<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:28</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:28</urn><passage>Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea , mab Beeri , yn nyddiau Usseia , Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas , brenin Israel . Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea . Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea , Dos , cymer i ti wraig o odineb , a phlant o odineb : oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd . Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim ; a hi a feichiogodd , ac a ddug iddo ef fab . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Galw ei enw ef Jesreel : canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu , ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod . A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel . A hi a feichiogodd eilwaith , ac a esgorodd ar ferch . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Galw ei henw hi Lo‐rwhama ; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel ; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr . Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda , ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw ; ac nid â bwa , nac â chleddyf , nac â rhyfel , nac â meirch nac â marchogion , y cadwaf hwynt . A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama , ac a feichiogodd , ac a esgorodd ar fab . A Duw a ddywedodd , Galw ei enw ef Lo‐ammi : canys nid ydych bobl i mi , ac ni byddaf i chwithau yn Dduw . Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr , yr hwn nis mesurir , ac nis cyfrifir : a bydd , yn y man lle y dywedwyd wrthynt , Nid pobl i mi ydych chwi , y dywedir yno wrthynt , Meibion y Duw byw ydych . Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd , a hwy a osodant iddynt un pen ; a deuant i fyny o’r tir : canys mawr fydd dydd Jesreel . Dywedwch wrth eich brodyr , Ammi ; ac wrth eich chwiorydd , Rwhama . Dadleuwch â’ch mam , dadleuwch : canys nid fy ngwraig yw hi , ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau : bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg , a’i godineb oddi rhwng ei bronnau ; Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun , a’i gosod fel y dydd y ganed hi , a’i gwneuthur fel anialwch , a’i gosod fel tir diffaith , a’i lladd â syched . Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd ; am eu bod yn blant godineb . Canys eu mam hwynt a buteiniodd ; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt : canys dywedodd hi , Af ar ôl fy nghariadau , y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr , fy ngwlân a’m llin , fy olew a’m diodydd . Am hynny wele , mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain , ac a furiaf fur , fel na chaffo hi ei llwybrau . A hi a ddilyn ei chariadau , ond nis goddiwedd hwynt ; a hi a’u cais hwynt , ond nis caiff : yna y dywed , Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf ; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon . Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd , a gwin , ac olew , ac a amlheais ei harian a’i haur , y rhai a ddarparasant hwy i Baal . Am hynny y dychwelaf , a chymeraf fy ŷd yn ei amser , a’m gwin yn ei dymor ; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi . A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau ; ac nis gwared neb hi o’m llaw i . Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi , ei gwyliau , ei newyddleuadau , a’i Sabothau , a’i holl uchel wyliau , beidio . A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd , am y rhai y dywedodd , Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi ; ac mi a’u gosodaf yn goedwig , a bwystfilod y maes a’u difa hwynt . A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim , yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt , ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau , ac yr aeth ar ôl ei chariadau , ac yr anghofiodd fi , medd yr Arglwydd . Am hynny wele , mi a’i denaf hi , ac a’i dygaf i’r anialwch , ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon . A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno , a dyffryn Achor yn ddrws gobaith ; ac yno y cân hi , fel yn nyddiau ei hieuenctid , ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft . Y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y’m gelwi Issi , ac ni’m gelwi mwyach Baali . Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi , ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau . A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes , ac ag ehediaid y nefoedd , ac ag ymlusgiaid y ddaear ; a’r bwa , a’r cleddyf , a’r rhyfel , a dorraf ymaith o’r ddaear , a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel . A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd ; ie , dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder , ac mewn barn , ac mewn tiriondeb , ac mewn trugareddau . A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb ; a thi a adnabyddi yr Arglwydd . A’r dydd hwnnw y gwrandawaf , medd yr Arglwydd , ar y nefoedd y gwrandawaf ; a hwythau a wrandawant ar y ddaear ; A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd , a’r gwin , a’r olew ; a hwythau a wrandawant ar Jesreel . A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear , ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd ; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi , Fy mhobl wyt ti : a hwythau a ddywedant , O fy Nuw . Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos eto , câr wraig , ( hoff gan ei chyfaill , a hithau wedi torri ei phriodas , ) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel , a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr , ac yn hoffi costrelau gwin . A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian , ac er homer o haidd , a hanner homer o haidd : A dywedais wrthi , Aros amdanaf lawer o ddyddiau ; na phuteinia , ac na fydd i ŵr arall : a minnau a fyddaf felly i tithau . Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin , a heb dywysog , a heb aberth , a heb ddelw , a heb effod , a heb deraffim . Wedi hynny y dychwel meibion Israel , ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw , a Dafydd eu brenin ; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf . Meibion Israel , gwrandewch air yr Arglwydd : canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad , am nad oes na gwirionedd , na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw , yn y wlad . Trwy dyngu , a dywedyd celwydd , a lladd celain , a lladrata , a thorri priodas , y maent yn torri allan , a gwaed a gyffwrdd â gwaed . Am hynny y galara y wlad , ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi , ynghyd â bwystfilod y maes , ac ehediaid y nefoedd ; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant . Er hynny nac ymrysoned , ac na cherydded neb ei gilydd : canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad . Am hynny ti a syrthi y dydd , a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos , a mi a ddifethaf dy fam . Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth : am i ti ddiystyru gwybodaeth , minnau a’th ddiystyraf dithau , fel na byddych offeiriad i mi ; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw , minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd . Fel yr amlhasant , felly y pechasant i’m herbyn : am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth . Bwyta y maent bechod fy mhobl , ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon . A bydd yr un fath , bobl ac offeiriad : ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd , a thalaf iddynt eu gweithredoedd . Bwytânt , ac nis diwellir ; puteiniant , ac nid amlhânt ; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd . Godineb , a gwin , a gwin newydd , a ddwg y galon ymaith . Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion , a’u ffon a ddengys iddynt : canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt , a phuteiniasant oddi wrth eu Duw . Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant , ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth , dan y dderwen , a’r boplysen , a’r llwyfen , am fod yn dda eu cysgod : am hynny y puteinia eich merched chwi , a’ch gwragedd a dorrant briodas . Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont , nac â’ch gwragedd pan dorront briodas : am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid , ac aberthasant gyda dihirogod ; a’r bobl ni ddeallant , a dramgwyddant . Er i ti , Israel , buteinio , eto na pheched Jwda : nac ewch i Gilgal , nac ewch i fyny i Beth‐afen ; ac na thyngwch , Byw yw yr Arglwydd . Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel : yr Arglwydd yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder . Effraim a ymgysylltodd ag eilunod : gad iddo . Surodd eu diod hwy ; gan buteinio y puteiniasant : hoff yw , Moeswch , trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi . Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd , a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau . Clywch hyn , chwi offeiriaid ; gwrandewch , tŷ Israel ; a thŷ y brenin , rhoddwch glust : canys y mae barn tuag atoch , am eich bod yn fagl ar Mispa , ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor . Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn , er i mi eu ceryddu hwynt oll . Myfi a adwaen Effraim , ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf : canys yn awr ti , Effraim , a buteiniaist , ac Israel a halogwyd . Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw ; am fod ysbryd godineb o’u mewn , ac nid adnabuant yr Arglwydd . A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb : am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd ; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt . A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr Arglwydd ; ond nis cânt ef : ciliodd efe oddi wrthynt . Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffyddlon : canys cenedlasant blant dieithr : mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau . Cenwch y corn yn Gibea , yr utgorn yn Rama ; bloeddiwch yn Beth‐afen ar dy ôl di , Benjamin . Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd : ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr . Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn : am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr . Gorthrymwyd Effraim , drylliwyd ef mewn barn , am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn . Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim , ac fel pydredd i dŷ Jwda . Pan welodd Effraim ei lesgedd , a Jwda ei archoll ; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad , ac a hebryngodd at frenin Jareb : eto ni allai efe eich meddyginiaethu , na’ch iacháu o’ch archoll . Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew , ac i dŷ Jwda fel cenau llew : myfi a ysglyfaethaf , ac a af ymaith ; dygaf ymaith , ac ni bydd a achubo . Af a dychwelaf i’m lle , hyd oni chydnabyddont eu bai , a cheisio fy wyneb : pan fyddo adfyd arnynt , y’m boregeisiant . Deuwch , a dychwelwn at yr Arglwydd : canys efe a’n drylliodd , ac efe a’n hiachâ ni ; efe a drawodd , ac efe a’n meddyginiaetha ni . Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd , a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny , a byddwn fyw ger ei fron ef . Yna yr adnabyddwn , os dilynwn adnabod yr Arglwydd : ei fynediad a ddarperir fel y bore ; ac efe a ddaw fel glaw atom , fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear . Beth a wnaf i ti , Effraim ? beth a wnaf i ti , Jwda ? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore , ac fel gwlith boreol . Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi ; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau : a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan . Canys ewyllysiais drugaredd , ac nid aberth ; a gwybodaeth o Dduw , yn fwy na phoethoffrymau . A’r rhai hyn , fel dynion , a dorasant y cyfamod : yno y buant anffyddlon i’m herbyn . Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead , wedi ei halogi gan waed . Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr , felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn : canys gwnânt ysgelerder . Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll : yno y mae godineb Effraim ; halogwyd Israel . Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau , Jwda , a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl . A mi yn ewyllysio iacháu Israel , datguddiwyd anwiredd Effraim , a drygioni Samaria : canys gwnânt ffalster ; a’r lleidr a ddaw i mewn , a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan . Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt : weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd : y maent gerbron fy wyneb . Llawenhânt y brenin â’u drygioni , a’r tywysogion â’u celwyddau . Pawb ohonynt sydd yn torri priodas , fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd , yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes , hyd oni byddo wedi ei lefeinio . Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin : estynnodd ei law gyda gwatwarwyr . Fel yr oeddynt yn cynllwyn , darparasant eu calon fel ffwrn : eu pobydd a gwsg ar hyd y nos ; y bore y llysg fel fflam dân . Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn , ac a ysant eu barnwyr : eu holl frenhinoedd a gwympasant , heb un ohonynt yn galw arnaf fi . Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd ; Effraim sydd fel teisen heb ei throi . Estroniaid a fwytânt ei gryfder , ac nis gŵyr efe : ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo , ac nis gwybu efe . Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb ; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw , ac nis ceisiant ef . Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon ; galwant ar yr Aifft , ânt i Asyria . Pan elont , taenaf fy rhwyd drostynt , a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd : cosbaf hwynt , fel y clybu eu cynulleidfa hwynt . Gwae hwynt ! canys ffoesant oddi wrthyf : dinistr arnynt ; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn : er i mi eu gwared hwynt , eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi . Ac ni lefasant arnaf â’u calon , pan udasant ar eu gwelyau : am ŷd a melys win yr ymgasglant ; ciliasant oddi wrthyf . Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt , eto meddyliasant ddrwg i mi . Dychwelasant , nid at y Goruchaf : y maent fel bwa twyllodrus : eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod . Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft . At dy safn â’r utgorn . Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd , am iddynt droseddu fy nghyfamod , a phechu yn erbyn fy nghyfraith . Israel a lefant arnaf , Fy Nuw , nyni a’th adwaenom di . Israel a fwriodd heibio ddaioni : y gelyn a’i herlid yntau . Hwy a wnaethant frenhinoedd , ac nid trwof fi ; gwnaethant dywysogion , ac nis gwybûm : o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau , fel y torrer hwynt ymaith . Samaria , dy lo a’th fwriodd heibio : fy nig a gyneuodd i’w herbyn ; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd ? Canys o Israel y mae ; y saer a’i gwnaeth ; am hynny nid yw efe Dduw : ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria . Canys gwynt a heuasant , a chorwynt a fedant : corsen ni bydd iddo : y dywysen ni wna flawd : ac os gwna , dieithriaid a’i llwnc . Israel a lyncwyd : bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo . Canys hwy a aethant i fyny i Asyria , yn asyn gwyllt unig iddo ei hun : Effraim a gyflogodd gariadau . Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd , yn awr mi a’u casglaf hwynt : canys tristânt ychydig , oherwydd baich brenin y tywysogion . Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu , allorau fydd ganddo i bechu . Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith , ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd . Yn lle ebyrth fy offrymau , cig a aberthant , ac a fwytânt ; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt : efe a gofia bellach eu hanwiredd , ac efe a ofwya eu pechodau ; dychwelant i’r Aifft . Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr , ac a adeiladodd demlau ; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog : ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd , ac efe a ysa ei balasau . Israel , na orfoledda gan lawenydd , fel pobloedd eraill : canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw , gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd . Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt , a’r gwin newydd a’i twylla hi . Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd ; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft , ac yn Asyria y bwytânt beth aflan . Nid offrymant win i’r Arglwydd , a’u haberthau ni bydd melys ganddo ; byddant iddynt fel bara galarwyr ; pawb a fwytao ohono a halogir : oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd . Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl , ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd ? Canys wele , aethant ymaith gan ddinistr ; yr Aifft a’u casgl hwynt , Memffis a’u cladd hwynt : danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt ; drain a dyf yn eu pebyll . Dyddiau i ymweled a ddaethant , dyddiau talu’r pwyth a ddaethant ; Israel a gânt wybod hyn : y proffwyd sydd ffôl , ynfyd yw y gŵr ysbrydol , am amlder dy anwiredd , a’r cas mawr . Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw ; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau , ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw . Ymlygrasant yn ddwfn , megis yn amser Gibea : am hynny efe a goffa eu hanwiredd , efe a ymwêl â’u pechod . Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch ; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad : ond hwy a aethant at Baal‐peor , ymddidolasant at y gwarth hwnnw ; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant . Am Effraim , eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn ; o’r enedigaeth , o’r groth , ac o’r beichiogi . Er iddynt fagu eu plant , gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion : a gwae hwynt , pan ymadawyf oddi wrthynt ! Effraim , fel y gwelais Tyrus , a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd : eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad . Dyro iddynt , Arglwydd : beth a roddi ? dyro iddynt groth yn erthylu , a bronnau hysbion . Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal : canys yno y caseais hwynt : am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ ; ni chwanegaf eu caru hwynt : eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar . Effraim a drawyd , eu gwraidd a wywodd , dwyn ffrwyth nis gwnânt : ac os cenhedlant , eto lladdaf annwyl blant eu crothau . Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt , am na wrandawsant arno ef : am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd . Gwinwydden wag yw Israel ; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun : yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau ; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg . Eu calon a ymrannodd ; yn awr y ceir hwy yn feius : efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt ; efe a ddistrywia eu delwau . Canys yr awr hon y dywedant , Nid oes i ni frenin , am nad ofnasom yr Arglwydd ; a pheth a wnâi brenin i ni ? Dywedasant eiriau , gan dyngu anudon wrth wneuthur amod ; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd . Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen ; canys ei bobl a alara drosto , a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo , o achos ei ogoniant , am iddo ymado oddi wrtho ef . Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb : Effraim a dderbyn gywilydd , ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun . Samaria , ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr . A distrywir uchelfeydd Afen , pechod Israel ; dring drain a mieri ar eu hallorau : a dywedant wrth y mynyddoedd , Gorchuddiwch ni ; ac wrth y bryniau , Syrthiwch arnom . O Israel , ti a bechaist er dyddiau Gibea : yno y safasant ; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt . Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt : a phobl a gesglir yn eu herbyn , pan ymrwymont yn eu dwy gŵys . Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu , yn dda ganddi ddyrnu ; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi : paraf i Effraim farchogaeth : Jwda a ardd , a Jacob a lyfna iddo . Heuwch i chwi mewn cyfiawnder , medwch mewn trugaredd ; braenerwch i chwi fraenar : canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd , hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch . Arddasoch i chwi ddrygioni , medasoch anwiredd , bwytasoch ffrwyth celwydd ; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun , yn lluosowgrwydd dy gedyrn . Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl , a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir , fel y darfu i Salman ddinistrio Beth‐arbel yn amser rhyfel ; lle y drylliwyd y fam ar y plant . Fel hynny y gwna Bethel i chwi , am eich mawrddrwg : gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith . Pan oedd Israel yn fachgen , mi a’i cerais ef , ac a elwais fy mab o’r Aifft . Fel y galwent arnynt , felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy ; aberthasant i Baalim , llosgasant arogl‐darth i ddelwau cerfiedig . Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded , gan eu cymryd erbyn eu breichiau ; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt . Tynnais hwynt â rheffynnau dynol , â rhwymau cariad ; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt ; a bwriais atynt fwyd . Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft ; ond yr Asyriad fydd ei frenin , am iddynt wrthod troi . A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef , ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef , am eu cynghorion eu hun . A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi ; er iddynt eu galw at y Goruchaf , eto ni ddyrchafai neb ef . Pa fodd y’th roddaf ymaith , Effraim ? y’th roddaf i fyny , Israel ? pa fodd y’th wnaf fel Adma ? ac y’th osodaf megis Seboim ? trodd fy nghalon ynof , a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd . Ni chyflawnaf angerdd fy llid : ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim , canys Duw ydwyf fi , ac nid dyn ; y Sanct yn dy ganol di ; ac nid af i mewn i’r ddinas . Ar ôl yr Arglwydd yr ânt ; efe a rua fel llew : pan ruo efe , yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant . Dychrynant fel aderyn o’r Aifft , ac fel colomen o dir Asyria : a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai , medd yr Arglwydd . Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd , a thŷ Israel â thwyll ; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw , ac yn ffyddlon gyda’r saint . Effraim sydd yn ymborthi ar wynt , ac yn dilyn gwynt y dwyrain : ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr ; amod a wnaethant â’r Asyriaid ; ac olew a ddygwyd i’r Aifft . Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda ; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd : yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth . Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd , ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw . Ie , cafodd nerth ar yr angel , a gorchfygodd ; wylodd , ac ymbiliodd ag ef : cafodd ef yn Bethel , ac yno yr ymddiddanodd â ni ; Sef Arglwydd Dduw y lluoedd : yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth . Tro dithau at dy Dduw ; cadw drugaredd a barn , a disgwyl wrth dy Dduw bob amser . Marsiandwr yw efe ; yn ei law ef y mae cloriannau twyll : da ganddo orthrymu . A dywedodd Effraim , Eto mi a gyfoethogais , cefais i mi olud ; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof , a fyddai bechod . A mi , yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft , a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll , megis ar ddyddiau uchel ŵyl . Ymddiddenais trwy y proffwydi , a mi a amlheais weledigaethau , ac a arferais gyffelybiaethau , trwy law y proffwydi . A oes anwiredd yn Gilead ? yn ddiau gwagedd ydynt ; yn Gilgal yr aberthant ychen : eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd . Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria , a gwasanaethodd Israel am wraig , ac am wraig y cadwodd ddefaid . A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft , a thrwy broffwyd y cadwyd ef . Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd ; am hynny y gad efe ei waed ef arno , a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd . Pan lefarodd Effraim â dychryn , ymddyrchafodd efe yn Israel ; ond pan bechodd gyda Baal , y bu farw . Ac yr awr hon ychwanegasant bechu , ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd , ac eilunod , yn ôl eu deall eu hun , y cwbl o waith y crefftwyr , am y rhai y maent yn dywedyd , Y rhai a aberthant , cusanant y lloi . Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl , ac megis y gwlith yr ymedy yn fore , fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu , ac fel mwg o’r ffumer . Eto myfi yw yr Arglwydd dy Dduw , a’th ddug di o dir yr Aifft ; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi : ac nid oes Iachawdwr ond myfi . Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch , yn nhir sychder mawr . Fel yr oedd eu porfa , y cawsant eu gwala : cawsant eu gwala , a chodasant eu calonnau ; ac anghofiasant fi . Ond mi a fyddaf fel llew iddynt ; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt . Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon ; rhwygaf orchudd eu calon hwynt ; ac yna fel llew y difâf hwynt : bwystfil y maes a’u llarpia hwynt . O Israel , tydi a’th ddinistriaist dy hun ; ond ynof fi y mae dy gymorth . Dy frenin fyddaf : pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd ? a’th frawdwyr , am y rhai y dywedaist , Dyro i mi frenin a thywysogion ? Rhoddais i ti frenin yn fy nig , a dygais ef ymaith yn fy llid . Rhwymwyd anwiredd Effraim ; cuddiwyd ei bechod ef . Gofid un yn esgor a ddaw arno : mab angall yw efe ; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant . O law y bedd yr achubaf hwynt ; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt : byddaf angau i ti , O angau ; byddaf dranc i ti , y bedd : cuddir edifeirwch o’m golwg . Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr , daw gwynt y dwyrain , gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a ddyrchafa , a’i ffynhonnell a sych , a’i ffynnon a â yn hesb : efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol . Diffeithir Samaria , am ei bod yn anufudd i’w Duw : syrthiant ar y cleddyf : eu plant a ddryllir , a’u gwragedd beichiogion a rwygir . Ymchwel , Israel , at yr Arglwydd dy Dduw ; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd . Cymerwch eiriau gyda chwi , a dychwelwch at yr Arglwydd : dywedwch wrtho , Maddau yr holl anwiredd ; derbyn ni yn ddaionus : a thalwn i ti loi ein gwefusau . Ni all Assur ein hachub ni ; ni farchogwn ar feirch ; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo , O ein duwiau : oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd . Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt , caraf hwynt yn rhad : canys trodd fy nig oddi wrtho . Byddaf fel gwlith i Israel : efe a flodeua fel y lili , ac a leda ei wraidd megis Libanus . Ei geinciau a gerddant , a bydd ei degwch fel yr olewydden , a’i arogl fel Libanus . Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant : adfywiant fel ŷd , blodeuant hefyd fel y winwydden : bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus . Effraim a ddywed , Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod ? Gwrandewais , ac edrychais arno : myfi sydd fel ffynidwydden ir ; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di . Pwy sydd ddoeth , ac efe a ddeall hyn ? a deallgar , ac efe a’i gwybydd ? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd , a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt : ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt . </passage></reply></GetPassage>