<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:46</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:46</urn><passage>Paul , wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a’r brawd Sosthenes , At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth , at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu , a alwyd yn saint , gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist , ym mhob man , o’r eiddynt hwy a ninnau : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi , am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu ; Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef , mewn pob ymadrodd , a phob gwybodaeth ; Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch : Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn , yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist : Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd , yn ddiargyhoedd , yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist . Ffyddlon yw Duw , trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni . Ac yr wyf yn atolwg i chwi , frodyr , trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist , ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth , ac na byddo ymbleidio yn eich plith ; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl , ac yn yr un farn . Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi , fy mrodyr , gan y rhai sydd o dŷ Chlöe , fod cynhennau yn eich plith chwi . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , bod pob un ohonoch yn dywedyd , Yr ydwyf fi yn eiddo Paul ; minnau yn eiddo Apolos ; minnau yn eiddo Ceffas ; minnau yn eiddo Crist . A rannwyd Crist ? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch ? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi ? Yr ydwyf yn diolch i Dduw , na fedyddiais i neb ohonoch , ond Crispus a Gaius ; Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun . Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas : heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall . Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio , ond i efengylu ; nid mewn doethineb ymadrodd , fel na wnelid croes Crist yn ofer . Canys yr ymadrodd am y groes , i’r rhai colledig , ynfydrwydd yw ; eithr i ni’r rhai cadwedig , nerth Duw ydyw . Canys ysgrifenedig yw , Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion , a deall y rhai deallus a ddileaf . Pa le y mae’r doeth ? pa le mae’r ysgrifennydd ? pa le y mae ymholydd y byd hwn ? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd ? Canys oherwydd yn noethineb Duw , nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw , fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu . Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd , a’r Groegwyr yn ceisio doethineb : Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio , i’r Iddewon yn dramgwydd , ac i’r Groegwyr yn ffolineb ; Ond iddynt hwy y rhai a alwyd , Iddewon a Groegwyr , yn Grist gallu Duw , a doethineb Duw . Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion ; a gwendid Duw yn gryfach na dynion . Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth , frodyr , nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd , nad llawer o rai galluog , nad llawer o rai boneddigion , a alwyd : Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd , fel y gwaradwyddai’r doethion ; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw , fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn ; A phethau distadl y byd , a phethau dirmygus , a ddewisodd Duw , a’r pethau nid ydynt , fel y diddymai’r pethau sydd : Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef . Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu , yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb , ac yn gyfiawnder , ac yn sancteiddrwydd , ac yn brynedigaeth : Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig , Yr hwn sydd yn ymffrostio , ymffrostied yn yr Arglwydd . A myfi , pan ddeuthum atoch , frodyr , a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb , gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw . Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith , ond Iesu Grist , a hwnnw wedi ei groeshoelio . A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid , ac ofn , a dychryn mawr . A’m hymadrodd a’m pregeth i , ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol , ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth : Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion , ond mewn nerth Duw . A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith : eithr nid doethineb y byd hwn , na thywysogion y byd hwn , y rhai sydd yn diflannu . Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch , sef y ddoethineb guddiedig , yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni : Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn : oherwydd pes adwaenasent , ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant . Eithr fel y mae yn ysgrifenedig , Ni welodd llygad , ac ni chlywodd clust , ac ni ddaeth i galon dyn , y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef . Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd : canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth ; ie , dyfnion bethau Duw hefyd . Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn , ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef ? felly hefyd , pethau Duw nid edwyn neb , ond Ysbryd Duw . A nyni a dderbyniasom , nid ysbryd y byd , ond yr Ysbryd sydd o Dduw ; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw . Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd , nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol , ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân ; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol . Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw : canys ffolineb ydynt ganddo ef ; ac nis gall eu gwybod , oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt . Ond yr hwn sydd ysbrydol , sydd yn barnu pob peth ; eithr efe nis bernir gan neb . Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd , yr hwn a’i cyfarwydda ef ? Ond y mae gennym ni feddwl Crist . A myfi , frodyr , ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol , ond megis rhai cnawdol , megis wrth rai bach yng Nghrist . Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed , ac nid bwyd : canys hyd yn hyn nis gallech , ac nis gellwch chwaith eto yr awron , ei dderbyn . Canys cnawdol ydych chwi eto : canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen , a chynnen , ac ymbleidio ; onid ydych yn gnawdol , ac yn rhodio yn ddynol ? Canys tra dywedo un , Myfi ydwyf eiddo Paul ; ac arall , Myfi wyf eiddo Apolos ; onid ydych chwi yn gnawdol ? Pwy gan hynny yw Paul , a phwy Apolos , ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi , ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ? Myfi a blennais , Apolos a ddyfrhaodd ; ond Duw a roddes y cynnydd . Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim , na’r hwn sydd yn dyfrhau ; ond Duw , yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd . Eithr yr hwn sydd yn plannu , a’r hwn sydd yn dyfrhau , un ydynt : a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun , yn ôl ei lafur ei hun . Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni : llafurwaith Duw , adeiladaeth Duw , ydych chwi . Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi , megis pensaer celfydd , myfi a osodais y sylfaen , ac y mae arall yn goruwch adeiladu . Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu . Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod , heblaw’r un a osodwyd , yr hwn yw Iesu Grist . Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn , aur , arian , meini gwerthfawr , coed , gwair , sofl ; Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg : canys y dydd a’i dengys , oblegid trwy dân y datguddir ef ; a’r tân a brawf waith pawb , pa fath ydyw . Os gwaith neb a erys , yr hwn a oruwch adeiladodd ef , efe a dderbyn wobr . Os gwaith neb a losgir , efe a gaiff golled : eithr efe ei hun a fydd cadwedig ; eto felly , megis trwy dân . Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych , a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch ? Os llygra neb deml Dduw , Duw a lygra hwnnw : canys sanctaidd yw teml Duw , yr hon ydych chwi . Na thwylled neb ei hunan . Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn , bydded ffôl , fel y byddo doeth . Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw : oherwydd ysgrifenedig yw , Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra . A thrachefn , Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion , mai ofer ydynt . Am hynny na orfoledded neb mewn dynion : canys pob peth sydd eiddoch chwi : Pa un bynnag ai Paul , ai Apolos , ai Ceffas , ai’r byd , ai bywyd , ai angau , ai pethau presennol , ai pethau i ddyfod ; y mae pob peth yn eiddoch chwi ; A chwithau yn eiddo Crist ; a Crist yn eiddo Duw . Felly cyfrifed dyn nyni , megis gweinidogion i Grist , a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw . Am ben hyn , yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr , gael un yn ffyddlon . Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi , neu gan farn dyn : ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun . Canys ni wn i ddim arnaf fy hun ; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd : eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu . Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser , hyd oni ddelo’r Arglwydd , yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch , ac a eglura fwriadau’r calonnau : ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw . A’r pethau hyn , frodyr , mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos , o’ch achos chwi : fel y gallech ddysgu ynom ni , na synier mwy nag sydd ysgrifenedig , fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall . Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall ? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist ? ac os derbyniaist , paham yr wyt ti yn gorfoleddu , megis pe bait heb dderbyn ? Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu , yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi , chwi a deyrnasasoch hebom ni : ac och Dduw na baech yn teyrnasu , fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi . Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni , yr apostolion diwethaf , fel rhai wedi eu bwrw i angau : oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd , ac i’r angylion , ac i ddynion . Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist , a chwithau yn ddoethion yng Nghrist ; nyni yn weiniaid , a chwithau yn gryfion ; chwychwi yn anrhydeddus , a ninnau yn ddirmygus . Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched , ac yr ydym ni yn noethion , ac yn cael cernodiau , ac yn grwydraidd ; Ac yr ydym yn llafurio , gan weithio â’n dwylo’n hunain . Pan y’n difenwir , yr ydym yn bendithio ; pan y’n herlidir , yr ydym yn ei ddioddef ; Pan y’n ceblir , yr ydym yn gweddïo : fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni , a sorod pob dim , hyd yn hyn . Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn ; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl . Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist , er hynny nid oes i chwi nemor o dadau : canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl . Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi , byddwch ddilynwyr i mi . Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus , yr hwn yw fy annwyl fab , a ffyddlon yn yr Arglwydd ; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist , megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys . Ac y mae rhai wedi ymchwyddo , fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi . Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder , os yr Arglwydd a’i myn ; ac a fynnaf wybod , nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo , ond eu gallu . Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw ; eithr mewn gallu . Beth a fynnwch chwi ? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen , ynteu mewn cariad , ac ysbryd addfwynder ? Mae’r gair yn hollol , fod yn eich plith chwi odineb , a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd ; sef cael o un wraig ei dad . Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo , ac ni alarasoch yn hytrach , fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon . Canys myfi yn ddiau , fel absennol yn y corff , eto yn bresennol yn yr ysbryd , a fernais eisoes , fel pe bawn bresennol , am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly , Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist , pan ymgynulloch ynghyd , a’m hysbryd innau , gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist , Draddodi’r cyfryw un i Satan , i ddinistr y cnawd , fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu . Nid da eich gorfoledd chwi . Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does ? Am hynny certhwch allan yr hen lefain , fel y byddoch does newydd , megis yr ydych ddilefeinllyd . Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni : Am hynny cadwn ŵyl , nid â hen lefain , nac â lefain malais a drygioni ; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd . Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr , na chydymgymysgech â godinebwyr : Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn , neu â’r cybyddion , neu â’r cribddeilwyr , neu ag eilun‐addolwyr ; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd . Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch , na chydymgymysgech , os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr , neu yn gybydd , neu yn eilun‐addolwr , neu yn ddifenwr , neu yn feddw , neu yn gribddeiliwr ; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith . Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan ? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu ? Eithr y rhai sydd oddi allan , Duw sydd yn eu barnu . Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi . A feiddia neb ohonoch , a chanddo fater yn erbyn arall , ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn , ac nid o flaen y saint ? Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd ? ac os trwoch chwi y bernir y byd , a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf ? Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion ? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn ? Gan hynny , od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn , dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys . Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd . Felly , onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth , yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr ? Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd , a hynny gerbron y rhai di‐gred ? Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith , am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd . Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam ? paham nad ydych yn hytrach mewn colled ? Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam , a cholled , a hynny i’r brodyr . Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw ? Na thwyller chwi : ni chaiff na godinebwyr , nac eilun‐addolwyr , na thorwyr priodas , na masweddwyr , na gwrywgydwyr , Na lladron , na chybyddion , na meddwon , na difenwyr , na chribddeilwyr , etifeddu teyrnas Dduw . A hyn fu rai ohonoch chwi : eithr chwi a olchwyd , eithr chwi a sancteiddiwyd , eithr chwi a gyfiawnhawyd , yn enw yr Arglwydd Iesu , a thrwy Ysbryd ein Duw ni . Pob peth sydd gyfreithlon i mi , ond nid yw pob peth yn llesáu ; pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim . Y bwydydd i’r bol , a’r bol i’r bwydydd : eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau . A’r corff nid yw i odineb , ond i’r Arglwydd ; a’r Arglwydd i’r corff . Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd , ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef . Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist ? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist , a’u gwneuthur yn aelodau putain ? Na ato Duw . Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain , yn un corff ? canys y ddau ( medd efe ) fyddant un cnawd . Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd , un ysbryd yw . Gochelwch odineb . Pob pechod a wnelo dyn , oddi allan i’w gorff y mae ; ond yr hwn sydd yn godinebu , sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun . Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch , yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw , ac nad ydych yn eiddoch eich hunain ? Canys er gwerth y prynwyd chwi : gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff , ac yn eich ysbryd , y rhai sydd eiddo Duw . Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf : Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig . Ond rhag godineb , bydded i bob gŵr ei wraig ei hun , a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun . Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da ; a’r un wedd y wraig i’r gŵr . Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun , ond i’r gŵr ; ac yr un ffunud , nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun , ond i’r wraig . Na thwyllwch eich gilydd , oddieithr o gydsyniad dros amser , fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi : a deuwch drachefn ynghyd , rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd , nid o orchymyn . Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun : eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw ; i un fel hyn , ac i arall fel hyn . Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi , a’r gwragedd gweddwon , Da yw iddynt os arhosant fel finnau . Eithr oni allant ymgadw , priodant : canys gwell yw priodi nag ymlosgi . Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn , nid myfi chwaith , ond yr Arglwydd , Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr : Ac os ymedy hi , arhoed heb briodi , neu , cymoder hi â’i gŵr : ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith . Ac wrth y lleill , dywedyd yr wyf fi , nid yr Arglwydd , Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred , a hithau yn fodlon i drigo gydag ef , na ollynged hi ymaith . A’r wraig , yr hon y mae iddi ŵr di‐gred , ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi , na wrthoded hi ef . Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy’r wraig , a’r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy’r gŵr : pe amgen , aflan yn ddiau fyddai eich plant ; eithr yn awr sanctaidd ydynt . Eithr os yr anghredadun a ymedy , ymadawed . Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau ; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch . Canys beth a wyddost ti , wraig , a gedwi di dy ŵr ? a pheth a wyddost tithau , ŵr , a gedwi di dy wraig ? Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un , megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un , felly rhodied . Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll . A alwyd neb wedi ei enwaedu ? nac adgeisied ddienwaediad . A alwyd neb mewn dienwaediad ? nac enwaeder arno . Enwaediad nid yw ddim , a dienwaediad nid yw ddim , ond cadw gorchmynion Duw . Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef , yn honno arhosed . Ai yn was y’th alwyd ? na fydded gwaeth gennyt ; eto os gelli gael bod yn rhydd , mwynha hynny yn hytrach . Canys yr hwn , ac ef yn was , a alwyd yn yr Arglwydd , gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw : a’r un ffunud yr hwn , ac efe yn ŵr rhydd , a alwyd , gwas i Grist yw . Er gwerth y’ch prynwyd ; na fyddwch weision dynion . Yn yr hyn y galwyd pob un , frodyr , yn hynny arhosed gyda Duw . Eithr am wyryfon , nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd : ond barn yr ydwyf yn ei roi , fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon . Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn , oherwydd yr anghenraid presennol , mai da , meddaf , i ddyn fod felly . A wyt ti yn rhwym i wraig ? na chais dy ollwng yn rhydd . A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig ? na chais wraig . Ac os priodi hefyd , ni phechaist : ac os prioda gwyry , ni phechodd . Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd : eithr yr wyf yn eich arbed chwi . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , frodyr , am fod yr amser yn fyr . Y mae yn ôl , fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt , megis pe byddent hebddynt ; A’r rhai a wylant , megis heb wylo ; a’r rhai a lawenhânt , megis heb lawenhau ; a’r rhai a brynant , megis heb feddu ; A’r rhai a arferant y byd hwn , megis heb ei gamarfer : canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio . Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal . Yr hwn sydd heb briodi , sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd , pa wedd y bodlona’r Arglwydd : Ond y neb a wreicaodd , sydd yn gofalu am bethau’r byd , pa wedd y bodlona ei wraig . Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry . Y mae’r hon sydd heb briodi , yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd , fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd : ac y mae’r hon sydd wedi priodi , yn gofalu am bethau bydol , pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain ; nid i osod magl i chwi , eithr er mwyn gweddeidd‐dra , a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân . Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry , od â hi dros flodau ei hoedran , a bod yn rhaid gwneuthur felly ; gwnaed a fynno , nid yw yn pechu : priodant . Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon , ac yn afraid iddo , ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun , ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon , ar gadw ohono ei wyry ; da y mae yn gwneuthur . Ac am hynny , yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod , sydd yn gwneuthur yn dda ; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod , sydd yn gwneuthur yn well . Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith , tra fyddo byw ei gŵr : ond o bydd marw ei gŵr , y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno ; yn unig yn yr Arglwydd . Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly , yn fy marn i : ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf . Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod , ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth . Gwybodaeth sydd yn chwyddo , eithr cariad sydd yn adeiladu . Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim , ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod . Ond od oes neb yn caru Duw , hwnnw a adwaenir ganddo ef . Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod , ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd , ac nad oes un Duw arall ond un . Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau , pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear , ( megis y mae duwiau lawer , ac arglwyddi lawer , ) Eithr i ni nid oes ond un Duw , y Tad , o’r hwn y mae pob peth , a ninnau ynddo ef ; ac un Arglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn y mae pob peth , a ninnau trwyddo ef . Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb : canys rhai , a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn , sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod ; a’u cydwybod hwy , a hi yn wan , a halogir . Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw : canys nid ydym , os bwytawn , yn helaethach ; nac onis bwytawn , yn brinnach . Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid . Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt , yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod , oni chadarnheir ei gydwybod ef , ac yntau’n wan , i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod ; Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di , dros yr hwn y bu Crist farw ? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr , a churo eu gwan gydwybod hwy , yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist . Oherwydd paham , os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd , ni fwytâf fi gig fyth , rhag i mi rwystro fy mrawd . Onid wyf fi yn apostol ? onid wyf fi yn rhydd ? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd ? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd ? Onid wyf yn apostol i eraill , eto yr wyf i chwi : canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd . Fy amddiffyn i , i’r rhai a’m holant , yw hwn ; Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed ? Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer , megis ag y mae i’r apostolion eraill , ac i frodyr yr Arglwydd , ac i Ceffas ? Ai myfi yn unig a Barnabas , nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio ? Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun ? pwy sydd yn plannu gwinllan , ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi ? neu pwy sydd yn porthi praidd , ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd ? Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn ? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn ? Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses , Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu . Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu ? Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd ? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd , mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig , a’r dyrnwr mewn gobaith , i fod yn gyfrannog o’i obaith . Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol , ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol ? Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch , onid ydym ni yn hytrach ? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon : ond goddef yr ydym bob peth , fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist . Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig , yn bwyta o’r cysegr ? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor , yn gyd‐gyfranogion o’r allor ? Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd , i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl , fyw wrth yr efengyl . Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn : ac nid ysgrifennais y pethau hyn , fel y gwnelid felly i mi : canys gwell yw imi farw , na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer . Canys os pregethaf yr efengyl , nid oes orfoledd i mi : canys anghenraid a osodwyd arnaf ; a gwae fydd i mi , oni phregethaf yr efengyl . Canys os gwnaf hyn o’m bodd , y mae i mi wobr : ond os o’m hanfodd , ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl . Pa wobr sydd i mi gan hynny ? Bod i mi , pan efengylwyf , osod efengyl Crist yn rhad , fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl . Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb , mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb , fel yr enillwn fwy . Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew , fel yr enillwn yr Iddewon ; i’r rhai dan y ddeddf , megis dan y ddeddf , fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf ; I’r rhai di‐ddeddf , megis di‐ddeddf , ( a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw , ond dan y ddeddf i Grist , ) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf . Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan , fel yr enillwn y gweiniaid : mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb , fel y gallwn yn hollol gadw rhai . A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl , fel y’m gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni . Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa , i gyd yn rhedeg , ond bod un yn derbyn y gamp ? Felly rhedwch , fel y caffoch afael . Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu , yn ymgadw ym mhob peth : a hwynt‐hwy yn wir , fel y derbyniont goron lygredig ; eithr nyni , un anllygredig . Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg , nid megis ar amcan ; felly yr wyf yn ymdrechu , nid fel un yn curo’r awyr : Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff , ac yn ei ddwyn yn gaeth ; rhag i mi mewn un modd , wedi i mi bregethu i eraill , fod fy hun yn anghymeradwy . Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod , fod ein tadau oll dan y cwmwl , a’u myned oll trwy y môr ; A’u bedyddio hwy oll i Moses , yn y cwmwl , ac yn y môr ; A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol ; Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol : canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn : a’r Graig oedd Crist . Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt : canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch . A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni , fel na chwenychem ddrygioni , megis ag y chwenychasant hwy . Ac na fyddwch eilun‐addolwyr , megis rhai ohonynt hwy ; fel y mae yn ysgrifenedig , Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed , ac a gyfodasant i chwarae . Ac na odinebwn , fel y godinebodd rhai ohonynt hwy , ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain . Ac na themtiwn Grist , megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy , ac a’u distrywiwyd gan seirff . Ac na rwgnechwch , megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy , ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd . A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy ; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau , ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd . Am hynny , yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll , edryched na syrthio . Nid ymaflodd ynoch demtasiwn , ond un dynol : eithr ffyddlon yw Duw , yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch ; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd , fel y galloch ei ddwyn . Oherwydd paham , fy anwylyd , ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth . Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol : bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd . Ffiol y fendith , yr hon a fendigwn , onid cymun gwaed Crist ydyw ? y bara yr ydym yn ei dorri , onid cymun corff Crist yw ? Oblegid nyni yn llawer ydym un bara , ac un corff : canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara . Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd : onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth , yn gyfranogion o’r allor ? Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd ? bod yr eilun yn ddim , neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim ? Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu , i gythreuliaid y maent yn eu haberthu , ac nid i Dduw . Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid . Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd , a ffiol y cythreuliaid : ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd , a bord y cythreuliaid . Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym ? a ydym ni yn gryfach nag ef ? Pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr nid yw pob peth yn llesáu : pob peth sydd gyfreithlon i mi , eithr nid yw pob peth yn adeiladu . Na cheisied neb yr eiddo ei hun ; ond pob un yr eiddo arall . Beth bynnag a werthir yn y gigfa , bwytewch ; heb ofyn dim er mwyn cydwybod : Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder . Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd , ac os mynnwch fyned ; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron , heb ymofyn dim er mwyn cydwybod . Eithr os dywed neb wrthych , Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn ; na fwytewch , er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd , ac er mwyn cydwybod : canys eiddo’r Arglwydd y ddaear , a’i chyflawnder . Cydwybod , meddaf , nid yr eiddot ti , ond yr eiddo arall : canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall ? Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran , paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano ? Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed , ai beth bynnag a wneloch , gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw . Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd , ac i eglwys Dduw : Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth : heb geisio fy llesâd fy hun , ond llesâd llaweroedd , fel y byddont hwy gadwedig . Byddwch ddilynwyr i mi , megis yr wyf finnau i Grist . Yr ydwyf yn eich canmol , frodyr , eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth , ac yn dal y traddodiadau , fel y traddodais i chwi . Eithr mi a fynnwn i chwi wybod , mai pen pob gŵr yw Crist ; a phen y wraig yw’r gŵr ; a phen Crist yw Duw . Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo , a pheth am ei ben , sydd yn cywilyddio ei ben . Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo , yn bennoeth , sydd yn cywilyddio ei phen : canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio . Canys os y wraig ni wisg am ei phen , cneifier hi hefyd : eithr os brwnt i wraig ei chneifio , neu ei heillio , gwisged . Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben , am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw : a’r wraig yw gogoniant y gŵr . Canys nid yw’r gŵr o’r wraig , ond y wraig o’r gŵr . Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig ; eithr y wraig er mwyn y gŵr . Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen , oherwydd yr angylion . Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig , na’r wraig heb y gŵr , yn yr Arglwydd . Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr , felly y mae’r gŵr trwy’r wraig : a phob peth sydd o Dduw . Bernwch ynoch eich hunain , ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth ? Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi , os gwalltlaes a fydd gŵr , mai amarch yw iddo ? Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes , clod yw iddi : oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi . Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar , nid oes gennym ni gyfryw ddefod , na chan eglwysi Duw . Eithr wrth ddywedyd hyn , nid ydwyf yn eich canmol , eich bod yn dyfod ynghyd , nid er gwell , ond er gwaeth . Canys yn gyntaf , pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys , yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi ; ac o ran yr wyf fi yn credu . Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg , fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi . Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle , nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn . Canys y mae pob un wrth fwyta , yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen ; ac un sydd â newyn arno , ac arall sydd yn feddw . Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed ? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw , a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt ? Pa beth a ddywedaf wrthych ? a ganmolaf fi chwi yn hyn ? Nid wyf yn eich canmol . Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi ; Bod i’r Arglwydd Iesu , y nos y bradychwyd ef , gymryd bara : Ac wedi iddo ddiolch , efe a’i torrodd , ac a ddywedodd , Cymerwch , bwytewch ; hwn yw fy nghorff , yr hwn a dorrir trosoch : gwnewch hyn er coffa amdanaf . Yr un modd efe a gymerodd y cwpan , wedi swperu , gan ddywedyd , Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed : gwnewch hyn , cynifer gwaith bynnag yr yfoch , er coffa amdanaf . Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn , ac yr yfoch y cwpan hwn , y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo . Am hynny , pwy bynnag a fwytao’r bara hwn , neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng , euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd . Eithr holed dyn ef ei hun ; ac felly bwytaed o’r bara , ac yfed o’r cwpan . Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng , sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun , am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd . Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg , a llawer yn huno . Canys pe iawn farnem ni ein hunain , ni’n bernid . Eithr pan y’n bernir , y’n ceryddir gan yr Arglwydd , fel na’n damnier gyda’r byd . Am hynny , fy mrodyr , pan ddeloch ynghyd i fwyta , arhoswch eich gilydd . Eithr os bydd newyn ar neb , bwytaed gartref : fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth . Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf . Eithr am ysbrydol ddoniau , frodyr , ni fynnwn i chwi fod heb wybod . Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech , yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion , fel y’ch tywysid . Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi , nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw , yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth : ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu , eithr trwy’r Ysbryd Glân . Ac y mae amryw ddoniau , eithr yr un Ysbryd . Ac y mae amryw weinidogaethau , eithr yr un Arglwydd . Ac y mae amryw weithrediadau , ond yr un yw Duw , yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb : Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd . Canys i un , trwy’r Ysbryd , y rhoddir ymadrodd doethineb ; ac i arall , ymadrodd gwybodaeth , trwy’r un Ysbryd ; Ac i arall ffydd , trwy’r un Ysbryd ; ac i arall ddawn i iacháu , trwy’r un Ysbryd ; Ac i arall , wneuthur gwyrthiau ; ac i arall , broffwydoliaeth ; ac i arall , wahaniaeth ysbrydoedd ; ac i arall , amryw dafodau ; ac i arall , gyfieithiad tafodau . A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu , gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio . Canys fel y mae’r corff yn un , ac iddo aelodau lawer , a holl aelodau’r un corff , cyd byddont lawer , ydynt un corff ; felly y mae Crist hefyd . Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff , pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr , ai caethion ai rhyddion ; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd . Canys y corff nid yw un aelod , eithr llawer . Os dywed y troed , Am nad wyf law , nid wyf o’r corff ; ai am hynny nid yw efe o’r corff ? Ac os dywed y glust , Am nad wyf lygad , nid wyf o’r corff ; ai am hynny nid yw hi o’r corff ? Pe yr holl gorff fyddai lygad , pa le y byddai’r clywed ? pe’r cwbl fyddai glywed , pa le y byddai’r arogliad ? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau , bob un ohonynt yn y corff , fel yr ewyllysiodd efe . Canys pe baent oll un aelod , pa le y byddai’r corff ? Ond yr awron llawer yw’r aelodau , eithr un corff . Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw , Nid rhaid i mi wrthyt ; na’r pen chwaith wrth y traed , Nid rhaid i mi wrthych . Eithr yn hytrach o lawer , yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf , ydynt angenrheidiol : A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff , ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch ; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch . Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho : eithr Duw a gyd-dymherodd y corff , gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol : Fel na byddai anghydfod yn y corff ; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd . A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod , y mae’r holl aelodau yn cyd‐ddioddef ; ai anrhydeddu a wneir un aelod , y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau . Eithr chwychwi ydych gorff Crist , ac aelodau o ran . A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys ; yn gyntaf apostolion , yn ail proffwydi , yn drydydd athrawon , yna gwyrthiau , wedi hynny doniau i iacháu , cynorthwyau , llywodraethau , rhywogaethau tafodau . Ai apostolion pawb ? ai proffwydi pawb ? ai athrawon pawb ? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb ? A oes gan bawb ddoniau i iacháu ? a yw pawb yn llefaru â thafodau ? a yw pawb yn cyfieithu ? Eithr deisyfwch y doniau gorau : ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol . Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion , ac heb fod gennyf gariad , yr wyf fel efydd yn seinio , neu symbal yn tincian . A phe byddai gennyf broffwydoliaeth , a gwybod ohonof y dirgelion oll , a phob gwybodaeth ; a phe bai gennyf yr holl ffydd , fel y gallwn symudo mynyddoedd , ac heb gennyf gariad , nid wyf fi ddim . A phe porthwn y tlodion â’m holl dda , a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi , ac heb gariad gennyf , nid yw ddim llesâd i mi . Y mae cariad yn hirymaros , yn gymwynasgar ; cariad nid yw yn cenfigennu ; nid yw cariad yn ymffrostio , nid yw yn ymchwyddo , Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd , nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun , ni chythruddir , ni feddwl ddrwg ; Nid yw lawen am anghyfiawnder , ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd ; Y mae yn dioddef pob dim , yn credu pob dim , yn gobeithio pob dim , yn ymaros â phob dim . Cariad byth ni chwymp ymaith : eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau , hwy a ballant ; ai tafodau , hwy a beidiant ; ai gwybodaeth , hi a ddiflanna . Canys o ran y gwyddom , ac o ran yr ydym yn proffwydo . Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith , yna yr hyn sydd o ran a ddileir . Pan oeddwn fachgen , fel bachgen y llefarwn , fel bachgen y deallwn , fel bachgen y meddyliwn : ond pan euthum yn ŵr , mi a rois heibio bethau bachgennaidd . Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych , mewn dameg ; ond yna , wyneb yn wyneb : yn awr yr adwaen o ran ; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir . Yr awr hon y mae yn aros ffydd , gobaith , cariad , y tri hyn ; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad . Dilynwch gariad , a deisyfwch ddoniau ysbrydol ; ond yn hytrach fel y proffwydoch . Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , nid wrth ddynion y mae yn llefaru , ond wrth Dduw ; canys nid oes neb yn gwrando ; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau . Eithr yr hwn sydd yn proffwydo , sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth , a chyngor , a chysur . Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , sydd yn ei adeiladu ei hunan : eithr yr hwn sydd yn proffwydo , sydd yn adeiladu yr eglwys . Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr ; ond yn hytrach broffwydo ohonoch : canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo , na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau ; oddieithr iddo ei gyfieithu , fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth . Ac yr awr hon , frodyr , os deuaf atoch gan lefaru â thafodau , pa lesâd a wnaf i chwi , oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth , neu trwy wybodaeth , neu trwy broffwydoliaeth , neu trwy athrawiaeth ? Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain , pa un bynnag ai pibell ai telyn , oni roddant wahaniaeth yn y sain , pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn ? Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod , pwy a ymbaratoa i ryfel ? Felly chwithau , oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus , pa wedd y gwybyddir y peth a leferir ? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr . Y mae cymaint , ysgatfydd , o rywogaethau lleisiau yn y byd , ac nid oes un ohonynt yn aflafar . Am hynny , oni wn i rym y llais , myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru , a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad . Felly chwithau , gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol , ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys . Oherwydd paham , yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr , gweddïed ar iddo allu cyfieithu . Canys os gweddïaf â thafod dieithr , y mae fy ysbryd yn gweddïo , ond y mae fy neall yn ddiffrwyth . Beth gan hynny ? Mi a weddïaf â’r ysbryd , ac a weddïaf â’r deall hefyd : canaf â’r ysbryd , a chanaf â’r deall hefyd . Canys os bendithi â’r ysbryd , pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd , Amen , ar dy ddodiad diolch , gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd ? Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda , ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu . Yr ydwyf yn diolch i’m Duw , fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll : Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall , fel y dysgwyf eraill hefyd , na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr . O frodyr , na fyddwch fechgyn mewn deall ; eithr mewn drygioni byddwch blant ; ond mewn deall byddwch berffaith . Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig , Trwy rai estronieithus , a thrwy wefusau estronol , y llefaraf wrth y bobl hyn ; ac ni’m gwrandawant felly , medd yr Arglwydd . Am hynny tafodau ydynt arwydd , nid i’r rhai sydd yn credu , ond i’r rhai di‐gred : eithr proffwydoliaeth , nid i’r rhai di‐gred , ond i’r rhai sydd yn credu . Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle , a llefaru o bawb â thafodau dieithr , a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn ; oni ddywedant eich bod yn ynfydu ? Eithr os proffwyda pawb , a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn , efe a argyhoeddir gan bawb , a fernir gan bawb : Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg ; ac felly gan syrthio ar ei wyneb , efe a addola Dduw , gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch . Beth gan hynny , frodyr ? pan ddeloch ynghyd , y mae gan bob un ohonoch salm , y mae ganddo athrawiaeth , y mae ganddo dafodiaith , y mae ganddo ddatguddiad , y mae ganddo gyfieithiad . Gwneler pob peth er adeiladaeth . Os llefara neb â thafod dieithr , gwneler bob yn ddau , neu o’r mwyaf bob yn dri , a hynny ar gylch ; a chyfieithed un . Eithr oni bydd cyfieithydd , tawed yn yr eglwys ; eithr llefared wrtho’i hun , ac wrth Dduw . A llefared y proffwydi ddau neu dri , a barned y lleill . Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno , tawed y cyntaf . Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un , fel y dysgo pawb , ac y cysurer pawb . Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi . Canys nid yw Duw awdur anghydfod , ond tangnefedd , fel yn holl eglwysi’r saint . Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi : canys ni chaniatawyd iddynt lefaru ; ond bod yn ddarostyngedig , megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd . Ac os mynnant ddysgu dim , ymofynnant â’u gwŷr gartref : oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys . Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan ? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe ? Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd , neu yn ysbrydol , cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt . Eithr od yw neb heb wybod , bydded heb wybod . Am hynny , frodyr , byddwch awyddus i broffwydo , ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr . Gwneler pob peth yn weddaidd , ac mewn trefn . Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi , frodyr , yr efengyl a bregethais i chwi , yr hon hefyd a dderbyniasoch , ac yn yr hon yr ydych yn sefyll ; Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd , os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi , oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer . Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais , farw o Grist dros ein pechodau ni , yn ôl yr ysgrythurau ; A’i gladdu , a’i gyfodi y trydydd dydd , yn ôl yr ysgrythurau ; A’i weled ef gan Ceffas , yna gan y deuddeg . Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith : o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron ; eithr rhai a hunasant . Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago ; yna gan yr holl apostolion . Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd , megis gan un annhymig . Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion , yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol , am i mi erlid eglwys Dduw . Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf : a’i ras ef , yr hwn a roddwyd i mi , ni bu yn ofer ; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll : ac nid myfi chwaith , ond gras Duw , yr hwn oedd gyda mi . Am hynny , pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy , felly yr ydym yn pregethu , ac felly y credasoch chwi . Ac os pregethir Crist , ei gyfodi ef o feirw ; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi , nad oes atgyfodiad y meirw ? Eithr onid oes atgyfodiad y meirw , ni chyfodwyd Crist chwaith : Ac os Crist ni chyfodwyd , ofer yn wir yw ein pregeth ni , ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau . Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw ; canys ni a dystiasom am Dduw , ddarfod iddo gyfodi Crist : yr hwn nis cyfododd efe , os y meirw ni chyfodir . Canys os y meirw ni chyfodir , ni chyfodwyd Crist chwaith . Ac os Crist ni chyfodwyd , ofer yw eich ffydd chwi ; yr ydych eto yn eich pechodau . Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist . Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist , truanaf o’r holl ddynion ydym ni . Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw , ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant . Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn , trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw . Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw , felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb . Eithr pob un yn ei drefn ei hun : y blaenffrwyth yw Crist ; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef . Yna y bydd y diwedd , wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad : wedi iddo ddileu pob pendefigaeth , a phob awdurdod a nerth . Canys rhaid iddo deyrnasu , hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed . Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau . Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef . Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng , amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo . A phan ddarostynger pob peth iddo , yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef , fel y byddo Duw oll yn oll . Os amgen , beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw , os y meirw ni chyfodir ddim ? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw ? A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr ? Yr ydwyf beunydd yn marw , myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd . Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus , pa lesâd sydd i mi , oni chyfodir y meirw ? Bwytawn ac yfwn ; canys yfory marw yr ydym . Na thwyller chwi : y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da . Deffrowch yn gyfiawn , ac na phechwch : canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw : er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn . Eithr fe a ddywed rhyw un , Pa fodd y cyfodir y meirw ? ac â pha ryw gorff y deuant ? O ynfyd , y peth yr wyt ti yn ei hau , ni fywheir oni bydd efe marw . A’r peth yr wyt yn ei hau , nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau , ond gronyn noeth , ysgatfydd o wenith , neu o ryw rawn arall . Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe , ac i bob hedyn ei gorff ei hun . Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd : eithr arall yw cnawd dynion , ac arall yw cnawd anifeiliaid , a chnawd arall sydd i bysgod , ac arall i adar . Y mae hefyd gyrff nefol , a chyrff daearol : ond arall yw gogoniant y rhai nefol , ac arall y rhai daearol . Arall yw gogoniant yr haul , ac arall yw gogoniant y lloer , ac arall yw gogoniant y sêr : canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant . Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw . Efe a heuir mewn llygredigaeth , ac a gyfodir mewn anllygredigaeth : Efe a heuir mewn amarch , ac a gyfodir mewn gogoniant : efe a heuir mewn gwendid , ac a gyfodir mewn nerth : efe a heuir yn gorff anianol , ac a gyfodir yn gorff ysbrydol . Y mae corff anianol , ac y mae corff ysbrydol . Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig , Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw , a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau . Eithr nid cyntaf yr ysbrydol , ond yr anianol ; ac wedi hynny yr ysbrydol . Y dyn cyntaf o’r ddaear , yn daearol ; yr ail dyn , yr Arglwydd o’r nef . Fel y mae y daearol , felly y mae y rhai daearol hefyd ; ac fel y mae y nefol , felly y mae y rhai nefol hefyd . Ac megis y dygasom ddelw y daearol , ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol . Eithr hyn meddaf , O frodyr , na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw ; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth . Wele , yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch : Ni hunwn ni oll , eithr ni a newidir oll mewn moment , ar drawiad llygad , wrth yr utgorn diwethaf : Canys yr utgorn a gân , a’r meirw a gyfodir yn anllygredig , a ninnau a newidir . Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth , ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb . A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth , ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb , yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd , Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth . O angau , pa le mae dy golyn ? O uffern , pa le mae dy fuddugoliaeth ? Colyn angau yw pechod , a grym pechod yw’r gyfraith . Ond i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist . Am hynny , fy mrodyr annwyl , byddwch sicr , a diymod , a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol ; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd . Hefyd am y gasgl i’r saint ; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia , felly gwnewch chwithau . Y dydd cyntaf o’r wythnos , pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl , gan drysori , fel y llwyddodd Duw ef , fel na byddo casgl pan ddelwyf fi . A phan ddelwyf , pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau , y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem . Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned , hwy a gânt fyned gyda mi . Eithr mi a ddeuaf atoch , gwedi yr elwyf trwy Facedonia ; ( canys trwy Facedonia yr wyf yn myned . ) Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi , neu y gaeafaf hefyd , fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf . Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt ; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi , os cenhada’r Arglwydd . Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn . Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus , ac y mae gwrthwynebwyr lawer . Ac os Timotheus a ddaw , edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi : canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio , fel finnau . Am hynny na ddiystyred neb ef : ond hebryngwch ef mewn heddwch , fel y delo ataf fi : canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr . Ac am y brawd Apolos , mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr : eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron ; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas . Gwyliwch , sefwch yn y ffydd , ymwrolwch , ymgryfhewch . Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad . Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi , frodyr , ( chwi a adwaenoch dŷ Steffanas , mai blaenffrwyth Achaia ydyw , ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint , ) Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw , ac i bob un sydd yn cydweithio , ac yn llafurio . Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas , Ffortunatus , ac Achaicus : canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant ; Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i , a’r eiddoch chwithau : cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai . Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi . Y mae Acwila a Phriscila , gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt , yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych . Y mae’r brodyr oll yn eich annerch . Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun . Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist , bydded Anathema , Maranatha . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi . Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu . Amen . </passage></reply></GetPassage>