<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:44</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:44</urn><passage>Y traethawd cyntaf a wneuthum , O Theoffilus , am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu , Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai : I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef , trwy lawer o arwyddion sicr ; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod , a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw . Ac wedi ymgynnull gyda hwynt , efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem , eithr disgwyl am addewid y Tad , yr hwn , eb efe , a glywsoch gennyf fi . Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr ; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân , cyn nemor o ddyddiau . Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd , hwy a ofynasant iddo , gan ddywedyd , Arglwydd , ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau , y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun . Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch ; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem , ac yn holl Jwdea , a Samaria , ac hyd eithaf y ddaear . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , a hwynt‐hwy yn edrych , efe a ddyrchafwyd i fyny ; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt . Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef , ac efe yn myned i fyny , wele , dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen ; Y rhai hefyd a ddywedasant , Chwi wŷr o Galilea , paham y sefwch yn edrych tua’r nef ? yr Iesu hwn , yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef , a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef . Yna y troesant i Jerwsalem , o’r mynydd a elwir Olewydd , yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem , sef taith diwrnod Saboth . Ac wedi eu dyfod i mewn , hwy a aethant i fyny i oruwchystafell , lle yr oedd Pedr , ac Iago , ac Ioan , ac Andreas , Philip , a Thomas , Bartholomew , a Mathew , Iago mab Alffeus , a Simon Selotes , a Jwdas brawd Iago , yn aros . Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil , gyda’r gwragedd , a Mair mam yr Iesu , a chyda’i frodyr ef . Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion , ac a ddywedodd , ( a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant , ) Ha wŷr frodyr , yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas , yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu : Canys efe a gyfrifwyd gyda ni , ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon . A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd ; ac wedi ymgrogi , a dorrodd yn ei ganol , a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan . A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem , hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy , Aceldama , hynny yw , Maes y gwaed . Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau , Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch , ac na bydded a drigo ynddi : a chymered arall ei esgobaeth ef . Am hynny y mae’n rhaid , o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni , Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni , bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef . A hwy a osodasant ddau gerbron , Joseff , yr hwn a enwid Barsabas , ac a gyfenwid Jwstus , a Matheias . A chan weddïo , hwy a ddywedasant , Tydi , Arglwydd , yr hwn a wyddost galonnau pawb , dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist , I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon , a’r apostoliaeth , o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas , i fyned i’w le ei hun . A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt : ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren ; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg . Ac wedi dyfod dydd y Pentecost , yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle . Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef , megis gwynt nerthol yn rhuthro , ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd . Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân , ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt . A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân , ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill , megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd . Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem . Iddewon , gwŷr bucheddol , o bob cenedl dan y nef . Ac wedi myned y gair o hyn , daeth y lliaws ynghyd , ac a drallodwyd , oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun . Synnodd hefyd ar bawb , a rhyfeddu a wnaethant , gan ddywedyd wrth ei gilydd , Wele , onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru ? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun , yn yr hon y’n ganed ni ? Parthiaid , a Mediaid , ac Elamitiaid , a thrigolion Mesopotamia , a Jwdea , a Chapadocia , Pontus , ac Asia , Phrygia , a Phamffylia , yr Aifft , a pharthau Libya , yr hon sydd gerllaw Cyrene , a dieithriaid o Rufeinwyr , Iddewon , a phroselytiaid , Cretiaid , ac Arabiaid , yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw . A synasant oll , ac a ameuasant , gan ddywedyd y naill wrth y llall , Beth a all hyn fod ? Ac eraill , gan watwar , a ddywedasant , Llawn o win melys ydynt . Eithr Pedr , yn sefyll gyda’r un ar ddeg , a gyfododd ei leferydd , ac a ddywedodd wrthynt , O wŷr o Iddewon , a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem , bydded hysbysol hyn i chwi , a chlustymwrandewch â’m geiriau : Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon , fel yr ydych chwi yn tybied ; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi . Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel ; A bydd yn y dyddiau diwethaf , medd Duw , y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd : a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant , a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau , a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion : Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny ; a hwy a broffwydant : A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod , ac arwyddion yn y ddaear isod ; gwaed , a thân , a tharth mwg . Yr haul a droir yn dywyllwch , a’r lloer yn waed , cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod . A bydd , pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd , a fydd cadwedig . Ha wŷr Israel , clywch y geiriau hyn ; Iesu o Nasareth , gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi , trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion , y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi , megis ag y gwyddoch chwithau : Hwn , wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw , a gymerasoch chwi , a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch , ac a laddasoch : Yr hwn a gyfododd Duw , gan ryddhau gofidiau angau : canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo . Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano , Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad ; canys ar fy neheulaw y mae , fel na’m hysgoger . Am hynny y llawenychodd fy nghalon , ac y gorfoleddodd fy nhafod ; ie , a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith : Am na adewi fy enaid yn uffern , ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth . Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd : ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd . Ha wŷr frodyr , y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd , ei farw ef a’i gladdu , ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn . Am hynny , ac efe yn broffwyd , yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw , Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd , y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef : Ac efe yn rhagweled , a lefarodd am atgyfodiad Crist , na adawyd ei enaid ef yn uffern , ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth . Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny ; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion . Am hynny , wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw , ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân , efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed . Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd : ond y mae efe yn dywedyd ei hun , Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd , Eistedd ar fy neheulaw , Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed . Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel , ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist , yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi . Hwythau , wedi clywed hyn , a ddwysbigwyd yn eu calon , ac a ddywedasant wrth Pedr , a’r apostolion eraill , Ha wŷr frodyr , beth a wnawn ni ? A Phedr a ddywedodd wrthynt , Edifarhewch , a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist , er maddeuant pechodau ; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân . Canys i chwi y mae’r addewid , ac i’ch plant , ac i bawb ymhell , cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato . Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe , gan ddywedyd , Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon . Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd ; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau . Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion , ac yn torri bara , ac mewn gweddïau . Ac ofn a ddaeth ar bob enaid : a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion . A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man , a phob peth ganddynt yn gyffredin ; A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da , ac a’u rhanasant i bawb , fel yr oedd yr eisiau ar neb . A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml , ac yn torri bara o dŷ i dŷ , a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon , Gan foli Duw , a chael ffafr gan yr holl bobl . A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig . Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi , sef y nawfed . A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid , yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml , yr hwn a elwid Prydferth , i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml . Yr hwn , pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml , a ddeisyfodd gael elusen . A Phedr yn dal sylw arno , gydag Ioan , a ddywedodd , Edrych arnom ni . Ac efe a ddaliodd sylw arnynt , gan obeithio cael rhywbeth ganddynt . Yna y dywedodd Pedr , Arian ac aur nid oes gennyf ; eithr yr hyn sydd gennyf , hynny yr wyf yn ei roddi i ti : Yn enw Iesu Grist o Nasareth , cyfod a rhodia . A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw , efe a’i cyfododd ef i fyny ; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd . A chan neidio i fyny , efe a safodd , ac a rodiodd , ac a aeth gyda hwynt i’r deml , dan rodio , a neidio , a moli Duw . A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio , ac yn moli Duw . Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod , mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml : a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo . Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan , yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon . A phan welodd Pedr , efe a atebodd i’r bobl , Ha wŷr Israeliaid , beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn ? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni , fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio ? Duw Abraham , ac Isaac , a Jacob , Duw ein tadau ni , a ogoneddodd ei Fab Iesu , yr hwn a draddodasoch chwi , ac a’i gwadasoch gerbron Peilat , pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd . Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn , ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog ; A Thywysog y bywyd a laddasoch , yr hwn a gododd Duw o feirw ; o’r hyn yr ydym ni yn dystion . A’i enw ef , trwy ffydd yn ei enw ef , a nerthodd y dyn yma , a welwch ac a adwaenoch chwi : a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef , a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll . Ac yn awr , frodyr , mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch , megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd . Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi , y dioddefai Crist , a gyflawnodd efe fel hyn . Edifarhewch gan hynny , a dychwelwch , fel y dileer eich pechodau , pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd ; Ac yr anfono efe Iesu Grist , yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi : Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn , hyd amseroedd adferiad pob peth , y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed . Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau , Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr , megis myfi : arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych . A bydd , pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw , a lwyr ddifethir o blith y bobl . A’r holl broffwydi hefyd , o Samuel ac o’r rhai wedi , cynifer ag a lefarasant , a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn . Chwychwi ydych blant y proffwydi , a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni , gan ddywedyd wrth Abraham , Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear . Duw , gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf , gan eich bendithio chwi , trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni . Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl , yr offeiriaid , a blaenor y deml , a’r Sadwceaid , a ddaethant arnynt hwy ; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl , ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw . A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy , ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth : canys yr oedd hi yn awr yn hwyr . Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant : a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil . A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy , a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion , ymgynnull i Jerwsalem , Ac Annas yr archoffeiriad , a Chaiaffas , ac Ioan , ac Alexander , a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad . Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol , hwy a ofynasant , Trwy ba awdurdod , neu ym mha enw , y gwnaethoch chwi hyn ? Yna Pedr , yn gyflawn o’r Ysbryd Glân , a ddywedodd wrthynt , Chwychwi benaethiaid y bobl , a henuriaid Israel , Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf , sef pa wedd yr iachawyd ef ; Bydded hysbys i chwi oll , ac i bawb o bobl Israel , mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth , yr hwn a groeshoeliasoch chwi , yr hwn a gyfododd Duw o feirw , trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi . Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr , yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl . Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall : canys nid oes enw arall dan y nef , wedi ei roddi ymhlith dynion , trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig . A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan , a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt , hwy a ryfeddasant ; a hwy a’u hadwaenent , eu bod hwy gyda’r Iesu . Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt , nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny . Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa , hwy a ymgyngorasant â’i gilydd , Gan ddywedyd , Beth a wnawn ni i’r dynion hyn ? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy , hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem , ac nis gallwn ni ei wadu . Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl , gan fygwth bygythiwn hwy , na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn . A hwy a’u galwasant hwynt , ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim , ac na ddysgent yn enw yr Iesu . Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt , ac a ddywedasant , Ai cyfiawn yw gerbron Duw , wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw , bernwch chwi . Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom . Eithr wedi eu bygwth ymhellach , hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion , heb gael dim i’w cosbi hwynt , oblegid y bobl : canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid . Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed , ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth . A hwythau , wedi eu gollwng ymaith , a ddaethant at yr eiddynt , ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt . Hwythau pan glywsant , o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw , ac a ddywedasant , O Arglwydd , tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef , a’r ddaear , a’r môr , ac oll sydd ynddynt ; Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân , yng ngenau dy was Dafydd , a ddywedaist , Paham y terfysgodd y cenhedloedd , ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer ? Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny , a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd , yn erbyn yr Arglwydd , ac yn erbyn ei Grist ef . Canys mewn gwirionedd , yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu , yr hwn a eneiniaist ti , Herod a Phontius Peilat , gyda’r Cenhedloedd , a phobl Israel , I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur . Ac yn awr , Arglwydd , edrych ar eu bygythion hwy , a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder ; Trwy estyn ohonot dy law i iacháu , ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu . Ac wedi iddynt weddïo , siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo ; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân , a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus . A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon , ac un enaid ; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan , eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin . A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu : a gras mawr oedd arnynt hwy oll . Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy : oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai , a’u gwerthasant , ac a ddygasant werth y pethau a werthasid , Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion : a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno . A Joseff , yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion ( yr hyn o’i gyfieithu yw , Mab diddanwch , ) yn Lefiad , ac yn Gypriad o genedl , A thir ganddo , a’i gwerthodd , ac a ddug yr arian , ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion . Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig , a werthodd dir , Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth , a’i wraig hefyd o’r gyfrinach , ac a ddug ryw gyfran , ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion . Eithr Pedr a ddywedodd , Ananeias , paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân , ac i ddarnguddio peth o werth y tir ? Tra ydoedd yn aros , onid i ti yr oedd yn aros ? ac wedi ei werthu , onid oedd yn dy feddiant di ? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon ? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion , ond wrth Dduw . Ac Ananeias , pan glybu’r geiriau hyn , a syrthiodd i lawr , ac a drengodd . A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn . A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant , ac a’i cymerasant ef , ac a’i dygasant allan , ac a’i claddasant . A bu megis ysbaid tair awr , a’i wraig ef , heb wybod y peth a wnaethid , a ddaeth i mewn . A Phedr a atebodd iddi , Dywed di i mi , Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir ? Hithau a ddywedodd , Ie , er cymaint . A Phedr a ddywedodd wrthi , Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd ? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws , a hwy a’th ddygant dithau allan . Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a drengodd : a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn , a’i cawsant hi yn farw ; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan , hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr . A bu ofn mawr ar yr holl eglwys , ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn . A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl ; ( ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon . Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt : ond y bobl oedd yn eu mawrhau . A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd , lliaws o wŷr a gwragedd hefyd : ) Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd , a’u gosod ar welyau a glythau , fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr , pan ddelai heibio , rai ohonynt . A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem , gan ddwyn rhai cleifion , a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan ; y rhai a iachawyd oll . A’r archoffeiriad a gyfododd , a’r holl rai oedd gydag ef , yr hon yw heresi’r Sadwceaid , ac a lanwyd o genfigen , Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion , ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin . Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar , ac a’u dug hwynt allan , ac a ddywedodd , Ewch , sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon . A phan glywsant , hwy a aethant yn fore i’r deml , ac a athrawiaethasant . Eithr daeth yr archoffeiriad , a’r rhai oedd gydag ef , ac a alwasant ynghyd y cyngor , a holl henuriaid plant yr Israel , ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron . A’r swyddogion , pan ddaethant , ni chawsant hwynt yn y carchar ; eithr hwy a ddychwelasant , ac a fynegasant , Gan ddywedyd , Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf , a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau ; eithr pan agorasom , ni chawsom neb i mewn . A phan glybu’r archoffeiriad , a blaenor y deml , a’r offeiriaid pennaf , yr ymadroddion hyn , amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn . Yna y daeth un , ac a fynegodd iddynt , gan ddywedyd , Wele , y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar , yn sefyll yn y deml , ac yn dysgu y bobl . Yna y blaenor , gyda’r swyddogion , a aeth , ac a’u dug hwy heb drais ; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl , rhag eu llabyddio ; Ac wedi eu dwyn , hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor : a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt , Gan ddywedyd , Oni orchmynasom ni , gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn ? ac wele , chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth , ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn . A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant , Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion . Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu , yr hwn a laddasoch chwi , ac a groeshoeliasoch ar bren . Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw , yn Dywysog , ac yn Iachawdwr , i roddi edifeirwch i Israel , a maddeuant pechodau . A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn , a’r Ysbryd Glân hefyd , yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef . A phan glywsant hwy hynny , hwy a ffromasant , ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt . Eithr rhyw Pharisead a’i enw Gamaliel , doctor o’r gyfraith , parchedig gan yr holl bobl , a gyfododd i fyny yn y cyngor , ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan ; Ac a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr o Israel , edrychwch arnoch eich hunain , pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn . Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny , gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un ; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr , ynghylch pedwar cant : yr hwn a laddwyd , a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd , ac a wnaed yn ddiddim . Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead , yn nyddiau’r dreth ; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl : ac yntau hefyd a ddarfu amdano , a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd . Ac yr awron meddaf i chwi , Ciliwch oddi wrth y dynion hyn , a gadewch iddynt : oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn , neu’r weithred hon , fe a ddiddymir ; Eithr os o Dduw y mae , ni ellwch chwi ei ddiddymu , rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw . A chytuno ag ef a wnaethant . Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt , a’u curo , hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu , ac a’u gollyngasant ymaith . A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen , am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef . A beunydd yn y deml , ac o dŷ i dŷ , ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist . Ac yn y dyddiau hynny , a’r disgyblion yn amlhau , bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid , am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol . Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion , ac a ddywedasant , Nid yw gymesur i ni adael gair Duw , a gwasanaethu byrddau . Am hynny , frodyr , edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair , yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb , y rhai a osodom ar hyn o orchwyl . Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair . A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws : a hwy a etholasant Steffan , gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân , a Philip , a Phrochorus , a Nicanor , a Thimon , a Pharmenas , a Nicolas , proselyt o Antiochia : Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion ; ac wedi iddynt weddïo , hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy . A gair Duw a gynyddodd ; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr , a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd . Eithr Steffan , yn llawn ffydd a nerth , a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl . Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid , a’r Cyreniaid , a’r Alexandriaid , a’r rhai o Cilicia , ac o Asia , gan ymddadlau â Steffan : Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru . Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd , Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw . A hwy a gynyrfasant y bobl , a’r henuriaid , a’r ysgrifenyddion ; a chan ddyfod arno , a’i cipiasant ef , ac a’i dygasant i’r gynghorfa ; Ac a osodasant gau dystion , y rhai a ddywedent , Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn , a’r gyfraith : Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd , y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma , ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni . Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno , hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel . Yna y dywedodd yr archoffeiriad , A ydyw’r pethau hyn felly ? Yntau a ddywedodd , Ha wŷr , frodyr , a thadau , gwrandewch : Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham , pan oedd efe ym Mesopotamia , cyn iddo drigo yn Charran ; Ac a ddywedodd wrtho , Dos allan o’th wlad , ac oddi wrth dy dylwyth , a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti . Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid , ac y preswyliodd yn Charran : ac oddi yno , wedi marw ei dad , efe a’i symudodd ef i’r tir yma , yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon . Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo , naddo led troed ; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu , ac i’w had ar ei ôl , pryd nad oedd plentyn iddo . A Duw a lefarodd fel hyn ; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr , a hwy a’i caethiwant ef , ac a’i drygant , bedwar can mlynedd . Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy , a farnaf fi , medd Duw : ac wedi hynny y deuant allan , ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn . Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad . Felly Abraham a genhedlodd Isaac , ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd : ac Isaac a genhedlodd Jacob ; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch . A’r patrieirch , gan genfigennu , a werthasant Joseff i’r Aifft : ond yr oedd Duw gydag ef , Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau , ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft ; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft , ac ar ei holl dŷ . Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan , a gorthrymder mawr ; a’n tadau ni chawsant luniaeth . Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft , efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf . A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr ; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo . Yna yr anfonodd Joseff , ac a gyrchodd ei dad Jacob , a’i holl genedl , pymtheg enaid a thrigain . Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft , ac a fu farw , efe a’n tadau hefyd . A hwy a symudwyd i Sichem , ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem . A phan nesaodd amser yr addewid , yr hwn a dyngasai Duw i Abraham , y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft , Hyd oni chyfododd brenin arall , yr hwn nid adwaenai mo Joseff . Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni , ac a ddrygodd ein tadau , gan beri iddynt fwrw allan eu plant , fel nad epilient . Ar yr hwn amser y ganwyd Moses ; ac efe oedd dlws i Dduw , ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad . Ac wedi ei fwrw ef allan , merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny , ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun . A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid , ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd . A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed , daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel . A phan welodd efe un yn cael cam , efe a’i hamddiffynnodd ef , ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid , gan daro’r Eifftiwr . Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall , fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef ; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant . A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt , a hwy yn ymrafaelio , ac a’u hanogodd hwynt i heddychu , gan ddywedyd , Ha wŷr , brodyr ydych chwi ; paham y gwnewch gam â’ch gilydd ? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog , a’i cilgwthiodd ef , gan ddywedyd , Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni ? A leddi di fi , y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe ? A Moses a ffodd ar y gair hwn , ac a fu ddieithr yn nhir Midian ; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion . Ac wedi cyflawni deugain mlynedd , yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina , angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth . A Moses , pan welodd , a fu ryfedd ganddo y golwg : a phan nesaodd i ystyried , daeth llef yr Arglwydd ato , gan ddywedyd , Myfi yw Duw dy dadau , Duw Abraham , a Duw Isaac , a Duw Jacob . A Moses , wedi myned yn ddychrynedig , ni feiddiai ystyried . Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho , Datod dy esgidiau oddi am dy draed ; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd . Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft , a mi a glywais eu griddfan , ac a ddisgynnais i’w gwared hwy . Ac yn awr tyred , mi a’th anfonaf di i’r Aifft . Y Moses yma , yr hwn a wrthodasant hwy , gan ddywedyd , Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr ? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr , trwy law yr angel , yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth . Hwn a’u harweiniodd hwynt allan , gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft , ac yn y môr coch , ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd . Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel , Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi : arno ef y gwrandewch . Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch , gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina , ac â’n tadau ni ; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni . Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo , eithr cilgwthiasant ef , a throesant yn eu calonnau i’r Aifft , Gan ddywedyd wrth Aaron , Gwna i ni dduwiau i’n blaenori : oblegid y Moses yma , yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft , ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo . A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny , ac a offrymasant aberth i’r eilun , ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun . Yna y trodd Duw , ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef ; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi , A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch , chwi tŷ Israel ? A chwi a gymerasoch babell Moloch , a seren eich duw Remffan , lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli : minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon . Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch , fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses , am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai . Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd , a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd , y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau , hyd yn nyddiau Dafydd ; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw , ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob . Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef . Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo ; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd , Y nef yw fy ngorseddfainc , a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed . Pa dŷ a adeiledwch i mi ? medd yr Arglwydd ; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i ? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll ? Chwi rai gwargaled , a dienwaededig o galon ac o glustiau , yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân : megis eich tadau , felly chwithau . Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid ? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn , i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion : Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion , ac nis cadwasoch . A phan glywsant hwy’r pethau hyn , hwy a ffromasant yn eu calonnau , ac a ysgyrnygasant ddannedd arno . Ac efe , yn gyflawn o’r Ysbryd Glân , a edrychodd yn ddyfal tua’r nef ; ac a welodd ogoniant Duw , a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw . Ac efe a ddywedodd , Wele , mi a welaf y nefoedd yn agored , a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw . Yna y gwaeddasant â llef uchel , ac a gaeasant eu clustiau , ac a ruthrasant yn unfryd arno , Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas , ac a’i llabyddiasant : a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul . A hwy a labyddiasant Steffan , ac efe yn galw ar Dduw , ac yn dywedyd , Arglwydd Iesu , derbyn fy ysbryd . Ac efe a ostyngodd ar ei liniau , ac a lefodd â llef uchel , Arglwydd , na ddod y pechod hwn yn eu herbyn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a hunodd . A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef . A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem : a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria , ond yr apostolion . A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu , ac a wnaethant alar mawr amdano ef . Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys , gan fyned i mewn i bob tŷ , a chan lusgo allan wŷr a gwragedd , efe a’u rhoddes yng ngharchar . A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair . Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria , ac a bregethodd Grist iddynt . A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip , wrth glywed ohonynt , a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur . Canys ysbrydion aflan , gan lefain â llef uchel , a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt ; a llawer yn gleifion o’r parlys , ac yn gloffion , a iachawyd . Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno . Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon , oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria , gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr : Ar yr hwn yr oedd pawb , o’r lleiaf hyd y mwyaf , yn gwrando , gan ddywedyd , Mawr allu Duw yw hwn . Ac yr oeddynt â’u coel arno , oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion . Eithr pan gredasant i Philip , yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw , ac i enw Iesu Grist , hwy a fedyddiwyd , yn wŷr ac yn wragedd . A Simon yntau hefyd a gredodd ; ac wedi ei fedyddio , a lynodd wrth Philip : a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid . A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem , dderbyn o Samaria air Duw , hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan : Y rhai wedi eu dyfod i waered , a weddiasant drostynt , ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân . ( Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt ; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu . ) Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt , a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân . A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân , efe a gynigiodd iddynt arian , Gan ddywedyd , Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon , fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo , y derbynio efe yr Ysbryd Glân . Eithr Pedr a ddywedodd wrtho , Bydded dy arian gyda thi i ddistryw , am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian . Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn : canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw . Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn , a gweddïa Dduw , a faddeuir i ti feddylfryd dy galon . Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder , ac mewn rhwymedigaeth anwiredd . A Simon a atebodd ac a ddywedodd , Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd , fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch . Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd , hwy a ddychwelasant i Jerwsalem , ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid . Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip , gan ddywedyd , Cyfod , a dos tua’r deau , i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa , yr hon sydd anghyfannedd . Ac efe a gyfododd , ac a aeth . Ac wele , gŵr o Ethiopia , eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid , yr hwn oedd ar ei holl drysor hi , yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli ; Ac oedd yn dychwelyd , ac yn eistedd yn ei gerbyd , ac yn darllen y proffwyd Eseias . A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip , Dos yn nes , a glŷn wrth y cerbyd yma . A Philip a redodd ato , ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias ; ac a ddywedodd , A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen ? Ac efe a ddywedodd , Pa fodd y gallaf , oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i ? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny , ac eistedd gydag ef . A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen , oedd hwn , Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef ; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud , felly nid agorodd efe ei enau : Yn ei ostyngiad , ei farn ef a dynnwyd ymaith : eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef ? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear . A’r eunuch a atebodd Philip , ac a ddywedodd , Atolwg i ti , am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn ? amdano’i hun , ai am ryw un arall ? A Philip a agorodd ei enau , ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno , ac a bregethodd iddo yr Iesu . Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd , hwy a ddaethant at ryw ddwfr . A’r eunuch a ddywedodd , Wele ddwfr ; beth sydd yn lluddias fy medyddio ? A Philip a ddywedodd , Os wyt ti yn credu â’th holl galon , fe a ellir . Ac efe a atebodd ac a ddywedodd , Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw . Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd : a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr , Philip a’r eunuch ; ac efe a’i bedyddiodd ef . A phan ddaethant i fyny o’r dwfr , Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith , ac ni welodd yr eunuch ef mwyach : ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen . Eithr Philip a gaed yn Asotus : a chan dramwy , efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea . A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd , a aeth at yr archoffeiriad , Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus , at y synagogau ; fel os câi efe neb o’r ffordd hon , na gwŷr na gwragedd , y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem . Ac fel yr oedd efe yn ymdaith , bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus : ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef . Ac efe a syrthiodd ar y ddaear , ac a glybu lais yn dywedyd wrtho , Saul , Saul , paham yr wyt yn fy erlid i ? Yntau a ddywedodd , Pwy wyt ti , Arglwydd ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Myfi yw Iesu , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid : caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau . Yntau gan grynu , ac â braw arno , a ddywedodd , Arglwydd , beth a fynni di i mi ei wneuthur ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos i’r ddinas , ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur . A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud , gan glywed y llais , ac heb weled neb . A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear ; a phan agorwyd ei lygaid , ni welai efe neb : eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law , ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus . Ac efe a fu dridiau heb weled , ac ni wnaeth na bwyta nac yfed . Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus , a’i enw Ananeias : a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth , Ananeias . Yntau a ddywedodd , Wele fi , Arglwydd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Cyfod , a dos i’r heol a elwir Union , a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul , o Darsus : canys , wele , y mae yn gweddïo ; Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn , ac yn dodi ei law arno , fel y gwelai eilwaith . Yna yr atebodd Ananeias , O Arglwydd , mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn , faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem . Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid , i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Dos ymaith : canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi , i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd , a brenhinoedd , a phlant Israel . Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i . Ac Ananeias a aeth ymaith , ac a aeth i mewn i’r tŷ ; ac wedi dodi ei ddwylo arno , efe a ddywedodd , Y brawd Saul , yr Arglwydd a’m hanfonodd i , ( Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost , ) fel y gwelych drachefn , ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân . Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen : ac efe a gafodd ei olwg yn y man ; ac efe a gyfododd , ac a fedyddiwyd . Ac wedi iddo gymryd bwyd , efe a gryfhaodd . A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau . Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist , mai efe yw Mab Duw . A phawb a’r a’i clybu ef , a synasant , ac a ddywedasant , Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn , ac a ddaeth yma er mwyn hyn , fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid ? Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth , ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus , gan gadarnhau mai hwn yw y Crist . Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau , cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef . Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul : a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos , i’w ladd ef . Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos , ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged . A Saul , wedi ei ddyfod i Jerwsalem , a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion : ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef , heb gredu ei fod ef yn ddisgybl . Eithr Barnabas a’i cymerodd ef , ac a’i dug at yr apostolion , ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd , ac ymddiddan ohono ag ef , ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu . Ac yr oedd efe gyda hwynt , yn myned i mewn ac yn myned allan , yn Jerwsalem . A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu , efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid ; a hwy a geisiasant ei ladd ef . A’r brodyr , pan wybuant , a’i dygasant ef i waered i Cesarea , ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus . Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea , a Galilea , a Samaria , a gawsant heddwch , ac a adeiladwyd ; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd , ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân , hwy a amlhawyd . A bu , a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd , iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda . Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas , er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely , yr hwn oedd glaf o’r parlys . A Phedr a ddywedodd wrtho , Aeneas , y mae Iesu Grist yn dy iacháu di : cyfod , a chyweiria dy wely . Ac efe a gyfododd yn ebrwydd . A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef , ac a ymchwelasant at yr Arglwydd . Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha , ( yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas ; ) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau , y rhai a wnaethai hi . A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf , a marw : ac wedi iddynt ei golchi , hwy a’i dodasant hi mewn llofft . Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa , y disgyblion a glywsant fod Pedr yno ; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef , gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy . A Phedr a gyfododd , ac a aeth gyda hwynt . Ac wedi ei ddyfod , hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft : a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo , ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt . Eithr Pedr , wedi eu bwrw hwy i gyd allan , a dodi ei liniau ar lawr , a weddïodd ; a chan droi at y corff , a ddywedodd , Tabitha , cyfod . A hi a agorodd ei llygaid ; a phan welodd hi Pedr , hi a gododd yn ei heistedd . Ac efe a roddodd ei law iddi , ac a’i cyfododd hi i fyny . Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon , efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw . A hysbys fu trwy holl Jopa ; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd . A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon , barcer . Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea , a’i enw Cornelius , canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd ; Gŵr defosiynol , ac yn ofni Duw , ynghyd â’i holl dŷ , ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl , ac yn gweddïo Duw yn wastadol . Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur , ynghylch y nawfed awr o’r dydd , angel Duw yn dyfod i mewn ato , ac yn dywedyd wrtho , Cornelius . Ac wedi iddo graffu arno , a myned yn ofnus , efe a ddywedodd , Beth sydd , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw . Ac yn awr anfon wŷr i Jopa , a gyr am Simon , yr hwn a gyfenwir Pedr : Y mae efe yn lletya gydag un Simon , barcer ; tŷ’r hwn sydd wrth y môr : efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur . A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius , efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ , a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef : Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl , efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa . A thrannoeth , fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio , ac yn nesáu at y ddinas , Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo , ynghylch y chweched awr . Ac fe ddaeth arno newyn mawr , ac efe a chwenychai gael bwyd . Ac a hwynt yn paratoi iddo , fe syrthiodd arno lewyg : Ac efe a welai y nef yn agored , a rhyw lestr yn disgyn arno , fel llenlliain fawr , wedi rhwymo ei phedair congl , a’i gollwng i waered hyd y ddaear : Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear , a gwylltfilod , ac ymlusgiaid , ac ehediaid y nef . A daeth llef ato , Cyfod , Pedr ; lladd , a bwyta . A Phedr a ddywedodd , Nid felly , Arglwydd : canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan . A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith , Y pethau a lanhaodd Duw , na alw di yn gyffredin . A hyn a wnaed dair gwaith : a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef . Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai ; wele , y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius , wedi ymofyn am dŷ Simon , oeddynt yn sefyll wrth y porth . Ac wedi iddynt alw , hwy a ofynasant a oedd Simon , yr hwn a gyfenwid Pedr , yn lletya yno . Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth , dywedodd yr Ysbryd wrtho , Wele dri wŷr yn dy geisio di . Am hynny cyfod , disgyn , a dos gyda hwynt , heb amau dim : oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt . A Phedr , wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato , a ddywedodd , Wele , myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio : beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd ? Hwythau a ddywedasant , Cornelius y canwriad , gŵr cyfiawn , ac yn ofni Duw , ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon , a rybuddiwyd gan angel sanctaidd , i ddanfon amdanat ti i’w dŷ , ac i wrando geiriau gennyt . Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn , ac a’u lletyodd hwy . A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy , a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef . A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea . Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt ; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd . Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn , Cornelius a gyfarfu ag ef , ac a syrthiodd wrth ei draed , ac a’i haddolodd ef . Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny , gan ddywedyd , Cyfod ; dyn wyf finnau hefyd . A than ymddiddan ag ef , efe a ddaeth i mewn , ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud : eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan . O ba herwydd , ie , yn ddi‐nag , y deuthum , pan anfonwyd amdanaf : yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf . A Chornelius a ddywedodd , Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio , ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ : ac wele , safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair , Ac a ddywedodd , Cornelius , gwrandawyd dy weddi di , a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw . Am hynny anfon i Jopa , a galw am Simon , yr hwn a gyfenwir Pedr : y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon , barcer , yng nglan y môr ; yr hwn , pan ddelo atat , a lefara wrthyt . Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat ; a thi a wnaethost yn dda ddyfod . Yr awron , gan hynny , yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw , i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw . Yna yr agorodd Pedr ei enau , ac a ddywedodd , Yr wyf yn deall mewn gwirionedd , nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb : Ond ym mhob cenedl , y neb sydd yn ei ofni ef , ac yn gweithredu cyfiawnder , sydd gymeradwy ganddo ef . Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel , gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist : ( efe yw Arglwydd pawb oll : ) Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea , gan ddechrau o Galilea , wedi’r bedydd a bregethodd Ioan : Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân , ac â nerth ; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni , ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol : oblegid yr oedd Duw gydag ef . A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon , ac yn Jerwsalem ; yr hwn a laddasant , ac a groeshoeliasant ar bren : Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd , ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg ; Nid i’r bobl oll , eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw , sef i ni , y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw . Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl , a thystiolaethu , mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw . I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth , y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef . A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn , syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair . A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu , cynifer ag a ddaethent gyda Phedr , a synasant , am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd . Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau , ac yn mawrygu Duw . Yna yr atebodd Pedr , A all neb luddias dwfr , fel na fedyddier y rhai hyn , y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau ? Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd . Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau . A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea , a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw . A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem , y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef , Gan ddywedyd , Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig , ac a fwyteaist gyda hwynt . Eithr Pedr a ddechreuodd , ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn , gan ddywedyd , Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo ; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth , Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn , wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl ; a hi a ddaeth hyd ataf fi . Ar yr hon pan edrychais , yr ystyriais , ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear , a gwylltfilod , ac ymlusgiaid , ac ehediaid y nef . Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf , Cyfod , Pedr ; lladd , a bwyta . Ac mi a ddywedais , Nid felly , Arglwydd : canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau . Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef , Y pethau a lanhaodd Duw , na alw di yn gyffredin . A hyn a wnaed dair gwaith : a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn . Ac wele , yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo , wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi . A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt , heb amau dim . A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi ; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr . Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ , yn sefyll ac yn dywedyd wrtho , Anfon wŷr i Jopa , a gyr am Simon , a gyfenwir Pedr : Yr hwn a lefara eiriau wrthyt , trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ . Ac a myfi yn dechrau llefaru , syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt , megis arnom ninnau yn y dechreuad . Yna y cofiais air yr Arglwydd , y modd y dywedasai efe , Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr ; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân . Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau , y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist , pwy oeddwn i , i allu lluddias Duw ? A phan glywsant y pethau hyn , distawu a wnaethant , a gogoneddu Duw , gan ddywedyd , Fe roddes Duw , gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd . A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan , a dramwyasant hyd yn Phenice , a Cyprus , ac Antiochia , heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig . A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene , y rhai wedi dyfod i Antiochia , a lefarasant wrth y Groegiaid , gan bregethu yr Arglwydd Iesu . A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt : a nifer mawr a gredodd , ac a drodd at yr Arglwydd . A’r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn : a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia . Yr hwn pan ddaeth , a gweled gras Duw , a fu lawen ganddo , ac a gynghorodd bawb oll , trwy lwyrfryd calon , i lynu wrth yr Arglwydd . Oblegid yr oedd efe yn ŵr da , ac yn llawn o’r Ysbryd Glân , ac o ffydd : a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd . Yna yr aeth Barnabas i Darsus , i geisio Saul . Ac wedi iddo ei gael , efe a’i dug i Antiochia . A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys , a dysgu pobl lawer ; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia . Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia . Ac un ohonynt , a’i enw Agabus , a gyfododd , ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd , y byddai newyn mawr dros yr holl fyd : yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar . Yna y disgyblion , bob un yn ôl ei allu , a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea : Yr hyn beth hefyd a wnaethant , gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul . Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys . Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf . A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny , efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd . ( A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi . ) Yr hwn , wedi ei ddal , a roddes efe yng ngharchar , ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw ; gan ewyllysio , ar ôl y Pasg , ei ddwyn ef allan at y bobl . Felly Pedr a gadwyd yn y carchar : eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef . A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan , y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr , wedi ei rwymo â dwy gadwyn ; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar . Ac wele , angel yr Arglwydd a safodd gerllaw , a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar : ac efe a drawodd ystlys Pedr , ac a’i cyfododd ef , gan ddywedyd , Cyfod yn fuan . A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo . A dywedodd yr angel wrtho , Ymwregysa , a rhwym dy sandalau . Ac felly y gwnaeth efe . Yna y dywedodd , Bwrw dy wisg amdanat , a chanlyn fi . Ac efe a aeth allan , ac a’i canlynodd ef : ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel ; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd . Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth , hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas , yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun : ac wedi eu myned allan , hwy a aethant ar hyd un heol ; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho . A Phedr , wedi dyfod ato ei hun , a ddywedodd , Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel , a’m gwared i allan o law Herod , ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon . Ac wedi iddo gymryd pwyll , efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan , yr hwn oedd â’i gyfenw Marc , lle yr oedd llawer wedi ymgasglu , ac yn gweddïo . Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth , morwyn a ddaeth i ymwrando , a’i henw Rhode . A phan adnabu hi lais Pedr , nid agorodd hi y porth gan lawenydd ; eithr hi a redodd i mewn , ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth . Hwythau a ddywedasant wrthi , Yr wyt ti’n ynfydu . Hithau a daerodd mai felly yr oedd . Eithr hwy a ddywedasant , Ei angel ef ydyw . A Phedr a barhaodd yn curo : ac wedi iddynt agori , hwy a’i gwelsant ef , ac a synasant . Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi , ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar : ac efe a ddywedodd , Mynegwch y pethau hyn i Iago , ac i’r brodyr . Ac efe a ymadawodd , ac a aeth i le arall . Ac wedi ei myned hi yn ddydd , yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr , pa beth a ddaethai o Pedr . Eithr Herod , pan ei ceisiodd ef , ac heb ei gael , a holodd y ceidwaid , ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith . Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea , ac a arhosodd yno . Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon : a hwy a ddaethant yn gytûn ato ; ac wedi ennill Blastus , yr hwn oedd ystafellydd y brenin , hwy a ddeisyfasant dangnefedd ; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin . Ac ar ddydd nodedig , Herod , gwedi gwisgo dillad brenhinol , a eisteddodd ar orseddfainc , ac a areithiodd wrthynt . A’r bobl a roes floedd , Lleferydd Duw , ac nid dyn ydyw . Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef , am na roesai’r gogoniant i Dduw : a chan bryfed yn ei ysu , efe a drengodd . A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd . A Barnabas a Saul , wedi cyflawni eu gweinidogaeth , a ddychwelasant o Jerwsalem , gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd , yr hwn a gyfenwid Marc . Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia , rai proffwydi ac athrawon ; Barnabas , a Simeon , yr hwn a elwid Niger , a Lwcius o Cyrene , a Manaen , brawdmaeth Herod y tetrarch , a Saul . Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd , ac yn ymprydio , dywedodd yr Ysbryd Glân , Neilltuwch i mi Barnabas a Saul , i’r gwaith y gelwais hwynt iddo . Yna , wedi iddynt ymprydio a gweddïo , a dodi eu dwylo arnynt , hwy a’u gollyngasant ymaith . A hwythau , wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân , a ddaethant i Seleucia ; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus . A phan oeddynt yn Salamis , hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon : ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog . Ac wedi iddynt dramwy trwy’r ynys hyd Paffus , hwy a gawsant ryw swynwr , gau broffwyd o Iddew , a’i enw Bar‐iesu ; Yr hwn oedd gyda’r rhaglaw , Sergius Paulus , gŵr call : hwn , wedi galw ato Barnabas a Saul , a ddeisyfodd gael clywed gair Duw . Eithr Elymas y swynwr , ( canys felly y cyfieithir ei enw ef , ) a’u gwrthwynebodd hwynt , gan geisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddi wrth y ffydd . Yna Saul , ( yr hwn hefyd a elwir Paul , ) yn llawn o’r Ysbryd Glân , a edrychodd yn graff arno ef , Ac a ddywedodd , O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder , tydi mab diafol , a gelyn pob cyfiawnder , oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd ? Ac yn awr wele , y mae llaw yr Arglwydd arnat ti , a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser . Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch ; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law . Yna y rhaglaw , pan welodd yr hyn a wnaethid , a gredodd , gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd . A Phaul a’r rhai oedd gydag ef a aethant ymaith o Paffus , ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia : eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt , ac a ddychwelodd i Jerwsalem . Eithr hwynt‐hwy , wedi ymado o Perga , a ddaethant i Antiochia yn Pisidia , ac a aethant i mewn i’w synagog ar y dydd Saboth , ac a eisteddasant . Ac ar ôl darllen y gyfraith a’r proffwydi , llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt , gan ddywedyd , Ha wŷr , frodyr , od oes gennych air o gyngor i’r bobl , traethwch . Yna y cyfododd Paul i fyny , a chan amneidio â’i law am osteg , a ddywedodd , O wŷr o Israel , a’r rhai ydych yn ofni Duw , gwrandewch . Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni , ac a ddyrchafodd y bobl , pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft , ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan . Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch . Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan , â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy . Ac wedi’r pethau hyn , dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain , efe a roddes farnwyr iddynt , hyd Samuel y proffwyd . Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin : ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis , gŵr o lwyth Benjamin , ddeugain mlynedd . Ac wedi ei ddiswyddo ef , y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt ; am yr hwn y tystiolaethodd , ac y dywedodd , Cefais Dafydd mab Jesse , gŵr yn ôl fy nghalon , yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys . O had hwn , Duw , yn ôl ei addewid , a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu : Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn , fedydd edifeirwch i holl bobl Israel . Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa , efe a ddywedodd , Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i ? Nid myfi yw efe : eithr wele , y mae un yn dyfod ar fy ôl i , yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed . Ha wŷr frodyr , plant o genedl Abraham , a’r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw , i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon . Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem , a’u tywysogion , heb adnabod hwn , a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth , gan ei farnu ef , a’u cyflawnasant . Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau , hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef . Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a’r a ysgrifenasid amdano ef , hwy a’i disgynasant ef oddi ar y pren , ac a’i dodasant mewn bedd . Eithr Duw a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw : Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem , y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl . Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau , ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy , gan iddo atgyfodi’r Iesu : Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm , Fy Mab i ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais . Ac am iddo ei gyfodi ef o’r meirw , nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth , y dywedodd fel hyn , Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd . Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall , Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth . Canys Dafydd , wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw , a hunodd , ac a ddodwyd at ei dadau , ac a welodd lygredigaeth : Eithr yr hwn a gyfododd Duw , ni welodd lygredigaeth . Am hynny bydded hysbys i chwi , ha wŷr frodyr , mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau : A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu , oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt . Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi ; Edrychwch , O ddirmygwyr , a rhyfeddwch , a diflennwch : canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau , gwaith ni chredwch ddim , er i neb ei ddangos i chwi . A phan aeth yr Iddewon allan o’r synagog , y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu’r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf . Ac wedi gollwng y gynulleidfa , llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas ; y rhai gan lefaru wrthynt , a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw . A’r Saboth nesaf , yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw . Eithr yr Iddewon , pan welsant y torfeydd , a lanwyd o genfigen , ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul , gan wrthddywedyd a chablu . Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy , ac a ddywedasant , Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf : eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod , ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol , wele , yr ydym yn troi at y Cenhedloedd . Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni , gan ddywedyd , Mi a’th osodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd , i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear . A’r Cenhedloedd pan glywsant , a fu lawen ganddynt , ac a ogoneddasant air yr Arglwydd : a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol , a gredasant . A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy’r holl wlad . A’r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus , a phenaethiaid y ddinas , ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas , ac a’u bwriasant hwy allan o’u terfynau . Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt , ac a ddaethant i Iconium . A’r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd , ac o’r Ysbryd Glân . Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon , a llefaru felly , fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd . Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd , ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr . Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr , gan fod yn hy yn yr Arglwydd , yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras , ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt . Eithr lliaws y ddinas a rannwyd : a rhai oedd gyda’r Iddewon , a rhai gyda’r apostolion . A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon , ynghyd â’u llywodraethwyr , i’w hamherchi hwy , ac i’w llabyddio , Hwythau a ddeallasant hyn , ac a ffoesant i Lystra a Derbe , dinasoedd o Lycaonia , ac i’r wlad oddi amgylch : Ac yno y buant yn efengylu . Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed , yr hwn oedd gloff o groth ei fam , ac ni rodiasai erioed . Hwn a glybu Paul yn llefaru , yr hwn wrth edrych yn graff arno , a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd , A ddywedodd â llef uchel , Saf ar dy draed yn union . Ac efe a neidiodd i fyny , ac a rodiodd . A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul , hwy a godasant eu llef , gan ddywedyd yn iaith Lycaonia , Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom . A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter ; a Phaul yn Mercurius , oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf . Yna offeiriad Jwpiter , yr hwn oedd o flaen eu dinas , a ddug deirw a garlantau i’r pyrth , ac a fynasai gyda’r bobl aberthu . A’r apostolion Barnabas a Phaul , pan glywsant hynny , a rwygasant eu dillad , ac a neidiasant ymhlith y bobl , gan lefain , A dywedyd , Ha wŷr , paham y gwnewch chwi’r pethau hyn ? dynion hefyd ydym ninnau , yn gorfod goddef fel chwithau , ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw , yr hwn a wnaeth nef a daear , a’r môr , a’r holl bethau sydd ynddynt : Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain . Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst , gan wneuthur daioni , a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni , a thymhorau ffrwythlon , a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd . Ac er dywedyd y pethau hyn , braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt . A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium , a hwy a berswadiasant y bobl ; ac wedi llabyddio Paul , a’i llusgasant ef allan o’r ddinas , gan dybied ei fod ef wedi marw . Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch , efe a gyfododd , ac a aeth i’r ddinas : a thrannoeth efe a aeth allan , efe a Barnabas , i Derbe . Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno , ac ennill llawer o ddisgyblion , hwy a ddychwelasant i Lystra , ac Iconium , ac Antiochia , Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion , a’u cynghori i aros yn y ffydd , ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw . Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys , a gweddïo gydag ymprydiau , hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd , yr hwn y credasent ynddo . Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia , hwy a ddaethant i Pamffylia . Ac wedi pregethu’r gair yn Perga , hwy a ddaethant i waered i Attalia : Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia , o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant . Ac wedi iddynt ddyfod , a chynnull yr eglwys ynghyd , adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy , ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd . Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion . Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea , a ddysgasant y brodyr , gan ddywedyd , Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses , ni ellwch fod yn gadwedig . A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn , hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas , a rhai eraill ohonynt , i fyny i Jerwsalem , at yr apostolion a’r henuriaid , ynghylch y cwestiwn yma . Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys , hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria , gan fynegi troad y Cenhedloedd : a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll . Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys , a chan yr apostolion , a chan yr henuriaid ; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt . Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu , gan ddywedyd , Mai rhaid iddynt eu henwaedu , a gorchymyn cadw deddf Moses . A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma . Ac wedi bod ymddadlau mawr , cyfododd Pedr , ac a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr frodyr , chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i , i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl , a chredu . A Duw , adnabyddwr calonnau , a ddug dystiolaeth iddynt , gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân , megis ag i ninnau : Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt , gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd . Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw , i ddodi iau ar warrau’r disgyblion , yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn ? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist , yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig , yr un modd â hwythau . A’r holl liaws a ddistawodd , ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul , yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy . Ac wedi iddynt ddistewi , atebodd Iago , gan ddywedyd , Ha wŷr frodyr , gwrandewch arnaf fi . Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf , i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw . Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi ; megis y mae yn ysgrifenedig , Ar ôl hyn y dychwelaf , ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd , yr hwn sydd wedi syrthio ; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn , ac a’i cyfodaf eilchwyl : Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd , ac i’r holl Genhedloedd , y rhai y gelwir fy enw i arnynt , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn . Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed . Oherwydd paham fy marn i yw , na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw : Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt , ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau , a godineb , ac oddi wrth y peth a dagwyd , ac oddi wrth waed . Canys y mae i Moses ym mhob dinas , er yr hen amseroedd , rai a’i pregethant ef , gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth . Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid , ynghyd â’r holl eglwys , anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain , i Antiochia , gyda Phaul a Barnabas ; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas , a Silas , gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr : A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn ; Yr apostolion , a’r henuriaid , a’r brodyr , at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia , a Syria , a Cilicia , yn anfon annerch : Yn gymaint â chlywed ohonom ni , i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau , gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi , a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch , a chadw’r ddeddf ; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn : Ni a welsom yn dda , wedi i ni ymgynnull yn gytûn , anfon gwŷr etholedig atoch , gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul ; Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist . Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas ; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau . Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân , a chennym ninnau , na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn ; Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod , a gwaed , ac oddi wrth y peth a dagwyd , ac oddi wrth odineb : oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch , da y gwnewch . Byddwch iach . Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith , hwy a ddaethant i Antiochia : ac wedi cynnull y lliaws ynghyd , hwy a roesant y llythyr . Ac wedi iddynt ei ddarllen , llawenychu a wnaethant am y diddanwch . Jwdas hefyd a Silas , a hwythau yn broffwydi , trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr , ac a’u cadarnhasant . Ac wedi iddynt aros yno dros amser , hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch , gan y brodyr , at yr apostolion . Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno . A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia , gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd , gyda llawer eraill hefyd . Ac wedi rhai dyddiau , dywedodd Paul wrth Barnabas , Dychwelwn , ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt , i weled pa fodd y maent hwy . A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan , yr hwn a gyfenwid Marc . Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt , yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia , ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith . A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt , fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd ; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef , ac y mordwyodd i Cyprus : Eithr Paul a ddewisodd Silas , ac a aeth ymaith , wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr . Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia , gan gadarnhau’r eglwysi . Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra . Ac wele , yr oedd yno ryw ddisgybl , a’i enw Timotheus , mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes , ac yn credu ; a’i dad oedd Roegwr : Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra , ac yn Iconium . Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef ; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef , o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny : canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef . Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd , hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem . Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd , ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd . Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia , a gwlad Galatia , a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia ; Pan ddaethant i Mysia , hwy a geisiasant fyned i Bithynia : ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt . Ac wedi myned heibio i Mysia , hwy a aethant i waered i Droas . A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos : Rhyw ŵr o Facedonia a safai , ac a ddeisyfai arno , ac a ddywedai , Tyred drosodd i Facedonia , a chymorth ni . A phan welodd efe y weledigaeth , yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia ; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy . Am hynny , wedi myned ymaith o Droas , ni a gyrchasom yn union i Samothracia , a thrannoeth i Neapolis ; Ac oddi yno i Philipi , yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia , dinas rydd : ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai . Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon , lle y byddid arferol o weddïo ; ac ni a eisteddasom , ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd . A rhyw wraig a’i henw Lydia , un yn gwerthu porffor , o ddinas y Thyatiriaid , yr hon oedd yn addoli Duw , a wrandawodd ; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon , i ddal ar y pethau a leferid gan Paul . Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu , hi a ddymunodd arnom , gan ddywedyd , Os barnasoch fy mod i’n ffyddlon i’r Arglwydd , deuwch i mewn i’m tŷ , ac arhoswch yno . A hi a’n cymhellodd ni . A digwyddodd , a ni’n myned i weddïo , i ryw lances , yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth , gyfarfod â ni ; yr hon oedd yn peri llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth . Hon a ddilynodd Paul a ninnau , ac a lefodd , gan ddywedyd , Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf , y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth . A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer . Eithr Paul yn flin ganddo , a drodd , ac a ddywedodd wrth yr ysbryd , Yr ydwyf yn gorchymyn i ti , yn enw Iesu Grist , fyned allan ohoni . Ac efe a aeth allan yr awr honno . A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith , hwy a ddaliasant Paul a Silas , ac a’u llusgasant hwy i’r farchnadfa , at y llywodraethwyr ; Ac a’u dygasant hwy at y swyddogion , ac a ddywedasant , Y mae’r dynion hyn , y rhai ydynt Iddewon , yn llwyr gythryblio ein dinas ni , Ac yn dysgu defodau , y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na’u gwneuthur , y rhai ydym Rufeinwyr . A’r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy ; a’r swyddogion , gan rwygo eu dillad , a orchmynasant eu curo hwy â gwiail . Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt , hwy a’u taflasant i garchar , gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel ; Yr hwn , wedi derbyn y cyfryw orchymyn , a’u bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn , ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion . Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo , ac yn canu mawl i Dduw : a’r carcharorion a’u clywsant hwy . Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr , hyd oni siglwyd seiliau’r carchar : ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd , a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion . A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar , a chanfod drysau’r carchar yn agored , efe a dynnodd ei gleddyf , ac a amcanodd ei ladd ei hun ; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith . Eithr Paul a lefodd â llef uchel , gan ddywedyd , Na wna i ti dy hun ddim niwed ; canys yr ydym ni yma oll . Ac wedi galw am olau , efe a ruthrodd i mewn , ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas , Ac a’u dug hwynt allan , ac a ddywedodd , O feistriaid , beth sydd raid i mi ei wneuthur , fel y byddwyf gadwedig ? A hwy a ddywedasant , Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist , a chadwedig fyddi , ti a’th deulu . A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd , ac i bawb oedd yn ei dŷ ef . Ac efe a’u cymerth hwy yr awr honno o’r nos , ac a olchodd eu briwiau : ac efe a fedyddiwyd , a’r eiddo oll , yn y man . Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i’w dŷ , efe a osododd fwyd ger eu bron hwy , ac a fu lawen , gan gredu i Dduw , efe a’i holl deulu . A phan aeth hi yn ddydd , y swyddogion a anfonasant y ceisiaid , gan ddywedyd , Gollwng ymaith y dynion hynny . A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul , Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith : yn awr gan hynny cerddwch ymaith ; ewch mewn heddwch . Eithr Paul a ddywedodd wrthynt , Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu , a ninnau’n Rhufeinwyr , hwy a’n bwriasant ni i garchar ; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel ? nid felly ; ond deuant hwy eu hunain , a dygant ni allan . A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion : a hwy a ofnasant , pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt . A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt , ac a’u dygasant allan , ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas . Ac wedi myned allan o’r carchar , hwy a aethant i mewn at Lydia : ac wedi gweled y brodyr , hwy a’u cysurasant , ac a ymadawsant . Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia , hwy a ddaethant i Thesalonica , lle yr oedd synagog i’r Iddewon . A Phaul , yn ôl ei arfer , a aeth i mewn atynt , a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau , Gan egluro a dodi ger eu bronnau , mai rhaid oedd i Grist ddioddef , a chyfodi oddi wrth y meirw ; ac mai hwn yw’r Crist Iesu , yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi . A rhai ohonynt a gredasant , ac a ymwasgasant â Phaul a Silas , ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr , ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig . Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu , gan genfigennu , a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid ; ac wedi casglu tyrfa , hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas , ac a osodasant ar dŷ Jason , ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl . A phan na chawsant hwynt , hwy a lusgasant Jason , a rhai o’r brodyr , at benaethiaid y ddinas , gan lefain , Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd , y rhai hynny a ddaethant yma hefyd ; Y rhai a dderbyniodd Jason : ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar , gan ddywedyd fod brenin arall , sef Iesu . A hwy a gyffroesant y dyrfa , a llywodraethwyr y ddinas hefyd , wrth glywed y pethau hyn . Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill , hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith . A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea : y rhai wedi eu dyfod yno , a aethant i synagog yr Iddewon . Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica , y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl , gan chwilio beunydd yr ysgrythurau , a oedd y pethau hyn felly . Felly llawer ohonynt a gredasant , ac o’r Groegesau parchedig , ac o wŷr , nid ychydig . A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd , hwy a ddaethant yno hefyd , gan gyffroi’r dyrfa . Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith , i fyned megis i’r môr : ond Silas a Thimotheus a arosasant yno . A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen ; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus , ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst , hwy a aethant ymaith . A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen , ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo , wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod . Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon , ac â’r rhai crefyddol , ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef . A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid , ac o’r Stoiciaid , a ymddadleuasant ag ef ; a rhai a ddywedasant , Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd ? a rhai , Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr : am ei fod yn pregethu’r Iesu , a’r atgyfodiad , iddynt . A hwy a’i daliasant ef , ac a’i dygasant i Areopagus , gan ddywedyd , A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon , a draethir gennyt ? Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni : am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod . ( A’r holl Atheniaid , a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno , nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall , ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd . ) Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus , ac a ddywedodd , Ha wŷr Atheniaid , mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol : Canys wrth ddyfod heibio , ac edrych ar eich defosiynau , mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid , I’R DUW NID ADWAENIR . Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli , hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi . Y Duw a wnaeth y byd , a phob peth sydd ynddo , gan ei fod yn Arglwydd nef a daear , nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo : Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef , fel pe bai arno eisiau dim ; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd , ac anadl , a phob peth oll . Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion , i breswylio ar holl wyneb y ddaear , ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig , a therfynau eu preswylfod hwynt ; Fel y ceisient yr Arglwydd , os gallent ymbalfalu amdano ef , a’i gael , er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom : Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw , yn symud , ac yn bod ; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain , Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni . Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw , ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur , neu arian , neu faen , o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn . A Duw , wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon , sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau : Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder , trwy y gŵr a ordeiniodd efe ; gan roddi ffydd i bawb , oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw . A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw , rhai a watwarasant ; a rhai a ddywedasant , Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn . Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt . Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho , ac a gredasant : ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad , a gwraig a’i henw Damaris , ac eraill gyda hwynt . Ar ôl y pethau hyn , Paul a ymadawodd ag Athen , ac a ddaeth i Gorinth . Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw Acwila , un o Pontus o genedl , wedi dyfod yn hwyr o’r Ital , a’i wraig Priscila , ( am orchymyn o Claudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain , ) efe a ddaeth atynt . Ac , oherwydd ei fod o’r un gelfyddyd , efe a arhoes gyda hwynt , ac a weithiodd ; ( canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd . ) Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth , ac a gynghorodd yr Iddewon , a’r Groegiaid . A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia , bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd , ac efe a dystiolaethodd i’r Iddewon , mai Iesu oedd Crist . A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn , a chablu , efe a ysgydwodd ei ddillad , ac a ddywedodd wrthynt , Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain ; glân ydwyf fi : o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd . Ac wedi myned oddi yno , efe a ddaeth i dŷ un a’i enw Jwstus , un oedd yn addoli Duw , tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r synagog . A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd , a’i holl dŷ : a llawer o’r Corinthiaid , wrth wrando , a gredasant , ac a fedyddiwyd . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos , Nac ofna ; eithr llefara , ac na thaw : Canys yr wyf fi gyda thi , ac ni esyd neb arnat , i wneuthur niwed i ti : oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon . Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis , yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt . A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia , cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul , ac a’i dygasant ef i’r frawdle , Gan ddywedyd , Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf . Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau , dywedodd Galio wrth yr Iddewon , Pe buasai gam , neu ddrwg weithred , O Iddewon , wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi : Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd , ac enwau , a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi , edrychwch eich hunain ; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn . Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle . A’r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd , ac a’i curasant o flaen y frawdle . Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny . Eithr Paul , wedi aros eto ddyddiau lawer , a ganodd yn iach i’r brodyr , ac a fordwyodd ymaith i Syria , a chydag ef Priscila ac Acwila ; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea : canys yr oedd arno adduned . Ac efe a ddaeth i Effesus , ac a’u gadawodd hwynt yno ; eithr efe a aeth i’r synagog , ac a ymresymodd â’r Iddewon . A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy , ni chaniataodd efe : Eithr efe a ganodd yn iach iddynt , gan ddywedyd , Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem ; ond os myn Duw , mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn . Ac efe a aeth ymaith o Effesus . Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea , efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys , ac a ddaeth i waered i Antiochia . Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith , gan dramwy trwy wlad Galatia , a Phrygia , mewn trefn , a chadarnhau yr holl ddisgyblion . Eithr rhyw Iddew , a’i enw Apolos , Alexandriad o genedl , gŵr ymadroddus , cadarn yn yr ysgrythurau , a ddaeth i Effesus . Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd : ac efe yn wresog yn yr ysbryd , a lefarodd , ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd , heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig . A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog : a phan glybu Acwila a Phriscila , hwy a’i cymerasant ef atynt , ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach . A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia , y brodyr , gan annog , a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef : yr hwn , wedi ei ddyfod , a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras ; Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol , ar gyhoedd , gan ddangos trwy ysgrythurau , mai Iesu yw Crist . Adigwyddodd , tra fu Apolos yng Nghorinth , wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf , ddyfod ohono ef i Effesus : ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion , Efe a ddywedodd wrthynt , A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch ? A hwy a ddywedasant wrtho , Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân . Ac efe a ddywedodd wrthynt , I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi ? Hwythau a ddywedasant , I fedydd Ioan . A dywedodd Paul , Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch , gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef , sef yng Nghrist Iesu . A phan glywsant hwy hyn , hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu . Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt , yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt ; a hwy a draethasant â thafodau , ac a broffwydasant . A’r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg . Ac efe a aeth i mewn i’r synagog , ac a lefarodd yn hy dros dri mis , gan ymresymu a chynghori’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw . Eithr pan oedd rhai wedi caledu , ac heb gredu , gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws , efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt , ac a neilltuodd y disgyblion ; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus . A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd , hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia , yn Iddewon a Groegiaid , glywed gair yr Arglwydd Iesu . A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul : Hyd oni ddygid at y cleifion , oddi wrth ei gorff ef , napgynau neu foledau ; a’r clefydau a ymadawai â hwynt , a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt . Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd , y rhai oedd gonsurwyr , a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt , enw yr Arglwydd Iesu , gan ddywedyd , Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu , yr hwn y mae Paul yn ei bregethu . Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa , Iddew ac archoffeiriad , y rhai oedd yn gwneuthur hyn . A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd , Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod , a Phaul a adwaen ; eithr pwy ydych chwi ? A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo , a ruthrodd arnynt , ac a’u gorchfygodd , ac a fu drwm yn eu herbyn ; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw , yn noethion ac yn archolledig . A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd , y rhai oedd yn preswylio yn Effesus ; ac ofn a syrthiodd arnynt oll , ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd . A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant , ac a gyffesasant , ac a fynegasant eu gweithredoedd . Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith , a ddygasant eu llyfrau ynghyd , ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb : a hwy a fwriasant eu gwerth hwy , ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian . Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd , ac y cryfhaodd . A phan gyflawnwyd y pethau hyn , arfaethodd Paul yn yr ysbryd , gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia , fyned i Jerwsalem ; gan ddywedyd , Gwedi imi fod yno , rhaid imi weled Rhufain hefyd . Ac wedi anfon i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo , sef Timotheus ac Erastus , efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia . A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno . Canys rhyw un a’i enw Demetrius , gof arian , yn gwneuthur temlau arian i Diana , oedd yn peri elw nid bychan i’r crefftwyr ; Y rhai a alwodd efe , ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd , ac a ddywedodd , Ha wŷr , chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni : Chwi a welwch hefyd ac a glywch , nid yn unig yn Effesus , eithr agos dros Asia oll , ddarfod i’r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith , wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo . Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni , ddyfod y rhan hon i ddirmyg ; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim , a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi , yr hon y mae Asia oll a’r byd yn ei haddoli . A phan glywsant , hwy a lanwyd o ddigofaint ; ac a lefasant , gan ddywedyd , Mawr yw Diana’r Effesiaid . A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl : a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd , gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia , cydymdeithion Paul . A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl , ni adawodd y disgyblion iddo . Rhai hefyd o benaethiaid Asia , y rhai oedd gyfeillion iddo , a yrasant ato , i ddeisyf arno , nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd . A rhai a lefasant un peth , ac eraill beth arall : canys y gynulleidfa oedd yn gymysg ; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd . A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa , a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen . Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg , ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl . Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe , pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr , Mawr yw Diana’r Effesiaid . Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl , efe a ddywedodd , Ha wŷr Effesiaid , pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana , a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter ? A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn , rhaid i chwi fod yn llonydd , ac na wneloch ddim mewn byrbwyll . Canys dygasoch yma y gwŷr hyn , y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau , nac yn cablu eich duwies chwi . Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef , un hawl yn erbyn neb , y mae cyfraith i’w chael , ac y mae rhaglawiaid : rhodded pawb yn erbyn ei gilydd . Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill , mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny . Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw ; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith . Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl , Paul , wedi galw’r disgyblion ato , a’u cofleidio , a ymadawodd i fyned i Facedonia . Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny , a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd , efe a ddaeth i dir Groeg . Ac wedi aros dri mis , a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo , fel yr oedd ar fedr morio i Syria , efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia . A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia , Sopater o Berea ; ac o’r Thesaloniaid , Aristarchus a Secundus ; a Gaius o Derbe , a Timotheus ; ac o’r Asiaid , Tychicus a Troffimus . Y rhai hyn a aethant o’r blaen , ac a arosasant amdanom yn Nhroas . A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi , ar ôl dyddiau’r bara croyw , ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod ; lle yr arosasom saith niwrnod . Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos , wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara , Paul a ymresymodd â hwynt , ar fedr myned ymaith drannoeth ; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos . Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu . A rhyw ŵr ieuanc , a’i enw Eutychus , a eisteddai mewn ffenestr : ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg , tra oedd Paul yn ymresymu yn hir , wedi ei orchfygu gan gwsg , ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft ; ac a gyfodwyd i fyny yn farw . A Phaul a aeth i waered , ac a syrthiodd arno ef , a chan ei gofleidio , a ddywedodd , Na chyffroed arnoch : canys y mae ei enaid ynddo ef . Ac wedi iddo ddyfod i fyny , a thorri bara , a bwyta , ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd ; felly efe a aeth ymaith . A hwy a ddygasant y llanc yn fyw , ac a gysurwyd yn ddirfawr . Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong , ac a hwyliasom i Asos ; ar fedr oddi yno dderbyn Paul : canys felly yr oedd efe wedi ordeinio , ar fedr myned ei hun ar ei draed . A phan gyfarfu efe â ni yn Asos , nyni a’i derbyniasom ef i mewn , ac a ddaethom i Mitylene . A morio a wnaethom oddi yno , a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios ; a thradwy y tiriasom yn Samos , ac a arosasom yn Trogylium ; a’r ail dydd y daethom i Miletus . Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus , fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia . Canys brysio yr oedd , os bai bosibl iddo , i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn . Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus , ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys . A phan ddaethant ato , efe a ddywedodd wrthynt , Chwi a wyddoch , er y dydd cyntaf y deuthum i Asia , pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser ; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd , a llawer o ddagrau , a phrofedigaethau , y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon : Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi , a’ch dysgu ar gyhoedd , ac o dŷ i dŷ ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon , ac i’r Groegiaid hefyd , yr edifeirwch sydd tuag at Dduw , a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist . Ac yn awr , wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem , heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno : Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas , gan ddywedyd , fod rhwymau a blinderau yn fy aros . Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim , ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun , os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd , a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu , i dystiolaethu efengyl gras Duw . Ac yr awron , wele , mi a wn na chewch chwi oll , ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw , weled fy wyneb i mwyach . Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw , fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll : Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw . Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain , ac ar yr holl braidd , ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr , i fugeilio eglwys Dduw , yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed . Canys myfi a wn hyn , y daw , ar ôl fy ymadawiad i , fleiddiau blinion i’ch plith , heb arbed y praidd . Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws , i dynnu disgyblion ar eu hôl . Am hynny gwyliwch , a chofiwch , dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau . Ac yr awron , frodyr , yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw , ac i air ei ras ef , yr hwn a all adeiladu ychwaneg , a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd . Arian , neu aur , neu wisg neb , ni chwenychais : Ie , chwi a wyddoch eich hunain , ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i , ac i’r rhai oedd gyda mi . Mi a ddangosais i chwi bob peth , mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid ; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu , ddywedyd ohono ef , mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn . Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn , efe a roddodd ei liniau i lawr , ac a weddïodd gyda hwynt oll . Ac wylo yn dost a wnaeth pawb : a hwy a syrthiasant ar wddf Paul , ac a’i cusanasant ef ; Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe , na chaent weled ei wyneb ef mwy . A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong . A digwyddodd , wedi i ni osod allan , ac ymadael â hwynt , ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos , a thrannoeth i Rodes ; ac oddi yno i Patara . A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice , ni a ddringasom iddi , ac a aethom ymaith . Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni , ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy , ac a hwyliasom i Syria , ac a diriasom yn Nhyrus : canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth . Ac wedi i ni gael disgyblion , nyni a arosasom yno saith niwrnod : y rhai a ddywedasant i Paul , trwy yr Ysbryd , nad elai i fyny i Jerwsalem . A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau , ni a ymadawsom , ac a gychwynasom ; a phawb , ynghyd â’r gwragedd a’r plant , a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas : ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth , ni a weddiasom . Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd , ni a ddringasom i’r llong ; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref . Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus , ni a ddaethom i Ptolemais : ac wedi inni gyfarch y brodyr , ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt . A thrannoeth , y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant , ac a ddaethant i Cesarea . Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr , ( yr hwn oedd un o’r saith , ) ni a arosasom gydag ef . Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion , yn proffwydo . Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer , daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus . Ac wedi dyfod atom , a chymryd gwregys Paul , a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed , efe a ddywedodd , Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân ; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem , ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd . A phan glywsom y pethau hyn , nyni , a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd , a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem . Eithr Paul a atebodd , Beth a wnewch chwi yn wylo , ac yn torri fy nghalon i ? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig , ond i farw hefyd yn Jerwsalem , er mwyn enw yr Arglwydd Iesu . A chan na ellid ei berswadio , ni a beidiasom , gan ddywedyd , Ewyllys yr Arglwydd a wneler . Hefyd , ar ôl y dyddiau hynny , ni a gymerasom ein beichiau , ac a aethom i fyny i Jerwsalem . A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni , gan ddwyn un Mnason o Cyprus , hen ddisgybl , gyda’r hwn y lletyem . Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem , y brodyr a’n derbyniasant yn llawen . A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago : a’r holl henuriaid a ddaethant yno . Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt , efe a fynegodd iddynt , bob yn un ac un , bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef . A phan glywsant , hwy a ogoneddasant yr Arglwydd , ac a ddywedasant wrtho , Ti a weli , frawd , pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant ; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf . A hwy a glywsant amdanat ti , dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll , y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd , i ymwrthod â Moses ; ac yn dywedyd , na ddylent hwy enwaedu ar eu plant , na rhodio yn ôl y defodau . Pa beth gan hynny ? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd : canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di . Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt ; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt : Cymer y rhai hyn , a glanhaer di gyda hwynt , a gwna draul arnynt , fel yr eilliont eu pennau : ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti , nad ydynt ddim , ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio , ac yn cadw y ddeddf . Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant , ni a ysgrifenasom , ac a farnasom , na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth ; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod , a gwaed , a rhag peth tagedig , a rhag puteindra . Yna Paul a gymerth y gwŷr ; a thrannoeth , gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt , efe a aeth i mewn i’r deml ; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad , hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt . A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod , yr Iddewon oeddynt o Asia , pan welsant ef yn y deml , a derfysgasant yr holl bobl , ac a ddodasant ddwylo arno , Gan lefain , Ha wŷr Israeliaid , cynorthwywch . Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl , a’r gyfraith , a’r lle yma : ac ymhellach , y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml , ac a halogodd y lle sanctaidd hwn . Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef , yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml . A chynhyrfwyd y ddinas oll , a’r bobl a redodd ynghyd : ac wedi ymaelyd yn Paul , hwy a’i tynasant ef allan o’r deml : ac yn ebrwydd caewyd y drysau . Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef , daeth y gair at ben‐capten y fyddin , fod Jerwsalem oll mewn terfysg . Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr , a chanwriaid , ac a redodd i waered atynt : hwythau , pan welsant y pen‐capten a’r milwyr , a beidiasant â churo Paul . Yna y daeth y pen‐capten yn nes , ac a’i daliodd ef , ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn ; ac a ymofynnodd pwy oedd efe , a pha beth a wnaethai . Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa : ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl , efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell . A phan oedd efe ar y grisiau , fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr , o achos trais y dyrfa . Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn , gan lefain , Ymaith ag ef . A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell , efe a ddywedodd wrth y pen‐capten , Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt ? Ac efe a ddywedodd , A fedri di Roeg ? Onid tydi yw yr Eifftwr , yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg , ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog ? A Phaul a ddywedodd , Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew , un o Darsus , dinesydd o ddinas nid anenwog , o Cilicia ; ac yr wyf yn deisyf arnat ti , dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl . Ac wedi iddo roi cennad iddo , Paul a safodd ar y grisiau , ac a amneidiodd â llaw ar y bobl . Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr , efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg , gan ddywedyd , Ha wŷr , frodyr , a thadau , gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron . ( A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt , hwy a roesant iddo osteg gwell : ac efe a ddywedodd , ) Gŵr wyf fi yn wir o Iddew , yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia , ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel , ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau , yn dwyn sêl i Dduw , fel yr ydych chwithau oll heddiw . A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau , gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd . Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi , a’r holl henaduriaeth ; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr , ac yr euthum i Ddamascus , ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd , yn rhwym i Jerwsalem , i’w cosbi . Eithr digwyddodd , a myfi yn myned , ac yn nesáu at Ddamascus , ynghylch hanner dydd , yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch . A mi a syrthiais ar y ddaear , ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf , Saul , Saul , paham yr wyt yn fy erlid ? A minnau a atebais , Pwy wyt ti , O Arglwydd ? Yntau a ddywedodd wrthyf , Myfi yw Iesu o Nasareth , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid . Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau , ac a ofnasant ; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf . Ac myfi a ddywedais , Beth a wnaf , O Arglwydd ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Cyfod , a dos i Ddamascus ; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur . A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw , a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw , myfi a ddeuthum i Ddamascus . Ac un Ananeias , gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf , ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno , A ddaeth ataf , ac a safodd gerllaw , ac a ddywedodd wrthyf , Y brawd Saul , cymer dy olwg . Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno . Ac efe a ddywedodd , Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef , ac i weled y Cyfiawn hwnnw , ac i glywed lleferydd ei enau ef . Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn , o’r pethau a welaist ac a glywaist . Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros ? cyfod , bedyddier di , a golch ymaith dy bechodau , gan alw ar enw yr Arglwydd . A darfu , wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem , fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml , i mi syrthio mewn llewyg ; A’i weled ef yn dywedyd wrthyf , Brysia , a dos ar frys allan o Jerwsalem : oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi . A minnau a ddywedais , O Arglwydd , hwy a wyddant fy mod i yn carcharu , ac yn baeddu ym mhob synagog , y rhai a gredent ynot ti : A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di , yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw , ac yn cydsynio i’w ladd ef , ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Dos ymaith : canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd . A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn ; a hwy a godasant eu llef , ac a ddywedasant , Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear : canys nid cymwys ei fod ef yn fyw . Ac fel yr oeddynt yn llefain , ac yn bwrw eu dillad , ac yn taflu llwch i’r awyr , Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell , gan beri ei holi ef trwy fflangellau ; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly . Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau , dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw , Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad , ac heb ei gondemnio hefyd ? A phan glybu’r canwriad , efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten , gan ddywedyd , Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur : canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn . A’r pen‐capten a ddaeth , ac a ddywedodd wrtho , Dywed i mi , ai Rhufeiniad wyt ti ? Ac efe a ddywedodd , Ie . A’r pen‐capten a atebodd , Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon . Eithr Paul a ddywedodd , A minnau a anwyd yn freiniol . Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef : a’r pen‐capten hefyd a ofnodd , pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad , ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef . A thrannoeth , ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon , efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau , ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno ; ac efe a ddug Paul i waered , ac a’i gosododd ger eu bron hwy . A phaul , yn edrych yn graff ar y cyngor , a ddywedodd , Ha wŷr frodyr , mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda , hyd y dydd heddiw . A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl , ei daro ef ar ei enau . Yna y dywedodd Paul wrtho , Duw a’th dery di , bared wedi ei wyngalchu : canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf , a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i ? A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho , A ddifenwi di archoffeiriad Duw ? A dywedodd Paul , Ni wyddwn i , frodyr , mai yr archoffeiriad oedd efe : canys ysgrifenedig yw , Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl . A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid , a’r llall o’r Phariseaid , efe a lefodd yn y cyngor , Ha wŷr frodyr , Pharisead wyf fi , mab i Pharisead : am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , bu ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid : a rhannwyd y lliaws . Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad , nac angel , nac ysbryd : eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o’r ddau . A bu llefain mawr : a’r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny , ac a ymrysonasant , gan ddywedyd , Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn : eithr os ysbryd a lefarodd wrtho , neu angel , nac ymrysonwn â Duw . Ac wedi cyfodi terfysg mawr , y pen‐capten , yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt , a archodd i’r milwyr fyned i waered , a’i gipio ef o’u plith hwynt , a’i ddwyn i’r castell . Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo , ac a ddywedodd , Paul , cymer gysur : canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem , felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd . A phan aeth hi yn ddydd , rhai o’r Iddewon , wedi llunio cyfarfod , a’u rhwymasant eu hunain â diofryd , gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul . Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn . A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid , ac a ddywedasant , Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd , nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul . Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten , fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi , fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef : a ninnau , cyn y delo efe yn agos , ydym barod i’w ladd ef . Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma , efe a aeth i mewn i’r castell , ac a fynegodd i Paul . A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato , ac a ddywedodd , Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten ; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo . Ac efe a’i cymerth ef , ac a’i dug at y pen‐capten ; ac a ddywedodd , Paul y carcharor a’m galwodd i ato , ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti , yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt . A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law , ac a aeth ag ef o’r neilltu , ac a ofynnodd , Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi ? Ac efe a ddywedodd , Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor , fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef . Ond na chytuna di â hwynt ; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt , y rhai a roesant ddiofryd , na bwyta nac yfed , nes ei ladd ef : ac yn awr y maent hwy yn barod , yn disgwyl am addewid gennyt ti . Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith , wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb , ddangos ohono y pethau hyn iddo ef . Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad , efe a ddywedodd , Paratowch ddau cant o filwyr , i fyned hyd yn Cesarea , a deg a thrigain o wŷr meirch , a deucant o ffynwewyr , ar y drydedd awr o’r nos ; A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt , i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw . Ac efe a ysgrifennodd lythyr , yn cynnwys yr ystyriaeth yma : Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix , yn anfon annerch . Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon , ac a fu agos â’i ladd ganddynt ; ac a achubais i , gan ddyfod â llu arnynt , gwedi deall mai Rhufeiniad oedd . A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno , mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt : Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy , heb fod un cwyn arno yn haeddu angau , neu rwymau . A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr , myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti ; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di . Bydd iach . Yna y milwyr , megis y gorchmynasid iddynt , a gymerasant Paul , ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris . A thrannoeth , gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef , hwy a ddychwelasant i’r castell : Y rhai , gwedi dyfod i Cesarea , a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw , a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef . Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr , ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe : a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd ; Mi a’th wrandawaf , eb efe , pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd . Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod . Ac ar ôl pum niwrnod , y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered , a’r henuriaid , ac un Tertwlus , areithiwr ; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul . Ac wedi ei alw ef gerbron , Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef , gan ddywedyd , Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr , a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di , yr ydym ni yn gwbl , ac ym mhob man , yn eu cydnabod , O ardderchocaf Ffelix , gyda phob diolch . Eithr , fel na rwystrwyf di ymhellach , yr ydwyf yn deisyf arnat , o’th hynawsedd , wrando arnom ar fyr eiriau . Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla , ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd , ac yn ben ar sect y Nasareniaid : Yr hwn a amcanodd halogi’r deml : yr hwn hefyd a ddaliasom ni , ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni . Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth , a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni , Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di : gan yr hwn , wrth ei holi , y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno . A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd , gan ddywedyd fod y pethau hyn felly . A Phaul a atebodd , wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd , Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd , yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun . Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem . Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb , nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl , nac yn y synagogau , nac yn y ddinas : Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid . Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti , mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi , felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau ; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi : A chennyf obaith ar Dduw , yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl , y bydd atgyfodiad y meirw , i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion . Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer , i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion , yn wastadol . Ac ar ôl llawer o flynyddoedd , y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl , ac offrymau . Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml , nid gyda thorf na therfysg . Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di , ac achwyn , os oedd ganddynt ddim i’m herbyn . Neu , dyweded y rhai hyn eu hunain , os cawsant ddim camwedd ynof , tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor ; Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith ; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych . Pan glybu Ffelix y pethau hyn , efe a’u hoedodd hwynt , gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno ; ac a ddywedodd , Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered , mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl . Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul , a chael ohono esmwythdra ; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu , nac i ddyfod ato . Ac ar ôl talm o ddyddiau , y daeth Ffelix , gyda’i wraig Drusila , yr hon ydoedd Iddewes , ac a yrrodd am Paul , ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist . Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder , a dirwest , a’r farn a fydd , Ffelix a ddychrynodd , ac a atebodd , Dos ymaith ar hyn o amser ; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas , mi a alwaf amdanat . A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul , er ei ollwng ef yn rhydd : oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach , ac a chwedleuodd ag ef . Ac wedi cyflawni dwy flynedd , y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix . A Ffelix , yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon , a adawodd Paul yn rhwym . Ffestus gan hynny , wedi dyfod i’r dalaith , ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea . Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef , yn erbyn Paul , ac a ymbiliasant ag ef , Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef , fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem , gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd . A Ffestus a atebodd , y cedwid Paul yn Cesarea , ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder . Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg , eb efe , deuant i waered gyda mi , ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn , cyhuddant ef . A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod , efe a aeth i waered i Cesarea ; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd , ac a archodd ddwyn Paul ato . Ac wedi ei ddyfod , yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered , a safasant o’i amgylch , ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul , y rhai nis gallent eu profi . Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun , Ni phechais i ddim , nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon , nac yn erbyn y deml , nac yn erbyn Cesar . Eithr Ffestus , yn chwennych dangos ffafr i’r Iddewon , a atebodd Paul , ac a ddywedodd , A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem , i’th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn ? A Phaul a ddywedodd , O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll , lle y mae yn rhaid fy marnu : ni wneuthum i ddim cam â’r Iddewon , megis y gwyddost ti yn dda . Canys os ydwyf yn gwneuthur cam , ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau , nid wyf yn gwrthod marw : eithr onid oes dim o’r pethau y mae’r rhai hyn yn fy nghyhuddo , ni ddichon neb fy rhoddi iddynt . Apelio yr wyf at Gesar . Yna Ffestus , wedi ymddiddan â’r cyngor , a atebodd , A apeliaist ti at Gesar ? at Gesar y cei di fyned . Ac wedi talm o ddyddiau , Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus . Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau , Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul , gan ddywedyd , Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar : Ynghylch yr hwn , pan oeddwn yn Jerwsalem , yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron , gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef . I’r rhai yr atebais , nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha , nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb , a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn . Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny , heb wneuthur dim oed , trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc , ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron . Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied : Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain , ac ynghylch un Iesu a fuasai farw , yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw . A myfi , yn anhysbys i ymofyn am hyn , a ddywedais , a fynnai efe fyned i Jerwsalem , a’i farnu yno am y pethau hyn . Eithr gwedi i Paul apelio i’w gadw i wybyddiaeth Augustus , mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar . Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus , Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn . Yntau a ddywedodd , Ti a gei ei glywed ef yfory . Trannoeth gan hynny , wedi dyfod Agripa a Bernice , â rhwysg fawr , a myned i mewn i’r orsedd , â’r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas , wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron . A Ffestus a ddywedodd , O frenin Agripa , a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol , chwi a welwch y dyn hwn , oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi , yn Jerwsalem ac yma , gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy . Eithr pan ddeellais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau , ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus , mi a fernais ei ddanfon ef . Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i’w ysgrifennu at fy arglwydd . Oherwydd paham mi a’i dygais ef ger eich bron chwi , ac yn enwedig ger dy fron di , O frenin Agripa ; fel , wedi ei holi ef , y caffwyf ryw beth i’w ysgrifennu . Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor , heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef . Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul , Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan . Yna Paul a estynnodd ei law , ac a’i hamddiffynnodd ei hun . Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd , O frenin Agripa , gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw , am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon : Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon : oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar . Fy muchedd i o’m mebyd , yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem , a ŵyr yr Iddewon oll ; Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau , ( os mynnant dystiolaethu , ) mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead . Ac yn awr , am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw , yr wyf yn sefyll i’m barnu : I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni , heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd , yn gobeithio dyfod . Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf , O frenin Agripa , gan yr Iddewon . Pa beth ? ai anghredadwy y bernir gennych chwi , y cyfyd Duw y meirw ? Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun , fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth . Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem : a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau , wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid ; ac wrth eu difetha , mi a roddais farn yn eu herbyn . Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy , ac a’u cymhellais i gablu ; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn , mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd . Ac yn hyn , a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid , Ar hanner dydd , O frenin , ar y ffordd , y gwelais oleuni o’r nef , mwy na disgleirdeb yr haul , yn disgleirio o’m hamgylch , a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi . Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear , mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf , ac yn dywedyd yn Hebraeg , Saul , Saul , paham yr ydwyt yn fy erlid i ? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau . Ac mi a ddywedais , Pwy wyt ti , Arglwydd ? Ac efe a ddywedodd , Myfi yw Iesu , yr hwn yr wyt ti yn ei erlid . Eithr cyfod , a saf ar dy draed : canys i hyn yr ymddangosais i ti , i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist , ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt ; Gan dy wared di oddi wrth y bobl , a’r Cenhedloedd , at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron , I agoryd eu llygaid , ac i’w troi o dywyllwch i oleuni , ac o feddiant Satan at Dduw ; fel y derbyniont faddeuant pechodau , a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd , trwy’r ffydd sydd ynof fi . Am ba achos , O frenin Agripa , ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol : Eithr mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf , ac yn Jerwsalem , a thros holl wlad Jwdea , ac i’r Cenhedloedd ; ar iddynt edifarhau , a dychwelyd at Dduw , a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch . O achos y pethau hyn yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml , ac a geisiasant fy lladd i â’u dwylo eu hun . Am hynny , wedi i mi gael help gan Dduw , yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn , gan dystiolaethu i fychan a mawr , ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben ; Y dioddefai Crist , ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw , ac y dangosai oleuni i’r bobl , ac i’r Cenhedloedd . Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto , Ffestus a ddywedodd â llef uchel , Paul , yr wyt ti yn ynfydu ; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd . Ac efe a ddywedodd , Nid wyf fi yn ynfydu , O ardderchocaf Ffestus ; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd . Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn , wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy : oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo ; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn . O frenin Agripa , A wyt ti yn credu i’r proffwydi ? Mi a wn dy fod yn credu . Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul , Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion . A Phaul a ddywedodd , Mi a ddymunwn gan Dduw , o fewn ychydig , ac yn gwbl oll , fod nid tydi yn unig , ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw , yn gyfryw ag wyf fi , ond y rhwymau hyn . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , cyfododd y brenin , a’r rhaglaw , a Bernice , a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt : Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu , hwy a lefarasant wrth ei gilydd , gan ddywedyd , Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau , neu rwymau . Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus , Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith , oni buasai iddo apelio at Gesar . A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital , hwy a roesant Paul , a rhyw garcharorion eraill , at ganwriad a’i enw Jwlius , o fyddin Augustus . Ac wedi dringo i long o Adramyttium , ar fedr hwylio i dueddau Asia , ni a aethom allan o’r porthladd ; a chyda ni yr oedd Aristarchus , Macedoniad o Thesalonica . A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon . A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul , ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd . Ac wedi myned oddi yno , ni a hwyliasom dan Cyprus , am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus . Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia , ni a ddaethom i Myra , dinas yn Lycia . Ac yno y canwriad , wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital , a’n gosododd ni ynddi . Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau , a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus , am na adawai’r gwynt i ni , ni a hwyliasom islaw Creta , ar gyfer Salmone . Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi , ni a ddaethom i ryw le a elwir , Y porthladdoedd prydferth , yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo . Ac wedi i dalm o amser fyned heibio , a bod morio weithian yn enbyd , oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian , Paul a gynghorodd , Gan ddywedyd wrthynt , Ha wŷr , yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr , nid yn unig am y llwyth a’r llong , eithr am ein heinioes ni hefyd . Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong , yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul . A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu , y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd , os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice , i aeafu yno ; yr hwn sydd borthladd yn Creta , ar gyfer y deau‐orllewin , a’r gogledd‐orllewin . A phan chwythodd y deheuwynt yn araf , hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl , gan godi hwyliau , a foriasant heibio yn agos i Creta . Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog , yr hwn a elwir Euroclydon . A phan gipiwyd y llong , ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt , ni a ymroesom , ac a ddygwyd gyda’r gwynt . Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda , braidd y gallasom gael y bad : Yr hwn a godasant i fyny , ac a wnaethant gynorthwyon , gan wregysu’r llong oddi dani : a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth , wedi gostwng yr hwyl , a ddygwyd felly . A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl , drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong ; A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan . A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau , a thymestl nid bychan yn pwyso arnom , pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan . Ac wedi bod hir ddirwest , yna y safodd Paul yn eu canol hwy , ac a ddywedodd , Ha wŷr , chwi a ddylasech wrando arnaf fi , a bod heb ymado o Creta , ac ennill y sarhad yma a’r golled . Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus : canys ni bydd colled am einioes un ohonoch , ond am y llong yn unig . Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw , yr hwn a’m piau , a’r hwn yr wyf yn ei addoli , Gan ddywedyd , Nac ofna , Paul ; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar : ac wele , rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi . Am hynny , ha wŷr , cymerwch gysur : canys yr wyf fi yn credu i Dduw , mai felly y bydd , yn ôl y modd y dywedwyd i mi . Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys . Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg , fe a ddigwyddodd , a ni yn morio yn Adria , ynghylch hanner nos , dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad ; Ac wedi iddynt blymio , hwy a’i cawsant yn ugain gwryd : ac wedi myned ychydig pellach , a phlymio drachefn , hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd . Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon , wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw , hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd . Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong , ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr , yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong , Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr , Onid erys y rhai hyn yn y llong , ni ellwch chwi fod yn gadwedig . Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad , ac a adawsant iddo syrthio ymaith . A thra ydoedd hi yn dyddhau , Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth , gan ddywedyd , Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl , ac yn aros ar eich cythlwng , heb gymryd dim . Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth ; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi : canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , efe a gymerodd fara , ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll , ac a’i torrodd , ac a ddechreuodd fwyta . Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol ; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd . Ac yr oeddem yn y llong i gyd , yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau . Ac wedi eu digoni o luniaeth , hwy a ysgafnhasant y llong , gan fwrw’r gwenith allan i’r môr . A phan aeth hi yn ddydd , nid oeddynt yn adnabod y tir : ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi ; i’r hon y cyngorasant , os gallent , wthio’r llong iddi . Ac wedi iddynt godi’r angorau , hwy a ymollyngasant i’r môr , ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw , ac a godasant yr hwyl i’r gwynt , ac a geisiasant y lan . Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod , hwy a wthiasant y llong : a’r pen blaen iddi a lynodd , ac a safodd yn ddiysgog ; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau . A chyngor y milwyr oedd , ladd y carcharorion , rhag i neb ohonynt nofio allan , a dianc ymaith . Ond y canwriad , yn ewyllysio cadw Paul , a rwystrodd iddynt eu hamcan ; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio , ymfwrw yn gyntaf i’r môr , a myned allan i’r tir : Ac i’r lleill , rhai ar ystyllod , ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong . Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol . Ac wedi iddynt ddianc , yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys . A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan : oblegid hwy a gyneuasant dân , ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol , ac oherwydd yr oerfel . Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd , a’u dodi ar y tân , gwiber a ddaeth allan o’r gwres , ac a lynodd wrth ei law ef . A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef , hwy a ddywedasant wrth ei gilydd , Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn , yr hwn , er ei ddianc o’r môr , ni adawodd dialedd iddo fyw . Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân , ac ni oddefodd ddim niwed . Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo , neu syrthio yn ddisymwth yn farw . Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl , a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo , hwy a newidiasant eu meddwl , ac a ddywedasant mai duw oedd efe . Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys , a’i enw Publius , yr hwn a’n derbyniodd ni , ac a’n lletyodd dridiau yn garedig . A digwyddodd , fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif : at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn , a gweddïo , efe a ddododd ei ddwylo arno ef , ac a’i hiachaodd . Felly wedi gwneuthur hyn , y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys , a ddaethant ato , ac a iachawyd : Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas ; a phan oeddem yn ymadael , hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol . Ac wedi tri mis , yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria , yr hon a aeafasai yn yr ynys ; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux . Ac wedi ein dyfod i Syracusa , ni a drigasom yno dridiau . Ac oddi yno , wedi myned oddi amgylch , ni a ddaethom i Regium . Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd , ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli : Lle y cawsom frodyr , ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod : ac felly ni a ddaethom i Rufain . Ac oddi yno , pan glybu’r brodyr amdanom , hwy a ddaethant i’n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum , a’r Tair Tafarn : y rhai pan welodd Paul , efe a ddiolchodd i Dduw , ac a gymerodd gysur . Eithr pan ddaethom i Rufain , y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu ; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun , gyda milwr oedd yn ei gadw ef . A digwyddodd , ar ôl tridiau , alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iddewon . Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd , efe a ddywedodd wrthynt , Ha wŷr frodyr , er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl , na defodau y tadau , eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeinwyr . Y rhai , wedi darfod fy holi , a fynasent fy ngollwng ymaith , am nad oedd dim achos angau ynof . Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn , mi a yrrwyd i apelio at Gesar ; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl . Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi , i’ch gweled , ac i ymddiddan â chwi : canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i â’r gadwyn hon . A hwythau a ddywedasant wrtho , Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di , ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti . Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied : oblegid am y sect hon , y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn . Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo , llawer a ddaeth ato ef i’w lety ; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw , gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu , allan o gyfraith Moses , a’r proffwydi , o’r bore hyd yr hwyr . A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid , a rhai ni chredasant . Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd , hwy a ymadawsant , wedi i Paul ddywedyd un gair , mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni , Gan ddywedyd , Dos at y bobl yma , a dywed , Yn clywed y clywch , ac ni ddeellwch ; ac yn gweled y gwelwch , ac ni chanfyddwch : Canys brasawyd calon y bobl hyn , a thrwm y clywsant â’u clustiau , a’u llygaid a gaeasant ; rhag iddynt weled â’u llygaid , a chlywed â’u clustiau , a deall â’r galon , a dychwelyd , ac i mi eu hiacháu hwynt . Bydded hysbys i chwi gan hynny , anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd ; a hwy a wrandawant . Ac wedi iddo ddywedyd hyn , ymadawodd yr Iddewon , a chanddynt ddadl mawr yn eu plith . A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun , ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato , Gan bregethu teyrnas Dduw , ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist , gyda phob hyfder , yn ddiwahardd . </passage></reply></GetPassage>