<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:36</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:36</urn><passage>Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi , fab Gedaleia , fab Amareia , fab Heseceia , yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda . Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear , medd yr Arglwydd . Distrywiaf ddyn ac anifail ; distrywiaf adar yr awyr , a physgod y môr ; a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion ; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear , medd yr Arglwydd . Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda , ac ar holl breswylwyr Jerwsalem ; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal , ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid ; A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd ; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd , a hefyd a dyngant i Malcham ; A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd ; a’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd , ac nid ymofynasant amdano . Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw ; canys agos yw dydd yr Arglwydd : oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth , gwahoddodd ei wahoddedigion . A bydd , ar ddydd aberth yr Arglwydd , i mi ymweled â’r tywysogion , ac â phlant y brenin , ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr . Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw , y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll . A’r dydd hwnnw , medd yr Arglwydd , y bydd llais gwaedd o borth y pysgod , ac udfa o’r ail , a drylliad mawr o’r bryniau . Udwch , breswylwyr Machtes : canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion ; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith . A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau , ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod ; y rhai a ddywedant yn eu calon , Ni wna yr Arglwydd dda , ac ni wna ddrwg . Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail , a’u teiau yn anghyfannedd : adeiladant hefyd dai , ond ni phreswyliant ynddynt ; a phlannant winllannoedd , ond nid yfant o’r gwin . Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd , agos a phrysur iawn , sef llais dydd yr Arglwydd : yno y bloeddia y dewr yn chwerw . Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw , diwrnod trallod a chyfyngdra , diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra , diwrnod tywyll a du , diwrnod cymylau a thywyllni . Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog , ac yn erbyn y tyrau uchel . A mi a gyfyngaf ar ddynion , a hwy a rodiant megis deillion , am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd ; a’u gwaed a dywelltir fel llwch , a’u cnawd fel tom . Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd ; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir : canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear . Ymgesglwch , ie , deuwch ynghyd , genedl anhawddgar ; Cyn i’r ddeddf esgor , cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn , cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd , cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd . Ceisiwch yr Arglwydd , holl rai llariaidd y ddaear , y rhai a wnaethant ei farn ef ; ceisiwch gyfiawnder , ceisiwch larieidd-dra : fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd . Canys bydd Gasa yn wrthodedig , ac Ascalon yn anghyfannedd : gyrrant allan Asdod hanner dydd , a diwreiddir Ecron . Gwae breswylwyr glan y môr , cenedl y Cerethiaid ! y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn : O Ganaan , gwlad y Philistiaid , mi a’th ddifethaf , fel na byddo cyfanheddwr . A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid , ac yn gorlannau defaid . A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda ; porant arnynt : yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr : canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt , ac a ddychwel eu caethiwed . Clywais waradwyddiad Moab , a chabledd meibion Ammon , â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl , ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt . Am hynny fel mai byw fi , medd Arglwydd y lluoedd , Duw Israel , Fel Sodom y bydd Moab , a meibion Ammon fel Gomorra : danhadldir , a phyllau halen , ac anghyfanheddle tragwyddol : gweddill fy mhobl a’u difroda , a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt . Hyn a ddaw iddynt am eu balchder , am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd . Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt : canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear ; ac addolant ef bob un o’i fan , sef holl ynysoedd y cenhedloedd . Chwithau hefyd , yr Ethiopiaid , a leddir â’m cleddyf . Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd , ac a ddifetha Asyria , ac a wna Ninefe yn anghyfannedd , ac yn sych fel diffeithwch . A diadellau a orweddant yn ei chanol hi , holl anifeiliaid y cenhedloedd : y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws ; eu llais a gân yn y ffenestri ; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau : canys efe a ddinoetha y cedrwaith . Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal , yn dywedyd yn ei chalon , Myfi sydd , ac nid oes ond myfi : pa fodd yr aeth yn anghyfannedd , yn orweddfa anifeiliaid ! pawb a’r a êl heibio iddi , a’i hwtia , ac a ysgwyd ei law arni . Gwae y fudr a’r halogedig , y ddinas orthrymus ! Ni wrandawodd ar y llef , ni dderbyniodd gerydd ; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd , ni nesaodd at ei Duw . Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy ; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr , ni adawant asgwrn erbyn y bore . Ei phroffwydi sydd ysgafn , yn wŷr anffyddlon : ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr , treisiasant y gyfraith . Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol ; ni wna efe anwiredd : yn fore y dwg ei farn i oleuni , ni phalla ; ond yr anwir ni fedr gywilyddio . Torrais ymaith y cenhedloedd : eu tyrau sydd anghyfannedd ; diffeithiais eu heolydd , fel nad elo neb heibio ; eu dinasoedd a ddifwynwyd , heb ŵr , a heb drigiannol . Dywedais , Yn ddiau ti a’m hofni ; derbynni gerydd : felly ei thrigfa ni thorrid ymaith , pa fodd bynnag yr ymwelais â hi : eto boregodasant , a llygrasant eu holl weithredoedd . Am hynny disgwyliwch arnaf fi , medd yr Arglwydd , hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth : canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd , ar gasglu y teyrnasoedd , i dywallt arnynt fy llid , holl angerdd fy nigofaint : canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear . Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur , fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd . O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr , sef merch fy ngwasgaredig , fy offrwm . Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd , yn y rhai y pechaist i’m herbyn : canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder , fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd . Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion , ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy . Gweddill Israel ni wna anwiredd , ac ni ddywedant gelwydd ; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus : canys hwy a borant ac a orweddant , ac ni bydd a’u tarfo . Merch Seion , cân ; Israel , crechwena ; merch Jerwsalem , ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon . Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau , bwriodd allan dy elynion : yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol , nid ofni ddrwg mwyach . Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem , Nac ofna ; wrth Seion , Na laesed dy ddwylo . Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn : efe a achub , efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd ; efe a lonydda yn ei gariad , efe a ymddigrifa ynot dan ganu . Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa , y rhai sydd ohonot , i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich . Wele , mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant : ac a achubaf y gloff , a chasglaf y wasgaredig ; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth . Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn , yr amser y’ch casglaf : canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear , pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid , medd yr Arglwydd . </passage></reply></GetPassage>