<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:12</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:12</urn><passage>Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel , wedi marwolaeth Ahab . Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft , yr hon oedd yn Samaria , ac a glafychodd ; ac efe a anfonodd genhadau , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron , a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad , Cyfod , dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria , a dywed wrthynt , Ai am nad oedd Duw yn Israel , yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron ? Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Ac Eleias a aeth ymaith . A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef , efe a ddywedodd wrthynt , Paham y dychwelasoch chwi ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni , ac a ddywedodd wrthym ni , Ewch , dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd , a lleferwch wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ai am nad oes Duw yn Israel , yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron ? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi , ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gŵr blewog oedd efe , wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau . Dywedodd yntau , Eleias y Thesbiad oedd efe . Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain , ynghyd a’i ddeg a deugain : ac efe a aeth i fyny ato ef ; ( ac wele ef yn eistedd ar ben bryn ; ) ac a lefarodd wrtho , Ti ŵr Duw , y brenin a lefarodd , Tyred i waered . Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain , Os gŵr Duw ydwyf fi , disgynned tân o’r nefoedd , ac ysed di a’th ddeg a deugain . A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain . A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain , â’i ddeg a deugain : ac efe a atebodd ac a ddywedodd , O ŵr Duw , fel hyn y dywedodd y brenin , Tyred i waered yn ebrwydd . Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy , Os gŵr Duw ydwyf fi , disgynned tân o’r nefoedd , ac ysed di a’th ddeg a deugain . A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain . A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain , â’i ddeg a deugain : a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny , ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias , ac a ymbiliodd ag ef , ac a lefarodd wrtho , O ŵr Duw , atolwg , bydded fy einioes i , ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn , yn werthfawr yn dy olwg di . Wele , disgynnodd tân o’r nefoedd , ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain , a’u deg a deugeiniau : am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di . Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias , Dos i waered gydag ef , nac ofna ef . Ac efe a gyfododd , ac a aeth i waered gydag ef at y brenin . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron , ( ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air ? ) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno , eithr gan farw y byddi farw . Felly efe a fu farw , yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarasai Eleias : a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef , yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda ; am nad oedd mab iddo ef . A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A phan oedd yr Arglwydd ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd , aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal . Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus , Aros , atolwg , yma : canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Bethel . Ac Eliseus a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . Felly hwy a aethant i waered i Bethel . A meibion y proffwydi , y rhai oedd yn Bethel , a ddaethant allan at Eliseus , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti ? Dywedodd yntau , Mi a wn hynny hefyd , tewch chwi â sôn . Ac Eleias a ddywedodd wrtho , Aros yma , atolwg , Eliseus ; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Jericho . Dywedodd yntau , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . Felly hwy a ddaethant i Jericho . A meibion y proffwydi , y rhai oedd yn Jericho , a ddaethant at Eliseus , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti ? Yntau a ddywedodd , Mi a wn hynny hefyd , tewch chwi â sôn . Ac Eleias a ddywedodd wrtho , Aros yma , atolwg ; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i’r Iorddonen . Dywedodd yntau , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid dithau , nid ymadawaf â thi . A hwy a aethant ill dau rhagddynt . A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant , ac a safasant ar gyfer o bell : a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen . Ac Eleias a gymerth ei fantell , ac a’i plygodd ynghyd , ac a drawodd y dyfroedd , a hwy a ymwahanasant yma ac acw , fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych . Ac wedi iddynt fyned drosodd , Eleias a ddywedodd wrth Eliseus , Gofyn y peth a wnelwyf i ti , cyn fy nghymryd oddi wrthyt . A dywedodd Eliseus , Bydded gan hynny , atolwg , ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi . Dywedodd yntau , Gofynnaist beth anodd : os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt , fe fydd i ti felly ; ac onid e , ni bydd . Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan , wele gerbyd tanllyd , a meirch tanllyd , a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau . Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd . Ac Eliseus oedd yn gweled , ac efe a lefodd , Fy nhad , fy nhad , cerbyd Israel , a’i farchogion . Ac nis gwelodd ef mwyach : ac efe a ymaflodd yn ei ddillad , ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn . Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef ; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen . Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef , ac a drawodd y dyfroedd , ac a ddywedodd , Pa le y mae Arglwydd Dduw Eleias ? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd , hwy a wahanwyd yma ac acw . Ac Eliseus a aeth drosodd . A phan welodd meibion y proffwydi ef , y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer , hwy a ddywedasant , Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus . A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef , ac a ymgrymasant hyd lawr iddo . A hwy a ddywedasant wrtho , Wele yn awr , y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion ; elont yn awr , ni a atolygwn , a cheisiant dy feistr : rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef , a’i fwrw ar ryw fynydd , neu mewn rhyw ddyffryn . Dywedodd yntau , Na anfonwch . Eto buant daer arno , nes cywilyddio ohono , ac efe a ddywedodd , Anfonwch . A hwy a anfonasant ddengwr a deugain , y rhai a’i ceisiasant ef dridiau , ond nis cawsant . A hwy a ddychwelasant ato ef , ac efe oedd yn aros yn Jericho ; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Oni ddywedais i wrthych , Nac ewch ? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus , Wele , atolwg , ansawdd y ddinas , da yw , fel y mae fy arglwydd yn gweled : ond y dyfroedd sydd ddrwg , a’r tir yn ddiffaith . Ac efe a ddywedodd , Dygwch i mi ffiol newydd , a dodwch ynddi halen . A hwy a’i dygasant ato ef . Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd , ac a fwriodd yr halen yno , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Mi a iacheais y dyfroedd hyn ; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach , na diffrwythdra . Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn , yn ôl gair Eliseus , yr hwn a ddywedasai efe . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel : ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd , plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas , ac a’i gwatwarasant ef , ac a ddywedasant wrtho ef , Dos i fyny , moelyn , dos i fyny , moelyn . Ac efe a drodd yn ei ôl , ac a edrychodd arnynt , ac a’u melltithiodd yn enw yr Arglwydd . A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig , ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain . Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel , ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria . A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria , yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda , ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd . Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ond nid fel ei dad nac fel ei fam : canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal , yr hon a wnaethai ei dad . Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu : ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy . A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid , ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn , a chan mil o hyrddod gwlanog . Ond wedi marw Ahab , brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel . A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria , ac a gyfrifodd holl Israel . Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda , gan ddywedyd , Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i : a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab ? Dywedodd yntau , Mi a af i fyny ; myfi a fyddaf fel tithau , fy mhobl i fel dy bobl dithau , fy meirch i fel dy feirch dithau . Ac efe a ddywedodd , Pa ffordd yr awn ni i fyny ? Dywedodd yntau , Ffordd anialwch Edom . Felly yr aeth brenin Israel , a brenin Jwda , a brenin Edom ; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod : ac nid oedd dwfr i’r fyddin , nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt . A brenin Israel a ddywedodd , Gwae fi ! oherwydd i’r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab . A Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma broffwyd i’r Arglwydd , fel yr ymofynnom ni â’r Arglwydd trwyddo ef ? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd , Y mae yma Eliseus mab Saffat , yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias . A Jehosaffat a ddywedodd , Y mae gair yr Arglwydd gydag ef . Felly brenin Israel , a Jehosaffat , a brenin Edom , a aethant i waered ato ef . Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi ? dos at broffwydi dy dad , ac at broffwydi dy fam . A brenin Israel a ddywedodd wrtho , Nage : canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab . Ac Eliseus a ddywedodd , Fel mai byw Arglwydd y lluoedd , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda , nid edrychaswn i arnat ti , ac ni’th welswn . Ond yn awr dygwch i mi gerddor . A phan ganodd y cerddor , daeth llaw yr Arglwydd arno ef . Ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ni welwch wynt , ac ni welwch law ; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr , fel yr yfoch chwi , a’ch anifeiliaid , a’ch ysgrubliaid . A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr Arglwydd : efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd . A chwi a drewch bob dinas gaerog , a phob dinas ddetholedig ; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr ; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi , a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig . A’r bore pan offrymwyd y bwyd‐offrwm , wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom ; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd . A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt , y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau , ac uchod , a hwy a safasant ar y terfyn . A hwy a gyfodasant yn fore , a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd ; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed : A hwy a ddywedasant , Gwaed yw hwn : gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd , a hwy a drawsant bawb ei gilydd : am hynny yn awr at yr anrhaith , Moab . A phan ddaethant at wersyll Israel , yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid , fel y ffoesant o’u blaen hwynt : a hwy a aethant rhagddynt , gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun . A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd , ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg , ac a’i llanwasant ; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy , a phob pren da a gwympasant hwy i lawr : yn unig yn Cir‐haraseth y gadawsant ei cherrig ; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant , ac a’i trawsant hi . A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef , efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf , i ruthro ar frenin Edom : ond nis gallasant hwy . Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf‐anedig ef , yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef , ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur . A bu llid mawr yn erbyn Israel : a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef , ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun . A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus , gan ddywedyd , Dy was fy ngŵr a fu farw ; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd : a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo . Ac Eliseus a ddywedodd wrthi , Beth a wnaf fi i ti ? mynega i mi , beth sydd gennyt ti yn dy dŷ ? Dywedodd hithau , Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ , ond ystenaid o olew . Ac efe a ddywedodd , Dos , cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion , sef llestri gweigion , nid ychydig . A phan ddelych i mewn , cae y drws arnat , ac ar dy feibion , a thywallt i’r holl lestri hynny ; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn . Felly hi a aeth oddi wrtho ef , ac a gaeodd y drws arni , ac ar ei meibion : a hwynt‐hwy a ddygasant y llestri ati hi ; a hithau a dywalltodd . Ac wedi llenwi y llestri , hi a ddywedodd wrth ei mab , Dwg i mi eto lestr . Dywedodd yntau wrthi , Nid oes mwyach un llestr . A’r olew a beidiodd . Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw . Dywedodd yntau , Dos , gwerth yr olew , a thâl dy ddyled ; a bydd di fyw , ti a’th feibion , ar y rhan arall . A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem ; ac yno yr oedd gwraig oludog , yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara . A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio , efe a droai yno i fwyta bara . A hi a ddywedodd wrth ei gŵr , Wele yn awr , mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn , sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol . Gwnawn , atolwg , ystafell fechan ar y mur ; a gosodwn iddo yno wely , a bwrdd , ac ystôl , a chanhwyllbren : fel y tro efe yno , pan ddelo efe atom ni . Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno , ac a drodd i’r ystafell , ac a orffwysodd yno . Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was , Galw ar y Sunamees hon . Yntau a alwodd arni hi : hithau a safodd ger ei fron ef . Dywedodd hefyd wrtho , Dywed yn awr wrthi hi , Wele , ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma ; beth sydd i’w wneuthur erot ti ? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin , neu wrth dywysog y llu ? Hithau a ddywedodd , Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo . Ac efe a ddywedodd , Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi ? A Gehasi a ddywedodd , Yn ddiau nid oes iddi fab , a’i gŵr sydd hen . Ac efe a ddywedodd , Galw hi . Ac efe a’i galwodd hi ; a hi a safodd yn y drws . Ac efe a ddywedodd , Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth , ti a gofleidi fab . Hithau a ddywedodd , Nage , fy arglwydd , gŵr Duw , na ddywed gelwydd i’th lawforwyn . A’r wraig a feichiogodd , ac a ddug fab y pryd hwnnw , yn ôl amser bywoliaeth , yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi . A’r bachgen a gynyddodd , ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr . Ac efe a ddywedodd wrth ei dad , Fy mhen , fy mhen . Dywedodd yntau wrth lanc , Dwg ef at ei fam . Ac efe a’i cymerth , ac a’i dug ef at ei fam . Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd , ac a fu farw . A hi a aeth i fyny , ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw , ac a gaeodd y drws arno , ac a aeth allan . A hi a alwodd ar ei gŵr , ac a ddywedodd , Anfon , atolwg , gyda mi un o’r llanciau , ac un o’r asynnod : canys mi a redaf hyd at ŵr Duw , ac a ddychwelaf . Dywedodd yntau , Paham yr ei di ato ef heddiw ? nid yw hi na newyddloer , na Saboth . Hithau a ddywedodd , Pob peth yn dda . Yna hi a gyfrwyodd yr asyn ; ac a ddywedodd wrth ei llanc , Gyr , a dos rhagot : nac aros amdanaf fi i farchogaeth , onid archwyf i ti . Felly hi a aeth , ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel . A phan welodd gŵr Duw hi o bell , efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was , Wele y Sunamees honno . Rhed yn awr , atolwg , i’w chyfarfod , a dywed wrthi hi , A wyt ti yn iach ? a ydyw dy ŵr yn iach ? a ydyw y bachgen yn iach ? Dywedodd hithau , Iach . A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd , hi a ymaflodd yn ei draed ef : a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith . A gŵr Duw a ddywedodd , Gad hi yn llonydd : canys ei henaid sydd ofidus ynddi ; a’r Arglwydd a’i celodd oddi wrthyf fi , ac nis mynegodd i mi . Yna hi a ddywedodd , A ddymunais i fab gan fy arglwydd ? oni ddywedais , Na thwylla fi ? Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi , Gwregysa dy lwynau , a chymer fy ffon yn dy law , a dos ymaith : o chyfarfyddi â neb , na chyfarch iddo ; ac o chyfarch neb di , nac ateb ef : a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen . A mam y bachgen a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ac mai byw dy enaid di , nid ymadawaf fi â thi . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ar ei hôl hi . A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt , ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen : ond nid oedd na lleferydd , na chlywed . Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef ; ac a fynegodd iddo , gan ddywedyd , Ni ddeffrôdd y bachgen . A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ , wele y bachgen wedi marw , yn gorwedd ar ei wely ef . Felly efe a ddaeth i mewn , ac a gaeodd y drws arnynt ill dau , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . Ac efe a aeth i fyny , ac a orweddodd ar y bachgen , ac a osododd ei enau ar ei enau yntau , a’i lygaid ar ei lygaid ef , a’i ddwylo ar ei ddwylo ef , ac efe a ymestynnodd arno ef ; a chynhesodd cnawd y bachgen . Ac efe a ddychwelodd , ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered ; ac a aeth i fyny , ac a ymestynnodd arno ef : a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith , a’r bachgen a agorodd ei lygaid . Ac efe a alwodd ar Gehasi , ac a ddywedodd , Galw y Sunamees hon . Ac efe a alwodd arni hi . A hi a ddaeth ato ef . Dywedodd yntau , Cymer dy fab . A hi a aeth i mewn , ac a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a ymgrymodd hyd lawr , ac a gymerodd ei mab , ac a aeth allan . Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal . Ac yr oedd newyn yn y wlad ; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef : ac efe a ddywedodd wrth ei was , Trefna’r crochan mawr , a berw gawl i feibion y proffwydi . Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych , ac a gafodd winwydden wyllt , ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg , ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl : canys nid adwaenent hwynt . Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta . A phan fwytasant o’r cawl , hwy a waeddasant , ac a ddywedasant , O ŵr Duw , y mae angau yn y crochan : ac ni allent ei fwyta . Ond efe a ddywedodd , Dygwch flawd . Ac efe a’i bwriodd yn y crochan : dywedodd hefyd , Tywallt i’r bobl , fel y bwytaont . Ac nid oedd dim niwed yn y crochan . A daeth gŵr o Baal‐salisa , ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth , ugain torth haidd , a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau . Ac efe a ddywedodd , Dod i’r bobl , fel y bwytaont . A’i weinidog ef a ddywedodd , I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr ? Dywedodd yntau , Dyro i’r bobl , fel y bwytaont : canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Hwy a fwytânt , a bydd gweddill . Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt : a hwy a fwytasant , ac a weddillasant , yn ôl gair yr Arglwydd . A Naaman , tywysog llu brenin Syria , oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd , ac yn anrhydeddus ; canys trwyddo ef y rhoddasai yr Arglwydd ymwared i Syria : ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol , ond yr oedd yn wahanglwyfus . A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd , ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan ; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman . A hi a ddywedodd wrth ei meistres , O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria ! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf . Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel . A brenin Syria a ddywedodd , Dos , cerdda , a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel . Ac efe a aeth ymaith , ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian , a chwe mil o aur , a deg pâr o ddillad . Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel , gan ddywedyd , Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti , wele , anfonais atat ti Naaman fy ngwas , fel yr iacheit ef o’i wahanglwyf . A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ddywedodd , Ai Duw ydwyf fi , i farwhau , ac i fywhau , pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf ? gwybyddwch gan hynny , atolwg , a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i . A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad , efe a anfonodd at y brenin , gan ddywedyd , Paham y rhwygaist dy ddillad ? deued yn awr ataf fi , ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel . Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau , ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus . Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad , gan ddywedyd , Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen ; a’th gnawd a ddychwel i ti , a thithau a lanheir . Ond Naaman a ddigiodd , ac a aeth ymaith ; ac a ddywedodd , Wele , mi a feddyliais ynof fy hun , gan ddyfod y deuai efe allan , ac y safai efe , ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw , ac y gosodai ei law ar y fan , ac yr iachâi y gwahanglwyfus . Onid gwell Abana a Pharpar , afonydd Damascus , na holl ddyfroedd Israel ? oni allaf ymolchi ynddynt hwy , ac ymlanhau ? Felly efe a drodd , ac a aeth ymaith mewn dicter . A’i weision a nesasant , ac a lefarasant wrtho , ac a ddywedasant , Fy nhad , pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti , onis gwnelsit ? pa faint mwy , gan iddo ddywedyd wrthyt , Ymolch , a bydd lân ? Ac yna efe a aeth i waered , ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen , yn ôl gair gŵr Duw : a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach , ac efe a lanhawyd . Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw , efe a’i holl fintai , ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef ; ac a ddywedodd , Wele , yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear , ond yn Israel : am hynny cymer yn awr , atolwg , rodd gan dy was . Ond efe a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron , ni chymeraf . Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd ; eto efe a’i gwrthododd . A Naaman a ddywedodd , Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear ? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill , ond i’r Arglwydd . Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i’th was ; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno , a phwyso ar fy llaw i , a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon ; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon , maddeued yr Arglwydd i’th was yn y peth hyn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Dos mewn heddwch . Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd . Ond Gehasi , gwas Eliseus gŵr Duw , a ddywedodd , Wele , fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn , heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe : fel mai byw yr Arglwydd , mi a redaf ar ei ôl ef , ac a gymeraf ryw beth ganddo ef . Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman . A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl , efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , A yw pob peth yn dda ? Dywedodd yntau , Y mae pob peth yn dda . Fy meistr a’m hanfonodd i , gan ddywedyd , Wele , yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim , o feibion y proffwydi , a ddaeth ataf fi : dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian , a dau bâr o ddillad . A Naaman a ddywedodd , Bydd fodlon , cymer ddwy dalent . Ac efe a fu daer arno ef ; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god , a deubar o ddillad ; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision , i’w dwyn o’i flaen ef . A phan ddaeth efe i’r bwlch , efe a’u cymerth o’u llaw hwynt , ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr , a hwy a aethant ymaith . Ond efe a aeth i mewn , ac a safodd o flaen ei feistr . Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef , O ba le y daethost ti , Gehasi ? Dywedodd yntau , Nid aeth dy was nac yma na thraw . Ac efe a ddywedodd wrtho , Onid aeth fy nghalon gyda thi , pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di ? a ydoedd hi amser i gymryd arian , ac i gymryd gwisgoedd , ac olewyddlannau , a gwinllannau , a defaid , a gwartheg , a gweision , a morynion ? Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti , ac wrth dy had yn dragywydd . Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira . A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus , Wele yn awr , y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di , sydd ry gyfyng i ni . Awn yn awr hyd yr Iorddonen , fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst , ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo . Dywedodd yntau , Ewch . Ac un a ddywedodd , Bydd fodlon , atolwg , a thyred gyda’th weision . Dywedodd yntau , Mi a ddeuaf . Felly efe a aeth gyda hwynt . A hwy a ddaethant at yr Iorddonen , ac a dorasant goed . A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst , ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr . Ac efe a waeddodd , ac a ddywedodd , Och fi , fy meistr ! canys benthyg oedd . A gŵr Duw a ddywedodd , Pa le y syrthiodd ? Yntau a ddangosodd iddo y fan . Ac efe a dorrodd bren , ac a’i taflodd yno ; a’r haearn a nofiodd . Ac efe a ddywedodd , Cymer i fyny i ti . Ac efe a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd . A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel ; ac efe a ymgynghorodd â’i weision , gan ddywedyd , Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa . A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel , gan ddywedyd , Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle : canys yno y disgynnodd y Syriaid . A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho , ac y rhybuddiasai ef , ac a ymgadwodd yno , nid unwaith , ac nid dwywaith . A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn ; ac efe a alwodd ar ei weision , ac a ddywedodd wrthynt , Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel ? Ac un o’i weision ef a ddywedodd , Nid oes neb , fy arglwydd frenin : ond Eliseus y proffwyd , yr hwn sydd yn Israel , a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely . Ac efe a ddywedodd , Ewch , ac edrychwch pa le y mae efe , fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef . A mynegwyd iddo , gan ddywedyd , Wele , yn Dothan y mae efe . Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau , a llu mawr : a hwy a ddaethant liw nos , ac a amgylchynasant y ddinas . A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore , a myned allan , wele lu yn amgylchynu y ddinas , â meirch ac â cherbydau . A’i was a ddywedodd wrtho ef , Aha , fy meistr ! pa fodd y gwnawn ? Ac efe a ddywedodd , Nac ofna : canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt . Ac Eliseus a weddïodd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , agor , atolwg , ei lygaid ef , fel y gwelo . A’r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc ; ac efe a edrychodd : ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus . A phan ddaethant i waered ato ef , Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Taro , atolwg , y genedl hon â dallineb . Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb , yn ôl gair Eliseus . Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt , Nid hon yw y ffordd , ac nid hon yw y ddinas : deuwch ar fy ôl i , a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio . Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria . A phan ddaethant hwy i Samaria , Eliseus a ddywedodd , O Arglwydd , agor lygaid y rhai hyn , fel y gwelont . A’r Arglwydd a agorodd eu llygaid hwynt ; a hwy a welsant : ac wele , yng nghanol Samaria yr oeddynt . A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus , pan welodd efe hwynt , Gan daro a drawaf hwynt , fy nhad ? Dywedodd yntau , Na tharo : a drewit ti y rhai a gaethiwaist â’th gleddyf ac â’th fwa dy hun ? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt , fel y bwytaont ac yr yfont , ac yr elont at eu harglwydd . Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr : a hwy a fwytasant ac a yfasant ; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith , a hwy a aethant at eu harglwydd . Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel . Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu , ac a aeth i fyny , ac a warchaeodd ar Samaria . Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria : ac wele , yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi , nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian , a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian . Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur , gwraig a lefodd arno ef , gan ddywedyd , Achub , fy arglwydd frenin . Dywedodd yntau , Oni achub yr Arglwydd dydi , pa fodd yr achubaf fi di ? Ai o’r ysgubor , neu o’r gwinwryf ? A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Beth a ddarfu i ti ? Hithau a ddywedodd , Y wraig hon a ddywedodd wrthyf , Dyro dy fab , fel y bwytaom ef heddiw ; a’m mab innau a fwytawn ni yfory . Felly ni a ferwasom fy mab i , ac a’i bwytasom ef : a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall , Dyro dithau dy fab , fel y bwytaom ef : ond hi a guddiodd ei mab . A phan glybu y brenin eiriau y wraig , efe a rwygodd ei ddillad , ac a aeth heibio ar y mur ; a’r bobl a edrychodd , ac wele , sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn . Ac efe a ddywedodd , Fel hyn y gwnelo Duw i mi , ac fel hyn y chwanego , os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw . Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ , a’r henuriaid yn eistedd gydag ef . A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen : ond cyn dyfod y gennad ato ef , efe a ddywedodd wrth yr henuriaid , A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i ? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn , caewch y drws , a deliwch ef wrth y drws : onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef ? Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt , wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef : ac efe a ddywedodd , Wele , y drwg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd ; paham y disgwyliaf wrth yr Arglwydd mwy ? Yna Eliseus a ddywedodd , Gwrandewch air yr Arglwydd : Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl , a dau sat o haidd er sicl , ym mhorth Samaria . Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw , ac a ddywedodd , Wele , pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd , a fyddai y peth hyn ? Dywedodd yntau , Wele , ti a’i gweli â’th lygaid , ond ni fwytei ohono . Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth , a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw ? Os dywedwn ni , Awn i mewn i’r ddinas , newyn sydd yn y ddinas , a ni a fyddwn feirw yno ; ac os trigwn yma , ni a fyddwn feirw hefyd . Am hynny deuwch yn awr , ac awn i wersyll y Syriaid : o chadwant ni yn fyw , byw fyddwn ; ac os lladdant ni , byddwn feirw . A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid . A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid , wele , nid oedd neb yno . Canys yr Arglwydd a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau , a thrwst meirch , trwst llu mawr : a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Wele , brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid , a brenhinoedd yr Aifft , i ddyfod arnom ni . Am hynny hwy a gyfodasant , ac a ffoesant , ar lasiad dydd , ac a adawsant eu pebyll , a’u meirch , a’u hasynnod , sef y gwersyll fel yr ydoedd , ac a ffoesant am eu heinioes . A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll , hwy a aethant i un babell , ac a fwytasant , ac a yfasant , ac a gymerasant oddi yno arian , ac aur , a gwisgoedd , ac a aethant , ac a’i cuddiasant , ac a ddychwelasant ; ac a aethant i babell arall , ac a gymerasant oddi yno , ac a aethant , ac a’i cuddiasant . Yna y dywedodd y naill wrth y llall , Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn ; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl , ac yr ydym ni yn tewi â sôn ; os arhoswn ni hyd oleuni y bore , rhyw ddrwg a ddigwydd i ni : deuwch gan hynny yn awr , ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin . Felly hwy a ddaethant , ac a waeddasant ar borthor y ddinas ; a hwy a fynegasant iddynt , gan ddywedyd , Daethom i wersyll y Syriaid , ac wele , nid oedd yno neb , na llais dyn , ond y meirch yn rhwym , a’r asynnod yn rhwym , a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen . Ac efe a alwodd ar y porthorion ; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn . A’r brenin a gyfododd liw nos , ac a ddywedodd wrth ei weision , Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni . Gwyddent mai newynog oeddem ni ; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes , gan ddywedyd , Pan ddelont hwy allan o’r ddinas , ni a’u daliwn hwynt yn fyw , ac a awn i mewn i’r ddinas . Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd , Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd , y rhai a adawyd yn y ddinas , ( wele , y maent hwy fel holl liaws Israel , y rhai a arosasant ynddi ; wele , y maent hwy fel holl liaws Israel , y rhai a ddarfuant ; ) ac anfonwn , ac edrychwn . Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd : a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid , gan ddywedyd , Ewch ac edrychwch . A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen , ac wele , yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri , y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio : a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin . A’r bobl a aethant allan , ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid : a bu sat o beilliaid er sicl , a dau sat o haidd er sicl , yn ôl gair yr Arglwydd . A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth : a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth , ac efe fu farw , megis y llefarasai gŵr Duw , yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef . A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin , gan ddywedyd , Dau sat o haidd er sicl , a sat o beilliaid er sicl , fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria . A’r tywysog a atebasai ŵr Duw , ac a ddywedasai , Wele , pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd , a fyddai y peth hyn ? Dywedodd yntau , Wele , ti a’i gweli â’th lygaid , ond ni fwytei ohono . Ac felly y bu iddo ef : canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth , ac efe a fu farw . Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab , gan ddywedyd , Cyfod , a dos , ti a’th dylwyth , ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio : canys yr Arglwydd a alwodd am newyn , a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd . A’r wraig a gyfododd , ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw : a hi a aeth , hi a’i thylwyth , ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd . Ac ymhen y saith mlynedd , y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid : a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ , ac am ei thir . A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw , gan ddywedyd , Adrodd i mi , atolwg , yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus . Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw , yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ , ac am ei thir . A Gehasi a ddywedodd , Fy arglwydd frenin , dyma’r wraig , a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau . A’r brenin a ofynnodd i’r wraig ; a hithau a fynegodd iddo ef . A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd , gan ddywedyd , Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi , a holl gnwd y maes , o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn . A daeth Eliseus i Damascus : a Benhadad brenin Syria oedd glaf ; a mynegwyd iddo ef , gan ddywedyd , Daeth gŵr Duw yma . A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael , Cymer anrheg yn dy law , a dos i gyfarfod â gŵr Duw ; ac ymofyn â’r Arglwydd trwyddo ef , gan ddywedyd , A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn ? Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef , ac a gymerth anrheg yn ei law , a phob peth a’r a oedd dda o Damascus , sef llwyth deugain o gamelod ; ac a ddaeth , ac a safodd o’i flaen ef , ac a ddywedodd , Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat , gan ddywedyd , A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn ? Ac Eliseus a ddywedodd wrtho , Dos , a dywed wrtho , Diau y gelli fyw : eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau . Ac efe a osododd ei wyneb , ac a ddaliodd sylw arno , nes cywilyddio ohono ef : a gŵr Duw a wylodd . A Hasael a ddywedodd , Paham y mae fy arglwydd yn wylo ? Dywedodd yntau , Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel : eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân , a’u gwŷr ieuainc a leddi â’r cleddyf , a’u plant a bwyi , a’u gwragedd beichiogion a rwygi . A Hasael a ddywedodd , Pa beth ! ai ci yw dy was , fel y gwnelai efe y mawr beth hyn ? Ac Eliseus a ddywedodd , Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria . Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus , ac a ddaeth at ei arglwydd ; yr hwn a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti ? Ac efe a atebodd , Efe a ddywedodd wrthyf , y byddit ti byw yn ddiau . A thrannoeth efe a gymerth wrthban , ac a’i gwlychodd mewn dwfr , ac a’i lledodd ar ei wyneb ef , fel y bu efe farw : a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel , a Jehosaffat yn frenin yn Jwda , y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu ; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , fel y gwnâi tŷ Ahab : canys merch Ahab oedd yn wraig iddo : felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda , er mwyn Dafydd ei was ; megis yr addawsai efe , y rhoddai iddo oleuni , ac i’w feibion yn dragywydd . Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda , ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain . A Joram a aeth trosodd i Sair , a’r holl gerbydau gydag ef ; ac efe a gyfododd liw nos , ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef , a thywysogion y cerbydau : a’r bobl a ffodd i’w pebyll . Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn . Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw . A’r rhan arall o hanes Joram , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Joram a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin ; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Athaleia , merch Omri brenin Israel . Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab , ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel tŷ Ahab : canys daw tŷ Ahab ydoedd efe . Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead ; a’r Syriaid a drawsant Joram . A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama , wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria : ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel ; canys claf ydoedd . Ac Eliseus y proffwyd a alwodd un o feibion y proffwydi , ac a ddywedodd wrtho , Gwregysa dy lwynau , a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law , a dos i Ramoth‐Gilead . A phan ddelych yno , edrych yno am Jehu mab Jehosaffat , mab Nimsi ; a dos i mewn , a phâr iddo godi o fysg ei frodyr , a dwg ef i ystafell ddirgel : Yna cymer y ffiolaid olew , a thywallt ar ei ben ef , a dywed , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel ; yna agor y drws , a ffo , ac nac aros . Felly y llanc , sef llanc y proffwyd , a aeth i Ramoth‐Gilead . A phan ddaeth efe , wele , tywysogion y llu oedd yn eistedd : ac efe a ddywedodd , Y mae i mi air â thi , O dywysog . A dywedodd Jehu , A pha un ohonom ni oll ? Dywedodd yntau , A thydi , O dywysog . Ac efe a gyfododd , ac a aeth i mewn i’r tŷ : ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd , sef ar Israel . A thi a drewi dŷ Ahab dy arglwydd ; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi , a gwaed holl weision yr Arglwydd , ar law Jesebel . Canys holl dŷ Ahab a ddifethir : a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw , y gwarchaeëdig hefyd , a’r hwn a adawyd yn Israel . A mi a wnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat , ac fel tŷ Baasa mab Ahïa . A’r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel , ac ni bydd a’i claddo hi . Ac efe a agorodd y drws , ac a ffodd . A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd , a dywedwyd wrtho ef , A yw pob peth yn dda ? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti ? Dywedodd yntau wrthynt , Chwi a adwaenoch y gŵr , a’i ymadroddion . Dywedasant hwythau , Celwydd ; mynega yn awr i ni . Dywedodd yntau , Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel . A hwy a frysiasant , ac a gymerasant bob un ei wisg , ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau , ac a ganasant mewn utgorn , ac a ddywedasant , Jehu sydd frenin . A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram : ( a Joram oedd yn cadw Ramoth‐Gilead , efe a holl Israel , rhag Hasael brenin Syria : Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel , o’r archollion â’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria . ) A dywedodd Jehu , Os mynnwch chwi , nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel . Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd , ac a aeth i Jesreel ; canys Joram oedd yn gorwedd yno . Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram . A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel , ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod , ac a ddywedodd , Yr ydwyf yn gweled mintai . A Joram a ddywedodd , Cymer ŵr march , ac anfon i’w cyfarfod hwynt , a dyweded , Ai heddwch ? A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywed y brenin , A oes heddwch ? A dywedodd Jehu , Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch ? tro yn fy ôl i . A’r gwyliwr a fynegodd , gan ddywedyd , Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy , ond nid yw efe yn dychwelyd . Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march , ac efe a ddaeth atynt hwy , ac a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd y brenin , A oes heddwch ? A dywedodd Jehu , Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch ? tro yn fy ôl i . A’r gwyliwr a fynegodd , gan ddywedyd , Efe a ddaeth hyd atynt hwy , ond nid yw efe yn dychwelyd : a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi ; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd . A Joram a ddywedodd , Rhwym y cerbyd . Yntau a rwymodd ei gerbyd ef . A Joram brenin Israel a aeth allan , ac Ahaseia brenin Jwda , pob un yn ei gerbyd , a hwy a aethant yn erbyn Jehu , a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad . A phan welodd Joram Jehu , efe a ddywedodd , A oes heddwch , Jehu ? Dywedodd yntau , Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di , a’i hudoliaeth , mor aml ? A Joram a drodd ei law , ac a ffodd , ac a ddywedodd wrth Ahaseia , Y mae bradwriaeth , O Ahaseia . A Jehu a gymerth fwa yn ei law , ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau , fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef , ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd . A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog , Cymer , bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad : canys cofia pan oeddem ni , mi a thi , yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef , roddi o’r Arglwydd arno ef y baich hwn . Diau , meddai yr Arglwydd , gwaed Naboth , a gwaed ei feibion , a welais i neithiwr , a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon , medd yr Arglwydd . Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon , yn ôl gair yr Arglwydd . Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny , efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd . A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef , ac a ddywedodd , Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd . A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur , yr hon sydd wrth Ibleam ; ac efe a ffodd i Megido , ac a fu farw yno . A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem , ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau , yn ninas Dafydd . Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda . A phan ddaeth Jehu i Jesreel , Jesebel a glybu hynny , ac a golurodd ei hwyneb , ac a wisgodd yn wych am ei phen , ac a edrychodd trwy ffenestr . A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth , hi a ddywedodd , A fu heddwch i Simri , yr hwn a laddodd ei feistr ? Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr , ac a ddywedodd , Pwy sydd gyda mi , pwy ? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef . Yntau a ddywedodd , Teflwch hi i lawr . A hwy a’i taflasant hi i lawr ; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared , ac ar y meirch : ac efe a’i mathrodd hi . A phan ddaeth efe i mewn , efe a fwytaodd ac a yfodd , ac a ddywedodd , Edrychwch am y wraig felltigedig honno , a chleddwch hi ; canys merch brenin ydyw hi . A hwy a aethant i’w chladdu hi ; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed , a chledrau’r dwylo . Am hynny hwy a ddychwelasant , ac a fynegasant iddo ef . Dywedodd yntau , Dyma air yr Arglwydd , yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad , gan ddywedyd , Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel : A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes , yn rhandir Jesreel ; fel na ellir dywedyd , Dyma Jesebel . Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria . A Jehu a ysgrifennodd lythyrau , ac a anfonodd i Samaria , at dywysogion Jesreel , ac at yr henuriaid , ac at dadmaethod Ahab , gan ddywedyd , Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi , canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd , a chennych chwi y mae cerbydau , a meirch , a dinasoedd caerog , ac arfau : Yna edrychwch yr hwn sydd orau , ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd , a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad , ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd . A hwy a ofnasant yn ddirfawr , ac a ddywedasant , Wele , dau frenin ni safasant o’i flaen ef : pa fodd gan hynny y safwn ni ? Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ , a’r hwn oedd ar y ddinas , a’r henuriaid , a’r tadmaethod , at Jehu , gan ddywedyd , Dy weision di ydym ni , a’r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni ; ni wnawn ni neb yn frenin : gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg . Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy , gan ddywedyd , Os eiddof fi fyddwch , ac os ar fy llais i y gwrandewch , cymerwch bennau y gwŷr , meibion eich arglwydd , a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel . A meibion y brenin , sef deng nyn a thrigain , oedd gyda phenaethiaid y ddinas , y rhai oedd yn eu meithrin hwynt . A phan ddaeth y llythyr atynt , hwy a gymerasant feibion y brenin , ac a laddasant ddeng nyn a thrigain , ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau , ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel . A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef , gan ddywedyd , Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin . Dywedodd yntau , Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore . A’r bore efe a aeth allan , ac a safodd , ac a ddywedodd wrth yr holl bobl , Cyfiawn ydych chwi : wele , myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd , ac a’i lleddais ef : ond pwy a laddodd yr holl rai hyn ? Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i’r ddaear , yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab : canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was . Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel , a’i holl benaethiaid ef , a’i gyfneseifiaid ef , a’i offeiriaid , fel na adawyd un yng ngweddill . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ymaith hefyd , ac a ddaeth i Samaria . Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd , Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda , ac a ddywedodd , Pwy ydych chwi ? Dywedasant hwythau , Brodyr Ahaseia ydym ni ; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin , ac i feibion y frenhines . Ac efe a ddywedodd , Deliwch hwynt yn fyw . A hwy a’u daliasant hwy yn fyw , ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio , sef dau ŵr a deugain , ac ni adawodd efe ŵr ohonynt . A phan aethai efe oddi yno , efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef , ac a gyfarchodd well iddo , ac a ddywedodd wrtho , A yw dy galon di yn uniawn , fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di ? A dywedodd Jehonadab , Ydyw . Od ydyw , eb efe , moes dy law . Rhoddodd yntau ei law , ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd . Ac efe a ddywedodd , Tyred gyda mi , a gwêl fy sêl i tuag at yr Arglwydd . Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef . A phan ddaeth efe i Samaria , efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria , nes iddo ei ddinistrio ef , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias . A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd , ac a ddywedodd wrthynt , Ahab a wasanaethodd Baal ychydig , ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer . Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal , ei holl weision , a’i holl offeiriaid ef , na fydded un yn eisiau ; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal : pwy bynnag a fyddo yn eisiau , ni bydd efe byw . Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra , fel y difethai efe addolwyr Baal . A Jehu a ddywedodd , Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal . A hwy a’i cyhoeddasant . A Jehu a anfonodd trwy holl Israel ; a holl addolwyr Baal a ddaethant , ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai : a hwy a ddaethant i dŷ Baal , a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd . Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd , Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal . Ac efe a ddug wisgoedd iddynt . A Jehu a aeth i mewn , a Jehonadab mab Rechab , i dŷ Baal , ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal , Chwiliwch ac edrychwch , rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd , ond addolwyr Baal yn unig . A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau , a phoethoffrymau , Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr , ac a ddywedodd , Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi , einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef . A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm , Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion , Ewch i mewn , lleddwch hwynt , na ddeled neb allan . Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf : a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan , ac a aethant i ddinas tŷ Baal . A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal , ac a’u llosgasant hwy . A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal , ac a ddinistriasant dŷ Baal , ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw . Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel . Eto pechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy , sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel , a’r rhai oedd yn Dan . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu , Oherwydd i ti wneuthur yn dda , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i , yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab , meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel . Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â’i holl galon : canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel : a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel ; O’r Iorddonen tua chodiad haul , sef holl wlad Gilead , y Gadiaid , a’r Reubeniaid , a’r Manassiaid , o Aroer , yr hon sydd wrth afon Arnon , Gilead a Basan hefyd . A’r rhan arall o hanes Jehu , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , a’i holl gadernid ef ; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Jehu a hunodd gyda’i dadau , a chladdwyd ef yn Samaria , a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain . A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab , hi a gyfododd , ac a ddifethodd yr holl had brenhinol . Ond Joseba merch y brenin Joram , chwaer Ahaseia , a gymerth Joas mab Ahaseia , ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd : a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau , rhag Athaleia , fel na laddwyd ef . Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr Arglwydd chwe blynedd : ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad . Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada , ac y cymerth dywysogion y cannoedd , a’r capteiniaid , a’r swyddogion , ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr Arglwydd , ac a wnaeth â hwynt gyfamod , ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr Arglwydd , ac a ddangosodd iddynt fab y brenin . Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Dyma’r peth a wnewch chwi ; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth , a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin : A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur : a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion : felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri . A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth , a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd , ynghylch y brenin . A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth , pob un â’i arfau yn ei law ; a’r hwn a ddelo i’r rhesau , lladder ef : a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan , a phan ddelo efe i mewn . A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad , a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth , gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth ; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad . A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd , y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd . A’r swyddogion a safasant bob un â’i arfau yn ei law , o’r tu deau i’r tŷ , hyd y tu aswy i’r tŷ , wrth yr allor a’r tŷ , amgylch ogylch y brenin . Ac efe a ddug allan fab y brenin , ac a roddodd y goron arno ef , a’r dystiolaeth : a hwy a’i hurddasant ef yn frenin , ac a’i heneiniasant ef ; curasant hefyd eu dwylo , a dywedasant , Byw fyddo’r brenin . A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg , hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd . A phan edrychodd hi , wele , y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer , a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin , a holl bobl y wlad yn llawen , ac yn canu mewn utgyrn . Ac Athaleia a rwygodd ei dillad , ac a waeddodd , Bradwriaeth , bradwriaeth ! A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd , y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu , ac a ddywedodd wrthynt , Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau ; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi , lladder ef â’r cleddyf : canys dywedasai yr offeiriad , Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a osodasant ddwylo arni hi , a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin , ac yno y lladdwyd hi . A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr Arglwydd a’r brenin a’r bobl , i fod ohonynt yn bobl i’r Arglwydd ; a rhwng y brenin a’r bobl . A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal , ac a’i dinistriasant ef a’i allorau , ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw , lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau . A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd . Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd , a’r capteiniaid , a’r swyddogion , a holl bobl y wlad , a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd , ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion , i dŷ y brenin : ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd . A holl bobl y wlad a lawenychasant , a’r ddinas a lonyddodd : a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dŷ y brenin . Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin . Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu , a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba . A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau , yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef . Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid , Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr Arglwydd , arian y gŵr a gyniweirio , arian gwerth eneidiau pob un , a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr Arglwydd ; Cymered yr offeiriaid hynny iddynt , pawb gan ei gydnabod , a chyweiriant adwyau y tŷ , pa le bynnag y caffer adwy ynddo . Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas , nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ . Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad , a’r offeiriaid eraill , ac a ddywedodd wrthynt , Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ ? yn awr gan hynny , na dderbyniwch arian gan eich cydnabod , ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ . A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl , ac na chyweirient agennau y tŷ . Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist , ac a dyllodd dwll yn ei chaead , ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor , ffordd y delai un i mewn i dŷ yr Arglwydd : a’r offeiriaid , y rhai oedd yn cadw y drws , a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr Arglwydd . A phan welent fod llawer o arian yn y gist , y deuai ysgrifennydd y brenin , a’r archoffeiriad , i fyny , ac a roent mewn codau , ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif , yn nwylo gweithwyr y gwaith , goruchwylwyr tŷ yr Arglwydd : a hwy a’i talasant i’r seiri pren , ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr Arglwydd . Ac i’r seiri meini , ac i’r naddwyr cerrig , ac i brynu coed a cherrig nadd , i gyweirio adwyau tŷ yr Arglwydd , ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ . Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian , saltringau , cawgiau , utgyrn , na llestri aur , na llestri arian , o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd . Eithr hwy a’i rhoddasant i weithwyr y gwaith ; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr Arglwydd . Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith : canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon . Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau , ni dducpwyd i mewn i dŷ yr Arglwydd : eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy . Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny , ac a ymladdodd yn erbyn Gath , ac a’i henillodd hi : a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem . A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat , a Jehoram , ac Ahaseia , ei dadau ef , brenhinoedd Jwda , a’i gysegredig bethau ef ei hun , a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria , ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem . A’r rhan arall o hanes Joas , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A’i weision ef a gyfodasant , ac a gydfwriadasant fradwriaeth ; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo , wrth ddyfod i waered i Sila . A Josachar mab Simeath , a Josabad mab Somer , ei weision ef , a’i trawsant ef , ac efe a fu farw ; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd : ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda , y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu ; ni throdd oddi wrthynt hwy . A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel ; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria , ac yn llaw Benhadad mab Hasael , eu holl ddyddiau hwynt . A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd , a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef ; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel , canys brenin Syria a’u gorthrymai hwynt . ( A’r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel , fel yr aethant oddi tan law y Syriaid : a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt . Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , eithr rhodiasant ynddynt hwy : a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria . ) Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl , ond deg a deugain o wŷr meirch , a deg cerbyd , a deng mil o wŷr traed : oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt , ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu . A’r rhan arall o hanes Joahas , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joahas a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn Samaria , a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda , y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria : un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu ; eithr efe a rodiodd ynddynt . A’r rhan arall o hanes Joas , a’r hyn oll a wnaeth efe , a’i gadernid , trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joas a hunodd gyda’i dadau , a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef : a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel . Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono : a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef , ac a wylodd ar ei wyneb ef , ac a ddywedodd , O fy nhad , fy nhad , cerbyd Israel , a’i farchogion . Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef , Cymer fwa a saethau . Ac efe a gymerth fwa a saethau . Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel , Dod dy law ar y bwa . Ac efe a roddodd ei law : ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin . Ac efe a ddywedodd , Agor y ffenestr tua’r dwyrain . Yntau a’i hagorodd . Yna y dywedodd Eliseus , Saetha . Ac efe a saethodd . Dywedodd yntau , Saeth ymwared yr Arglwydd , a saeth ymwared rhag Syria ; a thi a drewi y Syriaid yn Affec , nes eu difa hwynt . Hefyd efe a ddywedodd , Cymer y saethau . Ac efe a’u cymerodd . Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel , Taro y ddaear . Ac efe a drawodd dair gwaith , ac a beidiodd . A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef , ac a ddywedodd , Dylesit daro bump neu chwech o weithiau , yna y trawsit Syria nes ei difa : ac yn awr tair gwaith y trewi Syria . Ac Eliseus a fu farw , a hwy a’i claddasant ef . A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno . A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr , wele , hwy a ganfuant dorf , ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus . A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus , efe a ddadebrodd , ac a gyfododd ar ei draed . A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas . A’r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy , ac a dosturiodd wrthynt hwy , ac a drodd atynt hwy , er mwyn ei gyfamod ag Abraham , Isaac , a Jacob , ac ni fynnai eu dinistrio hwynt , ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn . Felly Hasael brenin Syria a fu farw ; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael , y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel : Joas a’i trawodd ef dair gwaith , ac a ddug adref ddinasoedd Israel . Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , eto nid fel Dafydd ei dad ; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef , efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef . Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid ; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses , yn yr hon y gorchmynasai yr Arglwydd , gan ddywedyd , Na ladder y tadau dros y meibion , ac na ladder y meibion dros y tadau ; ond lladder pob un am ei bechod ei hun . Efe a drawodd o’r Edomiaid , yn nyffryn yr halen , ddeng mil , ac a enillodd y graig mewn rhyfel , ac a alwodd ei henw Joctheel , hyd y dydd hwn . Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas , mab Jehu , brenin Israel , gan ddywedyd , Tyred , gwelwn wyneb ein gilydd . A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus , gan ddywedyd , Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig . A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn . Gan daro y trewaist yr Edomiaid , am hynny dy galon a’th falchïodd : ymffrostia , ac eistedd yn dy dŷ : canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun , fel y syrthit ti , a Jwda gyda thi ? Ond ni wrandawai Amaseia . Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny , a hwy a welsant wynebau ei gilydd , efe ac Amaseia brenin Jwda , yn Beth‐semes , yr hon sydd yn Jwda . A Jwda a drawyd o flaen Israel ; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll . A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda , mab Joas , mab Ahaseia , yn Beth‐semes , ac a ddaeth i Jerwsalem , ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem , o borth Effraim hyd borth y gongl , bedwar can cufydd . Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian , a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin , a gwystlon , ac a ddychwelodd i Samaria . A’r rhan arall o hanes Joas , yr hyn a wnaeth efe , a’i gadernid , ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Joas a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel ; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd . A’r rhan arall o hanes Amaseia , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem ; ac efe a ffodd i Lachis : eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis , ac a’i lladdasant ef yno . A hwy a’i dygasant ef ar feirch , ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau , yn ninas Dafydd . A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia , ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad . Efe a adeiladodd Elath , ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda , ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau . Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria ; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos , yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd , yr hwn oedd o Gath‐Heffer . Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flin iawn : canys nid oedd neb gwarchaeëdig , na neb wedi ei adael , na chynorthwyydd i Israel . Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd : ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas . A’r rhan arall o hanes Jeroboam , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , a’i gadernid ef , y modd y rhyfelodd efe , a’r modd y dug efe adref Damascus a Hamath , i Jwda yn Israel , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau , sef gyda brenhinoedd Israel ; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda . Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef : Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd : y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . A’r Arglwydd a drawodd y brenin , fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth , ac y trigodd mewn tŷ o’r neilltu : a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad . A’r rhan arall o hanes Asareia , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda , y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , megis y gwnaethai ei dadau : ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef , ac a’i trawodd ef gerbron y bobl , ac a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Sachareia , wele , y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Dyma air yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu , gan ddywedyd , Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel . Ac felly y bu . Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia , brenin Jwda , a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria . Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa , ac a ddaeth i Samaria , ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria , ac a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Salum , a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yna Menahem a drawodd Tiffsa , a’r rhai oll oedd ynddi , a’i therfynau , o Tirsa : oherwydd nad agorasant iddo ef , am hynny y trawodd efe hi ; a’i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe . Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel , a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad ; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian , fel y byddai ei law gydag ef , i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef . A Menahem a gododd yr arian ar Israel , sef ar yr holl rai cedyrn o allu , ar bob un ddeg sicl a deugain o arian , i’w rhoddi i frenin Asyria ; felly brenin Asyria a ddychwelodd , ac nid arhosodd yno yn y wlad . A’r rhan arall o hanes Menahem , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel ? A Menahem a hunodd gyda’i dadau ; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria , a dwy flynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef , ac a’i trawodd ef yn Samaria , yn llys y brenin , gydag Argob , ac Arie , a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid : ac efe a’i lladdodd ef , ac a deyrnasodd yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Pecaheia , a’r hyn oll a wnaeth efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria , ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu . Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria , ac a enillodd Ijon , ac Abel‐beth‐maacha , a Janoa , Cedes hefyd , a Hasor , a Gilead , a Galilea , holl wlad Nafftali , ac a’u caethgludodd hwynt i Asyria . A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia , ac a’i trawodd ef , ac a’i lladdodd , ac a deyrnasodd yn ei le ef , yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia . A’r rhan arall o hanes Peca , a’r hyn oll a wnaeth efe , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel . Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jerwsa , merch Sadoc . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe . Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd ; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd . Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd . A’r rhan arall o hanes Jotham , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Jwda , Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia . A Jotham a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad , ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu . Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw , fel Dafydd ei dad : Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , ac a dynnodd ei fab trwy’r tân , yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Yna y daeth Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia brenin Israel , i fyny i Jerwsalem i ryfel ; a hwy a warchaeasant ar Ahas ; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef . Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria , ac a yrrodd yr Iddewon o Elath : a’r Syriaid a ddaethant i Elath , ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn . Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath‐pileser brenin Asyria , gan ddywedyd , Dy was di a’th fab di ydwyf fi : tyred i fyny , a gwared fi o law brenin Syria , ac o law brenin Israel , y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i . Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin , ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria . A brenin Asyria a wrandawodd arno ef ; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus , ac a’i henillodd hi , ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir , ac a laddodd Resin . A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria , ac a welodd allor oedd yn Damascus : a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad , yn ôl ei holl wneuthuriad . Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus : felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad , erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus . A phan ddaeth y brenin o Damascus , y brenin a ganfu yr allor : a’r brenin a nesaodd at yr allor , ac a offrymodd arni hi . Ac efe a losgodd ei boethoffrwm , a’i fwyd‐offrwm , ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm , ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor . A’r allor bres , yr hon oedd gerbron yr Arglwydd , a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ , oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd , ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor . A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd , Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol , a’r bwyd‐offrwm prynhawnol , poethoffrwm y brenin hefyd , a’i fwyd‐offrwm ef , a phoethoffrwm holl bobl y wlad , a’u bwyd‐offrwm hwynt , a’u diodydd‐offrwm hwynt ; a holl waed y poethoffrwm , a holl waed yr aberth , a daenelli di arni hi : a bydded yr allor bres i mi i ymofyn . Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas . A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion , ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy , ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano , ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig . A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ , a dyfodfa’r brenin oddi allan , a drodd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd , o achos brenin Asyria . A’r rhan arall o hanes Ahas , yr hyn a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda , y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel ; naw mlynedd y teyrnasodd efe . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef . A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef , a Hosea a aeth yn was iddo ef , ac a ddug iddo anrhegion . A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea : canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft , ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria , fel y byddai efe arferol bob blwyddyn : am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef , ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy . Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad , ac a aeth i fyny i Samaria , ac a warchaeodd arni hi dair blynedd . Yn y nawfed flwyddyn i Hosea , yr enillodd brenin Asyria Samaria , ac y caethgludodd efe Israel i Asyria , ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor , wrth afon Gosan , ac yn ninasoedd y Mediaid . Felly y bu , am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft , oddi tan law Pharo brenin yr Aifft , ac am iddynt ofni duwiau dieithr , A rhodio yn neddfau y cenhedloedd , y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel , ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel . A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw , ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd , o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog . Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel , a than bob pren irlas : Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd , fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o’u blaen hwynt ; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r Arglwydd . A hwy a wasanaethasant eilunod , am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt , Na wnewch y peth hyn . Er i’r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel , ac yn erbyn Jwda , trwy law yr holl broffwydi , a phob gweledydd , gan ddywedyd , Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus , a chedwch fy ngorchmynion , a’m deddfau , yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau , a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi . Eto ni wrandawsant , eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau , y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw . A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef , a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â’u tadau hwynt , a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn ; a rhodiasant ar ôl oferedd , ac a aethant yn ofer : aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch , am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt , na wnelent fel hwynt . A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw , ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd , nid amgen dau lo : gwnaethant hefyd lwyn , ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd , a gwasanaethasant Baal . A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân , ac a arferasant ddewiniaeth , a swynion , ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel , ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg : ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig . Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw , eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy . A’r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel , ac a’u cystuddiodd hwynt , ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr , nes iddo eu bwrw allan o’i olwg . Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd ; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin : a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd , ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr . Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam , y rhai a wnaeth efe , heb gilio oddi wrthynt : Nes i’r Arglwydd fwrw Israel allan o’i olwg , fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi : ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria , hyd y dydd hwn . A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon , ac o Cutha , ac o Afa , o Hamath hefyd , ac o Seffarfaim , ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria , yn lle meibion Israel . A hwy a feddianasant Samaria , ac a drigasant yn ei dinasoedd hi . Ac yn nechrau eu trigias hwy yno , nid ofnasant hwy yr Arglwydd ; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt , y rhai a laddasant rai ohonynt . Am hynny y mynegasant i frenin Asyria , gan ddywedyd , Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti , ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria , nid adwaenant ddefod Duw y wlad : am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt , ac wele , lladdasant hwynt , am na wyddent ddefod Duw y wlad . Yna brenin Asyria a orchmynnodd , gan ddywedyd , Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno , i fyned ac i drigo yno , ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad . Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel , ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd . Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun , ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid , pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt . A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth , a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal , a gwŷr Hamath a wnaethant Asima , A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac , a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech , duwiau Seffarfaim . Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd , ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd , y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd . Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni , a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau , yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno . Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion : nid ydynt yn ofni yr Arglwydd , ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt , nac yn ôl eu harfer , nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob , yr hwn y gosododd efe ei enw , Israel . A’r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt , ac a orchmynasai iddynt , gan ddywedyd , Nac ofnwch dduwiau dieithr , ac nac ymgrymwch iddynt , ac na wasanaethwch hwynt , ac nac aberthwch iddynt : Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr , ac â braich estynedig , ef a ofnwch chwi , ac iddo ef yr ymgrymwch , ac iddo ef yr aberthwch . Y deddfau hefyd , a’r barnedigaethau , a’r gyfraith , a’r gorchymyn , a ysgrifennodd efe i chwi , a gedwch chwi i’w gwneuthur byth ; ac nac ofnwch dduwiau dieithr . Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi , ac nac ofnwch dduwiau dieithr : Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw ; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion . Ond ni wrandawsant hwy , eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy . Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni’r Arglwydd , ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig ; eu plant a’u hwyrion : fel y gwnaeth eu tadau , y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn . Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel , y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Abi , merch Sachareia . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef . Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd , ac a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni , ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses ; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi : ac efe a’i galwodd hi Nehustan . Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe , ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda , nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef . Canys efe a lynodd wrth yr Arglwydd , ni throdd efe oddi ar ei ôl ef , eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef , y rhai a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd fu gydag ef ; i ba le bynnag yr aeth , efe a lwyddodd : ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria , ac nis gwasanaethodd ef . Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau , o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia , honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel , y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria , ac a warchaeodd arni hi . Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi ; yn y chweched flwyddyn i Heseceia , honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel , yr enillwyd Samaria . A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria , ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor , wrth afon Gosan , ac yn ninasoedd y Mediaid : Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw , eithr troseddu ei gyfamod ef , a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr Arglwydd , ac na wrandawent arnynt , ac nas gwnaent hwynt . Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia , y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda , ac a’u henillodd hwynt . A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis , gan ddywedyd , Pechais , dychwel oddi wrthyf : dygaf yr hyn a roddych arnaf . A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda , dri chant o dalentau arian , a deg ar hugain o dalentau aur . A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhrysorau tŷ y brenin . Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd , ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda , ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria . A brenin Asyria a anfonodd Tartan , a Rabsaris , a Rabsace , o Lachis , at y brenin Heseceia , â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem . A hwy a aethant i fyny , ac a ddaethant i Jerwsalem . Ac wedi eu dyfod i fyny , hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf , yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr . Ac wedi iddynt alw ar y brenin , daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur . A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy , Dywedwch yn awr wrth Heseceia , Fel hyn y dywedodd y brenin mawr , brenin Asyria , Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo ? Dywedyd yr ydwyt , ( ond nid ydynt ond geiriau ofer , ) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel . Ar bwy y mae dy hyder , pan wrthryfelaist i’m herbyn i ? Wele yn awr , y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon , ar yr Aifft , yr hon pwy bynnag a bwyso arni , hi a â i gledr ei law ef , ac a dylla trwyddi hi : felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef . Ac os dywedwch wrthyf , Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried ; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd , a’i allorau , ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem , O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem ? Yn awr gan hynny dod wystlon , atolwg , i’m harglwydd , brenin Asyria , a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch , os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy . A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd , ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch ? Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn , i’w ddinistrio ef ? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos i fyny yn erbyn y wlad hon , a dinistria hi . Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia , a Sebna , a Joa , wrth Rabsace , Llefara , atolwg , wrth dy weision yn Syriaeg , canys yr ydym ni yn ei deall hi ; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon , lle y clywo y bobl sydd ar y mur . Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt , Ai at dy feistr di , ac atat tithau , yr anfonodd fy meistr fi , i lefaru y geiriau hyn ? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur , fel y bwytaont eu tom eu hun , ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi , yr anfonodd fi ? Felly Rabsace a safodd , ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon , llefarodd hefyd , a dywedodd , Gwrandewch air y brenin mawr , brenin Asyria . Fel hyn y dywedodd y brenin , Na thwylled Heseceia chwi : canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i . Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan waredu a’n gwared ni , ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria . Na wrandewch ar Heseceia : canys fel hyn y dywed brenin Asyria , Gwnewch fwynder â mi , a deuwch allan ataf fi , ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun , a phob un o’i ffigysbren , ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun : Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun , gwlad ŷd a gwin , gwlad bara a gwinllannoedd , gwlad olew olewydd a mêl , fel y byddoch fyw , ac na byddoch feirw : ac na wrandewch ar Heseceia , pan hudo efe chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’n gwared ni . A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria ? Mae duwiau Hamath ac Arpad ? mae duwiau Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i ? Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i , fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw i ? Eithr y bobl a dawsant , ac nid atebasant air iddo : canys gorchymyn y brenin oedd hyn , gan ddywedyd , Nac atebwch ef . Yna y daeth Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur , at Heseceia , a’u dillad yn rhwygedig , ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace . A phan glybu y brenin Heseceia hynny , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ymwisgodd â sachliain , ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd . Ac efe a anfonodd Eliacim , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a henuriaid yr offeiriaid , wedi ymwisgo mewn sachliain , at Eseia y proffwyd mab Amos . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Fel hyn y dywed Heseceia , Diwrnod cyfyngdra , a cherydd , a chabledd yw y dydd hwn : canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth , ond nid oes grym i esgor . Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace , yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw , ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw : am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael . Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia . Ac Eseia a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ofna y geiriau a glywaist , trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi . Wele fi yn rhoddi arno ef wynt , ac efe a glyw sŵn , ac a ddychwel i’w wlad : gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun . Yna y dychwelodd Rabsace , ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna : canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis . A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia , gan ddywedyd , Wele , efe a ddaeth allan i ryfela â thi ; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Na thwylled dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo , gan ddywedyd , Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria . Wele , ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd , gan eu difrodi hwynt : ac a waredir di ? A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt , y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio ; sef Gosan , a Haran , a Reseff , a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar ? Mae brenin Hamath , a brenin Arpad , a brenin dinas Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau , ac a’u darllenodd hwy : a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , ac a’u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd . A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid , tydi sydd Dduw , tydi yn unig , i holl deyrnasoedd y ddaear ; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear . Gogwydda , Arglwydd , dy glust , a gwrando : agor dy lygaid , Arglwydd , ac edrych ; a gwrando eiriau Senacherib , yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw . Gwir yw , O Arglwydd , i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir , A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân : canys nid oeddynt hwy dduwiau , eithr gwaith dwylo dyn , o goed a maen : am hynny y dinistriasant hwynt . Yn awr gan hynny , O Arglwydd ein Duw ni , achub ni , atolwg , o’i law ef , fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw , tydi yn unig . Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria . Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef , Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di , ac a’th watwarodd ; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di . Pwy a ddifenwaist ti , ac a geblaist ? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef , ac y codaist yn uchel dy lygaid ? yn erbyn Sanct Israel . Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd , ac y dywedaist , Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd , i ystlysau Libanus ; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef , a’i ddewis ffynidwydd ef , af hefyd i’w lety eithaf , ac i goedwig ei ddoldir ef . Myfi a gloddiais , ac a yfais ddyfroedd dieithr , ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig . Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm , ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt ? yn awr y dygais hynny i ben , fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol . Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd , ac a gywilyddiwyd : oeddynt megis gwellt y maes , fel gwyrddlysiau , neu laswelltyn ar bennau tai , neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu . Dy eisteddiad hefyd , a’th fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , a adnabûm i , a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn . Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn , ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i ; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen , a’m ffrwyn yn dy weflau , ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost . A hyn fydd yn argoel i ti , O Heseceia : Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun , ac yn yr ail flwyddyn yr atwf ; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch , a medwch , plennwch winllannoedd hefyd , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir , a wreiddia eilwaith i waered , ac a ddwg ffrwyth i fyny . Canys gweddill a â allan o Jerwsalem , a’r rhai dihangol o fynydd Seion : sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria , Ni ddaw efe i’r ddinas hon , ac nid ergydia saeth yno ; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian , ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi . Ar hyd yr un ffordd ag y daeth , y dychwel efe , ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon , medd yr Arglwydd . Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon , i’w chadw hi er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . A’r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd , ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd : a phan gyfodasant yn fore drannoeth , wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon . Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd , ac a aeth ymaith , ac a ddychwelodd , ac a drigodd yn Ninefe . A bu , fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw , i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia : ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw : ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Trefna dy dŷ ; canys marw fyddi , ac ni byddi byw . Yna efe a drodd ei wyneb at y pared , ac a weddïodd at yr Arglwydd , gan ddywedyd , Atolwg , Arglwydd , cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd , ac â chalon berffaith , a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di . A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr . A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol , daeth gair yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Dychwel , a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Clywais dy weddi di , gwelais dy ddagrau ; wele fi yn dy iacháu di ; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr Arglwydd . A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd , ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria : diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . A dywedodd Eseia , Cymerwch swp o ffigys . A hwy a gymerasant , ac a’i gosodasant ar y cornwyd , ac efe a aeth yn iach . A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia , Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi , ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd ? Ac Eseia a ddywedodd , Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd , y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe : A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen , neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl ? A Heseceia a ddywedodd , Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau : nid felly , ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau . Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd : ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau , ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas , ddeg o raddau yn ei ôl . Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan , mab Baladan brenin Babilon , lythyrau ac anrheg at Heseceia : canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf . A Heseceia a wrandawodd arnynt , ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor , yr arian , a’r aur , a’r peraroglau , a’r olew gorau , a holl dŷ ei arfau , a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef : nid oedd dim yn ei dŷ ef , nac yn ei holl gyfoeth ef , a’r nas dangosodd Heseceia iddynt . Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd y gwŷr hyn ? ac o ba le y daethant atat ti ? A dywedodd Heseceia , O wlad bell y daethant hwy , sef o Babilon . Yntau a ddywedodd , Beth a welsant hwy yn dy dŷ di ? A dywedodd Heseceia , Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy : nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy . Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia , Gwrando air yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di , a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn : ni adewir dim , medd yr Arglwydd . Cymerant hefyd o’th feibion di , y rhai a ddaw allan ohonot , y rhai a genhedli di , a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon . Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia , Da yw gair yr Arglwydd , yr hwn a leferaist . Dywedodd hefyd , Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i ? A’r rhan arall o hanes Heseceia , a’i holl rym ef , ac fel y gwnaeth efe y llyn , a’r pistyll , ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Heseceia a hunodd gyda’i dadau : a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu , a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Heffsiba . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef ; ac a gyfododd allorau i Baal , ac a wnaeth lwyn , fel y gwnaethai Ahab brenin Israel , ac a addolodd holl lu’r nefoedd , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd , am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd , Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw . Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân , ac a arferodd hudoliaeth , a brudiau , ac a fawrhaodd swynyddion , a dewiniaid : efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe , yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd , ac wrth Solomon ei fab , Yn y tŷ hwn , ac yn Jerwsalem , yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel , y gosodaf fi fy enw yn dragywydd : Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt : yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt , ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt . Ond ni wrandawsant hwy : a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi , gan ddywedyd , Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn , a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef , a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod : Oblegid hynny , fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda , fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant . A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem , a phwys tŷ Ahab : golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan , yr hwn pan olcho , efe a’i try ar ei wyneb . A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth , ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion , a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion : Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i , a’u bod yn fy nigio i , er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft , hyd y dydd hwn . Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion , hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd ; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu , gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . A’r rhan arall o hanes Manasse , a’r hyn a wnaeth efe , a’i bechod a bechodd efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Manasse a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun , sef yng ngardd Ussa ; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth , merch Harus o Jotba . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel y gwnaethai Manasse ei dad . Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt , ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad , ac a ymgrymodd iddynt : Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau , ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd . A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef , ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun . A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon : a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef . A’r rhan arall o hanes Amon , yr hyn a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa ; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin , ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jedida , merch Adaia o Boscath . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dad , ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia , y brenin a anfonodd Saffan , mab Asaleia , mab Mesulam , yr ysgrifennydd , i dŷ yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad , fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd , y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl : A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith , y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd ; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd , i gyweirio agennau y tŷ , I’r seiri coed , ac i’r adeiladwyr , ac i’r seiri maen , ac i brynu coed a cherrig nadd , i atgyweirio’r tŷ . Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt , am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon . A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd , Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd : a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan , ac efe a’i darllenodd ef . A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin , ac a adroddodd y peth i’r brenin , ac a ddywedodd , Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ , ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith , y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd . A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin , gan ddywedyd , Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr : a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin . A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith , efe a rwygodd ei ddillad . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad , ac i Ahicam mab Saffan , ac i Achbor mab Michaia , ac i Saffan yr ysgrifennydd , ac i Asaheia gwas y brenin , gan ddywedyd , Ewch , ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi , a thros y bobl , a thros holl Jwda , am eiriau y llyfr hwn a gafwyd : canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni , oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn , i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni . Felly Hilceia yr offeiriad , ac Ahicam , ac Achbor , a Saffan , ac Asaheia , a aethant at Hulda y broffwydes , gwraig Salum mab Ticfa , mab Harhas , ceidwad y gwisgoedd : a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy ; a hwy a ymddiddanasant â hi . A hi a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel , Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn , ac ar ei drigolion , sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda : Am iddynt fy ngwrthod i , ac arogldarthu i dduwiau dieithr , i’m digio i â holl waith eu dwylo : am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn , ac nis diffoddir ef . Ond wrth frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd , fel hyn y dywedwch wrtho ef , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Am y geiriau a glywaist ti ; Oblegid i’th galon feddalhau , ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd , pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn , ac yn erbyn ei drigolion , y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith , ac am rwygo ohonot dy ddillad , ac wylo ger fy mron i ; minnau hefyd a wrandewais , medd yr Arglwydd . Oherwydd hynny , wele , mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau , a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch , fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon . A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn . A’r brenin a anfonodd , a holl henuriaid Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef . A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , a holl wŷr Jwda , a holl drigolion Jerwsalem gydag ef , yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a’r holl bobl o fychan hyd fawr : ac efe a ddarllenodd , lle y clywsant hwy , holl eiriau llyfr y cyfamod , yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A’r brenin a safodd wrth y golofn , ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd , ar fyned ar ôl yr Arglwydd , ac ar gadw ei orchmynion ef , a’i dystiolaethau , a’i ddeddfau , â’i holl galon , ac â’i holl enaid , i gyflawni geiriau y cyfamod hwn , y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad , ac i’r offeiriaid o’r ail radd , ac i geidwaid y drws , ddwyn allan o deml yr Arglwydd yr holl lestri a wnaethid i Baal , ac i’r llwyn , ac i holl lu’r nefoedd : ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem , ym meysydd Cidron , ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel . Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd , yn ninasoedd Jwda , ac yn amgylchoedd Jerwsalem : a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal , i’r haul , ac i’r lleuad , ac i’r planedau , ac i holl lu’r nefoedd . Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd , i’r tu allan i Jerwsalem , hyd afon Cidron , ac a’i llosgodd ef wrth afon Cidron , ac a’i malodd yn llwch , ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl . Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid , y rhai oedd wrth dŷ yr Arglwydd , lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn . Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda , ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt , o Geba hyd Beerseba , ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth , y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas , y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas . Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem , ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr . Ac efe a halogodd Toffeth , yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom , fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dân i Moloch . Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul , wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd , wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd , yr hwn oedd yn y pentref , ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân . Yr allorau hefyd , y rhai oedd ar nen ystafell Ahas , y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda , a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd , a ddistrywiodd y brenin , ac a’u bwriodd hwynt i lawr oddi yno , ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron . Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem , y rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llygredigaeth , y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra’r Sidoniaid , ac i Cemos ffieidd‐dra’r Moabiaid , ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon . Ac efe a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni , ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion . Yr allor hefyd , yr hon oedd yn Bethel , a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat , yr hwn a wnaeth i Israel bechu , ie , yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe , ac a losgodd yr uchelfa , ac a’i malodd yn llwch , ac a losgodd y llwyn . A Joseia a edrychodd , ac a ganfu feddau , y rhai oedd yno yn y mynydd , ac a anfonodd , ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau , ac a’u llosgodd ar yr allor , ac a’i halogodd hi , yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw , yr hwn a bregethasai y geiriau hyn . Yna efe a ddywedodd , Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled ? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho , Bedd gŵr Duw , yr hwn a ddaeth o Jwda , ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel , ydyw . Ac efe a ddywedodd , Gadewch ef yn llonydd : nac ymyrred neb â’i esgyrn ef . Felly yr achubasant ei esgyrn ef , gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria . Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd , y rhai oedd yn ninasoedd Samaria , y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd , ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel . Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno , ar yr allorau , ac a losgodd esgyrn dynion arnynt , ac a ddychwelodd i Jerwsalem . A’r brenin a orchmynnodd i’r holl bobl , gan ddywedyd , Gwnewch Basg i’r Arglwydd eich Duw , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn . Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn , er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel , nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel , na brenhinoedd Jwda . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r Arglwydd yn Jerwsalem . Y swynyddion hefyd , a’r dewiniaid , a’r delwau , a’r eilunod , a’r holl ffieidd‐dra , y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda , ac yn Jerwsalem , a dynnodd Joseia ymaith : fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith ; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd . Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef , yr hwn a drodd at yr Arglwydd â’i holl galon , ac â’i holl enaid , ac â’i holl egni , yn ôl cwbl o gyfraith Moses ; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef . Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr , trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda , oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef . A dywedodd yr Arglwydd , Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg , fel y bwriais ymaith Israel , ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem , yr hon a ddetholais , a’r tŷ am yr hwn y dywedais , Fy enw a fydd yno . A’r rhan arall o hanes Joseia , a’r hyn oll a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria , hyd afon Ewffrates : a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef , a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido , pan ei gwelodd ef . A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido , ac a’i dygasant ef i Jerwsalem , ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun . A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia , ac a’i heneiniasant ef , ac a’i hurddasant yn frenin yn lle ei dad . Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin , a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef . A Pharo‐Necho a’i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath , fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem : ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian , a thalent o aur . A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad , ac a drodd ei enw ef Joacim : ac efe a ddug ymaith Joahas , ac efe a ddaeth i’r Aifft , ac yno y bu efe farw . A Joacim a roddodd i Pharo yr arian , a’r aur ; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo : efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad , ar bob un yn ôl ei dreth , i’w rhoddi i Pharo‐Necho . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Sebuda , merch Pedaia o Ruma . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau . Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny , a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd : yna efe a drodd , ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef . A’r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid , a thorfoedd o’r Syriaid , a thorfoedd o’r Moabiaid , a thorfoedd o feibion Ammon , ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi , yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi . Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda , i’w bwrw allan o’i olwg ef , o achos pechodau Manasse , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe ; A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe : canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion ; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau . A’r rhan arall o hanes Joacim , a’r hyn oll a’r a wnaeth efe , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda ? A Joacim a hunodd gyda’i dadau ; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad : canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft , o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates . Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin ; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Nehusta , merch Elnathan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad . Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem , a gwarchaewyd ar y ddinas . A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas , a’i weision ef a warchaeasant arni hi . A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon , efe , a’i fam , a’i weision , a’i dywysogion , a’i ystafellyddion : a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad . Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd , fel y llefarasai yr Arglwydd . Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem , yr holl dywysogion hefyd , a’r holl gedyrn nerthol , sef deng mil o gaethion , a phob saer , a gof : ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno . Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon , a mam y brenin , a gwragedd y brenin , a’i ystafellyddion , a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon . A’r holl wŷr nerthol , sef saith mil ; ac o seiri a gofaint , mil , y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr : hwynt‐hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon . A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef , ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin . Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda , nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg , fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon . Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a wersyllodd yn ei herbyn hi , a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi . A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia . Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas , ac nid oedd bara i bobl y wlad . A’r ddinas a dorrwyd , a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth , rhwng y ddau fur , y rhai sydd wrth ardd y brenin , ( a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch ; ) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos . A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin , ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho : a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho . Felly hwy a ddaliasant y brenin , ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla ; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef . Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid , ac a dynasant lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres , ac a’i dygasant ef i Babilon . Ac yn y pumed mis , ar y seithfed dydd o’r mis , honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon , y daeth Nebusaradan y distain , gwas brenin Babilon , i Jerwsalem . Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , a holl dai Jerwsalem , a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân . A holl lu’r Caldeaid , y rhai oedd gyda’r distain , a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch . A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas , a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon , gyda gweddill y dyrfa . Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai , yn winllanwyr , ac yn arddwyr . Y colofnau pres hefyd , y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a’r ystolion , a’r môr pres , yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a ddrylliodd y Caldeaid , a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon . Y crochanau hefyd , a’r rhawiau , a’r saltringau , y llwyau , a’r holl lestri pres , y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt , a ddygasant hwy ymaith . Y pedyll tân hefyd , a’r cawgiau , y rhai oedd o aur yn aur , a’r rhai oedd o arian yn arian , a ddug y distain ymaith . Y ddwy golofn , yr un môr , a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn . Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn , a chnap pres oedd arni ; ac uchder y cnap oedd dri chufydd ; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch , yn bres i gyd : ac felly yr oedd yr ail golofn , â phlethwaith . A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf , a Seffaneia , yr ail offeiriad , a’r tri oedd yn cadw y drws . Ac o’r ddinas efe a gymerth ystafellydd , yr hwn oedd ar y rhyfelwyr , a phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin , y rhai a gafwyd yn y ddinas , ac ysgrifennydd tywysog y llu , yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad ; a thrigeinwr o bobl y wlad , y rhai a gafwyd yn y ddinas . A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn , ac a’u dug at frenin Babilon , i Ribla . A brenin Babilon a’u trawodd hwynt , ac a’u lladdodd hwynt , yn Ribla , yng ngwlad Hamath . Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun . Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda , y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy , Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan . A phan glybu holl dywysogion y lluoedd , hwynt‐hwy a’u gwŷr , wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog , hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa , sef Ismael mab Nethaneia , a Johanan mab Carea , a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad , a Jaasaneia mab Maachathiad , hwynt a’u gwŷr . A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy , ac wrth eu gwŷr , ac a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid : trigwch yn y tir , a gwasanaethwch frenin Babilon , a bydd da i chwi . Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia , mab Elisama , o’r had brenhinol , a dengwr gydag ef , a hwy a drawsant Gedaleia , fel y bu efe farw : trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa . A’r holl bobl o fychan hyd fawr , a thywysogion y lluoedd , a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft : canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid . Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda , yn y deuddegfed mis , ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis , Efilmerodach brenin Babilon , yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin , a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy . Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho , ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon . Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef : ac efe a fwytaodd fwyd yn wastadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei einioes . A’i ran ef oedd ran feunyddiol , a roddid iddo gan y brenin , dogn dydd yn ei ddydd , holl ddyddiau ei einioes ef . </passage></reply></GetPassage>