<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:22</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:22</urn><passage>Can y caniadau , eiddo Solomon . Cusaned fi â chusanau ei fin : canys gwell yw dy gariad na gwin . Oherwydd arogl dy ennaint daionus , ennaint tywalltedig yw dy enw : am hynny y llancesau a’th garant . Tyn fi , ni a redwn ar dy ôl . Y brenin a’m dug i i’w ystafellau : ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot ; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin : y rhai uniawn sydd yn dy garu . Du ydwyf fi , ond hawddgar , merched Jerwsalem , fel pebyll Cedar , fel llenni Solomon . Nac edrychwch arnaf , am fy mod yn ddu , ac am i’r haul edrych arnaf : meibion fy mam a ddigiasant wrthyf , gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill ; fy ngwinllan fy hun nis cedwais . Mynega i mi , yr hwn a hoffodd fy enaid , pa le yr wyt yn bugeilio , pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd : canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion ? Oni wyddost ti , y decaf o’r gwragedd , dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd , a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid . I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais , fy anwylyd . Hardd yw dy ruddiau gan dlysau , a’th wddf gan gadwyni . Tlysau o aur , a boglynnau o arian , a wnawn i ti . Tra yw y brenin ar ei fwrdd , fy nardus i a rydd ei arogl . Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr ; rhwng fy mronnau yr erys dros nos . Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi , yng ngwinllannoedd Engedi . Wele di yn deg , fy anwylyd , wele di yn deg ; y mae i ti lygaid colomennod . Wele di , fy anwylyd , yn deg , ac yn hawddgar ; ein gwely hefyd sydd iraidd . Swmerau ein tai sydd gedrwydd ; ein distiau sydd ffynidwydd . Rhosyn Saron , a lili y dyffrynnoedd , ydwyf fi . Megis lili ymysg y drain , felly y mae fy anwylyd ymysg y merched . Megis pren afalau ymysg prennau y coed , felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion : bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef , a’i ffrwyth oedd felys i’m genau . Efe a’m dug i’r gwindy , a’i faner drosof ydoedd gariad . Cynheliwch fi â photelau , cysurwch fi ag afalau ; canys claf ydwyf fi o gariad . Ei law aswy sydd dan fy mhen , a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio . Merched Jerwsalem , tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes , na chyffrôch , ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Dyma lais fy anwylyd ! wele ef yn dyfod , yn neidio ar y mynyddoedd , ac yn llamu ar y bryniau . Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd ; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared , yn edrych trwy y ffenestri , yn ymddangos trwy y dellt . Fy anwylyd a lefarodd , ac a ddywedodd wrthyf , Cyfod , fy anwylyd , a thyred di , fy mhrydferth : Canys wele , y gaeaf a aeth heibio , y glaw a basiodd , ac a aeth ymaith ; Gwelwyd y blodau ar y ddaear , daeth amser i’r adar i ganu , clywyd llais y durtur yn ein gwlad ; Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion , a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg . Cyfod di , fy anwylyd , a thyred di , fy mhrydferth . Fy ngholomen , yr hon wyt yn holltau y graig , yn lloches y grisiau , gad i mi weled dy wyneb , gad i mi glywed dy lais : canys dy lais sydd beraidd , a’th olwg yn hardd . Deliwch i ni y llwynogod , y llwynogod bychain , y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd : canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin . Fy anwylyd sydd eiddof fi , a minnau yn eiddo yntau ; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili . Hyd oni wawrio’r dydd , a chilio o’r cysgodau ; tro , bydd debyg , fy anwylyd , i iwrch , neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether . Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid : ceisiais ef , ac nis cefais . Codaf yn awr , ac af o amgylch y ddinas , trwy yr heolydd a’r ystrydoedd , ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid : ceisiais ef , ac nis cefais . Y gwylwyr , y rhai a aent o amgylch y ddinas , a’m cawsant : gofynnais , A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid ? Nid aethwn i nepell oddi wrthynt , hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid : deliais ef , ac nis gollyngais , hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam , ac i ystafell yr hon a’m hymddûg . Merched Jerwsalem , tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes , na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg , wedi ei pherarogli â myrr , ac â thus , ac â phob powdr yr apothecari ? Wele ei wely ef , sef yr eiddo Solomon ; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch , sef o gedyrn Israel . Hwynt oll a ddaliant gleddyf , wedi eu dysgu i ryfel , pob un â’i gleddyf ar ei glun , rhag ofn liw nos . Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus . Ei byst ef a wnaeth efe o arian , ei lawr o aur , ei lenni o borffor ; ei ganol a balmantwyd â chariad , i ferched Jerwsalem . Ewch allan , merched Seion , ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef , ac yn nydd llawenydd ei galon ef . Wele di yn deg , fy anwylyd , wele di yn deg ; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau ; dy wallt sydd fel diadell o eifr , y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead . Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif , y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa ; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen , ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil . Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad , a’th barabl yn weddus : dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad . Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd , yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau ; tarianau fil sydd yn crogi ynddo , i gyd yn estylch y cedyrn . Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili . Hyd oni wawrio’r dydd , a chilio o’r cysgodau , af i fynydd y myrr , ac i fryn y thus . Ti oll ydwyt deg , fy anwylyd ; ac nid oes ynot frycheuyn . Tyred gyda mi o Libanus , fy nyweddi , gyda mi o Libanus : edrych o ben Amana , o gopa Senir a Hermon , o lochesau y llewod , o fynyddoedd y llewpardiaid . Dygaist fy nghalon , fy chwaer a’m dyweddi ; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid , ag un gadwyn wrth dy wddf . Mor deg yw dy gariad , fy chwaer , a’m dyweddi ! pa faint gwell yw dy gariad na gwin , ac arogl dy olew na’r holl beraroglau ! Dy wefusau , fy nyweddi , sydd yn diferu fel dil mêl : y mae mêl a llaeth dan dy dafod , ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus . Gardd gaeëdig yw fy chwaer , a’m dyweddi : ffynnon gloëdig , ffynnon seliedig yw . Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau , a ffrwyth peraidd , camffir , a nardus ; Ie , nardus a saffrwn , calamus a sinamon , a phob pren thus , myrr , ac aloes , ynghyd â phob rhagorol berlysiau : Ffynnon y gerddi , ffynnon y dyfroedd byw , a ffrydiau o Libanus . Deffro di , ogleddwynt , a thyred , ddeheuwynt , chwyth ar fy ngardd , fel y gwasgarer ei pheraroglau : deued fy anwylyd i’w ardd , a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun . Deuthum i’m gardd , fy chwaer , a’m dyweddi : cesglais fy myrr gyda’m perarogl , bwyteais fy nil gyda’m mêl , yfais fy ngwin gyda’m llaeth : bwytewch , gyfeillion , yfwch , ie , yfwch yn helaeth , fy rhai annwyl . Myfi sydd yn cysgu , a’m calon yn neffro : llais fy anwylyd yw yn curo , gan ddywedyd , Fy chwaer , fy anwylyd , fy ngholomen , fy nihalog , agor i mi : canys llanwyd fy mhen â gwlith , a’m gwallt â defnynnau y nos . Diosgais fy mhais ; pa fodd y gwisgaf hi ? golchais fy nhraed ; pa fodd y diwynaf hwynt ? Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll ; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn . Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd ; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr , a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo . Agorais i’m hanwylyd ; ond fy anwylyd a giliasai , ac a aethai ymaith : fy enaid a lewygodd pan lefarodd : ceisiais , ac nis cefais ; gelwais ef , ond ni’m hatebodd . Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas , a’m cawsant , a’m trawsant , a’m harchollasant : gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf . Merched Jerwsalem , gorchmynnaf i chwi , os cewch fy anwylyd , fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad . Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall , y decaf o’r gwragedd ? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall , pan orchmynni i ni felly ? Fy anwylyd sydd wyn a gwridog , yn rhagori ar ddengmil . Ei ben fel aur coeth , ei wallt yn grych , yn ddu fel y frân . Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd , wedi eu golchi â llaeth , wedi eu gosod yn gymwys . Ei ruddiau fel gwely perlysiau , fel blodau peraidd : ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol . Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur , wedi eu llenwi o beryl : ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir . Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth : ei wynepryd fel Libanus , mor ddewisol â chedrwydd . Melys odiaeth yw ei enau ; ie , y mae efe oll yn hawddgar . Dyma fy anwylyd , dyma fy nghyfaill , O ferched Jerwsalem . I ba le yr aeth dy anwylyd , y decaf o’r gwragedd ? i ba le y trodd dy anwylyd ? fel y ceisiom ef gyda thi . Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd , i welyau y perlysiau , i ymborth yn y gerddi , ac i gasglu lili . Myfi wyf eiddo fy anwylyd , a’m hanwylyd yn eiddof finnau , yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili . Teg ydwyt ti , fy anwylyd , megis Tirsa , gweddus megis Jerwsalem , ofnadwy megis llu banerog . Tro dy lygaid oddi wrthyf , canys hwy a’m gorchfygasant : dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead . Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa , y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen , ac heb un yn ddiepil yn eu mysg . Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad . Y mae trigain o freninesau , ac o ordderchwragedd bedwar ugain , a llancesau heb rifedi . Un ydyw hi , fy ngholomen , fy nihalog ; unig ei mam yw hi , dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd : y merched a’i gwelsant , ac a’i galwasant yn ddedwydd ; y breninesau a’r gordderchwragedd , a hwy a’i canmolasant hi . Pwy yw hon a welir fel y wawr , yn deg fel y lleuad , yn bur fel yr haul , yn ofnadwy fel llu banerog ? Euthum i waered i’r ardd gnau , i edrych am ffrwythydd y dyffryn , i weled a flodeuasai y winwydden , a flodeuasai y pomgranadau . Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib . Dychwel , dychwel , y Sulamees ; dychwel , dychwel , fel yr edrychom arnat . Beth a welwch chwi yn y Sulamees ? Megis tyrfa dau lu . Mor deg yw dy draed mewn esgidiau , ferch pendefig ! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau , gwaith dwylo y cywraint . Dy fogail sydd fel gorflwch crwn , heb eisiau lleithder : dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili . Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid . Dy wddf fel tŵr o ifori ; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim ; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus . Dy ben sydd arnat fel Carmel , a gwallt dy ben fel porffor ; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd . Mor deg ydwyt , ac mor hawddgar , fy nghariad , a’m hyfrydwch ! Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden , a’th fronnau i’r grawnsypiau . Dywedais , Dringaf i’r balmwydden , ymaflaf yn ei cheinciau : ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden , ac arogl dy ffroenau megis afalau ; A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd , yn myned i waered yn felys , ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru . Eiddo fy anwylyd ydwyf fi , ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef . Tyred , fy anwylyd , awn i’r maes , a lletywn yn y pentrefi . Boregodwn i’r gwinllannoedd ; edrychwn a flodeuodd y winwydden , a agorodd egin y grawnwin , a flodeuodd y pomgranadau : yno y rhoddaf fy nghariad i ti . Y mandragorau a roddasant arogledd , ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau , newydd a hen , y rhai a rois i gadw i ti , fy anwylyd . O na bait megis brawd i mi , yn sugno bronnau fy mam ! pan y’th gawn allan , cusanwn di ; eto ni’m dirmygid . Arweiniwn , a dygwn di i dŷ fy mam , yr hon a’m dysgai : parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau . Ei law aswy fyddai dan fy mhen , a’i law ddeau a’m cofleidiai . Tynghedaf chwi , ferched Jerwsalem , na chyffrôch , ac na ddeffrôch fy nghariad , hyd oni fynno ei hun . Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch , ac yn pwyso ar ei hanwylyd ? Dan yr afallen y’th gyfodais : yno y’th esgorodd dy fam ; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg . Gosod fi megis sêl ar dy galon , fel sêl ar dy fraich : canys cariad sydd gryf fel angau ; eiddigedd sydd greulon fel y bedd : ei farwor sydd farwor tanllyd , a fflam angerddol iddynt . Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad , ac afonydd nis boddant : pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad , gan ddirmygu y dirmygid hynny . Y mae i ni chwaer fechan , ac nid oes fronnau iddi : beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani ? Os caer yw hi , ni a adeiladwn arni balas arian ; ac os drws yw hi , ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd . Caer ydwyf fi , a’m bronnau fel tyrau : yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd . Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon : efe a osododd y winllan i warcheidwaid ; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian . Fy ngwinllan sydd ger fy mron : mil a roddir i ti , Solomon , a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi . O yr hon a drigi yn y gerddi , y cyfeillion a wrandawant ar dy lais : pâr i mi ei glywed . Brysia , fy anwylyd , a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau . </passage></reply></GetPassage>