<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:39</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:39</urn><passage>Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi . Hoffais chwi , medd yr Arglwydd : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth yr hoffaist ni ? Onid brawd oedd Esau i Jacob ? medd yr Arglwydd : eto Jacob a hoffais , Ac Esau a gaseais , ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch , a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch . Lle y dywed Edom , Tlodwyd ni , eto dychwelwn , ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd ; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd ; Hwy a adeiladant , ond minnau a fwriaf i lawr ; a galwant hwynt yn Ardal drygioni , a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd . Eich llygaid hefyd a welant , a chwithau a ddywedwch , Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel . Mab a anrhydedda ei dad , a gweinidog ei feistr : ac os ydwyf fi dad , pa le y mae fy anrhydedd ? ac os ydwyf fi feistr , pa le y mae fy ofn ? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid , y rhai ydych yn dirmygu fy enw : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth y dirmygasom dy enw di ? Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig ; a chwi a ddywedwch , Ym mha beth yr halogasom di ? Am i chwi ddywedyd , Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd . Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth , onid drwg hynny ? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus , onid drwg hynny ? cynnig ef yr awron i’th dywysog , a fydd efe bodlon i ti ? neu a dderbyn efe dy wyneb ? medd Arglwydd y lluoedd . Ac yn awr gweddïwch , atolwg , gerbron Duw , fel y trugarhao wrthym : o’ch llaw chwi y bu hyn : a dderbyn efe wyneb un ohonoch ? medd Arglwydd y lluoedd . A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau , neu a oleuai fy allor yn rhad ? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi , medd Arglwydd y lluoedd , ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw . Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd , mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd : ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw , ac offrwm pur : canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd , medd Arglwydd y lluoedd . Ond chwi a’i halogasoch ef , pan ddywedasoch , Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig ; a’i ffrwyth , sef ei fwyd , sydd ddirmygus . Chwi hefyd a ddywedasoch , Wele , pa flinder yw ! a ffroenasoch arno , medd Arglwydd y lluoedd ; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd , a’r cloff , a’r clwyfus ; fel hyn y dygasoch offrwm : a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi ? medd yr Arglwydd . Ond melltigedig yw y twyllodrus , yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw , ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd ; canys Brenin mawr ydwyf fi , medd Arglwydd y lluoedd , a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd . Ac yr awr hon , chwi offeiriaid , i chwi y mae y gorchymyn hwn . Oni wrandewch , ac oni ystyriwch , i roddi anrhydedd i’m henw i , medd Arglwydd y lluoedd ; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi , ac a felltithiaf eich bendithion chwi : ie , myfi a’u melltithiais eisoes , am nad ydych yn ystyried . Wele fi yn llygru eich had chwi , a thaenaf dom ar eich wynebau , sef tom eich uchel wyliau ; ac un a’ch cymer chwi ato ef . Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn , fel y byddai fy nghyfamod â Lefi , medd Arglwydd y lluoedd . Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch ; a mi a’u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â’r hwn y’m hofnodd , ac yr arswydodd o flaen fy enw . Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef , ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau : mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi , a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd . Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth , a’r gyfraith a geisiant o’i enau ef : oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe . Ond chwi a giliasoch allan o’r ffordd , ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith : llygrasoch gyfamod Lefi , medd Arglwydd y lluoedd . Am hynny minnau hefyd a’ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl ; megis na chadwasoch fy ffyrdd i , ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith . Onid un Tad sydd i ni oll ? onid un Duw a’n creodd ni ? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd , gan halogi cyfamod ein tadau ? Jwda a wnaeth yn anffyddlon , a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem : canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd , yr hwn a hoffasai , ac a briododd ferch duw dieithr . Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn ; yr athro a’r disgybl o bebyll Jacob , ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd . Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch , gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi ; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm , ac na chymer ef yn fodlon o’ch llaw chwi . Er hynny chwi a ddywedwch , Pa herwydd ? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid , yr hon y buost anffyddlon iddi ; er ei bod yn gymar i ti , ac yn wraig dy gyfamod . Onid un a wnaeth efe ? a’r ysbryd yng ngweddill ganddo . A phaham un ? I geisio had duwiol . Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd , ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid . Pan gasaech di hi , gollwng hi ymaith , medd yr Arglwydd , Duw Israel : canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg , medd Arglwydd y lluoedd : gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd , na fyddoch anffyddlon . Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau : a chwi a ddywedwch , Ym mha beth y blinasom ef ? Am i chwi ddywedyd , Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd , ac iddynt y mae efe yn fodlon ; neu , Pa le y mae Duw y farn ? Wele fi yn anfon fy nghennad , ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i : ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd , yr hwn yr ydych yn ei geisio , i’w deml ; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych : wele efe yn dyfod , medd Arglwydd y lluoedd . Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef ? a phwy a saif pan ymddangoso efe ? canys y mae efe fel tân y toddydd , ac fel sebon y golchyddion . Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian : ac efe a bura feibion Lefi , ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian , fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder . Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem , megis yn y dyddiau gynt , ac fel y blynyddoedd gynt . A mi a nesâf atoch chwi i farn ; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion , ac yn erbyn y godinebwyr , ac yn erbyn yr anudonwyr , ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig , a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw , a’r amddifad , a’r dieithr , ac heb fy ofni i , medd Arglwydd y lluoedd . Canys myfi yr Arglwydd ni’m newidir ; am hynny ni ddifethwyd chwi , meibion Jacob . Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau , ac ni chadwasoch hwynt : dychwelwch ataf fi , a mi a ddychwelaf atoch chwithau , medd Arglwydd y lluoedd : ond chwi a ddywedwch , Ym mha beth y dychwelwn ? A ysbeilia dyn Dduw ? eto chwi a’m hysbeiliasoch i : ond chwi a ddywedwch , Ym mha beth y’th ysbeiliasom ? Yn y degwm a’r offrwm . Melltigedig ydych trwy felltith : canys chwi a’m hysbeiliasoch i , sef yr holl genedl hon . Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy , fel y byddo bwyd yn fy nhŷ ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn , medd Arglwydd y lluoedd , onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd , a thywallt i chwi fendith , fel na byddo digon o le i’w derbyn . Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes , ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear : a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi , medd Arglwydd y lluoedd . A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig : canys byddwch yn wlad hyfryd , medd Arglwydd y lluoedd . Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i’m herbyn , medd yr Arglwydd : eto chwi a ddywedwch , Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di ? Dywedasoch , Oferedd yw gwasanaethu Duw : a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef , ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd ? Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig : ie , gweithredwyr drygioni a adeiladwyd ; ie , y rhai a demtiant Dduw , a waredwyd . Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog : a’r Arglwydd a wrandawodd , ac a glybu ; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd , ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef . A byddant eiddof fi , medd Arglwydd y lluoedd , y dydd y gwnelwyf briodoledd ; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu . Yna y dychwelwch , ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus , rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef . Canys wele y dydd yn dyfod , yn llosgi megis ffwrn ; a’r holl feilchion , a holl weithredwyr anwiredd , a fyddant sofl : a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt , medd Arglwydd y lluoedd , fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen . Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi , y rhai ydych yn ofni fy enw , â meddyginiaeth yn ei esgyll ; a chwi a ewch allan , ac a gynyddwch megis lloi pasgedig . A chwi a fethrwch yr annuwiolion ; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi , yn y dydd y gwnelwyf hyn , medd Arglwydd y lluoedd . Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas , yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel , y deddfau a’r barnedigaethau . Wele , mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd , cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd : Ac efe a dry galon y tadau at y plant , a chalon y plant at eu tadau ; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith . </passage></reply></GetPassage>