<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:21</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:21</urn><passage>Geiriau y Pregethwr , mab Dafydd , brenin yn Jerwsalem . Gwagedd o wagedd , medd y Pregethwr , gwagedd o wagedd ; gwagedd yw y cwbl . Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul ? Un genhedlaeth a â ymaith , a chenhedlaeth arall a ddaw : ond y ddaear a saif byth . Yr haul hefyd a gyfyd , a’r haul a fachlud , ac a brysura i’w le lle y mae yn codi . Y gwynt a â i’r deau , ac a amgylcha i’r gogledd : y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol , y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd . Yr holl afonydd a redant i’r môr , eto nid yw y môr yn llawn : o’r lle y daeth yr afonydd , yno y dychwelant eilwaith . Pob peth sydd yn llawn blinder ; ni ddichon dyn ei draethu : ni chaiff y llygad ddigon o edrych , ac ni ddigonir y glust â chlywed . Y peth a fu , a fydd ; a’r peth a wnaed , a wneir : ac nid oes dim newydd dan yr haul . A oes dim y gellir dywedyd amdano , Edrych ar hwn , dyma beth newydd ? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni . Nid oes goffa am y pethau gynt ; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw , gan y rhai a ddaw ar ôl . Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem ; Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb , am bob peth a wnaed dan y nefoedd : y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo . Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul ; ac wele , gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl . Ni ellir unioni yr hyn sydd gam , na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol . Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun , gan ddywedyd , Wele , mi a euthum yn fawr , ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem ; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth . Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb , ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb : mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd . Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig : a’r neb a chwanego wybodaeth , a chwanega ofid . Mi a ddywedais yn fy nghalon , Iddo yn awr , mi a’th brofaf â llawenydd ; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr : ac wele , hyn hefyd sydd wagedd . Mi a ddywedais am chwerthin , Ynfyd yw : ac am lawenydd , Pa beth a wna ? Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win , ( eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb , ) ac i gofleidio ffolineb , hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion , yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd . Mi a wneuthum i mi waith mawr ; mi a adeiledais i mi dai ; mi a blennais i mi winllannoedd : Mi a wneuthum erddi a pherllannau , ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth : Mi a wneuthum lynnau dwfr , i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed : Mi a ddarperais weision a morynion ; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ ; ie , yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid , tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem : Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur , a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau : mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau , a phob rhyw offer cerdd , difyrrwch meibion dynion . A mi a euthum yn fawr , ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem : a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi . A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid , ni omeddwn hwynt : ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd ; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur ; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur . Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo , ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur : ac wele , hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd , ac nid oedd dim budd dan yr haul . A mi a droais i edrych ar ddoethineb , ac ar ynfydrwydd a ffolineb : canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin ? y peth a wnaed eisoes . Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb , fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch . Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben ; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch : ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll . Yna y dywedais yn fy nghalon , Fel y digwydd i’r ffôl , y digwydd i minnau ; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach ? Yna y dywedais yn fy nghalon , fod hyn hefyd yn wagedd . Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd ; y pethau sydd yr awr hon , yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof : a pha fodd y mae y doeth yn marw ? fel yr annoeth . Am hynny cas gennyf einioes , canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul ; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl . Ie , cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul ; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i . A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe ? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais , ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul . Dyma wagedd hefyd . Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul . Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog , yn synhwyrol , ac yn uniawn : ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho . Hyn hefyd sydd wagedd , a gorthrymder mawr . Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon , yr hwn a gymerodd efe dan haul ? Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder , a’i lafur yn ofid : ie , ni chymer ei galon esmwythdra y nos . Hyn hefyd sydd wagedd . Nid oes daioni mwy i ddyn , nag iddo fwyta ac yfed , a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur . Hyn hefyd a welais , mai o law Duw yr oedd hyn . Canys pwy a ddichon fwyta , a phwy a’i mwynhâi , o’m blaen i ? Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef , y rhydd Duw ddoethineb , a gwybodaeth , a llawenydd ; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru , i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw . Hynny hefyd sydd wagedd , a gorthrymder ysbryd . Y mae amser i bob peth , ac amser i bob amcan dan y nefoedd : Amser i eni , ac amser i farw ; amser i blannu , ac amser i dynnu y peth a blannwyd ; Amser i ladd , ac amser i iacháu ; amser i fwrw i lawr , ac amser i adeiladu ; Amser i wylo , ac amser i chwerthin ; amser i alaru , ac amser i ddawnsio ; Amser i daflu cerrig ymaith , ac amser i gasglu cerrig ynghyd ; amser i ymgofleidio , ac amser i ochel ymgofleidio ; Amser i geisio , ac amser i golli ; amser i gadw , ac amser i fwrw ymaith ; Amser i rwygo , ac amser i wnïo ; amser i dewi , ac amser i ddywedyd ; Amser i garu , ac amser i gasáu ; amser i ryfel , ac amser i heddwch . Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio ? Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion , i ymflino ynddo . Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser : efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy , fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd . Mi a wn nad oes dim da ynddynt , ond bod i ddyn fod yn llawen , a gwneuthur daioni yn ei fywyd . A bod i bob dyn fwyta ac yfed , a mwynhau daioni o’i holl lafur ; rhodd Duw yw hynny . Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw , y bydd hynny byth ; ni ellir na bwrw ato , na thynnu dim oddi wrtho : ac y mae Duw yn gwneuthur hyn , fel yr ofnai dynion ger ei fron ef . Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon ; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen : Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio . Hefyd mi a welais dan yr haul le barn , yno yr oedd annuwioldeb ; a lle cyfiawnder , yno yr oedd anwiredd . Mi a ddywedais yn fy nghalon , Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn : canys y mae amser i bob amcan , ac i bob gwaith yno . Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion ; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt , ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt . Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid ; yr un digwydd sydd iddynt : fel y mae y naill yn marw , felly y bydd marw y llall ; ie , yr un chwythad sydd iddynt oll ; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail : canys gwagedd yw y cwbl . Y mae y cwbl yn myned i’r un lle : pob un sydd o’r pridd , a phob un a dry i’r pridd eilwaith . Pwy a edwyn ysbryd dyn , yr hwn sydd yn esgyn i fyny , a chwythad anifail , yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear ? Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun ; canys hyn yw ei ran ef : canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl ? Felly mi a ddychwelais , ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul : ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro ; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu , a hwythau heb neb i’w cysuro . A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw , yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto . Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed , yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul . A mi a welais fod pob llafur , a phob uniondeb gwaith dyn , yn peri iddo genfigen gan ei gymydog . Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd . Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd , ac a fwyty ei gnawd ei hun . Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch , na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd . Yna mi a droais , ac a welais wagedd dan yr haul . Y mae un yn unig , ac heb ail ; ie , nid oes iddo na mab na brawd ; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll : ie , ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth ; ni ddywed efe , I bwy yr ydwyf yn llafurio , ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch ? Hyn hefyd sydd wagedd , a dyma drafferth flin . Gwell yw dau nag un , o achos bod iddynt wobr da am eu llafur . Canys os syrthiant , y naill a gyfyd y llall : ond gwae yr unig ; canys pan syrthio efe , nid oes ail i’w gyfodi . Hefyd os dau a gydorweddant , hwy a ymgynhesant ; ond yr unig , pa fodd y cynhesa efe ? Ac os cryfach fydd un nag ef , dau a’i gwrthwynebant yntau ; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys . Gwell yw bachgen tlawd a doeth , na brenin hen ac ynfyd , yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach : Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu , a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth , yn myned yn dlawd . Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul , gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef . Nid oes diben ar yr holl bobl , sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt ; a’r rhai a ddêl ar ôl , ni lawenychant ynddo : gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd . Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw , a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid ; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg . Na fydd ry brysur â’th enau , ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw : canys Duw sydd yn y nefoedd , a thithau sydd ar y ddaear ; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml . Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer : ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau . Pan addunedech adduned i Dduw , nac oeda ei thalu : canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd ; y peth a addunedaist , tâl . Gwell i ti fod heb addunedu , nag i ti addunedu a bod heb dalu . Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu ; ac na ddywed gerbron yr angel , Amryfusedd fu : paham y digiai Duw wrth dy leferydd , a difetha gwaith dy ddwylo ? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd , ac mewn llawer o eiriau : ond ofna di Dduw . Os gweli dreisio y tlawd , a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad , na ryfedda o achos hyn : canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied ; ac y mae un sydd uwch na hwynt . Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth : wrth dir llafur y mae y brenin yn byw . Y neb a garo arian , ni ddigonir ag arian ; na’r neb a hoffo amldra , â chynnyrch . Hyn hefyd sydd wagedd . Lle y byddo llawer o dda , y bydd llawer i’w ddifa : pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog , ond eu gweled â’u llygaid ? Melys yw hun y gweithiwr , pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao : ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu . Y mae trueni blin a welais dan yr haul , cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog . Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin ; ac efe a ennill fab , ac nid oes dim yn ei law ef . Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth , y dychwel i fyned modd y daeth , ac ni ddwg ddim o’i lafur , yr hyn a ddygo ymaith yn ei law . A hyn hefyd sydd ofid blin ; yn hollol y modd y daeth , felly yr â efe ymaith : a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt ? Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch , mewn dicter mawr , gofid , a llid . Wele y peth a welais i : da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed , a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul , holl ddyddiau ei fywyd , y rhai a roddes Duw iddo : canys hynny yw ei ran ef . Ie , i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud ; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt , ac i gymryd ei ran , ac i lawenychu yn ei lafur ; rhodd Duw yw hyn . Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd ; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef . Y mae drwg a welais dan haul , a hwnnw yn fawr ymysg dynion : Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth , a golud , ac anrhydedd , heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai ; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni , ond estron a’i bwyty . Dyma wagedd , ac y mae yn ofid blin . Os ennill gŵr gant o blant , ac a fydd byw lawer o flynyddoedd , fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer , os ei enaid ni ddiwellir â daioni , ac oni bydd iddo gladdedigaeth ; mi a ddywedaf , mai gwell yw erthyl nag ef . Canys mewn oferedd y daeth , ac yn y tywyllwch yr ymedy , a’i enw a guddir â thywyllwch . Yntau ni welodd mo’r haul , ac ni wybu ddim : mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall . Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd , eto ni welodd efe ddaioni : onid i’r un lle yr â pawb ? Holl lafur dyn sydd dros ei enau , ac eto ni ddiwellir ei enaid ef . Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth ? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw ? Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid . Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd . Beth bynnag fu , y mae enw arno ; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe : ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef . Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd , beth yw dyn well ? Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer , y rhai a dreulia efe fel cysgod ? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul ? Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr ; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth . Gwell yw myned i dŷ galar , na myned i dŷ gwledd : canys hynny yw diwedd pob dyn ; a’r byw a’i gesyd at ei galon . Gwell yw dicter na chwerthin : canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon . Calon doethion fydd yn nhŷ y galar ; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd . Gwell yw gwrando sen y doeth , na gwrando cân ffyliaid . Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan . Dyma wagedd hefyd . Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth , a rhodd a ddifetha y galon . Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad : gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd . Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio : oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid . Na ddywed , Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn ? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn . Da yw doethineb gydag etifeddiaeth : ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul . Canys cysgod yw doethineb , a chysgod yw arian : ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog . Edrych ar orchwyl Duw : canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe ? Yn amser gwynfyd bydd lawen ; ond yn amser adfyd ystyria : Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall , er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef . Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd : y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder , ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni . Na fydd ry gyfiawn ; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth : paham y’th ddifethit dy hun ? Na fydd ry annuwiol ; ac na fydd ffôl : paham y byddit farw cyn dy amser ? Da i ti ymafael yn hyn ; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law : canys y neb a ofno Dduw , a ddaw allan ohonynt oll . Doethineb a nertha y doeth , yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas . Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni , ac ni phecha . Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder ; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio . Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon , ddarfod i ti dy hun felltithio eraill . Hyn oll a brofais trwy ddoethineb : mi a ddywedais , Mi a fyddaf ddoeth ; a hithau ymhell oddi wrthyf . Y peth sydd bell a dwfn iawn , pwy a’i caiff ? Mi a droais â’m calon i wybod , ac i chwilio , ac i geisio doethineb , a rheswm ; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb , sef ffolineb ac ynfydrwydd : Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau , y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau , a’i dwylo yn rhwymau : y neb sydd dda gan Dduw , a waredir oddi wrthi hi ; ond pechadur a ddelir ganddi . Wele , hyn a gefais , medd y Pregethwr , wrth chwilio o’r naill beth i’r llall , i gael y rheswm ; Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano , ac ni chefais : un gŵr a gefais ymhlith mil ; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais . Wele , hyn yn unig a gefais ; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn : ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion . Pwy sydd debyg i’r doeth ? a phwy a fedr ddeongl peth ? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb , a nerth ei wyneb ef a newidir . Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin , a hynny oherwydd llw Duw . Na ddos ar frys allan o’i olwg ef ; na saf mewn peth drwg : canys efe a wna a fynno ei hun . Lle y byddo gair y brenin , y mae gallu : a phwy a ddywed wrtho , Beth yr wyt ti yn ei wneuthur ? Y neb a gadwo y gorchymyn , ni wybydd oddi wrth ddrwg ; a chalon y doeth a edwyn amser a barn . Canys y mae amser a barn i bob amcan ; ac y mae trueni dyn yn fawr arno . Canys ni ŵyr efe beth a fydd : canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd ? Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd , i atal yr ysbryd ; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth : ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw ; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog . Hyn oll a welais i , a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul : y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo . Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol , y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd ; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly . Gwagedd yw hyn hefyd . Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan , am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg . Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith , ac estyn ei ddyddiau ef ; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant Dduw , y rhai a arswydant ger ei fron ef . Ond ni bydd daioni i’r annuwiol , ac ni estyn efe ei ddyddiau , y rhai sydd gyffelyb i gysgod ; am nad yw yn ofni gerbron Duw . Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear ; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus ; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn . Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd . Yna mi a ganmolais lawenydd , am nad oes dim well i ddyn dan haul , na bwyta ac yfed , a bod yn llawen : canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur , ddyddiau ei fywyd , y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul . Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb , ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear , ( canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos ; ) Yna mi a edrychais ar holl waith Duw , na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul : oblegid er i ddyn lafurio i geisio , eto nis caiff ; ie , pe meddyliai y doeth fynnu gwybod , eto ni allai efe gael hynny . Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon , i ddangos hyn oll ; bod y cyfiawn , a’r doethion , a’u gweithredoedd , yn llaw Duw : ni ŵyr dyn gariad , neu gas , wrth yr hyn oll sydd o’u blaen . Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd : yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn , ac i’r annuwiol ; i’r da ac i’r glân , ac i’r aflan ; i’r neb a abertha , ac i’r neb nid abertha : fel y mae y da , felly y mae y pechadur ; a’r neb a dyngo , fel y neb a ofno dyngu . Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul ; sef bod yr un diben i bawb : hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni , ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw , ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw . Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll , y mae gobaith : canys gwell yw ci byw na llew marw . Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw : ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw , ac nid oes iddynt wobr mwyach ; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd . Eu cariad hefyd , a’u cas , a’u cenfigen , a ddarfu yn awr ; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul . Dos , bwyta dy fwyd yn llawen , ac yf dy win â chalon hyfryd : canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd . Bydded dy ddillad yn wynion bob amser ; ac na fydded diffyg olew ar dy ben . Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd , y rhai a roddes efe i ti dan yr haul , holl ddyddiau dy oferedd : canys dyna dy ran di yn y bywyd yma , ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul . Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur , gwna â’th holl egni : canys nid oes na gwaith , na dychymyg , na gwybodaeth , na doethineb , yn y bedd , lle yr wyt ti yn myned . Mi a droais , ac a welais dan haul , nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym , na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn , na’r bwyd yn eiddo y doethion , na chyfoeth yn eiddo y pwyllog , na ffafr yn eiddo y cyfarwydd : ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll . Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser : fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol , ac fel yr adar a ddelir yn y delm ; felly y delir plant dynion yn amser drwg , pan syrthio arnynt yn ddisymwth . Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul , ac sydd fawr gennyf fi : Yr oedd dinas fechan , ac ynddi ychydig wŷr ; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi , ac a’i hamgylchynodd , ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn : A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth , ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb : eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw . Yna y dywedais , Gwell yw doethineb na nerth : er hynny dirmygir doethineb y tlawd , ac ni wrandewir ar ei eiriau ef . Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd , rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid . Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel ; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni . Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi ; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd . Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw ; a chalon y ffôl ar ei law aswy . Ie , y ffôl pan rodio ar y ffordd , sydd â’i galon yn pallu , ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl . Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn , nac ymado â’th le : canys ymostwng a ostega bechodau mawrion . Y mae drwg a welais dan yr haul , cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd : Gosodir ffolineb mewn graddau uchel , a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel . Mi a welais weision ar feirch , a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear . Y sawl a gloddio bwll , a syrth ynddo ; a’r neb a wasgaro gae , sarff a’i brath . Y sawl a symudo gerrig , a gaiff ddolur oddi wrthynt ; a’r neb a hollto goed , a gaiff niwed oddi wrthynt . Os yr haearn a byla , oni hoga efe y min , rhaid iddo roddi mwy o nerth : eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo . Os brath sarff heb swyno , nid gwell yw dyn siaradus . Geiriau genau y doeth sydd rasol : ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun . Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef : a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd . Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau : ni ŵyr neb beth a fydd ; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef ? Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt : canys ni fedr efe fyned i’r ddinas . Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti , a’th dywysogion yn bwyta yn fore . Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion , a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser , er cryfder , ac nid er meddwdod . Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad ; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni . Arlwyant wledd i chwerthin , a gwin a lawenycha y rhai byw ; ond arian sydd yn ateb i bob peth . Na felltithia y brenin yn dy feddwl ; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog : canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais , a pherchen adain a fynega y peth . Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd ; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau . Dyro ran i saith , a hefyd i wyth : canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear . Os bydd y cymylau yn llawn glaw , hwy a ddefnynnant ar y ddaear : ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren ; lle y syrthio y pren , yno y bydd efe . Y neb a ddalio ar y gwynt , ni heua ; a’r neb a edrycho ar y cymylau , ni feda . Megis na wyddost ffordd yr ysbryd , na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog ; felly ni wyddost waith Duw , yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl . Y bore heua dy had , a phrynhawn nac atal dy law : canys ni wyddost pa un a ffynna , ai hyn yma ai hyn acw , ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud . Melys yn ddiau yw y goleuni , a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul . Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd , a bod yn llawen ynddynt oll ; eto cofied ddyddiau tywyllwch ; canys llawer fyddant . Beth bynnag a ddigwydda , oferedd yw . Gwna yn llawen , ŵr ieuanc , yn dy ieuenctid , a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid , a rhodia yn ffyrdd dy galon , ac yng ngolwg dy lygaid : ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll . Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon , a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd : canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid . Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid , cyn dyfod y dyddiau blin , a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi , Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt : Cyn tywyllu yr haul , a’r goleuni , a’r lleuad , a’r sêr , a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw : Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ , ac y cryma y gwŷr cryfion , ac y metha y rhai sydd yn malu , am eu bod yn ychydig , ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri ; A chau y pyrth yn yr heolydd , pan fo isel sŵn y malu , a’i gyfodi wrth lais yr aderyn , a gostwng i lawr holl ferched cerdd : Ie , yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel , ac yr arswydant yn y ffordd , ac y blodeua y pren almon , ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich , ac y palla chwant : pan elo dyn i dŷ ei hir gartref , a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol : Cyn torri y llinyn arian , a chyn torri y cawg aur , a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon , neu dorri yr olwyn wrth y pydew . Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu , ac y dychwel yr ysbryd at Dduw , yr hwn a’i rhoes ef . Gwagedd o wagedd , medd y Pregethwr ; gwagedd yw y cwbl . A hefyd , am fod y Pregethwr yn ddoeth , efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl ; ie , efe a ystyriodd , ac a chwiliodd allan , ac a drefnodd ddiarhebion lawer . Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy ; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn , sef geiriau gwirionedd . Geiriau y doethion sydd megis symbylau , ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa , y rhai a roddir oddi wrth un bugail . Ymhellach hefyd , fy mab , cymer rybudd wrth y rhai hyn ; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer , a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd . Swm y cwbl a glybuwyd yw , Ofna Dduw , a chadw ei orchmynion : canys hyn yw holl ddyled dyn . Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn , a phob peth dirgel , pa un bynnag fyddo ai da ai drwg . </passage></reply></GetPassage>