<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:11</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:11</urn><passage>A’r brenin Dafydd oedd hen , ac a aethai mewn oedran ; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad , eto ni chynhesai efe . Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho , Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn ; a safed hi o flaen y brenin , a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo , a gorwedded yn dy fynwes , fel y gwresogo fy arglwydd frenin . A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel ; ac a gawsant Abisag y Sunamees , ac a’i dygasant hi at y brenin . A’r llances oedd deg iawn , ac oedd yn ymgeleddu’r brenin , ac yn ei wasanaethu ef : ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi . Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd , gan ddywedyd , Myfi a fyddaf frenin : ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch , a dengwr a deugain i redeg o’i flaen . A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau , gan ddywedyd , Paham y gwnaethost fel hyn ? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd ; ac efe a anesid wedi Absalom . Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia , ac Abiathar yr offeiriad : a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia . Ond Sadoc yr offeiriad , a Benaia mab Jehoiada , a Nathan y proffwyd , a Simei , a Rei , a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd , nid oeddynt gydag Adoneia . Ac Adoneia a laddodd ddefaid , a gwartheg , a phasgedigion , wrth faen Soheleth , yr hwn sydd wrth En‐rogel , ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin , a holl wŷr Jwda gweision y brenin . Ond Nathan y proffwyd , a Benaia , a’r gwŷr cedyrn , a Solomon ei frawd , ni wahoddodd efe . Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon , gan ddywedyd , Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu , a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny ? Tyred gan hynny yn awr , atolwg , rhoddaf i ti gyngor , fel yr achubych dy einioes dy hun , ac einioes Solomon dy fab . Dos , a cherdda i mewn at y brenin Dafydd , a dywed wrtho , Oni thyngaist ti , fy arglwydd frenin , wrth dy wasanaethwraig , gan ddywedyd , Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i ? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu ? Wele , tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin , minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di , ac a sicrhaf dy eiriau di . A Bathseba a aeth i mewn at y brenin , i’r ystafell . A’r brenin oedd hen iawn ; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin . A Bathseba a ostyngodd ei phen , ac a ymgrymodd i’r brenin . A’r brenin a ddywedodd , Beth a fynni di ? Hithau a ddywedodd wrtho , Fy arglwydd , ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes , gan ddywedyd , Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i : Ac yn awr , wele , Adoneia sydd frenin ; ac yr awr hon , fy arglwydd frenin , nis gwyddost ti hyn . Ac efe a laddodd wartheg , ac anifeiliaid breision , a defaid lawer iawn , ac a wahoddodd holl feibion y brenin , ac Abiathar yr offeiriad , a Joab tywysog y filwriaeth : ond dy was Solomon ni wahoddodd efe . Tithau , fy arglwydd frenin , y mae llygaid holl Israel arnat ti , am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef . Os amgen , pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau , yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechaduriaid . Ac wele , tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin , y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn . A hwy a fynegasant i’r brenin , gan ddywedyd , Wele Nathan y proffwyd . Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin , ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr . A dywedodd Nathan , Fy arglwydd frenin , a ddywedaist ti , Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc ? Canys efe a aeth i waered heddiw , ac a laddodd ychen , ac anifeiliaid breision , a defaid lawer , ac a wahoddodd holl feibion y brenin , a thywysogion y filwriaeth , ac Abiathar yr offeiriad ; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef , ac y maent yn dywedyd , Bydded fyw y brenin Adoneia . Ond myfi dy was , a Sadoc yr offeiriad , a Benaia mab Jehoiada , a’th was Solomon , ni wahoddodd efe . Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn , heb ddangos ohonot i’th was , pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef ? A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd , Gelwch Bathseba ataf fi . A hi a ddaeth o flaen y brenin , ac a safodd gerbron y brenin . A’r brenin a dyngodd , ac a ddywedodd , Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder , Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel , gan ddywedyd , Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i , ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i ; felly y gwnaf y dydd hwn . Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr , ac a ymgrymodd i’r brenin , ac a ddywedodd , Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth . A’r brenin Dafydd a ddywedodd , Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada . A hwy a ddaethant o flaen y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrthynt , Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun , a dygwch ef i waered i Gihon . Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel : ac utgenwch mewn utgorn , a dywedwch , Bydded fyw y brenin Solomon . Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef , a deued efe i fyny , ac eistedded ar fy ngorseddfa i ; ac efe a deyrnasa yn fy lle i : canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda . A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Amen : yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin . Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin , felly bydded gyda Solomon , a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd . Felly Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada , a’r Cerethiaid , a’r Pelethiaid , a aethant i waered , ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd , ac a aethant ag ef i Gihon . A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell , ac a eneiniodd Solomon . A hwy a utganasant mewn utgorn : a’r holl bobl a ddywedasant , Bydded fyw y brenin Solomon . A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef , yn canu pibellau , ac yn llawenychu â llawenydd mawr , fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt . A chlybu Adoneia , a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef , pan ddarfuasai iddynt fwyta . Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn ; ac a ddywedodd , Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol ? Ac efe eto yn llefaru , wele , daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad . A dywedodd Adoneia , Tyred i mewn : canys gŵr grymus ydwyt ti , a daioni a fynegi di . A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia , Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin . A’r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad , a Nathan y proffwyd , a Benaia mab Jehoiada , a’r Cerethiaid , a’r Pelethiaid ; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin . A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon : a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen ; a’r ddinas a derfysgodd . Dyna’r twrf a glywsoch chwi . Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth . A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd , gan ddywedyd , Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di , ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di . A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely . Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin : Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc , a’m llygaid innau yn gweled hynny . A’r holl wahoddedigion , y rhai oedd gydag Adoneia , a ddychrynasant , ac a gyfodasant , ac a aethant bob un ei ffordd . Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon ; ac a gyfododd , ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor . A mynegwyd i Solomon , gan ddywedyd , Wele , y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon : canys wele , efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor , gan ddywedyd , Tynged y brenin Solomon i mi heddiw , na ladd efe ei was â’r cleddyf . A dywedodd Solomon , Os bydd efe yn ŵr da , ni syrth un o’i wallt ef i lawr ; ond os ceir drygioni ynddo ef , efe a fydd marw . A’r brenin Solomon a anfonodd , a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor . Ac efe a ddaeth , ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon . A dywedodd Solomon wrtho , Dos i’th dŷ . Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw ; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab , gan ddywedyd , Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear ; am hynny ymnertha , a bydd ŵr ; A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd ef , i gadw ei ddeddfau ef , a’i orchmynion , a’i farnedigaethau , a’i dystiolaethau , fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses ; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych , ac i ba le bynnag y tröech : Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf , gan ddywedyd , Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd , i rodio ger fy mron mewn gwirionedd , â’u holl galon , ac â’u holl enaid , ni thorrir ( eb efe ) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel . Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi , a’r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel , i Abner mab Ner , ac i Amasa mab Jether , y rhai a laddodd efe , ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch , ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau , ac yn ei esgidiau oedd am ei draed . Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb , ac na ad i’w benllwydni ef ddisgyn i’r bedd mewn heddwch . Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd , a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di : canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di . Wele hefyd Simei mab Gera , mab Jemini , o Bahurim , gyda thi , yr hwn a’m melltithiodd i â melltith dost , y dydd yr euthum i Mahanaim : ond efe a ddaeth i waered i’r Iorddonen i gyfarfod â mi ; a mi a dyngais i’r Arglwydd wrtho ef , gan ddywedyd , Ni’th laddaf â’r cleddyf . Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth : canys gŵr doeth ydwyt ti , a gwyddost beth a wnei iddo : dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed . Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd . A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd : saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron , a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad ; a’i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr . Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon . A hi a ddywedodd , Ai heddychlon dy ddyfodiad ? Yntau a ddywedodd , Heddychlon . Ac efe a ddywedodd , Y mae i mi air â thi . Hithau a ddywedodd , Dywed . Yntau a ddywedodd , Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth , ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin : eithr trodd y frenhiniaeth , ac a aeth i’m brawd : canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef . Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad ; na omedd fi . Hithau a ddywedodd wrtho , Dywed . Yntau a ddywedodd , Dywed , atolwg , wrth y brenin Solomon , ( canys ni omedd efe dydi , ) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi . A dywedodd Bathseba , Da ; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin . Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon , i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia . A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi , ac a ostyngodd iddi , ac a eisteddodd ar ei orseddfainc , ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin : a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef . Yna hi a ddywedodd , Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt ; na omedd fi . A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Gofyn , fy mam : canys ni’th omeddaf . A hi a ddywedodd , Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd . A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam , Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia ? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef ; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe ; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad , a Joab mab Serfia . A’r brenin Solomon a dyngodd i’r Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn . Yn awr gan hynny , fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a’m sicrhaodd i , ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad , yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ , megis y dywedasai efe : heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth . A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada ; ac efe a ruthrodd arno ef , fel y bu efe farw . Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin , Dos i Anathoth , i’th fro dy hun ; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti : ond ni laddaf di y pryd hwn ; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd , ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad . Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r Arglwydd ; fel y cyflawnai air yr Arglwydd , yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo . A’r chwedl a ddaeth at Joab : canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia , er na wyrasai efe ar ôl Absalom . A ffodd Joab i babell yr Arglwydd , ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor . A mynegwyd i’r brenin Solomon , ffoi o Joab i babell yr Arglwydd ; ac wele , y mae efe wrth yr allor . A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada , gan ddywedyd , Dos , rhuthra arno ef . A daeth Benaia i babell yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrtho ef , Fel hyn y dywed y brenin ; Tyred allan . Yntau a ddywedodd , Na ddeuaf ; eithr yma y byddaf farw . A Benaia a ddug drachefn air at y brenin , gan ddywedyd , Fel hyn’y dywedodd Joab , ac fel hyn y’m hatebodd . A dywedodd y brenin wrtho ef , Gwna fel y dywedodd efe , a rhuthra arno ef , a chladd ef ; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab , oddi arnaf fi , ac oddi ar dŷ fy nhad i . A’r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun ; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun , ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod ; sef Abner mab Ner , tywysog llu Israel , ac Amasa mab Jether , tywysog llu Jwda . A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab , ac ar ben ei had ef yn dragywydd : ond i Dafydd , ac i’w had , ac i’w dŷ , ac i’w orseddfainc , y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd . Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny , ac a ruthrodd arno , ac a’i lladdodd . Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch . A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth . A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar . A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei , ac a ddywedodd wrtho , Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem , ac aros yno , ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw . Canys bydd , y dydd yr elych allan , ac yr elych dros afon Cidron , gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw : dy waed fydd ar dy ben dy hun . A dywedodd Simei wrth y brenin , Da yw y gair : fel y dywedodd fy arglwydd frenin , felly y gwna dy was . A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer . Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis , mab Maacha , brenin Gath . A mynegwyd i Simei , gan ddywedyd , Wele dy weision di yn Gath . A Simei a gyfododd , ac a gyfrwyodd ei asyn , ac a aeth i Gath at Achis , i geisio ei weision : ie , Simei a aeth , ac a gyrchodd ei weision o Gath . A mynegwyd i Solomon , fyned o Simei o Jerwsalem i Gath , a’i ddychwelyd ef . A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei , ac a ddywedodd wrtho . Oni pherais i ti dyngu i’r Arglwydd , ac oni thystiolaethais wrthyt , gan ddywedyd , Yn y dydd yr elych allan , ac yr elych nac yma nac acw , gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw ? a thi a ddywedaist wrthyf , Da yw y gair a glywais . Paham gan hynny na chedwaist lw yr Arglwydd , a’r gorchymyn a orchmynnais i ti ? A dywedodd y brenin wrth Simei , Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon , yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad : yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun ; A bendigedig fydd y brenin Solomon , a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd . Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada ; ac efe a aeth allan , ac a ruthrodd arno ef , fel y bu efe farw . A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon . A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft , ac a briododd ferch Pharo , ac a’i dug hi i ddinas Dafydd , nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun , a thŷ yr Arglwydd , a mur Jerwsalem oddi amgylch . Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd , oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr Arglwydd , hyd y dyddiau hynny . A Solomon a garodd yr Arglwydd , gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad : eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu . A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno : canys honno oedd uchelfa fawr . Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno . Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Solomon mewn breuddwyd liw nos : a dywedodd Duw , Gofyn beth a roddaf i ti . A dywedodd Solomon , Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd , megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd , ac mewn cyfiawnder , ac mewn uniondeb calon gyda thi ; ie , cedwaist iddo y drugaredd fawr hon , a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc , fel y gwelir heddiw . Ac yn awr , O Arglwydd fy Nuw , ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad : a minnau yn fachgen bychan : ni fedraf fyned nac allan nac i mewn . A’th was sydd ymysg dy bobl , y rhai a ddewisaist ti ; pobl aml , y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd . Am hynny dyro i’th was galon ddeallus , i farnu dy bobl , i ddeall rhagor rhwng da a drwg : canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn ? A’r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd , am ofyn o Solomon y peth hyn . A Duw a ddywedodd wrtho , Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn , ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer , ac na ofynnaist i ti olud , ac na cheisiaist einioes dy elynion , eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn : Wele , gwneuthum yn ôl dy eiriau ; wele , rhoddais i ti galon ddoeth a deallus , fel na bu dy fath o’th flaen , ac na chyfyd dy fath ar dy ôl . A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist , golud , a gogoniant hefyd ; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd , dy holl ddyddiau di . Ac os rhodi yn fy ffyrdd i , gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion , megis y rhodiodd Dafydd dy dad , estynnaf hefyd dy ddyddiau di . A Solomon a ddeffrôdd ; ac wele , breuddwyd oedd . Ac efe a ddaeth i Jerwsalem , ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd , ac a offrymodd offrymau poeth , ac a aberthodd aberthau hedd , ac a wnaeth wledd i’w holl weision . Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin , ac a safasant ger ei fron ef . A’r naill wraig a ddywedodd , O fy arglwydd , myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi . Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi , yr esgorodd y wraig hon hefyd ; ac yr oeddem ni ynghyd , heb arall yn tŷ gyda ni , ond nyni ein dwyoedd yn tŷ . A mab y wraig hon a fu farw liw nos ; oherwydd hi a orweddodd arno ef . A hi a gododd yng nghanol y nos , ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl , tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu , ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi , a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau . A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno , wele , marw oedd efe ; ac wedi i mi ddal arno y bore , wele , nid fy mab i , yr hwn a esgoraswn i , ydoedd efe . A’r wraig arall a ddywedodd , Nage ; eithr fy mab i yw y byw , a’th fab dithau yw y marw . A hon a ddywedodd , Nage ; eithr dy fab di yw y marw , a’m mab i yw y byw . Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin . Yna y dywedodd y brenin , Hon sydd yn dywedyd , Dyma fy mab i sydd fyw , a’th fab dithau yw y marw : a hon acw sydd yn dywedyd , Nage ; eithr dy fab di yw y marw , a’m mab innau yw y byw . A dywedodd y brenin , Dygwch i mi gleddyf . A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin . A’r brenin a ddywedodd , Rhennwch y bachgen byw yn ddau , a rhoddwch yr hanner i’r naill , a’r hanner i’r llall . Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin , ( canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab , ) ac a lefarodd , O fy arglwydd , rhoddwch iddi hi y bachgen byw , ac na leddwch ef ddim : ond y llall a ddywedodd , Na fydded eiddof fi na thithau , eithr rhennwch ef . Yna yr atebodd y brenin , ac y dywedodd , Rhoddwch y bachgen byw iddi hi , ac na leddwch ef ddim : dyna ei fam ef . A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin ; a hwy a ofnasant y brenin : canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn . A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel . A dyma y tywysogion oedd ganddo ef : Asareia mab Sadoc , yr offeiriad ; Elihoreff ac Ahia , meibion Sisa , oedd ysgrifenyddion ; Jehosaffat mab Ahilud , yn gofiadur ; Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu ; a Sadoc ac Abiathar , yn offeiriaid ; Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion ; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd , ac yn gyfaill i’r brenin ; Ac Ahisar oedd benteulu ; ac Adoniram mab Abda , ar y deyrnged . A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel , y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ : mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu . Dyma eu henwau hwynt . Mab Hur , ym mynydd Effraim . Mab Decar ym Macas , ac yn Saalbim , a Beth‐semes , ac Elon‐bethanan . Mab Hesed , yn Aruboth : iddo ef yr oedd Socho , a holl dir Heffer . Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor : Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef . Baana mab Ahilud oedd yn Taanach , a Megido , a Bethsean oll , yr hon sydd gerllaw Sartana , islaw Jesreel , o Bethsean hyd Abel‐mehola , hyd y tu hwnt i Jocneam . Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead : iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse , y rhai sydd yn Gilead : eiddo ef oedd ardal Argob , yr hon sydd yn Basan ; sef trigain o ddinasoedd mawrion , â chaerau a barrau pres . Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim . Ahimaas oedd yn Nafftali : yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig . Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth . Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar . Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin . Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead , gwlad Sehon brenin yr Amoriaid , ac Og brenin Basan ; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe . Jwda ac Israel oedd aml , fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra , yn bwyta ac yn yfed , ac yn gwneuthur yn llawen . A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd , o’r afon hyd wlad y Philistiaid , ac hyd derfyn yr Aifft : yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion , ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef . A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid , a thrigain corus o flawd ; Deg o ychen pasgedig , ac ugain o ychen porfadwy , a chant o ddefaid , heblaw ceirw , ac iyrchod , a buail , ac ednod breision . Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll , o Tiffsa hyd Assa , ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon : ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch . Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel , bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren , o Dan hyd Beer‐seba , holl ddyddiau Solomon . Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch . A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin , ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon , pob un yn ei fis : ni adawsant eisiau dim . Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch , ac i’r cyflym gamelod , i’r fan lle y byddai y swyddogion , pob un ar ei ran . A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon , a deall mawr iawn , a helaethdra calon , fel y tywod sydd ar fin y môr . A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain , ac na holl ddoethineb yr Aifft . Ie , doethach oedd efe nag un dyn ; nag Ethan yr Esrahiad , na Heman , na Chalcol , na Darda , meibion Mahol : a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch . Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion : a’i ganiadau ef oedd fil a phump . Llefarodd hefyd am brennau , o’r cedrwydd sydd yn Libanus , hyd yr isop a dyf allan o’r pared : ac efe a lefarodd am anifeiliaid , ac am ehediaid , ac am ymlusgiaid , ac am bysgod . Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon , oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear , y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef . Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon ; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad : canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser . A Solomon a anfonodd at Hiram , gan ddywedyd , Ti a wyddost am Dafydd fy nhad , na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw , gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef , nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef . Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch , fel nad oes na gwrthwynebydd , nac ymgyfarfod niweidiol . Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw ; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad , gan ddywedyd , Dy fab , yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di , efe a adeilada dŷ i’m henw i . Yn awr , gan hynny , gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus ; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di : a rhoddaf atat gyflog dy weision , yn ôl yr hyn a ddywedych : canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid . A bu , pan glybu Hiram eiriau Solomon , lawenychu ohono ef yn ddirfawr , a dywedyd , Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw , yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma . A Hiram a anfonodd at Solomon , gan ddywedyd , Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf : mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd , a choed ffynidwydd . Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr : a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr , hyd y fan a osodych di i mi ; ac yno y datodaf hwynt , a chymer di hwynt : ond ti a wnei fy ewyllys innau , gan roddi ymborth i’m teulu i . Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd , ac o goed ffynidwydd , ei holl ddymuniad . A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ , ac ugain corus o olew coeth : felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn . A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon , fel y dywedasai wrtho : a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon ; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau . A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel , a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr . Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus , deng mil yn y mis ar gylch : mis y byddent yn Libanus , a dau fis gartref . Ac Adoniram oedd ar y dreth . Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau , a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd ; Heb law pen‐swyddogion Solomon , y rhai oedd ar y gwaith , sef tair mil a thri chant , yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith . A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr , a meini costus , a meini nadd , i sylfaenu y tŷ . Felly seiri Solomon , a seiri Hiram , a’r Gibliaid , a naddasant , ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ . Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft , yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel , yn y mis Sif , hwnnw yw yr ail fis , y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd . A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd , ac ugain cufydd ei led , a deg cufydd ar hugain ei uchder . A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd , yn un hyd â lled y tŷ ; ac yn ddeg cufydd ei led , o flaen y tŷ . Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri , yn llydain oddi fewn , ac yn gyfyng oddi allan . Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ , ynghylch y deml , a’r gafell ; ac a wnaeth gelloedd o amgylch . Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled , a’r ganol chwe chufydd ei lled , a’r drydedd yn saith gufydd ei lled : canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch , fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ . A’r tŷ , pan adeiladwyd ef , a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno ; fel na chlybuwyd na morthwylion , na bwyeill , nac un offeryn haearn yn y tŷ , wrth ei adeiladu . Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i’r ganol , ac o’r ganol i’r drydedd . Felly yr adeiladodd efe y tŷ , ac a’i gorffennodd ; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd . Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ , yn bum cufydd eu huchder : ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ . A daeth gair yr Arglwydd at Solomon , gan ddywedyd , Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu , os rhodi di yn fy neddfau i , a gwneuthur fy marnedigaethau , a chadw fy holl orchmynion , gan rodio ynddynt ; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad : A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel , ac ni adawaf fy mhobl Israel . Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ , ac a’i gorffennodd . Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd , o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn : byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd . Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr , o’r llawr hyd y parwydydd : felly yr adeiladodd iddo o fewn , sef i’r gafell , i’r cysegr sancteiddiolaf . A’r tŷ , sef y deml o’i flaen ef , oedd ddeugain cufydd ei hyd . A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau , ac yn flodau agored : y cwbl oedd gedrwydd ; ni welid carreg . A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn , i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd . A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd , ac ugain cufydd o led , ac ugain cufydd ei huchder : ac efe a’i gwisgodd ag aur pur ; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd . Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur ; ac a roddes farrau ar draws , wrth gadwyni aur , o flaen y gafell , ac a’u gwisgodd ag aur . A’r holl dŷ a wisgodd efe ag aur , nes gorffen yr holl dŷ : yr allor hefyd oll , yr hon oedd wrth y gafell , a wisgodd efe ag aur . Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid , o bren olewydd , pob un yn ddeg cufydd ei uchder . A’r naill adain i’r ceriwb oedd bum cufydd , a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd : deg cufydd oedd o’r naill gwr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef . A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd : un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb . Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd ; ac felly yr oedd y ceriwb arall . Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn : ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant , fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared , ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall ; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd . Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur . A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored ; o fewn ac oddi allan . Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur , oddi fewn ac oddi allan . Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd ; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared . Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored , ac a’u gwisgodd ag aur , ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid , ac ar y palmwydd . Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd , y rhai oedd bedwaredd ran y pared . Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd : dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr , a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall . Ac efe a gerfiodd geriwbiaid , a phalmwydd , a blodau agored , arnynt ; ac a’u gwisgodd ag aur , yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad . Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd , ac â rhes o drawstiau cedrwydd . Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd , ym mis Sif : Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg , ym mis Bul , ( dyna yr wythfed mis , ) y gorffennwyd y tŷ , a’i holl rannau , a’i holl berthynasau . Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef . Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg , ac a orffennodd ei holl dŷ . Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus , yn gan cufydd ei hyd , ac yn ddeg cufydd a deugain ei led , ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder , ar bedair rhes o golofnau cedrwydd , a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau . Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain , pymtheg yn y rhes . Ac yr oedd tair rhes o ffenestri , golau ar gyfer golau , yn dair rhenc . A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr , felly yr oedd y ffenestri ; a golau ar gyfer golau , yn dair rhenc . Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau , yn ddeg cufydd a deugain ei hyd , ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led : a’r porth oedd o’u blaen hwynt ; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau . Porth yr orseddfa hefyd , yr hwn y barnai efe ynddo , a wnaeth efe yn borth barn : ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall . Ac i’w dŷ ei hun , yr hwn y trigai efe ynddo , yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith . Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo , yr hon a briodasai Solomon , fel y porth hwn . Hyn oll oedd o feini costus , wedi eu naddu wrth fesur , a’u lladd â llif , oddi fewn ac oddi allan , a hynny o’r sylfaen hyd y llogail ; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr . Ac efe a sylfaenesid â meini costus , â meini mawr , â meini o ddeg cufydd , ac â meini o wyth gufydd . Ac oddi arnodd yr oedd meini costus , wedi eu naddu wrth fesur , a chedrwydd . Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch , dair rhes o gerrig nadd , a rhes o drawstiau cedrwydd , i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn , ac i borth y tŷ . A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus . Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali , a’i dad yn ŵr o Tyrus : gof pres ydoedd efe ; a llawn ydoedd o ddoethineb , a deall , a gwybodaeth , i weithio pob gwaith o bres . Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon , ac a weithiodd ei holl waith ef . Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres ; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn ; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy . Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd , i’w rhoddi ar bennau y colofnau ; pum cufydd oedd uchder y naill gnap , a phum cufydd uchder y cnap arall . Efe a wnaeth rwydwaith , a phlethiadau o gadwynwaith , i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau ; saith i’r naill gnap , a saith i’r cnap arall . Ac efe a wnaeth y colofnau , a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith , i guddio’r cnapiau oedd uwchben ; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall . A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili , yn y porth , yn bedwar cufydd . Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd , ar gyfer y canol , yr oedd pomgranadau , y rhai oedd wrth y rhwydwaith ; a’r pomgranadau oedd ddau cant , yn rhesau o amgylch , ar y cnap arall . Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml : ac a gyfododd y golofn ddeau , ac a alwodd ei henw hi Jachin ; ac efe a gyfododd y golofn aswy , ac a alwodd ei henw hi Boas . Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili . Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau . Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl : yn grwn oddi amgylch , ac yn bum cufydd ei uchder ; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch . A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch , deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch : y cnapiau oedd yn ddwy res , wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau . Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen ; tri oedd yn edrych tua’r gogledd , a thri yn edrych tua’r gorllewin , a thri yn edrych tua’r deau , a thri yn edrych tua’r dwyrain : a’r môr arnynt oddi arnodd , a’u pennau ôl hwynt oll o fewn . Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd , a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan , a blodau lili : dwy fil o bathau a annai ynddo . Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres ; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl , a phedwar cufydd ei lled , a thri chufydd ei huchder . A dyma waith yr ystolion : ystlysau oedd iddynt , a’r ystlysau oedd rhwng y delltennau : Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau , yr oedd llewod , ychen , a cheriwbiaid ; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd ; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau . A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl , a phlanciau pres ; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt : dan y noe yr oedd ysgwyddau , wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad . A’i genau oddi fewn y cwmpas , ac oddi arnodd , oedd gufydd ; a’i genau hi oedd grwn , ar waith yr ystôl , yn gufydd a hanner ; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau , a’i hystlysau yn bedwar ochrog , nid yn grynion . A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau , ac echelau yr olwynion yn yr ystôl ; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd . Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men ; eu hechelau , a’u bothau , a’u camegau , a’u hadenydd , oedd oll yn doddedig . Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl : o’r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi . Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch , o hanner cufydd o uchder ; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un . Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi , ac ar ei thaleithiau hi , geriwbiaid , llewod , a phalmwydd , wrth noethder pob un , a chysylltiadau oddi amgylch . Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl : un toddiad , un mesur , ac un agwedd , oedd iddynt hwy oll . Gwnaeth hefyd ddeng noe bres : deugain bath a ddaliai pob noe ; yn bedwar cufydd bob noe ; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl . Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ , a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ : a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ , tua’r dwyrain , ar gyfer y deau . Gwnaeth Hiram hefyd y noeau , a’r rhawiau , a’r cawgiau : a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith , yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr Arglwydd . Y ddwy golofn , a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn ; a’r ddau rwydwaith , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau ; A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith , dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau ; A’r deg ystôl , a’r deg noe ar yr ystolion ; Ac un môr , a deuddeg o ychen dan y môr ; A’r crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau ; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon , i dŷ yr Arglwydd , oedd o bres gloyw . Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir , rhwng Succoth a Sarthan . A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri , oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt : ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith . A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr Arglwydd ; yr allor aur , a’r bwrdd aur , yr hwn yr oedd y bara gosod arno ; A phum canhwyllbren o’r tu deau , a phump o’r tu aswy , o flaen y gafell , yn aur pur ; a’r blodau , a’r llusernau , a’r gefeiliau , o aur ; Y ffiolau hefyd , a’r saltringau , a’r cawgiau , a’r llwyau , a’r thuserau , o aur coeth ; a bachau dorau y tŷ , o fewn y cysegr sancteiddiaf , a dorau tŷ y deml , oedd aur . Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr Arglwydd . A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad ; yr arian , a’r aur , a’r dodrefn , a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr Arglwydd . Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel , a holl bennau y llwythau , a thywysogion tadau meibion Israel , at y brenin Solomon , yn Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd , honno yw Seion . A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon , ar yr ŵyl , ym mis Ethanim , hwnnw yw y seithfed mis . A holl henuriaid Israel a ddaethant , a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny . A hwy a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd , a phabell y cyfarfod , a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell , a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny . A’r brenin Solomon , a holl gynulleidfa Israel , y rhai a ymgynullasai ato ef , oedd gydag ef o flaen yr arch , yn aberthu defaid , a gwartheg , y rhai ni rifid ac ni chyfrifid , gan luosowgrwydd . Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun , i gafell y tŷ , i’r cysegr sancteiddiaf , dan adenydd y ceriwbiaid . Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch ; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch , a’i barrau oddi arnodd . A’r barrau a estynasant , fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell , ond nis gwelid oddi allan : yno y maent hwy hyd y dydd hwn . Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb , lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel , pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft . A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr , y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd , Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu , oherwydd y cwmwl : canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd . Yna y dywedodd Solomon , Yr Arglwydd a ddywedodd , y preswyliai efe yn y tywyllwch . Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti ; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo . A’r brenin a drodd ei wyneb , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel . A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad , ac a’i cwblhaodd â’i law , gan ddywedyd , Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft , ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ , fel y byddai fy enw i yno : eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel . Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad , Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i , da y gwnaethost fod hynny yn dy galon : Eto nid adeiledi di y tŷ ; ond dy fab di , yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di , efe a adeilada y tŷ i’m henw i . A’r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe ; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad , ac a eisteddais ar deyrngadair Israel , megis y llefarodd yr Arglwydd , ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . A mi a osodais yno le i’r arch , yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd , yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni , pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft . A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd , yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd : Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , nid oes Duw fel tydi , yn y nefoedd oddi uchod , nac ar y ddaear oddi isod , yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon ; Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho : traethaist hefyd â’th enau , a chwblheaist â’th law , megis heddiw y mae . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw Israel , cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel ; os dy feibion a gadwant eu ffordd , i rodio ger fy mron i , megis y rhodiaist ti ger fy mron . Ac yn awr , O Dduw Israel , poed gwir , atolwg , fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad . Ai gwir yw , y preswylia Duw ar y ddaear ? wele , y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ni allant dy gynnwys di ; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i ! Eto edrych ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiad ef , O Arglwydd fy Nuw , i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di : Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd , tua’r lle y dywedaist amdano , Fy enw a fydd yno : i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn . Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was , a’th bobl Israel , pan weddïant yn y lle hwn : clyw hefyd o le dy breswylfa , sef o’r nefoedd ; a phan glywych , maddau . Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog , a gofyn ganddo raith , gan ei dyngu ef , a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn : Yna clyw di yn y nefoedd , gwna hefyd , a barna dy weision , gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben ; a chan gyfiawnhau y cyfiawn , trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder . Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn , am iddynt bechu yn dy erbyn di , os dychwelant atat ti , a chyfaddef dy enw , a gweddïo , ac ymbil â thi yn y tŷ hwn : Yna gwrando di yn y nefoedd , a maddau bechod dy bobl Israel , a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt . Pan gaeer y nefoedd , fel na byddo glaw , oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn ; os gweddïant yn y lle hwn , a chyfaddef dy enw , a dychwelyd oddi wrth eu pechod , pan gystuddiech di hwynt : Yna gwrando di yn y nefoedd , a maddau bechod dy weision , a’th bobl Israel , fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi , a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth . Os bydd newyn yn y tir , os bydd haint , llosgfa , malltod , locustiaid , os bydd y lindys ; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd ; pa bla bynnag , pa glefyd bynnag , a fyddo ; Pob gweddi , pob deisyfiad , a fyddo gan un dyn , neu gan dy holl bobl Israel , y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun , ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn : Yna gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , a maddau ; gwna hefyd , a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd , yr hwn yr adwaenost ei galon ; ( canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion ; ) Fel y’th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i’n tadau ni . Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel , ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw ; ( Canys clywant am dy enw mawr di , a’th law gref , a’th fraich estynedig ; ) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn : Gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano : fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di , i’th ofni di , fel y mae dy bobl Israel , ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i . Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn , ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt , os gweddïant ar yr Arglwydd tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti , a’r tŷ yr hwn a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt , ac ar eu deisyfiad , a gwna farn iddynt . Os pechant i’th erbyn , ( canys nid oes dyn ni phecha , ) a digio ohonot wrthynt , a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion , fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn , ymhell neu yn agos ; Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi , a dychwelyd , ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant , gan ddywedyd , Pechasom , troseddasom hefyd , a gwnaethom yn annuwiol ; A dychwelyd atat ti â’u holl galon , ac â’u holl enaid , yng ngwlad eu gelynion a’u caethgludasant hwynt , a gweddïo arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau , a’r ddinas a ddewisaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando di yn y nefoedd , mangre dy breswylfod , eu gweddi hwynt , a’u deisyfiad , a gwna farn iddynt , A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn , a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn , a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant , fel y trugarhaont wrthynt hwy : Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy , y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft , o ganol y ffwrn haearn : Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was , a deisyfiad dy bobl Israel , i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti . Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear , fel y lleferaist trwy law Moses dy was , pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft , O Arglwydd Dduw . Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a’r deisyfiad yma , efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd , o ostwng ar ei liniau , ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd . Ac efe a safodd , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel , gan ddywedyd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel , yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe : ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef , y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was . Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni , fel y bu gyda’n tadau : na wrthoded ni , ac na’n gadawed ni : I ostwng ein calonnau ni iddo ef , i rodio yn ei holl ffyrdd ef , ac i gadw ei orchmynion ef , a’i ddeddfau , a’i farnedigaethau , y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni . A bydded fy ngeiriau hyn , y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd , yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos , i wneuthur barn â’i was , a barn â’i bobl Israel beunydd , fel y byddo’r achos : Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw , ac nad oes arall . Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni , i rodio yn ei ddeddfau ef , ac i gadw ei orchmynion ef , fel heddiw . A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd . A Solomon a aberthodd aberth hedd , yr hwn a offrymodd efe i’r Arglwydd , sef dwy fil ar hugain o wartheg , a chwech ugain mil o ddefaid . Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd . Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd : canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau , a’r bwyd‐offrymau , a braster yr offrymau hedd : oherwydd yr allor bres , yr hon oedd gerbron yr Arglwydd , oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau , a’r bwyd‐offrymau , a braster yr offrymau hedd . A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl , a holl Israel gydag ef , cynulleidfa fawr , o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft , gerbron yr Arglwydd ein Duw , saith o ddyddiau a saith o ddyddiau , sef pedwar diwrnod ar ddeg . A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl : a hwy a fendithiasant y brenin , ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen , am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was , ac i Israel ei bobl . A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur ; Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith , fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di , yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i : cysegrais y tŷ yma a adeiledaist , i osod fy enw ynddo byth ; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol . Ac os rhodi di ger fy mron i , megis y rhodiodd Dafydd dy dad , mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti , ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau : Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd , fel y lleferais wrth Dafydd dy dad , gan ddywedyd , Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel . Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i , ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau , y rhai a roddais o’ch blaen chwi , eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt hwy : Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy ; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw , a fwriaf allan o’m golwg ; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd : A’r tŷ uchel hwn , pawb a gyniweiro heibio iddo , a synna wrtho , ac a chwibana ; dywedant hefyd , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon , ac i’r tŷ yma ? A hwy a ddywedant , Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft , ac ymaflyd mewn duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt , a’u gwasanaethu hwynt ; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn . Ac ymhen yr ugain mlynedd , wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ , sef tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ( Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr , a choed ffynidwydd , ac aur , yn ôl ei holl ewyllys ef , ) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea . A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef ; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef . Ac efe a ddywedodd , Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi , fy mrawd ? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul , hyd y dydd hwn . A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur . A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon , i adeiladu tŷ yr Arglwydd , a’i dŷ ei hun , a Milo , a mur Jerwsalem , Hasor , a Megido , a Geser . Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny , ac a enillasai Geser , ac a’i llosgasai hi â thân , ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas , ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch , gwraig Solomon . A Solomon a adeiladodd Geser , a Beth‐horon isaf , A Baalath , a Thadmor yn yr anialwch , o fewn y wlad , A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon , a dinasoedd y cerbydau , a dinasoedd y gwŷr meirch , a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem , ac yn Libanus , ac yn holl dir ei lywodraeth . Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid , Hethiaid , Peresiaid , Hefiaid , a’r Jebusiaid , y rhai nid oeddynt o feibion Israel ; Sef eu meibion hwy , y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad , y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd ; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn . Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas : rhyfelwyr iddo ef oeddynt , a gweision iddo , a thywysogion iddo , a chapteiniaid iddo , a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch . Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon , pum cant a deg a deugain , oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith . A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun , yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi : yna efe a adeiladodd Milo . A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r Arglwydd : ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd . Felly efe a orffennodd y tŷ . A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber , yr hon sydd wrth Eloth , ar fin y môr coch , yng ngwlad Edom . A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau , y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr , gyda gweision Solomon . A hwy a ddaethant i Offir , ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur , ac a’u dygasant at y brenin Solomon . A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd , hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled . A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn , â chamelod yn dwyn aroglau , ac aur lawer iawn , a meini gwerthfawr . A hi a ddaeth at Solomon , ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon . A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion : nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin , a’r na fynegodd efe iddi hi . A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon , a’r tŷ a adeiladasai efe , A bwyd ei fwrdd , ac eisteddiad ei weision , a threfn ei weinidogion , a’u dillad hwynt , a’i drulliadau ef , a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd mwyach ysbryd ynddi . A hi a ddywedodd wrth y brenin , Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di , ac am dy ddoethineb . Eto ni chredais y geiriau , nes i mi ddyfod , ac i’m llygaid weled : ac wele , ni fynegasid i mi yr hanner : mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i . Gwyn fyd dy wŷr di , gwyn fyd dy weision hyn , y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di , yn clywed dy ddoethineb . Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th hoffodd di , i’th roddi ar deyrngadair Israel : oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd , y gosododd efe di yn frenin , i wneuthur barn a chyfiawnder . A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur , a pheraroglau lawer iawn , a meini gwerthfawr . Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach , cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon . A llongau Hiram hefyd , y rhai a gludent aur o Offir , a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim , ac o feini gwerthfawr . A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd , ac i dŷ y brenin , a thelynau a saltringau i gantorion . Ni ddaeth y fath goed almugim , ac ni welwyd hyd y dydd hwn . A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad , yr hyn a ofynnodd hi , heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni . Felly hi a ddychwelodd , ac a aeth i’w gwlad , hi a’i gweision . A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn , oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur ; Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr , ac o farsiandïaeth y llysieuwyr , a chan holl frenhinoedd Arabia , a thywysogion y wlad . A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin ; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian : A thri chant o fwcledi o aur dilin ; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled . A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus . A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori , ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau . Chwech o risiau oedd i’r orseddfainc ; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi , a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle , a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau . A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu . Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas . A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur ; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur : nid oedd arian ynddynt . Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon . Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr , gyda llongau Hiram . Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis , yn dwyn aur , ac arian , ac ifori , ac epaod , a pheunod . A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear , mewn cyfoeth a doethineb . A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon , i glywed ei ddoethineb ef , a roddasai Duw yn ei galon ef . A hwy a ddygasant bob un ei anrheg , llestri arian , a llestri aur , a gwisgoedd , ac arfau , a pheraroglau , meirch , a mulod , dogn bob blwyddyn . A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion : ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau , a deuddeng mil o farchogion ; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau , a chyda’r brenin yn Jerwsalem . A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig , a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir , o amldra . A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft , ac edafedd llin : marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris . A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian , a march am gant a deg a deugain : ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid , ac i frenhinoedd Syria , y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt . Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr , heblaw merch Pharo , Moabesau , Ammonesau , Edomesau , Sidonesau , a Hethesau ; O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel , Nac ewch i mewn atynt hwy , ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi : diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt . Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad . Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd , yn freninesau ; a thri chant o ordderchwragedd : a’i wragedd a droesant ei galon ef . A phan heneiddiodd Solomon , ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr : ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw , fel y buasai calon Dafydd ei dad ef . Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid , ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid . A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos , ffieidd‐dra Moab , yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem ; ac i Moloch , ffieidd-dra meibion Ammon . Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr , y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i’w duwiau . A’r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon , oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith , Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn , nad elai efe ar ôl duwiau dieithr : ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd . Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon , Oherwydd bod hyn ynot ti , ac na chedwaist fy nghyfamod a’m deddfau a orchmynnais i ti ; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti , ac a’i rhoddaf hi i’th was di . Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn , er mwyn Dafydd dy dad : o law dy fab di y rhwygaf hi . Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth ; un llwyth a roddaf i’th fab di , er mwyn Dafydd fy ngwas , ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais . A’r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon , Hadad yr Edomiad : o had y brenin yn Edom yr oedd efe . Canys pan oedd Dafydd yn Edom , a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion , wedi iddo daro pob gwryw yn Edom ; ( Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel , nes difetha pob gwryw yn Edom : ) Yr Hadad hwnnw a ffodd , a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef , i fyned i’r Aifft ; a Hadad yn fachgen bychan eto . A hwy a gyfodasant o Midian , ac a ddaethant i Paran : ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran , ac a ddaethant i’r Aifft , at Pharo brenin yr Aifft ; ac efe a roddes iddo ef dŷ , ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo , ac a roddodd dir iddo . A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo , ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun , chwaer Tahpenes y frenhines . A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab ; a Thahpenes a’i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo : a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo . A phan glybu Hadad yn yr Aifft , huno o Dafydd gyda’i dadau , a marw o Joab tywysog y filwriaeth , Hadad a ddywedodd wrth Pharo , Gollwng fi , fel yr elwyf i’m gwlad fy hun . A dywedodd Pharo wrtho ef , Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi , pan wyt , wele , yn ceisio myned i’th wlad dy hun ? Ac efe a ddywedodd , Dim ; eithr gan ollwng gollwng fi . A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef , Reson mab Eliada , yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd : Ac efe a gynullodd wŷr ato , ac a aeth yn dywysog ar fyddin , pan laddodd Dafydd hwynt o Soba ; a hwy a aethant i Damascus , ac a drigasant ynddi , ac a deyrnasasant yn Damascus . Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon , heblaw y drwg a wnaeth Hadad : ac efe a ffieiddiodd Israel , ac a deyrnasodd ar Syria . A Jeroboam mab Nebat , Effratead o Sereda , ( ac enw ei fam ef oedd Serfa , yr hon oedd wraig weddw , ) gwas i Solomon , a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin . Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin : Solomon a adeiladodd Milo , ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad . A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth : a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith , ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff . A’r pryd hwnnw , a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem , y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd , ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd , a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes . Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef , ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau . Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam , Cymer i ti ddeg darn : canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon , a rhoddaf ddeg llwyth i ti : ( Ond un llwyth fydd iddo ef , er mwyn fy ngwas Dafydd , ac er mwyn Jerwsalem , y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel : ) Oblegid iddynt fy ngwrthod i , ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid , ac i Cemos duw y Moabiaid , ac i Milcom duw meibion Ammon , ac na rodiasant yn fy ffyrdd i , i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i , ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau , fel Dafydd ei dad . Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef : eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes , er mwyn Dafydd fy ngwas , yr hwn a ddewisais i , yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i : Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef , a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth . Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth ; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno . A thi a gymeraf fi , fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon ; a thi a fyddi frenin ar Israel . Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti , a rhodio yn fy ffyrdd i , a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i , i gadw fy neddfau a’m gorchmynion , fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas ; yna mi a fyddaf gyda thi , ac a adeiladaf i ti dŷ sicr , fel yr adeiledais i Dafydd , a mi a roddaf Israel i ti . A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn ; eto nid yn dragywydd . Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam . A Jeroboam a gyfododd , ac a ffodd i’r Aifft , at Sisac brenin yr Aifft ; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon . A’r rhan arall o weithredoedd Solomon , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i ddoethineb ef , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon ? A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem , ar holl Israel , oedd ddeugain mlynedd . A Solomon a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad ; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yna Rehoboam a aeth i Sichem : canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin . A phan glybu Jeroboam mab Nebat , ac efe eto yn yr Aifft , ( canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin , a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft ; ) Hwy a anfonasant , ac a alwasant arno ef . A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant , ac a ymddiddanasant â Rehoboam , gan ddywedyd , Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom : ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad , ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni , ac ni a’th wasanaethwn di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch eto dridiau ; yna dychwelwch ataf fi . A’r bobl a aethant ymaith . A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef , tra yr ydoedd efe yn fyw , ac a ddywedodd , Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn ? A hwy a lefarasant wrtho ef , gan ddywedyd , Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn , a’u gwasanaethu hwynt , a’u hateb hwynt , a llefaru wrthynt eiriau teg ; yna y byddant weision i ti byth . Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid , yr hwn a gyngorasent iddo ef ; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef , a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef : Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Beth yr ydych chwi yn ei gynghori , fel yr atebom y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyf , gan ddywedyd , Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni ? A’r gwŷr ieuainc , y rhai a gynyddasent gydag ef , a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma , y rhai a lefarasant wrthyt , gan ddywedyd , Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni , ond ysgafnha di hi arnom ni ; fel hyn y lleferi di wrthynt ; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad . Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd â iau drom , a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch cosbodd chwi â ffrewyllau , a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau . A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd , fel y llefarasai y brenin , gan ddywedyd , Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd . A’r brenin a atebodd y bobl yn arw , ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo ; Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc , gan ddywedyd , Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom , a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau . Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl . Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd , fel y cwblheid ei air ef , yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat . A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy , y bobl a atebasant y brenin , gan ddywedyd , Pa ran sydd i ni yn Dafydd ? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse : O Israel , dos i’th bebyll ; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun , Dafydd . Felly Israel a aethant i’w pebyll . Ond meibion Israel , y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda , Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy . A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram , yr hwn oedd ar y dreth ; a holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw . Am hynny y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd , i ffoi i Jerwsalem . Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn . A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam , hwy a anfonasant ac a’i galwasant ef at y gynulleidfa , ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel : nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd , ond llwyth Jwda yn unig . A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem , efe a gasglodd holl dŷ Jwda , a llwyth Benjamin , cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol , cymwys i ryfel , i ymladd yn erbyn tŷ Israel , i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon . Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw , gan ddywedyd , Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda , ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin , a gweddill y bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Nac ewch i fyny , ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel ; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun : canys trwof fi y mae y peth hyn . A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd , ac a ddychwelasant i fyned ymaith , yn ôl gair yr Arglwydd . Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim , ac a drigodd ynddi hi ; ac a aeth oddi yno , ac adeiladodd Penuel . A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon , Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd . Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem , yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda , a hwy a’m lladdant i , ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda . Yna y brenin a ymgynghorodd , ac a wnaeth ddau lo aur , ac a ddywedodd wrthynt hwy , Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem : wele dy dduwiau di , O Israel , y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft . Ac efe a osododd un yn Bethel , ac a osododd y llall yn Dan . A’r peth hyn a aeth yn bechod : oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan . Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd , ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl , y rhai nid oedd o feibion Lefi . A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis , ar y pymthegfed dydd o’r mis , fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda ; ac efe a offrymodd ar yr allor . Felly y gwnaeth efe yn Bethel , gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe : ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe . Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel , y pymthegfed dydd o’r wythfed mis , sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun ; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel : ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu . Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda , trwy air yr Arglwydd , i Bethel : a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu . Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor , trwy air yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O allor , allor , fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Wele , mab a enir i dŷ Dafydd , a’i enw Joseia ; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti , a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti . Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw , gan ddywedyd , Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd ; Wele , yr allor a rwygir , a’r lludw sydd arni a dywelltir . A phan glybu y brenin air gŵr Duw , yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel , yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor , gan ddywedyd , Deliwch ef . A diffrwythodd ei law ef , yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef , fel na allai efe ei thynnu hi ato . Yr allor hefyd a rwygodd , a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor , yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd . A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw , Gweddïa , atolwg , gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ac ymbil drosof fi , fel yr adferer fy llaw i mi . A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd ; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef , ac a fu fel cynt . A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw , Tyred adref gyda mi , a chymer luniaeth , a mi a roddaf rodd i ti . A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin , Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ , ni ddeuwn i gyda thi ; ac ni fwytawn fara , ac nid yfwn ddwfr , yn y fan hon : Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd , gan ddywedyd , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr ; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost . Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall , ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel . Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel ; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel : a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin . A’u tad a ddywedodd wrthynt , Pa ffordd yr aeth efe ? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw , yr hwn a ddaethai o Jwda . Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion , Cyfrwywch i mi yr asyn . A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn ; ac efe a farchogodd arno . Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw , ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen ; ac a ddywedodd wrtho , Ai tydi yw gŵr Duw , yr hwn a ddaethost o Jwda ? Ac efe a ddywedodd , Ie , myfi . Yna efe a ddywedodd wrtho , Tyred adref gyda mi , a bwyta fara . Yntau a ddywedodd , Ni allaf ddychwelyd gyda thi , na dyfod gyda thi ; ac ni fwytâf fara , ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon . Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr yno ; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi . Dywedodd yntau wrtho , Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau ; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dychwel ef gyda thi i’th dŷ , fel y bwytao fara , ac yr yfo ddwfr . Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho . Felly efe a ddychwelodd gydag ef , ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef , ac a yfodd ddwfr . A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd , daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd : Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd , ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , Eithr dychwelaist , a bwyteaist fara , ac yfaist ddwfr , yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti , Na fwyta fara , ac nac yf ddwfr ; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau . Ac wedi iddo fwyta bara , ac wedi iddo yfed , efe a gyfrwyodd iddo yr asyn , sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd . Ac wedi iddo fyned ymaith , llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd , ac a’i lladdodd ef : a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd , a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef , a’r llew yn sefyll wrth y gelain . Ac wele wŷr yn myned heibio , ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd , a’r llew yn sefyll wrth y gelain : a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi . A phan glybu y proffwyd , yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd , efe a ddywedodd , Gŵr Duw yw efe , yr hwn a anufuddhaodd air yr Arglwydd : am hynny yr Arglwydd a’i rhoddodd ef i’r llew , yr hwn a’i drylliodd ef , ac a’i lladdodd ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe wrtho ef . Ac efe a lefarodd wrth ei feibion , gan ddywedyd , Cyfrwywch i mi yr asyn . A hwy a’i cyfrwyasant . Ac efe a aeth , ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd , a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain : ac ni fwytasai y llew y gelain , ac ni ddrylliasai efe yr asyn . A’r proffwyd a gymerth gelain gŵr Duw , ac a’i gosododd hi ar yr asyn , ac a’i dug yn ei hôl . A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas , i alaru , ac i’w gladdu ef . Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun ; a hwy a alarasant amdano ef , gan ddywedyd , O fy mrawd ! Ac wedi iddo ei gladdu ef , efe a lefarodd wrth ei feibion , gan ddywedyd , Pan fyddwyf farw , cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo ; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef . Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel , ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria . Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus ; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd : y neb a fynnai , efe a’i cysegrai ef , ac efe a gâi fod yn offeiriad i’r uchelfeydd . A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam , i’w ddiwreiddio hefyd , ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear . Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam . A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig , Cyfod atolwg , a newid dy ddillad , fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam ; a dos i Seilo : wele , yno y mae Ahïa y proffwyd , yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma . A chymer yn dy law ddeg o fara , a theisennau , a chostrelaid o fêl , a dos ato ef : efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen . A gwraig Jeroboam a wnaeth felly ; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo , ac a ddaeth i dŷ Ahïa . Ond ni allai Ahïa weled ; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint . A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahïa , Wele , y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab ; canys claf yw efe : fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi : canys pan ddelo hi i mewn , hi a ymddieithra . A phan glybu Ahïa drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws , efe a ddywedodd , Tyred i mewn , gwraig Jeroboam ; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro ? canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion caled . Dos , dywed wrth Jeroboam , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl , a’th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel , A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd , a’i rhoddi i ti ; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd , yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion , a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon , i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i ; Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o’th flaen di ; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr , a delwau toddedig , i’m digio i , ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn : Am hynny , wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam ; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw , y gwarchaeëdig a’r gweddilledig yn Israel ; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam , fel y bwrir allan dom , nes ei ddarfod . Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes : canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Cyfod di gan hynny , dos i’th dŷ : a phan ddelo dy draed i’r ddinas , bydd marw y bachgen . A holl Israel a alarant amdano ef , ac a’i claddant ef : canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i’r bedd ; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel , yn nhŷ Jeroboam . Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel , yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw : ond pa beth ? ie , yn awr . Canys yr Arglwydd a dery Israel , megis y siglir y gorsen mewn dwfr ; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt , ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon ; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni , gan annog yr Arglwydd i ddigofaint . Ac efe a ddyry heibio Israel , er mwyn pechodau Jeroboam , yr hwn a bechodd , a’r hwn a wnaeth i Israel bechu . A gwraig Jeroboam a gyfododd , ac a aeth ymaith , ac a ddaeth i Tirsa : ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ , bu farw y bachgen . A hwy a’i claddasant ef ; a holl Israel a alarasant amdano , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd . A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam , fel y rhyfelodd efe , ac fel y teyrnasodd efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain : ac efe a hunodd gyda’i dadau ; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda . Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel , i osod ei enw yno . Ac enw ei fam ef oedd Naama , Ammones . A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd ; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd , rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau , yn eu pechodau a wnaethent . Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd , a delwau , a llwyni ar bob bryn uchel , a than bob pren gwyrddlas . A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad : gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam , Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem . Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin ; efe a’u dug hwynt ymaith oll : dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon . A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres , ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr , y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin . A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd , y rhedegwyr a’u dygent hwy , ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr . A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau . A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd . Ac enw ei fam ef oedd Naama , Ammones . Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat , yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda . Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Maacha , merch Abisalom . Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad , y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef : ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw , fel calon Dafydd ei dad . Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem ; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef , ac i sicrhau Jerwsalem : Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes , ond yn achos Ureia yr Hethiad . A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes . A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam . Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau , a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd . Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda . Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Maacha , merch Abisalom . Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad , ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau . Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines , oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn ; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi , ac a’i llosgodd wrth afon Cidron . Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd : eto calon Asa oedd berffaith gyda’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef . Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad , a’r pethau a gysegrasai efe ei hun , i dŷ yr Arglwydd , yn arian , yn aur , ac yn llestri . A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt . A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda , ac a adeiladodd Rama ; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda . Yna Asa a gymerodd yr holl arian a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision : a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon , mab Hesion , brenin Syria , yr hwn oedd yn trigo yn Damascus , gan ddywedyd , Cyfamod sydd rhyngof fi a thi , rhwng fy nhad i a’th dad di : wele , mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur ; tyred , diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel , fel y cilio efe oddi wrthyf fi . Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa , ac a anfonodd dywysogion y lluoedd , y rhai oedd ganddo ef , yn erbyn dinasoedd Israel , ac a drawodd Ijon , a Dan , ac Abel‐beth‐maacha , a holl Cinneroth , gyda holl wlad Nafftali . A phan glybu Baasa hynny , efe a beidiodd ag adeiladu Rama ; ac a drigodd yn Tirsa . Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda , heb lysu neb : a hwy a gymerasant gerrig Rama , a’i choed , â’r rhai yr adeiladasai Baasa ; a’r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin , a Mispa . A’r rhan arall o holl hanes Asa , a’i holl gadernid ef , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’r dinasoedd a adeiladodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed . Ac Asa a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad ; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda ; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd . Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd ei dad , ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu . A Baasa mab Ahïa , o dŷ Issachar , a gydfwriadodd yn ei erbyn ef ; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid : canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon . A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A phan deyrnasodd , efe a drawodd holl dŷ Jeroboam ; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam , nes ei ddifetha ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad : Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe , a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu ; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel . A’r rhan arall o hanes Nadab , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt . Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa , bedair blynedd ar hugain . Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam , ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa , gan ddywedyd , Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch , a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel , a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam , a pheri i’m pobl Israel bechu , gan fy nigio â’u pechodau ; Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa , a hiliogaeth ei dŷ ef : a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat . Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes . A’r rhan arall o hanes Baasa , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid ef , onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Baasa a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Tirsa ; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa , ac yn erbyn ei dŷ ef , oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd , gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo ; gan fod fel tŷ Jeroboam , ac oblegid iddo ei ladd ef . Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa , ddwy flynedd . A Simri ei was ef , tywysog ar hanner y cerbydau , a gydfwriadodd yn ei erbyn ef , ac efe yn yfed yn feddw , yn Tirsa , yn nhŷ Arsa , yr hwn oedd benteulu yn Tirsa . A Simri a aeth ac a’i trawodd ef , ac a’i lladdodd , yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A phan ddechreuodd efe deyrnasu , ac eistedd ar ei deyrngadair , efe a laddodd holl dŷ Baasa : ni adawodd efe iddo ef un gwryw , na’i geraint , na’i gyfeillion . Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd . Oherwydd holl bechodau Baasa , a phechodau Ela ei fab ef , trwy y rhai y pechasant hwy , a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu , gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd . A’r rhan arall o hanes Ela , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa : a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid . A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd , Simri a gydfwriadodd , ac a laddodd y brenin . A holl Israel a goronasant Omri , tywysog y llu , yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel , yn y gwersyll . Ac Omri a aeth i fyny , a holl Israel gydag ef , o Gibbethon ; a hwy a warchaeasant ar Tirsa . A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill , efe a aeth i balas tŷ y brenin , ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân , ac a fu farw ; Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe , gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd , gan rodio yn ffordd Jeroboam , ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu . A’r rhan arall o hanes Simri , a’i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe ; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran : rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath , i’w osod ef yn frenin , a rhan ar ôl Omri . A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath : felly Tibni a fu farw , ac Omri a deyrnasodd . Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd : yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd . Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer , er dwy dalent o arian ; ac a adeiladodd yn y mynydd , ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe , ar ôl enw Semer , arglwydd y mynydd , Samaria . Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd , ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef . Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat , ac yn ei bechod ef , trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu , gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd hwynt . A’r rhan arall o hanes Omri , yr hyn a wnaeth efe , a’i rymuster a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Ac Omri a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Samaria , ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda : ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain . Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o’i flaen ef . Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat , ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid , ac a aeth ac a wasanaethodd Baal , ac a ymgrymodd iddo . Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal , yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria . Ac Ahab a wnaeth lwyn . Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef . Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho : yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi , ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun . Ac Eleias y Thesbiad , un o breswylwyr Gilead , a ddywedodd wrth Ahab , Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw , ond yn ôl fy ngair i . A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Dos oddi yma , a thro tua’r dwyrain , ac ymguddia wrth afon Cerith , yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen . Ac o’r afon yr yfi ; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno . Felly efe a aeth , ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd ; canys efe a aeth , ac a arhosodd wrth afon Cerith , yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen . A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore , a bara a chig brynhawn : ac efe a yfai o’r afon . Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon , oblegid na buasai law yn y wlad . A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Sareffta , yr hon sydd yn perthyn i Sidon , ac aros yno : wele , gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno . Felly efe a gyfododd , ac a aeth i Sareffta . A phan ddaeth efe at borth y ddinas , wele yno wraig weddw yn casglu briwydd : ac efe a alwodd arni , ac a ddywedodd , Dwg , atolwg , i mi ychydig ddwfr mewn llestr , fel yr yfwyf . Ac a hi yn myned i’w gyrchu , efe a alwodd arni , ac a ddywedodd , Dwg , atolwg , i mi damaid o fara yn dy law . A hi a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw , nid oes gennyf deisen , ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn , ac ychydig olew mewn ystên : ac wele fi yn casglu dau o friwydd , i fyned i mewn , ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab , fel y bwytaom hynny , ac y byddom feirw . Ac Eleias a ddywedodd wrthi , Nac ofna ; dos , gwna yn ôl dy air : eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf , a dwg i mi ; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny . Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Y blawd yn y celwrn ni threulir , a’r olew o’r ystên ni dderfydd , hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear . A hi a aeth , ac a wnaeth yn ôl gair Eleias : a hi a fwytaodd , ac yntau , a’i thylwyth , ysbaid blwyddyn . Ni ddarfu y celwrn blawd , a’r ystên olew ni ddarfu , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias . Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ , ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf , fel na thrigodd anadl ynddo . A hi a ddywedodd wrth Eleias , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , gŵr Duw ? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd , ac i ladd fy mab ? Ac efe a ddywedodd wrthi , Moes i mi dy fab . Ac efe a’i cymerth ef o’i mynwes hi , ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi , ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun . Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd fy Nuw , a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi , gan ladd ei mab hi ? Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith , ac a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd fy Nuw , dychweled , atolwg , enaid y bachgen hwn iddo eilwaith . A’r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias ; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo , ac efe a ddadebrodd . Ac Eleias a gymerodd y bachgen , ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ , ac a’i rhoddes ef i’w fam : ac Eleias a ddywedodd , Gwêl , byw yw dy fab . A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias , Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti , ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di . Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias , yn y drydedd flwyddyn , gan ddywedyd , Dos , ymddangos i Ahab ; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear . Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab . A’r newyn oedd dost yn Samaria . Ac Ahab a alwodd Obadeia , yr hwn oedd benteulu iddo : ( ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr : Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd , Obadeia a gymerodd gant o broffwydi , ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof , ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr . ) Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia , Dos i’r wlad , at bob ffynnon ddwfr , ac at yr holl afonydd : ysgatfydd ni a gawn laswellt , fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod , fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli . Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded : Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan , ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan . Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd , wele Eleias yn ei gyfarfod ef : ac efe a’i hadnabu ef , ac a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ddywedodd , Onid ti yw fy arglwydd Eleias ? Yntau a ddywedodd wrtho , Ie , myfi : dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias . Dywedodd yntau , Pa bechod a wneuthum i , pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd ? Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw , nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di ; a phan ddywedent , Nid yw efe yma , efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl , na chawsent dydi . Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd , Dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias . A phan elwyf fi oddi wrthyt ti , ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i ; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab , ac yntau heb dy gael di , efe a’m lladd i : ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd . Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i , pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd , fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd , bob yn ddengwr a deugain mewn ogof , ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr ? Ac yn awr ti a ddywedi , Dos , dywed i’th arglwydd , Wele Eleias : ac efe a’m lladd i . A dywedodd Eleias , Fel mai byw Arglwydd y lluoedd , yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron , heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef . Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab , ac a fynegodd iddo . Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias . A phan welodd Ahab Eleias , Ahab a ddywedodd wrtho , Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel ? Ac efe a ddywedodd , Ni flinais i Israel ; ond tydi , a thŷ dy dad : am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd , ac i ti rodio ar ôl Baalim . Yn awr gan hynny anfon , a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel , a phroffwydi Baal , pedwar cant a deg a deugain , a phroffwydi y llwyni , pedwar cant , y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel . Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel , ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel . Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl , ac a ddywedodd , Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl ? os yr Arglwydd sydd Dduw , ewch ar ei ôl ef ; ond os Baal , ewch ar ei ôl yntau . A’r bobl nid atebasant iddo air . Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl , Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd ; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain . Rhodder gan hynny i ni ddau fustach : a dewisant hwy iddynt un bustach , a darniant ef , a gosodant ar goed , ond na osodant dân dano : a minnau a baratoaf y bustach arall , ac a’i gosodaf ar goed , ac ni roddaf dân dano . A gelwch chwi ar enw eich duwiau , a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd : a’r Duw a atebo trwy dân , bydded efe Dduw . A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant , Da yw y peth . Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal , Dewiswch i chwi un bustach , a pharatowch ef yn gyntaf ; canys llawer ydych chwi : a gelwch ar enw eich duwiau , ond na osodwch dân dano . A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt , ac a’i paratoesant , ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd , gan ddywedyd , Baal , gwrando ni ; ond nid oedd llef , na neb yn ateb : a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid . A bu , ar hanner dydd , i Eleias eu gwatwar hwynt , a dywedyd , Gwaeddwch â llef uchel : canys duw yw efe ; naill ai ymddiddan y mae , neu erlid , neu ymdeithio y mae efe ; fe a allai ei fod yn cysgu , ac mai rhaid ei ddeffro ef . A hwy a waeddasant â llef uchel , ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod , nes i’r gwaed ffrydio arnynt . Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd , a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm ; eto nid oedd llef , na neb yn ateb , nac yn ystyried . A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl , Nesewch ataf fi . A’r holl bobl a nesasant ato ef . Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd , yr hon a ddrylliasid . Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig , yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob , yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Israel fydd dy enw di . Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd ; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had , o amgylch yr allor . Ac efe a drefnodd y coed , ac a ddarniodd y bustach , ac a’i gosododd ar y coed ; Ac a ddywedodd , Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr , a thywelltwch ar y poethoffrwm , ac ar y coed . Ac efe a ddywedodd , Gwnewch eilwaith ; a hwy a wnaethant eilwaith . Ac efe a ddywedodd , Gwnewch y drydedd waith ; a hwy a wnaethant y drydedd waith . A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor , ac a lanwodd y ffos o ddwfr . A phan offrymid yr hwyr‐offrwm , Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel , a minnau yn was i ti , ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn . Gwrando fi , O Arglwydd , gwrando fi , fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw , ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn . Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd , ac a ysodd y poethoffrwm , a’r coed , a’r cerrig , a’r llwch , ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos . A’r holl bobl a welsant , ac a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a ddywedasant , Yr Arglwydd , efe sydd Dduw , yr Arglwydd , efe sydd Dduw . Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy , Deliwch broffwydi Baal ; na ddihanged gŵr ohonynt . A hwy a’u daliasant : ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison , ac a’u lladdodd hwynt yno . Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab , Dos i fyny , bwyta ac yf ; canys wele drwst llawer o law . Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed . Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel ; ac a ymostyngodd ar y ddaear , ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau ; Ac a ddywedodd wrth ei lanc , Dos i fyny yn awr , edrych tua’r môr . Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd , ac a ddywedodd , Nid oes dim . Dywedodd yntau , Dos eto saith waith . A’r seithfed waith y dywedodd efe , Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr . A dywedodd yntau , Dos i fyny , dywed wrth Ahab , Rhwym dy gerbyd , a dos i waered , fel na’th rwystro y glaw . Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt ; a bu glaw mawr . Ac Ahab a farchogodd , ac a aeth i Jesreel . A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias ; ac efe a wregysodd ei lwynau , ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel . Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias ; a chyda phob peth , y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf . Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnelo y duwiau , ac fel hyn y chwanegont , oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy . A phan welodd efe hynny , efe a gyfododd , ac a aeth am ei einioes , ac a ddaeth i Beerseba , yr hon sydd yn Jwda , ac a adawodd ei lanc yno . Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod , ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen ; ac a ddeisyfodd iddo gael marw : dywedodd hefyd , Digon yw ; yn awr , Arglwydd , cymer fy einioes : canys nid ydwyf fi well na’m tadau . Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen , wele , angel a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd wrtho , Cyfod , bwyta . Ac efe a edrychodd : ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor , a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef . Ac efe a fwytaodd ac a yfodd , ac a gysgodd drachefn . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith , ac a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd , Cyfod a bwyta ; canys y mae i ti lawer o ffordd . Ac efe a gyfododd , ac a fwytaodd ac a yfodd ; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos , hyd Horeb mynydd Duw . Ac yno yr aeth efe i fewn ogof , ac a letyodd yno . Ac wele air yr Arglwydd ato ef ; ac efe a ddywedodd wrtho , Beth a wnei di yma , Eleias ? Ac efe a ddywedodd , Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd ; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di , a distrywio dy allorau di , a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd ; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau . Ac efe a ddywedodd , Dos allan , a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd . Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio , a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd , ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt : ac ar ôl y gwynt , daeargryn ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn : Ac ar ôl y ddaeargryn , tân ; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân : ac ar ôl y tân , llef ddistaw fain . A phan glybu Eleias , efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell , ac a aeth allan , ac a safodd wrth ddrws yr ogof . Ac wele lef yn dyfod ato , yr hon a ddywedodd , Beth a wnei di yma , Eleias ? Dywedodd yntau , Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd ; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di , a distrywio dy allorau , a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd ; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos , dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus : a phan ddelych , eneinia Hasael yn frenin ar Syria ; A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel ; ac Eliseus mab Saffat , o Abel‐mehola , a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun . A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael , Jehu a’i lladd ef : ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu . A mi a adewais yn Israel saith o filoedd , y gliniau oll ni phlygasant i Baal , a phob genau a’r nis cusanodd ef . Felly efe a aeth oddi yno , ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig , â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen , ac efe oedd gyda’r deuddegfed . Ac Eleias a aeth heibio iddo ef , ac a fwriodd ei fantell arno ef . Ac efe a adawodd yr ychen , ac a redodd ar ôl Eleias , ac a ddywedodd , Atolwg , gad i mi gusanu fy nhad a’m mam , ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl . Ac yntau a ddywedodd wrtho , Dos , dychwel ; canys beth a wneuthum i ti ? Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef , ac a gymerth gwpl o ychen , ac a’u lladdodd , ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt , ac a’i rhoddodd i’r bobl , a hwy a fwytasant . Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias , ac a’i gwasanaethodd ef . A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu , a deuddeg brenin ar hugain gydag ef , a meirch , a cherbydau : ac efe a aeth i fyny , ac a warchaeodd ar Samaria , ac a ryfelodd i’w herbyn hi . Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel , i’r ddinas , Ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Benhadad , Dy arian a’th aur sydd eiddof fi ; dy wragedd hefyd , a’th feibion glanaf , ydynt eiddof fi . A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Yn ôl dy air di , fy arglwydd frenin , myfi a’r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti . A’r cenhadau a ddychwelasant , ac a ddywedasant , Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad , gan ddywedyd , Er i mi anfon atat ti , gan ddywedyd , Dy arian a’th aur , a’th wragedd , a’th feibion , a roddi di i mi : Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti , a hwy a chwiliant dy dŷ di , a thai dy weision : a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo , ac a’i dygant ymaith . Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad , ac a ddywedodd , Gwybyddwch , atolwg , a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn : canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd , ac am fy meibion , ac am fy arian , ac am fy aur ; ac nis gomeddais ef . Yr holl henuriaid hefyd , a’r holl bobl , a ddywedasant wrtho ef , Na wrando , ac na chytuna ag ef . Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad , Dywedwch i’m harglwydd y brenin , Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf , mi a’i gwnaf : ond ni allaf wneuthur y peth hyn . A’r cenhadau a aethant , ac a ddygasant air iddo drachefn . A Benhadad a anfonodd ato ef , ac a ddywedodd , Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi , ac fel hyn y chwanegont , os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i . A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Dywedwch wrtho , Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau , fel yr hwn sydd yn eu diosg . A phan glywodd efe y peth hyn , ( ac efe yn yfed , efe a’r brenhinoedd , yn y pebyll , ) efe a ddywedodd wrth ei weision , Ymosodwch . A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas . Ac wele , rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon ? wele , mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw , fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Ac Ahab a ddywedodd , Trwy bwy ? Dywedodd yntau , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau . Ac efe a ddywedodd , Pwy a drefna y fyddin ? Dywedodd yntau , Tydi . Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau , ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain : ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl , cwbl o feibion Israel , yn saith mil . A hwy a aethant allan ganol dydd . A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll , efe a’r brenhinoedd , y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef . A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf : a Benhadad a anfonodd allan , a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd , Daeth gwŷr allan o Samaria . Ac efe a ddywedodd , Os am heddwch y daethant allan , deliwch hwynt yn fyw ; ac os i ryfel y daethant allan , deliwch hwynt yn fyw . Felly yr aethant hwy allan o’r ddinas , sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau , a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt . A hwy a laddasant bawb ei ŵr : a’r Syriaid a ffoesant , ac Israel a’u herlidiodd hwynt : a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch , gyda’r gwŷr meirch . A brenin Israel a aeth allan , ac a drawodd y meirch a’r cerbydau , ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr . A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel , ac a ddywedodd wrtho , Dos , ymgryfha , gwybydd hefyd , ac edrych beth a wnelych ; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di . A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef , Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt , am hynny trech fuant na ni : ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd , a ni a’u gorthrechwn hwynt . A gwna hyn ; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o’i le , a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt . Rhifa hefyd i ti lu , fel y llu a gollaist , meirch am feirch , a cherbyd am gerbyd : a ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastatir , ac a’u gorthrechwn hwynt . Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt , ac a wnaeth felly . Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid , ac a aeth i fyny i Affec , i ryfela yn erbyn Israel . A meibion Israel a gyfrifwyd , ac oeddynt oll yn bresennol , ac a aethant i’w cyfarfod hwynt : a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt , fel dwy ddiadell fechan o eifr ; a’r Syriaid oedd yn llenwi’r wlad . A gŵr i Dduw a nesaodd , ac a lefarodd wrth frenin Israel , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid , Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd , ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe ; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di , a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod . Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd : a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod . A’r lleill a ffoesant i Affec , i’r ddinas ; a’r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gwŷr a adawsid : a Benhadad a ffodd , ac a ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell . A’i weision a ddywedasant wrtho , Wele yn awr , clywsom am frenhinoedd tŷ Israel , mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy : gosodwn , atolwg , sachliain am ein llwynau , a rhaffau am ein pennau , ac awn at frenin Israel ; ond odid efe a geidw dy einioes di . Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau , a rhaffau am eu pennau , ac a ddaethant at frenin Israel , ac a ddywedasant , Benhadad dy was a ddywed , Atolwg , gad i mi fyw . Dywedodd yntau , A ydyw efe eto yn fyw ? fy mrawd yw efe . A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef , ac a’i cipiasant ar frys : ac a ddywedasant , Dy frawd Benhadad . Dywedodd yntau , Ewch , dygwch ef . Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef ; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i’r cerbyd . A Benhadad a ddywedodd wrtho , Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di , a roddaf drachefn ; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus , fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria . A dywedodd Ahab , Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn . Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef , ac a’i gollyngodd ef ymaith . A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd , Taro fi , atolwg . A’r gŵr a wrthododd ei daro ef . Dywedodd yntau wrtho , Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd , wele , pan elych oddi wrthyf , llew a’th ladd di . Ac efe a aeth oddi wrtho ef , a llew a’i cyfarfu ef , ac a’i lladdodd . Yna efe a gafodd ŵr arall , ac a ddywedodd , Taro fi , atolwg . A’r gŵr a’i trawodd ef , gan ei daro a’i archolli . Felly y proffwyd a aeth ymaith , ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd , ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb . A phan ddaeth y brenin heibio , efe a lefodd ar y brenin , ac a ddywedodd , Dy was a aeth i ganol y rhyfel , ac wele , gŵr a drodd heibio , ac a ddug ŵr ataf fi , ac a ddywedodd , Cadw y gŵr hwn : os gan golli y cyll efe , yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef , neu ti a deli dalent o arian . A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw , efe a ddihangodd . A brenin Israel a ddywedodd wrtho , Felly y bydd dy farn di ; ti a’i rhoddaist ar lawr . Ac efe a frysiodd , ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb : a brenin Israel a’i hadnabu ef , mai o’r proffwydi yr oedd efe . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha , dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef , a’th bobl di yn lle ei bobl ef . A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon , ac a ddaeth i Samaria . A digwyddodd ar ôl y pethau hyn , fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad , yr hon oedd yn Jesreel , wrth balas Ahab brenin Samaria . Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth , gan ddywedyd , Dyro i mi dy winllan , fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau , canys y mae hi yn agos i’m tŷ i : a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi ; neu , os da fydd gennyt , rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian . A Naboth a ddywedodd wrth Ahab , Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti . Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon , oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef ; canys efe a ddywedasai , Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid . Ac efe a orweddodd ar ei wely , ac a drodd ei wyneb ymaith , ac ni fwytâi fara . Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Paham y mae dy ysbryd mor athrist , ac nad wyt yn bwyta bara ? Ac efe a ddywedodd wrthi , Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad , a dywedyd wrtho , Dyro i mi dy winllan er arian : neu , os mynni di , rhoddaf i ti winllan amdani . Ac efe a ddywedodd , Ni roddaf i ti fy ngwinllan . A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho , Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel ? cyfod , bwyta fara , a llawenyched dy galon ; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad . Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab , ac a’u seliodd â’i sêl ef , ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid , ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth . A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau , gan ddywedyd , Cyhoeddwch ympryd , a gosodwch Naboth uwchben y bobl . Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall , gyferbyn ag ef , i dystiolaethu i’w erbyn ef , gan ddywedyd , Ti a geblaist Dduw a’r brenin . Ac yna dygwch ef allan , a llabyddiwch ef , fel y byddo efe marw . A gwŷr ei ddinas , sef yr henuriaid a’r penaethiaid , y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef , a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy , ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy . Cyhoeddasant ympryd , a chyfleasant Naboth uwchben y bobl . A dau ŵr , o feibion y fall , a ddaethant , ac a eisteddasant ar ei gyfer ef : a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef , sef yn erbyn Naboth , gerbron y bobl , gan ddywedyd , Naboth a gablodd Dduw a’r brenin . Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas , ac a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw . Yna yr anfonasant hwy at Jesebel , gan ddywedyd , Naboth a labyddiwyd , ac a fu farw . A phan glybu Jesebel labyddio Naboth , a’i farw , Jesebel a ddywedodd wrth Ahab , Cyfod , perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian ; canys nid byw Naboth , eithr marw yw . A phan glybu Ahab farw Naboth , Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad , i gymryd meddiant ynddi . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Cyfod , dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel , yr hwn sydd yn Samaria : wele efe yng ngwinllan Naboth , yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu . A llefara wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , A leddaist ti , ac a feddiennaist hefyd ? Llefara hefyd wrtho ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth , y llyf cŵn dy waed dithau hefyd . A dywedodd Ahab wrth Eleias , A gefaist ti fi , O fy ngelyn ? Dywedodd yntau , Cefais : oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Wele fi yn dwyn drwg arnat ti , a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di , ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw , y gwarchaeëdig hefyd , a’r gweddilledig yn Israel : A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat , ac fel tŷ Baasa mab Ahïa , oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist , ac y gwnaethost i Israel bechu . Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel . Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas : a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd . Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd : oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef . Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn , gan fyned ar ôl delwau , yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid , y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . A phan glybu Ahab y geiriau hyn , efe a rwygodd ei ddillad , ac a osododd sachliain am ei gnawd , ac a ymprydiodd , ac a orweddodd mewn sachliain , ac a gerddodd yn araf . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron ? am iddo ymostwng ger fy mron i , ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef ; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef . A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel . Ac yn y drydedd flwyddyn , Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel . A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision , Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead , a’n bod ni yn tewi , heb ei dwyn hi o law brenin Syria ? Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat , A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead ? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel , Yr ydwyf fi fel tithau , fy mhobl i fel dy bobl dithau , fy meirch i fel dy feirch dithau . Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel , Ymgynghora , atolwg , heddiw â gair yr Arglwydd . Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi , ynghylch pedwar cant o wŷr , ac a ddywedodd wrthynt , A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel , neu a beidiaf fi ? Dywedasant hwythau , Dos i fyny ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd mwyach , fel yr ymgynghorem ag ef ? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd : eithr cas yw gennyf fi ef ; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni , namyn drygioni ; Michea mab Jimla yw efe . A dywedodd Jehosaffat , Na ddyweded y brenin felly . Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion , ac a ddywedodd , Prysura yma Michea mab Jimla . A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair , wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd , mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria ; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt . A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn ; ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , A’r rhai hyn y corni di y Syriaid , nes i ti eu difa hwynt . A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn , gan ddywedyd , Dos i fyny i Ramoth‐Gilead , a llwydda ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef , gan ddywedyd , Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin : bydded , atolwg , dy air dithau fel gair un ohonynt , a dywed y gorau . A dywedodd Michea , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf , hynny a lefaraf fi . Felly efe a ddaeth at y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Michea , a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead , ai peidio ? Dywedodd yntau wrtho , Dos i fyny , a llwydda ; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di , na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd , fel defaid ni byddai iddynt fugail . A dywedodd yr Arglwydd , Nid oes feistr arnynt hwy ; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn heddwch . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Oni ddywedais i wrthyt ti , na phroffwydai efe ddaioni i mi , eithr drygioni ? Ac efe a ddywedodd , Clyw gan hynny air yr Arglwydd : Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa , a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl , ar ei law ddeau ac ar ei law aswy . A’r Arglwydd a ddywedodd , Pwy a dwylla Ahab , fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead ? Ac un a ddywedodd fel hyn , ac arall oedd yn dywedyd fel hyn . Ac ysbryd a ddaeth allan , ac a safodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a’i twyllaf ef . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pa fodd ? Dywedodd yntau , Mi a af allan , ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef . Ac efe a ddywedodd , Twylli a gorchfygi ef : dos ymaith , a gwna felly . Ac yn awr wele , yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn ; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti . Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd , ac a drawodd Michea dan ei gern , ac a ddywedodd , Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi ? A Michea a ddywedodd , Wele , ti a gei weled y dwthwn hwnnw , pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio . A brenin Israel a ddywedodd , Cymer Michea , a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas , ac at Joas mab y brenin ; A dywed , Fel hyn y dywed y brenin ; Rhowch hwn yn y carchardy , a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder , nes i mi ddyfod mewn heddwch . A dywedodd Michea , Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch , ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi . Dywedodd hefyd , Gwrandewch hyn yr holl bobl . Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Mi a newidiaf fy nillad , ac a af i’r rhyfel ; ond gwisg di dy ddillad dy hun . A brenin Israel a newidiodd ei ddillad , ac a aeth i’r rhyfel . A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo , sef deuddeg ar hugain , gan ddywedyd , Nac ymleddwch â bychan nac â mawr , ond â brenin Israel yn unig . A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat , hwy a ddywedasant , Diau brenin Israel yw efe . A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef : a Jehosaffat a waeddodd . A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe , hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef . A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan , ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig ; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr , Tro dy law , a dwg fi allan o’r fyddin ; canys fe a’m clwyfwyd i . A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw : a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid ; ac efe a fu farw gyda’r hwyr : a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd . Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul , gan ddywedyd , Eled pob un i’w ddinas , a phob un i’w wlad ei hun . Felly y bu farw y brenin , ac y daeth efe i Samaria ; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria . A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria ; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef : yr arfau hefyd a olchwyd ; yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe . A’r rhan arall o hanesion Ahab , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’r tŷ ifori a adeiladodd efe , a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau ; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel . Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin : a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Asuba , merch Silhi . Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad , ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd ; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel . A’r rhan arall o hanes Jehosaffat , a’i rymustra a wnaeth efe , a’r modd y rhyfelodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef , efe a’u dileodd o’r wlad . Yna nid oedd brenin yn Edom : ond rhaglaw oedd yn lle brenin . Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur : ond nid aethant ; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber . Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat , Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau : ond ni fynnai Jehosaffat . A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad ; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria , yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda ; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd . Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffordd ei dad , ac yn ffordd ei fam , ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Canys efe a wasanaethodd Baal , ac a ymgrymodd iddo , ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad . </passage></reply></GetPassage>