<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:27</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:27</urn><passage>Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda , y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem , ac a warchaeodd arni . A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda , a rhan o lestri tŷ Dduw ; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar , i dŷ ei dduw ef ; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri . A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd , am ddwyn o feibion Israel , ac o’r had brenhinol , ac o’r tywysogion , Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni , eithr yn dda yr olwg , a deallgar ym mhob doethineb , ac yn gwybod gwybodaeth , ac yn deall cyfarwyddyd , a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin , i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid . A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin , ac o’r gwin a yfai efe ; felly i’w maethu hwynt dair blynedd , fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin . Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda , Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia : A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau : canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar ; ac ar Hananeia , Sadrach ; ac ar Misael , Mesach ; ac ar Asareia , Abednego . A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin , na thrwy y gwin a yfai efe : am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd , na byddai raid iddo ymhalogi . A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd . A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel , Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin , yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi : oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau ? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin . Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar , yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia , Prawf , atolwg , dy weision ddeg diwrnod , a rhoddant i ni ffa i’w bwyta , a dwfr i’w yfed . Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni , a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin : ac fel y gwelych , gwna â’th weision . Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn , ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau . Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach , ac yn dewach o gnawd , na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin . Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt , a’r gwin a yfent ; ac a roddes iddynt ffa . A’r bechgyn hynny ill pedwar , Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb : a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion . Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn , yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor . A’r brenin a chwedleuodd â hwynt ; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel , Hananeia , Misael , ac Asareia : am hynny y safasant hwy gerbron y brenin . Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt , efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef . A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus . Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor , y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion , a thrallodwyd ei ysbryd ef , a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho . A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid , ac am yr astronomyddion , ac am yr hudolion , ac am y Caldeaid , i fynegi i’r brenin ei freuddwydion : a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin . A’r brenin a ddywedodd wrthynt , Breuddwydiais freuddwyd , a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd . Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg , O frenin , bydd fyw yn dragywydd : adrodd dy freuddwyd i’th weision , a mynegwn y dehongliad . Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid , Aeth y peth oddi wrthyf : oni fynegwch y breuddwyd i mi , a’i ddehongliad , gwneir chwi yn ddrylliau , a’ch tai a osodir yn domen . Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch , cewch roddion , a gwobrau , ac anrhydedd mawr o’m blaen i : am hynny dangoswch y breuddwyd , a’i ddehongliad . Atebasant eilwaith a dywedasant , Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision , ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef . Atebodd y brenin a dywedodd , Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi ; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf . Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd , un gyfraith fydd i chwi : canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen , nes newid yr amser : am hynny dywedwch i mi y breuddwyd , a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef . Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin , ac a ddywedasant , Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn ; ac ni cheisiodd un brenin , na phennaeth , na llywydd , y fath beth â hwn gan un dewin , nac astronomydd , na Chaldead . Canys dieithr yw y peth a gais y brenin , ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin , ond y duwiau , y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd . O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr , ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon . Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion ; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeillion i’w lladd . Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch , pen‐distain y brenin , yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon : Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch , distain y brenin , Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin ? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel . Yna Daniel a aeth i mewn , ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser , ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin . Yna yr aeth Daniel i’w dŷ , ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion , Hananeia , Misael , ac Asareia ; Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn ; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon . Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos : yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd . Atebodd Daniel a dywedodd , Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb : canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef : Ac efe sydd yn newid amserau , a thymhorau : efe sydd yn symud brenhinoedd , ac yn gosod brenhinoedd : efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion , a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall : Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig : efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch , a chydag ef y mae y goleuni yn trigo . Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo , ac yn ei foliannu , oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi , a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt : canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin . Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch , yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon : efe a aeth , ac a ddywedodd wrtho fel hyn ; Na ddifetha ddoethion Babilon ; dwg fi o flaen y brenin , a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad . Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys , ac a ddywedodd wrtho fel hyn ; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda , yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad . Atebodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar , A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais , a’i ddehongliad ? Atebodd Daniel o flaen y brenin , a dywedodd , Ni all doethion , astronomyddion , dewiniaid , na brudwyr , ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn : Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau , ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf . Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma : Ti frenin , dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely , beth oedd i ddyfod ar ôl hyn : a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau , a fynegodd i ti beth a fydd . Minnau hefyd , nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw , y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn : ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin , ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon . Ti , frenin , oeddit yn gweled , ac wele ryw ddelw fawr : y ddelw fawr hon , yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol , oedd yn sefyll gyferbyn â thi ; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy . Pen y ddelw hon ydoedd o aur da , ei dwyfron a’i breichiau o arian , ei bol a’i morddwydydd o bres , Ei choesau o haearn , ei thraed oedd beth ohonynt o haearn , a pheth ohonynt o bridd . Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg , nid trwy waith dwylo , a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd , ac a’u maluriodd hwynt . Yna yr haearn , y pridd , y pres , yr arian , a’r aur , a gydfaluriasant , ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf ; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith , ac ni chaed lle iddynt ; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr , ac a lanwodd yr holl ddaear . Dyma y breuddwyd : dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin . Ti , frenin , wyt frenin brenhinoedd : canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth , gallu , a nerth , a gogoniant . A pha le bynnag y preswylia plant dynion , efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes , ac ehediaid y nefoedd , ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll : ti yw y pen aur hwnnw . Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi , a thrydedd frenhiniaeth arall o bres , yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear . Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn : canys yr haearn a ddryllia , ac a ddofa bob peth : ac fel haearn , yr hwn a ddryllia bob peth , y maluria ac y dryllia hi . A lle y gwelaist y traed a’r bysedd , peth ohonynt o bridd crochenydd , a pheth ohonynt o haearn , brenhiniaeth ranedig fydd ; a bydd ynddi beth o gryfder haearn , oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd . Ac fel yr ydoedd bysedd y traed , peth o haearn , a pheth o bridd ; felly y bydd y frenhiniaeth , o ran yn gref , ac o ran yn frau . A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd , ymgymysgant â had dyn ; ond ni lynant y naill wrth y llall , megis nad ymgymysga haearn â phridd . Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn , y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth , yr hon ni ddistrywir byth : a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill ; ond hi a faluria , ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn , a hi a saif yn dragywydd . Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd , yr hon ni thorrwyd â llaw , a malurio ohoni yr haearn , y pres , y pridd , yr arian , a’r aur ; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn : felly y breuddwyd sydd wir , a’i ddehongliad yn ffyddlon . Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb , ac a addolodd Daniel ; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth . Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel , Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau , ac Arglwydd y brenhinoedd , a datguddydd dirgeledigaethau , oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn . Yna y brenin a fawrygodd Daniel , ac a roddes iddo roddion mawrion lawer ; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon , ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon . Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin , ac yntau a osododd Sadrach , Mesach , ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon : ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin . Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur , ei huchder oedd yn drigain cufydd , ei lled yn chwe chufydd ; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura , o fewn talaith Babilon . Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion , dugiaid , a phendefigion , y rhaglawiaid , y trysorwyr , y cyfreithwyr , y trethwyr , a holl lywodraethwyr y taleithiau , i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin . Yna y tywysogion , dugiaid , a phendefigion , rhaglawiaid , y trysorwyr , y cyfreithwyr , y trethwyr , a holl lywodraethwyr y taleithiau , a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin : a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor . A chyhoeddwr a lefodd yn groch , Wrthych chwi , bobloedd , genhedloedd , a ieithoedd , y dywedir , Pan glywoch sŵn y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , y symffon , a phob rhyw gerdd , y syrthiwch , ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin . A’r hwn ni syrthio ac ni addolo , yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth . Am hynny yr amser hwnnw , pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a phob rhyw gerdd , y bobloedd , y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , a syrthiasant , ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin . O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea , ac a gyhuddasant yr Iddewon . Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin , Bydd fyw , frenin , yn dragywydd . Ti , frenin , a osodaist orchymyn , ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a’r symffon , a phob rhyw gerdd , syrthio ac ymgrymu i’r ddelw aur : A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai , y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth . Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon , Sadrach , Mesach , ac Abednego ; y gwŷr hyn , O frenin , ni wnaethant gyfrif ohonot ti ; dy dduwiau nid addolant , ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist . Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach , Mesach , ac Abednego . Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin . Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt , Ai gwir hyn , Sadrach , Mesach , ac Abednego ? oni addolwch chwi fy nuwiau i , ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i ? Yr awr hon wele , os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet , y chwibanogl , y delyn , y dulsimer , y saltring , a’r symffon , a phob rhyw gerdd , i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum , da : ac onid ymgrymwch , yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth ; a pha Dduw yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i ? Sadrach , Mesach , ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin , Nebuchodonosor , nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn . Wele , y mae ein Duw ni , yr hwn yr ydym ni yn ei addoli , yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth : ac efe a’n gwared ni o’th law di , O frenin . Ac onid e , bydded hysbys i ti , frenin , na addolwn dy dduwiau , ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist . Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd , a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach , Mesach , ac Abednego ; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi . Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol , y rhai oedd yn ei lu ef , am rwymo Sadrach , Mesach , ac Abednego , i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth . Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau , eu llodrau , a’u cwcyllau , a’u dillad eraill , ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth . Gan hynny , o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth , a’r ffwrn yn boeth ragorol , fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach , Mesach , ac Abednego . A’r triwyr hyn , Sadrach , Mesach , ac Abednego , a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym . Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin , ac y cyfododd ar frys , atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid , Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym ? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin , Gwir , O frenin . Atebodd a dywedodd yntau , Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân , ac nid oes niwed arnynt ; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw . Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth , ac a lefarodd ac a ddywedodd , O Sadrach , Mesach , ac Abednego , gwasanaethwyr y Duw goruchaf , deuwch allan , a deuwch yma . Yna Sadrach , Mesach , ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân . A’r tywysogion , dugiaid , a phendefigion , a chynghoriaid y brenin , a ymgasglasant ynghyd , ac a welsant y gwŷr hyn , y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff , ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen , ni newidiasai eu peisiau chwaith , ac nid aethai sawr y tân arnynt . Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd , Bendigedig yw Duw Sadrach , Mesach , ac Abednego , yr hwn a anfonodd ei angel , ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo , ac a dorasant orchymyn y brenin , ac a roddasant eu cyrff , rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw , ond i’w Duw eu hun . Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi , Pob pobl , cenedl , a iaith , yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach , Mesach , ac Abednego , a wneir yn ddrylliau , a’u tai a wneir yn domen : oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn . Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach , Mesach , ac Abednego , o fewn talaith Babilon . Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd , cenhedloedd , a ieithoedd , y rhai a drigant yn yr holl ddaear ; Aml fyddo heddwch i chwi . Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi . Mor fawr yw ei arwyddion ef ! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau ! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol , a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth . Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ , ac yn hoyw yn fy llys . Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd ; meddyliau hefyd yn fy ngwely , a gweledigaethau fy mhen , a’m dychrynasant . Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi , ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon , fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd . Yna y dewiniaid , yr astronomyddion , y Caldeaid , a’r brudwyr , a ddaethant : a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt ; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi . Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i , ( yr hwn yw ei enw Beltesassar , yn ôl enw fy nuw i , yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo , ) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef , gan ddywedyd , Beltesassar , pennaeth y dewiniaid , oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti , ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti , dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais , a’i ddehongliad . A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely ; Edrych yr oeddwn , ac wele bren yng nghanol y ddaear , a’i uchder yn fawr . Mawr oedd y pren a chadarn , a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd ; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear . Ei ganghennau oedd deg , a’i ffrwyth yn aml , ac ymborth arno i bob peth : dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes , ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef , a phob cnawd a fwytâi ohono . Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely , ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd , Yn llefain yn groch , ac yn dywedyd fel hyn , Torrwch y pren , ac ysgythrwch ei wrysg ef , ysgydwch ei ddail ef , a gwasgerwch ei ffrwyth : cilied y bwystfil oddi tano , a’r adar o’i ganghennau . Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear , mewn rhwym o haearn a phres , ymhlith gwellt y maes ; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd , a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear . Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn , a rhodder iddo galon bwystfil : a chyfnewidier saith amser arno . O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn , a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd ; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion , ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe , ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion . Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin . Tithau , Beltesassar , dywed ei ddehongliad ef , oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi : eithr ti a elli ; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti . Yna Daniel , yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar , a synnodd dros un awr , a’i feddyliau a’i dychrynasant ef . Atebodd y brenin , a dywedodd , Beltesassar , na ddychryned y breuddwyd di , na’i ddehongliad . Atebodd Beltesassar , a dywedodd , Fy arglwydd , deued y breuddwyd i’th gaseion , a’i ddehongliad i’th elynion . Y pren a welaist , yr hwn a dyfasai , ac a gryfhasai , ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd , ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear ; A’i ddail yn deg , a’i ffrwyth yn aml , ac ymborth i bob peth ynddo ; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes , ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau : Ti , frenin , yw efe ; tydi a dyfaist , ac a gryfheaist : canys dy fawredd a gynyddodd , ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd , a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear . A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd , ac yn dywedyd , Torrwch y pren , a dinistriwch ef , er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear , mewn rhwym o haearn a phres , ymhlith gwellt y maes , a gwlycher ef â gwlith y nefoedd , a bydded ei ran gyda bwystfil y maes , hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef : Dyma y dehongliad , O frenin , a dyma ordinhad y Goruchaf , yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin . Canys gyrrant di oddi wrth ddynion , a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa , â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau , ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd , a saith amser a gyfnewidia arnat ti , hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno . A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren ; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti , wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu . Am hynny , frenin , bydded fodlon gennyt fy nghyngor , a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder , a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid , i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch . Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin . Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon . Llefarodd y brenin , a dywedodd , Onid hon yw Babilon fawr , yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth , ac er gogoniant fy mawrhydi ? A’r gair eto yng ngenau y brenin , syrthiodd llef o’r nefoedd , yn dywedyd , Wrthyt ti , frenin Nebuchodonosor , y dywedir , Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt . A thi a yrrir oddi wrth ddynion , a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes ; â gwellt y’th borthant fel eidionau ; a chyfnewidir saith amser arnat ; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno . Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor , ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion , ac y porodd wellt fel eidionau , ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd , hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod , a’i ewinedd fel ewinedd adar . Ac yn niwedd y dyddiau , myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd , a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf , a bendithiais y Goruchaf , a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth , am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol , a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth . A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim : ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd , ac â thrigolion y ddaear ; ac nid oes a atalio ei law ef , neu a ddywedo wrtho , Beth yr wyt yn ei wneuthur ? Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi , a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth , fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi , a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant ; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas , a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol . Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu , ac yn mawrygu , ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd , yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd , a’i lwybrau yn farn , ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder . Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion , ac a yfodd win yng ngŵydd y mil . Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian , a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem , fel yr yfai y brenin a’i dywysogion , ei wragedd a’i ordderchadon , ynddynt . Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw , yr hwn oedd yn Jerwsalem : a’r brenin a’i dywysogion , ei wragedd a’i ordderchadon , a yfasant ynddynt . Yfasant win , a molianasant y duwiau o aur , ac o arian , o bres , o haearn , o goed , ac o faen . Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan , ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin ; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd . Yna y newidiodd lliw y brenin , a’i feddyliau a’i cyffroesant ef , fel y datododd rhwymau ei lwynau ef , ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall . Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion , y Caldeaid , a’r brudwyr : a llefarodd y brenin , a dywedodd wrth ddoethion Babilon , Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon , ac a ddangoso i mi ei dehongliad , efe a wisgir â phorffor , ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf , a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas . Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn ; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen , na mynegi i’r brenin ei dehongliad . Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar , a’i wedd a ymnewidiodd ynddo , a’i dywysogion a synasant . Y frenhines , oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion , a ddaeth i dŷ y wledd : a llefarodd y frenhines , a dywedodd , Bydd fyw byth , frenin ; na chyffroed dy feddyliau di , ac na newidied dy wedd . Y mae gŵr yn dy deyrnas , yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo ; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni , a deall , a doethineb fel doethineb y duwiau : a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid , astronomyddion , Caldeaid , a brudwyr , sef y brenin dy dad di . Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw , yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar , ysbryd rhagorol , a gwybodaeth a deall , deongl breuddwydion , ac egluro damhegion , a datod clymau : galwer Daniel yr awron , ac efe a ddengys y dehongliad . Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin : a llefarodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , Ai tydi yw Daniel , yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda , y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda ? Myfi a glywais sôn amdanat , fod ysbryd y duwiau ynot , a chael ynot ti oleuni , a deall , a doethineb rhagorol . Ac yr awr hon dygwyd y doethion , yr astronomyddion , o’m blaen , i ddarllen yr ysgrifen hon , ac i fynegi i mi ei dehongliad : ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth . Ac mi a glywais amdanat ti , y medri ddeongl deongliadau , a datod clymau ; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen , a hysbysu i mi ei dehongliad , tydi a wisgir â phorffor , ac a gei gadwyn aur am dy wddf , ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas . Yna yr atebodd Daniel , ac y dywedodd o flaen y brenin , Bydded dy roddion i ti , a dod dy anrhegion i arall ; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin , a’r dehongliad a hysbysaf iddo . O frenin , y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth , a mawredd , a gogoniant , ac anrhydedd . Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo , y bobloedd , y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef : yr hwn a fynnai a laddai , a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw ; hefyd y neb a fynnai a gyfodai , a’r neb a fynnai a ostyngai . Eithr pan ymgododd ei galon ef , a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder , efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth , a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho : Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion , a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil , a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa : â gwellt y porthasant ef fel eidion , a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd , hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion , ac yn gosod arni y neb a fynno . A thithau , Belsassar ei fab ef , ni ddarostyngaist dy galon , er gwybod ohonot hyn oll ; Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd , a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di , a thithau a’th dywysogion , dy wragedd a’th ordderchadon , a yfasoch win ynddynt ; a thi a foliennaist dduwiau o arian , ac o aur , o bres , haearn , pren , a maen , y rhai ni welant , ac ni chlywant , ac ni wyddant ddim : ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law , a’th holl ffyrdd yn eiddo . Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef , ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon . A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd : MENE , MENE , TECEL , UFFARSIN . Dyma ddehongliad y peth : MENE ; Duw a rifodd dy frenhiniaeth , ac a’i gorffennodd . TECEL ; Ti a bwyswyd yn y cloriannau , ac a’th gaed yn brin . PERES : Rhannwyd dy frenhiniaeth , a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid . Yna y gorchmynnodd Belsassar , a hwy a wisgasant Daniel â phorffor , ac â chadwyn aur am ei wddf ; a chyhoeddwyd amdano , y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth . Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid . A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth , ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed . Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion , i fod ar yr holl deyrnas ; Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw , y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt , i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif , fel na byddai y brenin mewn colled . Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion , oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef : a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas . Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth : ond ni fedrent gael un achos na bai ; oherwydd ffyddlon oedd efe , fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai . Yna y dywedodd y gwŷr hyn , Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur , oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef . Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin , ac a ddywedasant wrtho fel hyn ; Dareius frenin , bydd fyw byth . Holl raglawiaid y deyrnas , y swyddogion , a’r tywysogion , y cynghoriaid , a’r dugiaid , a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol , a chadarnhau gorchymyn , fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain , ond gennyt ti , O frenin . Yr awr hon , O frenin , sicrha y gorchymyn , a selia yr ysgrifen , fel nas newidier ; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid , yr hon ni newidir . Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn . Yna Daniel , pan wybu selio yr ysgrifen , a aeth i’w dŷ , a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem ; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau , ac y gweddïai , ac y cyffesai o flaen ei Dduw , megis y gwnâi efe cyn hynny . Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd , ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw . Yna y nesasant , ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin ; Oni seliaist ti orchymyn , mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain , ond gennyt ti , O frenin ? Atebodd y brenin , a dywedodd , Y mae y peth yn wir , yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid , yr hon ni newidir . Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin , Y Daniel , yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda , ni wnaeth gyfrif ohonot ti , frenin , nac o’r gorchymyn a seliaist , eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi . Yna y brenin , pan glybu y gair hwn , a aeth yn ddrwg iawn ganddo , ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef : ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef . Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin , ac a ddywedasant wrth y brenin , Gwybydd , frenin , mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw , na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin . Yna yr archodd y brenin , a hwy a ddygasant Daniel , ac a’i bwriasant i ffau y llewod . Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel , Dy Dduw , yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad , efe a’th achub di . A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau ; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun , ac â sêl ei dywysogion , fel na newidid yr ewyllys am Daniel . Yna yr aeth y brenin i’w lys , ac a fu y noson honno heb fwyd : ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen ; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho . Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd , ac a aeth ar frys at ffau y llewod . A phan nesaodd efe at y ffau , efe a lefodd ar Daniel â llais trist . Llefarodd y brenin , a dywedodd wrth Daniel , Daniel , gwasanaethwr y Duw byw , a all dy Dduw di , yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad , dy gadw di rhag y llewod ? Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin , O frenin , bydd fyw byth . Fy Nuw a anfonodd ei angel , ac a gaeodd safnau y llewod , fel na wnaethant i mi niwed : oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef ; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau , frenin . Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef , ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau . Yna y codwyd Daniel o’r ffau ; ac ni chaed niwed arno , oherwydd credu ohono yn ei Dduw . Yna y gorchmynnodd y brenin , a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel , ac a’u bwriasant i ffau y llewod , hwy , a’u plant , a’u gwragedd ; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt , a dryllio eu holl esgyrn . Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd , at y cenhedloedd , a’r ieithoedd oll , y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear ; Heddwch a amlhaer i chwi . Gennyf fi y gosodwyd cyfraith , ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas , i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel : oherwydd efe sydd Dduw byw , ac yn parhau byth ; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir , a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd . Y mae yn gwaredu ac yn achub , ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear ; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod . A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius , ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad . Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon , y gwelodd Daniel freuddwyd , a gweledigaethau ei ben ar ei wely . Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd , ac a draethodd swm y geiriau . Llefarodd Daniel , a dywedodd , Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos , ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr . A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr , yn amryw y naill oddi wrth y llall . Y cyntaf oedd fel llew , ac iddo adenydd eryr : edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd , a’i gyfodi oddi wrth y ddaear , a sefyll ohono ar ei draed fel dyn , a rhoddi iddo galon dyn . Ac wele anifail arall , yr ail , yn debyg i arth ; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys , ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd : ac fel hyn y dywedent wrtho , Cyfod , bwyta gig lawer . Wedi hyn yr edrychais , ac wele un arall megis llewpard , ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn : a phedwar pen oedd i’r bwystfil ; a rhoddwyd llywodraeth iddo . Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos , ac wele bedwerydd bwystfil , ofnadwy , ac erchyll , a chryf ragorol ; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn : yr oedd yn bwyta , ac yn dryllio , ac yn sathru y gweddill dan ei draed : hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef ; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn . Yr oeddwn yn ystyried y cyrn ; ac wele , cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy , a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef : ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw , a genau yn traethu mawrhydri . Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd , a’r Hen ddihenydd a eisteddodd : ei wisg oedd cyn wynned â’r eira , a gwallt ei ben fel gwlân pur ; ei orseddfa yn fflam dân , a’i olwynion yn dân poeth . Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef : mil o filoedd a’i gwasanaethent , a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron : y farn a eisteddodd , ac agorwyd y llyfrau . Edrychais yna , o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn ; ie , edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil , a difetha ei gorff ef , a’i roddi i’w losgi yn tân . A’r rhan arall o’r bwystfilod , eu llywodraeth a dducpwyd ymaith ; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser . Mi a welwn mewn gweledigaethau nos , ac wele , megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd ; ac at yr Hen ddihenydd y daeth , a hwy a’i dygasant ger ei fron ef . Ac efe a roddes iddo lywodraeth , a gogoniant , a brenhiniaeth , fel y byddai i’r holl bobloedd , cenhedloedd , a ieithoedd ei wasanaethu ef : ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol , yr hon nid â ymaith , a’i frenhiniaeth ni ddifethir . Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff , a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant . Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw , a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll . Ac efe a ddywedodd i mi , ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau . Y bwystfilod mawrion hyn , y rhai sydd bedwar , ydynt bedwar brenin , y rhai a gyfodant o’r ddaear . Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth , ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth , a hyd byth bythoedd . Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil , yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll , yn ofnadwy iawn , a’i ddannedd o haearn , a’i ewinedd o bres ; yn bwyta , ac yn dryllio , ac yn sathru y gweddill â’i draed : Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef , a’r llall yr hwn a gyfodasai , ac y syrthiasai tri o’i flaen ; sef y corn yr oedd llygaid iddo , a genau yn traethu mawrhydri , a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion . Edrychais , a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint , ac a fu drech na hwynt ; Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd , a rhoddi barn i saint y Goruchaf , a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth . Fel hyn y dywedodd efe ; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear , yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau , ac a ddifa yr holl ddaear , ac a’i sathr hi , ac a’i dryllia . A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin , y rhai a gyfodant : ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt , ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf , ac a ddarostwng dri brenin . Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf , ac a ddifa saint y Goruchaf , ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau : a hwy a roddir yn ei law ef , hyd amser ac amseroedd a rhan amser . Yna yr eistedd y farn , a’i lywodraeth a ddygant , i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd . A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth , a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd , a roddir i bobl saint y Goruchaf , yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol , a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo . Hyd yma y mae diwedd y peth . Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr , a’m gwedd a newidiodd ynof ; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon . Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin , yr ymddangosodd i mi weledigaeth , sef i myfi Daniel , wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf . Gwelais hefyd mewn gweledigaeth , ( a bu pan welais , mai yn Susan y brenhinllys , yr hwn sydd o fewn talaith Elam , yr oeddwn i , ) ie , gwelais mewn gweledigaeth , ac yr oeddwn i wrth afon Ulai . Yna y cyfodais fy llygaid , ac a welais , ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon , a deugorn iddo ; a’r ddau gorn oedd uchel , ac un yn uwch na’r llall ; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf . Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin , tua’r gogledd , a thua’r deau , fel na safai un bwystfil o’i flaen ef ; ac nid oedd a achubai o’i law ef ; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun , ac a aeth yn fawr . Ac fel yr oeddwn yn ystyried , wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin , ar hyd wyneb yr holl ddaear , ac heb gyffwrdd â’r ddaear ; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid . Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon , ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth . Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd , ac efe a fu chwerw wrtho , ac a drawodd yr hwrdd , ac a dorrodd ei ddau gorn ef , ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef , eithr efe a’i bwriodd ef i lawr , ac a’i sathrodd ef ; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef . Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn ; ac wedi ei gryfhau , torrodd y corn mawr : a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef , tua phedwar gwynt y nefoedd . Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan , ac a dyfodd yn rhagorol , tua’r deau , a thua’r dwyrain , a thua’r hyfryd wlad . Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd , a bwriodd i lawr rai o’r llu , ac o’r sêr , ac a’u sathrodd hwynt . Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu , a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef , a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef . A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd , ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr ; felly y gwnaeth , ac y llwyddodd . Yna y clywais ryw sant yn llefaru , a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru , Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol , a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau : yna y purir y cysegr . A phan welais i Daniel y weledigaeth , a cheisio ohonof y deall , yna wele , safodd ger fy mron megis rhith gŵr . A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai , ac efe a lefodd ac a ddywedodd , Gabriel , gwna i hwn ddeall y weledigaeth . Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn ; a phan ddaeth , mi a ddychrynais , ac a syrthiais ar fy wyneb : ac efe a ddywedodd wrthyf , Deall , fab dyn ; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd . A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf , syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb : ac efe a gyffyrddodd â mi , ac a’m cyfododd yn fy sefyll . Dywedodd hefyd , Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter ; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd . Yr hwrdd deugorn a welaist , yw brenhinoedd Media a Phersia . A’r bwch blewog yw brenin Groeg ; a’r corn mawr , yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef , dyna y brenin cyntaf . Lle y torrwyd ef , ac y cyfododd pedwar yn ei le , pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl , ond nid un nerth ag ef . A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt , pan gyflawner y troseddwyr , y cyfyd brenin wyneb‐greulon , ac yn deall damhegion . A’i nerth ef a gryfha , ond nid trwy ei nerth ei hun ; ac efe a ddinistria yn rhyfedd , ac a lwydda , ac a wna , ac a ddinistria y cedyrn , a’r bobl sanctaidd . A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo ; ac efe a ymfawryga yn ei galon , a thrwy heddwch y dinistria efe lawer : ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion ; ond efe a ddryllir heb law . A gweledigaeth yr hwyr a’r bore , yr hon a draethwyd , sydd wirionedd : selia dithau y weledigaeth , oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd . Minnau Daniel a euthum yn llesg , ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau ; yna y cyfodais , ac y gwneuthum orchwyl y brenin , ac a synnais oherwydd y weledigaeth , ond nid oedd neb yn ei deall . Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus , o had y Mediaid , yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid , Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef , myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd , am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd , y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem . Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw , i geisio trwy weddi ac ymbil , ynghyd ag ympryd , a sachliain , a lludw . A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw , a chyffesais , a dywedais , Atolwg , Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy , ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant , ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion ; Pechasom , a gwnaethom gamwedd , a buom anwir , gwrthryfelasom hefyd , sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion , ac oddi wrth dy farnedigaethau . Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision , y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd , ein tywysogion , ein tadau , ac wrth holl bobl y tir . I ti , Arglwydd , y perthyn cyfiawnder , ond i ni gywilydd wynebau , megis heddiw ; i wŷr Jwda , ac i drigolion Jerwsalem , ac i holl Israel , yn agos ac ymhell , trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt , am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn . Arglwydd , y mae cywilydd wynebau i ni , i’n brenhinoedd , i’n tywysogion , ac i’n tadau , oherwydd i ni bechu i’th erbyn . Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant , er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn . Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw , i rodio yn ei gyfreithiau ef , y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi . Ie , holl Israel a droseddasant dy gyfraith di , sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di : am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw , am bechu ohonom yn ei erbyn ef . Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni , ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent , gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr ; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem . Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni : eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw , gan droi oddi wrth ein hanwiredd , a chan ddeall dy wirionedd di . Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd , ac a’i dug arnom ni ; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur : canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef . Eto yr awr hon , O Arglwydd ein Duw , yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref , ac a wnaethost i ti enw megis heddiw , nyni a bechasom , ni a wnaethom anwiredd . O Arglwydd , yn ôl dy holl gyfiawnderau , atolwg , troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem , dy fynydd sanctaidd ; oherwydd am ein pechodau , ac am anwireddau ein tadau , y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch . Ond yr awr hon gwrando , O ein Duw ni , ar weddi dy was , ac ar ei ddeisyfiadau , a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig , er mwyn yr Arglwydd . Gostwng dy glust , O fy Nuw , a chlyw ; agor dy lygaid , a gwêl ein hanrhaith ni , a’r ddinas y gelwir dy enw di arni : oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron , eithr oherwydd dy aml drugareddau di . Clyw , Arglwydd ; arbed , Arglwydd ; ystyr , O Arglwydd , a gwna ; nac oeda , er dy fwyn dy hun , O fy Nuw : oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon , ac ar dy bobl . A mi eto yn llefaru , ac yn gweddïo , ac yn cyffesu fy mhechod , a phechod fy mhobl Israel , ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr Arglwydd fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw ; Ie , a mi eto yn llefaru mewn gweddi , yna y gŵr Gabriel , yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad , gan ehedeg yn fuan , a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol . Ac efe a barodd i mi ddeall , ac a ymddiddanodd â mi , ac a ddywedodd , Daniel , deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall . Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan , ac mi a ddeuthum i’w fynegi i ti : canys annwyl ydwyt ti : ystyr dithau y peth , a deall y weledigaeth . Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl , ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd , ac i selio pechodau , ac i wneuthur cymod dros anwiredd , ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol , ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth , ac i eneinio y sancteiddiolaf . Gwybydd gan hynny a deall , y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem , hyd y blaenor Meseia , saith wythnos , a dwy wythnos a thrigain : yr heol a adeiledir drachefn , a’r mur , sef mewn amseroedd blinion . Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia , ond nid o’i achos ei hun : a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr ; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant , a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol . Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos : ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd‐offrwm beidio ; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi , hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig . Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia , y datguddiwyd peth i Daniel , yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar ; a’r peth oedd wir , ond yr amser nodedig oedd hir ; ac efe a ddeallodd y peth , ac a gafodd wybod y weledigaeth . Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau . Ni fwyteais fara blasus , ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau ; gan ymiro hefyd nid ymirais , nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau . Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf , fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr , honno yw Hidecel ; Yna y cyfodais fy llygaid , ac yr edrychais , ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain , a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas : A’i gorff oedd fel maen beryl , a’i wyneb fel gwelediad mellten , a’i lygaid fel lampau tân , a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw , a sain ei eiriau fel sain tyrfa . A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth ; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth ; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr , fel y ffoesant i ymguddio . A mi a adawyd fy hunan , ac a welais y weledigaeth fawr hon , ac ni thrigodd nerth ynof : canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth , ac nid ateliais nerth . Eto mi a glywais sain ei eiriau ef : a phan glywais sain ei eiriau ef , yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb , a’m hwyneb tua’r ddaear . Ac wele , llaw a gyffyrddodd â mi , ac a’m gosododd ar fy ngliniau , ac ar gledr fy nwylo . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Daniel , ŵr annwyl , deall y geiriau a lefaraf wrthyt , a saf yn dy sefyll : canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon . Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn , sefais gan grynu . Yna efe a ddywedodd wrthyf , Nac ofna , Daniel : oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall , ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw , y gwrandawyd dy eiriau ; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i . Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain : ond wele Michael , un o’r tywysogion pennaf , a ddaeth i’m cynorthwyo ; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia . A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf : oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer . Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn , gosodais fy wyneb tua’r ddaear , ac a euthum yn fud . Ac wele , tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau : yna yr agorais fy safn , ac y lleferais , ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer , O fy arglwydd , fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth , ac nid ateliais nerth . A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma ? a minnau yna ni safodd nerth ynof , ac nid arhodd ffun ynof . Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn , ac a’m cryfhaodd i , Ac a ddywedodd , Nac ofna , ŵr annwyl ; heddwch i ti , ymnertha , ie , ymnertha . A phan lefarasai efe wrthyf , ymnerthais , a dywedais , Llefared fy arglwydd ; oherwydd cryfheaist fi . Ac efe a ddywedodd , a wyddost ti paham y deuthum atat ? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia : ac wedi i mi fyned allan , wele , tywysog tir Groeg a ddaw . Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd ; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn , ond Michael eich tywysog chwi . Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad , y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef . Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti ; Wele , tri brenin eto a safant o fewn Persia , a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll : ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth , y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg . A brenin cadarn a gyfyd , ac a lywodraetha â llywodraeth fawr , ac a wna fel y mynno . A phan safo efe , dryllir ei deyrnas , ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd ; ac nid i’w hiliogaeth ef , nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe : oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny . Yna y cryfha brenin y deau , ac un o’i dywysogion : ac efe a gryfha uwch ei law ef , ac a lywodraetha : llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef . Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant ; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod ; ond ni cheidw hi nerth y braich ; ac ni saif yntau , na’i fraich : eithr rhoddir hi i fyny , a’r rhai a’i dygasant hi , a’r hwn a’i cenhedlodd hi , a’i chymhorthwr , yn yr amseroedd hyn . Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi , yr hwn a ddaw â llu , ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd , ac a wna yn eu herbyn hwy , ac a orchfyga ; Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft , eu duwiau hwynt , a’u tywysogion , a’u dodrefn annwyl o arian ac aur ; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd . A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas , ac a ddychwel i’w dir ei hun . A’i feibion a gyffroir , ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion : a chan ddyfod y daw un , ac a lifeiria , ac a â trosodd : yna efe a ddychwel , ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef . Yna y cyffry brenin y deau , ac yr â allan , ac a ymladd ag ef , sef â brenin y gogledd : ac efe a gyfyd dyrfa fawr ; ond y dyrfa a roddir i’w law ef . Pan gymerer ymaith y dyrfa , yr ymddyrchafa ei galon , ac efe a gwympa fyrddiwn ; er hynny ni bydd efe gryf . Canys brenin y gogledd a ddychwel , ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf , ac ymhen ennyd o flynyddoedd , gan ddyfod y daw â llu mawr , ac â chyfoeth mawr . Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau ; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth ; ond hwy a syrthiant . Yna y daw brenin y gogledd , ac a fwrw glawdd , ac a ennill y dinasoedd caerog , ond breichiau y deau ni wrthsafant , na’i bobl ddewisol ef ; ac ni bydd nerth i sefyll . A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno , ac ni bydd a safo o’i flaen ; ac efe a saif yn y wlad hyfryd , a thrwy ei law ef y difethir hi . Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas , a rhai uniawn gydag ef ; fel hyn y gwna : ac efe a rydd iddo ferch gwragedd , gan ei llygru hi ; ond ni saif hi ar ei du ef , ac ni bydd hi gydag ef . Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd , ac a ennill lawer ; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio , er ei fwyn ei hun , heb warth iddo ei hun : efe a’i detry arno ef . Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun : ond efe a dramgwydda , ac a syrth , ac nis ceir ef . Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas ; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef ; ac nid mewn dig , nac mewn rhyfel . Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus , ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas : eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol , ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith . Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef , ac y dryllir hwynt , a thywysog y cyfamod hefyd . Ac wedi ymgyfeillach ag ef , y gwna efe dwyll : canys efe a ddaw i fyny , ac a ymgryfha ag ychydig bobl . I’r dalaith heddychol a bras y daw efe , ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau , na thadau ei dadau : ysglyfaeth , ac ysbail , a golud , a daena efe yn eu mysg : ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau , sef dros amser . Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr : a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn ; ond ni saif efe : canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef . Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef , a’i lu ef a lifeiria ; a llawer a syrth yn lladdedig . A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg , ac ar un bwrdd y traethant gelwydd ; ond ni thycia : canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig . Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr ; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd : felly y gwna efe , ac y dychwel i’w wlad . Ar amser nodedig y dychwel , ac y daw tua’r deau ; ac ni bydd fel y daith gyntaf , neu fel yr olaf . Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef ; am hynny yr ymofidia , ac y dychwel , ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd : felly y gwna efe , ac y dychwel ; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd . Breichiau hefyd a safant ar ei du ef , ac a halogant gysegr yr amddiffynfa , ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth , ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol . A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith : eithr y bobl a adwaenant eu Duw , a fyddant gryfion , ac a ffynnant . A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer ; eto syrthiant trwy y cleddyf , a thrwy dân , trwy gaethiwed , a thrwy ysbail , ddyddiau lawer . A phan syrthiant , â chymorth bychan y cymhorthir hwynt : eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith . A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro , ac i’w glanhau , ac i’w cannu , hyd amser y diwedd : canys y mae eto dros amser nodedig . A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun , ac a ymddyrcha , ac a ymfawryga uwchlaw pob duw ; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd , ac a lwydda nes diweddu y dicter ; canys yr hyn a ordeiniwyd , a fydd . Nid ystyria efe Dduw ei dadau , na serch ar wragedd , ie , nid ystyria un duw : canys goruwch pawb yr ymfawryga . Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef : ie , duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian , ac â meini gwerthfawr , ac â phethau dymunol . Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr , yr hwn a gydnebydd efe , ac a chwanega ei ogoniant : ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer , ac a ranna y tir am werth . Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef , a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef , â cherbydau , ac â marchogion , ac â llongau lawer ; ac efe a ddaw i’r tiroedd , ac a lifa , ac a â trosodd . Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad , a llawer o wledydd a syrthiant : ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef , Edom , a Moab , a phennaf meibion Ammon . Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd ; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol . Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian , ac ar holl annwyl bethau yr Aifft : y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef . Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef : ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha , ac i ddifrodi llawer . Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd , ar yr hyfryd fynydd sanctaidd : eto efe a ddaw hyd ei derfyn , ac ni bydd cynorthwywr iddo . Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr , yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl : yna y bydd amser blinder , y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw : ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl , y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr . A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant , rhai i fywyd tragwyddol , a rhai i warth a dirmyg tragwyddol . A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen ; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder , a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd . Tithau , Daniel , cae ar y geiriau , a selia y llyfr hyd amser y diwedd : llawer a gyniweirant , a gwybodaeth a amlheir . Yna myfi Daniel a edrychais , ac wele ddau eraill yn sefyll , un o’r tu yma ar fin yr afon , ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon . Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain , yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon , Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn ? Clywais hefyd y gŵr , a wisgasid â lliain , yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon , pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd , ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd , y bydd dros amser , amserau , a hanner : ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd , y gorffennir hyn oll . Yna y clywais , ond ni ddeellais : eithr dywedais , O fy arglwydd , beth fydd diwedd y pethau hyn ? Ac efe a ddywedodd , Dos , Daniel : canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd . Llawer a burir , ac a gennir , ac a brofir ; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni : ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus ; ond y rhai doethion a ddeallant . Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth , ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol , y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau . Gwyn ei fyd a ddisgwylio , ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau . Dos dithau hyd y diwedd : canys gorffwysi , a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau . </passage></reply></GetPassage>