<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:3</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:3</urn><passage>A’r Arglwydd a alwodd ar Moses , ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd , o anifail , sef o’r eidionau , neu o’r praidd , yr offrymwch eich offrwm . Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef , offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl ; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm ; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo , i wneuthur cymod drosto . Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd ; a dyged meibion Aaron , yr offeiriaid , y gwaed , a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A blinged y poethoffrwm , a thorred ef yn ei ddarnau . A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor , a gosodant goed mewn trefn ar y tân . A gosoded meibion Aaron , yr offeiriaid , y darnau , y pen , a’r braster , mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor . Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr : a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor , yn boethoffrwm , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os o’r praidd , sef o’r defaid , neu o’r geifr , yr offryma efe boethoffrwm ; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl . A lladded ef gerbron yr Arglwydd , o du’r gogledd i’r allor ; a thaenelled meibion Aaron , yr offeiriaid , ei waed ef ar yr allor o amgylch . A thorred ef yn ei ddarnau , gyda’i ben a’i fraster ; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor . Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr : a dyged yr offeiriad y cwbl , a llosged ar yr allor . Hwn sydd boethoffrwm , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd ; yna dyged ei offrwm o durturau , neu o gywion colomennod . A dyged yr offeiriad ef at yr allor , a thorred ei ben ef , a llosged ef ar yr allor ; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor . A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu , a bwried hwynt gerllaw yr allor , o du’r dwyrain , i’r lle y byddo y lludw . Hollted ef , a’i esgyll hefyd ; eto na wahaned ef : a llosged yr offeiriad ef ar yr allor , ar y coed a fyddant ar y tân . Dyma boethoffrwm , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd , bydded ei offrwm ef o beilliaid ; a thywallted olew arno , a rhodded thus arno . A dyged ef at feibion Aaron , yr offeiriaid : a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid , ac o’i olew , ynghyd â’i holl thus ; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor , yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion : sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw . Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm , wedi ei bobi mewn ffwrn , teisen beilliaid groyw , wedi ei chymysgu trwy olew , neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew , a fydd . Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di , bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew . Tor ef yn ddarnau , a thywallt arno olew ; bwyd‐offrwm yw . Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm , gwneler o beilliaid trwy olew . A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm , yr hwn a wneir o’r rhai hyn : ac wedi y dyger at yr offeiriad , dyged yntau ef at yr allor . A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm , a llosged ef ar yr allor ; yn offrwm tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm : sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw . Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd ; canys dim surdoes , na mêl , ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd . Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth ; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd . Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen ; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm : offryma halen ar bob offrwm i ti . Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf ; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân , sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn , a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf . A dod olew arno , a gosod thus arno : bwyd‐offrwm yw . A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan , ac o’i olew , ynghyd â’i holl thus : offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw . Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef , pan offrymo efe eidion , offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl ; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw . A rhodded ei law ar ben ei offrwm , a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod : a thaenelled meibion Aaron , yr offeiriaid , y gwaed ar yr allor o amgylch . Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd ; sef y weren fol , a’r holl wêr a fydd ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn , a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu , a dynn efe ymaith , ynghyd â’r arennau . A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor , ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd , offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl . Os oen a offryma efe yn ei offrwm ; yna dyged gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ben ei offrwm , a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod ; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch . Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd ; ei weren , a’r gloren i gyd : torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn , ynghyd â’r weren fol , a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor : bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw . Ac os gafr fydd ei offrwm ef ; dyged hi gerbron yr Arglwydd . A gosoded ei law ar ei phen , a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod ; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch . Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd ; sef y weren fol , a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor : bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw . Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau , yw : na fwytaoch ddim gwêr , na dim gwaed . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur : Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl ; offrymed , dros ei bechod a wnaeth , fustach ieuanc perffaith‐gwbl , yn aberth dros bechod i’r Arglwydd . A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd , a gosoded ei law ar ben y bustach , a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach , a dyged ef i babell y cyfarfod . A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed , a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith , o flaen gwahanlen y cysegr . A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd , yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod ; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho ; y weren fol , a’r holl wêr fyddo ar y perfedd ; A’r ddwy aren , a’r gwêr a fyddo arnynt , hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a dynn efe ymaith , ynghyd â’r arennau ; Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd : a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm . Ond croen y bustach , a’i holl gig , ynghyd â’i ben , a’i draed , a’i berfedd , a’i fiswail , A’r holl fustach hefyd , a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll , i le glân , wrth dywalltfa’r lludw ; ac a’i llysg ar goed yn tân ; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef . Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod , a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa , a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur , a myned yn euog : Pan wypir y pechod y pechasant ynddo ; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod , a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod . A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd , a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd . A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod . A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed , a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith , o flaen y wahanlen . A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd , sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod ; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm , yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod . A thynned ei holl wêr allan ohono , a llosged ar yr allor . A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth ; felly gwnaed iddo : a’r offeiriad a wna gymod drostynt ; ac fe a faddeuir iddynt . A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll , a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf . Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa . Os pecha pennaeth , a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur , a bod yn euog ; Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth : dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl . A gosoded ei law ar ben y llwdn , a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm , gerbron yr Arglwydd . Dyma aberth dros bechod . A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys , a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm . A llosged ei holl wêr ar yr allor , fel gwêr yr aberth hedd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod ; a maddeuir iddo . Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod , gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd , ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur , a bod yn euog ; Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef : yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe . A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod , a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm . A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys , a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor . A thynned ei holl wêr hi , fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd ; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor , yn arogl peraidd i’r Arglwydd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ; a maddeuir iddo . Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen , dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl . A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod , a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm . A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod , a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm , a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor . A thynned ei holl wêr hi , fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd ; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor , fel aberth tanllyd i’r Arglwydd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd ; a maddeuir iddo . Os pecha dyn , a chlywed llais llw , ac yntau yn dyst , naill ai yn gweled ai yn gwybod ; oni fynega , yna efe a ddwg ei anwiredd . Os dyn a gyffwrdd â dim aflan , pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan , ai burgyn anifail aflan , ai burgyn ymlusgiad aflan ; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef , aflan ac euog yw efe . Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn , pa aflendid bynnag iddo , yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid , a’r peth yn guddiedig rhagddo ; pan gaffo wybod , yna euog yw . Neu os dyn a dwng , gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg , neu wneuthur da ; beth bynnag a draetho dyn trwy lw , a’r peth yn guddiedig rhagddo ; pan gaffo efe wybod , euog yw o un o hyn . A phan fyddo efe euog o un o hyn ; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo : A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd ; sef benyw o’r praidd , oen neu fyn gafr , yn aberth dros bechod ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod . Ond os ei law ni chyrraedd werth oen , dyged i’r Arglwydd , am ei gamwedd yr hwn a bechodd , ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; y naill yn aberth dros bechod , a’r llall yn boethoffrwm . A dyged hwynt at yr offeiriad ; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf , a thorred ei ben wrth ei wegil ; ond na thorred ef ymaith . A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor ; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor . Dyma aberth dros bechod . A’r ail a wna efe yn offrwm poeth , yn ôl y ddefod : a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd ; a maddeuir iddo . Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod : na osoded olew ynddo , ac na rodded thus arno ; canys aberth dros bechod yw . A dyged hynny at yr offeiriad : a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth , a llosged ar yr allor , fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . Dyma aberth dros bechod . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn , a maddeuir iddo : a bydded i’r offeiriad y gweddill , megis o’r bwyd‐offrwm . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Os gwna dyn gamwedd , a phechu trwy amryfusedd , yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd ; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd , hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di o siclau arian , yn ôl sicl y cysegr , yn aberth dros gamwedd . A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig , a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato , a rhodded ef at yr offeiriad : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd ; a maddeuir iddo . Ac os pecha enaid , a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd , ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur ; er na wyddai , eto euog fydd , a’i anwiredd a ddwg . A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di , at yr offeiriad , yn offrwm dros gamwedd : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe , ac yntau heb wybod ; a maddeuir iddo . Aberth dros gamwedd yw hyn : camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Os pecha dyn , a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd , a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw , neu am yr hyn y rhoddes efe ei law , neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe , neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog ; Neu os cafodd beth gwedi ei golli , a dywedyd celwydd amdano , neu dyngu yn anudon ; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn , gan bechu ynddynt : Yna , am iddo bechu , a bod yn euog ; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe , neu y peth a gafodd trwy dwyll , neu y peth a adawyd i gadw gydag ef , neu y peth wedi ei golli a gafodd efe , Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano ; taled hynny erbyn ei ben , a chwaneged ei bumed ran ato : ar y dydd yr offrymo dros gamwedd , rhodded ef i’r neb a’i piau . A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd , hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd , gyda’th bris di , yn offrwm dros gamwedd , at yr offeiriad . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd : a maddeuir iddo , am ba beth bynnag a wnaeth , i fod yn euog ohono . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i Aaron , ac i’w feibion , gan ddywedyd , Dyma gyfraith y poethoffrwm : ( poethoffrwm yw , oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore , a thân yr allor a gyneuir arni . ) Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano , a gwisged lodrau lliain am ei gnawd , a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor , a gosoded ef gerllaw yr allor . A diosged ei wisgoedd , a gwisged ddillad eraill , a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll , i le glân . A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni ; na ddiffodded : ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore ; a threfned y poethoffrwm arni , a llosged wêr yr aberth hedd arni . Cyneuer y tân bob amser ar yr allor ; na ddiffodded . Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm . Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd , o flaen yr allor : A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm , ac o’i olew , a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm ; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor , yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion : yn groyw y bwyteir ef : yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef . Na phober ef trwy lefain . Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd : peth sancteiddiolaf yw hyn , megis yr aberth dros bechod , a’r aberth dros gamwedd . Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn : deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd ; pob un a gyffyrddo â hwynt , fydd sanctaidd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma offrwm Aaron a’i feibion , yr hwn a offrymant i’r Arglwydd , ar y dydd yr eneinier ef . Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol , ei hanner y bore , a’i hanner brynhawn . Gwneler ef trwy olew mewn padell : yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu ; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu , yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A’r offeiriad o’i feibion ef , yr hwn a eneinir yn ei le ef , gwnaed hyn , trwy ddeddf dragwyddol : llosger y cwbl i’r Arglwydd . A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll : na fwytaer ef . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion , gan ddywedyd , Dyma gyfraith yr aberth dros bechod . Yn y lle y lleddir y poethoffrwm , y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd : sancteiddiolaf yw efe . Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod , a’i bwyty : yn y lle sanctaidd y bwyteir ef , yng nghynteddfa pabell y cyfarfod . Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef , a fydd sanctaidd : a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn , golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno . A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo : ond os mewn llestr pres y berwir ef , ysgwrier a golcher ef mewn dwfr . Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef : sancteiddiolaf yw efe . Ac na fwytaer un offrwm dros bechod , yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod , i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd ; ond llosger mewn tân . Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd : sancteiddiolaf yw . Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm , y lladdant yr aberth dros gamwedd ; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch . A’i holl wêr a offryma efe ohono ; y gloren hefyd , a’r weren fol . A’r ddwy aren , a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn , a’r rhwyden oddi ar yr afu , ynghyd â’r arennau , a dynn efe ymaith . A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd : aberth dros gamwedd yw . Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty : yn y lle sanctaidd y bwyteir ef : sancteiddiolaf yw . Fel y mae yr aberth dros bechod , felly y bydd yr aberth dros gamwedd ; un gyfraith sydd iddynt : yr offeiriad , yr hwn a wna gymod ag ef , a’i piau . A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb , yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe . A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn , a’r hyn oll a wneler mewn padell , neu ar radell , fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo . A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew , neu yn sych , a fydd i holl feibion Aaron , bob un fel ei gilydd . Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd . Os yn lle diolch yr offryma efe hyn ; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw , wedi eu cymysgu trwy olew ; ac afrllad croyw , wedi eu hiro ag olew ; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau , wedi eu cymysgu ag olew . Heblaw’r teisennau , offrymed fara lefeinllyd , yn ei offrwm , gyda’i hedd‐aberth o ddiolch . Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm , yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd ; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd . A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef : na adawer dim ohono hyd y bore . Ond os adduned , neu offrwm gwirfodd , fydd aberth ei offrwm ef ; y dydd yr offrymo efe ei aberth , bwytaer ef : a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono . Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd , llosger yn tân . Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd , ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef , ac nis cyfrifir iddo , ffieiddbeth fydd : a’r dyn a fwyty ohono , a ddwg ei anwiredd . A’r cig a gyffyrddo â dim aflan , ni fwyteir ; mewn tân y llosgir ef : a’r cig arall , pob glân a fwyty ohono . A’r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth , yr hwn a berthyn i’r Arglwydd , a’i aflendid arno ; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan , sef ag aflendid dyn , neu ag anifail aflan , neu ag un ffieiddbeth aflan , a bwyta o gig yr hedd‐aberth , yr hwn a berthyn i’r Arglwydd ; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Na fwytewch ddim gwêr eidion , neu ddafad , neu afr . Eto gwêr burgyn , neu wêr ysglyfaeth , a ellir ei weithio mewn pob gwaith ; ond gan fwyta na fwytewch ef . Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail , o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd ; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl . Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau , o’r eiddo aderyn , nac o’r eiddo anifail . Pob enaid a fwytao ddim gwaed , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd , dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd . Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd ; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe ; y barwyden fydd i’w chyhwfanu , yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor : a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion . Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad , o’ch ebyrth hedd . Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd , a’r gwêr ; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan . Oherwydd parwyden y cyhwfan , ac ysgwyddog y dyrchafael , a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd , ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad , ac i’w feibion , trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel . Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion , o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd ; Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt , y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel , trwy ddeddf dragwyddol , trwy eu cenedlaethau . Dyma gyfraith y poethoffrwm , y bwyd‐offrwm , a’r aberth dros bechod , a’r aberth dros gamwedd , a’r cysegriadau , a’r aberth hedd ; Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai , yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd , yn anialwch Sinai . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer Aaron a’i feibion gydag ef , a’r gwisgoedd , ac olew yr eneiniad , a bustach yr aberth dros bechod , a dau hwrdd , a chawell y bara croyw : A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod . A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo : a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod . A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa , Dyma’r peth a orchmynnodd’ yr Arglwydd ei wneuthur . A Moses a ddug Aaron a’i feibion , ac a’u golchodd hwynt â dwfr . Ac efe a roddes amdano ef y bais , ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys , ac a wisgodd y fantell amdano , ac a roddes yr effod amdano , ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod , ac a’i caeodd amdano ef . Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno , ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg . Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef ; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef , y dalaith aur , y goron sanctaidd ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd i Moses . A Moses a gymerodd olew yr eneiniad , ac a eneiniodd y tabernacl , a’r hyn oll oedd ynddo ; ac a’u cysegrodd hwynt . Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith , ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri , a’r noe hefyd a’i throed , i’w cysegru . Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron , ac a’i heneiniodd ef , i’w gysegru . A Moses a ddug feibion Aaron , ac a wisgodd beisiau amdanynt , a gwregysodd hwynt â gwregysau , ac a osododd gapiau am eu pennau ; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses . Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod : ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod ; Ac efe a’i lladdodd : a Moses a gymerth y gwaed , ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys , ac a burodd yr allor ; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor , ac a’i cysegrodd hi , i wneuthur cymod arni . Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a’r ddwy aren a’u gwêr ; a Moses a’i llosgodd ar yr allor . A’r bustach , a’i groen , a’i gig , a’i fiswail , a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll : fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm : ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd : Ac efe a’i lladdodd ; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch . Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau ; a llosgodd Moses y pen , y darnau , a’r gwêr . Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr ; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor . Poethoffrwm yw hwn , i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses . Ac efe a ddug yr ail hwrdd , sef hwrdd y cysegriad : ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd . Ac efe a’i lladdodd ; a Moses a gymerodd o’i waed , ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau . Ac efe a ddug feibion Aaron : a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau , ac ar fawd eu llaw ddeau , ac ar fawd eu troed deau ; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch . Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr , a’r gloren , a’r holl wêr oedd ar y perfedd , a’r rhwyden oddi ar yr afu , a’r ddwy aren a’u braster , a’r ysgwyddog ddeau . A chymerodd o gawell y bara croyw , yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd , un deisen groyw , ac un deisen o fara olewedig , ac un afrlladen ; ac a’u gosododd ar y gwêr , ac ar yr ysgwyddog ddeau : Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron , ac ar ddwylo ei feibion , ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt , ac a’u llosgodd ar yr allor , ar yr offrwm poeth . Dyma gysegriadau o arogl peraidd : dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd . Cymerodd Moses y barwyden hefyd , ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A chymerodd Moses o olew yr eneiniad , ac o’r gwaed oedd ar yr allor , ac a’i taenellodd ar Aaron , ar ei wisgoedd , ar ei feibion hefyd , ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef : ac efe a gysegrodd Aaron , a’i wisgoedd , a’i feibion hefyd , a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef . A dywedodd Moses wrth Aaron , ac wrth ei feibion , Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod : ac yno bwytewch ef , a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau ; megis y gorchmynnais , gan ddywedyd , Aaron a’i feibion a’i bwyty ef . A’r gweddill o’r cig , ac o’r bara , a losgwch yn tân . Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod , hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau : oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi . Megis y gwnaeth efe heddiw , y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur , i wneuthur cymod drosoch . Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod , ddydd a nos , a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd , fel na byddoch feirw : canys fel hyn y’m gorchmynnwyd . A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses . Yna y bu , ar yr wythfed dydd , i Moses alw Aaron a’i feibion , a henuriaid Israel ; Ac efe a ddywedodd wrth Aaron , Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod , a hwrdd yn boethoffrwm , o rai perffaith‐gwbl , a dwg hwy gerbron yr Arglwydd . Llefarodd hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Cymerwch fyn gafr , yn aberth dros bechod ; a llo , ac oen , blwyddiaid , perffaith‐gwbl , yn boethoffrwm ; Ac eidion , a hwrdd , yn aberth hedd , i aberthu gerbron yr Arglwydd ; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew : oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi . A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod : a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos , ac a safasant gerbron yr Arglwydd . A dywedodd Moses , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur ; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi . Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron , Dos at yr allor , ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm , a gwna gymod drosot dy hun , a thros y bobl ; ac abertha offrwm y bobl , a gwna gymod drostynt ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd . Yna y nesaodd Aaron at yr allor , ac a laddodd lo yr aberth dros bechod , yr hwn oedd drosto ef ei hun . A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato : ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed , ac a’i gosododd ar gyrn yr allor , ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor . Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau , a’r rhwyden oddi ar yr afu ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân , o’r tu allan i’r gwersyll . Ac efe a laddodd y poethoffrwm : a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato ; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch . A dygasant y poethoffrwm ato , gyda’i ddarnau , a’i ben hefyd ; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor . Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed , ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor . Hefyd efe a ddug offrwm y bobl ; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl , ac a’i lladdodd , ac a’i hoffrymodd dros bechod , fel y cyntaf . Ac efe a ddug y poethoffrwm , ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod . Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm : ac a lanwodd ei law ohono , ac a’i llosgodd ar yr allor , heblaw poethoffrwm y bore . Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd , yn aberth hedd , yr hwn oedd dros y bobl : a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato ; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch . Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd , y gloren , a’r weren fol , a’r arennau , a’r rhwyden oddi ar yr afu . A gosodasant y gwêr ar y parwydennau ; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor . Y parwydennau hefyd , a’r ysgwyddog ddeau , a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd ; fel y gorchmynnodd Moses . A chododd Aaron ei law tuag at y bobl , ac a’u bendithiodd ; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod , a’r poethoffrwm , a’r ebyrth hedd . A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod ; a daethant allan , ac a fendithiasant y bobl : a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl . A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a ysodd y poethoffrwm , a’r gwêr , ar yr allor : a gwelodd yr holl bobl ; a gwaeddasant , a chwympasant ar eu hwynebau . Yna Nadab ac Abihu , meibion Aaron , a gymerasant bob un ei thuser , ac a roddasant dân ynddynt , ac a osodasant arogl‐darth ar hynny ; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt . A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd , ac a’u difaodd hwynt ; a buant feirw gerbron yr Arglwydd . A dywedodd Moses wrth Aaron , Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf , a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir . A thewi a wnaeth Aaron . A galwodd Moses Misael ac Elsaffan , meibion Ussiel , ewythr Aaron , a dywedodd wrthynt , Deuwch yn nes ; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr , allan o’r gwersyll . A nesáu a wnaethant , a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll ; fel y llefarasai Moses . A dywedodd Moses wrth Aaron , ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion , Na ddiosgwch oddi am eich pennau , ac na rwygwch eich gwisgoedd : rhag i chwi farw , a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa : ond wyled eich brodyr chwi , holl dŷ Israel , am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd . Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod ; rhag i chwi farw : oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi . A gwnaethant fel y llefarodd Moses . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron , gan ddywedyd , Gwin a diod gadarn nac yf di , na’th feibion gyda thi , pan ddeloch i babell y cyfarfod ; fel na byddoch feirw . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn : A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig , a rhwng aflan a glân ; Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses . A llefarodd Moses wrth Aaron , ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar , y rhai a adawsid o’i feibion ef , Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor : oherwydd sancteiddiolaf yw . A bwytewch ef yn y lle sanctaidd : oherwydd dy ran di , a rhan dy feibion di , o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , yw hyn : canys fel hyn y’m gorchmynnwyd . Y barwyden gyhwfan hefyd , a’r ysgwyddog ddyrchafael , a fwytewch mewn lle glân ; tydi , a’th feibion , a’th ferched , ynghyd â thi : oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti , ac yn rhan i’th feibion di , o ebyrth hedd meibion Israel . Yr ysgwyddog ddyrchafael , a’r barwyden gyhwfan , a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr , i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : a bydded i ti , ac i’th feibion gyda thi , yn rhan dragwyddol ; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd . A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod ; ac wele ef wedi ei losgi : ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar , y rhai a adawsid o feibion Aaron , gan ddywedyd , Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd ; oherwydd sancteiddiolaf yw , a Duw a’i rhoddodd i chwi , i ddwyn anwiredd y gynulleidfa , gan wneuthur cymod drostynt , gerbron yr Arglwydd ? Wele , ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr : ei fwyta a ddylasech yn y cysegr ; fel y gorchmynnais . A dywedodd Aaron wrth Moses , Wele , heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod , a’u poethoffrwm , gerbron yr Arglwydd ; ac fel hyn y digwyddodd i mi ; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw , a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd ? A phan glybu Moses hynny , efe a fu fodlon . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd wrthynt , Llefarwch wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r anifeiliaid a fwytewch , o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear . Beth bynnag a hollto’r ewin , ac a fforchogo hollt yr ewinedd , ac a gno ei gil , o’r anifeiliaid ; hwnnw a fwytewch . Ond y rhai hyn ni fwytewch ; o’r rhai a gnoant eu cil ac o’r rhai a holltant yr ewin : y camel , er ei fod yn cnoi ei gil , am nad yw yn hollti’r ewin ; aflan fydd i chwi . A’r gwningen , am ei bod yn cnoi ei chil , ac heb fforchogi’r ewin ; aflan yw i chwi . A’r ysgyfarnog , am ei bod yn cnoi ei chil , ac heb fforchogi’r ewin ; aflan yw i chwi . A’r llwdn hwch , am ei fod yn hollti’r ewin , ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin , a heb gnoi ei gil ; aflan yw i chwi . Na fwytewch o’u cig hwynt , ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt : aflan ydynt i chwi . Hyn a fwytewch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd : pob peth y mae iddo esgyll a chen , yn y dyfroedd , yn y moroedd , ac yn yr afonydd ; y rhai hynny a fwytewch . A phob dim nid oes iddo esgyll a chen , yn y moroedd , ac yn yr afonydd , o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd , ac o bob peth byw , y rhai fyddant yn y dyfroedd ; byddant ffiaidd gennych . Byddant ffiaidd gennych : na fwytewch o’u cig hwynt , a ffieiddiwch eu burgyn hwy . Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo , ffieiddbeth fydd i chwi . A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar ; na fwytewch hwynt , ffieidd‐dra ydynt : sef yr eryr , a’r wyddwalch , a’r fôr‐wennol ; A’r fwltur , a’r barcud yn ei ryw ; Pob cigfran yn ei rhyw ; A chyw’r estrys , a’r frân nos , a’r gog , a’r gwalch yn ei ryw ; Ac aderyn y cyrff , a’r fulfran , a’r dylluan , A’r gogfran , a’r pelican , a’r biogen , A’r ciconia , a’r crŷr yn ei ryw , a’r gornchwigl , a’r ystlum . Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed , ffieidd‐dra yw i chwi . Ond hyn a fwytewch , o bob ehediad a ymlusgo , ac a gerddo ar bedwar troed , yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed , i neidio wrthynt ar hyd y ddaear ; O’r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch : y locust yn ei ryw , a’r selam yn ei ryw , a’r hargol yn ei ryw , a’r hagab yn ei ryw . A phob ehediad arall a ymlusgo , yr hwn y mae pedwar troed iddo , ffieidd‐dra fydd i chwi . Ac am y rhai hyn y byddwch aflan : pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt , a fydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt , golched ei ddillad ; ac aflan fydd hyd yr hwyr . Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin , ac heb ei fforchogi , ac heb gnoi ei gil , aflan yw y rhai hynny i chwi ; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt . Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau , o bob anifail a gerddo ar bedwar troed , aflan ydynt i chwi : pob un a gyffyrddo â’u burgyn , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr : aflan ydynt i chwi . A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear : y wenci , a’r llygoden , a’r llyffant yn ei ryw ; A’r draenog , a’r lysard , a’r ystelio , a’r falwoden , a’r wadd . Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid : pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw , a fydd aflan hyd yr hwyr . A phob dim y cwympo un ohonynt arno , wedi marw , a fydd aflan ; pob llestr pren , neu wisg , neu groen , neu sach , pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo , rhodder mewn dwfr , a bydded aflan hyd yr hwyr : felly y bydd lân . A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn , aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn ; a thorrwch yntau . Aflan fydd pob bwyd a fwyteir , o’r hwn y dêl dwfr aflan arno ; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan . Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno ; y ffwrn a’r badell a dorrir : aflan ydynt , ac aflan fyddant i chwi . Eto glân fydd y ffynnon a’r pydew , lle mae dyfroedd lawer : ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn , a fydd aflan . Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig , yr hwn a heuir ; glân yw efe . Ond os rhoddir dwfr ar yr had , a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef ; aflan fydd efe i chwi . Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd ; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a fwyty o’i furgyn ef , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr ; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef , golched ei ddillad ; a bydded aflan hyd yr hwyr . A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , fydd ffieidd‐dra : na fwytaer ef . Pob peth a gerddo ar ei dor , a phob peth a gerddo ar bedwar troed , a phob peth aml ei draed , o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear , na fwytewch hwynt : canys ffieidd‐dra ydynt . Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo , ac na fyddwch aflan o’u plegid , fel y byddech aflan o’u herwydd . Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi : ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd ; oherwydd sanctaidd ydwyf fi : ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear . Canys myfi yw yr Arglwydd , yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft , i fod yn Dduw i chwi : byddwch chwithau sanctaidd ; canys sanctaidd ydwyf fi . Dyma gyfraith yr anifeiliaid , a’r ehediaid , a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd , ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear ; I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân , a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Os gwraig a feichioga , ac a esgor ar wryw ; yna bydded aflan saith niwrnod : fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan . A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef . A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth : na chyffyrdded â dim sanctaidd , ac na ddeued i’r cysegr , nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth . Ond os ar fenyw yr esgor hi ; yna y bydd hi aflan bythefnos , megis yn ei gwahaniaeth : a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth . A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch ; dyged oen blwydd yn offrwm poeth , a chyw colomen , neu durtur , yn aberth dros bechod , at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod : Ac offrymed efe hynny gerbron yr Arglwydd , a gwnaed gymod drosti : a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed . Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw . Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen , yna cymered ddwy durtur , neu ddau gyw colomen ; y naill yn offrwm poeth , a’r llall yn aberth dros bechod : a gwnaed yr offeiriad gymod drosti ; a glân fydd . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Dyn ( pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd , neu gramen , neu ddisgleirder , a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla’r clwyf gwahanol , ) a ddygir at Aaron yr offeiriad , neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid . A’r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd : os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn , a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef ; pla gwahanglwyf yw hwnnw : a’r offeiriad a’i hedrych , ac a’i barn yn aflan . Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef , ac heb fod yn is ei welediad na’r croen , a’i flewyn heb droi yn wyn ; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod . A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef : ac wele , os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef , heb ledu o’r pla yn y croen ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith . Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd : ac wele , os bydd y pla yn odywyll , heb ledu o’r pla yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn lân : cramen yw honno : yna golched ei wisgoedd a glân fydd . Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen , wedi i’r offeiriad ei weled , i’w farnu yn lân ; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad . Ac os gwêl yr offeiriad , ac wele , ledu o’r gramen yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : gwahanglwyf yw . Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf , dyger ef at yr offeiriad ; Ac edryched yr offeiriad : yna , os chwydd gwyn a fydd yn y croen , a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wyn , a dim cig noeth byw yn y chwydd ; Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef ; a barned yr offeiriad ef yn aflan : na chaeed arno ; oherwydd y mae efe yn aflan . Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen , a gorchuddio o’r gwahanglwyf holl groen y clwyfus , o’i ben hyd ei draed , pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad ; Yna edryched yr offeiriad : ac wele , os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef ; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân : trodd yn wyn i gyd : glân yw . A’r dydd y gwelir ynddo gig byw , aflan fydd . Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw , a barned ef yn aflan : aflan yw y cig byw hwnnw ; gwahanglwyf yw . Neu os dychwel y cig byw , a throi yn wyn ; yna deued at yr offeiriad : Ac edryched yr offeiriad arno : ac wele , os trodd y pla yn wyn ; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân : glân yw efe . Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen , a’i iacháu ; A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn , neu ddisgleirder gwyngoch , a’i ddangos i’r offeiriad : Os , pan edrycho yr offeiriad arno , y gwelir ef yn is na’r croen , a’i flewyn wedi troi yn wyn ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd . Ond os yr offeiriad a’i hedrych ; ac wele , ni bydd ynddo flewyn gwyn , ac ni bydd is na’r croen , ond ei fod yn odywyll ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod . Ac os gan ledu y lleda yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : pla yw efe . Ond os y disgleirder a saif yn ei le , heb ymledu , craith cornwyd yw efe ; a barned yr offeiriad ef yn lân . Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen , a bod i’r cig byw sydd yn llosgi , ddisgleirder gwyngoch , neu wyn ; Yna edryched yr offeiriad ef : ac wele , os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn , ac yn is i’w weled na’r croen ; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad ; a barned yr offeiriad ef yn aflan : pla gwahanglwyf yw hwnnw . Ond os yr offeiriad a’i hedrych ; ac wele , ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder , ac ni bydd is na’r croen , ond ei fod yn odywyll ; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod . Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd : os gan ledu y lledodd yn y croen ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : pla gwahanglwyf yw hwnnw . Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le , heb ledu yn y croen , ond ei fod yn odywyll ; chwydd y llosgiad yw efe ; barned yr offeiriad ef yn lân : canys craith y llosgiad yw hwnnw . Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf ; Yna edryched yr offeiriad y pla : ac wele , os is y gwelir na’r croen , a blewyn melyn main ynddo ; yna barned yr offeiriad ef yn aflan : y ddufrech yw hwnnw ; gwahanglwyf pen neu farf yw . Ac os yr offeiriad a edrych ar bla’r ddufrech ; ac wele , ni bydd yn is ei weled na’r croen , ac heb flewyn du ynddo ; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech , saith niwrnod . Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd : ac wele , os y ddufrech ni bydd wedi lledu , ac ni bydd blewyn melyn ynddi , a heb fod yn is gweled y ddufrech na’r croen ; Yna eillier ef , ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech ; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith . A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech : ac wele , os y ddufrech ni ledodd yn y croen , ac ni bydd is ei gweled na’r croen ; yna barned yr offeiriad ef yn lân , a golched ei ddillad , a glân fydd . Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen , wedi ei lanhau ef ; Yna edryched yr offeiriad ef : ac wele , os lledodd y ddufrech yn y croen , na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn : y mae efe yn aflan . Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef , a blewyn du wedi tyfu ynddi ; aeth y ddufrech yn iach , glân yw hwnnw ; a barned yr offeiriad ef yn lân . Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion ; Yna edryched yr offeiriad : ac wele , os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo ; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen : glân yw efe . A gŵr pan syrthio gwallt ei ben , moel yw ; eto glân fydd . Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben , efe a fydd talfoel ; eto glân fydd efe . Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd ; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd , neu yn ei dalfoeledd ef . Ac edryched yr offeiriad arno : ac wele , os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch , yn ei benfoeledd , neu yn ei dalfoeledd ef , fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd ; Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw , aflan yw ; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr aflan : yn ei ben y mae ei bla . A’r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno , bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo , a’i ben yn noeth , a rhodded gaead ar ei wefus uchaf , a llefed , Aflan , aflan . Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno , bernir ef yn aflan : aflan yw efe : triged ei hunan ; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll . Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo , o ddilledyn gwlân , neu o ddilledyn llin , Pa un bynnag ai yn yr ystof , ai yn yr anwe , o lin , neu o wlân , neu mewn croen , neu mewn dim a wnaed o groen ; Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn , neu yn y croen , neu yn yr ystof , neu yn yr anwe , neu mewn dim o groen : pla’r gwahanglwyf yw efe ; a dangoser ef i’r offeiriad . Ac edryched yr offeiriad ar y pla ; a chaeed ar y peth y bo y pla arno , saith niwrnod . A’r seithfed dydd edryched ar y pla : os y pla a ledodd yn y dilledyn , pa un bynnag ai mewn ystof , ai mewn anwe , ai mewn croen , neu beth bynnag a wnaed o groen ; gwahanglwyf ysol yw y pla ; aflan yw . Am hynny llosged y dilledyn hwnnw , pa un bynnag ai ystof , ai anwe , o wlân , neu o lin , neu ddim o groen , yr hwn y byddo pla ynddo : canys gwahanglwyf ysol yw efe ; llosger yn tân . Ac os edrych yr offeiriad ; ac wele , ni ledodd y pla mewn dilledyn , mewn ystof , neu mewn anwe , neu ddim o groen ; Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo , a chaeed arno saith niwrnod eilwaith . Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi : ac wele , os y pla ni throdd ei liw , ac ni ledodd y pla ; efe a fydd aflan ; llosg ef yn tân ; ysiad yw , pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan . Ac os edrych yr offeiriad ; ac wele’r pla yn odywyll , ar ôl ei olchi ; yna torred ef allan o’r dilledyn , neu o’r croen , neu o’r ystof , neu o’r anwe . Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn , yn yr ystof , neu yn yr anwe , neu mewn dim o groen ; tarddu y mae efe : llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân . A’r dilledyn , neu yr ystof , neu yr anwe , neu pa beth bynnag o groen , y rhai a olcher , os ymadawodd y pla â hwynt , a olchir eilwaith ; a glân fydd . Dyma gyfraith pla gwahanglwyf , mewn dilledyn gwlân , neu lin , mewn ystof , neu anwe , neu pa beth bynnag o groen , i’w farnu yn lân , neu i’w farnu yn aflan . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma gyfraith y gwahanglwyfus , y dydd y glanheir ef . Dyger ef at yr offeiriad : A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll ; ac edryched yr offeiriad : ac wele , os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus ; Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir , gymryd dau aderyn y to , byw a glân , a choed cedr , ac ysgarlad , ac isop . A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd , oddi ar ddwfr rhedegog . A chymered efe yr aderyn byw , a’r coed cedr , a’r ysgarlad , a’r isop , a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog . A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf , a barned ef yn lân ; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes . A golched yr hwn a lanheir ei ddillad , ac eillied ei holl flew , ac ymolched mewn dwfr ; a glân fydd : a deued wedi hynny i’r gwersyll , a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod . A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew , sef ei ben , a’i farf , ac aeliau ei lygaid ; ie , eillied ei holl flew ; a golched ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr ; a glân fydd . A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl , ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl , a thair degfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , ac un log o olew . A gosoded yr offeiriad a lanhao , y gŵr a lanheir , a hwynt hefyd , gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A chymered yr offeiriad un hesbwrn , ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd , a’r log o olew , a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth , a’r poethoffrwm ; sef yn y lle sanctaidd : oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad , yn gystal â’r pech‐aberth : sancteiddiolaf yw . A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd , a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau ef . A chymered yr offeiriad o’r log olew , a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun : A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy , a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd . Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law , y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau , ar waed yr offrwm dros gamwedd . A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad , a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd . Ie , offrymed yr offeiriad aberth dros bechod , a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid ; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm . Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm , a’r bwyd‐offrwm , ar yr allor ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ; a glân fydd . Ond os tlawd fydd , a’i law heb gyrhaeddyd hyn ; yna cymered un oen , yn aberth dros gamwedd , i’w gyhwfanu , i wneuthur cymod drosto , ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm , a log o olew ; A dwy durtur , neu ddau gyw colomen , y rhai a gyrhaeddo ei law : a bydded un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm . A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd , a’r log olew , a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd . A lladded oen yr offrwm dros gamwedd ; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd , a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau . A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun : Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy , seithwaith gerbron yr Arglwydd . A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law , ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir , ac ar fawd ei law ddeau , ac ar fawd ei droed deau , ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd . A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad , a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir , i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd . Yna offrymed un o’r turturau , neu o’r cywion colomennod , sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef ; Y rhai , meddaf , a gyrhaeddo ei law ef , un yn bech‐aberth , ac un yn boethoffrwm , ynghyd â’r bwyd‐offrwm : a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd . Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno , yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhad . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Pan ddeloch i dir Canaan , yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant , os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant ; A dyfod o’r hwn biau’r tŷ , a dangos i’r offeiriad , gan ddywedyd , Gwelaf megis pla yn y tŷ : Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ , cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla ; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ : ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ ; Ac edryched ar y pla : ac wele , os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ , yn agennau gwyrddleision neu gochion , a’r olwg arnynt yn is na’r pared ; Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ , i ddrws y tŷ , a chaeed y tŷ saith niwrnod . A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn , ac edryched : ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ ; Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt , a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan . A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch ; a thywalltant y llwch a grafont , o’r tu allan i’r ddinas i le aflan . A chymerant gerrig eraill , a gosodant yn lle y cerrig hynny ; a chymered bridd arall , a phridded y tŷ . Ond os daw’r pla drachefn , a tharddu yn y tŷ , wedi tynnu’r cerrig , ac wedi crafu’r tŷ , ac wedi priddo ; Yna doed yr offeiriad , ac edryched : ac wele , os lledodd y pla yn y tŷ , gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ : aflan yw efe . Yna tynned y tŷ i lawr , ei gerrig , a’i goed , a holl bridd y tŷ ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan . A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau , efe a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a gysgo yn y tŷ , golched ei ddillad : felly yr hwn a fwytao yn y tŷ , golched ei ddillad . Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw , ac a edrych ; ac wele , ni ledodd y pla yn y tŷ , wedi priddo’r tŷ : yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân , oherwydd iacháu y pla . A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to , a choed cedr ac ysgarlad , ac isop . A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd , oddi ar ddwfr rhedegog . A chymered y coed cedr , a’r isop , a’r ysgarlad , a’r aderyn byw , a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd , ac yn y dwfr rhedegog , a thaenelled ar y tŷ seithwaith . A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn , ac â’r dwfr rhedegog , ac â’r aderyn byw , ac â’r coed cedr , ac â’r isop , ac â’r ysgarlad . A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes , a gwnaed gymod dros y tŷ ; a glân fydd . Dyma gyfraith am bob pla’r clwyf gwahanol , ac am y ddufrech , Ac am wahanglwyf gwisg , a thŷ , Ac am chwydd , a chramen , a disgleirdeb ; I ddysgu pa bryd y bydd aflan , a pha bryd yn lân . Dyma gyfraith y gwahanglwyf . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Llefarwch wrth feibion Israel , a dywedwch wrthynt , Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o’i gnawd , a fydd aflan oblegid ei ddiferlif . A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif : os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif , neu ymatal o’i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif ; ei aflendid ef yw hyn . Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd , a fydd aflan ; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno . A’r neb a gyffyrddo â’i wely ef , golched ei ddillad , ac ymdroched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phan boero’r diferllyd ar un glân , golched hwnnw ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo’r diferllyd ynddo . A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano , bydd aflan hyd yr hwyr : a’r hwn a’u dyco hwynt , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag y cyffyrddo’r diferllyd ag ef , heb olchi ei ddwylo mewn dwfr , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A’r llestr pridd y cyffyrddo’r diferllyd ag ef , a ddryllir : a phob llestr pren a olchir mewn dwfr . A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif ; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i’w lanhau , a golched ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog , a glân fydd . A’r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur , neu ddau gyw colomen , a deued gerbron yr Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , a rhodded hwynt i’r offeiriad . Ac offrymed yr offeiriad hwynt , un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm : a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif , gerbron yr Arglwydd . Ac os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had ; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phob dilledyn , a phob croen , y byddo disgyniad had arno , a olchir mewn dwfr , ac a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi ; ymolchant mewn dwfr , a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau . A phan fyddo gwraig â diferlif arni , a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed ; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth : a phwy bynnag a gyffyrddo â hi , bydd aflan hyd yr hwyr . A’r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth , fydd aflan ; a’r hyn oll yr eisteddo hi arno , a fydd aflan . A phwy bynnag a gyffyrddo â’i gwely hi , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno , golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac os ar y gwely y bydd efe , neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno , wrth gyffwrdd ag ef ; hyd yr hwyr y bydd efe aflan . Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi , fel y byddo o’i misglwyf hi arno ef ; aflan fydd efe saith niwrnod , ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno . A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau , allan o amser ei hanhwyl , neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl ; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth : aflan fydd hi . Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif , fydd iddi fel gwely ei misglwyf ; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan , megis aflendid ei misglwyf hi . A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt , aflan fydd ; a golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydd aflan hyd yr hwyr . Ac os glanheir hi o’i diferlif ; yna cyfrifed iddi saith niwrnod : ac wedi hynny glân fydd . A’r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur , neu ddau gyw colomen , a dyged hwynt at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod . Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth , a’r llall yn boethoffrwm ; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd , am ddiferlif ei haflendid . Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid , fel na byddant feirw yn eu haflendid , pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg . Dyma gyfraith yr hwn y byddo’r diferlif arno , a’r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had , fel y byddo aflan o’u herwydd ; A’r glaf o’i misglwyf , a’r neb y byddo’r diferlif arno , o wryw , ac o fenyw , ac i’r gŵr a orweddo ynghyd â’r hon a fyddo aflan . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , wedi marwolaeth dau fab Aaron , pan offrymasant gerbron yr Arglwydd , ac y buant feirw ; A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Llefara wrth Aaron dy frawd , na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen , gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch ; fel na byddo efe farw : oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl . A hyn y daw Aaron i’r cysegr : â bustach ieuanc yn bech‐aberth , ac â hwrdd yn boethoffrwm . Gwisged bais liain sanctaidd , a bydded llodrau lliain am ei gnawd , a gwregyser ef â gwregys lliain , a gwisged feitr lliain : gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn ; golched yntau ei gnawd mewn dwfr , pan wisgo hwynt . A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth , ac un hwrdd yn boethoffrwm . Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ . A chymered y ddau fwch , a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch ; un coelbren dros yr Arglwydd , a’r coelbren arall dros y bwch dihangol . A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno , ac offrymed ef yn bech‐aberth . A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol , a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd , i wneuthur cymod ag ef , ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol . A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun : A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor , oddi gerbron yr Arglwydd , a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân , a dyged o fewn y wahanlen : A rhodded yr arogl‐darth ar y tân , gerbron yr Arglwydd ; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa , yr hon sydd ar y dystiolaeth , ac na byddo efe farw : A chymered o waed y bustach , a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain : a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa . Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl , a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen ; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach , a thaenelled ef ar y drugareddfa , ac o flaen y drugareddfa : A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel , ac oddi wrth eu hanwireddau , yn eu holl bechodau : a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod , yr hon sydd yn aros gyda hwynt , ymysg eu haflendid hwynt . Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod , pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr , hyd oni ddelo efe allan , a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun , a thros ei dŷ , a thros holl gynulleidfa Israel . Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd , a gwnaed gymod arni ; a chymered o waed y bustach , ac o waed y bwch , a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch . A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys , a glanhaed hi , a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel . A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr , a phabell y cyfarfod , a’r allor , dyged y bwch byw : A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw , a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel , a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau ; a rhodded hwynt ar ben y bwch , ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch . A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno , i dir neilltuaeth : am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch . Yna deued Aaron i babell y cyfarfod , a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr , a gadawed hwynt yno . A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd , a gwisged ei ddillad , ac aed allan , ac offrymed ei boethoffrwm ei hun , a phoethoffrwm y bobl , a gwnaed gymod drosto ei hun , a thros y bobl . A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor . A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol , ei ddillad , a golched ei gnawd mewn dwfr ; ac yna deued i’r gwersyll . A bustach y pech‐aberth , a bwch y pech‐aberth , y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr , a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll ; a hwy a losgant eu crwyn hwynt , a’u cnawd , a’u biswail , yn tân . A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad , golched hefyd ei gnawd mewn dwfr ; wedi hynny deued i’r gwersyll . A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi : y seithfed mis , ar y degfed dydd o’r mis , y cystuddiwch eich eneidiau , a dim gwaith nis gwnewch , y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith . Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch , i’ch glanhau o’ch holl bechodau , fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd . Saboth gorffwystra yw hwn i chwi ; yna cystuddiwch eich eneidiau , trwy ddeddf dragwyddol . A’r offeiriad , yr hwn a eneinio efe , a’r hwn a gysegro efe , i offeiriadu yn lle ei dad , a wna’r cymod , ac a wisg y gwisgoedd lliain , sef y gwisgoedd sanctaidd : Ac a lanha’r cysegr sanctaidd , ac a lanha babell y cyfarfod , a’r allor ; ac a wna gymod dros yr offeiriaid , a thros holl bobl y gynulleidfa . A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi , i wneuthur cymod dros feibion Israel , am eu pechodau oll , un waith yn y flwyddyn . Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel , a dywed wrthynt , Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pob un o dŷ Israel a laddo ych , neu oen , neu afr , o fewn y gwersyll , neu a laddo allan o’r gwersyll , Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod , i offrymu offrwm i’r Arglwydd , o flaen tabernacl yr Arglwydd ; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw ; gwaed a dywalltodd efe : a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl . Oherwydd yr hwn beth , dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes ; ie , dygant hwynt i’r Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , at yr offeiriad , ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd . A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod , a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid , y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl . Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt , trwy eu cenedlaethau . Dywed gan hynny wrthynt , Pwy bynnag o dŷ Israel , ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg , a offrymo boethoffrwm , neu aberth , Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod , i’w offrymu i’r Arglwydd ; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl . A phwy bynnag o dŷ Israel , ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg , a fwytao ddim gwaed ; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed , a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl . Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed ; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor , i wneuthur cymod dros eich eneidiau ; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid . Am hynny y dywedais wrth feibion Israel , Na fwytaed un enaid ohonoch waed ; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg , na fwytaed waed . A phwy bynnag o feibion Israel , neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg , a helio helfa o fwystfil , neu o aderyn a fwytaer ; tywallted ymaith ei waed ef , a chuddied ef â llwch . Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed ; yn lle ei einioes ef y mae : am hynny y dywedais wrth feibion Israel , Na fwytewch waed un cnawd ; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed : pwy bynnag a’i bwytao , a dorrir ymaith . A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun , neu ysglyfaeth , pa un bynnag ai priodor , ai dieithrddyn ; golched ei ddillad , ac ymolched mewn dwfr , a bydded aflan hyd yr hwyr : yna glân fydd . Ond os efe nis gylch hwynt , ac ni ylch ei gnawd ; yna y dwg efe ei anwiredd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft , yr hon y trigasoch ynddi ; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan , yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi ; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt . Fy marnedigaethau i a wnewch , a’m deddfau a gedwch , i rodio ynddynt : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Ie , cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau : a’r dyn a’u cadwo , a fydd byw ynddynt : myfi yw yr Arglwydd . Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd , i ddinoethi eu noethni : myfi yw yr Arglwydd . Noethni dy dad , neu noethni dy fam , na ddinoetha : dy fam yw hi , na ddinoetha ei noethni . Na ddinoetha noethni gwraig dy dad : noethni dy dad yw . Noethni dy chwaer , merch dy dad , neu ferch dy fam , yr hon a anwyd gartref , neu a anwyd allan ; na ddinoetha eu noethni hwynt . Noethni merch dy fab , neu ferch dy ferch ; na ddinoetha eu noethni hwynt : canys dy noethni di ydyw . Noethni merch gwraig dy dad , plentyn dy dad , dy chwaer dithau yw hi ; na ddinoetha ei noethni hi . Na ddinoetha noethni chwaer dy dad : cyfnesaf dy dad yw hi . Na ddinoetha noethni chwaer dy fam : canys cyfnesaf dy fam yw hi . Na noetha noethni brawd dy dad ; sef na nesâ at ei wraig ef : dy fodryb yw hi . Na noetha noethni dy waudd : gwraig dy fab yw hi ; na noetha ei noethni hi . Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd : noethni dy frawd yw . Na noetha noethni gwraig a’i merch ; na chymer ferch ei mab hi , neu ferch ei merch hi , i noethi ei noethni hi : ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn : ysgelerder yw hyn . Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer , i’w chystuddio hi , gan noethi noethni honno gyda’r llall , yn ei byw hi . Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid , i noethi ei noethni hi . Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog , i fod yn aflan o’i phlegid . Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch : ac na haloga enw dy Dduw : myfi yw yr Arglwydd . Ac na orwedd gyda gwryw , fel gorwedd gyda benyw : ffieidd‐dra yw hynny . Ac na chydorwedd gydag un anifail , i fod yn aflan gydag ef ; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano : cymysgedd yw hynny . Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn : canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi : A’r wlad a halogwyd : am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn , fel y chwydo’r wlad ei thrigolion . Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i , ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn ; na’r priodor , na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg : ( Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad , y rhai a fu o’ch blaen , a’r wlad a halogwyd ; ) Fel na chwydo’r wlad chwithau , pan halogoch hi , megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen . Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn ; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl . Am hynny cedwch fy neddf i , heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi , ac nac ymhalogwch ynddynt : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel , a dywed wrthynt , Byddwch sanctaidd : canys sanctaidd ydwyf fi , yr Arglwydd eich Duw chwi . Ofnwch bob un ei fam , a’i dad ; a chedwch fy Sabothau : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Na throwch at eilunod , ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . A phan aberthoch hedd‐aberth i’r Arglwydd , yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny . Ar y dydd yr offrymoch , a thrannoeth , y bwyteir ef : a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd . Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd , ffiaidd fydd efe ; ni bydd gymeradwy . A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd , am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd ; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl . A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir , na feda yn llwyr gonglau dy faes , ac na chynnull loffion dy gynhaeaf . Na loffa hefyd dy winllan , ac na chynnull rawn gweddill dy winllan ; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr : yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi . Na ladratewch , ac na ddywedwch gelwydd , ac na thwyllwch bob un ei gymydog . Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon , ac na haloga enw dy Dduw ; yr Arglwydd ydwyf fi . Na chamatal oddi wrth dy gymydog , ac nac ysbeilia ef : na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore . Na felltiga’r byddar , ac na ddod dramgwydd o flaen y dall ; ond ofna dy Dduw : yr Arglwydd ydwyf fi . Na wnewch gam mewn barn ; na dderbyn wyneb y tlawd , ac na pharcha wyneb y cadarn : barna dy gymydog mewn cyfiawnder . Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl ; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog : yr Arglwydd ydwyf fi . Na chasâ dy frawd yn dy galon : gan geryddu cerydda dy gymydog , ac na ddioddef bechod ynddo . Na ddiala , ac na chadw lid i feibion dy bobl ; ond câr dy gymydog megis ti dy hun : yr Arglwydd ydwyf fi . Cedwch fy neddfau : na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth , ac na heua dy faes ag amryw had ; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân . A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw , a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr , ac heb ei rhyddhau ddim , neu heb roddi rhyddid iddi ; bydded iddynt gurfa ; ac na ladder hwynt , am nad oedd hi rydd . A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd , i ddrws pabell y cyfarfod , hwrdd dros gamwedd . A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd , gerbron yr Arglwydd , am ei bechod a bechodd efe : a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe . A phan ddeloch i’r tir , a phlannu ohonoch bob pren ymborth ; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef ; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi : na fwytaer ohono . A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef . A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth , fel y chwanego efe ei gnwd i chwi : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed : nac arferwch na swynion , na choel ar frudiau . Na thalgrynnwch odre eich pen , ac na thor gyrrau dy farf . Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw , ac na roddwch brint nod arnoch : yr Arglwydd ydwyf fi . Na haloga dy ferch , gan beri iddi buteinio : rhag puteinio’r tir , a llenwi’r wlad o ysgelerder . Cedwch fy Sabothau , a pherchwch fy nghysegr : yr Arglwydd ydwyf fi . Nac ewch ar ôl dewiniaid , ac nac ymofynnwch â’r brudwyr , i ymhalogi o’u plegid : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Cyfod gerbron penwynni , a pharcha wyneb henuriad ; ac ofna dy Dduw : yr Arglwydd ydwyf fi . A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad , na flinwch ef . Bydded y dieithr i chwi , yr hwn a ymdeithio yn eich plith , fel yr un a hanffo ohonoch , a châr ef fel ti dy hun ; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi . Na wnewch gam ar farn , ar lathen , ar bwys , nac ar fesur . Bydded i chwi gloriannau cyfiawn , gerrig cyfiawn , effa gyfiawn , a hin gyfiawn : yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi , yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft . Cedwch chwithau fy holl ddeddfau , a’m holl farnedigaethau , a gwnewch hwynt : yr Arglwydd ydwyf fi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed hefyd wrth feibion Israel , Pob un o feibion Israel , neu o’r dieithr a ymdeithio yn Israel , yr hwn a roddo o’i had i Moloch , a leddir yn farw ; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig . A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw , ac a’i torraf o fysg ei bobl ; am iddo roddi o’i had i Moloch , i aflanhau fy nghysegr , ac i halogi fy enw sanctaidd . Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw , ( pan roddo efe ei had i Moloch , ) ac nis lladdant ef : Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw , ac yn erbyn ei dylwyth , a thorraf ymaith ef , a phawb a ddilynant ei buteindra ef , gan buteinio yn ôl Moloch , o fysg eu pobl . A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid , a brudwyr , i buteinio ar eu hôl hwynt ; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd , a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl . Ymsancteiddiwch gan hynny , a byddwch sanctaidd : canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Cedwch hefyd fy neddfau , a gwnewch hwynt : myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd . Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam , lladder ef yn farw : ei dad neu ei fam a felltigodd efe ; ei waed fydd arno ei hun . A’r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall , sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog , lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad , a noethodd noethni ei dad : lladder yn feirw hwynt ill dau ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . Am y gŵr a orweddo ynghyd â’i waudd , lladder yn feirw hwynt ill dau : cymysgedd a wnaethant ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A’r gŵr a orweddo gyda gŵr , fel gorwedd gyda gwraig , ffieidd‐dra a wnaethant ill dau : lladder hwynt yn feirw ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . Y gŵr a gymero wraig a’i mam , ysgelerder yw hynny : llosgant ef a hwythau yn tân ; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg . A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail ; lladdant hefyd yr anifail . A’r wraig a êl at un anifail , i orwedd dano , lladd di y wraig a’r anifail hefyd : lladder hwynt yn feirw ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A’r gŵr a gymero ei chwaer , merch ei dad , neu ferch ei fam , ac a welo ei noethni hi , ac y gwelo hithau ei noethni yntau : gwaradwydd yw hynny ; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl : noethni ei chwaer a noethodd efe ; efe a ddwg ei anwiredd . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf , ac a noetho ei noethni hi ; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe , a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun : am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl . Ac na noetha noethni chwaer dy fam , neu chwaer dy dad ; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi : dygant eu hanwiredd . A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad , a noetha noethni ei ewythr : eu pechod a ddygant ; byddant feirw yn ddi‐blant . A’r gŵr a gymero wraig ei frawd , ( peth aflan yw hynny , ) efe a noethodd noethni ei frawd : di‐blant fyddant . Am hynny cedwch fy holl ddeddfau , a’m holl farnedigaethau , a gwnewch hwynt ; fel na chwydo’r wlad chwi , yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi . Ac na rodiwch yn neddfau’r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi : oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant ; am hynny y ffieiddiais hwynt . Ac wrthych y dywedais , Chwi a etifeddwch eu tir hwynt ; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu ; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi , yr hwn a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill . Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan , a rhwng yr aderyn aflan a’r glân ; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail , neu oherwydd aderyn , neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear , yr hwn a neilltuais i chwi i’w gyfrif yn aflan . Byddwch chwithau sanctaidd i mi : oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd , ac a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill , i fod yn eiddof fi . Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth , neu frud , hwy a leddir yn farw : â cherrig y llabyddiant hwynt ; eu gwaed fydd arnynt eu hunain . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Llefara wrth yr offeiriaid , meibion Aaron , a dywed wrthynt , Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl . Ond am ei gyfnesaf agos iddo ; am ei fam , am ei dad , ac am ei fab , ac am ei ferch , ac am ei frawd , Ac am ei chwaer o forwyn , yr hon sydd agos iddo , yr hon ni fu eiddo gŵr : am honno y gall ymhalogi . Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl , i’w aflanhau ei hun . Na wnânt foelni ar eu pennau , ac nac eilliant gyrrau eu barfau , ac na thorrant doriadau ar eu cnawd . Sanctaidd fyddant i’w Duw , ac na halogant enw eu Duw : oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a bara eu Duw ; am hynny byddant sanctaidd . Na chymerant buteinwraig , neu un halogedig , yn wraig : ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr ; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw . A chyfrif di ef yn sanctaidd ; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu : bydded sanctaidd i ti ; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd . Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio , halogi ei thad y mae : llosger hi yn tân . A’r offeiriad pennaf o’i frodyr , yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben , ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd , na ddiosged oddi am ei ben , ac na rwyged ei ddillad : Ac na ddeued at gorff un marw , nac ymhaloged am ei dad , nac am ei fam : Ac nac aed allan o’r cysegr , ac na haloged gysegr ei Dduw ; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef : myfi yw yr Arglwydd . A chymered efe wraig yn ei morwyndod . Gwraig weddw , na gwraig wedi ysgar , nac un halogedig , na phutain ; y rhai hyn na chymered : ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig . Ac na haloged ei had ymysg ei bobl : canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , gan ddywedyd , Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau , yr hwn y byddo anaf arno , i offrymu bara ei Dduw : Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu ; y gŵr dall , neu’r cloff , neu’r trwyndwn , neu’r neb y byddo dim gormod ynddo ; Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn , neu law don ; Neu a fyddo yn gefngrwm , neu yn gor , neu â magl neu bysen ar ei lygad , neu yn grachlyd , neu yn glafrllyd , neu wedi ysigo ei eirin . Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad , yr hwn y byddo anaf arno , i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd : anaf sydd arno ; na nesaed i offrymu bara ei Dduw . Bara ei Dduw , o’r pethau sanctaidd cysegredig , ac o’r pethau cysegredig , a gaiff efe ei fwyta . Eto nac aed i mewn at y wahanlen , ac na nesaed at yr allor , am fod anaf arno ; ac na haloged fy nghysegroedd : canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt . A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel , ac na halogant fy enw sanctaidd , yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi : myfi yw yr Arglwydd . Dywed wrthynt , Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth , trwy eich cenedlaethau , a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd , a’i aflendid arno ; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron : myfi yw yr Arglwydd . Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig , ac yntau yn wahanglwyfus , neu yn ddiferllyd , hyd oni lanhaer ef : na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw , na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had ; Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad , trwy yr hwn y gallo fod yn aflan , neu â dyn y byddai aflan o’i blegid , pa aflendid bynnag fyddo arno : A’r dyn a gyffyrddo ag ef , a fydd aflan hyd yr hwyr ; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig , oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr . A phan fachludo’r haul , glân fydd ; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig : canys ei fwyd ef yw hwn . Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun , neu wedi ei ysglyfaethu , i fod yn aflan o’i blegid : myfi yw yr Arglwydd . Ond cadwant fy neddf i , ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain , i farw o’i blegid , pan halogant hi : myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt . Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig : dieithrddyn yr offeiriad , a’r gwas cyflog , ni chaiff fwyta’r peth cysegredig . Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian , hwnnw a gaiff fwyta ohono , a’r hwn a aner yn ei dŷ ef : y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef . A merch yr offeiriad , pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr , ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig . Ond merch yr offeiriad , os gweddw fydd hi , neu wedi ysgar , a heb blant iddi , ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad , a gaiff fwyta o fara ei thad , megis yn ei hieuenctid ; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono . A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod ; yna chwaneged ei bumed ran ato , a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad . Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel , y rhai a offrymant i’r Arglwydd . Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd , pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt : oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , ac wrth ei feibion , ac wrth holl feibion Israel , a dywed wrthynt , Pwy bynnag o dŷ Israel , ac o ddieithr yn Israel , a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau , ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd , y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm ; Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun , un gwryw perffaith‐gwbl , o’r eidionau , o’r defaid , neu o’r geifr . Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno ; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch . A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd , gan neilltuo ei adduned , neu rodd ewyllysgar o’r eidionau , neu o’r praidd , bydded berffaith‐gwbl , fel y byddo gymeradwy : na fydded un anaf arno . Y dall , neu’r ysig , neu’r anafus , neu’r dafadennog , neu’r crachlyd , neu’r clafrllyd , nac offrymwch hwy i’r Arglwydd , ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd . A’r eidion , neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau , gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd ; ond dros adduned ni bydd cymeradwy . Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu , neu ysigo , neu ddryllio , neu dorri ; ac na wnewch yn eich tir y fath beth . Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn : canys y mae eu llygredigaeth ynddynt ; anaf sydd arnynt : ni byddant gymeradwy drosoch . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Pan aner eidion , neu ddafad , neu afr , bydded saith niwrnod dan ei fam ; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ac am fuwch neu ddafad , na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd . A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd , offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain . Y dydd hwnnw y bwyteir ef ; na weddillwch ohono hyd y bore : myfi yw yr Arglwydd . Cedweh chwithau fy ngorchmynion , a gwnewch hwynt : myfi yw yr Arglwydd . Ac na halogwch fy enw sanctaidd , ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel : myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd , Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , i fod yn Dduw i chwi : myfi yw yr Arglwydd . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Gwyliau yr Arglwydd , y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd , ydyw fy ngwyliau hyn . Chwe diwrnod y gwneir gwaith ; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra , sef cymanfa sanctaidd ; dim gwaith nis gwnewch : Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau . Dyma wyliau yr Arglwydd , y cymanfeydd sanctaidd , y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor . O fewn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , yn y cyfnos , y bydd Pasg yr Arglwydd . A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd : saith niwrnod y bwytewch fara croyw . Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd : dim caethwaith ni chewch ei wneuthur . Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod ; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd ; na wnewch ddim caethwaith . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi , a medi ohonoch ei gynhaeaf ; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad . Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd , i’ch gwneuthur yn gymeradwy : trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi . Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub , oen blwydd , perffaith‐gwbl , yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd , yn arogl peraidd : a’i ddiod‐offrwm fyddo win , pedwaredd ran hin . Bara hefyd , nac ŷd wedi ei grasu , na thywysennau ir , ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw , nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau , fydd hyn . A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth , o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan ; saith Saboth cyflawn fyddant : Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth , y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain ; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd . A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan , dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant : yn lefeinllyd y pobi hwynt , yn flaenffrwyth i’r Arglwydd . Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl , ac un bustach ieuanc , a dau hwrdd : poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy , ynghyd â’u bwyd‐offrwm a’u diod‐offrwm ; sef aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth , a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd . A chyhwfaned yr offeiriad hwynt , ynghyd â bara’r blaenffrwyth , yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd , ynghyd â’r ddau oen : cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant . A chyhoeddwch , o fewn corff y dydd hwnnw , y bydd cymanfa sanctaidd i chwi ; dim caethwaith nis gwnewch . Deddf dragwyddol , yn eich holl drigfannau , trwy eich cenedlaethau , fydd hyn . A phan fedoch gynhaeaf eich tir , na lwyr feda gyrrau dy faes , ac na loffa loffion dy gynhaeaf ; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr : myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd , Ar y seithfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y bydd i chwi Saboth , yn goffadwriaeth caniad utgyrn , a chymanfa sanctaidd . Dim caethwaith nis gwnewch ; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn , y bydd dydd cymod ; cymanfa sanctaidd fydd i chwi : yna cystuddiwch eich eneidiau , ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd . Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw : oherwydd dydd cymod yw , i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw . Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn , a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl . A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw , difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl . Na wnewch ddim gwaith . Deddf dragwyddol , trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau , yw hyn . Saboth gorffwystra yw efe i chwi ; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis , yn yr hwyr : o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd . Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd . Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd : dim caethwaith nis gwnewch . Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd : ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi ; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd : uchel ŵyl yw hi ; na wnewch ddim caethwaith . Dyma wyliau yr Arglwydd , y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd , i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd , offrwm poeth , bwyd‐offrwm , aberth , a diod‐offrwm ; pob peth yn ei ddydd : Heblaw Sabothau yr Arglwydd , ac heblaw eich rhoddion chwi , ac heblaw eich holl addunedau , ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd , a roddoch i’r Arglwydd . Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis , pan gynulloch ffrwyth eich tir , cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod : bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf , a gorffwystra ar yr wythfed dydd . A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth , canghennau palmwydd , a brig pren caeadfrig , a helyg afon ; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod . A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn : deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw ; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl . Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod ; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod : Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo , pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur , coethedig , i’r goleuni , i beri i’r lampau gynnau bob amser . O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth , ym mhabell y cyfarfod , y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore , gerbron yr Arglwydd , bob amser . Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn . Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser . A chymer beilliaid , a phoba ef yn ddeuddeg teisen : dwy ddegfed ran fydd pob teisen . A gosod hwynt yn ddwy res , chwech yn y rhes , ar y bwrdd pur , gerbron yr Arglwydd . A dod thus pur ar bob rhes , fel y byddo ar y bara , yn goffadwriaeth , ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser , yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel . A bydd eiddo Aaron a’i feibion ; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd : canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd , trwy ddeddf dragwyddol . A mab gwraig o Israel , a hwn yn fab gŵr o’r Aifft , a aeth allan ymysg meibion Israel ; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll . A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd , ac a felltigodd : yna y dygasant ef at Moses : ac enw ei fam oedd Selomith , merch Dibri , o lwyth Dan . A gosodasant ef yng ngharchar , fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll : a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef , a llabyddied yr holl gynulleidfa ef . A llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pwy bynnag a gablo ei Dduw , a ddwg ei bechod . A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd ; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef : lladder yn gystal y dieithr a’r priodor , pan gablo efe enw yr Arglwydd . A’r neb a laddo ddyn , lladder yntau yn farw . A’r hwn a laddo anifail , taled amdano ; anifail am anifail . A phan wnelo un anaf ar ei gymydog ; fel y gwnaeth , gwneler iddo : Toriad am doriad , llygad am lygad , dant am ddant : megis y gwnaeth anaf ar ddyn , felly gwneler iddo yntau . A’r hwn a laddo anifail , a dâl amdano : a laddo ddyn , a leddir . Bydded un farn i chwi ; bydded i’r dieithr , fel i’r priodor : myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw . A mynegodd Moses hyn i feibion Israel : a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll , ac a’i llabyddiasant ef â cherrig . Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , ym mynydd Sinai , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi ; yna gorffwysed y tir Saboth i’r Arglwydd . Chwe blynedd yr heui dy faes , a chwe blynedd y torri dy winllan , ac y cesgli ei chnwd . Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir , sef Saboth i’r Arglwydd : na heua dy faes , ac na thor dy winllan . Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun , ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist : bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir . Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi ; sef i ti , ac i’th wasanaethwr , ac i’th wasanaethferch , ac i’th weinidog cyflog , ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi . I’th anifail hefyd , ac i’r bwystfil fydd yn dy dir , y bydd ei holl gnwd yn ymborth . Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd , sef saith mlynedd seithwaith ; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain . Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis , ar y degfed dydd o’r mis ; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad . A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain , a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion : jiwbili fydd hi i chwi ; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth , ie , dychwelwch bob un at ei deulu . Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi : na heuwch , ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun ; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd . Am ei bod yn jiwbili , bydded sanctaidd i chwi : o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi . O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth . Pan werthech ddim i’th gymydog , neu brynu ar law dy gymydog , na orthrymwch bawb eich gilydd . Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili ; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau . Yn ôl amldra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris , ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris ; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti . Ac na orthrymwch bob un ei gymydog ; ond ofna dy Dduw : canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi . Gwnewch chwithau fy neddfau , a chedwch fy marnedigaethau , a gwnewch hwynt ; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel . Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth ; a chewch fwyta digon , a thrigo ynddo yn ddiogel . Ac hefyd os dywedwch , Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn ? wele , ni chawn hau , ac ni chawn gynnull ein cnwd : Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn ; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd . A’r wythfed flwyddyn yr heuwch ; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn : nes dyfod ei chnwd hi , y bwytewch o’r hen . A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr : canys eiddof fi yw y tir ; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi . Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir . Os tloda dy frawd , a gwerthu dim o’i etifeddiaeth , a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng ; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd . Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo , a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng : Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad , a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo ; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth . Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo ; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili ; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd , ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth . A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog ; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu : dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef . Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan ; yna sicrhaer y tŷ , yr hwn fydd yn y ddinas gaerog , yn llwyr i’r neb a’i prynodd , ac i’w hiliogaeth : nid â yn rhydd yn y jiwbili . Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt , a gyfrifir fel meysydd : bid gollyngdod iddynt , ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd . Ond dinasoedd y Lefiaid , a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt , bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser . Ac os prŷn un gan y Lefiaid ; yna aed y tŷ a werthwyd , a dinas ei etifeddiaeth ef , allan yn y jiwbili : canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel . Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt : canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt . A phan dlodo dy frawd gyda thi , a llesgáu o’i law ; cynorthwya ef , fel y byddo byw gyda thi ; er ei fod yn ddieithrddyn , neu yn alltud . Na chymer ganddo ocraeth na llog ; ond ofna dy Dduw : a gad i’th frawd fyw gyda thi . Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth , ac na ddod dy fwyd iddo ar log . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi , yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft , i roddi i chwi dir Canaan , ac i fod yn Dduw i chwi . A phan dlodo dy frawd gyda thi , a’i werthu ef i ti ; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas . Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog , fel ymdeithydd ; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi . Yna aed oddi wrthyt ti , efe a’i blant gydag ef , a dychweled at ei dylwyth , ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau . Canys fy ngweision i ydynt , y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft : na werther hwynt fel caethweision . Na feistrola arno ef yn galed ; ond ofna dy Dduw . A chymer dy wasanaethwr , a’th wasanaethferch , y rhai fyddant i ti , o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch : ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch . A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi , prynwch o’r rhai hyn , ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi , y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi : byddant hwy i chwi yn feddiant . Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl , i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth ; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth : ond eich brodyr , meibion Israel , na feistrolwch yn galed y naill ar y llall . A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi , ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef , a’i werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi , neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn : Wedi ei werthu , ceir ei ollwng yn rhydd ; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd ; Naill ai ei ewythr , ai mab ei ewythr , a’i gollwng ef yn rhydd ; neu un o’i gyfnesaf ef , o’i dylwyth ei hun , a’i gollwng yn rhydd ; neu , os ei law a gyrraedd , gollynged efe ef ei hun . A chyfrifed â’i brynwr , o’r flwyddyn y gwerthwyd ef , hyd flwyddyn y jiwbili : a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi’r blynyddoedd ; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef . Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl ; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny . Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili , pan gyfrifo ag ef ; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd . Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef : ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di . Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn ; yna aed allan flwyddyn y jiwbili , efe a’i blant gydag ef . Canys gweision i mi yw meibion Israel ; fy ngweision ydynt , y rhai a ddygais o dir yr Aifft : myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi . Na wnewch eilunod i chwi , ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig , na cholofn , ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi : canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . Fy Sabothau i a gedwch , a’m cysegr i a berchwch : myfi ydwyf yr Arglwydd . Os yn fy neddfau i y rhodiwch , a’m gorchmynion a gedwch , a’u gwneuthur hwynt ; Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser , a rhydd y ddaear ei chynnyrch , a choed y maes a rydd eu ffrwyth . A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin , a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau ; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol , ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel . Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir , a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd : a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir ; ac nid â cleddyf trwy eich tir . Eich gelynion hefyd a erlidiwch , a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf . A phump ohonoch a erlidia gant , a chant ohonoch a erlidia ddengmil ; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf . A mi a edrychaf amdanoch , ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon , ac a’ch amlhaf , ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi . A’r hen ystôr a fwytewch , ie , yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd . Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg ; ac ni ffieiddia fy enaid chwi . A mi a rodiaf yn eich plith ; a byddaf yn Dduw i chwi , a chwithau a fyddwch yn bobl i mi . Myfi yw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , rhag eich bod yn gaethweision iddynt ; a thorrais rwymau eich iau , a gwneuthum i chwi rodio yn sythion . Ond os chwi ni wrandewch arnaf , ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn ; Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch , ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau , heb wneuthur fy holl orchmynion , ond torri fy nghyfamod ; Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi : gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn , darfodedigaeth , a’r cryd poeth , y rhai a wna i’r llygaid ballu , ac a ofidiant eich eneidiau : a heuwch eich had yn ofer ; canys eich gelynion a’i bwyty : Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn , a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion ; a’ch caseion a feistrola arnoch ; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid . Ac os er hyn ni wrandewch arnaf , yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau . A mi a dorraf falchder eich nerth chwi ; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn , a’ch tir chwi fel pres : A’ch cryfder a dreulir yn ofer : canys eich tir ni rydd ei gynnyrch , a choed y tir ni roddant eu ffrwyth . Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi , ac ni fynnwch wrando arnaf fi ; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau . Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn , ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant , ac a ddifetha eich anifeiliaid , ac a’ch lleiha chwi ; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch . Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf , ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi ; Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau , a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau . A dygaf arnoch gleddyf , yr hwn a ddial fy nghyfamod : a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd , yna yr anfonaf haint i’ch mysg ; a chwi a roddir yn llaw y gelyn . A phan dorrwyf ffon eich bara , yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn , ac a ddygant eich bara adref dan bwys : a chwi a fwytewch , ac ni’ch digonir chwi . Ac os er hyn ni wrandewch arnaf , ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi ; Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid ; a myfi , ie myfi , a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau . A chwi a fwytewch gnawd eich meibion , a chnawd eich merched a fwytewch . Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf , ac a dorraf eich delwau , ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod , a’m henaid a’ch ffieiddia chwi . A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd , ac a ddinistriaf eich cysegroedd , ac ni aroglaf eich aroglau peraidd . A mi a ddinistriaf y tir ; fel y byddo aruthr gan eich gelynion , y rhai a drigant ynddo , o’i herwydd . Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd , a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl ; a’ch tir fydd ddiffeithwch , a’ch dinasoedd yn anghyfannedd . Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch , a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion ; yna y gorffwys y tir , ac y mwynha ei Sabothau . Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys ; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi , pan oeddech yn trigo ynddo . A’r hyn a weddillir ohonoch , dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion ; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt ; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf ; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid . A syrthiant bawb ar ei gilydd , megis o flaen cleddyf , heb neb yn eu herlid : ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion . Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd , a thir eich gelynion a’ch bwyty . A’r rhai a weddillir ohonoch , a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion ; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant . Os cyffesant eu hanwiredd , ac anwiredd eu tadau , ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn , a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi ; A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau , a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion ; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig , a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth : Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob , a’m cyfamod hefyd ag Isaac , a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf ; ac a gofiaf y tir hefyd . A’r tir a adewir ganddynt , ac a fwynha ei Sabothau , tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt : a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth ; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau , a ffieiddio o’u henaid fy neddfau . Ac er hyn hefyd , pan fyddont yn nhir eu gelynion , nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha , gan dorri fy nghyfamod â hwynt : oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt . Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt , y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd , i fod iddynt yn Dduw : myfi ydwyf yr Arglwydd . Dyma’r deddfau , a’r barnedigaethau , a’r cyfreithiau , y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel , ym mynydd Sinai , trwy law Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan addunedo neb adduned neilltuol , y dynion fydd eiddo yr Arglwydd , yn dy bris di . A bydd dy bris , am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd , ie , bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian , yn ôl sicl y cysegr . Ac os benyw fydd , bydded dy bris ddeg sicl ar hugain . Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd , bydded dy bris am wryw ugain sicl , ac am fenyw ddeg sicl . A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd , bum sicl o arian ; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian . Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod , os gwryw fydd , bydded dy bris bymtheg sicl , ac am fenyw ddeg sicl . Ond os tlotach fydd efe na’th bris di ; yna safed gerbron yr offeiriad , a phrisied yr offeiriad ef : yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd , felly y prisia’r offeiriad ef . Ond os anifail , yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd , fydd ei adduned ; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd , sanctaidd fydd . Na rodded un arall amdano , ac na newidied ef , y da am y drwg , neu y drwg am y da : ac os gan newidio y newidia anifail am anifail ; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd . Ac os adduneda efe un anifail aflan , yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd ; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad A phrisied yr offeiriad ef , os da os drwg fydd : fel y prisiech di yr offeiriad ef , felly y bydd . Ac os efe gan brynu a’i prŷn ; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg . A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd ; yna yr offeiriad a’i prisia , os da os drwg fydd : megis y prisio’r offeiriad ef , felly y saif . Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd ; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato , a bydded eiddo ef . Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd ; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad : heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian . Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes , yn ôl dy bris di y saif . Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes ; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo , yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl , hyd flwyddyn y jiwbili , a lleihaer ar dy bris di . Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes ; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato , a bydded iddo ef . Ac onis gollwng y maes , neu os gwerthodd y maes i ŵr arall ; ni cheir ei ollwng mwy . A’r maes fydd , pan elo efe allan yn y jiwbili , yn gysegredig i’r Arglwydd , fel maes diofryd : a bydded yn feddiant i’r offeiriad . Ac os ei dir prŷn , yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth , a sancteiddia efe i’r Arglwydd ; Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili ; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd , y dydd hwnnw . Y maes a â yn ei ôl , flwyddyn y jiwbili , i’r hwn y prynasid ef ganddo , sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir . A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr : ugain gera fydd y sicl . Ond y cyntaf‐anedig o anifail , yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd , na chysegred neb ef , pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo : eiddo yr Arglwydd yw efe . Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan ; yna rhyddhaed ef yn dy bris di , a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato : ac onis rhyddha , yna gwerther ef yn dy bris di . Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd , o’r hyn oll a fyddo eiddo ef , o ddyn neu o anifail , neu o faes ei etifeddiaeth , ni werthir , ac ni ryddheir : pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd . Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog , yr hwn a ddiofryder gan ddyn : lladder yn farw . A holl ddegwm y tir , o had y tir , ac o ffrwyth y coed , yr Arglwydd a’u piau : cysegredig i’r Arglwydd yw . Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm , rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato . A phob degwm eidion , neu ddafad , yr hyn oll a elo dan y wialen ; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd . Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe , ac na newidied ef : ond os gan newidio y newidia efe hwnnw , bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig ; ni ellir ei ollwng yn rhydd . Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , i feibion Israel , ym mynydd Sinai . </passage></reply></GetPassage>