<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:23</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:23</urn><passage>Gweledigaeth Eseia mab Amos , yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem , yn nyddiau Usseia , Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda . Gwrandewch , nefoedd ; clyw dithau , ddaear : canys yr Arglwydd a lefarodd , Megais a meithrinais feibion , a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn . Yr ych a edwyn ei feddiannydd , a’r asyn breseb ei berchennog : ond Israel nid edwyn , fy mhobl ni ddeall . O genhedlaeth bechadurus , pobl lwythog o anwiredd , had y rhai drygionus , meibion yn llygru : gwrthodasant yr Arglwydd , digiasant Sanct Israel , ciliasant yn ôl ! I ba beth y’ch trewir mwy ? cildynrwydd a chwanegwch : y pen oll sydd glwyfus , a’r holl galon yn llesg . O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo ; ond archollion , a chleisiau , a gwelïau crawnllyd : ni wasgwyd hwynt , ac ni rwymwyd , ac ni thynerwyd ag olew . Y mae eich gwlad yn anrheithiedig , eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân : eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd , ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef . Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan , megis llety mewn gardd cucumerau , megis dinas warchaeëdig . Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill , fel Sodom y buasem , a chyffelyb fuasem i Gomorra . Gwrandewch air yr Arglwydd , tywysogion Sodom ; clywch gyfraith ein Duw ni , pobl Gomorra . Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi ? medd yr Arglwydd : llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod , ac o fraster anifeiliaid breision ; gwaed bustych hefyd , ac ŵyn , a bychod , nid ymhyfrydais ynddynt . Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron , pwy a geisiodd hyn ar eich llaw , sef sengi fy nghynteddau ? Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer : arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf ; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau , cyhoeddi cymanfa ; anwiredd ydyw , sef yr uchel ŵyl gyfarfod . Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid : y maent yn faich arnaf ; blinais yn eu dwyn . A phan estynnoch eich dwylo , mi a guddiaf fy llygaid rhagoch : hefyd pan weddïoch lawer , ni wrandawaf : eich dwylo sydd lawn o waed . Ymolchwch , ymlanhewch , bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid ; peidiwch â gwneuthur drwg ; Dysgwch wneuthur daioni : ceisiwch farn , gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig , gwnewch farn i’r amddifad , dadleuwch dros y weddw . Deuwch yr awr hon , ac ymresymwn , medd yr Arglwydd : pe byddai eich pechodau fel ysgarlad , ânt cyn wynned â’r eira ; pe cochent fel porffor , byddant fel gwlân . Os byddwch ewyllysgar ac ufudd , daioni y tir a fwytewch . Ond os gwrthodwch , ac os anufuddhewch , â chleddyf y’ch ysir : canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd . Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain ! cyflawn fu o farn : lletyodd cyfiawnder ynddi ; ond yr awr hon lleiddiaid . Dy arian a aeth yn sothach , dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr : Dy dywysogion sydd gyndyn , ac yn gyfranogion â lladron ; pob un yn caru rhoddion , ac yn dilyn gwobrau : ni farnant yr amddifad , a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt . Am hynny medd yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , cadarn Dduw Israel , Aha , ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr , ac ymddialaf ar fy ngelynion . A mi a ddychwelaf fy llaw arnat , ac a lân buraf dy sothach , ac a dynnaf ymaith dy holl alcam . Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt , a’th gynghoriaid megis yn y dechrau : wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder , yn Dref ffyddlon . Seion a waredir â barn , a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder . A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd ; a’r rhai a ymadawant â’r Arglwydd , a ddifethir . Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch ; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch . Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio , ac fel gardd heb ddwfr iddi . A’r cadarn fydd fel carth , a’i weithydd fel gwreichionen : a hwy a losgant ill dau ynghyd , ac ni bydd a’u diffoddo . Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos , am Jwda a Jerwsalem . A bydd yn y dyddiau diwethaf , fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd , ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau ; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato . A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant , Deuwch , ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd , i dŷ Duw Jacob ; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd , a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef ; canys y gyfraith a â allan o Seion , a gair yr Arglwydd o Jerwsalem . Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd , ac a gerydda bobloedd lawer : a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau , a’u gwaywffyn yn bladuriau : ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl , ac ni ddysgant ryfel mwyach . Tŷ Jacob , deuwch , a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd . Am hynny y gwrthodaist dy bobl , tŷ Jacob , am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain , a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid , ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant . A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur , ac nid oes diben ar eu trysorau ; a’u tir sydd lawn o feirch , ac nid oes diben ar eu cerbydau . Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod ; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant , i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun : A’r gwrêng sydd yn ymgrymu , a’r bonheddig yn ymostwng : am hynny na faddau iddynt . Dos i’r graig , ac ymgûdd yn y llwch , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef . Uchel drem dyn a iselir , ac uchder dynion a ostyngir ; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw . Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel , ac ar bob dyrchafedig ; ac efe a ostyngir : Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus , ac ar holl dderw Basan , Ac ar yr holl fynyddoedd uchel , ac ar yr holl fryniau dyrchafedig , Ac ar bob tŵr uchel , ac ar bob magwyr gadarn , Ac ar holl longau Tarsis , ac ar yr holl luniau dymunol . Yna yr iselir uchelder dyn , ac y gostyngir uchder dynion : a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw . A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol . A hwy a ânt i dyllau y creigiau , ac i ogofau llychlyd , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef , pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear . Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian , a’i eilunod aur , y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli , i’r wadd ac i’r ystlumod : I fyned i agennau y creigiau , ac i gopâu y clogwyni , rhag ofn yr Arglwydd , a rhag gogoniant ei fawredd ef , pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear . Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau : canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono ? Canys wele , yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , a dynn ymaith o Jerwsalem , ac o Jwda , y gynhaliaeth a’r ffon , holl gynhaliaeth bara , a holl gynhaliaeth dwfr , Y cadarn , a’r rhyfelwr , y brawdwr , a’r proffwyd , y synhwyrol , a’r henwr , Y tywysog deg a deugain , a’r anrhydeddus , a’r cynghorwr , a’r crefftwr celfydd , a’r areithiwr huawdl . A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt , a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt . A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall , a phob un gan ei gymydog : y bachgen yn erbyn yr henwr , a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus , a ymfalchïa . Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad , gan ddywedyd , Y mae dillad gennyt , bydd dywysog i ni ; a bydded y cwymp hwn dan dy law di : Yntau a dwng yn y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Ni byddaf iachawr ; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad : na osodwch fi yn dywysog i’r bobl . Canys cwympodd Jerwsalem , a syrthiodd Jwda : oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd , i gyffroi llygaid ei ogoniant ef . Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn ; a’u pechod fel Sodom a fynegant , ac ni chelant : gwae eu henaid , canys talasant ddrwg iddynt eu hunain . Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn : canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt . Gwae yr anwir , drwg fydd iddo : canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo . Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn , a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt . O fy mhobl , y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni , a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant . Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau , ac yn sefyll i farnu y bobloedd . Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl , a’u tywysogion : canys chwi a borasoch y winllan ; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai . Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl , ac a faloch ar wynebau y tlodion ? medd Arglwydd Dduw y lluoedd . A’r Arglwydd a ddywedodd , Oherwydd balchïo o ferched Seion , a rhodio â gwddf estynedig , ac â llygaid gwamal , gan rodio a rhygyngu wrth gerdded , a thrystio â’u traed : Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion ; a’r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt . Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau , y rhwydwaith hefyd , a’r lloerawg wisgoedd , Y cadwynau , a’r breichledau , a’r moledau , Y penguwch , ac addurn y coesau , a’r ysnodennau , a’r dwyfronegau , a’r clustlysau , Y modrwyau , ac addurn y trwyn , Y gwisgoedd symudliw , a’r mentyll , a’r misyrnau , a’r crychnodwyddau , Y drychau hefyd , a’r lliain meinwych , a’r cocyllau , a’r gynau . A bydd yn lle perarogl , ddrewi ; bydd hefyd yn lle gwregys , rwygiad ; ac yn lle iawn drefn gwallt , foelni ; ac yn lle dwyfronneg , gwregys o sachliain ; a llosgfa yn lle prydferthwch . Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf , a’th gadernid trwy ryfel . A’i phyrth hi a ofidiant , ac a alarant : a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear . Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr , gan ddywedyd , Ein bara ein hun a fwytawn , a’n dillad ein hun a wisgwn : yn unig galwer dy enw di arnom ni ; cymer ymaith ein gwarth ni . Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch ac yn ogoniant ; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel . A bydd , am yr hwn a adewir yn Seion , ac a weddillir yn Jerwsalem , y dywedir wrtho , O sanct ; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem : Pan ddarffo i’r Arglwydd olchi budreddi merched Seion , a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol , mewn ysbryd barn , ac mewn ysbryd llosgfa . A’r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion , ac ar ei gymanfaoedd , gwmwl a mwg y dydd , a llewyrch tân fflamllyd y nos : canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn . A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres , ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw . Canaf yr awr hon i’m hanwylyd , ganiad fy anwylyd am ei winllan . Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon : Ac efe a’i cloddiodd hi , ac a’i digaregodd , ac a’i plannodd o’r winwydden orau , ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol , ac a drychodd winwryf ynddi : ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin , hithau a ddug rawn gwylltion . Ac yr awr hon , preswylwyr Jerwsalem , a gwŷr Jwda , bernwch , atolwg , rhyngof fi a’m gwinllan . Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan , nag a wneuthum ynddi ? paham , a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin , y dug hi rawn gwylltion ? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan : tynnaf ymaith ei chae , fel y porer hi ; torraf ei magwyr , fel y byddo hi yn sathrfa ; A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod : nid ysgythrir hi , ac ni chloddir hi ; ond mieri a drain a gyfyd : ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni . Diau , gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel , a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef : ac efe a ddisgwyliodd am farn , ac wele drais ; am gyfiawnder , ac wele lef . Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ , ac yn cydio maes wrth faes , hyd oni byddo eisiau lle , ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir . Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd , Yn ddiau bydd tai lawer , mawrion a theg , yn anghyfannedd heb drigiannydd . Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath , a lle homer a ddwg effa . Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn , a arhosant hyd yr hwyr , hyd oni enynno y gwin hwynt . Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn , a’r nabl , y dympan , a’r bibell , a’r gwin : ond am waith yr Arglwydd nid edrychant , a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant . Am hynny y caethgludwyd fy mhobl , am nad oes ganddynt wybodaeth : a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog , a’u lliaws a wywodd gan syched . Herwydd hynny yr ymehangodd uffern , ac yr agorodd ei safn yn anferth ; ac yno y disgyn eu gogoniant , a’u lliaws , a’u rhwysg , a’r hwn a lawenycha ynddi . A’r gwrêng a grymir , a’r galluog a ddarostyngir , a llygaid y rhai uchel a iselir . Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn ; a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder . Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer ; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision . Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd , a phechod megis â rhaffau men : Y rhai a ddywedant , Brysied , a phrysured ei orchwyl , fel y gwelom ; nesaed hefyd , a deued cyngor Sanct yr Israel , fel y gwypom . Gwae y rhai a ddywedant am y drwg , Da yw ; ac am y da , Drwg yw ; gan osod tywyllwch am oleuni , a goleuni am dywyllwch : y rhai a osodant chwerw am felys , a melys am chwerw . Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun , a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun . Gwae y rhai cryfion i yfed gwin , a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn : Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr , ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt . Am hynny , megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl , ac y difa y fflam y mân us : felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd , a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch ; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd , a dirmygu gair Sanct yr Israel . Am hynny yr enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl , ac yr estynnodd efe ei law arnynt , ac a’u trawodd hwynt ; a chrynodd y mynyddoedd , a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan . Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell , ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear : ac wele , ar frys yn fuan y deuant . Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith ; ni huna yr un , ac ni chwsg : ac ni ddatodir gwregys ei lwynau , ac ni ddryllir carrai ei esgidiau . Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion , a’i holl fwâu yn anelog : carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr , a’i olwynion fel corwynt . Ei ruad fydd fel llew ; efe a rua fel cenawon llew : efe a chwyrna hefyd , ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth ; efe a ddianc hefyd , ac a’i dwg ymaith yn ddiogel , ac ni bydd achubydd . Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw , fel rhuad y môr : os edrychir ar y tir , wele dywyllwch , a chyfyngder , a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd . Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia , y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig , a’i odre yn llenwi y deml . Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny : chwech adain ydoedd i bob un : â dwy y cuddiai ei wyneb , ac â dwy y cuddiai ei draed , ac â dwy yr ehedai . A llefodd y naill wrth y llall , ac a ddywedodd , Sanct , Sanct , Sanct , yw Arglwydd y lluoedd , yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef . A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain , a’r tŷ a lanwyd gan fwg . Yna y dywedais , Gwae fi ! canys darfu amdanaf : oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi , ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo : canys fy llygaid a welsant y brenin , Arglwydd y lluoedd . Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid , ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel : Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau , ac a ddywedodd , Wele , cyffyrddodd hwn â’th wefusau , ac ymadawodd dy anwiredd , a glanhawyd dy bechod . Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd , Pwy a anfonaf ? a phwy a â drosom ni ? Yna y dywedais , Wele fi , anfon fi . Ac efe a ddywedodd , Dos , a dywed wrth y bobl hyn , Gan glywed clywch , ond na ddeellwch ; a chan weled gwelwch , ond na wybyddwch . Brasâ galon y bobl hyn , a thrymha eu clustiau , a chae eu llygaid ; rhag iddynt weled â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’u calon , a dychwelyd , a’u meddyginiaethu . Yna y dywedais , Pa hyd , Arglwydd ? Ac efe a atebodd , Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd , a’r tai heb ddyn , a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd , Ac i’r Arglwydd bellhau dynion , a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad . Ac eto bydd ynddi ddegwm , a hi a ddychwel , ac a borir ; fel y llwyfen a’r dderwen , y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt : felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi . Abu yn nyddiau Ahas mab Jotham , mab Usseia brenin Jwda , ddyfod o Resin brenin Syria , a Pheca mab Remaleia , brenin Israel , i fyny tua Jerwsalem , i ryfela arni : ond ni allodd ei gorchfygu . A mynegwyd i dŷ Dafydd , gan ddywedyd , Syria a gydsyniodd ag Effraim . A’i galon ef a gyffrôdd , a chalon ei bobl , megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia , Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas , ti a Sear‐jasub dy fab , wrth ymyl pistyll y llyn uchaf , ym mhriffordd maes y pannwr : A dywed wrtho , Ymgadw , a bydd lonydd ; nac ofna , ac na feddalhaed dy galon , rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn , rhag angerdd llid Resin , a Syria , a mab Remaleia : Canys Syria , ac Effraim , a mab Remaleia , a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn , gan ddywedyd , Esgynnwn yn erbyn Jwda , a blinwn hi , torrwn hi hefyd atom , a gosodwn frenin yn ei chanol hi ; sef mab Tabeal . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ni saif , ac ni bydd hyn . Canys pen Syria yw Damascus , a phen Damascus yw Resin ; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl . Hefyd pen Effraim yw Samaria , a phen Samaria yw mab Remaleia . Oni chredwch , diau ni sicrheir chwi . A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd , Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw ; gofyn o’r dyfnder , neu o’r uchelder oddi arnodd . Ond Ahas a ddywedodd , Ni ofynnaf , ac ni themtiaf yr Arglwydd . A dywedodd yntau , Gwrandewch yr awr hon , tŷ Dafydd ; Ai bychan gennych flino dynion , oni flinoch hefyd fy Nuw ? Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd ; Wele , morwyn a fydd feichiog , ac a esgor ar fab , ac a eilw ei enw ef , Immanuel . Ymenyn a mêl a fwyty efe ; fel y medro ymwrthod â’r drwg , ac ethol y da . Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg , ac ethol y da , y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist , gan ei dau frenin . Yr Arglwydd a ddwg arnat ti , ac ar dy bobl , ac ar dŷ dy dadau , ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda , sef brenin Asyria . A bydd yn y dydd hwnnw , i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft , ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria : A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol , ac yng nghromlechydd y creigiau , ac yn yr ysbyddaid oll , ac yn y perthi oll . Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir , sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon , sef â brenin Asyria , y pen , a blew y traed ; a’r farf hefyd a ddifa efe . A bydd yn y dydd hwnnw , i ŵr fagu anner‐fuwch , a dwy ddafad : Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant , iddo fwyta ymenyn : canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir . A bydd y dydd hwnnw , fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol , yn fieri ac yn ddrain y bydd . Â saethau ac â bwâu y daw yno : canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad . Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau , ni ddaw yno ofn mieri na drain : ond bydd yn hebryngfa gwartheg , ac yn sathrfa defaid . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cymer i ti rol fawr , ac ysgrifenna arni â phin dyn , am Maher‐shalal‐has‐bas . A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon , Ureia yr offeiriad , a Sechareia mab Jeberecheia . A mi a neseais at y broffwydes ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Galw ei enw ef , Maher‐shalal‐has‐bas . Canys cyn y medro y bachgen alw , Fy nhad , neu , Fy mam , golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria . A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn , gan ddywedyd , Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa , y rhai sydd yn cerdded yn araf , a chymryd llawenydd o Resin , a mab Remaleia : Am hynny , wele , mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon , yn gryfion ac yn fawrion , sef brenin Asyria , a’i holl ogoniant ; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd , ac ar ei holl geulennydd ef . Ie , trwy Jwda y treiddia ef : efe a lifa , ac a â drosodd , efe a gyrraedd hyd y gwddf ; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di , O Immanuel . Ymgyfeillechwch , bobloedd , a chwi a ddryllir : gwrandewch , holl belledigion y gwledydd ; ymwregyswch , a chwi a ddryllir ; ymwregyswch , a chwi a ddryllir . Ymgynghorwch gyngor , ac fe a ddiddymir ; dywedwch y gair , ac ni saif : canys y mae Duw gyda ni . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref , ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn , gan ddywedyd , Na ddywedwch , Cydfwriad , wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn , Cydfwriad : nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt , ac na arswydwch . Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch ; a bydded efe yn ofn i chwi , a bydded efe yn arswyd i chwi : Ac efe a fydd yn noddfa ; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel , yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem . A llawer yn eu mysg a dramgwyddant , ac a syrthiant , ac a ddryllir , ac a rwydir , ac a ddelir . Rhwym y dystiolaeth , selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion . A minnau a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob , ac a wyliaf amdano . Wele fi a’r plant a roddes yr Arglwydd i mi , yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel : oddi wrth Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion . A phan ddywedant wrthych , Ymofynnwch â’r swynyddion , ac â’r dewiniaid , y rhai sydd yn hustyng , ac yn sibrwd : onid â’u Duw yr ymofyn pobl ? dros y byw at y meirw ? At y gyfraith , ac at y dystiolaeth : oni ddywedant yn ôl y gair hwn , hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt . A hwy a dramwyant trwyddi , yn galed arnynt ac yn newynog : a bydd pan newynont , yr ymddigiant , ac y melltithiant eu brenin a’u Duw , ac a edrychant i fyny . A hwy a edrychant ar y ddaear ; ac wele drallod a thywyllwch , niwl cyfyngder ; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch . Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid ; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali , ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr , tu hwnt i’r Iorddonen , yn Galilea y cenhedloedd . Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch , a welsant oleuni mawr : y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt . Amlheaist y genhedlaeth , ni chwanegaist lawenydd ; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf , ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail . Canys drylliaist iau ei faich ef , a ffon ei ysgwydd ef , gwialen ei orthrymwr , megis yn nydd Midian . Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst , a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed ; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân . Canys bachgen a aned i ni , mab a roddwyd i ni , a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef : a gelwir ei enw ef , Rhyfeddol , Cynghorwr , y Duw cadarn , Tad tragwyddoldeb , Tywysog tangnefedd . Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd , ar orseddfa Dafydd , ac ar ei frenhiniaeth ef , i’w threfnu hi , ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder , o’r pryd hwn , a hyd byth . Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob ; ac efe a syrthiodd ar Israel . A’r holl bobl a wybydd , sef Effraim a thrigiannydd Samaria , y rhai a ddywedant mewn balchder , ac mewn mawredd calon , Y priddfeini a syrthiasant , ond â cherrig nadd yr adeiladwn : y sycamorwydd a dorrwyd , ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd . Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef , ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd ; Y Syriaid o’r blaen , a’r Philistiaid hefyd o’r ôl : a hwy a ysant Israel yn safnrhwth . Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd , ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd . Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon , cangen a brwynen , yn yr un dydd . Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen : a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd , efe yw y gynffon . Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni , a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt . Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy , ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia : canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus , a phob genau yn traethu ynfydrwydd . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Oherwydd anwiredd a lysg fel tân ; y mieri a’r drain a ysa efe , ac a gynnau yn nrysni y coed ; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg . Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear , ac y bydd y bobl fel ymborth tân : nid eiriach neb ei frawd . Ac efe a gipia ar y llaw ddeau , ac a newyna ; bwyty hefyd ar y llaw aswy , ac nis digonir hwynt : bwytânt bawb gig ei fraich ei hun : Manasse , Effraim ; ac Effraim , Manasse : hwythau ynghyd yn erbyn Jwda . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir , a’r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder ; I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn , ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl : fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt , ac yr anrheithiont yr amddifaid . A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad , ac yn y distryw a ddaw o bell ? at bwy y ffowch am gynhorthwy ? a pha le y gadewch eich gogoniant ? Hebof fi y crymant dan y carcharorion , a than y rhai a laddwyd y syrthiant . Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef , ond eto y mae ei law ef yn estynedig . Gwae Assur , gwialen fy llid , a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint . At genedl ragrithiol yr anfonaf ef , ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail , ac ysglyfaethu ysglyfaeth , a’u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd . Ond nid felly yr amcana efe , ac nid felly y meddwl ei galon ; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig . Canys efe a ddywed , Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd ? Onid fel Charcemis yw Calno ? onid fel Arpad yw Hamath ? onid fel Damascus yw Samaria ? Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod , a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria : Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod , felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau ? A bydd , pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion , ac yn Jerwsalem , yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur , ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef : Canys dywedodd , Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn , a thrwy fy noethineb ; oherwydd doeth ydwyf : ac mi a symudais derfynau pobloedd , a’u trysorau a ysbeiliais , ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus : A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth ; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado , y cesglais yr holl ddaear ; ac nid oedd a symudai adain , nac a agorai safn , nac a ynganai . A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi ? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno ? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny , neu megis pe ymddyrchafai y ffon , fel pe na byddai yn bren . Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , ymhlith ei freision ef gulni ; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân . A bydd goleuni Israel yn dân , a’i Sanct ef yn fflam : ac efe a lysg , ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd : Gogoniant ei goed hefyd , a’i ddoldir , a ysa efe , enaid a chorff : a byddant megis pan lesmeirio banerwr . A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi , fel y rhifo plentyn hwynt . A bydd yn y dydd hwnnw , na chwanega gweddill Israel , a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob , ymgynnal mwyach ar yr hwn a’u trawodd ; ond pwysant ar yr Arglwydd , Sanct Israel , mewn gwirionedd . Y gweddill a ddychwel , sef gweddill Jacob , at y Duw cadarn . Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr , gweddill ohonynt a ddychwel : darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder . Canys darfodedigaeth , a honno yn derfynedig , a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion , nac ofna rhag yr Asyriad : â gwialen y’th dery di , ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn , yn ôl ffordd yr Aifft . Canys eto ychydig bach , ac fe a dderfydd y llid , a’m digofaint yn eu dinistr hwy . Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef , megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb : ac fel y bu ei wialen ar y môr , felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft . A bydd yn y dydd hwnnw , y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di , a’i iau ef oddi ar dy war di ; a dryllir yr iau , oherwydd yr eneiniad . Daeth at Aiath , tramwyodd i Migron ; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw . Aethant trwy y rhyd , yn Geba y lletyasant : dychrynodd Rama ; Gibea Saul a ffoes . Bloeddia â’th lef , merch Galim : pâr ei chlywed hyd Lais , O Anathoth dlawd . Ymbellhaodd Madmena : trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi . Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob ; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion , bryn Jerwsalem . Wele , yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd , yn ysgythru y gangen â dychryn : a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith , a’r rhai goruchel a ostyngir . Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn ; a Libanus trwy un cryf a gwymp . Yna y daw allan wialen o gyff Jesse ; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef ; ysbryd doethineb a deall , ysbryd cyngor a chadernid , ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd ; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd : ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe , nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe . Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder , ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb : ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau , ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir . A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef , a ffyddlondeb yn wregys ei arennau . A’r blaidd a drig gyda’r oen , a’r llewpard a orwedd gyda’r myn ; y llo hefyd , a chenau y llew , a’r anifail bras , fyddant ynghyd , a bachgen bychan a’u harwain . Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd ; eu llydnod a gydorweddant : y llew , fel yr ych , a bawr wellt . A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb ; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law . Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd : canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd , megis y mae y dyfroedd yn toi y môr . Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse , yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd : ag ef yr ymgais y cenhedloedd : a’i orffwysfa fydd yn ogoniant . Bydd hefyd yn y dydd hwnnw , i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl , y rhai a weddillir gan Asyria , a chan yr Aifft , a chan Pathros , a chan Ethiopia , a chan Elam , a chan Sinar , a chan Hamath , a chan ynysoedd y môr . Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd , ac a gynnull grwydraid Israel , ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear . Cenfigen Effraim a ymedy hefyd , a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith : ni chenfigenna Effraim wrth Jwda , ac ni chyfynga Jwda ar Effraim . Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin ; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain : hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab , a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt . Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft , ac â’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon , ac a’i tery hi yn y saith ffrwd , ac a wna fyned drosodd yn droetsych . A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria , megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft . Yna y dywedi yn y dydd hwnnw , Molaf di , O Arglwydd : er i ti sorri wrthyf , dychwelir dy lid , a thi a’m cysuri . Wele , Duw yw fy iachawdwriaeth ; gobeithiaf , ac nid ofnaf : canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân ; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth . Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth . A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw , Molwch yr Arglwydd , gelwch ar ei enw , hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd , cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef . Cenwch i’r Arglwydd ; canys godidowgrwydd a wnaeth efe : hysbys yw hyn yn yr holl dir . Bloeddia a chrochlefa , breswylferch Seion ; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di . Baich Babilon , yr hwn a welodd Eseia mab Amos . Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel , dyrchefwch lef atynt , ysgydwch law , fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion . Myfi a orchmynnais i’m rhai sanctaidd ; gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter , y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad . Llef tyrfa yn y mynyddoedd , yn gyffelyb i bobl lawer ; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull : Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel . Dyfod y maent o wlad bell , o eithaf y nefoedd ; sef yr Arglwydd , ac arfau ei lidiowgrwydd , i ddifa yr holl dir . Udwch ; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd ; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw . Am hynny yr holl ddwylo a laesa ; a chalon pob dyn a dawdd : A hwy a ofnant ; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt ; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant ; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda ; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd . Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod , yn greulon â digofaint a dicter llidiog , i osod y wlad yn ddiffeithwch ; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni . Canys sêr y nefoedd , a’u planedau , ni roddant eu llewyrch : yr haul a dywyllir yn ei godiad , a’r lloer ni oleua â’i llewyrch . A mi a ymwelaf â’r byd am ei ddrygioni , ac â’r annuwiolion am eu hanwiredd : a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio ; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy . Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth ; ie , dyn na chŷn o aur Offir . Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd , a’r ddaear a grŷn o’i lle , yn nigofaint Arglwydd y lluoedd , ac yn nydd llid ei ddicter ef . A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu , ac fel dafad heb neb a’i coleddo ; pawb a wynebant at eu pobl eu hun , a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant . Pob un a geffir ynddi a drywenir ; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf . Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid ; eu tai a ysbeilir , a’u gwragedd a dreisir . Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy , y rhai ni roddant fri ar arian ; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo . Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc , ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant : eu llygad nid eiriach y rhai bach . A Babilon , prydferthwch y teyrnasoedd , gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid , fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra . Ni chyfanheddir hi yn dragywydd , ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth ; ac ni phabella yr Arabiad yno , a’r bugeiliaid ni chorlannant yno . Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno ; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid , a chywion yr estrys a drigant yno , a’r ellyllon a lamant yno : A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi , a’r dreigiau yn y palasoedd hyfryd : a’i hamser sydd yn agos i ddyfod , a’i dyddiau nid oedir . Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob , ac a ddethol Israel eto , ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain : a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt , a hwy a lynant wrth dŷ Jacob . Y bobl hefyd a’u cymer hwynt , ac a’u dygant i’w lle , a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr Arglwydd , yn weision ac yn forynion : a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau , ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr . A bydd , yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid , ac oddi wrth dy ofn , ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo , I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon , a dywedyd , Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr ? ac y peidiodd y dref aur ? Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid , a theyrnwialen y llywiawdwyr . Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol , yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd , a erlidir heb neb yn lluddias . Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear ; canasant o lawenydd . Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn , gan ddywedyd , Er pan orweddaist , nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn . Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos , i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad : hi a gyfododd y meirw i ti , sef holl dywysogion y ddaear ; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd . Y rhai hynny oll a lefarant , ac a ddywedant wrthyt , A wanhawyd tithau fel ninnau ? a aethost ti yn gyffelyb i ni ? Disgynnwyd dy falchder i’r bedd , a thrwst dy nablau : tanat y taenir pryf , pryfed hefyd a’th doant . Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd , Lusiffer , mab y wawr ddydd ! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr , yr hwn a wanheaist y cenhedloedd ! Canys ti a ddywedaist yn dy galon , Mi a ddringaf i’r nefoedd ; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa ; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa , yn ystlysau y gogledd ; Dringaf yn uwch na’r cymylau ; tebyg fyddaf i’r Goruchaf . Er hynny i uffern y’th ddisgynnir , i ystlysau y ffos . Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff , ac a’th ystyriant , gan ddywedyd , Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu , ac a gynhyrfodd deyrnasoedd ? A osododd y byd fel anialwch , ac a ddinistriodd ei ddinasoedd , heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref ? Holl frenhinoedd y cenhedloedd , ie , hwy oll a orweddasant mewn gogoniant , bob un yn ei dŷ ei hun : Eithr tydi a fwriwyd allan o’th fedd , fel cangen ffiaidd , neu wisg y lladdedigion , y rhai a drywanwyd â chleddyf ; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos , fel celain wedi ei mathru . Ni byddi mewn un bedd â hwynt , oherwydd dy dir a ddifethaist , a’th bobl a leddaist : ni bydd had yr annuwiol enwog byth . Darperwch laddfa i’w feibion ef , am anwiredd eu tadau ; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir , a llenwi wyneb y byd â dinasoedd . Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt , medd Arglwydd y lluoedd , ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill , a mab , ac ŵyr , medd yr Arglwydd : Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn , ac yn byllau dyfroedd ; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw , medd Arglwydd y lluoedd . Tyngodd Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Diau megis yr amcenais , felly y bydd ; ac fel y bwriedais , hynny a saif ; Am ddryllio Assur yn fy nhir : canys mathraf ef ar fy mynyddoedd ; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt , ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt . Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear : a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd . Oherwydd Arglwydd y lluoedd a’i bwriadodd , a phwy a’i diddyma ? ei law ef hefyd a estynnwyd , a phwy a’i try yn ôl ? Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas , y bu y baich hwn . Palesteina , na lawenycha di oll , er torri gwialen dy drawydd : oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan , a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog . A chynblant y tlodion a ymborthant , a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch : a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn , yntau a ladd y weddill . Uda , borth ; gwaedda , ddinas ; Palesteina , ti oll a doddwyd : canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd , ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef . A pha beth a atebir i genhadau y genedl ? Seilio o’r Arglwydd Seion , ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi . Baich Moab . Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab , ac y distawyd hi ; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab , ac y distawyd hi . Aeth i fyny i Baith , ac i Dibon , i’r uchelfeydd , i wylo : am Nebo , ac am Medeba , yr uda Moab ; bydd moelni ar eu holl bennau , a phob barf wedi ei heillio . Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain : ar bennau eu tai , ac yn eu heolydd , yr uda pob un , gan wylo yn hidl . Gwaedda Hesbon hefyd , ac Eleale : hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt : am hynny arfogion Moab a floeddiant , pob un a flina ar ei einioes . Fy nghalon a waedda am Moab , ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar , fel anner deirblwydd ; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith : canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim . Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith : canys gwywodd y llysiau , darfu y gwellt ; nid oes gwyrddlesni . Am hynny yr helaethrwydd a gawsant , a’r hyn a roesant i gadw , a ddygant i afon yr helyg . Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab , eu hudfa hyd Eglaim , a’u hochain hyd Beer‐elim . Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed ; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon , llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab , ac ar weddill y wlad . Anfonwch oen i lywodraethwr y tir , o Sela i’r anialwch , i fynydd merch Seion . Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth ; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon . Ymgynghora , gwna farn , gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd ; cuddia y rhai gwasgaredig , na ddatguddia y crwydrad . Triged fy ngwasgaredigion gyda thi ; Moab , bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd ; canys diweddwyd y gorthrymydd , yr anrheithiwr a beidiodd , y mathrwyr a ddarfuant o’r tir . A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd ; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd , o fewn pabell Dafydd , yn barnu ac yn ceisio barn , ac yn prysuro cyfiawnder . Clywsom am falchder Moab , ( balch iawn yw , ) am ei falchder , a’i draha , a’i ddicllonedd : ond nid felly y bydd ei gelwyddau . Am hynny yr uda Moab am Moab , pob un a uda : am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch ; yn ddiau hwy a drawyd . Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant ; ac am winwydden Sibma , arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi ; hyd Jaser y cyraeddasant ; crwydrasant ar hyd yr anialwch ; ei changhennau a ymestynasant , ac a aethant dros y môr . Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser , gwinwydden Sibma ; dyfrhaf di , Hesbon , ac Eleale , â’m dagrau : canys ar dy ffrwythydd haf , ac ar dy gynhaeaf , y syrthiodd bloedd . Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd : ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd ; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd ; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio . Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn , a’m perfedd am Cir‐hares . A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan , yna y daw efe i’w gysegr i weddïo ; ond ni thycia iddo . Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab , er yr amser hwnnw . Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , O fewn tair blynedd , fel blynyddoedd gwas cyflog , y dirmygir gogoniant Moab , a’r holl dyrfa fawr ; a’r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym . Baich Damascus . Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas , a charnedd wedi syrthio a fydd hi . Gwrthodwyd dinasoedd Aroer : i ddiadellau y byddant , y rhai a orweddant , ac ni bydd a’u dychryno . A derfydd amddiffynfa o Effraim , a brenhiniaeth o Damascus , a gweddill Syria : fel gogoniant meibion Israel y byddant , medd Arglwydd y lluoedd . Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau , a braster ei gig ef a gulha . Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd , a medi â’i fraich y tywysennau : a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim . Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin , fel ysgydwad olewydden , sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig , a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf , medd Arglwydd Dduw Israel . Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr , a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel : Ac nid edrych am yr allorau , y rhai ydynt waith ei ddwylo ; ie , nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd , na’r llwyni , na’r delwau . Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig , a’r brig , y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel : felly y bydd anghyfanhedd‐dra . Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth , ac na chofiaist graig dy gadernid : am hynny y plenni blanhigion hyfryd , ac yr impi hwynt â changhennau dieithr . Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu , a’r bore y gwnei i’th had flodeuo : ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus . Gwae dyrfa pobloedd lawer , fel twrf y môr y trystiant ; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer . Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl ; a Duw a’u cerydda hwynt , a hwy a ffoant ymhell , ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt , ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt . Ac wele drallod ar brynhawn , a chyn y bore ni bydd . Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni , a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni . Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd , yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia : Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr , ac ar hyd wyneb y dyfroedd , mewn llestri brwyn , gan ddywedyd , Ewch , genhadon cyflym , at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig , at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto , cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru , yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir . Holl drigolion y byd , a phreswylwyr y ddaear , gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd , a chlywch pan utgano ag utgorn . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Byddaf lonydd , a mi a ystyriaf yn fy annedd , megis gwres eglur ar lysiau , fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf . Canys o flaen cynhaeaf , pan fyddo y blodeuyn yn berffaith , a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn : efe a dyr y brig â chrymanau , ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau . Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd , ac i anifeiliaid y ddaear : ac arnynt y bwrw yr adar yr haf , a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt . Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig , a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto , cenedl wedi ei mesur a’i sathru , yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir , i le enw Arglwydd y lluoedd , sef i fynydd Seion . Baich yr Aifft . Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn , ac efe a ddaw i’r Aifft : ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef , a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol . Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid , a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd , a phob un yn erbyn ei gymydog ; dinas yn erbyn dinas , a theyrnas yn erbyn teyrnas . Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol , a mi a ddiddymaf ei chyngor hi : yna yr ymofynnant ag eilunod , ac â swynyddion , ac â dewiniaid , ac â brudwyr . A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled ; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt , medd yr Arglwydd , Arglwydd y lluoedd . A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr , yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech . A hwy a droant yr afonydd ymhell ; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir , ac a sychant : torrir ymaith bob corsen a hesgen . Y papurfrwyn wrth yr afon , ar fin yr afon , a phob peth a heuwyd wrth yr afon , a wywa , a chwelir , ac ni bydd mwy . Y pysgodwyr hefyd a dristânt , a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant : felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt . Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin , a’r rhai a weant rwydwaith . A hwy a dorrir yn eu bwriadau , y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau . Diau ynfydion yw tywysogion Soan ; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd : pa fodd y dywedwch wrth Pharo , Mab y doethion ydwyf fi , mab hen frenhinoedd ? Mae hwynt ? mae dy ddoethion ? a mynegant i ti yr awr hon , a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft . Tywysogion Soan a ynfydasant ; twyllwyd tywysogion Noff , a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft . Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd ; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith , fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa . Ac ni bydd gwaith i’r Aifft , yr hwn a wnelo y pen na’r gloren , y gangen na’r frwynen . Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd ; canys hi a ddychryna , ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd , yr hon a ysgydwa efe arni hi . A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft : pwy bynnag a’i cofia hi , a ofna ynddo ei hun ; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd , yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi . Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan , ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd : Dinas distryw y gelwir un . Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft , a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi . Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft . Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr ; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth , ac efe a’u gwared hwynt . A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft ; ie , yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw : gwnânt hefyd aberth ac offrwm , ac addunant adduned i’r Arglwydd , ac a’i talant . Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft ; efe a’i tery , ac a’i hiachâ ; hwythau a droant at yr Arglwydd , ac efe a’u gwrendy hwynt , ac a’u hiachâ hwynt . A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria , ac yr â yr Asyriad i’r Aifft , a’r Eifftiad i Asyria : a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant . Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft , a chydag Asyria , sef yn fendith o fewn y tir : Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i , ac Asyria gwaith fy nwylo , ac Israel fy etifeddiaeth . Yn y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod , pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef , ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi ; Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Eseia mab Amos , gan ddywedyd , Dos , a datod y sachliain oddi am dy lwynau , a diosg dy esgidiau oddi am dy draed . Ac efe a wnaeth felly , gan rodio yn noeth , ac heb esgidiau . Dywedodd yr Arglwydd hefyd , Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft , ac yn erbyn Ethiopia ; Felly yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft , a chaethglud Ethiopia , sef yn llanciau a hynafgwyr , yn noethion ac heb esgidiau , ac yn dinnoeth , yn warth i’r Aifft . Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia eu gobaith hwynt , ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy . A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon , Wele , fel hyn y mae ein gobaith ni , lle y ffoesom am gymorth i’n gwared rhag brenin Asyria : a pha fodd y dihangwn ? Baich anialwch y môr . Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd ; felly y daw o’r anialwch , o wlad ofnadwy . Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi . Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni , a’r dinistrydd sydd yn dinistrio . Elam , dring ; Media , gwarchae ; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod . Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur ; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor ; syrthiais wrth ei glywed , brawychais wrth ei weled . Cyfeiliornodd fy nghalon , braw a’m dychrynodd ; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi . Paratoa y bwrdd , gwylia yn y ddisgwylfa , bwyta , yf ; cyfodwch , dywysogion ; eneiniwch y darian . Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Dos , gosod wyliedydd , myneged yr hyn a welo . Ac efe a welodd gerbyd , a dau o wŷr meirch , cerbyd asynnod , a cherbyd camelod ; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben . Ac efe a lefodd , Llew : fy arglwydd , ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad , ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos . Ac wele , yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr , a dau o wŷr meirch . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon ; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr . O fy nyrniad , a chnwd fy llawr dyrnu ! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , a fynegais i chwi . Baich Duma , Arnaf fi y mae yn galw o Seir , Y gwyliedydd , beth am y nos ? y gwyliedydd , beth am y nos ? y gwyliedydd , beth am y nos ? Dywedodd y gwyliedydd , Daeth y bore a’r nos hefyd : os ceisiwch , ceisiwch : dychwelwch , deuwch . Baich ar Arabia . Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi , fforddolion Dedanim . Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig , trigolion tir Tema , achubwch flaen y crwydrus â’i fara . Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant , rhag y cleddyf noeth , a rhag y bwa anelog , a rhag trymder rhyfel . Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi , Cyn pen blwyddyn , o fath blwyddyn gwas cyflog , y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar : A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar , a leiheir : canys Arglwydd Dduw Israel a’i dywedodd . Baich glyn gweledigaeth . Beth a ddarfu i ti yn awr , pan ddringaist ti oll i nennau y tai ? Ti yr hon wyt yn llawn terfysg , yn ddinas derfysgol , yn ddinas lawen : dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf , na’th feirw mewn rhyfel . Dy holl dywysogion a gydffoesant , gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt : y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd , y rhai a ffoesant o bell . Am hynny y dywedais , Edrychwch oddi wrthyf ; mi a wylaf yn chwerw , na lafuriwch fy nghysuro , am ddinistr merch fy mhobl . Oherwydd diwrnod blinder yw , a mathru , a drysni , gan Arglwydd Dduw y lluoedd , yng nglyn gweledigaeth , yn difurio y gaer , ac yn gweiddi i’r mynydd . Elam hefyd a ddug y cawell saethau , mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch ; Cir hefyd a ddinoethodd y darian . A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau , a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth . Ac efe a ddinoethodd do Jwda , ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig . A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd , mai aml oeddynt ; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf . Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem , a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur . A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn : ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr , nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm . A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain , ac i alarnad , ac i foeledd , ac i ymwregysu â sachliain : Ac wele lawenydd a gorfoledd , gan ladd gwartheg , a lladd defaid , gan fwyta cig , ac yfed gwin : bwytawn ac yfwn ; canys yfory , meddant , y byddwn feirw . A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd , Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn , hyd oni byddoch feirw , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Cerdda , dos at y trysorydd hwn , sef at Sebna , yr hwn sydd benteulu , a dywed , Beth sydd i ti yma ? a phwy sydd gennyt ti yma , pan drychaist i ti yma fedd , fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel , ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig ? Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost , a chan wisgo a’th wisg di . Gan dreiglo y’th dreigla di , fel treiglo pêl i wlad eang ; yno y byddi farw , ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr . Yna y’th yrraf o’th sefyllfa , ac o’th sefyllfa y dinistria efe di . Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia : A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef , ac â’th wregys di y nerthaf ef ; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di : ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem , ac i dŷ Jwda . Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef : yna yr egyr efe , ac ni bydd a gaeo ; ac efe a gae , ac ni bydd a agoro . A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr ; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad . Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad , hil ac epil ; yr holl fân lestri ; o’r llestri meiliau , hyd yr holl offer cerdd . Yn y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr , a hi a dorrir , ac a syrth : torrir hefyd y llwyth oedd arni ; canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Baich Tyrus . Llongau Tarsis , udwch : canys anrheithiwyd hi , fel nad oes na thŷ , na chyntedd : o dir Chittim y datguddiwyd iddynt . Distewch , drigolion yr ynys , yr hon y mae marchnadyddion Sidon , y rhai sydd yn tramwy y môr , yn dy lenwi . Ac wrth ddyfroedd lawer , had Sihor , cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi : felly marchnadfa cenhedloedd yw hi . Cywilyddia , Sidon ; canys y môr , ie , cryfder y môr , a lefarodd , gan ddywedyd , Nid ymddygais , ac nid esgorais , ni fegais wŷr ieuainc chwaith , ac ni feithrinais forynion . Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid , yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus . Ewch trosodd i Tarsis ; udwch , breswylyr yr ynys . Ai hon yw eich dinas lawen chwi , yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt ? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell . Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog , yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion , a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear ? Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn , i ddifwyno balchder pob gogoniant , ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear . Dos trwy dy wlad fel afon , O ferch Tarsis : nid oes nerth mwyach . Estynnodd ei law ar y môr , dychrynodd y teyrnasoedd ; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth , ddinistrio ei chadernid . Ac efe a ddywedodd , Ni chei orfoleddu mwyach , yr orthrymedig forwyn , merch Sidon ; cyfod , dos i Chittim ; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch . Wele dir y Caldeaid ; nid oedd y bobl hyn , nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch : dyrchafasant ei thyrau , cyfodasant ei phalasau ; ac efe a’i tynnodd hi i lawr . Llongau Tarsis , udwch ; canys anrheithiwyd eich nerth . A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain , megis dyddiau un brenin : ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain . Cymer y delyn , amgylchyna y ddinas , ti butain anghofiedig : cân gerdd yn dda : cân lawer fel y’th gofier . Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus , a hi a ddychwel at ei helw , ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear . Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r Arglwydd : ni thrysorir ac nis cedwir : canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth , i fwyta yn ddigonol , ac yn ddillad parhaus . Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag , ac yn ei difwyno hi ; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion . Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad , i’r gwas ac i’w feistr , i’r llawforwyn ac i’w meistres , i’r prynydd ac i’r gwerthydd , i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn , i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo . Gan wacáu y gwacéir , a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad ; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn . Galarodd a diflannodd y ddaear , llesgaodd a dadwinodd y byd , dihoenodd pobl feilchion y ddaear . Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr : canys troseddasant y cyfreithiau , newidiasant y deddfau , diddymasant y cyfamod tragwyddol . Am hynny melltith a ysodd y tir , a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd ; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd , ac ychydig ddynion a adawyd . Galarodd y gwin , llesgaodd y winwydden , y rhai llawen galon oll a riddfanasant . Darfu llawenydd y tympanau , peidiodd trwst y gorfoleddwyr , darfu hyfrydwch y delyn . Nid yfant win dan ganu ; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant . Drylliwyd y ddinas wagedd ; caewyd pob tŷ , fel na ddeler i mewn . Y mae llefain am win yn yr heolydd ; tywyllodd pob llawenydd , hyfrydwch y tir a fudodd ymaith . Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd , ag anrhaith hefyd y dryllir y porth . Oblegid bydd o fewn y tir , yng nghanol y bobloedd , megis ysgydwad olewydden , ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin . Hwy a ddyrchafant eu llef , ac a ganant ; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd , bloeddiant o’r môr . Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd , enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr . O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau , sef gogoniant i’r cyfiawn . A dywedais , O fy nghulni , O fy nghulni , gwae fi ! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon , ie , gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf . Dychryn , a ffos , a magl fydd arnat ti , breswylydd y ddaear . A’r hwn a ffy rhag trwst y dychryn , a syrth yn y ffos ; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos , a ddelir yn y fagl : oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd , a seiliau y ddaear sydd yn crynu . Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear , gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear , gan symud yr ymsymudodd y ddaear . Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn , ac a ymsigla megis bwth ; a’i chamwedd fydd drwm arni ; a hi a syrth , ac ni chyfyd mwy . Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel , yr hwn sydd yn yr uchelder , ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear . A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy , a hwy a garcherir mewn carchar , ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt . Yna y lleuad a wrida , a’r haul a gywilyddia , pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem , ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant . O Arglwydd , fy Nuw ydwyt ; dyrchafaf di , moliannaf dy enw ; canys gwnaethost ryfeddodau : dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd . Canys gosodaist ddinas yn bentwr , a thref gadarn yn garnedd ; palas dieithriaid , fel na byddo ddinas ; nid adeiledir hi byth . Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda , dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda : Canys buost nerth i’r tlawd , a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder , yn nodded rhag tymestl , yn gysgod rhag gwres , pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur . Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid ; sef gwres â chysgod cwmwl ; darostyngir cangen yr ofnadwy . Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion , gwledd o loyw‐win ; o basgedigion breision , a gloyw‐win puredig . Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd , a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd . Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth ; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb ; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear : canys yr Arglwydd a’i llefarodd . A’r dydd hwnnw y dywedir , Wele , dyma ein Duw ni ; gobeithiasom ynddo , ac efe a’n ceidw : dyma yr Arglwydd ; gobeithiasom ynddo , gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef . Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn , a Moab a sethrir tano , fel sathru gwellt mewn tomen . Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy , fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio ; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo . Felly y gogwydda , y gostwng , ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch , gadernid uchelder dy gaerau . Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda : Dinas gadarn sydd i ni ; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur . Agorwch y pyrth , fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn , yr hon a geidw wirionedd . Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti ; am ei fod yn ymddiried ynot . Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth ; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol . Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder ; tref uchel a ostwng efe : efe a’i darostwng hi i’r llawr , ac a’i bwrw hi i’r llwch . Troed a’i sathr hi , sef traed y trueiniaid , a chamre’r tlodion . Uniondeb yw llwybr y cyfiawn ; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn . Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom , Arglwydd ; dymuniad ein henaid sydd at dy enw , ac at dy goffadwriaeth . A’m henaid y’th ddymunais liw nos ; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf : canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder , pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear . Gwneler cymwynas i’r annuwiol , eto ni ddysg efe gyfiawnder ; yn nhir uniondeb y gwna ar gam , ac ni wêl uchelder yr Arglwydd . Ni welant , Arglwydd , pan ddyrchafer dy law : eithr cânt weled , a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl ; ie , tân dy elynion a’u hysa hwynt . Arglwydd , ti a drefni i ni heddwch : canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni . O Arglwydd ein Duw , arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni ; yn unig trwot ti y coffawn dy enw . Meirw ydynt , ni byddant fyw ; ymadawsant , ni chyfodant ; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt , dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt . Ychwanegaist ar y genedl , O Arglwydd , ychwanegaist ar y genedl ; ti a ogoneddwyd ; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear . Mewn adfyd , Arglwydd , yr ymwelsant â thi ; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt . Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr , pan fyddo agos i esgor ; felly yr oeddem o’th flaen di , Arglwydd . Beichiogasom , gofidiasom , oeddem fel ped esgorem ar wynt ; ni wnaethom ymwared ar y ddaear , a phreswylwyr y byd ni syrthiasant . Dy feirw a fyddant byw , fel fy nghorff i yr atgyfodant . Deffrowch a chenwch , breswylwyr y llwch : canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau , a’r ddaear a fwrw y meirw allan . Tyred , fy mhobl , dos i’th ystafelloedd , a chae dy ddrysau arnat : llecha megis ennyd bach , hyd onid elo y llid heibio . Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i fangre , i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear : a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed , ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion . Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â’i gleddyf caled , mawr , a chadarn , â lefiathan y sarff hirbraff , ie , â lefiathan y sarff dorchog : ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr . Yn y dydd hwnnw cenwch iddi , Gwinllan y gwin coch . Myfi yr Arglwydd a’i ceidw ; ar bob moment y dyfrhaf hi : cadwaf hi nos a dydd , rhag i neb ei drygu . Nid oes lidiowgrwydd ynof : pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel ? myfi a awn trwyddynt , mi a’u llosgwn hwynt ynghyd . Neu ymafled yn fy nerth i , fel y gwnelo heddwch â mi , ac efe a wna heddwch â mi . Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio ; Israel a flodeua , ac a flaendardda ; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd . A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef ? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef ? Wrth fesur , pan êl allan , yr ymddadlau ag ef : y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt . Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob ; a dyna’r holl ffrwyth , tynnu ymaith ei bechod : pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig , ni saif y llwyni na’r delwau . Eto y ddinas gadarn fydd unig , a’r annedd wedi ei adael , a’i wrthod megis yn anialwch : yno y pawr y llo , ac y gorwedd , ac y difa ei blagur hi . Pan wywo ei brig hi , hwy a dorrir : gwragedd a ddaw , ac a’i llosgant hi ; canys nid pobl ddeallgar ydynt : am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt , a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt . A’r dydd hwnnw y bydd i’r Arglwydd ddyrnu , o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft : a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un . Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr ; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria , a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft , ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem . Gwae goron balchder , meddwon Effraim ; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig , yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision , y rhai a orchfygwyd gan win . Wele , un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd , fel tymestl cenllysg , neu gorwynt dinistriol , fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd , yr hwn a fwrw i lawr â llaw . Dan draed y sethrir coron balchder , meddwon Effraim . Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant , yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras , fydd blodeuyn diflanedig , megis ffigysen gynnar cyn yr haf , yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni , efe a’i llwnc hi , a hi eto yn ei law . Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd , ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl ; Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn , ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth . Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win , ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn : yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn , difawyd hwy gan win , cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn , amryfusasant mewn gweledigaeth , tramgwyddasant mewn barn . Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi , heb le glân . I bwy y dysg efe wybodaeth ? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo ? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth , y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau . Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn , gorchymyn ar orchymyn ; llin ar lin , llin ar lin ; ychydig yma , ac ychydig acw . Canys â bloesgni gwefusau , ac â thafodiaith ddieithr , y llefara efe wrth y bobl hyn . Y rhai y dywedodd efe wrthynt , Dyma orffwystra , gadewch i’r diffygiol orffwyso , a dyma esmwythder ; ond ni fynnent wrando . Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn , yn orchymyn ar orchymyn ; yn llin ar lin , yn llin ar lin ; ychydig yma , ac ychydig acw ; fel yr elent ac y syrthient yn ôl , ac y dryllier , ac y magler , ac y dalier hwynt . Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd , ddynion gwatwarus , llywodraethwyr y bobl hyn , y rhai sydd yn Jerwsalem . Am i chwi ddywedyd , Gwnaethom amod ag angau , ac ag uffern y gwnaethom gynghrair ; pan ddêl ffrewyll lifeiriol , ni ddaw atom ni : canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd , a than ffalster y llechasom . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion , maen profedig , conglfaen gwerthfawr , sylfaen safadwy ; ni frysia yr hwn a gredo . A mi a osodaf farn wrth linyn , a chyfiawnder wrth bwys ; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd , a’r dyfroedd a foddant y lloches . A diddymir eich amod ag angau , a’ch cynghrair ag uffern ni saif ; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol , byddwch yn sathrfa iddi . O’r amser y delo , y cymer chwi : canys daw bob bore , ddydd a nos ; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir . Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo ; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo . Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim , efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon , i wneuthur ei waith , ei ddieithr waith ; ac i wneuthur ei weithred , ei ddieithr weithred . Ac yn awr na watwerwch , rhag cadarnhau eich rhwymau ; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir . Clywch , a gwrandewch fy llais ; ystyriwch , a gwrandewch fy lleferydd . Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau ? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir ? Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb , y taena efe y ffacbys , ac y gwasgar y cwmin , ac y bwrw y gwenith ardderchog , a’r haidd nodedig , a’r rhyg yn ei gyfle ? Canys ei Dduw a’i hyfforddia ef mewn synnwyr , ac a’i dysg ef . Canys nid ag og y dyrnir ffacbys , ac ni throir olwyn men ar gwmin ; eithr dyrnir ffacbys â ffon , a chwmin â gwialen . Yd bara a felir ; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol , ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen , ac nis mâl ef â’i wŷr meirch . Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor , ac ardderchog yn ei waith . Gwae Ariel , Ariel , y ddinas y trigodd Dafydd ynddi ! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn ; lladdant ebyrth . Eto mi a gyfyngaf ar Ariel , a bydd galar a griddfan ; a hi a fydd i mi fel Ariel . A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn , ac a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr , ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn . A thi a ostyngir ; o’r ddaear y lleferi , ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd ; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr , a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch . A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân , a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio ; ie , bydd yn ddisymwth ddiatreg . Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau , a thrwy ddaeargryn , a thwrf mawr , trwy gorwynt , a thymestl , a fflam dân ysol . Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel , fel breuddwyd gweledigaeth nos , sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa , ac a warchaeant arni . Ie , bydd megis newynog a freuddwydio , ac wele ef yn bwyta ; a phan ddeffrô , gwag fydd ei enaid : ac megis y sychedig a freuddwydio , ac wele ef yn yfed ; a phan ddeffrô , wele ef yn ddiffygiol , a’i enaid yn chwennych diod : felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion . Arefwch , a rhyfeddwch ; bloeddiwch , a gwaeddwch : meddwasant , ac nid trwy win ; penfeddwasant , ac nid trwy ddiod gadarn . Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg , ac a gaeodd eich llygaid chwi : eich proffwydi , a’ch penaethiaid , y gweledyddion , a orchuddiodd efe . A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig , yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr , gan ddywedyd , Darllen hwn , atolwg : yna y dywed , Ni allaf ; canys seliwyd ef . Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr , gan ddywedyd , Darllen hwn , atolwg : yna y dywed , Ni fedraf ar lyfr . Am hynny y dywedodd yr Arglwydd , Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau , ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau , a phellhau eu calon oddi wrthyf , a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion ; Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn , sef gwyrthiau a rhyfeddod : canys difethir doethineb eu doethion hwynt , a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia . Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd , ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch , ac a ddywedant , Pwy a’n gwêl ni ? a phwy a’n hedwyn ? Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi . Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd , Ni’m gwnaeth i ? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd , Nid yw ddeallus ? Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir , a’r doldir a gyfrifir yn goed ? A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr , a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch . A’r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd ; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel . Canys darfu am yr ofnadwy , a difethwyd y gwatwarus , a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith ; Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair , ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth , ac a wnânt i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a waredodd Abraham , am dŷ Jacob , Weithian ni chywilyddir Jacob , ac ni lasa ei wyneb ef . Eithr pan welo efe ei feibion , gwaith fy nwylo , o’i fewn , hwy a sancteiddiant fy enw , ie , sancteiddiant Sanct Jacob , ac a ofnant Dduw Israel . A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall , a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg . Gwae y meibion cyndyn , medd yr Arglwydd , a gymerant gyngor , ond nid gennyf fi ; ac a orchuddiant â gorchudd , ac nid o’m hysbryd i , i chwanegu pechod ar bechod : Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i’r Aifft , heb ymofyn â mi , i ymnerthu yn nerth Pharo , ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft . Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi , a’r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd . Canys bu ei dywysogion yn Soan , a’i genhadau a ddaethant i Hanes . Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt , ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd , eithr yn warth ac yn waradwydd . Baich anifeiliaid y deau . I dir cystudd ac ing , lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc , y wiber a’r sarff danllyd hedegog , y dygant eu golud ar gefnau asynnod , a’u trysorau ar gefnau camelod , at bobl ni wna les . Canys yn ddi‐les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid : am hynny y llefais arni , Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd . Dos yn awr , ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt , ac ysgrifenna mewn llyfr , fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd ; Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn , plant celwyddog , plant ni fynnant wrando cyfraith yr Arglwydd : Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion , Na welwch ; ac wrth y proffwydi , Na phroffwydwch i ni bethau uniawn ; traethwch i ni weniaith , proffwydwch i ni siomedigaeth : Ciliwch o’r ffordd , ciliwch o’r llwybr ; perwch i Sanct Israel beidio â ni . Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel , Am wrthod ohonoch y gair hwn , ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham , a phwyso ar hynny : Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio , yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg . Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd , gan guro heb arbed ; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o’r aelwyd , nac i godi dwfr o’r ffos . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Sanct Israel , Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig ; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid : ond ni fynnech . Eithr dywedasoch , Nid felly ; canys ni a ffown ar feirch ; am hynny y ffowch : a marchogwn ar feirch buain ; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio . Mil a ffy wrth gerydd un ; ac wrth gerydd pump y ffowch , hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd , ac fel baner ar fryn . Ac am hynny y disgwyl yr Arglwydd i drugarhau wrthych , ie , am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych ; canys Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd . Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho . Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem : gan wylo nid wyli ; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt ; wrth lef dy waedd , pan ei clywo , efe a’th ateb di . A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder , ond ni chornelir dy athrawon mwy , eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon : A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd , Dyma y ffordd , rhodiwch ynddi , pan bwysoch ar y llaw ddeau , neu pan bwysoch ar y llaw aswy . Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian , ac effod dy dawdd‐ddelw aur ; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf , a dywedi wrthynt , Dos ymaith . Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir , a bara cnwd y ddaear , ac efe a fydd yn dew ac yn aml ; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth . Dy ychen hefyd a’th asynnod , y rhai a lafuriant y tir , a borant ebran pur , yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr . Bydd hefyd ar bob mynydd uchel , ac ar bob bryn dyrchafedig , afonydd a ffrydiau dyfroedd , yn nydd y lladdfa fawr , pan syrthio y tyrau . A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul , a llewyrch yr haul fydd saith mwy , megis llewyrch saith niwrnod , yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl , ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt . Wele enw yr Arglwydd yn dyfod o bell , yn llosgi gan ei ddigofaint ef , a’i faich sydd drwm ; ei wefusau a lanwyd o ddicter , a’i dafod sydd megis tân ysol . Ei anadl hefyd , megis afon lifeiriol , a gyrraedd hyd hanner y gwddf , i nithio’r cenhedloedd â gogr oferedd ; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd , yn eu gyrru ar gyfeiliorn . Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl ; a llawenydd calon , megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd , at Gadarn yr Israel . A’r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais , ac a ddengys ddisgyniad ei fraich , mewn dicter llidiog , ac â fflam dân ysol , â gwasgarfa , ac â thymestl , ac â cherrig cenllysg . Canys â llais yr Arglwydd y distrywir Assur , yr hwn a drawai â’r wialen . A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog , yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef , gyda thympanau a thelynau y bydd : ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn . Canys darparwyd Toffet er doe , ie , paratowyd hi i’r brenin : efe a’i dyfnhaodd hi , ac a’i ehangodd : ei chyneuad sydd dân a choed lawer ; anadl yr Arglwydd , megis afon o frwmstan , sydd yn ei hennyn hi . Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy , ac a ymddiriedant mewn meirch , ac a hyderant ar gerbydau , am eu bod yn aml ; ac ar wŷr meirch , am eu bod yn nerthol iawn : ond nid edrychant am Sanct Israel , ac ni cheisiant yr Arglwydd . Eto y mae efe yn ddoeth , ac a ddaw â chosbedigaeth , ac ni eilw ei air yn ôl ; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus , ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd . Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion , ac nid Duw ; a’u meirch yn gnawd , ac nid yn ysbryd . Pan estynno yr Arglwydd ei law , yna y syrth y cynorthwywr , ac y cwymp y cynorthwyedig , a hwynt oll a gydballant . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth , yr hwn , er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn , ni ddychryn rhag eu llef hwynt , ac nid ymostwng er eu twrf hwynt : felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion , a thros ei fryn ef . Megis adar yn ehedeg , felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem ; gan amddiffyn a gwared , gan basio heibio ac achub . Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho . Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian , a’i eilunod aur , y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi . A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf , nid eiddo gŵr grymus ; a chleddyf , nid eiddo dyn gwael , a’i difa ef : ac efe a ffy rhag y cleddyf , a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth . Ac efe a â i’w graig rhag ofn ; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner , medd yr Arglwydd , yr hwn y mae ei dân yn Seion , a’i ffwrn yn Jerwsalem . Wele , brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder , a thywysogion a lywodraethant mewn barn . A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt , ac yn lloches rhag y dymestl ; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir , megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig . Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir , a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant . Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth , a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur . Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig , ac ni ddywedir am y cybydd , Hael yw . Canys coegwr a draetha goegni , a’i galon a wna anwiredd , i ragrithio , ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd , i ddiddymu enaid y newynog ; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu . Arfau y cybydd sydd ddrygionus : efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau , pan draetho yr anghenus yr uniawn . Ond yr hael a ddychymyg haelioni ; ac ar haelioni y saif efe . Cyfodwch , wragedd di‐waith ; clywch fy llais : gwrandewch fy ymadrodd , ferched diofal . Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi , wragedd difraw : canys darfu y cynhaeaf gwin , ni ddaw cynnull . Ofnwch , rai difraw ; dychrynwch , rai diofal : ymddiosgwch , ac ymnoethwch , a gwregyswch sachliain am eich llwynau . Galarant am y tethau , am y meysydd hyfryd , am y winwydden ffrwythlon . Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl , ie , ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd . Canys y palasau a wrthodir , lluosowgrwydd y ddinas a adewir , yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth , yn hyfrydwch asynnod gwylltion , yn borfa diadellau ; Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder , a bod yr anialwch yn ddoldir , a chyfrif y doldir yn goetir . Yna y trig barn yn yr anialwch , a chyfiawnder a erys yn y doldir . A gwaith cyfiawnder fydd heddwch ; ie , gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch , hyd byth . A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon , ac mewn anheddau diogel , ac mewn gorffwysfaoedd llonydd . Pan ddisgynno cenllysg ar y coed , ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel . Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd , y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno . Gwae di anrheithiwr , a thi heb dy anrheithio ; a thi anffyddlon , er na wnaed yn anffyddlon â thi : pan ddarffo i ti anrheithio , y’th anrheithir ; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon , byddant anffyddlon i ti . Arglwydd , trugarha wrthym ; wrthyt y disgwyliasom : bydd fraich iddynt bob bore , a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd . Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl ; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd . A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys ; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt . Dyrchafwyd yr Arglwydd ; canys preswylio y mae yn yr uchelder : efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder . A sicrwydd dy amserau , a nerth iachawdwriaeth , fydd doethineb a gwybodaeth : ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef . Wele , eu rhai dewrion a waeddant oddi allan : cenhadon heddwch a wylant yn chwerw . Aeth y priffyrdd yn ddisathr , darfu cyniweirydd llwybr : diddymodd y cyfamod , diystyrodd y dinasoedd , ni wnaeth gyfrif o ddynion . Galarodd a llesgaodd y ddaear ; cywilyddiodd Libanus , a thorrwyd ef ; Saron a aeth megis anialwch , ysgydwyd Basan hefyd a Charmel . Cyfodaf yn awr , medd yr Arglwydd : ymddyrchafaf weithian ; ymgodaf bellach . Chwi a ymddygwch us , ac a esgorwch ar sofl ; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi . A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch , fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân . Gwrandewch , belledigion , yr hyn a wneuthum ; a gwybyddwch , gymdogion , fy nerth . Pechaduriaid a ofnasant yn Seion , dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr : pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol ? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol ? Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder , ac a draetha uniondeb , a wrthyd elw trawster , a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr , a gaeo ei glust rhag clywed celanedd , ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni ; Efe a breswylia yr uchelderau ; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef : ei fara a roddir iddo , ei ddwfr fydd sicr . Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch : gwelant y tir pell . Dy galon a fyfyria ofn ; pa le y mae yr ysgrifennydd ? pa le y mae y trysorwr ? pa le y mae rhifwr y tyrau ? Ni chei weled pobl greulon , pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di , neu floesg dafod , fel na ddeallech . Gwêl Seion , dinas ein cyfarfod : dy lygaid a welant Jerwsalem , y breswylfa lonydd , y babell ni thynnir i lawr , ac ni syflir un o’i hoelion byth , ac ni thorrir un o’i rhaffau . Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni , yn fangre afonydd a ffrydiau llydain : y rhwyflong nid â trwyddo , a llong odidog nid â drosto . Canys yr Arglwydd yw ein barnwr , yr Arglwydd yw ein deddfwr , yr Arglwydd yw ein brenin ; efe a’n ceidw . Gollyngasant dy raffau , ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn , ni thaenasant yr hwyl ; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr , y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth . Ac ni ddywed y preswylydd , Claf ydwyf : maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi . Nesewch , genhedloedd , i glywed , a gwrandewch , bobloedd ; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi , y byd a’i holl gnwd . Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd , a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt : difrododd hwynt , rhoddes hwynt i’r lladdfa . A’u lladdedigion a fwrir allan , a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny , y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed hwynt . Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir , a’r nefoedd a blygir fel llyfr : a’i holl lu a syrth , fel y syrthiai deilen o’r winwydden , ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren . Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd : wele , ar Edom y disgyn i farn , ac ar y bobl a ysgymunais . Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed , tewychodd gan fraster , a chan waed ŵyn a bychod , gan fraster arennau hyrddod : canys mae i’r Arglwydd aberth yn Bosra , a lladdfa fawr yn nhir Edom . A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt , a’r bustych gyda’r teirw ; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt , a’u llwch fydd dew o fraster . Canys diwrnod dial yr Arglwydd , blwyddyn taledigaeth yn achos Seion , yw . A’i hafonydd a droir yn byg , a’i llwch yn frwmstan , a’i daear yn byg llosgedig . Nis diffoddir nos na dydd ; ei mwg a ddring byth : o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi ; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd . Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna ; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi ; ac efe a estyn arni linyn anhrefn , a meini gwagedd . Ei phendefigion hi a alwant i’r frenhiniaeth , ond ni bydd yr un yno , a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim . Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain , danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd : a hi a fydd yn drigfa dreigiau , yn gyntedd i gywion yr estrys . Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch , a’r cathod , a ymgyfarfyddant : yr ellyll a eilw ar ei gyfaill ; yr ŵyll a orffwys yno hefyd , ac a gaiff orffwysfa iddi . Yno y nytha y dylluan , ac y dodwa , ac y deora , ac a gasgl yn ei chysgod ; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd , pob un gyda’i gymar . Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd , a darllenwch ; ni phalla un o hyn , ni bydd un heb ei gymar ; canys fy ngenau , efe a orchmynnodd , a’i ysbryd , efe a’u casglodd hwynt . Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt , a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn : meddiannant hi hyd byth , a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth . Yr anialwch a’r anghyfanheddle a lawenychant o’u plegid ; y diffeithwch hefyd a orfoledda , ac a flodeua fel rhosyn . Gan flodeuo y blodeua , ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân : gogoniant Libanus a roddir iddo , godidowgrwydd Carmel a Saron : hwy a welant ogoniant yr Arglwydd , a godidowgrwydd ein Duw ni . Cadarnhewch y dwylo llesg , a chryfhewch y gliniau gweiniaid . Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon , Ymgryfhewch , nac ofnwch : wele , eich Duw chwi a ddaw â dial , ie , Duw â thaledigaeth ; efe a ddaw , ac a’ch achub chwi . Yna yr agorir llygaid y deillion , a chlustiau y byddarion a agorir . Yna y llama y cloff fel hydd , ac y cân tafod y mudan : canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch , ac afonydd yn y diffeithwch . Y crastir hefyd fydd yn llyn , a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd ; yn nhrigfa y dreigiau , a’u gorweddfa , y bydd cyfle corsennau a brwyn . Yna y bydd priffordd , a ffordd ; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi : yr halogedig nid â ar hyd‐ddi ; canys hi a fydd i’r rhai hynny : a rodio y ffordd , pe byddent ynfydion , ni chyfeiliornant . Ni bydd yno lew , a bwystfil gormesol ni ddring iddi , ac nis ceir yno ; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno . A gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant , ac a ddeuant i Seion â chaniadau , ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen : goddiweddant lawenydd a hyfrydwch , a chystudd a galar a ffy ymaith . Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia , y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda , ac a’u goresgynnodd hwynt . A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem , at y brenin Heseceia , â llu dirfawr . Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf , ym mhriffordd maes y pannwr . Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur . A dywedodd Rabsace wrthynt , Dywedwch yn awr wrth Heseceia , Fel hyn y dywed y brenin mawr , brenin Asyria , Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo ? Dywedais , meddi , ( ond nid ydynt ond geiriau ofer , ) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel : ar bwy , atolwg , yr hyderi , pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn ? Wele , hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno , ar yr Aifft ; yr hon pwy bynnag a bwyso arni , hi a â i gledr ei law ef , ac a dylla trwyddi : felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno . Ond os dywedi wrthyf , Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried : onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd , a’i allorau , a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem , O flaen yr allor hon yr addolwch ? Ac yn awr dod wystlon , atolwg , i’m harglwydd brenin Asyria , a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch , os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt . A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd , ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion ? Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinistrio ? yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos i fyny yn erbyn y wlad hon , a dinistria hi . Yna y dywedodd Eliacim , a Sebna , a Joa , wrth Rabsace , Llefara , atolwg , wrth dy weision yn Syriaeg : canys yr ydym ni yn ei deall ; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon , lle y clywo y bobl sydd ar y mur . Ond Rabsace a ddywedodd , Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn ? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi , fel y bwytaont eu tom eu hun , ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi ? A safodd Rabsace , a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon , ac a ddywedodd , Gwrandewch eiriau y brenin mawr , brenin Asyria : Fel hyn y dywed y brenin , Na thwylled Heseceia chwi : canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi . Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi , ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria . Na wrandewch ar Heseceia : canys fel hyn y dywed brenin Asyria , Gwnewch fwynder â mi , a deuwch allan ataf , a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun , a phob un o’i ffigysbren , ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun ; Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun , gwlad ŷd a gwin , gwlad bara a gwinllannoedd . Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’n gwared ni . A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria ? Mae duwiau Hamath ac Arffad ? mae duwiau Seffarfaim ? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i ? Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i , fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw ? Eithr hwy a dawsant , ac nid atebasant air iddo : canys gorchymyn y brenin oedd hyn , gan ddywedyd , Nac atebwch ef . Yna y daeth Eliacim mab Hilceia , yr hwn oedd benteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a Joa mab Asaff y cofiadur , at Heseceia , â’u dillad yn rhwygedig , ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace . A Phan glybu y brenin Heseceia hynny , efe a rwygodd ei ddillad , ac a ymwisgodd mewn sachliain , ac a aeth i dŷ yr Arglwydd . Ac a anfonodd Eliacim y penteulu , a Sebna yr ysgrifennydd , a henuriaid yr offeiriaid , wedi ymwisgo mewn sachliain , at Eseia y proffwyd mab Amos . A hwy a ddywedasant wrtho , Fel hyn y dywedodd Heseceia , Diwrnod cyfyngder , a cherydd , a chabledd , yw y dydd hwn : canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth , ond nid oes grym i esgor . Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace , yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw , ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw : am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael . Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia . A dywedodd Eseia wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ofna y geiriau a glywaist , trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi . Wele fi yn rhoddi arno ef wynt , ac efe a glyw sŵn , ac a ddychwel i’w wlad : gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun . Yna y dychwelodd Rabsace , ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna : canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis . Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia , gan ddywedyd , Efe a aeth allan i ryfela â thi . A phan glywodd hynny , efe a anfonodd genhadau at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Na thwylled dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo , gan ddywedyd , Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria . Wele , ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd , gan eu difrodi hwynt ; ac a waredir di ? A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt , y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio , sef Gosan , a Haran , a Reseff , a meibion Eden , y rhai oedd o fewn Telassar ? Mae brenin Hamath , a brenin Arffad , a brenin dinas Seffarfaim , Hena , ac Ifa ? A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau , ac a’i darllenodd ; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd , ac a’i lledodd gerbron yr Arglwydd . A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd , gan ddywedyd , Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid , ti ydwyt Dduw , ie , tydi yn unig , i holl deyrnasoedd y ddaear : ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear . Gogwydda , Arglwydd , dy glust , a gwrando ; agor dy lygaid , Arglwydd , ac edrych : gwrando hefyd holl eiriau Senacherib , yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw . Gwir yw , O Arglwydd , i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd , A rhoddi eu duwiau hwy yn tân ; canys nid oeddynt hwy dduwiau , ond gwaith dwylo dyn , o goed a maen : am hynny y dinistriasant hwynt . Yr awr hon gan hynny , O Arglwydd ein Duw , achub ni o’i law ef ; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd , tydi yn unig . Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria : Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef ; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd , ac a’th watwarodd ; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl . Pwy a ddifenwaist ac a geblaist ? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef , ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid ? yn erbyn Sanct Israel . Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd , ac y dywedaist , A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd , i ystlysau Libanus ; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd , a’i ddewis ffynidwydd ; af hefyd i’w gwr uchaf , ac i goed ei ddoldir . Myfi a gloddiais , ac a yfais ddwfr ; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig . Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm , a’i lunio er y dyddiau gynt ? yn awr y dygais hynny i ben , fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol . Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd : oeddynt megis gwellt y maes , fel gwyrddlysiau , a glaswellt ar bennau tai , neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu . Dy eisteddiad hefyd , a’th fynediad allan , a’th ddyfodiad i mewn , a adnabûm , a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn . Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn , ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau ; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di , a’m ffrwyn yn dy weflau , ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost . A hyn fydd yn arwydd i ti , Heseceia : Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun ; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf ; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch , plennwch winllannoedd hefyd , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A’r gweddill o dŷ Jwda , yr hwn a adewir , a wreiddia eilwaith i waered , ac a ddwg ffrwyth i fyny . Canys gweddill a â allan o Jerwsalem , a’r rhai dihangol o fynydd Seion : sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria , Ni ddaw efe i’r ddinas hon , ac nid ergydia efe saeth yno ; hefyd ni ddaw o’i blaen â tharian , ac ni fwrw glawdd i’w herbyn . Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel , ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon , medd yr Arglwydd . Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon , i’w chadw hi er fy mwyn fy hun , ac er mwyn Dafydd fy ngwas . Yna yr aeth angel yr Arglwydd , ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd : a phan gyfodasant yn fore drannoeth , wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon . Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd , ac a aeth , ac a ddychwelodd , ac a drigodd yn Ninefe . A bu , fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw , i Adrammelech a Sareser ei feibion , ei daro ef â’r cleddyf ; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia . Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef . Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw . Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Trefna dy dŷ ; canys marw fyddi , ac ni byddi byw . Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared , ac a weddïodd at yr Arglwydd : A dywedodd , Atolwg , Arglwydd , cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac â chalon berffaith , a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg . A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr . Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Eseia , gan ddywedyd , Dos , a dywed wrth Heseceia , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad , Clywais dy weddi di , gwelais dy ddagrau ; wele , mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd . Ac o law brenin Asyria y’th waredaf di a’r ddinas : a mi a ddiffynnaf y ddinas hon . A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd , y gwna yr Arglwydd y gair hwn a lefarodd ; Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau , yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda’r haul , ddeg o raddau yn ei ôl . Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau , ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd‐ddynt . Ysgrifen Heseceia brenin Jwda , pan glafychasai , a byw ohono o’i glefyd : Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau , Af i byrth y bedd ; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd . Dywedais , Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw : ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd . Fy nhrigfa a aeth , ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail : torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd ; â nychdod y’m tyr ymaith : o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf . Cyfrifais hyd y bore , mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn : o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf . Megis garan neu wennol , felly trydar a wneuthum ; griddfenais megis colomen ; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny : O Arglwydd , gorthrymwyd fi ; esmwythâ arnaf . Beth a ddywedaf ? canys dywedodd wrthyf , ac efe a’i gwna : mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid . Arglwydd , trwy y pethau hyn yr ydys yn byw , ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i ; felly yr iachei , ac y bywhei fi . Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw : ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth : canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn . Canys y bedd ni’th fawl di , angau ni’th glodfora : y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd . Y byw , y byw , efe a’th fawl di , fel yr wyf fi heddiw : y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd . Yr Arglwydd sydd i’m cadw : am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr Arglwydd . Canys Eseia a ddywedasai , Cymerant swp o ffigys , a rhwymant yn blastr ar y cornwyd , ac efe a fydd byw . A dywedasai Heseceia , Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr Arglwydd ? Yn yr amser hwnnw Merodach‐Baladan , mab Baladan , brenin Babilon , a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia : canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf , a’i fyned yn iach . A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt , ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau , yr arian , a’r aur , a’r llysieuau , a’r olew gwerthfawr , a holl dŷ ei arfau , a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef : nid oedd dim yn ei dŷ ef , nac yn ei holl gyfoeth ef , a’r nas dangosodd Heseceia iddynt . Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddywedodd y gwŷr hyn ? ac o ba le y daethant atat ? A dywedodd Heseceia , O wlad bell y daethant ataf fi , sef o Babilon . Yntau a ddywedodd , Beth a welsant hwy yn dy dŷ di ? A dywedodd Heseceia , Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant : nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt . Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia , Gwrando air Arglwydd y lluoedd . Wele y dyddiau yn dyfod , pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di , a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn : ni adewir dim , medd yr Arglwydd . Cymerant hefyd o’th feibion di , y rhai a ddaw ohonot , sef y rhai a genhedli , fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon . Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia , Da yw gair yr Arglwydd , yr hwn a leferaist . Dywedodd hefyd , Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i . Cysurwch , cysurwch fy mhobl , medd eich Duw . Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem , llefwch wrthi hi , gyflawni ei milwriaeth , ddileu ei hanwiredd : oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau . Llef un yn llefain yn yr anialwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch . Pob pant a gyfodir , a phob mynydd a bryn a ostyngir : y gŵyr a wneir yn union , a’r anwastad yn wastadedd . A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir , a phob cnawd ynghyd a’i gwêl ; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn . Y llef a ddywedodd , Gwaedda . Yntau a ddywedodd , Beth a waeddaf ? Pob cnawd sydd wellt , a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes . Gwywa y gwelltyn , syrth y blodeuyn ; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno : gwellt yn ddiau yw y bobl . Gwywa y gwelltyn , syrth y blodeuyn ; ond gair ein Duw ni a saif byth . Dring rhagot , yr efengyles Seion , i fynydd uchel ; dyrchafa dy lef trwy nerth , O efengyles Jerwsalem : dyrchafa , nac ofna ; dywed wrth ddinasoedd Jwda , Wele eich Duw chwi . Wele , yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn , a’i fraich a lywodraetha drosto : wele ei wobr gydag ef , a’i waith o’i flaen . Fel bugail y portha efe ei braidd ; â’i fraich y casgl ei ŵyn , ac a’u dwg yn ei fynwes , ac a goledda y mamogiaid . Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn , ac a fesurodd y nefoedd â’i rychwant , ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur , ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau , a’r bryniau mewn cloriannau ? Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd , ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef ? A phwy yr ymgynghorodd efe , ie , pwy a’i cyfarwyddodd , ac a’i dysgodd yn llwybr barn , ac a ddysgodd iddo wybodaeth , ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth ? Wele , y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn , ac fel mân lwch y cloriannau ; wele , fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny . Ac nid digon Libanus i gynnau tân ; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm . Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef ; yn llai na dim , ac na gwagedd , y cyfrifwyd hwynt ganddo . I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw ? a pha ddelw a osodwch iddo ? Y crefftwr a dawdd gerfddelw , a’r eurych a’i goreura , ac a dawdd gadwyni arian . Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra ; efe a gais ato saer cywraint , i baratoi cerfddelw , yr hon ni syfl . Oni wybuoch ? oni chlywsoch ? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad ? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear ? Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear , a’i thrigolion sydd fel locustiaid ; yr hwn a daena y nefoedd fel llen , ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi : Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim ; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear . Ie , ni phlennir hwynt , nis heuir chwaith ; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear : ac efe a chwyth arnynt , a hwy a wywant , a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel sofl . I bwy gan hynny y’m cyffelybwch , ac y’m cystedlir ? medd y Sanct . Dyrchefwch eich llygaid i fyny , ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn , a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi : efe a’u geilw hwynt oll wrth eu henwau ; gan amlder ei rym ef , a’i gadarn allu , ni phalla un . Paham y dywedi , Jacob , ac y lleferi , Israel , Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd , a’m barn a aeth heibio i’m Duw ? Oni wyddost , oni chlywaist , na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb , yr Arglwydd , Creawdwr cyrrau y ddaear ? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef . Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol , ac a amlha gryfder i’r di‐rym . Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina , a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant : Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth ; ehedant fel eryrod ; rhedant , ac ni flinant ; rhodiant , ac ni ddiffygiant . Distewch , ynysoedd , ger fy mron ; adnewydded y cenhedloedd eu nerth : deuant yn nes , yna llefarant ; cyd-nesawn i farn . Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain , a’i galwodd at ei droed , a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef , ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd ? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf , ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef . Y mae efe yn eu herlid hwynt , ac yn myned yn ddiogel ; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed . Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn , gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad ? Myfi yr Arglwydd y cyntaf , myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf . Yr ynysoedd a welsant , ac a ofnasant ; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant , a nesasant , ac a ddaethant . Pob un a gynorthwyodd ei gymydog , ac a ddywedodd wrth ei frawd , Ymgryfha . Felly y saer a gysurodd yr eurych , a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion , gan ddywedyd , Y mae yn barod i’w asio ; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion , fel nad ysgogir . Eithr ti , Israel , fy ngwas ydwyt ti , Jacob yr hwn a etholais , had Abraham fy anwylyd . Ti , yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear , ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion , ac y dywedais wrthyt , Fy ngwas wyt ti ; dewisais di , ac ni’th wrthodais . Nac ofna ; canys yr ydwyf fi gyda thi : na lwfrha ; canys myfi yw dy Dduw : cadarnhaf di , cynorthwyaf di hefyd , a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder . Wele , cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt : dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim , ac a ddifethir . Ti a’u ceisi , ac nis cei hwynt , sef y dynion a ymgynenasant â thi : y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim , a megis peth heb ddim . Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw , a ddywed wrthyt , Nac ofna , myfi a’th gynorthwyaf . Nac ofna , di bryf Jacob , gwŷr Israel ; myfi a’th gynorthwyaf , medd yr Arglwydd , a’th Waredydd , Sanct Israel . Wele , gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog ; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli , gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg . Nithi hwynt , a’r gwynt a’u dwg ymaith , a’r corwynt a’u gwasgar hwynt : a thi a lawenychi yn yr Arglwydd , yn Sanct Israel y gorfoleddi . Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr , ac nis cânt , pan ballo eu tafod o syched , myfi yr Arglwydd a’u gwrandawaf hwynt , myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt . Agoraf afonydd ar leoedd uchel , a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd : gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr , a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd . Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd , sita , myrtwydd , ac olewydd ; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd , ffawydd , a’r pren bocs ynghyd ; Fel y gwelont , ac y gwybyddont , ac yr ystyriont , ac y deallont ynghyd , mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn , a Sanct Israel a’i creodd . Deuwch yn nes â’ch cwyn , medd yr Arglwydd ; dygwch eich rhesymau cadarnaf , medd brenin Jacob . Dygant hwynt allan , a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant : mynegwch y pethau gynt , beth ydynt , fel yr ystyriom , ac y gwypom eu diwedd hwynt ; neu traethwch i ni y pethau a ddaw . Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn , fel y gwypom mai duwiau ydych chwi ; gwnewch hefyd dda neu ddrwg , fel y synno arnom , ac y gwelom ynghyd . Wele , peth heb ddim ydych chwi , a’ch gwaith sydd ddiddim : ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi . Cyfodais un o’r gogledd , ac efe a ddaw ; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw ; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai , ac fel y sathr crochenydd bridd . Pwy a fynegodd o’r dechreuad , fel y gwybyddom ? ac ymlaen llaw , fel y dywedom , Cyfiawn yw ? nid oes a fynega , nid oes a draetha chwaith , ac nid oes a glyw eich ymadroddion . Y cyntaf a ddywed wrth Seion , Wele , wele hwynt ; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem . Canys edrychais , ac nid oedd neb , ie , yn eu plith , ac nid oedd gynghorwr , pan ofynnais iddynt , a fedrai ateb gair . Wele , hwynt oll ydynt wagedd , a’u gweithredoedd yn ddiddim : gwynt a gwagedd yw eu tawdd‐ddelwau . Wele fy ngwas , yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal ; fy etholedig , i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon : rhoddais fy ysbryd arno ; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd . Ni waedda , ac ni ddyrchafa , ac ni phair glywed ei lef yn yr heol . Ni ddryllia gorsen ysig , ac ni ddiffydd lin yn mygu : efe a ddwg allan farn at wirionedd . Ni phalla efe , ac ni ddigalonna , hyd oni osodo farn ar y ddaear ; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd ; lledydd y ddaear a’i chnwd ; rhoddydd anadl i’r bobl arni , ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi : Myfi yr Arglwydd a’th elwais mewn cyfiawnder , ac ymaflaf yn dy law , cadwaf di hefyd , a rhoddaf di yn gyfamod pobl , ac yn oleuni Cenhedloedd ; I agoryd llygaid y deillion , i ddwyn allan y carcharor o’r carchar , a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy . Myfi yw yr Arglwydd ; dyma fy enw : a’m gogoniant ni roddaf i arall , na’m mawl i ddelwau cerfiedig . Wele , y pethau o’r blaen a ddaethant i ben , a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd ; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan . Cenwch i’r Arglwydd gân newydd , a’i fawl ef o eithaf y ddaear ; y rhai a ddisgynnwch i’r môr , ac sydd ynddo ; yr ynysoedd a’u trigolion . Y diffeithwch a’i ddinasoedd , dyrchafant eu llef , y maestrefi a breswylia Cedar ; caned preswylwyr y graig , bloeddiant o ben y mynyddoedd . Rhoddant ogoniant i’r Arglwydd , a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd . Yr Arglwydd a â allan fel cawr , fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd ; efe a waedda , ie , efe a rua ; ac a fydd drech na’i elynion . Tewais er ys talm , distewais , ymateliais ; llefaf fel gwraig yn esgor , difwynaf , a difethaf ar unwaith . Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch , a’u holl wellt a wywaf ; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd , a’r llynnoedd a sychaf . Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant ; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant ; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt , a’r pethau ceimion yn union . Dyma y pethau a wnaf iddynt , ac nis gadawaf hwynt . Troir yn eu hôl , a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig , y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd , Chwi yw ein duwiau ni . O fyddariaid , gwrandewch ; a’r deillion , edrychwch i weled . Pwy sydd ddall ond fy ngwas i ? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais ? pwy mor ddall â’r perffaith , a dall fel gwas yr Arglwydd ? Er gweled llawer , eto nid ystyri ; er agoryd clustiau , eto ni wrendy . Yr Arglwydd sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder ; efe a fawrha y gyfraith , ac a’i gwna yn anrhydeddus . Eto dyma bobl a ysbeiliwyd , ac a anrheithiwyd : hwy a faglwyd oll mewn tyllau , mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt : y maent yn ysbail , ac heb waredydd ; yn anrhaith , ac heb a ddywedai , Dyro yn ei ôl . Pwy ohonoch a wrendy hyn ? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw ? Pwy a roddes Jacob yn anrhaith , ac Israel i’r ysbeilwyr ? onid yr Arglwydd , yr hwn y pechasom i’w erbyn ? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd , ac nid ufuddhaent i’w gyfraith . Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel : efe a’i henynnodd oddi amgylch , ond ni wybu efe ; llosgodd ef hefyd , ond nid ystyriodd . Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di , Jacob , a’th Luniwr di , Israel , Nac ofna ; canys gwaredais di : gelwais di erbyn dy enw ; eiddof fi ydwyt . Pan elych trwy y dyfroedd , myfi a fyddaf gyda thi ; a thrwy yr afonydd , fel na lifant drosot : pan rodiech trwy’r tân , ni’th losgir ; ac ni ennyn y fflam arnat . Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , Sanct Israel , dy Waredydd : myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot , Ethiopia a Seba amdanat . Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg , y’th ogoneddwyd , a mi a’th hoffais ; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti , a phobloedd dros dy einioes di . Nac ofna ; canys yr ydwyf fi gyda thi : o’r dwyrain y dygaf dy had , ac o’r gorllewin y’th gasglaf . Dywedaf wrth y gogledd , Dod ; ac wrth y deau , Nac atal : dwg fy meibion o bell , a’m merched o eithaf y ddaear ; Sef pob un a elwir ar fy enw : canys i’m gogoniant y creais ef , y lluniais ef , ac y gwneuthum ef . Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt , a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt . Casgler yr holl genhedloedd ynghyd , a chynuller y bobloedd ; pwy yn eu mysg a fynega hyn , ac a draetha i ni y pethau o’r blaen ? dygant eu tystion , fel y cyfiawnhaer hwynt ; neu wrandawant , a dywedant , Gwir yw . Fy nhystion i ydych chwi , medd yr Arglwydd , a’m gwas yr hwn a ddewisais ; fel yr adnabyddoch , ac y credoch fi , ac y dealloch mai myfi yw : o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio , ac ni bydd ar fy ôl . Myfi , myfi yw yr Arglwydd ; ac nid oes geidwad ond myfi . Myfi a fynegais , ac a achubais , ac a ddangosais , pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg : am hynny chwi ydych fy nhystion , medd yr Arglwydd , mai myfi sydd Dduw . Ie , cyn bod dydd yr ydwyf fi ; ac nid oes a wared o’m llaw : gwnaf , a phwy a’i lluddia ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd , eich Gwaredydd chwi , Sanct Israel : Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon , ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid , a’r Caldeaid , sydd â’u bloedd mewn llongau . Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi , Creawdydd Israel , eich Brenin chwi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a wna ffordd yn y môr , a llwybr yn y dyfroedd cryfion ; Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march , y llu a’r cryfder ; cydorweddant , ni chodant : darfuant , fel llin y diffoddasant . Na chofiwch y pethau o’r blaen , ac nac ystyriwch y pethau gynt . Wele fi yn gwneuthur peth newydd : yr awr hon y dechrau ; oni chewch ei wybod ? Gwnaf ffordd yn yr anialwch , ac afonydd yn y diffeithwch . Bwystfil y maes , y dreigiau , a chywion yr estrys , a’m gogoneddant ; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch , a’r afonydd yn y diffeithwch , i roddi diod i’m pobl , fy newisedig . Y bobl hyn a luniais i mi fy hun ; fy moliant a fynegant . Eithr ni elwaist arnaf , Jacob ; ond blinaist arnaf , Israel . Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth , ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth : ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm , ac ni’th flinais ag arogl‐darth . Ni phrynaist i mi galamus ag arian , ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth : eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau , blinaist fi â’th anwireddau . Myfi , myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun , ac ni chofiaf dy bechodau . Dwg ar gof i mi , cydymddadleuwn : adrodd di , fel y’th gyfiawnhaer . Dy dad cyntaf a bechodd , a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn . Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr , ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth , ac Israel yn waradwydd . Ac yn awr gwrando , Jacob fy ngwas , ac Israel yr hwn a ddewisais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn a’th wnaeth , ac a’th luniodd o’r groth , efe a’th gynorthwya : Nac ofna , fy ngwas Jacob ; a thi , Jeswrwn , yr hwn a ddewisais . Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig , a ffrydiau ar y sychdir : tywalltaf fy Ysbryd ar dy had , a’m bendith ar dy hiliogaeth : A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt , fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd . Hwn a ddywed , Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi ; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob ; ac arall a ysgrifenna â’i law , Eiddo yr Arglwydd ydwyf , ac a ymgyfenwa ar enw Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Brenin Israel , a’i Waredydd , Arglwydd y lluoedd ; Myfi yw y cyntaf , diwethaf ydwyf fi hefyd ; ac nid oes Duw ond myfi . Pwy hefyd , fel fi , a eilw , a fynega , ac a esyd hyn yn drefnus i mi , er pan osodais yr hen bobl ? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod , a’r pethau a ddaw . Nac ofnwch , ac nac arswydwch ; onid er hynny o amser y traethais i ti , ac y mynegais ? a’m tystion ydych chwi . A oes Duw ond myfi ? ie , nid oes Duw : nid adwaen i yr un . Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig ; ni wna eu pethau dymunol lesâd : tystion ydynt iddynt eu hun , na welant , ac na wyddant ; fel y byddo cywilydd arnynt . Pwy a luniai dduw , neu a fwriai ddelw gerfiedig , heb wneuthur dim lles ? Wele , ei holl gyfeillion a gywilyddir , y seiri hefyd , o ddynion y maent : casgler hwynt oll , safant i fyny ; eto hwy a ofnant , ac a gydgywilyddiant . Y gof â’r efel a weithia yn y glo , ac a’i llunia â morthwylion , ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi : newynog yw hefyd , a’i nerth a balla ; nid yf ddwfr , ac y mae yn diffygio . Y saer pren a estyn ei linyn ; efe a’i llunia hi wrth linyn coch ; efe a’i cymhwysa hi â bwyeill , ac a’i gweithia wrth gwmpas , ac a’i gwna ar ôl delw dyn , fel prydferthwch dyn , i aros mewn tŷ . Efe a dyr iddo gedrwydd , ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen , ac a ymegnïa ymysg prennau y coed ; efe a blanna onnen , a’r glaw a’i maetha . Yna y bydd i ddyn i gynnau tân : canys efe a gymer ohoni , ac a ymdwyma ; ie , efe a’i llysg , ac a boba fara ; gwna hefyd dduw , ac a’i haddola ef ; gwna ef yn ddelw gerfiedig , ac a ymgryma iddo . Rhan ohono a lysg efe yn tân ; wrth ran ohono y bwyty gig , y rhostia rost , fel y diwaller ef : efe a ymdwyma hefyd , ac a ddywed , Aha , ymdwymais , gwelais dân . A’r rhan arall yn dduw y gwna , yn ddelw gerfiedig iddo ; efe a ymgryma iddo , ac a’i haddola , ac a weddïa arno , ac a ddywed , Gwared fi ; canys fy nuw ydwyt . Ni wyddant , ac ni ddeallant ; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled , a’u calonnau rhag deall . Ie , ni feddwl neb yn ei galon , ie , nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd , Llosgais ran ohono yn tân , ac ar ei farwor y pobais fara , y rhostiais gig , ac y bwyteais ; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth ? a ymgrymaf i foncyff o bren ? Ymborth ar ludw y mae ; calon siomedig a’i gwyrdrôdd ef , fel na waredo ei enaid , ac na ddywedo , Onid oes celwydd yn fy neheulaw ? Meddwl hyn , Jacob ac Israel ; canys fy ngwas ydwyt ti ; lluniais di , gwas i mi ydwyt ; Israel , ni’th anghofir gennyf . Dileais dy gamweddau fel cwmwl , a’th bechodau fel niwl : dychwel ataf fi ; canys myfi a’th waredais di . Cenwch , nefoedd : canys yr Arglwydd a wnaeth hyn : bloeddiwch , gwaelodion y ddaear ; bloeddiwch ganu , fynyddoedd , y coed a phob pren ynddo : canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob , ac yn Israel yr ymogonedda efe . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy Waredydd , a’r hwn a’th luniodd o’r groth , Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth , yn estyn y nefoedd fy hunan , yn lledu y ddaear ohonof fy hun : Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog , ac yn ynfydu dewiniaid ; yn troi y doethion yn eu hôl , ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd : Yr hwn a gyflawna air ei was , ac a gwblha gyngor ei genhadon ; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem , Ti a breswylir ; ac wrth ddinasoedd Jwda , Chwi a adeiledir , a chyfodaf ei hadwyau : Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder , Bydd sych ; a mi a sychaf dy afonydd : Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus , Fy mugail yw , ac efe a gyflawna fy holl ewyllys : gan ddywedyd wrth Jerwsalem , Ti a adeiledir ; ac wrth y deml , Ti a sylfaenir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog , wrth Cyrus , yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw , i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef : a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd ; i agoryd y dorau o’i flaen ef ; a’r pyrth ni chaeir : Mi a af o’th flaen di , ac a unionaf y gwyrgeimion ; y dorau pres a dorraf , a’r barrau heyrn a ddrylliaf : Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig , a chuddfeydd dirgel , fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd , yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw , yw Duw Israel . Er mwyn Jacob fy ngwas , ac Israel fy etholedig , y’th elwais erbyn dy enw : mi a’th gyfenwais , er na’m hadwaenit . Myfi ydwyf yr Arglwydd , ac nid arall , nid oes Duw ond myfi ; gwregysais di , er na’m hadwaenit : Fel y gwypont o godiad haul , ac o’r gorllewin , nad neb ond myfi : myfi yw yr Arglwydd , ac nid arall : Yn llunio goleuni , ac yn creu tywyllwch ; yn gwneuthur llwyddiant , ac yn creu drygfyd : myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll . Defnynnwch , nefoedd , oddi uchod , a thywallted yr wybrennau gyfiawnder ; ymagored y ddaear , ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder , cyd‐darddant : myfi yr Arglwydd a’u creais . Gwae a ymrysono â’i Luniwr . Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear . A ddywed y clai wrth ei luniwr , Beth a wnei ? neu , Y mae dy waith heb ddwylo iddo ? Gwae a ddywedo wrth ei dad , Beth a genhedli ? neu wrth y wraig , Beth a esgoraist ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Sanct Israel , a’i Luniwr , Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion , a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo . Myfi a wneuthum y ddaear , ac a greais ddyn arni : myfi , ie , fy nwylo i a estynasant y nefoedd , ac a orchmynnais eu holl luoedd . Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder , a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf ; efe a adeilada fy ninas , efe a ollwng fy ngharcharorion , heb na gwerth na gobrwy , medd Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Llafur yr Aifft , a marsiandïaeth Ethiopia , a’r Sabeaid hirion , a ddeuant atat ti , ac eiddot ti fyddant ; ar dy ôl y deuant ; mewn cadwyni y deuant trosodd , ac ymgrymant i ti ; atat y gweddïant , gan ddywedyd , Yn ddiau ynot ti y mae Duw , ac nid oes arall , nac oes Duw . Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio , O Dduw Israel yr Achubwr ! Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll ; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd . Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol : ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Creawdydd y nefoedd , y Duw ei hun a luniodd y ddaear , ac a’i gwnaeth ; efe a’i sicrhaodd hi , ni chreodd hi yn ofer , i’w phreswylio y lluniodd hi : Myfi yw yr Arglwydd , ac nid neb amgen . Ni leferais mewn dirgelwch , mewn man tywyll o’r ddaear ; ni ddywedais wrth had Jacob , Ceisiwch fi yn ofer . Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder , ac yn mynegi pethau uniawn . Ymgesglwch , a deuwch ; cydnesewch , rai dihangol y cenhedloedd ; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw , ac a weddïant dduw ni all achub . Mynegwch , a nesewch hwynt ; cydymgynghorant hefyd ; pwy a draethodd hyn er cynt ? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw ? onid myfi yr Arglwydd ? ac nid oes Duw arall ond myfi ; yn Dduw cyfiawn , ac yn achubydd ; nid oes ond myfi . Trowch eich wynebau ataf fi , holl gyrrau y ddaear , fel y’ch achuber : canys myfi wyf Dduw , ac nid neb arall . I mi fy hun y tyngais , aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder , ac ni ddychwel , Mai i mi y plyga pob glin , y twng pob tafod . Yn ddiau yn yr Arglwydd , medd un , y mae i mi gyfiawnder a nerth ; ato ef y deuir ; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho . Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir , ac yr ymogonedda holl had Israel . Crymodd Bel , plygodd Nebo ; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid : eich clud a lwythwyd yn drwm ; llwyth ydynt i’r diffygiol . Gostyngant , cydgrymant : ni allent achub y llwyth , ond aethant mewn caethiwed eu hunain . Tŷ Jacob , gwrandewch arnaf fi , a holl weddill tŷ Israel , y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth , ac a arweddwyd o’r bru : Hyd henaint hefyd myfi yw ; ie , myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch : gwneuthum , arweddaf hefyd ; ie , dygaf , a gwaredaf chwi . I bwy y’m gwnewch yn debyg , ac y’m cystedlwch , ac y’m cyffelybwch , fel y byddom debyg ? Hwy a wastraffant aur o’r pwrs , ac a bwysant arian mewn clorian , a gyflogant eurych , ac efe a’i gweithia yn dduw : gostyngant , ac ymgrymant . Dygant ef ar ysgwyddau , dygant ef , ac a’i gosodant yn ei le , ac efe a saif ; ni syfl o’i le : os llefa un arno , nid etyb , ac nis gwared ef o’i gystudd . Cofiwch hyn , a byddwch wŷr : atgofiwch , droseddwyr . Cofiwch y pethau gynt erioed ; canys myfi ydwyf Dduw , ac nid neb arall ; Duw ydwyf , ac heb fy math ; Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad , ac er cynt yr hyn ni wnaed eto , yn dywedyd , Fy nghyngor a saif , a’m holl ewyllys a wnaf : Yn galw aderyn o’r dwyrain , y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell : dywedais , a mi a’i dygaf i ben ; mi a’i lluniais , a mi a’i gwnaf . Gwrandewch arnaf fi , y rhai cedyrn galon , y rhai pell oddi wrth gyfiawnder : Neseais fy nghyfiawnder ; ni bydd bell , a’m hiachawdwriaeth nid erys : rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel . Disgyn , ac eistedd yn y llwch , ti forwynferch Babilon , eistedd ar lawr : nid oes orseddfainc , ti ferch y Caldeaid ; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus . Cymer y meini melin , a mala flawd ; datguddia dy lywethau , noetha dy sodlau , dinoetha dy forddwydydd , dos trwy yr afonydd . Dy noethni a ddatguddir , dy warth hefyd a welir : dialaf , ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf . Ein gwaredydd ni , ei enw yw Arglwydd y lluoedd , Sanct Israel . Eistedd yn ddistaw , a dos i dywyllwch , ti ferch y Caldeaid : canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd . Digiais wrth fy mhobl , halogais fy etifeddiaeth , a rhoddais hwynt yn dy law di : ni chymeraist drugaredd arnynt ; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid . A dywedaist , Byth y byddaf arglwyddes : felly nid ystyriaist hyn , ac ni chofiaist ei diwedd hi . Am hynny yn awr gwrando hyn , y foethus , yr hon a drigi yn ddiofal , yr hon a ddywedi yn dy galon , Myfi sydd , ac nid neb ond myfi : nid eisteddaf yn weddw , ac ni chaf wybod beth yw diepiledd . Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd , diepiledd a gweddwdod : yn gwbl y deuant arnat , am amlder dy hudoliaethau , a mawr nerth dy swynion . Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni : dywedaist , Ni’m gwêl neb . Dy ddoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant ; a dywedaist yn dy galon , Myfi sydd , ac nid neb arall ond myfi . Am hynny y daw arnat ddrygfyd , yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad ; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd : ie , daw arnat ddistryw yn ddisymwth , heb wybod i ti . Saf yn awr gyda’th swynion , a chydag amlder dy hudoliaethau , yn y rhai yr ymflinaist o’th ieuenctid ; i edrych a elli wneuthur lles , i edrych a fyddi grymus . Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun . Safed yn awr astronomyddion y nefoedd , y rhai a dremiant ar y sêr , y rhai a hysbysant am y misoedd , ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat . Wele , hwy a fyddant fel sofl ; y tân a’u llysg hwynt ; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam : ni bydd marworyn i ymdwymo , na thân i eistedd ar ei gyfer . Felly y byddant hwy i ti gyda’r rhai yr ymflinaist , sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid ; crwydrasant bob un ar ei duedd ; nid oes un yn dy achub di . Gwrandewch hyn , tŷ Jacob , y rhai a elwir ar enw Israel , ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda ; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd , ac a goffânt am Dduw Israel , nid mewn gwirionedd , nac mewn cyfiawnder . Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd , ac a bwysant ar Dduw Israel ; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd . Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw , a daethant o’m genau , a mi a’u traethais ; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth , daethant i ben . Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed , a’th war fel giewyn haearn , a’th dalcen yn bres ; Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw ; adroddais i ti cyn ei ddyfod ; rhag dywedyd ohonot , Fy nelw a’u gwnaeth , fy ngherfddelw a’m tawdd‐ddelw a’u gorchmynnodd . Ti a glywaist , gwêl hyn oll ; ac oni fynegwch chwithau ef ? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn , a phethau cuddiedig , y rhai ni wyddit oddi wrthynt . Yn awr y crewyd hwynt , ac nid er y dechreuad , cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt : rhag dywedyd ohonot , Wele , gwyddwn hwynt . Ie , nis clywsit , ac nis gwyddit chwaith , nid agorasid dy glust y pryd hwnnw : canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon , a’th alw o’r groth yn droseddwr . Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid , ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt , rhag dy ddifetha . Wele , myfi a’th burais , ond nid fel arian ; dewisais di mewn pair cystudd . Er fy mwyn fy hun , er fy mwyn fy hun , y gwnaf hyn ; canys pa fodd yr halogid fy enw ? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall . Gwrando arnaf fi , Jacob , ac Israel , yr hwn a elwais : myfi yw ; myfi yw y cyntaf , a mi yw y diwethaf . Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear , a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd : pan alwyf fi arnynt , hwy a gydsafant . Ymgesglwch oll , a gwrandewch ; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn ? Yr Arglwydd a’i hoffodd ; efe a wna ei ewyllys ar Babilon , a’i fraich a fydd ar y Caldeaid . Myfi , myfi a leferais , ac a’i gelwais ef : dygais ef , ac efe a lwydda ei ffordd ef . Nesewch ataf , gwrandewch hyn ; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel ; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno : ac yn awr yr Arglwydd Dduw a’i Ysbryd a’m hanfonodd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd , Sanct Israel ; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau , gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio . O na wrandawsit ar fy ngorchmynion ! yna y buasai dy heddwch fel afon , a’th gyfiawnder fel tonnau y môr : A buasai dy had fel y tywod , ac epil dy gorff fel ei raean ef : ni thorasid , ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron . Ewch allan o Babilon , ffowch oddi wrth y Caldeaid , â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn , traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear ; dywedwch , Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob . Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch : gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig : holltodd y graig hefyd , a’r dwfr a ddylifodd . Nid oes heddwch , medd yr Arglwydd , i’r rhai annuwiol . Gwrandewch arnaf , ynysoedd ; ac ystyriwch , bobl o bell ; Yr Arglwydd a’m galwodd o’r groth ; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw . Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym , yng nghysgod ei law y’m cuddiodd ; a gwnaeth fi yn saeth loyw , cuddiodd fi yn ei gawell saethau ; Ac a ddywedodd wrthyf , Fy ngwas i ydwyt ti , Israel , yr hwn yr ymogoneddaf ynot . Minnau a ddywedais , Yn ofer y llafuriais , yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth ; er hynny y mae fy marn gyda’r Arglwydd , a’m gwaith gyda’m Duw . Ac yn awr , medd yr Arglwydd yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo , i ddychwelyd Jacob ato ef , Er nad ymgasglodd Israel , eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd , a’m Duw fydd fy nerth . Ac efe a ddywedodd , Gwael yw dy fod yn was i mi , i gyfodi llwythau Jacob , ac i adferu rhai cadwedig Israel : mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd , fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gwaredydd Israel , a’i Sanct , wrth y dirmygedig o enaid , wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl , wrth was llywodraethwyr ; Brenhinoedd a welant , ac a gyfodant ; tywysogion hefyd a ymgrymant , er mwyn yr Arglwydd , yr hwn sydd ffyddlon , Sanct Israel , ac efe a’th ddewisodd di . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Mewn amser bodlongar y’th wrandewais , ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais ; a mi a’th gadwaf , ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl , i sicrhau y ddaear , i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol ; Fel y dywedych wrth y carcharorion , Ewch allan ; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch , Ymddangoswch . Ar y ffyrdd y porant , ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt . Ni newynant , ac ni sychedant ; ac nis tery gwres na haul hwynt : oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys , ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd . A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd , a’m priffyrdd a gyfodir . Wele , y rhai hyn a ddeuant o bell : ac wele , y rhai acw o’r gogledd , ac o’r gorllewin ; a’r rhai yma o dir Sinim . Cenwch , nefoedd ; a gorfoledda , ddaear ; bloeddiwch ganu , y mynyddoedd : canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl , ac a drugarha wrth ei drueiniaid . Eto dywedodd Seion , Yr Arglwydd a’m gwrthododd , a’m Harglwydd a’m hanghofiodd . A anghofia gwraig ei phlentyn sugno , fel na thosturio wrth fab ei chroth ? ie , hwy a allant anghofio , eto myfi nid anghofiaf di . Wele , ar gledr fy nwylo y’th argreffais ; dy furiau sydd ger fy mron bob amser . Dy blant a frysiant ; y rhai a’th ddinistriant , ac a’th ddistrywiant , a ânt allan ohonot . Dyrcha dy lygaid oddi amgylch , ac edrych : y rhai hyn oll a ymgasglant , ac a ddeuant atat . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg , ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch . Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch , a’th dir dinistriol , yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr ; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhânt . Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych , Cyfyng yw y lle hwn i mi ; dod le i mi , fel y preswyliwyf . Yna y dywedi yn dy galon , Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi , a mi yn ddiepil , ac yn unig , yn gaeth , ac ar grwydr ? a phwy a fagodd y rhai hyn ? Wele , myfi a adawyd fy hunan ; o ba le y daeth y rhai hyn ? Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele , cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd , a dyrchafaf fy maner at y bobloedd ; a dygant dy feibion yn eu mynwes , a dygir dy ferched ar ysgwyddau . Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod , a’u breninesau dy famaethod ; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr , a llyfant lwch dy draed ; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi . A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn ? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn ? Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ie , carcharorion y cadarn a ddygir , ac anrhaith y creulon a ddianc : canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd , a myfi a achubaf dy feibion . Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain , ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys ; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd , a’th gadarn Waredydd di , Jacob . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pa le y mae llythyr ysgar eich mam , trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith ? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo ? Wele , am eich anwireddau yr ymwerthasoch , ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam . Paham , pan ddeuthum , nad oedd neb i’m derbyn ? pan elwais , nad atebodd neb ? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw , fel na allai ymwared ? neu onid oes ynof nerth i achub ? wele , â’m cerydd y sychaf y môr , gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch : eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr , ac a fyddant feirw o syched . Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch , a gosodaf sachliain yn do iddynt . Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig , i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol : deffry fi bob bore , deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig . Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust , a minnau ni wrthwynebais , ac ni chiliais yn fy ôl . Fy nghorff a roddais i’r curwyr , a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew : ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd . Oherwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymorth ; am hynny ni’m cywilyddir : am hynny gosodais fy wyneb fel callestr , a gwn na’m cywilyddir . Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha ; pwy a ymryson â mi ? safwn ynghyd : pwy yw fy ngwrthwynebwr ? nesaed ataf . Wele , yr Arglwydd Dduw a’m cynorthwya ; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog ? wele , hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn ; y gwyfyn a’u hysa hwynt . Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd , yn gwrando ar lais ei was ef , yn rhodio mewn tywyllwch , ac heb lewyrch iddo ? gobeithied yn enw yr Arglwydd , ac ymddirieded yn ei Dduw . Wele , chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân , ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion ; rhodiwch wrth lewyrch eich tân , ac wrth y gwreichion a gyneuasoch . O’m llaw i y bydd hyn i chwi ; mewn gofid y gorweddwch . Gwrandewch arnaf fi , ddilynwyr cyfiawnder , y rhai a geisiwch yr Arglwydd : edrychwch ar y graig y’ch naddwyd , ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt . Edrychwch ar Abraham eich tad , ac ar Sara a’ch esgorodd : canys ei hunan y gelwais ef , ac y bendithiais , ac yr amlheais ef . Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion : efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi ; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden , a’i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd : ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch , diolch , a llais cân . Gwrandewch arnaf , fy mhobl ; clustymwrandewch â mi , fy nghenedl : canys cyfraith a â allan oddi wrthyf , a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd . Agos yw fy nghyfiawnder ; fy iachawdwriaeth a aeth allan , fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd : yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf , ac a ymddiriedant yn fy mraich . Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd , ac edrychwch ar y ddaear isod : canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg , a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn , a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw ; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth , a’m cyfiawnder ni dderfydd . Gwrandewch arnaf , y rhai a adwaenoch gyfiawnder , y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon : nac ofnwch waradwydd dynion , ac nac arswydwch rhag eu difenwad . Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn , a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân : eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd , a’m hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth . Deffro , deffro , gwisg nerth , O fraich yr Arglwydd ; deffro , fel yn y dyddiau gynt , yn yr oesoedd gynt . Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab , ac a archollaist y ddraig ? Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr , dyfroedd y dyfnder mawr ? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd ? Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd , a hwy a ddeuant i Seion â chanu , ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau : goddiweddant lawenydd a hyfrydwch ; gofid a griddfan a ffy ymaith . Myfi , myfi , yw yr hwn a’ch diddana chwi : pwy wyt ti , fel yr ofnit ddyn , yr hwn fydd farw ; a mab dyn , yr hwn a wneir fel glaswelltyn ? Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr , yr hwn a estynnodd y nefoedd , ac a seiliodd y ddaear ? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd , fel pe darparai i ddinistrio ? a pha le y mae llid y gorthrymydd ? Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd , fel na byddo farw yn y pwll , ac na phallo ei fara ef . Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a barthodd y môr , pan ruodd ei donnau : ei enw yw Arglwydd y lluoedd . Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau , ac yng nghysgod fy llaw y’th doais , fel y plannwn y nefoedd , ac y seiliwn y ddaear , ac y dywedwn wrth Seion , Fy mhobl ydwyt . Deffro , deffro , cyfod , Jerwsalem , yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef ; yfaist waddod y cwpan erchyll , ie , sugnaist ef . Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd ; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd . Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti ; pwy a ofidia trosot ? dinistr a distryw , a newyn a chleddyf ; trwy bwy y’th gysuraf ? Dy feibion a lewygasant , gorweddant ym mhen pob heol , fel tarw gwyllt mewn magl : llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd , a cherydd dy Dduw . Am hynny gwrando fi yn awr , y druan , a’r feddw , ac nid trwy win . Fel hyn y dywed dy Arglwydd , yr Arglwydd , a’th Dduw di , yr hwn a ddadlau dros ei bobl , Wele , cymerais o’th law y cwpan erchyll , sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd : ni chwanegi ei yfed mwy : Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr ; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid , Gostwng , fel yr elom drosot : a thi a osodaist dy gorff fel y llawr , ac fel heol i’r rhai a elent drosto . Deffro , deffro , gwisg dy nerth , Seion ; gwisg wisgoedd dy ogoniant , sanctaidd ddinas Jerwsalem : canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan . Ymysgwyd o’r llwch , cyfod , eistedd , Jerwsalem : ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf , ti gaethferch Seion . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Yn rhad yr ymwerthasoch ; ac nid ag arian y’ch gwaredir . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw , Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad , i ymdaith yno ; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos . Ac yn awr beth sydd yma i mi , medd yr Arglwydd , pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad ? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo , medd yr Arglwydd ; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw . Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw : am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw , mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd : wele , myfi ydyw . Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu , yn cyhoeddi heddwch ; a’r hwn sydd yn mynegi daioni , yn cyhoeddi iachawdwriaeth ; yn dywedyd wrth Seion , Dy Dduw di sydd yn teyrnasu . Dy wylwyr a ddyrchafant lef ; gyda’r llef y cydganant : canys gwelant lygad yn llygad , pan ddychwelo yr Arglwydd Seion . Bloeddiwch , cydgenwch , anialwch Jerwsalem : canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl , efe a waredodd Jerwsalem . Diosgodd yr Arglwydd fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd : a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni . Ciliwch , ciliwch , ewch allan oddi yno , na chyffyrddwch â dim halogedig ; ewch allan o’i chanol ; ymlanhewch , y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd . Canys nid ar frys yr ewch allan , ac nid ar ffo y cerddwch : canys yr Arglwydd a â o’ch blaen chwi , a Duw Israel a’ch casgl chwi . Wele , fy ngwas a lwydda ; efe a godir , a ddyrchefir , ac a fydd uchel iawn . Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt , ( mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb , a’i bryd yn anad meibion dynion , ) Felly y taenella efe genhedloedd lawer ; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef ; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt , a deallant yr hyn ni chlywsent . Pwy a gredodd i’n hymadrodd ? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd ? Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn , ac fel gwreiddyn o dir sych : nid oes na phryd na thegwch iddo : pan edrychom arno , ni bydd pryd fel y dymunem ef . Dirmygedig yw , a diystyraf o’r gwŷr ; gŵr gofidus , a chynefin â dolur : ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho : dirmygedig oedd , ac ni wnaethom gyfrif ohono . Diau efe a gymerth ein gwendid ni , ac a ddug ein doluriau : eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu , ei daro gan Dduw , a’i gystuddio . Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni , efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni : cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef : a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni . Nyni oll a grwydrasom fel defaid ; troesom bawb i’w ffordd ei hun : a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd . Efe a orthrymwyd , ac efe a gystuddiwyd , ac nid agorai ei enau : fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa , ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai , felly nid agorai yntau ei enau . O garchar ac o farn y cymerwyd ef : a phwy a draetha ei oes ef ? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw ; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl . Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir , a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth ; am na wnaethai gam , ac nad oedd twyll yn ei enau . Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef ; efe a’i clwyfodd : pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod , efe a wêl ei had , efe a estyn ei ddyddiau ; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef . O lafur ei enaid y gwêl , ac y diwellir : fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth ; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt . Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer , ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn : am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth : ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr ; ac efe a ddug bechodau llaweroedd , ac a eiriolodd dros y troseddwyr . Cân , di amhlantadwy nid esgorodd ; bloeddia ganu , a gorfoledda , yr hon nid esgorodd : oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd , na’r hon y mae gŵr iddi , medd yr Arglwydd . Helaetha le dy babell , ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd : nac atal , estyn dy raffau , a sicrha dy hoelion . Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy ; a’th had a etifedda y Cenhedloedd , a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol . Nac ofna ; canys ni’th gywilyddir : ac na’th waradwydder , am na’th warthruddir ; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid , a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach . Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw : dy Waredydd hefyd , Sanct Israel , Duw yr holl ddaear y gelwir ef . Canys fel gwraig wrthodedig , a chystuddiedig o ysbryd , y’th alwodd yr Arglwydd , a gwraig ieuenctid , pan oeddit wrthodedig , medd dy Dduw . Dros ennyd fechan y’th adewais ; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf . Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr ; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt , medd yr Arglwydd dy Waredydd . Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi : canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear ; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt , ac na’th geryddwn . Canys y mynyddoedd a giliant , a’r bryniau a symudant : eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt , a chyfamod fy hedd ni syfl , medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt . Y druan , helbulus gan dymestl , y ddigysur , wele , mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl , ac a’th sylfaenaf â meini saffir . Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial , a’th byrth o feini disglair , a’th holl derfynau o gerrig dymunol . Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd ; a mawr fydd heddwch dy feibion . Mewn cyfiawnder y’th sicrheir : byddi bell oddi wrth orthrymder , canys nid ofni ; ac oddi wrth ddychryn , canys ni nesâ atat . Wele , gan ymgasglu hwy a ymgasglant , ond nid ohonof fi : pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn , efe a syrth . Wele , myfi a greais y gof , yr hwn a chwyth y marwor yn tân , ac a ddefnyddia arf i’w waith ; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio . Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn ; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn . Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd , a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi , medd yr Arglwydd . O Deuwch i’r dyfroedd , bob un y mae syched arno , ie , yr hwn nid oes arian ganddo ; deuwch , prynwch , a bwytewch ; ie , deuwch , prynwch win a llaeth , heb arian , ac heb werth . Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara ? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni ? gan wrando gwrandewch arnaf fi , a bwytewch yr hyn sydd dda ; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster . Gogwyddwch eich clust , a deuwch ataf ; gwrandewch , a bydd byw eich enaid : a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi , sef sicr drugareddau Dafydd . Wele , rhoddais ef yn dyst i’r bobl , yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd . Wele , cenedl nid adwaeni a elwi , a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat , er mwyn yr Arglwydd dy Dduw , ac oherwydd Sanct Israel : canys efe a’th ogoneddodd . Ceisiwch yr Arglwydd , tra y galler ei gael ef ; gelwch arno , tra fyddo yn agos . Gadawed y drygionus ei ffordd , a’r gŵr anwir ei feddyliau ; a dychweled at yr Arglwydd , ac efe a gymer drugaredd arno ; ac at ein Duw ni , oherwydd efe a arbed yn helaeth . Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi , ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i , medd yr Arglwydd . Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear , felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi , a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi . Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd , ac ni ddychwel yno , eithr dyfrha y ddaear , ac a wna iddi darddu a thyfu , fel y rhoddo had i’r heuwr , a bara i’r bwytawr : Felly y bydd fy ngair , yr hwn a ddaw o’m genau : ni ddychwel ataf yn wag ; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf , ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid . Canys mewn llawenydd yr ewch allan , ac mewn hedd y’ch arweinir ; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen , a holl goed y maes a gurant ddwylo . Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd , yn lle mieri y cyfyd myrtwydd : a hyn fydd i’r Arglwydd yn enw , ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Cedwch farn , a gwnewch gyfiawnder : canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod , a’m cyfiawnder ar ymddangos . Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn , a mab y dyn a ymaflo ynddo ; gan gadw y Saboth heb ei halogi , a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg . Ac na lefared y dieithrfab , yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl ; ac na ddyweded y disbaddedig , Wele fi yn bren crin . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig , y rhai a gadwant fy Sabothau , ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf , ac a ymaflant yn fy nghyfamod i ; Ie , rhoddaf iddynt yn fy nhŷ , ac o fewn fy magwyrydd , le ac enw gwell na meibion ac na merched : rhoddaf iddynt enw tragwyddol , yr hwn ni thorrir ymaith . A’r meibion dieithr , y rhai a lynant wrth yr Arglwydd , gan ei wasanaethu ef , a chan garu enw yr Arglwydd , i fod yn weision iddo ef , pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi , ac a ymaflo yn fy nghyfamod ; Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd , a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi : eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor : canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd . Medd yr Arglwydd Dduw , yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel , Eto mi a gasglaf eraill ato ef , gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato . Pob bwystfil y maes , deuwch i ddifa , a phob bwystfil yn y coed . Deillion yw ei wyliedyddion : ni wyddant hwy oll ddim , cŵn mudion ydynt hwy oll , heb fedru cyfarth ; yn cysgu , yn gorwedd , ac yn caru hepian . Ie , cŵn gwancus ydynt , ni chydnabyddant â’u digon , a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall ; wynebant oll ar eu ffordd eu hun , pob un at ei elw ei hun o’i gwr . Deuwch , meddant , cyrchaf win , ac ymlanwn o ddiod gref ; a bydd yfory megis heddiw , a mwy o lawer iawn . Darfu am y cyfiawn , ac ni esyd neb at ei galon ; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith , heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith . Efe a â i dangnefedd : hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd , sef pob un a rodia yn ei uniondeb . Nesewch yma , meibion yr hudoles , had y godinebus a’r butain . Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch ? yn erbyn pwy y lledwch safn , ac yr estynnwch dafod ? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi ? Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog , gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau . Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran ; hwynt‐hwy yw dy gwtws : iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm , ac yr offrymaist fwyd‐offrwm . Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn ? Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely : dringaist hefyd yno i aberthu aberth . Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth : canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i , a dringaist ; helaethaist dy wely , ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt ; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist . Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint , ac amlheaist dy beraroglau : anfonaist hefyd dy genhadau i bell , ac ymostyngaist hyd uffern . Ym maint dy ffordd yr ymflinaist ; ac ni ddywedaist , Nid oes obaith : cefaist fywyd dy law ; am hynny ni chlefychaist . Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist , fel y dywedaist gelwydd , ac na chofiaist fi , ac nad ystyriaist yn dy galon ? oni thewais i â sôn er ys talm , a thithau heb fy ofni ? Myfi a fynegaf dy gyfiawnder , a’th weithredoedd : canys ni wnânt i ti les . Pan waeddech , gwareded dy gynulleidfaoedd di : eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll ; oferedd a’u cymer hwynt : ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir , ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd . Ac efe a ddywed , Palmentwch , palmentwch , paratowch y ffordd , cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl . Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig , yr hwn a breswylia dragwyddoldeb , ac y mae ei enw yn Sanctaidd , Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf ; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd , i fywhau y rhai isel o ysbryd , ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig . Canys nid byth yr ymrysonaf , ac nid yn dragywydd y digiaf : oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i , a’r eneidiau a wneuthum i . Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais , ac y trewais ef : ymguddiais , a digiais , ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon . Ei ffyrdd a welais , a mi a’i hiachâf ef : tywysaf ef hefyd , ac adferaf gysur iddo , ac i’w alarwyr . Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau ; Heddwch , heddwch , i bell , ac i agos , medd yr Arglwydd : a mi a’i hiachâf ef . Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor , pan na allo fod yn llonydd , yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid . Ni bydd heddwch , medd fy Nuw , i’r rhai annuwiol . Llefa â’th geg , nac arbed ; dyrchafa dy lais fel utgorn , a mynega i’m pobl eu camwedd , a’u pechodau i dŷ Jacob . Eto beunydd y’m ceisiant , ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd , fel cenedl a wnelai gyfiawnder , ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw : gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder , ewyllysiant nesáu at Dduw . Paham , meddant , yr ymprydiasom , ac nis gwelaist ? y cystuddiasom ein henaid , ac nis gwybuost ? Wele , yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd , ac yn mynnu eich holl ddyledion . Wele , i ymryson a chynnen yr ymprydiwch , ac i daro â dwrn anwiredd : nac ymprydiwch fel y dydd hwn , i beri clywed eich llais yn yr uchelder . Ai dyma yr ympryd a ddewisais ? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid ? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw , a thaenu sachliain a lludw dano ? ai hyn a elwi yn ympryd , ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd ? Onid dyma yr ympryd a ddewisais ? datod rhwymau anwiredd , tynnu ymaith feichiau trymion , a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion , a thorri ohonoch bob iau ? Onid torri dy fara i’r newynog , a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ ? a phan welych y noeth , ei ddilladu ; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun ? Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr , a’th iechyd a dardda yn fuan : a’th gyfiawnder a â o’th flaen ; gogoniant yr Arglwydd a’th ddilyn . Yna y gelwi , a’r Arglwydd a etyb ; y gwaeddi , ac efe a ddywed , Wele fi . Os bwri o’th fysg yr iau , estyn bys , a dywedyd oferedd ; Os tynni allan dy enaid i’r newynog , a diwallu yr enaid cystuddiedig : yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch , a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd : A’r Arglwydd a’th arwain yn wastad , ac a ddiwalla dy enaid ar sychder , ac a wna dy esgyrn yn freision : a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau , ac megis ffynnon ddwfr , yr hon ni phalla ei dyfroedd . A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd ; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth : a thi a elwir yn gaewr yr adwy , yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt . O throi dy droed oddi wrth y Saboth , heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd ; a galw y Saboth yn hyfrydwch , sanct yr Arglwydd yn ogoneddus ; a’i anrhydeddu ef , heb wneuthur dy ffyrdd dy hun , heb geisio dy ewyllys dy hun , na dywedyd dy eiriau dy hun : Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd , ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear , ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad : canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd . Wele , ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd , fel na allo achub ; ac ni thrymhaodd ei glust ef , fel na allo glywed : Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw , a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych , fel na chlywo . Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed , a’ch bysedd â chamwedd : eich gwefusau a draethasant gelwydd , eich tafod a fyfyriodd anwiredd . Nid oes a alwo am gyfiawnder , nac a ddadlau dros y gwirionedd : y maent yn gobeithio mewn gwagedd , ac yn dywedyd celwydd ; yn beichiogi ar flinder , ac yn esgor ar anwiredd . Wyau asb a ddodwasant , a gweoedd y pryf copyn a weant : yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw , a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber . Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd , ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd : eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd , a gwaith trawster sydd yn eu dwylo . Eu traed a redant i ddrygioni , a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion : eu meddyliau sydd feddyliau anwir ; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt . Ffordd heddwch nid adwaenant ; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau : gwnaethant iddynt lwybrau ceimion : pwy bynnag a rodio yno , nid edwyn heddwch . Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym , ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder : disgwyliasom am oleuni , ac wele dywyllwch ; am ddisgleirdeb , ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio . Palfalasom fel deillion â’r pared , ie , fel rhai heb lygaid y palfalasom : tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos ; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw . Nyni oll a ruasom fel eirth , a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod : disgwyliasom am farn , ac nid oes dim : am iachawdwriaeth , ac ymbellhaodd oddi wrthym . Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron , a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn : oherwydd ein camweddau sydd gyda ni ; a’n hanwireddau , ni a’u hadwaenom : Camweddu , a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd , a chilio oddi ar ôl ein Duw , dywedyd trawster ac anufudd‐dod , myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau . Barn hefyd a droed yn ei hôl , a chyfiawnder a safodd o hirbell : canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol , ac uniondeb ni all ddyfod i mewn . Ie , gwirionedd sydd yn pallu , a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail : a gwelodd yr Arglwydd hyn , a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn . Gwelodd hefyd nad oedd gŵr , a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr : am hynny ei fraich a’i hachubodd , a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd . Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig , a helm iachawdwriaeth am ei ben ; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad ; ie , gwisgodd sêl fel cochl . Yn ôl y gweithredoedd , ie , yn eu hôl hwynt , y tâl efe , llid i’w wrthwynebwyr , taledigaeth i’w elynion ; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe . Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o’r gorllewin , a’i ogoniant ef o godiad haul . Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon , Ysbryd yr Arglwydd a’i hymlid ef ymaith . Ac i Seion y daw y Gwaredydd , ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob , medd yr Arglwydd . A minnau , dyma fy nghyfamod â hwynt , medd yr Arglwydd : Fy ysbryd yr hwn sydd arnat , a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau , ni chiliant o’th enau , nac o enau dy had , nac o enau had dy had , medd yr Arglwydd , o hyn allan byth . Cyfod , llewyrcha ; canys daeth dy oleuni , a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat . Canys wele , tywyllwch a orchuddia y ddaear , a’r fagddu y bobloedd : ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd , a’i ogoniant a welir arnat . Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni , a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad . Cyfod dy lygaid oddi amgylch , ac edrych ; ymgasglasant oll , daethant atat : dy feibion a ddeuant o bell , a’th ferched a fegir wrth dy ystlys . Yna y cei weled , ac yr ymddisgleiri ; dy galon hefyd a ofna , ac a helaethir ; am droi atat luosowgrwydd y môr , golud y cenhedloedd a ddaw i ti . Lliaws y camelod a’th orchuddiant , sef cyflym gamelod Midian ac Effa ; hwynt oll o Seba a ddeuant ; aur a thus a ddygant ; a moliant yr Arglwydd a fynegant . Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti , hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant : hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor , a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant . Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl , ac fel colomennod i’w ffenestri ? Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant , a llongau Tarsis yn bennaf , i ddwyn dy feibion o bell , eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt , i enw yr Arglwydd dy Dduw , ac i Sanct Israel , am iddo dy ogoneddu di . A meibion dieithr a adeiladant dy furiau , a’u brenhinoedd a’th wasanaethant ; canys yn fy nig y’th drewais , ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt . Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad , ni chaeir hwynt na dydd na nos , i ddwyn atat olud y cenhedloedd , fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd . Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di , a ddifethir ; a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir . Gogoniant Libanus a ddaw atat , y ffynidwydd , ffawydd , a bocs ynghyd , i harddu lle fy nghysegr ; harddaf hefyd le fy nhraed . A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig : a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed , ac a’th alwant yn Ddinas yr Arglwydd , yn Seion Sanct Israel . Lle y buost yn wrthodedig , ac yn gas , ac heb gyniweirydd trwot , gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol , ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau . Sugni hefyd laeth y cenhedloedd , ie , bronnau brenhinoedd a sugni ; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd , a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob . Yn lle pres y dygaf aur , ac yn lle haearn y dygaf arian , ac yn lle coed , bres , ac yn lle cerrig , haearn ; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol , a’th drethwyr yn gyfiawn . Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad , na distryw na dinistr yn dy derfynau : eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth , a’th byrth yn Foliant . Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd , a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti : eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol , a’th Dduw yn ogoniant i ti . Ni fachluda dy haul mwyach , a’th leuad ni phalla : oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol , a dyddiau dy alar a ddarfyddant . Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll : etifeddant y tir byth , sef blaguryn fy mhlanhigion , gwaith fy nwylo , fel y’m gogonedder . Y bychan a fydd yn fil , a’r gwael yn genedl gref . Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser . Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf ; oherwydd yr Arglwydd a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd ; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon , i gyhoeddi rhyddid i’r caethion , ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym ; I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd , a dydd dial ein Duw ni ; i gysuro pob galarus ; I osod i alarwyr Seion , ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw , olew llawenydd yn lle galar , gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig ; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder , yn blanhigyn yr Arglwydd , fel y gogonedder ef . Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa , cyfodant yr anghyfanheddfa gynt , ac adnewyddant ddinasoedd diffaith , ac anghyfanhedd‐dra llawer oes . A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd , a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi . Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r Arglwydd : Gweinidogion ein Duw ni , meddir wrthych ; golud y cenhedloedd a fwynhewch , ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch . Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg ; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan : am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl ; llawenydd tragwyddol fydd iddynt . Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder ; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm , ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd , ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol . Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd , a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl : y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant , mai hwynt‐hwy yw yr had a fendithiodd yr Arglwydd . Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd , fy enaid a orfoledda yn fy Nuw : canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth , gwisgodd fi â mantell cyfiawnder ; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg , ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau . Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu , ac fel y gwna gardd i’w hadau egino , felly y gwna yr Arglwydd Ior i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd . Er mwyn Seion ni thawaf , ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf , hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb , a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi . A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder , a’r holl frenhinoedd dy ogoniant : yna y gelwir arnat enw newydd , yr hwn a enwa genau yr Arglwydd . Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd , ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw . Ni ddywedir amdanat mwy , Gwrthodedig ; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy , Anghyfannedd : eithr ti a elwir Heffsiba ; a’th dir , Beula : canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi , a’th dir a briodir . Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn , y prioda dy feibion dydi ; ac â llawenydd priodfab am briodferch , y llawenycha dy Dduw o’th blegid di . Ar dy furiau di , Jerwsalem , y gosodais geidwaid , y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad : y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd , na ddistewch , Ac na adewch ddistawrwydd iddo , hyd oni sicrhao , ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear . Tyngodd yr Arglwydd i’w ddeheulaw , ac i’w fraich nerthol , Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion ; a meibion dieithr nid yfant dy win , yr hwn y llafuriaist amdano : Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt , ac a foliannant yr Arglwydd ; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd . Cyniweiriwch , cyniweiriwch trwy y pyrth : paratowch ffordd y bobl ; palmentwch , palmentwch briffordd ; digaregwch hi : cyfodwch faner i’r bobloedd . Wele , yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear , Dywedwch wrth ferch Seion , Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod , wele ei gyflog gydag ef , a’i waith o’i flaen . Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd , yn Waredigion yr Arglwydd : tithau a elwir , Yr hon a geisiwyd , Dinas nis gwrthodwyd . Pwy yw hwn yn dyfod o Edom , yn goch ei ddillad o Bosra ? hwn sydd hardd yn ei wisg , yn ymdaith yn amlder ei rym ? Myfi , yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder , ac wyf gadarn i iacháu . Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad , a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf ? Sethrais y gwinwryf fy hunan , ac o’r bobl nid oedd un gyda mi ; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig , ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd ; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad , a’m holl wisgoedd a lychwinaf . Canys dydd dial sydd yn fy nghalon , a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth . Edrychais hefyd , ac nid oedd gynorthwywr ; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr : yna fy mraich fy hun a’m hachubodd , a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd . A mi a sathraf y bobl yn fy nig , ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd ; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr . Cofiaf drugareddau yr Arglwydd , a moliant Duw , yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni , ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel , yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau , ac yn ôl amlder ei drugareddau . Canys efe a ddywedodd , Diau fy mhobl ydynt hwy , meibion ni ddywedant gelwydd ; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt . Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd , ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt ; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt : efe a’u dygodd hwynt , ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt . Hwythau oeddynt wrthryfelgar , ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef : am hynny y trodd efe yn elyn iddynt , ac yr ymladdodd yn eu herbyn . Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt , Moses a’i bobl , gan ddywedyd , Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr , gyda bugail ei braidd ? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef ? Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses , ac â’i ogoneddus fraich , gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt , i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol ? Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau , fel march yn yr anialwch , fel na thramgwyddent ? Fel y disgyn anifail i’r dyffryn , y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys : felly y tywysaist dy bobl , i wneuthur i ti enw gogoneddus . Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant : mae dy sêl a’th gadernid , lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi ? a ymataliasant ? Canys ti yw ein Tad ni , er nad edwyn Abraham ni , ac na’n cydnebydd Israel : ti , Arglwydd , yw ein Tad ni , ein Gwaredydd ; dy enw sydd erioed . Paham , Arglwydd , y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ffyrdd ? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn ? Dychwel er mwyn dy weision , llwythau dy etifeddiaeth . Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd : ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di . Nyni ydym eiddot ti : erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy ; ac ni elwid dy enw arnynt . Ona rwygit y nefoedd , a disgyn , fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di , Fel pan losgo’r tân greision , y pair y tân i’r dwfr ferwi ; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr , fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot ! Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt , y disgynnaist , a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen . Ac erioed ni chlywsant , ni dderbyniasant â chlustiau , ac ni welodd llygad , O Dduw , ond tydi , yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho . Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen , ac a wna gyfiawnder ; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di : wele , ti a ddigiaist , pan bechasom : ynddynt hwy y mae para , a ni a fyddwn cadwedig . Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan , ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau ; a megis deilen y syrthiasom ni oll ; a’n hanwireddau , megis gwynt , a’n dug ni ymaith . Ac nid oes a alwo ar dy enw , nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot : canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym ; difeaist ni , oherwydd ein hanwireddau . Ond yn awr , O Arglwydd , ein Tad ni ydwyt ti : nyni ydym glai , a thithau yw ein lluniwr ni ; ie , gwaith dy law ydym ni oll . Na ddigia , Arglwydd , yn ddirfawr , ac na chofia anwiredd yn dragywydd : wele , edrych , atolwg , dy bobl di ydym ni oll . Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch ; Seion sydd yn ddiffeithwch , a Jerwsalem yn anghyfannedd . Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni , lle y moliannai ein tadau dydi , a losgwyd â thân ; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith . A ymateli di , Arglwydd , wrth y pethau hyn ? a dewi di , ac a gystuddi di ni yn ddirfawr ? Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf ; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant : dywedais , Wele fi , wele fi , wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i . Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar , y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda , yn ôl eu meddyliau eu hun ; Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb ; yn aberthu mewn gerddi , ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini ; Y rhai a arhoent ymysg y beddau , ac a letyent yn y mynwentau ; y rhai a fwytaent gig moch , ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri ; Y rhai a ddywedent , Saf ar dy ben dy hun ; na nesâ ataf fi : canys sancteiddiach ydwyf na thydi . Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau , tân yn llosgi ar hyd y dydd . Wele , ysgrifennwyd ger fy mron : ni thawaf ; eithr talaf , ie , talaf i’w mynwes , Eich anwireddau chwi , ac anwireddau eich tadau ynghyd , medd yr Arglwydd , y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd , ac a’m cablasant ar y bryniau : am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn , ac y dywedir , Na ddifwyna ef ; canys y mae bendith ynddo : felly y gwnaf er mwyn fy ngweision , na ddistrywiwyf hwynt oll . Eithr dygaf had allan o Jacob , ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd : a’m hetholedigion a’i hetifeddant , a’m gweision a drigant yno . Saron hefyd fydd yn gorlan defaid , a glyn Achor yn orweddfa gwartheg , i’m pobl y rhai a’m ceisiasant . Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd , a anghofiwch fy mynydd sanctaidd , a arlwywch fwrdd i’r llu acw , ac a lenwch ddiod‐offrwm i’r niferi acw . Rhifaf chwithau i’r cleddyf , a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth : oherwydd pan elwais chwi , nid atebasoch ; pan leferais , ni wrandawsoch ; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg , a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele , fy ngweision a fwytânt , a chwithau a newynwch : wele , fy ngweision a yfant , a chwithau a sychedwch : wele , fy ngweision a lawenychant , a chwithau a fydd cywilydd arnoch : Wele , fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon , a chwithau a waeddwch rhag gofid calon , ac a udwch rhag cystudd ysbryd . A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion : canys yr Arglwydd Dduw a’th ladd di , ac a eilw ei weision ar enw arall : Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear , ymfendigo yn Nuw y gwirionedd ; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear , dyngu i Dduw y gwirionedd : am anghofio y trallodau gynt , ac am eu cuddio hwynt o’m golwg . Canys wele fi yn creu nefoedd newydd , a daear newydd : a’r rhai cyntaf ni chofir , ac ni feddylir amdanynt . Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi : canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd , a’i phobl yn llawenydd . Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem , a llawenychaf yn fy mhobl : ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain , na llef gwaedd . Ni bydd o hynny allan blentyn o oed , na hynafgwr , yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau : canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd ; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir . A hwy a adeiladant dai , ac a’u cyfanheddant ; plannant hefyd winllannoedd , a bwytânt eu ffrwyth . Nid adeiladant hwy , fel y cyfanheddo arall ; ac ni phlannant , fel y bwytao arall : eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl , a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo . Ni lafuriant yn ofer , ac ni chenhedlant i drallod : canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy , a’u hepil gyda hwynt . A bydd , cyn galw ohonynt , i mi ateb : ac a hwy eto yn llefaru , mi a wrandawaf . Y blaidd a’r oen a borant ynghyd ; y llew fel ych a bawr wellt ; a’r sarff , llwch fydd ei bwyd hi : ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y nef yw fy ngorseddfainc , a’r ddaear yw lleithig fy nhraed : mae y tŷ a adeiledwch i mi ? ac mae y fan y gorffwysaf ? Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw , a thrwof fi y mae hyn oll , medd yr Arglwydd : ond ar hwn yr edrychaf , sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd , ac sydd yn crynu wrth fy ngair . Yr hwn a laddo ych , sydd fel yr hwn a laddo ŵr ; yr hwn a abertho oen , sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi ; yr hwn a offrymo offrwm , sydd fel ped offrymai waed moch ; yr hwn a arogldartho thus , sydd fel pe bendigai eilun : ie , hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun , a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd‐dra . Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt , ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant : am alw ohonof , ac nid oedd a atebai ; lleferais , ac ni wrandawsant : eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg , a’r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant . Gwrandewch air yr Arglwydd , y rhai a grynwch wrth ei air ef ; Eich brodyr y rhai a’ch casasant , ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i , a ddywedasant , Gogonedder yr Arglwydd : eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef , a hwynt a waradwyddir . Llef soniarus o’r ddinas , llef o’r deml , llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i’w elynion . Cyn ei chlafychu , yr esgorodd ; cyn dyfod gwewyr arni , y rhyddhawyd hi ar fab . Pwy a glybu y fath beth â hyn ? pwy a welodd y fath bethau â hyn ? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd ? a enir cenedl ar unwaith ? Pan glafychodd Seion , yr esgorodd hefyd ar ei meibion . A ddygaf fi i’r enedigaeth , ac oni pharaf esgor ? medd yr Arglwydd : a baraf fi esgor , ac a luddiaf ? medd dy Dduw . Llawenhewch gyda Jerwsalem , a byddwch hyfryd gyda hi , y rhai oll a’i cerwch hi : llawenhewch gyda hi yn llawen , y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi : Fel y sugnoch , ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi ; fel y godroch , ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , mi a estynnaf iddi heddwch fel afon , a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol : yna y sugnwch , ar ei hystlys hi y’ch dygir , ac ar ei gliniau y’ch diddenir . Fel un yr hwn y diddana ei fam ef , felly y diddanaf fi chwi ; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir . A phan weloch hyn , y llawenycha eich calon ; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn : ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision , a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion . Canys , wele , yr Arglwydd a ddaw â thân , ac â’i gerbydau fel trowynt , i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd , a’i gerydd â fflamau tân . Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â’i gleddyf yn erbyn pob cnawd ; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml . Y rhai a ymsancteiddiant , ac a ymlanhânt yn y gerddi , yn ôl ei gilydd , yn y canol , gan fwyta cig moch , a ffieidd‐dra , a llygod , a gyd‐ddiweddir , medd yr Arglwydd . Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau : y mae yr amser yn dyfod , i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd ; a hwy a ddeuant , ac a welant fy ngogoniant . A gosodaf yn eu mysg arwydd , ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd , i Tarsis , Affrica , a Lydia , y rhai a dynnant mewn bwa , i Italia , a Groeg , i’r ynysoedd pell , y rhai ni chlywsant sôn amdanaf , ac ni welsant fy ngogoniant ; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd . A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd , yn offrwm i’r Arglwydd , ar feirch , ac ar gerbydau , ac ar elorau meirch , ac ar fulod , ac ar anifeiliaid buain , i’m mynydd sanctaidd Jerwsalem , medd yr Arglwydd , megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd . Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid , medd yr Arglwydd . Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a’r ddaear newydd , y rhai a wnaf fi , medd yr Arglwydd , felly y saif eich had chwi , a’ch enw chwi . Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer , ac o Saboth i Saboth , i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i , medd yr Arglwydd . A hwy a ânt allan , ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn : canys eu pryf ni bydd marw , a’u tân ni ddiffydd ; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd . </passage></reply></GetPassage>