<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:30</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:30</urn><passage>Geiriau Amos , ( yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa , ) y rhai a welodd efe am Israel , yn nyddiau Usseia brenin Jwda , ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel , ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd a rua o Seion , ac a rydd ei lef o Jerwsalem ; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant , a phen Carmel a wywa . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Oherwydd tair o anwireddau Damascus , ac oherwydd pedair , ni throaf ymaith ei chosb hi : am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn . Ond anfonaf dân i dŷ Hasael , ac efe a ddifa balasau Benhadad . Drylliaf drosol Damascus , a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen , a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden ; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Gasa , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn , i’w rhoddi i fyny i Edom . Eithr anfonaf dân ar fur Gasa , ac efe a ddifa ei phalasau hi . A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod , a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon ; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron , a derfydd am weddill y Philistiaid , medd yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Tyrus , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom , ac na chofiasant y cyfamod brawdol . Eithr anfonaf dân i fur Tyrus , ac efe a ddifa ei phalasau hi . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Edom , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf , a llygru ei drugaredd , a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol , a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol . Eithr anfonaf dân i Teman , yr hwn a ddifa balasau Bosra . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau meibion Ammon , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead , er mwyn helaethu eu terfynau . Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba , ac efe a ddifa ei phalasau , gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel , gyda thymestl ar ddydd corwynt . A’u brenin a â yn gaeth , efe a’i benaethiaid ynghyd , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Moab , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch . Eithr anfonaf dân i Moab , yr hwn a ddifa balasau Cerioth : a Moab fydd marw mewn terfysg , gweiddi , a llais utgorn . A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi , a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef , medd yr Arglwydd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Jwda , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd , ac na chadwasant ei ddeddfau ef ; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt , y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl . Eithr anfonaf dân i Jwda , ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Am dair o anwireddau Israel , ac am bedair , ni throaf ymaith ei chosb hi ; am iddynt werthu y cyfiawn am arian , a’r tlawd er pâr o esgidiau : Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion , ac a wyrant ffordd y gostyngedig : a gŵr a’i dad a â at yr un llances , i halogi fy enw sanctaidd . Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor ; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw . Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt , yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd , ac efe oedd gryf fel derw ; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd , a’i wraidd oddi tanodd . Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft , ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch , i feddiannu gwlad yr Amoriad . A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi , ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid . Oni bu hyn , O meibion Israel ? medd yr Arglwydd Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed ; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi , gan ddywedyd , Na phroffwydwch . Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau . A metha gan y buan ddianc , a’r cryf ni chadarnha ei rym , a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun : Ni saif a ddalio y bwa , ni ddianc y buan o draed , nid achub marchog march ei einioes ei hun . A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd . Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi , plant Israel , yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft , gan ddywedyd , Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear : am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau . A rodia dau ynghyd , heb fod yn gytûn ? A rua y llew yn y goedwig , heb ganddo ysglyfaeth ? a leisia cenau llew o’i ffau , heb ddal dim ? A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear , heb fod croglath iddo ? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear , heb ddal dim ? A genir utgorn yn y ddinas , heb ddychrynu o’r bobl ? a fydd niwed yn y ddinas , heb i’r Arglwydd ei wneuthur ? Canys ni wna yr Arglwydd ddim , a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi . Rhuodd y llew , pwy nid ofna ? yr Arglwydd Iôr a lefarodd , pwy ni phroffwyda ? Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod , ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft , a dywedwch , Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria , a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn , a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi . Canys ni fedrant wneuthur uniondeb , medd yr Arglwydd : pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Gelyn fydd o amgylch y tir ; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt , a’th balasoedd a ysbeilir . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes , neu ddarn o glust ; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely , ac yn Damascus mewn gorweddle . Gwrandewch , a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob , medd yr Arglwydd Dduw , Duw y lluoedd , Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef , y gofwyaf hefyd allorau Bethel : a chyrn yr allor a dorrir , ac a syrthiant i’r llawr . A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy ; a derfydd am y tai ifori , a bydd diben ar y teiau mawrion , medd yr Arglwydd . Gwrandewch y gair hwn , gwartheg Basan , y rhai ydych ym mynydd Samaria , y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd , yn ysigo yr anghenog , yn dywedyd wrth eu meistriaid , Dygwch , ac yfwn . Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd , y daw , wele , y dyddiau arnoch , y dwg efe chwi ymaith â drain , a’ch hiliogaeth â bachau pysgota . A chwi a ewch allan i’r adwyau , bob un ar ei chyfer ; a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas , medd yr Arglwydd . Deuwch i Bethel , a throseddwch ; i Gilgal , a throseddwch fwyfwy : dygwch bob bore eich aberthau , a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau ; Ac offrymwch o surdoes aberth diolch , cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd : canys hyn a hoffwch , meibion Israel , medd yr Arglwydd Dduw . A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd , ac eisiau bara yn eich holl leoedd : eto ni ddychwelasoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch , pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf : glawiais hefyd ar un ddinas , ac ni lawiais ar ddinas arall : un rhan a gafodd law ; a’r rhan ni chafodd law a wywodd . Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas , i yfed dwfr ; ond nis diwallwyd : eto ni ddychwelasoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Trewais chwi â diflaniad , ac â mallter : pan amlhaodd eich gerddi , a’ch gwinllannoedd , a’ch ffigyswydd , a’ch olewydd , y lindys a’u hysodd : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Anfonais yr haint yn eich mysg , megis yn ffordd yr Aifft : eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf , gyda chaethgludo eich meirch ; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Mi a ddymchwelais rai ohonoch , fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra ; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân : eto ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti , Israel : ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti , bydd barod , Israel , i gyfarfod â’th Dduw . Canys wele , Lluniwr y mynyddoedd , a Chreawdwr y gwynt , yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl , ac a wna y bore yn dywyllwch , ac a gerdd ar uchelderau y ddaear , yr Arglwydd , Duw y lluoedd , yw ei enw . Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn , sef galarnad , O dŷ Israel . Y wyry Israel a syrthiodd ; ni chyfyd mwy : gadawyd hi ar ei thir ; nid oes a’i cyfyd . Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw ; Y ddinas a aeth allan â mil , a weddill gant ; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed , a weddill ddeg i dŷ Israel . Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel ; Ceisiwch fi , a byw fyddwch . Ond nac ymgeisiwch â Bethel , ac nac ewch i Gilgal , ac na thramwywch i Beerseba : oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal , a Bethel a fydd yn ddiddim . Ceisiwch yr Arglwydd , a byw fyddwch ; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân , a’i ddifa , ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel . Y rhai a drowch farn yn wermod , ac a adewch gyfiawnder ar y llawr , Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren , ac Orion , ac a dry gysgod angau yn foreddydd , ac a dywylla y dydd yn nos ; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr , ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear : Yr Arglwydd yw ei enw : Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf , fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa . Cas ganddynt a geryddo yn y porth , a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith . Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd , a dwyn y beichiau gwenith oddi arno ; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd , ond ni thrigwch ynddynt ; planasoch winllannoedd hyfryd , ac nid yfwch eu gwin hwynt . Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer , a’ch pechodau cryfion : y maent yn blino y cyfiawn , yn cymryd iawn , ac yn troi heibio y tlawd yn y porth . Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw : canys amser drwg yw . Ceisiwch ddaioni , ac nid drygioni ; fel y byddoch fyw : ac felly yr Arglwydd , Duw y lluoedd , fydd gyda chwi , fel y dywedasoch . Casewch ddrygioni , a hoffwch ddaioni , a gosodwch farn yn y porth : fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd , Duw y lluoedd , yr Arglwydd ; Ym mhob heol y bydd cwynfan , ac ym mhob priffordd y dywedant , O ! O ! a galwant yr arddwr i alaru ; a’r neb a fedro alaru , i gwynfan . Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan : canys tramwyaf trwy dy ganol di , medd yr Arglwydd . Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd ! beth yw hwnnw i chwi ? tywyllwch , ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd . Megis pe ffoai gŵr rhag llew , ac arth yn cyfarfod ag ef ; a myned i’r tŷ , a phwyso ei law ar y pared , a’i frathu o sarff . Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch , ac nid yn oleuni ? yn dywyll iawn , ac heb lewyrch ynddo ? Caseais a ffieiddiais eich gwyliau , ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd . Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau , a’ch offrymau bwyd , ni fyddaf fodlon iddynt ; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion . Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau : canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau . Ond rheded barn fel dyfroedd , a chyfiawnder fel ffrwd gref . A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd , tŷ Israel ? Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn , eich delwau , seren eich duw , a wnaethoch i chwi eich hunain . Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus , medd yr Arglwydd ; Duw y lluoedd yw ei enw . Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion , ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria , y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd , y rhai y daeth tŷ Israel atynt ! Tramwywch i Calne , ac edrychwch , ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf ; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid : ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn ? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi ? Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg , ac yn nesáu eisteddle trais ; Gorwedd y maent ar welyau ifori , ac ymestyn ar eu glythau , a bwyta yr ŵyn o’r praidd , a’r lloi o ganol y cut ; Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl ; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd , megis Dafydd ; Y rhai a yfant win mewn ffiolau , ac a ymirant â’r ennaint pennaf ; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff . Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth ; a gwledd y rhai a ymestynnant , a symudir . Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun , Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob , a chaseais ei balasau : am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi , medd Arglwydd Dduw y lluoedd . A bydd , os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion , y byddant feirw . Ei ewythr a’i cyfyd i fyny , a’r hwn a’i llysg , i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ , ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ , A oes eto neb gyda thi ? ac efe a ddywed , Nac oes : yna y dywed yntau , Taw ; am na wasanaetha cofio enw yr Arglwydd . Oherwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn , ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau , a’r tŷ bychan â holltau . A red meirch ar y graig ? a ardd neb hi ag ychen ? canys troesoch farn yn fustl , a ffrwyth cyfiawnder yn wermod . O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim , yn dywedyd , Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder ? Ond wele , mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi , tŷ Israel , medd Arglwydd Dduw y lluoedd , genedl ; a hwy a’ch cystuddiant chwi , o’r ffordd yr ewch i Hamath , hyd afon y diffeithwch . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi ; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi ; ac wele , adladd wedi lladd gwair y brenin oedd . A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir , yna y dywedais , Arbed , Arglwydd , atolwg : pwy a gyfyd Jacob ? canys bychan yw . Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn : Ni bydd hyn , eb yr Arglwydd . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi : ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân ; a difaodd y tân y dyfnder mawr , ac a ysodd beth . Yna y dywedais , Arglwydd Dduw , paid , atolwg : pwy a gyfyd Jacob ? canys bychan yw . Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn : Ni bydd hyn chwaith , eb yr Arglwydd Dduw . Fel hyn y dangosodd efe i mi : ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn , ac yn ei law linyn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di , Amos ? a mi a ddywedais , Llinyn . A’r Arglwydd a ddywedodd , Wele , gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel , ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach . Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd , a chysegrau Israel a ddifethir ; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf . Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel , gan ddywedyd , Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel : ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef . Canys fel hyn y dywed Amos , Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf , ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad . Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos , Ti weledydd , dos , ffo ymaith i wlad Jwda ; a bwyta fara yno , a phroffwyda yno : Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy : canys capel y brenin a llys y brenin yw . Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia , Nid proffwyd oeddwn i , ac nid mab i broffwyd oeddwn i : namyn bugail oeddwn i , a chasglydd ffigys gwylltion : A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd ; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Dos , a phroffwyda i’m pobl Israel . Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd ; Ti a ddywedi , Na phroffwyda yn erbyn Israel , ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dy wraig a buteinia yn y ddinas , dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf , a’th dir a rennir wrth linyn ; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig , a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad . Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi ; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf . Ac efe a ddywedodd , Beth a weli di , Amos ? A mi a ddywedais , Cawellaid o ffrwythydd haf . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel ; nid af heibio iddynt mwyach . Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd Dduw : llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle ; bwrir hwynt allan yn ddistaw . Gwrandewch hyn , y sawl ydych yn llyncu yr anghenog , i ddifa tlodion y tir , Gan ddywedyd , Pa bryd yr â y mis heibio , fel y gwerthom ŷd ? a’r Saboth , fel y dygom allan y gwenith , gan brinhau yr effa , a helaethu y sicl , ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll ? I brynu y tlawd er arian , a’r anghenus er pâr o esgidiau , ac i werthu gwehilion y gwenith ? Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob , Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt . Oni chrŷn y ddaear am hyn ? ac oni alara ei holl breswylwyr ? cyfyd hefyd i gyd fel llif ; a bwrir hi ymaith , a hi a foddir , megis gan afon yr Aifft . A’r dydd hwnnw , medd yr Arglwydd Dduw , y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd , a thywyllaf y ddaear liw dydd golau . Troaf hefyd eich gwyliau yn alar , a’ch holl ganiadau yn oernad : dygaf sachliain ar yr holl lwynau , a moelni ar bob pen : a mi a’i gwnaf fel galar am unmab , a’i ddiwedd fel dydd chwerw . Wele , y mae y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd Dduw , yr anfonaf newyn i’r tir ; nid newyn am fara , ac nid syched am ddwfr , ond am wrando geiriau yr Arglwydd . A hwy a grwydrant o fôr i fôr , ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain , i geisio gair yr Arglwydd , ac nis cânt . Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched . Y rhai a dyngant i bechod Samaria , ac a ddywedant , Byw yw dy dduw di , O Dan ; a , Byw yw ffordd Beerseba ; hwy a syrthiant , ac ni chodant mwy . Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor : ac efe a ddywedodd , Taro gapan y drws , fel y siglo y gorsingau ; a thor hwynt oll yn y pen ; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf : ni ffy ymaith ohonynt a ffo , ac ni ddianc ohonynt a ddihango . Pe cloddient hyd uffern , fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno ; a phe dringent i’r nefoedd , mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno : A phe llechent ar ben Carmel , chwiliwn , a chymerwn hwynt oddi yno ; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr , oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt : Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion , oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf , ac efe a’u lladd hwynt : a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg , ac nid er da iddynt . Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear , a hi a dawdd ; a galara pawb a’r a drig ynddi , a hi a gyfyd oll fel llifeiriant , ac a foddir megis gan afon yr Aifft . Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd , ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear , yr hwn a eilw ddyfroedd y môr , ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear : Yr Arglwydd yw ei enw . Onid ydych chwi , meibion Israel , i mi fel meibion yr Ethiopiaid ? medd yr Arglwydd : oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft , a’r Philistiaid o Cafftor , a’r Syriaid o Cir ? Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus , a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear : ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob , medd yr Arglwydd . Canys wele , myfi a orchmynnaf , ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd , fel y gogrynir ŷd mewn gogr ; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr . Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf , y rhai a ddywedant , Ni oddiwedd drwg ni , ac ni achub ein blaen . Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd , yr hon a syrthiodd , ac a gaeaf ei bylchau , ac a godaf ei hadwyau , ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt : Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt , weddill Edom , a’r holl genhedloedd , medd yr Arglwydd , yr hwn a wna hyn . Wele y dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , y goddiwedd yr arddwr y medelwr , a sathrydd y grawnwin yr heuwr had ; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin , a’r holl fryniau a doddant . A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel ; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd , ac a’u preswyliant ; a hwy a blannant winllannoedd , ac a yfant o’u gwin ; gwnânt hefyd erddi , a bwytânt eu ffrwyth hwynt . Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir , ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt , medd yr Arglwydd dy Dduw . </passage></reply></GetPassage>