<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:45</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:45</urn><passage>Paul , gwasanaethwr Iesu Grist , wedi ei alw i fod yn apostol , ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw , ( Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd , ) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni , yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd ; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu , yn ôl ysbryd sancteiddiad , trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw : Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth , i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd , er mwyn ei enw ef : Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist : At bawb sydd yn Rhufain , yn annwyl gan Dduw , wedi eu galw i fod yn saint : Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yn gyntaf , yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll , oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd . Canys tyst i mi yw Duw , yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef , fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau , Gan ddeisyf a gawn ryw fodd , ryw amser bellach , rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi . Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled , fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol , fel y’ch cadarnhaer : A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi , trwy ffydd ein gilydd , yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau . Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod , frodyr , i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch , ( ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn , ) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd , megis ag yn y Cenhedloedd eraill . Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid , ac i’r barbariaid hefyd ; i’r doethion , ac i’r annoethion hefyd . Felly , hyd y mae ynof fi , parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain . Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist : oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu ; i’r Iddew yn gyntaf , a hefyd i’r Groegwr . Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd ; megis y mae yn ysgrifenedig , Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd . Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion , y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder . Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw , sydd eglur ynddynt hwy : canys Duw a’i heglurodd iddynt . Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd , wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed , a welir yn amlwg , sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod ; hyd onid ydynt yn ddiesgus : Oblegid a hwy yn adnabod Duw , nis gogoneddasant ef megis Duw , ac na buont ddiolchgar iddo ; eithr ofer fuont yn eu rhesymau , a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd . Pan dybient eu bod yn ddoethion , hwy a aethant yn ffyliaid ; Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig , ac ehediaid , ac anifeiliaid pedwarcarnol , ac ymlusgiaid . O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny , yn nhrachwantau eu calonnau , i aflendid , i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain : Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd , ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr , yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol . Amen . Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus : canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian : Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd , gan adael yr arfer naturiol o’r wraig , a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd ; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti , ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid . Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth , Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy , i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd : Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder , godineb , anwiredd , cybydd‐dod , drygioni ; yn llawn cenfigen , llofruddiaeth , cynnen , twyll , drwg anwydau ; Yn hustyngwyr , yn athrodwyr , yn gas ganddynt Dduw , yn drahaus , yn feilchion , yn ffrostwyr , yn ddychmygwyr drygioni , yn anufudd i rieni , Yn anneallus , yn dorwyr amod , yn angharedig , yn anghymodlon , yn anhrugarogion : Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw , fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth , ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn , eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt . Oherwydd paham , diesgus wyt ti , O ddyn , pwy bynnag wyt yn barnu : canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall , yr wyt yn dy gondemnio dy hun : canys ti yr hwn wyt yn barnu , wyt yn gwneuthur yr un pethau . Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd , yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau . Ac a wyt ti’n tybied hyn , O ddyn , yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau , a thithau yn gwneuthur yr un pethau , y dihengi di rhag barn Duw ? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef , a’i ddioddefgarwch , a’i ymaros , heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch ? Eithr yn ôl dy galedrwydd , a’th galon ddiedifeiriol , wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint , a datguddiad cyfiawn farn Duw , Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd : Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da , a geisiant ogoniant , ac anrhydedd , ac anllygredigaeth , bywyd tragwyddol : Eithr i’r rhai sydd gynhennus , ac anufudd i’r gwirionedd , eithr yn ufudd i anghyfiawnder , y bydd llid a digofaint ; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg ; yr Iddew yn gyntaf , a’r Groegwr hefyd : Eithr gogoniant , ac anrhydedd , a thangnefedd , i bob un sydd yn gwneuthur daioni ; i’r Iddew yn gyntaf , ac i’r Groegwr hefyd . Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw . Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf , a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf ; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf , a fernir wrth y ddeddf ; ( Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw , ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir . Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt , wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf , y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt , ydynt ddeddf iddynt eu hunain : Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau , a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu , a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd , neu yn esgusodi ; ) Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion , yn ôl fy efengyl i , trwy Iesu Grist . Wele , Iddew y’th elwir di , ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf , ac yn gorfoleddu yn Nuw ; Ac yn gwybod ei ewyllys ef , ac yn darbod pethau rhagorol , gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf ; Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion , yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch , Yn athro i’r angall , yn ddysgawdwr i’r rhai bach , a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf . Tydi , gan hynny , yr hwn wyt yn addysgu arall , oni’th ddysgi dy hun ? yr hwn wyt yn pregethu , Na ladrater , a ladreti di ? Yr hwn wyt yn dywedyd , Na odineber , a odinebi di ? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau , a gysegrysbeili di ? Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf , trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw ? Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd , megis y mae yn ysgrifenedig . Canys enwaediad yn wir a wna les , os cedwi y ddeddf : eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt , aeth dy enwaediad yn ddienwaediad . Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf , oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad ? Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth , os ceidw y ddeddf , dy farnu di , yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf ? Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew ; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd : Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew ; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd , nid yn y llythyren ; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion , ond o Dduw . Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew ? neu pa fudd sydd o’r enwaediad ? Llawer , ym mhob rhyw fodd : yn gyntaf , oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw . Oblegid beth os anghredodd rhai ? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer ? Na ato Duw : eithr bydded Duw yn eirwir , a phob dyn yn gelwyddog ; megis yr ysgrifennwyd , Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau , ac y gorfyddech pan y’th farner . Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw , pa beth a ddywedwn ? Ai anghyfiawn yw Duw , yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint ? ( yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd ; ) Na ato Duw : canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd ? Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef , paham y’m bernir innau eto megis pechadur ? Ac nid , ( megis y’n ceblir , ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd , ) Gwnawn ddrwg , fel y dêl daioni ? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn . Beth gan hynny ? a ydym ni yn fwy rhagorol ? Nac ydym ddim : canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb , yr Iddewon a’r Groegwyr , dan bechod ; Megis y mae yn ysgrifenedig , Nid oes neb cyfiawn , nac oes un : Nid oes neb yn deall ; nid oes neb yn ceisio Duw . Gŵyrasant oll , aethant i gyd yn anfuddiol ; nid oes un yn gwneuthur daioni , nac oes un . Bedd agored yw eu ceg ; â’u tafodau y gwnaethant ddichell ; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau : Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd : Buan yw eu traed i dywallt gwaed : Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd : A ffordd tangnefedd nid adnabuant : Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid . Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd , mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd : fel y caeer pob genau , ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw . Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef ; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod . Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf , wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi ; Sef cyfiawnder Duw , yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist , i bawb ac ar bawb a gredant : canys nid oes gwahaniaeth : Oblegid pawb a bechasant , ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw ; A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef , trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu : Yr hwn a osododd Duw yn iawn , trwy ffydd yn ei waed ef , i ddangos ei gyfiawnder ef , trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen , trwy ddioddefgarwch Duw ; I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn ; fel y byddai efe yn gyfiawn , ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu . Pa le gan hynny y mae y gorfoledd ? Efe a gaewyd allan . Trwy ba ddeddf ? ai deddf gweithredoedd ? Nage ; eithr trwy ddeddf ffydd . Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn , heb weithredoedd y ddeddf . Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig ? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd ? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd : Gan mai un Duw sydd , yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd , a’r dienwaediad trwy ffydd . Wrth hynny , a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd ? Na ato Duw : eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf . Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael , yn ôl y cnawd ? Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd , y mae iddo orfoledd ; eithr nid gerbron Duw . Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur ? Credodd Abraham i Dduw ; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Eithr i’r neb sydd yn gweithio , ni chyfrifir y gwobr o ras , ond o ddyled . Eithr i’r neb nid yw yn gweithio , ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol , ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder . Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd , gan ddywedyd , Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau , a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau : Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo . A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig , ynteu ar y dienwaediad hefyd ? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder . Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi ? ai pan oedd yn yr enwaediad , ynteu yn y dienwaediad ? Nid yn yr enwaediad , ond yn y dienwaediad . Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad , yn insel cyfiawnder y ffydd , yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad : fel y byddai efe yn dad pawb a gredent , yn y dienwaediad ; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd : Ac yn dad yr enwaediad , nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig , ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni , yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad . Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham , neu i’w had , y byddai efe yn etifedd y byd : eithr trwy gyfiawnder ffydd . Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion , gwnaed ffydd yn ofer , a’r addewid yn ddi‐rym . Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint ; canys lle nid oes deddf , nid oes gamwedd . Am hynny o ffydd y mae , fel y byddai yn ôl gras : fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had ; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf , ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham , yr hwn yw ein tad ni oll , ( Megis y mae yn ysgrifenedig , Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd , ) gerbron y neb y credodd efe iddo , sef Duw , yr hwn sydd yn bywhau’r meirw , ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt , fel pe byddent : Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith , fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer ; yn ôl yr hyn a ddywedasid , Felly y bydd dy had di . Ac efe , yn ddiegwan o ffydd , nid ystyriodd ei gorff ei hun , yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio , ac efe ynghylch can mlwydd oed , na marweidd‐dra bru Sara . Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth ; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd , gan roddi gogoniant i Dduw : Ac yn gwbl sicr ganddo , am yr hyn a addawsai efe , ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd . Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig , ddarfod ei gyfrif iddo ; Ond er ein mwyn ninnau hefyd , i’r rhai y cyfrifir , y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw : Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni , ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni . Am hynny , gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd , y mae gennym heddwch tuag at Dduw , trwy ein Harglwydd Iesu Grist : Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn , yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw . Ac nid felly yn unig , eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau ; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch ; A dioddefgarwch , brofiad ; a phrofiad , obaith : A gobaith ni chywilyddia , am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni , trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni . Canys Crist , pan oeddem ni eto yn weiniaid , mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol . Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn : oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd . Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom ; oblegid , a nyni eto yn bechaduriaid , i Grist farw trosom ni . Mwy ynteu o lawer , a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef , y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef . Canys os pan oeddem yn elynion , y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef ; mwy o lawer , wedi ein heddychu , y’n hachubir trwy ei fywyd ef . Ac nid hynny yn unig , eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod . Am hynny , megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd , a marwolaeth trwy bechod ; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn , yn gymaint â phechu o bawb : Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd : eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf . Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses , ie , arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda , yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod . Eithr nid megis y camwedd , felly y mae’r dawn hefyd . Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer ; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw , a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist , i laweroedd . Ac nid megis y bu trwy un a bechodd , y mae’r dawn : canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad ; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad . Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un ; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras , ac o ddawn cyfiawnder , deyrnasu mewn bywyd trwy un , Iesu Grist . Felly gan hynny , megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad ; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd . Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid ; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn . Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd : eithr lle yr amlhaodd y pechod , y rhagor amlhaodd gras : Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth , felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Beth wrth hynny a ddywedwn ni ? a drigwn ni yn wastad mewn pechod , fel yr amlhao gras ? Na ato Duw . A ninnau wedi meirw i bechod , pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef ? Oni wyddoch chwi , am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu , ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef ? Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth : fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad , felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd . Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef , felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef : Gan wybod hyn , ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef , er mwyn dirymu corff pechod , fel rhag llaw na wasanaethom bechod . Canys y mae’r hwn a fu farw , wedi ei ryddhau oddi wrth bechod . Ac os buom feirw gyda Crist , yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef : Gan wybod nad yw Crist , yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw , yn marw mwyach ; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach . Canys fel y bu efe farw , efe a fu farw unwaith i bechod : ac fel y mae yn byw , byw y mae i Dduw . Felly chwithau hefyd , cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod : eithr yn fyw i Dduw , yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol , i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau . Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod : eithr rhoddwch eich hunain i Dduw , megis rhai o feirw yn fyw ; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw . Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi : oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf , eithr dan ras . Beth wrth hynny ? a bechwn ni , oherwydd nad ydym dan y ddeddf , eithr dan ras ? Na ato Duw . Oni wyddoch chwi , mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo , eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo ; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth , ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder ? Ond i Dduw y bo’r diolch , eich bod chwi gynt yn weision i bechod ; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi . Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod , fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder . Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd , oblegid gwendid eich cnawd chwi . Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd , i anwiredd ; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder , i sancteiddrwydd . Canys pan oeddech yn weision pechod , rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder . Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid ? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth . Ac yr awr hon , wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod , a’ch gwneuthur yn weision i Dduw , y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd , a’r diwedd yn fywyd tragwyddol . Canys cyflog pechod yw marwolaeth ; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Oni wyddoch chwi , frodyr , ( canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd , ) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw ? Canys y wraig y mae iddi ŵr , sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr , tra fyddo efe byw : ond o bydd marw y gŵr , hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr . Ac felly , os a’r gŵr yn fyw , y bydd hi yn eiddo gŵr arall , hi a elwir yn odinebus : eithr os marw fydd ei gŵr hi , y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf ; fel nad yw hi odinebus , er bod yn eiddo gŵr arall . Ac felly chwithau , fy mrodyr , ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist ; fel y byddech eiddo un arall , sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw , fel y dygem ffrwyth i Dduw . Canys pan oeddem yn y cnawd , gwyniau pechodau , y rhai oedd trwy’r ddeddf , oedd yn gweithio yn ein haelodau ni , i ddwyn ffrwyth i farwolaeth . Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf , wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid ; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd , ac nid yn hender y llythyren . Beth wrth hynny a ddywedwn ni ? Ai pechod yw’r ddeddf ? Na ato Duw . Eithr nid adnabûm i bechod , ond wrth y ddeddf : canys nid adnabuaswn i drachwant , oni bai ddywedyd o’r ddeddf , Na thrachwanta . Eithr pechod , wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn , a weithiodd ynof fi bob trachwant . Canys heb y ddeddf marw oedd pechod . Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf : ond pan ddaeth y gorchymyn , yr adfywiodd pechod , a minnau a fûm farw . A’r gorchymyn , yr hwn ydoedd i fywyd , hwnnw a gaed i mi i farwolaeth . Canys pechod , wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn , a’m twyllodd i ; a thrwy hwnnw a’m lladdodd . Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd ; a’r gorchymyn yn sanctaidd , ac yn gyfiawn , ac yn dda . Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda , yn farwolaeth i mi ? Na ato Duw . Eithr pechod , fel yr ymddangosai yn bechod , gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda : fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus . Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol : eithr myfi sydd gnawdol , wedi fy ngwerthu dan bechod . Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur , nid yw fodlon gennyf : canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur ; eithr y peth sydd gas gennyf , hyn yr ydwyf yn ei wneuthur . Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur , yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw . Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny , eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi . Canys mi a wn nad oes ynof fi ( hynny yw , yn fy nghnawd i , ) ddim da yn trigo : oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf ; eithr cwblhau’r hyn sydd dda , nid wyf yn medru arno . Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio ; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio , hynny yr wyf yn ei wneuthur . Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio , nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur , ond y pechod sydd yn trigo ynof fi . Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf , a mi yn ewyllysio gwneuthur da , fod drwg yn bresennol gyda mi . Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw , yn ôl y dyn oddi mewn : Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau , yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl , ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod , yr hon sydd yn fy aelodau . Ys truan o ddyn wyf fi ! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon ? Yr wyf fi yn diolch i Dduw , trwy Iesu Grist ein Harglwydd . Felly gan hynny , yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw ; ond â’r cnawd , cyfraith pechod . Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu , y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd , eithr yn ôl yr Ysbryd . Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth . Canys yr hyn ni allai’r ddeddf , oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd , Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus , ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd : Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni , y rhai ydym yn rhodio , nid yn ôl y cnawd , eithr yn ôl yr Ysbryd . Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd , am bethau’r cnawd y maent yn synio : eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd , am bethau’r Ysbryd . Canys syniad y cnawd , marwolaeth yw ; a syniad yr ysbryd , bywyd a thangnefedd yw : Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw : canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw ; oblegid nis gall chwaith . A’r rhai sydd yn y cnawd , ni allant ryngu bodd Duw . Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd , ond yn yr Ysbryd , od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch . Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo , nid yw hwnnw yn eiddo ef . Ac os yw Crist ynoch , y mae’r corff yn farw , oherwydd pechod ; eithr yr Ysbryd yn fywyd , oherwydd cyfiawnder . Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch ; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi , trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch . Am hynny , frodyr , dyledwyr ydym , nid i’r cnawd , i fyw yn ôl y cnawd . Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd , meirw fyddwch : eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd , byw fyddwch . Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw , y rhai hyn sydd blant i Dduw . Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn ; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad , trwy’r hwn yr ydym yn llefain , Abba , Dad . Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni , ein bod ni yn blant i Dduw : Ac os plant , etifeddion hefyd ; sef etifeddion i Dduw , a chyd‐etifeddion â Crist : os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef , fel y’n cydogonedder hefyd . Oblegid yr ydwyf yn cyfrif , nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn , yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni . Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw . Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd ; nid o’i fodd , eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd : Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd , o gaethiwed llygredigaeth , i ryddid gogoniant plant Duw . Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio , ac yn cydofidio hyd y pryd hwn . Ac nid yn unig y creadur , ond ninnau hefyd , y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd : yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain , gan ddisgwyl y mabwysiad , sef prynedigaeth ein corff . Canys trwy obaith y’n hiachawyd . Eithr y gobaith a welir , nid yw obaith : oblegid y peth y mae un yn ei weled , i ba beth y mae eto yn ei obeithio ? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled , yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano . A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni . Canys ni wyddom ni beth a weddïom , megis y dylem : eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy . A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau , a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd ; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint . Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw ; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef . Oblegid y rhai a ragwybu , a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef ; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer . A’r rhai a ragluniodd efe , y rhai hynny hefyd a alwodd efe ; a’r rhai a alwodd efe , y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe ; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe , y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe . Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn ? Os yw Duw trosom , pwy a all fod i’n herbyn ? Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab , ond a’i traddododd ef trosom ni oll ; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth ; Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw ? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau : Pwy yw’r hwn sydd yn damnio ? Crist yw’r hwn a fu farw , ie , yn hytrach , yr hwn a gyfodwyd hefyd ; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw , yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni . Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist ? ai gorthrymder , neu ing , neu ymlid , neu newyn , neu noethni , neu enbydrwydd , neu gleddyf ? Megis y mae yn ysgrifenedig , Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd ; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa . Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr , trwy’r hwn a’n carodd ni . Canys y mae’n ddiogel gennyf , na all nac angau , nac einioes , nac angylion , na thywysogaethau , na meddiannau , na phethau presennol , na phethau i ddyfod , Nac uchder , na dyfnder , nac un creadur arall , ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist , nid wyf yn dywedyd celwydd , a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân , Fod i mi dristyd mawr , a gofid di‐baid i’m calon . Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr , sef fy nghenedl yn ôl y cnawd : Y rhai sydd Israeliaid ; eiddo y rhai yw’r mabwysiad , a’r gogoniant , a’r cyfamodau , a dodiad y ddeddf , a’r gwasanaeth , a’r addewidion ; Eiddo y rhai yw’r tadau ; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd , yr hwn sydd uwchlaw pawb , yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd . Amen . Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym : canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel . Ac nid ydynt , oblegid eu bod yn had Abraham , i gyd yn blant ; eithr , Yn Isaac y gelwir i ti had . Hynny ydyw , Nid plant y cnawd , y rhai hynny sydd blant i Dduw ; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had . Canys gair yr addewid yw hwn ; Ar yr amser hwn y deuaf , a bydd mab i Sara . Ac nid hyn yn unig ; eithr Rebeca hefyd , wedi iddi feichiogi o un , sef o’n tad Isaac ; ( Canys cyn geni y plant eto , na gwneuthur ohonynt dda na drwg , fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll , nid o weithredoedd , eithr o’r hwn sydd yn galw ; ) Y dywedwyd wrthi , Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf . Megis yr ysgrifennwyd , Jacob a gerais , eithr Esau a gaseais . Beth gan hynny a ddywedwn ni ? A oes anghyfiawnder gyda Duw ? Na ato Duw . Canys y mae yn dywedyd wrth Moses , Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf , ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf . Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae , nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith ; ond o Dduw , yr hwn sydd yn trugarhau . Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo , I hyn yma y’th gyfodais di , fel y dangoswn fy ngallu ynot ti , ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear . Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho , a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu . Ti a ddywedi gan hynny wrthyf , Paham y mae efe eto yn beio ? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef ? Yn hytrach , O ddyn , pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw ? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd , Paham y’m gwnaethost fel hyn ? Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist , i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch , ac arall i amarch ? Beth os Duw , yn ewyllysio dangos ei ddigofaint , a pheri adnabod ei allu , a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint , wedi eu cymhwyso i golledigaeth : Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd , y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant , Sef nyni , y rhai a alwodd efe , nid o’r Iddewon yn unig , eithr hefyd o’r Cenhedloedd ? Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea , Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi , yn bobl i mi ; a’r hon nid yw annwyl , yn annwyl . A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt , Nid fy mhobl i ydych chwi ; yno y gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw . Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel , Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr , gweddill a achubir . Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder : oblegid byr waith a wna’r Arglwydd ar y ddaear . Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen , Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had , megis Sodoma y buasem , a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra . Beth gan hynny a ddywedwn ni ? Bod y Cenhedloedd , y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder , wedi derbyn cyfiawnder , sef y cyfiawnder sydd o ffydd : Ac Israel , yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder , ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder . Paham ? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd , ond megis trwy weithredoedd y ddeddf : canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd ; Megis y mae yn ysgrifenedig , Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd , a chraig rhwystr : a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir . O frodyr , gwir ewyllys fy nghalon , a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel , sydd er iachawdwriaeth . Canys yr wyf fi yn dyst iddynt , fod ganddynt sêl Duw , eithr nid ar ôl gwybodaeth . Canys hwynt‐hwy , heb wybod cyfiawnder Duw , ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain , nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw . Canys Crist yw diwedd y ddeddf , er cyfiawnder i bob un sy’n credu . Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf , Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny , a fydd byw trwyddynt . Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn ; Na ddywed yn dy galon , Pwy a esgyn i’r nef ? ( hynny yw , dwyn Crist i waered oddi uchod : ) Neu , pwy a ddisgyn i’r dyfnder ? ( hynny yw , dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw , ) Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd ? Mae’r gair yn agos atat , yn dy enau , ac yn dy galon : hwn yw gair y ffydd , yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu ; Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu , a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw , cadwedig fyddi . Canys â’r galon y credir i gyfiawnder , ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth . Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd , Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef , ni chywilyddir . Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr : oblegid yr un Arglwydd ar bawb , sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno . Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd , cadwedig fydd . Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo ? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano ? a pha fodd y clywant , heb bregethwr ? A pha fodd y pregethant , onis danfonir hwynt ? megis y mae yn ysgrifenedig , Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd , y rhai sydd yn efengylu pethau daionus ! Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl : canys y mae Eseias yn dywedyd , O Arglwydd , pwy a gredodd i’n hymadrodd ni ? Am hynny ffydd sydd trwy glywed , a chlywed trwy air Duw . Eithr meddaf , Oni chlywsant hwy ? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy , a’u geiriau hyd derfynau y byd . Eithr meddaf , Oni wybu Israel ? Yn gyntaf , y mae Moses yn dywedyd , Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl ; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi . Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau , ac yn dywedyd , Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio ; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf . Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd , Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd . Am hynny meddaf , A wrthododd Duw ei bobl ? Na ato Duw . Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad , o had Abraham , o lwyth Benjamin . Ni wrthododd Duw ei bobl , yr hwn a adnabu efe o’r blaen . Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias ? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel , gan ddywedyd , O Arglwydd , hwy a laddasant dy broffwydi , ac a gloddiasant dy allorau i lawr ; ac myfi a adawyd yn unig , ac y maent yn ceisio fy einioes innau . Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho ? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr , y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal . Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras . Ac os o ras , nid o weithredoedd mwyach : os amgen , nid yw gras yn ras mwyach . Ac os o weithredoedd , nid yw o ras mwyach : os amgen , nid yw gweithred yn weithred mwyach . Beth gan hynny ? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio : eithr yr etholedigaeth a’i cafodd , a’r lleill a galedwyd ; ( Megis y mae yn ysgrifenedig , Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg , llygaid fel na welent , a chlustiau fel na chlywent ; ) hyd y dydd heddiw . Ac y mae Dafydd yn dywedyd , Bydded eu bord hwy yn rhwyd , ac yn fagl , ac yn dramgwydd , ac yn daledigaeth iddynt : Tywyller eu llygaid hwy , fel na welant , a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser . Gan hynny meddaf , A dramgwyddasant hwy fel y cwympent ? Na ato Duw : eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd , i yrru eiddigedd arnynt . Oherwydd paham , os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd , a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd ; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy ? Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd , yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd , yr wyf yn mawrhau fy swydd ; Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun , ac achub rhai ohonynt . Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd , beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw ? Canys os sanctaidd y blaenffrwyth , y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd : ac os sanctaidd y gwreiddyn , y mae’r canghennau hefyd felly . Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith , a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy , ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn , ac o fraster yr olewydden ; Na orfoledda yn erbyn y canghennau . Ac os gorfoleddi , nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn , eithr y gwreiddyn dydi . Ti a ddywedi gan hynny , Torrwyd y canghennau ymaith , fel yr impid fi i mewn . Da ; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith , a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd . Na fydd uchelfryd , eithr ofna . Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol , gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith . Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw : sef i’r rhai a gwympasant , toster ; eithr daioni i ti , os arhosi yn ei ddaioni ef : os amgen , torrir dithau hefyd ymaith . A hwythau , onid arhosant yn anghrediniaeth , a impir i mewn : canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn . Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth , a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden ; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth , eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun ? Canys nid ewyllysiwn , frodyr , eich bod heb wybod y dirgelwch hwn , ( fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun , ) ddyfod dallineb o ran i Israel , hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn . Ac felly holl Israel a fydd cadwedig ; fel y mae yn ysgrifenedig , Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion , ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob . A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi , pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt . Felly o ran yr efengyl , gelynion ydynt o’ch plegid chwi : eithr o ran yr etholedigaeth , caredigion ydynt oblegid y tadau . Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw . Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw , eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn ; Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant , fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi . Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod , fel y trugarhâi wrth bawb . O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw ! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef ! a’i ffyrdd , mor anolrheinadwy ydynt ! Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd ? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef ? Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf , ac fe a delir iddo drachefn ? Canys ohono ef , a thrwyddo ef , ac iddo ef , y mae pob peth . Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd . Amen . Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , er trugareddau Duw , roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw , sanctaidd , cymeradwy gan Dduw ; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi . Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn : eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl ; fel y profoch beth yw daionus , a chymeradwy , a pherffaith ewyllys Duw . Canys yr wyf yn dywedyd , trwy y gras a roddwyd i mi , wrth bob un a’r sydd yn eich plith , na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied ; eithr synied i sobrwydd , fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd . Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff , ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd : Felly ninnau , a ni yn llawer , ydym un corff yng Nghrist , a phob un yn aelodau i’w gilydd . A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni , pa un bynnag ai proffwydoliaeth , proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd ; Ai gweinidogaeth , byddwn ddyfal yn y weinidogaeth ; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu , yn yr athrawiaeth ; Neu yr hwn sydd yn cynghori , yn y cyngor : yr hwn sydd yn cyfrannu , gwnaed mewn symlrwydd ; yr hwn sydd yn llywodraethu , mewn diwydrwydd ; yr hwn sydd yn trugarhau , mewn llawenydd . Bydded cariad yn ddiragrith . Casewch y drwg , a glynwch wrth y da . Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd ; yn rhoddi parch , yn blaenori eich gilydd : Nid yn ddiog mewn diwydrwydd ; yn wresog yn yr ysbryd ; yn gwasanaethu yr Arglwydd : Yn llawen mewn gobaith ; yn ddioddefgar mewn cystudd ; yn dyfalbarhau mewn gweddi : Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint ; ac yn dilyn lletygarwch . Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid : bendithiwch , ac na felltithiwch . Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen , ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo . Byddwch yn unfryd â’ch gilydd : heb roi eich meddwl ar uchel bethau ; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd . Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain . Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg . Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn . Os yw bosibl , hyd y mae ynoch chwi , byddwch heddychlon â phob dyn . Nac ymddielwch , rai annwyl , ond rhoddwch le i ddigofaint : canys y mae yn ysgrifenedig , I mi y mae dial ; myfi a dalaf , medd yr Arglwydd . Am hynny , os dy elyn a newyna , portha ef ; os sycheda , dyro iddo ddiod : canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef . Na orchfyger di gan ddrygioni , eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni . Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel : canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw ; a’r awdurdodau y sydd , gan Dduw y maent wedi eu hordeinio . Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod , sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw : a’r rhai a wrthwynebant , a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain . Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da , eithr i’r rhai drwg . A fynni di nad ofnech yr awdurdod ? gwna’r hyn sydd dda , a thi a gei glod ganddo : Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni . Eithr os gwnei ddrwg , ofna ; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer : oblegid gweinidog Duw yw efe , dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg . Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng , nid yn unig oherwydd llid , eithr oherwydd cydwybod hefyd . Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd : oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy , yn gwylied ar hyn yna . Telwch gan hynny i bawb eu dyledion : teyrnged , i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus ; toll , i’r hwn y mae toll ; ofn , i’r hwn y mae ofn ; parch , i’r hwn y mae parch yn ddyledus . Na fyddwch yn nyled neb o ddim , ond o garu bawb eich gilydd : canys yr hwn sydd yn caru arall , a gyflawnodd y gyfraith . Canys hyn , Na odineba , Na ladd , Na ladrata , Na ddwg gamdystiolaeth , Na thrachwanta ; ac od oes un gorchymyn arall , y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn , Câr dy gymydog fel ti dy hun . Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog : am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad . A hyn , gan wybod yr amser , ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu : canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom . Y nos a gerddodd ymhell , a’r dydd a nesaodd : am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch , a gwisgwn arfau’r goleuni . Rhodiwn yn weddus , megis wrth liw dydd ; nid mewn cyfeddach a meddwdod , nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd , nid mewn cynnen a chenfigen . Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist ; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd , er mwyn cyflawni ei chwantau ef . Yr hwn sydd wan yn y ffydd , derbyniwch atoch , nid i ymrafaelion rhesymau . Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth ; ac y mae arall , yr hwn sydd wan , yn bwyta dail . Yr hwn sydd yn bwyta , na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta ; a’r hwn nid yw yn bwyta , na farned ar yr hwn sydd yn bwyta : canys Duw a’i derbyniodd ef . Pwy wyt ti , yr hwn wyt yn barnu gwas un arall ? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll , neu yn syrthio : ac efe a gynhelir ; canys fe a all Duw ei gynnal ef . Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod ; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch . Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun . Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod , i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried ; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod , i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried . Yr hwn sydd yn bwyta ; i’r Arglwydd y mae yn bwyta ; canys y mae yn diolch i Dduw : a’r hwn sydd heb fwyta , i’r Arglwydd y mae heb fwyta ; ac y mae yn diolch i Dduw . Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun , ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun . Canys pa un bynnag yr ydym ai byw , i’r Arglwydd yr ydym yn byw ; ai marw , i’r Arglwydd yr ydym yn marw : am hynny , pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw , eiddo yr Arglwydd ydym . Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist , ac yr atgyfododd , ac y bu fyw drachefn hefyd , fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd . Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd ? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd ? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist . Canys y mae yn ysgrifenedig , Byw wyf fi , medd yr Arglwydd ; pob glin a blyga i mi , a phob tafod a gyffesa i Dduw . Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw . Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach : ond bernwch hyn yn hytrach , na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd , neu rwystr . Mi a wn , ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu , nad oes dim yn aflan ohono’i hun : ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan , i hwnnw y mae yn aflan . Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd , nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad . Na ddistrywia ef â’th fwyd , dros yr hwn y bu Crist farw . Na chabler gan hynny eich daioni chwi . Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod ; ond cyfiawnder , a thangnefedd , a llawenydd yn yr Ysbryd Glân . Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn , sydd hoff gan Dduw , a chymeradwy gan ddynion . Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch , a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd . O achos bwyd na ddinistria waith Duw . Pob peth yn wir sydd lân ; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd . Da yw na fwytaer cig , ac nad yfer gwin , na dim trwy’r hyn y tramgwydder , neu y rhwystrer , neu y gwanhaer dy frawd . A oes ffydd gennyt ti ? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw . Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda . Eithr yr hwn sydd yn petruso , os bwyty , efe a gondemniwyd , am nad yw yn bwyta o ffydd : a pheth bynnag nid yw o ffydd , pechod yw . A nyni y rhai ydym gryfion , a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid , ac nid rhyngu ein bodd ein hunain . Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth . Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun ; eithr , megis y mae yn ysgrifenedig , Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di , a syrthiasant arnaf fi . Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen , er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt ; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau , y gallem gael gobaith . A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu : Fel y galloch yn unfryd , o un genau , ogoneddu Duw , a Thad ein Harglwydd Iesu Grist . Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd , megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw . Ac yr wyf yn dywedyd , wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad , er mwyn gwirionedd Duw , er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau : Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd ; fel y mae yn ysgrifenedig , Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd , ac y canaf i’th enw . A thrachefn y mae yn dywedyd , Ymlawenhewch , Genhedloedd , gyda’i bobl ef . A thrachefn , Molwch yr Arglwydd , yr holl Genhedloedd ; a chlodforwch ef , yr holl bobloedd . A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd , Fe fydd gwreiddyn Jesse , a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd : ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd . A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu , fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân . Ac yr wyf fi fy hun , fy mrodyr , yn credu amdanoch chwi , eich bod chwithau yn llawn daioni , wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth , ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd . Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch , O frodyr , fel un yn dwyn ar gof i chwi , trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw ; Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd , gan weini i efengyl Duw , fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy , wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân . Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu , o ran y pethau a berthyn i Dduw . Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi , i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred , Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau , gan nerth Ysbryd Duw ; hyd pan o Jerwsalem , ac o amgylch hyd Ilyricum , y llenwais efengyl Crist . Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl , nid lle yr enwid Crist : fel nad adeiladwn ar sail un arall : Eithr megis y mae yn ysgrifenedig , I’r rhai ni fynegwyd amdano , hwynt‐hwy a’i gwelant ef ; a’r rhai ni chlywsant , a ddeallant . Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi . Eithr yr awr hon , gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn , a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi ; Pan elwyf i’r Hispaen , myfi a ddeuaf atoch chwi : canys yr wyf yn gobeithio , wrth fyned heibio , y caf eich gweled , a’m hebrwng gennych yno , os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch . Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem , i weini i’r saint . Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem . Canys rhyngodd bodd iddynt ; a’u dyledwyr hwy ydynt . Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt , hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol . Wedi i mi gan hynny orffen hyn , a selio iddynt y ffrwyth hwn , mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen . Ac mi a wn , pan ddelwyf atoch , y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist . Eithr yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist , ac er cariad yr Ysbryd , ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw ; Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea : ac ar fod fy ngweinidogaeth , yr hon sydd gennyf i Jerwsalem , yn gymeradwy gan y saint ; Fel y delwyf atoch mewn llawenydd , trwy ewyllys Duw , ac y’m cydlonner gyda chwi . A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll . Amen . Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer , yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea : Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd , megis y mae yn addas i saint , a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych : canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer , ac i minnau fy hun hefyd . Anerchwch Priscila ac Acwila , fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu ; Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr : i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch , ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd . Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy . Anerchwch fy annwyl Epenetus , yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist . Anerchwch Mair , yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni . Anerchwch Andronicus a Jwnia , fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion , y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion , y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i . Anerchwch Amplias , fy anwylyd yn yr Arglwydd . Anerchwch Urbanus , ein cyd‐weithiwr yng Nghrist , a Stachys fy anwylyd . Anerchwch Apeles , y profedig yng Nghrist . Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus . Anerchwch Herodion , fy nghâr . Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus , y rhai sydd yn yr Arglwydd . Anerchwch Tryffena a Thryffosa , y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd . Anerchwch yr annwyl Persis , yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd . Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd , a’i fam ef a minnau . Anerchwch Asyncritus , Phlegon , Hermas , Patrobas , Mercurius ; a’r brodyr sydd gyda hwynt . Anerchwch Philogus , a Jwlia , Nereus a’i chwaer , ac Olympas , a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt . Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd . Y mae eglwysi Crist yn eich annerch . Ac yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi ; a chiliwch oddi wrthynt . Canys y rhai sydd gyfryw , nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist , eithr eu bol eu hunain ; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith , yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg . Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb . Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi : eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda , ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg . A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi . Amen . Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr , a Lucius , a Jason , a Sosipater , fy ngheraint , yn eich annerch . Yr wyf fi Tertius , yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn , yn eich annerch yn yr Arglwydd . Y mae Gaius fy lletywr i , a’r holl eglwys , yn eich annerch . Y mae Erastus , goruchwyliwr y ddinas , yn eich annerch , a’r brawd Cwartus . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll . Amen . I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i , a phregethiad Iesu Grist , ( yn ôl datguddiad y dirgelwch , yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd ; Ac yr awron a eglurwyd , a thrwy ysgrythurau’r proffwydi , yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw , a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd , er mwyn ufudd‐dod ffydd : ) I Dduw yr unig ddoeth , y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd . Amen . </passage></reply></GetPassage>