<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:48</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:48</urn><passage>Paul , apostol , ( nid o ddynion , na thrwy ddyn , eithr trwy Iesu Grist , a Duw Dad , yr hwn a’i cyfododd ef o feirw ; ) A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi , at eglwysi Galatia : Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad , a’n Harglwydd Iesu Grist ; Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau , fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol , yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni : I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist , at efengyl arall : Yr hon nid yw arall ; ond bod rhai yn eich trallodi chwi , ac yn chwennych datroi efengyl Crist . Eithr pe byddai i ni , neu i angel o’r nef , efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi , bydded anathema . Megis y rhagddywedasom , felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd , Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch , bydded anathema . Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf , ynteu Duw ? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion ? canys pe rhyngwn fodd dynion eto , ni byddwn was i Grist . Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi , frodyr , am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi , nad yw hi ddynol . Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi , nac y’m dysgwyd ; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist . Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig , i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw , a’i hanrheithio hi ; Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun , gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau . Ond pan welodd Duw yn dda , yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam , ac a’m galwodd i trwy ei ras , I ddatguddio ei Fab ef ynof fi , fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd ; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed : Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion ; ond mi a euthum i Arabia , a thrachefn y dychwelais i Ddamascus . Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr ; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod . Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais , ond Iago brawd yr Arglwydd . A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , wele , gerbron Duw , nad wyf yn dywedyd celwydd . Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia ; Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist : Ond yn unig hwy a glywsent , fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni , yr awron yn pregethu’r ffydd , yr hon gynt a anrheithiasai . A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi . Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas , gan gymryd Titus hefyd gyda mi . Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad , ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd ; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol , rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer , neu ddarfod i mi redeg . Eithr Titus , yr hwn oedd gyda mi , er ei fod yn Roegwr , ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno : A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn , y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu , fel y’n caethiwent ni : I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad , naddo dros awr ; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi . A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth , ( pa fath gynt oeddynt , nid yw ddim i mi ; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn ; ) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi : Eithr yn y gwrthwyneb , pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad , megis am efengyl yr enwaediad i Pedr : ( Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad , a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd : ) A phan wybu Iago , a Cheffas , ac Ioan , y rhai a dybid eu bod yn golofnau , y gras a roddwyd i mi , hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas ; fel yr elem ni at y Cenhedloedd , a hwythau at yr enwaediad . Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion ; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur . A phan ddaeth Pedr i Antiochia , mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb , am ei fod i’w feio . Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago , efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd : ond wedi iddynt ddyfod , efe a giliodd , ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt , gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad . A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef ; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy . Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl , mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll , Os wyt ti , a thi yn Iddew , yn byw fel y Cenhedloedd , ac nid fel yr Iddewon , paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd ? Nyni , y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon , ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid , Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf , ond trwy ffydd Iesu Grist , ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu , fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist , ac nid trwy weithredoedd y ddeddf : oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf . Ac os , wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist , y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid , a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod ? Na ato Duw . Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais , yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr . Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf , fel y byddwn fyw i Dduw . Mi a groeshoeliwyd gyda Christ : eithr byw ydwyf ; eto nid myfi , ond Crist sydd yn byw ynof fi : a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd , ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw , yr hwn a’m carodd , ac a’i dodes ei hun drosof fi . Nid wyf yn dirymu gras Duw : canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder , yna y bu Crist farw yn ofer . O y Galatiaid ynfyd , pwy a’ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd , i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist , wedi ei groeshoelio yn eich plith ? Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych ; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd , ynteu wrth wrandawiad ffydd ? A ydych chwi mor ynfyd ? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd , a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd ? A ddioddefasoch gymaint yn ofer ? os yw ofer hefyd . Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd , ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith , ai o weithredoedd y ddeddf , neu o wrandawiad ffydd , y mae ? Megis y credodd Abraham i Dduw , ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder . Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd , y rhai hynny yw plant Abraham . A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd , a ragefengylodd i Abraham , gan ddywedyd , Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd . Felly gan hynny , y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon . Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf , dan felltith y maent : canys ysgrifennwyd , Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf , i’w gwneuthur hwynt . Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw , eglur yw : oblegid , Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd . A’r ddeddf nid yw o ffydd : eithr , Y dyn a wna’r pethau hynny , a fydd byw ynddynt . Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf , gan ei wneuthur yn felltith trosom : canys y mae yn ysgrifenedig , Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren : Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd , trwy Grist Iesu ; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd . Y brodyr , dywedyd yr wyf ar wedd ddynol ; Cyd na byddo ond amod dyn , wedi y cadarnhaer , nid yw neb yn ei ddirymu , neu yn rhoddi ato . I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion , ac i’w had ef . Nid yw yn dywedyd , Ac i’w hadau , megis am lawer ; ond megis am un , Ac i’th had di , yr hwn yw Crist . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd , am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist , nad yw’r ddeddf , oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi , yn ei ddirymu , i wneuthur yr addewid yn ofer . Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth , nid yw haeach o’r addewid : ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid . Beth gan hynny yw’r ddeddf ? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg , hyd oni ddelai’r had , i’r hwn y gwnaethid yr addewid ; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr . A chyfryngwr nid yw i un ; ond Duw sydd un . A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw ? Na ato Duw : canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau , yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder . Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod , fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu . Eithr cyn dyfod ffydd , y’n cadwyd dan y ddeddf , wedi ein cyd‐gau i’r ffydd , yr hon oedd i’w datguddio . Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist , fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd . Eithr wedi dyfod ffydd , nid ydym mwyach dan athro . Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu . Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist , a wisgasoch Grist . Nid oes nac Iddew na Groegwr , nid oes na chaeth na rhydd , nid oes na gwryw na benyw : canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu . Ac os eiddo Crist ydych , yna had Abraham ydych , ac etifeddion yn ôl yr addewid . A hyn yr wyf yn ei ddywedyd : dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen , nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas , er ei fod yn arglwydd ar y cwbl ; Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr , hyd yr amser a osodwyd gan y tad . Felly ninnau hefyd , pan oeddem fechgyn , oeddem gaethion dan wyddorion y byd : Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser , y danfonodd Duw ei Fab , wedi ei wneuthur o wraig , wedi ei wneuthur dan y ddeddf ; Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf , fel y derbyniem y mabwysiad . Ac oherwydd eich bod yn feibion , yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi , yn llefain , Abba , Dad . Felly nid wyt ti mwy yn was , ond yn fab ; ac os mab , etifedd hefyd i Dduw trwy Grist . Eithr y pryd hynny , pan oeddech heb adnabod Duw , chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau . Ac yn awr , a chwi yn adnabod Duw , ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw , pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion , y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu ? Cadw yr ydych ddiwrnodau , a misoedd , ac amseroedd , a blynyddoedd . Y mae arnaf ofn amdanoch , rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer . Byddwch fel myfi , canys yr wyf fi fel chwi , y brodyr , atolwg i chwi : ni wnaethoch i mi ddim cam . A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf . A’m profedigaeth , yr hon oedd yn fy nghnawd , ni ddiystyrasoch , ac ni ddirmygasoch ; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw , megis Crist Iesu . Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi ? canys tystio yr wyf i chwi , pe buasai bosibl , y tynasech eich llygaid , ac a’u rhoesech i mi . A euthum i gan hynny yn elyn i chwi , wrth ddywedyd i chwi y gwir ? Y maent yn rhoi mawr serch arnoch , ond nid yn dda ; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan , fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy . Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol , ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi . Fy mhlant bychain , y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn , hyd oni ffurfier Crist ynoch ; Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi , a newidio fy llais ; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch . Dywedwch i mi , y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf , onid ydych chwi yn clywed y ddeddf ? Canys y mae’n ysgrifenedig , fod i Abraham ddau fab ; un o’r wasanaethferch , ac un o’r wraig rydd . Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch , a aned yn ôl y cnawd ; a’r hwn oedd o’r wraig rydd , trwy’r addewid . Yr hyn bethau ydynt mewn alegori : canys y rhai hyn yw’r ddau destament ; un yn ddiau o fynydd Seina , yn cenhedlu i gaethiwed , yr hon yw Agar : Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia , ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr ; ac y mae yn gaeth , hi a’i phlant . Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd , yr hon yw ein mam ni oll . Canys ysgrifenedig yw , Llawenha , di’r amhlantadwy , yr hon nid wyt yn epilio ; tor allan a llefa , yr hon nid wyt yn esgor : canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr . A ninnau , frodyr , megis yr oedd Isaac , ydym blant yr addewid . Eithr megis y pryd hynny , yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd , felly yr awr hon hefyd . Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd ? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab : canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd . Felly , frodyr , nid plant i’r wasanaethferch ydym , ond i’r wraig rydd . Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni ; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed . Wele , myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych , Os enwaedir chwi , ni lesâ Crist ddim i chwi . Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir , ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf . Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist , y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf : chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras . Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder . Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim , na dienwaediad ; ond ffydd yn gweithio trwy gariad . Chwi a redasoch yn dda ; pwy a’ch rhwystrodd chwi , fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd ? Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi . Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does . Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd , na syniwch chwi ddim arall : ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth , pwy bynnag fyddo . A myfi , frodyr , os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu , paham y’m herlidir eto ? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes . Mi a fynnwn , ie , pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch . Canys i ryddid y’ch galwyd chwi , frodyr : yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd , ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd . Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair , sef yn hwn ; Câr dy gymydog fel ti dy hun . Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych , gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd . Ac yr wyf yn dywedyd , Rhodiwch yn yr Ysbryd , ac na chyflawnwch drachwant y cnawd . Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd , a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd : a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd , fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch . Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir , nid ydych dan y ddeddf . Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd ; y rhai yw , torpriodas , godineb , aflendid , anlladrwydd , Delw‐addoliaeth , swyn‐gyfaredd , casineb , cynhennau , gwynfydau , llid , ymrysonau , ymbleidio , heresïau , Cenfigennau , llofruddiaeth , meddwdod , cyfeddach , a chyffelyb i’r rhai hyn : am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych , megis ag y rhagddywedais , na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw . Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw , cariad , llawenydd , tangnefedd , hirymaros , cymwynasgarwch , daioni , ffydd , addfwynder , dirwest : Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf . A’r rhai sydd yn eiddo Crist , a groeshoeliasant y cnawd , â’i wyniau a’i chwantau . Os byw yr ydym yn yr Ysbryd , rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd . Na fyddwn wag‐ogoneddgar , gan ymannog ein gilydd , gan ymgenfigennu wrth ein gilydd . Y brodyr , os goddiweddir dyn ar ryw fai , chwychwi y rhai ysbrydol , adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder ; gan dy ystyried dy hun , rhag dy demtio dithau . Dygwch feichiau eich gilydd , ac felly cyflawnwch gyfraith Crist . Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth , ac yntau heb fod yn ddim , y mae efe yn ei dwyllo ei hun . Eithr profed pob un ei waith ei hun : ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig , ac nid mewn arall . Canys pob un a ddwg ei faich ei hun . A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu , ym mhob peth da . Na thwyller chwi ; ni watwarir Duw : canys beth bynnag a heuo dyn , hynny hefyd a fed efe . Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun , o’r cnawd a fed lygredigaeth : eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd , o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol . Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn : canys yn ei iawn bryd y medwn , oni ddiffygiwn . Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas , gwnawn dda i bawb , ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd . Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun . Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd , y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu ; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist . Canys nid yw’r rhai a enwaedir , eu hunain yn cadw’r ddeddf ; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi , fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi . Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist , trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi , a minnau i’r byd . Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim , na dienwaediad , ond creadur newydd . A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon , tangnefedd arnynt a thrugaredd , ac ar Israel Duw . O hyn allan na flined neb fi : canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu . Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi , frodyr . Amen . </passage></reply></GetPassage>