<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:40</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:40</urn><passage>Llyfr cenhedliad Iesu Grist , fab Dafydd , fab Abraham . Abraham a genhedlodd Isaac ; ac Isaac a genhedlodd Jacob ; a Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr ; A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar ; a Phares a genhedlodd Esrom ; ac Esrom a genhedlodd Aram ; Ac Aram a genhedlodd Aminadab ; ac Aminadab a genhedlodd Naason ; a Naason a genhedlodd Salmon ; A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab ; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth ; ac Obed a genhedlodd Jesse ; A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin ; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias ; A Solomon a genhedlodd Roboam ; a Roboam a genhedlodd Abeia ; ac Abeia a genhedlodd Asa ; Ac Asa a genhedlodd Josaffat ; a Josaffat a genhedlodd Joram ; a Joram a genhedlodd Oseias ; Ac Oseias a genhedlodd Joatham ; a Joatham a genhedlodd Achas ; ac Achas a genhedlodd Eseceias ; Ac Eseceias a genhedlodd Manasses ; a Manasses a genhedlodd Amon ; ac Amon a genhedlodd Joseias ; A Joseias a genhedlodd Jechoneias a’i frodyr , ynghylch amser y symudiad i Fabilon ; Ac wedi’r symudiad i Fabilon , Jechoneias a genhedlodd Salathiel ; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel ; A Sorobabel a genhedlodd Abïud ; ac Abïud a genhedlodd Eliacim ; ac Eliacim a genhedlodd Asor ; Ac Asor a genhedlodd Sadoc ; a Sadoc a genhedlodd Achim ; ac Achim a genhedlodd Elïud ; Ac Elïud a genhedlodd Eleasar ; ac Eleasar a genhedlodd Mathan ; a Mathan a genhedlodd Jacob ; A Jacob a genhedlodd Joseff , gŵr Mair , o’r hon y ganed Iesu , yr hwn a elwir Crist . Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd , sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg ; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon , pedair cenhedlaeth ar ddeg ; ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist , pedair cenhedlaeth ar ddeg . A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn : Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff , cyn eu dyfod hwy ynghyd , hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân . A Joseff ei gŵr hi , gan ei fod yn gyfiawn , ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl , a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel . Ac efe yn meddwl y pethau hyn , wele , angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd , gan ddywedyd , Joseff , mab Dafydd , nac ofna gymryd Mair dy wraig : oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân . A hi a esgor ar fab , a thi a elwi ei enw ef IESU : oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau . ( A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , Wele , morwyn a fydd feichiog , ac a esgor ar fab ; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Duw gyda ni . ) A Joseff , pan ddeffroes o gwsg , a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo , ac a gymerodd ei wraig : Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig . A galwodd ei enw ef IESU . Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea , yn nyddiau Herod frenin , wele , doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem , Gan ddywedyd , Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon ? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain , a daethom i’w addoli ef . Ond pan glybu Herod frenin , efe a gyffrowyd , a holl Jerwsalem gydag ef . A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl , efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist . A hwy a ddywedasant wrtho , Ym Methlehem Jwdea : canys felly yr ysgrifennwyd trwy’r proffwyd ; A thithau , Bethlehem , tir Jwda , nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda : canys ohonot ti y daw Tywysog , yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel . Yna Herod , wedi galw y doethion yn ddirgel , a’u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren . Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem , efe a ddywedodd , Ewch , ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan ; a phan gaffoch ef , mynegwch i mi , fel y gallwyf finnau ddyfod a’i addoli ef . Hwythau , wedi clywed y brenin , a aethant ; ac wele , y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy , hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan . A phan welsant y seren , llawenychasant â llawenydd mawr dros ben . A phan ddaethant i’r tŷ , hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam ; a hwy a syrthiasant i lawr , ac a’i haddolasant ef : ac wedi agoryd eu trysorau , a offrymasant iddo anrhegion ; aur , a thus , a myrr . Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd , na ddychwelent at Herod , hwy a aethant drachefn i’w gwlad ar hyd ffordd arall . Ac wedi iddynt ymado , wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd , gan ddywedyd , Cyfod , cymer y mab bychan a’i fam , a ffo i’r Aifft , a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti : canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef . Ac yntau pan gyfododd , a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos , ac a giliodd i’r Aifft ; Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod : fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , O’r Aifft y gelwais fy mab . Yna Herod , pan weles ei siomi gan y doethion , a ffromodd yn aruthr , ac a ddanfonodd , ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem , ac yn ei holl gyffiniau , o ddwyflwydd oed a than hynny , wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion . Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd , gan ddywedyd , Llef a glybuwyd yn Rama , galar , ac wylofain , ac ochain mawr , Rachel yn wylo am ei phlant ; ac ni fynnai ei chysuro , am nad oeddynt . Ond wedi marw Herod , wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft , Gan ddywedyd , Cyfod , a chymer y mab bychan a’i fam , a dos i dir Israel : canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw . Ac wedi ei gyfodi , efe a gymerth y mab bychan a’i fam , ac a ddaeth i dir Israel . Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod , efe a ofnodd fyned yno . Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd , efe a giliodd i barthau Galilea . A phan ddaeth , efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth : fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwydi , Y gelwid ef yn Nasaread . Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr , gan bregethu yn niffeithwch Jwdea , A dywedyd , Edifarhewch : canys nesaodd teyrnas nefoedd . Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd ; gwnewch yn union ei lwybrau ef . A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel , a gwregys o groen ynghylch ei lwynau : a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt . Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem , a holl Jwdea , a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen : A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen , gan gyffesu eu pechodau . A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef , efe a ddywedodd wrthynt hwy , O genhedlaeth gwiberod , pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd ? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch . Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain , Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y dichon Duw , ie , o’r meini hyn , gyfodi plant i Abraham . Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau : pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da , a dorrir i lawr , ac a deflir yn tân . Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch : eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , sydd gryfach na myfi , yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau : efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân , ac â thân . Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law , ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu , ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor ; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy . Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan , i’w fedyddio ganddo . Eithr Ioan a warafunodd iddo ef , gan ddywedyd , Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti , ac a ddeui di ataf fi ? Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Gad yr awr hon ; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder . Yna efe a adawodd iddo . A’r Iesu , wedi ei fedyddio , a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr : ac wele , y nefoedd a agorwyd iddo , ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen , ac yn dyfod arno ef . Ac wele lef o’r nefoedd , yn dywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd . Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd , i’w demtio gan ddiafol . Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos , ar ôl hynny efe a newynodd . A’r temtiwr pan ddaeth ato , a ddywedodd , Os mab Duw wyt ti , arch i’r cerrig hyn fod yn fara . Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Ysgrifennwyd , Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn , ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw . Yna y cymerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd , ac a’i gosododd ef ar binacl y deml ; Ac a ddywedodd wrtho , Os mab Duw wyt ti , bwrw dy hun i lawr ; canys ysgrifennwyd , Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat ; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo , rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ysgrifennwyd drachefn , Na themtia yr Arglwydd dy Dduw . Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel , ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd , a’u gogoniant ; Ac a ddywedodd wrtho , Hyn oll a roddaf i ti , os syrthi i lawr a’m haddoli i . Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ymaith , Satan ; canys ysgrifennwyd , Yr Arglwydd dy Dduw a addoli , ac ef yn unig a wasanaethi . Yna y gadawodd diafol ef : ac wele , angylion a ddaethant , ac a weiniasant iddo . A phan glybu’r Iesu draddodi Ioan , efe a aeth i Galilea . A chan ado Nasareth , efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum , yr hon sydd wrth y môr , yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali : Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Tir Sabulon , a thir Neffthali , wrth ffordd y môr , tu hwnt i’r Iorddonen , Galilea’r Cenhedloedd : Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch , a welodd oleuni mawr ; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau , y cyfododd goleuni iddynt . O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu , a dywedyd , Edifarhewch : canys nesaodd teyrnas nefoedd . A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea , efe a ganfu ddau frodyr , Simon , yr hwn a elwir Pedr , ac Andreas ei frawd , yn bwrw rhwyd i’r môr ; canys pysgodwyr oeddynt : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch ar fy ôl i , a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion . A hwy yn y fan , gan adael y rhwydau , a’i canlynasant ef . Ac wedi myned rhagddo oddi yno , efe a welodd ddau frodyr eraill , Iago fab Sebedeus , ac Ioan ei frawd , mewn llong gyda Sebedeus eu tad , yn cyweirio eu rhwydau ; ac a’u galwodd hwy . Hwythau yn ebrwydd , gan adael y llong a’u tad , a’i canlynasant ef . A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea , gan ddysgu yn eu synagogau , a phregethu efengyl y deyrnas , ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl . Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria ; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl , a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala , a’r rhai cythreulig , a’r rhai lloerig , a’r sawl oedd â’r parlys arnynt ; ac efe a’u hiachaodd hwynt . A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea , a Decapolis , a Jerwsalem , a Jwdea , ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen . A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd , efe a esgynnodd i’r mynydd : ac wedi iddo eistedd , ei ddisgyblion a ddaethant ato . Ac efe a agorodd ei enau , ac a’u dysgodd hwynt , gan ddywedyd , Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd : canys eiddynt yw teyrnas nefoedd . Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru : canys hwy a ddiddenir . Gwyn eu byd y rhai addfwyn : canys hwy a etifeddant y ddaear . Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder : canys hwy a ddiwellir . Gwyn eu byd y rhai trugarogion : canys hwy a gânt drugaredd . Gwyn eu byd y rhai pur o galon : canys hwy a welant Dduw . Gwyn eu byd y tangnefeddwyr : canys hwy a elwir yn blant i Dduw . Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder : canys eiddynt yw teyrnas nefoedd . Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant , ac y’ch erlidiant , ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i , a hwy yn gelwyddog . Byddwch lawen a hyfryd : canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd : oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi . Chwi yw halen y ddaear : eithr o diflasodd yr halen , â pha beth yr helltir ef ? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan , a’i sathru gan ddynion . Chwi yw goleuni’r byd . Dinas a osodir ar fryn , ni ellir ei chuddio . Ac ni oleuant gannwyll , a’i dodi dan lestr , ond mewn canhwyllbren ; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ . Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion , fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi , ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd . Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith , neu’r proffwydi : ni ddeuthum i dorri , ond i gyflawni . Canys yn wir meddaf i chwi , Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio , nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio , hyd oni chwblhaer oll . Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn , ac a ddysgo i ddynion felly , lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd : ond pwy bynnag a’u gwnelo , ac a’u dysgo i eraill , hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd . Canys meddaf i chwi , Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid , nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd . Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na ladd ; a phwy bynnag a laddo , euog fydd o farn : Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr , a fydd euog o farn : a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd , Raca , a fydd euog o gyngor : a phwy bynnag a ddywedo , O ynfyd , a fydd euog o dân uffern . Gan hynny , os dygi dy rodd i’r allor , ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn ; Gad yno dy rodd gerbron yr allor , a dos ymaith : yn gyntaf cymoder di â’th frawd , ac yna tyred ac offrwm dy rodd . Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys , tra fyddech ar y ffordd gydag ef ; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr , ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog , a’th daflu yng ngharchar . Yn wir meddaf i ti , Ni ddeui di allan oddi yno , hyd oni thalech y ffyrling eithaf . Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na wna odineb ; Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi , wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon . Ac os dy lygad deau a’th rwystra , tyn ef allan , a thafl oddi wrthyt : canys da i ti golli un o’th aelodau , ac na thafler dy holl gorff i uffern . Ac os dy law ddeau a’th rwystra , tor hi ymaith , a thafl oddi wrthyt : canys da i ti golli un o’th aelodau , ac na thafler dy holl gorff i uffern . A dywedwyd , Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , rhoed iddi lythyr ysgar : Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , ond o achos godineb , yn peri iddi wneuthur godineb : a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd , y mae efe yn gwneuthur godineb . Trachefn , clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt , Na thwng anudon ; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd : Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Na thwng ddim : nac i’r nef ; canys gorseddfa Duw ydyw : Nac i’r ddaear ; canys troedfainc ei draed ydyw : nac i Jerwsalem ; canys dinas y brenin mawr ydyw . Ac na thwng i’th ben ; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn , neu yn ddu . Eithr bydded eich ymadrodd chwi , Ie , ie ; Nage , nage ; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn , o’r drwg y mae . Clywsoch ddywedyd , Llygad am lygad , a dant am ddant : Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Na wrthwynebwch ddrwg : ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau , tro’r llall iddo hefyd . Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi , a dwyn dy bais , gad iddo dy gochl hefyd . A phwy bynnag a’th gymhello un filltir , dos gydag ef ddwy . Dyro i’r hwn a ofynno gennyt ; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt . Clywsoch ddywedyd , Câr dy gymydog , a chasâ dy elyn . Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi , Cerwch eich gelynion , bendithiwch y rhai a’ch melltithiant , gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt , a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi , ac a’ch erlidiant ; Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd : canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da , ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn . Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro , pa wobr sydd i chwi ? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth ? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig , pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur ? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly ? Byddwch chwi gan hynny yn berffaith , fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith . Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion , er mwyn cael eich gweled ganddynt : os amgen , ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd . Am hynny pan wnelych elusen , na utgana o’th flaen , fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau , ac ar yr heolydd , fel y molianner hwy gan ddynion . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Eithr pan wnelych di elusen , na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau ; Fel y byddo dy elusen yn y dirgel : a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel , efe a dâl i ti yn yr amlwg . A phan weddïech , na fydd fel y rhagrithwyr : canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau , ac yng nghonglau’r heolydd , fel yr ymddangosont i ddynion . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Ond tydi , pan weddïech , dos i’th ystafell ; ac wedi cau dy ddrws , gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel ; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel , a dâl i ti yn yr amlwg . A phan weddïoch , na fyddwch siaradus , fel y cenhedloedd : canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau . Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy : canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau , cyn gofyn ohonoch ganddo . Am hynny gweddïwch chwi fel hyn : Ein Tad , yr hwn wyt yn y nefoedd , Sancteiddier dy enw . Deled dy deyrnas . Gwneler dy ewyllys , megis yn y nef , felly ar y ddaear hefyd . Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol . A maddau i ni ein dyledion , fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr . Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; eithr gwared ni rhag drwg . Canys eiddot ti yw’r deyrnas , a’r nerth , a’r gogoniant , yn oes oesoedd . Amen . Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau , eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau : Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau , ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau . Hefyd , pan ymprydioch , na fyddwch fel y rhagrithwyr , yn wyneptrist : canys anffurfio eu hwynebau y maent , fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio . Yn wir meddaf i chwi , Y maent yn derbyn eu gwobr . Eithr pan ymprydiech di , eneinia dy ben , a golch dy wyneb ; Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio , ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel : a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel , a dâl i ti yn yr amlwg . Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear , lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru , a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata ; Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef , lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru , a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt . Canys lle y mae eich trysor , yno y bydd eich calon hefyd . Cannwyll y corff yw’r llygad : am hynny o bydd dy lygad yn syml , dy holl gorff fydd yn olau . Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg , dy holl gorff fydd yn dywyll . Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch , pa faint fydd y tywyllwch ! Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd ; canys naill ai efe a gasâ y naill , ac a gâr y llall ; ai efe a ymlŷn wrth y naill , ac a esgeulusa’r llall . Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon . Am hynny meddaf i chwi , Na ofelwch am eich bywyd , pa beth a fwytaoch , neu pa beth a yfoch ; neu am eich corff , pa beth a wisgoch . Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd , a’r corff yn fwy na’r dillad ? Edrychwch ar adar y nefoedd : oblegid nid ydynt yn hau , nac yn medi , nac yn cywain i ysguboriau ; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy . Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy ? A phwy ohonoch gan ofalu , a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli ? A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad ? Ystyriwch lili’r maes , pa fodd y maent yn tyfu ; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu : Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi , na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn . Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes , yr hwn sydd heddiw , ac yfory a fwrir i’r ffwrn , oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer , O chwi o ychydig ffydd ? Am hynny na ofelwch , gan ddywedyd , Beth a fwytawn ? neu , Beth a yfwn ? neu , A pha beth yr ymddilladwn ? ( Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio ; ) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn . Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw , a’i gyfiawnder ef , a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg . Na ofelwch gan hynny dros drannoeth : canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun . Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun . Na fernwch , fel na’ch barner : Canys â pha farn y barnoch , y’ch bernir ; ac â pha fesur y mesuroch , yr adfesurir i chwithau . A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd , ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd , Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad ; ac wele drawst yn dy lygad dy hun ? O ragrithiwr , bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun ; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd . Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn , ac na theflwch eich gemau o flaen y moch ; rhag iddynt eu sathru dan eu traed , a throi a’ch rhwygo chwi . Gofynnwch , a rhoddir i chwi ; ceisiwch , a chwi a gewch ; curwch , ac fe agorir i chwi : Canys pob un sydd yn gofyn , sydd yn derbyn ; a’r neb sydd yn ceisio , sydd yn cael ; ac i’r hwn sydd yn curo , yr agorir . Neu a oes un dyn ohonoch , yr hwn os gofyn ei fab iddo fara , a rydd iddo garreg ? Ac os gofyn efe bysgodyn , a ddyry efe sarff iddo ? Os chwychwi gan hynny , a chwi yn ddrwg , a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant , pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo ? Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi , felly gwnewch chwithau iddynt hwy : canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi . Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng : canys eang yw’r porth , a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw ; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi : Oblegid cyfyng yw’r porth , a chul yw’r ffordd , sydd yn arwain i’r bywyd ; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi . Ymogelwch rhag gau broffwydi , y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid , ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy . Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt . A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain , neu ffigys oddi ar ysgall ? Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da ; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg . Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg , na phren drwg ddwyn ffrwythau da . Pob pren heb ddwyn ffrwyth da , a dorrir i lawr , ac a deflir yn tân . Oherwydd paham , wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt . Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf , Arglwydd , Arglwydd , a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd ; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw , Arglwydd , Arglwydd , oni phroffwydasom yn dy enw di ? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di ? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di ? Ac yna yr addefaf wrthynt , Nid adnabûm chwi erioed : ewch ymaith oddi wrthyf , chwi weithredwyr anwiredd . Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn , ac yn eu gwneuthur , mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth , yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig : A’r glaw a ddisgynnodd , a’r llifeiriaint a ddaethant , a’r gwyntoedd a chwythasant , ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw ; ac ni syrthiodd : oblegid sylfaenesid ef ar y graig . A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn , ac heb eu gwneuthur , a gyffelybir i ŵr ffôl , yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod : A’r glaw a ddisgynnodd , a’r llifddyfroedd a ddaethant , a’r gwyntoedd a chwythasant , ac a gurasant ar y tŷ hwnnw ; ac efe a syrthiodd , a’i gwymp a fu fawr . A bu , wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn , y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef : Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo , ac nid fel yr ysgrifenyddion . Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd , torfeydd lawer a’i canlynasant ef . Ac wele , un gwahanglwyfus a ddaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , os mynni , ti a elli fy nglanhau i . A’r Iesu a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , gan ddywedyd , Mynnaf , glanhaer di . Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd . A dywedodd yr Iesu wrtho , Gwêl na ddywedych wrth neb ; eithr dos , dangos dy hun i’r offeiriad , ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt . Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum , daeth ato ganwriad , gan ddeisyfu arno , A dywedyd , Arglwydd , y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys , ac mewn poen ddirfawr . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Mi a ddeuaf , ac a’i hiachâf ef . A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd , Arglwydd , nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd : eithr yn unig dywed y gair , a’m gwas a iacheir . Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod , a chennyf filwyr danaf : a dywedaf wrth hwn , Cerdda , ac efe a â ; ac wrth arall , Tyred , ac efe a ddaw ; ac wrth fy ngwas , Gwna hyn , ac efe a’i gwna . A’r Iesu pan glybu , a ryfeddodd , ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn , Yn wir meddaf i chwi , Ni chefais gymaint ffydd , naddo yn yr Israel . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin , ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd : Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad , Dos ymaith ; ac megis y credaist , bydded i ti . A’i was a iachawyd yn yr awr honno . A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr , efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd , ac yn glaf o’r cryd . Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi ; a’r cryd a’i gadawodd hi : a hi a gododd , ac a wasanaethodd arnynt . Ac wedi ei hwyrhau hi , hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig : ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air , ac a iachaodd yr holl gleifion ; Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Efe a gymerodd ein gwendid ni , ac a ddug ein clefydau . A’r Iesu , pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch , a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall . A rhyw ysgrifennydd a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Athro , mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Y mae ffeuau gan y llwynogod , a chan ehediaid y nefoedd nythod ; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr . Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Arglwydd , gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Canlyn fi ; a gad i’r meirw gladdu eu meirw . Ac wedi iddo fyned i’r llong , ei ddisgyblion a’i canlynasant ef . Ac wele , bu cynnwrf mawr yn y môr , hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau : eithr efe oedd yn cysgu . A’i ddisgyblion a ddaethant ato , ac a’i deffroasant , gan ddywedyd , Arglwydd , cadw ni : darfu amdanom . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn ofnus , O chwi o ychydig ffydd ? Yna y cododd efe , ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr ; a bu dawelwch mawr . A’r dynion a ryfeddasant , gan ddywedyd , Pa ryw un yw hwn , gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo ! Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall , i wlad y Gergesiaid , dau ddieflig a gyfarfuant ag ef , y rhai a ddeuent o’r beddau , yn dra ffyrnig , fel na allai neb fyned y ffordd honno . Ac wele , hwy a lefasant , gan ddywedyd , Iesu , Fab Duw , beth sydd i ni a wnelom â thi ? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser ? Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer , yn pori . A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno , gan ddywedyd , Os bwri ni allan , caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch . A hwy wedi myned allan , a aethant i’r genfaint foch : ac wele , yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr , ac a fuant feirw yn y dyfroedd . A’r meichiaid a ffoesant : ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas , hwy a fynegasant bob peth ; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig . Ac wele , yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu : a phan ei gwelsant , atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt . Ac efe a aeth i mewn i’r llong , ac a aeth trosodd , ac a ddaeth i’w ddinas ei hun . Ac wele , hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys , yn gorwedd mewn gwely : a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy , a ddywedodd wrth y claf o’r parlys , Ha fab , cymer gysur ; maddeuwyd i ti dy bechodau . Ac wele , rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain , Y mae hwn yn cablu . A phan welodd yr Iesu eu meddyliau , efe a ddywedodd , Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau ? Canys pa un hawsaf ai dywedyd , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a rhodia ? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau , ( yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys , ) Cyfod , cymer dy wely i fyny , a dos i’th dŷ . Ac efe a gyfododd , ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun . A’r torfeydd pan welsant , rhyfeddu a wnaethant , a gogoneddu Duw , yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion . Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno , efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa , a elwid Mathew , ac a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . Ac efe a gyfododd , ac a’i canlynodd ef . A bu , ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ , wele hefyd , publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion . A phan welodd y Phariseaid , hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef , Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid ? A phan glybu’r Iesu , efe a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg , ond i’r rhai cleifion . Ond ewch , a dysgwch pa beth yw hyn , Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio , ac nid aberth : canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . Yna y daeth disgyblion Ioan ato , gan ddywedyd , Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych , ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt ? ond y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodfab oddi arnynt , ac yna yr ymprydiant . Hefyd , ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn : canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn , a’r rhwyg a wneir yn waeth . Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen : os amgen , y costrelau a dyr , a’r gwin a red allan , a’r costrelau a gollir : eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion , ac felly y cedwir y ddau . Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt , wele , daeth rhyw bennaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Bu farw fy merch yr awr hon ; eithr tyred , a gosod dy law arni , a byw fydd hi . A’r Iesu a gyfododd , ac a’i canlynodd ef , a’i ddisgyblion . ( Ac wele , gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd , a ddaeth o’r tu cefn iddo , ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef : Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun , Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef , iach fyddaf . Yna yr Iesu a drodd ; a phan ei gwelodd hi , efe a ddywedodd , Ha ferch , bydd gysurus ; dy ffydd a’th iachaodd . A’r wraig a iachawyd o’r awr honno . ) A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth , a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu , Efe a ddywedodd wrthynt , Ciliwch ; canys ni bu farw y llances , ond cysgu y mae hi . A hwy a’i gwatwarasant ef . Ac wedi bwrw y dyrfa allan , efe a aeth i mewn , ac a ymaflodd yn ei llaw hi ; a’r llances a gyfododd . A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno . A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno , dau ddeillion a’i canlynasant ef , gan lefain a dywedyd , Mab Dafydd , trugarha wrthym . Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ , y deillion a ddaethant ato : a’r Iesu a ddywedodd wrthynt , a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn ? Hwy a ddywedasant wrtho , Ydym , Arglwydd . Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy , gan ddywedyd , Yn ôl eich ffydd bydded i chwi . A’u llygaid a agorwyd : a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth , gan ddywedyd , Gwelwch nas gwypo neb . Ond wedi iddynt ymado , hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno . Ac a hwy yn myned allan , wele , rhai a ddygasant ato ddyn mud , cythreulig . Ac wedi bwrw y cythraul allan , llefarodd y mudan : a’r torfeydd a ryfeddasant , gan ddywedyd , Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel . Ond y Phariseaid a ddywedasant , Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid . A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd , gan ddysgu yn eu synagogau hwynt , a chan bregethu efengyl y deyrnas , a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl . A phan welodd efe y torfeydd , efe a dosturiodd wrthynt , am eu bod wedi blino , a’u gwasgaru , fel defaid heb ganddynt fugail . Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion , Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr , ond y gweithwyr yn anaml : Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf . Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato , efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan , i’w bwrw hwynt allan , ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd . Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn : Y cyntaf , Simon , yr hwn a elwir Pedr , ac Andreas ei frawd ; Iago mab Sebedeus , ac Ioan ei frawd ; Philip , a Bartholomeus ; Thomas , a Mathew y publican ; Iago mab Alffeus , a Lebeus , yr hwn a gyfenwid Thadeus ; Simon y Canaanead , a Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a’i bradychodd ef . Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu , ac a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd , ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn : Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel . Ac wrth fyned , pregethwch , gan ddywedyd , Fod teyrnas nefoedd yn nesáu . Iachewch y cleifion , glanhewch y rhai gwahanglwyfus , cyfodwch y meirw , bwriwch allan gythreuliaid : derbyniasoch yn rhad , rhoddwch yn rhad . Na feddwch aur , nac arian , nac efydd i’ch pyrsau ; Nac ysgrepan i’r daith , na dwy bais , nac esgidiau , na ffon : canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd . Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch , ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi ; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith . A phan ddeloch i dŷ , cyferchwch well iddo . Ac os bydd y tŷ yn deilwng , deued eich tangnefedd arno : ac oni bydd yn deilwng , dychweled eich tangnefedd atoch . A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi , ac ni wrandawo eich geiriau , pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw , neu o’r ddinas honno , ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed . Yn wir meddaf i chwi , Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn , nag i’r ddinas honno . Wele , yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid ; byddwch chwithau gall fel y seirff , a diniwed fel y colomennod . Eithr ymogelwch rhag dynion ; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau , ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau . A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i , er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd . Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny , na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch : canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch . Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru , ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch . A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth , a thad ei blentyn : a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni , ac a barant eu marwolaeth hwynt . A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i : ond yr hwn a barhao hyd y diwedd , efe fydd cadwedig . A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon , ffowch i un arall : canys yn wir y dywedaf wrthych , Na orffennwch ddinasoedd Israel , nes dyfod Mab y dyn . Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro , na’r gwas yn uwch na’i arglwydd . Digon i’r disgybl fod fel ei athro , a’r gwas fel ei arglwydd . Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub , pa faint mwy ei dylwyth ef ? Am hynny nac ofnwch hwynt : oblegid nid oes dim cuddiedig , a’r nas datguddir ; na dirgel , a’r nas gwybyddir . Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch , dywedwch yn y goleuni : a’r hyn a glywch yn y glust , pregethwch ar bennau’r tai . Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff , ac ni allant ladd yr enaid ; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern . Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling ? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi . Ac y mae , ie , holl wallt eich pen wedi eu cyfrif . Nac ofnwch gan hynny : chwi a delwch fwy na llawer o adar y to . Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion , minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd : A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion , minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear : ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd , ond cleddyf . Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad , a’r ferch yn erbyn ei mam , a’r waudd yn erbyn ei chwegr . A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun . Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi , nid yw deilwng ohonof fi : a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi , nid yw deilwng ohonof fi . A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes , ac yn canlyn ar fy ôl i , nid yw deilwng ohonof fi . Y neb sydd yn cael ei einioes , a’i cyll : a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i , a’i caiff hi . Y neb sydd yn eich derbyn chwi , sydd yn fy nerbyn i ; a’r neb sydd yn fy nerbyn i , sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i . Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd , a dderbyn wobr proffwyd ; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn , a dderbyn wobr un cyfiawn . A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl , yn wir meddaf i chwi , Ni chyll efe ei wobr . A bu , pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl , efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy . A Ioan , pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist , wedi danfon dau o’i ddisgyblion , A ddywedodd wrtho , Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod , ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch . Y mae’r deillion yn gweled eilwaith , a’r cloffion yn rhodio , a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau , a’r byddariaid yn clywed ; y mae’r meirw yn cyfodi , a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt . A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi . Ac a hwy yn myned ymaith , yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan , Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano ? ai corsen yn ysgwyd gan wynt ? Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled ? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth ? wele , y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth , mewn tai brenhinoedd y maent . Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled ? ai proffwyd ? ie , meddaf i chwi , a mwy na phroffwyd : Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd , Wele , yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Yn wir meddaf i chwi , Ymhlith plant gwragedd , ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr : er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd , sydd fwy nag ef . Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr , yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd , a threiswyr sydd yn ei chipio hi . Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan . Ac os ewyllysiwch ei dderbyn , efe yw Eleias , yr hwn oedd ar ddyfod . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon ? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd , ac yn llefain wrth eu cyfeillion , Ac yn dywedyd , Canasom bibell i chwi , ac ni ddawnsiasoch ; canasom alarnad i chwi , ac ni chwynfanasoch . Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed ; ac meddant , Y mae cythraul ganddo . Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed ; ac meddant , Wele ddyn glwth , ac yfwr gwin , cyfaill publicanod a phechaduriaid . A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun . Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef , am nad edifarhasent : Gwae di , Chorasin ! gwae di , Bethsaida ! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi , hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw . Eithr meddaf i chwi , Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn , nag i chwi . A thydi , Capernaum , yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef , a dynnir i lawr hyd yn uffern : canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti , hi a fuasai yn aros hyd heddiw . Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn , nag i ti . Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu , ac y dywedodd , I ti yr ydwyf yn diolch , O Dad , Arglwydd nef a daear , am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus , a’u datguddio ohonot i rai bychain : Ie , O Dad ; canys felly y rhyngodd fodd i ti . Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad : ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad ; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab , a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo . Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog , a mi a esmwythâf arnoch . Cymerwch fy iau arnoch , a dysgwch gennyf ; canys addfwyn ydwyf , a gostyngedig o galon : a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau : Canys fy iau sydd esmwyth , a’m baich sydd ysgafn . Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd : ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion , a hwy a ddechreuasant dynnu tywys , a bwyta . A phan welodd y Phariseaid , hwy a ddywedasant wrtho , Wele , y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd , pan oedd chwant bwyd arno ef , a’r rhai oedd gydag ef ? Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw , ac y bwytaodd y bara gosod , yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta , nac i’r rhai oedd gydag ef , ond yn unig i’r offeiriaid ? Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith , fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth , a’u bod yn ddigerydd ? Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi , fod yma un mwy na’r deml . Ond pe gwybuasech beth yw hyn , Trugaredd a ewyllysiaf , ac nid aberth , ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed . Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn . Ac wedi iddo ymadael oddi yno , efe a aeth i’w synagog hwynt . Ac wele , yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Ai rhydd iacháu ar y Sabothau ? fel y gallent achwyn arno . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad , ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth , nid ymeifl ynddi , a’i chodi allan ? Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad ? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau . Yna y dywedodd efe wrth y dyn , Estyn dy law . Ac efe a’i hestynnodd ; a hi a wnaed yn iach , fel y llall . Yna yr aeth y Phariseaid allan , ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef , pa fodd y difethent ef . A’r Iesu gan wybod , a giliodd oddi yno ; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef , ac efe a’u hiachaodd hwynt oll ; Ac a orchmynnodd iddynt , na wnaent ef yn gyhoedd : Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd , gan ddywedyd , Wele fy ngwasanaethwr , yr hwn a ddewisais ; fy anwylyd , yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon : gosodaf fy ysbryd arno , ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd . Nid ymryson efe , ac ni lefain , ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd . Corsen ysig nis tyr , a llin yn mygu nis diffydd , hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth . Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd . Yna y ducpwyd ato un cythreulig , dall , a mud : ac efe a’i hiachaodd ef , fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud . A’r holl dorfeydd a synasant , ac a ddywedasant , Ai hwn yw mab Dafydd ? Eithr pan glybu’r Phariseaid , hwy a ddywedasant , Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid , ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid . A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau , a ddywedodd wrthynt , Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , a anghyfanheddir ; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , ni saif . Ac os Satan a fwrw allan Satan , efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun : pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef ? Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid , trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan ? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi . Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw , yna y daeth teyrnas Dduw atoch . Neu , pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn , a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef , oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn ? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef . Y neb nid yw gyda mi , sydd yn fy erbyn ; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi , sydd yn gwasgaru . Am hynny y dywedaf wrthych chwi , Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion : ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion . A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn , fe a faddeuir iddo : ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân , nis maddeuir iddo , nac yn y byd hwn , nac yn y byd a ddaw . Naill ai gwnewch y pren yn dda , a’i ffrwyth yn dda ; ai gwnewch y pren yn ddrwg , a’i ffrwyth yn ddrwg : canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth . O epil gwiberod , pa wedd y gellwch lefaru pethau da , a chwi yn ddrwg ? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau . Y dyn da , o drysor da’r galon , a ddwg allan bethau da : a’r dyn drwg , o’r trysor drwg , a ddwg allan bethau drwg . Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych , Mai am bob gair segur a ddywedo dynion , y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn . Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir , ac wrth dy eiriau y’th gondemnir . Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid , gan ddywedyd , Athro , ni a chwenychem weled arwydd gennyt . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd ; ac arwydd nis rhoddir iddi , ond arwydd y proffwyd Jonas : Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil , felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear . Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemniant hi ; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas : ac wele fwy na Jonas yma . Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemnia hi ; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon : ac wele fwy na Solomon yma . A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn , efe a rodia ar hyd lleoedd sychion , gan geisio gorffwystra , ac nid yw yn ei gael . Yna medd efe , Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan . Ac wedi y delo , y mae yn ei gael yn wag , wedi ei ysgubo a’i drwsio . Yna y mae efe yn myned , ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun ; ac wedi iddynt fyned i mewn , hwy a gyfanheddant yno : ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad . Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon . Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd , wele , ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan , yn ceisio ymddiddan ag ef . A dywedodd un wrtho , Wele , y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan , yn ceisio ymddiddan â thi . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho , Pwy yw fy mam i ? a phwy yw fy mrodyr i ? Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd , Wele fy mam i , a’m brodyr i : Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd , efe yw fy mrawd i , a’m chwaer , a’m mam . Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ , ac yr eisteddodd wrth lan y môr . A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef , fel yr aeth efe i’r llong , ac yr eisteddodd : a’r holl dyrfa a safodd ar y lan . Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion , gan ddywedyd , Wele , yr heuwr a aeth allan i hau . Ac fel yr oedd efe yn hau , peth a syrthiodd ar fin y ffordd ; a’r adar a ddaethant , ac a’i difasant . Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd , lle ni chawsant fawr ddaear : ac yn y man yr eginasant , gan nad oedd iddynt ddyfnder daear : Ac wedi codi yr haul , y poethasant ; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn , hwy a wywasant . A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain ; a’r drain a godasant , ac a’u tagasant hwy . Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da , ac a ddygasant ffrwyth , peth ar ei ganfed , arall ar ei dri ugeinfed , arall ar ei ddegfed ar hugain . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . A daeth y disgyblion , ac a ddywedasant wrtho , Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd , ac ni roddwyd iddynt hwy . Oblegid pwy bynnag sydd ganddo , i hwnnw y rhoddir , ac efe a gaiff helaethrwydd : eithr pwy bynnag nid oes ganddo , oddi arno ef y dygir , ie , yr hyn sydd ganddo . Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion : canys a hwy yn gweled , nid ydynt yn gweled ; ac yn clywed , nid ydynt yn clywed , nac yn deall . Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias , yr hon sydd yn dywedyd , Gan glywed y clywch , ac ni ddeellwch ; ac yn gweled y gwelwch , ac ni chanfyddwch ; Canys brasawyd calon y bobl hyn , a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm , ac a gaeasant eu llygaid ; rhag canfod â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’r galon , a throi , ac i mi eu hiacháu hwynt . Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi , am eu bod yn gweled ; a’ch clustiau , am eu bod yn clywed : Oblegid yn wir y dywedaf i chwi , chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi , ac nis gwelsant ; a chlywed yr hyn a glywch chwi , ac nis clywsant . Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr . Pan glywo neb air y deyrnas , ac heb ei ddeall , y mae’r drwg yn dyfod , ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef . Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd . A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair , ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn ; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun , eithr dros amser y mae : a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair , yn y fan efe a rwystrir . A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair ; ac y mae gofal y byd hwn , a thwyll cyfoeth , yn tagu’r gair , ac y mae yn myned yn ddiffrwyth . Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da , yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair , ac yn ei ddeall ; sef yr hwn sydd yn ffrwytho , ac yn dwyn peth ei ganfed , arall ei dri ugeinfed , arall ei ddegfed ar hugain . Dameg arall a osododd efe iddynt , gan ddywedyd , Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes : A thra oedd y dynion yn cysgu , daeth ei elyn ef , ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith , ac a aeth ymaith . Ac wedi i’r eginyn dyfu , a dwyn ffrwyth , yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd . A gweision gŵr y tŷ a ddaethant , ac a ddywedasant wrtho , Arglwydd , oni heuaist ti had da yn dy faes ? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo ? Yntau a ddywedodd wrthynt , Y gelyn ddyn a wnaeth hyn . A’r gweision a ddywedasant wrtho , A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt ? Ac efe a ddywedodd , Na fynnaf ; rhag i chwi , wrth gasglu’r efrau , ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt . Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf : ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr , Cesglwch yn gyntaf yr efrau , a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi ; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor . Dameg arall a osododd efe iddynt , gan ddywedyd , Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard , yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes : Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau ; ond wedi iddo dyfu , mwyaf un o’r llysiau ydyw , ac y mae efe yn myned yn bren ; fel y mae adar y nef yn dyfod , ac yn nythu yn ei gangau ef . Dameg arall a lefarodd efe wrthynt ; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes , yr hwn a gymerodd gwraig , ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd , hyd oni surodd y cwbl . Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd ; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt ; Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd , gan ddywedyd , Agoraf fy ngenau mewn damhegion ; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd . Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith , ac yr aeth i’r tŷ : a’i ddisgyblion a ddaethant ato , gan ddywedyd , Eglura i ni ddameg efrau’r maes . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr hwn sydd yn hau’r had da , yw Mab y dyn ; A’r maes yw’r byd ; a’r had da , hwynt‐hwy yw plant y deyrnas ; a’r efrau yw plant y drwg ; A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt , yw diafol ; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd ; a’r medelwyr yw’r angylion . Megis gan hynny y cynullir yr efrau , ac a’u llwyr losgir yn tân ; felly y bydd yn niwedd y byd hwn . Mab y dyn a ddenfyn ei angylion , a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau , a’r rhai a wnânt anwiredd ; Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul , yn nheyrnas eu Tad . Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes ; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael , a’i cuddiodd , ac o lawenydd amdano , sydd yn myned ymaith , ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd , ac yn prynu’r maes hwnnw . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr , yn ceisio perlau teg : Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr , a aeth , ac a werthodd gymaint oll ag a feddai , ac a’i prynodd ef . Drachefn , cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr , ac a gasglodd o bob rhyw beth : Yr hon , wedi ei llenwi , a ddygasant i’r lan , ac a eisteddasant , ac a gasglasant y rhai da mewn llestri , ac a fwriasant allan y rhai drwg . Felly y bydd yn niwedd y byd : yr angylion a ânt allan , ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn , Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Iesu a ddywedodd wrthynt , A ddarfu i chwi ddeall hyn oll ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Do , Arglwydd . A dywedodd yntau wrthynt , Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd , sydd debyg i ddyn o berchen tŷ , yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen . A bu , wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn , efe a ymadawodd oddi yno . Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun , ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog ; fel y synnodd arnynt , ac y dywedasant , O ba le y daeth y doethineb hwn , a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn ? Onid hwn yw mab y saer ? onid Mair y gelwir ei fam ef ? a Iago , a Joses , a Simon , a Jwdas , ei frodyr ef ? Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni ? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll ? A hwy a rwystrwyd ynddo ef . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid yw proffwyd heb anrhydedd , ond yn ei wlad ei hun , ac yn ei dŷ ei hun . Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno , oblegid eu hanghrediniaeth hwynt . Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu ; Ac efe a ddywedodd wrth ei weision , Hwn yw Ioan Fedyddiwr : efe a gyfododd o feirw ; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef . Canys Herod a ddaliasai Ioan , ac a’i rhwymasai , ac a’i dodasai yng ngharchar , oblegid Herodias , gwraig Phylip ei frawd ef . Canys Ioan a ddywedodd wrtho , Nid cyfreithlon i ti ei chael hi . Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth , a ofnodd y dyrfa ; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd . Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod , y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy , ac a ryngodd fodd Herod . O ba herwydd efe a addawodd , trwy lw , roddi iddi beth bynnag a ofynnai . A hithau , wedi ei rhagddysgu gan ei mam , a ddywedodd , Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl . A’r brenin a fu drist ganddo : eithr oherwydd y llw , a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford , efe a orchmynnodd ei roi ef iddi . Ac efe a anfonodd , ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar . A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl , ac a’i rhoddwyd i’r llances : a hi a’i dug ef i’w mam . A’i ddisgyblion ef a ddaethant , ac a gymerasant ei gorff ef , ac a’i claddasant ; ac a aethant , ac a fynegasant i’r Iesu . A phan glybu’r Iesu , efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu : ac wedi clywed o’r torfeydd , hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd . A’r Iesu a aeth allan , ac a welodd dyrfa fawr , ac a dosturiodd wrthynt ; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , daeth ei ddisgyblion ato , gan ddywedyd , Y lle sydd anghyfannedd , a’r awr a aeth weithian heibio : gollwng y dyrfa ymaith , fel yr elont i’r pentrefi , ac y prynont iddynt fwyd . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid iddynt fyned ymaith : rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwy a ddywedasant wrtho , Nid oes gennym ni yma ond pum torth , a dau bysgodyn . Ac efe a ddywedodd , Dygwch hwynt yma i mi . Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas , a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn , efe a edrychodd i fyny tua’r nef , ac a fendithiodd , ac a dorrodd ; ac a roddes y torthau i’r disgyblion , a’r disgyblion i’r torfeydd . A hwynt oll a fwytasant , ac a gawsant eu digon : ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill , ddeuddeg basgedaid yn llawn . A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr , heblaw gwragedd a phlant . Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong , ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef , tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith . Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith , efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei hun , i weddïo : ac wedi ei hwyrhau hi , yr oedd efe yno yn unig . A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr , yn drallodus gan donnau : canys gwynt gwrthwynebus ydoedd . Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt , gan rodio ar y môr . A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr , dychrynasant , gan ddywedyd , Drychiolaeth ydyw . A hwy a waeddasant rhag ofn . Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt , gan ddywedyd , Cymerwch gysur : myfi ydyw ; nac ofnwch . A Phedr a’i hatebodd , ac a ddywedodd , O Arglwydd , os tydi yw , arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd . Ac efe a ddywedodd , Tyred . Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong , efe a rodiodd ar y dyfroedd , i ddyfod at yr Iesu . Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf , efe a ofnodd : a phan ddechreuodd suddo , efe a lefodd , gan ddywedyd , Arglwydd , cadw fi . Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law , ac a ymaflodd ynddo ef , ac a ddywedodd wrtho , Tydi o ychydig ffydd , paham y petrusaist ? A phan aethant hwy i mewn i’r llong , peidiodd y gwynt . A daeth y rhai oedd yn y llong , ac a’i haddolasant ef , gan ddywedyd , Yn wir Mab Duw ydwyt ti . Ac wedi iddynt fyned trosodd , hwy a ddaethant i dir Gennesaret . A phan adnabu gwŷr y fan honno ef , hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch , ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl ; Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef : a chynifer ag a gyffyrddodd , a iachawyd . Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid , y rhai oedd o Jerwsalem , a ddaethant at yr Iesu , gan ddywedyd , Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid ? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi ? Canys Duw a orchmynnodd , gan ddywedyd , Anrhydedda dy dad a’th fam : a’r hwn a felltithio dad neu fam , lladder ef yn farw . Eithr yr ydych chwi yn dywedyd , Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam , Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi , ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam , difai fydd . Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun . O ragrithwyr , da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi , gan ddywedyd , Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau , a’m hanrhydeddu â’u gwefusau ; a’u calon sydd bell oddi wrthyf . Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i , gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth . Ac wedi iddo alw y dyrfa ato , efe a ddywedodd wrthynt , Clywch , a deellwch . Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau , sydd yn halogi dyn ; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau , hynny sydd yn halogi dyn . Yna y daeth ei ddisgyblion ato , ac a ddywedasant wrtho , A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn ? Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol , a ddiwreiddir . Gadewch iddynt : tywysogion deillion i’r deillion ydynt . Ac os y dall a dywys y dall , y ddau a syrthiant yn y ffos . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Eglura i ni’r ddameg hon . A dywedodd yr Iesu , A ydych chwithau eto heb ddeall ? Onid ydych chwi yn deall eto , fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau , yn cilio i’r bola , ac y bwrir ef allan i’r geudy ? Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau , sydd yn dyfod allan o’r galon ; a’r pethau hynny a halogant ddyn . Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan , lladdiadau , torpriodasau , godinebau , lladradau , camdystiolaethau , cablau : Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn : eithr bwyta â dwylo heb olchi , ni haloga ddyn . A’r Iesu a aeth oddi yno , ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon . Ac wele , gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny , ac a lefodd , gan ddywedyd wrtho , Trugarha wrthyf , O Arglwydd , Fab Dafydd : y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul . Eithr nid atebodd efe iddi un gair . A daeth ei ddisgyblion ato , ac a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Gollwng hi ymaith ; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel . Ond hi a ddaeth , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , cymorth fi . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Nid da cymryd bara’r plant , a’i fwrw i’r cŵn . Hithau a ddywedodd , Gwir yw , Arglwydd : canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi . Yna yr atebodd yr Iesu , ac a ddywedodd wrthi , Ha wraig , mawr yw dy ffydd : bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio . A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan . A’r Iesu a aeth oddi yno , ac a ddaeth gerllaw môr Galilea ; ac a esgynnodd i’r mynydd , ac a eisteddodd yno . A daeth ato dorfeydd lawer , a chanddynt gyda hwynt gloffion , deillion , mudion , anafusion , ac eraill lawer : a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu , ac efe a’u hiachaodd hwynt : Fel y rhyfeddodd y torfeydd , wrth weled y mudion yn llefaru , y rhai anafus yn iach , y cloffion yn rhodio , a’r deillion yn gweled : a hwy a ogoneddasant Dduw Israel . A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd , Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa ; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian , ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta : ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng , rhag eu llewygu ar y ffordd . A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho , O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch , fel y digonid tyrfa gymaint ? A’r Iesu a ddywedai wrthynt , Pa sawl torth sydd gennych ? A hwy a ddywedasant , Saith , ac ychydig bysgod bychain . Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear . A chan gymryd y saith dorth , a’r pysgod , a diolch , efe a’u torrodd , ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion , a’r disgyblion i’r dyrfa . A hwy oll a fwytasant , ac a gawsant eu digon ; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill , saith fasgedaid yn llawn . A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr , heblaw gwragedd a phlant . Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith , efe a aeth i long , ac a ddaeth i barthau Magdala . Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato , a’i demtio , hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pan fyddo’r hwyr , y dywedwch , Tywydd teg ; canys y mae’r wybr yn goch . A’r bore , Heddiw drycin ; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd . O ragrithwyr , chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren ; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau ? Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd ; ac arwydd nis rhoddir iddi , ond arwydd y proffwyd Jonas . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth ymaith . Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall , hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid . A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Hyn sydd am na chymerasom fara gennym . A’r Iesu yn gwybod , a ddywedodd wrthynt , Chwychwi o ychydig ffydd , paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain , am na chymerasoch fara gyda chwi ? Onid ydych chwi yn deall eto , nac yn cofio pum torth y pum mil , a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny ? Na saith dorth y pedair mil , a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny ? Pa fodd nad ydych yn deall , nad am fara y dywedais wrthych , ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid ? Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara , ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid . Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi , efe a ofynnodd i’w ddisgyblion , gan ddywedyd , Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i , Mab y dyn ? A hwy a ddywedasant , Rhai , mai Ioan Fedyddiwr , a rhai , mai Eleias , ac eraill , mai Jeremeias , neu un o’r proffwydi . Efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi ? A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd , Ti yw’r Crist , Mab y Duw byw . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho , Gwyn dy fyd di , Simon mab Jona : canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti , ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti , mai ti yw Pedr , ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys ; a phyrth uffern nis gorchfygant hi . A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd : a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear , a fydd rhwymedig yn y nefoedd ; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear , a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd . Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion , na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist . O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem , a dioddef llawer gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , a chyfodi y trydydd dydd . A Phedr , wedi ei gymryd ef ato , a ddechreuodd ei geryddu ef , gan ddywedyd , Arglwydd , trugarha wrthyt dy hun ; ni bydd hyn i ti . Ac efe a drodd , ac a ddywedodd wrth Pedr , Dos yn fy ôl i , Satan : rhwystr ydwyt ti i mi : am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw , ond y pethau sydd o ddynion . Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion , Os myn neb ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a chyfoded ei groes , a chanlyned fi . Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd , a’i cyll : a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i , a’i caiff . Canys pa lesâd i ddyn , os ennill efe yr holl fyd , a cholli ei enaid ei hun ? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ? Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion ; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred . Yn wir y dywedaf wrthych , Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma , a’r ni phrofant angau , hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth . Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr , ac Iago , ac Ioan ei frawd , ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu ; A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy : a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul , a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni . Ac wele , Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt , yn ymddiddan ag ef . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu , O Arglwydd , da yw i ni fod yma : os ewyllysi , gwnawn yma dair pabell ; un i ti , ac un i Moses , ac un i Eleias . Ac efe eto yn llefaru , wele , cwmwl golau a’u cysgododd hwynt : ac wele , lef o’r cwmwl , yn dywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd : gwrandewch arno ef . A phan glybu’r disgyblion hynny : hwy a syrthiasant ar eu hwyneb , ac a ofnasant yn ddirfawr . A daeth yr Iesu , ac a gyffyrddodd â hwynt , ac a ddywedodd , Cyfodwch , ac nac ofnwch . Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid , ni welsant neb ond yr Iesu yn unig . Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd , gorchmynnodd yr Iesu iddynt , gan ddywedyd , Na ddywedwch y weledigaeth i neb , hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd , fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf , ac a adfer bob peth . Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi , ddyfod o Eleias eisoes : ac nad adnabuant hwy ef , ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant : felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy . Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt . Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa , daeth ato ryw ddyn , ac a ostyngodd iddo ar ei liniau , Ac a ddywedodd , Arglwydd , trugarha wrth fy mab , oblegid y mae efe yn lloerig , ac yn flin arno : canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych , ac yn y dwfr yn fynych . Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di , ac ni allent hwy ei iacháu ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon a throfaus , pa hyd y byddaf gyda chwi ? pa hyd y dioddefaf chwi ? dygwch ef yma ataf fi . A’r Iesu a geryddodd y cythraul ; ac efe a aeth allan ohono : a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno . Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu , ac y dywedasant , Paham na allem ni ei fwrw ef allan ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Oblegid eich anghrediniaeth : canys yn wir y dywedaf i chwi , Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard , chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn , Symud oddi yma draw ; ac efe a symudai : ac ni bydd dim amhosibl i chwi . Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan , ond trwy weddi ac ympryd . Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea , dywedodd yr Iesu wrthynt , Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion : A hwy a’i lladdant ; a’r trydydd dydd y cyfyd efe . A hwy a aethant yn drist iawn . Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum , y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr , ac a ddywedasant , Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged ? Yntau a ddywedodd , Ydyw . Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ , yr Iesu a achubodd ei flaen ef , gan ddywedyd , Beth yr wyt ti yn ei dybied , Simon ? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth ? gan eu plant eu hun , ynteu gan estroniaid ? Pedr a ddywedodd wrtho , Gan estroniaid . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion . Er hynny , rhag i ni eu rhwystro hwy , dos i’r môr , a bwrw fach , a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf ; ac wedi iti agoryd ei safn , ti a gei ddarn o arian : cymer hwnnw , a dyro iddynt drosof fi a thithau . Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu , gan ddywedyd , Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd ? A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn , ac a’i gosododd yn eu canol hwynt ; Ac a ddywedodd , Yn wir y dywedaf i chwi , Oddieithr eich troi chwi , a’ch gwneuthur fel plant bychain , nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd . Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn , hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd . A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i , a’m derbyn i . A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi , da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf , a’i foddi yn eigion y môr . Gwae’r byd oblegid rhwystrau ! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau ; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr ! Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra , tor hwynt ymaith , a thafl oddi wrthyt : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff , neu yn anafus , nag a chennyt ddwy law , neu ddau droed , dy daflu i’r tân tragwyddol . Ac os dy lygad a’th rwystra , tyn ef allan , a thafl oddi wrthyt : gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd , nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern . Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Canys daeth Mab y dyn i gadw’r hyn a gollasid . Beth dybygwch chwi ? O bydd gan ddyn gant o ddefaid , a myned o un ohonynt ar ddisberod ; oni ad efe y namyn un cant , a myned i’r mynyddoedd , a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod ? Ac os bydd iddo ei chael hi , yn wir meddaf i chwi , y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod . Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd , gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn . Ac os pecha dy frawd i’th erbyn , dos , ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun . Os efe a wrendy arnat , ti a enillaist dy frawd . Ac os efe ni wrendy , cymer gyda thi eto un neu ddau , fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy . Ac os efe ni wrendy arnynt hwy , dywed i’r eglwys : ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith , bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican . Yn wir meddaf i chwi , Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear , fyddant wedi eu rhwymo yn y nef : a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear , a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef . Trachefn meddaf i chwi , Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll , beth bynnag a’r a ofynnant , efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd . Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i , yno yr ydwyf yn eu canol hwynt . Yna y daeth Pedr ato ef , ac a ddywedodd , Arglwydd , pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn , ac y maddeuaf iddo ? ai hyd seithwaith ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt , Hyd seithwaith ; ond , Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith . Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision . A phan ddechreuodd gyfrif , fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau . A chan nad oedd ganddo ddim i dalu , gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef , a’i wraig , a’i blant , a chwbl a’r a feddai , a thalu’r ddyled . A’r gwas a syrthiodd i lawr , ac a’i haddolodd ef , gan ddywedyd , Arglwydd , bydd ymarhous wrthyf , a mi a dalaf i ti’r cwbl oll . Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho , ac a’i gollyngodd , ac a faddeuodd iddo’r ddyled . Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan , efe a gafodd un o’i gyd‐weision , yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog : ac efe a ymaflodd ynddo , ac a’i llindagodd , gan ddywedyd , Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat . Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef , ac a ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , Bydd ymarhous wrthyf , a mi a dalaf i ti’r cwbl oll . Ac nis gwnâi efe ; ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar , hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus . A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid , bu ddrwg dros ben ganddynt : a hwy a ddaethant , ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai . Yna ei arglwydd , wedi ei alw ef ato , a ddywedodd wrtho , Ha was drwg , maddeuais i ti yr holl ddyled honno , am iti ymbil â mi : Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was , megis y trugarheais innau wrthyt ti ? A’i arglwydd a ddigiodd , ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr , hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo . Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau , oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau A bu , pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn , efe a ymadawodd o Galilea , ac a ddaeth i derfynau Jwdea , tu hwnt i’r Iorddonen : A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef ; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno . A daeth y Phariseaid ato , gan ei demtio , a dywedyd wrtho , Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch , i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau , eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw ? Ac efe a ddywedodd , Oblegid hyn y gad dyn dad a mam , ac y glŷn wrth ei wraig : a’r ddau fyddant yn un cnawd . Oherwydd paham , nid ydynt mwy yn ddau , ond yn un cnawd . Y peth gan hynny a gysylltodd Duw , nac ysgared dyn . Hwythau a ddywedasant wrtho , Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar , a’i gollwng hi ymaith ? Yntau a ddywedodd wrthynt , Moses , oherwydd caledrwydd eich calonnau , a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd : eithr o’r dechrau nid felly yr oedd . Ac meddaf i chwi , Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig , ond am odineb , ac a briodo un arall , y mae efe yn torri priodas : ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd , yn torri priodas . Dywedodd ei ddisgyblion wrtho , Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig , nid da gwreica . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn , ond y rhai y rhoddwyd iddynt . Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam ; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid ; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd . Y neb a ddichon ei dderbyn , derbynied . Yna y dygwyd ato blant bychain , fel y rhoddai ei ddwylo arnynt , ac y gweddïai : a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt . A’r Iesu a ddywedodd , Gadewch i blant bychain , ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd . Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt , efe a aeth ymaith oddi yno . Ac wele , un a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Athro da , pa beth da a wnaf , fel y caffwyf fywyd tragwyddol ? Yntau a ddywedodd wrtho , Paham y gelwi fi yn dda ? nid da neb ond un , sef Duw : ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd , cadw’r gorchmynion . Efe a ddywedodd wrtho yntau , Pa rai ? A’r Iesu a ddywedodd , Na ladd , Na odineba , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Anrhydedda dy dad a’th fam , a Châr dy gymydog fel ti dy hun . Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho , Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid : beth sydd yn eisiau i mi eto ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Os ewyllysi fod yn berffaith , dos , gwerth yr hyn sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , canlyn fi . A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd , efe a aeth i ffordd yn drist : canys yr oedd yn berchen da lawer . Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion , Yn wir y dywedaf i chwi , mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd . A thrachefn meddaf i chwi , Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn , synnu a wnaethant yn ddirfawr , gan ddywedyd , Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig ? A’r Iesu a edrychodd arnynt , ac a ddywedodd wrthynt , Gyda dynion amhosibl yw hyn ; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl . Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ganlynasom di : beth gan hynny a fydd i ni ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , y cewch chwi , y rhai a’m canlynasoch i , yn yr adenedigaeth , pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant , eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd , yn barnu deuddeg llwyth Israel . A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr , neu chwiorydd , neu dad , neu fam , neu wraig , neu blant , neu diroedd , er mwyn fy enw i , a dderbyn y can cymaint , a bywyd tragwyddol a etifedda efe . Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf , a’r rhai olaf yn flaenaf . Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ , yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau , i gyflogi gweithwyr i’w winllan . Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd , efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan . Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr , ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa ; Ac a ddywedodd wrthynt , Ewch chwithau i’r winllan ; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn , mi a’i rhoddaf i chwi . A hwy a aethant ymaith . Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr , ac a wnaeth yr un modd . Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg , ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur ? Dywedasant wrtho , Am na chyflogodd neb nyni . Dywedodd yntau wrthynt , Ewch chwithau i’r winllan ; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn , chwi a’i cewch . A phan aeth hi yn hwyr , arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr , Galw’r gweithwyr , a dyro iddynt eu cyflog , gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf . A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg , hwy a gawsant bob un geiniog . A phan ddaeth y rhai cyntaf , hwy a dybiasant y caent fwy ; a hwythau a gawsant bob un geiniog . Ac wedi iddynt gael , grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ , Gan ddywedyd , Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn , a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau , y rhai a ddygasom bwys y dydd , a’r gwres . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt , Y cyfaill , nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi : onid er ceiniog y cytunaist â mi ? Cymer yr hyn sydd eiddot , a dos ymaith : yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau . Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun ? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg , am fy mod i yn dda ? Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf , a’r rhai blaenaf yn olaf : canys llawer sydd wedi eu galw , ac ychydig wedi eu dewis . Ac a’r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem , efe a gymerth y deuddeg disgybl o’r neilltu ar y ffordd , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion , a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth , Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd , i’w watwar , ac i’w fflangellu , ac i’w groeshoelio : a’r trydydd dydd efe a atgyfyd . Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion , gan addoli , a deisyf rhyw beth ganddo . Ac efe a ddywedodd wrthi , Pa beth a fynni ? Dywedodd hithau wrtho , Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd , y naill ar dy law ddeau , a’r llall ar dy law aswy , yn dy frenhiniaeth . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn . A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono , a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi ? Dywedasant wrtho , Gallwn . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Diau yr yfwch o’m cwpan , ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef : eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy , nid eiddof ei roddi ; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad . A phan glybu’r deg hyn , hwy a sorasant wrth y ddau frodyr . A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd , Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt , a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy . Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi : ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi , bydded yn weinidog i chwi ; A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith , bydded yn was i chwi : Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu , ond i wasanaethu , ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer . Ac a hwy yn myned allan o Jericho , tyrfa fawr a’i canlynodd ef . Ac wele , dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd , pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio , a lefasant , gan ddywedyd , Arglwydd , fab Dafydd , trugarha wrthym . A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt , fel y tawent : hwythau a lefasant fwyfwy , gan ddywedyd , Arglwydd , fab Dafydd , trugarha wrthym . A’r Iesu a safodd , ac a’u galwodd hwynt , ac a ddywedodd , Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi ? Dywedasant wrtho , Arglwydd , agoryd ein llygaid ni . A’r Iesu a dosturiodd wrthynt , ac a gyffyrddodd â’u llygaid : ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg , a hwy a’i canlynasant ef . Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem , a’u dyfod hwy i Bethffage , i fynydd yr Olewydd , yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl , Gan ddywedyd wrthynt , Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer , ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym , ac ebol gyda hi : gollyngwch hwynt , a dygwch ataf fi . Ac os dywed neb ddim wrthych , dywedwch , Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt : ac yn y man efe a’u denfyn hwynt . A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd , yn dywedyd , Dywedwch i ferch Seion , Wele , dy frenin yn dyfod i ti , yn addfwyn , ac yn eistedd ar asen , ac ebol llwdn asen arferol â’r iau . Y disgyblion a aethant , ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt . A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol , ac a ddodasant eu dillad arnynt , ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny . A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd ; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd , ac a’u taenasant ar hyd y ffordd . A’r torfeydd , y rhai oedd yn myned o’r blaen , a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl , a lefasant , gan ddywedyd , Hosanna i fab Dafydd : Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Hosanna yn y goruchafion . Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem , y ddinas oll a gynhyrfodd , gan ddywedyd , Pwy yw hwn ? A’r torfeydd a ddywedasant , Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea . A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw , ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml , ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian , a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ysgrifennwyd , Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i ; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml ; ac efe a’u hiachaodd hwynt . A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe , a’r plant yn llefain yn y deml , ac yn dywedyd , Hosanna i fab Dafydd ; hwy a lidiasant , Ac a ddywedasant wrtho , A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Ydwyf . Oni ddarllenasoch chwi erioed , O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant ? Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania , ac a letyodd yno . A’r bore , fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas , yr oedd arno chwant bwyd . A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd , efe a ddaeth ato , ac ni chafodd ddim arno , ond dail yn unig : ac efe a ddywedodd wrtho , Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach . Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren . A phan welodd y disgyblion , hwy a ryfeddasant , gan ddywedyd , Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren ! A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Os bydd gennych ffydd , ac heb amau , ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren , eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn , Coder di i fyny , a bwrier di i’r môr ; hynny a fydd . A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi , gan gredu , chwi a’i derbyniwch . Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml , yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato , fel yr oedd efe yn athrawiaethu , gan ddywedyd , Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn ? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Minnau a ofynnaf i chwithau un gair , yr hwn os mynegwch i mi , minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Bedydd Ioan , o ba le yr oedd ? ai o’r nef , ai o ddynion ? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed wrthym , Paham gan hynny nas credasoch ef ? Ond os dywedwn , O ddynion ; y mae arnom ofn y bobl : canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd . A hwy a atebasant i’r Iesu , ac a ddywedasant , Ni wyddom ni . Ac yntau a ddywedodd wrthynt , Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ond beth dybygwch chwi ? Yr oedd gan ŵr ddau fab : ac efe a ddaeth at y cyntaf , ac a ddywedodd , Fy mab , dos , gweithia heddiw yn fy ngwinllan . Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd , Nid af : ond wedi hynny efe a edifarhaodd , ac a aeth . A phan ddaeth efe at yr ail , efe a ddywedodd yr un modd . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Myfi a af , arglwydd ; ac nid aeth efe . Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad ? Dywedasant wrtho , Y cyntaf . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi . Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder , ac ni chredasoch ef ; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef : chwithau , yn gweled , nid edifarhasoch wedi hynny , fel y credech ef . Clywch ddameg arall . Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ , yr hwn a blannodd winllan , ac a osododd gae yn ei chylch hi , ac a gloddiodd ynddi winwryf , ac a adeiladodd dŵr , ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref . A phan nesaodd amser ffrwythau , efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr , i dderbyn ei ffrwythau hi . A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef , ac un a gurasant , ac arall a laddasant , ac arall a labyddiasant . Trachefn , efe a anfonodd weision eraill , fwy na’r rhai cyntaf : a hwy a wnaethant iddynt yr un modd . Ac yn ddiwethaf oll , efe a anfonodd atynt ei fab ei hun , gan ddywedyd , Hwy a barchant fy mab i . A phan welodd y llafurwyr y mab , hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun , Hwn yw’r etifedd ; deuwch , lladdwn ef , a daliwn ei etifeddiaeth ef . Ac wedi iddynt ei ddal , hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan , ac a’i lladdasant . Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan , pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny ? Hwy a ddywedasant wrtho , Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny , ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill , y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau , Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben congl : gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn , a rhyfedd yw yn ein golwg ni ? Am hynny meddaf i chwi , Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi , ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau . A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn , efe a ddryllir : ac ar bwy bynnag y syrthio , efe a’i mâl ef yn chwilfriw . A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef , hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe . Ac a hwy yn ceisio ei ddala , hwy a ofnasant y torfeydd ; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd . A’r Iesu a atebodd , ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion , gan ddywedyd , Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab , Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas : ac ni fynnent hwy ddyfod . Trachefn , efe a anfonodd weision eraill , gan ddywedyd , Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd , Wele , paratoais fy nghinio : fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd , a phob peth sydd barod : deuwch i’r briodas . A hwy yn ddiystyr ganddynt , a aethant ymaith , un i’w faes , ac arall i’w fasnach : A’r lleill a ddaliasant ei weision ef , ac a’u hamharchasant , ac a’u lladdasant . A phan glybu’r brenin , efe a lidiodd ; ac a ddanfonodd ei luoedd , ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny , ac a losgodd eu dinas hwynt . Yna efe a ddywedodd wrth ei weision , Yn wir y briodas sydd barod , ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng . Ewch gan hynny i’r priffyrdd , a chynifer ag a gaffoch , gwahoddwch i’r briodas . A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd , ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant , drwg a da : a llanwyd y briodas o wahoddedigion . A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion , efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano : Ac efe a ddywedodd wrtho , Y cyfaill , pa fodd y daethost i mewn yma , heb fod gennyt wisg priodas ? Ac yntau a aeth yn fud . Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion , Rhwymwch ei draed a’i ddwylo , a chymerwch ef ymaith , a theflwch i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Canys llawer sydd wedi eu galw , ac ychydig wedi eu dewis . Yna yr aeth y Phariseaid , ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd . A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid , gan ddywedyd , Athro , ni a wyddom dy fod yn eirwir , ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd , ac nad oes arnat ofal rhag neb : oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion . Dywed i ni gan hynny , Beth yr wyt ti yn ei dybied ? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy , ac a ddywedodd , Paham yr ydych yn fy nhemtio i , chwi ragrithwyr ? Dangoswch i mi arian y deyrnged . A hwy a ddygasant ato geiniog : Ac efe a ddywedodd wrthynt , Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff ? Dywedasant wrtho , Eiddo Cesar . Yna y dywedodd wrthynt , Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . A phan glywsant hwy hyn , rhyfeddu a wnaethant , a’i adael ef , a myned ymaith . Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid , y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad , ac a ofynasant iddo , Gan ddywedyd , Athro , dywedodd Moses , Os bydd marw neb heb iddo blant , prioded ei frawd ei wraig ef , a chyfoded had i’w frawd . Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr : a’r cyntaf a briododd wraig , ac a fu farw ; ac efe heb hiliogaeth iddo , a adawodd ei wraig i’w frawd . Felly hefyd yr ail , a’r trydydd , hyd y seithfed . Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad , gan hynny , gwraig i bwy o’r saith fydd hi ? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr ydych yn cyfeiliorni , gan na wyddoch yr ysgrythurau , na gallu Duw . Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica , nac yn gwra ; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef . Ac am atgyfodiad y meirw , oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw , gan ddywedyd , Myfi yw Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob ? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw , ond y rhai byw . A phan glybu’r torfeydd hynny , hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef . Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid , hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle . Ac un ohonynt , yr hwn oedd gyfreithiwr , a ofynnodd iddo , gan ei demtio , a dywedyd , Athro , pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl feddwl . Hwn yw’r cyntaf , a’r gorchymyn mawr . A’r ail sydd gyffelyb iddo ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll . Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd , yr Iesu a ofynnodd iddynt , Gan ddywedyd , Beth a dybygwch chwi am Grist ? mab i bwy ydyw ? Dywedent wrtho , Mab Dafydd . Dywedai yntau wrthynt , Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd , gan ddywedyd , Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di ? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd , pa fodd y mae efe yn fab iddo ? Ac ni allodd neb ateb gair iddo , ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach . Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion , Gan ddywedyd , Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid . Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw , cedwch a gwnewch ; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch : canys dywedant , ac nis gwnânt . Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn , ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion ; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd . Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion : canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau , ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth ; A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd , a’r prif gadeiriau yn y synagogau , A chyfarch yn y marchnadoedd , a’u galw gan ddynion , Rabbi , Rabbi . Eithr na’ch galwer chwi Rabbi : canys un yw eich Athro chwi , sef Crist ; a chwithau oll brodyr ydych . Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear : canys un Tad sydd i chwi , yr hwn sydd yn y nefoedd . Ac na’ch galwer yn athrawon : canys un yw eich Athro chwi , sef Crist . A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi . A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun , a ostyngir ; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun , a ddyrchefir . Eithr gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion : canys chwi nid ydych yn myned i mewn , a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , a hynny yn rhith hir weddïo : am hynny y derbyniwch farn fwy . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir , i wneuthur un proselyt ; ac wedi y gwneler , yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern , yn ddau mwy na chwi eich hunain . Gwae chwi , dywysogion deillion ! y rhai ydych yn dywedyd , Pwy bynnag a dwng i’r deml , nid yw ddim ; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml , y mae efe mewn dyled . Ffyliaid , a deillion : canys pa un sydd fwyaf , yr aur , ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur ? A phwy bynnag a dwng i’r allor , nid yw ddim ; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni , y mae efe mewn dyled . Ffyliaid , a deillion : canys pa un fwyaf , y rhodd , ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd ? Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor , sydd yn tyngu iddi , ac i’r hyn oll sydd arni . A phwy bynnag a dwng i’r deml , sydd yn tyngu iddi , ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi . A’r hwn a dwng i’r nef , sydd yn tyngu i orseddfainc Duw , ac i’r hwn sydd yn eistedd arni . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn degymu’r mintys , a’r anis , a’r cwmin , ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith , barn , a thrugaredd , a ffydd : rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn , ac na adewid y lleill heibio . Tywysogion deillion , y rhai ydych yn hidlo gwybedyn , ac yn llyncu camel . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl , ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb . Ti Pharisead dall , glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl , fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu , y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan , ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw , a phob aflendid . Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn , ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi , ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn ; Ac yr ydych yn dywedyd , Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau , ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi . Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain , eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi . Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau . O seirff , hiliogaeth gwiberod , pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern ? Am hynny , wele , yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi , a doethion , ac ysgrifenyddion : a rhai ohonynt a leddwch , ac a groeshoeliwch ; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau , ac a erlidiwch o dref i dref . Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear , o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias , yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor . Yn wir meddaf i chwi , Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon . Jerwsalem , Jerwsalem , yr hon wyt yn lladd y proffwydi , ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat , pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd , megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd , ac nis mynnech ! Wele , yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd . Canys meddaf i chwi , Ni’m gwelwch ar ôl hyn , hyd oni ddywedoch , Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd . A’r Iesu a aeth allan , ac a ymadawodd o’r deml : a’i ddisgyblion a ddaethant ato , i ddangos iddo adeiladau’r deml . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Oni welwch chwi hyn oll ? Yn wir meddaf i chwi , Ni adewir yma garreg ar garreg , a’r ni ddatodir . Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd , y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu , gan ddywedyd , Mynega i ni , pa bryd y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad , ac o ddiwedd y byd ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi . Canys daw llawer yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; ac a dwyllant lawer . A chwi a gewch glywed am ryfeloedd , a sôn am ryfeloedd : gwelwch na chyffroer chwi : canys rhaid yw bod hyn oll ; eithr nid yw’r diwedd eto . Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : ac fe fydd newyn , a nodau , a daeargrynfâu mewn mannau . A dechreuad gofidiau yw hyn oll . Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu , ac a’ch lladdant : a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i . Ac yna y rhwystrir llawer , ac y bradychant ei gilydd , ac y casânt ei gilydd . A gau broffwydi lawer a godant , ac a dwyllant lawer . Ac oherwydd yr amlha anwiredd , fe a oera cariad llawer . Eithr y neb a barhao hyd y diwedd , hwnnw a fydd cadwedig . A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd , er tystiolaeth i’r holl genhedloedd : ac yna y daw’r diwedd . Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol , a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd , yn sefyll yn y lle sanctaidd , ( y neb a ddarlleno , ystyried ; ) Yna y rhai a fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd . Y neb a fyddo ar ben y tŷ , na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ : A’r hwn a fyddo yn y maes , na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad . A gwae’r rhai beichiogion , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny . Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf , nac ar y dydd Saboth : Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr , y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon , ac ni bydd chwaith . Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny , ni fuasai gadwedig un cnawd oll : eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny . Yna os dywed neb wrthych , Wele , llyma Grist , neu llyma ; na chredwch . Canys cyfyd gau Gristiau , a gau broffwydi , ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau , hyd oni thwyllant , pe byddai bosibl , ie , yr etholedigion . Wele , rhagddywedais i chwi . Am hynny , os dywedant wrthych , Wele , y mae efe yn y diffeithwch ; nac ewch allan : wele , yn yr ystafelloedd ; na chredwch . Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain , ac y tywynna hyd y gorllewin ; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Canys pa le bynnag y byddo’r gelain , yno yr ymgasgl yr eryrod . Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny , y tywyllir yr haul , a’r lleuad ni rydd ei goleuni , a’r sêr a syrth o’r nef , a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir . Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef : ac yna y galara holl lwythau y ddaear ; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef , gyda nerth a gogoniant mawr . Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn ; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt , o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt . Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren ; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner , a’i ddail yn torri allan , chwi a wyddoch fod yr haf yn agos : Ac felly chwithau , pan weloch hyn oll , gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau . Yn wir meddaf i chwi , Nid â’r genhedlaeth hon heibio , hyd oni wneler hyn oll . Nef a daear a ânt heibio , eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim . Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb , nac angylion y nefoedd , ond fy Nhad yn unig . Ac fel yr oedd dyddiau Noe , felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed , yn priodi ac yn rhoi i briodas , hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch , Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw , a’u cymryd hwy oll ymaith ; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn . Yna y bydd dau yn y maes : y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dwy a fydd yn malu mewn melin ; un a gymerir , a’r llall a adewir . Gwyliwch gan hynny ; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd . A gwybyddwch hyn , pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr , efe a wyliasai , ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd . Am hynny byddwch chwithau barod : canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn . Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth , yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu , i roddi bwyd iddynt mewn pryd ? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw , yr hwn y caiff ei arglwydd ef , pan ddelo , yn gwneuthur felly . Yn wir meddaf i chwi , Ar ei holl dda y gesyd efe ef . Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon , Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod ; A dechrau curo ei gyd‐weision , a bwyta ac yfed gyda’r meddwon ; Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano , ac mewn awr nis gŵyr efe ; Ac efe a’i gwahana ef , ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion , y rhai a gymerasant eu lampau , ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab . A phump ohonynt oedd gall , a phump yn ffôl . Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau , ac ni chymerasant olew gyda hwynt : A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau . A thra oedd y priodfab yn aros yn hir , yr hepiasant oll ac yr hunasant . Ac ar hanner nos y bu gwaedd , Wele , y mae’r priodfab yn dyfod ; ewch allan i gyfarfod ag ef . Yna y cyfododd yr holl forynion hynny , ac a drwsiasant eu lampau . A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call , Rhoddwch i ni o’ch olew chwi : canys y mae ein lampau yn diffoddi . A’r rhai call a atebasant , gan ddywedyd , Nid felly ; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau : ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu , a phrynwch i chwi eich hunain . A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu , daeth y priodfab ; a’r rhai oedd barod , a aethant i mewn gydag ef i’r briodas : a chaewyd y drws . Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd , gan ddywedyd , Arglwydd , Arglwydd , agor i ni . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nid adwaen chwi . Gwyliwch gan hynny ; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn . Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr , yr hwn a alwodd ei weision , ac a roddes ei dda atynt . Ac i un y rhoddodd efe bum talent , ac i arall ddwy , ac i arall un , i bob un yn ôl ei allu ei hun ; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref . A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth , ac a farchnataodd â hwynt , ac a wnaeth bum talent eraill . A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy , a enillodd yntau ddwy eraill . Ond yr hwn a dderbyniasai un , a aeth , ac a gloddiodd yn y ddaear , ac a guddiodd arian ei arglwydd . Ac wedi llawer o amser , y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod , ac yn cyfrif â hwynt . A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent , ac a ddug bum talent eraill , gan ddywedyd , Arglwydd , pum talent a roddaist ataf : wele , mi a enillais bum talent eraill atynt . A dywedodd ei arglwydd wrtho , Da , was da a ffyddlon : buost ffyddlon ar ychydig , mi a’th osodaf ar lawer : dos i mewn i lawenydd dy arglwydd . A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth , ac a ddywedodd , Arglwydd , dwy dalent a roddaist ataf : wele , dwy eraill a enillais atynt . Ei arglwydd a ddywedodd wrtho , Da , was da a ffyddlon : buost ffyddlon ar ychydig , mi a’th osodaf ar lawer : dos i mewn i lawenydd dy arglwydd . A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth , ac a ddywedodd , Arglwydd , mi a’th adwaenwn di , mai gŵr caled ydwyt , yn medi lle nis heuaist , ac yn casglu lle ni wasgeraist : A mi a ofnais , ac a euthum , ac a guddiais dy dalent yn y ddaear : wele , yr wyt yn cael yr eiddot dy hun . A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho , O was drwg a diog , ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais , ac yn casglu lle nis gwasgerais : Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr ; a mi , pan ddaethwn , a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog . Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho , a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent . Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir , ac efe a gaiff helaethrwydd ; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno , ie , yr hyn sydd ganddo . A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf : yno y bydd wylofain a rhincian dannedd . A Mab y dyn , pan ddêl yn ei ogoniant , a’r holl angylion sanctaidd gydag ef , yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant . A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd : ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd , megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr : Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw , ond y geifr ar yr aswy . Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw , Deuwch , chwi fendigedigion fy Nhad , etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd . Canys bûm newynog , a chwi a roesoch imi fwyd : bu arnaf syched , a rhoesoch imi ddiod : bûm ddieithr , a dygasoch fi gyda chwi : Noeth , a dilladasoch fi : bûm glaf , ac ymwelsoch â mi : bûm yng ngharchar , a daethoch ataf . Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , pa bryd y’th welsom yn newynog , ac y’th borthasom ? neu yn sychedig , ac y rhoesom iti ddiod ? A pha bryd y’th welsom yn ddieithr , ac y’th ddygasom gyda ni ? neu yn noeth , ac y’th ddilladasom ? A pha bryd y’th welsom yn glaf , neu yng ngharchar , ac y daethom atat ? A’r Brenin a etyb , ac a ddywed wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf , i mi y gwnaethoch . Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy , Ewch oddi wrthyf , rai melltigedig , i’r tân tragwyddol , yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion . Canys bûm newynog , ac ni roesoch i mi fwyd : bu arnaf syched , ac ni roesoch i mi ddiod : Bûm ddieithr , ac ni’m dygasoch gyda chwi : noeth , ac ni’m dilladasoch : yn glaf ac yng ngharchar , ac nid ymwelsoch â mi . Yna yr atebant hwythau hefyd iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , pa bryd y’th welsom yn newynog , neu yn sychedig , neu yn ddieithr , neu yn noeth , neu yn glaf , neu yng ngharchar , ac ni weiniasom iti ? Yna yr etyb efe iddynt , gan ddywedyd , Yn wir meddaf i chwi , Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn , nis gwnaethoch i minnau . A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol : ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol . Abu , wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg ; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio . Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a henuriaid y bobl , i lys yr archoffeiriad , yr hwn a elwid Caiaffas : A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell , ac y lladdent ef . Eithr hwy a ddywedasant , Nid ar yr ŵyl , rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl . Ac a’r Iesu ym Methania , yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus , Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr , ac a’i tywalltodd ar ei ben , ac efe yn eistedd wrth y ford . A phan welodd ei ddisgyblion , hwy a sorasant , gan ddywedyd , I ba beth y bu’r golled hon ? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer , a’i roddi i’r tlodion . A’r Iesu a wybu , ac a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig ? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf . Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi ; a mi nid ydych yn ei gael bob amser . Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff , a wnaeth hyn i’m claddu i . Yn wir meddaf i chwi , Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd , mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd , er coffa amdani hi . Yna yr aeth un o’r deuddeg , yr hwn a elwid Jwdas Iscariot , at yr archoffeiriaid , Ac a ddywedodd wrthynt , Pa beth a roddwch i mi , a mi a’i traddodaf ef i chwi ? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian . Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef . Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw , y disgyblion a ddaethant at yr Iesu , gan ddywedyd wrtho , Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg ? Ac yntau a ddywedodd , Ewch i’r ddinas at y cyfryw un , a dywedwch wrtho , Y mae’r Athro yn dywedyd , Fy amser sydd agos : gyda thi y cynhaliaf y pasg , mi a’m disgyblion . A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt , ac a baratoesant y pasg . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , efe a eisteddodd gyda’r deuddeg . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , efe a ddywedodd , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , mai un ohonoch chwi a’m bradycha i . A hwythau yn drist iawn , a ddechreuasant ddywedyd wrtho , bob un ohonynt , Ai myfi yw , Arglwydd ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl , hwnnw a’m bradycha i . Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned , fel y mae yn ysgrifenedig amdano : eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn ! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef . A Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , a atebodd ac a ddywedodd , Ai myfi yw efe , Athro ? Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a ddywedaist . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , yr Iesu a gymerth y bara , ac wedi iddo fendithio , efe a’i torrodd , ac a’i rhoddodd i’r disgyblion , ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch : hwn yw fy nghorff . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a diolch , efe a’i rhoddes iddynt , gan ddywedyd , Yfwch bawb o hwn : Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd , yr hwn a dywelltir dros lawer , er maddeuant pechodau . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden , hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad . Ac wedi iddynt ganu hymn , hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt , Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i : canys ysgrifenedig yw , Trawaf y bugail , a defaid y praidd a wasgerir . Eithr wedi fy atgyfodi , mi a af o’ch blaen chwi i Galilea . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Pe rhwystrid pawb o’th blegid di , eto ni’m rhwystrir i byth . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti , mai’r nos hon , cyn canu o’r ceiliog , y’m gwedi deirgwaith . Pedr a ddywedodd wrtho , Pe gorfyddai imi farw gyda thi , ni’th wadaf ddim . Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion . Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane , ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Eisteddwch yma , tra elwyf a gweddïo acw . Ac efe a gymerth Pedr , a dau fab Sebedeus , ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio . Yna efe a ddywedodd wrthynt , Trist iawn yw fy enaid hyd angau : arhoswch yma , a gwyliwch gyda mi . Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen , efe a syrthiodd ar ei wyneb , gan weddïo , a dywedyd , Fy Nhad , os yw bosibl , aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf : eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio , ond fel yr ydwyt ti . Ac efe a ddaeth at y disgyblion , ac a’u cafodd hwy yn cysgu ; ac a ddywedodd wrth Pedr , Felly ; oni allech chwi wylied un awr gyda mi ? Gwyliwch a gweddïwch , fel nad eloch i brofedigaeth . Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod , eithr y cnawd sydd wan . Efe a aeth drachefn yr ail waith , ac a weddïodd , gan ddywedyd , Fy Nhad , onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf , na byddo i mi yfed ohono , gwneler dy ewyllys di . Ac efe a ddaeth , ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn : canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth ymaith drachefn , ac a weddïodd y drydedd waith , gan ddywedyd yr un geiriau . Yna y daeth efe at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd wrthynt , Cysgwch bellach , a gorffwyswch : wele , y mae’r awr wedi nesáu , a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid . Codwch , awn : wele , nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu . Ac efe eto yn llefaru , wele , Jwdas , un o’r deuddeg , a ddaeth , a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn , oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl . A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt , gan ddywedyd , Pa un bynnag a gusanwyf , hwnnw yw efe : deliwch ef . Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu , ac a ddywedodd , Henffych well , Athro ; ac a’i cusanodd ef . A’r Iesu a ddywedodd wrtho . Y cyfaill , i ba beth y daethost ? Yna y daethant , ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu , ac a’i daliasant ef . Ac wele , un o’r rhai oedd gyda’r Iesu , a estynnodd ei law , ac a dynnodd ei gleddyf , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ei glust ef . Yna y dywedodd yr Iesu wrtho , Dychwel dy gleddyf i’w le : canys pawb a’r a gymerant gleddyf , a ddifethir â chleddyf . A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad , ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion ? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau , mai felly y gorfydd bod ? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd , Ai megis at leidr y daethoch chwi allan , â chleddyfau a ffyn i’m dal i ? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml , ac ni’m daliasoch . A hyn oll a wnaethpwyd , fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi . Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef , ac a ffoesant . A’r rhai a ddaliasent yr Iesu , a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad , lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd . A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell , hyd yn llys yr archoffeiriad ; ac a aeth i mewn , ac a eisteddodd gyda’r gweision , i weled y diwedd . A’r archoffeiriaid a’r henuriaid , a’r holl gyngor , a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu , fel y rhoddent ef i farwolaeth ; Ac nis cawsant : ie , er dyfod yno gau dystion lawer , ni chawsant . Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst , Ac ddywedasant , Hwn a ddywedodd , Mi a allaf ddinistrio teml Dduw , a’i hadeiladu mewn tri diwrnod . A chyfododd yr archoffeiriad , ac a ddywedodd wrtho , A atebi di ddim ? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn ? Ond yr Iesu a dawodd . A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho , Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw , ddywedyd ohonot i ni , ai tydi yw y Crist , Mab Duw . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Ti a ddywedaist : eithr meddaf i chwi , Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu , ac yn dyfod ar gymylau’r nef . Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad , gan ddywedyd , Efe a gablodd : pa raid inni mwy wrth dystion ? wele , yr awron clywsoch ei gabledd ef . Beth dybygwch chwi ? Hwythau gan ateb a ddywedasant , Y mae efe yn euog o farwolaeth . Yna y poerasant yn ei wyneb , ac a’i cernodiasant ; eraill a’i trawsant ef â gwiail , Gan ddywedyd , Proffwyda i ni , O Grist , pwy yw’r hwn a’th drawodd ? A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys : a daeth morwynig ato , ac a ddywedodd , A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead . Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll , ac a ddywedodd , Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd . A phan aeth efe allan i’r porth , gwelodd un arall ef ; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno , Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth . A thrachefn efe a wadodd trwy lw , Nid adwaen i y dyn . Ac ychydig wedi , daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw , ac a ddywedasant wrth Pedr , Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt ; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo . Yna y dechreuodd efe regi a thyngu , Nid adwaen i y dyn . Ac yn y man y canodd y ceiliog . A chofiodd Pedr air yr Iesu , yr hwn a ddywedasai wrtho , Cyn canu o’r ceiliog , ti a’m gwedi deirgwaith . Ac efe a aeth allan , ac a wylodd yn chwerw‐dost . Aphan ddaeth y bore , cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid , a henuriaid y bobl , yn erbyn yr Iesu , fel y rhoddent ef i farwolaeth . Ac wedi iddynt ei rwymo , hwy a’i dygasant ef ymaith , ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw . Yna pan welodd Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , ddarfod ei gondemnio ef , bu edifar ganddo , ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid , Gan ddywedyd , Pechais , gan fradychu gwaed gwirion . Hwythau a ddywedasant , Pa beth yw hynny i ni ? edrych di . Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml , efe a ymadawodd , ac a aeth ac a ymgrogodd . A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian , ac a ddywedasant , Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa ; canys gwerth gwaed ydyw . Ac wedi iddynt gydymgynghori , hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd , yn gladdfa dieithriaid . Am hynny y galwyd y maes hwnnw , Maes y gwaed , hyd heddiw . ( Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd , gan ddywedyd , A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian , pris y prisiedig , yr hwn a brynasant gan feibion Israel ; Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd , megis y gosododd yr Arglwydd i mi . ) A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw : a’r rhaglaw a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Yr wyt ti yn dywedyd . A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid , nid atebodd efe ddim . Yna y dywedodd Peilat wrtho , Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di ? Ac nid atebodd efe iddo i un gair ; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr . Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor , yr hwn a fynnent . Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod , a elwid Barabbas . Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd , Peilat a ddywedodd wrthynt , Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi ? Barabbas , ai’r Iesu , yr hwn a elwir Crist ? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef . Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc , ei wraig a ddanfonodd ato , gan ddywedyd , Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw : canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef . A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl , fel y gofynnent Barabbas , ac y difethent yr Iesu . A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi ? Hwythau a ddywedasant , Barabbas . Peilat a ddywedodd wrthynt , Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu , yr hwn a elwir Crist ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho , Croeshoelier ef . A’r rhaglaw a ddywedodd , Ond pa ddrwg a wnaeth efe ? Hwythau a lefasant yn fwy , gan ddywedyd , Croeshoelier ef . A Peilat , pan welodd nad oedd dim yn tycio , ond yn hytrach bod cynnwrf , a gymerth ddwfr , ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl , gan ddywedyd , Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn : edrychwch chwi . A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd , Bydded ei waed ef arnom ni , ac ar ein plant . Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt : ond yr Iesu a fflangellodd efe , ac a’i rhoddes i’w groeshoelio . Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy , ac a gynullasant ato yr holl fyddin . A hwy a’i diosgasant ef , ac a roesant amdano fantell o ysgarlad . A chwedi iddynt blethu coron o ddrain , hwy a’i gosodasant ar ei ben ef , a chorsen yn ei law ddeau ; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef , ac a’i gwatwarasant , gan ddywedyd , Henffych well , brenin yr Iddewon . A hwy a boerasant arno , ac a gymerasant y gorsen , ac a’i trawsant ar ei ben . Ac wedi iddynt ei watwar , hwy a’i diosgasant ef o’r fantell , ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun , ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio . Ac fel yr oeddynt yn myned allan , hwy a gawsant ddyn o Cyrene , a’i enw Simon ; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef . A phan ddaethant i le a elwid Golgotha , yr hwn a elwir , Lle’r benglog , Hwy a roesant iddo i’w yfed , finegr yn gymysgedig â bustl : ac wedi iddo ei brofi , ni fynnodd efe yfed . Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef , hwy a ranasant ei ddillad , gan fwrw coelbren : er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd , Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith , ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren . A chan eistedd , hwy a’i gwyliasant ef yno : A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig , HWN YW IESU , BRENIN YR IDDEWON . Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr ; un ar y llaw ddeau , ac un ar yr aswy . A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef , gan ysgwyd eu pennau , A dywedyd , Ti yr hwn a ddinistri’r deml , ac a’i hadeiledi mewn tridiau , gwared dy hun . Os ti yw Mab Duw , disgyn oddi ar y groes . A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd , gan watwar , gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid , a ddywedasant , Efe a waredodd eraill , ei hunan nis gall efe ei waredu . Os Brenin Israel yw , disgynned yr awron oddi ar y groes , ac ni a gredwn iddo . Ymddiriedodd yn Nuw ; gwareded efe ef yr awron , os efe a’i myn ef : canys efe a ddywedodd , Mab Duw ydwyf . A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo , y rhai a groeshoeliasid gydag ef . Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel , gan ddywedyd , Eli , Eli , lama sabachthani ? hynny yw , Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gadewaist ? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno , pan glywsant , a ddywedasant , Y mae hwn yn galw am Eleias . Ac yn y fan un ohonynt a redodd , ac a gymerth ysbwng , ac a’i llanwodd o finegr , ac a’i rhoddodd ar gorsen , ac a’i diododd ef . A’r lleill a ddywedasant , Paid , edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef . A’r Iesu , wedi llefain drachefn â llef uchel , a ymadawodd â’r ysbryd . Ac wele , llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered : a’r ddaear a grynodd , a’r meini a holltwyd : A’r beddau a agorwyd ; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant , Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef , ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd , ac a ymddangosasant i lawer . Ond y canwriad , a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu , wedi gweled y ddaeargryn , a’r pethau a wnaethid , a ofnasant yn fawr , gan ddywedyd , Yn wir Mab Duw ydoedd hwn . Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell , y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea , gan weini iddo ef : Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen , a Mair mam Iago a Joses , a mam meibion Sebedeus . Ac wedi ei myned hi yn hwyr , daeth gŵr goludog o Arimathea , a’i enw Joseff , yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu : Hwn a aeth at Peilat , ac a ofynnodd gorff yr Iesu . Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff . A Joseff wedi cymryd y corff , a’i hamdôdd â lliain glân , Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun , yr hwn a dorasai efe yn y graig ; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd , ac a aeth ymaith . Ac yr oedd yno Mair Magdalen , a’r Fair arall , yn eistedd gyferbyn â’r bedd . A thrannoeth , yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl , yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat , Gan ddywedyd , Arglwydd , y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw , ac efe eto yn fyw , Wedi tridiau y cyfodaf . Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd ; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos , a’i ladrata ef , a dywedyd wrth y bobl , Efe a gyfododd o feirw : a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf . A dywedodd Peilat wrthynt , Y mae gennych wyliadwriaeth ; ewch , gwnewch mor ddiogel ag y medroch . A hwy a aethant , ac a wnaethant y bedd yn ddiogel , ac a seliasant y maen , gyda’r wyliadwriaeth . Ac yn niwedd y Saboth , a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos , daeth Mair Magdalen , a’r Fair arall , i edrych y bedd . Ac wele , bu daeargryn mawr : canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef , ac a ddaeth , ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws , ac a eisteddodd arno . A’i wynepryd oedd fel mellten , a’i wisg yn wen fel eira . A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid , ac a aethant megis yn feirw . A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd , Nac ofnwch : canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu , yr hwn a groeshoeliwyd . Nid yw efe yma : canys cyfododd , megis y dywedodd . Deuwch , gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd . Ac ewch ar ffrwst , a dywedwch i’w ddisgyblion , gyfodi ohono o feirw . Ac wele , y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea : yno gwelwch ef . Wele , dywedais i chwi . Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd , gydag ofn a llawenydd mawr , rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef . Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef , wele , yr Iesu a gyfarfu â hwynt , gan ddywedyd , Henffych well . A hwy a ddaethant , ac a ymafaelasant yn ei draed ef , ac a’i haddolasant . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt , Nac ofnwch : ewch , mynegwch i’m brodyr , fel yr elont i Galilea , ac yno y’m gwelant i . Ac wedi eu myned hwy , wele , rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas , ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid . Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid , a chydymgynghori , hwy a roesant arian lawer i’r milwyr , Gan ddywedyd , Dywedwch , Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos , ac a’i lladratasant ef , a nyni yn cysgu . Ac os clyw y rhaglaw hyn , ni a’i perswadiwn ef , ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal . A hwy a gymerasant yr arian , ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt : a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw . A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea , i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt . A phan welsant ef , hwy a’i haddolasant ef : ond rhai a ameuasant . A’r Iesu a ddaeth , ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear . Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd , gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad , a’r Mab , a’r Ysbryd Glân ; Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi . Ac wele , yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd . Amen . </passage></reply></GetPassage>