<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:25</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:25</urn><passage>Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan ! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw ! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged ! Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos , ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau , heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro : ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi , ac a aethant yn elynion iddi . Jwda a fudodd ymaith gan flinder , a chan faint caethiwed ; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd , heb gael gorffwystra : ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng . Y mae ffyrdd Seion yn galaru , o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig : ei holl byrth hi sydd anghyfannedd , ei hoffeiriaid yn ucheneidio , ei morynion yn ofidus , a hithau yn flin arni . Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf , y mae ei gelynion yn ffynnu : canys yr Arglwydd a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau : ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn . A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi ; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa , ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr . Y mae Jerwsalem , yn nyddiau ei blinder a’i chaledi , yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt , pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn , heb neb yn ei chynorthwyo hi : y gelynion a’i gwelsant hi , ac a chwarddasant am ben ei sabothau . Jerwsalem a bechodd bechod ; am hynny y symudwyd hi : yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi , oherwydd iddynt weled ei noethni hi : ie , y mae hi yn ucheneidio , ac yn troi yn ei hôl . Ei haflendid sydd yn ei godre , nid yw hi yn meddwl am ei diwedd ; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd , heb neb yn ei chysuro . Edrych , Arglwydd , ar fy mlinder ; canys ymfawrygodd y gelyn . Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi : hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr , i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa . Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio , yn ceisio bwyd : hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid : edrych , Arglwydd , a gwêl ; canys dirmygus ydwyf fi . Onid gwaeth gennych chwi , y fforddolion oll ? gwelwch ac edrychwch , a oes y fath ofid â’m gofid i , yr hwn a wnaethpwyd i mi , â’r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter . O’r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i , yr hwn a aeth yn drech na hwynt : efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed , ac a’m dychwelodd yn fy ôl ; efe a’m gwnaeth yn anrheithiedig , ac yn ofidus ar hyd y dydd . Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef : hwy a blethwyd , ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf : efe a wnaeth i’m nerth syrthio ; yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo , oddi tan y rhai ni allaf gyfodi . Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o’m mewn ; efe a gyhoeddodd i’m herbyn gymanfa , i ddifetha fy ngwŷr ieuainc : fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn , merch Jwda . Am hyn yr ydwyf yn wylo ; y mae fy llygad , fy llygad , yn rhedeg gan ddwfr , oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid : fy meibion sydd anrheithiedig , am i’r gelyn orchfygu . Seion a ledodd ei dwylo , heb neb yn ei diddanu : yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob , fod ei elynion yn ei gylch : Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt . Cyfiawn yw yr Arglwydd ; oblegid myfi a fûm anufudd i’w air ef : gwrandewch , atolwg , bobloedd oll , a gwelwch fy ngofid : fy morynion a’m gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed . Gelwais am fy nghariadau , a hwy a’m twyllasant ; fy offeiriaid a’m hynafgwyr a drengasant yn y ddinas , tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid . Gwêl , O Arglwydd ; canys y mae yn gyfyng arnaf : fy ymysgaroedd a gyffroesant , fy nghalon a drodd ynof ; oherwydd fy mod yn rhy anufudd : y mae y cleddyf yn difetha oddi allan , megis marwolaeth sydd gartref . Clywsant fy mod i yn ucheneidio : nid oes a’m diddano : fy holl elynion , pan glywsant fy nrygfyd , a lawenychasant am i ti wneuthur hynny : ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist , a hwy a fyddant fel finnau . Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di ; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau , am fy holl gamweddau : oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml , a’m calon yn ofidus . Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant , ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd , ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint ! Yr Arglwydd a lyncodd , heb arbed , holl anheddau Jacob ; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda ; efe a’u tynnodd hwynt i lawr , ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion . Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel : efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn ; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd , yr hon a ddifa o amgylch . Efe a anelodd ei fwa fel gelyn ; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr , ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion : fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint . Yr Arglwydd sydd megis gelyn : efe a lyncodd Israel , efe a lyncodd ei holl balasau hi : efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd , ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda . Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd ; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa : yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth , ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad . Yr Arglwydd a wrthododd ei allor , a ffieiddiodd ei gysegr ; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn : rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd , megis ar ddydd uchel ŵyl . Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion ; efe a estynnodd linyn , ac nid ataliodd ei law rhag difetha : am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru ; cydlesgasant . Ei phyrth a soddasant i’r ddaear ; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi : ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd : heb gyfraith y mae ; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd . Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr , a dawant â sôn ; gosodasant lwch ar eu pennau ; ymwregysasant â sachliain : gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr . Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau , fy ymysgaroedd a gyffroesant , fy afu a dywalltwyd ar y ddaear ; oherwydd dinistr merch fy mhobl , pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas . Hwy a ddywedant wrth eu mamau , Pa le y mae ŷd a gwin ? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas , pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau . Pa beth a gymeraf yn dyst i ti ? beth a gyffelybaf i ti , O ferch Jerwsalem ? beth a gystadlaf â thi , fel y’th ddiddanwyf , O forwyn , merch Seion ? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr ; pwy a’th iachâ di ? Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd ; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd , i droi ymaith dy gaethiwed : eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog , ac achosion deol . Y rhai oll a dramwyent y ffordd , a gurent eu dwylo arnat ti ; chwibanent , ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem , gan ddywedyd , Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch , yn llawenydd yr holl ddaear ? Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti ; a chwibanasant , ac a ysgyrnygasant ddannedd , ac a ddywedasant , Llyncasom hi : yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni ; ni a’i cawsom , ni a’i gwelsom . Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd ; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt : efe a ddifrododd , ac nid arbedodd ; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di ; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di . Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd , O fur merch Seion , tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon ; na orffwys , ac na pheidied cannwyll dy lygad . Cyfod , cyhoedda liw nos ; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd : dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant , y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol . Edrych , Arglwydd , a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn : a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun , plant o rychwant o hyd ? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd ? Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd : fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf : ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant , lleddaist hwy heb arbed . Gelwaist , megis ar ddydd uchel ŵyl , fy nychryn o amgylch , fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd : y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i . Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef . I dywyllwch , ac nid i oleuni , yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi . Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe , ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd . Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen ; efe a ddrylliodd fy esgyrn . Efe a adeiladodd i’m herbyn , ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder . Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd , fel y rhai sydd wedi marw er ys talm . Efe a gaeodd o’m hamgylch , fel nad elwyf allan : efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom . Pan lefwyf , a phan floeddiwyf , efe a gae allan fy ngweddi . Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd ; efe a wyrodd fy llwybrau . Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn , neu lew mewn llochesau . Efe a wyrodd fy ffyrdd , ac a’m drylliodd ; yn anrheithiedig y gwnaeth fi . Efe a anelodd ei fwa , ac a’m gosododd fel nod i saeth . Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau . Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl , a’u cân ar hyd y dydd . Efe a’m llanwodd â chwerwder ; efe a’m meddwodd i â’r wermod . Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig , ac a’m trybaeddodd yn y llwch . A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch ; anghofiais ddaioni . A mi a ddywedais , Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd . Cofia fy mlinder a’m gofid , y wermod a’r bustl . Fy enaid gan gofio a gofia , ac a ddarostyngwyd ynof fi . Hyn yr ydwyf yn ei atgofio ; am hynny y gobeithiaf . Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni : oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef . Bob bore y deuant o newydd : mawr yw dy ffyddlondeb . Yr Arglwydd yw fy rhan i , medd fy enaid ; am hynny y gobeithiaf ynddo . Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho , ac i’r enaid a’i ceisio . Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd . Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid . Efe a eistedd ei hunan , ac a dau â sôn ; am iddo ei dwyn hi arno . Efe a ddyry ei enau yn y llwch , i edrych a oes obaith . Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo : efe a lenwir â gwaradwydd . Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd : Ond er iddo gystuddio , eto efe a dosturia , yn ôl amlder ei drugareddau . Canys nid o’i fodd y blina efe , nac y cystuddia blant dynion . I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed , I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf , Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater . Pwy a ddywed y bydd dim , heb i’r Arglwydd ei orchymyn ? Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da ? Paham y grwgnach dyn byw , gŵr am gosbedigaeth ei bechod ? Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd , a dychwelwn at yr Arglwydd . Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd . Nyni a wnaethom gamwedd , ac a fuom anufudd ; tithau nid arbedaist . Gorchuddiaist ni â soriant , ac erlidiaist ni : lleddaist , nid arbedaist . Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl , fel na ddeuai ein gweddi trwodd . Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl . Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn . Dychryn a magl a ddaeth arnom , anrhaith a dinistr . Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr , oherwydd dinistr merch fy mhobl . Fy llygad a ddiferodd , ac ni pheidiodd , am nad oes gorffwystra ; Hyd oni edrycho , ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd . Y mae fy llygad yn blino fy enaid , oherwydd holl ferched fy ninas . Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos , fel aderyn . Torasant ymaith fy einioes yn y pwll , a bwriasant gerrig arnaf . Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen : dywedais , Torrwyd fi ymaith . Gelwais ar dy enw di , O Arglwydd , o’r pwll isaf . Ti a glywaist fy llef : na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd . Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat : dywedaist , Nac ofna . Ti , O Arglwydd , a ddadleuaist gyda’m henaid : gwaredaist fy einioes . Ti , O Arglwydd , a welaist fy ngham : barn di fy marn i . Ti a welaist eu holl ddial hwynt , a’u holl amcanion i’m herbyn i . Clywaist eu gwaradwydd , O Arglwydd , a’u holl fwriadau i’m herbyn ; Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn , a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd . Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad ; myfi yw eu cân hwynt . Tâl y pwyth iddynt , O Arglwydd , yn ôl gweithred eu dwylo . Dod iddynt ofid calon , dy felltith iddynt . Erlid hwynt â digofaint , a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd . Pa fodd y tywyllodd yr aur ! y newidiodd yr aur coeth da ! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol . Gwerthfawr feibion Seion , a chystal ag aur pur , pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd , gwaith dwylo’r crochenydd ! Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau , a roddant sugn i’w cenawon : merch fy mhobl a aeth yn greulon , fel yr estrysiaid yn yr anialwch . Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched : y plant a ofynnant fara , ond nid oedd a dorrai iddynt . Y rhai a ymborthent yn foethus , a ddifethwyd yn yr heolydd : y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad , a gofleidiant y tomennydd . Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom , yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth , ni safodd llaw arni . Purach oedd ei Nasareaid hi na’r eira , gwynnach oeddynt na’r llaeth , gwridocach oeddynt o gorff na’r cwrel , a’u trwsiad oedd o saffir . Duach yw yr olwg arnynt na’r glöyn ; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd : eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn ; gwywodd , aeth yn debyg i bren . Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf , na’r rhai a laddwyd â newyn ; oblegid y rhai hyn a ddihoenant , wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes . Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun : eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl . Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddicter , a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant , ac a gyneuodd dân yn Seion , yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi . Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear , na holl drigolion y byd , y deuai y gwrthwynebwr a’r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem . Am bechodau ei phroffwydi , ac anwiredd ei hoffeiriaid , y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o’i mewn hi ; Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd , ac ymddifwynasant gan waed , fel na ellid cyffwrdd â’u dillad hwynt . Gwaeddasant arnynt , Ciliwch ; aflan yw ; ciliwch , ciliwch , na chyffyrddwch ; pan ffoesant , ac yr aethant ymaith . Dywedent ymysg y cenhedloedd , Ni thrigant hwy yma mwyach . Soriant yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt ; nid edrych efe arnynt mwy : ni pharchent hwy yr offeiriaid , ni thosturient wrth yr hynafgwyr . Ninnau hefyd , ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer : gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub . Hwy a olrheiniant ein cerddediad , fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd : y mae ein diwedd ni yn agos , ein dyddiau ni a gyflawnwyd ; canys daeth ein diwedd ni . Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr ; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd , yn ein cynllwyn yn yr anialwch . Anadl ein ffroenau , eneiniog yr Arglwydd , a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt , am yr hwn y dywedasem , Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd . Bydd lawen a hyfryd , merch Edom , yr hon wyt yn trigo yn nhir Us : daw y cwpan atat tithau hefyd ; ti a feddwi , ac a ymnoethi . Gorffennwyd dy gosbedigaeth di , merch Seion ; ni chaethgluda efe di mwy : efe a ymwêl â’th anwiredd di , merch Edom ; efe a ddatguddia dy bechodau . Cofia , O Arglwydd , beth a ddaeth i ni : edrych a gwêl ein gwaradwydd . Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid , a’n tai i ddieithriaid . Amddifaid ydym heb dadau ; ein mamau sydd megis gweddwon . Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian ; ein coed sydd yn dyfod am werth . Ein gwarrau sydd dan erlid ; llafurio yr ydym , nid oes gorffwystra i ni . Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid , i’r Asyriaid , i gael digon o fara . Ein tadau a bechasant , ac nid ydynt : ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt . Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni , heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt . Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn , oherwydd cleddyf yr anialwch . Ein croen a dduodd fel ffwrn , gan y newyn tost . Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion , a’r morynion yn ninasoedd Jwda . Crogasant dywysogion â’u dwylo ; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr . Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu ; a’r plant a syrthiasant dan y coed . Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth ; y gwŷr ieuainc â’u cerdd . Darfu llawenydd ein calon : ein dawns a drodd yn alar . Syrthiodd y goron oddi am ein pen : gwae ni yn awr bechu ohonom ! Am hyn y mae ein calon yn ofidus ; am hyn y tywyllodd ein llygaid . Oherwydd mynydd Seion , yr hwn a anrheithiwyd , y mae y llwynogod yn rhodio ynddo . Ti , Arglwydd , a barhei byth ; dy orseddfainc yn oes oesoedd . Paham yr anghofi ni byth , ac y gadewi ni dros hir ddyddiau ? Dychwel ni , O Arglwydd , atat ti , a ni a ddychwelir : adnewydda ein dyddiau megis cynt . Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni : ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr . </passage></reply></GetPassage>