<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:35</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:35</urn><passage>Y baich a welodd y proffwyd Habacuc . Pa hyd , Arglwydd , y gwaeddaf , ac nis gwrandewi ! y bloeddiaf arnat rhag trais , ac nid achubi ! Paham y gwnei i mi weled anwiredd , ac y peri i mi edrych ar flinder ? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i ; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson . Am hynny yr oedir cyfraith , ac nid â barn allan byth : am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn ; am hynny cam farn a â allan . Gwelwch ymysg y cenhedloedd , ac edrychwch , rhyfeddwch yn aruthrol : canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau , ni choeliwch er ei mynegi i chwi . Canys wele fi yn codi y Caldeaid , cenedl chwerw a phrysur , yr hon a rodia ar hyd lled y tir , i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt . Y maent i’w hofni ac i’w harswydo : ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth . A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid , a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr : eu marchogion hefyd a ymdaenant , a’u marchogion a ddeuant o bell ; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd . Hwy a ddeuant oll i dreisio ; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain , a hwy a gasglant gaethion fel y tywod . A hwy a watwarant frenhinoedd , a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt : hwy a watwarant yr holl gestyll , ac a gasglant lwch , ac a’i goresgynnant . Yna y newidia ei feddwl , ac yr â trosodd , ac a drosedda , gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun . Onid wyt ti er tragwyddoldeb , O Arglwydd fy Nuw , fy Sanctaidd ? ni byddwn feirw . O Arglwydd , ti a’u gosodaist hwy i farn , ac a’u sicrheaist , O Dduw , i gosbedigaeth . Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg , ac ni elli edrych ar anwiredd : paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid , ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun ? Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr , fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt ? Cyfodant hwynt oll â’r bach ; casglant hwynt yn eu rhwyd , a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd : am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant . Am hynny yr aberthant i’w rhwyd , ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd : canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew , a’u bwyd yn fras . A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd , ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol ? Safaf ar fy nisgwylfa , ac ymsefydlaf ar y tŵr , a gwyliaf , i edrych beth a ddywed efe wrthyf , a pha beth a atebaf pan y’m cerydder . A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd , Ysgrifenna y weledigaeth , a gwna hi yn eglur ar lechau , fel y rhedo yr hwn a’i darlleno . Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig , ond hi a ddywed o’r diwedd , ac ni thwylla : os erys , disgwyl amdani ; canys gan ddyfod y daw , nid oeda . Wele , yr hwn a ymchwydda , nid yw uniawn ei enaid ynddo : ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd . A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win , gŵr balch yw efe , ac heb aros gartref , yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern , ac y mae fel angau , ac nis digonir ; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd , ac a gynnull ato yr holl bobloedd . Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb , a gair du yn ei erbyn , a dywedyd , Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo ! pa hyd ? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew ! Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant , ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant , a thi a fyddi yn wasarn iddynt ? Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer , holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau : am waed dynion , ac am y trais ar y tir , ar y ddinas , ac ar oll a drigant ynddi . Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ , i osod ei nyth yn uchel , i ddianc o law y drwg ! Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ , wrth ddistrywio pobloedd lawer ; pechaist yn erbyn dy enaid . Oherwydd y garreg a lefa o’r mur , a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed . Gwae a adeilado dref trwy waed , ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd ! Wele , onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae , bod i’r bobl ymflino yn y tân , ac i’r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd ? Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd , fel y toa y dyfroedd y môr . Gwae a roddo ddiod i’w gymydog : yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel , ac yn ei feddwi hefyd , er cael gweled eu noethni hwynt ! Llanwyd di o warth yn lle gogoniant ; yf dithau hefyd , a noether dy flaengroen : ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti , a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant . Canys trais Libanus a’th orchuddia , ac anrhaith yr anifeiliaid , yr hwn a’u dychrynodd hwynt , o achos gwaed dynion , a thrais y tir , y ddinas ac oll a drigant ynddi . Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig , ddarfod i’w lluniwr ei cherfio ; i’r ddelw dawdd , ac athro celwydd , fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo , i wneuthur eilunod mudion ? Gwae a ddywedo wrth bren , Deffro ; wrth garreg fud , Cyfod , efe a rydd addysg : wele , gwisgwyd ef ag aur ac arian , a dim anadl nid oes o’i fewn . Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd : y ddaear oll , gostega di ger ei fron ef . Gweddi Habacuc y proffwyd , ar Sigionoth . Clywais , O Arglwydd , dy air , ac ofnais : O Arglwydd , bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd , pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd ; yn dy lid cofia drugaredd . Duw a ddaeth o Teman , a’r Sanctaidd o fynydd Paran . Sela . Ei ogoniant a dodd y nefoedd , a’r ddaear a lanwyd o’i fawl . A’i lewyrch oedd fel goleuni : yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law ; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder . Aeth yr haint o’i flaen ef , ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef . Safodd , a mesurodd y ddaear ; edrychodd , a gwasgarodd y cenhedloedd : y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd , a’r bryniau oesol a grymasant : llwybrau tragwyddol sydd iddo . Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan : crynodd llenni tir Midian . A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd ? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig ? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint , gan i ti farchogaeth ar dy feirch , ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth ? Llwyr noethwyd dy fwa , yn ôl llwon y llwythau , sef dy air di . Sela . Holltaist y ddaear ag afonydd . Y mynyddoedd a’th welsant , ac a grynasant ; y llifeiriant dwfr a aeth heibio ; y dyfnder a wnaeth dwrf ; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel . Yr haul a’r lleuad a safodd yn eu preswylfa ; wrth oleuad dy saethau yr aethant , ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair . Mewn llid y cerddaist y ddaear , a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter . Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl , er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog : torraist y pen allan o dŷ yr anwir , gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf . Sela . Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun ; rhyferthwyasant i’m gwasgaru ; ymlawenhasant , megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch . Rhodiaist â’th feirch trwy y môr , trwy bentwr o ddyfroedd mawrion . Pan glywais , fy mol a ddychrynodd ; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef : daeth pydredd i’m hesgyrn , ac yn fy lle y crynais , fel y gorffwyswn yn nydd trallod : pan ddêl efe i fyny at y bobl , efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd . Er i’r ffigysbren na flodeuo , ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd ; gwaith yr olewydd a balla , a’r meysydd ni roddant fwyd ; torrir ymaith y praidd o’r gorlan , ac ni bydd eidion yn eu beudai : Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd ; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth . Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth , a’m traed a wna efe fel traed ewigod ; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd . I’r pencerdd ar fy offer tannau . </passage></reply></GetPassage>