys felly yr oedd efe wedi ordeinio , ar fedr myned ei hun ar ei draed . A phan gyfarfu efe â ni yn Asos , nyni a’i derbyniasom ef i mewn , ac a ddaethom i Mitylene . A morio a wnaethom oddi yno , a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios ; a thradwy y tiriasom yn Samos , ac a arosasom yn Trogylium ; a’r ail dydd y daethom i Miletus . Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus , fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia . Canys brysio yr oedd , os bai bosibl iddo , i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn . Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus , ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys . A phan ddaethant ato , efe a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch , er y dydd cyntaf y deuthum i Asia , pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser ; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd , a llawer o ddagrau , a phrofedigaethau , y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon : Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi , a’ch dysgu ar gyhoedd , ac o dŷ i dŷ ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon , ac i’r Groegiaid hefyd , yr edifeirwch sydd tuag at Dduw , a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist . Ac yn awr , wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem , heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno : Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas , gan ddywedyd , fod rhwymau a blinderau yn fy aros . Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim , ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun , os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd , a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu , i dystiolaethu efengyl gras Duw . Ac yr awron , wele , mi a wn na chewch chwi oll , ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw , weled fy wyneb i mwyach . Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw , fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll : Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw . Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain , ac ar yr holl braidd , ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr , i fugeilio eglwys Dduw , yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed . Canys myfi a wn hyn , y daw , ar ôl fy ymadawiad i , fleiddiau blinion i’ch plith , heb arbed y praidd . Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws , i dynnu disgyblion ar eu hôl . Am hynny gwyliwch , a chofiwch , dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau . Ac yr awron , frodyr , yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw , ac i air ei ras ef , yr hwn a all adeiladu ychwaneg , a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd . Arian , neu aur , neu wisg neb , ni chwenychais : Ie , chwi a wyddoch eich hunain , ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i , ac i’r rhai oedd gyda mi . Mi a ddangosais i chwi bob peth , mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid ; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu , ddywedyd ohono ef , mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , efe a roddodd ei liniau i lawr , ac a weddïodd gyda hwynt oll . Ac wylo yn dost a wnaeth pawb : a hwy a syrthiasant ar wddf Paul , ac a’i cusanasant ef ; Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe , na chaent weled ei wyneb ef mwy . A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong . A digwyddodd , wedi i ni osod allan , ac ymadael â hwynt , ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos , a thrannoeth i Rodes ; ac oddi yno i Patara . A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice , ni a ddringasom iddi , ac a aethom ymaith . Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni , ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy , ac a hwyliasom i Syria , ac a diriasom yn Nhyrus : canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth . Ac wedi i ni gael disgyblion , nyni a arosasom yno saith niwrnod : y rhai a ddywedasant i Paul , trwy yr Ysbryd , nad elai i fyny i Jerwsalem . A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau , ni a ymadawsom , ac a gychwynasom ; a phawb , ynghyd â’r gwragedd a’r plant , a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas : ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth , ni a weddiasom . Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd , ni a ddringasom i’r llong ; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref . Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus , ni a ddaethom i Ptolemais : ac wedi inni gyfarch y brodyr , ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt . A thrannoeth , y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant , ac a ddaethant i Cesarea . Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr , ( yr hwn oedd un o’r saith , ) ni a arosasom gydag ef . Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion , yn proffwydo . Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer , daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus . Ac wedi dyfod atom , a chymryd gwregys Paul , a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed , efe a ddywedodd , Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân ; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem , ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd . A phan glywsom y pethau hyn , nyni , a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd , a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem . Eithr Paul a atebodd , Beth a wnewch chwi yn wylo , ac yn torri fy nghalon i ? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig , ond i farw hefyd yn Jerwsalem , er mwyn enw yr Arglwydd Iesu . A chan na ellid ei berswadio , ni a beidiasom , gan ddywedyd , Ewyllys yr Arglwydd a wneler . Hefyd , ar ôl y dyddiau hynny , ni a gymerasom ein beichiau , ac a aethom i fyny i Jerwsalem . A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni , gan ddwyn un Mnason o Cyprus , hen ddisgybl , gyda’r hwn y lletyem . Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem , y brodyr a’n derbyniasant yn llawen . A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago : a’r holl henuriaid a ddaethant yno . Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt , efe a fynegodd iddynt , bob yn un ac un , bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef . A phan glywsant , hwy a ogoneddasant yr Arglwydd , ac a ddywedasant wrtho , Ti a weli , frawd , pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant ; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf . A hwy a glywsant amdanat ti , dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll , y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd , i ymwrthod â Moses ; ac yn dywedyd , na ddylent hwy enwaedu ar eu plant , na rhodio yn ôl y defodau . Pa beth gan hynny ? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd : canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di . Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt ; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt : Cymer y rhai hyn , a glanhaer di gyda hwynt , a gwna draul arnynt , fel yr eilliont eu pennau : ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti , nad ydynt ddim , ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio , ac yn cadw y ddeddf . Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant , ni a ysgrifenasom , ac a farnasom , na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth ; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod , a gwaed , a rhag peth tagedig , a rhag puteindra . Yna Paul a gymerth y gwŷr ; a thrannoeth , gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt , efe a aeth i mewn i’r deml ; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad , hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt . A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod , yr Iddewon oeddynt o Asia , pan welsant ef yn y deml , a derfysgasant yr holl bobl , ac a ddodasant ddwylo arno , Gan lefain , Ha wŷr Israeliaid , cynorthwywch . Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl , a’r gyfraith , a’r lle yma : ac ymhellach , y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml , ac a halogodd y lle sanctaidd hwn . Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef , yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml . A chynhyrfwyd y ddinas oll , a’r bobl a redodd ynghyd : ac wedi ymaelyd yn Paul , hwy a’i tynasant ef allan o’r deml : ac yn ebrwydd caewyd y drysau . Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef , daeth y gair at ben‐capten y fyddin , fod Jerwsalem oll mewn terfysg . Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr , a chanwriaid , ac a redodd i waered atynt : hwythau , pan welsant y pen‐capten a’r milwyr , a beidiasant â churo Paul . Yna y daeth y pen‐capten yn nes , ac a’i daliodd ef , ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn ; ac a ymofynnodd pwy oedd efe , a pha beth a wnaethai . Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa : ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl , efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell . A phan oedd efe ar y grisiau , fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr , o achos trais y dyrfa . Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn , gan lefain , Ymaith ag ef . A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell , efe a ddywedodd wrth y pen‐capten , Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt ? Ac efe a ddywedodd , A fedri di Roeg ? Onid tydi yw yr Eifftwr , yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg , ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog ? A Phaul a ddywedodd , Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew , un o Darsus , dinesydd o ddinas nid anenwog , o Cilicia ; ac yr wyf yn deisyf arnat ti , dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl . Ac wedi iddo roi cennad iddo , Paul a safodd ar y grisiau , ac a amneidiodd â llaw ar y bobl . Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr , efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg , gan ddywedyd , Ha wŷr , frodyr , a thadau , gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron . ( A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt , hwy a roesant iddo osteg gwell : ac efe a ddywedodd , ) Gŵr wyf fi yn wir o Iddew , yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia , ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel , ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau , yn dwyn sêl i Dduw , fel yr ydych chwithau oll heddiw . A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau , gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd . Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi , a’r holl henaduriaeth ; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr , ac yr euthum i Ddamascus , ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd , yn rhwym i Jerwsalem , i’w cosbi . Eithr digwyddodd , a myfi yn myned , ac yn nesáu at Ddamascus , ynghylch hanner dydd , yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch . A mi a syrthiais ar y ddaear , ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf , Saul , Saul , paham yr wyt yn fy erlid ? A minnau a atebais , Pwy wyt ti , O Arglwydd ? Yntau a ddywedodd wrthyf , Myfi yw Iesu o Nasareth , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid . Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau , ac a ofnasant ; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf . Ac myfi a ddywedais , Beth a wnaf , O Arglwydd ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cyfod , a dos i Ddamascus ; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur . A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw , a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw , myfi a ddeuthum i Ddamascus . Ac un Ananeias , gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf , ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno , A ddaeth ataf , ac a safodd gerllaw , ac a ddywedodd wrthyf , Y brawd Saul , cymer dy olwg . Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno . Ac efe a ddywedodd , Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef , ac i weled y Cyfiawn hwnnw , ac i glywed lleferydd ei enau ef . Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn , o’r pethau a welaist ac a glywaist . Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros ? cyfod , bedyddier di , a golch ymaith dy bechodau , gan alw ar enw yr Arglwydd . A darfu , wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem , fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml , i mi syrthio mewn llewyg ; A’i weled ef yn dywedyd wrthyf , Brysia , a dos ar frys allan o Jerwsalem : oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi . A minnau a ddywedais , O Arglwydd , hwy a wyddant fy mod i yn carcharu , ac yn baeddu ym mhob synagog , y rhai a gredent ynot ti : A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di , yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw , ac yn cydsynio i’w ladd ef , ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dos ymaith : canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd . A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn ; a hwy a godasant eu llef , ac a ddywedasant , Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear : canys nid cymwys ei fod ef yn fyw . Ac fel yr oeddynt yn llefain , ac yn bwrw eu dillad , ac yn taflu llwch i’r awyr , Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell , gan beri ei holi ef trwy fflangellau ; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly . Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau , dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw , Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad , ac heb ei gondemnio hefyd ? A phan glybu’r canwriad , efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten , gan ddywedyd , Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur : canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn . A’r pen‐capten a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Dywed i mi , ai Rhufeiniad wyt ti ? Ac efe a ddywedodd , Ie . A’r pen‐capten a atebodd , Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon . Eithr Paul a ddywedodd , A minnau a anwyd yn freiniol . Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef : a’r pen‐capten hefyd a ofnodd , pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad , ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef . A thrannoeth , ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon , efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau , ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno ; ac efe a ddug Paul i waered , ac a’i gosododd ger eu bron hwy . A phaul , yn edrych yn graff ar y cyngor , a ddywedodd , Ha wŷr frodyr , mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda , hyd y dydd heddiw . A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl , ei daro ef ar ei enau . Yna y dywedodd Paul wrtho , Duw a’th dery di , bared wedi ei wyngalchu : canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf , a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i ? A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho , A ddifenwi di archoffeiriad Duw ? A dywedodd Paul , Ni wyddwn i , frodyr , mai yr archoffeiriad oedd efe : canys ysgrifenedig yw , Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl . A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid , a’r llall o’r Phariseaid , efe a lefodd yn y cyngor , Ha wŷr frodyr , Pharisead wyf fi , mab i Pharisead : am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , bu ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid : a rhannwyd y lliaws . Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad , nac angel , nac ysbryd : eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o’r ddau . A bu llefain mawr : a’r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny , ac a ymrysonasant , gan ddywedyd , Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn : eithr os ysbryd a lefarodd wrtho , neu angel , nac ymrysonwn â Duw . Ac wedi cyfodi terfysg mawr , y pen‐capten , yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt , a archodd i’r milwyr fyned i waered , a’i gipio ef o’u plith hwynt , a’i ddwyn i’r castell . Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo , ac a ddywedodd , Paul , cymer gysur : canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem , felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd . A phan aeth hi yn ddydd , rhai o’r Iddewon , wedi llunio cyfarfod , a’u rhwymasant eu hunain â diofryd , gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul . Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn . A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid , ac a ddywedasant , Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd , nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul . Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten , fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi , fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef : a ninnau , cyn y delo efe yn agos , ydym barod i’w ladd ef . Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma , efe a aeth i mewn i’r castell , ac a fynegodd i Paul . A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato , ac a ddywedodd , Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten ; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo . Ac efe a’i cymerth ef , ac a’i dug at y pen‐capten ; ac a ddywedodd , Paul y carcharor a’m galwodd i ato , ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti , yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt . A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law , ac a aeth ag ef o’r neilltu , ac a ofynnodd , Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi ? Ac efe a ddywedodd , Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor , fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef . Ond na chytuna di â hwynt ; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt , y rhai a roesant ddiofryd , na bwyta nac yfed , nes ei ladd ef : ac yn awr y maent hwy yn barod , yn disgwyl am addewid gennyt ti . Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith , wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb , ddangos ohono y pethau hyn iddo ef . Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad , efe a ddywedodd , Paratowch ddau cant o filwyr , i fyned hyd yn Cesarea , a deg a thrigain o wŷr meirch , a deucant o ffynwewyr , ar y drydedd awr o’r nos ; A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt , i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw . Ac efe a ysgrifennodd lythyr , yn cynnwys yr ystyriaeth yma : Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix , yn anfon annerch . Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon , ac a fu agos â’i ladd ganddynt ; ac a achubais i , gan ddyfod â llu arnynt , gwedi deall mai Rhufeiniad oedd . A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno , mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt : Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy , heb fod un cwyn arno yn haeddu angau , neu rwymau . A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr , myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti ; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di . Bydd iach . Yna y milwyr , megis y gorchmynasid iddynt , a gymerasant Paul , ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris . A thrannoeth , gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef , hwy a ddychwelasant i’r castell : Y rhai , gwedi dyfod i Cesarea , a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw , a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef . Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr , ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe : a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd ; Mi a’th wrandawaf , eb efe , pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd . Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod . Ac ar ôl pum niwrnod , y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered , a’r henuriaid , ac un Tertwlus , areithiwr ; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul . Ac wedi ei alw ef gerbron , Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef , gan ddywedyd , Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr , a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di , yr ydym ni yn gwbl , ac ym mhob man , yn eu cydnabod , O ardderchocaf Ffelix , gyda phob diolch . Eithr , fel na rwystrwyf di ymhellach , yr ydwyf yn deisyf arnat , o’th hynawsedd , wrando arnom ar fyr eiriau . Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla , ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd , ac yn ben ar sect y Nasareniaid : Yr hwn a amcanodd halogi’r deml : yr hwn hefyd a ddaliasom ni , ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni . Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth , a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni , Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di : gan yr hwn , wrth ei holi , y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno . A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd , gan ddywedyd fod y pethau hyn felly . A Phaul a atebodd , wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd , Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd , yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun . Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem . Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb , nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl , nac yn y synagogau , nac yn y ddinas : Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid . Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti , mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi , felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau ; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi : A chennyf obaith ar Dduw , yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl , y bydd atgyfodiad y meirw , i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion . Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer , i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion , yn wastadol . Ac ar ôl llawer o flynyddoedd , y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl , ac offrymau . Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml , nid gyda thorf na therfysg . Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di , ac achwyn , os oedd ganddynt ddim i’m herbyn . Neu , dyweded y rhai hyn eu hunain , os cawsant ddim camwedd ynof , tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor ; Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith ; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych . Pan glybu Ffelix y pethau hyn , efe a’u hoedodd hwynt , gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno ; ac a ddywedodd , Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered , mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl . Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul , a chael ohono esmwythdra ; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu , nac i ddyfod ato . Ac ar ôl talm o ddyddiau , y daeth Ffelix , gyda’i wraig Drusila , yr hon ydoedd Iddewes , ac a yrrodd am Paul , ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist . Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder , a dirwest , a’r farn a fydd , Ffelix a ddychrynodd , ac a atebodd , Dos ymaith ar hyn o amser ; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas , mi a alwaf amdanat . A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul , er ei ollwng ef yn rhydd : oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach , ac a chwedleuodd ag ef . Ac wedi cyflawni dwy flynedd , y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix . A Ffelix , yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon , a adawodd Paul yn rhwym . Ffestus gan hynny , wedi dyfod i’r dalaith , ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea . Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef , yn erbyn Paul , ac a ymbiliasant ag ef , Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef , fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem , gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd . A Ffestus a atebodd , y cedwid Paul yn Cesarea , ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder . Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg , eb efe , deuant i waered gyda mi , ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn , cyhuddant ef . A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod , efe a aeth i waered i Cesarea ; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd , ac a archodd ddwyn Paul ato . Ac wedi ei ddyfod , yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered , a safasant o’i amgylch , ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul , y rhai nis gallent eu profi . Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun , Ni phechais i ddim , nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon , nac yn erbyn y deml , nac yn erbyn Cesar . Eithr Ffestus , yn chwennych dangos ffafr i’r Iddewon , a atebodd Paul , ac a ddywedodd , A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem , i’th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn ? A Phaul a ddywedodd , O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll , lle y mae yn rhaid fy marnu : ni wneuthum i ddim cam â’r Iddewon , megis y gwyddost ti yn dda . Canys os ydwyf yn gwneuthur cam , ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau , nid wyf yn gwrthod marw : eithr onid oes dim o’r pethau y mae’r rhai hyn yn fy nghyhuddo , ni ddichon neb fy rhoddi iddynt . Apelio yr wyf at Gesar . Yna Ffestus , wedi ymddiddan â’r cyngor , a atebodd , A apeliaist ti at Gesar ? at Gesar y cei di fyned . Ac wedi talm o ddyddiau , Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus . Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau , Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul , gan ddywedyd , Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar : Ynghylch yr hwn , pan oeddwn yn Jerwsalem , yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron , gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef . I’r rhai yr atebais , nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha , nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb , a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn . Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny , heb wneuthur dim oed , trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc , ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron . Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied : Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain , ac ynghylch un Iesu a fuasai farw , yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw . A myfi , yn anhysbys i ymofyn am hyn , a ddywedais , a fynnai efe fyned i Jerwsalem , a’i farnu yno am y pethau hyn . Eithr gwedi i Paul apelio i’w gadw i wybyddiaeth Augustus , mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar . Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus , Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn . Yntau a ddywedodd , Ti a gei ei glywed ef yfory . Trannoeth gan hynny , wedi dyfod Agripa a Bernice , â rhwysg fawr , a myned i mewn i’r orsedd , â’r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas , wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron . A Ffestus a ddywedodd , O frenin Agripa , a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol , chwi a welwch y dyn hwn , oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi , yn Jerwsalem ac yma , gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy . Eithr pan ddeellais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau , ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus , mi a fernais ei ddanfon ef . Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i’w ysgrifennu at fy arglwydd . Oherwydd paham mi a’i dygais ef ger eich bron chwi , ac yn enwedig ger dy fron di , O frenin Agripa ; fel , wedi ei holi ef , y caffwyf ryw beth i’w ysgrifennu . Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor , heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef . Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul , Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan . Yna Paul a estynnodd ei law , ac a’i hamddiffynnodd ei hun . Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd , O frenin Agripa , gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw , am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon : Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon : oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar . Fy muchedd i o’m mebyd , yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem , a ŵyr yr Iddewon oll ; Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau , ( os mynnant dystiolaethu , ) mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead . Ac yn awr , am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw , yr wyf yn sefyll i’m barnu : I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni , heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd , yn gobeithio dyfod . Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf , O frenin Agripa , gan yr Iddewon . Pa beth ? ai anghredadwy y bernir gennych chwi , y cyfyd Duw y meirw ? Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun , fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth . Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem : a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau , wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid ; ac wrth eu difetha , mi a roddais farn yn eu herbyn . Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy , ac a’u cymhellais i gablu ; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn , mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd . Ac yn hyn , a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid , Ar hanner dydd , O frenin , ar y ffordd , y gwelais oleuni o’r nef , mwy na disgleirdeb yr haul , yn disgleirio o’m hamgylch , a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi . Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear , mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf , ac yn dywedyd yn Hebraeg , Saul , Saul , paham yr ydwyt yn fy erlid i ? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau . Ac mi a ddywedais , Pwy wyt ti , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Iesu , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid . Eithr cyfod , a saf ar dy draed : canys i hyn yr ymddangosais i ti , i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist , ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt ; Gan dy wared di oddi wrth y bobl , a’r Cenhedloedd , at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron , I agoryd eu llygaid , ac i’w troi o dywyllwch i oleuni , ac o feddiant Satan at Dduw ; fel y derbyniont faddeuant pechodau , a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd , trwy’r ffydd sydd ynof fi . Am ba achos , O frenin Agripa , ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol : Eithr mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf , ac yn Jerwsalem , a thros holl wlad Jwdea , ac i’r Cenhedloedd ; ar iddynt edifarhau , a dychwelyd at Dduw , a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch . O achos y pethau hyn yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml , ac a geisiasant fy lladd i â’u dwylo eu hun . Am hynny , wedi i mi gael help gan Dduw , yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn , gan dystiolaethu i fychan a mawr , ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben ; Y dioddefai Crist , ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw , ac y dangosai oleuni i’r bobl , ac i’r Cenhedloedd . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto , Ffestus a ddywedodd â llef uchel , Paul , yr wyt ti yn ynfydu ; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd . Ac efe a ddywedodd , Nid wyf fi yn ynfydu , O ardderchocaf Ffestus ; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd . Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn , wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy : oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo ; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn . O frenin Agripa , A wyt ti yn credu i’r proffwydi ? Mi a wn dy fod yn credu . Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul , Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion . A Phaul a ddywedodd , Mi a ddymunwn gan Dduw , o fewn ychydig , ac yn gwbl oll , fod nid tydi yn unig , ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw , yn gyfryw ag wyf fi , ond y rhwymau hyn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , cyfododd y brenin , a’r rhaglaw , a Bernice , a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt : Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu , hwy a lefarasant wrth ei gilydd , gan ddywedyd , Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau , neu rwymau . Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus , Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith , oni buasai iddo apelio at Gesar . A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital , hwy a roesant Paul , a rhyw garcharorion eraill , at ganwriad a’i enw Jwlius , o fyddin Augustus . Ac wedi dringo i long o Adramyttium , ar fedr hwylio i dueddau Asia , ni a aethom allan o’r porthladd ; a chyda ni yr oedd Aristarchus , Macedoniad o Thesalonica . A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon . A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul , ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd . Ac wedi myned oddi yno , ni a hwyliasom dan Cyprus , am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus . Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia , ni a ddaethom i Myra , dinas yn Lycia . Ac yno y canwriad , wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital , a’n gosododd ni ynddi . Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau , a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus , am na adawai’r gwynt i ni , ni a hwyliasom islaw Creta , ar gyfer Salmone . Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi , ni a ddaethom i ryw le a elwir , Y porthladdoedd prydferth , yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo . Ac wedi i dalm o amser fyned heibio , a bod morio weithian yn enbyd , oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian , Paul a gynghorodd , Gan ddywedyd wrthynt , Ha wŷr , yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr , nid yn unig am y llwyth a’r llong , eithr am ein heinioes ni hefyd . Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong , yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul . A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu , y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd , os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice , i aeafu yno ; yr hwn sydd borthladd yn Creta , ar gyfer y deau‐orllewin , a’r gogledd‐orllewin . A phan chwythodd y deheuwynt yn araf , hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl , gan godi hwyliau , a foriasant heibio yn agos i Creta . Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog , yr hwn a elwir Euroclydon . A phan gipiwyd y llong , ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt , ni a ymroesom , ac a ddygwyd gyda’r gwynt . Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda , braidd y gallasom gael y bad : Yr hwn a godasant i fyny , ac a wnaethant gynorthwyon , gan wregysu’r llong oddi dani : a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth , wedi gostwng yr hwyl , a ddygwyd felly . A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl , drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong ; A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan . A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau , a thymestl nid bychan yn pwyso arnom , pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan . Ac wedi bod hir ddirwest , yna y safodd Paul yn eu canol hwy , ac a ddywedodd , Ha wŷr , chwi a ddylasech wrando arnaf fi , a bod heb ymado o Creta , ac ennill y sarhad yma a’r golled . Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus : canys ni bydd colled am einioes un ohonoch , ond am y llong yn unig . Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw , yr hwn a’m piau , a’r hwn yr wyf yn ei addoli , Gan ddywedyd , Nac ofna , Paul ; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar : ac wele , rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi . Am hynny , ha wŷr , cymerwch gysur : canys yr wyf fi yn credu i Dduw , mai felly y bydd , yn ôl y modd y dywedwyd i mi . Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys . Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg , fe a ddigwyddodd , a ni yn morio yn Adria , ynghylch hanner nos , dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad ; Ac wedi iddynt blymio , hwy a’i cawsant yn ugain gwryd : ac wedi myned ychydig pellach , a phlymio drachefn , hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd . Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon , wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw , hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd . Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong , ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr , yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong , Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr , Onid erys y rhai hyn yn y llong , ni ellwch chwi fod yn gadwedig . Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad , ac a adawsant iddo syrthio ymaith . A thra ydoedd hi yn dyddhau , Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth , gan ddywedyd , Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl , ac yn aros ar eich cythlwng , heb gymryd dim . Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth ; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi : canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a gymerodd fara , ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll , ac a’i torrodd , ac a ddechreuodd fwyta . Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol ; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd . Ac yr oeddem yn y llong i gyd , yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau . Ac wedi eu digoni o luniaeth , hwy a ysgafnhasant y llong , gan fwrw’r gwenith allan i’r môr . A phan aeth hi yn ddydd , nid oeddynt yn adnabod y tir : ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi ; i’r hon y cyngorasant , os gallent , wthio’r llong iddi . Ac wedi iddynt godi’r angorau , hwy a ymollyngasant i’r môr , ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw , ac a godasant yr hwyl i’r gwynt , ac a geisiasant y lan . Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod , hwy a wthiasant y llong : a’r pen blaen iddi a lynodd , ac a safodd yn ddiysgog ; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau . A chyngor y milwyr oedd , ladd y carcharorion , rhag i neb ohonynt nofio allan , a dianc ymaith . Ond y canwriad , yn ewyllysio cadw Paul , a rwystrodd iddynt eu hamcan ; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio , ymfwrw yn gyntaf i’r môr , a myned allan i’r tir : Ac i’r lleill , rhai ar ystyllod , ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong . Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol . Ac wedi iddynt ddianc , yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys . A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan : oblegid hwy a gyneuasant dân , ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol , ac oherwydd yr oerfel . Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd , a’u dodi ar y tân , gwiber a ddaeth allan o’r gwres , ac a lynodd wrth ei law ef . A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef , hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn , yr hwn , er ei ddianc o’r môr , ni adawodd dialedd iddo fyw . Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân , ac ni oddefodd ddim niwed . Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo , neu syrthio yn ddisymwth yn farw . Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl , a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo , hwy a newidiasant eu meddwl , ac a ddywedasant mai duw oedd efe . Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys , a’i enw Publius , yr hwn a’n derbyniodd ni , ac a’n lletyodd dridiau yn garedig . A digwyddodd , fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif : at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn , a gweddïo , efe a ddododd ei ddwylo arno ef , ac a’i hiachaodd . Felly wedi gwneuthur hyn , y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys , a ddaethant ato , ac a iachawyd : Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas ; a phan oeddem yn ymadael , hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol . Ac wedi tri mis , yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria , yr hon a aeafasai yn yr ynys ; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux . Ac wedi ein dyfod i Syracusa , ni a drigasom yno dridiau . Ac oddi yno , wedi myned oddi amgylch , ni a ddaethom i Regium . Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd , ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli : Lle y cawsom frodyr , ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod : ac felly ni a ddaethom i Rufain . Ac oddi yno , pan glybu’r brodyr amdanom , hwy a ddaethant i’n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum , a’r Tair Tafarn : y rhai pan welodd Paul , efe a ddiolchodd i Dduw , ac a gymerodd gysur . Eithr pan ddaethom i Rufain , y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu ; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun , gyda milwr oedd yn ei gadw ef . A digwyddodd , ar ôl tridiau , alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iddewon . Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd , efe a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr frodyr , er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl , na defodau y tadau , eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeinwyr . Y rhai , wedi darfod fy holi , a fynasent fy ngollwng ymaith , am nad oedd dim achos angau ynof . Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn , mi a yrrwyd i apelio at Gesar ; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl . Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi , i’ch gweled , ac i ymddiddan â chwi : canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i â’r gadwyn hon . A hwythau a ddywedasant wrtho , Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di , ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti . Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied : oblegid am y sect hon , y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn . Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo , llawer a ddaeth ato ef i’w lety ; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw , gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu , allan o gyfraith Moses , a’r proffwydi , o’r bore hyd yr hwyr . A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid , a rhai ni chredasant . Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd , hwy a ymadawsant , wedi i Paul ddywedyd un gair , mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni , Gan ddywedyd , Dos at y bobl yma , a dywed , Yn clywed y clywch , ac ni ddeellwch ; ac yn gweled y gwelwch , ac ni chanfyddwch : Canys brasawyd calon y bobl hyn , a thrwm y clywsant â’u clustiau , a’u llygaid a gaeasant ; rhag iddynt weled â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’r galon , a dychwelyd , ac i mi eu hiacháu hwynt . Bydded hysbys i chwi gan hynny , anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd ; a hwy a wrandawant . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , ymadawodd yr Iddewon , a chanddynt ddadl mawr yn eu plith . A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun , ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato , Gan bregethu teyrnas Dduw , ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist , gyda phob hyfder , yn ddiwahardd . Paul , gwasanaethwr Iesu Grist , wedi ei alw i fod yn apostol , ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw , ( Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd , ) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni , yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd ; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu , yn ôl ysbryd sancteiddiad , trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw : Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth , i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd , er mwyn ei enw ef : Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist : At bawb sydd yn Rhufain , yn annwyl gan Dduw , wedi eu galw i fod yn saint : Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yn gyntaf , yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll , oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd . Canys tyst i mi yw Duw , yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef , fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau , Gan ddeisyf a gawn ryw fodd , ryw amser bellach , rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi . Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled , fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol , fel y’ch cadarnhaer : A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi , trwy ffydd ein gilydd , yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau . Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod , frodyr , i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch , ( ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn , ) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd , megis ag yn y Cenhedloedd eraill . Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid , ac i’r barbariaid hefyd ; i’r doethion , ac i’r annoethion hefyd . Felly , hyd y mae ynof fi , parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain . Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist : oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu ; i’r Iddew yn gyntaf , a hefyd i’r Groegwr . Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd ; megis y mae yn ysgrifenedig , Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd . Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion , y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder . Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw , sydd eglur ynddynt hwy : canys Duw a’i heglurodd iddynt . Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd , wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed , a welir yn amlwg , sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod ; hyd onid ydynt yn ddiesgus : Oblegid a hwy yn adnabod Duw , nis gogoneddasant ef megis Duw , ac na buont ddiolchgar iddo ; eithr ofer fuont yn eu rhesymau , a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd . Pan dybient eu bod yn ddoethion , hwy a aethant yn ffyliaid ; Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig , ac ehediaid , ac anifeiliaid pedwarcarnol , ac ymlusgiaid . O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny , yn nhrachwantau eu calonnau , i aflendid , i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain : Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd , ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr , yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol . Amen . Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus : canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian : Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd , gan adael yr arfer naturiol o’r wraig , a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd ; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti , ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid . Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth , Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy , i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd : Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder , godineb , anwiredd , cybydd‐dod , drygioni ; yn llawn cenfigen , llofruddiaeth , cynnen , twyll , drwg anwydau ; Yn hustyngwyr , yn athrodwyr , yn gas ganddynt Dduw , yn drahaus , yn feilchion , yn ffrostwyr , yn ddychmygwyr drygioni , yn anufudd i rieni , Yn anneallus , yn dorwyr amod , yn angharedig , yn anghymodlon , yn anhrugarogion : Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw , fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth , ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn , eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt . Oherwydd paham , diesgus wyt ti , O ddyn , pwy bynnag wyt yn barnu : canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall , yr wyt yn dy gondemnio dy hun : canys ti yr hwn wyt yn barnu , wyt yn gwneuthur yr un pethau . Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd , yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau . Ac a wyt ti’n tybied hyn , O ddyn , yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau , a thithau yn gwneuthur yr un pethau , y dihengi di rhag barn Duw ? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef , a’i ddioddefgarwch , a’i ymaros , heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch ? Eithr yn ôl dy galedrwydd , a’th galon ddiedifeiriol , wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint , a datguddiad cyfiawn farn Duw , Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd : Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da , a geisiant ogoniant , ac anrhydedd , ac anllygredigaeth , bywyd tragwyddol : Eithr i’r rhai sydd gynhennus , ac anufudd i’r gwirionedd , eithr yn ufudd i anghyfiawnder , y bydd llid a digofaint ; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg ; yr Iddew yn gyntaf , a’r Groegwr hefyd : Eithr gogoniant , ac anrhydedd , a thangnefedd , i bob un sydd yn gwneuthur daioni ; i’r Iddew yn gyntaf , ac i’r Groegwr hefyd . Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw . Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf , a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf ; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf , a fernir wrth y ddeddf ; ( Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw , ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir . Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt , wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf , y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt , ydynt ddeddf iddynt eu hunain : Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau , a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu , a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd , neu yn esgusodi ; ) Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion , yn ôl fy efengyl i , trwy Iesu Grist . Wele , Iddew y’th elwir di , ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf , ac yn gorfoleddu yn Nuw ; Ac yn gwybod ei ewyllys ef , ac yn darbod pethau rhagorol , gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf ; Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion , yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch , Yn athro i’r angall , yn ddysgawdwr i’r rhai bach , a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf . Tydi , gan hynny , yr hwn wyt yn addysgu arall , oni’th ddysgi dy hun ? yr hwn wyt yn pregethu , Na ladrater , a ladreti di ? Yr hwn wyt yn dywedyd , Na odineber , a odinebi di ? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau , a gysegrysbeili di ? Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf , trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw ? Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd , megis y mae yn ysgrifenedig . Canys enwaediad yn wir a wna les , os cedwi y ddeddf : eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt , aeth dy enwaediad yn ddienwaediad . Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf , oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad ? Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth , os ceidw y ddeddf , dy farnu di , yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf ? Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew ; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd : Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew ; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd , nid yn y llythyren ; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion , ond o Dduw . Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew ? neu pa fudd sydd o’r enwaediad ? Llawer , ym mhob rhyw fodd : yn gyntaf , oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw . Oblegid beth os anghredodd rhai ? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer ? Na ato Duw : eithr bydded Duw yn eirwir , a phob dyn yn gelwyddog ; megis yr ysgrifennwyd , Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau , ac y gorfyddech pan y’th farner . Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw , pa beth a ddywedwn ? Ai anghyfiawn yw Duw , yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint ? ( yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd ; ) Na ato Duw : canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd ? Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef , paham y’m bernir innau eto megis pechadur ? Ac nid , ( megis y’n ceblir , ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd , ) Gwnawn ddrwg , fel y dêl daioni ? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn . Beth gan hynny ? a ydym ni yn fwy rhagorol ? Nac ydym ddim : canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb , yr Iddewon a’r Groegwyr , dan bechod ; Megis y mae yn ysgrifenedig , Nid oes neb cyfiawn , nac oes un : Nid oes neb yn deall ; nid oes neb yn ceisio Duw . Gŵyrasant oll , aethant i gyd yn anfuddiol ; nid oes un yn gwneuthur daioni , nac oes un . Bedd agored yw eu ceg ; â’u tafodau y gwnaethant ddichell ; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau : Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd : Buan yw eu traed i dywallt gwaed : Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd : A ffordd tangnefedd nid adnabuant : Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid . Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd , mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd : fel y caeer pob genau , ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw . Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef ; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod . Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf , wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi ; Sef cyfiawnder Duw , yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist , i bawb ac ar bawb a gredant : canys nid oes gwahaniaeth : Oblegid pawb a bechasant , ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw ; A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef , trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu : Yr hwn a osododd Duw yn iawn , trwy ffydd yn ei waed ef , i ddangos ei gyfiawnder ef , trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen , trwy ddioddefgarwch Duw ; I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn ; fel y byddai efe yn gyfiawn , ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu . Pa le gan hynny y mae y gorfoledd ? Efe a gaewyd allan . Trwy ba ddeddf ? ai deddf gweithredoedd ? Nage ; eithr trwy ddeddf ffydd . Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn , heb weithredoedd y ddeddf . Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig ? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd ? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd : Gan mai un Duw sydd , yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd , a’r dienwaediad trwy ffydd . Wrth hynny , a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd ? Na ato Duw : eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf . Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael , yn ôl y cnawd ? Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd , y mae iddo orfoledd ; eithr nid gerbron Duw . Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur ? Credodd Abraham i Dduw ; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Eithr i’r neb sydd yn gweithio , ni chyfrifir y gwobr o ras , ond o ddyled . Eithr i’r neb nid yw yn gweithio , ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol , ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder . Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd , gan ddywedyd , Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau , a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau : Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo . A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig , ynteu ar y dienwaediad hefyd ? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder . Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi ? ai pan oedd yn yr enwaediad , ynteu yn y dienwaediad ? Nid yn yr enwaediad , ond yn y dienwaediad . Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad , yn insel cyfiawnder y ffydd , yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad : fel y byddai efe yn dad pawb a gredent , yn y dienwaediad ; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd : Ac yn dad yr enwaediad , nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig , ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni , yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad . Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham , neu i’w had , y byddai efe yn etifedd y byd : eithr trwy gyfiawnder ffydd . Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion , gwnaed ffydd yn ofer , a’r addewid yn ddi‐rym . Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint ; canys lle nid oes deddf , nid oes gamwedd . Am hynny o ffydd y mae , fel y byddai yn ôl gras : fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had ; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf , ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham , yr hwn yw ein tad ni oll , ( Megis y mae yn ysgrifenedig , Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd , ) gerbron y neb y credodd efe iddo , sef Duw , yr hwn sydd yn bywhau’r meirw , ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt , fel pe byddent : Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith , fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer ; yn ôl yr hyn a ddywedasid , Felly y bydd dy had di . Ac efe , yn ddiegwan o ffydd , nid ystyriodd ei gorff ei hun , yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio , ac efe ynghylch can mlwydd oed , na marweidd‐dra bru Sara . Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth ; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd , gan roddi gogoniant i Dduw : Ac yn gwbl sicr ganddo , am yr hyn a addawsai efe , ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd . Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig , ddarfod ei gyfrif iddo ; Ond er ein mwyn ninnau hefyd , i’r rhai y cyfrifir , y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw : Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni , ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni . Am hynny , gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd , y mae gennym heddwch tuag at Dduw , trwy ein Harglwydd Iesu Grist : Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn , yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw . Ac nid felly yn unig , eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau ; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch ; A dioddefgarwch , brofiad ; a phrofiad , obaith : A gobaith ni chywilyddia , am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni , trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni . Canys Crist , pan oeddem ni eto yn weiniaid , mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol . Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn : oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd . Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom ; oblegid , a nyni eto yn bechaduriaid , i Grist farw trosom ni . Mwy ynteu o lawer , a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef , y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef . Canys os pan oeddem yn elynion , y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef ; mwy o lawer , wedi ein heddychu , y’n hachubir trwy ei fywyd ef . Ac nid hynny yn unig , eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod . Am hynny , megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd , a marwolaeth trwy bechod ; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn , yn gymaint â phechu o bawb : Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd : eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf . Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses , ie , arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda , yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod . Eithr nid megis y camwedd , felly y mae’r dawn hefyd . Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer ; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw , a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist , i laweroedd . Ac nid megis y bu trwy un a bechodd , y mae’r dawn : canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad ; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad . Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un ; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras , ac o ddawn cyfiawnder , deyrnasu mewn bywyd trwy un , Iesu Grist . Felly gan hynny , megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad ; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd . Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid ; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn . Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd : eithr lle yr amlhaodd y pechod , y rhagor amlhaodd gras : Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth , felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Beth wrth hynny a ddywedwn ni ? a drigwn ni yn wastad mewn pechod , fel yr amlhao gras ? Na ato Duw . A ninnau wedi meirw i bechod , pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef ? Oni wyddoch chwi , am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu , ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef ? Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth : fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad , felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd . Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef , felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef : Gan wybod hyn , ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef , er mwyn dirymu corff pechod , fel rhag llaw na wasanaethom bechod . Canys y mae’r hwn a fu farw , wedi ei ryddhau oddi wrth bechod . Ac os buom feirw gyda Crist , yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef : Gan wybod nad yw Crist , yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw , yn marw mwyach ; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach . Canys fel y bu efe farw , efe a fu farw unwaith i bechod : ac fel y mae yn byw , byw y mae i Dduw . Felly chwithau hefyd , cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod : eithr yn fyw i Dduw , yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol , i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau . Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod : eithr rhoddwch eich hunain i Dduw , megis rhai o feirw yn fyw ; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw . Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi : oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf , eithr dan ras . Beth wrth hynny ? a bechwn ni , oherwydd nad ydym dan y ddeddf , eithr dan ras ? Na ato Duw . Oni wyddoch chwi , mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo , eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo ; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth , ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder ? Ond i Dduw y bo’r diolch , eich bod chwi gynt yn weision i bechod ; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi . Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod , fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder . Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd , oblegid gwendid eich cnawd chwi . Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd , i anwiredd ; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder , i sancteiddrwydd . Canys pan oeddech yn weision pechod , rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder . Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid ? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth . Ac yr awr hon , wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod , a’ch gwneuthur yn weision i Dduw , y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd , a’r diwedd yn fywyd tragwyddol . Canys cyflog pechod yw marwolaeth ; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Oni wyddoch chwi , frodyr , ( canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd , ) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw ? Canys y wraig y mae iddi ŵr , sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr , tra fyddo efe byw : ond o bydd marw y gŵr , hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr . Ac felly , os a’r gŵr yn fyw , y bydd hi yn eiddo gŵr arall , hi a elwir yn odinebus : eithr os marw fydd ei gŵr hi , y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf ; fel nad yw hi odinebus , er bod yn eiddo gŵr arall . Ac felly chwithau , fy mrodyr , ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist ; fel y byddech eiddo un arall , sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw , fel y dygem ffrwyth i Dduw . Canys pan oeddem yn y cnawd , gwyniau pechodau , y rhai oedd trwy’r ddeddf , oedd yn gweithio yn ein haelodau ni , i ddwyn ffrwyth i farwolaeth . Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf , wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid ; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd , ac nid yn hender y llythyren . Beth wrth hynny a ddywedwn ni ? Ai pechod yw’r ddeddf ? Na ato Duw . Eithr nid adnabûm i bechod , ond wrth y ddeddf : canys nid adnabuaswn i drachwant , oni bai ddywedyd o’r ddeddf , Na thrachwanta . Eithr pechod , wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn , a weithiodd ynof fi bob trachwant . Canys heb y ddeddf marw oedd pechod . Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf : ond pan ddaeth y gorchymyn , yr adfywiodd pechod , a minnau a fûm farw . A’r gorchymyn , yr hwn ydoedd i fywyd , hwnnw a gaed i mi i farwolaeth . Canys pechod , wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn , a’m twyllodd i ; a thrwy hwnnw a’m lladdodd . Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd ; a’r gorchymyn yn sanctaidd , ac yn gyfiawn , ac yn dda . Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda , yn farwolaeth i mi ? Na ato Duw . Eithr pechod , fel yr ymddangosai yn bechod , gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda : fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus . Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol : eithr myfi sydd gnawdol , wedi fy ngwerthu dan bechod . Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur , nid yw fodlon gennyf : canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur ; eithr y peth sydd gas gennyf , hyn yr ydwyf yn ei wneuthur . Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur , yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw . Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny , eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi . Canys mi a wn nad oes ynof fi ( hynny yw , yn fy nghnawd i , ) ddim da yn trigo : oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf ; eithr cwblhau’r hyn sydd dda , nid wyf yn medru arno . Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio ; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur . Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio , nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur , ond y pechod sydd yn trigo ynof fi . Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf , a mi yn ewyllysio gwneuthur da , fod drwg yn bresennol gyda mi . Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw , yn ôl y dyn oddi mewn : Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau , yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl , ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod , yr hon sydd yn fy aelodau . Ys truan o ddyn wyf fi ! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon ? Yr wyf fi yn diolch i Dduw , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Felly gan hynny , yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw ; ond â’r cnawd , cyfraith pechod . Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu , y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd , eithr yn ôl yr Ysbryd . Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth . Canys yr hyn ni allai’r ddeddf , oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd , Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus , ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd : Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni , y rhai ydym yn rhodio , nid yn ôl y cnawd , eithr yn ôl yr Ysbryd . Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd , am bethau’r cnawd y maent yn synio : eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd , am bethau’r Ysbryd . Canys syniad y cnawd , marwolaeth yw ; a syniad yr ysbryd , bywyd a thangnefedd yw : Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw : canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw ; oblegid nis gall chwaith . A’r rhai sydd yn y cnawd , ni allant ryngu bodd Duw . Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd , ond yn yr Ysbryd , od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch . Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo , nid yw hwnnw yn eiddo ef . Ac os yw Crist ynoch , y mae’r corff yn farw , oherwydd pechod ; eithr yr Ysbryd yn fywyd , oherwydd cyfiawnder . Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch ; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi , trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch . Am hynny , frodyr , dyledwyr ydym , nid i’r cnawd , i fyw yn ôl y cnawd . Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd , meirw fyddwch : eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd , byw fyddwch . Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw , y rhai hyn sydd blant i Dduw . Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn ; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad , trwy’r hwn yr ydym yn llefain , Abba , Dad . Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni , ein bod ni yn blant i Dduw : Ac os plant , etifeddion hefyd ; sef etifeddion i Dduw , a chyd‐etifeddion â Crist : os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef , fel y’n cydogonedder hefyd . Oblegid yr ydwyf yn cyfrif , nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn , yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni . Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw . Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd ; nid o’i fodd , eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd : Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd , o gaethiwed llygredigaeth , i ryddid gogoniant plant Duw . Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio , ac yn cydofidio hyd y pryd hwn . Ac nid yn unig y creadur , ond ninnau hefyd , y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd : yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain , gan ddisgwyl y mabwysiad , sef prynedigaeth ein corff . Canys trwy obaith y’n hiachawyd . Eithr y gobaith a welir , nid yw obaith : oblegid y peth y mae un yn ei weled , i ba beth y mae eto yn ei obeithio ? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled , yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano . A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni . Canys ni wyddom ni beth a weddïom , megis y dylem : eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy . A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau , a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd ; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint . Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw ; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef . Oblegid y rhai a ragwybu , a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef ; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer . A’r rhai a ragluniodd efe , y rhai hynny hefyd a alwodd efe ; a’r rhai a alwodd efe , y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe ; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe , y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe . Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn ? Os yw Duw trosom , pwy a all fod i’n herbyn ? Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab , ond a’i traddododd ef trosom ni oll ; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth ; Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw ? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau : Pwy yw’r hwn sydd yn damnio ? Crist yw’r hwn a fu farw , ie , yn hytrach , yr hwn a gyfodwyd hefyd ; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw , yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni . Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist ? ai gorthrymder , neu ing , neu ymlid , neu newyn , neu noethni , neu enbydrwydd , neu gleddyf ? Megis y mae yn ysgrifenedig , Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd ; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa . Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr , trwy’r hwn a’n carodd ni . Canys y mae’n ddiogel gennyf , na all nac angau , nac einioes , nac angylion , na thywysogaethau , na meddiannau , na phethau presennol , na phethau i ddyfod , Nac uchder , na dyfnder , nac un creadur arall , ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist , nid wyf yn dywedyd celwydd , a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân , Fod i mi dristyd mawr , a gofid di‐baid i’m calon . Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr , sef fy nghenedl yn ôl y cnawd : Y rhai sydd Israeliaid ; eiddo y rhai yw’r mabwysiad , a’r gogoniant , a’r cyfamodau , a dodiad y ddeddf , a’r gwasanaeth , a’r addewidion ; Eiddo y rhai yw’r tadau ; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd , yr hwn sydd uwchlaw pawb , yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd . Amen . Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym : canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel . Ac nid ydynt , oblegid eu bod yn had Abraham , i gyd yn blant ; eithr , Yn Isaac y gelwir i ti had . Hynny ydyw , Nid plant y cnawd , y rhai hynny sydd blant i Dduw ; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had . Canys gair yr addewid yw hwn ; Ar yr amser hwn y deuaf , a bydd mab i Sara . Ac nid hyn yn unig ; eithr Rebeca hefyd , wedi iddi feichiogi o un , sef o’n tad Isaac ; ( Canys cyn geni y plant eto , na gwneuthur ohonynt dda na drwg , fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll , nid o weithredoedd , eithr o’r hwn sydd yn galw ; ) Y dywedwyd wrthi , Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf . Megis yr ysgrifennwyd , Jacob a gerais , eithr Esau a gaseais . Beth gan hynny a ddywedwn ni ? A oes anghyfiawnder gyda Duw ? Na ato Duw . Canys y mae yn dywedyd wrth Moses , Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf , ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf . Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae , nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith ; ond o Dduw , yr hwn sydd yn trugarhau . Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo , I hyn yma y’th gyfodais di , fel y dangoswn fy ngallu ynot ti , ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear . Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho , a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu . Ti a ddywedi gan hynny wrthyf , Paham y mae efe eto yn beio ? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef ? Yn hytrach , O ddyn , pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw ? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd , Paham y’m gwnaethost fel hyn ? Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist , i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch , ac arall i amarch ? Beth os Duw , yn ewyllysio dangos ei ddigofaint , a pheri adnabod ei allu , a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint , wedi eu cymhwyso i golledigaeth : Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd , y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant , Sef nyni , y rhai a alwodd efe , nid o’r Iddewon yn unig , eithr hefyd o’r Cenhedloedd ? Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea , Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi , yn bobl i mi ; a’r hon nid yw annwyl , yn annwyl . A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt , Nid fy mhobl i ydych chwi ; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw . Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel , Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr , gweddill a achubir . Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder : oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear . Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen , Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had , megis Sodoma y buasem , a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra . Beth gan hynny a ddywedwn ni ? Bod y Cenhedloedd , y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder , wedi derbyn cyfiawnder , sef y cyfiawnder sydd o ffydd : Ac Israel , yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder , ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder . Paham ? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd , ond megis trwy weithredoedd y ddeddf : canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd ; Megis y mae yn ysgrifenedig , Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd , a chraig rhwystr : a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir . O frodyr , gwir ewyllys fy nghalon , a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel , sydd er iachawdwriaeth . Canys yr wyf fi yn dyst iddynt , fod ganddynt sêl Duw , eithr nid ar ôl gwybodaeth . Canys hwynt‐hwy , heb wybod cyfiawnder Duw , ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain , nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw . Canys Crist yw diwedd y ddeddf , er cyfiawnder i bob un sy’n credu . Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf , Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny , a fydd byw trwyddynt . Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn ; Na ddywed yn dy galon , Pwy a esgyn i’r nef ? ( hynny yw , dwyn Crist i waered oddi uchod : ) Neu , pwy a ddisgyn i’r dyfnder ? ( hynny yw , dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw , ) Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd ? Mae’r gair yn agos atat , yn dy enau , ac yn dy galon : hwn yw gair y ffydd , yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu ; Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu , a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw , cadwedig fyddi . Canys â’r galon y credir i gyfiawnder , ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth . Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd , Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef , ni chywilyddir . Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr : oblegid yr un Arglwydd ar bawb , sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno . Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd , cadwedig fydd . Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo ? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano ? a pha fodd y clywant , heb bregethwr ? A pha fodd y pregethant , onis danfonir hwynt ? megis y mae yn ysgrifenedig , Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd , y rhai sydd yn efengylu pethau daionus ! Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl : canys y mae Eseias yn dywedyd , O Arglwydd , pwy a gredodd i’n hymadrodd ni ? Am hynny ffydd sydd trwy glywed , a chlywed trwy air Duw . Eithr meddaf , Oni chlywsant hwy ? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy , a’u geiriau hyd derfynau y byd . Eithr meddaf , Oni wybu Israel ? Yn gyntaf , y mae Moses yn dywedyd , Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl ; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi . Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau , ac yn dywedyd , Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio ; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf . Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd , Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd . Am hynny meddaf , A wrthododd Duw ei bobl ? Na ato Duw . Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad , o had Abraham , o lwyth Benjamin . Ni wrthododd Duw ei bobl , yr hwn a adnabu efe o’r blaen . Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias ? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel , gan ddywedyd , O Arglwydd , hwy a laddasant dy broffwydi , ac a gloddiasant dy allorau i lawr ; ac myfi a adawyd yn unig , ac y maent yn ceisio fy einioes innau . Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho ? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr , y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal . Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras . Ac os o ras , nid o weithredoedd mwyach : os amgen , nid yw gras yn ras mwyach . Ac os o weithredoedd , nid yw o ras mwyach : os amgen , nid yw gweithred yn weithred mwyach . Beth gan hynny ? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio : eithr yr etholedigaeth a’i cafodd , a’r lleill a galedwyd ; ( Megis y mae yn ysgrifenedig , Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg , llygaid fel na welent , a chlustiau fel na chlywent ; ) hyd y dydd heddiw . Ac y mae Dafydd yn dywedyd , Bydded eu bord hwy yn rhwyd , ac yn fagl , ac yn dramgwydd , ac yn daledigaeth iddynt : Tywyller eu llygaid hwy , fel na welant , a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser . Gan hynny meddaf , A dramgwyddasant hwy fel y cwympent ? Na ato Duw : eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd , i yrru eiddigedd arnynt . Oherwydd paham , os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd , a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd ; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy ? Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd , yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd , yr wyf yn mawrhau fy swydd ; Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun , ac achub rhai ohonynt . Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd , beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw ? Canys os sanctaidd y blaenffrwyth , y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd : ac os sanctaidd y gwreiddyn , y mae’r canghennau hefyd felly . Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith , a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy , ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn , ac o fraster yr olewydden ; Na orfoledda yn erbyn y canghennau . Ac os gorfoleddi , nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn , eithr y gwreiddyn dydi . Ti a ddywedi gan hynny , Torrwyd y canghennau ymaith , fel yr impid fi i mewn . Da ; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith , a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd . Na fydd uchelfryd , eithr ofna . Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol , gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith . Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw : sef i’r rhai a gwympasant , toster ; eithr daioni i ti , os arhosi yn ei ddaioni ef : os amgen , torrir dithau hefyd ymaith . A hwythau , onid arhosant yn anghrediniaeth , a impir i mewn : canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn . Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth , a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden ; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth , eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun ? Canys nid ewyllysiwn , frodyr , eich bod heb wybod y dirgelwch hwn , ( fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun , ) ddyfod dallineb o ran i Israel , hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn . Ac felly holl Israel a fydd cadwedig ; fel y mae yn ysgrifenedig , Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion , ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob . A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi , pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt . Felly o ran yr efengyl , gelynion ydynt o’ch plegid chwi : eithr o ran yr etholedigaeth , caredigion ydynt oblegid y tadau . Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw . Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw , eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn ; Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant , fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi . Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod , fel y trugarhâi wrth bawb . O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw ! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef ! a’i ffyrdd , mor anolrheinadwy ydynt ! Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd ? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef ? Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf , ac fe a delir iddo drachefn ? Canys ohono ef , a thrwyddo ef , ac iddo ef , y mae pob peth . Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd . Amen . Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , er trugareddau Duw , roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw , sanctaidd , cymeradwy gan Dduw ; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi . Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn : eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl ; fel y profoch beth yw daionus , a chymeradwy , a pherffaith ewyllys Duw . Canys yr wyf yn dywedyd , trwy y gras a roddwyd i mi , wrth bob un a’r sydd yn eich plith , na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied ; eithr synied i sobrwydd , fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd . Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff , ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd : Felly ninnau , a ni yn llawer , ydym un corff yng Nghrist , a phob un yn aelodau i’w gilydd . A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni , pa un bynnag ai proffwydoliaeth , proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd ; Ai gweinidogaeth , byddwn ddyfal yn y weinidogaeth ; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu , yn yr athrawiaeth ; Neu yr hwn sydd yn cynghori , yn y cyngor : yr hwn sydd yn cyfrannu , gwnaed mewn symlrwydd ; yr hwn sydd yn llywodraethu , mewn diwydrwydd ; yr hwn sydd yn trugarhau , mewn llawenydd . Bydded cariad yn ddiragrith . Casewch y drwg , a glynwch wrth y da . Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd ; yn rhoddi parch , yn blaenori eich gilydd : Nid yn ddiog mewn diwydrwydd ; yn wresog yn yr ysbryd ; yn gwasanaethu yr Arglwydd : Yn llawen mewn gobaith ; yn ddioddefgar mewn cystudd ; yn dyfalbarhau mewn gweddi : Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint ; ac yn dilyn lletygarwch . Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid : bendithiwch , ac na felltithiwch . Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen , ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo . Byddwch yn unfryd â’ch gilydd : heb roi eich meddwl ar uchel bethau ; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd . Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain . Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg . Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn . Os yw bosibl , hyd y mae ynoch chwi , byddwch heddychlon â phob dyn . Nac ymddielwch , rai annwyl , ond rhoddwch le i ddigofaint : canys y mae yn ysgrifenedig , I mi y mae dial ; myfi a dalaf , medd yr Arglwydd . Am hynny , os dy elyn a newyna , portha ef ; os sycheda , dyro iddo ddiod : canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef . Na orchfyger di gan ddrygioni , eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni . Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel : canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw ; a’r awdurdodau y sydd , gan Dduw y maent wedi eu hordeinio . Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod , sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw : a’r rhai a wrthwynebant , a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain . Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da , eithr i’r rhai drwg . A fynni di nad ofnech yr awdurdod ? gwna’r hyn sydd dda , a thi a gei glod ganddo : Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni . Eithr os gwnei ddrwg , ofna ; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer : oblegid gweinidog Duw yw efe , dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg . Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng , nid yn unig oherwydd llid , eithr oherwydd cydwybod hefyd . Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd : oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy , yn gwylied ar hyn yna . Telwch gan hynny i bawb eu dyledion : teyrnged , i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus ; toll , i’r hwn y mae toll ; ofn , i’r hwn y mae ofn ; parch , i’r hwn y mae parch yn ddyledus . Na fyddwch yn nyled neb o ddim , ond o garu bawb eich gilydd : canys yr hwn sydd yn caru arall , a gyflawnodd y gyfraith . Canys hyn , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Na thrachwanta ; ac od oes un gorchymyn arall , y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn , Câr dy gymydog fel ti dy hun . Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog : am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad . A hyn , gan wybod yr amser , ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu : canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom . Y nos a gerddodd ymhell , a’r dydd a nesaodd : am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch , a gwisgwn arfau’r goleuni . Rhodiwn yn weddus , megis wrth liw dydd ; nid mewn cyfeddach a meddwdod , nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd , nid mewn cynnen a chenfigen . Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist ; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd , er mwyn cyflawni ei chwantau ef . Yr hwn sydd wan yn y ffydd , derbyniwch atoch , nid i ymrafaelion rhesymau . Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth ; ac y mae arall , yr hwn sydd wan , yn bwyta dail . Yr hwn sydd yn bwyta , na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta ; a’r hwn nid yw yn bwyta , na farned ar yr hwn sydd yn bwyta : canys Duw a’i derbyniodd ef . Pwy wyt ti , yr hwn wyt yn barnu gwas un arall ? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll , neu yn syrthio : ac efe a gynhelir ; canys fe a all Duw ei gynnal ef . Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod ; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch . Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun . Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod , i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried ; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod , i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried . Yr hwn sydd yn bwyta ; i’r Arglwydd y mae yn bwyta ; canys y mae yn diolch i Dduw : a’r hwn sydd heb fwyta , i’r Arglwydd y mae heb fwyta ; ac y mae yn diolch i Dduw . Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun , ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun . Canys pa un bynnag yr ydym ai byw , i’r Arglwydd yr ydym yn byw ; ai marw , i’r Arglwydd yr ydym yn marw : am hynny , pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw , eiddo yr Arglwydd ydym . Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist , ac yr atgyfododd , ac y bu fyw drachefn hefyd , fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd . Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd ? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd ? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist . Canys y mae yn ysgrifenedig , Byw wyf fi , medd yr Arglwydd ; pob glin a blyga i mi , a phob tafod a gyffesa i Dduw . Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw . Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach : ond bernwch hyn yn hytrach , na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd , neu rwystr . Mi a wn , ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu , nad oes dim yn aflan ohono’i hun : ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan , i hwnnw y mae yn aflan . Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd , nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad . Na ddistrywia ef â’th fwyd , dros yr hwn y bu Crist farw . Na chabler gan hynny eich daioni chwi . Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod ; ond cyfiawnder , a thangnefedd , a llawenydd yn yr Ysbryd Glân . Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn , sydd hoff gan Dduw , a chymeradwy gan ddynion . Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch , a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd . O achos bwyd na ddinistria waith Duw . Pob peth yn wir sydd lân ; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd . Da yw na fwytaer cig , ac nad yfer gwin , na dim trwy’r hyn y tramgwydder , neu y rhwystrer , neu y gwanhaer dy frawd . A oes ffydd gennyt ti ? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw . Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda . Eithr yr hwn sydd yn petruso , os bwyty , efe a gondemniwyd , am nad yw yn bwyta o ffydd : a pheth bynnag nid yw o ffydd , pechod yw . A nyni y rhai ydym gryfion , a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid , ac nid rhyngu ein bodd ein hunain . Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth . Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun ; eithr , megis y mae yn ysgrifenedig , Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di , a syrthiasant arnaf fi . Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen , er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt ; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau , y gallem gael gobaith . A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu : Fel y galloch yn unfryd , o un genau , ogoneddu Duw , a Thad ein Harglwydd Iesu Grist . Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd , megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw . Ac yr wyf yn dywedyd , wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad , er mwyn gwirionedd Duw , er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau : Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd ; fel y mae yn ysgrifenedig , Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . A thrachefn y mae yn dywedyd , Ymlawenhewch , Genhedloedd , gyda’i bobl ef . A thrachefn , Molwch yr Arglwydd , yr holl Genhedloedd ; a chlodforwch ef , yr holl bobloedd . A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd , Fe fydd gwreiddyn Jesse , a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd : ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd . A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu , fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân . Ac yr wyf fi fy hun , fy mrodyr , yn credu amdanoch chwi , eich bod chwithau yn llawn daioni , wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth , ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd . Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch , O frodyr , fel un yn dwyn ar gof i chwi , trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw ; Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd , gan weini i efengyl Duw , fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy , wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân . Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu , o ran y pethau a berthyn i Dduw . Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi , i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred , Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau , gan nerth Ysbryd Duw ; hyd pan o Jerwsalem , ac o amgylch hyd Ilyricum , y llenwais efengyl Crist . Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl , nid lle yr enwid Crist : fel nad adeiladwn ar sail un arall : Eithr megis y mae yn ysgrifenedig , I’r rhai ni fynegwyd amdano , hwynt‐hwy a’i gwelant ef ; a’r rhai ni chlywsant , a ddeallant . Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi . Eithr yr awr hon , gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn , a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi ; Pan elwyf i’r Hispaen , myfi a ddeuaf atoch chwi : canys yr wyf yn gobeithio , wrth fyned heibio , y caf eich gweled , a’m hebrwng gennych yno , os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch . Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem , i weini i’r saint . Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem . Canys rhyngodd bodd iddynt ; a’u dyledwyr hwy ydynt . Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt , hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol . Wedi i mi gan hynny orffen hyn , a selio iddynt y ffrwyth hwn , mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen . Ac mi a wn , pan ddelwyf atoch , y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist . Eithr yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist , ac er cariad yr Ysbryd , ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw ; Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea : ac ar fod fy ngweinidogaeth , yr hon sydd gennyf i Jerwsalem , yn gymeradwy gan y saint ; Fel y delwyf atoch mewn llawenydd , trwy ewyllys Duw , ac y’m cydlonner gyda chwi . A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll . Amen . Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer , yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea : Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd , megis y mae yn addas i saint , a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych : canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer , ac i minnau fy hun hefyd . Anerchwch Priscila ac Acwila , fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu ; Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr : i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch , ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd . Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy . Anerchwch fy annwyl Epenetus , yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist . Anerchwch Mair , yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni . Anerchwch Andronicus a Jwnia , fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion , y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion , y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i . Anerchwch Amplias , fy anwylyd yn yr Arglwydd . Anerchwch Urbanus , ein cyd‐weithiwr yng Nghrist , a Stachys fy anwylyd . Anerchwch Apeles , y profedig yng Nghrist . Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus . Anerchwch Herodion , fy nghâr . Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus , y rhai sydd yn yr Arglwydd . Anerchwch Tryffena a Thryffosa , y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd . Anerchwch yr annwyl Persis , yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd . Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd , a’i fam ef a minnau . Anerchwch Asyncritus , Phlegon , Hermas , Patrobas , Mercurius ; a’r brodyr sydd gyda hwynt . Anerchwch Philogus , a Jwlia , Nereus a’i chwaer , ac Olympas , a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt . Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd . Y mae eglwysi Crist yn eich annerch . Ac yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi ; a chiliwch oddi wrthynt . Canys y rhai sydd gyfryw , nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist , eithr eu bol eu hunain ; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith , yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg . Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb . Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi : eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda , ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg . A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi . Amen . Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr , a Lucius , a Jason , a Sosipater , fy ngheraint , yn eich annerch . Yr wyf fi Tertius , yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn , yn eich annerch yn yr Arglwydd . Y mae Gaius fy lletywr i , a’r holl eglwys , yn eich annerch . Y mae Erastus , goruchwyliwr y ddinas , yn eich annerch , a’r brawd Cwartus . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll . Amen . I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i , a phregethiad Iesu Grist , ( yn ôl datguddiad y dirgelwch , yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd ; Ac yr awron a eglurwyd , a thrwy ysgrythurau’r proffwydi , yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw , a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd , er mwyn ufudd‐dod ffydd : ) I Dduw yr unig ddoeth , y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd . Amen . Paul , wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a’r brawd Sosthenes , At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth , at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu , a alwyd yn saint , gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist , ym mhob man , o’r eiddynt hwy a ninnau : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi , am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu ; Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef , mewn pob ymadrodd , a phob gwybodaeth ; Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch : Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn , yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist : Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd , yn ddiargyhoedd , yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist . Ffyddlon yw Duw , trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni . Ac yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist , ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth , ac na byddo ymbleidio yn eich plith ; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl , ac yn yr un farn . Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi , fy mrodyr , gan y rhai sydd o dŷ Chlöe , fod cynhennau yn eich plith chwi . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , bod pob un ohonoch yn dywedyd , Yr ydwyf fi yn eiddo Paul ; minnau yn eiddo Apolos ; minnau yn eiddo Ceffas ; minnau yn eiddo Crist . A rannwyd Crist ? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch ? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi ? Yr ydwyf yn diolch i Dduw , na fedyddiais i neb ohonoch , ond Crispus a Gaius ; Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun . Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas : heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall . Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio , ond i efengylu ; nid mewn doethineb ymadrodd , fel na wnelid croes Crist yn ofer . Canys yr ymadrodd am y groes , i’r rhai colledig , ynfydrwydd yw ; eithr i ni’r rhai cadwedig , nerth Duw ydyw . Canys ysgrifenedig yw , Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion , a deall y rhai deallus a ddileaf . Pa le y mae’r doeth ? pa le mae’r ysgrifennydd ? pa le y mae ymholydd y byd hwn ? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd ? Canys oherwydd yn noethineb Duw , nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw , fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu . Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd , a’r Groegwyr yn ceisio doethineb : Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio , i’r Iddewon yn dramgwydd , ac i’r Groegwyr yn ffolineb ; Ond iddynt hwy y rhai a alwyd , Iddewon a Groegwyr , yn Grist gallu Duw , a doethineb Duw . Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion ; a gwendid Duw yn gryfach na dynion . Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth , frodyr , nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd , nad llawer o rai galluog , nad llawer o rai boneddigion , a alwyd : Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd , fel y gwaradwyddai’r doethion ; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw , fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn ; A phethau distadl y byd , a phethau dirmygus , a ddewisodd Duw , a’r pethau nid ydynt , fel y diddymai’r pethau sydd : Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef . Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu , yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb , ac yn gyfiawnder , ac yn sancteiddrwydd , ac yn brynedigaeth : Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig , Yr hwn sydd yn ymffrostio , ymffrostied yn yr Arglwydd . A myfi , pan ddeuthum atoch , frodyr , a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb , gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw . Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith , ond Iesu Grist , a hwnnw wedi ei groeshoelio . A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid , ac ofn , a dychryn mawr . A’m hymadrodd a’m pregeth i , ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol , ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth : Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion , ond mewn nerth Duw . A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith : eithr nid doethineb y byd hwn , na thywysogion y byd hwn , y rhai sydd yn diflannu . Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch , sef y ddoethineb guddiedig , yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni : Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn : oherwydd pes adwaenasent , ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant . Eithr fel y mae yn ysgrifenedig , Ni welodd llygad , ac ni chlywodd clust , ac ni ddaeth i galon dyn , y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef . Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd : canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth ; ie , dyfnion bethau Duw hefyd . Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn , ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef ? felly hefyd , pethau Duw nid edwyn neb , ond Ysbryd Duw . A nyni a dderbyniasom , nid ysbryd y byd , ond yr Ysbryd sydd o Dduw ; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw . Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd , nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol , ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân ; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol . Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw : canys ffolineb ydynt ganddo ef ; ac nis gall eu gwybod , oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt . Ond yr hwn sydd ysbrydol , sydd yn barnu pob peth ; eithr efe nis bernir gan neb . Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd , yr hwn a’i cyfarwydda ef ? Ond y mae gennym ni feddwl Crist . A myfi , frodyr , ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol , ond megis rhai cnawdol , megis wrth rai bach yng Nghrist . Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed , ac nid bwyd : canys hyd yn hyn nis gallech , ac nis gellwch chwaith eto yr awron , ei dderbyn . Canys cnawdol ydych chwi eto : canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen , a chynnen , ac ymbleidio ; onid ydych yn gnawdol , ac yn rhodio yn ddynol ? Canys tra dywedo un , Myfi ydwyf eiddo Paul ; ac arall , Myfi wyf eiddo Apolos ; onid ydych chwi yn gnawdol ? Pwy gan hynny yw Paul , a phwy Apolos , ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi , ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ? Myfi a blennais , Apolos a ddyfrhaodd ; ond Duw a roddes y cynnydd . Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim , na’r hwn sydd yn dyfrhau ; ond Duw , yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd . Eithr yr hwn sydd yn plannu , a’r hwn sydd yn dyfrhau , un ydynt : a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun , yn ôl ei lafur ei hun . Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni : llafurwaith Duw , adeiladaeth Duw , ydych chwi . Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi , megis pensaer celfydd , myfi a osodais y sylfaen , ac y mae arall yn goruwch adeiladu . Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu . Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod , heblaw’r un a osodwyd , yr hwn yw Iesu Grist . Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn , aur , arian , meini gwerthfawr , coed , gwair , sofl ; Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg : canys y dydd a’i dengys , oblegid trwy dân y datguddir ef ; a’r tân a brawf waith pawb , pa fath ydyw . Os gwaith neb a erys , yr hwn a oruwch adeiladodd ef , efe a dderbyn wobr . Os gwaith neb a losgir , efe a gaiff golled : eithr efe ei hun a fydd cadwedig ; eto felly , megis trwy dân . Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych , a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch ? Os llygra neb deml Dduw , Duw a lygra hwnnw : canys sanctaidd yw teml Duw , yr hon ydych chwi . Na thwylled neb ei hunan . Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn , bydded ffôl , fel y byddo doeth . Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw : oherwydd ysgrifenedig yw , Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra . A thrachefn , Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion , mai ofer ydynt . Am hynny na orfoledded neb mewn dynion : canys pob peth sydd eiddoch chwi : Pa un bynnag ai Paul , ai Apolos , ai Ceffas , ai’r byd , ai bywyd , ai angau , ai pethau presennol , ai pethau i ddyfod ; y mae pob peth yn eiddoch chwi ; A chwithau yn eiddo Crist ; a Crist yn eiddo Duw . Felly cyfrifed dyn nyni , megis gweinidogion i Grist , a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw . Am ben hyn , yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr , gael un yn ffyddlon . Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi , neu gan farn dyn : ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun . Canys ni wn i ddim arnaf fy hun ; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd : eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu . Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser , hyd oni ddelo’r Arglwydd , yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch , ac a eglura fwriadau’r calonnau : ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw . A’r pethau hyn , frodyr , mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos , o’ch achos chwi : fel y gallech ddysgu ynom ni , na synier mwy nag sydd ysgrifenedig , fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall . Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall ? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist ? ac os derbyniaist , paham yr wyt ti yn gorfoleddu , megis pe bait heb dderbyn ? Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu , yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi , chwi a deyrnasasoch hebom ni : ac och Dduw na baech yn teyrnasu , fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi . Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni , yr apostolion diwethaf , fel rhai wedi eu bwrw i angau : oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd , ac i’r angylion , ac i ddynion . Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist , a chwithau yn ddoethion yng Nghrist ; nyni yn weiniaid , a chwithau yn gryfion ; chwychwi yn anrhydeddus , a ninnau yn ddirmygus . Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched , ac yr ydym ni yn noethion , ac yn cael cernodiau , ac yn grwydraidd ; Ac yr ydym yn llafurio , gan weithio â’n dwylo’n hunain . Pan y’n difenwir , yr ydym yn bendithio ; pan y’n herlidir , yr ydym yn ei ddioddef ; Pan y’n ceblir , yr ydym yn gweddïo : fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni , a sorod pob dim , hyd yn hyn . Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn ; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl . Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist , er hynny nid oes i chwi nemor o dadau : canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl . Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi , byddwch ddilynwyr i mi . Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus , yr hwn yw fy annwyl fab , a ffyddlon yn yr Arglwydd ; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist , megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys . Ac y mae rhai wedi ymchwyddo , fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi . Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder , os yr Arglwydd a’i myn ; ac a fynnaf wybod , nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo , ond eu gallu . Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw ; eithr mewn gallu . Beth a fynnwch chwi ? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen , ynteu mewn cariad , ac ysbryd addfwynder ? Mae’r gair yn hollol , fod yn eich plith chwi odineb , a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd ; sef cael o un wraig ei dad . Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo , ac ni alarasoch yn hytrach , fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon . Canys myfi yn ddiau , fel absennol yn y corff , eto yn bresennol yn yr ysbryd , a fernais eisoes , fel pe bawn bresennol , am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly , Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist , pan ymgynulloch ynghyd , a’m hysbryd innau , gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist , Draddodi’r cyfryw un i Satan , i ddinistr y cnawd , fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu . Nid da eich gorfoledd chwi . Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does ? Am hynny certhwch allan yr hen lefain , fel y byddoch does newydd , megis yr ydych ddilefeinllyd . Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni : Am hynny cadwn ŵyl , nid â hen lefain , nac â lefain malais a drygioni ; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd . Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr , na chydymgymysgech â godinebwyr : Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn , neu â’r cybyddion , neu â’r cribddeilwyr , neu ag eilun‐addolwyr ; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd . Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch , na chydymgymysgech , os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr , neu yn gybydd , neu yn eilun‐addolwr , neu yn ddifenwr , neu yn feddw , neu yn gribddeiliwr ; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith . Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan ? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu ? Eithr y rhai sydd oddi allan , Duw sydd yn eu barnu . Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi . A feiddia neb ohonoch , a chanddo fater yn erbyn arall , ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn , ac nid o flaen y saint ? Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd ? ac os trwoch chwi y bernir y byd , a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf ? Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion ? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn ? Gan hynny , od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn , dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys . Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd . Felly , onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth , yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr ? Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd , a hynny gerbron y rhai di‐gred ? Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith , am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd . Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam ? paham nad ydych yn hytrach mewn colled ? Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam , a cholled , a hynny i’r brodyr . Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw ? Na thwyller chwi : ni chaiff na godinebwyr , nac eilun‐addolwyr , na thorwyr priodas , na masweddwyr , na gwrywgydwyr , Na lladron , na chybyddion , na meddwon , na difenwyr , na chribddeilwyr , etifeddu teyrnas Dduw . A hyn fu rai ohonoch chwi : eithr chwi a olchwyd , eithr chwi a sancteiddiwyd , eithr chwi a gyfiawnhawyd , yn enw yr Arglwydd Iesu , a thrwy Ysbryd ein Duw ni . Pob peth sydd gyfreithlon i mi , ond nid yw pob peth yn llesáu ; pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim . Y bwydydd i’r bol , a’r bol i’r bwydydd : eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau . A’r corff nid yw i odineb , ond i’r Arglwydd ; a’r Arglwydd i’r corff . Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd , ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef . Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist ? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist , a’u gwneuthur yn aelodau putain ? Na ato Duw . Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain , yn un corff ? canys y ddau ( medd efe ) fyddant un cnawd . Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd , un ysbryd yw . Gochelwch odineb . Pob pechod a wnelo dyn , oddi allan i’w gorff y mae ; ond yr hwn sydd yn godinebu , sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun . Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch , yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw , ac nad ydych yn eiddoch eich hunain ? Canys er gwerth y prynwyd chwi : gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff , ac yn eich ysbryd , y rhai sydd eiddo Duw . Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf : Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig . Ond rhag godineb , bydded i bob gŵr ei wraig ei hun , a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun . Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da ; a’r un wedd y wraig i’r gŵr . Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun , ond i’r gŵr ; ac yr un ffunud , nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun , ond i’r wraig . Na thwyllwch eich gilydd , oddieithr o gydsyniad dros amser , fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi : a deuwch drachefn ynghyd , rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd , nid o orchymyn . Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun : eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw ; i un fel hyn , ac i arall fel hyn . Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi , a’r gwragedd gweddwon , Da yw iddynt os arhosant fel finnau . Eithr oni allant ymgadw , priodant : canys gwell yw priodi nag ymlosgi . Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn , nid myfi chwaith , ond yr Arglwydd , Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr : Ac os ymedy hi , arhoed heb briodi , neu , cymoder hi â’i gŵr : ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith . Ac wrth y lleill , dywedyd yr wyf fi , nid yr Arglwydd , Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred , a hithau yn fodlon i drigo gydag ef , na ollynged hi ymaith . A’r wraig , yr hon y mae iddi ŵr di‐gred , ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi , na wrthoded hi ef . Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy’r wraig , a’r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy’r gŵr : pe amgen , aflan yn ddiau fyddai eich plant ; eithr yn awr sanctaidd ydynt . Eithr os yr anghredadun a ymedy , ymadawed . Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau ; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch . Canys beth a wyddost ti , wraig , a gedwi di dy ŵr ? a pheth a wyddost tithau , ŵr , a gedwi di dy wraig ? Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un , megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un , felly rhodied . Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll . A alwyd neb wedi ei enwaedu ? nac adgeisied ddienwaediad . A alwyd neb mewn dienwaediad ? nac enwaeder arno . Enwaediad nid yw ddim , a dienwaediad nid yw ddim , ond cadw gorchmynion Duw . Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef , yn honno arhosed . Ai yn was y’th alwyd ? na fydded gwaeth gennyt ; eto os gelli gael bod yn rhydd , mwynha hynny yn hytrach . Canys yr hwn , ac ef yn was , a alwyd yn yr Arglwydd , gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw : a’r un ffunud yr hwn , ac efe yn ŵr rhydd , a alwyd , gwas i Grist yw . Er gwerth y’ch prynwyd ; na fyddwch weision dynion . Yn yr hyn y galwyd pob un , frodyr , yn hynny arhosed gyda Duw . Eithr am wyryfon , nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd : ond barn yr ydwyf yn ei roi , fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon . Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn , oherwydd yr anghenraid presennol , mai da , meddaf , i ddyn fod felly . A wyt ti yn rhwym i wraig ? na chais dy ollwng yn rhydd . A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig ? na chais wraig . Ac os priodi hefyd , ni phechaist : ac os prioda gwyry , ni phechodd . Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd : eithr yr wyf yn eich arbed chwi . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , frodyr , am fod yr amser yn fyr . Y mae yn ôl , fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt , megis pe byddent hebddynt ; A’r rhai a wylant , megis heb wylo ; a’r rhai a lawenhânt , megis heb lawenhau ; a’r rhai a brynant , megis heb feddu ; A’r rhai a arferant y byd hwn , megis heb ei gamarfer : canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio . Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal . Yr hwn sydd heb briodi , sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd , pa wedd y bodlona’r Arglwydd : Ond y neb a wreicaodd , sydd yn gofalu am bethau’r byd , pa wedd y bodlona ei wraig . Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry . Y mae’r hon sydd heb briodi , yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd , fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd : ac y mae’r hon sydd wedi priodi , yn gofalu am bethau bydol , pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain ; nid i osod magl i chwi , eithr er mwyn gweddeidd‐dra , a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân . Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry , od â hi dros flodau ei hoedran , a bod yn rhaid gwneuthur felly ; gwnaed a fynno , nid yw yn pechu : priodant . Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon , ac yn afraid iddo , ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun , ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon , ar gadw ohono ei wyry ; da y mae yn gwneuthur . Ac am hynny , yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod , sydd yn gwneuthur yn dda ; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod , sydd yn gwneuthur yn well . Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith , tra fyddo byw ei gŵr : ond o bydd marw ei gŵr , y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno ; yn unig yn yr Arglwydd . Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly , yn fy marn i : ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf . Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod , ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth . Gwybodaeth sydd yn chwyddo , eithr cariad sydd yn adeiladu . Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim , ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod . Ond od oes neb yn caru Duw , hwnnw a adwaenir ganddo ef . Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod , ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd , ac nad oes un Duw arall ond un . Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau , pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear , ( megis y mae duwiau lawer , ac arglwyddi lawer , ) Eithr i ni nid oes ond un Duw , y Tad , o’r hwn y mae pob peth , a ninnau ynddo ef ; ac un Arglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn y mae pob peth , a ninnau trwyddo ef . Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb : canys rhai , a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn , sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod ; a’u cydwybod hwy , a hi yn wan , a halogir . Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw : canys nid ydym , os bwytawn , yn helaethach ; nac onis bwytawn , yn brinnach . Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid . Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt , yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod , oni chadarnheir ei gydwybod ef , ac yntau’n wan , i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod ; Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di , dros yr hwn y bu Crist farw ? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr , a churo eu gwan gydwybod hwy , yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist . Oherwydd paham , os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd , ni fwytâf fi gig fyth , rhag i mi rwystro fy mrawd . Onid wyf fi yn apostol ? onid wyf fi yn rhydd ? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd ? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd ? Onid wyf yn apostol i eraill , eto yr wyf i chwi : canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd . Fy amddiffyn i , i’r rhai a’m holant , yw hwn ; Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed ? Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer , megis ag y mae i’r apostolion eraill , ac i frodyr yr Arglwydd , ac i Ceffas ? Ai myfi yn unig a Barnabas , nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio ? Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun ? pwy sydd yn plannu gwinllan , ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi ? neu pwy sydd yn porthi praidd , ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd ? Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn ? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn ? Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses , Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu . Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu ? Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd ? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd , mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig , a’r dyrnwr mewn gobaith , i fod yn gyfrannog o’i obaith . Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol , ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol ? Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch , onid ydym ni yn hytrach ? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon : ond goddef yr ydym bob peth , fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist . Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig , yn bwyta o’r cysegr ? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor , yn gyd‐gyfranogion o’r allor ? Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd , i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl , fyw wrth yr efengyl . Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn : ac nid ysgrifennais y pethau hyn , fel y gwnelid felly i mi : canys gwell yw imi farw , na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer . Canys os pregethaf yr efengyl , nid oes orfoledd i mi : canys anghenraid a osodwyd arnaf ; a gwae fydd i mi , oni phregethaf yr efengyl . Canys os gwnaf hyn o’m bodd , y mae i mi wobr : ond os o’m hanfodd , ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl . Pa wobr sydd i mi gan hynny ? Bod i mi , pan efengylwyf , osod efengyl Crist yn rhad , fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl . Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb , mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb , fel yr enillwn fwy . Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew , fel yr enillwn yr Iddewon ; i’r rhai dan y ddeddf , megis dan y ddeddf , fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf ; I’r rhai di‐ddeddf , megis di‐ddeddf , ( a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw , ond dan y ddeddf i Grist , ) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf . Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan , fel yr enillwn y gweiniaid : mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb , fel y gallwn yn hollol gadw rhai . A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl , fel y’m gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni . Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa , i gyd yn rhedeg , ond bod un yn derbyn y gamp ? Felly rhedwch , fel y caffoch afael . Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu , yn ymgadw ym mhob peth : a hwynt‐hwy yn wir , fel y derbyniont goron lygredig ; eithr nyni , un anllygredig . Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg , nid megis ar amcan ; felly yr wyf yn ymdrechu , nid fel un yn curo’r awyr : Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff , ac yn ei ddwyn yn gaeth ; rhag i mi mewn un modd , wedi i mi bregethu i eraill , fod fy hun yn anghymeradwy . Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod , fod ein tadau oll dan y cwmwl , a’u myned oll trwy y môr ; A’u bedyddio hwy oll i Moses , yn y cwmwl , ac yn y môr ; A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol ; Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol : canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn : a’r Graig oedd Crist . Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt : canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch . A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni , fel na chwenychem ddrygioni , megis ag y chwenychasant hwy . Ac na fyddwch eilun‐addolwyr , megis rhai ohonynt hwy ; fel y mae yn ysgrifenedig , Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed , ac a gyfodasant i chwarae . Ac na odinebwn , fel y godinebodd rhai ohonynt hwy , ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain . Ac na themtiwn Grist , megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy , ac a’u distrywiwyd gan seirff . Ac na rwgnechwch , megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy , ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd . A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy ; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau , ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd . Am hynny , yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll , edryched na syrthio . Nid ymaflodd ynoch demtasiwn , ond un dynol : eithr ffyddlon yw Duw , yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch ; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd , fel y galloch ei ddwyn . Oherwydd paham , fy anwylyd , ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth . Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol : bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd . Ffiol y fendith , yr hon a fendigwn , onid cymun gwaed Crist ydyw ? y bara yr ydym yn ei dorri , onid cymun corff Crist yw ? Oblegid nyni yn llawer ydym un bara , ac un corff : canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara . Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd : onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth , yn gyfranogion o’r allor ? Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd ? bod yr eilun yn ddim , neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim ? Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu , i gythreuliaid y maent yn eu haberthu , ac nid i Dduw . Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid . Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd , a ffiol y cythreuliaid : ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd , a bord y cythreuliaid . Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym ? a ydym ni yn gryfach nag ef ? Pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr nid yw pob peth yn llesáu : pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr nid yw pob peth yn adeiladu . Na cheisied neb yr eiddo ei hun ; ond pob un yr eiddo arall . Beth bynnag a werthir yn y gigfa , bwytewch ; heb ofyn dim er mwyn cydwybod : Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder . Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd , ac os mynnwch fyned ; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron , heb ymofyn dim er mwyn cydwybod . Eithr os dywed neb wrthych , Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn ; na fwytewch , er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd , ac er mwyn cydwybod : canys eiddo’r Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder . Cydwybod , meddaf , nid yr eiddot ti , ond yr eiddo arall : canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall ? Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran , paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano ? Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed , ai beth bynnag a wneloch , gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw . Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd , ac i eglwys Dduw : Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth : heb geisio fy llesâd fy hun , ond llesâd llaweroedd , fel y byddont hwy gadwedig . Byddwch ddilynwyr i mi , megis yr wyf finnau i Grist . Yr ydwyf yn eich canmol , frodyr , eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth , ac yn dal y traddodiadau , fel y traddodais i chwi . Eithr mi a fynnwn i chwi wybod , mai pen pob gŵr yw Crist ; a phen y wraig yw’r gŵr ; a phen Crist yw Duw . Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo , a pheth am ei ben , sydd yn cywilyddio ei ben . Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo , yn bennoeth , sydd yn cywilyddio ei phen : canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio . Canys os y wraig ni wisg am ei phen , cneifier hi hefyd : eithr os brwnt i wraig ei chneifio , neu ei heillio , gwisged . Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben , am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw : a’r wraig yw gogoniant y gŵr . Canys nid yw’r gŵr o’r wraig , ond y wraig o’r gŵr . Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig ; eithr y wraig er mwyn y gŵr . Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen , oherwydd yr angylion . Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig , na’r wraig heb y gŵr , yn yr Arglwydd . Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr , felly y mae’r gŵr trwy’r wraig : a phob peth sydd o Dduw . Bernwch ynoch eich hunain , ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth ? Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi , os gwalltlaes a fydd gŵr , mai amarch yw iddo ? Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes , clod yw iddi : oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi . Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar , nid oes gennym ni gyfryw ddefod , na chan eglwysi Duw . Eithr wrth ddywedyd hyn , nid ydwyf yn eich canmol , eich bod yn dyfod ynghyd , nid er gwell , ond er gwaeth . Canys yn gyntaf , pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys , yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi ; ac o ran yr wyf fi yn credu . Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg , fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi . Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle , nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn . Canys y mae pob un wrth fwyta , yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen ; ac un sydd â newyn arno , ac arall sydd yn feddw . Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed ? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw , a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt ? Pa beth a ddywedaf wrthych ? a ganmolaf fi chwi yn hyn ? Nid wyf yn eich canmol . Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi ; Bod i’r Arglwydd Iesu , y nos y bradychwyd ef , gymryd bara : Ac wedi iddo ddiolch , efe a’i torrodd , ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch ; hwn yw fy nghorff , yr hwn a dorrir trosoch : gwnewch hyn er coffa amdanaf . Yr un modd efe a gymerodd y cwpan , wedi swperu , gan ddywedyd , Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed : gwnewch hyn , cynifer gwaith bynnag yr yfoch , er coffa amdanaf . Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn , ac yr yfoch y cwpan hwn , y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo . Am hynny , pwy bynnag a fwytao’r bara hwn , neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng , euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd . Eithr holed dyn ef ei hun ; ac felly bwytaed o’r bara , ac yfed o’r cwpan . Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng , sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun , am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd . Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg , a llawer yn huno . Canys pe iawn farnem ni ein hunain , ni’n bernid . Eithr pan y’n bernir , y’n ceryddir gan yr Arglwydd , fel na’n damnier gyda’r byd . Am hynny , fy mrodyr , pan ddeloch ynghyd i fwyta , arhoswch eich gilydd . Eithr os bydd newyn ar neb , bwytaed gartref : fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth . Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf . Eithr am ysbrydol ddoniau , frodyr , ni fynnwn i chwi fod heb wybod . Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech , yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion , fel y’ch tywysid . Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi , nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw , yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth : ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu , eithr trwy’r Ysbryd Glân . Ac y mae amryw ddoniau , eithr yr un Ysbryd . Ac y mae amryw weinidogaethau , eithr yr un Arglwydd . Ac y mae amryw weithrediadau , ond yr un yw Duw , yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb : Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd . Canys i un , trwy’r Ysbryd , y rhoddir ymadrodd doethineb ; ac i arall , ymadrodd gwybodaeth , trwy’r un Ysbryd ; Ac i arall ffydd , trwy’r un Ysbryd ; ac i arall ddawn i iacháu , trwy’r un Ysbryd ; Ac i arall , wneuthur gwyrthiau ; ac i arall , broffwydoliaeth ; ac i arall , wahaniaeth ysbrydoedd ; ac i arall , amryw dafodau ; ac i arall , gyfieithiad tafodau . A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu , gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio . Canys fel y mae’r corff yn un , ac iddo aelodau lawer , a holl aelodau’r un corff , cyd byddont lawer , ydynt un corff ; felly y mae Crist hefyd . Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff , pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr , ai caethion ai rhyddion ; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd . Canys y corff nid yw un aelod , eithr llawer . Os dywed y troed , Am nad wyf law , nid wyf o’r corff ; ai am hynny nid yw efe o’r corff ? Ac os dywed y glust , Am nad wyf lygad , nid wyf o’r corff ; ai am hynny nid yw hi o’r corff ? Pe yr holl gorff fyddai lygad , pa le y byddai’r clywed ? pe’r cwbl fyddai glywed , pa le y byddai’r arogliad ? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau , bob un ohonynt yn y corff , fel yr ewyllysiodd efe . Canys pe baent oll un aelod , pa le y byddai’r corff ? Ond yr awron llawer yw’r aelodau , eithr un corff . Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw , Nid rhaid i mi wrthyt ; na’r pen chwaith wrth y traed , Nid rhaid i mi wrthych . Eithr yn hytrach o lawer , yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf , ydynt angenrheidiol : A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff , ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch ; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch . Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho : eithr Duw a gyd-dymherodd y corff , gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol : Fel na byddai anghydfod yn y corff ; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd . A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod , y mae’r holl aelodau yn cyd‐ddioddef ; ai anrhydeddu a wneir un aelod , y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau . Eithr chwychwi ydych gorff Crist , ac aelodau o ran . A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys ; yn gyntaf apostolion , yn ail proffwydi , yn drydydd athrawon , yna gwyrthiau , wedi hynny doniau i iacháu , cynorthwyau , llywodraethau , rhywogaethau tafodau . Ai apostolion pawb ? ai proffwydi pawb ? ai athrawon pawb ? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb ? A oes gan bawb ddoniau i iacháu ? a yw pawb yn llefaru â thafodau ? a yw pawb yn cyfieithu ? Eithr deisyfwch y doniau gorau : ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol . Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion , ac heb fod gennyf gariad , yr wyf fel efydd yn seinio , neu symbal yn tincian . A phe byddai gennyf broffwydoliaeth , a gwybod ohonof y dirgelion oll , a phob gwybodaeth ; a phe bai gennyf yr holl ffydd , fel y gallwn symudo mynyddoedd , ac heb gennyf gariad , nid wyf fi ddim . A phe porthwn y tlodion â’m holl dda , a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi , ac heb gariad gennyf , nid yw ddim llesâd i mi . Y mae cariad yn hirymaros , yn gymwynasgar ; cariad nid yw yn cenfigennu ; nid yw cariad yn ymffrostio , nid yw yn ymchwyddo , Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd , nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun , ni chythruddir , ni feddwl ddrwg ; Nid yw lawen am anghyfiawnder , ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd ; Y mae yn dioddef pob dim , yn credu pob dim , yn gobeithio pob dim , yn ymaros â phob dim . Cariad byth ni chwymp ymaith : eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau , hwy a ballant ; ai tafodau , hwy a beidiant ; ai gwybodaeth , hi a ddiflanna . Canys o ran y gwyddom , ac o ran yr ydym yn proffwydo . Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith , yna yr hyn sydd o ran a ddileir . Pan oeddwn fachgen , fel bachgen y llefarwn , fel bachgen y deallwn , fel bachgen y meddyliwn : ond pan euthum yn ŵr , mi a rois heibio bethau bachgennaidd . Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych , mewn dameg ; ond yna , wyneb yn wyneb : yn awr yr adwaen o ran ; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir . Yr awr hon y mae yn aros ffydd , gobaith , cariad , y tri hyn ; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad . Dilynwch gariad , a deisyfwch ddoniau ysbrydol ; ond yn hytrach fel y proffwydoch . Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , nid wrth ddynion y mae yn llefaru , ond wrth Dduw ; canys nid oes neb yn gwrando ; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau . Eithr yr hwn sydd yn proffwydo , sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth , a chyngor , a chysur . Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , sydd yn ei adeiladu ei hunan : eithr yr hwn sydd yn proffwydo , sydd yn adeiladu yr eglwys . Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr ; ond yn hytrach broffwydo ohonoch : canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo , na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau ; oddieithr iddo ei gyfieithu , fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth . Ac yr awr hon , frodyr , os deuaf atoch gan lefaru â thafodau , pa lesâd a wnaf i chwi , oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth , neu trwy wybodaeth , neu trwy broffwydoliaeth , neu trwy athrawiaeth ? Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain , pa un bynnag ai pibell ai telyn , oni roddant wahaniaeth yn y sain , pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn ? Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod , pwy a ymbaratoa i ryfel ? Felly chwithau , oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus , pa wedd y gwybyddir y peth a leferir ? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr . Y mae cymaint , ysgatfydd , o rywogaethau lleisiau yn y byd , ac nid oes un ohonynt yn aflafar . Am hynny , oni wn i rym y llais , myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru , a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad . Felly chwithau , gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol , ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys . Oherwydd paham , yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , gweddïed ar iddo allu cyfieithu . Canys os gweddïaf â thafod dieithr , y mae fy ysbryd yn gweddïo , ond y mae fy neall yn ddiffrwyth . Beth gan hynny ? Mi a weddïaf â’r ysbryd , ac a weddïaf â’r deall hefyd : canaf â’r ysbryd , a chanaf â’r deall hefyd . Canys os bendithi â’r ysbryd , pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd , Amen , ar dy ddodiad diolch , gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd ? Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda , ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu . Yr ydwyf yn diolch i’m Duw , fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll : Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall , fel y dysgwyf eraill hefyd , na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr . O frodyr , na fyddwch fechgyn mewn deall ; eithr mewn drygioni byddwch blant ; ond mewn deall byddwch berffaith . Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig , Trwy rai estronieithus , a thrwy wefusau estronol , y llefaraf wrth y bobl hyn ; ac ni’m gwrandawant felly , medd yr Arglwydd . Am hynny tafodau ydynt arwydd , nid i’r rhai sydd yn credu , ond i’r rhai di‐gred : eithr proffwydoliaeth , nid i’r rhai di‐gred , ond i’r rhai sydd yn credu . Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle , a llefaru o bawb â thafodau dieithr , a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn ; oni ddywedant eich bod yn ynfydu ? Eithr os proffwyda pawb , a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn , efe a argyhoeddir gan bawb , a fernir gan bawb : Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg ; ac felly gan syrthio ar ei wyneb , efe a addola Dduw , gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch . Beth gan hynny , frodyr ? pan ddeloch ynghyd , y mae gan bob un ohonoch salm , y mae ganddo athrawiaeth , y mae ganddo dafodiaith , y mae ganddo ddatguddiad , y mae ganddo gyfieithiad . Gwneler pob peth er adeiladaeth . Os llefara neb â thafod dieithr , gwneler bob yn ddau , neu o’r mwyaf bob yn dri , a hynny ar gylch ; a chyfieithed un . Eithr oni bydd cyfieithydd , tawed yn yr eglwys ; eithr llefared wrtho’i hun , ac wrth Dduw . A llefared y proffwydi ddau neu dri , a barned y lleill . Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno , tawed y cyntaf . Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un , fel y dysgo pawb , ac y cysurer pawb . Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi . Canys nid yw Duw awdur anghydfod , ond tangnefedd , fel yn holl eglwysi’r saint . Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi : canys ni chaniatawyd iddynt lefaru ; ond bod yn ddarostyngedig , megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd . Ac os mynnant ddysgu dim , ymofynnant â’u gwŷr gartref : oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys . Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan ? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe ? Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd , neu yn ysbrydol , cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt . Eithr od yw neb heb wybod , bydded heb wybod . Am hynny , frodyr , byddwch awyddus i broffwydo , ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr . Gwneler pob peth yn weddaidd , ac mewn trefn . Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi , frodyr , yr efengyl a bregethais i chwi , yr hon hefyd a dderbyniasoch , ac yn yr hon yr ydych yn sefyll ; Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd , os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi , oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer . Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais , farw o Grist dros ein pechodau ni , yn ôl yr ysgrythurau ; A’i gladdu , a’i gyfodi y trydydd dydd , yn ôl yr ysgrythurau ; A’i weled ef gan Ceffas , yna gan y deuddeg . Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith : o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron ; eithr rhai a hunasant . Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago ; yna gan yr holl apostolion . Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd , megis gan un annhymig . Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion , yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol , am i mi erlid eglwys Dduw . Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf : a’i ras ef , yr hwn a roddwyd i mi , ni bu yn ofer ; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll : ac nid myfi chwaith , ond gras Duw , yr hwn oedd gyda mi . Am hynny , pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy , felly yr ydym yn pregethu , ac felly y credasoch chwi . Ac os pregethir Crist , ei gyfodi ef o feirw ; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi , nad oes atgyfodiad y meirw ? Eithr onid oes atgyfodiad y meirw , ni chyfodwyd Crist chwaith : Ac os Crist ni chyfodwyd , ofer yn wir yw ein pregeth ni , ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau . Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw ; canys ni a dystiasom am Dduw , ddarfod iddo gyfodi Crist : yr hwn nis cyfododd efe , os y meirw ni chyfodir . Canys os y meirw ni chyfodir , ni chyfodwyd Crist chwaith . Ac os Crist ni chyfodwyd , ofer yw eich ffydd chwi ; yr ydych eto yn eich pechodau . Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist . Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist , truanaf o’r holl ddynion ydym ni . Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw , ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant . Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn , trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw . Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw , felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb . Eithr pob un yn ei drefn ei hun : y blaenffrwyth yw Crist ; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef . Yna y bydd y diwedd , wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad : wedi iddo ddileu pob pendefigaeth , a phob awdurdod a nerth . Canys rhaid iddo deyrnasu , hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed . Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau . Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef . Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng , amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo . A phan ddarostynger pob peth iddo , yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef , fel y byddo Duw oll yn oll . Os amgen , beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw , os y meirw ni chyfodir ddim ? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw ? A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr ? Yr ydwyf beunydd yn marw , myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus , pa lesâd sydd i mi , oni chyfodir y meirw ? Bwytawn ac yfwn ; canys yfory marw yr ydym . Na thwyller chwi : y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da . Deffrowch yn gyfiawn , ac na phechwch : canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw : er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn . Eithr fe a ddywed rhyw un , Pa fodd y cyfodir y meirw ? ac â pha ryw gorff y deuant ? O ynfyd , y peth yr wyt ti yn ei hau , ni fywheir oni bydd efe marw . A’r peth yr wyt yn ei hau , nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau , ond gronyn noeth , ysgatfydd o wenith , neu o ryw rawn arall . Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe , ac i bob hedyn ei gorff ei hun . Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd : eithr arall yw cnawd dynion , ac arall yw cnawd anifeiliaid , a chnawd arall sydd i bysgod , ac arall i adar . Y mae hefyd gyrff nefol , a chyrff daearol : ond arall yw gogoniant y rhai nefol , ac arall y rhai daearol . Arall yw gogoniant yr haul , ac arall yw gogoniant y lloer , ac arall yw gogoniant y sêr : canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant . Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw . Efe a heuir mewn llygredigaeth , ac a gyfodir mewn anllygredigaeth : Efe a heuir mewn amarch , ac a gyfodir mewn gogoniant : efe a heuir mewn gwendid , ac a gyfodir mewn nerth : efe a heuir yn gorff anianol , ac a gyfodir yn gorff ysbrydol . Y mae corff anianol , ac y mae corff ysbrydol . Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig , Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw , a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau . Eithr nid cyntaf yr ysbrydol , ond yr anianol ; ac wedi hynny yr ysbrydol . Y dyn cyntaf o’r ddaear , yn daearol ; yr ail dyn , yr Arglwydd o’r nef . Fel y mae y daearol , felly y mae y rhai daearol hefyd ; ac fel y mae y nefol , felly y mae y rhai nefol hefyd . Ac megis y dygasom ddelw y daearol , ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol . Eithr hyn meddaf , O frodyr , na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw ; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth . Wele , yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch : Ni hunwn ni oll , eithr ni a newidir oll mewn moment , ar drawiad llygad , wrth yr utgorn diwethaf : Canys yr utgorn a gân , a’r meirw a gyfodir yn anllygredig , a ninnau a newidir . Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth , ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb . A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth , ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb , yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd , Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth . O angau , pa le mae dy golyn ? O uffern , pa le mae dy fuddugoliaeth ? Colyn angau yw pechod , a grym pechod yw’r gyfraith . Ond i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist . Am hynny , fy mrodyr annwyl , byddwch sicr , a diymod , a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol ; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd . Hefyd am y gasgl i’r saint ; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia , felly gwnewch chwithau . Y dydd cyntaf o’r wythnos , pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl , gan drysori , fel y llwyddodd Duw ef , fel na byddo casgl pan ddelwyf fi . A phan ddelwyf , pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau , y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem . Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned , hwy a gânt fyned gyda mi . Eithr mi a ddeuaf atoch , gwedi yr elwyf trwy Facedonia ; ( canys trwy Facedonia yr wyf yn myned . ) Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi , neu y gaeafaf hefyd , fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf . Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt ; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi , os cenhada’r Arglwydd . Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn . Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus , ac y mae gwrthwynebwyr lawer . Ac os Timotheus a ddaw , edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi : canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio , fel finnau . Am hynny na ddiystyred neb ef : ond hebryngwch ef mewn heddwch , fel y delo ataf fi : canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr . Ac am y brawd Apolos , mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr : eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron ; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas . Gwyliwch , sefwch yn y ffydd , ymwrolwch , ymgryfhewch . Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad . Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi , frodyr , ( chwi a adwaenoch dŷ Steffanas , mai blaenffrwyth Achaia ydyw , ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint , ) Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw , ac i bob un sydd yn cydweithio , ac yn llafurio . Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas , Ffortunatus , ac Achaicus : canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant ; Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i , a’r eiddoch chwithau : cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai . Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi . Y mae Acwila a Phriscila , gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt , yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych . Y mae’r brodyr oll yn eich annerch . Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun . Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist , bydded Anathema , Maranatha . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi . Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu . Amen . Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a’r brawd Timotheus , at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth , gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Bendigedig fyddo Duw , a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist , Tad y trugareddau , a Duw pob diddanwch ; Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder , fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder , trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw . Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni ; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau . A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys , er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae , yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau , y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef ; ai ein diddanu yr ydys , er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny . Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch ; gan i ni wybod , mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau , felly y byddwch hefyd o’r diddanwch . Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod , frodyr , am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia , bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu , hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd . Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau , fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain , ond yn Nuw , yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw : Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau , ac sydd yn ein gwaredu ; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw : A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi , fel , am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer , y rhodder diolch gan lawer drosom . Canys ein gorfoledd ni yw hyn , sef tystiolaeth ein cydwybod , mai mewn symlrwydd , a phurdeb duwiol , nid mewn doethineb cnawdol , ond trwy ras Duw , yr ymddygasom yn y byd , ond yn hytrach tuag atoch chwi . Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen , neu yn eu cydnabod , ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd ; Megis y cydnabuoch ni o ran , mai nyni yw eich gorfoledd chwi , fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu . Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen , fel y caffech ail ras ; A myned heb eich llaw chwi i Facedonia , a dyfod drachefn o Facedonia atoch , a chael fy hebrwng gennych i Jwdea . Gan hynny , pan oeddwn yn bwriadu hyn , a arferais i ysgafnder ? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu , ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu , fel y byddai gyda mi , ie , ie , a nage , nage ? Eithr ffyddlon yw Duw , a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie , a nage . Canys Mab Duw , Iesu Grist , yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni , sef gennyf fi , a Silfanus , a Thimotheus , nid ydoedd ie , a nage , eithr ynddo ef ie ydoedd . Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie , ac ynddo ef amen , er gogoniant i Dduw trwom ni . A’r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist , ac a’n heneiniodd ni , yw Duw : Yr hwn hefyd a’n seliodd , ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnau . Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid , mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth . Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi , ond yr ydym yn gyd-weithwyr i’ch llawenydd : oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll . Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan , na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch . Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi , pwy yw’r hwn a’m llawenha i , ond yr hwn a dristawyd gennyf fi ? Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch , fel , pan ddelwn , na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau ; gan hyderu amdanoch oll , fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll . Canys o orthrymder mawr , a chyfyngder calon , yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer ; nid fel y’ch tristeid chwi , eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi . Ac os gwnaeth neb dristáu , ni wnaeth efe i mi dristáu , ond o ran ; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll . Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma , a ddaeth oddi wrth laweroedd . Yn gymaint ag y dylech , yn y gwrthwyneb , yn hytrach faddau iddo , a’i ddiddanu ; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch . Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef . Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais , fel y gwybyddwn brawf ohonoch , a ydych ufudd ym mhob peth . I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo , yr wyf finnau : canys os maddeuais ddim , i’r hwn y maddeuais , er eich mwyn chwi y maddeuais , yng ngolwg Crist ; Fel na’n siomer gan Satan : canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef . Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist , ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd , Ni chefais lonydd yn fy ysbryd , am na chefais Titus fy mrawd : eithr gan ganu’n iach iddynt , mi a euthum ymaith i Facedonia . Ond i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist , ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle . Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw , yn y rhai cadwedig , ac yn y rhai colledig : I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth ; ac i’r lleill , yn arogl bywyd i fywyd : a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn ? Canys nid ydym ni , megis llawer , yn gwneuthur masnach o air Duw : eithr megis o burdeb , eithr megis o Dduw , yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist . Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain ? ai rhaid i ni , megis i rai , wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi , neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi ? Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau , yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn : Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych , wedi ei weini gennym ni , wedi ei ysgrifennu nid ag inc , ond ag Ysbryd y Duw byw ; nid mewn llechau cerrig , eithr mewn llechau cnawdol y galon . A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw : Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain ; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw ; Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd ; nid i’r llythyren , ond i’r ysbryd : canys y mae’r llythyren yn lladd , ond yr ysbryd sydd yn bywhau . Ac os bu gweinidogaeth angau , mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig , mewn gogoniant , fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses , gan ogoniant ei wynepryd , yr hwn ogoniant a ddilewyd ; Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant ? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant , mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant . Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon , oherwydd y gogoniant tra rhagorol . Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus , mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus . Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith , yr ydym yn arfer hyfder mawr : Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb , fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid . Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt : canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd , wrth ddarllen yn yr hen destament , yn aros heb ei ddatguddio ; yr hwn yng Nghrist a ddileir . Eithr hyd y dydd heddiw , pan ddarllenir Moses , y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt . Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd , tynnir ymaith y gorchudd . Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd : a lle mae Ysbryd yr Arglwydd , yno y mae rhyddid . Eithr nyni oll ag wyneb agored , yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych , a newidir i’r unrhyw ddelw , o ogoniant i ogoniant , megis gan Ysbryd yr Arglwydd . Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon , megis y cawsom drugaredd , nid ydym yn pallu ; Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd , heb rodio mewn cyfrwystra , na thrin gair Duw yn dwyllodrus , eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw . Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni , yn y rhai colledig y mae yn guddiedig : Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred , fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist , yr hwn yw delw Duw . Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain , ond Crist Iesu yr Arglwydd ; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu . Canys Duw , yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch , yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau , i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw , yn wyneb Iesu Grist . Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd , fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw , ac nid ohonom ni . Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol , ond nid mewn ing ; yr ydym mewn cyfyng gyngor , ond nid yn ddiobaith ; Yn cael ein herlid , ond heb ein llwyr adael ; yn cael ein bwrw i lawr , eithr heb ein difetha ; Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu , fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni . Canys yr ydys yn ein rhoddi ni , y rhai ydym yn fyw , yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu , fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni . Felly y mae angau yn gweithio ynom ni , ac einioes ynoch chwithau . A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd , yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd , Credais , am hynny y lleferais ; yr ydym ninnau hefyd yn credu , ac am hynny yn llefaru ; Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu , ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu , a’n gosod gerbron gyda chwi . Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi , fel y byddo i ras wedi amlhau , trwy ddiolchgarwch llaweroedd , ymhelaethu i ogoniant Duw . Oherwydd paham nid ydym yn pallu ; eithr er llygru ein dyn oddi allan , er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd . Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni ; Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir , ond ar y pethau ni welir : canys y pethau a welir sydd dros amser , ond y pethau ni welir sydd dragwyddol . Canys ni a wyddom , os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir , fod i ni adeilad gan Dduw , sef tŷ nid o waith llaw , tragwyddol yn y nefoedd . Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio , gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef : Os hefyd wedi ein gwisgo , nid yn noethion y’n ceir . Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio , yn llwythog : yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg , ond ein harwisgo , fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd . A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw , yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd . Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser , ac yn gwybod , tra ydym yn gartrefol yn y corff , ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd : Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio , ac nid wrth olwg . Ond yr ydym yn hy , ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff , a chartrefu gyda’r Arglwydd . Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu , pa un bynnag ai gartref y byddom , ai oddi cartref , ein bod yn gymeradwy ganddo ef . Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist ; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff , yn ôl yr hyn a wnaeth , pa un bynnag ai da ai drwg . A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd , yr ydym yn perswadio dynion : eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys ; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd . Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych , ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni , fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg , ac nid yn y galon . Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym , i Dduw yr ydym ; ai yn ein pwyll yr ydym , i chwi yr ydym . Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni , gan farnu ohonom hyn ; os bu un farw dros bawb , yna meirw oedd pawb : Ac efe a fu farw dros bawb , fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain , ond i’r hwn a fu farw drostynt , ac a gyfodwyd . Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd : ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd , eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach . Gan hynny od oes neb yng Nghrist , y mae efe yn greadur newydd : yr hen bethau a aethant heibio ; wele , gwnaethpwyd pob peth yn newydd . A phob peth sydd o Dduw , yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist , ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod ; Sef , bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun , heb gyfrif iddynt eu pechodau ; ac wedi gosod ynom ni air y cymod . Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist , megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni : yr ydym yn erfyn dros Grist , Cymoder chwi â Duw . Canys yr hwn nid adnabu bechod , a wnaeth efe yn bechod drosom ni ; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef . A ninnau , gan gydweithio , ydym yn atolwg i chwi , na dderbynioch ras Duw yn ofer : ( Canys y mae efe yn dywedyd , Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais , ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais : wele , yn awr yr amser cymeradwy ; wele , yn awr ddydd yr iachawdwriaeth . ) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim , fel na feier ar y weinidogaeth : Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw , mewn amynedd mawr , mewn cystuddiau , mewn anghenion , mewn cyfyngderau , Mewn gwialenodiau , mewn carcharau , mewn terfysgau , mewn poenau , mewn gwyliadwriaethau , mewn ymprydiau , Mewn purdeb , mewn gwybodaeth , mewn hirymaros , mewn tiriondeb , yn yr Ysbryd Glân , mewn cariad diragrith , Yng ngair gwirionedd , yn nerth Duw , trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy , Trwy barch ac amarch , trwy anghlod a chlod : megis twyllwyr , ac er hynny yn eirwir ; Megis anadnabyddus , ac er hynny yn adnabyddus ; megis yn meirw , ac wele , byw ydym ; megis wedi ein ceryddu , a heb ein lladd ; Megis wedi ein tristáu , ond yn wastad yn llawen ; megis yn dlodion , ond yn cyfoethogi llawer ; megis heb ddim gennym , ond eto yn meddiannu pob peth . Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi , O Gorinthiaid , ein calon ni a ehangwyd . Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni , eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain . Ond am yr un tâl , ( yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant , ) ehanger chwithau hefyd . Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred ; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder ? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch ? A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial ? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun ? A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod ? canys teml y Duw byw ydych chwi ; fel y dywedodd Duw , Mi a breswyliaf ynddynt , ac a rodiaf yn eu mysg , ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy , a hwy a fyddant yn bobl i mi . Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy , ac ymddidolwch , medd yr Arglwydd , ac na chyffyrddwch â dim aflan ; ac mi a’ch derbyniaf chwi , Ac a fyddaf yn Dad i chwi , a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi , medd yr Arglwydd Hollalluog . Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn , anwylyd , ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd , gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw . Derbyniwch ni . Ni wnaethom gam i neb ; ni lygrasom neb ; nid ysbeiliasom neb . Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd : canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni , i farw ac i fyw gyda chwi . Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych . Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi : yr wyf yn llawn o ddiddanwch , yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder . Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia , ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd ; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom : oddi allan yr oedd ymladdau , oddi fewn ofnau . Eithr Duw , yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig , a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus . Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef , ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi , pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi , eich galar chwi , eich sêl tuag ataf fi ; fel y llawenheais i yn fwy . Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr , nid yw edifar gennyf , er bod yn edifar gennyf ; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi , er nad oedd ond dros amser . Yn awr yr ydwyf yn llawen , nid am eich tristáu chwi , ond am eich tristáu i edifeirwch : canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol , fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni . Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni : eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau . Canys wele hyn yma , eich tristáu chwi yn dduwiol , pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch , ie , pa amddiffyn , ie , pa soriant , ie , pa ofn , ie , pa awyddfryd , ie , pa sêl , ie , pa ddial ! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn . Oherwydd paham , er ysgrifennu ohonof atoch , nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam , nac oblegid yr hwn a gawsai gam , ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw . Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi : a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus , oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll . Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch , ni’m cywilyddiwyd : eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd , felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni , yr hwn a fu wrth Titus . Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch , wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll , pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef . Am hynny llawen wyf , am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim . Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi , frodyr , y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia ; Ddarfod , mewn mawr brofiad cystudd , i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi , ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy . Oblegid yn ôl eu gallu , yr wyf fi yn dyst , ac uwchlaw eu gallu , yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain ; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil , ar dderbyn ohonom ni y rhodd , a chymdeithas gweinidogaeth y saint . A hyn a wnaethant , nid fel yr oeddem ni yn gobeithio , ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd , ac i ninnau trwy ewyllys Duw : Fel y dymunasom ni ar Titus , megis y dechreuasai efe o’r blaen , felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd . Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth , mewn ffydd , a gair , a gwybodaeth , a phob astudrwydd , ac yn eich cariad tuag atom ni ; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth . Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd , ond oblegid diwydrwydd rhai eraill , a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi . Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist , iddo ef , ac yntau’n gyfoethog , fyned er eich mwyn chwi yn dlawd , fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef . Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn : canys hyn sydd dda i chwi , y rhai a ragddechreuasoch , nid yn unig wneuthur , ond hefyd ewyllysio er y llynedd . Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd ; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio , felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych . Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen , yn ôl yr hyn sydd gan un , y mae yn gymeradwy , nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo . Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill , a chystudd i chwithau ; Eithr o gymhwystra : y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy , fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau ; fel y byddo cymhwystra : Megis y mae yn ysgrifenedig , Yr hwn a gasglodd lawer , nid oedd ganddo weddill ; ac a gasglodd ychydig , nid oedd arno eisiau . Eithr i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus . Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad ; a chan fod yn fwy diwyd , a aeth atoch o’i wirfodd ei hun . Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd , yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi ; Ac nid hynny yn unig , eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn , yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun , ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi : Gan ochelyd hyn , rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma , yr hwn a wasanaethir gennym : Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest , nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd , ond hefyd yng ngolwg dynion . Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd , yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau , lawer gwaith , ei fod ef yn ddyfal , ac yn awr yn ddyfalach o lawer , am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch . Os gofynnir am Titus , fy nghydymaith yw , a chyd-weithydd tuag atoch chwi ; neu am ein brodyr , cenhadau’r eglwysi ydynt , a gogoniant Crist . Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad , ac o’n bost ninnau amdanoch chwi , yng ngolwg yr eglwysi . Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint , afraid yw i mi ysgrifennu atoch : Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi , yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi , fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd ; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn . A mi a ddanfonais y brodyr , fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon ; fel , megis y dywedais , y byddoch wedi ymbaratoi : Rhag , os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi , a’ch cael chwi yn amharod , bod i ni , ( ni ddywedaf , chwi , ) gael cywilydd yn y fost hyderus yma . Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr , ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch , a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd ; fel y byddo parod megis bendith , ac nid megis o gybydd-dra . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd , Yr hwn sydd yn hau yn brin , a fed hefyd yn brin ; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth , a fed hefyd yn helaeth . Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon , felly rhodded ; nid yn athrist , neu trwy gymell : canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu . Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi ; fel y byddoch chwi ym mhob peth , bob amser , a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda : ( Megis yr ysgrifennwyd , Efe a wasgarodd ; rhoddodd i’r tlodion : ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd . A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr , rhodded hefyd fara yn ymborth , ac amlhaed eich had , a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder ; ) Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni , yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw . Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon , nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint , ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw ; Gan eu bod , trwy brofiad y weinidogaeth hon , yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist , ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy , ac i bawb ; A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi , y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi , am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch . Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol . A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi , er addfwynder a hynawsedd Crist , yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith , ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch . Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai , y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd . Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd , nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd : ( Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol , ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr ; ) Gan fwrw dychmygion i lawr , a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw , a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist ; Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod , pan gyflawner eich ufudd-dod chwi . Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg ? Os ymddiried neb ynddo ei hun , ei fod ef yn eiddo Crist , meddylied hyn drachefn ohono ei hun , megis ag y mae efe yn eiddo Crist , felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist . Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod , yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad , ac nid er eich dinistr chwi , ni’m cywilyddid : Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau . Oblegid y llythyrau yn wir ( meddant ) sydd drymion a chryfion ; eithr presenoldeb y corff sydd wan , a’r ymadrodd yn ddirmygus . Y cyfryw un meddylied hyn , mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol , yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol . Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu , neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain : eithr hwynt-hwy , gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain , a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain , nid ydynt yn deall . Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur , ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni , mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd . Canys nid ydym , megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi , yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur ; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist : Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur , yn llafur rhai eraill ; eithr gan obeithio , pan gynyddo eich ffydd chwi , gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth , I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi ; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes . Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio , ymffrostied yn yr Arglwydd . Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun , sydd gymeradwy ; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol . O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb ; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi . Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol : canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr , i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist . Ond y mae arnaf ofn , rhag mewn modd yn y byd , megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra , felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist . Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni , neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch , neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch , teg y cyd-ddygech ag ef . Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf . Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd , eto nid wyf felly mewn gwybodaeth ; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim . A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun , fel y dyrchefid chwi , oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad ? Eglwysi eraill a ysbeiliais , gan gymryd cyflog ganddynt hwy , i’ch gwasanaethu chwi . A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi , ac arnaf eisiau , ni ormesais ar neb : canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia : ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch , ac mi a ymgadwaf . Fel y mae gwirionedd Crist ynof , nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia . Paham ? ai am nad wyf yn eich caru chwi ? Duw a’i gŵyr . Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur , a wnaf hefyd ; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur ; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio , y ceir hwynt megis ninnau hefyd . Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus , wedi ymrithio yn apostolion i Grist . Ac nid rhyfedd : canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni . Gan hynny nid mawr yw , er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder ; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd . Trachefn meddaf , Na thybied neb fy mod i yn ffôl : os amgen , eto derbyniwch fi fel ffôl , fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig . Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd , nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd , eithr megis mewn ffolineb , yn hyn o fost hyderus . Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd , minnau a ymffrostiaf hefyd . Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen , gan fod eich hunain yn synhwyrol . Canys yr ydych yn goddef , os bydd un i’ch caethiwo , os bydd un i’ch llwyr fwyta , os bydd un yn cymryd gennych , os bydd un yn ymddyrchafu , os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb . Am amarch yr ydwyf yn dywedyd , megis pe buasem ni weiniaid : eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy , ( mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd , ) hy wyf finnau hefyd . Ai Hebreaid ydynt hwy ? felly finnau : ai Israeliaid ydynt hwy ? felly finnau : ai had Abraham ydynt hwy ? felly finnau . Ai gweinidogion Crist ydynt hwy ? ( yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl , ) mwy wyf fi ; mewn blinderau yn helaethach , mewn gwialenodiau dros fesur , mewn carcharau yn amlach , mewn marwolaethau yn fynych . Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un . Tair gwaith y’m curwyd â gwiail ; unwaith y’m llabyddiwyd ; teirgwaith y torrodd llong arnaf ; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor ; Mewn teithiau yn fynych ; ym mheryglon llifddyfroedd ; ym mheryglon lladron ; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun ; ym mheryglon gan y cenhedloedd ; ym mheryglon yn y ddinas ; ym mheryglon yn yr anialwch ; ym mheryglon ar y môr ; ym mheryglon ymhlith brodyr gau : Mewn llafur a lludded ; mewn anhunedd yn fynych ; mewn newyn a syched ; mewn ymprydiau yn fynych ; mewn annwyd a noethni . Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan , yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd , y gofal dros yr holl eglwysi . Pwy sydd wan , nad wyf finnau wan ? pwy a dramgwyddir , nad wyf finnau yn llosgi ? Os rhaid ymffrostio , mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid . Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist , yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd , a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd . Yn Namascus , y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid , gan ewyllysio fy nal i : A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur , ac y dihengais o’i ddwylo ef . Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi : canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd . Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg , ( pa un ai yn y corff , ni wn ; ai allan o’r corff , ni wn i : Duw a ŵyr ; ) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef . Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn , ( pa un ai yn y corff , ai allan o’r corff ni wn i : Duw a ŵyr ; ) Ei gipio ef i fyny i baradwys , ac iddo glywed geiriau anhraethadwy , y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd . Am y cyfryw un yr ymffrostiaf ; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf , oddieithr yn fy ngwendid . Canys os ewyllysiaf ymffrostio , ni byddaf ffôl ; canys mi a ddywedaf y gwir : eithr yr wyf yn arbed , rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod , neu yn ei glywed gennyf . Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau , rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd , cennad Satan , i’m cernodio , fel na’m tra-dyrchefid . Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith , ar fod iddo ymadael â mi . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Digon i ti fy ngras i : canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid . Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid , fel y preswylio nerth Crist ynof fi . Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid , mewn amarch , mewn anghenion , mewn erlidiau , mewn cyfyngderau , er mwyn Crist : canys pan wyf wan , yna yr wyf gadarn . Mi a euthum yn ffôl wrth ymffrostio ; chwychwi a’m gyrasoch : canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi : canys ni bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf , er nad ydwyf fi ddim . Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi , mewn pob amynedd , mewn arwyddion , a rhyfeddodau , a gweithredoedd nerthol . Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano , mwy na’r eglwysi eraill , oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch ? maddeuwch i mi hyn o gam . Wele , y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch ; ac ni byddaf ormesol arnoch : canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi , ond chwychwi : canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni , ond y rhieni i’r plant . A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf , ac a ymdreuliaf , dros eich eneidiau chwi , er fy mod yn eich caru yn helaethach , ac yn cael fy ngharu yn brinnach . Eithr bid , ni phwysais i arnoch : ond , gan fod yn gyfrwys , mi a’ch deliais chwi trwy ddichell . A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch ? Mi a ddeisyfais ar Titus , a chydag ef mi a anfonais frawd . A elwodd Titus ddim arnoch ? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom ? onid yn yr un llwybrau ? Drachefn , a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych ? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru ; a phob peth , anwylyd , er adeiladaeth i chwi . Canys ofni yr wyf , rhag , pan ddelwyf , na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn , a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech : rhag bod cynhennau , cenfigennau , llidiau , ymrysonau , goganau , hustyngau , ymchwyddiadau , anghydfyddiaethau : Rhag pan ddelwyf drachefn , fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith , ac i mi ddwyn galar dros lawer , y rhai a bechasant eisoes , ac nid edifarhasant am yr aflendid , a’r godineb , a’r anlladrwydd a wnaethant . Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch . Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair . Rhagddywedais i chwi , ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith , ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes , ac at y lleill i gyd , os deuaf drachefn , nad arbedaf : Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist , yr hwn sydd yn llefaru ynof , yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan , eithr sydd nerthol ynoch chwi . Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid , eto byw ydyw trwy nerth Duw : canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef , eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi . Profwch chwychwi eich hunain , a ydych yn y ffydd ; holwch eich hunain . Onid ydych yn eich adnabod eich hunain , sef bod Iesu Grist ynoch , oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy ? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy . Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg ; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy , ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda , er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy . Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd , ond dros y gwirionedd . Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid , a chwithau yn gryfion : a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno , sef eich perffeithrwydd chwi . Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn , fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster , yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad , ac nid er dinistr . Bellach , frodyr , byddwch wych . Byddwch berffaith , diddaner chwi , syniwch yr un peth , byddwch heddychol ; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi . Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd . Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi . Gras ein Harglwydd Iesu Grist , a chariad Duw , a chymdeithas yr Ysbryd Glân , a fyddo gyda chwi oll . Amen . Paul , apostol , ( nid o ddynion , na thrwy ddyn , eithr trwy Iesu Grist , a Duw Dad , yr hwn a’i cyfododd ef o feirw ; ) A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi , at eglwysi Galatia : Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad , a’n Harglwydd Iesu Grist ; Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau , fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol , yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni : I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist , at efengyl arall : Yr hon nid yw arall ; ond bod rhai yn eich trallodi chwi , ac yn chwennych datroi efengyl Crist . Eithr pe byddai i ni , neu i angel o’r nef , efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi , bydded anathema . Megis y rhagddywedasom , felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd , Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch , bydded anathema . Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf , ynteu Duw ? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion ? canys pe rhyngwn fodd dynion eto , ni byddwn was i Grist . Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi , frodyr , am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi , nad yw hi ddynol . Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi , nac y’m dysgwyd ; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist . Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig , i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw , a’i hanrheithio hi ; Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun , gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau . Ond pan welodd Duw yn dda , yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam , ac a’m galwodd i trwy ei ras , I ddatguddio ei Fab ef ynof fi , fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd ; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed : Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion ; ond mi a euthum i Arabia , a thrachefn y dychwelais i Ddamascus . Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr ; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod . Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais , ond Iago brawd yr Arglwydd . A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , wele , gerbron Duw , nad wyf yn dywedyd celwydd . Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia ; Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist : Ond yn unig hwy a glywsent , fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni , yr awron yn pregethu’r ffydd , yr hon gynt a anrheithiasai . A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi . Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas , gan gymryd Titus hefyd gyda mi . Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad , ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd ; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol , rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer , neu ddarfod i mi redeg . Eithr Titus , yr hwn oedd gyda mi , er ei fod yn Roegwr , ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno : A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn , y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu , fel y’n caethiwent ni : I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad , naddo dros awr ; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi . A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth , ( pa fath gynt oeddynt , nid yw ddim i mi ; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn ; ) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi : Eithr yn y gwrthwyneb , pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad , megis am efengyl yr enwaediad i Pedr : ( Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad , a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd : ) A phan wybu Iago , a Cheffas , ac Ioan , y rhai a dybid eu bod yn golofnau , y gras a roddwyd i mi , hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas ; fel yr elem ni at y Cenhedloedd , a hwythau at yr enwaediad . Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion ; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur . A phan ddaeth Pedr i Antiochia , mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb , am ei fod i’w feio . Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago , efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd : ond wedi iddynt ddyfod , efe a giliodd , ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt , gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad . A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef ; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy . Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl , mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll , Os wyt ti , a thi yn Iddew , yn byw fel y Cenhedloedd , ac nid fel yr Iddewon , paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd ? Nyni , y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon , ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid , Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf , ond trwy ffydd Iesu Grist , ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu , fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist , ac nid trwy weithredoedd y ddeddf : oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf . Ac os , wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist , y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid , a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod ? Na ato Duw . Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais , yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr . Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf , fel y byddwn fyw i Dduw . Mi a groeshoeliwyd gyda Christ : eithr byw ydwyf ; eto nid myfi , ond Crist sydd yn byw ynof fi : a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd , ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw , yr hwn a’m carodd , ac a’i dodes ei hun drosof fi . Nid wyf yn dirymu gras Duw : canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder , yna y bu Crist farw yn ofer . O y Galatiaid ynfyd , pwy a’ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd , i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist , wedi ei groeshoelio yn eich plith ? Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych ; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd , ynteu wrth wrandawiad ffydd ? A ydych chwi mor ynfyd ? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd , a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd ? A ddioddefasoch gymaint yn ofer ? os yw ofer hefyd . Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd , ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith , ai o weithredoedd y ddeddf , neu o wrandawiad ffydd , y mae ? Megis y credodd Abraham i Dduw , ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd , y rhai hynny yw plant Abraham . A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd , a ragefengylodd i Abraham , gan ddywedyd , Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd . Felly gan hynny , y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon . Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf , dan felltith y maent : canys ysgrifennwyd , Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf , i’w gwneuthur hwynt . Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw , eglur yw : oblegid , Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd . A’r ddeddf nid yw o ffydd : eithr , Y dyn a wna’r pethau hynny , a fydd byw ynddynt . Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf , gan ei wneuthur yn felltith trosom : canys y mae yn ysgrifenedig , Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren : Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd , trwy Grist Iesu ; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd . Y brodyr , dywedyd yr wyf ar wedd ddynol ; Cyd na byddo ond amod dyn , wedi y cadarnhaer , nid yw neb yn ei ddirymu , neu yn rhoddi ato . I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion , ac i’w had ef . Nid yw yn dywedyd , Ac i’w hadau , megis am lawer ; ond megis am un , Ac i’th had di , yr hwn yw Crist . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd , am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist , nad yw’r ddeddf , oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi , yn ei ddirymu , i wneuthur yr addewid yn ofer . Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth , nid yw haeach o’r addewid : ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid . Beth gan hynny yw’r ddeddf ? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg , hyd oni ddelai’r had , i’r hwn y gwnaethid yr addewid ; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr . A chyfryngwr nid yw i un ; ond Duw sydd un . A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw ? Na ato Duw : canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau , yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder . Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod , fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu . Eithr cyn dyfod ffydd , y’n cadwyd dan y ddeddf , wedi ein cyd‐gau i’r ffydd , yr hon oedd i’w datguddio . Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist , fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd . Eithr wedi dyfod ffydd , nid ydym mwyach dan athro . Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu . Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist , a wisgasoch Grist . Nid oes nac Iddew na Groegwr , nid oes na chaeth na rhydd , nid oes na gwryw na benyw : canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu . Ac os eiddo Crist ydych , yna had Abraham ydych , ac etifeddion yn ôl yr addewid . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd : dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen , nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas , er ei fod yn arglwydd ar y cwbl ; Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr , hyd yr amser a osodwyd gan y tad . Felly ninnau hefyd , pan oeddem fechgyn , oeddem gaethion dan wyddorion y byd : Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser , y danfonodd Duw ei Fab , wedi ei wneuthur o wraig , wedi ei wneuthur dan y ddeddf ; Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf , fel y derbyniem y mabwysiad . Ac oherwydd eich bod yn feibion , yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi , yn llefain , Abba , Dad . Felly nid wyt ti mwy yn was , ond yn fab ; ac os mab , etifedd hefyd i Dduw trwy Grist . Eithr y pryd hynny , pan oeddech heb adnabod Duw , chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau . Ac yn awr , a chwi yn adnabod Duw , ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw , pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion , y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu ? Cadw yr ydych ddiwrnodau , a misoedd , ac amseroedd , a blynyddoedd . Y mae arnaf ofn amdanoch , rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer . Byddwch fel myfi , canys yr wyf fi fel chwi , y brodyr , atolwg i chwi : ni wnaethoch i mi ddim cam . A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf . A’m profedigaeth , yr hon oedd yn fy nghnawd , ni ddiystyrasoch , ac ni ddirmygasoch ; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw , megis Crist Iesu . Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi ? canys tystio yr wyf i chwi , pe buasai bosibl , y tynasech eich llygaid , ac a’u rhoesech i mi . A euthum i gan hynny yn elyn i chwi , wrth ddywedyd i chwi y gwir ? Y maent yn rhoi mawr serch arnoch , ond nid yn dda ; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan , fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy . Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol , ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi . Fy mhlant bychain , y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn , hyd oni ffurfier Crist ynoch ; Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi , a newidio fy llais ; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch . Dywedwch i mi , y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf , onid ydych chwi yn clywed y ddeddf ? Canys y mae’n ysgrifenedig , fod i Abraham ddau fab ; un o’r wasanaethferch , ac un o’r wraig rydd . Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch , a aned yn ôl y cnawd ; a’r hwn oedd o’r wraig rydd , trwy’r addewid . Yr hyn bethau ydynt mewn alegori : canys y rhai hyn yw’r ddau destament ; un yn ddiau o fynydd Seina , yn cenhedlu i gaethiwed , yr hon yw Agar : Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia , ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr ; ac y mae yn gaeth , hi a’i phlant . Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd , yr hon yw ein mam ni oll . Canys ysgrifenedig yw , Llawenha , di’r amhlantadwy , yr hon nid wyt yn epilio ; tor allan a llefa , yr hon nid wyt yn esgor : canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr . A ninnau , frodyr , megis yr oedd Isaac , ydym blant yr addewid . Eithr megis y pryd hynny , yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd , felly yr awr hon hefyd . Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd ? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab : canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd . Felly , frodyr , nid plant i’r wasanaethferch ydym , ond i’r wraig rydd . Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni ; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed . Wele , myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych , Os enwaedir chwi , ni lesâ Crist ddim i chwi . Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir , ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf . Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist , y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf : chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras . Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder . Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim , na dienwaediad ; ond ffydd yn gweithio trwy gariad . Chwi a redasoch yn dda ; pwy a’ch rhwystrodd chwi , fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd ? Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi . Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does . Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd , na syniwch chwi ddim arall : ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth , pwy bynnag fyddo . A myfi , frodyr , os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu , paham y’m herlidir eto ? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes . Mi a fynnwn , ie , pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch . Canys i ryddid y’ch galwyd chwi , frodyr : yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd , ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd . Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair , sef yn hwn ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych , gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd . Ac yr wyf yn dywedyd , Rhodiwch yn yr Ysbryd , ac na chyflawnwch drachwant y cnawd . Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd , a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd : a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd , fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch . Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir , nid ydych dan y ddeddf . Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd ; y rhai yw , torpriodas , godineb , aflendid , anlladrwydd , Delw‐addoliaeth , swyn‐gyfaredd , casineb , cynhennau , gwynfydau , llid , ymrysonau , ymbleidio , heresïau , Cenfigennau , llofruddiaeth , meddwdod , cyfeddach , a chyffelyb i’r rhai hyn : am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych , megis ag y rhagddywedais , na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw . Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw , cariad , llawenydd , tangnefedd , hirymaros , cymwynasgarwch , daioni , ffydd , addfwynder , dirwest : Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf . A’r rhai sydd yn eiddo Crist , a groeshoeliasant y cnawd , â’i wyniau a’i chwantau . Os byw yr ydym yn yr Ysbryd , rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd . Na fyddwn wag‐ogoneddgar , gan ymannog ein gilydd , gan ymgenfigennu wrth ein gilydd . Y brodyr , os goddiweddir dyn ar ryw fai , chwychwi y rhai ysbrydol , adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder ; gan dy ystyried dy hun , rhag dy demtio dithau . Dygwch feichiau eich gilydd , ac felly cyflawnwch gyfraith Crist . Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth , ac yntau heb fod yn ddim , y mae efe yn ei dwyllo ei hun . Eithr profed pob un ei waith ei hun : ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig , ac nid mewn arall . Canys pob un a ddwg ei faich ei hun . A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu , ym mhob peth da . Na thwyller chwi ; ni watwarir Duw : canys beth bynnag a heuo dyn , hynny hefyd a fed efe . Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun , o’r cnawd a fed lygredigaeth : eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd , o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol . Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn : canys yn ei iawn bryd y medwn , oni ddiffygiwn . Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas , gwnawn dda i bawb , ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd . Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun . Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd , y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu ; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist . Canys nid yw’r rhai a enwaedir , eu hunain yn cadw’r ddeddf ; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi , fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi . Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi , a minnau i’r byd . Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim , na dienwaediad , ond creadur newydd . A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon , tangnefedd arnynt a thrugaredd , ac ar Israel Duw . O hyn allan na flined neb fi : canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi , frodyr . Amen . Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , at y saint sydd yn Effesus , a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist : Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd , fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad : Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun , yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef , Er mawl gogoniant ei ras ef , trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd : Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef , sef maddeuant pechodau , yn ôl cyfoeth ei ras ef ; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall , Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys , yn ôl ei fodlonrwydd ei hun , yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun : Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd , y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd , ac ar y ddaear , ynddo ef : Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd , wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun : Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef , y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist . Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd , wedi i chwi glywed gair y gwirionedd , efengyl eich iachawdwriaeth : yn yr hwn hefyd , wedi i chwi gredu , y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid ; Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni , hyd bryniad y pwrcas , i fawl ei ogoniant ef . Oherwydd hyn minnau hefyd , wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu , a’ch cariad tuag ar yr holl saint , Nid wyf yn peidio â diolch drosoch , gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau ; Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist , Tad y gogoniant , roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad , trwy ei adnabod ef : Wedi goleuo llygaid eich meddyliau ; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef , a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint , A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu , yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef ; Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist , pan ei cyfododd ef o feirw , ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd , Goruwch pob tywysogaeth , ac awdurdod , a gallu , ac arglwyddiaeth , a phob enw a enwir , nid yn unig yn y byd hwn , ond hefyd yn yr hwn a ddaw : Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef , ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys , Yr hon yw ei gorff ef , ei gyflawnder ef , yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll . A chwithau a fywhaodd efe , pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau ; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn , yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr , yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod ; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt , yn chwantau ein cnawd , gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau ; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint , megis eraill . Eithr Duw , yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd , oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni , Ie , pan oeddem feirw mewn camweddau , a’n cydfywhaodd ni gyda Christ , ( trwy ras yr ydych yn gadwedig ; ) Ac a’n cydgyfododd , ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu : Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai , ragorol olud ei ras ef , trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu . Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig , trwy ffydd ; a hynny nid ohonoch eich hunain : rhodd Duw ydyw : Nid o weithredoedd , fel nad ymffrostiai neb . Canys ei waith ef ydym , wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da , y rhai a ragddarparodd Duw , fel y rhodiem ni ynddynt . Am hynny cofiwch , a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd , y rhai a elwid yn ddienwaediad , gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd ; Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist , wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel , ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid , heb obaith gennych , ac heb Dduw yn y byd : Eithr yr awron yng Nghrist Iesu , chwychwi , y rhai oeddech gynt ymhell , a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist . Canys efe yw ein tangnefedd ni , yr hwn a wnaeth y ddau yn un , ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni : Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth , sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau , fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd , gan wneuthur heddwch ; Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes , wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi . Ac efe a ddaeth , ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell , ac i’r rhai agos . Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad . Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid , ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint , ac yn deulu Duw ; Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi , ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen ; Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu , yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd : Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd . Er mwyn hyn , myfi Paul , carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd ; Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw , yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi : Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch , ( megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau , Wrth yr hyn y gellwch , pan ddarllenoch , wybod fy neall i yn nirgelwch Crist , ) Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion , fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd ; Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion , ac yn gyd‐gorff , ac yn gyd‐gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist , trwy’r efengyl : I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog , yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi , yn ôl grymus weithrediad ei allu ef . I mi , y llai na’r lleiaf o’r holl saint , y rhoddwyd y gras hwn , i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist ; Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch , yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw , yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist : Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd , trwy’r eglwys , fawr amryw ddoethineb Duw , Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni : Yn yr hwn y mae i ni hyfdra , a dyfodfa mewn hyder , trwy ei ffydd ef . Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch , yr hyn yw eich gogoniant chwi . Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist , O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear , Ar roddi ohono ef i chwi , yn ôl cyfoeth ei ogoniant , fod wedi ymgadarnhau mewn nerth , trwy ei Ysbryd ef , yn y dyn oddi mewn ; Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi ; Fel y galloch , wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad , amgyffred gyda’r holl saint , beth yw’r lled , a’r hyd , a’r dyfnder , a’r uchder ; A gwybod cariad Crist , yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth , fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw . Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol , y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno , neu yn eu meddwl , yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni , Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu , dros yr holl genedlaethau , hyd yn oes oesoedd . Amen . Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi , y carcharor yn yr Arglwydd , ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi , Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder , ynghyd â hirymaros , gan oddef eich gilydd mewn cariad ; Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd . Un corff sydd , ac un Ysbryd , megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth ; Un Arglwydd , un ffydd , un bedydd , Un Duw a Thad oll , yr hwn sydd goruwch oll , a thrwy oll , ac ynoch oll . Eithr i bob un ohonom y rhoed gras , yn ôl mesur dawn Crist . Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd , Pan ddyrchafodd i’r uchelder , efe a gaethiwodd gaethiwed , ac a roddes roddion i ddynion . ( Eithr efe a ddyrchafodd , beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear ? Yr hwn a ddisgynnodd , yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd , fel y cyflawnai bob peth . ) Ac efe a roddes rai yn apostolion , a rhai yn broffwydi , a rhai yn efengylwyr , a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon ; I berffeithio’r saint , i waith y weinidogaeth , i adeilad corff Crist : Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd , a gwybodaeth Mab Duw , yn ŵr perffaith , at fesur oedran cyflawnder Crist : Fel na byddom mwyach yn blantos , yn bwhwman , ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth , trwy hoced dynion , trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo : Eithr , gan fod yn gywir mewn cariad , cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth , yr hwn yw’r pen , sef Crist : O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu , trwy bob cymal cynhaliaeth , yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan , yn gwneuthur cynnydd y corff , i’w adeiladu ei hun mewn cariad . Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd , ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd , na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio , yn oferedd eu meddwl , Wedi tywyllu eu deall , wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw , trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt , trwy ddallineb eu calon : Y rhai wedi diddarbodi , a ymroesant i drythyllwch , i wneuthur pob aflendid yn unchwant . Eithr chwychwi , nid felly y dysgasoch Grist ; Os bu i chwi ei glywed ef , ac os dysgwyd chwi ynddo , megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu : Dodi ohonoch heibio , o ran yr ymarweddiad cyntaf , yr hen ddyn , yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus ; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl ; A gwisgo’r dyn newydd , yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd . Oherwydd paham , gan fwrw ymaith gelwydd , dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog : oblegid aelodau ydym i’n gilydd . Digiwch , ac na phechwch : na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi : Ac na roddwch le i ddiafol . Yr hwn a ladrataodd , na ladrated mwyach : eithr yn hytrach cymered boen , gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda ; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno . Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi , ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol , fel y paro ras i’r gwrandawyr . Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw , trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth . Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd , a llid , a dig , a llefain , a chabledd , gyda phob drygioni : A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd , yn dosturiol , yn maddau i’ch gilydd , megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau . Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw , fel plant annwyl ; A rhodiwch mewn cariad , megis y carodd Crist ninnau , ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni , yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd . Eithr godineb , a phob aflendid , neu gybydd‐dra , nac enwer chwaith yn eich plith , megis y gweddai i saint ; Na serthedd , nac ymadrodd ffôl , na choeg ddigrifwch , pethau nid ydynt weddus : eithr yn hytrach rhoddi diolch . Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn , am bob puteiniwr , neu aflan , neu gybydd , yr hwn sydd ddelw‐addolwr , nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw . Na thwylled neb chwi â geiriau ofer : canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod . Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt . Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch , ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd : rhodiwch fel plant y goleuni ; ( Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni , a chyfiawnder , a gwirionedd ; ) Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd . Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch , eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt . Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel . Eithr pob peth , wedi yr argyhoedder , a eglurir gan y goleuni : canys beth bynnag sydd yn egluro , goleuni yw . Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd , Deffro di yr hwn wyt yn cysgu , a chyfod oddi wrth y meirw ; a Christ a oleua i ti . Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus , nid fel annoethion , ond fel doethion ; Gan brynu’r amser , oblegid y dyddiau sydd ddrwg . Am hynny na fyddwch annoethion , eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd . Ac na feddwer chwi gan win , yn yr hyn y mae gormodedd ; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd ; Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau , a hymnau , ac odlau ysbrydol ; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd ; Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth , yn enw ein Harglwydd Iesu Grist ; Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw . Y gwragedd , ymostyngwch i’ch gwŷr priod , megis i’r Arglwydd . Oblegid y gŵr yw pen y wraig , megis ag y mae Crist yn ben i‘r eglwys ; ac efe yw Iachawdwr y corff . Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist , felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth . Y gwŷr , cerwch eich gwragedd , megis ag y carodd Crist yr eglwys , ac a’i rhoddes ei hun drosti ; Fel y sancteiddiai efe hi , a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair ; Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun , yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni , na dim o’r cyfryw ; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius . Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd , megis eu cyrff eu hunain . Yr hwn a garo ei wraig , sydd yn ei garu ei hun . Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun ; eithr ei fagu a’i feithrin y mae , megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys : Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef , o’i gnawd ef , ac o’i esgyrn ef . Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig , a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd . Y dirgelwch hwn sydd fawr : eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd . Ond chwithau hefyd cymain un , felly cared pob un ohonoch ei wraig , fel ef ei hunan ; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr . Y plant , ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd : canys hyn sydd gyfiawn . Anrhydedda dy dad a’th fam , ( yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid ; ) Fel y byddo yn dda i ti , ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear . A chwithau dadau , na yrrwch eich plant i ddigio ; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd . Y gweision , ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd , gydag ofn a dychryn , yn symlrwydd eich calon , megis i Grist ; Nid â golwg‐wasanaeth , fel bodlonwyr dynion , ond fel gweision Crist , yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon ; Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth , megis i’r Arglwydd , ac nid i ddynion : Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un , hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd , pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo . A chwithau feistriaid , gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy , gan roddi bygwth heibio : gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd ; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef . Heblaw hyn , fy mrodyr , ymnerthwch yn yr Arglwydd , ac yng nghadernid ei allu ef . Gwisgwch holl arfogaeth Duw , fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol . Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd , ond yn erbyn tywysogaethau , yn erbyn awdurdodau , yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn , yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd . Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw , fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg ; ac wedi gorffen pob peth , sefyll . Sefwch gan hynny , wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd , a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder ; A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd : Uwchlaw pob dim , wedi cymryd tarian y ffydd , â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall . Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth , a chleddyf yr Ysbryd , yr hwn yw gair Duw : Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd , a bod yn wyliadwrus at hyn yma , trwy bob dyfalbara , a deisyfiad dros yr holl saint ; A throsof finnau , fel y rhodder i mi ymadrodd , trwy agoryd fy ngenau yn hy , i hysbysu dirgelwch yr efengyl ; Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn : fel y traethwyf yn hy amdani , fel y perthyn imi draethu . Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt , beth yr wyf yn ei wneuthur , Tychicus , y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd , a hysbysa i chwi bob peth : Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma ; fel y caech wybod ein helynt ni , ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi . Tangnefedd i’r brodyr , a chariad gyda ffydd , oddi wrth Dduw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb . Amen . Paul a Thimotheus , gweision Iesu Grist , at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi , gyda’r esgobion a’r diaconiaid : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch , Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll , gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd , Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl , o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon ; Gan fod yn hyderus yn hyn , y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da , ei orffen hyd ddydd Iesu Grist : Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll , am eich bod gennyf yn fy nghalon , yn gymaint â’ch bod chwi oll , yn gystal yn fy rhwymau , ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl , yn gyfranogion â mi o ras . Canys Duw sydd dyst i mi , mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist . A hyn yr wyf yn ei weddïo , ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr ; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt ; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist ; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder , y rhai sydd trwy Iesu Grist , er gogoniant a moliant i Dduw . Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod , frodyr , am y pethau a ddigwyddodd i mi , ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl ; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys , ac ym mhob lle arall ; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i , a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn . Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson ; a rhai hefyd o ewyllys da . Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen , nid yn bur , gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i : A’r lleill o gariad , gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd . Beth er hynny ? eto ym mhob modd , pa un bynnag ai mewn rhith , ai mewn gwirionedd , yr ydys yn pregethu Crist : ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen , ie , a llawen fyddaf . Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth , trwy eich gweddi chwi , a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist , Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith , na’m gwaradwyddir mewn dim , eithr mewn pob hyder , fel bob amser , felly yr awron hefyd , y mawrygir Crist yn fy nghorff i , pa un bynnag ai trwy fywyd , ai trwy farwolaeth . Canys byw i mi yw Crist , a marw sydd elw . Ac os byw fyddaf yn y cnawd , hyn yw ffrwyth fy llafur : a pha beth a ddewisaf , nis gwn . Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu , gan fod gennyf chwant i’m datod , ac i fod gyda Christ ; canys llawer iawn gwell ydyw . Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi . A chennyf yr hyder hwn , yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll , er cynnydd i chwi , a llawenydd y ffydd ; Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i , trwy fy nyfodiad i drachefn atoch . Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist ; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi , ai bod yn absennol , y clywyf oddi wrth eich helynt chwi , eich bod yn sefyll yn un ysbryd , ag un enaid , gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl ; Ac heb eich dychrynu mewn un dim , gan eich gwrthwynebwyr : yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth , ond i chwi o iachawdwriaeth , a hynny gan Dduw . Canys i chwi y rhoddwyd , bod i chwi er Crist , nid yn unig gredu ynddo ef , ond hefyd ddioddef erddo ef ; Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi , ac yr awron a glywch ei fod ynof fi . Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist , od oes dim cysur cariad , od oes dim cymdeithas yr Ysbryd , od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau , Cyflawnwch fy llawenydd ; fel y byddoch yn meddwl yr un peth , a’r un cariad gennych , yn gytûn , yn synied yr un peth . Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant , eithr mewn gostyngeiddrwydd , gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain . Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain , eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd . Canys bydded ynoch y meddwl yma , yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu : Yr hwn , ac efe yn ffurf Duw , ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw ; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun , gan gymryd arno agwedd gwas , ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion : A’i gael mewn dull fel dyn , efe a’i darostyngodd ei hun , gan fod yn ufudd hyd angau , ie , angau’r groes . Oherwydd paham , Duw a’i tra‐dyrchafodd yntau , ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw ; Fel yn enw Iesu y plygai pob glin , o’r nefolion , a’r daearolion , a thanddaearolion bethau ; Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd , er gogoniant Duw Dad . Am hynny , fy anwylyd , megis bob amser yr ufuddhasoch , nid fel yn fy ngŵydd yn unig , eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen , gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn . Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef . Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau ; Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed , yn blant difeius i Dduw , yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus , ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd ; Yn cynnal gair y bywyd ; er gorfoledd i mi yn nydd Crist , na redais yn ofer , ac na chymerais boen yn ofer . Ie , a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd , llawenhau yr wyf , a chydlawenhau â chwi oll . Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen , a chydlawenhewch â minnau . Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch , fel y’m cysurer innau hefyd , wedi i mi wybod eich helynt chwi . Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl , yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi . Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain , nid yr eiddo Crist Iesu . Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch , mai fel plentyn gyda thad , y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl . Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon , cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi . Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch . Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus , fy mrawd , a’m cyd‐weithiwr , a’m cyd‐filwr , ond eich cennad chwi , a gweinidog i’m cyfreidiau innau . Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll , ac yn athrist iawn , oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf . Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau : ond Duw a drugarhaodd wrtho ef ; ac nid wrtho ef yn unig , ond wrthyf finnau hefyd , rhag cael ohonof dristwch ar dristwch . Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef , fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn , y byddech chwi lawen , ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch . Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd ; a’r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt : Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau , ac y bu diddarbod am ei einioes , fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o’ch gwasanaeth tuag ataf fi . Weithian , fy mrodyr , byddwch lawen yn yr Arglwydd . Ysgrifennu yr un pethau atoch , gennyf fi yn wir nid yw flin , ac i chwithau y mae yn ddiogel . Gochelwch gŵn , gochelwch ddrwgweithwyr , gochelwch y cyd‐doriad . Canys yr enwaediad ydym ni , y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd , ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu , ac nid yn ymddiried yn y cnawd : Ac er bod gennyf achos i ymddiried , ie , yn y cnawd . Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd , myfi yn fwy : Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd , o genedl Israel , o lwyth Benjamin , yn Hebrëwr o’r Hebreaid ; yn ôl y ddeddf yn Pharisead ; Yn ôl sêl , yn erlid yr eglwys ; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf , yn ddiargyhoedd . Eithr y pethau oedd elw i mi , y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist . Ie , yn ddiamau , yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd : er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth , ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom , fel yr enillwyf Grist , Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun , yr hwn sydd o’r gyfraith , ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist , sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd : Fel yr adnabyddwyf ef , a grym ei atgyfodiad ef , a chymdeithas ei ddioddefiadau ef , gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef ; Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw : Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes , neu fod eisoes wedi fy mherffeithio ; eithr dilyn yr wyf , fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu . Y brodyr , nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael : ond un peth , gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn , ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen , Yr ydwyf yn cyrchu at y nod , am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu . Cynifer gan hynny ag ydym berffaith , syniwn hyn : ac os ydych yn synied dim yn amgen , hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi . Er hynny , y peth y daethom ato , cerddwn wrth yr un rheol , syniwn yr un peth . Byddwch ddilynwyr i mi , frodyr , ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly , megis yr ydym ni yn siampl i chwi . ( Canys y mae llawer yn rhodio , am y rhai y dywedais i chwi yn fynych , ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd , mai gelynion croes Crist ydynt ; Diwedd y rhai yw distryw , duw y rhai yw eu bol , a’u gogoniant yn eu cywilydd , y rhai sydd yn synied pethau daearol . ) Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd ; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr , yr Arglwydd Iesu Grist : Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni , fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef , yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe , ie , ddarostwng pob peth iddo ei hun . Am hynny , fy mrodyr annwyl a hoff , fy llawenydd a’m coron , felly sefwch yn yr Arglwydd , anwylyd . Yr ydwyf yn atolwg i Euodias , ac yn atolwg i Syntyche , synied yr un peth yn yr Arglwydd . Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau , fy ngwir gymar , cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi , ynghyd â Chlement hefyd , a’m cyd‐weithwyr eraill , y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd . Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol : a thrachefn meddaf , Llawenhewch . Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn . Y mae’r Arglwydd yn agos . Na ofelwch am ddim : eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch , gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw . A thangnefedd Duw , yr hwn sydd uwchlaw pob deall , a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu . Yn ddiwethaf , frodyr , pa bethau bynnag sydd wir , pa bethau bynnag sydd onest , pa bethau bynnag sydd gyfiawn , pa bethau bynnag sydd bur , pa bethau bynnag sydd hawddgar , pa bethau bynnag sydd ganmoladwy , od oes un rhinwedd , ac od oes dim clod , meddyliwch am y pethau hyn . Y rhai a ddysgasoch , ac a dderbyniasoch , ac a glywsoch , ac a welsoch ynof fi , y pethau hyn gwnewch : a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi . Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr , oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu ; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd , ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch . Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau : canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf , fod yn fodlon iddo . Ac mi a fedraf ymostwng , ac a fedraf ymhelaethu : ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd , i fod yn llawn ac i fod yn newynog , i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder . Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist , yr hwn sydd yn fy nerthu i . Er hynny , da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i . A chwithau , Philipiaid , hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl , pan euthum i ymaith o Facedonia , na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn , ond chwychwi yn unig . Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid . Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd : eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi . Ond y mae gennyf bob peth , ac y mae gennyf helaethrwydd : mi a gyflawnwyd , wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi ; sef arogl peraidd , aberth cymeradwy , bodlon gan Dduw . A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant , yng Nghrist Iesu . Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu . Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch . Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi , ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll . Amen . Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a Thimotheus ein brawd , At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , gan weddïo drosoch chwi yn wastadol , Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu , ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint ; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd , am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl : Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi , megis ag y mae yn yr holl fyd ; ac sydd yn dwyn ffrwyth , megis ag yn eich plith chwithau , er y dydd y clywsoch , ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd : Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd‐was , yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist ; Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd . Oherwydd hyn ninnau hefyd , er y dydd y clywsom , nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch , a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol ; Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd , gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda , a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw ; Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef , i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd ; Gan ddiolch i’r Tad , yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni : Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch , ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab : Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef , sef maddeuant pechodau : Yr hwn yw delw y Duw anweledig , cyntaf‐anedig pob creadur : Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd , ac sydd ar y ddaear , yn weledig ac yn anweledig , pa un bynnag ai thronau , ai arglwyddiaethau , ai tywysogaethau , ai meddiannau ; pob dim a grewyd trwyddo ef , ac erddo ef . Ac y mae efe cyn pob peth , ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll . Ac efe yw pen corff yr eglwys ; efe , yr hwn yw’r dechreuad , y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw ; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth . Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef ; Ac , wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef , trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun ; trwyddo ef , meddaf , pa un bynnag ai pethau ar y ddaear , ai pethau yn y nefoedd . A chwithau , y rhai oeddech ddieithriaid , a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg , yr awr hon hefyd a gymododd efe , Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth , i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd , ac yn ddifeius , ac yn ddiargyhoedd , ger ei fron ef : Os ydych yn parhau yn y ffydd , wedi eich seilio a’ch sicrhau , ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl , yr hon a glywsoch , ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef ; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog : Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch , ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i , er mwyn ei gorff ef , yr hwn yw’r eglwys : I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog , yn ôl goruchwyliaeth Duw , yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi , i gyflawni gair Duw ; Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau , ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef : I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd ; yr hwn yw Crist ynoch chwi , gobaith y gogoniant : Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu , gan rybuddio pob dyn , a dysgu pob dyn ym mhob doethineb ; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu : Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio , gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef , yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol . Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi , a’r rhai yn Laodicea , a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd ; Fel y cysurid eu calonnau hwy , wedi eu cydgysylltu mewn cariad , ac i bob golud sicrwydd deall , i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw , a’r Tad , a Christ ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel . Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd , er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd , yn llawenychu , ac yn gweled eich trefn chwi , a chadernid eich ffydd yng Nghrist . Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd , felly rhodiwch ynddo ; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef , a’ch cadarnhau yn y ffydd , megis y’ch dysgwyd , gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch . Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll , yn ôl traddodiad dynion , yn ôl egwyddorion y byd , ac nid yn ôl Crist . Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol . Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef , yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod : Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw , trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd , yn enwaediad Crist : Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd , yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw . A chwithau , pan oeddech yn feirw mewn camweddau , a dienwaediad eich cnawd , a gydfywhaodd efe gydag ef , gan faddau i chwi yr holl gamweddau ; Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau , yr hon oedd i’n herbyn ni , yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni , ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd , gan ei hoelio wrth y groes ; Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau , efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd , gan ymorfoleddu arnynt arni hi . Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd , neu am ddiod , neu o ran dydd gŵyl , neu newyddloer , neu Sabothau : Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod ; ond y corff sydd o Grist . Na thwylled neb chwi am eich gwobr , wrth ei ewyllys , mewn gostyngeiddrwydd , ac addoliad angylion , gan ruthro i bethau nis gwelodd , wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun ; Ac heb gyfatal y Pen , o’r hwn y mae’r holl gorff , trwy’r cymalau a’r cysylltiadau , yn derbyn lluniaeth , ac wedi ei gydgysylltu , yn cynyddu gan gynnydd Duw . Am hynny , os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd , paham yr ydych , megis petech yn byw yn y byd , yn ymroi i ordeiniadau , ( Na chyffwrdd ; ac nac archwaetha ; ac na theimla ; Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer ; ) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion ? Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd , a gostyngeiddrwydd , a bod heb arbed y corff , nid mewn bri i ddigoni’r cnawd . Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ , ceisiwch y pethau sydd uchod , lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw . Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod , nid ar bethau sydd ar y ddaear . Canys meirw ydych , a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw . Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni , yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant . Marwhewch gan hynny eich aelodau , y rhai sydd ar y ddaear ; godineb , aflendid , gwŷn , drygchwant , a chybydd‐dod , yr hon sydd eilun‐addoliaeth : O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod : Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt , pan oeddech yn byw ynddynt . Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn ; dicter , llid , drygioni , cabledd , serthedd , allan o’ch genau . Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd , gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd ; A gwisgo’r newydd , yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth , yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef : Lle nid oes na Groegwr nac Iddew , enwaediad na dienwaediad , Barbariad na Scythiad , caeth na rhydd : ond Crist sydd bob peth , ac ym mhob peth . Am hynny , ( megis etholedigion Duw , sanctaidd ac annwyl , ) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau , cymwynasgarwch , gostyngeiddrwydd , addfwynder , ymaros ; Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd , a maddau i’ch gilydd , os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb : megis ag y maddeuodd Crist i chwi , felly gwnewch chwithau . Ac am ben hyn oll , gwisgwch gariad , yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd . A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau , i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff ; a byddwch ddiolchgar . Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb ; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau , a hymnau , ac odlau ysbrydol , gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd . A pha beth bynnag a wneloch , ar air neu ar weithred , gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu , gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef . Y gwragedd , ymostyngwch i’ch gwŷr priod , megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd . Y gwŷr , cerwch eich gwragedd , ac na fyddwch chwerwon wrthynt . Y plant , ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth : canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda . Y tadau , na chyffrowch eich plant , fel na ddigalonnont . Y gweision , ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd ; nid â llygad‐wasanaeth , fel bodlonwyr dynion , eithr mewn symlrwydd calon , yn ofni Duw : A pha beth bynnag a wneloch , gwnewch o’r galon , megis i’r Arglwydd , ac nid i ddynion ; Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth : canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu . Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam , a dderbyn am y cam a wnaeth : ac nid oes derbyn wyneb . Y meistriaid , gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union ; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd . Parhewch mewn gweddi , gan wylied ynddi gyda diolchgarwch ; Gan weddïo hefyd drosom ninnau , ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd , i adrodd dirgelwch Crist , am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau : Fel yr eglurhawyf ef , megis y mae yn rhaid i mi ei draethu . Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan , gan brynu’r amser . Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol , wedi ei dymheru â halen , fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn . Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi , y brawd annwyl , a’r gweinidog ffyddlon , a’r cyd‐was yn yr Arglwydd : Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn , fel y gwybyddai eich helynt chwi , ac y diddanai eich calonnau chwi ; Gydag Onesimus , y ffyddlon a’r annwyl frawd , yr hwn sydd ohonoch chwi . Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma . Y mae Aristarchus , fy nghyd‐garcharor , yn eich annerch ; a Marc , nai Barnabas fab ei chwaer , ( am yr hwn y derbyniasoch orchmynion : os daw efe atoch , derbyniwch ef ; ) A Jesus , yr hwn a elwir Jwstus , y rhai ydynt o’r enwaediad . Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw , y rhai a fuant yn gysur i mi . Y mae Epaffras , yr hwn sydd ohonoch , gwas Crist , yn eich annerch , gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau , ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw . Canys yr ydwyf yn dyst iddo , fod ganddo sêl mawr trosoch chwi , a’r rhai o Laodicea , a’r rhai o Hierapolis . Y mae Luc y ffisigwr annwyl , a Demas , yn eich annerch . Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea , a Nymffas , a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef . Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi , perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid : a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea . A dywedwch wrth Archipus , Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd , ar i ti ei chyflawni hi . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun . Cofiwch fy rhwymau . Gras fyddo gyda chwi . Amen . Paul , a Silfanus , a Thimotheus , at eglwys y Thesaloniaid , yn Nuw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll , gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau , Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi , a llafur eich cariad , ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist , gerbron Duw a’n Tad ; Gan wybod , frodyr annwyl , eich etholedigaeth chwi gan Dduw . Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig , eithr hefyd mewn nerth , ac yn yr Ysbryd Glân , ac mewn sicrwydd mawr ; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith , er eich mwyn chwi . A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni , ac i’r Arglwydd , wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr , gyda llawenydd yr Ysbryd Glân : Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia . Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd , nid yn unig ym Macedonia , ac yn Achaia , ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led ; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim . Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni , pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi , a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod , i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw ; Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd , yr hwn a gyfododd efe o feirw , sef Iesu , yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod . Canys chwi eich hunain a wyddoch , frodyr , ein dyfodiad ni i mewn atoch , nad ofer fu : Eithr wedi i ni ddioddef o’r blaen , a chael amarch , fel y gwyddoch chwi , yn Philipi , ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech . Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid , nac mewn twyll : Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl , felly yr ydym yn llefaru ; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion , ond i Dduw , yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni . Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus , fel y gwyddoch chwi , nac mewn rhith cybydd-dod ; Duw yn dyst : Nac yn ceisio moliant gan ddynion , na chennych chwi , na chan eraill ; lle y gallasem bwyso arnoch , fel apostolion Crist . Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi , megis mamaeth yn maethu ei phlant . Felly , gan eich hoffi chwi , ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi , nid yn unig efengyl Duw , ond ein heneidiau ein hunain hefyd , am eich bod yn annwyl gennym . Canys cof yw gennych , frodyr , ein llafur a’n lludded ni : canys gan weithio nos a dydd , fel na phwysem ar neb ohonoch , ni a bregethasom i chwi efengyl Duw . Tystion ydych chwi , a Duw hefyd , mor sanctaidd , ac mor gyfiawn , a diargyhoedd , yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu : Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori , ac yn eich cysuro , bob un ohonoch , fel tad ei blant ei hun , Ac yn ymbil , ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw , yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant . Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid , oherwydd i chwi , pan dderbyniasoch air Duw , yr hwn a glywsoch gennym ni , ei dderbyn ef nid fel gair dyn , eithr fel y mae yn wir , yn air Duw , yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu . Canys chwychwi , frodyr , a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw , y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu ; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl , megis hwythau gan yr Iddewon : Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu , a’u proffwydi eu hunain , ac a’n herlidiasant ninnau ymaith ; ac ydynt heb ryngu bodd Duw , ac yn erbyn pob dyn ; Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd , fel yr iacheid hwy , i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol : canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf . A ninnau , frodyr , wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr , yng ngolwg , nid yng nghalon , a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr . Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch ( myfi Paul , yn ddiau , ) unwaith a dwywaith hefyd ; eithr Satan a’n lluddiodd ni . Canys beth yw ein gobaith ni , neu ein llawenydd , neu goron ein gorfoledd ? onid chwychwi , gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef ? Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni . Am hynny , gan na allem ymatal yn hwy , ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen ; Ac a ddanfonasom Timotheus , ein brawd , a gweinidog Duw , a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist , i’ch cadarnhau chwi , ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd ; Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn : canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni . Canys yn wir pan oeddem gyda chwi , ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni ; megis y bu , ac y gwyddoch chwi . Oherwydd hyn , minnau , heb allu ymatal yn hwy , a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi ; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi , a myned ein llafur ni yn ofer . Eithr yr awron , wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych , a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad , a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol , gan hiraethu am ein gweled ni , megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau ; Am hynny y cawsom gysur , frodyr , amdanoch chwi , yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid , trwy eich ffydd chwi . Oblegid yr awron byw ydym ni , os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd . Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi , am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni , Gan weddïo mwy na mwy , nos a dydd , ar gael gweled eich wyneb chwi , a chyflawni diffygion eich ffydd chwi ? A Duw ei hun a’n Tad ni , a’n Harglwydd Iesu Grist , a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi . A’r Arglwydd a’ch lluosogo , ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd , ac i bawb , megis ag yr ydym ninnau i chwi : I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad , yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint . Ymhellach gan hynny , frodyr , yr ydym yn atolwg i chwi , ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu , megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw , ar i chwi gynyddu fwyfwy . Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu . Canys hyn yw ewyllys Duw , sef eich sancteiddiad chwi , ar ymgadw ohonoch rhag godineb : Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch ; Nid mewn gwŷn trachwant , megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw : Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim : canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll , megis y dywedasom i chwi o’r blaen , ac y tystiasom . Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid , ond i sancteiddrwydd . Am hynny y neb sydd yn dirmygu , nid dyn y mae yn ei ddirmygu , ond Duw , yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni . Ond am frawdgarwch , nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch : canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd . Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia : ond yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , gynyddu ohonoch fwyfwy ; A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd , a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain , a gweithio â’ch dwylo eich hunain , ( megis y gorchmynasom i chwi ; ) Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan , ac na byddo arnoch eisiau dim . Ond ni ewyllysiwn , frodyr , i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant , na thristaoch , megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith . Canys os ydym yn credu farw Iesu , a’i atgyfodi ; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu , a ddwg Duw hefyd gydag ef . Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd , na bydd i ni’r rhai byw , y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd , ragflaenu’r rhai a hunasant . Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd , â llef yr archangel , ac ag utgorn Duw : a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf : Yna ninnau’r rhai byw , y rhai a adawyd , a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau , i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr : ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd . Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn . Eithr am yr amserau a’r prydiau , frodyr , nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch . Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys , mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos . Canys pan ddywedant , Tangnefedd a diogelwch ; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf , megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog ; ac ni ddihangant hwy ddim . Ond chwychwi , frodyr , nid ydych mewn tywyllwch , fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr . Chwychwi oll , plant y goleuni ydych , a phlant y dydd : nid ydym ni o’r nos , nac o’r tywyllwch . Am hynny na chysgwn , fel rhai eraill ; eithr gwyliwn , a byddwn sobr . Canys y rhai a gysgant , y nos y cysgant ; a’r rhai a feddwant , y nos y meddwant . Eithr nyni , gan ein bod o’r dydd , byddwn sobr , wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad , ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm . Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint , ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist , Yr hwn a fu farw drosom ; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu , y byddom fyw gydag ef . Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd , ac adeiledwch bob un eich gilydd , megis ag yr ydych yn gwneuthur . Ac yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg , ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd , ac yn eich rhybuddio ; A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad , er mwyn eu gwaith . Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain . Ond yr ydym yn deisyf arnoch , frodyr , rhybuddiwch y rhai afreolus , diddenwch y gwan eu meddwl , cynheliwch y gweiniaid , byddwch ymarhous wrth bawb . Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb : eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda , tuag at eich gilydd , a thuag at bawb . Byddwch lawen yn wastadol . Gweddïwch yn ddi-baid . Ym mhob dim diolchwch : canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi . Na ddiffoddwch yr Ysbryd . Na ddirmygwch broffwydoliaethau . Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda . Ymgedwch rhag pob rhith drygioni . A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll : a chadwer eich ysbryd oll , a’ch enaid , a’ch corff , yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist . Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd , yr hwn hefyd a’i gwna . O frodyr , gweddïwch drosom . Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol . Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd , ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi . Amen . Paul , a Silfanus , a Thimotheus , at eglwys y Thesaloniaid , yn Nuw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch , frodyr , fel y mae yn addas , oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu , a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu ; Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw , oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef : Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw , fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw , er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef . Canys cyfiawn yw gerbron Duw , dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi ; Ac i chwithau , y rhai a gystuddir , esmwythdra gyda ni , yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef , gyda’i angylion nerthol , A thân fflamllyd , gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw , ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist : Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth , ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd , ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef ; Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint , ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu , ( oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu , ) yn y dydd hwnnw . Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch , ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon , a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni , a gwaith ffydd , yn nerthol : Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi , a chwithau ynddo yntau , yn ôl gras ein Duw ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Ac yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist , a’n cydgynulliad ninnau ato ef , Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl , ac na’ch cynhyrfer , na chan ysbryd , na chan air , na chan lythyr , megis oddi wrthym ni , fel pe bai dydd Crist yn gyfagos . Na thwylled neb chwi mewn un modd : oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf , a datguddio’r dyn pechod , mab y golledigaeth ; Yr hwn sydd yn gwrthwynebu , ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw , neu a addolir ; hyd onid yw efe , megis Duw , yn eistedd yn nheml Duw , ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw . Onid cof gennych chwi , pan oeddwn i eto gyda chwi , ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi ? Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal , fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun . Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes : yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal , a etyl nes ei dynnu ymaith . Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw , yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau , ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad : Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan , gyda phob nerth , ac arwyddion , a rhyfeddodau gau , A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig ; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd , fel y byddent gadwedig . Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn , fel y credont gelwydd : Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd , ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder . Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi , frodyr caredig gan yr Arglwydd , oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth , trwy sancteiddiad yr Ysbryd , a ffydd i’r gwirionedd : I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni , i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist . Am hynny , frodyr , sefwch , a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch , pa un bynnag ai trwy ymadrodd , ai trwy ein hepistol ni . A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun , a Duw a’n Tad , yr hwn a’n carodd ni , ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol , a gobaith da trwy ras , A ddiddano eich calonnau chwi , ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda . Bellach , frodyr , gweddïwch drosom ni , ar fod i air yr Arglwydd redeg , a chael gogonedd , megis gyda chwithau ; Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus : canys nid oes ffydd gan bawb . Eithr ffyddlon yw’r Arglwydd , yr hwn a’ch sicrha chwi , ac a’ch ceidw rhag drwg . Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch , eich bod yn gwneuthur , ac y gwnewch , y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi . A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw , ac i ymaros am Grist . Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi , frodyr , yn enw ein Harglwydd Iesu Grist , dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus , ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni . Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni : oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi ; Ac ni fwytasom fara neb yn rhad ; ond trwy weithio mewn llafur a lludded , nos a dydd , fel na phwysem ar neb ohonoch chwi ; Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod , ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn . Canys pan oeddem hefyd gyda chwi , hyn a orchmynasom i chwi , Os byddai neb ni fynnai weithio , ni châi fwyta chwaith . Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus , heb weithio dim , ond bod yn rhodresgar . Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym , a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist , ar iddynt weithio trwy lonyddwch , a bwyta eu bara eu hunain . A chwithau , frodyr , na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni . Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma , hysbyswch hwnnw ; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef , megis y cywilyddio efe . Er hynny na chymerwch ef megis gelyn , eithr cynghorwch ef fel brawd . Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd . Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun ; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol : fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu . Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll . Amen . Paul , apostol Iesu Grist , yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr , a’r Arglwydd Iesu Grist , ein gobaith : At Timotheus , fy mab naturiol yn y ffydd : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a Crist Iesu ein Harglwydd . Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus , pan euthum i Facedonia , fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen , Ac na ddaliont ar chwedlau , ac achau anorffen , y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol , yr hon sydd trwy ffydd ; gwna felly . Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur , a chydwybod dda , a ffydd ddiragrith : Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai , ac y troesant heibio at ofer siarad ; Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf , heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd , nac am ba bethau y maent yn taeru . Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith , os arfer dyn hi yn gyfreithlon ; Gan wybod hyn , nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith , eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd , i’r rhai annuwiol a phechaduriaid , i’r rhai disanctaidd a halogedig , i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid , i leiddiaid dynion , I buteinwyr , i wryw‐gydwyr , i ladron dynion , i gelwyddwyr , i anudonwyr , ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus ; Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw , am yr hon yr ymddiriedwyd i mi . Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i , sef Crist Iesu ein Harglwydd , am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon , gan fy ngosod yn y weinidogaeth ; Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr , ac yn erlidiwr , ac yn drahaus : eithr mi a gefais drugaredd , am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth . A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu . Gwir yw’r gair , ac yn haeddu pob derbyniad , ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid ; o ba rai , pennaf ydwyf i . Eithr o achos hyn y cefais drugaredd , fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef , er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol . Ac i’r Brenin tragwyddol , anfarwol , anweledig , i’r Duw unig ddoeth , y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti , fy mab Timotheus , yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat , ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda ; Gan fod gennyt ffydd , a chydwybod dda ; yr hon a wrthododd rhai , ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd : O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander ; y rhai a roddais i Satan , fel y dysgent na chablent . Cynghori yr ydwyf am hynny , ymlaen pob peth , fod ymbiliau , gweddïau , deisyfiadau , a thalu diolch , dros bob dyn ; Dros frenhinoedd , a phawb sydd mewn goruchafiaeth ; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd . Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad ; Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig , a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd . Canys un Duw sydd , ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion , y dyn Crist Iesu ; Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb , i’w dystiolaethu yn yr amseroedd priod . I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr , ac yn apostol , ( y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist , nid wyf yn dywedyd celwydd ; ) yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd . Am hynny yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddïo ym mhob man , gan ddyrchafu dwylo sanctaidd , heb na dicter na dadl . Yr un modd hefyd , bod i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus , gyda gwylder a sobrwydd ; nid â gwallt plethedig , neu aur , neu emau , neu ddillad gwerthfawr ; Ond , ( yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb , ) â gweithredoedd da . Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd . Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu , nac ymawdurdodi ar y gŵr , eithr bod mewn distawrwydd . Canys Adda a luniwyd yn gyntaf , yna Efa . Ac nid Adda a dwyllwyd ; eithr y wraig , wedi ei thwyllo , oedd yn y camwedd . Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant , os arhosant hwy mewn ffydd , a chariad , a sancteiddrwydd , ynghyd â sobrwydd . Gwir yw’r gair , Od yw neb yn chwennych swydd esgob , gwaith da y mae yn ei chwennych . Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd , yn ŵr un wraig , yn wyliadwrus , yn sobr , yn weddaidd , yn lletygar , yn athrawaidd ; Nid yn wingar , nid yn drawydd , nid yn budrelwa ; eithr yn dirion , yn anymladdgar , yn ddiariangar ; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda , yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd ; ( Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun , pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw ? ) Nid yn newyddian yn y ffydd , rhag iddo ymchwyddo , a syrthio i ddamnedigaeth diafol . Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan ; rhag iddo syrthio i waradwydd , ac i fagl diafol . Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest ; nid yn ddaueiriog , nid yn ymroi i win lawer , nid yn budrelwa ; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur . A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf ; yna gwasanaethant swydd diaconiaid , os byddant ddiargyhoedd . Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest , nid yn enllibaidd , yn sobr , yn ffyddlon ym mhob peth . Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig , yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda . Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda , ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda , a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu . Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat , gan obeithio dyfod atat ar fyrder : Ond os tariaf yn hir , fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw , yr hwn yw eglwys y Duw byw , colofn a sylfaen y gwirionedd . Ac yn ddi‐ddadl , mawr yw dirgelwch duwioldeb ; Duw a ymddangosodd yn y cnawd , a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd , a welwyd gan angylion , a bregethwyd i’r Cenhedloedd , a gredwyd iddo yn y byd , a gymerwyd i fyny mewn gogoniant . Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd , gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus , ac i athrawiaethau cythreuliaid ; Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith , a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth ; Yn gwahardd priodi , ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd , y rhai a greodd Duw i’w derbyn , trwy roddi diolch , gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd . Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda , ac nid oes dim i’w wrthod , os cymerir trwy dalu diolch . Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi . Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr , ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist , wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda , yr hon a ddilynaist . Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau , ac ymarfer dy hun i dduwioldeb . Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol : eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth , a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron , ac o’r hwn a fydd . Gwir yw’r gair , ac yn haeddu pob derbyniad . Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni , ac yn cael ein gwaradwyddo , oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw , yr hwn yw Achubydd pob dyn , yn enwedig y ffyddloniaid . Y pethau hyn gorchymyn a dysg . Na ddiystyred neb dy ieuenctid di ; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid , mewn gair , mewn ymarweddiad , mewn cariad , mewn ysbryd , mewn ffydd , mewn purdeb . Hyd oni ddelwyf , glŷn wrth ddarllen , wrth gynghori , wrth athrawiaethu . Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot , yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth , gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth . Myfyria ar y pethau hyn , ac yn y pethau hyn aros ; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb . Gwylia arnat dy hun , ac ar yr athrawiaeth ; aros ynddynt : canys os gwnei hyn , ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat . Na cherydda hynafgwr , eithr cynghora ef megis tad ; a’r rhai ieuainc , megis brodyr ; Yr hen wragedd , megis mamau ; y rhai ieuainc , megis chwiorydd , gyda phob purdeb . Anrhydedda’r gwragedd gweddwon , y rhai sydd wir weddwon . Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion , dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref , a thalu’r pwyth i’w rhieni : canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw . Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig , sydd yn gobeithio yn Nuw , ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd . Ond yr hon sydd drythyll , a fu farw , er ei bod yn fyw . A gorchymyn y pethau hyn , fel y byddont ddiargyhoedd . Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo , ac yn enwedig ei deulu , efe a wadodd y ffydd , a gwaeth yw na’r di‐ffydd . Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed , yr hon fu wraig i un gŵr , Yn dda ei gair am weithredoedd da ; os dygodd hi blant i fyny , os bu letygar , o golchodd hi draed y saint , o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol , o dilynodd hi bob gorchwyl da . Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc : canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist , priodi a fynnant ; Gan gael barnedigaeth , am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf . A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur , gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ ; ac nid yn segur yn unig , ond hefyd yn wag-siaradus , ac yn rhodresgar , gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys . Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi , planta , gwarchod y tŷ , heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi . Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan . Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon , cynorthwyant hwynt , ac na phwyser ar yr eglwys ; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon . Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda , yn deilwng o barch dauddyblyg ; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth . Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd , Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd : ac , Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog . Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn , oddieithr dan ddau neu dri o dystion . Y rhai sydd yn pechu , cerydda yng ngŵydd pawb , fel y byddo ofn ar y lleill . Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw , a’r Arglwydd Iesu Grist , a’r etholedig angylion , gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn , heb wneuthur dim o gydbartïaeth . Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb , ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill : cadw dy hun yn bur . Nac yf ddwfr yn hwy ; eithr arfer ychydig win , er mwyn dy gylla a’th fynych wendid . Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen , yn rhagflaenu i farn ; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd . Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen ; a’r rhai sydd amgenach , nis gellir eu cuddio . Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau , tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd ; fel na chabler enw Duw , a’i athrawiaeth ef . A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu , na ddiystyrant hwynt , oherwydd eu bod yn frodyr ; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt , am eu bod yn credu , ac yn annwyl , yn gyfranogion o’r llesâd . Y pethau hyn dysg a chynghora . Od oes neb yn dysgu yn amgenach , ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist , ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb ; Chwyddo y mae , heb wybod dim , eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau , ac ymryson ynghylch geiriau ; o’r rhai y mae cenfigen , ymryson , cableddau , drwg dybiau , yn dyfod , Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl , heb fod y gwirionedd ganddynt , yn tybied mai elw yw duwioldeb : cilia oddi wrth y cyfryw . Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd . Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd , ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith . Ac o bydd gennym ymborth a dillad , ymfodlonwn ar hynny . Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi , sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl , a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol , y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth . Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch : yr hon , a rhai yn chwannog iddi , hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd , ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau . Eithr tydi , gŵr Duw , gochel y pethau hyn ; a dilyn gyfiawnder , duwioldeb , ffydd , cariad , amynedd , addfwyndra . Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd ; cymer afael ar y bywyd tragwyddol ; i’r hwn hefyd y’th alwyd , ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion . Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw , yr hwn sydd yn bywhau pob peth , a cherbron Crist Iesu , yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda ; Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius , yn ddiargyhoedd , hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist : Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth , Brenin y brenhinoedd , ac Arglwydd yr arglwyddi ; Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb , sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato , yr hwn nis gwelodd un dyn , ac ni ddichon ei weled : i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol . Amen . Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma , na byddont uchel feddwl , ac na obeithiont mewn golud anwadal , ond yn y Duw byw , yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau : Ar iddynt wneuthur daioni , ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da , fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu ; Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod , fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol . O Timotheus , cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat , gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain , a gwrthwyneb gwybodaeth , a gamenwir felly : Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu , hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd . Gras fyddo gyda thi . Amen . Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , yn ôl addewid y bywyd , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu , At Timotheus , fy mab annwyl : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , a Crist Iesu ein Harglwydd . Y mae gennyf ddiolch i Dduw , yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur , mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd ; Gan fawr ewyllysio dy weled , gan gofio dy ddagrau , fel y’m llanwer o lawenydd ; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti , yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois , ac yn dy fam Eunice ; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd . Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw , yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i . Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn ; ond ysbryd nerth , a chariad , a phwyll . Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd , nac ohonof finnau ei garcharor ef : eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl , yn ôl nerth Duw ; Yr hwn a’n hachubodd ni , ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd , nid yn ôl ein gweithredoedd ni , ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras , yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu , cyn dechrau’r byd , Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist , yr hwn a ddiddymodd angau , ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl : I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr , ac yn apostol , ac yn athro’r Cenhedloedd . Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn : ond nid oes arnaf gywilydd : canys mi a wn i bwy y credais ; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw . Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus , y rhai a glywaist gennyf fi , yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu . Y peth da a rodded i’w gadw atat , cadw trwy’r Ysbryd Glân , yr hwn sydd yn preswylio ynom . Ti a wyddost hyn , ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi ; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes . Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus ; canys efe a’m llonnodd i yn fynych , ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i : Eithr pan oedd yn Rhufain , efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn , ac a’m cafodd . Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw : a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus , gorau y gwyddost ti . Tydi gan hynny , fy mab , ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu . A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion , traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon , y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd . Tydi gan hynny goddef gystudd , megis milwr da i Iesu Grist . Nid yw neb a’r sydd yn milwrio , yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn ; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr . Ac od ymdrech neb hefyd , ni choronir ef , onid ymdrech yn gyfreithlon . Y llafurwr sydd yn llafurio , sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau . Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd ; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth . Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd , o feirw , yn ôl fy efengyl i : Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau , fel drwgweithredwr ; eithr gair Duw nis rhwymir . Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion , fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu , gyda gogoniant tragwyddol . Gwir yw’r gair : Canys os buom feirw gydag ef , byw fyddwn hefyd gydag ef : Os dioddefwn , ni a deyrnaswn gydag ef : os gwadwn ef , yntau hefyd a’n gwad ninnau : Os ŷm ni heb gredu , eto y mae efe yn aros yn ffyddlon : nis gall efe ei wadu ei hun . Dwg y pethau hyn ar gof , gan orchymyn gerbron yr Arglwydd , na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau , yr hyn nid yw fuddiol i ddim , ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr . Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw , yn weithiwr di-fefl , yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd . Ond halogedig ofer-sain , gochel , canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb . A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr : ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus ; Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant , gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes ; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai . Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll , a chanddo’r sêl hon : Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef : a , Pob un sydd yn enwi enw Crist , ymadawed oddi wrth anghyfiawnder . Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian , ond hefyd o bren ac o bridd ; a rhai i barch , a rhai i amarch . Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn , efe a fydd yn llestr i barch , wedi ei sancteiddio , ac yn gymwys i’r Arglwydd , wedi ei ddarparu i bob gweithred dda . Ond chwantau ieuenctid , ffo oddi wrthynt : a dilyn gyfiawnder , ffydd , cariad , tangnefedd , gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur . Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau , gan wybod eu bod yn magu ymrysonau . Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson : ond bod yn dirion wrth bawb , yn athrawus , yn ddioddefgar , Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus ; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd ; A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol , y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef . Gwybydd hyn hefyd , y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf . Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain , yn ariangar , yn ymffrostwyr , yn feilchion , yn gablwyr , yn anufuddion i rieni , yn anniolchgar , yn annuwiol , Yn angharedig , yn torri cyfamod , yn enllibaidd , yn anghymesur , yn anfwyn , yn ddiserch i’r rhai da , Yn fradwyr , yn waedwyllt , yn chwyddedig , yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw ; A chanddynt rith duwioldeb , eithr wedi gwadu ei grym hi : a’r rhai hyn gochel di . Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau , ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau , wedi eu harwain gan amryw chwantau , Yn dysgu bob amser , ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd . Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses , felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd , dynion o feddwl llygredig , yn anghymeradwy o ran y ffydd . Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach : canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb , megis y bu yr eiddynt hwythau . Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth , fy muchedd , fy arfaeth , ffydd , hirymaros , cariad , amynedd , Yr erlidiau , y dioddefiadau , y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia , yn Iconium , yn Lystra ; pa erlidiau a ddioddefais : eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd . Ie , a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu , a erlidir . Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth , gan dwyllo , a chael eu twyllo . Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist , ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt , gan wybod gan bwy y dysgaist ; Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân , yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu . Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw , ac sydd fuddiol i athrawiaethu , i argyhoeddi , i geryddu , i hyfforddi mewn cyfiawnder : Fel y byddo dyn Duw yn berffaith , wedi ei berffeithio i bob gweithred dda . Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw , a’r Arglwydd Iesu Grist , yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas ; Pregetha’r gair ; bydd daer mewn amser , allan o amser ; argyhoedda , cerydda , annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth . Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus ; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon , gan fod eu clustiau yn merwino ; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau , ac at chwedlau y troant . Eithr gwylia di ym mhob peth , dioddef adfyd , gwna waith efengylwr , cyflawna dy weinidogaeth . Canys myfi yr awron a aberthir , ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd . Mi a ymdrechais ymdrech deg , mi a orffennais fy ngyrfa , mi a gedwais y ffydd . O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi , yr hon a rydd yr Arglwydd , y Barnwr cyfiawn , i mi yn y dydd hwnnw : ac nid yn unig i mi , ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef . Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd : Canys Demas a’m gadawodd , gan garu’r byd presennol , ac a aeth ymaith i Thesalonica ; Crescens i Galatia , Titus i Dalmatia . Luc yn unig sydd gyda mi . Cymer Marc , a dwg gyda thi : canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth . Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus . Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus , pan ddelych , dwg gyda thi , a’r llyfrau , yn enwedig y memrwn . Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer : taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd : Yr hwn hefyd gochel dithau ; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni . Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi , eithr pawb a’m gadawsant : mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt . Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi , ac a’m nerthodd ; fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn llawn hysbys , ac y clywai’r holl Genhedloedd : ac mi a waredwyd o enau y llew . A’r Arglwydd a’m gwared i rhag pob gweithred ddrwg , ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol : i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Annerch Prisca ac Acwila , a theulu Onesifforus . Erastus a arhosodd yng Nghorinth : ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf . Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf . Y mae Eubulus yn dy annerch , a Phudens , a Linus , a Chlaudia , a’r brodyr oll . Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di . Gras fyddo gyda chwi . Amen . Paul , gwas Duw , ac apostol Iesu Grist , yn ôl ffydd etholedigion Duw , ac adnabyddiaeth y gwirionedd , yr hon sydd yn ôl duwioldeb ; I obaith bywyd tragwyddol , yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd ; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu , am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi , yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr ; At Titus , fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni . Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta , fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl , ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas , megis yr ordeiniais i ti : Os yw neb yn ddiargyhoedd , yn ŵr un wraig , a chanddo blant ffyddlon , heb gael y gair o fod yn afradlon , neu yn anufudd : Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd , fel goruchwyliwr Duw ; nid yn gyndyn , nid yn ddicllon , nid yn wingar , nid yn drawydd , nid yn budrelwa ; Eithr yn lletygar , yn caru daioni , yn sobr , yn gyfiawn , yn sanctaidd , yn dymherus ; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg , fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus , ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd . Canys y mae llawer yn anufudd , yn ofer‐siaradus , ac yn dwyllwyr meddyliau , yn enwedig y rhai o’r enwaediad : Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau , y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain , gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid , er mwyn budrelw . Un ohonynt hwy eu hunain , un o’u proffwydi hwy eu hunain , a ddywedodd , Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog , drwg fwystfilod , boliau gorddïog . Y dystiolaeth hon sydd wir . Am ba achos argyhoedda hwy yn llym , fel y byddont iach yn y ffydd ; Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd , a gorchmynion dynion , yn troi oddi wrth y gwirionedd . Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur : eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd , nid pur dim ; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy . Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw ; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent , gan fod yn ffiaidd , ac yn anufudd , ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy . Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus : Bod o’r hynafgwyr yn sobr , yn onest , yn gymesur , yn iach yn y ffydd , yng nghariad , mewn amynedd : Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd ; nid yn enllibaidd , nid wedi ymroi i win lawer , yn rhoi athrawiaeth o ddaioni : Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog , i garu eu gwŷr , i garu eu plant , Yn sobr , yn bur , yn gwarchod gartref , yn dda , yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod , fel na chabler gair Duw . Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr : Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da : a dangos , mewn athrawiaeth , anllygredigaeth , gweddeidd‐dra , purdeb , Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno ; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio , heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi . Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun , ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth ; nid yn gwrthddywedyd ; Nid yn darnguddio , ond yn dangos pob ffyddlondeb da ; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth . Canys ymddangosodd gras Duw , yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn ; Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol , a byw yn sobr , ac yn gyfiawn , ac yn dduwiol , yn y byd sydd yr awron ; Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig , ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr , a’n Hiachawdwr Iesu Grist ; Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom , i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd , ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol , awyddus i weithredoedd da . Y pethau hyn llefara a chynghora , ac argyhoedda gyda phob awdurdod . Na ddiystyred neb di . Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau , fod yn ufudd , fod yn barod i bob gweithred dda , Bod heb gablu neb , yn anymladdgar , yn dirion , gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn . Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion , yn anufudd , yn cyfeiliorni , yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd , gan fyw mewn drygioni a chenfigen , yn ddigasog , yn casáu ein gilydd . Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn , Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni , eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni , trwy olchiad yr adenedigaeth , ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân ; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth , trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr : Fel , gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef , y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol . Gwir yw’r gair , ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer , fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da . Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion . Eithr gochel gwestiynau ffôl , ac achau , a chynhennau , ac ymrysonau ynghylch y ddeddf : canys anfuddiol ydynt ac ofer . Gochel y dyn a fyddo heretic , wedi un ac ail rybudd : Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi , ac yn pechu , gan fod yn ei ddamnio ei hunan . Pan ddanfonwyf Artemas atat , neu Tychicus , bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis : canys yno yr arfaethais aeafu . Hebrwng Senas y cyfreithiwr , ac Apolos yn ddiwyd ; fel na byddo arnynt eisiau dim . A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau , fel na byddont yn ddiffrwyth . Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch . Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd . Gras fyddo gyda chwi oll . Amen . Paul , carcharor Crist Iesu , a’r brawd Timotheus , at Philemon ein hanwylyd , a’n cyd-weithiwr , Ac at Apffia ein hanwylyd , ac at Archipus ein cyd-filwr , ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr wyf yn diolch i’m Duw , gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau , Wrth glywed dy gariad , a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu , a thuag at yr holl saint ; Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol , trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu . Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di , herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti , frawd . Oherwydd paham , er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist , i orchymyn i ti y peth sydd weddus : Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg , er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr , ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist . Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus , yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau : Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol , ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd ; Yr hwn a ddanfonais drachefn : a derbyn dithau ef , yr hwn yw fy ymysgaroedd i : Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi , fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl . Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim ; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid , ond o fodd . Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser , fel y derbynnit ef yn dragywydd ; Nid fel gwas bellach , eithr uwchlaw gwas , yn frawd annwyl , yn enwedig i mi ; eithr pa faint mwy i ti , yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd ? Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith , derbyn ef fel myfi . Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi , neu os yw yn dy ddyled , cyfrif hynny arnaf i ; Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun , myfi a’i talaf : fel na ddywedwyf wrthyt , dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd . Ie , frawd , gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd : llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd . Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat , gan wybod y gwnei , ie , fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd . Heblaw hyn hefyd , paratoa i mi lety : canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi . Y mae yn dy annerch , Epaffras , fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu ; Marc , Aristarchus , Demas , Luc , fy nghyd-weithwyr . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi . Amen . Duw , wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi , yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab ; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth , trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd : Yr hwn , ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef , ac yn wir lun ei berson ef , ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth , wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun , a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd ; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion , o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy . Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser , Fy mab ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais di ? A thrachefn , Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad , ac efe a fydd i mi yn Fab ? A thrachefn , pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd , y mae yn dywedyd , Ac addoled holl angylion Duw ef . Ac am yr angylion y mae yn dywedyd , Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion , a’i weinidogion yn fflam dân . Ond wrth y Mab , Dy orseddfainc di , O Dduw , sydd yn oes oesoedd : teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di . Ti a geraist gyfiawnder , ac a gaseaist anwiredd : am hynny y’th eneiniodd Duw , sef dy Dduw di , ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion . Ac , Tydi yn y dechreuad , Arglwydd , a sylfaenaist y ddaear ; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd : Hwynt‐hwy a ddarfyddant ; ond tydi sydd yn parhau ; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant ; Ac megis gwisg y plygi di hwynt , a hwy a newidir : ond tydi yr un ydwyt , a’th flynyddoedd ni phallant . Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed ? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll , wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth ? Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom , rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli . Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion , ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth ; Pa fodd y dihangwn ni , os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint , yr hon , wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd , a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef : A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu , trwy arwyddion a rhyfeddodau , ac amryw nerthoedd , a doniau yr Ysbryd Glân , yn ôl ei ewyllys ei hun ? Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw , am yr hwn yr ydym yn llefaru . Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd , gan ddywedyd , Pa beth yw dyn , i ti i feddwl amdano ? neu fab dyn , i ti i ymweled ag ef ? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion : â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef , ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo : Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef . Canys wrth ddarostwng pob peth iddo , ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo . Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo . Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu , yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion , oherwydd dioddef marwolaeth , wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd ; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn . Canys gweddus oedd iddo ef , oherwydd yr hwn y mae pob peth , a thrwy yr hwn y mae pob peth , wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant , berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau . Canys yr hwn sydd yn sancteiddio , a’r rhai a sancteiddir , o’r un y maent oll . Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr ; Gan ddywedyd , Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr ; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di . A thrachefn , Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo . A thrachefn , Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi . Oblegid hynny , gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed , yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau ; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo , hynny yw , diafol ; Ac y gwaredai hwynt , y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed . Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion ; eithr had Abraham a gymerodd efe . Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr ; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon , mewn pethau yn perthyn i Dduw , i wneuthur cymod dros bechodau y bobl . Canys yn gymaint â dioddef ohono ef , gan gael ei demtio , efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir . Oherwydd paham , frodyr sanctaidd , cyfranogion o’r galwedigaeth nefol , ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni , Crist Iesu ; Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef , megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef . Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses , o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ . Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un ; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw . A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas , er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru ; Eithr Crist , megis Mab ar ei dŷ ei hun : tŷ yr hwn ydym ni , os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd . Am hynny , megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , Na chaledwch eich calonnau , megis yn y cyffroad , yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch : Lle y temtiodd eich tadau fyfi , y profasant fi , ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd . Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno , ac y dywedais , Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau ; ac nid adnabuant fy ffyrdd i : Fel y tyngais yn fy llid , na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa . Edrychwch , frodyr , na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth , gan ymado oddi wrth Dduw byw . Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw ; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod . Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist , os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd ; Tra dywedir , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , na chaledwch eich calonnau , megis yn y cyffroad . Canys rhai , wedi gwrando , a’i digiasant ef : ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses . Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd ? onid wrth y rhai a bechasent , y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch ? Ac wrth bwy y tyngodd efe , na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef ? onid wrth y rhai ni chredasant ? Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth . Ofnwn gan hynny , gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef , rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl . Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl , megis ag iddynt hwythau : eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy , am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant . Canys yr ydym ni , y rhai a gredasom , yn myned i mewn i’r orffwysfa , megis y dywedodd efe , Fel y tyngais yn fy llid , Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i : er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd . Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn ; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd . Ac yma drachefn , Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i . Gan hynny , gan fod hyn wedi ei adael , fod rhai yn myned i mewn iddi , ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn , oherwydd anghrediniaeth ; Trachefn , y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod , gan ddywedyd yn Dafydd , Heddiw , ar ôl cymaint o amser ; megis y dywedir , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , na chaledwch eich calonnau . Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa , ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall . Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw . Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef , hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun , megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau . Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno , fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth . Canys bywiol yw gair Duw , a nerthol , a llymach nag un cleddyf daufiniog , ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd , a’r cymalau a’r mêr ; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon . Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef : eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn . Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr , yr hwn a aeth i’r nefoedd , Iesu Mab Duw , glynwn yn ein proffes . Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni ; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau , eto heb bechod . Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras , fel y derbyniom drugaredd , ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol . Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion , a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw , fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau : Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd ; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid . Ac o achos hyn y dylai , megis dros y bobl , felly hefyd drosto ei hun , offrymu dros bechodau . Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun , ond yr hwn a alwyd gan Dduw , megis Aaron . Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad ; ond yr hwn a ddywedodd wrtho , Tydi yw fy Mab ; myfi heddiw a’th genhedlais di . Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall , Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec . Yr hwn yn nyddiau ei gnawd , gwedi iddo , trwy lefain cryf a dagrau , offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth , a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd ; Er ei fod yn Fab , a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd : Ac wedi ei berffeithio , efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo ; Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec . Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd , ac anodd eu traethu , o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau . Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser , y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw : ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth , ac nid bwyd cryf . Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth , sydd anghynefin â gair cyfiawnder ; canys maban yw . Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith , y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da . Am hynny , gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist , awn rhagom at berffeithrwydd ; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon , ac i ffydd tuag at Dduw , I athrawiaeth bedyddiadau , ac arddodiad dwylo , ac atgyfodiad y meirw , a’r farn dragwyddol . A hyn a wnawn , os caniatâ Duw . Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith , ac a brofasant y rhodd nefol , ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân , Ac a brofasant ddaionus air Duw , a nerthoedd y byd a ddaw , Ac a syrthiant ymaith , ymadnewyddu drachefn i edifeirwch ; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw , ac yn ei osod yn watwar . Canys y ddaear , yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni , ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt , sydd yn derbyn bendith gan Dduw : Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri , sydd anghymeradwy , ac agos i felltith ; diwedd yr hon yw , ei llosgi . Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi , anwylyd , bethau gwell , a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth , er ein bod yn dywedyd fel hyn . Canys nid yw Duw yn anghyfiawn , fel yr anghofio eich gwaith , a’r llafurus gariad , yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef , y rhai a weiniasoch i’r saint , ac ydych yn gweini . Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd , er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd : Fel na byddoch fusgrell , eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion . Canys Duw , wrth wneuthur addewid i Abraham , oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy , a dyngodd iddo ei hun , Gan ddywedyd , Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf , a chan amlhau y’th amlhaf . Ac felly , wedi iddo hirymaros , efe a gafodd yr addewid . Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy : a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson . Yn yr hyn Duw , yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor , a gyfryngodd trwy lw : Fel trwy ddau beth dianwadal , yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog , y gallem ni gael cysur cryf , y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen ; Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid , yn ddiogel ac yn sicr , ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen ; I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni , sef Iesu , yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec . Canys y Melchisedec hwn , brenin Salem , offeiriad y Duw Goruchaf , yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd , ac a’i bendithiodd ef ; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth : yr hwn yn gyntaf , o’i gyfieithu , yw Brenin cyfiawnder , ac wedi hynny hefyd , Brenin Salem , yr hyn yw , Brenin heddwch ; Heb dad , heb fam , heb achau , heb fod iddo na dechrau dyddiau , na diwedd einioes ; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw , sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd . Edrychwch faint oedd hwn , i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith . A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth , y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith , sef gan eu brodyr , er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham : Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy , a gymerodd ddegwm gan Abraham , ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo . Ac yn ddi‐ddadl , yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well . Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau : eithr yno , yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw . Ac , fel y dywedwyf felly , yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm , yr hwn oedd yn cymryd degymau . Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad , pan gyfarfu Melchisedec ag ef . Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi , ( oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl , ) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec , ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron ? Canys wedi newidio’r offeiriadaeth , anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd . Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn , efe a berthyn i lwyth arall , o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor . Canys hysbys yw , mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni ; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth . Ac y mae’n eglurach o lawer eto ; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi , Yr hwn a wnaed , nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol , eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol . Canys tystiolaethu y mae , Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec . Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen , oherwydd ei lesgedd a’i afles . Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim , namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd ; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw . Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad : ( Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw : ond hwn trwy lw , gan yr hwn a ddywedodd wrtho , Tyngodd yr Arglwydd , ac ni bydd edifar ganddo , Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec : ) Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd . A’r rhai hynny yn wir , llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid , oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau : Ond hwn , am ei fod ef yn aros yn dragywydd , sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo . Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw , gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy . Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd , diddrwg , dihalog , didoledig oddi wrth bechaduriaid , ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd , oedd weddus i ni ; Yr hwn nid yw raid iddo beunydd , megis i’r offeiriaid hynny , offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun , ac yna dros yr eiddo’r bobl : canys hynny a wnaeth efe unwaith , pan offrymodd efe ef ei hun . Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt , yn archoffeiriaid ; eithr gair y llw , yr hwn a fu wedi’r gyfraith , sydd yn gwneuthur y Mab , yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd . A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn : Y mae gennym y fath Archoffeiriad , yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd ; Yn Weinidog y gysegrfa , a’r gwir dabernacl , yr hwn a osododd yr Arglwydd , ac nid dyn . Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau : oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai . Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear , ni byddai yn offeiriad chwaith ; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf : Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol , megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw , pan oedd efe ar fedr gorffen y babell : canys , Gwêl , medd efe , ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd . Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol , o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell , yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell . Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius , ni cheisiasid lle i’r ail . Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe , Wele , y mae’r dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd : Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt , yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft : oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i , minnau a’u hesgeulusais hwythau , medd yr Arglwydd . Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl , ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt : a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw , a hwythau a fyddant i minnau yn bobl : Ac ni ddysgant bob un ei gymydog , a phob un ei frawd , gan ddywedyd , Adnebydd yr Arglwydd : oblegid hwynt‐hwy oll a’m hadnabyddant i , o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt . Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau , a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach . Wrth ddywedyd , Cyfamod newydd , efe a farnodd y cyntaf yn hen . Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus , sydd agos i ddiflannu . Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw , a chysegr bydol . Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur ; y cyntaf , yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren , a’r bwrdd , a’r bara gosod ; yr hwn dabernacl a elwid , Y cysegr . Ac yn ôl yr ail len , yr oedd y babell , yr hon a elwid , Y cysegr sancteiddiolaf ; Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo , ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch ; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo , a gwialen Aaron yr hon a flagurasai , a llechau’r cyfamod : Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa : am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan . A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly , i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid , y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw : Ac i’r ail , unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig ; nid heb waed , yr hwn a offrymai efe drosto’i hun , a thros anwybodaeth y bobl . A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn , nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto , tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll : Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol , yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau , y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd ; Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd , a diodydd , ac amryw olchiadau , a defodau cnawdol , wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad . Eithr Crist , wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent , trwy dabernacl mwy a pherffeithiach , nid o waith llaw , hynny yw , nid o’r adeiladaeth yma ; Nid chwaith trwy waed geifr a lloi , eithr trwy ei waed ei hun , a aeth unwaith i mewn i’r cysegr , gan gael i ni dragwyddol ryddhad . Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr , a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd , yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd ; Pa faint mwy y bydd i waed Crist , yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw , buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon , i wasanaethu’r Duw byw ? Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd , megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf , y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol . Oblegid lle byddo testament , rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr . Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym : oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw . O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed . Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl , efe a gymerodd waed lloi a geifr , gyda dwfr , a gwlân porffor , ac isop , ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll , Gan ddywedyd , Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi . Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd . A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith ; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant . Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn ; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn . Canys nid i’r cysegr o waith llaw , portreiad y gwir gysegr , yr aeth Crist i mewn ; ond i’r nef ei hun , i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni : Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych , megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn , â gwaed arall : ( Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd ; ) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe , i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun . Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith , ac wedi hynny bod barn : Felly Crist hefyd , wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer , a ymddengys yr ail waith , heb bechod , i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl , er iachawdwriaeth . Oblegid y gyfraith , yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod , ac nid gwir ddelw y pethau , nis gall trwy’r aberthau hynny , y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol , byth berffeithio’r rhai a ddêl ati . Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu , am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent , wedi eu glanhau unwaith . Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn . Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau . Oherwydd paham y mae efe , wrth ddyfod i’r byd , yn dywedyd , Aberth ac offrwm nis mynnaist , eithr corff a gymhwysaist i mi : Offrymau poeth , a thros bechod , ni buost fodlon iddynt . Yna y dywedais , Wele fi yn dyfod , ( y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf , ) i wneuthur dy ewyllys di , O Dduw . Wedi iddo ddywedyd uchod , Aberth ac offrwm , ac offrymau poeth , a thros bechod , nis mynnaist , ac nid ymfodlonaist ynddynt ; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir ; Yna y dywedodd , Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di , O Dduw . Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf , fel y gosodai yr ail . Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio , trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith . Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu , ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau , y rhai ni allant fyth ddileu pechodau : Eithr hwn , wedi offrymu un aberth dros bechodau , yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw ; O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef . Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio . Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni : canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen , Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau , ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau ; A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach . A lle y mae maddeuant am y rhai hyn , nid oes mwyach offrwm dros bechod . Am hynny , frodyr , gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu , Ar hyd ffordd newydd a bywiol , yr hon a gysegrodd efe i ni , trwy’r llen , sef ei gnawd ef ; A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw : Nesawn â chalon gywir , mewn llawn hyder ffydd , wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg , a golchi ein corff â dwfr glân . Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl ; ( canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd ; ) A chydystyriwn bawb ein gilydd , i ymannog i gariad a gweithredoedd da : Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain , megis y mae arfer rhai ; ond annog bawb ein gilydd : a hynny yn fwy , o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu . Canys os o’n gwirfodd y pechwn , ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd , nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach ; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth , ac angerdd tân , yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr . Yr un a ddirmygai gyfraith Moses , a fyddai farw heb drugaredd , dan ddau neu dri o dystion : Pa faint mwy cosbedigaeth , dybygwch chwi , y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw , ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod , trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef , ac a ddifenwodd Ysbryd y gras ? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd , Myfi biau dial , myfi a dalaf , medd yr Arglwydd . A thrachefn , Yr Arglwydd a farna ei bobl . Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw . Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen , yn y rhai , wedi eich goleuo , y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon : Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd , trwy waradwyddiadau a chystuddiau ; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly . Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd , ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen ; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd , ac un parhaus . Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder , yr hwn sydd iddo fawr wobr . Canys rhaid i chwi wrth amynedd ; fel , wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw , y derbynioch yr addewid . Oblegid ychydig bachigyn eto , a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw , ac nid oeda . A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd : eithr o thyn neb yn ôl , nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo . Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth ; namyn o ffydd , i gadwedigaeth yr enaid . Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio , a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled . Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da . Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw , yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir . Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain ; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn , gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef : a thrwyddi hi y mae efe , wedi marw , yn llefaru eto . Trwy ffydd y symudwyd Enoch , fel na welai farwolaeth ; ac ni chaed ef , am ddarfod i Dduw ei symud ef : canys cyn ei symud , efe a gawsai dystiolaeth , ddarfod iddo ryngu bodd Duw . Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef : oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw , gredu ei fod ef , a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef . Trwy ffydd , Noe , wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto , gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ : trwy’r hon y condemniodd efe y byd , ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd . Trwy ffydd , Abraham , pan ei galwyd , a ufuddhaodd , gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth ; ac a aeth allan , heb wybod i ba le yr oedd yn myned . Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid , megis mewn tir dieithr , gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob , cyd‐etifeddion o’r un addewid : Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini , saer ac adeiladydd yr hon yw Duw . Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy , a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had ; ac wedi amser oedran , a esgorodd ; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai . Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un , a hwnnw yn gystal â marw , cynifer â sêr y nef mewn lliaws , ac megis y tywod ar lan y môr , y sydd yn aneirif . Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll , heb dderbyn yr addewidion , eithr o bell eu gweled hwynt , a chredu , a chyfarch , a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear . Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau , yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad . Ac yn wir , pe buasent yn meddwl am y wlad honno , o’r hon y daethent allan , hwy a allasent gael amser i ddychwelyd : Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych , hynny ydyw , un nefol : o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy : oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt . Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac , pan ei profwyd : a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe , yr hwn a dderbyniasai’r addewidion : Wrth yr hwn y dywedasid , Yn Isaac y gelwir i ti had : Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw ; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth . Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent . Trwy ffydd , Jacob , wrth farw , a fendithiodd bob un o feibion Joseff ; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon . Trwy ffydd , Joseff , wrth farw , a goffaodd am ymadawiad plant Israel ; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn . Trwy ffydd , Moses , pan anwyd , a guddiwyd dri mis gan ei rieni , o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws : ac nid ofnasant orchymyn y brenin . Trwy ffydd , Moses , wedi myned yn fawr , a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo ; Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw , na chael mwyniant pechod dros amser ; Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft : canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy . Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft , heb ofni llid y brenin : canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig . Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg , a gollyngiad y gwaed , rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt . Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch , megis ar hyd tir sych : yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid , boddi a wnaethant . Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho , wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod . Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent , pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol . A pheth mwy a ddywedaf ? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon , am Barac , ac am Samson , ac am Jefftha , am Dafydd hefyd , a Samuel , a’r proffwydi ; Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd , a wnaethant gyfiawnder , a gawsant addewidion , a gaeasant safnau llewod , A ddiffoddasant angerdd y tân , a ddianghasant rhag min y cleddyf , a nerthwyd o wendid , a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel , a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio . Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad : ac eraill a ddirdynnwyd , heb dderbyn ymwared ; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell . Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau , ie , trwy rwymau hefyd a charchar : Hwynt‐hwy a labyddiwyd , a dorrwyd â llif , a demtiwyd , a laddwyd yn feirw â’r cleddyf ; a grwydrasant mewn crwyn defaid , a chrwyn geifr ; yn ddiddim , yn gystuddiol , yn ddrwg eu cyflwr ; ( Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt , ) yn crwydro mewn anialwch , a mynyddoedd , a thyllau ac ogofeydd y ddaear . A’r rhai hyn oll , wedi cael tystiolaeth trwy ffydd , ni dderbyniasant yr addewid : Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni , fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau . Oblegid hynny ninnau hefyd , gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch , gan roi heibio bob pwys , a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu , trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni ; Gan edrych ar Iesu , Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni ; yr hwn , yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo , a ddioddefodd y groes , gan ddiystyru gwaradwydd , ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw . Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid ; fel na flinoch , ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau . Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed , gan ymdrech yn erbyn pechod . A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor , yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant , Fy mab , na ddirmyga gerydd yr Arglwydd , ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo : Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu , y mae’n ei geryddu ; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio . Os goddefwch gerydd , y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion : canys pa fab sydd , yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu ? Eithr os heb gerydd yr ydych , o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog ; yna bastardiaid ydych , ac nid meibion . Heblaw hynny , ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu , ac a’u parchasom hwy : onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd , a byw ? Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda ; eithr hwn er llesâd i ni , fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef . Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd , eithr yn anhyfryd : ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef . Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant , a’r gliniau a ymollyngasant . A gwnewch lwybrau union i’ch traed ; fel na throer y cloff allan o’r ffordd , ond yr iachaer efe yn hytrach . Dilynwch heddwch â phawb , a sancteiddrwydd , heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd : Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw ; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny , ac yn peri blinder , a thrwy hwnnw llygru llawer ; Na bo un puteiniwr , neu halogedig , megis Esau , yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint . Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef , pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith : oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch , er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi . Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân , a chwmwl , a thywyllwch , a thymestl , A sain utgorn , a llef geiriau ; yr hon pwy bynnag a’i clywsant , a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt : ( Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid ; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd , efe a labyddir , neu a wenir â phicell . Ac mor ofnadwy oedd y golwg , ag y dywedodd Moses , Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu . ) Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion , ac i ddinas y Duw byw , y Jerwsalem nefol , ac at fyrddiwn o angylion , I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig , y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd , ac at Dduw , Barnwr pawb , ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd , Ac at Iesu , Cyfryngwr y testament newydd , a gwaed y taenelliad , yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel . Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru . Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear , mwy o lawer ni ddihangwn ni , y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef : Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear : ac yn awr a addawodd , gan ddywedyd , Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear , ond y nef hefyd . A’r Eto unwaith hynny , sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir , megis pethau wedi eu gwneuthur , fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir . Oherwydd paham , gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl , bydded gennym ras , trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd , gyda gwylder a pharchedig ofn : Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol . Parhaed brawdgarwch . Nac anghofiwch letygarwch : canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod . Cofiwch y rhai sydd yn rhwym , fel petech yn rhwym gyda hwynt ; y rhai cystuddiol , megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff . Anrhydeddus yw priodas ym mhawb , a’r gwely dihalogedig : eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw . Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar ; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych : canys efe a ddywedodd , Ni’th roddaf di i fyny , ac ni’th lwyr adawaf chwaith : Fel y gallom ddywedyd yn hy , Yr Arglwydd sydd gymorth i mi , ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi . Meddyliwch am eich blaenoriaid , y rhai a draethasant i chwi air Duw : ffydd y rhai dilynwch , gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt . Iesu Grist , ddoe a heddiw yr un , ac yn dragywydd . Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr : canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras , nid â bwydydd , yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd . Y mae gennym ni allor , o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta . Canys cyrff yr anifeiliaid hynny , y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod , a losgir y tu allan i’r gwersyll . Oherwydd paham Iesu hefyd , fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun , a ddioddefodd y tu allan i’r porth . Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll , gan ddwyn ei waradwydd ef . Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus , eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl . Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw , yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef . Ond gwneuthur daioni , a chyfrannu , nac anghofiwch : canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw . Ufuddhewch i’ch blaenoriaid , ac ymddarostyngwch : oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi , megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif ; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen , ac nid yn drist : canys di‐fudd i chwi yw hynny . Gweddïwch drosom ni : canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda , gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth . Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn , i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt . A Duw’r heddwch , yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu , Bugail mawr y defaid , trwy waed y cyfamod tragwyddol , A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda , i wneuthur ei ewyllys ef ; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef , trwy Iesu Grist : i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi , frodyr , goddefwch air y cyngor : oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch . Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd ; gyda’r hwn , os daw efe ar fyrder , yr ymwelaf â chwi . Anerchwch eich holl flaenoriaid , a’r holl saint . Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch . Gras fyddo gyda chwi oll . Amen . Iago , gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist , at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar , annerch . Cyfrifwch yn bob llawenydd , fy mrodyr , pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau ; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd . Ond caffed amynedd ei pherffaith waith ; fel y byddoch berffaith a chyfan , heb ddiffygio mewn dim . O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb , gofynned gan Dduw , yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb , ac heb ddannod ; a hi roddir iddo ef . Eithr gofynned mewn ffydd , heb amau dim : canys yr hwn sydd yn amau , sydd gyffelyb i don y môr , a chwelir ac a deflir gan y gwynt . Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd . Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd . Y brawd o radd isel , llawenyched yn ei oruchafiaeth : A’r cyfoethog , yn ei ddarostyngiad : canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe . Canys cyfododd yr haul gyda gwres , a gwywodd y glaswelltyn , a’i flodeuyn a gwympodd , a thegwch ei bryd ef a gollodd : felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd . Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth : canys pan fyddo profedig , efe a dderbyn goron y bywyd , yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef . Na ddyweded neb , pan demtier ef , Gan Dduw y’m temtir : canys Duw nis gellir ei demtio â drygau , ac nid yw efe yn temtio neb . Canys yna y temtir pob un , pan ei tynner ef , ac y llithier , gan ei chwant ei hun . Yna chwant , wedi ymddŵyn , a esgor ar bechod : pechod hefyd , pan orffenner , a esgor ar farwolaeth . Fy mrodyr annwyl , na chyfeiliornwch . Pob rhoddiad daionus , a phob rhodd berffaith , oddi uchod y mae , yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni , gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad , na chysgod tröedigaeth . O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd , fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef . O achos hyn , fy mrodyr annwyl , bydded pob dyn esgud i wrando , diog i lefaru , diog i ddigofaint : Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw . Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi , a helaethrwydd malais ; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air , yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau . A byddwch wneuthurwyr y gair , ac nid gwrandawyr yn unig , gan eich twyllo eich hunain . Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair , ac heb fod yn wneuthurwr , y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych : Canys efe a’i hedrychodd ei hun , ac a aeth ymaith , ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd . Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid , ac a barhao ynddi , hwn , heb fod yn wrandawr anghofus , ond gwneuthurwr y weithred , efe a fydd dedwydd yn ei weithred . Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol , heb atal ei dafod , ond twyllo’i galon ei hun , ofer yw crefydd hwn . Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad , yw hyn ; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd , a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd . Fy mrodyr , na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist , sef Arglwydd y gogoniant , gyda derbyn wyneb . Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur , mewn dillad gwychion , a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael ; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion , a dywedyd wrtho , Eistedd di yma mewn lle da ; a dywedyd wrth y tlawd , Saf di yna , neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i : Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain ? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg ? Gwrandewch , fy mrodyr annwyl ; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd , ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef ? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd . Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi , ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd ? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol , yr hwn a elwir arnoch chwi ? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur , Câr dy gymydog fel ti dy hun ; da yr ydych yn gwneuthur : Eithr os derbyn wyneb yr ydych , yr ydych yn gwneuthur pechod , ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr . Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll , ac a ballo mewn un pwnc , y mae efe yn euog o’r cwbl . Canys y neb a ddywedodd , Na odineba , a ddywedodd hefyd , Na ladd . Ac os ti ni odinebi , eto a leddi , yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith . Felly dywedwch , ac felly gwnewch , megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid . Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd ; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn . Pa fudd yw , fy mrodyr , o dywed neb fod ganddo ffydd , ac heb fod ganddo weithredoedd ? a ddichon ffydd ei gadw ef ? Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth , ac mewn eisiau beunyddiol ymborth , A dywedyd o un ohonoch wrthynt , Ewch mewn heddwch , ymdwymnwch , ac ymddigonwch ; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff ; pa les fydd ? Felly ffydd hefyd , oni bydd ganddi weithredoedd , marw ydyw , a hi yn unig . Eithr rhyw un a ddywed , Tydi ffydd sydd gennyt , minnau gweithredoedd sydd gennyf : dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd , a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau . Credu yr wyt ti mai un Duw sydd ; da yr wyt ti yn gwneuthur : y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu , ac yn crynu . Eithr a fynni di wybod , O ddyn ofer , am ffydd heb weithredoedd , mai marw yw ? Abraham ein tad ni , onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef , pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor ? Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef , a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio . A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd , Credodd Abraham i Dduw , a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder : a Chyfaill Duw y galwyd ef . Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn , ac nid o ffydd yn unig . Yr un ffunud hefyd , Rahab y butain , onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi , pan dderbyniodd hi’r cenhadau , a’u danfon ymaith ffordd arall ? Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw , felly hefyd ffydd heb weithredoedd , marw yw . Na fyddwch feistriaid lawer , fy mrodyr : gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy . Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro . Od oes neb heb lithro ar air , gŵr perffaith yw hwnnw , yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd . Wele , yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch , i’w gwneuthur yn ufudd i ni ; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch . Wele , y llongau hefyd , er eu maint , ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon , a droir oddi amgylch â llyw bychan , lle y mynno’r llywydd . Felly hefyd y tafod , aelod bychan yw , ac yn ffrostio pethau mawrion . Wele , faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn ! A’r tafod , tân ydyw , byd o anghyfiawnder . Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni , fel y mae yn halogi’r holl gorff , ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam ; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern . Canys holl natur gwylltfilod , ac adar , ac ymlusgiaid , a’r pethau yn y môr , a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol : Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi ; drwg anllywodraethus ydyw , yn llawn gwenwyn marwol . Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad ; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion , a wnaethpwyd ar lun Duw . O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith . Fy mrodyr , ni ddylai’r pethau hyn fod felly . A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw ? A ddichon y pren ffigys , fy mrodyr , ddwyn olifaid ? neu winwydden , ffigys ? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw . Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith ? dangosed , trwy ymarweddiad da , ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb . Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon , na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd . Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod ; ond daearol , anianol , cythreulig yw . Canys lle mae cenfigen ac ymryson , yno y mae terfysg , a phob gweithred ddrwg . Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod , yn gyntaf pur ydyw , wedi hynny heddychlon , boneddigaidd , hawdd ei thrin , llawn trugaredd a ffrwythau da , diduedd , a diragrith . A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch . O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi ? onid oddi wrth hyn , sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau ? Chwenychu yr ydych , ac nid ydych yn cael : cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu , ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd : ymladd a rhyfela yr ydych , ond nid ydych yn cael , am nad ydych yn gofyn . Gofyn yr ydych , ac nid ydych yn derbyn , oherwydd eich bod yn gofyn ar gam , fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau . Chwi odinebwyr a godinebwragedd , oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw ? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd , y mae’n elyn i Dduw . A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer , At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni ? Eithr rhoddi gras mwy y mae : oherwydd paham y mae yn dywedyd , Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion , ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig . Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw . Gwrthwynebwch ddiafol , ac efe a ffy oddi wrthych . Nesewch at Dduw , ac efe a nesâ atoch chwi . Glanhewch eich dwylo , chwi bechaduriaid ; a phurwch eich calonnau , chwi â’r meddwl dauddyblyg . Ymofidiwch , a galerwch , ac wylwch : troer eich chwerthin chwi yn alar , a’ch llawenydd yn dristwch . Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd , ac efe a’ch dyrchafa chwi . Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd , frodyr . Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd , ac yn barnu ei frawd , y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith , ac yn barnu’r gyfraith : ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith , nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith , eithr barnwr . Un gosodwr cyfraith sydd , yr hwn a ddichon gadw a cholli . Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall ? Iddo yn awr , y rhai ydych yn dywedyd , Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas , ac a arhoswn yno flwyddyn , ac a farchnatawn , ac a enillwn : Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory . Canys beth ydyw eich einioes chwi ? Canys tarth ydyw , yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos , ac wedi hynny yn diflannu . Lle y dylech ddywedyd , Os yr Arglwydd a’i myn , ac os byddwn byw , ni a wnawn hyn , neu hynny . Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost : pob cyfryw orfoledd , drwg ydyw . Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni , ac nid yw yn ei wneuthur , pechod ydyw iddo . Iddo yn awr , chwi gyfoethogion , wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch . Eich cyfoeth a bydrodd , a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed . Eich aur a’ch arian a rydodd ; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi , ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân . Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf . Wele , y mae cyflog y gweithwyr , a fedasant eich meysydd chwi , yr hwn a gamataliwyd gennych , yn llefain : a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd . Moethus fuoch ar y ddaear , a thrythyll ; meithrin eich calonnau a wnaethoch , megis mewn dydd lladdedigaeth . Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn : ac yntau heb sefyll i’ch erbyn . Byddwch gan hynny yn ymarhous , frodyr , hyd ddyfodiad yr Arglwydd . Wele , y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear , yn dda ei amynedd amdano , nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar . Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd ; cadarnhewch eich calonnau : oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd . Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd , frodyr , fel na’ch condemnier : wele , y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws . Cymerwch , fy mrodyr , y proffwydi , y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd , yn siampl o ddioddef blinder , ac o hirymaros . Wele , dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus . Chwi a glywsoch am amynedd Job , ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd : oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd , a thrugarog . Eithr o flaen pob peth , fy mrodyr , na thyngwch , nac i’r nef , nac i’r ddaear , nac un llw arall : eithr bydded eich ie chwi yn ie , a’ch nage yn nage ; fel na syrthioch i farnedigaeth . A oes neb yn eich plith mewn adfyd ? gweddïed . A oes neb yn esmwyth arno ? caned salmau . A oes neb yn eich plith yn glaf ? galwed ato henuriaid yr eglwys ; a gweddïant hwy drosto , gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd : A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf , a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny ; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau , hwy a faddeuir iddo . Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd , a gweddïwch dros eich gilydd , fel y’ch iachaer . Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn . Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau , ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law : ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis . Ac efe a weddïodd drachefn ; a’r nef a roddes law , a’r ddaear a ddug ei ffrwyth . Fy mrodyr , od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd , a throi o ryw un ef ; Gwybydded , y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd , gadw enaid rhag angau , a chuddio lliaws o bechodau . Pedr , apostol Iesu Grist , at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus , Galatia , Capadocia , Asia , a Bithynia , Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad , trwy sancteiddiad yr Ysbryd , i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist : Gras i chwi a heddwch a amlhaer . Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol , trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw , I etifeddiaeth anllygredig , a dihalogedig , a diddiflanedig , ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi . Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth , parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf . Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau , er eich bod ychydig yr awron , os rhaid yw , mewn tristwch , trwy amryw brofedigaethau : Fel y caffer profiad eich ffydd chwi , yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy , cyd profer ef trwy dân , er mawl , ac anrhydedd , a gogoniant , yn ymddangosiad Iesu Grist : Yr hwn , er nas gwelsoch , yr ydych yn ei garu ; yn yr hwn , heb fod yr awron yn ei weled , ond yn credu , yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus : Gan dderbyn diwedd eich ffydd , sef iachawdwriaeth eich eneidiau . Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd , ac y manwl chwiliodd y proffwydi , y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi : Gan chwilio pa bryd , neu pa ryw amser , yr oedd Ysbryd Crist , yr hwn oedd ynddynt , yn ei hysbysu , pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist , a’r gogoniant ar ôl hynny . I’r rhai y datguddiwyd , nad iddynt hwy eu hunain , ond i ni , yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi , gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân , yr hwn a ddanfonwyd o’r nef ; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych . Oherwydd paham , gan wregysu lwynau eich meddwl , a bod yn sobr , gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist ; Fel plant ufudd-dod , heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth : Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd , byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad . Oblegid y mae yn ysgrifenedig , Byddwch sanctaidd ; canys sanctaidd ydwyf fi . Ac os ydych yn galw ar y Tad , yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un , ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad : Gan wybod nad â phethau llygredig , megis arian neu aur , y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad , yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau ; Eithr â gwerthfawr waed Crist , megis oen difeius a difrycheulyd : Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd , eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi , Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw , yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw , ac a roddodd iddo ef ogoniant , fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw . Gwedi puro eich eneidiau , gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd , i frawdgarwch diragrith , cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth : Wedi eich aileni , nid o had llygredig , eithr anllygredig , trwy air Duw , yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd . Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw , a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn . Gwywodd y glaswelltyn , a’i flodeuyn a syrthiodd : Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd . A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi . Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni , a phob twyll , a rhagrith , a chenfigen , a phob gogan-air , Fel rhai bychain newydd-eni , chwenychwch ddidwyll laeth y gair , fel y cynyddoch trwyddo ef : Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion . At yr hwn yr ydych yn dyfod , megis at faen bywiol , a wrthodwyd gan ddynion , eithr etholedig gan Dduw , a gwerthfawr . A chwithau , megis meini bywiol , ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol , yn offeiriadaeth sanctaidd , i offrymu aberthau ysbrydol , cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist . Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur , Wele , yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen , etholedig , a gwerthfawr : a’r hwn a gred ynddo , nis gwaradwyddir . I chwi gan hynny , y rhai ydych yn credu , y mae yn urddas : eithr i’r anufuddion , y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwnnw a wnaed yn ben y gongl , Ac yn faen tramgwydd , ac yn graig rhwystr , i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair , gan fod yn anufudd ; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd . Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig , brenhinol offeiriadaeth , cenedl sanctaidd , pobl briodol i Dduw ; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef : Y rhai gynt nid oeddech bobl , ond yn awr ydych bobl i Dduw : y rhai ni chawsech drugaredd , ond yr awron a gawsoch drugaredd . Anwylyd , yr wyf yn atolwg i chwi , megis dieithriaid a phererinion , ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol , y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid ; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd : fel , lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr , y gallont , oherwydd eich gweithredoedd da a welant , ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad . Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad , oherwydd yr Arglwydd : pa un bynnag ai i’r brenin , megis goruchaf ; Ai i’r llywiawdwyr , megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr , a mawl i’r gweithredwyr da . Canys felly y mae ewyllys Duw , fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion : Megis yn rhyddion , ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais , eithr fel gwasanaethwyr Duw . Perchwch bawb . Cerwch y brawdoliaeth . Ofnwch Dduw . Anrhydeddwch y brenin . Y gweision , byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid ; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas , eithr i’r rhai anghyweithas hefyd . Canys hyn sydd rasol , os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch , gan ddioddef ar gam . Oblegid pa glod yw , os , pan bechoch , a chael eich cernodio , y byddwch dda eich amynedd ? eithr os , a chwi’n gwneuthur yn dda , ac yn dioddef , y byddwch dda eich amynedd , hyn sydd rasol gerbron Duw . Canys i hyn y’ch galwyd hefyd : oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni , gan adael i ni esampl , fel y canlynech ei ôl ef : Yr hwn ni wnaeth bechod , ac ni chaed twyll yn ei enau : Yr hwn , pan ddifenwyd , ni ddifenwodd drachefn ; pan ddioddefodd , ni fygythiodd ; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn : Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren ; fel , gwedi ein marw i bechodau , y byddem byw i gyfiawnder : trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi . Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn ; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau . Yr un ffunud , bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod ; fel , od oes rhai heb gredu i’r gair , y galler trwy ymarweddiad y gwragedd , eu hennill hwy heb y gair , Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn . Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan , o blethiad gwallt , ac amgylch-osodiad aur , neu wisgad dillad ; Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon , mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd , yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr . Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd , y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw , yn ymdrwsio , gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod ; Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham , gan ei alw ef yn arglwydd : merched yr hon ydych chwi , tra fyddoch yn gwneuthur yn dda , ac heb ofni dim dychryn . Y gwŷr , yr un ffunud , cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth , gan roddi parch i’r wraig megis i’r llestr gwannaf , fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd ; rhag rhwystro eich gweddïau . Am ben hyn , byddwch oll yn unfryd , yn cydoddef â’ch gilydd , yn caru fel brodyr , yn drugarogion , yn fwynaidd : Nid yn talu drwg am ddrwg , neu sen am sen : eithr , yng ngwrthwyneb , yn bendithio ; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd , fel yr etifeddoch fendith . Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd , a gweled dyddiau da , atalied ei dafod oddi wrth ddrwg , a’i wefusau rhag adrodd twyll : Gocheled y drwg , a gwnaed y da ; ceisied heddwch , a dilyned ef . Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn , a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt : eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg . A phwy a’ch dryga chwi , os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda ? Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder , dedwydd ydych : ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt , ac na’ch cynhyrfer ; Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau : a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch , gydag addfwynder ac ofn : A chennych gydwybod dda ; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr , y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist . Canys gwell ydyw , os ewyllys Duw a’i myn , i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni , nag yn gwneuthur drygioni . Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau , y Cyfiawn dros yr anghyfiawn , fel y dygai ni at Dduw , wedi ei farwolaethu yn y cnawd , eithr ei fywhau yn yr Ysbryd : Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar ; Y rhai a fu gynt anufudd , pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe , tra darperid yr arch , yn yr hon ychydig , sef wyth enaid , a achubwyd trwy ddwfr . Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau , sef bedydd , ( nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd , eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw ; ) trwy atgyfodiad Iesu Grist : Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw , wedi myned i’r nef ; a’r angylion , a’r awdurdodau , a’r galluoedd , wedi eu darostwng iddo . Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd , chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl : oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd , a beidiodd â phechod ; Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion , ond i ewyllys Duw , dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd . Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd , gan rodio mewn trythyllwch , trachwantau , meddwdod , cyfeddach , diota , a ffiaidd eilun-addoliad : Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi , am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd : Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw . Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd ; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd , ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd . Eithr diwedd pob peth a nesaodd : am hynny byddwch sobr , a gwyliadwrus i weddïau . Eithr o flaen pob peth , bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd : canys cariad a guddia liaws o bechodau . Byddwch letygar y naill i’r llall , heb rwgnach . Pob un , megis y derbyniodd rodd , cyfrennwch â’ch gilydd , fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw . Os llefaru a wna neb , llefared megis geiriau Duw ; os gweini y mae neb , gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi : fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist ; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Anwylyd , na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch , yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi , fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi : Eithr llawenhewch , yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist ; fel , pan ddatguddier ei ogoniant ef , y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu . Os difenwir chwi er mwyn enw Crist , gwyn eich byd ; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant , ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch : ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir , ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir . Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd , neu leidr , neu ddrwgweithredwr , neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill : Eithr os fel Cristion , na fydded gywilydd ganddo ; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran . Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw : ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni , beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw ? Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig , pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur ? Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw , gorchmynnant eu heneidiau iddo ef , megis i Greawdwr ffyddlon , gan wneuthur yn dda . Yr henuriaid sydd yn eich plith , atolwg iddynt yr ydwyf fi , yr hwn wyf gyd-henuriad , a thyst o ddioddefiadau Crist , yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir : Porthwch braidd Duw , yr hwn sydd yn eich plith , gan fwrw golwg arnynt ; nid trwy gymell , eithr yn ewyllysgar ; nid er mwyn budrelw , eithr o barodrwydd meddwl ; Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw , ond gan fod yn esamplau i’r praidd . A phan ymddangoso’r Pen-bugail , chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant . Yr un ffunud yr ieuainc , byddwch ostyngedig i’r henuriaid . A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd , ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd : oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion , ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig . Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw , fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas : Gan fwrw eich holl ofal arno ef ; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi . Byddwch sobr , gwyliwch : oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol , megis llew rhuadwy , yn rhodio oddi amgylch , gan geisio’r neb a allo ei lyncu . Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd ; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd . A Duw pob gras , yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu , wedi i chwi ddioddef ychydig , a’ch perffeithio chwi , a’ch cadarnhao , a’ch cryfhao , a’ch sefydlo . Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Gyda Silfanus , brawd ffyddlon i chwi , fel yr wyf yn tybied , yr ysgrifennais ar ychydig eiriau , gan gynghori , a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo . Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon , yn gydetholedig â chwi , yn eich annerch ; a Marc , fy mab i . Anerchwch eich gilydd â chusan cariad . Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu . Amen . Simon Pedr , gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist , at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau , trwy gyfiawnder ein Duw ni , a’n Hachubwr Iesu Grist : Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer , trwy adnabod Duw , a Iesu ein Harglwydd ni , Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb , trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd : Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr ; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian , wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant . A hyn yma hefyd , gan roddi cwbl ddiwydrwydd , chwanegwch at eich ffydd , rinwedd ; ac at rinwedd , wybodaeth ; Ac at wybodaeth , gymedrolder ; ac at gymedrolder , amynedd ; ac at amynedd , dduwioldeb ; Ac at dduwioldeb , garedigrwydd brawdol ; ac at garedigrwydd brawdol , gariad . Canys os yw’r pethau hyn gennych , ac yn aml hwynt , y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist . Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo , dall ydyw , heb weled ymhell , wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt . Oherwydd paham yn hytrach , frodyr , byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr : canys , tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn , ni lithrwch chwi ddim byth : Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist . Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn , er eich bod yn eu gwybod , ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol . Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn , tra fyddwyf yn y tabernacl hwn , eich cyffroi chwi , trwy ddwyn ar gof i chwi ; Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio , megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi . Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser , ar ôl fy ymadawiad i , wneuthur coffa am y pethau hyn . Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys , yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist , eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid . Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant , pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant , Hwn yw fy annwyl Fab i , yn yr hwn y’m bodlonwyd . A’r llef yma , yr hon a ddaeth o’r nef , a glywsom ni , pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd . Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi ; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno , megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll , hyd oni wawrio’r dydd , ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi : Gan wybod hyn yn gyntaf , nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod . Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth ; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân . Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl , megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau ; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol , a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt , ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan . A llawer a ganlynant eu distryw hwynt , oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd . Ac mewn cybydd-dod , trwy chwedlau gwneuthur , y gwnânt farsiandïaeth ohonoch : barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur , a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian . Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent , eithr eu taflu hwynt i uffern , a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch , i’w cadw i farnedigaeth ; Ac onid arbedodd efe yr hen fyd , eithr Noe , pregethwr cyfiawnder , a gadwodd efe ar ei wythfed , pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir ; A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw , a’u damniodd hwy â dymchweliad , gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol ; Ac a waredodd Lot gyfiawn , yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid : ( Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt , yn gweled ac yn clywed , ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt : ) Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth , a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni : Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid , ac yn diystyru llywodraeth . Rhyfygus ydynt , cyndyn ; nid ydynt yn arswydo cablu urddas : Lle nid yw’r angylion , y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth , yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd . Eithr y rhai hyn , megis anifeiliaid anrhesymol anianol , y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha , a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt , ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain ; Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder , a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch . Brychau a meflau ydynt , yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain , gan wledda gyda chwi ; A llygaid ganddynt yn llawn godineb , ac heb fedru peidio â phechod ; yn llithio eneidiau anwadal : a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra ; plant y felltith : Wedi gadael y ffordd union , hwy a aethant ar gyfeiliorn , gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor , yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder ; Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd : asen fud arferol â’r iau , gan ddywedyd â llef ddynol , a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd . Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr , cymylau a yrrid gan dymestl ; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd . Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd , y maent hwy , trwy chwantau’r cnawd , a thrythyllwch , yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn . Gan addo rhyddid iddynt , a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth : canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb , i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth . Canys os , wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd , trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist , y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn , a’u gorchfygu ; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad . Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder , nag , wedi ei hadnabod , troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt . Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb , Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun ; a’r hwch wedi ei golchi , i’w hymdreiglfa yn y dom . Yr ail epistol hwn , anwylyd , yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch ; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd , trwy ddwyn ar gof i chwi : Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd , a’n gorchymyn ninnau , apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr : Gan wybod hyn yn gyntaf , y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr , yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain . Ac yn dywedyd , Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef ? canys er pan hunodd y tadau , y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth . Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd , mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm , a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr . Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw , wedi ei orchuddio â dwfr , a ddifethwyd . Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon , ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân , erbyn dydd y farn , a distryw yr anwir ddynion . Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi , anwylyd , fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd , a mil o flynyddoedd megis un dydd . Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid , fel y mae rhai yn cyfrif oed ; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni , heb ewyllysio bod neb yn golledig , ond dyfod o bawb i edifeirwch . Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos ; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf , a’r defnyddiau gan wir wres a doddant , a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir . A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng , pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb , Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw , yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant , a’r defnyddiau gan wir wres a doddant ? Eithr nefoedd newydd , a daear newydd , yr ydym ni , yn ôl ei addewid ef , yn eu disgwyl , yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu . Oherwydd paham , anwylyd , gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn , gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd , yn ddifrycheulyd , ac yn ddiargyhoedd . A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth ; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi , yn ôl y doethineb a rodded iddo ef ; Megis yn ei holl epistolau hefyd , yn llefaru ynddynt am y pethau hyn : yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall , y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi , megis yr ysgrythurau eraill , i’w dinistr eu hunain . Chwychwi gan hynny , anwylyd , a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen , ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol , a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun . Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist . Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol . Amen . Yr hyn oedd o’r dechreuad , yr hyn a glywsom , yr hyn a welsom â’n llygaid , yr hyn a edrychasom arno , ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd ; ( Canys y bywyd a eglurhawyd , ac ni a welsom , ac ydym yn tystiolaethu , ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol , yr hwn oedd gyda’r Tad , ac a eglurhawyd i ni ; ) Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi , fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni : a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad , a chyda’i Fab ef Iesu Grist . A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch , fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn . A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef , ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi ; Mai goleuni yw Duw , ac nad oes ynddo ddim tywyllwch . Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef , a rhodio yn y tywyllwch , celwyddog ydym , ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd : Eithr os rhodiwn yn y goleuni , megis y mae efe yn y goleuni , y mae i ni gymdeithas â’n gilydd , a gwaed Iesu Grist ei Fab ef , sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod . Os dywedwn nad oes ynom bechod , yr ydym yn ein twyllo ein hunain , a’r gwirionedd nid yw ynom . Os cyfaddefwn ein pechodau , ffyddlon yw efe a chyfiawn , fel y maddeuo i ni ein pechodau , ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder . Os dywedwn na phechasom , yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog , a’i air ef nid yw ynom . Fy mhlant bychain , y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , fel na phechoch . Ac o phecha neb , y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad , Iesu Grist y Cyfiawn : Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni : ac nid dros yr eiddom ni yn unig , eithr dros bechodau yr holl fyd . Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef , os cadwn ni ei orchmynion ef . Yr hwn sydd yn dywedyd , Mi a’i hadwaen ef , ac heb gadw ei orchmynion ef , celwyddog yw , a’r gwirionedd nid yw ynddo . Eithr yr hwn a gadwo ei air ef , yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith : wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef . Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef , a ddylai yntau felly rodio , megis ag y rhodiodd ef . Y brodyr , nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch , eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad . Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad . Trachefn , gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch , yr hyn sydd wir ynddo ef , ac ynoch chwithau : oblegid y tywyllwch a aeth heibio , a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu . Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni , ac a gasao ei frawd , yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn . Yr hwn sydd yn caru ei frawd , sydd yn aros yn y goleuni , ac nid oes rhwystr ynddo . Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd , yn y tywyllwch y mae , ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio ; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned , oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , blant bychain , oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , dadau , am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , wŷr ieuainc , am orchfygu ohonoch yr un drwg . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , rai bychain , am i chwi adnabod y Tad . Ysgrifennais atoch chwi , dadau , am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad . Ysgrifennais atoch chwi , wŷr ieuainc , am eich bod yn gryfion , a bod gair Duw yn aros ynoch , a gorchfygu ohonoch yr un drwg . Na cherwch y byd , na’r pethau sydd yn y byd . O châr neb y byd , nid yw cariad y Tad ynddo ef . Canys pob peth a’r sydd yn y byd , megis chwant y cnawd , a chwant y llygaid , a balchder y bywyd , nid yw o’r Tad , eithr o’r byd y mae . A’r byd sydd yn myned heibio , a’i chwant hefyd : ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw , sydd yn aros yn dragywydd . O blant bychain , yr awr ddiwethaf ydyw : ac megis y clywsoch y daw anghrist , yr awron hefyd y mae anghristiau lawer ; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw . Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan , eithr nid oeddynt ohonom ni : canys pe buasent ohonom ni , hwy a arosasent gyda ni : eithr hyn a fu , fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni . Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw , a chwi a wyddoch bob peth . Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd , eithr oblegid eich bod yn ei wybod , ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd . Pwy yw’r celwyddog , ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist ? Efe yw’r anghrist , yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab . Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab , nid oes ganddo’r Tad chwaith : [ ond ] yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab , y mae’r Tad ganddo hefyd . Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad . Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad . A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni , sef bywyd tragwyddol . Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo . Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef , yn aros ynoch chwi , ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi ; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth , a gwir yw , ac nid yw gelwydd ; ac megis y’ch dysgodd chwi , yr arhoswch ynddo . Ac yr awron , blant bychain , arhoswch ynddo ; fel , pan ymddangoso efe , y byddo hyder gennym , ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad . Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn , chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder , wedi ei eni ohono ef . Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom , fel y’n gelwid yn feibion i Dduw : oblegid hyn nid edwyn y byd chwi , oblegid nad adnabu efe ef . Anwylyd , yr awr hon meibion i Dduw ydym , ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn : eithr ni a wyddom , pan ymddangoso efe , y byddwn gyffelyb iddo : oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae . Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef , yn ei buro’i hun , megis y mae yntau yn bur . Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod , sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith : oblegid anghyfraith yw pechod . A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef , fel y dileai ein pechodau ni : ac ynddo ef nid oes pechod . Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef , nid yw yn pechu : pob un a’r sydd yn pechu , nis gwelodd ef , ac nis adnabu ef . O blant bychain , na thwylled neb chwi : yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder , sydd gyfiawn , megis y mae yntau yn gyfiawn . Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod , o ddiafol y mae ; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad . I hyn yr ymddangosodd Mab Duw , fel y datodai weithredoedd diafol . Pob un a aned o Dduw , nid yw yn gwneuthur pechod ; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef : ac ni all efe bechu , am ei eni ef o Dduw . Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw , a phlant diafol : Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder , nid yw o Dduw , na’r hwn nid yw yn caru ei frawd . Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad ; bod i ni garu ein gilydd . Nid fel Cain , yr hwn oedd o’r drwg , ac a laddodd ei frawd . A phaham y lladdodd ef ? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg , a’r eiddo ei frawd yn dda . Na ryfeddwch , fy mrodyr , os yw’r byd yn eich casáu chwi . Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd , oblegid ein bod yn caru’r brodyr . Yr hwn nid yw yn caru ei frawd , y mae yn aros ym marwolaeth . Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd , lleiddiad dyn yw : a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo . Yn hyn yr adnabuom gariad Duw , oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni : a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr . Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn , ac a welo ei frawd mewn eisiau , ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho , pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ? Fy mhlant bychain , na charwn ar air nac ar dafod yn unig , eithr mewn gweithred a gwirionedd . Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd , ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef . Oblegid os ein calon a’n condemnia , mwy yw Duw na’n calon , ac efe a ŵyr bob peth . Anwylyd , os ein calon ni’n condemnia , y mae gennym hyder ar Dduw . A pha beth bynnag a ofynnom , yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef ; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef , ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef . A hwn yw ei orchymyn ef ; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist , a charu ein gilydd , megis y rhoes efe orchymyn i ni . A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef , sydd yn trigo ynddo ef , ac yntau ynddo yntau . Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom , sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni . Anwylyd , na chredwch bob ysbryd , eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent : oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd . Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw : Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd , o Dduw y mae . A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd , nid yw o Dduw : eithr hwn yw ysbryd anghrist , yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod , a’r awron y mae efe yn y byd eisoes . Chwychwi ydych o Dduw , blant bychain , ac a’u gorchfygasoch hwy : oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd . Hwynt-hwy , o’r byd y maent : am hynny y llefarant am y byd , a’r byd a wrendy arnynt . Nyni , o Dduw yr ydym . Yr hwn sydd yn adnabod Duw , sydd yn ein gwrando ni : yr hwn nid yw o Dduw , nid yw yn ein gwrando ni . Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd , ac ysbryd y cyfeiliorni . Anwylyd , carwn ein gilydd : oblegid cariad , o Dduw y mae ; a phob un a’r sydd yn caru , o Dduw y ganwyd ef , ac y mae efe yn adnabod Duw . Yr hwn nid yw yn caru , nid adnabu Dduw : oblegid Duw , cariad yw . Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni , oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd , fel y byddem fyw trwyddo ef . Yn hyn y mae cariad ; nid am i ni garu Duw , ond am iddo ef ein caru ni , ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau . Anwylyd , os felly y carodd Duw ni , ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd . Ni welodd neb Dduw erioed . Os carwn ni ein gilydd , y mae Duw yn trigo ynom , ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom . Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef , ac yntau ynom ninnau , am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd . A ninnau a welsom , ac ydym yn tystiolaethu , ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd . Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw , y mae Duw yn aros ynddo ef , ac yntau yn Nuw . A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni . Duw , cariad yw : a’r hwn sydd yn aros mewn cariad , sydd yn aros yn Nuw , a Duw ynddo yntau . Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni , fel y caffom hyder ddydd y farn : oblegid megis ag y mae efe , yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn . Nid oes ofn mewn cariad ; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn : oblegid y mae i ofn boenedigaeth . A’r hwn sydd yn ofni , ni pherffeithiwyd mewn cariad . Yr ydym ni yn ei garu ef , am iddo ef yn gyntaf ein caru ni . Os dywed neb , Yr wyf yn caru Duw , ac efe yn casáu ei frawd , celwyddog yw : canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd , pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd ? A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef : Bod i’r hwn sydd yn caru Duw , garu ei frawd hefyd . Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist , o Dduw y ganed ef : a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd , sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono . Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw , pan fyddom yn caru Duw , ac yn cadw ei orchmynion ef . Canys hyn yw cariad Duw ; bod i ni gadw ei orchmynion : a’i orchmynion ef nid ydynt drymion . Oblegid beth bynnag a aned o Dduw , y mae yn gorchfygu’r byd : a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd , sef ein ffydd ni . Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd , ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw ? Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed , sef Iesu Grist ; nid trwy ddwfr yn unig , ond trwy ddwfr a gwaed . A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu , oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd . Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef ; y Tad , y Gair , a’r Ysbryd Glân : a’r tri hyn un ydynt . Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear ; yr ysbryd , y dwfr , a’r gwaed : a’r tri hyn , yn un y maent yn cytuno . Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn , y mae tystiolaeth Duw yn fwy : canys hyn yw tystiolaeth Duw , yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab . Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw , sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun : yr hwn nid yw yn credu yn Nuw , a’i gwnaeth ef yn gelwyddog , oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab . A hon yw’r dystiolaeth ; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol : a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef . Yr hwn y mae’r Mab ganddo , y mae’r bywyd ganddo ; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw , nid oes ganddo fywyd . Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi , y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw ; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol , ac fel y credoch yn enw Mab Duw . A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef ; ei fod ef yn ein gwrando ni , os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef . Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni , pa beth bynnag a ddeisyfom , ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo . Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth , efe a ddeisyf , ac efe a rydd iddo fywyd , i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth . Y mae pechod i farwolaeth : nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono . Pob anghyfiawnder , pechod yw : ac y mae pechod nid yw i farwolaeth . Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw , yn pechu ; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw , yn ei gadw ei hun , a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef . Ni a wyddom ein bod o Dduw , ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni . Ac a wyddom ddyfod Mab Duw , ac efe a roes i ni feddwl , fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir ; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw , sef yn ei Fab ef Iesu Grist . Hwn yw’r gwir Dduw , a’r bywyd tragwyddol . Y plant bychain , ymgedwch oddi wrth eilunod . Amen . Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant , y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd ; ac nid myfi yn unig , ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd ; Er mwyn y gwirionedd , yr hwn sydd yn aros ynom ni , ac a fydd gyda ni yn dragywydd . Bydded gyda chwi ras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist , Mab y Tad , mewn gwirionedd a chariad . Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd , fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad . Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti , arglwyddes , nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti , eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad , garu ohonom ein gilydd . A hyn yw’r cariad : bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef . Hwn yw’r gorchymyn ; Megis y clywsoch o’r dechreuad , fod i chwi rodio ynddo . Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd , y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd . Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist . Edrychwch arnoch eich hunain , fel na chollom y pethau a wnaethom , ond bod i ni dderbyn llawn wobr . Pob un a’r sydd yn troseddu , ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist , nid yw Duw ganddo ef . Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist , hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo . Od oes neb yn dyfod atoch , a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon , na dderbyniwch ef i dŷ , ac na ddywedwch , Duw yn rhwydd , wrtho : Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho , Duw yn rhwydd , sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef . Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch , nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc : eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch , a llefaru wyneb yn wyneb , fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn . Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch . Amen . Yr henuriad at yr annwyl Gaius , yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd . Yr anwylyd , yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach , fel y mae dy enaid yn llwyddo . Canys mi a lawenychais yn fawr , pan ddaeth y brodyr , a thystiolaethu am dy wirionedd di , megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd . Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf , sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd . Yr anwylyd , yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr , a thuag at ddieithriaid ; Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys : y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw , da y gwnei . Canys er mwyn ei enw yr aethant allan , heb gymryd dim gan y Cenhedloedd . Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai , fel y byddom gyd-gynorthwywyr i’r gwirionedd . Mi a ysgrifennais at yr eglwys : eithr Diotreffes , yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy , ni dderbyn ddim ohonom . Oherwydd hyn , os deuaf , mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur , gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus : ac heb fod yn fodlon ar hynny , nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr ; a’r rhai sydd yn ewyllysio , y mae yn eu gwahardd , ac yn eu bwrw allan o’r eglwys . Anwylyd , na ddilyn yr hyn sydd ddrwg , ond yr hyn sydd dda . Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni , o Dduw y mae : ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni , ni welodd Dduw . Y mae i Demetrius air da gan bawb , a chan y gwirionedd ei hun : a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu ; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir . Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu , ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti : Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder , ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb . Tangnefedd i ti . Y mae’r cyfeillion i’th annerch . Annerch y cyfeillion wrth eu henwau . Jwdas , gwasanaethwr Iesu Grist , a brawd Iago , at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad , ac a gadwyd yn Iesu Grist , ac a alwyd : Trugaredd i chwi , a thangnefedd , a chariad , a luosoger . Anwylyd , pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol , anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd , yr hon a rodded unwaith i’r saint . Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn , y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon ; annuwiolion , yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch , ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw , a’n Harglwydd Iesu Grist . Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi , gan eich bod unwaith yn gwybod hyn ; i’r Arglwydd , wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft , ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant . Yr angylion hefyd , y rhai ni chadwasant eu dechreuad , eithr a adawsant eu trigfa eu hun , a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch , i farn y dydd mawr . Megis y mae Sodom a Gomorra , a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt , wedi puteinio , a myned ar ôl cnawd arall , wedi eu gosod yn esampl , gan ddioddef dialedd tân tragwyddol . Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd , yn diystyru llywodraeth , ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod . Eithr Michael yr archangel , pan oedd efe , wrth ymddadlau â diafol , yn ymresymu ynghylch corff Moses , ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno , eithr efe a ddywedodd , Cerydded yr Arglwydd dydi . Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant : a pha bethau bynnag y maent yn anianol , fel anifeiliaid direswm , yn eu gwybod , yn y rhai hynny ymlygru y maent . Gwae hwynt-hwy ! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain , ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam , ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core . Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi , yn cydwledda â chwi , yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain : cymylau di-ddwfr ydynt , a gylcharweinir gan wyntoedd ; prennau diflanedig heb ffrwyth , dwywaith yn feirw , wedi eu diwreiddio ; Tonnau cynddeiriog y môr , yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain ; sêr gwibiog , i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd . Ac Enoch hefyd , y seithfed o Adda , a broffwydodd am y rhai hyn , gan ddywedyd , Wele , y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint , I wneuthur barn yn erbyn pawb , ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb , y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol , ac am yr holl eiriau caledion , y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef . Y rhai hyn sydd rwgnachwyr , tuchanwyr , yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain ; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig , yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd . Eithr chwi , O rai annwyl , cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist ; Ddywedyd ohonynt i chwi , y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr , yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain . Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain , yn anianol , heb fod yr Ysbryd ganddynt . Eithr chwychwi , anwylyd , gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd , a gweddïo yn yr Ysbryd Glân , Ymgedwch yng nghariad Duw , gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol . A thrugarhewch wrth rai , gan wneuthur rhagor : Eithr rhai cedwch trwy ofn , gan eu cipio hwy allan o’r tân ; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd . Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp , a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd , I’r unig ddoeth Dduw , ein Hiachawdwr ni , y byddo gogoniant a mawredd , gallu ac awdurdod , yr awr hon ac yn dragywydd . Amen . Datguddiad Iesu Grist , yr hwn a roddes Duw iddo ef , i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder ; a chan ddanfon trwy ei angel , efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan : Yr hwn a dystiolaethodd air Duw , a thystiolaeth Iesu Grist , a’r holl bethau a welodd . Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen , a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon , ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi : canys y mae’r amser yn agos . Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth yr hwn sydd , a’r hwn a fu , a’r hwn sydd ar ddyfod ; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef ; Ac oddi wrth Iesu Grist , yr hwn yw y Tyst ffyddlon , y Cyntaf-anedig o’r meirw , a Thywysog brenhinoedd y ddaear . Iddo ef yr hwn a’n carodd ni , ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun , Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef ; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Wele , y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau ; a phob llygad a’i gwêl ef , ie , y rhai a’i gwanasant ef : a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef . Felly , Amen . Mi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd , a’r hwn oedd , a’r hwn sydd i ddyfod , yr Hollalluog . Myfi Ioan , yr hwn wyf hefyd eich brawd , a’ch cydymaith mewn cystudd , ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist , oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos , am air Duw , ac am dystiolaeth Iesu Grist . Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd ; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn , Yn dywedyd , Mi yw Alffa ac Omega , y cyntaf a’r diwethaf : a’r hyn yr wyt yn ei weled , ysgrifenna mewn llyfr , a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia ; i Effesus , ac i Smyrna , ac i Pergamus , ac i Thyatira , ac i Sardis , a Philadelffia , a Laodicea . Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf . Ac wedi i mi droi , mi a welais saith ganhwyllbren aur ; Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren , un tebyg i Fab y dyn , wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed , ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur . Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân , cyn wynned â’r eira ; a’i lygaid fel fflam dân ; A’i draed yn debyg i bres coeth , megis yn llosgi mewn ffwrn ; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd . Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren : ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan : a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth . A phan welais ef , mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw . Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi , gan ddywedyd wrthyf , Nac ofna ; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf : A’r hwn wyf fyw , ac a fûm farw ; ac wele , byw ydwyf yn oes oesoedd , Amen ; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth . Ysgrifenna’r pethau a welaist , a’r pethau sydd , a’r pethau a fydd ar ôl hyn ; Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau , a’r saith ganhwyllbren aur . Y saith seren , angylion y saith eglwys ydynt : a’r saith ganhwyllbren a welaist , y saith eglwys ydynt . At angel yr eglwys sydd yn Effesus , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau , yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th lafur , a’th amynedd , ac na elli oddef y rhai drwg : a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion , ac nid ydynt ; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog : A thi a oddefaist , ac y mae amynedd gennyt , ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i , ac ni ddiffygiaist . Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn , am i ti ymadael â’th gariad cyntaf . Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist , ac edifarha , a gwna’r gweithredoedd cyntaf : ac onid e , yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys , ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le , onid edifarhei di . Ond hyn sydd gennyt ti , dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid , y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; I’r hwn sydd yn gorchfygu , y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd , yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw . Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf , yr hwn a fu farw , ac sydd fyw , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th gystudd , a’th dlodi , ( eithr cyfoethog wyt , ) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon , ac nid ydynt ond synagog Satan . Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef . Wele , y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar , fel y’ch profer ; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod . Bydd ffyddlon hyd angau , ac mi a roddaf i ti goron y bywyd . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; Yr hwn sydd yn gorchfygu , ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth . Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a pha le yr wyt yn trigo ; sef lle mae gorseddfainc Satan : ac yr wyt yn dal fy enw i , ac ni wedaist fy ffydd i , ie , yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi , yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi , lle y mae Satan yn trigo . Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di , oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam , yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel , i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod , ac i odinebu . Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid , yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu . Edifarha ; ac os amgen , yr wyf fi yn dyfod atat ar frys , ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; I’r hwn sydd yn gorchfygu , y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig , ac a roddaf iddo garreg wen , ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu , yr hwn nid edwyn neb , ond yr hwn sydd yn ei dderbyn . Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd , yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân , a’i draed yn debyg i bres coeth ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th gariad , a’th wasanaeth , a’th ffydd , a’th amynedd di , a’th weithredoedd ; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf . Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn , oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel , yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes , ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu , ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod . Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb ; ac nid edifarhaodd hi . Wele , yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely , a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi , i gystudd mawr , onid edifarhânt am eu gweithredoedd . A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth : a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau : ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd . Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd , ac wrth y lleill yn Thyatira , y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon , a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan , fel y dywedant ; Ni fwriaf arnoch faich arall . Eithr yr hyn sydd gennych , deliwch hyd oni ddelwyf . A’r hwn sydd yn gorchfygu , ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd , mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd : Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn ; fel llestri pridd y dryllir hwynt : fel y derbyniais innau gan fy Nhad . Ac mi a roddaf iddo’r seren fore . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw , a marw ydwyt . Bydd wyliadwrus , a sicrha’r pethau sydd yn ôl , y rhai sydd barod i farw : canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw . Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist , a chadw , ac edifarha . Os tydi gan hynny ni wyli , mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr , ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat . Eithr y mae gennyt ychydig enwau , ie , yn Sardis , y rhai ni halogasant eu dillad ; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion : oblegid teilwng ydynt . Yr hwn sydd yn gorchfygu , hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion ; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd , ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad , a cherbron ei angylion ef . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd , y Cywir , yn eu dywedyd , yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd , yr hwn sydd yn agoryd , ac nid yw neb yn cau ; ac yn cau , ac nid yw neb yn agoryd ; Mi a adwaen dy weithredoedd : wele , rhoddais ger dy fron ddrws agored , ac ni ddichon neb ei gau : canys y mae gennyt ychydig nerth , a thi a gedwaist fy ngair , ac ni wedaist fy enw . Wele , mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan , y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon , ac nid ydynt , ond dywedyd celwydd y maent ; wele , meddaf , gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed , a gwybod fy mod i yn dy garu di . O achos cadw ohonot air fy amynedd i , minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth , yr hon a ddaw ar yr holl fyd , i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear . Wele , yr wyf yn dyfod ar frys : dal yr hyn sydd gennyt , fel na ddygo neb dy goron di . Yr hwn sydd yn gorchfygu , mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i , ac allan nid â efe mwyach : ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i , ac enw dinas fy Nuw i , yr hon ydyw Jerwsalem newydd , yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i : ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel eglwys y Laodiceaid , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd , y Tyst ffyddlon a chywir , dechreuad creadigaeth Duw ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , nad ydwyt nac oer na brwd : mi a fynnwn pe bait oer neu frwd . Felly , am dy fod yn glaear , ac nid yn oer nac yn frwd , mi a’th chwydaf di allan o’m genau : Oblegid dy fod yn dywedyd , Goludog wyf , ac mi a gyfoethogais , ac nid oes arnaf eisiau dim ; ac ni wyddost dy fod yn druan , ac yn resynol , ac yn dlawd , ac yn ddall , ac yn noeth . Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân , fel y’th gyfoethoger ; a dillad gwynion , fel y’th wisger , ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di ; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid , fel y gwelech . Yr wyf fi yn argyhoeddi , ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru : am hynny bydded gennyt sêl , ac edifarha . Wele , yr wyf yn sefyll wrth y drws , ac yn curo : os clyw neb fy llais i , ac agoryd y drws , mi a ddeuaf i mewn ato ef , ac a swperaf gydag ef , ac yntau gyda minnau . Yr hwn sydd yn gorchfygu , rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc , megis y gorchfygais innau , ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ar ôl y pethau hyn yr edrychais ; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef : a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi , gan ddywedyd , Dring i fyny yma , a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn . Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd : ac wele , yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef , ac un yn eistedd ar yr orseddfainc . A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin : ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc , yn debyg yr olwg arno i smaragdus . Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain : ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd , wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion ; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur . Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt , a tharanau , a lleisiau : ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc , y rhai yw saith Ysbryd Duw . Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr , yn debyg i grisial : ac yng nghanol yr orseddfainc , ac ynghylch yr orseddfainc , yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl . A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew , a’r ail anifail yn debyg i lo , a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn , a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg . A’r pedwar anifail oedd ganddynt , bob un ohonynt , chwech o adenydd o’u hamgylch ; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid : ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos , gan ddywedyd , Sanct , Sanct , Sanct , Arglwydd Dduw Hollalluog , yr hwn oedd , a’r hwn sydd , a’r hwn sydd i ddyfod . A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant , ac anrhydedd , a diolch , i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc , gan ddywedyd , Teilwng wyt , O Arglwydd , i dderbyn gogoniant , ac anrhydedd , a gallu : canys ti a greaist bob peth , ac oherwydd dy ewyllys di y maent , ac y crewyd hwynt . Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl . Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel , Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr , ac i ddatod ei seliau ef ? Ac nid oedd neb yn y nef , nac yn y ddaear , na than y ddaear , yn gallu agoryd y llyfr , nac edrych arno . Ac mi a wylais lawer , o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr , nac i edrych arno . Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf , Nac wyla : wele , y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda , Gwreiddyn Dafydd , a orchfygodd i agoryd y llyfr , ac i ddatod ei saith sêl ef . Ac mi a edrychais ; ac wele , yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail , ac yng nghanol yr henuriaid , yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd , a chanddo saith gorn , a saith lygad , y rhai ydyw saith Ysbryd Duw , wedi eu danfon allan i’r holl ddaear . Ac efe a ddaeth , ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc . A phan gymerth efe’r llyfr , y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen ; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau , a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth , y rhai ydyw gweddïau’r saint . A hwy a ganasant ganiad newydd , gan ddywedyd , Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr , ac i agoryd ei seliau ef : oblegid ti a laddwyd , ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed , allan o bob llwyth , ac iaith , a phobl , a chenedl ; Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni , yn frenhinoedd , ac yn offeiriaid : ac ni a deyrnaswn ar y ddaear . Ac mi a edrychais , ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc , a’r anifeiliaid , a’r henuriaid : a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau , a miloedd o filoedd ; Yn dywedyd â llef uchel , Teilwng yw’r Oen , yr hwn a laddwyd , i dderbyn gallu , a chyfoeth , a doethineb , a chadernid , ac anrhydedd , a gogoniant , a bendith . A phob creadur a’r sydd yn y nef , ac ar y ddaear , a than y ddaear , a’r pethau sydd yn y môr , ac oll a’r sydd ynddynt , a glywais i yn dywedyd , I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac i’r Oen , y byddo’r fendith , a’r anrhydedd , a’r gogoniant , a’r gallu , yn oes oesoedd . A’r pedwar anifail a ddywedasant , Amen . A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr , ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd . Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau , ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd , fel trwst taran , Tyred , a gwêl . Ac mi a welais ; ac wele farch gwyn : a’r hwn oedd yn eistedd arno , a bwa ganddo ; a rhoddwyd iddo goron : ac efe a aeth allan yn gorchfygu , ac i orchfygu . A phan agorodd efe yr ail sêl , mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac fe aeth allan farch arall , un coch : a’r hwn oedd yn eistedd arno , y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear , fel y lladdent ei gilydd : a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr . A phan agorodd efe y drydedd sêl , mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac mi a welais ; ac wele farch du : a’r hwn oedd yn eistedd arno , a chlorian ganddo yn ei law . Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail , yn dywedyd , Mesur o wenith er ceiniog , a thri mesur o haidd er ceiniog ; a’r olew a’r gwin , na wna niwed iddynt . A phan agorodd efe y bedwaredd sêl , mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac mi a edrychais : ac wele farch gwelw-las : ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth ; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef . A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear , i ladd â chleddyf , ac â newyn , ac â marwolaeth , ac â bwystfilod y ddaear . A phan agorodd efe y bumed sêl , mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw , ac am y dystiolaeth oedd ganddynt . A hwy a lefasant â llef uchel , gan ddywedyd , Pa hyd , Arglwydd , sanctaidd a chywir , nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ? A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt ; a dywedwyd wrthynt , ar iddynt orffwys eto ychydig amser , hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr , y rhai oedd i gael eu lladd , megis ag y cawsent hwythau . Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl ; ac wele , bu daeargryn mawr ; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew , a’r lleuad a aeth fel gwaed ; A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear , fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision , pan ei hysgydwer gan wynt mawr . A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd ; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd . A brenhinoedd y ddaear , a’r gwŷr mawr , a’r cyfoethogion , a’r pen-capteiniaid , a’r gwŷr cedyrn , a phob gŵr caeth , a phob gŵr rhydd , a ymguddiasant yn yr ogofeydd , ac yng nghreigiau’r mynyddoedd ; Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau , Syrthiwch arnom ni , a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac oddi wrth lid yr Oen : Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef ; a phwy a ddichon sefyll ? Ac ar ôl y pethau hyn , mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear , yn dal pedwar gwynt y ddaear , fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear , nac ar y môr , nac ar un pren . Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul , a sêl y Duw byw ganddo . Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel , i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr , Gan ddywedyd , Na ddrygwch y ddaear , na’r môr , na’r prennau , nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau . Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd : yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel . O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . Wedi hyn mi a edrychais ; ac wele dyrfa fawr , yr hon ni allai neb ei rhifo , o bob cenedl , a llwythau , a phobloedd , ac ieithoedd , yn sefyll gerbron yr orseddfainc , a cherbron yr Oen , wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion , a phalmwydd yn eu dwylo ; Ac yn llefain â llef uchel , gan ddywedyd , Iachawdwriaeth i’n Duw ni , yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac i’r Oen . A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc , a’r henuriaid , a’r pedwar anifail , ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau , ac a addolasant Dduw , Gan ddywedyd , Amen : Y fendith , a’r gogoniant , a’r doethineb , a’r diolch , a’r anrhydedd , a’r gallu , a’r nerth , a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd . Amen . Ac un o’r henuriaid a atebodd , gan ddywedyd wrthyf , Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion ? ac o ba le y daethant ? Ac mi a ddywedais wrtho ef , Arglwydd , ti a wyddost . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr , ac a olchasant eu gynau , ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen . Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw , ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml : a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt . Ni fydd arnynt na newyn mwyach , na syched mwyach ; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul , na dim gwres . Oblegid yr Oen , yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc , a’u bugeilia hwynt , ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd : a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt . Aphan agorodd efe y seithfed sêl , yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr . Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw : a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn . Ac angel arall a ddaeth , ac a safodd gerbron yr allor , a thuser aur ganddo : a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer , fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur , yr hon oedd gerbron yr orseddfainc . Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint , o law yr angel i fyny gerbron Duw . A’r angel a gymerth y thuser , ac a’i llanwodd hi o dân yr allor , ac a’i bwriodd i’r ddaear : a bu lleisiau , a tharanau , a mellt , a daeargryn . A’r saith angel , y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt , a ymbaratoesant i utganu . A’r angel cyntaf a utganodd ; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed , a hwy a fwriwyd i’r ddaear : a thraean y prennau a losgwyd , a’r holl laswellt a losgwyd . A’r ail angel a utganodd ; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr : a thraean y môr a aeth yn waed ; A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr , ac â byw ynddynt ; a thraean y llongau a ddinistriwyd . A’r trydydd angel a utganodd ; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp , a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd , ac ar ffynhonnau’r dyfroedd ; Ac enw’r seren a elwir Wermod : ac aeth traean y dyfroedd yn wermod ; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd , oblegid eu myned yn chwerwon . A’r pedwerydd angel a utganodd ; a thrawyd traean yr haul , a thraean y lleuad , a thraean y sêr ; fel y tywyllwyd eu traean hwynt , ac ni lewyrchodd y dydd ei draean , a’r nos yr un ffunud . Ac mi a edrychais , ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef , gan ddywedyd â llef uchel , Gwae , gwae , gwae , i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel , y rhai sydd eto i utganu ! A’r pumed angel a utganodd ; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear : a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod . Ac efe a agorodd y pydew heb waelod ; a chododd mwg o’r pydew , fel mwg ffwrn fawr : a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew . Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear ; a rhoddwyd awdurdod iddynt , fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod . A dywedwyd wrthynt , na wnaent niwed i laswellt y ddaear , nac i ddim gwyrddlas , nac i un pren ; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau . A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt , ond bod iddynt eu blino hwy bum mis : ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion , pan ddarfyddai iddi frathu dyn . Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth , ac nis cânt ; ac a chwenychant farw , a marwolaeth a gilia oddi wrthynt . A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel ; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur , a’u hwynebau fel wynebau dynion . A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd , a’u dannedd oedd fel dannedd llewod . Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn ; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel . Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau , ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy : a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis . Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt , sef angel y pydew diwaelod : a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon , ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon . Un wae a aeth heibio ; wele , y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn . A’r chweched angel a utganodd ; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur , yr hon sydd gerbron Duw . Yn dywedyd wrth y chweched angel , yr hwn oedd â’r utgorn ganddo , Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates . A gollyngwyd y pedwar angel , y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr , a diwrnod , a mis , a blwyddyn , fel y lladdent y traean o’r dynion . A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau : ac mi a glywais eu rhifedi hwynt . Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth , a’r rhai oedd yn eistedd arnynt , a chanddynt lurigau tanllyd , ac o liw hyacinth a brwmstan : a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod ; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau , dân , a mwg , a brwmstan . Gan y tri hyn y llas traean y dynion , gan y tân , a chan y mwg , a chan y brwmstan , oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt . Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn , ac yn eu cynffonnau : canys y cynffonnau oedd debyg i seirff , a phennau ganddynt ; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu . A’r dynion eraill , y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn , nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun , fel nad addolent gythreuliaid , a delwau aur , ac arian , a phres , a main , a phrennau , y rhai ni allant na gweled , na chlywed , na rhodio : Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth , nac oddi wrth eu cyfareddion , nac oddi wrth eu godineb , nac oddi wrth eu lladrad . Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef , wedi ei wisgo â chwmwl : ac enfys oedd ar ei ben , a’i wyneb ydoedd fel yr haul , a’i draed fel colofnau o dân : Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd . Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr , a’i aswy ar y tir ; Ac a lefodd â llef uchel , fel y rhua llew : ac wedi iddo lefain , y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau . Ac wedi darfod i’r saith daran lefaru eu llefau , yr oeddwn ar fedr ysgrifennu : ac mi a glywais lef o’r nef yn dywedyd wrthyf , Selia’r pethau a lefarodd y saith daran , ac nac ysgrifenna hwynt . A’r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr , ac ar y tir , a gododd ei law i’r nef , Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , yr hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi , a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi , a’r môr a’r pethau sydd ynddo , na byddai amser mwyach : Ond yn nyddiau llef y seithfed angel , pan ddechreuo efe utganu , gorffennir dirgelwch Duw , fel y mynegodd efe i’w wasanaethwyr y proffwydi . A’r llef a glywais o’r nef , a lefarodd drachefn wrthyf , ac a ddywedodd , Dos , cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr , ac ar y tir . Ac mi a euthum at yr angel , gan ddywedyd wrtho , Moes i mi’r llyfr bychan . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Cymer , a bwyta ef yn llwyr : ac efe a chwerwa dy fol di , eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl . Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel , ac a’i bwyteais ef ; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys : ac wedi imi ei fwyta ef , fy mol a aeth yn chwerw . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd , a chenhedloedd , ac ieithoedd , a brenhinoedd lawer . A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen . A’r angel a safodd , gan ddywedyd , Cyfod , a mesura deml Dduw , a’r allor , a’r rhai sydd yn addoli ynddi . Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml , bwrw allan , ac na fesura ef ; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd : a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain . Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst , a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain . Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden , a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear . Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt , y mae tân yn myned allan o’u genau hwy , ac yn difetha eu gelynion : ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt , fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef . Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef , fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt : ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd , i’w troi hwynt yn waed , ac i daro’r ddaear â phob pla , cyn fynyched ag y mynnont . A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth , y bwystfil , yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod , a ryfela â hwynt , ac a’u gorchfyga hwynt , ac a’u lladd hwynt . A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr , yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft ; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni . A’r rhai o’r bobloedd , a’r llwythau , a’r ieithoedd , a’r cenhedloedd , a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner , ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau . A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid , ac a ymhyfrydant , ac a anfonant roddion i’w gilydd ; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear . Ac ar ôl tridiau a hanner , Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy , a hwy a safasant ar eu traed ; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt . A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt , Deuwch i fyny yma . A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl ; a’u gelynion a edrychasant arnynt . Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr , a degfed ran y ddinas a syrthiodd ; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr : a’r lleill a ddychrynasant , ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef . Yr ail wae a aeth heibio ; wele , y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys . A’r seithfed angel a utganodd ; a bu llefau uchel yn y nef , yn dywedyd , Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni , a’i Grist ef ; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd . A’r pedwar henuriad ar hugain , y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau , a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a addolasant Dduw , Gan ddywedyd , Yr ydym yn diolch i ti , O Arglwydd Dduw Hollalluog , yr hwn wyt , a’r hwn oeddit , a’r hwn wyt yn dyfod ; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr , ac a deyrnesaist . A’r cenhedloedd a ddigiasant ; a daeth dy ddig di , a’r amser i farnu’r meirw , ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi , ac i’r saint , ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw , fychain a mawrion ; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear . Ac agorwyd teml Dduw yn y nef ; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef : a bu mellt , a llefau , a tharanau , a daeargryn , a chenllysg mawr . Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef ; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul , a’r lleuad dan ei thraed , ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren : A hi’n feichiog , a lefodd , gan fod mewn gwewyr , a gofid i esgor . A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef ; ac wele ddraig goch fawr , a saith ben iddi , a deg corn ; ac ar ei phennau saith goron . A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef , ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear . A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor , i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno . A hi a esgorodd ar fab gwryw , yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn : a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw , ac at ei orseddfainc ef . A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch , lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw , fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau . A bu rhyfel yn y nef : Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig , a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau , Ac ni orfuant ; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef . A bwriwyd allan y ddraig fawr , yr hen sarff , yr hon a elwir Diafol a Satan , yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd : efe a fwriwyd allan i’r ddaear , a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef . Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef , Yr awron y daeth iachawdwriaeth , a nerth , a theyrnas ein Duw ni , a gallu ei Grist ef : canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr , yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos . A hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen , a thrwy air eu tystiolaeth hwynt ; ac ni charasant eu heinioes hyd angau . Oherwydd hyn llawenhewch , y nefoedd , a’r rhai ydych yn trigo ynddynt . Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , a’r môr ! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi , a chanddo lid mawr , oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser . A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear , hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab . A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr , fel yr ehedai hi i’r diffeithwch , i’w lle ei hun ; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser , ac amseroedd , a hanner amser , oddi wrth wyneb y sarff . A’r sarff a fwriodd allan o’i safn , ar ôl y wraig , ddwfr megis afon , fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon . A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig ; a’r ddaear a agorodd ei genau , ac a lyncodd yr afon , yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn . A llidiodd y ddraig wrth y wraig , ac a aeth i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi , y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw , ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt . Ac mi a sefais ar dywod y môr ; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr , a chanddo saith ben , a deg corn ; ac ar ei gyrn ddeg coron , ac ar ei bennau enw cabledd . A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard , a’i draed fel traed arth , a’i safn fel safn llew : a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu , a’i gorseddfainc , ac awdurdod mawr . Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw ; a’i friw marwol ef a iachawyd : a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil . A hwy a addolasant y ddraig , yr hon a roes allu i’r bwystfil : ac a addolasant y bwystfil , gan ddywedyd , Pwy sydd debyg i’r bwystfil ? pwy a ddichon ryfela ag ef ? A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion , a chabledd ; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain . Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw , i gablu ei enw ef , a’i dabernacl , a’r rhai sydd yn trigo yn y nef . A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint , a’u gorchfygu hwynt : a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith , a chenedl . A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef , y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd . Od oes gan neb glust , gwrandawed . Os yw neb yn tywys i gaethiwed , efe a â i gaethiwed : os yw neb yn lladd â chleddyf , rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf . Dyma amynedd a ffydd y saint . Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear ; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen , a llefaru yr oedd fel draig . A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef , ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf , yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol . Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion , hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear , yng ngolwg dynion ; Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil ; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear , am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf , ac a fu fyw . A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil , fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd , ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil , eu lladd . Ac y mae yn peri i bawb , fychain a mawrion , cyfoethogion a thlodion , rhyddion a chaethion , dderbyn nod ar eu llaw ddeau , neu ar eu talcennau : Ac na allai neb na phrynu na gwerthu , ond yr hwn a fyddai ganddo nod , neu enw’r bwystfil , neu rifedi ei enw ef . Yma y mae doethineb . Yr hwn sydd ganddo ddeall , bwried rifedi’r bwystfil : canys rhifedi dyn ydyw : a’i rifedi ef yw , Chwe chant a thrigain a chwech . Ac mi a edrychais , ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion , a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil , a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau . Ac mi a glywais lef o’r nef , fel llef dyfroedd lawer , ac fel llef taran fawr : ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau : A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc , a cherbron y pedwar anifail , a’r henuriaid : ac ni allodd neb ddysgu’r gân , ond y pedair mil a’r saith ugeinmil , y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear . Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd â gwragedd ; canys gwyryfon ydynt . Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo . Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion , yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen . Ac yn eu genau ni chaed twyll : canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw . Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef , a’r efengyl dragwyddol ganddo , i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , ac i bob cenedl , a llwyth , ac iaith , a phobl : Gan ddywedyd â llef uchel , Ofnwch Dduw , a rhoddwch iddo ogoniant ; oblegid daeth awr ei farn ef : ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef , a’r ddaear , a’r môr , a’r ffynhonnau dyfroedd . Ac angel arall a ddilynodd , gan ddywedyd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon , y ddinas fawr honno , oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb . A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt , gan ddywedyd â llef uchel , Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef , a derbyn ei nod ef yn ei dalcen , neu yn ei law , Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw , yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef ; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd , ac yng ngolwg yr Oen : A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd : ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos , y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef , ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef . Yma y mae amynedd y saint : yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw , a ffydd Iesu . Ac mi a glywais lef o’r nef , yn dywedyd wrthyf , Ysgrifenna , Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd , o hyn allan , medd yr Ysbryd , fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur ; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt . Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn , ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn , a chanddo ar ei ben goron o aur , ac yn ei law gryman llym . Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml , gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl , Bwrw dy gryman i mewn , a meda : canys daeth yr amser i ti i fedi ; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear . A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear ; a’r ddaear a fedwyd . Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef , a chanddo yntau hefyd gryman llym . Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor , yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân ; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo , gan ddywedyd , Bwrw i mewn dy gryman llym , a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear : oblegid aeddfedodd ei grawn hi . A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear , ac a gasglodd winwydden y ddaear , ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw . A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas ; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn , hyd at ffrwynau’r meirch , ar hyd mil a chwe chant o ystadau . Ac mi a welais arwydd arall yn y nef , mawr , a rhyfeddol ; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf : oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw . Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân ; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil , ac ar ei ddelw ef , ac ar ei nod ef , ac ar rifedi ei enw ef , yn sefyll ar y môr gwydr , a thelynau Duw ganddynt . A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw , a chân yr Oen ; gan ddywedyd , Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd , O Arglwydd Dduw Hollalluog ; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di , Brenin y saint . Pwy ni’th ofna di , O Arglwydd , ac ni ogonedda dy enw ? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd : oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di ; oblegid dy farnau di a eglurwyd . Ac ar ôl hyn mi a edrychais , ac wele , yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored : A daeth y saith angel , y rhai yr oedd y saith bla ganddynt , allan o’r deml , wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair , a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur . Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur , yn llawn o ddigofaint Duw , yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd . A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw , ac oddi wrth ei nerth ef : ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml , nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel . Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml , yn dywedyd wrth y saith angel , Ewch ymaith , a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear . A’r cyntaf a aeth , ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear ; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt , a’r rhai a addolasent ei ddelw ef . A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr ; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw : a phob enaid byw a fu farw yn y môr . A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd ; a hwy a aethant yn waed . Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd , Cyfiawn , O Arglwydd , ydwyt ti , yr hwn wyt , a’r hwn oeddit , a’r hwn a fyddi ; oblegid barnu ohonot y pethau hyn . Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy , a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed ; canys y maent yn ei haeddu . Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd , Ie , Arglwydd Dduw Hollalluog , cywir a chyfiawn yw dy farnau di . A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul ; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân . A phoethwyd y dynion â gwres mawr ; a hwy a gablasant enw Duw , yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn : ac nid edifarhasant , i roi gogoniant iddo ef . A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil ; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll : a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid , Ac a gablasant Dduw’r nef , oherwydd eu poenau , ac oherwydd eu cornwydydd ; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd . A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates ; a sychodd ei dwfr hi , fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain . Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig , ac allan o safn y bwystfil , ac allan o enau’r gau broffwyd . Canys ysbrydion cythreuliaid , yn gwneuthur gwyrthiau , ydynt , y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear , a’r holl fyd , i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw , dydd mawr Duw Hollalluog . Wele , yr wyf fi yn dyfod fel lleidr . Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio , ac yn cadw ei ddillad , fel na rodio yn noeth , ac iddynt weled ei anharddwch ef . Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg , Armagedon . A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr ; a daeth llef uchel allan o deml y nef , oddi wrth yr orseddfainc , yn dywedyd , Darfu . Ac yr oedd lleisiau a tharanau , a mellt ; ac yr oedd daeargryn mawr , y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear , cymaint daeargryn , ac mor fawr . A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan , a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant : a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw , i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef . A phob ynys a ffodd ymaith , ac ni chafwyd y mynyddoedd . A chenllysg mawr , fel talentau , a syrthiasant o’r nef ar ddynion : a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg : oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt . A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt , ac a ymddiddanodd â mi , gan ddywedyd wrthyf , Tyred , mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer ; Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear , ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi . Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd : ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad , yn llawn o enwau cabledd , a saith ben iddo , a deg corn . A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad , ac wedi ei gwychu ag aur , ac â main gwerthfawr , a pherlau , a chanddi gwpan aur yn ei llaw , yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra . Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu , DIRGELWCH , BABILON FAWR , MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR . Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint , a chan waed merthyron Iesu : a phan ei gwelais , mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr . A’r angel a ddywedodd wrthyf , Paham y rhyfeddaist ? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi , yr hwn sydd â’r saith ben ganddo , a’r deg corn . Y bwystfil a welaist , a fu , ac nid yw ; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod , a myned i ddistryw : a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd , pan welont y bwystfil , yr hwn a fu , ac nid yw , er ei fod . Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo . Y saith ben , saith fynydd ydynt , lle mae’r wraig yn eistedd arnynt . Ac y mae saith frenin : pump a gwympasant , ac un sydd , a’r llall ni ddaeth eto ; a phan ddêl , rhaid iddo aros ychydig . A’r bwystfil , yr hwn oedd , ac nid ydyw , yntau yw’r wythfed , ac o’r saith y mae , ac i ddistryw y mae’n myned . A’r deg corn a welaist , deg brenin ydynt , y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto ; eithr awdurdod fel brenhinoedd , un awr , y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil . Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn , a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil . Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen , a’r Oen a’u gorchfyga hwynt : oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw , a Brenin brenhinoedd ; a’r rhai sydd gydag ef , sydd alwedig , ac etholedig , a ffyddlon . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y dyfroedd a welaist , lle mae’r butain yn eistedd , pobloedd a thorfeydd ydynt , a chenhedloedd ac ieithoedd . A’r deg corn a welaist ar y bwystfil , y rhai hyn a gasânt y butain , ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth , a’i chnawd hi a fwytânt hwy , ac a’i llosgant hi â thân . Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef , a gwneuthur yr un ewyllys , a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil , hyd oni chyflawner geiriau Duw . A’r wraig a welaist , yw’r ddinas fawr , sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear . Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o’r nef , ac awdurdod mawr ganddo ; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef . Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel , gan ddywedyd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon fawr honno , ac aeth yn drigfa cythreuliaid , ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan , ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas . Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi , a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi , a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi . Ac mi a glywais lef arall o’r nef yn dywedyd , Deuwch allan ohoni hi , fy mhobl i , fel na byddoch gyd-gyfranogion o’i phechodau hi , ac na dderbynioch o’i phlâu hi . Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef , a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi . Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi , a dyblwch iddi’r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd : yn y cwpan a lanwodd hi , llenwch iddi yn ddauddyblyg . Cymaint ag yr ymogoneddodd hi , ac y bu mewn moethau , y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar : oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon , Yr wyf yn eistedd yn frenhines , a gweddw nid ydwyf , a galar nis gwelaf ddim . Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi , sef marwolaeth , a galar , a newyn ; a hi a lwyr losgir â thân : oblegid cryf yw’r Arglwydd Dduw , yr hwn sydd yn ei barnu hi . Ac wylo amdani , a galaru drosti , a wna brenhinoedd y ddaear , y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi , pan welont fwg ei llosgiad hi , Gan sefyll o hirbell , gan ofn ei gofid hi , a dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , Babilon , y ddinas gadarn ! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di . A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti ; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt : Marsiandïaeth o aur , ac arian , a meini gwerthfawr , a pherlau , a lliain main , a phorffor , a sidan , ac ysgarlad , a phob coed thynon , a phob llestr o ifori , a phob llestr o goed gwerthfawr iawn , ac o bres , ac o haearn , ac o faen marmor , A sinamon , a pheraroglau , ac ennaint , a thus , a gwin , ac olew , a pheilliaid , a gwenith , ac ysgrubliaid , a defaid , a meirch , a cherbydau , a chaethweision , ac eneidiau dynion . A’r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt , a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt ; ac ni chei hwynt ddim mwyach . Marchnatawyr y pethau hyn , y rhai a gyfoethogwyd ganddi , a safant o hirbell oddi wrthi , gan ofn ei gofid hi , gan wylo a galaru . A dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main , a phorffor , ac ysgarlad , ac wedi ei gwychu ag aur , a meini gwerthfawr , a pherlau ! Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth . A phob llong-lywydd , a phob cwmpeini mewn llongau , a llongwyr , a chynifer ag y sydd â’u gwaith ar y môr , a safasant o hirbell , Ac a lefasant , pan welsant fwg ei llosgiad hi , gan ddywedyd , Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr honno ! A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau , ac a lefasant , gan wylo a galaru , a dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr , trwy ei chost hi ! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi . Llawenha o’i phlegid hi , y nef , a chwi , apostolion sanctaidd a phroffwydi ; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi . Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr , ac a’i bwriodd i’r môr , gan ddywedyd , Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon , y ddinas fawr , ac ni cheir hi mwyach . A llais telynorion , a cherddorion , a phibyddion , ac utganwyr , ni chlywir ynot mwyach : ac un crefftwr , o ba grefft bynnag y bo , ni cheir ynot mwyach ; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach ; A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach ; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach : oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear : oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd . Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint , a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear . Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef , yn dywedyd , Aleliwia ; Iachawdwriaeth , a gogoniant , ac anrhydedd , a gallu , i’r Arglwydd ein Duw ni : Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef : oblegid efe a farnodd y butain fawr , yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra , ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi . Ac eilwaith y dywedasant , Aleliwia . A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd . A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr , ac a addolasant Dduw , yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc ; gan ddywedyd , Amen ; Aleliwia . A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc , yn dywedyd , Moliennwch ein Duw ni , ei holl weision ef , a’r rhai ydych yn ei ofni ef , bychain a mawrion hefyd . Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr , ac megis llef dyfroedd lawer , ac megis llef taranau cryfion , yn dywedyd , Aleliwia : oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog . Llawenychwn , a gorfoleddwn , a rhoddwn ogoniant iddo ef : oblegid daeth priodas yr Oen , a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun . A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair : canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ysgrifenna , Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn . Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef , i’w addoli ef . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Gwêl na wnelych hyn : cyd-was ydwyf i ti , ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu . Addola Dduw : canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth . Ac mi a welais y nef yn agored , ac wele farch gwyn ; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir , ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela . A’i lygaid oedd fel fflam dân , ac ar ei ben yr oedd coronau lawer : ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig , yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun : Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed : a gelwir ei enw ef , Gair Duw . A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion , wedi eu gwisgo â lliain main , gwyn , a glân . Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym , i daro’r cenhedloedd ag ef : ac efe a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn : ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog . Ac y mae ganddo ar ei wisg , ac ar ei forddwyd , enw wedi ei ysgrifennu , BRENIN BRENHINOEDD , AC ARGLWYDD ARGLWYDDI . Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul ; ac efe a lefodd â llef uchel , gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef , Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr ; Fel y bwytaoch gig brenhinoedd , a chig pen-capteiniaid , a chig y cedyrn , a chig meirch , a’r rhai sydd yn eistedd arnynt , a chig holl ryddion a chaethion , a bychain a mawrion . Ac mi a welais y bwystfil , a brenhinoedd y ddaear , a’u lluoedd , wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march , ac yn erbyn ei lu ef . A daliwyd y bwystfil , a chydag ef y gau broffwyd , yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef , trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil , a’r rhai a addolasent ei ddelw ef . Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan . A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march , yr hwn oedd yn dyfod allan o’i enau ef : a’r holl adar a gawsant eu gwala o’u cig hwynt . Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef , a chanddo agoriad y pydew diwaelod , a chadwyn fawr yn ei law . Ac efe a ddaliodd y ddraig , yr hen sarff , yr hon yw Diafol a Satan , ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd , Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod , ac a gaeodd arno , ac a seliodd arno ef , fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach , nes cyflawni’r mil o flynyddoedd : ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser . Ac mi a welais orseddfeinciau , a hwy a eisteddasant arnynt , a barn a roed iddynt hwy : ac mi a welais eneidiau’r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu , ac am air Duw , a’r rhai nid addolasent y bwystfil na’i ddelw ef , ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau , neu ar eu dwylo ; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd . Eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn , nes cyflawni’r mil blynyddoedd . Dyma’r atgyfodiad cyntaf . Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf : y rhai hyn nid oes i’r ail farwolaeth awdurdod arnynt , eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist , ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd . A phan gyflawner y mil blynyddoedd , gollyngir Satan allan o’i garchar ; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear , Gog a Magog , i’w casglu hwy ynghyd i ryfel ; rhif y rhai sydd fel tywod y môr . A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear , ac a amgylchasant wersyll y saint , a’r ddinas annwyl : a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef , ac a’u hysodd hwynt . A diafol , yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt , a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan , lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd ; a hwy a boenir ddydd a nos , yn oes oesoedd . Ac mi a welais orseddfainc wen fawr , a’r hwn oedd yn eistedd arni , oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef ; a lle ni chafwyd iddynt . Ac mi a welais y meirw , fychain a mawrion , yn sefyll gerbron Duw ; a’r llyfrau a agorwyd : a llyfr arall a agorwyd , yr hwn yw llyfr y bywyd : a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau , yn ôl eu gweithredoedd . A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo ; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau : a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd . A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân . Hon yw’r ail farwolaeth . A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd , bwriwyd ef i’r llyn o dân . Ac mi a welais nef newydd , a daear newydd : canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio ; a’r môr nid oedd mwyach . A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd , Jerwsalem newydd , yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef , wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr . Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef , yn dywedyd , Wele , y mae pabell Duw gyda dynion , ac efe a drig gyda hwynt , a hwy a fyddant bobl iddo ef , a Duw ei hun a fydd gyda hwynt , ac a fydd yn Dduw iddynt . Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt ; a marwolaeth ni bydd mwyach , na thristwch , na llefain , na phoen ni bydd mwyach : oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio . A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , Wele , yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ysgrifenna : canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Darfu . Myfi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd . I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad . Yr hwn sydd yn gorchfygu , a etifedda bob peth : ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw , ac yntau a fydd i minnau yn fab . Ond i’r rhai ofnog , a’r di-gred , a’r ffiaidd , a’r llofruddion , a’r puteinwyr , a’r swyn-gyfareddwyr , a’r eilun-addolwyr , a’r holl gelwyddwyr , y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan : yr hwn yw’r ail farwolaeth . A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf , ac a ymddiddanodd â mi , gan ddywedyd , Tyred , mi a ddangosaf i ti’r briodasferch , gwraig yr Oen . Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel , ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr , Jerwsalem sanctaidd , yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw , A gogoniant Duw ganddi : a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf , megis maen iasbis , yn loyw fel grisial ; Ac iddi fur mawr ac uchel , ac iddi ddeuddeg porth , ac wrth y pyrth ddeuddeg angel , ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt , y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel . O du’r dwyrain , tri phorth ; o du’r gogledd , tri phorth ; o du’r deau , tri phorth ; o du’r gorllewin , tri phorth . Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo , ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen . A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi , oedd â chorsen aur ganddo , i fesuro’r ddinas , a’i phyrth hi , a’i mur . A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl , a’i hyd sydd gymaint â’i lled . Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen , yn ddeuddeng mil o ystadau . A’i hyd , a’i lled , a’i huchder , sydd yn ogymaint . Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain , wrth fesur dyn , hynny yw , eiddo’r angel . Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis : a’r ddinas oedd aur pur , yn debyg i wydr gloyw . A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr . Y sail cyntaf oedd faen iasbis ; yr ail , saffir ; y trydydd , chalcedon ; y pedwerydd , smaragdus ; Y pumed , sardonycs ; y chweched , sardius ; y seithfed , chrysolithus ; yr wythfed , beryl ; y nawfed , topasion ; y degfed , chrysoprasus ; yr unfed ar ddeg , hyacinthus ; y deuddegfed , amethystus . A’r deuddeg porth , deuddeg perl oeddynt ; a phob un o’r pyrth oedd o un perl : a heol y ddinas oedd aur pur , fel gwydr gloyw . A theml ni welais ynddi : canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog , a’r Oen , yw ei theml hi . A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul , na’r lleuad , i oleuo ynddi : canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi , a’i goleuni hi ydyw’r Oen . A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi : ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi . A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd : canys ni bydd nos yno . A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi . Ac nid â i mewn iddi ddim aflan , nac yn gwneuthur ffieidd-dra , na chelwydd : ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen . Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd , disglair fel grisial , yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen . Yng nghanol ei heol hi , ac o ddau tu’r afon , yr oedd pren y bywyd , yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth , bob mis yn rhoddi ei ffrwyth : a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd : A phob melltith ni bydd mwyach : ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi ; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef , A hwy a gânt weled ei wyneb ef ; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt . Ac ni bydd nos yno : ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll , na goleuni haul ; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt : a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir : ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys . Wele , yr wyf yn dyfod ar frys : gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn . A myfi Ioan a welais y pethau hyn , ac a’u clywais . A phan ddarfu i mi glywed a gweled , mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Gwêl na wnelych : canys cyd-was ydwyf i ti , ac i’th frodyr y proffwydi , ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn . Addola Dduw . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn : oblegid y mae’r amser yn agos . Yr hwn sydd anghyfiawn , bydded anghyfiawn eto : a’r hwn sydd frwnt , bydded frwnt eto ; a’r hwn sydd gyfiawn , bydded gyfiawn eto ; a’r hwn sydd sanctaidd , bydded sanctaidd eto . Ac wele , yr wyf yn dyfod ar frys ; a’m gwobr sydd gyda mi , i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef . Myfi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd , y cyntaf a’r diwethaf . Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef , fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd , ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas . Oddi allan y mae’r cŵn , a’r swyn-gyfareddwyr , a’r puteinwyr , a’r llofruddion , a’r eilun-addolwyr , a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd . Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi . Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd , a’r Seren fore eglur . Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd , Tyred . A’r hwn sydd yn clywed , dyweded , Tyred . A’r hwn sydd â syched arno , deued . A’r hwn sydd yn ewyllysio , cymered ddwfr y bywyd yn rhad . Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn , Os rhydd neb ddim at y pethau hyn , Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn : Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon , Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd , ac allan o’r ddinas sanctaidd , ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn . Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn , sydd yn dywedyd , Yn wir , yr wyf yn dyfod ar frys . Amen . Yn wir , tyred , Arglwydd Iesu . Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>