<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:14</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:14</urn><passage>A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas , a’r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef , ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr . A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel , wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd , ac wrth y barnwyr , ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel , sef y pennau-cenedl . Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon : canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw , yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch . Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim , i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi : canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem . Hefyd , yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri , mab Hur , oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd : a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi . A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres , gerbron yr Arglwydd , yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod , a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi . Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon , ac y dywedodd wrtho ef , Gofyn yr hyn a roddaf i ti . A dywedodd Solomon wrth Dduw , Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd , ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef . Yn awr , O Arglwydd Dduw , sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd ; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear . Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth , fel yr elwyf allan , ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn : canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn ? A dywedodd Duw wrth Solomon , Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di , ac na ofynnaist na chyfoeth , na golud , na gogoniant , nac einioes dy elynion , ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith ; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb , a gwybodaeth , fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt : Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti , cyfoeth hefyd , a golud , a gogoniant , a roddaf i ti , y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di , ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di . A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon , i Jerwsalem , oddi gerbron pabell y cyfarfod , ac a deyrnasodd ar Israel . A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion ; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch , ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau , ac yn Jerwsalem gyda’r brenin . A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig , a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra , y rhai sydd yn tyfu yn y doldir . A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft , ac edafedd llin : marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris . Canys deuent i fyny , a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian ; a march am gant a hanner ; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid , ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt . A SOLOMON a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd , a brenhindy iddo ei hun . A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr , a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd , ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant . A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus , gan ddywedyd , Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad , ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo , felly gwna â minnau . Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw , i’w gysegru iddo , ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef , ac i’r gwastadol osodiad bara , a’r poethoffrymau bore a hwyr , ar y Sabothau , ac ar y newyddloerau , ac ar osodedig wyliau yr Arglwydd ein Duw ni . Hyd byth y mae hyn ar Israel . A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr : canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau . A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ , gan na all y nefoedd , ie , nefoedd y nefoedd ei amgyffred ? a phwy ydwyf fi , fel yr adeiladwn iddo ef dŷ , ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef ? Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , ac mewn haearn , ac mewn porffor , ac ysgarlad , a glas , ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem , y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd . Anfon hefyd i mi goed cedr , a ffynidwydd , ac algumimwydd , o Libanus : canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus : ac wele , fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau ; A hynny i ddarparu i mi lawer o goed : canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol . Ac wele , i’th weision , i’r seiri a naddant y coed , y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro , ac ugain mil o haidd , ac ugain mil bath o win , ac ugain mil bath o olew . A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen , ac a’i hanfonodd at Solomon , O gariad yr Arglwydd ar ei bobl , y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy . Dywedodd Hiram hefyd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a wnaeth nef a daear , yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth , gwybodus o synnwyr a deall , i adeiladu tŷ i’r Arglwydd , a brenhindy iddo ei hun . Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd , cywraint , a deallus , o’r eiddo fy nhad Hiram : Mab gwraig o ferched Dan , a’i dad yn ŵr o Tyrus , yn medru gweithio mewn aur , ac mewn arian , mewn pres , mewn haearn , mewn cerrig , ac mewn coed , mewn porffor , ac mewn glas , ac mewn lliain main , ac mewn ysgarlad ; ac i gerfio pob cerfiad , ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef , gyda’th rai cywraint di , a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad . Ac yn awr , y gwenith , a’r haidd , yr olew , a’r gwin , y rhai a ddywedodd fy arglwydd , anfoned hwynt i’w weision : A ni a gymynwn goed o Libanus , yn ôl dy holl raid , ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa : dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem . A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel , wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt : a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant . Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr , a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd , a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith . A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia , lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef , yn y lle a ddarparasai Dafydd , yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad . Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis , yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad . A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw . Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd ; a’r lled yn ugain cufydd . A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ , yn ugain cufydd , a’i uchder yn chwech ugain cufydd ; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur . A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd , y rhai a wisgodd efe ag aur dilin , ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef . Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd ; a’r aur oedd aur Parfaim . Ie , efe a wisgodd y tŷ , y trawstiau , y rhiniogau , a’i barwydydd , a’i ddorau , ag aur , ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd . Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf ; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ , yn ugain cufydd , a’i led yn ugain cufydd : ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da , sef â chwe chan talent . Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur ; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur . Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd : y naill adain o bum cufydd , yn cyrhaeddyd pared y tŷ ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall . Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd , yn cyrhaeddyd pared y tŷ ; a’r adain arall o bum cufydd , ynghyd ag adain y ceriwb arall . Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd : ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed , a’u hwynebau tuag i mewn . Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny . Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ , yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd , a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd . Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell , ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau ; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau , ac a’u rhoddodd ar y cadwynau . A chyfododd y colofnau o flaen y deml , un o’r tu deau , ac un o’r tu aswy ; ac a alwodd enw y ddeau , Jachin ; ac enw yr aswy , Boas . Ac efe a wnaeth allor bres , o ugain cufydd ei hyd , ac ugain cufydd ei lled , a deg cufydd ei huchder . Gwnaeth hefyd fôr tawdd , yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl , yn grwn o amgylch , ac yn bum cufydd ei uchder , a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch . A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch , mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch : dwy res o ychen oedd wedi eu toddi , pan doddwyd yntau . Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen ; tri yn edrych tua’r gogledd , a thri yn edrych tua’r gorllewin , a thri yn edrych tua’r deau , a thri yn edrych tua’r dwyrain : a’r môr arnynt oddi arnodd , a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn . A’i dewder oedd ddyrnfedd , a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan , â blodau lili : a thair mil o bathau a dderbyniai , ac a ddaliai . Gwnaeth hefyd ddeg o noeau , ac efe a roddodd bump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy , i ymolchi ynddynt : trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm ; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo . Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad , ac a’u gosododd yn y deml , pump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy . Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau , ac a’u gosododd yn y deml , pump o’r tu deau , a phump o’r tu aswy : ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur . Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid , a’r cyntedd mawr , a dorau i’r cynteddoedd ; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres . Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau , tua’r dwyrain , ar gyfer y deau . Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau : a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw : Y ddwy golofn , a’r cnapiau , a’r coronau ar ben y ddwy golofn , a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog , y rhai oedd ar ben y colofnau : A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth ; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth , i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau . Ac efe a wnaeth ystolion , ac a wnaeth noeau ar yr ystolion ; Un môr , a deuddeg o ychen dano : Y crochanau hefyd , a’r rhawiau , a’r cigweiniau , a’u holl lestri hwynt , a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon , yn nhŷ yr Arglwydd , o bres gloyw . Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt , mewn cleidir , rhwng Succoth a Seredatha . Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn , yn lluosog iawn ; canys anfeidrol oedd bwys y pres . A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw , a’r allor aur , a’r byrddau oedd â’r bara gosod arnynt , A’r canwyllbrennau , a’u lampau , i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell , o aur pur ; Y blodau hefyd , a’r lampau , a’r gefeiliau , oedd aur , a hwnnw yn aur perffaith . Y saltringau hefyd , a’r cawgiau , a’r llwyau , a’r thuserau , oedd aur pur : a drws y tŷ , a’i ddorau , o du mewn y cysegr sancteiddiolaf , a dorau tŷ y deml , oedd aur . Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd ; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad ; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw , yr arian , a’r aur , a’r holl lestri . Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel , a holl bennau y llwythau , pennau-cenedl meibion Israel , i Jerwsalem , i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd , honno yw Seion . Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis . A holl henuriaid Israel a ddaethant , a’r Lefiaid a godasant yr arch . A hwy a ddygasant i fyny yr arch , a phabell y cyfarfod , a holl lestri y cysegr , y rhai oedd yn y babell , yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny . Hefyd y brenin Solomon , a holl gynulleidfa Israel , y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch , a aberthasant o ddefaid , a gwartheg , fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd . A’r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle , i gafell y tŷ , i’r cysegr sancteiddiolaf , hyd dan adenydd y ceriwbiaid . A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch : a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion , oddi arnodd . A thynasant allan y trosolion , fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell , ac ni welid hwynt oddi allan . Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn . Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb , lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel , pan ddaethant hwy allan o’r Aifft . A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr ; canys yr holl offeiriaid , y rhai a gafwyd , a ymsancteiddiasent , heb gadw dosbarthiad : Felly y Lefiaid , y rhai oedd gantorion , hwynt-hwy oll o Asaff , o Heman , o Jeduthun , â’u meibion hwynt , ac â’u brodyr , wedi eu gwisgo â lliain main , â symbalau , ac â nablau a thelynau , yn sefyll o du dwyrain yr allor , a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn . Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion , megis un , i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd ; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn , ac mewn symbalau , ac mewn offer cerdd , ac wrth foliannu yr Arglwydd , gan ddywedyd , Canys da yw ; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef : yna y llanwyd y tŷ â chwmwl , sef tŷ yr Arglwydd ; Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl : oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw . Yna y llefarodd Solomon , Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch ; A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti , a lle i’th breswylfod yn dragywydd . A’r brenin a drodd ei wyneb , ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel : a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad , ac a gwblhaodd â’i ddwylo , gan ddywedyd , Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft , ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ , i fod fy enw ynddo ; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel : Ond mi a etholais Jerwsalem , i fod fy enw yno ; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel . Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad , Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i , da y gwnaethost fod hynny yn dy galon : Er hynny nid adeiledi di y tŷ ; ond dy fab di , yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau , efe a adeilada y tŷ i’m henw i . Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe : canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad , ac a eisteddais ar orseddfa Israel , fel y llefarodd yr Arglwydd , ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel . Ac yno y gosodais yr arch ; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd , yr hwn a amododd efe â meibion Israel . A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd , yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo : Canys Solomon a wnaethai bulpud pres , ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd , yn bum cufydd ei hyd , a phum cufydd ei led , a thri chufydd ei uchder ; ac a safodd arno , ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel , ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd : Ac efe a ddywedodd , O Arglwydd Dduw Israel , nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd , nac ar y ddaear ; yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision , sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon : Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho ; fel y lleferaist â’th enau , felly y cwblheaist â’th law , megis y mae y dydd hwn . Ac yn awr , O Arglwydd Dduw Israel , cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel ; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd , i rodio yn fy nghyfraith i , fel y rhodiaist ti ger fy mron i . Yn awr gan hynny , O Arglwydd Dduw Israel , poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd . Ai gwir yw , y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear ? Wele y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ni allant dy amgyffred ; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i ? Edrych gan hynny ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiad ef , O Arglwydd fy Nuw , i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron : Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos , tua’r lle am yr hwn y dywedaist , y gosodit dy enw yno ; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon . Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was , a’th bobl Israel , y rhai a weddïant yn y lle hwn : gwrando di hefyd o le dy breswylfod , sef o’r nefoedd ; a phan glywech , maddau . Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog , a gofyn ganddo raith , gan ei dyngu ef , a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd ; gwna hefyd , a barna dy weision ; gan dalu i’r drygionus , trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun ; a chan gyfiawnhau y cyfiawn , trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder . A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn , am iddynt bechu yn dy erbyn ; os dychwelant , a chyfaddef dy enw , a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , a maddau bechod dy bobl Israel , a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy , ac i’w tadau . Pan gaeer y nefoedd , fel na byddo glaw , oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn ; os gweddïant yn y lle hwn , a chyfaddef dy enw , a dychwelyd oddi wrth eu pechod , pan gystuddiech hwynt : Yna gwrando di o’r nefoedd , a maddau bechod dy weision , a’th bobl Israel , pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi ; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth . Os bydd newyn yn y tir , os bydd haint , deifiad , neu falltod , os bydd locustiaid neu lindys ; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad ; neu pa bla bynnag , neu glefyd bynnag a fyddo ; Pob gweddi , pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn , neu gan holl bobl Israel ; pan wypo pawb ei bla ei hun , a’i ddolur , ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , a maddau , a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd , yr hwn a adwaenost ei galon ef , ( canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion ; ) Fel y’th ofnont , gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear , yr hon a roddaist i’n tadau ni . Ac am y dieithrddyn hefyd , yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel , ond wedi dyfod o wlad bell , er mwyn dy enw mawr , a’th law gadarn , a’th fraich estynedig ; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat ; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di , ac y’th ofnont , fel y mae dy bobl Israel , ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i . Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt , os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad , a gwna farn iddynt . Os pechant i’th erbyn , ( canys nid oes dyn ni phecha , ) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt , a’u rhoddi o flaen eu gelynion , ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos ; Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi , a dychwelyd , ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed , gan ddywedyd , Pechasom , troseddasom , a gwnaethom yn annuwiol ; Os dychwelant atat â’u holl galon , ac â’u holl enaid , yng ngwlad eu caethiwed , lle y caethgludasant hwynt , a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau , a’r ddinas a ddetholaist , a’r tŷ a adeiledais i’th enw di : Yna gwrando di o’r nefoedd , o fangre dy breswylfod , eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau , a gwna farn iddynt , a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn . Yn awr , O fy Nuw , bydded , atolwg , dy lygaid yn agored , a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma . Ac yn awr cyfod , O Arglwydd Dduw , i’th orffwysfa , ti ac arch dy gadernid : dillader dy offeiriaid , O Arglwydd Dduw , â iachawdwriaeth , a llawenyched dy saint mewn daioni . O Arglwydd Dduw , na thro ymaith wyneb dy eneiniog : cofia drugareddau Dafydd dy was . Ac wedi gorffen o Solomon weddïo , tân a ddisgynnodd o’r nefoedd , ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth ; a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tŷ . Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd , oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd . A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn , a gogoniant yr Arglwydd ar y tŷ , hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant , ac a addolasant , ac a glodforasant yr Arglwydd , canys daionus yw efe ; oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd . Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr Arglwydd . A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen , a chwech ugain mil o ddefaid : felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ Dduw . A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth : a’r Lefiaid ag offer cerdd yr Arglwydd , y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr Arglwydd , oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef , pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy : a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt , a holl Israel oedd yn sefyll . A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd : canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau , a braster yr aberthau hedd ; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm , a’r bwyd-offrwm , a’r braster . A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod , a holl Israel gydag ef , cynulleidfa fawr iawn , o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft . Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa : canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod , a’r ŵyl saith niwrnod . Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau , yn hyfryd ac yn llawen eu calon , am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd , ac i Solomon , ac i Israel ei bobl . Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin : a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn ei dŷ ei hun , a wnaeth efe yn llwyddiannus . A’r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos , ac a ddywedodd wrtho , Gwrandewais dy weddi , a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth . Os caeaf fi y nefoedd , fel na byddo glaw , neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear , ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl ; Os fy mhobl , y rhai y gelwir fy enw arnynt , a ymostyngant , ac a weddïant , ac a geisiant fy wyneb , ac a droant o’u ffyrdd drygionus : yna y gwrandawaf o’r nefoedd , ac y maddeuaf iddynt eu pechodau , ac yr iachâf eu gwlad hwynt . Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored , a’m clustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir yn y fan hon . Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn , i fod fy enw yno hyd byth : fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol . A thithau , os rhodi ger fy mron i , fel y rhodiodd Dafydd dy dad , a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti , a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau : Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di , megis yr amodais â Dafydd dy dad , gan ddywedyd , Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel . Ond os dychwelwch , ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron , ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt hwy : Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt , a’r tŷ a sancteiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg , a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb , ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd . A’r tŷ yma , yr hwn sydd uchel , a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu : fel y dywedo , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon , ac i’r tŷ hwn ? Yna y dywedant , Am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft , ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt , a’u gwasanaethu hwynt : am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy . Ac ymhen yr ugain mlynedd , yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd , a’i dŷ ei hun , Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon , ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno . A Solomon a aeth i Hamath-soba , ac a’i gorchfygodd hi . Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch , a holl ddinasoedd y trysorau , y rhai a adeiladodd efe yn Hamath . Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf , a Beth-horon isaf , dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau , pyrth , a barrau ; Baalath hefyd , a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon , a holl ddinasoedd y cerbydau , a dinasoedd y marchogion , a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem , ac yn Libanus , ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef . Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid , y rhai nid oeddynt o Israel ; Ond o’u meibion hwynt , y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad , y rhai ni ddifethasai meibion Israel , Solomon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn . Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith : canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr , a thywysogion ei gapteiniaid ef , a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef . A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon , sef dau cant a deg a deugain , yn arglwyddiaethu ar y bobl . A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi : canys efe a ddywedodd , Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel , oherwydd sanctaidd yw , oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo . Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd , yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth ; I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd , yn ôl gorchymyn Moses , ar y Sabothau , ac ar y newyddloerau , ac ar y gwyliau arbennig , dair gwaith yn y flwyddyn ; sef ar ŵyl y bara croyw , ac ar ŵyl yr wythnosau , ac ar ŵyl y pebyll . Ac efe a osododd , yn ôl trefn Dafydd ei dad , ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth , a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth , i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid , fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd , a’r porthorion yn eu dosbarthiadau , wrth bob porth : canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw . Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid , am un peth , nac am y trysorau . A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd , a hyd oni orffennwyd ef . Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd . Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber , ac i Eloth , ar fin y môr , yng ngwlad Edom . A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau , a gweision cyfarwydd ar y môr ; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir , ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur , ac a’u dygasant i’r brenin Solomon . A phan glybu brenhines Seba glod Solomon , hi a ddaeth i Jerwsalem , i brofi Solomon â chwestiynau caled , â llu mawr iawn , ac â chamelod yn dwyn aroglau , ac aur lawer , a meini gwerthfawr : a hi a ddaeth at Solomon , ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon . A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion : ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi . A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon , a’r tŷ a adeiladasai efe , A bwyd ei fwrdd , ac eisteddiad ei weision , a threfn ei weinidogion , a’u dillad , a’i drulliadau ef , a’u gwisgoedd , a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd ; nid oedd mwyach ysbryd ynddi . A hi a ddywedodd wrth y brenin , Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad , am dy weithredoedd di , ac am dy ddoethineb : Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt , nes i mi ddyfod , ac i’m llygaid weled . Ac wele , ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb : ychwanegaist at y clod a glywais i . Gwyn fyd dy wŷr di , a gwynfydedig yw dy weision hyn , y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron , ac yn clywed dy ddoethineb . Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th hoffodd di , i’th osod ar ei orseddfa ef , yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw : oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel , i’w sicrhau yn dragywydd ; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy , i wneuthur barn a chyfiawnder . A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur , a pheraroglau lawer iawn , a meini gwerthfawr : ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon . Gweision Hiram hefyd , a gweision Solomon , y rhai a ddygasant aur o Offir , a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr . A’r brenin a wnaeth o’r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd , ac i dŷ y brenin , a thelynau a nablau i’r cantorion : ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda . A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad , a’r hyn a ofynnodd hi , heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin . Felly hi a ddychwelodd , ac a aeth i’w gwlad , hi a’i gweision . A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn , oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur ; Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn : a holl frenhinoedd Arabia , a thywysogion y wlad , oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon . A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin : chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian . A thri chant o fwcledi o aur dilin : tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled . A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus . A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori , ac a’i gwisgodd ag aur pur . A chwech o risiau oedd i’r orseddfa , a throedle o aur , ynglŷn wrth yr orseddfa , a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle , a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau ; A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu . Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas . A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur , a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur : nid oedd yr un o arian ; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon . Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram : unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur , ac arian , ac ifori , ac epaod , a pheunod . A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb . A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon , i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef . A hwy a ddygasant bob un ei anrheg , llestri arian , a llestri aur , a gwisgoedd , arfau , a pheraroglau , meirch , a mulod , dogn bob blwyddyn . Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau , a deuddeng mil o wŷr meirch ; ac efe a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau , a chyda’r brenin yn Jerwsalem . Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd , o’r afon hyd wlad y Philistiaid , a hyd derfyn yr Aifft . A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig , a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir , o amldra . Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft , ac o bob gwlad . A’r rhan arall o weithredoedd Solomon , cyntaf a diwethaf , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd , ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad , ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat ? A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd . A Solomon a hunodd gyda’i dadau , a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad ; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . A Rehoboam a aeth i Sichem ; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin . A phan glybu Jeroboam mab Nebat , ac yntau yn yr Aifft , lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin , Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft . Canys hwy a anfonasent , ac a alwasent amdano ef . A Jeroboam a holl Israel a ddaethant , ac a ymddiddanasant â Rehoboam , gan ddywedyd , Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom ; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad , ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni , a ni a’th wasanaethwn di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi . A’r bobl a aethant ymaith . A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw , gan ddywedyd , Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn ? A hwy a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Os byddi yn dda i’r bobl yma , a’u bodloni hwynt , ac os dywedi wrthynt eiriau teg , hwy a fyddant yn weision i ti byth . Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo ; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef , a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Beth yr ydych chwi yn ei gynghori , fel yr atebom y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyf , gan ddywedyd , Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni ? A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt , gan ddywedyd , Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom , ysgafnha dithau hi oddi arnom ni : fel hyn y dywedi wrthynt ; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad . Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom , minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau . Yna y daeth Jeroboam , a’r holl bobl , at Rehoboam y trydydd dydd , fel y llefarasai y brenin , gan ddywedyd , Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd . A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw : a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid ; Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc , gan ddywedyd , Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom , a minnau a chwanegaf arni hi : fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau , a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau . Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl : oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw , fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat . A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy , y bobl a atebasant y brenin , gan ddywedyd , Pa ran sydd i ni yn Dafydd ? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse : O Israel , aed pawb i’w pebyll , edrych yn awr ar dy dŷ dy hun , Dafydd . Felly holl Israel a aethant i’w pebyll . Ond meibion Israel , y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda , Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy . A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram , yr hwn oedd ar y dreth , a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw : ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd , i ffoi i Jerwsalem . Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn . A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem , efe a gasglodd o holl dŷ Jwda , ac o Benjamin , gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol , cymwys i ryfel , i ymladd ag Israel , ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam . Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw , gan ddywedyd , Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda , ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ewch i fyny , ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr ; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun : canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn . A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd , ac a ddychwelasant , heb fyned yn erbyn Jeroboam . A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem , ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda . Ac efe a adeiladodd Bethlehem , ac Etam , a Thecoa , A Bethsur , a Socho , ac Adulam , A Gath , a Maresa , a Siff , Ac Adoraim , a Lachis , ac Aseca , A Sora , ac Ajalon , a Hebron , y rhai oedd yn Jwda , ac yn Benjamin ; dinasoedd o gadernid . Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd , ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy , a chellau bwyd , ac olew , a gwin . Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau , a gwaywffyn , ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn , ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin . A’r offeiriaid a’r Lefiaid , y rhai oedd yn holl Israel , a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau . Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol , a’u meddiant , ac a ddaethant i Jwda , ac i Jerwsalem : canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r Arglwydd . Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd , ac i’r cythreuliaid , ac i’r lloi a wnaethai efe . Ac ar eu hôl hwynt , o holl lwythau Israel , y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel , a ddaethant i Jerwsalem , i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau . Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda , ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon , dros dair blynedd : canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd . A Rehoboam a gymerth Mahalath , merch Jerimoth mab Dafydd , yn wraig iddo , ac Abihail merch Eliab mab Jesse : A hi a ymddûg iddo ef feibion , sef Jeus , a Samareia , a Saham . Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom : a hi a ymddûg iddo ef Abeia , ac Attai , a Sisa , a Selomith . A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon : canys deunaw o wragedd a gymerth efe , a thrigain o ordderchadon ; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion , a thrigain o ferched . A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben , yn flaenor ar ei frodyr ; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin . Ac efe a fu gall , ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin , i bob dinas gadarn , ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth : ac efe a geisiodd liaws o wragedd . Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth , a’i chadarnhau , efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd , a holl Israel gydag ef . Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam , y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem , oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd , A mil a dau cant o gerbydau , a thrigeinmil o wŷr meirch ; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft , sef y Lubiaid , y Succiaid , a’r Ethiopiaid . Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn , y rhai oedd yn Jwda , ac a ddaeth hyd Jerwsalem . Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda , y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac , ac a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Chwi a’m gwrthodasoch i , am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac . Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant , Cyfiawn yw yr Arglwydd . A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng , daeth gair yr Arglwydd at Semaia , gan ddywedyd , Hwy a ymostyngasant ; am hynny ni ddifethaf hwynt , ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder ; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac . Eto byddant yn weision iddo ef , fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i , a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd . Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem , ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau tŷ y brenin , ac a’u dug hwynt ymaith oll : dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon . A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres , ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard , y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin . A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd , gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy , ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard . A phan ymostyngodd efe , llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef , fel nas dinistriai ef yn hollol ; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda . Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem , ac a deyrnasodd : a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi , o holl lwythau Israel : ac enw ei fam oedd Naama , Ammones . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg , canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd . Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd , ac Ido y gweledydd , yn yr achau ? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol . A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda . Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Michaia , merch Uriel o Gibea . Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam . Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus , sef pedwar can mil o wŷr etholedig : a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig , grymus , nerthol . Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim , yr hwn sydd ym mynydd Effraim , ac a ddywedodd , O Jeroboam , a holl Israel , gwrandewch fi ; Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd , iddo ef ac i’w feibion , trwy gyfamod halen ? Eto Jeroboam mab Nebat , gwas Solomon mab Dafydd , a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd . Ac ofer ddynion , sef meibion y fall , a ymgasglasant ato ef , ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon , pan oedd Rehoboam yn fachgen , ac yn wan ei galon , ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt . Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd , yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd ; ac yr ydych yn dyrfa fawr , a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi . Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd , meibion Aaron , a’r Lefiaid ? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill ? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod , hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau . Ninnau , yr Arglwydd yw ein Duw ni , ac nis gwrthodasom ef ; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron , a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl . Ac y maent hwy yn llosgi i’r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr , ac arogl-darth peraidd ; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur , a’r canhwyllbren aur a’i lampau , i losgi bob prynhawn : canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw ; ond chwi a’i gwrthodasoch ef . Ac wele , Duw sydd ben gyda ni , a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi . O feibion Israel , nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau ; canys ni lwyddwch chwi . Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch , a dyfod o’u hôl hwynt : felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda , a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt . A Jwda a edrychodd yn ôl , ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl ; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd , a’r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn . A gwŷr Jwda a floeddiasant : a phan waeddodd gwŷr Jwda , Duw a drawodd Jeroboam , a holl Israel , a flaen Abeia a Jwda . A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda : a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt . Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr : a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig . Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw ; a meibion Jwda a orfuant , oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau . Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam , ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd , Bethel a’i phentrefi , a Jesana a’i phentrefi , ac Effraim a’i phentrefi . Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia : ond yr Arglwydd a’i trawodd ef , fel y bu efe farw . Ond Abeia a ymgryfhaodd , ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd , ac a genhedlodd ddau fab ar hugain , ac un ar bymtheg o ferched . A’r rhan arall o hanes Abeia , a’i ffyrdd ef , a’i eiriau , y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido . Felly Abeia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ninas Dafydd ; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd . Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw . Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr , a’r uchelfeydd , ac a ddrylliodd y delwau , ac a dorrodd y llwyni : Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau , a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn . Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau : a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef . Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda , oherwydd bod y wlad yn cael llonydd , ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny ; oblegid yr Arglwydd a roddasai lonyddwch iddo . Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda , Adeiladwn y dinasoedd hyn , ac amgylchwn hwynt â mur , â thyrau , â drysau , ac â barrau , tra fyddo y wlad o’n blaen ni ; oherwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw , ni a’i ceisiasom , ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch . Felly hwy a adeiladasant , ac a lwyddasant . Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn , o Jwda tri chan mil , ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau , ac yn tynnu bwa : y rhai hyn oll oedd wŷr grymus . A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt , â llu o fil o filoedd , ac â thri chant o gerbydau ; ac a ddaeth hyd Maresa . Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef , a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa . Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw , ac a ddywedodd , O Arglwydd , nid yw ddim i ti gynorthwyo , pa un bynnag ai gyda llawer , ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder : cynorthwya di ni , O Arglwydd ein Duw ; canys pwyso yr ydym ni arnat ti , ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon : O Arglwydd , ein Duw ni ydwyt ti , na orfydded dyn i’th erbyn . Felly yr Arglwydd a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa , ac o flaen Jwda ; a’r Ethiopiaid a ffoesant . Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar : a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau ; canys drylliasid hwynt o flaen yr Arglwydd , ac o flaen ei lu ef ; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn . A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar ; canys yr oedd dychryn yr Arglwydd arnynt hwy : a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd ; canys anrhaith fawr oedd ynddynt . Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy , ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod , ac a ddychwelasant i Jerwsalem . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded . Ac efe a aeth allan o flaen Asa , ac a ddywedodd wrtho , O Asa , a holl Jwda , a Benjamin , gwrandewch fi ; Yr Arglwydd sydd gyda chwi , tra fyddoch gydag ef ; ac os ceisiwch ef , chwi a’i cewch ef : ond os gwrthodwch chwi ef , yntau a’ch gwrthyd chwithau . Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw , a heb offeiriad yn ddysgawdwr , a heb gyfraith . Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel , a’i geisio ef , efe a geid ganddynt . Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan , nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn : ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd . A chenedl a ddinistriwyd gan genedl , a dinas gan ddinas : oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd . Ymgryfhewch gan hynny , ac na laesed eich dwylo : canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi . A phan glybu Asa y geiriau hyn , a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd , efe a gryfhaodd , ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda , a Benjamin , ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim , ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd , yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd . Ac efe a gynullodd holl Jwda , a Benjamin , a’r dieithriaid gyda hwynt , o Effraim a Manasse , ac o Simeon : canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel , pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef . Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem , yn y trydydd mis , yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa . A hwy a aberthasant i’r Arglwydd y dwthwn hwnnw , o’r anrhaith a ddygasent , saith gant o eidionau , a saith mil o ddefaid . A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau , â’u holl galon , ac â’u holl enaid : A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel , fod ei roddi ef i farwolaeth , yn fychan ac yn fawr , yn ŵr ac yn wraig . A hwy a dyngasant i’r Arglwydd â llef uchel , ac â bloedd , ag utgyrn hefyd , ac â thrwmpedau . A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw ; canys â’u holl galon y tyngasent , ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef , a hwy a’i cawsant ef : a’r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch . A’r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines ; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn : ac Asa a dorrodd ei delw hi , ac a’i drylliodd , ac a’i llosgodd wrth afon Cidron . Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel : eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef . Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad , a’r hyn a gysegrasai efe ei hun , arian , ac aur , a llestri . Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa . Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa , y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda , ac a adeiladodd Rama , fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda . Yna Asa a ddug allan arian , ac aur , o drysorau tŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin , ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria , yr hwn oedd yn trigo yn Damascus , gan ddywedyd , Cyfamod sydd rhyngof fi a thi , fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau : wele , anfonais atat arian , ac aur ; dos , tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel , fel y cilio efe oddi wrthyf fi . A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa , ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel , a hwy a drawsant Ijon , a Dan , ac Abel-maim , a holl drysor-ddinasoedd Nafftali . A phan glybu Baasa hynny , efe a beidiodd ag adeiladu Rama , ac a adawodd ei waith i sefyll . Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda , a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama , a’i choed , â’r rhai yr adeiladai Baasa ; ac a adeiladodd â hwynt Geba , a Mispa . Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda , ac a ddywedodd wrtho , Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria , ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw , am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di . Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr , â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn ? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd , efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di . Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear , i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef . Ynfyd y gwnaethost yn hyn ; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan . Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd , ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy ; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn . Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw . Ac wele , gweithredoedd Asa , y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf , wele , y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad , nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr ; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd , ond y meddygon . Ac Asa a hunodd gyda’i dadau , ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad . A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun , yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd , a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau , wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari ; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn . A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef , ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel . Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda , ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda , ac yn ninasoedd Effraim , y rhai a enillasai Asa ei dad ef . A’r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat , oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad , ac nad ymofynnodd â Baalim : Eithr Duw ei dad a geisiodd efe , ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd , ac nid yn ôl gweithredoedd Israel . Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef ; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat ; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth . Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd : ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda . Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad , efe a anfonodd at ei dywysogion , sef Benhail , ac Obadeia , a Sechareia , a Nethaneel , a Michaia , i ddysgu yn ninasoedd Jwda . A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid , Semaia , a Nethaneia , a Sebadeia , ac Asahel , a Semiramoth a Jehonathan , ac Adoneia , a Thobeia , a Thob Adoneia , y Lefiaid ; a chyda hwynt Elisama , a Jehoram , yr offeiriaid . A hwy a ddysgasant yn Jwda , a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd : felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda , ac y dysgasant y bobl . Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda , fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat . A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion , a theyrnged o arian : yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd , saith mil a saith gant o hyrddod , a saith mil a saith gant o fychod . Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo , ac yn cynyddu yn uchel ; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau , a dinasoedd trysorau . A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda ; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem . A dyma eu rhifedi hwynt , yn ôl tŷ eu tadau : O Jwda yn dywysogion miloedd , yr oedd Adna y pennaf , a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol . A cher ei law ef , Jehohanan y tywysog , a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil . A cherllaw iddo ef , Amaseia mab Sichri , yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r Arglwydd ; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol . Ac o Benjamin , yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol , a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau . A cherllaw iddo ef , Jehosabad , a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel . Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin , heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog , trwy holl Jwda . Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth ; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab . Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria . Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer , iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef , ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead . Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda , A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead ? Yntau a ddywedodd wrtho , Yr ydwyf fi fel tithau , a’m pobl i fel dy bobl dithau , a byddwn gyda thi yn y rhyfel . Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel , Ymgynghora , atolwg , heddiw â gair yr Arglwydd . Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr , ac a ddywedodd wrthynt , A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel , neu a beidiaf fi ? Dywedasant hwythau , Dos i fyny ; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin . Ond Jehosaffat a ddywedodd , Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd eto mwyach , fel yr ymgynghorem ag ef ? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd : ond y mae yn gas gennyf fi ef : canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni , ond drygioni erioed : efe yw Michea mab Imla . A dywedodd Jehosaffat , Na ddyweded y brenin felly . A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion , ac a ddywedodd , Prysura Michea mab Imla . A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair , wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd , eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria ; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt . A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn , ac efe a ddywedodd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , A’r rhai hyn y corni di y Syriaid , nes i ti eu difa hwynt . A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn , gan ddywedyd , Dos i fyny i Ramoth-Gilead , a ffynna : canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin . A’r gennad a aethai i alw Michea , a lefarodd wrtho ef , gan ddywedyd , Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin : bydded gan hynny , atolwg , dy air dithau fel un o’r rhai hynny , a dywed y gorau . A Michea a ddywedodd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hyn a ddywedo fy Nuw , hynny a lefaraf fi . A phan ddaeth efe at y brenin , y brenin a ddywedodd wrtho , Michea , a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead , neu a beidiaf fi ? Dywedodd yntau , Ewch i fyny , a ffynnwch , a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi . A’r brenin a ddywedodd wrtho , Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di , na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw , yr Arglwydd ? Yna efe a ddywedodd , Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd , fel defaid ni byddai iddynt fugail . A dywedodd yr Arglwydd , Nid oes feistr arnynt hwy ; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd . ( A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Oni ddywedais i wrthyt , na phroffwydai efe ddaioni i mi , ond drygioni ? ) Yntau a ddywedodd , Gan hynny gwrando air yr Arglwydd : Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa , a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw , ac ar ei law aswy . A dywedodd yr Arglwydd , Pwy a dwylla Ahab brenin Israel , fel yr elo efe i fyny , ac y syrthio yn Ramoth-Gilead ? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn , ac arall gan ddywedyd fel hyn . Yna ysbryd a aeth allan , ac a safodd gerbron yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a’i twyllaf ef . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pa fodd ? Dywedodd yntau , Myfi a af allan , ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef . A dywedodd yr Arglwydd , Twylli , a gorchfygi : dos allan , a gwna felly . Ac yn awr wele , yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn ; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti . Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd , ac a drawodd Michea dan ei gern , ac a ddywedodd , Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi ? A Michea a ddywedodd , Wele , ti a gei weled y dwthwn hwnnw , pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio . A brenin Israel a ddywedodd , Cymerwch Michea , a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas , ac at Joas mab y brenin ; A dywedwch , Fel hyn y dywedodd y brenin , Rhowch hwn yn y carchardy , a bwydwch ef â bara cystudd , ac â dwfr blinder , nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch . Yna y dywedodd Michea , Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch , ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi . Efe a ddywedodd hefyd , Gwrandewch hyn , yr holl bobl . Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead . A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat , Mi a newidiaf fy nillad , ac a af i’r rhyfel ; ond gwisg di dy ddillad . Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad , a hwy a aethant i’r rhyfel . A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef , gan ddywedyd , Nac ymleddwch â bychan nac â mawr , ond â brenin Israel yn unig . A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat , hwy a ddywedasant , Brenin Israel yw efe . A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef : ond Jehosaffat a waeddodd , a’r Arglwydd a’i cynorthwyodd ef , a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef . A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe , hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef . A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan , ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig : am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr , Tro dy law , a dwg fi allan o’r gad ; canys fe’m clwyfwyd i . A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw ; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr : ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul . A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch . A Jehu mab Hanani y gweledydd , a aeth o’i flaen ef , ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat , Ai cynorthwyo yr annuwiol , a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd , a wneit ti ? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti . Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti ; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad , ac a baratoaist dy galon i geisio Duw . A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem : ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim , ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau . Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad , trwy holl ddinasoedd caerog Jwda , o ddinas bwygilydd ; Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr , Edrychwch beth a wneloch : canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu , ond dros yr Arglwydd ; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn . Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi ; gwyliwch a gwnewch hynny : oherwydd nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw , na derbyn wyneb , na chymryd gwobr . A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid , ac o’r offeiriaid , ac o bennau tadau Israel , i drin barnedigaethau yr Arglwydd , ac amrafaelion , pan ddychwelent i Jerwsalem . Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd , mewn ffyddlondeb , ac â chalon berffaith . A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr , y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd , rhwng gwaed a gwaed , rhwng cyfraith a gorchymyn , deddfau a barnedigaethau , rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd , a bod digofaint arnoch chwi , ac ar eich brodyr : felly gwnewch ac na throseddwch . Ac wele , Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd ; a Sebadeia mab Ismael , blaenor tŷ Jwda , ym mhob achos i’r brenin ; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi . Ymwrolwch , a gwnewch hynny , a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus . Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant , a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid , yn erbyn Jehosaffat , i ryfel . Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat , gan ddywedyd , Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr , o Syria ; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar , honno yw En-gedi . A Jehosaffat a ofnodd , ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd ; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda . A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd : canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd . A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem , yn nhŷ yr Arglwydd , o flaen y cyntedd newydd , Ac a ddywedodd , O Arglwydd Dduw ein tadau , onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd , ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd ; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid , fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di ? Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel , ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd ? A thrigasant ynddi , ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw , gan ddywedyd , Pan ddêl niwed arnom ni , sef cleddyf , barnedigaeth , neu haint y nodau , neu newyn ; os safwn o flaen y tŷ hwn , a cher dy fron di , ( canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn , ) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra , ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni . Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab , a thrigolion mynydd Seir , y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt , pan ddaethant o wlad yr Aifft ; ond hwy a droesant oddi wrthynt , ac ni ddifethasant hwynt : Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni , gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di , yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu . O ein Duw ni , oni ferni di hwynt ? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn ; ac ni wyddom ni beth a wnawn : ond arnat ti y mae ein llygaid . A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd , â’u rhai bach , eu gwragedd , a’u plant . Yna ar Jahasiel mab Sechareia , fab Benaia , fab Jeiel , fab Mataneia , Lefiad o feibion Asaff , y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa . Ac efe a ddywedodd , Gwrandewch holl Jwda , a thrigolion Jerwsalem , a thithau frenin Jehosaffat , Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi , Nac ofnwch , ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon : canys nid eiddoch chwi y rhyfel , eithr eiddo Dduw . Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt ; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis , a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon , tuag anialwch Jeruel . Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn : sefwch yn llonydd , a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch , O Jwda a Jerwsalem : nac ofnwch , ac na ddigalonnwch : ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt , a’r Arglwydd fydd gyda chwi . A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb : holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd , gan addoli yr Arglwydd . A’r Lefiaid , o feibion y Cohathiaid , ac o feibion y Corhiaid , a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig . A hwy a gyfodasant yn fore , ac a aethant i anialwch Tecoa : ac wrth fyned ohonynt , Jehosaffat a safodd , ac a ddywedodd , Gwrandewch fi , O Jwda , a thrigolion Jerwsalem ; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw , a chwi a sicrheir ; coeliwch ei broffwydi ef , a chwi a ffynnwch . Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl , ac a osododd gantorion i’r Arglwydd , a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd , pan aent allan o flaen y rhyfelwyr ; ac i ddywedyd , Clodforwch yr Arglwydd , oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant , y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon , Moab , a thrigolion mynydd Seir , y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda ; a hwy a laddasant bawb ei gilydd . Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir , i’w difrodi , ac i’w difetha hwynt : a phan orffenasant hwy drigolion Seir , hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd . A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch , hwy a edrychasant ar y dyrfa , ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear , ac heb un dihangol . A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt , hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud , gyda’r cyrff meirw , a thlysau dymunol , yr hyn a ysglyfaethasant iddynt , beth anfeidrol : a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail ; canys mawr oedd . Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith ; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd : am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith , hyd heddiw . Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem , a Jehosaffat yn flaenor iddynt , i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd ; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion . A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau , a thelynau , ac utgyrn , i dŷ yr Arglwydd . Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear , pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel . Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd : canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch . A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda : mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi . Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad , ac ni chiliodd oddi wrthi , gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith : canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau . A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat , wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani , yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel . Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel , yr hwn a ymroddasai i ddrygioni . Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis : a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber . Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat , gan ddywedyd , Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia , yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di . A’r llongau a ddrylliwyd , fel na allasant fyned i Tarsis . A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau , ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd . A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Ac iddo ef yr oedd brodyr , meibion Jehosaffat ; Asareia , a Jehiel , a Sechareia , ac Asareia , a Michael , a Seffatia : y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel . A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer , o arian , ac aur , a gwerthfawr bethau , gyda dinasoedd caerog yn Jwda : ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram , canys efe oedd y cyntaf-anedig . A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad , ac a ymgadarnhaodd , ac a laddodd ei holl frodyr â’r cleddyf , a rhai hefyd o dywysogion Israel . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel , fel y gwnaethai tŷ Ahab ; canys merch Ahab oedd wraig iddo : ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha tŷ Dafydd , er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd , fel y dywedasai , y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth . Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda , ac y gosodasant frenin arnynt eu hun . A Jehoram a aeth allan , a’i dywysogion , a’i holl gerbydau gydag ef : ac efe a gyfododd liw nos , ac a drawodd yr Edomiaid , y rhai oedd yn ei amgylchu ef , a thywysogion y cerbydau . Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn : a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef : oherwydd iddo ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau . Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda , ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio , ac a gymhellodd Jwda i hynny . A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad , nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda ; Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel , a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio , fel y puteiniodd tŷ Abab , a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad , y rhai oedd well na thydi : Wele , yr Arglwydd a dery â phla mawr dy bobl di , a’th blant , a’th wragedd , a’th holl olud . A thi a gei glefyd mawr , clefyd o’th ymysgaroedd , nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd , o ddydd i ddydd . Felly yr Arglwydd a gyffrôdd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid , a’r Arabiaid , y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid : A hwy a ddaethant i fyny i Jwda , ac a’i drylliasant hi , ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin , a’i feibion hefyd a’i wragedd ; fel na adawyd mab iddo , ond Jehoahas , yr ieuangaf o’i feibion . Ac wedi hyn oll yr Arglwydd a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele . A bu , ar ôl talm o ddyddiau , ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd , ei ymysgaroedd ef a aeth allan gan ei glefyd : felly y bu efe farw o glefydau drwg . A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau , megis cynnau ei dadau . Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano : a chladdasant ef yn ninas Dafydd , ond nid ym meddrod y brenhinoedd . A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef : canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll , a laddasai y rhai hynaf oll . Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd . Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu ; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri . Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab : canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel tŷ Ahab : canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef , ar ôl marwolaeth ei dad , i’w ddinistr ef . Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt , ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel , yn erbyn Hasael brenin Syria , yn Ramoth-Gilead : a’r Syriaid a drawsant Joram . Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel , oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama , pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria . Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel , canys claf oedd efe . A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw , wrth ddyfod at Joram : canys pan ddaeth , efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi , yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab . A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab , efe a gafodd dywysogion Jwda , a meibion brodyr Ahaseia , y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia , ac efe a’u lladdodd hwynt . Ac efe a geisiodd Ahaseia ; a hwy a’i daliasant ef , ( canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria ; ) a hwy a’i dygasant ef at Jehu : lladdasant ef hefyd , a chladdasant ef ; canys dywedasant , Mab Jehosaffat yw efe , yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon . Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas . Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab , hi a gyfododd , ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda . Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia , ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd , ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau . Felly Josabea merch y brenin Jehoram , gwraig Jehoiada yr offeiriad , ( canys chwaer Ahaseia ydoedd hi , ) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia , fel na laddodd hi ef . Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd : ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad . Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada , ac y cymerodd dywysogion y cannoedd , Asareia mab Jeroham , ac Ismael mab Johanan , ac Asareia mab Obed , a Maaseia mab Adaia , ac Elisaffat mab Sichri , gydag ef mewn cyfamod . A hwy a aethant o amgylch yn Jwda , ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda , a phennau-cenedl Israel , ac a ddaethant i Jerwsalem . A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ Dduw : ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Wele , mab y brenin a deyrnasa , fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd . Dyma y peth a wnewch chwi ; Y drydedd ran ohonoch , yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth , o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid , fydd yn borthorion i’r trothwyau ; A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin ; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen ; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd . Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd , ond yr offeiriaid , a’r gweinidogion o’r Lefiaid ; deuant hwy i mewn , canys sanctaidd ydynt : ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd . A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu , pob un â’i arfau yn ei law ; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ , lladder ef : ond byddwch chwi gyda’r brenin , pan ddelo efe i mewn , a phan elo efe allan . A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad , a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr , y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth , gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth : ( canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau . ) A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd , y gwaywffyn , a’r tarianau , a’r estylch , a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd , y rhai oedd yn nhŷ Dduw . Ac efe a gyfleodd yr holl bobl , a phob un â’i arf yn ei law , o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ , ynghylch yr allor a’r tŷ , yn ymyl y brenin oddi amgylch . Yna y dygasant allan fab y brenin , a rhoddasant y goron arno ef , a’r dystiolaeth , ac a’i hurddasant ef yn frenin : Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef , ac a ddywedasant , Byw fyddo y brenin . A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg , ac yn moliannu y brenin , hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd . A hi a edrychodd , ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa , a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin ; a holl bobl y wlad yn llawen , ac yn lleisio mewn utgyrn ; a’r cantorion ag offer cerdd , a’r rhai a fedrent foliannu . Yna Athaleia a rwygodd ei dillad , ac a ddywedodd , Bradwriaeth , bradwriaeth ! A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd , sef swyddogion y llu , ac a ddywedodd wrthynt , Dygwch hi allan o’r rhesau : a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi , lladder ef â’r cleddyf . Canys dywedasai yr offeiriad , Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd . A hwy a roddasant ddwylo arni hi , a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin , ac yno y lladdasant hwy hi . A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun , a rhwng yr holl bobl , a rhwng y brenin , i fod yn bobl i’r Arglwydd . Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal , ac a’i distrywiasant ef , a’i allorau , ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy , ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor . A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd , dan law yr offeiriaid y Lefiaid , y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd , i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd , fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses , mewn llawenydd a chân , yn ôl trefn Dafydd . Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd , fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll . Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd , a’r pendefigion , a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl , a holl bobl y wlad , ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd : a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin , ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth . A holl bobl y wlad a lawenychasant , a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â’r cleddyf . Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu , a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba . A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad . A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig : ac efe a genhedlodd feibion a merched . Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd . Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch i ddinasoedd Jwda , a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw , o flwyddyn i flwyddyn : prysurwch chwithau y peth . Ond ni frysiodd y Lefiaid . A’r brenin a alwodd am Jehoiada , yr offeiriad pennaf , ac a ddywedodd wrtho , Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda , ac o Jerwsalem , dreth Moses gwas yr Arglwydd , a chynulleidfa Israel , i babell y dystiolaeth ? Canys meibion Athaleia , y wraig ddrygionus honno , a rwygasent dŷ Dduw ; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim . Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist , ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan . A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda , ac yn Jerwsalem , ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw , yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch . A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant , ac a ddygasant , ac a fwriasant i’r gist , nes gorffen ohonynt . A bu , yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid , a phan welsant fod llawer o arian , ddyfod o ysgrifennydd y brenin , a swyddog yr archoffeiriad , a thywallt y gist , a’i chymryd hi , a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun . Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd , a chasglasant arian lawer . A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd ; a chyflogasant seiri maen , a seiri pren , i gyweirio tŷ yr Arglwydd ; a gofaint haearn a phres , i gadarnhau tŷ yr Arglwydd . Felly y gweithwyr a weithiasant , a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt : a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun , ac a’i cadarnhasant ef . A phan orffenasant hwy ef , hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada ; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd , sef llestri y weinidogaeth , a’r morterau , a’r llwyau , a’r llestri aur ac arian . Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol , holl ddyddiau Jehoiada . Ond Jehoiada a heneiddiodd , ac oedd gyflawn o ddyddiau , ac a fu farw : mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw . A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd ; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel , tuag at Dduw a’i dŷ . Ac wedi marw Jehoiada , tywysogion Jwda a ddaethant , ac a ymgrymasant i’r brenin : yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy . A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau , ac a wasanaethasant y llwyni , a’r delwau : a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem , oherwydd eu camwedd hyn . Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi , i’w troi hwynt at yr Arglwydd ; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt , ond ni wrandawsant hwy . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad , ac efe a safodd oddi ar y bobl , ac a ddywedodd wrthynt hwy , Fel hyn y dywedodd Duw , Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd ? diau na ffynnwch chwi ; canys gwrthodasoch yr Arglwydd , am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau . A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef , ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin , yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef , ond efe a laddodd ei fab ef : a phan oedd efe yn marw , efe a ddywedodd , Edryched yr Arglwydd , a gofynned . Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef : a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem , ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl , ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus . Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr , a’r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn , am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau : felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas . A phan aethant hwy oddi wrtho ef , ( canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion , ) ei weision ei hun a gydfwriadodd i’w erbyn ef , oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad , ac a’i lladdasant ef ar ei wely ; ac efe a fu farw : a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd , ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd . A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef ; Sabad mab Simeath yr Ammones , a Jehosabad mab Simrith y Foabes . Am ei feibion ef , a maint y baich a roddwyd arno , a sylfaeniad tŷ Dduw , wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd . Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ond nid â chalon berffaith . A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef , efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef . Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt , ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses , lle y gorchmynasai yr Arglwydd , gan ddywedyd , Ni bydd marw y tadau dros y meibion , ac ni bydd marw y meibion dros y tadau , ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun . Ac Amaseia a gynullodd Jwda , ac a’u gwnaeth hwy , yn ôl tŷ eu tadau , yn dywysogion ar filoedd , ac yn dywysogion ar gannoedd , trwy holl Jwda a Benjamin : ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod , ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel , yn medru trin gwaywffon a tharian . Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol , er can talent o arian . Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , O frenin , nac aed llu Israel gyda thi : canys nid yw yr Arglwydd gydag Israel , sef gyda holl feibion Effraim . Ond os myned a fynni , gwna , ymgadarnha i ryfel : ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion ; canys y mae gan Dduw nerth i gynorthwyo , ac i gwympo . Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr Duw , Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel ? A dywedodd gŵr Duw , Y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy na hynny . Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt , sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim , i fyned i’w mangre eu hun . A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda , a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon . Ac Amaseia a ymgadarnhaodd , ac a dywysodd allan ei bobl , ac a aeth i ddyffryn yr halen , ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil . Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw , ac a’u dygasant i ben y graig , ac a’u taflasant hwy o ben y graig , fel y drylliwyd hwynt oll . A’r rhyfelwyr , y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel , a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda , o Samaria hyd Beth-horon , ac a drawsant ohonynt dair mil , ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr . Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid , efe a ddug dduwiau meibion Seir , ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau , ac a addolodd ger eu bron hwynt , ac a arogldarthodd iddynt . Am hynny y llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amaseia ; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef , yr hwn a ddywedodd wrtho ef , Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl , y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di ? A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef , y brenin a ddywedodd wrtho yntau , A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin ? paid , i ba beth y’th drewid ? A’r proffwyd a beidiodd , ac a ddywedodd , Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di , am i ti wneuthur hyn , ac na wrandewaist ar fy nghyngor i . Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd , ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel , gan ddywedyd , Tyred , gwelwn wyneb ein gilydd . A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus , gan ddywedyd , Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig : a bwystfil y maes , yr hwn oedd yn Libanus , a dramwyodd , ac a sathrodd yr ysgellyn . Dywedaist , Wele , trewaist yr Edomiaid , a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio ; eistedd yn awr yn dy dŷ ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun , fel y syrthit ti , a Jwda gyda thi ? Ond ni wrandawai Amaseia ; canys oddi wrth Dduw yr oedd hynny , fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn , am iddynt geisio duwiau Edom . Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny , a hwy a welsant wynebau ei gilydd , efe ac Amaseia brenin Jwda , yn Bethsemes , yr hon oedd yn Jwda . A Jwda a drawyd o flaen Israel , a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll . A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas , fab Jehoahas brenin Jwda , yn Bethsemes , ac a’i dug ef i Jerwsalem , ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem , o borth Effraim hyd borth y gongl , pedwar can cufydd . Ac efe a gymerth yr holl aur , a’r arian , a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ Dduw gydag Obed-edom , a thrysorau tŷ y brenin , a’r gwystlon hefyd , ac a ddychwelodd i Samaria . Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw , wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel , bymtheng mlynedd . A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia , wele , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel ? Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr Arglwydd , hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem , ac efe a ffodd i Lachis : ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis , ac a’i lladdasant ef yno . A hwy a’i dygasant ef ar feirch , ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda . Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia , ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad . Efe a adeiladodd Eloth , ac a’i dug hi drachefn i Jwda , ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau . Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef . Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia , yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw : a’r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd , Duw a’i llwyddodd ef . Ac efe a aeth allan , ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid , ac a dorrodd i lawr fur Gath , a mur Jabne , a mur Asdod , ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod , ac ymysg y Philistiaid . A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid , ac yn erbyn yr Arabiaid , y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal , a’r Mehuniaid . A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia : a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft ; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr . Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl , ac wrth borth y glyn , ac wrth droad y mur , ac a’u cadarnhaodd hwynt . Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch , ac a gloddiodd bydewau lawer ; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid , yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd : a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd , ac yn Carmel : canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear . Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr , yn myned allan yn fyddinoedd , yn ôl nifer eu cyfrif hwynt , trwy law Jeiel yr ysgrifennydd , a Maaseia y llywydd , dan law Hananeia , un o dywysogion y brenin . Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant . A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus , tri chan mil a saith mil a phum cant , yn rhyfela â chryfder nerthol , i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn . Ac Usseia a ddarparodd iddynt , sef i’r holl lu , darianau , a gwaywffyn , a helmau , a llurigau , a bwâu , a thaflau i daflu cerrig . Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint , i fod ar y tyrau ac ar y conglau , i ergydio saethau a cherrig mawrion : a’i enw ef a aeth ymhell , canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef , nes ei gadarnhau . Ond pan aeth yn gryf , ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun ; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw : ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth . Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef , a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd , yn feibion grymus : A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin , ac a ddywedasant wrtho , Ni pherthyn i ti , Usseia , arogldarthu i’r Arglwydd , ond i’r offeiriaid meibion Aaron , y rhai a gysegrwyd i arogldarthu : dos allan o’r cysegr ; canys ti a droseddaist , ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw . Yna y llidiodd Usseia , a’r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef : a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid , gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef , yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd , gerllaw allor yr arogl-darth . Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a’r holl offeiriaid arno ef , ac wele , yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen , a gwnaethant iddo frysio oddi yno : ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan , oherwydd i’r Arglwydd ei daro ef . Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth , ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol ; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd : a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin , yn barnu pobl y wlad . A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia , a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos . Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd ; canys dywedasant , Gwahanglwyfus ydyw efe . A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem , ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad : eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd . A’r bobl oedd eto yn ymlygru . Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd ; ac ar fur y tŵr yr adeiladodd efe lawer . Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda , ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau . Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon , ac a aeth yn drech na hwynt . A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno , a deng mil corus o wenith , a deng mil corus o haidd . Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd . Felly Jotham a aeth yn gadarn , oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw . A’r rhan arall o hanes Jotham , a’i holl ryfeloedd ef , a’i ffyrdd , wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A Jotham a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ninas Dafydd . Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ond ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , fel Dafydd ei dad . Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel , ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig . Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom , ac a losgodd ei blant yn tân , yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Efe a aberthodd hefyd , ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Am hynny yr Arglwydd ei Dduw a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria ; a hwy a’i trawsant ef , ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr , ac a’u dygasant i Damascus . Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef , yr hwn a’i trawodd ef â lladdfa fawr . Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod , hwynt oll yn feibion grymus : am wrthod ohonynt Arglwydd Dduw eu tadau . A Sichri , gŵr grymus o Effraim , a laddodd Maaseia mab y brenin , ac Asricam llywodraethwr y tŷ , ac Elcana y nesaf at y brenin . A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil , yn wragedd , yn feibion , ac yn ferched , ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt , ac a ddygasant yr ysbail i Samaria . Ac yno yr oedd proffwyd i’r Arglwydd , a’i enw Oded ; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , oherwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Jwda , y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi , a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd . Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem , yn gaethweision , ac yn gaethforynion i chwi : onid oes gyda chwi , ie , gyda chwi , bechodau yn erbyn yr Arglwydd eich Duw ? Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi , a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr : oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi . Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim , Asareia mab Johanan , Berecheia mab Mesilemoth , a Jehisceia mab Salum , ac Amasa mab Hadlai , a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth , Ac a ddywedasant wrthynt , Ni ddygwch y gaethglud yma : canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr Arglwydd , yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni , ac ar ein camweddau : canys y mae ein camwedd ni yn fawr , ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel . Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion , a’r holl gynulleidfa . A’r gwŷr , y rhai a enwyd wrth eu henwau , a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud , ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt â’r ysbail , a dilladasant hwynt , a rhoddasant iddynt esgidiau , ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed ; eneiniasant hwynt hefyd , a dygasant ar asynnod bob un llesg , ie , dygasant hwynt i Jericho , dinas y palmwydd , at eu brodyr . Yna hwy a ddychwelasant i Samaria . Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef . A’r Edomiaid a ddaethent eto , ac a drawsent Jwda , ac a gaethgludasent gaethglud . Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinasoedd y gwastadedd , a thu deau Jwda , ac a enillasent Beth-semes , ac Ajalon , a Gederoth , a Socho a’i phentrefi , Timna hefyd a’i phentrefi , a Gimso a’i phentrefi ; ac a drigasant yno . Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Jwda , o achos Ahas brenin Israel : oblegid efe a noethodd Jwda , gan droseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr . A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef , ac a gyfyngodd arno ef , ac nis cynorthwyodd ef . Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr Arglwydd , ac o dŷ y brenin , a chan y tywysogion , a’i rhoddi i frenin Asyria ; eto nis cynorthwyodd efe ef . A’r amser yr oedd yn gyfyng arno , efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr Arglwydd : hwn yw y brenin Ahas . Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus , y rhai a’i trawsent ef ; ac efe a ddywedodd , Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt , minnau a aberthaf iddynt hwy , fel y’m cynorthwyont innau : ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd . Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ Dduw , ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw , ac a gaeodd ddrysau tŷ yr Arglwydd , ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem . Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr , ac a ddicllonodd Arglwydd Dduw ei dadau . A’r rhan arall o’i hanes ef , a’i holl ffyrdd , cyntaf a diwethaf , wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau , a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas yn Jerwsalem , ond ni ddygasant hwy ef i feddrod brenhinoedd Israel . A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad . Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef , yn y mis cyntaf , efe a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd , ac a’u cyweiriodd hwynt . Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid , a’r Lefiaid , ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain , Ac a ddywedodd wrthynt hwy , Gwrandewch fi , O Lefiaid , ymsancteiddiwch yn awr , a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau , a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd . Canys ein tadau ni a droseddasant , ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw , ac a’i gwrthodasant ef , ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd , ac a droesant eu gwarrau . Caeasant hefyd ddrysau y porth , ac a ddiffoddasant y lampau , ac nid arogldarthasant arogl-darth , ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel . Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem , ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro , yn syndod , ac yn watwargerdd , fel yr ydych yn gweled â’ch llygaid . Canys wele , ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf , ein meibion hefyd , a’n merched , a’n gwragedd , ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn . Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel ; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni . Fy meibion , na fyddwch ddifraw yn awr : canys yr Arglwydd a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef , i weini iddo ef , ac i fod yn gweini , ac yn arogldarthu iddo ef . Yna y Lefiaid a gyfodasant , Mahath mab Amasai , a Joel mab Asareia , o feibion y Cohathiaid : ac o feibion Merari ; Cis mab Abdi , ac Asareia mab Jehaleleel : ac o’r Gersoniaid ; Joa mab Simma , ac Eden mab Joa : Ac o feibion Elisaffan ; Simri , a Jeiel ; ac o feibion Asaff ; Sechareia , a Mataneia : Ac o feibion Heman ; Jehiel , a Simei : ac o feibion Jedwthwn ; Semaia , ac Ussiel . A hwy a gynullasant eu brodyr , ac a ymsancteiddiasant , ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin , trwy eiriau yr Arglwydd , i lanhau tŷ yr Arglwydd . A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i’w lanhau ef , ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd , i gyntedd tŷ yr Arglwydd . A’r Lefiaid a’i cymerasant , i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron . Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio , ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr Arglwydd : ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd , ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant . Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin , ac a ddywedasant , Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd , ac allor y poethoffrwm , a’i holl lestri , a bwrdd y bara gosod , a’i holl lestri . A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd , pan oedd efe yn teyrnasu , a baratoesom , ac a sancteiddiasom ni : ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd . Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore , ac a gasglodd dywysogion y ddinas , ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd . A hwy a ddygasant saith o fustych , a saith o hyrddod , a saith o ŵyn , a saith o fychod geifr , yn bech-aberth dros y frenhiniaeth , a thros y cysegr , a thros Jwda : ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron , am offrymu y rhai hynny ar allor yr Arglwydd . Felly hwy a laddasant y bustych , a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed , ac a’i taenellasant ar yr allor : lladdasant hefyd yr hyrddod , a thaenellasant y gwaed ar yr allor : a hwy a laddasant yr ŵyn , ac a daenellasant y gwaed ar yr allor . A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa , ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy . A’r offeiriaid a’u lladdasant hwy , ac a wnaethant gymod ar yr allor â’u gwaed hwynt , i wneuthur cymod dros holl Israel : canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a’r pech-aberth . Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr Arglwydd , â symbalau , ac â nablau , ac â thelynau , yn ôl gorchymyn Dafydd , a Gad gweledydd y brenin , a Nathan y proffwyd : canys y gorchymyn oedd trwy law yr Arglwydd , trwy law ei broffwydi ef . A’r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd , a’r offeiriaid â’r utgyrn . A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor : a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm , y dechreuodd cân yr Arglwydd , â’r utgyrn , ac ag offer Dafydd brenin Israel . A’r holl gynulleidfa oedd yn addoli , a’r cantorion yn canu , a’r utgyrn yn lleisio ; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm . A phan orffenasant hwy offrymu , y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef , a ymgrymasant , ac a addolasant . A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd , â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd . Felly hwy a folianasant â llawenydd , ac a ymostyngasant , ac a addolasant . A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd , Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r Arglwydd ; nesewch , a dygwch ebyrth , ac ebyrth moliant , i dŷ yr Arglwydd . A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth , ac ebyrth moliant , a phob ewyllysgar o galon , boethoffrymau . A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa , oedd ddeg a thrigain o fustych , cant o hyrddod , dau cant o ŵyn : y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych , a thair mil o ddefaid . Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid , fel na allent flingo yr holl boethoffrymau : am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy , nes gorffen y gwaith , ac nes i’r offeiriaid ymgysegru : canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na’r offeiriaid . Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml , gyda braster yr hedd-offrwm , a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau . Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr Arglwydd . A Heseceia a lawenychodd , a’r holl bobl , oherwydd paratoi o Dduw y bobl : oblegid yn ddisymwth y bu y peth . A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda , ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse , i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i Jerwsalem i gynnal Pasg i Arglwydd Dduw Israel . A’r brenin a ymgynghorodd , a’i dywysogion , a’r holl gynulleidfa , yn Jerwsalem , am gynnal y Pasg yn yr ail fis . Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw ; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon , ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem . A da oedd y peth yng ngolwg y brenin , ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa . A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel , o Beerseba hyd Dan , am ddyfod i gynnal y Pasg i Arglwydd Dduw Israel yn Jerwsalem : canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig . Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda , ac wrth orchymyn y brenin , gan ddywedyd , O feibion Israel , dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham , Isaac , ac Israel , ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria . Ac na fyddwch fel eich tadau , nac fel eich brodyr , y rhai a droseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau ; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd , megis y gwelwch chwi . Yn awr na chaledwch eich gwar , fel eich tadau ; rhoddwch law i’r Arglwydd , a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd : a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw , fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi . Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd , eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt , fel y dychwelont i’r wlad yma : oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw , ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych , os dychwelwch ato ef . Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse , hyd Sabulon : ond hwy a wawdiasant , ac a’u gwatwarasant hwy . Er hynny gwŷr o Aser , a Manasse , ac o Sabulon , a ymostyngasant , ac a ddaethant i Jerwsalem . Llaw Duw hefyd fu yn Jwda , i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion , yn ôl gair yr Arglwydd . A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem , i gynnal gŵyl y bara croyw , yn yr ail fis ; cynulleidfa fawr iawn . A hwy a gyfodasant , ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem : bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth , a thaflasant hwynt i afon Cidron . Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis : yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant , ac a ymsancteiddiasant , ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd . A hwy a safasant yn eu lle , wrth eu harfer , yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw : yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid . Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent : ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan , i’w sancteiddio i’r Arglwydd . Oherwydd llawer o’r bobl , sef llawer o Effraim a Manasse , Issachar , a Sabulon , nid ymlanhasent ; eto hwy a fwytasant y Pasg , yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig . Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy , gan ddywedyd , Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un A baratôdd ei galon i geisio Duw , sef Arglwydd Dduw ei dadau , er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr . A’r Arglwydd a wrandawodd ar Heseceia , ac a iachaodd y bobl . A meibion Israel , y rhai a gafwyd yn Jerwsalem , a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr : y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr Arglwydd o ddydd i ddydd , gan ganu ag offer soniarus i’r Arglwydd . A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid , y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr Arglwydd ; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod , ac a aberthasant ebyrth hedd , ac a gyffesasant i Arglwydd Dduw eu tadau . A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill : felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd . Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych , a saith mil o ddefaid : a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych , a deng mil o ddefaid : a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant . A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant , gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid , a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel , a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel , ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda . Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem : canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem . Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant , ac a fendithiasant y bobl ; a gwrandawyd ar eu llef hwynt , a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef , i’r nefoedd . Ac wedi gorffen hyn i gyd , holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda , ac a ddrylliasant y delwau , ac a dorasant y llwyni , ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin , yn Effraim hefyd a Manasse , nes eu llwyr ddifa . Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant , i’w dinasoedd . A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid , yn eu cylchoedd , pob un yn ôl ei weinidogaeth , yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm , ac i’r ebyrth hedd , i weini , ac i foliannu , ac i ganmol , ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd . A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau , sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr , ac i boethoffrymau y Sabothau , a’r newyddloerau , a’r gwyliau arbennig , fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd . Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl , trigolion Jerwsalem , am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid , fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd . A phan gyhoeddwyd y gair hwn , meibion Israel a ddygasant yn aml , flaenffrwyth yr ŷd , y gwin , a’r olew , a’r mêl , ac o holl gnwd y maes , a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth . A meibion Israel a Jwda , y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda , hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid , a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r Arglwydd eu Duw , ac a’u gosodasant bob yn bentwr . Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau , ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt . A phan ddaeth Heseceia a’r tywysogion , a gweled y pentyrrau , hwy a fendithiasant yr Arglwydd , a’i bobl Israel . A Heseceia a ymofynnodd â’r offeiriaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau . Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc , a ddywedodd wrtho , ac a lefarodd , Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd , bwytasom a digonwyd ni , gweddillasom hefyd lawer iawn : canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl ; a’r gweddill yw yr amldra hyn . A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd ; a hwy a’u paratoesant , Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth , a’r degwm , a’r pethau cysegredig , yn ffyddlon : a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy , a Simei ei frawd ef yn ail . Jehiel hefyd , ac Asaseia , a Nahath , ac Asahel , a Jerimoth , a Josabad , ac Eliel , ac Ismachia , a Mahath , a Benaia , oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef , trwy orchymyn Heseceia y brenin , ac Asareia blaenor tŷ Dduw . A Chore mab Imna y Lefiad , y porthor tua’r dwyrain , oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw , i rannu offrymau yr Arglwydd , a’r pethau sancteiddiolaf . Ac wrth ei law ef yr oedd Eden , a Miniamin , a Jesua , a Semaia , Amareia , a Sechaneia , yn ninasoedd yr offeiriaid , yn eu swydd , i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan , i fawr ac i fychan : Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt , o fab tair blwydd ac uchod , i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd , ddogn dydd yn ei ddydd , yn eu gwasanaeth hwynt , o fewn eu goruchwyliaethau , yn ôl eu dosbarthiadau ; I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau , ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod , yn ôl eu goruchwyliaethau , yn eu dosbarthiadau ; Ac i genedl eu holl blant hwy , eu gwragedd , a’u meibion , a’u merched , trwy’r holl gynulleidfa : oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd : Ac i feibion Aaron , yr offeiriaid , y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd , ym mhob dinas , y gwŷr a enwasid wrth eu henwau , i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid , ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid . Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda , ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn , a’r gwirionedd , gerbron yr Arglwydd ei Dduw . Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw , ac yn y gyfraith , ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw , efe a’i gwnaeth â’i holl galon , ac a ffynnodd . Wedi y pethau hyn , a’u sicrhau , y daeth Senacherib brenin Asyria , ac a ddaeth i mewn i Jwda ; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog , ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun . A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib , a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem , Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion , ac â’i gedyrn , am argae dyfroedd y ffynhonnau , y rhai oedd allan o’r ddinas . A hwy a’i cynorthwyasant ef . Felly pobl lawer a ymgasglasant , ac a argaeasant yr holl ffynhonnau , a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad , gan ddywedyd , Paham y daw brenhinoedd Asyria , ac y cânt ddyfroedd lawer ? Ac efe a ymgryfhaodd , ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig , ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau , a mur arall oddi allan , ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd , ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau . Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl , ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas , ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt , gan ddywedyd , Ymwrolwch , ac ymgadarnhewch ; nac ofnwch , ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria , na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef : canys y mae gyda ni fwy na chydag ef . Gydag ef y mae braich cnawdol ; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni , i’n cynorthwyo , ac i ryfela ein rhyfeloedd . A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda . Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem , ( ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis , a’i holl allu gydag ef , ) at Heseceia brenin Jwda , ac at holl Jwda , y rhai oedd yn Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria , Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu , chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem ? Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi , i’ch rhoddi chwi i farw trwy newyn , a thrwy syched , gan ddywedyd , Yr Arglwydd ein Duw a’n gwared ni o law brenin Asyria . Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef , a’i allorau , ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem , gan ddywedyd , O flaen un allor yr addolwch , ac ar honno yr aroglderthwch ? Oni wyddoch chwi beth a wneuthum , mi a’m tadau , i holl bobl y tiroedd ? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o’m llaw i ? Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn , y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha , a allai waredu ei bobl o’m llaw i , fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i ? Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi , ac na huded mohonoch fel hyn , ac na choeliwch iddo ef : canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o’m llaw i , nac o law fy nhadau : pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o’m llaw i ? A’i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw , ac yn erbyn Heseceia ei was ef . Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel , ac i lefaru yn ei erbyn ef , gan ddywedyd , Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i , felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i . Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel , yn iaith yr Iddewon , ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur , i’w hofni hwynt , ac i’w brawychu ; fel yr enillent hwy y ddinas . A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad , sef gwaith dwylo dyn . Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin , ac Eseia y proffwyd mab Amos , ac a waeddasant i’r nefoedd . A’r Arglwydd a anfonodd angel , yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol , a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria . Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun . A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw , y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf . Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria , ac o law pawb eraill , ac a’u cadwodd hwynt oddi amgylch . A llawer a ddygasant roddion i’r Arglwydd i Jerwsalem , a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda ; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw , ac a weddïodd ar yr Arglwydd : yntau a lefarodd wrtho , ac a roddes argoel iddo . Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo ; canys ei galon ef a ddyrchafodd : a digofaint a ddaeth arno ef , ac ar Jwda a Jerwsalem . Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon , efe a thrigolion Jerwsalem ; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia . Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn : ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian , ac o aur , ac o feini gwerthfawr , o beraroglau hefyd , ac o darianau , ac o bob llestri hyfryd ; A selerau i gnwd yr ŷd , a’r gwin , a’r olew ; a phresebau i bob math ar anifail , a chorlannau i’r diadellau . Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd , a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer : canys Duw a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn . A’r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon , ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd , tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd . A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith . Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon , y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad , Duw a’i gadawodd ef , i’w brofi ef , i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon . A’r rhan arall o hanes Heseceia , a’i garedigrwydd ef , wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos , ac yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel . A Heseceia a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd . A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth . A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu , a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel . Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd , y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef , ac a gyfododd allorau i Baalim , ac a wnaeth lwyni , ac a addolodd holl lu’r nefoedd , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd , am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd , Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd . Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd . Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom , ac a arferodd frud , a hudoliaeth , a chyfareddion , ac a fawrhaodd swynyddion , a dewiniaid : efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef . Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig , y ddelw a wnaethai efe , yn nhŷ Dduw , am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd , ac wrth Solomon ei fab , Yn y tŷ hwn , ac yn Jerwsalem , yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel , y gosodaf fy enw yn dragywydd . Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi ; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt , yn ôl yr holl gyfraith , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , trwy law Moses . Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni , a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel . Er llefaru o’r Arglwydd wrth Manasse , ac wrth ei bobl , eto ni wrandawsant hwy . Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria , a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni , ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn , ac a’i dygasant ef i Babilon . A phan oedd gyfyng arno ef , efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw , ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau , Ac a weddïodd arno ef : ac efe a fu fodlon iddo , ac a wrandawodd ei ddymuniad ef , ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth . Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw . Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd , o du’r gorllewin i Gihon , yn y dyffryn , hyd y ddyfodfa i borth y pysgod , ac a amgylchodd Offel , ac a’i cyfododd yn uchel iawn , ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda . Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr , a’r ddelw , allan o dŷ yr Arglwydd , a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd , ac yn Jerwsalem , ac a’u taflodd allan o’r ddinas . Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd , ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant ; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel . Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd : eto i’r Arglwydd eu Duw yn unig . A’r rhan arall o hanes Manasse , a’i weddi ef at ei Dduw , a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel , wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel . Ei weddi ef hefyd , a’r modd y cymododd Duw ag ef , a’i holl bechod ef , a’i gamwedd , a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd , ac y gosododd lwyni , a delwau cerfiedig , cyn ymostwng ohono ef ; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion . Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau , a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun ; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu , a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , fel y gwnaethai Manasse ei dad ef : canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef , ac a’u gwasanaethodd hwynt . Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd , fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef : eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy . A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef , ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun . Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon ; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd , ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad , ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy . Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad , tra yr ydoedd efe eto yn fachgen , efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad : ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd , a’r llwyni , a’r delwau cerfiedig , a’r delwau toddedig . Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim ; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe : y llwyni hefyd , a’r delwau cerfiedig , a’r delwau toddedig , a ddrylliodd efe , ac a faluriodd , taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy . Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau , ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem . Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasse , ac Effraim , a Simeon , a hyd Nafftali , â’u ceibiau oddi amgylch . A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni , a dryllio ohono y delwau cerfiedig , gan eu malurio yn llwch , a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel , efe a ddychwelodd i Jerwsalem . Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , wedi glanhau y wlad , a’r tŷ , efe a anfonodd Saffan mab Asaleia , a Maaseia tywysog y ddinas , a Joa mab Joahas y cofiadur , i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw . A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad , hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw , y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau , o law Manasse ac Effraim , ac oddi gan holl weddill Israel , ac oddi ar holl Jwda a Benjamin , a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem . A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr , y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd : hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith , y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr Arglwydd , i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ . Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr , i brynu cerrig nadd , a choed tuag at y cysylltiadau , ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda . A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon : ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath , ac Obadeia , y Lefiaid , o feibion Merari ; a Sechareia , a Mesulam , o feibion y Cohathiaid , i’w hannog : ac o’r Lefiaid , pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd . Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr , ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith : ac o’r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion , a swyddogion , a phorthorion . A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr Arglwydd , Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd , yr hwn a roddasid trwy law Moses . A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd , Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd . A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan : A Saffan a ddug y llyfr at y brenin , ac a ddug air drachefn i’r brenin , gan ddywedyd , Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di , y maent hwy yn ei wneuthur . Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd , a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr , ac yn llaw y gweithwyr . Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i’r brenin , gan ddywedyd , Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr . A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin . A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith , efe a rwygodd ei ddillad . A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia , ac i Ahicam mab Saffan , ac i Abdon mab Micha , ac i Saffan yr ysgrifennydd , ac i Asaia gwas y brenin , gan ddywedyd , Ewch , ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi , a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda , am eiriau y llyfr a gafwyd : canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni , oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd , gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . Yna yr aeth Hilceia , a’r rhai a yrrodd y brenin , at Hulda y broffwydes , gwraig Salum mab Ticfath , fab Hasra , ceidwad y gwisgoedd ; ( a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy ; ) ac a ymddiddanasant â hi felly . A hi a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel , Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn , ac ar ei drigolion , sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda : Am iddynt fy ngwrthod i , ac arogldarthu i dduwiau dieithr , i’m digio i â holl waith eu dwylo ; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn , ac nis diffoddir ef . Ond am frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn â’r Arglwydd , fel hyn y dywedwch wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist ; Oblegid i’th galon feddalhau , ac i tithau ymostwng o flaen Duw , pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion , ac ymostwng ohonot ger fy mron , a rhwygo dy ddillad , ac wylo o’m blaen i ; am hynny y gwrandewais innau , medd yr Arglwydd . Wele , mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau , a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch , fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon , ac yn erbyn ei phreswylwyr . Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn . Yna y brenin a anfonodd , ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem . A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , a holl wŷr Jwda , a thrigolion Jerwsalem , yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid , a’r holl bobl o fawr i fychan ; ac efe a ddarllenodd , lle y clywsant hwy , holl eiriau llyfr y cyfamod , yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd . A’r brenin a safodd yn ei le , ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd , ar rodio ar ôl yr Arglwydd , ac ar gadw ei orchmynion ef , a’i dystiolaethau , a’i ddefodau , â’i holl galon , ac â’i holl enaid ; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw . Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem , ac yn Benjamin , sefyll wrth yr amod : trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw , sef Duw eu tadau . Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel , ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu , sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw . Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau . A Joseia a gynhaliodd Basg i’r Arglwydd yn Jerwsalem : a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf . Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau , ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr Arglwydd ; Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid , y rhai oedd yn dysgu holl Israel , ac oedd sanctaidd i’r Arglwydd , Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel ; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd : gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw , a’i bobl Israel , Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau , yn ôl eich dosbarthiadau , yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel , ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef . A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl , ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid . Felly lleddwch y Pasg , ac ymsancteiddiwch , a pharatowch eich brodyr , i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses . A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn , a mynnod , i gyd tuag at y Pasg-aberthau , sef i bawb a’r a gafwyd , hyd rifedi deng mil ar hugain , a thair mil o eidionau ; hyn oedd o gyfoeth y brenin . A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl , i’r offeiriaid , ac i’r Lefiaid : Hilceia , a Sechareia , a Jehiel , blaenoriaid tŷ Dduw , a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau , ddwy fil a chwe chant o ddefaid , a thri chant o eidionau . Cononeia hefyd , a Semaia , a Nethaneel , ei frodyr , a Hasabeia , a Jehiel , a Josabad , tywysogion y Lefiaid , a roddasant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth , bum mil o ddefaid , a phum cant o eidionau . Felly y paratowyd y gwasanaeth ; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle , a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau , yn ôl gorchymyn y brenin . A hwy a laddasant y Pasg ; a’r offeiriaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt , a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt . A chymerasant ymaith y poethoffrymau , i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl , i offrymu i’r Arglwydd , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses : ac felly am yr eidionau . A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod : a’r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau , ac mewn pedyll , ac mewn peiriau , ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl bobl . Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain , ac i’r offeiriaid ; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos ; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain , ac i’r offeiriaid meibion Aaron . A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa , yn ôl gorchymyn Dafydd , ac Asaff , a Heman , a Jeduthun gweledydd y brenin ; a’r porthorion ym mhob porth : ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth ; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy . Felly y paratowyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw , i gynnal y Pasg , ac i offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd , yn ôl gorchymyn y brenin Joseia . A meibion Israel y rhai a gafwyd , a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw , a gŵyl y bara croyw , saith niwrnod . Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel , er dyddiau Samuel y proffwyd : ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a holl Jwda , a’r neb a gafwyd o Israel , a thrigolion Jerwsalem . Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn . Wedi hyn oll , pan baratoesai Joseia y tŷ , Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates : a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef . Yntau a anfonodd genhadau ato ef , gan ddywedyd , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , O frenin Jwda ? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw , ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i ; a Duw a archodd i mi frysio : paid di â Duw , yr hwn sydd gyda mi , fel na ddifetho efe dydi . Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef , eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef , ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw , ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido . A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia : a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision , Dygwch fi ymaith , canys clwyfwyd fi yn dost . Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd , ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo : dygasant ef hefyd i Jerwsalem , ac efe fu farw , ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau . A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia . Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia , a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw , a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel ; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau . A’r rhan arall o hanes Joseia a’i ddaioni ef , yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd , A’i weithredoedd ef , cyntaf a diwethaf , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia , ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem . Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu ; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem ; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian , a thalent o aur . A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem , ac a drodd ei enw ef yn Joacim . A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef , ac a’i dug i’r Aifft . Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw . Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef , ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres , i’w ddwyn i Babilon . Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon , ac a’u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon . A’r rhan arall o hanes Joacim , a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe , a’r hyn a gafwyd arno ef , wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda . A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu , a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem ; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd . Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor , ac a’i dug ef i Babilon , gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd : ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu , ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw , ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd , yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd . Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor , yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw : ond efe a galedodd ei war , ac a gryfhaodd ei galon , rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel . Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd , a’r bobl , a chwanegasant gamfucheddu , yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd ; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd , yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem . Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau , gan foregodi , ac anfon : am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl , ac wrth ei breswylfod . Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw , ac yn tremygu ei eiriau ef , ac yn gwawdio ei broffwydi ef ; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , fel nad oedd iachâd . Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid , yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr , ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn , na hen , na’r hwn oedd yn camu gan oedran : efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef . Holl lestri tŷ Dduw hefyd , mawrion a bychain , a thrysorau tŷ yr Arglwydd , a thrysorau y brenin a’i dywysogion : y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon . A hwy a losgasant dŷ Dduw , ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem ; a’i holl balasau hi a losgasant hwy â than , a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant . A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon ; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion , nes teyrnasu o’r Persiaid : I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia , nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau ; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd , y gorffwysodd hi , i gyflawni deng mlynedd a thrigain . Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia , fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia , yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia , fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth , a hynny mewn ysgrifen , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia , Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi , ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda . Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef ? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef , ac eled i fyny . </passage></reply></GetPassage>