<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:47</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:47</urn><passage>Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a’r brawd Timotheus , at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth , gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Bendigedig fyddo Duw , a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist , Tad y trugareddau , a Duw pob diddanwch ; Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder , fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder , trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw . Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni ; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau . A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys , er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae , yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau , y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef ; ai ein diddanu yr ydys , er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny . Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch ; gan i ni wybod , mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau , felly y byddwch hefyd o’r diddanwch . Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod , frodyr , am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia , bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu , hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd . Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau , fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain , ond yn Nuw , yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw : Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau , ac sydd yn ein gwaredu ; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw : A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi , fel , am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer , y rhodder diolch gan lawer drosom . Canys ein gorfoledd ni yw hyn , sef tystiolaeth ein cydwybod , mai mewn symlrwydd , a phurdeb duwiol , nid mewn doethineb cnawdol , ond trwy ras Duw , yr ymddygasom yn y byd , ond yn hytrach tuag atoch chwi . Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen , neu yn eu cydnabod , ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd ; Megis y cydnabuoch ni o ran , mai nyni yw eich gorfoledd chwi , fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu . Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen , fel y caffech ail ras ; A myned heb eich llaw chwi i Facedonia , a dyfod drachefn o Facedonia atoch , a chael fy hebrwng gennych i Jwdea . Gan hynny , pan oeddwn yn bwriadu hyn , a arferais i ysgafnder ? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu , ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu , fel y byddai gyda mi , ie , ie , a nage , nage ? Eithr ffyddlon yw Duw , a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie , a nage . Canys Mab Duw , Iesu Grist , yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni , sef gennyf fi , a Silfanus , a Thimotheus , nid ydoedd ie , a nage , eithr ynddo ef ie ydoedd . Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie , ac ynddo ef amen , er gogoniant i Dduw trwom ni . A’r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist , ac a’n heneiniodd ni , yw Duw : Yr hwn hefyd a’n seliodd , ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnau . Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid , mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth . Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi , ond yr ydym yn gyd-weithwyr i’ch llawenydd : oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll . Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan , na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch . Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi , pwy yw’r hwn a’m llawenha i , ond yr hwn a dristawyd gennyf fi ? Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch , fel , pan ddelwn , na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau ; gan hyderu amdanoch oll , fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll . Canys o orthrymder mawr , a chyfyngder calon , yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer ; nid fel y’ch tristeid chwi , eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi . Ac os gwnaeth neb dristáu , ni wnaeth efe i mi dristáu , ond o ran ; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll . Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma , a ddaeth oddi wrth laweroedd . Yn gymaint ag y dylech , yn y gwrthwyneb , yn hytrach faddau iddo , a’i ddiddanu ; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch . Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef . Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais , fel y gwybyddwn brawf ohonoch , a ydych ufudd ym mhob peth . I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo , yr wyf finnau : canys os maddeuais ddim , i’r hwn y maddeuais , er eich mwyn chwi y maddeuais , yng ngolwg Crist ; Fel na’n siomer gan Satan : canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef . Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist , ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd , Ni chefais lonydd yn fy ysbryd , am na chefais Titus fy mrawd : eithr gan ganu’n iach iddynt , mi a euthum ymaith i Facedonia . Ond i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist , ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle . Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw , yn y rhai cadwedig , ac yn y rhai colledig : I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth ; ac i’r lleill , yn arogl bywyd i fywyd : a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn ? Canys nid ydym ni , megis llawer , yn gwneuthur masnach o air Duw : eithr megis o burdeb , eithr megis o Dduw , yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist . Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain ? ai rhaid i ni , megis i rai , wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi , neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi ? Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau , yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn : Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych , wedi ei weini gennym ni , wedi ei ysgrifennu nid ag inc , ond ag Ysbryd y Duw byw ; nid mewn llechau cerrig , eithr mewn llechau cnawdol y galon . A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw : Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain ; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw ; Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd ; nid i’r llythyren , ond i’r ysbryd : canys y mae’r llythyren yn lladd , ond yr ysbryd sydd yn bywhau . Ac os bu gweinidogaeth angau , mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig , mewn gogoniant , fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses , gan ogoniant ei wynepryd , yr hwn ogoniant a ddilewyd ; Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant ? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant , mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant . Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon , oherwydd y gogoniant tra rhagorol . Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus , mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus . Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith , yr ydym yn arfer hyfder mawr : Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb , fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid . Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt : canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd , wrth ddarllen yn yr hen destament , yn aros heb ei ddatguddio ; yr hwn yng Nghrist a ddileir . Eithr hyd y dydd heddiw , pan ddarllenir Moses , y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt . Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd , tynnir ymaith y gorchudd . Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd : a lle mae Ysbryd yr Arglwydd , yno y mae rhyddid . Eithr nyni oll ag wyneb agored , yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych , a newidir i’r unrhyw ddelw , o ogoniant i ogoniant , megis gan Ysbryd yr Arglwydd . Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon , megis y cawsom drugaredd , nid ydym yn pallu ; Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd , heb rodio mewn cyfrwystra , na thrin gair Duw yn dwyllodrus , eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw . Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni , yn y rhai colledig y mae yn guddiedig : Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred , fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist , yr hwn yw delw Duw . Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain , ond Crist Iesu yr Arglwydd ; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu . Canys Duw , yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch , yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau , i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw , yn wyneb Iesu Grist . Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd , fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw , ac nid ohonom ni . Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol , ond nid mewn ing ; yr ydym mewn cyfyng gyngor , ond nid yn ddiobaith ; Yn cael ein herlid , ond heb ein llwyr adael ; yn cael ein bwrw i lawr , eithr heb ein difetha ; Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu , fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni . Canys yr ydys yn ein rhoddi ni , y rhai ydym yn fyw , yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu , fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni . Felly y mae angau yn gweithio ynom ni , ac einioes ynoch chwithau . A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd , yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd , Credais , am hynny y lleferais ; yr ydym ninnau hefyd yn credu , ac am hynny yn llefaru ; Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu , ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu , a’n gosod gerbron gyda chwi . Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi , fel y byddo i ras wedi amlhau , trwy ddiolchgarwch llaweroedd , ymhelaethu i ogoniant Duw . Oherwydd paham nid ydym yn pallu ; eithr er llygru ein dyn oddi allan , er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd . Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni ; Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir , ond ar y pethau ni welir : canys y pethau a welir sydd dros amser , ond y pethau ni welir sydd dragwyddol . Canys ni a wyddom , os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir , fod i ni adeilad gan Dduw , sef tŷ nid o waith llaw , tragwyddol yn y nefoedd . Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio , gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef : Os hefyd wedi ein gwisgo , nid yn noethion y’n ceir . Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio , yn llwythog : yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg , ond ein harwisgo , fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd . A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw , yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd . Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser , ac yn gwybod , tra ydym yn gartrefol yn y corff , ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd : Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio , ac nid wrth olwg . Ond yr ydym yn hy , ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff , a chartrefu gyda’r Arglwydd . Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu , pa un bynnag ai gartref y byddom , ai oddi cartref , ein bod yn gymeradwy ganddo ef . Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist ; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff , yn ôl yr hyn a wnaeth , pa un bynnag ai da ai drwg . A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd , yr ydym yn perswadio dynion : eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys ; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd . Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych , ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni , fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg , ac nid yn y galon . Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym , i Dduw yr ydym ; ai yn ein pwyll yr ydym , i chwi yr ydym . Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni , gan farnu ohonom hyn ; os bu un farw dros bawb , yna meirw oedd pawb : Ac efe a fu farw dros bawb , fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain , ond i’r hwn a fu farw drostynt , ac a gyfodwyd . Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd : ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd , eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach . Gan hynny od oes neb yng Nghrist , y mae efe yn greadur newydd : yr hen bethau a aethant heibio ; wele , gwnaethpwyd pob peth yn newydd . A phob peth sydd o Dduw , yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist , ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod ; Sef , bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun , heb gyfrif iddynt eu pechodau ; ac wedi gosod ynom ni air y cymod . Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist , megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni : yr ydym yn erfyn dros Grist , Cymoder chwi â Duw . Canys yr hwn nid adnabu bechod , a wnaeth efe yn bechod drosom ni ; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef . A ninnau , gan gydweithio , ydym yn atolwg i chwi , na dderbynioch ras Duw yn ofer : ( Canys y mae efe yn dywedyd , Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais , ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais : wele , yn awr yr amser cymeradwy ; wele , yn awr ddydd yr iachawdwriaeth . ) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim , fel na feier ar y weinidogaeth : Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw , mewn amynedd mawr , mewn cystuddiau , mewn anghenion , mewn cyfyngderau , Mewn gwialenodiau , mewn carcharau , mewn terfysgau , mewn poenau , mewn gwyliadwriaethau , mewn ymprydiau , Mewn purdeb , mewn gwybodaeth , mewn hirymaros , mewn tiriondeb , yn yr Ysbryd Glân , mewn cariad diragrith , Yng ngair gwirionedd , yn nerth Duw , trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy , Trwy barch ac amarch , trwy anghlod a chlod : megis twyllwyr , ac er hynny yn eirwir ; Megis anadnabyddus , ac er hynny yn adnabyddus ; megis yn meirw , ac wele , byw ydym ; megis wedi ein ceryddu , a heb ein lladd ; Megis wedi ein tristáu , ond yn wastad yn llawen ; megis yn dlodion , ond yn cyfoethogi llawer ; megis heb ddim gennym , ond eto yn meddiannu pob peth . Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi , O Gorinthiaid , ein calon ni a ehangwyd . Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni , eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain . Ond am yr un tâl , ( yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant , ) ehanger chwithau hefyd . Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred ; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder ? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch ? A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial ? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun ? A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod ? canys teml y Duw byw ydych chwi ; fel y dywedodd Duw , Mi a breswyliaf ynddynt , ac a rodiaf yn eu mysg , ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy , a hwy a fyddant yn bobl i mi . Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy , ac ymddidolwch , medd yr Arglwydd , ac na chyffyrddwch â dim aflan ; ac mi a’ch derbyniaf chwi , Ac a fyddaf yn Dad i chwi , a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi , medd yr Arglwydd Hollalluog . Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn , anwylyd , ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd , gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw . Derbyniwch ni . Ni wnaethom gam i neb ; ni lygrasom neb ; nid ysbeiliasom neb . Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd : canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni , i farw ac i fyw gyda chwi . Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych . Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi : yr wyf yn llawn o ddiddanwch , yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder . Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia , ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd ; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom : oddi allan yr oedd ymladdau , oddi fewn ofnau . Eithr Duw , yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig , a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus . Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef , ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi , pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi , eich galar chwi , eich sêl tuag ataf fi ; fel y llawenheais i yn fwy . Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr , nid yw edifar gennyf , er bod yn edifar gennyf ; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi , er nad oedd ond dros amser . Yn awr yr ydwyf yn llawen , nid am eich tristáu chwi , ond am eich tristáu i edifeirwch : canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol , fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni . Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni : eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau . Canys wele hyn yma , eich tristáu chwi yn dduwiol , pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch , ie , pa amddiffyn , ie , pa soriant , ie , pa ofn , ie , pa awyddfryd , ie , pa sêl , ie , pa ddial ! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn . Oherwydd paham , er ysgrifennu ohonof atoch , nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam , nac oblegid yr hwn a gawsai gam , ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw . Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi : a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus , oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll . Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch , ni’m cywilyddiwyd : eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd , felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni , yr hwn a fu wrth Titus . Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch , wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll , pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef . Am hynny llawen wyf , am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim . Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi , frodyr , y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia ; Ddarfod , mewn mawr brofiad cystudd , i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi , ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy . Oblegid yn ôl eu gallu , yr wyf fi yn dyst , ac uwchlaw eu gallu , yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain ; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil , ar dderbyn ohonom ni y rhodd , a chymdeithas gweinidogaeth y saint . A hyn a wnaethant , nid fel yr oeddem ni yn gobeithio , ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd , ac i ninnau trwy ewyllys Duw : Fel y dymunasom ni ar Titus , megis y dechreuasai efe o’r blaen , felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd . Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth , mewn ffydd , a gair , a gwybodaeth , a phob astudrwydd , ac yn eich cariad tuag atom ni ; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth . Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd , ond oblegid diwydrwydd rhai eraill , a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi . Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist , iddo ef , ac yntau’n gyfoethog , fyned er eich mwyn chwi yn dlawd , fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef . Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn : canys hyn sydd dda i chwi , y rhai a ragddechreuasoch , nid yn unig wneuthur , ond hefyd ewyllysio er y llynedd . Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd ; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio , felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych . Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen , yn ôl yr hyn sydd gan un , y mae yn gymeradwy , nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo . Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill , a chystudd i chwithau ; Eithr o gymhwystra : y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy , fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau ; fel y byddo cymhwystra : Megis y mae yn ysgrifenedig , Yr hwn a gasglodd lawer , nid oedd ganddo weddill ; ac a gasglodd ychydig , nid oedd arno eisiau . Eithr i Dduw y byddo’r diolch , yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus . Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad ; a chan fod yn fwy diwyd , a aeth atoch o’i wirfodd ei hun . Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd , yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi ; Ac nid hynny yn unig , eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn , yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun , ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi : Gan ochelyd hyn , rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma , yr hwn a wasanaethir gennym : Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest , nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd , ond hefyd yng ngolwg dynion . Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd , yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau , lawer gwaith , ei fod ef yn ddyfal , ac yn awr yn ddyfalach o lawer , am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch . Os gofynnir am Titus , fy nghydymaith yw , a chyd-weithydd tuag atoch chwi ; neu am ein brodyr , cenhadau’r eglwysi ydynt , a gogoniant Crist . Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad , ac o’n bost ninnau amdanoch chwi , yng ngolwg yr eglwysi . Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint , afraid yw i mi ysgrifennu atoch : Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi , yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi , fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd ; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn . A mi a ddanfonais y brodyr , fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon ; fel , megis y dywedais , y byddoch wedi ymbaratoi : Rhag , os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi , a’ch cael chwi yn amharod , bod i ni , ( ni ddywedaf , chwi , ) gael cywilydd yn y fost hyderus yma . Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr , ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch , a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd ; fel y byddo parod megis bendith , ac nid megis o gybydd-dra . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd , Yr hwn sydd yn hau yn brin , a fed hefyd yn brin ; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth , a fed hefyd yn helaeth . Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon , felly rhodded ; nid yn athrist , neu trwy gymell : canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu . Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi ; fel y byddoch chwi ym mhob peth , bob amser , a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda : ( Megis yr ysgrifennwyd , Efe a wasgarodd ; rhoddodd i’r tlodion : ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd . A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr , rhodded hefyd fara yn ymborth , ac amlhaed eich had , a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder ; ) Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni , yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw . Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon , nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint , ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw ; Gan eu bod , trwy brofiad y weinidogaeth hon , yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist , ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy , ac i bawb ; A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi , y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi , am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch . Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol . A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi , er addfwynder a hynawsedd Crist , yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith , ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch . Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai , y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd . Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd , nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd : ( Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol , ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr ; ) Gan fwrw dychmygion i lawr , a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw , a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist ; Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod , pan gyflawner eich ufudd-dod chwi . Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg ? Os ymddiried neb ynddo ei hun , ei fod ef yn eiddo Crist , meddylied hyn drachefn ohono ei hun , megis ag y mae efe yn eiddo Crist , felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist . Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod , yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad , ac nid er eich dinistr chwi , ni’m cywilyddid : Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau . Oblegid y llythyrau yn wir ( meddant ) sydd drymion a chryfion ; eithr presenoldeb y corff sydd wan , a’r ymadrodd yn ddirmygus . Y cyfryw un meddylied hyn , mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol , yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol . Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu , neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain : eithr hwynt-hwy , gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain , a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain , nid ydynt yn deall . Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur , ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni , mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd . Canys nid ydym , megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi , yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur ; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist : Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur , yn llafur rhai eraill ; eithr gan obeithio , pan gynyddo eich ffydd chwi , gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth , I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi ; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes . Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio , ymffrostied yn yr Arglwydd . Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun , sydd gymeradwy ; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol . O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb ; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi . Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol : canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr , i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist . Ond y mae arnaf ofn , rhag mewn modd yn y byd , megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra , felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist . Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni , neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch , neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch , teg y cyd-ddygech ag ef . Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf . Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd , eto nid wyf felly mewn gwybodaeth ; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim . A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun , fel y dyrchefid chwi , oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad ? Eglwysi eraill a ysbeiliais , gan gymryd cyflog ganddynt hwy , i’ch gwasanaethu chwi . A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi , ac arnaf eisiau , ni ormesais ar neb : canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia : ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch , ac mi a ymgadwaf . Fel y mae gwirionedd Crist ynof , nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia . Paham ? ai am nad wyf yn eich caru chwi ? Duw a’i gŵyr . Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur , a wnaf hefyd ; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur ; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio , y ceir hwynt megis ninnau hefyd . Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus , wedi ymrithio yn apostolion i Grist . Ac nid rhyfedd : canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni . Gan hynny nid mawr yw , er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder ; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd . Trachefn meddaf , Na thybied neb fy mod i yn ffôl : os amgen , eto derbyniwch fi fel ffôl , fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig . Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd , nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd , eithr megis mewn ffolineb , yn hyn o fost hyderus . Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd , minnau a ymffrostiaf hefyd . Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen , gan fod eich hunain yn synhwyrol . Canys yr ydych yn goddef , os bydd un i’ch caethiwo , os bydd un i’ch llwyr fwyta , os bydd un yn cymryd gennych , os bydd un yn ymddyrchafu , os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb . Am amarch yr ydwyf yn dywedyd , megis pe buasem ni weiniaid : eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy , ( mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd , ) hy wyf finnau hefyd . Ai Hebreaid ydynt hwy ? felly finnau : ai Israeliaid ydynt hwy ? felly finnau : ai had Abraham ydynt hwy ? felly finnau . Ai gweinidogion Crist ydynt hwy ? ( yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl , ) mwy wyf fi ; mewn blinderau yn helaethach , mewn gwialenodiau dros fesur , mewn carcharau yn amlach , mewn marwolaethau yn fynych . Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un . Tair gwaith y’m curwyd â gwiail ; unwaith y’m llabyddiwyd ; teirgwaith y torrodd llong arnaf ; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor ; Mewn teithiau yn fynych ; ym mheryglon llifddyfroedd ; ym mheryglon lladron ; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun ; ym mheryglon gan y cenhedloedd ; ym mheryglon yn y ddinas ; ym mheryglon yn yr anialwch ; ym mheryglon ar y môr ; ym mheryglon ymhlith brodyr gau : Mewn llafur a lludded ; mewn anhunedd yn fynych ; mewn newyn a syched ; mewn ymprydiau yn fynych ; mewn annwyd a noethni . Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan , yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd , y gofal dros yr holl eglwysi . Pwy sydd wan , nad wyf finnau wan ? pwy a dramgwyddir , nad wyf finnau yn llosgi ? Os rhaid ymffrostio , mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid . Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist , yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd , a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd . Yn Namascus , y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid , gan ewyllysio fy nal i : A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur , ac y dihengais o’i ddwylo ef . Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi : canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd . Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg , ( pa un ai yn y corff , ni wn ; ai allan o’r corff , ni wn i : Duw a ŵyr ; ) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef . Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn , ( pa un ai yn y corff , ai allan o’r corff ni wn i : Duw a ŵyr ; ) Ei gipio ef i fyny i baradwys , ac iddo glywed geiriau anhraethadwy , y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd . Am y cyfryw un yr ymffrostiaf ; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf , oddieithr yn fy ngwendid . Canys os ewyllysiaf ymffrostio , ni byddaf ffôl ; canys mi a ddywedaf y gwir : eithr yr wyf yn arbed , rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod , neu yn ei glywed gennyf . Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau , rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd , cennad Satan , i’m cernodio , fel na’m tra-dyrchefid . Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith , ar fod iddo ymadael â mi . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Digon i ti fy ngras i : canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid . Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid , fel y preswylio nerth Crist ynof fi . Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid , mewn amarch , mewn anghenion , mewn erlidiau , mewn cyfyngderau , er mwyn Crist : canys pan wyf wan , yna yr wyf gadarn . Mi a euthum yn ffôl wrth ymffrostio ; chwychwi a’m gyrasoch : canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi : canys ni bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf , er nad ydwyf fi ddim . Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi , mewn pob amynedd , mewn arwyddion , a rhyfeddodau , a gweithredoedd nerthol . Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano , mwy na’r eglwysi eraill , oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch ? maddeuwch i mi hyn o gam . Wele , y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch ; ac ni byddaf ormesol arnoch : canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi , ond chwychwi : canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni , ond y rhieni i’r plant . A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf , ac a ymdreuliaf , dros eich eneidiau chwi , er fy mod yn eich caru yn helaethach , ac yn cael fy ngharu yn brinnach . Eithr bid , ni phwysais i arnoch : ond , gan fod yn gyfrwys , mi a’ch deliais chwi trwy ddichell . A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch ? Mi a ddeisyfais ar Titus , a chydag ef mi a anfonais frawd . A elwodd Titus ddim arnoch ? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom ? onid yn yr un llwybrau ? Drachefn , a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych ? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru ; a phob peth , anwylyd , er adeiladaeth i chwi . Canys ofni yr wyf , rhag , pan ddelwyf , na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn , a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech : rhag bod cynhennau , cenfigennau , llidiau , ymrysonau , goganau , hustyngau , ymchwyddiadau , anghydfyddiaethau : Rhag pan ddelwyf drachefn , fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith , ac i mi ddwyn galar dros lawer , y rhai a bechasant eisoes , ac nid edifarhasant am yr aflendid , a’r godineb , a’r anlladrwydd a wnaethant . Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch . Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair . Rhagddywedais i chwi , ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith , ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes , ac at y lleill i gyd , os deuaf drachefn , nad arbedaf : Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist , yr hwn sydd yn llefaru ynof , yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan , eithr sydd nerthol ynoch chwi . Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid , eto byw ydyw trwy nerth Duw : canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef , eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi . Profwch chwychwi eich hunain , a ydych yn y ffydd ; holwch eich hunain . Onid ydych yn eich adnabod eich hunain , sef bod Iesu Grist ynoch , oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy ? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy . Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg ; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy , ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda , er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy . Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd , ond dros y gwirionedd . Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid , a chwithau yn gryfion : a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno , sef eich perffeithrwydd chwi . Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn , fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster , yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad , ac nid er dinistr . Bellach , frodyr , byddwch wych . Byddwch berffaith , diddaner chwi , syniwch yr un peth , byddwch heddychol ; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi . Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd . Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi . Gras ein Harglwydd Iesu Grist , a chariad Duw , a chymdeithas yr Ysbryd Glân , a fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>