<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:33</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:33</urn><passage>Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham , Ahas , a Heseceia , brenhinoedd Jwda , yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem . Gwrandewch , bobl oll ; clyw dithau , y ddaear , ac sydd ynddi ; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn , yr Arglwydd o’i deml sanctaidd . Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o’i le ; efe hefyd a ddisgyn , ac a sathr ar uchelderau y ddaear . A’r mynyddoedd a doddant tano ef , a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân , ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered . Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob , ac am bechodau tŷ Israel . Beth yw anwiredd Jacob ? onid Samaria ? Pa rai yw uchel leoedd Jwda ? onid Jerwsalem ? Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan ; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn , a datguddiaf ei sylfeini . A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau , a’i holl wobrau a losgir yn tân , a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig : oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt , ac yn wobr putain y dychwelant . Oherwydd hyn galaraf ac udaf ; cerddaf yn noeth ac yn llwm : gwnaf alar fel dreigiau , a gofid fel cywion y dylluan . Oherwydd dolurus yw ei harcholl : canys daeth hyd at Jwda ; daeth hyd borth fy mhobl , hyd Jerwsalem . Na fynegwch hyn yn Gath ; gan wylo nac wylwch ddim : ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra . Dos heibio , preswylferch Saffir , yn noeth dy warth : ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel , efe a dderbyn gennych ei sefyllfan . Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni ; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem . Preswylferch Lachis , rhwym y cerbyd wrth y buanfarch : dechreuad pechod yw hi i ferch Seion : canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel . Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath : tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel . Eto mi a ddygaf etifedd i ti , preswylferch Maresa : daw hyd Adulam , gogoniant Israel . Ymfoela , ac ymeillia am dy blant moethus : helaetha dy foelder fel eryr ; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt . Gwae a ddychmygo anwiredd , ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau ! pan oleuo y bore y gwnânt hyn ; am ei fod ar eu dwylo . Meysydd a chwenychant hefyd , ac a ddygant trwy drais ; a theiau , ac a’u dygant : gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ , dyn a’i etifeddiaeth . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Wele , yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg , yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono , ac ni rodiwch yn falch ; canys amser drygfyd yw . Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi , ac a alara alar gofidus , gan ddywedyd , Dinistriwyd ni yn llwyr ; newidiodd ran fy mhobl : pa fodd y dug ef oddi arnaf ! gan droi ymaith , efe a rannodd ein meysydd . Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd . Na phroffwydwch , meddant wrth y rhai a broffwydant : ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd . O yr hon a elwir Tŷ Jacob , a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd ? ai dyma ei weithredoedd ef ? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn ? Y rhai oedd fy mhobl ddoe , a godasant yn elyn : diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal , fel rhai yn dychwelyd o ryfel . Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch ; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth . Codwch , ac ewch ymaith ; canys nid dyma eich gorffwysfa : am ei halogi , y dinistria hi chwi â dinistr tost . Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd , a ddywed yn gelwyddog , Proffwydaf i ti am win a diod gadarn ; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn . Gan gasglu y’th gasglaf , Jacob oll : gan gynnull cynullaf weddill Israel ; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra , fel y praidd yng nghanol eu corlan : trystiant rhag amled dyn . Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt ; rhwygasant , a thramwyasant trwy y porth , ac aethant allan trwyddo , a thramwya eu brenin o’u blaen , a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt . Dywedais hefyd , Gwrandewch , atolwg , penaethiaid Jacob , a thywysogion tŷ Israel : Onid i chwi y perthyn gwybod barn ? Y rhai ydych yn casáu y da , ac yn hoffi y drwg , gan flingo eu croen oddi amdanynt , a’u cig oddi wrth eu hesgyrn ; Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl , a’u croen a flingant oddi amdanynt , a’u hesgyrn a ddrylliant , ac a friwant , megis i’r crochan , ac fel cig yn y badell . Yna y llefant ar yr Arglwydd , ac nis etyb hwynt ; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw , fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd . Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl , y rhai a frathant â’u dannedd , ac a lefant , Heddwch : a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt , darparant ryfel yn ei erbyn . Am hynny y bydd nos i chwi , fel na chaffoch weledigaeth ; a thywyllwch i chwi , fel na chaffoch ddewiniaeth : yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi , a’r dydd a ddua arnynt . Yna y gweledyddion a gywilyddiant , a’r dewiniaid a waradwyddir ; ie , pawb ohonynt a gaeant ar eu genau , am na rydd Duw ateb . Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd , ac o farn a nerth , i ddangos ei anwiredd i Jacob , a’i bechod i Israel . Gwrandewch hyn , atolwg , penaethiaid tŷ Jacob , a thywysogion tŷ Israel , y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn , ac yn gwyro pob uniondeb . Adeiladu Seion y maent â gwaed , a Jerwsalem ag anwiredd . Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr , a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog , a’r proffwydi a ddewiniant er arian ; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant , gan ddywedyd , Onid yw yr Arglwydd i’n plith ? ni ddaw drwg arnom . Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes , a Jerwsalem a fydd yn garneddau , a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig . A bydd yn niwedd y dyddiau , i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd ; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau ; a phobloedd a ddylifant ato . A chenhedloedd lawer a ânt , ac a ddywedant , Deuwch , ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd , ac i dŷ Dduw Jacob ; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd , ac yn ei lwybrau y rhodiwn : canys y gyfraith a â allan o Seion , a gair yr Arglwydd o Jerwsalem . Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer , ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell ; a thorrant eu cleddyfau yn sychau , a’u gwaywffyn yn bladuriau : ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl , ac ni ddysgant ryfel mwyach . Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren , heb neb i’w dychrynu ; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd . Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun , a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd . Yn y dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y casglaf y gloff , ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan , a’r hon a ddrygais : A gwnaf y gloff yn weddill , a’r hon a daflwyd ymhell , yn genedl gref ; a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth . A thithau , tŵr y praidd , castell merch Seion , hyd atat y daw , ie , y daw yr arglwyddiaeth bennaf , y deyrnas i ferch Jerwsalem . Paham gan hynny y gwaeddi waedd ? onid oes ynot frenin ? a ddarfu am dy gynghorydd ? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor . Ymofidia a griddfana , merch Seion , fel gwraig yn esgor : oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas , a thrigi yn y maes ; ti a ei hyd Babilon : yno y’th waredir ; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion . Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn , gan ddywedyd , Haloger hi , a gweled ein llygaid hynny ar Seion . Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd , ac ni ddeallant ei gyngor ef : canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu . Cyfod , merch Seion , a dyrna ; canys gwnaf dy gorn yn haearn , a’th garnau yn bres ; a thi a ddrylli bobloedd lawer : a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt , a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear . Yr awr hon ymfyddina , merch y fyddin ; gosododd gynllwyn i’n herbyn : trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern . A thithau , Bethlehem Effrata , er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda , eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel ; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad , er dyddiau tragwyddoldeb . Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny , hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor : yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel . Ac efe a saif , ac a bortha â nerth yr Arglwydd , yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw ; a hwy a drigant : canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear . A hwn fydd yr heddwch , pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni : a phan sathro o fewn ein palasau , yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail , ac wyth o’r dynion pennaf . A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf , a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun : ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad , pan ddêl i’n tir , a phan sathro o fewn ein terfynau . A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl , fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd , megis cawodydd ar y gwelltglas , yr hwn nid erys ar ddyn , ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion . A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd , yng nghanol pobl lawer , fel llew ymysg bwystfilod y goedwig , ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid ; yr hwn , pan êl trwodd , a sathr ac a ysglyfaetha , ac ni bydd achubydd . Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr , a’th holl elynion a dorrir ymaith . A bydd y dwthwn hwnnw , medd yr Arglwydd , i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di , a dinistrio dy gerbydau : Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad , a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd : A thorraf ymaith o’th law y swynion , ac ni bydd i ti ddewiniaid : Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig , a’th ddelwau o’th blith ; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun : Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd ; a dinistriaf dy ddinasoedd . Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant . Gwrandewch , atolwg , y peth a ddywed yr Arglwydd ; Cyfod , ymddadlau â’r mynyddoedd , a chlywed y bryniau dy lais . Gwrandewch , y mynyddoedd , a chedyrn sylfeini y ddaear , gŵyn yr Arglwydd ; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl , ac efe a ymddadlau ag Israel . Fy mhobl , beth a wneuthum i ti ? ac ym mha beth y’th flinais ? tystiolaetha i’m herbyn . Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft , ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed , ac a anfonais o’th flaen Moses , Aaron , a Miriam . Fy mhobl , cofia , atolwg , beth a fwriadodd Balac brenin Moab , a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo , o Sittim hyd Gilgal ; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd . Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd , ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw ? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau , ac â dyniewaid ? A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn , neu â myrddiwn o ffrydiau olew ? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd , ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid ? Dangosodd efe i ti , ddyn , beth sydd dda : a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt , ond gwneuthur barn , a hoffi trugaredd , ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw ? Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas , a’r doeth a wêl dy enw : gwrandewch y wialen , a phwy a’i hordeiniodd . A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir , a’r mesur prin , peth sydd ffiaidd ? A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir , ac â chod o gerrig twyllodrus ? Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais , a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd ; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau . A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro , wrth dy anrheithio am dy bechodau . Ti a fwytei , ac ni’th ddigonir ; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun : ti a ymefli , ac nid achubi ; a’r hyn a achubych , a roddaf i’r cleddyf . Ti a heui , ond ni fedi ; ti a sethri yr olewydd , ond nid ymiri ag olew ; a gwin newydd , ond nid yfi win . Cadw yr ydys ddeddfau Omri , a holl weithredoedd Ahab , a rhodio yr ydych yn eu cynghorion : fel y’th wnawn yn anghyfannedd , a’i thrigolion i’w hwtio : am hynny y dygwch warth fy mhobl . Gwae fi ! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf , fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin ; nid oes swp o rawn i’w bwyta ; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf . Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear , ac nid oes un uniawn ymhlith dynion ; cynllwyn y maent oll am waed ; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd . I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol , y tywysog a ofyn , a’r barnwr am wobr ; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl : felly y plethant ef . Y gorau ohonynt sydd fel miaren , yr unionaf yn arwach na chae drain ; dydd dy wylwyr , a’th ofwy , sydd yn dyfod : bellach y bydd eu penbleth hwynt . Na chredwch i gyfaill , nac ymddiriedwch i dywysog : cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes . Canys mab a amharcha ei dad , y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam , a’r waudd yn erbyn ei chwegr : a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ . Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd , disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth : fy Nuw a’m gwrendy . Na lawenycha i’m herbyn , fy ngelynes : pan syrthiwyf , cyfodaf ; pan eisteddwyf mewn tywyllwch , yr Arglwydd a lewyrcha i mi . Dioddefaf ddig yr Arglwydd , canys pechais i’w erbyn ; hyd oni ddadleuo fy nghwyn , a gwneuthur i mi farn : efe a’m dwg allan i’r goleuad , a mi a welaf ei gyfiawnder ef . A’m gelynes a gaiff weled , a chywilydd a’i gorchuddia hi , yr hon a ddywedodd wrthyf , Mae yr Arglwydd dy Dduw ? fy llygaid a’i gwelant hi ; bellach y bydd hi yn sathrfa , megis tom yr heolydd . Y dydd yr adeiledir dy furiau , y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf . Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria , ac o’r dinasoedd cedyrn , ac o’r cadernid hyd yr afon , ac o fôr i fôr , ac o fynydd i fynydd . Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion , am ffrwyth eu gweithredoedd . Portha dy bobl â’th wialen , defaid dy etifeddiaeth , y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig , yng nghanol Carmel : porant yn Basan a Gilead , megis yn y dyddiau gynt . Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft , y dangosaf iddo ryfeddodau . Y cenhedloedd a welant , ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt : rhoddant eu llaw ar eu genau ; eu clustiau a fyddarant . Llyfant y llwch fel sarff ; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau : arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni , ac o’th achos di yr ofnant . Pa Dduw sydd fel tydi , yn maddau anwiredd , ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth ? ni ddeil efe ei ddig byth , am fod yn hoff ganddo drugaredd . Efe a ddychwel , efe a drugarha wrthym : efe a ddarostwng ein hanwireddau ; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr . Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob , y drugaredd hefyd i Abraham , yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt . </passage></reply></GetPassage>