<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:42</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:42</urn><passage>Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith , Megis y traddodasant hwy i ni , y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled , ac yn weinidogion y gair : Minnau a welais yn dda , wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad , ysgrifennu mewn trefn atat , O ardderchocaf Theoffilus , Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt . Yr oedd yn nyddiau Herod , brenin Jwdea , ryw offeiriad a’i enw Sachareias , o ddyddgylch Abeia : a’i wraig oedd o ferched Aaron , a’i henw Elisabeth . Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw , yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd . Ac nid oedd plentyn iddynt , am fod Elisabeth yn amhlantadwy ; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran . A bu , ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw , yn nhrefn ei ddyddgylch ef , Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid , ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd . A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad . Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth . A Sachareias , pan ganfu , a gythryblwyd , ac ofn a syrthiodd arno . Eithr yr angel a ddywedodd wrtho , Nac ofna , Sachareias : canys gwrandawyd dy weddi ; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab , a thi a elwi ei enw ef Ioan . A bydd iti lawenydd a gorfoledd ; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef . Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd , ac nid yf na gwin na diod gadarn ; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân , ie , o groth ei fam . A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw . Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias , i droi calonnau’r tadau at y plant , a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn ; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod . A dywedodd Sachareias wrth yr angel , Pa fodd y gwybyddaf fi hyn ? canys hynafgwr wyf fi , a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran . A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho , Myfi yw Gabriel , yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw , ac a anfonwyd i lefaru wrthyt , ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn . Ac wele , ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn , am na chredaist i’m geiriau i , y rhai a gyflawnir yn eu hamser . Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias : a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml . A phan ddaeth efe allan , ni allai efe lefaru wrthynt ; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml : ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt ; ac efe a arhosodd yn fud . A bu , cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef , fyned ohono i’w dŷ ei hun . Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi , ac a ymguddiodd bum mis , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf , i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion . Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw , i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth , At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff , o dŷ Dafydd ; ac enw y forwyn oedd Mair . A’r angel a ddaeth i mewn ati , ac a ddywedodd , Henffych well , yr hon a gefaist ras ; yr Arglwydd sydd gyda thi : bendigaid wyt ymhlith gwragedd . A hithau , pan ei gwelodd , a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef ; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn . A dywedodd yr angel wrthi , Nac ofna , Mair : canys ti a gefaist ffafr gyda Duw . Ac wele , ti a gei feichiogi yn dy groth , ac a esgori ar fab , ac a elwi ei enw ef IESU . Hwn fydd mawr , ac a elwir yn Fab y Goruchaf : ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd . Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd ; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd . A Mair a ddywedodd wrth yr angel , Pa fodd y bydd hyn , gan nad adwaen i ŵr ? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti , a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di : am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti , a elwir yn Fab Duw . Ac wele , Elisabeth dy gares , y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint : a hwn yw’r chweched mis iddi hi , yr hon a elwid yn amhlantadwy . Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl . A dywedodd Mair , Wele wasanaethyddes yr Arglwydd ; bydded i mi yn ôl dy air di . A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi . A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny , ac a aeth i’r mynydd‐dir ar frys , i ddinas o Jwda ; Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias , ac a gyfarchodd well i Elisabeth . A bu , pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair , i’r plentyn yn ei chroth hi lamu : ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân . A llefain a wnaeth â llef uchel , a dywedyd , Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd , a bendigedig yw ffrwyth dy groth di . Ac o ba le y mae hyn i mi , fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi ? Canys wele , er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau , y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth . A bendigedig yw’r hon a gredodd : canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd . A dywedodd Mair , Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd , A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr . Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes : oblegid , wele , o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig . Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd ; a sanctaidd yw ei enw ef . A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef . Efe a wnaeth gadernid â’i fraich : efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon . Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu , ac a ddyrchafodd y rhai isel radd . Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da ; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion . Efe a gynorthwyodd ei was Israel , gan gofio ei drugaredd ; Fel y dywedodd wrth ein tadau , Abraham a’i had , yn dragywydd . A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis , ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun . A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor ; a hi a esgorodd ar fab . A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni ; a hwy a gydlawenychasant â hi . A bu , ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach ; ac a’i galwasant ef Sachareias , yn ôl enw ei dad . A’i fam a atebodd ac a ddywedodd , Nid felly ; eithr Ioan y gelwir ef . Hwythau a ddywedasant wrthi , Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn . A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef , pa fodd y mynnai efe ei enwi ef . Yntau a alwodd am argrafflech , ac a ysgrifennodd , gan ddywedyd , Ioan yw ei enw ef . A rhyfeddu a wnaethant oll . Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd , a’i dafod ef ; ac efe a lefarodd , gan fendithio Duw . A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy : a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll . A phawb a’r a’u clywsant , a’u gosodasant yn eu calonnau , gan ddywedyd , Beth fydd y bachgennyn hwn ? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef . A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân , ac a broffwydodd , gan ddywedyd , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel : canys efe a ymwelodd , ac a wnaeth ymwared i’w bobl ; Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni , yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr ; Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi , y rhai oedd o ddechreuad y byd : Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion , ac o law pawb o’n caseion ; I gwblhau’r drugaredd â’n tadau , ac i gofio ei sanctaidd gyfamod : Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham , ar roddi i ni , Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion , ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn , Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef , holl dyddiau ein bywyd . A thithau , fachgennyn , a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf : canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd , i baratoi ei ffyrdd ef ; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl , trwy faddeuant o’u pechodau , Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw ; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder , I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau , i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd . A’r bachgen a gynyddodd , ac a gryfhawyd yn yr ysbryd , ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel . Bu hefyd yn y dyddiau hynny , fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar , i drethu’r holl fyd . ( Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria . ) A phawb a aethant i’w trethu , bob un i’w ddinas ei hun . A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea , o ddinas Nasareth , i Jwdea , i ddinas Dafydd , yr hon a elwir Bethlehem ( am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd ) , I’w drethu gyda Mair , yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo , yr hon oedd yn feichiog . A bu , tra oeddynt hwy yno , cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni . A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig , ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau , ac a’i dododd ef yn y preseb ; am nad oedd iddynt le yn y llety . Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes , ac yn gwylied eu praidd liw nos . Ac wele , angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt , a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch : ac ofni yn ddirfawr a wnaethant . A’r angel a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch : canys wele , yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr , yr hwn a fydd i’r holl bobl : Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd , yr hwn yw Crist yr Arglwydd . A hyn fydd arwydd i chwi ; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau , a’i ddodi yn y preseb . Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol , yn moliannu Duw , ac yn dywedyd , Gogoniant yn y goruchaf i Dduw , ac ar y ddaear tangnefedd , i ddynion ewyllys da . A bu , pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef , y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd , Awn hyd Fethlehem , a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd , yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni . A hwy a ddaethant ar frys ; ac a gawsant Mair a Joseff , a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb . A phan welsant , hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn . A phawb a’r a’i clywsant , a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt . Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll , gan eu hystyried yn ei chalon . A’r bugeiliaid a ddychwelasant , gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent , fel y dywedasid wrthynt . A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach , galwyd ei enw ef IESU , yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth . Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi , yn ôl deddf Moses , hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem , i’w gyflwyno i’r Arglwydd ; ( Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd , Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd ; ) Ac i roddi aberth , yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd , Pâr o durturod , neu ddau gyw colomen . Ac wele , yr oedd gŵr yn Jerwsalem , a’i enw Simeon ; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol , yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel : a’r Ysbryd Glân oedd arno . Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân , na welai efe angau , cyn iddo weled Crist yr Arglwydd . Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml : a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu , i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith ; Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau , ac a fendithiodd Dduw , ac a ddywedodd , Yr awr hon , Arglwydd , y gollyngi dy was mewn tangnefedd , yn ôl dy air : Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth , Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd ; Goleuni i oleuo y Cenhedloedd , a gogoniant dy bobl Israel . Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef . A Simeon a’u bendithiodd hwynt , ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef , Wele , hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel , ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn ; ( A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf ; ) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau . Ac yr oedd Anna broffwydes , merch Phanwel , o lwyth Aser : hon oedd oedrannus iawn , ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod ; Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd , yr hon nid âi allan o’r deml , ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos . A hon hefyd yn yr awr honno , gan sefyll gerllaw , a foliannodd yr Arglwydd , ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem . Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd , hwy a ddychwelasant i Galilea , i’w dinas eu hun Nasareth . A’r bachgen a gynyddodd , ac a gryfhaodd yn yr ysbryd , yn gyflawn o ddoethineb : a gras Duw oedd arno ef . A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg . A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed , hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl . Ac wedi gorffen y dyddiau , a hwy yn dychwelyd , arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem ; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef : Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai , hwy a aethant daith diwrnod ; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod . A phryd na chawsant ef , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , gan ei geisio ef . A bu , ar ôl tridiau , gael ohonynt hwy ef yn y deml , yn eistedd yng nghanol y doctoriaid , yn gwrando arnynt , ac yn eu holi hwynt . A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef , oherwydd ei ddeall ef a’i atebion . A phan welsant ef , bu aruthr ganddynt . A’i fam a ddywedodd wrtho , Fy mab , paham y gwnaethost felly â ni ? wele , dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham y ceisiech fi ? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad ? A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt . Ac efe a aeth i waered gyda hwynt , ac a ddaeth i Nasareth , ac a fu ostyngedig iddynt . A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon . A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth , a ffafr gyda Duw a dynion . Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar , a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea , a Herod yn detrarch Galilea , a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis , a Lysanias yn detrarch Abilene , Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas , y daeth gair Duw at Ioan , mab Sachareias , yn y diffeithwch . Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen , gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau ; Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd , yr hwn sydd yn dywedyd , Llef un yn llefain yn y diffeithwch , Paratowch ffordd yr Arglwydd , gwnewch ei lwybrau ef yn union . Pob pant a lenwir , a phob mynydd a bryn a ostyngir , a’r gŵyrgeimion a wneir yn union , a’r geirwon yn ffyrdd gwastad : A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw . Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo , O genhedlaeth gwiberod , pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod ? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch ; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain , Y mae gennym ni Abraham yn dad : canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham . Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau : pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da , a gymynir i lawr , ac a fwrir yn tân . A’r bobloedd a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Pa beth gan hynny a wnawn ni ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Y neb sydd ganddo ddwy bais , rhodded i’r neb sydd heb yr un ; a’r neb sydd ganddo fwyd , gwnaed yr un modd . A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio , ac a ddywedasant wrtho , Athro , beth a wnawn ni ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi . A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo , gan ddywedyd , A pha beth a wnawn ninnau ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na fyddwch draws wrth neb , ac na cham-achwynwch ar neb ; a byddwch fodlon i’ch cyflogau . Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl , a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan , ai efe oedd y Crist ; Ioan a atebodd , gan ddywedyd wrthynt oll , Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr : ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod , yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau : efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân , ac â thân . Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law , ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu , ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor ; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy . A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe , ac a bregethodd i’r bobl . Ond Herod y tetrarch , pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd , ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod , A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl , ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar . A bu , pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl , a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd , ac yn gweddïo , agoryd y nef , A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol , megis colomen , arno ef ; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd , Ti yw fy annwyl Fab ; ynot ti y’m bodlonwyd . A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed , mab ( fel y tybid ) i Joseff , fab Eli , Fab Mathat , fab Lefi , fab Melchi , fab Janna , fab Joseff , Fab Matathias , fab Amos , fab Naum , fab Esli , fab Naggai , Fab Maath , fab Matathias , fab Semei , fab Joseff , fab Jwda , Fab Joanna , fab Rhesa , fab Sorobabel , fab Salathiel , fab Neri , Fab Melchi , fab Adi , fab Cosam , fab Elmodam , fab Er , Fab Jose , fab Elieser , fab Jorim , fab Mathat , fab Lefi , Fab Simeon , fab Jwda , fab Joseff , fab Jonan , fab Eliacim , Fab Melea , fab Mainan , fab Matatha , fab Nathan , fab Dafydd , Fab Jesse , fab Obed , fab Boos , fab Salmon , fab Naason , Fab Aminadab , fab Aram , fab Esrom , fab Phares , fab Jwda , Fab Jacob , fab Isaac , fab Abraham , fab Thara , fab Nachor , Fab Saruch , fab Ragau , fab Phalec , fab Heber , fab Sala , Fab Cainan , fab Arffacsad , fab Sem , fab Noe , fab Lamech , Fab Mathwsala , fab Enoch , fab Jared , fab Maleleel , fab Cainan , Fab Enos , fab Seth , fab Adda , fab Duw . A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân , a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen , ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch , Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod . Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny : ac wedi eu diweddu hwynt , ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd . A dywedodd diafol wrtho , Os mab Duw ydwyt ti , dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara . A’r Iesu a atebodd iddo , gan ddywedyd , Ysgrifenedig yw , Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw , ond ar bob gair Duw . A diafol , wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel , a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr . A diafol a ddywedodd wrtho , I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll , a’u gogoniant hwynt : canys i mi y rhoddwyd ; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi . Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen , eiddot ti fyddant oll . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Dos ymaith , Satan , yn fy ôl i ; canys ysgrifenedig yw , Addoli yr Arglwydd dy Dduw , ac ef yn unig a wasanaethi . Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem , ac a’i gosododd ar binacl y deml , ac a ddywedodd wrtho , Os mab Duw ydwyt , bwrw dy hun i lawr oddi yma : Canys ysgrifenedig yw , Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di , ar dy gadw di ; Ac y cyfodant di yn eu dwylo , rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Dywedwyd , Na themtia yr Arglwydd dy Dduw . Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn , efe a ymadawodd ag ef dros amser . A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea : a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch . Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt , ac yn cael anrhydedd gan bawb . Ac efe a ddaeth i Nasareth , lle y magesid ef : ac yn ôl ei arfer , efe a aeth i’r synagog ar y Saboth , ac a gyfododd i fyny i ddarllen . A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias . Ac wedi iddo agoryd y llyfr , efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig , Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi , oherwydd iddo fy eneinio i ; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi , i iacháu’r drylliedig o galon , i bregethu gollyngdod i’r caethion , a chaffaeliad golwg i’r deillion , i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb , I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd . Ac wedi iddo gau’r llyfr , a’i roddi i’r gweinidog , efe a eisteddodd . A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt , Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi . Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo , ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef . A hwy a ddywedasant , Onid hwn yw mab Joseff ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf , Y meddyg , iachâ di dy hun : y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum , gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun . Ac efe a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun . Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi , Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias , pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis , fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir ; Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias , ond i Sarepta yn Sidon , at wraig weddw . A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd ; ac ni lanhawyd yr un ohonynt , ond Naaman y Syriad . A’r rhai oll yn y synagog , wrth glywed y pethau hyn , a lanwyd o ddigofaint ; Ac a godasant i fyny , ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas , ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno , ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr . Ond efe , gan fyned trwy eu canol hwynt , a aeth ymaith ; Ac a ddaeth i waered i Gapernaum , dinas yng Ngalilea : ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth . A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef : canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod . Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan ; ac efe a waeddodd â llef uchel , Gan ddywedyd , Och , beth sydd i ni a wnelom â thi , Iesu o Nasareth ? a ddaethost ti i’n difetha ni ? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt ; Sanct Duw . A’r Iesu a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Distawa , a dos allan ohono . A’r cythraul , wedi ei daflu ef i’r canol , a aeth allan ohono , heb wneuthur dim niwed iddo . A daeth braw arnynt oll : a chyd-ymddiddanasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Pa ymadrodd yw hwn ! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan , a hwythau yn myned allan . A sôn amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch . A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog , efe a aeth i mewn i dŷ Simon . Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin : a hwy a atolygasant arno drosti hi . Ac efe a safodd uwch ei phen hi , ac a geryddodd y cryd ; a’r cryd a’i gadawodd hi : ac yn y fan hi a gyfododd , ac a wasanaethodd arnynt hwy . A phan fachludodd yr haul , pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau , a’u dygasant hwy ato ef ; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt , ac a’u hiachaodd hwynt . A’r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd , Ti yw Crist , Mab Duw . Ac efe a’u ceryddodd hwynt , ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist . Ac wedi ei myned hi yn ddydd , efe a aeth allan , ac a gychwynnodd i le diffaith : a’r bobloedd a’i ceisiasant ef ; a hwy a ddaethant hyd ato , ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd : canys i hyn y’m danfonwyd . Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea . Bu hefyd , a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw , yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret ; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn : a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt , ac oeddynt yn golchi eu rhwydau . Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau , yr hon oedd eiddo Simon , ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir . Ac efe a eisteddodd , ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong . A phan beidiodd â llefaru , efe a ddywedodd wrth Simon , Gwthia i’r dwfn , a bwriwch eich rhwydau am helfa . A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho , O Feistr , er i ni boeni ar hyd y nos , ni ddaliasom ni ddim : eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd . Ac wedi iddynt wneuthur hynny , hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod : a’u rhwyd hwynt a rwygodd . A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion , oedd yn y llong arall , i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt . A hwy a ddaethant ; a llanwasant y ddwy long , onid oeddynt hwy ar soddi . A Simon Pedr , pan welodd hynny , a syrthiodd wrth liniau’r Iesu , gan ddywedyd , Dos ymaith oddi wrthyf ; canys dyn pechadurus wyf fi , O Arglwydd . Oblegid braw a ddaethai arno ef , a’r rhai oll oedd gydag ef , oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy ; A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd , meibion Sebedeus , y rhai oedd gyfranogion â Simon . A dywedodd yr Iesu wrth Simon , Nac ofna : o hyn allan y deli ddynion . Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir , hwy a adawsant bob peth , ac a’i dilynasant ef . A bu , fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas , wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf : a phan welodd efe yr Iesu , efe a syrthiodd ar ei wyneb , ac a ymbiliodd ag ef , gan ddywedyd , O Arglwydd , os ewyllysi , ti a elli fy nglanhau . Yntau a estynnodd ei law , ac a gyffyrddodd ag ef , gan ddywedyd , Yr wyf yn ewyllysio ; bydd lân . Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho . Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb : eithr dos ymaith , a dangos dy hun i’r offeiriad , ac offrwm dros dy lanhad , fel y gorchmynnodd Moses , er tystiolaeth iddynt . A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led : a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef , ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau . Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch , ac yn gweddïo . A bu ar ryw ddiwrnod , fel yr oedd efe yn athrawiaethu , fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno , y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea , a Jwdea , a Jerwsalem : ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt . Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys : a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn , a’i ddodi ger ei fron ef . A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn , o achos y dyrfa , hwy a ddringasant ar nen y tŷ , ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau , yn y canol gerbron yr Iesu . A phan welodd efe eu ffydd hwynt , efe a ddywedodd wrtho , Y dyn , maddeuwyd i ti dy bechodau . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu , gan ddywedyd , Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd ? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig ? A’r Iesu , yn gwybod eu hymresymiadau hwynt , a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Pa resymu yn eich calonnau yr ydych ? Pa un hawsaf , ai dywedyd , Maddeuwyd i ti dy bechodau ; ai dywedyd , Cyfod , a rhodia ? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau , ( eb efe wrth y claf o’r parlys , ) Yr wyf yn dywedyd wrthyt , Cyfod , a chymer dy wely , a dos i’th dŷ . Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt ; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno , ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun , gan ogoneddu Duw . A syndod a ddaeth ar bawb , a hwy a ogoneddasant Dduw ; a hwy a lanwyd o ofn , gan ddywedyd , Gwelsom bethau anhygoel heddiw . Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan , ac a welodd bublican , a’i enw Lefi , yn eistedd wrth y dollfa ; ac efe a ddywedodd wrtho , Dilyn fi . Ac efe a adawodd bob peth , ac a gyfododd i fyny , ac a’i dilynodd ef . A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ : ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill , yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd . Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef , gan ddywedyd , Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid ? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg ; ond i’r rhai cleifion . Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn , ond pechaduriaid , i edifeirwch . A hwy a ddywedasant wrtho , Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych , ac yn gwneuthur gweddïau , a’r un modd yr eiddo y Phariseaid ; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed ? Yntau a ddywedodd wrthynt , A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio , tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt ? Ond y dyddiau a ddaw , pan ddyger y priodasfab oddi arnynt : ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny . Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt : Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn : os amgen , y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad , a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen . Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau : os amgen , y gwin newydd a ddryllia’r costrelau , ac efe a red allan , a’r costrelau a gollir . Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion ; a’r ddau a gedwir . Ac nid oes neb , gwedi iddo yfed gwin hen , a chwennych y newydd yn y fan : canys efe a ddywed , Gwell yw’r hen . A bu ar yr ail prif Saboth , fyned ohono trwy’r ŷd : a’i ddisgyblion a dynasant y tywys , ac a’u bwytasant , gwedi eu rhwbio â’u dwylo . A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau ? A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd , Oni ddarllenasoch hyn chwaith , yr hyn a wnaeth Dafydd , pan oedd chwant bwyd arno ef , a’r rhai oedd gydag ef ; Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw , ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod , ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef ; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta , ond i’r offeiriaid yn unig ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd . A bu hefyd ar Saboth arall , iddo fyned i mewn i’r synagog , ac athrawiaethu : ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef , a iachâi efe ef ar y dydd Saboth ; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef . Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt , ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo , Cyfod i fyny , a saf yn y canol . Ac efe a gyfododd i fyny , ac a safodd . Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt , Myfi a ofynnaf i chwi , Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau ? gwneuthur da , ynteu gwneuthur drwg ? cadw einioes , ai colli ? Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch , efe a ddywedodd wrth y dyn , Estyn dy law . Ac efe a wnaeth felly : a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall . A hwy a lanwyd o ynfydrwydd , ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall , pa beth a wnaent i’r Iesu . A bu yn y dyddiau hynny , fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo ; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw . A phan aeth hi yn ddydd , efe a alwodd ato ei ddisgyblion : ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg , y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion ; Simon ( yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr , ) ac Andreas ei frawd ; Iago , ac Ioan ; Philip , a Bartholomeus ; Mathew , a Thomas ; Iago mab Alffeus , a Simon a elwir Selotes ; Jwdas brawd Iago , a Jwdas Iscariot , yr hwn hefyd a aeth yn fradwr . Ac efe a aeth i waered gyda hwynt , ac a safodd mewn gwastatir ; a’r dyrfa o’i ddisgyblion , a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem , ac o duedd môr Tyrus a Sidon , y rhai a ddaeth i wrando arno , ac i’w hiacháu o’u clefydau , A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan : a hwy a iachawyd . A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef ; am fod nerth yn myned ohono allan , ac yn iacháu pawb . Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion , ac a ddywedodd , Gwyn eich byd y tlodion : canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw . Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon : canys chwi a ddigonir . Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon : canys chwi a chwerddwch . Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion , a phan y’ch didolant oddi wrthynt , ac y’ch gwaradwyddant , ac y bwriant eich enw allan megis drwg , er mwyn Mab y dyn . Byddwch lawen y dydd hwnnw , a llemwch ; canys wele , eich gwobr sydd fawr yn y nef : oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi . Eithr gwae chwi’r cyfoethogion ! canys derbyniasoch eich diddanwch . Gwae chwi’r rhai llawn ! canys chwi a ddygwch newyn . Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon ! canys chwi a alerwch ac a wylwch . Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch ! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi . Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando , Cerwch eich gelynion ; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt : Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant , a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant . Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern , cynnig y llall hefyd ; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl , na wahardd dy bais hefyd . A dyro i bob un a geisio gennyt ; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot , na chais eilchwyl . Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi , gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud . Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau . Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth . Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt , pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid , fel y derbyniont y cyffelyb . Eithr cerwch eich gelynion , a gwnewch dda , a rhoddwch echwyn , heb obeithio dim drachefn ; a’ch gwobr a fydd mawr , a phlant fyddwch i’r Goruchaf : canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg . Byddwch gan hynny drugarogion , megis ag y mae eich Tad yn drugarog . Ac na fernwch , ac ni’ch bernir : na chondemniwch , ac ni’ch condemnir : maddeuwch , a maddeuir i chwithau : Rhoddwch , a rhoddir i chwi ; mesur da , dwysedig , ac wedi ei ysgwyd , ac yn myned trosodd , a roddant yn eich mynwes : canys â’r un mesur ag y mesuroch , y mesurir i chwi drachefn . Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt : a ddichon y dall dywyso’r dall ? oni syrthiant ill dau yn y clawdd ? Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro : eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro . A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd , ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd , Fy mrawd , gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad , a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun ? O ragrithiwr , bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf , ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd . Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg ; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da . Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun : canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys , nac oddi ar berth yr heliant rawnwin . Y dyn da , o ddaionus drysor ei galon , a ddwg allan ddaioni ; a’r dyn drwg , o ddrygionus drysor ei galon , a ddwg allan ddrygioni : canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru . Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i , Arglwydd , Arglwydd , ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd ? Pwy bynnag a ddêl ataf fi , ac a wrendy fy ngeiriau , ac a’u gwnelo hwynt , mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb : Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ , yr hwn a gloddiodd , ac a aeth yn ddwfn , ac a osododd ei sail ar y graig : a phan ddaeth llifeiriant , y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw , ac ni allai ei siglo ; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig . Ond yr hwn a wrendy , ac ni wna , cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear , heb sail ; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd , ac yn y fan y syrthiodd : a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr . Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl , efe a aeth i mewn i Gapernaum . A gwas rhyw ganwriad , yr hwn oedd annwyl ganddo , oedd yn ddrwg ei hwyl , ymron marw . A phan glybu efe sôn am yr Iesu , efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon , gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef . Y rhai pan ddaethant at yr Iesu , a atolygasant arno yn daer , gan ddywedyd , Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo ; Canys y mae yn caru ein cenedl ni , ac efe a adeiladodd i ni synagog . A’r Iesu a aeth gyda hwynt . Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ , y canwriad a anfonodd gyfeillion ato , gan ddywedyd wrtho , Arglwydd , na phoena ; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd : Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat : eithr dywed y gair , a iach fydd fy ngwas . Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod , a chennyf filwyr danaf : ac meddaf wrth hwn , Dos , ac efe a â ; ac wrth arall , Tyred , ac efe a ddaw ; ac wrth fy ngwas , Gwna hyn , ac efe a’i gwna . Pan glybu’r Iesu y pethau hyn , efe a ryfeddodd wrtho , ac a drodd , ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn , Yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Ni chefais gymaint ffydd , naddo yn yr Israel . A’r rhai a anfonasid , wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ , a gawsant y gwas a fuasai glaf , yn holliach . A bu drannoeth , iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain ; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion , a thyrfa fawr . A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas , wele , un marw a ddygid allan , yr hwn oedd unig fab ei fam , a honno yn weddw : a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi . A’r Arglwydd pan welodd hi , a gymerodd drugaredd arni , ac a ddywedodd wrthi , Nac wyla . A phan ddaeth atynt , efe a gyffyrddodd â’r elor : a’r rhai oedd yn ei dwyn , a safasant . Ac efe a ddywedodd , Y mab ieuanc , yr wyf yn dywedyd wrthyt , Cyfod . A’r marw a gyfododd yn ei eistedd , ac a ddechreuodd lefaru . Ac efe a’i rhoddes i’w fam . Ac ofn a ddaeth ar bawb : a hwy a ogoneddasant Dduw , gan ddywedyd , Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith ; ac , Ymwelodd Duw â’i bobl . A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea , a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch . A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll . Ac Ioan , wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato , a anfonodd at yr Iesu , gan ddywedyd , Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod ? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl ? A’r gwŷr pan ddaethant ato , a ddywedasant , Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti , gan ddywedyd , Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod ? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl ? A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau , a phlâu , ac ysbrydion drwg ; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Ewch , a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch ; fod y deillion yn gweled eilwaith , y cloffion yn rhodio , y gwahanglwyfus wedi eu glanhau , y byddariaid yn clywed , y meirw yn cyfodi , y tlodion yn derbyn yr efengyl . A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi . Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith , efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan . Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled ? Ai corsen yn siglo gan wynt ? Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled ? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth ? Wele , y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus , a moethau , mewn palasau brenhinoedd y maent . Eithr beth yr aethoch allan i’w weled ? Ai proffwyd ? Yn ddiau meddaf i chwi , a llawer mwy na phroffwyd . Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd , Wele , yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb , yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen . Canys meddaf i chwi , Ymhlith y rhai a aned o wragedd , nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr : eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw , sydd fwy nag ef . A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando , a’r publicanod , a gyfiawnhasant Dduw , gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan . Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw , heb eu bedyddio ganddo . A dywedodd yr Arglwydd , I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon ? ac i ba beth y maent yn debyg ? Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad , ac yn llefain wrth ei gilydd , ac yn dywedyd , Canasom bibau i chwi , ac ni ddawnsiasoch ; cwynfanasom i chwi , ac nid wylasoch . Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara , nac yfed gwin ; a chwi a ddywedwch , Y mae cythraul ganddo . Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed ; ac yr ydych yn dywedyd , Wele ddyn glwth , ac yfwr gwin , cyfaill publicanod a phechaduriaid . A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant . Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef : ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead , ac a eisteddodd i fwyta . Ac wele , gwraig yn y ddinas , yr hon oedd bechadures , pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead , a ddug flwch o ennaint : A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl , ac wylo , hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau , ac a’u sychodd â gwallt ei phen : a hi a gusanodd ei draed ef , ac a’u hirodd â’r ennaint . A phan welodd y Pharisead , yr hwn a’i gwahoddasai , efe a ddywedodd ynddo ei hun , gan ddywedyd , Pe bai hwn broffwyd , efe a wybuasai pwy , a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef : canys pechadures yw hi . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho , Simon , y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt . Yntau a ddywedodd , Athro , dywed . Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr : y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled , a’r llall ddeg a deugain . A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu , efe a faddeuodd iddynt ill dau . Dywed gan hynny , pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf ? A Simon a atebodd ac a ddywedodd , Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf . Yntau a ddywedodd wrtho , Uniawn y bernaist . Ac efe a drodd at y wraig , ac a ddywedodd wrth Simon , A weli di’r wraig hon ? mi a ddeuthum i’th dŷ di , ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed : ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau , ac a’u sychodd â gwallt ei phen . Ni roddaist i mi gusan : ond hon , er pan ddeuthum i mewn , ni pheidiodd â chusanu fy nhraed . Fy mhen ag olew nid iraist : ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint . Oherwydd paham y dywedaf wrthyt , Maddeuwyd ei haml bechodau hi ; oblegid hi a garodd yn fawr : ond y neb y maddeuer ychydig iddo , a gâr ychydig . Ac efe a ddywedodd wrthi , Maddeuwyd i ti dy bechodau . A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain , Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd ? Ac efe a ddywedodd wrth y wraig , Dy ffydd a’th gadwodd ; dos mewn tangnefedd . Abu wedi hynny , iddo fyned trwy bob dinas a thref , gan bregethu , ac efengylu teyrnas Dduw : a’r deuddeg oedd gydag ef ; A gwragedd rai , a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid ; Mair yr hon a elwid Magdalen , o’r hon yr aethai saith gythraul allan ; Joanna , gwraig Chusa goruchwyliwr Herod , a Susanna , a llawer eraill , y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt . Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd , a chyrchu ato o bob dinas , efe a ddywedodd ar ddameg : Yr heuwr a aeth allan i hau ei had : ac wrth hau , peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd , ac a fathrwyd ; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd . A pheth arall a syrthiodd ar y graig ; a phan eginodd , y gwywodd , am nad oedd iddo wlybwr . A pheth arall a syrthiodd ymysg drain ; a’r drain a gyd‐dyfasant , ac a’i tagasant ef . A pheth arall a syrthiodd ar dir da ; ac a eginodd , ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed . Wrth ddywedyd y pethau hyn , efe a lefodd , Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando , gwrandawed . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Pa ddameg oedd hon ? Yntau a ddywedodd , I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw ; eithr i eraill ar ddamhegion ; fel yn gweled na welant , ac yn clywed na ddeallant . A dyma’r ddameg : Yr had yw gair Duw . A’r rhai ar ymyl y ffordd , ydyw’r rhai sydd yn gwrando , wedi hynny y mae’r diafol yn dyfod , ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt , rhag iddynt gredu , a bod yn gadwedig . A’r rhai ar y graig , yw’r rhai pan glywant , a dderbyniant y gair yn llawen ; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn , y rhai sydd yn credu dros amser , ac yn amser profedigaeth yn cilio . A’r hwn a syrthiodd ymysg drain , yw’r rhai a wrandawsant ; ac wedi iddynt fyned ymaith , hwy a dagwyd gan ofalon , a golud , a melyswedd buchedd , ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd . A’r hwn ar y tir da , yw’r rhai hyn , y rhai â chalon hawddgar a da , ydynt yn gwrando’r gair , ac yn ei gadw , ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd . Nid yw neb wedi golau cannwyll , yn ei chuddio hi â llestr , neu yn ei dodi dan wely ; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren , fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni . Canys nid oes dim dirgel , a’r ni bydd amlwg ; na dim cuddiedig , a’r nis gwybyddir , ac na ddaw i’r golau . Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch : canys pwy bynnag y mae ganddo , y rhoddir iddo ; a’r neb nid oes ganddo , ie , yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo , a ddygir oddi arno . Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr ; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf . A mynegwyd iddo , gan rai , yn dywedyd , Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan , yn ewyllysio dy weled . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw , ac yn ei wneuthur . A bu ar ryw ddiwrnod , ac efe a aeth i long , efe a’i ddisgyblion : a dywedodd wrthynt , Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn . A hwy a gychwynasant . Ac fel yr oeddynt yn hwylio , efe a hunodd : a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn ; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr , ac mewn enbydrwydd . A hwy a aethant ato , ac a’i deffroesant ef , gan ddywedyd , O Feistr , Feistr , darfu amdanom . Ac efe a gyfododd , ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr : a hwy a beidiasant , a hi a aeth yn dawel . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa le y mae eich ffydd chwi ? A hwy wedi ofni , a ryfeddasant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Pwy yw hwn , gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd , a hwythau yn ufuddhau iddo ? A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid , yr hon sydd o’r tu arall , ar gyfer Galilea . Ac wedi iddo fyned allan i dir , cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas , yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser ; ac ni wisgai ddillad , ac nid arhosai mewn tŷ , ond yn y beddau . Hwn , wedi gweled yr Iesu , a dolefain , a syrthiodd i lawr ger ei fron ef , ac a ddywedodd â llef uchel , Beth sydd i mi â thi , O Iesu , Fab Duw goruchaf ? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech . ( Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn . Canys llawer o amserau y cipiasai ef : ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau , ac â llyffetheiriau ; ac wedi dryllio’r rhwymau , efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch . ) A’r Iesu a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Beth yw dy enw di ? Yntau a ddywedodd , Lleng : canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef . A hwy a ddeisyfasant arno , na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder . Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd : a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny . Ac efe a adawodd iddynt . A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn , ac a aethant i mewn i’r moch : a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn , ac a foddwyd . A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai , hwy a ffoesant , ac a aethant , ac a fynegasant yn y ddinas , ac yn y wlad . A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid ; ac a ddaethant at yr Iesu , ac a gawsant y dyn , o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan , yn ei ddillad , a’i iawn bwyll , yn eistedd wrth draed yr Iesu : a hwy a ofnasant . A’r rhai a welsent , a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig . A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt ; am eu bod mewn ofn mawr . Ac efe wedi myned i’r llong , a ddychwelodd . A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan , a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef : eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith , gan ddywedyd , Dychwel i’th dŷ , a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti . Ac efe a aeth , dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas , faint a wnaethai’r Iesu iddo . A bu , pan ddychwelodd yr Iesu , dderbyn o’r bobl ef : canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef . Ac wele , daeth gŵr a’i enw Jairus ; ac efe oedd lywodraethwr y synagog : ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu , ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef : Oherwydd yr oedd iddo ferch unig‐anedig , ynghylch deuddeng mlwydd oed , a hon oedd yn marw . Ond fel yr oedd efe yn myned , y bobloedd a’i gwasgent ef . A gwraig , yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd , yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd , ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu , A ddaeth o’r tu cefn , ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef : ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi . A dywedodd yr Iesu , Pwy yw a gyffyrddodd â mi ? Ac a phawb yn gwadu , y dywedodd Pedr , a’r rhai oedd gydag ef , O Feistr , y mae’r bobloedd yn dy wasgu , ac yn dy flino ; ac a ddywedi di , Pwy yw a gyffyrddodd â mi ? A’r Iesu a ddywedodd , Rhyw un a gyffyrddodd â mi : canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof . A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig , hi a ddaeth dan grynu , ac a syrthiodd ger ei fron ef , ac a fynegodd iddo , yng ngŵydd yr holl bobl , am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef , ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd . Yntau a ddywedodd wrthi , Cymer gysur , ferch ; dy ffydd a’th iachaodd : dos mewn tangnefedd . Ac efe eto yn llefaru , daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog , gan ddywedyd wrtho , Bu farw dy ferch : na phoena mo’r Athro . A’r Iesu pan glybu hyn , a’i hatebodd ef , gan ddywedyd , Nac ofna : cred yn unig , a hi a iacheir . Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ , ni adawodd i neb ddyfod i mewn , ond Pedr , ac Iago , ac Ioan , a thad yr eneth a’i mam . Ac wylo a wnaethant oll , a chwynfan amdani . Eithr efe a ddywedodd , Nac wylwch : nid marw hi , eithr cysgu y mae . A hwy a’i gwatwarasant ef , am iddynt wybod ei marw hi . Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan , ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw , ac a lefodd , gan ddywedyd , Herlodes , cyfod . A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn , a hi a gyfododd yn ebrwydd : ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi . A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi : ac efe a orchmynnodd iddynt , na ddywedent i neb y peth a wnaethid . Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl , ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid , ac i iacháu clefydau . Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw , ac i iacháu’r rhai cleifion . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Na chymerwch ddim i’r daith , na ffyn nac ysgrepan , na bara , nac arian ; ac na fydded gennych ddwy bais bob un . Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn , arhoswch yno , ac oddi yno ymadewch . A pha rai bynnag ni’ch derbyniant , pan eloch allan o’r ddinas honno , ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed , yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt . Ac wedi iddynt fyned allan , hwy a aethant trwy’r trefi , gan bregethu’r efengyl , a iacháu ym mhob lle . A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo ; ac efe a betrusodd , am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw ; A rhai eraill , ymddangos o Eleias ; a rhai eraill , mai proffwyd , un o’r rhai gynt , a atgyfodasai . A Herod a ddywedodd , Ioan a dorrais i ei ben : ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano ? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef . A’r apostolion , wedi dychwelyd , a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent . Ac efe a’u cymerth hwynt , ac a aeth o’r neilltu , i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida . A’r bobloedd pan wybuant , a’i dilynasant ef : ac efe a’u derbyniodd hwynt , ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw , ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu . A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau ; a’r deuddeg a ddaethant , ac a ddywedasant wrtho , Gollwng y dyrfa ymaith , fel y gallont fyned i’r trefi , ac i’r wlad oddi amgylch , i letya , ac i gael bwyd : canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd . Eithr efe a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta . A hwythau a ddywedasant , Nid oes gennym ni ond pum torth , a dau bysgodyn , oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll . Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau , bob yn ddeg a deugain . Ac felly y gwnaethant ; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd . Ac efe a gymerodd y pum torth , a’r ddau bysgodyn , ac a edrychodd i fyny i’r nef , ac a’u bendithiodd hwynt , ac a’u torrodd , ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl . A hwynt‐hwy oll a fwytasant , ac a gawsant ddigon : a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd , ddeuddeg basgedaid . Bu hefyd , fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan , fod ei ddisgyblion gydag ef : ac efe a ofynnodd iddynt , gan ddywedyd , Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i ? Hwythau gan ateb a ddywedasant , Ioan Fedyddiwr ; ond eraill , mai Eleias ; ac eraill , mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i ? A Phedr gan ateb a ddywedodd , Crist Duw . Ac efe a roes orchymyn arnynt , ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb ; Gan ddywedyd , Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer , a’i wrthod gan yr henuriaid , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a’i ladd , a’r trydydd dydd atgyfodi . Ac efe a ddywedodd wrth bawb , Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i , ymwaded ag ef ei hun , a choded ei groes beunydd , a dilyned fi . Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes , a’i cyll ; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i , hwnnw a’i ceidw hi . Canys pa lesâd i ddyn , er ennill yr holl fyd , a’i ddifetha’i hun , neu fod wedi ei golli ? Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau , hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn , pan ddelo yn ei ogoniant ei hun , a’r Tad , a’r angylion sanctaidd . Eithr dywedaf i chwi yn wir , Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau , hyd oni welont deyrnas Dduw . A bu , ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn , gymryd ohono ef Pedr , ac Ioan , ac Iago , a myned i fyny i’r mynydd i weddïo . Ac fel yr oedd efe yn gweddïo , gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd , a’i wisg oedd yn wen ddisglair . Ac wele , dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef , y rhai oedd Moses ac Eleias : Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant , ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef , yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem . A Phedr , a’r rhai oedd gydag ef , oeddynt wedi trymhau gan gysgu : a phan ddihunasant , hwy a welsant ei ogoniant ef , a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef . A bu , a hwy yn ymado oddi wrtho ef , ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu , O Feistr , da yw i ni fod yma : a gwnawn dair pabell ; un i ti , ac un i Moses , ac un i Eleias : heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn , daeth cwmwl , ac a’u cysgododd hwynt : a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl . A daeth llef allan o’r cwmwl , gan ddywedyd , Hwn yw fy Mab annwyl ; gwrandewch ef . Ac wedi bod y llef , cafwyd yr Iesu yn unig . A hwy a gelasant , ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent . A darfu drannoeth , pan ddaethant i waered o’r mynydd , i dyrfa fawr gyfarfod ag ef . Ac wele , gŵr o’r dyrfa a ddolefodd , gan ddywedyd , O Athro , yr wyf yn atolwg i ti , edrych ar fy mab ; canys fy unig‐anedig yw . Ac wele , y mae ysbryd yn ei gymryd ef , ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi ; ac y mae’n ei ddryllio ef , hyd oni falo ewyn ; a braidd yr ymedy oddi wrtho , wedi iddo ei ysigo ef . Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan ; ac nis gallasant . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , O genhedlaeth anffyddlon a throfaus , pa hyd y byddaf gyda chwi , ac y’ch goddefaf ? dwg dy fab yma . Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod , y cythraul a’i rhwygodd ef , ac a’i drylliodd : a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan , ac a iachaodd y bachgen , ac a’i rhoddes ef i’w dad . A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw . Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn : canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion . Eithr hwy ni wybuant y gair hwn , ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt , fel nas deallent ef : ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn . A dadl a gyfododd yn eu plith , pwy a fyddai fwyaf ohonynt . A’r Iesu , wrth weled meddwl eu calon hwynt , a gymerth fachgennyn , ac a’i gosododd yn ei ymyl , Ac a ddywedodd wrthynt , Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i , sydd yn fy nerbyn i ; a phwy bynnag a’m derbynio i , sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i : canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll , hwnnw a fydd mawr . Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd , O Feistr , ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid ; ac a waharddasom iddo , am nad oedd yn canlyn gyda ni . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Na waherddwch iddo : canys y neb nid yw i’n herbyn , trosom ni y mae . A bu , pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny , yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem . Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb : a hwy wedi myned , a aethant i mewn i dref y Samariaid , i baratoi iddo ef . Ac nis derbyniasant hwy ef , oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem . A’i ddisgyblion ef , Iago ac Ioan , pan welsant , a ddywedasant , Arglwydd , a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef , a’u difa hwynt , megis y gwnaeth Eleias ? Ac efe a drodd , ac a’u ceryddodd hwynt ; ac a ddywedodd , Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi . Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion , ond i’w cadw . A hwy a aethant i dref arall . A bu , a hwy yn myned , ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef , Arglwydd , mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Y mae gan y llwynogod ffeuau , a chan adar yr awyr nythod ; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr . Ac efe a ddywedodd wrth un arall , Dilyn fi . Ac yntau a ddywedodd , Arglwydd , gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad . Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho , Gad i’r meirw gladdu eu meirw : ond dos di , a phregetha deyrnas Dduw . Ac un arall hefyd a ddywedodd , Mi a’th ddilynaf di , O Arglwydd ; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr , ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl , yn gymwys i deyrnas Dduw . Wedi’r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd , ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod . Am hynny efe a ddywedodd wrthynt , Y cynhaeaf yn wir sydd fawr , ond y gweithwyr yn anaml : gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf , am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf . Ewch : wele , yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ymysg bleiddiaid . Na ddygwch god , nac ysgrepan , nac esgidiau ; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd . Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn , yn gyntaf dywedwch , Tangnefedd i’r tŷ hwn . Ac o bydd yno fab tangnefedd , eich tangnefedd a orffwys arno : os amgen , hi a ddychwel atoch chwi . Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch , gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt : canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog . Na threiglwch o dŷ i dŷ . A pha ddinas bynnag yr eloch iddi , a hwy yn eich derbyn , bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau : Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi , a dywedwch wrthynt , Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch . Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi , a hwy heb eich derbyn , ewch allan i’w heolydd , a dywedwch , Hyd yn oed y llwch , yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas , yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi : er hynny gwybyddwch hyn , fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch . Eithr dywedaf wrthych , mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw , nag i’r ddinas honno . Gwae di , Chorasin ! gwae di , Bethsaida ! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi , hwy a edifarhasent er ys talm , gan eistedd mewn sachliain a lludw . Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn , nag i chwi . A thithau , Capernaum , yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef , a dynnir i lawr hyd yn uffern . Y neb sydd yn eich gwrando chwi , sydd yn fy ngwrando i ; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi , sydd yn fy nirmygu i ; a’r neb sydd yn fy nirmygu i , sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i . A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd , gan ddywedyd , Arglwydd , hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni , yn dy enw di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Mi a welais Satan megis mellten , yn syrthio o’r nef . Wele , yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau , ac ar holl gryfder y gelyn : ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi . Eithr yn hyn na lawenhewch , fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi ; ond llawenhewch yn hytrach , am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd . Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd , ac a ddywedodd , Yr wyf yn diolch i ti , O Dad , Arglwydd nef a daear , am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus , a’u datguddio ohonot i rai bychain : yn wir , O Dad ; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di . Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad : ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab , ond y Tad ; na phwy yw’r Tad , ond y Mab , a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo . Ac efe a drodd at ei ddisgyblion , ac a ddywedodd o’r neilltu , Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled : Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled , ac nis gwelsant ; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed , ac nis clywsant . Ac wele , rhyw gyfreithiwr a gododd , gan ei demtio ef , a dywedyd , Athro , pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol ? Yntau a ddywedodd wrtho , Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith ? pa fodd y darlleni ? Ac efe gan ateb a ddywedodd , Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl nerth , ac â’th holl feddwl ; a’th gymydog fel ti dy hun . Yntau a ddywedodd wrtho , Ti a atebaist yn uniawn : gwna hyn , a byw fyddi . Eithr efe , yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun , a ddywedodd wrth yr Iesu , A phwy yw fy nghymydog ? A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho , ac a syrthiodd ymysg lladron ; y rhai wedi ei ddiosg ef , a’i archolli , a aethant ymaith , gan ei adael yn hanner marw . Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno : a phan ei gwelodd , efe a aeth o’r tu arall heibio . A’r un ffunud Lefiad hefyd , wedi dyfod i’r fan , a’i weled ef , a aeth o’r tu arall heibio . Eithr rhyw Samariad , wrth ymdaith , a ddaeth ato ef : a phan ei gwelodd , a dosturiodd , Ac a aeth ato , ac a rwymodd ei archollion ef , gan dywallt ynddynt olew a gwin ; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun , ac a’i dug ef i’r llety , ac a’i hamgeleddodd . A thrannoeth wrth fyned ymaith , efe a dynnodd allan ddwy geiniog , ac a’u rhoddes i’r lletywr , ac a ddywedodd wrtho , Cymer ofal drosto : a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg , pan ddelwyf drachefn , mi a’i talaf i ti . Pwy gan hynny o’r tri hyn , yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron ? Ac efe a ddywedodd , Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef . A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho , Dos , a gwna dithau yr un modd . A bu , a hwy yn ymdeithio , ddyfod ohono i ryw dref : a rhyw wraig , a’i henw Martha , a’i derbyniodd ef i’w thŷ . Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair , yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu , ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef . Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth : a chan sefyll gerllaw , hi a ddywedodd , Arglwydd , onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu ? dywed wrthi gan hynny am fy helpio . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Martha , Martha , gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau : Eithr un peth sydd angenrheidiol : a Mair a ddewisodd y rhan dda , yr hon ni ddygir oddi arni . Abu , ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo , pan beidiodd , ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho , Arglwydd , dysg i ni weddïo , megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pan weddïoch , dywedwch , Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd , Sancteiddier dy enw . Deued dy deyrnas . Gwneler dy ewyllys , megis yn y nef , felly ar y ddaear hefyd . Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol . A maddau i ni ein pechodau : canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled . Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; eithr gwared ni rhag drwg . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill , ac a â ato hanner nos , ac a ddywed wrtho , O gyfaill , moes i mi dair torth yn echwyn ; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith , ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef : Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed , Na flina fi : yn awr y mae’r drws yn gaead , a’m plant gyda mi yn y gwely ; ni allaf godi a’u rhoddi i ti . Yr wyf yn dywedyd i chwi , Er na chyfyd efe a rhoddi iddo , am ei fod yn gyfaill iddo ; eto oherwydd ei daerni , efe a gyfyd , ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau . Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Gofynnwch , a rhoddir i chwi ; ceisiwch , a chwi a gewch ; curwch , ac fe a agorir i chwi . Canys pob un sydd yn gofyn , sydd yn derbyn ; a’r neb sydd yn ceisio , sydd yn cael ; ac i’r hwn sydd yn curo , yr agorir . Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad , a ddyry efe garreg iddo ? ac os pysgodyn , a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn ? Neu os gofyn efe wy , a ddyry efe ysgorpion iddo ? Os chwychwi gan hynny , y rhai ydych ddrwg , a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi ; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo ? Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul , a hwnnw oedd fud . A bu , wedi i’r cythraul fyned allan , i’r mudan lefaru : a’r bobloedd a ryfeddasant . Eithr rhai ohonyn a ddywedasant , Trwy Beelsebub , pennaeth y cythreuliaid , y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid . Ac eraill , gan ei demtio , a geisiasant ganddo arwydd o’r nef . Yntau , yn gwybod eu meddyliau hwynt , a ddywedodd wrthynt , Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun , a anghyfanheddir ; a thŷ yn erbyn tŷ , a syrth . Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun , pa fodd y saif ei deyrnas ef ? gan eich bod yn dywedyd , mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid . Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid , trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan ? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi . Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid , diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi . Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd , y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch : Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno , a’i orchfygu , efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried , ac a ran ei anrhaith ef . Y neb nid yw gyda mi , sydd yn fy erbyn : a’r neb nid yw yn casglu gyda mi , sydd yn gwasgaru . Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn , efe a rodia mewn lleoedd sychion , gan geisio gorffwystra : a phryd na chaffo , efe a ddywed , Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan . A phan ddêl , y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu . Yna yr â efe , ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun ; a hwy a ânt i mewn , ac a arhosant yno : a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad . A bu , fel yr oedd efe yn dywedyd hyn , rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef , ac a ddywedodd wrtho , Gwyn fyd y groth a’th ddug di , a’r bronnau a sugnaist . Ond efe a ddywedodd , Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw , ac yn ei gadw . Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd , efe a ddechreuodd ddywedyd , Y genhedlaeth hon sydd ddrwg : y mae hi yn ceisio arwydd ; ac arwydd ni roddir iddi , ond arwydd Jonas y proffwyd : Canys fel y bu Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid , felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon . Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon , ac a’u condemnia hwynt ; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon : ac wele un mwy na Solomon yma . Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon , ac a’i condemniant hi ; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas : ac wele un mwy na Jonas yma . Ac nid yw neb wedi golau cannwyll , yn ei gosod mewn lle dirgel , na than lestr ; eithr ar ganhwyllbren , fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni . Cannwyll y corff yw’r llygad : am hynny pan fyddo dy lygad yn syml , dy holl gorff hefyd fydd olau ; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg , dy gorff hefyd fydd tywyll . Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch . Os dy holl gorff gan hynny sydd olau , heb un rhan dywyll ynddo , bydd y cwbl yn olau , megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di . Ac fel yr oedd efe yn llefaru , rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef . Ac wedi iddo ddyfod i mewn , efe a eisteddodd i fwyta . A’r Pharisead pan welodd , a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl ; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni . O ynfydion , onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan , a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd ? Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych : ac wele , pob peth sydd lân i chwi . Eithr gwae chwi’r Phariseaid ! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys , a’r ryw , a phob llysieuyn , ac yn myned heibio i farn a chariad Duw . Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur , ac na adewid y lleill heb wneuthur . Gwae chwi’r Phariseaid ! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y synagogau , a chyfarch yn y marchnadoedd . Gwae chwi , ysgrifenyddion a Phariseaid , ragrithwyr ! am eich bod fel beddau anamlwg , a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt . Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Athro , wrth ddywedyd hyn , yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd . Yntau a ddywedodd , Gwae chwithau hefyd , y cyfreithwyr ! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn , a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd . Gwae chwychwi ! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi , a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt . Yn wir yr ydych yn tystiolaethu , ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau : canys hwynt‐hwy yn wir a’u lladdasant hwy , a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt . Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw , Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion , a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant : Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi , yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd ; O waed Abel hyd waed Sachareias , yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml ; diau meddaf i chwi , Gofynnir ef i’r genhedlaeth hon . Gwae chwychwi , y cyfreithwyr ! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth : nid aethoch i mewn eich hunain , a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt , y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno , a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau ; Gan ei gynllwyn ef , a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef , i gael achwyn arno . Yn y cyfamser , wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd , hyd onid ymsathrai y naill y llall , efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion , Yn gyntaf , gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid , yr hwn yw rhagrith . Canys nid oes dim cuddiedig , a’r nas datguddir ; na dirgel , a’r nis gwybyddir . Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch , a glywir yn y golau ; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd , a bregethir ar bennau tai . Ac yr wyf yn dywedyd wrthych , fy nghyfeillion , Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff , ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur . Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch : Ofnwch yr hwn , wedi y darffo iddo ladd , sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern ; ie , meddaf i chwi , Hwnnw a ofnwch . Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling ? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw : Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll . Am hynny nac ofnwch : yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to . Ac meddaf i chwi , Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion , Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw . A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion , a wedir gerbron angylion Duw . A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn , fe a faddeuir iddo : eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân , ni faddeuir . A phan y’ch dygant i’r synagogau , ac at y llywiawdwyr , a’r awdurdodau , na ofelwch pa fodd , neu pa beth a ateboch , neu beth a ddywedoch : Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd . A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho , Athro , dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth . Yntau a ddywedodd wrtho , Y dyn , pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Edrychwch , ac ymogelwch rhag cybydd‐dod : canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo . Ac efe a draethodd wrthynt ddameg , gan ddywedyd , Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda . Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun , gan ddywedyd , Beth a wnaf , am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo ? Ac efe a ddywedodd , Hyn a wnaf : Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau , ac a adeiladaf rai mwy ; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau , a’m da . A dywedaf wrth fy enaid , Fy enaid , y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd : gorffwys , bwyta , yf , bydd lawen . Eithr Duw a ddywedodd wrtho , O ynfyd , y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt ; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist ? Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun , ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw . Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych , Na chymerwch ofal am eich bywyd , beth a fwytaoch ; nac am eich corff , beth a wisgoch . Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth , a’r corff yn fwy na’r dillad . Ystyriwch y brain : canys nid ydynt yn hau nac yn medi ; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor ; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt : o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar ? A phwy ohonoch , gan gymryd gofal , a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli ? Am hynny , oni ellwch wneuthur y peth lleiaf , paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill ? Ystyriwch y lili , pa fodd y maent yn tyfu ; nid ydynt yn llafurio , nac yn nyddu : ac yr wyf yn dywedyd i chwi , na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn . Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn , yr hwn sydd heddiw yn y maes , ac yfory a deflir i’r ffwrn : pa faint mwy y dillada efe chwychwi , O rai o ychydig ffydd ? Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch , neu pa beth a yfoch ; ac na fyddwch amheus . Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio : ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn . Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw ; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg . Nac ofna , braidd bychan : canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas . Gwerthwch yr hyn sydd gennych , a rhoddwch elusen : gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant ; trysor yn y nefoedd , yr hwn ni dderfydd , lle ni ddaw lleidr yn agos , ac ni lygra pryf . Canys lle y mae eich trysor chwi , yno y bydd eich calon hefyd . Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu , a’ch canhwyllau wedi eu golau : A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd , pa bryd y dychwel o’r neithior ; fel pan ddelo a churo , yr agoront iddo yn ebrwydd . Gwyn eu byd y gweision hynny , y rhai a gaiff eu harglwydd , pan ddêl , yn neffro : yn wir , meddaf i chwi , efe a ymwregysa , ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta , ac a ddaw , ac a wasanaetha arnynt hwy . Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth , ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw , a’u cael hwynt felly , gwyn eu byd y gweision hynny . A hyn gwybyddwch , pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr , efe a wyliasai , ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd . A chwithau gan hynny , byddwch barod : canys yr awr ni thybioch , y daw Mab y dyn . A Phedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon , ai wrth bawb hefyd ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog , yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu , i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd ? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw , yr hwn y caiff ei arglwydd ef , pan ddêl , yn gwneuthur felly . Yn wir meddaf i chwi , Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo . Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon , Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod ; a dechrau curo’r gweision a’r morynion , a bwyta ac yfed , a meddwi : Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl , ac ar awr nad yw efe yn gwybod , ac a’i gwahana ef , ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid . A’r gwas hwnnw , yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd , ac nid ymbaratôdd , ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef , a gurir â llawer ffonnod . Eithr yr hwn ni wybu , ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau , a gurir ag ychydig ffonodiau . Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer , llawer a ofynnir ganddo ; a chyda’r neb y gadawsant lawer , ychwaneg a ofynnant ganddo . Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear : a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes ? Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef ; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner ! Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear ? nage , meddaf i chwi ; ond yn hytrach ymrafael : Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu , tri yn erbyn dau , a dau yn erbyn tri . Y tad a ymranna yn erbyn y mab , a’r mab yn erbyn y tad , y fam yn erbyn y ferch , a’r ferch yn erbyn y fam ; y chwegr yn erbyn ei gwaudd , a’r waudd yn erbyn ei chwegr . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd , Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin , yn y fan y dywedwch , Y mae cawod yn dyfod : ac felly y mae . A phan weloch y deheuwynt yn chwythu , y dywedwch , Y bydd gwres : ac fe fydd . O ragrithwyr , chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr : ond yr amser hwn , pa fodd nad ydych yn ei ddeall ? A phaham nad ydych , ie , ohonoch eich hunain , yn barnu’r hyn sydd gyfiawn ? Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwr , gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho ; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr , ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog , ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar : Yr wyf yn dywedyd i ti , Nad ei di ddim oddi yno , hyd oni thelych , ie , yr hatling eithaf . Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid , y rhai , y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt , Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid , am iddynt ddioddef y cyfryw bethau ? Nac oeddynt , meddaf i chwi : eithr , onid edifarhewch , chwi a ddifethir oll yn yr un modd . Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam , ac a’u lladdodd hwynt : a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem ? Nac oeddynt , meddaf i chwi : eithr , onid edifarhewch , chwi a ddifethir oll yn yr un modd . Ac efe a ddywedodd y ddameg hon : Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan ; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno , ac nis cafodd . Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd , Wele , tair blynedd yr ydwyf yn dyfod , gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn ; ac nid ydwyf yn cael dim : tor ef i lawr ; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir ? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho , Arglwydd , gad ef y flwyddyn hon hefyd , hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch , a bwrw tail : Ac os dwg efe ffrwyth , da : onid e , gwedi hynny tor ef i lawr . Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth . Ac wele , yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd , ac oedd wedi cydgrymu , ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni . Pan welodd yr Iesu hon , efe a’i galwodd hi ato , ac a ddywedodd wrthi , Ha wraig , rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid . Ac efe a roddes ei ddwylo arni : ac yn ebrwydd hi a unionwyd , ac a ogoneddodd Dduw . A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon , am i’r Iesu iacháu ar y Saboth , ac a ddywedodd wrth y bobl , Chwe diwrnod sydd , yn y rhai y dylid gweithio : ar y rhai hyn gan hynny deuwch , a iachaer chwi : ac nid ar y dydd Saboth . Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef , ac a ddywedodd , O ragrithiwr , oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb , a’i arwain i’r dwfr ? Ac oni ddylai hon , a hi yn ferch i Abraham , yr hon a rwymodd Satan , wele , ddeunaw mlynedd , gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth ? Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn , ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant : a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo . Ac efe a ddywedodd , I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg ? ac i ba beth y cyffelybaf hi ? Tebyg yw i ronyn o had mwstard , yr hwn a gymerodd dyn , ac a’i heuodd yn ei ardd ; ac efe a gynyddodd , ac a aeth yn bren mawr , ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef . A thrachefn y dywedodd , I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw ? Cyffelyb yw i surdoes , yr hwn a gymerodd gwraig , ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd , hyd oni surodd y cwbl oll . Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi , gan athrawiaethu , ac ymdeithio tua Jerwsalem . A dywedodd un wrtho , Arglwydd , ai ychydig yw y rhai cadwedig ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng : canys llawer , meddaf i chwi , a geisiant fyned i mewn , ac nis gallant . Gwedi cyfodi gŵr y tŷ , a chau’r drws , a dechrau ohonoch sefyll oddi allan , a churo’r drws , gan ddywedyd , Arglwydd , Arglwydd , agor i ni ; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych , Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych : Yna y dechreuwch ddywedyd , Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di , a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni . Ac efe a ddywed , Yr wyf yn dywedyd i chwi , Nid adwaen chwi o ba le yr ydych : ewch ymaith oddi wrthyf , chwi holl weithredwyr anwiredd . Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd , pan weloch Abraham , ac Isaac , a Jacob , a’r holl broffwydi , yn nheyrnas Dduw , a chwithau wedi eich bwrw allan . A daw rhai o’r dwyrain , ac o’r gorllewin , ac o’r gogledd , ac o’r deau , ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw . Ac wele , olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf , a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf . Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid , gan ddywedyd wrtho , Dos allan , a cherdda oddi yma : canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ewch , a dywedwch i’r cadno hwnnw , Wele , yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid , ac yn iacháu heddiw ac yfory , a’r trydydd dydd y’m perffeithir . Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory , a thrennydd : canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem . O Jerwsalem , Jerwsalem , yr hon wyt yn lladd y proffwydi , ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat : pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd , y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd , ac nis mynnech ! Wele , eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd . Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych , Ni welwch fi , hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch , Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd . Bu hefyd , pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth , i fwyta bara , iddynt hwythau ei wylied ef . Ac wele , yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dropsi . A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid , gan ddywedyd , Ai rhydd iacháu ar y Saboth ? A thewi a wnaethant . Ac efe a’i cymerodd ato , ac a’i hiachaodd ef , ac a’i gollyngodd ymaith ; Ac a atebodd iddynt hwythau , ac a ddywedodd , Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll , ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth ? Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn . Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg , pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf ; gan ddywedyd wrthynt , Pan y’th wahodder gan neb i neithior , nac eistedd yn y lle uchaf , rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo ; Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod , a dywedyd wrthyt , Dyro le i hwn ; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf . Eithr pan y’th wahodder , dos ac eistedd yn y lle isaf ; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di , y gallo efe ddywedyd wrthyt , Y cyfaill , eistedd yn uwch i fyny : yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd . Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun , a ostyngir ; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun , a ddyrchefir . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef , Pan wnelych ginio neu swper , na alw dy gyfeillion , na’th frodyr , na’th geraint , na’th gymdogion goludog ; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau , a gwneuthur taledigaeth i ti . Eithr pan wnelych wledd , galw’r tlodion , yr efryddion , y cloffion , y deillion : A dedwydd fyddi ; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti : canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn . A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn , efe a ddywedodd wrtho , Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw . Ac yntau a ddywedodd wrtho , Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr , ac a wahoddodd lawer : Ac a ddanfonodd ei was bryd swper , i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid , Deuwch ; canys weithian y mae pob peth yn barod . A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi . Y cyntaf a ddywedodd wrtho , Mi a brynais dyddyn , ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled : atolwg i ti , cymer fi yn esgusodol . Ac arall a ddywedodd , Mi a brynais bum iau o ychen , ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt : atolwg i ti , cymer fi yn esgusodol . Ac arall a ddywedodd , Mi a briodais wraig ; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod . A’r gwas hwnnw , pan ddaeth adref , a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd . Yna gŵr y tŷ , wedi digio , a ddywedodd wrth ei was , Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas , a dwg i mewn yma y tlodion , a’r anafus , a’r cloffion , a’r deillion . A’r gwas a ddywedodd , Arglwydd , gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist ; ac eto y mae lle . A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas , Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau , a chymell hwynt i ddyfod i mewn , fel y llanwer fy nhŷ . Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd , brofi o’m swper i . A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef : ac efe a droes , ac a ddywedodd wrthynt , Os daw neb ataf fi , ac ni chasao ei dad , a’i fam , a’i wraig , a’i blant , a’i frodyr , a’i chwiorydd , ie , a’i einioes ei hun hefyd , ni all efe fod yn ddisgybl i mi . A phwy bynnag ni ddyco ei groes , a dyfod ar fy ôl i , ni all efe fod yn ddisgybl i mi . Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd ar adeiladu tŵr , nid eistedd yn gyntaf , a bwrw’r draul , a oes ganddo a’i gorffenno ? Rhag wedi iddo osod y sail , ac heb allu ei orffen , ddechrau o bawb a’i gwelant ei watwar ef , Gan ddywedyd , Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu , ac ni allodd ei orffen . Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall , nid eistedd yn gyntaf , ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil ? Ac os amgen , tra fyddo efe ymhell oddi wrtho , efe a enfyn genadwri , ac a ddeisyf amodau heddwch . Felly hefyd , pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo , ni all fod yn ddisgybl i mi . Da yw’r halen : eithr o bydd yr halen yn ddiflas , â pha beth yr helltir ef ? Nid yw efe gymwys nac i’r tir , nac i’r domen ; ond ei fwrw ef allan y maent . Y neb sydd ganddo glustiau i wrando , gwrandawed . Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef , i wrando arno . A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant , gan ddywedyd , Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid , ac yn bwyta gyda hwynt . Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon , gan ddywedyd , Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid , ac os cyll un ohonynt , nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch , ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd , hyd oni chaffo efe hi ? Ac wedi iddo ei chael , efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen . A phan ddêl adref , efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion , gan ddywedyd wrthynt , Llawenhewch gyda mi ; canys cefais fy nafad a gollasid . Yr wyf yn dywedyd i chwi , mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao , mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn , y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch . Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian , os cyll hi un dryll , ni olau gannwyll , ac ysgubo’r tŷ , a cheisio yn ddyfal , hyd onis caffo ef ? Ac wedi iddi ei gael , hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau , gan ddywedyd , Cydlawenhewch â mi ; canys cefais y dryll a gollaswn . Felly , meddaf i chwi , y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao . Ac efe a ddywedodd , Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab : A’r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad , Fy nhad , dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da . Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd . Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd , ac a gymerth ei daith i wlad bell ; ac yno efe a wasgarodd ei dda , gan fyw yn afradlon . Ac wedi iddo dreulio’r cwbl , y cododd newyn mawr trwy’r wlad honno ; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau . Ac efe a aeth , ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno ; ac efe a’i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch . Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch ; ac ni roddodd neb iddo . A phan ddaeth ato ei hun , efe a ddywedodd , Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara , a minnau yn marw o newyn ? Mi a godaf , ac a af at fy nhad , ac a ddywedaf wrtho , Fy nhad , pechais yn erbyn y nef , ac o’th flaen dithau ; Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti : gwna fi fel un o’th weision cyflog . Ac efe a gododd , ac a aeth at ei dad . A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho , ei dad a’i canfu ef , ac a dosturiodd , ac a redodd , ac a syrthiodd ar ei wddf ef , ac a’i cusanodd . A’r mab a ddywedodd wrtho , Fy nhad , pechais yn erbyn y nef , ac o’th flaen dithau ; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti . A’r tad a ddywedodd wrth ei weision , Dygwch allan y wisg orau , a gwisgwch amdano ef , a rhoddwch fodrwy ar ei law , ac esgidiau am ei draed : A dygwch y llo pasgedig , a lleddwch ef ; a bwytawn , a byddwn lawen . Canys fy mab hwn oedd farw , ac a aeth yn fyw drachefn ; ac efe a gollesid , ac a gaed . A hwy a ddechreuasant fod yn llawen . Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes ; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ , efe a glywai gynghanedd a dawnsio . Ac wedi iddo alw un o’r gweision , efe a ofynnodd beth oedd hyn . Yntau a ddywedodd wrtho , Dy frawd a ddaeth ; a’th dad a laddodd y llo pasgedig , am iddo ei dderbyn ef yn iach . Ond efe a ddigiodd , ac nid âi i mewn . Am hynny y daeth ei dad allan , ac a ymbiliodd ag ef . Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad , Wele , cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di , ac ni throseddais i un amser dy orchymyn ; ac ni roddaist fyn erioed i mi , i fod yn llawen gyda’m cyfeillion : Eithr pan ddaeth dy fab hwn , yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid , ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig . Ac efe a ddywedodd wrtho , Fy mab , yr wyt ti yn wastadol gyda mi , a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti . Rhaid oedd llawenychu , a gorfoleddu : oblegid dy frawd hwn oedd yn farw , ac a aeth yn fyw drachefn ; ac a fu golledig , ac a gafwyd . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion , Yr oedd rhyw ŵr goludog , yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr ; a hwn a gyhuddwyd wrtho , ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef . Ac efe a’i galwodd ef , ac a ddywedodd wrtho , Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat ? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth : canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr . A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun , Pa beth a wnaf ? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf : cloddio nis gallaf , a chardota sydd gywilyddus gennyf . Mi a wn beth a wnaf , fel , pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth , y derbyniont fi i’w tai . Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd , efe a ddywedodd wrth y cyntaf , Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Can mesur o olew . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer dy ysgrifen , ac eistedd ar frys , ac ysgrifenna ddeg a deugain . Yna y dywedodd wrth un arall , A pha faint o ddyled sydd arnat tithau ? Ac efe a ddywedodd , Can mesur o wenith . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cymer dy ysgrifen , ac ysgrifenna bedwar ugain . A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn , am iddo wneuthur yn gall : oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni . Ac yr wyf yn dywedyd i chwi , Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn : fel , pan fo eisiau arnoch , y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll . Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf , sydd ffyddlon hefyd mewn llawer ; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf , sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer . Am hynny , oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn , pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud ? Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall , pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun ? Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd : canys naill ai efe a gasâ y naill , ac a gâr y llall ; ai efe a lŷn wrth y naill , ac a ddirmyga’r llall . Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon . A’r Phariseaid hefyd , y rhai oedd ariangar , a glywsant y pethau hyn oll , ac a’i gwatwarasant ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion ; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi : canys y peth sydd uchel gyda dynion , sydd ffiaidd gerbron Duw . Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan : er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw , a phob dyn sydd yn ymwthio iddi . A haws yw i nef a daear fyned heibio , nag i un tipyn o’r gyfraith ballu . Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig , ac a briodo un arall , y mae efe yn godinebu ; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr , y mae efe yn godinebu . Yr oedd rhyw ŵr goludog , ac a wisgid â phorffor a lliain main , ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd : Yr oedd hefyd ryw gardotyn , a’i enw Lasarus , yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd , Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog ; ond y cŵn a ddaethant , ac a lyfasant ei gornwydydd ef . A bu , i’r cardotyn farw , a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham . A’r goludog hefyd a fu farw , ac a gladdwyd : Ac yn uffern efe a gododd ei olwg , ac efe mewn poenau , ac a ganfu Abraham o hirbell , a Lasarus yn ei fynwes . Ac efe a lefodd , ac a ddywedodd , O dad Abraham , trugarha wrthyf , a danfon Lasarus , i drochi pen ei fys mewn dwfr , ac i oeri fy nhafod : canys fe a’m poenir yn y fflam hon . Ac Abraham a ddywedodd , Ha fab , coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd , ac felly Lasarus ei adfyd : ac yn awr y diddenir ef , ac y poenir dithau . Ac heblaw hyn oll , rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr : fel na allo’r rhai a fynnent , dramwy oddi yma atoch chwi ; na’r rhai oddi yna , dramwy atom ni . Ac efe a ddywedodd , Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny , O dad , ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad ; Canys y mae i mi bump o frodyr : fel y tystiolaetho iddynt hwy , rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn . Abraham a ddywedodd wrtho , Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi ; gwrandawant arnynt hwy . Yntau a ddywedodd , Nage , y tad Abraham : eithr os â un oddi wrth y meirw atynt , hwy a edifarhânt . Yna Abraham a ddywedodd wrtho , Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi , ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw . Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Ni all na ddêl rhwystrau : ond gwae efe trwy’r hwn y deuant ! Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef , a’i daflu i’r môr , nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn . Edrychwch arnoch eich hunain . Os pecha dy frawd yn dy erbyn , cerydda ef ; ac os edifarha efe , maddau iddo . Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd , a seithwaith yn y dydd droi atat , gan ddywedyd , Y mae yn edifar gennyf ; maddau iddo . A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd , Anghwanega ein ffydd ni . A’r Arglwydd a ddywedodd , Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard , chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon , Ymddadwreiddia , a phlanner di yn y môr ; a hi a ufuddhâi i chwi . Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig , neu’n bugeilio , a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes , Dos ac eistedd i lawr i fwyta ? Ond yn hytrach a ddywed wrtho , Arlwya i mi i swperu , ac ymwregysa , a gwasanaetha arnaf fi , nes i mi fwyta ac yfed : ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau ? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw , am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo ? Nid wyf yn tybied . Felly chwithau hefyd , gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi , dywedwch , Gweision anfuddiol ydym : oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur , a wnaethom . Bu hefyd , ac efe yn myned i Jerwsalem , fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea . A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref , cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion , y rhai a safasant o hirbell : A hwy a godasant eu llef , gan ddywedyd , Iesu Feistr , trugarha wrthym . A phan welodd efe hwynt , efe a ddywedodd wrthynt , Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid . A bu , fel yr oeddynt yn myned , fe a’u glanhawyd hwynt . Ac un ohonynt , pan welodd ddarfod ei iacháu , a ddychwelodd , gan foliannu Duw â llef uchel . Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef , gan ddiolch iddo . A Samariad oedd efe . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd , Oni lanhawyd y deg ? ond pa le y mae y naw ? Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw , ond yr estron hwn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos ymaith : dy ffydd a’th iachaodd . A phan ofynnodd y Phariseaid iddo , pa bryd y deuai teyrnas Dduw , efe a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl . Ac ni ddywedant , Wele yma ; neu , Wele acw : canys wele , teyrnas Dduw , o’ch mewn chwi y mae . Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn , ac nis gwelwch . A hwy a ddywedant wrthych , Wele yma ; neu , Wele acw : nac ewch , ac na chanlynwch hwynt . Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef , yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef ; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef . Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer , a’i wrthod gan y genhedlaeth hon . Ac megis y bu yn nyddiau Noe , felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn . Yr oeddynt yn bwyta , yn yfed , yn gwreica , yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch ; a daeth y dilyw , ac a’u difethodd hwynt oll . Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot : yr oeddynt yn bwyta , yn yfed , yn prynu , yn gwerthu , yn plannu , yn adeiladu ; Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom , y glawiodd tân a brwmstan o’r nef , ac a’u difethodd hwynt oll : Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn . Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ , a’i ddodrefn o fewn y tŷ , na ddisgynned i’w cymryd hwynt ; a’r hwn a fyddo yn y maes , yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl . Cofiwch wraig Lot . Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes , a’i cyll ; a phwy bynnag a’i cyll , a’i bywha hi . Yr wyf yn dywedyd i chwi , Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dwy a fydd yn malu yn yr un lle ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . Dau a fyddant yn y maes ; y naill a gymerir , a’r llall a adewir . A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Pa le , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa le bynnag y byddo y corff , yno yr ymgasgl yr eryrod . Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt , fod yn rhaid gweddïo yn wastad , ac heb ddiffygio ; Gan ddywedyd , Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas , yr hwn nid ofnai Dduw , ac ni pharchai ddyn . Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw ; a hi a ddaeth ato ef , gan ddywedyd , Dial fi ar fy ngwrthwynebwr . Ac efe nis gwnâi dros amser : eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun , Er nad ofnaf Dduw , ac na pharchaf ddyn ; Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder , mi a’i dialaf hi ; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i . A’r Arglwydd a ddywedodd , Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn . Ac oni ddial Duw ei etholedigion , sydd yn llefain arno ddydd a nos , er ei fod yn hir oedi drostynt ? Yr wyf yn dywedyd i chwi , y dial efe hwynt ar frys . Eithr Mab y dyn , pan ddêl , a gaiff efe ffydd ar y ddaear ? Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn , ac yn diystyru eraill : Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo ; un yn Pharisead , a’r llall yn bublican . Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn ; O Dduw , yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill , yn drawsion , yn anghyfiawn , yn odinebwyr ; neu , fel y publican hwn chwaith . Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos ; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf . A’r publican , gan sefyll o hirbell , ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef ; eithr efe a gurodd ei ddwyfron , gan ddywedyd , O Dduw , bydd drugarog wrthyf bechadur . Dywedaf i chwi , Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall : canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun , a ostyngir ; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun , a ddyrchefir . A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd , fel y cyffyrddai efe â hwynt : a’r disgyblion pan welsant , a’u ceryddasant hwy . Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato , ac a ddywedodd , Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi , ac na waherddwch hwynt : canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw . Yn wir meddaf i chwi , Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach , nid â efe i mewn iddi . A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Athro da , wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Paham y’m gelwi yn dda ? nid oes neb yn dda ond un , sef Duw . Ti a wyddost y gorchmynion , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Anrhydedda dy dad a’th fam . Ac efe a ddywedodd , Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid . A’r Iesu pan glybu hyn , a ddywedodd wrtho , Y mae un peth eto yn ôl i ti : gwerth yr hyn oll sydd gennyt , a dyro i’r tlodion ; a thi a gei drysor yn y nef : a thyred , canlyn fi . Ond pan glybu efe y pethau hyn , efe a aeth yn athrist : canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn . A’r Iesu , pan welodd ef wedi myned yn athrist , a ddywedodd , Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw ! Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur , nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw . A’r rhai a glywsent a ddywedasant , A phwy a all fod yn gadwedig ? Ac efe a ddywedodd , Y pethau sydd amhosibl gyda dynion , sydd bosibl gyda Duw . A dywedodd Pedr , Wele , nyni a adawsom bob peth , ac a’th ganlynasom di . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yn wir meddaf i chwi , Nid oes neb a’r a adawodd dŷ , neu rieni , neu frodyr , neu wraig , neu blant , er mwyn teyrnas Dduw , A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn , ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol . Ac efe a gymerodd y deuddeg ato , ac a ddywedodd wrthynt , Wele , yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem ; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn . Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd , ac a watwerir , ac a amherchir , ac a boerir arno : Ac wedi iddynt ei fflangellu , y lladdant ef : a’r trydydd dydd efe a atgyfyd . A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn ; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt , ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd . A bu , ac efe yn nesáu at Jericho , i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota : A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio , efe a ofynnodd pa beth oedd hyn . A hwy a ddywedasant iddo , Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio . Ac efe a lefodd , gan ddywedyd , Iesu , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi : eithr efe a lefodd yn fwy o lawer , Mab Dafydd , trugarha wrthyf . A’r Iesu a safodd , ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato . A phan ddaeth efe yn agos , efe a ofynnodd iddo , Gan ddywedyd , Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti ? Yntau a ddywedodd , Arglwydd , cael ohonof fy ngolwg . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Cymer dy olwg : dy ffydd a’th iachaodd . Ac allan o law y cafodd efe ei olwg , ac a’i canlynodd ef , gan ogoneddu Duw . A’r holl bobl , pan welsant , a roesant foliant i Dduw . A’r Iesu a aeth i mewn , ac a aeth trwy Jericho . Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus , ac efe oedd ben‐publican , a hwn oedd gyfoethog . Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu , pwy ydoedd ; ac ni allai gan y dyrfa , am ei fod yn fychan o gorffolaeth . Ac efe a redodd o’r blaen , ac a ddringodd i sycamorwydden , fel y gallai ei weled ef ; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno . A phan ddaeth yr Iesu i’r lle , efe a edrychodd i fyny , ac a’i canfu ef ; ac a ddywedodd wrtho , Saccheus , disgyn ar frys : canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di . Ac efe a ddisgynnodd ar frys , ac a’i derbyniodd ef yn llawen . A phan welsant , grwgnach a wnaethant oll , gan ddywedyd , Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus . A Saccheus a safodd , ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd , Wele , hanner fy na , O Arglwydd , yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion ; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn , yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn , oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham . Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid . Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn , efe a chwanegodd , ac a ddywedodd ddameg , am ei fod efe yn agos i Jerwsalem , ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan . Am hynny y dywedodd efe , Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun , ac i ddychwelyd . Ac wedi galw ei ddeg gwas , efe a roddes iddynt ddeg punt , ac a ddywedodd wrthynt , Marchnatewch hyd oni ddelwyf . Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef , ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef , gan ddywedyd , Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom . A bu , pan ddaeth efe yn ei ôl , wedi derbyn y deyrnas , erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato , i’r rhai y rhoddasai efe yr arian , fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata . A daeth y cyntaf , gan ddywedyd , Arglwydd , dy bunt a enillodd ddeg punt . Yntau a ddywedodd wrtho , Da , was da : am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf , bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas . A’r ail a ddaeth , gan ddywedyd , Arglwydd , dy bunt di a wnaeth bum punt . Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw , Bydd dithau ar bum dinas . Ac un arall a ddaeth , gan ddywedyd , Arglwydd , wele dy bunt , yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn : Canys mi a’th ofnais , am dy fod yn ŵr tost : yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr , ac yn medi y peth ni heuaist . Yntau a ddywedodd wrtho , O’th enau dy hun y’th farnaf , tydi was drwg . Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost , yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr , ac yn medi y peth ni heuais : A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid , fel , pan ddaethwn , y gallaswn ei gael gyda llog ? Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw , Dygwch oddi arno ef y bunt , a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo ; ( A hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , y mae ganddo ef ddeg punt ; ) Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi , mai i bob un y mae ganddo , y rhoddir iddo ; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo , y dygir oddi arno , ie , yr hyn sydd ganddo . A hefyd fy ngelynion hynny , y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt , dygwch hwynt yma , a lleddwch ger fy mron i . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , efe a aeth o’r blaen , gan fyned i fyny i Jerwsalem . Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania , i’r mynydd a elwir Olewydd , efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion , Gan ddywedyd , Ewch i’r pentref ar eich cyfer ; yn yr hwn , gwedi eich dyfod i mewn , chwi a gewch ebol yn rhwym , ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed : gollyngwch ef , a dygwch yma . Ac os gofyn neb i chwi , Paham yr ydych yn ei ollwng ? fel hyn y dywedwch wrtho , Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho . A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith , ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt . Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol , ei berchenogion a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn gollwng yr ebol ? A hwy a ddywedasant , Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef . A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu : ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol , hwy a ddodasant yr Iesu arno . Ac fel yr oedd efe yn myned , hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd . Ac weithian , ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd , dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau , a chlodfori Duw â llef uchel , am yr holl weithredoedd nerthol a welsent ; Gan ddywedyd , Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd : Tangnefedd yn y nef , a gogoniant yn y goruchaf . A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho , Athro , cerydda dy ddisgyblion . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Pe tawai’r rhai hyn , y llefai’r cerrig yn y fan . Ac wedi iddo ddyfod yn agos , pan welodd efe y ddinas , efe a wylodd drosti , Gan ddywedyd , Pe gwybuasit tithau , ie , yn dy ddydd hwn , y pethau a berthynent i’th heddwch ! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid . Canys daw’r dyddiau arnat , a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch , ac a’th amgylchant , ac a’th warchaeant o bob parth , Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr , a’th blant o’th fewn ; ac ni adawant ynot faen ar faen ; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad . Ac efe a aeth i mewn i’r deml , ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi , ac yn prynu ; Gan ddywedyd wrthynt , Y mae yn ysgrifenedig , Fy nhŷ i , tŷ gweddi yw : eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron . Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml . A’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , a phenaethiaid y bobl , a geisient ei ddifetha ef ; Ac ni fedrasant gael beth a wnaent : canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno . A Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny , ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml , ac yn pregethu’r efengyl , ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion , gyda’r henuriaid , A llefaru wrtho , gan ddywedyd , Dywed i ni , Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn ? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon ? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , A minnau a ofynnaf i chwithau un gair ; a dywedwch i mi : Bedydd Ioan , ai o’r nef yr ydoedd , ai o ddynion ? Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain , gan ddywedyd , Os dywedwn , O’r nef ; efe a ddywed , Paham gan hynny na chredech ef ? Ac os dywedwn , O ddynion ; yr holl bobl a’n llabyddiant ni : canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd . A hwy a atebasant , nas gwyddent o ba le . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn . Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl ; Rhyw ŵr a blannodd winllan , ac a’i gosododd i lafurwyr , ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser . Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr , fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan : eithr y llafurwyr a’i curasant ef , ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw . Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall : eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd , ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw . Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd : a hwy a glwyfasant hwn hefyd , ac a’i bwriasant ef allan . Yna y dywedodd arglwydd y winllan , Pa beth a wnaf ? Mi a anfonaf fy annwyl fab : fe allai pan welant ef , y parchant ef . Eithr y llafurwyr , pan welsant ef , a ymresymasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Hwn yw’r etifedd : deuwch , lladdwn ef , fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni . A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan , ac a’i lladdasant . Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy ? Efe a ddaw , ac a ddifetha’r llafurwyr hyn , ac a rydd ei winllan i eraill . A phan glywsant hyn , hwy a ddywedasant , Na ato Duw . Ac efe a edrychodd arnynt , ac a ddywedodd , Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd , Y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl ? Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw , a ddryllir : ac ar bwy bynnag y syrthio , efe a’i mâl ef . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno ; ac yr oedd arnynt ofn y bobl : canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon . A hwy a’i gwyliasant ef , ac a yrasant gynllwynwyr , y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn ; fel y dalient ef yn ei ymadrodd , i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw . A hwy a ofynasant iddo ef , gan ddywedyd , Athro , ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu , ac nad wyt yn derbyn wyneb , eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd . Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar , ai nid yw ? Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy , ac a ddywedodd wrthynt , Paham y temtiwch fi ? Dangoswch i mi geiniog . Llun ac argraff pwy sydd arni ? A hwy a atebasant ac a ddywedasant , Yr eiddo Cesar . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar , a’r eiddo Duw i Dduw . Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl : a chan ryfeddu wrth ei ateb ef , hwy a dawsant â sôn . A rhai o’r Sadwceaid ( y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad , ) a ddaethant ato ef , ac a ofynasant iddo , Gan ddywedyd , Athro , Moses a ysgrifennodd i ni , Os byddai farw brawd neb , ac iddo wraig , a marw ohono yn ddi‐blant , ar gymryd o’i frawd ei wraig ef , a chodi had i’w frawd . Yr oedd gan hynny saith o frodyr : a’r cyntaf a gymerodd wraig , ac a fu farw yn ddi‐blant . A’r ail a gymerth y wraig , ac a fu farw yn ddi‐blant . A’r trydydd a’i cymerth hi ; ac yr un ffunud y saith hefyd : ac ni adawsant blant , ac a fuont feirw . Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd . Yn yr atgyfodiad gan hynny , gwraig i bwy un ohonynt yw hi ? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig . A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt , Plant y byd hwn sydd yn gwreica , ac yn gwra : Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw , a’r atgyfodiad oddi wrth y meirw , nid ydynt nac yn gwreica , nac yn gwra : Canys ni allant farw mwy : oblegid cyd‐stad ydynt â’r angylion : a phlant Duw ydynt , gan eu bod yn blant yr atgyfodiad . Ac y cyfyd y meirw , Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth , pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham , ac yn Dduw Isaac , ac yn Dduw Jacob . Ac nid yw efe Dduw y meirw , ond y byw : canys pawb sydd fyw iddo ef . Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant , Athro , da y dywedaist . Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd ? Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di . Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd ; a pha fodd y mae efe yn fab iddo ? Ac a’r holl bobl yn clywed , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion , y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion , ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd , a’r prif gadeiriau yn y synagogau , a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd ; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon , ac mewn rhith yn hir weddïo : y rhai hyn a dderbyniant farn fwy . Ac wedi iddo edrych i fyny , efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa . Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling . Ac efe a ddywedodd , Yn wir meddaf i chwi , fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll : Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw : eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi . Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml , ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion , efe a ddywedodd , Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt , daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen , a’r nis datodir . A hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Athro , pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn ? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod ? Ac efe a ddywedodd , Edrychwch na thwyller chwi : canys llawer a ddeuant yn fy enw i , gan ddywedyd , Myfi yw Crist ; a’r amser a nesaodd : nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt . A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd , na chymerwch fraw : canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf : ond ni ddaw y diwedd yn y man . Yna y dywedodd efe wrthynt , Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl , a theyrnas yn erbyn teyrnas : A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd , a newyn , a heintiau ; a phethau ofnadwy , ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef . Eithr o flaen hyn oll , hwy a roddant eu dwylo arnoch , ac a’ch erlidiant , gan eich traddodi i’r synagogau , ac i garcharau , wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i . Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth . Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch : Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb , yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll . A chwi a fradychir , ie , gan rieni , a brodyr , a cheraint , a chyfeillion ; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth . A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i . Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi . Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau . A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd , yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu . Yna y rhai fyddant yn Jwdea , ffoant i’r mynyddoedd ; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi , ymadawant ; a’r rhai a fyddant yn y meysydd , nac elont i mewn iddi . Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn , i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd . Eithr gwae’r rhai beichiogion , a’r rhai yn rhoi bronnau , yn y dyddiau hynny ! canys bydd angen mawr yn y tir , a digofaint ar y bobl hyn . A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf , a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth : a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd , hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd . A bydd arwyddion yn yr haul , a’r lleuad , a’r sêr ; ac ar y ddaear ing cenhedloedd , gan gyfyng gyngor ; a’r môr a’r tonnau yn rhuo ; A dynion yn llewygu gan ofn , a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear : oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir . Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl , gyda gallu a gogoniant mawr . A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod , edrychwch i fyny , a chodwch eich pennau : canys y mae eich ymwared yn nesáu . Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt ; Edrychwch ar y ffigysbren , a’r holl brennau ; Pan ddeiliant hwy weithian , chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun , fod yr haf yn agos . Felly chwithau , pan weloch y pethau hyn yn digwydd , gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos . Yn wir meddaf i chwi , Nid â’r oes hon heibio , hyd oni ddêl y cwbl i ben . Y nef a’r ddaear a ânt heibio ; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim . Ac edrychwch arnoch eich hunain , rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb , a meddwdod , a gofalon y bywyd hwn , a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth ; Canys efe a ddaw , fel magl , ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear . Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser , ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod , ac i sefyll gerbron Mab y dyn . A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml ; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd . A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml , i’w glywed ef . A nesaodd gŵyl y bara croyw , yr hon a elwir y pasg . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef : oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl . A Satan a seth i mewn i Jwdas , yr hwn a gyfenwid Iscariot , yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg . Ac efe a aeth ymaith , ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid , pa fodd y bradychai efe ef iddynt . Ac yr oedd yn llawen ganddynt : a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo . Ac efe a addawodd , ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl . A daeth dydd y bara croyw , ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg . Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan , gan ddywedyd , Ewch , paratowch i ni’r pasg , fel y bwytaom . A hwy a ddywedasant wrtho , Pa le y mynni baratoi ohonom ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Wele , pan ddeloch i mewn i’r ddinas , cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr : canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn . A dywedwch wrth ŵr y tŷ , Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt , Pa le y mae’r llety , lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion ? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr , wedi ei thaenu : yno paratowch . A hwy a aethant , ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt ; ac a baratoesant y pasg . A phan ddaeth yr awr , efe a eisteddodd i lawr , a’r deuddeg apostol gydag ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof . Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , Ni fwytâf fi mwyach ohono , hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw . Ac wedi iddo gymryd y cwpan , a rhoddi diolch , efe a ddywedodd , Cymerwch hwn , a rhennwch yn eich plith : Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi , nad yfaf o ffrwyth y winwydden , hyd oni ddêl teyrnas Dduw . Ac wedi iddo gymryd bara , a rhoi diolch , efe a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt , gan ddywedyd , Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch : gwnewch hyn er coffa amdanaf . Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu , gan ddywedyd , Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i , yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch . Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd . Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned , megis y mae wedi ei luniaethu : eithr gwae’r dyn hwnnw , trwy’r hwn y bradychir ef ! Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain , pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny . A bu ymryson yn eu plith , pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt ; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt , a elwir yn bendefigion . Ond na fyddwch chwi felly : eithr y mwyaf yn eich plith chwi , bydded megis yr ieuangaf ; a’r pennaf , megis yr hwn sydd yn gweini . Canys pa un fwyaf , ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd , ai’r hwn sydd yn gwasanaethu ? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd ? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu . A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau . Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas , megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau ; Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas , ac yr eisteddoch ar orseddfeydd , yn barnu deuddeg llwyth Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd , Simon , Simon , wele , Satan a’ch ceisiodd chwi , i’ch nithio fel gwenith : Eithr mi a weddïais drosot , na ddiffygiai dy ffydd di : tithau pan y’th droer , cadarnha dy frodyr . Ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar , ac i angau . Yntau a ddywedodd , Yr wyf yn dywedyd i ti , Pedr , Na chân y ceiliog heddiw , nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pan y’ch anfonais heb na phwrs , na chod , nac esgidiau , a fu arnoch eisiau dim ? A hwy a ddywedasant , Naddo ddim . Yna y dywedodd wrthynt , Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs , cymered ; a’r un modd god : a’r neb nid oes ganddo , gwerthed ei bais , a phryned gleddyf . Canys yr wyf yn dywedyd i chwi , fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd ; sef , A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef ; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi . A hwy a ddywedasant , Arglwydd , wele ddau gleddyf yma . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Digon yw . Ac wedi iddo fyned allan , efe a aeth , yn ôl ei arfer , i fynydd yr Olewydd ; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef . A phan ddaeth efe i’r man , efe a ddywedodd wrthynt , Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth . Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg ; ac wedi iddo fyned ar ei liniau , efe a weddïodd , Gan ddywedyd , O Dad , os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf : er hynny nid fy ewyllys i , ond yr eiddot ti a wneler . Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo , yn ei nerthu ef . Ac efe mewn ymdrech meddwl , a weddïodd yn ddyfalach : a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear . A phan gododd efe o’i weddi , a dyfod at ei ddisgyblion , efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch ; Ac a ddywedodd wrthynt , Paham yr ydych yn cysgu ? codwch , a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth . Ac efe eto yn llefaru , wele dyrfa ; a’r hwn a elwir Jwdas , un o’r deuddeg , oedd yn myned o’u blaen hwynt , ac a nesaodd at yr Iesu , i’w gusanu ef . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Jwdas , ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn ? A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod , hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , a drawn ni â chleddyf ? A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef . A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Goddefwch hyd yn hyn . Ac efe a gyffyrddodd â’i glust , ac a’i hiachaodd ef . A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid , a blaenoriaid y deml , a’r henuriaid , y rhai a ddaethent ato , Ai fel at leidr y daethoch chwi allan , â chleddyfau ac â ffyn ? Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml , nid estynasoch ddwylo i’m herbyn : eithr hon yw eich awr chwi , a gallu’r tywyllwch . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i harweiniasant , ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad . A Phedr a ganlynodd o hirbell . Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd , a chydeistedd ohonynt , eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt . A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân , a dal sylw arno , hi a ddywedodd , Yr oedd hwn hefyd gydag ef . Yntau a’i gwadodd ef , gan ddywedyd , O wraig , nid adwaen i ef . Ac ychydig wedi , un arall a’i gwelodd ef , ac a ddywedodd , Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt . A Phedr a ddywedodd , O ddyn , nid ydwyf . Ac ar ôl megis ysbaid un awr , rhyw un arall a daerodd , gan ddywedyd , Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef : canys Galilead yw . A Phedr a ddywedodd , Y dyn , nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd . Ac yn y man , ac efe eto yn llefaru , canodd y ceiliog . A’r Arglwydd a drodd , ac a edrychodd ar Pedr . A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd , fel y dywedasai efe wrtho , Cyn canu o’r ceiliog , y gwedi fi deirgwaith . A Phedr a aeth allan , ac a wylodd yn chwerw‐dost . A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu , a’i gwatwarasant ef , gan ei daro . Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef , hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb , ac a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Proffwyda , pwy yw’r hwn a’th drawodd di ? A llawer o bethau eraill , gan gablu , a ddywedasant yn ei erbyn ef . A phan aeth hi yn ddydd , ymgynullodd henuriaid y bobl , a’r archoffeiriaid , a’r ysgrifenyddion , ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt , Gan ddywedyd , Ai ti yw Crist ? dywed i ni . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Os dywedaf i chwi , ni chredwch ddim : Ac os gofynnaf hefyd i chwi , ni’m hatebwch , ac ni’m gollyngwch ymaith . Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw . A hwy oll a ddywedasant , Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod . Hwythau a ddywedasant , Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth ? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun . A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant , ac a’i dygasant ef at Peilat : Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef , gan ddywedyd , Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl , ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar , gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin . A Pheilat a ofynnodd iddo , gan ddywedyd , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Ac efe a atebodd iddo , ac a ddywedodd , Yr wyt ti yn dywedyd . A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl , Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn . A hwy a fuant daerach , gan ddywedyd , Y mae efe yn cyffroi’r bobl , gan ddysgu trwy holl Jwdea , wedi dechrau o Galilea hyd yma . A phan glybu Peilat sôn am Galilea , efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn . A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod , efe a’i hanfonodd ef at Herod , yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny . A Herod , pan welodd yr Iesu , a lawenychodd yn fawr : canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef , oblegid iddo glywed llawer amdano ef ; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef . Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau ; eithr efe nid atebodd ddim iddo . A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant , gan ei gyhuddo ef yn haerllug . A Herod a’i filwyr , wedi iddo ei ddiystyru ef , a’i watwar , a’i wisgo â gwisg glaerwen , a’i danfonodd ef drachefn at Peilat . A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion : canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd . A Pheilat , wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid , a’r llywiawdwyr , a’r bobl , A ddywedodd wrthynt , Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi , fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl : ac wele , myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi , ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai , o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt : Na Herod chwaith : canys anfonais chwi ato ef ; ac wele , dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo . Am hynny mi a’i ceryddaf ef , ac a’i gollyngaf ymaith . Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl . A’r holl liaws a lefasant ar unwaith , gan ddywedyd , Bwrw hwn ymaith , a gollwng i ni Barabbas yn rhydd : ( Yr hwn , am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas , a llofruddiaeth , oedd wedi ei daflu i garchar . ) Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn , gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd . Eithr hwy a lefasant arno , gan ddywedyd , Croeshoelia , croeshoelia ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith , Canys pa ddrwg a wnaeth efe ? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo ; am hynny mi a’i ceryddaf ef , ac a’i gollyngaf yn rhydd . Hwythau a fuont daerion â llefau uchel , gan ddeisyfu ei groeshoelio ef . A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant . A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt . Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar , yr hwn a ofynasant : eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt . Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith , hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene , yn dyfod o’r wlad , ac a ddodasant y groes arno ef , i’w dwyn ar ôl yr Iesu . Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl , ac o wragedd , y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef . A’r Iesu , wedi troi atynt , a ddywedodd , Merched Jerwsalem , nac wylwch o’m plegid i : eithr wylwch o’ch plegid eich hunain , ac oblegid eich plant . Canys wele , y mae’r dyddiau yn dyfod , yn y rhai y dywedant , Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy , a’r crothau nid epiliasant , a’r bronnau ni roesant sugn . Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd , Syrthiwch arnom ; ac wrth y bryniau , Cuddiwch ni . Canys os gwnânt hyn yn y pren ir , pa beth a wneir yn y crin ? Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill , drwgweithredwyr , i’w rhoi i’w marwolaeth . A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria , yno y croeshoeliasant ef , a’r drwgweithredwyr ; un ar y llaw ddeau , a’r llall ar yr aswy . A’r Iesu a ddywedodd , O Dad , maddau iddynt : canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur . A hwy a ranasant ei ddillad ef , ac a fwriasant goelbren . A’r bobl a safodd yn edrych . A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant , gan ddywedyd , Eraill a waredodd efe ; gwareded ef ei hun , os hwn yw Crist , etholedig Duw . A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef , gan ddyfod ato , a chynnig iddo finegr , A dywedyd , Os tydi yw Brenin yr Iddewon , gwared dy hun . Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef , â llythrennau Groeg , a Lladin , a Hebraeg , HWN YW BRENIN YR IDDEWON . Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef , gan ddywedyd , Os tydi yw Crist , gwared dy hun a ninnau . Eithr y llall a atebodd , ac a’i ceryddodd ef , gan ddywedyd , Onid wyt ti yn ofni Duw , gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth ? A nyni yn wir yn gyfiawn ; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom : eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le . Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu , Arglwydd , cofia fi pan ddelych i’th deyrnas . A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Yn wir meddaf i ti , Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys . Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr , a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr . A’r haul a dywyllwyd , a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol . A’r Iesu , gan lefain â llef uchel , a ddywedodd , O Dad , i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a drengodd . A’r canwriad , pan welodd y peth a wnaethpwyd , a ogoneddodd Dduw , gan ddywedyd , Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn . A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn , wrth weled y pethau a wnaethpwyd , a ddychwelasant , gan guro eu dwyfronnau . A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell , a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea , yn edrych ar y pethau hyn . Ac wele , gŵr a’i enw Joseff , yr hwn oedd gynghorwr , gŵr da a chyfiawn : ( Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt ; ) o Arimathea , dinas yr Iddewon , yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw ; Hwn a ddaeth at Peilat , ac a ofynnodd gorff yr Iesu . Ac efe a’i tynnodd i lawr , ac a’i hamdôdd mewn lliain main , ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg , yn yr hwn ni roddasid dyn erioed . A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl , a’r Saboth oedd yn nesáu . A’r gwragedd hefyd , y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea , a ganlynasant , ac a welsant y bedd , a pha fodd y dodwyd ei gorff ef . A hwy a ddychwelasant , ac a baratoesant beraroglau ac ennaint ; ac a orffwysasant ar y Saboth , yn ôl y gorchymyn . A’r dydd cyntaf o’r wythnos , ar y cynddydd , hwy a ddaethant at y bedd , gan ddwyn y peraroglau a baratoesent , a rhai gyda hwynt . A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd . Ac wedi iddynt fyned i mewn , ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu . A bu , a hwy yn petruso am y peth hwn , wele , dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair . Ac wedi iddynt ofni , a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear , hwy a ddywedasant wrthynt , Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw ? Nid yw efe yma , ond efe a gyfododd . Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych , ac efe eto yng Ngalilea , Gan ddywedyd , Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus , a’i groeshoelio , a’r trydydd dydd atgyfodi . A hwy a gofiasant ei eiriau ef ; Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd , ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg , ac i’r lleill oll . A Mair Magdalen , a Joanna , a Mair mam Iago , a’r lleill gyda hwynt , oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion . A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi , ac ni chredasant iddynt . Eithr Pedr a gododd i fyny , ac a redodd at y bedd ; ac wedi ymgrymu , efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu ; ac a aeth ymaith , gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai . Ac wele , dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus , yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem . Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent . A bu , fel yr oeddynt yn ymddiddan , ac yn ymofyn â’i gilydd , yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd , ac a aeth gyda hwynt . Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd , fel nas adwaenent ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd , dan rodio , ac yn wyneptrist ? Ac un ohonynt , a’i enw Cleopas , gan ateb a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem , ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Pa bethau ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth , yr hwn oedd ŵr o broffwyd , galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl ; A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth , ac a’i croeshoeliasant ef . Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel . Ac heblaw hyn oll , heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn . A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni , gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd : A phan na chawsant ei gorff ef , hwy a ddaethant , gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion , y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw . A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd , ac a gawsant felly , fel y dywedasai’r gwragedd : ond ef nis gwelsant . Ac efe a ddywedodd wrthynt , O ynfydion , a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi ! Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn , a myned i mewn i’w ogoniant ? A chan ddechrau ar Moses , a’r holl broffwydi , efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun . Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned : ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach . A hwy a’i cymellasant ef , gan ddywedyd , Aros gyda ni ; canys y mae hi yn hwyrhau , a’r dydd yn darfod . Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt . A darfu , ac efe yn eistedd gyda hwynt , efe a gymerodd fara , ac a’i bendithiodd , ac a’i torrodd , ac a’i rhoddes iddynt . A’u llygaid hwynt a agorwyd , a hwy a’i hadnabuant ef : ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt . A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd , a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau ? A hwy a godasant yr awr honno , ac a ddychwelasant i Jerwsalem , ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd , a’r sawl oedd gyda hwynt , Yn dywedyd , Yr Arglwydd a gyfododd yn wir , ac a ymddangosodd i Simon . A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd , a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara . Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn , yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt , ac a ddywedodd wrthynt , Tangnefedd i chwi . Hwythau , wedi brawychu ac ofni , a dybiasant weled ohonynt ysbryd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Paham y’ch trallodir ? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau ? Edrychwch fy nwylo a’m traed , mai myfi fy hun ydyw : teimlwch fi , a gwelwch : canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn , fel y gwelwch fod gennyf fi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed . Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd , ac yn rhyfeddu , efe a ddywedodd wrthynt , A oes gennych chwi yma ddim bwyd ? A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio , ac o ddil mêl . Yntau a’i cymerodd , ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych , pan oeddwn eto gyda chwi , bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses , a’r proffwydi , a’r salmau , amdanaf fi . Yna yr agorodd efe eu deall hwynt , fel y deallent yr ysgrythurau . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Felly yr ysgrifennwyd , ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef , a chyfodi o feirw y trydydd dydd : A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd , gan ddechrau yn Jerwsalem . Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn . Ac wele , yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch : eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem , hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder . Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania ; ac a gododd ei ddwylo , ac a’u bendithiodd hwynt . Ac fe a ddarfu , tra oedd efe yn eu bendithio hwynt , ymadael ohono ef oddi wrthynt , ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef . Ac wedi iddynt ei addoli ef , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , gyda llawenydd mawr : Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml , yn moli ac yn bendithio Duw . Amen . </passage></reply></GetPassage>