<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:17</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:17</urn><passage>Yn nyddiau Ahasferus , ( efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia , sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau ; ) Yn y dyddiau hynny , pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth , yr hon oedd yn Susan y brenhinllys , Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad , efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision ; cadernid Persia , a Media , y rhaglawiaid , a thywysogion y taleithiau , oedd ger ei fron ef : Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas , ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd , ddyddiau lawer , sef cant a phedwar ugain o ddyddiau . Ac wedi gorffen y dyddiau hynny , y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys , o’r mwyaf hyd y lleiaf , wledd dros saith niwrnod , yng nghyntedd gardd palas y brenin : Lle yr oedd llenni gwynion , gwyrddion , a rhuddgochion , wedi eu clymu â llinynnau sidan , ac â phorffor , wrth fodrwyau arian , a cholofnau marmor : y gwelyau oedd o aur ac arian , ar balmant o faen grisial , a marmor , ac alabaster , a iasinct . Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur , a chyfnewid amryw lestri , a gwin brenhinol lawer , yn ôl gallu y brenin . Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod , nid oedd neb yn cymell : canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ , ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb . Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin . Ar y seithfed dydd , pan oedd lawen calon y brenin gan win , efe a ddywedodd wrth Mehuman , Bistha , Harbona , Bigtha , ac Abagtha , Sethar , a Charcas , y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus , Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin , yn y frenhinol goron , i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi : canys glân yr olwg ydoedd hi . Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion : am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr , a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo . Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau , ( canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn : A nesaf ato ef oedd Carsena , Sethar , Admatha , Tarsis , Meres , Marsena , a Memuchan , saith dywysog Persia a Media , y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin , ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth ; ) Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti , am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion ? Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion , Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai , ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd , a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus . Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd , fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun , pan ddywedant , Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen ; ond ni ddaeth hi . Arglwyddesau Persia a Media , y rhai a glywsant weithred y frenhines , a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin . Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter . Os bydd bodlon gan y brenin , eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef , ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid , fel na throsedder ef , na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus ; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi . A phan glywer gorchymyn y brenin , yr hwn a wnelo efe , trwy ei holl frenhiniaeth , ( yr hon sydd fawr , ) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr , o’r mwyaf hyd y lleiaf . A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion ; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan : Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin , ie , i bob talaith yn ôl ei ysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun ; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun ; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl . Wedi y pethau hyn , pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus , efe a gofiodd Fasti , a’r hyn a wnaethai hi , a’r hyn a farnasid arni . Am hynny gweision y brenin , y rhai oedd yn gweini iddo , a ddywedasant , Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon : A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth , a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg , o wyry , i Susan y brenhinllys , i dŷ y gwragedd , dan law Hegai , ystafellydd y brenin , ceidwad y gwragedd ; a rhodder iddynt bethau i’w glanhau : A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin , a deyrnasa yn lle Fasti . A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin ; ac felly y gwnaeth efe . Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai , mab Jair , fab Simei , fab Cis , gŵr o Jemini : Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda , yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo . Ac efe a fagasai Hadassa , honno yw Esther , merch ei ewythr ef frawd ei dad ; canys nid oedd iddi dad na mam : a’r llances oedd weddeiddlwys , a glân yr olwg ; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw , Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo . A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith , pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai , cymerwyd Esther i dŷ y brenin , dan law Hegai ceidwad y gwragedd . A’r llances oedd deg yn ei olwg ef , a hi a gafodd ffafr ganddo ; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau , a’i rhannau , a rhoddi iddi saith o lancesau golygus , o dŷ y brenin : ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd . Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl : canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai . A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd , i wybod llwyddiant Esther , a pheth a wnelid iddi . A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus , wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis , ( canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt ; chwe mis mewn olew myrr , a chwe mis mewn peraroglau , a phethau eraill i lanhau y gwragedd ; ) Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin ; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi , i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin . Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn , a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd , dan law Saasgas , ystafellydd y brenin , ceidwad y gordderchadon : ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach , oddieithr i’r brenin ei chwennych hi , a’i galw hi wrth ei henw . A phan ddigwyddodd amser Esther , merch Abihail ewythr Mordecai , yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo , i fyned i mewn at y brenin , ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai , ystafellydd y brenin , ceidwad y gwragedd : ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni . Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus , i’w frenhindy ef , yn y degfed mis , hwnnw yw mis Tebeth , yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef . A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd , a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon ; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi , ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti . Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision , sef gwledd Esther ; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau , ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin . A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith , yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin . Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl , na’i phobl ; megis y gorchmynasai Mordecai iddi : canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai , fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef . Yn y dyddiau hynny , pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin , y llidiodd Bigthan a Theres , dau o ystafellyddion y brenin , sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy , a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus . A’r peth a wybu Mordecai ; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines ; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin , yn enw Mordecai . A phan chwilwyd y peth , fe a gafwyd felly : am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren . Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin . Wedi y pethau hyn , y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad , ac a’i dyrchafodd ef ; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef . A holl weision y brenin , y rhai oedd ym mhorth y brenin , oedd yn ymgrymu , ac yn ymostwng i Haman ; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef : ond nid ymgrymodd Mordecai , ac nid ymostyngodd . Yna gweision y brenin , y rhai oedd ym mhorth y brenin , a ddywedasant wrth Mordecai , Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin ? Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn , eto ni wrandawai efe arnynt hwy ; am hynny y mynegasant i Haman , i edrych a safai geiriau Mordecai : canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe . A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu , nac yn ymostwng iddo , Haman a lanwyd o ddicllonedd . Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan ; canys mynegasant iddo bobl Mordecai : am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon , y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus , sef pobl Mordecai . Yn y mis cyntaf , hwnnw yw mis Nisan , yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus , efe a barodd fwrw Pwr , ( hwnnw yw , y coelbren , ) gerbron Haman , o ddydd i ddydd , ac o fis i fis , hyd y deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar . A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus , Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd , trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth ; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl , ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin ; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt . O bydd bodlon gan y brenin , ysgrifenner am eu difetha hwynt : a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnânt y weithred hon , i’w dwyn i drysorau y brenin . A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law , ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad , gwrthwynebwr yr Iddewon . A’r brenin a ddywedodd wrth Haman , Rhodder yr arian i ti , a’r bobl , i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg . Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin , yn y mis cyntaf , ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw , ac yr ysgrifennwyd , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman , at bendefigion y brenin , ac at y dugiaid oedd ar bob talaith , ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith ; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid , ac â modrwy y brenin y seliasid hyn . A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin ; i ddinistrio , i ladd , ac i ddifetha yr holl Iddewon , yn ieuainc ac yn hen , yn blant ac yn wragedd , mewn un dydd , sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar , ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt . Testun yr ysgrifen , i roi gorchymyn ym mhob talaith , a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd , i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw . Y rhedegwyr a aethant , wedi eu cymell trwy air y brenin , a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys . Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed , a dinasyddion Susan oedd yn athrist . Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid , Mordecai a rwygodd ei ddillad , ac a wisgodd sachliain a lludw , ac a aeth allan i ganol y ddinas , ac a waeddodd â chwerw lef uchel . Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin : ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach . Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo , yr oedd galar mawr gan yr Iddewon , ac ympryd , ac wylofain , ac oernad ; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw . Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi . A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr ; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai , ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano ; ond ni chymerai efe hwynt . Am hynny Esther a alwodd ar Hathach , un o ystafellyddion y brenin , yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi ; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai , fynnu gwybod pa beth oedd hyn , ac am ba beth yr ydoedd hyn . Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin . A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo ; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon , i’w difetha hwynt . Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt , i’w ddangos i Esther , ac i’w fynegi iddi , ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin , i ymbil ag ef , ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl . A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai . Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach , ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai ; Holl weision y brenin , a phobl taleithiau y brenin , ydynt yn gwybod , mai pa ŵr bynnag , neu wraig , a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn , heb ei alw , un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef , oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo , fel y byddo byw : ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin , bellach er ys deng niwrnod ar hugain . A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther . Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther , Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon . Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn , esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall , tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir : a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth ? Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn : Dos , a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan , ac ymprydiwch drosof fi , na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau , nos na dydd : a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly : ac felly yr af i mewn at y brenin , yr hwn beth nid yw gyfreithlon : ac o derfydd amdanaf , darfydded . Felly Mordecai a aeth ymaith , ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo . Ac ar y trydydd dydd , Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd , ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn , ar gyfer tŷ y brenin : a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ . A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd , hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef : a’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther ; ac Esther a nesaodd , ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen . Yna y brenin a ddywedodd wrthi , Beth a fynni di , y frenhines Esther ? a pha beth yw dy ddeisyfiad ? hyd yn hanner y frenhiniaeth , ac fe a’i rhoddir i ti . A dywedodd Esther , O rhynga bodd i’r brenin , deled y brenin a Haman heddiw i’r wledd a wneuthum iddo . A’r brenin a ddywedodd , Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther . Felly y daeth y brenin a Haman i’r wledd a wnaethai Esther . A’r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin , Beth yr wyt ti yn ei ofyn , ac fe a roddir i ti ? a pheth yr wyt ti yn ei geisio ? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth , ac fe a’i cwblheir . Ac Esther a atebodd , ac a ddywedodd , Fy nymuniad a’m deisyfiad yw , O chefais ffafr yng ngolwg y brenin , ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad , a gwneuthur fy neisyfiad ; deled y brenin a Haman i’r wledd a arlwywyf iddynt , ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin . Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen , ac yn hyfryd ei galon : ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin , na chyfodasai efe , ac na syflasai erddo ef , Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai . Er hynny Haman a ymataliodd ; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun , efe a anfonodd , ac a alwodd am ei garedigion , a Seres ei wraig . A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth , ac amldra ei feibion , a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt , ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin . A dywedodd Haman hefyd , Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi , ond myfi ; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin . Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi , tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin . Yna y dywedodd Seres ei wraig , a’i holl garedigion wrtho , Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder , a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno ; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen . A da oedd y peth gerbron Haman , am hynny efe a baratôdd y crocbren . Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith ; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd ; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin . Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres , dau o ystafellyddion y brenin , o’r rhai oedd yn cadw y trothwy ; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus . A dywedodd y brenin , Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn ? A gweision y brenin , sef ei weinidogion ef , a ddywedasant , Ni wnaed dim erddo ef . A’r brenin a ddywedodd , Pwy sydd yn y cyntedd ? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin , i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo . A gweision y brenin a ddywedasant wrtho , Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd . A dywedodd y brenin , Deled i mewn . A phan ddaeth Haman i mewn , dywedodd y brenin wrtho , Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu ? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon , I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi ? A Haman a ddywedodd wrth y brenin , Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu , Dygant y wisg frenhinol iddo , yr hon a wisg y brenin , a’r march y merchyg y brenin arno , a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef : A rhodder y wisg , a’r march , yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin , a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu , a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas , a chyhoeddant o’i flaen ef , Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu . Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman , Brysia , cymer y wisg a’r march , fel y lleferaist , a gwna felly i Mordecai yr Iddew , yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin : na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist . Felly Haman a gymerth y wisg a’r march , ac a wisgodd am Mordecai , ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas , ac a gyhoeddodd o’i flaen ef , Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu . A dychwelodd Mordecai i borth y brenin . A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus , wedi gorchuddio ei ben . A Haman a adroddodd i Seres ei wraig , ac i’w holl garedigion , yr hyn oll a ddigwyddasai iddo . Yna ei ddoethion , a Seres ei wraig , a ddywedasant wrtho , Os o had yr Iddewon y mae Mordecai , yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen , ni orchfygi mohono , ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef . Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef , ystafellyddion y brenin a ddaethant , ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther . Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines . A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd , wrth gyfeddach y gwin , Beth yw dy ddymuniad , Esther y frenhines ? ac fe a roddir i ti ; a pha beth yw dy ddeisyfiad ? gofyn hyd yn hanner y deyrnas , ac fe a’i cwblheir . A’r frenhines Esther a atebodd , ac a ddywedodd , O chefais ffafr yn dy olwg di , O frenin , ac o rhyglydda bodd i’r brenin , rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad , a’m pobl ar fy neisyfiad . Canys gwerthwyd ni , myfi a’m pobl , i’n dinistrio , i’n lladd , ac i’n difetha : ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion , mi a dawswn â sôn , er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin . Yna y llefarodd y brenin Ahasferus , ac y dywedodd wrth Esther y frenhines , Pwy yw hwnnw ? a pha le y mae efe , yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly ? A dywedodd Esther , Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn . Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines . A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin , ac a aeth i ardd y palas : a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes ; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin . Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin . Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno . Yna y dywedodd y brenin , Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi ? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin , hwy a orchuddiasant wyneb Haman . A Harbona , un o’r ystafellyddion , a ddywedodd yng ngŵydd y brenin , Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai , yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin , yn sefyll yn nhŷ Haman , yn ddeg cufydd a deugain o uchder . Yna y dywedodd y brenin , Crogwch ef ar hwnnw . Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai . Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd . Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon . A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin ; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi . A’r brenin a dynnodd ymaith y fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman , ac a’i rhoddodd i Mordecai . Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman . Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin , ac a syrthiodd wrth ei draed ef ; wylodd hefyd , ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad , a’i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon . A’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther . Yna Esther a gyfododd , ac a safodd o flaen y brenin , Ac a ddywedodd , O bydd bodlon gan y brenin , ac o chefais ffafr o’i flaen ef , ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin , a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef ; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad , y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin . Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl ? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl ? A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines , ac wrth Mordecai yr Iddew , Wele , tŷ Haman a roddais i Esther , a hwy a’i crogasant ef ar y pren , am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon . Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda , yn enw y brenin , ac inseliwch â modrwy y brenin : canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin , ni all neb ei datroi . Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis , hwnnw yw y mis Sifan , ar y trydydd dydd ar hugain ohono , ac ysgrifennwyd , yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai , at yr Iddewon , ac at y rhaglawiaid , y penaduriaid hefyd , a thywysogion y taleithiau , y rhai oedd o India hyd Ethiopia , sef cant a saith ar hugain o daleithiau , i bob talaith wrth ei hysgrifen , ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith : at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt , ac yn ôl eu tafodiaith . Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus , ac a’i seliodd â modrwy y brenin ; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch , dromedariaid , mulod , ac ebolion cesig : Trwy y rhai y caniataodd y brenin i’r Iddewon , y rhai oedd ym mhob dinas , ymgynnull , a sefyll am eu heinioes , i ddinistrio , i ladd , ac i ddifetha holl allu y bobl a’r dalaith a osodai arnynt , yn blant ac yn wragedd , ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt ; Mewn un dydd , trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar . Testun yr ysgrifen , i roddi gorchymyn ym mhob talaith , a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl ; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion . Y rhedegwyr , y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod , a aethant ar frys , wedi eu gyrru trwy air y brenin ; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys . A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn , ac â choron fawr o aur , ac mewn dillad sidan a phorffor ; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd : I’r Iddewon yr oedd goleuni , a llawenydd , a hyfrydwch , ac anrhydedd . Ac ym mhob talaith , ac ym mhob dinas , lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn , yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon , gwledd hefyd a diwrnod daionus : a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon ; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy . Felly yn y deuddegfed mis , hwnnw yw mis Adar , ar y trydydd dydd ar ddeg ohono , pan nesaodd gair y brenin a’i orchymyn i’w cwblhau ; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt , ( ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu , canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion ; ) Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd , trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt : ac ni safodd neb yn eu hwynebau ; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd . A holl dywysogion y taleithiau , a’r pendefigion , a’r dugiaid , a’r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin , oedd yn cynorthwyo’r Iddewon : canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy . Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin , a’i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau : oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo , ac yn cynyddu . Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf , a lladdedigaeth , a distryw ; a gwnaethant i’w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun . Ac yn Susan y brenhinllys , yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr . Parsandatha hefyd , a Dalffon , ac Aspatha , Poratha hefyd , ac Adalia , ac Aridatha , Parmasta hefyd , ac Arisai , Aridai hefyd , a Bajesatha , Deng mab Haman mab Hammedatha , gwrthwynebwr yr Iddewon , a laddasant hwy : ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith . Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin . A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines , Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys , bum cant o wŷr , a deng mab Haman ; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy ? beth gan hynny yw dy ddymuniad ? ac fe a roddir i ti ; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach ? ac fe a’i gwneir . Yna y dywedodd Esther , O rhyglydda bodd i’r brenin , caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw : a chrogant ddeng mab Haman ar y pren . A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly , a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan : a hwy a grogasant ddeng mab Haman . Felly yr Iddewon , y rhai oedd yn Susan , a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd , ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan : ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail . A’r rhan arall o’r Iddewon , y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant , ac a safasant am eu heinioes , ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion , ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o’u caseion : ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith . Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn , ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant , ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd . Ond yr Iddewon , y rhai oedd yn Susan , a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono , ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono ; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant , a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd . Am hynny Iddewon y pentrefi , y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau , oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis Adar , mewn llawenydd a chyfeddach , ac yn ddiwrnod daionus , ac i anfon rhannau i’w gilydd . A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn , ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus , yn agos ac ymhell , I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar , a’r pymthegfed dydd ohono , bob blwyddyn ; Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion , a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd , ac o alar yn ddydd daionus : gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd , a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd , a rhoddion i’r rhai anghenus . A’r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent , ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt . Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad , gwrthwynebwr yr holl Iddewon , a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon , am eu difetha hwynt ; ac efe a fwriasai Pwr , hwnnw yw y coelbren , i’w dinistrio hwynt , ac i’w difetha : A phan ddaeth Esther o flaen y brenin , efe a archodd trwy lythyrau , ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef , yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon , ar ei ben ei hun ; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren . Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim , ar enw y Pwr : am hynny , oherwydd holl eiriau y llythyr hwn , ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn , a’r peth a ddigwyddasai iddynt , Yr Iddewon a ordeiniasant , ac a gymerasant arnynt , ac ar eu had , ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt , na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny , yn ôl eu hysgrifen hwynt , ac yn ôl eu tymor , bob blwyddyn : Ac y byddai y dyddiau hynny i’w cofio , ac i’w cynnal trwy bob cenhedlaeth , a phob teulu , pob talaith , a phob dinas ; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon , ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had . Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail , a Mordecai yr Iddew , trwy eu holl rym , i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn . Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon , trwy y cant a’r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus , â geiriau heddwch a gwirionedd ; I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau , fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew , ac Esther y frenhines , iddynt hwy , ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun , a thros eu had , eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd . Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny : ac ysgrifennwyd hyn mewn llyfr . A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad , ac ar ynysoedd y môr . A holl weithredoedd ei rym ef , a’i gadernid , a hysbysrwydd o fawredd Mordecai , â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef , onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia ? Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus , ac yn fawr gan yr Iddewon , ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr ; yn ceisio daioni i’w bobl , ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth . </passage></reply></GetPassage>