<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:15</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:15</urn><passage>Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia , i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia , y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia , fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas , a hynny hefyd mewn ysgrifen , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia , Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear , ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda . Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef ? bydded ei Dduw gydag ef , ac eled i fyny i Jerwsalem , yr hon sydd yn Jwda , ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel , ( dyna y Duw , ) yr hwn sydd yn Jerwsalem . A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio , cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian , ac ag aur , ac â golud , ac ag anifeiliaid , gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw , yr hwn sydd yn Jerwsalem . Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin , a’r offeiriaid a’r Lefiaid , a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd , i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem . A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian , ac aur , a golud , ac ag anifeiliaid , ac â phethau gwerthfawr , heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar . A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd , y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem , ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun : Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd , ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda . A dyma eu rhifedi hwynt ; Deg ar hugain o gawgiau aur , mil o gawgiau arian , naw ar hugain o gyllyll , Deg ar hugain o orflychau aur , deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian , a mil o lestri eraill . Yr holl lestri , yn aur ac yn arian , oedd bum mil a phedwar cant . Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem . A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud , yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon , ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda , pob un i’w ddinas ei hun ; Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel : Jesua , Nehemeia , Seraia , Reelaia , Mordecai , Bilsan , Mispar , Bigfai , Rehum , Baana . Rhifedi gwŷr pobl Israel : Meibion Paros , dwy fil a deuddeg ac wyth ugain . Meibion Seffatia , tri chant a deuddeg a thrigain . Meibion Ara , saith gant a phymtheg a thrigain . Meibion Pahath‐Moab , o feibion Jesua a Joab , dwy fil wyth gant a deuddeg . Meibion Elam , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Sattu , naw cant a phump a deugain . Meibion Saccai , saith gant a thrigain . Meibion Bani , chwe chant a dau a deugain . Meibion Bebai , chwe chant a thri ar hugain . Meibion Asgad , mil dau cant a dau ar hugain . Meibion Adonicam , chwe chant a chwech a thrigain . Meibion Bigfai , dwy fil ac onid pedwar trigain . Meibion Adin , pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Ater o Heseceia , onid dau pum ugain . Meibion Besai , tri chant a thri ar hugain . Meibion Jora , cant a deuddeg . Meibion Hasum , dau cant a thri ar hugain . Meibion Gibbar , pymtheg a phedwar ugain . Meibion Bethlehem , cant a thri ar hugain . Gwŷr Netoffa , onid pedwar trigain . Gwŷr Anathoth , cant ac wyth ar hugain . Meibion Asmafeth , dau a deugain . Meibion Ciriath‐arim , Ceffira , a Beeroth , saith gant a thri a deugain . Meibion Rama a Gaba , chwe chant ac un ar hugain . Gwŷr Michmas , cant a dau ar hugain . Gwŷr Bethel ac Ai , dau cant a thri ar hugain . Meibion Nebo , deuddeg a deugain . Meibion Magbis , cant ac onid pedwar trigain . Meibion Elam arall , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Harim , tri chant ac ugain . Meibion Lod , Hadid , ac Ono , saith gant a phump ar hugain . Meibion Jericho , tri chant a phump a deugain . Meibion Senaa , tair mil a chwe chant a deg ar hugain . Yr offeiriaid : meibion Jedaia , o dŷ Jesua , naw cant deg a thrigain a thri . Meibion Immer , mil a deuddeg a deugain . Meibion Pasur , mil dau cant a saith a deugain . Meibion Harim , mil a dau ar bymtheg . Y Lefiaid : meibion Jesua a Chadmiel , o feibion Hodafia , pedwar ar ddeg a thrigain . Y cantoriaid : meibion Asaff , cant ac wyth ar hugain . Meibion y porthorion : sef meibion Salum , meibion Ater , meibion Talmon , meibion Accub , meibion Hatita , meibion Sobai , oedd oll gant ac onid un deugain . Y Nethiniaid : meibion Siha , meibion Hasuffa , meibion Tabbaoth , Meibion Ceros , meibion Sïaha , meibion Padon , Meibion Lebana , meibion Hagaba , meibion Accub , Meibion Hagab , meibion Samlai , meibion Hanan , Meibion Gidel , meibion Gahar , meibion Reaia , Meibion Resin , meibion Necoda , meibion Gassam , Meibion Ussa , meibion Pasea , meibion Besai , Meibion Asna , meibion Mehunim , meibion Neffusim , Meibion Bacbuc , meibion Hacuffa , meibion Harhur , Meibion Basluth , meibion Mehida , meibion Harsa , Meibion Barcos , meibion Sisera , meibion Thama , Meibion Neseia , meibion Hatiffa . Meibion gweision Solomon : meibion Sotai meibion Soffereth , meibion Peruda , Meibion Jaala , meibion Darcon , meibion Gidel , Meibion Seffatia , meibion Hattil , meibion Pochereth o Sebaim , meibion Ami . Yr holl Nethiniaid , a meibion gweision Solomon , oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain . A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela , Tel‐harsa , Cerub , Adan , ac Immer : ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau , na’u hiliogaeth , ai o Israel yr oeddynt : Meibion Delaia , meibion Tobeia , meibion Necoda , chwe chant a deuddeg a deugain . A meibion yr offeiriaid : meibion Habaia , meibion Cos , meibion Barsilai ; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad , ac a alwasid ar eu henw hwynt . Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau , ond ni chafwyd hwynt : am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth . A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt , na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf , hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim . Yr holl dyrfa ynghyd , oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain : Heblaw eu gweision a’u morynion ; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain : ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau . Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain ; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain ; Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain ; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain . Ac o’r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd , yr hwn oedd yn Jerwsalem , rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd , i’w gyfodi yn ei le . Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith , un fil a thrigain o ddracmonau aur , a phum mil o bunnoedd o arian , a chant o wisgoedd offeiriaid . Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid , a rhai o’r bobl , a’r cantorion , a’r porthorion , a’r Nethiniaid , a drigasant yn eu dinasoedd ; a holl Israel yn eu dinasoedd . A phan ddaeth y seithfed mis , a meibion Israel yn eu dinasoedd , y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr . Yna y cyfododd Jesua mab Josadac , a’i frodyr yr offeiriaid , a Sorobabel mab Salathiel , a’i frodyr , ac a adeiladasant allor Duw Israel , i offrymu arni offrymau poeth , fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw . A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion , ( canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad , ) ac a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd , poethoffrymau bore a hwyr . Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll , fel y mae yn ysgrifenedig , ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi , yn ôl y ddefod , dogn dydd yn ei ddydd ; Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol , ac offrwm y newyddloerau , a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd , offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun , a offrymasant i’r Arglwydd . O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd . Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto . Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen , ac i’r seiri pren ; a bwyd , a diod , ac olew , i’r Sidoniaid , ac i’r Tyriaid , am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa : yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy . Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerwsalem , yn yr ail fis , y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel , a Jesua mab Josadac , a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeiriaid a’r Lefiaid , a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem ; ac a osodasant y Lefiaid , o fab ugeinmlwydd ac uchod , yn olygwyr ar waith tŷ yr Arglwydd . Yna y safodd Jesua , a’i feibion a’i frodyr , Cadmiel a’i feibion , meibion Jwda yn gytûn , i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw : meibion Henadad , â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid . A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd , hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn , a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau , i foliannu yr Arglwydd , yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel . A hwy a gydganasant , wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd , mai da oedd , mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel . A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr , gan foliannu yr Arglwydd , am sylfaenu tŷ yr Arglwydd . Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid , a’r pennau‐cenedl , y rhai oedd hen , ac a welsent y tŷ cyntaf , wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg , a wylasant â llef uchel ; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd : Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl : canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr , a’r sŵn a glywid ymhell . Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel ; Ac a ddaethant at Sorobabel , ac at y pennau‐cenedl , ac a ddywedasant wrthynt , Adeiladwn gyda chwi : canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi ; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu , er dyddiau Esarhadon brenin Assyria , yr hwn a’n dug ni i fyny yma . Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua , a’r rhan arall o bennau‐cenedl Israel , wrthynt , Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni ; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel , megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus , brenin Persia . A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda , ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu , Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt , i ddiddymu eu cyngor hwynt , holl ddyddiau Cyrus brenin Persia , a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia . Ac yn nheyrnasiad Ahasferus , yn nechreuad ei deyrnasiad ef , yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem . Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam , Mithredath , Tabeel , a’r rhan arall o’u cyfeillion , at Artacsercses brenin Persia ; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg , ac a eglurwyd yn Syriaeg . Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin , fel hyn : Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur , a Simsai yr ysgrifennydd , a’r rhan arall o’u cyfeillion , y Dinaiaid , yr Affarsathchiaid , y Tarpeliaid , yr Affarsiaid , yr Archefiaid , y Babiloniaid , y Susanchiaid , y Dehafiaid , yr Elamiaid , A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog , ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria , a’r rhan arall tu yma i’r afon , a’r amser a’r amser . Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef , sef at Artacsercses y brenin ; Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon , a’r amser a’r amser . Bid hysbys i’r brenin , fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni , wedi dyfod i Jerwsalem , ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus , a’r muriau a sylfaenasant hwy , ac a gydwniasant y sylfaenau . Yn awr bydded hysbys i’r brenin , os adeiledir y ddinas hon , a gorffen ei chaerau , na roddant na tholl , na theyrnged , na threth ; felly y drygi drysor y brenhinoedd . Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin , ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin ; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin , Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau : a thi a gei yn llyfr yr historïau , ac a elli wybod , fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar , niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau , a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm : am hynny y dinistriwyd y ddinas hon . Yr ydym yn hysbysu i’r brenin , os y ddinas hon a adeiledir , a’r muriau a sylfaenir , wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon . Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur , a Simsai yr ysgrifennydd , a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria , ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon , Tangnefedd , a’r amser a’r amser . Y llythyr a anfonasoch ataf , a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron . A mi a osodais orchymyn , a chwiliwyd ; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd , a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel . A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem , yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon ; ac iddynt hwy y rhoddid toll , teyrnged , a threth . Yn awr rhoddwch orchymyn , i beri i’r gwŷr hynny beidio , ac nad adeilader y ddinas honno , hyd oni roddwyf fi orchymyn eto . A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn : paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd ? Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd , a’u cyfeillion , hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon , ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder . Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem ; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia . Yna y proffwydi , Haggai y proffwyd , a Sechareia mab Ido , a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem ; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt . Yna Sorobabel mab Salathiel , a Jesua mab Josadac , a godasant , ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem : a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo . Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , a Setharbosnai , a’u cyfeillion , ac fel hyn y dywedasant wrthynt ; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn , ac i sylfaenu y muriau hyn ? Yna fel hyn y dywedasom wrthynt ; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma ? A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon , fel na wnaethant iddynt beidio , nes dyfod yr achos at Dareius : ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn . Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , a Setharbosnai , a’i gyfeillion yr Affarsachiaid , y rhai oedd o’r tu yma i’r afon , at y brenin Dareius : Anfonasant lythyr ato ef , ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo ; Pob heddwch i’r brenin Dareius . Bydded hysbys i’r brenin , fyned ohonom ni i dalaith Jwdea , i dŷ y Duw mawr , a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr , a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef ; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys , a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt . Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny , ac a ddywedasom wrthynt fel hyn ; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn , ac i sylfaenu y mur yma ? Gofynasom hefyd iddynt eu henwau , fel yr hysbysem i ti , ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt . A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni , gan ddywedyd , Nyni ydym weision Duw nef a daear , ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd ; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd , ac a’i seiliodd ef . Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd , efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , y Caldead ; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe , ac a gaethgludodd y bobl i Babilon . Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn . A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian , y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem , ac a’u dygasai i deml Babilon , y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon , a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw , yr hwn a osodasai efe yn dywysog ; Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer y llestri hyn , dos , dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem , ac adeilader tŷ Dduw yn ei le . Yna y daeth y Sesbassar hwnnw , ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem . Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu , ac nis gorffennwyd ef . Ac yn awr , os da gan y brenin , ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon , a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem ; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn . Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn ; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau , lle y cedwid y trysorau yn Babilon . A chafwyd yn Achmetha , yn y llys yn nhalaith Media , ryw lyfr , ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth : Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem , Adeilader y tŷ , y fan lle yr aberthent aberthau , a gwnaer yn gadarn ei sylfeini ; yn drigain cufydd ei uchder , ac yn drigain cufydd ei led : Yn dair rhes o feini mawr , a rhes o goed newydd : a rhodder y draul o dŷ y brenin . A llestri tŷ Dduw hefyd , yn aur ac yn arian , y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem , ac a ddug efe adref i Babilon , rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem , i’w lle , a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw . Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon , Setharbosnai , a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid , y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon , ciliwch oddi yno . Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn : adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le . Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn ; mai o gyfoeth y brenin , sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon , y rhoddir traul i’r gwŷr hyn , fel na pheidio y gwaith . A’r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd , yn eidionau , neu yn hyrddod , neu yn ŵyn , yn ŷd , yn halen , yn win , ac yn olew , yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem , rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid : Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd , ac y gweddïont dros einioes y brenin , a’i feibion . Gosodais hefyd orchymyn , pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn , tynner coed o’i dŷ ef , a gosoder i sefyll , ac ar hwnnw croger ef ; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny . A’r Duw , yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno , a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem . Myfi Dareius a osodais y gorchymyn ; gwneler ef yn ebrwydd . Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon , Setharbosnai , a’u cyfeillion , megis yr anfonodd y brenin Dareius , felly y gwnaethant yn ebrwydd . A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant , ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd , a Sechareia mab Ido ; ie , adeiladasant , a gorffenasant , wrth orchymyn Duw Israel , ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius , ac Artacsercses brenin Persia . A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar , pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius . A meibion Israel , yr offeiriaid a’r Lefiaid , a’r rhan arall o feibion y gaethglud , a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd ; Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw , gant o ychen , dau cant o hyrddod , pedwar cant o ŵyn , a deuddeg o fychod geifr , yn bech‐aberth dros Israel , yn ôl rhifedi llwythau Israel . Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau , a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau , i wasanaeth Duw yn Jerwsalem , yn ôl ysgrifen llyfr Moses . Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf . Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn , yn lân i gyd oll , ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud , a thros eu brodyr yr offeiriaid , a throstynt eu hunain . A meibion Israel , y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud , a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy , i geisio Arglwydd Dduw Israel , a fwytasant , Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd : canys yr Arglwydd a’u llawenhasai hwynt , ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy , i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw , Duw Israel . Ac wedi y pethau hyn , yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia , Esra , mab Seraia , fab Asareia , fab Hilceia , Fab Salum , fab Sadoc , fab Ahitub , Fab Amareia , fab Asareia , fab Meraioth , Fab Seraheia , fab Ussi , fab Bucci , Fab Abisua , fab Phinees , fab Eleasar , fab Aaron yr offeiriad pennaf : Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon ; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses , yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel : a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad , fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef . A rhai a aethant i fyny o feibion Israel , ac o’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r cantorion , a’r porthorion , a’r Nethiniaid , i Jerwsalem , yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses . Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis , yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin . Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon ; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem , fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef . Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd , ac i’w gwneuthur , ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau . A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd , sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd , a’i ddeddfau ef i Israel . Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad , ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd , perffaith dangnefedd , a’r amser a’r amser . Myfi a osodais orchymyn , fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel , ac o’i offeiriaid ef , a’i Lefiaid , sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem , gael myned gyda thi . Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin , a’i saith gynghoriaid , i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem , wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di ; Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid , ohonynt eu hunain , i Dduw Israel , yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem , A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon , gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid , y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem : Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen , hyrddod , ŵyn , a’u bwyd‐offrymau , a’u diod‐offrymau , a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem . A’r hyn a fyddo da gennyt ti , a chan dy frodyr , ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur , gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw . A’r llestri , y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw , dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem . A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw , yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi , a roddi di o drysordy y brenin . A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon , beth bynnag a geisio Esra , offeiriad , ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd , gennych , gwneler yn ebrwydd ; Hyd gan talent o arian , a hyd gan corus o wenith , a hyd gan bath o win , a hyd gan bath o olew , a halen heb fesur . Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd , gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd : canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion ? Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd , am yr holl offeiriaid , a’r Lefiaid , cantorion , porthorion , Nethiniaid , a gweinidogion y tŷ Dduw hwn , na ellir bwrw arnynt doll , na theyrnged , na threth . Tithau , Esra , yn ôl doethineb dy Dduw , yr hwn sydd yn dy law , gosod swyddogion a barnwyr , i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon , y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw ; a dysgwch y rhai nis medrant . A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw , a chyfraith y brenin , gwneler barn yn ebrwydd arno ef , pa un bynnag ai i farwolaeth , ai i’w ddeol , ai i ddirwy o dda , ai i garchar . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau , yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin , i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem : Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid , ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin . A mi a gynorthwywyd , fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi , a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi . A dyma eu pennau‐cenedl hwynt , a’u hachau , y rhai a aeth i fyny gyda mi , yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin , allan o Babilon . O feibion Phinees ; Gersom : o feibion Ithamar ; Daniel : o feibion Dafydd ; Hattus : O feibion Sechaneia , o feibion Pharos ; Sechareia : a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid . O feibion Pahath‐Moab ; Elihoenai mab Seraheia , a chydag ef ddau cant o wrywiaid . O feibion Sechaneia ; mab Jahasiel , a chydag ef dri chant o wrywiaid . O feibion Adin hefyd ; Ebed mab Jonathan , a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid . Ac o feibion Elam ; Jesaia mab Athaleia , a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid . Ac o feibion Seffatia ; Sebadeia mab Michael , a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid . O feibion Joab ; Obadeia mab Jehiel , a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid . Ac o feibion Selomith ; mab Josiffia , a chydag ef wyth ugain o wrywiaid . Ac o feibion Bebai ; Sechareia mab Bebai , a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid . Ac o feibion Asgad ; Johanan mab Haccatan , a chydag ef ddeng mab a chant . Ac o feibion olaf Adonicam , dyma hefyd eu henwau hwynt , Eliffelet , Jeiel , a Semaia , a chyda hwynt drigain o wrywiaid . Ac o feibion Bigfai ; Uthai , a Sabbud , a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid . A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa ; ac yno y gwersyllasom ni dridiau : a mi a ystyriais y bobl , a’r offeiriaid , ond ni chefais yno neb o feibion Lefi . Yna yr anfonais am Elieser , am Ariel , am Semaia , ac am Elnathan , ac am Jarib , ac am Elnathan , ac am Nathan , ac am Sechareia , ac am Mesulam , y penaethiaid ; ac am Joiarib , ac am Elnathan , y rhai doethion : A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido , pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia ; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido , a’i frodyr y Nethiniaid , yn y fan a elwir Chasiffia , fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw . A hwy a ddygasant atom , fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni , ŵr deallgar o feibion Mahli , fab Lefi , fab Israel , a Serebeia , a’i feibion , a’i frodyr , ddeunaw ; A Hasabeia , a chydag ef Jesaia o feibion Merari , a’i frodyr , a’u meibion , ugain ; Ac o’r Nethiniaid , a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid , dau cant ac ugain o Nethiniaid : hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau . Ac yno , wrth afon Ahafa , y cyhoeddais ympryd , i ymgystuddio gerbron ein Duw ni , i geisio ganddo ef ffordd union i ni , ac i’n plant , ac i’n golud oll . Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch , i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd : canys llefarasem wrth y brenin , gan ddywedyd , Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef , a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef . Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn ; ac efe a wrandawodd arnom . Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid , Serebeia , Hasabeia , a deg o’u brodyr gyda hwynt ; Ac a bwysais atynt hwy yr arian , a’r aur , a’r llestri , sef offrwm tŷ ein Duw ni , yr hyn a offrymasai y brenin , a’i gynghoriaid , a’i dywysogion , a holl Israel , y rhai a gawsid yno . Ie , pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian , ac o lestri arian gan talent , a chan talent o aur ; Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau ; a dau lestr o bres melyn da , mor brydferth ag aur . A dywedais wrthynt , Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd ; a’r llestri ydynt sanctaidd ; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau . Gwyliwch , a chedwch hwynt , hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid , a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem , yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd . Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian , a’r aur , a’r llestri , i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni . A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa , ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf , i fyned i Jerwsalem : a llaw ein Duw oedd arnom ni , ac a’n gwaredodd o law y gelyn , a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd . A ni a ddaethom i Jerwsalem , ac a arosasom yno dridiau . Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian , a’r aur , a’r llestri , yn nhŷ ein Duw ni , trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad ; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef ; a Josabad mab Jesua , a Noadeia mab Binnui , y Lefiaid , oedd gyda hwynt ; Wrth rifedi , ac wrth bwys pob un : a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw . Meibion y gaethglud , y rhai a ddaeth o’r caethiwed , a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel , sef deuddeg o fustych dros holl Israel , onid pedwar pum ugain o hyrddod , namyn tri pedwar ugain o ŵyn , a deuddeg o fychod yn bech‐aberth : y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd . A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin , a thywysogion y tu hwnt i’r afon : a hwy a gynorthwyasant y bobl , a thŷ Duw . Ac wedi darfod hynny , y tywysogion a ddaethant ataf fi , gan ddywedyd , Nid ymneilltuodd pobl Israel , a’r offeiriaid , a’r Lefiaid , oddi wrth bobl y gwledydd : gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt ; sef y Canaaneaid , yr Hethiaid , y Pheresiaid , y Jebusiaid , yr Ammoniaid , y Moabiaid , yr Eifftiaid , a’r Amoriaid . Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun , ac i’w meibion ; a’r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd : a llaw y penaethiaid a’r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn . Pan glywais innau hyn , mi a rwygais fy nillad a’m gwisg , ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf , ac a eisteddais yn syn . Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel , am gamwedd y rhai a gaethgludasid ; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol . Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd ; ac wedi i mi rwygo fy nillad a’m gwisg , mi a ostyngais ar fy ngliniau , ac a ledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw , Ac a ddywedais , O fy Nuw , y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti , fy Nuw ; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben , a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd . Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn ; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni , ein brenhinoedd , a’n hoffeiriaid , i law brenhinoedd y gwledydd , i’r cleddyf , i gaethiwed , ac i anrhaith , ac i warthrudd wyneb , megis heddiw . Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr Arglwydd ein Duw , i adael i ni weddill i ddianc , ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef ; fel y goleuai ein Duw ein llygaid , ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed . Canys caethion oeddem ni ; ond ni adawodd ein Duw ni yn ein caethiwed , eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia , i roddi i ni orffwystra i ddyrchafu tŷ ein Duw ni , ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef , ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem . Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn , O ein Duw ? canys gadawsom dy orchmynion di , Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi , gan ddywedyd , Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu , gwlad halogedig yw hi , trwy halogedigaeth pobl y gwledydd , oblegid eu ffieidd‐dra hwynt , y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd . Ac yn awr , na roddwch eich merched i’w meibion hwynt , ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi , ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth : fel y cryfhaoch , ac y mwynhaoch ddaioni y wlad , ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth . Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd , a’n mawr gamwedd , am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd , a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn ; A dorrem ni drachefn dy orchmynion di , ac ymgyfathrachu â’r ffiaidd bobl hyn ? oni ddigit ti wrthym , nes ein difetha , fel na byddai un gweddill na dihangol ? Arglwydd Dduw Israel , cyfiawn ydwyt ti ; eithr gweddill dihangol ydym ni , megis heddiw : wele ni o’th flaen di yn ein camweddau ; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di am hyn . Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu , gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw , tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef , yn wŷr , ac yn wragedd , ac yn blant : canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr . Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel , o feibion Elam , ac a ddywedodd wrth Esra , Ni a bechasom yn erbyn ein Duw , ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad : eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn . Yn awr , gan hynny , gwnawn gyfamod â’n Duw , ar fwrw allan yr holl wragedd , a’u plant , wrth gyngor yr Arglwydd , a’r rhai a ofnant orchmynion ein Duw : a gwneler yn ôl y gyfraith . Cyfod ; canys arnat ti y mae y peth : a ni a fyddwn gyda thi : ymwrola , a gwna . Yna y cyfododd Esra , ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid , a holl Israel , ar wneuthur yn ôl y peth hyn . A hwy a dyngasant . Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw , ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib : a phan ddaeth yno , ni fwytaodd fara , ac nid yfodd ddwfr ; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud . A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem , ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem ; A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau , yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid , efe a gollai ei holl olud , ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid . Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau : hynny oedd y nawfed mis , ar yr ugeinfed dydd o’r mis ; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw , yn crynu o achos y peth hyn , ac o achos y glawogydd . Ac Esra yr offeiriad a gyfododd , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a bechasoch , ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr , gan ychwanegu ar bechod Israel . Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau , a gwnewch ei ewyllys ef ; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir , ac oddi wrth y gwragedd dieithr . A holl dyrfa Israel a atebasant , ac a ddywedasant â llef uchel , Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur . Eithr y bobl sydd lawer , a’r amser yn lawog , ac ni ellir sefyll allan , ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw : canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn . Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa , a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr , ar amseroedd gosodedig , a henuriaid pob dinas , a’u barnwyr gyda hwynt , nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn . Yn unig Jonathan mab Asahel , a Jahaseia mab Ticfa , a osodwyd ar hyn : Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy . A meibion y gaethglud a wnaethant felly . Ac Esra yr offeiriad , a’r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau , a hwynt oll wrth eu henwau , a neilltuwyd , ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis , i ymofyn am y peth hyn . A hwy a wnaethant ben â’r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr , erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf . A chafwyd o feibion yr offeiriaid , y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr : o feibion Jesua mab Josadac , a’i frodyr ; Maaseia , ac Elieser , a Jarib , a Gedaleia . A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd ; a chan iddynt bechu , a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd . Ac o feibion Immer ; Hanani , a Sebadeia . Ac o feibion Harim ; Maaseia , ac Eleia , a Semaia , a Jehiel , ac Usseia . Ac o feibion Pasur ; Elioenai , Maaseia , Ismael , Nethaneel , Josabad , ac Elasa . Ac o’r Lefiaid ; Josabad , a Simei , a Chelaia , ( hwnnw yw Celita , ) Pethaheia , Jwda , ac Elieser . Ac o’r cantorion ; Eliasib : ac o’r porthorion ; Salum , a Thelem , ac Uri . Ac o Israel : o feibion Paros ; Rameia , a Jeseia , a Malcheia , a Miamin , ac Eleasar , a Malcheia , a Benaia . Ac o feibion Elam ; Mataneia , Sechareia , a Jehiel , ac Abdi , a Jeremoth , ac Eleia . Ac o feibion Sattu ; Elioenai , Eliasib , Mataneia , a Jeremoth , a Sabad , ac Asisa . Ac o feibion Bebai ; Jehohanan , Hananeia , Sabbai , ac Athlai . Ac o feibion Bani ; Mesulam , Maluch , ac Adaia , Jasub , a Seal , a Ramoth . Ac o feibion Pahath‐Moab ; Adna , a Chelal , Benaia , Maaseia , Mataneia , Besaleel , a Binnui , a Manasse . Ac o feibion Harim ; Elieser , Isia , Malcheia , Semaia , Simeon , Benjamin , Maluch , a Semareia . O feibion Hasum ; Matenai , Matatha , Sabad , Eliffelet , Jeremai , Manasse , a Simei . O feibion Bani ; Maadai , Amram , ac Uel , Benaia , Bedeia , Celu , Faneia , Meromoth , Eliasib , Mataneia , Matenai , a Jaasau , A Bani , a Binnui , Simei , A Selemeia , a Nathan , ac Adaia , Machnadebai , Sasai , Sarai , Asareel , a Selemeia , a Semareia , Salum , Amareia , a Joseff . O feibion Nebo ; Jeiel , Matitheia , Sabad , Sebina , Jadua , a Joel , a Benaia . Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr : ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt . </passage></reply></GetPassage>