<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:20</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:20</urn><passage>Diarhebion Solomon mab Dafydd , brenin Israel ; I wybod doethineb ac addysg , i ddeall geiriau synnwyr ; I gymryd athrawiaeth deall , cyfiawnder , a barn , ac uniondeb ; I roi callineb i’r angall , ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr . Y doeth a wrendy , ac a chwanega addysg ; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog : I ddeall dihareb , a’i deongl ; geiriau y doethion , a’u damhegion . Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth : ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg . Fy mab , gwrando addysg dy dad , ac nac ymado â chyfraith dy fam : Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben , a chadwyni am dy wddf di . Fy mab , os pechaduriaid a’th ddenant , na chytuna . Os dywedant , Tyred gyda ni , cynllwynwn am waed , ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos : Llyncwn hwy yn fyw , fel y bedd ; ac yn gyfan , fel rhai yn disgyn i’r pydew : Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr , nyni a lanwn ein tai ag ysbail : Bwrw dy goelbren yn ein mysg ; bydded un pwrs i ni i gyd : Fy mab , na rodia yn y ffordd gyda hwynt ; atal dy droed rhag eu llwybr hwy . Canys eu traed a redant i ddrygioni , ac a brysurant i dywallt gwaed . Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain . Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun : am eu heinioes eu hun y maent yn llechu . Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw ; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion . Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan ; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd : Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa , yn nrysau y pyrth ; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion , gan ddywedyd , Pa hyd , chwi ynfydion , y cerwch ynfydrwydd ? a chwi watwarwyr , y bydd hoff gennych watwar ? ac y casâ ffyliaid wybodaeth ? Dychwelwch wrth fy ngherydd : wele , mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi , fy ngeiriau a hysbysaf i chwi . Yn gymaint ag i mi eich gwahodd , ac i chwithau wrthod ; i mi estyn fy llaw , a neb heb ystyried ; Ond diystyrasoch fy holl gyngor i , ac ni fynnech ddim o’m cerydd : Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi ; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni ; Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw , ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt ; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi : Yna y galwant arnaf , ond ni wrandawaf ; yn fore y’m ceisiant , ond ni’m cânt : Canys cas fu ganddynt wybodaeth , ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant : Ni chymerent ddim o’m cyngor i ; dirmygasant fy holl gerydd . Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain , a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain . Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd ; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha . Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi , a gaiff aros yn ddiogel , ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg . Fy mab , os derbynni di fy ngeiriau , ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi ; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb , ac y gogwyddech dy galon at ddeall ; Ie , os gwaeddi ar ôl gwybodaeth , os cyfodi dy lef am ddeall ; Os ceisi hi fel arian , os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig ; Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd , ac y cei wybodaeth o Dduw . Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb : allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod . Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb : tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn . Y mae efe yn cadw llwybrau barn , ac yn cadw ffordd ei saint . Yna y cei di ddeall cyfiawnder , a barn , ac uniondeb , a phob llwybr daionus . Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon , a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth ; Yna cyngor a’th gynnal , a synnwyr a’th geidw : I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg , ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd ; Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb , i rodio mewn ffyrdd tywyllwch ; Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg , ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus ; Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion , ac yn gildyn yn eu llwybrau : I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd , oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau ; Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid , ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw . Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau , a’i llwybrau at y meirw . Pwy bynnag a elo i mewn ati hi , ni ddychwelant , ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd . Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da , a chadw llwybrau y cyfiawn . Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear , a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi . Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear , a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni . Fy mab , na ollwng fy nghyfraith dros gof ; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion : Canys hir ddyddiau , a blynyddoedd bywyd , a heddwch , a chwanegant hwy i ti . Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf , ysgrifenna hwy ar lech dy galon . Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion . Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon ; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun . Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef , ac efe a hyfforddia dy lwybrau . Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun : ofna yr Arglwydd , a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni . Hynny a fydd iechyd i’th fogail , a mêr i’th esgyrn . Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth , ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth : Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb , a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd . Fy mab , na ddirmyga gerydd yr Arglwydd ; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef ; Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu , efe a’i cerydda , megis tad ei fab annwyl ganddo . Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb , a’r dyn a ddygo ddeall allan . Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian , a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth . Gwerthfawrocach yw hi na gemau : a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi . Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant . Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch , a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch . Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi : a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi . Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear ; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd . Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau , ac y defnynna yr wybrennau wlith . Fy mab , na ollwng hwynt allan o’th olwg : cadw ddoethineb a phwyll . Yna y byddant yn fywyd i’th enaid , ac yn ras i’th wddf . Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal , a’th droed ni thramgwydda . Pan orweddych , nid ofni ; ti a orweddi , a’th gwsg fydd felys . Nac ofna rhag braw disymwth , na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo . Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di , ac a geidw dy droed rhag ei ddal . Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt , pan fyddo ar dy law ei wneuthur . Na ddywed wrth dy gymydog , Cerdda ymaith , a thyred amser arall , ac yfory mi a roddaf ; a chennyt beth yn awr . Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog , ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl . Nac ymryson â neb heb achos , os efe ni wnaeth ddrwg i ti . Na chenfigenna wrth ŵr traws , ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef . Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn : ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef . Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol : ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn . Diau efe a watwar y gwatwarus : ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig . Y doethion a etifeddant anrhydedd , a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid . Gwrandewch , blant , addysg tad , ac erglywch i ddysgu deall . Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda : na wrthodwch fy nghyfraith . Canys yr oeddwn yn fab i’m tad , yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam . Efe a’m dysgai , ac a ddywedai wrthyf , Dalied dy galon fy ngeiriau : cadw fy ngorchmynion , a bydd fyw . Cais ddoethineb , cais ddeall : na ad dros gof , ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau . Nac ymâd â hi , a hi a’th geidw : câr hi , a hi a’th wared di . Pennaf peth yw doethineb : cais ddoethineb ; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall . Dyrchafa di hi , a hithau a’th ddyrchafa di : hi a’th ddwg di i anrhydedd , os cofleidi hi . Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di : ie , hi a rydd i ti goron gogoniant . Gwrando , fy mab , a derbyn fy ngeiriau ; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir . Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb ; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb . Pan rodiech , dy gerddediad ni bydd gyfyng ; a phan redech , ni thramgwyddi . Ymafael mewn addysg , ac na ollwng hi : cadw hi ; canys dy fywyd di yw hi . Na ddos i lwybr yr annuwiolion , ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus . Gochel hi , na ddos ar hyd‐ddi ; cilia oddi wrthi hi , a dos heibio . Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg ; a’u cwsg a gollant , nes iddynt gwympo rhyw ddyn . Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb , ac yn yfed gwin trais . Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni , yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd . Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch : ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant . Fy mab , gwrando ar fy ngeiriau : gogwydda dy glust at fy ymadroddion . Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg : cadw hwynt yng nghanol dy galon . Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont , ac iechyd i’w holl gnawd . Cadw dy galon yn dra diesgeulus ; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod . Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd , a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt . Edryched dy lygaid yn uniawn ; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen . Ystyria lwybr dy draed : a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn . Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy ; symud dy droed oddi wrth ddrygioni . Fy mab , gwrando ar fy noethineb , a gostwng dy glust at fy neall : Fel y gellych ystyried pwyll , a’th wefusau gadw gwybodaeth . Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl , a’i genau sydd lyfnach nag olew : Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod , yn llym fel cleddyf daufiniog . Ei thraed hi a ddisgynnant i angau ; a’i cherddediad a sang uffern . Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd , y symud ei chamre hi , heb wybod i ti . Yr awr hon gan hynny , O blant , gwrandewch arnaf fi , ac na ymadewch â geiriau fy ngenau . Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi , ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi : Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill , a’th flynyddoedd i’r creulon : Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di , ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr ; Ac o’r diwedd i ti ochain , wedi i’th gnawd a’th gorff gurio , A dywedyd , Pa fodd y caseais i addysg ! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd ! Ac na wrandewais ar lais fy athrawon , ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr ! Bûm o fewn ychydig at bob drwg , yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa . Yf ddwfr o’th bydew dy hun , a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun . Tardded dy ffynhonnau allan , a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd . Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig , ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi . Bydded dy ffynnon yn fendigedig : ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid . Bydded fel ewig gariadus , ac fel iyrches hawddgar : gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser , ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol . A phaham , fy mab , yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr , ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti ? Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd , ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef . Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol , ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun . Efe a fydd farw o eisiau addysg ; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn . Fy mab , os mechnïaist dros dy gymydog , ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr , Ti a faglwyd â geiriau dy enau , ti a ddaliwyd â geiriau dy enau . Gwna hyn yr awr hon , fy mab , a gwared dy hun , gan i ti syrthio i law dy gymydog ; cerdda , ac ymostwng iddo , ac ymbil â’th gymydog . Na ddyro gwsg i’th lygaid , na hun i’th amrantau . Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr , ac fel aderyn o law yr adarwr . Cerdda at y morgrugyn , tydi ddiogyn ; edrych ar ei ffyrdd ef , a bydd ddoeth : Nid oes ganddo neb i’w arwain , i’w lywodraethu , nac i’w feistroli ; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf , ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf . Pa hyd , ddiogyn , y gorweddi ? pa bryd y cyfodi o’th gwsg ? Eto ychydig gysgu , ychydig hepian , ychydig blethu dwylo i gysgu . Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd , a’th angen fel gŵr arfog . Dyn i’r fall , a gŵr anwir , a rodia â genau cyndyn . Efe a amneidia â’i lygaid , efe a lefara â’i draed , efe a ddysg â’i fysedd . Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon ; y mae yn dychymyg drygioni bob amser , yn peri cynhennau . Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth : yn ddisymwth y dryllir ef , fel na byddo meddyginiaeth . Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd : ie , saith beth sydd ffiaidd ganddo ef : Llygaid beilchion , tafod celwyddog , a’r dwylo a dywalltant waed gwirion , Y galon a ddychmygo feddyliau drwg , traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni , Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd , a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr . Fy mab , cadw orchymyn dy dad , ac nac ymado â chyfraith dy fam . Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol ; clwm hwynt am dy wddf . Pan rodiech , hi a’th gyfarwydda ; pan orweddych , hi a’th wylia ; pan ddeffroych , hi a gydymddiddan â thi . Canys cannwyll yw y gorchymyn ; a goleuni yw y gyfraith ; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg : I’th gadw rhag y fenyw ddrwg , a rhag gweniaith tafod y ddieithr . Na chwennych ei phryd hi yn dy galon ; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau . Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara ; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr . A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes , heb losgi ei ddillad ? A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor , ac heb losgi ei draed ? Felly , pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog ; y neb a gyffyrddo â hi , ni bydd lân . Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid , pan fyddo arno newyn : Ond os delir ef , efe a dâl yn saith ddyblyg ; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ . Ond y neb a wnêl odineb â benyw , sydd heb synnwyr ; y neb a’i gwnêl , a ddifetha ei enaid ei hun . Archoll a gwarth a gaiff efe ; a’i gywilydd ni ddileir . Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr ; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial . Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn ; ac ni fodlonir ef , er rhoi rhoddion lawer . Fy mab , cadw fy ngeiriau , a chuddia fy ngorchmynion gyda thi . Cadw fy ngorchmynion , a bydd fyw ; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad . Rhwym hwynt am dy fysedd , ysgrifenna hwynt ar lech dy galon . Dywed wrth ddoethineb , Fy chwaer wyt ti ; galw ddeall yn gares : Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr , a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus . Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt , A mi a welais ymysg y ffyliaid , ie , mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid , ddyn ieuanc heb ddeall ganddo , Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi ; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi , Yn y cyfnos gyda’r hwyr , pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll : Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef , a chanddi ymddygiad putain , ac â chalon ddichellgar . ( Siaradus ac anufudd yw hi ; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ : Weithiau yn y drws , weithiau yn yr heolydd , ac yn cynllwyn ym mhob congl . ) Hi a ymafaelodd ynddo , ac a’i cusanodd , ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho , Yr oedd arnaf fi aberthau hedd ; heddiw y cywirais fy adduned : Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi , i chwilio am dy wyneb ; a chefais afael arnat . Mi a drwsiais fy ngwely â llenni , ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft . Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr , aloes , a sinamon . Tyred , moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore ; ymhyfrydwn â chariad . Canys nid yw y gŵr gartref ; efe a aeth i ffordd bell : Efe a gymerth godaid o arian yn ei law ; efe a ddaw adref ar y dydd amodol . Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg , ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef . Efe a’i canlynodd hi ar frys , fel yr ych yn myned i’r lladdfa , neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi : Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef ; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl , heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef . Yn awr gan hynny , fy meibion , gwrandewch arnaf fi , ac ystyriwch eiriau fy ngenau . Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi , na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi . Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig ; ie , gwŷr grymus lawer a laddodd hi . Ffordd i uffern yw ei thŷ hi , yn disgyn i ystafelloedd angau . Onid yw doethineb yn gweiddi ? a deall yn llefain ? Ym mhen lleoedd uchel , gerllaw y ffordd , lle mae llwybrau lawer , y mae hi yn sefyll . Gerllaw y pyrth , ym mhen y dref , yn ymyl y drysau , y mae hi yn llefain : Arnoch chwi , wŷr , yr wyf fi yn galw ; ac at feibion dynion y mae fy llais . Ha ynfydion , deellwch gyfrwyster ; a chwi wŷr angall , byddwch o galon ddeallus . Gwrandewch : canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog ; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn . Canys fy ngenau a draetha wirionedd ; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni . Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn ; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd . Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo , ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth . Derbyniwch fy addysg , ac nid arian ; a gwybodaeth o flaen aur etholedig . Canys gwell yw doethineb na gemau : nid oes dim dymunol cyffelyb iddi . Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb : yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor . Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni : balchder , ac uchder , a ffordd ddrygionus , a’r genau traws , sydd gas gennyf fi . Mi biau cyngor , a gwir ddoethineb : deall ydwyf fi ; mi biau nerth . Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd , ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder . Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion , sef holl farnwyr y ddaear . Y sawl a’m carant i , a garaf finnau ; a’r sawl a’m ceisiant yn fore , a’m cânt . Gyda myfi y mae cyfoeth , ac anrhydedd , golud parhaus , a chyfiawnder . Gwell yw fy ffrwyth i nag aur , ie , nag aur coeth ; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig . Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf , ar hyd canol llwybrau barn : I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd : a mi a lanwaf eu trysorau . Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd , cyn ei weithredoedd erioed . Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd , er y dechreuad , cyn bod y ddaear . Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd , cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd . Cyn sylfaenu y mynyddoedd , o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd : Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear , na’r meysydd , nac uchder llwch y byd . Pan baratôdd efe y nefoedd , yr oeddwn i yno : pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder : Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben : a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder : Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr , ac i’r dyfroedd , na thorrent ei orchymyn ef : pan osododd efe sylfeini y ddaear : Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef : ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd , yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser ; Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef ; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion . Yr awron gan hynny , O feibion , gwrandewch arnaf ; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i . Gwrandewch addysg , a byddwch ddoethion ; nac ymwrthodwch â hi . Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf , ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau , gan warchod wrth byst fy mhyrth i . Canys y neb a’m caffo i , a gaiff fywyd , ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd . Ond y neb a becho yn fy erbyn , a wna gam â’i enaid ei hun : fy holl gaseion a garant angau . Doethineb a adeiladodd ei thŷ , hi a naddodd ei saith golofn . Hi a laddodd ei hanifeiliaid ; hi a gymysgodd ei gwin , ac a huliodd ei bwrdd . Hi a yrrodd ei llawforynion : y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas : Pwy bynnag sydd annichellgar , tröed i mewn yma : ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd , Deuwch , a bwytewch o’m bara , ac yfwch o’r gwin a gymysgais . Ymadewch â’r rhai ffôl , a byddwch fyw ; a cherddwch yn ffordd deall . Yr hwn a geryddo watwarwr , a gaiff waradwydd iddo ei hun : a’r hwn a feio ar y drygionus , a gaiff anaf . Na cherydda watwarwr , rhag iddo dy gasáu : cerydda y doeth , ac efe a’th gâr di . Dyro addysg i’r doeth , ac efe fydd doethach : dysg y cyfiawn , ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth . Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd : a gwybodaeth y sanctaidd yw deall . Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau , ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes . Os doeth fyddi , doeth fyddi i ti dy hun : ond os gwatwarwr fyddi , tydi dy hun a’i dygi . Gwraig ffôl a fydd siaradus ; angall yw , ac ni ŵyr ddim : Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ , ar fainc , yn y lleoedd uchel yn y ddinas , I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio , y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn : Pwy bynnag sydd ehud , tröed yma : a phwy bynnag sydd ddisynnwyr , a hi a ddywed wrtho , Dyfroedd lladrad sydd felys , a bara cudd sydd beraidd . Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno ; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern . Diarhebion Solomon . Mab doeth a wna dad llawen , a mab ffôl a dristâ ei fam . Ni thycia trysorau drygioni : ond cyfiawnder a wared rhag angau . Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu : ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus . Y neb a weithio â llaw dwyllodrus , fydd dlawd : ond llaw y diwyd a gyfoethoga . Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf : ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf . Bendithion fydd ar ben y cyfiawn : ond trawsedd a gae ar enau y drygionus . Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig : ond enw y drygionus a bydra . Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion : ond y ffôl ei wefusau a gwymp . Y neb a rodio yn uniawn , a rodia yn ddiogel : ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd , a fydd hynod . Y neb a amneidio â’i lygaid , a bair flinder : a’r ffôl ei wefusau a gwymp . Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn : ond trawsedd a gae ar enau y drygionus . Casineb a gyfyd gynhennau : ond cariad a guddia bob camwedd . Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb : ond gwialen a weddai i gefn yr angall . Y doethion a ystoriant wybodaeth : ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl . Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef : ond dinistr y tlodion yw eu tlodi . Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd : ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod . Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg : ond y neb a wrthodo gerydd , sydd yn cyfeiliorni . A guddio gas â gwefusau celwyddog , a’r neb a ddywed enllib , sydd ffôl . Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod : ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol . Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig : calon y drygionus ni thâl ond ychydig . Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer : ond y ffyliaid , o ddiffyg synnwyr , a fyddant feirw . Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga ; ac ni ddwg flinder gyda hi . Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg : a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb . Y peth a ofno y drygionus , a ddaw iddo : ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn , Duw a’i rhydd . Fel y mae y corwynt yn myned heibio , felly ni bydd y drygionus mwy : ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth . Megis finegr i’r dannedd , a mwg i’r llygaid , felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant . Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau : ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir . Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd : ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano . Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i’r perffaith : ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd . Y cyfiawn nid ysgog byth : ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear . Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb : a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith . Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy ; ond genau y drygionus a lefara drawsedd . Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef . Pan ddêl balchder , fe ddaw gwarth : ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb . Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt : ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt . Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint : ond cyfiawnder a wared rhag angau . Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef : ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus . Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt : ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni . Pan fyddo marw dyn drygionus , fe a ddarfu am ei obaith ef : a gobaith y traws a gyfrgollir . Y cyfiawn a waredir o gyfyngder , a’r drygionus a ddaw yn ei le ef . Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog : ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth . Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn : a phan gyfrgoller y drygionus , y bydd gorfoledd . Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas : ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi . Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog ; ond y synhwyrol a dau â sôn . Yr hwn a rodia yn athrodwr , a ddatguddia gyfrinach : ond y ffyddlon ei galon a gela y peth . Lle ni byddo cyngor , y bobl a syrthiant : ond lle y byddo llawer o gynghorwyr , y bydd diogelwch . Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn : ond y neb a gasao fachnïaeth , fydd ddiogel . Gwraig rasol a gaiff anrhydedd ; a’r galluog a gânt gyfoeth . Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun : ond y creulon a flina ei gnawd ei hun . Y drygionus a wna waith twyllodrus : ond i’r neb a heuo gyfiawnder , y bydd gwobr sicr . Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd : felly dilyn drygioni a dywys i angau . Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau : eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd . Er maint fyddo cymorth , y drygionus ni bydd ddieuog : ond had y cyfiawn a waredir . Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch , yw benyw lân heb synnwyr . Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig : ond gobaith y drygionus sydd ddicter . Rhyw un a wasgar ei dda , ac efe a chwanegir iddo : a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai , ac a syrth i dlodi . Yr enaid hael a fraseir : a’r neb a ddyfrhao , a ddyfrheir yntau hefyd . Y neb a atalio ei ŷd , y bobl a’i melltithia : ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho . Y neb a ddyfal geisio ddaioni , a ennill ewyllys da : ond y neb a geisio ddrwg , iddo ei hun y daw . Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth , a syrth : ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen . Y neb a flino ei dŷ ei hun , a berchenoga y gwynt : a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon . Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd : a’r neb a enillo eneidiau , sydd ddoeth . Wele , telir i’r cyfiawn ar y ddaear : pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur ? Yneb a garo addysg , a gâr wybodaeth : ond y neb a gasao gerydd , anifeilaidd yw . Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd : ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe . Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni : ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga . Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr : ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef . Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn : a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus . Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed : ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt . Difethir y drygionus , fel na byddont hwy : ond tŷ y cyfiawn a saif . Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr : ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir . Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael , ac sydd was iddo ei hun , na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun , ac sydd arno eisiau bara . Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail : ond tosturi y drygionus sydd greulon . Y neb a lafurio ei dir , a ddigonir o fara : ond y neb a ganlyno oferwyr , disynnwyr yw . Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus : ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth . Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus : ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder . Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni ; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo . Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun ; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall . Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd : ond y call a guddia gywilydd . Y neb a ddywedo y gwir , a ddengys gyfiawnder ; ond gau dyst a draetha dwyll . Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf : ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth . Gwefus gwirionedd a saif byth : ond tafod celwyddog ni saif funud awr . Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg : ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd . Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder ; ond y drygionus a lenwir â drwg . Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog : ond y rhai a wnânt yn ffyddlon , a ryngant fodd iddo ef . Gŵr pwyllog a gela wybodaeth : ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb . Llaw y diesgeulus a deyrnasa : a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged . Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu : ond gair da a’i llawenha hi . Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog : ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt . Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth : ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr . Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd ; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth . Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad : ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd . Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau : ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd . Y neb a geidw ei enau , a geidw ei einioes : ond y neb a ledo ei wefusau , a ddinistrir . Enaid y diog a ddeisyf , ac ni chaiff ddim : ond enaid y diwyd a wneir yn fras . Cas gan y cyfiawn gelwydd : ond y drygionus sydd ffiaidd , ac a ddaw i gywilydd . Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd : ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur . Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog , ac heb ddim ganddo : ac arall ei fod yn dlawd , a chyfoeth lawer iddo . Iawn am einioes gŵr yw ei dda : ond y tlawd ni chlyw gerydd . Goleuni y cyfiawn a lawenha : ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir . Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen : ond gyda’r pwyllog y mae doethineb . Golud a gasgler trwy oferedd , a leiheir ; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega . Gobaith a oeder a wanha y galon : ond pren y bywyd yw deisyfiad , pan ddêl i ben . Yr hwn a ddirmygo y gair , a ddifethir : ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn , a obrwyir . Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd , i gilio oddi wrth faglau angau . Deall da a ddyry ras : ond ffordd troseddwyr sydd galed . Pob call a wna bethau trwy wybodaeth : ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd . Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni ; ond cennad ffyddlon sydd iechyd . Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg : ond yr hwn a gadwo gerydd , a anrhydeddir . Dymuniad wedi ei gyflawni , sydd felys gan yr enaid : ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni . Yr hwn a rodia gyda doethion , fydd doeth : ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion , a gystuddir . Drygfyd a erlyn bechaduriaid : ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn . Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion : a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn . Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion : ond y mae a ddinistrir o eisiau barn . Yr hwn a arbedo y wialen , sydd yn casáu ei fab : ond yr hwn a’i câr ef , a’i cerydda mewn amser . Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid : ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau . Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ : ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo . Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder , sydd yn ofni yr Arglwydd ; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd , sydd yn ei ddirmygu ef . Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder : ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt . Lle nid oes ychen , glân yw y preseb : ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych . Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd ; ond gau dyst a draetha gelwyddau . Y gwatwarwr a gais ddoethineb , ac nis caiff : ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus . Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth . Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun : ond ffolineb y ffyliaid yw twyll . Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd : ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da . Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun : a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi . Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir : ond pabell y rhai uniawn a flodeua . Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn : ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau . Ie , wrth chwerthin y bydd blin ar y galon ; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch . Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun : ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef . Yr ehud a goelia bob gair : a’r call a ddeil ar ei gamre . Y doeth sydd yn ofni , ac yn cilio oddi wrth ddrygioni : ond y ffôl sydd ffrom a hyderus . Gŵr dicllon a wna ffolineb : a chas yw y gŵr dichellgar . Y rhai ehud a etifeddant ffolineb : ond y rhai call a goronir â gwybodaeth . Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus : a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn . Y tlawd a gaseir , ie , gan ei gymydog ei hun : ond llawer fydd yn caru y cyfoethog . A ddirmygo ei gymydog , sydd yn pechu : ond y trugarog wrth y tlawd , gwyn ei fyd ef . Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni ? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni . Ym mhob llafur y mae elw : ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi . Coron y doethion yw eu cyfoeth : ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb . Tyst ffyddlon a weryd eneidiau : ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau . Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn : ac i’w blant ef y bydd noddfa . Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd , i ddianc rhag maglau angau . Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin : ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog . Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr : ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd . Calon iach yw bywyd y cnawd : ond cenfigen a bydra yr esgyrn . Y neb a orthryma y tlawd , a gywilyddia ei Greawdydd : ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus , a’i hanrhydedda ef . Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni : ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw . Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call : ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir . Cyfiawnder a ddyrchafa genedl : ond cywilydd pobloedd yw pechod . Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol : ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus . Ateb arafaidd a ddetry lid : ond gair garw a gyffry ddigofaint . Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda : ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb . Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd , yn canfod y drygionus a’r daionus . Pren y bywyd yw tafod iach : ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd . Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad : ond y neb a ddioddefo gerydd , sydd gall . Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth : ond am olud yr annuwiol y mae trallod . Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth : ond calon y ffyliaid ni wna felly . Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo . Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder . Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd : a’r neb a gasao gerydd , a fydd marw . Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd : pa faint mwy , calonnau plant dynion ? Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo ; ac nid â at y doethion . Calon lawen a wna wyneb siriol : ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd . Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth : ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb . Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin : ond gwledd wastadol yw calon lawen . Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd , na thrysor mawr a thrallod gydag ef . Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad , nag ych pasgedig a chas gydag ef . Gŵr dicllon a gyffry gynnen : ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson . Ffordd y diog sydd fel cae drain : ond ffordd yr uniawn sydd wastad . Mab doeth a lawenha ei dad : ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam . Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd : ond gŵr deallus a rodia yn uniawn . Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor : ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt . Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau ; ac O mor dda yw gair yn ei amser ! Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol , i ochel uffern obry . Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion : ond efe a sicrha derfyn y weddw . Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd : ond geiriau y glân ŷnt beraidd . Y neb a fyddo dra chwannog i elw , a derfysga ei dŷ : ond y neb a gasao roddion , fydd byw . Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb : ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg . Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol : ond efe a wrendy weddi y cyfiawn . Llewyrch y llygaid a lawenha y galon : a gair da a frasâ yr esgyrn . Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd , a breswylia ymhlith y doethion . Y neb a wrthodo addysg , a ddiystyra ei enaid ei hun : ond y neb a wrandawo ar gerydd , a feddianna ddeall . Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd ; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd . Paratoad y galon mewn dyn , ac ymadrodd y tafod , oddi wrth yr Arglwydd y mae . Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun : ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion . Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd , a’th feddyliau a safant . Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun : a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg . Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon : er maint fyddo ei gymorth , ni bydd dieuog . Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod : a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg . Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd , efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef . Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder , na chnwd mawr trwy gam . Calon dyn a ddychymyg ei ffordd : ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef . Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin : ni ŵyra ei enau ef mewn barn . Pwys a chloriannau cywir , yr Arglwydd a’u piau : ei waith ef yw holl gerrig y god . Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb : canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd . Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd ; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn . Digofaint y brenin sydd megis cennad angau ; ond gŵr doeth a’i gostega . Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd : a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar . Cael doethineb , O mor well yw nag aur coeth ! a chael deall , mwy dymunol yw nag arian . Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg : y neb a gadwo ei ffordd , a geidw ei enaid . Balchder sydd yn myned o flaen dinistr : ac uchder ysbryd o flaen cwymp . Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig , na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion . A drino fater yn ddoeth , a gaiff ddaioni : a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , O gwyn ei fyd hwnnw ! Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus ; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth . Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog : ond addysg ffyliaid yw ffolineb . Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol , ac a chwanega addysg i’w wefusau . Geiriau teg ydynt megis dil mêl , yn felys i’r enaid , ac yn iachus i’r esgyrn . Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn : ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth . Y neb a lafurio , a lafuria iddo ei hun : canys ei enau a’i gofyn ganddo . Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg : ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth . Dyn cyndyn a bair ymryson : a’r hustyngwr a neilltua dywysogion . Gŵr traws a huda ei gymydog , ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda . Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd ; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben . Coron anrhydeddus yw penllwydni , os bydd mewn ffordd cyfiawnder . Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn ; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun , na’r hwn a enillo ddinas . Y coelbren a fwrir i’r arffed : ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef . Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef , na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson . Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus ; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr . Y tawddlestr sydd i’r arian , a’r ffwrn i’r aur : ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd . Y drygionus a wrendy ar wefus anwir : a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg . Y neb a watwaro y tlawd , sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef : a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd , ni bydd dieuog . Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion : ac anrhydedd y plant yw eu tadau . Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol ; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog . Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog : pa le bynnag y tro , hi a ffynna . Y neb a guddia bechod , sydd yn ceisio cariad : ond y neb a adnewydda fai , sydd yn neilltuo tywysogion . Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith . Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig : a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef . Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon , nag â’r ffôl yn ei ffolineb . Y neb a dalo ddrwg dros dda , nid ymedy drwg â’i dŷ ef . Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae : am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni . Y neb a gyfiawnhao y drygionus , ac a gondemnio y gwirion ; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau . Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb , ac yntau heb galon ganddo ? Cydymaith a gâr bob amser : a brawd a anwyd erbyn caledi . Dyn heb bwyll a dery ei law , ac a fachnïa o flaen ei gyfaill . Y neb sydd hoff ganddo ymsennu , sydd hoff ganddo bechod ; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel , sydd yn ceisio niwed . Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni : a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod , a syrth i ddrwg . Y neb a genhedlo un ffôl , a ennill iddo ei hun dristwch : ac ni bydd lawen tad yr ynfyd . Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth : ond meddwl trwm a sych yr esgyrn . Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes , i gamdroi llwybrau barn . Doethineb sydd yn wyneb y deallgar : ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd . Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad , a chwerwder i’w fam . Hefyd nid da cosbi y cyfiawn , na tharo penaethiaid , pan fyddant ar yr iawn . Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion : a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd . Y ffôl , tra tawo , a gyfrifir yn ddoeth ; a’r neb a gaeo ei wefusau , yn ddeallus . Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun , ac a ymyrra â phob peth . Y ffôl nid hoff ganddo ddeall ; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun . Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch , a chyda gogan , gwaradwydd . Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion ; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo . Nid da derbyn wyneb yr annuwiol , i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn . Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen , a’i enau a eilw am ddyrnodiau . Genau y ffôl yw ei ddinistr , a’i wefusau sydd fagl i’w enaid . Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion , ac a ddisgynnant i gilfachau y bol . Y neb a fyddo diog yn ei waith , sydd frawd i’r treulgar . Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd : ato y rhed y cyfiawn , ac y mae yn ddiogel . Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn , ac yn fur uchel , yn ei dyb ei hun . Cyn dinistr y balchïa calon gŵr ; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd . Y neb a atebo beth cyn ei glywed , ffolineb a chywilydd fydd iddo . Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef : ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd ? Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth ; a chlust y doethion a gais wybodaeth . Rhodd dyn a ehanga arno , ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid . Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn : ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef . Y coelbren a wna i gynhennau beidio , ac a athrywyn rhwng cedyrn . Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier , na dinas gadarn : a’u hymryson sydd megis trosol castell . A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol ; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef . Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod : a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef . Y neb sydd yn cael gwraig , sydd yn cael peth daionus , ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd . Y tlawd a ymbil ; a’r cyfoethog a etyb yn erwin . Y neb y mae iddo gyfeillion , cadwed gariad : ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd . Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb , na’r traws ei wefusau , ac yntau yn ffôl . Hefyd , bod yr enaid heb wybodaeth , nid yw dda ; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha . Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef : a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd . Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion : ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog . Tyst celwyddog ni bydd dieuog : a lluniwr celwyddau ni ddianc . Llawer a ymbiliant o flaen pendefig : a phawb sydd gyfaill i’r hael . Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef : pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho ? er maint a ymnheddo , ni throant ato . A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid : a gadwo ddeall a ennill ddaioni . Tyst celwyddog ni bydd dieuog ; a thraethwr celwyddau a ddifethir . Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch : anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid . Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef : a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd . Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc : ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt . Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad : ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus . Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau : ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog . Syrthni a bair drymgwsg : ac enaid twyllodrus a newyna . Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid : a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw . Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd , sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd ; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn . Cerydda dy fab tra fyddo gobaith ; ac nac arbeded dy enaid ef , i’w ddifetha . Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth : canys os ti a’i gwaredi , rhaid i ti wneuthur hynny drachefn . Gwrando gyngor , a chymer addysg ; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd . Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn : ond cyngor yr Arglwydd , hwnnw a saif . Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef : a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog . Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd : a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall , heb i ddrwg ymweled ag ef . Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes , ac ni estyn hi at ei enau . Taro watwarwr , a’r ehud fydd gyfrwysach : a phan geryddych y deallus , efe a ddeall wybodaeth . Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr . Fy mab , paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth . Tyst y fall a watwar farn : a genau y drygionus a lwnc anwiredd . Barn sydd barod i’r gwatwarwyr , a chleisiau i gefn y ffyliaid . Gwatwarus yw gwin , a therfysgaidd yw diod gadarn : pwy bynnag a siomir ynddi , nid yw ddoeth . Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin : y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun . Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson : ond pob ffôl a fyn ymyrraeth . Y diog nid ardd , oherwydd oerder y gaeaf ; am hynny y cardota efe y cynhaeaf , ac ni chaiff ddim . Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr : eto y gŵr call a’i tyn allan . Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun : ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon ? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb : gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef . Brenin yn eistedd ar orsedd barn , a wasgar â’i lygaid bob drwg . Pwy a ddichon ddywedyd , Mi a lanheais fy nghalon , glân wyf oddi wrth fy mhechod ? Amryw bwysau , ac amryw fesurau , ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau . Bachgen a adwaenir wrth ei waith , ai pur ai uniawn yw ei waith . Y glust yn clywed , a’r llygad yn gweled , yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau . Na châr gysgu , rhag dy fyned yn dlawd : agor dy lygaid , fel y’th ddigoner â bara . Drwg , drwg , medd y prynwr : ond pan êl o’r neilltu , efe a ymffrostia . Y mae aur , a gemau lawer : ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr . Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron ; a chymer wystl ganddo dros estrones . Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd : ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean . Bwriadau a sicrheir trwy gyngor : a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela . Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach : am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau . Y neb a felltithio ei dad neu ei fam , ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du . Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad ; ond ei diwedd ni fendithir . Na ddywed , Mi a dalaf ddrwg : disgwyl wrth yr Arglwydd , ac efe a’th achub . Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau ; a chlorian twyllodrus nid yw dda . Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr : ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun ? Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig ; ac wedi addunedu , ymofyn . Brenin doeth a wasgar yr annuwiol , ac a dry yr olwyn arnynt . Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn , yn chwilio holl gelloedd y bol . Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin ; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd . Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth ; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn . Cleisiau briw a lanha ddrwg : felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol . Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd : efe a’i try hi lle y mynno . Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun : ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau . Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth . Uchder golwg , a balchder calon , ac âr yr annuwiol , sydd bechod . Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig : ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig . Trysorau a gasgler â thafod celwyddog , a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau . Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt , am iddynt wrthod gwneuthur barn . Trofaus a dieithr yw ffordd dyn : ond y pur sydd uniawn ei waith . Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ , na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang . Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg : nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef . Pan gosber gwatwarwr , y bydd yr ehud gallach : a phan ddysger y doeth , efe a dderbyn wybodaeth . Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol : ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni . Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd , a lefain ei hunan , ac nis gwrandewir ef . Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint ; a gwobr yn y fynwes , lid cryf . Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn : ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd . Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall , a orffwys yng nghynulleidfa y meirw . Y neb a garo ddifyrrwch , a ddaw i dlodi : a’r neb a garo win ac olew , ni bydd gyfoethog . Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn , a’r troseddwr dros yr uniawn . Gwell yw aros yn yr anialwch , na chyda gwraig anynad ddicllon . Y mae trysor dymunol , ac olew , yn nhrigfa y doeth ; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt . Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd , a gaiff fywyd , cyfiawnder , ac anrhydedd . Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn , ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno . Y neb a gadwo ei enau a’i dafod , a geidw ei enaid rhag cyfyngder . Y balch a’r gwatwarwr uchel , yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch . Deisyfiad y diog a’i lladd : canys ei ddwylo a wrthodant weithio : Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd : ond y cyfiawn a rydd , ac ni arbed . Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd : pa faint mwy , pan offrymant mewn meddwl drwg ? Tyst celwyddog a ddifethir : ond y gŵr a wrandawo , a lefara yn wastad . Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb : ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd . Nid oes doethineb , na deall , na chyngor , yn erbyn yr Arglwydd . Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr : ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd . Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer ; a gwell yw ffafr dda nag arian , ac nag aur . Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant : yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll . Y call a genfydd y drwg , ac a ymgûdd : ond y ffyliaid a ânt rhagddynt , ac a gosbir . Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd , yw cyfoeth , ac anrhydedd , a bywyd . Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn : y neb a gadwo ei enaid , a fydd bell oddi wrthynt hwy . Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd ; a phan heneiddio nid ymedy â hi . Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd ; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg . Y neb a heuo anwiredd a fed flinder ; a gwialen ei ddigofaint ef a balla . Yr hael ei lygad a fendithir : canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd . Bwrw allan y gwatwarwr , a’r gynnen a â allan ; ie , yr ymryson a’r gwarth a dderfydd . Y neb a garo lendid calon , am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo . Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth ; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr . Medd y diog , Y mae llew allan ; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd . Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr : y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho , a syrth yno . Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn ; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho . Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth , a’r neb a roddo i’r cyfoethog , a ddaw i dlodi yn ddiamau . Gogwydda dy glust , a gwrando eiriau y doethion , a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth . Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon ; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau . Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd , yr hysbysais i ti heddiw , ie , i ti . Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth , I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd , fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonant atat ? Nac ysbeilia mo’r tlawd , oherwydd ei fod yn dlawd : ac na orthryma y cystuddiol yn y porth . Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt , ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt . Na fydd gydymaith i’r dicllon ; ac na chydgerdda â gŵr llidiog : Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef , a chael magl i’th enaid . Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo , o’r rhai a fachnïant am ddyled . Oni bydd gennyt i dalu , paham y cymerai efe dy wely oddi tanat ? Na symud mo’r hen derfyn , yr hwn a osododd dy dadau . A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl ? efe a saif gerbron brenhinoedd , ac ni saif gerbron rhai iselradd . Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog , ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron : A gosod gyllell ar dy geg , os byddi ddyn blysig . Na ddeisyf ei ddanteithion ef : canys bwyd twyllodrus ydyw . Nac ymflina i ymgyfoethogi : dod heibio dy synnwyr dy hun . A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw ? canys golud yn ddiau a gymer adenydd , ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr . Na fwyta fwyd y drwg ei lygad ; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef . Canys fel y meddylia yn ei galon , felly efe a ddywed wrthyt , Bwyta ac yf ; a’i galon heb fod gyda thi . Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny , a’th eiriau melys a golli . Na lefara lle y clywo y ffôl : canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau . Na symud mo’r hen derfyn ; ac na ddos i feysydd yr amddifaid : Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol ; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di . Gosod dy galon ar addysg , a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth . Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn : os curi ef â gwialen , ni bydd efe farw . Cur ef â gwialen , a thi a achubi ei enaid rhag uffern . Fy mab , os dy galon di fydd doeth , fy nghalon innau a lawenycha ; Ie , fy arennau a grychneidiant , pan draetho dy wefusau di gyfiawnder . Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid : ond aros yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd . Canys yn ddiau y mae gwobr ; ac ni phalla dy ddisgwyliad . Erglyw , fy mab , a bydd ddoeth ; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd . Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win ; ymysg y rhai glythion ar gig . Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi : a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog . Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd : ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio . Prŷn y gwir , ac na werth ; felly doethineb , ac addysg , a deall . Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr ; a’r neb a genhedlo fab doeth , a lawenha o’i blegid . Dy dad a’th fam a lawenycha ; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda . Fy mab , moes i mi dy galon ; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i . Canys ffos ddofn yw putain : a phydew cyfyng yw y ddieithr . Ie , hi a gynllwyn fel gwilliad ; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion . I bwy y mae gwae ? i bwy y mae ochain ? i bwy y mae cynnen ? i bwy y mae dadwrdd ? ac i bwy y mae gwelïau heb achos ? i bwy y mae llygaid cochion ? I’r neb sydd yn aros wrth y gwin : i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig . Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch , pan ddangoso ei liw yn y cwpan , pan ymgynhyrfo yn iawn . Yn y diwedd efe a frath fel sarff , ac a biga fel neidr . Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr , a’th galon a draetha drawsedd . Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr , ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren . Curent fi , meddi , ac ni chlafychais ; dulient fi , ac nis gwybûm : pan ddeffrowyf , mi a af rhagof ; mi a’i ceisiaf drachefn . Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol ; ac na chwennych fod gyda hwynt : Canys eu calon a fyfyria anrhaith , a’u gwefusau a draetha flinder . Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ , a thrwy ddeall y sicrheir ef : A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd . Gŵr doeth sydd nerthol ; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth . Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel : a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch . Rhy uchel yw doethineb i ffôl ; ni egyr efe ei enau yn y porth . Y neb a fwriada ddrygau , a elwir yn ysgeler . Bwriad y ffôl sydd bechod ; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus . Os llwfrhei mewn amser cyfyngder , bychan yw dy nerth . Gwared y rhai a lusgir i angau : a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd ? Os dywedi , Wele , ni wyddom ni hyn : onid yw pwyswr y calonnau yn deall ? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid , oni ŵyr efe ? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred ? Fy mab , bwyta fêl , canys da yw ; a’r dil mêl , canys melys yw i’th enau . Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid : os cei di hi , yn ddiau fe fydd gwobr , a’th obaith ni phalla . Na chynllwyn di , O annuwiol , wrth drigfa y cyfiawn ; na anrheithia ei orffwysfa ef . Canys seithwaith y syrth y cyfiawn , ac efe a gyfyd drachefn : ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni . Pan syrthio dy elyn , na lawenycha : a phan dramgwyddo , na orfoledded dy galon : Rhag i’r Arglwydd weled , a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef , ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti . Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr ; na chenfigenna wrth yr annuwiolion : Canys ni bydd gwobr i’r drygionus : cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir . Fy mab , ofna yr Arglwydd a’r brenin , ac nac ymyrr â’r rhai anwastad : Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy : a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau ? Dyma hefyd bethau doethion . Nid da derbyn wyneb mewn barn . Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol , Cyfiawn wyt ; y bobl a’i melltithiant ef , cenhedloedd a’i ffieiddiant ef : Ond i’r neb a’i ceryddo , y bydd hyfrydwch ; a bendith dda a ddigwydd iddynt . Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn . Darpara dy orchwyl oddi allan , a dosbartha ef i ti yn y maes : ac wedi hynny adeilada dy dŷ . Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog : ac na huda â’th wefusau . Na ddywed , Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau ; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred . Mi a euthum heibio i faes y dyn diog , a heibio i winllan yr angall ; Ac wele , codasai drain ar hyd-ddo oll ; danadl a guddiasai ei wyneb ef ; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr . Gwelais hyn , a mi a ystyriais yn ddwys ; edrychais arno , a chymerais addysg . Ychydig gysgu , ychydig hepian , ychydig wasgu dwylo i gysgu : Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd , a’th angen fel gŵr arfog . Dyma hefyd ddiarhebion Solomon , y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda . Anrhydedd Duw yw dirgelu peth : ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan . Y nefoedd am uchder , y ddaear am ddyfnder , a chalon brenhinoedd , ni ellir eu chwilio . Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian , a daw i’r gof arian lestr . Tyn yr annuwiol o olwg y brenin , a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder . Nac ymogonedda gerbron y brenin ; ac na saf yn lle gwŷr mawr : Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt , Tyred yma i fyny , na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid . Na ddos allan i gynhennu ar frys : rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd , wedi dy gywilyddio gan dy gymydog . Ymresyma â’th gymydog ei hun : ond na ddatguddia gyfrinach i arall : Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti ; ac i’th gywilydd na thro ymaith . Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig . Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo , sydd fel anwyldlws euraid , a gwisg o aur rhagorol . Megis oerder eira yn amser cynhaeaf , yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant : canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid . Y neb a ymffrostio o achos gau rodd , sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law . Trwy hirymaros y bodlonir pendefig : a thafod esmwyth a dyr asgwrn . Pan gaffech fêl , bwyta a’th wasanaetho : rhag wedi dy lenwi ohono , i ti ei chwydu ef . Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog : rhag iddo flino arnat , a’th gasáu . Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog , sydd megis gordd , a chleddyf , a saeth lem . Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder , sydd megis dant wedi ei dorri , a throed wedi tyrfu . Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel , ac fel finegr ar nitr , felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist . Os dy elyn a newyna , portha ef â bara ; ac os sycheda , dod iddo ddiod i’w hyfed : Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef ; a’r Arglwydd a dâl i ti . Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith : felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar . Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ , na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang . Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig , yw newyddion da o wlad bell . Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus , sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr . Nid da bwyta llawer o fêl : ac felly chwilio eu hanrhydedd , nid anrhydedd yw . Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun , sydd megis dinas ddrylliog heb gaer . Megis ôd yr haf , neu law y cynhaeaf , felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd . Fel yr aderyn wrth grwydro , a’r wennol wrth ehedeg , felly y felltith ddiachos ni ddaw . Ffrewyll i farch , ffrwyn i asyn , a gwialen i gefn yr ynfyd . Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd ; rhag dy fod yn gyffelyb iddo . Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd ; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun . Y neb a yrro negesau gydag un angall , a dyr ymaith y traed , ac a yf golled . Nid gogyhyd esgeiriau y cloff : felly dameg yng ngenau ffyliaid . Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl ; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl . Fel draen yn myned i law dyn meddw ; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall . Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth , sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr . Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa ; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb . A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun ? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw . Y mae llew mawr ar y ffordd , medd y diog , y mae llew yn yr heolydd . Fel y drws yn troi ar ei golyn , felly y try y diog yn ei wely . Y diog a guddia ei law yn ei fynwes ; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn . Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun , na seithwyr yn adrodd rheswm . Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo , sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau . Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân , saethau , ac arfau marwolaeth ; Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog , ac a ddywed , Onid cellwair yr ydwyf ? Megis pan ddarfyddo y coed , y diffydd y tân : felly pryd na byddo athrodwr , derfydd y gynnen . Fel glo i’r marwor , a choed i’r tân ; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen . Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion , a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol . Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd ; felly y mae gwefusau poeth , a chalon ddrwg . Y digasog a ragrithia â’i wefusau , ac yn ei galon yn bwriadu twyll : Pan ddywedo efe yn deg , nac ymddiried iddo : canys y mae saith ffieidd‐dra yn ei galon ef . Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd : ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa . Y neb a gloddio bydew , a syrth ynddo ; a’r neb a dreiglo garreg , ato y dychwel . Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe ; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr . Nac ymffrostia o’r dydd yfory : canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod . Canmoled arall dydi , ac nid dy enau dy hun ; estron , ac nid dy wefusau dy hunan . Trom yw y garreg , a phwysfawr yw y tywod : ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau . Creulon yw llid , fel llifddwfr yw digofaint ; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen ? Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig . Ffyddlon yw archollion y caredig : ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus . Y dyn llawn a fathra y dil mêl : ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys . Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun , sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth . Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon ; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon . Nac ymado â’th gydymaith dy hun , a chydymaith dy dad ; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder : canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell . Bydd ddoeth , fy mab , a llawenycha fy nghalon ; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo . Y call a wêl y drwg yn dyfod , ac a ymgûdd : ond yr angall a ânt rhagddynt , ac a gosbir . Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr ; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr . Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo , cyfrifir hyn yn felltith iddo . Defni parhaus ar ddiwrnod glawog , a gwraig anynad , cyffelyb ydynt . Y mae yr hwn a’i cuddio hi , megis yn cuddio y gwynt , ac olew ei ddeheulaw , yr hwn a ymddengys . Haearn a hoga haearn : felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill . Y neb a gadwo ei ffigysbren , a fwyty o’i ffrwyth ef : a’r neb a wasanaetho ei feistr , a ddaw i anrhydedd . Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb : felly y mae calon dyn i ddyn . Ni lenwir uffern na distryw : felly ni lenwir llygaid dyn . Fel y tawddlestr i’r arian , a’r ffwrnais i’r aur : felly y mae gŵr i’w glod . Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith , eto nid ymedy ei ffolineb ag ef . Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid , a gofala am dy braidd . Canys cyfoeth ni phery byth : ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth ? Y gwair a flaendardda , a’r glaswellt a ymddengys , a llysiau y mynyddoedd a gesglir . Yr ŵyn a’th ddillada , ac o’r geifr y cei werth tir . Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti , yn fwyd i’th dylwyth , ac yn gynhaliaeth i’th lancesau . Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid : ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew . Oherwydd camwedd gwlad , aml fydd ei phenaethiaid : ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol , y pery hi yn hir . Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion , sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth . Y rhai a ymadawant â’r gyfraith , a ganmolant yr annuwiol : ond y neb a gadwant y gyfraith , a ymladd â hwynt . Dynion annuwiol ni ddeallant farn : ond y neb a geisiant yr Arglwydd , a ddeallant bob peth . Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb , na’r traws ei ffyrdd , er ei fod yn gyfoethog . Y neb a gadwo y gyfraith , sydd fab deallus : ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr , a gywilyddia ei dad . Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth , sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd . Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith , fydd ffiaidd ei weddi hefyd . Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg , a syrth yn ei bydew ei hun : ond y cyfiawn a feddianna ddaioni . Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun : ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan . Pan fyddo llawen y cyfiawn , y mae anrhydedd mawr : ond pan ddyrchafer yr annuwiolion , y chwilir am ddyn . Y neb a guddio ei bechodau , ni lwydda : ond y neb a’u haddefo , ac a’u gadawo , a gaiff drugaredd . Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol : ond y neb a galedo ei galon , a ddigwydda i ddrwg . Fel y llew rhuadus , a’r arth wancus , yw llywydd annuwiol i bobl dlodion . Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd : ond y neb a gasao gybydd‐dra , a estyn ei ddyddiau . Dyn a wnelo drawsedd i waed neb , a ffy i’r pwll ; nac atalied neb ef . Y neb a rodio yn uniawn , a waredir : ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd , a syrth ar unwaith . Y neb a lafurio ei dir , a ddigonir o fara : ond y neb a ganlyno oferwyr , a gaiff ddigon o dlodi . Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion : ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog , ni bydd digerydd . Nid da derbyn wyneb : canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam . Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi : ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno . Y neb a geryddo ddyn , a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod . Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam , ac a ddywed , Nid yw hyn gamwedd , sydd gymar i ddinistriwr . Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd , a wneir yn fras . Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun , sydd ffôl : ond y neb a rodio yn bwyllog , a achubir . Y neb a roddo i’r tlawd , ni bydd angen arno : ond y neb a guddio ei lygaid , a gaiff lawer o felltithion . Pan ddyrchafer yr annuwiol , dynion a ymguddia : ond wedi darfod amdanynt , yr amlheir y cyfiawn . Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war , a ddryllir yn ddisymwth , fel na byddo meddyginiaeth . Pan amlhaer y cyfiawn , y bobl a lawenychant : ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu , y bobl a ocheneidia . Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad : ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid , a ddifa ei dda . Brenin trwy farn a gadarnha y wlad : ond y neb a garo anrhegion , a’i dinistria hi . Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog , sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef . Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl : ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen . Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion : ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod . Dynion gwatwarus a faglant ddinas : ond y doethion a droant ymaith ddigofaint . Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl , pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin , eto ni bydd llonyddwch . Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn : ond yr uniawn a gais ei enaid ef . Y ffôl a dywallt ei holl feddwl : ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl . Os llywydd a wrendy ar gelwydd , ei holl weision fyddant annuwiol . Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant ; a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau . Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon , ei orsedd a sicrheir byth . Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb : ond mab a gaffo ei rwysg ei hun , a gywilyddia ei fam . Pan amlhao y rhai annuwiol , yr amlha camwedd : ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy . Cerydda dy fab , ac efe a bair i ti lonyddwch ; ac a bair hyfrydwch i’th enaid . Lle ni byddo gweledigaeth , methu a wna y bobl : ond y neb a gadwo y gyfraith , gwyn ei fyd ef . Ni chymer gwas addysg ar eiriau : canys er ei fod yn deall , eto nid etyb . A weli di ddyn prysur yn ei eiriau ? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef . Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd , o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo . Gŵr dicllon a ennyn gynnen ; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd . Balchder dyn a’i gostwng ef : ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd . Y neb a fo cyfrannog â lleidr , a gasâ ei enaid ei hun : efe a wrendy ar felltith , ac nis mynega . Ofn dyn sydd yn dwyn magl : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir . Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd : ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn . Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn : a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd . Geiriau Agur mab Jace , sef y broffwydoliaeth : y gŵr a lefarodd wrth Ithiel , wrth Ithiel , meddaf , ac Ucal . Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb , ac nid oes deall dyn gennyf . Ni ddysgais ddoethineb , ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd . Pwy a esgynnodd i’r nefoedd , neu a ddisgynnodd ? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau ? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn ? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear ? beth yw ei enw ef , a pheth yw enw ei fab , os gwyddost ? Holl air Duw sydd bur : tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo . Na ddyro ddim at ei eiriau ef , rhag iddo dy geryddu , a’th gael yn gelwyddog . Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt , na omedd hwynt i mi cyn fy marw . Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd ; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth ; portha fi â’m digonedd o fara . Rhag i mi ymlenwi , a’th wadu di , a dywedyd , Pwy yw yr Arglwydd ? a rhag i mi fyned yn dlawd , a lladrata , a chymryd enw fy Nuw yn ofer . Nac achwyn ar was wrth ei feistr , rhag iddo dy felltithio , a’th gael yn euog . Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad , a’i mam ni fendithia . Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun , er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid . Y mae cenhedlaeth , O mor uchel yw ei llygaid ! a’i hamrantau a ddyrchafwyd . Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau , a’i childdannedd yn gyllyll , i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear , a’r anghenus o blith dynion . I’r gele y mae dwy ferch , yn llefain , Moes , moes . Tri pheth ni ddiwellir : ie , pedwar peth ni ddywedant byth , Digon : Y bedd ; y groth amhlantadwy ; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd ; a’r tân ni ddywed , Digon . Llygad yr hwn a watwaro ei dad , ac a ddiystyro ufuddhau ei fam , a dynn cigfrain y dyffryn , a’r cywion eryrod a’i bwyty . Tri pheth sydd guddiedig i mi ; ie , pedwar peth nid adwaen : Ffordd eryr yn yr awyr , ffordd neidr ar graig , ffordd llong yng nghanol y môr , a ffordd gŵr gyda morwyn . Felly y mae ffordd merch odinebus ; hi a fwyty , ac a sych ei safn , ac a ddywed , Ni wneuthum i anwiredd . Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear , ac oherwydd pedwar , y rhai ni ddichon hi eu dioddef : Oherwydd gwas pan deyrnaso ; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd ; Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi ; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres . Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear , ac eto y maent yn ddoeth iawn : Nid yw y morgrug bobl nerthol , eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf ; Y cwningod nid ydynt bobl rymus , eto hwy a wnânt eu tai yn y graig ; Y locustiaid nid oes brenin iddynt , eto hwy a ânt allan yn dorfeydd ; Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo , ac y mae yn llys y brenin . Y mae tri pheth a gerddant yn hardd , ie , pedwar peth a rodiant yn weddus : Llew cryf ymhlith anifeiliaid , ni thry yn ei ôl er neb ; Milgi cryf yn ei feingefn , a bwch , a brenin , yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn . Os buost ffôl yn ymddyrchafu , ac os meddyliaist ddrwg , dyro dy law ar dy enau . Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn , a gwasgu ffroenau a dynn allan waed : felly cymell llid a ddwg allan gynnen . Geiriau Lemwel frenin ; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo . Pa beth , fy mab ? pa beth , mab fy nghroth ? ie , pa beth , mab fy addunedau ? Na ddyro i wragedd dy nerth ; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd . Nid gweddaidd i frenhinoedd , O Lemwel , nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin ; nac i benaduriaid ddiod gadarn : Rhag iddynt yfed , ac ebargofi y ddeddf ; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig . Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano ; a gwin i’r rhai trwm eu calon . Yfed efe , fel yr anghofio ei dlodi ; ac na feddylio am ei flinfyd mwy . Agor dy enau dros y mud , yn achos holl blant dinistr . Agor dy enau , barn yn gyfiawn ; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus . Pwy a fedr gael gwraig rinweddol ? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl . Calon ei gŵr a ymddiried ynddi , fel na bydd arno eisiau anrhaith . Hi a wna iddo les , ac nid drwg , holl ddyddiau ei bywyd . Hi a gais wlân a llin , ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar . Tebyg yw hi i long marsiandwr ; hi a ddwg ei hymborth o bell . Hi a gyfyd hefyd liw nos , ac a rydd fwyd i’w thylwyth , a’u dogn i’w llancesau . Hi a feddwl am faes , ac a’i prŷn ef ; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan . Hi a wregysa ei llwynau â nerth , ac a gryfha ei breichiau . Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol ; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos . Hi a rydd ei llaw ar y werthyd , a’i llaw a ddeil y cogail . Hi a egyr ei llaw i’r tlawd , ac a estyn ei dwylo i’r anghenus . Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira ; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad . Hi a weithia iddi ei hun garpedau ; ei gwisg yw sidan a phorffor . Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth , pan eisteddo gyda henuriaid y wlad . Hi a wna liain main , ac a’i gwerth , ac a rydd wregysau at y marsiandwr . Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg ; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd . Hi a egyr ei genau yn ddoeth : a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi . Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ : ac ni fwyty hi fara seguryd . Ei phlant a godant , ac a’i galwant yn ddedwydd ; ei gŵr hefyd , ac a’i canmol hi : Llawer merch a weithiodd yn rymus ; ond ti a ragoraist arnynt oll . Siomedig yw ffafr , ac ofer yw tegwch ; ond benyw yn ofni yr Arglwydd , hi a gaiff glod . Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo ; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth . </passage></reply></GetPassage>