<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:31</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:31</urn><passage>Gweledigaeth Obadeia . Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom ; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd , a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd ; Codwch , a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi . Wele , mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd ; dibris iawn wyt . Balchder dy galon a’th dwyllodd : ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig , yn uchel ei drigfa ; yr hwn a ddywed yn ei galon , Pwy a’m tyn i’r llawr ? Ped ymddyrchefit megis yr eryr , a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr , mi a’th ddisgynnwn oddi yno , medd yr Arglwydd . Pe delai lladron atat , neu ysbeilwyr nos , ( pa fodd y’th dorrwyd ymaith ! ) oni ladratasent hwy eu digon ? pe delsai cynullwyr grawnwin atat , oni weddillasent rawn ? Pa fodd y chwiliwyd Esau , ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef ! Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt , a’th yrasant hyd y terfyn ; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt , a’th dwyllasant , ac a’th orfuant , bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat : nid oes deall ynddo . Oni ddinistriaf y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y doethion allan o Edom , a’r deall allan o fynydd Esau ? Dy gedyrn di , Teman , a ofnant ; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa . Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob , gwarth a’th orchuddia , a thi a dorrir ymaith byth . Y dydd y sefaist o’r tu arall , y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef , a myned o ddieithriaid i’w byrth ef , a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem , tithau hefyd oeddit megis un ohonynt . Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd , y dydd y dieithriwyd ef ; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda , y dydd y difethwyd hwynt ; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd . Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd ; ie , ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd ; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt : Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd , i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono ; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd . Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd : fel y gwnaethost , y gwneir i tithau ; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun . Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd , felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad ; ie , yfant , a llyncant , a byddant fel pe na buasent . Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared , ac y bydd sancteiddrwydd ; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt . Yna y bydd tŷ Jacob yn dân , a thŷ Joseff yn fflam , a thŷ Esau yn sofl , a chyneuant ynddynt , a difânt hwynt ; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau : canys yr Arglwydd a’i dywedodd . Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau . a’r gwastadedd y Philistiaid ; a pherchenogant feysydd Effraim , a meysydd Samaria , a Benjamin a feddianna Gilead ; A chaethglud y llu hwn o blant Israel , yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid , hyd Sareffath ; a chaethion Jerwsalem , y rhai sydd yn Seffarad , a feddiannant ddinasoedd y deau . A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau : a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd . </passage></reply></GetPassage>