<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:24</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:24</urn><passage>Geiriau Jeremeia mab Hilceia , o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth , o fewn tir Benjamin : Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato , yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda , yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef . Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda , hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cyn i mi dy lunio di yn y groth , mi a’th adnabûm ; a chyn dy ddyfod o’r groth , y sancteiddiais di ; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , ni fedraf ymadrodd ; canys bachgen ydwyf fi . Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Na ddywed , Bachgen ydwyf fi : canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf , a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi . Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt : canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu , medd yr Arglwydd . Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law , ac a gyffyrddodd â’m genau . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Wele , rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di . Gwêl , heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd , ac ar y teyrnasoedd , i ddiwreiddio , ac i dynnu i lawr , i ddifetha , ac i ddistrywio , i adeiladu , ac i blannu . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Jeremeia , beth a weli di ? Minnau a ddywedais , Gwialen almon a welaf fi . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Da y gwelaist ; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith , gan ddywedyd , Beth a weli di ? A mi a ddywedais , Mi a welaf grochan berwedig , a’i wyneb tua’r gogledd . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir . Canys wele , myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd , medd yr Arglwydd , a hwy a ddeuant , ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem , ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch , ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda . A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn , am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant , ac a arogldarthasant i dduwiau eraill , ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain . Am hynny gwregysa dy lwynau , a chyfod , a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti : na arswyda eu hwynebau , rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt . Canys wele , heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog , ac yn golofn haearn , ac yn fur pres , yn erbyn yr holl dir , yn erbyn brenhinoedd Jwda , yn erbyn ei thywysogion , yn erbyn ei hoffeiriaid , ac yn erbyn pobl y tir . Ymladdant hefyd yn dy erbyn , ond ni’th orchfygant : canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared , medd yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Cerdda , a llefa yng nghlustiau Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd . Cofiais di , caredigrwydd dy ieuenctid , a serch dy ddyweddi , pan y’m canlynaist yn y diffeithwch , mewn tir ni heuwyd . Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r Arglwydd , a blaenffrwyth ei gnwd ef : pawb oll a’r a’i bwytao , a bechant ; drwg a ddigwydd iddynt , medd yr Arglwydd . Gwrandewch air yr Arglwydd , tŷ Jacob , a holl deuluoedd tŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi , gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf , a rhodio ar ôl oferedd , a myned yn ofer ? Ac ni ddywedant , Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft ; a’n harweiniodd trwy yr anialwch ; trwy dir diffaith , a phyllau ; trwy dir sychder , a chysgod angau ; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo , ac ni thrigodd dyn ynddo ? Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr , i fwyta ei ffrwyth a’i daioni : eithr pan ddaethoch i mewn , halogasoch fy nhir i , a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra . Yr offeiriaid ni ddywedasant , Pa le y mae yr Arglwydd ? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi : y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn , a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal , ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd . Oblegid hyn , mi a ddadleuaf â chwi eto , medd yr Arglwydd ; ie , dadleuaf â meibion eich meibion chwi . Canys ewch dros ynysoedd Chittim , ac edrychwch ; a danfonwch i Cedar , ac ystyriwch yn ddiwyd , ac edrychwch a fu y cyfryw beth . A newidiodd un genedl eu duwiau , a hwy heb fod yn dduwiau ? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd . O chwi nefoedd , synnwch wrth hyn , ac ofnwch yn aruthrol , a byddwch anghyfannedd iawn , medd yr Arglwydd . Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl ; hwy a’m gadawsant i , ffynnon y dyfroedd byw , ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau , ie , pydewau wedi eu torri , ni ddaliant ddwfr . Ai gwas ydyw Israel ? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe ? paham yr ysbeiliwyd ef ? Y llewod ieuainc a ruasant arno , ac a leisiasant ; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith , a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd . Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di . Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun , am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw , pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd ? A’r awr hon , beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft , i yfed dwfr Nilus ? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria , i yfed dwfr yr afon ? Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di , a’th wrthdro a’th gerydda : gwybydd dithau a gwêl , mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw , ac nad ydyw fy ofn i ynot ti , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di , ac a ddrylliais dy rwymau ; a thi a ddywedaist , Ni throseddaf ; er hynny ti a wibiaist , gan buteinio ar bob bryn uchel , a than bob pren deiliog . Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden , o’r iawn had oll : pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr ? Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr , a chymryd i ti lawer o sebon ; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i , medd yr Arglwydd Dduw . Pa fodd y dywedi , Ni halogwyd fi , ac nid euthum ar ôl Baalim ? Edrych dy ffordd yn y glyn , gwybydd beth a wnaethost ; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd . Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch , wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt , wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith ? pawb a’r a’i ceisiant hi , nid ymflinant ; yn ei mis y cânt hi . Cadw dy droed rhag noethni , a’th geg rhag syched . Tithau a ddywedaist , Nid oes obaith . Nac oes : canys cerais ddieithriaid , ac ar eu hôl hwynt yr af fi . Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef , felly y cywilyddia tŷ Israel ; hwynt‐hwy , eu brenhinoedd , eu tywysogion , a’u hoffeiriaid , a’u proffwydi ; Y rhai a ddywedant wrth bren , Tydi yw fy nhad ; ac wrth garreg , Ti a’m cenhedlaist . Canys hwy a droesant ataf fi wegil , ac nid wyneb : ond yn amser eu hadfyd y dywedant , Cyfod , a chadw ni . Eithr pa le y mae dy dduwiau , y rhai a wnaethost i ti ? codant , os gallant dy gadw yn amser dy adfyd : canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di , O Jwda . Paham yr ymddadleuwch â mi ? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn , medd yr Arglwydd . Yn ofer y trewais eich plant chwi , ni dderbyniasant gerydd : eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi , megis llew yn distrywio . O genhedlaeth , gwelwch air yr Arglwydd : A fûm i yn anialwch i Israel ? yn dir tywyllwch ? paham y dywed fy mhobl , Arglwyddi ydym ni , ni ddeuwn ni mwy atat ti ? A anghofia morwyn ei harddwisg ? neu y briodasferch ei thlysau ? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif . Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad ? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus . Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed ; nid wrth chwilio y cefais hyn , eithr ar y rhai hyn oll . Eto ti a ddywedi , Am fy mod yn ddiniwed , yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf . Wele , dadleuaf â thi , am ddywedyd ohonot , Ni phechais . Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd ? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft , fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria . Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho , a’th ddwylo ar dy ben : oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di , ac ni lwyddi ynddynt . Hwy a ddywedant , O gyr gŵr ei wraig ymaith , a myned ohoni oddi wrtho ef , ac iddi fod yn eiddo gŵr arall , a ddychwel efe ati hi mwyach ? oni lwyr halogir y tir hwnnw ? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer ; eto dychwel ataf fi , medd yr Arglwydd . Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel , ac edrych pa le ni phuteiniaist . Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy , megis Arabiad yn yr anialwch ; ac a halogaist y tir â’th buteindra , ac â’th ddrygioni . Am hynny yr ataliwyd y cafodydd , ac ni bu glaw diweddar ; a thalcen puteinwraig oedd i ti ; gwrthodaist gywilyddio . Oni lefi di arnaf fi o hyn allan , Fy nhad , ti yw tywysog fy ieuenctid ? A ddeil efe ei ddig byth ? a’i ceidw yn dragywydd ? Wele , dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin , A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig ? Hi a aeth i bob mynydd uchel , a than bob pren deiliog , ac a buteiniodd yno . A mi a ddywedais , wedi iddi wneuthur hyn i gyd , Dychwel ataf fi . Ond ni ddychwelodd . A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny . A gwelais yn dda , am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig , ollwng ohonof hi ymaith , ac a roddais iddi ei llythyr ysgar : er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon ; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd . A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir ; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi . Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon , eithr mewn rhagrith , medd yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon . Cerdda , a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd , a dywed , Ti Israel wrthnysig , dychwel , medd yr Arglwydd , ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch : canys trugarog ydwyf fi , medd yr Arglwydd , ni ddaliaf lid yn dragywydd . Yn unig cydnebydd dy anwiredd , droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw , a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog , ac ni wrandawech ar fy llef , medd yr Arglwydd . Trowch , chwi blant gwrthnysig , medd yr Arglwydd ; canys myfi a’ch priodais chwi : a mi a’ch cymeraf chwi , un o ddinas , a dau o deulu , ac a’ch dygaf chwi i Seion : Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon , y rhai a’ch porthant chwi â gwybodaeth , ac â deall . Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear , yn y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd , ni ddywedant mwy , Arch cyfamod yr Arglwydd ; ac ni feddwl calon amdani , ac ni chofir hi ; nid ymwelant â hi chwaith , ac ni wneir hynny mwy . Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd ; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd , at enw yr Arglwydd , i Jerwsalem : ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus . Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel , a hwy a ddeuant ynghyd , o dir y gogledd , i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi . Ond mi a ddywedais , Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant , ac y rhoddaf i ti dir dymunol , sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd ? ac a ddywedais , Ti a elwi arnaf fi , Fy nhad , ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i . Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill ; felly , tŷ Israel , y buoch anffyddlon i mi , medd yr Arglwydd . Llef a glywyd yn y mannau uchel , wylofain a dymuniadau meibion Israel : canys gwyrasant eu ffordd , ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw . Ymchwelwch , feibion gwrthnysig , a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi . Wele ni yn dyfod atat ti ; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw . Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau , ac o liaws y mynyddoedd : diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni . Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid ; eu defaid a’u gwartheg , eu meibion a’u merched . Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd , a’n gwarth a’n todd ni : canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom , nyni a’n tadau , o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw , ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw . Israel , os dychweli , dychwel ataf fi , medd yr Arglwydd : hefyd os rhoi heibio dy ffieidd‐dra oddi ger fy mron , yna ni’th symudir . A thi a dyngi , Byw yw yr Arglwydd , mewn gwirionedd , mewn barn , ac mewn cyfiawnder : a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo ; ie , ynddo ef yr ymglodforant . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Jwda , ac wrth Jerwsalem : Braenerwch i chwi fraenar , ac na heuwch mewn drain . Ymenwaedwch i’r Arglwydd , a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon , chwi gwŷr Jwda , a thrigolion Jerwsalem : rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân , a llosgi fel na byddo diffoddydd , oherwydd drygioni eich amcanion . Mynegwch yn Jwda , a chyhoeddwch yn Jerwsalem , a dywedwch , Utgenwch utgorn yn y tir : gwaeddwch , ymgesglwch , a dywedwch , Ymgynullwch , ac awn i’r dinasoedd caerog . Codwch faner tua Seion ; ffowch , ac na sefwch ; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd , a dinistr mawr . Y llew a ddaeth i fyny o’i loches , a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd , ac a aeth allan o’i drigle , i wneuthur dy dir yn orwag ; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd . Am hyn ymwregyswch â lliain sach ; galerwch ac udwch : canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni . Ac yn y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y derfydd am galon y brenin , ac am galon y penaethiaid : yr offeiriaid hefyd a synnant , a’r proffwydi a ryfeddant . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem , gan ddywedyd , Bydd heddwch i chwi ; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid . Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn , ac wrth Jerwsalem , Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl , nid i nithio , ac nid i buro ; Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi : weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy . Wele , megis cymylau y daw i fyny , a’i gerbydau megis corwynt : ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod . Gwae nyni ! canys ni a anrheithiwyd . O Jerwsalem , golch dy galon oddi wrth ddrygioni , fel y byddech gadwedig : pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion ? Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan , ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim . Coffewch i’r cenhedloedd , wele , cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem , ddyfod gwylwyr o wlad bell , a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda . Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn ; am iddi fy niclloni , medd yr Arglwydd . Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti : dyma dy ddrygioni di ; am ei fod yn chwerw , am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di . Fy mol , fy mol ; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon ; mae fy nghalon yn terfysgu ynof : ni allaf dewi , am i ti glywed sain yr utgorn , O fy enaid , a gwaedd rhyfel . Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd ; canys yr holl dir a anrheithiwyd : yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i , a’m cortenni yn ddiatreg . Pa hyd y gwelaf faner , ac y clywaf sain yr utgorn ? Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i ; meibion angall ydynt , ac nid deallgar hwynt : y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg , eithr gwneuthur da ni fedrant . Mi a edrychais ar y ddaear , ac wele , afluniaidd a gwag oedd ; ac ar y nefoedd , a goleuni nid oedd ganddynt . Mi a edrychais ar y mynyddoedd , ac wele , yr oeddynt yn crynu ; a’r holl fryniau a ymysgydwent . Mi a edrychais , ac wele , nid oedd dyn , a holl adar y nefoedd a giliasent . Mi a edrychais , ac wele y doldir yn anialwch , a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr Arglwydd , gan lidiowgrwydd ei ddicter ef . Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Y tir oll fydd diffeithwch : ac eto ni wnaf ddiben . Am hynny y galara y ddaear , ac y tywylla y nefoedd oddi uchod : oherwydd dywedyd ohonof fi , Mi a’i bwriedais , ac ni bydd edifar gennyf , ac ni throaf oddi wrtho . Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas ; hwy a ânt i’r drysni , ac a ddringant ar y creigiau : yr holl ddinasoedd a adewir , ac heb neb a drigo ynddynt . A thithau yr anrheithiedig , beth a wnei ? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad , er i ti ymdrwsio â thlysau aur , er i ti liwio dy wyneb â lliwiau , yn ofer y’th wnei dy hun yn deg ; dy gariadau a’th ddirmygant , ac a geisiant dy einioes . Canys clywais lef megis gwraig yn esgor , cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf , llef merch Seion yn ochain , ac yn lledu ei dwylo , gan ddywedyd , Gwae fi yr awr hon ! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid . Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem , ac edrychwch yr awr hon , mynnwch wybod hefyd , a cheisiwch yn ei heolydd hi , o chewch ŵr , a oes a wnêl farn , a gais wirionedd , a myfi a’i harbedaf hi . Ac er dywedyd ohonynt , Byw yw yr Arglwydd , eto yn gelwyddog y tyngant . O Arglwydd , onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di ? ti a’u trewaist hwynt , ac nid ymofidiasant ; difeaist hwynt , eithr gwrthodasant dderbyn cerydd : hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig , gwrthodasant ddychwelyd . A mi a ddywedais , Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn , ynfydion ydynt : canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd , na barn eu Duw . Mi a af rhagof at y gwŷr mawr , ac a ymddiddanaf â hwynt ; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd , a barn eu Duw : eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau , ac a ddrylliasant y rhwymau . Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy , blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy , llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy : pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir : canys eu camweddau a amlhasant , eu gwrthdrofeydd a chwanegasant . Pa fodd y’th arbedwn am hyn ? dy blant a’m gadawsant i , ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau : a phan ddiwellais hwynt , gwnaethant odineb , ac a heidiasant i dŷ y butain . Oeddynt fel meirch porthiannus y bore ; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog . Onid ymwelaf am y pethau hyn ? medd yr Arglwydd : oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Dringwch ar ei muriau hi , a distrywiwch , ond na orffennwch yn llwyr : tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi : canys nid eiddo’r Arglwydd ydynt . Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi , medd yr Arglwydd . Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd , a dywedasant , Nid efe yw ; ac ni ddaw drygfyd arnom , ac ni welwn gleddyf na newyn : A’r proffwydi a fuant fel gwynt , a’r gair nid yw ynddynt : fel hyn y gwneir iddynt hwy . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Am i chwi ddywedyd y gair hwn , wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân , a’r bobl hyn yn gynnud , ac efe a’u difa hwynt . Wele , mi a ddygaf arnoch chwi , tŷ Israel , genedl o bell , medd yr Arglwydd ; cenedl nerthol ydyw , cenedl a fu er ys talm , cenedl ni wyddost ei hiaith , ac ni ddeelli beth a ddywedant . Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored , cedyrn ydynt oll . A hi a fwyty dy gynhaeaf di , a’th fara , yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta : hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg ; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd : dy ddinasoedd cedyrn , y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt , a dloda hi â’r cleddyf . Ac er hyn , yn y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd , ni wnaf fi gwbl ben â chwi . A bydd pan ddywedoch , Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni ? ddywedyd ohonot tithau wrthynt , Megis y gwrthodasoch fi , ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun ; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi . Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob , a chyhoeddwch hyn yn Jwda , gan ddywedyd , Gwrando hyn yn awr , ti bobl ynfyd ac heb ddeall ; y rhai y mae llygaid iddynt , ac ni welant ; a chlustiau iddynt , ac ni chlywant : Onid ofnwch chwi fi ? medd yr Arglwydd : oni chrynwch rhag fy mron , yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol , fel nad elo dros hwnnw ; er i’r tonnau ymgyrchu , eto ni thycia iddynt ; er iddynt derfysgu , eto ni ddeuant dros hwnnw ? Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar : hwynt‐hwy a giliasant , ac a aethant ymaith . Ac ni ddywedant yn eu calon , Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw , yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser : efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf . Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn , a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych . Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid , y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau : gosodant offer dinistr , dynion a ddaliant . Fel cawell yn llawn o adar , felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll : am hynny y cynyddasant , ac yr ymgyfoethogasant . Tewychasant , disgleiriasant , aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus ; ni farnant farn yr amddifad , eto ffynasant ; ac ni farnant farn yr anghenus . Onid ymwelaf am y pethau hyn ? medd yr Arglwydd ; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir : Y proffwydi a broffwydant gelwydd , yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt ; a’m pobl a hoffant hynny : eto beth a wnewch yn niwedd hyn ? Ymgynullwch i ffoi , meibion Benjamin , o ganol Jerwsalem , ac yn Tecoa utgenwch utgorn ; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem : canys drwg a welir o’r gogledd , a dinistr mawr . Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus . Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau : yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll ; porant bob un yn ei le . Paratowch ryfel yn ei herbyn hi ; codwch , ac awn i fyny ar hanner dydd . Gwae ni ! oherwydd ciliodd y dydd , canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant . Codwch , ac awn i fyny o hyd nos , a distrywiwn ei phalasau hi . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Torrwch goed , a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem . Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi ; gorthrymder yw hi oll o’i mewn . Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan , felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni : trais ac ysbail a glywir ynddi ; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron . Cymer addysg , O Jerwsalem , rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt ; rhag i mi dy osod di yn anrhaith , yn dir anghyfanheddol . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden ; tro dy law yn ei hôl , megis casglydd grawnwin i’r basgedau . Wrth bwy y dywedaf fi , a phwy a rybuddiaf , fel y clywant ? Wele , eu clust hwy sydd ddienwaededig , ac ni allant wrando : wele , dirmygus ganddynt air yr Arglwydd ; nid oes ganddynt ewyllys iddo . Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd ; blinais yn ymatal : tywalltaf ef ar y plant yn yr heol , ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd : canys y gŵr a’r wraig a ddelir , yr henwr a’r llawn o ddyddiau . A’u tai a ddigwyddant i eraill , eu meysydd a’u gwragedd hefyd : canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad , medd yr Arglwydd . Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf , pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod : ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad , pob un sydd yn gwneuthur ffalster . A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth , gan ddywedyd , Heddwch , heddwch ; er nad oedd heddwch . A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd‐dra ? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd , ac ni fedrent wrido : am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant ; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Sefwch ar y ffyrdd , ac edrychwch , a gofynnwch am yr hen lwybrau , lle mae ffordd dda , a rhodiwch ynddi ; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau . Ond hwy a ddywedasant , Ni rodiwn ni ynddi . A mi a osodais wylwyr arnoch chwi , gan ddywedyd , Gwrandewch ar sain yr utgorn . Hwythau a ddywedasant , Ni wrandawn ni ddim . Am hynny clywch , genhedloedd : a thi gynulleidfa , gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt . Gwrando , tydi y ddaear ; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn , sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain ; am na wrandawsant ar fy ngeiriau , na’m cyfraith , eithr gwrthodasant hi . I ba beth y daw i mi thus o Seba , a chalamus peraidd o wlad bell ? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy , ac nid melys eich aberthau gennyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn , fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd ; cymydog a’i gyfaill a ddifethir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd , a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear . Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant ; creulon ydynt , ac ni chymerant drugaredd : eu llais a rua megis y môr , ac ar feirch y marchogant yn daclus , megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di , merch Seion . Clywsom sôn amdanynt ; ein dwylo a laesasant ; blinder a’n daliodd , fel gofid gwraig yn esgor . Na ddos allan i’r maes , ac na rodia ar hyd y ffordd : canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch . Merch fy mhobl , ymwregysa â sachliain , ac ymdroa yn y lludw ; gwna i ti gwynfan a galar tost , megis am unig fab : canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni . Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl , i wybod ac i brofi eu ffordd hwy . Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll , yn rhodio ag enllib ; efydd a haearn ŷnt ; llygru y maent hwy oll . Llosgodd y fegin ; gan dân y darfu y plwm ; yn ofer y toddodd y toddydd : canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith . Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt ; am wrthod o’r Arglwydd hwynt . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd , a chyhoedda y gair hwn yno , a dywed , Gwrandewch air yr Arglwydd , chwi holl Jwda , y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Gwellhewch eich ffyrdd , a’ch gweithredoedd ; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma . Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog , gan ddywedyd , Teml yr Arglwydd , teml yr Arglwydd , teml yr Arglwydd ydynt . Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd ; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog ; Ac ni orthrymwch y dieithr , yr amddifad , a’r weddw ; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon ; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr , i’ch niwed eich hun ; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon , yn y tir a roddais i’ch tadau chwi , yn oes oesoedd . Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les . Ai yn lladrata , yn lladd , ac yn godinebu , a thyngu anudon , ac arogldarthu i Baal , a rhodio ar ôl duwiau dieithr , y rhai nid adwaenoch ; Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn , yr hwn y gelwir fy enw i arno , ac y dywedwch , Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll ? Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma , ar yr hwn y gelwir fy enw i , gerbron eich llygaid ? wele , minnau a welais hyn , medd yr Arglwydd . Eithr , atolwg , ewch i’m lle , yr hwn a fu yn Seilo , lle y gosodais fy enw ar y cyntaf , ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw , oherwydd anwiredd fy mhobl Israel . Ac yn awr , am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn , medd yr Arglwydd , minnau a leferais wrthych , gan godi yn fore , a llefaru , eto ni chlywsoch ; a gelwais arnoch , ond nid atebasoch : Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno , yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo , ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau , megis y gwneuthum i Seilo . A mi a’ch taflaf allan o’m golwg , fel y teflais eich holl frodyr , sef holl had Effraim . Am hynny na weddïa dros y bobl hyn , ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt , ac nac eiriol arnaf : canys ni’th wrandawaf . Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ? Y plant sydd yn casglu cynnud , a’r tadau yn cynnau tân , a’r gwragedd yn tylino toes , i wneuthur teisennau i frenhines y nef , ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr , i’m digio i . Ai fi y maent hwy yn ei ddigio ? medd yr Arglwydd : ai hwynt eu hun , er cywilydd i’w hwynebau eu hun ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele , fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma , ar ddyn ac ar anifail , ar goed y maes , ac ar ffrwyth y ddaear ; ac efe a lysg , ac nis diffoddir . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau , a bwytewch gig . Canys ni ddywedais i wrth eich tadau , ac ni orchmynnais iddynt , y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft , am boethoffrymau neu aberthau : Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llef , a mi a fyddaf Dduw i chwi , a chwithau fyddwch yn bobl i minnau ; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi , fel y byddo yn ddaionus i chwi . Eithr ni wrandawsant , ac ni ostyngasant eu clust , ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus , ac aethant yn ôl , ac nid ymlaen . O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn , mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi , bob dydd gan foregodi , ac anfon : Er hynny ni wrandawsant arnaf fi , ac ni ostyngasant eu clust , eithr caledasant eu gwarrau ; gwnaethant yn waeth na’u tadau . Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt ; ond ni wrandawant arnat : gelwi hefyd arnynt ; ond nid atebant di . Eithr ti a ddywedi wrthynt , Dyma genedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw , ac ni dderbyn gerydd : darfu am y gwirionedd , a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt . Cneifia dy wallt , O Jerwsalem , a bwrw i ffordd ; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel : canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint . Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg , medd yr Arglwydd : gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno , i’w halogi ef . A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet , yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom , i losgi eu meibion a’u merched yn tân , yr hyn ni orchmynnais , ac ni feddyliodd fy nghalon . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , na elwir hi mwy Toffet , na glyn mab Hinnom , namyn glyn lladdedigaeth ; canys claddant o fewn Toffet , nes bod eisiau lle . A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear ; ac ni bydd a’u tarfo . Yna y gwnaf i lais llawenydd , a llais digrifwch , llais priodfab , a llais priodferch , ddarfod allan o ddinasoedd Jwda , ac o heolydd Jerwsalem ; canys yn anrhaith y bydd y wlad . Yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda , ac esgyrn ei dywysogion , ac esgyrn yr offeiriaid , ac esgyrn y proffwydi , ac esgyrn trigolion Jerwsalem , allan o’u beddau . A hwy a’u taenant o flaen yr haul , ac o flaen y lleuad , a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy , a’r rhai a wasanaethasant , a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl , a’r rhai a geisiasant , a’r rhai a addolasant : ni chesglir hwynt , ac nis cleddir ; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant . Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn , y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno , medd Arglwydd y lluoedd . Ti a ddywedi wrthynt hefyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; A gwympant hwy , ac ni chodant ? a dry efe ymaith , ac oni ddychwel ? Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol ? glynasant mewn twyll , gwrthodasant ddychwelyd . Mi a wrandewais ac a glywais , ond ni ddywedent yn iawn : nid edifarhaodd neb am ei anwiredd , gan ddywedyd , Beth a wneuthum i ? pob un oedd yn troi i’w yrfa , megis march yn rhuthro i’r frwydr . Ie , y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau ; y durtur hefyd , a’r aran , a’r wennol , a gadwant amser eu dyfodiad ; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd . Pa fodd y dywedwch , Doethion ydym ni , a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni ? wele , yn ddiau ofer y gwnaeth hi ; ofer yw pin yr ysgrifenyddion . Y doethion a waradwyddwyd , a ddychrynwyd , ac a ddaliwyd : wele , gwrthodasant air yr Arglwydd ; a pha ddoethineb sydd ynddynt ? Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill , a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno : canys o’r lleiaf hyd y mwyaf , pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod ; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad , pawb sydd yn gwneuthur ffalster . Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn , gan ddywedyd , Heddwch , heddwch ; pryd nad oedd heddwch . A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra ? na fu ddim cywilydd arnynt , ac ni fedrasant wrido : am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant : yn amser eu hymweliad y syrthiant , medd yr Arglwydd . Gan ddifa y difâf hwynt , medd yr Arglwydd ; ni bydd grawnwin ar y winwydden , na ffigys ar y ffigysbren , a’r ddeilen a syrth ; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt . Paham yr ydym ni yn aros ? ymgesglwch ynghyd , ac awn i’r dinasoedd cedyrn , a distawn yno : canys yr Arglwydd ein Duw a’n gostegodd , ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed , oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd . Disgwyl yr oeddem am heddwch , eto ni ddaeth daioni ; am amser meddyginiaeth , ac wele ddychryn . O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef ; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear : canys hwy a ddaethant , ac a fwytasant y tir , ac oll a oedd ynddo ; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi . Canys wele , mi a ddanfonaf seirff , asbiaid i’ch mysg , y rhai nid oes swyn rhagddynt : a hwy a’ch brathant chwi , medd yr Arglwydd . Pan ymgysurwn yn erbyn gofid , fy nghalon sydd yn gofidio ynof . Wele lais gwaedd merch fy mhobl , oblegid y rhai o wlad bell : Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion ? onid yw ei brenin hi ynddi ? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig , ac ag oferedd dieithr ? Y cynhaeaf a aeth heibio , darfu yr haf , ac nid ydym ni gadwedig . Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i : galerais ; daliodd synder fi . Onid oes driagl yn Gilead ? onid oes yno ffisigwr ? paham na wellha iechyd merch fy mhobl ? O na bai fy mhen yn ddyfroedd , a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau , fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl ! O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion , fel y gadawn fy mhobl , ac yr elwn oddi wrthynt ! canys hwynt oll ydynt odinebus , a chymanfa anffyddloniaid . A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd ; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear : canys aethant o ddrwg i ddrwg , ac nid adnabuant fi , medd yr Arglwydd . Gochelwch bawb ei gymydog , ac na choelied neb ei frawd : canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla , a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus . Pob un hefyd a dwylla ei gymydog , a’r gwir nis dywedant : hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd , ymflinasant yn gwneuthur anwiredd . Dy drigfan sydd yng nghanol twyll : oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i , medd yr Arglwydd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn eu toddi hwynt , ac yn eu profi hwynt : canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl ? Saeth lem yw eu tafod hwy , yn dywedyd twyll : â’i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog , eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo . Onid ymwelaf â hwynt am hyn ? medd yr Arglwydd : oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon ? Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan , a galar dros lanerchau yr anialwch ; am eu llosgi hwynt , fel na thramwyo neb trwyddynt , ac na chlywir llais ysgrubliaid : adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant , aethant ymaith . A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau , ac yn drigfan dreigiau ; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd . Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn ? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho , fel y mynego paham y darfu am y tir , ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd ? A dywedodd yr Arglwydd , Am wrthod ohonynt fy nghyfraith , yr hon a roddais ger eu bron hwynt , ac na wrandawsant ar fy llef , na rhodio ynddi ; Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun , ac yn ôl Baalim , yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Wele , mi a’u bwydaf hwynt , y bobl hyn , â wermod , ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl . Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau : a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf , hyd oni ddifethwyf hwynt . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Edrychwch , a gelwch am alarwragedd i ddyfod , a danfonwch am y rhai cyfarwydd , i beri iddynt ddyfod , A brysio , a chodi cwynfan amdanom ni , fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau , ac y difero ein hamrantau ni ddwfr . Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion , Pa wedd y’n hanrheithiwyd ! Ni a lwyr waradwyddwyd ; oherwydd i ni adael y tir , oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan . Eto gwrandewch air yr Arglwydd , O wragedd , a derbynied eich clust air ei enau ef ; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched , a galar bob un i’w gilydd . Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri , ac efe a ddaeth i’n palasau , i ddistrywio y rhai bychain oddi allan , a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd . Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes , ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr , ac ni chynnull neb hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb , ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder , ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth ; Eithr y neb a ymffrostio , ymffrostied yn hyn , ei fod yn deall , ac yn fy adnabod i , mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd , barn , a chyfiawnder , yn y ddaear : oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig ; A’r Aifft , ac â Jwda , ac ag Edom , ac â meibion Ammon , ac â Moab , ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf , a’r rhai a drigant yn yr anialwch : canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig , a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig . Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi , tŷ Israel : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd , ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd : canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy . Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd : oherwydd cymyna un bren o’r coed , gwaith llaw y saer , â bwyell . Ag arian ac ag aur yr harddant ef ; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef , fel na syflo . Megis palmwydden , syth ydynt hwy , ac ni lefarant : y mae yn rhaid eu dwyn hwy , am na allant gerdded . Nac ofnwch hwynt ; canys ni allant wneuthur drwg , a gwneuthur da nid oes ynddynt . Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi , Arglwydd : mawr wyt , a mawr yw dy enw mewn cadernid . Pwy ni’th ofna di , Brenin y cenhedloedd ? canys i ti y gweddai : oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd , ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy , nid oes neb fel tydi . Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant : athrawiaeth oferedd yw cyff . Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis , ac aur o Uffas , gwaith y celfydd , a dwylo’r toddydd : sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy ; gwaith y celfydd ŷnt oll . Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw , efe yw y Duw byw , a’r Brenin tragwyddol : rhag ei lid ef y cryna y ddaear , a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef . Fel hyn y dywedwch wrthynt ; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear , difethir hwynt o’r ddaear , ac oddi tan y nefoedd . Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth , efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb , ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr . Pan roddo efe ei lais , y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd , ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear : efe a wna fellt gyda’r glaw , ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau . Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth ; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig : canys celwydd yw ei ddelw dawdd , ac nid oes anadl ynddynt . Oferedd ŷnt , a gwaith cyfeiliorni : yn amser eu gofwy y difethir hwynt . Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob : canys lluniwr pob peth yw efe , ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef . Arglwydd y lluoedd yw ei enw . Casgl o’r tir dy farsiandïaeth , yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon , a chyfyngaf arnynt , fel y caffont felly . Gwae fi am fy mriw ! dolurus yw fy archoll : ond mi a ddywedais , Yn ddiau dyma ofid , a mi a’i dygaf . Fy mhabell i a anrheithiwyd , a’m rhaffau oll a dorrwyd ; fy mhlant a aethant oddi wrthyf , ac nid ydynt : nid oes mwy a ledo fy mhabell , nac a gyfyd fy llenni . Canys y bugeiliaid a ynfydasant , ac ni cheisiasant yr Arglwydd : am hynny ni lwyddant ; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir . Wele , trwst y sôn a ddaeth , a chynnwrf mawr o dir y gogledd , i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch , ac yn drigfan dreigiau . Gwn , Arglwydd , nad eiddo dyn ei ffordd : nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad . Cosba fi , Arglwydd , eto mewn barn ; nid yn dy lid , rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim . Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant , ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw : canys bwytasant Jacob , ie , bwytasant ef , difasant ef hefyd , ac anrheithiasant ei gyfannedd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn , a dywedwch wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem ; Dywed hefyd wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel : Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn , Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft , o’r ffwrn haearn , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llef , a gwnewch hwynt , yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi : felly chwi a fyddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau : Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau , ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl , megis y mae heddiw . Yna yr atebais , ac y dywedais , O Arglwydd , felly y byddo . Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , gan ddywedyd , Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn , a gwnewch hwynt . Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau , y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft , hyd y dydd hwn , trwy godi yn fore , a thystiolaethu , gan ddywedyd , Gwrandewch ar fy llais . Ond ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust , eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus : am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn , yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur , ond ni wnaethant . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda , ac ymysg trigolion Jerwsalem . Troesant at anwiredd eu tadau gynt , y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau : a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy : tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn dwyn drwg arnynt , yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho : yna y gwaeddant arnaf , ac ni wrandawaf hwynt . Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt , ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt : ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd . Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau , O Jwda ; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw , ie , allorau i fwgdarthu i Baal . Am hynny na weddïa dros y bobl hyn , ac na chyfod waedd neu weddi drostynt : canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd . Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ , gan iddi wneuthur ysgelerder lawer ? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt : pan wnelit ddrygioni , yna y llawenychit . Olewydden ddeiliog deg , o ffrwyth prydferth , y galwodd yr Arglwydd dy enw : trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi , a’i changhennau a dorrwyd . Canys Arglwydd y lluoedd , yr hwn a’th blannodd , a draethodd ddrwg yn dy erbyn , oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda , y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun , i’m digio i , trwy fwgdarthu i Baal . A’r Arglwydd a hysbysodd i mi , a mi a’i gwn ; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy . A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd ; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i , gan ddywedyd , Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth , a difethwn ef o dir y rhai byw , fel na chofier ei enw ef mwy . Eithr , O Arglwydd y lluoedd , barnwr cyfiawnder , a chwiliwr yr arennau a’r galon , gwelwyf dy ddialedd arnynt ; canys i ti y datguddiais fy nghwyn . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth , y rhai a geisiant dy einioes , gan ddywedyd , Na phroffwyda yn enw yr Arglwydd , rhag dy farw trwy ein dwylo ni : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn ymweled â hwynt : y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf , a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn . Ac ni bydd gweddill ohonynt ; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth , sef blwyddyn eu gofwy . Cyfiawn wyt , Arglwydd , pan ddadleuwyf â thi : er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau : Paham y llwydda ffordd yr anwir , ac y ffynna yr anffyddloniaid oll ? Plennaist hwy , ie , gwreiddiasant ; cynyddant , ie , dygant ffrwyth ; agos wyt yn eu genau , a phell oddi wrth eu harennau . Ond ti , Arglwydd , a’m hadwaenost i ; ti a’m gwelaist , ac a brofaist fy nghalon tuag atat ; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa , a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa . Pa hyd y galara y tir , ac y gwywa gwellt yr holl faes , oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo ? methodd yr anifeiliaid a’r adar , oblegid iddynt ddywedyd , Ni wêl efe ein diwedd ni . O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed , a hwy yn dy flino , pa fodd yr ymdrewi â’r meirch ? ac os blinasant di mewn tir heddychlon , yn yr hwn yr ymddiriedaist , yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen ? Canys dy frodyr , a thŷ dy dad , ie , y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi ; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl : na choelia hwy , er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt . Gadewais fy nhŷ , gadewais fy etifeddiaeth ; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion . Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed , rhuo y mae i’m herbyn ; am hynny caseais hi . Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith ; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi : deuwch , ymgesglwch , holl fwystfilod y maes , deuwch i ddifa . Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan ; sathrasant fy rhandir , fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol . Gwnaethant hi yn anrhaith , ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf : y tir i gyd a anrheithiwyd , am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon . Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch : canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : nid oes heddwch i un cnawd . Heuasant wenith , ond hwy a fedant ddrain ; ymboenasant , ond ni thycia iddynt : a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi , oherwydd llid digofaint yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg , y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu , Wele , mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir , ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt . Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan , mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt ; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth , a phob un i’w dir . Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl , i dyngu i’m henw , Byw yw yr Arglwydd , ( megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal , ) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl . Eithr oni wrandawant , yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon , a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf , Dos a chais i ti wregys lliain , a dod ef am dy lwynau , ac na ddod ef mewn dwfr . Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd , ac a’i dodais am fy llwynau . A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith , gan ddywedyd , Cymer y gwregys a gefaist , ac sydd am dy lwynau , a chyfod , dos i Ewffrates , a chuddia ef mewn twll o’r graig . Felly mi a euthum , ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates , megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi . Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos i Ewffrates , a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno . Yna yr euthum i Ewffrates , ac a gloddiais , ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef : ac wele , pydrasai y gwregys , ac nid oedd efe dda i ddim . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Felly y gwnaf i falchder Jwda , a mawr falchder Jerwsalem bydru . Y bobl ddrygionus hyn , y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i , y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon , ac a ânt ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt , ac i ymostwng iddynt , a fyddant fel y gwregys yma , yr hwn nid yw dda i ddim . Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr , felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf , medd yr Arglwydd , i fod i mi yn bobl , ac yn enw , ac yn foliant , ac yn ogoniant : ond ni wrandawent . Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma : Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Pob costrel a lenwir â gwin . A dywedant wrthyt ti , Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin ? Yna y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn , ie , y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef , yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a holl breswylwyr Jerwsalem , â meddwdod . Trawaf hwy y naill wrth y llall , y tadau a’r meibion ynghyd , medd yr Arglwydd : nid arbedaf , ac ni thrugarhaf , ac ni resynaf , ond eu difetha hwynt . Clywch , a gwrandewch ; na falchïwch : canys yr Arglwydd a lefarodd . Rhoddwch ogoniant i’r Arglwydd eich Duw , cyn iddo ef ddwyn tywyllwch , a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll ; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni , iddo ef ei droi yn gysgod angau , a’i wneuthur yn dywyllwch . Ond oni wrandewch chwi hyn , fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder ; a’m llygaid gan wylo a wylant , ac a ollyngant ddagrau , o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed . Dywed wrth y brenin a’r frenhines , Ymostyngwch , eisteddwch i lawr : canys disgynnodd eich pendefigaeth , sef coron eich anrhydedd . Dinasoedd y deau a gaeir , ac ni bydd a’u hagoro ; Jwda i gyd a gaethgludir , yn llwyr y dygir hi i gaethiwed . Codwch i fyny eich llygaid , a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd : pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti , sef dy ddiadell brydferth ? Beth a ddywedi pan ymwelo â thi ? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion , ac yn ben arnat : oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor ? Ac o dywedi yn dy galon , Paham y digwydd hyn i mi ? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre , ac y dinoethwyd dy sodlau . A newidia yr Ethiopiad ei groen , neu y llewpard ei frychni ? felly chwithau a ellwch wneuthur da , y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg . Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch . Dyma dy gyfran di , y rhan a fesurais i ti , medd yr Arglwydd ; am i ti fy anghofio i , ac ymddiried mewn celwydd . Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb , fel yr amlyger dy warth . Gwelais dy odineb a’th weryriad , brynti dy buteindra a’th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd . Gwae di , Jerwsalem ! a ymlanhei di ? pa bryd bellach ? Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth . Galara Jwda , a’i phyrth a lesgânt ; y maent yn ddu hyd lawr , a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny . A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr : daethant i’r ffosydd , ni chawsant ddwfr ; dychwelasant â’u llestri yn weigion : cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant , a chuddio eu pennau . Oblegid agennu o’r ddaear , am nad oedd glaw ar y ddaear , cywilyddiodd y llafurwyr , cuddiasant eu pennau . Ie , yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes , ac a’i gadawodd , am nad oedd gwellt . A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel ; yfasant wynt fel dreigiau : eu llygaid hwy a ballasant , am nad oedd gwellt . O Arglwydd , er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn , gwna di er mwyn dy enw : canys aml yw ein cildynrwydd ni ; pechasom i’th erbyn . Gobaith Israel , a’i geidwad yn amser adfyd , paham y byddi megis pererin yn y tir , ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith ? Paham y byddi megis gŵr wedi synnu ? fel gŵr cadarn heb allu achub ? eto yr ydwyt yn ein mysg ni , Arglwydd , a’th enw di a elwir arnom : na ad ni . Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn , Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro , ac ni ataliasant eu traed : am hynny nis myn yr Arglwydd hwy ; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy , ac a ymwêl â’u pechodau . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni . Pan ymprydiant , ni wrandawaf eu gwaedd hwynt ; a phan offrymant boeth‐offrwm a bwyd‐offrwm , ni byddaf bodlon iddynt : ond â’r cleddyf , ac â newyn , ac â haint , y difâf hwynt . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt , Ni welwch chwi gleddyf , ac ni ddaw newyn atoch ; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i ; nid anfonais hwy , ni orchmynnais iddynt chwaith , ac ni leferais wrthynt : gau weledigaeth , a dewiniaeth , a choegedd , a thwyll eu calon eu hun , y maent hwy yn eu proffwydo i chwi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i , a minnau heb eu hanfon hwynt , eto hwy a ddywedant , Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn ; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny . A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt , a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem , oherwydd y newyn a’r cleddyf ; ac ni bydd neb i’w claddu , hwynt‐hwy , na’u gwragedd , na’u meibion , na’u merched : canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni . Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma , Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd , ac na pheidiant : canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl , ac â phla tost iawn . Os af fi allan i’r maes , wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf ; ac o deuaf i mewn i’r ddinas , wele rai llesg o newyn : canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant . Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda ? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion ? paham y trewaist ni , ac nad oes i ni feddyginiaeth ? disgwyliasom am heddwch , ac nid oes daioni ; ac am amser iachâd , ac wele flinder . Yr ydym yn cydnabod , Arglwydd , ein camwedd , ac anwiredd ein tadau ; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di . Na ffieiddia ni , er mwyn dy enw , ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant : cofia , na thor dy gyfamod â ni . A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio ? neu a rydd y nefoedd gawodau ? Onid ti yw efe , O Arglwydd ein Duw ni ? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni : canys ti a wnaethost y pethau hyn oll . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Pe safai Moses a Samuel ger fy mron , eto ni byddai fy serch ar y bobl yma ; bwrw hwy allan o’m golwg , ac elont ymaith . Ac os dywedant wrthyt , I ba le yr awn ? tithau a ddywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Y sawl sydd i angau , i angau ; a’r sawl i’r cleddyf , i’r cleddyf ; a’r sawl i’r newyn , i’r newyn ; a’r sawl i gaethiwed , i gaethiwed . A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth , medd yr Arglwydd : y cleddyf , i ladd ; a’r cŵn , i larpio ; ac adar y nefoedd , ac anifeiliaid y ddaear , i ysu ac i ddifa . Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear ; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda , am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem . Canys pwy a drugarha wrthyt ti , O Jerwsalem ? a phwy a gwyna i ti ? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti ? Ti a’m gadewaist , medd yr Arglwydd , ac a aethost yn ôl : am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di , ac a’th ddifethaf ; myfi a flinais yn edifarhau . A mi a’u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad : diblantaf , difethaf fy mhobl , gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd . Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr : dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc , anrheithiwr ganol dydd ; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi , a dychryn ar y ddinas . Yr hon a blantodd saith , a lesgaodd : ei henaid hi a lesmeiriodd , ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd ; hi a gywilyddiodd , ac a waradwyddwyd ; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion , medd yr Arglwydd . Gwae fi , fy mam , ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear ! ni logais , ac ni logwyd i mi ; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i . Yr Arglwydd a ddywedodd , Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni ; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt , yn amser adfyd ac yn amser cystudd . A dyr haearn yr haearn o’r gogledd , a’r dur ? Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail , nid am werth , ond oblegid dy holl bechodau , trwy dy holl derfynau . Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elynion i dir nid adwaenost : canys tân a enynnodd yn fy nigofaint , arnoch y llysg . Ti a wyddost , Arglwydd ; cofia fi , ac ymwêl â mi , a dial drosof ar fy erlidwyr ; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros : gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di . Dy eiriau a gaed , a mi a’u bwyteais hwynt ; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon : canys dy enw di a alwyd arnaf fi , O Arglwydd Dduw y lluoedd . Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr , ac nid ymhyfrydais : eisteddais fy hunan oherwydd dy law di ; canys ti a’m llenwaist i o lid . Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol ? a’m pla yn anaele , fel na ellir ei iacháu ? a fyddi di i mi megis celwyddog , neu fel dyfroedd a ballant ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os dychweli , yna y’th ddygaf eilwaith , a thi a sefi ger fy mron ; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael , byddi fel fy ngenau i : dychwelant hwy atat ti , ond na ddychwel di atynt hwy . Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn ; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di , eithr ni’th orchfygant : canys yr ydwyf fi gyda thi , i’th achub ac i’th wared , medd yr Arglwydd . A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus , ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy . Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd ataf fi , gan ddywedyd , Na chymer i ti wraig , ac na fydded i ti feibion na merched , yn y lle hwn . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn , ac am eu mamau a’u dug hwynt , ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon ; O angau nychlyd y byddant feirw : ni alerir amdanynt , ac nis cleddir hwynt : byddant fel tail ar wyneb y ddaear , a darfyddant trwy y cleddyf , a thrwy newyn ; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Na ddos i dŷ y galar , ac na ddos i alaru , ac na chwyna iddynt : canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn , medd yr Arglwydd , sef trugaredd a thosturi . A byddant feirw yn y wlad hon , fawr a bychan : ni chleddir hwynt , ac ni alerir amdanynt ; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt . Ni rannant iddynt fwyd mewn galar , i roi cysur iddynt am y marw ; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur , am eu tad , neu am eu mam . Na ddos i dŷ gwledd , i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd , i lais y priodfab , ac i lais y briodferch , ddarfod o’r lle hwn , o flaen eich llygaid , ac yn eich dyddiau chwi . A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn , ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt , Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni ? neu , Pa beth yw ein hanwiredd ? neu , Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw ? Yna y dywedi wrthynt , Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i , medd yr Arglwydd , a myned ar ôl duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt , ac ymgrymu iddynt , a’m gwrthod i , a bod heb gadw fy nghyfraith ; A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau , canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg , heb wrando arnaf ; Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn , i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau ; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos , lle ni ddangosaf i chwi ffafr . Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na ddywedir mwyach , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft : Eithr , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd , ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt : a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau . Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer , medd yr Arglwydd , a hwy a’u pysgotant hwy ; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer , a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd , ac oddi ar bob bryn , ac o ogofeydd y creigiau . Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt : nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i , ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid . Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt ; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd ; ie , â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth . O Arglwydd , fy nerth a’m cadernid , a’m noddfa yn nydd blinder ; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear , ac a ddywedant , Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu , oferedd , a phethau heb les ynddynt . A wna dyn dduwiau iddo ei hun , a hwythau heb fod yn dduwiau ? Am hynny wele , mi a wnaf iddynt wybod y waith hon , dangosaf iddynt fy llaw a’m grym : a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw . Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn , ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon , ac ar gyrn eich allorau ; Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel . O fy mynydd yn y maes , dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith , a’th uchelfeydd i bechod , trwy dy holl derfynau . Ti a adewir hefyd dy hunan , heb dy etifeddiaeth a roddais i ti ; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost : canys cyneuasoch dân yn fy nig , yr hwn a lysg byth . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn , ac a wnelo gnawd yn fraich iddo , a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd . Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch , ac ni wêl pan ddêl daioni ; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch , mewn tir hallt ac anghyfanheddol . Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd , ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo . Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd , ac a estyn ei wraidd wrth yr afon , ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres ; ei ddeilen fydd ir , ac ar flwyddyn sychder ni ofala , ac ni phaid â ffrwytho . Y galon sydd fwy ei thwyll na dim , a drwg ddiobaith ydyw ; pwy a’i hedwyn ? Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon , yn profi ’r arennau , i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd , ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd . Fel petris yn eistedd , ac heb ddeor , yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng : yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt , ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd . Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad , yw lle ein cysegr ni . O Arglwydd , gobaith Israel , y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir , ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf , am iddynt adael yr Arglwydd , ffynnon y dyfroedd byw . Iachâ fi , O Arglwydd , a mi a iacheir ; achub fi , a mi a achubir : canys tydi yw fy moliant . Wele hwynt yn dywedyd wrthyf , Pa le y mae gair yr Arglwydd ? deued bellach . Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di : ac ni ddymunais y dydd blin , ti a’i gwyddost : yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di . Na fydd yn ddychryn i mi ; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd . Gwaradwydder fy erlidwyr , ac na’m gwaradwydder i ; brawycher hwynt , ac na’m brawycher i : dwg arnynt ddydd drwg , a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg . Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cerdda , a saf ym mhorth meibion y bobl , trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn , a thrwy yr hwn y deuant allan , ac yn holl byrth Jerwsalem ; A dywed wrthynt , Gwrandewch air yr Arglwydd , brenhinoedd Jwda , a holl Jwda , a holl breswylwyr Jerwsalem , y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Disgwyliwch ar eich eneidiau , ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth , ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem ; Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth , ac na wnewch ddim gwaith ; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth , fel y gorchmynnais i’ch tadau . Ond ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust ; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando , a rhag derbyn addysg . Er hynny os dyfal wrandewch arnaf , medd yr Arglwydd , heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth , ond sancteiddio y dydd Saboth , heb wneuthur dim gwaith arno : Yna y daw trwy byrth y ddinas hon , frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd , yn marchogaeth mewn cerbydau , ac ar feirch , hwy a’u tywysogion , gwŷr Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem ; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth . Ac o ddinasoedd Jwda , ac o amgylchoedd Jerwsalem , ac o wlad Benjamin , ac o’r gwastadedd , ac o’r mynydd , ac o’r deau , y daw rhai yn dwyn poethoffrymau , ac aberthau , a bwyd‐offrymau , a thus , ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd . Ond os chwi ni wrendy arnaf , i sancteiddio y dydd Saboth , heb ddwyn baich , wrth ddyfod i byrth Jerwsalem , ar y dydd Saboth : yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi , ac efe a ysa balasau Jerwsalem , ac nis diffoddir . Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cyfod , a dos i waered i dŷ y crochenydd , ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau . Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd , ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau . A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai , a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd ; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall , fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Oni allaf fi , fel y crochenydd hwn , wneuthur i chwi , tŷ Israel ? medd yr Arglwydd . Wele , megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd , felly yr ydych chwithau yn fy llaw i , tŷ Israel . Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio , a thynnu i lawr , a difetha cenedl neu frenhiniaeth ; Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni , myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi . A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu , ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth ; Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg , heb wrando ar fy llais , minnau a edifarhaf am y daioni â’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi . Yn awr gan hynny , atolwg , dywed wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn , ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn : dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg , a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda . Hwythau a ddywedasant , Nid oes obaith ; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn , a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gofynnwch , atolwg , ymysg y cenhedloedd , pwy a glywodd y cyfryw bethau ? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn . A wrthyd dyn eira Libanus , yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes ? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall ? Oherwydd i’m pobl fy anghofio i , hwy a arogldarthasant i wagedd , ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd , allan o’r hen lwybrau , i gerdded llwybrau ffordd ddisathr ; I wneuthur eu tir yn anghyfannedd , ac yn chwibaniad byth : pob un a elo heibio iddo a synna , ac a ysgwyd ei ben . Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn ; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd . Yna y dywedasant , Deuwch , a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia ; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad , na chyngor gan y doeth , na’r gair gan y proffwyd : deuwch , trawn ef â’r tafod , ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef . Ystyria di wrthyf , O Arglwydd , a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi . A delir drwg dros dda ? canys cloddiasant ffos i’m henaid : cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt , ac i droi dy ddig oddi wrthynt . Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn , a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf ; a bydded eu gwragedd heb eu plant , ac yn weddwon ; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw , a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel . Clywer eu gwaedd o’u tai , pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth ; canys cloddiasant ffos i’m dal , a chuddiasant faglau i’m traed . Tithau , O Arglwydd , a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i : na faddau eu hanwiredd , ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd ; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron ; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dos , a chais ystên bridd y crochenydd , a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid , A dos allan i ddyffryn mab Hinnom , yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain , a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt ; A dywed , Brenhinoedd Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem , clywch air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg , yr hwn pwy bynnag a’i clywo , ei glustiau a ferwinant . Am iddynt fy ngwrthod i , a dieithrio y lle hwn , ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr , y rhai nid adwaenent hwy , na’u tadau , na brenhinoedd Jwda , a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid ; Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal , i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal ; yr hyn ni orchmynnais , ac ni ddywedais , ac ni feddyliodd fy nghalon : Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet , na Dyffryn mab Hinnom , ond Dyffryn y lladdfa . A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn , a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion , a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy : rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd , ac yn ffiaidd ; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana , oherwydd ei holl ddialeddau hi . A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion , a chnawd eu merched , bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill , yn y gwarchae a’r cyfyngder , â’r hwn y cyfynga eu gelynion , a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes , arnynt . Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi , Ac y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn , a’r ddinas hon , fel y dryllia un lestr pridd , yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach ; ac yn Toffet y cleddir hwynt , o eisiau lle i gladdu . Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn , medd yr Arglwydd , ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo ; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet . A thai Jerwsalem , a thai brenhinoedd Jwda , a fyddant halogedig fel mangre Toffet : oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd , ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr . Yna y daeth Jeremeia o Toffet , lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo , ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrth yr holl bobl , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon , ac ar ei holl drefydd , yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn , am galedu ohonynt eu gwarrau , rhag gwrando fy ngeiriau . Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad , yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd , i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn ; Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd , ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin , yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd . A thrannoeth , Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar . Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef , Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur , ond Magor-missabib . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun , ac i’r rhai oll a’th garant ; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion , a’th lygaid di yn gweled : rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon , ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon , ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf . Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon , a’i holl lafur , a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi , a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion , y rhai a’u hanrheithiant hwynt , ac a’u cymerant , ac a’u dygant i Babilon . A thithau , Pasur , a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ , a ewch i gaethiwed ; a thi a ddeui i Babilon , ac yno y byddi farw , ac yno y’th gleddir , ti , a’r rhai oll a’th garant , y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog . O Arglwydd , ti a’m hudaist , a mi a hudwyd : cryfach oeddit na mi , a gorchfygaist : yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd , pob un sydd yn fy ngwatwar . Canys er pan leferais , mi a waeddais , trais ac anrhaith a lefais ; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd . Yna y dywedais , Ni soniaf amdano ef , ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach : ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân , wedi ei gau o fewn fy esgyrn , a mi a flinais yn ymatal , ac ni allwn beidio . Canys clywais ogan llawer , dychryn o amgylch : Mynegwch , meddant , a ninnau a’i mynegwn : pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi , gan ddywedyd , Ysgatfydd efe a hudir , a ni a’i gorchfygwn ef , ac a ymddialwn arno . Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy : am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant , ac ni orchfygant ; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr , canys ni lwyddant : nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth . Ond tydi , Arglwydd y lluoedd , yr hwn wyt yn profi y cyfiawn , yn gweled yr arennau a’r galon , gad i mi weled dy ddialedd arnynt : canys i ti y datguddiais fy nghwyn . Cenwch i’r Arglwydd , moliennwch yr Arglwydd : canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus . Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno : na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam . Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad , gan ddywedyd , Ganwyd i ti blentyn gwryw ; gan ei lawenychu ef yn fawr . A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr Arglwydd , ac ni bu edifar ganddo : a chaffed efe glywed gwaedd y bore , a bloedd bryd hanner dydd : Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth ; neu na buasai fy mam yn fedd i mi , a’i chroth yn feichiog arnaf byth . Paham y deuthum i allan o’r groth , i weled poen a gofid , fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth ? Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia , a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , gan ddywedyd , Ymofyn , atolwg , â’r Arglwydd drosom ni , ( canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni , ) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau , fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni . Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt , Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia ; Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo , y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon , ac yn erbyn y Caldeaid , y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer , a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon . A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig , ac â braich gref , mewn soriant , a llid , a digofaint mawr . Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon , yn ddyn , ac yn anifail : byddant feirw o haint mawr . Ac wedi hynny , medd yr Arglwydd , y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i weision , a’r bobl , a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon , gan yr haint , gan y cleddyf , a chan y newyn , i law Nebuchodonosor brenin Babilon , ac i law eu gelynion , ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes : ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf ; ni thosturia wrthynt , ac nid erbyd , ac ni chymer drugaredd . Ac wrth y bobl hyn y dywedi , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes , a ffordd angau . Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf , a chan y newyn , a chan yr haint ; ond y neb a elo allan , ac a gilio at y Caldeaid , y rhai sydd yn gwarchae arnoch , a fydd byw , a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo . Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon , er drwg , ac nid er da , medd yr Arglwydd : yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi , ac efe a’i llysg hi â thân . Ac am dŷ brenin Jwda , dywed , Gwrandewch air yr Arglwydd . O dŷ Dafydd , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Bernwch uniondeb y bore , ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr , rhag i’m llid dorri allan fel tân , a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd , oherwydd drygioni eich gweithredoedd . Wele fi yn dy erbyn , yr hon wyt yn preswylio y dyffryn , a chraig y gwastadedd , medd yr Arglwydd ; y rhai a ddywedwch , Pwy a ddaw i waered i’n herbyn ? neu , Pwy a ddaw i’n hanheddau ? Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd , medd yr Arglwydd ; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig , ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Dos di i waered i dŷ brenin Jwda , a llefara yno y gair hwn ; A dywed , Gwrando air yr Arglwydd , frenin Jwda , yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd , ti , a’th weision , a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn : Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Gwnewch farn a chyfiawnder , a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr : na wnewch gam , ac na threisiwch y dieithr , yr amddifad , na’r weddw , ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn . Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn , daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd , yn marchogaeth mewn cerbydau , ac ar feirch , efe , a’i weision , a’i bobl . Eithr oni wrandewch y geiriau hyn , i mi fy hun y tyngaf , medd yr Arglwydd , y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda ; Gilead wyt i mi , a phen Libanus : eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch , ac yn ddinasoedd anghyfanheddol . Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr , pob un â’i arfau : a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd , ac a’u bwriant i’r tân . A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon , ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd , Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon ? Yna yr atebant , Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw , ac addoli duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt . Nac wylwch dros y marw , ac na ymofidiwch amdano , ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith : canys ni ddychwel mwyach , ac ni wêl wlad ei enedigaeth . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda , yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad , yr hwn a aeth allan o’r lle hwn ; Ni ddychwel efe yno mwyach . Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo , yno y bydd efe farw ; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach . Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder , a’i ystafellau trwy gam ; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad , ac heb roddi iddo am ei waith : Yr hwn a ddywed , Mi a adeiladaf i mi dŷ eang , ac ystafellau helaeth ; ac a nadd iddo ffenestri , a llofft o gedrwydd , wedi ei lliwio â fermilion . A gei di deyrnasu , am i ti ymgau mewn cedrwydd ? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad , ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder , ac yna y bu dda iddo ? Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus ; yna y llwyddodd : onid fy adnabod i oedd hyn ? medd yr Arglwydd , Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod , ac ar dywallt gwaed gwirion , ac ar wneuthur trais , a cham . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , Ni alarant amdano , gan ddywedyd , O fy mrawd ! neu , O fy chwaer ! ni alarant amdano ef , gan ddywedyd , O iôr ! neu , O ei ogoniant ef ! Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef , wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem . Dring i Libanus , a gwaedda ; cyfod dy lef yn Basan , a bloeddia o’r bylchau : canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant . Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat ; tithau a ddywedaist , Ni wrandawaf . Dyma dy arfer o’th ieuenctid , na wrandewaist ar fy llais . A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid , a’th gariadau a ânt i gaethiwed : yna y’th gywilyddir , ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni . Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus , yn nythu yn y cedrwydd , mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat , fel cnofeydd gwraig yn esgor ! Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw , diau y tynnwn di oddi yno : A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes , ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau , sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon , ac i law y Caldeaid . Bwriaf dithau hefyd , a’th fam a’th esgorodd , i wlad ddieithr , yr hon ni’ch ganwyd ynddi , ac yno y byddwch farw . Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi , ni ddychwelant yno . Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia ? ai llestr yw heb hoffter ynddo ? paham y bwriwyd hwynt ymaith , efe a’i had , ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant ? O ddaear , ddaear , ddaear , gwrando air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant , gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau : canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd , nac a lywodraetho mwyach yn Jwda . Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa ! medd yr Arglwydd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl ; Chwi a wasgarasoch fy nefaid , ac a’u hymlidiasoch , ac nid ymwelsoch â hwynt : wele fi yn ymweled â chwi , am ddrygioni eich gweithredoedd , medd yr Arglwydd . A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt , a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau ; yna yr amlhânt ac y chwanegant . Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid , y rhai a’u bugeilia hwynt ; ac nid ofnant mwyach , ac ni ddychrynant , ac ni byddant yn eisiau , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn , a Brenin a deyrnasa ac a lwydda , ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear . Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda , ac Israel a breswylia yn ddiogel : a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef , YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pryd na ddywedant mwyach , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft : Eithr , Byw yw yr Arglwydd , yr hwn a ddug i fyny , ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd , ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt ; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun . Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof , fy holl esgyrn a grynant : yr ydwyf fel un meddw , ac fel un wedi i win ei orchfygu ; oherwydd yr Arglwydd , ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef . Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr : canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear , ac y sychodd tirion leoedd yr anialwch ; a’u helynt sydd ddrwg , a’u cadernid nid yw uniawn . Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant : yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt , medd yr Arglwydd . Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch ; gyrrir hwynt rhagddynt , a syrthiant ynddi : canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd , sef blwyddyn eu gofwy , medd yr Arglwydd . Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas : proffwydasant yn Baal , a hudasant fy mhobl Israel . Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll : torri priodas , a rhodio mewn celwydd : cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus , fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni : y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom , a’i thrigolion fel Gomorra . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi , Wele , mi a’u bwydaf hwynt â’r wermod , ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl : canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi : y maent yn eich gwneuthur yn ofer : gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant , ac nid o enau yr Arglwydd . Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr , Yr Arglwydd a ddywedodd , Bydd i chwi heddwch ; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant , Ni ddaw arnoch niwed . Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd , ac a welodd ac a glywodd ei air ef ? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef , ac a’i gwrandawodd ? Wele , corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd , sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus . Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel , nes iddo wneuthur , a nes iddo gwblhau meddwl ei galon : yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur . Ni hebryngais i y proffwydi hyn , eto hwy a redasant ; ni leferais wrthynt , er hynny hwy a broffwydasant . A phe safasent yn fy nghyngor , a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl ; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg , ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd . Ai Duw o agos ydwyf fi , medd yr Arglwydd , ac nid Duw o bell ? A lecha un mewn dirgel leoedd , fel nas gwelwyf fi ef ? medd yr Arglwydd : onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear ? medd yr Arglwydd . Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw , gan ddywedyd , Breuddwydiais , breuddwydiais . Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd ? ie , proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt . Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog ; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw , er mwyn Baal . Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo , myneged freuddwyd ; a’r hwn y mae ganddo fy ngair , llefared fy ngair mewn gwirionedd : beth yw yr us wrth y gwenith ? medd yr Arglwydd . Onid yw fy ngair i megis tân ? medd yr Arglwydd ; ac fel gordd yn dryllio’r graig ? Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi , medd yr Arglwydd , y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau , bob un oddi ar ei gymydog . Wele fi yn erbyn y proffwydi , medd yr Arglwydd , y rhai a lyfnhânt eu tafodau , ac a ddywedant , Efe a ddywedodd . Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog , medd yr Arglwydd , ac a’u mynegant , ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau , ac â’u gwagedd , a mi heb eu gyrru hwynt , ac heb orchymyn iddynt : am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn , medd yr Arglwydd . A phan ofynno y bobl hyn , neu y proffwyd , neu yr offeiriad , i ti , gan ddywedyd , Beth yw baich yr Arglwydd ? yna y dywedi wrthynt , Pa faich ? eich gwrthod a wnaf , medd yr Arglwydd . A’r proffwyd , a’r offeiriad , a’r bobl , y rhai a ddywedo , Baich yr Arglwydd , myfi a ymwelaf â’r gŵr hwnnw , ac â’i dŷ . Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog , a phob un wrth ei frawd , Beth a atebodd yr Arglwydd ? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd ? Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach ; canys baich i bawb fydd ei air ei hun : oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw , Arglwydd y lluoedd , ein Duw ni . Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd , Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti ? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd ? Ond gan eich bod yn dywedyd , Baich yr Arglwydd ; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Am i chwi ddywedyd y gair hwn , Baich yr Arglwydd , a mi wedi anfon atoch , gan ddywedyd , Na ddywedwch , Baich yr Arglwydd : Am hynny wele , myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi , ac mi a’ch gadawaf chwi , a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau , ac a’ch bwriaf allan o’m golwg . A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol , a gwaradwydd tragywydd , yr hwn nid anghofir . Yr Arglwydd a ddangosodd i mi , ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd , wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda , a thywysogion Jwda , gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem , a’u dwyn i Babilon . Un cawell oedd o ffigys da iawn , fel ffigys yr aeddfediad cyntaf : a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn , y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Beth a weli di , Jeremeia ? A mi a ddywedais , Ffigys : y ffigys da , yn dda iawn ; a’r rhai drwg , yn ddrwg iawn , y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , Fel y ffigys da hyn , felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda , y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni . Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni , ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon , ac a’u hadeiladaf hwynt , ac ni thynnaf i lawr ; plannaf hefyd hwynt , ac nis diwreiddiaf . Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod , mai yr Arglwydd ydwyf fi : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy : canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon . Ac fel y ffigys drwg , y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced , ( diau fel hyn y dywed yr Arglwydd , ) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i benaethiaid , a gweddill Jerwsalem , y rhai a weddillwyd yn y wlad hon , a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft : Ie , rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear , er drwg iddynt , i fod yn waradwydd ac yn ddihareb , yn watwargerdd ac yn felltith , ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt . A mi a anfonaf arnynt y cleddyf , newyn , a haint , nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon ; Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda , ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem , gan ddywedyd , Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda , hyd y dydd hwn , honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain , y daeth gair yr Arglwydd ataf , ac mi a ddywedais wrthych , gan foregodi a llefaru , ond ni wrandawsoch . A’r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi , gan foregodi a’u hanfon ; ond ni wrandawsoch , ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed . Hwy a ddywedent , Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg , ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd ; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i’ch tadau , byth ac yn dragywydd : Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu , ac i ymgrymu iddynt ; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo , ac ni wnaf niwed i chwi . Er hynny ni wrandawsoch arnaf , medd yr Arglwydd , fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo , er drwg i chwi eich hunain . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau , Wele , mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd , medd yr Arglwydd , a Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas , a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon , ac yn erbyn ei phreswylwyr , ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch ; difrodaf hwynt hefyd , a gosodaf hwynt yn syndod , ac yn chwibaniad , ac yn anrhaith tragwyddol . Paraf hefyd i lais hyfrydwch , ac i lais llawenydd , i lais y priodfab , ac i lais y briodferch , i sŵn y meini melinau , ac i lewyrch y canhwyllau , ballu ganddynt . A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch , ac yn syndod : a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain . A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain , myfi a ymwelaf â brenin Babilon , ac â’r genedl honno , medd yr Arglwydd , am eu hanwiredd , ac â gwlad y Caldeaid ; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol . Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau , y rhai a leferais i yn ei herbyn , sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn ; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd . Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau : a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd , ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , wrthyf fi ; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw , a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt . A hwy a yfant , ac a frawychant , ac a wallgofant , oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith . Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd , ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt : I Jerwsalem , ac i ddinasoedd Jwda , ac i’w brenhinoedd , ac i’w thywysogion : i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch , yn syndod , yn chwibaniad , ac yn felltith , fel y mae heddiw ; I Pharo brenin yr Aifft , ac i’w weision , ac i’w dywysogion , ac i’w holl bobl ; Ac i’r holl bobl gymysg , ac i holl frenhinoedd gwlad Us , a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid , ac i Ascalon , ac Assa , ac Ecron , a gweddill Asdod ; I Edom , a Moab , a meibion Ammon ; I holl frenhinoedd Tyrus hefyd , ac i holl frenhinoedd Sidon , ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr ; I Dedan , a Thema , a Bus ; ac i bawb o’r cyrrau eithaf ; Ac i holl frenhinoedd Arabia , ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg , y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch ; Ac i holl frenhinoedd Simri , ac i holl frenhinoedd Elam , ac i holl frenhinoedd y Mediaid ; Ac i holl frenhinoedd y gogledd , agos a phell , bob un gyda’i gilydd ; ac i holl deyrnasoedd y byd , y rhai sydd ar wyneb y ddaear : a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt . A thi a ddywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Yfwch a meddwch , a chwydwch , a syrthiwch , ac na chyfodwch , oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith . Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed , yna y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Diau yr yfwch : Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni , ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd ? Na ddihengwch ; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear , medd Arglwydd y lluoedd . Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn , a dywed wrthynt , Yr Arglwydd oddi uchod a rua , ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd ; gan ruo y rhua efe ar ei drigle ; bloedd , fel rhai yn sathru grawnwin , a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear . Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear ; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd : efe a ymddadlau â phob cnawd , y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl , a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear . A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : ni alerir drostynt , ac nis cesglir , ac nis cleddir hwynt ; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear . Udwch , fugeiliaid , a gwaeddwch ; ac ymdreiglwch mewn lludw , chwi flaenoriaid y praidd : canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa ; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol . Metha gan y bugeiliaid ffoi , a chan flaenoriaid y praidd ddianc . Clywir llef gwaedd y bugeiliaid , ac udfa blaenoriaid y praidd : canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt . A’r anheddau heddychlon a ddryllir , gan lid digofaint yr Arglwydd . Efe a wrthododd ei loches , fel cenau llew : canys y mae eu tir yn anghyfannedd , gan lid y gorthrymwr , a chan lid ei ddigofaint ef . Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Saf yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd , a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda , y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr Arglwydd , yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt ; na atal air : I edrych a wrandawant , ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg ; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt , am ddrygioni eu gweithredoedd . A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith , yr hon a roddais ger eich bron , I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi , y rhai a anfonais atoch , gan godi yn fore , ac anfon , ond ni wrandawsoch chwi ; Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo , a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear . Yr offeiriaid hefyd , a’r proffwydi , a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd . A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl ; yna yr offeiriaid , a’r proffwydi , a’r holl bobl a’i daliasant ef , gan ddywedyd , Ti a fyddi farw yn ddiau . Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel Seilo y bydd y tŷ hwn , a’r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr ? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd . Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn , yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd , ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd . Yna yr offeiriaid a’r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion , ac wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn : canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon , megis y clywsoch â’ch clustiau . Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion , ac wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’m hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn , ac yn erbyn y ddinas hon , yr holl eiriau a glywsoch . Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd , a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw ; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn . Ac amdanaf fi , wele fi yn eich dwylo ; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn . Ond gwybyddwch yn sicr , os chwi a’m lladd , eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain , ac ar y ddinas hon , ac ar ei thrigolion : canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd atoch i lefaru , lle y clywech , yr holl eiriau hyn . Yna y tywysogion , a’r holl bobl , a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi , Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth : canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym . Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant , ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl , gan ddywedyd , Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda , ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Seion a erddir fel maes , a Jerwsalem a fydd yn garneddau , a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed . A roddodd Heseceia brenin Jwda , a holl Jwda , ef i farwolaeth ? oni ofnodd efe yr Arglwydd , ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd , fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn ? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau . Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd , Ureia mab Semaia , o Ciriath‐jearim , yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon , ac yn erbyn y wlad hon , yn ôl holl eiriau Jeremeia . A phan glywodd y brenin Jehoiacim , a’i holl gedyrn , a’r holl dywysogion , ei eiriau ef , y brenin a geisiodd ei ladd ef : ond pan glywodd Ureia , efe a ofnodd , ac a ffodd , ac a aeth i’r Aifft . A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft , sef Elnathan mab Achbor , a gwŷr gydag ef i’r Aifft : A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft , ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim , yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf , ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin . Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia , fel na roddwyd ef i law y bobl i’w ladd . Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf , Gwna i ti rwymau a gefynnau , a dod hwynt am dy wddf ; Ac anfon hwynt at frenin Edom , ac at frenin Moab , ac at frenin meibion Ammon , ac at frenin Tyrus , ac at frenin Sidon , yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda ; A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi ; Myfi a wneuthum y ddaear , y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear , â’m grym mawr , ac â’m braich estynedig , ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda . Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas ; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef . A’r holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef , a’i fab , a mab ei fab , nes dyfod gwir amser ei wlad ef ; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef . Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef , sef Nebuchodonosor brenin Babilon , a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon ; â’r cleddyf , ac â newyn , ac â haint , yr ymwelaf â’r genedl honno , medd yr Arglwydd , nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef . Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi , nac ar eich dewiniaid , nac ar eich breuddwydwyr , nac ar eich hudolion , nac ar eich swynyddion , y rhai sydd yn llefaru wrthych , gan ddywedyd , Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon : Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi , i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad , ac fel y bwriwn chwi ymaith , ac y methoch . Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon , ac a’i gwasanaetho ef , y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun , medd yr Arglwydd ; a hwy a’i llafuriant hi , ac a drigant ynddi . Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn , gan ddywedyd , Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon , a gwasanaethwch ef a’i bobl , fel y byddoch byw . Paham y byddwch feirw , ti a’th bobl , trwy y cleddyf , trwy newyn , a thrwy haint , fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon ? Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych , gan ddywedyd , Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon : canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi . Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt , medd yr Arglwydd ; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd , fel y gyrrwn chwi ymaith , ac y darfyddai amdanoch chwi , a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi . Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid , a’r holl bobl hyn , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi , y rhai sydd yn proffwydo i chwi , gan ddywedyd , Wele , llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys ; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi . Na wrandewch arnynt ; gwasanaethwch chwi frenin Babilon , a byddwch fyw : paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch ? Ond os proffwydi ydynt hwy , ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt , eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd , nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhŷ brenin Jwda , ac yn Jerwsalem , i Babilon . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , am y colofnau , ac am y môr , ac am yr ystolion , ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon , Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith , pan gaethgludodd efe Jechoneia , mab Jehoiacim brenin Jwda , o Jerwsalem i Babilon , a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem ; Ie , fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd , ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem ; Hwy a ddygir i Babilon , ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt , medd yr Arglwydd : yna y dygaf hwynt i fyny , ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn . Ac yn y flwyddyn honno , yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda , yn y bedwaredd flwyddyn , ar y pumed mis , y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd , yr hwn oedd o Gibeon , wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd , yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Myfi a dorrais iau brenin Babilon . O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd , y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn , ac a’u dug i Babilon ; Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda , a holl gaethglud Jwda , y rhai a aethant i Babilon , drachefn i’r lle hwn , medd yr Arglwydd ; canys mi a dorraf iau brenin Babilon . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd , yng ngŵydd yr offeiriaid , ac yng ngŵydd yr holl bobl , y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd ; Ie , y proffwyd Jeremeia a ddywedodd , Amen , poed felly y gwnelo yr Arglwydd : yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di , y rhai a broffwydaist , am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd , a’r holl gaethglud , o Babilon i’r lle hwn . Eto , gwrando di yr awr hon y gair yma , yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl ; Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i , ac o’th flaen dithau erioed , a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer , ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion , am ryfel , ac am ddrygfyd , ac am haint . Y proffwyd a broffwydo am heddwch , pan ddêl gair y proffwyd i ben , yr adnabyddir y proffwyd , mai yr Arglwydd a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd . Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd , ac a’i torrodd ef . A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl . A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd , wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia , gan ddywedyd , Dos di , a dywed i Hananeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Gefynnau pren a dorraist ti ; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn , fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon , a hwy a’i gwasanaethant ef : mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd , Gwrando yn awr , Hananeia ; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti ; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear : o fewn y flwyddyn hon y byddi farw , oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd . Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno , yn y seithfed mis . Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud , ac at yr offeiriaid , ac at y proffwydi , ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon ; ( Wedi myned Jechoneia y brenin , a’r frenhines , a’r ystafellyddion , tywysogion Jwda a Jerwsalem , a’r seiri a’r gofaint , allan o Jerwsalem ; ) Yn llaw Elasa mab Saffan , a Gemareia mab Hilceia , y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , wrth yr holl gaethglud , yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon ; Adeiledwch dai , a phreswyliwch ynddynt ; a phlennwch erddi , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . Cymerwch wragedd , ac enillwch feibion a merched ; a chymerwch wragedd i’ch meibion , a rhoddwch eich merched i wŷr , fel yr esgoront ar feibion a merched , ac yr amlhaoch chwi yno , ac na leihaoch . Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi , a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi ; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau . Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch , na’ch dewiniaid ; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio : Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i ; ni anfonais i mohonynt , medd yr Arglwydd . Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain , yr ymwelaf â chwi , ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus , trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn . Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi , medd yr Arglwydd , meddyliau heddwch ac nid niwed , i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl . Yna y gelwch chwi arnaf , ac yr ewch , ac y gweddïwch arnaf fi , a minnau a’ch gwrandawaf . Ceisiwch fi hefyd , a chwi a’m cewch , pan y’m ceisioch â’ch holl galon . A mi a adawaf i chwi fy nghael , medd yr Arglwydd , a mi a ddychwelaf eich caethiwed , ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd , ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt , medd yr Arglwydd ; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono . Oherwydd i chwi ddywedyd , Yr Arglwydd a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon ; Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr Arglwydd am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd , ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon , ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud ; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf , a newyn , a haint , a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion , y rhai ni ellir eu bwyta , rhag eu dryced . A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf , â newyn , ac â haint ; ac mi a’u rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear , yn felltith , ac yn chwithdra , ac yn chwibaniad , ac yn warth , ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt ; Am na wrandawsant ar fy ngeiriau , medd yr Arglwydd , y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi , gan gyfodi yn fore , a’u hanfon ; ond ni wrandawech , medd yr Arglwydd . Gan hynny gwrandewch air yr Arglwydd , chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon : Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , am Ahab mab Colaia , ac am Sedeceia mab Maaseia , y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i ; Wele , myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi . A holl gaethglud Jwda , yr hon sydd yn Babilon , a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy , gan ddywedyd , Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeceia ac fel Ahab , y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân ; Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel , a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion , a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i , y rhai ni orchmynnais iddynt ; a minnau yn gwybod , ac yn dyst , medd yr Arglwydd . Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem , ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , ac at yr holl offeiriaid , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad , i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd , ar bob gŵr gorffwyllog , ac yn cymryd arno broffwydo , i’w roddi ef mewn carchar , a chyffion : Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth , yr hwn sydd yn proffwydo i chwi ? Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon , gan ddywedyd , Hir fydd y caethiwed hwn : adeiledwch dai , a phreswyliwch ynddynt ; a phlennwch erddi , a bwytewch eu ffrwyth hwynt . A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Anfon at yr holl gaethglud , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad ; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi , a minnau heb ei anfon ef , a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad , ac â’i had ef : ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn , ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl , medd yr Arglwydd ; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd , Duw Israel , gan ddywedyd , Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr . Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd , i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda , medd yr Arglwydd : a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau , a hwy a’i meddiannant hi . Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Israel , ac am Jwda : Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Llef dychryn a glywsom ni , ofn , ac nid heddwch . Gofynnwch yr awr hon , ac edrychwch a esgora gwryw ; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau , fel gwraig wrth esgor , ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni ? Och ! canys mawr yw y dydd hwn , heb gyffelyb iddo : amser blinder yw hwn i Jacob ; ond efe a waredir ohono . Canys y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di , a mi a ddrylliaf dy rwymau , ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach . Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw , a Dafydd eu brenin , yr hwn a godaf fi iddynt . Ac nac ofna di , O fy ngwas Jacob , medd yr Arglwydd ; ac na frawycha di , O Israel : canys wele , mi a’th achubaf di o bell , a’th had o dir eu caethiwed ; a Jacob a ddychwel , ac a orffwys , ac a gaiff lonydd , ac ni bydd a’i dychryno . Canys yr ydwyf fi gyda thi , medd yr Arglwydd , i’th achub di : er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais , eto ni wnaf ben amdanat ti ; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn , ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd . Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Anafus yw dy ysictod , a dolurus yw dy archoll . Nid oes a ddadleuo dy gŵyn , fel y’th iachaer ; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti . Dy holl gariadau a’th anghofiasant : ni cheisiant mohonot ti ; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn , sef â chosbedigaeth y creulon , am amlder dy anwiredd : oblegid dy bechodau a amlhasant . Paham y bloeddi am dy ysictod ? anafus yw dy ddolur , gan amlder dy anwiredd : oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti . Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir ; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed ; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith , a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail . Canys myfi a roddaf iechyd i ti , ac a’th iachâf di o’th friwiau , medd yr Arglwydd ; oblegid hwy a’th alwasant di , Yr hon a yrrwyd ymaith , gan ddywedyd , Dyma Seion , yr hon nid oes neb yn ei cheisio . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob , ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef ; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd , a’r llys a erys yn ôl ei arfer . A moliant a â allan ohonynt , a llais rhai yn gorfoleddu : a mi a’u hamlhaf hwynt , ac ni byddant anaml ; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt , ac ni byddant wael . Eu meibion hefyd fydd megis cynt , a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron ; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt . A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun , a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun ; a mi a baraf iddo nesáu , ac efe a ddaw ataf : canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi ? medd yr Arglwydd . A chwi a fyddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau . Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter , corwynt parhaus ; ar ben annuwiolion yr erys . Ni ddychwel digofaint llidiog yr Arglwydd , nes iddo ei wneuthur , ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon : yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn . Yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel ; a hwythau a fyddant bobl i mi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf , a gafodd ffafr yn yr anialwch , pan euthum i beri llonyddwch iddo ef , sef i Israel . Er ys talm yr ymddangosodd yr Arglwydd i mi , gan ddywedyd , A chariad tragwyddol y’th gerais : am hynny tynnais di â thrugaredd . Myfi a’th adeiladaf eto , a thi a adeiledir , O forwyn Israel : ymdrwsi eto â’th dympanau , ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns . Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria : y planwyr a blannant , ac a’u mwynhânt yn gyffredin . Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim , Codwch , ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Cenwch orfoledd i Jacob , a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd : cyhoeddwch , molwch , a dywedwch , O Arglwydd , cadw dy bobl , gweddill Israel . Wele , mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd , ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear , y dall a’r cloff , y feichiog a’r hon sydd yn esgor , ar unwaith gyda hwynt : cynulleidfa fawr a ddychwelant yma . Mewn wylofain y deuant , ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt : gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi : oblegid myfi sydd dad i Israel , ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig . Gwrandewch air yr Arglwydd , O genhedloedd , a mynegwch yn yr ynysoedd o bell , a dywedwch , Yr hwn a wasgarodd Israel , a’i casgl ef , ac a’i ceidw fel bugail ei braidd . Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob , ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef . Am hynny y deuant , ac y canant yn uchelder Seion ; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd , am wenith , ac am win , ac am olew , ac am epil y defaid a’r gwartheg : a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy ; ac ni ofidiant mwyach . Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns , a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd : canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd , ac a’u diddanaf hwynt , ac a’u llawenychaf o’u tristwch . A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster , a’m pobl a ddigonir â’m daioni , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Llef a glywyd yn Rama , cwynfan ac wylofain chwerw ; Rahel yn wylo am ei meibion , ni fynnai ei chysuro am ei meibion , oherwydd nad oeddynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Atal dy lef rhag wylo , a’th lygaid rhag dagrau : canys y mae tâl i’th lafur , medd yr Arglwydd ; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn . Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd , medd yr Arglwydd , y dychwel dy blant i’w bro eu hun . Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn ; Cosbaist fi , a mi a gosbwyd , fel llo heb ei gynefino â’r iau : dychwel di fi , a mi a ddychwelir , oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw . Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd , mi a edifarheais ; ac wedi i mi wybod , mi a drewais fy morddwyd : myfi a gywilyddiwyd , ac a waradwyddwyd hefyd , am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid . Ai mab hoff gennyf yw Effraim ? ai plentyn hyfrydwch yw ? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef , gan gofio y cofiaf ef eto : am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef ; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef , medd yr Arglwydd . Cyfod i ti arwyddion ffordd , gosod i ti garneddau uchel : gosod dy galon tua’r briffordd , y ffordd yr aethost : dychwel , forwyn Israel , dychwel i’th ddinasoedd hyn . Pa hyd yr ymgrwydri , O ferch wrthnysig ? oblegid yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear ; Benyw a amgylcha ŵr . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda , ac yn ei dinasoedd , pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt ; Yr Arglwydd a’th fendithio , trigfa cyfiawnder , mynydd sancteiddrwydd . Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda , ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd . Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais , a phob enaid trist a lenwais . Ar hyn y deffroais , ac yr edrychais , a melys oedd fy hun gennyf . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail . Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio , ac i dynnu i lawr , ac i ddinistrio , ac i ddifetha , ac i ddrygu ; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu , medd yr Arglwydd . Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach , Y tadau a fwytasant rawnwin surion , ac ar ddannedd y plant y mae dincod . Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun : pob un a’r a fwytao rawnwin surion , ar ei ddannedd ef y bydd dincod . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel , ac â thŷ Jwda : Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft ; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu , er fy mod i yn briod iddynt , medd yr Arglwydd . Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt , ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt ; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw , a hwythau a fyddant yn bobl i mi . Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog , a phob un ei frawd , gan ddywedyd , Adnabyddwch yr Arglwydd : oherwydd hwynt‐hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant , medd yr Arglwydd ; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd , a’u pechod ni chofiaf mwyach . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd , defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos , yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw : Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd i , medd yr Arglwydd , yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod , a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod , minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel , am yr hyn oll a wnaethant hwy , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , yr adeiledir y ddinas i’r Arglwydd , o dŵr Hananeel hyd borth y gongl . A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef , ar fryn Gareb , ac a amgylcha hyd Goath . A holl ddyffryn y celaneddau , a’r lludw , a’r holl feysydd , hyd afon Cidron , hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain , a fydd sanctaidd i’r Arglwydd ; nis diwreiddir , ac nis dinistrir mwyach byth . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda , honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor . Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem : a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar , yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda . Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef , gan ddywedyd , Paham y proffwydi , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon , ac efe a’i hennill hi ; Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid , ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon , ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau , a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau ; Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon , ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef , medd yr Arglwydd : er i chwi ymladd â’r Caldeaid , ni lwyddwch . A Jeremeia a lefarodd , Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi , gan ddywedyd , Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat , gan ddywedyd , Prŷn i ti fy maes , yr hwn sydd yn Anathoth : oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef . Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy , yn ôl gair yr Arglwydd , ac a ddywedodd wrthyf , Prŷn , atolwg , fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin : canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth , ac i ti y perthyn ei ollwng ; prŷn ef i ti . Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn . A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad , ac a bwysais iddo yr arian , saith sicl a deg darn o arian . A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr , ac a’i seliais ; cymerais hefyd dystion , a phwysais yr arian mewn cloriannau . Yna mi a gymerais lyfr y pryniad , sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod , a’r hwn oedd yn agored . A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia , mab Maaseia , yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr , ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth , yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy . A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Cymer y llyfrau hyn , sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig , a’r llyfr agored hwn , a dod hwynt mewn llestr pridd , fel y parhaont ddyddiau lawer . Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Tai , a meysydd , a gwinllannoedd , a feddiennir eto yn y wlad hon . Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia , myfi a weddïais ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , O Arglwydd Dduw , wele , ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear , â’th fawr allu ac â’th fraich estynedig ; nid oes dim rhy anodd i ti . Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd , ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt : y Duw mawr , cadarn , Arglwydd y lluoedd yw ei enw ; Mawr mewn cyngor , a galluog ar weithred ; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion , i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd , ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd ; Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn , ac yn Israel , ac ymysg dynion eraill ; ac a wnaethost i ti enw , megis heddiw ; Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft , ag arwyddion , ac â rhyfeddodau , ac â llaw gref , ac â braich estynedig , ac ag ofn mawr ; Ac a roddaist iddynt y wlad yma , yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt , sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . A hwy a ddaethant i mewn , ac a’i meddianasant hi ; ond ni wrandawsant ar dy lais , ac ni rodiasant yn dy gyfraith : ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur : am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt . Wele , peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi ; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid , y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn , oherwydd y cleddyf , a’r newyn , a’r haint : a’r hyn a ddywedaist ti , a gwblhawyd ; ac wele , ti a’i gweli . A thi a ddywedaist wrthyf , O Arglwydd Dduw , Prŷn i ti y maes ag arian , a chymer dystion : gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Wele , myfi yw yr Arglwydd , Duw pob cnawd : a oes dim rhy anodd i mi ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid , ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a’i hennill hi . A’r Caldeaid , y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon , a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân , ac a’i llosgant hi , a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal , ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr , i’m digio i . Oblegid meibion Israel , a meibion Jwda , oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd : oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo , medd yr Arglwydd . Canys i’m digofaint , ac i’m llid , y bu y ddinas hon i mi , er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn , i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb : Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda , y rhai a wnaethant i’m digio i , hwynt‐hwy , eu brenhinoedd , eu tywysogion , eu hoffeiriaid , a’u proffwydi , a gwŷr Jwda , a phreswylwyr Jerwsalem . Er i mi eu dysgu , gan foregodi i roddi addysg iddynt , eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth ; eithr troesant ataf fi eu gwarrau , ac nid eu hwynebau : Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno , i’w halogi ef . A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal , y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom , i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch ; yr hyn ni orchmynnais iddynt , ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn , i beri i Jwda bechu . Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , am y ddinas hon , am yr hon y dywedwch chwi , Rhoddir hi i law brenin Babilon , trwy y cleddyf , a thrwy newyn , a thrwy haint ; Wele , myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd , y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt ; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn , ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel . A hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau . A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd , i’m hofni byth , er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl . A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol , na throaf oddi wrthynt , heb wneuthur lles iddynt ; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau , fel na chiliont oddi wrthyf . Ie , mi a lawenychaf ynddynt , gan wneuthur lles iddynt , a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr , â’m holl galon , ac â’m holl enaid . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn , felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt . A meysydd a feddiennir yn y wlad yma , am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd , Anghyfannedd yw hi , heb ddyn nac anifail ; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi . Meysydd a brynant am arian , ac a ysgrifennant mewn llyfrau , ac a’u seliant , ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin , ac yn amgylchoedd Jerwsalem , ac yn ninasoedd Jwda , ac yn ninasoedd y mynyddoedd , ac yn ninasoedd y gwastad , ac yn ninasoedd y deau : canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt , medd yr Arglwydd . Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith , ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth , yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau , yr Arglwydd yw ei enw : Galw arnaf , a mi a’th atebaf , ac a ddangosaf i ti bethau mawrion , a chedyrn , y rhai nis gwyddost . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , am dai y ddinas hon , ac am dai brenhinoedd Jwda , y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel , ac â chleddyf ; Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid , ond i’w llenwi â chelanedd dynion , y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint , ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt . Wele , myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth , a mi a’u meddyginiaethaf hwynt , ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd . A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda , a chaethiwed Israel , a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad . A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn ; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn , a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn . A hyn fydd i mi yn enw llawenydd , yn glod ac yn ogoniant , o flaen holl genhedloedd y ddaear , y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt : a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Clywir eto yn y lle hwn , ( am yr hwn y dywedwch , Anialwch yw efe , heb ddyn ac heb anifail , yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , y rhai a wnaed yn anghyfannedd , heb ddyn , ac heb breswylwr , ac heb anifail , ) Llef gorfoledd a llef llawenydd , llef y priodfab a llef y briodferch , llef rhai yn dywedyd , Molwch Arglwydd y lluoedd ; oherwydd daionus yw yr Arglwydd , oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd ; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd : canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad , megis yn y dechreuad , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Bydd eto yn y lle yma , yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail , ac yn ei holl ddinasoedd , drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd . Yn ninasoedd y mynydd , yn ninasoedd y gwastad , ac yn ninasoedd y deau , ac yng ngwlad Benjamin , ac yn amgylchoedd Jerwsalem , ac yn ninasoedd Jwda , yr â defaid eto , dan law yr hwn sydd yn eu rhifo , medd yr Arglwydd . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel , ac i dŷ Jwda . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd ; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir . Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir , a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel ; a hwn yw yr enw y gelwir ef , Yr Arglwydd ein cyfiawnder . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel . Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i , i offrymu poethoffrwm , ac i offrymu bwyd‐offrwm , ac i wneuthur aberth , yn dragywydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd , a’m cyfamod â’r nos , ac na byddo dydd a nos yn eu hamser ; Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas , na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef , ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion . Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd , ac na ellir mesur tywod y môr ; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas , a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi . Hefyd , gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , gan ddywedyd , Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru , gan ddywedyd , Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd , efe a’u gwrthododd hwynt ? felly y dirmygasant fy mhobl , fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif , ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear : Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi , fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham , Isaac , a Jacob : canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt , ac a drugarhaf wrthynt . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon , a’i holl lu , a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef , a’r holl bobloedd , yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem , ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel ; Dos , a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon , ac efe a’i llysg hi â thân : Ac ni ddihengi dithau o’i law ef , canys diau y’th ddelir , ac y’th roddir i’w law ef ; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon , a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di , a thithau a ei i Babilon . Er hynny , O Sedeceia brenin Jwda , gwrando air yr Arglwydd ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti , Ni byddi di farw trwy y cleddyf : Mewn heddwch y byddi farw : a hwy a losgant beraroglau i ti , fel y llosgwyd i’th dadau , y brenhinoedd gynt , y rhai a fu o’th flaen di : a hwy a alarant amdanat ti , gan ddywedyd , O arglwydd ! canys myfi a ddywedais y gair , medd yr Arglwydd . Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem , Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem , ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid , yn erbyn Lachis , ac yn erbyn Aseca : canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem , am gyhoeddi iddynt ryddid ; I ollwng o bob un ei wasanaethwr , a phob un ei wasanaethferch , y rhai fyddent Hebread neu Hebrees , yn rhyddion ; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt , sef gan ei frawd o Iddew . A phan glybu yr holl benaethiaid , a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod , am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion , fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach , yna hwy a wrandawsant , ac a’u gollyngasant ymaith . Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt , a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion , y rhai a ollyngasent yn rhyddion , ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion . Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel , Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi , y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed , gan ddywedyd , Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread , yr hwn a werthwyd i ti , ac a’th wasanaethodd chwe blynedd ; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt : ond ni wrandawodd eich tadau arnaf , ac ni ogwyddasant eu clustiau . A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw , ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg , am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog ; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i , yn y tŷ y gelwir fy enw arno : Ond chwi a ddychwelasoch , ac a halogasoch fy enw , ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr , a phob un ei wasanaethferch , y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun : caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Ni wrandawsoch arnaf fi , gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd , a phob un i’w gymydog : wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn , medd yr Arglwydd , ryddid i’r cleddyf , i’r haint , ac i’r newyn , ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear . A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod , y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron , wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo , yr hwn a holltasent yn ddau ; Tywysogion Jwda , a thywysogion Jerwsalem , yr ystafellyddion , a’r offeiriaid , a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo ; Ie , mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion , ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes : a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear . A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda , a’i dywysogion , i law eu gelynion , ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes , ac yn llaw llu brenin Babilon , y rhai a aethant i fyny oddi wrthych . Wele , mi a orchmynnaf , medd yr Arglwydd , ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon , a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi , ac a’i goresgynnant hi , ac a’i llosgant hi â thân : ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda , gan ddywedyd , Dos di i dŷ y Rechabiaid , a llefara wrthynt , a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd , i un o’r ystafelloedd , a dod iddynt win i’w yfed . Yna myfi a gymerais Jaasaneia , mab Jeremeia , mab Habasineia , a’i frodyr , a’i holl feibion , a holl deulu y Rechabiaid ; A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd , i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia , gŵr i Dduw , yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion , yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum , ceidwad y drws . A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win , a chwpanau , a mi a ddywedais wrthynt , Yfwch win . Ond hwy a ddywedasant , Nid yfwn ni ddim gwin : oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn , gan ddywedyd , Nac yfwch win , na chwychwi na’ch plant , yn dragywydd : Na adeiledwch dŷ , ac na heuwch had , ac na phlennwch winllan , ac na fydded gennych chwi : ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau : fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear , lle yr ydych yn ddieithriaid . A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad , am bob peth a orchmynnodd efe i ni ; nad yfem ni win ein holl ddyddiau , nyni , ein gwragedd , ein meibion , a’n merched ; Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio ; ac nid oes gennym na gwinllan , na maes , na had : Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll , a gwrando , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni . Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad , nyni a ddywedasom , Deuwch , ac awn i Jerwsalem , rhag llu y Caldeaid , a rhag llu yr Asyriaid : ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Dos , a dywed wrth wŷr Jwda , ac wrth breswylwyr Jerwsalem , Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau ? medd yr Arglwydd . Geiriau Jonadab mab Rechab , y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion , nad yfent win , a gyflawnwyd : canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn ; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad : a minnau a ddywedais wrthych chwi , gan godi yn fore , a llefaru ; ond ni wrandawsoch arnaf . Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi , gan godi yn fore , ac anfon , gan ddywedyd , Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg , a gwellhewch eich gweithredoedd , ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt ; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau : ond ni ogwyddasoch eich clustiau , ac ni wrandawsoch arnaf . Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad , yr hwn a orchmynnodd efe iddynt ; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel ; Wele fi yn dwyn ar Jwda , ac ar holl drigolion Jerwsalem , yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn : oherwydd i mi ddywedyd wrthynt , ond ni wrandawsant ; a galw arnynt , ond nid atebasant . A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad , a chadw ei holl orchmynion ef , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi : Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd at Jeremeia , gan ddywedyd , Cymer i ti blyg llyfr , ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel , ac yn erbyn Jwda , ac yn erbyn yr holl genhedloedd , o’r dydd y lleferais i wrthyt ti , er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn . Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt , y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus , fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod . Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia ; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a lefarasai efe wrtho , mewn plyg llyfr . A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch , gan ddywedyd , Caewyd arnaf fi , ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd . Am hynny dos di , a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau , eiriau yr Arglwydd , lle y clywo y bobl , yn nhŷ yr Arglwydd , ar y dydd ympryd ; a lle y clywo holl Jwda hefyd , y rhai a ddelont o’u dinasoedd , y darlleni di hwynt . Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd , ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus : canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn . Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo , gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd . Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , ar y nawfed mis , y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd , i’r holl bobl yn Jerwsalem , ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem . Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia , yn nhŷ yr Arglwydd , yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd , yn y cyntedd uchaf , wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd , lle y clybu yr holl bobl . Pan glybu Michaia mab Gemareia , mab Saffan , holl eiriau yr Arglwydd allan o’r llyfr , Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd : ac wele , yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd ; sef Elisama yr ysgrifennydd , a Delaia mab Semaia , ac Elnathan mab Achbor , a Gemareia mab Saffan , a Sedeceia mab Hananeia , a’r holl dywysogion . A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl . Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia , mab Selemeia , mab Cusi , at Baruch , gan ddywedyd , Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl , a thyred . Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law , ac a ddaeth atynt . A hwy a ddywedasant wrtho , Eistedd yn awr , a darllen ef lle y clywom ni . Felly Baruch a’i darllenodd lle y clywsant hwy . A phan glywsant yr holl eiriau , hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd ; a hwy a ddywedasant wrth Baruch , Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin . A hwy a ofynasant i Baruch , gan ddywedyd , Mynega i ni yn awr , Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef ? Yna Baruch a ddywedodd wrthynt , Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â’i enau , a minnau a’u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc . Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch , Dos ac ymguddia , ti a Jeremeia ; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi . A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd , ( ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd , ) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin . A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr . Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd . A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin , a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin . A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy , yn y nawfed mis ; a thân wedi ei gynnau ger ei fron . A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair , yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd , ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd , nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd . Eto nid ofnasant , ac ni rwygasant eu dillad , na’r brenin , nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn . Eto Elnathan , a Delaia , a Gemareia , a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr ; ond ni wrandawai efe arnynt . Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech , a Seraia mab Asriel , a Selemeia mab Abdiel , ddala Baruch yr ysgrifennydd , a Jeremeia y proffwyd : ond yr Arglwydd a’u cuddiodd hwynt . Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia , ( wedi i’r brenin losgi y llyfr , a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia , ) gan ddywedyd , Cymer i ti eto lyfr arall , ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf , yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda : A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Ti a losgaist y llyfr hwn , gan ddywedyd , Paham yr ysgrifennaist ynddo , gan ddywedyd , Diau y daw brenin Babilon , ac a anrheithia y wlad hon ; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim brenin Jwda ; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd : a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd , ac i rew y nos . A mi a ymwelaf ag ef , ac â’i had , ac â’i weision , am eu hanwiredd ; a mi a ddygaf arnynt hwy , ac ar drigolion Jerwsalem , ac ar wŷr Jwda , yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn , ond ni wrandawsant . Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall , ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd ; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân : a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau . A’r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim , yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda . Ond ni wrandawodd efe , na’i weision na phobl y tir , ar eiriau yr Arglwydd , y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd . A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia , a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad , at Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Gweddïa , atolwg , drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw . A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl : canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy . A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft : a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt , hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem . Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel ; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda , yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi ; Wele , llu Pharo , yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi , a ddychwel i’w wlad ei hun , i’r Aifft . A’r Caldeaid a ddychwelant , ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon , ac a’i henillant , ac a’i llosgant â thân . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Na thwyllwch eich hunain , gan ddywedyd , Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni : oblegid nid ânt hwy . Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn ; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig , eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell , ac a losgent y ddinas hon â thân . A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem , rhag llu Pharo , Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem , i fyned i wlad Benjamin , i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl . A phan oedd efe ym mhorth Benjamin , yr oedd yno ben‐swyddog , a’i enw ef oedd Ireia , mab Selemeia , mab Hananeia ; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd , gan ddywedyd , Cilio at y Caldeaid yr wyt ti . Yna y dywedodd Jeremeia , Nid gwir ; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid . Ond ni wrandawai efe arno : felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia , ac a’i dygodd ef at y tywysogion . Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia , ac a’i trawsant , ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd : oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy . Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy , ac i’r cabanau , ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer ; Yna y brenin Sedeceia a anfonodd , ac a’i cymerodd ef allan : a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun , ac a ddywedodd , A oes gair oddi wrth yr Arglwydd ? A dywedodd Jeremeia , Oes ; canys tydi ( eb efe ) a roddir yn llaw brenin Babilon . Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia , Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di , neu yn erbyn dy weision , neu yn erbyn y bobl hyn , pan y’m rhoddasoch yn y carchardy ? Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi , gan ddywedyd , Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn , nac yn erbyn y wlad hon ? Ac yn awr gwrando , atolwg , O fy arglwydd frenin : atolwg , deued fy ngweddi ger dy fron ; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd , rhag fy marw yno . Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy , a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion , nes darfod yr holl fara yn y ddinas . Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy . Yna Seffatia mab Mattan , a Gedaleia mab Pasur , a Jucal mab Selemeia , a Phasur mab Malcheia , a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl , gan ddywedyd , Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd , Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon , a fydd farw trwy y cleddyf , trwy newyn , a thrwy haint : ond y neb a elo allan at y Caldeaid , a fydd byw ; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo , a byw fydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon , yr hwn a’i hennill hi . Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin , Rhodder , atolwg , y gŵr hwn i farwolaeth : oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon , a dwylo’r holl bobl , wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn : oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn , ond niwed . A’r brenin Sedeceia a ddywedodd , Wele ef yn eich llaw chwi : canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi . Yna hwy a gymerasant Jeremeia , ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech , yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy : a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau . Ac nid oedd dwfr yn y daeardy , ond tom : felly Jeremeia a lynodd yn y dom . A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad , un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin , iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy , ( a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin , ) Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin , ac a lefarodd wrth y brenin , gan ddywedyd , O fy arglwydd frenin , drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd , yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy ; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae , oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas . Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad , gan ddywedyd , Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi , a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw . Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef , ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy , ac a gymerodd oddi yno hen garpiau , a hen bwdr fratiau , ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau . Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia , Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau . A Jeremeia a wnaeth felly . Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau , ac a’i codasant ef o’r daeardy ; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy . Yna y brenin Sedeceia a anfonodd , ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd , yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd ; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia , Mi a ofynnaf i ti beth : na chela ddim oddi wrthyf fi . A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia , Os mynegaf i ti , oni roddi di fi i farwolaeth ? ac os rhoddaf i ti gyngor , oni wrandewi di arnaf ? Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol , gan ddywedyd , Fel mai byw yr Arglwydd , yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn , ni roddaf fi di i farwolaeth , ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes . Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw y lluoedd , Duw Israel ; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon , yna y bydd dy enaid fyw , ac ni losgir y ddinas hon â thân ; a thithau a fyddi fyw , ti a’th deulu . Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon , yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid , a hwy a’i llosgant hi â thân , ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt . A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia , Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid , rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt , ac i’r rhai hynny fy ngwatwar . A Jeremeia a ddywedodd , Ni roddant ddim : gwrando , atolwg , ar lais yr Arglwydd , yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti ; felly y bydd yn dda i ti , a’th enaid a fydd byw . Ond os gwrthodi fyned allan , dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi : Ac wele , yr holl wragedd , y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda , a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon ; a hwy a ddywedant , Dy gyfeillion a’th hudasant , ac a’th orchfygasant ; dy draed a lynasant yn y dom , a hwythau a droesant yn eu hôl . Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid , ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt ; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir ; a’r ddinas hon a losgi â thân . Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia , Na chaffed neb wybod y geiriau hyn , ac ni’th roddir i farwolaeth . Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi , ac os deuant atat ti , a dywedyd wrthyt , Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin ; na chela oddi wrthym ni , ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth ; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau : Yna dywed wrthynt , Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin , na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan , i farw yno . Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia , ac a’i holasant ef : ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn , y rhai a orchmynasai y brenin : felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef , canys ni chafwyd clywed y peth . A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem ; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem . Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda , ar y degfed mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a warchaeasant arni . Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia , yn y pedwerydd mis , ar y nawfed dydd o’r mis , y torrwyd y ddinas . A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn , ac a eisteddasant yn y porth canol , sef Nergal‐sareser , Samgar-nebo , Sarsechim , Rabsaris , Nergal‐sareser , Rabmag , a holl dywysogion eraill brenin Babilon . A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt , a’r holl ryfelwyr , hwy a ffoesant , ac a aethant allan o’r ddinas liw nos , trwy ffordd gardd y brenin , i’r porth rhwng y ddau fur : ac efe a aeth allan tua’r anialwch . A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt , ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho , ac a’i daliasant ef , ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon , i Ribla yng ngwlad Hamath ; lle y rhoddodd efe farn arno . Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef : brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda . Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon . A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl , â thân ; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem . Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas , a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef , ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid . A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl , y rhai nid oedd dim ganddynt , yng ngwlad Jwda , ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw . A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr , gan ddywedyd , Cymer ef , a bwrw olwg arno , ac na wna iddo ddim niwed ; ond megis y dywedo efe wrthyt ti , felly gwna iddo . Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd , Nebusasban hefyd , Rabsaris , a Nergal‐sareser , Rabmag , a holl benaethiaid brenin Babilon ; Ie , hwy a anfonasant , ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy , ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan , i’w ddwyn adref : felly efe a drigodd ymysg y bobl . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia , pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar , gan ddywedyd , Dos , a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed , ac nid er lles , a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw . Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt . Canys gan achub mi a’th achubaf , ac ni syrthi trwy y cleddyf , eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti , am i ti ymddiried ynof fi , medd yr Arglwydd . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd , wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama , wedi iddo ei gymryd ef , ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda , y rhai a gaethgludasid i Babilon . A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia , ac a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn . A’r Arglwydd a’i dug i ben , ac a wnaeth megis y llefarodd : am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd , ac na wrandawsoch ar ei lais ef , am hynny y daeth y peth hyn i chwi . Ac yn awr wele , mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo : os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon , tyred , a myfi a fyddaf da wrthyt : ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon , paid ; wele yr holl dir o’th flaen di : i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned , yno dos . Ac yn awr , ac efe eto heb ddychwelyd , efe a ddywedodd , Dychwel at Gedaleia mab Ahicam , mab Saffan , yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda , ac aros gydag ef ymhlith y bobl : neu dos lle y gwelych di yn dda fyned . Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd , ac a’i gollyngodd ef ymaith . Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa , ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad . A phan glybu holl dywysogion y lluoedd , y rhai oedd ar hyd y wlad , hwynt‐hwy a’u gwŷr , i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad , ac iddo roddi dan ei law ef wŷr , a gwragedd , a phlant , ac o dlodion y wlad , o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon ; Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa , sef Ismael mab Nethaneia , a Johanan a Jonathan meibion Carea , a Seraia mab Tanhumeth , a meibion Effai y Netoffathiad , a Jesaneia mab Maachathiad , hwynt‐hwy a’u gwŷr . A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy , ac wrth eu gwŷr , gan ddywedyd , Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid : trigwch yn y wlad , a gwasanaethwch frenin Babilon , felly y bydd daioni i chwi . Amdanaf finnau , wele , mi a drigaf ym Mispa , i wasanaethu y Caldeaid , y rhai a ddeuant atom ni : chwithau , cesglwch win , a ffrwythydd haf , ac olew , a dodwch hwynt yn eich llestri , a thrigwch yn eich dinasoedd , y rhai yr ydych yn eu meddiannu . A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab , ac ymysg meibion Ammon , ac yn Edom , ac yn yr holl wledydd , i frenin Babilon adael gweddill o Jwda , a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy ; Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt , ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa , ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn . Johanan hefyd mab Carea , a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad , a ddaethant at Gedaleia i Mispa , Ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti yn hysbys i Baalis , brenin meibion Ammon , anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di ? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy . Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol , gan ddywedyd , Gad i mi fyned , atolwg , a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia , ac ni chaiff neb wybod : paham y lladdai efe di , fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti , ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda ? Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea , Na wna y peth hyn : canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael . Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol , a phendefigion y brenin , sef dengwr gydag ef , at Gedaleia mab Ahicam i Mispa : a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa . Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd , efe a’r dengwr oedd gydag ef , ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf , ac a’i lladdasant ef , yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad . Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef , sef gyda Gedaleia , ym Mispa , a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno , y rhyfelwyr . A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia , heb neb yn gwybod , Yna y daeth gwŷr o Sichem , o Seilo , ac o Samaria , sef pedwar ugeinwr , wedi eillio eu barfau , a rhwygo eu dillad , ac ymdorri , ag offrymau ac â thus yn eu dwylo , i’w dwyn i dŷ yr Arglwydd . Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt , gan gerdded rhagddo , ac wylo ; a phan gyfarfu efe â hwynt , efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch at Gedaleia mab Ahicam . A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas , yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt , ac a’u bwriodd i ganol y pydew , efe a’r gwŷr oedd gydag ef . Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt , y rhai a ddywedasant wrth Ismael , Na ladd ni : oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes , o wenith , ac o haidd , ac o olew , ac o fêl . Felly efe a beidiodd , ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr . A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia , yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa , rhag ofn Baasa brenin Israel : hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â’r rhai a laddasid . Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa , sef merched y brenin , a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa , ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd : ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt , ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon . Ond pan glybu Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia ; Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr , ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia , ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon . A phan welodd yr holl bobl , y rhai oedd gydag Ismael , Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , yna hwy a lawenychasant . Felly yr holl bobl , y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa , a droesant ac a ddychwelasant , ac a aethant at Johanan mab Carea . Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd , ynghyd ag wythnyn , oddi gan Johanan , ac a aeth at feibion Ammon . Yna Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , a gymerasant holl weddill y bobl , y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia , o Mispa , ( wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam , ) sef cedyrn ryfelwyr , a’r gwragedd , a’r plant , a’r ystafellyddion , y rhai a ddygasai efe o Gibeon . A hwy a aethant oddi yno , ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham , yn agos at Bethlehem , i fyned i’r Aifft , Rhag y Caldeaid : oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt , am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam , yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad . Felly holl dywysogion y llu , a Johanan mab Carea , a Jesaneia mab Hosaia , a’r holl bobl , o fychan hyd fawr , a nesasant , Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd , Atolwg , gwrando ein deisyfiad ni , a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw , sef dros yr holl weddill hyn ; ( canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig , fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni ; ) Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi , a’r peth a wnelom . Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt , Myfi a’ch clywais chwi ; wele , mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi , a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch , myfi a’i mynegaf i chwi : nid ataliaf ddim oddi wrthych . A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia , Yr Arglwydd fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni , onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr Arglwydd dy Dduw gyda thi atom ni . Os da neu os drwg fydd , ar lais yr Arglwydd ein Duw , yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato , y gwrandawn ni ; fel y byddo da i ni , pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw . Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia . Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea , ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef , ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr , Ac a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef ; Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon , myfi a’ch adeiladaf chwi , ac nis tynnaf i lawr , myfi a’ch plannaf chwi , ac nis diwreiddiaf : oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi . Nac ofnwch rhag brenin Babilon , yr hwn y mae arnoch ei ofn ; nac ofnwch ef , medd yr Arglwydd : canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub , ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef . A mi a roddaf i chwi drugaredd , fel y trugarhao efe wrthych , ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun . Ond os dywedwch , Ni thrigwn ni yn y wlad hon , heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw , Gan ddywedyd , Nage : ond i wlad yr Aifft yr awn ni , lle ni welwn ryfel , ac ni chlywn sain utgorn , ac ni bydd arnom newyn bara , ac yno y trigwn ni : Am hynny , O gweddill Jwda , gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft , ac a ewch i ymdeithio yno , Yna y bydd i’r cleddyf , yr hwn yr ydych yn ei ofni , eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft ; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo , a’ch dilyn chwi yn yr Aifft ; ac yno y byddwch feirw . Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft , i aros yno , hwy a leddir â’r cleddyf , â newyn , ac â haint : ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill , neu yn ddihangol , gan y dialedd a ddygaf fi arnynt . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem ; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau , pan ddeloch i’r Aifft : a chwi a fyddwch yn felltith , ac yn syndod , ac yn rheg , ac yn warth , ac ni chewch weled y lle hwn mwyach . O gweddill Jwda , yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch , Nac ewch i’r Aifft : gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw . Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau , wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw , gan ddywedyd , Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw , a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw , a nyni a’i gwnawn . A mi a’i mynegais i chwi heddiw , ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw , nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid . Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys , mai trwy y cleddyf , a thrwy newyn , a thrwy haint , y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo . A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw , am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt , sef yr holl eiriau hyn : Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia , a Johanan mab Carea , a’r holl ddynion beilchion , gan ddywedyd wrth Jeremeia , Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd ; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd , Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno . Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni , i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid , i’n lladd , ac i’n caethgludo i Babilon . Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea , na holl dywysogion y llu , na’r holl bobl , ar lais yr Arglwydd , i drigo yn nhir Jwda : Eithr Johanan mab Carea , a holl dywysogion y llu , a ddygasant ymaith holl weddill Jwda , y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt , i aros yng ngwlad Jwda ; Yn wŷr , a gwragedd , a phlant , a merched y brenin , a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan , y proffwyd Jeremeia hefyd , a Baruch mab Nereia . Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft : canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd ; fel hyn y daethant i Tapanhes . A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes , gan ddywedyd , Cymer yn dy law gerrig mawrion , a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen , yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo , yn Tapanhes , yng ngolwg gwŷr Jwda ; A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , mi a anfonaf , ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon , fy ngwas , ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais , ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt . A phan ddelo , efe a dery wlad yr Aifft ; y rhai sydd i angau , ag angau ; a’r rhai sydd i gaethiwed , â chaethiwed ; a’r rhai sydd i’r cleddyf , â’r cleddyf . A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft , ac efe a’u llysg hwynt , ac a’u caethgluda hwynt ; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad : ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch . Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul , yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft ; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân . Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia , am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft , ac yn preswylio ym Migdol , ac yn Tapanhes , ac yn Noff , ac yng ngwlad Pathros , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem , ac ar holl ddinasoedd Jwda ; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd , ac heb breswylydd ynddynt : O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i , gan fyned i arogldarthu , ac i wasanaethu duwiau dieithr , y rhai nid adwaenent , na hwy , na chwithau , na’ch tadau . Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi , gan foregodi , ac anfon , i ddywedyd , Na wnewch , atolwg , y ffieiddbeth hyn , yr hwn sydd gas gennyf fi : Eto ni wrandawsant , ac ni ogwyddasant eu clust , i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni , fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr . Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint , ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ; ac y maent hwy yn anghyfannedd , ac yn ddiffeithwch , fel y gwelir heddiw . Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd , Duw Israel ; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau , i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig , plentyn , a’r hwn sydd yn sugno , allan o Jwda , fel na adawer i chwi weddill ? Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo , gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft , yr hon yr aethoch i aros ynddi , i’ch difetha eich hunain , ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear . A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau , a drygioni brenhinoedd Jwda , a drygioni eu gwragedd hwynt , a’ch drygioni eich hunain , a drygioni eich gwragedd , y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem ? Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn , ac nid ofnasant , ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith , nac yn fy neddfau , y rhai a roddais i o’ch blaen chwi , ac o flaen eich tadau . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed , ac i ddifetha holl Jwda . A mi a gymeraf weddill Jwda , y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno , a hwy a ddifethir oll ; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant : trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt : o fychan hyd fawr , trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw : a hwy a fyddant yn felltith , ac yn syndod , ac yn rheg , ac yn warth . Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlad yr Aifft , fel yr ymwelais â Jerwsalem , â chleddyf , â newyn , ac â haint : Fel na byddo un a ddihango , nac a adawer o weddill Jwda , y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft , i ddychwelyd i wlad Jwda , yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi ; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant . Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogldarthu i dduwiau dieithr , a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno , cynulleidfa fawr , yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft , yn Pathros , a atebasant Jeremeia , gan ddywedyd , Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd , ni wrandawn ni arnat . Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau , gan arogldarthu i frenhines y nefoedd , a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm , megis y gwnaethom , nyni a’n tadau , ein brenhinoedd a’n tywysogion , yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem : canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara , ac yn dda , ac heb weled drwg . Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi , bu arnom eisiau pob dim : trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni . A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac yn tywallt diod‐offrwm iddi ; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi , ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi ? Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl , wrth y gwŷr , ac wrth y gwragedd , ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly , gan ddywedyd , Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda , ac yn heolydd Jerwsalem , chwychwi a’ch tadau , eich brenhinoedd a’ch tywysogion , a phobl y wlad ? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef ? Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy , o achos drygioni eich gweithredoedd , a chan y ffiaidd bethau a wnaethech : am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd , ac yn syndod , ac yn felltith , heb breswylydd , megis y gwelir y dydd hwn . Oherwydd i chwi arogldarthu , ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd , ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd , ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef , nac yn ei ddeddfau , nac yn ei dystiolaethau ; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw . A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl , ac wrth yr holl wragedd , Gwrandewch air yr Arglwydd , holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft . Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , gan ddywedyd , Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch â’ch genau , ac a gyflawnasoch â’ch dwylo , gan ddywedyd , Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom , am arogldarthu i frenhines y nefoedd , ac am dywallt diod‐offrwm iddi ; llwyr y cwblhewch eich addunedau , a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch . Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd , holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft ; Wele , myfi a dyngais i’m henw mawr , medd yr Arglwydd , na elwir fy enw i mwyach , o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda , gan ddywedyd , Byw yw yr Arglwydd Dduw . Wele , mi a wyliaf arnynt hwy er niwed , ac nid er daioni : a holl wŷr Jwda , y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft , a ddifethir â’r cleddyf , ac â newyn , hyd oni ddarfyddont . A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf , ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda , fyddant ychydig o nifer : a holl weddill Jwda , y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno , a gânt wybod gair pwy a saif , ai yr eiddof fi , ai yr eiddynt hwy . A hyn fydd yn arwydd i chwi , medd yr Arglwydd , sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn , fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion , ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef , fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn , a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes . Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia , pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw Israel , wrthyt ti , Baruch ; Tydi a ddywedaist , Gwae fi yn awr ! canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid ; myfi a ddiffygiais yn fy ochain , ac nid wyf yn cael gorffwystra . Fel hyn y dywedi wrtho ef , Yr Arglwydd a ddywed fel hyn ; Wele , myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais , a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais , nid amgen yr holl wlad hon . Ac a geisi di fawredd i ti dy hun ? Na chais : canys wele , myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd , medd yr Arglwydd : ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd , yn erbyn y Cenhedloedd , Yn erbyn yr Aifft , yn erbyn llu Pharo‐necho brenin yr Aifft , yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis , yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro , yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda . Teclwch y darian a’r astalch , a nesewch i ryfel . Cenglwch y meirch , ac ewch arnynt , farchogion ; sefwch yn eich helmau , gloywch y gwaywffyn , gwisgwch y llurigau . Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig , wedi cilio yn eu hôl , a’u cedyrn wedi eu curo i lawr , a ffoi ar ffrwst , ac heb edrych yn eu hôl ? dychryn sydd o amgylch , medd yr Arglwydd . Na chaed y buan ffoi , na’r cadarn ddianc ; tua’r gogledd , gerllaw afon Ewffrates , y tripiant , ac y syrthiant . Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon , a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd ? Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi , a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd : a hi a ddywed , Mi a af i fyny , ac a orchuddiaf y ddaear ; myfi a ddifethaf y ddinas , a’r rhai sydd yn trigo ynddi . O feirch , deuwch i fyny ; a chwithau gerbydau , ymgynddeiriogwch ; a deuwch allan y cedyrn ; yr Ethiopiaid , a’r Libiaid , y rhai sydd yn dwyn tarian ; a’r Lydiaid , y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa . Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn , dydd dial , fel yr ymddialo efe ar ei elynion : a’r cleddyf a ysa , ac a ddigonir , ac a feddwir â’u gwaed hwynt : canys aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates . O forwyn , merch yr Aifft , dos i fyny i Gilead , a chymer driagl : yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau ; canys ni bydd iachâd i ti . Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd , a’th waedd a lanwodd y wlad ; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd , a hwy ill dau a gydsyrthiasant . Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremeia y proffwyd , y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon , ac y trawai wlad yr Aifft . Mynegwch yn yr Aifft , cyhoeddwch ym Migdol , hysbyswch yn Noff , ac yn Tapanhes : dywedwch , Saf , a bydd barod ; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd . Paham y syrthiodd dy rai cryfion ? ni safasant , am i’r Arglwydd eu gwthio hwynt . Efe a wnaeth i lawer syrthio , ie , pawb a syrthiodd ar ei gilydd ; a hwy a ddywedasant , Cyfodwch , a dychwelwn at ein pobl , i wlad ein genedigaeth , rhag cleddyf y gorthrymwr . Yno y gwaeddasant , Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst ; aeth dros yr amser nodedig . Fel mai byw fi , medd y Brenin , enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd , cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd , a Charmel yn y môr , efe a ddaw . O ferch drigiannol yr Aifft , gwna i ti offer caethglud ; canys Noff a fydd anghyfannedd , ac a ddifethir heb breswylydd . Yr Aifft sydd anner brydferth , y mae dinistr yn dyfod : o’r gogledd y mae yn dyfod . Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig : canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau , ac a gydffoesant ; ac ni safasant , oherwydd dydd eu gofid , ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt . Ei llais hi a â allan fel sarff : canys â llu yr ânt hwy , ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi , fel cymynwyr coed . Hwy a gymynant i lawr ei choed hi , medd yr Arglwydd , er na ellir ei chwilio : canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn , ac heb rifedi arnynt . Merch yr Aifft a gywilyddir ; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd . Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , sydd yn dywedyd , Wele , myfi a ymwelaf â lliaws No , ac â Pharo , ac â’r Aifft , ac â’i duwiau hi , ac â’i brenhinoedd , sef â Pharo , ac â’r rhai sydd yn ymddiried ynddo ; A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes , ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon , ac yn llaw ei weision ef ; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt , medd yr Arglwydd . Ond nac ofna di , O fy ngwas Jacob ; a thithau Israel , na ddychryna ; canys wele , myfi a’th gadwaf di o bell , a’th had o wlad eu caethiwed ; a Jacob a ddychwel , ac a orffwys , ac a fydd esmwyth arno , ac heb neb a’i dychryno . O fy ngwas Jacob , nac ofna , medd yr Arglwydd ; canys yr ydwyf fi gyda thi ; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt ; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti ; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn , ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid , cyn i Pharo daro Gasa . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , dyfroedd a gyfodant o’r gogledd , ac a fyddant fel afon lifeiriol , a hwy a lifant dros y wlad , a’r hyn sydd ynddi ; y ddinas , a’r rhai sydd yn aros ynddi ; yna y dynion a waeddant , a holl breswylwyr y wlad a udant . Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion , rhag trwst ei gerbydau , a thrwst ei olwynion ef , y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant , gan wendid dwylo : O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid , ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill : oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid , gweddill ynys Cafftor . Moelni a ddaeth ar Gasa , torrwyd ymaith Ascalon , gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt : pa hyd yr ymrwygi di ? O cleddyf yr Arglwydd , pa hyd ni lonyddi ? dychwel i’th wain , gorffwys a bydd ddistaw . Pa fodd y llonydda efe , gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon , ac yn erbyn glan y môr ? yno y gosododd ef . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , yn erbyn Moab ; Gwae Nebo ! canys hi a anrheithiwyd : gwaradwyddwyd Ciriathaim , ac enillwyd hi ; Misgab a waradwyddwyd , ac a ddychrynwyd . Ni bydd ymffrost Moab mwy : yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi : Deuwch , dinistriwn hi i lawr , fel na byddo yn genedl . Tithau , Madmen , a dorrir i lawr , y cleddyf a’th erlid . Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim ; anrhaith , a dinistr mawr . Moab a ddistrywiwyd ; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd . Canys yn rhiw Luhith , galar a â i fyny mewn wylofain , ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr . Ffowch , achubwch eich einioes ; a byddwch fel y grug yn yr anialwch . Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun , tithau a ddelir : Cemos hefyd a â allan i gaethiwed , a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd . A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas , ac ni ddianc un ddinas : eithr derfydd am y dyffryn , a’r gwastad a ddifwynir , megis y dywedodd yr Arglwydd . Rhoddwch adenydd i Moab , fel yr ehedo ac yr elo ymaith ; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd , heb breswylydd ynddynt . Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus , a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed . Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid , a hi a orffwysodd ar ei gwaddod , ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr , ac nid aeth hi i gaethiwed : am hynny y safodd ei blas arni , ac ni newidiodd ei harogl . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan anfonwyf fudwyr , y rhai a’i mudant hi , ac a wacânt ei llestri hi , ac a ddrylliant eu costrelau . A Moab a gywilyddia oblegid Cemos , fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt . Pa fodd y dywedwch chwi , Cedyrn ydym ni , a gwŷr nerthol i ryfel ? Moab a anrheithiwyd , ac a aeth i fyny o’i dinasoedd , a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa , medd y Brenin , a’i enw Arglwydd y lluoedd . Agos yw dinistr Moab i ddyfod , a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest . Alaethwch drosti hi , y rhai ydych o’i hamgylch ; a phawb a’r a edwyn ei henw hi , dywedwch , Pa fodd y torrwyd y ffon gref , a’r wialen hardd ! O breswylferch Dibon , disgyn o’th ogoniant , ac eistedd mewn syched ; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn , ac a ddinistria dy amddiffynfeydd . Preswylferch Aroer , saf ar y ffordd , a gwylia ; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi , ac i’r hwn a ddihango , a dywed , Beth a ddarfu ? Gwaradwyddwyd Moab , canys hi a ddinistriwyd : udwch , a gwaeddwch ; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab ; A barn a ddaw ar y tir gwastad , ar Holon , ac ar Jahasa , ac ar Meffaath , Ac ar Dibon , ac ar Nebo , ac ar Beth‐diblathaim , Ac ar Ciriathaim , ac ar Beth‐gamul , ac ar Beth‐meon . Ac ar Cerioth , ac ar Bosra , ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab , ymhell ac yn agos . Corn Moab a ysgythrwyd , a’i braich hi a dorrwyd , medd yr Arglwydd . Meddwwch hi , oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd : ie , Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa ; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd . Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti ? a gafwyd ef ymysg lladron ? canys er pan soniaist amdano , yr ymgynhyrfaist . Trigolion Moab , gadewch y dinasoedd , ac arhoswch yn y graig , a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll . Nyni a glywsom falchder Moab , ( y mae hi yn falch iawn , ) ei huchder , ei rhyfyg , a’i hymchwydd , ac uchder ei chalon . Myfi a adwaen ei llid hi , medd yr Arglwydd ; ond nid felly y bydd ; ei chelwyddau hi ni wnânt felly . Am hynny yr udaf fi dros Moab , ac y gwaeddaf dros holl Moab : fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres . Myfi a wylaf drosot ti , gwinwydden Sibma , ag wylofain Jaser ; dy gangau a aethant dros y môr , hyd fôr Jaser y cyrhaeddant : yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf , ac ar dy gynhaeaf gwin . A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir , ac o wlad Moab , a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau : ni sathr neb trwy floddest ; eu bloddest ni bydd bloddest . O floedd Hesbon hyd Eleale , a hyd Jahas , y llefasant , o Soar hyd Horonaim , fel anner deirblwydd : canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd . Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd , a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau . Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau , ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau ; oblegid darfod y golud a gasglodd . Oblegid pob pen a fydd moel , a phob barf a dorrir ; ar bob llaw y bydd rhwygiadau , ac am y llwynau , sachliain . Ar holl bennau tai Moab , a’i heolydd oll , y bydd alaeth : oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo , medd yr Arglwydd . Hwy a udant , gan ddywedyd , Pa fodd y bwriwyd hi i lawr ! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd ! Felly Moab a fydd yn watwargerdd , ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , efe a eheda fel eryr , ac a leda ei adenydd dros Moab . Y dinasoedd a oresgynnir , a’r amddiffynfeydd a enillir , a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor . A Moab a ddifethir o fod yn bobl , am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd . Ofn , a ffos , a magl a ddaw arnat ti , trigiannol Moab , medd yr Arglwydd . Y neb a ffy rhag yr ofn , a syrth yn y ffos ; a’r hwn a gyfyd o’r ffos , a ddelir yn y fagl : canys myfi a ddygaf arni , sef ar Moab , flwyddyn eu hymweliad , medd yr Arglwydd . Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid : eithr tân a ddaw allan o Hesbon , a fflam o ganol Sihon , ac a ysa gongl Moab , a chorun y meibion trystfawr . Gwae di , Moab ! darfu am bobl Cemos : canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion , a’th ferched yn gaethion . Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf , medd yr Arglwydd . Hyd yma y mae barn Moab . Am feibion Ammon , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Onid oes meibion i Israel ? onid oes etifedd iddo ? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad , a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef ? Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon ; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol , a’i merched hi a losgir â thân : yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef , medd yr Arglwydd . Uda , Hesbon , am anrheithio Ai : gwaeddwch , chwi ferched Rabba , ymwregyswch mewn sachliain ; alaethwch , a gwibiwch gan y gwrychoedd : oblegid eu brenin a â i gaethiwed , ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd . Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd ? llifodd dy ddyffryn di ymaith , O ferch wrthnysig , yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau , gan ddywedyd , Pwy a ddaw ataf fi ? Wele , myfi a ddygaf arswyd arnat ti , medd Arglwydd Dduw y lluoedd , rhag pawb o’th amgylch : a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen , ac ni bydd a gasglo y crwydrad . Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom ; Onid oes doethineb mwy yn Teman ? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar ? a fethodd eu doethineb hwynt ? Ffowch , trowch eich cefnau , ewch yn isel i drigo , preswylwyr Dedan : canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno , amser ei ofwy . Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti , oni weddillent hwy loffion grawn ? pe lladron liw nos , hwy a anrheithient nes cael digon . Ond myfi a ddinoethais Esau , ac a ddatguddiais ei lochesau ef , fel na allo lechu : ei had ef a ddifethwyd , a’i frodyr a’i gymdogion , ac nid yw efe . Gad dy amddifaid , myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw ; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol , gan yfed a yfasant , ac a ddihengi di yn ddigerydd ? na ddihengi ; eithr tithau a yfi yn sicr . Canys i mi fy hun y tyngais , medd yr Arglwydd , mai yn anghyfannedd , yn warth , yn anialwch , ac yn felltith , y bydd Bosra ; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol . Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr Arglwydd , bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd , yn dywedyd , Ymgesglwch , a deuwch yn ei herbyn hi , a chyfodwch i’r rhyfel . Oherwydd wele , myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd , ac yn wael ymhlith dynion . Dy erwindeb a’th dwyllodd , a balchder dy galon , ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig , ac yn meddiannu uchelder y bryn : er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr , myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno , medd yr Arglwydd . Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd : pawb a’r a elo heibio iddi a synna , ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi . Fel yn ninistr Sodom a Gomorra , a’i chymdogesau , medd yr Arglwydd ; ni phreswylia neb yno , ac nid erys mab dyn ynddi . Wele , fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen , i drigfa y cadarn ; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi : a phwy sydd ŵr dewisol , a osodwyf fi arni hi ? canys pwy sydd fel myfi ? a phwy a esyd i mi amser ? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i ? Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd , yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom , a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman : yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy ; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt . Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear : llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch . Wele , fel eryr y daw i fyny , ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra : yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor . Am Damascus . Hamath ac Arpad a waradwyddwyd ; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg ; llesmeiriasant ; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys . Damascus a lesgaodd , ac a ymdrŷ i ffoi , ond dychryn a’i goddiweddodd hi ; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor . Pa fodd na adewir dinas moliant , caer fy llawenydd ? Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd , a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd . A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus , ac efe a ddifa lysoedd Benhadad . Am Cedar , ac am deyrnasoedd Hasor , y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon , fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Cyfodwch , ewch i fyny yn erbyn Cedar , ac anrheithiwch feibion y dwyrain . Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith ; eu llenni , a’u holl lestri , a’u camelod , a gymerant iddynt eu hunain ; a hwy a floeddiant arnynt , Y mae ofn o amgylch . Ffowch , ciliwch ymhell , ewch yn isel i drigo , preswylwyr Hasor , medd yr Arglwydd : oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi , ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi . Cyfodwch , ac ewch i fyny at y genedl oludog , yr hon sydd yn trigo yn ddiofal , medd yr Arglwydd , heb ddorau na barrau iddi ; wrthynt eu hunain y maent yn trigo . A’u camelod a fydd yn anrhaith , a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail , a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf ; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt , medd yr Arglwydd . Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau , ac yn anghyfannedd byth : ni phreswylia neb yno , ac nid erys mab dyn ynddi . Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam , yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd : Wele fi yn torri bwa Elam , eu cadernid pennaf hwynt . A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd , a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn ; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam . Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion , a’r rhai a geisiant eu heinioes ; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd , sef angerdd fy nigofaint , medd yr Arglwydd ; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl , nes i mi eu difetha hwynt . A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam , a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion , medd yr Arglwydd . Ond yn y dyddiau diwethaf , myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam , medd yr Arglwydd . Y gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon , ac yn erbyn gwlad y Caldeaid , trwy Jeremeia y proffwyd . Mynegwch ymysg y cenhedloedd , a chyhoeddwch , a chodwch arwydd ; cyhoeddwch , na chelwch : dywedwch , Goresgynnwyd Babilon , gwaradwyddwyd Bel , drylliwyd Merodach : ei heilunod a gywilyddiwyd , a’i delwau a ddrylliwyd . Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi , yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd , fel na byddo preswylydd ynddi : yn ddyn ac yn anifail y mudant , ac y ciliant ymaith . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , meibion Israel a ddeuant , hwy a meibion Jwda ynghyd , dan gerdded ac wylo yr ânt , ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw . Hwy a ofynnant y ffordd i Seion , tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt : Deuwch , meddant , a glynwn wrth yr Arglwydd , trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir . Fy mhobl a fu fel praidd colledig ; eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn , ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith : aethant o fynydd i fryn , anghofiasant eu gorweddfa . Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant , a’u gelynion a ddywedasant , Ni wnaethom ni ar fai ; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd , trigle cyfiawnder ; sef yr Arglwydd , gobaith eu tadau . Ciliwch o ganol Babilon , ac ewch allan o wlad y Caldeaid ; a byddwch fel bychod o flaen y praidd . Oherwydd wele , myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd : a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn ; oddi yno y goresgynnir hi : eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd ; ni ddychwelant yn ofer . A Chaldea fydd yn ysbail : pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir , medd yr Arglwydd . Am i chwi fod yn llawen , am i chwi fod yn hyfryd , chwi fathrwyr fy etifeddiaeth , am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt , a beichio fel teirw ; Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr , a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir : wele , yr olaf o’r cenhedloedd yn anialwch , yn grastir , ac yn ddiffeithwch . Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi , eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd : pawb a êl heibio i Babilon a synna , ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi . Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch ; yr holl berchen bwâu , saethwch ati , nac arbedwch saethau : oblegid hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd . Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch ; hi a roddes ei llaw : ei sylfeini hi a syrthiasant , ei muriau a fwriwyd i lawr ; oherwydd dial yr Arglwydd yw hyn : dielwch arni : fel y gwnaeth , gwnewch iddi . Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon , a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf : rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun , ac y ffoant bob un i’w wlad . Fel dafad ar wasgar yw Israel ; llewod a’i hymlidiasant ymaith : brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd , a’r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd . Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Wele , myfi a ymwelaf â brenin Babilon , ac â’i wlad , fel yr ymwelais â brenin Asyria . A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa , ac efe a bawr ar Carmel a Basan ; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef . Yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , medd yr Arglwydd , y ceisir anwiredd Israel , ac ni bydd ; a phechodau Jwda , ond nis ceir hwynt : canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf . Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim , ie , yn ei herbyn hi , ac yn erbyn trigolion Pecod : anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt , medd yr Arglwydd , a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti . Trwst rhyfel sydd yn y wlad , a dinistr mawr . Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear ! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd ! Myfi a osodais fagl i ti , a thithau Babilon a ddaliwyd , a heb wybod i ti : ti a gafwyd ac a ddaliwyd , oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd . Yr Arglwydd a agorodd ei drysor , ac a ddug allan arfau ei ddigofaint : canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid . Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf , agorwch ei hysguboriau hi ; dyrnwch hi fel pentwr ŷd , a llwyr ddinistriwch hi : na fydded gweddill ohoni . Lleddwch ei holl fustych hi ; disgynnant i’r lladdfa : gwae hwynt ! canys eu dydd a ddaeth , ac amser eu hymweliad . Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon , i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni , dial ei deml ef . Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon ; y perchen bwâu oll , gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch ; na chaffed neb ddianc ohoni : telwch iddi yn ôl ei gweithred ; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi , gwnewch iddi : oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd , yn erbyn Sanct Israel . Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi ; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd . Wele fi yn dy erbyn di , O falch , medd Arglwydd Dduw y lluoedd : oherwydd dy ddydd a ddaeth , yr amser yr ymwelwyf â thi . A’r balch a dramgwydda ac a syrth , ac ni bydd a’i cyfodo : a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd , ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd ; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn , ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith . Eu Gwaredwr sydd gryf ; Arglwydd y lluoedd yw ei enw ; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt , i beri llonydd i’r wlad , ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon . Cleddyf sydd ar y Caldeaid , medd yr Arglwydd , ac ar drigolion Babilon , ac ar ei thywysogion , ac ar ei doethion . Cleddyf sydd ar y celwyddog , a hwy a ynfydant : cleddyf sydd ar ei chedyrn , a hwy a ddychrynant . Cleddyf sydd ar ei meirch , ac ar ei cherbydau , ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi ; a hwy a fyddant fel gwragedd : cleddyf sydd ar ei thrysorau ; a hwy a ysbeilir . Sychder sydd ar ei dyfroedd hi , a hwy a sychant : oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi , ac mewn eilunod y maent yn ynfydu . Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch , a chathod , a arhosant yno , a chywion yr estrys a drigant ynddi : ac ni phreswylir hi mwyach byth ; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth . Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra , a’i chymdogesau , medd yr Arglwydd ; felly ni phreswylia neb yno , ac ni erys mab dyn ynddi . Wele , pobl a ddaw o’r gogledd , a chenedl fawr , a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear . Y bwa a’r waywffon a ddaliant ; creulon ydynt , ac ni thosturiant : eu llef fel môr a rua , ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di , merch Babilon , fel gŵr i ryfel . Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt , a’i ddwylo ef a lesgasant : gwasgfa a’i daliodd ef , a gwewyr fel gwraig wrth esgor . Wele , fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn : eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi : a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi ? canys pwy sydd fel myfi ? a phwy a esyd i mi yr amser ? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i ? Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd , yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon , a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid : yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy ; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt . Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear , ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Wele , myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon , ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i ; A mi a anfonaf i Babilon nithwyr , a hwy a’i nithiant hi , ac a wacânt ei thir hi ; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder . Yn erbyn yr hwn a anelo , aneled y saethydd ei fwa , ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig ; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc , difrodwch ei holl lu hi . Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid , a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi . Canys Israel ni adawyd , na Jwda , gan ei Dduw , gan Arglwydd y lluoedd : er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel . Ffowch o ganol Babilon , ac achubwch bawb ei enaid ei hun : na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi : oblegid amser dial yw hwn i’r Arglwydd ; efe a dâl y pwyth iddi hi . Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd , yn meddwi pob gwlad : yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi ; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant . Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon , ac y drylliwyd hi : udwch drosti , cymerwch driagl i’w dolur hi , i edrych a iachâ hi . Nyni a iachasom Babilon , ond nid aeth hi yn iach : gadewch hi , ac awn bawb i’w wlad : canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd , ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau . Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni : deuwch , a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw . Gloywch y saethau ; cesglwch y tarianau : yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media : oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon , i’w dinistrio hi ; canys dial yr Arglwydd yw hyn , dial ei deml ef . Dyrchefwch faner ar furiau Babilon ; cadarnhewch yr wyliadwriaeth ; gosodwch i fyny y gwylwyr ; darperwch y cynllwynwyr ; canys yr Arglwydd a fwriadodd , ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon . Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer , yn aml dy drysorau , dy ddiwedd di a ddaeth , sef mesur dy gybydd‐dod . Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun , gan ddywedyd , Diau y’th lanwaf â dynion megis â lindys ; a hwy a ganant floddest i’th erbyn . Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth , ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb , ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall . Pan roddo efe ei lef , y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd , ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear : ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw , ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau . Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth ; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig : canys celwyddog yw ei ddelw dawdd , ac nid oes chwythad ynddynt . Oferedd ydynt , gwaith cyfeiliorni : yn amser eu hymweliad y difethir hwynt . Nid fel y rhai hyn , eithr Lluniwr y cwbl oll , yw rhan Jacob ; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef : Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef . Ti wyt forthwyl i mi , ac arfau rhyfel : canys â thi y drylliaf y cenhedloedd , ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd ; A thi hefyd y gwasgaraf y march a’r marchwr ; ac â thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog ; A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig ; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc ; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn ; A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd ; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen ; ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid . A mi a dalaf i Babilon , ac i holl breswylwyr Caldea , eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion , yn eich golwg chwi , medd yr Arglwydd . Wele fi i’th erbyn di , O fynydd dinistriol , yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear , medd yr Arglwydd ; a myfi a estynnaf fy llaw arnat , ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau , ac a’th wnaf di yn fynydd llosg . Ac ni chymerant ohonot faen congl , na sylfaen ; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di , medd yr Arglwydd . Dyrchefwch faner yn y tir ; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd ; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi ; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat , Minni , ac Aschenas , yn ei herbyn hi ; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi ; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â’r lindys blewog . Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi , gyda brenhinoedd Media , a’i thywysogion , a’i holl benaethiaid , a holl wlad ei lywodraeth ef . Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia ; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon , i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi . Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd , ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd : pallodd eu nerth hwynt ; aethant yn wrageddos : ei hanheddau hi a losgwyd , a’i barrau a dorrwyd . Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr , a chennad i gyfarfod â chennad , i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr , Ac ennill y rhydau , a llosgi ohonynt y cyrs â thân , a synnu ar y rhyfelwyr . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , Duw Israel ; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu ; amser ei dyrnu hi a ddaeth : ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi . Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd , ac a’m hysigodd i ; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag ; efe a’m llyncodd fel draig , ac a lanwodd ei fol o’m danteithion ; efe a’m bwriodd i allan . Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd , a ddelo ar Babilon , medd preswylferch Seion ; a’m gwaed i ar drigolion Caldea , medd Jerwsalem . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , myfi a ddadleuaf dy ddadl di , ac a ddialaf drosot ti ; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi , ac a sychaf ei ffynhonnau hi . A bydd Babilon yn garneddau , yn drigfa dreigiau , yn syndra , ac yn chwibaniad , heb breswylydd . Cydruant fel llewod ; bloeddiant fel cenawon llewod . Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt , a mi a’u meddwaf hwynt , fel y llawenychont , ac y cysgont hun dragwyddol , ac na ddeffrônt , medd yr Arglwydd . Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa , fel hyrddod a bychod . Pa fodd y goresgynnwyd Sesach ! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear ! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd ! Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon : hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef . Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd , yn grastir , ac yn ddiffeithwch ; gwlad ni thrig un gŵr ynddi , ac ni thramwya mab dyn trwyddi . A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon , a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd ; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach ; ie , mur Babilon a syrth . Deuwch allan o’i chanol , O fy mhobl , ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd , A rhag llwfrhau eich calonnau , ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad : a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd , ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall ; a thrais yn y wlad , llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon ; a’i holl wlad hi a waradwyddir , a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol . Yna y nefoedd a’r ddaear , a’r hyn oll sydd ynddynt , a ganant oherwydd Babilon : oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati , medd yr Arglwydd . Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio , felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear . Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf , ewch ymaith ; na sefwch : cofiwch yr Arglwydd o bell , a deued Jerwsalem yn eich cof chwi . Gwaradwyddwyd ni , am i ni glywed cabledd : gwarth a orchuddiodd ein hwynebau ; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd . Am hynny wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , pan ymwelwyf fi â’i delwau hi ; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan . Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd , ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel ; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi , medd yr Arglwydd . Sain gwaedd a glywir o Babilon , a dinistr mawr o wlad y Caldeaid . Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon , ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi , er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer , a rhoddi twrf eu llef hwynt . Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi , sef yn erbyn Babilon , a’i chedyrn hi a ddaliwyd ; eu bwa a dorrwyd : canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr . A myfi a feddwaf ei thywysogion hi , a’i doethion , ei phenaethiaid , a’i swyddogion , a’i chedyrn : a hwy a gysgant hun dragwyddol , ac ni ddeffroant , medd y Brenin , enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon , a’i huchel byrth a losgir â thân ; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd , a’r cenhedloedd mewn tân , a hwy a ddiffygiant . Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia , mab Maaseia , pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon , yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef . A Seraia oedd dywysog llonydd . Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon , mewn un llyfr ; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon . A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia , Pan ddelych i Babilon , a gweled , a darllen yr holl eiriau hyn ; Yna dywed , O Arglwydd , ti a leferaist yn erbyn y lle hwn , am ei ddinistrio , fel na byddai ynddo breswylydd , na dyn nac anifail , eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol . A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn , rhwym faen wrtho , a bwrw ef i ganol Ewffrates : A dywed , Fel hyn y soddir Babilon , ac ni chyfyd hi , gan y drwg a ddygaf fi arni : a hwy a ddiffygiant . Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia . Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu ; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem : ac enw ei fam ef oedd Hamutal , merch Jeremeia o Libna . Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim . Oherwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu , yn Jerwsalem ac yn Jwda , hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg , wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon . Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon , efe a’i holl lu , yn erbyn Jerwsalem , ac a wersyllasant yn ei herbyn hi , ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch . Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia . Yn y pedwerydd mis , yn y nawfed dydd o’r mis , y newyn a drymhaodd yn y ddinas , fel nad oedd bara i bobl y wlad . Yna y torrwyd y ddinas ; a’r holl ryfelwyr a ffoesant , ac a aethant allan o’r ddinas liw nos , ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur , yr hwn oedd wrth ardd y brenin , ( a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch , ) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos . Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin , ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho , a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho . Yna hwy a ddaliasant y brenin , ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath ; ac efe a roddodd farn arno ef . A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef : efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla . Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia , ac a’i rhwymodd ef â chadwyni : a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon , ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth . Ac yn y pumed mis , ar y degfed dydd o’r mis , ( hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon , ) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr , yr hwn a safai gerbron brenin Babilon , i Jerwsalem ; Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd , a thŷ y brenin ; a holl dai Jerwsalem , a phob tŷ mawr , a losgodd efe â thân . A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr , a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch . Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael , a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas , a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon , a’r gweddill o’r bobl . Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr . A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd , a’r ystolion , a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd ; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon . A hwy a ddygasant ymaith y crochanau , a’r rhawiau , a’r saltringau , a’r cawgiau , a’r thuserau , a’r holl lestri pres , y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt . A’r ffiolau , a’r pedyll tân , a’r cawgiau , a’r crochanau , a’r canwyllbrennau , a’r thuserau , a’r cwpanau , y rhai oedd o aur yn aur , a’r rhai oedd o arian yn arian , a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith . Y ddwy golofn , un môr , a deuddeg o ychen pres , y rhai oedd dan yr ystolion , y rhai a wnaethai y brenin Solomon , yn nhŷ yr Arglwydd : nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn . Ac am y colofnau , deunaw cufydd oedd uchder un golofn , a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu : a’i thewder yn bedair modfedd ; ac yn gau yr oedd . A chnap pres oedd arni , a phum cufydd oedd uchder un cnap ; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch , yn bres i gyd : ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau . A’r pomgranadau oeddynt , onid pedwar , cant ar ystlys : yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant . A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad , a Seffaneia yr ail offeiriad , a’r tri oedd yn cadw y drws . Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystafellydd , yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr ; a seithwyr o weision pennaf y brenin , y rhai a gafwyd yn y ddinas ; a phen-ysgrifennydd y llu , yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad ; a thri ugeinwr o bobl y wlad , y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas . A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn , ac a aeth â hwynt i Ribla , at frenin Babilon . A brenin Babilon a’u trawodd hwynt , ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla , yng ngwlad Hamath . Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun . Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn , tair mil a thri ar hugain o Iddewon . Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion . Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor , Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon : yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant . Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda , yn y deuddegfed mis , ar y pumed dydd ar hugain o’r mis , Efil‐merodach brenin Babilon , yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad , a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda , ac a’i dug ef allan o’r carchardy ; Ac a ddywedodd yn deg wrtho , ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd , y rhai oedd gydag ef yn Babilon . Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef : ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad , holl ddyddiau ei einioes . Ac am ei luniaeth ef , lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon , dogn dydd yn ei ddydd , hyd ddydd ei farwolaeth , holl ddyddiau ei einioes . </passage></reply></GetPassage>