<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:4</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:4</urn><passage>A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , yn anialwch Sinai , ym mhabell y cyfarfod , ar y dydd cyntaf o’r ail fis , yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft , gan ddywedyd , Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel , yn ôl eu teuluoedd , wrth dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , pob gwryw wrth eu pennau ; O fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a allo fyned i ryfel yn Israel : ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd . A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth ; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau . A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi . O lwyth Reuben ; Elisur mab Sedeur . O lwyth Simeon ; Selumiel mab Surisadai . O lwyth Jwda ; Nahson mab Aminadab . O lwyth Issachar ; Nethaneel mab Suar . O lwyth Sabulon ; Elïab mab Helon . O feibion Joseff : dros Effraim , Elisama mab Ammihud ; dros Manasse , Gamaliel mab Pedasur . O lwyth Benjamin ; Abidan mab Gideoni . O lwyth Dan ; Ahieser mab Ammisadai . O lwyth Aser ; Pagiel mab Ocran . O lwyth Gad ; Elisaff mab Deuel . O lwyth Nafftali ; Anira mab Enan . Dyma rai enwog y gynulleidfa , tywysogion llwythau eu tadau , penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy . A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau ; Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis ; a rhoddasant eu hachau , trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , erbyn eu pennau . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses , felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai . A meibion Reuben , cyntaf‐anedig Israel , wrth eu cenedl eu hun , yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , erbyn eu pennau , pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a allai fyned i ryfel ; Y rhai a rifwyd ohonynt , sef o lwyth Reuben , oedd chwe mil a deugain a phum cant . O feibion Simeon , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , eu rhifedigion oedd , dan rif eu henwau , erbyn eu pennau , pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod , sef pob un a’r a allai fyned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Simeon , oedd onid un fil trigain mil a thri chant . O feibion Gad , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a allai fyned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Gad , oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain . O feibion Jwda , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Jwda , oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant . O feibion Issachar , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Issachar , oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . O feibion Sabulon , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Sabulon , oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant . O feibion Joseff , sef o feibion Effraim , wrth eu cenedlaethau , yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Effraim , oedd ddeugain mil a phum cant . O feibion Manasse , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Manasse , oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant . O feibion Benjamin , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Benjamin , oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant . O feibion Dan , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Dan , oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant . O feibion Aser , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Aser , oeddynt un fil a deugain a phum cant . O feibion Nafftali , wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd , o dŷ eu tadau , dan rif eu henwau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; Eu rhifedigion hwynt , o lwyth Nafftali , oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Dyma’r rhifedigion , y rhai a rifodd Moses , ac Aaron , a thywysogion Israel ; sef y deuddengwr , y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau . Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel , wrth dŷ eu tadau , o fab ugain mlwydd ac uchod , pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel ; A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ond y Lefiaid , trwy holl lwythau eu tadau , ni rifwyd yn eu mysg hwynt : Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Ond na chyfrif lwyth Lefi , ac na chymer eu nifer hwynt , ymysg meibion Israel . Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth , ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi : hwynt‐hwy a ddygant y babell , a’i holl ddodrefn , ac a’i gwasanaethant , ac a wersyllant o amgylch i’r babell . A phan symudo’r babell , y Lefiaid a’i tyn hi i lawr ; a phan arhoso’r babell , y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny : lladder y dieithr a ddelo yn agos . A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun , a phob un wrth ei luman ei hun , trwy eu lluoedd . A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth , fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel : a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth . A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ; felly y gwnaethant . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun , dan arwyddion tŷ eu tadau : o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell . A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul , fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab . A’i lu ef , a’u rhai rhifedig hwynt , fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant . A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato : a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Yna llwyth Sabulon : ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd , yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant . Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn . Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur . A’i lu ef , a’i rifedigion , fyddant chwe mil a deugain a phum cant . A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon : a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fydd onid un trigain mil a thri chant . Yna llwyth Gad : a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel . A’i lu ef , a’u rhifedigion hwynt , fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain . Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd , a phedwar cant a deg a deugain , yn ôl eu lluoedd . Ac yn ail y cychwynnant hwy . A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd , gyda gwersyll y Lefiaid : fel y gwersyllant , felly y symudant , pob un yn ei le , wrth eu llumanau . Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddeugain mil a phum cant . Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse ; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant . Yna llwyth Benjamin : a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant , yn ôl eu lluoedd , gan mil ac wyth mil a chant . Ac a gychwynnant yn drydydd . Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd , yn ôl eu lluoedd : a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant . A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser : a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant un fil a deugain a phum cant . Yna llwyth Nafftali : a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan . A’i lu ef , a’u rhifedigion , fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant . Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau . Dyma rifedigion meibion Israel , wrth dŷ eu tadau . Holl rifedigion y gwersylloedd , yn ôl eu lluoedd , oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain . Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses : felly y gwersyllasant wrth eu llumanau , ac felly y cychwynasant , bob un yn ei deuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau . Adyma genedlaethau Aaron a Moses , ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai . Dyma enwau meibion Aaron : Nadab y cyntaf‐anedig , ac Abihu , Eleasar , ac Ithamar . Dyma enwau meibion Aaron , yr offeiriaid eneiniog , y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu . A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd , pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd , yn anialwch Sinai ; a meibion nid oedd iddynt : ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Nesâ lwyth Lefi , a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad , fel y gwasanaethont ef . A hwy a gadwant ei gadwraeth ef , a chadwraeth yr holl gynulleidfa , o flaen pabell y cyfarfod , i wneuthur gwasanaeth y tabernacl . A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod , a chadwraeth meibion Israel , i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl . A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron , ac i’w feibion : y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel . Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth : a’r dieithrddyn a ddelo yn agos , a roddir i farw . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Ac wele , mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel , yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel ; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi : Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft , cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail : eiddof fi ydynt : myfi yw yr Arglwydd . Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai , gan ddywedyd Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau , trwy eu teuluoedd : cyfrif hwynt , bob gwryw , o fab misyriad ac uchod . A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd , fel y gorchmynasid iddo . A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau ; Gerson , a Cohath , a Merari . A dyma enwau meibion Gerson , yn ôl eu teuluoedd ; Libni a Simei . A meibion Cohath , yn ôl eu teuluoedd Amram , Ishar , Hebron , ac Ussiel . A meibion Merari , yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi . Dyma deuluoedd Lefi , wrth dŷ eu tadau . O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid , a thylwyth y Simiaid : dyma deuluoedd y Gersoniaid . Eu rhifedigion hwynt , dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod , eu rhifedigion , meddaf , oedd saith mil a phum cant . Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin . A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael . A chadwraeth meibion Gerson , ym mhabell y cyfarfod , fydd y tabernacl , a’r babell , ei tho hefyd , a chaeadlen drws pabell y cyfarfod , A llenni’r cynteddfa , a chaeadlen drws y cynteddfa , yr hwn sydd ynghylch y tabernacl , a’r allor o amgylch , a’i rhaffau i’w holl wasanaeth . Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid , a thylwyth yr Ishariaid , a thylwyth yr Hebroniaid , a thylwyth yr Ussieliaid : dyma dylwyth y Cohathiaid . Rhifedi yr holl wrywiaid , o fab misyriad ac uchod , oedd wyth mil a chwe chant , yn cadw cadwraeth y cysegr . Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua’r deau . A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel . A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch , a’r bwrdd , a’r canhwyllbren , a’r allorau , a llestri’r cysegr , y rhai y gwasanaethant â hwynt , a’r gaeadlen , a’i holl wasanaeth . A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad ; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef . O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid , a thylwyth y Musiaid : dyma dylwyth Merari . A’u rhifedigion hwynt , wrth gyfrif pob gwryw , o fab misyriad ac uchod , oedd chwe mil a deucant . A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael . Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd . Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl , a’i drosolion , a’i golofnau , a’i forteisiau , a’i holl offer , a’i holl wasanaeth , A cholofnau’r cynteddfa o amgylch , a’u morteisiau , a’u hoelion , a’u rhaffau . A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain , o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul , fydd Moses , ac Aaron a’i feibion , y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr , a chadwraeth meibion Israel : a’r dieithr a ddelo yn agos , a roddir i farwolaeth . Holl rifedigion y Lefiaid , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , yn ôl gair yr Arglwydd , trwy eu teuluoedd , sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod , oedd ddwy fil ar hugain . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel , o fab misyriad ac uchod , a chymer rifedi eu henwau hwynt . A chymer y Lefiaid i mi , ( myfi yw yr Arglwydd , ) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel , ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel . A Moses a rifodd , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo , bobcyntaf‐anedig o feibion Israel . A’r rhai cyntaf‐anedig oll , o rai gwryw , dan rif eu henwau , o fab misyriad ac uchod , o’u rhifedigion hwynt , oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd , Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel , ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt ; a bydded y Lefiaid i mi : myfi yw yr Arglwydd . Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant , o gyntaf‐anedig meibion Israel , y rhai sydd dros ben y Lefiaid ; Cymer bum sicl am bob pen ; yn ôl sicl y cysegr y cymeri . Ugain gera fydd y sicl . A dod yr arian , gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt , i Aaron ac i’w feibion . A chymerodd Moses arian y prynedigaeth , y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid : Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian ; pump a thrigain a thri chant a mil , o siclau y cysegr . A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion , yn ôl gair yr Arglwydd , megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi , wrth eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau ; O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab deng mlwydd a deugain , pob un a elo i’r llu , i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Dyma weinidogaeth meibion Cohath , ym mhabell y cyfarfod , ynghylch y pethau sancteiddiolaf . A deued Aaron a’i feibion , pan gychwynno’r gwersyll , a thynnant i lawr y wahanlen orchudd , a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth ; A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch , a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd , a gosodant ei throsolion wrthi . Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas , a gosodant ar hynny y dysglau , a’r cwpanau , a’r ffiolau , a’r caeadau i gau : a bydded y bara bob amser arno . A thaenant arnynt wisg o ysgarlad , a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ei drosolion wrtho . Cymerant hefyd wisg o sidan glas , a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni , a’i lampau , a’i efeiliau , a’i gafnau , a holl lestri yr olew , y rhai y gwasanaethant ef â hwynt . A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ef ar drosol . A thaenant frethyn glas ar yr allor aur , a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ei throsolion wrthi . Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth , y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr , a rhoddant mewn brethyn glas , a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch , a gosodant ar drosol . A thynnant allan ludw yr allor , a thaenant arni wisg borffor . A rhoddant arni ei holl lestri , â’r rhai y gwasanaethant hi , sef y pedyll tân , y cigweiniau , a’r rhawiau , a’r cawgiau , ie , holl lestri’r allor ; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch , a gosodant ei throsolion wrthi . Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cysegr , a holl ddodrefn y cysegr , pan gychwynno’r gwersyll ; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt : ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cysegredig , rhag iddynt farw . Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod . Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni , a’r arogl‐darth peraidd , a’r bwyd‐offrwm gwastadol , ac olew yr eneiniad , a goruchwyliaeth yr holl dabernacl , a’r hyn oll fydd ynddo , yn y cysegr , ac yn ei ddodrefn A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron , gan ddywedyd , Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid : Ond hyn a wnewch iddynt , fel y byddont fyw , ac na fyddont feirw , pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf : Aaron a’i feibion a ânt i mewn , ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud . Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio’r hyn sydd gysegredig , rhag marw ohonynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer nifer meibion Gerson hefyd , trwy dŷ eu tadau , wrth eu teuluoedd ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , y rhifi hwynt ; pob un a ddêl i ddwyn swydd , i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid , o wasanaeth ac o glud . Sef dwyn ohonynt lenni’r tabernacl , a phabell y cyfarfod , ei len do ef , a’r to o grwyn daearfoch , yr hwn sydd yn uchaf arno , a chuddlen drws pabell y cyfarfod , A llenni’r cynteddfa , a chaeadlen drws porth y cynteddfa , yr hwn sydd ynghylch y tabernacl , a’r allor o amgylch , a’i rhaffau , a holl offer eu gwasanaeth hwynt , a’r hyn oll a wnaed iddynt : felly y gwasanaethant hwy . Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid , yn eu holl glud , ac yn eu holl wasanaeth : a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw . Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod ; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt . A meibion Merari , trwy eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau , y cyfrifi hwynt ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , y rhifi hwynt ; pob un a ddêl i ddwyn swydd , i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod . A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt , yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod ; sef ystyllod y tabernacl , a’i farrau , a’i golofnau , a’i forteisiau , A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch a’u morteisiau , a’u hoelion , a’u rhaffau , ynghyd â’u holl offer , ac ynghyd â’u holl wasanaeth : rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy . Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari , yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod , dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad . A rhifodd Moses ac Aaron , a phenaethiaid y gynulleidfa , feibion Cohath , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau : O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd , oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain . Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid , sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod ; y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . Rhifedigion meibion Gerson hefyd , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau , oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain . Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson , sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod ; y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd . A rhifedigion tylwyth meibion Merari , trwy eu teuluoedd , yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd , oeddynt dair mil a dau cant . Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . Yr holl rifedigion , y rhai a rifodd Moses ac Aaron , a phenaethiaid Israel , o’r Lefiaid , trwy eu teuluoedd , ac yn ôl tŷ eu tadau ; O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod , hyd fab dengmlwydd a deugain , sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth , neu waith clud ym mhabell y cyfarfod : A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain . Wrth orchymyn yr Arglwydd , trwy law Moses y rhifodd efe hwy , pob un wrth ei wasanaeth , ac wrth ei glud : fel hyn y rhifwyd hwynt , fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus , a phob un y byddo diferlif arno , a phob un a halogir wrth y marw . Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt , allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt ; fel na halogont eu gwersylloedd , y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith . A meibion Israel a wnaethant felly , ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll : megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol , gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd , a bod o’r enaid hwnnw yn euog : Yna cyffesant eu pechod a wnaethant ; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben , a chwaneged ei bumed ran ato , a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef . Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo , yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd , fydd eiddo yr offeiriad ; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto . A phob offrwm dyrchafael , o holl sanctaidd bethau meibion Israel , y rhai a offrymant at yr offeiriad , fydd eiddo ef . A sancteiddio gŵr , eiddo ef fyddant : hyn a roddo neb i’r offeiriad , eiddo ef fydd . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pob gŵr pan wyro ei wraig ef , a gwneuthur bai yn ei erbyn ef ; A bod i ŵr a wnelo â hi , a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi , ac yn gyfrinachol , a hithau wedi ei halogi , ac heb dyst yn ei herbyn , a hithau heb ei dal ar ei gweithred ; A dyfod gwŷn eiddigedd arno , ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig , a hithau wedi ei halogi ; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno , ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig , a hithau heb ei halogi : Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad , a dyged ei hoffrwm drosti hi , degfed ran effa o flawd haidd : na thywallted olew arno , ac na rodded thus arno ; canys offrwm eiddigedd yw , offrwm cof yn coffáu anwiredd . A nesaed yr offeiriad hi , a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd . A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd , a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl , a rhodded yn y dwfr . A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr Arglwydd , a diosged oddi am ben y wraig , a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa ; offrwm eiddigedd yw efe : ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith . A thynged yr offeiriad hi , a dyweded wrth y wraig , Oni orweddodd gŵr gyda thi , ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr , bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith . Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di , a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun : Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith , a dyweded yr offeiriad wrth y wraig , Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl , pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr , a’th groth yn chwyddedig ; Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion , i chwyddo dy groth , ac i bydru dy forddwyd . A dyweded y wraig , Amen , amen . Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr , a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw . A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith : ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi , yn chwerw . A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd ; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd , ac offrymed ef ar yr allor . A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law , ei goffadwriaeth , a llosged ar yr allor ; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr . Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr , bydd , os hi a halogwyd , ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr , yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi , ac a chwydda ei chroth , ac a bydra ei morddwydd : a’r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl . Ond os y wraig ni halogwyd , eithr glân yw ; yna hi a fydd ddihangol , ac a blanta . Dyma gyfraith eiddigedd , pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr , ac ymhalogi : Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd , a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig ; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd , a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon . A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd , a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread , i ymneilltuo i’r Arglwydd : Ymneilltued oddi wrth win a diod gref ; nac yfed finegr gwin , na finegr diod gref ; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin , ac na fwytaed rawnwin irion , na sychion . Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin , o’r dincod hyd y bilionen . Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben : nes cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r Arglwydd , sanctaidd fydd ; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu . Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r Arglwydd , na ddeued at gorff marw . Nac ymhaloged wrth ei dad , neu wrth ei fam , wrth ei frawd , neu wrth ei chwaer , pan fyddant feirw ; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef . Holl ddyddiau ei Nasareaeth , sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd . Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth , a halogi pen ei Nasareaeth ; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth , ar y seithfed dydd yr eillia efe ef . Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen , at yr offeiriad , i ddrws pabell y cyfarfod . Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth , ac un yn boethoffrwm , a gwnaed gymod drosto , am yr hyn a becho wrth y marw ; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw . A neilltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth , a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd ; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer , am halogi ei Nasareaeth ef . A dyma gyfraith y Nasaread : pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth , dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod . A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd , un hesbwrn blwydd , perffaith‐gwbl yn boethoffrwm ; ac un hesbin flwydd , berffaith‐gwbl , yn bech‐aberth ; ac un hwrdd perffaith‐gwbl , yn aberth hedd ; Cawellaid o fara croyw hefyd , sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew , ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew , a’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm hwy . A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd , ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef . Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd , ynghyd â’r cawellaid bara croyw ; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef . Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth ; a chymered flew pen ei Nasareaeth , a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd . Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi , ac un deisen groyw o’r cawell , ac un afrlladen groyw ; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread , wedi eillio ohono ei Nasareaeth ; A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd : sanctaidd yw hyn i’r offeiriad , heblaw parwyden y cyhwfan , a phalfais y dyrchafael . Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin . Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd , a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth , heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef : fel y byddo ei adduned a addunedo , felly gwnaed , heblaw cyfraith ei Nasareaeth . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion , gan ddywedyd , Fel hyn y bendithiwch feibion Israel , gan ddywedyd wrthynt , Bendithied yr Arglwydd di , a chadwed di : A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat , a thrugarhaed wrthyt : Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat , a rhodded i ti dangnefedd . Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel , a mi a’u bendithiaf hwynt . Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl , a’i eneinio a’i sancteiddio ef , a’i holl ddodrefn , yr allor hefyd a’i holl ddodrefn , a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt ; Yr offrymodd tywysogion Israel , penaethiaid tŷ eu tadau , ( y rhai oedd dywysogion y llwythau , ac wedi eu gosod ar y rhifedigion : ) A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd , chwech o fenni diddos , a deuddeg o ychen ; men dros bob dau dywysog , ac ych dros bob un : a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer ganddynt , a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod ; a dod hwynt i’r Lefiaid , i bob un yn ôl ei wasanaeth . A chymerodd Moses y menni , a’r ychen , ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid . Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson , yn ôl eu gwasanaeth hwynt ; A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari , yn ôl eu gwasanaeth hwynt , dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad . Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim , am fod gwasanaeth y cysegr arnynt : ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw . A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor , ar y dydd yr eneiniwyd hi ; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau , tuag at gysegru’r allor . Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm , Nahson mab Aminadab , dros lwyth Jwda . A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid . Dyma offrwm Nahson mab Aminadab . Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar , tywysog Issachar . Efe a offrymodd ei offrwm , sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar . Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon , tywysog meibion Sabulon . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elïab mab Helon . Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur , tywysog meibion Reuben . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisur mab Sedeur . Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai , tywysog meibion Simeon . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai . Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel , tywysog meibion Gad . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel . Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud , tywysog meibion Effraim . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud . Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur , tywysog meibion Manasse . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur . Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni , tywysog meibion Benjamin . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni . Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai , tywysog meibion Dan . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn aberth hedd , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai . Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran , tywysog meibion Aser . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran . Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan , tywysog meibion Nafftali . Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys , un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain , yn ôl y sicl sanctaidd , yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , yn fwyd‐offrwm : Un llwy aur o ddeg sicl , yn llawn arogl‐darth : Un bustach ieuanc , un hwrdd , un oen blwydd , yn offrwm poeth : Un bwch geifr yn bech‐aberth : Ac yn hedd‐aberth , dau ych , pum hwrdd , pum bwch , pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan . Dyma gysegriad yr allor , gan dywysogion Israel , ar y dydd yr eneiniwyd hi : deuddeg dysgl arian , deuddeg ffiol arian , deuddeg llwy aur : Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl , a deg a thrigain pob ffiol : holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau , yn ôl y sicl sanctaidd Y llwyau aur oedd ddeuddeg , yn llawn arogl‐darth , o ddeg sicl bob llwy , yn ôl y sicl sanctaidd : holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl . Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach , deuddeg o hyrddod , deuddeg o ŵyn blwyddiaid , a’u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr , yn offrwm dros bechod . A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych , trigain o hyrddod , trigain o fychod , trigain o hesbyrniaid . Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio . Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw ; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa , yr hon oedd ar arch y dystiolaeth , oddi rhwng y ddau geriwb , ac efe a ddywedodd wrtho . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth Aaron , a dywed wrtho , Pan oleuech y lampau , llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren . Ac felly y gwnaeth Aaron ; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . Dyma waith y canhwyllbren : cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr , ie , hyd ei flodau cyfanwaith fydd ; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses , felly y gwnaeth efe y canhwyllbren . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel , a glanha hwynt . Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau : taenella arnynt ddwfr puredigaeth , a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd , a golchant eu gwisgoedd , ac felly ymlanhânt . Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod . A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod ; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd . A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd ; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid . Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd , yn offrwm gan feibion Israel , fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd . A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych : ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd , i wneuthur cymod dros y Lefiaid . A gosod y Lefiaid gerbron Aaron , a cherbron ei feibion , ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd . A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel , a bydded y Lefiaid yn eiddof fi . Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod ; a glanha di hwynt , ac offryma hwynt yn offrwm . Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel : yn lle agorydd pob croth , sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel , y cymerais hwynt i mi . Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel , o ddyn ac o anifail : er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft , y sancteiddiais hwynt i mi fy hun . A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel . A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron , ac i’w feibion , o blith meibion Israel , i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod , ac i wneuthur cymod dros feibion Israel ; fel na byddo pla ar feibion Israel , pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr . A gwnaeth Moses ac Aaron , a holl gynulleidfa meibion Israel , i’r Lefiaid , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid : felly y gwnaeth meibion Israel iddynt . A’r Lefiaid a lanhawyd , ac a olchasant eu dillad : ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd : a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt . Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod , gerbron Aaron a’i feibion ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid , felly y gwnaethant iddynt . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid : o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod , y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod . Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth , fel na wasanaetho mwy . Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod , i oruchwylio ; ac na wasanaethed wasanaeth : fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai , yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft , ar y mis cyntaf , gan ddywedyd , Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor . Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn , yn y cyfnos , y cedwch ef yn ei dymor : yn ôl ei holl ddeddfau , ac yn ôl ei holl ddefodau , y cedwch ef . A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg . A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , yn y cyfnos , yn anialwch Sinai : yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth meibion Israel . Ac yr oedd dynion , y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn , fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw : a hwy a ddaethant gerbron Moses , a cherbron Aaron , ar y dydd hwnnw . A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho , Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw : paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel ? A dywedodd Moses wrthynt , Sefwch , a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw , neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell , eto cadwed Basg i’r Arglwydd . Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis . yn y cyfnos , y cadwant ef : ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef . Na weddillant ddim ohono hyd y bore , ac na thorrant asgwrn ohono : yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef . A’r gŵr a fyddo glân , ac heb fod mewn taith , ac a beidio â chadw y Pasg , torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl , am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor : ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw . A phan ymdeithio dieithr gyda chwi , ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd ; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod , felly y ceidw : yr un ddeddf fydd i chwi , sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad . Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl , y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth ; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore . Felly yr ydoedd yn wastadol ; y cwmwl a gaeai amdano y dydd , a’r gwelediad tân y nos . A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell , wedi hynny y cychwynnai meibion Israel : ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo , yno y gwersyllai meibion Israel . Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel , ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent : yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl , yr arhosent yn y gwersyll . A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau , yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd , ac ni chychwynnent . Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl , wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent , ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent . Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore , a chyfodi o’r cwmwl y bore , hwythau a symudent : pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl , yna y cychwynnent . Os deuddydd , os mis , os blwyddyn fyddai , tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl , gan aros arno , meibion Israel a arhosent yn eu pebyll , ac ni chychwynnent : ond pan godai efe , y cychwynnent . Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent , ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent : felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd , yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses . Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gwna i ti ddau utgorn arian ; yn gyfanwaith y gwnei hwynt : a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd , ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn . A phan ganant â hwynt , yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat , wrth ddrws pabell y cyfarfod . Ond os ag un y canant ; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel , a ymgasglant . Pan ganoch larwm ; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain , a gychwynnant . Pan ganoch larwm yr ail waith ; yna y gwersylloedd , y rhai a wersyllant tua’r deau , a gychwynnant : larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn . Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa , cenwch yr utgyrn ; ond na chenwch larwm . A meibion Aaron , yr offeiriaid , a ganant ar yr utgyrn ; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi ; cenwch larwm mewn utgyrn : yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw , ac yr achubir chwi rhag eich gelynion . Ar ddydd eich llawenydd hefyd , ac ar eich gwyliau gosodedig , ac ar ddechrau eich misoedd , y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth , ac uwchben eich aberthau hedd ; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . A bu yn yr ail flwyddyn , ar yr ail fis , ar yr ugeinfed dydd o’r mis , gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth . A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai ; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran . Felly y cychwynasant y waith gyntaf , wrth air yr Arglwydd trwy law Moses . Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd : ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab . Ac ar lu llwyth meibion Issachar , Nethaneel mab Suar . Ac ar lu llwyth meibion Sabulon , Elïab mab Helon . Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl ; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant , gan ddwyn y tabernacl . Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd : ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur . Ac ar lu llwyth meibion Simeon , Selumiel mab Surisadai . Ac ar lu llwyth meibion Gad , Eliasaff mab Deuel . A’r Cohathiaid a gychwynasant , gan ddwyn y cysegr ; a’r lleill a godent y tabernacl , tra fyddent hwy yn dyfod . Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd : ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud . Ac ar lu llwyth meibion Manasse , Gamaliel mab Pedasur . Ac ar lu llwyth meibion Benjamin , Abidan mab Gideoni . Yna lluman gwersyll meibion Dan , yn olaf o’r holl wersylloedd , a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd : ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai . Ac ar lu llwyth meibion Aser , Pagiel mab Ocran . Ac ar lu llwyth meibion Nafftali , Ahira mab Enan . Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd , pan gychwynasant . A dywedodd Moses wrth Hobab , mab Raguel y Midianiad , chwegrwn Moses , Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd , Rhoddaf hwnnw i chwi : tyred gyda ni , a gwnawn ddaioni i ti ; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel . Dywedodd yntau wrtho , Nid af ddim ; ond i’m gwlad fy hun , ac at fy nghenedl fy hun , yr af . Ac efe a ddywedodd , Na ad ni , atolwg ; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch , ac a fyddi yn lle llygaid i ni , A phan ddelych gyda ni , a dyfod o’r daioni hwnnw , yr hwn a wna’r Arglwydd i ni , ninnau a wnawn ddaioni i tithau . A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod : ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod , i chwilio am orffwysfa iddynt . A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd , pan elent o’r gwersyll . A hefyd pan gychwynnai yr arch , Moses a ddywedai , Cyfod , Arglwydd , a gwasgarer dy elynion ; a ffoed dy gaseion o’th flaen . A phan orffwysai hi , y dywedai efe , Dychwel , Arglwydd , at fyrddiwn miloedd Israel . A’r bobl , fel tuchanwyr , oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd : a chlywodd yr Arglwydd hyn ; a’i ddig a enynnodd ; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt , ac a ysodd gwr y gwersyll . A llefodd y bobl ar Moses : a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd ; a’r tân a ddiffoddodd . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw , Tabera : am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy . A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr : a meibion Israel hefyd a ddychwelasant , ac a wylasant , ac a ddywedasant , Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta ? Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad , y cucumerau , a’r pompionau , a’r cennin , a’r winwyn , a’r garlleg : Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo , heb ddim ond y manna yn ein golwg . A’r manna hwnnw oedd fel had coriander , a’i liw fel lliw bdeliwm . Y bobl a aethant o amgylch , ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau , neu a’i curasant mewn morter , ac a’i berwasant mewn peiriau , ac a’i gwnaethant yn deisennau : a’i flas ydoedd fel blas olew ir . A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll , disgynnai’r manna arno ef . A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau , bob un yn nrws ei babell : ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr ; a drwg oedd gan Moses . Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd , Paham y drygaist dy was ? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg , gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf ? Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn ? ai myfi a’u cenhedlais , fel y dywedech wrthyf , Dwg hwynt yn dy fynwes , ( megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno , ) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau ? O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn ? canys wylo y maent wrthyf , gan ddywedyd , Dod i ni gig i’w fwyta . Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn ; canys rhy drwm ydyw i mi . Ac os felly y gwnei i mi , atolwg , gan ladd lladd fi , os cefais ffafr yn dy olwg di ; fel na welwyf fy nrygfyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel , y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl , ac yn swyddogion arnynt ; a dwg hwynt i babell y cyfarfod , a safant yno gyda thi . Canys disgynnaf , a llefaraf wrthyt yno : a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti , ac a’i gosodaf arnynt hwy ; felly y dygant gyda thi faich y bobl , fel na ddygech di ef yn unig . Am hynny dywed wrth y bobl , Ymsancteiddiwch erbyn yfory , a chewch fwyta cig : canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta ? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft : am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig , a chwi a fwytewch . Nid un dydd y bwytewch , ac nid dau , ac nid pump o ddyddiau , ac nid deg diwrnod , ac nid ugain diwrnod ; Ond hyd fis o ddyddiau , hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau , a’i fod yn ffiaidd gennych : am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith , ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef , gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft ? A dywedodd Moses , Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith ; a thi a ddywedi , Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau . Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt , fel y byddo digon iddynt ? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt , fel y byddo digon iddynt ? A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , A gwtogwyd llaw yr Arglwydd ? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti , ai na ddigwydd . A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl , ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl , ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell . Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl , ac a lefarodd wrtho ; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno , ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain . A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt , y proffwydent , ac ychwaneg ni wnaent . A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll , ( enw un ydoedd Eldad , enw y llall Medad : ) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy , am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid ; ond nid aethant i’r babell , eto proffwydasant yn y gwersyll . A rhedodd llanc , a mynegodd i Moses , ac a ddywedodd , Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll . A Josua mab Nun , gweinidog Moses o’i ieuenctid , a atebodd ac a ddywedodd Moses , fy arglwydd , gwahardd iddynt . A dywedodd Moses wrtho , Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi ? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi , a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt ! A Moses a aeth i’r gwersyll , efe a henuriaid Israel . Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd , ac a ddug soflieir oddi wrth y môr , ac a’u taenodd wrth y gwersyll , megis taith diwrnod ar y naill du , a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll , a hynny ynghylch dau gufydd , ar wyneb y ddaear . Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll , a’r nos oll , a’r holl ddydd drannoeth , ac a gasglasant y soflieir : yr hwn a gasglodd leiaf , a gasglodd ddeg homer : a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll . A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi , pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl ; a’r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn . Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa ; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent . O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth ; ac arosasant yn Haseroth . Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses , o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe : canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig . A dywedasant , Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd ? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd ? A’r Arglwydd a glybu hynny . A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear . A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses , ac wrth Aaron , ac wrth Miriam , Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod . A hwy a aethant allan ill trioedd . Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl , ac a safodd wrth ddrws y babell , ac a alwodd Aaron a Miriam . A hwy a aethant allan ill dau . Ac efe a ddywedodd , Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau . Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg , mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo , neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho . Nid felly y mae fy ngwas Moses , yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ . Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho , mewn gwelediad , nid mewn damhegion ; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd : paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas , sef yn erbyn Moses ? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt ; ac efe a aeth ymaith . A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell : ac wele , Miriam ydoedd wahanglwyfus , fel yr eira . Ac edrychodd Aaron ar Miriam ; ac wele hi yn wahanglwyfus . Yna y dywedodd Aaron wrth Moses , O fy arglwydd , atolwg , na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom , a thrwy yr hwn y pechasom . Na fydded hi , atolwg , fel un marw , yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam . A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , O Dduw , atolwg , meddyginiaetha hi yr awr hon . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Os ei thad a boerai yn ei hwyneb , oni chywilyddiai hi saith niwrnod ? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi . A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod : a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn . Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth , ac a wersyllasant yn anialwch Paran . Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel : gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch ; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt . A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran , wrth orchymyn yr Arglwydd : penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll . A dyma eu henwau hwynt . Dros lwyth Reuben , Sammua mab Saccur . Dros lwyth Simeon , Saffat mab Hori . Dros lwyth Jwda , Caleb mab Jeffunne . Dros lwyth Issachar , Igal mab Joseff . Dros lwyth Effraim , Osea mab Nun . Dros lwyth Benjamin , Palti mab Raffu . Dros lwyth Sabulon , Gadiel mab Sodi . O lwyth Joseff , dros lwyth Manasse , Gadi mab Susi . Dros lwyth Dan , Amiel mab Gemali . Dros lwyth Aser , Sethur mab Michael . Dros lwyth Nafftali , Nahbi mab Foffsi . Dros lwyth Gad , Geuel mab Maci . Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad . A Moses a enwodd Osea mab Nun , Josua . A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan ; ac a ddywedodd wrthynt , Ewch yma tua’r deau , a dringwch i’r mynydd . Ac edrychwch y wlad beth yw hi , a’r bobl sydd yn trigo ynddi , pa un ai cryf ai gwan , ai ychydig ai llawer ydynt : A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo , ai da ai drwg ; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio , ai mewn pebyll , ai mewn amddiffynfeydd ; A pha dir , ai bras yw efe ai cul ; a oes coed ynddo , ai nad oes . Ac ymwrolwch , a dygwch o ffrwyth y tir . A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin . A hwy a aethant i fyny , ac a chwiliasant y tir , o anialwch Sin hyd Rehob , ffordd y deuir i Hamath . Ac a aethant i fyny i’r deau , ac a ddaethant hyd Hebron : ac yno yr oedd Ahiman , Sesai , a Thalmai , meibion Anac . ( A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft . ) A daethant hyd ddyffryn Escol ; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin , ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau : dygasant rai o’r pomgranadau hefyd , ac o’r ffigys . A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol ; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno . A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod . A myned a wnaethant , a dyfod at Moses ac at Aaron , ac at holl gynulleidfa meibion Israel , i Cades , yn anialwch Paran ; a dygasant yn eu hôl air iddynt , ac i’r holl gynulleidfa , ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir . A mynegasant iddo , a dywedasant , Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni ; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl : a dyma ei ffrwyth ef . Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion , a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn ; a gwelsom yno hefyd feibion Anac . Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau ; a’r Hethiaid , a’r Jebusiaid , a’r Amoriaid , yn gwladychu yn y mynydd‐dir ; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr , a cherllaw yr Iorddonen . A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses , ac a ddywedodd , Gan fyned awn i fyny , a pherchenogwn hi : canys gan orchfygu y gorchfygwn hi . Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant , Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl ; canys cryfach ydynt na nyni . A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent , wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Y tir yr aethom drosto i’w chwilio , tir yn difa ei breswylwyr yw efe ; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol : Ac yno y gwelsom y cewri , meibion Anac , y rhai a ddaethant o’r cewri ; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn , ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau . Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef , ac a waeddodd ; a’r bobl a wylasant y nos honno . A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron : a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt , O na buasem feirw yn nhir yr Aifft ! neu , O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn ! A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn , i gwympo ar y cleddyf ? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail . Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft ? A dywedasant bawb wrth ei gilydd , Gosodwn ben arnom , a dychwelwn i’r Aifft . Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel . Josua hefyd mab Nun , a Chaleb mab Jeffunne , dau o ysbiwyr y tir , a rwygasant eu dillad ; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel , gan ddywedyd , Y tir yr aethom drosto i’w chwilio , sydd dir da odiaeth . Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni , efe a’n dwg ni i’r tir hwn , ac a’i rhydd i ni ; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl . Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd , ac nac ofnwch bobl y tir ; canys bara i ni ydynt : ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt , a’r Arglwydd sydd gyda ni : nac ofnwch hwynt . A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini . A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Pa hyd y digia’r bobl yma fi ? a pha hyd y byddant heb gredu i mi , am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith ? Trawaf hwynt â haint , a gwasgaraf hwy , a gwnaf di yn genhedlaeth fwy , a chryfach na hwynt‐hwy . A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd , Felly yr Eifftiaid a glyw , ( canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth , ) Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn , ( canys clywsant dy fod di , Arglwydd , ymysg y bobl yma , a’th fod di , Arglwydd , yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb , a bod dy gwmwl di yn aros arnynt , a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd , ac mewn colofn dân y nos ; ) Os lleddi y bobl yma fel un gŵr ; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat , gan ddywedyd , O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt , am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch . Yr awr hon , gan hynny , mawrhaer , atolwg , nerth yr Arglwydd , fel y lleferaist , gan ddywedyd , Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig , ac aml o drugaredd , yn maddau anwiredd a chamwedd , a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog ; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth . Maddau , atolwg , anwiredd y bobl yma , yn ôl dy fawr drugaredd , ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn , o’r Aifft hyd yma . A dywedodd yr Arglwydd , Maddeuais , yn ôl dy air : Ond os byw fi , yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd . Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant , a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft , ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn , ac ni wrandawsant ar fy llais , Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt ; sef y rhai oll a’m digiasant , nis gwelant ef : Ond fy ngwas Caleb , am fod ysbryd arall gydag ef , ac iddo fy nghyflawn ddilyn , dygaf ef i’r tir y daeth iddo : a’i had a’i hetifedda ef . ( Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn ; ) yfory trowch , ac ewch i’r diffeithwch , ar hyd ffordd y môr coch . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn ? clywais duchan meibion Israel , y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn . Dywed wrthynt , Fel mai byw fi , medd yr Arglwydd , fel y llefarasoch yn fy nghlustiau , felly y gwnaf i chwi . Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau : a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif , o fab ugain mlwydd ac uchod , y rhai a duchanasoch yn fy erbyn , Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw , am wneuthur i chwi breswylio ynddo , ond Caleb mab Jeffunne , a Josua mab Nun . Ond eich plant chwi , y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail , hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad , a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi . A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn . A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd , ac a ddygant gosb eich puteindra chwi , nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch . Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir , sef deugain niwrnod , ( pob diwrnod am flwyddyn , ) y dygwch eich anwireddau , sef deugain mlynedd ; a chewch wybod toriad fy ngair i . Myfi yr Arglwydd a leferais , diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma , sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i : yn y diffeithwch hwn y darfyddant , ac yno y byddant feirw . A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir , y rhai a ddychwelasant , ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef , gan roddi allan anair am y tir ; Y dynion , meddaf , y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir , a fuant feirw o’r pla , gerbron yr Arglwydd . Ond Josua mab Nun , a Chaleb mab Jeffunne , a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir . A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel : a’r bobl a alarodd yn ddirfawr . A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd , gan ddywedyd , Wele ni , a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd : canys ni a bechasom . A dywedodd Moses , Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd ? a hyn ni lwydda . Nac ewch i fyny ; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith : rhag eich taro o flaen eich gelynion . Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi , a chwi a syrthiwch ar y cleddyf : canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd , ni bydd yr Arglwydd gyda chwi . Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd : ond arch cyfamod yr Arglwydd , a Moses , ni symudasant o ganol y gwersyll . Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid , y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw , ac a’u trawsant , ac a’u difethasant hyd Horma . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion , Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i dir eich preswylfod , yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi , Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i’r Arglwydd , offrwm poeth , neu aberth , wrth dalu adduned , neu mewn offrwm gwirfodd , neu ar eich gwyliau gosodedig , gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd , o’r eidionau , neu o’r praidd : Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i’r Arglwydd , o beilliaid ddegfed ran , wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew , yn fwyd‐offrwm . Ac offrwm di gyda’r offrwm poeth , neu yr aberth , bedwaredd ran hin o win am bob oen , yn ddiod‐offrwm . A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd , o beilliaid ddwy ddegfed ran , wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew . A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i’r Arglwydd . A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth , neu yn aberth yn talu adduned , neu aberth hedd i’r Arglwydd ; Yna offrymed yn fwyd‐offrwm gyda llo y fuwch , o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew . Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod‐offrwm , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Felly y gwneir am bob ych , neu am bob hwrdd , neu am oen , neu am fyn . Yn ôl y rhifedi a ddarparoch , felly y gwnewch i bob un , yn ôl eu rhifedi . Pob priodor a wna’r pethau hyn felly , wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd . A phan ymdeithio dieithrddyn , neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau , a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd ; fel y gwneloch chwi , felly gwnaed yntau . Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa , ac i’r ymdeithydd dieithr ; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau : megis yr ydych chwi , felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd . Un gyfraith , ac un ddefod , fydd i chwi , ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo ; Yna pan fwytaoch o fara’r tir , y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd . O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael : fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu , felly y dyrchefwch hithau . O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau . A phan eloch dros y ffordd , ac na wneloch yr holl orchmynion hyn , y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses , Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses , o’r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd , ac o hynny allan , trwy eich cenedlaethau ; Yna bydded , os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod , i’r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth , i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd , â’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm , wrth y ddefod , ac un bwch geifr yn bech‐aberth . A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel , a maddeuir iddynt ; canys anwybodaeth yw : a dygant eu hoffrwm , aberth tanllyd i’r Arglwydd , a’u pech‐aberth , gerbron yr Arglwydd , am eu hanwybodaeth . A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg ; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod . Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd ; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod . A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus , pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd , gan wneuthur cymod drosto ; a maddeuir iddo . Yr hwn a aned o feibion Israel , a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg , un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd . Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg , o briodor , neu o ddieithr ; cablu yr Arglwydd y mae : torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl . Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd , a thorri ei orchymyn ef ; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw : ei anwiredd fydd arno . Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch , cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth . A’r rhai a’i cawsant ef , a’i dygasant ef , sef y cynutwr , at Moses , ac at Aaron , ac at yr holl gynulleidfa . Ac a’i dodasant ef mewn dalfa , am nad oedd hysbys beth a wneid iddo . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Lladder y gŵr yn farw : llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll . A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll , ac a’i llabyddiasant ef â meini , fel y bu efe farw ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad , trwy eu cenedlaethau , a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre . A bydded i chwi yn rhidens , i edrych arno , ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd , ac i’w gwneuthur hwynt ; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain , nac yn ôl eich llygaid eich hunain , y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl : Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i , ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw . Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft , i fod i chwi yn Dduw : myfi yw yr Arglwydd eich Duw . Yna Cora , mab Ishar , mab Cohath , mab Lefi ; a Dathan ac Abiram , meibion Elïab , ac On mab Peleth , meibion Reuben , a gymerasant wŷr : A hwy a godasant o flaen Moses , ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel , penaethiaid y gynulleidfa , pendefigion y gymanfa , gwŷr enwog . Ac ymgasglasant yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron , ac a ddywedasant wrthynt , Gormod i chwi hyn ; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt , ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg : paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd ? A phan glybu Moses , efe a syrthiodd ar ei wyneb . Ac efe a lefarodd wrth Cora , ac wrth ei holl gynulleidfa ef , gan ddywedyd , Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef , a’r sanctaidd ; a phwy a ddylai nesáu ato ef : canys yr hwn a ddewisodd efe , a nesâ efe ato . Hyn a wnewch : Cymerwch i chwi , sef Cora a’i holl gynulleidfa , thuserau ; A rhoddwch ynddynt dân , agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd : yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd , yr hwn a ddewiso yr Arglwydd : gormod i chwi hyn , meibion Lefi . A dywedodd Moses wrth Cora , Gwrandewch , atolwg , meibion Lefi . Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel , gan eich nesáu chwi ato ei hun , i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd , ac i sefyll gerbron y gynulleidfa , i’w gwasanaethu hwynt ? Canys efe a’th nesaodd di , a’th holl frodyr , meibion Lefi , gyda thi : ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd ? Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd : ond Aaron , beth yw efe , i chwi i duchan yn ei erbyn ? A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram , meibion Elïab . Hwythau a ddywedasant , Ni ddeuwn ni ddim i fyny . Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl , i’n lladd ni yn y diffeithwch , oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni ? Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl , ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan : a dynni di lygaid y gwŷr hyn ? ni ddeuwn ni i fyny ddim . Yna y digiodd Moses yn ddirfawr , ac y dywedodd wrth yr Arglwydd , Nac edrych ar eu hoffrwm hwy : ni chymerais un asyn oddi arnynt , ac ni ddrygais un ohonynt . A dywedodd Moses wrth Cora , Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd , ti , a hwynt , ac Aaron , yfory . A chymerwch bob un ei thuser , a rhoddwch arnynt arogl‐darth ; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd , sef dau cant a deg a deugain o thuserau : dwg dithau hefyd , ac Aaron , bob un ei thuser . A chymerasant bob un ei thuser , a rhoddasant dân ynddynt , a gosodasant arogl‐darth arnynt ; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod , ynghyd â Moses ac Aaron . Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt , i ddrws pabell y cyfarfod : a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd , Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon , a mi a’u difâf hwynt ar unwaith . A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a ddywedasant , O Dduw , Duw ysbrydion pob cnawd , un dyn a bechodd , ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd . Llefara wrth y gynulleidfa , gan ddywedyd , Ewch ymaith o gylch pabell Cora , Dathan , ac Abiram . A chyfododd Moses , ac a aeth at Dathan ac Abiram : a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef . Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa , gan ddywedyd , Ciliwch , atolwg , oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn , ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt ; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt . Yna yr aethant oddi wrth babell Cora , Dathan , ac Abiram , o amgylch : a Dathan ac Abiram , eu gwragedd hefyd , a’u meibion , a’u plant , a ddaethant allan , gan sefyll wrth ddrws eu pebyll . A dywedodd Moses , Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn ; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt . Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn , ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn ; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i . Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth , fel yr agoro’r ddaear ei safn , a’u llyncu hwynt , a’r hyn oll sydd eiddynt , fel y disgynnont yn fyw i uffern ; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd . A bu , wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn , hollti o’r ddaear oedd danynt hwy . Agorodd y ddaear hefyd ei safn , a llyncodd hwynt , a’u tai hefyd , a’r holl ddynion oedd gan Cora , a’u holl gyfoeth . A hwynt , a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt , a ddisgynasant yn fyw i uffern ; a’r ddaear a gaeodd arnynt : a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa . A holl Israel , y rhai oedd o’u hamgylch hwynt , a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt : canys dywedasant , Ciliwn , rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau . Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd , ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dywed wrth Eleasar , mab Aaron yr offeiriad , am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg ; a gwasgara y tân oddi yno allan : canys sanctaidd ydynt : Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun ; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain , i fod yn gaead i’r allor ; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd ; am hynny sanctaidd ydynt : a byddant yn arwydd i feibion Israel . A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres , â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid ; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor : Yn goffadwriaeth i feibion Israel ; fel na nesao gŵr dieithr , yr hwn ni byddo o had Aaron , i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd ; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa : megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef . A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses , ac yn erbyn Aaron , gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd . A bu , wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron , edrych ohonynt ar babell y cyfarfod : ac wele , toasai y cwmwl hi , ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd . Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses , gan ddywedyd , Ciliwch o blith y gynulleidfa hon , a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth . A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau . Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron , Cymer thuser , a dod dân oddi ar yr allor ynddi , a gosod arogl‐darth arni , a dos yn fuan at y gynulleidfa , a gwna gymod drostynt : canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd ; dechreuodd y pla . A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses , ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele , dechreuasai y pla ar y bobl : ac efe a rodd arogl‐darth , ac a wnaeth gymod dros y bobl . Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw ; a’r pla a ataliwyd . A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant , heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora . A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod : a’r pla a ataliwyd A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a chymer gan bob un ohonynt wialen , yn ôl tŷ eu tadau , sef gan bob un o’u penaethiaid , yn ôl tŷ eu tadau , deuddeg gwialen : ysgrifenna enw pob un ar ei wialen . Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi : canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau . A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod , gerbron y dystiolaeth , lle y cyfarfyddaf â chwi . A gwialen y gŵr a ddewiswyf , a flodeua : a mi a wnaf i furmur meibion Israel , y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn , beidio â mi . A llefarodd Moses wrth feibion Israel : a’u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth , yn ôl tŷ eu tadau , sef deuddeg gwialen ; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt . A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd , ym mhabell y dystiolaeth . A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth : ac wele , gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai , ac a fwriasai flagur , ac a flodeuasai flodau , ac a ddyg asai almonau . A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel . Hwythau a edrychasant , ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth , i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar ; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi , ac na byddont feirw . A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo ; felly y gwnaeth efe . A meibion Israel a lefarasant wrth Moses , gan ddywedyd , Wele ni yn trengi ; darfu amdanom , darfu amdanom ni oll . Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd . A wneir pen amdanom gan drengi ? Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Tydi a’th feibion , a thylwyth dy dad gyda thi , a ddygwch anwiredd y cysegr : a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth . A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi , sef llwyth dy dad , i lynu wrthyt ti , ac i’th wasanaethu : tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth . A hwy a gadwant dy gadwraeth di , a chadwraeth yr holl babell : ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr , nac at yr allor , rhag eu marw hwynt , a chwithau hefyd . Ond hwy a lynant wrthyt , ac a oruchwyliant babell y cyfarfod , yn holl wasanaeth y babell : ac na ddeued y dieithr yn agos atoch . Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr , a goruchwyliaeth yr allor ; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel . Ac wele , mi a gymerais dy frodyr di , y Lefiaid , o fysg meibion Israel : i ti y rhoddwyd hwynt , megis rhodd i’r Arglwydd , i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod . Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth ; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor , ac o fewn y llen wahan , y gwasanaethwch : yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi ; a’r dieithr a ddelo yn agos , a leddir . A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron , Wele , mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael , o holl gysegredig bethau meibion Israel ; rhoddais hwynt i ti , oherwydd yr eneiniad , ac i’th feibion , trwy ddeddf dragwyddol . Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân : eu holl offrymau hwynt , eu holl fwyd‐offrwm , a’u holl aberthau dros bechod , a’u holl aberthau dros gamwedd , y rhai a dalant i mi , fyddant sancteiddiolaf i ti , ac i’th feibion . O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef ; pob gwryw a’i bwyty ef : cysegredig fydd efe i ti . Hyn hefyd fydd i ti ; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt , ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel : i ti y rhoddais hwynt , ac i’th feibion , ac i’th ferched gyda thi , trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono . Holl oreuon yr olew , a holl oreuon y gwin a’r ŷd , sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd , a roddais i ti . Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd , fydd eiddot ti : pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono . Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti . Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd , o ddyn ac o anifail , fydd eiddot ti : ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn ; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan . A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad , yn dy bris di , er pum sicl o arian , wrth sicl y cysegr : ugain gera yw hynny . Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion , neu gyntaf‐anedig dafad , neu gyntaf‐anedig gafr ; sanctaidd ydynt hwy : eu gwaed a daenelli ar yr allor , a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ond eu cig fydd eiddot ti ; fel parwyden y cyhwfan , ac fel yr ysgwyddog ddeau , y mae yn eiddot ti . Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd , y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd , a roddais i ti , ac i’th feibion , ac i’th ferched gyda thi , trwy ddeddf dragwyddol : cyfamod halen tragwyddol fydd hyn , gerbron yr Arglwydd , i ti , ac i’th had gyda thi . A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron , Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt , ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt : myfi yw dy ran di , a’th etifeddiaeth , ymysg meibion Israel . Ac wele , mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel , yn etifeddiaeth , am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod . Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod ; rhag iddynt ddwyn pechod , a marw . Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod , a dygant eu hanwiredd : deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau , nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel . Canys degwm meibion Israel , yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth : am hynny y dywedais wrthynt , nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara hefyd wrth y Lefiaid , a dywed wrthynt , Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt ; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , sef degwm o’r degwm . A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael , fel yr ŷd o’r ysgubor , ac fel cyflawnder o’r gwinwryf . Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd , o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel ; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad . O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono , sef y rhan gysegredig , allan ohono ef . A dywed wrthynt , Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono , cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor , a thoreth y gwinwryf . A bwytewch ef ym mhob lle , chwi a’ch tylwyth : canys gwobr yw efe i chwi , am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod . Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd , gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono : na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel ; fel na byddoch feirw . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , ac wrth Aaron , gan ddywedyd . Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl , yr hon ni byddo anaf arni , ac nid aeth iau arni . A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad : a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll ; a lladded un hi ger ei fron ef . A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys , a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith . A llosged un yr anner yn ei olwg ef : ei chroen , a’i chig , a’i gwaed , ynghyd â’i biswail , a lysg efe . A chymered yr offeiriad goed cedr , ac isop , ac ysgarlad ; a bwried i ganol llosgfa yr anner . A golched yr offeiriad ei wisgoedd , troched hefyd ei gnawd mewn dwfr , ac wedi hynny deued i’r gwersyll ; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr . Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr , a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr ; ac aflan fydd hyd yr hwyr . A chasgled un glân ludw yr anner , a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân ; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel , yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw . A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner , ei ddillad ; aflan fydd hyd yr hwyr : a bydd hyn i feibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt , yn ddeddf dragwyddol . A gyffyrddo â chorff marw dyn , aflan fydd saith niwrnod . Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd , a’r seithfed dydd glân fydd : ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe , yna ni bydd efe lân y seithfed dydd . Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw , ac nid ymlanhao , sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd ; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel : am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno , aflan fydd efe ; ei aflendid sydd eto arno . Dyma’r gyfraith , pan fyddo marw dyn mewn pabell : pob un a ddelo i’r babell , a phob un a fyddo yn y babell , fydd aflan saith niwrnod . A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno , aflan yw efe . Pob un hefyd a gyffyrddo , ar wyneb y maes , ag un wedi ei ladd â chleddyf , neu ag un marw , neu ag asgwrn dyn , neu â bedd , a fydd aflan saith niwrnod . Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod ; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr ; A chymered isop , a golched un dihalogedig ef mewn dwfr , a thaenelled ar y babell , ac ar yr holl lestri , ac ar yr holl ddynion oedd yno , ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn , neu un wedi ei ladd , neu un wedi marw , neu fedd : A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd , a’r seithfed dydd ; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd , a golched ei ddillad , ymolched mewn dwfr , a glân fydd yn yr hwyr . Ond y gŵr a haloger , ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa : canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd , ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth ; aflan yw efe . A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth , olchi ei ddillad ; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth , a fydd aflan hyd yr hwyr . A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef , fydd aflan : a’r dyn a gyffyrddo â hynny , fydd aflan hyd yr hwyr . A meibion Israel , sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin , yn y mis cyntaf ; ac arhodd y bobl yn Cades ; yno hefyd y bu farw Miriam : ac yno y claddwyd hi . Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa : a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron . Ac ymgynhennodd y bobl â Moses , a llefarasant , gan ddywedyd , O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd ! Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn , i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo ? A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft , i’n dwyn ni i’r lle drwg yma ? lle heb had , na ffigysbren , na gwinwydden , na phomgranatbren , ac heb ddwfr i’w yfed ? A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa , i ddrws pabell y cyfarfod ; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer y wialen , a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd ; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig , a hi a rydd ei dwfr : a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig , a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid . A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd , megis y gorchmynasai efe iddo . A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig : ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch yn awr , chwi wrthryfelwyr ; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr ? A Moses a gododd ei law , ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen : a daeth dwfr lawer allan ; a’r gynulleidfa a yfodd , a’u hanifeiliaid hefyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , ac wrth Aaron , Am na chredasoch i mi , i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel : am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt . Dyma ddyfroedd Meriba ; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd , ac y sancteiddiwyd ef ynddynt . A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed Israel dy frawd ; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni : Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft , ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau ; ac y drygodd yr Eifftiaid ni , a’n tadau . A ni a waeddasom ar yr Arglwydd ; ac efe a glybu ein llef ni , ac a anfonodd angel , ac a’n dug ni allan o’r Aifft : ac wele ni yn Cades , dinas ar gwr dy ardal di . Atolwg , gad i ni fyned trwy dy wlad : nid awn trwy faes , na gwinllan , ac nid yfwn ddwfr un ffynnon : priffordd y brenin a gerddwn ; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy , nes i ni fyned allan o’th derfynau di . A dywedodd Edom wrtho , Na thyred heibio i mi , rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod . A meibion Israel a ddywedasant wrtho , Ar hyd y briffordd yr awn i fyny ; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di , rhoddaf ei werth ef ; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed . Yntau a ddywedodd , Ni chei fyned trwodd . A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef , â phobl lawer , ac â llaw gref . Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro : am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef . A meibion Israel , sef yr holl gynulleidfa , a deithiasant o Cades , ac a ddaethant i fynydd Hor . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor , wrth derfyn tir Edom , gan ddywedyd , Aaron a gesglir at ei bobl : ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel ; am i chwi anufuddhau i’m gair , wrth ddwfr Meriba . Cymer Aaron ac Eleasar ei fab , a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor ; A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron , a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef : canys Aaron a gesglir at ei bobl , ac a fydd farw yno . A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd : a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor , yng ngŵydd yr holl gynulleidfa . A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd , ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef : a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd . A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd . A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron ; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain . A’r brenin Arad , y Canaanead , preswylydd y deau , a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr ; ac a ryfelodd yn erbyn Israel , ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion . Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd , ac a ddywedodd , Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw , yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt . A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel ; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef ; ac efe a’u difrododd hwynt , a’u dinasoedd ; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma . A hwy a aethant o fynydd Hor , ar hyd ffordd y môr coch , i amgylchu tir Edom : a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl , oherwydd y ffordd . A llefarodd y bobl yn erbyn Duw , ac yn erbyn Moses , Paham y dygasoch ni o’r Aifft , i farw yn yr anialwch ? canys nid oes na bara na dwfr ; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn . A’r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd ; a hwy a frathasant y bobl : a bu feirw o Israel bobl lawer . A daeth y bobl at Moses , adywedasant Pechasom ; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd , ac yn dy erbyn dithau : gweddïa ar yr Arglwydd , ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym . A gweddïodd Moses dros y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Gwna i ti sarff danllyd , a gosod ar drostan : a phawb a frather , ac a edrycho ar honno , fydd byw . A gwnaeth Moses sarff bres , ac a’i gosododd ar drostan : yna os brathai sarff ŵr , ac edrych ohono ef ar y sarff bres , byw fyddai . A meibion Israel a gychwynasant oddi yno , ac a wersyllasant yn Oboth . A hwy a aethant o Oboth , ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim , yn yr anialwch , yr hwn oedd ar gyfer Moab , tua chodiad haul . Cychwynasant oddi yno , a gwersyllasant wrth afon Sared . Cychwynasant oddi yno , a gwersyllasant wrth ryd Arnon , yr hon sydd yn yr anialwch , yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid : canys Arnon oedd derfyn Moab , rhwng Moab a’r Amoriaid . Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd , Y peth a wnaeth efe yn y môr coch , ac yn afonydd Arnon , Ac wrth raeadr yr afonydd , yr hwn a dreigla i breswylfa Ar , ac a bwysa at derfyn Moab . Ac oddi yno yr aethant i Beer : honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Casgl y bobl ynghyd , a mi a roddaf iddynt ddwfr . Yna y canodd Israel y gân hon : Cyfod , ffynnon ; cenwch iddi . Ffynnon a gloddiodd y tywysogion , ac a gloddiodd penaethiaid y bobl , ynghyd â’r deddfwr , â’u ffyn . Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana : Ac o Mattana i Nahaliel ; ac o Nahaliel i Bamoth : Ac o Bamoth , yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab , i ben y bryn sydd yn edrych tua’r diffeithwch . Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid , gan ddywedyd , Gad i mi fyned trwy dy dir : ni thrown i faes , na gwinllan ; nid yfwn ddwfr un ffynnon : ar hyd ffordd y brenin y cerddwn , hyd onid elom allan o’th derfynau di . Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad : ond casglodd Sehon ei holl bobl , ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch : ac efe a ddaeth i Jahas , ac a ymladdodd yn erbyn Israel . Ac Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf ; ac a oresgynnodd ei dir ef , o Arnon hyd Jabboc , hyd at feibion Ammon : canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon . A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny : a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid , yn Hesbon , ac yn ei holl bentrefydd . Canys dinas Sehon , brenin yr Amoriaid , ydoedd Hesbon , ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab , yr hwn a fuasai o’r blaen , ac a ddug ei dir ef oddi arno , hyd Arnon . Am hynny y dywed y diarhebwyr , Deuwch i Hesbon ; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon . Canys tân a aeth allan o Hesbon , a fflam o ddinas Sehon : bwytaodd Ar ym Moab , a pherchenogion Bamoth Arnon . Gwae di , Moab ; darfu amdanat , bobl Cemos : rhoddodd ei feibion dihangol , a’i ferched , mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid . Saethasom hwynt : darfu am Hesbon , hyd Dibon : ac anrheithiasom hyd Noffa , yr hon sydd hyd Medeba . A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid . A Moses a anfonodd i chwilio Jaser : a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi , ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno . Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan : ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel , hyd Edrei , efe a’i holl bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Nac ofna ef : canys yn dy law di y rhoddais ef , a’i holl bobl , a’i dir ; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon . Am hynny y trawsant ef , a’i feibion , a’i holl bobl , fel na adawyd iddo ef weddill : a hwy a berchenogasant ei dir ef . Ameibion Israel a gychwynasant , ac a wersyllasant yn rhosydd Moab , am yr Iorddonen â Jericho . A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid . As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr ; canys llawer oedd : a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel . A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian , Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd , fel y llyf yr ych wellt y maes . A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw . Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor , i Pethor , ( yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl , ) i’w gyrchu ef ; gan ddywedyd , Wele bobl a ddaeth allan o’r Aifft : wele , y maent yn cuddio wyneb y ddaear ; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i . Yr awr hon , gan hynny , tyred , atolwg , melltithia i mi y bobl yma ; canys cryfach ydynt na mi : ond odid mi allwn ei daro ef , a’u gyrru hwynt o’r tir : canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di , a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech . A henuriaid Moab , a henuriaid Midian , a aethant , â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo : daethant hefyd at Balaam , a dywedasant iddo eiriau Balac . A dywedodd yntau wrthynt , Lletywch yma heno ; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf . A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam . A daeth Duw at Balaam , ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi ? A dywedodd Balaam wrth Dduw , Balac mab Sippor , brenin Moab , a ddanfonodd ataf , gan ddywedyd , Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft , ac yn gorchuddio wyneb y ddaear : yr awr hon tyred , rhega hwynt i mi ; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt , a’u gyrru allan . A dywedodd Duw wrth Balaam , Na ddos gyda hwynt ; na felltithia’r bobl : canys bendigedig ydynt . A Balaam a gododd y bore , ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac , Ewch i’ch gwlad : oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi . A thywysogion Moab a godasant , ac a ddaethant at Balac ; ac a ddywedasant , Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni . A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion , anrhydeddusach na’r rhai hyn . A hwy a ddaethant at Balaam ; ac a ddywedasant wrtho , Fel hyn y dywed Balac mab Sippor ; Atolwg , na luddier di rhag dyfod ataf : Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr ; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf , a wnaf : tyred dithau , atolwg , rhega i mi y bobl hyn . A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac , Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ , ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw , i wneuthur na bychan na mawr . Ond , atolwg , yn awr , arhoswch chwithau yma y nos hon ; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg . A daeth Duw at Balaam liw nos , a dywedodd wrtho , Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn , cyfod , dos gyda hwynt : ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt , hynny a wnei di . Yna y cododd Balaam yn fore , ac a gyfrwyodd ei asen , ac a aeth gyda thywysogion Moab . A dig Duw a enynnodd , am iddo ef fyned : ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef ; ac efe yn marchogaeth ar ei asen , a’i ddau lanc gydag ef . A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd , a’i gleddyf yn noeth yn ei law : a chiliodd yr asen allan o’r ffordd , ac a aeth i’r maes : a thrawodd Balaam yr asen , i’w throi i’r ffordd . Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd , a magwyr o’r ddeutu . Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd , yna hi a ymwasgodd at y fagwyr ; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr : ac efe a’i trawodd hi eilwaith . Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach ; ac a safodd mewn lle cyfyng , lle nid oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy . A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd , ac a orweddodd dan Balaam : yna yr enynnodd dig Balaam , ac efe a drawodd yr asen â ffon . A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen ; a hi a ddywedodd wrth Balaam , Beth a wneuthum i ti , pan drewaist fi y tair gwaith hyn ? A dywedodd Balaam wrth yr asen , Am i ti fy siomi . O na byddai gleddyf yn fy llaw ; canys yn awr y’th laddwn . A dywedodd yr asen wrth Balaam , Onid myfi yw dy asen , yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti , hyd y dydd hwn ? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn ? Ac efe a ddywedodd , Naddo . A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam ; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd , a’i gleddyf noeth yn ei law : ac efe a ogwyddodd ei ben , ac a ymgrymodd ar ei wyneb . A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho , Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn ? Wele , mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti ; canys cyfeiliornus yw’r ffordd hon yn fy ngolwg . A’r asen a’m gwelodd ; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn : oni buasai iddi gilio rhagof , diau yn awr y lladdaswn di , ac a’i gadawswn hi yn fyw . A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd , Pechais ; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn : ac yr awr hon , os drwg yw yn dy olwg , dychwelaf adref . A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam , Dos gyda’r dynion ; a’r gair a lefarwyf wrthyt , hynny yn unig a leferi . Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac . A chlybu Balac ddyfod Balaam : ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab ; yr hon sydd ar ardal Arnon , yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn . A dywedodd Balac wrth Balaam , Onid gan anfon yr anfonais atat i’th gyrchu ? paham na ddeuit ti ataf ? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus ? A dywedodd Balaam wrth Balac , Wele , mi a ddeuthum atat : gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon ? y gair a osodo Duw yn fy ngenau , hwnnw a lefaraf fi . A Balaam a aeth gyda Balac ; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth . A lladdodd Balac wartheg a defaid ; ac a anfonodd ran i Balaam , ac i’r tywysogion oedd gydag ef . A’r bore Balac a gymerodd Balaam , ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal ; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl . Adywedodd Balaam wrth Balac , Adeilada i mi yma saith allor ; a darpara i mi yma saith o fustych , a saith o hyrddod . A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam . Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor . A dywedodd Balaam wrth Balac , Saf di wrth dy boethoffrwm ; myfi a af oddi yma : ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod ; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi . Ac efe a aeth i le uchel . A chyfarfu Duw â Balaam ; a dywedodd Balaam wrtho , Darperais saith allor , ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor . A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam ; ac a ddywedodd , Dychwel at Balac , a dywed fel hyn . Ac efe a ddychwelodd ato . Ac wele , efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi , o fynyddoedd y dwyrain , gan ddywedyd , Tyred , melltithia i mi Jacob ; tyred , a ffieiddia Israel . Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw ? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd ? Canys o ben y creigiau y gwelaf ef , ac o’r bryniau yr edrychaf arno ; wele bobl yn preswylio eu hun , ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd . Pwy a rif lwch Jacob , a rhifedi pedwaredd ran Israel ? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn , a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau . A dywedodd Balac wrth Balaam , Beth a wnaethost i mi ? I regi fy ngelynion y’th gymerais ; ac wele , gan fendithio ti a’u bendithiaist . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau , sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd ? A dywedodd Balac wrtho ef , Tyred , atolwg , gyda myfi i le arall , lle y gwelych hwynt : oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig , ac ni chei eu gweled hwynt i gyd : rhega dithau hwynt i mi oddi yno . Ac efe a’i dug ef i faes amlwg , i ben bryn ; ac a adeiladodd saith allor , ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor . Ac a ddywedodd wrth Balac , Saf yma wrth dy boethoffrwm , a mi a af acw i gyfarfod â’r Arglwydd . A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam ; ac a osododd air yn ei enau ef , ac a ddywedodd Dychwel at Balac , a dywed fel hyn . Ac efe a ddaeth ato . Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm , a thywysogion Moab gydag ef . A dywedodd Balac wrtho , Beth a ddywedodd yr Arglwydd ? Yna y cymerodd efe ei ddameg , ac a ddywedodd , Cyfod , Balac , a gwrando ; mab Sippor , clustymwrando â mi . Nid dyn yw Duw , i ddywedyd celwydd ; na mab dyn , i edifarhau : a ddywedodd efe , ac nis cyflawna ? a lefarodd efe , ac oni chywira ? Wele , cymerais arnaf fendithio ; a bendithiodd efe ; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl . Ni wêl efe anwiredd yn Jacob , ac ni wêl drawsedd yn Israel ; yr Arglwydd ei Dduw sydd gydag ef , ac y mae utgorn-floedd brenin yn eu mysg hwynt . Duw a’u dug hwynt allan o’r Aifft : megis nerth unicorn sydd iddo . Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob , na dewiniaeth yn erbyn Israel : y pryd hwn y dywedir am Jacob , ac am Israel , Beth a wnaeth Duw ! Wele , y bobl a gyfyd fel llew mawr , ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd : ni orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth , ac yfed gwaed y lladdedigion . A dywedodd Balac wrth Balaam , Gan regi na rega ef mwy : gan fendithio na fendithia ef chwaith . Yna yr atebodd Balaam , ac a ddywedodd wrth Balac , Oni fynegais i ti , gan ddywedyd , Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd , hynny a wnaf fi ? A dywedodd Balac wrth Balaam , Tyred , atolwg , mi a’th ddygaf i le arall : ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regi ef i mi oddi yno . A Balac a ddug Balaam i ben Peor , yr hwn sydd yn edrych tua’r diffeithwch . A dywedodd Balaam wrth Balac , Adeilada i mi yma saith allor ; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd . A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam ; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor . Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel ; nid aeth efe , megis o’r blaen , i gyrchu dewiniaeth ; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch . A chododd Balaam ei lygaid : ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau : a daeth ysbryd Duw arno ef . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Balaam mab Beor a ddywed , a’r gŵr a agorwyd ei lygaid , a ddywedodd ; Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog , yr hwn a syrthiodd , ac a agorwyd ei lygaid : Mor hyfryd yw dy bebyll di , O Jacob ! dy gyfanheddau di , O Israel ! Ymestynnant fel dyffrynnoedd , ac fel gerddi wrth afon , fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd , fel y cedrwydd wrth ddyfroedd . Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau , a’i had fydd mewn dyfroedd lawer , a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag , a’i frenhiniaeth a ymgyfyd . Duw a’i dug ef allan o’r Aifft ; megis nerth unicorn sydd iddo : efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion , ac a ddryllia eu hesgyrn , ac â’i saethau y gwana efe hwynt . Efe a gryma , ac a orwedd fel llew , ac fel llew mawr : pwy a’i cyfyd ef ? Bendigedig fydd dy fendithwyr , a melltigedig dy felltithwyr . Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam ; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd . Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam , I regi fy ngelynion y’th gyrchais ; ac wele , ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn . Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun : dywedais , gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn ; ac wele , ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd . A dywedodd Balaam wrth Balac , Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf , gan ddywedyd , Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ , ni allwn droseddu gair yr Arglwydd , i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun : yr hyn a lefaro yr Arglwydd , hynny a lefaraf fi ? Ond yr awr hon , wele fi yn myned at fy mhobl : tyred , mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf . Ac efe a gymerth ei ddameg , ac a ddywedodd , Balaam mab Beor a ddywed , a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed ; Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw , gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf , a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog , yr hwn a syrthiodd , ac yr agorwyd ei lygaid : Gwelaf ef , ac nid yr awr hon ; edrychaf arno , ond nid o agos : daw seren o Jacob , a chyfyd teyrnwialen o Israel , ac a ddryllia gonglau Moab , ac a ddinistria holl feibion Seth . Ac Edom a feddiennir , Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion ; ac Israel a wna rymuster . Ac arglwyddiaetha un o Jacob , ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas . A phan edrychodd ar Amalec , efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Dechrau y cenhedloedd yw Amalec ; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth . Edrychodd hefyd ar y Ceneaid ; ac a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Cadarn yw dy annedd ; gosod yr wyt dy nyth yn y graig . Anrheithir y Ceneaid , hyd oni’th gaethiwo Assur . Ac efe a gymerodd ei ddameg , ac a ddywedodd , Och ! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn ? Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur , ac a orthrymant Eber ; ac yntau a dderfydd amdano byth . A chododd Balaam ac a aeth , ac a ddychwelodd adref : a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau . A thrigodd Israel yn Sittim ; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab . A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt ; a bwytaodd y bobl , ac addolasant eu duwiau hwynt . Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐Peor ; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cymer holl benaethiaid y bobl , a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul ; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel . A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel , Lleddwch bob un ei ddynion , y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐Peor . Ac wele , gŵr o feibion Israel a ddaeth , ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr , yng ngolwg Moses , ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel , a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod . A gwelodd Phinees mab Eleasar , mab Aaron yr offeiriad ; ac a gododd o ganol y gynulleidfa , ac a gymerodd waywffon yn ei law ; Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell ; ac a’u gwanodd hwynt ill dau , sef y gŵr o Israel , a’r wraig trwy ei cheudod . Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel . A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Phinees mab Eleasar , mab Aaron yr offeiriad , a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel , ( pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg , ) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd . Am hynny dywed , Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch . A bydd iddo ef , ac i’w had ar ei ôl ef , amod o offeiriadaeth dragwyddol ; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw , a gwneuthur cymod dros feibion Israel . Ac enw y gŵr o Israel , yr hwn a laddwyd , sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees , oedd Simri , mab Salu , pennaeth tŷ ei dad , o lwyth Simeon . Ac enw y wraig o Midian a laddwyd , oedd Cosbi , merch Sur : pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Blina’r Midianiaid , a lleddwch hwynt : Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn , yn achos Peor , ac yn achos Cosbi , merch tywysog Midian , eu chwaer hwynt , yr hon a laddwyd yn nydd y pla , o achos Peor . Abu , wedi’r pla , lefaru o’r Arglwydd wrth Moses , ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad , gan ddywedyd , Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel , o fab ugain mlwydd ac uchod , trwy dŷ eu tadau , pob un a allo fyned i ryfel yn Israel . A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho , gan ddywedyd Rhifwch y bobl , o fab ugain mlwydd ac uchod ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , a meibion Israel , y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft . Reuben , cyntaf‐anedig Israel . Meibion Reuben ; o Hanoch , tylwyth yr Hanochiaid : o Phalu , tylwyth y Phaluiaid : O Hesron , tylwyth yr Hesroniaid : o Carmi , tylwyth y Carmiaid . Dyma dylwyth y Reubeniaid : a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain . A meibion Phalu oedd Elïab . A meibion Elïab ; Nemuel , a Dathan , ac Abiram . Dyma y Dathan ac Abiram , rhai enwog yn y gynulleidfa , y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora , pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd . Ac agorodd y ddaear ei safn , ac a’u llyncodd hwynt , a Cora hefyd , pan fu farw y gynulleidfa , pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant : a hwy a aethant yn arwydd . Ond meibion Cora ni buant feirw . Meibion Simeon , wrth eu tylwythau . O Nemuel , tylwyth y Nemueliaid : o Jamin , tylwyth y Jaminiaid : o Jachin , tylwyth y Jachiniaid : O Sera , tylwyth y Serahiaid : o Saul , tylwyth y Sauliaid . Dyma dylwyth y Simeoniaid ; dwy fil ar hugain a dau cant . Meibion Gad , wrth eu tylwythau . O Seffon , tylwyth y Seffoniaid : o Haggi , tylwyth yr Haggiaid : o Suni , tylwyth y Suniaid : O Osni , tylwyth yr Osniaid : o Eri , tylwyth yr Eriaid : O Arod , tylwyth yr Arodiaid : o Areli , tylwyth yr Areliaid . Dyma deuluoedd meibion Gad , dan eu rhif ; deugain mil a phum cant . Meibion Jwda oedd , Er ac Onan : a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan . A meibion Jwda , wrth eu teuluoedd . O Sela , tylwyth y Selaniaid : o Phares , tylwyth y Pharesiaid : o Sera , tylwyth y Serahiaid . A meibion Phares oedd ; o Hesron , tylwyth yr Hesroniaid : o Hamul , tylwyth yr Hamuliaid . Dyma dylwyth Jwda , dan eu rhif ; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant . Meibion Issachar , wrth eu tylwythau oedd ; o Tola , tylwyth y Tolaiaid : o Pua , tylwyth y Puhiaid : O Jasub , tylwyth y Jasubiaid : o Simron , tylwyth y Simroniaid . Dyma deuluoedd Issachar , dan eu rhif ; pedair mil a thrigain mil a thri chant . Meibion Sabulon , wrth eu teuluoedd oedd ; o Sered , tylwyth y Sardiaid : o Elon , tylwyth yr Eloniaid : o Jahleel , tylwyth y Jahleeliaid . Dyma deuluoedd y Sabuloniaid , dan eu rhif ; trigain mil a phum cant . Meibion Joseff , wrth eu teuluoedd oedd ; Manasse ac Effraim . Meibion Manasse oedd ; o Machir , tylwyth y Machiriaid : a Machir a genhedlodd Gilead : o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid . Dyma feibion Gilead . O Jeeser , tylwyth Jeeseriaid : o Helec , tylwyth yr Heleciaid : Ac o Asriel , tylwyth yr Asrieliaid : ac o Sechem , tylwyth y Sechemiaid : Ac o Semida , tylwyth y Semidiaid : ac o Heffer , tylwyth yr Hefferiaid . A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion , ond merched : ac enwau merched Salffaad oedd , Mala , a Noa , Hogla , Milca , a Tirsa . Dyma dylwyth Manasse : a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant . Dyma feibion Effraim , wrth eu teuluoedd . O Suthela , tylwyth y Sutheliaid ; o Becher , tylwyth y Becheriaid : o Tahan , tylwyth y Tahaniaid . A dyma feibion Suthela : o Eran , tylwyth yr Eraniaid . Dyma dylwyth meibion Effraim , trwy eu rhifedigion ; deuddeng mil ar hugain a phum cant . Dyma feibion Joseff , wrth eu teuluoedd . Meibion Benjamin , wrth eu teuluoedd oedd ; o Bela , tylwyth y Belaiaid : o Asbel , tylwyth yr Asbeliaid : o Ahiram , tylwyth yr Ahiramiaid : O Seffuffam , tylwyth y Seffuffamiaid : o Huffam , tylwyth yr Huffamiaid . A meibion Bela oedd , Ard a Naaman : o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid : o Naaman , tylwyth y Naamaniaid . Dyma feibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd : dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant . Dyma feibion Dan , yn ôl eu teuluoedd . O Suham , tylwyth y Suhamiaid . Dyma dylwyth Dan , yn ôl eu teuluoedd . A holl dylwyth y Suhamiaid oedd , yn ôl eu rhifedigion , bedair mil a thrigain a phedwar cant . Meibion Aser , wrth eu teuluoedd , oedd ; o Jimna , tylwyth y Jimniaid : o Jesui , tylwyth y Jesuiaid : o Bereia tylwyth y Bereiaid . O feibion Bereia , yr oedd ; o Heber , tylwyth yr Heberiaid : o Malciel , tylwyth y Malcieliaid . Ac enw merch Aser ydoedd Sara . Dyma deuluoedd meibion Aser , yn ôl eu rhifedigion ; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant . Meibion Nafftali , wrth eu teuluoedd oedd ; o Jahseel , tylwyth y Jahseeliaid : o Guni , tylwyth y Guniaid : O Jeser , tylwyth y Jeseriaid : o Silem , tylwyth y Silemiaid . Dyma dylwyth Nafftali , yn ôl eu teuluoedd , dan eu rhif ; pum mil a deugain a phedwar cant . Dyma rifedigion meibion Israel ; chwe chan mil , a mil saith gant a deg ar hugain . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth , yn ôl rhifedi yr enwau . I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth , ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth : rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion . Eto wrth goelbren y rhennir y tir : wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth , rhwng llawer ac ychydig . A dyma rifedigion y Lefiaid , wrth eu teuluoedd . O Gerson , tylwyth y Gersoniaid : o Cohath , tylwyth y Cohathiaid : o Merari , tylwyth y Merariaid . Dyma dylwythau y Lefiaid . Tylwyth y Libniaid , tylwyth yr Hebroniaid , tylwyth y Mahliaid , tylwyth y Musiaid , tylwyth y Corathiaid : Cohath hefyd a genhedlodd Amram . Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed , merch Lefi , yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft : a hi a ddug i Amram , Aaron a Moses , a Miriam eu chwaer hwynt . A ganed i Aaron , Nadab ac Abihu , Eleasar ac Ithamar . A bu farw Nadab ac Abihu , pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd . A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain ; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod : canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel , am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel . Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad , y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad , pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai . Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt , Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch . Ac ni adawsid ohonynt un , ond Caleb mab Jeffunne , a Josua mab Nun . Yna y daeth merched Salffaad , mab Heffer , mab Gilead , mab Machir , mab Manasse , o dylwyth Manasse mab Joseff ; ( a dyma enwau ei ferched ef ; Mala , Noa , Hogla , Milca , a Tirsa ; ) Ac a safasant gerbron Moses , a cherbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron y penaethiaid , a’r holl gynulleidfa , wrth ddrws pabell y cyfarfod , gan ddywedyd , Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch ; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora , ond yn ei bechod ei hun y bu farw ; ac nid oedd meibion iddo . Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth , am nad oes iddo fab ? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad . A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn ; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad : trosa iddynt etifeddiaeth eu tad . Llefara hefyd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan fyddo marw un , ac heb fab iddo , troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch . Ac oni bydd merch iddo , rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr . Ac oni bydd brodyr iddo ; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad . Ac oni bydd brodyr i’w dad ; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth ; a meddianned hwnnw hi : a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Dring i’r mynydd Abarim hwn , a gwêl y tir a roddais i feibion Israel . Ac wedi i ti ei weled , tithau a gesglir at dy bobl , fel y casglwyd Aaron dy frawd . Canys yn anialwch Sin , wrth gynnen y gynulleidfa , y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair , i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt : dyma ddwfr cynnen Cades , yn anialwch Sin . A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Gosoded yr Arglwydd , Duw ysbrydion pob cnawd , un ar y gynulleidfa , Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt , ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt , a’r hwn a’u dygo hwynt allan , ac a’u dygo hwynt i mewn ; fel na byddo cynulleidfa’r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Cymer atat Josua mab Nun , y gŵr y mae yr ysbryd ynddo , a gosod dy law arno ; A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron yr holl gynulleidfa ; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt . A dod o’th ogoniant di arno ef , fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno . A safed gerbron Eleasar yr offeiriad , yr hwn a ofyn gyngor drosto ef , yn ôl barn Urim , gerbron yr Arglwydd : wrth ei air ef yr ânt allan , ac wrth ei air ef y deuant i mewn , efe a holl feibion Israel gydag ef , a’r holl gynulleidfa . A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo : ac a gymerodd Josua , ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad , a cherbron yr holl gynulleidfa . Ac efe a osododd ei ddwylo arno , ac a roddodd orchymyn iddo ; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , a dywed wrthynt , Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm , a’m bara i’m hebyrth tanllyd , o arogl peraidd yn eu tymor . A dywed wrthynt , Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd . Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl , bob dydd , yn boethoffrwm gwastadol . Un oen a offrymi di y bore , a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr ; A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig . Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai , yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen : pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd , yn y cysegr . Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr : megis bwyd‐offrwm y bore , a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef , yn aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd . Ac ar y dydd Saboth , dau oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl , a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , a’i ddiod‐offrwm . Dyma boethoffrwm pob Saboth , heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch , yn boethoffrwm i’r Arglwydd , ddau o fustych ieuainc , ac un hwrdd , a saith oen blwyddiaid , perffaith‐gwbl A thair degfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob bustach ; a dwy ddegfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob hwrdd ; A phob yn ddegfed ran o beilliaid , yn fwyd‐offrwm , wedi ei gymysgu trwy olew , gyda phob oen , yn offrwm poeth o arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach , a thrydedd ran hin gyda hwrdd , a phedwaredd ran hin o win gydag oen . Dyma boethoffrwm mis yn ei fis , trwy fisoedd y flwyddyn . Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd : heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef , a’i ddiod‐offrwm . Ac yn y mis cyntaf , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , y bydd Pasg yr Arglwydd . Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl : saith niwrnod y bwyteir bara croyw . Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd : na wnewch ddim caethwaith ynddo . Ond offrymwch yn aberth tanllyd , ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd , ddau o fustych ieuainc , ac un hwrdd , a saith oen blwyddiaid : byddant gennych yn berffaith‐gwbl . Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew : tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd , a offrymwch chwi ; Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen , o’r saith oen : Ac un bwch yn bech‐aberth , i wneuthur cymod drosoch . Heblaw poethoffrwm y bore , yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol , yr offrymwch hyn . Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod , fwyd‐aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd : heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch . Ac ar ddydd eich blaenffrwythau , pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd , wedi eich wythnosau , cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch . Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd , a saith oen blwyddiaid , yn boethoffrwm , o arogl peraidd i’r Arglwydd . A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda phob bustach , dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd ; Bob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Un bwch geifr , i wneuthur cymod drosoch . Heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , yr offrymwch hyn , ( byddant gennych yn berffaith‐gwbl , ) ynghyd â’u diod‐offrwm . Ac yn y seithfed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis , y bydd i chwi gymanfa sanctaidd ; dim caethwaith nis gwnewch : dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi . Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd ; un bustach ieuanc , un hwrdd , saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl : A’u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd ; Ac un ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth , i wneuthur cymod drosoch : Heblaw poethoffrwm y mis , a’i fwyd‐offrwm , a’r poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm hwynt , wrth eu defod hwynt , yn arogl peraidd , yn aberth tanllyd i’r Arglwydd . Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi : yna cystuddiwch eich eneidiau : dim gwaith nis gwnewch ynddo . Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd , yn arogl peraidd , un bustach ieuanc , un hwrdd , saith oen blwyddiaid : byddant berffaith‐gwbl gennych . A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew , tair degfed ran gyda bustach , a dwy ddegfed ran gyda hwrdd ; Bob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r saith oen : Un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw pech‐aberth y cymod , a’r poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’u diod‐offrymau . Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis , cymanfa sanctaidd fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch ; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod . Ac offrymwch offrwm poeth , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd ; tri ar ddeg o fustych ieuainc , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid : byddant berffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew ; tair degfed ran gyda phob bustach , o’r tri bustach ar ddeg ; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd , o’r ddau hwrdd ; A phob yn ddegfed ran gyda phob oen , o’r pedwar oen ar ddeg : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr , yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm a’u diod‐offrymau . Ac ar y trydydd dydd , un bustach ar ddeg , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl : A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y pedwerydd dydd , deng mustach , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl : Eu bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch geifr yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y pumed dydd , naw bustach , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod ; Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , a’i fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y chweched dydd , wyth o fustych , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ac ar y seithfed dydd , saith o fustych , dau hwrdd , pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . A’u bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustych , gyda’r hyrddod , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth eu defod : Ac un bwch yn bech‐aberth ; heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Ar yr wythfed dydd , uchel ŵyl fydd i chwi : dim caethwaith nis gwnewch ynddo . Ond offrymwch offrwm poeth , aberth tanllyd , o arogl peraidd i’r Arglwydd ; un bustach , un hwrdd , saith o ŵyn blwyddiaid , perffaith‐gwbl . Eu bwyd‐offrwm , a’u diod‐offrwm , gyda’r bustach , a chyda’r hwrdd , a chyda’r ŵyn , fydd yn ôl eu rhifedi , wrth y ddefod : Ac un bwch yn bech‐aberth : heblaw y poethoffrwm gwastadol , ei fwyd‐offrwm , a’i ddiod‐offrwm . Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau ; heblaw eich addunedau , a’ch offrymau gwirfodd , gyda’ch offrymau poeth , a’ch offrymau bwyd , a’ch offrymau diod , a’ch offrymau hedd . A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd . Os adduneda gŵr adduned i’r Arglwydd , neu dyngu llw , gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun ; na haloged ei air : gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau . Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd , a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad , yn ei hieuenctid ; A chlywed o’i thad ei hadduned , a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid , a thewi o’i thad wrthi : yna safed ei holl addunedau ; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid , a saif . Ond os ei thad a bair iddi dorri , ar y dydd y clywo efe ; o’i holl addunedau , a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid , ni saif un : a maddau yr Arglwydd iddi , o achos mai ei thad a barodd iddi dorri . Ac os hi oedd yn eiddo gŵr , pan addunedodd , neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi ; A chlywed o’i gŵr , a thewi wrthi y dydd y clywo : yna safed ei haddunedau ; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid , a safant . Ond os ei gŵr , ar y dydd y clywo , a bair iddi dorri ; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni , a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid : a’r Arglwydd a faddau iddi . Ond adduned y weddw , a’r ysgaredig , yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid , a saif arni . Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd , neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw ; A chlywed o’i gŵr , a thewi wrthi , heb beri iddi dorri : yna safed ei holl addunedau ; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid , a saif . Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo ; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau , o’i haddunedau , ac o rwymedigaeth ei henaid : ei gŵr a’u diddymodd hwynt ; a’r Arglwydd a faddau iddi . Pob adduned , a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio’r enaid , ei gŵr a’i cadarnha , a’i gŵr a’i diddyma . Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd ; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau , neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni : cadarnhaodd hwynt , pan dawodd wrthi , y dydd y clybu efe hwynt . Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed ; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi . Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , rhwng gŵr a’i wraig , a rhwng tad a’i ferch , yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Dial feibion Israel ar y Midianiaid : wedi hynny ti a gesglir at dy bobl . A llefarodd Moses wrth y bobl , gan ddywedyd , Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel , ac ânt yn erbyn Midian , i roddi dial yr Arglwydd ar Midian . Mil o bob llwyth , o holl lwythau Israel , a anfonwch i’r rhyfel . A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth , sef deuddeng mil , o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel . Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel , mil o bob llwyth : hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad , a anfonodd efe i’r rhyfel , â dodrefn y cysegr , a’r utgyrn i utganu yn ei law . A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian , megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ; ac a laddasant bob gwryw . Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy , gyda’u lladdedigion eraill : sef Efi , a Recem , a Sur , a Hur , a Reba , pum brenin Midian : Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf . Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian , a’u plant ; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt , a’u holl dda hwynt , a’u holl olud hwynt . Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau , a’u holl dyrau , a losgasant â thân . A chymerasant yr holl ysbail , a’r holl gaffaeliad , o ddyn ac o anifail . Ac a ddygasant at Moses , ac at Eleasar yr offeiriad , ac at gynulleidfa meibion Israel , y carcharorion , a’r caffaeliad , a’r ysbail , i’r gwersyll , yn rhosydd Moab , y rhai ydynt wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad , a holl benaduriaid y gynulleidfa , a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin , capteiniaid y miloedd , a chapteiniaid y cannoedd , y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel . A dywedodd Moses wrthynt , A adawsoch chwi bob benyw yn fyw ? Wele , hwynt , trwy air Balaam , a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor ; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd . Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn ; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr , trwy orwedd gydag ef . A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr , cedwch yn fyw i chwi . Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod : pob un a laddodd ddyn , a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig , ymlanhewch y trydydd dydd , a’r seithfed dydd , chwi a’ch carcharorion . Pob gwisg hefyd , a phob dodrefnyn croen , a phob gwaith o flew geifr , a phob llestr pren , a lanhewch chwi . A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel , Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses : Yn unig yr aur , a’r arian , y pres , yr haearn , yr alcam , a’r plwm ; Pob dim a ddioddefo dân , a dynnwch trwy’r tân , a glân fydd ; ac eto efe a lanheir â’r dwfr neilltuaeth : a’r hyn oll ni ddioddefo dân , tynnwch trwy y dwfr yn unig . A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd , a glân fyddwch ; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Cymer nifer yr ysbail a gaed , o ddyn ac o anifail , ti ac Eleasar yr offeiriad , a phennau‐cenedl y gynulleidfa : A rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran ; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth , a’r holl gynulleidfa . A chyfod deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth ; un enaid o bob pum cant o’r dynion , ac o’r eidionau , ac o’r asynnod , ac o’r defaid . Cymerwch hyn o’u hanner hwynt , a dyro i Eleasar yr offeiriad , yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd . Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain , o’r dynion , o’r eidionau , o’r asynnod , ac o’r defaid , ac o bob anifail , a dod hwynt i’r Lefiaid , y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd . A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses . A’r caffaeliad , sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth , oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid , A deuddeg a thrigain mil o eidionau , Ac un fil a thrigain o asynnod , Ac o ddynion , o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr , trwy orwedd gydag ef , ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau . A’r hanner , sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel , oedd , o rifedi defaid , dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd , a phum cant ; A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain . A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain . A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain . A’r dynion oedd un fil ar bymtheg ; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain . A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad , megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac o ran meibion Israel , yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr , Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid , oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd , a phum cant ; Ac o’r eidionau , un fil ar bymtheg ar hugain ; Ac o’r asynnod , deng mil ar hugain a phum cant ; Ac o’r dynion , un fil ar bymtheg . Ie , cymerodd Moses o hanner meibion Israel , un rhan o bob deg a deugain , o’r dynion , ac o’r anifeiliaid , ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd ; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r swyddogion , y rhai oedd ar filoedd y llu , a ddaethant at Moses , sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd : A dywedasant wrth Moses , Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni ; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom . Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd , pob un yr hyn a gafodd , yn offerynnau aur , yn gadwynau , yn freichledau , yn fodrwyau , yn glustlysau , ac yn dorchau , i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd . A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt , y dodrefn gweithgar oll . Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael , yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd , oddi wrth gapteiniaid y miloedd , ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd , yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau . ( Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun . ) A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd , ac a’i dygasant i babell y cyfarfod , yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd . Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben , a llawer iawn i feibion Gad : a gwelsant dir Jaser , a thir Gilead ; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid . A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant , ac a ddywedasant wrth Moses , ac wrth Eleasar yr offeiriad , ac wrth benaduriaid y gynulleidfa , gan ddywedyd , Atoroth , a Dibon , a Jaser , a Nimra , a Hesbon , ac Eleale , a Sebam , a Nebo , a Beon , Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel , tir i anifeiliaid yw efe ; ac y mae i’th weision anifeiliaid . A dywedasant , Os cawsom ffafr yn dy olwg , rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant : na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen . A dywedodd Moses wrth feibion Gad , ac wrth feibion Reuben , A â eich brodyr i’r rhyfel , ac a eisteddwch chwithau yma ? A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt ? Felly y gwnaeth eich tadau , pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir . Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol , a gwelsant y tir ; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt . Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw ; ac efe a dyngodd , gan ddywedyd , Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft , o fab ugain mlwydd ac uchod , weled y tir a addewais trwy lw i Abraham , i Isaac , ac i Jacob : am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i : Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad , a Josua mab Nun ; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd . Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd , nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd . Ac wele , chwi a godasoch yn lle eich tadau , yn gynnyrch dynion pechadurus , i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel . Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef ; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch , a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn . A hwy a ddaethant ato ef , ac a ddywedasant , Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid , a dinasoedd i’n plant . A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel , hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun ; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog , rhag trigolion y tir . Ni ddychwelwn ni i’n tai , nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth . Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen , ac oddi yno allan ; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen , tua’r dwyrain . A dywedodd Moses wrthynt , Os gwnewch y peth hyn , os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd , Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd , nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen , A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd ; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd , a cherbron Israel ; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd . Ond os chwi ni wna fel hyn ; wele , pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd : a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi . Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant , a chorlannau i’ch defaid ; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau . A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses , gan ddywedyd , Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn . Ein plant , ein gwragedd , ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid , fyddant yma yn ninasoedd Gilead . A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel , pob un yn arfog i’r filwriaeth , megis y mae fy arglwydd yn llefaru . A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad , ac i Josua mab Nun , ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel , o’u plegid hwynt : A dywedodd Moses wrthynt , Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi , pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd , a darostwng y wlad o’ch blaen ; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth : Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion , cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan . A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant , gan ddywedyd , Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision , felly y gwnawn ni . Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd , fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni . A rhoddodd Moses iddynt , sef i feibion Gad , ac i feibion Reuben , ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff , frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid , a brenhiniaeth Og brenin Basan , y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau , sef dinasoedd y wlad oddi amgylch . A meibion Gad a adeiladasant Dibon , ac Ataroth , ac Aroer , Ac Atroth , Soffan , a Jaaser , a Jogbea , A Beth‐nimra , a Beth‐haran , dinasoedd caerog ; a chorlannau defaid . A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon , Eleale , a Chiriathaim ; Nebo hefyd , a Baal‐meon , ( wedi troi eu henwau , ) a Sibma : ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant . A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead , ac a’i henillasant hi , ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi . A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse ; ac efe a drigodd ynddi . Ac aeth Jair mab Manasse , ac a enillodd eu pentrefydd hwynt , ac a’u galwodd hwynt Hafoth‐Jair . Ac aeth Noba , ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd , ac a’i galwodd ar ei enw ei hun , Noba . Dyma deithiau meibion Israel , y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft , yn eu lluoedd , dan law Moses ac Aaron . A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau , wrth orchymyn yr Arglwydd : a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan . A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf , ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf : trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll . ( A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig , y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg ; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd . ) A meibion Israel a gychwynasant o Rameses , ac a wersyllasant yn Succoth . A chychwynasant o Succoth , a gwersyllasant yn Etham , yr hon sydd yng nghwr yr anialwch . A chychwynasant o Etham , a throesant drachefn i Pi‐hahiroth , yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon ; ac a wersyllasant o flaen Migdol . A chychwynasant o Pi‐hahiroth , ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch ; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham , a gwersyllasant ym Mara . A chychwynasant o Mara , a daethant i Elim ; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr , a deg a thrigain o balmwydd ; a gwersyllasant yno . A chychwynasant o Elim , a gwersyllasant wrth y môr coch . A chychwynasant oddi wrth y môr coch , a gwersyllasant yn anialwch Sin . Ac o anialwch Sin y cychwynasant , ac y gwersyllasant yn Doffca . A chychwynasant o Doffca , a gwersyllasant yn Alus . A chychwynasant o Alus , a gwersyllasant yn Reffidim , lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed . A chychwynasant o Reffidim , a gwersyllasant yn anialwch Sinai . A chychwynasant o anialwch Sinai , a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa . A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa , a gwersyllasant yn Haseroth . A chychwynasant o Haseroth , a gwersyllasant yn Rithma . A chychwynasant o Rithma , a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares . A chychwynasant o Rimmon‐Pares , a gwersyllasant yn Libna . A chychwynasant o Libna , a gwersyllasant yn Rissa . A chychwynasant o Rissa , a gwersyllasant yn Cehelatha . A chychwynasant o Cehelatha , a gwersyllasant ym mynydd Saffer . A chychwynasant o fynydd Saffer , a gwersyllasant yn Harada . A chychwynasant o Harada , a gwersyllasant ym Maceloth . A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath . A chychwynasant o Tahath , a gwersyllasant yn Tara . A chychwynasant o Tara , a gwersyllasant ym Mithca . A chychwynasant o Mithca , a gwersyllasant yn Hasmona . A chychwynasant o Hasmona , a gwersyllasant ym Moseroth . A chychwynasant o Moseroth , a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan . A chychwynasant o Bene‐Jaacan , a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad . A chychwynasant o Hor‐hagidgad , a gwersyllasant yn Jotbatha . A chychwynasant o Jotbatha , a gwersyllasant yn Ebrona . A chychwynasant o Ebrona , a gwersyllasant yn Esion‐Gaber . A chychwynasant o Esion‐Gaber , a gwersyllasant yn anialwch Sin ; hwnnw yw Cades . A chychwynasant o Cades , a gwersyllasant ym mynydd Hor , yng nghwr tir Edom . Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor , wrth orchymyn yr Arglwydd ; ac a fu farw yno , yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft , yn y pumed mis , ar y dydd cyntaf o’r mis . Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor . A’r brenin Arad , y Canaanead , yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan , a glybu am ddyfodiad meibion Israel . A chychwynasant o fynydd Hor , a gwersyllasant yn Salmona . A chychwynasant o Salmona , a gwersyllasant yn Punon , A chychwynasant o Punon , a gwersyllasant yn Oboth . A chychwynasant o Oboth , a gwersyllasant yn Ije‐Abarim , ar derfyn Moab . A chychwynasant o Ije‐Abarim , a gwersyllasant yn Dibon‐Gad . A chychwynasant o Dibon‐Gad , a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim . A chychwynasant o Almon‐Diblathaim , a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim , o flaen Nebo . A chychwynasant o fynyddoedd Abarim , a gwersyllasant yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho . A gwersyllasant wrth yr Iorddonen , o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim , yn rhosydd Moab . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , ar gyfer Jericho , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen , i dir Canaan ; Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen , a dinistriwch eu holl luniau hwynt ; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd , a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt . A goresgynnwch y tir , a thrigwch ynddo : canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi . Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren ; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth , ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth : bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo ; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch . Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen ; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid , ac yn ddrain yn eich ystlysau , a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo . A bydd , megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy , y gwnaf i chwi . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Gorchymyn i feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan ddeloch chwi i dir Canaan , ( dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth , sef gwlad Canaan a’i therfynau , ) A’ch tu deau fydd o anialwch Sin , gerllaw Edom : a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua’r dwyrain . A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau i riw Acrabbim , ac a â trosodd i Sin ; a’i fynediad allan fydd o’r deau i Cades‐Barnea , ac a â allan i Hasar‐Adar , a throsodd i Asmon : A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft ; a’i fynediad ef allan a fydd tua’r gorllewin . A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi ; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin . A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi : o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor . O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath ; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad . A’r terfyn a â allan tua Siffron ; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan : hwn fydd terfyn y gogledd i chwi . A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam . Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla , ar du dwyrain Ain ; a disgynned y terfyn , ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua’r dwyrain . A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen ; a’i ddiwedd fydd y môr heli . Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch . A gorchmynnodd Moses i feibion Israel , gan ddywedyd , Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren , yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth , ac i’r hanner llwyth . Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau , a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau , a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau , a hanner llwyth Manasse , cymerasant , meddaf , eu hetifeddiaeth . Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen , yn agos i Jericho , tua’r dwyrain a chodiad haul . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses , gan ddywedyd , Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi : Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun . Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch , i rannu y tir yn etifeddiaethau . Ac fel dyma enwau y gwŷr : o lwyth Jwda , Caleb mab Jeffunne . Ac o lwyth meibion Simeon , Semuel mab Ammihud . O lwyth Benjamin , Elidad mab Cislon . A Bucci mab Jogli , yn bennaeth o lwyth meibion Dan . O feibion Joseff , Haniel mab Effod , yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse . Cemuel hefyd mab Sifftan , yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim . Ac Elisaffan mab Pharnach , yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon . Paltiel hefyd mab Assan , yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar . Ac Ahihud mab Salomi , yn bennaeth dros lwyth meibion Aser . Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali , Pedahel mab Ammihud . Dyma y rhai a orchmynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel , yn nhir Canaan . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , yn agos i Jericho , gan ddywedyd Gorchymyn i feibion Israel , roddi ohonynt i’r Lefiaid , o etifeddiaeth eu meddiant , ddinasoedd i drigo ynddynt : rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch . A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt ; a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hanifeiliaid , ac i’w cyfoeth , ac i’w holl fwystfilod . A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid , a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan , fil o gufyddau o amgylch . A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas , o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau , a thua’r deau ddwy fil o gufyddau , a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau , a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau ; a’r ddinas fydd yn y canol : hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd . Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid , bydded chwech yn ddinasoedd noddfa , y rhai a roddwch , fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno : a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg . Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid , fyddant wyth ddinas a deugain , hwynt a’u pentrefol feysydd . A’r dinasoedd y rhai a roddwch , fydd o feddiant meibion Israel : oddi ar yr aml eu dinasoedd , y rhoddwch yn aml ; ac oddi ar y prin , y rhoddwch yn brin : pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant , a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd . A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , a dywed wrthynt , Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan ; Yna gosodwch i chwi ddinasoedd ; dinasoedd noddfa fyddant i chwi : ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd . A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd ; fel na ladder y llawruddiog , hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn . Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch , chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa . Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddonen , a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan : dinasoedd noddfa fyddant hwy . I feibion Israel , ac i’r dieithr , ac i’r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg , y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa ; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd , ffoi yno . Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef , fel y bu farw , llawruddiog yw efe : lladder y llawruddiog yn farw . Ac os â charreg law , yr hon y byddai efe farw o’i phlegid , y trawodd ef , a’i farw ; llawruddiog yw efe ; lladder y llawruddiog yn farw . Neu os efe a’i trawodd ef â llawffon , yr hon y byddai efe farw o’i phlegid , a’i farw ; llawruddiog yw efe : lladder y llawruddiog yn farw . Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef , efe a’i lladd ef . Ac os mewn cas y gwthia efe ef , neu y teifl ato mewn bwriad , fel y byddo efe farw ; Neu ei daro ef â’i law , mewn galanastra , fel y byddo farw : lladder yn farw yr hwn a’i trawodd ; llofrudd yw hwnnw : dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef . Ond os yn ddisymwth , heb alanastra , y gwthia efe ef , neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad ; Neu ei daro ef â charreg , y byddai efe farw o’i phlegid , heb ei weled ef ; a pheri iddi syrthio arno , fel y byddo farw , ac efe heb fod yn elyn , ac heb geisio niwed iddo ef : Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed , yn ôl y barnedigaethau hyn . Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed , a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa , yr hon y ffodd efe iddi : a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad , yr hwn a eneiniwyd â’r olew cysegredig . Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa , yr hon y ffodd efe iddi ; A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa , a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd ; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn : Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo , hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth . A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau , yn eich holl drigfannau . Pwy bynnag a laddo ddyn , wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd : ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn , i beri iddo farw . Hefyd , na chymerwch iawn am einioes y llofrudd , yr hwn sydd euog i farw ; ond lladder ef yn farw . Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa , er cael dychwelyd i drigo yn y tir , hyd farwolaeth yr offeiriad ; Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo ; canys y gwaed hwn a haloga’r tir : a’r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno , ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd . Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo , yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol : canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel . Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead , mab Machir , mab Manasse , o dylwyth meibion Joseff , a ddaethant hefyd , ac a lefarasant gerbron Moses , a cherbron y penaduriaid , sef pennau‐cenedl meibion Israel ; Ac a ddywedasant , Yr Arglwydd a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren : a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd , i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched . Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel ; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni , ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt : a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni . A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel , yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt : a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni . A gorchmynnodd Moses i feibion Israel , yn ôl gair yr Arglwydd , gan ddywedyd , Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn . Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad , gan ddywedyd , Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun ; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd . Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth : canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun . A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel , a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun ; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun . Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall ; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun . Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses , felly y gwnaeth merched Salffaad . Canys Mala , Tirsa , a Hogla , a Milca , a Noa , merched Salffaad , fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd . I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd ; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad . Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Israel , trwy law Moses , yn rhosydd Moab , wrth yr Iorddonen , yn agos i Jericho . </passage></reply></GetPassage>