<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:34</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:34</urn><passage>Baich Ninefe . Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad . Duw sydd eiddigus , a’r Arglwydd sydd yn dial ; yr Arglwydd sydd yn dial , ac yn berchen llid : dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr , a dal dig y mae efe i’w elynion . Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig , a mawr ei rym , ac ni ddieuoga yr anwir : yr Arglwydd sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy , a’r cymylau yw llwch ei draed ef . Efe a gerydda y môr , ac a’i sych ; yr holl afonydd a ddihysbydda efe : llesgaodd Basan a Charmel , a llesgaodd blodeuyn Libanus . Y mynyddoedd a grynant rhagddo , a’r bryniau a doddant , a’r ddaear a lysg gan ei olwg , a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo . Pwy a saif o flaen ei lid ef ? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef ? ei lid a dywelltir fel tân , a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo . Daionus yw yr Arglwydd , amddiffynfa yn nydd blinder ; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo . A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi , a thywyllwch a erlid ei elynion ef . Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd ? efe a wna dranc ; ni chyfyd blinder ddwywaith . Canys tra yr ymddrysont fel drain , a thra meddwont fel meddwon , ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo . Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd : cynghorwr drygionus . Fel hyn y dywed yr Arglwydd , Pe byddent heddychol , ac felly yn aml , eto fel hyn y torrir hwynt i lawr , pan elo efe heibio . Er i mi dy flino , ni’th flinaf mwyach . Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat , drylliaf dy rwymau . Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid , na heuer o’th enw mwyach : torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw : gwnaf dy fedd ; canys gwael ydwyt . Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr , cyhoeddwr heddwch : cadw di , O Jwda , dy wyliau , tâl dy addunedau : canys nid â y drygionus trwot mwy ; cwbl dorrwyd ef ymaith . Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb : cadw yr amddiffynfa , gwylia y ffordd , nertha dy lwynau , cadarnha dy nerth yn fawr . Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob , fel ardderchowgrwydd Israel : canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt , ac a lygrasant eu cangau gwinwydd . Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch , ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad ; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy , a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol . Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd , trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd : eu gwelediad fydd fel fflamau , ac fel mellt y saethant . Efe a gyfrif ei weision gwychion ; tramgwyddant wrth gerdded ; prysurant at ei chaer hi , a’r amddiffyn a baratoir . Pyrth y dwfr a agorir , a’r palas a ymddetyd . A Hussab a gaethgludir , dygir hi i fyny , a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod , yn curo ar eu dwyfronnau . A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr : ond hwy a ffoant . Sefwch , sefwch , meddant ; ac ni bydd a edrycho yn ôl . Ysglyfaethwch arian , ysglyfaethwch aur ; canys nid oes diben ar yr ystôr , a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol . Gwag , a gorwag , ac anrheithiedig yw hi , a’r galon yn toddi , a’r gliniau yn taro ynghyd , ac anhwyl ar bob lwynau , a’u hwynebau oll a gasglant barddu . Pa le y mae trigfa y llewod , a phorfa cenawon y llewod ? lle y rhodiai y llew , sef yr hen lew , a’r cenau llew , ac nid oedd a’u tarfai ? Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon , ac a dagodd i’w lewesau , ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau , a’i loches ag ysbail . Wele fi yn dy erbyn , medd Arglwydd y lluoedd ; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg , a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc ; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth , ac ni chlywir mwy lais dy genhadau . Gwae ddinas y gwaed ! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd , a’r ysglyfaeth heb ymado . Bydd sŵn y ffrewyll , a sŵn cynnwrf olwynion , a’r march yn prancio , a’r cerbyd yn neidio . Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw , a’i ddisglair waywffon ; lliaws o laddedigion , ac aneirif o gelanedd ; a heb ddiwedd ar y cyrff : tripiant wrth eu cyrff hwynt : Oherwydd aml buteindra y butain deg , meistres swynion , yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra , a theuluoedd trwy ei swynion . Wele fi i’th erbyn , medd Arglwydd y lluoedd , a datguddiaf dy odre ar dy wyneb , a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni , ac i deyrnasoedd dy warth . A thaflaf ffiaidd bethau arnat , a gwnaf di yn wael , a gosodaf di yn ddrych . A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt , a dywedyd , Anrheithiwyd Ninefe , pwy a gwyna iddi ? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti ? Ai gwell ydwyt na No dylwythog , yr hon a osodir rhwng yr afonydd , ac a amgylchir â dyfroedd , i’r hon y mae y môr yn rhagfur , a’i mur o’r môr ? Ethiopia oedd ei chadernid , a’r Aifft , ac aneirif : Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti . Er hynny hi a dducpwyd ymaith , hi a gaethgludwyd ; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol ; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau , a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau . Tithau hefyd a feddwi ; byddi guddiedig ; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn . Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt : os ysgydwir hwynt , syrthiant yn safn y bwytawr . Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di : pyrth dy dir a agorir i’th elynion ; tân a ysodd dy farrau . Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae , cadarnha dy amddiffynfeydd ; dos i’r dom , sathr y clai , cryfha yr odyn briddfaen . Yno y tân a’th ddifa , y cleddyf a’th dyr ymaith , efe a’th ysa di fel pryf y rhwd ; ymluosoga fel pryf y rhwd , ymluosoga fel y ceiliog rhedyn . Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd : difwynodd pryf y rhwd , ac ehedodd ymaith . Dy rai coronog sydd fel y locustiaid , a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr , y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog , ond pan gyfodo yr haul , hwy a ehedant ymaith , ac ni adwaenir eu man lle y maent . Dy fugeiliaid , brenin Asyria , a hepiant ; a’th bendefigion a orweddant ; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd , ac ni bydd a’u casglo . Ni thynnir dy archoll ynghyd , clwyfus yw dy weli ; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat ; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser ? </passage></reply></GetPassage>