<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:38</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:38</urn><passage>Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , mab Baracheia , mab Ido y proffwyd , gan ddywedyd , Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau . Am hynny dywed wrthynt , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Dychwelwch ataf fi , medd Arglwydd y lluoedd , a mi a ddychwelaf atoch chwithau , medd Arglwydd y lluoedd . Na fyddwch fel eich tadau , y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg , ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus : ond ni chlywent , ac ni wrandawent arnaf , medd yr Arglwydd . Eich tadau , pa le y maent hwy ? a’r proffwydi , ydynt hwy yn fyw byth ? Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau , y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi , oddiwes eich tadau ? a hwy a ddychwelasant , ac a ddywedasant , Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni , yn ôl ein ffyrdd , ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun , felly y gwnaeth efe â ni . Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg , hwnnw yw mis Sebat , o’r ail flwyddyn i Dareius , y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , mab Baracheia , mab Ido y proffwyd , gan ddywedyd , Gwelais noswaith ; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch , ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant ; ac o’i ôl ef feirch cochion , brithion , a gwynion . Yna y dywedais , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf , Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn . A’r gŵr , yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd , a atebodd ac a ddywedodd , Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear . A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd , yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt , ac a ddywedasant , Rhodiasom trwy y ddaear ; ac wele yr holl ddaear yn eistedd , ac yn llonydd . Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd , O Arglwydd y lluoedd , pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem , a dinasoedd Jwda , wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn ? A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi , â geiriau daionus , a geiriau comfforddus . A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf , Gwaedda , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion : A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw ; y rhai pan ddigiais ychydig , hwythau a gynorthwyasant y niwed . Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau : fy nhŷ a adeiledir ynddi , medd Arglwydd y lluoedd , a llinyn a estynnir ar Jerwsalem . Gwaedda eto , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni , a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto , ac a ddewis Jerwsalem eto . A chodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele , bedwar corn . A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , Beth yw y rhai hyn ? Dywedodd yntau wrthyf , Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda , Israel , a Jerwsalem . A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd . Yna y dywedais , I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn ? Ac efe a lefarodd , gan ddywedyd , Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda , fel na chodai un ei ben : ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt , i daflu allan gyrn y Cenhedloedd , y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi . Dyrchefais fy llygaid drachefn , ac edrychais ; ac wele ŵr , ac yn ei law linyn mesur . A dywedais , I ba le yr ei di ? Ac efe a ddywedodd wrthyf , I fesuro Jerwsalem , i weled beth yw ei lled hi , a pheth yw ei hyd hi . Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan , ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef . Ac efe a ddywedodd wrtho , Rhed , llefara wrth y llanc hwn , gan ddywedyd , Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi , rhag amled dyn ac anifail o’i mewn . Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch , medd yr Arglwydd , a byddaf yn ogoniant yn ei chanol . Ho , ho , deuwch allan , a ffowch o wlad y gogledd , medd yr Arglwydd : canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd , medd yr Arglwydd . O Seion , ymachub , yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi : canys a gyffyrddo â chwi , sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef . Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt , a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision : a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd . Cân a llawenycha , merch Seion : canys wele fi yn dyfod ; a mi a drigaf yn dy ganol di , medd yr Arglwydd . A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd , ac a fyddant bobl i mi : a mi a drigaf yn dy ganol di ; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat . A’r Arglwydd a etifedda Jwda , ei ran yn y tir sanctaidd , ac a ddewis Jerwsalem drachefn . Pob cnawd , taw yng ngŵydd yr Arglwydd : canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd . Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd , a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan , Cerydded yr Arglwydd dydi , Satan ; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem , a’th geryddo : onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân ? A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron , ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel . Ac efe a atebodd , ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron , gan ddywedyd , Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef . Wrtho yntau y dywedodd , Wele , symudais dy anwiredd oddi wrthyt , a gwisgaf di hefyd â newid dillad . A dywedais hefyd , Rhoddant feitr teg ar ei ben ef : a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef , ac a’i gwisgasant â dillad ; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw . Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Os rhodi di yn fy ffyrdd , ac os cedwi fy nghadwraeth , tithau hefyd a ferni fy nhŷ , ac a gedwi fy nghynteddoedd ; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma . Gwrando , atolwg , Josua yr archoffeiriad , ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron : canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn : oherwydd wele , dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN . Canys wele , y garreg a roddais gerbron Josua ; ar un garreg y bydd saith o lygaid : wele fi yn naddu ei naddiad hi , medd Arglwydd y lluoedd , a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod . Y dwthwn hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden , a than y ffigysbren . A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi , a ddychwelodd , ac a’m deffrôdd , fel y deffroir un o’i gwsg , Ac a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di ? A mi a ddywedais , Edrychais , ac wele ganhwyllbren i gyd o aur , a’i badell ar ei ben , a’i saith lusern arno , a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef ; A dwy olewydden wrtho , y naill o’r tu deau i’r badell , a’r llall o’r tu aswy iddi . A mi a atebais , ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , gan ddywedyd , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A’r angel oedd yn ymddiddan â mi , a atebodd , ac a ddywedodd wrthyf , Oni wyddost beth yw y rhai yma ? Yna y dywedais , Na wn , fy arglwydd . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf , gan ddywedyd , Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel , gan ddywedyd , Nid trwy lu , ac nid trwy nerth , ond trwy fy ysbryd , medd Arglwydd y lluoedd . Pwy wyt ti , y mynydd mawr ? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd ; ac efe a ddwg allan y maen pennaf , gan weiddi , Rhad , rhad iddo . Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn , gan ddywedyd , Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn , a’i ddwylo ef a’i gorffen : a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch . Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain ? canys llawenychant , a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny : llygaid yr Arglwydd ydynt , y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear . A mi a atebais ac a ddywedais wrtho , Beth yw y ddwy olewydden hyn , ar y tu deau i’r canhwyllbren , ac ar ei aswy ? A mi a atebais drachefn , ac a ddywedais wrtho , Beth yw y ddau bincyn olewydden , y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid ? Ac efe a lefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn ? A dywedais , Na wn , fy arglwydd . Ac efe a ddywedodd , Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear . Yna y troais , a chodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele blyg llyfr yn ehedeg . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Beth a weli di ? A dywedais , Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg , a’i hyd yn ugain cufydd , a’i led yn ddeg cufydd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear : canys pob un a ladrato , a dorrir ymaith fel o’r tu yma , yn ei hôl hi ; a phob un a dyngo , a dorrir ymaith fel o’r tu acw , yn ei hôl hi . Dygaf hi allan , medd Arglwydd y lluoedd , a hi a ddaw i dŷ y lleidr , ac i dŷ y neb a dyngo i’m henw i ar gam : a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef , ac a’i difa ef , a’i goed , a’i gerrig . Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi , a aeth allan , ac a ddywedodd wrthyf , Cyfod yn awr dy lygaid , ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan . A mi a ddywedais , Beth ydyw ? Ac efe a ddywedodd , Effa ydyw , sydd yn myned allan . Ac efe a ddywedodd , Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear . Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny : a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa . Ac efe a ddywedodd , Anwiredd yw hon . Ac efe a’i taflodd hi i ganol yr effa ; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef . A chyfodais fy llygaid , ac edrychais ; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan , a gwynt yn eu hesgyll ; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia : a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a’r nefoedd . Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , I ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r effa ? Dywedodd yntau wrthyf , I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar : a hi a sicrheir , ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun . Hefyd mi a droais , ac a ddyrchefais fy llygaid , ac a edrychais ; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd : a’r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres . Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion , ac yn yr ail gerbyd meirch duon , Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion , ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon . Yna yr atebais , ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi , Beth yw y rhai hyn , fy arglwydd ? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd , Dyma bedwar ysbryd y nefoedd , y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear . Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd ; a’r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau ; a’r brithion a ânt allan i’r deheudir . A’r gwineuon a aethant allan , ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear : ac efe a ddywedodd , Ewch , cyniweirwch trwy y ddaear . Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear . Yna efe a waeddodd arnaf , ac a lefarodd wrthyf , gan ddywedyd , Edrych , y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd . A daeth gair yr Arglwydd ataf , gan ddywedyd , Cymer gan y gaethglud , gan Heldai , gan Tobeia , a chan Jedaia , y rhai a ddaethant o Babilon , a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia : Yna cymer arian ac aur , a gwna goronau , a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad ; A llefara wrtho , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN : o’i le hefyd y blagura , ac efe a adeilada deml yr Arglwydd : Ie , teml yr Arglwydd a adeilada efe ; ac efe a ddwg y gogoniant , ac a eistedd , ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc ; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc : a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau . A’r coronau fydd i Helem , ac i Tobeia , ac i Jedaia , ac i Hen mab Seffaneia , er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd . A’r pellenigion a ddeuant , ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd , a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch . A hyn a fydd , os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw . Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis , sef Cisleu ; Pan anfonasent Sereser , a Regemmelech , a’u gwŷr , i dŷ Dduw , i weddïo gerbron yr Arglwydd , Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd , ac wrth y proffwydi , gan ddywedyd , A wylaf fi y pumed mis , gan ymneilltuo , fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd ? Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Dywed wrth holl bobl y tir , ac wrth yr offeiriaid , gan lefaru , Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a’r seithfed mis , y deng mlynedd a thrigain hynny , ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd , i mi ? A phan fwytasoch , a phan yfasoch , onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain , ac yn yfed i chwi eich hunain ? Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt , pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd , ac yn llwyddiannus , a’i dinasoedd o’i hamgylch , a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir ? A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia , gan ddywedyd , Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd , gan ddywedyd , Bernwch farn gywir , gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd : Ac na orthrymwch y weddw a’r amddifad , y dieithr a’r anghenog ; ac na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau . Er hyn gwrthodasant wrando , a rhoddasant ysgwydd anhydyn , a thrymhasant eu clustiau rhag clywed . Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant , rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd , yn llaw y proffwydi gynt : am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd . A bu , megis y galwodd efe , ac na wrandawent hwy ; felly y galwasant hwy , ac nis gwrandawn innau , medd Arglwydd y lluoedd . Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent ; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt , fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai : felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch . Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti . Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Dychwelais at Seion , a thrigaf yng nghanol Jerwsalem ; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd ; a mynydd Arglwydd y lluoedd , Y mynydd sanctaidd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem , a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau . A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn , ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i ? medd Arglwydd y lluoedd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain , ac o dir machludiad haul . A mi a’u dygaf hwynt , fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem : a hwy a fyddant yn bobl i mi , a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Cryfhaer eich dwylo chwi , y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi , y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd , fel yr adeiledid y deml . Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn , na llog am anifail ; na heddwch i’r un a elai allan , nac a ddelai i mewn , gan y gorthrymder : oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog . Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt , medd Arglwydd y lluoedd . Canys bydd yr had yn ffynadwy ; y winwydden a rydd ei ffrwyth , a’r ddaear a rydd ei chynnyrch , a’r nefoedd a roddant eu gwlith : a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn . A bydd , mai megis y buoch chwi , tŷ Jwda a thŷ Israel , yn felltith ymysg y cenhedloedd ; felly y’ch gwaredaf chwi , a byddwch yn fendith : nac ofnwch , ond cryfhaer eich dwylo . Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Fel y meddyliais eich drygu chwi , pan y’m digiodd eich tadau , medd Arglwydd y lluoedd , ac nid edifarheais ; Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem , ac i dŷ Jwda : nac ofnwch . Dyma y pethau a wnewch chwi ; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog ; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth ; Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau ; ac na hoffwch lw celwyddog : canys yr holl bethau hyn a gaseais , medd yr Arglwydd . A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Ympryd y pedwerydd mis , ac ympryd y pumed , ac ympryd y seithfed , ac ympryd y degfed , a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch , ac yn uchel wyliau daionus : gan hynny cerwch wirionedd a heddwch . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Bydd eto , y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer : Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall , gan ddywedyd , Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd , ac i geisio Arglwydd y lluoedd : minnau a af hefyd . Ie , pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem , ac i weddïo gerbron yr Arglwydd . Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion , o bob tafodiaith y cenhedloedd , ymaflyd , ymaflyd , meddaf , yng ngodre gŵr o Iddew , gan ddywedyd , Awn gyda chwi : canys clywsom fod Duw gyda chwi . Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach , a Damascus fydd ei orffwysfa ef : pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd , fel yr eiddo holl lwythau Israel . A Hamath hefyd a derfyna wrthi ; Tyrus a Sidon hefyd , er ei bod yn ddoeth iawn . A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa , ac a bentyrrodd arian fel llwch , ac aur coeth fel tom yr heolydd . Wele , yr Arglwydd a’i bwrw hi allan , ac a dery ei nerth hi yn y môr ; a hi a ysir â thân . Ascalon a’i gwêl , ac a ofna ; a Gasa , ac a ymofidia yn ddirfawr ; Ecron hefyd , am ei chywilyddio o’i gobaith ; difethir hefyd y brenin allan o Gasa , ac Ascalon ni chyfanheddir . Estron hefyd a drig yn Asdod , a thorraf ymaith falchder y Philistiaid . A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau , a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd : ac efe a weddillir i’n Duw ni , fel y byddo megis pennaeth yn Jwda , ac Ecron megis Jebusiad . A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu , rhag a êl heibio , a rhag a ddychwelo ; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach : canys yn awr gwelais â’m llygaid . Bydd lawen iawn , ti ferch Seion ; a chrechwena , ha ferch Jerwsalem : wele dy frenin yn dyfod atat : cyfiawn ac achubydd yw efe ; y mae efe yn llariaidd , ac yn marchogaeth ar asyn , ac ar ebol llwdn asen . Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim , a’r march oddi wrth Jerwsalem , a’r bwa rhyfel a dorrir : ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd : a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr , ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear . A thithau , trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo . Trowch i’r amddiffynfa , chwi garcharorion gobeithiol ; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg : Pan anelwyf Jwda i mi , ac y llanwyf y bwa ag Effraim , ac y cyfodwyf dy feibion di , Seion , yn erbyn dy feibion di , Groeg , ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus : A’r Arglwydd a welir trostynt , a’i saeth ef a â allan fel mellten : a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn , ac a gerdd â chorwyntoedd y deau . Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt : a hwy a ysant , ac a ddarostyngant gerrig y dafl ; yfant , a therfysgant megis mewn gwin , a llenwir hwynt fel meiliau , ac fel conglau yr allor . A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl : canys fel meini coron y byddant , wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef . Canys pa faint yw ei ddaioni ef , a pha faint ei degwch ef ! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc , a gwin y gwyryfon . Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law ; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau , ac a ddyd iddynt gawod o law , i bob un laswellt yn y maes . Canys y delwau a ddywedasant wagedd , a’r dewiniaid a welsant gelwydd , ac a ddywedasant freuddwydion ofer ; rhoddasant ofer gysur : am hynny yr aethant fel defaid , cystuddiwyd hwynt , am nad oedd bugail . Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid , a mi a gosbais y bychod : canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda , ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel . Y gongl a ddaeth allan ohono , yr hoel ohono , y bwa rhyfel ohono , a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono . A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel : a hwy a ymladdant , am fod yr Arglwydd gyda hwynt ; a chywilyddir marchogion meirch . A nerthaf dŷ Jwda , a gwaredaf dŷ Joseff , a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle ; canys trugarheais wrthynt ; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt : oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt , ac a’u gwrandawaf hwynt . Bydd Effraim hefyd fel cawr , a’u calonnau a lawenychant fel trwy win : a’u meibion a gânt weled , ac a lawenychant ; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd . Chwibanaf arnynt , a chasglaf hwynt ; canys gwaredais hwynt : ac amlhânt fel yr amlhasant . A heuaf hwynt ymysg y bobloedd : ac mewn gwledydd pell y’m cofiant , a byddant fyw gyda’u plant , a dychwelant . A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft , a chasglaf hwynt o Asyria ; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus , ac ni cheir lle iddynt . Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder , ac a dery y tonnau yn y môr ; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd : a disgynnir balchder Asyria , a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith . Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd , ac yn ei enw ef yr ymrodiant , medd yr Arglwydd . Libanus , agor dy ddorau , fel yr yso y tân dy gedrwydd . Y ffynidwydd , udwch ; canys cwympodd y cedrwydd , difwynwyd y rhai ardderchog : udwch , dderw Basan ; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf . Y mae llef udfa y bugeiliaid ! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd : llef rhuad y llewod ieuainc ! am ddifwyno balchder yr Iorddonen . Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw ; Portha ddefaid y lladdfa ; Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd , heb dybied eu bod yn euog ; a’u gwerthwyr a ddywedant , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , am fy nghyfoethogi : a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt . Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad , medd yr Arglwydd ; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog , ac i law ei frenin ; a hwy a drawant y tir , ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy . A mi a borthaf ddefaid y lladdfa , sef chwi , drueiniaid y praidd . A chymerais i mi ddwy ffon ; un a elwais Hyfrydwch , a’r llall a elwais Rhwymau ; a mi a borthais y praidd . A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis ; a’m henaid a alarodd arnynt hwy , a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau . Dywedais hefyd , Ni phorthaf chwi : a fyddo farw , bydded farw ; ac y sydd i’w dorri ymaith , torrer ef ymaith ; a’r gweddill , ysant bob un gnawd ei gilydd . A chymerais fy ffon Hyfrydwch , a thorrais hi , i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl . A’r dydd hwnnw y torrwyd hi : ac felly y gwybu trueiniaid y praidd , y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi , mai gair yr Arglwydd oedd hyn . A dywedais wrthynt , Os gwelwch yn dda , dygwch fy ngwerth ; ac onid e , peidiwch : a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Bwrw ef i’r crochenydd : pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt . A chymerais y deg ar hugain arian , a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd , i’r crochenydd . Yna mi a dorrais fy ail ffon , sef Rhwymau , i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cymer eto i ti offer bugail ffôl . Canys wele fi yn codi bugail yn y tir , yr hwn ni ofwya y cuddiedig , ni chais yr ieuanc , ni feddyginiaetha y briwedig , a fyddo yn sefyll ni phortha ; ond bwyty gig y bras , ac a ddryllia eu hewinedd hwynt . Gwae yr eilun bugail , yn gadael y praidd : y cleddyf fydd ar ei fraich , ac ar ei lygad deau : ei fraich gan wywo a wywa , a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla . Baich gair yr Arglwydd i Israel , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd , ac yn sylfaenu y ddaear , ac yn llunio ysbryd dyn ynddo . Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch , pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda , ac yn erbyn Jerwsalem . A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd : pawb a ymlwytho ag ef , yn ddiau a rwygir , er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef . Y diwrnod hwnnw , medd yr Arglwydd , y trawaf bob march â syndra , a’i farchog ag ynfydrwydd ; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda , a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb . A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon , Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt . Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed , ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt ; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy , yr holl bobloedd o amgylch : a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun , yn Jerwsalem . Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf , megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd , a gogoniant preswylwyr Jerwsalem , yn erbyn Jwda . Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem : a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd ; a thŷ Dafydd fydd fel Duw , fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt . Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem . A thywalltaf ar dŷ Dafydd , ac ar breswylwyr Jerwsalem , ysbryd gras a gweddïau ; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant ; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig , ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig . Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem , megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon . A’r wlad a alara , pob teulu wrtho ei hun ; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan , a’u gwragedd wrthynt eu hunain ; Yr holl deuluoedd eraill , pob teulu wrtho ei hun , a’u gwragedd wrthynt eu hunain . Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd , ac i breswylwyr Jerwsalem , i bechod ac aflendid . A bydd y dwthwn hwnnw , medd Arglwydd y lluoedd , i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir , ac nis cofir hwynt mwyach ; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad . A bydd pan broffwydo un mwyach , y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho , Ni chei fyw ; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd : a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo . A bydd y dydd hwnnw , i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth , wedi iddo broffwydo ; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo : Ond efe a ddywed , Nid proffwyd ydwyf fi ; llafurwr y ddaear ydwyf fi ; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid . A dywed un wrtho , Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo ? Yna efe a ddywed , Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion . Deffro , gleddyf , yn erbyn fy mugail , ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi , medd Arglwydd y lluoedd : taro y bugail , a’r praidd a wasgerir ; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain . A bydd yn yr holl dir , medd yr Arglwydd , y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo ; a’r drydedd a adewir ynddo . A dygaf drydedd ran trwy y tân , a phuraf hwynt fel puro arian , a choethaf hwynt fel coethi aur : hwy a alwant ar fy enw , a minnau a’u gwrandawaf : dywedaf , Fy mhobl yw efe ; ac yntau a ddywed , Yr Arglwydd yw fy Nuw . Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod , a rhennir dy ysbail yn dy ganol di . Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem : a’r ddinas a oresgynnir , y tai a anrheithir , a’r gwragedd a dreisir ; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed , a’r rhan arall o’r bobl nis torrir ymaith o’r ddinas . A’r Arglwydd a â allan , ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny , megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad . A’i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd , yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem , o du y dwyrain ; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua’r dwyrain a thua’r gorllewin , a bydd dyffryn mawr iawn : a hanner y mynydd a symud tua’r gogledd , a’i hanner tua’r deau . A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd ; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal : a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda : a daw yr Arglwydd fy Nuw , a’r holl saint gyda thi . A’r dydd hwnnw y daw i ben , na byddo goleuni disglair , na thywyll : Ond bydd un diwrnod , hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd , nid dydd , ac nid nos ; ond bydd goleuni yn yr hwyr . A bydd y dwthwn hwnnw , y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol ; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain , a’u hanner tua’r môr eithaf : haf a gaeaf y bydd hyn . A’r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear : y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd , a’i enw yn un . Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon , o’r tu deau i Jerwsalem : hi a ddyrchefir , ac a gyfanheddir yn ei lle , o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf , hyd borth y gongl , ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin . Yno y trigant ynddi , ac ni bydd yn ddifrod mwyach ; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd . A hyn fydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem ; Eu cnawd a dderfydd , er eu bod yn sefyll ar eu traed , a’u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau , a’u tafod a dderfydd yn eu safn . Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt ; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog , a’i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog . A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem : a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch , aur ac arian , a gwisgoedd lawer iawn . Ac felly y bydd pla y march , y mul , y camel , yr asyn , a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn , fel y pla hwn . A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem , fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn , i addoli y Brenin , Arglwydd y lluoedd , ac i gadw gŵyl y pebyll . A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem , i addoli y Brenin , Arglwydd y lluoedd , ni bydd glaw arnynt . Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny , ac ni ddaw , y rhai nid oes glaw arnynt ; yno y bydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll . Hyn a fydd cosb yr Aifft , a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll . Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch , SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD ; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor . Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd : a daw pob aberthwr , ac a gymerant ohonynt , ac a ferwant ynddynt : ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw . </passage></reply></GetPassage>