<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:10</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:10</urn><passage>Ac ar ôl marwolaeth Saul , pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid , wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag ; Yna y trydydd dydd , wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul , a’i ddillad wedi eu rhwygo , a phridd ar ei ben : a phan ddaeth efe at Dafydd , efe a syrthiodd i lawr , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd wrtho ef , O ba le y daethost ti ? Yntau a ddywedodd wrtho , O wersyll Israel y dihengais i . A dywedodd Dafydd wrtho ef , Pa fodd y bu ? mynega , atolwg , i mi . Yntau a ddywedodd , Y bobl a ffodd o’r rhyfel , a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd , ac a fuant feirw ; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw . A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo , Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab ? A’r llanc , yr hwn oedd yn mynegi iddo , a ddywedodd , Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa ; ac wele , Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon : wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef . Ac efe a edrychodd o’i ôl , ac a’m canfu i , ac a alwodd arnaf fi . Minnau a ddywedais , Wele fi . Dywedodd yntau wrthyf , Pwy wyt ti ? Minnau a ddywedais wrtho , Amaleciad ydwyf fi . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Saf , atolwg , arnaf , a lladd fi : canys cyfyngder a ddaeth arnaf , oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto . Felly mi a sefais arno ef , ac a’i lleddais ef ; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo : a chymerais y goron oedd ar ei ben ef , a’r freichled oedd am ei fraich ef , ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd . Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad , ac a’u rhwygodd hwynt ; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef . Galarasant hefyd , ac wylasant , ac ymprydiasant hyd yr hwyr , am Saul ac am Jonathan ei fab , ac am bobl yr Arglwydd , ac am dŷ Israel ; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf . A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo , O ba le yr hanwyt ti ? Yntau a ddywedodd , Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi . A dywedodd Dafydd wrtho , Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd ? A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision , ac a ddywedodd , Nesâ , rhuthra iddo ef . Ac efe a’i trawodd ef , fel y bu efe farw . A dywedodd Dafydd wrtho ef , Bydded dy waed di ar dy ben dy hun : canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn , gan ddywedyd , Myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd . A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab : ( Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa : wele , y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser . ) O ardderchowgrwydd Israel , efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di : pa fodd y cwympodd y cedyrn ! Nac adroddwch hyn yn Gath ; na fynegwch yn heolydd Ascalon : rhag llawenychu merched y Philistiaid , rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig . O fynyddoedd Gilboa , na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw , na meysydd o offrymau ! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus , tarian Saul , fel pe buasai heb ei eneinio ag olew . Oddi wrth waed y lladdedigion , oddi wrth fraster y cedyrn , ni throdd bwa Jonathan yn ôl , a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag . Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd , ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt : cynt oeddynt na’r eryrod , a chryfach oeddynt na’r llewod . Merched Israel , wylwch am Saul , yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad , gyda hyfrydwch , yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi . Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel ! Jonathan , ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd . Gofid sydd arnaf amdanat ti , fy mrawd Jonathan : cu iawn fuost gennyf fi : rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi , tu hwnt i gariad gwragedd . Pa fodd y syrthiodd y cedyrn , ac y difethwyd arfau rhyfel ! Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef , Dos i fyny . A dywedodd Dafydd , I ba le yr af i fyny ? Dywedodd yntau , I Hebron . A Dafydd a aeth i fyny yno , a’i ddwy wraig hefyd , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad . A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef , pob un â’i deulu : a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron . A gwŷr Jwda a ddaethant , ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda . A mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul . A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead , ac a ddywedodd wrthynt , Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd , y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul , ac a’i claddasoch ef . Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd a gwirionedd : minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn , oblegid i chwi wneuthur y peth hyn . Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo , a byddwch feibion grymus : canys marw a fu eich arglwydd Saul , a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt . Ond Abner mab Ner , tywysog y filwriaeth oedd gan Saul , a gymerth Isboseth mab Saul , ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim ; Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead , ac ar yr Assuriaid , ac ar Jesreel , ac ar Effraim , ac ar Benjamin , ac ar holl Israel . Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul , pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel ; a dwy flynedd y teyrnasodd efe . Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd . A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda , oedd saith mlynedd a chwe mis . Ac Abner mab Ner , a gweision Isboseth mab Saul , a aethant allan o Mahanain i Gibeon . Joab hefyd mab Serfia , a gweision Dafydd , a aethant allan , ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon : a hwy a eisteddasant wrth y llyn , rhai o’r naill du , a’r lleill wrth y llyn o’r tu arall . Ac Abner a ddywedodd wrth Joab , Cyfoded yn awr y llanciau , a chwaraeant ger ein bronnau ni . A dywedodd Joab , Cyfodant . Yna y cyfodasant , ac yr aethant drosodd dan rif , deuddeg o Benjamin , sef oddi wrth Isboseth mab Saul , a deuddeg o weision Dafydd . A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd , ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill ; felly y cydsyrthiasant hwy . Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim , yn Gibeon . A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw ; a thrawyd Abner , a gwŷr Israel , o flaen gweision Dafydd . A thri mab Serfia oedd yno , Joab , ac Abisai , ac Asahel : ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes . Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner ; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy , oddi ar ôl Abner . Yna Abner a edrychodd o’i ôl , ac a ddywedodd , Ai tydi yw Asahel ? A dywedodd yntau , Ie , myfi . A dywedodd Abner wrtho ef , Tro ar dy law ddeau , neu ar dy law aswy , a dal i ti un o’r llanciau , a chymer i ti ei arfau ef . Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef . Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel , Cilia oddi ar fy ôl i : paham y trawaf di i lawr ? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny ? Ond efe a wrthododd ymado . Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais , a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo ; ac efe a syrthiodd yno , ac a fu farw yn ei le : a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo , ac y buasai farw , a safasant . Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner : pan fachludodd yr haul , yna y daethant hyd fryn Amma , yr hwn sydd gyferbyn â Gia , tuag anialwch Gibeon . A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner , ac a aethant yn un fintai , ac a safasant ar ben bryn . Yna Abner a alwodd ar Joab , ac a ddywedodd , Ai byth y difa y cleddyf ? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd ? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr ? A dywedodd Joab , Fel mai byw Duw , oni buasai yr hyn a ddywedaist , diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny , bob un oddi ar ôl ei frawd . Felly Joab a utganodd mewn utgorn ; a’r holl bobl a safasant , ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel , ac ni chwanegasant ymladd mwyach . Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno , ac a aethant dros yr Iorddonen , ac a aethant trwy holl Bithron , a daethant i Mahanaim . A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner : ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd , yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg , ac Asahel . A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin , ac o wŷr Abner , dri chant a thrigain gŵr , fel y buant feirw . A hwy a gymerasant Asahel , ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad , yr hwn oedd ym Methlehem . A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos , ac yn Hebron y goleuodd arnynt . A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd : a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach , ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach . A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron : a’i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon , o Ahinoam y Jesreeles ; A’i ail fab oedd Chileab , o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad ; a’r trydydd , Absalom , mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur ; A’r pedwerydd , Adoneia , mab Haggith ; a’r pumed , Seffatia , mab Abital : A’r chweched , Ithream , o Egla gwraig Dafydd . Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron . A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd , yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul . Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa , merch Aia : ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner , Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad ? Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth , ac a ddywedodd , Ai pen ci ydwyf fi , yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di , â’i frodyr , ac â’i gyfeillion , a heb dy roddi di yn llaw Dafydd , pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw ? Fel hyn y gwnelo Duw i Abner , ac fel hyn y chwanego iddo , onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Dafydd , felly y gwnaf iddo ef ; Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul , a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel , ac ar Jwda , o Dan hyd Beer‐seba . Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner , rhag ei ofn ef . Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun , gan ddywedyd , Eiddo pwy yw y wlad ? a chan ddywedyd , Gwna gynghrair â mi ; ac wele , fy llaw i fydd gyda thi , i droi atat ti holl Israel . A dywedodd yntau , Da ; myfi a wnaf gyfamod â thi : eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt , gan ddywedyd , Ni weli fy wyneb , oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul , pan ddelych i edrych yn fy wyneb . A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul , gan ddywedyd , Dyro i mi fy ngwraig Michal , yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid . Ac Isboseth a anfonodd , ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr , sef oddi wrth Phaltiel mab Lais . A’i gŵr a aeth gyda hi , gan fyned ac wylo ar ei hôl hi , hyd Bahurim . Yna y dywedodd Abner wrtho ef , Dos , dychwel . Ac efe a ddychwelodd . Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel , gan ddywedyd , Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch . Ac yn awr gwnewch hynny : canys yr Arglwydd a lefarodd am Dafydd , gan ddywedyd , Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid , ac o law eu holl elynion . Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin : ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron , am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel , ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin . Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron , ac ugeinwr gydag ef . A Dafydd a wnaeth wledd i Abner , ac i’r gwŷr oedd gydag ef . A dywedodd Abner wrth Dafydd , Mi a gyfodaf ac a af , ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin , fel y gwnelont gyfamod â thi , ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon . A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith ; ac efe a aeth mewn heddwch . Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf , ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt : ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron ; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith , ac yntau a aethai mewn heddwch . Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef , mynegwyd i Joab , gan ddywedyd , Abner mab Ner a ddaeth at y brenin ; ac efe a’i gollyngodd ef ymaith , ac efe a aeth mewn heddwch . A Joab a ddaeth at y brenin , ac a ddywedodd , Beth a wnaethost ti ? wele , daeth Abner atat ti ; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith ? Ti a adwaenit Abner mab Ner , mai i’th dwyllo di y daeth efe , ac i wybod dy fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur . A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd , ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner ; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira , heb wybod i Dafydd . A phan ddychwelodd Abner i Hebron , Joab a’i trodd ef o’r neilltu yn y porth , i ymddiddan ag ef mewn heddwch ; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais , fel y bu efe farw , oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef . Ac wedi hynny y clybu Dafydd , ac y dywedodd , Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth , oddi wrth waed Abner mab Ner : Syrthied ar ben Joab , ac ar holl dŷ ei dad ef : fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd , neu yn wahanglwyfus , neu yn ymgynnal wrth fagl , neu yn syrthio ar gleddyf , neu mewn eisiau bara . Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner , oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon . A Dafydd a ddywedodd wrth Joab , ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef , Rhwygwch eich dillad , ac ymwregyswch mewn sachliain , a galerwch o flaen Abner . A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor . A hwy a gladdasant Abner yn Hebron . A’r brenin a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd wrth fedd Abner ; a’r holl bobl a wylasant . A’r brenin a alarnadodd am Abner , ac a ddywedodd , Ai fel y mae yr ynfyd yn marw , y bu farw Abner ? Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym , ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd : syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir . A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef . A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara , a hi eto yn ddydd , Dafydd a dyngodd , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , os archwaethaf fara , na dim oll , nes machludo’r haul . A’r holl bobl a wybuant hynny , a da oedd hyn yn eu golwg hwynt : a’r hyn oll a wnâi y brenin , oedd dda yng ngolwg y bobl . A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw , na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner . A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision , Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel ? A minnau ydwyf eiddil heddiw , er fy eneinio yn frenin ; a’r gwŷr hyn , meibion Serfia , sydd ry galed i mi . Yr Arglwydd a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni . Aphan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron , ei ddwylo a laesasant , a holl Israel a ofnasant . A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd : enw un oedd Baana , ac enw yr ail Rechab , meibion Rimmon y Beerothiad , o feibion Benjamin : ( canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin : A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim , ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn . ) Ac i Jonathan , mab Saul , yr oedd mab cloff o’i draed . Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel ; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd : a bu , wrth frysio ohoni i ffoi , iddo ef syrthio , fel y cloffodd efe . A’i enw ef oedd Meffiboseth . A meibion Rimmon y Beerothiad , Rechab a Baana , a aethant ac a ddaethant , pan wresogasai y dydd , i dŷ Isboseth ; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd . Ac wele , hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ , fel rhai yn prynu gwenith ; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen : a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant . A phan ddaethant i’r tŷ , yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely : a hwy a’i trawsant ef , ac a dorasant ei ben ef ; ac a gymerasant ei ben ef , ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos . A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron ; ac a ddywedasant wrth y brenin , Wele ben Isboseth mab Saul , dy elyn di , yr hwn a geisiodd dy einioes di : a’r Arglwydd a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul , ac ar ei had . A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd , meibion Rimon y Beerothiad , ac a ddywedodd wrthynt , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra , Pan fynegodd un i mi , gan ddywedyd , Wele , bu farw Saul , ( ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl , ) mi a ymeflais ynddo , ac a’i lleddais ef yn Siclag , yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl : Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ , ar ei wely ? Yn awr , gan hynny , oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi ? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear ? A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau ; a hwy a’u lladdasant hwy , ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed , ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron . Ond pen Isboseth a gymerasant hwy , ac a’i claddasant ym meddrod Abner , yn Hebron . Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron , ac a lefarasant , gan ddywedyd , Wele , dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni . Cyn hyn hefyd , pan oedd Saul yn frenin arnom ni , ti oeddit yn arwain Israel allan , ac yn eu dwyn i mewn : a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti , Ti a borthi fy mhobl Israel , a thi a fyddi yn flaenor ar Israel . Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron : a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron , gerbron yr Arglwydd : a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel . Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu ; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe . Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis : ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda . A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem , at y Jebusiaid , preswylwyr y wlad : y rhai a lefarasant wrth Dafydd , gan ddywedyd , Ni ddeui di yma , oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion : gan dybied , Ni ddaw Dafydd yma . Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion : honno yw dinas Dafydd . A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw , Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter , ac a drawo’r Jebusiaid , a’r cloffion , a’r deillion , y rhai sydd gas gan enaid Dafydd , hwnnw fydd blaenor . Am hynny y dywedasant , Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ . A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa , ac a’i galwodd hi , Dinas Dafydd . A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch , o Milo ac oddi mewn . A Dafydd a aeth rhagddo , ac a gynyddodd yn fawr ; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef . A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd , a choed cedr , a seiri prennau , a seiri meini : a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd . A gwybu Dafydd i’r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel , a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel . A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem , wedi iddo ddyfod o Hebron : a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched . A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem ; Sammua , a Sobab , a Nathan , a Solomon , Ibhar hefyd , ac Elisua , a Neffeg , a Jaffia , Elisama hefyd , ac Eliada , ac Eliffalet . Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel , yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd . A Dafydd a glybu , ac a aeth i waered i’r amddiffynfa . A’r Philistiaid a ddaethant , ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi i fyny at y Philistiaid ? a roddi di hwynt yn fy llaw i ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd , Dos i fyny : canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di . A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim ; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno ; ac a ddywedodd , Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i , megis gwahanu dyfroedd . Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw , Baal‐perasim . Ac yno y gadawsant hwy eu delwau ; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt . A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny , ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd ; ac efe a ddywedodd , Na ddos i fyny : amgylchyna o’r tu ôl iddynt , a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd . A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd , yna ymegnïa : canys yna yr Arglwydd a â allan o’th flaen di , i daro gwersyll y Philistiaid . A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef ; ac a drawodd y Philistiaid o Geba , hyd oni ddelech i Gaser . A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel , sef deng mil ar hugain . A Dafydd a gyfododd , ac a aeth , a’r holl bobl oedd gydag ef , o Baale Jwda , i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw ; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid . A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd ; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea : Ussa hefyd ac Ahio , meibion Abinadab , oedd yn gyrru y fen newydd . A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea , gydag arch Duw ; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch . Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd , â phob offer o goed ffynidwydd , sef â thelynau , ac â nablau , ac â thympanau , ac ag utgyrn , ac â symbalau . A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon , Ussa a estynnodd ei law at arch Duw , ac a ymaflodd ynddi hi ; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd . A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa : a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn ; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw . A bu ddrwg gan Dafydd , am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa : ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa , hyd y dydd hwn . A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw ; ac a ddywedodd , Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi ? Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd : ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad . Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis : a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom , a’i holl dŷ . A mynegwyd i’r brenin Dafydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom , a’r hyn oll oedd ganddo , er mwyn arch Duw . Yna Dafydd a aeth , ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom , i ddinas Dafydd , mewn llawenydd . A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau , yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion . A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd ; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain . Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd , trwy floddest , a sain utgorn . Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd , yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr , ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio , ac yn llemain o flaen yr Arglwydd ; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon . A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd , ac a’i gosodasant yn ei lle , yng nghanol y babell , yr hon a osodasai Dafydd iddi . A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd . Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd , efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd . Ac efe a rannodd i’r holl bobl , sef i holl dyrfa Israel , yn ŵr ac yn wraig , i bob un deisen o fara , ac un dryll o gig , ac un gostrelaid o win . Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun . Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ : a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd ; ac a ddywedodd , O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw , yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision , fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg . A dywedodd Dafydd wrth Michal , Gerbron yr Arglwydd , yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di , ac o flaen ei holl dŷ ef , gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd , ar Israel , y chwaraeais : a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd . Byddaf eto waelach na hyn , a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun : a chyda’r llawforynion , am y rhai y dywedaist wrthyf , y’m gogoneddir . Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth . Aphan eisteddodd y brenin yn ei dŷ , a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch : Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd , Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd , ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau . A Nathan a ddywedodd wrth y brenin , Dos , gwna yr hyn oll sydd yn dy galon : canys yr Arglwydd sydd gyda thi . A bu , y noson honno , i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth fy ngwas Dafydd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ , lle y cyfanheddwyf fi ? Canys nid arhosais mewn tŷ , er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft , hyd y dydd hwn , eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl . Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel , a yngenais i air wrth un o lwythau Israel , i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel , gan ddywedyd , Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd ? Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd ; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan , oddi ar ôl y praidd , i fod yn flaenor ar fy mhobl , ar Israel . A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist ; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen , a gwneuthum enw mawr i ti , megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear . Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le ; a phlannaf ef , fel y trigo efe yn ei le ei hun , ac na symudo mwyach : a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef , megis cynt ; Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel , ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion . A’r Arglwydd sydd yn mynegi i ti , y gwna efe dŷ i ti . A phan gyflawner dy ddyddiau di , a huno ohonot gyda’th dadau , mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl , yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di , a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef . Efe a adeilada dŷ i’m henw i ; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth . Myfi a fyddaf iddo ef yn dad , ac yntau fydd i mi yn fab . Os trosedda efe , mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol , ac â dyrnodiau meibion dynion : Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef , megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul , yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di . A’th dŷ di a sicrheir , a’th frenhiniaeth , yn dragywydd o’th flaen di : dy orseddfainc a sicrheir byth . Yn ôl yr holl eiriau hyn , ac yn ôl yr holl weledigaeth hon , felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd . Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn , ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd : ac a ddywedodd , Pwy ydwyf fi , O Arglwydd Dduw ? a pheth yw fy nhŷ , pan ddygit fi hyd yma ? Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di , O Arglwydd Dduw ; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser : ai dyma arfer dyn , O Arglwydd Dduw ? A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt ? canys ti a adwaenost dy was , O Arglwydd Dduw . Er mwyn dy air di , ac yn ôl dy feddwl dy hun , y gwnaethost yr holl fawredd hyn , i beri i’th was eu gwybod . Am hynny y’th fawrhawyd , O Arglwydd Dduw ; canys nid oes neb fel tydi , ac nid oes Duw onid ti , yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau . A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl , megis Israel , yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun , ac i osod iddo enw , ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir , gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft , oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau ? Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth : a thi , Arglwydd , ydwyt iddynt hwy yn Dduw . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw , cwblha byth y gair a leferaist am dy was , ac am ei dŷ ef , a gwna megis y dywedaist . A mawrhaer dy enw yn dragywydd ; gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel : a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di . Canys ti , O Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , a fynegaist i’th was , gan ddywedyd , Adeiladaf dŷ i ti : am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw , tydi sydd Dduw , a’th eiriau di sydd wirionedd , a thi a leferaist am dy was y daioni hwn . Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was , i fod ger dy fron di yn dragywydd : canys ti , O Arglwydd Dduw , a leferaist , ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd . Ac wedi hyn trawodd Dafydd y Philistiaid , ac a’u darostyngodd hwynt : a Dafydd a ddug ymaith Metheg‐amma o law y Philistiaid . Ac efe a drawodd Moab , ac a’u mesurodd hwynt â llinyn , gan eu cwympo hwynt i lawr : ac efe a fesurodd â dau linyn , i ladd ; ac â llinyn llawn , i gadw yn fyw . Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision , yn dwyn treth . Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob , brenin Soba , pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates . A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau , a saith gant o farchogion , ac ugain mil o wŷr traed : a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd , ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd . A phan ddaeth y Syriad o Damascus , i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba , Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr . A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus ; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd , yn dwyn treth . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe . Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser , ac a’u dug hwynt i Jerwsalem . O Beta hefyd , ac o Berothai , dinasoedd Hadadeser , y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres . Pan glybu Toi brenin Hamath , daro o Dafydd holl lu Hadadeser ; Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd , i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio , am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser , a’i faeddu ef ; ( canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi : ) a llestri arian , a llestri aur , a llestri pres ganddo : Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd , gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe ; Oddi ar Syria , ac oddi ar Moab , ac oddi ar feibion Ammon , ac oddi ar y Philistiaid , ac oddi ar Amalec , ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob , brenin Soba . A Dafydd a enillodd iddo enw , pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid , yn nyffryn yr halen , sef tair mil ar bymtheg . Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom ; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid , a bu holl Edom yn weision i Dafydd . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd , i ba le bynnag yr aeth efe . A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel ; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl . A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; A Sadoc mab Ahitub , ac Ahimelech mab Abiathar , oedd offeiriaid ; a Seraia yn ysgrifennydd : Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid ; a meibion Dafydd oedd dywysogion . A Dafydd a ddywedodd , A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul , fel y gwnelwyf drugaredd ag ef , er mwyn Jonathan ? Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba . A hwy a’i galwasant ef at Dafydd . A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , Ai tydi yw Siba ? A dywedodd yntau , Dy was yw efe . A dywedodd y brenin , A oes neb eto o dŷ Saul , fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef ? A dywedodd Siba wrth y brenin , Y mae eto fab i Jonathan , yn gloff o’i draed . A dywedodd y brenin wrtho , Pa le y mae efe ? A Siba a ddywedodd wrth y brenin , Wele ef yn nhŷ Machir , mab Ammïel , yn Lo‐debar . Yna y brenin Dafydd a anfonodd , ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir , mab Ammïel , o Lo‐debar . A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan , mab Saul , at Dafydd , efe a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd , Meffiboseth . Dywedodd yntau , Wele dy was . A Dafydd a ddywedodd wrtho ef , Nac ofna : canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi , er mwyn Jonathan dy dad , a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad ; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol . Ac efe a ymgrymodd , ac a ddywedodd , Beth ydyw dy was di , pan edrychit ar gi marw o’m bath i ? Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul , ac a ddywedodd wrtho , Yr hyn oll oedd eiddo Saul , ac eiddo ei holl dŷ ef , a roddais i fab dy feistr di . A thi a erddi y tir iddo ef , ti , a’th feibion , a’th weision , ac a’u dygi i mewn , fel y byddo bara i fab dy feistr di , ac y bwytao efe : a Meffiboseth , mab dy feistr di , a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i . Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion , ac ugain o weision . Yna y dywedodd Siba wrth y brenin , Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was , felly y gwna dy was . Yna y dywedodd Dafydd , Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i , fel un o feibion y brenin . Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan , a’i enw oedd Micha . A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth . A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem : canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol : ac yr oedd efe yn gloff o’i ddeudroed . Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw , a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yna y dywedodd Dafydd , Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas , megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi . A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad . A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon . A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd , Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd , oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti ? onid er mwyn chwilio’r ddinas , a’i throedio , a’i difetha , yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti ? Yna Hanun a gymerth weision Dafydd , ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt , ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner , hyd eu cluniau , ac a’u gollyngodd hwynt ymaith . Pan fynegwyd hyn i Dafydd , efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt ; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr . A dywedodd y brenin , Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi ; ac yna dychwelwch . A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd ; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob , a’r Syriaid o Soba , ugain mil o wŷr traed , a chan frenin Maacha fil o wŷr , ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr . A phan glybu Dafydd , efe a anfonodd Joab , a holl lu y cedyrn . A meibion Ammon a ddaethant , ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth : a’r Syriaid o Soba , a Rehob , ac o Istob , a Maacha , oedd o’r neilltu yn y maes . Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl , efe a etholodd o holl etholedigion Israel , ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid . A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd , i’w byddino yn erbyn meibion Ammon . Ac efe a ddywedodd , Os trech fydd y Syriaid na mi , yna bydd di i mi yn gynhorthwy ; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi , yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau . Bydd bybyr , ac ymwrolwn dros ein pobl , a thros ddinasoedd ein Duw : a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef . A nesaodd Joab , a’r bobl oedd gydag ef , yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel : a hwy a ffoesant o’i flaen ef . A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid , hwythau a ffoesant o flaen Abisai , ac a aethant i’r ddinas . A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon , ac a ddaeth i Jerwsalem . A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel , hwy a ymgynullasant ynghyd . A Hadareser a anfonodd , ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon : a hwy a ddaethant i Helam , a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen . A phan fynegwyd i Dafydd hynny , efe a gasglodd holl Israel , ac a aeth dros yr Iorddonen , ac a ddaeth i Helam : a’r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd , ac a ymladdasant ag ef . A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel ; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid , wŷr saith gant o gerbydau , a deugain mil o wŷr meirch : ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt , fel y bu efe farw yno . A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser , eu lladd hwynt o flaen Israel , hwy a heddychasant ag Israel , ac a’u gwasanaethasant hwynt . A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach . Ac wedi pen y flwyddyn , yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel , danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef , a holl Israel ; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon , ac a warchaeasant ar Rabba : ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem . A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely , a rhodio ar nen tŷ y brenin : ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi ; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg . A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig : ac un a ddywedodd , Onid hon yw Bathseba merch Elïam , gwraig Ureias yr Hethiad ? A Dafydd a anfonodd genhadau , ac a’i cymerth hi ; a hi a ddaeth i mewn ato ef , ac efe a orweddodd gyda hi : ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid : a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun . A’r wraig a feichiogodd , ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd , ac a ddywedodd , Yr ydwyf fi yn feichiog . A Dafydd a anfonodd at Joab , gan ddywedyd , Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad . A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd . A phan ddaeth Ureias ato ef , Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab , ac am lwyddiant y bobl , ac am ffyniant y rhyfel . Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias , Dos i waered i’th dŷ , a golch dy draed . Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin , a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef . Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd , ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun . Yna y mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun . A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias , Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod ? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun ? A dywedodd Ureias wrth Dafydd , Yr arch , ac Israel hefyd , a Jwda , sydd yn aros mewn pebyll ; a Joab fy arglwydd , a gweision fy arglwydd , sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes : a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun , i fwyta , ac i yfed , ac i orwedd gyda’m gwraig ? fel mai byw di , ac fel mai byw dy enaid di , ni wnaf y peth hyn . A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias , Aros yma eto heddiw , ac yfory y’th ollyngaf di . Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth . A Dafydd a’i galwodd ef , i fwyta ac i yfed ger ei fron ef , ac a’i meddwodd ef : ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd , ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun . A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab , ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias . Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr , gan ddywedyd , Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf ; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef , fel y trawer ef , ac y byddo marw . A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas , efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo . A gwŷr y ddinas a aethant allan , ac a ymladdasant â Joab : a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd ; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Yna Joab a anfonodd , ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel : Ac a orchmynnodd i’r gennad , gan ddywedyd , Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin : Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin , ac os dywed wrthyt , Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd ? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer ? Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth ? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur , fel y bu efe farw yn Thebes ? paham y nesasoch at y mur ? yna y dywedi , Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Felly y gennad a aeth , ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid . A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd , Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni , ac a ddaethant atom ni i’r maes , a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth . A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur ; a rhai o weision y brenin a fuant feirw ; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd . Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad , Fel hyn y dywedi di wrth Joab ; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di : canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf : cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas , a distrywiwch hi ; a chysura dithau ef . A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr , hi a alarodd am ei phriod . A phan aeth y galar heibio , Dafydd a anfonodd , ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ , i fod iddo yn wraig ; a hi a ymddûg iddo fab . A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd . A’r Arglwydd a anfonodd Nathan at Dafydd . Ac efe a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Dau ŵr oedd yn yr un ddinas ; y naill yn gyfoethog , a’r llall yn dlawd . Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg : A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan , yr hon a brynasai efe , ac a fagasai ; a hi a gynyddasai gydag ef , a chyda’i blant : o’i damaid ef y bwytâi hi , ac o’i gwpan ef yr yfai hi , ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi , ac yr oedd hi iddo megis merch . Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog ; ond efe a arbedodd gymryd o’i ddefaid ei hun , ac o’i wartheg ei hun , i arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato ; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd , ac a’i paratôdd i’r gŵr a ddaethai ato . A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr ; ac efe a ddywedodd wrth Nathan , Fel mai byw yr Arglwydd , euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn . A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg ; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn , ac nad arbedodd . A dywedodd Nathan wrth Dafydd , Ti yw y gŵr . Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel , myfi hefyd a’th waredais di o law Saul : Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd , a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes , a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda ; a phe rhy fychan fuasai hynny , myfi a roddaswn i ti fwy o lawer . Paham y dirmygaist air yr Arglwydd , i wneuthur drwg yn ei olwg ef ? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf , a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig , a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon . Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth ; oherwydd i ti fy nirmygu i , a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun , a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid , ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog , ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn . Er i ti wneuthur mewn dirgelwch ; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel , a cherbron yr haul . A dywedodd Dafydd wrth Nathan , Pechais yn erbyn yr Arglwydd . A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd , Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di : ni byddi di marw . Eto , oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn , y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau . A Nathan a aeth i’w dŷ . A’r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd ; ac efe a aeth yn glaf iawn . Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen ; a Dafydd a ymprydiodd ympryd , ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos . A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef , i beri iddo godi oddi ar y ddaear : ond ni fynnai efe , ac ni fwytâi fara gyda hwynt . Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn . A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen : canys dywedasant , Wele , tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho , ond ni wrandawai ar ein llais , pa fodd gan hynny yr ymofidia , os dywedwn wrtho farw y plentyn ? Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd , deallodd Dafydd farw y plentyn : a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision , A fu farw y plentyn ? A hwy a ddywedasant , Efe a fu farw . Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear , ac a ymolchodd , ac a ymeneiniodd , ac a newidiodd ei ddillad , ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd , ac a addolodd : wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun ; ac a ofynnodd , a hwy a roddasant iddo fara , ac efe a fwytaodd . Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef , Pa beth yw hyn a wnaethost ti ? dros y plentyn byw yr ymprydiaist , ac yr wylaist ; ond pan fu y plentyn farw , ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara . Ac efe a ddywedodd , Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw , yr ymprydiais ac yr wylais : canys mi a ddywedais , Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf , fel y byddo byw y plentyn ? Ond yn awr efe fu farw , i ba beth yr ymprydiwn ? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach ? myfi a af ato ef , ond ni ddychwel efe ataf fi . A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig , ac a aeth i mewn ati hi , ac a orweddodd gyda hi : a hi a ymddûg fab , ac efe a alwodd ei enw ef Solomon . A’r Arglwydd a’i carodd ef . Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd ; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd . A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon , ac a enillodd y frenhinol ddinas . A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd , ac a ddywedodd , Rhyfelais yn erbyn Rabba , ac a enillais ddinas y dyfroedd . Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl , a gwersylla yn erbyn y ddinas , ac ennill hi ; rhag i mi ennill y ddinas , a galw fy enw i arni hi . A Dafydd a gasglodd yr holl bobl , ac a aeth i Rabba , ac a ymladdodd yn ei herbyn , ac a’i henillodd hi . Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben ; a’i phwys hi oedd dalent o aur , gyda’r maen gwerthfawr : a hi a osodwyd ar ben Dafydd . Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn . Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi , ac a’u gosododd dan lifiau , a than ogau heyrn , a than fwyeill heyrn , ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch : ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon . A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem . Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg , a’i henw Tamar : ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi . Ac yr oedd mor flin ar Amnon , fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer : canys gwyry oedd hi ; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi . Ond gan Amnon yr oedd cyfaill , a’i enw Jonadab , mab Simea , brawd Dafydd : a Jonadab oedd ŵr call iawn . Ac efe a ddywedodd wrtho ef , Ti fab y brenin , paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd ? oni fynegi di i mi ? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef , Caru yr ydwyf fi Tamar , chwaer Absalom fy mrawd . A Jonadab a ddywedodd wrtho ef , Gorwedd ar dy wely , a chymer arnat fod yn glaf : a phan ddelo dy dad i’th edrych , dywed wrtho ef , Deued , atolwg , Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi , ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg , fel y gwelwyf , ac y bwytawyf o’i llaw hi . Felly Amnon a orweddodd , ac a gymerth arno fod yn glaf . A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef ; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin , Deued , atolwg , Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i , fel y bwytawyf o’i llaw hi . Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar , gan ddywedyd , Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd , a pharatoa fwyd iddo . Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd ; ac efe oedd yn gorwedd : a hi a gymerth beilliaid , ac a’i tylinodd , ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef , ac a grasodd y teisennau . A hi a gymerth badell , ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef : ond efe a wrthododd fwyta . Ac Amnon a ddywedodd , Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi . A phawb a aethant allan oddi wrtho ef . Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar , Dwg y bwyd i’r ystafell , fel y bwytawyf o’th law di . A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi , ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell . A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta , efe a ymaflodd ynddi hi , ac a ddywedodd wrthi hi , Tyred , gorwedd gyda mi , fy chwaer . A hi a ddywedodd wrtho , Paid , fy mrawd ; na threisia fi : canys ni wneir fel hyn yn Israel : na wna di yr ynfydrwydd hyn . A minnau , i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth ? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel . Yn awr , gan hynny , ymddiddan , atolwg , â’r brenin : canys ni omedd efe fi i ti . Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi ; eithr efe a fu drech na hi , ac a’i treisiodd , ac a orweddodd gyda hi . Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn : canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi , na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi . Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi , Cyfod , dos ymaith . A hi a ddywedodd wrtho ef , Nid oes achos : y drygioni hwn , sef fy ngyrru ymaith , sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi . Ond ni wrandawai efe arni hi . Eithr efe a alwodd ar ei lanc , ei weinidog , ac a ddywedodd , Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi ; a chloa’r drws ar ei hôl hi . Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw : canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin , y rhai oedd forynion . Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan , ac a glodd y drws ar ei hôl hi . A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen , ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani , ac a osododd ei llaw ar ei phen , ac a aeth ymaith dan weiddi . Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi , Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi ? er hynny yn awr taw â sôn , fy chwaer : dy frawd di yw efe ; na osod dy galon ar y peth hyn . Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd . Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny , efe a ddigiodd yn aruthr . Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da : canys Absalom a gasaodd Amnon , oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef . Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau , yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor , yr hwn sydd wrth Effraim : ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin . Ac Absalom a ddaeth at y brenin , ac a ddywedodd , Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di ; deued , atolwg , y brenin a’i weision gyda’th was . A dywedodd y brenin wrth Absalom , Nage , fy mab , ni ddeuwn ni i gyd yn awr ; rhag i ni ormesu arnat ti . Ac efe a fu daer arno : ond ni fynnai efe fyned ; eithr efe a’i bendithiodd ef . Yna y dywedodd Absalom , Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni ? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , I ba beth yr â efe gyda thi ? Eto Absalom a fu daer arno , fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef , a holl feibion y brenin . Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau , gan ddywedyd , Edrychwch , atolwg , pan fyddo llawen calon Amnon gan win , a phan ddywedwyf wrthych , Trewch Amnon ; yna lleddwch ef , nac ofnwch : oni orchmynnais i chwi ? ymwrolwch , a byddwch feibion glewion . A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom . A holl feibion y brenin a gyfodasant , a phob un a farchogodd ar ei ful , ac a ffoesant . A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd , y daeth y chwedl at Dafydd , gan ddywedyd , Absalom a laddodd holl feibion y brenin , ac ni adawyd un ohonynt . Yna y brenin a gyfododd , ac a rwygodd ei ddillad , ac a orweddodd ar y ddaear ; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw , â’u gwisgoedd yn rhwygedig . A Jonadab mab Simea , brawd Dafydd , a atebodd ac a ddywedodd , Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau , sef meibion y brenin ; canys Amnon yn unig a fu farw : canys yr oedd ym mryd Absalom hynny , er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef . Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon , gan dybied farw holl feibion y brenin : canys Amnon yn unig a fu farw . Ond Absalom a ffodd . A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef , ar hyd ystlys y mynydd . A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin , Wele feibion y brenin yn dyfod : fel y dywedodd dy was , felly y mae . A phan orffenasai efe ymddiddan , wele , meibion y brenin a ddaethant , ac a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn . Ac Absalom a ffodd , ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur : a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd . Ond Absalom a ffodd , ac a aeth i Gesur ; ac yno y bu efe dair blynedd . Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom : canys efe a gysurasid am Amnon , gan ei farw efe . Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom . A Joab a anfonodd i Tecoa , ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth , ac a ddywedodd wrthi , Cymer arnat , atolwg , alaru , a gwisg yn awr alarwisg , ac nac ymira ag olew , eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw : A thyred at y brenin , a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn . A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi . A’r wraig o Tecoa , pan ddywedodd wrth y brenin , a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd , ac a ddywedodd , Cynorthwya , O frenin . A dywedodd y brenin wrthi hi , Beth a ddarfu i ti ? A hi a ddywedodd , Yn wir gwraig weddw ydwyf fi , a’m gŵr a fu farw . Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab , a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes ; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy ; ond y naill a drawodd y llall , ac a’i lladdodd ef . Ac wele , yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn , a hwy a ddywedasant , Dyro yr hwn a drawodd ei frawd , fel y lladdom ni ef , am einioes ei frawd a laddodd efe ; ac y difethom hefyd yr etifedd : felly y diffoddent fy marworyn , yr hwn a adawyd , heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear . A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig , Dos i’th dŷ ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di . A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin , Bydded y camwedd hwn arnaf fi , fy arglwydd frenin , ac ar dŷ fy nhad i , a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog . A’r brenin a ddywedodd , Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt , ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi . Yna hi a ddywedodd , Cofied , atolwg , y brenin dy Arglwydd Dduw , rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio , a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i . Ac efe a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr . Yna y dywedodd y wraig , Atolwg , gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin . Yntau a ddywedodd , Dywed . A’r wraig a ddywedodd , Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw ? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius , gan na ddug y brenin adref ei herwr . Canys gan farw yr ydym ni yn marw , ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear , y rhai ni chesglir : gan na ddug Duw ei einioes , efe a feddyliodd foddion , fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho . Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn , oblegid i’r bobl fy nychrynu i : am hynny y dywedodd dy lawforwyn , Ymddiddanaf yn awr â’r brenin ; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn . Canys y brenin a wrendy , fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw . A’th lawforwyn a ddywedodd , Bydded , atolwg , gair fy arglwydd frenin yn gysur : canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin , i wrando’r da a’r drwg : a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi . Yna yr atebodd y brenin , ac y dywedodd wrth y wraig , Na chela , atolwg , oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti . A dywedodd y wraig , Llefared yn awr fy arglwydd frenin . A’r brenin a ddywedodd , A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll ? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd , Fel mai byw dy enaid di , fy arglwydd frenin , nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin : canys dy was Joab a orchmynnodd i mi , ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn : Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn : ond fy arglwydd sydd ddoeth , fel doethineb angel Duw , i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear . A’r brenin a ddywedodd wrth Joab , Wele yn awr , gwneuthum y peth hyn : dos , a dwg y llanc Absalom yn ei ôl . A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a ymgrymodd , ac a fendithiodd y brenin . A Joab a ddywedodd , Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd frenin , am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was . A Joab a gyfododd , ac a aeth i Gesur , ac a ddug Absalom i Jerwsalem . A’r brenin a ddywedodd , Troed i’w dŷ ei hun ; ac nac edryched yn fy wyneb i . Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun , ac ni welodd wyneb y brenin . Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel : o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef . A phan gneifiai efe ei ben , ( canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt : oherwydd ei fod yn drwm arno , am hynny efe a’i torrai ef ; ) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl , wrth bwys y brenin . A thri mab a anwyd i Absalom , ac un ferch , a’i henw hi oedd Tamar : yr oedd hi yn wraig deg yr olwg . Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem , ac ni welodd wyneb y brenin . Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab , i’w anfon ef at y brenin ; ond ni ddeuai efe ato ef : ac efe a anfonodd eto yr ail waith , ond ni ddeuai efe ddim . Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision , Gwelwch randir Joab ger fy llaw i , a haidd sydd ganddo ef yno ; ewch a llosgwch hi â thân . A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân . Yna Joab a gyfododd , ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ , ac a ddywedodd wrtho , Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân ? Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab , Wele , mi a anfonais atat ti , gan ddywedyd , Tyred yma , fel y’th anfonwyf at y brenin , i ddywedyd , I ba beth y deuthum i o Gesur ? gwell fuasai i mi fy mod yno eto : ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin ; ac od oes gamwedd ynof , lladded fi . Yna Joab a ddaeth at y brenin , ac a fynegodd iddo ef . Ac efe a alwodd am Absalom . Yntau a ddaeth at y brenin , ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin . A’r brenin a gusanodd Absalom . Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau , a meirch , a dengwr a deugain i redeg o’i flaen . Ac Absalom a gyfodai yn fore , ac a safai gerllaw ffordd y porth : ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn , ac a ddywedai , O ba ddinas yr ydwyt ti ? Yntau a ddywedai , O un o lwythau Israel y mae dy was . Ac Absalom a ddywedai wrtho ef , Wele , y mae dy faterion yn dda , ac yn uniawn ; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti . Dywedai Absalom hefyd , O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad , fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws ; myfi a wnawn gyfiawnder iddo ! A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef , efe a estynnai ei law , ac a ymaflai ynddo ef , ac a’i cusanai . Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin . Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel . Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin , Gad i mi fyned , atolwg , a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd , yn Hebron . Canys dy was a addunedodd adduned , pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria , gan ddywedyd , Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem , yna y gwasanaethaf yr Arglwydd . A’r brenin a ddywedodd wrtho ef , Dos mewn heddwch . Felly efe a gyfododd , ac a aeth i Hebron . Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel , gan ddywedyd , Pan glywoch lais yr utgorn , yna dywedwch , Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron . A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem , ar wahodd ; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb , ac heb wybod dim oll . Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad , cynghorwr Dafydd , o’i ddinas , o Gilo , tra oedd efe yn offrymu aberthau . A’r cydfradwriaeth oedd gryf ; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol . A daeth cennad at Dafydd , gan ddywedyd , Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom . A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem , Cyfodwch , a ffown ; canys ni ddihangwn ni gan Absalom : brysiwch i fyned ; rhag iddo ef frysio a’n dala ni , a dwyn drwg arnom ni , a tharo’r ddinas â min y cleddyf . A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin , Wele dy weision yn barod , ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin . A’r brenin a aeth , a’i holl dylwyth ar ei ôl . A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ . A’r brenin a aeth ymaith , a’r holl bobl ar ei ôl ; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell . A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef : yr holl Gerethiaid , a’r holl Belethiaid , a’r holl Gethiaid , y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath , oedd yn cerdded o flaen y brenin . Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad , Paham yr ei di hefyd gyda ni ? Dychwel , a thrig gyda’r brenin : canys alltud ydwyt ti , a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun . Doe y daethost ti ; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni ? Myfi a af : dychwel di , a dwg dy frodyr gyda thi : trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi . Ac Ittai a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw fy arglwydd frenin , yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo , pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes , yno y bydd dy was hefyd . A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai , Dos , a cherdda drosodd . Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd , a’i holl wŷr , a’r holl blant oedd gydag ef . A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel ; a’r holl bobl a aethant drosodd . A’r brenin a aeth dros afon Cidron , a’r holl bobl a aeth drosodd , tua ffordd yr anialwch . Ac wele Sadoc , a’r holl Lefiaid oedd gydag ef , yn dwyn arch cyfamod Duw ; a hwy a osodasant i lawr arch Duw : ac Abiathar a aeth i fyny , nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas . A dywedodd y brenin wrth Sadoc , Dychwel ag arch Duw i’r ddinas : os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd , efe a’m dwg eilwaith , ac a bair i mi ei gweled hi , a’i babell . Ond os fel hyn y dywed efe ; Nid wyf fodlon i ti ; wele fi , gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg . A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad , Onid gweledydd ydwyt ti ? dychwel i’r ddinas mewn heddwch , a’th ddau fab gyda thi , sef Ahimaas dy fab , a Jonathan mab Abiathar . Gwelwch , mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch , nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi . Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem ; ac a arosasant yno . A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd ; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo , a’i ben wedi ei orchuddio , ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth . A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben , ac a aethant i fyny , gan fyned ac wylo . A mynegwyd i Dafydd , gan ddywedyd , Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom . A Dafydd a ddywedodd , O Arglwydd , tro , atolwg , gyngor Ahitoffel yn ffolineb . A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo , wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef , wedi rhwygo ei bais , a phridd ar ei ben . A Dafydd a ddywedodd wrtho , Od ei drosodd gyda mi , ti a fyddi yn faich arnaf : Ond os dychweli i’r ddinas , a dywedyd wrth Absalom , Dy was di , O frenin , fyddaf fi ; gwas dy dad fûm hyd yn hyn , ac yn awr dy was dithau fyddaf : ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel . Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid ? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin , mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid . Wele , y mae yno gyda hwynt eu dau fab , Ahimaas mab Sadoc , a Jonathan mab Abiathar : danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch . Felly Husai , cyfaill Dafydd , a ddaeth i’r ddinas ; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem . Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn , wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo , ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara , a chan swp o resinau , a chant o ffrwythydd haf , a chostrelaid o win . A dywedodd y brenin wrth Siba , Beth yw y rhai hyn sydd gennyt ? A Siba a ddywedodd , Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth , a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta , a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch , ydynt hwy . A’r brenin a ddywedodd , A pha le y mae mab dy feistr ? A Siba a ddywedodd wrth y brenin , Wele , y mae efe yn aros yn Jerwsalem : canys efe a ddywedodd , Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad . Yna y dywedodd y brenin wrth Siba , Wele , eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth . A Siba a ddywedodd , Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd frenin . A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim , wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno , a’i enw ef oedd Simei , mab Gera : efe a ddaeth allan , dan gerdded a melltigo . Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig , a holl weision y brenin Dafydd : ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef . Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio ; Tyred allan , tyred allan , ŵr gwaedlyd , a gŵr i’r fall . Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul , yr hwn y teyrnesaist yn ei le ; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab : ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni ; canys gŵr gwaedlyd wyt ti . Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin , Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin ? gad i mi fyned drosodd , atolwg , a thorri ei ben ef . A’r brenin a ddywedodd , Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi , meibion Serfia ? felly melltithied , oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho , Melltithia Dafydd . Am hynny pwy a ddywed , Paham y gwnei fel hyn ? A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai , ac wrth ei holl weision , Wele fy mab , yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i , yn ceisio fy einioes : ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn ? Gadewch iddo , a melltithied : canys yr Arglwydd a archodd iddo . Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i , ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn . Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd , Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd , ar ei gyfer ef ; ac fel yr oedd efe yn myned , efe a felltithiai , ac a daflai gerrig , ac a fwriai lwch i’w erbyn ef . A daeth y brenin , a’r holl bobl oedd gydag ef , yn lluddedig , ac a orffwysodd yno . Ac Absalom a’r holl bobl , gwŷr Israel , a ddaethant i Jerwsalem , ac Ahitoffel gydag ef . A phan ddaeth Husai yr Arciad , cyfaill Dafydd , at Absalom , Husai a ddywedodd wrth Absalom , Byw fo’r brenin , byw fyddo’r brenin . Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai , Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill ? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill ? A Husai a ddywedodd wrth Absalom , Nage ; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd , a’r bobl yma , a holl wŷr Israel , eiddo ef fyddaf fi , a chydag ef yr arhosaf fi . A phwy hefyd a wasanaethaf ? onid gerbron ei fab ef ? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di , felly y byddaf ger dy fron dithau . Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel , Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni . Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom , Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad , y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ : pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad , yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi . Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ : ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad , yng ngŵydd holl Israel . A chyngor Ahitoffel , yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny , oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw : felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel , gyda Dafydd a chydag Absalom . Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom , Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr , a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon . A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig , ac yn wan ei ddwylo , ac a’i brawychaf ef : a ffy yr holl bobl sydd gydag ef ; a mi a drawaf y brenin yn unig . A throaf yr holl bobl atat ti : megis pe dychwelai pob un , yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio : felly yr holl bobl fydd mewn heddwch . A da fu’r peth yng ngolwg Absalom , ac yng ngolwg holl henuriaid Israel . Yna y dywedodd Absalom , Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad , a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd . A phan ddaeth Husai at Absalom , llefarodd Absalom wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd Ahitoffel : a wnawn ni ei gyngor ef ? onid e , dywed di . A dywedodd Husai wrth Absalom , Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon . Canys , eb Husai , ti a wyddost am dy dad a’i wŷr , mai cryfion ydynt hwy , a chreulon eu meddwl , megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes : dy dad hefyd sydd ryfelwr , ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl . Wele , yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof , neu mewn rhyw le : a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau , yna y bobl a glyw , ac a ddywed , Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom . Yna yr un grymus , yr hwn y mae ei galon fel calon llew , a lwfrha : canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di , ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef . Am hynny y cynghoraf , lwyr gasglu atat ti holl Israel , o Dan hyd Beer‐seba , fel y tywod wrth y môr o amldra , a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel . Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo , ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear : ac ni adewir dim ohono ef , nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef . Ond os i ddinas yr ymgasgl efe , yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno , a ni a’i tynnwn hi i’r afon , fel na chaffer yno un garegan . A dywedodd Absalom , a holl wŷr Israel , Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel . Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel , fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom . Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid , Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel : ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau . Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan , a mynegwch i Dafydd , gan ddywedyd , Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch , ond gan fyned dos ; rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef . Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel ; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt . Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd : canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas . Eto llanc a’u gwelodd hwynt , ac a fynegodd i Absalom : ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan , ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim , ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd ; a hwy a aethant i waered yno . A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew , ac a daenodd arno falurion ŷd ; fel na wybuwyd y peth . A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ , hwy a ddywedasant , Pa le y mae Ahimaas a Jonathan ? A’r wraig a ddywedodd wrthynt , Hwy a aethant dros yr aber ddwfr . A phan geisiasant , ac nas cawsant hwynt , yna y dychwelasant i Jerwsalem . Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith , yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew , ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd ; ac a ddywedasant wrth Dafydd , Cyfodwch , ac ewch yn fuan dros y dwfr ; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi . Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , ac a aethant dros yr Iorddonen : erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen . A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef , efe a gyfrwyodd ei asyn , ac a gyfododd , ac a aeth i’w dŷ ei hun , i’w ddinas , ac a wnaeth drefn ar ei dŷ , ac a ymgrogodd , ac a fu farw , ac a gladdwyd ym meddrod ei dad . Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim . Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen , efe a holl wŷr Israel gydag ef . Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu , Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra , yr hwn oedd Israeliad , yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas , chwaer Serfia , mam Joab . Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead . A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim , Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon , a Machir mab Ammïel o Lo‐debar , a Barsilai y Gileadiad o Rogelim , A ddygasant welyau , a chawgiau , a llestri pridd , a gwenith , a haidd , a blawd , a chras ŷd , a ffa , a ffacbys , a chras bys , A mêl , ac ymenyn , a defaid , a chaws gwartheg , i Dafydd , ac i’r bobl oedd gydag ef , i’w bwyta . Canys dywedasant , Y mae y bobl yn newynog , yn flin hefyd , ac yn sychedig yn yr anialwch . A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef , ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid . A Dafydd a anfonodd o’r bobl y drydedd ran dan law Joab , a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia , brawd Joab , a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad . A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl , Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi . Ond y bobl a atebodd , Nid ei di allan : canys os gan ffoi y ffown ni , ni osodant hwy eu meddwl arnom ni ; ac os bydd marw ein hanner ni , ni osodant eu meddwl arnom : ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni : yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas . A dywedodd y brenin wrthynt hwy , Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi . A’r brenin a safodd gerllaw y porth ; a’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd . A’r brenin a orchmynnodd i Joab , ac Abisai , ac Ittai , gan ddywedyd , Byddwch esmwyth , er fy mwyn i , wrth y llanc Absalom . A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom . Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel : a’r rhyfel fu yng nghoed Effraim . Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd : ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw , sef ugain mil . Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad : a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw . Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb . Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful , a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr , a’i ben ef a lynodd yn y dderwen : felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear ; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith . A rhyw un a ganfu hynny , ac a fynegodd i Joab , ac a ddywedodd , Wele , gwelais Absalom ynghrog mewn derwen . A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo , Ac wele , ti a’i gwelaist ef ; paham nas trewaist ef yno i’r llawr , ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian , ac un gwregys ? A dywedodd y gŵr wrth Joab , Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian , nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin : canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti , ac wrth Abisai , ac wrth Ittai , gan ddywedyd , Gwyliwch gyffwrdd o neb â’r llanc Absalom . Os amgen , mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes : canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin ; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn . Yna y dywedodd Joab , Nid arhoaf fel hyn gyda thi . Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law , ac a’u brathodd trwy galon Absalom , ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen . A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant , ac a drawsant Absalom , ac a’i lladdasant ef . A Joab a utganodd mewn utgorn ; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel : canys Joab a ataliodd y bobl . A hwy a gymerasant Absalom , ac a’i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed , ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn : a holl Israel a ffoesant bob un i’w babell . Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn , yn nyffryn y brenin : canys efe a ddywedodd , Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw : ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun . A hi a elwir Lle Absalom , hyd y dydd hwn . Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd , Gad i mi redeg yn awr , a mynegi i’r brenin , ddarfod i’r Arglwydd ei ddial ef ar ei elynion . A Joab a ddywedodd wrtho ef , Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn , eithr mynegi ddiwrnod arall : ond heddiw ni byddi di gennad , oherwydd marw mab y brenin . Yna y dywedodd Joab wrth Cusi , Dos , dywed i’r brenin yr hyn a welaist . A Chusi a ymgrymodd i Joab , ac a redodd . Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab , Beth bynnag a fyddo , gad i minnau , atolwg , redeg ar ôl Cusi . A dywedodd Joab , I ba beth y rhedi di , fy mab , gan nad oes gennyt genadwriaeth addas ? Ond beth bynnag a fyddo , eb efe , gad i mi redeg . A dywedodd yntau wrtho , Rhed . Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd , ac a aeth heibio i Cusi . A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth : a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur , ac a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan . A’r gwyliedydd a waeddodd , ac a fynegodd i’r brenin . A’r brenin a ddywedodd , Os ei hun y mae efe , cenadwriaeth sydd yn ei enau ef . Ac efe a ddaeth yn fuan , ac a nesaodd . A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg : a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor , ac a ddywedodd , Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan . A dywedodd y brenin , Hwn hefyd sydd gennad . A’r gwyliedydd a ddywedodd , Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc . A dywedodd y brenin , Gŵr da yw hwnnw , ac â chenadwriaeth dda y daw efe . Ac Ahimaas a alwodd , ac a ddywedodd wrth y brenin , Heddwch : ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin , ac a ddywedodd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin . A’r brenin a ddywedodd , Ai dihangol y llanc Absalom ? A dywedodd Ahimaas , Gwelais gythrwfl mawr , pan anfonodd Joab was y brenin , a’th was dithau , ond ni wybûm i beth ydoedd . A’r brenin a ddywedodd , Tro heibio ; saf yma . Ac efe a drodd heibio , ac a safodd . Ac wele , Cusi a ddaeth . A dywedodd Cusi , Cenadwri , arglwydd frenin : canys yr Arglwydd a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn . A dywedodd y brenin wrth Cusi , A ddihangodd y llanc Absalom ? A dywedodd Cusi , Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin , a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti . A’r brenin a gyffrôdd , ac a aeth i fyny i ystafell y porth , ac a wylodd : ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned ; O fy mab Absalom , fy mab , fy mab Absalom ! O na buaswn farw drosot ti , Absalom , fy mab , fy mab ! Amynegwyd i Joab , Wele y brenin yn wylo , ac yn galaru am Absalom . A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl : canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd , dristáu o’r brenin am ei fab . A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas , fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel . Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb ; a’r brenin a waeddodd â llef uchel , O fy mab Absalom , Absalom , fy mab , fy mab ! A Joab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin , ac a ddywedodd , Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision , y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw , ac einioes dy feibion a’th ferched , ac einioes dy wragedd , ac einioes dy ordderchwragedd ; Gan garu dy gaseion , a chasáu dy garedigion : canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion , na’th weision : oherwydd mi a wn heddiw , pe Absalom fuasai byw , a ninnau i gyd yn feirw heddiw , mai da fuasai hynny yn dy olwg di . Cyfod yn awr gan hynny , cerdda allan , a dywed yn deg wrth dy weision : canys yr wyf fi yn tyngu i’r Arglwydd , os ti nid ei allan , nad erys neb gyda thi y nos hon ; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon . Yna y brenin a gyfododd , ac a eisteddodd yn y porth . A mynegwyd i’r holl bobl , gan ddywedyd , Wele y brenin yn eistedd yn y porth . A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin : canys Israel a ffoesai bob un i’w babell . Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel , gan ddywedyd , Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion , ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid ; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom . Ac Absalom , yr hwn a eneiniasom ni arnom , a fu farw mewn rhyfel : ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn ? A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid , gan ddywedyd , Lleferwch wrth henuriaid Jwda , gan ddywedyd , Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin , hyd ei dŷ . Fy mrodyr ydych chwi ; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi : paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref ? Dywedwch hefyd wrth Amasa , Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti ? Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth . Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda , fel calon un gŵr : a hwy a anfonasant at y brenin , gan ddywedyd , Dychwel di a’th holl weision . Felly y brenin a ddychwelodd , ac a ddaeth i’r Iorddonen . A Jwda a ddaeth i Gilgal , i fyned i gyfarfod â’r brenin , i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen . A Simei mab Gera , mab Jemini , yr hwn oedd o Bahurim , a frysiodd , ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda , i gyfarfod â’r brenin Dafydd . A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef ; Siba hefyd gwas tŷ Saul , a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef : a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin . Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin , ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef . A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin , pan ddaeth efe dros yr Iorddonen ; Ac a ddywedodd wrth y brenin , Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd , ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem , i osod o’r brenin hynny at ei galon . Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi : ac wele , deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff , i ddyfod i waered i gyfarfod â’m harglwydd frenin . Ac Abisai mab Serfia a atebodd , ac a ddywedodd , Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth , am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd ? A dywedodd Dafydd , Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi , meibion Serfia , fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw ? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel ? canys oni wn i , mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel ? A’r brenin a ddywedodd wrth Simei , Ni byddi di farw : a’r brenin a dyngodd wrtho ef . Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â’r brenin ; ac ni olchasai efe ei draed , ac ni thorasai ei farf , ac ni olchasai ei ddillad , er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch . A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â’r brenin , yna y dywedodd y brenin wrtho ef , Paham nad aethost ti gyda mi , Meffiboseth ? Ac efe a ddywedodd , Fy arglwydd frenin , fy ngwas a’m twyllodd i : canys dywedodd dy was , Cyfrwyaf i mi asyn , fel y marchogwyf arno , ac yr elwyf at y brenin ; oherwydd cloff yw dy was . Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin ; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw : am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg . Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin ; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun : pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin ? A’r brenin a ddywedodd wrtho , I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach ? dywedais , Ti a Siba rhennwch y tir . A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin , Ie , cymered efe y cwbl , gan ddyfod fy arglwydd frenin i’w dŷ mewn heddwch . A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim , ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin , i’w hebrwng ef dros yr Iorddonen . A Barsilai oedd hen iawn , yn fab pedwar ugain mlwydd : efe oedd yn darparu lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim ; canys gŵr mawr iawn oedd efe . A’r brenin a ddywedodd wrth Barsilai , Tyred drosodd gyda mi , a mi a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem . A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin , Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i , fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem ? Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw : a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg ? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf , neu yr hyn a yfaf ? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau ? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin ? Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin : a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth ? Gad , atolwg , i’th was ddychwelyd yn fy ôl , fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun , ac fel y’m cladder ym meddrod fy nhad a’m mam : ac wele , Chimham dy was , efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin , a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg . A dywedodd y brenin , Chimham a â gyda mi , a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di : a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi , mi a’i gwnaf erot . A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen . Y brenin hefyd a aeth drosodd : a’r brenin a gusanodd Barsilai , ac a’i bendithiodd ef ; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun . Yna y brenin a aeth i Gilgal , a Chimham a aeth gydag ef . A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin , a hanner pobl Israel hefyd . Ac wele , holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin , ac a ddywedasant wrth y brenin , Paham y lladrataodd ein brodyr ni , gwŷr Jwda , dydi , ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen , a holl wŷr Dafydd gydag ef ? Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel , Oblegid câr agos yw y brenin i ni : paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn ? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin ? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg ? A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda , ac a ddywedasant , Deg rhan sydd i ni yn y brenin ; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi : paham gan hynny y diystyraist fi ? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin ? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel . Ac yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall , a’i enw Seba , mab Bichri , gŵr o Jemini ; ac efe a utganodd mewn utgorn , ac a ddywedodd , Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd , nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse : pawb i’w babell , O Israel . Felly holl wŷr Israel a aethant i fyny oddi ar ôl Dafydd , ar ôl Seba mab Bichri : ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin , o’r Iorddonen hyd Jerwsalem . A daeth Dafydd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem ; a’r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ , ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwraeth , ac a’u porthodd hwynt ; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy : eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth , yn byw mewn gweddwdod . Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa , Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd ; a bydd dithau yma . Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda : ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo . A dywedodd Dafydd wrth Abisai , Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waeth nag Absalom : cymer di weision dy arglwydd , ac erlid ar ei ôl ef , rhag iddo gael y dinasoedd caerog , ac ymachub o’n golwg ni . A gwŷr Joab , a’r Cerethiaid , y Pelethiaid hefyd , a’r holl gedyrn , a aethant ar ei ôl ef ; ac a aethant allan o Jerwsalem , i erlid ar ôl Seba mab Bichri . Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon , Amasa a aeth o’u blaen hwynt . A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano , ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain ; a phan gerddai efe , y cleddyf a syrthiai . A dywedodd Joab wrth Amasa , A wyt ti yn llawen , fy mrawd ? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef . Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab : felly efe a’i trawodd ef ag ef dan y bumed ais , ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr , ac nid aildrawodd ef : ac efe a fu farw . Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri . Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef , ac a ddywedodd , Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab , a phwy bynnag sydd gyda Dafydd , eled ar ôl Joab . Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd . A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll , efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes , ac a daflodd gadach arno , pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll . Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd , yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab , i erlid ar ôl Seba mab Bichri . Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel , ac i Beth‐maacha , ac i holl leoedd Berim : a hwy a ymgasglasant , ac a aethant ar ei ôl ef . Felly y daethant hwy , ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha , ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas , yr hon a safodd ar y rhagfur : a’r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo’r mur , i’w fwrw i lawr . Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a lefodd , Clywch , clywch : dywedwch , atolwg , wrth Joab , Nesâ hyd yma , fel yr ymddiddanwyf â thi . Pan nesaodd efe ati hi , y wraig a ddywedodd , Ai ti yw Joab ? Dywedodd yntau , Ie , myfi . A hi a ddywedodd wrtho ef , Gwrando eiriau dy lawforwyn . Dywedodd yntau , Yr ydwyf yn gwrando . Yna hi a ddywedodd , Hwy a lefarent gynt , gan ddywedyd , Diau yr ymofynnant ag Abel : ac felly y dibennent . Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel : yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel : paham y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd ? A Joab a atebodd ac a ddywedodd , Na ato Duw , na ato Duw , i mi na difetha na dinistrio ! Nid felly y mae y peth : eithr gŵr o fynydd Effraim , Seba mab Bichri dan ei enw , a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin , yn erbyn Dafydd . Rhoddwch ef yn unig , a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas . A dywedodd y wraig wrth Joab , Wele , ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur . Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl . A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri , ac a’i taflasant allan i Joab . Ac efe a utganodd mewn utgorn ; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas , bob un i’w pabellau . A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin . Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel ; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid , ac ar y Pelethiaid ; Ac Adoram oedd ar y dreth ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; Sefa hefyd yn ysgrifennydd ; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid ; Ira hefyd y Jairiad oedd ben‐llywydd ynghylch Dafydd . A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol . A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd , Oherwydd Saul , ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef , y mae hyn ; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid . A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid , ac a ymddiddanodd â hwynt ; ( a’r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel , ond o weddill yr Amoriaid ; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy : eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt , o’i serch i feibion Israel a Jwda . ) A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid , Beth a wnaf i chwi ? ac â pha beth y gwnaf gymod , fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd ? A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho , Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul , na chan ei dŷ ef ; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel . Ac efe a ddywedodd , Yr hyn a ddywedoch chwi , a wnaf i chwi . A hwy a ddywedasant wrth y brenin , Y gŵr a’n difethodd ni , ac a fwriadodd i’n herbyn ni , i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel , Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef , fel y crogom ni hwynt i’r Arglwydd yn Gibea Saul , dewisedig yr Arglwydd . A dywedodd y brenin , Myfi a’u rhoddaf . Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth , mab Jonathan , mab Saul , oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy , rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul . Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia , y rhai a ymddûg hi i Saul , sef Armoni a Meffiboseth ; a phum mab Michal merch Saul , y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad : Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid ; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr Arglwydd : a’r saith hyn a gydgwympasant , ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf , yn nechreuad cynhaeaf yr haidd . A Rispa merch Aia a gymerth sachliain , a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig , o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd , ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd , na bwystfil y maes liw nos . A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia , gordderchwraig Saul . A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul , ac esgyrn Jonathan ei fab , oddi wrth berchenogion Jabes Gilead , y rhai a’u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi , y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa . Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul , ac esgyrn Jonathan ei fab : a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid . A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin , yn Sela , ym meddrod Cis ei dad : a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin . A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn . A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel ; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef , ac a ymladdasant â’r Philistiaid . A diffygiodd Dafydd . Ac Isbi‐benob , yr hwn oedd o feibion y cawr , ( a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres , ) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd , a feddyliodd ladd Dafydd . Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef , ac a drawodd y Philistiad , ac a’i lladdodd ef . Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef , gan ddywedyd , Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel , rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel . Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid : yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Saff , yr hwn oedd o feibion y cawr . A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid : ac Elhanan mab Jaareoregim , y Bethlehemiad , a drawodd frawd Goleiath y Gethiad ; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd . A bu eto ryfel yn Gath : ac yr oedd gŵr corffol , a chwech o fysedd ar bob llaw iddo , a chwech o fysedd ar bob troed iddo , pedwar ar hugain o rifedi ; efe hefyd oedd fab i’r cawr . Ac efe a amharchodd Israel ; a Jonathan mab Simea , brawd Dafydd , a’i lladdodd ef . Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath , ac a gwympasant trwy law Dafydd , a thrwy law ei weision ef . A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon , yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion , ac o law Saul . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd yw fy nghraig , a’m hamddiffynfa , a’m gwaredydd i ; Duw fy nghraig , ynddo ef yr ymddiriedaf : fy nharian , a chorn fy iachawdwriaeth , fy uchel dŵr a’m noddfa , fy achubwr ; rhag trais y’m hachubaist . Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy : felly y’m cedwir rhag fy ngelynion . Canys gofidion angau a’m cylchynasant ; afonydd y fall a’m dychrynasant i . Doluriau uffern a’m hamgylchynasant ; maglau angau a’m rhagflaenasant . Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd , ac y gwaeddais ar fy Nuw ; ac efe a glybu fy llef o’i deml , a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef . Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear : seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant , am iddo ef ddigio . Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef , a thân o’i enau ef a ysodd : glo a enynasant ganddo ef . Efe a ogwyddodd y nefoedd , ac a ddisgynnodd ; a thywyllwch oedd dan ei draed ef . Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb , ac a ehedodd : ie , efe a welwyd ar adenydd y gwynt . Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch ; sef casgliad y dyfroedd , a thew gymylau yr awyr . Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd . Yr Arglwydd a daranodd o’r nefoedd , a’r Goruchaf a roddes ei lef . Ac efe a anfonodd ei saethau , ac a’u gwasgarodd hwynt ; mellt , ac a’u drylliodd hwynt . Gwaelodion y môr a ymddangosodd , a seiliau y byd a ddinoethwyd , gan gerydd yr Arglwydd , a chan chwythad anadl ei ffroenau ef . Efe a anfonodd oddi uchod : cymerodd fi ; tynnodd fi o ddyfroedd lawer . Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn , a rhag fy nghaseion ; am eu bod yn drech na mi . Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid : ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi . Efe a’m dug i ehangder : efe a’m gwaredodd i , am iddo ymhoffi ynof . Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder : yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi . Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd , ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw . Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i : ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i . Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef ; ac ymgedwais rhag fy anwiredd . A’r Arglwydd a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder ; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef . A’r trugarog y gwnei drugaredd : â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd . A’r glân y gwnei lendid ; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni . Y bobl gystuddiedig a waredi : ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel , i’w darostwng . Canys ti yw fy nghannwyll i , O Arglwydd ; a’r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch . Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin : trwy fy Nuw y llamaf dros fur . Duw sydd berffaith ei ffordd ; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig : tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo . Canys pwy sydd Dduw , heblaw yr Arglwydd ? a phwy sydd graig , eithr ein Duw ni ? Duw yw fy nghadernid a’m nerth ; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith . Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod ; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd . Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel ; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau . Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth ; ac â’th fwynder y lluosogaist fi . Ehengaist fy ngherddediad danaf ; fel na lithrodd fy sodlau . Erlidiais fy ngelynion , a difethais hwynt ; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt . Difeais hwynt hefyd , a thrywenais hwynt , fel na chyfodent ; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i . Canys ti a’m gwregysaist i â nerth i ryfel : y rhai a ymgyfodent i’m herbyn , a ddarostyngaist danaf . Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion ; fel y difethwn fy nghaseion . Disgwyliasant , ond nid oedd achubydd ; sef am yr Arglwydd , ond nid atebodd hwynt . Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear ; melais hwynt fel tom yr heolydd , a thaenais hwynt . Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl ; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd : pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant . Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi : pan glywant , gwrandawant arnaf fi . Meibion dieithr a ballant , ac a ddychrynant o’u carchardai . Byw fyddo yr Arglwydd , a bendigedig fyddo fy nghraig ; a dyrchafer Duw , craig fy iachawdwriaeth . Duw sydd yn fy nial i , ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi , Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion : ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn ; rhag y gŵr traws y’m hachubaist i . Am hynny y moliannaf di , O Arglwydd , ymhlith y cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i’w frenin ; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog , i Dafydd , ac i’w had yn dragywydd . Dyma eiriau diwethaf Dafydd . Dywedodd Dafydd mab Jesse , a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel , eneiniog Duw Jacob , a pheraidd ganiedydd Israel ; Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi , a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod . Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi , Craig Israel a ddywedodd , Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn , yn llywodraethu mewn ofn Duw : Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni , pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau : fel eginyn a dyf o’r ddaear , gan lewyrchiad yn ôl glaw . Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw ; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi , wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr ; canys fy holl iachawdwriaeth , a’m holl ddymuniad yw , er nad yw yn peri iddo flaguro . A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio : canys mewn llaw nis cymerir hwynt . Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn , ac â phaladr gwaywffon ; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle . Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd . Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair , yn bennaeth y tywysogion ; hwnnw oedd Adino yr Esniad : efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant , y rhai a laddodd efe ar unwaith . Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo , mab Ahohi , ymhlith y tri chadarn , gyda Dafydd , pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel , a phan aeth gwŷr Israel ymaith . Efe a gyfododd , ac a drawodd ar y Philistiaid , nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf : a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw ; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio . Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad . A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf ; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys : a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid . Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir , ac a’i hachubodd , ac a laddodd y Philistiaid . Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr . A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant , ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam : a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim . A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa : a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem . A blysiodd Dafydd , a dywedodd , Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem , yr hwn sydd wrth y porth ? A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid , ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn oedd wrth y porth , ac a’i cymerasant hefyd , ac a’i dygasant at Dafydd : ond ni fynnai efe ei yfed , eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd ; Ac a ddywedodd , Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn ; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn ? Am hynny ni fynnai efe ei yfed . Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny . Ac Abisai brawd Joab , mab Serfia , oedd bennaf o’r tri . Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant , ac a’u lladdodd hwynt : ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri . Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri ? a bu iddynt yn dywysog : eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf . A Benaia mab Jehoiada , mab gŵr grymus o Cabseel , aml ei weithredoedd , efe a laddodd ddau o gedyrn Moab : ac efe a aeth i waered , ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira . Ac efe a drawodd Eifftddyn , gŵr golygus o faint : ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon ; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon , ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad , ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun . Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada : ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn . Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain ; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf : a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard . Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain ; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad , Samma yr Harodiad , Elica yr Harodiad , Heles y Paltiad , Ira mab Icces y Tecoiad , Abieser yr Anathothiad , Mebunnai yr Husathiad , Salmon yr Ahohiad , Maharai y Netoffathiad , Heleb mab Baana y Netoffathiad , Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin , Benaia y Pirathoniad , Hidai o afonydd Gaas , Abi‐albon yr Arbathiad , Asmafeth y Barhumiad , Eliahba y Saalboniad ; o feibion Jasen , Jonathan , Samma yr Harariad , Ahïam mab Sarar yr Harariad , Eliffelet mab Ahasbai , mab y Maachathiad , Elïam mab Ahitoffel y Giloniad , Hesrai y Carmeliad , Paarai yr Arbiad , Igal mab Nathan o Soba , Bani y Gadiad , Selec yr Ammoniad , Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia , Ira yr Ithriad , Gareb yr Ithriad , Ureias yr Hethiad : dau ar bymtheg ar hugain o gwbl . A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel ; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt , i ddywedyd , Dos , cyfrif Israel a Jwda . Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef , Dos yn awr trwy holl lwythau Israel , o Dan hyd Beer‐seba , a chyfrif y bobl , fel y gwypwyf rifedi y bobl . A Joab a ddywedodd wrth y brenin , Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent , fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin : ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn ? A gair y brenin fu drech na Joab , ac na thywysogion y llu . Joab am hynny a aeth allan , a thywysogion y llu , o ŵydd y brenin , i gyfrif pobl Israel . A hwy a aethant dros yr Iorddonen , ac a wersyllasant yn Aroer , o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad , a thua Jaser . Yna y daethant i Gilead , ac i wlad Tahtim‐hodsi ; daethant hefyd i Dan-jaan , ac o amgylch i Sidon ; Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus , ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid , a’r Canaaneaid ; a hwy a aethant i du deau Jwda , i Beer‐seba . Felly y cylchynasant yr holl wlad , ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem . A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin : ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf ; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr . A chalon Dafydd a’i trawodd ef , ar ôl iddo gyfrif y bobl . A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd , Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum : ac yn awr dilea , atolwg , O Arglwydd , anwiredd dy was ; canys ynfyd iawn y gwneuthum . A phan gyfododd Dafydd y bore , daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd , gweledydd Dafydd , gan ddywedyd , Dos a dywed wrth Dafydd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di ; dewis i ti un ohonynt , a gwnaf hynny i ti . Felly Gad a ddaeth at Dafydd , ac a fynegodd iddo , ac a ddywedodd wrtho , A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad ? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion , a hwy yn dy erlid ? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod ? Yn awr ymgynghora , ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i . A dywedodd Dafydd wrth Gad , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi : bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd , canys aml yw ei drugareddau ef , ac na chwympwyf yn llaw dyn . Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel , o’r bore hyd yr amser nodedig : a bu farw o’r bobl , o Dan hyd Beer‐seba , ddeng mil a thrigain o wŷr . A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi , edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn , ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl , Digon bellach : atal dy law . Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad . A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd , pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl , a dywedodd , Wele , myfi a bechais , ac a wneuthum yn ddrygionus : ond y defaid hyn , beth a wnaethant hwy ? bydded , atolwg , dy law arnaf fi , ac ar dŷ fy nhad . A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw , ac a ddywedodd wrtho , Dos i fyny , cyfod allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad . A Dafydd a aeth i fyny , yn ôl gair Gad , fel y gorchmynasai yr Arglwydd . Ac Arafna a edrychodd , ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato . Ac Arafna a aeth allan , ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin . Ac Arafna a ddywedodd , Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was ? A dywedodd Dafydd , I brynu gennyt ti y llawr dyrnu , i adeiladu allor i’r Arglwydd , fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl . A dywedodd Arafna wrth Dafydd , Cymered , ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg : wele yr ychen yn boethoffrwm , a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud . Hyn oll a roddodd Arafna , megis brenin , i’r brenin . A dywedodd Arafna wrth y brenin , Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti . A dywedodd y brenin wrth Arafna , Nage ; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt : ac nid offrymaf i’r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad . Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen , er deg a deugain o siclau arian . Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd , ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd . A’r Arglwydd a gymododd â’r wlad , a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel . </passage></reply></GetPassage>