<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:16</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:16</urn><passage>Geiriau Nehemeia mab Hachaleia . A bu ym mis Cisleu , yn yr ugeinfed flwyddyn , pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan , Ddyfod o Hanani , un o’m brodyr , efe a gwŷr o Jwda ; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai , y rhai a adawsid o’r caethiwed , ac am Jerwsalem . A hwy a ddywedasant wrthyf , Y gweddillion , y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd : mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd , a’i phyrth a losgwyd â thân . A phan glywais y geiriau hyn , myfi a eisteddais ac a wylais , ac a alerais dalm o ddyddiau ; a bûm yn ymprydio , ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd ; A dywedais , Atolwg , Arglwydd Dduw y nefoedd , y Duw mawr ac ofnadwy , yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion : Bydded , atolwg , dy glust yn clywed , a’th lygaid yn agored , i wrando ar weddi dy was , yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos , dros feibion Israel dy weision , ac yn cyffesu pechodau meibion Israel , y rhai a bechasom i’th erbyn : myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom . Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn , ac ni chadwasom y gorchmynion , na’r deddfau , na’r barnedigaethau , a orchmynnaist i Moses dy was . Cofia , atolwg , y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was , gan ddywedyd , Os chwi a droseddwch , myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd : Ond os dychwelwch ataf fi , a chadw fy ngorchmynion , a’u gwneuthur hwynt ; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd , eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno , ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo . A hwy ydynt dy weision a’th bobl , y rhai a waredaist â’th fawr allu , ac â’th law nerthol . Atolwg , Arglwydd , bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was , ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw : llwydda hefyd , atolwg , dy was heddiw , a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn . Canys myfi oedd drulliad i’r brenin . Ac ym mis Nisan , yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin , yr oedd gwin o’i flaen ef : a mi a gymerais y gwin , ac a’i rhoddais i’r brenin . Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef . Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf , Paham y mae dy wynepryd yn drist , a thithau heb fod yn glaf ? nid yw hyn ond tristwch calon . Yna yr ofnais yn ddirfawr : A dywedais wrth y brenin , Byw fyddo’r brenin yn dragywydd : paham na thristâi fy wyneb , pan fyddai y ddinas , tŷ beddrod fy nhadau , wedi ei dinistrio , a’i phyrth wedi eu hysu â thân ? A’r brenin a ddywedodd wrthyf , Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno ? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd . A mi a ddywedais wrth y brenin , O rhynga bodd i’r brenin , ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di , ar i ti fy anfon i Jwda , i ddinas beddrod fy nhadau , fel yr adeiladwyf hi . A’r brenin a ddywedodd wrthyf , a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef , Pa hyd y bydd dy daith di , a pha bryd y dychweli ? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i , a minnau a nodais iddo amser . Yna y dywedais wrth y brenin , O rhynga bodd i’r brenin , rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon , fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda ; A llythyr at Asaff , ceidwad coedwig y brenin , fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ , ac i fur y ddinas , ac i’r tŷ yr elwyf iddo . A’r brenin a roddodd i mi , fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi . Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon , ac a roddais iddynt lythyrau y brenin . A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu , a marchogion gyda mi . Pan glybu Sanbalat yr Horoniad , a Thobeia y gwas , yr Ammoniad , y peth hyn , bu ddrwg iawn ganddynt , am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel . Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem , ac a fûm yno dridiau . A chyfodais liw nos , myfi ac ychydig wŷr gyda mi ; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem : ac anifail nid oedd gennyf , ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno . A mi a euthum allan liw nos , trwy borth y glyn , ar gyfer ffynnon y ddraig , ac at borth y dom ; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio , a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân . Yna y tramwyais i borth y ffynnon , ac at bysgodlyn y brenin : ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio . A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos , ac a ddeliais sylw ar y mur , ac a ddychwelais , ac a ddeuthum trwy borth y glyn , ac felly y troais yn ôl . A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i , na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur ; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon , nac i’r offeiriaid , nac i’r pendefigion , nac i’r penaethiaid , nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith . Yna y dywedais wrthynt , Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo , fod Jerwsalem wedi ei dinistrio , a’i phyrth wedi eu llosgi â thân : deuwch , ac adeiladwn fur Jerwsalem , fel na byddom mwyach yn waradwydd . Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf ; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf . A hwy a ddywedasant , Cyfodwn , ac adeiladwn . Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni . Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad , a Thobeia y gwas , yr Ammoniad , a Gesem yr Arabiad , hyn , hwy a’n gwatwarasant ni , ac a’n dirmygasant , ac a ddywedasant , Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur ? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin ? Yna yr atebais hwynt , ac y dywedais wrthynt , Duw y nefoedd , efe a’n llwydda ni ; a ninnau ei weision ef a gyfodwn , ac a adeiladwn : ond nid oes i chwi ran , na chyfiawnder , na choffadwriaeth yn Jerwsalem . Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd , a’i frodyr yr offeiriaid , a hwy a adeiladasant borth y defaid ; hwy a’i cysegrasant , ac a osodasant ei ddorau ef ; ie , hyd dŵr Mea y cysegrasant ef , a hyd dŵr Hananeel . A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho . A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri . A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod ; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef , ac a osodasant ei ddorau , ei gloeau , a’i farrau . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia , mab Cos . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia , mab Mesesabeel . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana . A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid ; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd . A Jehoiada mab Pasea , a Mesulam mab Besodeia , a gyweiriasant yr hen borth ; hwy a osodasant ei drawstiau ef , ac a osodasant i fyny ei ddorau , a’i gloeau , a’i farrau . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad , a Jadon y Meronothiad , gwŷr Gibeon a Mispa , hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon . Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia , o’r gofaint aur . Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia , mab un o’r apothecariaid : a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan . A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur , tywysog hanner rhan Jerwsalem . A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff , ar gyfer ei dŷ . A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau . Malcheia mab Harim , a Hasub mab Pahath‐Moab , a gyweiriasant ran arall , a thŵr y ffyrnau . A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes , tywysog hanner rhan Jerwsalem , efe a’i ferched . Porth y glyn a gyweiriodd Hanun , a thrigolion Sanoa ; hwynt‐hwy a’i hadeiladasant ef , ac a osodasant ei ddorau ef , ei gloeau , a’i farrau , a mil o gufyddau ar y mur , hyd borth y dom . Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab , tywysog rhan o Beth‐haccerem ; efe a’i hadeiladodd , ac a osododd ei ddorau , ei gloeau , a’i farrau . A Salum mab Col‐hose , tywysog rhan o Mispa , a gyweiriodd borth y ffynnon ; efe a’i hadeiladodd , ac a’i todd , ac a osododd ei ddorau ef , ei gloeau , a’i farrau , a mur pysgodlyn Siloa , wrth ardd y brenin , a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc , tywysog hanner rhan Beth‐sur , hyd ar gyfer beddrod Dafydd , a hyd y pysgodlyn a wnaethid , a hyd dŷ y cedyrn . Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid , Rehum mab Bani . Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia , tywysog hanner rhan Ceila , yn ei fro ei hun . Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant , Bafai mab Henadad , tywysog hanner rhan Ceila . A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua , tywysog Mispa , ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau , wrth y drofa . Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall , o’r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad . Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia , fab Cos , a gyweiriodd y mesur arall , o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib . Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid , gwŷr y gwastadedd , a gyweiriasant . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin , a Hasub , gyferbyn â’u tŷ . Wedi yntau Asareia mab Maaseia , mab Ananeia , a gyweiriodd wrth ei dŷ . Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall , o dŷ Asareia hyd y drofa , sef hyd y gongl . Palal mab Usai , ar gyfer y drofa , a’r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin , yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar . Ar ei ôl ef , Pedaia mab Paros . A’r Nethiniaid , y rhai oedd yn trigo yn Offel , hyd ar gyfer porth y dwfr , tua’r dwyrain , a’r tŵr oedd yn myned allan . Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall , ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan , hyd fur Offel . Oddi ar borth y meirch , yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â’i dŷ . Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ . Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia , ceidwad porth y dwyrain . Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia , a Hanun chweched mab Salaff , y mesur arall . Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell . Ar ei ôl yntau Malcheia , mab y gof aur , a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid , a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad , hyd ystafell y gongl . A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid , yr eurychod a’r marchnadyddion a gyweiriasant . Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur , efe a gynddeiriogodd ynddo , ac a lidiodd yn ddirfawr , ac a watwarodd yr Iddewon . Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria , ac a ddywedodd , Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur ? a adewir iddynt hwy ? a aberthant ? a orffennant mewn diwrnod ? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch , wedi eu llosgi ? A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl , ac efe a ddywedodd , Er eu bod hwy yn adeiladu , eto ped elai lwynog i fyny , efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt . Gwrando , O ein Duw ; canys yr ydym yn ddirmygus : dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt , a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed : Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt , ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di : canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr . Felly nyni a adeiladasom y mur : a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner : canys yr oedd gan y bobl galon i weithio . Ond pan glybu Sanbalat , a Thobeia , a’r Arabiaid , a’r Ammoniaid , a’r Asdodiaid , gwbl gyweirio muriau Jerwsalem , a dechrau cau yr adwyau ; yna y llidiasant yn ddirfawr : A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem , ac i’w rhwystro . Yna y gweddiasom ar ein Duw , ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos , o’u plegid hwynt . A Jwda a ddywedodd , Nerth y cludwyr a wanhaodd , a phridd lawer sydd , fel na allwn ni adeiladu y mur . A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant , Ni chânt wybod , na gweled , nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt , a’u lladd , a rhwystro eu gwaith hwynt . A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt , dywedasant wrthym ddengwaith , O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni , y byddant arnoch chwi . Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf , o’r tu ôl i’r mur , ac yn y lleoedd uchaf ; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl , â’u cleddyfau , â’u gwaywffyn , ac â’u bwâu . A mi a edrychais , ac a gyfodais , ac a ddywedais wrth y pendefigion , a’r swyddogion , ac wrth y rhan arall o’r bobl , Nac ofnwch rhagddynt : cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy , ac ymleddwch dros eich brodyr , eich meibion a’ch merched , eich gwragedd a’ch tai . A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni , Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt ; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur , bawb i’w waith . Ac o’r dydd hwnnw , hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith , a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn , a tharianau , a bwâu , a llurigau ; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda . Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur , ac yn dwyn beichiau , a’r rhai oedd yn llwytho , oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith , ac â’r llaw arall yn dal arf . Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun , ac yn adeiladu : a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i . A mi a ddywedais wrth y pendefigion , ac wrth y swyddogion , ac wrth y rhan arall o’r bobl , Y gwaith sydd fawr a helaeth , a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur , ymhell oddi wrth ein gilydd . Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn , yno ymgesglwch atom . Ein Duw ni a ymladd drosom . Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith : a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn , o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr . Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl , Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem , fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos , a’r dydd mewn gwaith . Felly myfi , a’m brodyr , a’m gweision , a’r gwylwyr oedd ar fy ôl , ni ddiosgasom ein dillad , ond a ddiosgai pob un i’w golchi . Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl , a’u gwragedd , yn erbyn yr Iddewon eu brodyr . Canys yr oedd rhai yn dywedyd , Y mae llawer ohonom ni , ein meibion , a’n merched : am hynny yr ydym yn cymryd ŷd , fel y bwytaom , ac y byddom byw . Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd , Ein meysydd , a’n gwinllannoedd , a’n tai , yr ydym ni yn eu gwystlo , fel y prynom ŷd rhag y newyn . Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd , Benthyciasom arian i dalu treth y brenin , a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd . Ac yn awr , ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr , ein plant ni fel eu plant hwy : ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision , ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo , ac heb fod gennym i’w rhyddhau ; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn . Yna y llidiais yn ddirfawr , pan glywais eu gwaedd hwynt , a’r geiriau hyn . Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof , a mi a ddwrdiais y pendefigion , a’r swyddogion , ac a ddywedais wrthynt , Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd . A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr . Dywedais hefyd wrthynt , Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon , y rhai a werthasid i’r cenhedloedd ; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr ? neu a werthir hwynt i ni ? Yna y tawsant , ac ni chawsant air i ateb . A mi a ddywedais , Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur : oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni , o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion ? Myfi hefyd , a’m brodyr , a’m llanciau , ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd : peidiwn , atolwg , â’r ocraeth yma . Rhoddwch atolwg , iddynt heddiw eu meysydd , eu gwinllannoedd , a’u holewyddlannoedd , a’u tai drachefn ; a chanfed ran yr arian , a’r ŷd , y gwin , a’r olew , yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt . Hwythau a ddywedasant , Nyni a’u rhoddwn drachefn , ac ni cheisiwn ddim ganddynt ; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru . Yna y gelwais yr offeiriaid , ac a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn . A mi a ysgydwais odre fy ngwisg , ac a ddywedais , Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o’i dŷ , ac o’i lafur , yr hwn ni chwblhao y gair hwn , ac felly y byddo efe yn ysgydwedig , ac yn wag . A’r holl gynulleidfa a ddywedasant , Amen : ac a folianasant yr Arglwydd . A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn . Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda , o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin , sef deuddeng mlynedd , ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog . Ond y tywysogion cyntaf , y rhai a fuasai o’m blaen i , fuasent drymion ar y bobl , ac a gymerasent ganddynt fara a gwin , heblaw deugain sicl o arian ; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl : ond ni wneuthum i felly , rhag ofn Duw . Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn , ac ni phrynasom un maes : a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith . Ac yr oedd ar fy mwrdd i , o Iddewon ac o swyddogion , ddengwr a saith ugain , heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch . A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych , chwech o ddefaid dewisol , ac adar wedi eu paratoi i mi ; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math , yn ddiamdlawd : ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog ; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma . Cofia fi , O fy Nuw , er lles i mi , yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn . Aphan glybu Sanbalat , a Thobeia , a Gesem yr Arabiad , a’r rhan arall o’n gelynion , adeiladu ohonof fi y mur , ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo ; ( er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth ; ) Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf , gan ddywedyd , Tyred , ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono . Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi . Minnau a anfonais genhadau atynt hwy , gan ddywedyd , Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur ; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered : paham y safai y gwaith , pan ymadawn ag ef , a dyfod i waered atoch chwi ? Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith ; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt . Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud , â llythyr agored yn ei law : Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig , Ymysg y cenhedloedd y mae y gair , a Gasmu sydd yn dywedyd , dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela : oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur , fel y byddit frenin arnynt , yn ôl y geiriau hyn ; A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem , gan ddywedyd , Y mae brenin yn Jwda . Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin : gan hynny tyred yn awr , ac ymgynghorwn ynghyd . Yna yr anfonais ato , gan ddywedyd , Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd : ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt . Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni , gan ddywedyd , Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith , fel nas gwneir ef . Gan hynny cryfha yn awr , O Dduw , fy nwylo i . A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia , mab Mehetabeel , yr hwn oedd wedi cau arno ; ac efe a ddywedodd , Cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw , a chaewn ddrysau y deml : canys y maent yn dyfod i’th ladd di ; a lliw nos y deuant i’th ladd di . Yna y dywedais , a ffy gŵr o’m bath i ? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml , fel y byddai byw ? Nid af i mewn . Ac wele , gwybûm nad Duw a’i hanfonasai ef ; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i : canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef . Oherwydd hyn y cyflogasid ef , fel y’m hofnid i , ac y gwnawn felly , ac y pechwn ; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn , fel y’m gwaradwyddent . O fy Nuw , cofia Tobeia a Sanbalat , yn ôl eu gweithredoedd hynny ; a Noadeia y broffwydes hefyd , a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i . A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul , mewn deuddeng niwrnod a deugain . A phan glybu ein holl elynion ni hynny , a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch , hwy a ofnasant , ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun : canys gwybuant mai trwy ein Duw ni y gwnaethid y gwaith hwn . Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia ; a’r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau . Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef ; oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara ; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo . A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i ; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau . A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i . Ac wedi adeiladu y mur , a chyfodi ohonof y dorau , a gosod y porthorion , a’r cantorion , a’r Lefiaid ; Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd , ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem , canys efe oedd ŵr ffyddlon , ac yn ofni Duw yn fwy na llawer : A mi a ddywedais wrthynt , Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul ; a thra fyddont hwy yn sefyll yno , caeant y drysau , a phreniant : a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem , pob un yn ei wyliadwriaeth , a phob un ar gyfer ei dŷ . A’r ddinas oedd eang a mawr ; ac ychydig bobl ynddi : a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu . A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion , y tywysogion hefyd , a’r bobl , i’w cyfrif wrth eu hachau . A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf , a chefais yn ysgrifenedig ynddo , Dyma feibion y dalaith , y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon , ac a ddychwelasant i Jerwsalem , ac i Jwda , pob un i’w ddinas ei hun ; Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel : Jesua , Nehemeia , Asareia , Raamia , Nahamani , Mordecai , Bilsan , Mispereth , Bigfai , Nehum , Baana . Dyma rifedi dynion pobl Israel ; Meibion Paros , dwy fil cant a deuddeg a thrigain . Meibion Seffatia , tri chant a deuddeg a thrigain . Meibion Ara , chwe chant a deuddeg a deugain . Meibion Pahath‐Moab , o feibion Jesua a Joab , dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg . Meibion Elam , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Sattu , wyth gant a phump a deugain . Meibion Saccai , saith gant a thrigain . Meibion Binnui , chwe chant ac wyth a deugain . Meibion Bebai , chwe chant ac wyth ar hugain . Meibion Asgad , dwy fil tri chant a dau ar hugain . Meibion Adonicam , chwe chant a saith a thrigain . Meibion Bigfai , dwy fil a saith a thrigain . Meibion Adin , chwe chant a phymtheg a deugain . Meibion Ater o Heseceia , tri ar bymtheg a phedwar ugain . Meibion Hasum , tri chant ac wyth ar hugain . Meibion Besai , tri chant a phedwar ar hugain . Meibion Hariff , cant a deuddeg . Meibion Gibeon , pymtheg a phedwar ugain . Gwŷr Bethlehem a Netoffa , cant ac wyth a phedwar ugain . Gwŷr Anathoth , cant ac wyth ar hugain . Gwŷr Beth‐asmafeth , dau a deugain . Gwŷr Ciriath‐jearim , Ceffira , a Beeroth , saith gant a thri a deugain . Gwŷr Rama a Gaba , chwe chant ac un ar hugain . Gwŷr Michmas , cant a dau ar hugain . Gwŷr Bethel ac Ai , cant a thri ar hugain . Gwŷr Nebo arall , deuddeg a deugain . Meibion Elam arall , mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain . Meibion Harim , tri chant ac ugain . Meibion Jericho , tri chant a phump a deugain . Meibion Lod , Hadid , ac Ono , saith gant ac un ar hugain . Meibion Senaa , tair mil naw cant a deg ar hugain . Yr offeiriaid : meibion Jedaia , o dŷ Jesua , naw cant a thri ar ddeg a thrigain . Meibion Immer , mil a deuddeg a deugain . Meibion Pasur , mil dau cant a saith a deugain . Meibion Harim , mil a dau ar bymtheg . Y Lefiaid : meibion Jesua , o Cadmiel , ac o feibion Hodefa , pedwar ar ddeg a thrigain . Y cantorion : meibion Asaff , cant ac wyth a deugain . Y porthorion : meibion Salum , meibion Ater , meibion Talmon , meibion Accub , meibion Hatita , meibion Sobai , cant a thri ar bymtheg ar hugain . Y Nethiniaid : meibion Siha , meibion Hasuffa , meibion Tabbaoth , Meibion Ceros , meibion Sïa , meibion Padon , Meibion Lebana , meibion Hagaba , meibion Salmai , Meibion Hanan , meibion Gidel , meibion Gahar , Meibion Reaia , meibion Resin , meibion Necoda , Meibion Gassam , meibion Ussa , meibion Phasea , Meibion Besai , meibion Meunim , meibion Neffisesim , Meibion Bacbuc , meibion Hacuffa , meibion Harhur , Meibion Baslith , meibion Mehida , meibion Harsa , Meibion Barcos , meibion Sisera , meibion Thama , Meibion Neseia , meibion Hatiffa . Meibion gweision Solomon : meibion Sotai , meibion Soffereth , meibion Perida , Meibion Jaala , meibion Darcon , meibion Gidel , Meibion Seffatia , meibion Hattil , meibion Pochereth o Sebaim , meibion Amon . Yr holl Nethiniaid , a meibion gweision Solomon , oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain . A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela , Tel‐haresa , Cerub , Adon , ac Immer : ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau , na’u hiliogaeth , ai o Israel yr oeddynt . Meibion Delaia , meibion Tobeia , meibion Necoda , chwe chant a dau a deugain . Ac o’r offeiriaid : meibion Habaia , meibion Cos , meibion Barsilai , yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig , ac a alwyd ar eu henw hwynt . Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau , ond nis cafwyd : am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth . A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt , na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf , hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim . Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain . Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion , y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain : a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau . Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain ; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain ; Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain ; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain . A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith . Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur , deg a deugain o ffiolau , pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid . A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur , a dwy fil a deucant o bunnau o arian . A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur , a dwy fil o bunnau yn arian , a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid . A’r offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r porthorion , a’r cantorion , a rhai o’r bobl , a’r Nethiniaid , a holl Israel , a drigasant yn eu dinasoedd . A phan ddaeth y seithfed mis , yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd . A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr , ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd , am ddwyn llyfr cyfraith Moses , yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel . Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr , a gwragedd , a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus , ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis . Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr , o’r bore hyd hanner dydd , gerbron y gwŷr , a’r gwragedd , a’r rhai oedd yn medru deall : a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith . Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed , yr hwn a wnaethid i’r peth hyn ; a chydag ef y safodd Matitheia , a Sema , ac Anaia , ac Ureia , a Hilceia , a Maaseia , ar ei law ddeau ef ; a Phedaia , a Misael , a Malcheia , a Hasum , a Hasbadana , Sechareia , a Mesulam , ar ei law aswy ef . Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl ; ( canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl ; ) a phan agorodd , yr holl bobl a safasant . Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd , y Duw mawr . A’r holl bobl a atebasant , Amen , Amen , gan ddyrchafu eu dwylo : a hwy a ymgrymasant , ac a addolasant yr Arglwydd â’u hwynebau tua’r ddaear . Jesua hefyd , a Bani , Serebeia , Jamin , Accub , Sabbethai , Hodeia , Maaseia , Celita , Asareia , Josabad , Hanan , Pelaia , a’r Lefiaid , oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl , a’r bobl yn sefyll yn eu lle . A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr , yng nghyfraith Dduw : gan osod allan y synnwyr , fel y deallent wrth ddarllen . A Nehemeia , efe yw y Tirsatha , ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd , a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl , a ddywedasant wrth yr holl bobl , Y mae heddiw yn sanctaidd i’r Arglwydd eich Duw ; na alerwch , ac nac wylwch : canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , bwytewch y breision , ac yfwch y melysion , ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod ; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd : am hynny na thristewch ; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi . A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl , gan ddywedyd , Tewch : canys y dydd heddiw sydd sanctaidd , ac na thristewch . A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed , ac i anfon ymaith rannau , ac i wneuthur llawenydd mawr ; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt . A’r ail ddydd , tadau pennaf yr holl bobl , yr offeiriaid , a’r Lefiaid , a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd , i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith . A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith , yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses , y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis ; Ac y dylent gyhoeddi , a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd , a thrwy Jerwsalem , gan ddywedyd , Ewch i’r mynydd , a dygwch ganghennau olewydd , a changau pinwydd , a changau y myrtwydd , a changau y palmwydd , a changhennau o’r prennau caeadfrig , i wneuthur bythod , fel y mae yn ysgrifenedig . Felly y bobl a aethant allan , ac a’u dygasant , ac a wnaethant iddynt fythod , bob un ar ei nen , ac yn eu cynteddoedd , ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw , ac yn heol porth y dwfr , ac yn heol porth Effraim . A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed , a wnaethant fythod , ac a eisteddasant yn y bythod : canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly . Ac yr oedd llawenydd mawr iawn . Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd , o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf . A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod ; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa , yn ôl y ddefod . Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn , meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd , ac mewn sachliain , a phridd arnaddynt . A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid , ac a safasant , ac a gyffesasant eu pechodau , ac anwireddau eu tadau . A chodasant i fyny yn eu lle , ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw , bedair gwaith yn y dydd ; a phedair gwaith yr ymgyffesasant , ac yr ymgrymasant i’r Arglwydd eu Duw . Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid , Jesua , a Bani , Cadmiel , Sebaneia , Bunni , Serebeia , Bani , a Chenani ; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw : A’r Lefiaid , Jesua , a Chadmiel , Bani , Hasabneia , Serebeia , Hodeia , Sebaneia , a Phethaheia , a ddywedasant , Cyfodwch , bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb : a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig , goruwch pob bendith a moliant . Ti yn unig wyt Arglwydd : ti a wnaethost y nefoedd , nefoedd y nefoedd , a’u holl luoedd hwynt , y ddaear a’r hyn oll sydd arni , y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt ; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll ; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti . Ti yw yr Arglwydd Dduw , yr hwn a ddetholaist Abram , ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid , ac a roddaist iddo enw Abraham : A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di , ac a wnaethost gyfamod ag ef , ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid , yr Hefiaid , yr Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Jebusiaid , a’r Girgasiaid ; ac a gwblheaist dy eiriau : oherwydd cyfiawn wyt . Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft ; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch : A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo , ac ar ei holl weision , ac ar holl bobl ei wlad ef : canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt . A gwnaethost i ti enw , fel y gwelir y dydd hwn . Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt , fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir ; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod , fel maen i ddyfroedd cryfion : Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl , a lliw nos mewn colofn dân , i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi . Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd ; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn , a chyfreithiau gwir , deddfau a gorchmynion daionus : A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt ; gorchmynion hefyd , a deddfau , a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt , trwy law Moses dy was : Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn , a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched ; a thi a ddywedaist wrthynt , y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt . Ond hwynt‐hwy a’n tadau ni a falchiasant , ac a galedasant eu gwarrau , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di ; Ac a wrthodasant wrando , ac ni chofiasant dy ryfeddodau , y rhai a wnaethit ti erddynt ; caledasant hefyd eu gwarrau , a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd : eto ti ydwyt Dduw parod i faddau , graslon , a thrugarog , hwyrfrydig i ddicter , ac aml o drugaredd , ac ni wrthodaist hwynt . Hefyd , pan wnaethent iddynt lo toddedig , a dywedyd , Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft , a chablasent yn ddirfawr ; Er hynny , yn dy aml dosturiaethau , ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch : y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd , i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd ; na’r golofn dân trwy y nos , i oleuo iddynt , ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi . Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt , ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau ; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched . Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch , heb fod arnynt eisiau dim : eu gwisgoedd ni heneiddiasant , a’u traed ni chwyddasant . A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd , a rhennaist hwynt i gonglau . Felly hwy a feddianasant wlad Sihon , a gwlad brenin Hesbon , a gwlad Og brenin Basan . Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd , ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu . Felly y meibion a aethant i mewn , ac a feddianasant y wlad , a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad , y Canaaneaid , o’u blaen hwynt , ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt , eu brenhinoedd hefyd , a phobloedd y wlad , fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys . A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn , a daear fras , ac a feddianasant dai llawn o bob daioni , pydewau cloddiedig , gwinllannoedd , ac olewyddlannoedd , a choed ffrwythlon yn aml ; a hwy a fwytasant , ac a ddigonwyd , ac a frasawyd , ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di . Eto hwy a anufuddhasant , ac a wrthryfelasant yn dy erbyn , taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn , a’th broffwydi a laddasant , y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat ; ac a gablasant yn ddirfawr . Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr , y rhai a’u cystuddiasant : ac yn amser eu cyfyngdra , pan waeddasant arnat , a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd , ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr , y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr . Ond pan lonyddodd arnynt , dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di : am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion , y rhai a arglwyddiaethasant arnynt : eto pan ddychwelasant , a gweiddi arnat , tithau o’r nefoedd a wrandewaist , ac a’u gwaredaist hwynt , yn ôl dy dosturiaethau , lawer o amseroedd . A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt , i’w dychwelyd at dy gyfraith di : ond hwy a falchiasant , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion , eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau , ( y rhai os gwna dyn hwynt , efe fydd byw ynddynt , ) a gwnaethant ysgwydd i gilio , ac a galedasant eu gwarrau , ac ni wrandawsant . Er hynny ti a’u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer , ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi ; ond ni wrandawsant : am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd . Eto , er mwyn dy fawr drugareddau , ni lwyr ddifethaist hwynt , ac ni wrthodaist hwynt ; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt . Ac yn awr , O ein Duw ni , y Duw mawr , cadarn , ac ofnadwy , yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd ; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni , i’n brenhinoedd , i’n tywysogion , ac i’n hoffeiriaid , ac i’n proffwydi , ac i’n tadau , ac i’th holl bobl , er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn . Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni : canys gwirionedd a wnaethost ti , a ninnau a wnaethom yn annuwiol . Ein brenhinoedd hefyd , ein tywysogion , ein hoffeiriaid , a’n tadau , ni chadwasant dy gyfraith , ac ni wrandawsant ar dy orchmynion , na’th dystiolaethau , y rhai a dystiolaethaist wrthynt . A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth , nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt , nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt ; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd . Wele ni heddiw yn weision ; ac am y wlad a roddaist i’n tadau ni , i fwyta ei ffrwyth a’i daioni , wele ni yn weision ynddi . A mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau : ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff , ac ar ein hanifeiliaid , yn ôl eu hewyllys ; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr . Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr , ac yn ei ysgrifennu ; ac y mae ein tywysogion , ein Lefiaid , a’n hoffeiriaid , yn ei selio . A’r rhai a seliodd oedd , Nehemeia y Tirsatha , mab Hachaleia , a Sidcia , Seraia , Asareia , Jeremeia , Pasur , Amareia , Malcheia , Hattus , Sebaneia , Maluch , Harim , Meremoth , Obadeia , Daniel , Ginnethon , Baruch , Mesulam , Abeia , Miamin , Maaseia , Bilgai , Semaia : dyma yr offeiriaid . A’r Lefiaid : Jesua mab Asaneia , Binnui o feibion Henadad , Cadmiel ; A’u brodyr hwynt ; Sebaneia , Hodeia , Celita , Pelaia , Hanan , Micha , Rehob , Hasabeia , Saccur , Serebeia , Sebaneia , Hodeia , Bani , Beninu . Penaethiaid y bobl ; Paros , Pahath‐Moab , Elam , Sattu , Bani , Bunni , Asgad , Bebai , Adoneia , Bigfai , Adin , Ater , Hisceia , Assur , Hodeia , Hasum , Besai , Hariff , Anathoth , Nebai , Magpias , Mesulam , Hesir , Mesesabeel , Sadoc , Jadua , Pelatia , Hanan , Anaia , Hosea , Hananeia , Hasub , Halohes , Pileha , Sobec , Rehum , Hasabna , Maaseia , Ac Ahïa , Hanan , Anan , Maluch , Harim , Baana . A’r rhan arall o’r bobl , yr offeiriaid , y Lefiaid , y porthorion , y cantorion , y Nethiniaid , a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw , eu gwragedd hwynt , eu meibion , a’u merched , pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo ; Hwy a lynasant wrth eu brodyr , eu penaethiaid , ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw , yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw : ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni , a’i farnedigaethau , a’i ddeddfau : Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad : ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni : Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd , neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu , na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth , neu ar y dydd sanctaidd ; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn , a chodi pob dyled . A ni a osodasom arnom ddeddfau , ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn , tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni , A thuag at y bara gosod , a’r bwyd‐offrwm gwastadol , a thuag at y poethoffrwm gwastadol , y Sabothau , y newyddloerau , a’r gwyliau arbennig , a thuag at y cysegredig bethau , a thuag at y pech-ebyrth , i wneuthur cymod dros Israel ; a thuag at holl waith tŷ ein Duw . A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid , y Lefiaid , a’r bobl , am goed yr offrwm , fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni , yn ôl tai ein tadau ni , ar amserau nodedig , o flwyddyn i flwyddyn , i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw , fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith : Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir , a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren , o flwyddyn i flwyddyn , i dŷ yr Arglwydd : A’r rhai cyntaf‐anedig o’n meibion , ac o’n hanifeiliaid , fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith , a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a’n defaid , i’w dwyn i dŷ ein Duw , at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni . A blaenion ein toes , a’n hoffrymau , a ffrwyth pob pren , gwin ac olew , a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw , a degwm ein tir i’r Lefiaid ; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni . A bydd yr offeiriad , mab Aaron , gyda’r Lefiaid , pan fyddo’r Lefiaid yn degymu : a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni , i’r celloedd yn y trysordy . Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd , y gwin , a’r olew , i’r ystafelloedd , lle y mae llestri’r cysegr , a’r offeiriaid sydd yn gweini , a’r porthorion , a’r cantorion ; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw . A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem : a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd , a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill . A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem . A dyma benaethiaid y dalaith , y rhai a drigasant yn Jerwsalem : ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd , sef Israel , yr offeiriaid , a’r Lefiaid , a’r Nethiniaid , a meibion gweision Solomon . A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem . O feibion Jwda ; Athaia mab Usseia , fab Sechareia , fab Amareia , fab Seffatia , fab Mahalaleel , o feibion Peres ; Maaseia hefyd mab Baruch , fab Col‐hose , fab Hasaia , fab Adaia , fab Joiarib , fab Sechareia , fab Siloni . Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem , oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus . A dyma feibion Benjamin ; Salu mab Mesulam , fab Joed , fab Pedaia , fab Colaia , fab Maaseia , fab Ithiel , fab Jesaia . Ac ar ei ôl ef Gabai , Salai ; naw cant ac wyth ar hugain . A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy : a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas . O’r offeiriaid : Jedaia mab Joiarib , Jachin . Seraia mab Hilceia , fab Mesulam , fab Sadoc , fab Meraioth , fab Ahitub , blaenor tŷ Dduw . A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ , oedd wyth cant a dau ar hugain : ac Adaia mab Jeroham , fab Pelalia , fab Amsi , fab Sechareia , fab Pasur , fab Malcheia , A’i frodyr , pennau‐cenedl , dau cant a dau a deugain : ac Amasai mab Asareel , fab Ahasai , fab Mesilemoth , fab Immer , A’u brodyr hwynt , yn gedyrn o nerth , oedd gant ac wyth ar hugain : a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt . Ac o’r Lefiaid : Semaia mab Hasub , fab Asricam , fab Hasabeia fab Bunni . Sabbethai hefyd , a Josabad , o benaethiaid y Lefiaid , oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw . Mataneia hefyd mab Micha , fab Sabdi , fab Asaff , oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi : a Bacbuceia yn ail o’i frodyr ; ac Abda mab Sammua , fab Galal , fab Jedwthwn . Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd , oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain . A’r porthorion , Accub , Talmon , a’u brodyr yn cadw y pyrth , oedd gant a deuddeg a thrigain . A’r rhan arall o Israel , o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda , pob un yn ei etifeddiaeth . Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr : Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid . A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem , oedd Ussi mab Bani , fab Hasabeia , fab Mataneia , fab Micha : o feibion Asaff , y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw . Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd , fod ordinhad safadwy i’r cantorion , dogn dydd yn ei ddydd . A Phethaheia mab Mesesabeel , o feibion Sera mab Jwda , oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl . Ac am y trefydd a’u meysydd , rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a’i phentrefi , ac yn Dibon a’i phentrefi , ac yn Jecabseel a’i phentrefi , Ac yn Jesua , ac ym Molada , ac yn Beth‐phelet , Ac yn Hasar‐sual , ac yn Beerseba a’i phentrefi , Ac yn Siclag , ac ym Mechona ac yn ei phentrefi , Ac yn En‐rimmon , ac yn Sarea , ac yn Jarmuth , Sanoa , Adulam , a’u trefydd , Lachis a’i meysydd , yn Aseca a’i phentrefi . A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom . A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas , ac Aia , a Bethel , a’u pentrefi , Yn Anathoth , Nob , Ananeia , Hasor , Rama , Gittaim , Hadid , Seboim , Nebalat , Lod , ac Ono , glyn y crefftwyr . Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda , ac yn Benjamin . Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid , y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel , a Jesua : sef Seraia , Jeremeia , Esra , Amareia , Maluch , Hattus , Sechaneia , Rehum , Meremoth , Ido , Ginnetho , Abeia , Miamin , Maadia , Bilga , Semaia , a Joiarib , Jedaia , Salu , Amoc , Hilceia , Jedaia : dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua . A’r Lefiaid : Jesua , Binnui , Cadmiel , Serebeia , Jwda ; a Mataneia oedd ar y gerdd , efe a’i frodyr . Bacbuceia hefyd ac Unni , eu brodyr hwynt , oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau . A Jesua a genhedlodd Joiacim , a Joiacim a genhedlodd Eliasib , ac Eliasib a genhedlodd Joiada , A Joiada a genhedlodd Jonathan , a Jonathan a genhedlodd Jadua . Ac yn nyddiau Joiacim , yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl : o Seraia , Meraia ; o Jeremeia , Hananei ; O Esra , Mesulam ; o Amareia Jehohanan ; O Melichu , Jonathan ; o Sebaneia , Joseff ; O Harim , Adna ; o Meraioth , Helcai ; O Ido , Sechareia ; o Ginnethon , Mesulam ; O Abeia , Sichri ; o Miniamin , o Moadeia , Piltai ; O Bilga , Sammua ; o Semaia , Jehonathan ; Ac o Joiarib , Matenai ; o Jedaia , Ussi ; O Salai , Calai ; o Amoc , Eber ; O Hilceia , Hasabeia : o Jedaia , Nethaneel . Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib , Joiada , a Johanan , a Jadua , oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl : a’r offeiriaid , hyd deyrnasiad Dareius y Persiad . Meibion Lefi , y pennau‐cenedl , wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau , hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib . A phenaethiaid y Lefiaid , oedd Hasabeia , Serebeia , a Jesua mab Cadmiel , a’u brodyr ar eu cyfer , i ogoneddu ac i foliannu , yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw , gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth . Mataneia , a Bacbuceia , Obadeia , Mesulam , Talmon , Accub , oedd borthorion , yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth . Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua , fab Josadac , ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog , ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd . Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd , i’w dwyn i Jerwsalem , i wneuthur y cysegriad â gorfoledd , mewn diolchgarwch , ac mewn cân , â symbalau , nablau , ac â thelynau . A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem , ac o drefydd Netoffathi , Ac o dŷ Gilgal , ac o feysydd Geba ac Asmafeth : canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem . Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant ; glanhasant hefyd y bobl , a’r pyrth , a’r mur . A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur ; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu ; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom : Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia , a hanner tywysogion Jwda , Asareia hefyd , Esra , a Mesulam , Jwda , a Benjamin , a Semaia , a Jeremeia , Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn , Sechareia mab Jonathan , fab Semaia , fab Mataneia , fab Michaia , fab Saccur , fab Asaff ; A’i frodyr ef , Semaia , ac Asarael , Milalai , Gilalai , Maai , Nethaneel , a Jwda , Hanani , ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw , ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt . Ac wrth borth y ffynnon , yr hon oedd ar eu cyfer hwynt , y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur , oddi ar dŷ Dafydd , hyd borth y dwfr tua’r dwyrain . A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu , oedd yn myned ar eu cyfer hwynt , a minnau ar eu hôl ; a hanner y bobl oedd ar y mur , oddi ar dŵr y ffyrnau , hyd y mur llydan ; Ac oddi ar borth Effraim , ac oddi ar yr hen borth , ac oddi ar borth y pysgod , a thŵr Hananeel , a thŵr Mea , hyd borth y defaid ; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth . Felly y ddwy fintai , y rhai oedd yn moliannu , a safasant yn nhŷ Dduw , a minnau , a hanner y swyddogion gyda mi : Yr offeiriaid hefyd ; Eliacim , Maaseia , Miniamin , Michaia , Elioenai , Sechareia , Hananeia , ag utgyrn : Maaseia hefyd , a Semaia , ac Eleasar , ac Ussi , a Jehohanan , a Malcheia , ac Elam , ac Esra . A’r cantorion a ganasant yn groch , a Jasraheia eu blaenor . A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion , ac y llawenhasant : canys Duw a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr : y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant : fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell . A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau , ar yr offrymau , ar y blaenffrwyth , ac ar y degymau , i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid : canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno . Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw , a gwyliadwriaeth y glanhad , yn ôl gorchymyn Dafydd , a Solomon ei fab . Canys gynt , yn nyddiau Dafydd ac Asaff , yr oedd y pen‐cantorion , a chaniadau canmoliaeth a moliant i Dduw . Ac yn nyddiau Sorobabel , ac yn nyddiau Nehemeia , holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion , a’r porthorion , dogn dydd yn ei ddydd : a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid ; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron . Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl ; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo , na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd ; Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr , eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt : eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith . A phan glywsant hwy y gyfraith , hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel . Ac o flaen hyn , Eliasib yr offeiriad , yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni , oedd gyfathrachwr i Tobeia : Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr ; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau , y thus , a’r llestri , a degwm yr ŷd , y gwin , a’r olew , a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid , a’r cantorion , a’r porthorion , ac offrymau yr offeiriaid . Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem : canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin , ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin ; Ac a ddeuthum i Jerwsalem , ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia , gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw . A bu ddrwg iawn gennyf ; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell . Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd : a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw , yr offrwm a’r thus . Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt : canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion , y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith , bob un i’w faes . Yna y dwrdiais y swyddogion , ac y dywedais , Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw ? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd , ac a’u gosodais yn eu lle . Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd , a’r gwin , a’r olew , i’r trysordai . A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau , Selemeia yr offeiriad , a Sadoc yr ysgrifennydd , a Phedaia , o’r Lefiaid : a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur , mab Mataneia : canys ffyddlon y cyfrifid hwynt , ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr . Cofia fi , fy Nuw oherwydd hyn ; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw , ac i’w wyliadwriaethau ef . Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth , ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd , ac yn llwytho asynnod , gwin hefyd , a grawnwin , a ffigys , a phob beichiau , ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth : a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth . Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi , ac yn dwyn pysgod , a phob peth gwerthadwy , y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda , ac yn Jerwsalem . Yna y dwrdiais bendefigion Jwda , ac y dywedais wrthynt , Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur , gan halogi’r dydd Saboth ? Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi ? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni , ac ar y ddinas hon ? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel , trwy halogi’r Saboth . A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth , yr erchais gau’r dorau , ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth : a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth , fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth . Felly y marchnadwyr , a gwerthwyr pob peth gwerthadwy , a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy . A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt , ac a ddywedais wrthynt , Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur ? os gwnewch eilwaith , mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn . O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach . A mi a ddywedais wrth y Lefiaid , am iddynt ymlanhau , a dyfod i gadw y pyrth , gan sancteiddio’r dydd Saboth . Am hyn hefyd cofia fi , fy Nuw , ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd . Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau , Ammonesau , a Moabesau , yn wragedd iddynt : A’u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o’r Asdodeg , ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon , ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl . Yna yr ymrysonais â hwynt , ac y melltithiais hwynt ; trewais hefyd rai ohonynt , ac a bliciais eu gwallt hwynt : a mi a’u tyngais hwynt trwy Dduw , gan ddywedyd , Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt , ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion , nac i chwi eich hunain . Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel ? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer , yr hwn oedd hoff gan ei Dduw , a Duw a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel ; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu . Ai arnoch chwi y gwrandawn , i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn , gan droseddu yn erbyn ein Duw , trwy briodi gwragedd dieithr ? Ac un o feibion Joiada , mab Eliasib yr archoffeiriad , oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad : yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf . O fy Nuw , cofia hwynt , am iddynt halogi’r offeiriadaeth , a chyfamod yr offeiriadaeth , a’r Lefiaid . Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron ; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid , pob un yn ei waith ; Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig , ac at y blaenffrwythau . Cofia fi , O fy Nuw , er daioni . </passage></reply></GetPassage>