<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:2</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:2</urn><passage>Dyma yn awr enwau meibion Israel , y rhai a ddaethant i’r Aifft : gyda Jacob y daethant , bob un a’i deulu . Reuben , Simeon , Lefi , a Jwda , Issachar , Sabulon , a Benjamin , Dan , a Nafftali , Gad , ac Aser . A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain : a Joseff oedd yn yr Aifft . A Joseff a fu farw , a’i holl frodyr , a’r holl genhedlaeth honno . A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant , amlhasant hefyd , a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth ; a’r wlad a lanwyd ohonynt . Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft , yr hwn nid adnabuasai mo Joseff . Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl , Wele bobl plant Israel yn amlach , ac yn gryfach , na nyni . Deuwch , gwnawn yn gall â hwynt ; rhag amlhau ohonynt , a bod , pan ddigwyddo rhyfel , ymgysylltu ohonynt â’n caseion , a rhyfela i’n herbyn , a myned i fyny o’r wlad . Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith , i’w gorthrymu â’u beichiau ; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau , sef Pithom a Raamses . Ond fel y gorthryment hwynt , felly yr amlhaent , ac y cynyddent : a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel . A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed . A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled , mewn clai , ac mewn priddfaen , ac ym mhob gwasanaeth yn y maes ; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed . A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau ; a ba rai enw un oedd Sipra , ac enw yr ail Pua : Ac efe a ddywedodd , Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau , a gweled ohonoch hwynt yn esgor ; os mab fydd , lleddwch ef ; ond os merch , bydded fyw . Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw , ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt ; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw . Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y gwnaethoch y peth hyn , ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw ? A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo , Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau ; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt . Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd : a’r bobl a amlhaodd , ac a aeth yn gryf iawn . Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw , yntau a wnaeth dai iddynt hwythau . A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl , gan ddywedyd , Pob mab a’r a enir , bwriwch ef i’r afon ; ond cedwch yn fyw bob merch . Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth , ac a briododd ferch i Lefi . A’r wraig a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab : a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe , hi a’i cuddiodd ef dri mis . A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy , hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn , ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg ; ac a osododd y bachgen ynddo , ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon . A’i chwaer ef a safodd o bell , i gael gwybod beth a wneid iddo ef . A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi ; ( a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon ; ) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg , ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef . Ac wedi iddi ei agoryd , hi a ganfu’r bachgen ; ac wele y plentyn yn wylo : a hi a dosturiodd wrtho , ac a ddywedodd , Un o blant yr Hebreaid yw hwn . Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo , A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau , fel y mago hi y bachgen i ti ? A merch Pharo a ddywedodd wrthi , Dos . A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen . A dywedodd merch Pharo wrthi , Dwg ymaith y bachgen hwn , a maga ef i mi , a minnau a roddaf i ti dy gyflog . A’r wraig a gymerodd y bachgen , ac a’i magodd . Pan aeth y bachgen yn fawr , hi a’i dug ef i ferch Pharo ; ac efe a fu iddi yn fab : a hi a alwodd ei enw ef Moses ; Oherwydd ( eb hi ) o’r dwfr y tynnais ef . A bu yn y dyddiau hynny , pan aeth Moses yn fawr , fyned ohono allan at ei frodyr , ac edrych ar eu beichiau hwynt , a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr , un o’i frodyr . Ac efe a edrychodd yma ac acw ; a phan welodd nad oedd yno neb , efe a laddodd yr Eifftiad , ac a’i cuddiodd yn y tywod . Ac efe a aeth allan yr ail ddydd ; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson : ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam , Paham y trewi dy gyfaill ? A dywedodd yntau , Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni ? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i , megis y lleddaist yr Eifftiad ? A Moses a ofnodd , ac a ddywedodd , Diau y gwyddir y peth hyn . Pan glybu Pharo y peth hyn , efe a geisiodd ladd Moses : ond Moses a ffodd rhag Pharo , ac a arhosodd yn nhir Midian ; ac a eisteddodd wrth bydew . Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched : a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr , ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad . Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith : yna y cododd Moses , ac a’u cynorthwyodd hwynt , ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt . Yna y daethant at Reuel eu tad : ac efe a ddywedodd , Paham y daethoch heddiw cyn gynted ? A hwy a ddywedasant , Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid ; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni , ac a ddyfrhaodd y praidd . Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched , Pa le y mae efe ? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr ? Gelwch arno , a bwytaed fara . A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr : ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses . A hi a esgorodd ar fab ; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom : Oherwydd dieithr ( eb efe ) a fûm i mewn gwlad ddieithr . Ac yn ôl dyddiau lawer , bu farw brenin yr Aifft ; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed , ac a waeddasant ; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw , oblegid y caethiwed . A Duw a glybu eu huchenaid hwynt ; a Duw a gofiodd ei gyfamod ag Abraham , ag Isaac , ac â Jacob . A Duw a edrychodd ar blant Israel ; Duw hefyd a gydnabu â hwynt . A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn , offeiriad Midian : ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch , ac a ddaeth i fynydd Duw , Horeb . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth : ac efe a edrychodd , ac wele y berth yn llosgi yn dân , a’r berth heb ei difa . A dywedodd Moses , Mi a droaf yn awr , ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon , paham nad yw’r berth wedi llosgi . Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych , Duw a alwodd arno o ganol y berth , ac a ddywedodd , Moses , Moses . A dywedodd yntau , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Na nesâ yma : diosg dy esgidiau oddi am dy draed ; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd . Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Duw dy dad , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob . A Moses a guddiodd ei wyneb ; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw . A dywedodd yr Arglwydd , Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft , a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais ; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau . A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid , ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth , i wlad yn llifeirio o laeth a mêl ; i le y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid . Ac yn awr wele , gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi ; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt . Tyred gan hynny yn awr , a mi a’th anfonaf at Pharo ; fel y dygech fy mhobl , plant Israel , allan o’r Aifft . A dywedodd Moses wrth Dduw , Pwy ydwyf fi , fel yr awn i at Pharo , ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft ? Dywedodd yntau , Diau y byddaf gyda thi ; a hyn a fydd arwydd i ti , mai myfi a’th anfonodd : Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft , chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn . A dywedodd Moses wrth Dduw , Wele , pan ddelwyf fi at feibion Israel , a dywedyd wrthynt , Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch ; os dywedant wrthyf , Beth yw ei enw ef ? beth a ddywedaf fi wrthynt ? A Duw a ddywedodd wrth Moses , YDWYF YR HWN YDWYF : dywedodd hefyd , Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel ; YDWYF a’m hanfonodd atoch . A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses , Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel ; Arglwydd Dduw eich tadau , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob , a’m hanfonodd atoch : dyma fy enw byth , a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth . Dos a chynnull henuriaid Israel , a dywed wrthynt , Arglwydd Dduw eich tadau , Duw Abraham , Isaac , a Jacob , a ymddangosodd i mi , gan ddywedyd , Gan ymweled yr ymwelais â chwi , a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft . A dywedais , Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft , i wlad y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid ; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl . A hwy a wrandawant ar dy lais ; a thi a ddeui , ti a henuriaid Israel , at frenin yr Aifft , a dywedwch wrtho , Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni ; ac yn awr gad i ni fyned , atolwg , daith tri diwrnod i’r anialwch , fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw . A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned , ond mewn llaw gadarn . Am hynny mi a estynnaf fy llaw , ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau , y rhai a wnaf yn ei chanol ; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith . A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid : a bydd , pan eloch , nad eloch yn waglaw ; Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges , a chan yr hon fyddo yn cytal â hi , ddodrefn arian , a dodrefn aur , a gwisgoedd : a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched ; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid . A Moses a atebodd , ac a ddywedodd , Eto , wele , ni chredant i mi , ac ni wrandawant ar fy llais ; ond dywedant , Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Beth sydd yn dy law ? Dywedodd yntau , Gwialen . Ac efe a ddywedodd , Tafl hi ar y ddaear . Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear ; a hi a aeth yn sarff : a Moses a giliodd rhagddi . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law , ac ymafael yn ei llosgwrn hi . ( Ac efe a estynnodd ei law , ac a ymaflodd ynddi ; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef : ) Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau , Duw Abraham , Duw Isaac , a Duw Jacob . A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn , Dod yn awr dy law yn dy fynwes . Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes : a phan dynnodd efe hi allan , wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira . Ac efe a ddywedodd , Dod eilwaith dy law yn dy fynwes . Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes , ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes ; ac wele , hi a droesai fel ei gnawd arall ef . A bydd , oni chredant i ti , ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf , eto y credant i lais yr ail arwydd . A bydd , oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn , ac oni wrandawant ar dy lais , ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir ; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , O fy Arglwydd , ni bûm ŵr ymadroddus , na chyn hyn , nac er pan leferaist wrth dy was ; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Pwy a wnaeth enau i ddyn ? neu pwy a ordeiniodd fudan , neu fyddar , neu y neb sydd yn gweled , neu y dall ? onid myfi yr Arglwydd ? Am hynny dos yn awr ; a mi a fyddaf gyda’th enau , ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych . Dywedodd yntau , O fy Arglwydd , danfon , atolwg , gyda’r hwn a ddanfonych . Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses ; ac efe a ddywedodd , Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad ? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw : ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod ; a phan y’th welo , efe a lawenycha yn ei galon . Llefara dithau wrtho ef , a gosod y geiriau hyn yn ei enau : a minnau a fyddaf gyda’th enau di , a chyda’i enau yntau , a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch . A llefared yntau trosot ti wrth y bobl : ac felly y bydd efe yn lle genau i ti , a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau . Cymer hefyd y wialen hon yn dy law , yr hon y gwnei wyrthiau â hi . A Moses a aeth , ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn , ac a ddywedodd wrtho , Gad i mi fyned , atolwg , a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft , a gweled a ydynt eto yn fyw . A dywedodd Jethro wrth Moses , Dos mewn heddwch . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian , Dos , dychwel i’r Aifft ; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes . A Moses a gymerth ei wraig , a’i feibion , ac a’u gosododd hwynt ar asyn , ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft : cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft , gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law : ond mi a galedaf ei galon ef , fel na ollyngo ymaith y bobl . A dywed wrth Pharo , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Fy mab i , sef fy nghyntaf‐anedig , yw Israel . A dywedais wrthyt , Gollwng fy mab , fel y’m gwasanaetho : ond os gwrthodi ei ollwng ef , wele , mi a laddaf dy fab di , sef dy gyntaf‐anedig . A bu , ar y ffordd yn y llety , gyfarfod o’r Arglwydd ag ef , a cheisio ei ladd ef . Ond Seffora a gymerth gyllell lem , ac a dorrodd ddienwaediad ei mab , ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef ; ac a ddywedodd , Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi . A’r Arglwydd a beidiodd ag ef : yna y dywedodd hi , Priod gwaedlyd wyt , oblegid yr enwaediad . A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch . Ac efe a aeth , ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw , ac a’i cusanodd ef . A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd , yr hwn a’i hanfonasai ef , a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo . A Moses ac Aaron a aethant , ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel . Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses , ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl . A chredodd y bobl : a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel , ac iddo edrych ar eu gorthrymder , yna hwy a ymgrymasant , ac a addolasant . Ac wedi hynny , Moses ac Aaron a aethant i mewn , ac a ddywedasant wrth Pharo , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch . A dywedodd Pharo , Pwy yw yr Arglwydd , fel y gwrandawn i ar ei lais , i ollwng Israel ymaith ? Yr Arglwydd nid adwaen , ac Israel ni ollyngaf . A dywedasant hwythau , Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni : gad i ni fyned , atolwg , daith tridiau yn yr anialwch , ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw ; rhag iddo ein rhuthro â haint , neu â chleddyf . A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt , Moses ac Aaron , paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith ? ewch at eich beichiau . Pharo hefyd a ddywedodd , Wele , pobl y wlad yn awr ydynt lawer , a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau . A gorchmynnodd Pharo , y dydd hwnnw , i’r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl , a’u swyddogion , gan ddywedyd , Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini , megis o’r blaen ; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain . A rhifedi’r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt ; na leihewch o hynny : canys segur ydynt ; am hynny y maent yn gweiddi , gan ddywedyd , Gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw . Trymhaer y gwaith ar y gwŷr , a gweithiant ynddo ; fel nad edrychant am eiriau ofer . A meistriaid gwaith y bobl , a’u swyddogion , a aethant allan , ac a lefarasant wrth y bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Pharo , Ni roddaf wellt i chwi . Ewch chwi , a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch ; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith . A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft , i gasglu sofl yn lle gwellt . A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro , gan ddywedyd , Gorffennwch eich gwaith , dogn dydd yn ei ddydd , megis pan oedd gwellt . A churwyd swyddogion meibion Israel , y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy ; a dywedwyd , Paham na orffenasoch eich tasg , ar wneuthur priddfeini , ddoe a heddiw , megis cyn hynny ? Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo , gan ddywedyd , Paham y gwnei fel hyn â’th weision ? Gwellt ni roddir i’th weision ; a Gwnewch briddfeini i ni , meddant : ac wele dy weision a gurwyd ; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai . Ac efe a ddywedodd , Segur , segur ydych ; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd , Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd . Am hynny ewch yn awr , gweithiwch ; ac ni roddir gwellt i chwi ; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini . A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg , pan ddywedid , Na leihewch ddim o’ch priddfeini , dogn dydd yn ei ddydd . A chyfarfuant â Moses ac Aaron , yn sefyll ar eu ffordd , pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo : A dywedasant wrthynt , Edryched yr Arglwydd arnoch chwi , a barned ; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo , a cherbron ei weision , gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni . A dychwelodd Moses at yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , paham y drygaist y bobl hyn ? i ba beth y’m hanfonaist ? Canys er pan ddeuthum at Pharo , i lefaru yn dy enw di , efe a ddrygodd y bobl hyn ; a chan waredu ni waredaist dy bobl . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo : canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt , a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o’i wlad . Duw hefyd a lefarodd wrth Moses , ac a ddywedodd wrtho , Myfi yw JEHOFAH . A mi a ymddangosais i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , dan enw Duw Hollalluog ; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt . Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt , am roddi iddynt wlad Canaan , sef gwlad eu hymdaith , yr hon yr ymdeithiasant ynddi . A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel , y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo ; a chofiais fy nghyfamod . Am hynny dywed wrth feibion Israel , Myfi yw yr Arglwydd ; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid , ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt ; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig , ac â barnedigaethau mawrion . Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi , ac a fyddaf yn Dduw i chwi : a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid . A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad , am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham , i Isaac , ac i Jacob ; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth : myfi yw yr Arglwydd . A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel : ond ni wrandawsant ar Moses , gan gyfyngdra ysbryd , a chan gaethiwed caled . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dos i mewn ; dywed wrth Pharo , brenin yr Aifft , am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad . A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd , gan ddywedyd , Wele , plant Israel ni wrandawsant arnaf fi ; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo , a minnau yn ddienwaededig o wefusau ? A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel , ac at Pharo brenin yr Aifft , i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft . Dyma eu pencenedl hwynt : meibion Reuben , y cyntaf‐anedig i Israel : Hanoch , a Phalu , Hesron , a Charmi : dyma deuluoedd Reuben . A meibion Simeon ; Jemwel , a Jamin , Ohad , a Jachin , Sohar hefyd , a Saul mab y Ganaanëes : dyma deuluoedd Simeon . Dyma hefyd enwau meibion Lefi , yn ôl eu cenedlaethau ; Gerson , Cohath hefyd , a Merari : a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain . Meibion Gerson ; Libni , a Simi , yn ôl eu teuluoedd . A meibion Cohath ; Amram , ac Ishar , Hebron hefyd , ac Ussiel : a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd . Meibion Merari oedd Mahali a Musi : dyma deuluoedd Lefi , yn ôl eu cenedlaethau . Ac Amram a gymerodd Jochebed , ei fodryb chwaer ei dad , yn wraig iddo ; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses : a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd . A meibion Ishar ; Cora , a Neffeg , a Sicri . A meibion Ussiel ; Misael , ac Elsaffan , a Sithri . Ac Aaron a gymerodd Eliseba , merch Aminadab , chwaer Nahason , yn wraig iddo ; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . Meibion Cora hefyd ; Assir , ac Elcana , ac Abiasaff : dyma deuluoedd y Corahiaid . Ac Eleasar , mab Aaron , a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel ; a hi a ymddûg iddo ef Phineas : dyma bennau cenedl y Lefiaid , yn ôl eu teuluoedd . Dyma Aaron a Moses , y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt , Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft , yn ôl eu lluoedd . Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo , brenin yr Aifft , am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft : dyma y Moses ac Aaron hwnnw . A bu , ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft , Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd : dywed wrth Pharo , brenin yr Aifft , yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt . A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd , Wele fi yn ddienwaededig o wefusau ; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Gwêl , mi a’th wneuthum yn dduw i Pharo : ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau . Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti ; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo , ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad . A minnau a galedaf galon Pharo , ac a amlhaf fy arwyddion a’m rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft . Ond ni wrendy Pharo arnoch : yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft ; ac y dygaf allan fy lluoedd , fy mhobl , meibion Israel , o wlad yr Aifft , trwy farnedigaethau mawrion . A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft , a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt . A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddynt ; ie , felly y gwnaethant . A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd , ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain , pan lefarasant wrth Pharo . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Pan lefaro Pharo wrthych , gan ddywedyd , Dangoswch gennych wyrthiau ; yna y dywedi wrth Aaron , Cymer dy wialen , a bwrw hi gerbron Pharo ; a hi a â yn sarff . A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo , ac a wnaethant felly , megis y gorchmynasai yr Arglwydd : ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo , a cherbron ei weision ; a hi a aeth yn sarff . A Pharo hefyd a alwodd am y doethion , a’r hudolion : a hwythau hefyd , sef swynwyr yr Aifft , a wnaethant felly trwy eu swynion . Canys bwriasant bob un ei wialen ; a hwy a aethant yn seirff : ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt . A chalon Pharo a galedodd , fel na wrandawai arnynt hwy ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Caledodd calon Pharo ; gwrthododd ollwng y bobl ymaith . Dos at Pharo yn fore : wele efe a ddaw allan i’r dwfr ; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef ; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff . A dywed wrtho ef , Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd atat , i ddywedyd , Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch : ac wele , hyd yn hyn , ni wrandewit . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : wele , myfi â’r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon , fel y troer hwynt yn waed . A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw , a’r afon a ddrewa ; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Cymer dy wialen , ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft , ar eu ffrydiau , ar eu hafonydd , ac ar eu pyllau , ac ar eu holl lynnau dyfroedd , fel y byddont yn waed ; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft , yn eu llestri coed a cherrig hefyd . A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd : ac efe a gododd ei wialen , ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon , yng ngŵydd Pharo , ac yng ngŵydd ei weision ; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed . A’r pysgod , y rhai oeddynt yn yr afon , a fuant feirw ; a’r afon a ddrewodd , ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon ; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft . A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion : a chaledodd calon Pharo , ac ni wrandawodd arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A Pharo a drodd ac a aeth i’w dŷ , ac ni osododd hyn at ei galon . A’r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed ; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon . A chyflawnwyd saith o ddyddiau , wedi i’r Arglwydd daro’r afon . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos at Pharo , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Ac os gwrthodi eu gollwng , wele , mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint . A’r afon a heigia lyffaint , y rhai a ddringant , ac a ddeuant i’th dŷ , ac i ystafell dy orweddle , ac ar dy wely , ac i dŷ dy weision , ac ar dy bobl , ac i’th ffyrnau , ac ar dy fwyd gweddill . A’r llyffaint a ddringant arnat ti , ac ar dy bobl , ac ar dy holl weision . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Estyn dy law â’th wialen ar y ffrydiau , ar yr afonydd , ac ar y llynnoedd ; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft . Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft ; a’r llyffaint a ddaethant i fyny , ac a orchuddiasant dir yr Aifft . A’r swynwyr a wnaethant yr un modd , trwy eu swynion ; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft . Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Gweddïwch ar yr Arglwydd , ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi , ac oddi wrth fy mhobl ; a mi a ollyngaf ymaith y bobl , fel yr aberthont i’r Arglwydd . A Moses a ddywedodd wrth Pharo , Cymer ogoniant arnaf fi ; Pa amser y gweddïaf trosot , a thros dy weision , a thros dy bobl , am ddifa’r llyffaint oddi wrthyt , ac o’th dai , a’u gadael yn unig yn yr afon ? Ac efe a ddywedodd , Yfory . A dywedodd yntau , Yn ôl dy air y bydd ; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni . A’r llyffaint a ymadawant â thi , ac â’th dai , ac â’th weision , ac â’th bobl ; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt . A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo . A Moses a lefodd ar yr Arglwydd , o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo . A’r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses ; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai , o’r pentrefydd , ac o’r meysydd . A chasglasant hwynt yn bentyrrau ; fel y drewodd y wlad . Pan welodd Pharo fod seibiant iddo , efe a galedodd ei galon , ac ni wrandawodd arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dywed wrth Aaron , Estyn dy wialen , a tharo lwch y ddaear , fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft . Ac felly y gwnaethant : canys Aaron a estynnodd ei law â’i wialen , ac a drawodd lwch y ddaear ; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail : holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft . A’r swynwyr a wnaethant felly , trwy eu swynion , i ddwyn llau allan ; ond ni allasant : felly y bu’r llau ar ddyn ac ar anifail . Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo , Bys Duw yw hyn : a chaledwyd calon Pharo , ac ni wrandawai arnynt ; megis y llefarasai yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cyfod yn fore , a saf gerbron Pharo ; wele , efe a ddaw allan i’r dwfr : yna dywed wrtho , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oherwydd , os ti ni ollyngi fy mhobl , wele fi yn gollwng arnat ti , ac ar dy weision , ac ar dy bobl , ac i’th dai , gymysgbla : a thai’r Eifftiaid a lenwir o’r gymysgbla , a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni . A’r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen , yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi , fel na byddo’r gymysgbla yno ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear . A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di : yfory y bydd yr arwydd hwn . A’r Arglwydd a wnaeth felly ; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo , ac i dai ei weision , ac i holl wlad yr Aifft ; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla . A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Ewch , aberthwch i’ch Duw yn y wlad . A dywedodd Moses , Nid cymwys gwneuthur felly ; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid : wele , os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt , oni labyddiant hwy ni ? Taith tridiau yr awn i’r anialwch , a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw , megis y dywedo efe wrthym ni . A dywedodd Pharo , Mi a’ch gollyngaf chwi , fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch ; ond nac ewch ymhell : gweddïwch trosof fi . A dywedodd Moses , Wele , myfi a af allan oddi wrthyt , ac a weddïaf ar yr Arglwydd , ar gilio’r gymysgbla oddi wrth Pharo , oddi wrth ei weision , ac oddi wrth ei bobl , yfory : ond na thwylled Pharo mwyach , heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd . A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses : a’r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo , oddi wrth ei weision , ac oddi wrth ei bobl ; ni adawyd un . A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd , ac ni ollyngodd ymaith y bobl . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos i mewn at Pharo , a llefara wrtho ef , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oblegid , os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith , ac atal ohonot hwynt eto , Wele , llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid , y rhai sydd yn y maes ; ar feirch , ar asynnod , ar gamelod , ar y gwartheg , ac ar y defaid , y daw haint trwm iawn . A’r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid ; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel . A gosododd yr Arglwydd amser nodedig , gan ddywedyd , Yfory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad . A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth : a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid ; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un . A Pharo a anfonodd ; ac wele , ni buasai farw un o anifeiliaid Israel : a chalon Pharo a galedwyd , ac ni ollyngodd y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron , Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn , a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo : Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft ; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog , trwy holl wlad yr Aifft . A hwy a gymerasant ludw y ffwrn , ac a safasant gerbron Pharo : a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd ; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail . A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses , gan y cornwyd ; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr , ac ar yr holl Eifftiaid . A’r Arglwydd a galedodd galon Pharo , fel na wrandawai arnynt ; megis y llefarasai’r Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Cyfod yn fore , a saf gerbron Pharo , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Gollwng fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon , ac ar dy weision , ac ar dy bobl ; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear . Oherwydd yn awr , mi a estynnaf fy llaw , ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau ; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear . Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di , i ddangos i ti fy nerth ; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear . A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto , heb eu gollwng hwynt ymaith ? Wele , mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn ; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft , o’r dydd y sylfaenwyd hi , hyd yr awr hon . Anfon gan hynny yn awr , casgl dy anifeiliaid , a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes : pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes , ac nis dyger i dŷ , y disgyn y cenllysg arnynt , a byddant feirw . Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo , a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai ; A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd , a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law tua’r nefoedd ; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft , ar ddyn ac ar anifail , ac ar holl lysiau y maes , o fewn tir yr Aifft . A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd : a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg , a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear ; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft . Felly yr ydoedd cenllysg , a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg , yn flin iawn ; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft , er pan ydoedd yn genhedlaeth . A’r cenllysg a gurodd , trwy holl wlad yr Aifft , gwbl a’r oedd yn y maes , yn ddyn ac yn anifail : y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes , ac a ddrylliodd holl goed y maes . Yn unig yng ngwlad Gosen , yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi , nid oedd dim cenllysg . A Pharo a anfonodd , ac a alwodd ar Moses ac Aaron , ac a ddywedodd wrthynt , Pechais y waith hon ; yr Arglwydd sydd gyfiawn , a minnau a’m pobl yn annuwiol . Gweddïwch ar yr Arglwydd ( canys digon yw hyn ) na byddo taranau Duw na chenllysg ; a mi a’ch gollyngaf , ac ni arhoswch yn hwy . A dywedodd Moses wrtho , Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd : a’r taranau a beidiant , a’r cenllysg ni bydd mwy ; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear . Ond mi a wn nad wyt ti eto , na’th weision , yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw . A’r llin a’r haidd a gurwyd ; canys yr haidd oedd wedi hedeg , a’r llin wedi hadu : A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd ; oherwydd diweddar oeddynt hwy . A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas , ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd ; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant , ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear . A phan welodd Pharo beidio o’r glaw , a’r cenllysg , a’r taranau , efe a chwanegodd bechu ; ac a galedodd ei galon , efe a’i weision . A chaledwyd calon Pharo , ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith ; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos at Pharo : oherwydd mi a galedais ei galon ef , a chalon ei weision ; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef : Ac fel y mynegit wrth dy fab , a mab dy fab , yr hyn a wneuthum yn yr Aifft , a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt ; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo , a dywedasant wrtho , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid ; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron ? gollwng ymaith fy mhobl , fel y’m gwasanaethont . Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl , wele , yfory y dygaf locustiaid i’th fro ; A hwynt‐hwy a orchuddiant wyneb y ddaear , fel na allo un weled y ddaear : a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg ; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes . Llanwant hefyd dy dai di , a thai dy holl weision , a thai yr holl Eifftiaid , y rhai ni welodd dy dadau , na thadau dy dadau , er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn . Yna efe a drodd , ac a aeth allan oddi wrth Pharo . A gweision Pharo a ddywedasant wrtho , Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni ? gollwng ymaith y gwŷr , fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw : Oni wyddost ti eto ddifetha’r Aifft ? A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo : ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw : ond pa rai sydd yn myned ? A Moses a ddywedodd , A’n llanciau , ac â’n hynafgwyr , yr awn ni ; â’n meibion hefyd , ac â’n merched , â’n defaid , ac â’n gwartheg , yr awn ni : oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yr un modd y byddo’r Arglwydd gyda chwi , ag y gollyngaf chwi , a’ch rhai bach : gwelwch , mai ar ddrwg y mae eich bryd . Nid felly ; ewch yn awr , y gwŷr , a gwasanaethwch yr Arglwydd : canys hyn yr oeddech yn ei geisio . Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid , fel y delont i fyny ar dir yr Aifft ; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear , sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg . A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft : a’r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw , a’r holl nos honno ; a phan ddaeth y bore , gwynt y dwyrain a ddug locustiaid . A’r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft , ac a arosasant ym mhob ardal i’r Aifft : blin iawn oeddynt ; ni bu’r fath locustiaid o’u blaen hwynt , ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb . Canys toesant wyneb yr holl dir , a thywyllodd y wlad ; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear , a holl ffrwythau y coed , yr hyn a weddillasai y cenllysg : ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed , nac ar lysiau y maes , o fewn holl wlad yr Aifft . Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys ; ac a ddywedodd , Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw , ac yn eich erbyn chwithau . Ac yn awr maddau , atolwg , fy mhechod y waith hon yn unig , a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw , ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig . A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo , ac a weddïodd ar yr Arglwydd . A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn , ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid , ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch : ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft . Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharo , fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Estyn dy law tua’r nefoedd , fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft , tywyllwch a aller ei deimlo . A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd : a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod . Ni welai neb ei gilydd , ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod : ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau . A galwodd Pharo am Moses ac Aaron , ac a ddywedodd , Ewch , gwasanaethwch yr Arglwydd ; arhoed eich defaid , a’ch gwartheg yn unig ; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi . A dywedodd Moses , Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau , fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw . Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni ; ni adewir ewin yn ôl : oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw : ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd , hyd oni ddelom yno . Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharo , ac ni fynnai eu gollwng hwynt . A dywedodd Pharo wrtho , Dos oddi wrthyf , gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy : oblegid y dydd y gwelych fy wyneb , y byddi farw . A dywedodd Moses , Uniawn y dywedaist , ni welaf dy wyneb mwy . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Un pla eto a ddygaf ar Pharo , ac ar yr Aifft ; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma : pan y’ch gollyngo , gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl . Dywed yn awr lle y clywo y bobl ; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog , a phob gwraig gan ei chymdoges , ddodrefn arian , a dodrefn aur . A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid : ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft , yng ngolwg gweision Pharo , ac yng ngolwg y bobl . Moses hefyd a ddywedodd , Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd ; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft . A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw , o gyntaf‐anedig Pharo , yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair , hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin ; a phob cyntaf‐anedig o anifail . A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft , yr hwn ni bu ei fath , ac ni bydd mwyach ei gyffelyb . Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod , ar ddyn nac anifail ; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel . A’th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi , ac a ymgrymant i mi , gan ddywedyd , Dos allan , a’r holl bobl sydd ar dy ôl ; ac wedi hynny yr af fi allan . Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Ni wrendy Pharo arnoch ; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft . A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo : a’r Arglwydd a galedodd galon Pharo , fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft , gan ddywedyd , Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd : cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn . Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel , gan ddywedyd , Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen , yn ôl teulu eu tadau , sef oen dros bob teulu . Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen , efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer , wrth y rhifedi o ddynion ; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen . Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl , yn wryw , ac yn llwdn blwydd : o’r defaid , neu o’r geifr , y cymerwch ef . A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn : a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos . A chymerant o’r gwaed , a rhoddant ar y ddau ystlysbost , ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt . A’r cig a fwytânt y nos honno , wedi ei rostio wrth dân , a bara croyw ; gyda dail surion y bwytânt ef . Na fwytewch ohono yn amrwd , na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr , eithr wedi ei rostio wrth dân ; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd . Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore : a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore , llosgwch yn tân . Ac fel hyn y bwytewch ef ; wedi gwregysu eich lwynau , a’ch esgidiau am eich traed , a’ch ffyn yn eich dwylo : a bwytewch ef ar ffrwst ; Pasg yr Arglwydd ydyw efe . Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon , ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft , yn ddyn ac yn anifail ; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft : myfi yw yr Arglwydd . A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi ; a phan welwyf y gwaed , yna yr af heibio i chwi , ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi , pan drawyf dir yr Aifft . A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi ; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau : cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol . Saith niwrnod y bwytewch fara croyw ; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai : oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd , yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel . Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd , a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd : dim gwaith ni wneir ynddynt , onid yr hyn a fwyty pob dyn , hynny yn unig a ellwch ei wneuthur . Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw ; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft : am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau , trwy ddeddf dragwyddol . Yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr , y bwytewch fara croyw , hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr . Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod : canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd , yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel , yn gystal y dieithr a’r priodor . Na fwytewch ddim lefeinllyd : bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau . A galwodd Moses am holl henuriaid Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd , a lleddwch y Pasg . A chymerwch dusw o isop , a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg , a rhoddwch ar gapan y drws , ac ar y ddau ystlysbost , o’r gwaed a fyddo yn y cawg ; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore . Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid : a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws , ac ar y ddau ystlysbost , yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws , ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio . A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti , ac i’th feibion yn dragywydd . A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi , megis yr addawodd , yna cedwch y gwasanaeth hwn . A bydd , pan ddywedo eich meibion wrthych , Pa wasanaeth yw hwn gennych ? Yna y dywedwch , Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw , yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft , pan drawodd efe yr Eifftiaid , ac yr achubodd ein tai ni . Yna yr ymgrymodd y bobl , ac yr addolasant . A meibion Israel a aethant ymaith , ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron ; felly y gwnaethant . Ac ar hanner nos y trawodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , o gyntaf‐anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc , hyd gyntaf‐anedig y gaethes oedd yn y carchardy ; a phob cyntaf‐anedig i anifail . A Pharo a gyfododd liw nos , efe a’i holl weision , a’r holl Eifftiaid ; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft : oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo . Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos , ac a ddywedodd , Codwch , ewch allan o fysg fy mhobl , chwi a meibion Israel hefyd ; ac ewch , a gwasanaethwch yr Arglwydd , fel y dywedasoch . Cymerwch eich defaid , a’ch gwartheg hefyd , fel y dywedasoch , ac ewch ymaith , a bendithiwch finnau . A’r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl , gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad ; oblegid dywedasant , Dynion meirw ydym ni oll . A’r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio , a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau . A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses ; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian , a thlysau aur , a gwisgoedd . A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid , fel yr echwynasant iddynt : a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid . A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth , ynghylch chwe chan mil o wŷr traed , heblaw plant . A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt ; defaid hefyd a gwartheg , sef da lawer iawn . A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o’r Aifft yn deisennau croyw ; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio : canys gwthiasid hwynt o’r Aifft , ac ni allasant aros , ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth . A phreswyliad meibion Israel , tra y trigasant yn yr Aifft , oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd . Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd , ie , o fewn corff y dydd hwnnw , yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft . Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd , ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft : nos yr Arglwydd yw hon , i holl feibion Israel i’w chadw trwy eu hoesoedd . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron , Dyma ddeddf y Pasg : na fwytaed neb dieithr ohono . Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian , gwedi yr enwaedych ef , a fwyty ohono . Yr alltud , a’r gwas cyflog , ni chaiff fwyta ohono . Mewn un tŷ y bwyteir ef : na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ ; ac na thorrwch asgwrn ohono . Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny . A phan arhoso dieithr gyda thi , ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd , enwaeder ei holl wrywiaid ef , ac yna nesaed i wneuthur hynny ; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad : ond na fwytaed neb dienwaededig ohono . Yr un gyfraith fydd i’r priodor , ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg . Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron ; felly y gwnaethant . Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft , yn ôl eu lluoedd . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig , sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel , o ddyn ac anifail : eiddof fi yw . A dywedodd Moses wrth y bobl , Cofiwch y dydd hwn , ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft , o dŷ y caethiwed : oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno : am hynny na fwytaer bara lefeinllyd . Heddiw yr ydych chwi yn myned allan , ar y mis Abib . A phan ddygo’r Arglwydd di i wlad y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Amoriaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid , yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti , sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl ; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn . Saith niwrnod y bwytei fara croyw ; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r Arglwydd . Bara croyw a fwyteir saith niwrnod : ac na weler bara lefeinllyd gyda thi ; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau . A mynega i’th fab y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Oherwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft , y gwneir hyn . A bydded i ti yn arwydd ar dy law , ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid ; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau : oherwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aifft . Am hynny cadw y ddeddf hon , yn ei hamser nodedig , o flwyddyn i flwyddyn . A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid , megis y tyngodd efe wrthyt , ac wrth dy dadau , a’i rhoddi i ti , Yna y neilltui i’r Arglwydd bob cyntaf‐anedig : a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti , y gwrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant . A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen ; ac oni phryni di ef , yna torfynygla ef : a phob dyn cyntaf‐anedig o’th feibion a bryni di hefyd . A phan ofynno dy fab ar ôl hyn , gan ddywedyd , Beth yw hyn ? yna dywed wrtho , A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft , o dŷ y caethiwed . A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni , y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , o gyntaf‐anedig anifail : am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth ; ond pob cyntaf‐anedig o’m meibion a brynaf . A bydded hynny yn arwydd ar dy law , ac yn rhactalau rhwng dy lygaid : canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft . A phan ollyngodd Pharo y bobl , nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid , er ei bod yn agos : oblegid dywedodd Duw , Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel , a dychwelyd i’r Aifft . Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch , trwy anialwch y môr coch : ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft . A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef : oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw , gan ddywedyd , Duw a ymwêl â chwi yn ddiau ; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi . A hwy a aethant o Succoth ; ac a wersyllasant yn Etham , yng nghwr yr anialwch . A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl , i’w harwain ar y ffordd ; a’r nos mewn colofn o dân , i oleuo iddynt : fel y gallent fyned ddydd a nos . Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd , na’r golofn dân y nos , o flaen y bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth feibion Israel , am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth , rhwng Migdol a’r môr , o flaen Baal‐seffon : ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr . Canys dywed Pharo am feibion Israel , Rhwystrwyd hwynt yn y tir ; caeodd yr anialwch arnynt . A mi a galedaf galon Pharo , fel yr erlidio ar eu hôl hwynt : felly y’m gogoneddir ar Pharo , a’i holl fyddin ; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Ac felly y gwnaethant . A mynegwyd i frenin yr Aifft , fod y bobl yn ffoi : yna y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl ; a dywedasant , Beth yw hyn a wnaethom , pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu ? Ac efe a daclodd ei gerbyd , ac a gymerodd ei bobl gydag ef . A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau , a holl gerbydau yr Aifft , a chapteiniaid ar bob un ohonynt . A’r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft , ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel : ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel . A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt , sef holl feirch a cherbydau Pharo , a’i wŷr meirch , a’i fyddin , ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr , gerllaw Pihahiroth , o flaen Baal‐seffon . A phan nesaodd Pharo , meibion Israel a godasant eu golwg ; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl ; a hwy a ofnasant yn ddirfawr : a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd . A dywedasant wrth Moses , Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft , y dygaist ni i farw yn yr anialwch ? Paham y gwnaethost fel hyn â ni , gan ein dwyn allan o’r Aifft ? Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft , gan ddywedyd , Paid â ni , fel y gwasanaethom yr Eifftiaid ? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid , na marw yn yr anialwch . A Moses a ddywedodd wrth y bobl , Nac ofnwch ; sefwch , ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd , yr hwn a wna efe i chwi heddiw ; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw , ni chewch eu gweled byth ond hynny . Yr Arglwydd a ymladd drosoch ; am hynny tewch chwi â sôn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Paham y gwaeddi arnaf ? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt . A chyfod dithau dy wialen , ac estyn dy law ar y môr , a hollta ef : a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych . Wele , fi , ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid , fel y delont ar eu hôl hwynt : a mi a ogoneddir ar Pharo , ac ar ei holl fyddin , ar ei gerbydau ef , ac ar ei farchogion . A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd , pan y’m gogoneddir ar Pharo , ar ei gerbydau , ac ar ei farchogion . Ac angel Duw , yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel , a symudodd , ac a aeth o’u hôl hwynt ; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt , ac a safodd o’u hôl hwynt . Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel ; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid , ac yn goleuo y nos i Israel : ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos . A Moses a estynnodd ei law ar y môr : a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl , trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos , ac a wnaeth y môr yn sychdir , a holltwyd y dyfroedd . A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych : a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt , o’r tu deau , ac o’r tu aswy . A’r Eifftiaid a erlidiasant , ac a ddaethant ar eu hôl hwynt ; sef holl feirch Pharo , a’i gerbydau , a’r farchogion , i ganol y môr . Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl , ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid . Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau ; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm : fel y dywedodd yr Eifftiaid , Ffown oddi wrth Israel ; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Estyn dy law ar y môr ; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid , ar eu cerbydau , ac ar eu marchogion . A Moses a estynnodd ei law ar y môr : a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth ; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef : a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr . A’r dyfroedd a ddychwelasant , ac a orchuddiasant gerbydau , a marchogion , a holl fyddin Pharo , y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr : ni adawyd ohonynt gymaint ag un . Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr : a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt , ar y llaw ddeau , ac ar y llaw aswy . Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid : a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr . A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid : a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd , ac a gredasant i’r Arglwydd , ac i’w was ef Moses . Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd , ac a lefarasant , gan ddywedyd , Canaf i’r Arglwydd ; canys gwnaeth yn rhagorol iawn : taflodd y march a’i farchog i’r môr . Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd ; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi : efe yw fy Nuw , efe a ogoneddaf fi ; Duw fy nhad , a mi a’i dyrchafaf ef . Yr Arglwydd sydd ryfelwr : yr Arglwydd yw ei enw . Efe a daflodd gerbydau Pharo a’i fyddin yn y môr : ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch . Y dyfnderau a’u toesant hwy ; disgynasant i’r gwaelod fel carreg . Dy ddeheulaw , Arglwydd , sydd ardderchog o nerth ; a’th ddeheulaw , Arglwydd , a ddrylliodd y gelyn . Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn : dy ddigofaint a anfonaist allan , ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl . Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd : y ffrydiau a safasant fel pentwr ; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr . Y gelyn a ddywedodd , Mi a erlidiaf , mi a oddiweddaf , mi a rannaf yr ysbail : caf fy ngwynfyd arnynt ; tynnaf fy nghleddyf , fy llaw a’u difetha hwynt . Ti a chwythaist â’th wynt ; y môr a’u todd hwynt : soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion . Pwy sydd debyg i ti , O Arglwydd , ymhlith y duwiau ? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd , yn ofnadwy mewn moliant , yn gwneuthur rhyfeddodau ? Estynnaist dy ddeheulaw ; llyncodd y ddaear hwynt . Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist : yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd . Y bobloedd a glywant , ac a ofnant : dolur a ddeil breswylwyr Palesteina . Yna y synna ar ddugiaid Edom : cedyrn hyrddod Moab , dychryn a’u deil hwynt : holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith . Ofn ac arswyd a syrth arnynt ; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg , nes myned trwodd o’th bobl di , Arglwydd , nes myned o’r bobl a enillaist ti trwodd . Ti a’u dygi hwynt i mewn , ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth , y lle a wnaethost , O Arglwydd , yn anheddle i ti ; y cysegr , Arglwydd , a gadarnhaodd dy ddwylo . Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd . Oherwydd meirch Pharo , a’i gerbydau , a’i farchogion , a aethant i’r môr ; a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt : ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr . A Miriam y broffwydes , chwaer Aaron , a gymerodd dympan yn ei llaw , a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi , â thympanau ac â dawnsiau . A dywedodd Miriam wrthynt , Cenwch i’r Arglwydd ; canys gwnaeth yn ardderchog ; bwriodd y march a’r marchog i’r môr . Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch ; ac aethant allan i anialwch Sur : a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch , ac ni chawsant ddwfr . A phan ddaethant i Mara , ni allent yfed dyfroedd Mara , am eu bod yn chwerwon : oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara . A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses , gan ddywedyd , Beth a yfwn ni ? Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren ; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd , a’r dyfroedd a bereiddiasant : yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith , ac yno y profodd efe hwynt , Ac a ddywedodd , Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef , a rhoddi clust i’w orchmynion ef , a chadw ei holl ddeddfau ef ; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid ; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di . A daethant i Elim ; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr , a deg palmwydden a thrigain : a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd . A hwy a symudasant o Elim ; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin , yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai , ar y pymthegfed dydd o’r ail fis , wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft . A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch . A meibion Israel a ddywedasant wrthynt , O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft , pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig , ac yn bwyta bara ein gwala : ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn , i ladd yr holl dyrfa hon â newyn . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd : a’r bobl a ânt allan , ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd ; fel y gallwyf eu profi , a rodiant yn fy nghyfraith , ai nas gwnânt . Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn ; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd . A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel , Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft . Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd ; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd : a pha beth ydym ni , i chwi i duchan i’n herbyn ? Moses hefyd a ddywedodd , Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta , a’r bore fara eich gwala ; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi , yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef : oherwydd beth ydym ni ? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan , ond yn erbyn yr Arglwydd . A Moses a ddywedodd wrth Aaron , Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel , Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd : oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi . Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel , yna yr edrychasant tua’r anialwch ; ac wele , gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Clywais duchan meibion Israel : llefara wrthynt , gan ddywedyd , Yn yr hwyr cewch fwyta cig , a’r bore y’ch diwellir o fara : cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant , ac a orchuddiasant y wersyllfa ; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll . A phan gododd y gaenen wlith , wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear . Pan welodd meibion Israel hynny , hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Manna yw : canys ni wyddent beth ydoedd . A dywedodd Moses wrthynt , Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta . Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd ; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta : omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau ; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll . A meibion Israel a wnaethant felly ; ac a gasglasant , rhai fwy , a rhai lai . A phan fesurasant wrth yr omer , nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer , ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig : casglasant bob un yn ôl ei fwyta . A dywedodd Moses wrthynt , Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore . Er hynny ni wrandawsant ar Moses , ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore ; ac efe a fagodd bryfed , ac a ddrewodd : am hynny Moses a ddigiodd wrthynt . A hwy a’i casglasant ef bob bore , pob un yn ôl ei fwyta : a phan wresogai yr haul , efe a doddai . Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara , dau omer i un : a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd ; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd : pobwch heddiw yr hyn a boboch , a berwch yr hyn a ferwoch ; a’r holl weddill , rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore . A hwy a’i cadwasant hyd y bore , fel y gorchmynasai Moses : ac ni ddrewodd , ac nid oedd pryf ynddo . A dywedodd Moses , Bwytewch hwn heddiw ; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd : ni chewch hwn yn y maes heddiw . Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef ; ond ar y seithfed dydd , yr hwn yw y Saboth , ni bydd efe . Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd , i gasglu ; ond ni chawsant ddim . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau ? Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth ; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd : arhoswch bawb gartref ; nac aed un o’i le y seithfed dydd . Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd . A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna : ac yr oedd efe fel had coriander , yn wyn , a’i flas fel afrllad o fêl . A Moses a ddywedodd , Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd ; Llanw omer ohono , i’w gadw i’ch cenedlaethau ; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch , pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft . A Moses a ddywedodd wrth Aaron , Cymer grochan , a dod ynddo lonaid omer o’r manna ; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses , felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth . A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd , nes eu dyfod i dir cyfanheddol : manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan . A’r omer ydoedd ddegfed ran effa . A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin , wrth eu teithiau , yn ôl gorchymyn yr Arglwydd ; ac a wersyllasant yn Reffidim : ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed . Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses , ac a ddywedasant , Rhoddwch i ni ddwfr i yfed . A dywedodd Moses wrthynt , Paham yr ymgynhennwch â mi ? Paham y temtiwch yr Arglwydd ? A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr ; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses , ac a ddywedodd , Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft , i’n lladd ni , a’n plant , a’n hanifeiliaid , â syched ? A Moses a lefodd ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , Beth a wnaf i’r bobl hyn ? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cerdda o flaen y bobl , a chymer gyda thi o henuriaid Israel : cymer hefyd dy wialen yn dy law , yr hon y trewaist yr afon â hi , a cherdda . Wele , mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb ; taro dithau y graig , a daw dwfr allan ohoni , fel y gallo’r bobl yfed . A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel . Ac efe a alwodd enw y lle Massa , a Meriba ; o achos cynnen meibion Israel , ac am iddynt demtio’r Arglwydd , gan ddywedyd , A ydyw yr Arglwydd yn ein plith , ai nid yw ? Yna y daeth Amalec , ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim . A dywedodd Moses wrth Josua , Dewis i ni wŷr , a dos allan ac ymladd ag Amalec : yfory mi a safaf ar ben y bryn , â gwialen Duw yn fy llaw . Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho ; ac a ymladdodd ag Amalec : a Moses , Aaron , a Hur a aethant i fyny i ben y bryn . A phan godai Moses ei law , y byddai Israel yn drechaf ; a phan ollyngai ei law i lawr , Amalec a fyddai drechaf . A dwylo Moses oedd drymion ; a hwy a gymerasant faen , ac a’i gosodasant dano ef ; ac efe a eisteddodd arno : ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef , un ar y naill du , a’r llall ar y tu arall ; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul . A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Ysgrifenna hyn mewn llyfr , yn goffadwriaeth ; a mynega i Josua : canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd . A Moses a adeiladodd allor , ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi . Canys efe a ddywedodd , Oherwydd tyngu o’r Arglwydd , y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth . Pan glywodd Jethro , offeiriad Midian , chwegrwn Moses , yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses , ac i Israel ei bobl , a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft ; Yna Jethro , chwegrwn Moses , a gymerodd Seffora gwraig Moses , ( wedi ei hebrwng hi yn ei hôl , ) A’i dau fab hi ; o ba rai enw un oedd Gersom : oblegid efe a ddywedasai , Dieithr fûm mewn gwlad estronol . Ac enw y llall oedd Elieser : oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi ( eb efe ) , ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo . A Jethro , chwegrwn Moses , a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch , lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw . Ac efe a ddywedodd wrth Moses , Myfi Jethro , dy chwegrwn di , sydd yn dyfod atat ti , a’th wraig a’i dau fab gyda hi . A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn ; ac a ymgrymodd , ac a’i cusanodd ; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd : a daethant i’r babell . A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid , er mwyn Israel ; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd , ac achub o’r Arglwydd hwynt . A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel ; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid . A dywedodd Jethro , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid , ac o law Pharo ; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid . Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau : oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono , yr oedd efe yn uwch na hwynt . A Jethro , chwegrwn Moses , a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw : a daeth Aaron , a holl henuriaid Israel , i fwyta bara gyda chwegrwn Moses , gerbron Duw . A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl : a safodd y bobl gerbron Moses , o’r bore hyd yr hwyr . A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl , efe a ddywedodd , Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl ? Paham yr eisteddi dy hun , ac y saif yr holl bobl ger dy fron di , o’r bore hyd yr hwyr ? A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn , Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw . Pan fyddo iddynt achos , ataf fi y deuant ; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd , ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau . A dywedodd chwegrwn Moses wrtho , Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur . Tydi a lwyr ddiffygi , a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi : canys rhy drwm yw’r peth i ti ; ni elli ei wneuthur ef dy hun . Gwrando ar fy llais i yn awr ; mi a’th gynghoraf di , a bydd Duw gyda thi : Bydd di dros y bobl gerbron Duw , a dwg eu hachosion at Dduw . Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau ; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi , a’r gweithredoedd a wnânt . Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol , yn ofni Duw , gwŷr geirwir , yn casáu cybydd‐dod ; a gosod y rhai hyn arnynt hwy , yn dywysogion ar filoedd , yn dywysogion ar gannoedd , ac yn dywysogion ar ddegau a deugain , ac yn dywysogion ar ddegau . A barnant hwy y bobl bob amser : ond dygant bob peth mawr atat ti , a barnant eu hun bob peth bychan : felly yr ysgafnhei arnat dy hun , a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi . Os y peth hyn a wnei , a’i orchymyn o Dduw i ti ; yna ti a elli barhau , a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch . A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn ; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe . A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel , ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl ; yn dywysogion ar filoedd , yn dywysogion ar gannoedd , yn dywysogion ar ddegau a deugain , ac yn dywysogion ar ddegau . A hwy a farnasant y bobl bob amser : y pethau caled a ddygent at Moses , a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain . A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn ; ac efe a aeth adref i’w wlad . Yn y trydydd mis , wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft , y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai . Canys hwy a aethant o Reffidim , ac a ddaethant i anialwch Sinai ; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch : ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd . A Moses a aeth i fyny at Dduw : a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob , ac y mynegi wrth feibion Israel ; Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid ; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod , ac y’ch dygais ataf fi fy hun . Yn awr , gan hynny , os gan wrando y gwrandewch ar fy llais , a chadw fy nghyfamod , chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd : canys eiddof fi yr holl ddaear . A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid , ac yn genhedlaeth sanctaidd . Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel . A daeth Moses , ac a alwodd am henuriaid y bobl ; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo . A’r holl bobl a gydatebasant , ac a ddywedasant , Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd . A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Wele , mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew , fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi , ac fel y credont i ti byth . A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Dos at y bobl , a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory ; a golchant eu dillad , A byddant barod erbyn y trydydd dydd : oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai . A gosod derfyn i’r bobl o amgylch , gan ddywedyd , Gwyliwch arnoch , rhag myned i fyny i’r mynydd , neu gyffwrdd â’i gwr ef : pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw . Na chyffyrdded llaw ag ef , ond gan labyddio llabyddier ef , neu gan saethu saether ef ; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo , ni chaiff fyw : pan gano’r utgorn yn hirllaes , deuant i’r mynydd . A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl , ac a sancteiddiodd y bobl ; a hwy a olchasant eu dillad . Ac efe a ddywedodd wrth y bobl , Byddwch barod erbyn y trydydd dydd ; nac ewch yn agos at eich gwragedd . A’r trydydd dydd , ar y boreddydd , yr oedd taranau , a mellt , a chwmwl tew ar y mynydd , a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn ; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll . A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw ; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd . A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu , oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân : a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn , a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr . Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir , ac yn cryfhau fwyfwy , Moses a lefarodd ; a Duw a atebodd mewn llais . A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai , ar ben y mynydd : a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd ; a Moses a aeth i fyny . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dos i waered , gorchymyn i’r bobl ; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu , a chwympo llawer ohonynt . Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd , y rhai a nesânt at yr Arglwydd ; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai : oblegid ti a dystiolaethaist wrthym , gan ddywedyd , Gosod derfyn ynghylch y mynydd , a sancteiddia ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos , cerdda i waered ; a thyred i fyny , ac Aaron gyda thi : ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl , i ddyfod i fyny at yr Arglwydd ; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy . Yna yr aeth Moses i waered at y bobl , ac a ddywedodd wrthynt . A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i . Na wna i ti ddelw gerfiedig , na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod , nac a’r y sydd yn y ddaear isod , nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear . Nac ymgryma iddynt , ac na wasanaetha hwynt : oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw , wyf Dduw eiddigus ; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt ; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant , ac a gadwant fy ngorchmynion . Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer : canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer . Cofia y dydd Saboth , i’w sancteiddio ef . Chwe diwrnod y gweithi , ac y gwnei dy holl waith : Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw : na wna ynddo ddim gwaith , tydi , na’th fab , na’th ferch , na’th wasanaethwr , na’th wasanaethferch , na’th anifail , na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth : Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear , y môr , a’r hyn oll sydd ynddynt ; ac a orffwysodd y seithfed dydd : am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth , ac a’i sancteiddiodd ef . Anrhydedda dy dad a’th fam ; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Na ladd . Na wna odineb . Na ladrata . Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog . Na chwennych dŷ dy gymydog , na chwennych wraig dy gymydog , na’i wasanaethwr , na’i wasanaethferch , na’i ych , na’i asyn , na dim a’r sydd eiddo dy gymydog . A’r holl bobl a welsant y taranau , a’r mellt , a sain yr utgorn , a’r mynydd yn mygu : a phan welodd y bobl , ciliasant , a safasant o hirbell . A dywedasant wrth Moses , Llefara di wrthym ni , a nyni a wrandawn : ond na lefared Duw wrthym , rhag i ni farw . A dywedodd Moses wrth y bobl , Nac ofnwch ; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw , ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau , fel na phechech . A safodd y bobl o hirbell ; a nesaodd Moses i’r tywyllwch , lle yr ydoedd Duw . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel ; Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych . Na wnewch gyda mi dduwiau arian , ac na wnewch i chwi dduwiau aur . Gwna i mi allor bridd , ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd , dy ddefaid , a’th eidionau : ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw , y deuaf atat , ac y’th fendithiaf . Ond os gwnei i mi allor gerrig , na wna hi o gerrig nadd : pan gotech dy forthwyl arni , ti a’i halogaist hi . Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor ; fel nad amlyger dy noethni wrthi . Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt . Os pryni was o Hebread , gwasanaethed chwe blynedd ; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd . Os ar ei ben ei hun y daeth , ar ei ben ei hun y caiff fyned allan : os perchen gwraig fydd efe , aed ei wraig allan gydag ef . Os ei feistr a rydd wraig iddo , a hi yn planta iddo feibion , neu ferched ; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr , ac aed efe allan ar ei ben ei hun . Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed , Hoff gennyf fi fy meistr , fy ngwraig , a’m plant ; nid af fi allan yn rhydd : Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr ; a dyged ef at y ddôr , neu at yr orsin : a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd ; ac efe a’i gwasanaetha ef byth . Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth , ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan . Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi , yr hwn a’i cymerodd hi yn ddyweddi ; yna gadawed ei hadbrynu hi : ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr , wedi iddo ef ei thwyllo hi . Ac os i’w fab y dyweddiodd efe hi , gwnaed iddi yn ôl deddf y merched . Ac os arall a brioda efe , na wnaed yn llai ei hymborth , ei dillad , na’i dyled priodas . Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi ; yna aed hi allan yn rhad heb arian . Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr , fel y byddo marw . Ond yr hwn ni chynllwynodd , ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef , mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi . Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog , i’w ladd ef trwy dwyll ; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor . Y neb a drawo ei dad , neu ei fam , rhodder ef i farwolaeth . Yr hwn a ladratao ddyn , ac a’i gwertho , neu os ceir ef yn ei law ef , rhodder ef i farwolaeth . Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad , neu ei fam . A phan ymrysono dynion , a tharo o’r naill y llall â charreg , neu â dwrn , ac efe heb farw , ond gorfod iddo orwedd ; Os cyfyd efe , a rhodio allan wrth ei ffon ; yna y trawydd a fydd dihangol : yn unig rhodded ei golled am ei waith , a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef . Ac os tery un ei wasanaethwr , neu ei wasanaethferch , â gwialen , fel y byddo farw dan ei law ef ; gan ddial dialer arno . Ond os erys ddiwrnod , neu ddau ddiwrnod , na ddialer arno ; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe . Ac os ymrafaelia dynion , a tharo ohonynt wraig feichiog , fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi , ac heb fod marwolaeth : gan gosbi cosber ef , fel y gosodo gŵr y wraig arno ; a rhodded hynny trwy farnwyr . Ac os marwolaeth fydd ; rhodder einioes am einioes , Llygad am lygad , dant am ddant , llaw am law , troed am droed , Llosg am losg , archoll am archoll , a chlais am glais . Os tery un lygad ei wasanaethwr , neu lygad ei wasanaethferch , fel y llygro ef ; gollynged ef yn rhydd am ei lygad : Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr , neu ddant ei wasanaethferch ; gollynged ef yn rhydd am ei ddant . Ac os ych a gornia ŵr neu wraig , fel y byddo farw : gan labyddio llabyddier yr ych , ac na fwytaer ei gig ef ; ac aed perchen yr ych yn rhydd . Ond os yr ych oedd yn cornio o’r blaen , a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog ; ac efe heb ei gadw ef , ond lladd ohono ŵr neu wraig : yr ych a labyddir , a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd . Os iawn a roddir arno , rhodded werth am ei einioes , yn ôl yr hyn oll a osoder arno . Os mab a gornia efe , neu ferch a gornia efe ; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon . Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych ; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian , a llabyddier yr ych . Ac os egyr gŵr bydew , neu os cloddia un bydew , ac heb gau arno ; a syrthio yno ych , neu asyn ; Perchen y pydew a dâl amdanynt : arian a dâl efe i’w perchennog ; a’r anifail marw a fydd iddo yntau . Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog , fel y byddo efe farw ; yna gwerthant yr ych byw , a rhannant ei werth ef , a’r ych marw a rannant hefyd . Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o’r blaen , a’i berchennog heb ei gadw ef ; gan dalu taled ych am ych , a bydded y marw yn eiddo ef . Os lladrata un ych neu ddafad , a’i ladd , neu ei werthu ; taled bum ych am ych , a phedair dafad am ddafad . Os ceir lleidr yn torri tŷ , a’i daro fel y byddo farw ; na choller gwaed amdano . Os bydd yr haul wedi codi arno , coller gwaed amdano ; efe a ddyly gwbl dalu : oni bydd dim ganddo , gwerther ef am ei ladrad . Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw , o eidion , neu asyn , neu ddafad ; taled yn ddwbl . Os pawr un faes , neu winllan , a gyrru ei anifail i bori maes un arall ; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun , ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun . Os tân a dyr allan , ac a gaiff afael mewn drain , fel y difaer das o ŷd , neu ŷd ar ei droed , neu faes ; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân . Os rhydd un i’w gymydog arian , neu ddodrefn i gadw , a’i ladrata o dŷ y gŵr ; os y lleidr a geir , taled yn ddwbl : Os y lleidr ni cheir , dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu , a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog . Am bob math ar gamwedd , am eidion , am asyn , am ddafad , am ddilledyn , ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo : deued achos y ddau gerbron y barnwyr ; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn , taled i’w gymydog yn ddwbl . Os rhydd un asyn , neu eidion , neu ddafad , neu un anifail , at ei gymydog i gadw , a marw ohono , neu ei friwo , neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled : Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau , na roddes efe ei law at dda ei gymydog ; a chymered ei berchennog hynny , ac na wnaed y llall iawn . Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho ; gwnaed iawn i’w berchennog . Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef ; dyged ef yn dystiolaeth , ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd . Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim , a’i friwo , neu ei farw , heb fod ei berchennog gydag ef ; gan dalu taled . Os ei berchennog fydd gydag ef , na thaled : os llog yw efe , am ei log y daeth . Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd , a gorwedd gyda hi ; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun . Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion . Na chaffed hudoles fyw . Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail . Lladder yn farw a abertho i dduwiau , onid i’r Arglwydd yn unig . Na orthryma , ac na flina y dieithr : canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft . Na chystuddiwch un weddw , nac amddifad . Os cystuddiwch hwynt mewn un modd , a gweiddi ohonynt ddim arnaf ; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt ; A’m digofaint a ennyn , a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf ; a bydd eich gwragedd yn weddwon , a’ch plant yn amddifaid . Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl , na fydd fel ocrwr iddynt : na ddod usuriaeth arnynt . Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl , dyro ef adref iddo erbyn machludo haul : Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef ; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef : mewn pa beth y gorwedd ? A bydd , os gwaedda efe arnaf , i mi wrando ; canys trugarog ydwyf fi . Na chabla’r swyddogion ; ac na felltithia bennaeth dy bobl . Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed , ac o’th bethau gwlybion : dod i mi y cyntaf‐anedig o’th feibion . Felly y gwnei am dy eidion , ac am dy ddafad ; saith niwrnod y bydd gyda’i fam , a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi . A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi : ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes ; teflwch ef i’r ci . Na chyfod enllib ; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir . Na ddilyn liaws i wneuthur drwg ; ac nac ateb mewn ymrafael , gan bwyso yn ôl llaweroedd , i ŵyro barn . Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael . Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn , neu â’i asyn , yn myned ar gyfrgoll ; dychwel ef adref iddo . Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn ; a beidi â’i gynorthwyo ? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef . Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael . Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater : na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn : canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol . Na dderbyn wobr : canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled , ac a ŵyra eiriau y cyfiawn . Na orthryma’r dieithr : chwi a wyddoch galon y dieithr ; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft . Chwe blynedd yr heui dy dir , ac y cesgli ei ffrwyth : A’r seithfed paid ag ef , a gad ef yn llonydd ; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta : a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt . Felly y gwnei am dy winllan , ac am dy olewydden . Chwe diwrnod y gwnei dy waith ; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi : fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch , ac y cymero mab dy forwyn gaeth , a’r dieithr ddyn , ei anadl ato . Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych : na chofiwch enw duwiau eraill ; na chlywer hynny o’th enau . Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi . Gŵyl y bara croyw a gedwi : saith niwrnod y bwytei fara croyw , fel y gorchmynnais i ti , ar yr amser gosodedig o fis Abib : canys ynddo y daethost allan o’r Aifft : ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw : A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur , yr hwn a heuaist yn y maes ; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn , pan gynullech dy lafur o’r maes . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd ; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore . Dwg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd , ac i’th arwain i’r man a baratoais . Gwylia rhagddo , a gwrando ar ei lais ef ; na chyffroa ef : canys ni ddioddef eich anwiredd : oblegid y mae fy enw ynddo ef . Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef , a gwneuthur y cwbl a lefarwyf ; mi a fyddaf elyn i’th elynion , ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr . Oherwydd fy angel a â o’th flaen di , ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid , a’r Hethiaid , a’r Pheresiaid , a’r Canaaneaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; a mi a’u difethaf hwynt . Nac ymgryma i’w duwiau hwynt , ac na wasanaetha hwynt , ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt ; ond llwyr ddinistria hwynt , dryllia eu delwau hwynt yn gandryll . A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw , ac efe a fendithia dy fara , a’th ddwfr ; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg . Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu , na heb hilio : mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau . Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen , ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt , ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau atat . A mi a anfonaf gacwn o’th flaen , a hwy a yrrant yr Hefiaid , a’r Canaaneaid , a’r Hethiaid , allan o’th flaen di . Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn ; rhag bod y wlad yn anghyfannedd , ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di . O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di , nes i ti gynyddu ac etifeddu’r tir . A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid , ac o’r diffeithwch hyd yr afon : canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir ; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen . Na wna amod â hwynt , nac â’u duwiau . Na ad iddynt drigo yn dy wlad ; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn : canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt , diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti . Ac efe a ddywedodd wrth Moses , Tyred i fyny at yr Arglwydd , ti ac Aaron , Nadab ac Abihu , a’r deg a thrigain o henuriaid Israel ; ac addolwch o hirbell . Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd ; ac na ddelont hwy , ac nac aed y bobl i fyny gydag ef . A Moses a ddaeth , ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd , a’r holl farnedigaethau . Ac atebodd yr holl bobl yn unair , ac a ddywedasant , Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd . A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd ; ac a gododd yn fore , ac a adeiladodd allor islaw y mynydd , a deuddeg colofn , yn ôl deuddeg llwyth Israel . Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel ; a hwy a offrymasant boethoffrymau , ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd . A chymerodd Moses hanner y gwaed , ac a’i gosododd mewn cawgiau , a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor . Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod , ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl . A dywedasant , Ni a wnawn , ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd . A chymerodd Moses y gwaed , ac a’i taenellodd ar y bobl ; ac a ddywedodd , Wele waed y cyfamod , yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi , yn ôl yr holl eiriau hyn . Yna yr aeth Moses i fyny , ac Aaron , Nadab ac Abihu , a deg a thrigain o henuriaid Israel . A gwelsant Dduw Israel ; a than ei draed megis gwaith o faen saffir , ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder . Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel ; ond gwelsant Dduw , a bwytasant ac yfasant . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Tyred i fyny ataf i’r mynydd , a bydd yno : a mi a roddaf i ti lechau cerrig , a chyfraith , a gorchmynion , y rhai a ysgrifennais , i’w dysgu hwynt . A chododd Moses , a Josua ei weinidog ; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw . Ac wrth yr henuriaid y dywedodd , Arhoswch ni yma , hyd oni ddelom ni atoch drachefn : ac wele , Aaron a Hur gyda chwi ; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo , deued atynt hwy . A Moses a aeth i fyny i’r mynydd ; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd . A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai , a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod : ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl . A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd , yng ngolwg meibion Israel . A Moses a aeth i ganol y cwmwl , ac a aeth i fyny i’r mynydd : a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth feibion Israel , am ddwyn ohonynt i mi offrwm : gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm . A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt ; aur , ac arian , a phres , A sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , A chrwyn hyrddod yn gochion , a chrwyn daearfoch , a choed Sittim , Olew i’r goleuni , llysieuau i olew yr ennaint , ac i’r perarogl‐darth , Meini onics , a meini i’w gosod yn yr effod , ac yn y ddwyfronneg . A gwnânt i mi gysegr ; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt . Yn ôl holl waith y tabernacl , a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti , felly y gwnewch . A gwnânt arch o goed Sittim , o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled , a chufydd a hanner ei huchder . A gwisg hi ag aur coeth ; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi : a gwna arni goron o aur o amgylch . Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur , a dod ar ei phedair congl ; dwy fodrwy ar un ystlys iddi , a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi . A gwna drosolion o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur . A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch , i ddwyn yr arch arnynt . Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion ; na symuder hwynt oddi wrthi . A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti . A gwna drugareddfa o aur coeth , o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled . A gwna ddau geriwb o aur ; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt , yn nau gwr y drugareddfa . Un ceriwb a wnei yn y naill ben , a’r ceriwb arall yn y pen arall : o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid . A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny , gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll , a’u hwynebau bob un at ei gilydd : tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid . A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch , ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti . A mi a gyfarfyddaf â thi yno , ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa , oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth , yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel . A gwna di fwrdd o goed Sittim , o ddau gufydd ei hyd , a chufydd ei led , a chufydd a hanner ei uchder . A gosod aur coeth drosto , a gwna iddo goron o aur o amgylch . A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch , a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch . A gwna iddo bedair modrwy o aur , a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed . Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau , yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd . A gwna y trosolion o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur , fel y dyger y bwrdd arnynt . A gwna ei ddysglau ef , a’i lwyau , a’i gaeadau , a’i ffiolau , y rhai y tywelltir â hwynt : o aur coeth y gwnei hwynt . A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol . Gwna hefyd ganhwyllbren : o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren ; ei baladr , ei geinciau , ei bedyll , ei gnapiau , a’i flodau , a fyddant o’r un . A bydd chwe chainc yn dyfod allan o’i ystlysau ; tair cainc o’r canhwyllbren o un tu , a thair cainc o’r canhwyllbren o’r tu arall . Tair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar un gainc ; a thair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar gainc arall : felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren . Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau , a’u cnapiau a’u blodau . A bydd cnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , yn ôl y chwe chainc a ddeuant o’r canhwyllbren . Eu cnapiau a’u ceinciau a fyddant o’r un : y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl . A thi a wnei ei saith lusern ef , ac a oleui ei lusernau ef , fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb . A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth . O dalent o aur coeth y gwnei ef , a’r holl lestri hyn . Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt , a ddangoswyd i ti yn y mynydd . Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd , ac o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad : yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt . Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain , a lled un llen fydd pedwar cufydd : yr un mesur a fydd i’r holl lenni . Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd ; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd . A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen , ar y cwr , yn y cydiad ; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall , yn yr ail gydiad . Deg dolen a deugain a wnei di i un llen , a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad : y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd . Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur , a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd ; fel y byddo yn un tabernacl . A gwna lenni o flew geifr , i fod yn babell‐len ar y tabernacl : un llen ar ddeg a wnei . Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain , a lled un llen fydd pedwar cufydd ; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg . A chydia bum llen wrthynt eu hun , a chwe llen wrthynt eu hun ; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len . A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len , ar y cwr , yn y cydiad cyntaf ; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall , yn yr ail gydiad . A gwna ddeg bach a deugain o bres ; a dod y bachau yn y dolennau , a chlyma’r babell‐len , fel y byddo yn un . A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell‐len , sef yr hanner llen weddill , a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl ; Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du , a chufydd o’r tu arall , o hyd y babell‐len : bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl , o’r tu yma ac o’r tu acw , i’w orchuddio . A gwna do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a tho o grwyn daearfoch yn uchaf . A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim , yn eu sefyll . Deg cufydd fydd hyd ystyllen , a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen . Bydded dau dyno i un bwrdd , wedi eu gosod mewn trefn , bob un ar gyfer ei gilydd : felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl . A gwna ystyllod i’r tabernacl , ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau . A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen ; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno , a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno . A gwna i ail ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , ugain ystyllen , A deugain mortais o arian ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Hefyd i ystlys y tabernacl , o du’r gorllewin , y gwnei chwech ystyllen . A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl , yn y ddau ystlys . A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd ; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy : felly y bydd iddynt ill dau ; i’r ddwy gongl y byddant . A byddant yn wyth ystyllen , a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Gwna hefyd farrau o goed Sittim , pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl , A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl , a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin . A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod , a gyrraedd o gwr i gwr . Gosod hefyd aur dros yr ystyllod , a gwna eu modrwyau o aur , i osod y barrau trwyddynt : gwisg y barrau hefyd ag aur . A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad , yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd . A gwna wahanlen o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi . A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur ; a’u pennau o aur , ar bedair mortais arian . A dod y wahanlen wrth y bachau , fel y gellych ddwyn yno , o fewn y wahanlen , arch y dystiolaeth : a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf . Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf . A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r i’r wahanlen , a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl : a dod y bwrdd ar du’r gogledd . A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith . A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim , a gwisg hwynt ag aur ; a’u pennau fydd o aur : a bwrw iddynt bum mortais bres . Gwna hefyd allor o goed Sittim , o bum cufydd o hyd , a phum cufydd o led : yn bedeirongl y bydd yr allor , a’i huchder o dri chufydd . A gwna ei chyrn ar ei phedair congl : o’r un y bydd ei chyrn : a gwisg hi â phres . Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw , a’i rhawiau , a’i chawgiau , a’i chigweiniau , a’i phedyll tân : ei holl lestri a wnei o bres . A gwna iddi alch o bres , ar waith rhwyd ; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl . A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd , fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor . A gwna drosolion i’r allor , sef trosolion o goed Sittim ; a gwisg hwynt â phres . A dod ei throsolion trwy’r modrwyau ; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor , i’w dwyn hi . Gwna hi ag ystyllod yn gau : fel y dangoswyd i ti yn y mynydd , felly y gwnânt hi . A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau , tua’r deau : llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd , o gan cufydd o hyd , i un ystlys . A’i hugain colofn , a’u hugain mortais , fydd o bres : pennau y colofnau , a’u cylchau , fydd o arian . Felly o du’r gogledd ar hyd , y bydd llenni o gan cufydd o hyd , a’u hugain colofn , a’u hugain mortais , o bres ; a phennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian . Ac i led y cynteddfa , o du’r gorllewin , y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain : eu colofnau fyddant ddeg , a’u morteisiau yn ddeg . A lled y cynteddfa , tua’r dwyrain , o godiad haul , a fydd ddeg cufydd a deugain . Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd ; eu colofnau yn dair , a’u morteisiau yn dair . Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd , o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith ; eu pedair colofn , a’u pedair mortais . Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian ; a’u pennau yn arian , a’u morteisiau yn bres . Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd , a’i led yn ddeg a deugain o bob tu ; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd , a’u morteisiau o bres . Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth , a’i holl hoelion hefyd , a holl hoelion y cynteddfa , fyddant o bres . A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig , yn oleuni , i beri i’r lamp losgi yn wastad . Ym mhabell y cyfarfod , o’r tu allan i’r wahanlen , yr hon fydd o flaen y dystiolaeth , y trefna Aaron a’i feibion hwnnw , o’r hwyr hyd y bore , gerbron yr Arglwydd : deddf dragwyddol fydd , trwy eu hoesoedd , gan feibion Israel . A chymer Aaron dy frawd atat , a’i feibion gydag ef , o blith meibion Israel , i offeiriadu i mi ; sef Aaron , Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar , meibion Aaron . Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd , er gogoniant a harddwch . A dywed wrth yr holl rai doeth o galon , y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb , am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef , i offeiriadu i mi . A dyma y gwisgoedd a wnânt . Dwyfronneg , ac effod , mantell hefyd , a phais o waith edau a nodwydd , meitr , a gwregys : felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd , ac i’w feibion , i offeiriadu i mi . Cymerant gan hynny aur , a sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main . A gwnânt yr effod o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , o waith cywraint . Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr ; ac felly y cydir hi ynghyd . A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni , fydd o’r un , yn unwaith â hi ; o aur , sidan glas , a phorffor , ysgarlad hefyd , a lliain main cyfrodedd . Cymer hefyd ddau faen onics , a nadd ynddynt enwau meibion Israel : Chwech o’u henwau ar un maen , a’r chwech enw arall ar yr ail faen , yn ôl eu genedigaeth . A gwaith naddwr mewn maen , fel naddiadau sêl , y neddi di y ddau faen , ag enwau meibion Israel : gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch . A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod , yn feini coffadwriaeth i feibion Israel . Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd , yn goffadwriaeth . Gwna hefyd foglynnau aur ; A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau : o blethwaith y gwnei hwynt ; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau . Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth , o waith cywraint ; ar waith yr effod y gwnei hi : o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , y gwnei hi . Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg ; yn rhychwant ei hyd , ac yn rhychwant ei lled . Llanw hi yn llawn o feini , sef pedair rhes o feini : un rhes fydd sardius , a thopas , a smaragdus : hyn fydd y rhes gyntaf . A’r ail res fydd carbuncl , saffir , ac adamant . A’r drydedd res fydd lygur , ac acat , ac amethyst . Y bedwaredd res fydd beryl , ac onics , a iasbis : byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd . A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel , yn ddeuddeg , yn ôl eu henwau hwynt ; o naddiad sêl , bob un wrth ei enw y byddant , yn ôl y deuddeg llwyth . A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau , yn blethwaith , o aur coeth . Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur , a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg . A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg . A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn , a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen . Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur , a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg , ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn . A gwna ddwy fodrwy o aur , a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd , tua’i thu blaen , ar gyfer ei chydiad , oddi ar wregys yr effod . A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas , fel y byddo oddi ar wregys yr effod , fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod . A dyged Aaron , yn nwyfronneg y farnedigaeth , enwau meibion Israel ar ei galon , pan ddelo i’r cysegr , yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol . A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth , yr Urim a’r Thummim ; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd : ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon , gerbron yr Arglwydd , yn wastadol . Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas . A bydd twll yn ei phen uchaf hi , ar ei chanol : gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll , megis twll llurig , fydd iddi , rhag rhwygo . A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , ar ei godre o amgylch ; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch . Cloch aur a phomgranad , a chloch aur a phomgranad , ar odre’r fantell o amgylch . A hi a fydd am Aaron wrth weini : a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr , gerbron yr Arglwydd , a phan elo allan ; fel na byddo farw . Gwna hefyd ddalen o aur coeth ; a nadd arni , fel naddiadau sêl , SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD . A gosod hi wrth linyn o sidan glas , a bydded ar y meitr : o’r tu blaen i’r meitr y bydd . A hi a fydd ar dalcen Aaron , fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd : ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef , fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd . Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main ; a gwna feitr o liain main ; a’r gwregys a wnei o wniadwaith . I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau , a gwna iddynt wregysau ; gwna hefyd iddynt gapiau , er gogoniant a harddwch . A gwisg hwynt am Aaron dy frawd , a’i feibion gydag ef : ac eneinia hwynt , cysegra hwynt hefyd , a sancteiddia hwynt , i offeiriadu i mi . Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth : o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant . A byddant am Aaron , ac am ei feibion , pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod , neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr : fel na ddygont anwiredd , a marw . Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef , ac i’w had ar ei ôl . Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cysegru hwynt , i offeiriadu i mi . Cymer un bustach ieuanc , a dau hwrdd perffeithgwbl , A bara croyw , a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew , ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew : o beilliaid gwenith y gwnei hwynt . A dod hwynt mewn un cawell , a dwg hwynt yn y cawell , gyda’r bustach a’r ddau hwrdd . Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod , a golch hwynt â dwfr . A chymer y gwisgoedd , a gwisg am Aaron y bais , a mantell yr effod , a’r effod hefyd , a’r ddwyfronneg ; a gwregysa ef â gwregys yr effod . A gosod y meitr ar ei ben ef , a dod y goron gysegredig ar y meitr . Yna y cymeri olew yr eneiniad , ac y tywellti ar ei ben ef , ac yr eneini ef . A dwg ei feibion ef , a gwisg beisiau amdanynt . A gwregysa hwynt â gwregysau , sef Aaron a’i feibion , a gwisg hwynt â chapiau : a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol : a thi a gysegri Aaron a’i feibion . A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod ; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben y bustach . A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A chymer o waed y bustach , a dod ar gyrn yr allor â’th fys ; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor . Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio’r perfedd , a’r rhwyden a fyddo ar yr afu , a’r ddwy aren , a’r braster a fyddo arnynt , a llosg ar yr allor . Ond cig y bustach , a’i groen , a’i fiswail , a losgi mewn tân , o’r tu allan i’r gwersyll : aberth dros bechod yw . Cymer hefyd un hwrdd ; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd . A lladd yr hwrdd ; a chymer ei waed ef , a thaenella ar yr allor o amgylch . A thor yr hwrdd yn ddarnau ; a golch ei berfedd , a’i draed , a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau , ac â’i ben . A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor : poethoffrwm i’r Arglwydd yw : arogl peraidd , aberth tanllyd i’r Arglwydd yw . A chymer yr ail hwrdd ; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd . Yna lladd yr hwrdd , a chymer o’i waed , a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron , ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion , ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt , ac ar fawd eu troed deau hwynt ; a thaenella’r gwaed arall ar yr allor o amgylch . A chymer o’r gwaed a fyddo ar yr allor , ac o olew yr eneiniad , a thaenella ar Aaron , ac ar ei wisgoedd , ar ei feibion hefyd , ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef : felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd , ei feibion hefyd , a gwisgoedd ei feibion gydag ef . Cymer hefyd o’r hwrdd , y gwêr a’r gloren , a’r gwêr sydd yn gorchuddio’r perfedd , a rhwyden yr afu , a’r ddwy aren , a’r gwêr sydd arnynt , a’r ysgwyddog ddeau ; canys hwrdd cysegriad yw : Ac un dorth o fara , ac un deisen o fara olewedig , ac un afrlladen o gawell y bara croyw , yr hwn sydd gerbron yr Arglwydd . A dod y cwbl yn nwylo Aaron , ac yn nwylo ei feibion : a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A chymer hwynt o’u dwylo , a llosg ar yr allor yn boethoffrwm , yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd : aberth tanllyd i’r Arglwydd yw . Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron , a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd ; a’th ran di fydd . A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan , ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael , yr hon a gyhwfanwyd , a’r hon a ddyrchafwyd , o hwrdd y cysegriad , o’r hwn a fyddo dros Aaron , ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion . Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel : canys offrwm dyrchafael yw ; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd , sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd . A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ôl ef , i’w heneinio ynddynt , ac i’w cysegru ynddynt . Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef , a’u gwisg hwynt saith niwrnod , pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr . A chymer hwrdd y cysegriad , a berwa ei gig yn y lle sanctaidd . A bwytaed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd , a’r bara yr hwn fydd yn y cawell , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt , i’w cysegru hwynt ac i’w sancteiddio : ond y dieithr ni chaiff eu bwyta ; canys cysegredig ydynt . Ac os gweddillir o gig y cysegriad , neu o’r bara , hyd y bore ; yna ti a losgi’r gweddill â thân : ni cheir ei fwyta , oblegid cysegredig yw . A gwna fel hyn i Aaron , ac i’w feibion , yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti : saith niwrnod y cysegri hwynt . A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod , er cymod : a glanha yr allor , wedi i ti wneuthur cymod drosti , ac eneinia hi , i’w chysegru . Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor , ac y sancteiddi hi : felly yr allor fydd sanctaidd : pob peth a gyffyrddo â’r allor , a sancteiddir . A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor . Dau oen blwyddiaid , bob dydd yn wastadol . Yr oen cyntaf a offrymi di y bore ; a’r ail oen a offrymi di yn y cyfnos . A chyda’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig : a phedwaredd ran hin o win , yn ddiod‐offrwm . A’r oen arall a offrymi di yn y cyfnos , ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore , ac i’w ddiod‐offrwm , i fod yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd : Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd ; lle y cyfarfyddaf â chwi , i lefaru wrthyt yno . Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel ; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant . A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor ; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf , i offeiriadu i mi . A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel , ac a fyddaf yn Dduw iddynt . A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aifft , fel y trigwn yn eu plith hwynt : myfi yw yr Arglwydd eu Duw . Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth : o goed Sittim y gwnei di hi . Yn gufydd ei hyd , ac yn gufydd ei lled , ( pedeirongl fydd hi , ) ac yn ddau gufydd ei huchder : ei chyrn fyddant o’r un . A gwisg hi ag aur coeth , ei chefn a’i hystlysau o amgylch , a’i chyrn : a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch . A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron , wrth ei dwy gongl : ar ei dau ystlys y gwnei hwynt ; fel y byddant i wisgo am drosolion , i’w dwyn hi arnynt . A’r trosolion a wnei di o goed Sittim : a gwisg hwynt ag aur . A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth ; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth , lle y cyfarfyddaf â thi . Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore : pan daclo efe y lampau , yr arogldartha efe . A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos , arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd , trwy eich cenedlaethau . Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr , na phoethoffrwm , na bwyd‐offrwm ; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni . A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn , â gwaed pech-aberth y cymod : unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau : sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Pan rifech feibion Israel , dan eu rhifedi ; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd , pan rifer hwynt : fel na byddo pla yn eu plith , pan rifer hwynt . Hyn a ddyry pob un a elo dan rif . Hanner sicl , yn ôl sicl y cysegr : ugain gera yw y sicl : hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd . Pob un a elo dan rif , o fab ugeinmlwydd ac uchod , a rydd offrwm i’r Arglwydd . Ni rydd y cyfoethog fwy , ac ni rydd y tlawd lai , na hanner sicl , wrth roddi offrwm i’r Arglwydd , i wneuthur cymod dros eich eneidiau . A chymer yr arian cymod gan feibion Israel , a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod ; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd , i wneuthur cymod dros eich eneidiau . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwna noe bres , a’i throed o bres , i ymolchi : a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor : a dod ynddi ddwfr . A golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed . Pan ddelont i babell y cyfarfod , ymolchant â dwfr , fel na byddont feirw ; neu pan ddelont wrth yr allor i weini , gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd . Golchant eu dwylo a’u traed , fel na byddont feirw : a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol , iddo ef , ac i’w had , trwy eu cenedlaethau . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer i ti ddewis lysiau , o’r myrr pur , bwys pum can sicl , a hanner hynny o’r sinamon peraidd , sef pwys deucant a deg a deugain o siclau , ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau ; Ac o’r casia pwys pum cant o siclau , yn ôl sicl y cysegr ; a hin o olew olewydden . A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd , yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari : olew eneiniad sanctaidd fydd efe . Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod , ac arch y dystiolaeth , Y bwrdd hefyd a’i holl lestri , a’r canhwyllbren a’i holl lestri , ac allor yr arogl‐darth . Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri , a’r noe a’i throed . A chysegra hwynt , fel y byddant yn sancteiddiolaf : pob peth a gyffyrddo â hwynt , a fydd sanctaidd . Eneinia hefyd Aaron a’i feibion , a chysegra hwynt , i offeiriadu i mi . A llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi , trwy eich cenedlaethau . Nac eneinier ag ef gnawd dyn , ac ar ei waith ef na wnewch ei fath : sanctaidd yw , bydded sanctaidd gennych . Pwy bynnag a gymysgo ei fath , a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Cymer i ti lysiau peraidd , sef stacte , ac onycha , a galbanum ; y llysiau hyn , a thus pur ; yr un faint o bob un . A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari , wedi ei gyd‐dymheru , yn bur ac yn sanctaidd . Gan guro cur yn fân beth ohono , a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod , lle y cyfarfyddaf â thi : sancteiddiolaf fydd efe i chwi . A’r arogl‐darth a wnelech , na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef : bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd . Pwy bynnag a wnêl ei fath ef , i arogli ohono , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwêl , mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri , fab Hur , o lwyth Jwda ; Ac a’i llenwais ef ag ysbryd Duw , mewn doethineb , ac mewn deall , ac mewn gwybodaeth hefyd , ac ym mhob rhyw waith , I ddychmygu cywreinrwydd , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , Ac mewn cyfarwyddyd , i osod meini , ac mewn saernïaeth pren , i weithio ym mhob gwaith . Ac wele , mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach , o lwyth Dan : ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt . Pabell y cyfarfod , ac arch y dystiolaeth , a’r drugareddfa yr hon sydd arni , a holl lestri y babell , A’r bwrdd a’i lestri , a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri , ac allor yr arogl‐darth , Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri , a’r noe a’i throed , A gwisgoedd y weinidogaeth , a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef , i offeiriadu ynddynt , Ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr ; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd , Llefara hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Diau y cedwch fy Sabothau : canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau , trwy eich cenedlaethau ; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd , sydd yn eich sancteiddio . Am hynny cedwch y Saboth ; oblegid sanctaidd yw i chwi : llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef ; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno , torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl . Chwe diwrnod y gwneir gwaith , ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r Arglwydd : pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd , llwyr rodder ef i farwolaeth . Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth , gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau , yn gyfamod tragwyddol . Rhyngof fi a meibion Israel , y mae yn arwydd tragwyddol , mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear ; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd , ac y gorffwysodd efe . Ac efe a roddodd i Moses , wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai , ddwy lech y dystiolaeth ; sef llechau o gerrig , wedi eu hysgrifennu â bys Duw . Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd ; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron , ac y dywedasant wrtho , Cyfod , gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen : canys y Moses hwn , y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft , ni wyddom beth a ddaeth ohono . A dywedodd Aaron wrthynt , Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd , a’ch meibion , a’ch merched , a dygwch ataf fi . A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau , ac a’u dygasant at Aaron . Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo , ac a’i lluniodd â chŷn , ac a’i gwnaeth yn llo tawdd : a hwy a ddywedasant , Dyma dy dduwiau di , Israel , y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft . A phan ei gwelodd Aaron , efe a adeiladodd allor ger ei fron ef : ac Aaron a gyhoeddodd , ac a ddywedodd , Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory . A hwy a godasant yn fore drannoeth , ac a offrymasant boethoffrymau , ac a ddygasant aberthau hedd : a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed , ac a godasant i fyny i chwarae . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cerdda , dos i waered : canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft . Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt : gwnaethant iddynt lo tawdd , ac addolasant ef , ac aberthasant iddo ; dywedasant hefyd , Dyma dy dduwiau di , Israel , y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Gwelais y bobl hyn ; ac wele , pobl wargaled ydynt . Am hynny yn awr gad i mi lonydd , fel yr enynno fy llid yn eu herbyn , ac y difethwyf hwynt : a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr . A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw , ac a ddywedodd , Paham , Arglwydd , yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl , y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft , trwy nerth mawr , a llaw gadarn ? Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru , gan ddywedyd , Mewn malais y dygodd efe hwynt allan , i’w lladd yn y mynyddoedd , ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear ? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint , a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl . Cofia Abraham , Isaac , ac Israel , dy weision , y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun , ac y dywedaist wrthynt , Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd ; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais , a roddaf i’ch had chwi , a hwy a’i hetifeddant byth . Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl . A Moses a drodd , ac a ddaeth i waered o’r mynydd , a dwy lech y dystiolaeth yn ei law : y llechau a ysgrifenasid o’u dau du ; hwy a ysgrifenasid o bob tu . A’r llechau hynny oedd o waith Duw : yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau . A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio , efe a ddywedodd wrth Moses , Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll . Yntau a ddywedodd , Nid llais bloeddio am oruchafiaeth , ac nid llais gweiddi am golli’r maes ; ond sŵn canu a glywaf fi . A bu , wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll , iddo weled y llo a’r dawnsiau : ac enynnodd digofaint Moses : ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd . Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy , ac a’i llosgodd â thân , ac a’i malodd yn llwch , ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr , ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel . A dywedodd Moses wrth Aaron , Beth a wnaeth y bobl hyn i ti , pan ddygaist arnynt bechod mor fawr ? A dywedodd Aaron , Nac enynned digofaint fy arglwydd : ti a adwaenost y bobl , mai ar ddrwg y maent . Canys dywedasant wrthyf , Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen : canys y Moses hwn , y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft , ni wyddom beth a ddaeth ohono . A dywedais wrthynt , I’r neb y mae aur , tynnwch ef : a hwy a’i rhoddasant i mi : a mi a’i bwriais yn tân , a daeth y llo hwn allan . A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth , ( canys Aaron a’u noethasai hwynt , i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion ; ) Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll , ac a ddywedodd , Pwy sydd ar du’r Arglwydd ? deued ataf fi . A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun , ac ewch , cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll , a lleddwch bob un ei frawd , a phob un ei gyfaill , a phob un ei gymydog . A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses : a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr . Canys dywedasai Moses , Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd , bob un ar ei fab , ac ar ei frawd ; fel y rhodder heddiw i chwi fendith . A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl , Chwi a bechasoch bechod mawr : ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd ; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi . A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Och ! pechodd y bobl hyn bechod mawr , ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur . Ac yn awr , os maddeui eu pechod ; ac os amgen , dilea fi , atolwg , allan o’th lyfr a ysgrifennaist . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn , hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr . Am hynny dos yn awr , arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt : wele , fy angel a â o’th flaen di : a’r dydd yr ymwelwyf , yr ymwelaf â hwynt am eu pechod . A’r Arglwydd a drawodd y bobl , am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Cerdda , dos i fyny oddi yma , ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft , i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham , Isaac , a Jacob , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf hi . A mi a anfonaf angel o’th flaen di ; ac a yrraf allan y Canaanead , yr Amoriad , a’r Hethiad , y Pheresiad , yr Hefiad , a’r Jebusiad : I wlad yn llifeirio o laeth a mêl : oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith ; oblegid pobl wargaled wyt : rhag i mi dy ddifa ar y ffordd . A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn , galaru a wnaethant : ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano . Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses , Dywed wrth feibion Israel , Pobl wargaled ydych chwi ; yn ddisymwth y deuaf i fyny i’th ganol di , ac y’th ddifethaf : am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat , fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti . A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb . A Moses a gymerodd y babell , ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll , ymhell oddi wrth y gwersyll ; ac a’i galwodd , Pabell y cyfarfod ; a phob un a geisiai yr Arglwydd , a âi allan i babell y cyfarfod , yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll . A phan aeth Moses i’r babell , yr holl bobl a godasant , ac a safasant bob un ar ddrws ei babell ; ac a edrychasant ar ôl Moses , nes ei ddyfod i’r babell . A phan aeth Moses i’r babell , y disgynnodd colofn y cwmwl , ac a safodd wrth ddrws y babell : a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses . A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell : a’r holl bobl a gododd , ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb , fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill . Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll : ond y llanc Josua , mab Nun , ei weinidog ef , ni syflodd o’r babell . A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd , Gwêl , ti a ddywedi wrthyf , Dwg y bobl yma i fyny ; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi : a thi a ddywedaist , Mi a’th adwaen wrth dy enw , a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg . Yn awr gan hynny , o chefais ffafr yn dy olwg , hysbysa i mi dy ffordd , atolwg , fel y’th adwaenwyf , ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg : gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon . Yntau a ddywedodd , Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi , a rhoddaf orffwystra i ti . Ac efe a ddywedodd wrtho , Onid â dy wyneb gyda ni , nac arwain ni i fyny oddi yma . Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg , mi a’th bobl ? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni ? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses , Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist : oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg , a mi a’th adwaen wrth dy enw . Yntau a ddywedodd , Dangos i mi , atolwg , dy ogoniant . Ac efe a ddywedodd , Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb , a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di : a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno , ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf . Ac efe a ddywedodd , Ni elli weled fy wyneb : canys ni’m gwêl dyn , a byw . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd , Wele fan yn fy ymyl , lle y cei sefyll ar graig . A thra yr elo fy ngogoniant heibio , mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig ; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw , nes i mi fyned heibio . Yna y tynnaf ymaith fy llaw , a’m tu cefn a gei di ei weled : ond ni welir fy wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Nadd i ti ddwy o lechau cerrig , fel y rhai cyntaf : a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf , y rhai a dorraist . A bydd barod erbyn y bore ; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai , a saf i mi yno ar ben y mynydd . Ond na ddeued neb i fyny gyda thi , ac na weler neb ar yr holl fynydd : na phored hefyd na dafad , nac eidion , ar gyfer y mynydd hwn . Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig , o fath y rhai cyntaf : a Moses a gyfododd yn fore , ac a aeth i fynydd Sinai , fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg . A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl , ac a safodd gydag ef yno , ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd . A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef , ac a lefodd JEHOFAH , JEHOFAH , y Duw trugarog a graslon , hwyrfrydig i ddig , ac aml o drugaredd a gwirionedd ; Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd , gan faddau anwiredd , a chamwedd , a phechod , a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn ; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant , ac ar blant y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth . A Moses a frysiodd , ac a ymgrymodd tua’r llawr , ac a addolodd ; Ac a ddywedodd , Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg , O Arglwydd , eled fy Arglwydd , atolwg , yn ein plith ni , ( canys pobl wargaled yw , ) a maddau ein hanwiredd , a’n pechod , a chymer ni yn etifeddiaeth i ti . Yntau a ddywedodd , Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl : gwnaf ryfeddodau , y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear , nac yn yr holl genhedloedd ; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd : canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi . Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw : wele , mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad , a’r Canaanead , a’r Hethiad , a’r Pheresiad , yr Hefiad hefyd , a’r Jebusiad . A chadw arnat , rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi ; rhag eu bod yn fagl yn dy blith . Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt , drylliwch eu delwau hwynt , a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt . Canys ni chei ymgrymu i dduw arall : oblegid yr Arglwydd , Eiddigus yw ei enw ; Duw eiddigus yw efe ; Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir ; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau , ac aberthu i’w duwiau , a’th alw di , ac i tithau fwyta o’u haberth ; A chymryd ohonot o’u merched i’th feibion ; a phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt , a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt . Na wna i ti dduwiau tawdd . Cadw ŵyl y bara croyw : saith niwrnod y bwytei fara croyw , fel y gorchmynnais i ti , ar yr amser ym mis Abib : oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aifft . Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth ; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid , yn eidionau , ac yn ddefaid . Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen ; ac oni phryni , tor ei wddf : prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o’th feibion : ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw . Chwe diwrnod y gweithi ; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi : yn amser aredig , ac yn y cynhaeaf , y gorffwysi . Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau , o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith ; a gŵyl y cynnull , ar ddiwedd y flwyddyn . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw , Duw Israel . Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di , ac a helaethaf dy derfynau di : ac ni chwennych neb dy dir di , pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw , dair gwaith yn y flwyddyn . Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd ; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore . Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses , Ysgrifenna i ti y geiriau hyn : oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi , ac ag Israel . Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos ; ni fwytaodd fara , ac nid yfodd ddwfr : ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod , sef y deg gair . A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai , a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses , pan ddaeth efe i waered o’r mynydd , ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho . A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses , wele , yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio ; a hwy a ofnasant nesáu ato ef . A Moses a alwodd arnynt . Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef : a Moses a lefarodd wrthynt hwy . Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel : ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai . Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt , efe a roddes len gudd ar ei wyneb . A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho , efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan : a phan ddelai efe allan , y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo . A meibion Israel a welsant wyneb Moses , fod croen wyneb Moses yn disgleirio : a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb , hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw . Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel , a dywedodd wrthynt , Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur . Chwe diwrnod y gwneir gwaith ; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd , Saboth gorffwys i’r Arglwydd : llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno . Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth . A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cymerwch o’ch plith offrwm yr Arglwydd : pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd ; aur , ac arian , a phres , A sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a chrwyn daearfoch , a choed Sittim , Ac olew i’r goleuni , a llysiau i olew yr ennaint , ac i’r arogl‐darth peraidd , A meini onics , a meini i’w gosod yn yr effod , ac yn y ddwyfronneg . A phob doeth ei galon yn eich plith , deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ; Y tabernacl , ei babell‐len a’i do , ei fachau a’i ystyllod , ei farrau , ei golofnau , a’i forteisiau , Yr arch , a’i throsolion , y drugareddfa , a’r wahanlen , yr hon a’i gorchuddia , Y bwrdd , a’i drosolion , a’i holl lestri , a’r bara dangos , A chanhwyllbren y goleuni , a’i offer , a’i lampau , ac olew y goleuni , Ac allor yr arogl‐darth , a’i throsolion , ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth peraidd , a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl , Allor y poethoffrwm a’i halch bres , ei throsolion , a’i holl lestri , y noe a’i throed , Llenni’r cynteddfa , ei golofnau , a’i forteisiau , caeadlen porth y cynteddfa , Hoelion y tabernacl , a hoelion y cynteddfa , a’u rhaffau hwynt , A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr , sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef , i offeiriadu ynddynt . A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses . A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef , a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar , a ddaethant , ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd , tuag at waith pabell y cyfarfod , a thuag at ei holl wasanaeth hi , a thuag at y gwisgoedd sanctaidd . A daethant yn wŷr ac yn wragedd ; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau , a chlustlysau , a modrwyau , a chadwynau , pob math ar dlysau aur ; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm , a offrymodd aur i’r Arglwydd . A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main , a blew geifr , a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a chrwyn daearfoch , a’u dygasant . Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres , a ddygasant offrwm i’r Arglwydd : a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant . A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo ; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main . A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd , a nyddasant flew geifr . A’r penaethiaid a ddygasant feini onics , a meini i’w gosod ar yr effod , ac ar y ddwyfronneg ; A llysiau , ac olew i’r goleuni , ac i olew yr ennaint , ac i’r arogl‐darth peraidd . Holl blant Israel , yn wŷr ac yn wragedd , y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur , a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar . A dywedodd Moses wrth feibion Israel , Gwelwch , galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw , Besaleel , fab Uri , fab Hur , o lwyth Jwda : Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw , mewn cyfarwyddyd , mewn deall , ac mewn gwybodaeth , ac mewn pob gwaith ; I ddychmygu cywreinrwydd , i weithio mewn aur , ac mewn arian , ac mewn pres , Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini , ac mewn saernïaeth pren , i weithio ym mhob gwaith cywraint . Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill ; efe , ac Aholïab , mab Achisamach , o lwyth Dan . Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon , i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith , a gwaith edau a nodwydd , mewn sidan glas , ac mewn porffor , ac mewn ysgarlad , ac mewn lliain main , ac i wau , gan wneuthur pob gwaith , a dychmygu cywreinrwydd . Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab , a phob gŵr doeth o galon , y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt , i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd . A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab , a phob gŵr celfydd , y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo ; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef . A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr , i’w weithio ef . A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore . A’r holl rai celfydd , a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr , a ddaethant bob un oddi wrth ei waith , yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur . A llefarasant wrth Moses , gan ddywedyd , Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur . A Moses a roes orchymyn ; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll , gan ddywedyd , Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr . Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy . Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur , a gweddill . A’r holl rai celfydd , o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl , a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd , a sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt . Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain ; a lled un llen pedwar cufydd : yr un mesur oedd i’r holl lenni . Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd ; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd . Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen , ar ei chwr eithaf yn y cydiad : felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall , yng nghydiad yr ail . Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen , a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i’r llen ydoedd yng nghydiad yr ail : y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall . Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur , ac a gydiodd y naill len wrth y llall â’r bachau ; fel y byddai yn un tabernacl . Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr , i fod yn babell‐len ar y tabernacl : yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt . Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain , a lled un llen oedd bedwar cufydd : a’r un mesur oedd i’r un llen ar ddeg . Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain , a chwe llen wrthynt eu hunain . Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad ; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail . Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres , i gydio y babell‐len i fod yn un . Ac efe a wnaeth do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a tho o grwyn daearfoch yn uchaf . Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim , yn eu sefyll . Deg cufydd oedd hyd ystyllen ; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen . Dau dyno oedd i’r un ystyllen , wedi eu gosod mewn trefn , y naill ar gyfer y llall : felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl . Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl ; ugain ystyllen i’r tu deau , tua’r deau . A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen : dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno , a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno . Ac i ail ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , efe a wnaeth ugain ystyllen , A’u deugain mortais o arian ; dwy fortais dan un ystyllen , a dwy fortais dan ystyllen arall . Ac i ystlysau’r tabernacl , tua’r gorllewin , y gwnaeth efe chwech ystyllen . A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys . Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd ; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy : felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl . Ac yr oedd wyth ystyllen ; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian : dwy fortais dan bob ystyllen . Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim : pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl , A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl , a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin . Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr . Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod , ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur , i fyned am y barrau ; ac a wisgodd y barrau ag aur . Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd : â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi . Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur ; a’u pennau oedd o aur : ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian . Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd , o waith edau a nodwydd ; A’i phum colofn , a’u pennau ; ac a oreurodd eu pennau hwynt , a’u cylchau , ag aur : ond eu pum mortais oedd o bres . A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim ; o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled , a chufydd a hanner ei huchder . Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan ; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch . Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl : sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys , a dwy fodrwy ar ei hystlys arall . Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch , i ddwyn yr arch . Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth ; o ddau gufydd a hanner ei hyd , a chufydd a hanner ei lled . Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur : o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt , ar ddau ben y drugareddfa ; Un ceriwb ar y pen o’r tu yma , a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall : o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid , ar ei dau ben hi . A’r ceriwbiaid oeddynt , gan ledu esgyll tuag i fyny , a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa , a’u hwynebau bob un at ei gilydd : wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa . Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim : dau gufydd ei hyd , a chufydd ei led , a chufydd a hanner ei uchder . Ac a osododd aur pur drosto , ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch . Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw ; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch . Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur ; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl , y rhai oedd yn ei bedwar troed . Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau , yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim , ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd . Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd , ei ddysglau ef , a’i lwyau , a’i ffiolau , a’i gaeadau i gau â hwynt , o aur pur . Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth ; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren , ei baladr , ei geinciau , ei bedyll , ei gnapiau , a’i flodau , oedd o’r un . A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau : tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys , a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall . Tair padell ar waith almonau , cnap a blodeuyn oedd ar un gainc ; a thair padell o waith almonau , cnap a blodeuyn ar gainc arall : yr un modd yr oedd ar y chwe chainc , y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren . Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau , ei gnapiau a’i flodau . A chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono , a chnap dan ddwy gainc ohono ; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono . Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un : y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth . Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef , a’i efeiliau , a’i gafnau , o aur pur . O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef , a’i holl lestri . Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim : o gufydd ei hyd , a chufydd ei lled , yn bedeirongl : ac o ddau gufydd ei huchder : ei chyrn oedd o’r un . Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth , ei chaead , a’i hystlysau o amgylch , a’i chyrn ; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch . Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl , ar ei dau ystlys , oddi tan ei choron , i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim ; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur . Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd , a’r arogl‐darth llysieuog pur , o waith yr apothecari . Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim : o bum cufydd ei hyd , a phum cufydd ei lled , yn bedeirongl ; ac yn dri chufydd ei huchder . Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl : ei chyrn hi oedd o’r un ; ac efe a’i gwisgodd hi â phres . Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor , y crochanau , a’r rhawiau , a’r cawgiau , a’r cigweiniau , a’r pedyll tân : ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres . Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres , ar waith rhwyd , dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi . Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres , i fyned am drosolion . Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim ; ac a’u gwisgodd hwynt â phres . Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor , i’w dwyn hi arnynt : yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod . Ac efe a wnaeth noe bres , a’i throed o bres , o ddrychau gwragedd , y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod . Ac efe a wnaeth y cynteddfa : ar yr ystlys deau , tua’r deau , llenni’r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd , o gan cufydd : A’u hugain colofn , ac a’u hugain mortais , o bres : a phennau’r colofnau a’u cylchau , o arian yr oeddynt . Ac ar du’r gogledd , y llenni oedd gan cufydd ; eu hugain colofn , a’u hugain mortais , o bres : a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian . Ac o du’r gorllewin , llenni o ddeg cufydd a deugain : eu deg colofn , a’u deg mortais , a phennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian . Ac i du’r dwyrain tua’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain . Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys , oddeutu drws porth y cynteddfa , lenni o bymtheg cufydd ; eu tair colofn , a’u tair mortais . Holl lenni’r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd . A morteisiau’r colofnau , oedd o bres ; pennau’r colofnau , a’u cylchau , o arian ; a gwisg eu pennau , o arian ; a holl golofnau’r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian . A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd ; ac yn ugain cufydd o hyd , a’i huchder o’i lled yn bum cufydd , ar gyfer llenni’r cynteddfa . Eu pedair colofn hefyd , a’u pedair mortais , oedd o bres ; a’u pennau o arian ; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian . A holl hoelion y tabernacl , a’r cynteddfa oddi amgylch , oedd bres . Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl , sef tabernacl y dystiolaeth , y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses , i wasanaeth y Lefiaid , trwy law Ithamar , mab Aaron yr offeiriad . A Besaleel , mab Uri , mab Hur , o lwyth Jwda , a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A chydag ef yr ydoedd Aholïab , mab Achisamach , o lwyth Dan , saer cywraint , a gwniedydd mewn sidan glas , ac mewn porffor , ac mewn ysgarlad , ac mewn lliain main . Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith , sef yn holl waith y cysegr , sef aur yr offrwm , ydoedd naw talent ar hugain , a saith gan sicl a deg ar hugain , yn ôl sicl y cysegr . Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa , oedd gan talent , a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain , yn ôl sicl y cysegr . Beca am bob pen ; sef hanner sicl , yn ôl sicl y cysegr , am bob un a elai heibio dan rif , o fab ugeinmlwydd ac uchod : sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ac o’r can talent arian y bwriwyd morteisiau’r cysegr , a morteisiau’r wahanlen ; can mortais o’r can talent , talent i bob mortais . Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain , y gwnaeth efe bennau’r colofnau ; ac y gwisgodd eu pennau , ac y cylchodd hwynt . A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain , a dwy fil a phedwar cant o siclau . Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod , a’r allor bres , a’r alch bres yr hon oedd iddi , a holl lestri’r allor ; A morteisiau’r cynteddfa o amgylch , a morteisiau porth y cynteddfa , a holl hoelion y tabernacl , a holl hoelion y cynteddfa o amgylch . Ac o’r sidan glas , a’r porffor , a’r ysgarlad , y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth , i weini yn y cysegr : gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . Ac efe a wnaeth yr effod o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd . A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon , ac a’i torasant yn edafedd , i weithio yn y sidan glas , ac yn y porffor , ac yn yr ysgarlad , ac yn y lliain main , yn waith cywraint . Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio : wrth ei dau gwr y cydiwyd hi . A gwregys cywraint ei effod ef , yr hwn oedd arni , ydoedd o’r un , yn unwaith â hi ; o aur , sidan glas , a phorffor , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd : megis y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur , wedi eu naddu â naddiadau sêl , ag enwau meibion Israel ynddynt . A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod , yn feini coffadwriaeth i feibion Israel ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint , ar waith yr effod ; o aur , sidan glas , porffor hefyd , ac ysgarlad , a lliain main cyfrodedd . Pedeirongl ydoedd ; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg : o rychwant ei hyd , a rhychwant ei lled , yn ddau ddyblyg . A gosodasant ynddi bedair rhes o feini : rhes o sardius , topas , a smaragdus , ydoedd y rhes gyntaf . A’r ail res oedd , carbuncl , saffir , ac adamant . A’r drydedd res ydoedd , lygur , acat , ac amethyst . A’r bedwaredd res ydoedd , beryl , onics , a iasbis ; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd . A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel , yn ddeuddeg , yn ôl eu henwau hwynt ; pob un wrth ei enw oeddynt , o naddiadau sêl , yn ôl y deuddeg llwyth . A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau , yn blethwaith o aur pur . A gwnaethant ddau foglyn aur , a dwy fodrwy o aur ; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg . A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg . A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn ; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod , o’r tu blaen . Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur , ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg , ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod , o’r tu mewn . A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur , ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod , oddi tanodd tua’i thu blaen , ar gyfer ei chydiad , oddi ar wregys yr effod . Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg , erbyn ei modrwyau , wrth fodrwyau yr effod , â llinyn o sidan glas , i fod oddi ar wregys yr effod , fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas , yn weadwaith . A thwll y fantell oedd yn ei chanol , fel twll llurig , a gwrym o amgylch y twll , rhag ei rhwygo . A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau , o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , a lliain cyfrodedd . Gwnaethant hefyd glych o aur pur , ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau , ar odre’r fantell , o amgylch , ymysg y pomgranadau , Cloch a phomgranad , a chloch a phomgranad , ar odre’r fantell o amgylch , i weini ynddynt : megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A hwy a wnaethant beisiau o liain main , o weadwaith , i Aaron ac i’w feibion . A meitr o liain main , a chapiau hardd o liain main , a llodrau lliain o liain main cyfrodedd , A gwregys o liain main cyfrodedd , ac o sidan glas , porffor , ac ysgarlad , o waith edau a nodwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur ; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen , fel naddiad sêl : SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD . A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas , i’w dal hi i fyny ar y meitr ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl , sef pabell y cyfarfod : a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ; felly y gwnaethant . Dygasant hefyd y tabernacl at Moses , y babell a’i holl ddodrefn , ei bachau , ei hystyllod , ei barrau , a’i cholofnau , a’i morteisiau , A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion , a’r to o grwyn daearfoch , a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio ; Arch y dystiolaeth , a’i throsolion , a’r drugareddfa ; Y bwrdd hefyd , a’i holl lestri , a’r bara dangos ; Y canhwyllbren pur , a’i lampau , a’r lampau i’w gosod mewn trefn , ei holl lestri , ac olew i’r goleuni ; A’r allor aur , ac olew yr eneiniad , a’r arogl‐darth llysieuog , a chaeadlen drws y babell ; Yr allor bres , a’r alch bres yr hon oedd iddi , ei throsolion , a’i holl lestri ; y noe a’i throed ; Llenni’r cynteddfa , ei golofnau , a’i forteisiau , a chaeadlen porth y cynteddfa , ei rhaffau , a’i hoelion , a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl , sef pabell y cyfarfod ; Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr , sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad , a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu . Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith . A Moses a edrychodd ar yr holl waith ; ac wele , hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd , felly y gwnaethent : a Moses a’u bendithiodd hwynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Yn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y cyfodi y tabernacl , pabell y cyfarfod . A gosod yno arch y dystiolaeth ; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen . Dwg i mewn hefyd y bwrdd , a threfna ef yn drefnus : dwg i mewn hefyd y canhwyllbren , a goleua ei lampau ef . Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth ; a gosod gaeadlen drws y tabernacl . Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod . Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor , a dod ynddi ddwfr . A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch ; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa . A chymer olew yr eneiniad , ac eneinia’r tabernacl , a’r hyn oll sydd ynddo , a chysegra ef a’i holl lestri ; a sanctaidd fydd . Eneinia hefyd allor y poethoffrwm , a’i holl lestri ; a’r allor a gysegri : a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf . Eneinia y noe a’i throed , a sancteiddia hi . A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod , a golch hwynt â dwfr . A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd ; ac eneinia ef , a sancteiddia ef , i offeiriadu i mi . Dwg hefyd ei feibion ef , a gwisg hwynt â pheisiau . Ac eneinia hwynt , megis yr eneiniaist eu tad hwynt , i offeiriadu i mi : felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol , trwy eu cenedlaethau . Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo ; felly y gwnaeth efe . Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn , ar y dydd cyntaf o’r mis , y codwyd y tabernacl . A Moses a gododd y tabernacl , ac a sicrhaodd ei forteisiau , ac a osododd i fyny ei ystyllod , ac a roddes i mewn ei farrau , ac a gododd ei golofnau ; Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl , ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch , a gosododd y trosolion wrth yr arch , ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch . Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl , ac a osododd y wahanlen orchudd , i orchuddio arch y dystiolaeth ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod , ar ystlys y tabernacl , o du’r gogledd , o’r tu allan i’r wahanlen . Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara , gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod , ar gyfer y bwrdd , ar ystlys y tabernacl , o du’r deau . Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod , o flaen y wahanlen . Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl . Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod ; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor , ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi . A Moses , ac Aaron , a’i feibion , a olchasant yno eu dwylo a’u traed . Pan elent i babell y cyfarfod , a phan nesaent at yr allor , yr ymolchent ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor , ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa . Felly y gorffennodd Moses y gwaith . Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod : a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl . Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod ; am fod y cwmwl yn aros arni , a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl . A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl , y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau . Ac oni chyfodai’r cwmwl , yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai . Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd , a thân ydoedd arno y nos , yng ngolwg holl dŷ Israel , yn eu holl deithiau hwynt . </passage></reply></GetPassage>