<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:43</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:43</urn><passage>Yn y dechreuad yr oedd y Gair , a’r Gair oedd gyda Duw , a Duw oedd y Gair . Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw . Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth ; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd . Ynddo ef yr oedd bywyd ; a’r bywyd oedd oleuni dynion . A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch ; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred . Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw , a’i enw Ioan . Hwn a ddaeth yn dystiolaeth , fel y tystiolaethai am y Goleuni , fel y credai pawb trwyddo ef . Nid efe oedd y Goleuni , eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni . Hwn ydoedd y gwir Oleuni , yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd . Yn y byd yr oedd efe , a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef ; a’r byd nid adnabu ef . At ei eiddo ei hun y daeth , a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef . Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef , efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw , sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef : Y rhai ni aned o waed , nac o ewyllys y cnawd , nac o ewyllys gŵr , eithr o Dduw . A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd , ac a drigodd yn ein plith ni , ( ac ni a welsom ei ogoniant ef , gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad , ) yn llawn gras a gwirionedd . Ioan a dystiolaethodd amdano ef , ac a lefodd , gan ddywedyd , Hwn oedd yr un y dywedais amdano , Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , a aeth o’m blaen i : canys yr oedd efe o’m blaen i . Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll , a gras am ras . Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses , ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist . Ni welodd neb Dduw erioed : yr unig‐anedig Fab , yr hwn sydd ym mynwes y Tad , hwnnw a’i hysbysodd ef . A hon yw tystiolaeth Ioan , pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo , Pwy wyt ti ? Ac efe a gyffesodd , ac ni wadodd ; a chyffesodd , Nid myfi yw’r Crist . A hwy a ofynasant iddo , Beth ynteu ? Ai Eleias wyt ti ? Yntau a ddywedodd , Nage . Ai’r Proffwyd wyt ti ? Ac efe a atebodd , Nage . Yna y dywedasant wrtho , Pwy wyt ti ? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd . Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun ? Eb efe , Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch , Unionwch ffordd yr Arglwydd , fel y dywedodd Eseias y proffwyd . A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid . A hwy a ofynasant iddo , ac a ddywedasant wrtho , Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio , onid ydwyt ti na’r Crist , nac Eleias , na’r proffwyd ? Ioan a atebodd iddynt , gan ddywedyd , Myfi sydd yn bedyddio â dwfr ; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi : Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i , yr hwn a aeth o’m blaen i ; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid . Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara , y tu hwnt i’r Iorddonen , lle yr oedd Ioan yn bedyddio . Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato ; ac efe a ddywedodd , Wele Oen Duw , yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd . Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i , Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod , yr hwn a aeth o’m blaen i : canys yr oedd efe o’m blaen i . Ac myfi nid adwaenwn ef : eithr fel yr amlygid ef i Israel , i hynny y deuthum i , gan fedyddio â dwfr . Ac Ioan a dystiolaethodd , gan ddywedyd , Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen , o’r nef , ac efe a arhosodd arno ef . A myfi nid adwaenwn ef ; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr , efe a ddywedodd wrthyf , Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn , ac yn aros arno , hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân . A mi a welais , ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw . Trannoeth drachefn y safodd Ioan , a dau o’i ddisgyblion : A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio , efe a ddywedodd , Wele Oen Duw . A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru , ac a ganlynasant yr Iesu . Yna yr Iesu a droes ; a phan welodd hwynt yn canlyn , efe a ddywedodd wrthynt , Beth yr ydych chwi yn ei geisio ? A hwy a ddywedasant wrtho ef , Rabbi , ( yr hyn o’i gyfieithu yw , Athro , ) pa le yr wyt ti yn trigo ? Efe a ddywedodd wrthynt , Deuwch , a gwelwch . A hwy a ddaethant , ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo , ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw : ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr . Andreas , brawd Simon Pedr , oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan , ac a’i dilynasent ef . Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon , ac a ddywedodd wrtho , Nyni a gawsom y Meseias ; yr hyn o’i ddeongl yw , Y Crist . Ac efe a’i dug ef at yr Iesu . A’r Iesu wedi edrych arno ef , a ddywedodd , Ti yw Simon mab Jona : ti a elwir Ceffas , yr hwn a gyfieithir , Carreg . Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea ; ac efe a gafodd Philip , ac a ddywedodd wrtho , Dilyn fi . A Philip oedd o Fethsaida , o ddinas Andreas a Phedr . Philip a gafodd Nathanael , ac a ddywedodd wrtho , Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith , a’r proffwydi , amdano , Iesu o Nasareth , mab Joseff . A Nathanael a ddywedodd wrtho , A ddichon dim da ddyfod o Nasareth ? Philip a ddywedodd wrtho , Tyred , a gwêl . Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato ; ac a ddywedodd amdano , Wele Israeliad yn wir , yn yr hwn nid oes dwyll . Nathanael a ddywedodd wrtho , Pa fodd y’m hadwaenost ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Cyn i Philip dy alw di , pan oeddit tan y ffigysbren , mi a’th welais di . Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Rabbi , ti yw Mab Duw ; ti yw Brenin Israel . Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef , Oherwydd i mi ddywedyd i ti , Myfi a’th welais di dan y ffigysbren , a ydwyt ti yn credu ? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn . Ac efe a ddywedodd wrtho , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored , ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn . A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea : a mam yr Iesu oedd yno . A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas . A phan ballodd y gwin , mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef , Nid oes ganddynt mo’r gwin . Iesu a ddywedodd wrthi , Beth sydd i mi a wnelwyf â thi , wraig ? ni ddaeth fy awr i eto . Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr , Beth bynnag a ddywedo efe wrthych , gwnewch . Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod , yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon , y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri . Iesu a ddywedodd wrthynt , Llenwch y dyfrlestri o ddwfr . A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Gollyngwch yn awr , a dygwch at lywodraethwr y wledd . A hwy a ddygasant . A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win , ( ac ni wyddai o ba le yr ydoedd , eithr y gwasanaethwyr , y rhai a ollyngasent y dwfr , a wyddent , ) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab , Ac a ddywedodd wrtho , Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf ; ac wedi iddynt yfed yn dda , yna un a fo gwaeth : tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon . Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea , ac a eglurodd ei ogoniant ; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo . Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum , efe , a’i fam , a’i frodyr , a’i ddisgyblion : ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau . A phasg yr Iddewon oedd yn agos : a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem ; Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen , a defaid , a cholomennod , a’r newidwyr arian yn eistedd . Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau , efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml , y defaid hefyd a’r ychen ; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr , ac a ddymchwelodd y byrddau : Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod , Dygwch y rhai hyn oddi yma ; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad . A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig , Sêl dy dŷ di a’m hysodd i . Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef , Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni , gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Dinistriwch y deml hon , ac mewn tridiau y cyfodaf hi . Yna yr Iddewon a ddywedasant , Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon ; ac a gyfodi di hi mewn tridiau ? Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff . Am hynny pan gyfododd efe o feirw , ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy : a hwy a gredasant yr ysgrythur , a’r gair a ddywedasai yr Iesu . Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl , llawer a gredasant yn ei enw ef , wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe . Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun , am yr adwaenai efe hwynt oll ; Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn : oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn . Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid , a’i enw Nicodemus , pennaeth yr Iddewon : Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos , ac a ddywedodd wrtho , Rabbi , nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw : canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur , oni bai fod Duw gydag ef . Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Oddieithr geni dyn drachefn , ni ddichon efe weled teyrnas Dduw . Nicodemus a ddywedodd wrtho , Pa fodd y dichon dyn ei eni , ac efe yn hen ? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith , a’i eni ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd , ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw . Yr hyn a aned o’r cnawd , sydd gnawd ; a’r hyn a aned o’r Ysbryd , sydd ysbryd . Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt , Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn . Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno ; a thi a glywi ei sŵn ef , ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod , nac i ba le y mae yn myned : felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd . Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Pa fodd y dichon y pethau hyn fod ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel , ac ni wyddost y pethau hyn ? Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru , a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu ; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn . Os dywedais i chwi bethau daearol , a chwithau nid ydych yn credu ; pa fodd , os dywedaf i chwi bethau nefol , y credwch ? Ac nid esgynnodd neb i’r nef , oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef , sef Mab y dyn , yr hwn sydd yn y nef . Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch , felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn ; Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef , ond caffael ohono fywyd tragwyddol . Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab , fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef , ond caffael ohono fywyd tragwyddol . Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd , ond fel yr achubid y byd trwyddo ef . Yr hwn sydd yn credu ynddo ef , ni ddemnir : eithr yr hwn nid yw yn credu , a ddamniwyd eisoes ; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw . A hon yw’r ddamnedigaeth , ddyfod goleuni i’r byd , a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni ; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg . Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg , sydd yn casáu’r goleuni , ac nid yw yn dyfod i’r goleuni , fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef . Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd , sydd yn dyfod i’r goleuni , fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef , mai yn Nuw y gwnaed hwynt . Wedi’r pethau hyn , daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea ; ac a arhosodd yno gyda hwynt , ac a fedyddiodd . Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon , yn agos i Salim ; canys dyfroedd lawer oedd yno : a hwy a ddaethant , ac a’u bedyddiwyd : Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar . Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon , ynghylch puredigaeth . A hwy a ddaethant at Ioan , ac a ddywedasant wrtho , Rabbi , yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen , am yr hwn y tystiolaethaist ti , wele , y mae hwnnw yn bedyddio , a phawb yn dyfod ato ef . Ioan a atebodd ac a ddywedodd , Ni ddichon dyn dderbyn dim , oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef . Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi , ddywedyd ohonof fi , Nid myfi yw’r Crist , eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef . Yr hwn sydd ganddo y briodferch , yw’r priodfab : ond cyfaill y priodfab , yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef , sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab : y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd . Rhaid ydyw iddo ef gynyddu , ac i minnau leihau . Yr hwn a ddaeth oddi uchod , sydd goruwch pawb oll : yr hwn sydd o’r ddaear , sydd o’r ddaear , ac am y ddaear y mae yn llefaru : yr hwn sydd yn dyfod o’r nef , sydd goruwch pawb . A’r hyn a welodd efe ac a glywodd , hynny y mae efe yn ei dystiolaethu : ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef . Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef , a seliodd mai geirwir yw Duw . Canys yr hwn a anfonodd Duw , sydd yn llefaru geiriau Duw ; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd . Y mae’r Tad yn caru y Mab , ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef . Yr hwn sydd yn credu yn y Mab , y mae ganddo fywyd tragwyddol : a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab , ni wêl fywyd ; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef . Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan , ( Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun , eithr ei ddisgyblion ef , ) Efe a adawodd Jwdea , ac a aeth drachefn i Galilea . Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria . Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar , gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff : Ac yno yr oedd ffynnon Jacob . Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith , a eisteddodd felly ar y ffynnon : ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi . Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr : a’r Iesu a ddywedodd wrthi , Dyro i mi i yfed . ( Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd . ) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef , Pa fodd yr ydwyt ti , a thi yn Iddew , yn gofyn diod gennyf fi , a myfi yn wraig o Samaria ? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Ped adwaenit ti ddawn Duw , a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt , Dyro i mi i yfed ; tydi a ofynasit iddo ef , ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol . Y wraig a ddywedodd wrtho , Arglwydd , nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr , a’r pydew sydd ddwfn : o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw ? Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob , yr hwn a roddodd i ni’r pydew , ac efe ei hun a yfodd ohono , a’i feibion , a’i anifeiliaid ? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi , Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn , efe a sycheda drachefn : Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo , ni sycheda yn dragywydd ; eithr y dwfr a roddwyf iddo , a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol . Y wraig a ddywedodd wrtho , Arglwydd , dyro i mi y dwfr hwn , fel na sychedwyf , ac na ddelwyf yma i godi dwfr . Iesu a ddywedodd wrthi , Dos , galw dy ŵr , a thyred yma . Y wraig a atebodd ac a ddywedodd , Nid oes gennyf ŵr . Iesu a ddywedodd wrthi , Da y dywedaist , Nid oes gennyf ŵr : Canys pump o wŷr a fu i ti ; a’r hwn sydd gennyt yr awron , nid yw ŵr i ti : hyn a ddywedaist yn wir . Y wraig a ddywedodd wrtho ef , Arglwydd , mi a welaf mai proffwyd wyt ti . Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn ; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli . Iesu a ddywedodd wrthi hi , O wraig , cred fi , y mae’r awr yn dyfod , pryd nad addoloch y Tad , nac yn y mynydd hwn , nac yn Jerwsalem . Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch : ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom : canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon . Ond dyfod y mae’r awr , ac yn awr y mae hi , pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd : canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef . Ysbryd yw Duw ; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef , addoli mewn ysbryd a gwirionedd . Y wraig a ddywedodd wrtho , Mi a wn fod y Meseias yn dyfod , yr hwn a elwir Crist : pan ddelo hwnnw , efe a fynega i ni bob peth . Iesu a ddywedodd wrthi hi , Myfi , yr hwn wyf yn ymddiddan â thi , yw hwnnw . Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion ; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig : er hynny ni ddywedodd neb , Beth a geisi ? neu , Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi ? Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr , ac a aeth i’r ddinas , ac a ddywedodd wrth y dynion , Deuwch , gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum : onid hwn yw’r Crist ? Yna hwy a aethant allan o’r ddinas , ac a ddaethant ato ef . Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo , gan ddywedyd , Rabbi , bwyta . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho . Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd , A ddug neb iddo ddim i’w fwyta ? Iesu a ddywedodd wrthynt , Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd , a gorffen ei waith ef . Onid ydych chwi yn dywedyd , Y mae eto bedwar mis , ac yna y daw’r cynhaeaf ? Wele , yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych , Dyrchefwch eich llygaid , ac edrychwch ar y meysydd ; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf . A’r hwn sydd yn medi , sydd yn derbyn cyflog , ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol : fel y byddo i’r hwn sydd yn hau , ac i’r hwn sydd yn medi , lawenychu ynghyd . Canys yn hyn y mae’r gair yn wir , Mai arall yw’r hwn sydd yn hau , ac arall yr hwn sydd yn medi . Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch : eraill a lafuriasant , a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt . A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo , oherwydd gair y wraig , yr hon oedd yn tystiolaethu , Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum . Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef , hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt . Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd . A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun . A hwy a ddywedasant wrth y wraig , Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di : canys ni a’i clywsom ef ein hunain , ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist , Iachawdwr y byd . Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno , ac a aeth i Galilea . Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd , nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun . Yna pan ddaeth efe i Galilea , y Galileaid a’i derbyniasant ef , wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl : canys hwythau a ddaethant i’r ŵyl . Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea , lle y gwnaeth efe y dwfr yn win . Ac yr oedd rhyw bendefig , yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum . Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea , efe a aeth ato ef , ac a atolygodd iddo ddyfod i waered , a iacháu ei fab ef : canys yr oedd efe ymron marw . Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef , Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau , ni chredwch . Y pendefig a ddywedodd wrtho ef , O Arglwydd , tyred i waered cyn marw fy machgen . Iesu a ddywedodd wrtho ef , Dos ymaith ; y mae dy fab yn fyw . A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho , ac efe a aeth ymaith . Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered , ei weision a gyfarfuant ag ef , ac a fynegasant , gan ddywedyd , Y mae dy fachgen yn fyw . Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno . A hwy a ddywedasant wrtho , Doe , y seithfed awr , y gadawodd y cryd ef . Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd , yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef , Y mae dy fab yn fyw . Ac efe a gredodd , a’i holl dŷ . Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu , wedi dyfod o Jwdea i Galilea . Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon ; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem . Ac y mae yn Jerwsalem , wrth farchnad y defaid , lyn a elwir yn Hebraeg , Bethesda , ac iddo bum porth ; Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion , deillion , cloffion , gwywedigion , yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr . Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn , ac yn cynhyrfu’r dwfr : yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr , a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno . Ac yr oedd rhyw ddyn yno , yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain . Yr Iesu , pan welodd hwn yn gorwedd , a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach , a ddywedodd wrtho , A fynni di dy wneuthur yn iach ? Y claf a atebodd iddo , Arglwydd , nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn , pan gynhyrfer y dwfr : ond tra fyddwyf fi yn dyfod , arall a ddisgyn o’m blaen i . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Cyfod cymer dy wely i fyny , a rhodia . Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach ; ac efe a gododd ei wely , ac a rodiodd . A’r Saboth oedd y diwrnod hwnnw . Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach , Y Saboth yw hi : nid cyfreithlon i ti godi dy wely . Efe a atebodd iddynt , Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach , efe a ddywedodd wrthyf , Cyfod dy wely , a rhodia . Yna hwy a ofynasant iddo , Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti , Cyfod dy wely , a rhodia ? A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe : canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno . Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ti a wnaethpwyd yn iach : na phecha mwyach , rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth . Y dyn a aeth ymaith , ac a fynegodd i’r Iddewon , mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach . Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu , ac a geisiasant ei ladd ef , oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth . Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt , Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn , ac yr ydwyf finnau yn gweithio . Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef , oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth , ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo , gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw . Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan , eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur : canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur , hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur . Canys y Tad sydd yn caru’r Mab , ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur : ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn , fel y rhyfeddoch chwi . Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw , ac yn eu bywhau ; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno . Canys y Tad nid yw yn barnu neb ; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab : Fel yr anrhydeddai pawb y Mab , fel y maent yn anrhydeddu’r Tad . Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab , nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Y neb sydd yn gwrando fy ngair i , ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i , a gaiff fywyd tragwyddol , ac ni ddaw i farn ; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Y mae’r awr yn dyfod , ac yn awr y mae , pan glywo’r meirw lef Mab Duw : a’r rhai a glywant , a fyddant byw . Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan , felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun ; Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd , oherwydd ei fod yn Fab dyn . Na ryfeddwch am hyn : canys y mae’r awr yn dyfod , yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef : A hwy a ddeuant allan : y rhai a wnaethant dda , i atgyfodiad bywyd ; ond y rhai a wnaethant ddrwg , i atgyfodiad barn . Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan ; fel yr ydwyf yn clywed , yr ydwyf yn barnu : a’m barn i sydd gyfiawn ; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan , ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i . Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan , nid yw fy nhystiolaeth i wir . Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi ; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi . Chwychwi a anfonasoch at Ioan , ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd . Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn : eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd , fel y gwareder chwi . Efe oedd gannwyll yn llosgi , ac yn goleuo ; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef . Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan : canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen , y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur , sydd yn tystiolaethu amdanaf fi , mai’r Tad a’m hanfonodd i . A’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd i , efe a dystiolaethodd amdanaf fi . Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser , ac ni welsoch ei wedd ef . Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch : canys yr hwn a anfonodd efe , hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo . Chwiliwch yr ysgrythurau : canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol : a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi . Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi , fel y caffoch fywyd . Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion . Ond myfi a’ch adwaen chwi , nad oes gennych gariad Duw ynoch . Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad , ac nid ydych yn fy nerbyn i : os arall a ddaw yn ei enw ei hun , hwnnw a dderbyniwch . Pa fodd y gellwch chwi gredu , y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd , ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig ? Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad : y mae a’ch cyhudda chwi , sef Moses , yn yr hwn yr ydych yn gobeithio . Canys pe credasech chwi i Moses , chwi a gredasech i minnau : oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe . Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef , pa fodd y credwch i’m geiriau i ? Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea , hwnnw yw môr Tiberias . A thyrfa fawr a’i canlynodd ef ; canys hwy a welsent ei arwyddion , y rhai a wnaethai efe ar y cleifion . A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd , ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion . A’r pasg , gŵyl yr Iddewon , oedd yn , agos . Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid , ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato ; ac a ddywedodd wrth Philip , O ba le y prynwn ni fara , fel y caffo y rhai hyn fwyta ? ( A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef : canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur . ) Philip a’i hatebodd ef , Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy , fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig . Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho , Andreas , brawd Simon Pedr , Y mae yma ryw fachgennyn , a chanddo bum torth haidd , a dau bysgodyn : ond beth yw hynny rhwng cynifer ? A’r Iesu a ddywedodd , Perwch i’r dynion eistedd i lawr . Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno . Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr , ynghylch pum mil o nifer . A’r Iesu a gymerth y torthau , ac wedi iddo ddiolch , efe a’u rhannodd i’r disgyblion , a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd ; felly hefyd o’r pysgod , cymaint ag a fynasant . Ac wedi eu digoni hwynt , efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion , Cesglwch y briwfwyd gweddill , fel na choller dim . Am hynny hwy a’u casglasant , ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent . Yna y dynion , pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu , a ddywedasant , Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd . Yr Iesu gan hynny , pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod , a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin , a giliodd drachefn i’r mynydd , ei hunan yn unig . A phan hwyrhaodd hi , ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr . Ac wedi iddynt ddringo i long , hwy a aethant dros y môr i Gapernaum . Ac yr oedd hi weithian yn dywyll , a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy . A’r môr , gan wynt mawr yn chwythu , a gododd . Yna , wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau , hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr , ac yn nesáu at y llong ; ac a ofnasant . Ond efe a ddywedodd wrthynt , Myfi yw ; nac ofnwch . Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong : ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo . Trannoeth , pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr , nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef , ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong , ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain ; ( Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara , wedi i’r Arglwydd roddi diolch : ) Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno , na’i ddisgyblion , hwythau a aethant i longau , ac a ddaethant i Gapernaum , dan geisio yr Iesu . Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr , hwy a ddywedasant wrtho , Rabbi , pa bryd y daethost ti yma ? Yr Iesu a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr ydych chwi yn fy ngheisio i , nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau , eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau , a’ch digoni . Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd , eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol , yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi : canys hwn a seliodd Duw Dad . Yna y dywedasant wrtho , Pa beth a wnawn ni , fel y gweithredom weithredoedd Duw ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Hyn yw gwaith Duw ; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe . Dywedasant gan hynny wrtho ef , Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur , fel y gwelom , ac y credom i ti ? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu ? Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch , fel y mae yn ysgrifenedig , Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef : eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef . Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef , ac yn rhoddi bywyd i’r byd . Yna hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , dyro i ni’r bara hwn yn wastadol . A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Myfi yw bara’r bywyd . Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi , ni newyna ; a’r hwn sydd yn credu ynof fi , ni sycheda un amser . Eithr dywedais wrthych , i chwi fy ngweled , ac nad ydych yn credu . Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi , a ddaw ataf fi : a’r hwn a ddêl ataf fi , nis bwriaf ef allan ddim . Canys myfi a ddisgynnais o’r nef , nid i wneuthur fy ewyllys fy hun , ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd . A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i ; o’r cwbl a roddes efe i mi , na chollwn ddim ohono , eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf . A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i ; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab , ac yn credu ynddo ef , fywyd tragwyddol : a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf . Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef , oherwydd iddo ddywedyd , Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef . A hwy a ddywedasant , Onid hwn yw Iesu mab Joseff , tad a mam yr hwn a adwaenom ni ? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd , O’r nef y disgynnais ? Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Na furmurwch wrth eich gilydd . Ni ddichon neb ddyfod ataf fi , oddieithr i’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd , ei dynnu ef : a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf . Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi , A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw . Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad , ac a ddysgodd , sydd yn dyfod ataf fi . Nid oherwydd gweled o neb y Tad , ond yr hwn sydd o Dduw ; efe a welodd y Tad . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , sydd ganddo fywyd tragwyddol . Myfi yw bara’r bywyd . Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch , ac a fuont feirw . Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef , fel y bwytao dyn ohono , ac na byddo marw . Myfi yw’r bara bywiol , yr hwn a ddaeth i waered o’r nef . Os bwyty neb o’r bara hwn , efe a fydd byw yn dragywydd . A’r bara a roddaf fi , yw fy nghnawd i , yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd . Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd , gan ddywedyd , Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta ? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Oni fwytewch gnawd Mab y dyn , ac onid yfwch ei waed ef , nid oes gennych fywyd ynoch . Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i , ac yn yfed fy ngwaed i , sydd ganddo fywyd tragwyddol : ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf . Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir , a’m gwaed i sydd ddiod yn wir . Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i , ac yn yfed fy ngwaed i , sydd yn aros ynof fi , a minnau ynddo yntau . Fel yr anfonodd y Tad byw fi , ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad : felly yr hwn sydd yn fy mwyta i , yntau a fydd byw trwof fi . Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef : nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna , ac y buont feirw . Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn , a fydd byw yn dragywydd . Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog , wrth athrawiaethu yng Nghapernaum . Llawer gan hynny o’i ddisgyblion , pan glywsant , a ddywedasant , Caled yw’r ymadrodd hwn ; pwy a ddichon wrando arno ? Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun , fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn , efe a ddywedodd wrthynt , A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi ? Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen ? Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau ; y cnawd nid yw yn llesáu dim : y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych , ysbryd ydynt , a bywyd ydynt . Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu . Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad , pwy oedd y rhai nid oedd yn credu , a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef . Ac efe a ddywedodd , Am hynny y dywedais wrthych , na ddichon neb ddyfod ataf fi , oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad . O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl , ac ni rodiasant mwyach gydag ef . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg , A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith ? Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef , O Arglwydd , at bwy yr awn ni ? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol . Ac yr ydym ni yn credu , ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist , Mab y Duw byw . Iesu a’u hatebodd hwynt , Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg , ac ohonoch y mae un yn ddiafol ? Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot , mab Simon : canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef , ac efe yn un o’r deuddeg . A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea : canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea , oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef . A gŵyl yr Iddewon , sef gŵyl y pebyll , oedd yn agos . Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho , Cerdda ymaith oddi yma , a dos i Jwdea ; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur . Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel , ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd : od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn , amlyga dy hun i’r byd . Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy , Ni ddaeth fy amser i eto : ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod . Ni ddichon y byd eich casáu chwi ; ond myfi y mae yn ei gasáu , oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano , fod ei weithredoedd ef yn ddrwg . Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon : nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon , oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto . Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt , efe a arhosodd yng Ngalilea . Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny , yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl ; nid yn amlwg , ond megis yn ddirgel . Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl , ac a ddywedasant , Pa le y mae efe ? A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl . Canys rhai a ddywedent , Gŵr da yw : ac eraill a ddywedent , Nage ; eithr twyllo’r bobl y mae . Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef , rhag ofn yr Iddewon . Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl , yr Iesu a aeth i fyny i’r deml , ac a athrawiaethodd . A’r Iddewon a ryfeddasant , gan ddywedyd , Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth , ac yntau heb ddysgu ? Yr Iesu a atebodd iddynt , ac a ddywedodd , Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw , eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i . Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef , efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth , pa un ai o Dduw y mae hi , ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru . Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun , yn ceisio’i ogoniant ei hun : ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd , hwnnw sydd eirwir , ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef . Oni roddes Moses i chwi y gyfraith , ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith ? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i ? Y bobl a atebodd ac a ddywedodd , Y mae gennyt ti gythraul : pwy sydd yn ceisio dy ladd di ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Un weithred a wneuthum , ac yr ydych oll yn rhyfeddu . Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad ; ( nid oherwydd ei fod o Moses , eithr o’r tadau ; ) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth . Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth , heb dorri cyfraith Moses ; a ydych yn llidiog wrthyf fi , am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth ? Na fernwch wrth y golwg , eithr bernwch farn gyfiawn . Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid , Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd ? Ac wele , y mae yn llefaru ar gyhoedd , ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef : a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir ? Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae : eithr pan ddêl Crist , nis gŵyr neb o ba le y mae . Am hynny yr Iesu , wrth athrawiaethu yn y deml , a lefodd ac a ddywedodd , Chwi a’m hadwaenoch i , ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi : ac ni ddeuthum i ohonof fy hun , eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i , yr hwn nid adwaenoch chwi . Ond myfi a’i hadwaen : oblegid ohono ef yr ydwyf fi , ac efe a’m hanfonodd i . Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef : ond ni osododd neb law arno , am na ddaethai ei awr ef eto . A llawer o’r bobl a gredasant ynddo , ac a ddywedasant , Pan ddelo Crist , a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn ? Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef ; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy , Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi , ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd . Chwi a’m ceisiwch , ac ni’m cewch : a lle yr ydwyf fi , ni ellwch chwi ddyfod . Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain , I ba le y mae hwn ar fedr myned , fel na chaffom ni ef ? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned , a dysgu’r Groegiaid ? Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe , Chwi a’m ceisiwch , ac ni’m cewch : a lle yr ydwyf fi , ni ellwch chwi ddyfod ? Ac ar y dydd diwethaf , y dydd mawr o’r ŵyl , y safodd yr Iesu , ac a lefodd , gan ddywedyd , Od oes ar neb syched , deued ataf fi , ac yfed . Yr hwn sydd yn credu ynof fi , megis y dywedodd yr ysgrythur , afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef . ( A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd , yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn : canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi , oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto . ) Am hynny llawer o’r bobl , wedi clywed yr ymadrodd hwn , a ddywedasant , Yn wir hwn yw’r Proffwyd . Eraill a ddywedasant , Hwn yw Crist . Eraill a ddywedasant , Ai o Galilea y daw Crist ? Oni ddywedodd yr ysgrythur , Mai o had Dafydd , ac o Fethlehem , y dref lle y bu Dafydd , y mae Crist yn dyfod ? Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef . A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef ; ond ni osododd neb ddwylo arno . Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy , Paham na ddygasoch chwi ef ? A’r swyddogion a atebasant , Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn . Yna y Phariseaid a atebasant iddynt , A hudwyd chwithau hefyd ? A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef , neu o’r Phariseaid ? Eithr y bobl hyn , y rhai ni wyddant y gyfraith , melltigedig ydynt . Nicodemus ( yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos , ac oedd un ohonynt ) a ddywedodd wrthynt , A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn , oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf , a gwybod beth a wnaeth efe ? Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho , A ydwyt tithau o Galilea ? Chwilia a gwêl , na chododd proffwyd o Galilea . A phob un a aeth i’w dŷ ei hun . A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd : Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml ; a’r holl bobl a ddaeth ato ef : yntau a eisteddodd , ac a’u dysgodd hwynt . A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig , yr hon a ddaliesid mewn godineb ; ac wedi ei gosod hi yn y canol , Hwy a ddywedasant wrtho , Athro , y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu . A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw : beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd ? A hyn a ddywedasant hwy , gan ei demtio ef , fel y gallent ei gyhuddo ef . Eithr yr Iesu , wedi ymgrymu tua’r llawr , a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear , heb gymryd arno eu clywed . Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo , efe a ymunionodd , ac a ddywedodd wrthynt , Yr hwn sydd ddibechod ohonoch , tafled yn gyntaf garreg ati hi . Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr , efe a ysgrifennodd ar y ddaear . Hwythau , pan glywsant hyn , wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod , a aethant allan o un i un , gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf : a gadawyd yr Iesu yn unig , a’r wraig yn sefyll yn y canol . A’r Iesu wedi ymunioni , ac heb weled neb ond y wraig , a ddywedodd wrthi , Ha wraig , pa le y mae dy gyhuddwyr di ? oni chondemniodd neb di ? Hithau a ddywedodd , Naddo neb , Arglwydd . A dywedodd yr Iesu wrthi , Nid wyf finnau yn dy gondemnio di : dos , ac na phecha mwyach . Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn , gan ddywedyd , Goleuni’r byd ydwyf fi : yr hwn a’m dilyno i , ni rodia mewn tywyllwch , eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd . Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho , Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun ; nid yw dy dystiolaeth di wir . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy , Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun , y mae fy nhystiolaeth i yn wir : oblegid mi a wn o ba le y deuthum , ac i ba le yr ydwyf yn myned ; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod , nac i ba le yr wyf fi yn myned . Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd ; nid ydwyf fi yn barnu neb . Ac eto os wyf fi yn barnu , y mae fy marn i yn gywir : oblegid nid wyf fi yn unig , ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i . Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi , Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn . Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun ; ac y mae’r Tad , yr hwn a’m hanfonodd i , yn tystiolaethu amdanaf fi . Yna y dywedasant wrtho , Pa le y mae dy Dad di ? Yr Iesu a atebodd , Nid adwaenoch na myfi , na’m Tad : ped adnabuasech fi , chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd . Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy , wrth athrawiaethu yn y deml : ac ni ddaliodd neb ef , am na ddaethai ei awr ef eto . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn , Yr wyf fi yn myned ymaith , a chwi a’m ceisiwch i , ac a fyddwch feirw yn eich pechod : lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod . Am hynny y dywedodd yr Iddewon , A ladd efe ei hun ? gan ei fod yn dywedyd , Lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Chwychwi sydd oddi isod ; minnau sydd oddi uchod : chwychwi sydd o’r byd hwn ; minnau nid wyf o’r byd hwn . Am hynny y dywedais wrthych , y byddwch chwi feirw yn eich pechodau : oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe , chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau . Yna y dywedasant wrtho , Pwy wyt ti ? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt , Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad . Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi : eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i ; a’r pethau a glywais i ganddo , y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd . Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt , Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn , yna y cewch wybod mai myfi yw efe , ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun ; ond megis y dysgodd fy Nhad fi , yr wyf yn llefaru y pethau hyn . A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi : ni adawodd y Tad fi yn unig ; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef . Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn , llawer a gredasant ynddo ef . Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo , Os arhoswch chwi yn fy ngair i , disgyblion i mi ydych yn wir ; A chwi a gewch wybod y gwirionedd , a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi . Hwythau a atebasant iddo , Had Abraham ydym ni , ac ni wasanaethasom ni neb erioed : pa fodd yr wyt ti yn dywedyd , Chwi a wneir yn rhyddion ? Yr Iesu a atebodd iddynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod , y mae efe yn was i bechod . Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth : y Mab sydd yn aros byth . Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi , rhyddion fyddwch yn wir . Mi a wn mai had Abraham ydych chwi : ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i , am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi . Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i : a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau . Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Ein tad ni yw Abraham . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Pe plant Abraham fyddech , gweithredoedd Abraham a wnaech . Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i , dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd , yr hwn a glywais i gan Dduw : hyn ni wnaeth Abraham . Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi . Am hynny y dywedasant wrtho , Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni : un Tad sydd gennym ni , sef Duw . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy , Pe Duw fyddai eich Tad , chwi a’m carech i : canys oddi wrth Dduw y deilliais , ac y deuthum i ; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i , ond efe a’m hanfonodd i . Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i ? am na ellwch wrando fy ymadrodd i . O’ch tad diafol yr ydych chwi , a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur . Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad ; ac ni safodd yn y gwirionedd , oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef . Pan yw yn dywedyd celwydd , o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd : canys y mae yn gelwyddog , ac yn dad iddo . Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd , nid ydych yn credu i mi . Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod ? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir , paham nad ydych yn credu i mi ? Y mae’r hwn sydd o Dduw , yn gwrando geiriau Duw : am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando , am nad ydych o Dduw . Yna yr atebodd yr Iddewon , ac y dywedasant wrtho ef , Onid da yr ydym ni yn dywedyd , mai Samaritan wyt ti , a bod gennyt gythraul ? Yr Iesu a atebodd , Nid oes gennyf gythraul ; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad , ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau . Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun : y mae a’i cais , ac a farn . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Os ceidw neb fy ymadrodd i , ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd . Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho , Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul . Bu Abraham farw , a’r proffwydi ; ac meddi di , Os ceidw neb fy ymadrodd i , nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd . Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni , yr hwn a fu farw ? a’r proffwydi a fuant feirw : pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun ? Yr Iesu a atebodd , Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun , fy ngogoniant i nid yw ddim : fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i , yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd , mai eich Duw chwi yw . Ond nid adnabuoch chwi ef : eithr myfi a’i hadwaen ef . Ac os dywedaf nad adwaen ef , myfi a fyddaf debyg i chwi , yn gelwyddog : ond mi a’i hadwaen ef , ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef . Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i : ac efe a’i gwelodd hefyd , ac a lawenychodd . Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho , Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto , ac a welaist ti Abraham ? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Cyn bod Abraham , yr wyf fi . Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef . A’r Iesu a ymguddiodd , ac a aeth allan o’r deml , gan fyned trwy eu canol hwynt : ac felly yr aeth efe heibio . Ac wrth fyned heibio , efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth . A’i ddisgyblion a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Rabbi , pwy a bechodd , ai hwn , ai ei rieni , fel y genid ef yn ddall ? Yr Iesu a atebodd , Nid hwn a bechodd , na’i rieni chwaith : eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef . Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd , tra ydyw hi yn ddydd : y mae’r nos yn dyfod , pan na ddichon neb weithio . Tra ydwyf yn y byd , goleuni’r byd ydwyf . Wedi iddo ef ddywedyd hyn , efe a boerodd ar lawr , ac a wnaeth glai o’r poeryn , ac a irodd y clai ar lygaid y dall ; Ac a ddywedodd wrtho , Dos , ac ymolch yn llyn Siloam , ( yr hwn a gyfieithir , Anfonedig ) . Am hynny efe a aeth ymaith , ac a ymolchodd , ac a ddaeth yn gweled . Y cymdogion gan hynny , a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen , mai dall oedd efe , a ddywedasant , Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota ? Rhai a ddywedasant , Hwn yw efe : ac eraill , Y mae efe yn debyg iddo . Yntau a ddywedodd , Myfi yw efe . Am hynny y dywedasant wrtho , Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd , Dyn a elwir Iesu , a wnaeth glai , ac a irodd fy llygaid i ; ac a ddywedodd wrthyf , Dos i lyn Siloam , ac ymolch . Ac wedi i mi fyned ac ymolchi , mi a gefais fy ngolwg . Yna y dywedasant wrtho , Pa le y mae efe ? Yntau a ddywedodd , Ni wn i . Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid , yr hwn gynt a fuasai yn ddall . A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai , a phan agorodd efe ei lygaid ef . Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn , pa fodd y cawsai efe ei olwg . Yntau a ddywedodd wrthynt , Clai a osododd efe ar fy llygaid i , a mi a ymolchais , ac yr ydwyf yn gweled . Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant , Nid yw’r dyn hwn o Dduw , gan nad yw efe yn cadw’r Saboth . Eraill a ddywedasant , Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion ? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith . Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall , Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef , am agoryd ohono dy lygaid di ? Yntau a ddywedodd , Mai proffwyd yw efe . Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef , mai dall fuasai , a chael ohono ef ei olwg , nes galw ohonynt ei rieni ef , yr hwn a gawsai ei olwg . A hwy a ofynasant iddynt , gan ddywedyd , Ai hwn yw eich mab chwi , yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall ? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr ? Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy , ac a ddywedasant , Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni , ac mai yn ddall y ganwyd ef : Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron , nis gwyddom ni ; neu pwy a agorodd ei lygaid ef , nis gwyddom ni : y mae efe mewn oedran ; gofynnwch iddo ef : efe a ddywed amdano’i hun . Hyn a ddywedodd ei rieni ef , am eu bod yn ofni’r Iddewon : oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes , os cyfaddefai neb ef yn Grist , y bwrid ef allan o’r synagog . Am hynny y dywedodd ei rieni ef , Y mae efe mewn oedran ; gofynnwch iddo ef . Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall , ac a ddywedasant wrtho , Dyro’r gogoniant i Dduw : nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn . Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd , Ai pechadur yw , nis gwn i : un peth a wn i , lle yr oeddwn i yn ddall , yr wyf fi yn awr yn gweled . Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn , Beth a wnaeth efe i ti ? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di ? Yntau a atebodd iddynt , Mi a ddywedais i chwi eisoes , ac ni wrandawsoch : paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn ? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef ? Hwythau a’i difenwasant ef , ac a ddywedasant , Tydi sydd ddisgybl iddo ef ; eithr disgyblion Moses ydym ni . Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses : eithr hwn , nis gwyddom ni o ba le y mae efe . Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt , Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd , na wyddoch chwi o ba le y mae efe , ac efe a agorodd fy llygaid i . Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid : ond os yw neb yn addolwr Duw , ac yn gwneuthur ei ewyllys ef , hwnnw y mae yn ei wrando . Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall . Oni bai fod hwn o Dduw , ni allai efe wneuthur dim . Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Mewn pechodau y ganwyd ti oll ; ac a wyt ti yn ein dysgu ni ? A hwy a’i bwriasant ef allan . Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan : a phan ei cafodd , efe a ddywedodd wrtho , A wyt ti yn credu ym Mab Duw ? Yntau a atebodd ac a ddywedodd , Pwy yw efe , O Arglwydd , fel y credwyf ynddo ? A’r Iesu a ddywedodd wrtho , Ti a’i gwelaist ef ; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi , hwnnw ydyw efe . Yntau a ddywedodd , Yr wyf fi yn credu , O Arglwydd . Ac efe a’i haddolodd ef . A’r Iesu a ddywedodd , I farn y deuthum i’r byd hwn ; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled , ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion . A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef , a glywsant y pethau hyn , ac a ddywedasant wrtho , Ydym ninnau hefyd yn ddeillion ? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Pe deillion fyddech , ni byddai arnoch bechod : eithr yn awr meddwch chwi , Yr ydym ni yn gweled ; am hynny y mae eich pechod yn aros . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid , eithr sydd yn dringo ffordd arall , lleidr ac ysbeiliwr yw . Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws , bugail y defaid ydyw . I hwn y mae’r drysor yn agoryd , ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef : ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw , ac yn eu harwain hwy allan . Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun , y mae efe yn myned o’u blaen hwy : a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef , oblegid y maent yn adnabod ei lais ef . Ond y dieithr nis canlynant , eithr ffoant oddi wrtho : oblegid nad adwaenant lais dieithriaid . Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt : ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn , Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Myfi yw drws y defaid . Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i , lladron ac ysbeilwyr ŷnt : eithr ni wrandawodd y defaid arnynt . Myfi yw’r drws : os â neb i mewn trwof fi , efe a fydd cadwedig ; ac efe a â i mewn ac allan , ac a gaiff borfa . Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata , ac i ladd , ac i ddistrywio : myfi a ddeuthum fel y caent fywyd , ac y caent ef yn helaethach . Myfi yw’r bugail da . Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid . Eithr y gwas cyflog , a’r hwn nid yw fugail , yr hwn nid eiddo y defaid , sydd yn gweled y blaidd yn dyfod , ac yn gadael y defaid , ac yn ffoi : a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy , ac yn tarfu’r defaid . Y mae’r gwas cyflog yn ffoi , oblegid mai gwas cyflog yw , ac nid oes ofal arno am y defaid . Myfi yw’r bugail da ; ac a adwaen yr eiddof fi , ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi . Fel yr edwyn y Tad fyfi , felly yr adwaen innau’r Tad : ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid . A defaid eraill sydd gennyf , y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon : y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu , a’m llais i a wrandawant ; a bydd un gorlan , ac un bugail . Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i , am fy mod i yn dodi fy einioes , fel y cymerwyf hi drachefn . Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi : ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun . Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr , ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn . Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad . Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon , am yr ymadroddion hyn . A llawer ohonynt a ddywedasant , Y mae cythraul ganddo , ac y mae efe yn ynfydu : paham y gwrandewch chwi arno ef ? Eraill a ddywedasant , Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo . A all cythraul agoryd llygaid y deillion ? Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem , a’r gaeaf oedd hi . Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml , ym mhorth Solomon . Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef , ac a ddywedasant wrtho , Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau ? os tydi yw’r Crist , dywed i ni yn eglur . Yr Iesu a atebodd iddynt , Mi a ddywedais i chwi , ac nid ydych yn credu . Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad , y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi . Ond chwi nid ydych yn credu : canys nid ydych chwi o’m defaid i , fel y dywedais i chwi . Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i ; a mi a’u hadwaen hwynt , a hwy a’m canlynant i : A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol ; ac ni chyfrgollant byth , ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i . Fy Nhad i , yr hwn a’u rhoddes i mi , sydd fwy na phawb : ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i . Myfi a’r Tad un ydym . Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef . Yr Iesu a atebodd iddynt , Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad : am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i ? Yr Iddewon a atebasant iddo , gan ddywedyd , Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio , ond am gabledd , ac am dy fod di , a thithau yn ddyn , yn dy wneuthur dy hun yn Dduw . Yr Iesu a atebodd iddynt , Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi , Mi a ddywedais , Duwiau ydych ? Os galwodd efe hwy yn dduwiau , at y rhai y daeth gair Duw , ( a’r ysgrythur nis gellir ei thorri ; ) A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad , ac a’i hanfonodd i’r byd , Yr wyt ti yn cablu ; am i mi ddywedyd , Mab Duw ydwyf ? Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad , na chredwch i mi : Ond os ydwyf yn eu gwneuthur , er nad ydych yn credu i mi , credwch y gweithredoedd ; fel y gwybyddoch ac y credoch , fod y Tad ynof fi , a minnau ynddo yntau . Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef : ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt . Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen , i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio ; ac a arhosodd yno . A llawer a ddaethant ato ef , ac a ddywedasant , Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd : ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn , oedd wir . A llawer yno a gredasant ynddo . Ac yr oedd un yn glaf , Lasarus o Fethania , o dref Mair a’i chwaer Martha . ( A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint , ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt , yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf . ) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef , gan ddywedyd , Arglwydd , wele , y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti , yn glaf . A’r Iesu pan glybu , a ddywedodd , Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth , ond er gogoniant Duw , fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny . A hoff oedd gan yr Iesu Martha , a’i chwaer , a Lasarus . Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf , efe a arhosodd yn y lle yr oedd , ddau ddiwrnod . Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion , Awn i Jwdea drachefn . Y disgyblion a ddywedasant wrtho , Rabbi , yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di ; ac a wyt ti yn myned yno drachefn ? Yr Iesu a atebodd , Onid oes deuddeg awr o’r dydd ? os rhodia neb y dydd , ni thramgwydda , am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn : Ond os rhodia neb y nos , efe a dramgwydda , am nad oes goleuni ynddo . Hyn a lefarodd efe : ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt , Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno ; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef . Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Arglwydd , os huno y mae , efe a fydd iach . Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef : eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur , Bu farw Lasarus . Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno , er eich mwyn chwi , fel y credoch ; ond awn ato ef . Yna y dywedodd Thomas , yr hwn a elwir Didymus , wrth ei gyd‐ddisgyblion , Awn ninnau hefyd , fel y byddom feirw gydag ef . Yna yr Iesu wedi dyfod , a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd . A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem , ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi : A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair , i’w cysuro hwy am eu brawd . Yna Martha , cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod , a aeth i’w gyfarfod ef : ond Mair a eisteddodd yn y tŷ . Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu , Arglwydd , pe buasit ti yma , ni buasai farw fy mrawd . Eithr mi a wn hefyd yr awron , pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw , y dyry Duw i ti . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Atgyfodir dy frawd drachefn . Dywedodd Martha wrtho , Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad , y dydd diwethaf . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Myfi yw’r atgyfodiad , a’r bywyd : yr hwn sydd yn credu ynof fi , er iddo farw , a fydd byw : A phwy bynnag sydd yn fyw , ac yn credu ynof fi , ni bydd marw yn dragywydd . A wyt ti’n credu hyn ? Dywedodd hithau wrtho , Ydwyf , Arglwydd : yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist , Mab Duw , yr hwn sydd yn dyfod i’r byd . Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn , hi a aeth ymaith , ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair , gan ddywedyd , Fe ddaeth yr Athro , ac y mae yn galw amdanat . Cyn gynted ag y clybu hi , hi a gododd yn ebrwydd , ac a ddaeth ato ef . ( A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref , ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef . ) Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ , ac yn ei chysuro hi , pan welsant Mair yn codi ar frys , ac yn myned allan , a’i canlynasant hi , gan ddywedyd , Y mae hi’n myned at y bedd , i wylo yno . Yna Mair , pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu , a’i weled ef , a syrthiodd wrth ei draed ef , gan ddywedyd wrtho , Arglwydd , pe buasit ti yma , ni buasai fy mrawd farw . Yr Iesu gan hynny , pan welodd hi yn wylo , a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo , a riddfanodd yn yr ysbryd , ac a gynhyrfwyd ; Ac a ddywedodd , Pa le y dodasoch chwi ef ? Hwy a ddywedasant wrtho , Arglwydd , tyred a gwêl . Yr Iesu a wylodd . Am hynny y dywedodd yr Iddewon , Wele , fel yr oedd yn ei garu ef . Eithr rhai ohonynt a ddywedasant , Oni allasai hwn , yr hwn a agorodd lygaid y dall , beri na buasai hwn farw chwaith ? Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan , ac a ddaeth at y bedd . Ac ogof oedd , a maen oedd wedi ei ddodi arno . Yr Iesu a ddywedodd , Codwch ymaith y maen . Martha , chwaer yr hwn a fuasai farw , a ddywedodd wrtho , Arglwydd , y mae efe weithian yn drewi : herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Oni ddywedais i ti , pes credit , y cait ti weled gogoniant Duw ? Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod . A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny , ac a ddywedodd , Y Tad , yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf . Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser : eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais , fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a lefodd â llef uchel , Lasarus , tyred allan . A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan , yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo : a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Gollyngwch ef yn rhydd , a gadewch iddo fyned ymaith . Yna llawer o’r Iddewon , y rhai a ddaethent at Mair , ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu , a gredasant ynddo ef . Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid , ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu . Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor , ac a ddywedasant , Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur ? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion . Os gadawn ni ef fel hyn , pawb a gredant ynddo ; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid , ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd . A rhyw un ohonynt , Caiaffas , yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno , a ddywedodd wrthynt , Nid ydych chwi’n gwybod dim oll , Nac yn ystyried , mai buddiol yw i ni , farw o un dyn dros y bobl , ac na ddifether yr holl genedl . Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun : eithr , ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno , efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl ; Ac nid dros y genedl yn unig , eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid . Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef . Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon ; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch , i ddinas a elwir Effraim , ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion . A phasg yr Iddewon oedd yn agos : a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg , i’w glanhau eu hunain . Yna y ceisiasant yr Iesu ; a dywedasant wrth ei gilydd , fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml , Beth a dybygwch chwi , gan na ddaeth efe i’r ŵyl ? A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn , os gwyddai neb pa le yr oedd efe , ar fynegi ohono , fel y gallent ei ddal ef . Yna yr Iesu , chwe diwrnod cyn y pasg , a ddaeth i Fethania , lle yr oedd Lasarus , yr hwn a fuasai farw , yr hwn a godasai efe o feirw . Ac yno y gwnaethant iddo swper ; a Martha oedd yn gwasanaethu : a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef . Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr , ac a eneiniodd draed yr Iesu , ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt : a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint . Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef , Jwdas Iscariot , mab Simon , yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef , Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog , a’i roddi i’r tlodion ? Eithr hyn a ddywedodd efe , nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion ; ond am ei fod yn lleidr , a bod ganddo’r pwrs , a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo . A’r Iesu a ddywedodd , Gad iddi : erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn . Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser ; eithr myfi nid oes gennych bob amser . Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno : a hwy a ddaethant , nid er mwyn yr Iesu yn unig , ond fel y gwelent Lasarus hefyd , yr hwn a godasai efe o feirw . Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd : Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef , ac a gredasant yn yr Iesu . Trannoeth , tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl , pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem , A gymerasant gangau o’r palmwydd , ac a aethant allan i gyfarfod ag ef , ac a lefasant , Hosanna : Bendigedig yw Brenin Israel , yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd . A’r Iesu wedi cael asynnyn , a eisteddodd arno ; megis y mae yn ysgrifenedig , Nac ofna , ferch Seion : wele , y mae dy Frenin yn dyfod , yn eistedd ar ebol asyn . Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf : eithr pan ogoneddwyd yr Iesu , yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano , ac iddynt wneuthur hyn iddo . Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa , yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd , a’i godi ef o feirw . Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef , am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn . Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain , A welwch chwi nad ydych yn tycio dim ? wele , fe aeth y byd ar ei ôl ef . Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl : Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip , yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea , ac a ddymunasant arno , gan ddywedyd , Syr , ni a ewyllysiem weled yr Iesu . Philip a ddaeth , ac a ddywedodd i Andreas ; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu . A’r Iesu a atebodd iddynt , gan ddywedyd , Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear , a marw , hwnnw a erys yn unig : eithr os bydd efe marw , efe a ddwg ffrwyth lawer . Yr hwn sydd yn caru ei einioes , a’i cyll hi ; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn , a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol . Os gwasanaetha neb fi , dilyned fi : a lle yr wyf fi , yno y bydd fy ngweinidog hefyd : ac os gwasanaetha neb fi , y Tad a’i hanrhydedda ef . Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid : a pha beth a ddywedaf ? O Dad , gwared fi allan o’r awr hon : eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon . O Dad , gogonedda dy enw . Yna y daeth llef o’r nef , Mi a’i gogoneddais , ac a’i gogoneddaf drachefn . Y dyrfa gan hynny , yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed , a ddywedodd mai taran oedd : eraill a ddywedasant , Angel a lefarodd wrtho . Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd , Nid o’m hachos i y bu’r llef hon , ond o’ch achos chwi . Yn awr y mae barn y byd hwn : yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn . A minnau , os dyrchefir fi oddi ar y ddaear , a dynnaf bawb ataf fy hun . ( A hyn a ddywedodd efe , gan arwyddo o ba angau y byddai farw . ) Y dyrfa a atebodd iddo , Ni a glywsom o’r ddeddf , fod Crist yn aros yn dragwyddol : a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd , fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn ? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn ? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi . Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni , fel na ddalio’r tywyllwch chwi : a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch , ni ŵyr i ba le y mae’n myned . Tra fyddo gennych oleuni , credwch yn y goleuni , fel y byddoch blant y goleuni . Hyn a ddywedodd yr Iesu , ac efe a ymadawodd , ac a ymguddiodd rhagddynt . Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt , ni chredasant ynddo : Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd , yr hwn a ddywedodd efe , Arglwydd , pwy a gredodd i’n hymadrodd ni ? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd ? Am hynny ni allent gredu , oblegid dywedyd o Eseias drachefn , Efe a ddallodd eu llygaid , ac a galedodd eu calon ; fel na welent â’u llygaid , a deall â’u calon , ac ymchwelyd ohonynt , ac i mi eu hiacháu hwynt . Y pethau hyn a ddywedodd Eseias , pan welodd ei ogoniant ef , ac y llefarodd amdano ef . Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo ; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef , rhag eu bwrw allan o’r synagog : Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw . A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , nid yw yn credu ynof fi , ond yn yr hwn a’m hanfonodd i . A’r hwn sydd yn fy ngweled i , sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i . Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd , fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi , nad arhoso yn y tywyllwch . Ac os clyw neb fy ngeiriau , ac ni chred , myfi nid wyf yn ei farnu ef : canys ni ddeuthum i farnu’r byd , eithr i achub y byd . Yr hwn sydd yn fy nirmygu i , ac heb dderbyn fy ngeiriau , y mae iddo un yn ei farnu : y gair a leferais i , hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf . Canys myfi ni leferais ohonof fy hun : ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i , efe a roddes orchymyn i mi , beth a ddywedwn , a pha beth a lefarwn . Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol : am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru , fel y dywedodd y Tad wrthyf , felly yr wyf yn llefaru . Achyn gŵyl y pasg , yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad , efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd , a’u carodd hwynt hyd y diwedd . Ac wedi darfod swper , wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot , mab Simon , ei fradychu ef ; Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef , a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw , ac yn myned at Dduw ; Efe a gyfododd oddi ar swper , ac a roes heibio ei gochlwisg , ac a gymerodd dywel , ac a ymwregysodd . Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg , ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion , a’u sychu â’r tywel , â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu . Yna y daeth efe at Simon Pedr : ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , a wyt ti’n golchi fy nhraed i ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur , ni wyddost ti yr awron : eithr ti a gei wybod ar ôl hyn . Pedr a ddywedodd wrtho , Ni chei di olchi fy nhraed i byth . Yr Iesu a atebodd iddo , Oni olchaf di , nid oes i ti gyfran gyda myfi . Simon Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , nid fy nhraed yn unig , eithr fy nwylo a’m pen hefyd . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Yr hwn a olchwyd , nid rhaid iddo ond golchi ei draed , eithr y mae yn lân oll : ac yr ydych chwi yn lân , eithr nid pawb oll . Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef : am hynny y dywedodd , Nid ydych chwi yn lân bawb oll . Felly wedi iddo olchi eu traed hwy , a chymryd ei gochlwisg , efe a eisteddodd drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi ? Yr ydych chwi yn fy ngalw i , Yr Athro , a’r Arglwydd : a da y dywedwch ; canys felly yr ydwyf . Am hynny os myfi , yn Arglwydd ac yn Athro , a olchais eich traed chwi ; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd ; Canys rhoddais esampl i chwi , fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd ; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd . Os gwyddoch y pethau hyn , gwyn eich byd os gwnewch hwynt . Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll ; mi a wn pwy a etholais : ond fel y cyflawnid yr ysgrythur , Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi , a gododd ei sawdl yn fy erbyn . Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod , fel pan ddêl , y credoch mai myfi yw efe . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi , sydd yn fy nerbyn i ; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i , sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i . Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn , efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd , ac a dystiolaethodd , ac a ddywedodd , Yn wir , yn wir , y dywedaf wrthych , y bradycha un ohonoch fi . Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd , gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd . Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu , yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu . Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw , i ofyn pwy oedd efe , am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd . Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu , a ddywedodd wrtho , Arglwydd , pwy yw efe ? Yr Iesu a atebodd , Hwnnw yw efe , i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu . Ac wedi iddo wlychu’r tamaid , efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot , mab Simon . Ac ar ôl y tamaid , yna yr aeth Satan i mewn iddo . Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho , Hyn yr wyt yn ei wneuthur , gwna ar frys . Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho . Canys rhai oedd yn tybied , am fod Jwdas a’r god ganddo , fod yr Iesu yn dywedyd wrtho , Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl ; neu , ar roi ohono beth i’r tlodion . Yntau gan hynny , wedi derbyn y tamaid , a aeth allan yn ebrwydd . Ac yr oedd hi’n nos . Yna gwedi iddo fyned allan , yr Iesu a ddywedodd , Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn , a Duw a ogoneddwyd ynddo ef . Os gogoneddwyd Duw ynddo ef , Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun , ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd . O blant bychain , eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi . Chwi a’m ceisiwch : ac , megis y dywedais wrth yr Iddewon , Lle yr wyf fi yn myned , ni ellwch chwi ddyfod ; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron . Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi , Ar garu ohonoch eich gilydd ; fel y cerais i chwi , ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd . Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych , os bydd gennych gariad i’ch gilydd . A Simon Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , i ba le yr wyt ti’n myned ? Yr Iesu a atebodd iddo , Lle yr ydwyf fi yn myned , ni elli di yr awron fy nghanlyn : eithr ar ôl hyn y’m canlyni . Pedr a ddywedodd wrtho , Arglwydd , paham na allaf fi dy ganlyn yr awron ? mi a roddaf fy einioes drosot . Yr Iesu a atebodd iddo , A roddi di dy einioes drosof fi ? Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith . Na thralloder eich calon : yr ydych yn credu yn Nuw , credwch ynof finnau hefyd . Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau : a phe amgen , mi a ddywedaswn i chwi . Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi . Ac os myfi a af , ac a baratoaf le i chwi , mi a ddeuaf drachefn , ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun ; fel lle yr wyf fi , y byddoch chwithau hefyd . Ac i ba le yr wyf fi yn myned , chwi a wyddoch , a’r ffordd a wyddoch . Dywedodd Thomas wrtho , Arglwydd , ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned ; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef , Myfi yw’r ffordd , a’r gwirionedd , a’r bywyd : nid yw neb yn dyfod at y Tad , ond trwof fi . Ped adnabuasech fi , fy Nhad hefyd a adnabuasech : ac o hyn allan yr adwaenoch ef , a chwi a’i gwelsoch ef . Dywedodd Philip wrtho , Arglwydd , dangos i ni y Tad , a digon yw i ni . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi , ac nid adnabuost fi , Philip ? Y neb a’m gwelodd i , a welodd y Tad : a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd , Dangos i ni y Tad ? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad , a’r Tad ynof finnau ? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych , nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru ; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof , efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd . Credwch fi , fy mod i yn y Tad , a’r Tad ynof finnau : ac onid e , credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Yr hwn sydd yn credu ynof fi , y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur , yntau hefyd a’u gwna , a mwy na’r rhai hyn a wna efe : oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad . A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i , hynny a wnaf ; fel y gogonedder y Tad yn y Mab . Os gofynnwch ddim yn fy enw i , mi a’i gwnaf . O cherwch fi , cedwch fy ngorchmynion . A mi a weddïaf ar y Tad , ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall , fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol ; Ysbryd y gwirionedd , yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn , am nad yw yn ei weled , nac yn ei adnabod ef : ond chwi a’i hadwaenoch ef ; oherwydd y mae yn aros gyda chwi , ac ynoch y bydd efe . Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid : mi a ddeuaf atoch chwi . Eto ennyd bach , a’r byd ni’m gwêl mwy ; eithr chwi a’m gwelwch : canys byw wyf fi , a byw fyddwch chwithau hefyd . Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad , a chwithau ynof fi , a minnau ynoch chwithau . Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo , ac yn eu cadw hwynt , efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i : a’r hwn sydd yn fy ngharu i , a gerir gan fy Nhad i : a minnau a’i caraf ef , ac a’m hegluraf fy hun iddo . Dywedodd Jwdas wrtho , ( nid yr Iscariot , ) Arglwydd , pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni , ac nid i’r byd ? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Os câr neb fi , efe a geidw fy ngair ; a’m Tad a’i câr yntau , a nyni a ddeuwn ato , ac a wnawn ein trigfa gydag ef . Yr hwn nid yw yn fy ngharu i , nid yw yn cadw fy ngeiriau : a’r gair yr ydych yn ei glywed , nid eiddof fi ydyw , ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i . Y pethau hyn a ddywedais wrthych , a mi yn aros gyda chwi . Eithr y Diddanydd , yr Ysbryd Glân , yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i , efe a ddysg i chwi’r holl bethau , ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi . Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd ; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi : nid fel y mae y byd yn rhoddi , yr wyf fi yn rhoddi i chwi . Na thralloder eich calon , ac nac ofned . Clywsoch fel y dywedais wrthych , Yr wyf yn myned ymaith , ac mi a ddeuaf atoch . Pe carech fi , chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd , Yr wyf yn myned at y Tad : canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi . Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod , fel pan ddêl , y credoch . Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach : canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod , ac nid oes iddo ddim ynof fi . Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad , ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi , felly yr wyf yn gwneuthur . Codwch , awn oddi yma . Myfi yw’r wir winwydden , a’m Tad yw’r llafurwr . Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth , y mae efe yn ei thynnu ymaith : a phob un a ddygo ffrwyth , y mae efe yn ei glanhau , fel y dygo fwy o ffrwyth . Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych . Arhoswch ynof fi , a mi ynoch chwi . Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun , onid erys yn y winwydden ; felly ni ellwch chwithau , onid arhoswch ynof fi . Myfi yw’r winwydden , chwithau yw’r canghennau . Yr hwn sydd yn aros ynof fi , a minnau ynddo yntau , hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer : oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim . Onid erys un ynof fi , efe a daflwyd allan megis cangen , ac a wywodd ; ac y maent yn eu casglu hwynt , ac yn eu bwrw yn tân , a hwy a losgir . Os arhoswch ynof fi , ac aros o’m geiriau ynoch , beth bynnag a ewyllysioch , gofynnwch , ac efe a fydd i chwi . Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad , ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer ; a disgyblion fyddwch i mi . Fel y carodd y Tad fi , felly y cerais innau chwithau : arhoswch yn fy nghariad i . Os cedwch fy ngorchmynion , chwi a arhoswch yn fy nghariad ; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad , ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef . Hyn a ddywedais wrthych , fel yr arhosai fy llawenydd ynoch , ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn . Dyma fy ngorchymyn i ; Ar i chwi garu eich gilydd , fel y cerais i chwi . Cariad mwy na hwn nid oes gan neb ; sef , bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion . Chwychwi yw fy nghyfeillion , os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi . Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision ; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur : ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion ; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad , a hysbysais i chwi . Nid chwi a’m dewisasoch i , ond myfi a’ch dewisais chwi , ac a’ch ordeiniais chwi , fel yr elech ac y dygech ffrwyth , ac yr arhosai eich ffrwyth ; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i , y rhoddo efe i chwi . Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi , garu ohonoch eich gilydd . Os yw’r byd yn eich casáu chwi , chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi . Pe byddech o’r byd , y byd a garai’r eiddo ; ond oblegid nad ydych o’r byd , eithr i mi eich dewis allan o’r byd , am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi . Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych ; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd . Os erlidiasant fi , hwy a’ch erlidiant chwithau : os cadwasant fy ngair i , yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant . Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i , am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i . Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt , ni buasai arnynt bechod : ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod . Yr hwn sydd yn fy nghasáu i , sydd yn casáu fy Nhad hefyd . Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall , ni buasai arnynt bechod : ond yr awron hwy a welsant , ac a’m casasant i a’m Tad hefyd . Eithr , fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt , Hwy a’m casasant yn ddiachos . Eithr pan ddêl y Diddanydd , yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad , ( sef Ysbryd y gwirionedd , yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad , ) efe a dystiolaetha amdanaf fi . A chwithau hefyd a dystiolaethwch , am eich bod o’r dechreuad gyda mi . Y pethau hyn a ddywedais i chwi , fel na rwystrer chwi . Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau : ac y mae’r awr yn dyfod , y tybia pwy bynnag a’ch lladdo , ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw . A’r pethau hyn a wnânt i chwi , oblegid nad adnabuant y Tad , na myfi . Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi , fel pan ddêl yr awr , y cofioch hwynt , ddarfod i mi ddywedyd i chwi : a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad , am fy mod gyda chwi . Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd ; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi , I ba le yr wyt ti’n myned ? Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi , tristwch a lanwodd eich calon . Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi ; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith : canys onid af fi , ni ddaw’r Diddanydd atoch ; eithr os mi a af , mi a’i hanfonaf ef atoch . A phan ddêl , efe a argyhoedda’r byd o bechod , ac o gyfiawnder , ac o farn : O bechod , am nad ydynt yn credu ynof fi : O gyfiawnder , am fy mod yn myned at fy Nhad , ac ni’m gwelwch i mwyach ; O farn , oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd . Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi , ond ni ellwch eu dwyn yr awron . Ond pan ddêl efe , sef Ysbryd y gwirionedd , efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd : canys ni lefara ohono’i hun ; ond pa bethau bynnag a glywo , a lefara efe : a’r pethau sydd i ddyfod , a fynega efe i chwi . Efe a’m gogonedda i : canys efe a gymer o’r eiddof , ac a’i mynega i chwi . Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad , ydynt eiddof fi : oherwydd hyn y dywedais , mai o’r eiddof fi y cymer , ac y mynega i chwi . Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch : am fy mod yn myned at y Tad . Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd , Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym , Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch : ac , Am fy mod yn myned at y Tad ? Am hynny hwy a ddywedasant , Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd , Ychydig ennyd ? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd . Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo ; ac a ddywedodd wrthynt , Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn , oblegid i mi ddywedyd , Ychydig ennyd , ac ni’m gwelwch ; a thrachefn ychydig ennyd , a chwi a’m gwelwch ? Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Chwi a wylwch ac a alerwch , a’r byd a lawenycha : eithr chwi a fyddwch dristion ; ond eich tristwch a droir yn llawenydd . Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch , am ddyfod ei hawr : eithr wedi geni’r plentyn , nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach , gan lawenydd geni dyn i’r byd . A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch : eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn , a’ch calon a lawenycha , a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch . A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi . Yn wir , yn wir , meddaf i chwi , Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw , efe a’u rhydd i chwi . Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i : gofynnwch , a chwi a gewch ; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn . Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion : eithr y mae’r awr yn dyfod , pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach , eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad . Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw : ac nid wyf yn dywedyd i chwi , y gweddïaf fi ar y Tad trosoch : Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi , am i chwi fy ngharu i , a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw . Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad , ac a ddeuthum i’r byd : trachefn yr wyf yn gadael y byd , ac yn myned at y Tad . Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho , Wele , yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur , ac nid wyt yn dywedyd un ddameg . Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth , ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi : wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw . Yr Iesu a’u hatebodd hwynt , A ydych chwi yn awr yn credu ? Wele , y mae’r awr yn dyfod , ac yr awron hi a ddaeth , y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo , ac y gadewch fi yn unig : ac nid wyf yn unig , oblegid y mae’r Tad gyda myfi . Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof . Yn y byd gorthrymder a gewch : eithr cymerwch gysur , myfi a orchfygais y byd . Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu , ac efe a gododd ei lygaid i’r nef , ac a ddywedodd , Y Tad , daeth yr awr ; gogonedda dy Fab , fel y gogoneddo dy Fab dithau : Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd , fel am y cwbl a roddaist iddo , y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol . A hyn yw’r bywyd tragwyddol ; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw , a’r hwn a anfonaist ti , Iesu Grist . Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear ; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur . Ac yr awron , O Dad , gogonedda di fyfi gyda thi dy hun , â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd . Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd : eiddot ti oeddynt , a thi a’u rhoddaist hwynt i mi ; a hwy a gadwasant dy air di . Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi : Canys y geiriau a roddaist i mi , a roddais iddynt hwy ; a hwy a’u derbyniasant , ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan , ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i . Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo : nid dros y byd yr wyf yn gweddïo , ond dros y rhai a roddaist i mi ; canys eiddot ti ydynt . A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti , a’r eiddot ti sydd eiddof fi : a mi a ogoneddwyd ynddynt . Ac nid wyf mwyach yn y byd , ond y rhai hyn sydd yn y byd , a myfi sydd yn dyfod atat ti . Y Tad sancteiddiol , cadw hwynt trwy dy enw , y rhai a roddaist i mi ; fel y byddont un , megis ninnau . Tra fûm gyda hwynt yn y byd , mi a’u cedwais yn dy enw : y rhai a roddaist i mi , a gedwais , ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth ; fel y cyflawnid yr ysgrythur . Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat : a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd , fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain . Myfi a roddais iddynt hwy dy air di : a’r byd a’u casaodd hwynt , oblegid nad ydynt o’r byd , megis nad ydwyf finnau o’r byd . Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd , eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg . O’r byd nid ydynt , megis nad wyf finnau o’r byd . Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd : dy air sydd wirionedd . Fel yr anfonaist fi i’r byd , felly yr anfonais innau hwythau i’r byd . Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun , fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd . Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig , eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt : Fel y byddont oll yn un ; megis yr wyt ti , y Tad , ynof fi , a minnau ynot ti ; fel y byddont hwythau un ynom ni : fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i . A’r gogoniant a roddaist i mi , a roddais iddynt hwy : fel y byddont un , megis yr ydym ni yn un : Myfi ynddynt hwy , a thithau ynof fi ; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un , ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i , a charu ohonot hwynt , megis y ceraist fi . Y Tad , y rhai a roddaist i mi , yr wyf yn ewyllysio , lle yr wyf fi , fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi ; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi : oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd . Y Tad cyfiawn , nid adnabu’r byd dydi : eithr mi a’th adnabûm , a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i . Ac mi a hysbysais iddynt dy enw , ac a’i hysbysaf : fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi , a minnau ynddynt hwy . Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn , efe a aeth allan , efe a’i ddisgyblion , dros afon Cedron , lle yr oedd gardd , i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion . A Jwdas hefyd , yr hwn a’i bradychodd ef , a adwaenai’r lle : oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno . Jwdas gan hynny , wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid , a ddaeth yno â lanternau , a lampau , ac arfau . Yr Iesu gan hynny , yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno , a aeth allan , ac a ddywedodd wrthynt , Pwy yr ydych yn ei geisio ? Hwy a atebasant iddo , Iesu o Nasareth . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Myfi yw . A Jwdas , yr hwn a’i bradychodd ef , oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt . Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt , Myfi yw , hwy a aethant yn wysg eu cefnau , ac a syrthiasant i lawr . Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn , Pwy yr ydych yn ei geisio ? A hwy a ddywedasant , Iesu o Nasareth . Yr Iesu a atebodd , Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw : am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio , gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith : Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe , O’r rhai a roddaist i mi , ni chollais i’r un . Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf , a’i tynnodd ef , ac a drawodd was yr archoffeiriad , ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef : ac enw’r gwas oedd Malchus . Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr , Dod dy gleddyf yn y wain : y cwpan a roddes y Tad i mi , onid yfaf ef ? Yna’r fyddin , a’r milwriad , a swyddogion yr Iddewon , a ddaliasant yr Iesu , ac a’i rhwymasant ef , Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf : canys chwegrwn Caiaffas , yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno , ydoedd efe . A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon , mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl . Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu , Simon Pedr , a disgybl arall : a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad , ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad . A Phedr a safodd wrth y drws allan . Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad , a aeth allan , ac a ddywedodd wrth y ddrysores , ac a ddug Pedr i mewn . Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr , Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn ? Dywedodd yntau , Nac wyf . A’r gweision a’r swyddogion , gwedi gwneuthur tân glo , oherwydd ei bod hi’n oer , oeddynt yn sefyll , ac yn ymdwymo : ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll , ac yn ymdwymo . A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion , ac am ei athrawiaeth . Yr Iesu a atebodd iddo , Myfi a leferais yn eglur wrth y byd : yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog , ac yn y deml , lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser ; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim . Paham yr wyt ti yn gofyn i mi ? gofyn i’r rhai a’m clywsant , beth a ddywedais wrthynt : wele , y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i . Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw , a roddes gernod i’r Iesu , gan ddywedyd , Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad ? Yr Iesu a atebodd iddo , Os drwg y dywedais , tystiolaetha o’r drwg ; ac os da , paham yr wyt yn fy nharo i ? Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad . A Simon Pedr oedd yn sefyll , ac yn ymdwymo . Hwythau a ddywedasant wrtho , Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef ? Yntau a wadodd , ac a ddywedodd , Nac wyf . Dywedodd un o weision yr archoffeiriad , ( câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust , ) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd ? Yna Pedr a wadodd drachefn ; ac yn y man y canodd y ceiliog . Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy : a’r bore ydoedd hi ; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy , rhag eu halogi ; eithr fel y gallent fwyta’r pasg . Yna Peilat a aeth allan atynt , ac a ddywedodd , Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn ? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho , Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr , ni thraddodasem ni ef atat ti . Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt , Cymerwch chwi ef , a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi . Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho , Nid cyfreithlon i ni ladd neb : Fel y cyflawnid gair yr Iesu , yr hwn a ddywedasai efe , gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw . Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy , ac a alwodd yr Iesu , ac a ddywedodd wrtho , Ai ti yw Brenin yr Iddewon ? Yr Iesu a atebodd iddo , Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn , ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi ? Peilat a atebodd , Ai Iddew ydwyf fi ? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi . Beth a wnaethost ti ? Yr Iesu a atebodd , Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn . Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth , fy ngweision i a ymdrechent , fel na’m rhoddid i’r Iddewon : ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma . Yna y dywedodd Peilat wrtho , Wrth hynny ai Brenin wyt ti ? Yr Iesu a atebodd , Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi . Er mwyn hyn y’m ganed , ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd , fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd . Pob un a’r sydd o’r gwirionedd , sydd yn gwrando fy lleferydd i . Peilat a ddywedodd wrtho , Beth yw gwirionedd ? Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon , ac a ddywedodd wrthynt , Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef . Eithr y mae gennych chwi ddefod , i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg : a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon ? Yna y llefasant oll drachefn , gan ddywedyd , Nid hwnnw , ond Barabbas . A’r Barabbas hwnnw oedd leidr . Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu , ac a’i fflangellodd ef . A’r milwyr a blethasant goron o ddrain , ac a’i gosodasant ar ei ben ef , ac a roesant wisg o borffor amdano ; Ac a ddywedasant , Henffych well , Brenin yr Iddewon ; ac a roesant iddo gernodiau . Peilat gan hynny a aeth allan drachefn , ac a ddywedodd wrthynt , Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi , fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai . Yna y daeth yr Iesu allan , yn arwain y goron ddrain , a’r wisg borffor . A Pheilat a ddywedodd wrthynt , Wele’r dyn . Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion , pan welsant ef , a lefasant , gan ddywedyd , Croeshoelia , croeshoelia ef . Peilat a ddywedodd wrthynt , Cymerwch chwi ef , a chroeshoeliwch : canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo . Yr Iddewon a atebasant iddo , Y mae gennym ni gyfraith , ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw , am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw . A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw , efe a ofnodd yn fwy ; Ac a aeth drachefn i’r dadleudy , ac a ddywedodd wrth yr Iesu , O ba le yr wyt ti ? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo . Yna Peilat a ddywedodd wrtho , Oni ddywedi di wrthyf fi ? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di , a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd ? Yr Iesu a atebodd , Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi , oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod : am hynny yr hwn a’m traddodes i ti , sydd fwy ei bechod . O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd : ond yr Iddewon a lefasant , gan ddywedyd , Os gollyngi di hwn yn rhydd , nid wyt ti yn garedig i Gesar . Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun yn frenin , y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar . Yna Peilat , pan glybu’r ymadrodd hwn , a ddug allan yr Iesu ; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc , yn y lle a elwir y Palmant , ac yn Hebraeg , Gabbatha . A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi , ac ynghylch y chweched awr : ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon , Wele eich Brenin . Eithr hwy a lefasant , Ymaith ag ef , ymaith ag ef , croeshoelia ef . Peilat a ddywedodd wrthynt , A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi ? A’r archoffeiriaid a atebasant , Nid oes i ni frenin ond Cesar . Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio . A hwy a gymerasant yr Iesu , ac a’i dygasant ymaith . Ac efe gan ddwyn ei groes , a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog , ac a elwir yn Hebraeg , Golgotha : Lle y croeshoeliasant ef , a dau eraill gydag ef , un o bob tu , a’r Iesu yn y canol . A Pheilat a ysgrifennodd deitl , ac a’i dododd ar y groes . A’r ysgrifen oedd , IESU O NASARETH , BRENIN YR IDDEWON . Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon ; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu : ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg , Groeg , a Lladin . Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat , Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon ; eithr dywedyd ohono ef , Brenin yr Iddewon ydwyf fi . Peilat a atebodd , Yr hyn a ysgrifennais , a ysgrifennais . Yna y milwyr , wedi iddynt groeshoelio’r Iesu , a gymerasant ei ddillad ef , ac a wnaethant bedair rhan , i bob milwr ran ; a’i bais ef : a’i bais ef oedd ddiwnïad , wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll . Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd , Na thorrwn hi , ond bwriwn goelbrennau amdani , eiddo pwy fydd hi : fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd , Rhanasant fy nillad yn eu mysg , ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau . A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn . Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu , ei fam ef , a chwaer ei fam ef , Mair gwraig Cleoffas , a Mair Magdalen . Yr Iesu gan hynny , pan welodd ei fam , a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw , a ddywedodd wrth ei fam , O wraig , wele dy fab . Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl , Wele dy fam . Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref . Wedi hynny yr Iesu , yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian , fel y cyflawnid yr ysgrythur , a ddywedodd , Y mae syched arnaf . Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr ; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr , ac a’i rhoddasant ynghylch isop , ac a’i dodasant wrth ei enau ef . Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr , efe a ddywedodd , Gorffennwyd : a chan ogwyddo ei ben , efe a roddes i fyny yr ysbryd . Yr Iddewon gan hynny , fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth , oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl , ( canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw , ) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt , a’u tynnu i lawr . Yna y milwyr a ddaethant , ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf , a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef . Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu , pan welsant ef wedi marw eisoes , ni thorasant ei esgeiriau ef . Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon : ac yn y fan daeth allan waed a dwfr . A’r hwn a’i gwelodd , a dystiolaethodd ; a gwir yw ei dystiolaeth : ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir , fel y credoch chwi . Canys y pethau hyn a wnaethpwyd , fel y cyflawnid yr ysgrythur , Ni thorrir asgwrn ohono . A thrachefn , ysgrythur arall sydd yn dywedyd , Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant . Ac ar ôl hyn , Joseff o Arimathea ( yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu , eithr yn guddiedig , rhag ofn yr Iddewon ) a ddeisyfodd ar Peilat , gael tynnu i lawr gorff yr Iesu : a Pheilat a ganiataodd iddo . Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu . A daeth Nicodemus hefyd , ( yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos , ) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg , tua chan pwys . Yna y cymerasant gorff yr Iesu , ac a’i rhwymasant mewn llieiniau , gydag aroglau , fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu . Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef , yr oedd gardd ; a bedd newydd yn yr ardd , yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed . Ac yno , rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon , am fod y bedd hwnnw yn agos , y rhoddasant yr Iesu . Y dydd cyntaf o’r wythnos , Mair Magdalen a ddaeth y bore , a hi eto’n dywyll , at y bedd ; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd . Yna y rhedodd hi , ac a ddaeth at Simon Pedr , a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu , ac a ddywedodd wrthynt , Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd , ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef . Yna Pedr a aeth allan , a’r disgybl arall , a hwy a ddaethant at y bedd ; Ac a redasant ill dau ynghyd : a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr , ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd . Ac wedi iddo grymu , efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod : er hynny nid aeth efe i mewn . Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef , ac a aeth i mewn i’r bedd , ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod ; A’r napgyn a fuasai am ei ben ef , wedi ei osod , nid gyda’r llieiniau , ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall . Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn , yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd ; ac a welodd , ac a gredodd . Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur , fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw . Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt . Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan , yn wylo : ac fel yr oedd hi yn wylo , hi a ymostyngodd i’r bedd ; Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion , yn eistedd , un wrth ben , ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu . A hwy a ddywedasant wrthi , O wraig , paham yr wyt ti yn wylo ? Hithau a ddywedodd wrthynt , Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith , ac nas gwn pa le y dodasant ef . Ac wedi dywedyd ohoni hyn , hi a droes drach ei chefn , ac a welodd yr Iesu yn sefyll : ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , O wraig , paham yr wyt ti yn wylo ? pwy yr wyt ti yn ei geisio ? Hithau , yn tybied mai’r garddwr oedd efe , a ddywedodd wrtho , Syr , os tydi a’i dygaist ef , dywed i mi pa le y dodaist ef , a myfi a’i cymeraf ef ymaith . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Mair . Hithau a droes , ac a ddywedodd wrtho , Rabboni ; yr hyn yw dywedyd , Athro . Yr Iesu a ddywedodd wrthi , Na chyffwrdd â mi ; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad : eithr dos at fy mrodyr , a dywed wrthynt , Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau , a’m Duw i a’ch Duw chwithau . Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion , weled ohoni hi yr Arglwydd , a dywedyd ohono y pethau hyn iddi . Yna , a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos , a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon , daeth yr Iesu , ac a safodd yn y canol , ac a ddywedodd wrthynt , Tangnefedd i chwi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys . Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd . Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn , Tangnefedd i chwi : megis y danfonodd y Tad fi , yr wyf finnau yn eich danfon chwi . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a anadlodd arnynt , ac a ddywedodd wrthynt , Derbyniwch yr Ysbryd Glân . Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau , maddeuir iddynt ; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch , hwy a ataliwyd . Eithr Thomas , un o’r deuddeg , yr hwn a elwir Didymus , nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu . Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho , Ni a welsom yr Arglwydd . Yntau a ddywedodd wrthynt , Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion , a dodi fy mys yn ôl yr hoelion , a dodi fy llaw yn ei ystlys ef , ni chredaf fi . Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn , a Thomas gyda hwynt . Yna yr Iesu a ddaeth , a’r drysau yn gaead , ac a safodd yn y canol , ac a ddywedodd , Tangnefedd i chwi . Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas , Moes yma dy fys , a gwêl fy nwylo ; ac estyn dy law , a dod yn fy ystlys : ac na fydd anghredadun , ond credadun . A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho , Fy Arglwydd , a’m Duw . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Am i ti fy ngweled , Thomas , y credaist : bendigedig yw y rhai ni welsant , ac a gredasant . A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion , y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn . Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd , fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist , Mab Duw ; a chan gredu , y caffoch fywyd yn ei enw ef . Gwedi’r pethau hyn , yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias : ac fel hyn yr ymddangosodd . Yr oedd ynghyd Simon Pedr , a Thomas yr hwn a elwir Didymus , a Nathanael o Gana yng Ngalilea , a meibion Sebedeus , a dau eraill o’i ddisgyblion ef . Dywedodd Simon Pedr wrthynt , Yr wyf fi yn myned i bysgota . Dywedasant wrtho , Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi . A hwy a aethant allan , ac a ddringasant i long yn y man : a’r nos honno ni ddaliasant ddim . A phan ddaeth y bore weithian , safodd yr Iesu ar y lan ; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd . Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt , O blant , a oes gennych ddim bwyd ? Hwythau a atebasant iddo , Nac oes . Yntau a ddywedodd wrthynt , Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong , a chwi a gewch . Hwy a fwriasant gan hynny ; ac ni allent bellach ei thynnu , gan y lliaws pysgod . Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr , Yr Arglwydd yw . Yna Simon Pedr , pan glybu mai yr Arglwydd oedd , a wregysodd ei amwisg , ( canys noeth oedd efe , ) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr . Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong ( oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir , ond megis dau can cufydd , ) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod . A chyn gynted ag y daethant i dir , hwy a welent dân o farwor wedi ei osod , a physgod wedi eu dodi arno , a bara . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron . Simon Pedr a esgynnodd , ac a dynnodd y rhwyd i dir , yn llawn o bysgod mawrion , cant a thri ar ddeg a deugain : ac er bod cymaint , ni thorrodd y rhwyd . Yr Iesu a ddywedodd wrthynt , Deuwch , ciniewch . Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo , Pwy wyt ti ? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd . Yna y daeth yr Iesu , ac a gymerth fara , ac a’i rhoddes iddynt , a’r pysgod yr un modd . Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion , wedi iddo gyfodi o feirw . Yna gwedi iddynt giniawa , yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn ? Dywedodd yntau wrtho , Ydwyf , Arglwydd ; ti a wyddost fy mod yn dy garu di . Dywedodd yntau wrtho , Portha fy ŵyn . Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i ? Dywedodd yntau wrtho , Ydwyf , Arglwydd ; ti a wyddost fy mod yn dy garu di . Dywedodd yntau wrtho , Bugeilia fy nefaid . Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith , Simon mab Jona , a wyt ti yn fy ngharu i ? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith , A wyt ti yn fy ngharu i ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Arglwydd , ti a wyddost bob peth ; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di . Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Portha fy nefaid . Yn wir , yn wir , meddaf i ti , Pan oeddit ieuanc , ti a’th wregysaist dy hun , ac a rodiaist lle y mynnaist : eithr pan elech yn hen , ti a estynni dy ddwylo , ac arall a’th wregysa , ac a’th arwain lle ni fynnit . A hyn a ddywedodd efe , gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ddywedodd wrtho , Canlyn fi . A Phedr a drodd , ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu , yn canlyn , ( yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper , ac a ddywedasai , Pwy , Arglwydd , yw’r hwn a’th fradycha di ? ) Pan welodd Pedr hwn , efe a ddywedodd wrth yr Iesu , Arglwydd , ond beth a wna hwn ? Yr Iesu a ddywedodd wrtho , Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf , beth yw hynny i ti ? canlyn di fyfi . Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr , na fyddai’r disgybl hwnnw farw : ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw ; ond , Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf , beth yw hynny i ti ? Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn , ac a ysgrifennodd y pethau hyn ; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir . Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu , y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un , nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid . Amen . </passage></reply></GetPassage>