<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:1</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:1</urn><passage>Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear . A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag , a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder , ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd . A Duw a ddywedodd , Bydded goleuni , a goleuni a fu . A Duw a welodd y goleuni , mai da oedd : a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch . A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd , a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos : a’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y dydd cyntaf . Duw hefyd a ddywedodd , Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd , a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd . A Duw a wnaeth y ffurfafen , ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen , a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen : ac felly y bu . A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd : a’r hwyr a fu , a’r bore a fu , yr ail ddydd . Duw hefyd a ddywedodd , Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle , ac ymddangosed y sychdir : ac felly y bu . A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear , a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd : a Duw a welodd mai da oedd . A Duw a ddywedodd , Egined y ddaear egin , sef llysiau yn hadu had , a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth , wrth eu rhywogaeth , y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear : ac felly y bu . A’r ddaear a ddug egin , sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth , a phrennau yn dwyn ffrwyth , y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth : a Duw a welodd mai da oedd . A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y trydydd dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd , i wahanu rhwng y dydd a’r nos ; a byddant yn arwyddion , ac yn dymhorau , ac yn ddyddiau , a blynyddoedd . A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd , i oleuo ar y ddaear : ac felly y bu . A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion ; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd , a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos : a’r sêr hefyd a wnaeth efe . Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt , i oleuo ar y ddaear , Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos , ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch : a gwelodd Duw mai da oedd . A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y pedwerydd dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw , ac eheded ehediaid uwch y ddaear , yn wyneb ffurfafen y nefoedd . A Duw a greodd y morfeirch mawrion , a phob ymlusgiad byw , y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth , a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth : a gwelodd Duw mai da oedd . A Duw a’u bendigodd hwynt , gan ddywedyd , Ffrwythwch , ac amlhewch , a llenwch y dyfroedd yn y moroedd , a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear , A’r hwyr a fu , a’r bore a fu , y pumed dydd . Duw hefyd a ddywedodd , Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth , yr anifail , a’r ymlusgiad , a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth : ac felly y bu . A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth , a’r anifail wrth ei rywogaeth , a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth : a gwelodd Duw mai da oedd . Duw hefyd a ddywedodd , Gwnawn ddyn ar ein delw ni , wrth ein llun ein hunain : ac arglwyddiaethant ar bysg y môr , ac ar ehediad y nefoedd , ac ar yr anifail , ac ar yr holl ddaear , ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear . Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun , ar ddelw Duw y creodd efe ef : yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt . Duw hefyd a’u bendigodd hwynt , a Duw a ddywedodd wrthynt , Ffrwythwch , ac amlhewch , a llenwch y ddaear , a darostyngwch hi ; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr , ac ar ehediad y nefoedd , ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear . A Duw a ddywedodd , Wele , mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had , yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear , a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had , i fod yn fwyd i chwi . Hefyd i bob bwystfil y ddaear , ac i bob ehediad y nefoedd , ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear , yr hwn y mae einioes ynddo , y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd : ac felly y bu . A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai , ac wele da iawn ydoedd : felly yr hwyr a fu , a’r bore a fu , y chweched dydd . Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear , a’u holl lu hwynt . Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith , yr hwn a wnaethai efe , ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith , yr hwn a wnaethai efe . A Duw a fendigodd y seithfed dydd , ac a’i sancteiddiodd ef : oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith , yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur . Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear , pan grewyd hwynt , yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd , A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear , a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan : oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear , ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear . Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear , ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear . A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear , ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes : a’r dyn a aeth yn enaid byw . Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden , o du’r dwyrain , ac a osododd yno y dyn a luniasai efe . A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg , a daionus yn fwyd , ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd , ac i bren gwybodaeth da a drwg , dyfu allan o’r ddaear . Ac afon a aeth allan o Eden , i ddyfrhau yr ardd , ac oddi yno hi a rannwyd , ac a aeth yn bedwar pen . Enw y gyntaf yw Pison : hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila , lle y mae yr aur : Ac aur y wlad honno sydd dda : yno mae bdeliwm a’r maen onics . Ac enw yr ail afon yw Gihon : honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia . Ac enw y drydedd afon yw Hidecel : honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria : a’r bedwaredd afon yw Ewffrates . A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn , ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden , i’w llafurio ac i’w chadw hi . A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn , gan ddywedyd , O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta : Ond o bren gwybodaeth da a drwg , na fwyta ohono ; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono , gan farw y byddi farw . Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd , Nid da bod y dyn ei hunan ; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo . A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes , a holl ehediaid y nefoedd , ac a’u dygodd at Adda , i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy : a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw , hynny fu ei enw ef . Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid , ac ar ehediaid y nefoedd , ac ar holl fwystfilod y maes : ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda , ac efe a gysgodd : ac efe a gymerodd un o’i asennau ef , ac a gaeodd gig yn ei lle hi . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn , yn wraig , ac a’i dug at y dyn . Ac Adda a ddywedodd , Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i , a chnawd o’m cnawd i : hon a elwir gwraig , oblegid o ŵr y cymerwyd hi . Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad , ac â’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig : a hwy a fyddant yn un cnawd . Ac yr oeddynt ill dau yn noethion , Adda a’i wraig , ac nid oedd arnynt gywilydd . A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes , y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw . A hi a ddywedodd wrth y wraig , Ai diau ddywedyd o Dduw , Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd ? A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff , O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta : Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd , Duw a ddywedodd , Na fwytewch ohono , ac na chyffyrddwch ag ef , rhag eich marw . A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig , Ni byddwch feirw ddim . Canys gwybod y mae Duw , mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef , yr agorir eich llygaid , ac y byddwch megis duwiau , yn gwybod da a drwg . A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd , ac mai teg mewn golwg ydoedd , a’i fod yn bren dymunol i beri deall , hi a gymerth o’i ffrwyth ef , ac a fwytaodd , ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi , ac efe a fwytaodd . A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd , a hwy a wybuant eu bod yn noethion , ac a wniasant ddail y ffigysbren , ac a wnaethant iddynt arffedogau . A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd , gydag awel y dydd ; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw , ymysg prennau yr ardd . A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda , ac a ddywedodd wrtho , Pa le yr wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Dy lais a glywais yn yr ardd ; a mi a ofnais , oblegid noeth oeddwn , ac a ymguddiais . A dywedodd Duw , Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth ? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono , y bwyteaist ? Ac Adda a ddywedodd , Y wraig a roddaist gyda mi , hi a roddodd i mi o’r pren , a mi a fwyteais . A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig , Paham y gwnaethost ti hyn ? A’r wraig a ddywedodd , Y sarff a’m twyllodd , a bwyta a wneuthum . A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff , Am wneuthur ohonot hyn , melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid , ac na holl fwystfilod y maes : ar dy dor y cerddi , a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes . Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig , a rhwng dy had di a’i had hithau : efe a ysiga dy ben di , a thithau a ysigi ei sawdl ef . Wrth y wraig y dywedodd , Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi : mewn poen y dygi blant , a’th ddymuniad fydd at dy ŵr , ac efe a lywodraetha arnat ti . Hefyd wrth Adda y dywedodd , Am wrando ohonot ar lais dy wraig , a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti , gan ddywedyd , Na fwyta ohono ; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di : trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes . Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti ; a llysiau y maes a fwytei di . Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara , hyd pan ddychwelech i’r ddaear ; oblegid ohoni y’th gymerwyd : canys pridd wyt ti , ac i’r pridd y dychweli . A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa ; oblegid hi oedd fam pob dyn byw . A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn , ac a’u gwisgodd amdanynt hwy . Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd , Wele y dyn sydd megis un ohonom ni , i wybod da a drwg . Ac weithian , rhag iddo estyn ei law , a chymryd hefyd o bren y bywyd , a bwyta , a byw yn dragwyddol : Am hynny yr Arglwydd Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden , i lafurio’r ddaear , yr hon y cymerasid ef ohoni . Felly efe a yrrodd allan y dyn , ac a osododd , o’r tu dwyrain i ardd Eden , y ceriwbiaid , a chleddyf tanllyd ysgydwedig , i gadw ffordd pren y bywyd . Ac Adda a adnabu Efa ei wraig : a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar Cain ; ac a ddywedodd , Cefais ŵr gan yr Arglwydd . A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel ; ac Abel oedd fugail defaid , ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear . A bu , wedi talm o ddyddiau , i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd . Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid , ac o’u braster hwynt . A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel , ac ar ei offrwm : Ond nid edrychodd efe ar Cain , nac ar ei offrwm ef . A dicllonodd Cain yn ddirfawr , fel y syrthiodd ei wynepryd ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain , Paham y llidiaist ? a phaham y syrthiodd dy wynepryd ? Os da y gwnei , oni chei oruchafiaeth ? ac oni wnei yn dda , pechod a orwedd wrth y drws : atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef , a thi a lywodraethi arno ef . A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd : ac fel yr oeddynt hwy yn y maes , Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd , ac a’i lladdodd ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain , Mae Abel dy frawd di ? Yntau a ddywedodd , Nis gwn ; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi ? A dywedodd Duw , Beth a wnaethost ? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear . Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear , yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di . Pan lafuriech y ddaear , ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti ; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear . Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd , Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau . Wele , gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear , ac o’th ŵydd di y’m cuddir : gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear ; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain . A’r Arglwydd a osododd nod ar Cain , rhag i neb a’i caffai ei ladd ef . A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd , ac a drigodd yn nhir Nod , o’r tu dwyrain i Eden . Cain hefyd a adnabu ei wraig ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar Enoch : yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas , ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab , Enoch . Ac i Enoch y ganwyd Irad : ac Irad a genhedlodd Mehwiael , a Mehwiael a genhedlodd Methwsael , a Methwsael a genhedlodd Lamech . A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd : enw y gyntaf oedd Ada , ac enw yr ail Sila . Ac Ada a esgorodd ar Jabal ; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell , a pherchen anifail . Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal ; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ . Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain , gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn : a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama . A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd , Ada a Sila , Clywch fy llais , gwragedd Lamech , gwrandewch fy lleferydd ; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl , a llanc i’m clais . Os Cain a ddielir seithwaith , yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith . Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn ; a hi a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Seth : Oherwydd Duw ( eb hi ) a osododd i mi had arall yn lle Abel , am ladd o Cain ef . I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab ; ac efe a alwodd ei enw ef Enos : yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd . Dyma lyfr cenedlaethau Adda : yn y dydd y creodd Duw ddyn , ar lun Duw y gwnaeth efe ef . Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt : ac efe a’u bendithiodd hwynt , ac a alwodd eu henw hwynt Adda , ar y dydd y crewyd hwynt . Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant , ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun , ac a alwodd ei enw ef Seth . A dyddiau Adda , wedi iddo genhedlu Seth , oedd wyth gan mlynedd , ac efe a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Adda , y rhai y bu efe fyw , oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain ; ac efe a fu farw . Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd , ac a genhedlodd Enos . A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos , saith mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain , ac a genhedlodd Cenan . Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan , bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Mahalaleel . A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd , ac a genhedlodd Jered . A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered , ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd ; ac efe a fu farw . A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd , ac a genhedlodd Enoch . A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Methwsela . Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela , dri chant o flynyddoedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd . A rhodiodd Enoch gyda Duw , ac ni welwyd ef ; canys Duw a’i cymerodd ef . Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant , ac a genhedlodd Lamech . A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech , ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd ; ac efe a fu farw . Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd , ac a genhedlodd fab ; Ac a alwodd ei enw ef Noa , gan ddywedyd , Hwn a’n cysura ni am ein gwaith , a llafur ein dwylo , oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd . A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa , bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd ; ac efe a fu farw . A Noa ydoedd fab pum can mlwydd ; a Noa a genhedlodd Sem , Cham , a Jaffeth . Yna y bu , pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear , a geni merched iddynt , Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy ; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant . A dywedodd yr Arglwydd , Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd , oblegid mai cnawd yw efe : a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant . Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny : ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion , a phlanta o’r rhai hynny iddynt : dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt . A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear , a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser . Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear , ac efe a ymofidiodd yn ei galon . A’r Arglwydd a ddywedodd , Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear , o ddyn hyd anifail , hyd yr ymlusgiad , a hyd ehediad y nefoedd : canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt . Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd . Dyma genedlaethau Noa : Noa oedd ŵr cyfiawn , perffaith yn ei oes : gyda Duw y rhodiodd Noa . A Noa a genhedlodd dri o feibion , Sem , Cham , a Jaffeth . A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw ; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd . A Duw a edrychodd ar y ddaear , ac wele hi a lygrasid ; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear . A Duw a ddywedodd wrth Noa , Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron : oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy : ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear . Gwna i ti arch o goed Goffer ; yn gellau y gwnei yr arch , a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg . Ac fel hyn y gwnei di hi : tri chan cufydd fydd hyd yr arch , deg cufydd a deugain ei lled , a deg cufydd ar hugain ei huchder . Gwna ffenestr i’r arch , a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd ; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys : o dri uchder y gwnei di hi . Ac wele myfi , ie myfi , yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear , i ddifetha pob cnawd , yr hwn y mae anadl einioes ynddo , oddi tan y nefoedd : yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga . Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod ; ac i’r arch yr ei di , tydi a’th feibion , a’th wraig , a gwragedd dy feibion gyda thi . Ac o bob peth byw , o bob cnawd , y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi ; gwryw a benyw fyddant . O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth , ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth , o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth ; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw . A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir , a chasgl atat ; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau . Felly y gwnaeth Noa , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo , felly y gwnaeth efe . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa , Dos di , a’th holl dŷ i’r arch : canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon . O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith , y gwryw a’i fenyw ; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân , y gwryw a’i fenyw : O ehediaid y nefoedd hefyd , bob yn saith , yn wryw ac yn fenyw , i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear . Oblegid wedi saith niwrnod eto , mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos : a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i . A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo . Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear . A Noa a aeth i mewn , a’i feibion , a’i wraig , a gwragedd ei feibion gydag ef , i’r arch , rhag y dwfr dilyw . O anifeiliaid glân , ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân , o ehediaid hefyd , ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear , Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau , yn wryw ac yn fenyw , fel y gorchmynasai Duw i Noa . Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear . Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa , yn yr ail mis , ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis , ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr , a ffenestri’r nefoedd a agorwyd . A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos . O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa , a Sem , a Cham , a Jaffeth , meibion Noa , a gwraig Noa , a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt , i’r arch ; Hwynt , a phob bwystfil wrth ei rywogaeth , a phob anifail wrth ei rywogaeth , a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth , a phob ehediad wrth ei rywogaeth , pob aderyn o bob rhyw . A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau , o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes . A’r rhai a ddaethant , yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd , fel y gorchmynasai Duw iddo . A’r Arglwydd a gaeodd arno ef . A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear ; a’r dyfroedd a gynyddasant , ac a godasant yr arch , a hi a godwyd oddi ar y ddaear . A’r dyfroedd a ymgryfhasant , ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear ; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd . A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear , a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd . Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny : a’r mynyddoedd a orchuddiwyd . A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear , yn ehediaid , ac yn anifeiliaid , ac yn fwystfilod , ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear , a phob dyn hefyd . Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau , o’r hyn oll oedd ar y sychdir , a fuant feirw . Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear , yn ddyn ac yn anifail , yn ymlusgiaid , ac yn ehediaid y nefoedd ; ie , dilewyd hwynt o’r ddaear : a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch , yn unig , a adawyd yn fyw . A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant . A Duw a gofiodd Noa , a phob peth byw , a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch : a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear , a’r dyfroedd a lonyddasant . Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd ; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd . A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear , gan fyned a dychwelyd : ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant , y dyfroedd a dreiasai . Ac yn y seithfed mis , ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis , y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat . A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio , hyd y degfed mis : yn y degfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y gwelwyd pennau’r mynyddoedd . Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe . Ac efe a anfonodd allan gigfran ; a hi a aeth , gan fyned allan a dychwelyd , hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear . Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho , i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear . Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed ; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch , am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir : ac efe a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd hi , ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch . Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill , ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch . A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn ; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi , wedi ei thynnu : yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear . Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill , ac a anfonodd y golomen ; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy . Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant , yn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir : a Noa a symudodd gaead yr arch , ac a edrychodd , ac wele , sychasai wyneb y ddaear . Ac yn yr ail fis , ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis , y ddaear a sychasai . A llefarodd Duw wrth Noa , gan ddywedyd , Dos allan o’r arch , ti , a’th wraig , a’th feibion , a gwragedd dy feibion , gyda thi . Pob peth byw a’r sydd gyda thi , o bob cnawd , yn adar , ac yn anifeiliaid , ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , a ddygi allan gyda thi : epiliant hwythau yn y ddaear , a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear . A Noa a aeth allan , a’i feibion , a’i wraig , a gwragedd ei feibion , gydag ef . Pob bwystfil , pob ymlusgiad , a phob ehediad , pob peth a ymlusgai ar y ddaear , wrth eu rhywogaethau , a ddaethant allan o’r arch . A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd , ac a gymerodd o bob anifail glân , ac o bob ehediad glân , ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor . A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth ; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon , Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn : oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid : ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw , fel y gwneuthum . Pryd hau , a chynhaeaf , ac oerni , a gwres , a haf , a gaeaf , a dydd , a nos , ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear . Duw hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion , ac a ddywedodd wrthynt , Ffrwythwch a lluosogwch , a llenwch y ddaear . Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear , ac ar holl ehediaid y nefoedd , a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear , ac ar holl bysgod y môr ; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt . Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw , fydd i chwi yn fwyd : fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim . Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes , sef ei waed . Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi : o law pob bwystfil y gofynnaf ef ; ac o law dyn , o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn . A dywallto waed dyn , trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau , oherwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn . Ond chwychwi , ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear , a lluosogwch ynddi . A Duw a lefarodd wrth Noa , ac wrth ei feibion gydag ef , gan ddywedyd , Ac wele myfi , ie myfi , ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi , ac â’ch had ar eich ôl chwi ; Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi , â’r ehediaid , â’r anifeiliaid , ac â phob bwystfil y tir gyda chwi , o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch , hyd holl fwystfilod y ddaear . A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi , ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw , ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear . A Duw a ddywedodd , Dyma arwydd y cyfamod , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi , ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi , tros oesoedd tragwyddol : Fy mwa a roddais yn y cwmwl , ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear . A bydd , pan godwyf gwmwl ar y ddaear , yr ymddengys y bwa yn y cwmwl . A mi a gofiaf fy nghyfamod , yr hwn sydd rhyngof fi a chwi , ac a phob peth byw o bob cnawd : ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy , i ddifetha pob cnawd . A’r bwa a fydd yn y cwmwl ; a mi a edrychaf arno ef , i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw , o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear . A Duw a ddywedodd wrth Noa , Dyma arwydd y cyfamod , yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear . A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch , oedd Sem , Cham , a Jaffeth ; a Cham oedd dad Canaan . Y tri hyn oedd feibion Noa : ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear . A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr , ac a blannodd winllan : Ac a yfodd o’r gwin , ac a feddwodd , ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell . A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad , ac a fynegodd i’w ddau frawd allan . A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn , ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau , ac a gerddasant yn wysg eu cefn , ac a orchuddiasant noethni eu tad ; a’u hwynebau yn ôl , fel na welent noethni eu tad . A Noa a ddeffrôdd o’i win , ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo . Ac efe a ddywedodd , Melltigedig fyddo Canaan ; gwas gweision i’w frodyr fydd . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem ; a Chanaan fydd was iddo ef . Duw a helaetha ar Jaffeth , ac efe a breswylia ym mhebyll Sem ; a Chanaan fydd was iddo ef . A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain . Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain ; ac efe a fu farw . Adyma genedlaethau meibion Noa : Sem , Cham , a Jaffeth ; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw . Meibion Jaffeth oedd Gomer , a Magog , a Madai , a Jafan , a Thubal , a Mesech , a Thiras . Meibion Gomer hefyd ; Ascenas , a Riffath , a Thogarma . A meibion Jafan ; Elisa , a Tharsis , Cittim , a Dodanim . O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd , pawb wrth eu hiaith eu hun , trwy eu teuluoedd , yn eu cenhedloedd . A meibion Cham oedd Cus , a Misraim , a Phut , a Chanaan . A meibion Cus ; Seba , a Hafila , a Sabta , a Raama , a Sabteca : a meibion Raama ; Seba , a Dedan . Cus hefyd a genhedlodd Nimrod : efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear . Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd : am hynny y dywedir , Fel Nimrod , heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd . A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel , ac Erech , ac Accad , a Chalne , yng ngwlad Sinar . O’r wlad honno yr aeth Assur allan , ac a adeiladodd Ninefe , a dinas Rehoboth , a Chala , A Resen , rhwng Ninefe a Chala ; honno sydd ddinas fawr . Misraim hefyd a genhedlodd Ludim , ac Anamim , a Lehabim , a Nafftwhim , Pathrusim hefyd a Chasluhim , ( o’r rhai y daeth Philistim , ) a Chafftorim . Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig , a Heth , A’r Jebusiad , a’r Amoriad , a’r Girgasiad , A’r Hefiad , a’r Arciad , a’r Siniad , A’r Arfadiad , a’r Semariad , a’r Hamathiad : ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid . Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon , ffordd yr elych i Gerar , hyd Gasa : y ffordd yr elych i Sodom , a Gomorra , ac Adma , a Seboim , hyd Lesa . Dyma feibion Cham , yn ôl eu teuluoedd , wrth eu hieithoedd , yn eu gwledydd , ac yn eu cenhedloedd . I Sem hefyd y ganwyd plant ; yntau oedd dad holl feibion Heber , a brawd Jaffeth yr hynaf . Meibion Sem oedd Elam , ac Assur , ac Arffacsad , a Lud , ac Aram . A meibion Aram ; Us , a Hul , a Gether , a Mas . Ac Arffacsad a genhedlodd Sela , a Sela a genhedlodd Heber . Ac i Heber y ganwyd dau o feibion : enw un oedd Peleg ; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear ; ac enw ei frawd , Joctan . A Joctan a genhedlodd Almodad , a Saleff , a Hasarmafeth , a Jera , Hadoram hefyd , ac Usal , a Dicla , Obal hefyd , ac Abinael , a Seba , Offir hefyd , a Hafila , a Jobab : yr holl rai hyn oedd feibion Joctan . A’u preswylfa oedd o Mesa , ffordd yr elych i Seffar , mynydd y dwyrain . Dyma feibion Sem , wrth eu teuluoedd , yn ôl eu hieithoedd , yn eu gwledydd , trwy eu cenhedloedd . Dyma deuluoedd meibion Noa , wrth eu cenedlaethau , yn ôl eu cenhedloedd : ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw . A’r holl ddaear ydoedd o un iaith , ac o un ymadrodd . A bu , a hwy yn ymdaith o’r dwyrain , gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar ; ac yno y trigasant . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Deuwch , gwnawn briddfeini , a llosgwn yn boeth : ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig , a chlai oedd ganddynt yn lle calch . A dywedasant , Moeswch , adeiladwn i ni ddinas , a thŵr , a’i nen hyd y nefoedd , a gwnawn i ni enw , rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear . A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion . A dywedodd yr Arglwydd , Wele y bobl yn un , ac un iaith iddynt oll , a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio : ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur . Deuwch , disgynnwn , a chymysgwn yno eu hiaith hwynt , fel na ddeallont iaith ei gilydd . Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear ; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas . Am hynny y gelwir ei henw hi Babel ; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear , ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear . Dyma genedlaethau Sem : Sem ydoedd fab can mlwydd , ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw . A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad , bum can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Sela . Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela , dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Heber . A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber , dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain , ac a genhedlodd Peleg . A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg , ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Reu . A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu , naw o flynyddoedd a dau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Serug . A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug , saith o flynyddoedd a dau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Nachor . A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor , ddau can mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain , ac a genhedlodd Tera . A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera , onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd , ac a genhedlodd feibion a merched . Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain , ac a genhedlodd Abram , Nachor , a Haran . A dyma genedlaethau Tera : Tera a genhedlodd Abram , Nachor , a Haran ; a Haran a genhedlodd Lot . A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad , yng ngwlad ei enedigaeth , o fewn Ur y Caldeaid . Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd : enw gwraig Abram oedd Sarai ; ac enw gwraig Nachor , Milca , merch Haran , tad Milca , a thad Isca . A Sarai oedd amhlantadwy , heb blentyn iddi . A Thera a gymerodd Abram ei fab , a Lot fab Haran , mab ei fab , a Sarai ei waudd , gwraig Abram ei fab ; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid , i fyned i dir Canaan ; ac a ddaethant hyd yn Haran , ac a drigasant yno . A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd : a bu farw Tera yn Haran . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram , Dos allan o’th wlad , ac oddi wrth dy genedl , ac o dŷ dy dad , i’r wlad a ddangoswyf i ti . A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr , ac a’th fendithiaf , mawrygaf hefyd dy enw ; a thi a fyddi yn fendith . Bendithiaf hefyd dy fendithwyr , a’th felltithwyr a felltigaf : a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti . Yna yr aeth Abram , fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho ; a Lot a aeth gydag ef : ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran . Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig , a Lot mab ei frawd , a’u holl olud a gasglasent hwy , a’r eneidiau a enillasent yn Haran , ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan ; ac a ddaethant i wlad Canaan . Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem , hyd wastadedd More : a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw . A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram , ac a ddywedodd , I’th had di y rhoddaf y tir hwn : yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , yr hwn a ymddangosasai iddo . Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd , o du dwyrain Bethel , ac a estynnodd ei babell , gan adael Bethel tua’r gorllewin , a Hai tua’r dwyrain : ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , ac a alwodd ar enw yr Arglwydd . Ac Abram a ymdeithiodd , gan fyned ac ymdaith tua’r deau . Ac yr oedd newyn yn y tir ; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft , i ymdeithio yno , am drymhau o’r newyn yn y wlad . A bu , ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft , ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig , Wele , yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti : A phan welo’r Eifftiaid dydi , hwy a ddywedant , Dyma’i wraig ef ; a hwy a’m lladdant i , a thi a adawant yn fyw . Dywed , atolwg , mai fy chwaer wyt ti : fel y byddo da i mi er dy fwyn di , ac y byddwyf fyw o’th blegid di . A bu , pan ddaeth Abram i’r Aifft , i’r Eifftiaid edrych ar y wraig , mai glân odiaeth oedd hi . A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi , ac a’i canmolasant hi wrth Pharo : a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo . Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi : ac yr oedd ganddo ef ddefaid , a gwartheg , ac asynnod , a gweision , a morynion , ac asennod , a chamelod . A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion , o achos Sarai gwraig Abram . A Pharo a alwodd Abram , ac a ddywedodd , Paham y gwnaethost hyn i mi ? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi ? Paham y dywedaist , Fy chwaer yw hi ? fel y cymerwn hi yn wraig i mi : ond yr awr hon wele dy wraig , cymer hi , a dos ymaith . A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef : a hwy a’i gollyngasant ef ymaith , a’i wraig , a’r hyn oll oedd eiddo ef . Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft , efe a’i wraig , a’r hyn oll oedd eiddo , a Lot gydag ef , i’r deau . Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid , ac o arian , ac aur . Ac efe a aeth ar ei deithiau , o’r deau hyd Bethel , hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad , rhwng Bethel a Hai ; I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf : ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd . Ac i Lot hefyd , yr hwn a aethai gydag Abram , yr oedd defaid , a gwartheg , a phebyll . A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd ; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth , fel na allent drigo ynghyd . Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot : y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad . Ac Abram a ddywedodd wrth Lot , Na fydded cynnen , atolwg , rhyngof fi a thi , na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di ; oherwydd brodyr ydym ni . Onid yw yr holl dir o’th flaen di ? Ymneilltua , atolwg , oddi wrthyf : os ar y llaw aswy y troi di , minnau a droaf ar y ddeau ; ac os ar y llaw ddeau , minnau a droaf ar yr aswy . A Lot a gyfododd ei olwg , ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen , mai dyfradwy ydoedd oll , cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra , fel gardd yr Arglwydd , fel tir yr Aifft , ffordd yr elych i Soar . A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen , a Lot a aeth tua’r dwyrain : felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd . Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd , ac a luestodd hyd Sodom . A dynion Sodom oedd ddrygionus , ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram , wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef , Cyfod dy lygaid , ac edrych o’r lle yr wyt ynddo , tua’r gogledd , a’r deau , a’r dwyrain , a’r gorllewin . Canys yr holl dir a weli , i ti y rhoddaf ef , ac i’th had byth . Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear ; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear , yna y rhifir dy had dithau . Cyfod , rhodia trwy’r wlad , ar ei hyd , ac ar ei lled ; canys i ti y rhoddaf hi . Ac Abram a symudodd ei luest , ac a ddaeth , ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre , yr hwn sydd yn Hebron , ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd . Abu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar , Arioch brenin Elasar , Cedorlaomer brenin Elam , a Thidal brenin y cenhedloedd ; Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom , ac â Birsa brenin Gomorra , â Sinab brenin Adma , ac â Semeber brenin Seboim , ac â brenin Bela , hon yw Soar . Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim : hwnnw yw’r môr heli . Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer , a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant . A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer , a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef , ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim , a’r Susiaid yn Ham , a’r Emiaid yn Safe-Ciriathaim , A’r Horiaid yn eu mynydd Seir , hyd wastadedd Paran , yr hwn sydd wrth yr anialwch . Yna y dychwelasant , ac y daethant i Enmispat , honno yw Cades , ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid , a’r Amoriaid hefyd , y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar . Allan hefyd yr aeth brenin Sodom , a brenin Gomorra , a brenin Adma , a brenin Seboim , a brenin Bela , honno yw Soar : ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt ; A Chedorlaomer brenin Elam , a Thidal brenin y cenhedloedd , ac Amraffel brenin Sinar , ac Arioch brenin Elasar : pedwar brenin yn erbyn pump . A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai ; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant , ac a syrthiasant yno : a’r lleill a ffoesant i’r mynydd . A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra , a’u holl luniaeth hwynt , ac a aethant ymaith . Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram , a’i gyfoeth , ac a aethant ymaith ; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo . A daeth un a ddianghasai , ac a fynegodd i Abram yr Hebread , ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad , brawd Escol , a brawd Aner ; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram . A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd , efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef , ddeunaw a thri chant , ac a ymlidiodd hyd Dan . As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos , efe a’i weision , ac a’u trawodd hwynt , ac a’u hymlidiodd hyd Hoba , yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus . Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth , a’i frawd Lot hefyd , a’i gyfoeth , a ddug efe drachefn , a’r gwragedd hefyd , a’r bobl . A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef , ( wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer , a’r brenhinoedd oedd gydag ef , ) i ddyffryn Safe , hwn yw dyffryn y brenin . Melchisedec hefyd , brenin Salem , a ddug allan fara a gwin ; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf : Ac a’i bendithiodd ef , ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf , meddiannydd nefoedd a daear : A bendigedig fyddo Duw goruchaf , yr hwn a roddes dy elynion yn dy law . Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl . A dywedodd brenin Sodom wrth Abram , Dod i mi y dynion , a chymer i ti y cyfoeth . Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom , Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf , meddiannydd nefoedd a daear , Na chymerwn o edau hyd garrai esgid , nac o’r hyn oll sydd eiddot ti ; rhag dywedyd ohonot , Myfi a gyfoethogais Abram : Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau , a rhan y gwŷr a aethant gyda mi , Aner , Escol , a Mamre : cymerant hwy eu rhan . Wedi ’r pethau hyn , y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth , gan ddywedyd , Nac ofna , Abram ; myfi ydyw dy darian , dy wobr mawr iawn . A dywedodd Abram , Arglwydd Dduw , beth a roddi di i mi ? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant , a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus . Abram hefyd a ddywedodd , Wele , ni roddaist i mi had ; ac wele , fy nghaethwas fydd fy etifedd . Ac wele air yr Arglwydd ato ef , gan ddywedyd , Nid hwn fydd dy etifedd , onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd . Ac efe a’i dug ef allan , ac a ddywedodd , Golyga yn awr y nefoedd , a rhif y sêr , o gelli eu cyfrif hwynt : dywedodd hefyd wrtho , Felly y bydd dy had di . Yntau a gredodd yn yr Arglwydd , ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder . Ac efe a ddywedodd wrtho , Myfi yw yr Arglwydd , yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid , i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu . Yntau a ddywedodd , Arglwydd Dduw , trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer i mi anner dair blwydd , a gafr dair blwydd , a hwrdd tair blwydd , a thurtur , a chyw colomen . Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll , ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol , ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd ; ond ni holltodd efe yr adar . A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau , yna Abram a’u tarfai hwynt . A phan oedd yr haul ar fachludo , y syrthiodd trymgwsg ar Abram : ac wele ddychryn , a thywyllni mawr , yn syrthio arno ef . Ac efe a ddywedodd wrth Abram , Gan wybod gwybydd , y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt , ac a’u gwasanaethant , a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd . A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant , a farnaf fi : ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr . A thi a ei at dy dadau mewn heddwch : ti a gleddir mewn henaint teg . Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma ; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid . A bu , pan fachludodd yr haul , a hi yn dywyll , wele ffwrn yn mygu , a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny . Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddais y wlad hon , o afon yr Aifft hyd yr afon fawr , afon Ewffrates : Y Ceneaid , a’r Cenesiaid , a’r Cadmoniaid . Yr Hethiaid hefyd , a’r Pheresiaid , a’r Reffaimiaid , Yr Amoriaid hefyd , a’r Canaaneaid , a’r Girgasiaid , a’r Jebusiaid . Sarai hefyd , gwraig Abram , ni phlantasai iddo ; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes , a’i henw Agar . A Sarai a ddywedodd wrth Abram , Wele yn awr , yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta : dos , atolwg , at fy llawforwyn ; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi : ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai . A Sarai , gwraig Abram , a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes , wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan , a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo . Ac efe a aeth i mewn at Agar , a hi a feichiogodd : a phan welodd hithau feichiogi ohoni , yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi . Yna y dywedodd Sarai wrth Abram , Bydded fy ngham i arnat ti : mi a roddais fy morwyn i’th fynwes , a hithau a welodd feichiogi ohoni , a gwael ydwyf yn ei golwg hi : barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi . Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai , Wele dy forwyn yn dy law di : gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun : yna Sarai a’i cystuddiodd hi , a hithau a ffodd rhagddi hi . Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr , yn yr anialwch , wrth y ffynnon yn ffordd Sur : Ac efe a ddywedodd , Agar , morwyn Sarai , o ba le y daethost ? ac i ba le yr ei di ? A hi a ddywedodd , Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi , Dychwel at dy feistres , ac ymddarostwng tan ei dwylo hi . Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi , Gan amlhau yr amlhaf dy had di , fel na rifir ef o luosowgrwydd . Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi , Wele di yn feichiog , a thi a esgori ar fab , ac a elwi ei enw ef Ismael : canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di . Ac efe a fydd ddyn gwyllt , a’i law yn erbyn pawb , a llaw pawb yn ei erbyn yntau ; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr . A hi a alwodd enw yr Arglwydd , yr hwn oedd yn llefaru wrthi , Ti , O Dduw , wyt yn edrych arnaf fi : canys dywedodd , Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf ? Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi : wele , rhwng Cades a Bered y mae hi . Ac Agar a ymddûg fab i Abram : ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar , Ismael . Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd , pan ymddûg Agar Ismael i Abram . Aphan oedd Abram onid un mlwydd cant , yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram , ac a ddywedodd wrtho , Myfi yw Duw Hollalluog ; rhodia ger fy mron i , a bydd berffaith . A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi , ac a’th amlhaf di yn aml iawn . Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb ; a llefarodd Duw wrtho ef , gan ddywedyd , Myfi , wele , mi a wnaf fy nghyfamod â thi , a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd . A’th enw ni elwir mwy Abram , onid dy enw fydd Abraham ; canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum . A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn , ac a wnaf genhedloedd ohonot ti , a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti . Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi , ac a’th had ar dy ôl di , trwy eu hoesoedd , yn gyfamod tragwyddol , i fod yn Dduw i ti , ac i’th had ar dy ôl di . A mi a roddaf i ti , ac i’th had ar dy ôl di , wlad dy ymdaith , sef holl wlad Canaan , yn etifeddiaeth dragwyddol ; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt . A Duw a ddywedodd wrth Abraham , Cadw dithau fy nghyfamod i , ti a’th had ar dy ôl , trwy eu hoesoedd . Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi , a’th had ar dy ôl di : enwaedir pob gwryw ohonoch chwi . A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad : a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau . Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau : yr hwn a aner yn tŷ , ac a bryner am arian gan neb dieithr , yr hwn nid yw o’th had di . Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di , ac a bryner am dy arian di : a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi , yn gyfamod tragwyddol . A’r gwryw dienwaededig , yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl : oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i . Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham , Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai , onid Sara fydd ei henw hi . Bendithiaf hi hefyd , a rhoddaf i ti fab ohoni : ie bendithiaf hi , fel y byddo yn genhedloedd ; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi . Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb , ac a chwarddodd , ac a ddywedodd yn ei galon , A blentir i fab can mlwydd ? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain ? Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw , O na byddai fyw Ismael ger dy fron di ! A Duw a ddywedodd , Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau ; a thi a elwi ei enw ef Isaac : a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol , ac â’i had ar ei ôl ef . Am Ismael hefyd y’th wrandewais : wele , mi a’i bendithiais ef , a mi a’i ffrwythlonaf ef , ac a’i lluosogaf yn aml iawn : deuddeg tywysog a genhedla efe , a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr . Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac , yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn , y flwyddyn nesaf . Yna y peidiodd â llefaru wrtho ; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham . Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab , a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef , a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian , pob gwryw o ddynion tŷ Abraham , ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw , fel y llefarasai Duw wrtho ef . Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant , pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef . Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg , pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef . O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham , ac Ismael ei fab . A holl ddynion ei dŷ ef , y rhai a anesid yn tŷ , ac a brynesid ag arian gan neb dieithr , a enwaedwyd gydag ef . A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre , ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell , yng ngwres y dydd . Ac efe a gododd ei lygaid , ac a edrychodd , ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron : a phan eu gwelodd , efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt , ac a ymgrymodd tua’r ddaear , Ac a ddywedodd , Fy Arglwydd , os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di , na ddos heibio , atolwg , oddi wrth dy was . Cymerer , atolwg , ychydig ddwfr , a golchwch eich traed , a gorffwyswch dan y pren ; Ac mi a ddygaf damaid o fara , a chryfhewch eich calon ; wedi hynny y cewch fyned ymaith : oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas . A hwy a ddywedasant , Gwna felly , fel y dywedaist . Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara , ac a ddywedodd , Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid , tylina , a gwna yn deisennau . Ac Abraham a redodd at y gwartheg , ac a gymerodd lo tyner a da , ac a’i rhoddodd at y llanc , yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef . Ac efe a gymerodd ymenyn , a llaeth , a’r llo a baratoesai efe , ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt : ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren ; a hwy a fwytasant . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Mae Sara dy wraig ? Ac efe a ddywedodd , Wele hi yn y babell . Ac un a ddywedodd , Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth ; ac wele fab i Sara dy wraig . A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell , yr hwn oedd o’i ôl ef . Abraham hefyd a Sara oedd hen , wedi myned mewn oedran ; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd . Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun , gan ddywedyd , Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch , a’m harglwydd yn hen hefyd ? A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham , Paham y chwarddodd Sara fel hyn , gan ddywedyd , A blantaf finnau yn wir , wedi fy heneiddio ? A fydd dim yn anodd i’r Arglwydd ? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat , ynghylch amser bywoliaeth , a mab fydd i Sara . A Sara a wadodd , gan ddywedyd , Ni chwerddais i : oherwydd hi a ofnodd . Yntau a ddywedodd , Nage , oblegid ti a chwerddaist . A’r gwŷr a godasant oddi yno , ac a edrychasant tua Sodom : ac Abraham a aeth gyda hwynt , i’w hanfon hwynt . A’r Arglwydd a ddywedodd , A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf ? Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref , ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear . Canys mi a’i hadwaen ef , y gorchymyn efe i’w blant , ac i’w dylwyth ar ei ôl , gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd , gan wneuthur cyfiawnder a barn ; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd , Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr , a’u pechod hwynt yn drwm iawn ; Disgynnaf yn awr , ac edrychaf , ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi , y gwnaethant yn hollol : ac onid e , mynnaf wybod . A’r gwŷr a droesant oddi yno , ac a aethant tua Sodom : ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd . Abraham hefyd a nesaodd , ac a ddywedodd , A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol ? Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas : a ddifethi di hwynt hefyd , ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi ? Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth , gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol , fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol : na byddo hynny i ti : oni wna Barnydd yr holl ddaear farn ? A dywedodd yr Arglwydd , Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas , mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt . Ac Abraham a atebodd , ac a ddywedodd , Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd , a mi yn llwch ac yn lludw . Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn : a ddifethi di yr holl ddinas er pump ? Yntau a ddywedodd , Na ddifethaf , os caf yno bump a deugain . Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto , ac a ddywedodd , Ond odid ceir yno ddeugain . Yntau a ddywedodd , Nis gwnaf er mwyn y deugain . Ac efe a ddywedodd , O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf : Ceir yno ond odid ddeg ar hugain . Yntau a ddywedodd , Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain . Yna y dywedodd efe , Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd : Ond odid ceir yno ugain . Yntau a ddywedodd , Nis difethaf er mwyn ugain . Yna y dywedodd , O na ddigied fy Arglwydd , a llefaraf y waith hon yn unig : Ond odid ceir yno ddeg . Yntau a ddywedodd , Nis difethaf er mwyn deg . A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham : ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun . A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr , a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom : a phan welodd Lot , efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt , ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear ; Ac efe a ddywedodd , Wele yn awr , fy Arglwyddi , trowch , atolwg , i dŷ eich gwas ; lletywch heno hefyd , a golchwch eich traed : yna codwch yn fore , ac ewch i’ch taith . A hwy a ddywedasant , Nage ; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol . Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy : yna y troesant ato , ac y daethant i’w dŷ ef ; ac efe a wnaeth iddynt wledd , ac a bobodd fara croyw , a hwy a fwytasant . Eithr cyn gorwedd ohonynt , gwŷr y ddinas , sef gwŷr Sodom , a amgylchasant o amgylch y tŷ , hen ac ieuanc , sef yr holl bobl o bob cwr ; Ac a alwasant ar Lot , ac a ddywedasant wrtho , Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno ? dwg hwynt allan atom ni , fel yr adnabyddom hwynt . Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws , ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl ; Ac a ddywedodd , Atolwg , fy mrodyr , na wnewch ddrwg . Wele yn awr , y mae dwy ferch gennyf fi , y rhai nid adnabuant ŵr ; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr , a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda : yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn ; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i . A hwy a ddywedasant , Saf hwnt : dywedasant hefyd , Efe a ddaeth i ymdaith yn unig , ac yn awr ai gan farnu y barna efe ? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy . A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr , sef ar Lot , a hwy a nesasant i dorri’r ddôr . A’r gwŷr a estynasant eu llaw , ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ , ac a gaeasant y ddôr . Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb , o fychan i fawr , fel y blinasant yn ceisio’r drws . A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot , A oes gennyt ti yma neb eto ? mab yng nghyfraith , a’th feibion , a’th ferched , a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas , a ddygi di allan o’r fangre hon . Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn ; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef . Yna yr aeth Lot allan , ac a lefarodd wrth ei ddawon , y rhai oedd yn priodi ei ferched ef , ac a ddywedodd , Cyfodwch , deuwch allan o’r fan yma ; oherwydd y mae’r Arglwydd yn difetha’r ddinas hon : ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair . Ac ar godiad y wawr , yr angylion a fuant daer ar Lot , gan ddywedyd , Cyfod , cymer dy wraig , a’th ddwy ferch , y rhai sydd i’w cael ; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas . Yntau a oedd hwyrfrydig , a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef , ac yn llaw ei wraig , ac yn llaw ei ddwy ferch ; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef ; ac a’i dygasant ef allan , ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas . Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan , efe a ddywedodd , Dianc am dy einioes ; nac edrych ar dy ôl , ac na saf yn yr holl wastadedd : dianc i’r mynydd , rhag dy ddifetha . A dywedodd Lot wrthynt , O nid felly , fy Arglwydd . Wele yn awr , cafodd dy was ffafr yn dy olwg , a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi , gan gadw fy einioes ; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd , rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd , a marw ohonof . Wele yn awr , y ddinas hon yn agos i ffoi iddi , a bechan yw : O gad i mi ddianc yno , ( onid bechan yw hi ? ) a byw fydd fy enaid . Yntau a ddywedodd wrtho , Wele , mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn , fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist . Brysia , dianc yno ; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno : am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar . Cyfodasai yr haul ar y ddaear , pan ddaeth Lot i Soar . Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd , allan o’r nefoedd . Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny , a’r holl wastadedd , a holl drigolion y dinasoedd , a chnwd y ddaear . Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef , a hi a aeth yn golofn halen . Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd . Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra , a thua holl dir y gwastadedd ; ac a edrychodd , ac wele , cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn . A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd , yna y cofiodd Duw am Abraham , ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr , pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt . A Lot a esgynnodd o Soar , ac a drigodd yn y mynydd , a’i ddwy ferch gydag ef : oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar ; ac a drigodd mewn ogof , efe a’i ddwy ferch . A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf , Ein tad ni sydd hen , a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni , wrth ddefod yr holl ddaear . Tyred , rhoddwn i’n tad win i’w yfed , a gorweddwn gydag ef , fel y cadwom had o’n tad . A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno : a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad ; ac ni wybu efe pan orweddodd hi , na phan gyfododd hi . A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf , Wele , myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad ; rhoddwn win iddo ef i’w yfed heno hefyd , a dos dithau a gorwedd gydag ef , fel y cadwom had o’n tad . A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd : a’r ieuangaf a gododd , ac a orweddodd gydag ef ; ac ni wybu efe pan orweddodd hi , na phan gyfododd hi . Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad . A’r hynaf a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Moab : efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw . A’r ieuangaf , hefyd , a esgorodd hithau ar fab , ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi : efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw . Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau , ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur , ac a ymdeithiodd yn Gerar . A dywedodd Abraham am Sara ei wraig , Fy chwaer yw hi : ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd , ac a gymerth Sara . Yna y daeth Duw at Abimelech , noswaith , mewn breuddwyd , ac a ddywedodd wrtho , Wele , dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist , a hithau yn berchen gŵr . Ond Abimelech ni nesasai ati hi : ac efe a ddywedodd , Arglwydd , a leddi di genedl gyfiawn hefyd ? Oni ddywedodd efe wrthyf fi , Fy chwaer yw hi ? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd , Fy mrawd yw efe : ym mherffeithrwydd fy nghalon , ac yng nglendid fy nwylo , y gwneuthum hyn . Yna y dywedodd Duw wrtho ef , mewn breuddwyd , Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn ; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn : am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi . Yn awr gan hynny , dod y wraig drachefn i’r gŵr ; oherwydd proffwyd yw efe , ac efe a weddïa trosot , a byddi fyw : ond oni roddi hi drachefn , gwybydd y byddi farw yn ddiau , ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti . Yna y cododd Abimelech yn fore , ac a alwodd am ei holl weision , ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy : a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr . Galwodd Abimelech hefyd am Abraham , a dywedodd wrtho , Beth a wnaethost i ni ? a pheth a bechais i’th erbyn , pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi , ac ar fy nheyrnas ? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur . Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham , Beth a welaist , pan wnaethost y peth hyn ? A dywedodd Abraham , Am ddywedyd ohonof fi , Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn : a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig . A hefyd yn wir fy chwaer yw hi : merch fy nhad yw hi , ond nid merch fy mam ; ac y mae hi yn wraig i mi . Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad , yna y dywedais wrthi hi , Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo ; dywed amdanaf fi , Fy mrawd yw efe . Yna y cymerodd Abimelech ddefaid , a gwartheg , a gweision , a morynion , ac a’u rhoddes i Abraham : rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn . A dywedodd Abimelech , Wele fy ngwlad ger dy fron di , trig lle y byddo da yn dy olwg . Ac wrth Sara y dywedodd , Wele , rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian : wele ef yn orchudd llygaid i ti , i’r rhai oll sydd gyda thi , a chyda phawb eraill : fel hyn y ceryddwyd hi . Yna Abraham a weddïodd ar Dduw : a Duw a iachaodd Abimelech , a’i wraig , a’i forynion ; a hwy a blantasant . Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech , o achos Sara gwraig Abraham . A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai , a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai . Oherwydd Sara a feichiogodd , ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint , ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef . Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo ( yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef ) Isaac . Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab , yn wyth niwrnod oed ; fel y gorchmynasai Duw iddo ef . Ac Abraham oedd fab can mlwydd , pan anwyd iddo ef Isaac ei fab . A Sara a ddywedodd , Gwnaeth Duw i mi chwerthin ; pob un a glywo a chwardd gyda mi . Hi a ddywedodd hefyd , Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant ? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef . A’r bachgen a gynyddodd , ac a ddiddyfnwyd : ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac . A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes , yr hwn a ddygasai hi i Abraham , yn gwatwar . A hi a ddywedodd wrth Abraham , Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab ; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac . A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham , er mwyn ei fab . A Duw a ddywedodd wrth Abraham , Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc , nac am dy gaethforwyn ; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt , gwrando ar ei llais : oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had . Ac am fab y forwyn gaeth hefyd , mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth , oherwydd dy had di ydyw ef . Yna y cododd Abraham yn fore , ac a gymerodd fara , a chostrel o ddwfr , ac a’i rhoddes at Agar , gan osod ar ei hysgwydd hi hynny , a’r bachgen hefyd , ac efe a’i gollyngodd hi ymaith : a hi a aeth , ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba . A darfu’r dwfr yn y gostrel ; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd . A hi a aeth , ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer , megis ergyd bwa : canys dywedasai , Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw . Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer , ac a ddyrchafodd ei llef , ac a wylodd . A Duw a wrandawodd ar lais y llanc ; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd , ac a ddywedodd wrthi , Beth a ddarfu i ti , Agar ? nac ofna , oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe . Cyfod , cymer y llanc , ac ymafael ynddo â’th law ; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr . A Duw a agorodd ei llygaid hi , a hi a ganfu bydew dwfr ; a hi a aeth , ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr , ac a ddiododd y llanc . Ac yr oedd Duw gyda’r llanc ; ac efe a gynyddodd , ac a drigodd yn yr anialwch , ac a aeth yn berchen bwa . Ac yn anialwch Paran y trigodd efe ; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft . Ac yn yr amser hwnnw , Abimelech , a Phichol tywysog ei lu ef , a ymddiddanasant ag Abraham , gan ddywedyd , Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur . Yn awr gan hynny , twng wrthyf fi yma i Dduw , na fyddi anffyddlon i mi , nac i’m mab , nac i’m hŵyr : yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau , ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi . Ac Abraham a ddywedodd , Mi a dyngaf . Ac Abraham a geryddodd Abimelech , o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais . Ac Abimelech a ddywedodd , Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn : tithau hefyd ni fynegaist i mi , a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw . Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg , ac a’u rhoddes i Abimelech ; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau . Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain . Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham , Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain ? Ac yntau a ddywedodd , Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw , i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn . Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba : oblegid yno y tyngasant ill dau . Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba : a chyfododd Abimelech , a Phichol tywysog ei lu ef , ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid . Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba , ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol . Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid . Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham , a dywedyd wrtho , Abraham . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Yna y dywedodd Duw , Cymer yr awr hon dy fab , sef dy unig fab Isaac , yr hwn a hoffaist , a dos rhagot i dir Moreia , ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt . Ac Abraham a foregododd , ac a gyfrwyodd ei asyn , ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef , ac Isaac ei fab ; ac a holltodd goed y poethoffrwm , ac a gyfododd , ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho . Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid , ac efe a welai’r lle o hirbell . Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau , Arhoswch chwi yma gyda’r asyn ; a mi a’r llanc a awn hyd acw , ac a addolwn , ac a ddychwelwn atoch . Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm , ac a’i gosododd ar Isaac ei fab ; ac a gymerodd y tân , a’r gyllell yn ei law ei hun : a hwy a aethant ill dau ynghyd . A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad , ac a ddywedodd , Fy nhad . Yntau a ddywedodd , Wele fi , fy mab . Yna eb efe , Wele dân a choed ; ond mae oen y poethoffrwm ? Ac Abraham a ddywedodd , Fy mab , Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm . Felly yr aethant ill dau ynghyd : Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef ; ac yno yr adeiladodd Abraham allor , ac a osododd y coed mewn trefn , ac a rwymodd Isaac ei fab , ac a’i gosododd ef ar yr allor , ar uchaf y coed . Ac Abraham a estynnodd ei law , ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab ; Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd , ac a ddywedodd , Abraham , Abraham . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Na ddod dy law ar y llanc , ac na wna ddim iddo : oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw , gan nad ateliaist dy fab , dy unig fab , oddi wrthyf fi . Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele o’i ôl ef hwrdd , wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni : ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd , ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab . Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire ; fel y dywedir heddiw , Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir . Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd ; Ac a ddywedodd , I mi fy hun y tyngais , medd yr Arglwydd , oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn , ac nad ateliaist dy fab , dy unig fab : Mai gan fendithio y’th fendithiaf , a chan amlhau yr amlhaf dy had , fel sêr y nefoedd , ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr ; a’th had a feddianna borth ei elynion ; Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear : o achos gwrando ohonot ar fy llais i . Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau ; a hwy a godasant , ac a aethant ynghyd i Beer‐seba : ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba . Darfu hefyd , wedi’r pethau hyn , fynegi i Abraham , gan ddywedyd , Wele , dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd ; Hus ei gyntaf‐anedig , a Bus ei frawd ; Cemuel hefyd tad Aram , A Chesed , a Haso , a Phildas , ac Idlaff , a Bethuel . A Bethuel a genhedlodd Rebeca : yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham . Ei ordderchwraig hefyd , a’i henw Reuma , a esgorodd hithau hefyd ar Teba , a Gaham , a Thahas , a Maacha . Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain ; dyma flynyddoedd oes Sara . A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba ; honno yw Hebron yn nhir Canaan : ac Abraham a aeth i alaru am Sara , ac i wylofain amdani hi . Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw , ac a lefarodd wrth feibion Heth , gan ddywedyd , Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi : rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi , fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg . A meibion Heth a atebasant Abraham , gan ddywedyd wrtho , Clyw ni , fy arglwydd : tywysog Duw wyt ti yn ein plith : cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni : ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw . Yna y cyfododd Abraham , ac a ymgrymodd i bobl y tir , sef i feibion Heth ; Ac a ymddiddanodd â hwynt , gan ddywedyd , Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg , gwrandewch fi , ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar ; Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela , yr hon sydd eiddo ef , ac sydd yng nghwr ei faes ; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi , yn feddiant beddrod yn eich plith chwi . Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth : ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham , lle y clywodd meibion Heth , yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef , gan ddywedyd , Nage , fy arglwydd , clyw fi : rhoddais y maes i ti , a’r ogof sydd ynddo , i ti y rhoddais hi ; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti : cladd di dy farw . Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir . Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir , gan ddywedyd , Eto , os tydi a’i rhoddi , atolwg , gwrando fi : rhoddaf werth y maes ; cymer gennyf , a mi a gladdaf fy marw yno . Ac Effron a atebodd Abraham , gan ddywedyd wrtho , Gwrando fi , fy arglwydd ; y tir a dâl bedwar can sicl o arian : beth yw hynny rhyngof fi a thithau ? am hynny cladd dy farw . Felly Abraham a wrandawodd ar Effron : a phwysodd Abraham i Effron yr arian , a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth : pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr . Felly y sicrhawyd maes Effron , yr hwn oedd ym Machpela , yr hon oedd o flaen Mamre , y maes a’r ogof oedd ynddo , a phob pren a’r a oedd yn y maes , ac yn ei holl derfynau o amgylch , Yn feddiant i Abraham , yng ngolwg meibion Heth , yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef . Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela , o flaen Mamre ; honno yw Hebron , yn nhir Canaan . A sicrhawyd y maes , a’r ogof yr hon oedd ynddo , i Abraham , yn feddiant beddrod , oddi wrth feibion Heth . Ac Abraham oedd hen , wedi myned yn oedrannus ; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim . A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ , yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo , Gosod , atolwg , dy law dan fy morddwyd : A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd , a Duw y ddaear , na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid , y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg : Ond i’m gwlad i yr ei , ac at fy nghenedl i yr ei di , ac a gymeri wraig i’m mab Isaac . A’r gwas a ddywedodd wrtho ef , Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon : gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono ? A dywedodd Abraham wrtho , Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno . Arglwydd Dduw y nefoedd , yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad , ac o wlad fy nghenedl , yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi , ac a dyngodd wrthyf , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf y tir hwn ; efe a enfyn ei angel o’th flaen di , a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno . Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di , yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn : yn unig na ddychwel di fy mab i yno . A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr , ac a dyngodd iddo am y peth hyn . A chymerodd y gwas ddeg camel , o gamelod ei feistr , ac a aeth ymaith : ( canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef ; ) ac efe a gododd , ac a aeth i Mesopotamia , i ddinas Nachor . Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas , wrth bydew dwfr ar brynhawn , ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr . Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , atolwg , pâr i mi lwyddiant heddiw ; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham . Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr , a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr : A bydded , mai y llances y dywedwyf wrthi , Gogwydda , atolwg , dy ystên , fel yr yfwyf ; os dywed hi , Yf , a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd ; honno a ddarperaist i’th was Isaac : ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr . A bu , cyn darfod iddo lefaru , wele Rebeca yn dyfod allan , ( yr hon a anesid i Bethuel fab Milca , gwraig Nachor , brawd Abraham , ) a’i hystên ar ei hysgwydd . A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg , yn forwyn , a heb i ŵr ei hadnabod ; a hi a aeth i waered i’r ffynnon , ac a lanwodd ei hystên , ac a ddaeth i fyny . A’r gwas a redodd i’w chyfarfod , ac a ddywedodd , Atolwg , gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên . A hi a ddywedodd , Yf , fy meistr : a hi a frysiodd , ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw , ac a’i diododd ef . A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef , hi a ddywedodd , Tynnaf hefyd i’th gamelod , hyd oni ddarffo iddynt yfed . A hi a frysiodd , ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn , ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu , ac a dynnodd i’w holl gamelod ef . A’r gŵr , yn synnu o’i phlegid hi , a dawodd , i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef , ai naddo . A bu , pan ddarfu i’r camelod yfed , gymryd o’r gŵr glustlws aur , yn hanner sicl ei bwys ; a dwy freichled i’w dwylo hi , yn ddeg sicl o aur eu pwys . Ac efe a ddywedodd , Merch pwy ydwyt ti ? mynega i mi , atolwg : a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad ? A hi a ddywedodd wrtho , Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca , yr hwn a ymddûg hi i Nachor . A hi a ddywedodd wrtho ef , Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni , a lle i letya . A’r gŵr a ymgrymodd , ac a addolodd yr Arglwydd . Ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb : yr ydwyf fi ar y ffordd ; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr . A’r llances a redodd , ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn . Ac i Rebeca yr oedd brawd , a’i enw Laban : a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon . A phan welodd efe y clustlws , a’r breichledau am ddwylo ei chwaer , a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd , Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi ; yna efe a aeth at y gŵr ; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon . Ac efe a ddywedodd , Tyred i mewn , ti fendigedig yr Arglwydd ; paham y sefi di allan ? canys mi a baratoais y tŷ , a lle i’r camelod . A’r gŵr a aeth i’r tŷ : ac yntau a ryddhaodd y camelod , ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod ; a dwfr i olchi ei draed ef , a thraed y dynion oedd gydag ef . A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta ; ac efe a ddywedodd , Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau . A dywedodd yntau , Traetha . Ac efe a ddywedodd , Gwas Abraham ydwyf fi . A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr , ac efe a gynyddodd : canys rhoddodd iddo ddefaid , a gwartheg , ac arian , ac aur , a gweision , a morynion , a chamelod , ac asynnod . Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr , wedi ei heneiddio hi ; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo . A’m meistr a’m tyngodd i , gan ddywedyd , Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid , y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir . Ond ti a ei i dŷ fy nhad , ac at fy nhylwyth , ac a gymeri wraig i’m mab . A dywedais wrth fy meistr , Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron , a enfyn ei angel gyda thi , ac a lwydda dy daith di ; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth , ac o dŷ fy nhad . Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw , os ti a ddaw at fy nhylwyth ; ac oni roddant i ti , yna y byddi rydd oddi wrth fy llw . A heddiw y deuthum at y ffynnon , ac a ddywedais , Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith , yr hon yr wyf fi yn myned arni : Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr ; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu , ac y dywedwyf wrthi , Dod i mi , atolwg , ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên ; Ac a ddywedo wrthyf finnau , Yf di , a thynnaf hefyd i’th gamelod : bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr . A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon , wele Rebeca yn dyfod allan , a’i hystên ar ei hysgwydd ; a hi a aeth i waered i’r ffynnon , ac a dynnodd : yna y dywedais wrthi , Dioda fi , atolwg . Hithau a frysiodd , ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni , ac a ddywedodd , Yf ; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd . Felly yr yfais ; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd . A mi a ofynnais iddi , ac a ddywedais , Merch pwy ydwyt ti ? Hithau a ddywedodd , Merch Bethuel mab Nachor , yr hwn a ymddûg Milca iddo ef . Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb , a’r breichledau am ei dwylo hi : Ac a ymgrymais , ac a addolais yr Arglwydd , ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham , yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd , i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef . Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr , mynegwch i mi : ac onid e , mynegwch i mi ; fel y trowyf ar y llaw ddeau , neu ar y llaw aswy . Yna yr atebodd Laban a Bethuel , ac a ddywedasant , Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn : ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg , na da . Wele Rebeca o’th flaen ; cymer hi , a dos , a bydded wraig i fab dy feistr , fel y llefarodd yr Arglwydd . A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt , yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd . A thynnodd y gwas allan dlysau arian , a thlysau aur , a gwisgoedd , ac a’u rhoddodd i Rebeca : rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi , ac i’w mam . A hwy a fwytasant ac a yfasant , efe a’r dynion oedd gydag ef , ac a letyasant dros nos : a chodasant yn fore ; ac efe a ddywedodd , Gollyngwch fi at fy meistr . Yna y dywedodd ei brawd a’i mam , Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o’r lleiaf ; wedi hynny hi a gaiff fyned . Yntau a ddywedodd wrthynt , Na rwystrwch fi , gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith ; gollyngwch fi , fel yr elwyf at fy meistr . Yna y dywedasant , Galwn ar y llances , a gofynnwn iddi hi . A hwy a alwasant ar Rebeca , a dywedasant wrthi , A ei di gyda’r gŵr hwn ? A hi a ddywedodd , Af . A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer , a’i mamaeth , a gwas Abraham , a’i ddynion ; Ac a fendithiasant Rebeca , ac a ddywedasant wrthi , Ein chwaer wyt , bydd di fil fyrddiwn ; ac etifedded dy had borth ei gaseion . Yna y cododd Rebeca , a’i llancesau , ac a farchogasant ar y camelod , ac a aethant ar ôl y gŵr ; a’r gwas a gymerodd Rebeca , ac a aeth ymaith . Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi ; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau . Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes , ym min yr hwyr ; ac a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd , ac wele y camelod yn dyfod . Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid ; a phan welodd hi Isaac , hi a ddisgynnodd oddi ar y camel . Canys hi a ddywedasai wrth y gwas , Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni ? A’r gwas a ddywedasai , Fy meistr yw efe : a hi a gymerth orchudd , ac a ymwisgodd . A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe . Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam ; ac efe a gymerth Rebeca , a hi a aeth yn wraig iddo , ac efe a’i hoffodd hi : ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam . Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig , a’i henw Cetura . A hi a esgorodd iddo ef Simran , a Jocsan , a Medan , a Midian , ac Isbac , a Sua . A Jocsan a genhedlodd Seba , a Dedan : a meibion Dedan oedd Assurim , a Letusim , a Lewmmim . A meibion Midian oedd Effa , ac Effer , a Hanoch , ac Abida , ac Eldaa : yr holl rai hyn oedd feibion Cetura . Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac . Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion ; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab , tua’r dwyrain , i dir y dwyrain , ac efe eto yn fyw . A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham , y rhai y bu efe fyw ; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain . Ac Abraham a drengodd , ac a fu farw mewn oed teg , yn hen , ac yn gyflawn o ddyddiau ; ac efe a gasglwyd at ei bobl . Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela , ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad , yr hwn sydd o flaen Mamre ; Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth ; yno y claddwyd Abraham , a Sara ei wraig . Ac wedi marw Abraham , bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef : ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi . A dyma genedlaethau Ismael , fab Abraham , yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes , morwyn Sara , i Abraham . A dyma enwau meibion Ismael , erbyn eu henwau , trwy eu cenedlaethau : Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael , a Chedar , ac Adbeel , a Mibsam , Misma hefyd , a Duma , a Massa , Hadar , a Thema , Jetur , Naffis , a Chedema . Dyma hwy meibion Ismael , a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd , ac wrth eu cestyll ; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd . A dyma flynyddoedd einioes Ismael ; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd : yna y trengodd , ac y bu farw , ac y casglwyd ef at ei bobl . Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur , yr hon sydd o flaen yr Aifft , ffordd yr ei di i Asyria : ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw . A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham : Abraham a genhedlodd Isaac . Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad , o Mesopotamia , chwaer Laban y Syriad , yn wraig iddo . Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig , am ei bod hi yn amhlantadwy ; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef , a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd . A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi : yna y dywedodd hi , Os felly , beth a wnaf fi fel hyn ? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi , Dwy genedl sydd yn dy groth di , a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di ; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall , a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf . A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor , wele , gefeilliaid oedd yn ei chroth hi . A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog : a galwasant ei enw ef Esau . Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan , a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau : a galwyd ei enw ef Jacob . Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt . A’r llanciau a gynyddasant : ac Esau oedd ŵr yn medru hela , a gŵr o’r maes ; a Jacob oedd ŵr disyml , yn cyfanheddu mewn pebyll . Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau , am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef : a Rebeca a hoffai Jacob . A Jacob a ferwodd gawl : yna Esau a ddaeth o’r maes , ac efe yn ddiffygiol . A dywedodd Esau wrth Jacob , Gad i mi yfed , atolwg , o’r cawl coch yma ; oherwydd diffygiol wyf fi : am hynny y galwyd ei enw ef Edom . A dywedodd Jacob , Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint . A dywedodd Esau , Wele fi yn myned i farw , a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi ? A dywedodd Jacob , Twng i mi heddiw . Ac efe a dyngodd iddo ; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob . A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys ; ac efe a fwytaodd , ac a yfodd , ac a gododd , ac a aeth ymaith : felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint . A bu newyn yn y tir , heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham : ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar . A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef , ac a ddywedasai , Na ddos i waered i’r Aifft : aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt . Ymdeithia yn y wlad hon , a mi a fyddaf gyda thi , ac a’th fendithiaf : oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn , a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di . A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd , a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn : a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di : Am wrando o Abraham ar fy llais i , a chadw fy nghadwraeth , fy ngorchmynion , fy neddfau , a’m cyfreithiau . Ac Isaac a drigodd yn Gerar . A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef . Ac efe a ddywedodd , Fy chwaer yw hi : canys ofnodd ddywedyd , Fy ngwraig yw ; rhag ( eb efe ) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca : canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg . A bu , gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer , i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr , a chanfod ; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig . Ac Abimelech a alwodd ar Isaac , ac a ddywedodd , Wele , yn ddiau dy wraig yw hi : a phaham y dywedaist , Fy chwaer yw hi ? Yna y dywedodd Isaac wrtho , Am ddywedyd ohonof , Rhag fy marw o’i phlegid hi . A dywedodd Abimelech , Paham y gwnaethost hyn â ni ? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di ; felly y dygasit arnom ni bechod . A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl , gan ddywedyd , Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn , neu â’i wraig , a leddir yn farw . Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw , ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint . A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef . A’r gŵr a gynyddodd , ac a aeth rhagddo , ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn . Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid , a chyfoeth o wartheg , a gweision lawer : a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef . A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef , yn nyddiau Abraham ei dad ef , y Philistiaid a’u caeasant hwy , ac a’u llanwasant â phridd . Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac , Dos oddi wrthym ni : canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni . Ac Isaac a aeth oddi yno , ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar , ac a breswyliodd yno . Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef , ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham ; ac a enwodd enwau arnynt , yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy . Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn , ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog . A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac , gan ddywedyd , Y dwfr sydd eiddom ni . Yna efe a alwodd enw y ffynnon , Esec ; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef . Cloddiasant hefyd bydew arall : ac ymrysonasant am hwnnw : ac efe a alwodd ei enw ef Sitna . Ac efe a fudodd oddi yno , ac a gloddiodd bydew arall ; ac nid ymrysonasant am hwnnw : ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth ; ac a ddywedodd , Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom , a ni a ffrwythwn yn y tir . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba . A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno , ac a ddywedodd , Myfi yw Duw Abraham dy dad di : nac ofna ; canys byddaf gyda thi , ac a’th fendithiaf , ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas . Ac efe a adeiladodd yno allor , ac a alwodd ar enw yr Arglwydd ; ac yno y gosododd efe ei babell : a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew . Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar , ac Ahussath ei gyfaill , a Phichol tywysog ei lu . Ac Isaac a ddywedodd wrthynt , Paham y daethoch chwi ataf fi ; gan i chwi fy nghasáu , a’m gyrru oddi wrthych ? Yna y dywedasant , Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyda thi : a dywedasom , Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni , sef rhyngom ni a thi ; a gwnawn gyfamod â thi ; Na wnei i ni ddrwg , megis na chyffyrddasom ninnau â thi , a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi , ac y’th anfonasom mewn heddwch ; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd . Ac efe a wnaeth iddynt wledd ; a hwy a fwytasant ac a yfasant . Yna y codasant yn fore , a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd : ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith , a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch . A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod , a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent ; a dywedasant wrtho , Cawsom ddwfr . Ac efe a’i galwodd ef Seba : am hynny enw y ddinas yw Beer‐seba hyd y dydd hwn . Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd , ac efe a gymerodd yn wraig , Judith ferch Beeri yr Hethiad , a Basemath ferch Elon yr Hethiad . A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca . A bu , wedi heneiddio o Isaac , a thywyllu ei lygaid fel na welai , alw ohono ef Esau ei fab hynaf , a dywedyd wrtho , Fy mab . Yntau a ddywedodd wrtho ef , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Wele , mi a heneiddiais yn awr , ac nis gwn ddydd fy marwolaeth . Ac yn awr cymer , atolwg , dy offer , dy gawell saethau , a’th fwa , a dos allan i’r maes , a hela i mi helfa . A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf , a dwg i mi , fel y bwytawyf ; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw . A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab : ac Esau a aeth i’r maes , i hela helfa i’w dwyn . A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab , gan ddywedyd , Wele , clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd , gan ddywedyd , Dwg i mi helfa , a gwna i mi flasusfwyd , fel y bwytawyf , ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw . Ond yn awr , fy mab , gwrando ar fy llais i , am yr hyn a orchmynnaf i ti . Dos yn awr i’r praidd , a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da ; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad , o’r fath a gâr efe . A thi a’u dygi i’th dad , fel y bwytao , ac y’th fendithio cyn ei farw . A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam , Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog , a minnau yn ŵr llyfn : Fy nhad , ond odid , a’m teimla ; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr ; ac a ddygaf arnaf felltith , ac nid bendith . A’i fam a ddywedodd wrtho , Arnaf fi y byddo dy felltith , fy mab , yn unig gwrando ar fy llais ; dos a dwg i mi . Ac efe a aeth , ac a gymerth y mynnod , ac a’u dygodd at ei fam : a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef . Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf , y rhai oedd gyda hi yn tŷ , ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf . A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef , ac am lyfndra ei wddf ef : Ac a roddes y bwyd blasus , a’r bara a arlwyasai hi , yn llaw Jacob ei mab . Ac efe a ddaeth at ei dad , ac a ddywedodd , Fy nhad . Yntau a ddywedodd , Wele fi : pwy wyt ti , fy mab ? A dywedodd Jacob wrth ei dad , Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig : gwneuthum fel y dywedaist wrthyf : cyfod , atolwg , eistedd , a bwyta o’m helfa , fel y’m bendithio dy enaid . Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab , Pa fodd , fy mab , y cefaist mor fuan â hyn ? Yntau a ddywedodd , Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen . A dywedodd Isaac wrth Jacob , Tyred yn nes yn awr , fel y’th deimlwyf , fy mab ; ai tydi yw fy mab Esau , ai nad e . A nesaodd Jacob at Isaac ei dad : yntau a’i teimlodd ; ac a ddywedodd , Y llais yw llais Jacob ; a’r dwylo , dwylo Esau ydynt . Ac nid adnabu efe ef , am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau , yn flewog : felly efe a’i bendithiodd ef . Dywedodd hefyd , Ai ti yw fy mab Esau ? Yntau a ddywedodd , Myfi yw . Ac efe a ddywedodd , Dwg yn nes ataf fi , a mi a fwytâf o helfa fy mab , fel y’th fendithio fy enaid . Yna y dug ato ef , ac efe a fwytaodd : dug iddo win hefyd ac efe a yfodd . Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef , Tyred yn nes yn awr , a chusana fi , fy mab . Yna y daeth efe yn nes , ac a’i cusanodd ef ; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef , ac a’i bendithiodd ef , ac a ddywedodd , Wele arogl fy mab fel arogl maes , yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd . A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd , ac o fraster y ddaear , ac amldra o ŷd a gwin : Gwasanaethed pobloedd dydi , ac ymgrymed cenhedloedd i ti : bydd di arglwydd ar dy frodyr , ac ymgrymed meibion dy fam i ti : melltigedig fyddo a’th felltithio , a bendigedig a’th fendithio . A bu , pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob , ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad , yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela . Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus , ac a’i dug at ei dad ; ac a ddywedodd wrth ei dad , Cyfoded fy nhad , a bwytaed o helfa ei fab , fel y’m bendithio dy enaid . Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho , Pwy wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Myfi yw dy fab , dy gyntaf‐anedig Esau . Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn , ac a ddywedodd , Pwy ? pa le mae yr hwn a heliodd helfa , ac a’i dug i mi , a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod , ac a’i bendithiais ef ? bendigedig hefyd fydd efe . Pan glybu Esau eiriau ei dad , efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn , ac a ddywedodd wrth ei dad , Bendithia fi , ie finnau , fy nhad . Ac efe a ddywedodd , Dy frawd a ddaeth mewn twyll , ac a ddug dy fendith di . Dywedodd yntau , Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob ? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach : dug fy ngenedigaeth‐fraint ; ac wele , yn awr efe a ddygodd fy mendith : dywedodd hefyd , Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau ? Ac Isaac a atebodd , ac a ddywedodd wrth Esau , Wele , mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti , a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef ; ag ŷd a gwin y cynheliais ef : a pheth a wnaf i tithau , fy mab , weithian ? Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad , Ai un fendith sydd gennyt , fy nhad ? bendithia finnau , finnau hefyd , fy nhad . Felly Esau a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . Yna yr atebodd Isaac ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod , ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod ; Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw , a’th frawd a wasanaethi : ond bydd amser pan feistrolech di , ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf . Ac Esau a gasaodd Jacob , am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef : ac Esau a ddywedodd yn ei galon , Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad ; yna lladdaf Jacob fy mrawd . A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf . Hithau a anfonodd , ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf , ac a ddywedodd wrtho , Wele , Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di , ar fedr dy ladd di . Ond yn awr , fy mab , gwrando ar fy llais : cyfod , ffo at Laban fy mrawd , i Haran ; Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau , hyd oni chilio llid dy frawd ; Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt , ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo : yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno . Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd ? Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac , Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth : os cymer Jacob wraig o ferched Heth , fel y rhai hyn o ferched y wlad , i ba beth y chwenychwn fy einioes ? Yna y galwodd Isaac ar Jacob , ac a’i bendithiodd ef : efe a orchmynnodd iddo hefyd , ac a ddywedodd wrtho , Na chymer wraig o ferched Canaan . Cyfod , dos i Mesopotamia , i dŷ Bethuel tad dy fam ; a chymer i ti wraig oddi yno , o ferched Laban brawd dy fam : A Duw Hollalluog a’th fendithio , ac a’th ffrwythlono , ac a’th luosogo , fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd : Ac a roddo i ti fendith Abraham , i ti ac i’th had gyda thi , i etifeddu ohonot dir dy ymdaith , yr hwn a roddodd Duw i Abraham . Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob : ac efe a aeth i Mesopotamia , at Laban fab Bethuel y Syriad , brawd Rebeca , mam Jacob ac Esau . Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob , a’i anfon ef i Mesopotamia , i gymryd iddo wraig oddi yno , a gorchymyn iddo wrth ei fendithio , gan ddywedyd , Na chymer wraig o ferched Canaan ; A gwrando o Jacob ar ei dad , ac ar ei fam , a’i fyned i Mesopotamia ; Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad ; Yna Esau a aeth at Ismael , ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham , chwaer Nebaioth , yn wraig iddo , at ei wragedd eraill . A Jacob a aeth allan o Beer‐seba , ac a aeth tua Haran . Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre , ac a letyodd yno dros nos ; oblegid machludo’r haul : ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw , ac a osododd dan ei ben , ac a gysgodd yn y fan honno . Ac efe a freuddwydiodd ; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear , a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd : ac wele angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi . Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni : ac efe a ddywedodd , Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad , a Duw Isaac ; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno , i ti y rhoddaf ef , ac i’th had . A’th had di fydd fel llwch y ddaear ; a thi a dorri allan i’r gorllewin , ac i’r dwyrain , ac i’r gogledd , ac i’r deau : a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti , ac yn dy had di . Ac wele fi gyda thi ; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych , ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon : oherwydd ni’th adawaf , hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt . A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg ; ac a ddywedodd , Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn , ac nis gwyddwn i . Ac efe a ofnodd , ac a ddywedodd , Mor ofnadwy yw’r lle hwn ! nid oes yma onid tŷ i Dduw , a dyma borth y nefoedd . A Jacob a gyfododd yn fore , ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben , ac efe a’i gosododd hi yn golofn , ac a dywalltodd olew ar ei phen hi . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw , Bethel : ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf . Yna yr addunodd Jacob adduned , gan ddywedyd , Os Duw fydd gyda myfi , ac a’m ceidw yn y ffordd yma , yr hon yr ydwyf yn ei cherdded , a rhoddi i mi fara i’w fwyta , a dillad i’w gwisgo , A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad ; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi . A’r garreg yma , yr hon a osodais yn golofn , a fydd yn dŷ Dduw ; ac o’r hyn oll a roddech i mi , gan ddegymu mi a’i degymaf i ti . A Jacob a gymerth ei daith , ac a aeth i wlad meibion y dwyrain . Ac efe a edrychodd , ac wele bydew yn y maes , ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho ; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd : a charreg fawr oedd ar enau’r pydew . Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd : a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew , ac a ddyfrhaent y praidd ; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle . A dywedodd Jacob wrthynt , Fy mrodyr , o ba le yr ydych chwi ? A hwy a ddywedasant , O Haran yr ydym ni . Ac efe a ddywedodd wrthynt , A adwaenoch chwi Laban fab Nachor ? A hwy a ddywedasant , Adwaenom . Yntau a ddywedodd wrthynt hwy , A oes llwyddiant iddo ef ? A hwy a ddywedasant , Oes , llwyddiant : ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid . Yna y dywedodd efe , Wele eto y dydd yn gynnar , nid yw bryd casglu’r anifeiliaid dyfrhewch y praidd , ac ewch , a bugeiliwch . A hwy a ddywedasant , Ni allwn ni , hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd , a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew ; yna y dyfrhawn y praidd . Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt , daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad ; oblegid hi oedd yn bugeilio . A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam , a phraidd Laban brawd ei fam ; yna y nesaodd Jacob , ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew , ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam . A Jacob a gusanodd Rahel , ac a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . A mynegodd Jacob i Rahel , mai brawd ei thad oedd efe , ac mai mab Rebeca oedd efe : hithau a redodd , ac a fynegodd i’w thad . A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer , yna efe a redodd i’w gyfarfod ef , ac a’i cofleidiodd ef , ac a’i cusanodd , ac a’i dug ef i’w dŷ : ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn . A dywedodd Laban wrtho ef , Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti . Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau . A Laban a ddywedodd wrth Jacob , Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti , y’m gwasanaethi yn rhad ? mynega i mi beth fydd dy gyflog ? Ac i Laban yr oedd dwy o ferched : enw yr hynaf oedd Lea , ac enw yr ieuangaf Rahel . A llygaid Lea oedd weiniaid ; ond Rahel oedd deg ei phryd , a glandeg yr olwg . A Jacob a hoffodd Rahel ; ac a ddywedodd , Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf . A Laban a ddywedodd , Gwell yw ei rhoddi hi i ti , na’i rhoddi i ŵr arall : aros gyda mi . Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd : ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau , am fod yn hoff ganddo efe hi . A dywedodd Jacob wrth Laban , Moes i mi fy ngwraig , ( canys cyflawnwyd fy nyddiau , ) fel yr elwyf ati hi . A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno , ac a wnaeth wledd . Ond bu yn yr hwyr , iddo gymryd Lea ei ferch , a’i dwyn hi ato ef ; ac yntau a aeth ati hi . A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn , yn forwyn i Lea ei ferch . A bu , y bore , wele Lea oedd hi : yna y dywedodd efe wrth Laban , Paham y gwnaethost hyn i mi ? onid am Rahel y’th wasanaethais ? a phaham y’m twyllaist ? A dywedodd Laban , Ni wneir felly yn ein gwlad ni , gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf . Cyflawna di wythnos hon , a ni a roddwn i ti hon hefyd , am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill . A Jacob a wnaeth felly , ac a gyflawnodd ei hwythnos hi : ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo . Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch , Bilha ei forwyn , yn forwyn iddi hi . Ac efe a aeth hefyd at Rahel , ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea , ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill . A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea , yna efe a agorodd ei chroth hi : a Rahel oedd amhlantadwy . A Lea a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Reuben : oherwydd hi a ddywedodd , Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd ; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi ; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd : a hi a alwodd ei enw ef Simeon . A hi a feichiogodd drachefn , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi , canys plentais iddo dri mab : am hynny y galwyd ei enw ef Lefi . A hi a feichiogodd drachefn , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Weithian y moliannaf yr Arglwydd : am hynny y galwodd ei enw ef Jwda . A hi a beidiodd â phlanta . Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob , yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer , ac a ddywedodd wrth Jacob , Moes feibion i mi ; ac onid e mi a fyddaf farw . A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel ; ac efe a ddywedodd , Ai myfi sydd yn lle Duw , yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti ? A dywedodd hithau , Wele fy llawforwyn Bilha , dos i mewn ati hi ; a hi a blanta ar fy ngliniau i , fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi . A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig , a Jacob a aeth i mewn ati . A Bilha a feichiogodd , ac a ymddûg fab i Jacob . A Rahel a ddywedodd , Duw a’m barnodd i , ac a wrandawodd hefyd ar fy llais , ac a roddodd i mi fab : am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan . Hefyd Bilha , llawforwyn Rahel , a feichiogodd eilwaith , ac a ymddûg yr ail fab i Jacob . A Rahel a ddywedodd , Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer , a gorchfygais : a hi a alwodd ei enw ef Nafftali . Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta , hi a gymerth ei llawforwyn Silpa , ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob . A Silpa , llawforwyn Lea , a ymddûg fab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Y mae tyrfa yn dyfod : a hi a alwodd ei enw ef Gad . A Silpa , llawforwyn Lea , a ymddûg yr ail fab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Yr ydwyf yn ddedwydd ; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd : a hi a alwodd ei enw ef Aser . Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith , ac a gafodd fandragorau yn y maes , ac a’u dug hwynt at Lea ei fam : yna Rahel a ddywedodd wrth Lea , Dyro , atolwg , i mi o fandragorau dy fab . Hithau a ddywedodd wrthi , Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr ? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab ? A Rahel a ddywedodd , Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab . A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr ; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , Ataf fi y deui : oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab . Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno . A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd , ac a ymddûg y pumed mab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi , oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr : a hi a alwodd ei enw ef Issachar . Lea hefyd a feichiogodd eto , ac a ymddûg y chweched mab i Jacob . A Lea a ddywedodd , Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda ; fy ngŵr a drig weithian gyda mi , oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef : a hi a alwodd ei enw ef Sabulon . Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch , ac a alwodd ei henw hi Dina . A Duw a gofiodd Rahel , a Duw a wrandawodd arni , ac a agorodd ei chroth hi . A hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab , ac a ddywedodd , Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith . A hi a alwodd ei enw ef Joseff , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall . A bu , wedi esgor o Rahel ar Joseff , ddywedyd o Jacob wrth Laban , Gollwng fi ymaith , fel yr elwyf i’m bro , ac i’m gwlad fy hun . Dyro fy ngwragedd i mi , a’m plant , y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi , fel yr elwyf ymaith : oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti . A Laban a ddywedodd wrtho , Os cefais ffafr yn dy olwg , na syfl : da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di . Hefyd efe a ddywedodd , Dogna dy gyflog arnaf , a mi a’i rhoddaf . Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi ; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi . Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i , ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd ; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i : bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun ? Dywedodd yntau , Pa beth a roddaf i ti ? A Jacob a atebodd , Ni roddi i mi ddim ; os gwnei i mi y peth hyn , bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn . Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw , gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith , a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid ; y mawr‐frith hefyd a’r mân‐frith ymhlith y geifr : ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog . A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan , pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di : yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr , neu gochddu ymhlith y defaid , lladrad a fydd hwnnw gyda myfi . A dywedodd Laban , Wele , O na byddai yn ôl dy air di ! Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion , a’r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion , yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno , a phob cochddu ymhlith y defaid , ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun . Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob : a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban . A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys , a chyll , a ffawydd ; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion , gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail . Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe , yn y cwterydd , o fewn y cafnau dyfroedd , lle y deuai’r praidd i yfed , ar gyfer y praidd : fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed . A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail ; a’r praidd a ddug rai cylch‐frithion , a mân‐frithion , a mawr‐frithion . A Jacob a ddidolodd yr ŵyn , ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion , ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban ; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu , ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt . A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf , Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd , i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail ; Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid , ni osodai efe ddim : felly y gwannaf oedd eiddo Laban , a’r cryfaf eiddo Jacob . A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol ; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth , a morynion , a gweision , a chamelod , ac asynnod . Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd , Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni , ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn . Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban , ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob , Dychwel i wlad dy dadau , ac at dy genedl ; a mi a fyddaf gyda thi . A Jacob a anfonodd , ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes , at ei braidd , Ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi , nad yw fel cynt tuag ataf fi : a Duw fy nhad a fu gyda myfi . A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad . A’ch tad a’m twyllodd i , ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith : ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg . Os fel hyn y dywedai ; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di , yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion : ond os fel hyn y dywedai ; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di , yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion . Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi , ac a’u rhoddes i mi . Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd , ddyrchafu ohonof fy llygaid , ac mewn breuddwyd y gwelais , ac wele yr hyrddod , ( y rhai oedd yn llamu’r praidd , ) yn glych‐frithion , yn fân‐frithion , ac yn fawr‐frithion . Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd , Jacob . Minnau a atebais , Wele fi . Yntau a ddywedodd , Dyrchafa weithian dy lygaid , a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch‐frithion , yn fân‐frithion , ac yn fawr‐frithion ; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti . Myfi yw Duw Bethel , lle yr eneiniaist y golofn , a lle yr addunaist adduned i mi : cyfod bellach , dos allan o’r wlad hon , dychwel i wlad dy genedl dy hun . A Rahel a Lea a atebasant , ac a ddywedasant wrtho , A oes eto i ni ran , neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad ? Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni ? oblegid efe a’n gwerthodd ; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni . Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni , nyni a’n plant a’i piau : ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt , gwna . Yna Jacob a gyfododd , ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod ; Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid , a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai , sef ei anifeiliaid meddiannol , y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia , i fyned at Isaac ei dad , i wlad Canaan . Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid : a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi . A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd , heb wybod i Laban y Syriad : canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd . Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo , ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon , ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead . A mynegwyd i Laban , ar y trydydd dydd , ffoi o Jacob . Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef , ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod ; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead . A Duw a ddaeth at Laban y Syriad , liw nos , mewn breuddwyd , ac a ddywedodd wrtho , Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg . Yna Laban a oddiweddodd Jacob : a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd ; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead . A Laban a ddywedodd wrth Jacob , Pa beth a wnaethost ? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi , ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf . Am ba beth y ffoaist yn ddirgel , ac y lladrateaist oddi wrthyf fi , ac ni fynegaist i mi , fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd , ac â chaniadau , â thympan , ac â thelyn ? Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched ? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl , gan wneuthur hyn . Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg ; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr , gan ddywedyd , Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg . Weithian gan hynny , ti a fynnit fyned ymaith , oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad . Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i ? A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban , Am ofni ohonof ; oblegid dywedais , Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais . Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau , na chaffed fyw : gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi , a chymer i ti : ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt . A Laban a aeth i mewn i babell Jacob , ac i babell Lea , ac i babell y ddwy lawforwyn , ac nis cafodd hwynt : yna yr aeth allan o babell Lea , ac y daeth i babell Rahel . A Rahel a gymerasai’r delwau , ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel , ac a eisteddasai arnynt ; a Laban a chwiliodd yr holl babell , ac nis cafodd . A hi a ddywedodd wrth ei thad , Na ddigied fy arglwydd , am nas gallaf gyfodi ger dy fron di ; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi : ac efe a chwiliodd , ac ni chafodd y delwau . A Jacob a ddigiodd , ac a roes sen i Laban : a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban , Pa beth yw fy nghamwedd i ? pa beth yw fy mhechod , gan erlid ohonot ar fy ôl ? Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i , pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di ? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau , fel y barnont rhyngom ni ein dau . Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi ; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant , ac ni fwyteais hyrddod dy braidd . Ni ddygais ysglyfaeth atat ti : myfi a’i gwnawn ef yn dda ; o’m llaw i y gofynnit hynny , yr hyn a ladrateid y dydd , a’r hyn a ladrateid y nos . Bûm y dydd , y gwres a’m treuliodd , a rhew y nos ; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid . Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di : pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch , a chwe blynedd am dy braidd ; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau . Oni buasai fod Duw fy nhad , Duw Abraham , ac arswyd Isaac gyda mi , diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw . Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo , ac a’th geryddodd di neithiwr . Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob , Y merched hyn ydynt fy merched i , a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i , a’r praidd yw fy mhraidd i ; a’r hyn oll a weli , eiddo fi yw : a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn , ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant ? Tyred gan hynny yn awr , gwnawn gyfamod , mi a thi ; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau . A Jacob a gymerth garreg , ac a’i cododd hi yn golofn . Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr , Cesglwch gerrig : a hwy a gymerasant gerrig , ac a wnaethant garnedd , ac a fwytasant yno ar y garnedd . A Laban a’i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha : a Jacob a’i galwodd hi Galeed . A Laban a ddywedodd , Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw : am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed , A Mispa ; oblegid efe a ddywedodd , Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau , pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd . Os gorthrymi di fy merched , neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i ; nid oes neb gyda ni ; edrych , Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau . Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob , Wele y garnedd hon , ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi : Tyst a fydd y garnedd hon , a thyst a fydd y golofn , na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti , ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi , er niwed . Duw Abraham , a Duw Nachor , a farno rhyngom ni , Duw eu tadau hwynt . A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac . Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd , ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara : a hwy a fwytasant fara , ac a drigasant dros nos yn y mynydd . A Laban a gyfododd yn fore , ac a gusanodd ei feibion a’i ferched , ac a’u bendithiodd hwynt : felly Laban a aeth ymaith , ac a ddychwelodd i’w fro ei hun . A Jacob a gerddodd i’w daith yntau : ac angylion Duw a gyfarfu ag ef . A Jacob a ddywedodd , pan welodd hwynt , Dyma wersyll Duw : ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim . A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau , i wlad Seir , i wlad Edom : Ac a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau ; Fel hyn y dywed dy was di Jacob ; Gyda Laban yr ymdeithiais , ac y trigais hyd yn hyn . Ac y mae i mi eidionau , ac asynnod , defaid , a gweision , a morynion : ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd , i gael ffafr yn dy olwg . A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob , gan ddywedyd , Daethom at dy frawd Esau ; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di , a phedwar cant o wŷr gydag ef . Yna Jacob a ofnodd yn fawr , a chyfyng oedd arno : ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef , a’r defaid , a’r eidionau , a’r camelod , yn ddwy fintai ; Ac a ddywedodd , Os daw Esau at y naill fintai , a tharo honno , yna y fintai arall a fydd ddihangol . A dywedodd Jacob , O Dduw fy nhad Abraham , a Duw fy nhad Isaac , O Arglwydd , yr hwn a ddywedaist wrthyf , Dychwel i’th wlad , ac at dy genedl , a mi a wnaf ddaioni i ti ! Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di , nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was : oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon ; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai . Achub fi , atolwg , o law fy mrawd , o law Esau : oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef , rhag dyfod ohono a’m taro , a’r fam gyda’r plant . A thydi a ddywedaist , Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau ; a’th had di a wnaf fel tywod y môr , yr hwn o amlder ni ellir ei rifo . Ac yno y lletyodd efe y noson honno : ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau ; Dau gant o eifr , ac ugain o fychod , dau gant o ddefaid , ac ugain o hyrddod , Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod , deugain o wartheg , a deg o deirw , ugain o asennod , a deg o ebolion . Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilltu ; ac a ddywedodd wrth ei weision , Ewch trosodd o’m blaen i , a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd . Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf , gan ddywedyd , Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di , ac a ymofyn â thydi , gan ddywedyd , I bwy y perthyni di ? ac i ba le yr ei ? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di ? Yna y dywedi , Eiddo dy was Jacob ; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau : ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni . Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail , ac i’r trydydd , ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd , gan ddywedyd , Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau , pan gaffoch afael arno . A dywedwch hefyd , Wele dy was Jacob ar ein hôl ni . Oblegid ( eb efe ) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen : ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef ; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau . Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef : ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll . Ac efe a gyfododd y noson honno , ac a gymerth ei ddwy wraig , a’i ddwy lawforwyn , a’i un mab ar ddeg , ac a aeth dros ryd Jabboc . Ac a’u cymerth hwynt , ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon : felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo . A Jacob a adawyd ei hunan : yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr . A phan welodd na byddai drech nag ef , efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef ; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob , wrth ymdrech ohono ag ef . A’r angel a ddywedodd , Gollwng fi ymaith ; oblegid y wawr a gyfododd . Yntau a atebodd , Ni’th ollyngaf , oni’m bendithi . Hefyd efe a ddywedodd wrtho , Beth yw dy enw ? Ac efe a atebodd , Jacob . Yntau a ddywedodd , Mwyach ni elwir dy enw di Jacob , ond Israel : oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog , a chyda dynion , ac a orchfygaist . A Jacob a ymofynnodd , ac a ddywedodd , Mynega , atolwg , dy enw . Ac yntau a atebodd , I ba beth y gofynni hyn am fy enw i ? Ac yno efe a’i bendithiodd ef . A Jacob a alwodd enw y fan Peniel : oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb , a dihangodd fy einioes . A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel , ac yr oedd efe yn gloff o’i glun . Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd , yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd , hyd y dydd hwn : oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd . A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele Esau yn dyfod , a phedwar cant o wŷr gydag ef : ac efe a rannodd y plant at Lea , ac at Rahel , ac at y ddwy lawforwyn . Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn , a’u plant hwy , a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny , a Rahel a Joseff yn olaf . Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt , ac a ymostyngodd i lawr seithwaith , oni ddaeth efe yn agos at ei frawd . Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef , ac a’i cofleidiodd ef , ac a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a’i cusanodd ef : a hwy a wylasant . Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu’r gwragedd , a’r plant ; ac a ddywedodd , Pwy yw y rhai hyn gennyt ti ? Yntau a ddywedodd , Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di . Yna y llawforynion a nesasant , hwynt‐hwy a’u plant , ac a ymgrymasant . A Lea a nesaodd a’i phlant hithau , ac a ymgrymasant : ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel , ac a ymgrymasant . Ac efe a ddywedodd , Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i ? Yntau a ddywedodd , Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd . Ac Esau a ddywedodd , Y mae gennyf fi ddigon , fy mrawd ; bydded i ti yr hyn sydd gennyt . A Jacob a ddywedodd , Nage ; atolwg , os cefais yn awr ffafr yn dy olwg , cymer fy anrheg o’m llaw i : canys am hynny y gwelais dy wyneb , fel pe gwelswn wyneb Duw , a thi yn fodlon i mi . Cymer , atolwg , fy mendith , yr hon a dducpwyd i ti ; oblegid Duw a fu raslon i mi , ac am fod gennyf fi bob peth . Ac efe a fu daer arno : ac yntau a gymerodd ; Ac a ddywedodd , Cychwynnwn , ac awn : a mi a af o’th flaen di . Yntau a ddywedodd wrtho , Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant , a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi ; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn , marw a wna’r holl braidd . Aed , atolwg , fy arglwydd o flaen ei was ; a minnau a ddeuaf yn araf , fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i , ac y gallo’r plant , hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir . Ac Esau a ddywedodd , Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi . Yntau a ddywedodd , I ba beth y gwnei hynny ? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd . Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir . A Jacob a gerddodd i Succoth , ac a adeiladodd iddo dŷ , ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid : am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth . Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem , yr hon sydd yng ngwlad Canaan , pan ddaeth efe o Mesopotamia ; ac a wersyllodd o flaen y ddinas . Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo , o law meibion Hemor tad Sichem , am gan darn o arian : Ac a osododd yno allor , ac a’i henwodd El‐Elohe‐Israel . A Dina merch Lea , yr hon a ymddygasai hi i Jacob , a aeth allan i weled merched y wlad . A Sichem mab Hemor yr Hefiad , tywysog y wlad , a’i canfu hi , ac a’i cymerth hi , ac a orweddodd gyda hi , ac a’i treisiodd . A’i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob ; ie , efe a hoffodd y llances , ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances . Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad , gan ddywedyd , Cymer y llances hon yn wraig i mi . A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch : ( a’i feibion ef oedd gyda’i anifeiliaid ef yn y maes ) ; a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref . A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob , i ymddiddan ag ef . A meibion Jacob a ddaethant o’r maes , wedi clywed ohonynt ; a’r gwŷr a ymofidiasant , a digiasant yn ddirfawr , oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel , gan orwedd gyda merch Jacob ; canys ni ddylesid gwneuthur felly . A Hemor a ymddiddanodd â hwynt , gan ddywedyd , Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi : rhoddwch hi , atolwg , yn wraig iddo ef . Ac ymgyfathrechwch â ni ; rhoddwch eich merched chwi i ni , a chymerwch ein merched ni i chwithau . A chwi a gewch breswylio gyda ni , a’r wlad fydd o’ch blaen chwi : trigwch a negeseuwch ynddi , a cheisiwch feddiannau ynddi . Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi , ac wrth ei brodyr , Caffwyf ffafr yn eich golwg , a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf . Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd , a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf : rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig . A meibion Jacob a atebasant Sichem , a Hemor ei dad ef , yn dwyllodrus , ac a ddywedasant , oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt ; Ac a ddywedasant wrthynt , Ni allwn wneuthur y peth hyn , gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig : oblegid gwarthrudd yw hynny i ni . Ond yn hyn y cytunwn â chwi : Os byddwch fel nyni , gan enwaedu pob gwryw i chwi ; Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi , ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau , a ni a gyd‐drigwn â chwi , a ni a fyddwn yn un bobl . Ond oni wrandewch arnom ni i’ch enwaedu ; yna y cymerwn ein merch , ac a awn ymaith . A’u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor , ac yng ngolwg Sichem mab Hemor . Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth , oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob : ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad . A Hemor , a Sichem ei fab ef , a aethant i borth eu dinas , ac a lefarasant wrth eu dinasyddion , gan ddywedyd , Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni ; trigant hwythau yn y wlad , a gwnânt eu negesau ynddi ; a’r wlad , wele , sydd ddigon eang iddynt hwy : cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd , a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy . Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni , i drigo gyda ni , ar fod yn un bobl , os enwaedir pob gwryw i ni , fel y maent hwy yn enwaededig . Eu hanifeiliaid hwynt , a’u cyfoeth hwynt , a’u holl ysgrubliaid hwynt , onid eiddom ni fyddant hwy ? yn unig cytunwn â hwynt , a hwy a drigant gyda ni . Ac ar Hemor , ac ar Sichem ei fab ef , y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef : ac enwaedwyd pob gwryw , sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef . A bu ar y trydydd dydd , pan oeddynt hwy yn ddolurus , gymryd o ddau o feibion Jacob , Simeon a Lefi , brodyr Dina , bob un ei gleddyf , a dyfod ar y ddinas yn hyderus , a lladd pob gwryw . Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf ; a chymerasant Dina o dŷ Sichem , ac a aethant allan . Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion , ac a ysbeiliasant y ddinas , am halogi ohonynt eu chwaer hwynt . Cymerasant eu defaid hwynt , a’u gwartheg , a’u hasynnod hwynt , a’r hyn oedd yn y ddinas , a’r hyn oedd yn y maes , A’u holl gyfoeth hwynt ; a’u holl rai bychain , a’u gwragedd , a gaethgludasant hwy ; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai . A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi , Trallodasoch fi , gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad , gan y Canaaneaid a’r Pheresiaid : a minnau yn ychydig o nifer , hwy a ymgasglant yn fy erbyn , a thrawant fi : felly y difethir fi , mi a’m tŷ . Hwythau a atebasant , Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni ? A Duw a ddywedodd wrth Jacob , Cyfod , esgyn i Bethel , a thrig yno ; a gwna yno allor i Dduw , yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd . Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu , ac wrth y rhai oll oedd gydag ef , Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi , ac ymlanhewch , a newidiwch eich dillad ; A chyfodwn , ac esgynnwn i Bethel : ac yno y gwnaf allor i Dduw , yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder , ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais . A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt , a’r clustlysau oedd yn eu clustiau : a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem . A hwy a gychwynasant : ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt , ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob . A Jacob a ddaeth i Lus , yng ngwlad Canaan , hon yw Bethel , efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef ; Ac a adeiladodd yno allor , ac a enwodd y lle El‐bethel , oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef , pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd . A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca ; a hi a gladdwyd islaw Bethel , dan dderwen : a galwyd enw honno Alhon‐bacuth . Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob , pan ddaeth efe o Mesopotamia ; ac a’i bendithiodd ef . A Duw a ddywedodd wrtho , Dy enw di yw Jacob : ni elwir dy enw di Jacob mwy , ond Israel a fydd dy enw di : ac efe a alwodd ei enw ef Israel . Hefyd Duw a ddywedodd wrtho , Myfi yw Duw Hollalluog : cynydda , ac amlha ; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti ; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di . A’r wlad yr hon a roddais i Abraham , ac i Isaac , a roddaf i ti , ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad . A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef , yn y fan lle y llefarasai efe wrtho . A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef , sef colofn faen : ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm , ac a dywalltodd olew arni . A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef , Bethel . A hwy a aethant ymaith o Bethel ; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath : yno yr esgorodd Rahel , a bu galed arni wrth esgor . A darfu , pan oedd galed arni wrth esgor , i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi , Nac ofna ; oblegid dyma hefyd i ti fab . Darfu hefyd , wrth ymadael o’i henaid hi ( oblegid marw a wnaeth hi ) , iddi alw ei enw ef Ben‐oni : ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin . A Rahel a fu farw , ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath ; hon yw Bethlehem . A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi : honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw . Yna Israel a gerddodd , ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal‐Edar . A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno , yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad ; a chlybu Israel hynny . Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg : Meibion Lea ; Reuben , cyntaf‐anedig Jacob , a Simeon , a Lefi , a Jwda , ac Issachar , a Sabulon . Meibion Rahel ; Joseff a Benjamin . A meibion Bilha , llawforwyn Rahel ; Dan a Nafftali . A meibion Silpa , llawforwyn Lea ; Gad ac Aser . Dyma feibion Jacob , y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia . A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre , i Gaer‐Arba , hon yw Hebron , lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac . A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd . Ac Isaac a drengodd , ac a fu farw , ac a gasglwyd at ei bobl , yn hen , ac yn gyflawn o ddyddiau : a’i feibion , Esau a Jacob , a’i claddasant ef . A dyma genedlaethau Esau : efe yw Edom . Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan ; Ada , merch Elon yr Hethiad , ac Aholibama , merch Ana , merch Sibeon yr Hefiad ; Basemath hefyd , merch Ismael , chwaer Nebaioth . Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau : a Basemath a esgorodd ar Reuel . Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus , a Jalam , a Chora : dyma feibion Esau , y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan . Ac Esau a gymerodd ei wragedd , a’i feibion , a’i ferched , a holl ddynion ei dŷ , a’i anifeiliaid , a’i holl ysgrubliaid , a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan ; ac a aeth ymaith i’r wlad , o ŵydd ei frawd Jacob . Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo : ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt , gan eu hanifeiliaid . Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir : Esau yw Edom . A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir . Dyma enwau meibion Esau : Eliffas , mab Ada gwraig Esau ; Reuel , mab Basemath gwraig Esau . A meibion Eliffas oedd Teman , Omar , Seffo , a Gatam , a Chenas . A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas , mab Esau , ac a esgorodd Amalec i Eliffas : dyma feibion Ada gwraig Esau . A dyma feibion Reuel ; Nahath a Sera , Samma a Missa : y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau . Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana , merch Sibeon gwraig Esau : a hi a ymddûg i Esau , Jeus , a Jalam , a Chora . Dyma ddugiaid o feibion Esau ; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau , dug Teman , dug Omar , dug Seffo , dug Cenas , Dug Cora , dug Gatam , dug Amalec : dyma y dugiaid o Eliffas , yng ngwlad Edom : dyma feibion Ada . A dyma feibion Reuel mab Esau ; dug Nahath , dug Sera , dug Samma , dug Missa : dyma y dugiaid o Reuel , yng ngwlad Edom : dyma feibion Basemath gwraig Esau . Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau : dug Jeus , dug Jalam , dug Cora ; dyma y dugiaid o Aholibama , merch Ana , gwraig Esau . Dyma feibion Esau ( hwn yw Edom ) , a dyma eu dugaid hwynt . Dyma feibion Seir yr Horiad , cyfanheddwyr y wlad ; Lotan , a Sobal , a Sibeon , ac Ana . A Dison , ac Eser , a Disan : a dyma ddugiaid yr Horiaid , meibion Seir , yng ngwlad Edom . A meibion Lotan oedd Hori , a Hemam : a chwaer Lotan oedd Timna . A dyma feibion Sobal ; Alfan , a Manahath , ac Ebal , Seffo , ac Onam . A dyma feibion Sibeon ; Aia ac Ana : hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad . A dyma feibion Ana ; Dison ac Aholibama merch Ana . Dyma hefyd feibion Dison ; Hemdan , ac Esban , ac Ithran , a Cheran . Dyma feibion Eser ; Bilhan , a Saafan , ac Acan . Dyma feibion Disan ; Us ac Aran . Dyma ddugiaid yr Horiaid ; dug Lotan , dug Sobal , dug Sibeon , dug Ana , Dug Dison , dug Eser , dug Disan . Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir . Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom , cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel . A Bela , mab Beor , a deyrnasodd yn Edom : ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba . A Bela a fu farw ; a Jobab , mab Sera o Bosra , a deyrnasodd yn ei le ef . Jobab hefyd a fu farw ; a Husam , o wlad Temani , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Husam farw ; a Hadad , mab Bedad , yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab , a deyrnasodd yn ei le ef : ac enw ei ddinas ef oedd Afith . Marw hefyd a wnaeth Hadad ; a Samla , o Masreca , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Samla farw ; a Saul , o Rehoboth wrth yr afon , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Saul farw ; a Baalhanan , mab Achbor , a deyrnasodd yn ei le ef . A bu Baalhanan , mab Achbor , farw ; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef : ac enw ei ddinas ef oedd Pau ; ac enw ei wraig Mehetabel , merch Matred , merch Mesahab . A dyma enwau y dugiaid o Esau , yn ôl eu teuluoedd , wrth eu trigleoedd , erbyn eu henwau ; dug Timna , dug Alfa , dug Jetheth , Dug Aholibama , dug Ela , dug Pinon , Dug Cenas , dug Teman , dug Mibsar , Dug Magdiel , dug Iram . Dyma y dugiaid o Edom , yn ôl eu preswylfeydd , yng ngwlad eu perchenogaeth : dyma Esau , tad yr Edomiaid . A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad , yng ngwlad Canaan . Dyma genedlaethau Jacob . Joseff , yn fab dwy flwydd ar bymtheg , oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd : a’r llanc oedd gyda meibion Bilha , a chyda meibion Silpa , gwragedd ei dad ; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad . Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion , oblegid efe oedd fab ei henaint ef : ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef . A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr , hwy a’i casasant ef , ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol . A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd , ac a’i mynegodd i’w frodyr : a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch , atolwg , y breuddwyd hwn a freuddwydiais i . Ac wele , rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes ; ac wele , fy ysgub i a gyfododd , ac a safodd hefyd ; ac wele , eich ysgubau chwi a safasant o amgylch , ac a ymgrymasant i’m hysgub i . A’i frodyr a ddywedasant wrtho , Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni ? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni ? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef , oblegid ei freuddwydion , ac oblegid ei eiriau . Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall , ac a’i mynegodd i’w frodyr , ac a ddywedodd , Wele , breuddwydiais freuddwyd eto ; ac wele , yr haul , a’r lleuad , a’r un seren ar ddeg , yn ymgrymu i mi . Ac efe a’i mynegodd i’w dad , ac i’w frodyr . A’i dad a feiodd arno , ac a ddywedodd wrtho , Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti ? Ai gan ddyfod y deuwn ni , mi , a’th fam , a’th frodyr , i ymgrymu i lawr i ti ? A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef ; ond ei dad a ddaliodd ar y peth . A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad , yn Sichem . Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff , Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem ? Tyred , a mi a’th anfonaf atynt . Yntau a ddywedodd wrtho , Wele fi . A dywedodd wrtho , Dos weithian , edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr , a pha lwyddiant sydd i’r praidd ; a dwg eilchwyl air i mi . Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron ; ac efe a ddaeth i Sichem . A chyfarfu gŵr ag ef ; ac wele efe yn crwydro yn y maes : a’r gŵr a ymofynnodd ag ef , gan ddywedyd , Pa beth yr wyt ti yn ei geisio ? Yntau a ddywedodd , Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi ; mynega , atolwg , i mi , pa le y maent hwy yn bugeilio ? A’r gŵr a ddywedodd , Hwy a aethant oddi yma ; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd , Awn i Dothan . A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr , ac a’u cafodd hwynt yn Dothan . Hwythau a’i canfuant ef o bell ; a chyn ei ddynesu ef atynt , hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef , i’w ladd ef . A dywedasant wrth ei gilydd , Wele y breuddwydiwr yn dyfod . Deuwch gan hynny yn awr , a lladdwn ef , a thaflwn ef yn un o’r pydewau ; a dywedwn , Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef : yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef . A Reuben a glybu , ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt ; ac a ddywedodd , Na laddwn ef . Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt , Na thywelltwch waed ; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch , ac nac estynnwch law arno : fel yr achubai ef o’u llaw hwynt , i’w ddwyn eilwaith at ei dad . A bu , pan ddaeth Joseff at ei frodyr , iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff , sef y siaced fraith ydoedd amdano ef . A chymerasant ef , a thaflasant i bydew : a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo . A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd ; ac a ddyrchafasant eu llygaid , ac a edrychasant , ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead , yn myned i waered i’r Aifft , a’u camelod yn dwyn llysiau , a balm , a myrr . A dywedodd Jwda wrth ei frodyr , Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd , a chelu ei waed ef ? Deuwch , a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid , ac na fydded ein llaw ni arno ef ; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe . A’i frodyr a gytunasant . A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio , y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew , ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian : hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft . A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew ; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew : ac yntau a rwygodd ei ddillad ; Ac a ddychwelodd at ei frodyr , ac a ddywedodd , Y llanc nid yw acw ; a minnau , i ba le yr af fi ? A hwy a gymerasant siaced Joseff , ac a laddasant fyn gafr , ac a drochasant y siaced yn y gwaed . Ac a anfonasant y siaced fraith , ac a’i dygasant at eu tad , ac a ddywedasant , Hon a gawsom : myn wybod yn awr , ai siaced dy fab yw hi , ai nad e . Yntau a’i hadnabu hi , ac a ddywedodd , Siaced fy mab yw hi ; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef : gan larpio y llarpiwyd Joseff . A Jacob a rwygodd ei ddillad , ac a osododd sachlen am ei lwynau , ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer . A’i holl feibion , a’i holl ferched , a godasant i’w gysuro ef ; ond efe a wrthododd gymryd cysur , ac a ddywedodd , Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod : a’i dad a wylodd amdano ef . A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft , i Potiffar tywysog Pharo , a’r distain . Ac yn y cyfamser hwnnw , y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr , a throi at ŵr o Adulam , a’i enw Hira . Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan , a’i enw ef oedd Sua ; ac a’i cymerodd hi , ac a aeth ati hi . A hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Er . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar fab ; a hi a alwodd ei enw ef Onan . A thrachefn hi a esgorodd ar fab , ac a alwodd ei enw ef Sela . Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn . A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf‐anedig , a’i henw Tamar . Ac yr oedd Er , cyntaf‐anedig Jwda , yn ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd ; a’r Arglwydd a’i lladdodd ef . A Jwda a ddywedodd wrth Onan , Dos at wraig dy frawd , a phrioda hi , a chyfod had i’th frawd . Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai’r had : a phan elai efe at wraig ei frawd , yna y collai efe ei had ar y llawr , rhag rhoddi ohono had i’w frawd . A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr Arglwydd : am hynny efe a’i lladdodd yntau . Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd , Trig yn weddw yn nhŷ dy dad , hyd oni chynyddo fy mab Sela : ( oblegid efe a ddywedodd , Rhag ei farw yntau fel ei frodyr . ) A Thamar a aeth , ac a drigodd yn nhŷ ei thad . Ac wedi llawer o ddyddiau , marw a wnaeth merch Sua , gwraig Jwda : a Jwda a gymerth gysur , ac a aeth i fyny i Timnath , at gneifwyr ei ddefaid , efe a’i gyfaill Hira yr Adulamiad . Mynegwyd hefyd i Tamar , gan ddywedyd , Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath , i gneifio ei ddefaid . Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani , ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd , ac a ymwisgodd , ac a eisteddodd yn nrws Enaim , yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath : oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr , ac na roddasid hi yn wraig iddo ef . A Jwda a’i canfu hi , ac a dybiodd mai putain ydoedd hi ; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb . Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd , ac a ddywedodd , Tyred , atolwg , gad i mi ddyfod atat : ( oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi . ) Hithau a ddywedodd , Beth a roddi i mi , os cei ddyfod ataf ? Yntau a ddywedodd , Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd . Hithau a ddywedodd , A roddi di wystl hyd oni hebryngech ? Yntau a ddywedodd , Pa wystl a roddaf i ti ? Hithau a ddywedodd , Dy sêl , a’th freichledau , a’th ffon sydd yn dy law . Ac efe a’u rhoddes iddi , ac a aeth ati ; a hi a feichiogodd ohono ef . Yna y cyfododd hi , ac a aeth ymaith , ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani , ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod . A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill , i gymryd y gwystl o law y wraig : ond ni chafodd hwnnw hi . Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno , gan ddywedyd , Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd ? A hwythau a ddywedasant , Nid oedd yma un butain . Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd , Ni chefais hi ; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant , Nid oedd yma un butain . A Jwda a ddywedodd , Cymered iddi hi , rhag i ni gael cywilydd : wele , mi a hebryngais y myn hwn , a thithau ni chefaist hi . Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda , gan ddywedyd , Tamar dy waudd di a buteiniodd ; ac wele , hi a feichiogodd hefyd mewn godineb . A dywedodd Jwda , Dygwch hi allan , a llosger hi . Yna hi , pan ddygwyd hi allan , a anfonodd at ei chwegrwn , gan ddywedyd , O’r gŵr biau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog : hefyd hi a ddywedodd , Adnebydd , atolwg , eiddo pwy yw y sêl , a’r breichledau , a’r ffon yma . A Jwda a adnabu y pethau hynny , ac a ddywedodd , Cyfiawnach yw hi na myfi ; oherwydd na roddais hi i’m mab Sela : ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy . Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi , wele efeilliaid yn ei chroth hi . Bu hefyd pan esgorodd hi , i un roddi allan ei law : a’r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch , gan ddywedyd , Hwn a ddaeth yn gyntaf allan . A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl , yna wele , ei frawd ef a ddaeth allan : a hithau a ddywedodd , Pa fodd y torraist allan ? bid y toriad hwn arnat ti ; am hynny y galwyd ei enw ef Phares . Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan , yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law : a galwyd ei enw ef Sera . A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft : a Potiffar yr Eifftwr , tywysog Pharo a’i ddistain , a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid , y rhai a’i dygasant ef i waered yno . Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff , ac efe oedd ŵr llwyddiannus : ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad . A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef , a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe . A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef , ac a’i gwasanaethodd ef : yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ , ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef . Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ , ac ar yr hyn oll oedd eiddo , bu i’r Arglwydd fendithio tŷ’r Eifftiad , er mwyn Joseff : ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef , yn y tŷ , ac yn y maes . Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff ; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef , oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta : Joseff hefyd oedd deg o bryd , a glân yr olwg . A darfu wedi’r pethau hynny , i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff , a dywedyd , Gorwedd gyda mi . Yntau a wrthododd , ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr , Wele , fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i . Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi ; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi ; oblegid ei wraig ef wyt ti : pa fodd , gan hynny , y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn , a phechu yn erbyn Duw ! A bu , fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd , ac yntau heb wrando arni hi , i orwedd yn ei hymyl hi , neu i fod gyda hi . A bu , ynghylch yr amser hwnnw , i Joseff ddyfod i’r tŷ , i wneuthur ei orchwyl ; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ . Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg , gan ddywedyd , Gorwedd gyda mi . Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi , ac a ffodd , ac a aeth allan . A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi , a ffoi ohono allan ; Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ , ac a draethodd wrthynt , gan ddywedyd , Gwelwch , efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo : daeth ataf fi i orwedd gyda myfi ; minnau a waeddais â llef uchel ; A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef , a gweiddi ; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i , ac a ffodd , ac a aeth allan . A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl , hyd oni ddaeth ei feistr ef adref . A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn , gan ddywedyd , Yr Hebrewas , yr hwn a ddygaist i ni , a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo ; Ond pan ddyrchefais fy llef , a gweiddi , yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl , ac a ffodd allan . A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig , y rhai a lefarodd hi wrtho ef , gan ddywedyd , Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi ; yna yr enynnodd ei lid ef . A meistr Joseff a’i cymerth ef , ac a’i rhoddes yn y carchardy , yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym . Ac yno y bu efe yn y carchardy . Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff , ac a ddangosodd iddo ef drugaredd , ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy . A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy ; a pha beth bynnag a wnaent yno , efe oedd yn ei wneuthur . Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef , am fod yr Arglwydd gydag ef ; a’r hyn a wnâi efe , yr Arglwydd a’i llwyddai . A Darfu wedi’r pethau hynny , i drulliad brenin yr Aifft , a’r pobydd , bechu yn erbyn eu harglwydd , brenin yr Aifft . A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr , sef wrth y pen‐trulliad , a’r pen‐pobydd : Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa , yn nhŷ’r distain , sef yn y carchardy , y lle yr oedd Joseff yn rhwym . A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy ; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt : a buont mewn dalfa dros amser . A breuddwydiasant freuddwyd ill dau , pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos , pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun , trulliad a phobydd brenin yr Aifft , y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy . A’r bore y daeth Joseff atynt , ac a edrychodd arnynt ; ac wele hwynt yn athrist . Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo , y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd , gan ddywedyd , Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw ? A dywedasant wrtho , Breuddwydiasom freuddwyd , ac nid oes a’i dehonglo . A Joseff a ddywedodd wrthynt , Onid i Dduw y perthyn dehongli ? mynegwch , atolwg , i mi . A’r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff ; ac a ddywedodd wrtho , Yn fy mreuddwyd yr oeddwn , ac wele winwydden o’m blaen ; Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc : ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu ; ei blodeuyn a dorasai allan , ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed . Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw : a chymerais y grawnwin , a gwesgais hwynt i gwpan Pharo ; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo . A Joseff a ddywedodd wrtho , Dyma ei ddehongliad ef . Tri diwrnod yw’r tair cainc . O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di , ac a’th rydd di eilwaith yn dy le ; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef , fel y buost arferol yn y cyntaf , pan oeddit drulliad iddo . Eto cofia fi gyda thi , pan fo daioni i ti , a gwna , atolwg , â mi drugaredd , a chofia fi wrth Pharo , a dwg fi allan o’r tŷ hwn : Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid ; ac yma hefyd ni wneuthum ddim , fel y bwrient fi yng ngharchar . Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad , efe a ddywedodd wrth Joseff , Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd ; ac wele , dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen . Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd ; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen . A Joseff a atebodd ac a ddywedodd , Dyma ei ddehongliad ef . Tri diwrnod yw y tri chawell . O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat , ac a’th groga di ar bren ; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat . Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo : ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision : ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad , a’r pen‐pobydd ymysg ei weision . Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd ; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo . A’r pen‐pobydd a grogodd efe ; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy . Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff , eithr anghofiodd ef . Yna ymhen dwy flynedd lawn , y bu i Pharo freuddwydio ; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon . Ac wele , yn esgyn o’r afon , saith o wartheg teg yr olwg , a thewion o gig ; ac mewn gweirglodd‐dir y porent . Wele hefyd , saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon , yn ddrwg yr olwg , ac yn gulion o gig ; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill , ar lan yr afon . A’r gwartheg drwg yr olwg , a chulion o gig , a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg , a breision . Yna y dihunodd Pharo . Ac efe a gysgodd , ac a freuddwydiodd eilwaith : ac wele , saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen , o rai breisgion a da . Wele hefyd , saith o dywysennau teneuon , ac wedi deifio gan wynt y dwyrain , yn tarddu allan ar eu hôl hwynt . A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn . A deffrôdd Pharo ; ac wele breuddwyd oedd . A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu ; ac efe a anfonodd , ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi : a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion ; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo . Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo , gan ddywedyd , Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw . Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision ; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain , myfi a’r pen‐pobydd . A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos , mi ac efe : breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd . Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread , gwas i’r distain ; a ni a fynegasom iddo ef : yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion ; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe . A darfu , fel y dehonglodd i ni , felly y bu : rhodd fi eilwaith i’m swydd ; ac yntau a grogodd efe . Pharo , gan hynny , a anfonodd ac a alwodd am Joseff : hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar : yntau a eilliodd ei wallt , ac a newidiodd ei ddillad , ac a ddaeth at Pharo . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Breuddwydiais freuddwyd , ac nid oes a’i dehonglo : a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti , y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli . A Joseff a atebodd Pharo , gan ddywedyd , Nid myfi ; Duw a etyb lwyddiant i Pharo . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon . Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig , a theg yr olwg ; ac mewn gweirglodd‐dir y porent . Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt , truain , a drwg iawn yr olwg , ac yn gulion o gig : ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft . A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf . Ac er eu myned i’w boliau , ni wyddid iddynt fyned i’w boliau ; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg , megis yn y dechreuad . Yna mi a ddeffroais . Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd , ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen . Ac wele saith o dywys mân , teneuon , wedi deifio gan ddwyreinwynt , yn tyfu ar eu hôl hwynt . A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda ; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid ; ond nid oedd a’i dehonglai i mi . A dywedodd Joseff wrth Pharo , Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo . Y saith o wartheg teg , saith mlynedd ydynt ; a’r saith dywysen deg , saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw . Hefyd y saith muwch culion a drwg , y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt , saith mlynedd ydynt ; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt , a fyddant saith mlynedd o newyn . Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo : Yr hyn a wna Duw , efe a’i dangosodd i Pharo . Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr , trwy holl wlad yr Aifft . Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn ; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft : a’r newyn a ddifetha’r wlad . Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad , oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny : oblegid trwm iawn fydd . Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith , hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan Dduw , a bod Duw yn brysio i’w wneuthur . Yn awr , gan hynny , edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth , a gosoded ef ar wlad yr Aifft . Gwnaed Pharo hyn , a gosoded olygwyr ar y wlad , a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra . A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod , a chasglant ŷd dan law Pharo , a chadwant ymborth yn y dinasoedd . A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn , y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft , fel na ddifether y wlad gan y newyn . A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo , ac yng ngolwg ei holl weision . A dywedodd Pharo wrth ei weision , A gaem ni ŵr fel hwn , yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo ? Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff , Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll , nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi . Tydi a fyddi ar fy nhŷ , ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll : yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi . Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff , Edrych , gosodais di ar holl wlad yr Aifft . A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law , ac a’i rhoddes hi ar law Joseff , ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan , ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef ; Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo ; a llefwyd o’i flaen ef , Abrec : felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft . Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff , Myfi yw Pharo , ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed , trwy holl wlad yr Aifft . A Pharo a alwodd enw Joseff , Saffnath‐Panea ; ac a roddes iddo Asnath , merch Potiffera offeiriad On , yn wraig : yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft . A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft : a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo , ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft . A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau . Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft , ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd : ymborth y maes , yr hwn fyddai o amgylch pob dinas , a roddes efe i gadw ynddi . A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr , yn dra lluosog , hyd oni pheidiodd â’i rifo : oblegid yr ydoedd heb rifedi . Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn , y ganwyd i Joseff ddau fab , y rhai a ymddûg Asnath , merch Potiffera offeiriad On , iddo ef . A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig , Manasse : Oblegid ( eb efe ) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll , a thylwyth fy nhad oll . Ac efe a alwodd enw yr ail , Effraim : Oblegid ( eb efe ) Duw a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder . Darfu’r saith mlynedd o amldra , y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft . A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod , fel y dywedasai Joseff : ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd ; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara . A phan newynodd holl wlad yr Aifft , y bobl a waeddodd ar Pharo am fara : a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid , Ewch at Joseff ; yr hyn a ddywedo efe wrthych , gwnewch . Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear : a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt , ac a werthodd i’r Eifftiaid ; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft . A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Joseff i brynu ; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd . Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft , dywedodd Jacob wrth ei feibion , Paham yr edrychwch ar eich gilydd ? Dywedodd hefyd , Wele , clywais fod ŷd yn yr Aifft : ewch i waered yno , a phrynwch i ni oddi yno ; fel y bôm fyw , ac na byddom feirw . A deg brawd Joseff a aethant i waered , i brynu ŷd , i’r Aifft . Ond ni ollyngai Jacob Benjamin , brawd Joseff , gyda’i frodyr : oblegid efe a ddywedodd , Rhag digwydd niwed iddo ef . A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod ; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan . A Joseff oedd lywydd ar y wlad , ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad : a brodyr Joseff a ddaethant , ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau . A Joseff a ganfu ei frodyr , ac a’u hadnabu hwynt , ac a ymddieithrodd iddynt hwy , ac a lefarodd wrthynt yn arw , ac a ddywedodd wrthynt , O ba le y daethoch ? Hwythau a atebasant , O wlad Canaan , i brynu lluniaeth . A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr ; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef . A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy ; ac a ddywedodd wrthynt , Ysbïwyr ydych chwi ; i edrych noethder y wlad y daethoch . Hwythau a ddywedasant wrtho ef , Nage , fy arglwydd ; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth . Nyni oll ydym feibion un gŵr : gwŷr cywir ydym ni ; nid yw dy weision di ysbïwyr . Yntau a ddywedodd wrthynt hwy , Nage ; ond i edrych noethder y wlad y daethoch . Hwythau a ddywedasant , Dy weision di oedd ddeuddeg brawd , meibion un gŵr yng ngwlad Canaan : ac wele , y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni , a’r llall nid yw fyw . A Joseff a ddywedodd wrthynt , Dyma yr hyn a adroddais , wrthych , gan ddywedyd , Ysbïwyr ydych chwi . Wrth hyn y’ch profir : Myn einioes Pharo , nid ewch allan oddi yma , onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma . Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd , a rhwymer chwithau ; fel y profer eich geiriau chwi , a oes gwirionedd ynoch : oblegid onid e , myn einioes Pharo , ysbïwyr yn ddiau ydych chwi . As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau . Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt , Gwnewch hyn , fel y byddoch fyw : ofni Duw yr wyf fi . Os gwŷr cywir ydych chwi , rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy ; ac ewch chwithau , dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth . A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi : felly y cywirir eich geiriau chwi , ac ni byddwch feirw . Hwythau a wnaethant felly . Ac a ddywedasant wrth ei gilydd , Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd ; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef , pan ymbiliodd efe â ni , ac ni wrandawsom ef : am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni . A Reuben a’u hatebodd hwynt , gan ddywedyd , Oni ddywedais i wrthych , gan ddywedyd , Na phechwch yn erbyn yr herlod ; ac ni wrandawech chwi ? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef . Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall ; am fod cyfieithydd rhyngddynt . Yntau a drodd oddi wrthynt , ac a wylodd ; ac a ddaeth eilchwyl atynt , ac a lefarodd wrthynt hwy , ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon , ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt . Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd , a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach , a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd : ac felly y gwnaeth iddynt hwy . Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod , ac a aethant oddi yno . Ac un a agorodd ei sach , ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety ; ac a ganfu ei arian ; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef . Ac a ddywedodd wrth ei frodyr , Rhoddwyd adref fy arian ; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan : yna y digalonasant hwy , ac a ofnasant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Paham y gwnaeth Duw i ni hyn ? A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan ; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau , gan ddywedyd , Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni , ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad . Ninnau a ddywedasom wrtho ef , Gwŷr cywir ydym ni ; nid ysbïwyr ydym . Deuddeg o frodyr oeddem ni , meibion ein tad ni : un nid yw fyw , ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan . A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni , Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi ; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr , a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd , ac ewch ymaith . A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi , fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi , ond eich bod yn gywir : yna y rhoddaf eich brawd i chwi , a chewch farchnata yn y wlad . Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau , yna wele godaid arian pob un yn ei sach : a phan welsant y codau arian , hwynt‐hwy a’u tad , ofni a wnaethant . A Jacob , eu tad hwynt , a ddywedodd wrthynt hwy , Diblantasoch fi : Joseff nid yw fyw , a Simeon yntau nid yw fyw , a Benjamin a ddygech ymaith : yn fy erbyn i y mae hyn oll . A dywedodd Reuben wrth ei dad , gan ddywedyd , Lladd fy nau fab i , oni ddygaf ef drachefn atat ti : dyro ef yn fy llaw i , a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith . Yntau a ddywedodd , Nid â fy mab i waered gyda chwi : oblegid bu farw ei frawd , ac yntau a adawyd ei hunan : pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi , yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch . A’r newyn oedd drwm yn y wlad . A bu , wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft , ddywedyd o’u tad wrthynt hwy , Ewch eilwaith , prynwch i ni ychydig luniaeth . A Jwda a atebodd , gan ddywedyd , Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni , gan ddywedyd , Nac edrychwch yn fy wyneb , oni bydd eich brawd gyda chwi . Os anfoni ein brawd gyda ni , ni a awn i waered , ac a brynwn i ti luniaeth . Ond os ti nid anfoni , nid awn i waered ; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni , Nac edrychwch yn fy wyneb , oni bydd eich brawd gyda chwi . Ac Israel a ddywedodd , Paham y drygasoch fi , gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd ? Hwythau a ddywedasant , Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni , ac am ein cenedl , gan ddywedyd , Ai byw eich tad chwi eto ? Oes frawd arall i chwi ? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny : a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe , Dygwch eich brawd i waered ? Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel , Gollwng y bachgen gyda mi , ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith ; fel y byddom byw , ac na byddom feirw , nyni , a thithau , a’n plant hefyd . Myfi a fechnïaf amdano ef ; o’m llaw i y gofynni ef : onis dygaf ef atat ti , a’i osod ef ger dy fron di , yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth . Canys , pe na buasem hwyrfrydig , daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach . Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt , Os rhaid yn awr felly , gwnewch hyn ; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri , a dygwch yn anrheg i’r gŵr , ychydig falm , ac ychydig fêl , llysiau , a myrr , cnau , ac almonau . Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi ; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau : ond odid amryfusedd fu hynny . Hefyd cymerwch eich brawd , a chyfodwch , ewch eilwaith at y gŵr . A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr , fel y gollyngo i chwi eich brawd arall , a Benjamin : minnau fel y’m diblantwyd , a ddiblentir . A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno , a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw , a Benjamin hefyd ; a chyfodasant , ac a aethant i waered i’r Aifft , a safasant gerbron Joseff . A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt ; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ , Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ , a lladd laddfa , ac arlwya : oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd . A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff : a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff . A’r gwŷr a ofnasant , pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff ; ac a ddywedasant , Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf , y ducpwyd nyni i mewn ; i fwrw hyn arnom ni , ac i ruthro i ni , ac i’n cymryd ni yn gaethion , a’n hasynnod hefyd . A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff , ac a lefarasant wrtho , wrth ddrws y tŷ , Ac a ddywedasant , Fy arglwydd , gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth . A bu , pan ddaethom i’r llety , ac agoryd ein sachau , yna wele arian pob un yng ngenau ei sach ; ein harian ni , meddaf , yn ei bwys : ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw . Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw , i brynu lluniaeth : nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau . Yntau a ddywedodd , Heddwch i chwi ; nac ofnwch : eich Duw chwi , a Duw eich tad , a roddes i chwi drysor yn eich sachau ; daeth eich arian chwi ataf fi . Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy . A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff , ac a roddes ddwfr , a hwy a olchasant eu traed ; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt . Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd : oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara . Pan ddaeth Joseff i’r tŷ , hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ , ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr . Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd , ac a ddywedodd , Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi , yr hwn y soniasoch amdano ? ai byw efe eto ? Hwythau a ddywedasant , Iach yw dy was , ein tad ni : byw yw efe eto . Yna yr ymgrymasant , ac yr ymostyngasant . Yntau a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu ei frawd Benjamin , mab ei fam ei hun ; ac a ddywedodd , Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi , am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi ? Yna y dywedodd , Duw a roddo ras i ti , fy mab . A Joseff a frysiodd , ( oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd , ) ac a geisiodd le i wylo ; ac a aeth i mewn i’r ystafell , ac a wylodd yno . Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb , ac a ddaeth allan , ac a ymataliodd , ac a ddywedodd , Gosodwch fara . Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun , ac iddynt hwy wrthynt eu hun , ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain : oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid ; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid . Yna yr eisteddasant ger ei fron ef , y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth , a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid : a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd . Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy : a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll . Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef . Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef , gan ddywedyd , Llanw sachau’r gwŷr o fwyd , cymaint ag a allant ei ddwyn , a dod arian pob un yng ngenau ei sach . A dod fy nghwpan fy hun , sef y cwpan arian , yng ngenau sach yr ieuangaf , gydag arian ei ŷd ef . Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff , yr hwn a ddywedasai efe . Y bore a oleuodd , a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith , hwynt a’u hasynnod . Hwythau a aethant allan o’r ddinas . Ac nid aethant nepell , pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ , Cyfod , a dilyn ar ôl y gwŷr : a phan oddiweddech hwynt , dywed wrthynt , Paham y talasoch ddrwg am dda ? Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo , ac yr arferai ddewiniaeth wrtho ? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch . Yntau a’u goddiweddodd hwynt , ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy . Y rhai a ddywedasant wrtho yntau , Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau ? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth . Wele , ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau ; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di ? Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef , bydded hwnnw farw ; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd . Yntau a ddywedodd , Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi : yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi , a chwithau a fyddwch ddieuog . Hwythau a frysiasant , ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr , ac a agorasant bawb ei ffetan . Yntau a chwiliodd ; ar yr hynaf y dechreuodd , ac ar yr ieuangaf y diweddodd : a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin . Yna y rhwygasant eu dillad , ac a byniasant bawb ar ei asyn , ac a ddychwelasant i’r ddinas . A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff , ac efe eto yno ; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef . A dywedodd Joseff wrthynt , Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi ? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth ? A dywedodd Jwda , Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd ? pa beth a lefarwn ? pa fodd yr ymgyfiawnhawn ? cafodd Duw allan anwiredd dy weision : wele ni yn weision i’m harglwydd , ie nyni , a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd . Yntau a ddywedodd , Na ato Duw i mi wneuthur hyn : y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law , efe fydd was i mi ; ewch chwithau i fyny , mewn heddwch , at eich tad . Yna yr aeth Jwda ato ef , ac a ddywedodd , Fy arglwydd , caffed , atolwg , dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd , ac na enynned dy lid wrth dy was : oherwydd yr wyt ti megis Pharo . Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision , gan ddywedyd , A oes i chwi dad , neu frawd ? Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd , Y mae i ni dad , yn hen ŵr ; a phlentyn ei henaint ef , un bychan : a’i frawd a fu farw , ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef ; a’i dad sydd hoff ganddo ef . Tithau a ddywedaist wrth dy weision , Dygwch ef i waered ataf fi , fel y gosodwyf fy llygaid arno . A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd , Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad : oblegid os ymedy efe â’i dad , marw fydd ei dad . Tithau a ddywedaist wrth dy weision , Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi , nac edrychwch yn fy wyneb mwy . Bu hefyd , wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad , mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd . A dywedodd ein tad , Ewch eilwaith , prynwch i ni ychydig luniaeth . Dywedasom ninnau , Nis gallwn fyned i waered : os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni , nyni a awn i waered ; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr , oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni . A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni , Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi ; Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi ; minnau a ddywedais , Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef ; ac nis gwelais ef hyd yn hyn : Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg , a digwyddo niwed iddo ef ; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd . Bellach gan hynny , pan ddelwyf at dy was fy nhad , heb fod y llanc gyda ni ; ( gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau ; ) Yna pan welo efe na ddaeth y llanc , marw fydd efe ; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd . Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad , gan ddywedyd , Onis dygaf ef atat ti , yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth . Gan hynny weithian , atolwg , arhoseddy was dros y llanc , yn was i’m harglwydd ; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr : Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad , a’r llanc heb fod gyda mi ? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad . Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef : ac efe a lefodd , Perwch allan bawb oddi wrthyf . Yna nid arhosodd neb gydag ef , pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr . Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain : a chlybu’r Eifftiaid , a chlybu tŷ Pharo . A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr , Myfi yw Joseff : ai byw fy nhad eto ? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo ; oblegid brawychasent ger ei fron ef . Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr , Dyneswch , atolwg , ataf fi . Hwythau a ddynesasant . Yntau a ddywedodd , Myfi yw Joseff eich brawd chwi , yr hwn a werthasoch i’r Aifft . Weithian gan hynny na thristewch , ac na ddigiwch wrthych eich hunain , am werthu ohonoch fyfi yma ; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi . Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad ; ac fe a fydd eto bum mlynedd , y rhai a fydd heb nac âr na medi . A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi , i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad , ac i beri bywyd i chwi , trwy fawr ymwared . Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma , ond Duw : ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo , ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef , ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft . Brysiwch , ac ewch i fyny at fy nhad , a dywedwch wrtho , Fel hyn y dywed dy fab Joseff : Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft : tyred i waered ataf ; nac oeda : A chei drigo yng ngwlad Gosen , a bod yn agos ataf fi , ti a’th feibion , a meibion dy feibion , a’th ddefaid , a’th wartheg , a’r hyn oll sydd gennyt : Ac yno y’th borthaf ; ( oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto ; ) rhag dy fyned mewn tlodi , ti , a’th deulu , a’r hyn oll sydd gennyt . Ac wele eich llygaid chwi , a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled , mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych . Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft , a’r hyn oll a welsoch ; brysiwch hefyd , a dygwch fy nhad i waered yma . Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin , ac a wylodd ; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau . Ac efe a gusanodd ei holl frodyr , ac a wylodd arnynt : ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef . A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo , gan ddywedyd , Brodyr Joseff a ddaethant : a da oedd hyn yng ngolwg Pharo , ac yng ngolwg ei weision . A Pharo a ddywedodd wrth Joseff , Dywed wrth dy frodyr , Gwnewch hyn ; Llwythwch eich ysgrubliaid , a cherddwch , ac ewch i wlad Canaan ; A chymerwch eich tad , a’ch teuluoedd , a deuwch ataf fi : a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft , a chewch fwyta braster y wlad . Gorchymyn yn awr a gefaist , gwnewch hyn : cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach , ac i’ch gwragedd ; a chymerwch eich tad , a deuwch . Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn ; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi . A meibion Israel a wnaethant felly : a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau , yn ôl gorchymyn Pharo , a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd . I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad : ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian , a phum pâr o ddillad . Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn ; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft , a deg o asennod yn dwyn ŷd , bara , a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd . Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr : a hwy a aethant ymaith : ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Nac ymrysonwch ar y ffordd . Felly yr aethant i fyny o’r Aifft , ac a ddaethant i wlad Canaan , at eu tad Jacob ; Ac a fynegasant iddo , gan ddywedyd , Y mae Joseff eto yn fyw , ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft . Yna y llesgaodd ei galon yntau ; oblegid nid oedd yn eu credu . Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff , y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy . A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef , yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt . A dywedodd Israel , Digon ydyw ; y mae Joseff fy mab eto yn fyw : af , fel y gwelwyf ef cyn fy marw . Yna y cychwynnodd Israel , a’r hyn oll oedd ganddo , ac a ddaeth i Beer‐seba , ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac . A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos , ac a ddywedodd , Jacob , Jacob . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Duw , Duw dy dad : nac ofna fyned i waered i’r Aifft ; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr . Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft ; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn : Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di . A chyfododd Jacob o Beer‐seba : a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad , a’u rhai bach , a’u gwragedd , yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef . Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid , a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan , ac a ddaethant i’r Aifft , Jacob , a’i holl had gydag ef : Ei feibion , a meibion ei feibion gydag ef , ei ferched , a merched ei feibion , a’i holl had , a ddug efe gydag ef i’r Aifft . A dyma enwau plant Israel , y rhai a ddaethant i’r Aifft , Jacob a’i feibion : Reuben , cynfab Jacob . A meibion Reuben ; Hanoch , a Phalu , Hesron hefyd , a Charmi . A meibion Simeon ; Jemwel , a Jamin , ac Ohad , a Jachin , a Sohar , a Saul mab Canaanëes . Meibion Lefi hefyd ; Gerson , Cohath , a Merari . A meibion Jwda ; Er , ac Onan , a Sela , Phares hefyd , a Sera : a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan . A meibion Phares oedd Hesron a Hamul . Meibion Issachar hefyd ; Tola , a Phufa , a Job , a Simron . A meibion Sabulon ; Sered , ac Elon , a Jaleel . Dyma feibion Lea , y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia , a Dina ei ferch : ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain . A meibion Gad ; Siffion , a Haggi , Suni , ac Esbon , Eri , ac Arodi , ac Areli . A meibion Aser ; Jimna , ac Isua , ac Isui , a Bereia , a Sera eu chwaer hwynt . A meibion Bereia ; Heber a Malchiel . Dyma feibion Silpa , yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch : a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob , sef un dyn ar bymtheg . Meibion Rahel , gwraig Jacob , oedd Joseff a Benjamin . Ac i Joseff y ganwyd , yn nhir yr Aifft , Manasse ac Effraim , y rhai a blantodd Asnath , merch Potiffera offeiriad On , iddo ef . A meibion Benjamin ; Bela , a Becher , ac Asbel , Gera , a Naaman , Ehi , a Ros , Muppim , a Huppim , ac Ard . Dyma feibion Rahel , y rhai a blantodd hi i Jacob ; yn bedwar dyn ar ddeg oll . A meibion Dan oedd Husim . A meibion Nafftali ; Jahseel , a Guni , a Jeser , a Silem . Dyma feibion Bilha , yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch : a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob , yn saith dyn oll . Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft , yn dyfod allan o’i lwynau ef , heblaw gwragedd meibion Jacob , oeddynt oll chwe enaid a thrigain . A meibion Joseff , y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft , oedd ddau enaid : holl eneidiau tŷ Jacob , y rhai a ddaethant i’r Aifft , oeddynt ddeg a thrigain . Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff , i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen : yna y daethant i dir Gosen . A Joseff a baratôdd ei gerbyd , ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen ; ac a ymddangosodd iddo : ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd . A dywedodd Israel wrth Joseff , Byddwyf farw bellach , wedi i mi weled dy wyneb , gan dy fod di yn fyw eto . A dywedodd Joseff wrth ei frodyr , ac wrth deulu ei dad , Mi a af i fyny , ac a fynegaf i Pharo , ac a ddywedaf wrtho , Fy mrodyr , a theulu fy nhad , y rhai oedd yn nhir Canaan , a ddaethant ataf fi . A’r gwŷr , bugeiliaid defaid ydynt : canys perchen anifeiliaid ydynt ; a dygasant yma eu praidd , a’u gwartheg , a’r hyn oll oedd ganddynt . A phan alwo Pharo amdanoch , a dywedyd , Beth yw eich gwaith ? Dywedwch , Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon , nyni a’n tadau hefyd ; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen : canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid . Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo , ac a ddywedodd , Fy nhad , a’m brodyr , a’u defaid , a’u gwartheg , a’r hyn oll oedd ganddynt , a ddaethant o dir Canaan ; ac wele hwynt yn nhir Gosen . Ac efe a gymerth rai o’i frodyr , sef pum dyn , ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo . A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef , Beth yw eich gwaith chwi ? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo , Bugeiliaid defaid yw dy weision , nyni a’n tadau hefyd . Dywedasant hefyd wrth Pharo , I orymdaith yn y wlad y daethom , am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision ; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan : ac yr awr hon , atolwg , caed dy weision drigo yn nhir Gosen . A llefarodd Pharo wrth Joseff , gan ddywedyd , Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat . Tir yr Aifft sydd o’th flaen ; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad ; trigant yn nhir Gosen : ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus , gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi . A dug Joseff Jacob ei dad , ac a’i gosododd gerbron Pharo : a Jacob a fendithiodd Pharo . A dywedodd Pharo wrth Jacob , Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di ? A Jacob a ddywedodd wrth Pharo , Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd : ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes , ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt . A bendithiodd Jacob Pharo , ac a aeth allan o ŵydd Pharo . A Joseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr , ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft , yng nghwr gorau y wlad , yn nhir Rameses , fel y gorchmynasai Pharo . Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad , a’i frodyr , a holl dylwyth ei dad , â bara , yn ôl eu teuluoedd . Ac nid oedd bara yn yr holl wlad : canys y newyn oedd drwm iawn ; fel yr oedd gwlad yr Aifft , a gwlad Canaan , yn dyddfu gan y newyn . Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft , ac yn nhir Canaan , am yr ymborth a brynasent hwy : a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo . Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft , ac yng ngwlad Canaan , yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff , gan ddywedyd , Moes i ni fara : canys paham y byddem ni feirw ger dy fron ? oherwydd darfu’r arian . A dywedodd Joseff , Moeswch eich anifeiliaid ; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid , os darfu’r arian . A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff : a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch , ac am y diadelloedd defaid , ac am y gyrroedd gwartheg , ac am yr asynnod ; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara , am eu holl anifeiliaid , dros y flwyddyn honno . A phan ddarfu’r flwyddyn honno , y daethant ato ef yr ail flwyddyn , ac a ddywedasant wrtho , Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian , a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd ; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir . Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid , nyni a’n tir ? prŷn ni a’n tir am fara ; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo : dod dithau i ni had , fel y byddom fyw , ac na fyddom feirw , ac na byddo’r tir yn anghyfannedd . A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo : canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes ; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt : felly yr aeth y tir i Pharo . Y bobl hefyd , efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd , o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall . Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe : canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo , a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy ; am hynny ni werthasant hwy eu tir . Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl , Wele , prynais chwi heddiw , a’ch tir , i Pharo : wele i chwi had , heuwch chwithau y tir . A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd ; a bydd y pedair rhan i chwi , yn had i’r maes , ac yn ymborth i chwi , ac i’r rhai sydd yn eich tai , ac yn fwyd i’ch rhai bach . A dywedasant , Cedwaist ni yn fyw : gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd , a byddwn weision i Pharo . A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft , gael o Pharo y bumed ran ; ond o dir yr offeiriaid yn unig , yr hwn nid oedd eiddo Pharo . Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen , ac a gawsant feddiannau ynddi ; cynyddasant hefyd , ac amlhasant yn ddirfawr . Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg ; felly yr oedd dyddiau Jacob , sef blynyddoedd ei einioes ef , yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd . A dyddiau Israel a nesasant i farw : ac efe a alwodd am ei fab Joseff , ac a ddywedodd wrtho , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg , gosod , atolwg , dy law dan fy morddwyd , a gwna â mi drugaredd a gwirionedd ; na chladd fi , atolwg , yn yr Aifft : Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau ; yna dwg fi allan o’r Aifft , a chladd fi yn eu beddrod hwynt . Yntau a ddywedodd , Mi a wnaf yn ôl dy air . Ac efe a ddywedodd , Twng wrthyf . Ac efe a dyngodd wrtho . Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely . A bu , wedi’r pethau hyn , ddywedyd o un wrth Joseff , Wele , y mae dy dad yn glaf . Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef , Manasse ac Effraim . A mynegodd un i Jacob , ac a ddywedodd , Wele dy fab Joseff yn dyfod atat . Ac Israel a ymgryfhaodd , ac a eisteddodd ar y gwely . A dywedodd Jacob wrth Joseff , Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus , yng ngwlad Canaan , ac a’m bendithiodd : Dywedodd hefyd wrthyf , Wele , mi a’th wnaf yn ffrwythlon , ac a’th amlhaf , ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf , a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di , yn etifeddiaeth dragwyddol . Ac yr awr hon , dy ddau fab , y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft , cyn fy nyfod atat i’r Aifft , eiddof fi fyddant hwy : Effraim a Manasse fyddant eiddof fi , fel Reuben a Simeon . A’th epil , y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt , fyddant eiddot ti dy hun ; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth . A phan ddeuthum i o Mesopotamia , bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan , ar y ffordd , pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath : a chleddais hi yno ar ffordd Effrath : honno yw Bethlehem . A gwelodd Israel feibion Joseff , ac a ddywedodd , Pwy yw y rhai hyn ? A Joseff a ddywedodd wrth ei dad , Dyma fy meibion i , a roddodd Duw i mi yma . Yntau a ddywedodd , Dwg hwynt , atolwg , ataf fi , a mi a’u bendithiaf hwynt . Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint , fel na allai efe weled ; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef : yntau a’u cusanodd hwynt , ac a’u cofleidiodd . Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff , Ni feddyliais weled dy wyneb ; eto , wele , parodd Duw i mi weled dy had hefyd . A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef , ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb . Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau , Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel , a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel ; ac a’u nesaodd hwynt ato ef . Ac Israel a estynnodd ei law ddeau , ac a’i gosododd ar ben Effraim , ( a hwn oedd yr ieuangaf , ) a’i law aswy ar ben Manasse : gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod ; canys Manasse oedd y cynfab . Ac efe a fendithiodd Joseff , ac a ddywedodd , Duw , yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron , Duw , yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf , hyd y dydd hwn , Yr angel yr hwn a’m gwaredodd i oddi wrth bob drwg , a fendithio’r llanciau ; fy enw hefyd , ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac , a alwer arnynt : heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad . Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim , bu anfodlon ganddo : ac efe a ddaliodd law ei dad , i’w symud hi oddi ar ben Effraim , ar ben Manasse . Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad , Nid felly , fy nhad : canys dyma’r cynfab , gosod dy law ddeau ar ei ben ef . A’i dad a omeddodd , ac a ddywedodd , Mi a wn , fy mab , mi a wn : bydd hwn hefyd yn bobl , a mawr fydd hwn hefyd ; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef , a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd . Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Ynot ti y bendithia Israel , gan ddywedyd , Gwnaed Duw di fel Effraim , ac fel Manasse . Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse . Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff , Wele fi yn marw ; a bydd Duw gyda chwi , ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau . A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr , yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa . Yna y galwodd Jacob ar ei feibion , ac a ddywedodd , Ymgesglwch , fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf . Ymgesglwch , a chlywch , meibion Jacob ; ie , gwrandewch ar Israel eich tad . Reuben fy nghynfab , tydi oedd fy ngrym , a dechreuad fy nerth , rhagoriaeth braint , a rhagoriaeth cryfder . Ansafadwy oeddit fel dwfr : ni ragori di ; canys dringaist wely dy dad : yna yr halogaist ef : fy ngwely a ddringodd . Simeon a Lefi sydd frodyr ; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau . Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt : fy ngogoniant , na fydd un â’u cynulleidfa hwynt : canys yn eu dig y lladdasant ŵr , ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer . Melltigedig fyddo eu dig , canys tost oedd ; a’u llid , canys creulon fu : rhannaf hwynt yn Jacob , a gwasgaraf hwynt yn Israel . Tithau , Jwda , dy frodyr a’th glodforant di : dy law fydd yng ngwar dy elynion ; meibion dy dad a ymgrymant i ti . Cenau llew wyt ti , Jwda ; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny , fy mab : ymgrymodd , gorweddodd fel llew , ac fel hen lew : pwy a’i cyfyd ef ? Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda , na deddfwr oddi rhwng ei draed ef , hyd oni ddêl Seilo ; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd . Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden , a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden : golchodd ei wisg mewn gwin , a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin . Coch fydd ei lygaid gan win , a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth . Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr ; ac efe a fydd yn borthladd llongau , a’i derfyn fydd hyd Sidon . Issachar sydd asyn asgyrnog , yn gorwedd rhwng dau bwn . Ac a wêl lonyddwch mai da yw , a’r tir mai hyfryd : efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn , ac a fydd yn gaeth dan deyrnged . Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel . Dan fydd sarff ar y ffordd , a neidr ar y llwybr ; yn brathu sodlau’r march , fel y syrthio ei farchog yn ôl . Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais , Arglwydd . Gad , llu a’i gorfydd ; ac yntau a orfydd o’r diwedd . O Aser bras fydd ei fwyd ef , ac efe a rydd ddanteithion brenhinol . Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng , yn rhoddi geiriau teg . Joseff fydd gangen ffrwythlon , cangen ffrwythlon wrth ffynnon , ceinciau yn cerdded ar hyd mur . A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef , ac a saethasant , ac a’i casasant ef . Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf , a breichiau ei ddwylo a gryfhasant , trwy ddwylo grymus Dduw Jacob : oddi yno y mae y bugail , maen Israel : Trwy Dduw dy dad , yr hwn a’th gynorthwya , a’r Hollalluog , yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod , â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod , â bendithion y bronnau a’r groth . Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni , hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb : byddant ar ben Joseff , ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr . Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd : y bore y bwyty’r ysglyfaeth , a’r hwyr y rhan yr ysbail . Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll ; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt , ac y bendithiodd efe hwynt : pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt . Yna y gorchmynnodd efe iddynt , ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a gesglir at fy mhobl : cleddwch fi gyda’m tadau , yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad ; Yn yr ogof sydd ym maes Machpela , yr hon sydd o flaen Mamre , yng ngwlad Canaan , yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad , yn feddiant beddrod . Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig ; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig ; ac yno y cleddais i Lea . Meddiant y maes , a’r ogof sydd ynddo , a gaed gan feibion Heth . Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion , efe a dynnodd ei draed i’r gwely , ac a fu farw ; a chasglwyd ef at ei bobl . Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad , ac a wylodd arno ef , ac a’i cusanodd ef . Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision , y meddygon , berarogli ei dad ef : felly y meddygon a beraroglasant Israel . Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod , ( canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir , ) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain . Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio , yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo , gan ddywedyd , Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg , lleferwch wrth Pharo , atolwg , gan ddywedyd , Fy nhad a’m tyngodd , gan ddywedyd , Wele fi yn marw : yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan , yno y’m cleddi . Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny , atolwg , fel y claddwyf fy nhad ; yna mi a ddychwelaf . A dywedodd Pharo , Dos i fyny , a chladd dy dad , fel y’th dyngodd . A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad : a holl weision Pharo , sef henuriaid ei dŷ ef , a holl henuriaid gwlad yr Aifft , a aethant i fyny gydag ef , A holl dŷ Joseff , a’i frodyr , a thŷ ei dad : eu rhai bach yn unig , a’u defaid , a’u gwartheg , a adawsant yn nhir Gosen . Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau , a gwŷr meirch hefyd : ac yr oedd yn llu mawr iawn . A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad , yr hwn sydd dros yr Iorddonen ; ac a alarasant yno alar mawr , a thrwm iawn : canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod . Pan welodd y Canaaneaid , y rhai oedd yn preswylio yn y wlad , y galar yn llawr dyrnu Atad ; yna y dywedasant , Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid : am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim , yr hwn sydd dros yr Iorddonen . A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt . Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan , ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela : yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes , yn feddiant beddrod , gan Effron yr Hethiad , o flaen Mamre . A dychwelodd Joseff i’r Aifft , efe , a’i frodyr , a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad , wedi iddo gladdu ei dad . Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad , hwy a ddywedasant , Joseff ond odid a’n casâ ni , a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef . A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd , Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth Joseff ; Atolwg , maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr , a’u pechod hwynt ; canys gwnaethant i ti ddrwg : ond yr awr hon , maddau , atolwg , gamwedd gweision Duw dy dad . Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho . A’i frodyr a ddaethant hefyd , ac a syrthiasant ger ei fron ef ; ac a ddywedasant , Wele ni yn weision i ti . A dywedodd Joseff wrthynt , Nac ofnwch ; canys a ydwyf fi yn lle Duw ? Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn ; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni , i ddwyn i ben , fel y gwelir heddiw , i gadw yn fyw bobl lawer . Am hynny , nac ofnwch yr awr hon : myfi a’ch cynhaliaf chwi , a’ch rhai bach . Ac efe a’u cysurodd hwynt , ac a lefarodd wrth fodd eu calon . A Joseff a drigodd yn yr Aifft , efe , a theulu ei dad : a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg . Gwelodd Joseff hefyd , o Effraim , orwyrion : maethwyd hefyd blant Machir , fab Manasse , ar liniau Joseff . A dywedodd Joseff wrth ei frodyr , Myfi sydd yn marw : a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi , ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon , i’r wlad a dyngodd efe i Abraham , i Isaac , ac i Jacob . A thyngodd Joseff feibion Israel , gan ddywedyd , Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi ; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma . A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant : a hwy a’i peraroglasant ef ; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft . </passage></reply></GetPassage>