<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:32</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:32</urn><passage>A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Ninefe y ddinas fawr , a llefa yn ei herbyn ; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron . A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd : ac efe a aeth i waered i Jopa , ac a gafodd long yn myned i Tarsis , ac a dalodd ei llong-log hi , ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis , oddi gerbron yr Arglwydd . Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr , a bu yn y môr dymestl fawr , fel y tybygwyd y drylliai y llong . Yna y morwyr a ofnasant , ac a lefasant bob un ar ei dduw , a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr , i ymysgafnhau ohonynt : ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong , ac a orweddasai , ac a gysgasai . A meistr y llong a ddaeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Beth a ddarfu i ti , gysgadur ? cyfod , galw ar dy Dduw : fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym , fel na’n coller . A dywedasant bob un wrth ei gyfaill , Deuwch , a bwriwn goelbrennau , fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom . A bwriasant goelbrennau , a’r coelbren a syrthiodd ar Jona . A dywedasant wrtho , Atolwg , dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn : beth yw dy gelfyddyd di ? ac o ba le y daethost ? pa le yw dy wlad ? ac o ba bobl yr wyt ti ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hebread ydwyf fi ; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd , yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir . A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr , ac a ddywedasant wrtho , Paham y gwnaethost hyn ? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd , oherwydd efe a fynegasai iddynt . A dywedasant wrtho , Beth a wnawn i ti , fel y gostego y môr oddi wrthym ? canys gweithio yr oedd y môr , a therfysgu . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Cymerwch fi , a bwriwch fi i’r môr ; a’r môr a ostega i chwi ; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi . Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir ; ond nis gallent : am fod y môr yn gweithio , ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy . Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd , a dywedasant , Atolwg , Arglwydd , atolwg , na ddifether ni am einioes y gŵr hwn , ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion : canys ti , O Arglwydd , a wnaethost fel y gwelaist yn dda . Yna y cymerasant Jona , ac a’i bwriasant ef i’r môr : a pheidiodd y môr â’i gyffro . A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr , ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd , ac a addunasant addunedau . A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona . A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos . A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn , Ac a ddywedodd , O’m hing y gelwais ar yr Arglwydd , ac efe a’m hatebodd ; o fol uffern y gwaeddais , a chlywaist fy llef . Ti a’m bwriaist i’r dyfnder , i ganol y môr ; a’r llanw a’m hamgylchodd : dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof . A minnau a ddywedais , Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid ; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd . Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid ; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch ; ymglymodd yr hesg am fy mhen . Disgynnais i odre’r mynyddoedd ; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd : eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos , O Arglwydd fy Nuw . Pan lewygodd fy enaid ynof , cofiais yr Arglwydd ; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd . Y neb a gadwant oferedd celwydd , a wrthodant eu trugaredd eu hun . A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti , talaf yr hyn a addunedais . Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn , ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych . A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona , gan ddywedyd , Cyfod , dos i Ninefe y ddinas fawr , a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt . A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe , yn ôl gair yr Arglwydd . A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod . A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod , ac efe a lefodd ac a ddywedodd , Deugain niwrnod fydd eto , a Ninefe a gwympir . A gwŷr Ninefe a gredasant i Dduw , ac a gyhoeddasant ympryd , ac a wisgasant sachliain , o’r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt . Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe , ac efe a gyfododd o’i frenhinfainc , ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg , ac a roddes amdano liain sach , ac a eisteddodd mewn lludw . Ac efe a barodd gyhoeddi , a dywedyd trwy Ninefe , trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion , gan ddywedyd , Dyn ac anifail , eidion a dafad , na phrofant ddim ; na phorant , ac nac yfant ddwfr . Gwisger dyn ac anifail â sachlen , a galwant ar Dduw yn lew : ie , dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus , ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo . Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau , a throi oddi wrth angerdd ei ddig , fel na ddifether ni ? A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt , droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus ; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt , ac nis gwnaeth . A bu ddrwg iawn gan Jona hyn , ac efe a ddigiodd yn fawr . Ac efe a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Atolwg i ti , Arglwydd , oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad ? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis ; am y gwyddwn dy fod di yn Dduw graslon a thrugarog , hwyrfrydig i ddig , aml o drugaredd , ac edifeiriol am ddrwg . Am hynny yn awr , O Arglwydd , cymer , atolwg , fy einioes oddi wrthyf : canys gwell i mi farw na byw . A’r Arglwydd a ddywedodd , Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot ? A Jona a aeth allan o’r ddinas , ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas , ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun , ac a eisteddodd dano yn y cysgod , hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas . A’r Arglwydd Dduw a ddarparodd gicaion , ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona , i fod yn gysgod uwch ei ben ef , i’w waredu o’i ofid : a bu Jona lawen iawn am y cicaion . A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth , ac efe a drawodd y cicaion , ac yntau a wywodd . A phan gododd haul , bu i Dduw ddarparu poethwynt y dwyrain ; a’r haul a drawodd ar ben Jona , fel y llewygodd , ac y deisyfodd farw o’i einioes , ac a ddywedodd , Gwell i mi farw na byw . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona , Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion ? Ac efe a ddywedodd , Da yw i mi ymddigio hyd angau . A’r Arglwydd a ddywedodd , Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho , ac ni pheraist iddo dyfu : mewn noswaith y bu , ac mewn noswaith y darfu : Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr , yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion , y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a’u llaw aswy , ac anifeiliaid lawer ? </passage></reply></GetPassage>