<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:18</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:18</urn><passage>Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job ; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn , ac yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni . Ac iddo y ganwyd saith o feibion , a thair o ferched . A’i olud oedd saith mil o ddefaid , a thair mil o gamelod , a phum can iau o ychen , a phum cant o asynnod , a llawer iawn o wasanaethyddion ; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain . A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai , bob un ar ei ddiwrnod ; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt . A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch , yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt , ac a gyfodai yn fore , ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll : canys dywedodd Job , Fy meibion ond odid a bechasant , ac a felltithiasant Dduw yn eu calonnau . Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny . A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd ; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , O ba le yr ydwyt ti yn dyfod ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O dramwy ar hyd y ddaear , ac o ymrodio ynddi . A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan , A ddeliaist ti ar fy ngwas Job , nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear , yn ŵr perffaith ac uniawn , yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni ? Yna Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw ? Oni chaeaist o’i amgylch ef , ac o amgylch ei dŷ , ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch ? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef , a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear . Eithr estyn yn awr dy law , a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo , ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Wele , yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di ; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law . Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd . A dydd a ddaeth , pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf . A daeth cennad at Job , ac a ddywedodd , Yr ychen oedd yn aredig , a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt ; A’r Sabeaid a ruthrasant , ac a’u dygasant ymaith ; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf , a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr oedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd , ac a losgodd y defaid , a’r gweision , ac a’u hysodd hwynt ; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr ydoedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Y Caldeaid a osodasant dair byddin , ac a ruthrasant i’r camelod , ac a’u dygasant ymaith , ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf ; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Tra yr ydoedd hwn yn llefaru , un arall hefyd a ddaeth , ac a ddywedodd , Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf : Ac wele , gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch , ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ , ac efe a syrthiodd ar y llanciau , a buant feirw ; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti . Yna y cyfododd Job , ac a rwygodd ei fantell , ac a eilliodd ei ben , ac a syrthiodd i lawr , ac a addolodd ; Ac a ddywedodd , Noeth y deuthum o groth fy mam , a noeth y dychwelaf yno . Yr Arglwydd a roddodd , ar Arglwydd a ddygodd ymaith ; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd . Yn hyn i gyd ni phechodd Job , ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw . A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd ; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , O ba le yr ydwyt ti yn dyfod ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O dramwy ar hyd y ddaear , ac o ymrodio ynddi . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , A ddeliaist ti ar fy ngwas Job , nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear , yn ŵr perffaith ac uniawn , yn ofni Duw , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni ? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd , er i ti fy annog i yn ei erbyn ef , i’w ddifa ef heb achos ? A Satan a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Croen am groen , a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes . Eithr estyn yn awr dy law , a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd , ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Wele ef yn dy law di ; eto cadw ei hoedl ef . Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a drawodd Job â chornwydydd blin , o wadn ei droed hyd ei gorun . Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi ; ac a eisteddodd yn y lludw . Yna ei wraig a ddywedodd wrtho , A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd ? melltithia Dduw , a bydd farw . Ond efe a ddywedodd wrthi , Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion : a dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda , ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg ? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau . A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef , hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun ; Eliffas y Temaniad , a Bildad y Suhiad , a Soffar y Naamathiad : canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef , ac i’w gysuro . A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell , ac heb ei adnabod ef , hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant ; rhwygasant hefyd bob un ei fantell , a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd . Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith ; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef : canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn . Wedi hyn Job a agorodd ei enau , ac a felltithiodd ei ddydd . A Job a lefarodd , ac a ddywedodd , Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo , a’r nos y dywedwyd , Enillwyd gwryw . Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch , a Duw oddi uchod heb ei ystyried ; ac na thywynned llewyrch arno . Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo , ac arhosed cwmwl arno ; dued y diwrnod a’i dychryno . Y nos honno , tywyllwch a’i cymero ; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn , ac na ddeued i rifedi y misoedd . Bydded y noswaith honno yn unig , ac na fydded gorfoledd ynddi . A’r rhai a felltithiant y dydd , ac sydd barod i gyffroi eu galar , a’i melltithio hi . A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll : disgwylied am oleuni ac na fydded iddi ; ac na chaffed weled y wawrddydd : Am na chaeodd ddrysau croth fy mam , ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid . Paham na bûm farw o’r bru ? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth ? Paham y derbyniodd gliniau fyfi ? a phaham y cefais fronnau i sugno ? Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd , a gorffwys , a huno : yna y buasai llonyddwch i mi . Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear , y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd ; Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt , y rhai a lanwasant eu tai ag arian ; Neu fel erthyl cuddiedig , ni buaswn ddim ; megis plant bychain heb weled goleuni . Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro ; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig . Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd ; ni chlywant lais y gorthrymydd . Bychan a mawr sydd yno ; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr . Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur , a bywyd i’r gofidus ei enaid ? Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth , ac heb ei chael ; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig ? Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch , ac a orfoleddant , pan gaffont y bedd ? Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig , ac y caeodd Duw arno ? Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid ; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd . Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf , a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi . Ni chefais na llonydd nac esmwythdra , ac ni orffwysais : er hynny daeth cynnwrf . Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , Pe profem ni air wrthyt , a fyddai blin gennyt ti ? ond pwy a all atal ei ymadroddion ? Wele , ti a ddysgaist lawer , ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu . Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio ; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu . Ond yn awr , daeth arnat tithau , ac y mae yn flin gennyt ; cyffyrddodd â thi , a chyffroaist . Onid dyma dy ofn di , dy hyder , perffeithrwydd dy ffyrdd , a’th obaith ? Cofia , atolwg , pwy , ac efe yn ddiniwed , a gollwyd ? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith ? Hyd y gwelais i , y rhai a arddant anwiredd , ac a heuant ddrygioni , a’u medant . Gan anadl Duw y difethir hwynt , a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant . Rhuad y llew , a llais y llew creulon , a dannedd cenawon y llewod , a dorrwyd . Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth ; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd . Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel : a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono . Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos , pan syrthio trymgwsg ar ddynion , Ofn a ddaeth arnaf , a dychryn , ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu . Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb ; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll . Efe a safodd , ac nid adwaenwn ei agwedd ef : drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid , bu distawrwydd , a mi a glywais lef yn dywedyd , A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw ? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr ? Wele , yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried ; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd : Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai , y rhai sydd â’u sail mewn pridd , y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn ? O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt ; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried . Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith ? hwy a fyddant feirw , ac nid mewn doethineb . Galw yn awr , od oes neb a etyb i ti , ac at bwy o’r saint y troi di ? Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd , a chenfigen a ladd yr annoeth . Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio : ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth . Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth : dryllir hwynt hefyd yn y porth , ac nid oes gwaredydd . Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf , wedi iddo ei gymryd o blith drain , a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth . Er na ddaw cystudd allan o’r pridd , ac na flagura gofid allan o’r ddaear : Ond dyn a aned i flinder , fel yr eheda gwreichionen i fyny . Eto myfi a ymgynghorwn â Duw : ac ar Dduw y rhoddwn fy achos : Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy ; rhyfeddol heb rifedi : Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear ; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd : Gan osod rhai isel mewn uchelder ; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth . Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys , fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben . Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra : a chyngor y cyndyn a ddiddymir . Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch , a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos . Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf , rhag eu safn hwy , a rhag llaw y cadarn . Felly y mae gobaith i’r tlawd , ac anwiredd yn cau ei safn . Wele , gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw ; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog . Canys efe a glwyfa , ac a rwym : efe a archolla , a’i ddwylo ef a iachânt . Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di ; ie , mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi . Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth : ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf . Rhag ffrewyll tafod y’th guddir ; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo . Mewn dinistr a newyn y chwerddi ; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear . Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair ; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi . A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest : a thi a ymweli â’th drigfa , ac ni phechi . A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had , a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear . Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd , tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser . Wele hyn , ni a’i chwiliasom , felly y mae : gwrando hynny , a gwybydd er dy fwyn dy hun . A Job a atebodd ac a ddywedodd , O gan bwyso na phwysid fy ngofid , ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau ! Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr : am hynny y pallodd geiriau gennyf . Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof , y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd : dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn . A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt ? a fref ych uwchben ei borthiant ? A fwyteir peth diflas heb halen ? a oes blas ar wyn wy ? Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd , sydd megis bwyd gofidus i mi . O na ddeuai fy nymuniad ! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl ! Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio , a gollwng ei law yn rhydd , a’m torri ymaith . Yna cysur a fyddai eto i mi , ie , mi a ymgaledwn mewn gofid ; nac arbeded , canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd . Pa nerth sydd i mi i obeithio ? a pha ddiwedd fydd i mi , fel yr estynnwn fy hoedl ? Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder ? a ydyw fy nghnawd o bres ? Onid ydyw fy nghymorth ynof fi ? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf ? I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill ; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog . Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon : aethant heibio fel llifeiriant afonydd ; Y rhai a dduasant gan rew , ac yr ymguddiodd eira ynddynt : Yr amser y cynhesant , hwy a dorrir ymaith : pan wresogo yr hin , hwy a ddarfyddant allan o’u lle . Llwybrau eu ffordd hwy a giliant : hwy a ânt yn ddiddim , ac a gollir . Byddinoedd Tema a edrychasant , minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt . Hwy a gywilyddiwyd , am iddynt obeithio ; hwy a ddaethant hyd yno , ac a wladeiddiasant . Canys yn awr nid ydych chwi ddim ; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr , ac a ofnasoch . A ddywedais i , Dygwch i mi ? neu , O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi ? Neu , Gwaredwch fi o law y gelyn ? neu , Rhyddhewch fi o law y cedyrn ? Dysgwch fi , a myfi a dawaf : a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais . Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb ! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi ? Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith , y rhai sydd megis gwynt ? Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad , ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill . Yn awr gan hynny byddwch fodlon ; edrychwch arnaf fi ; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd . Dychwelwch , atolwg , na fydded anwiredd ; ie , trowch eto , y mae fy nghyfiawnder yn hyn . A oes anwiredd yn fy nhafod ? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas ? Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear ? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog ? Megis y dyhea gwas am gysgod , ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith : Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd , a nosweithiau blinion a osodwyd i mi . Pan orweddwyf , y dywedaf , Pa bryd y codaf , ac yr ymedy y nos ? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd . Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd : fy nghroen a agennodd , ac a aeth yn ffiaidd . Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd , ac a ddarfuant heb obaith . Cofia mai gwynt yw fy hoedl : ni wêl fy llygad ddaioni mwyach . Y llygad a’m gwelodd , ni’m gwêl mwyach : dy lygaid sydd arnaf , ac nid ydwyf . Fel y derfydd y cwmwl , ac yr â ymaith : felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd , ni ddaw i fyny mwyach . Ni ddychwel mwy i’w dŷ : a’i le nid edwyn ef mwy . Gan hynny ni warafunaf i’m genau ; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd ; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid . Ai môr ydwyf , neu forfil , gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf ? Pan ddywedwyf , Fy ngwely a’m cysura , fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan ; Yna y’m brawychi â breuddwydion , ac y’m dychryni â gweledigaethau : Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu , a marwolaeth yn fwy na’m hoedl . Ffieiddiais einioes , ni fynnwn fyw byth : paid â mi , canys oferedd ydyw fy nyddiau . Pa beth ydyw dyn , pan fawrheit ef ? a phan osodit dy feddwl arno ? Ac ymweled ag ef bob bore , a’i brofi ar bob moment ? Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf , ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn ? Myfi a bechais ; beth a wnaf i ti , O geidwad dyn ? paham y gosodaist fi yn nod i ti , fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun ? A phaham na faddeui fy nghamwedd , ac na fwri heibio fy anwiredd ? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf , a thi a’m ceisi yn fore , ond ni byddaf . Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Pa hyd y dywedi di hynny ? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf ? A ŵyra Duw farn ? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder ? Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef ; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd ; Os tydi a foregodi at Dduw , ac a weddïi ar yr Hollalluog ; Os pur ac uniawn fyddi , yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron , ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus . Er bod dy ddechreuad yn fychan , eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr . Oblegid gofyn , atolwg , i’r oes gynt , ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt : ( Canys er doe yr ydym ni , ac ni wyddom ddim , oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear : ) Oni ddysgant hwy di ? ac oni ddywedant i ti ? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon ? A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth ? a dyf hesg heb ddwfr ? Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri , hi a wywa o flaen pob glaswelltyn . Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof , ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr : Yr hwn y torrir ymaith ei obaith ; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef . Efe a bwysa ar ei dŷ , ond ni saif ; efe a ymeifl ynddo , ond ni phery . Y mae efe yn ir o flaen yr haul , ac yn ei ardd y daw ei frig allan . Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr , ac efe a wêl le cerrig . Os diwreiddia efe ef allan o’i le , efe a’i gwad ef , gan ddywedyd , Ni’th welais . Wele , dyma lawenydd ei ffordd ef : ac o’r ddaear y blagura eraill . Wele , ni wrthyd Duw y perffaith , ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus ; Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin , a’th wefusau â gorfoledd . A gwisgir dy gaseion di â chywilydd , ac ni bydd lluesty yr annuwiol . Yna Job a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir mi a wn mai felly y mae : canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ? Os myn efe ymryson ag ef , ni all ateb iddo am un peth o fil . Y mae efe yn ddoeth o galon , ac yn alluog o nerth : pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef , ac a lwyddodd ? Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd , ac heb wybod iddynt : yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint . Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle , fel y cryno ei cholofnau hi . Yr hwn a ddywed wrth yr haul , ac ni chyfyd : ac a selia ar y sêr . Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd , ac yn sathru ar donnau y môr . Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus , Orion , a Phleiades , ac ystafelloedd y deau . Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy , a rhyfeddodau aneirif . Wele , efe a â heibio i mi , ac nis gwelaf ef ; ac efe a â rhagddo , ac ni chanfyddaf ef . Wele , efe a ysglyfaetha , pwy a’i lluddia ? pwy a ddywed wrtho , Pa beth yr wyt yn ei wneuthur ? Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith , dano ef y cryma cynorthwywyr balchder . Pa faint llai yr atebaf iddo ef , ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef ? I’r hwn , pe bawn gyfiawn , nid atebwn , eithr ymbiliwn â’m barnwr . Pe galwaswn , a phed atebasai efe i mi , ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd . Canys efe a’m dryllia â chorwynt , ac a amlha fy archollion yn ddiachos . Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl : ond efe a’m lleinw â chwerwder . Os soniaf am gadernid , wele ef yn gadarn : ac os am farn , pwy a ddadlau drosof fi ? Os myfi a ymgyfiawnhaf , fy ngenau a’m barn yn euog : os perffaith y dywedaf fy mod , efe a’m barn yn gildyn . Pe byddwn berffaith , eto nid adwaenwn fy enaid ; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes . Dyma un peth , am hynny mi a’i dywedais : y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol . Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth , efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed . Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol : efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi : onid e , pa le y mae , a phwy yw efe ? A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr : ffoant ymaith heb weled daioni . Aethant heibio megis llongau buain ; megis yr eheda eryr at ymborth . Os dywedaf , Gollyngaf fy nghwyn dros gof ; mi a adawaf fy nhrymder , ac a ymgysuraf : Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau : gwn na’m berni yn wirion . Os euog fyddaf , paham yr ymflinaf yn ofer ? Os ymolchaf mewn dwfr eira , ac os glanhaf fy nwylo yn lân ; Eto ti a’m trochi yn y pwll ; a’m dillad a’m ffieiddiant . Canys nid gŵr fel myfi yw efe , fel yr atebwn iddo , ac y delem ynghyd i farn . Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau . Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf ; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi : Yna y dywedwn , ac nid ofnwn ef : ond nid felly y mae gyda myfi . Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes : arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn ; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf . Dywedaf wrth Dduw , Na farn fi yn euog ; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi . Ai da i ti orthrymu , fel y diystyrit waith dy ddwylo , ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol ? Ai llygaid o gnawd sydd i ti ? ai fel y gwêl dyn y gweli di ? A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn ? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr , Pan geisi fy anwiredd , a phan ymofynni am fy mhechod ? Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol ; ac nid oes a waredo o’th law di . Dy ddwylo di a’m gweithiasant , ac a’m cydluniasant o amgylch ; eto fy nifetha yr wyt . Cofia , atolwg , mai fel clai y gwnaethost fi ; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn ? Oni thywelltaist fi fel llaeth ; ac oni cheulaist fi fel caws ? Ti a’m gwisgaist i â chroen , ac â chnawd ; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â giau . Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi , a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd . A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon : gwn fod hyn gyda thi . Os pechaf , ti a’m gwyli , ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd . Os ydwyf annuwiol , gwae fi ; ac os cyfiawn ydwyf , er hynny ni chodaf fy mhen : yr ydwyf yn llawn o warthrudd , am hynny gwêl fy nghystudd ; Canys cynyddu y mae : fy hela yr ydwyt fel llew creulon : er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi . Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn , ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf ; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn . Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth ? O na buaswn farw , ac na’m gwelsai llygad ! Mi a fuaswn megis pe na buaswn , a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd . Onid ychydig yw fy nyddiau ? paid gan hynny , gad im lonydd , fel yr ymgysurwyf ychydig ; Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf , i dir tywyllwch a chysgod angau ; Tir tywyllwch fel y fagddu , a chysgod angau , a heb drefn ; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch . A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd , Oni atebir amlder geiriau ? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus ? Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi ? a phan watwarech , oni bydd a’th waradwyddo ? Canys dywedaist , Pur ydyw fy nysgeidiaeth , a glân ydwyf yn dy olwg di . Ond , O na lefarai Duw , ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn , A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb , eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd ! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd . A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw ? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd ? Cyfuwch â’r nefoedd ydyw , beth a wnei di ? dyfnach nag uffern yw , beth a elli di ei wybod ? Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear , ac yn lletach na’r môr . Os tyr efe ymaith , ac os carchara : os casgl ynghyd , pwy a’i rhwystra ef ? Canys efe a edwyn ofer ddynion , ac a wêl anwiredd ; onid ystyria efe gan hynny ? Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth ; er geni dyn fel llwdn asen wyllt . Os tydi a baratoi dy galon , ac a estynni dy ddwylo ato ef ; Od oes drygioni yn dy law , bwrw ef ymaith ymhell , ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai : Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau ; ie , byddi safadwy , ac nid ofni : Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof : fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef . Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd ; llewyrchi , a byddi fel y boreddydd . Hyderus fyddi hefyd , oherwydd bod gobaith : ie , ti a gloddi , ac a orweddi mewn diogelwch . Ti a orweddi hefyd , ac ni bydd a’th ddychryno , a llawer a ymbiliant â’th wyneb . Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant , metha ganddynt ffoi , a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Diau mai chwychwi sydd bobl ; a chyda chwi y bydd marw doethineb . Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau , nid ydwyf fi waeth na chwithau ; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn ? Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog , yr hwn a eilw ar Dduw , ac efe a’i hetyb : gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith . Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus , yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed . Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr , ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi Duw , y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo . Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid , a hwy a’th ddysgant ; ac i ehediaid yr awyr , a hwy a fynegant i ti . Neu dywed wrth y ddaear , a hi a’th ddysg ; a physgod y môr a hysbysant i ti . Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll , mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn ? Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law , ac anadl pob math ar ddyn . Onid y glust a farna ymadroddion ? a’r genau a archwaetha ei fwyd ? Doethineb sydd mewn henuriaid ; a deall mewn hir ddyddiau . Gydag ef y mae doethineb a chadernid ; cyngor a deall sydd ganddo . Wele , efe a ddistrywia , ac nid adeiledir : efe a gae ar ŵr , ac nid agorir arno . Wele , efe a atal y dyfroedd , a hwy a sychant : efe a’u denfyn hwynt , a hwy a ddadymchwelant y ddaear . Gydag ef y mae nerth a doethineb : efe biau y twylledig , a’r twyllodrus . Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith ; ac efe a ynfyda farnwyr . Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd , ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt . Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith ; ac a blyga y rhai cedyrn . Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon ; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen . Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion ; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion . Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch ; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni . Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd , ac yn eu distrywio hwynt : efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd , ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra . Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear ; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd . Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni ; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn . Wele , fy llygad a welodd hyn oll ; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd . Mi a wn yn gystal â chwithau : nid ydwyf waeth na chwithau . Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog , ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw . Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi : meddygon diddim ydych chwi oll . O gan dewi na thawech ! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb . Clywch , atolwg , fy rheswm , a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau . A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw ? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef ? A dderbyniwch chwi ei wyneb ef ? a ymrysonwch chwi dros Dduw ? Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi ? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn ? Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi , os derbyniwch wyneb yn ddirgel . Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi ? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch ? Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi ; a’ch cyrff i gyrff o glai . Tewch , gadewch lonydd , fel y llefarwyf finnau ; a deued arnaf yr hyn a ddelo . Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd ? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw ? Pe lladdai efe fi , eto mi a obeithiaf ynddo ef : er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef . Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi : canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef . Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd , ac a fynegwyf , â’ch clustiau . Wele yn awr , trefnais fy achos ; gwn y’m cyfiawnheir . Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi ? canys yn awr os tawaf , mi a drengaf . Ond dau beth na wna i mi : yna nid ymguddiaf rhagot . Pellha dy law oddi arnaf : ac na ddychryned dy ddychryn fi . Yna galw , a myfi a atebaf : neu myfi a lefaraf , ac ateb di fi . Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof ? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod . Paham y cuddi dy wyneb , ac y cymeri fi yn elyn i ti ? A ddrylli di ddeilen ysgydwedig ? a ymlidi di soflyn sych ? Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn ; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid . Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion , ac yn gwylied ar fy holl lwybrau ; ac yn nodi gwadnau fy nhraed . Ac efe , megis pydrni , a heneiddia , fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn . Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau , a llawn o helbul . Fel blodeuyn y daw allan , ac y torrir ef ymaith ; ac efe â gilia fel cysgod , ac ni saif . A agori di dy lygaid ar y fath yma ? ac a ddygi di fi i farn gyda thi ? Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan ? neb . Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu , rhifedi ei fisoedd ef gyda thi , a gosod ohonot ei derfynau , fel nad êl drostynt : Tro oddi wrtho , fel y gorffwyso , hyd oni orffenno , fel gwas cyflog , ei ddiwrnod . Canys y mae gobaith o bren , er ei dorri , y blagura efe eto , ac na phaid ei flagur ef â thyfu . Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear , a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd ; Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd , ac a fwrw ganghennau fel planhigyn . Ond gŵr a fydd marw , ac a dorrir ymaith ; a dyn a drenga , a pha le y mae ? Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr , a’r afon yn myned yn ddihysbydd , ac yn sychu : Felly gŵr a orwedd , ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd ; ni ddihunant , ac ni ddeffroant o’u cwsg . O na chuddit fi yn y bedd ! na’m cedwit yn ddirgel , nes troi dy lid ymaith ! na osodit amser nodedig i mi , a’m cofio ! Os bydd gŵr marw , a fydd efe byw drachefn ? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth , hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad . Gelwi , a myfi a’th atebaf ; chwenychi waith dy ddwylo . Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre : onid wyt yn gwylied ar fy mhechod ? Fy nghamwedd a selied mewn cod ; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd . Ac yn wir , y mynydd a syrthio a ddiflanna ; a’r graig a symudir o’i lle . Dyfroedd a dreuliant y cerrig ; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear , ac yn gwneuthur i obaith dyn golli . Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd , fel yr elo ymaith : a chan newidio ei wyneb ef , yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd . Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd , ac nis gwybydd efe : a hwy a ostyngir , ac ni ŵyr efe oddi wrthynt : Ond ei gnawd arno a ddoluria , a’i enaid ynddo a alara . Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt ? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt ? A ymresyma efe â gair ni fuddia ? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt ? Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn : yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw . Canys dy enau a draetha dy anwiredd ; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys . Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog , ac nid myfi : a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn . A aned tydi yn gyntaf dyn ? a lunied tydi o flaen y bryniau ? A glywaist ti gyfrinach Duw ? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun ? Beth a wyddost ti a’r nas gwyddom ni ? beth a ddeelli di , heb fod hynny hefyd gennym ninnau ? Y mae yn ein mysg ni y penllwyd , a’r oedrannus hefyd ; hŷn o oedran na’th dad di . Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw ? a oes dim dirgel gyda thi ? Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat ? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid , Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw , a gollwng y fath eiriau allan o’th enau ? Pa beth yw dyn , i fod yn lân ? a’r hwn a aned o wraig , i fod yn gyfiawn ? Wele , ni roddes efe ymddiried yn ei saint ; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef . Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn , yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr ? Dangosaf i ti , gwrando arnaf ; a’r hyn a welais a fynegaf . Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau , ac nis celasant : I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear : ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy . Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio : a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws . Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef : mewn heddwch y daw y dinistrydd arno . Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch : ac y mae y cleddyf yn gwylied arno . Y mae efe yn crwydro am fara , pa le y byddo : efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law . Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef ; hwy a’i gorchfygant , fel brenin parod i ryfel . Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw ; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd . Efe a red yn y gwddf iddo ef , trwy dewdwr torrau ei darianau : Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster : ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau . A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio , a thai anghyfannedd , y rhai sydd barod i fod yn garneddau . Ni chyfoethoga efe , ni phery ei olud ef chwaith ; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear . Nid ymedy efe allan o dywyllwch , y fflam a wywa ei frig ef ; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef . Yr hwn a dwylled , nac ymddirieded mewn oferedd : canys oferedd fydd ei wobr ef . Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd ; a’i gangen ni lasa . Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden ; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden . Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig : a thân a ysa luestai gwobrwyr . Y maent yn ymddŵyn blinder , ac yn esgor ar wagedd ; a’u bol sydd yn darpar twyll . Ajob a atebodd ac a ddywedodd , Clywais lawer o’r fath hyn : cysurwyr gofidus ydych chwi oll . Oni cheir diwedd ar eiriau ofer ? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb ? Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau : pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i , medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn , ac ysgwyd fy mhen arnoch . Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau ; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid . Os llefaraf fi , nid esmwytha fy nolur ; ac os peidiaf , ai llai fy ngofid ? Ond yn awr efe a’m blinodd i ; anrheithiaist fy holl gynulleidfa : A chroengrychaist fi , a hynny sydd dystiolaeth : a’m culni yn codi ynof , a dystiolaetha yn fy wyneb . Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ : efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf ; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn . Hwy a ledasant eu safnau arnaf ; trawsant fy nghernau yn ddirmygus ; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn . Duw a’m rhoddes i’r anwir ; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion . Yr oeddwn yn esmwyth ; ond efe a’m drylliodd , ac a ymaflodd yn fy ngwddf , ac a’m drylliodd yn chwilfriw , ac a’m cododd yn nod iddo ei hun . Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu ; y mae efe yn hollti fy arennau , ac nid ydyw yn arbed ; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear . Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad : y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr . Gwnïais sachlen ar fy nghroen , a halogais fy nghorn yn y llwch . Fy wyneb sydd fudr gan wylo , a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau : Er nad oes gamwedd yn fy nwylo ; a bod fy ngweddi yn bur . O ddaearen , na orchuddia fy ngwaed , ac na fydded lle i’m gwaedd . Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd ; a’m tystiolaeth yn yr uchelder . Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio : fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw . O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn , fel mab dyn dros ei gymydog ! Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd , yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf . Fy anadl a lygrwyd , fy nyddiau a ddiffoddwyd , beddau sydd barod i mi . Onid oes watwarwyr gyda mi ? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt ? Dyro i lawr yn awr , dyro i mi feichiau gyda thi : pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i ? Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall : am hynny ni ddyrchefi di hwynt . Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion , llygaid ei feibion ef a ballant . Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl , ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt . Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd , ac y mae fy aelodau oll fel cysgod . Y rhai uniawn a synnant am hyn ; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr . Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd ; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder . Ond chwi oll , dychwelwch , a deuwch yn awr : am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi . Fy nyddiau a aeth heibio , fy amcanion a dynned ymaith ; sef meddyliau fy nghalon . Gwnânt y nos yn ddydd : byr yw y goleuni , oherwydd tywyllwch . Os disgwyliaf , y bedd sydd dŷ i mi : mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely . Gelwais ar y pwll , Tydi yw fy nhad : ar y pryf , Fy mam a’m chwaer wyt . A pha le yn awr y mae fy ngobaith ? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith ? Disgynnant i farrau y pwll , pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch . A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Pa bryd y derfydd eich ymadrodd ? ystyriwch , wedi hynny ninnau a lefarwn . Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid ? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi ? O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb , ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear ? neu y symudir y graig allan o’i lle ? Ie , goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir , a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha . Goleuni a dywylla yn ei luesty ef ; a’i lusern a ddiffydd gydag ef . Camre ei gryfder ef a gyfyngir , a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr . Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed , ac ar faglau y rhodia efe . Magl a ymeifl yn ei sawdl ef , a’r gwylliad fydd drech nag ef . Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear , a magl iddo ar y llwybr . Braw a’i brawycha ef o amgylch , ac a’i gyr i gymryd ei draed . Ei gryfder fydd newynllyd , a dinistr fydd parod wrth ei ystlys . Efe a ysa gryfder ei groen ef : cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef . Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty : a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau . Efe a drig yn ei luest ef , am nad eiddo ef ydyw : brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef . Ei wraidd a sychant oddi tanodd , a’i frig a dorrir oddi arnodd . Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear , ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol . Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch : efe a ymlidir allan o’r byd . Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl ; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef . Y rhai a ddêl ar ei ôl , a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef ; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw . Yn wir , dyma drigleoedd yr anwir ; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Pa hyd y cystuddiwch fy enaid ? ac y’m drylliwch â geiriau ? Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch ; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn . Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus ; gyda mi y trig fy amryfusedd . Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn , a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn : Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i , ac a’m hamgylchodd â’i rwyd . Wele , llefaf rhag trawster , ond ni’m hatebir : gwaeddaf , ond nid oes farn . Efe a gaeodd fy ffordd , fel nad elwyf drosodd : y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau . Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf ; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen . Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch , ac yr ydwyf yn myned ymaith : ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren . Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn ; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion . Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd , ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn , ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell . Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf , a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf . Fy nghyfnesaf a ballasant , a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant . Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ , a’m morynion , sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr : alltud ydwyf yn eu golwg . Gelwais ar fy ngwasanaethwr , ac nid atebodd ; ymbiliais ag ef â’m genau . Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig , er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff . Plant hefyd a’m diystyrent : cyfodais , a dywedasant i’m herbyn . Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio : a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn . Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen , ac wrth fy nghnawd ; ac â chroen fy nannedd y dihengais . Trugarhewch wrthyf , trugarhewch wrthyf , fy nghyfeillion ; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi . Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw , heb gael digon ar fy nghnawd ? O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr ! O nad argreffid hwynt mewn llyfr ! O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm ! Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw , ac y saif yn y diwedd ar y ddaear . Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn , eto caf weled Duw yn fy nghnawd : Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled , a’m llygaid a’i gwelant , ac nid arall ; er i’m harennau ddarfod ynof . Eithr chwi a ddylech ddywedyd , Paham yr erlidiwn ef ? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof . Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf : canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf , fel y gwybyddoch fod barn . Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd , Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb : ac am hyn y mae brys arnaf . Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi ; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb . Oni wyddost ti hyn erioed , er pan osodwyd dyn ar y ddaear , Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion , a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr ? Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd , a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau ; Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom : y rhai a’i gwelsant a ddywedant , Pa le y mae efe ? Efe a eheda ymaith megis breuddwyd , ac ni cheir ef : ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos . Y llygad a’i gwelodd , ni wêl ef mwy : a’i le ni chenfydd mwy ohono . Ei feibion a gais fodloni’r tlodion : a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt . Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid , yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd . Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef ; er iddo ei gau dan ei dafod ; Er iddo ei arbed , ac heb ei ado ; eithr ei atal o fewn taflod ei enau : Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd : bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef . Efe a lyncodd gyfoeth , ac efe a’i chwyda : Duw a’i tyn allan o’i fol ef . Efe a sugn wenwyn asbiaid : tafod gwiber a’i lladd ef . Ni chaiff weled afonydd , ffrydiau , ac aberoedd o fêl ac ymenyn . Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano , ac nis llwnc : yn ôl ei olud y rhydd adref , ac heb gael llawenydd ohono . Am iddo ddryllio , a gado’r tlodion ; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd ; Diau na chaiff lonydd yn ei fol , na weddill o’r hyn a ddymunodd . Ni bydd gweddill o’i fwyd ef ; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef . Pan gyflawner ei ddigonoldeb , cyfyng fydd arno ; llaw pob dyn blin a ddaw arno . Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol , Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint ; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd . Efe a ffy oddi wrth arfau haearn ; a’r bwa dur a’i trywana ef . Efe a dynnir , ac a ddaw allan o’r corff , a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef ; dychryn fydd arno . Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef : tân heb ei chwythu a’i hysa ef : yr hyn a adawer yn ei luestai ef , a ddrygir . Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef , a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef . Cynnydd ei dŷ ef a gilia : ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef . Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw ; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd ; a bydded hyn yn lle eich cysur . Dioddefwch fi , a minnau a lefaraf ; ac wedi i mi ddywedyd , gwatwerwch . A minnau , ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn ? ac os ydwyf , paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd ? Edrychwch arnaf , a synnwch : a gosodwch eich llaw ar eich genau . Minnau pan gofiwyf , a ofnaf ; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd . Paham y mae yr annuwiolion yn byw , yn heneiddio , ac yn cryfhau mewn cyfoeth ? Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt , a’u hiliogaeth yn eu golwg . Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn ; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy . Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi , ac ni chyll ei had ; ei fuwch ef a fwrw lo , ac nid erthyla . Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell , a’u bechgyn a neidiant . Cymerant dympan a thelyn , a llawenychant wrth lais yr organ . Treuliant eu dyddiau mewn daioni , ac mewn moment y disgynnant i’r bedd . Dywedant hefyd wrth Dduw , Cilia oddi wrthym ; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd . Pa beth ydyw yr Hollalluog , fel y gwasanaethem ef ? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno ? Wele , nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun : pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi . Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion ? ac y daw eu dinistr arnynt hwy ? Duw a ran ofidiau yn ei ddig . Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt , ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt . Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion : efe a dâl iddo , ac efe a’i gwybydd . Ei lygaid a welant ei ddinistr ef ; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog . Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl , pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef ? A ddysg neb wybodaeth i Dduw ? gan ei fod yn barnu y rhai uchel . Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth , ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl . Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth , a’i esgyrn yn iraidd gan fêr . A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid , ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch . Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd , a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt . Wele , mi a adwaen eich meddyliau , a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn . Canys dywedwch , Pa le y mae tŷ y pendefig ? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion ? Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd ? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy , Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus ? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan . Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef ? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth ? Eto efe a ddygir i’r bedd , ac a erys yn y pentwr . Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo , a phob dyn a dynn ar ei ôl ef , megis yr aeth aneirif o’i flaen ef . Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd , gan fod camwedd yn eich atebion chwi ? Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd , A wna gŵr lesâd i Dduw , fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun ? Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn ? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd ? Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi ? neu yr â efe gyda thi i farn ? Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml ? a’th anwireddau heb derfyn ? Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos ; a diosgaist ddillad y rhai noethion . Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig ; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog . Ond y gŵr cadarn , efe bioedd y ddaear ; a’r anrhydeddus a drigai ynddi . Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw ; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd . Am hynny y mae maglau o’th amgylch , ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di ; Neu dywyllwch rhag gweled ohonot : a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant . Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd ? gwêl hefyd uchder y sêr , mor uchel ydynt . A thi a ddywedi , Pa fodd y gŵyr Duw ? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll ? Y tew gymylau sydd loches iddo , ac ni wêl ; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd . A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir ? Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser ; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy . Hwy a ddywedasant wrth Dduw , Cilia oddi wrthym : a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy ? Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni : ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi . Y rhai cyfiawn a welant , ac a lawenychant : a’r diniwed a’u gwatwar hwynt . Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni , eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy . Ymarfer , atolwg , ag ef , a bydd heddychlon : o hyn y daw i ti ddaioni . Cymer y gyfraith , atolwg , o’i enau ef , a gosod ei eiriau ef yn dy galon . Os dychweli at yr Hollalluog , ti a adeiledir , symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai . Rhoddi aur i gadw fel pridd , ac aur Offir fel cerrig yr afonydd . A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti , a thi a gei amldra o arian . Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog , ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw . Ti a weddïi arno ef , ac efe a’th wrendy ; a thi a deli dy addunedau . Pan ragluniech di beth , efe a sicrheir i ti ; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd . Pan ostynger hwynt , yna y dywedi di , Y mae goruchafiaeth ; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg . Efe a wareda ynys y diniwed : a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi . A Job a atebodd ac a ddywedodd , Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw : fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid . O na wyddwn pa le y cawn ef ! fel y deuwn at ei eisteddfa ef ! Trefnwn fy mater ger ei fron ef , a llanwn fy ngenau â rhesymau . Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai ; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf . A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid ? Na wna ; ond efe a osodai nerth ynof . Yno yr uniawn a ymresymai ag ef : felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr . Wele , ymlaen yr af , ond nid ydyw efe yno ; yn ôl hefyd , ond ni fedraf ei ganfod ef : Ar y llaw aswy , lle y mae efe yn gweithio , ond ni fedraf ei weled ef : ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio , fel na chaf ei weled : Ond efe a edwyn fy ffordd i : wedi iddo fy mhrofi , myfi a ddeuaf allan fel aur . Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef : cedwais ei ffordd ef , ac ni ŵyrais . Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef : hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol . Ond y mae efe yn un , a phwy a’i try ef ? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu , efe a’i gwna . Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi : ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau . Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef : ystyriais , ac ofnais ef . Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon , a’r Hollalluog a’m cythryblodd : Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch , ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd . Paham , gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog , na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef , ei ddyddiau ef ? Y mae rhai yn symudo terfynau ; yn ysglyfaethu defaid , ac yn ymborthi arnynt . Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith : maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl . Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd : tlodion y ddaear a ymgydlechant . Wele , y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch , yn myned allan i’w gwaith , gan geisio ysglyfaeth yn fore : y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd , ac i’w plant . Medant eu hŷd yn y maes ; a gwinllan yr annuwiol a gasglant . Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad , ac heb wisg mewn oerni . Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd ; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig . Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron : cymerant wystl gan y tlawd . Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad ; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog . Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt , ac sydd yn sathru eu cafnau gwin , ydynt sychedig . Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas , ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi ; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn . Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni ; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd , nac yn aros yn ei lwybrau . Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad , ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog ; a’r nos y bydd efe fel lleidr . A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos , gan ddywedyd , Ni chaiff llygad fy ngweled ; ac efe a esyd hug ar ei wyneb . Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai , y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd : nid adwaenant hwy oleuni . Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy : dychryn cysgod marwolaeth yw , os edwyn neb hwynt . Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd ; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear : ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd . Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira : felly y bedd y rhai a bechasant . Y groth a’i gollwng ef dros gof , melys fydd gan y pryf ef ; ni chofir ef mwy : ac anwiredd a dorrir fel pren . Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy , yr hon ni phlanta ; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw . Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth : y mae efe yn codi , ac nid oes neb diogel o’i einioes . Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch , ar yr hyn y mae ei bwys ; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy . Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig , ond hwy a ddarfuant , ac a ostyngwyd ; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill , ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen . Ac onid ydyw felly yn awr , pwy a’m gwna i yn gelwyddog , ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim ? Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd , Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef : y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau . A oes gyfrif o’i luoedd ef ? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni ? Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân ? Wele hyd yn oed y lleuad , ac ni lewyrcha hi ; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef : Pa faint llai dyn , yr hwn sydd bryf ; a mab dyn , yr hwn sydd abwydyn ? A Job a atebodd ac a ddywedodd , Pwy a gynorthwyaist ti ? ai y di‐nerth ? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid ? Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth ? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae ? Wrth bwy y mynegaist ymadroddion ? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti ? Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd , a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy . Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef : ac nid oes do ar ddistryw . Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle : y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim . Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau ; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy . Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc : y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi . Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau , nes dibennu goleuni a thywyllwch . Y mae colofnau y nefoedd yn crynu , ac yn synnu wrth ei gerydd ef . Efe a ranna y môr â’i nerth ; ac a dery falchder â’i ddoethineb . Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd : ei law ef a luniodd y sarff dorchog . Wele , dyma rannau ei ffyrdd ef : ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef ! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef ? A Job a barablodd eilwaith , ac a ddywedodd , Y mae Duw yn fyw , yr hwn a ddug ymaith fy marn ; a’r Hollalluog , yr hwn a ofidiodd fy enaid ; Tra fyddo fy anadl ynof , ac ysbryd Duw yn fy ffroenau ; Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd , ac ni thraetha fy nhafod dwyll . Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi : oni threngwyf , ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf . Yn fy nghyfiawnder y glynais , ac nis gollyngaf hi : ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw . Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol ; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn , fel yr anwir . Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr , er elwa ohono ef , pan dynno Duw ei enaid ef allan ? A wrendy Duw ar ei lef , pan ddelo cyfyngder arno ? A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog ? a eilw efe ar Dduw bob amser ? Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw : ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog . Wele , chwychwi oll a’i gwelsoch ; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd ? Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw ; ac etifeddiaeth y rhai traws , yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog . Os ei feibion ef a amlheir , hwy a amlheir i’r cleddyf : a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara . Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth : a’i wragedd gweddwon nid wylant . Er iddo bentyrru arian fel llwch , a darparu dillad fel clai ; Efe a’i darpara , ond y cyfiawn a’i gwisg : a’r diniwed a gyfranna yr arian . Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn , ac fel bwth a wna gwyliwr . Y cyfoethog a huna , ac nis cesglir ef : efe a egyr ei lygaid , ac nid yw . Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd : corwynt a’i lladrata ef liw nos . Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd , ac efe a â ymaith ; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le . Canys Duw a deifl arno ef , ac nid arbed : gan ffoi , efe a fynnai ffoi rhag ei law ef . Curant eu dwylo arno , ac a’i hysiant allan o’i le . Diau fod gwythen i’r arian ; a lle i’r aur , lle y coethant ef . Haearn a dynnir allan o’r pridd ; ac o’r garreg y toddir pres . Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch , ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd ; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau . Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion , y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed : hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion . Y ddaearen , ohoni y daw bara : trowyd megis tân oddi tani . Ei cherrig hi a fyddant le i saffir ; a phriddellau aur sydd iddi . Y mae llwybr nid adnabu aderyn , ac ni chanfu llygad barcud : Yr hwn ni sathrodd cenawon llew ; nid aeth hen lew trwyddo . Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr : y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd . Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau ; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr . Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo , ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni . Ond pa le y ceir doethineb ? a pha le y mae trigle deall ? Ni ŵyr dyn beth a dâl hi ; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw . Y mae y dyfnder yn dywedyd , Nid ydyw hi ynof fi : ac y mae y môr yn dywedyd , Nid ydyw hi gyda myfi . Ni cheir hi er aur pur ; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian . Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir ; nac i’r onics gwerthfawr , nac i’r saffir . Nid aur a grisial a’i cystadla hi : na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi . Ni chofir y cwrel , na’r gabis : canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau . Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi : ni chydbrisir hi ag aur pur . Gan hynny o ba le y daw doethineb ? a pha le y mae mangre deall ? Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw ; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd . Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd , Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi . Duw sydd yn deall ei ffordd hi ; ac efe a edwyn ei lle hi . Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear , ac yn gweled dan yr holl nefoedd ; I wneuthur pwys i’r gwynt ; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur . Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw , a ffordd i fellt y taranau : Yna efe a’i gwelodd hi , ac a’i mynegodd hi ; efe a’i paratôdd hi , a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan . Ac wrth ddyn efe a ddywedodd , Wele , ofn yr Arglwydd , hynny ydyw doethineb ; a chilio oddi wrth ddrwg , sydd ddeall . Yna Job a barablodd drachefn , ac a ddywedodd , O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen , fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi ; Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen , wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch ; Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid , a dirgelwch Duw ar fy mhabell ; Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi , a’m plant o’m hamgylch ; Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn , a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew ! Pan awn i allan i’r porth trwy y dref ; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol , Llanciau a’m gwelent , ac a ymguddient ; a henuriaid a gyfodent , ac a safent i fyny . Tywysogion a atalient eu hymadroddion , ac a osodent eu llaw ar eu genau . Pendefigion a dawent â sôn , a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau . Pan y’m clywai clust , hi a’m bendithiai ; a phan y’m gwelai llygad , efe a dystiolaethai gyda mi : Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi , a’r amddifad , a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo . Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf ; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu . Gwisgwn gyfiawnder , a hithau a wisgai amdanaf fi : a’m barn fyddai fel mantell a choron . Llygaid oeddwn i’r dall ; a thraed oeddwn i’r cloff . Tad oeddwn i’r anghenog ; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan . Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn , ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef . Yna y dywedwn , Byddaf farw yn fy nyth ; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod . Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd ; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig . Fy ngogoniant oedd ir ynof fi ; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw . Hwy a wrandawent arnaf , ac a ddisgwylient ; distawent wrth fy nghyngor . Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith ; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy . A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw ; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law . Os chwarddwn arnynt hwy , ni chredent ; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio . Dewiswn eu ffordd hwynt , eisteddwn yn bennaf , a thrigwn fel brenin mewn llu , megis yr hwn a gysura rai galarus . Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar , y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid . I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi ? darfuasai am henaint ynddynt hwy . Gan angen a newyn , unig oeddynt : yn ffoi i’r anialwch gynt , yn ddiffaith ac yn wyllt : Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni , a gwraidd meryw yn fwyd iddynt . Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion , ( gwaeddent ar eu hôl hwy , fel ar ôl lleidr ; ) I drigo mewn holltau afonydd , mewn tyllau y ddaear , ac yn y creigiau . Hwy a ruent ymhlith perthi : hwy a ymgasglent dan ddanadl . Meibion yr ynfyd , a meibion rhai anenwog oeddynt : gwaelach na’r ddaear oeddynt . Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi , a myfi sydd yn destun iddynt . Y maent yn fy ffieiddio , yn cilio ymhell oddi wrthyf : ac nid arbedant boeri yn fy wyneb . Oblegid iddo ddatod fy rhaff , a’m cystuddio ; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i . Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau ; y maent yn gwthio fy nhraed , ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr . Anrheithiant fy llwybr , ychwanegant fy nhrueni , heb fod help iddynt . Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan : y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith . Dychryniadau a drowyd arnaf : fel gwynt yr erlidiant fy enaid : a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl . Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf ; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof . Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn : a’m gïau nid ydynt yn gorffwys . Trwy fawr nerth fy nghlefyd , fy ngwisg a newidiodd : efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais . Efe a’m taflodd yn y clai ; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw . Yr ydwyf yn llefain arnat ti , ac nid ydwyt yn gwrando : yr ydwyf yn sefyll , ac nid ystyri wrthyf . Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn ; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law . Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt ; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno , ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd . Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth ; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw . Diau nad estyn ef law i’r bedd , er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef . Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd ? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog ? Pan edrychais am ddaioni , drygfyd a ddaeth : pan ddisgwyliais am oleuni , tywyllwch a ddaeth . Fy ymysgaroedd a ferwasant , ac ni orffwysasant : dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant . Cerddais yn alarus heb yr haul : codais , a gwaeddais yn y gynulleidfa . Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau , ac yn gyfaill i gywion yr estrys . Fy nghroen a dduodd amdanaf , a’m hesgyrn a losgasant gan wres . Aeth fy nhelyn hefyd yn alar , a’m horgan fel llais rhai yn wylo . Myfi a wneuthum amod â’m llygaid ; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn ? Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod ? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder ? Onid oes dinistr i’r anwir ? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd ? Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i ? ac yn cyfrif fy holl gamre ? Os rhodiais mewn oferedd , ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo ; Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn , a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd . Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd ; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid ; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo : Yna heuwyf fi , a bwytaed arall ; ie , dadwreiddier fy hiliogaeth i . Os twylled fy nghalon gan wraig , ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog ; Maled fy ngwraig innau i ŵr arall ; ac ymgrymed eraill arni hi . Canys ysgelerder ydyw hyn , ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr . Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio , ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth . Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch , pan ymrysonent â mi ; Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw ? a phan ymwelo efe , pa beth a atebaf iddo ? Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth , a’i gwnaeth yntau ? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru ? Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd , ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio ; Ac os bwyteais fy mwyd yn unig , ac oni fwytaodd yr amddifad ohono ; ( Canys efe a gynyddodd gyda mi , fel gyda thad , o’m hieuenctid ; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi ; ) Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad , a’r anghenog heb wisg : Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant , ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i ; Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad , pan welwn fy nghymorth yn y porth : Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd , a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal . Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf ; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef . Os gosodais fy ngobaith mewn aur ; ac os dywedais wrth aur coeth , Fy ymddiried wyt ; Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr , ac oblegid i’m llaw gael llawer ; Os edrychais ar yr haul pan dywynnai , a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair ; Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig , ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw : Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr : canys gwadaswn Dduw uchod . Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi , ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo : ( Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu ; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio . ) Oni ddywedodd dynion fy mhabell , O na chaem o’i gnawd ef ! ni ddigonir ni . Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol : agorais fy nrysau i’r fforddolion . Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda ; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes ; A ofnais i dyrfa luosog , neu a’m dychrynai dirmyg teulu ; fel y tawn , heb fyned allan o’m drws ? O am un a’m gwrandawai ! wele , fy nymuniad yw , i’r Hollalluog fy ateb i , ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr . Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd ; a rhwymwn ef yn lle coron i mi . Mynegwn iddo rifedi fy nghamre ; fel tywysog y nesawn ato . Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn , ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo ; Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian , ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef : Tyfed ysgall yn lle gwenith , a bulwg yn lle haidd . Diweddwyd geiriau Job . Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job , am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun . Yna digofaint Elihu , mab Barachel y Busiad , o genedl Ram , a gyneuodd : ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job , am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw . A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill , am na chawsent hwy ateb , ac er hynny , farnu ohonynt Job yn euog . Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru : canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran . Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn , yna y cyneuodd ei ddigofaint ef . Ac Elihu , mab Barachel y Busiad , a atebodd ac a ddywedodd , Ieuanc ydwyf o oedran , chwithau ydych hen iawn : am hynny yr arswydais , ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi . Dywedais , Dyddiau a draethant , a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb . Ond y mae ysbryd mewn dyn ; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall . Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser : ac nid yw hynafgwyr yn deall barn . Am hynny y dywedais , Gwrando fi ; minnau a ddangosaf fy meddwl . Wele , disgwyliais wrth eich geiriau ; clustymwrandewais â’ch rhesymau , tra y chwiliasoch chwi am eiriau . Ie , mi a ddeliais arnoch : ac wele , nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job , gan ateb ei eiriau ef : Rhag dywedyd ohonoch , Ni a gawsom ddoethineb : Duw sydd yn ei wthio ef i lawr , ac nid dyn . Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i : ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi . Hwy a synasant , nid atebasant mwy ; peidiasant â llefaru . Wedi disgwyl ohonof , ( canys ni lefarant , eithr sefyll heb ateb mwy , ) Dywedais , Minnau a atebaf fy rhan , minnau a ddangosaf fy meddwl . Canys yr ydwyf yn llawn geiriau : y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i . Wele , fy mol sydd fel gwin nid agorid arno : y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion . Dywedaf , fel y caffwyf fy anadl : agoraf fy ngwefusau , ac atebaf . Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb : ni wenieithiaf wrth ddyn . Canys ni fedraf wenieithio ; pe gwnelwn , buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith . Oherwydd paham , Job , clyw , atolwg , fy ymadroddion ; a gwrando fy holl eiriau . Wele , yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau ; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau . O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau ; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur . Ysbryd Duw a’m gwnaeth i ; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i . Os gelli , ateb fi : ymbaratoa , a saf o’m blaen i . Wele fi , yn ôl dy ddymuniad di , yn lle Duw : allan o’r clai y torrwyd finnau . Wele , ni’th ddychryna fy arswyd i , ac ni bydd fy llaw yn drom arnat . Dywedaist yn ddiau lle y clywais i , a myfi a glywais lais dy ymadroddion : Pur ydwyf fi heb gamwedd : glân ydwyf , ac heb anwiredd ynof . Wele , efe a gafodd achosion yn fy erbyn : y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo . Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion ; y mae yn gwylied fy holl lwybrau . Wele , yn hyn nid ydwyt gyfiawn . Mi a’th atebaf , mai mwy ydyw Duw na dyn . Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef ? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd . Canys y mae Duw yn llefaru unwaith , ie , ddwywaith ; ond ni ddeall dyn . Trwy hun , a thrwy weledigaeth nos , pan syrthio trymgwsg ar ddynion , wrth hepian ar wely ; Yna yr egyr efe glustiau dynion , ac y selia efe addysg iddynt : I dynnu dyn oddi wrth ei waith , ac i guddio balchder oddi wrth ddyn . Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll ; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf . Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely ; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled : Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara , a’i enaid fwyd blasus . Derfydd ei gnawd ef allan o olwg : saif ei esgyrn allan , y rhai ni welid o’r blaen . Nesáu y mae ei enaid i’r bedd , a’i fywyd i’r dinistrwyr . Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd , un o fil , i ddangos i ddyn ei uniondeb : Yna efe a drugarha wrtho , ac a ddywed , Gollwng ef , rhag disgyn ohono i’r clawdd : myfi a gefais iawn . Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen : efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid . Efe a weddïa ar Dduw , ac yntau a fydd bodlon iddo ; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd : canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder . Efe a edrych ar ddynion , ac os dywed neb , Mi a bechais , ac a ŵyrais uniondeb , ac ni lwyddodd i mi ; Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd , a’i fywyd a wêl oleuni . Wele , hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn , I ddwyn ei enaid ef o’r pwll , i’w oleuo â goleuni y rhai byw . Gwrando , Job , clyw fi : taw , a mi a lefaraf . Od oes geiriau gennyt , ateb fi : llefara , canys chwenychwn dy gyfiawnhau di . Onid e , gwrando arnaf fi : bydd ddistaw , a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb . Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd , Ha wŷr doethion , gwrandewch fy ymadroddion ; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod , clustymwrandewch . Canys y glust a farn ymadroddion , fel yr archwaetha y genau fwyd . Dewiswn i ni farn , gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda . Canys dywedodd Job , Cyfiawn ydwyf : a Duw a ddug ymaith fy marn . A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun ? anaele yw fy archoll heb gamwedd . Pa ŵr sydd fel Job , yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr ? Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd , ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol . Canys dywedodd , Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw . Am hynny chwychwi wŷr calonnog , gwrandewch arnaf . Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb , ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd . Canys efe a dâl i ddyn ei waith ; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun . Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol ; ac na ŵyra yr Hollalluog farn . Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear ? a phwy a osododd yr holl fyd ? Os gesyd ei galon ar ddyn , os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef ; Pob cnawd a gyd‐drenga , a dyn a ddychwel i’r pridd . Ac od oes ddeall ynot , gwrando hyn : clustymwrando â llef fy ymadroddion . A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn , lywodraethu ? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth , yn annuwiol ? A ddywedir wrth frenin , Drygionus ydwyt ? ac , Annuwiol ydych , wrth dywysogion ? Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion , ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd ? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll . Hwy a fyddant feirw mewn moment , a hanner nos y cynhyrfa y bobl , ac yr ânt ymaith : a’r cadarn a symudir heb waith llaw . Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef . Nid oes dywyllwch , na chysgod angau , lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd , ymguddio . Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo ; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw . Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif , ac a esyd eraill yn eu lle hwynt . Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy : a phan newidio efe y nos , hwy a ddryllir . Efe a’u tery hwynt , megis rhai annuwiol , yn amlwg : Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef , ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef : Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef , ac efe a wrendy waedd y cystuddiol . Pan esmwythao efe , pwy a anesmwytha ? a phan guddio efe ei wyneb , pwy a edrych arno ? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl , ai yn erbyn dyn yn unig : Fel na theyrnasai dyn ffuantus , ac na rwyder y bobl . Ond wrth Dduw , yr hwn a ddywed , Mi a faddeuais , nid anrheithiaf , y dylid dywedyd ; Heblaw a welaf , dysg di fi : o gwneuthum anwiredd , ni wnaf fi mwy . Ai wrth dy feddwl di y byddai ? efe a’i tâl , pa un bynnag a wnelych ai gwrthod , ai dewis ; ac nid myfi : am hynny dywed yr hyn a wyddost . Gwŷr call , dywedant i mi ; a’r gŵr doeth , clywed fi . Job a ddywedodd yn annoeth ; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb . Fy Nhad , profer Job hyd y diwedd , am roddi atebion dros ddynion anwir . Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod ; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni , ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw . Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd , A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot , Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw ? Canys dywedaist , Pa les a wna hynny i ti ? pa beth a enillaf , er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod ? Myfi a atebaf i ti , ac i’th gyfeillion gyda thi . Edrych ar y nefoedd , a gwêl ; ac edrych ar y cymylau , y rhai sydd uwch na thi . Os pechi , pa niwed a wnei di iddo ef ? os aml fydd dy anwireddau , pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef ? Os cyfiawn fyddi , pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef ? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di ? I ŵr fel tydi , dy annuwioldeb , ac i fab dyn , dy gyfiawnder , a all ryw beth . Gan faint y gorthrymder , hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain : hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn . Ond ni ddywed neb , Pa le y mae Duw , yr hwn a’m gwnaeth i ; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos ? Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear , ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd . Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg , ac ni chlyw efe . Diau na wrendy Duw oferedd , ac nad edrych yr Hollalluog arno . Er dywedyd ohonot na weli ef , eto y mae barn ger ei fron ef : disgwyl dithau wrtho . Ac yn awr , am nad yw felly , efe a ymwelodd yn ei ddigofaint ; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi : Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer ; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth . Ac Elihu a aeth rhagddo , ac a ddywedodd , Goddef i mi ychydig , a myfi a fynegaf i ti , fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw . O bell y cymeraf fy ngwybodaeth , ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder . Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion : y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi . Wele , cadarn ydyw Duw , ac ni ddiystyra efe neb : cadarn o gadernid a doethineb yw efe . Nid achub efe fywyd yr annuwiol ; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid . Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn ; eithr y maent gyda brenhinoedd , ar yr orseddfainc ; ie , efe a’u sicrha yn dragywydd , a hwy a ddyrchefir . Ac os hwy a rwymir â gefynnau , ac a ddelir â rhaffau gorthrymder ; Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith , a’u hanwireddau , amlhau ohonynt : Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd ; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd . Os gwrandawant hwy , a’i wasanaethu ef , hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni , a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch . Ac oni wrandawant , difethir hwy gan y cleddyf ; a hwy a drengant heb wybodaeth . Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig : ni waeddant pan rwymo efe hwynt . Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid , a’u bywyd gyda’r aflan . Efe a wared y truan yn ei gystudd , ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder . Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder , lle nid oes gwasgfa ; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster . Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol : barn a chyfiawnder a ymaflant ynot . Oherwydd bod digofaint , gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod : yna ni’th wared iawn mawr . A brisia efe ar dy olud di ? na phrisia , ar aur , nac ar holl gadernid nerth . Na chwennych y nos , pan dorrer pobl ymaith yn eu lle . Ymochel , nac edrych ar anwiredd : canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd . Wele , Duw trwy ei nerth a ddyrchafa ; pwy sydd yn dysgu fel efe ? Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo ? a phwy a ddywed , Gwnaethost anwiredd ? Cofia fawrhau ei waith ef , ar yr hwn yr edrych dynion . Pob dyn a’i gwêl ; a dyn a’i cenfydd o bell . Wele , mawr yw Duw , ac nid adwaenom ef ; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef . Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân : hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth ; Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth . Hefyd , a ddeall dyn daeniadau y cymylau , a thwrf ei babell ef ? Wele , efe a daenodd ei oleuni arno , ac a orchuddiodd waelod y môr . Canys â hwynt y barn efe y bobloedd , ac y rhydd efe fwyd yn helaeth . Efe a guddia y goleuni â chymylau ; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt . Ei dwrf a fynega amdano , a’r anifeiliaid am y tarth . Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon , ac y dychlama hi o’i lle . Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef , ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef . Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd , a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear . Sŵn a rua ar ei ôl ef : efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd , ac ni oeda efe hwynt , pan glywir ei dwrf ef . Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd : y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni . Canys efe a ddywed wrth yr eira , Bydd ar y ddaear ; ac wrth gawod o law , ac wrth law mawr ei nerth ef . Efe a selia law pob dyn , fel yr adwaeno pawb ei waith ef . Yna yr â y bwystfil i’w loches , ac y trig yn ei le . O’r deau y daw corwynt ; ac oerni oddi wrth y gogledd . Â’i wynt y rhydd Duw rew : a lled y dyfroedd a gyfyngir . Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau ; efe a wasgar ei gwmwl golau . Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef : fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt , ar hyd wyneb y byd ar y ddaear . Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth , ai i’w ddaear , ai er daioni , efe a bair iddo ddyfod . Gwrando hyn , Job ; saf , ac ystyria ryfeddodau Duw . A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt , ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu ? A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau , rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth ? Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes , pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt ? A daenaist ti gydag ef yr wybren , yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig ? Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho : ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch . A fynegir iddo ef os llefaraf ? os dywed neb , diau y llyncir ef . Ac yn awr , ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau : ond myned y mae y gwynt , a’u puro hwynt . O’r gogleddwynt y daw hindda : y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy . Am yr Hollalluog , ni allwn ni mo’i gael ef : ardderchog yw o nerth , a barn , a helaethrwydd cyfiawnder : ni chystuddia efe . Am hynny yr ofna dynion ef : nid edrych efe ar neb doeth eu calon . Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt , ac a ddywedodd , Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth . Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr ; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti . Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear ? mynega , os medri ddeall . Pwy a osododd ei mesurau hi , os gwyddost ? neu pwy a estynnodd linyn arni hi ? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi ? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi , Pan gydganodd sêr y bore , ac y gorfoleddodd holl feibion Duw ? A phwy a gaeodd y môr â dorau , pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth ? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo , a niwl tew yn rhwymyn iddo , Pan osodais fy ngorchymyn arno , a phan osodais drosolion a dorau , Gan ddywedyd , Hyd yma y deui , ac nid ymhellach ; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di . A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau ? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle , I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear , fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi ? Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl ; a hwy a safant fel dillad . Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol : dryllir y braich dyrchafedig . A ddaethost ti i eigion y môr ? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder ? A agorwyd pyrth marwolaeth i ti ? neu a welaist ti byrth cysgod angau ? A ystyriaist ti led y ddaear ? mynega , os adwaenost ti hi i gyd . Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni ? a pha le y mae lle y tywyllwch , Fel y cymerit ef hyd ei derfyn , ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef ? A wyddit ti yna y genid tydi ? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr ? A aethost ti i drysorau yr eira ? neu a welaist ti drysorau y cenllysg , Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder , hyd ddydd ymladd a rhyfel ? Pa ffordd yr ymranna goleuni , yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear ? Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd ? a ffordd i fellt y taranau , I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn ; ar yr anialwch , sydd heb ddyn ynddo ? I ddigoni y tir diffaith a gwyllt , ac i beri i gnwd o laswellt dyfu ? A oes dad i’r glaw ? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith ? O groth pwy y daeth yr iâ allan ? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd ? Y dyfroedd a guddir megis â charreg , ac wyneb y dyfnder a rewodd . A rwymi di hyfrydwch Pleiades ? neu a ddatodi di rwymau Orion ? A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser ? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion ? A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd ? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear ? A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl , fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi ? A ddanfoni di fellt allan , fel yr elont , ac y dywedont wrthyt , Wele ni ? Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd ? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon ? Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb ? a phwy a all atal costrelau y nefoedd . Pan droer y llwch yn dom , fel y glyno y priddellau ynghyd ? A elli di hela ysglyfaeth i’r llew ? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod , Pan ymgrymant yn eu llochesau , pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn ? Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd ? pan lefo ei chywion ar Dduw , gwibiant o eisiau bwyd . A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu ? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi ? A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy ? ac a wyddost ti yr amser y llydnant ? Ymgrymant , bwriant eu llydnod , ac ymadawant â’u gofid . Eu llydnod a gryfha , cynyddant yn y maes : ânt allan , ac ni ddychwelant atynt hwy . Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd ? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt ? Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo , a’r diffeithwch yn drigfa iddo . Efe a chwardd am ben lliaws tref : ni wrendy ar lais y geilwad . Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef , ac efe a chwilia am bob glaswelltyn . A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di ? a erys efe wrth dy bresebau di ? A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych ? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di ? A ymddiriedi wrtho , am fod ei gryfder yn fawr ? a adewi di dy lafur iddo ? A goeli di ef , y dwg efe dy had di drachefn , ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di ? A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod ? neu adenydd a phlu i’r estrys ? Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear , ac a’u cynhesa yn y llwch ; Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt , neu anifail y maes eu sathru . Caled yw hi wrth ei chywion , fel pe na byddent eiddi hi : ei gwaith hi sydd ofer , heb ofn ; Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb , ac na chyfrannodd iddi ddeall . Yr amser yr ymgodo hi yn uchel , hi a ddiystyra y march a’i farchog . A roddaist ti gryfder i farch ? neu a ddysgaist iddo weryru ? A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn ? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef . Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn , ac efe a lawenycha yn ei gryfder : efe a â allan i gyfarfod arfau . Efe a ddiystyra arswyd , ac ni ddychryna efe ; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf . Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn , y ddisglair waywffon a’r darian . Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd : ac ni chred mai llais yr utgorn yw . Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn , Ha , ha ; ac a arogla o bell ryfel , twrf tywysogion , a’r bloeddio . Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch , ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau ? Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr , ac y gwna efe ei nyth yn uchel ? Y trig efe ac yr erys mewn craig ; ac ar ysgithredd y graig , a’r lle cadarn ? Oddi yno y chwilia am fwyd ; ei lygaid a ganfyddant o bell . Ei gywion hefyd a sugnant waed : a lle y byddo celanedd , yno y bydd efe . Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job , ac a ddywedodd , Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog ? a argyhoeddo Dduw , atebed i hynny . A Job a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Wele , gwael ydwyf ; pa beth a atebaf i ti ? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau . Dywedais unwaith ; ond nid atebaf : ie , ddwywaith ; ond ni chwanegaf . A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt , ac a ddywedodd , Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr ; a myfi a ofynnaf i ti , mynega dithau i mi . A wnei di fy marn i yn ofer ? a ferni di fi yn anghyfiawn , i’th gyfiawnhau dy hun ? A oes i ti fraich fel i Dduw ? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau ? Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd , ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch . Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint ; ac edrych ar bob balch , a thafl ef i lawr . Edrych ar bob balch , a gostwng ef ; a mathra yr annuwiol yn eu lle . Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd , a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig . Yna hefyd myfi a addefaf i ti , y gall dy ddeheulaw dy achub . Yn awr wele y behemoth , yr hwn a wneuthum gyda thi ; glaswellt a fwyty efe fel ych . Wele yn awr , ei gryfder ef sydd yn ei lwynau , a’i nerth ym mogel ei fol . Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden : gewynnau ei arennau ef sydd blethedig . Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef : ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn . Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe : yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef . Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo : ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes . Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr , mewn lloches o gyrs a siglennydd . Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod : helyg yr afon a’i hamgylchant . Wele , efe a yf yr afon , ac ni phrysura : efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn . A ddeil neb ef o flaen ei lygaid ? a dylla neb ei drwyn ef â bachau ? A dynni di y lefiathan allan â bach ? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff ? A osodi di fach yn ei drwyn ef ? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd ? A fawr ymbil efe â thi ? a ddywed efe wrthyt ti yn deg ? A wna efe amod â thi ? a gymeri di ef yn was tragwyddol ? A chwaraei di ag ef fel ag aderyn ? neu a rwymi di ef i’th lancesau ? A swpera cyfeillion arno ? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr ? A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn ? neu ei ben â thryferau ? Gosod dy law arno ef ; cofia y rhyfel ; na wna mwy . Wele , ofer ydyw ei obaith ef : oni chwymp un gan ei olwg ef ? Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef : a phwy a saif ger fy mron i ? Pwy a roddodd i mi yn gyntaf , a mi a dalaf ? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd , eiddof fi yw . Ni chelaf ei aelodau ef , na’i gryfder , na gweddeidd‐dra ei ystum ef . Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef ? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg ? Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef ? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef . Ei falchder yw ei emau , wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth . Y mae y naill mor agos at y llall , fel na ddaw gwynt rhyngddynt . Pob un a lŷn wrth ei gilydd ; hwy a gydymgysylltant , fel na wahenir hwy . Wrth ei disian ef y tywynna goleuni , a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore . Ffaglau a ânt allan , a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef . Mwg a ddaw allan o’i ffroenau , fel o bair neu grochan berwedig . Ei anadl a wna i’r glo losgi , a fflam a ddaw allan o’i enau . Yn ei wddf y trig cryfder , a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef . Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd : caledodd ynddo ei hun , fel na syflo . Caled ydyw ei galon fel carreg : a chaled fel darn o’r maen isaf i felin . Rhai cryfion a ofnant pan godo efe : rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt . Cleddyf yr hwn a’i trawo , ni ddeil ; y waywffon , y bicell , na’r llurig . Efe a gyfrif haearn fel gwellt , a phres fel pren pwdr . Ni phair saeth iddo ffoi : cerrig tafl a droed iddo yn sofl . Picellau a gyfrifir fel soflyn ; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon . Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd : efe a daena bethau llymion ar hyd y clai . Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan : efe a esyd y môr fel crochan o ennaint . Efe a wna lwybr golau ar ei ôl ; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn . Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo , yr hwn a wnaethpwyd heb ofn . Efe a edrych ar bob peth uchel : brenin ydyw ar holl feibion balchder . A Job a atebodd yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Myfi a wn y gelli di bob peth ; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt . Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth ? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais ; pethau rhy ryfedd i mi , y rhai nis gwyddwn . Gwrando , atolwg , a myfi a lefaraf : gofynnaf i ti , dysg dithau finnau . Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat : ond yn awr fy llygad a’th welodd di . Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun ; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw . Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job , yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad , Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di , ac yn erbyn dy ddau gyfaill ; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job . Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych , a saith o hyrddod , ac ewch at fy ngwasanaethwr Job , ac offrymwch boethaberth drosoch ; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch : canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef : fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb , am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi , fel fy ngwasanaethwr Job . Felly Eliffas y Temaniad , a Bildad y Suhiad , a Soffar y Naamathiad , a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt . A’r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job . Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job , pan weddïodd efe dros ei gyfeillion : a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg . Yna ei holl geraint , a’i holl garesau , a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen , a ddaethant ato , ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ , ac a gwynasant iddo , ac a’i cysurasant ef , am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef : a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian , a phob un dlws o aur . Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad : canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid , a chwe mil o gamelod , a mil o gyplau ychen , a mil o asynnod . Ac yr oedd iddo saith o feibion , a thair o ferched . Ac efe a alwodd enw y gyntaf , Jemima ; ac enw yr ail Ceseia ; ac enw y drydedd , Ceren‐happuc . Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno : a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr . A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd ; ac a welodd o’i feibion , a meibion ei feibion , bedair cenhedlaeth . Felly Job a fu farw yn hen , ac yn llawn o ddyddiau . </passage></reply></GetPassage>