<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:37</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:37</urn><passage>Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius , yn y chweched mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad , gan ddywedyd , Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Y bobl hyn a ddywedant , Ni ddaeth yr amser , yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd . Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd , gan ddywedyd , Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig , a’r tŷ hwn yn anghyfannedd ? Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ystyriwch eich ffyrdd . Heuasoch lawer , a chludasoch ychydig ; bwyta yr ydych , ond nid hyd ddigon ; yfed , ac nid hyd fod yn ddiwall ; ymwisgasoch , ac nid hyd glydwr i neb ; a’r hwn a enillo gyflog , sydd yn casglu cyflog i god dyllog . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ystyriwch eich ffyrdd . Esgynnwch i’r mynydd , a dygwch goed , ac adeiledwch y tŷ ; mi a ymfodlonaf ynddo , ac y’m gogoneddir , medd yr Arglwydd . Edrychasoch am lawer , ac wele , yr oedd yn ychydig ; a phan ei dygasoch adref , chwythais arno . Am ba beth ? medd Arglwydd y lluoedd . Am fy nhŷ i , yr hwn sydd yn anghyfannedd , a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun . Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho , a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth . Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear , ac ar y mynyddoedd , ac ar yr ŷd ac ar y gwin , ac ar yr olew , ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan ; ar ddyn hefyd , ac ar anifail , ac ar holl lafur dwylo . Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel , a Josua mab Josedec yr archoffeiriad , a holl weddill y bobl , ar lais yr Arglwydd eu Duw , ac ar eiriau Haggai y proffwyd , megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef ; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd . Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl , gan ddywedyd , Yr wyf fi gyda chwi , medd yr Arglwydd . Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad , ac ysbryd holl weddill y bobl ; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt , Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis , yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin . Yn y seithfed mis , ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis , y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai , gan ddywedyd , Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda , ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad , ac wrth weddill y bobl , gan ddywedyd , Pwy yn eich plith a adawyd , yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf ? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon ? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim ? Eto yn awr ymgryfha , Sorobabel , medd yr Arglwydd ; ac ymgryfha , Josua mab Josedec yr archoffeiriad ; ac ymgryfhewch , holl bobl y tir , medd yr Arglwydd , a gweithiwch : canys yr ydwyf fi gyda chwi , medd Arglwydd y lluoedd : Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft , felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg : nac ofnwch . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Unwaith eto , ennyd fechan yw , a mi a ysgydwaf y nefoedd , a’r ddaear , a’r môr , a’r sychdir ; Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd , a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw : llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant , medd Arglwydd y lluoedd . Eiddof fi yr arian , ac eiddof fi yr aur , medd Arglwydd y lluoedd . Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf , medd Arglwydd y lluoedd : ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd , medd Arglwydd y lluoedd . Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis , yn yr ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith , gan ddywedyd , Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg , ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara , neu â’r cawl , neu â’r gwin , neu â’r olew , neu â dim o’r bwyd , a fyddant hwy sanctaidd ? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant , Na fyddant . A Haggai a ddywedodd , Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn , a fyddant hwy aflan ? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant , Byddant aflan . Yna yr atebodd Haggai , ac a ddywedodd , Felly y mae y bobl hyn , ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron , medd yr Arglwydd ; ac felly y mae holl waith eu dwylo , a’r hyn a aberthant yno , yn aflan . Ac yr awr hon meddyliwch , atolwg , o’r diwrnod hwn allan a chynt , cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd ; Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid , deg fyddai ; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn , ugain a fyddai yno . Trewais chwi â diflaniad , ac â mallter , ac â chenllysg , yn holl waith eich dwylo ; a chwithau ni throesoch ataf fi , medd yr Arglwydd . Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt , o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis , ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd . A yw yr had eto yn yr ysgubor ? y winwydden hefyd , y ffigysbren , a’r pomgranad , a’r pren olewydd , ni ffrwythasant : o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi . A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai , ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis , gan ddywedyd , Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda , gan ddywedyd , Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear ; A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd , ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd ; ymchwelaf hefyd y cerbydau , a’r rhai a eisteddant ynddynt ; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant , bob un gan gleddyf ei frawd . Y diwrnod hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y’th gymeraf di , fy ngwas Sorobabel , mab Salathiel , medd yr Arglwydd , ac y’th wnaf fel sêl : canys mi a’th ddewisais di , medd Arglwydd y lluoedd . </passage></reply></GetPassage>