<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:49</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:49</urn><passage>Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , at y saint sydd yn Effesus , a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist : Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd , fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad : Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun , yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef , Er mawl gogoniant ei ras ef , trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd : Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef , sef maddeuant pechodau , yn ôl cyfoeth ei ras ef ; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall , Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys , yn ôl ei fodlonrwydd ei hun , yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun : Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd , y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd , ac ar y ddaear , ynddo ef : Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd , wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun : Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef , y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist . Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd , wedi i chwi glywed gair y gwirionedd , efengyl eich iachawdwriaeth : yn yr hwn hefyd , wedi i chwi gredu , y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid ; Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni , hyd bryniad y pwrcas , i fawl ei ogoniant ef . Oherwydd hyn minnau hefyd , wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu , a’ch cariad tuag ar yr holl saint , Nid wyf yn peidio â diolch drosoch , gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau ; Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist , Tad y gogoniant , roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad , trwy ei adnabod ef : Wedi goleuo llygaid eich meddyliau ; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef , a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint , A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu , yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef ; Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist , pan ei cyfododd ef o feirw , ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd , Goruwch pob tywysogaeth , ac awdurdod , a gallu , ac arglwyddiaeth , a phob enw a enwir , nid yn unig yn y byd hwn , ond hefyd yn yr hwn a ddaw : Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef , ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys , Yr hon yw ei gorff ef , ei gyflawnder ef , yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll . A chwithau a fywhaodd efe , pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau ; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn , yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr , yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod ; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt , yn chwantau ein cnawd , gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau ; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint , megis eraill . Eithr Duw , yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd , oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni , Ie , pan oeddem feirw mewn camweddau , a’n cydfywhaodd ni gyda Christ , ( trwy ras yr ydych yn gadwedig ; ) Ac a’n cydgyfododd , ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu : Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai , ragorol olud ei ras ef , trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu . Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig , trwy ffydd ; a hynny nid ohonoch eich hunain : rhodd Duw ydyw : Nid o weithredoedd , fel nad ymffrostiai neb . Canys ei waith ef ydym , wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da , y rhai a ragddarparodd Duw , fel y rhodiem ni ynddynt . Am hynny cofiwch , a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd , y rhai a elwid yn ddienwaediad , gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd ; Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist , wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel , ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid , heb obaith gennych , ac heb Dduw yn y byd : Eithr yr awron yng Nghrist Iesu , chwychwi , y rhai oeddech gynt ymhell , a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist . Canys efe yw ein tangnefedd ni , yr hwn a wnaeth y ddau yn un , ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni : Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth , sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau , fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd , gan wneuthur heddwch ; Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes , wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi . Ac efe a ddaeth , ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell , ac i’r rhai agos . Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad . Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid , ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint , ac yn deulu Duw ; Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi , ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen ; Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu , yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd : Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd . Er mwyn hyn , myfi Paul , carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd ; Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw , yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi : Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch , ( megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau , Wrth yr hyn y gellwch , pan ddarllenoch , wybod fy neall i yn nirgelwch Crist , ) Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion , fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd ; Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion , ac yn gyd‐gorff , ac yn gyd‐gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist , trwy’r efengyl : I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog , yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi , yn ôl grymus weithrediad ei allu ef . I mi , y llai na’r lleiaf o’r holl saint , y rhoddwyd y gras hwn , i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist ; Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch , yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw , yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist : Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd , trwy’r eglwys , fawr amryw ddoethineb Duw , Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni : Yn yr hwn y mae i ni hyfdra , a dyfodfa mewn hyder , trwy ei ffydd ef . Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch , yr hyn yw eich gogoniant chwi . Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist , O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear , Ar roddi ohono ef i chwi , yn ôl cyfoeth ei ogoniant , fod wedi ymgadarnhau mewn nerth , trwy ei Ysbryd ef , yn y dyn oddi mewn ; Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi ; Fel y galloch , wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad , amgyffred gyda’r holl saint , beth yw’r lled , a’r hyd , a’r dyfnder , a’r uchder ; A gwybod cariad Crist , yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth , fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw . Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol , y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno , neu yn eu meddwl , yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni , Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu , dros yr holl genedlaethau , hyd yn oes oesoedd . Amen . Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi , y carcharor yn yr Arglwydd , ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi , Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder , ynghyd â hirymaros , gan oddef eich gilydd mewn cariad ; Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd . Un corff sydd , ac un Ysbryd , megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth ; Un Arglwydd , un ffydd , un bedydd , Un Duw a Thad oll , yr hwn sydd goruwch oll , a thrwy oll , ac ynoch oll . Eithr i bob un ohonom y rhoed gras , yn ôl mesur dawn Crist . Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd , Pan ddyrchafodd i’r uchelder , efe a gaethiwodd gaethiwed , ac a roddes roddion i ddynion . ( Eithr efe a ddyrchafodd , beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear ? Yr hwn a ddisgynnodd , yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd , fel y cyflawnai bob peth . ) Ac efe a roddes rai yn apostolion , a rhai yn broffwydi , a rhai yn efengylwyr , a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon ; I berffeithio’r saint , i waith y weinidogaeth , i adeilad corff Crist : Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd , a gwybodaeth Mab Duw , yn ŵr perffaith , at fesur oedran cyflawnder Crist : Fel na byddom mwyach yn blantos , yn bwhwman , ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth , trwy hoced dynion , trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo : Eithr , gan fod yn gywir mewn cariad , cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth , yr hwn yw’r pen , sef Crist : O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu , trwy bob cymal cynhaliaeth , yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan , yn gwneuthur cynnydd y corff , i’w adeiladu ei hun mewn cariad . Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd , ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd , na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio , yn oferedd eu meddwl , Wedi tywyllu eu deall , wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw , trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt , trwy ddallineb eu calon : Y rhai wedi diddarbodi , a ymroesant i drythyllwch , i wneuthur pob aflendid yn unchwant . Eithr chwychwi , nid felly y dysgasoch Grist ; Os bu i chwi ei glywed ef , ac os dysgwyd chwi ynddo , megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu : Dodi ohonoch heibio , o ran yr ymarweddiad cyntaf , yr hen ddyn , yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus ; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl ; A gwisgo’r dyn newydd , yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd . Oherwydd paham , gan fwrw ymaith gelwydd , dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog : oblegid aelodau ydym i’n gilydd . Digiwch , ac na phechwch : na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi : Ac na roddwch le i ddiafol . Yr hwn a ladrataodd , na ladrated mwyach : eithr yn hytrach cymered boen , gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda ; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno . Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi , ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol , fel y paro ras i’r gwrandawyr . Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw , trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth . Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd , a llid , a dig , a llefain , a chabledd , gyda phob drygioni : A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd , yn dosturiol , yn maddau i’ch gilydd , megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau . Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw , fel plant annwyl ; A rhodiwch mewn cariad , megis y carodd Crist ninnau , ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni , yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd . Eithr godineb , a phob aflendid , neu gybydd‐dra , nac enwer chwaith yn eich plith , megis y gweddai i saint ; Na serthedd , nac ymadrodd ffôl , na choeg ddigrifwch , pethau nid ydynt weddus : eithr yn hytrach rhoddi diolch . Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn , am bob puteiniwr , neu aflan , neu gybydd , yr hwn sydd ddelw‐addolwr , nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw . Na thwylled neb chwi â geiriau ofer : canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod . Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt . Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch , ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd : rhodiwch fel plant y goleuni ; ( Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni , a chyfiawnder , a gwirionedd ; ) Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd . Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch , eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt . Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel . Eithr pob peth , wedi yr argyhoedder , a eglurir gan y goleuni : canys beth bynnag sydd yn egluro , goleuni yw . Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd , Deffro di yr hwn wyt yn cysgu , a chyfod oddi wrth y meirw ; a Christ a oleua i ti . Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus , nid fel annoethion , ond fel doethion ; Gan brynu’r amser , oblegid y dyddiau sydd ddrwg . Am hynny na fyddwch annoethion , eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd . Ac na feddwer chwi gan win , yn yr hyn y mae gormodedd ; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd ; Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau , a hymnau , ac odlau ysbrydol ; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd ; Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth , yn enw ein Harglwydd Iesu Grist ; Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw . Y gwragedd , ymostyngwch i’ch gwŷr priod , megis i’r Arglwydd . Oblegid y gŵr yw pen y wraig , megis ag y mae Crist yn ben i‘r eglwys ; ac efe yw Iachawdwr y corff . Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist , felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth . Y gwŷr , cerwch eich gwragedd , megis ag y carodd Crist yr eglwys , ac a’i rhoddes ei hun drosti ; Fel y sancteiddiai efe hi , a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair ; Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun , yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni , na dim o’r cyfryw ; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius . Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd , megis eu cyrff eu hunain . Yr hwn a garo ei wraig , sydd yn ei garu ei hun . Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun ; eithr ei fagu a’i feithrin y mae , megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys : Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef , o’i gnawd ef , ac o’i esgyrn ef . Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam , ac y glŷn wrth ei wraig , a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd . Y dirgelwch hwn sydd fawr : eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd . Ond chwithau hefyd cymain un , felly cared pob un ohonoch ei wraig , fel ef ei hunan ; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr . Y plant , ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd : canys hyn sydd gyfiawn . Anrhydedda dy dad a’th fam , ( yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid ; ) Fel y byddo yn dda i ti , ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear . A chwithau dadau , na yrrwch eich plant i ddigio ; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd . Y gweision , ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd , gydag ofn a dychryn , yn symlrwydd eich calon , megis i Grist ; Nid â golwg‐wasanaeth , fel bodlonwyr dynion , ond fel gweision Crist , yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon ; Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth , megis i’r Arglwydd , ac nid i ddynion : Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un , hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd , pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo . A chwithau feistriaid , gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy , gan roddi bygwth heibio : gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd ; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef . Heblaw hyn , fy mrodyr , ymnerthwch yn yr Arglwydd , ac yng nghadernid ei allu ef . Gwisgwch holl arfogaeth Duw , fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol . Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd , ond yn erbyn tywysogaethau , yn erbyn awdurdodau , yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn , yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd . Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw , fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg ; ac wedi gorffen pob peth , sefyll . Sefwch gan hynny , wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd , a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder ; A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd : Uwchlaw pob dim , wedi cymryd tarian y ffydd , â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall . Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth , a chleddyf yr Ysbryd , yr hwn yw gair Duw : Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd , a bod yn wyliadwrus at hyn yma , trwy bob dyfalbara , a deisyfiad dros yr holl saint ; A throsof finnau , fel y rhodder i mi ymadrodd , trwy agoryd fy ngenau yn hy , i hysbysu dirgelwch yr efengyl ; Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn : fel y traethwyf yn hy amdani , fel y perthyn imi draethu . Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt , beth yr wyf yn ei wneuthur , Tychicus , y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd , a hysbysa i chwi bob peth : Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma ; fel y caech wybod ein helynt ni , ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi . Tangnefedd i’r brodyr , a chariad gyda ffydd , oddi wrth Dduw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb . Amen . </passage></reply></GetPassage>