<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:19</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:19</urn><passage>Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion , ac ni saif yn ffordd pechaduriaid , ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr . Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd ; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos . Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd , yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd ; a’i ddalen ni wywa ; a pha beth bynnag a wnêl , efe a lwydda . Nid felly y bydd yr annuwiol ; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith . Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn , na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn . Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn : ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir . Paham y terfysga y cenhedloedd , ac y myfyria y bobloedd beth ofer ? Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod , a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd , yn erbyn yr Arglwydd , ac yn erbyn ei Grist ef , gan ddywedyd , Drylliwn eu rhwymau hwy , a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym . Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd : yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt . Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid , ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt . Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd . Mynegaf y ddeddf : dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Fy Mab ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais . Gofyn i mi , a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti , a therfynau y ddaear i’th feddiant . Drylli hwynt â gwialen haearn ; maluri hwynt fel llestr pridd . Gan hynny yr awr hon , frenhinoedd , byddwch synhwyrol : barnwyr y ddaear , cymerwch ddysg . Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn , ac ymlawenhewch mewn dychryn . Cusenwch y Mab , rhag iddo ddigio , a’ch difetha chwi o’r ffordd , pan gyneuo ei lid ef ond ychydig . Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef . Arglwydd , mor aml yw fy nhrallodwyr ! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn . Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid , Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw . Sela . Ond tydi , Arglwydd , ydwyt darian i mi ; fy ngogoniant , a dyrchafydd fy mhen . A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd , ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd . Sela . Mi a orweddais , ac a gysgais , ac a ddeffroais : canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd . Nid ofnaf fyrddiwn o bobl , y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn . Cyfod , Arglwydd ; achub fi , fy Nuw : canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên ; torraist ddannedd yr annuwiolion . Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd : dy fendith sydd ar dy bobl . Sela . Gwrando fi pan alwyf , O Dduw fy nghyfiawnder : mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf ; trugarha wrthyf , ac erglyw fy ngweddi . O feibion dynion , pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth ? yr hoffwch wegi , ac yr argeisiwch gelwydd ? Sela . Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun : yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno . Ofnwch , ac na phechwch : ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely , a thewch . Sela . Aberthwch ebyrth cyfiawnder ; a gobeithiwch yn yr Arglwydd . Llawer sydd yn dywedyd , Pwy a ddengys i ni ddaioni ? Arglwydd , dyrcha arnom lewyrch dy wyneb . Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon , mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt . Mewn heddwch hefyd y gorweddaf , ac yr hunaf : canys ti , Arglwydd , yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch . Gwrando fy ngeiriau , Arglwydd ; deall fy myfyrdod . Erglyw ar lef fy ngwaedd , fy Mrenin , a’m Duw : canys arnat y gweddïaf . Yn fore , Arglwydd , y clywi fy llef ; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat , ac yr edrychaf i fyny . Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd : a drwg ni thrig gyda thi . Ynfydion ni safant yn dy olwg : caseaist holl weithredwyr anwiredd . Difethi y rhai a ddywedant gelwydd : yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus . A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd ; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di . Arglwydd , arwain fi yn dy gyfiawnder , o achos fy ngelynion ; ac uniona dy ffordd o’m blaen . Canys nid oes uniondeb yn eu genau ; eu ceudod sydd anwireddau : bedd agored yw eu ceg ; gwenieithiant â’u tafod . Distrywia hwynt , O Dduw ; syrthiant oddi wrth eu cynghorion : gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau : canys gwrthryfelasant i’th erbyn . Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti : llafarganant yn dragywydd , am i ti orchuddio drostynt : a’r rhai a garant dy enw , gorfoleddant ynot . Canys ti , Arglwydd , a fendithi y cyfiawn : â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef . Arglwydd , na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd , ac na chosba fi yn dy lid . Trugarha wrthyf , Arglwydd : canys llesg ydwyf fi : iachâ fi , O Arglwydd ; canys fy esgyrn a gystuddiwyd . A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr : tithau , Arglwydd , pa hyd ? Dychwel , Arglwydd , gwared fy enaid : achub fi er mwyn dy drugaredd . Canys yn angau nid oes goffa amdanat : yn y bedd pwy a’th folianna ? Diffygiais gan fy ochain ; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa : yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau . Treuliodd fy llygad gan ddicter : heneiddiodd oherwydd fy holl elynion . Ciliwch oddi wrthyf , holl weithredwyr anwiredd : canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain . Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad : yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi . Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion : dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth . Arglwydd fy Nuw , ynot yr ymddiriedais : achub fi rhag fy holl erlidwyr , a gwared fi . Rhag iddo larpio fy enaid fel llew , gan ei rwygo , pryd na byddo gwaredydd . O Arglwydd fy Nuw , os gwneuthum hyn ; od oes anwiredd yn fy nwylo ; O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi , ( ie , mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos ; ) Erlidied y gelyn fy enaid , a goddiwedded : sathred hefyd fy mywyd i’r llawr , a gosoded fy ngogoniant yn y llwch . Sela . Cyfod , Arglwydd , yn dy ddicllonedd , ymddyrcha , oherwydd llid fy ngelynion : deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist . Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant : er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder . Yr Arglwydd a farn y bobloedd : barn fi , O Arglwydd , yn ôl fy nghyfiawnder , ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof . Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion , eithr cyfarwydda di y cyfiawn : canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau . Fy amddiffyn sydd o Dduw , Iachawdwr y rhai uniawn o galon . Duw sydd Farnydd cyfiawn , a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol . Oni ddychwel yr annuwiol , efe a hoga ei gleddyf : efe a anelodd ei fwa , ac a’i paratôdd . Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol : efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr . Wele , efe a ymddŵg anwiredd , ac a feichiogodd ar gamwedd , ac a esgorodd ar gelwydd . Torrodd bwll , cloddiodd ef , syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth . Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun , a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun . Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder , a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf . Arglwydd ein Ior ni , mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear ! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd . O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth , o achos dy elynion , i ostegu y gelyn a’r ymddialydd . Pan edrychwyf ar y nefoedd , gwaith dy fysedd ; y lloer a’r sêr , y rhai a ordeiniaist ; Pa beth yw dyn , i ti i’w gofio ? a mab dyn , i ti i ymweled ag ef ? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion , ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch . Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo ; gosodaist bob peth dan ei draed ef : Defaid ac ychen oll , ac anifeiliaid y maes hefyd ; Ehediaid y nefoedd , a physgod y môr , ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd . Arglwydd ein Ior , mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear ! Clodforaf di , O Arglwydd , â’m holl galon : mynegaf dy holl ryfeddodau . Llawenychaf a gorfoleddaf ynot : canaf i’th enw di , y Goruchaf . Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl , hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di . Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda : eisteddaist ar orseddfainc , gan farnu yn gyfiawn . Ceryddaist y cenhedloedd , distrywiaist yr annuwiol ; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol . Ha elyn , darfu am ddinistr yn dragywydd : a diwreiddiaist y dinasoedd ; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt . Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd : efe a baratôdd ei orseddfainc i farn . Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder : efe a farn y bobloedd mewn uniondeb . Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig , noddfa yn amser trallod . A’r rhai a adwaenant dy enw , a ymddiriedant ynot : canys ni adewaist , O Arglwydd , y rhai a’th geisient . Canmolwch yr Arglwydd , yr hwn sydd yn preswylio yn Seion : mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef . Pan ymofynno efe am waed , efe a’u cofia hwynt : nid anghofia waedd y cystuddiol . Trugarha wrthyf , Arglwydd ; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion , fy nyrchafydd o byrth angau : Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion : llawenychaf yn dy iachawdwriaeth . Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant : yn y rhwyd a guddiasant , y daliwyd eu troed eu hun . Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna : yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun . Higgaion . Sela . Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern , a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw . Canys nid anghofir y tlawd byth : gobaith y trueiniaid ni chollir byth . Cyfod , Arglwydd ; na orfydded dyn : barner y cenhedloedd ger dy fron di . Gosod , Arglwydd , ofn arnynt : fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt . Sela . Paham , Arglwydd , y sefi o bell ? yr ymguddi yn amser cyfyngder ? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd : dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant . Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon ; ac a fendithia y cybydd , yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio . Yr annuwiol , gan uchder ei ffroen , ni chais Dduw : nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef . Ei ffyrdd sydd flin bob amser ; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef : chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion . Dywedodd yn ei galon , Ni’m symudir : oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Ei enau sydd yn llawn melltith , a dichell , a thwyll : dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd . Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi : mewn cilfachau y lladd efe y gwirion : ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd . Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau : cynllwyn y mae i ddal y tlawd : efe a ddeil y tlawd , gan ei dynnu i’w rwyd . Efe a ymgryma , ac a ymostwng , fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef . Dywedodd yn ei galon , Anghofiodd Duw : cuddiodd ei wyneb ; ni wêl byth . Cyfod , Arglwydd ; O Dduw , dyrcha dy law : nac anghofia y cystuddiol . Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw ? dywedodd yn ei galon , Nid ymofynni . Gwelaist hyn ; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham , i roddi tâl â’th ddwylo dy hun : arnat ti y gedy y tlawd ; ti yw cynorthwywr yr amddifad . Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus : cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim . Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd : difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef . Arglwydd , clywaist ddymuniad y tlodion : paratôi eu calon hwynt , gwrendy dy glust arnynt ; I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig , fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach . Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried : pa fodd y dywedwch wrth fy enaid , Eheda i’ch mynydd fel aderyn ? Canys wele , y drygionus a anelant fwa , paratoesant eu saethau ar y llinyn ; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon . Canys y seiliau a ddinistriwyd ; pa beth a wna y cyfiawn ? Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd ; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd : y mae ei lygaid ef yn gweled , ei amrantau yn profi meibion dynion . Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn : eithr cas gan ei enaid ef y drygionus , a’r hwn sydd hoff ganddo drawster . Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau , tân a brwmstan , a phoethwynt ystormus : dyma ran eu ffiol hwynt . Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder : ei wyneb a edrych ar yr uniawn . Achub , Arglwydd ; canys darfu y trugarog : oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion . Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog : â gwefus wenieithgar , ac â chalon ddauddyblyg , y llefarant . Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus , a’r tafod a person ddywedo fawrhydi : Y rhai a ddywedant , Â’n tafod y gorfyddwn ; ein gwefusau a sydd eiddom ni : pwy sydd arglwydd arnom ni ? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig , oherwydd uchenaid y tlodion , y cyfodaf yn awr , medd yr Arglwydd ; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo . Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion ; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd , wedi ei buro seithwaith . Ti , Arglwydd , a’u cedwi hwynt : cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd . Yr annuwiolion a rodiant o amgylch , pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion . Pa hyd , Arglwydd , y’m hanghofi ? ai yn dragywydd ? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof ? Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid , gan fod blinder beunydd yn fy nghalon ? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf ? Edrych , a chlyw fi , O Arglwydd fy Nuw : goleua fy llygaid , rhag i mi huno yn yr angau : Rhag dywedyd o’m gelyn , Gorchfygais ef ; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu , os gogwyddaf . Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di ; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth : canaf i’r Arglwydd , am iddo synio arnaf . Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon , Nid oes un Duw . Ymlygrasant ; ffieiddwaith a wnaethant : nid oes a wnêl ddaioni . Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion , i weled a oedd neb deallgar , yn ymgeisio â Duw . Ciliodd pawb ; cydymddifwynasant : nid oes a wnêl ddaioni , nac oes un . Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd ? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara : ni alwasant ar yr Arglwydd . Yno y dychrynasant gan ofn ; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn . Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi ; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo . Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion ! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl , yr ymhyfryda Jacob , ac y llawenha Israel . Arglwydd , pwy a drig yn dy babell ? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd ? Yr hwn a rodia yn berffaith , ac a wnêl gyfiawnder , ac a ddywed wir yn ei galon : Heb absennu â’i dafod , heb wneuthur drwg i’w gymydog , ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog . Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg ; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd : yr hwn a dwng i’w niwed ei hun , ac ni newidia . Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth , ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion . A wnelo hyn , nid ysgogir yn dragywydd . Cadw fi , O Dduw : canys ynot yr ymddiriedaf . Fy enaid , dywedaist wrth yr Arglwydd , Fy Arglwydd ydwyt ti : fy na nid yw ddim i ti : Ond i’r saint sydd ar y ddaear , a’r rhai rhagorol , yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch . Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr : eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi , ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau . Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol : ti a gynheli fy nghoelbren . Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd : ie , y mae i mi etifeddiaeth deg . Bendithiaf yr Arglwydd , yr hwn a’m cynghorodd : fy arennau hefyd a’m dysgant y nos . Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron : am ei fod ar fy neheulaw , ni’m hysgogir . Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon , ac ymhyfrydodd fy ngogoniant : fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith . Canys ni adewi fy enaid yn uffern ; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth . Dangosi i mi lwybr bywyd : digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron , ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd . Clyw , Arglwydd , gyfiawnder , ystyria fy lefain , gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll . Deued fy marn oddi ger dy fron : edryched dy lygaid ar uniondeb . Profaist fy nghalon ; gofwyaist fi y nos ; chwiliaist fi , ac ni chei ddim : bwriedais na throseddai fy ngenau . Tuag at am weithredoedd dynion , wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd . Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau , fel na lithro fy nhraed . Mi a elwais arnat ; canys gwrandewi arnaf fi , O Dduw : gostwng dy glust ataf , ac erglyw fy ymadrodd . Dangos dy ryfedd drugareddau , O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot , rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw . Cadw fi fel cannwyll llygad : cudd fi dan gysgod dy adenydd , Rhag yr annuwiolion , y rhai a’m gorthrymant , rhag fy ngelynion marwol , y rhai a’m hamgylchant . Caesant gan eu braster : â’u genau y llefarant mewn balchder . Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron : gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear . Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu , ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel . cyfod , Arglwydd , achub ei flaen ef , cwympa ef : gwared fy enaid rhag yr annuwio , yr hwn yw dy gleddyf di ; Rhag dynion , y rhai yw dy law , O Arglwydd , rhag dynion y byd , y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma , a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor : llawn ydynt o feibion , a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain . Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder : digonir fi , pan ddihunwyf , â’th ddelw di . Caraf di , Arglwydd fy nghadernid . Yr Arglwydd yw fy nghraig , a’m hamddiffynfa , a’m gwaredydd ; fy Nuw , fy nghadernid , yn yr hwn yr ymddiriedaf ; fy nharian , a chorn fy iachawdwriaeth , a’m huchel dŵr . Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy : felly y’m cedwir rhag fy ngelynion . Gofidion angau a’m cylchynasant , ac afonydd y fall a’m dychrynasant i . Gofidiau uffern a’m cylchynasant : maglau angau a achubasant fy mlaen . Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd , ac y gwaeddais ar fy Nuw : efe a glybu fy llef o’i deml , a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef . Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear ; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd , am iddo ef ddigio . Dyrchafodd mwg o’i ffroenau , a thân a ysodd o’i enau : glo a enynasant ganddo . Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd , ac a ddisgynnodd : a thywyllwch oedd dan ei draed ef . Marchogodd hefyd ar y ceriwb , ac a ehedodd : ie , efe a ehedodd ar adenydd y gwynt . Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo ; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd , a thew gymylau yr awyr . Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron , ei gymylau a aethant heibio ; cenllysg a marwor tanllyd . Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd , a’r Goruchaf a roddes ei lef ; cenllysg a marwor tanllyd . Ie , efe a anfonodd ei saethau , ac a’u gwasgarodd hwynt ; ac a saethodd ei fellt , ac a’u gorchfygodd hwynt . Gwaelodion y dyfroedd a welwyd , a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di , O Arglwydd , a chan chwythad anadl dy ffroenau . Anfonodd oddi uchod , cymerodd fi , tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer . Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn , a rhag fy nghaseion : canys yr oeddynt yn drech na mi . Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid : ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi . Dug fi hefyd i ehangder : gwaredodd fi ; canys ymhoffodd ynof . Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder ; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi . Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd , ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw . Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i , a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf . Bûm hefyd yn berffaith gydag ef , ac ymgedwais rhag fy anwiredd . A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder , yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef . A’r trugarog y gwnei drugaredd ; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd . A’r glân y gwnei lendid ; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni . Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig : ond ti a ostyngi olygon uchel . Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll : yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch . Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin ; ac yn fy Nuw y llemais dros fur . Duw sydd berffaith ei ffordd : gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro : tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo . Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd ? a phwy sydd graig ond ein Duw ni ? Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth , ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith . Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod ; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla . Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel ; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau . Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth ; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd , a’th fwynder a’m lluosogodd . Ehengaist fy ngherddediad danaf ; fel na lithrodd fy nhraed . Erlidiais fy ngelynion , ac a’u goddiweddais : ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt . Archollais hwynt , fel na allent godi : syrthiasant dan fy nhraed . Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel : darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn . Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion ; fel y difethwn fy nghaseion . Gwaeddasant , ond nid oedd achubydd : sef ar yr Arglwydd , ond nid atebodd efe hwynt . Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt : teflais hwynt allan megis tom yr heolydd . Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl ; gosodaist fi yn ben cenhedloedd : pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant . Pan glywant amdanaf , ufuddhânt i mi : meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi . Meibion dieithr a ballant , ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau . Byw yw yr Arglwydd , a bendithier fy nghraig : a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth . Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial , ac a ddarostwng y bobloedd danaf . Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion : ie , ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn : achubaist fi rhag y gŵr traws . Am hynny y moliannaf di , O Arglwydd , ymhlith y cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin ; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog , i Dafydd , ac i’w had ef byth . Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw ; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef . Dydd i ddydd a draetha ymadrodd , a nos i nos a ddengys wybodaeth . Nid oes iaith nac ymadrodd , lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt . Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear , a’u geiriau hyd eithafoedd byd : i’r haul y gosododd efe babell ynddynt ; Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell : ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa . O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan , a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt : ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef . Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith , yn troi yr enaid : tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr , ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth . Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn , yn llawenhau y galon : gorchymyn yr Arglwydd sydd bur , yn goleuo y llygaid . Ofn yr Arglwydd sydd lân , yn parhau yn dragywydd ; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd , cyfiawn ydynt i gyd . Mwy dymunol ŷnt nag aur , ie , nag aur coeth lawer : melysach hefyd na’r mêl , ac na diferiad diliau mêl . Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was : o’u cadw y mae gwobr lawer . Pwy a ddeall ei gamweddau ? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig . Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus : na arglwyddiaethont arnaf : yna y’m perffeithir , ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer . Bydded ymadroddion fy ngenau , a myfyrdod fy nghalon , yn gymeradwy ger dy fron , O Arglwydd , fy nghraig a’m prynwr . Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder : enw Duw Jacob a’th ddiffynno . Anfoned i ti gymorth o’r cysegr , a nerthed di o Seion . Cofied dy holl offrymau , a bydded fodlon i’th boethoffrwm . Sela . Rhodded i ti wrth fodd dy galon ; a chyflawned dy holl gyngor . Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di , a dyrchafwn faner yn enw ein Duw : cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau . Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog : efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd , yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef . Ymddiried rhai mewn cerbydau , a rhai mewn meirch : ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw . Hwy a gwympasant , ac a syrthiasant ; ond nyni a gyfodasom , ac a safasom . Achub , Arglwydd : gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom . Arglwydd , yn dy nerth y llawenycha y Brenin ; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda ! Deisyfiad ei galon a roddaist iddo ; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist . Sela . Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni : gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth . Gofynnodd oes gennyt , a rhoddaist iddo : ie , hir oes , byth ac yn dragywydd . Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth : gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch . Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol ; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd . Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd , a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef . Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion : dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion . Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid : yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt , a’r tân a’u hysa hwynt . Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear , a’u had o blith meibion dynion . Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn : meddyliasant amcan , heb allu ohonynt ei gwblhau . Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau : ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau . Ymddyrcha , Arglwydd , yn dy nerth ; canwn , a chanmolwn dy gadernid . Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gwrthodaist ? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth , a geiriau fy llefain ? Fy Nuw , llefain yr ydwyf y dydd , ac ni wrandewi ; y nos hefyd , ac nid oes osteg i mi . Ond tydi wyt sanctaidd , O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel . Ein tadau a obeithiasant ynot : gobeithiasant , a gwaredaist hwynt . Arnat ti y llefasant , ac achubwyd hwynt : ynot yr ymddiriedasant , ac nis gwaradwyddwyd hwynt . A minnau , pryf ydwyf , ac nid gŵr ; gwarthrudd dynion , a dirmyg y bobl . Pawb a’r a’m gwelant , a’m gwatwarant : llaesant wefl , ysgydwant ben , gan ddywedyd , Ymddiriedodd yn yr Arglwydd ; gwareded ef : achubed ef , gan ei fod yn dda ganddo . Canys ti a’m tynnaist o’r groth : gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam . Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru : o groth fy mam fy Nuw ydwyt . Nac ymbellha oddi wrthyf ; oherwydd cyfyngder sydd agos : canys nid oes cynorthwywr . Teirw lawer a’m cylchynasant : gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant . Agorasant arnaf eu genau , fel llew rheibus a rhuadwy . Fel dwfr y’m tywalltwyd , a’m hesgyrn oll a ymwahanasant : fy nghalon sydd fel cwyr ; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd . Fy nerth a wywodd fel priddlestr ; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau : ac i lwch angau y’m dygaist . Canys cŵn a’m cylchynasant : cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant : trywanasant fy nwylo a’m traed . Gallaf gyfrif fy holl esgyrn : y maent yn tremio ac yn edrych arnaf . Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg , ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren . Ond tydi , Arglwydd , nac ymbellha : fy nghadernid , brysia i’m cynorthwyo . Gwared fy enaid rhag y cleddyf , fy unig enaid o feddiant y ci . Achub fi rhag safn y llew : canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist . Mynegaf dy enw i’m brodyr : yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf . Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd , molwch ef : holl had Jacob , gogoneddwch ef ; a holl had Israel , ofnwch ef . Canys ni ddirmygodd , ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd ; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo : ond pan lefodd efe arno , efe a wrandawodd . Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr : fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef . Y tlodion a fwytânt , ac a ddiwellir : y rhai a geisiant yr Arglwydd , a’i moliannant ef : eich calon fydd byw yn dragywydd . Holl derfynau y ddaear a gofiant , ac a droant at yr Arglwydd : a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di . Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas : ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd . Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt , ac a addolant : y rhai a ddisgynnant i’r llwch , a ymgrymant ger ei fron ef ; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun . Eu had a’i gwasanaetha ef : cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth . Deuant , ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir , mai efe a wnaeth hyn . Yr Arglwydd yw fy Mugail ; ni bydd eisiau arnaf . Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog : efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel . Efe a ddychwel fy enaid : efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw . Ie , pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau , nid ofnaf niwed : canys yr wyt ti gyda mi ; dy wialen a’th ffon a’m cysurant . Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr : iraist fy mhen ag olew ; fy ffiol sydd lawn . Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd : a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd . Eiddo yr Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder ; y byd , ac a breswylia ynddo . Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd , ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd . Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd ? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef ? Y glân ei ddwylo , a’r pur ei galon ; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd , ac ni thyngodd i dwyllo . Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd , a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth . Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef , y rhai a geisiant dy wyneb di , O Jacob . Sela . O byrth , dyrchefwch eich pennau ; ac ymddyrchefwch , ddrysau tragwyddol ; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn . Pwy yw y Brenin gogoniant hwn ? yr Arglwydd nerthol a chadarn , yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel . O byrth , dyrchefwch eich pennau ; ac ymddyrchefwch , ddrysau tragwyddol ; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn . Pwy yw y Brenin gogoniant hwn ? Arglwydd y lluoedd , efe yw Brenin y gogoniant . Sela . Atat ti , O Arglwydd , y dyrchafaf fy enaid . O fy Nuw , ynot ti yr ymddiriedais ; na’m gwaradwydder ; na orfoledded fy ngelynion arnaf . Ie , na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti : gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos . Pâr i mi wybod dy ffyrdd , O Arglwydd : dysg i mi dy lwybrau . Tywys fi yn dy wirionedd , a dysg fi : canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth ; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd . Cofia , Arglwydd , dy dosturiaethau , a’th drugareddau : canys erioed y maent hwy . Na chofia bechodau fy ieuenctid , na’m camweddau : yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf , er mwyn dy ddaioni , Arglwydd . Da ac uniawn yw yr Arglwydd : oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd . Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn : a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig . Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd , i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef . Er mwyn dy enw , Arglwydd , maddau fy anwiredd : canys mawr yw . Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd ? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso . Ei enaid ef a erys mewn daioni : a’i had a etifedda y ddaear . Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef : a’i gyfamod hefyd , i’w cyfarwyddo hwynt . Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd : canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd . Tro ataf , a thrugarha wrthyf : canys unig a thlawd ydwyf . Gofidiau fy nghalon a helaethwyd : dwg fi allan o’m cyfyngderau . Gwêl fy nghystudd a’m helbul , a maddau fy holl bechodau . Edrych ar fy ngelynion ; canys amlhasant ; â chasineb traws hefyd y’m casasant . Cadw fy enaid , ac achub fi : na’m gwaradwydder : canys ymddiriedais ynot . Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi : canys yr wyf yn disgwyl wrthyt . O Dduw , gwared Israel o’i holl gyfyngderau . Barn fi , Arglwydd ; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd : ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd : am hynny ni lithraf . Hola fi , Arglwydd , a phrawf fi : chwilia fy arennau a’m calon . Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid : ac mi a rodiais yn dy wirionedd . Nid eisteddais gyda dynion coegion ; a chyda’r rhai trofaus nid af . Caseais gynulleidfa y drygionus ; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf . Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd : a’th allor , O Arglwydd , a amgylchynaf : I gyhoeddi â llef clodforedd , ac i fynegi dy holl ryfeddodau . Arglwydd , hoffais drigfan dy dŷ , a lle preswylfa dy ogoniant . Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid , na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd : Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo , a’u deheulaw yn llawn gwobrau . Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd : gwared fi , a thrugarha wrthyf . Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn : yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf , O Arglwydd . Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth ; rhag pwy yr ofnaf ? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd ; rhag pwy y dychrynaf ? Pan nesaodd y rhai drygionus , sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion , i’m herbyn , i fwyta fy nghnawd , hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant . Pe gwersyllai llu i’m herbyn , nid ofna fy nghalon : pe cyfodai cad i’m herbyn , yn hyn mi a fyddaf hyderus . Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd , hynny a geisiaf ; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd , i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd , ac i ymofyn yn ei deml . Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell : yn nirgelfa ei babell y’m cuddia ; ar graig y’m cyfyd i . Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch : am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd ; canaf , ie , canmolaf yr Arglwydd . Clyw , O Arglwydd , fy lleferydd pan lefwyf : trugarha hefyd wrthyf , a gwrando arnaf . Pan ddywedaist , Ceisiwch fy wyneb ; fy nghalon a ddywedodd wrthyt , Dy wyneb a geisiaf , O Arglwydd . Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf ; na fwrw ymaith dy was mewn soriant : fy nghymorth fuost ; na ad fi , ac na wrthod fi , O Dduw fy iachawdwriaeth . Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod , yr Arglwydd a’m derbyn . Dysg i mi dy ffordd , Arglwydd , ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb , oherwydd fy ngelynion . Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion : canys gau dystion , a rhai a adroddant drawster , a gyfodasant i’m herbyn . Diffygiaswn , pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw . Disgwyl wrth yr Arglwydd : ymwrola , ac efe a nertha dy galon : disgwyl , meddaf , wrth yr Arglwydd . Arnat ti , Arglwydd , y gwaeddaf ; fy nghraig , na ddistawa wrthyf : rhag , o thewi wrthyf , i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll . Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat , pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd . Na thyn fi gyda’r annuwiolion , a chyda gweithredwyr anwiredd ; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion , a drwg yn eu calon . Dyro iddynt yn ôl eu gweithred , ac yn ôl drygioni eu dychmygion : dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo ; tâl iddynt eu haeddedigaethau . Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd , na gwaith ei ddwylo ef , y dinistria efe hwynt , ac nis adeilada hwynt . Bendigedig fyddo yr Arglwydd : canys clybu lef fy ngweddïau . Yr Arglwydd yw fy nerth , a’m tarian ; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon , a myfi a gynorthwywyd : oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon , ac ar fy nghân y clodforaf ef . Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai , a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe . Cadw dy bobl , a bendithia dy etifeddiaeth : portha hwynt hefyd , a dyrcha hwynt yn dragywydd . Moeswch i’r Arglwydd , chwi feibion cedyrn , moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd . Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd : Duw y gogoniant a darana ; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion . Llef yr Arglwydd sydd mewn grym : llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch . Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd : ie , dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus . Efe a wna iddynt lamu fel llo ; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn . Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân . Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu : yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu . Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu , ac a ddinoetha y coedydd : ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef . Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant ; ie , yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd . Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl : yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd . Mawrygaf di , O Arglwydd : canys dyrchefaist fi , ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid . Arglwydd fy Nuw , llefais arnat , a thithau a’m hiacheaist . Arglwydd , dyrchefaist fy enaid o’r bedd : cedwaist fi yn fyw , rhag disgyn ohonof i’r pwll . Cenwch i’r Arglwydd , ei saint ef ; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef . Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid ; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd : dros brynhawn yr erys wylofain , ac erbyn y bore y bydd gorfoledd . Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant , Ni’m syflir yn dragywydd . O’th ddaioni , Arglwydd , y gosodaist gryfder yn fy mynydd : cuddiaist dy wyneb , a bûm helbulus . Arnat ti , Arglwydd , y llefais , ac â’r Arglwydd yr ymbiliais . Pa fudd sydd yn fy ngwaed , pan ddisgynnwyf i’r ffos ? a glodfora y llwch di ? a fynega efe dy wirionedd ? Clyw , Arglwydd , a thrugarha wrthyf : Arglwydd , bydd gynorthwywr i mi . Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi : diosgaist fy sachwisg , a gwregysaist fi â llawenydd ; Fel y cano fy ngogoniant i ti , ac na thawo . O Arglwydd fy Nuw , yn dragwyddol y’th foliannaf . Ynot ti , Arglwydd , yr ymddiriedais : na’m gwaradwydder yn dragywydd : gwared fi yn dy gyfiawnder . Gogwydda dy glust ataf ; gwared fi ar frys : bydd i mi yn graig gadarn , yn dŷ amddiffyn i’m cadw . Canys fy nghraig a’m castell ydwyt : gan hynny er mwyn dy enw tywys fi , ac arwain fi . Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi : canys ti yw fy nerth . I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd : gwaredaist fi , O Arglwydd Dduw y gwirionedd . Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd : minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd . Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd : canys gwelaist fy adfyd ; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau ; Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn ; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder . Trugarha wrthyf , Arglwydd ; canys cyfyng yw arnaf : dadwinodd fy llygad gan ofid , ie , fy enaid a’m bol . Canys fy mywyd a ballodd gan ofid , a’m blynyddoedd gan ochain : fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd , a’m hesgyrn a bydrasant . Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion , a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion ; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant : y rhai a’m gwelent allan , a gilient oddi wrthyf . Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl : yr ydwyf fel llestr methedig . Canys clywais ogan llaweroedd ; dychryn oedd o bob parth : pan gydymgyngorasant yn fy erbyn , y bwriadasant fy nieneidio . Ond mi a obeithiais ynot ti , Arglwydd : dywedais , Fy Nuw ydwyt . Yn dy law di y mae fy amserau : gwared fi o law fy ngelynion , ac oddi wrth fy erlidwyr . Llewyrcha dy wyneb ar dy was : achub fi er mwyn dy drugaredd . Arglwydd , na waradwydder fi ; canys gelwais arnat : gwaradwydder yr annuwiolion , torrer hwynt i’r bedd . Gosteger y gwefusau celwyddog , y rhai a ddywedant yn galed , trwy falchder a diystyrwch , yn erbyn y cyfiawn . Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant ; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot , gerbron meibion dynion ! Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion : cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau . Bendigedig fyddo yr Arglwydd : canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn . Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst , Fe’m bwriwyd allan o’th olwg : er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat . Cerwch yr Arglwydd , ei holl saint ef : yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid , ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder . Ymwrolwch , ac efe a gryfha eich calon , chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd , ac y cuddiwyd ei bechod . Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd , ac ni byddo dichell yn ei ysbryd . Tra y tewais , heneiddiodd fy esgyrn , gan fy rhuad ar hyd y dydd . Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos : fy irder a drowyd yn sychder haf . Sela . Addefais fy mhechod wrthyt , a’m hanwiredd ni chuddiais : dywedais , Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd ; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod . Sela . Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir : yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion , ni chânt nesáu ato ef . Ti ydwyt loches i mi ; cedwi fi rhag ing : amgylchyni fi â chaniadau ymwared . Sela . Cyfarwyddaf di , a dysgaf di yn y ffordd yr elych : â’m llygad arnat y’th gynghoraf . Na fyddwch fel march , neu ful , heb ddeall : yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa , ac â ffrwyn , rhag ei ddynesáu atat . Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , trugaredd a’i cylchyna ef . Y rhai cyfiawn , byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd : a’r rhai uniawn o galon oll , cenwch yn llafar . Ymlawenhewch , y rhai cyfiawn , yn yr Arglwydd : i’r rhai uniawn gweddus yw mawl . Molwch yr Arglwydd â’r delyn : cenwch iddo â’r nabl , ac â’r dectant . Cenwch iddo ganiad newydd : cenwch yn gerddgar , yn soniarus . Canys uniawn yw gair yr Arglwydd ; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb . Efe a gâr gyfiawnder a barn : o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn . Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd ; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef . Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr : y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau . Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd : holl drigolion y byd arswydant ef . Canys efe a ddywedodd , ac felly y bu : efe a orchmynnodd , a hynny a safodd . Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd : y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd . Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd ; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth . Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi ; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun . Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd : y mae yn gweled holl feibion dynion . O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear . Efe a gydluniodd eu calon hwynt : efe a ddeall eu holl weithredoedd . Ni waredir brenin gan liaws llu : ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder . Peth ofer yw march i ymwared : ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder . Wele , y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef , sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef ; I waredu eu henaid rhag angau , ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn . Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd : efe yw ein porth a’n tarian . Canys ynddo ef y llawenycha ein calon , oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef . Bydded dy drugaredd , Arglwydd , arnom ni , megis yr ydym yn ymddiried ynot . Bendithiaf yr Arglwydd bob amser : ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad . Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid : y rhai gostyngedig a glywant hyn , ac a lawenychant . Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi ; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef . Ceisiais yr Arglwydd , ac efe a’m gwrandawodd ; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn . Edrychasant arno , a hwy a oleuwyd ; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd . Y tlawd hwn a lefodd , a’r Arglwydd a’i clybu , ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau . Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef , ac a’u gwared hwynt . Profwch , a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd : gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo . Ofnwch yr Arglwydd , ei saint ef : canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef . Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc : ond y sawl a geisiant yr Arglwydd , ni bydd arnynt eisiau dim daioni . Deuwch , blant , gwrandewch arnaf : dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd . Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd , ac a gâr hir ddyddiau , i weled daioni ? Cadw dy dafod rhag drwg , a’th wefusau rhag traethu twyll . Cilia oddi wrth ddrwg , a gwna dda ; ymgais â thangnefedd , a dilyn hi . Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn : a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt . Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg , i dorri eu coffa oddi ar y ddaear . Y rhai cyfiawn a lefant ; a’r Arglwydd a glyw , ac a’u gwared o’u holl drallodau . Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon ; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd . Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn : ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll . Efe a geidw ei holl esgyrn ef : ni thorrir un ohonynt . Drygioni a ladd yr annuwiol : a’r rhai a gasânt y cyfiawn , a anrheithir . Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision : a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef , nid anrheithir hwynt . Dadlau fy nadl , Arglwydd , yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn : ymladd â’r rhai a ymladdant â mi . Ymafael yn y darian a’r astalch , a chyfod i’m cymorth . Dwg allan y waywffon , ac argaea yn erbyn fy erlidwyr : dywed wrth fy enaid , Myfi yw dy iachawdwriaeth . Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid : ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu . Byddant fel us o flaen y gwynt : ac angel yr Arglwydd yn eu herlid . Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa : ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid . Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew , yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid . Deued arno ddistryw ni wypo ; a’i rwyd yr hon a guddiodd , a’i dalio : syrthied yn y distryw hwnnw . A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd : efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef . Fy holl esgyrn a ddywedant , O Arglwydd , pwy sydd fel tydi , yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef : y truan hefyd a’r tlawd , rhag y neb a’i hysbeilio ? Tystion gau a gyfodasant : holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho . Talasant i mi ddrwg dros dda , i ysbeilio fy enaid . A minnau , pan glafychent hwy , oeddwn â’m gwisg o sachlen : gostyngais fy enaid ag ympryd , a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun . Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill , neu yn frawd i mi : ymostyngais mewn galarwisg , fel un yn galaru am ei fam . Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i , ac ymgasglasant ; ie , ymgasglodd efryddion yn fy erbyn , ac nis gwyddwn ; rhwygasant fi , ac ni pheidient . Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd , ysgyrnygasant eu dannedd arnaf . Arglwydd , pa hyd yr edrychi di ar hyn ? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt , fy unig enaid rhag y llewod . Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr : moliannaf di ymhlith pobl lawer . Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos : y sawl a’m casânt yn ddiachos , nac amneidiant â llygad . Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus ; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir . Lledasant eu safn arnaf , gan ddywedyd , Ha , ha , gwelodd ein llygad . Gwelaist hyn , Arglwydd : na thaw dithau ; nac ymbellha oddi wrthyf , O Arglwydd . Cyfod , a deffro i’m barn , sef i’m dadl , fy Nuw a’m Harglwydd . Barn fi , Arglwydd fy Nuw , yn ôl dy gyfiawnder ; ac na lawenhânt o’m plegid . Na ddywedant yn eu calon , O ein gwynfyd : na ddywedant , Llyncasom ef . Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd , y rhai sydd lawen am fy nrygfyd : gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn . Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder : dywedant hefyd yn wastad , Mawryger yr Arglwydd , yr hwn a gâr lwyddiant ei was . Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd . Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon , nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef . Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan , nes cael ei anwiredd yn atgas . Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll : peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni . Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely : efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda ; nid ffiaidd ganddo ddrygioni . Dy drugaredd , Arglwydd , sydd hyd y nefoedd , a’th wirionedd hyd y cymylau . Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder ; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau : dyn ac anifail a gedwi di , Arglwydd . Mor werthfawr yw dy drugaredd , O Dduw ! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd . Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt . Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd : yn dy oleuni di y gwelwn oleuni . Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant , a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon . Na ddeued troed balchder i’m herbyn : na syfled llaw yr annuwiol fi . Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd : gwthiwyd hwynt i lawr , ac ni allant gyfodi . Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus , ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd . Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt , ac y gwywant fel gwyrddlysiau . Gobeithia yn yr Arglwydd , a gwna dda ; felly y trigi yn y tir , a thi a borthir yn ddiau . Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd ; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon . Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd , ac ymddiried ynddo ; ac efe a’i dwg i ben . Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni , a’th farn fel hanner dydd . Distawa yn yr Arglwydd , a disgwyl wrtho : nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd , wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion . Paid â digofaint , a gad ymaith gynddaredd : nac ymddigia er dim i wneuthur drwg . Canys torrir ymaith y drwg ddynion : ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd , hwynt‐hwy a etifeddant y tir . Canys eto ychydigyn , ac ni welir yr annuwiol : a thi a edrychi am ei le ef , ac ni bydd dim ohono . Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear ; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd . Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn , ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno . Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef : canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod . Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf , ac a anelasant eu bwa , i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog , ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd . Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain , a’u bwâu a ddryllir . Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer . Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir : ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn . Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith : a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd . Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd : ac yn amser newyn y cânt ddigon . Eithr collir yr annuwiolion , a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant : yn fwg y diflannant hwy . Yr annuwiol a echwynna , ac ni thâl adref : ond y cyfiawn sydd drugarog , ac yn rhoddi . Canys y rhai a fendigo efe , a etifeddant y tir ; a’r rhai a felltithio efe , a dorrir ymaith . Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da : a da fydd ganddo ei ffordd ef . Er iddo gwympo , ni lwyr fwrir ef i lawr : canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law . Mi a fûm ieuanc , ac yr ydwyf yn hen ; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu , na’i had yn cardota bara . Bob amser y mae efe yn drugarog , ac yn rhoddi benthyg ; a’i had a fendithir . Cilia di oddi wrth ddrwg , a gwna dda ; a chyfanhedda yn dragywydd . Canys yr Arglwydd a gâr farn , ac ni edy ei saint ; cedwir hwynt yn dragywydd : ond had yr annuwiol a dorrir ymaith . Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear , ac a breswyliant ynddi yn dragywydd . Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb , a’i dafod a draetha farn . Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef ; a’i gamre ni lithrant . Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn , ac a gais ei ladd ef . Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef , ac ni ad ef yn euog pan ei barner . Gobeithia yn yr Arglwydd , a chadw ei ffordd ef , ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir : pan ddifether yr annuwiolion , ti a’i gweli . Gwelais yr annuwiol yn gadarn , ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd . Er hynny efe a aeth ymaith , ac wele , nid oedd mwy ohono : a mi a’i ceisiais , ac nid oedd i’w gael . Ystyr y perffaith , ac edrych ar yr uniawn : canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd . Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir : diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith . A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd : efe yw eu nerth yn amser trallod . A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt , ac a’u gwared : efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion , ac a’u ceidw hwynt , am iddynt ymddiried ynddo . Arglwydd , na cherydda fi yn dy lid : ac na chosba fi yn dy ddicllonedd . Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof , a’th law yn drom arnaf . Nid oes iechyd yn fy nghnawd , oherwydd dy ddicllonedd ; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn , oblegid fy mhechod . Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen : megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi . Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant , gan fy ynfydrwydd . Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr : beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus . Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf ; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd . Gwanhawyd , a drylliwyd fi yn dra mawr : rhuais gan aflonyddwch fy nghalon . O’th flaen di , Arglwydd , y mae fy holl ddymuniad ; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt . Fy nghalon sydd yn llamu ; fy nerth a’m gadawodd ; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf . Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla ; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell . Y rhai hefyd a geisient fy einioes , a osodasent faglau ; a’r rhai a geisient fy niwed , a draethent anwireddau , ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd . A minnau fel byddar ni chlywn ; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau . Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai , ac heb argyhoeddion yn ei enau . Oherwydd i mi obeithio ynot , Arglwydd ; ti , Arglwydd fy Nuw , a wrandewi . Canys dywedais , Gwrando fi , rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn : pan lithrai fy nhroed , ymfawrygent i’m herbyn . Canys parod wyf i gloffi , a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad . Diau y mynegaf fy anwiredd , ac y pryderaf oherwydd fy mhechod . Ac y mae fy ngelynion yn fyw , ac yn gedyrn : amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam . A’r rhai a dalant ddrwg dros dda , a’m gwrthwynebant ; am fy mod yn dilyn daioni . Na ad fi , O Arglwydd : fy Nuw , nac ymbellha oddi wrthyf . Brysia i’m cymorth , O Arglwydd fy iachawdwriaeth . Dywedais , Cadwaf fy ffyrdd , rhag pechu â’m tafod : cadwaf ffrwyn yn fy ngenau , tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg . Tewais yn ddistaw , ie , tewais â daioni ; a’m dolur a gyffrôdd . Gwresogodd fy nghalon o’m mewn : tra yr oeddwn yn myfyrio , enynnodd tân , a mi a leferais â’m tafod . Arglwydd , pâr i mi wybod fy niwedd , a pheth yw mesur fy nyddiau ; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi . Wele , gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd ; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di : diau mai cwbl wagedd yw pob dyn , pan fo ar y gorau . Sela . Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod , ac yn ymdrafferthu yn ofer : efe a dyrra olud , ac nis gŵyr pwy a’i casgl . Ac yn awr beth a ddisgwyliaf , O Arglwydd ? fy ngobaith sydd ynot ti . Gwared fi o’m holl gamweddau ; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd . Euthum yn fud , ac nid agorais fy ngenau : canys ti a wnaethost hyn . Tyn dy bla oddi wrthyf : gan ddyrnod dy law y darfûm i . Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd , datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef : gwagedd yn ddiau yw pob dyn . Sela . Gwrando fy ngweddi , Arglwydd , a chlyw fy llef ; na thaw wrth fy wylofain : canys ymdeithydd ydwyf gyda thi , ac alltud , fel fy holl dadau . Paid â mi , fel y cryfhawyf cyn fy myned , ac na byddwyf mwy . Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd ; ac efe a ymostyngodd ataf , ac a glybu fy llefain . Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll , allan o’r pridd tomlyd ; ac a osododd fy nhraed ar graig , gan hwylio fy ngherddediad . A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni : llawer a welant hyn , ac a ofnant , ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo ; ac ni thry at feilchion , nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd . Lluosog y gwnaethost ti , O Arglwydd fy Nuw , dy ryfeddodau , a’th amcanion tuag atom : ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti : pe mynegwn , a phe traethwn hwynt , amlach ydynt nag y gellir eu rhifo . Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist ; agoraist fy nghlustiau : poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist . Yna y dywedais , Wele yr ydwyf yn dyfod : yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf . Da gennyf wneuthur dy ewyllys , O fy Nuw : a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon . Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr : wele , nid ateliais fy ngwefusau ; ti , Arglwydd , a’i gwyddost . Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon ; traethais dy ffyddlondeb , a’th iachawdwriaeth : ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog . Tithau , Arglwydd , nac atal dy drugareddau oddi wrthyf : cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth . Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch : fy mhechodau a’m daliasant , fel na allwn edrych i fyny : amlach ydynt na gwallt fy mhen ; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf . Rhynged bodd i ti , Arglwydd , fy ngwaredu : brysia , Arglwydd , i’m cymorth . Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha ; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg . Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd , y rhai a ddywedant wrthyf , Ha , ha . Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant : dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser , Mawryger yr Arglwydd . Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus ; eto yr Arglwydd a feddwl amdanaf : fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti ; fy Nuw , na hir drig . Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd : yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd . Yr Arglwydd a’i ceidw , ac a’i bywha ; gwynfydedig fydd ar y ddaear : na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion . Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely : cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd . Mi a ddywedais , Arglwydd , trugarha wrthyf : iachâ fy enaid ; canys pechais i’th erbyn . Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf , gan ddywedyd , Pa bryd y bydd efe farw , ac y derfydd am ei enw ef ? Ac os daw i’m hedrych , efe a ddywed gelwydd ; ei galon a gasgl ati anwiredd : pan êl allan , efe a’i traetha . Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn : yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi . Aflwydd , meddant , a lŷn wrtho : a chan ei fod yn gorwedd , ni chyfyd mwy . Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf , yr hwn yr ymddiriedais iddo , ac a fwytaodd fy mara , a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn . Eithr ti , Arglwydd , trugarha wrthyf ; a chyfod fi , fel y talwyf iddynt . Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi , am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn . Ond amdanaf fi , yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli , ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb . Amen , ac Amen . Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd , felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti , O Dduw . Sychedig yw fy enaid am Dduw , am y Duw byw : pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw ? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos , tra dywedant wrthyf bob dydd , Pa le y mae dy Dduw ? Tywalltwn fy enaid ynof , pan gofiwn hynny : canys aethwn gyda’r gynulleidfa , cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw , mewn sain cân a moliant , fel tyrfa yn cadw gŵyl . Paham , fy enaid , y’th ddarostyngir , ac yr ymderfysgi ynof ? gobeithia yn Nuw : oblegid moliannaf ef eto , am iachawdwriaeth ei wynepryd . Fy Nuw , fy enaid a ymddarostwng ynof : am hynny y cofiaf di , o dir yr Iorddonen , a’r Hermoniaid , o fryn Misar . Dyfnder a eilw ar ddyfnder , wrth sŵn dy bistylloedd di : dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi , Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd , a’i gân fydd gyda mi liw nos ; sef gweddi ar Dduw fy einioes . Dywedaf wrth Dduw fy nghraig , Paham yr anghofiaist fi ? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn ? Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo , pan ddywedant wrthyf bob dydd , Pa le y mae dy Dduw ? Paham y’th ddarostyngir , fy enaid ? a phaham y terfysgi ynof ? ymddiried yn Nuw ; canys eto y moliannaf ef , sef iachawdwriaeth fy wyneb , a’m Duw . Barn fi , O Dduw , a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog : gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn . Canys ti yw Duw fy nerth : paham y’m bwri ymaith ? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn ? Anfon dy oleuni a’th wirionedd : tywysant hwy fi ; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd , ac i’th bebyll . Yna yr af at allor Duw , at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd ; a mi a’th foliannaf ar y delyn , O Dduw , fy Nuw . Paham y’th ddarostyngir , fy enaid ? a phaham y terfysgi ynof ? gobeithia yn Nuw ; canys eto y moliannaf ef , sef iachawdwriaeth fy wyneb , a’m Duw . Duw , clywsom â’n clustiau , ein tadau a fynegasant i ni , y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt , yn y dyddiau gynt . Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd , ac a’u plennaist hwythau ; ti a ddrygaist y bobloedd , ac a’u cynyddaist hwythau . Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir , nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt ; eithr dy ddeheulaw di , a’th fraich , a llewyrch dy wyneb , oherwydd i ti eu hoffi hwynt . Ti , Dduw , yw fy Mrenin : gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob . Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion : yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn . Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf ; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub . Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr , ac a waradwyddaist ein caseion . Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd ; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd . Sela . Ond ti a’n bwriaist ni ymaith , ac a’n gwaradwyddaist ; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd . Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn : a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun . Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta ; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd . Gwerthaist dy bobl heb elw , ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt . Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion , yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch . Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd , yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd . Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron , a chywilydd fy wyneb a’m todd : Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr ; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr . Hyn oll a ddaeth arnom ; eto ni’th anghofiasom di , ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod . Ni throdd ein calon yn ei hôl , ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di ; Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau , a thoi drosom â chysgod angau . Os anghofiasom enw ein Duw , neu estyn ein dwylo at dduw dieithr : Oni chwilia Duw hyn allan ? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon . Ie , er dy fwyn di y’n lleddir beunydd ; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd . Deffro , paham y cysgi , O Arglwydd ? cyfod , na fwrw ni ymaith yn dragywydd . Paham y cuddi dy wyneb ? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder ? Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch : glynodd ein bol wrth y ddaear . Cyfod yn gynhorthwy i ni , a gwared ni er mwyn dy drugaredd . Traetha fy nghalon beth da : dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin : fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan . Tecach ydwyt na meibion dynion : tywalltwyd gras ar dy wefusau : oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd . Gwregysa dy gleddyf ar dy glun , O Gadarn , â’th ogoniant a’th harddwch . Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus , oherwydd gwirionedd , a lledneisrwydd , a chyfiawnder ; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy . Pobl a syrthiant danat ; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin . Dy orsedd di , O Dduw , sydd byth ac yn dragywydd : teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di . Ceraist gyfiawnder , a chaseaist ddrygioni : am hynny y’th eneiniodd Duw , sef dy Dduw di , ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion . Arogl myrr , aloes , a chasia , sydd ar dy holl wisgoedd : allan o’r palasau ifori , â’r rhai y’th lawenhasant . Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau : safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir . Gwrando , ferch , a gwêl , a gostwng dy glust ; ac anghofia dy bobl dy hun , a thŷ dy dad . A’r Brenin a chwennych dy degwch : canys efe yw dy Iôr di ; ymostwng dithau iddo ef . Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg ; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb . Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn : gemwaith aur yw ei gwisg hi . Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin : y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl , yn gyfeillesau iddi , a ddygir atat ti . Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt : deuant i lys y Brenin . Dy feibion fydd yn lle dy dadau , y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir . Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes : am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd . Duw sydd noddfa a nerth i ni , cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder . Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear , a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr : Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd , er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef . Sela . Y mae afon , a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw ; cysegr preswylfeydd y Goruchaf . Duw sydd yn ei chanol ; nid ysgog hi : Duw a’i cynorthwya yn fore iawn . Y cenhedloedd a derfysgasant , y teyrnasoedd a ysgogasant : efe a roddes ei lef , toddodd y ddaear . Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni ; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni . Sela . Deuwch , gwelwch weithredoedd yr Arglwydd ; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear . Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear ; efe a ddryllia y bwa , ac a dyr y waywffon , efe a lysg y cerbydau â thân . Peidiwch , a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw : dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd , dyrchefir fi ar y ddaear . Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni ; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob . Sela . Yr holl bobl , curwch ddwylo ; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd . Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy ; Brenin mawr ar yr holl ddaear . Efe a ddwg y bobl danom ni , a’r cenhedloedd dan ein traed . Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni , ardderchowgrwydd Jacob , yr hwn a hoffodd efe . Sela . Dyrchafodd Duw â llawen floedd , yr Arglwydd â sain utgorn . Cenwch fawl i Dduw , cenwch : cenwch fawl i’n Brenin , cenwch . Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw : cenwch fawl yn ddeallus . Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd : eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd . Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd , sef pobl Duw Abraham : canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw : dirfawr y dyrchafwyd ef . Mawr yw yr Arglwydd , a thra moliannus , yn ninas ein Duw ni , yn ei fynydd sanctaidd . Tegwch bro , llawenydd yr holl ddaear , yw mynydd Seion , yn ystlysau y gogledd , dinas y Brenin mawr . Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa . Canys , wele , y brenhinoedd a ymgynullasant , aethant heibio ynghyd . Hwy a welsant , felly y rhyfeddasant ; brawychasant , ac aethant ymaith ar ffrwst . Dychryn a ddaeth arnynt yno , a dolur , megis gwraig yn esgor . Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr . Megis y clywsom , felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd , yn ninas ein Duw ni : Duw a’i sicrha hi yn dragywydd . Sela . Meddyliasom , O Dduw , am dy drugaredd yng nghanol dy deml . Megis y mae dy enw , O Dduw , felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir : cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw . Llawenyched mynydd Seion , ac ymhyfryded merched Jwda , oherwydd dy farnedigaethau . Amgylchwch Seion , ac ewch o’i hamgylch hi ; rhifwch ei thyrau hi . Ystyriwch ei rhagfuriau , edrychwch ar ei phalasau ; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl . Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd : efe a’n tywys ni hyd angau . Clywch hyn , yr holl bobloedd ; gwrandewch hyn , holl drigolion y byd : Yn gystal gwreng a bonheddig , cyfoethog a thlawd ynghyd . Fy ngenau a draetha ddoethineb ; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall . Gostyngaf fy nghlust at ddihareb ; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn . Paham yr ofnaf yn amser adfyd , pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau ? Rhai a ymddiriedant yn eu golud , ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth . Gan waredu ni wared neb ei frawd , ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw : ( Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid , a hynny a baid byth : ) Fel y byddo efe byw byth , ac na welo lygredigaeth . Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw , yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd , gadawant eu golud i eraill . Eu meddwl yw , y pery eu tai yn dragywydd , a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain . Er hynny dyn mewn anrhydedd , nid erys : tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir . Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd : eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd . Sela . Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern ; angau a ymborth arnynt ; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore ; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd , o’u cartref . Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern : canys efe a’m derbyn i . Sela . Nac ofna pan gyfoethogo un , pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef : Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith , ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef . Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid : canmolant dithau , o byddi da wrthyt dy hun . Efe a â at genhedlaeth ei dadau , ac ni welant oleuni byth . Dyn mewn anrhydedd , ac heb ddeall , sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir . Duw y duwiau , sef yr Arglwydd , a lefarodd , ac a alwodd y ddaear , o godiad haul hyd ei fachludiad . Allan o Seion , perffeithrwydd tegwch , y llewyrchodd Duw . Ein Duw ni a ddaw , ac ni bydd distaw : tân a ysa o’i flaen ef , a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch . Geilw ar y nefoedd oddi uchod , ac ar y ddaear , i farnu ei bobl . Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi , y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth . A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef : canys Duw ei hun sydd Farnwr . Sela . Clywch , fy mhobl , a mi a lefaraf ; O Israel , a mi a dystiolaethaf i’th erbyn : Duw , sef dy Dduw di , ydwyf fi . Nid am dy aberthau y’th geryddaf , na’th boethoffrymau , am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad . Ni chymeraf fustach o’th dŷ , na bychod o’th gorlannau . Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi , a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd . Adwaen holl adar y mynyddoedd : a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi . Os bydd newyn arnaf , ni ddywedaf i ti : canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi . A fwytâf fi gig teirw ? neu a yfaf fi waed bychod ? Abertha foliant i Dduw ; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau : A galw arnaf fi yn nydd trallod : mi a’th waredaf , a thi a’m gogoneddi . Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw , Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau , neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau ? Gan dy fod yn casáu addysg , ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl . Pan welaist leidr , cytunaist ag ef ; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr . Gollyngaist dy safn i ddrygioni , a’th dafod a gydbletha ddichell . Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd : rhoddaist enllib i fab dy fam . Hyn a wnaethost , a mi a dewais : tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun : ond mi a’th argyhoeddaf , ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid . Deellwch hyn yn awr , y rhai ydych yn anghofio Duw ; rhag i mi eich rhwygo , ac na byddo gwaredydd . Yr hwn a abertho foliant , a’m gogonedda i : a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn , dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw . Trugarha wrthyf , O Dduw , yn ôl dy drugarowgrwydd : yn ôl lliaws dy dosturiaethau , dilea fy anwireddau . Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd , a glanha fi oddi wrth fy mhechod . Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau : a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron . Yn dy erbyn di , dydi dy hunan , y pechais , ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg : fel y’th gyfiawnhaer pan leferych , ac y byddit bur pan farnech . Wele , mewn anwiredd y’m lluniwyd ; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf . Wele , ceraist wirionedd oddi mewn : a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel . Glanha fi ag isop , a mi a lanheir : golch fi , a byddaf wynnach na’r eira . Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd ; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist . Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau , a dilea fy holl anwireddau . Crea galon lân ynof , O Dduw ; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn . Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron ; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf . Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth ; ac â’th hael ysbryd cynnal fi . Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir ; a phechaduriaid a droir atat . Gwared fi oddi wrth waed , O Dduw , Duw fy iachawdwriaeth : a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder . Arglwydd , agor fy ngwefusau , a’m genau a fynega dy foliant . Canys ni chwenychi aberth ; pe amgen , mi a’i rhoddwn : poethoffrwm ni fynni . Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig : calon ddrylliog gystuddiedig , O Dduw , ni ddirmygi . Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion : adeilada furiau Jerwsalem . Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder , i boethoffrwm ac aberth llosg : yna yr offrymant fustych ar dy allor . Paham yr ymffrosti mewn drygioni , O gadarn ? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol . Dy dafod a ddychymyg ysgelerder ; fel ellyn llym , yn gwneuthur twyll . Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni ; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder . Sela . Hoffaist bob geiriau distryw , O dafod twyllodrus . Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd : efe a’th gipia di ymaith , ac a’th dynn allan o’th babell , ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw . Sela . Y cyfiawn hefyd a welant , ac a ofnant , ac a chwarddant am ei ben . Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo ; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud , ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni . Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw : ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd . Clodforaf di yn dragywydd , oherwydd i ti wneuthur hyn : a disgwyliaf wrth dy enw ; canys da yw gerbron dy saint . Dywedodd yr ynfyd yn ei galon , Nid oes un Duw . Ymlygrasant , a gwnaethant ffiaidd anwiredd : nid oes un yn gwneuthur daioni . Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion , i edrych a oedd neb yn ddeallus , ac yn ceisio Duw . Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn : cydymddifwynasent ; nid oes a wnêl ddaioni , nac oes un . Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd ? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl , fel y bwytaent fara : ni alwasant ar Dduw . Yno yr ofnasant gan ofn , lle nid oedd ofn : canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd : gwaradwyddaist hwynt , am i Dduw eu dirmygu hwy . O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion ! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl , y llawenycha Jacob , ac yr ymhyfryda Israel . Achub fi , O Dduw , yn dy enw ; a barn fi yn dy gadernid . Duw , clyw fy ngweddi ; gwrando ymadrodd fy ngenau . Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn , a’r trawsion a geisiant fy enaid : ni osodasant Dduw o’u blaen . Sela . Wele , Duw sydd yn fy nghynorthwyo : yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid . Efe a dâl ddrwg i’m gelynion : tor hwynt ymaith yn dy wirionedd . Aberthaf i ti yn ewyllysgar : clodforaf dy enw , O Arglwydd ; canys da yw . Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod ; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion . Gwrando fy ngweddi , O Dduw ; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad . Gwrando arnaf , ac erglyw fi : cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi , a thuchan , Gan lais y gelyn , gan orthrymder yr annuwiol : oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf , ac yn fy nghasáu yn llidiog . Fy nghalon a ofidia o’m mewn : ac ofn angau a syrthiodd arnaf . Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf , a dychryn a’m gorchuddiodd . A dywedais , O na bai i mi adenydd fel colomen ! yna yr ehedwn ymaith , ac y gorffwyswn . Wele , crwydrwn ymhell , ac arhoswn yn yr anialwch . Sela . Brysiwn i ddianc , rhag y gwynt ystormus a’r dymestl . Dinistria , O Arglwydd , a gwahan eu tafodau : canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas . Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau : ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi . Anwireddau sydd yn ei chanol hi ; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi . Canys nid gelyn a’m difenwodd ; yna y dioddefaswn : nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn ; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef : Eithr tydi , ddyn , fy nghydradd , fy fforddwr , a’m cydnabod , Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu , ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd . Rhuthred marwolaeth arnynt , a disgynnant i uffern yn fyw : canys drygioni sydd yn eu cartref , ac yn eu mysg . Myfi a waeddaf ar Dduw ; a’r Arglwydd a’m hachub i . Hwyr a bore , a hanner dydd , y gweddïaf , a byddaf daer : ac efe a glyw fy lleferydd . Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn : canys yr oedd llawer gyda mi . Duw a glyw , ac a’u darostwng hwynt , yr hwn sydd yn aros erioed : Sela : am nad oes gyfnewidiau iddynt , am hynny nid ofnant Dduw . Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef : efe a dorrodd ei gyfamod . Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn , a rhyfel yn ei galon : tynerach oedd ei eiriau nag olew , a hwynt yn gleddyfau noethion . Bwrw dy faich ar yr Arglwydd , ac efe a’th gynnal di : ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth . Tithau , Dduw , a’u disgynni hwynt i bydew dinistr : gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau ; ond myfi a obeithiaf ynot ti . Trugarha wrthyf , O Dduw : canys dyn a’m llyncai : beunydd , gan ymladd , y’m gorthryma . Beunydd y’m llyncai fy ngelynion : canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn , O Dduw Goruchaf . Y dydd yr ofnwyf , mi a ymddiriedaf ynot ti . Yn Nuw y clodforaf ei air , yn Nuw y gobeithiaf ; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi . Beunydd y camgymerant fy ngeiriau : eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg . Hwy a ymgasglant , a lechant , ac a wyliant fy nghamre , pan ddisgwyliant am fy enaid . A ddihangant hwy trwy anwiredd ? disgyn y bobloedd hyn , O Dduw , yn dy lidiowgrwydd . Ti a gyfrifaist fy symudiadau : dod fy nagrau yn dy gostrel : onid ydynt yn dy lyfr di ? Y dydd y llefwyf arnat , yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol : hyn a wn ; am fod Duw gyda mi . Yn Nuw y moliannaf ei air : yn yr Arglwydd y moliannaf ei air . Yn Nuw yr ymddiriedais : nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi . Arnaf fi , O Dduw , y mae dy addunedau : talaf i ti foliant . Canys gwaredaist fy enaid rhag angau : oni waredi fy nhraed rhag syrthio , fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw ? Trugarha wrthyf , O Dduw , trugarha wrthyf : canys ynot y gobeithiodd fy enaid ; ie , yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf , hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio . Galwaf ar Dduw Goruchaf ; ar Dduw a gwblha â mi . Efe a enfyn o’r nefoedd , ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai . Sela . Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd . Fy enaid sydd ymysg llewod : gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion , sef meibion dynion , y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau , a’u tafod yn gleddyf llym . Ymddyrcha , Dduw , uwch y nefoedd ; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear . Darparasant rwyd i’m traed ; crymwyd fy enaid ; cloddiasant bydew o’m blaen ; syrthiasant yn ei ganol . Sela . Parod yw fy nghalon , O Dduw , parod yw fy nghalon : canaf a chanmolaf . Deffro , fy ngogoniant ; deffro , nabl a thelyn : deffroaf yn fore . Clodforaf di , Arglwydd , ymysg y bobloedd : canmolaf di ymysg y cenhedloedd . Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd , a’th wirionedd hyd y cymylau . Ymddyrcha , Dduw , uwch y nefoedd ; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear . Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi , O gynulleidfa ? a fernwch chwi uniondeb , O feibion dynion ? Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon : trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear . O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol : o’r bru y cyfeiliornasant , gan ddywedyd celwydd . Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff : y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau ; Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr , er cyfarwydded fyddo y swynwr . Dryllia , O Dduw , eu dannedd yn eu geneuau : tor , O Arglwydd , gilddannedd y llewod ieuainc . Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad : pan saetho eu saethau , byddant megis wedi eu torri . Aed ymaith fel malwoden dawdd , neu erthyl gwraig ; fel na welont yr haul . Cyn i’ch crochanau glywed y mieri , efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt , yn fyw , ac yn ei ddigofaint . Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial : efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol . Fel y dywedo dyn , Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn : diau fod Duw a farna ar y ddaear . Fy Nuw , gwared fi oddi wrth fy ngelynion : amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn . Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd , ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd . Canys wele , cynllwynasant yn erbyn fy enaid : ymgasglodd cedyrn i’m herbyn ; nid ar fy mai na’m pechod i , O Arglwydd . Rhedant , ymbaratoant , heb anwiredd ynof fi : deffro dithau i’m cymorth , ac edrych . A thi , Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel , deffro i ymweled â’r holl genhedloedd : na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus . Sela . Dychwelant gyda’r hwyr , cyfarthant fel cŵn , ac amgylchant y ddinas . Wele , bytheiriant â’u genau : cleddyfau sydd yn eu gwefusau : canys pwy , meddant , a glyw ? Ond tydi , O Arglwydd , a’u gwatweri hwynt ; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd . Oherwydd ei nerth ef , y disgwyliaf wrthyt ti : canys Duw yw fy amddiffynfa . Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena : Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion . Na ladd hwynt , rhag i’m pobl anghofio : gwasgar hwynt yn dy nerth , a darostwng hwynt , O Arglwydd ein tarian . Am bechod eu genau , ac ymadrodd eu gwefusau , dalier hwynt yn eu balchder : ac am y felltith a’r celwydd a draethant . Difa hwynt yn dy lid , difa , fel na byddont : a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob , hyd eithafoedd y ddaear . Sela . A dychwelant gyda’r hwyr , a chyfarthant fel cŵn , ac amgylchant y ddinas . Crwydrant am fwyd ; ac onis digonir , grwgnachant . Minnau a ganaf am dy nerth , ie , llafarganaf am dy drugaredd yn fore : canys buost yn amddiffynfa i mi , ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf . I ti , fy nerth , y canaf ; canys Duw yw fy amddiffynfa , a Duw fy nhrugaredd . O Dduw , bwriaist ni ymaith , gwasgeraist ni , a sorraist : dychwel atom drachefn . Gwnaethost i’r ddaear grynu , a holltaist hi : iachâ ei briwiau ; canys y mae yn crynu . Dangosaist i’th bobl galedi : diodaist ni â gwin madrondod . Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant , i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd . Sela . Fel y gwareder dy rai annwyl : achub â’th ddeheulaw , a gwrando fi . Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd , Llawenychaf : rhannaf Sichem , a mesuraf ddyffryn Succoth . Eiddof fi yw Gilead , ac eiddof fi Manasse : Effraim hefyd yw nerth fy mhen ; Jwda yw fy neddfwr . Moab yw fy nghrochan golchi ; dros Edom y bwriaf fy esgid : Philistia , ymorfoledda di o’m plegid i . Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn ? pwy a’m harwain hyd yn Edom ? Onid tydi , Dduw , yr hwn a’n bwriaist ymaith ? a thydi , O Dduw , yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd ? Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys ofer yw ymwared dyn . Yn Nuw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion . Clyw , O Dduw , fy llefain ; gwrando ar fy ngweddi . O eithaf y ddaear y llefaf atat , pan lesmeirio fy nghalon : arwain fi i graig a fyddo uwch na mi . Canys buost yn noddfa i mi , ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn . Preswyliaf yn dy babell byth : a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd . Sela . Canys ti , Dduw , a glywaist fy addunedau : rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw . Ti a estynni oes y Brenin ; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer . Efe a erys byth gerbron Duw ; darpar drugaredd a gwirionedd , fel y cadwont ef . Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd , fel y talwyf fy addunedau beunydd . Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid : ohono ef y daw fy iachawdwriaeth . Efe yn unig yw fy nghraig , a’m hiachawdwriaeth , a’m hamddiffyn ; ni’m mawr ysgogir . Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr ? lleddir chwi oll ; a byddwch fel magwyr ogwyddedig , neu bared ar ei ogwydd . Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd ; hoffasant gelwydd : â’u geneuau y bendithiant , ond o’u mewn y melltithiant . Sela . O fy enaid , disgwyl wrth Dduw yn unig : canys ynddo ef y mae fy ngobaith . Efe yn unig yw fy nghraig , a’m hiachawdwriaeth : efe yw fy amddiffynfa : ni’m hysgogir . Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant : craig fy nghadernid , a’m noddfa , sydd yn Nuw . Gobeithiwch ynddo ef bob amser ; O bobl , tywelltwch eich calon ger ei fron ef : Duw sydd noddfa i ni . Sela . Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion , geudeb yw meibion gwŷr : i’w gosod yn y clorian , ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi . Nac ymddiriedwch mewn trawster , ac mewn trais na fyddwch ofer : os cynydda golud , na roddwch eich calon arno . Unwaith y dywedodd Duw , clywais hynny ddwywaith ; mai eiddo Duw yw cadernid . Trugaredd hefyd sydd eiddot ti , O Arglwydd : canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred . Ti , O Dduw , yw fy Nuw i ; yn fore y’th geisiaf : sychedodd fy enaid amdanat , hiraethodd fy nghnawd amdanat , mewn tir cras a sychedig heb ddwfr ; I weled dy nerth a’th ogoniant , fel y’th welais yn y cysegr . Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd : fy ngwefusau a’th foliannant . Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd : dyrchafaf fy nwylo yn dy enw . Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid ; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar : Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely , myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos . Canys buost gynhorthwy i mi ; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf . Fy enaid a lŷn wrthyt : dy ddeheulaw a’m cynnal . Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw , a ânt i iselderau y ddaear . Syrthiant ar fin y cleddyf : rhan llwynogod fyddant . Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw : gorfoledda pob un a dyngo iddo ef : eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd . Clyw fy llef , O Dduw , yn fy ngweddi : cadw fy einioes rhag ofn y gelyn . Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus ; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd : Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf , ac a ergydiant eu saethau , sef geiriau chwerwon : I saethu y perffaith yn ddirgel : yn ddisymwth y saethant ef , ac nid ofnant . Ymwrolant mewn peth drygionus , ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel ; dywedant , Pwy a’u gwêl hwynt ? Chwiliant allan anwireddau ; gorffennant ddyfal chwilio : ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn . Eithr Duw a’u saetha hwynt ; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt . Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt : pob un a’u gwelo a gilia . A phob dyn a ofna , ac a fynega waith Duw : canys doeth ystyriant ei waith ef . Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd , ac a obeithia ynddo ; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant . Mawl a’th erys di yn Seion , O Dduw : ac i ti y telir yr adduned . Ti yr hwn a wrandewi weddi , atat ti y daw pob cnawd . Pethau anwir a’m gorchfygasant : ein camweddau ni , ti a’u glanhei . Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech , ac a nesaech atat ; fel y trigo yn dy gynteddoedd : nyni a ddigonir â daioni dy dŷ , sef dy deml sanctaidd . Atebi i ni trwy bethau ofnadwy , yn dy gyfiawnder , O Dduw ein hiachawdwriaeth ; gobaith holl gyrrau y ddaear , a’r rhai sydd bell ar y môr . Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth , ac a wregysir â chadernid . Yr hwn a ostega dwrf y moroedd , twrf eu tonnau , a therfysg y bobloedd . A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion : gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu . Yr wyt yn ymweled â’r ddaear , ac yn ei dyfrhau hi ; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw , yr hon sydd yn llawn dwfr : yr wyt yn paratoi ŷd iddynt , pan ddarperaist felly iddi . Gan ddyfrhau ei chefnau , a gostwng ei rhychau , yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau , ac yn bendithio ei chnwd hi . Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni ; a’th lwybrau a ddiferant fraster . Diferant ar borfeydd yr anialwch : a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch . Y dolydd a wisgir â defaid , a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd ; am hynny y bloeddiant , ac y canant . Llawenfloeddiwch i Dduw , yr holl ddaear : Datgenwch ogoniant ei enw : gwnewch ei foliant yn ogoneddus . Dywedwch wrth Dduw , Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd ! oherwydd maint dy nerth , y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti . Yr holl ddaear a’th addolant di , ac a ganant i ti ; ie , canant i’th enw . Sela . Deuwch , a gwelwch weithredoedd Duw : ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion . Trodd efe y môr yn sychdir : aethant trwy yr afon ar draed : yna y llawenychasom ynddo . Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth ; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd : nac ymddyrchafed y rhai anufudd . Sela . O bobloedd , bendithiwch ein Duw , a pherwch glywed llais ei fawl ef : Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd , ac ni ad i’n troed lithro . Canys profaist ni , O Dduw : coethaist ni , fel coethi arian . Dygaist ni i’r rhwyd : gosodaist wasgfa ar ein llwynau . Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau ; aethom trwy y tân a’r dwfr : a thi a’n dygaist allan i le diwall . Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth : talaf i ti fy addunedau , Y rhai a adroddodd fy ngwefusau , ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder . Offrymaf i ti boethoffrymau breision , ynghyd ag arogl‐darth hyrddod ; aberthaf ychen a bychod . Sela . Deuwch , gwrandewch , y rhai oll a ofnwch Dduw ; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid . Llefais arno â’m genau , ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod . Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon , ni wrandawsai yr Arglwydd . Duw yn ddiau a glybu , ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi . Bendigedig fyddo Duw , yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho , na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau . Duw a drugarhao wrthym , ac a’n bendithio ; a thywynned ei wyneb arnom : Sela : Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear , a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd . Molianned y bobl di , O Dduw ; molianned yr holl bobl dydi . Llawenhaed y cenhedloedd , a byddant hyfryd : canys ti a ferni y bobl yn uniawn , ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear . Sela . Molianned y bobl di , O Dduw ; molianned yr holl bobl dydi . Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth ; a Duw , sef ein Duw ni , a’n bendithia . Duw a’n bendithia ; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef . Cyfoded Duw , gwasgarer ei elynion : a ffoed ei gaseion o’i flaen ef . Chweli hwynt fel chwalu mwg : fel y tawdd cwyr wrth y tân , difether y rhai annuwiol o flaen Duw . Ond llawenycher y rhai cyfiawn , a gorfoleddant gerbron Duw ; a byddant hyfryd o lawenydd . Cenwch i Dduw , canmolwch ei enw : dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd , a’i enw yn JAH , a gorfoleddwch ger ei fron ef . Tad yr amddifaid , a Barnwr y gweddwon , yw Duw , yn ei breswylfa sanctaidd . Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu : yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau ; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir . Pan aethost , O Dduw , o flaen dy bobl , pan gerddaist trwy yr anialwch ; Sela : Y ddaear a grynodd , a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw : Sinai yntau a grynodd o flaen Duw , sef Duw Israel . Dihidlaist law graslon , O Dduw , ar dy etifeddiaeth : ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino . Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi : yn dy ddaioni , O Dduw , yr wyt yn darparu i’r tlawd . Yr Arglwydd a roddes y gair ; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent . Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst : a’r hon a drigodd yn tŷ , a rannodd yr ysbail . Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau , byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian , a’i hadenydd ag aur melyn . Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi , yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon . Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan ; yn fynydd cribog fel mynydd Basan . Paham y llemwch , chwi fynyddoedd cribog ? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio ; ie , preswylia yr Arglwydd ynddo byth . Cerbydau Duw ydynt ugain mil , sef miloedd o angylion : yr Arglwydd sydd yn eu plith , megis yn Sinai yn y cysegr . Dyrchefaist i’r uchelder , caethgludaist gaethiwed : derbyniaist roddion i ddynion ; ie , i’r rhai cyndyn hefyd , fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith . Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni ; sef Duw ein hiachawdwriaeth . Sela . Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth ; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth . Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion ; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau . Dywedodd yr Arglwydd , Dygaf fy mhobl drachefn o Basan , dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr ; Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion , a thafod dy gŵn yn yr unrhyw . Gwelsant dy fynediad , O Dduw ; mynediad fy Nuw , fy Mrenin , yn y cysegr . Y cantorion a aethant o’r blaen , a’r cerddorion ar ôl ; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau . Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd , sef yr Arglwydd , y rhai ydych o ffynnon Israel . Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd , tywysogion Jwda â’u cynulleidfa ; tywysogion Sabulon , a thywysogion Nafftali . Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth : cadarnha , O Dduw , yr hyn a wnaethost ynom ni . Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem . Cerydda dyrfa y gwaywffyn , cynulleidfa y gwrdd deirw , gyda lloi y bobl , fel y delont yn ostyngedig â darnau arian : gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel . Pendefigion a ddeuant o’r Aifft ; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw . Teyrnasoedd y ddaear , cenwch i Dduw ; canmolwch yr Arglwydd : Sela : Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd , y rhai oedd erioed : wele efe yn anfon ei lef , a honno yn llef nerthol . Rhoddwch i Dduw gadernid : ei oruchelder sydd ar Israel , a’i nerth yn yr wybrennau . Ofnadwy wyt , O Dduw , o’th gysegr : Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl . Bendigedig fyddo Duw . Achub fi , O Dduw , canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid . Soddais mewn tom dwfn , lle nid oes sefyllfa : deuthum i ddyfnder dyfroedd , a’r ffrwd a lifodd drosof . Blinais yn llefain , sychodd fy ngheg : pallodd fy llygaid , tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw . Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos : cedyrn yw fy ngelynion diachos , y rhai a’m difethent : yna y telais yr hyn ni chymerais . O Dduw , ti a adwaenost fy ynfydrwydd ; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot . Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti , Arglwydd Dduw y lluoedd : na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di , O Dduw Israel . Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd , ac y todd cywilydd fy wyneb . Euthum yn ddieithr i’m brodyr , ac fel estron gan blant fy mam . Canys sêl dy dŷ a’m hysodd ; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di , a syrthiodd arnaf fi . Pan wylais , gan gystuddio fy enaid ag ympryd , bu hynny yn waradwydd i mi . Gwisgais hefyd sachliain ; ac euthum yn ddihareb iddynt . Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth ; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd . Ond myfi , fy ngweddi sydd atat ti , O Arglwydd , mewn amser cymeradwy : O Dduw , yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi , yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth . Gwared fi o’r dom , ac na soddwyf : gwareder fi oddi wrth fy nghaseion , ac o’r dyfroedd dyfnion . Na lifed y ffrwd ddwfr drosof , ac na lynced y dyfnder fi ; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf . Clyw fi , Arglwydd ; canys da yw dy drugaredd : yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf . Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was ; canys y mae cyfyngder arnaf : brysia , gwrando fi . Nesâ at fy enaid , a gwared ef : achub fi oherwydd fy ngelynion . Ti a adwaenost fy ngwarthrudd , a’m cywilydd , a’m gwaradwydd : fy holl elynion ydynt ger dy fron di . Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon ; yr ydwyf mewn gofid : a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf , ac nid oedd neb ; ac am gysurwyr , ac ni chefais neb . Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd , ac a’m diodasant yn fy syched â finegr . Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron , a’u llwyddiant yn dramgwydd . Tywyller eu llygaid , fel na welont ; a gwna i’w llwynau grynu bob amser . Tywallt dy ddig arnynt ; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt . Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd ; ac na fydded a drigo yn eu pebyll . Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti ; ac am ofid y rhai a archollaist ti , y chwedleuant . Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt ; ac na ddelont i’th gyfiawnder di . Dileer hwynt o lyfr y rhai byw ; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn . Minnau , truan a gofidus ydwyf : dy iachawdwriaeth di , O Dduw , a’m dyrchafo . Moliannaf enw Duw ar gân , a mawrygaf ef mewn mawl . A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog , carnol . Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn : eich calon chwithau , y rhai a geisiwch Dduw , a fydd byw . Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion , ac ni ddiystyra efe ei garcharorion . Nefoedd a daear , y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo , molant ef . Canys Duw a achub Seion , ac a adeilada ddinasoedd Jwda ; fel y trigont yno , ac y meddiannont hi . A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi : a’r rhai a hoffant ei enw ef , a breswyliant ynddi . O Dduw , prysura i’m gwaredu ; brysia , Arglwydd , i’m cymorth . Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid : troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi . Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd , y rhai a ddywedant , Ha , ha . Llawenyched , a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant ; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad , Mawryger Duw . Minnau ydwyf dlawd ac anghenus ; O Dduw , brysia ataf : fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti , O Arglwydd ; na hir drig . Ynot ti , O Arglwydd , y gobeithiais ; na’m cywilyddier byth . Achub fi , a gwared fi yn dy gyfiawnder : gostwng dy glust ataf , ac achub fi . Bydd i mi yn drigfa gadarn , i ddyfod iddi bob amser : gorchmynnaist fy achub ; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa . Gwared fi , O fy Nuw , o law yr annuwiol , o law yr anghyfiawn a’r traws . Canys ti yw fy ngobaith , O Arglwydd Dduw ; fy ymddiried o’m hieuenctid . Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru ; ti a’m tynnaist o groth fy mam : fy mawl fydd yn wastad amdanat ti . Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod : eithr tydi yw fy nghadarn noddfa . Llanwer fy ngenau â’th foliant , ac â’th ogoniant beunydd . Na fwrw fi ymaith yn amser henaint : na wrthod fi pan ballo fy nerth . Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn ; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant , Gan ddywedyd , Duw a’i gwrthododd ef : erlidiwch a deliwch ef ; canys nid oes gwaredydd . O Dduw , na fydd bell oddi wrthyf : fy Nuw , brysia i’m cymorth . Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid : â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi . Minnau a obeithiaf yn wastad , ac a’th foliannaf di fwyfwy . Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd ; canys ni wn rifedi arnynt . Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf : dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi . O’m hieuenctid y’m dysgaist , O Dduw : hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau . Na wrthod fi chwaith , O Dduw , mewn henaint a phenllwydni ; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon , a’th gadernid i bob un a ddelo . Dy gyfiawnder hefyd , O Dduw , sydd uchel , yr hwn a wnaethost bethau mawrion : pwy , O Dduw , sydd debyg i ti ? Ti , yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau , a’m bywhei drachefn , ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear . Amlhei fy mawredd , ac a’m cysuri oddi amgylch . Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl , sef dy wirionedd , O fy Nuw : canaf i ti â’r delyn , O Sanct Israel . Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti ; a’m henaid , yr hwn a waredaist . Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd : oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi . O Dduw , dod i’r Brenin dy farnedigaethau , ac i fab y Brenin dy gyfiawnder . Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder , a’th drueiniaid â barn . Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl , a’r bryniau , trwy gyfiawnder . Efe a farn drueiniaid y bobl , efe a achub feibion yr anghenus , ac a ddryllia y gorthrymydd . Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant , yn oes oesoedd . Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân ; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear . Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn ; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad . Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr , ac o’r afon hyd derfynau y ddaear . O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch : a’i elynion a lyfant y llwch . Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg : brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd . Ie , yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo : yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef . Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo : y truan hefyd , a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo . Efe a arbed y tlawd a’r rheidus , ac a achub eneidiau y rhai anghenus . Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster : a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef . Byw hefyd fydd efe , a rhoddir iddo o aur Seba : gweddïant hefyd drosto ef yn wastad : beunydd y clodforir ef . Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd : ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus ; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear . Ei enw fydd yn dragywydd : ei enw a bery tra fyddo haul ; ac ymfendithiant ynddo : yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig . Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw , Duw Israel , yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau . Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd ; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant . Amen , ac Amen . Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse . Yn ddiau da yw Duw i Israel ; sef i’r rhai glân o galon . Minnau , braidd na lithrodd fy nhraed : prin na thripiodd fy ngherddediad . Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd , pan welais lwyddiant y rhai annuwiol . Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth ; a’u cryfder sydd heini . Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill ; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill . Am hynny y cadwynodd balchder hwynt , ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn . Eu llygaid a saif allan gan fraster : aethant dros feddwl calon o gyfoeth . Y maent wedi llygru , yn chwedleua yn ddrygionus am drawster ; yn dywedyd yn uchel . Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd : a’u tafod a gerdd trwy y ddaear . Am hynny y dychwel ei bobl ef yma ; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn . Dywedant hefyd , Pa fodd y gŵyr Duw ? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf ? Wele , dyma y rhai annuwiol , a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd , ac a amlhasant olud . Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon , ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd . Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd ; fy ngherydd a ddeuai bob bore . Os dywedwn , Mynegaf fel hyn ; wele , â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam . Pan amcenais wybod hyn , blin oedd hynny yn fy ngolwg i ; Hyd onid euthum i gysegr Duw : yna y deellais eu diwedd hwynt . Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa , a chwympo ohonot hwynt i ddinistr . Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd ! pallasant , a darfuant gan ofn . Fel breuddwyd wrth ddihuno un ; felly , O Arglwydd , pan ddeffroech , y dirmygi eu gwedd hwynt . Fel hyn y gofidiodd fy nghalon , ac y’m pigwyd yn fy arennau . Mor ynfyd oeddwn , ac heb wybod ; anifail oeddwn o’th flaen di . Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi : ymaflaist yn fy llaw ddeau . A’th gyngor y’m harweini ; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant . Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi ? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi . Pallodd fy nghnawd a’m calon : ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd . Canys wele , difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt : torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt . Minnau , nesáu at Dduw sydd dda i mi : yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith , i draethu dy holl weithredoedd . Paham , Dduw , y’n bwriaist heibio yn dragywydd , ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa ? Cofia dy gynulleidfa , yr hon a brynaist gynt ; a llwyth dy etifeddiaeth , yr hwn a waredaist ; mynydd Seion hwn , y preswyli ynddo . Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol ; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr . Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd ; gosodasant eu banerau yn arwyddion . Hynod oedd gŵr , fel y codasai fwyeill mewn drysgoed . Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion . Bwriasant dy gysegroedd yn tân ; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw . Dywedasant yn eu calonnau , Cydanrheithiwn hwynt : llosgasant holl synagogau Duw yn y tir . Ni welwn ein harwyddion : nid oes broffwyd mwy , nid oes gennym a ŵyr pa hyd . Pa hyd , Dduw , y gwarthrudda y gwrthwynebwr ? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd ? Paham y tynni yn ei hôl dy law , sef dy ddeheulaw ? tyn hi allan o ganol dy fynwes . Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad , gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir . Ti yn dy nerth a berthaist y môr : drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd . Ti a ddrylliaist ben lefiathan ; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch . Ti a holltaist y ffynnon a’r afon ; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion . Y dydd sydd eiddot ti , y nos hefyd sydd eiddot ti : ti a baratoaist oleuni a haul . Ti a osodaist holl derfynau y ddaear : ti a luniaist haf a gaeaf . Cofia hyn , i’r gelyn gablu , O Arglwydd , ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw . Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion : nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth . Edrych ar y cyfamod : canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster . Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus : molianned y truan a’r anghenus dy enw . Cyfod , O Dduw , dadlau dy ddadl : cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd . Nac anghofia lais dy elynion : dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol . Clodforwn dydi , O Dduw , clodforwn ; canys agos yw dy enw ; dy ryfeddodau a fynegant hynny . Pan dderbyniwyf y gynulleidfa , mi a farnaf yn uniawn . Ymddatododd y ddaear , a’i holl drigolion : myfi sydd yn cynnal ei cholofnau . Sela . Dywedais wrth y rhai ynfyd , Nac ynfydwch ; ac wrth y rhai annuwiol , Na ddyrchefwch eich corn : Na ddyrchefwch eich corn yn uchel : na ddywedwch yn warsyth . Canys nid o’r dwyrain , nac o’r gorllewin , nac o’r deau , y daw goruchafiaeth . Ond Duw sydd yn barnu ; efe a ostwng y naill , ac a gyfyd y llall . Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd , a’r gwin sydd goch ; yn llawn cymysg , ac efe a dywalltodd ohono : eto holl annuwiolion y tir a wasgant , ac a yfant ei waelodion . Minnau a fynegaf yn dragywydd , ac a ganaf i Dduw Jacob . Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol ; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir . Hynod yw Duw yn Jwda ; mawr yw ei enw ef yn Israel . Ei babell hefyd sydd yn Salem , a’i drigfa yn Seion . Yna y torrodd efe saethau y bwa , y darian , y cleddyf hefyd , a’r frwydr . Sela . Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail . Ysbeiliwyd y cedyrn galon , hunasant eu hun : a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo . Gan dy gerydd di , O Dduw Jacob , y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu . Tydi , tydi , wyt ofnadwy ; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter ? O’r nefoedd y peraist glywed barn ; ofnodd , a gostegodd y ddaear , Pan gyfododd Duw i farn , i achub holl rai llednais y tir . Sela . Diau cynddaredd dyn a’th folianna di : gweddill cynddaredd a waherddi . Addunedwch , a thelwch i’r Arglwydd eich Duw : y rhai oll ydynt o’i amgylch ef , dygant anrheg i’r ofnadwy . Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion : y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear . A’m llef y gwaeddais ar Dduw , â’m llef ar Dduw ; ac efe a’m gwrandawodd . Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd : fy archoll a redodd liw nos , ac ni pheidiodd : fy enaid a wrthododd ei ddiddanu . Cofiais Dduw , ac a’m cythryblwyd : cwynais , a therfysgwyd fy ysbryd . Sela . Deliaist fy llygaid yn neffro : synnodd arnaf , fel na allaf lefaru . Ystyriais y dyddiau gynt , blynyddoedd yr hen oesoedd . Cofio yr ydwyf fy nghân y nos : yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon ; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal . Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio ? ac oni bydd efe bodlon mwy ? A ddarfu ei drugaredd ef dros byth ? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd ? A anghofiodd Duw drugarhau ? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant ? Sela . A dywedais , Dyma fy ngwendid : eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf . Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd ; ie , cofiaf dy wyrthiau gynt . Myfyriaf hefyd ar dy holl waith , ac am dy weithredoedd y chwedleuaf . Dy ffordd , O Dduw , sydd yn y cysegr : pa dduw mor fawr â’n Duw ni ? Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau : dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd . Gwaredaist â’th fraich dy bobl , meibion Jacob a Joseff . Sela . Y dyfroedd a’th welsant , O Dduw , y dyfroedd a’th welsant : hwy a ofnasant ; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd . Y cymylau a dywalltasant ddwfr : yr wybrennau a roddasant dwrf : dy saethau hefyd a gerddasant . Twrf dy daran a glywyd o amgylch : mellt a oleuasant y byd ; cyffrôdd a chrynodd y ddaear . Dy ffordd sydd yn y môr , a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion ; ac nid adwaenir dy ôl . Tywysaist dy bobl fel defaid , trwy law Moses ac Aaron . Gwrando fy nghyfraith , fy mhobl : gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau . Agoraf fy ngenau mewn dihareb : traethaf ddamhegion o’r cynfyd : Y rhai a glywsom , ac a wybuom , ac a fynegodd ein tadau i ni . Ni chelwn rhag eu meibion , gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd , a’i nerth , a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe . Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob , ac a osododd gyfraith yn Israel , y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant : Fel y gwybyddai yr oes a ddêl , sef y plant a enid ; a phan gyfodent , y mynegent hwy i’w plant hwythau : Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw , heb anghofio gweithredoedd Duw , eithr cadw ei orchmynion ef : Ac na byddent fel eu tadau , yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar ; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn , ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw . Meibion Effraim , yn arfog ac yn saethu â bwa , a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr . Ni chadwasant gyfamod Duw , eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef ; Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau , y rhai a ddangosasai efe iddynt . Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft , ym maes Soan . Efe a barthodd y môr , ac a aeth â hwynt drwodd ; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr . Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl , ac ar hyd y nos â goleuni tân . Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch ; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr . Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig , ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd . Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef , gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch . A themtiasant Dduw yn eu calon , gan ofyn bwyd wrth eu blys . Llefarasant hefyd yn erbyn Duw ; dywedasant , A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch ? Wele , efe a drawodd y graig , fel y pistyllodd dwfr , ac y llifodd afonydd ; a ddichon efe roddi bara hefyd ? a ddarpara efe gig i’w bobl ? Am hynny y clybu yr Arglwydd , ac y digiodd : a thân a enynnodd yn erbyn Jacob , a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel ; Am na chredent yn Nuw , ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef : Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod , ac agoryd drysau y nefoedd , A glawio manna arnynt i’w fwyta , a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd . Dyn a fwytaodd fara angylion : anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol . Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd ; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt . Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch , ac adar asgellog fel tywod y môr . Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll , o amgylch eu preswylfeydd . Felly y bwytasant , ac y llwyr ddiwallwyd hwynt ; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt ; Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant : er hynny , tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau , Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt , ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt , ac a gwympodd etholedigion Israel . Er hyn oll pechasant eto , ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef . Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd , a’u blynyddoedd mewn dychryn . Pan laddai efe hwynt , hwy a’i ceisient ef , ac a ddychwelent , ac a geisient Dduw yn fore . Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig , ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd . Er hynny , rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau , a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod : A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef , na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef . Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd , ac ni ddifethodd hwynt : ie , trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych , ac ni chyffrôdd ei holl lid . Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt , a gwynt yn myned , ac heb ddychwelyd . Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch , ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch ? Ie , troesant a phrofasant Dduw , ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel . Ni chofiasant ei law ef , na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn . Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft , a’i ryfeddodau ym maes Soan : Ac y troesai eu hafonydd yn waed ; a’u ffrydiau , fel na allent yfed . Anfonodd gymysgbla yn eu plith , yr hon a’u difaodd hwynt ; a llyffaint i’w difetha . Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys , a’u llafur i’r locust . Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg , a’u sycamorwydd â rhew . Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg , a’u golud i’r mellt . Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid , llidiowgrwydd , a dicter , a chyfyngder , trwy anfon angylion drwg . Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint : nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau ; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint . Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft ; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham : Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid , ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch . Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel , fel nad ofnasant : a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt . Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd ; i’r mynydd hwn , a enillodd ei ddeheulaw ef . Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt , ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn , ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt . Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf , ac ni chadwasant ei dystiolaethau : Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau : troesant fel bwa twyllodrus . Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau ; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau . Clybu Duw hyn , ac a ddigiodd , ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr : Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo , y babell a osodasai efe ymysg dynion ; Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed , a’i brydferthwch yn llaw y gelyn . Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf ; a digiodd wrth ei etifeddiaeth . Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc ; a’u morynion ni phriodwyd . Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf ; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant . Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu , fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin . Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl : rhoddes iddynt warth tragwyddol . Gwrthododd hefyd babell Joseff , ac ni etholodd lwyth Effraim : Ond efe a etholodd lwyth Jwda , mynydd Seion , yr hwn a hoffodd . Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel , fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd . Etholodd hefyd Dafydd ei was , ac a’i cymerth o gorlannau y defaid : Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl , ac Israel ei etifeddiaeth . Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon ; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo . Y cenhedloedd , O Dduw , a ddaethant i’th etifeddiaeth ; halogasant dy deml sanctaidd : gosodasant Jerwsalem yn garneddau . Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd , a chig dy saint i fwystfilod y ddaear . Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem : ac nid oedd a’u claddai . Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion ; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch . Pa hyd , Arglwydd ? a ddigi di yn dragywydd ? a lysg dy eiddigedd di fel tân ? Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant , ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw . Canys ysasant Jacob , ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd . Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn : brysia , rhagflaened dy dostur drugareddau ni : canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd . Cynorthwya ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , er mwyn gogoniant dy enw : gwared ni hefyd , a thrugarha wrth ein pechodau , er mwyn dy enw . Paham y dywed y cenhedloedd , Pa le y mae eu Duw hwynt ? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni , wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd . Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron : yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth . A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes , eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di , O Arglwydd . A ninnau dy bobl a defaid dy borfa , a’th foliannwn di yn dragywydd : datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth . Gwrando , O Fugail Israel , yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd ; ymddisgleiria , yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid . Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse , a thyred yn iachawdwriaeth i ni . Dychwel ni , O Dduw , a llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . O Arglwydd Dduw y lluoedd , pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl ? Porthaist hwynt â bara dagrau ; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr . Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion ; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun . O Dduw y lluoedd , dychwel ni , a llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . Mudaist winwydden o’r Aifft : bwriaist y cenhedloedd allan , a phlennaist hi . Arloesaist o’i blaen , a pheraist i’w gwraidd wreiddio , a hi a lanwodd y tir . Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod ; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol . Hi a estynnodd ei changau hyd y môr , a’i blagur hyd yr afon . Paham y rhwygaist ei chaeau , fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi ? Y baedd o’r coed a’i turia , a bwystfil y maes a’i pawr . O Dduw y lluoedd , dychwel , atolwg : edrych o’r nefoedd , a chenfydd , ac ymwêl â’r winwydden hon ; A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw , ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun . Llosgwyd hi â thân ; torrwyd hi i lawr : gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt . Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw , a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun . Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti : bywha ni , a ni a alwn ar dy enw . O Arglwydd Dduw y lluoedd , dychwel ni , llewyrcha dy wyneb ; a ni a achubir . Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid : cenwch yn llawen i Dduw Jacob . Cymerwch salm , a moeswch dympan , y delyn fwyn a’r nabl . Utgenwch utgorn yn y lloer newydd , yn yr amser nodedig , yn nydd ein huchel ŵyl . Canys deddf yw hyn i Israel , a defod i Dduw Jacob . Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff , pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft : lle y clywais iaith ni ddeallwn . Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich : ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau . Mewn cyfyngder y gelwaist , ac mi a’th waredais : gwrandewais di yn nirgelwch y daran : profais di wrth ddyfroedd Meriba . Sela . Clyw , fy mhobl , a mi a dystiolaethaf i ti : Israel , os gwrandewi arnaf ; Na fydded ynot dduw arall ; ac nac ymgryma i dduw dieithr . Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft : lleda dy safn , a mi a’i llanwaf . Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef ; ac Israel ni’m mynnai . Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon : aethant wrth eu cyngor eu hunain . O na wrandawsai fy mhobl arnaf ; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd ! Buan y gostyngaswn eu gelynion , ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr . Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef : a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd . Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith : ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn . Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog : ymhlith y duwiau y barn efe . Pa hyd y bernwch ar gam ? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol ? Sela . Bernwch y tlawd a’r amddifad : cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus . Gwaredwch y tlawd a’r anghenus : achubwch hwynt o law y rhai annuwiol . Ni wyddant , ac ni ddeallant ; mewn tywyllwch y rhodiant : holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle . Myfi a ddywedais , Duwiau ydych chwi ; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll . Eithr byddwch feirw fel dynion , ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch . Cyfod , O Dduw , barna y ddaear : canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd . O Dduw , na ostega : na thaw , ac na fydd lonydd , O Dduw . Canys wele , dy elynion sydd yn terfysgu ; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau . Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl , ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di . Dywedasant , Deuwch , a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl ; ac na chofier enw Israel mwyach . Canys ymgyngorasant yn unfryd ; ac ymwnaethant i’th erbyn ; Pebyll Edom , a’r Ismaeliaid ; y Moabiaid , a’r Hagariaid ; Gebal , ac Ammon , ac Amalec ; y Philistiaid , gyda phreswylwyr Tyrus . Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt : buant fraich i blant Lot . Sela . Gwna di iddynt fel i Midian ; megis i Sisera , megis i Jabin , wrth afon Cison : Yn Endor y difethwyd hwynt : aethant yn dail i’r ddaear . Gwna eu pendefigion fel Oreb , ac fel Seeb ; a’u holl dywysogion fel Seba , ac fel Salmunna : Y rhai a ddywedasant , Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i’w meddiannu . Gosod hwynt , O fy Nuw , fel olwyn ; fel sofl o flaen y gwynt . Fel y llysg tân goed , ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd ; Felly erlid di hwynt â’th dymestl , a dychryna hwynt â’th gorwynt . Llanw eu hwynebau â gwarth ; fel y ceisiont dy enw , O Arglwydd . Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd ; ie , gwaradwydder a difether hwynt : Fel y gwypont mai tydi , yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw , wyt Oruchaf ar yr holl ddaear . Mor hawddgar yw dy bebyll di , O Arglwydd y lluoedd ! Fy enaid a hiraetha , ie , ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd : fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw . Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ , a’r wennol nyth iddi , lle y gesyd ei chywion ; sef dy allorau di , O Arglwydd y lluoedd , fy Mrenin , a’m Duw . Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ : yn wastad y’th foliannant . Sela . Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot ; a’th ffyrdd yn eu calon : Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon : a’r glaw a leinw y llynnau . Ant o nerth i nerth ; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion . O Arglwydd Dduw y lluoedd , clyw fy ngweddi : gwrando , O Dduw Jacob . Sela . O Dduw ein tarian , gwêl , ac edrych ar wyneb dy Eneiniog . Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil : dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw , o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb . Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw : yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant : ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith . O Arglwydd y lluoedd , gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot . Graslon fuost , O Arglwydd , i’th dir : dychwelaist gaethiwed Jacob . Maddeuaist anwiredd dy bobl : cuddiaist eu holl bechod . Sela . Tynnaist ymaith dy holl lid : troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter . Tro ni , O Dduw ein hiachawdwriaeth , a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym . Ai byth y digi wrthym ? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth ? Oni throi di a’n bywhau ni , fel y llawenycho dy bobl ynot ti ? Dangos i ni , Arglwydd , dy drugaredd , a dod i ni dy iachawdwriaeth . Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw : canys efe a draetha heddwch i’w bobl , ac i’w saint : ond na throant at ynfydrwydd . Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant ; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni . Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant ; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant . Gwirionedd a dardda o’r ddaear ; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd . Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni ; a’n daear a rydd ei chnwd . Cyfiawnder a â o’i flaen ef ; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd . Gostwng , O Arglwydd , dy glust , gwrando fi : canys truan ac anghenus ydwyf . Cadw fy enaid ; canys sanctaidd ydwyf : achub di dy was , O fy Nuw , yr hwn sydd yn ymddiried ynot . Trugarha wrthyf , Arglwydd : canys arnat y llefaf beunydd . Llawenha enaid dy was : canys atat ti , Arglwydd , y dyrchafaf fy enaid . Canys ti , O Arglwydd , ydwyt dda , a maddeugar ; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat . Clyw , Arglwydd , fy ngweddi ; ac ymwrando â llais fy ymbil . Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat : canys gwrandewi fi . Nid oes fel tydi ymysg y duwiau , O Arglwydd ; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di . Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant , ac a addolant ger dy fron di , O Arglwydd ; ac a ogoneddant dy enw . Canys ydwyt fawr , ac yn gwneuthur rhyfeddodau : ti yn unig wyt Dduw . Dysg i mi dy ffordd , O Arglwydd ; mi a rodiaf yn dy wirionedd : una fy nghalon i ofni dy enw . Moliannaf di , O Arglwydd fy Nuw , â’m holl galon : a gogoneddaf dy enw yn dragywydd . Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi : a gwaredaist fy enaid o uffern isod . Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn , O Dduw , a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid ; ac ni’th osodasant di ger eu bron . Eithr ti , O Arglwydd , wyt Dduw trugarog a graslon ; hwyrfrydig i lid , a helaeth o drugaredd a gwirionedd . Edrych arnaf , a thrugarha wrthyf : dyro dy nerth i’th was , ac achub fab dy wasanaethferch . Gwna i mi arwydd er daioni : fel y gwelo fy nghaseion , ac y gwaradwydder hwynt ; am i ti , O Arglwydd , fy nghynorthwyo a’m diddanu . Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd . Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob . Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti , O ddinas Duw . Sela . Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod : wele Philistia , a Thyrus , ynghyd ag Ethiopia . Yno y ganwyd hwn . Ac am Seion y dywedir , Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi : a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi . Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl , eni hwn yno . Sela . Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno : fy holl ffynhonnau sydd ynot ti . O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth , gwaeddais o’th flaen ddydd a nos . Deued fy ngweddi ger dy fron : gostwng dy glust at fy llefain . Canys fy enaid a lanwyd o flinderau ; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod . Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll : ydwyf fel gŵr heb nerth . Yn rhydd ymysg y meirw , fel rhai wedi eu lladd , yn gorwedd mewn bedd , y rhai ni chofi mwy ; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law . Gosodaist fi yn y pwll isaf , mewn tywyllwch , yn y dyfnderau . Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf : ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist . Sela . Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf ; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt : gwarchaewyd fi , fel nad awn allan . Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd : llefais arnat Arglwydd , beunydd ; estynnais fy nwylo atat . Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod ? a gyfyd y meirw a’th foliannu di ? Sela . A draethir dy drugaredd mewn bedd ? a’th wirionedd yn nistryw ? A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch ? a’th gyfiawnder yn nhir angof ? Ond myfi a lefais arnat , Arglwydd ; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen . Paham , Arglwydd , y gwrthodi fy enaid ? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf ? Truan ydwyf fi , ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid : dygais dy ofn , ac yr ydwyf yn petruso . Dy soriant a aeth drosof ; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith . Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd , ac y’m cydamgylchasant . Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf , a’m cydnabod i dywyllwch . Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth : â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth . Canys dywedais , Adeiledir trugaredd yn dragywydd : yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd . Gwneuthum amod â’m hetholedig , tyngais i’m gwas Dafydd . Yn dragywydd y sicrhaf dy had di ; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di . Sela . A’r nefoedd , O Arglwydd , a foliannant dy ryfeddod ; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint . Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd ? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn ? Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint , ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd . O Arglwydd Dduw y lluoedd , pwy sydd fel tydi , yn gadarn Iôr ? a’th wirionedd o’th amgylch ? Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr : pan gyfodo ei donnau , ti a’u gostegi . Ti a ddrylliaist yr Aifft , fel un lladdedig : trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion . Y nefoedd ydynt eiddot ti , a’r ddaear sydd eiddot ti : ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder . Ti a greaist ogledd a deau : Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw . Y mae i ti fraich a chadernid : cadarn yw dy law , ac uchel yw dy ddeheulaw . Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc : trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb . Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais : yn llewyrch dy wyneb , O Arglwydd , y rhodiant hwy . Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd ; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant . Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti ; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni . Canys yr Arglwydd yw ein tarian ; a Sanct Israel yw ein Brenin . Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct , ac a ddywedaist , Gosodais gymorth ar un cadarn : dyrchefais un etholedig o’r bobl . Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr : eneiniais ef â’m holew sanctaidd : Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef : a’m braich a’i nertha ef . Ni orthryma y gelyn ef ; a’r mab anwir nis cystuddia ef . Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen ; a’i gaseion a drawaf . Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef ; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef . A gosodaf ei law yn y môr , a’i ddeheulaw yn yr afonydd . Efe a lefa arnaf , Ti yw fy Nhad , fy Nuw , a Chraig fy iachawdwriaeth . Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab , goruwch brenhinoedd y ddaear . Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd ; a’m cyfamod fydd sicr iddo . Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd ; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd . Os ei feibion a adawant fy nghyfraith , ac ni rodiant yn fy marnedigaethau ; Os fy neddfau a halogant , a’m gorchmynion ni chadwant : Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen , ac â’u hanwiredd â ffrewyllau . Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho , ac ni phallaf o’m gwirionedd . Ni thorraf fy nghyfamod , ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau . Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd , na ddywedwn gelwydd i Dafydd . Bydd ei had ef yn dragywydd , a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i . Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad , ac fel tyst ffyddlon yn y nef . Sela . Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist , ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog . Diddymaist gyfamod dy was ; halogaist ei goron , gan ei thaflu i lawr . Drylliaist ei holl gaeau ef ; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau . Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef : aeth yn warthrudd i’w gymdogion . Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr ; llawenheaist ei holl elynion . Troaist hefyd fin ei gleddyf , ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel . Peraist i’w harddwch ddarfod , a bwriaist ei orseddfainc i lawr . Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid : toaist gywilydd drosto ef . Sela . Pa hyd , Arglwydd , yr ymguddi ? ai yn dragywydd ? a lysg dy ddigofaint di fel tân ? Cofia pa amser sydd i mi : paham y creaist holl blant dynion yn ofer ? Pa ŵr a fydd byw , ac ni wêl farwolaeth ? a wared efe ei enaid o law y bedd ? Sela . Pa le y mae dy hen drugareddau , O Arglwydd , y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd ? Cofia , O Arglwydd , waradwydd dy weision , yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion ; A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion , O Arglwydd ; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog . Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd . Amen , ac Amen . Ti , Arglwydd , fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth . Cyn gwneuthur y mynyddoedd , a llunio ohonot y ddaear , a’r byd ; ti hefyd wyt Dduw , o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb . Troi ddyn i ddinistr ; a dywedi , Dychwelwch , feibion dynion . Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe , wedi yr êl heibio , ac fel gwyliadwriaeth nos . Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant ; y maent fel hun : y bore y maent fel llysieuyn a newidir . Y bore y blodeua , ac y tyf ; prynhawn y torrir ef ymaith , ac y gwywa . Canys yn dy ddig y difethwyd ni , ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd . Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron , ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb . Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di : treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl . Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain : ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd , eto eu nerth sydd boen a blinder ; canys ebrwydd y derfydd , a ni a ehedwn ymaith . Pwy a edwyn nerth dy soriant ? canys fel y mae dy ofn , y mae dy ddicter . Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau , fel y dygom ein calon i ddoethineb . Dychwel , Arglwydd , pa hyd ? ac edifarha o ran dy weision . Diwalla ni yn fore â’th drugaredd ; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau . Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni , a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd . Gweler dy waith tuag at dy weision , a’th ogoniant tuag at eu plant hwy . A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni : a threfna weithred ein dwylo ynom ni ; ie , trefna waith ein dwylo . Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf , a erys yng nghysgod yr Hollalluog . Dywedaf am yr Arglwydd , Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw : fy Nuw ; ynddo yr ymddiriedaf . Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr , ac oddi wrth haint echryslon . A’i asgell y cysgoda efe trosot , a than ei adenydd y byddi ddiogel : ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti . Nid ofni rhag dychryn nos ; na rhag y saeth a ehedo y dydd : Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch ; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd . Wrth dy ystlys y cwymp mil , a deng mil wrth dy ddeheulaw : ond ni ddaw yn agos atat ti . Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid , ac a weli dâl y rhai annuwiol . Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa , sef y Goruchaf , yn breswylfa i ti ; Ni ddigwydd i ti niwed , ac ni ddaw pla yn agos i’th babell . Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti , dy gadw yn dy holl ffyrdd . Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg . Ar y llew a’r asb y cerddi : y cenau llew a’r ddraig a fethri . Am iddo roddi ei serch arnaf , am hynny y gwaredaf ef : dyrchafaf ef , am iddo adnabod fy enw . Efe a eilw arnaf , a mi a’i gwrandawaf : mewn ing y byddaf fi gydag ef , y gwaredaf , ac y gogoneddaf ef . Digonaf ef â hir ddyddiau ; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth . Da yw moliannu yr Arglwydd , a chanu mawl i’th enw di , y Goruchaf : A mynegi y bore am dy drugaredd , a’th wirionedd y nosweithiau ; Ar ddectant , ac ar y nabl ; ac ar y delyn yn fyfyriol . Canys llawenychaist fi , O Arglwydd , â’th weithred : yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf . Mor fawredig , O Arglwydd , yw dy weithredoedd ! dwfn iawn yw dy feddyliau . Gŵr annoeth ni ŵyr , a’r ynfyd ni ddeall hyn . Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn , a blaguro holl weithredwyr anwiredd ; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd . Tithau , Arglwydd , wyt ddyrchafedig yn dragywydd . Canys wele , dy elynion , O Arglwydd , wele , dy elynion a ddifethir : gwasgerir holl weithredwyr anwiredd . Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn : ag olew ir y’m heneinir . Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr : fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn . Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden ; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus . Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd , a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw . Ffrwythant eto yn eu henaint ; tirfion ac iraidd fyddant : I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig ; ac nad oes anwiredd ynddo . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu , efe a wisgodd ardderchowgrwydd ; gwisgodd yr Arglwydd nerth , ac ymwregysodd : y byd hefyd a sicrhawyd , fel na syflo . Darparwyd dy orseddfainc erioed : ti wyt er tragwyddoldeb . Y llifeiriaint , O Arglwydd , a ddyrchafasant , y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf ; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau . Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer , na chedyrn donnau y môr . Sicr iawn yw dy dystiolaethau : sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ , O Arglwydd , byth . O Arglwydd Dduw y dial , O Dduw y dial , ymddisgleiria . Ymddyrcha , Farnwr y byd : tâl eu gwobr i’r beilchion . Pa hyd , Arglwydd , y caiff yr annuwiolion , pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu ? Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed ? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd ? Dy bobl , Arglwydd , a ddrylliant ; a’th etifeddiaeth a gystuddiant . Y weddw a’r dieithr a laddant , a’r amddifad a ddieneidiant . Dywedant hefyd , Ni wêl yr Arglwydd ; ac nid ystyria Duw Jacob hyn . Ystyriwch , chwi rai annoeth ymysg y bobl : ac ynfydion , pa bryd y deellwch ? Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust ? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad ? Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd ? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn ? Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn , mai gwagedd ydynt . Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di , O Arglwydd , ac a ddysgi yn dy gyfraith : I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd , hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol . Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl , ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth . Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder : a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl . Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus ? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd ? Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi , braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd . Pan ddywedais , Llithrodd fy nhroed : dy drugaredd di , O Arglwydd , a’m cynhaliodd . Yn amlder fy meddyliau o’m mewn , dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid . A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd , yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith ? Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn , a gwaed gwirion a farnant yn euog . Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi : a’m Duw yw craig fy nodded . Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd , ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni : yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith . Deuwch , canwn i’r Arglwydd : ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd . Deuwn ger ei fron ef â diolch : canwn yn llafar iddo â salmau . Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr , a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau . Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law , ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo . Y môr sydd eiddo , ac efe a’i gwnaeth : a’i ddwylo a luniasant y sychdir . Deuwch , addolwn , ac ymgrymwn : gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr . Canys efe yw ein Duw ni ; a ninnau ŷm bobl ei borfa , a defaid ei law . Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd , Na chaledwch eich calonnau , megis yn yr ymrysonfa , fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch : Pan demtiodd eich tadau fi , y profasant fi , ac y gwelsant fy ngweithredoedd . Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon , a dywedais , Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy , ac nid adnabuant fy ffyrdd : Wrth y rhai y tyngais yn fy llid , na ddelent i’m gorffwysfa . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd ; cenwch i’r Arglwydd , yr holl ddaear . Cenwch i’r Arglwydd , bendigwch ei enw ; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef . Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef , ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau . Canys mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn : ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau . Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod : ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd . Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef ; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr . Tylwythau y bobl , rhoddwch i’r Arglwydd , rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth . Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw : dygwch offrwm , a deuwch i’w gynteddoedd . Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd : yr holl ddaear , ofnwch ger ei fron ef . Dywedwch ymysg y cenhedloedd , Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; a’r byd a sicrhaodd efe , fel nad ysgogo : efe a farna y bobl yn uniawn . Llawenhaed y nefoedd , a gorfoledded y ddaear ; rhued y môr a’i gyflawnder . Gorfoledded y maes , a’r hyn oll y sydd ynddo : yna holl brennau y coed a ganant . O flaen yr Arglwydd ; canys y mae yn dyfod , canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear : efe a farna y byd trwy gyfiawnder , a’r bobloedd â’i wirionedd . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; gorfoledded y ddaear : llawenyched ynysoedd lawer . Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef : cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef . Tân a â allan o’i flaen ef , ac a lysg ei elynion o amgylch . Ei fellt a lewyrchasant y byd : y ddaear a welodd , ac a grynodd . Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd , o flaen Arglwydd yr holl ddaear . Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef , a’r holl bobl a welant ei ogoniant . Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig , y rhai a ymffrostiant mewn eilunod : addolwch ef , yr holl dduwiau . Seion a glywodd , ac a lawenychodd ; a merched Jwda a orfoleddasant , oherwydd dy farnedigaethau di , O Arglwydd . Canys ti , Arglwydd , wyt oruchel goruwch yr holl ddaear : dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau . Y rhai a gerwch yr Arglwydd , casewch ddrygioni : efe sydd yn cadw eneidiau ei saint ; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol . Heuwyd goleuni i’r cyfiawn , a llawenydd i’r rhai uniawn o galon . Y rhai cyfiawn , llawenychwch yn yr Arglwydd ; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd : canys efe a wnaeth bethau rhyfedd : ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth . Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd . Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni . Cenwch yn llafar i’r Arglwydd , yr holl ddaear : llefwch , ac ymlawenhewch , a chenwch . Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn ; gyda’r delyn , a llef salm . Ar utgyrn a sain cornet , cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin . Rhued y môr a’i gyflawnder ; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn . Cured y llifeiriaint eu dwylo ; a chydganed y mynyddoedd O flaen yr Arglwydd ; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear : efe a farna y byd â chyfiawnder , a’r bobloedd ag uniondeb . Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; cryned y bobloedd : eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid ; ymgynhyrfed y ddaear . Mawr yw yr Arglwydd yn Seion , a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd . Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy ; canys sanctaidd yw . A nerth y Brenin a hoffa farn : ti a sicrhei uniondeb , barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob . Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw , ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef : canys sanctaidd yw . Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef ; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw : galwasant ar yr Arglwydd , ac efe a’u gwrandawodd hwynt . Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl : cadwasant ei dystiolaethau , a’r ddeddf a roddodd efe iddynt . Gwrandewaist arnynt , O Arglwydd ein Duw : Duw oeddit yn eu harbed , ie , pan ddielit am eu dychmygion . Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw , ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd : canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw . Cenwch yn llafar i’r Arglwydd , yr holl ddaear . Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd : deuwch o’i flaen ef â chân . Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw : efe a’n gwnaeth , ac nid ni ein hunain : ei bobl ef ydym , a defaid ei borfa . Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch , ac i’w gynteddau â mawl : diolchwch iddo , a bendithiwch ei enw . Canys da yw yr Arglwydd : ei drugaredd sydd yn dragywydd ; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Canaf am drugaredd a barn : i ti , Arglwydd , y canaf . Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith . Pa bryd y deui ataf ? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ . Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid : cas gennyf waith y rhai cildynnus ; ni lŷn wrthyf fi . Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf : nid adnabyddaf ddyn drygionus . Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel : yr uchel o olwg , a’r balch ei galon , ni allaf ei ddioddef . Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir , fel y trigont gyda mi : yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith , hwnnw a’m gwasanaetha i . Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll : ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd . Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir , i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd . Arglwydd , clyw fy ngweddi , a deled fy llef atat . Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder , gostwng dy glust ataf : yn y dydd y galwyf , brysia , gwrando fi . Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg , a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd . Fy nghalon a drawyd , ac a wywodd fel llysieuyn ; fel yr anghofiais fwyta fy mara . Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd . Tebyg wyf i belican yr anialwch : ydwyf fel tylluan y diffeithwch . Gwyliais , ac ydwyf fel aderyn y to , unig ar ben y tŷ . Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd : y rhai a ynfydant wrthyf , a dyngasant yn fy erbyn . Canys bwyteais ludw fel bara , a chymysgais fy niod ag wylofain ; Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint : canys codaist fi i fyny , a theflaist fi i lawr . Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio ; a minnau fel glaswelltyn a wywais . Tithau , Arglwydd , a barhei yn dragwyddol , a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . Ti a gyfodi , ac a drugarhei wrth Seion : canys yr amser i drugarhau wrthi , ie , yr amser nodedig , a ddaeth . Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini , ac yn tosturio wrth ei llwch hi . Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd , a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant . Pan adeilado yr Arglwydd Seion , y gwelir ef yn ei ogoniant . Efe a edrych ar weddi y gwael , ac ni ddiystyrodd eu dymuniad . Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl : a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd . Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr : yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear ; I wrando uchenaid y carcharorion ; ac i ryddhau plant angau ; I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion , a’i foliant yn Jerwsalem : Pan gasgler y bobl ynghyd , a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd . Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd ; byrhaodd fy nyddiau . Dywedais , Fy Nuw , na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau : dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd . Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear ; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo . Hwy a ddarfyddant , a thi a barhei : ie , hwy oll a heneiddiant fel dilledyn ; fel gwisg y newidi hwynt , a hwy a newidir . Tithau yr un ydwyt , a’th flynyddoedd ni ddarfyddant . Plant dy weision a barhânt , a’u had a sicrheir ger dy fron di . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd ; a chwbl sydd ynof , ei enw sanctaidd ef . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd ; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef : Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau ; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd : Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw : yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi : Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni ; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr . Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll . Hysbysodd ei ffyrdd i Moses ; ei weithredoedd i feibion Israel . Trugarog a graslon yw yr Arglwydd ; hwyrfrydig i lid , a mawr o drugarowgrwydd . Nid byth yr ymryson efe : ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint . Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni ; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni . Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear , y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef . Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin , y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym . Fel y tosturia tad wrth ei blant , felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef . Canys efe a edwyn ein defnydd ni : cofia mai llwch ydym . Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn : megis blodeuyn y maes , felly y blodeua efe . Canys y gwynt a â drosto , ac ni bydd mwy ohono ; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy . Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb , ar y rhai a’i hofnant ef ; a’i gyfiawnder i blant eu plant ; I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef , ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur . Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd : a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth . Bendithiwch yr Arglwydd , ei angylion ef , cedyrn o nerth , yn gwneuthur ei air ef , gan wrando ar leferydd ei air ef . Bendithiwch yr Arglwydd , ei holl luoedd ef ; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef . Bendithiwch yr Arglwydd , ei holl weithredoedd ef , ym mhob man o’i lywodraeth : fy enaid , bendithia yr Arglwydd . Fy enaid , bendithia yr Arglwydd . O Arglwydd fy Nuw , tra mawr ydwyt ; gwisgaist ogoniant a harddwch . Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn : ac yn taenu y nefoedd fel llen . Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd ; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo ; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt . Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion ; a’i weinidogion yn dân fflamllyd . Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini , fel na symudo byth yn dragywydd . Toaist hi â’r gorddyfnder , megis â gwisg : y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd . Gan dy gerydd di y ffoesant : rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith . Gan y mynyddoedd yr ymgodant : ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant , i’r lle a seiliaist iddynt . Gosodaist derfyn , fel nad elont drosodd ; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear . Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd , y rhai a gerddant rhwng y bryniau . Diodant holl fwystfilod y maes : yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched . Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt , y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau . Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd : y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd . Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid , a llysiau i wasanaeth dyn : fel y dyco fara allan o’r ddaear ; A gwin , yr hwn a lawenycha galon dyn ; ac olew , i beri i’w wyneb ddisgleirio : a bara , yr hwn a gynnal galon dyn . Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn : cedrwydd Libanus , y rhai a blannodd efe ; Lle y nytha yr adar : y ffynidwydd yw tŷ y ciconia . Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr ; a’r creigiau i’r cwningod . Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig : yr haul a edwyn ei fachludiad . Gwnei dywyllwch , a nos fydd : ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed . Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth , ac a geisiant eu bwyd gan Dduw . Pan godo haul , ymgasglant , a gorweddant yn eu llochesau . Dyn a â allan i’w waith , ac i’w orchwyl hyd yr hwyr . Mor lluosog yw dy weithredoedd , O Arglwydd ! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb : llawn yw y ddaear o’th gyfoeth . Felly y mae y môr mawr , llydan : yno y mae ymlusgiaid heb rifedi , bwystfilod bychain a mawrion . Yno yr â y llongau : yno y mae y lefiathan , yr hwn a luniaist i chwarae ynddo . Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt ; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd . A roddech iddynt , a gasglant : agori dy law , a diwellir hwynt â daioni . Ti a guddi dy wyneb , hwythau a drallodir : dygi ymaith eu hanadl , a threngant , a dychwelant i’w llwch . Pan ollyngych dy ysbryd , y crëir hwynt ; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear . Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd : yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd . Efe a edrych ar y ddaear , a hi a gryna : efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd , a hwy a fygant . Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw : canaf i’m Duw tra fyddwyf . Bydd melys fy myfyrdod amdano : mi a lawenychaf yn yr Arglwydd . Darfydded y pechaduriaid o’r tir , na fydded yr annuwiolion mwy . Fy enaid , bendithia di yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; gelwch ar ei enw : mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd . Cenwch iddo , canmolwch ef : ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef . Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd : llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd . Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth : ceisiwch ei wyneb ef bob amser . Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe ; ei wyrthiau , a barnedigaethau ei enau ; Chwi had Abraham ei was ef , chwi feibion Jacob ei etholedigion . Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni : ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear . Cofiodd ei gyfamod byth , y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau : Yr hyn a amododd efe ag Abraham , a’i lw i Isaac ; A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob , ac yn gyfamod tragwyddol i Israel ; Gan ddywedyd , I ti y rhoddaf dir Canaan , rhandir eich etifeddiaeth . Pan oeddynt ychydig o rifedi , ie , ychydig , a dieithriaid ynddi : Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth , o’r naill deyrnas at bobl arall : Ni adawodd i neb eu gorthrymu ; ie , ceryddodd frenhinoedd o’u plegid ; Gan ddywedyd , Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog , ac na ddrygwch fy mhroffwydi . Galwodd hefyd am newyn ar y tir ; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara . Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt , Joseff , yr hwn a werthwyd yn was . Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn : ei enaid a aeth mewn heyrn : Hyd yr amser y daeth ei air ef : gair yr Arglwydd a’i profodd ef . Y brenin a anfonodd , ac a’i gollyngodd ef ; llywodraethwr y bobl , ac a’i rhyddhaodd ef . Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ , ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth : I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys ; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef . Aeth Israel hefyd i’r Aifft ; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham . Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr ; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr . Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef , i wneuthur yn ddichellgar â’i weision . Efe a anfonodd Moses ei was ; ac Aaron , yr hwn a ddewisasai . Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt , a rhyfeddodau yn nhir Ham . Efe a anfonodd dywyllwch , ac a dywyllodd : ac nid anufuddhasant hwy ei air ef . Efe a drodd eu dyfroedd yn waed , ac a laddodd eu pysgod . Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd . Efe a ddywedodd , a daeth cymysgbla , a llau yn eu holl fro hwynt . Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg , ac yn fflamau tân yn eu tir . Trawodd hefyd eu gwinwydd , a’u ffigyswydd ; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt . Efe a ddywedodd , a daeth y locustiaid , a’r lindys , yn aneirif ; Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt , ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt . Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt , blaenffrwyth eu holl nerth hwynt . Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur ; ac heb un llesg yn eu llwythau . Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan : canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy . Efe a daenodd gwmwl yn do , a thân i oleuo liw nos . Gofynasant , ac efe a ddug soflieir ; ac a’u diwallodd â bara nefol . Efe a holltodd y graig , a’r dyfroedd a ddylifodd ; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd . Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd , ac Abraham ei was . Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd ; ei etholedigion mewn gorfoledd . Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd : a meddianasant lafur y bobloedd . Fel y cadwent ei ddeddfau ef , ac y cynhalient ei gyfreithiau . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd ? ac a fynega ei holl fawl ef ? Gwyn eu byd a gadwant farn , a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser . Cofia fi , Arglwydd , yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl ; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth . Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion , fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di , fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth . Pechasom gyda’n tadau ; gwnaethom gamwedd , anwireddus fuom . Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft , ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau ; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr , sef y môr coch . Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw , i beri adnabod ei gadernid . Ac a geryddodd y môr coch , fel y sychodd efe : a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder , megis trwy’r anialwch . Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog ; ac a’u gwaredodd o law y gelyn . A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr ; ni adawyd un ohonynt . Yna y credasant ei eiriau ef ; canasant ei fawl ef . Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef ; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef . Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch ; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch . Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt ; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid . Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll , ac wrth Aaron sant yr Arglwydd . Y ddaear a agorodd , ac a lyncodd Dathan , ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram . Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt : fflam a losgodd y rhai annuwiol . Llo a wnaethant yn Horeb ; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd . Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt . Anghofiasant Dduw eu Hachubwr , yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft ; Pethau rhyfedd yn nhir Ham ; pethau ofnadwy wrth y môr coch . Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt , oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef ; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef , rhag eu dinistrio . Diystyrasant hefyd y tir dymunol : ni chredasant ei air ef : Ond grwgnachasant yn eu pebyll ; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd . Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt , i’w cwympo yn yr anialwch ; Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd ; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd . Ymgysylltasant hefyd â Baal‐Peor , a bwytasant ebyrth y meirw . Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun ; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy . Yna y safodd Phinees , ac a iawn farnodd : a’r pla a ataliwyd . A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder , o genhedlaeth i genhedlaeth byth . Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen ; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt : Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef , fel y camddywedodd â’i wefusau . Ni ddinistriasant y bobloedd , am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt : Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd ; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt : A gwasanaethasant eu delwau hwynt ; y rhai a fu yn fagl iddynt . Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid , Ac a dywalltasant waed gwirion , sef gwaed eu meibion a’u merched , y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan : a’r tir a halogwyd â gwaed . Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun , ac y puteiniasant gyda’u dychmygion . Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth . Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd ; a’u caseion a lywodraethasant arnynt . Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant ; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy . Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt ; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun , a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd . Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt , pan glywodd eu llefain hwynt . Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt , ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau : Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai . Achub ni , O Arglwydd ein Duw , a chynnull ni o blith y cenhedloedd , i glodfori dy enw sanctaidd , ac i orfoleddu yn dy foliant . Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd : a dyweded yr holl bobl , Amen . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd , y rhai a waredodd efe o law y gelyn ; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd , o’r dwyrain , ac o’r gorllewin , o’r gogledd , ac o’r deau . Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr , heb gael dinas i aros ynddi : Yn newynog ac yn sychedig , eu henaid a lewygodd ynddynt . Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau ; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn , i fyned i ddinas gyfanheddol . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig , ac a leinw yr enaid newynog â daioni . Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau , yn rhwym mewn cystudd a haearn : Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw , a dirmygu cyngor y Goruchaf . Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder : syrthiasant , ac nid oedd cynorthwywr . Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau . Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau ; a drylliodd eu rhwymau hwynt . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Canys efe a dorrodd y pyrth pres , ac a ddrylliodd y barrau heyrn . Ynfydion , oblegid eu camweddau , ac oherwydd eu hanwireddau , a gystuddir . Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd ; a daethant hyd byrth angau . Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau . Anfonodd ei air , ac iachaodd hwynt , ac a’u gwaredodd o’u dinistr . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! Aberthant hefyd aberth moliant ; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd . Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr , gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion . Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd , a’i ryfeddodau yn y dyfnder . Canys efe a orchymyn , a chyfyd tymhestlwynt , yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef . Hwy a esgynnant i’r nefoedd , disgynnant i’r dyfnder : tawdd eu henaid gan flinder . Ymdroant , ac ymsymudant fel meddwyn : a’u holl ddoethineb a ballodd . Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau . Efe a wna yr ystorm yn dawel ; a’i thonnau a ostegant . Yna y llawenhânt am eu gostegu ; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent . O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni , a’i ryfeddodau i feibion dynion ! A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl , a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid . Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch , a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir ; A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth , am ddrygioni y rhai a drigant ynddo . Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr , a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr . Ac yno y gwna i’r newynog aros ; fel y darparont ddinas i gyfanheddu : Ac yr heuont feysydd , ac y plannont winllannoedd , y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog . Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr , ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau . Lleiheir hwynt hefyd , a gostyngir hwynt , gan gyfyngder , drygfyd , a chyni . Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion , ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd . Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd , ac a wna iddo deuluoedd fel praidd . Y rhai uniawn a welant hyn , ac a lawenychant : a phob anwiredd a gae ei safn . Y neb sydd ddoeth , ac a gadwo hyn , hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd . Parod yw fy nghalon , O Dduw : canaf a chanmolaf â’m gogoniant . Deffro , y nabl a’r delyn : minnau a ddeffroaf yn fore . Clodforaf di , Arglwydd , ymysg y bobloedd : canmolaf di ymysg y cenhedloedd . Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd : a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren . Ymddyrcha , O Dduw , uwch y nefoedd : a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear ; Fel y gwareder dy rai annwyl : achub â’th ddeheulaw , a gwrando fi . Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd , Llawenychaf , rhannaf Sichem , a mesuraf ddyffryn Succoth . Eiddof fi yw Gilead ; eiddof fi Manasse ; Effraim hefyd yw nerth fy mhen : Jwda yw fy neddfwr . Moab yw fy nghrochan golchi ; tros Edom y taflaf fy esgid : buddugoliaethaf ar Philistia . Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn ? pwy a’m dwg hyd yn Edom ? Onid tydi , O Dduw , yr hwn a’n bwriaist ymaith ? ac onid ei di allan , O Dduw , gyda’n lluoedd ? Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys gau yw ymwared dyn . Trwy Dduw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion . Na thaw , O Dduw fy moliant . Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf : â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn . Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas ; ac ymladdasant â mi heb achos . Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant : minnau a arferaf weddi . Talasant hefyd i mi ddrwg am dda , a chas am fy nghariad . Gosod dithau un annuwiol arno ef ; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef . Pan farner ef , eled yn euog ; a bydded ei weddi yn bechod . Ychydig fyddo ei ddyddiau ; a chymered arall ei swydd ef . Bydded ei blant yn amddifaid , a’i wraig yn weddw . Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef , a chardotant : ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd . Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo ; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef . Na fydded neb a estynno drugaredd iddo ; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef . Torrer ymaith ei hiliogaeth ef : dileer eu henw yn yr oes nesaf . Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd ; ac na ddileer pechod ei fam ef . Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd , fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir : Am na chofiodd wneuthur trugaredd , eithr erlid ohono y truan a’r tlawd , a’r cystuddiedig o galon , i’w ladd . Hoffodd felltith , a hi a ddaeth iddo : ni fynnai fendith , a hi a bellhaodd oddi wrtho . Ie , gwisgodd felltith fel dilledyn ; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn , ac fel olew i’w esgyrn . Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe , ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol . Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd , a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid . Tithau , Arglwydd Dduw , gwna erof fi er mwyn dy enw : am fod yn dda dy drugaredd , gwared fi . Canys truan a thlawd ydwyf fi , a’m calon a archollwyd o’m mewn . Euthum fel cysgod pan gilio : fel locust y’m hysgydwir . Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd ; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster . Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt : pan welent fi , siglent eu pennau . Cynorthwya fi , O Arglwydd fy Nuw ; achub fi yn ôl dy drugaredd : Fel y gwypont mai dy law di yw hyn ; mai ti , Arglwydd , a’i gwnaethost . Melltithiant hwy , ond bendithia di : cywilyddier hwynt , pan gyfodant ; a llawenyched dy was . Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth , ac ymwisgant â’u cywilydd , megis â chochl . Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau ; ie , moliannaf ef ymysg llawer . Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd , i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid . Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed . Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion : Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion . Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth , mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr : y mae gwlith dy enedigaeth i ti . Tyngodd yr Arglwydd , ac nid edifarha , Ti wyt offeiriad yn dragwyddol , yn ôl urdd Melchisedec . Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint . Efe a farn ymysg y cenhedloedd ; lleinw leoedd â chelaneddau : archolla ben llawer gwlad . Efe a yf o’r afon ar y ffordd : am hynny y dyrcha efe ei ben . Molwch yr Arglwydd . Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon , yng nghymanfa y rhai uniawn , ac yn y gynulleidfa . Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd , wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant . Gogoniant a harddwch yw ei waith ef ; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth . Gwnaeth gofio ei ryfeddodau : graslon a thrugarog yw yr Arglwydd . Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef : efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd . Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd , i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd . Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef : ei holl orchmynion ydynt sicr : Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd , a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder . Anfonodd ymwared i’w bobl : gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol : sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef . Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd : deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef : y mae ei foliant ef yn parhau byth . Molwch yr Arglwydd . Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd , ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr . Ei had fydd gadarn ar y ddaear : cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir . Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef : a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth . Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch : trugarog , a thosturiol , a chyfiawn , yw efe . Gŵr da sydd gymwynasgar , ac yn rhoddi benthyg : wrth farn y llywodraetha efe ei achosion . Yn ddiau nid ysgogir ef byth : y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth . Nid ofna efe rhag chwedl drwg : ei galon sydd ddi‐sigl , yn ymddiried yn yr Arglwydd . Ategwyd ei galon : nid ofna efe , hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion . Gwasgarodd , rhoddodd i’r tlodion ; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth ; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant . Yr annuwiol a wêl hyn , ac a ddigia ; efe a ysgyrnyga ei ddannedd , ac a dawdd ymaith : derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol . Molwch yr Arglwydd . Gweision yr Arglwydd , molwch , ie , molwch enw yr Arglwydd . Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd . O godiad haul hyd ei fachludiad , moliannus yw enw yr Arglwydd . Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd ; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd . Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni , yr hwn sydd yn preswylio yn uchel , Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd , ac yn y ddaear ? Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch , ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen , I’w osod gyda phendefigion , ie , gyda phendefigion ei bobl . Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ , a bod yn llawen fam plant . Canmolwch yr Arglwydd . Pan aeth Israel o’r Aifft , tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith ; Jwda oedd ei sancteiddrwydd , ac Israel ei arglwyddiaeth . Y môr a welodd hyn , ac a giliodd ; yr Iorddonen a drodd yn ôl . Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod , a’r bryniau fel ŵyn defaid . Beth ddarfu i ti , O fôr , pan giliaist ? tithau Iorddonen , paham y troaist yn ôl ? Paham , fynyddoedd , y neidiech fel hyrddod ? a’r bryniau fel ŵyn defaid ? Ofna , di ddaear , rhag yr Arglwydd , rhag Duw Jacob : Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr , a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd . Nid i ni , O Arglwydd , nid i ni , ond i’th enw dy hun dod ogoniant , er mwyn dy drugaredd , ac er mwyn dy wirionedd . Paham y dywedai y cenhedloedd , Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt ? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd : efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll . Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian , gwaith dwylo dynion . Genau sydd iddynt , ond ni lefarant ; llygaid sydd ganddynt , ond ni welant : Y mae clustiau iddynt , ond ni chlywant ; ffroenau sydd ganddynt , ond ni aroglant : Dwylo sydd iddynt , ond ni theimlant ; traed sydd iddynt , ond ni cherddant ; ni leisiant chwaith â’u gwddf . Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau , a phob un a ymddiriedo ynddynt . O Israel , ymddiried di yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Tŷ Aaron , ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Y rhai a ofnwch yr Arglwydd , ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian . Yr Arglwydd a’n cofiodd ni : efe a’n bendithia : bendithia efe dŷ Israel ; bendithia efe dŷ Aaron . Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd , fychain a mawrion . Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy , chwychwi a’ch plant hefyd . Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nef a daear . Y nefoedd , ie , y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd : a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion . Y meirw ni foliannant yr Arglwydd , na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd . Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef , a’m gweddïau . Am ostwng ohono ei glust ataf , am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef . Gofidion angau a’m cylchynasant , a gofidiau uffern a’m daliasant : ing a blinder a gefais . Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd ; Atolwg , Arglwydd , gwared fy enaid . Graslon yw yr Arglwydd , a chyfiawn ; a thosturiol yw ein Duw ni . Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar : tlodais , ac efe a’m hachubodd . Dychwel , O fy enaid , i’th orffwysfa ; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt . Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau , fy llygaid oddi wrth ddagrau , a’m traed rhag llithro . Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw . Credais , am hynny y lleferais : cystuddiwyd fi yn ddirfawr . Mi a ddywedais yn fy ffrwst , Pob dyn sydd gelwyddog . Beth a dalaf i’r Arglwydd , am ei holl ddoniau i mi ? Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf , ac ar enw yr Arglwydd y galwaf . Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd , yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef . Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef . O Arglwydd , yn ddiau dy was di ydwyf fi ; dy was di ydwyf fi , mab dy wasanaethwraig : datodaist fy rhwymau . Aberthaf i ti aberth moliant ; a galwaf ar enw yr Arglwydd . Talaf fy addunedau i’r Arglwydd , yn awr yng ngŵydd ei holl bobl , Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd , yn dy ganol di , O Jerwsalem . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd , yr holl genhedloedd : clodforwch ef , yr holl bobloedd . Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr : a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd . Dyweded Israel yr awr hon , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Dyweded tŷ Aaron yn awr , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd , fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd . Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd ; yr Arglwydd a’m clybu , ac a’m gosododd mewn ehangder . Yr Arglwydd sydd gyda mi , nid ofnaf : beth a wna dyn i mi ? Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr : am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion . Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd , nag ymddiried mewn dyn . Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd , nag ymddiried mewn tywysogion . Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant : ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Amgylchynasant fi ; ie , amgylchynasant fi : ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Amgylchynasant fi fel gwenyn ; diffoddasant fel tân drain : oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith . Gan wthio y gwthiaist fi , fel y syrthiwn : ond yr Arglwydd a’m cynorthwyodd . Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân ; ac sydd iachawdwriaeth i mi . Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn : deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster . Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd : deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster . Ni byddaf farw , ond byw ; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd . Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd : ond ni’m rhoddodd i farwolaeth . Agorwch i mi byrth cyfiawnder : af i mewn iddynt , a chlodforaf yr Arglwydd . Dyma borth yr Arglwydd ; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo . Clodforaf di ; oherwydd i ti fy ngwrando , a’th fod yn iachawdwriaeth i mi . Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , a aeth yn ben i’r gongl . O’r Arglwydd y daeth hyn ; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni . Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd ; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo . Atolwg , Arglwydd , achub yn awr : atolwg , Arglwydd pâr yn awr lwyddiant . Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd : bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd . Duw yw yr Arglwydd , yr hwn a lewyrchodd i ni : rhwymwch yr aberth â rhaffau , hyd wrth gyrn yr allor . Fy Nuw ydwyt ti , a mi a’th glodforaf : dyrchafaf di , fy Nuw . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef . Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd , y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd . Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef ; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon . Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd , hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef . Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal . O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau ! Yna ni’m gwaradwyddid , pan edrychwn ar dy holl orchmynion . Clodforaf di ag uniondeb calon , pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder . Cadwaf dy ddeddfau ; O na ad fi yn hollol . Pa fodd y glanha llanc ei lwybr ? wrth ymgadw yn ôl dy air di . A’m holl galon y’th geisiais : na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion . Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon , fel na phechwn i’th erbyn . Ti , Arglwydd , wyt fendigedig : dysg i mi dy ddeddfau . A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau . Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau , â’r holl olud . Yn dy orchmynion y myfyriaf , ac ar dy lwybrau yr edrychaf . Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf : nid anghofiaf dy air . Bydd dda wrth dy was , fel y byddwyf byw , ac y cadwyf dy air . Datguddia fy llygaid , fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di . Dieithr ydwyf fi ar y ddaear : na chudd di rhagof dy orchmynion . Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser . Ceryddaist y beilchion melltigedig , y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion . Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg : oblegid dy dystiolaethau di a gedwais . Tywysogion hefyd a eisteddasant , ac a ddywedasant i’m herbyn : dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau . A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr . Glynodd fy enaid wrth y llwch : bywha fi yn ôl dy air . Fy ffyrdd a fynegais , a gwrandewaist fi : dysg i mi dy ddeddfau . Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion ; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau . Diferodd fy enaid gan ofid : nertha fi yn ôl dy air . Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd ; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith . Dewisais ffordd gwirionedd : gosodais dy farnedigaethau o’m blaen . Glynais wrth dy dystiolaethau : O Arglwydd , na’m gwaradwydda . Ffordd dy orchmynion a redaf , pan ehangech fy nghalon . Dysg i mi , O Arglwydd , ffordd dy ddeddfau , a chadwaf hi hyd y diwedd . Gwna i mi ddeall , a chadwaf dy gyfraith ; ie , cadwaf hi â’m holl galon . Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion : canys ynddo y mae fy ewyllys . Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau , ac nid at gybydd‐dra . Tro heibio fy llygaid , rhag edrych ar wagedd ; a bywha fi yn dy ffyrdd . Sicrha dy air i’th was , yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di . Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni : canys dy farnedigaethau sydd dda . Wele , awyddus ydwyf i’th orchmynion : gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder . Deued i mi dy drugaredd , Arglwydd , a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air . Yna yr atebaf i’m cablydd : oherwydd yn dy air y gobeithiais . Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr : oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais . A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol , byth ac yn dragywydd . Rhodiaf hefyd mewn ehangder : oherwydd dy orchmynion di a geisiaf . Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd , ac ni bydd cywilydd gennyf . Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion , y rhai a hoffais . A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion , y rhai a gerais ; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau . Cofia y gair wrth dy was , yn yr hwn y peraist i mi obeithio . Dyma fy nghysur yn fy nghystudd : canys dy air di a’m bywhaodd i . Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr : er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di . Cofiais , O Arglwydd , dy farnedigaethau erioed ; ac ymgysurais . Dychryn a ddaeth arnaf , oblegid yr annuwiolion , y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di . Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod . Cofiais dy enw , Arglwydd , y nos ; a chedwais dy gyfraith . Hyn oedd gennyf , am gadw ohonof dy orchmynion di . O Arglwydd , fy rhan ydwyt ; dywedais y cadwn dy eiriau . Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon : trugarha wrthyf yn ôl dy air . Meddyliais am fy ffyrdd , a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di . Brysiais , ac nid oedais gadw dy orchmynion . Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant : ond nid anghofiais dy gyfraith di . Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu , am farnedigaethau dy gyfiawnder . Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant , ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion . Llawn yw y ddaear o’th drugaredd , O Arglwydd : dysg i mi dy ddeddfau . Gwnaethost yn dda â’th was , O Arglwydd , yn ôl dy air . Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth : oherwydd dy orchmynion di a gredais . Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni : ond yn awr cedwais dy air di . Da ydwyt , a daionus : dysg i mi dy ddeddfau . Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn ; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon . Cyn frased â’r bloneg yw eu calon : minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di . Da yw i mi fy nghystuddio ; fel y dysgwn dy ddeddfau . Gwell i mi gyfraith dy enau , na miloedd o aur ac arian . Dy ddwylo a’m gwnaethant , ac a’m lluniasant : pâr i mi ddeall , fel y dysgwyf dy orchmynion . Y rhai a’th ofnant a’m gwelant , ac a lawenychant ; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di . Gwn , Arglwydd , mai cyfiawn yw dy farnedigaethau ; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist . Bydded , atolwg , dy drugaredd i’m cysuro , yn ôl dy air i’th wasanaethwr . Deued i mi dy drugareddau , fel y byddwyf byw ; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch . Cywilyddier y beilchion , canys gwnânt gam â mi yn ddiachos : ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di . Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di , a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau . Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau ; fel na’m cywilyddier . Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth : wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl . Y mae fy llygaid yn pallu am dy air , gan ddywedyd , Pa bryd y’m diddeni ? Canys ydwyf fel costrel mewn mwg ; ond nid anghofiais dy ddeddfau . Pa nifer yw dyddiau dy was ? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant ? Y beilchion a gloddiasant byllau i mi , yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di . Dy holl orchmynion ydynt wirionedd : ar gam y’m herlidiasant ; cymorth fi . Braidd na’m difasant ar y ddaear ; minnau ni adewais dy orchmynion . Bywha fi yn ôl dy drugaredd ; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau . Yn dragywydd , O Arglwydd , y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd . Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : seiliaist y ddaear , a hi a saif . Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw : canys dy weision yw pob peth . Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi , darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd . Byth nid anghofiaf dy orchmynion : canys â hwynt y’m bywheaist . Eiddot ti ydwyf , cadw fi : oherwydd dy orchmynion a geisiais . Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha : ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi . Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd : ond dy orchymyn di sydd dra eang . Mor gu gennyf dy gyfraith di ! hi yw fy myfyrdod beunydd . A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion : canys byth y maent gyda mi . Deellais fwy na’m holl athrawon : oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod . Deellais yn well na’r henuriaid , am fy mod yn cadw dy orchmynion di . Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg , fel y cadwn dy air di . Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau : oherwydd ti a’m dysgaist . Mor felys yw dy eiriau i’m genau ! melysach na mêl i’m safn . Trwy dy orchmynion di y pwyllais : am hynny y caseais bob gau lwybr . Llusern yw dy air i’m traed , a llewyrch i’m llwybr . Tyngais , a chyflawnaf , y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder . Cystuddiwyd fi yn ddirfawr : bywha fi , O Arglwydd , yn ôl dy air . Atolwg , Arglwydd , bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau , a dysg i mi dy farnedigaethau . Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol : er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith . Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi : ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion . Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth : oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt . Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth , hyd y diwedd . Meddyliau ofer a gaseais : a’th gyfraith di a hoffais . Fy lloches a’m tarian ydwyt : yn dy air y gobeithiaf . Ciliwch oddi wrthyf , rai drygionus : canys cadwaf orchmynion fy Nuw . Cynnal fi yn ôl dy air , fel y byddwyf byw : ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith . Cynnal fi , a dihangol fyddaf : ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol . Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau : canys twyllodrus yw eu dichell hwynt . Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach : am hynny yr hoffais dy dystiolaethau . Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn , ac ofnais rhag dy farnedigaethau . Gwneuthum farn a chyfiawnder : na ad fi i’m gorthrymwyr . Mechnïa dros dy was er daioni : na ad i’r beilchion fy ngorthrymu . Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth , ac am ymadrodd dy gyfiawnder . Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd , a dysg i mi dy ddeddfau . Dy was ydwyf fi ; pâr i mi ddeall , fel y gwypwyf dy dystiolaethau . Amser yw i’r Arglwydd weithio : diddymasant dy gyfraith di . Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur ; ie , yn fwy nag aur coeth . Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth ; a chaseais bob gau lwybr . Rhyfedd yw dy dystiolaethau : am hynny y ceidw fy enaid hwynt . Agoriad dy eiriau a rydd oleuni : pair ddeall i rai annichellgar . Agorais fy ngenau , a dyheais : oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di . Edrych arnaf , a thrugarha wrthyf , yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw . Cyfarwydda fy nghamre yn dy air : ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf . Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion : felly y cadwaf dy orchmynion . Llewyrcha dy wyneb ar dy was : a dysg i mi dy ddeddfau . Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid , am na chadwasant dy gyfraith di . Cyfiawn ydwyt ti , O Arglwydd , ac uniawn yw dy farnedigaethau . Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist , ydynt gyfiawn , a ffyddlon iawn . Fy sêl a’m difaodd ; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di . Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr : am hynny y mae dy was yn ei hoffi . Bychan ydwyf fi , a dirmygus : ond nid anghofiais dy orchmynion . Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth , a’th gyfraith sydd wirionedd . Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant ; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch . Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd : gwna i mi ddeall , a byw fyddaf . Llefais â’m holl galon ; clyw fi , O Arglwydd : dy ddeddfau a gadwaf . Llefais arnat ; achub fi , a chadwaf dy dystiolaethau . Achubais flaen y cyfddydd , a gwaeddais ; wrth dy air y disgwyliais . Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos , i fyfyrio yn dy air di . Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd : Arglwydd , bywha fi yn ôl dy farnedigaethau . Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf : ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di . Tithau , Arglwydd , wyt agos ; a’th holl orchmynion sydd wirionedd . Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau , seilio ohonot hwynt yn dragywydd . Gwêl fy nghystudd , a gwared fi : canys nid anghofiais dy gyfraith . Dadlau fy nadl , a gwared fi : bywha fi yn ôl dy air . Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol : oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di . Dy drugareddau , Arglwydd , sydd aml : bywha fi yn ôl dy farnedigaethau . Llawer sydd yn fy erlid , ac yn fy ngwrthwynebu ; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau . Gwelais y troseddwyr , a gresynais ; am na chadwent dy air di . Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion : Arglwydd , bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd . Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air ; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd . Tywysogion a’m herlidiasant heb achos : er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di . Llawen ydwyf fi oblegid dy air , fel un yn cael ysglyfaeth lawer . Celwydd a gaseais , ac a ffieiddiais : a’th gyfraith di a hoffais . Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori ; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau . Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith : ac nid oes dramgwydd iddynt . Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di , O Arglwydd ; a gwneuthum dy orchmynion . Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau ; a hoff iawn gennyf hwynt . Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau : canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di . Nesaed fy ngwaedd o’th flaen , Arglwydd : gwna i mi ddeall yn ôl dy air . Deued fy ngweddi ger dy fron : gwared fi yn ôl dy air . Fy ngwefusau a draetha foliant , pan ddysgech i mi dy ddeddfau . Fy nhafod a ddatgan dy air : oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder . Bydded dy law i’m cynorthwyo : oherwydd dy orchmynion di a ddewisais . Hiraethais , O Arglwydd , am dy iachawdwriaeth ; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch . Bydded byw fy enaid , fel y’th folianno di ; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi . Cyfeiliornais fel dafad wedi colli : cais dy was ; oblegid nid anghofiais dy orchmynion . Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder , ac efe a’m gwrandawodd i . Arglwydd , gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog , ac oddi wrth dafod twyllodrus . Beth a roddir i ti ? neu pa beth a wneir i ti , dydi dafod twyllodrus ? Llymion saethau cawr , ynghyd â marwor meryw . Gwae fi , fy mod yn preswylio ym Mesech , yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar . Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd . Heddychol ydwyf fi : ond pan lefarwyf , y maent yn barod i ryfel . Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd , o’r lle y daw fy nghymorth . Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nefoedd a daear . Ni ad efe i’th droed lithro : ac ni huna dy geidwad . Wele , ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel . Yr Arglwydd yw dy geidwad : yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw . Ni’th dery yr haul y dydd , na’r lleuad y nos . Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg : efe a geidw dy enaid . Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . Llawenychais pan ddywedent wrthyf , Awn i dŷ yr Arglwydd . Ein traed a safant o fewn dy byrth di , O Jerwsalem . Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun . Yno yr esgyn y llwythau , llwythau yr Arglwydd , yn dystiolaeth i Israel , i foliannu enw yr Arglwydd . Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn , gorseddfeinciau tŷ Dafydd . Dymunwch heddwch Jerwsalem : llwydded y rhai a’th hoffant . Heddwch fyddo o fewn dy ragfur , a ffyniant yn dy balasau . Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr , Heddwch fyddo i ti . Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw , y ceisiaf i ti ddaioni . Atat ti y dyrchafaf fy llygaid , ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd . Wele , fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid , neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres ; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw , hyd oni thrugarhao efe wrthym ni . Trugarha wrthym , Arglwydd , trugarha wrthym ; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr . Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog , ac â diystyrwch y beilchion . Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni , y gall Israel ddywedyd yn awr ; Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni , pan gyfododd dynion yn ein herbyn : Yna y’n llyncasent ni yn fyw , pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn : Yna y dyfroedd a lifasai drosom , y ffrwd a aethai dros ein henaid : Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig . Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt . Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr : y fagl a dorrwyd , a ninnau a ddianghasom . Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth nefoedd a daear . Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd , fyddant fel mynydd Seion , yr hwn ni syflir , ond a bery yn dragywydd . Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch , felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn ; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd . O Arglwydd , gwna ddaioni i’r rhai daionus , ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau . Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd , yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd : a bydd tangnefedd ar Israel . Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion , yr oeddem fel rhai yn breuddwydio . Yna y llanwyd ein genau â chwerthin , a’n tafod â chanu : yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd , Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn . Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion ; am hynny yr ydym yn llawen . Dychwel , Arglwydd , ein caethiwed ni , fel yr afonydd yn y deau . Y rhai sydd yn hau mewn dagrau , a fedant mewn gorfoledd . Yr hwn sydd yn myned rhagddo , ac yn wylo , gan ddwyn had gwerthfawr , gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd , dan gludo ei ysgubau . Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ , ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho : os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas , ofer y gwylia y ceidwad . Ofer i chwi foregodi , myned yn hwyr i gysgu , bwyta bara gofidiau : felly y rhydd efe hun i’w anwylyd . Wele , plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd : ei wobr ef yw ffrwyth y groth . Fel y mae saethau yn llaw y cadarn ; felly y mae plant ieuenctid . Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt : nis gwaradwyddir hwy , pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth . Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd ; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef . Canys mwynhei lafur dy ddwylo : gwyn dy fyd , a da fydd i ti . Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ : dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford . Wele , fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd . Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion ; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes . A thi a gei weled plant dy blant , a thangnefedd ar Israel . Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid , y dichon Israel ddywedyd yn awr : Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid : eto ni’m gorfuant . Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn : estynasant eu cwysau yn hirion . Yr Arglwydd sydd gyfiawn : efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol . Gwaradwydder hwy oll , a gyrrer yn eu hôl , y rhai a gasânt Seion . Byddant fel glaswellt pen tai , yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith : A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law ; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau , ei fynwes . Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio , Bendith yr Arglwydd arnoch : bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd . O’r dyfnder y llefais arnat , O Arglwydd . Arglwydd , clyw fy llefain ; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau . Os creffi ar anwireddau , Arglwydd , O Arglwydd , pwy a saif ? Ond y mae gyda thi faddeuant , fel y’th ofner . Disgwyliaf am yr Arglwydd , disgwyl fy enaid , ac yn ei air ef y gobeithiaf . Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore ; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore . Disgwylied Israel am yr Arglwydd ; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd , ac aml ymwared gydag ef . Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau . O Arglwydd , nid ymfalchïodd fy nghalon , ac nid ymddyrchafodd fy llygaid : ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr , a rhy uchel i mi . Eithr gosodais a gostegais fy enaid , fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam : fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu . Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd , o’r pryd hwn hyd yn dragywydd . O Arglwydd , cofia Dafydd , a’i holl flinder ; Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd , ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob : Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ , ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely ; Ni roddaf gwsg i’m llygaid , na hun i’m hamrantau , Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd , preswylfod i rymus Dduw Jacob . Wele , clywsom amdani yn Effrata : cawsom hi ym meysydd y coed . Awn i’w bebyll ef ; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef . Cyfod , Arglwydd , i’th orffwysfa ; ti ac arch dy gadernid . Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder ; a gorfoledded dy saint . Er mwyn Dafydd dy was , na thro ymaith wyneb dy Eneiniog . Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd ; ni thry efe oddi wrth hynny ; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc . Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth , y rhai a ddysgwyf iddynt ; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc . Canys dewisodd yr Arglwydd Seion : ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun . Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd : yma y trigaf ; canys chwenychais hi . Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth : diwallaf ei thlodion â bara . Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth : a’i saint dan ganu a ganant . Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro : darperais lamp i’m Heneiniog . Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd : arno yntau y blodeua ei goron . Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd ! Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen , yn disgyn ar hyd y farf , sef barf Aaron ; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef : Fel gwlith Hermon , ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion : canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith , sef bywyd yn dragywydd . Wele , holl weision yr Arglwydd , bendithiwch yr Arglwydd , y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos . Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr ; a bendithiwch yr Arglwydd . Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear , a’th fendithio di allan o Seion . Molwch yr Arglwydd . Molwch enw yr Arglwydd ; gweision yr Arglwydd , molwch ef . Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd , yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni , Molwch yr Arglwydd ; canys da yw yr Arglwydd : cenwch i’w enw ; canys hyfryd yw . Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun , ac Israel yn briodoriaeth iddo . Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd ; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau . Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd , ac yn y ddaear , yn y môr , ac yn yr holl ddyfnderau . Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear ; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw ; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau . Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft , yn ddyn ac yn anifail . Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di , yr Aifft ; ar Pharo , ac ar ei holl weision . Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer , ac a laddodd frenhinoedd cryfion ; Sehon brenin yr Amoriaid , ac Og brenin Basan , a holl freniniaethau Canaan : Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth , yn etifeddiaeth i Israel ei bobl . Dy enw , O Arglwydd , a bery yn dragywydd ; dy goffadwriaeth , O Arglwydd , o genhedlaeth i genhedlaeth . Canys yr Arglwydd a farna ei bobl , a bydd edifar ganddo o ran ei weision . Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur , gwaith dwylo dyn . Genau sydd iddynt , ond ni lefarant ; llygaid sydd ganddynt , ond ni welant . Y mae clustiau iddynt , ond ni chlywant ; nid oes chwaith anadl yn eu genau . Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt , a phob un a ymddiriedo ynddynt . Tŷ Israel , bendithiwch yr Arglwydd : bendithiwch yr Arglwydd , tŷ Aaron . Tŷ Lefi , bendithiwch yr Arglwydd : y rhai a ofnwch yr Arglwydd , bendithiwch yr Arglwydd . Bendithier yr Arglwydd o Seion , yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem . Molwch yr Arglwydd . Clodforwch yr Arglwydd ; canys da yw : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Dduw y duwiau : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd : Yr haul , i lywodraethu y dydd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd : Y lleuad a’r sêr , i lywodraethu y nos : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd ; Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : A llaw gref , ac â braich estynedig : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Sehon brenin yr Amoriaid : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac Og brenin Basan : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Yn etifeddiaeth i Israel ei was : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd : Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion : oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd . Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Clodforwch Dduw y nefoedd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd . Wrth afonydd Babilon , yno yr eisteddasom , ac wylasom , pan feddyliasom am Seion . Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau . Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân ; a’r rhai a’n hanrheithiasai , lawenydd , gan ddywedyd ; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion . Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr ? Os anghofiaf di , Jerwsalem , anghofied fy neheulaw ganu . Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau , oni chofiaf di ; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf . Cofia , Arglwydd , blant Edom yn nydd Jerwsalem ; y rhai a ddywedent . Dinoethwch , dinoethwch hi , hyd ei sylfaen . O ferch Babilon , a anrheithir : gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau . Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini . Clodforaf di â’m holl galon : yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti . Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd , a chlodforaf dy enw , am dy drugaredd a’th wirionedd : oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll . Y dydd y llefais , y’m gwrandewaist ; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid . Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant , O Arglwydd , pan glywant eiriau dy enau . Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd : canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd . Er bod yr Arglwydd yn uchel , eto efe a edrych ar yr isel : ond y balch a edwyn efe o hirbell . Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder , ti a’m bywheit : estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion , a’th ddeheulaw a’m hachubai . Yr Arglwydd a gyflawna â mi : dy drugaredd , Arglwydd , sydd yn dragywydd : nac esgeulusa waith dy ddwylo . Arglwydd , chwiliaist , ac adnabuost fi . Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad : deelli fy meddwl o bell . Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa ; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd . Canys nid oes air ar fy nhafod , ond wele , Arglwydd , ti a’i gwyddost oll . Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen , a gosodaist dy law arnaf . Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi : uchel yw , ni fedraf oddi wrthi . I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd ? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd ? Os dringaf i’r nefoedd , yno yr wyt ti : os cyweiriaf fy ngwely yn uffern , wele di yno . Pe cymerwn adenydd y wawr , a phe trigwn yn eithafoedd y môr : Yno hefyd y’m tywysai dy law , ac y’m daliai dy ddeheulaw . Pe dywedwn , Diau y tywyllwch a’m cuddiai ; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch . Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti ; ond y nos a oleua fel dydd : un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti . Canys ti a feddiennaist fy arennau : toaist fi yng nghroth fy mam . Clodforaf di ; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed : rhyfedd yw dy weithredoedd ; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda . Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt , pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel , ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear . Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd ; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll , y dydd y lluniwyd hwynt , pan nad oedd yr un ohonynt . Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf , O Dduw ! mor fawr yw eu swm hwynt ! Pe cyfrifwn hwynt , amlach ydynt na’r tywod : pan ddeffrowyf , gyda thi yr ydwyf yn wastad . Yn ddiau , O Dduw , ti a leddi yr annuwiol : am hynny y gwŷr gwaedlyd , ciliwch oddi wrthyf : Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn ; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer . Onid cas gennyf , O Arglwydd , dy gaseion di ? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn ? A chas cyflawn y caseais hwynt : cyfrifais hwynt i mi yn elynion . Chwilia fi , O Dduw , a gwybydd fy nghalon : prawf fi , a gwybydd fy meddyliau ; A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf , a thywys fi yn y ffordd dragwyddol . Gwared fi , O Arglwydd , oddi wrth y dyn drwg : cadw fi rhag y gŵr traws : Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon : ymgasglant beunydd i ryfel . Golymasant eu tafodau fel sarff : gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau . Sela . Cadw fi , O Arglwydd , rhag dwylo’r annuwiol ; cadw fi rhag y gŵr traws : y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed . Y beilchion a guddiasant faglau i mi , ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau : gosodasant hoenynnau ar fy medr . Sela . Dywedais wrth yr Arglwydd , Fy Nuw ydwyt ti : clyw , O Arglwydd , lef fy ngweddïau . Arglwydd Dduw , nerth fy iachawdwriaeth , gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr . Na chaniatâ , Arglwydd , ddymuniad yr annuwiol : na lwydda ei ddrwg feddwl ; rhag eu balchïo hwynt . Sela . Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno , blinder eu gwefusau a’u gorchuddio . Syrthied marwor arnynt : a bwrier hwynt yn tân ; ac mewn ceuffosydd , fel na chyfodant . Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear : drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw . Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan , ac y barna efe y tlodion . Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di : y rhai uniawn a drigant ger dy fron di . Arglwydd , yr wyf yn gweiddi arnat : brysia ataf ; clyw fy llais , pan lefwyf arnat . Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth , a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol . Gosod , Arglwydd , gadwraeth o flaen fy ngenau : cadw ddrws fy ngwefusau . Na ostwng fy nghalon at ddim drwg , i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd : ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt . Cured y cyfiawn fi yn garedig , a cherydded fi : na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen : canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt . Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog , clywant fy ngeiriau ; canys melys ydynt . Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd , megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear . Eithr arnat ti , O Arglwydd Dduw , y mae fy llygaid : ynot ti y gobeithiais ; na ad fy enaid yn ddiymgeledd . Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi , a hoenynnau gweithredwyr anwiredd . Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun , tra yr elwyf fi heibio . Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd ; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd . Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef ; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef . Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn , tithau a adwaenit fy llwybr . Yn y ffordd y rhodiwn , y cuddiasant i mi fagl . Edrychais ar y tu deau , a deliais sylw , ac nid oedd neb a’m hadwaenai : pallodd nodded i mi ; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid . Llefais arnat , O Arglwydd ; a dywedais , Ti yw fy ngobaith , a’m rhan yn nhir y rhai byw . Ystyr wrth fy ngwaedd : canys truan iawn ydwyf : gwared fi oddi wrth fy erlidwyr ; canys trech ydynt na mi . Dwg fy enaid allan o garchar , fel y moliannwyf dy enw : y rhai cyfiawn a’m cylchynant : canys ti a fyddi da wrthyf . Arglwydd , clyw fy ngweddi , a gwrando ar fy neisyfiadau : erglyw fi yn dy wirionedd , ac yn dy gyfiawnder . Ac na ddos i farn â’th was : oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di . Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid : curodd fy enaid i lawr : gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch , fel y rhai a fu feirw er ys talm . Yna y pallodd fy ysbryd o’m mewn : ac y synnodd fy nghalon ynof . Cofiais y dyddiau gynt ; myfyriais ar dy holl waith : ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf . Lledais fy nwylo atat : fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat . Sela . O Arglwydd , gwrando fi yn ebrwydd : pallodd fy ysbryd : na chuddia dy wyneb oddi wrthyf ; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore ; oherwydd ynot ti y gobeithiaf : pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf ; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid . Gwared fi oddi wrth fy ngelynion , O Arglwydd : gyda thi yr ymguddiais . Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di ; canys ti yw fy Nuw : tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb . Bywha fi , O Arglwydd , er mwyn dy enw : dwg fy enaid allan o ing , er mwyn dy gyfiawnder . Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion , a difetha holl gystuddwyr fy enaid : oblegid dy was di ydwyf fi . Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth , yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd , a’m bysedd i ryfela . Fy nhrugaredd , a’m hamddiffynfa ; fy nhŵr , a’m gwaredydd : fy nharian yw efe , ac ynddo y gobeithiais ; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf . Arglwydd , beth yw dyn , pan gydnabyddit ef ? neu fab dyn , pan wneit gyfrif ohono ? Dyn sydd debyg i wagedd ; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio . Arglwydd , gostwng dy nefoedd , a disgyn : cyffwrdd â’r mynyddoedd , a mygant . Saetha fellt , a gwasgar hwynt ; ergydia dy saethau , a difa hwynt . Anfon dy law oddi uchod ; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion , o law plant estron ; Y rhai y llefara eu genau wagedd , ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster . Canaf i ti , O Dduw , ganiad newydd : ar y nabl a’r dectant y canaf i ti . Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd ; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol . Achub fi , a gwared fi o law meibion estron , y rhai y llefara eu genau wagedd , ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster : Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid ; a’n merched fel conglfaen nadd , wrth gyffelybrwydd palas : Fel y byddo ein celloedd yn llawn , yn trefnu pob rhyw luniaeth ; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd : A’n hychen yn gryfion i lafurio ; heb na rhuthro i mewn , na myned allan ; na gwaedd yn ein heolydd . Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt : gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt . Dyrchafaf di , fy Nuw , O Frenin ; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd . Beunydd y’th fendithiaf ; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd . Mawr yw yr Arglwydd , a chanmoladwy iawn ; a’i fawredd sydd anchwiliadwy . Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd , ac a fynega dy gadernid . Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd , a’th bethau rhyfedd , a draethaf . Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy : mynegaf finnau dy fawredd . Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant ; a’th gyfiawnder a ddatganant . Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd ; hwyrfrydig i ddig , a mawr ei drugaredd . Daionus yw yr Arglwydd i bawb : a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd . Dy holl weithredoedd a’th glodforant , O Arglwydd ; a’th saint a’th fendithiant . Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth ; a thraethant dy gadernid : I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef , a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth . Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol : a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd . Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant , ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd . Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt ; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd ; Gan agoryd dy law , a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da . Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd , a sanctaidd yn ei holl weithredoedd . Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno , at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd . Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant : gwrendy hefyd eu llefain , ac a’u hachub hwynt . Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef ; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe . Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd : a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd . Molwch yr Arglwydd . Fy enaid , mola di yr Arglwydd . Molaf yr Arglwydd yn fy myw : canaf i’m Duw tra fyddwyf . Na hyderwch ar dywysogion , nac ar fab dyn , yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo . Ei anadl a â allan , efe a ddychwel i’w ddaear : y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef . Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo , sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw : Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear , y môr , a’r hyn oll y sydd ynddynt : yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd : Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig , yn rhoddi bara i’r newynog . Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd . Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion : yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd : yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn . Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid : efe a gynnal yr amddifad a’r weddw ; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol . Yr Arglwydd a deyrnasa byth , sef dy Dduw di , Seion , dros genhedlaeth a chenhedlaeth . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd : canys da yw canu i’n Duw ni ; oherwydd hyfryd yw , ie , gweddus yw mawl . Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem : efe a gasgl wasgaredigion Israel . Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon , ac yn rhwymo eu doluriau . Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr : geilw hwynt oll wrth eu henwau . Mawr yw ein Harglwydd , a mawr ei nerth : aneirif yw ei ddeall . Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd , gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr . Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch : cenwch i’n Duw â’r delyn ; Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau , yn paratoi glaw i’r ddaear , gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd . Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant , ac i gywion y gigfran , pan lefant . Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march : ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr . Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef ; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef . Jerwsalem , mola di yr Arglwydd : Seion , molianna dy Dduw . Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth : efe a fendithiodd dy blant o’th fewn . Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol , ac a’th ddiwalla di â braster gwenith . Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear : a’i air a red yn dra buan . Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân ; ac a daena rew fel lludw . Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau : pwy a erys gan ei oerni ef ? Efe a enfyn ei air , ac a’u tawdd hwynt : â’i wynt y chwyth efe , a’r dyfroedd a lifant . Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob , ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel . Ni wnaeth efe felly ag un genedl ; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd : molwch ef yn yr uchelderau . Molwch ef , ei holl angylion : molwch ef , ei holl luoedd . Molwch ef , haul a lleuad : molwch ef , yr holl sêr goleuni . Molwch ef , nef y nefoedd ; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd . Molant enw yr Arglwydd : oherwydd efe a orchmynnodd , a hwy a grewyd . A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd : gosododd ddeddf , ac nis troseddir hi . Molwch yr Arglwydd o’r ddaear , y dreigiau , a’r holl ddyfnderau : Tân a chenllysg , eira a tharth ; gwynt ystormus , yn gwneuthur ei air ef : Y mynyddoedd a’r bryniau oll ; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd : Y bwystfilod a phob anifail ; yr ymlusgiaid ac adar asgellog : Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd ; tywysogion a holl farnwyr y byd : Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd ; hynafgwyr a llanciau : Molant enw yr Arglwydd : oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy ; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd . Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl , moliant ei holl saint ; sef meibion Israel , pobl agos ato . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd , a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint . Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth : gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin . Molant ei enw ef ar y dawns : canant iddo ar dympan a thelyn . Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl : efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth . Gorfoledded y saint mewn gogoniant : a chanant ar eu gwelyau . Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau , a chleddyf daufiniog yn eu dwylo ; I wneuthur dial ar y cenhedloedd , a chosb ar y bobloedd ; I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau , a’u pendefigion â gefynnau heyrn ; I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig : yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef . Molwch yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd : molwch ef yn ffurfafen ei nerth . Molwch ef am ei gadernid : molwch ef yn ôl amlder ei fawredd . Molwch ef â llais utgorn : molwch ef â nabl ac â thelyn . Molwch ef â thympan ac â dawns : molwch ef â thannau ac ag organ . Molwch ef â symbalau soniarus : molwch ef â symbalau llafar . Pob perchen anadl , molianned yr Arglwydd . Molwch yr Arglwydd . </passage></reply></GetPassage>