<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:26</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:26</urn><passage>Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain , yn y pedwerydd mis , ar y pumed dydd o’r mis , ( a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar , ) agoryd y nefoedd , a gwelwn weledigaethau Duw . Yn y pumed dydd o’r mis , honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin , Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad , mab Busi , yn nhir y Caldeaid , wrth afon Chebar ; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef . Yna yr edrychais , ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt , a chwmwl mawr , a thân yn ymgymryd , a disgleirdeb o amgylch iddo ; ac o’i ganol , sef o ganol y tân , fel lliw ambr . Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw . A dyma eu hagwedd hwynt ; dull dyn oedd iddynt . A phedwar wyneb i bob un , a phedair adain i bob un ohonynt . A’u traed yn draed union ; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo ; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw . Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd , ar eu pedwar ystlys ; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar . Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall : pan gerddent , ni throent ; aent bob un yn union rhag ei wyneb . Dyma ddull eu hwynebau hwynt ; Wyneb dyn , ac wyneb llew , oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar : ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar , ac wyneb eryr iddynt ill pedwar . Dyma eu hwynebau hwynt ; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd , dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd , a dwy oedd yn cuddio eu cyrff . Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb ; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned , yno yr aent ; ni throent pan gerddent . Dyma ddull y pethau byw ; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi , ac fel gwelediad ffaglau : yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw , a disglair oedd y tân , a mellt yn dyfod allan o’r tân . Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw , fel gwelediad mellten . Edrychais hefyd ar y pethau byw : ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn , gyda’i bedwar wyneb . Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl : a’r un dull oedd iddynt ill pedair ; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn . Pan elent , aent ar eu pedwar ochr : ni throent pan gerddent . Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy : a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar . A phan gerddai y pethau byw , yr olwynion a gerddent wrthynt ; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear , yr ymgodai yr olwynion . I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned , yr aent , yno yr oedd eu hysbryd ar fyned ; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt : canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion . Cerddent pan gerddent hwythau , a safent pan safent hwythau ; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear , yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau : canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion . Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen , fel lliw grisial ofnadwy , wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd . A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union , y naill tuag at y llall : dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du , a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall . A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt , fel sŵn dyfroedd lawer , fel sŵn yr Hollalluog , pan gerddent : sŵn lleferydd , fel sŵn llu : pan safent , llaesent eu hadenydd . Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt , pan safent , ac y llaesent eu hadenydd . Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt , yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc , fel gwelediad maen saffir ; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn . Gwelais hefyd megis lliw ambr , fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch : o welediad ei lwynau ac uchod , ac o welediad ei lwynau ac isod , y gwelais megis gwelediad tân , a disgleirdeb iddo oddi amgylch . Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog , fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch . Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd . A phan welais , syrthiais ar fy wyneb , a chlywais lais un yn llefaru . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , saf ar dy draed , a mi a lefaraf wrthyt . A’r ysbryd a aeth ynof , pan lefarodd efe wrthyf , ac a’m gosododd ar fy nhraed , fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel , at genedl wrthryfelgar , y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn ; hwynt‐hwy a’u tadau a droseddasant i’m herbyn , hyd gorff y dydd hwn . Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt : dywed dithau wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw . A pha un bynnag a wnelont ai gwrando , ai peidio , ( canys tŷ gwrthryfelgar ydynt , ) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt . Tithau fab dyn , nac ofna rhagddynt , ac na arswyda er eu geiriau hwynt , er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi , a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau : nac ofna rhag eu geiriau hwynt , ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt , er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt . Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt , pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio ; canys gwrthryfelgar ydynt . Tithau fab dyn , gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt , Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn : lleda dy safn , a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti . Yna yr edrychais , ac wele law wedi ei hanfon ataf , ac wele ynddi blyg llyfr . Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i : ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn ; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno , galar , a griddfan , a gwae . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , bwyta yr hyn a geffych , bwyta y llyfr hwn a dos , a llefara wrth dŷ Israel . Yna mi a agorais fy safn , ac efe a wnaeth i mi fwyta’r llyfr hwnnw . Dywedodd hefyd wrthyf , Bwyda dy fol , a llanw dy berfedd , fab dyn , â’r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat . Yna y bwyteais ; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cerdda , dos at dŷ Israel , a llefara â’m geiriau wrthynt . Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y’th anfonir di , ond at dŷ Israel ; Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed , y rhai ni ddeelli eu hymadroddion . Oni wrandawsai y rhai hynny arnat , pe y’th anfonaswn atynt ? Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti ; canys ni fynnant wrando arnaf fi : oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy , holl dŷ Israel . Wele , gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt , a’th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt . Gwneuthum dy dalcen fel adamant , yn galetach na’r gallestr : nac ofna hwynt , ac na ddychryna rhag eu hwynebau , er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt . Dywedodd hefyd wrthyf , Ha fab dyn , derbyn â’th galon , a chlyw â’th glustiau , fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt . Cerdda hefyd , a dos at y gaethglud , at feibion dy bobl , a llefara hefyd wrthynt , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio . Yna yr ysbryd a’m cymerodd , a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl , yn dywedyd , Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le . A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd , a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt , a sŵn cynnwrf mawr . A’r ysbryd a’m cyfododd , ac a’m cymerodd ymaith , a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd ; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf . A mi a ddeuthum i Tel‐abib , at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar , a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd , ie , eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt . Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel : am hynny gwrando y gair o’m genau , a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi . Pan ddywedwyf wrth y drygionus , Gan farw y byddi farw ; oni rybuddi ef , ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd , fel y byddo byw ; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd : ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di . Ond os rhybuddi y drygionus , ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni , na’i ffordd ddrygionus , efe a fydd marw yn ei ddrygioni ; ond ti a achubaist dy enaid . Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur camwedd , a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef , efe fydd farw : am na rybuddiaist ef , am ei bechod y bydd efe farw , a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir ; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di . Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn , rhag pechu o’r cyfiawn , ac na phecho efe ; gan fyw y bydd efe byw , am ei rybuddio : a thithau a achubaist dy enaid . Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf , ac efe a ddywedodd wrthyf , Cyfod , dos i’r gwastadedd , ac yno y llefaraf wrthyt . Yna y cyfodais , ac yr euthum i’r gwastadedd : ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno , fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar : a mi a syrthiais ar fy wyneb . Yna yr aeth yr ysbryd ynof , ac a’m gosododd ar fy nhraed , ac a ymddiddanodd â mi , ac a ddywedodd wrthyf , Dos , a chae arnat o fewn dy dŷ . Tithau fab dyn , wele , hwy a roddant rwymau arnat , ac a’th rwymant â hwynt , ac na ddos allan yn eu plith . A mi a wnaf i’th dafod lynu wrth daflod dy enau , a thi a wneir yn fud , ac ni byddi iddynt yn geryddwr : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . Ond pan lefarwyf wrthyt , yr agoraf dy safn , a dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw : Yr hwn a wrandawo , gwrandawed ; a’r hwn a beidio , peidied : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . Tithau fab dyn , cymer i ti briddlech , a dod hi o’th flaen , a llunia arni ddinas Jerwsalem : A gwarchae yn ei herbyn hi , ac adeilada wrthi warchglawdd , a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd ; dod hefyd wersylloedd wrthi , a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch . Cymer i ti hefyd badell haearn , a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas ; a chyfeiria dy wyneb ati , a bydd mewn gwarchaeedigaeth , a gwarchae di arni . Arwydd fydd hyn i dŷ Israel . Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy , a gosod anwiredd tŷ Israel arni ; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni , y dygi eu hanwiredd hwynt . Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt , wrth rifedi y dyddiau , tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain : felly y dygi anwiredd tŷ Israel . A phan orffennych y rhai hynny , gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau , a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod : pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti . A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem , a’th fraich yn noeth ; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi . Wele hefyd rhoddais rwymau arnat , fel na throech o ystlys i ystlys , nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth . Cymer i ti hefyd wenith , a haidd , a ffa , a ffacbys , a milet , a chorbys , a dod hwynt mewn un llestr , a gwna hwynt i ti yn fara , dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys : tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef . A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys , ugain sicl yn y dydd : o amser i amser y bwytei ef . Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur ; chweched ran hin a yfi , o amser i amser . Ac fel teisen haidd y bwytei ef ; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn , yn eu gŵydd hwynt . A dywedodd yr Arglwydd , Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , wele , ni halogwyd fy enaid , ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon ; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd . Yntau a ddywedodd wrthyf , Wele , mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn , ac â hwynt y gwnei dy fara . Dywedodd hefyd wrthyf , Mab dyn , wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem , fel y bwytaont fara dan bwys , ac mewn gofal ; ac yr yfont ddwfr dan fesur , ac mewn syndod . Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr , ac y synnont un gydag arall , ac y darfyddont yn eu hanwiredd . Tithau fab dyn , cymer i ti gyllell lem , cymer i ti ellyn eillio , ac eillia dy ben a’th farf : yna y cymeri i ti gloriannau pwys , ac y rhenni hwynt . Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas , pan gyflawner dyddiau y gwarchae ; traean a gymeri hefyd , ac a’i trewi â’r gyllell o’i amgylch ; a thraean a daeni gyda’r gwynt : a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer , a chlyma hwynt yn dy odre . A chymer eilwaith rai ohonynt hwy , a thafl hwynt i ganol y tân , a llosg hwynt yn tân : ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Jerwsalem yw hon : gosodais hi ymysg y cenhedloedd a’r tiroedd o’i hamgylch . A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd , a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd sydd o’i hamgylch : canys gwrthodasant fy marnedigaethau a’m deddfau , ni rodiasant ynddynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am i chwi amlhau yn fwy na’r cenhedloedd sydd o’ch amgylch , heb rodio ohonoch yn fy neddfau , na gwneuthur fy marnedigaethau , ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o’ch amgylch ; Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi , ie , myfi , ydwyf yn dy erbyn , a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd . A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum , ac nis gwnaf ei fath mwy , am dy holl ffieidd‐dra . Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di , a’r plant a fwyty eu tadau ; a gwnaf ynot farnedigaethau , a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt . Am hynny , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â’th holl ffieidd‐dra ac â’th holl frynti , am hynny hefyd y prinhaf finnau di ; ac nid arbed fy llygad , ac ni thosturiaf chwaith . Dy draean fyddant feirw o’r haint , ac a ddarfyddant o newyn , yn dy ganol ; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch : a thraean a daenaf gyda phob gwynt : a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . Felly y gorffennir fy nig , ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt , ac ymgysuraf : a hwy a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais yn fy ngwŷn , pan orffennwyf fy llid ynddynt . A rhoddaf di hefyd yn anrhaith , ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o’th amgylch , yng ngolwg pawb a êl heibio . Yna y bydd y gwaradwydd a’r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i’r cenhedloedd sydd o’th amgylch , pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig , a llidiowgrwydd , a cherydd llidiog . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais . Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn , y rhai fyddant i’w difetha , y rhai a ddanfonaf i’ch difetha : casglaf hefyd newyn arnoch , a thorraf eich ffon bara : Anfonaf hefyd arnoch newyn , a bwystfil drwg ; ac efe a’th ddiblanta di : haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti ; a dygaf gleddyf arnat . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel , a phroffwyda yn eu herbyn ; A dywed , Mynyddoedd Israel , gwrandewch air yr Arglwydd Dduw : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd ; Wele fi , ie , myfi yn dwyn cleddyf arnoch , a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd . Eich allorau hefyd a ddifwynir , a’ch haul‐ddelwau a ddryllir : a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod . A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod , a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau . Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir , a’r uchelfeydd a ddifwynir ; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau , ac y torrer ac y peidio eich eilunod , ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau , ac y dileer eich gweithredoedd . Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Eto gadawaf weddill , fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd , pan wasgarer chwi trwy y gwledydd . A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt , am fy nryllio â’u calon buteinllyd , yr hon a giliodd oddi wrthyf ; ac â’u llygaid , y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod : yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Taro â’th law , a chur â’th droed , a dywed , O , rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel ! canys trwy gleddyf , trwy newyn , a thrwy haint , y syrthiant . Y pellennig a fydd farw o’r haint , a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf ; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn : fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau , ar bob bryn uchel , ar holl bennau y mynyddoedd , a than bob pren ir , a than bob derwen gaeadfrig , lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod . Felly yr estynnaf fy llaw arnynt , a gwnaf y tir yn anrhaith ; ie , yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath , trwy eu holl drigfeydd : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel ; Diwedd , diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir . Daeth yr awr hon ddiwedd arnat , a mi a anfonaf fy nig arnat ti ; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd , a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat . Fy llygad hefyd ni’th arbed di , ac ni thosturiaf : eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti , a’th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Drwg , drwg unig , wele , a ddaeth . Diwedd a ddaeth , daeth diwedd : y mae yn gwylio amdanat ; wele , efe a ddaeth . Daeth y boregwaith atat , breswylydd y tir : daeth yr amser , agos yw y dydd terfysg , ac nid atsain mynyddoedd . Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat , ac y gorffennaf fy nig wrthyt : barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd , a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat . A’m llygad nid arbed , ac ni thosturiaf : rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd , a’th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di ; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro . Wele y dydd , wele efe yn dyfod : y boregwaith a aeth allan ; blodeuodd y wialen , blagurodd balchder . Cyfododd traha yn wialen drygioni : ni bydd un ohonynt , nac o’u lliaws , nac o’r eiddynt , na galar drostynt . Yr amser a ddaeth , y dydd a nesaodd : na lawenyched y prynwr , ac na thristaed y gwerthwr : canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi . Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd , er eu bod eto yn fyw : oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws , y rhai ni ddychwelant : ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd . Utganasant yr utgorn , i baratoi pawb : eto nid â neb i’r rhyfel ; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws . Y cleddyf fydd oddi allan , yr haint hefyd a’r newyn o fewn : yr hwn fyddo yn y maes , a fydd farw gan gleddyf ; a’r hwn a fyddo yn y ddinas , newyn a haint a’i difa ef . Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant , ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn , yn griddfan , bob un am ei anwiredd . Yr holl ddwylo a laesant , a’r holl liniau a ânt yn ddwfr . Ymwregysant hefyd mewn sachliain , ac arswyd a’u toa hwynt ; a bydd cywilydd ar bob wyneb , a moelni ar eu holl bennau hwynt . Eu harian a daflant i’r heolydd , a’u haur a roir heibio : eu harian na’u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd : eu henaid ni ddiwallant , a’u coluddion ni lanwant : oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw . A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth : ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a’u brynti : am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt . Ac mi a’i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail , ac yn anrhaith i rai drygionus y tir ; a hwy a’i halogant ef . Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt , a halogant fy nirgelfa : ie , anrheithwyr a ddaw iddi , ac a’i halogant . Gwna gadwyn ; canys llanwyd y tir o farn waedlyd , a’r ddinas sydd lawn o drais . Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd , fel y meddiannont eu tai hwynt : gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio ; a’u cysegroedd a halogir . Y mae dinistr yn dyfod ; a hwy a geisiant heddwch , ac nis cânt . Daw trychineb ar drychineb , a bydd chwedl ar chwedl : yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd ; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad , a chyngor gan yr henuriaid . Y brenin a alara , a’r tywysog a wisgir ag anrhaith , a dwylo pobl y tir a drallodir : gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd , ac â’u barnedigaethau y barnaf hwynt ; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd . A bu yn y chweched flwyddyn , yn y chweched mis , ar y pumed dydd o’r mis , a mi yn eistedd yn fy nhŷ , a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron , syrthio o law yr Arglwydd Dduw arnaf yno . Yna yr edrychais , ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân ; o welediad ei lwynau ac isod , yn dân ; ac o’i lwynau ac uchod , fel gwelediad disgleirdeb , megis lliw ambr . Ac efe a estynnodd lun llaw , ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen : a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd , ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau Duw , hyd ddrws y porth nesaf i mewn , yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd , lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd , yr hon a wna eiddigedd . Ac wele yno ogoniant Duw Israel , fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd . Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd ; ac wele , tua’r gogledd ; wrth borth yr allor , ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur , y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma , i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr ? ac eto dychwel , cei weled ffieidd‐dra mwy . Ac efe a’m dug i ddrws y cyntedd ; a phan edrychais , wele dwll yn y pared . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Mab dyn , cloddia yn y pared : a phan gloddiais yn y pared , wele ddrws . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dos i mewn , ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma . Felly mi a euthum , ac a edrychais ; ac wele bob llun ymlusgiad , ac anifail ffiaidd , a holl eilunod tŷ Israel , wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch : A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt , a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol , pob un â’i thuser yn ei law ; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu . Ac efe a ddywedodd wrthyf , a weli di , fab dyn , yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch , bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd ? canys dywedant , Nid yw yr Arglwydd yn ein gweled ; gadawodd yr Arglwydd y ddaear . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Tro eto , cei weled ffieidd‐dra mwy , y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur . Ac efe a’m dug i ddrws porth tŷ yr Arglwydd , yr hwn oedd tua’r gogledd ; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A weli di hyn , fab dyn ? dychwel eto , cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn . Ac efe a’m dug i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn , ac wele wrth ddrws teml yr Arglwydd , rhwng y porth a’r allor , ynghylch pumwr ar hugain , a’u cefnau tuag at deml yr Arglwydd , a’u hwynebau tua’r dwyrain ; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i’r haul tua’r dwyrain . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A weli di hyn , fab dyn ? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd‐dra a wnânt yma ? canys llanwasant y tir â thrais , a gwrthdroesant i’m cyffroi i ; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn . Minnau hefyd a wnaf mewn llid : nid arbed fy llygad , ac ni thosturiaf : ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel , ni wrandawaf hwynt . Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais , gan ddywedyd , Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu , a phob un â’i arf dinistr yn ei law . Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf , yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd , a phob un â’i arf dinistr yn ei law : ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain , a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun ; a hwy a aethant i mewn , ac a safasant wrth yr allor bres . A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno , hyd riniog y tŷ . Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain , yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun : A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dos trwy ganol y ddinas , trwy ganol Jerwsalem , a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi . Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais , Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef , a threwch ; nac arbeded eich llygad , ac na thosturiwch . Lleddwch yn farw yr henwr , y gŵr ieuanc , a’r forwyn , y plant hefyd , a’r gwragedd ; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo’r nod arno : ac ar fy nghysegr y dechreuwch . Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen , y rhai oedd o flaen y tŷ . Dywedodd wrthynt hefyd , Halogwch y tŷ , a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig : ewch allan . Felly hwy a aethant allan , ac a drawsant yn y ddinas . A bu , a hwy yn lladd , a’m gado innau , i mi syrthio ar fy wyneb , a gweiddi , a dywedyd , O Arglwydd Dduw , a ddifethi di holl weddill Israel , wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben ; a llawn yw y tir o waed , a llanwyd y ddinas o gamwedd : oherwydd dywedant , Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear , ac nid yw yr Arglwydd yn gweled . Ac amdanaf fi , nid erbyd fy llygad , ac ni thosturiaf ; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau . Ac wele , y gŵr wedi ei wisgo â lliain , yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun , yn dwyn gair drachefn , gan ddywedyd , Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi . Yna yr edrychais , ac wele yn y ffurfafen , yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid , megis maen saffir , fel dull cyffelybrwydd gorseddfa , a welid arnynt hwy . Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain , ac a ddywedodd , Dos i mewn rhwng yr olwynion , hyd dan y ceriwb , a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid , a thaena ar y ddinas . Ac efe a aeth o flaen fy llygaid . A’r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ , pan aeth y gŵr i mewn ; a’r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn . Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb , ac a safodd oddi ar riniog y tŷ ; a’r tŷ a lanwyd â’r cwmwl , a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd . A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan , fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai . Bu hefyd , wedi iddo orchymyn i’r gŵr a wisgasid â lliain , gan ddywedyd , Cymer dân oddi rhwng yr olwynion , oddi rhwng y ceriwbiaid ; fyned ohono ef , a sefyll wrth yr olwynion . Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i’r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid , ac a gymerth , ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain : yntau a’i cymerodd , ac a aeth allan . A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd . Edrychais hefyd , ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid , un olwyn wrth un ceriwb , ac un olwyn wrth geriwb arall : a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl . A’u gwelediad , un wedd oedd iddynt ill pedair , fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn . Pan gerddent , ar eu pedwar ochr y cerddent ; ni throent pan gerddent , ond lle yr edrychai y pen , y cerddent ar ei ôl ef ; ni throent pan gerddent . Eu holl gnawd hefyd , a’u cefnau , a’u dwylo , a’u hadenydd , a’r olwynion , oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar . Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy , sef ar yr olwynion , O olwyn . A phedwar wyneb oedd i bob un ; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb , a’r ail wyneb yn wyneb dyn , a’r trydydd yn wyneb llew , a’r pedwerydd yn wyneb eryr . A’r ceriwbiaid a ymddyrchafasant . Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar . A phan gerddai y ceriwbiaid , y cerddai yr olwynion wrthynt ; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear , yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt . Safent , pan safent hwythau ; a chodent gyda hwy , pan godent hwythau ; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt . Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ , ac a safodd ar y ceriwbiaid . A’r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd , ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid : a’r olwynion oedd yn eu hymyl , pan aethant allan : a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd ; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd . Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel , wrth afon Chebar : a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt . Pedwar wyneb oedd i bob un , a phedair adain i bob un , a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd . Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar , eu dull hwynt a hwythau : cerddent bob un yn union rhag ei wyneb . Yna y’m cyfododd yr ysbryd , ac y’m dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain : ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth ; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur , a Phelatia mab Benaia , tywysogion y bobl . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd , ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon : Y rhai a ddywedant , Nid yw yn agos ; adeiladwn dai ; hi yw y crochan , a ninnau y cig . Am hynny proffwyda i’w herbyn hwynt , proffwyda , fab dyn . Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf , ac a ddywedodd wrthyf , Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Tŷ Israel , fel hyn y dywedasoch : canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i’ch meddwl chwi , bob un ohonynt . Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon , a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau . Am hynny , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi , yw y cig ; a hithau yw y crochan : chwithau a ddygaf allan o’i chanol . Y cleddyf a ofnasoch , a’r cleddyf a ddygaf arnoch , medd yr Arglwydd Dduw . Dygaf chwi hefyd allan o’i chanol hi , a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid , a gwnaf farn yn eich mysg . Ar y cleddyf y syrthiwch , ar derfyn Israel y barnaf chwi : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan , ni byddwch chwithau yn gig o’i mewn ; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd : canys ni rodiasoch yn fy neddfau , ac ni wnaethoch fy marnedigaethau ; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o’ch amgylch y gwnaethoch . A phan broffwydais , bu farw Pelatia mab Benaia : yna syrthiais ar fy wyneb , a gwaeddais â llef uchel , a dywedais , O Arglwydd Dduw , a wnei di dranc ar weddill Israel ? A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dy frodyr , dy frodyr , dynion dy geraint , a holl dŷ Israel yn gwbl , ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt , Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd ; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth . Dywed am hynny , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd , ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd , eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant . Dywed gan hynny , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd , a chynullaf chwi o’r gwledydd y’ch gwasgarwyd ynddynt , a rhoddaf i chwi dir Israel . A hwy a ddeuant yno , ac a symudant ei holl frynti hi a’i holl ffieidd‐dra allan ohoni hi . A rhoddaf iddynt un galon , ac ysbryd newydd a roddaf ynoch ; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o’u cnawd hwynt , a rhoddaf iddynt galon gig : Fel y rhodiont yn fy neddfau , ac y cadwont fy marnedigaethau , ac y gwnelont hwynt : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a minnau a fyddaf Dduw iddynt hwy . Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a’u ffeidd-dra , rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun , medd yr Arglwydd Dduw . Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd , a’r olwynion yn eu hymyl , a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd . A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas , ac a safodd ar y mynydd sydd o’r tu dwyrain i’r ddinas . Yna yr ysbryd a’m cododd i , ac a’m dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw . A’r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf . Yna y lleferais wrth y rhai o’r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a ddangosasai efe i mi . A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Trigo yr wyt ti , fab dyn , yng nghanol tŷ gwrthryfelgar , y rhai y mae llygaid iddynt i weled , ac ni welant ; clustiau iddynt i glywed , ac ni chlywant : canys tŷ gwrthryfelgar ydynt . A thithau , fab dyn , gwna i ti offer caethglud , a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt ; ie , muda o’th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt : nid hwyrach y gwelant , er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar . A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid , fel dodrefn caethglud : a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid , fel rhai yn myned allan i gaethglud . Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur , a dwg allan trwy hwnnw . Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt , yn y tywyll y dygi allan : dy wyneb a guddi , fel na welych y ddaear : canys yn arwydd y’th roddais i dŷ Israel . Ac mi a wneuthum felly fel y’m gorchmynnwyd : dygais fy offer allan liw dydd , fel offer caethglud ; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â’m llaw : yn y tywyll y dygais allan , ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt . A’r bore y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , oni ddywedodd tŷ Israel , y tŷ gwrthryfelgar , wrthyt , Beth yr wyt ti yn ei wneuthur ? Dywed di wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , I’r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn , ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg . Dywed , Eich arwydd chwi ydwyf fi ; fel y gwneuthum i , felly y gwneir iddynt hwy : mewn caethglud yr ânt i gaethiwed . A’r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll , ac a â allan : cloddiant trwy y mur , i ddwyn allan trwyddo : ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â’i lygaid . A mi a daenaf fy rhwyd arno ef , fel y dalier ef yn fy rhwyd : a dygaf ef i Babilon , tir y Caldeaid ; ac ni wêl efe hi , eto yno y bydd efe farw . A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i’w gynorthwyo , a’i holl fyddinoedd , tua phob gwynt ; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt . A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd , a’u taenu ar hyd y gwledydd . Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf , oddi wrth y newyn , ac oddi wrth yr haint ; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd , lle y delont : a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd . Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , bwytei dy fara dan grynu , a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal : A dywed wrth bobl y tir , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem , ac am wlad Israel ; Eu bara a fwytânt mewn gofal , a’u dwfr a yfant mewn syndod , fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder , am drais y rhai oll a drigant ynddi . A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir , a’r tir a fydd anrheithiol ; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel , gan ddywedyd , Y dyddiau a estynnwyd , a darfu am bob gweledigaeth ? Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio , fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel : ond dywed wrthynt , Y dyddiau sydd agos , a sylwedd pob gweledigaeth . Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer , na dewiniaeth wenieithus , o fewn tŷ Israel . Canys myfi yw yr Arglwydd : mi a lefaraf , a’r gair a lefarwyf a wneir ; nid oedir ef mwy : oherwydd yn eich dyddiau chwi , O dŷ gwrthryfelgar , y dywedaf y gair , ac a’i gwnaf , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , wele dŷ Israel yn dywedyd , Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer , a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Nid oedir dim o’m geiriau mwy , ond y gair a ddywedais a wneir , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , yn erbyn proffwydi Israel , y rhai sydd yn proffwydo , a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun , Gwrandewch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae y proffwydi ynfyd , y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun , ac heb weled dim . Dy broffwydi , Israel , ydynt fel llwynogod yn yr anialwch . Ni safasoch yn yr adwyau , ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel , i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd . Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant , y rhai a ddywedant , Dywedodd yr Arglwydd ; a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt : a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair . Onid ofer weledigaeth a welsoch , a gau ddewiniaeth a draethasoch , pan ddywedasoch , Yr Arglwydd a ddywedodd ; a minnau heb ddywedyd ? Am hynny , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am lefaru ohonoch wagedd , a gweled ohonoch gelwydd ; am hynny wele fi i’ch erbyn , medd yr Arglwydd Dduw . A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd , ac yn dewinio celwydd ; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant , ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt , i dir Israel hefyd ni ddeuant ; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . O achos , ie , o achos hudo ohonynt fy mhobl , gan ddywedyd , Heddwch ; ac nid oedd heddwch ; un a adeiladai bared , ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru . Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd , y syrth efe : canys curlaw a fydd , a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch ; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga . Wele , pan syrthio y pared , oni ddywedir wrthych , Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid ; a churlaw fydd yn fy nig , a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd , i’w ddifetha . Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru , ac a’i tynnaf hyd lawr , fel y dinoether ei sylfaen , ac efe a syrth , a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared , ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru ; a dywedaf wrthych , Y pared nid yw , na’r rhai a’i priddasant : Sef proffwydi Israel , y rhai a broffwydant am Jerwsalem , ac a welant iddi weledigaethau heddwch , ac nid oes heddwch , medd yr Arglwydd Dduw . Tithau fab dyn , gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl , y rhai a broffwydant o’u calon eu hun ; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl , a’r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth , i hela eneidiau . Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi , ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch ? Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd , ac am dameidiau o fara , i ladd yr eneidiau ni ddylent farw , a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw , gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl , y rhai a wrandawent gelwydd ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi , â’r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau , i beri iddynt ehedeg , a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau ; a gollyngaf yr eneidiau , sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela , i beri iddynt ehedeg . Rhwygaf hefyd eich moledau chwi , a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw , ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd , a minnau heb ei ofidio ef ; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol , fel na ddychwelai o’i ffordd ddrygionus , trwy addo iddo einioes ; Oherwydd hynny ni welwch wagedd , ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy ; canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi ; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel , ac a eisteddasant o’m blaen . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Y gwŷr hyn , O fab dyn , a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau , ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau : gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi ? Am hynny ymddiddan â hwynt , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pob un o dŷ Israel , yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon , ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb , ac a ddaw at y proffwyd ; myfi yr Arglwydd a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod , I ddal tŷ Israel yn eu calonnau , am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Trowch , a dychwelwch oddi wrth eich eilunod , a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra . Canys pob un o dŷ Israel , ac o’r dieithr a ymdeithio o fewn Israel , a ymneilltuo oddi ar fy ôl i , ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon , ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb , ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef ; myfi yr Arglwydd a atebaf iddo trwof fy hun . Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny : a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb , a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air , myfi yr Arglwydd a dwyllodd y proffwyd hwnnw ; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef , ac a’i difethaf o fysg fy mhobl Israel . A hwy a ddygant eu hanwiredd : un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd : Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl , ac na haloger hwy mwy â’u holl droseddau ; ond bod ohonynt i mi yn bobl , a minnau iddynt hwy yn Dduw , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Ha fab dyn , pan becho gwlad i’m herbyn trwy wneuthur camwedd , yna yr estynnaf fy llaw arni , a thorraf ffon ei bara hi , ac anfonaf arni newyn , ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail . Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn , Noa , Daniel , a Job , hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig , medd yr Arglwydd Dduw . Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad , a’i difa o hwnnw , fel y byddo yn anghyfannedd , heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil : Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni waredent na meibion na merched ; hwynt‐hwy yn unig a waredid , a’r tir a fyddai yn anghyfannedd . Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw , a dywedyd ohonof , Cyniwair , gleddyf , trwy y tir ; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail : A’r triwyr hyn yn ei ganol , fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni achubent na meibion na merched , ond hwynt‐hwy yn unig a achubid . Neu os haint a anfonaf i’r wlad honno , a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed , gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail ; A Noa , Daniel , a Job , yn ei chanol hi ; fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni waredent na mab na merch ; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pa faint mwy , pan anfonwyf fy mhedair drygfarn , cleddyf , a newyn , a bwystfil niweidiol , a haint , ar Jerwsalem , i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail ? Eto wele , bydd ynddi weddill dihangol , y rhai a ddygir allan , yn feibion a merched : wele hwynt yn dyfod allan atoch , a chewch weled eu ffyrdd hwynt a’u gweithredoedd ; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem , sef yr hyn oll a ddygais arni . Ie , cysurant chwi , pan weloch eu ffordd a’u gweithredoedd : a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i’w herbyn hi , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , beth yw coed y winwydden fwy na phob coed arall , neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed ? A gymerir ohoni goed i wneuthur gwaith ? a gymerant ohoni hoel i grogi un offeryn arni ? Wele , yn ymborth i’r tân y rhoddir hi ; difaodd y tân ei deuben hi , ei chanol a olosgwyd : a wasanaetha hi mewn gwaith ? Wele , pan oedd gyfan , nid oedd gymwys i ddim gwaith : pa faint llai , gan ei difa o dân a’i golosgi , y bydd hi eto gymwys i waith ? Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Megis pren y winwydden ymysg prennau y coed , yr hon a roddais yn ymborth i’r tân , felly y rhoddaf drigolion Jerwsalem . A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt : o’r naill dân y deuant allan , a thân arall a’u difa hwynt ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd , pan osodwyf fy wyneb i’w herbyn hwynt . Gwnaf hefyd y wlad yn anrhaith , am wneuthur ohonynt gamwedd , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem ; Dy drigfa a’th enedigaeth sydd o wlad Canaan : dy dad oedd Amoriad , a’th fam yn Hittees . Ac am dy enedigaeth , ar y dydd y’th anwyd ni thorrwyd dy fogail , ac mewn dwfr ni’th olchwyd i’th feddalhau : ni’th gyweiriwyd chwaith â halen , ac ni’th rwymwyd â rhwymyn . Ni thosturiodd llygad wrthyt , i wneuthur i ti un o hyn , i dosturio wrthyt ; ond ar wyneb y maes y’th daflwyd , i ffieiddio dy einioes , ar y dydd y’th aned . A phan dramwyais heibio i ti , a’th weled yn ymdrybaeddu yn dy waed , dywedais wrthyt yn dy waed , Bydd fyw ; ie , dywedais wrthyt yn dy waed , Bydd fyw . Yn fyrddiwn y’th wneuthum fel gwellt y maes , a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr , ac a ddaethost i harddwch godidog : dy fronnau a chwyddasant , a’th wallt a dyfodd , a thi yn llom ac yn noeth o’r blaen . Pan euthum heibio i ti , ac edrych arnat , wele dy amser yn amser serchowgrwydd : yna lledais fy adain drosot , a chuddiais dy noethni : tyngais hefyd i ti , ac euthum mewn cyfamod â thi , medd yr Arglwydd Dduw , a thi a aethost yn eiddof fi . Yna mi a’th olchais â dwfr ; ie , golchais dy waed oddi wrthyt , ac irais di ag olew . Mi a’th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd , rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch , a gwregysais di â lliain main , a gorchuddiais di â sidan . Mi a’th herddais hefyd â harddwch , a rhoddais freichledau am dy ddwylo , a chadwyn am dy wddf . Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen , a thlysau wrth dy glustiau , a choron hardd am dy ben . Felly y’th harddwyd ag aur ac arian ; a’th wisg oedd liain main , a sidan , a gwaith edau a nodwydd ; peilliaid , a mêl , ac olew a fwyteit : teg hefyd odiaeth oeddit , a ffynnaist yn frenhiniaeth . Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd , am dy degwch : canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat , medd yr Arglwydd Dduw . Ond ti a ymddiriedaist i’th degwch , a phuteiniaist oherwydd dy enw , a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd ; eiddo ef ydoedd . Cymeraist hefyd o’th ddillad , a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion , a phuteiniaist arnynt : y fath ni ddaw , ac ni bydd felly . A chymeraist offer dy harddwch o’m haur ac o’m harian i , y rhai a roddaswn i ti , a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr , a phuteiniaist gyda hwynt . Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd , ac a’u gwisgaist hwynt : fy olew hefyd a’m harogl‐darth a roddaist o’u blaen hwynt . Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti , yn beilliaid , ac yn olew , ac yn fêl , â’r rhai y’th borthaswn di ; rhoddaist hynny hefyd o’u blaen hwynt yn arogl peraidd : fel hyn y bu , medd yr Arglwydd Dduw . Cymeraist hefyd dy feibion a’th ferched , y rhai a blantasit i mi ; y rhai hyn a aberthaist iddynt i’w bwyta . Ai bychan hyn o’th buteindra di , Ladd ohonot fy mhlant , a’u rhoddi hwynt i’w tynnu trwy y tân iddynt ? Ac yn dy holl ffieidd‐dra a’th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid , pan oeddit lom a noeth , a’th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed . A bu ar ôl dy holl ddrygioni , ( Gwae , gwae i ti ! medd yr Arglwydd Dduw , ) Adeiladu ohonot i ti uchelfa , a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol . Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa , a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd , ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd , ac amlheaist dy buteindra . Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion , mawr eu cnawd ; ac a amlheaist dy buteindra , i’m digio i . Am hynny wele , estynnais fy llaw arnat , a phrinheais dy ran , a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion , merched y Philistiaid , y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler . Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur , o eisiau cael dy ddigon ; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt , ni’th ddigonwyd . Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea ; ac eto ni’th ddigonwyd â hyn . Mor llesg yw dy galon , medd yr Arglwydd Dduw , gan i ti wneuthur hyn oll , sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu ! Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd , ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol ; ac nid oeddit fel putain , gan dy fod yn dirmygu gwobr ; Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas , ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr . I bob putain y rhoddant wobr ; ond tydi a roddi dy wobr i’th holl gariadau , ac a’u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i’th buteindra . Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra , gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di : canys lle y rhoddi wobr , ac na roddir gwobr i ti , yna yr wyt yn y gwrthwyneb . Gan hynny , O butain , clyw air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am dywallt dy frynti , a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda’th gariadau , a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra , a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt ; Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda’r rhai yr ymddigrifaist , a’r rhai oll a geraist , gyda’r rhai oll a gaseaist ; ie , casglaf hwynt i’th erbyn oddi amgylch , ac a ddinoethaf dy noethni iddynt , fel y gwelont dy holl noethni . Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid , a’r rhai a dywalltant waed ; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd . Ie , rhoddaf di yn eu dwylo hwynt , a hwy a ddinistriant dy uchelfa , ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd : diosgant di hefyd o’th ddillad , a chymerant ddodrefn dy harddwch , ac a’th adawant yn llom ac yn noeth . Dygant hefyd dyrfa i’th erbyn , ac a’th labyddiant â meini , ac â’u cleddyfau y’th drywanant . Llosgant hefyd dy dai â thân , a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer : a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio , a hefyd ni roddi wobr mwy . Felly y llonyddaf fy llid i’th erbyn , a symud fy eiddigedd oddi wrthyt ; mi a lonyddaf hefyd , ac ni ddigiaf mwy . Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid , ond anogaist fi i lid yn hyn oll ; am hynny wele , myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben , medd yr Arglwydd Dduw : fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra . Wele , pob diarhebydd a ddiarheba amdanat , gan ddywedyd , Fel y fam y mae y ferch . Merch dy fam , yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a’i meibion , ydwyt ti ; a chwaer dy chwiorydd ydwyt , y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a’u meibion : eich mam oedd Hittees , a’ch tad yn Amoriad . A’th chwaer hynaf yw Samaria , hi a’i merched yn trigo ar dy law aswy a’th chwaer ieuangach na thi , yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau , yw Sodom a’i merched . Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt , ac nid yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt y gwnaethost : megis petai hynny ychydig bach , ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni wnaeth Sodom dy chwaer , na hi na’i merched , fel y gwnaethost ti a’th ferched . Wele , hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom , Balchder , digonedd bara , ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched , ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a’r tlawd . A hwy a ymddyrchafasant , ac a wnaethant ffieidd‐dra o’m blaen i : am hynny y symudais hwynt , fel y gwelais yn dda . Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di ; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt , ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost . Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd , dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt : cyfiawnach ydynt na thi : cywilyddia dithau , a dwg dy waradwydd , gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd . Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt , caethiwed Sodom a’i merched , a chaethiwed Samaria a’i merched , yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a’th ferched yn eu canol hwynt : Fel y dygech dy warth , ac y’th waradwydder , am yr hyn oll a wnaethost , gan gysuro ohonot hwynt . Pan ddychwelo dy chwiorydd , Sodom a’i merched , i’w hen gyflwr , a phan ddychwelo Samaria a’i merched i’w hen gyflwr , yna tithau a’th ferched a ddychwelwch i’ch hen gyflwr . Canys nid oedd mo’r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder , Cyn datguddio dy ddrygioni , megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria , a’r holl rai o’i hamgylch , merched y Philistiaid , y rhai a’th ddiystyrant o bob parth . Dy ysgelerder , a’th ffieidd‐dra hefyd , ti a’u dygaist hwynt , medd yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost , yr hon a ddiystyraist lw , i ddiddymu’r cyfamod . Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid , ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol . Yna y cofi dy ffyrdd , ac y cywilyddi , pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi , gyda’r rhai ieuangach na thi : a rhoddaf hwynt yn ferched i ti , a hynny nid wrth dy amod di . A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi ; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd : Fel y cofiech di , ac y cywilyddiech , ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd , pan ddyhudder fi tuag atat , am yr hyn oll a wnaethost , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Mab dyn , traetha ddychymyg , a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eryr mawr , mawr ei adenydd , hir ei asgell , llawn plu , yr hwn oedd iddo amryw liwiau , a ddaeth i Libanus , ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden . Torrodd frig ei blagur hi , ac a’i dug i dir marsiandïaeth : yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef . A chymerth o had y tir , ac a’i bwriodd mewn maes ffrwythlon ; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer , ac a’i plannodd fel helygen . Ac efe a dyfodd , ac a aeth yn winwydden wasgarog , isel o dwf , a’i changau yn troi ato ef ; a’i gwraidd oedd dano ef : felly yr aeth yn winwydden , ac y dug geinciau , ac y bwriodd frig . Yr oedd hefyd ryw eryr mawr , mawr ei esgyll , ac â llawer o blu : ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef , ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato , i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad . Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi , i fwrw brig , ac i ddwyn ffrwyth , fel y byddai yn winwydden hardd‐deg . Dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw : A lwydda hi ? oni thyn efe ei gwraidd hi ? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi , fel y gwywo ? sych holl ddail ei brig , ac nid trwy fraich mawr , na thrwy bobl lawer , i’w thynnu hi o’i gwraidd . Ie , wele , wedi ei phlannu , a lwydda hi ? gan wywo oni wywa , pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi ? yn rhigolau ei thwf y gwywa . Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar , Oni wyddoch beth yw hyn ? dywed , Wele , daeth brenin Babilon i Jerwsalem , ac efe a gymerodd ei brenin hi , a’i thywysogion , ac a’u dug hwynt gydag ef i Babilon : Ac a gymerodd o’r had brenhinol , ac a wnaeth ag ef gyfamod , ac a’i dug ef dan lw ; cymerodd hefyd gedyrn y wlad : Fel y byddai y deyrnas yn isel , heb ymddyrchafu , eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef . Ond gwrthryfelodd i’w erbyn , gan anfon ei genhadau i’r Aifft , fel y rhoddid iddo feirch , a phobl lawer . A lwydda efe ? a ddianc yr hwn a wnelo hyn ? neu a ddiddyma efe y cyfamod , ac a waredir ef ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , yng nghartref y brenin yr hwn a’i gwnaeth ef yn frenin , yr hwn y diystyrodd efe ei lw , a’r hwn y diddymodd efe ei gyfamod , gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon . Ac ni wna Pharo â’i lu mawr , ac â’i fintai luosog , ddim gydag ef mewn rhyfel , wrth godi clawdd , ac wrth adeiladu cestyll , i dorri ymaith lawer einioes . Gan ddiystyru ohono y llw , gan ddiddymu y cynghrair , ( canys wele , efe a roddasai ei law , ) a gwneuthur ohono hynny oll , ni ddianc . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Fel mai byw fi , fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe , a’m cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe , hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef . Canys taenaf fy rhwyd arno , ac efe a ddelir yn fy rhwyd , a dygaf ef i Babilon , ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i’m herbyn . A’i holl ffoaduriaid ynghyd â’i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf , a’r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt ; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel , ac a’i gosodaf : o frig ei blagur y torraf un tyner , a mi a’i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig . Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef : ac efe a fwrw frig , ac a ddwg ffrwyth , ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg : a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani ; dan gysgod ei changhennau y trigant . A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel , ac a ddyrchefais y pren isel ; a sychais y pren ir , ac a ireiddiais y pren crin : myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwneuthum . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel , gan ddywedyd , Y tadau a fwytasant rawnwin surion , ac ar ddannedd y plant y mae dincod ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel . Wele , yr holl eneidiau eiddof fi ydynt ; fel enaid y tad , felly hefyd enaid y mab , eiddof fi ydynt ; yr enaid a becho , hwnnw a fydd farw . Canys os bydd gŵr yn gyfiawn , ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder , Heb fwyta ar y mynyddoedd , na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel , ac heb halogi gwraig ei gymydog , na nesáu at wraig fisglwyfus , Na gorthrymu neb , ond a roddes ei wystl i’r dyledwr yn ei ôl , ni threisiodd drais , ei fara a roddodd i’r newynog , ac a ddilladodd y noeth , Ni roddes ar usuriaeth , ac ni chymerodd ychwaneg , ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd , gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr . Yn fy neddfau y rhodiodd , a’m barnedigaethau a gadwodd , i wneuthur gwirionedd : cyfiawn yw ; gan fyw efe a fydd byw , medd yr Arglwydd Dduw . Os cenhedla efe fab yn lleidr , ac yn tywallt gwaed , ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn , Ac ni wna yr un o’r pethau hynny , ond ar y mynyddoedd y bwyty , a gwraig ei gymydog a haloga , Yr anghenus a’r tlawd a orthryma , trais a dreisia , gwystl ni rydd drachefn , ac at eilunod y cyfyd ei lygaid , a wnaeth ffieidd‐dra , Ar usuriaeth y rhoddes , ac ychwaneg a gymerth ; gan hynny a fydd efe byw ? Ni bydd byw : gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn ; gan farw y bydd farw ; ei waed a fydd arno ei hun . Ac wele , os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe , ac a ystyria , ac ni wna felly , Ar y mynyddoedd ni fwyty , a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel , ni haloga wraig ei gymydog , Ni orthryma neb chwaith , ni atal wystl , ac ni threisia drais , ei fara a rydd i’r newynog , a’r noeth a ddillada , Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog , usuriaeth na llog ni chymer , fy marnau a wna , yn fy neddfau y rhodia : hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad ; gan fyw y bydd efe byw . Ei dad , am orthrymu yn dost , a threisio ei frawd trwy orthrech , a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl , wele , efe a fydd marw yn ei anwiredd . Eto chwi a ddywedwch , Paham ? oni ddwg y mab anwiredd y tad ? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder , a chadw fy holl ddeddfau , a’u gwneuthur hwynt , gan fyw efe a fydd byw . Yr enaid a becho , hwnnw a fydd marw . Y mab ni ddwg anwiredd y tad , a’r tad ni ddwg anwiredd y mab : cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef , a drygioni y drygionus fydd arno yntau . Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth , a chadw fy holl ddeddfau , a gwneuthur barn a chyfiawnder , efe gan fyw a fydd byw ; ni bydd efe marw . Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth : yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw . Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol , medd yr Arglwydd Dduw , ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd , a byw ? Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol ; a fydd efe byw ? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe : yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth , ac yn ei bechod a bechodd , ynddynt y bydd efe marw . Eto chwi a ddywedwch , Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd . Gwrandewch yr awr hon , tŷ Israel , onid yw gymwys fy ffordd i ? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys ? Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , a marw ynddynt ; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw . A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth , a gwneuthur barn a chyfiawnder , hwnnw a geidw yn fyw ei enaid . Am iddo ystyried , a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth , gan fyw y bydd byw , ni bydd marw . Eto tŷ Israel a ddywedant , Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd . Tŷ Israel , onid cymwys fy ffyrdd i ? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys ? Am hynny barnaf chwi , tŷ Israel , bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun , medd yr Arglwydd Dduw . Dychwelwch , a throwch oddi wrth eich holl gamweddau ; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi . Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt , a gwnewch i chwi galon newydd , ac ysbryd newydd : canys paham , tŷ Israel , y byddwch feirw ? Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw , medd yr Arglwydd Dduw . Dychwelwch gan hynny , a byddwch fyw . Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel , A dywed , Beth yw dy fam ? llewes : gorweddodd ymysg llewod , yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon . A hi a ddug i fyny un o’i chenawon : efe a aeth yn llew ieuanc , ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth ; bwytaodd ddynion . Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano ; daliwyd ef yn eu ffos hwynt , a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft . A phan welodd iddi ddisgwyl , a darfod am ei gobaith , hi a gymerodd un arall o’i chenawon , ac a’i gwnaeth ef yn llew ieuanc . Yntau a dramwyodd ymysg y llewod ; efe a aeth yn llew ieuanc , ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth ; bwytaodd ddynion . Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt , a’u dinasoedd a anrheithiodd efe ; ie , anrheithiwyd y tir a’i gyflawnder gan lais ei ruad ef . Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o’r taleithiau , ac a daenasant eu rhwyd arno ; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt . A hwy a’i rhoddasant ef yng ngharchar mewn cadwyni , ac a’i dygasant at frenin Babilon : dygasant ef i amddiffynfeydd , fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel . Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di , wedi ei phlannu wrth ddyfroedd : ffrwythlon a brigog oedd , oherwydd dyfroedd lawer . Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr , a’i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig ; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau . Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd , bwriwyd hi i’r llawr , a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi : ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant ; tân a’u hysodd . Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch , mewn tir cras a sychedig . A thân a aeth allan o wialen ei changhennau , ysodd ei ffrwyth hi , fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu . Galarnad yw hwn , ac yn alarnad y bydd . Yn y seithfed flwyddyn , o fewn y pumed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â’r Arglwydd , ac a eisteddasant ger fy mron i . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , llefara wrth henuriaid Israel , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , ni fynnaf gennych ymofyn â mi . A ferni di hwynt , mab dyn , a ferni di hwynt ? gwna iddynt wybod ffieidd‐dra eu tadau : A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ar y dydd y dewisais Israel , ac y tyngais wrth had tŷ Jacob , ac y’m gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft , pan dyngais wrthynt , gan ddywedyd , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi ; Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft , i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt , yn llifeirio o laeth a mêl , yr hon yw gogoniant yr holl diroedd : Yna y dywedais wrthynt , Bwriwch ymaith bob un ffieidd‐dra ei lygaid , ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Er hynny gwrthryfelasant i’m herbyn , ac ni fynnent wrando arnaf : ni fwriasant ymaith ffieidd‐dra eu llygaid bob un , ac ni adawsant eilunod yr Aifft . Yna y dywedais , Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd , a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft . Eto gwneuthum er mwyn fy enw , rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg ; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy , wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft . Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft , ac a’u dygais hwynt i’r anialwch . A rhoddais iddynt fy neddfau , a hysbysais iddynt fy marnedigaethau , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwna hwynt . Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau , i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt , a wybod mai myfi yw yr Arglwydd a’u sancteiddiodd hwynt . Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i’m herbyn yn yr anialwch : ni rodiasant yn fy neddfau , ond diystyrasant fy marnedigaethau , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt ; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr . Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch , i’w difetha hwynt . Eto gwneuthum er mwyn fy enw , fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd , y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd . Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch , na ddygwn hwynt i’r wlad a roddaswn iddynt , yn llifeirio o laeth a mêl ; honno yw gogoniant yr holl wledydd : Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau , ac na rodiasant yn fy neddfau , ond halogi fy Sabothau : canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod . Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio , ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch . Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch , Na rodiwch yn neddfau eich tadau , ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt , nac ymhalogwch chwaith â’u heilunod hwynt . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi : rhodiwch yn fy neddfau , a chedwch fy marnedigaethau , a gwnewch hwynt : Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau ; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau , i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Y meibion hwythau a wrthryfelasant i’m herbyn ; yn fy neddfau ni rodiasant , a’m barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt , y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt : halogasant fy Sabothau : yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt , i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch . Eto troais heibio fy llaw , a gwneuthum er mwyn fy enw , fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd . Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch , ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd , a’u taenu hwynt ar hyd y gwledydd ; Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent , ond fy neddfau a ddiystyrasent , fy Sabothau hefyd a halogasent , a’u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau . Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda , a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt : Ac a’u halogais hwynt yn eu hoffrymau , wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth , fel y dinistriwn hwynt ; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd . Am hynny , fab dyn , llefara wrth dŷ Israel , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Eto yn hyn y’m cablodd eich tadau , gan wneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn . Canys dygais hwynt i’r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt , a gwelsant bob bryn uchel , a phob pren brigog ; ac aberthasant yno eu hebyrth , ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd : yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd , ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau . Yna y dywedais wrthynt , Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi ? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi ? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt ? Canys pan offrymoch eich offrymau , gan dynnu eich meibion trwy y tân , yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw : a fynnaf fi gennych ymofyn â mi , tŷ Israel ? Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , nid ymofynnir â mi gennych . Eich bwriad hefyd ni bydd ddim , yr hyn a ddywedwch , Byddwn fel y cenhedloedd , fel teuluoedd y gwledydd , i wasanaethu pren a maen . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , yn ddiau â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac â llidiowgrwydd tywalltedig , y teyrnasaf arnoch . A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd , a chasglaf chwi o’r gwledydd y rhai y’ch gwasgarwyd ynddynt , â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac â llidiowgrwydd tywalltedig . A dygaf chwi i anialwch y bobloedd , ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb . Fel yr ymddadleuais â’ch tadau yn anialwch tir yr Aifft , felly yr ymddadleuaf â chwithau , medd yr Arglwydd Dduw . A gwnaf i chwi fyned dan y wialen , a dygaf chwi i rwym y cyfamod . A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar , a’r rhai a droseddant i’m herbyn : dygaf hwynt o wlad eu hymdaith , ac i wlad Israel ni ddeuant : a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Chwithau , tŷ Israel , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ewch , gwasanaethwch bob un ei eilunod , ac ar ôl hyn hefyd , oni wrandewch arnaf fi : ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau , ac â’ch eilunod . Canys yn fy mynydd sanctaidd , ym mynydd uchelder Israel , medd yr Arglwydd Dduw , yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel , cwbl o’r wlad : yno y byddaf fodlon iddynt ; ac yno y gofynnaf eich offrymau , a blaenffrwyth eich offrymau , gyda’ch holl sanctaidd bethau . Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd , pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd , a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt ; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd . Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan ddygwyf chwi i dir Israel , i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau . Ac yno y cofiwch eich ffyrdd , a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt ; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw , nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi , nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig , O dŷ Israel , medd yr Arglwydd Dduw . Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tua’r deau , ie , difera eiriau tua’r deau , a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau ; A dywed wrth goed y deau , Gwrando air yr Arglwydd : Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cynnau ynot ti dân , ac efe a ysa ynot ti bob pren ir , a phob pren sych : ffagl y fflam ni ddiffydd , a’r holl wynebau o’r deau hyd y gogledd a losgir ynddo . A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a’i cyneuais : nis diffoddir ef . Yna y dywedais , O Arglwydd Dduw , y maent hwy yn dywedyd amdanaf , Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu ? Adaeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tua Jerwsalem , a difera dy eiriau tua’r cysegroedd , a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel , A dywed wrth wlad Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele fi i’th erbyn , tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain , a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn . Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn , am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd , o’r deau hyd y gogledd ; Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o’i wain : ni ddychwel efe mwy . Ochain dithau , fab dyn , gydag ysictod lwynau ; ie , ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt . A bydd , pan ddywedant wrthyt , Am ba beth yr ydwyt yn ochain ? yna ddywedyd ohonot , Am y chwedl newydd , am ei fod yn dyfod , fel y toddo pob calon , ac y llaeso y dwylo oll , ac y pallo pob ysbryd , a’r gliniau oll a ânt fel dwfr ; wele efe yn dyfod , ac a fydd , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dywed , Cleddyf , cleddyf a hogwyd , ac a loywyd . Efe a hogwyd i ladd lladdfa , efe a loywyd fel y byddai ddisglair : a lawenychwn ni ? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab , fel pob pren . Ac efe a’i rhoddes i’w loywi , i’w ddal mewn llaw ; y cleddyf hwn a hogwyd , ac a loywyd , i’w roddi yn llaw y lleiddiad . Gwaedda ac uda , fab dyn ; canys hwn fydd ar fy mhobl , hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel ; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl : am hynny taro law ar forddwyd . Canys profiad yw ; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen ? ni bydd efe mwy , medd yr Arglwydd Dduw . Tithau , fab dyn , proffwyda , a tharo law wrth law , a dybler y cleddyf y drydedd waith : cleddyf y lladdedigion , cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw , yn myned i’w hystafelloedd hwynt . Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt , i doddi eu calon , ac i amlhau eu tramgwyddiadau : O , gwnaed ef yn loyw , hogwyd ef i ladd ! Dos ryw ffordd , naill ai ar y llaw ddeau , ai ar y llaw aswy , lle y tueddo dy wyneb . Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall , ac a lonyddaf fy llid : myfi yr Arglwydd a’i lleferais . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , gosod i ti ddwy ffordd , fel y delo cleddyf brenin Babilon ; o un tir y deuant ill dwy : a dewis le , ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef . Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon , a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog . Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd , ym mhen y ddwyffordd , i ddewinio dewiniaeth : gloywodd ei saethau , ymofynnodd â delwau , edrychodd mewn afu . Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem , am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth , i ddyrchafu llef gyda bloedd , i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth , i fwrw clawdd , i adeiladu amddiffynfa . A hyn fydd ganddynt , fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt , i’r rhai a dyngasant lwon : ond efe a gofia yr anwiredd , i’w dal hwynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am beri ohonoch gofio eich anwiredd , gan amlygu eich camweddau , fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd ; am beri ohonoch eich cofio , y’ch delir â llaw . Tithau , halogedig annuwiol dywysog Israel , yr hwn y daeth ei ddydd , yn amser diwedd anwiredd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Symud y meitr , a thyn ymaith y goron ; nid yr un fydd hon : cyfod yr isel , gostwng yr uchel . Dymchwelaf , dymchwelaf , dymchwelaf hi ; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo ; ac iddo ef y rhoddaf hi . Proffwyda dithau , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon , ac am eu gwaradwydd hwynt ; dywed di , Y cleddyf , y cleddyf a dynnwyd : i ladd y gloywyd ef , i ddifetha oherwydd y disgleirdeb : Wrth weled gwagedd i ti , wrth ddewinio i ti gelwydd , i’th roddi ar yddfau y lladdedigion , y drygionus y rhai y daeth eu dydd , yn amser diwedd eu hanwiredd . A ddychwelaf fi ef i’w wain ? yn y lle y’th grewyd , yn nhir dy gynefin , y’th farnaf . A thywalltaf fy nicllonedd arnat , â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat , a rhoddaf di yn llaw dynion poethion , cywraint i ddinistrio . I’r tân y byddi yn ymborth ; dy waed fydd yng nghanol y tir ; ni’th gofir mwyach : canys myfi yr Arglwydd a’i dywedais . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Tithau , fab dyn , a ferni di , a ferni ddinas y gwaed ? ie , ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra . Dywed dithau , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol , i ddyfod o’i hamser , ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi . Euog wyt yn dy waed , yr hwn a dywelltaist ; a halogedig yn dy eilunod , y rhai a wnaethost ; a thi a neseaist dy ddyddiau , a daethost hyd at dy flynyddoedd : am hynny y’th wneuthum yn warth i’r cenhedloedd , ac yn watwargerdd i’r holl wledydd . Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthyt a’th watwarant , yr halogedig o enw , ac aml dy drallod . Wele , tywysogion Israel oeddynt ynot , bob un yn ei allu i dywallt gwaed . Dirmygasant ynot dad a mam ; gwnaethant yn dwyllodrus â’r dieithr o’th fewn : gorthrymasant ynot yr amddifad a’r weddw . Dirmygaist fy mhethau sanctaidd , a halogaist fy Sabothau . Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed ; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti : gwnânt ysgelerder o’th fewn . Ynot ti y datguddient noethni eu tad : yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot . Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog ; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder ; ie , darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun , merch ei dad . Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed ; cymeraist usuriaeth ac ocraeth , ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll , ac anghofiaist fi , medd yr Arglwydd Dduw . Am hynny wele , trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost , ac am y gwaed oedd o’th fewn . A bery dy galon , a gryfha dy ddwylo , yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi ? myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwnaf . Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd , a thaenaf di ar hyd y gwledydd , a gwnaf i’th aflendid ddarfod allan ohonot . A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd : a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd : pres , ac alcam , a haearn , a phlwm , ydynt oll yng nghanol y pair : amhuredd arian ydynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am eich bod chwi oll yn amhuredd , am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem . Fel casglu arian , a phres , a haearn , a phlwm , ac alcam , i ganol y ffwrn , i chwythu tân arnynt i’w toddi ; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi , ac a’ch gadawaf yno , ac a’ch toddaf . Ie , casglaf chwi , a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd , fel y todder chwi yn ei chanol hi . Fel y toddir arian yng nghanol y pair , felly y toddir chwi yn ei chanol hi ; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrthi hi , fab dyn , Ti yw y tir sydd heb ei buro , heb lawio arno yn nydd dicter . Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn , sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth ; eneidiau a ysasant ; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant ; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn . Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith , ac a halogasant fy mhethau sanctaidd : ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig , ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân ; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau , a halogwyd fi yn eu mysg hwynt . Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth , i dywallt gwaed , i ddifetha eneidiau , er elwa elw . Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus , gan weled gwagedd , a dewinio iddynt gelwydd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , a’r Arglwydd heb ddywedyd . Pobl y tir a arferasant dwyll , ac a dreisiasant drais , ac a orthrymasant y truan a’r tlawd ; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn . Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae , ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad , rhag ei dinistrio ; ac nis cefais . Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt , â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt ; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dwy wraig oedd ferched i’r un fam ; A phuteiniasant yn yr Aifft , yn eu hieuenctid y puteiniasant : yno y pwyswyd ar eu bronnau , ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod . A’u henwau hwynt oedd , Ahola yr hynaf , ac Aholiba ei chwaer : ac yr oeddynt yn eiddof fi , a phlantasant feibion a merched . Dyma eu henwau ; Samaria yw Ahola , a Jerwsalem Aholiba . Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi , ac a ymserchodd yn ei chariadau , ei chymdogion yr Asyriaid ; Y rhai a wisgid â glas , yn ddugiaid ac yn dywysogion , o wŷr ieuainc dymunol i gyd , yn farchogion yn marchogaeth meirch . Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt , â dewis feibion Assur oll , a chyda’r rhai oll yr ymserchodd ynddynt ; â’u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi . Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o’r Aifft : canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid , a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi , ac a dywalltasent eu puteindra arni . Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau , sef yn llaw meibion Assur , y rhai yr ymserchodd hi ynddynt . Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi : hwy a gymerasant ei meibion hi a’i merched , ac a’i lladdasant hithau â’r cleddyf : a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd : canys gwnaethent farn arni . A phan welodd ei chwaer Aholiba , hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi , a’i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer . Ymserchodd ym meibion Assur , y dugiaid a’r tywysogion o gymdogion , wedi eu gwisgo yn wych iawn , yn farchogion yn marchogaeth meirch , yn wŷr ieuainc dymunol i gyd . Yna y gwelais ei halogi hi , a bod un ffordd ganddynt ill dwy , Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra : canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared , delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion , Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau , yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau , mewn golwg yn dywysogion oll , o ddull meibion Babilon yn Caldea , tir eu genedigaeth : Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â’i llygaid , ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea . A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad , ac a’i halogasant hi â’u puteindra ; a hi a ymhalogodd gyda hwynt , a’i meddwl a giliodd oddi wrthynt . Felly y datguddiodd hi ei phuteindra , ac y datguddiodd ei noethni . Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi , fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi . Eto hi a chwanegodd ei phuteindra , gan gofio dyddiau ei hieuenctid , yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft . Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr , y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod , a’u diferlif fel diferlif meirch . Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid , pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid , am fronnau dy ieuenctid . Am hynny , Aholiba , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i’th erbyn , y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt , a dygaf hwynt i’th erbyn o amgylch : Meibion Babilon a’r holl Galdeaid , Pecod , a Soa , a Coa , a holl feibion Assur gyda hwynt ; yn wŷr ieuainc dymunol , yn ddugiaid a thywysogion i gyd , yn benaethiaid ac yn enwog , yn marchogaeth meirch , bawb ohonynt . A deuant i’th erbyn â menni , cerbydau , ac olwynion , ac â chynulleidfa o bobl ; gosodant i’th erbyn oddi amgylch astalch , a tharian , a helm : a rhoddaf o’u blaen hwynt farnedigaeth , a hwy a’th farnant â’u barnedigaethau eu hun . A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn , a hwy a wnânt â thi yn llidiog : dy drwyn a’th glustiau a dynnant ymaith , a’th weddill a syrth gan y cleddyf : hwy a ddaliant dy feibion a’th ferched ; a’th weddill a ysir gan y tân . Diosgant hefyd dy ddillad , a dygant dy ddodrefn hyfryd . Felly y gwnaf i’th ysgelerder , a’th buteindra o dir yr Aifft , beidio â thi ; fel na chodech dy lygaid atynt , ac na chofiech yr Aifft mwy . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist , yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt . A gwnânt â thi yn atgas , ac a gymerant dy holl lafur , ac a’th adawant di yn llom ac yn noeth : a datguddir noethni dy buteindra ; ie , dy ysgelerder a’th buteindra . Mi a wnaf hyn i ti , am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd , am dy halogi gyda’u heilunod hwynt . Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer ; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi : ti a fyddi i’th watwar ac i’th ddirmygu : y mae llawer yn genni ynddo . Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid , o gwpan syndod ac anrhaith , o gwpan dy chwaer Samaria . Canys ti a yfi , ac a sugni ohono ; drylli hefyd ei ddarnau ef , ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun : canys myfi a’i lleferais , medd yr Arglwydd Dduw . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd i ti fy anghofio , a’m bwrw ohonot tu ôl i’th gefn ; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a’th buteindra . Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthyf , A ferni di , fab dyn , Ahola ac Aholiba ? ie , mynega iddynt eu ffieidd‐dra ; Iddynt dorri priodas , a bod gwaed yn eu dwylo ; ie , gyda’u heilunod y puteiniasant ; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi , a dynasant trwy dân iddynt i’w hysu . Gwnaethant hyn ychwaneg i mi ; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw , a’m Sabothau a halogasant . Canys pan laddasant eu meibion i’w heilunod , yna y daethant i’m cysegr yn y dydd hwnnw , i’w halogi ef : ac wele , fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ . A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell , y rhai yr anfonwyd cennad atynt , ac wele daethant : er mwyn y rhai yr ymolchaist , y lliwiaist dy lygaid , ac yr ymherddaist â harddwch . Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus , a bord drefnus o’i flaen , a gosodaist arno fy arogl‐darth a’m holew i . A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi : a chyda’r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o’r anialwch , y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt , a choronau hyfryd am eu pennau hwynt . Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra , A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi , a hithau gyda hwythau ? Eto aethant ati fel myned at buteinwraig ; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba , y gwragedd ysgeler . A’r gwŷr cyfiawn hwythau a’u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid , ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed : canys puteinio y maent , a gwaed sydd yn eu dwylo . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy , a rhoddaf hwynt i’w mudo ac i’w hanrheithio . A’r dyrfa a’u llabyddiant hwy â meini , ac a’u torrant hwy â’u cleddyfau : eu meibion a’u merched a laddant , a’u tai a losgant â thân . Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o’r wlad , fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi . A hwy a roddant eich ysgelerder i’ch erbyn , a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod ; ac a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Drachefn yn y nawfed flwyddyn , yn y degfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn , fab dyn , ie , corff y dydd hwn : ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn . A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gosod y crochan , gosod , a thywallt hefyd ddwfr ynddo . Casgl ei ddrylliau iddo , pob dryll teg , y morddwyd , a’r ysgwyddog ; llanw ef â’r dewis esgyrn . Cymer ddewis o’r praidd , a chynnau yr esgyrn dano , a berw ef yn ferwedig ; ie , berwed ei esgyrn o’i fewn . Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn , Gwae ddinas y gwaed , y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo , ac nid aeth ei ysgum allan ohono : tyn ef allan bob yn ddryll : na syrthied coelbren arno . Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol : ar gopa craig y gosododd hi ef ; nis tywalltodd ar y ddaear , i fwrw arno lwch : I beri i lid godi i wneuthur dial ; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig , rhag ei guddio . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Gwae ddinas y gwaed ! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr . Amlha y coed , cynnau y tân , difa y cig , a gwna goginiaeth , a llosger yr esgyrn . A dod ef ar ei farwor yn wag , fel y twymo , ac y llosgo ei bres , ac y toddo ei aflendid ynddo , ac y darfyddo ei ysgum . Ymflinodd â chelwyddau , ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni : yn tân y bwrir ei hysgum hi . Yn dy aflendid y mae ysgelerder : oherwydd glanhau ohonof di , ac nid wyt lân , o’th aflendid ni’th lanheir mwy , hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat . Myfi yr Arglwydd a’i lleferais : daw , a gwnaf ; nid af yn ôl ac nid arbedaf , ac nid edifarhaf . Yn ôl dy ffyrdd , ac yn ôl dy weithredoedd , y barnant di , medd yr Arglwydd Dduw . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Wele , fab dyn , fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod : eto na alara ac nac wyla , ac na ddeued dy ddagrau . Taw â llefain , na wna farwnad ; rhwym dy gap am dy ben , a dod dy esgidiau am dy draed , ac na chae ar dy enau , na fwyta chwaith fara dynion . Felly y lleferais wrth y bobl y bore ; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr ; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi . A’r bobl a ddywedasant wrthyf , Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni , gan i ti wneuthur felly ? Yna y dywedais wrthynt , Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn halogi fy nghysegr , godidowgrwydd eich nerth , dymuniant eich llygaid , ac anwyldra eich enaid : a’ch meibion a’ch merched , y rhai a adawsoch , a syrthiant gan y cleddyf . Ac fel y gwneuthum i , y gwnewch chwithau ; ni chaewch ar eich geneuau , ac ni fwytewch fara dynion . Byddwch â’ch capiau am eich pennau , a’ch esgidiau am eich traed : ni alerwch , ac nid wylwch ; ond am eich anwiredd y dihoenwch , ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd . Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi : yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe , y gwnewch chwithau : a phan ddelo hyn , chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Tithau fab dyn , onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth , llawenydd eu gogoniant , dymuniant eu llygaid , ac anwyldra eu henaid , eu meibion a’u merched , Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango , atat , i beri i ti ei glywed â’th glustiau ? Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango ; lleferi hefyd , ac ni byddi fud mwy : a byddi iddynt yn arwydd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd , Ha fab dyn , gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon , a phroffwyda yn eu herbyn hwynt ; A dywed wrth feibion Ammon , Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Am ddywedyd ohonot , Ha , ha , yn erbyn fy nghysegr , pan halogwyd ; ac yn erbyn tir Israel , pan anrheithiwyd ; ac yn erbyn tŷ Jwda , pan aethant mewn caethglud : Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain , fel y gosodant eu palasau ynot , ac y gosodant eu pebyll o’th fewn : hwy a ysant dy ffrwyth , a hwy a yfant dy laeth . Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod , a meibion Ammon yn orweddfa defaid : fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo , a churo ohonot â’th draed , a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel ; Am hynny wele , mi a estynnaf fy llaw arnat , ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd , ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd , ac a’th ddifethaf o’r tiroedd : dinistriaf di ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am ddywedyd o Moab a Seir , Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd : Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd , o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau , gogoniant y wlad , Beth‐jesimoth , Baal‐meon , a Ciriathaim , I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon , a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth ; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd . Gwnaf farn hefyd ar Moab ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial , a gwneuthur camwedd mawr , ac ymddial arnynt ; Am hynny , medd yr Arglwydd Dduw , yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom , a thorraf ohoni ddyn ac anifail ; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman ; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf . A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel : a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd , ac yn ôl fy llid ; fel y gwypont fy nialedd , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial , a dialu dial trwy ddirmyg calon , i’w dinistrio am yr hen gas ; Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid , a thorraf ymaith y Cerethiaid , a difethaf weddill porthladd y môr . A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan roddwyf fy nialedd arnynt . Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem , Aha , torrwyd hi , pyrth y bobloedd : trodd ataf fi : fo’m llenwir ; anrheithiedig yw hi : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , O Tyrus , a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn , fel y cyfyd y môr ei donnau . A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus , a’i thyrau a ddinistriant : minnau a grafaf ei llwch ohoni , ac a’i gwnaf yn gopa craig . Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr : canys myfi a lefarodd hyn , medd yr Arglwydd Dduw : a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd . Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dwyn ar Tyrus , o’r gogledd , Nebuchodonosor brenin Babilon , brenin brenhinoedd , â meirch ac â cherbydau , ac â marchogion , a thorfoedd , a phobl lawer . Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf ; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn , ac a fwrw glawdd i’th erbyn , ac a gyfyd darian i’th erbyn . Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd , a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill . Gan amlder ei feirch ef , eu llwch a’th doa : dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion , a’r olwynion , a’r cerbydau , pan ddelo trwy dy byrth di , fel dyfod i ddinas adwyog . A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll : dy bobl a ladd efe â’r cleddyf , a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr . A hwy a anrheithiant dy gyfoeth , ac a ysbeiliant dy farchnadaeth ; ac a ddinistriant dy geyrydd , a’th dai dymunol a dynnant i lawr : a’th gerrig , a’th goed , a’th bridd , a osodant yng nghanol y dyfroedd . A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio ; ac ni chlywir mwy lais dy delynau . A gwnaf di yn gopa craig : taenfa rhwydau fyddi : ni’th adeiledir mwy : canys myfi yr Arglwydd a’i lleferais , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus : Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp , pan waeddo yr archolledig , pan ladder lladdfa yn dy ganol ? Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau , ac a fwriant ymaith eu mantelloedd , ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw : dychryn a wisgant , ar y ddaear yr eisteddant , ac a ddychrynant ar bob moment , ac a synnant wrthyt . Codant hefyd alarnad amdanat , a dywedant wrthyt , Pa fodd y’th ddifethwyd , yr hon a breswylir gan forwyr , y ddinas ganmoladwy , yr hon oedd gref ar y môr , hi a’i thrigolion , y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi ? Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp ; ie , yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig , fel y dinasoedd nis cyfanheddir ; gan ddwyn arnat y dyfnder , fel y’th guddio dyfroedd lawer ; A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll , at y bobl gynt , a’th osod yn iselderau y ddaear , yn yr hen anrhaith , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll , fel na’th breswylier ; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw ; Gwnaf di yn ddychryn , ac ni byddi : er dy geisio , ni’th geir mwy , medd yr Arglwydd Dduw . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Tithau fab dyn , cyfod alarnad am Tyrus ; A dywed wrth Tyrus , O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr , marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Tyrus , ti a ddywedaist , Myfi wyf berffaith o degwch . Dy derfynau sydd yng nghanol y môr ; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch . Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir : cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti . Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan ; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim . Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti ; glas a phorffor o ynysoedd Elisa , oedd dy do . Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr : dy ddoethion di , Tyrus , o’th fewn , oedd dy long‐lywiawdwyr . Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau : holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad . Y Persiaid , a’r Ludiaid , a’r Phutiaid , oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd : tarian a helm a grogasant ynot ; hwy a roddasant i ti harddwch . Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch , a’r Gammadiaid yn dy dyrau : crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch ; hwy a berffeithiasant dy degwch . Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud ; ag arian , haearn , alcam , a phlwm , y marchnatasant yn dy ffeiriau . Jafan , Tubal , a Mesech , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres . Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch , a marchogion , a mulod . Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr ; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law : dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti . Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di : am garbuncl , porffor , a gwaith edau a nodwydd , a lliain meinllin , a chwrel , a gemau , y marchnatasant yn dy ffeiriau . Jwda a thir Israel , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith , a Phannag , a mêl , ac olew , a thriagl . Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud ; am win Helbon , a gwlân gwyn . Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd : haearn wedi ei weithio , casia , a’r calamus , oedd yn dy farchnad . Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau . Arabia , a holl dywysogion Cedar , oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn , hyrddod , a bychod : yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion . Marchnadyddion Seba a Rama , hwythau oedd dy farchnadyddion : marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau , ac am bob maen gwerthfawr , ac aur . Haran , a Channe , ac Eden , marchnadyddion Seba , Assur , a Chilmad , oedd yn marchnata â thi . Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith , am frethynnau gleision , a gwaith edau a nodwydd , ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr , wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd , ymysg dy farchnadaeth . Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad ; a thi a lanwyd , ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd . Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer : gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng nghanol y moroedd . Dy olud , a’th ffeiriau , dy farchnadaeth , dy forwyr , a’th feistriaid llongau , cyweirwyr dy agennau , a marchnadwyr dy farchnad , a’th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot , a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol , a syrthiant yng nghanol y môr , ar ddydd dy gwymp di . Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau , y tonnau a gyffroant . Yna pob rhwyfwr , y morwyr , holl lywyddion y moroedd , a ddisgynnant o’u llongau , ar y tir y safant ; A gwnânt glywed eu llef amdanat , a gwaeddant yn chwerw , a chodant lwch ar eu pennau , ac ymdrybaeddant yn y lludw . A hwy a’u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat , ac a ymwregysant â sachliain , ac a wylant amdanat â chwerw alar , mewn chwerwedd calon . A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan , a galarant amdanat , gan ddywedyd , Pwy oedd fel Tyrus , fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr ! Pan ddelai dy farchnadaeth o’r moroedd , diwellit bobloedd lawer ; ag amlder dy olud a’th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear . Y pryd y’th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd , dy farchnad a’th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol . Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat , a’u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn ; hwy a drallodir yn eu hwynebau . Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat : dychryn fyddi , ac ni byddi byth mwyach . Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn , gan ddywedyd , Ha fab dyn , dywed wrth dywysog Tyrus , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am falchïo dy galon , a dywedyd ohonot , Duw ydwyf fi , eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd ; a thi yn ddyn , ac nid yn Dduw , er gosod ohonot dy galon fel calon Duw : Wele di yn ddoethach na Daniel ; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt : Trwy dy ddoethineb a’th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti , ie , y cefaist aur ac arian i’th drysorau : Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth , a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw , Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid , y trawsaf o’r cenhedloedd ; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb , a halogant dy loywder . Disgynnant di i’r ffos , a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr . Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad , Duw ydwyf fi ? a thi a fyddi yn ddyn , ac nid yn Dduw , yn llaw dy leiddiad . Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig , trwy law dieithriaid : canys myfi a’i dywedais , medd yr Arglwydd Dduw . Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn , gan ddywedyd , Cyfod , fab dyn , alarnad am frenin Tyrus , a dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ti seliwr nifer , llawn o ddoethineb , a chyflawn o degwch , Ti a fuost yn Eden , gardd Duw : pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai , sardius , topas , ac adamant , beryl , onics , a iasbis , saffir , rubi , a smaragdus , ac aur : gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd . Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio ; ac felly y’th roddaswn ; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw : ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd . Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd , hyd oni chaed ynot anwiredd . Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais , a thi a bechaist : am hynny y’th halogaf allan o fynydd Duw , ac y’th ddifethaf di , geriwb yn gorchuddio , o ganol y cerrig tanllyd . Balchïodd dy galon yn dy degwch , llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder : bwriaf di i’r llawr ; o flaen brenhinoedd y’th osodaf , fel yr edrychont arnat . Trwy amlder dy anwiredd , ag anwiredd dy farchnadaeth , yr halogaist dy gysegroedd : am hynny y dygaf dân allan o’th ganol , hwnnw a’th ysa ; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant . Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd , a synnant o’th achos : dychryn fyddi , ac ni byddi byth . Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Gosod , fab dyn , dy wyneb yn erbyn Sidon , a phroffwyda yn ei herbyn hi , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , Sidon ; fel y’m gogonedder yn dy ganol , ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf ynddi farnedigaethau , ac y’m sancteiddier ynddi . Canys anfonaf iddi haint , a gwaed i’w heolydd ; a bernir yr archolledig o’i mewn â’r cleddyf , yr hwn fydd arni oddi amgylch ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Ac ni bydd mwy i dŷ Israel , o’r holl rai o’u hamgylch a’r a’u dirmygasant , ysbyddaden bigog , na draenen ofidus ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith , ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd ; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i’m gwas Jacob . Ie , trigant ynddi yn ddiogel , ac adeiladant dai , a phlannant winllannoedd ; a phreswyliant mewn diogelwch , pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll a’u dirmygant hwy o’u hamgylch ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw . Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn , ar y deuddegfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod , fab dyn , dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft , a phroffwyda yn ei erbyn ef , ac yn erbyn yr Aifft oll . Llefara , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn , Pharo brenin yr Aifft , y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd , yr hwn a ddywedodd , Eiddof fi yw fy afon , a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun . Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau , a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau , a chodaf di o ganol dy afonydd ; ie , holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau . A mi a’th adawaf yn yr anialwch , ti a holl bysgod dy afonydd : syrthi ar wyneb y maes , ni’th gesglir , ac ni’th gynullir ; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth . A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel . Pan ymaflasant ynot erbyn dy law , ti a dorraist , ac a rwygaist eu holl ysgwydd : a phan bwysasant arnat , ti a dorraist , ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf , a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail . A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith ; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd : am iddo ddywedyd , Eiddof fi yw yr afon , a myfi a’i gwneuthum . Am hynny wele fi yn dy erbyn di , ac yn erbyn dy afonydd , a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig , ac yn anghyfannedd , o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia . Ni chyniwair troed dyn trwyddi , ac ni chyniwair troed anifail trwyddi , ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd . A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol , a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig ; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd . Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt . A dychwelaf gaethiwed yr Aifft , ie , dychwelaf hwynt i dir Pathros , i dir eu preswylfa ; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel . Isaf fydd o’r breniniaethau , ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd ; canys lleihaf hwynt , rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd . Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder , yn dwyn ar gof eu hanwiredd , pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau : eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw . Ac yn y mis cyntaf o’r seithfed flwyddyn ar hugain , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i’w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus : pob pen a foelwyd , a phob ysgwydd a ddinoethwyd ; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo , ac i’w lu , am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon , ac efe a gymer ei lliaws hi , ac a ysbeilia ei hysbail hi , ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi , fel y byddo hi yn gyflog i’w lu ef . Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi , y rhoddais iddo dir yr Aifft ; oherwydd i mi y gweithiasant , medd yr Arglwydd Dduw . Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro , a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt : a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Udwch , Och o’r diwrnod ! Canys agos dydd , ie , agos dydd yr Arglwydd , dydd cymylog ; amser y cenhedloedd fydd efe . A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft , a bydd gofid blin yn Ethiopia , pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft , a chymryd ohonynt ei lliaws hi , a dinistrio ei seiliau . Ethiopia , a Libya , a Lydia , a’u gwerin oll , Chub hefyd , a meibion y tir sydd yn y cyfamod , a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd , a balchder ei nerth hi a ddisgyn : syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene , medd yr Arglwydd Dduw . A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol , a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan roddwyf dân yn yr Aifft , ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi . Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau , i ddychrynu Ethiopia ddiofal , a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft : canys wele ef yn dyfod . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon . Efe a’i bobl gydag ef , y rhai trawsion o’r cenhedloedd , a ddygir i ddifetha y tir : a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft , ac a lanwant y wlad â chelanedd . Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder , a gwerthaf y wlad i law y drygionus ; ie , anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid : myfi yr Arglwydd a’i dywedodd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Difethaf hefyd y delwau , a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff ; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft : ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft . Pathros hefyd a anrheithiaf , a rhoddaf dân yn Soan , a gwnaf farnedigaethau yn No . A thywalltaf fy llid ar Sin , cryfder yr Aifft ; ac a dorraf ymaith liaws No . A mi a roddaf dân yn yr Aifft ; gan ofidio y gofidia Sin , a No a rwygir , a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd . Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf ; ac i gaethiwed yr ânt hwy . Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod , pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft : a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi : cwmwl a’i cuddia hi , a’i merched a ânt i gaethiwed . Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg , ar y seithfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , torrais fraich Pharo brenin yr Aifft ; ac wele , nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho , i osod rhwymyn i rwymo , i’w gryfhau i ddal y cleddyf . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft , a mi a dorraf ei freichiau ef , y cryf , a’r hwn oedd ddrylliedig ; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef . A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd . A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon , ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef : ond mi a dorraf freichiau Pharo , ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig . Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon , a breichiau Pharo a syrthiant ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd , wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon , ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft . A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd , ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd Ac yn y trydydd mis o’r unfed flwyddyn ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Dywed , fab dyn , wrth Pharo brenin yr Aifft , ac wrth ei liaws , I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd ? Wele , Assur oedd gedrwydden yn Libanus , yn deg ei cheinciau , a’i brig yn cysgodi , ac yn uchel ei huchder , a’i brigyn oedd rhwng y tewfrig . Dyfroedd a’i maethasai hi , y dyfnder a’i dyrchafasai , â’i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa ; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes . Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes , a’i cheinciau a amlhasant , a’i changhennau a ymestynasant , oherwydd dyfroedd lawer , pan fwriodd hi allan . Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi , a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi ; ie , yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi . Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd , yn hyd ei brig ; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer . Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi : y ffynidwydd nid oeddynt debyg i’w cheinciau hi , a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi ; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch . Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau : a holl goed Eden , y rhai oedd yng ngardd Duw , a genfigenasant wrthi hi . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder , a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig , ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder ; Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd : gan wneuthur y gwna efe iddi ; am ei drygioni y bwriais hi allan . A dieithriaid , rhai ofnadwy y cenhedloedd , a’i torasant hi ymaith , ac a’i gadawsant hi : ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi , a’i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear ; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o’i chysgod hi , ac a’i gadawsant hi . Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi , a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi ; Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder , ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig , ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder : canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yn y dydd y disgynnodd hi i’r bedd , gwneuthum alaru : toais y dyfnder amdani hi , ac ateliais ei hafonydd , fel yr ataliwyd dyfroedd lawer ; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi , ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi . Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd , pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll ; a holl goed Eden , y dewis a’r gorau yn Libanus , y dyfradwy oll , a ymgysurant yn y tir isaf . Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf , a’r rhai oedd fraich iddi hi , y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd . I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd ? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i’r tir isaf ; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig , gyda lladdedigion y cleddyf . Dyma Pharo a’i holl liaws , medd yr Arglwydd Dduw . Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft , a dywed wrtho , Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd , ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd : a daethost allan gyda’th afonydd ; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed , a methraist eu hafonydd hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer ; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i . Gadawaf di hefyd ar y tir , taflaf di ar wyneb y maes , a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti ; ie , ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear . Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd , a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di . Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo , hyd y mynyddoedd ; a llenwir yr afonydd ohonot . Ie , cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi , a thywyllaf eu sêr hwynt : yr haul a guddiaf â chwmwl , a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo . Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd , a rhoddaf dywyllwch ar dy dir , medd yr Arglwydd Dduw . A digiaf galon pobloedd lawer , pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost . A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt , a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid , pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt ; a hwy ar bob munud a ddychrynant , bob un am ei einioes , yn nydd dy gwymp . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti . A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws , byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd ; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft , a’i holl liaws hi a ddinistrir . Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer ; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy , ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt . Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt , a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew , medd yr Arglwydd Dduw . Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith , ac anrheithio y wlad o’i llawnder , pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi , yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd . Dyma y galar a alarant amdani hi : merched y cenhedloedd a alarant amdani hi ; galarant amdani hi , sef am yr Aifft , ac am ei lliaws oll , medd yr Arglwydd Dduw . Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn , ar y pymthegfed dydd o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cwyna , fab dyn , am liaws yr Aifft , a disgyn hi , hi a merched y cenhedloedd enwog , i’r tir isaf , gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Tecach na phwy oeddit ? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig . Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf : i’r cleddyf y rhoddwyd hi ; llusgwch hi a’i lliaws oll . Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr : disgynasant , gorweddant yn ddienwaededig , wedi eu lladd â’r cleddyf . Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa , a’i feddau o amgylch ; wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf . Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll , a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd ; wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf , y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw . Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd , wedi eu lladd oll , a syrthio trwy y cleddyf , y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf , y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw ; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws ; a’i beddau o’i amgylch : y rhai hynny oll yn ddienwaededig , a laddwyd â’r cleddyf : er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw , eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll : yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef . Yno y mae Mesech , Tubal , a’i holl liaws ; a’i beddau o amgylch : y rhai hynny oll yn ddienwaededig , wedi eu lladd â’r cleddyf , er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw . Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig , y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel : a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau ; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy , er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw . A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig , ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf . Yno y mae Edom , a’i brenhinoedd , a’i holl dywysogion , y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf : hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig , a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Yno y mae holl dywysogion y gogledd , a’r holl Sidoniaid , y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion ; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid ; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf , ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll . Pharo a’u gwêl hwynt , ac a ymgysura yn ei holl liaws , Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf , medd yr Arglwydd Dduw . Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw ; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig , gyda lladdedigion y cleddyf , sef i Pharo ac i’w holl liaws , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Llefara , fab dyn , wrth feibion dy bobl , a dywed wrthynt , Pan ddygwyf gleddyf ar wlad , a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau , a’i roddi yn wyliedydd iddynt : Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad , ac utganu mewn utgorn , a rhybuddio y bobl ; Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn , ac ni chymer rybudd ; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith , ei waed fydd ar ei ben ei hun . Efe a glybu lais yr utgorn , ac ni chymerodd rybudd ; ei waed fydd arno : ond yr hwn a gymero rybudd , a wared ei enaid . Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod , ac ni utgana mewn utgorn , a’r bobl heb eu rhybuddio ; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt , efe a ddaliwyd yn ei anwiredd , ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd . Felly dithau , fab dyn , yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel ; fel y clywech air o’m genau , ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi . Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol , Ti annuwiol , gan farw a fyddi farw ; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd , yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd , ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef . Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd , i ddychwelyd ohoni ; os efe ni ddychwel o’i ffordd , efe fydd farw yn ei anwiredd , a thithau a waredaist dy enaid . Llefara hefyd wrth dŷ Israel , ti fab dyn , Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch ; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom , a ninnau yn dihoeni ynddynt , pa fodd y byddem ni byw ? Dywed wrthynt , Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol ; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd , a byw : dychwelwch , dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus ; canys , tŷ Israel , paham y byddwch feirw ? Dywed hefyd , fab dyn , wrth feibion dy bobl , Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd : felly am annuwioldeb yr annuwiol , ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd ; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder , yn y dydd y pecho . Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn , Gan fyw y caiff fyw ; os efe a hydera ar ei gyfiawnder , ac a wna anwiredd , ei holl gyfiawnderau ni chofir ; ond am ei anwiredd a wnaeth , amdano y bydd efe marw . A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol , Gan farw y byddi farw ; os dychwel efe oddi wrth ei bechod , a gwneuthur barn a chyfiawnder ; Os yr annuwiol a ddadrydd wystl , ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd , a rhodio yn neddfau y bywyd , heb wneuthur anwiredd ; gan fyw y bydd efe byw , ni bydd marw : Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd : barn a chyfiawnder a wnaeth ; efe gan fyw a fydd byw . A meibion dy bobl a ddywedant , Nid yw union ffordd yr Arglwydd : eithr eu ffordd hwynt nid yw union . Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder , a gwneuthur anwiredd , efe a fydd marw ynddynt . A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb , a gwneuthur barn a chyfiawnder , yn y rhai hynny y bydd efe byw . Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd . Barnaf chwi , tŷ Israel , bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun . Ac yn y degfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn o’n caethgludiad ni , ar y pumed dydd o’r mis , y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi , gan ddywedyd , Trawyd y ddinas . A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr , cyn dyfod y dihangydd , ac a agorasai fy safn , nes ei ddyfod ataf y bore ; ie , ymagorodd fy safn , ac ni bûm fud mwyach . Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru , gan ddywedyd , Abraham oedd un , ac a feddiannodd y tir ; ninnau ydym lawer , i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yr ydych yn bwyta ynghyd â’r gwaed , ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau , ac yn tywallt gwaed ; ac a feddiennwch chwi y tir ? Sefyll yr ydych ar eich cleddyf , gwnaethoch ffieidd‐dra , halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog ; ac a feddiennwch chwi y tir ? Fel hyn y dywedi wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Fel mai byw fi , trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch ; a’r hwn sydd ar wyneb y maes , i’r bwystfil y rhoddaf ef i’w fwyta ; a’r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd , a fyddant feirw o’r haint . Canys gwnaf y tir yn anrhaith , ie , yn anrhaith ; a balchder ei nerth ef a baid , ac anrheithir mynyddoedd Israel , heb gyniweirydd ynddynt . A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan wnelwyf y tir yn anrhaith , ie , yn anrhaith , am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant . Tithau fab dyn , meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd , ac o fewn drysau y tai , ac yn dywedyd y naill wrth y llall , pob un wrth ei gilydd , gan ddywedyd , Deuwch , atolwg , a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd . Deuant hefyd atat fel y daw y bobl , ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl , gwrandawant hefyd dy eiriau , ond nis gwnânt hwy : canys â’u geneuau y dangosant gariad , a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod . Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais , ac yn canu yn dda : canys gwrandawant dy eiriau , ond nis gwnânt hwynt . A phan ddelo hyn , ( wele ef yn dyfod , ) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Proffwyda , fab dyn , yn erbyn bugeiliaid Israel ; proffwyda , a dywed wrthynt , wrth y bugeiliaid , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain : oni phortha y bugeiliaid y praidd ? Y braster a fwytewch , a’r gwlân a wisgwch , y bras a leddwch ; ond ni phorthwch y praidd . Ni chryfhasoch y rhai llesg , ac ni feddyginiaethasoch y glaf , ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith , a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref , a’r golledig ni cheisiasoch ; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb . A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail : a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes , pan wasgarwyd hwynt . Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd , ac ar bob bryn uchel : ie , gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear , ac nid oedd a’u ceisiai , nac a ymofynnai amdanynt . Am hynny , fugeiliaid , gwrandewch air yr Arglwydd . Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , am fod fy mhraidd yn ysbail , a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes , o eisiau bugail , ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd , eithr y bugeiliaid a’u porthasant eu hun , ac ni phorthasant fy mhraidd : Am hynny , O fugeiliaid , gwrandewch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid : a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt , a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd ; a’r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy : canys gwaredaf fy mhraidd o’u safn hwy , fel na byddont yn ymborth iddynt . Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele myfi , ie , myfi a ymofynnaf am fy mhraidd , ac a’u ceisiaf hwynt . Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig , felly y ceisiaf finnau fy nefaid , ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll . A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd , a chasglaf hwynt o’r tiroedd , a dygaf hwynt i’w tir eu hun , a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd , ac yn holl drigfannau y wlad . Mewn porfa dda y porthaf hwynt , ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt : yno y gorweddant mewn corlan dda , ie , mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel . Myfi a borthaf fy mhraidd , a myfi a’u gorweddfâf hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Y golledig a geisiaf , a’r darfedig a ddychwelaf , a’r friwedig a rwymaf , a’r lesg a gryfhaf : eithr dinistriaf y fras a’r gref ; â barn y porthaf hwynt . Chwithau , fy mhraidd , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn , rhwng yr hyrddod a’r bychod . Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda , oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfeydd ? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion , oni bydd i chwi sathru y rhan arall â’ch traed ? A’m praidd i , y maent yn pori sathrfa eich traed chwi ; a mathrfa eich traed a yfant . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy ; Wele myfi , ie , myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul . Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd , a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll , hyd oni wasgarasoch hwynt allan : Am hynny y gwaredaf fy mhraidd , fel na byddont mwy yn ysbail ; a barnaf rhwng milyn a milyn . Cyfodaf hefyd un bugail arnynt , ac efe a’u portha hwynt , sef fy ngwas Dafydd ; efe a’u portha hwynt , ac efe a fydd yn fugail iddynt . A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt , a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg : myfi yr Arglwydd a leferais hyn . Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch , a gwnaf i’r bwystfil drwg beidio o’r tir : a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch , ac a gysgant yn y coedydd . Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith : a gwnaf i’r glaw ddisgyn yn ei amser ; cawodydd bendith a fydd . A rhydd pren y maes ei ffrwyth , a’r tir a rydd ei gynnyrch , a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch , ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt , a’u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt . Ac ni byddant mwyach yn ysbail i’r cenhedloedd , a bwystfil y tir nis bwyty hwynt ; eithr trigant mewn diogelwch , ac ni bydd a’u dychryno . Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog , ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir , ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd . Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt , ac mai hwythau , tŷ Israel , yw fy mhobl i , medd yr Arglwydd Dduw . Chwithau , fy mhraidd , defaid fy mhorfa , dynion ydych chwi , myfi yw eich Duw chwi , medd yr Arglwydd Dduw . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , tuag at fynydd Seir , a phroffwyda yn ei erbyn , A dywed wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi i’th erbyn di , mynydd Seir ; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn , a gwnaf di yn anghyfannedd , ac yn ddiffeithwch . Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch , a thithau a fyddi yn anghyfannedd ; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd . Am fod gennyt alanastra tragwyddol , a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf , yn amser eu gofid , yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt : Am hynny fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , mi a’th wnaf di yn waed , a gwaed a’th ymlid di : gan na chasei waed , gwaed a’th ddilyn . Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch ; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan , a’r hwn a ddychwelo . Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion : yn dy fryniau , a’th ddyffrynnoedd , a’th holl afonydd , y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf . Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol , a’th ddinasoedd ni ddychwelant ; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Am ddywedyd ohonot , Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi , a nyni a’i meddiannwn ; er bod yr Arglwydd yno : Am hynny fel mai byw fi , medd yr Arglwydd Dduw , gwnaf yn ôl dy ddig , ac yn ôl dy genfigen , y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost ; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt , pan y’th farnwyf di . A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd , ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel , gan ddywedyd , Anrheithiwyd hwynt , i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa . Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i , ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn : mi a’u clywais . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Pan lawenycho yr holl wlad , mi a’th wnaf di yn anghyfannedd . Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel , oherwydd ei anrheithio , felly y gwnaf i tithau : anrhaith fyddi di , mynydd Seir , ac Edom oll i gyd ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Tithau fab dyn , proffwyda wrth fynyddoedd Israel , a dywed , Gwrandewch , fynyddoedd Israel , air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw , Oherwydd dywedyd o’r gelyn hyn amdanoch chwi , Aha , aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni : Am hynny proffwyda , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; oherwydd iddynt eich anrheithio , a’ch llyncu o amgylch , i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd , a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau , ac yn ogan pobloedd : Am hynny , mynyddoedd Israel , gwrandewch air yr Arglwydd Dduw ; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd , wrth y diffeithwch anghyfanheddol , ac wrth y dinasoedd gwrthodedig , y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i’r rhan arall o’r cenhedloedd o’u hamgylch : Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o’r cenhedloedd , ac yn erbyn holl Edom , y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun , â llawenydd eu holl galon , trwy feddwl dirmygus , i’w yrru allan yn ysbail . Am hynny proffwyda am dir Israel , a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau , wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele , yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais , oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Myfi a dyngais , Diau y dwg y cenhedloedd sydd o’ch amgylch chwi eu gwaradwydd . A chwithau , mynyddoedd Israel , a fwriwch allan eich ceinciau , ac a ddygwch eich ffrwyth i’m pobl Israel ; canys agos ydynt ar ddyfod . Canys wele fi atoch , ie , troaf atoch , fel y’ch coledder ac y’ch heuer . Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd , holl dŷ Israel i gyd , fel y cyfanhedder y dinasoedd , ac yr adeilader y diffeithwch . Ie , amlhaf ynoch ddyn ac anifail ; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant ; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt ; ie , gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad , tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Ie , gwnaf i ddynion rodio arnoch , sef fy mhobl Israel ; a hwy a’th etifeddant di , a byddi yn etifeddiaeth iddynt , ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych , Yr wyt ti yn difa dynion , ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid : Am hynny ni fwytei ddynion mwy , ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid , medd yr Arglwydd Dduw . Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy , ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach , ac ni wnei mwy i’th genhedloedd syrthio , medd yr Arglwydd Dduw . Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Ha fab dyn , pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun , hwy a’i halogasant ef â’u ffordd ac â’u gweithredoedd eu hun : eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus . Yna y tywelltais fy llid arnynt , am y gwaed a dywalltasent ar y tir , ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef ; Ac a’u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd , a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd ; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt . A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt , hwy a halogasant fy enw sanctaidd , pan ddywedid wrthynt , Dyma bobl yr Arglwydd , ac o’i wlad ef yr aethant allan . Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd , yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt . Am hynny dywed wrth dŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Nid er eich mwyn chwi , tŷ Israel , yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn , ond er mwyn fy enw sanctaidd , yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch . A mi a sancteiddiaf fy enw mawr , yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd , yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt ; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd , medd yr Arglwydd Dduw , pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid . Canys mi a’ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd , ac a’ch casglaf chwi o’r holl wledydd , ac a’ch dygaf i’ch tir eich hun . Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân , fel y byddoch lân : oddi wrth eich holl frynti , ac oddi wrth eich holl eilunod , y glanhaf chwi . A rhoddaf i chwi galon newydd , ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi ; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi , ac mi a roddaf i chwi galon gig . Rhoddaf hefyd fy ysbryd o’ch mewn , a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau , a chadw fy marnedigaethau , a’u gwneuthur . Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i’ch tadau ; a byddwch yn bobl i mi , a minnau a fyddaf Dduw i chwithau . Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid : a galwaf am yr ŷd , ac a’i hamlhaf ; ac ni roddaf arnoch newyn . Amlhaf hefyd ffrwyth y coed , a chynnyrch y maes , fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd . Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus , a’ch gweithredoedd nid oeddynt dda , a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra . Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn , medd yr Arglwydd Dduw ; bydded hysbys i chwi : tŷ Israel , gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yn y dydd y glanhawyf chwi o’ch holl anwireddau , y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd , ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd . A’r tir anrheithiedig a goleddir , lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd . A hwy a ddywedant , Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden , a’r dinasoedd anghyfannedd , ac anrheithiedig , a dinistriol , a aethant yn gaerog , ac a gyfanheddir . Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o’ch amgylch , a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol , ac yn plannu eich mannau anrheithiedig : myfi yr Arglwydd a’i lleferais , ac a’i gwnaf . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel , i wneuthur hyn iddynt ; amlhaf hwynt â dynion fel praidd . Fel y praidd sanctaidd , fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau , felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Bu llaw yr Arglwydd arnaf , ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd , ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn , a hwnnw oedd yn llawn esgyrn . Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch : ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn ; wele hefyd , sychion iawn oeddynt . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , a fydd byw yr esgyrn hyn ? A mi a ddywedais , O Arglwydd Dduw , ti a’i gwyddost . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Proffwyda am yr esgyrn hyn , a dywed wrthynt , O esgyrn sychion , clywch air yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn ; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn , fel y byddoch byw . Giau hefyd a roddaf arnoch , a pharaf i gig gyfodi arnoch , gwisgaf chwi hefyd â chroen , a rhoddaf anadl ynoch : fel y byddoch byw , ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd . Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid ; ac fel yr oeddwn yn proffwydo , bu sŵn , ac wele gynnwrf , a’r esgyrn a ddaethant ynghyd , asgwrn at ei asgwrn . A phan edrychais , wele , cyfodasai giau a chig arnynt , a gwisgasai croen amdanynt ; ond nid oedd anadl ynddynt . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Proffwyda tua’r gwynt , proffwyda , fab dyn , a dywed wrth y gwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; O anadl , tyred oddi wrth y pedwar gwynt , ac anadla ar y lladdedigion hyn , fel y byddont byw . Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid ; a’r anadl a ddaeth ynddynt , a buant fyw , a safasant ar eu traed , yn llu mawr iawn . Yna y dywedodd wrthyf , Ha fab dyn , yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll : wele , dywedant , Ein hesgyrn a wywasant , a’n gobaith a gollodd ; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni . Am hynny proffwyda , a dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn agori eich beddau , fy mhobl , codaf chwi hefyd o’ch beddau , a dygaf chwi i dir Israel . A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd , pan agorwyf eich beddau , a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau , fy mhobl ; Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch , ac y byddoch byw , ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun : yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais , ac a wneuthum hyn , medd yr Arglwydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Tithau fab dyn , cymer i ti un pren , ac ysgrifenna arno , I Jwda , ac i feibion Israel ei gyfeillion . A chymer i ti bren arall , ac ysgrifenna arno , I Joseff , pren Effraim , ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion : A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti ; fel y byddont yn un yn dy law di . A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt , gan ddywedyd , Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt ? Dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cymryd pren Joseff , yr hwn sydd yn llaw Effraim , a llwythau Israel ei gyfeillion , a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef , sef gyda phren Jwda , ac a’u gwnaf hwynt yn un pren , fel y byddont yn fy llaw yn un . A bydded yn dy law , o flaen eu llygaid hwynt , y prennau yr ysgrifennych arnynt ; A dywed wrthynt , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt , ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch , ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun ; A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel , ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll : ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl , ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth : Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod , na thrwy eu ffieidd‐dra , nac yn eu holl anwireddau : eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon , y rhai y pechasant ynddynt , a mi a’u glanhaf hwynt ; fel y byddont yn bobl i mi , a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau . A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt ; ie , un bugail fydd iddynt oll : yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant , a’m deddfau a gadwant ac a wnânt . Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob , yr hwn y trigodd eich tadau ynddo ; a hwy a drigant ynddo , hwy a’u meibion , a meibion eu meibion byth ; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd . Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd ; amod tragwyddol a fydd â hwynt : a gosodaf hwynt , ac a’u hamlhaf , a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd . A’m tabernacl fydd gyda hwynt ; ie , myfi a fyddaf iddynt yn Dduw , a hwythau a fyddant i mi yn bobl . A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel ; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd . A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Gosod dy wyneb , fab dyn , yn erbyn Gog , tir Magog , pen‐tywysog Mesech a Thubal , a phroffwyda yn ei erbyn , A dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dy erbyn di , Gog , pen‐tywysog Mesech a Thubal . Dychwelaf di hefyd , a rhoddaf fachau yn dy fochgernau , a mi a’th ddygaf allan , a’th holl lu , y meirch a’r marchogion , wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau , yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch , hwynt oll yn dwyn cleddyfau : Persia , Ethiopia , a Libya , gyda hwynt ; hwynt oll yn dwyn tarian a helm : Gomer a’i holl fyddinoedd ; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd , a’i holl fyddinoedd ; a phobl lawer gyda thi . Ymbaratoa , ie , paratoa i ti dy hun , ti a’th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat , a bydd yn gadwraeth iddynt . Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi ; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf , wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel , y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser : eithr efe a ddygwyd allan o’r bobloedd , a hwynt oll a drigant mewn diogelwch . Dringi hefyd fel tymestl ; deui , a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear , ti a’th holl fyddinoedd , a phobloedd lawer gyda thi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl , a thi a feddyli feddwl drwg . A thi a ddywedi , Mi a af i fyny i wlad maestrefydd ; af at y rhai llonydd , y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel , gan drigo oll heb gaerau , ac heb drosolion na dorau iddynt , I ysbeilio ysbail , i ysglyfaethu ysglyfaeth , i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd , y rhai a gyfanheddir yr awr hon , ac ar y bobl a gasglwyd o’r cenhedloedd , y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud , ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad . Seba , a Dedan , a marchnadyddion Tarsis hefyd , â’u holl lewod ieuainc , a ddywedant wrthyt , Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti ? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa ? ai i ddwyn ymaith arian ac aur , i gymryd anifeiliaid a golud , i ysbeilio ysbail fawr ? Am hynny proffwyda , fab dyn , a dywed wrth Gog , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Y dydd hwnnw , pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal , oni chei di wybod ? A thi a ddeui o’th fangre dy hun o ystlysau y gogledd , ti , a phobl lawer gyda thi , hwynt oll yn marchogaeth ar feirch , yn dyrfa fawr , ac yn llu lluosog . A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel , fel cwmwl i guddio y ddaear : yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn ; a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhir , fel yr adwaeno y cenhedloedd fi , pan ymsancteiddiwyf ynot ti , Gog , o flaen eu llygaid hwynt . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt , trwy law fy ngweision , proffwydi Israel , y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer , y dygwn di yn eu herbyn hwynt ? A bydd yn y dydd hwnnw , yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel , medd yr Arglwydd Dduw , i’m llid gyfodi yn fy soriant . Canys yn fy eiddigedd , ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais , Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel ; Fel y cryno pysgod y môr , ac ehediaid y nefoedd , a bwystfilod y maes , a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , a phob dyn ar wyneb y ddaear , ger fy mron i ; a’r mynyddoedd a ddryllir i lawr , a’r grisiau a syrthiant , a phob mur a syrth i lawr . A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd , medd yr Arglwydd Dduw : cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd . Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed : glawiaf hefyd gurlaw , a cherrig cenllysg , tân a brwmstan , arno ef , ac ar ei holl fyddinoedd , ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef . Fel hyn yr ymfawrygaf , ac yr ymsancteiddiaf ; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer , fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Proffwyda hefyd , fab dyn , yn erbyn Gog , a dywed , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Wele fi yn dy erbyn di , Gog , pen‐tywysog Mesech a Thubal . A mi a’th ddychwelaf , ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran , ac a’th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd , ac a’th ddygaf ar fynyddoedd Israel : Ac a drawaf dy fwa o’th law aswy , a gwnaf i’th saethau syrthio o’th law ddeau . Ar fynyddoedd Israel y syrthi , ti a’th holl fyddinoedd , a’r bobloedd sydd gyda thi : i’r ehediaid , i bob rhyw aderyn , ac i fwystfilod y maes , y’th roddaf i’th ddifa . Ar wyneb y maes y syrthi ; canys myfi a’i dywedais , medd yr Arglwydd Dduw . Anfonaf hefyd dân ar Magog , ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw ; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd . Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel , ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy : a’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd , y Sanct yn Israel . Wele , efe a ddaeth , ac a ddarfu , medd yr Arglwydd Dduw ; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais . A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan , ac a gyneuant ac a losgant yr arfau , a’r darian a’r astalch , y bwa a’r saethau , a’r llawffon a’r waywffon ; ie , losgant hwynt yn tân saith mlynedd . Ac ni ddygant goed o’r maes , ac ni thorrant ddim o’r coedydd ; canys â’r arfau y cyneuant dân : a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr , ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr , medd yr Arglwydd Dduw . Bydd hefyd yn y dydd hwnnw , i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel , dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr : ac efe a gae ffroenau y fforddolion : ac yno y claddant Gog a’i holl dyrfa , a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog . A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis , er mwyn glanhau y tir . Ie , holl bobl y tir a’u claddant ; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y’m gogonedder , medd yr Arglwydd Dduw . A hwy a neilltuant wŷr gwastadol , y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda’r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear , i’w glanhau hi : ymhen saith mis y chwiliant . A’r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir , pan welo un asgwrn dyn , efe a gyfyd nod wrtho , hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog . Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona . Felly y glanhânt y wlad . Tithau fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dywed wrth bob rhyw aderyn , ac wrth holl fwystfilod y maes , Ymgesglwch , a deuwch ; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi , aberth mawr ar fynyddoedd Israel , fel y bwytaoch gig , ac yr yfoch waed . Cig y cedyrn a fwytewch , a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear , hyrddod , ŵyn , a bychod , bustych , yn basgedigion Basan oll . Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon , ac yfwch waed hyd oni feddwoch , o’m haberth a aberthais i chwi . Felly y’ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau , â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr , medd yr Arglwydd Dduw . A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd , a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum , a’m llaw yr hon a osodais arnynt . A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan . Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel : oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn , am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt , ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion : felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf . Yn ôl eu haflendid eu hun , ac yn ôl eu hanwireddau , y gwneuthum â hwynt , ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob , tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel , a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd ; Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd , a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn , pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw , a heb ddychrynydd . Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd , a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion , ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer ; Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt , yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd , ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun , ac ni adewais mwy un ohonynt yno . Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt : oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel , medd yr Arglwydd Dduw . Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni , yn nechrau y flwyddyn , ar y degfed dydd o’r mis , yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas , o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf , ac a’m dug yno . Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel , ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn , ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau . Ac efe a’m dug yno : ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres , ac yn ei law linyn llin , a chorsen fesur : ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth . A dywedodd y gŵr wrthyf , Ha fab dyn , gwêl â’th lygaid , gwrando hefyd â’th glustiau , a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti : oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma : mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli . Ac wele fur o’r tu allan i’r tŷ o amgylch ogylch : a chorsen fesur yn llaw y gŵr , yn chwe chufydd o hyd , wrth gufydd a dyrnfedd : ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen , a’r uchder yn un gorsen . Ac efe a ddaeth i’r porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain , ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef , ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led , a’r rhiniog arall yn un gorsen o led . A phob ystafell oedd un gorsen o hyd , ac un gorsen o led : a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd : a rhiniog y porth , wrth gyntedd y porth o’r tu mewn , oedd un gorsen . Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn , yn un gorsen . Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd , a’i byst yn ddau gufydd , a chyntedd y porth oedd o’r tu mewn . Ac ystafelloedd y porth tua’r dwyrain oedd dair o’r tu yma , a thair o’r tu acw ; un fesur oeddynt ill tair : ac un mesur oedd i’r pyst o’r tu yma ac o’r tu acw . Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd , a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg . A’r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o’r naill du , a’r terfyn o’r tu arall yn un cufydd ; a’r ystafelloedd oedd chwe chufydd o’r tu yma , a chwe chufydd o’r tu acw . Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall , yn bum cufydd ar hugain o led , drws ar gyfer drws . Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd , a hynny hyd bost y cyntedd , o amgylch ogylch y porth . Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn , hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn , yr oedd deg cufydd a deugain . A ffenestri cyfyng oedd i’r ystafelloedd , ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch ; ac felly yr oedd i’r bwâu meini : a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn ; ac yr oedd palmwydd ar bob post . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , ac wele yno ystafelloedd , a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch ; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant . A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth , oedd y palmant oddi tanodd . Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn , yn gan cufydd oddi allan tua’r dwyrain a’r gogledd . A’r porth yr hwn oedd â’i wyneb tua’r gogledd , ar y cyntedd nesaf allan , a fesurodd efe , ei hyd a’i led . A’i ystafelloedd ef oedd dair o’r tu yma , a thair o’r tu acw ; ac yr ydoedd ei byst , a’i fwâu meini , wrth fesur y porth cyntaf , yn ddeg cufydd a deugain eu hyd , a’r lled yn bum cufydd ar hugain . Eu ffenestri hefyd , a’u bwâu meini , a’u palmwydd , oedd wrth fesur y porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain ; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo ; a’i fwâu meini oedd o’u blaen hwynt . A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua’r gogledd , a thua’r dwyrain : ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd . Wedi hynny efe a’m dug i tua’r deau , ac wele borth tua’r deau , ac efe a fesurodd ei byst a’i fwâu meini wrth y mesurau hyn . Ffenestri hefyd oedd iddo ac i’w fwâu meini , o amgylch ogylch , fel y ffenestri hynny , yn ddeg cufydd a deugain o hyd , ac yn bum cufydd ar hugain o led . Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef , a’i fwâu meini o’u blaen hwynt : yr oedd hefyd iddo balmwydd , un o’r tu yma , ac un o’r tu acw , ar ei byst ef . Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua’r deau : ac efe a fesurodd o borth i borth , tua’r deau , gan cufydd . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau : ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn ; A’i ystafelloedd , a’i byst , a’i fwâu meini , wrth y mesurau hyn : ac yr oedd ffenestri ynddo , ac yn ei fwâu meini , o amgylch ogylch : deg cufydd a deugain oedd yr hyd , a phum cufydd ar hugain y lled . A’r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd , a phum cufydd o led . A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd oedd ar ei byst ; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain : ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn . A’i ystafelloedd , a’i byst , a’i fwâu meini , oedd wrth y mesurau hyn : ac yr oedd ffenestri ynddo ef , ac yn ei fwâu meini , o amgylch ogylch : yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain , a’r lled yn bum cufydd ar hugain . A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd oedd ar ei byst o’r tu yma , ac o’r tu acw ; a’i esgynfa oedd wyth o risiau . Ac efe a’m dug i borth y gogledd , ac a’i mesurodd wrth y mesurau hyn : Ei ystafelloedd , ei byst , a’i fwâu meini , a’r ffenestri iddo o amgylch ogylch : yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain , a’r lled oedd bum cufydd ar hugain . A’i byst oedd tua’r cyntedd nesaf allan ; a phalmwydd ar ei byst o’r tu yma , ac o’r tu acw ; a’i esgynfa oedd wyth o risiau . A’r celloedd a’u drysau oedd wrth byst y pyrth , lle y golchent y poethoffrwm . Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o’r tu yma , a dau fwrdd o’r tu acw , i ladd y poethoffrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd , arnynt . Ac ar yr ystlys oddi allan , lle y dringir i ddrws porth y gogledd , yr oedd dau fwrdd ; a dau fwrdd ar yr ystlys arall , yr hwn oedd wrth gyntedd y porth . Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma , a phedwar bwrdd o’r tu acw , ar ystlys y porth ; wyth bwrdd , ar y rhai y lladdent eu haberthau . A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd , yn un cufydd a hanner o hyd , ac yn un cufydd a hanner o led , ac yn un cufydd o uchder : arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt . Hefyd yr oedd bachau , o un ddyrnfedd , wedi eu paratoi o fewn , o amgylch ogylch : a chig yr offrwm oedd ar y byrddau . Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn , yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd ; a’u hwynebau oedd tua’r deau : un oedd ar ystlys porth y dwyrain , â’i wyneb tua’r gogledd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Yr ystafell hon , yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau , sydd i’r offeiriaid , ceidwaid cadwraeth y tŷ . A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd , sydd i’r offeiriaid , ceidwaid cadwraeth yr allor : y rhai hyn yw meibion Sadoc , y rhai ydynt o feibion Lefi , yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo . Felly efe a fesurodd y cyntedd , yn gan cufydd o hyd , ac yn gan cufydd o led , yn bedeirongl ; a’r allor oedd o flaen y tŷ . Ac efe a’m dug i borth y tŷ , ac a fesurodd bob post i’r porth , yn bum cufydd o’r naill du , ac yn bum cufydd o’r tu arall : a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du , a thri chufydd o’r tu arall . Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd , ac un cufydd ar ddeg o led : ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo : hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst , un o’r naill du , ac un o’r tu arall . Ac efe a’m dug i i’r deml , ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o’r naill du , ac yn chwe chufydd o led o’r tu arall , fel yr oedd lled y babell . Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd ; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o’r naill du , ac yn bum cufydd o’r tu arall : ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd , a’r lled yn ugain cufydd . Ac efe a aeth tuag i mewn , ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd , a’r drws yn chwe chufydd , a lled y drws yn saith gufydd . Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd ; a’r lled yn ugain cufydd o flaen y deml : ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y cysegr sancteiddiolaf . Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd ; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i’r tŷ . A’r celloedd oedd dair , cell ar gell , ac yn ddeg ar hugain o weithiau : ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i’r ystafelloedd o amgylch ogylch , fel y byddent ynglŷn ; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ . Ac fe a ehangwyd , ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i’r celloedd : oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ : am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd ; ac felly y dringid o’r isaf i’r uchaf trwy y ganol . Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch : seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion . A thewder y mur yr hwn oedd i’r gell o’r tu allan , oedd bum cufydd ; a’r gweddill oedd le i’r celloedd y rhai oedd o fewn . A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch . A drysau yr ystlysgell oedd tua’r llannerch weddill ; un drws tua’r gogledd , ac un drws tua’r deau : a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch . A’r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol , ar y cwr tua’r gorllewin , oedd ddeg cufydd a thrigain o led ; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch , a’i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain . Ac efe a fesurodd y tŷ , yn gan cufydd o hyd ; a’r llannerch neilltuol , a’r adeiladaeth , a’i pharwydydd , yn gan cufydd o hyd . A lled wyneb y tŷ , a’r llannerch neilltuol tua’r dwyrain , oedd gan cufydd . Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o’r tu cefn iddo , a’i ystafelloedd o’r naill du , ac o’r tu arall , yn gan cufydd , gyda’r deml oddi fewn , a drysau y cyntedd . Y gorsingau , a’r ffenestri cyfyng , a’r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder , ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch , ac o’r llawr hyd y ffenestri , a’r ffenestri hefyd a ystyllenasid ; Hyd uwchben y drws , a hyd y tŷ o fewn ac allan , ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan , wrth fesurau . A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef , palmwydden rhwng pob dau geriwb : a dau wyneb oedd i bob ceriwb . Canys wyneb dyn oedd tua’r balmwydden o’r naill du , ac wyneb llew tua’r balmwydden o’r tu arall : yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch . Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o’r ddaear hyd oddi ar y drws , ac ar bared y deml . Pedwar ochrog oedd pyst y deml , ac wyneb y cysegr ; gwelediad y naill fel gwelediad y llall . Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder , a’i hyd yn ddau gufydd : a’i chonglau , a’i huchder , a’i pharwydydd , oedd o bren . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd . Ac yr ydoedd dau ddrws i’r deml ac i’r cysegr : A dwy ddôr i’r drysau , sef dwy ddôr blygedig ; dwy ddôr i’r naill ddrws , a dwy ddôr i’r llall . A gwnaethid arnynt , ar ddrysau y deml , geriwbiaid a phalmwydd , fel y gwnaethid ar y parwydydd : ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o’r tu allan . Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu , ar ystlysau y porth , ac ar ystafelloedd y tŷ , a’r trawstiau . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , y ffordd tua’r gogledd ; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol , yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd . Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd , a lled y deg cufydd a deugain . Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn , ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan , yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder . Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn , ffordd o un cufydd , a’u drysau tua’r gogledd . A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion : oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn , na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth . Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy , ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd : am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny . A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd , tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd , oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd . Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain : ac wele , o flaen y deml yr oedd can cufydd . Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain , ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan . O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain , ar gyfer y llannerch neilltuol , ac ar gyfer yr adeiladaeth , yr oedd yr ystafelloedd . A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd ; un hyd â hwynt oeddynt , ac un lled â hwynt : a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt , ac yn ôl eu drysau hwynt . Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau , yr oedd drws ym mhen y ffordd , y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain , yn y ddyfodfa i mewn . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau , y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol , ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny , lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd , y pethau sanctaidd cysegredig : yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig , a’r bwyd‐offrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd ; canys y lle sydd sanctaidd . A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt , nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan , eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt ; am eu bod yn sanctaidd ; ac a wisgant wisgoedd eraill , ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl . Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn , efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain , ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch . Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur , yn bum cant o gorsennau , wrth y gorsen fesur oddi amgylch . Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen , wrth y gorsen fesur oddi amgylch . Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen , wrth y gorsen fesur . Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin , ac a fesurodd bum can corsen , wrth y gorsen fesur . Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef : mur oedd iddo ef o amgylch ogylch , yn bum can corsen o hyd , ac yn bum can corsen o led , i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr . Ac efe a’m dug i’r porth , sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain . Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain ; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer , a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef . Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais , sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas : a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar : yna y syrthiais ar fy wyneb . A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain . Felly yr ysbryd a’m cododd , ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn ; ac wele , llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ . Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , dyma le fy ngorseddfa , a lle gwadnau fy nhraed , lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd ; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy , na hwynt‐hwy , na’u brenhinoedd , trwy eu puteindra , na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd . Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i , a’u gorsin wrth fy ngorsin i , a phared rhyngof fi a hwynt , hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant : am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid . Pellhânt yr awr hon eu puteindra , a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi , a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd . Ti fab dyn , dangos y tŷ i dŷ Israel , fel y cywilyddiont am eu hanwireddau ; a mesurant y portreiad . Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant , hysbysa iddynt ddull y tŷ , a’i osodiad , a’i fynediadau allan , a’i ddyfodiadau i mewn , a’i holl ddull , a’i holl ddeddfau , a’i holl ddull , a’i holl gyfreithiau ; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt , fel y cadwont ei holl ddull ef , a’i holl ddeddfau , ac y gwnelont hwynt . Dyma gyfraith y tŷ ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef , yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch . Wele , dyma gyfraith y tŷ . A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau . Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd ; y gwaelod fydd yn gufydd , a’r lled yn gufydd , a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant : a dyma le uchaf yr allor . Ac o’r gwaelod ar y llawr , hyd yr ystôl isaf , y bydd dau gufydd , ac un cufydd o led ; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf , a chufydd o led . Felly yr allor fydd bedwar cufydd ; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn . A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd , a deuddeg o led , yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys . A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd , a phedwar ar ddeg o led , yn ei phedwar ystlys ; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd ; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch : a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ha fab dyn , fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dyma ddeddfau yr allor , yn y dydd y gwneler hi , i boethoffrymu poethoffrwm arni , ac i daenellu gwaed arni . Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid , ( y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi , medd yr Arglwydd Dduw , i’m gwasanaethu , ) fustach ieuanc yn bech‐aberth . A chymer o’i waed ef , a dyro ar ei phedwar corn hi , ac ar bedair congl yr ystôl , ac ar yr ymyl o amgylch : fel hyn y glanhei ac y cysegri hi . Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth , ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ , o’r tu allan i’r cysegr . Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth ; a hwy a lanhânt yr allor , megis y glanhasant hi â’r bustach . Pan orffennych ei glanhau , ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl , a hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd . Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt ; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt , ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd . Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd ; darparant hefyd fustach ieuanc , a hwrdd o’r praidd , o rai perffaith‐gwbl . Saith niwrnod y cysegrant yr allor , ac y glanhânt hi , ac yr ymgysegrant . A phan ddarffo y dyddiau hyn , bydd ar yr wythfed dydd , ac o hynny allan , i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd : a mi a fyddaf fodlon i chwi , medd yr Arglwydd Dduw . Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain , ac yr oedd yn gaead . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Y porth hwn fydd gaead ; nid agorir ef , ac nid â neb i mewn trwyddo ef : oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef ; am hynny y bydd yn gaead . I’r tywysog y mae ; y tywysog , efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd : ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn , a hyd ffordd yr un yr â efe allan . Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ : a mi a edrychais , ac wele , llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd : a mi a syrthiais ar fy wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Gosod dy galon , fab dyn , a gwêl â’th lygaid , clyw hefyd â’th glustiau , yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt , am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd , ac am ei holl gyfreithiau ; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ , ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr . A dywed wrth y gwrthryfelgar , sef tŷ Israel , Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Digon i chwi hyn , tŷ Israel , o’ch holl ffieidd‐dra ; Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon , a dienwaededig o gnawd , i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef , sef fy nhŷ i , pan offrymasoch fy mara , y braster a’r gwaed ; a hwy a dorasant fy nghyfamod , oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi . Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig ; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon , a dienwaededig o gnawd , o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel . A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf , pan gyfeiliornodd Israel , y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau , hwy a ddygant eu hanwiredd . Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr , yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ , ac yn gweini i’r tŷ : hwy a laddant yr offrwm poeth , ac aberth y bobl , a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt . Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod , a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd , am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt , medd yr Arglwydd Dduw , a hwy a ddygant eu hanwiredd . Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi , nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf : eithr dygant eu cywilydd , a’u ffieidd‐dra a wnaethant . Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ , yn ei holl wasanaeth , ac yn yr hyn oll a wneir ynddo . Yna yr offeiriaid y Lefiaid , meibion Sadoc , y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr , pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf , hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu , ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed , medd yr Arglwydd Iôr : Hwy a ânt i mewn i’m cysegr , a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu , ac a gadwant fy nghadwraeth . A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn , gwisgant wisgoedd lliain ; ac na ddeued gwlân amdanynt , tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn , ac o fewn . Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt , a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt : nac ymwregysant â dim a baro chwys . A phan elont i’r cyntedd nesaf allan , sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan , diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt , a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr , a gwisgant ddillad eraill ; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd . Eu pennau hefyd nid eilliant , ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes : gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau . Hefyd , nac yfed un offeiriad win , pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn . Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw , neu ysgaredig ; eithr morynion o had tŷ Israel , neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad , a gymerant . A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig , a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân . Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn , ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i : cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau ; a sancteiddiant fy Sabothau . Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi : eithr wrth dad , ac wrth fam , ac wrth fab , ac wrth ferch , wrth frawd , ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr , y gallant ymhalogi . Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod . A’r dydd yr elo i’r cysegr , o fewn y cyntedd nesaf i mewn , i weini yn y cysegr , offrymed ei bech‐aberth , medd yr Arglwydd Dduw . A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy ; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy . Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel ; myfi yw eu perchenogaeth hwy . Y bwyd‐offrwm , a’r pech‐aberth , a’r aberth dros gamwedd , a fwytânt hwy ; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy . A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth , a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau , fydd eiddo yr offeiriaid : blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad , i osod bendith ar dy dŷ . Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun , neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail . A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth , yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir ; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd , a dengmil o led . Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch . O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd , a phum cant ar led , yn bedeirongl oddi amgylch ; a deg cufydd a deugain , yn faes pentrefol iddo o amgylch . Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led ; ac yn hwnnw y bydd y cysegr , a’r lle sancteiddiolaf . Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid , y rhai a wasanaethant y cysegr , y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd ; ac efe a fydd iddynt yn lle tai , ac yn gysegrfa i’r cysegr . A’r pum mil ar hugain o hyd , a’r dengmil o led , fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ , yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd . Rhoddwch hefyd bum mil o led , a phum mil ar hugain o hyd , yn berchenogaeth i’r ddinas , ar gyfer offrwm y rhan gysegredig : i holl dŷ Israel y bydd hyn . A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig , ac i berchenogaeth y ddinas , ar gyfer y rhan gysegredig , ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas , o du y gorllewin tua’r gorllewin , ac o du y dwyrain tua’r dwyrain : a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau , o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain . Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel , ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy ; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Digon i chwi hyn , tywysogion Israel ; bwriwch ymaith drawster a difrod , gwnewch hefyd farn a chyfiawnder , tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl , medd yr Arglwydd Dduw . Bydded gennych gloriannau uniawn , ac effa uniawn , a bath uniawn . Bydded yr effa a’r bath un fesur ; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer , a’r effa ddegfed ran homer : wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt . Y sicl fydd ugain gera : ugain sicl , a phum sicl ar hugain , a phymtheg sicl , fydd mane i chwi . Dyma yr offrwm a offrymwch : chweched ran effa o homer o wenith ; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd . Am ddeddf yr olew , bath o olew , degfed ran bath a roddwch o’r corus ; yr hyn yw homer o ddeg bath : oherwydd deg bath yw homer . Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant , allan o ddolydd Israel , yn fwyd‐offrwm , ac yn boethoffrwm , ac yn aberthau hedd , i wneuthur cymod drostynt , medd yr Arglwydd Dduw . Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel . Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm , a bwyd‐offrwm , a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau , a’r newyddloerau , a’r Sabothau , trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel : efe a ddarpara bech‐aberth , a bwyd‐offrwm , a phoethoffrwm , ac aberthau hedd , i wneuthur cymod dros dŷ Israel . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; O fewn y mis cyntaf , ar y dydd cyntaf o’r mis , y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl , ac y puri y cysegr . Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth , ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ , ac ar bedair congl ystôl yr allor , ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn . Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis , dros y neb a becho yn amryfus , a thros yr ehud : felly y purwch y tŷ . Yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , y bydd i chwi y pasg ; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod : bara croyw a fwytewch . A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun , a thros holl bobl y wlad , fustach yn bech‐aberth . A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd , saith o fustych , a saith o hyrddod perffaith‐gwbl , bob dydd o’r saith niwrnod ; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd . Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe , sef effa gyda phob bustach , ac effa gyda phob hwrdd , a hin o olew gyda’r effa . Yn y seithfed mis , ar y pymthegfed dydd o’r mis , y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod ; sef fel y pech‐aberth , fel y poethoffrwm , ac fel y bwyd‐offrwm , ac fel yr olew . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Porth y cyntedd nesaf i mewn , yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain , fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith ; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef , ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer . A’r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan , ac a saif wrth orsing y porth ; a’r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a’i aberthau hedd , ac efe a addola wrth riniog y porth : ac a â allan : a’r porth ni chaeir hyd yr hwyr . Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw , ar y Sabothau ac ar y newyddloerau , o flaen yr Arglwydd . A’r offrwm poeth a offrymo y tywysog i’r Arglwydd ar y dydd Saboth , fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl , a hwrdd perffaith‐gwbl : A bwyd‐offrwm o effa gyda’r hwrdd , a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda’r ŵyn , a hin o olew gyda’r effa . Ac ar ddydd y newyddloer , bustach ieuanc perffaith‐gwbl , a chwech o ŵyn , a hwrdd ; perffaith‐gwbl fyddant . Ac efe a ddarpara effa gyda’r bustach , ac effa gyda’r hwrdd , yn fwyd‐offrwm ; a chyda’r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef , a hin o olew gyda phob effa . A phan ddelo y tywysog i mewn , ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn , ac ar hyd y ffordd honno yr â allan . A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig , yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli , a â allan i ffordd porth y deau ; a’r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau , a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd : na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo , eithr eled allan ar ei gyfer . A phan ddelont hwy i mewn , y daw y tywysog yn eu mysg hwy ; a phan elont allan , yr â yntau allan . Ac ar y gwyliau a’r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach , ac effa gyda phob hwrdd , a rhodd ei law gyda’r ŵyn , a hin o olew gyda’r effa . A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd , neu aberthau hedd gwirfodd i’r Arglwydd , yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain , ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a’i aberthau hedd , fel y gwnaeth ar y dydd Saboth ; ac a â allan : ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan . Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i’r Arglwydd beunydd : o fore i fore y darperi ef . Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore , chweched ran effa , a thrydedd ran hin o olew , i gymysgu y peilliaid , yn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd , trwy ddeddf dragwyddol byth . Fel hyn y darparant yr oen , a’r bwyd‐offrwm , a’r olew , o fore i fore , yn boethoffrwm gwastadol . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Os rhydd y tywysog rodd i neb o’i feibion o’i etifeddiaeth , eiddo ei feibion fydd hynny , eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth . Ond pan roddo efe rodd o’i etifeddiaeth i un o’i weision , bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid ; yna y dychwel i’r tywysog : eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion , iddynt hwy . Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl , i’w gorthrymu hwynt allan o’u perchenogaeth ; eithr rhodded etifeddiaeth i’w feibion o’i berchenogaeth ei hun : fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o’i berchenogaeth . Ac efe a’m dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth , i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid , y rhai oedd yn edrych tua’r gogledd : ac wele yno le ar y ddau ystlys tua’r gorllewin . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a’r pech‐aberth , a lle y pobant y bwyd‐offrwm ; fel na ddygont hwynt i’r cyntedd nesaf allan , i sancteiddio y bobl . Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan , ac a’m tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd ; ac wele gyntedd ym mhob congl i’r cyntedd . Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd , a deg ar hugain o led : un fesur oedd y conglau ill pedair . Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair , a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma dŷ y cogau , lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl . Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua’r dwyrain : oherwydd wyneb y tŷ oedd tua’r dwyrain ; a’r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ , o du y deau i’r allor . Ac efe a’m dug i ar hyd ffordd y porth tua’r gogledd , ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua’r dwyrain ; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau . A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â’r llinyn yn ei law allan tua’r dwyrain , efe a fesurodd fil o gufyddau , ac a’m tywysodd i trwy y dyfroedd ; a’r dyfroedd hyd y fferau . Ac efe a fesurodd fil eraill , ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd ; a’r dyfroedd hyd y gliniau : ac a fesurodd fil eraill , ac a’m tywysodd trwodd ; a’r dyfroedd hyd y lwynau : Ac efe a fesurodd fil eraill ; ac afon oedd , yr hon ni allwn fyned trwyddi : canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy , yn afon ni ellid myned trwyddi . Ac efe a ddywedodd wrthyf , A welaist ti hyn , fab dyn ? Yna y’m tywysodd , ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon . Ac wedi i mi ddychwelyd , wele ar fin yr afon goed lawer iawn o’r tu yma ac o’r tu acw . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain , ac a ddisgynnant i’r gwastad , ac a ânt i’r môr : ac wedi eu myned i’r môr , yr iacheir y dyfroedd . A bydd i bob peth byw , yr hwn a ymlusgo , pa le bynnag y delo yr afonydd , gael byw : ac fe fydd pysgod lawer iawn , oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno : canys iacheir hwynt , a phob dim lle y delo yr afon fydd byw . A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni , o En‐gedi hyd En‐eglaim ; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau : eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw , fel pysgod y môr mawr , yn llawer iawn . Ei lleoedd lleidiog a’i chorsydd ni iacheir ; i halen y rhoddir hwynt . Ac wrth yr afon y cyfyd , ar ei min o’r ddeutu , bob pren ymborth ; ei ddalen ni syrth , a’i ffrwyth ni dderfydd : yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd ; oherwydd ei ddyfroedd , hwy a ddaethant allan o’r cysegr : am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth , a’i ddalen yn feddyginiaeth . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel : Joseff a gaiff ddwy o rannau . Hefyd chwi a’i hetifeddwch ef , bob un cystal â’i gilydd ; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i’ch tadau : a’r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth . A dyma derfyn y tir o du y gogledd , o’r môr mawr tua Hethlon , ffordd yr eir i Sedad : Hannath , Berotha , Sibraim , yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath : Hasar‐hattichon , yr hwn sydd ar derfyn Hauran . A’r terfyn o’r môr fydd Hasarenan , terfyn Damascus , a’r gogledd tua’r gogledd , a therfyn Hamath . A dyma du y gogledd . Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran , ac o Damascus , ac o Gilead , ac o dir Israel wrth yr Iorddonen , o’r terfyn hyd fôr y dwyrain . A dyma du y dwyrain . A’r ystlys deau tua’r deau , o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades , yr afon hyd y môr mawr . A dyma yr ystlys ddeau tua Theman . A thu y gorllewin fydd y môr mawr , o’r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath . Dyma du y gorllewin . Felly y rhennwch y tir hwn i chwi , yn ôl llwythau Israel . Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi , ac i’r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg , y rhai a genhedla blant yn eich plith : a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel ; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel . A bydd , ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr , yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef , medd yr Arglwydd Dduw . A dyma enwau y llwythau . O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon , ffordd yr eir i Hamath , Hasar‐enan , terfyn Damascus tua’r gogledd , i duedd Hamath , ( canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin , ) rhan i Dan . Ac ar derfyn Dan , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Aser . Ac ar derfyn Aser , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Nafftali ran . Ac ar derfyn Nafftali , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Manasse ran . Ac ar derfyn Manasse , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Effraim ran . Ac ar derfyn Effraim , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Reuben ran . Ac ar derfyn Reuben , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , i Jwda ran . Ac ar derfyn Jwda , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led , ac o hyd fel un o’r rhannau , o du y dwyrain hyd du y gorllewin ; a’r cysegr fydd yn ei ganol . Yr offrwm a offrymoch i’r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led . Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig , sef eiddo yr offeiriaid , fydd pum mil ar hugain tua’r gogledd o hyd , a dengmil tua’r gorllewin o led ; felly dengmil tua’r dwyrain o led , a phum mil ar hugain tua’r deau o hyd : a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol . I’r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd , y rhai a gadwasant fy nghadwraeth , y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel , megis y cyfeiliornodd y Lefiaid . A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir , yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid . A’r Lefiaid a gânt , ar gyfer terfyn yr offeiriaid , bum mil ar hugain o hyd , a dengmil o led : pob hyd fydd bum mil ar hugain , a’r lled yn ddengmil . Hefyd ni werthant ddim ohono , ac ni chyfnewidiant , ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir ; oherwydd cysegredig yw i’r Arglwydd . A’r pum mil gweddill o’r lled , ar gyfer y pum mil ar hugain , fydd digysegredig , yn drigfa ac yn faes pentrefol i’r ddinas ; a’r ddinas fydd yn ei ganol . A dyma ei fesurau ef ; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil , ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil , felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil , a thua’r gorllewin yn bum cant a phedair mil . A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua’r gogledd yn ddeucant a deg a deugain , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r deau , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r dwyrain , ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r gorllewin . A’r gweddill o’r hyd , ar gyfer offrwm y rhan gysegredig , fydd yn ddengmil tua’r dwyrain , ac yn ddengmil tua’r gorllewin : ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd ; a’i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas . A gweinidogion y ddinas a’i gwasanaethant o holl lwythau Israel . Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain , wrth bum mil ar hugain : yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig , gyda pherchenogaeth y ddinas . A’r hyn a adewir fydd i’r tywysog , oddeutu yr offrwm cysegredig , ac o berchenogaeth y ddinas , ar gyfer y pum mil ar hugain o’r offrwm tua therfyn y dwyrain , a thua’r gorllewin , ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin , gyferbyn â rhannau y tywysog : a’r offrwm cysegredig fydd ; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny . Felly o berchenogaeth y Lefiaid , ac o berchenogaeth y ddinas , yng nghanol yr hyn sydd i’r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin , eiddo y tywysog fydd . Ac am y rhan arall o’r llwythau , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd rhan i Benjamin . Ac ar derfyn Benjamin , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , y bydd rhan i Simeon . Ac ar derfyn Simeon , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Issachar . Ac ar derfyn Issachar , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Sabulon . Ac ar derfyn Sabulon , o du y dwyrain hyd du y gorllewin , rhan i Gad . Ac ar derfyn Gad , ar y tu deau tua’r deau , y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades , a hyd yr afon tua’r môr mawr . Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel , a dyma eu rhannau hwynt , medd yr Arglwydd Dduw . Dyma hefyd fynediad allan y ddinas , o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau . A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel : tri phorth tua’r gogledd ; porth Reuben yn un , porth Jwda yn un , porth Lefi yn un . Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil : a thri phorth ; sef porth Joseff yn un , porth Benjamin yn un , porth Dan yn un . A thua’r deau pum cant a phedair mil o fesurau : a thri phorth ; porth Simeon yn un , a phorth Issachar yn un , a phorth Sabulon yn un . Tua’r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil , a’u tri phorth ; porth Gad yn un , porth Aser yn un , a phorth Nafftali yn un . Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch : ac enw y ddinas o’r dydd hwnnw allan fydd , Yr Arglwydd sydd yno . </passage></reply></GetPassage>