<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:13</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:13</urn><passage>Adda , Seth , Enos , Cenan , Mahalaleel , Jered , Enoch , Methusela , Lamech , Noa , Sem , Cham , a Jaffeth . Meibion Jaffeth ; Gomer , a Magog , a Madai , a Jafan , a Thubal , a Mesech , a Thiras . A meibion Gomer ; Aschenas , a Riffath , a Thogarma . A meibion Jafan ; Elisa , a Tharsis , Cittim , a Dodanim . Meibion Cham ; Cus , a Misraim , Put , a Chanaan . A meibion Cus ; Seba , a Hafila , a Sabta , a Raama , a Sabtecha : a Seba , a Dedan , meibion Raama . A Chus a genhedlodd Nimrod : hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear . A Misraim a genhedlodd Ludim , ac Anamim , a Lehabim , a Nafftuhim , Pathrusim hefyd , a Chasluhim , ( y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt , ) a Chafftorim . A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig , a Heth , Y Jebusiad hefyd , a’r Amoriad , a’r Girgasiad , A’r Hefiad , a’r Arciad , a’r Siniad , A’r Arfadiad , a’r Semariad , a’r Hamathiad . Meibion Sem ; Elam , ac Assur , ac Arffacsad , a Lud , ac Aram , ac Us , a Hul , a Gether , a Mesech . Ac Arffacsad a genhedlodd Sela , a Sela a genhedlodd Eber . Ac i Eber y ganwyd dau o feibion : enw y naill ydoedd Peleg ; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear : ac enw ei frawd oedd Joctan . A Joctan a genhedlodd Almodad , a Seleff , a Hasarmafeth , a Jera , Hadoram hefyd , ac Usal , a Dicla , Ac Ebal , ac Abimael , a Seba , Offir hefyd , a Hafila , a Jobab . Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan . Sem , Arffacsad , Sela , Eber , Peleg , Reu , Serug , Nachor , Tera , Abram , hwnnw yw Abraham . Meibion Abraham ; Isaac , ac Ismael . Dyma eu cenedlaethau hwynt : cyntaf‐anedig Ismael oedd Nebaioth , yna Cedar , ac Adbeel , a Mibsam , Misma , a Duma , Massa , Hadad , a Thema , Jetur , Naffis , a Chedema . Dyma feibion Ismael . A meibion Cetura , gordderchwraig Abraham : hi a ymddûg Simran , a Jocsan , a Medan , a Midian , ac Isbac , a Sua . A meibion Jocsan ; Seba , a Dedan . A meibion Midian ; Effa , ac Effer , a Henoch , ac Abida , ac Eldaa : y rhai hyn oll oedd feibion Cetura . Ac Abraham a genhedlodd Isaac . Meibion Isaac ; Esau , ac Israel . Meibion Esau ; Eliffas , Reuel , a Jëus , a Jaalam , a Chora . Meibion Eliffas ; Teman , ac Omar , Seffi , a Gatam , Cenas , a Thimna , ac Amalec . Meibion Reuel ; Nahath , Sera , Samma , a Missa . A meibion Seir ; Lotan , a Sobal , a Sibeon , ac Ana , a Dison , ac Eser , a Disan . A meibion Lotan ; Hori , a Homam : a chwaer Lotan oedd Timna . Meibion Sobal ; Alïan , a Manahath , ac Ebal , Seffi , ac Onam . A meibion Sibeon ; Aia , ac Ana . Meibion Ana ; Dison . A meibion Dison ; Amram , ac Esban , ac Ithran , a Cheran . Meibion Eser ; Bilhan , a Safan , a Jacan . Meibion Dison ; Us , ac Aran . Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom , cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel ; Bela mab Beor : ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba . A phan fu farw Bela , y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra . A phan fu farw Jobab , Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef . A phan fu farw Husam , yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad , yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab : ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith . A phan fu farw Hadad , y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca . A phan fu farw Samla , Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef . A phan fu farw Saul , y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor . A bu farw Baalhanan , a theyrnasodd yn ei le ef Hadad : ac enw ei ddinas ef oedd Pai ; ac enw ei wraig ef Mehetabel , merch Matred , merch Mesahab . A bu farw Hadad . A dugiaid Edom oedd ; dug Timna , dug Alia , dug Jetheth , Dug Aholibama , dug Ela , dug Pinon , Dug Cenas , dug Teman , dug Mibsar , Dug Magdiel , dug Iram . Dyma ddugiaid Edom . Dyma feibion Israel ; Reuben , Simeon , Lefi , a Jwda , Issachar , a Sabulon , Dan , Joseff , a Benjamin , Nafftali , Gad , ac Aser . Meibion Jwda ; Er , ac Onan , a Sela . Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees . Ond Er , cyntaf‐anedig Jwda , ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd , ac efe a’i lladdodd ef . A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera . Holl feibion Jwda oedd bump . Meibion Phares ; Hesron a Hamul . A meibion Sera ; Simri , ac Ethan , a Heman , a Chalcol , a Dara ; hwynt oll oedd bump . A meibion Carmi ; Achar , yr hwn a flinodd Israel , ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth . A meibion Ethan ; Asareia . A meibion Hesron , y rhai a anwyd iddo ef ; Jerahmeel , a Ram , a Chelubai . A Ram a genhedlodd Amminadab ; ac Amminadab a genhedlodd Nahson , pennaeth meibion Jwda ; A Nahson a genhedlodd Salma ; a Salma a genhedlodd Boas ; A Boas a genhedlodd Obed ; ac Obed a genhedlodd Jesse ; A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab , ac Abinadab yn ail , a Simma yn drydydd , Nethaneel yn bedwerydd , Radai yn bumed , Osem yn chweched , Dafydd yn seithfed : A’u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail . A meibion Serfia ; Abisai , a Joab , ac Asahel , tri . Ac Abigail a ymddûg Amasa . A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad . A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig , ac o Jerioth : a dyma ei meibion hi ; Jeser , Sobab , ac Ardon . A phan fu farw Asuba , Caleb a gymerth iddo Effrath , a hi a ymddûg iddo Hur . A Hur a genhedlodd Uri , ac Uri a genhedlodd Besaleel . Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir , tad Gilead , ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd ; a hi a ddug iddo Segub . A Segub a genhedlodd Jair : ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead . Ac efe a enillodd Gesur , ac Aram , a threfydd Jair oddi arnynt , a Chenath a’i phentrefydd , sef trigain o ddinasoedd . Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead . Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata , Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur , tad Tecoa . A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd , Ram yr hynaf , Buna , ac Oren , ac Osem , ac Ahïa . A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel , a’i henw Atara : hon oedd fam Onam . A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd , Maas , a Jamin , ac Ecer . A meibion Onam oedd Sammai , a Jada . A meibion Sammai ; Nadab , ac Abisur . Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail : a hi a ymddûg iddo Aban , a Molid . A meibion Nadab ; Seled , ac Appaim . A bu farw Seled yn ddi‐blant . A meibion Appaim ; Isi . A meibion Isi ; Sesan . A meibion Sesan ; Alai . A meibion Jada brawd Sammai ; Jether , a Jonathan . A bu farw Jether yn ddi‐blant . A meibion Jonathan ; Peleth , a Sasa . Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel . Ac nid oedd i Sesan feibion , ond merched : ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad , a’i enw Jarha . A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was . A hi a ymddûg iddo Attai . Ac Attai a genhedlodd Nathan , a Nathan a genhedlodd Sabad . A Sabad a genhedlodd Efflal , ac Efflal a genhedlodd Obed , Ac Obed a genhedlodd Jehu , a Jehu a genhedlodd Asareia , Ac Asareia a genhedlodd Heles , a Heles a genhedlodd Eleasa , Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai , a Sisamai a genhedlodd Salum , A Salum a genhedlodd Jecameia , a Jecameia a genhedlodd Elisama . Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd , Mesa ei gyntaf‐anedig , hwn oedd dad Siff : a meibion Maresa tad Hebron . A meibion Hebron ; Cora , a Thappua , a Recem , a Sema . A Sema a genhedlodd Raham , tad Jorcoam : a Recem a genhedlodd Sammai . A mab Sammai oedd Maon : a Maon oedd dad Bethsur . Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran , a Mosa , a Gases : a Haran a genhedlodd Gases . A meibion Jahdai ; Regem , a Jotham , a Gesan , a Phelet , ac Effa , a Saaff . Gordderchwraig Caleb , sef Maacha , a ymddûg Seber a Thirhana . Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna , Sefa tad Machbena , a thad Gibea : a merch Caleb oedd Achsa . Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur , cyntaf‐anedig Effrata ; Sobal tad Ciriath‐jearim , Salma tad Bethlehem , Hareff tad Beth‐gader . A meibion oedd i Sobal , tad Ciriath‐jearim : Haroe , a hanner y Manahethiaid , A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid , a’r Puhiaid , a’r Sumathiaid , a’r Misraiaid : o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid . Meibion Salma ; Bethlehem , a’r Netoffathiaid , Ataroth tŷ Joab , a hanner y Manahethiaid , y Soriaid . A thylwyth yr ysgrifenyddion , y rhai a breswylient yn Jabes ; y Tirathiaid , y Simeathiaid , y Suchathiaid . Dyma y Ceniaid , y rhai a ddaethant o Hemath , tad tylwyth Rechab . Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd , y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron ; y cyntaf‐anedig Amnon , o Ahinoam y Jesreeles : yr ail , Daniel , o Abigail y Garmeles : Y trydydd , Absalom mab Maacha , merch Talmai brenin Gesur : y pedwerydd , Adoneia mab Haggith : Y pumed , Seffateia o Abital : y chweched , Ithream o Egla ei wraig . Chwech a anwyd iddo yn Hebron ; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis : a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem ; Simea , a Sobab , a Nathan , a Solomon , pedwar , o Bathsua merch Ammiel : Ibhar hefyd , ac Elisama , ac Eliffelet , A Noga , a Neffeg , a Jaffia , Ac Elisama , Eliada , ac Eliffelet , naw . Dyma holl feibion Dafydd , heblaw meibion y gordderchwragedd , a Thamar eu chwaer hwynt . A mab Solomon ydoedd Rehoboam : Abeia ei fab yntau ; Asa ei fab yntau ; a Jehosaffat ei fab yntau ; Joram ei fab yntau ; Ahaseia ei fab yntau ; Joas ei fab yntau ; Amaseia ei fab yntau ; Asareia ei fab yntau ; Jotham ei fab yntau ; Ahas ei fab yntau ; Heseceia ei fab yntau ; Manasse ei fab yntau ; Amon ei fab yntau ; Joseia ei fab yntau . A meibion Joseia ; y cyntaf‐anedig oedd Johanan , yr ail Joacim , y trydydd Sedeceia , y pedwerydd Salum . A meibion Joacim ; Jechoneia ei fab ef , Sedeceia ei fab yntau . A meibion Jechoneia ; Assir , Salathiel ei fab yntau , Malciram hefyd , a Phedaia , a Senasar , Jecameia , a Hosama , a Nedabeia . A meibion Pedaia ; Sorobabel , a Simei a meibion Sorobabel ; Mesulam , a Hananeia , a Selomith eu chwaer hwynt : A Hasuba , ac Ohel , a Berecheia , a Hasadeia , Jusab‐hesed , pump . A meibion Hananeia ; Pelatia a Jesaia : meibion Reffaia , meibion Arnan , meibion Obadeia , meibion Sechaneia . A meibion Sechaneia ; Semaia : a meibion Semaia ; Hattus , ac Igeal , a Bareia , a Nearia , a Saffat , chwech . A meibion Nearia ; Elioenai , a Heseceia , ac Asricam , tri . A meibion Elioenai oedd , Hodaia , ac Eliasib , a Phelaia , ac Accub , a Johanan , a Dalaia , ac Anani , saith . Meibion Jwda ; Phares , Hesron , a Charmi , a Hur , a Sobal . A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath ; a Jahath a genhedlodd Ahumai , a Lahad . Dyma deuluoedd y Sorathiaid . A’r rhai hyn oedd o dad Etam ; Jesreel , ac Isma , ac Idbas : ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi . A Phenuel tad Gedor , ac Eser tad Husa . Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata , tad Bethlehem . Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig , Hela a Naara . A Naara a ddug iddo Ahusam , a Heffer , a Themeni , ac Hahastari . Dyma feibion Naara . A meibion Hela oedd , Sereth , a Jesoar , ac Ethnan . A Chos a genhedlodd Anub , a Sobeba , a theuluoedd Aharhel mab Harum . Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr ; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes , gan ddywedyd , Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid . A Jabes a alwodd ar Dduw Israel , gan ddywedyd , O na lwyr fendithit fi , ac na ehengit fy nherfynau , a bod dy law gyda mi , a’m cadw oddi wrth ddrwg , fel na’m gofidier ! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai . A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir , yr hwn oedd dad Eston . Ac Eston a genhedlodd Bethraffa , a Phasea , a Thehinna tad dinas Nahas . Dyma ddynion Recha . A meibion Cenas ; Othniel , a Seraia : a meibion Othniel ; Hathath . A Meonothai a genhedlodd Offra : a Seraia a genhedlodd Joab , tad glyn y crefftwyr ; canys crefftwyr oeddynt hwy . A meibion Caleb mab Jeffunne ; Iru , Ela , a Naam : a meibion Ela oedd , Cenas . A meibion Jehaleleel ; Siff , a Siffa , Tiria , ac Asareel . A meibion Esra oedd , Jether , a Mered , ac Effer , a Jalon : a hi a ddug Miriam , a Sammai , ac Isba tad Estemoa . A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor , a Heber tad Socho , a Jecuthiel tad Sanoa . A dyma feibion Bitheia merch Pharo , yr hon a gymerth Mered . A meibion ei wraig Hodeia , chwaer Naham , tad Ceila y Garmiad , ac Estemoa y Maachathiad . A meibion Simon oedd , Amnon , a Rinna , Benhanan , a Thilon . A meibion Isi oedd , Soheth , a Bensoheth . A meibion Sela mab Jwda oedd , Er tad Lecha , a Laada tad Maresa , a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main , o dŷ Asbea , A Jocim , a dynion Choseba , a Joas , a Saraff , y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab , a Jasubilehem . Ac y mae y pethau hyn yn hen . Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau ; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef . Meibion Simeon oedd , Nemuel , a Jamin , Jarib , Sera , a Saul : Salum ei fab yntau , Mibsam ei fab yntau , Misma ei fab yntau . A meibion Misma ; Hamuel ei fab yntau , Sacchur ei fab yntau , Simei ei fab yntau . Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion , a chwech o ferched , ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion : ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda . A hwy a breswyliasant yn Beerseba , a Molada , a Hasar‐sual , Yn Bilha hefyd , ac yn Esem , ac yn Tolad , Ac yn Bethuel , ac yn Horma , ac yn Siclag , Ac yn Beth‐marcaboth , ac yn Hasarsusim , ac yn Beth‐birei , ac yn Saaraim . Dyma eu dinasoedd hwynt , nes teyrnasu o Dafydd . A’u trefydd hwynt oedd , Etam , ac Ain , Rimmon , a Thochen , ac Asan ; pump o ddinasoedd . A’u holl bentrefi hwynt hefyd , y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal . Dyma eu trigfannau hwynt , a’u hachau . A Mesobab , a Jamlech , a Josa mab Amaseia , A Joel , a Jehu mab Josibia , fab Seraia , fab Asiel , Ac Elioenai , a Jaacoba , a Jesohaia , ac Asaia , ac Adiel , a Jesimiel , a Benaia , A Sisa mab Siffi , fab Alon , fab Jedaia , fab Simri , fab Semaia . Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd , ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr . A hwy a aethant i flaenau Gedor , hyd at du dwyrain y dyffryn , i geisio porfa i’w praidd . A hwy a gawsant borfa fras , a da , a gwlad eang ei therfynau , a heddychlon a thangnefeddus : canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham . A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda , ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno , ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn , a thrigasant yn eu lle hwynt ; am fod porfa i’w praidd hwynt yno . Ac ohonynt hwy , sef o feibion Simeon , yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir , a Phelatia , a Nearia , a Reffaia , ac Ussiel , meibion Isi , yn ben arnynt . Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec , ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn . A meibion Reuben , cyntaf‐anedig Israel , ( canys efe oedd gyntaf‐anedig , ond am iddo halogi gwely ei dad , rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff , mab Israel ; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint : Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr , ac ohono ef y daeth blaenor : a’r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff . ) Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd , Hanoch , a Phalu , Hesron , a Charmi . Meibion Joel ; Semaia ei fab ef , Gog ei fab yntau , Simei ei fab yntau , Micha ei fab yntau , Reaia ei fab yntau , Baal ei fab yntau , Beera ei fab yntau , yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria : hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid . A’i frodyr ef yn eu teuluoedd , wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau : y pennaf oedd Jeiel , a Sechareia , A Bela mab Asas , fab Sema , fab Joel , yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer , a hyd at Nebo , a Baalmeon . Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe , hyd y lle yr eler i’r anialwch , oddi wrth afon Ewffrates : canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead . Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid , y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt ; a thrigasant yn eu pebyll hwynt , trwy holl du dwyrain Gilead . A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan , hyd at Salcha : Joel y pennaf , a Saffam yr ail , a Jaanai , a Saffat , yn Basan . A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd , Michael , a Mesulam , a Seba , a Jorai , a Jacan , a Sïa , a Heber , saith . Dyma feibion Abihail fab Huri , fab Jaroa , fab Gilead , fab Michael , fab Jesisai , fab Jahdo , fab Bus ; Ahi mab Abdiel , fab Guni , y pennaf o dŷ eu tadau . A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan , ac yn ei threfydd , ac yn holl bentrefi Saron , wrth eu terfynau . Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn nyddiau Jotham brenin Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel . Meibion Reuben , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , o wŷr nerthol , dynion yn dwyn tarian a chleddyf , ac yn tynnu bwa , ac wedi eu dysgu i ryfel , oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain , yn myned allan i ryfel . A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid , a Jetur , a Neffis , a Nodab . A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny , a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt , a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt : canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel , ac efe a wrandawodd arnynt , oherwydd iddynt obeithio ynddo . A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt ; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain , ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd , ac o asynnod ddwy fil , ac o ddynion gan mil . Canys llawer yn archolledig a fuant feirw , am fod y rhyfel oddi wrth Dduw ; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed . A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir : o Basan hyd Baal‐hermon , a Senir , a mynydd Hermon , yr aethant hwy yn aml . Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau , sef Effer , ac Isi , ac Eliel , ac Asriel , a Jeremeia , a Hodafia , a Jadiel , gwŷr cedyrn o nerth , gwŷr enwog , a phennau tŷ eu tadau . A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau , ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad , y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt . A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria , ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria , ac a’u caethgludodd hwynt , sef y Reubeniaid , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , ac a’u dug hwynt i Hala , a Habor , a Hara , ac i afon Gosan , hyd y dydd hwn . Meibion Lefi ; Gerson , Cohath , a Merari . A meibion Cohath ; Amram , Ishar , a Hebron , ac Ussiel . A phlant Amram ; Aaron , Moses , a Miriam : a meibion Aaron ; Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . Eleasar a genhedlodd Phinees , Phinees a genhedlodd Abisua , Ac Abisua a genhedlodd Bucci , a Bucci a genhedlodd Ussi , Ac Ussi a genhedlodd Seraheia , a Seraheia a genhedlodd Meraioth . Meraioth a genhedlodd Amareia , ac Amareia a genhedlodd Ahitub , Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc , a Sadoc a genhedlodd Ahimaas , Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia , ac Asareia a genhedlodd Johanan , A Johanan a genhedlodd Asareia ; ( hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem : ) Ac Asareia a genhedlodd Amareia , ac Amareia a genhedlodd Ahitub , Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc , a Sadoc a genhedlodd Salum , A Salum a genhedlodd Hilceia , a Hilceia a genhedlodd Asareia , Ac Asareia a genhedlodd Seraia , a Seraia a genhedlodd Jehosadac : A Jehosadac a ymadawodd , pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor . Meibion Lefi ; Gersom , Cohath , a Merari . A dyma enwau meibion Gersom ; Libni , a Simei . A meibion Cohath ; Amram , ac Ishar , a Hebron , ac Ussiel . Meibion Merari ; Mahli , a Musi . A dyma dylwyth y Lefiaid , yn ôl eu tadau . I Gersom ; Libni ei fab , Jahath ei fab yntau , Simma ei fab yntau , Joa ei fab yntau , Ido ei fab yntau , Sera ei fab yntau , a Jeaterai ei fab yntau . Meibion Cohath ; Aminadab ei fab ef , Cora ei fab yntau , Assir ei fab yntau , Elcana ei fab yntau , ac Ebiasaff ei fab yntau , ac Assir ei fab yntau , Tahath ei fab yntau , Uriel ei fab yntau , Usseia ei fab yntau , a Saul ei fab yntau . A meibion Elcana ; Amasai , ac Ahimoth . Elcana : meibion Elcana ; Soffai ei fab ef , a Nahath ei fab yntau . Eliab ei fab yntau , Jeroham ei fab yntau , Elcana ei fab yntau . A meibion Samuel ; y cyntaf‐anedig , Fasni , yna Abeia . Meibion Merari ; Mahli , Libni ei fab yntau , Simei ei fab yntau , Ussa ei fab yntau , Simea ei fab yntau , Haggia ei fab yntau , Asaia ei fab yntau . Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd , ar ôl gorffwys o’r arch . A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod , nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem : a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth . A dyma y rhai a weiniasant , a’u meibion hefyd : o feibion y Cohathiaid ; Heman y cantor , mab Joel , fab Semuel , Fab Elcana , fab Jeroham , fab Eliel , fab Toa , Fab Suff , fab Elcana , fab Mahath , fab Amasai , Fab Elcana , fab Joel , fab Asareia , fab Seffaneia , Fab Tahath , fab Assir , fab Ebiasaff , fab Cora , Fab Ishar , fab Cohath , fab Lefi , fab Israel . A’i frawd Asaff , yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau , sef Asaff mab Beracheia , fab Simea , Fab Michael , fab Baaseia , fab Malcheia , Fab Ethni , fab Sera , fab Adaia , Fab Ethan , fab Simma , fab Simei , Fab Jahath , fab Gersom , fab Lefi . A’u brodyr hwynt , meibion Merari , oedd ar y llaw aswy : Ethan mab Cisi , fab Abdi , fab Maluc , Fab Hasabeia , fab Amaseia , fab Hilceia , Fab Amsi , fab Bani , fab Samer , Fab Mahli , fab Musi , fab Merari , fab Lefi . A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw . Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm , ac ar allor yr arogl‐darth , i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf , ac i wneuthur cymod dros Israel , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw . Dyma hefyd feibion Aaron ; Eleasar ei fab ef , Phinees ei fab yntau , Abisua ei fab yntau , Bucci ei fab yntau , Ussi ei fab yntau , Seraheia ei fab yntau , Meraioth ei fab yntau , Amareia ei fab yntau , Ahitub ei fab yntau , Sadoc ei fab yntau , Ahimaas ei fab yntau . A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau , yn eu terfynau ; sef meibion Aaron , o dylwyth y Cohathiaid : oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon . A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda , a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch . Ond meysydd y ddinas , a’i phentrefi , a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne . Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda , sef Hebron , y ddinas noddfa , a Libna a’i meysydd pentrefol , a Jattir ac Estemoa , a’u meysydd pentrefol , A Hilen a’i meysydd pentrefol , a Debir a’i meysydd pentrefol , Ac Asan a’i meysydd pentrefol , a Bethsemes a’i meysydd pentrefol : Ac o lwyth Benjamin ; Geba a’i meysydd pentrefol , ac Alemeth a’i meysydd pentrefol , ac Anathoth a’i meysydd pentrefol : eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg . Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw , y rhoddwyd o’r hanner llwyth , sef hanner Manasse , ddeg dinas wrth goelbren . Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd , o lwyth Issachar , ac o lwyth Aser , ac o lwyth Nafftali , ac o lwyth Manasse yn Basan , dair ar ddeg o ddinasoedd . I feibion Merari trwy eu teuluoedd , o lwyth Reuben , ac o lwyth Gad , ac o lwyth Sabulon , y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol . A hwy a roddasant trwy goelbren , o lwyth meibion Jwda , ac o lwyth meibion Simeon , ac o lwyth meibion Benjamin , y dinasoedd hyn , y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt . I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath , yr ydoedd dinasoedd eu terfyn , o lwyth Effraim . A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa , sef Sichem a’i meysydd pentrefol , ym mynydd Effraim ; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol , Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol , a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol , Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol , a Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol . Ac o hanner llwyth Manasse ; Aner a’i meysydd pentrefol , a Bileam a’i meysydd pentrefol , i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath . I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd , Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol , Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Issachar ; Cedes a’i meysydd pentrefol , Daberath a’i meysydd pentrefol , Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol , ac Anem a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Aser ; Masal a’i meysydd pentrefol , ac Abdon a’i meysydd pentrefol , Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol , a Rehob a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Nafftali ; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol , Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol , a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol . I’r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon , Rimmon a’i meysydd pentrefol , a Thabor a’i meysydd pentrefol . Ac am yr Iorddonen a Jericho , sef o du dwyrain yr Iorddonen , y rhoddwyd o lwyth Reuben , Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol , Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol , Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol , a Meffaath a’i meysydd pentrefol . Ac o lwyth Gad , Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol , Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol , Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol , a Jaser a’i meysydd pentrefol . A meibion Issachar oedd , Tola , a Phua , Jasub , a Simron , pedwar . A meibion Tola ; Ussi , a Reffaia , a Jeriel , a Jahmai , a Jibsam , a Semuel , penaethiaid ar dŷ eu tadau : o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau ; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant . A meibion Ussi ; Israhïa : a meibion Israhïa ; Michael , ac Obadeia , a Joel , Isia , pump : yn benaethiaid oll . A chyda hwynt yn eu cenedlaethau , ac yn ôl tŷ eu tadau , yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel , un fil ar bymtheg ar hugain : canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion . A’u brodyr cedyrn o nerth , o holl deuluoedd Issachar , a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn saith mil a phedwar ugain mil oll . A meibion Benjamin oedd , Bela , a Becher , a Jediael , tri . A meibion Bela ; Esbon , ac Ussi , ac Ussiel , a Jerimoth , ac Iri ; pump o bennau tŷ eu tadau , cedyrn o nerth , a gyfrifwyd wrth eu hachau , yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain . A meibion Becher oedd , Semira , a Joas , ac Elieser , ac Elioenai , ac Omri , a Jerimoth , ac Abeia , ac Anathoth , ac Alemeth : y rhai hyn oll oedd feibion Becher . A hwy a rifwyd wrth eu hachau , yn ôl eu cenedlaethau , yn bennau tŷ eu tadau , yn gedyrn o nerth , yn ugain mil a dau cant . A meibion Jediael ; Bilhan : a meibion Bilhan ; Jeus , a Benjamin , ac Ehud , a Chenaana , a Sethan , a Tharsis , ac Ahisahar . Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael , yn bennau eu tadau , yn gedyrn o nerth , yn myned allan mewn llu i ryfel , yn ddwy fil ar bymtheg a deucant . Suppim hefyd , a Huppim , meibion Ir ; Husim , meibion Aher . Meibion Nafftali ; Jasiel , a Guni , a Geser , a Salum , meibion Bilha . Meibion Manasse ; Asriel , yr hwn a ymddûg ei wraig : ( ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead : A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim , ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha : ) ac enw yr ail fab Salffaad : ac i Salffaad yr oedd merched . A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab , a hi a alwodd ei enw ef Peres , ac enw ei frawd ef Seres , a’i feibion ef oedd Ulam a Racem . A meibion Ulam ; Bedan . Dyma feibion Gilead fab Machir , fab Manasse . A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod , ac Abieser , a Mahala . A meibion Semida oedd , Ahïan , a Sechem , a Lichi , ac Aniham . A meibion Effraim ; Suthela , a Bered ei fab ef , a Thahath ei fab yntau , ac Elada ei fab yntau , a Thahath ei fab yntau , A Sabad ei fab yntau , a Suthela ei fab yntau , ac Eser , ac Elead : a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir , a’u lladdodd hwynt , oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt . Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer ; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef . A phan aeth efe at ei wraig , hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia , am fod drygfyd yn ei dŷ ef . ( Seera hefyd oedd ei ferch ef , a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf , a’r uchaf hefyd , ac Ussen‐sera . ) A Reffa oedd ei fab ef , a Reseff , a Thela ei fab yntau , a Thahan ei fab yntau , Laadan ei fab yntau , Ammihud ei fab yntau , Elisama ei fab yntau , Nun ei fab yntau , Josua ei fab yntau . A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd , Bethel a’i phentrefi , ac o du y dwyrain Naaran , ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi ; a Sichem a’i phentrefi , hyd Gasa a’i phentrefi : Ac ar derfynau meibion Manasse , Beth‐sean , a’i phentrefi , Taanach a’i phentrefi , Megido a’i phentrefi , Dor a’i phentrefi . Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn . Meibion Aser ; Imna , ac Isua , ac Isuai , a Bereia , a Sera eu chwaer hwynt . A meibion Bereia ; Heber , a Malchiel , hwn yw tad Birsafith . A Heber a genhedlodd Jafflet , a Somer , a Hotham , a Sua eu chwaer hwynt . A meibion Jafflet ; Pasach , a Bimhal , ac Asuath . Dyma feibion Jafflet . A meibion Samer ; Ahi , a Roga , Jehubba , ac Aram . A meibion ei frawd ef Helem ; Soffa , ac Imna , a Seles , ac Amal . Meibion Soffa ; Sua , a Harneffer , a Sual , a Beri , ac Imra , Beser , a Hod , a Samma , a Silsa , ac Ithran , a Beera . A meibion Jether ; Jeffunne , Pispa hefyd , ac Ara . A meibion Ula ; Ara , a Haniel , a Resia . Y rhai hyn oll oedd feibion Aser , pennau eu cenedl , yn ddewis wŷr o nerth , yn bennau‐capteiniaid . A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel , oedd chwe mil ar hugain o wŷr . Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig , Asbel yr ail , ac Ahara y trydydd , Noha y pedwerydd , a Raffa y pumed . A meibion Bela oedd , Adar , a Gera , ac Abihud , Ac Abisua , a Naaman , ac Ahoa , A Gera , a Seffuffan , a Huram . Dyma hefyd feibion Ehud ; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba , a hwy a’u mudasant hwynt i Manahath : Naaman hefyd , ac Ahïa , a Gera , efe a’u symudodd hwynt , ac a genhedlodd Ussa , ac Ahihud . Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab , gwedi eu gollwng hwynt ymaith : Husim a Baara oedd ei wragedd . Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig , Jobab , a Sibia , a Mesa , a Malcham , A Jeus , a Sabia , a Mirma . Dyma ei feibion ef , pennau‐cenedl . Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal . A meibion Elpaal oedd , Eber , a Misam , a Samed , yr hwn a adeiladodd Ono , a Lod a’i phentrefi . Bereia hefyd , a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon ; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath . Ahïo hefyd , Sasac , a Jeremoth , Sebadeia hefyd , ac Arad , ac Ader , Michael hefyd , ac Ispa , a Joha , meibion Bereia ; Sebadeia hefyd , a Mesulam , a Heseci , a Heber , Ismerai hefyd , a Jeslïa , a Jobab , meibion Elpaal ; Jacim hefyd , a Sichri , a Sabdi , Elienai hefyd , a Silthai , ac Eliel , Adaia hefyd , a Beraia , a Simrath , meibion Simhi ; Ispan hefyd , a Heber , ac Eliel , Abdon hefyd , a Sichri , a Hanan , Hananeia hefyd , ac Elam , ac Antotheia , Iffedeia hefyd , a Phenuel , meibion Sasac ; Samserai hefyd , a Sehareia , ac Athaleia , Jareseia hefyd , ac Eleia , a Sichri , meibion Jeroham . Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl , sef penaethiaid ar eu cenedlaethau . Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem . Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon , ac enw ei wraig ef oedd Maacha . Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef , Sur hefyd , a Chis , a Baal , a Nadab , Gedor hefyd , ac Ahïo , a Sacher . Micloth hefyd a genhedlodd Simea : y rhai hyn hefyd , ar gyfer eu brodyr , a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr . Ner hefyd a genhedlodd Cis , a Chis a genhedlodd Saul , a Saul a genhedlodd Jonathan , a Malcisua , ac Abinadab , ac Esbaal . A mab Jonathan oedd Meribbaal ; a Meribbaal a genhedlodd Micha . A meibion Micha ; Pithon , a Melech , a Tharea , ac Ahas . Ac Ahas a genhedlodd Jehoada , a Jehoada a genhedlodd Alemeth , ac Asmafeth , a Simri : a Simri a genhedlodd Mosa , A Mosa a genhedlodd Binea : Raffa oedd ei fab ef , Eleasa ei fab yntau , Asel ei fab yntau . Ac i Asel y bu chwech o feibion , a dyma eu henwau hwynt , Asricam , Bocheru , ac Ismael , a Seareia , ac Obadeia , a Hanan . Y rhai hyn oll oedd feibion Asel . A meibion Esec ei frawd ef oedd , Ulam ei gyntaf‐anedig ef , Jehus yr ail , ac Eliffelet y trydydd . A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth , yn saethyddion , ac yn aml eu meibion a’u hwyrion , sef cant a deg a deugain . Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin . A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau , ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda ; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd . Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd , yr Israeliaid , yr offeiriaid , y Lefiaid , a’r Nethiniaid . Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda , ac o feibion Benjamin , ac o feibion Effraim , a Manasse : Uthai mab Ammihud , fab Omri , fab Imri , fab Bani , o feibion Phares fab Jwda . Ac o’r Siloniaid ; Asaia y cyntaf‐anedig , a’i feibion . Ac o feibion Sera ; Jeuel , a’u brodyr , chwe chant a deg a phedwar ugain . Ac o feibion Benjamin , Salu mab Mesulam , fab Hodafia , fab Hasenua , Ibneia hefyd mab Jeroham , ac Ela mab Ussi , fab Michri , a Mesulam mab Seffatia , fab Reuel , fab Ibnija ; A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau , naw cant a deg a deugain a chwech . Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau . Ac o’r offeiriaid ; Jedaia , a Jehoiarib , a Jachin , Asareia hefyd mab Hilceia , fab Mesulam , fab Sadoc , fab Meraioth , fab Ahitub , tywysog tŷ Dduw ; Adaia hefyd mab Jeroham , fab Passur , fab Malceia ; a Maasia , mab Adiel , fab Jasera , fab Mesulam , fab Mesilemith , fab Immer . A’u brodyr , pennaf ar dŷ eu tadau , yn fil a saith gant a thrigain ; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw . Ac o’r Lefiaid ; Semaia mab Hassub , fab Asricam , fab Hasabeia , o feibion Merari , Bacbaccar hefyd , Heres , a Galal , a Mataneia mab Micha , fab Sichri , fab Asaff ; Obadeia hefyd mab Semaia , fab Galal , fab Jeduthun ; a Berecheia mab Asa , fab Elcana , yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid . Y porthorion hefyd oedd , Salum , ac Accub , a Thalmon , ac Ahiman , a’u brodyr ; Salum ydoedd bennaf ; A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain . Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion . Salum hefyd mab Core , fab Ebiasaff , fab Cora , a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad , oedd ar waith y weinidogaeth , yn cadw pyrth y babell : a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd , oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn . Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen : a’r Arglwydd ydoedd gydag ef . Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod . Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau , oedd ddau cant a deuddeg . Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau ; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd . Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd , sef tŷ y babell , i wylied wrth wyliadwriaethau . Y porthorion oedd ar bedwar o fannau , dwyrain , gorllewin , gogledd , a deau . A’u brodyr , y rhai oedd yn eu trefydd , oedd i ddyfod ar y seithfed dydd , o amser i amser , gyda hwynt . Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn , y pedwar pen porthor , yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw . Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy , canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth , ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore . Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth , ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn , ac mewn rhif y dygent hwynt allan . A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri , ac ar holl ddodrefn y cysegr , ac ar y peilliaid , a’r gwin , a’r olew , a’r thus , a’r aroglau peraidd . Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd . A Matitheia , un o’r Lefiaid , yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad , ydoedd mewn swydd ar waith y radell . Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt , oedd ar y bara gosod , i’w ddarparu bob Saboth . A dyma y cantorion , pennau‐cenedl y Lefiaid , y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala ; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos . Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid , pennau trwy eu cenedlaethau : hwy a drigent yn Jerwsalem . Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon , Jehiel ; ac enw ei wraig ef oedd Maacha : A’i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon , yna Sur , a Chis , a Baal , a Ner , a Nadab , A Gedor , ac Ahïo , a Sechareia a Micloth . A Micloth a genhedlodd Simeam : a hwythau hefyd , ar gyfer eu brodyr , a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr . Ner hefyd a genhedlodd Cis , a Chis a genhedlodd Saul , a Saul a genhedlodd Jonathan , a Malcisua , ac Abinadab , ac Esbaal . A mab Jonathan oedd Meribbaal ; a Meribbaal a genhedlodd Micha . A meibion Micha oedd , Pithon , a Melech , a Tharea , ac Ahas . Ac Ahas a genhedlodd Jara , a Jara a genhedlodd Alemeth , ac Asmafeth , a Simri ; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa : A Mosa a genhedlodd Binea ; a Reffaia oedd ei fab ef , Elasa ei fab yntau , Asel ei fab yntau . Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion , a dyma eu henwau hwynt ; Asricam , Bocheru , ac Ismael , a Seareia , ac Obadeia , a Hanan . Dyma feibion Asel . A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel , a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid , ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa . A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul , ac ar ôl ei feibion : a’r Philistiaid a laddasant Jonathan , ac Abinadab , a Malcisua , meibion Saul . A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul , a’r perchen bwâu a’i cawsant ef , ac efe a archollwyd gan y saethyddion . Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyn dy gleddyf , a gwân fi ag ef , rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i . Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi , canys ofnodd yn ddirfawr . Yna y cymerth Saul gleddyf , ac a syrthiodd arno . A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul , syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf , ac a fu farw . Felly y bu farw Saul , a’i dri mab ef , a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd . A phan welodd holl wŷr Israel , y rhai oedd yn y dyffryn , ffoi ohonynt hwy , a marw Saul a’i feibion ; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd , ac a ffoesant ; a’r Philistiaid a ddaethant , ac a drigasant ynddynt . A thrannoeth , pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion , hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa . Ac wedi iddynt ei ddiosg , hwy a gymerasant ei ben ef , a’i arfau , ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch , i ddangos i’w delwau , ac i’r bobl . A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau , a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon . A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul , Pob gŵr nerthol a godasant , ac a gymerasant ymaith gorff Saul , a chyrff ei feibion ef , ac a’u dygasant i Jabes , ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes , ac a ymprydiasant saith niwrnod . Felly y bu farw Saul , am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd , sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe , ac am iddo ymgynghori â dewines , i ymofyn â hi ; Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd : am hynny y lladdodd efe ef , ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse . Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron , gan ddywedyd , Wele , dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni . Doe hefyd , ac echdoe , pan ydoedd Saul yn frenin , tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan : a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt , Ti a borthi fy mhobl Israel , a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel . A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron , a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron , gerbron yr Arglwydd ; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel , yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel . A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem , hon yw Jebus , ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir . A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd , Ni ddeui i mewn yma . Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion , yr hwn yw dinas Dafydd . A dywedodd Dafydd , Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf , efe a fydd yn bennaf , ac yn dywysog . Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf , ac a fu bennaf . A thrigodd Dafydd yn y tŵr : oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd . Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch , o Milo amgylch ogylch : a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas . A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy , ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef . Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd , yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas , a chyda holl Israel , i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel , yn ôl gair yr Arglwydd . A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd ; Jasobeam mab Hachmoni , pen y capteiniaid : hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant , y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo . Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo , yr Ahohiad , hwn oedd un o’r tri chadarn . Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim ; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel , ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd , a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid . A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno , ac a’i hachubasant hi , ac a drawsant y Philistiaid : felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr . A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd , i ogof Adulam ; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim . A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa , a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem . A Dafydd a flysiodd , ac a ddywedodd , O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn sydd wrth y porth ? A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid , ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem , yr hwn oedd wrth y porth , ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd : ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef , ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd : Ac efe a ddywedodd , Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn . A yfaf fi waed y dynion hyn , a beryglasant eu heinioes ? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef : am hynny ni fynnai efe ei yfed . Y tri chadarn a wnaethant hyn . Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri . A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant , ac a’u lladdodd hwynt : ac iddo y bu enw ymhlith y tri . O’r tri , anrhydeddusach na’r ddau eraill , a thywysog iddynt , oedd efe : ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf . Benaia mab Jehoiada , mab gŵr grymus o Cabseel , mawr ei weithredoedd : efe a laddodd ddau o gedyrn Moab ; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira . Ac efe a laddodd Eifftddyn , gŵr pum cufydd o fesur ; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd ; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon , ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn , ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun . Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada , ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn . Wele , anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain , ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe : a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard . A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab , Elhanan mab Dodo o Bethlehem , Sammoth yr Harodiad , Heles y Peloniad , Ira mab Icces y Tecoiad , Abieser yr Anthothiad , Sibbechai yr Husathiad , Ilai yr Ahohiad , Maharai y Netoffathiad , Heled mab Baana y Netoffathiad , Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin , Benaia y Pirathoniad , Hurai o afonydd Gaas , Abiel yr Arbathiad , Asmafeth y Baharumiad , Eliahba y Saalboniad , Meibion Hasem y Gisoniad , Jonathan mab Sageth yr Harariad , Ahïam mab Sachar yr Harariad , Eliffal mab Ur , Heffer y Mecherathiad , Ahïa y Peloniad , Hesro y Carmeliad , Naarai mab Esbai , Joel brawd Nathan , Mibhar mab Haggeri , Selec yr Ammoniad , Naharai y Berothiad , yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia , Ira yr Ithriad , Gareb yr Ithriad , Ureias yr Hethiad , Sabad mab Ahlai , Adina mab Sisa y Reubeniad , pennaeth y Reubeniaid , a chydag ef ddeg ar hugain , Hanan mab Maacha , a Josaffat y Mithniad , Usseia yr Asterathiad , Sama a Jehiel , meibion Hothan yr Aroeriad , Jediael mab Simri , a Joha ei frawd ef , y Tisiad , Eliel y Mahafiad , a Jeribai , a Josafia , meibion Elnaam , ac Ithma y Moabiad , Eliel , ac Obed , a Jasiel y Mesobaiad . A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag , ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis : a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn , cynorthwywyr y rhyfel , Yn arfogion â bwâu , yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig , a saethu mewn bwâu : o frodyr Saul , o Benjamin . Y pennaf oedd Ahieser , yna Joas , meibion Semaa y Gibeathiad , a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth , a Beracha , a Jehu yr Anthothiad , Ac Ismaia y Gibeoniad , grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain , a goruwch y deg ar hugain ; Jeremeia hefyd , a Jehasiel , a Johanan , a Josabad y Gederathiad , Elusai , a Jerimoth , a Bealeia , a Semareia , Seffatia yr Haruffiad . Elcana , a Jeseia , ac Asareel , a Joeser , a Jasobeam , y Corhiaid , A Joela , a Sebadeia , meibion Jeroham o Gedor . A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch , yn gedyrn o nerth , gwŷr milwraidd i ryfel , yn medru trin tarian a bwcled , ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt , ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy . Eser y cyntaf , Obadeia yr ail , Eliab y trydydd , Mismanna y pedwerydd , Jeremeia y pumed , Attai y chweched , Eliel y seithfed , Johanan yr wythfed , Elsabad y nawfed , Jeremeia y degfed , Machbanai yr unfed ar ddeg . Y rhai hyn oedd o feibion Gad , yn gapteiniaid y llu : yr un lleiaf oedd ar gant , a’r mwyaf ar fil . Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf , a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau , ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain , a thua’r gorllewin . A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd . A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt , ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt , Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo , bydd fy nghalon yn un â chwi : ond os i’m bradychu i’m gelynion , a minnau heb gamwedd yn fy nwylo , Duw ein tadau ni a edrycho , ac a geryddo . A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid , ac efe a ddywedodd , Eiddot ti , Dafydd , a chyda thi , mab Jesse , y byddwn ni ; heddwch , heddwch i ti , a hedd i’th gynorthwywyr ; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di . Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt , ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin . A rhai o Manasse a droes at Dafydd , pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel , ond ni chynorthwyasant hwynt : canys penaduriaid y Philistiaid , wrth gyngor , a’i gollyngasant ef ymaith , gan ddywedyd , Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni . Fel yr oedd efe yn myned i Siclag , trodd ato ef o Manasse , Adna , a Josabad , a Jediael , a Michael , a Josabad , ac Elihu , a Silthai , y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse . A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf : canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll , a chapteiniaid ar y llu . Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw , i’w gynorthwyo ef , hyd onid oedd efe yn llu mawr , megis llu Duw . A dyma rifedi y pennau , y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron , i droi brenhiniaeth Saul ato ef , yn ôl gair yr Arglwydd . O feibion Jwda , yn dwyn tarian a ffonwayw , chwe mil ac wyth cant , yn arfog i ryfel . O feibion Simeon , yn gedyrn nerthol i ryfel , saith mil a chant . O feibion Lefi , pedair mil a chwe chant . A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid , a chydag ef dair mil a saith cant . Sadoc hefyd , llanc grymus nerthol , ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid . Ac o feibion Benjamin brodyr Saul , tair mil : canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul . Ac o feibion Effraim , ugain mil ac wyth cant , yn rymus nerthol , yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau . Ac o hanner llwyth Manasse , tair mil ar bymtheg , y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau , i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin . Ac o feibion Issachar , y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur , eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant , a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt . O Sabulon , y rhai a aent allan i ryfel , yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel , deng mil a deugain , yn medru byddino , a hynny yn ffyddlon . Ac o Nafftali , mil o dywysogion , a chyda hwynt , â tharian a gwaywffon , ddwy fil ar bymtheg ar hugain . Ac o’r Daniaid , wyth mil ar hugain a chwe chant , yn medru rhyfela . Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin , yn medru rhyfela . Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o’r Reubeniaid , ac o’r Gadiaid , ac o hanner llwyth Manasse , y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel . Yr holl ryfelwyr hyn , yn medru byddino , a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron , i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel : a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin . A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau , yn bwyta ac yn yfed : canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy . A hefyd , y rhai oedd agos atynt hwy , hyd Issachar , a Sabulon , a Nafftali , a ddygasant fara ar asynnod , ac ar gamelod , ac ar fulod , ac ar ychen , yn fwyd , yn flawd , yn ffigys , ac yn resingau , ac yn win , ac yn olew , ac yn wartheg , ac yn ddefaid yn helaeth : oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel . A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd , ac â’r holl dywysogion . A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel , Os da gennych chwi , a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw , danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel , a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol , i’w cynnull hwynt atom ni . A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni ; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul . A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly : canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl . Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd , o Sihor yr Aifft , hyd y ffordd y delir i Hamath , i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim . A Dafydd a aeth i fyny , a holl Israel , i Baala , sef Ciriath‐jearim , yr hon sydd yn Jwda , i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw , yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid , ar yr hon y gelwir ei enw ef . A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab : ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen . A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw , â’u holl nerth , ac â chaniadau , ac â thelynau , ac â nablau , ac â thympanau , ac â symbalau , ac ag utgyrn . A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon , Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch , canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi . Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa , ac efe a’i lladdodd ef , oblegid iddo estyn ei law at yr arch ; ac yno y bu efe farw gerbron Duw . A bu ddrwg gan Dafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa ; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa , hyd y dydd hwn . A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi ? Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd , ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad . Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom , yn ei dŷ ef , dri mis . A’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom , a’r hyn oll ydoedd eiddo . A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd , a choed cedr , a seiri meini , a seiri prennau , i adeiladu iddo ef dŷ . A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel : canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel , oherwydd ei bobl Israel . A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem : a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg , a merched . A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem : Sammua , a Sobab , Nathan , a Solomon , Ac Ibhar , ac Elisua , ac Elpalet , A Noga , a Neffeg , a Jaffa , Ac Elisama , a Beeliada , ac Eliffalet . A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel , y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd : a chlybu Dafydd , ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt . A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim . A Dafydd a ymgynghorodd â Duw , gan ddywedyd , A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid ? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cerdda i fyny , canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di . Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim , a Dafydd a’u trawodd hwynt yno . A Dafydd a ddywedodd , Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i , fel rhwygo dyfroedd : am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim . A phan adawsant hwy eu duwiau , dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân . A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn . A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn ; a Duw a ddywedodd wrtho , Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt , tro ymaith oddi wrthynt , a thyred arnynt ar gyfer y morwydd . A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd , yna dos allan i ryfel : canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di , i daro llu y Philistiaid . A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo ; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser . Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd ; a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd . A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd , ac a baratôdd le i arch Duw , ac a osododd iddi babell . A Dafydd a ddywedodd , Nid yw i neb ddwyn arch Duw , ond i’r Lefiaid : canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn arch Duw , ac i weini iddo ef yn dragywydd . A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch yr Arglwydd i’w lle a baratoesai efe iddi hi . A Dafydd a gynullodd feibion Aaron , a’r Lefiaid . O feibion Cohath ; Uriel y pennaf , a’i frodyr , cant ac ugain . O feibion Merari ; Asaia y pennaf , a’i frodyr , dau cant ac ugain . O feibion Gersom ; Joel y pennaf , a’i frodyr , cant a deg ar hugain . O feibion Elisaffan ; Semaia y pennaf , a’i frodyr , dau cant . O feibion Hebron ; Eliel y pennaf , a’i frodyr , pedwar ugain . O feibion Ussiel ; Amminadab y pennaf , a’i frodyr , cant a deuddeg . A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid , ac am y Lefiaid , am Uriel , Asaia , a Joel , Semaia , ac Eliel , ac Amminadab , Ac a ddywedodd wrthynt , Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid : ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr , fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i’r lle a baratoais iddi hi . Oherwydd nas gwnaethoch o’r dechreuad , y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni , oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem . Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel . A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau , wrth drosolion , megis y gorchmynnodd Moses , yn ôl gair yr Arglwydd . A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid , ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd , nablau , a thelynau , a symbalau , yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd . Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel ; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia ; ac o feibion Merari eu brodyr , Ethan mab Cusaia . A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd , Sechareia , Ben , a Jaasiel , a Semiramoth , a Jehiel , ac Unni , Eliab , a Benaia , a Maaseia , a Matitheia , ac Eliffele , a Micneia , ac Obed‐edom , a Jehiel , y porthorion . Felly Heman , Asaff , ac Ethan , y cerddorion , oeddynt i leisio â symbalau pres . A Sechareia , ac Asiel , a Semiramoth , a Jehiel , ac Unni , ac Eliab , a Maaseia , a Benaia , a ganent nablau ar Alamoth . A Matitheia , ac Eliffele , a Micneia , ac Obed‐edom , a Jehiel , ac Asaseia , oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori . Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân : efe a ddysgai eraill am y gân , canys cyfarwydd ydoedd . A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch . A Sebaneia , a Jehosaffat , a Nathaneel , ac Amasai , a Sechareia , a Benaia , ac Elieser , yr offeiriaid , oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw : Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch . Felly Dafydd a henuriaid Israel , a thywysogion y miloedd , a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd . A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , hwy a offrymasant saith o fustych , a saith o hyrddod . A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main ; a’r holl Lefiaid , y rhai oedd yn dwyn yr arch , a’r cantorion , Chenaneia hefyd meistr y gân , a’r cerddorion . Ac am Dafydd yr oedd effod liain . A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd , â llais trwmped , ag utgyrn , ac â symbalau , yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau . A phan ydoedd arch cyfamod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd , Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr , ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae : a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon . Felly y dygasant hwy arch Duw i mewn , ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi : a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw . Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd , efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd . Ac efe a rannodd i bob un o Israel , yn ŵr ac yn wraig , dorth o fara , a dryll o gig , a chostrelaid o win . Ac efe a osododd gerbron arch yr Arglwydd weinidogion o’r Lefiaid , i gofio , ac i foliannu , ac i glodfori Arglwydd Dduw Israel . Asaff oedd bennaf , ac yn ail iddo ef Sechareia , Jeiel , a Semiramoth , a Jehiel , a Matitheia , ac Eliab , a Benaia , ac Obed‐edom : a Jeiel ag offer nablau , a thelynau ; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau . Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw . Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd , yn llaw Asaff a’i frodyr . Moliennwch yr Arglwydd , gelwch ar ei enw ef , hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd . Cenwch iddo , clodforwch ef , ymadroddwch am ei holl ryfeddodau . Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef ; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd . Ceiswch yr Arglwydd a’i nerth ef , ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol . Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe , ei ryfeddodau , a barnedigaethau ei enau ; Chwi had Israel ei was ef , chwi feibion Jacob ei etholedigion ef . Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni ; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear . Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod ; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau ; Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham , a’i lw i Isaac : Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob , ac yn gyfamod tragwyddol i Israel , Gan ddywedyd , I ti y rhoddaf dir Canaan , rhandir eich etifeddiaeth . Pan nad oeddech ond ychydig , ie , ychydig , a dieithriaid ynddi ; A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth , ac o un frenhiniaeth at bobl eraill ; Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu : ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy , gan ddywedyd , Na chyffyrddwch â’m heneiniog , ac na ddrygwch fy mhroffwydi . Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaear : mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef . Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd ; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd . Canys mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn : ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau . Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod ; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd . Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef : nerth a gorfoledd yn ei fangre ef . Moeswch i’r Arglwydd , chwi deuluoedd y bobloedd , moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : dygwch aberth , a deuwch ger ei fron ef ; ymgrymwch i’r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd . Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear : y byd hefyd a sicrheir , fel na syflo . Ymlawenyched y nefoedd , ac ymhyfryded y ddaear ; a dywedant ymhlith y cenhedloedd , Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu . Rhued y môr a’i gyflawnder ; llawenhaed y maes , a’r hyn oll y sydd ynddo . Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd , am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . A dywedwch , Achub ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , casgl ni hefyd , a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd , i foliannu dy enw sanctaidd di , ac i ymogoneddu yn dy foliant . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . A dywedodd yr holl bobl , Amen , gan foliannu yr Arglwydd . Ac efe a adawodd yno , o flaen arch cyfamod yr Arglwydd , Asaff a’i frodyr , i weini gerbron yr arch yn wastadol , gwaith dydd yn ei ddydd : Ac Obed‐edom a’u brodyr , wyth a thrigain ; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun , a Hosa , i fod yn borthorion : Sadoc yr offeiriad , a’i frodyr yr offeiriaid , o flaen tabernacl yr Arglwydd , yn yr uchelfa oedd yn Gibeon , I offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr , yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd , yr hon a orchmynnodd efe i Israel : A chyda hwynt Heman , a Jedwthwn , a’r etholedigion eraill , y rhai a hysbysasid wrth eu henwau , i foliannu yr Arglwydd , am fod ei drugaredd ef yn dragywydd : A chyda hwynt Heman , a Jedwthwn , yn lleisio ag utgyrn , ac â symbalau i’r cerddorion , ac offer cerdd Duw : a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth . A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun : a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau . A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ , Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd , Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd , ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau . Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd , Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon ; canys y mae Duw gyda thi . A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth Dafydd fy ngwas , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo . Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn , ond bûm o babell i babell , ac o dabernacl bwygilydd . Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel , a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel , i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl , gan ddywedyd , Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd ? Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Myfi a’th gymerais di o’r gorlan , oddi ar ôl y praidd , i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel . A bûm gyda thi , i ba le bynnag y rhodiaist , torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen , a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear . Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le , ac a’u plannaf , a hwy a drigant yn eu lle , ac ni symudir hwynt mwyach ; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio , megis yn y cyntaf , Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel ; darostyngaf hefyd dy holl elynion di , a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ . A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau , y cyfodaf dy had ar dy ôl di , yr hwn a fydd o’th feibion di , a mi a sicrhaf ei deyrnas ef . Efe a adeilada i mi dŷ , a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth . Myfi a fyddaf iddo ef yn dad , ac yntau fydd i mi yn fab , a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef , megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di . Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ , ac yn fy nheyrnas byth ; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth . Yn ôl yr holl eiriau hyn , ac yn ôl yr holl weledigaeth hon , felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd . A daeth Dafydd y brenin , ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Pwy ydwyf fi , O Arglwydd Dduw , a pheth yw fy nhŷ , pan ddygit fi hyd yma ? Eto bychan yw hyn yn dy olwg di , O Dduw ; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser , a thi a edrychaist arnaf , O Arglwydd Dduw , fel ar gyflwr dyn uchelradd . Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was ? canys ti a adwaenost dy was . O Arglwydd , er mwyn dy was , ac yn ôl dy feddwl dy hun , y gwnaethost yr holl fawredd hyn , i ddangos pob mawredd . O Arglwydd , nid oes neb fel tydi , ac nid oes Duw ond tydi , yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau . A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel , yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun , i osod i ti enw mawr ac ofnadwy , gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl , y rhai a waredaist ti o’r Aifft ? Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth : a thi , Arglwydd , a aethost yn Dduw iddynt hwy . Am hynny yr awr hon , Arglwydd , y gair a leferaist am dy was , ac am ei dŷ ef , poed sicr fyddo byth : gwna fel y lleferaist . A phoed sicr fyddo , fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd , gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , sydd Dduw i Israel : a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di . Canys ti , O fy Nuw , a ddywedaist i’th was , yr adeiladit ti dŷ iddo ef : am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di . Ac yr awr hon , Arglwydd , ti ydwyt Dduw , a thi a leferaist am dŷ dy was , y daioni hwn ; Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was , i fod ger dy fron yn dragywydd : am i ti , O Arglwydd , ei fendigo , bendigedig fydd yn dragywydd . A darfu wedi hyn , i Dafydd daro’r Philistiaid , a’u darostwng hwynt , a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid . Hefyd efe a drawodd Moab ; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd , yn dwyn treth . Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath , pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates . A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau , a saith mil o wŷr meirch , ac ugain mil o wŷr traed ; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau , ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd . A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba , Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr . A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus : a bu y Syriaid yn weision i Dafydd , yn dwyn treth . A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth . A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser , ac a’u dug hwynt i Jerwsalem . Dug Dafydd hefyd o Tibhath , ac o Chun , dinasoedd Hadareser , lawer iawn o bres , â’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres , a’r colofnau , a’r llestri pres . A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba ; Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab , a phob llestri aur , ac arian a phres , gydag ef , i ymofyn am ei iechyd ef , ac i’w fendithio ef , am iddo ryfela yn erbyn Hadareser , a’i daro ef : canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou . Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd , gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd , sef oddi ar Edom , ac oddi ar Moab , ac oddi ar feibion Ammon , ac oddi ar y Philistiaid , ac oddi ar Amalec . Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom , yn nyffryn yr halen , dair mil ar bymtheg . Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom ; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd . A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe . A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel , ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl . A Joab mab Serfia oedd ar y llu ; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur ; A Sadoc mab Ahitub , ac Abimelech mab Abiathar , oedd offeiriaid ; a Safsa yn ysgrifennydd ; Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid ; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin . Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw ; a’i fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Dafydd a ddywedodd , Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas , oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd . Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad . A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon , at Hanun , i’w gysuro ef . A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun , Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di , am iddo anfon cysurwyr atat ti ? onid i chwilio , ac i ddifetha , ac i droedio y wlad , y daeth ei weision ef atat ti ? Yna y cymerth Hanun weision Dafydd , ac a’u heilliodd hwynt , ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner , wrth eu cluniau , ac a’u gyrrodd hwynt ymaith . A hwy a aethant , ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr . Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt : canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr . A dywedodd y brenin , Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau ; yna dychwelwch . Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd ; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian , i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia , ac o Syria‐maacha ac o Soba . A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau , a brenin Maacha a’i bobl ; y rhai a ddaethant , ac a wersyllasant o flaen Medeba . A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd , ac a ddaethant i ryfel . A phan glybu Dafydd , efe a anfonodd Joab , a holl lu y cedyrn . A meibion Ammon a aethant allan , ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas : a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilltu yn y maes . A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl , efe a etholodd o holl etholedigion Israel , ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid . A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd ; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon . Ac efe a ddywedodd , Os trech fydd y Syriaid na mi , yna bydd di yn gynhorthwy i mi : ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi , yna mi a’th gynorthwyaf dithau . Bydd rymus , ac ymwrolwn dros ein pobl , a thros ddinasoedd ein Duw ; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef . Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef , yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel ; a hwy a ffoesant o’i flaen ef . A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid , hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef , ac a aethant i’r ddinas ; a Joab a ddaeth i Jerwsalem . A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel , hwy a anfonasant genhadau , ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon ; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt . A mynegwyd i Dafydd ; ac efe a gasglodd holl Israel , ac a aeth dros yr Iorddonen , ac a ddaeth arnynt hwy , ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt . A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid , hwy a ryfelasant ag ef . Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel ; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau , a deugain mil o wŷr traed , ac a laddodd Soffach capten y llu . A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel , hwy a heddychasant â Dafydd , a gwasanaethasant ef : ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach . Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn , yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela , arwain o Joab gadernid y llu , ac anrheithio gwlad meibion Ammon , ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba : ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem : a Joab a drawodd Rabba , ac a’i dinistriodd hi . A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben , a chafodd hi o bwys talent o aur , ac ynddi feini gwerthfawr , a hi a roed am ben Dafydd : ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas . A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan , ac a’u torrodd hwynt â llifiau , ac ag ogau heyrn , ac â bwyeill : ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon . A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem . Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid : yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr ; felly y darostyngwyd hwynt . A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid , ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi , brawd Goleiath y Gethiad , a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd . Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath , ac yr oedd gŵr hir , a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech , sef pedwar ar hugain ; yntau hefyd a anesid i’r cawr . Ond pan ddifenwodd efe Israel , Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef . Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath , ac a laddwyd trwy law Dafydd , a thrwy law ei weision ef . A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel , ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel . A dywedodd Dafydd wrth Joab , ac wrth benaethiaid y bobl , Ewch , cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan ; a dygwch ataf fi , fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt . A dywedodd Joab , Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt : O fy arglwydd frenin , onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll ? paham y cais fy arglwydd hyn ? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel ? Ond gair y brenin a fu drech na Joab : a Joab a aeth allan , ac a dramwyodd trwy holl Israel , ac a ddaeth i Jerwsalem . A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd . A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf ; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf . Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt ; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin . A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw , ac efe a drawodd Israel . A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw , Pechais yn ddirfawr , oherwydd i mi wneuthur y peth hyn : ac yr awr hon , dilea , atolwg , anwiredd dy was , canys gwneuthum yn ynfyd iawn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad , gweledydd Dafydd , gan ddywedyd , Dos , a llefara wrth Dafydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di ; dewis i ti un ohonynt , a mi a’i gwnaf i ti . Yna Gad a ddaeth at Dafydd , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Cymer i ti . Naill ai tair blynedd o newyn ; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr , a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd ; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd , sef haint y nodau , yn y tir dri diwrnod , ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel . Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd . A Dafydd a ddywedodd wrth Gad , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi ; syrthiwyf , atolwg , yn llaw yr Arglwydd , canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn , ac na syrthiwyf yn llaw dyn . Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel : a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr . A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi : ac fel yr oedd yn ei dinistrio , yr Arglwydd a edrychodd , ac a edifarhaodd am y drwg , ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio , Digon , bellach , atal dy law . Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad . A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd , a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem . A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid , y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain , ar eu hwynebau . A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw , Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl ? a mi yw yr hwn a bechais , ac a wneuthum fawr ddrwg ; ond y defaid hyn , beth a wnaethant hwy ? O Arglwydd fy Nuw , bydded , atolwg , dy law arnaf fi , ac ar dŷ fy nhad , ac nid yn bla ar dy bobl . Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd , am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad . A Dafydd a aeth i fyny , yn ôl gair Gad , yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd . Yna y trodd Ornan , ac a ganfu yr angel , a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant ; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith . A Dafydd a ddaeth at Ornan ; ac edrychodd Ornan , ac a ganfu Dafydd , ac a aeth allan o’r llawr dyrnu , ac a ymgrymodd i Dafydd , â’i wyneb tua’r ddaear . A dywedodd Dafydd wrth Ornan , Moes i mi le y llawr dyrnu , fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd : dyro ef i mi am ei lawn werth ; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl . Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd , Cymer i ti , a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg . Wele , rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm , a’r offer dyrnu yn gynnud , a’r gwenith yn fwyd‐offrwm : hyn oll a roddaf . A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan , Nid felly , ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth : canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti , ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad . Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys . Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd , ac a offrymodd boethoffrymau , ac ebyrth hedd , ac a alwodd ar yr Arglwydd ; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm . A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel ; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn . Y pryd hwnnw , pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad , efe a aberthodd yno . Ond tabernacl yr Arglwydd , yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch , ac allor y poethoffrwm , oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon : Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw ; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd . A Dywedodd Dafydd , Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw , a dyma allor y poethoffrwm i Israel . Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel ; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd , i adeiladu tŷ Dduw . A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth , tuag at hoelion drysau y pyrth , ac i’r cysylltiadau , a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys ; Coed cedr hefyd allan o rif : canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd . A dywedodd Dafydd , Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner , a’r tŷ a adeiledir i’r Arglwydd , rhaid iddo fod mewn mawredd , mewn rhagoriaeth , mewn enw , ac mewn gogoniant , trwy yr holl wledydd : paratoaf yn awr tuag ato ef . Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth . Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab , ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel . Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon , Fy mab , yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw . Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Gwaed lawer a dywelltaist ti , a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti : nid adeiledi di dŷ i’m henw i , canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i . Wele , mab a enir i ti , efe a fydd ŵr llonydd , a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch : canys Solomon fydd ei enw ef , heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef . Efe a adeilada dŷ i’m henw , ac efe a fydd i mi yn fab , a minnau yn dad iddo yntau : sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth . Yn awr fy mab , yr Arglwydd fyddo gyda thi , a ffynna dithau , ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw , megis ag y llefarodd efe amdanat ti . Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb , a deall , a rhodded i ti orchmynion am Israel , fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw . Yna y ffynni , os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel . Ymgryfha , ac ymwrola ; nac ofna , ac nac arswyda . Ac wele , yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur , a mil o filoedd o dalentau arian ; ar bres hefyd , ac ar haearn , nid oes bwys ; canys y mae yn helaeth : coed hefyd a meini a baratoais i ; ychwanega dithau atynt hwy . Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith , sef cymynwyr , a seiri maen a phren , a phob rhai celfydd ym mhob gwaith . Ar aur , ar arian , ar bres , ac ar haearn , nid oes rifedi . Cyfod dithau , a gweithia , a’r Arglwydd a fydd gyda thi . A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab , gan ddywedyd , Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi ? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch ? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir ; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd , ac o flaen ei bobl ef . Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw ; cyfodwch hefyd , ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw , i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd , a sanctaidd lestri Duw , i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd . A phan oedd Dafydd yn hen , ac yn llawn o ddyddiau , efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel . Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid . A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain , ac uchod : a’u nifer hwy wrth eu pennau , bob yn ŵr , oedd onid dwy fil deugain . O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd ; ac yn swyddogion , ac yn farnwyr , chwe mil : A phedair mil yn borthorion , a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â’r offer a wnaethwn i , ebe Dafydd , i foliannu . A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi , sef Gerson , Cohath , a Merari . O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei . Meibion Laadan ; y pennaf Jehiel , a Setham , a Joel , tri . Meibion Simei ; Selomith , a Hasiel , a Haran , tri . Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan . Meibion Simei hefyd oedd , Jahath , Sina , a Jeus , a Bereia . Dyma bedwar mab Simei . A Jahath oedd bennaf , a Sisa yn ail : ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt ; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad . Meibion Cohath ; Amram , Ishar , Hebron , ac Ussiel , pedwar . Meibion Amram oedd , Aaron a Moses ; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf , efe a’i feibion byth , i arogldarthu gerbron yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef , ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd . A Moses gŵr Duw , ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi . Meibion Moses oedd , Gersom ac Elieser . O feibion Gersom ; Sebuel oedd y pennaf . A meibion Elieser oedd , Rehabia y cyntaf . Ac i Elieser nid oedd meibion eraill ; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr . O feibion Ishar ; Selomith y pennaf . O feibion Hebron ; Jereia y cyntaf , Amareia yr ail , Jahasiel y trydydd , a Jecameam y pedwerydd . O feibion Ussiel ; Micha y cyntaf , a Jeseia yr ail . Meibion Merari oedd , Mahli a Musi . Meibion Mahli ; Eleasar a Chis . A bu farw Eleasar , a meibion nid oedd iddo ef , ond merched ; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt . Meibion Musi ; Mahli , ac Eder a Jerimoth , tri . Dyma feibion Lefi , yn ôl tŷ eu tadau , pennau eu cenedl , wrth eu rhifedi , dan nifer eu henwau wrth eu pennau , y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd , o fab ugain mlwydd ac uchod . Canys dywedodd Dafydd , Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl , i aros yn Jerwsalem byth ; A hefyd i’r Lefiaid : ni ddygant mwyach y tabernacl , na dim o’i lestri , i’w wasanaeth ef . Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi , o fab ugain mlwydd ac uchod : A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd , yn y cynteddau , ac yn y celloedd , ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth , ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw ; Yn y bara gosod hefyd , ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm , ac yn y teisennau croyw , yn y radell hefyd , ac yn y badell ffrio , ac ym mhob mesur a meidroldeb : Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd , felly hefyd brynhawn : Ac i offrymu pob offrwm poeth i’r Arglwydd ar y Sabothau , ar y newyddloerau , ac ar y gwyliau gosodedig , wrth rifedi , yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd : Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod , a goruchwyliaeth y cysegr , a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr , yng ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron . Meibion Aaron oedd , Nadab , ac Abihu , Eleasar , ac Ithamar . A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad , ac nid oedd meibion iddynt : am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant . A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt , Sadoc o feibion Eleasar , ac Ahimelech o feibion Ithamar , yn ôl eu swyddau , yn eu gwasanaeth . A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar ; ac fel hyn y rhannwyd hwynt . Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg ; ac o feibion Ithamar , yn ôl tŷ eu tadau , wyth . Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau , y naill gyda’r llall ; canys tywysogion y cysegr , a thywysogion tŷ Dduw , oedd o feibion Eleasar , ac o feibion Ithamar . A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd , o lwyth Lefi , a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin , a’r tywysogion , a Sadoc yr offeiriad , ac Ahimelech mab Abiathar , a phencenedl yr offeiriaid , a’r Lefiaid ; un teulu a ddaliwyd i Eleasar , ac un arall a ddaliwyd i Ithamar . A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib , a’r ail i Jedaia , Y trydydd i Harim , y pedwerydd i Seorim , Y pumed i Malcheia , y chweched i Mijamin , Y seithfed i Haccos , yr wythfed i Abeia , Y nawfed i Jesua , y degfed i Sechaneia , Yr unfed ar ddeg i Eliasib , y deuddegfed i Jacim , Y trydydd ar ddeg i Huppa , y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab , Y pymthegfed i Bilga , yr unfed ar bymtheg i Immer , Y ddeufed ar bymtheg i Hesir , y deunawfed i Affses , Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia , yr ugeinfed i Jehesecel , Yr unfed ar hugain i Jachin , y ddeufed ar hugain i Gamul , Y trydydd ar hugain i Delaia , y pedwerydd ar hugain i Maaseia . Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth , i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod , dan law Aaron eu tad , fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef . A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn . O feibion Amram ; Subael : o feibion Subael ; Jehdeia . Am Rehabia ; Isia oedd ben ar feibion Rehabia . O’r Ishariaid ; Selomoth : o feibion Selomoth ; Jahath . A meibion Hebron oedd , Jereia y cyntaf , Amareia yr ail , Jahasiel y trydydd , a Jecameam y pedwerydd . O feibion Ussiel ; Micha : o feibion Micha ; Samir . Brawd Micha oedd Isia ; o feibion Isia ; Sechareia . Meibion Merari oedd , Mahli a Musi : meibion Jaasei ; Beno . Meibion Merari o Jaaseia ; Beno , a Soham , a Saccur , ac Ibri . O Mahli y daeth Eleasar , ac ni bu iddo ef feibion . Am Cis : mab Cis oedd Jerahmeel . A meibion Musi oedd , Mahli , ac Eder , a Jerimoth . Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau . A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron , gerbron Dafydd y brenin , a Sadoc , ac Ahimelech , a phennau‐cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid ; ie , y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf . A neilltuodd Dafydd , a thywysogion y llu , tuag at y gwasanaeth , o feibion Asaff , a Heman , a Jedwthwn , y rhai a broffwydent â thelynau , ac â nablau , ac â symbalau ; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd : O feibion Asaff ; Saccur , a Joseff , a Nethaneia , Asarela , meibion Asaff , dan law Asaff , yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin . A Jedwthwn : meibion Jedwthwn ; Gedaleia , a Seri , a Jesaia , a Hasabeia . Matitheia , chwech , dan law Jedwthwn eu tad , ar y delyn yn proffwydo , i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd . O Heman : meibion Heman ; Bucceia , Mataneia , Ussiel , Sebuel , a Jerimoth , Hananeia , Hanani , Eliatha , Gidalti , a Romamti‐ieser , Josbecasa , Malothi , Hothir , a Mahasioth : Y rhai hyn oll oedd feibion Heman , gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw , i ddyrchafu’r corn . Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion , a thair o ferched . Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd , â symbalau , a nablau , a thelynau , i wasanaeth tŷ Dduw ; yn ôl trefn y brenin i Asaff , a Jedwthwn , a Heman . A’u nifer hwynt , ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd , sef pob un cyfarwydd , oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth . A hwy a fwriasant goelbrennau , cylch yn erbyn cylch , bychan a mawr , athro a disgybl . A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff : yr ail i Gedaleia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd i Saccur ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd i Isri ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pumed i Nethaneia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y chweched i Bucceia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y seithfed i Jesarela ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr wythfed i Jesaia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y nawfed i Mataneia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y degfed i Simei ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar ddeg i Asareel ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y deuddegfed i Hasabeia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd ar ddeg i Subael ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pymthegfed i Jerimoth ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar bymtheg i Hananeia ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y deunawfed i Hanani ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr ugeinfed i Eliatha ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Yr unfed ar hugain i Hothir ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y ddeufed ar hugain i Gidalti ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y trydydd ar hugain i Mahasioth ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser ; efe , a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg . Am ddosbarthiad y porthorion : O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core , o feibion Asaff . A meibion Meselemia oedd , Sechareia y cyntaf‐anedig , Jediael yr ail , Sebadeia y trydydd , Jathniel y pedwerydd , Elam y pumed , Jehohanan y chweched , Elioenai y seithfed . A meibion Obed‐edom ; Semaia y cyntaf‐anedig , Jehosabad yr ail , Joa y trydydd , a Sachar y pedwerydd , a Nethaneel y pumed , Ammiel y chweched , Issachar y seithfed , Peulthai yr wythfed : canys Duw a’i bendithiodd ef . Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion , y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad : canys cedyrn o nerth oeddynt hwy . Meibion Semaia ; Othni , a Reffael , ac Obed , Elsabad ; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol , sef Elihu , a Semacheia . Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom : hwynt‐hwy , a’u meibion , a’u brodyr , yn wŷr nerthol mewn cryfder , tuag at y weinidogaeth , oedd drigain a dau o Obed‐edom . Ac i Meselemia , yn feibion ac yn frodyr , yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol . O Hosa hefyd , o feibion Merari , yr oedd meibion ; Simri y pennaf , ( er nad oedd efe gyntaf‐anedig , eto ei dad a’i gosododd ef yn ben ; ) Hilceia yr ail , Tebaleia y trydydd , Sechareia y pedwerydd : holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg . Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion , sef ymhlith y penaethiaid , ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a fwriasant goelbrennau , fychan a mawr , yn ôl tŷ eu tadau , am bob porth . A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain : a thros Sechareia ei fab , cynghorwr deallgar , y bwriasant hwy goelbrennau ; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd . I Obed‐edom tua’r deau , ac i’w feibion , y daeth tŷ Asuppim . I Suppim , a Hosa , tua’r gorllewin , gyda phorth Salecheth , yn ffordd y rhiw , yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall . Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid , tua’r gogledd pedwar beunydd , tua’r deau pedwar beunydd , a thuag Asuppim dau a dau . A Pharbar tua’r gorllewin , pedwar ar y ffordd , a dau yn Parbar . Dyma ddosbarthiadau y porthorion , o feibion Core , ac o feibion Merari . Ac o’r Lefiaid , Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw , ac ar drysorau y pethau cysegredig . Am feibion Laadan : meibion y Gersoniad Laadan , pennau tylwyth Laadan y Gersoniad , oedd Jehieli . Meibion Jehieli ; Setham , a Joel ei frawd , oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd . O’r Amramiaid , a’r Ishariaid , o’r Hebroniaid , a’r Ussieliaid : A Sebuel mab Gersom , mab Moses , oedd olygwr ar y trysorau . A’i frodyr ef o Eleasar ; Rehabia ei fab ef , a Jesaia ei fab yntau , a Joram ei fab yntau , a Sichri ei fab yntau , a Selomith ei fab yntau . Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin , a’r tadau pennaf , a thywysogion y miloedd a’r cannoedd , a thywysogion y llu . O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd . A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd , a Saul mab Cis , ac Abner mab Ner , a Joab mab Serfia , a phwy bynnag a gysegrasai ddim , yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr . O’r Ishariaid , Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion , ac yn farnwyr , ar y gwaith oddi allan . O’r Hebroniaid , Hasabeia a’i frodyr , meibion nerthol , mil a saith gant , oedd mewn swydd yn Israel , o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin , yn holl waith yr Arglwydd , ac yng ngwasanaeth y brenin . O’r Hebroniaid , Jereia oedd ben o’r Hebroniaid , yn ôl cenedlaethau ei dadau : yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt , a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol , yn Jaser Gilead . A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl : a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid , a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , ym mhob gorchwyl Duw , a gorchwyl y brenin . Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif , yn bennau‐cenedl , ac yn dywysogion miloedd a channoedd , a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau , yn dyfod i mewn , ac yn myned allan , o fis i fis , trwy holl fisoedd y flwyddyn . Ar y dosbarthiad cyntaf , dros y mis cyntaf , yr oedd Jasobeam mab Sabdiel ; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain . O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf . Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad , ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain , ac oddi ar y deg ar hugain ; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef . Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab , a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog , Samhuth yr Israhiad ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad , o feibion Effraim ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad , o’r Sarhiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad , o’r Benjaminiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad , o’r Sarhiaid ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad , o feibion Effraim ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad , o Othniel ; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain . Ac ar lwythau Israel : ar y Reubeniaid , Elieser mab Sichri oedd dywysog : ar y Simeoniaid , Seffatia mab Maacha : Ar y Lefiaid , Hasabeia mab Cemuel : ar yr Aaroniaid , Sadoc : Ar Jwda , Elihu , un o frodyr Dafydd : ar Issachar , Omri mab Michael : Ar Sabulon , Ismaia mab Obadeia : ar Nafftali , Jerimoth mab Asriel : Ar feibion Effraim , Hosea mab Asaseia : ar hanner llwyth Manasse , Joel mab Pedaia : Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead , Ido mab Sechareia : ar Benjamin , Jaasiel mab Abner : Ar Dan , Asarel mab Jeroham . Dyma dywysogion llwythau Israel . Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod ; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd . Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif , ond ni orffennodd efe , am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel , ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd . Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel : ac ar y trysordai yn y meysydd , yn y dinasoedd , yn y pentrefi hefyd , ac yn y tyrau , yr oedd Jehonathan mab Usseia . Ac ar weithwyr y maes , y rhai oedd yn llafurio y ddaear , yr oedd Esri mab Celub . Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad : ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin , yr oedd Sabdi y Siffmiad . Ac ar yr olewydd , a’r sycamorwydd , y rhai oedd yn y dyffrynnoedd , yr oedd Baalhanan y Gederiad : ac ar y selerau olew yr oedd Joas . Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron , yr oedd Sitrai y Saroniad : ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd , yr oedd Saffat mab Adlai . Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad : ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad . Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad . Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd . A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr , gŵr doeth , ac ysgrifennydd : Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin . Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin ; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin . Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia , ac Abiathar : a thywysog llu y brenin oedd Joab . A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel , tywysogion y llwythau , a thywysogion y dosbarthiadau , y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin , tywysogion y miloedd hefyd , a thywysogion y cannoedd , a thywysogion holl olud a meddiant y brenin , a’i feibion , gyda’r ystafellyddion , a’r cedyrn , a phob un grymusol o nerth , i Jerwsalem . A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed , ac a ddywedodd , Gwrandewch arnaf fi , fy mrodyr , a’m pobl ; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd , ac i ystôl draed ein Duw ni , a mi a baratoais tuag at adeiladu . Ond Duw a ddywedodd wrthyf , Nid adeiledi di dŷ i’m henw i , canys rhyfelwr fuost , a gwaed a dywelltaist . Er hynny Arglwydd Dduw Israel a’m hetholodd i o holl dŷ fy nhad , i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd : canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr ; ac o dŷ Jwda , tŷ fy nhad i ; ac o feibion fy nhad , efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel : Ac o’m holl feibion innau , ( canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi , ) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab , i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd , ar Israel . Dywedodd hefyd wrthyf , Solomon dy fab , efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i ; canys dewisais ef yn fab i mi , a minnau a fyddaf iddo ef yn dad . A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd , os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a’m barnedigaethau i , megis y dydd hwn . Yn awr gan hynny , yng ngŵydd holl Israel , cynulleidfa yr Arglwydd , a lle y clywo ein Duw ni , cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw , fel y meddiannoch y wlad dda hon , ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd . A thithau Solomon fy mab , adnebydd Dduw dy dad , a gwasanaetha ef â chalon berffaith , ac â meddwl ewyllysgar : canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau , ac yn deall pob dychymyg meddyliau . O cheisi ef , ti a’i cei ; ond os gwrthodi ef , efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd . Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr : ymgryfha , a gwna . Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth , a’i dai , a’i selerau , a’i gellau , a’i ystafelloedd oddi fewn , a thŷ y drugareddfa , A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd , am gynteddau tŷ yr Arglwydd , ac am yr holl ystafelloedd o amgylch , am drysorau tŷ Dduw , ac am drysorau y pethau cysegredig : Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd , ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Efe a roddes o aur wrth bwys , i’r pethau o aur , tuag at holl lestri pob gwasanaeth , ac arian i’r holl lestri arian , mewn pwys , tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth : Sef pwys y canwyllbrenni aur , a’u lampau aur , wrth bwys i bob canhwyllbren ac i’w lampau : ac i’r canwyllbrennau arian wrth bwys , i’r canhwyllbren ac i’w lampau , yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren . Aur hefyd dan bwys , tuag at fyrddau y bara gosod , i bob bwrdd ; ac arian i’r byrddau arian ; Ac aur pur i’r cigweiniau , ac i’r ffiolau , ac i’r dysglau , ac i’r gorflychau aur , wrth bwys pob gorflwch : ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch ; Ac i allor yr arogl‐darth , aur pur wrth bwys ; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu , ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd . Hyn oll , ebe Dafydd , a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen , trwy ei law ef arnaf fi , sef holl waith y portreiad hwn . A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab , Ymgryfha , ac ymegnïa , a gweithia ; nac ofna , ac nac arswyda : canys yr Arglwydd Dduw , fy Nuw i , fydd gyda thi ; nid ymedy efe â thi , ac ni’th wrthyd , nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , i holl wasanaeth tŷ Dduw , a chyda thi y maent yn yr holl waith , a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth ; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl . Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa , Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon , ac y mae efe yn ieuanc , ac yn dyner , a’r gwaith sydd fawr ; canys nid i ddyn y mae y llys , ond i’r Arglwydd Dduw . Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw , aur i’r gwaith aur , ac arian i’r arian , a phres i’r pres , a haearn i’r haearn , a choed i’r gwaith coed ; meini onics , a meini gosod , meini carbunculus , ac o amryw liw , a phob maen gwerthfawr , a meini marmor yn aml . Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw , y mae gennyf o’m heiddo fy hun , aur ac arian , yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy Nuw ; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd : Tair mil o dalentau aur , o aur Offir ; a saith mil o dalentau arian puredig , i oreuro parwydydd y tai : Yr aur i’r gwaith aur , a’r arian i’r arian ; a thuag at yr holl waith , trwy law y rhai celfydd . Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r Arglwydd ? Yna tywysogion y teuluoedd , a thywysogion llwythau Israel , a thywysogion y miloedd a’r cannoedd , a swyddogion gwaith y brenin , a offrymasant yn ewyllysgar , Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw , bum mil o dalentau aur , a deng mil o sylltau , a deng mil o dalentau arian , a deunaw mil o dalentau pres , a chan mil o dalentau haearn . A chyda’r hwn y ceid meini , hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd , trwy law Jehiel y Gersoniad . A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd ; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r Arglwydd : a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr . Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa , a dywedodd Dafydd , Bendigedig wyt ti , Arglwydd Dduw Israel , ein tad ni , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . I ti , Arglwydd , y mae mawredd , a gallu , a gogoniant , a goruchafiaeth , a harddwch : canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti ; y deyrnas sydd eiddot ti , Arglwydd , yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth . Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti , a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth , ac yn dy law di y mae nerth a chadernid ; yn dy law di hefyd y mae mawrhau , a nerthu pob dim . Ac yn awr , ein Duw ni , yr ydym ni yn dy foliannu , ac yn clodfori dy enw gogoneddus . Eithr pwy ydwyf fi , a phwy yw fy mhobl i , fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn ? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth , ac o’th law dy hun y rhoesom i ti . Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di , ac alltudion fel ein holl dadau : fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear , ac nid oes ymaros . O Arglwydd ein Duw , yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd , o’th law di y mae , ac eiddot ti ydyw oll . Gwn hefyd , O fy Nuw , mai ti sydd yn profi y galon , ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder . Myfi yn uniondeb fy nghalon , o wirfodd a offrymais hyn oll ; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti , a hynny mewn llawenydd . Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , ein tadau , cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl ; a pharatoa eu calon hwynt atat ti . A dyro i Solomon fy mab galon berffaith , i gadw dy orchmynion , dy dystiolaethau , a’th ddeddfau , ac i’w gwneuthur hwynt oll , ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo . Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa , Bendithiwch , atolwg , yr Arglwydd eich Duw . A’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau , a blygasant eu pennau , ac a ymgrymasant i’r Arglwydd , ac i’r brenin . Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd , a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i’r Arglwydd , fil o fustych , mil o hyrddod , a mil o ŵyn , a’u diod‐offrymau , ac ebyrth yn lluosog , dros holl Israel : Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr . A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith ; ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor , a Sadoc yn offeiriad . Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin , yn lle Dafydd ei dad , ac a lwyddodd ; a holl Israel a wrandawsant arno . Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn , a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd , a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin . A’r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel , ac a roddes iddo ogoniant brenhinol , math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel . Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel . A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd : saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron , a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a fu farw mewn oedran teg , yn gyflawn o ddyddiau , cyfoeth , ac anrhydedd : a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd , wele , y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd , ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd , ac yng ngeiriau Gad y gweledydd , Gyda’i holl frenhiniaeth ef , a’i gadernid , a’r amserau a aethant drosto ef , a thros Israel , a thros holl deyrnasoedd y gwledydd . </passage></reply></GetPassage>