<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:41</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:41</urn><passage>Dechrau efengyl Iesu Grist , Fab Duw ; Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi , Wele , yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , gwnewch yn union ei lwybrau ef . Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch , ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau . Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea , a’r Hierosolymitiaid , ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen , gan gyffesu eu pechodau . Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel , a gwregys croen ynghylch ei lwynau , ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt . Ac efe a bregethodd , gan ddywedyd , Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi , carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod . Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr : eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân . A bu yn y dyddiau hynny , ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea ; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen . Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr , efe a welodd y nefoedd yn agored , a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen . A llef a ddaeth o’r nefoedd , Tydi yw fy annwyl Fab , yn yr hwn y’m bodlonwyd . Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch . Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan : ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod : a’r angylion a weiniasant iddo . Ac ar ôl traddodi Ioan , yr Iesu a ddaeth i Galilea , gan bregethu efengyl teyrnas Dduw ; A dywedyd , Yr amser a gyflawnwyd , a theyrnas Dduw a nesaodd : edifarhewch , a chredwch yr efengyl . Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea , efe a ganfu Simon , ac Andreas ei frawd , yn bwrw rhwyd yn y môr : ( canys pysgodwyr oeddynt . ) A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Deuwch ar fy ôl i , a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion . Ac yn ebrwydd , gan adael eu rhwydau , y canlynasant ef . Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno , efe a ganfu Iago fab Sebedeus , ac Ioan ei frawd ef , a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau . Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt : a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion , ac a aethant ar ei ôl ef . A hwy a aethant i mewn i Gapernaum ; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth , wedi iddo fyned i mewn i’r synagog , efe a athrawiaethodd . A synasant wrth ei athrawiaeth ef : canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo , ac nid fel yr ysgrifenyddion . Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan : ac efe a lefodd , Gan ddywedyd , Och , beth sydd i ni a wnelom â thi , Iesu o Nasareth ? a ddaethost ti i’n difetha ni ? mi a’th adwaen pwy ydwyt , Sanct Duw . A’r Iesu a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Taw , a dos allan ohono . Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef , a gweiddi â llef uchel , efe a ddaeth allan ohono . Ac fe a aeth ar bawb fraw , fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain , gan ddywedyd , Beth yw hyn ? pa athrawiaeth newydd yw hon ? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn , ie , yr ysbrydion aflan , a hwy yn ufuddhau iddo . Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea . Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog , hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas , gydag Iago ac Ioan . Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd : ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi . Ac efe a ddaeth , ac a’i cododd hi i fyny , gan ymaflyd yn ei llaw hi : a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man ; a hi a wasanaethodd arnynt hwy . Ac wedi iddi hwyrhau , pan fachludodd yr haul , hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl , a’r rhai cythreulig . A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws . Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau , ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid ; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef . A’r bore yn blygeiniol iawn , wedi iddo godi , efe a aeth allan , ac a aeth i le anghyfannedd ; ac yno y gweddïodd . A Simon , a’r rhai oedd gydag ef , a’i dilynasant ef . Ac wedi iddynt ei gael ef , hwy a ddywedasant wrtho , Y mae pawb yn dy geisio di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Awn i’r trefydd nesaf , fel y gallwyf bregethu yno hefyd : canys i hynny y deuthum allan . Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea , ac yn bwrw allan gythreuliaid . A daeth ato ef un gwahanglwyfus , gan ymbil ag ef , a gostwng ar ei liniau iddo , a dywedyd wrtho , Os mynni , ti a elli fy nglanhau . A’r Iesu , gan dosturio , a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , ac a ddywedodd wrtho , Mynnaf , bydd lân . Ac wedi iddo ddywedyd hynny , ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd , a glanhawyd ef . Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth , efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man ; Ac a ddywedodd wrtho , Gwêl na ddywedych ddim wrth neb : eithr dos ymaith , dangos dy hun i’r offeiriad , ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt hwy . Eithr efe a aeth ymaith , ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer , a thaenu’r gair ar led , fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas ; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd : ac o bob parth y daethant ato ef . Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum , wedi rhai dyddiau ; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ . Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd , hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws : ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy . A daethant ato , gan ddwyn un claf o’r parlys , yr hwn a ddygid gan bedwar . A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa , didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe : ac wedi iddynt dorri trwodd , hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys . A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt , efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys , Ha fab , maddeuwyd i ti dy bechodau . Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno , ac yn ymresymu yn eu calonnau , Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd ? pwy a all faddau pechodau , ond Duw yn unig ? Ac yn ebrwydd , pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain , efe a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau ? Pa un sydd hawsaf , ai dywedyd wrth y claf o’r parlys , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a chymer i fyny dy wely , a rhodia ? Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear , ( eb efe wrth y claf o’r parlys , ) Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd , Cyfod , a chymer i fyny dy wely , a dos i’th dŷ . Ac yn y man y cyfododd efe , ac y cymerth i fyny ei wely , ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll ; hyd oni synnodd pawb , a gogoneddu Duw , gan ddywedyd , Ni welsom ni erioed fel hyn . Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr : a’r holl dyrfa a ddaeth ato ; ac efe a’u dysgodd hwynt . Ac efe yn myned heibio , efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa , ac a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . Ac efe a gododd , ac a’i canlynodd ef . A bu , a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef , i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion ; canys llawer oeddynt , a hwy a’i canlynasent ef . A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid , hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef , Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid ? A’r Iesu , pan glybu , a ddywedodd wrthynt , Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg , ond y rhai cleifion : ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio . A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho , Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio , ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio ? A dywedodd yr Iesu wrthynt , A all plant yr ystafell briodas ymprydio , tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt ? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt , ni allant ymprydio . Eithr y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodasfab oddi arnynt ; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny . Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen : os amgen , ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen , a gwaeth fydd y rhwyg . Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau : os amgen , y gwin newydd a ddryllia’r costrelau , a’r gwin a red allan , a’r costrelau a gollir : eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion . A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth ; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys . A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho , Wele , paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd , pan oedd angen a chwant bwyd arno , efe a’r rhai oedd gydag ef ? Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw , dan Abiathar yr archoffeiriad , ac y bwytaodd y bara gosod , y rhai nid cyfreithlon eu bwyta , ond i’r offeiriaid yn unig , ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn , ac nid dyn er mwyn y Saboth : Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth . Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog ; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo . A hwy a’i gwyliasant ef , a iachâi efe ef ar y dydd Saboth ; fel y cyhuddent ef . Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo , Cyfod i’r canol . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth , ynteu gwneuthur drwg ? cadw einioes , ai lladd ? A hwy a dawsant â sôn . Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon , gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt , efe a ddywedodd wrth y dyn , Estyn allan dy law . Ac efe a’i hestynnodd : a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall . A’r Phariseaid a aethant allan , ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef , pa fodd y difethent ef . A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr : a lliaws mawr a’i canlynodd ef , o Galilea , ac o Jwdea , Ac o Jerwsalem , ac o Idumea , ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon , lliaws mawr , pan glywsant gymaint a wnaethai efe , a ddaethant ato . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo , oblegid y dyrfa , rhag iddynt ei wasgu ef . Canys efe a iachasai lawer , hyd oni phwysent arno , er mwyn cyffwrdd ag ef , cynifer ag oedd â phlâu arnynt . A’r ysbrydion aflan , pan welsant ef , a syrthiasant i lawr ger ei fron ef , ac a waeddasant , gan ddywedyd , Ti yw Mab Duw . Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth , na chyhoeddent ef . Ac efe a esgynnodd i’r mynydd , ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe : a hwy a ddaethant ato . Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg , fel y byddent gydag ef , ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu ; Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau , ac i fwrw allan gythreuliaid . Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr ; Ac Iago fab Sebedeus , ac Ioan brawd Iago , ( ac efe a roddes iddynt enwau , Boanerges ; yr hyn yw , Meibion y daran ; ) Ac Andreas , a Philip , a Bartholomeus , a Mathew , a Thomas , ac Iago fab Alffeus , a Thadeus , a Simon y Canaanead , A Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a’i bradychodd ef . A hwy a ddaethant i dŷ . A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn , fel na allent gymaint â bwyta bara . A phan glybu’r eiddo ef , hwy a aethant i’w ddal ef : canys dywedasant , Y mae ef allan o’i bwyll . A’r ysgrifenyddion , y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem , a ddywedasant fod Beelsebub ganddo , ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid . Ac wedi iddo eu galw hwy ato , efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion , Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan ? Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , ni ddichon y deyrnas honno sefyll . Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll . Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun , ac a fydd wedi ymrannu , ni all efe sefyll , eithr y mae iddo ddiwedd . Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn , ac ysbeilio ei ddodrefn ef , oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn ; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef . Yn wir y dywedaf i chwi , y maddeuir pob pechod i feibion dynion , a pha gabledd bynnag a gablant : Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân , ni chaiff faddeuant yn dragywydd , ond y mae yn euog o farn dragywydd : Am iddynt ddywedyd , Y mae ysbryd aflan ganddo . Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam ; a chan sefyll allan , hwy a anfonasant ato , gan ei alw ef . A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch , ac a ddywedasant wrtho , Wele , y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio . Ac efe a’u hatebodd hwynt , gan ddywedyd , Pwy yw fy mam i , neu fy mrodyr i ? Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch , efe a ddywedodd , Wele fy mam i , a’m brodyr i . Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw , hwnnw yw fy mrawd i , a’m chwaer , a’m mam i . Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr : a thyrfa fawr a ymgasglodd ato , hyd oni bu iddo fyned i’r llong , ac eistedd ar y môr ; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr , ar y tir . Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion , ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef , Gwrandewch : Wele , heuwr a aeth allan i hau : A darfu , wrth hau , i beth syrthio ar fin y ffordd , ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant . A pheth a syrthiodd ar greigle , lle ni chafodd fawr ddaear ; ac yn y fan yr eginodd , am nad oedd iddo ddyfnder daear . A phan gododd yr haul , y poethwyd ef ; ac am nad oedd gwreiddyn iddo , efe a wywodd . A pheth a syrthiodd ymhlith drain ; a’r drain a dyfasant , ac a’i tagasant ef , ac ni ddug ffrwyth . A pheth arall a syrthiodd mewn tir da , ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol , ac a ddug un ddeg ar hugain , ac un dri ugain , ac un gant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . A phan oedd efe wrtho’i hun , y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw : eithr i’r rhai sydd allan , ar ddamhegion y gwneir pob peth : Fel yn gweled y gwelant , ac na chanfyddant ; ac yn clywed y clywant , ac ni ddeallant ; rhag iddynt ddychwelyd , a maddau iddynt eu pechodau . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Oni wyddoch chwi’r ddameg hon ? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion ? Yr heuwr sydd yn hau’r gair . A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd , lle yr heuir y gair ; ac wedi iddynt ei glywed , y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd , ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt . A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle ; y rhai , wedi clywed y gair , sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen ; Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain , eithr dros amser y maent : yna , pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair , yn y man y rhwystrir hwynt . A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain ; y rhai a wrandawant y gair , Ac y mae gofalon y byd hwn , a hudoliaeth golud , a chwantau am bethau eraill , yn dyfod i mewn , ac yn tagu’r gair , a myned y mae yn ddiffrwyth . A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da ; y rhai sydd yn gwrando y gair , ac yn ei dderbyn , ac yn dwyn ffrwyth , un ddeg ar hugain , ac un dri ugain , ac un gant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr , neu dan wely ? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren ? Canys nid oes dim cuddiedig , a’r nis amlygir ; ac ni bu ddim dirgel , ond fel y delai i eglurdeb . Od oes gan neb glustiau i wrando , gwrandawed . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Edrychwch beth a wrandawoch . A pha fesur y mesuroch , y mesurir i chwithau ; a chwanegir i chwi , y rhai a wrandewch . Canys yr hwn y mae ganddo , y rhoddir iddo : a’r hwn nid oes ganddo , ie , yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno . Ac efe a ddywedodd , Felly y mae teyrnas Dduw , fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear ; A chysgu , a chodi nos a dydd , a’r had yn egino ac yn tyfu , y modd nis gŵyr efe . Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun ; yn gyntaf yr eginyn , ar ôl hynny y dywysen , yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen . A phan ymddangoso’r ffrwyth , yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo , am ddyfod y cynhaeaf . Ac efe a ddywedodd , I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw ? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni ? Megis gronyn o had mwstard ydyw , yr hwn pan heuer yn y ddaear , sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear ; Eithr wedi yr heuer , y mae yn tyfu , ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau , ac efe a ddwg ganghennau mawrion ; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef . Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair , hyd y gallent ei wrando : Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt : ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth . Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw , wedi ei hwyrhau hi , Awn trosodd i’r tu draw . Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa , hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong : ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef . Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt , a’r tonnau a daflasant i’r llong , hyd onid oedd hi yn llawn weithian . Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong , yn cysgu ar obennydd : a hwy a’i deffroesant ef , ac a ddywedasant wrtho , Athro , ai difater gennyt ein colli ni ? Ac efe a gododd i fyny , ac a geryddodd y gwynt , ac a ddywedodd wrth y môr , Gostega , distawa . A’r gwynt a ostegodd , a bu tawelwch mawr . Ac efe a ddywedodd wrthynt . Paham yr ydych mor ofnog ? pa fodd nad oes gennych ffydd ? Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr , ac a ddywedasant wrth ei gilydd , Pwy yw hwn , gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo ? A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr , i wlad y Gadareniaid . Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong , yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau , ddyn ag ysbryd aflan ynddo , Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau ; ac ni allai neb , ie , â chadwynau , ei rwymo ef : Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau , ac â chadwynau , a darnio ohono’r cadwynau , a dryllio’r llyffetheiriau : ac ni allai neb ei ddofi ef . Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd , ac ymhlith y beddau , ac yn ei dorri ei hun â cherrig . Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell , efe a redodd , ac a’i haddolodd ef ; A chan weiddi â llef uchel , efe a ddywedodd , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , Iesu Mab y Duw goruchaf ? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw , na phoenech fi . ( Canys dywedasai wrtho , Ysbryd aflan , dos allan o’r dyn . ) Ac efe a ofynnodd iddo , Beth yw dy enw ? Yntau a atebodd , gan ddywedyd , Lleng yw fy enw ; am fod llawer ohonom . Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef , na yrrai efe hwynt allan o’r wlad . Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori . A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Danfon ni i’r moch , fel y gallom fyned i mewn iddynt . Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt . A’r ysbrydion aflan , wedi myned allan , a aethant i mewn i’r moch : a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr ( ac ynghylch dwy fil oeddynt ) ac a’u boddwyd yn y môr . A’r rhai a borthent y moch a ffoesant , ac a fynegasant y peth yn y ddinas , ac yn y wlad : a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid . A hwy a ddaethant at yr Iesu , ac a welsant y cythreulig , yr hwn y buasai’r lleng ynddo , yn eistedd , ac yn ei ddillad , ac yn ei iawn bwyll ; ac a ofnasant . A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt , pa fodd y buasai i’r cythreulig , ac am y moch . A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt . Ac efe yn myned i’r llong , yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef . Ond yr Iesu ni adawodd iddo ; eithr dywedodd wrtho , Dos i’th dŷ at yr eiddot , a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot , ac iddo drugarhau wrthyt . Ac efe a aeth ymaith , ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis , pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo : a phawb a ryfeddasant . Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall , ymgasglodd tyrfa fawr ato : ac yr oedd efe wrth y môr . Ac wele , un o benaethiaid y synagog a ddaeth , a’i enw Jairus : a phan ei gwelodd , efe a syrthiodd wrth ei draed ef ; Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , Y mae fy merch fechan ar dranc : atolwg i ti ddyfod , a dodi dy ddwylo arni , fel yr iachaer hi ; a byw fydd . A’r Iesu a aeth gydag ef : a thyrfa fawr a’i canlynodd ef , ac a’i gwasgasant ef . A rhyw wraig , yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd , Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon , ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw , ac ni chawsai ddim llesâd , eithr yn hytrach myned waethwaeth , Pan glybu hi am yr Iesu , hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl , ac a gyffyrddodd â’i wisg ef ; Canys hi a ddywedasai , Os cyffyrddaf â’i ddillad ef , iach fyddaf . Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi : a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla . Ac yn y fan yr Iesu , gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono , a drodd yn y dyrfa , ac a ddywedodd , Pwy a gyffyrddodd â’m dillad ? A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu , ac a ddywedi di , Pwy a’m cyffyrddodd ? Ac yntau a edrychodd o amgylch , i weled yr hon a wnaethai hyn . Ond y wraig , gan ofni a chrynu , yn gwybod beth a wnaethid ynddi , a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef , ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd . Ac efe a ddywedodd wrthi , Ha ferch , dy ffydd a’th iachaodd : dos mewn heddwch , a bydd iach o’th bla . Ac efe eto yn llefaru , daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog , gan ddywedyd , Bu farw dy ferch : i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro ? A’r Iesu , yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid , a ddywedodd wrth bennaeth y synagog , Nac ofna ; cred yn unig . Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn , ond Pedr , ac Iago , ac Ioan brawd Iago . Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog , ac a ganfu’r cynnwrf , a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer . Ac wedi iddo fyned i mewn , efe a ddywedodd wrthynt , Paham y gwnewch gynnwrf , ac yr wylwch ? ni bu farw’r eneth , eithr cysgu y mae . A hwy a’i gwatwarasant ef . Ond efe , gwedi bwrw pawb allan , a gymerth dad yr eneth a’i mam , a’r rhai oedd gydag ef , ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd . Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth , efe a ddywedodd wrthi , Talitha , cwmi ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Yr eneth , yr wyf yn dywedyd wrthyt , cyfod . Ac yn y fan y cyfododd yr eneth , ac a rodiodd : canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi . A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr . Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth , na châi neb wybod hyn ; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta . Ac efe a aeth ymaith oddi yno , ac a ddaeth i’w wlad ei hun ; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef . Ac wedi dyfod y Saboth , efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog : a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant , gan ddywedyd , O ba le y daeth y pethau hyn i hwn ? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo , fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef ? Onid hwn yw’r saer , mab Mair , brawd Iago , a Joses , a Jwdas , a Simon ? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni ? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef . Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun , ac ymhlith ei genedl ei hun , ac yn ei dŷ ei hun . Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau , ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion , a’u hiacháu hwynt . Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth : ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch , gan athrawiaethu . Ac efe a alwodd y deuddeg , ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau ; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan ; Ac a orchmynnodd iddynt , na chymerent ddim i’r daith , ond llawffon yn unig ; nac ysgrepan , na bara , nac arian yn eu pyrsau : Eithr eu bod â sandalau am eu traed ; ac na wisgent ddwy bais . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ , arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno . A pha rai bynnag ni’ch derbyniant , ac ni’ch gwrandawant , pan eloch oddi yno , ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed , yn dystiolaeth iddynt . Yn wir meddaf i chwi , Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn , nag i’r ddinas honno . A hwy a aethant allan , ac a bregethasant ar iddynt edifarhau : Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid , ac a eliasant ag olew lawer o gleifion , ac a’u hiachasant . A’r brenin Herod a glybu ( canys cyhoedd ydoedd ei enw ef ) ; ac efe a ddywedodd , Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw , ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef . Eraill a ddywedasant , Mai Eleias yw . Ac eraill a ddywedasant , Mai proffwyd yw , neu megis un o’r proffwydi . Ond Herod , pan glybu , a ddywedodd , Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn ; efe a gyfododd o feirw . Canys yr Herod hwn a ddanfonasai , ac a ddaliasai Ioan , ac a’i rhwymasai ef yn y carchar , o achos Herodias gwraig Philip ei frawd ; am iddo ei phriodi hi . Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod , Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd . Ond Herodias a ddaliodd wg iddo , ac a chwenychodd ei ladd ef ; ac nis gallodd : Canys Herod oedd yn ofni Ioan , gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn , ac yn sanctaidd ; ac a’i parchai ef : ac wedi iddo ei glywed ef , efe a wnâi lawer o bethau , ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar . Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas , pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid , a’i flaenoriaid , a goreugwyr Galilea : Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn , a dawnsio , a boddhau Herod , a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef , y brenin a ddywedodd wrth y llances , Gofyn i mi y peth a fynnech , ac mi a’i rhoddaf i ti . Ac efe a dyngodd iddi , Beth bynnag a ofynnech i mi , mi a’i rhoddaf iti , hyd hanner fy nheyrnas . A hithau a aeth allan , ac a ddywedodd wrth ei mam , Pa beth a ofynnaf ? A hithau a ddywedodd , Pen Ioan Fedyddiwr . Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin , ac a ofynnodd , gan ddywedyd , Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law , ar ddysgl , ben Ioan Fedyddiwr . A’r brenin yn drist iawn , ni chwenychai ei bwrw hi heibio , oherwydd y llwon , a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef . Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr , ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef . Ac yntau a aeth , ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar , ac a ddug ei ben ef ar ddysgl , ac a’i rhoddes i’r llances ; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam . A phan glybu ei ddisgyblion ef , hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef , ac a’i dodasant mewn bedd . A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu , ac a fynegasant iddo yr holl bethau , y rhai a wnaethent , a’r rhai hefyd a athrawiaethasent . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu , a gorffwyswch encyd . Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned , fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta . A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu . A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith , a llawer a’i hadnabuant ef , ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd , ac a’u rhagflaenasant hwynt , ac a ymgasglasant ato ef . A’r Iesu , wedi myned allan , a welodd dyrfa fawr , ac a dosturiodd wrthynt , am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail : ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau . Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd , y daeth ei ddisgyblion ato ef , gan ddywedyd , Y lle sydd anial , ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd : Gollwng hwynt ymaith , fel yr elont i’r wlad oddi amgylch , ac i’r pentrefi , ac y prynont iddynt eu hunain fara : canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta . Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwy a ddywedasant wrtho , A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara , a’i roddi iddynt i’w fwyta ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa sawl torth sydd gennych ? ewch , ac edrychwch . Ac wedi iddynt wybod , hwy a ddywedasant , Pump , a dau bysgodyn . Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt . A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd , o fesur cannoedd , ac o fesur deg a deugeiniau . Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn , gan edrych i fyny tua’r nef , efe a fendithiodd , ac a dorrodd y bara , ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion , i’w gosod ger eu bronnau hwynt : a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll . A hwy oll a fwytasant , ac a gawsant ddigon . A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd , ac o’r pysgod . A’r rhai a fwytasent o’r torthau , oedd ynghylch pum mil o wŷr . Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong , a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida , tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl . Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith , efe a aeth i’r mynydd i weddïo . A phan aeth hi yn hwyr , yr oedd y llong ar ganol y môr , ac yntau ei hun ar y tir . Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo ; canys y gwynt oedd yn eu herbyn . Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt , gan rodio ar y môr ; ac a fynasai fyned heibio iddynt . Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr , hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd : a hwy a waeddasant . ( Canys hwynt oll a’i gwelsant ef , ac a ddychrynasant . ) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt , ac y dywedodd wrthynt , Cymerwch gysur : myfi yw ; nac ofnwch . Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong ; a’r gwynt a dawelodd . A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer , ac a ryfeddasant . Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny : canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu . Ac wedi iddynt ddyfod trosodd , hwy a ddaethant i dir Gennesaret , ac a laniasant . Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong , hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd . Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw , hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion , pa le bynnag y clywent ei fod ef . Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn , i bentrefi , neu ddinasoedd , neu wlad , hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd , ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef : a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef , a iachawyd . Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid , a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem . A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin ( hynny ydyw , heb olchi , ) yn bwyta bwyd , hwy a argyhoeddasant . Canys y Phariseaid , a’r holl Iddewon , oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych , ni fwytânt ; gan ddal traddodiad yr hynafiaid . A phan ddelont o’r farchnad , oni bydd iddynt ymolchi , ni fwytânt . A llawer o bethau eraill y sydd , y rhai a gymerasant i’w cadw ; megis golchi cwpanau , ac ystenau , ac efyddynnau , a byrddau . Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo , Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid , ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi ? Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi , ragrithwyr , fel y mae yn ysgrifenedig , Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau , ond eu calon sydd bell oddi wrthyf . Eithr ofer y maent yn fy addoli , gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth , orchmynion dynion . Canys , gan adael heibio orchymyn Duw , yr ydych yn dal traddodiad dynion ; sef golchiadau ystenau a chwpanau : a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw , fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain . Canys Moses a ddywedodd , Anrhydedda dy dad a’th fam : a’r hwn a felltithio dad neu fam , bydded farw’r farwolaeth . Ac meddwch chwithau , Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam , Corban , hynny yw , Rhodd , trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi ; difai fydd . Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam ; Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain , yr hwn a draddodasoch chwi : a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur . A chwedi galw ato yr holl dyrfa , efe a ddywedodd wrthynt , Gwrandewch chwi oll arnaf , a deellwch . Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo , a ddichon ei halogi ef : eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono , y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn . Od oes gan neb glustiau i wrando , gwrandawed . A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl , ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg . Yntau a ddywedodd wrthynt , Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall ? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn , na all hynny ei halogi ef ? Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef , ond i’r bol ; ac yn myned allan i’r geudy , gan garthu’r holl fwydydd ? Ac efe a ddywedodd , Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn , hynny sydd yn halogi dyn . Canys oddi mewn , allan o galon dynion , y daw drwg feddyliau , torpriodasau , puteindra , llofruddiaeth , Lladradau , cybydd‐dod , drygioni , twyll , anlladrwydd , drwg lygad , cabledd , balchder , ynfydrwydd : Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn , ac yn halogi dyn . Ac efe a gyfododd oddi yno , ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon ; ac a aeth i mewn i dŷ , ac ni fynasai i neb wybod : eithr ni allai efe fod yn guddiedig . Canys pan glybu gwraig , yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi , sôn amdano , hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef : ( A Groeges oedd y wraig , Syroffeniciad o genedl . ) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch . A’r Iesu a ddywedodd wrthi , Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni : canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant , a’i daflu i’r cenawon cŵn . Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Gwir , O Arglwydd : ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant . Ac efe a ddywedodd wrthi , Am y gair hwnnw dos ymaith : aeth y cythraul allan o’th ferch . Ac wedi iddi fyned i’w thŷ , hi a gafodd fyned o’r cythraul allan , a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely . Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon , ac a ddaeth hyd fôr Galilea , trwy ganol terfynau Decapolis . A hwy a ddygasant ato un byddar , ag atal dywedyd arno ; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef . Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa , efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef ; ac wedi iddo boeri , efe a gyffyrddodd â’i dafod ef ; A chan edrych tua’r nef , efe a ochneidiodd , ac a ddywedodd wrtho , Effatha , hynny yw , Ymagor . Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd , a rhwym ei dafod a ddatodwyd ; ac efe a lefarodd yn eglur . Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb : ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt , mwy o lawer y cyhoeddasant . A synnu a wnaethant yn anfeidrol , gan ddywedyd , Da y gwnaeth efe bob peth : y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed , ac i’r mudion ddywedyd . Yn y dyddiau hynny , pan oedd y dyrfa yn fawr iawn , ac heb ganddynt ddim i’w fwyta , y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd wrthynt , Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa , oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi , ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta : Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain , hwy a lewygant ar y ffordd : canys rhai ohonynt a ddaeth o bell . A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant , O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch ? Ac efe a ofynnodd iddynt , Pa sawl torth sydd gennych ? A hwy a ddywedasant , Saith . Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr : ac a gymerodd y saith dorth , ac a ddiolchodd , ac a’u torrodd hwynt , ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion , fel y gosodent hwynt ger eu bronnau ; a gosodasant hwynt gerbron y bobl . Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain : ac wedi iddo fendithio , efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt . A hwy a fwytasant , ac a ddigonwyd : a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill , saith fasgedaid . A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil : ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith . Ac yn y man , wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion , efe a ddaeth i barthau Dalmanutha . A’r Phariseaid a ddaethant allan , ac a ddechreuasant ymholi ag ef , gan geisio ganddo arwydd o’r nef , gan ei demtio . Yntau , gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd , a ddywedodd , Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd ? Yn wir meddaf i chwi , Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma . Ac efe a’u gadawodd hwynt , ac a aeth i’r llong drachefn , ac a dynnodd ymaith i’r lan arall . A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara , ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong . Yna y gorchmynnodd efe iddynt , gan ddywedyd , Gwyliwch , ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid , a surdoes Herod . Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall , gan ddywedyd , Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara . A phan wybu’r Iesu , efe a ddywedodd wrthynt , Pa ymresymu yr ydych , am nad oes gennych fara ? onid ydych chwi eto yn ystyried , nac yn deall ? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu ? A chennych lygaid , oni welwch ? a chennych glustiau , oni chlywch ? ac onid ydych yn cofio ? Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil , pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny ? Dywedasant wrtho , Deuddeg . A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil , llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny ? A hwy a ddywedasant , Saith . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa fodd nad ydych yn deall ? Ac efe a ddaeth i Fethsaida ; a hwy a ddygasant ato un dall , ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef , Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall , efe a’i tywysodd ef allan o’r dref : ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef , a dodi ei ddwylo arno , efe a ofynnodd iddo , a oedd efe yn gweled dim . Ac wedi edrych i fyny , efe a ddywedodd , Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio . Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef , ac a barodd iddo edrych i fyny : ac efe a gafodd ei olwg , ac efe a welai bawb o bell , ac yn eglur . Ac efe a’i hanfonodd ef adref , i’w dŷ , gan ddywedyd , Na ddos i’r dref , ac na ddywed i neb yn y dref . A’r Iesu a aeth allan , efe a’i ddisgyblion , i drefi Cesarea Philipi : ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion , gan ddywedyd wrthynt , Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i ? A hwy a atebasant , Ioan Fedyddiwr ; a rhai , Eleias ; ac eraill , Un o’r proffwydi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i ? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Ti yw’r Crist . Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano . Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt , fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer , a’i wrthod gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , ac wedi tridiau atgyfodi . A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur . A Phedr a ymaflodd ynddo , ac a ddechreuodd ei geryddu ef . Eithr wedi iddo droi , ac edrych ar ei ddisgyblion , efe a geryddodd Pedr , gan ddywedyd , Dos ymaith yn fy ôl i , Satan ; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw , ond y pethau sydd o ddynion . Ac wedi iddo alw ato y dyrfa , gyda’i ddisgyblion , efe a ddywedodd wrthynt , Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a chyfoded ei groes , a dilyned fi . Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes , a’i cyll hi : ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl , hwnnw a’i ceidw hi . Canys pa lesâd i ddyn , os ennill yr holl fyd , a cholli ei enaid ei hun ? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ? Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon ; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd , pan ddêl yng ngogoniant ei Dad , gyda’r angylion sanctaidd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma , ni phrofant angau , hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth . Ac wedi chwe diwrnod , y cymerth yr Iesu Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac a’u dug hwynt i fynydd uchel , eu hunain o’r neilltu : ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt . A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair , yn gannaid iawn fel eira ; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu . Ac ymddangosodd iddynt Eleias , gyda Moses : ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu . A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu , Rabbi , da yw i ni fod yma : a gwnawn dair pabell ; i ti un , ac i Moses un , ac i Eleias un . Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd : canys yr oeddynt wedi dychrynu . A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy : a llef a ddaeth allan o’r cwmwl , gan ddywedyd , Hwn yw fy annwyl Fab ; gwrandewch ef . Ac yn ddisymwth , pan edrychasant o amgylch , ni welsant neb mwy , ond yr Iesu yn unig gyda hwynt . A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd , efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent , hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw . A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain , gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth ; a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn , y dioddefai lawer o bethau , ac y dirmygid ef . Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi , ddyfod Eleias yn ddiau , a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant , fel yr ysgrifennwyd amdano . A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion , efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt , a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt . Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa , pan ganfuant ef , a ddychrynasant , a chan redeg ato , a gyfarchasant iddo . Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion , Pa gydymholi yr ydych yn eich plith ? Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd , Athro , mi a ddygais fy mab atat , ag ysbryd mud ynddo : A pha le bynnag y cymero ef , efe a’i rhwyga ; ac yntau a fwrw ewyn , ac a ysgyrnyga ddannedd , ac y mae’n dihoeni : ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan ; ac nis gallasant . Ac efe a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon , pa hyd y byddaf gyda chwi ? pa hyd y goddefaf chwi ? dygwch ef ataf fi . A hwy a’i dygasant ef ato . A phan welodd ef , yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef ; a chan syrthio ar y ddaear , efe a ymdreiglodd , dan falu ewyn . A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef , Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo ? Yntau a ddywedodd , Er yn fachgen . A mynych y taflodd efe ef yn tân , ac i’r dyfroedd , fel y difethai efe ef : ond os gelli di ddim , cymorth ni , gan dosturio wrthym . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Os gelli di gredu , pob peth a all fod i’r neb a gredo . Ac yn y fan tad y bachgen , dan lefain ac wylofain , a ddywedodd , Yr wyf fi yn credu , O Arglwydd ; cymorth fy anghrediniaeth i . A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato , efe a geryddodd yr ysbryd aflan , gan ddywedyd wrtho , Tydi ysbryd mud a byddar , yr wyf fi yn gorchymyn i ti , Tyred allan ohono , ac na ddos mwy iddo ef . Ac wedi i’r ysbryd lefain , a dryllio llawer arno ef , efe a aeth allan : ac yr oedd efe fel un marw , fel y dywedodd llawer ei farw ef . A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law , ac a’i cyfododd ; ac efe a safodd i fyny . Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ , ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu , Paham na allem ni ei fwrw ef allan ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan , ond trwy weddi ac ympryd . Ac wedi ymadael oddi yno , hwy a ymdeithiasant trwy Galilea : ac ni fynnai efe wybod o neb . Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion , ac yn dywedyd wrthynt , Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion , ac y lladdent ef ; ac wedi ei ladd , yr atgyfodai y trydydd dydd . Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd , ac ofni yr oeddynt ofyn iddo . Ac efe a ddaeth i Gapernaum : a phan oedd efe yn y tŷ , efe a ofynnodd iddynt , Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd ? Ond hwy a dawsant â sôn : canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd , pwy a fyddai fwyaf . Ac efe a eisteddodd , ac a alwodd y deuddeg , ac a ddywedodd wrthynt , Os myn neb fod yn gyntaf , efe a fydd olaf o’r cwbl , a gweinidog i bawb . Ac efe a gymerth fachgennyn , ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt : ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau , efe a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i , sydd yn fy nerbyn i : a phwy bynnag a’m derbyn i , nid myfi y mae yn ei dderbyn , ond yr hwn a’m danfonodd i . Ac Ioan a’i hatebodd ef , gan ddywedyd , Athro , ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di , yr hwn nid yw yn ein dilyn ni ; ac ni a waharddasom iddo , am nad yw yn ein dilyn ni . A’r Iesu a ddywedodd , Na waherddwch iddo ; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i , ac a all yn y fan roi drygair i mi . Canys y neb nid yw i’n herbyn , o’n tu ni y mae . Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i , am eich bod yn perthyn i Grist , yn wir meddaf i chwi , Ni chyll efe ei obrwy . A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi , gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf , a’i daflu i’r môr . Ac os dy law a’th rwystra , tor hi ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus , nag â dwy law gennyt fyned i uffern , i’r tân anniffoddadwy : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Ac os dy droed a’th rwystra , tor ef ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff , nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern , i’r tân anniffoddadwy : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Ac os dy lygad a’th rwystra , bwrw ef ymaith : gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog , nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern : Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw , na’r tân yn diffodd . Canys pob un a helltir â thân , a phob aberth a helltir â halen . Da yw’r halen : ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt , â pha beth yr helltwch ef ? Bid gennych halen ynoch eich hunain , a byddwch heddychlon â’ch gilydd . Ac efe a gyfododd oddi yno , ac a aeth i dueddau Jwdea , trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn : ac fel yr oedd yn arferu , efe a’u dysgodd hwynt drachefn . A’r Phariseaid , wedi dyfod ato , a ofynasant iddo , Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig ? gan ei demtio ef . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Beth a orchmynnodd Moses i chwi ? A hwy a ddywedasant , Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar , a’i gollwng hi ymaith . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw : Ond o ddechreuad y creadigaeth , yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt . Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig ; A hwy ill dau a fyddant un cnawd : fel nad ydynt mwy ddau , ond un cnawd . Y peth gan hynny a gysylltodd Duw , na wahaned dyn . Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig , ac a briodo un arall , y mae yn godinebu yn ei herbyn hi . Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr , a phriodi un arall , y mae hi’n godinebu . A hwy a ddygasant blant bychain ato , fel y cyffyrddai efe â hwynt : a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt . A’r Iesu pan welodd hynny , fu anfodlon , ac a ddywedodd wrthynt , Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi , ac na waherddwch iddynt : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw . Yn wir meddaf i chwi , Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach , nid â efe i mewn iddi . Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau , ac a roddes ei ddwylo arnynt , ac a’u bendithiodd . Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd , rhedodd un ato , a gostyngodd iddo , ac a ofynnodd iddo , O Athro da , beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Paham y gelwi fi yn dda ? nid oes neb da ond un , sef Duw . Ti a wyddost y gorchmynion , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na chamdystiolaetha , Na chamgolleda , Anrhydedda dy dad a’th fam . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Athro , y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid . A’r Iesu gan edrych arno , a’i hoffodd , ac a ddywedodd wrtho , Un peth sydd ddiffygiol i ti : dos , gwerth yr hyn oll sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , a chymer i fyny y groes , a dilyn fi . Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd , ac a aeth ymaith yn athrist : canys yr oedd ganddo feddiannau lawer . A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch , ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw ! A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef . Ond yr Iesu a atebodd drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , O blant , mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw ! Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A hwy a synasant yn ddirfawr , gan ddywedyd wrthynt eu hunain , A phwy a all fod yn gadwedig ? A’r Iesu , wedi edrych arnynt , a ddywedodd , Gyda dynion amhosibl yw , ac nid gyda Duw : canys pob peth sydd bosibl gyda Duw . Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ddilynasom di . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nid oes neb a’r a adawodd dŷ , neu frodyr , neu chwiorydd , neu dad , neu fam , neu wraig , neu blant , neu diroedd , o’m hachos i a’r efengyl , A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn , dai , a brodyr , a chwiorydd , a mamau , a phlant , a thiroedd , ynghyd ag erlidiau ; ac yn y byd a ddaw , fywyd tragwyddol . Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf ; a’r diwethaf fyddant gyntaf . Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem ; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt : a hwy a frawychasant ; ac fel yr oeddynt yn canlyn , yr oedd arnynt ofn . Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg , efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef : Canys wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid , ac i’r ysgrifenyddion ; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth , ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd : A hwy a’i gwatwarant ef , ac a’i fflangellant , ac a boerant arno , ac a’i lladdant : a’r trydydd dydd yr atgyfyd . A daeth ato Iago ac Ioan , meibion Sebedeus , gan ddywedyd , Athro , ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem . Yntau a ddywedodd wrthynt , Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Caniatâ i ni eistedd , un ar dy ddeheulaw , a’r llall ar dy aswy , yn dy ogoniant . Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn : a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed ? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef ? A hwy a ddywedasant wrtho , Gallwn . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi ; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau : Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy , nid eiddof fi ei roddi ; ond i’r rhai y darparwyd . A phan glybu’r deg , hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan . A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd , yn tra‐arglwyddiaethu arnynt ; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt . Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi : ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith , bydded weinidog i chwi ; A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf , bydded was i bawb . Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu , ond i wasanaethu , ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer . A hwy a ddaethant i Jericho . Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho , efe a’i ddisgyblion , a bagad o bobl , Bartimeus ddall , mab Timeus , oedd yn eistedd ar fin y ffordd , yn cardota . A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd , efe a ddechreuodd lefain , a dywedyd , Iesu , mab Dafydd , trugarha wrthyf . A llawer a’i ceryddasant ef , i geisio ganddo dewi : ond efe a lefodd yn fwy o lawer , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r Iesu a safodd , ac a archodd ei alw ef . A hwy a alwasant y dall , gan ddywedyd wrtho , Cymer galon ; cyfod : y mae efe yn dy alw di . Ond efe , wedi taflu ei gochl ymaith , a gyfododd , ac a ddaeth at yr Iesu . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti ? A’r dall a ddywedodd wrtho , Athro , caffael ohonof fy ngolwg . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Dos ymaith : dy ffydd a’th iachaodd . Ac yn y man y cafodd efe ei olwg , ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd . Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem , i Bethffage a Bethania , hyd fynydd yr Olewydd , efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , Ac a ddywedodd wrthynt , Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi : ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo , chwi a gewch ebol wedi ei rwymo , ar yr hwn nid eisteddodd neb ; gollyngwch ef yn rhydd , a dygwch ymaith . Ac os dywed neb wrthych , Paham y gwnewch hyn ? dywedwch , Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma . A hwy a aethant ymaith , ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan , mewn croesffordd ; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd . A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt , Beth a wnewch chwi , yn gollwng yr ebol yn rhydd ? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu : a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith . A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu , ac a fwriasant eu dillad arno ; ac efe a eisteddodd arno . A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd ; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd , ac a’u taenasant ar y ffordd . A’r rhai oedd yn myned o’r blaen , a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl , a lefasant , gan ddywedyd , Hosanna ; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd : Hosanna yn y goruchaf . A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem , ac i’r deml : ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch , a hi weithian yn hwyr , efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg . A thrannoeth , wedi iddynt ddyfod allan o Fethania , yr oedd arno chwant bwyd . Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail , efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno . A phan ddaeth ato , ni chafodd efe ddim ond y dail : canys nid oedd amser ffigys . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy . A’i ddisgyblion ef a glywsant . A hwy a ddaethant i Jerwsalem . A’r Iesu a aeth i’r deml , ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml ; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr , a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod : Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml . Ac efe a’u dysgodd , gan ddywedyd wrthynt , Onid yw’n ysgrifenedig , Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd ? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn , ac a geisiasant pa fodd y difethent ef : canys yr oeddynt yn ei ofni ef , am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef . A phan aeth hi yn hwyr , efe a aeth allan o’r ddinas . A’r bore , wrth fyned heibio , hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd . A Phedr wedi atgofio , a ddywedodd wrtho , Athro , wele y ffigysbren a felltithiaist , wedi crino . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Bydded gennych ffydd yn Nuw : Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn , Tynner di ymaith , a bwrier di i’r môr ; ac nid amheuo yn ei galon , ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe ; beth bynnag a ddywedo , a fydd iddo . Am hynny meddaf i chwi , Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch , ac fe fydd i chwi . A phan safoch i weddïo , maddeuwch , o bydd gennych ddim yn erbyn neb ; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau : Ond os chwi ni faddeuwch , eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau . A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem : ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml , yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’r henuriaid , a ddaethant ato , Ac a ddywedasant wrtho , Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn ? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A minnau a ofynnaf i chwithau un gair ; ac atebwch fi , a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Bedydd Ioan , ai o’r nef yr oedd , ai o ddynion ? atebwch fi . Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed , Paham gan hynny na chredech iddo ? Eithr os dywedwn , O ddynion ; yr oedd arnynt ofn y bobl : canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd . A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu , Ni wyddom ni . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau , Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion . Gŵr a blannodd winllan , ac a ddododd gae o’i hamgylch , ac a gloddiodd le i’r gwingafn , ac a adeiladodd dŵr , ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref . Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr , i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i baeddasant , ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw . A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall ; a hwnnw y taflasant gerrig ato , ac yr archollasant ei ben , ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus . A thrachefn yr anfonodd efe un arall ; a hwnnw a laddasant : a llawer eraill ; gan faeddu rhai , a lladd y lleill . Am hynny eto , a chanddo un mab , ei anwylyd , efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd , Hwy a barchant fy mab i . Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain , Hwn yw’r etifedd ; deuwch , lladdwn ef , a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i lladdasant , ac a’i bwriasant allan o’r winllan . Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan ? efe a ddaw , ac a ddifetha’r llafurwyr , ac a rydd y winllan i eraill . Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon ? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl : Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd ; a rhyfedd yw yn ein golwg ni . A hwy a geisiasant ei ddala ef ; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa : canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg : a hwy a’i gadawsant ef , ac a aethant ymaith . A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid , ac o’r Herodianiaid , i’w rwydo ef yn ei ymadrodd . Hwythau , pan ddaethant , a ddywedasant wrtho , Athro , ni a wyddom dy fod di yn eirwir , ac nad oes arnat ofal rhag neb : canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion , ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd : Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? a roddwn , ai ni roddwn hi ? Ond efe , gan wybod eu rhagrith hwynt , a ddywedodd wrthynt , Paham y temtiwch fi ? dygwch i mi geiniog , fel y gwelwyf hi . A hwy a’i dygasant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff ? A hwy a ddywedasant wrtho , Eiddo Cesar . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid . Daeth y Sadwceaid hefyd ato , y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad ; a gofynasant iddo , gan ddywedyd , Athro , Moses a ysgrifennodd i ni , O bydd marw brawd neb , a gadu ei wraig , ac heb adu plant , am gymryd o’i frawd ei wraig ef , a chodi had i’w frawd . Yr oedd gan hynny saith o frodyr : a’r cyntaf a gymerth wraig ; a phan fu farw , ni adawodd had . A’r ail a’i cymerth hi , ac a fu farw , ac ni adawodd yntau had : a’r trydydd yr un modd . A hwy a’i cymerasant hi ill saith , ac ni adawsant had . Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad gan hynny , pan atgyfodant , gwraig i ba un ohonynt fydd hi ? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig . A’r Iesu a atebodd , ac a ddywedodd wrthynt , Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni , am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau , na gallu Duw ? Canys pan atgyfodant o feirw , ni wreicant , ac ni ŵrant ; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd . Ond am y meirw , yr atgyfodir hwynt ; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses , y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth , gan ddywedyd , Myfi yw Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob ? Nid yw efe Dduw’r meirw , ond Duw’r rhai byw : am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr . Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth , wedi eu clywed hwynt yn ymresymu , a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys , ac a ofynnodd iddo , Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl ? A’r Iesu a atebodd iddo , Y cyntaf o’r holl orchmynion yw , Clyw , Israel ; Yr Arglwydd ein Duw , un Arglwydd yw : A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl feddwl , ac â’th holl nerth . Hwn yw’r gorchymyn cyntaf . A’r ail sydd gyffelyb iddo ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn . A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho , Da , Athro , mewn gwirionedd y dywedaist , mai un Duw sydd , ac nad oes arall ond efe : A’i garu ef â’r holl galon , ac â’r holl ddeall , ac â’r holl enaid , ac â’r holl nerth , a charu ei gymydog megis ei hun , sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau . A’r Iesu , pan welodd iddo ateb yn synhwyrol , a ddywedodd wrtho , Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw . Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , wrth ddysgu yn y deml , Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd ? Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed . Y mae Dafydd ei hun , gan hynny , yn ei alw ef yn Arglwydd ; ac o ba le y mae efe yn fab iddo ? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar . Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth , Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion , y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion , a chael cyfarch yn y marchnadoedd , A’r prif gadeiriau yn y synagogau , a’r prif eisteddleoedd mewn swperau ; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , ac mewn rhith yn hir weddïo : y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy . A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa , ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa : a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer . A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth , ac a fwriodd i mewn ddwy hatling , yr hyn yw ffyrling . Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato , ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa . Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt : ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai , sef ei holl fywyd . Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml , un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Athro , edrych pa ryw feini , a pha fath adeiladau sydd yma . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , A weli di’r adeiladau mawrion hyn ? ni edir maen ar faen , a’r nis datodir . Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd , gyferbyn â’r deml , Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac Andreas , a ofynasant iddo o’r neilltu , Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu ? A’r Iesu a atebodd iddynt , ac a ddechreuodd ddywedyd , Edrychwch rhag twyllo o neb chwi : Canys llawer un a ddaw yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; ac a dwyllant lawer . Ond pan glywoch am ryfeloedd , a sôn am ryfeloedd , na chyffroer chwi : canys rhaid i hynny fod ; ond nid yw’r diwedd eto . Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : a daeargrynfâu fyddant mewn mannau , a newyn a thrallod fyddant . Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn . Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain : canys traddodant chwi i’r cynghorau , ac i’r synagogau ; chwi a faeddir , ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i , er tystiolaeth iddynt hwy . Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd . Ond pan ddygant chwi , a’ch traddodi , na ragofelwch beth a ddywedoch , ac na fyfyriwch : eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno , hynny dywedwch : canys nid chwychwi sydd yn dywedyd , ond yr Ysbryd Glân . A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth , a thad ei blentyn : a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni , ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth . A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i : eithr y neb a barhao hyd y diwedd , hwnnw a fydd cadwedig . Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol , yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd , wedi ei osod lle nis dylid , ( y neb a ddarlleno , dealled ; ) yna y rhai a fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd : A’r neb a fyddo ar ben y tŷ , na ddisgynned i’r tŷ , ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ . A’r neb a fyddo yn y maes , na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg . Ond gwae’r rhai beichiog , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny ! Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf . Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder , y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw , hyd y pryd hwn , ac ni bydd chwaith . Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau , ni chadwesid un cnawd : eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd , efe a fyrhaodd y dyddiau . Ac yna os dywed neb wrthych , Wele , llyma y Crist ; neu , Wele , acw ; na chredwch : Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant , ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau , i hudo ymaith , pe byddai bosibl , ie , yr etholedigion . Eithr ymogelwch chwi : wele , rhagddywedais i chwi bob peth . Ond yn y dyddiau hynny , wedi’r gorthrymder hwnnw , y tywylla’r haul , a’r lloer ni rydd ei goleuni , A sêr y nef a syrthiant , a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir . Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau , gyda gallu mawr a gogoniant . Ac yna yr enfyn efe ei angylion , ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt , o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef . Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren : Pan fo ei gangen eisoes yn dyner , a’r dail yn torri allan , chwi a wyddoch fod yr haf yn agos : Ac felly chwithau , pan weloch y pethau hyn wedi dyfod , gwybyddwch ei fod yn agos , wrth y drysau . Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi , nad â’r oes hon heibio , hyd oni wneler y pethau hyn oll . Nef a daear a ânt heibio : ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim . Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb , na’r angylion sydd yn y nef , na’r Mab , ond y Tad . Ymogelwch , gwyliwch a gweddïwch : canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser . Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell , wedi gadael ei dŷ , a rhoi awdurdod i’w weision , ac i bob un ei waith ei hun , a gorchymyn i’r drysor wylio . Gwyliwch gan hynny , ( canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ , yn yr hwyr , ai hanner nos , ai ar ganiad y ceiliog , ai’r boreddydd ; ) Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth , a’ch cael chwi’n cysgu . A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi , yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb , Gwyliwch . Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg , a gŵyl y bara croyw : a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll , ac y lladdent ef : Eithr dywedasant , Nid ar yr ŵyl , rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl . A phan oedd efe ym Methania , yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus , ac efe yn eistedd i fwyta , daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr ; a hi a dorrodd y blwch , ac a’i tywalltodd ar ei ben ef . Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain , ac yn dywedyd , I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint ? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog , a’u rhoddi i’r tlodion . A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi . A’r Iesu a ddywedodd , Gadewch iddi ; paham y gwnewch flinder iddi ? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi . Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi ; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy : ond myfi ni chewch bob amser . Hyn a allodd hon , hi a’i gwnaeth : hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth . Yn wir meddaf i chwi , Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd , yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani . A Jwdas Iscariot , un o’r deuddeg , a aeth ymaith at yr archoffeiriaid , i’w fradychu ef iddynt . A phan glywsant , fe fu lawen ganddynt , ac a addawsant roi arian iddo . Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef . A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw , pan aberthent y pasg , dywedodd ei ddisgyblion wrtho , I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti , i fwyta’r pasg ? Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , ac a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r ddinas ; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr : dilynwch ef . A pha le bynnag yr êl i mewn , dywedwch wrth ŵr y tŷ , Fod yr Athro yn dywedyd , Pa le y mae’r llety , lle y gallwyf , mi a’m disgyblion , fwyta’r pasg ? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod : yno paratowch i ni . A’i ddisgyblion a aethant , ac a ddaethant i’r ddinas ; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt : ac a baratoesant y pasg . A phan aeth hi yn hwyr , efe a ddaeth gyda’r deuddeg . Ac fel yr oeddynt yn eistedd , ac yn bwyta , yr Iesu a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Un ohonoch , yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi , a’m bradycha i . Hwythau a ddechreuasant dristáu , a dywedyd wrtho bob yn un ac un , Ai myfi ? ac arall , Ai myfi ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Un o’r deuddeg , yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl , yw efe . Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith , fel y mae yn ysgrifenedig amdano : ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn ! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid . Ac fel yr oeddynt yn bwyta , yr Iesu a gymerodd fara , ac a’i bendithiodd , ac a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt ; ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch : hwn yw fy nghorff . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a rhoi diolch , efe a’i rhoddes iddynt : a hwynt oll a yfasant ohono . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd , yr hwn a dywelltir dros lawer . Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych , nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden , hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw . Ac wedi iddynt ganu mawl , hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd . A dywedodd yr Iesu wrthynt , Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon : canys ysgrifenedig yw , Trawaf y bugail , a’r defaid a wasgerir . Eithr wedi i mi atgyfodi , mi a af o’ch blaen chwi i Galilea . Ond Pedr a ddywedodd wrtho , Pe byddai pawb wedi eu rhwystro , eto ni byddaf fi . A dywedodd yr Iesu wrtho , Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti , Heddiw , o fewn y nos hon , cyn canu o’r ceiliog ddwywaith , y gwedi fi deirgwaith . Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer , Pe gorfyddai imi farw gyda thi , ni’th wadaf ddim . A’r un modd y dywedasant oll . A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane : ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Eisteddwch yma , tra fyddwyf yn gweddïo . Ac efe a gymerth gydag ef Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac a ddechreuodd ymofidio , a thristáu yn ddirfawr . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae fy enaid yn athrist hyd angau : arhoswch yma , a gwyliwch . Ac efe a aeth ychydig ymlaen , ac a syrthiodd ar y ddaear , ac a weddïodd , o bai bosibl , ar fyned yr awr honno oddi wrtho . Ac efe a ddywedodd , Abba , Dad , pob peth sydd bosibl i ti : tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf : eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio , ond y peth yr ydwyt ti . Ac efe a ddaeth , ac a’u cafodd hwy yn cysgu ; ac a ddywedodd wrth Pedr , Simon , ai cysgu yr wyt ti ? oni allit wylio un awr ? Gwyliwch a gweddïwch , rhag eich myned mewn temtasiwn . Yr ysbryd yn ddiau sydd barod , ond y cnawd sydd wan . Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn , efe a weddïodd , gan ddywedyd yr un ymadrodd . Ac wedi iddo ddychwelyd , efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu ; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau : ac ni wyddent beth a atebent iddo . Ac efe a ddaeth y drydedd waith , ac a ddywedodd wrthynt , Cysgwch weithian , a gorffwyswch : digon yw ; daeth yr awr : wele , yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid . Cyfodwch , awn ; wele , y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos . Ac yn y man , ac efe eto yn llefaru , daeth Jwdas , un o’r deuddeg , a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn , oddi wrth yr archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’r henuriaid . A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt , gan ddywedyd , Pwy bynnag a gusanwyf , hwnnw yw : deliwch ef , a dygwch ymaith yn sicr . A phan ddaeth , yn ebrwydd efe a aeth ato , ac a ddywedodd , Rabbi , Rabbi ; ac a’i cusanodd ef . A hwythau a roesant eu dwylo arno , ac a’i daliasant ef . A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw , a dynnodd ei gleddyf , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ai megis at leidr y daethoch allan , â chleddyfau ac â ffyn , i’m dala i ? Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml , ac ni’m daliasoch : ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau . A hwynt oll a’i gadawsant ef , ac a ffoesant . A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef , wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth ; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef . A hwn a adawodd y lliain , ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth . A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad : a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion , a ymgasglasant gydag ef . A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell , hyd yn llys yr archoffeiriad ; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr , ac yn ymdwymo wrth y tân . A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu , i’w roi ef i’w farwolaeth ; ac ni chawsant . Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef ; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson . A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn , gan ddywedyd , Ni a’i clywsom ef yn dywedyd , Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo , ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw . Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson . A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol , ac a ofynnodd i’r Iesu , gan ddywedyd , Onid atebi di ddim ? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn ? Ac efe a dawodd , ac nid atebodd ddim . Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo , ac a ddywedodd wrtho , Ai tydi yw Crist , Mab y Bendigedig ? A’r Iesu a ddywedodd , Myfi yw : a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu , ac yn dyfod yng nghymylau’r nef . Yna yr archoffeiriad , gan rwygo ei ddillad , a ddywedodd , Pa raid i ni mwy wrth dystion ? Chwi a glywsoch y gabledd : beth dybygwch chwi ? A hwynt oll a’i condemniasant ef , ei fod yn euog o farwolaeth . A dechreuodd rhai boeri arno , a chuddio ei wyneb , a’i gernodio ; a dywedyd wrtho , Proffwyda . A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail . Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered , daeth un o forynion yr archoffeiriad : A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo , hi a edrychodd arno , ac a ddywedodd , Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth . Ac efe a wadodd , gan ddywedyd , Nid adwaen i , ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd . Ac efe a aeth allan i’r porth ; a’r ceiliog a ganodd . A phan welodd y llances ef drachefn , hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno , Y mae hwn yn un ohonynt . Ac efe a wadodd drachefn . Ac ychydig wedi , y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn , Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt ; canys Galilead wyt , a’th leferydd sydd debyg . Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu , Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano . A’r ceiliog a ganodd yr ail waith . A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho , Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith , ti a’m gwedi deirgwaith . A chan ystyried hynny , efe a wylodd . Ac yn y fan , y bore , yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion , a’r holl gyngor : ac wedi iddynt rwymo’r Iesu , hwy a’i dygasant ef ymaith , ac a’i traddodasant at Peilat . A gofynnodd Peilat iddo , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Yr wyt ti yn dywedyd . A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau : eithr nid atebodd efe ddim . A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Onid atebi di ddim ? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn . Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim ; fel y rhyfeddodd Peilat . Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor , yr hwn a ofynnent iddo . Ac yr oedd un a elwid Barabbas , yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd‐derfysgwyr , y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth . A’r dyrfa gan grochlefain , a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt . A Pheilat a atebodd iddynt , gan ddywedyd , A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon ? ( Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef . ) A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl , fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt . A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt , Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon ? A hwythau a lefasant drachefn , Croeshoelia ef . Yna Peilat a ddywedodd wrthynt , Ond pa ddrwg a wnaeth efe ? A hwythau a lefasant fwyfwy , Croeshoelia ef . A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl , a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas ; a’r Iesu , wedi iddo ei fflangellu , a draddododd efe i’w groeshoelio . A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys , a elwir Pretorium : a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin ; Ac a’i gwisgasant ef â phorffor , ac a blethasant goron o ddrain , ac a’i dodasant am ei ben ; Ac a ddechreuasant gyfarch iddo , Henffych well , Brenin yr Iddewon . A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen , ac a boerasant arno , a chan ddodi eu gliniau i lawr , a’i haddolasant ef . Ac wedi iddynt ei watwar ef , hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano , ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun , ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio . A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene , yr hwn oedd yn myned heibio , wrth ddyfod o’r wlad , sef tad Alexander a Rwffus , i ddwyn ei groes ef . A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha ; yr hyn o’i gyfieithu yw , Lle’r benglog : Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd : eithr efe nis cymerth . Ac wedi iddynt ei groeshoelio , hwy a ranasant ei ddillad ef , gan fwrw coelbren arnynt , beth a gâi pob un . A’r drydedd awr oedd hi ; a hwy a’i croeshoeliasant ef . Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu , BRENIN YR IDDEWON . A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr ; un ar y llaw ddeau , ac un ar yr aswy iddo . A’r ysgrythur a gyflawnwyd , yr hon a ddywed , Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir . A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef , gan ysgwyd eu pennau , a dywedyd , Och , tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml , ac yn ei hadeiladu mewn tridiau , Gwared dy hun , a disgyn oddi ar y groes . Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar , a ddywedasant wrth ei gilydd , gyda’r ysgrifenyddion , Eraill a waredodd , ei hun nis gall ei wared . Disgynned Crist , Brenin yr Israel , yr awr hon oddi ar y groes , fel y gwelom , ac y credom . A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef , a’i difenwasant ef . A phan ddaeth y chweched awr , y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel , gan ddywedyd , Eloi , Eloi , lama sabachthani ? yr hyn o’i gyfieithu yw , Fy Nuw , fy Nuw , paham y’m gadewaist ? A rhai o’r rhai a safent gerllaw , pan glywsant , a ddywedasant , Wele , y mae efe yn galw ar Eleias . Ac un a redodd , ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr , ac a’i dododd ar gorsen , ac a’i diododd ef , gan ddywedyd , Peidiwch , edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr . A’r Iesu a lefodd â llef uchel , ac a ymadawodd â’r ysbryd . A llen y deml a rwygwyd yn ddwy , oddi fyny hyd i waered . A phan welodd y canwriad , yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef , ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd , efe a ddywedodd , Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn . Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell : ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen , a Mair mam Iago fychan a Jose , a Salome ; Y rhai hefyd , pan oedd efe yng Ngalilea , a’i dilynasant ef , ac a weiniasant iddo ; a gwragedd eraill lawer , y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem . Pan ydoedd hi weithian yn hwyr , ( am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl , sef y dydd cyn y Saboth , ) Daeth Joseff o Arimathea , cynghorwr pendefigaidd , yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw , ac a aeth yn hy i mewn at Peilat , ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu . A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes : ac wedi iddo alw y canwriad ato , efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin . A phan wybu gan y canwriad , efe a roddes y corff i Joseff . Ac efe a brynodd liain main , ac a’i tynnodd ef i lawr , ac a’i hamdôdd yn y lliain main , ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig ; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd . A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef . Ac wedi darfod y dydd Saboth , Mair Magdalen , a Mair mam Iago , a Salome , a brynasant beraroglau , i ddyfod i’w eneinio ef . Ac yn fore iawn , y dydd cyntaf o’r wythnos , y daethant at y bedd , a’r haul wedi codi . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd ? ( A phan edrychasant , hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith ; ) canys yr oedd efe yn fawr iawn . Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd , hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau , wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes ; ac a ddychrynasant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na ddychrynwch . Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth , yr hwn a groeshoeliwyd : efe a gyfododd ; nid yw efe yma : wele y man y dodasant ef . Eithr ewch ymaith , dywedwch i’w ddisgyblion ef , ac i Pedr , ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea : yno y cewch ei weled ef , fel y dywedodd i chwi . Ac wedi myned allan ar frys , hwy a ffoesant oddi wrth y bedd ; canys dychryn a syndod oedd arnynt . Ac ni ddywedasant ddim wrth neb : canys yr oeddynt wedi ofni . A’r Iesu , wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos , a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen , o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid . Hithau a aeth , ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef , ac oeddynt mewn galar ac wylofain . A hwythau , pan glywsant ei fod ef yn fyw , ac iddi hi ei weled ef , ni chredent . Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt , a hwynt yn ymdeithio , ac yn myned i’r wlad . A hwy a aethant , ac a fynegasant i’r lleill : ac ni chredent iddynt hwythau . Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg , a hwy yn eistedd i fwyta ; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon‐galedwch , am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r holl fyd , a phregethwch yr efengyl i bob creadur . Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig : eithr y neb ni chredo a gondemnir . A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant : Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid ; ac â thafodau newyddion y llefarant ; Seirff a godant ymaith ; ac os yfant ddim marwol , ni wna iddynt ddim niwed ; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo , a hwy a fyddant iach . Ac felly yr Arglwydd , wedi llefaru wrthynt , a gymerwyd i fyny i’r nef , ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw . A hwythau a aethant allan , ac a bregethasant ym mhob man , a’r Arglwydd yn cydweithio , ac yn cadarnhau’r gair , trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn . Amen . </passage></reply></GetPassage>