<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:29</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:29</urn><passage>Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel . Gwrandewch hyn , chwi henuriaid ; a rhoddwch glust , holl drigolion y wlad : a fu hyn yn eich dyddiau , neu yn nyddiau eich tadau ? Mynegwch hyn i’ch plant , a’ch plant i’w plant hwythau , a’u plant hwythau i genhedlaeth arall . Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn , a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd , a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust . Deffrowch , feddwyr , ac wylwch ; ac udwch , holl yfwyr gwin , am y gwin newydd ; canys torrwyd ef oddi wrth eich min . Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir ; dannedd llew yw ei dannedd , a childdannedd hen lew sydd iddi . Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod , a’m ffigysbren a ddirisglodd : gan ddinoethi dinoethodd hi , a thaflodd hi ymaith : ei changau a wynasant . Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid . Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd , a’r offrwm diod : y mae yr offeiriaid , gweinidogion yr Arglwydd , yn galaru . Difrodwyd y maes , y ddaear a alara ; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd : sychodd y gwin newydd , llesgaodd yr olew . Cywilyddiwch , y llafurwyr ; udwch , y gwinwyddwyr , am y gwenith , ac am yr haidd : canys darfu am gynhaeaf y maes . Gwywodd y winwydden , llesgaodd y ffigysbren , y pren pomgranad , y balmwydden hefyd , a’r afallen , a holl brennau y maes , a wywasant ; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion . Ymwregyswch a griddfenwch , chwi offeiriaid ; udwch , weinidogion yr allor ; deuwch , weinidogion fy Nuw , gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain : canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd , a’r offrwm diod . Cysegrwch ympryd , gelwch gymanfa , cesglwch yr henuriaid , a holl drigolion y wlad , i dŷ yr Arglwydd eich Duw , a gwaeddwch ar yr Arglwydd ; Och o’r diwrnod ! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos , ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw . Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw , y bwyd , y llawenydd , a’r digrifwch ? Pydrodd yr hadau dan eu priddellau , yr ysguboriau a anrheithiwyd , yr ydlannau a fwriwyd i lawr ; canys yr ŷd a wywodd . O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid ! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg , am nad oes borfa iddynt ; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd . Arnat ti , Arglwydd , y llefaf ; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch , y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes . Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat ; canys sychodd y ffrydiau dwfr , a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch . Cenwch yr utgorn yn Seion , a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd : dychryned holl breswylwyr y wlad ; canys daeth dydd yr Arglwydd , canys y mae yn agos . Diwrnod tywyll du , diwrnod cymylog a niwlog , fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd : pobl fawr a chryfion , ni bu eu bath erioed , ac ni bydd eilwaith ar eu hôl , hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth . O’u blaen y difa y tân , ac ar eu hôl y fflam ; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys , ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig ; a hefyd ni ddianc dim ganddynt . Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch ; ac fel marchogion , felly y rhedant . Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant , fel sŵn tân ysol yn difa y sofl , ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel . O’u blaen yr ofna y bobl ; pob wyneb a gasgl barddu . Rhedant fel glewion , dringant y mur fel rhyfelwyr , a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun , ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau . Ni wthiant y naill y llall ; cerddant bob un ei lwybr ei hun : ac er eu syrthio ar y cleddyf , nid archollir hwynt . Gwibiant ar hyd y ddinas ; rhedant ar y mur , dringant i’r tai ; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr . O’u blaen y crŷn y ddaear , y nefoedd a gynhyrfir ; yr haul a’r lleuad a dywyllir , a’r sêr a ataliant eu llewyrch . A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu : canys mawr iawn yw ei wersyll ef : canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef : oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd , ac ofnadwy iawn ; a phwy a’i herys ? Ond yr awr hon , medd yr Arglwydd , Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon , ag ympryd hefyd , ac ag wylofain , ac â galar . A rhwygwch eich calon , ac nid eich dillad ; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw : oherwydd graslon a thrugarog yw efe , hwyrfrydig i ddigofaint , a mawr ei drugaredd , ac edifeiriol am ddrwg . Pwy a ŵyr a dry efe , ac edifarhau , a gweddill bendith ar ei ôl , sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r Arglwydd eich Duw ? Cenwch utgorn yn Seion , cysegrwch ympryd , gelwch gymanfa : Cesglwch y bobl ; cysegrwch y gynulleidfa : cynullwch yr henuriaid ; cesglwch y plant , a’r rhai yn sugno bronnau : deued y priodfab allan o’i ystafell , a’r briodferch allan o ystafell ei gwely . Wyled yr offeiriaid , gweinidogion yr Arglwydd , rhwng y porth a’r allor , a dywedant , Arbed dy bobl , O Arglwydd , ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth , i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt : paham y dywedent ymhlith y bobloedd , Pa le y mae eu Duw hwynt ? Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir , ac a arbed ei bobl . A’r Arglwydd a etyb , ac a ddywed wrth ei bobl , Wele fi yn anfon i chwi ŷd , a gwin , ac olew ; a diwellir chwi ohono : ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd . Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu , a gyrraf ef i dir sych diffaith , a’i wyneb tua môr y dwyrain , a’i ben ôl tua’r môr eithaf : a’i ddrewi a gyfyd , a’i ddrycsawr a â i fyny , am iddo wneuthur mawrhydri . Nac ofna di , ddaear ; gorfoledda a llawenycha : canys yr Arglwydd a wna fawredd . Nac ofnwch , anifeiliaid y maes : canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch ; canys y pren a ddwg ei ffrwyth , y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd . Chwithau , plant Seion , gorfoleddwch , ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw : canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol , ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf . A’r ysguboriau a lenwir o ŷd , a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri . A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn , pryf y rhwd , a’r locust , a’r lindys , fy llu mawr i , yr hwn a anfonais yn eich plith . Yna y bwytewch , gan fwyta ac ymddigoni ; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd : ac ni waradwyddir fy mhobl byth . A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel , ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , ac nid neb arall : a’m pobl nis gwaradwyddir byth . A bydd ar ôl hynny , y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd ; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant , eich henuriaid a welant freuddwydion , eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau : Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny . A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd ; ac yn y ddaear , gwaed , a thân , a cholofnau mwg . Yr haul a droir yn dywyllwch , a’r lleuad yn waed , o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd . A bydd , yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd : canys bydd ymwared , fel y dywedodd yr Arglwydd , ym mynydd Seion , ac yn Jerwsalem , ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd . Canys wele , yn y dyddiau hynny , ac yn yr amser hwnnw , pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem , Casglaf hefyd yr holl genhedloedd , a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat ; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl , a’m hetifeddiaeth Israel , y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd , a rhanasant fy nhir . Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau , a rhoddasant y bachgen er putain , a gwerthasant fachgennes er gwin , fel yr yfent . Tyrus hefyd a Sidon , a holl ardaloedd Palesteina , beth sydd i chwi a wneloch â mi ? a delwch i mi y pwyth ? ac os telwch i mi , buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain ; Am i chwi gymryd fy arian a’m haur , a dwyn i’ch temlau fy nhlysau dymunol . Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid , i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd . Wele , mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo , ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain . A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda , a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid , i genedl o bell ; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn . Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd , gosodwch ryfel , deffrowch y gwŷr cryfion , nesaed y gwŷr o ryfel , deuant i fyny . Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau , a’ch pladuriau yn waywffyn : dyweded y llesg , Cryf ydwyf . Ymgesglwch , a deuwch , y cenhedloedd o amgylch ogylch , ac ymgynullwch : yno disgyn , O Arglwydd , dy gedyrn . Deffroed y cenhedloedd , a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat : oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch . Rhowch i mewn y cryman ; canys aeddfedodd y cynhaeaf : deuwch , ewch i waered ; oherwydd y gwryf a lanwodd , a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd , am amlhau eu drygioni hwynt . Torfeydd , torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad : canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad . Yr haul a’r lloer a dywyllant , a’r sêr a ataliant eu llewyrch . A’r Arglwydd a rua o Seion , ac a rydd ei lef o Jerwsalem ; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant : ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl , a chadernid meibion Israel . Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yn trigo yn Seion , fy mynydd sanctaidd : yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd , ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach . A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin , a’r bryniau a lifeiriant o laeth , a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr , a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd , ac a ddyfrha ddyffryn Sittim . Yr Aifft a fydd anghyfannedd , ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol , am y traha yn erbyn meibion Jwda , am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt . Eto Jwda a drig byth , a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth . Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais : canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion . </passage></reply></GetPassage>