<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:5</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:5</urn><passage>Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel , o’r tu yma i’r Iorddonen , yn yr anialwch , ar y rhos gyferbyn â’r môr coch , rhwng Paran , a Toffel , a Laban , a Haseroth , a Disahab . ( Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb , ffordd yr eir i fynydd Seir , hyd Cades‐Barnea . ) A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn , yn yr unfed mis ar ddeg , ar y dydd cyntaf o’r mis , i Moses lefaru wrth feibion Israel , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt ; Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , ac Og brenin Basan , yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth , o fewn Edrei ; O’r tu yma i’r Iorddonen , yng ngwlad Moab , y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon , gan ddywedyd . Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb , gan ddywedyd , Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn : Dychwelwch , a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid , ac i’w holl gyfagos leoedd ; i’r rhos , i’r mynydd , ac i’r dyffryn , ac i’r deau , ac i borthladd y môr , i dir y Canaaneaid , ac i Libanus , hyd yr afon fawr , afon Ewffrates . Wele , rhoddais y wlad o’ch blaen chwi : ewch i mewn , a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi , i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , ar ei rhoddi iddynt , ac i’w had ar eu hôl hwynt . A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi : Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi ; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd . ( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych , ac a’ch bendithio , fel y llefarodd efe wrthych ! ) Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder , a’ch baich , a’ch ymryson chwi ? Moeswch i chwi wŷr doethion , a deallus , a rhai hynod trwy eich llwythau ; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi . Ac atebasoch fi , a dywedasoch , Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist . Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi , sef gwŷr doethion , a rhai hynod , ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch ; sef yn gapteiniaid ar filoedd , ac yn gapteiniaid ar gannoedd , ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain , ac yn gapteiniaid ar ddegau , ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi . A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi , gan ddywedyd , Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd , ac a’r dieithr sydd gydag ef . Na chydnabyddwch wynebau mewn barn ; gwrandewch ar y lleiaf , yn gystal ag ar y mwyaf : nac ofnwch wyneb gŵr ; oblegid y farn sydd eiddo Duw : a’r peth a fydd rhy galed i chwi , a ddygwch ataf fi , a mi a’i gwrandawaf . Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur . A phan fudasom o Horeb , ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw , yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid , fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni : ac a ddaethom i Cades‐Barnea . A dywedais wrthych , Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid , yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni . Wele , yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen : dos i fyny a pherchenoga hi , fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt ; nac ofna , ac na lwfrha . A chwi oll a ddaethoch ataf , ac a ddywedasoch , Anfonwn wŷr o’n blaen , a hwy a chwiliant y wlad i ni , ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi , ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt . A’r peth oedd dda yn fy ngolwg : ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch , un gŵr o bob llwyth . A hwy a droesant , ac a aethant i fyny i’r mynydd , ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol , ac a’i chwiliasant ef . Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw , ac a’i dygasant i waered atom ni , ac a ddygasant air i ni drachefn , ac a ddywedasant , Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni . Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw . Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch , Am gasáu o’r Arglwydd nyni , y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid , i’n difetha . I ba le yr awn i fyny ? ein brodyr a’n digalonasant ni , gan ddywedyd , Pobl fwy a hwy na nyni ydynt ; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd : meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno . Yna y dywedais wrthych , Nac arswydwch , ac nac ofnwch rhagddynt hwy . Yr Arglwydd eich Duw , yr hwn sydd yn myned o’ch blaen , efe a ymladd drosoch , yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid ; Ac yn yr anialwch , lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw , fel y dwg gŵr ei fab , yn yr holl ffordd a gerddasoch , nes eich dyfod i’r man yma . Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw , Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd , i chwilio i chwi am le i wersyllu ; y nos mewn tân , i ddangos i chwi pa ffordd yr aech , a’r dydd mewn cwmwl . A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau ; ac a ddigiodd , ac a dyngodd , gan ddywedyd , Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn , o’r genhedlaeth ddrwg hon , weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi ; Oddieithr Caleb mab Jeffunne : efe a’i gwêl hi , ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni , ac i’w feibion ; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd . Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi , gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno . Josua mab Nun , yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di , efe a â i mewn yno : cadarnha di ef ; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel . Eich plant hefyd , y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail , a’ch meibion chwi , y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg , hwynt‐hwy a ânt i mewn yno , ac iddynt hwy y rhoddaf hi , a hwy a’i perchenogant hi . Trowch chwithau , ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch . Yna yr atebasoch , ac a ddywedasoch wrthyf , Pechasom yn erbyn yr Arglwydd : nyni a awn i fyny ac a ymladdwn , yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni . A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel , ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Dywed wrthynt , Nac ewch i fyny , ac na ryfelwch ; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi ; rhag eich taro o flaen eich gelynion Felly y dywedais wrthych ; ond ni wrandawsoch , eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd ; rhyfygasoch hefyd , ac aethoch i fyny i’r mynydd . A daeth allan yr Amoriaid , oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw , i’ch cyfarfod chwi ; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn , ac a’ch difethasant chwi yn Seir , hyd Horma . A dychwelasoch , ac wylasoch gerbron yr Arglwydd : ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef , ac ni roddes glust i chwi . Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer , megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen . Yna y troesom , ac yr aethom i’r anialwch , ar hyd ffordd y môr coch , fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf , ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer . Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf gan ddywedyd , Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn ; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd . A gorchymyn i’r bobl , gan ddywedyd , Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr , meibion Esau , y rhai sydd yn trigo yn Seir : a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal . Nac ymyrrwch arnynt : oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint â lled troed ; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir ; Prynwch fwyd ganddynt am arian , fel y bwytaoch : a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian , fel yr yfoch . Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law : gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn : y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi ; ni bu arnat eisiau dim . Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr , meibion Esau , y rhai ydynt yn trigo yn Seir , o ffordd y rhos o Elath , ac o Esion‐Gaber , ni a ddychwelasom , ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Na orthryma Moab , ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt : oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef ; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth ( Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi ; pobl fawr ac aml , ac uchel , fel yr Anaciaid ; Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd , fel yr Anaciaid ; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid . Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen ; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt , ac a’u difethasant o’u blaen , a thrigasant yn eu lle hwynt ; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau , yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt . ) Yna y dywedais , Cyfodwch yn awr , a thramwywch rhagoch dros afon Sared . A ni a aethom dros afon Sared . A’r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea , hyd pan ddaethom dros afon Sared , oedd onid dwy flynedd deugain ; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau , fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt . Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt , i’w torri hwynt o ganol y gwersyll , hyd oni ddarfuant . A bu , wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd , Lefaru o’r Arglwydd wrthyf , gan ddywedyd , Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab , sef trwy Ar : A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon , na orthryma hwynt , ac nac ymyrr arnynt ; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti ; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot . ( Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi : cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen ; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Samsummiaid : Pobl fawr ac aml , ac uchel , fel yr Anaciaid , a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy ; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt , ac a drigasant yn eu lle hwynt . Fel y gwnaeth i feibion Esau , y rhai sydd yn trigo yn Seir , pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen , fel y daethant ar eu hôl hwynt , ac y trigasant yn eu lle hwynt , hyd y dydd hwn ; Felly am yr Afiaid , y rhai oedd yn trigo yn Haserim , hyd Assa , y Cafftoriaid , y rhai a ddaethant allan o Cafftor , a’u difethasant hwy , ac a drigasant yn eu lle hwynt . ) Cyfodwch , cychwynnwch , ac ewch dros afon Arnon : wele , rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon , yr Amoriad , a’i wlad ef ; dechrau ei meddiannu hi , a rhyfela yn ei erbyn ef . Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd : y rhai a glywant dy enw di , a ddychrynant , ac a lesgânt rhagot ti . A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth , at Sehon brenin Hesbon , â geiriau heddwch , gan ddywedyd , Gad i mi fyned trwy dy wlad di : ar hyd y briffordd y cerddaf ; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy . Gwerth fwyd am arian i mi , fel y bwytawyf ; a dyro ddwfr am arian i mi , fel yr yfwyf : ar fy nhraed yn unig y tramwyaf ; ( Fel y gwnaeth meibion Esau i mi , y rhai sydd yn trigo yn Seir , a’r Moabiaid , y rhai sydd yn trigo yn Ar ; ) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen , i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni . Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law : oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei ysbryd ef , ac a gadarnhasai ei galon ef , er mwyn ei roddi ef yn dy law di ; megis heddiw y gwelir . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Wele , dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di : dechrau feddiannu , fel yr etifeddech ei wlad ef . Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni , efe a’i holl bobl , i ryfel yn Jahas . Ond yr Arglwydd ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen ; ac ni a’i trawsom ef , a’i feibion , a’i holl bobl : Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw , ac a ddifrodasom bob dinas , yn wŷr , yn wragedd , yn blant ; ac ni adawsom un yng ngweddill . Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni , ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom . O Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , ac o’r ddinas sydd ar yr afon , a hyd at Gilead , ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom : yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni . Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon , sef holl lan afon Jabboc , nac i ddinasoedd y mynydd , nac i’r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni . Yna y troesom , ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan ; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni , efe a’i holl bobl , i ryfel , i Edrei . A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf , Nac ofna ef : oblegid yn dy law di y rhoddaf ef , a’i holl bobl , a’i wlad ; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon . Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan , a’i holl bobl ; ac ni a’i trawsom ef , hyd na adawyd iddo un yng ngweddill : Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw , fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt ; trigain dinas , holl wlad Argob , brenhiniaeth Og o fewn Basan . Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel , pyrth , a barrau , heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn . A difrodasom hwynt , fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon , gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr , y gwragedd , a’r plant . Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain . A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen , o afon Arnon hyd fynydd Hermon ; ( Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion , a’r Amoriaid a’i galwant Senir ; ) Holl ddinasoedd y gwastad , a holl Gilead , a holl Basan hyd Selcha ac Edrei , dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan . Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri : wele , ei wely ef oedd wely haearn : onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon ? naw cufydd oedd ei hyd , a phedwar cufydd ei led , wrth gufydd gŵr . A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw , o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon , a hanner mynydd Gilead , a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid . A’r gweddill o Gilead , a holl Basan , sef brenhiniaeth Og , a roddais i hanner llwyth Manasse ; sef holl wlad Argob , a holl Basan , yr hon a elwid Gwlad y cewri . Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob , hyd fro Gesuri , a Maachathi ; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun , Basan Hafoth‐Jair , hyd y dydd hwn . Ac i Machir y rhoddais i Gilead . Ac i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon , hanner yr afon a’r terfyn , a hyd yr afon Jabboc , terfyn meibion Ammon : Hefyd y rhos , a’r Iorddonen , a’r terfyn o Cinnereth , hyd fôr y rhos , sef y môr heli , dan Asdoth‐Pisga , tua’r dwyrain . Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu : ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel , pob rhai pybyr ohonoch . Yn unig eich gwragedd , a’ch plant , a’ch anifeiliaid , ( gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi , ) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi . Hyd pan wnelo’r Arglwydd i’ch brodyr orffwyso fel chwithau , a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen : yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi . Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw , gan ddywedyd , Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn : felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt . Nac ofnwch hwynt : oblegid yr Arglwydd eich Duw , efe a ymladd drosoch chwi . Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw , gan ddywedyd , O Arglwydd Dduw , tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd , a’th law gadarn ; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd , neu ar y ddaear , yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di ? Gad i mi fyned drosodd , atolwg , a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen , a’r mynydd da hwnnw , a Libanus . Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi , ac ni wrandawodd arnaf : ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf , Digon yw hynny i ti ; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn . Dos i fyny i ben Pisga , a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin , a’r gogledd , a’r deau a’r dwyrain , ac edrych arni â’th lygaid : oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon . Gorchymyn hefyd i Josua , a nertha a chadarnha ef : oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma , ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di . Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor . Bellach gan hynny , O Israel , gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur ; fel y byddoch byw , ac yr eloch , ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi . Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi , ac na leihewch ddim ohono ef , gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi . Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal‐peor ; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal‐peor , yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di . Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw , byw ydych heddiw oll . Wele , dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi ; i wneuthur ohonoch felly , yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu . Cedwch gan hynny , a gwnewch hwynt : oblegid hyn yw eich doethineb , a’ch deall chwi , yng ngolwg y bobloedd , y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn , ac a ddywedant , Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon . Oblegid pa genedl mor fawr , yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati , fel yr Arglwydd ein Duw ni , ym mhob dim a’r y galwom arno ? A pha genedl mor fawr , yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn , megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi ? Ond gochel arnat , a chadw dy enaid yn ddyfal , rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid , a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes ; ond hysbysa hwynt i’th feibion , ac i feibion dy feibion : Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb , pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cynnull i mi y bobl , fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau , y rhai a ddysgant i’m hofni i , yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear , ac y dysgont hwynt i’w meibion . A nesasoch , a safasoch dan y mynydd a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr , yn dywyllwch , a chwmwl , a thywyllwch dudew . A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân , a chwi a glywsoch lais y geiriau , ac nid oeddech yn gweled llun dim , ond llais . Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur , sef y dengair ; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen . A’r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau , i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu . Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau , ( oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb , o ganol y tân , ) Rhag ymlygru ohonoch , a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig , cyffelybrwydd un ddelw , llun gwryw neu fenyw , Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear , llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr , Llun un ymlusgiad ar y ddaear , llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear ; Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd , a gweled yr haul , a’r lleuad , a’r sêr , sef holl lu y nefoedd , a’th yrru di i ymgrymu iddynt , a gwasanaethu ohonot hwynt , y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd . Ond yr Arglwydd a’ch cymerodd chwi , ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn , o’r Aifft , i fod iddo ef yn bobl , yn etifeddiaeth ; fel y gwelir y dydd hwn . A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi , ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen , ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth . Oblegid byddaf farw yn y wlad hon ; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen : ond chwychwi a ewch drosodd , ac a feddiennwch y wlad dda honno . Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a amododd efe â chwi , a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig , llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol , a Duw eiddigus . Pan genhedlych feibion , ac wyrion , a hir drigo ohonoch yn y wlad , ac ymlygru ohonoch , a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig , llun dim , a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef ; Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear , gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu : nid estynnwch ddyddiau ynddo , ond gan ddifetha y’ch difethir . A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd , a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd , y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt : Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn , sef pren a maen , y rhai ni welant , ac ni chlywant , ac ni fwytânt ac nid aroglant . Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw , ti a’i cei ef , os ceisi ef â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Pan gyfyngo arnat , a digwyddo yr holl bethau hyn i ti , yn y dyddiau diwethaf , os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef : ( Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog ; ) ni edy efe di , ac ni’th ddifetha , ac nid anghofia gyfamod dy dadau , yr hwn a dyngodd efe wrthynt . Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt , a fu o’th flaen di , o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear , ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd , a fu megis y mawrbeth hwn , neu a glybuwyd ei gyffelyb ef : A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân , fel y clywaist ti , a byw ? A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl , trwy brofedigaethau , trwy arwyddion , a thrwy ryfeddodau , a thrwy ryfel , a thrwy law gadarn , a thrwy fraich estynedig , a thrwy ofn mawr , fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid ? Gwnaethpwyd i ti weled hynny , i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw , nad oes neb arall ond efe . O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais , i’th hyfforddi di ; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr , a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef . Ac o achos iddo garu dy dadau , am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl ; ac a’th ddug di o’i flaen , â’i fawr allu , allan o’r Aifft : I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di , i’th ddwyn di i mewn , i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth , fel heddiw . Gwybydd gan hynny heddiw , ac ystyria yn dy galon , mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd , ac ar y ddaear oddi tanodd ; ac nid neb arall . Cadw dithau ei ddeddfau ef , a’i orchmynion , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw ; fel y byddo yn dda i ti , ac i’th feibion ar dy ôl di , fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth . Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad haul ; I gael o’r llofrudd ffoi yno , yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus , ac efe heb ei gasáu o’r blaen ; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny , a byw : Sef Beser yn yr anialwch , yng ngwastatir y Reubeniaid ; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid ; a Golan o fewn Basan y Manassiaid . A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel ; Dyma ’r tystiolaethau , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , a lefarodd Moses wrth feibion Israel , gwedi eu dyfod allan o’r Aifft : Tu yma i’r Iorddonen , yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor , yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel , wedi eu dyfod allan o’r Aifft : Ac a berchenogasant ei wlad ef , a gwlad Og brenin Basan , dau o frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad haul ; O Aroer , yr hon oedd ar lan afon Arnon , hyd fynydd Seion , hwn yw Hermon ; A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain , a hyd at fôr y rhos , dan Asdoth‐Pisga . A Moses a alwodd holl Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Clyw , O Israel , y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw ; fel y byddo i chwi eu dysgu , a’u cadw , a’u gwneuthur . Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb . Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn , ond â nyni ; nyni , y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw . Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd , o ganol y tân , ( Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi , i fynegi i chwi air yr Arglwydd : canys ofni a wnaethoch rhag y tân , ac nid esgynnech i’r mynydd , ) gan ddywedyd , Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi , yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i . Na wna i ti ddelw gerfiedig , na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod , nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod , nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear : Nac ymgryma iddynt , ac na wasanaetha hwynt : oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus , yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant , hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt ; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant , ac a gadwant fy ngorchmynion . Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer : canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer . Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Chwe diwrnod y gweithi , ac y gwnei dy holl waith : Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw : na wna ynddo ddim gwaith , tydi , na’th fab , na’th ferch , na’th was , na’th forwyn , na’th ych , na’th asyn , nac yr un o’th anifeiliaid , na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth ; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn , fel ti dy hun . A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft , a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn , ac â braich estynedig : am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth . Anrhydedda dy dad a’th fam , fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti ; fel yr estynner dy ddyddiau , ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Na ladd . Ac na wna odineb . Ac na ladrata . Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog . Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog , na’i faes , na’i was , na’i forwyn , na’i ych , na’i asyn , na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog . Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd , o ganol y tân , y cwmwl , a’r tywyllwch , â llais uchel ; ac ni chwanegodd ddim ; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig , ac a’u rhoddes ataf fi . A darfu , wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch , ( a’r mynydd yn llosgi gan dân , ) yna nesasoch ataf , sef holl benaethiaid eich llwythau , a’ch henuriaid chwi ; Ac a ddywedasoch , Wele , yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant , a’i fawredd ; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân : heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn , a byw ohono . Weithian gan hynny paham y byddwn feirw ? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni : canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach , marw a wnawn . Oblegid pa gnawd oll sydd , yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân , fel nyni , ac a fu fyw ? Nesâ di , a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw ; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti : a nyni a wrandawn , ac a wnawn hynny . A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi , pan lefarasoch wrthyf ; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Clywais lais geiriau y bobl hyn , y rhai a lefarasant wrthyt : da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant . O na byddai gyfryw galon ynddynt , i’m hofni i , ac i gadw fy holl orchmynion bob amser ; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol ! Dos , dywed wrthynt , Dychwelwch i’ch pebyll . Ond saf di yma gyda myfi ; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion , a’r deddfau , a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt , ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi : na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy . Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi ; fel y byddoch fyw , ac y byddo yn dda i chwi , ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch . Adyma ’r gorchmynion , y deddfau , a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi ; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu : Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw ei holl ddeddfau , a’i orchmynion ef , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti ; ti , a’th fab , a mab dy fab , holl ddyddiau dy einioes : ac fel yr estynner dy ddyddiau . Clyw gan hynny , O Israel , ac edrych am eu gwneuthur hwynt ; fel y byddo yn ddaionus i ti , ac fel y cynyddoch yn ddirfawr , fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti , mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . Clyw , O Israel ; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd . Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , ac â’th holl nerth . A bydded y geiriau hyn , yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw , yn dy galon . A hysbysa hwynt i’th blant ; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ , a phan gerddych ar y ffordd , a phan orweddych i lawr , a phan gyfodych i fyny . A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law ; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid . Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ , ac ar dy byrth . Ac fe a dderfydd , wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad , ( yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob , ar ei rhoddi i ti , ) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist , A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist , a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist , i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist , wedi i ti fwyta , a’th ddigoni ; Yna cadw arnat , rhag anghofio ohonot yr Arglwydd , yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed . Yr Arglwydd dy Dduw a ofni , ac ef a wasanaethi , ac i’w enw ef y tyngi . Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr , o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi : ( Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di , ) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn , a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear . Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw , fel y temtiasoch ef ym Massa . Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw , a’i dystiolaethau , a’i ddeddfau , y rhai a orchmynnodd efe i ti . A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd : fel y byddo da i ti , a myned ohonot i mewn , a pherchenogi’r wlad dda , yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di ; Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen , fel y llefarodd yr Arglwydd . Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn , gan ddywedyd , Beth yw y tystiolaethau , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi ? Yna dywed wrth dy fab , Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft ; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn . Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol , ar yr Aifft , ar Pharo a’i holl dŷ , yn ein golwg ni ; Ac a’n dug ni allan oddi yno , fel y dygai efe nyni i mewn , i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni . A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn , i ofni yr Arglwydd ein Duw , er daioni i ni yr holl ddyddiau ; fel y cadwai efe nyni yn fyw , megis y mae y dydd hwn . A chyfiawnder a fydd i ni , os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll , o flaen yr Arglwydd ein Duw , fel y gorchmynnodd efe i ni . Pan y’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu , a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di , yr Hethiaid , a’r Girgasiaid , a’r Amoriaid , a’r Canaaneaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid , saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi ; A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di , a tharo ohonot ti hwynt : gan ddifrodi difroda hwynt ; na wna gyfamod â hwynt , ac na thrugarha wrthynt . Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt : na ddod dy ferch i’w fab ef , ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau . Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i , fel y gwasanaethont dduwiau dieithr : felly yr ennyn llid yr Arglwydd i’ch erbyn chwi , ac a’th ddifetha di yn ebrwydd Ond fel hyn y gwnewch iddynt : Dinistriwch eu hallorau , a thorrwch eu colofnau hwynt ; cwympwch hefyd eu llwynau , a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân . Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw : yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun , o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear . Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd , yr hoffodd yr Arglwydd chwi , ac y’ch dewisodd ; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd Ond oherwydd caru o’r Arglwydd chwi , ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau , y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn , ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed , o law Pharo brenin yr Aifft . Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw , sef y Duw ffyddlon , yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef , ac a gadwant ei orchmynion , hyd fil o genedlaethau ; Ac yn talu’r pwyth i’w gas , yn ei wyneb gan ei ddifetha ef : nid oeda efe i’w gas ; yn ei wyneb y tâl efe iddo . Cadw gan hynny y gorchmynion , a’r deddfau , a’r barnedigaethau , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw , i’w gwneuthur . A bydd , o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn , a’u cadw , a’u gwneuthur hwynt ; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod , a’r drugaredd , a addawodd efe trwy lw i’th dadau di : Ac a’th gâr , ac a’th fendithia , ac a’th amlha di ; ac a fendiga ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir di , dy ŷd , a’th win , a’th olew , a chynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid , yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau , ar ei roddi i ti . Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd : ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon , nac ymhlith dy anifeiliaid di . Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid , ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft , y rhai a adwaenost : ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt . Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti : nac arbeded dy lygad hwynt , ac na wasanaetha eu duwiau hwynt ; oblegid magl i ti a fyddai hynny . Os dywedi yn dy galon , Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi ; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith ? Nac ofna rhagddynt : gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo , ac i’r holl Aifft : Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid , a’r arwyddion , a’r rhyfeddodau , a’r llaw gadarn , a’r braich estynedig , â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan : felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni . A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt , hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill , a’r rhai a ymguddiant rhagot ti . Nac ofna rhagddynt : oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di , yn Dduw mawr , ac ofnadwy . A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di , bob ychydig ac ychydig : ni elli eu difetha hwynt ar unwaith , rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi . Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di , ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr , nes eu difetha hwynt ; Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di , a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd : ni saif gŵr yn dy wyneb di , nes difetha ohonot ti hwynt . Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân : na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt , i’w cymryd i ti ; rhag dy faglu ag ef : oblegid ffieidd‐dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw . Na ddwg dithau ffieidd‐dra i’th dŷ , fel y byddech ysgymunbeth megis yntau : gan ddirmygu dirmyga ef , a chan ffieiddio ffieiddia ef : oblegid ysgymunbeth yw efe . Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw ; fel y byddoch fyw , ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn , ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw . A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn , trwy’r anialwch , er mwyn dy gystuddio di , gan dy brofi , i wybod yr hyn oedd yn dy galon , a gedwit ti ei orchmynion ef , ai nas cedwit . Ac efe a’th ddarostyngodd , ac a oddefodd i ti newynu , ac a’th fwydodd â manna , yr hwn nid adwaenit , ac nid adwaenai dy dadau ; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn , ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn . Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat , a’th droed ni chwyddodd , y deugain mlynedd hyn . Cydnebydd dithau yn dy galon , fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di , fel y dysg gŵr ei fab ei hun . A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd , ac i’w ofni ef . Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda , i wlad afonydd dyfroedd , ffynhonnau , a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn , ac yn y mynydd ; Gwlad gwenith , a haidd , a gwinwydd , a ffigyswydd , a phomgranadwydd ; gwlad olew olewydden , a mêl ; Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder , ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi ; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn , ac o’i mynyddoedd y cloddi bres . Pan fwyteych , a’th ddigoni ; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti . Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw , heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau , a’i ddeddfau ef , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw : Rhag wedi i ti fwyta , a’th ddigoni , ac adeiladu tai teg , a thrigo ynddynt ; A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di , ac amlhau o arian ac aur gennyt , ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt : Yna ymddyrchafu o’th galon , ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw , ( yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed ; Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy , lle yr ydoedd seirff tanllyd , ac ysgorpionau , a syched lle nid oedd dwfr ; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr ; Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna , yr hwn nid adwaenai dy dadau , er dy ddarostwng , ac er dy brofi di , i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd , ) A dywedyd ohonot yn dy galon , Fy nerth fy hun , a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn . Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw : oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth , fel y cadarnhao efe ei gyfamod , yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau , fel y mae y dydd hwn . Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw , a dilyn duwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt , ac ymgrymu iddynt ; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw , gan ddifetha y’ch difethir . Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi , felly y difethir chwithau ; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw . Gwrando , Israel : Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon , i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi , dinasoedd mwy a chryfach na thi , dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd ; Pobl fawr ac uchel , meibion Anac , y rhai a adnabuost , ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt , Pwy a saif o flaen meibion Anac ? Gwybydd gan hynny heddiw , fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol : efe a’u difetha hwynt , ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di : felly y gyrri hwynt ymaith , ac y difethi hwynt yn fuan , megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt . Na ddywed yn dy galon , wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di , gan ddywedyd , Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn : ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn , y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di . Nid am dy gyfiawnder di , nac am uniondeb dy galon , yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt : ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di , ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob . Gwybydd dithau , nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu : canys pobl wargaled ydych . Meddwl , ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch : o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft , hyd eich dyfod i’r lle hwn , gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd . Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd ; a digiodd yr Arglwydd wrthych i’ch difetha . Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini , sef llechau y cyfamod , yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi ; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos : bara ni fwyteais , a dwfr nid yfais . A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen , wedi eu hysgrifennu â bys Duw ; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd , o ganol y tân , ar ddydd y gymanfa . A bu , ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos , roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen ; sef llechau y cyfamod . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos oddi yma i waered yn fuan : canys ymlygrodd dy bobl , y rhai a ddygaist allan o’r Aifft : ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt ; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd . A llefarodd yr Arglwydd wrthyf , gan ddywedyd , Gwelais y bobl hyn ; ac wele , pobl wargaled ydynt . Paid â mi , a mi a’u distrywiaf hwynt , ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd ; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach , ac amlach na hwynt‐hwy . A mi a ddychwelais , ac a ddeuthum i waered o’r mynydd , a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân ; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo . Edrychais hefyd ; ac wele , pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw : gwnaethech i chwi lo tawdd : ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi . A mi a ymeflais yn y ddwy lech , ac a’u teflais hwynt o’m dwylo , ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid . A syrthiais gerbron yr Arglwydd , fel y waith gyntaf , ddeugain niwrnod a deugain nos ; ni fwyteais fara , ac nid yfais ddwfr : oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech , gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef . ( Canys ofnais rhag y soriant a’r dig , trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych , i’ch dinistrio chwi . ) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd . Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr , i’w ddifetha ef : a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno . Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch , sef y llo , a gymerais , ac a’i llosgais yn tân ; curais ef hefyd , gan ei falurio yn dda , nes ei falu yn llwch : a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd . O fewn Tabera hefyd , ac o fewn Massa , ac o fewn Beddau’r blys , yr oeddech yn digio’r Arglwydd . A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea , gan ddywedyd , Ewch i fyny , a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi , yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw : ni chredasoch hefyd iddo , ac ni wrandawsoch ar ei lais ef . Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi . A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos , fel y syrthiaswn o’r blaen ; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi . Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd , a dywedais , Arglwydd Dduw , na ddifetha dy bobl , a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd , yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref . Cofia dy weision , Abraham , Isaac , a Jacob ; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn , nac ar eu drygioni , nac ar eu pechod : Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni , O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt , ac o’i gas arnynt , y dug efe hwynt allan , i’w lladd yn yr anialwch . Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy , y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth , ac â’th estynedig fraich . Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Nadd i ti ddwy lech faen , fel y rhai cyntaf ; a thyred i fyny ataf fi i’r mynydd , a gwna i ti arch bren . A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf , y rhai a dorraist ; a gosod dithau hwynt yn yr arch . Yna gwneuthum arch o goed Sittim ; ac a neddais ddwy lech faen , fel y rhai cyntaf ; ac a euthum i fyny i’r mynydd , a’r ddwy lech yn fy llaw . Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau , fel yr ysgrifen gyntaf , y dengair , a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd , o ganol y tân , yn nydd y gymanfa : a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi . Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd , ac a osodais y llechau yn yr arch , yr hon a wnaethwn , ac yno y maent ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi . A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera : yno y bu farw Aaron , ac efe a gladdwyd yno ; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef . Oddi yno yr aethant i Gudgoda ; ac o Gudgoda i Jotbath , tir afonydd dyfroedd Yr amser hwnnw y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi , i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd , i sefyll gerbron yr Arglwydd , i’w wasanaethu ef , ac i fendigo yn ei enw ef , hyd y dydd hwn . Am hynny ni bydd rhan i Lefi , nac etifeddiaeth gyda’i frodyr : yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef ; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef . A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos , fel y dyddiau cyntaf : a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd ; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Cyfod , dos i’th daith o flaen y bobl ; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir , yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt . Ac yr awr hon , Israel , beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt , ond ofni yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei holl ffyrdd , a’i garu ef , a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , Cadw gorchmynion yr Arglwydd , a’i ddeddfau , y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn , er daioni i ti ? Wele , y nefoedd , a nefoedd y nefoedd , ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw , y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi . Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch , gan eu hoffi hwynt ; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt , sef ohonoch chwi , o flaen yr holl bobloedd , megis heddiw y gwelir . Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon , ac na chaledwch eich gwar mwyach . Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau , ac Arglwydd yr arglwyddi , Duw mawr , cadarn , ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb , ac ni chymer wobr . Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw ; ac y sydd yn hoffi’r dieithr , gan roddi iddo fwyd a dillad . Hoffwch chwithau y dieithr : canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft . Yr Arglwydd dy Dduw a ofni , ac ef a wasanaethi : wrtho ef hefyd y glyni , ac i’w enw ef y tyngi . Efe yw dy fawl , ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn , y rhai a welodd dy lygaid . Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft yn ddeg enaid a thrigain ; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd . Car dithau yr Arglwydd dy Dduw , a chadw ei gadwraeth ef , a’i ddeddfau a’i farnedigaethau , a’i orchmynion , byth . A chydnabyddwch heddiw : canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant , y rhai nid adnabuant , ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi , ei fawredd , ei law gref , a’i fraich estynedig ; Ei arwyddion hefyd , a’i weithredoedd , y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft , i Pharo brenin yr Aifft , ac i’w holl dir ; A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft , i’w feirch ef , ac i’w gerbydau ; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt , pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl , ac y difethodd yr Arglwydd hwynt , hyd y dydd hwn : A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch , nes eich dyfod i’r lle hwn ; A’r hyn a wnaeth efe i Dathan , ac i Abiram , meibion Elïab , mab Reuben ; y modd yr agorodd y ddaear ei safn , ac a’u llyncodd hwynt , a’u teuluoedd , a’u pebyll , a’r holl olud oedd ganddynt , ymysg holl Israel . Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd , y rhai a wnaeth efe . Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw ; fel y byddoch gryfion , ac yr eloch i mewn , ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu : Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau , ar ei roddi iddynt , ac i’w had ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu , nid fel tir yr Aifft y mae , yr hwn y daethoch allan ohono , lle yr heuaist dy had , ac y dyfrheaist â’th droed , fel gardd lysiau : Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu , sydd fynydd‐dir , a dyffryndir , yn yfed dwfr o law y nefoedd ; Tir yw , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu : llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno , o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd . A bydd , os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw , i garu yr Arglwydd eich Duw , ac i’w wasanaethu , â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid ; Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser , sef y cynnar‐law , a’r diweddar‐law ; fel y casglech dy ŷd , a’th win , a’th olew ; A rhoddaf laswellt yn dy faes , i’th anifeiliaid ; fel y bwytaech , ac y’th ddigoner . Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon , a chilio ohonoch , a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt ; Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn , a chau ohono ef y nefoedd , fel na byddo glaw , ac na roddo y ddaear ei chnwd , a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi . Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon , ac yn eich meddwl , a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo , a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid : A dysgwch hwynt i’ch plant ; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ , a phan rodiech ar y ffordd , pan orweddych hefyd , a phan godych . Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ , ac ar dy byrth ; Fel yr amlhao eich dyddiau chwi , a dyddiau eich plant chwi , ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt , fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear . Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur , i garu yr Arglwydd eich Duw , i rodio yn ei holl ffyrdd ef , ac i lynu wrtho ef ; Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi , a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi . Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno , fydd eiddo chwi : o’r anialwch , a Libanus , ac o’r afon , sef afon Ewffrates , hyd y môr eithaf , y bydd eich terfyn chwi . Ni saif gŵr yn eich wyneb : eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno , megis y llefarodd wrthych Wele , rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith : Bendith , os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw ; A melltith , oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw , ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw , i fyned ar ôl duwiau dieithr , y rhai nid adnabuoch Bydded gan hynny , pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu , roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim , a’r felltith ar fynydd Ebal . Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen , tua’r lle y machluda’r haul , yn nhir y Canaaneaid , yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal , gerllaw gwastadedd More ? Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen , i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi ; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo . Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau , y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw . Dyma ’r deddfau a’r barnedigaethau , y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur , yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu , yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear . Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau , y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt , ar y mynyddoedd uchel , ac ar y bryniau , a than bob pren gwyrddlas . Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt , a thorrwch eu colofnau hwynt , a llosgwch eu llwynau hwynt â thân , a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt , a dinistriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw . Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw . Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi , i osod ei enw yno , ei drigfa ef a geisiwch , ac yno y deuwch : A dygwch yno eich poethoffrymau , a’ch aberthau , a’ch degymau , ac offrwm dyrchafael eich llaw , eich addunedau hefyd , a’ch offrymau gwirfodd , a chyntaf‐anedig eich gwartheg a’ch defaid . A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw , a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno , chwychwi a’ch teuluoedd , yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw . Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw , pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun . Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orffwysfa , ac i’r etifeddiaeth , yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Ond pan eloch dros yr Iorddonen , a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi , a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch , fel y preswylioch yn ddiogel : Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo , i beri i’w enw aros ynddo ; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi ; sef eich poethoffrymau , a’ch aberthau , eich degymau , a dyrchafael‐offrwm eich llaw , a’ch holl ddewis addunedau , y rhai a addunedoch i’r Arglwydd . A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw ; chwi , a’ch meibion , a’ch merched , a’ch gweision , a’ch morynion , a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi : canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi . Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a’r a welych : Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o’th lwythau di , yno yr offrymi dy boethoffrymau , ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti . Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon , yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw , yr hon a rydd efe i ti , yn dy holl byrth : yr aflan a’r glân a fwyty ohono , megis o’r iwrch a’r carw . Ond na fwytewch y gwaed ; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr . Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd , na’th win , na’th olew , na chyntaf‐anedig dy wartheg , na’th ddefaid , na’th holl addunedau y rhai a addunech , na’th offrymau gwirfodd , na dyrchafael‐offrwm dy law : Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw ; ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di : llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno . Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad , tra fyddech byw ar y ddaear . Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di , megis y dywedodd wrthyt , os dywedi , Bwytâf gig , ( pan ddymuno dy galon fwyta cig , ) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig . Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo , fydd pell oddi wrthyt ; yna lladd o’th wartheg , ac o’th ddefaid , y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti , megis y gorchmynnais i ti , a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon . Eto fel y bwyteir yr iwrch a’r carw , felly y bwytei ef : yr aflan a’r glân a’i bwyty yn yr un ffunud . Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed : canys y gwaed yw yr einioes ; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â’r cig . Na fwyta ef ; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr . Na fwyta ef ; fel y byddo daioni i ti , ac i’th feibion ar dy ôl , pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd . Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt , a’th addunedau , a thyred i’r lle a ddewiso yr Arglwydd . Ac offryma dy boethoffrwm , ( y cig a’r gwaed , ) ar allor yr Arglwydd dy Dduw : a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw ; a’r cig a fwytei di . Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti ; fel y byddo daioni i ti , ac i’th feibion ar dy ôl byth , pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw . Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd , y rhai yr wyt ti yn myned atynt i’w meddiannu , o’th flaen di , a dyfod ohonot yn eu lle hwynt , a phreswylio yn eu tir hwynt : Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt , wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di ; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt , gan ddywedyd , Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau ? myfi a wnaf felly hefyd . Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw : canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd , a wnaethant hwy i’w duwiau : canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau . Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi , edrychwch am wneuthur hynny : na chwanega ato , ac na thyn oddi wrtho . Pan godo yn dy fysg di broffwyd , neu freuddwydydd breuddwyd , ( a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod , A dyfod i ben o’r arwydd , neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt , ) gan ddywedyd , Awn ar ôl duwiau dieithr , ( y rhai nid adwaenost , ) a gwasanaethwn hwynt ; Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw , neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw : canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi , i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid . Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch , ac ef a ofnwch , a’i orchmynion ef a gedwch , ac ar ei lais ef y gwrandewch , ac ef a wasanaethwch , ac wrtho ef y glynwch . A’r proffwyd hwnnw , neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw , a roddir i farwolaeth ; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw , yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft , ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed , i’th wthio di allan o’r ffordd , yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi . Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg . Os dy frawd , mab dy fam , neu dy fab dy hun , neu dy ferch , neu wraig dy fynwes , neu dy gyfaill , yr hwn sydd fel dy enaid dy hun , a’th annog yn ddirgel , gan ddywedyd , Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuost ti , na’th dadau ; Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi , yn agos atat , neu ymhell oddi wrthyt , o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir : Na chydsynia ag ef , ac na wrando arno , ac nac arbeded dy lygad ef , ac nac eiriach ef , ac na chela arno : Ond gan ladd lladd ef ; bydded dy law di arno ef yn gyntaf , i’w roddi i farwolaeth , a llaw yr holl bobl wedi hynny . A llabyddia ef â meini , fel y byddo marw : canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft , o dŷ y caethiwed . A holl Israel a glywant , ac a ofnant , ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith . Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt , gan ddywedyd , Aeth dynion , meibion y fall , allan o’th blith , a gyrasant drigolion eu dinas , gan ddywedyd , Awn , gwasanaethwn dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuoch ; Yna ymofyn , a chwilia , a chais yn dda : ac wele , os gwirionedd yw , a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg ; Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf ; difroda hi , a’r rhai oll a fyddant ynddi , a’i hanifeiliaid hefyd , â min y cleddyf . A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi , ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl , i’r Arglwydd dy Dduw , â thân : felly bydded yn garnedd byth ; nac adeilader hi mwy . Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd‐beth : fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig , ac y rhoddo i ti drugaredd , ac y tosturio wrthyt , ac y’th amlhao , megis y tyngodd wrth dy dadau : Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw ei holl orchmynion ef , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw , gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw . Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw : na thorrwch mohonoch eich hunain , ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid , dros y marw . Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw , a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef , o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear . Na fwyta ddim ffiaidd . Dyma’r anifeiliaid a fwytewch : eidion , llwdn dafad , a llwdn gafr , Y carw , a’r iwrch , a’r llwdn hydd , a’r bwch gwyllt , a’r unicorn , a’r ych gwyllt , a’r afr wyllt . A phob anifail yn hollti’r ewin , ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin , ac yn cnoi cil , ymysg yr anifeiliaid ; hwnnw a fwytewch . Ond hyn ni fwytewch , o’r rhai a gnoant y cil , neu a holltant yr ewin yn fforchog : y camel , a’r ysgyfarnog , a’r gwningen : er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil , am nad ydynt yn fforchogi’r ewin , aflan ydynt i chwi . Yr hwch hefyd , er ei bod yn fforchogi’r ewin , ac heb gnoi cil , aflan yw i chwi : na fwytewch o’u cig hwynt , ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt . Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd : yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch . A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen , ni fwytewch : aflan yw i chwi . Pob aderyn glân a fwytewch . A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr , a’r wyddwalch , a’r fôr‐wennol , A’r bod , a’r barcud , a’r fwltur yn ei rhyw , A phob cigfran yn ei rhyw , A chyw yr estrys , a’r frân nos , a’r gog , a’r hebog yn ei ryw , Aderyn y cyrff , a’r dylluan , a’r gogfran , A’r pelican , a’r biogen , a’r fulfran , A’r ciconia , a’r crŷr yn ei ryw , a’r gornchwigl , a’r ystlum . A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi : na fwytaer hwynt . Pob ehediad glân a fwytewch . Na fwytewch ddim a fo marw ei hun : dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth , a bwytaed ef ; neu gwerth ef i’r dieithr : canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw . Na ferwa fyn yn llaeth ei fam . Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had , sef ffrwyth dy faes , bob blwyddyn . A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo , ddegwm dy ŷd , dy win , a’th olew , a chyntaf‐anedig dy wartheg , a’th ddefaid ; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser . A phan fyddo y ffordd ry hir i ti , fel na ellych ei ddwyn ef , neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt , yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo , pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw : Yna dod ei werth yn arian ; a rhwym yr arian yn dy law , a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon ; am wartheg , neu am ddefaid , neu am win , neu am ddiod gref , neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon : a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw , a llawenycha di , a’th deulu . A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth , na wrthod ef : am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi . Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno : a dyro ef i gadw o fewn dy byrth . A’r Lefiad , ( am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi , ) a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , y rhai fydd yn dy byrth di , a ddeuant , ac a fwytânt , ac a ddigonir ; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law . Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod . A dyma wedd y gollyngdod . Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe : na fynned hynny drachefn gan ei gymydog , neu ei frawd ; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd . Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr ; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd : Megis na byddo ohonot ti gardotyn : canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu ; Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw . Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia , megis y llefarodd wrthyt , fel y benthyciech i genhedloedd lawer , ac na fenthyciech di ganddynt ; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer , ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti . Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth , yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , na chaleda dy galon , ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd : Ond gan agoryd agor dy law iddo , a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef , yr hyn fyddo arno ei eisiau . Gwylia arnat , rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd , Agos yw’r seithfed flwyddyn , blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd , rhag rhoddi iddo , a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot , a’i fod yn bechod i ti . Gan roddi dod iddo , ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo : canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith , ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno . Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir : am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti , gan ddywedyd , Gan agoryd agor dy law i’th frawd , i’th anghenus ac i’th dlawd , yn dy dir . Os gwerthir dy frawd , Hebread , neu Hebrees , i ti , a’th wasanaethu chwe blynedd ; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt . A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt , na ollwng ef yn wag : Gan lwytho llwytha ef o’th braidd , ac o’th ysgubor , ac o’th winwryf : o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw , dod iddo . A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft , a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw : am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw . Ond os dywed wrthyt , Nid af allan oddi wrthyt ; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi : Yna cymer fynawyd , a dod trwy ei glust ef , ac yn y ddôr ; a bydded yn was i ti byth : felly hefyd y gwnei i’th forwyn . Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt , canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog , chwe blynedd : a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych . Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg , neu o’th ddefaid , yn wryw , a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw : na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen , ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid . Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd , ti a’th deulu . Ond os bydd anaf arno , os cloff neu ddall fydd , neu arno ryw ddrwg anaf arall ; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw . O fewn dy byrth y bwytei ef : yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty , megis yr iwrch , ac megis y carw . Eto na fwyta ei waed ef ; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr . Cadw y mis Abib , a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw : canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft , o hyd nos . Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw , o ddefaid a gwartheg , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno . Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef : saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw , sef bara cystudd : ( canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft : ) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes . Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod ; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr , ar y dydd cyntaf . Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti : Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo ; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr , ar fachludiad haul , y pryd y daethost allan o’r Aifft . Yna y rhosti , ac y bwytei ef , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : a’r bore y dychweli , ac yr ei i’th babellau . Chwe diwrnod y bwytei fara croyw : ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw ; ni chei wneuthur gwaith ynddo . Cyfrif i ti saith wythnos : pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd , y dechreui rifo’r saith wythnos . A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw , ag offrwm gwirfodd dy law , yr hwn a roddi , megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw . A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth , a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , sydd yn dy fysg , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo . Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft : a chadw a gwna y deddfau hyn . Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod , wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win . A llawenycha yn dy ŵyl , ti , a’th fab , a’th ferch , a’th was , a’th forwyn , a’r Lefiad , a’r dieithr , a’r amddifad , a’r weddw , y rhai fyddant o fewn dy byrth . Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso yr Arglwydd : canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd , ac yn holl waith dy ddwylo ; am hynny bydd dithau lawen . Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe ; ar ŵyl y bara croyw , ac ar ŵyl yr wythnosau , ac ar ŵyl y pebyll : ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw . Pob un yn ôl rhodd ei law , yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti . Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau ; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn . Na ŵyra farn , ac na chydnebydd wynebau ; na dderbyn wobr chwaith : canys gwobr a ddalla lygaid y doethion , ac a ŵyra eiriau y cyfiawn . Cyfiawnder , cyfiawnder a ddilyni ; fel y byddych fyw , ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti . Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw , yr hon a wnei i ti . Ac na chyfod i ti golofn ; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw . Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf , neu ddim gwrthuni : canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny . Pan gaffer yn dy blith di , o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti , ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw , gan droseddu ei gyfamod ef , Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr , ac a ymgrymodd iddynt , i’r haul , neu i’r lleuad , neu i holl lu y nefoedd , yr hyn ni orchmynnais ; Pan ddangoser i ti , a chlywed ohonot , yna cais yn dda : ac wele , os gwirionedd yw , a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel ; Yna dwg allan y gŵr hwnnw , neu y wraig honno , a wnaethant y peth drygionus hyn , i’th byrth , sef y gŵr neu y wraig , a llabyddia hwynt â meini , fel y byddont feirw . Wrth dystiolaeth dau o dystion , neu dri o dystion , y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw : na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst . Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef , a llaw yr holl bobl wedi hynny : a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith . Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti , rhwng gwaed a gwaed , rhwng hawl a hawl , neu rhwng pla a phla , mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth ; yna cyfod , a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : A dos at yr offeiriaid y Lefiaid , ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny , ac ymofyn ; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth . A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti , o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd ; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti . Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti , ac yn ôl y farn a ddywedont i ti , y gwnei : na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti , i’r tu deau nac i’r tu aswy . A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg , heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw , neu ar y barnwr ; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw : a thyn ymaith y drwg o Israel . A’r holl bobl a glywant , ac a ofnant ; ac ni ryfygant mwy . Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , a’i feddiannu , a thrigo ynddo , os dywedi , Gosodaf arnaf frenin , megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch : Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw : o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin ; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti . Ond nac amlhaed iddo feirch , ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch ; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych , Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy . Ac nac amlhaed iddo wragedd , fel na ŵyro ei galon ; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo . A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth , ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr , allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid . A bydded gydag ef , a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd : fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw , i gadw holl eiriau y gyfraith hon , a’r deddfau hyn , i’w gwneuthur hwynt : Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr , ac na chilio oddi wrth y gorchymyn , i’r tu deau nac i’r tu aswy : fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel . Ni bydd i’r offeiriaid , i’r Lefiaid , i holl lwyth Lefi , ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel : ebyrth tanllyd yr Arglwydd , a’i etifeddiaeth ef , a fwytânt hwy . Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr : yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy , megis ag y dywedodd wrthynt . A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl , oddi wrth y rhai a aberthant aberth , pa un bynnag ai eidion ai dafad ; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên , a’r boten . Blaenffrwyth dy ŷd , dy win , a’th olew , a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid , a roddi iddo ef . Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di , i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd , efe a’i feibion yn dragywydd . A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel , lle y byddo efe yn ymdaith , a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd ; Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw , megis ei holl frodyr y Lefiaid , y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd . Rhan am ran a fwytânt , heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau . Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny . Na chaffer ynot a wnelo i’w fab , neu i’w ferch , fyned trwy y tân ; neu a arfero ddewiniaeth , na phlanedydd , na daroganwr , na hudol , Na swynwr swynion , nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr , neu frudiwr , nac a ymofynno â’r meirw : Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn ; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di . Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw . Canys y cenhedloedd hyn , y rhai a feddienni di , a wrandawsant ar blanedyddion , ac ar ddewiniaid : ond amdanat ti , nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti , o’th blith dy hun , o’th frodyr dy hun , Broffwyd megis finnau ; arno ef y gwrandewch Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb , yn nydd y gymanfa , gan ddywedyd , Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw , ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach , rhag fy marw . A dywedodd yr Arglwydd wrthyf , Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr , fel tithau , a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef ; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo . A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau , y rhai a lefara efe yn fy enw , myfi a’i gofynnaf ganddo . Y proffwyd hefyd , yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru , neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr ; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth . Ac os dywedi yn dy galon , Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd ? Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd , a’r gair heb fod , ac heb ddyfod i ben , hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd ; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg : nac ofna ef . Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti , a’i feddiannu ohonot ti , a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai ; Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu . Paratoa ffordd i ti , a thraeana derfyn dy dir , yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti , fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno . Dyma gyfraith y llofrudd , yr hwn a ffy yno , i fyw : yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod , ac yntau heb ei gasáu ef o’r blaen ; Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren , ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren , a syrthio yr haearn o’r menybr , a chyrhaeddyd ei gymydog , fel y byddo farw ; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn , a byw : Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd , a’i galon yn llidiog , a’i oddiweddyd , am fod y ffordd yn hir , a’i daro ef yn farw , er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth , am nad oedd efe yn ei gasáu ef o’r blaen . Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti , gan ddywedyd , Tair dinas a neilltui i ti . A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn , fel y tyngodd wrth dy dadau , a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau ; Os cedwi y gorchmynion hyn oll , gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw , i garu yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser ; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn : Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth ; ac na byddo gwaed i’th erbyn . Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog , ac yn cynllwyn iddo , a chodi yn ei erbyn , a’i ddieneidio fel y byddo farw , a ffoi i un o’r dinasoedd hyn : Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef , a chymerant ef oddi yno , a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed , fel y byddo farw . Nac arbeded dy lygad ef , ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel , fel y byddo daioni i ti . Na symud derfyn dy gymydog , yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen , o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu . Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd , neu ddim pechod , o’r holl bechodau a becho efe : wrth dystiolaeth dau o dystion , neu wrth dystiolaeth tri o dystion , y bydd safadwy y peth . Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb , gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef ; Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd , o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny . Ac ymofynned y barnwyr yn dda : ac os y tyst fydd dyst ffals , ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd ; Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd : a thyn ymaith y drwg o’th fysg . A’r lleill a glywant , ac a ofnant , ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith . Ac nac arbeded dy lygad : bydded einioes am einioes , llygad am lygad , dant am ddant , llaw am law , troed am droed . Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion , a gweled meirch a cherbydau , a phobl fwy na thi , nac ofna rhagddynt : oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi , yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft . A bydd , pan nesaoch i’r frwydr , yna ddyfod o’r offeiriad , a llefaru wrth y bobl , A dywedyd wrthynt , Clyw , Israel : Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion : na feddalhaed eich calon , nac ofnwch , na synnwch , ac na ddychrynwch rhagddynt . Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi , i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi , ac i’ch achub chwi . A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl , gan ddywedyd , Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd , ac nis cysegrodd ef ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw yn y frwydr , ac i ŵr arall ei gysegru ef . A pha ŵr sydd a blannodd winllan , ac nis mwynhaodd hi ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw yn y frwydr , ac i ŵr arall ei mwynhau hi . A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig , ac ni chymerodd hi ? eled a dychweled i’w dŷ , rhag ei farw mewn rhyfel , ac i ŵr arall ei chymryd hi . Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl , ac a ddywedant , Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon ? eled a dychweled i’w dŷ , fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau . A bydded , pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl , osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl . Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn , cyhoedda iddi heddwch . A bydded , os heddwch a etyb hi i ti , ac agoryd i ti ; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi , fod i ti dan deyrnged , a’th wasanaethu . Ac oni heddycha hi â thi , ond gwneuthur rhyfel â thi ; yna gwarchae arni hi . Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di , taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf . Yn unig y benywaid , a’r plant , a’r anifeiliaid , a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas , sef ei holl ysbail , a ysbeili i ti : a thi a fwynhei ysbail dy elynion , yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt , y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn . Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn , y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth , na chadw un enaid yn fyw : Ond gan ddifrodi difroda hwynt ; sef yr Hethiaid , a’r Amoriaid , y Canaaneaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt , y rhai a wnaethant i’w duwiau , a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw . Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau , gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi , na ddifetha ei choed hi , gan daro bwyell arnynt : canys ohonynt y bwytei ; na thor dithau hwynt i lawr , ( oherwydd bywyd dyn yw pren y maes , ) i’w gosod yn y gwarchglawdd . Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw , hwnnw a ddifethi ac a dorri : ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi , hyd oni orchfyger hi . Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu , yn gorwedd yn y maes , heb wybod pwy a’i lladdodd ; Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan , a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig . A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig , sef henuriaid y ddinas honno , gymryd anner o’r gwartheg , yr hon ni weithiwyd â hi , ac ni thynnodd dan iau . A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw , yr hwn ni lafuriwyd , ac ni heuwyd ynddo ; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn . A nesaed yr offeiriaid , meibion Lefi , ( oherwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef , ac i fendigo yn enw yr Arglwydd , ) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla . A holl henuriaid y ddinas honno , y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig , a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn . A hwy a atebant ac a ddywedant , Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn , ac nis gwelodd ein llygaid . Trugarha wrth dy bobl Israel , y rhai a waredaist , O Arglwydd , ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel . A maddeuir y gwaed iddynt hwy . Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg , os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd . Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion , a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di , a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt ; A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol , a’i bod wrth dy fodd , i’w chymryd i ti yn wraig : Yna dwg hi i fewn dy dŷ , ac eillied hi ei phen , a thorred ei hewinedd ; A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani , a thriged yn dy dŷ di , ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau : ac wedi hynny yr ei di ati , ac y byddi ŵr iddi , a hithau fydd wraig i ti . Ac oni bydd hi wrth dy fodd ; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun , a chan werthu na werth hi er arian ; na chais elw ohoni , am i ti ei darostwng hi . Pan fyddo i ŵr ddwy wraig , un yn gu , ac un yn gas ; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef , a bod y mab cyntaf‐anedig o’r un gas : Yna bydded , yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo , na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas , yr hwn sydd gyntaf‐anedig ; Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe , gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef : o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef ; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig . Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd , heb wrando ar lais ei dad , neu ar lais ei fam ; a phan geryddant ef , ni wrendy arnynt : Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo , ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas , ac i borth ei drigfan ; A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef , Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd , heb wrando ar ein llais ; glwth a meddwyn yw efe . Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini , fel y byddo farw : felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg ; a holl Israel a glywant , ac a ofnant . Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau , a’i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren ; Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren , ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw : oherwydd melltith Dduw sydd i’r hwn a grogir : ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth . Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni , ac ymguddio oddi wrthynt : gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd . Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat , neu onid adwaenost ef ; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ , a bydded gyda thi , hyd pan ymofynno dy frawd amdano ; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef . Ac felly y gwnei i’w asyn ef , ac felly y gwnei i’w ddillad ef , ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd , yr hwn a gyll oddi wrtho ef , a thithau yn ei gael : ni elli ymguddio . Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd , ac ymguddio oddi wrthynt ; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef . Na fydded dilledyn gŵr am wraig , ac na wisged gŵr ddillad gwraig : oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn . Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd , mewn un pren , neu ar y ddaear , â chywion , neu ag wyau ynddo , a’r fam yn eistedd ar y cywion , neu ar yr wyau ; na chymer y fam gyda’r cywion . Gan ollwng ti a ollyngi y fam , a’r cywion a gymeri i ti ; fel y byddo daioni i ti , ac yr estynnech dy ddyddiau . Pan adeiledych dŷ newydd , yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen ; fel na osodych waed ar dy dŷ , pan syrthio neb oddi arno . Na heua dy winllan ag amryw had ; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech , a chnwd y winllan . Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd . Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd , megis o wlân a llin ynghyd . Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi . O chymer gŵr wraig , ac wedi myned ati , ei chasáu ; A gosod yn ei herbyn anair , a rhoddi allan enw drwg iddi , a dywedyd , Y wraig hon a gymerais ; a phan euthum ati , ni chefais ynddi forwyndod : Yna cymered tad y llances a’i mam , a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth . A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid , Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig , a’i chasáu y mae efe . Ac wele , efe a gododd iddi anair , gan ddywedyd , Ni chefais yn dy ferch forwyndod ; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch . Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas . A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr , ac a’i cosbant ef . A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian , ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances ; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel : a bydd hi yn wraig iddo ; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau . Ond os gwir fydd y peth , ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances : Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad , a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini , oni byddo farw ; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel , gan buteinio yn nhŷ ei thad : a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg . O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr ; byddant feirw ill dau , sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig , a’r wraig hefyd : felly y tynni ymaith ddrwg o Israel . O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr , a chael o ŵr hi mewn dinas , a gorwedd gyda hi ; Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno , ac a’u llabyddiwch hwynt â meini , fel y byddont feirw : y llances , oblegid na waeddodd , a hithau yn y ddinas ; a’r gŵr , oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog : felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg . Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo , a’i threisio o’r gŵr , a gorwedd gyda hi ; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig . Ond i’r llances ni chei wneuthur dim ; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth : oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog , a’i ddieneidio ef , yr un modd y mae y peth hyn : Oblegid yn y maes y cafodd efe hi : gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo ; ac nid oedd achubydd iddi . O chaiff gŵr lances o forwyn , heb ei dyweddïo , ac ymaflyd ynddi , a gorwedd gyda hi , a’u dala hwynt : Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi , i dad y llances , ddeg a deugain o arian ; ac iddo y bydd yn wraig , am iddo ei darostwng hi : ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau . Na chymered neb wraig ei dad , ac na ddinoethed odre ei dad . Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin , na disbaidd , i gynulleidfa yr Arglwydd . Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd ; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd . Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd ; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth : Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd , wrth eich dyfod o’r Aifft ; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia , i’th felltithio di . Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam : ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti ; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi . Na chais eu heddwch hwynt , na’u daioni hwynt , dy holl ddyddiau byth . Na ffieiddia Edomiad ; canys dy frawd yw : na ffieiddia Eifftiad ; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef . Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt . Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg . O bydd un ohonot heb fod yn lân , oherwydd damwain nos ; eled allan o’r gwersyll ; na ddeued o fewn y gwersyll . Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr : yna wedi machludo’r haul , deued i fewn y gwersyll . A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll ; ac yno yr ei di allan . A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau ; a bydded pan eisteddych allan , gloddio ohonot â hi , a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt . Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau , i’th waredu , ac i roddi dy elynion o’th flaen di ; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd ; fel na welo ynot ti ddim brynti , a throi oddi wrthyt . Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr . Gyda thi y trig yn dy fysg , yn y fan a ddewiso , yn un o’th byrth di , lle byddo da ganddo ; ac na chystuddia ef . Na fydded putain o ferched Israel , ac na fydded puteiniwr o feibion Israel . Na ddwg wobr putain , na gwerth ci , i dŷ yr Arglwydd dy Dduw , mewn un adduned : canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw . Na chymer ocraeth gan dy frawd ; ocraeth arian , ocraeth bwyd , ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano . Gan estron y cymeri ocraeth ; ond na chymer ocraeth gan dy frawd : fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno , yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu Pan addunedych adduned i’r Arglwydd dy Dduw , nac oeda ei thalu : canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt ; a byddai yn bechod ynot . Ond os peidi ag addunedu , ni bydd pechod ynot . Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau ; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd , yr hwn a draethaist â’th enau . Pan ddelych i winllan dy gymydog , yna bwyta o rawnwin dy wala , wrth dy feddwl ; ond na ddod yn dy lestr yr un . Pan ddelych i ŷd dy gymydog , yna y cei dynnu y tywysennau â’th law ; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog . Pan gymero gŵr wraig , a’i phriodi ; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef , o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi ; ysgrifenned iddi lythyr ysgar , a rhodded yn ei llaw hi , a gollynged hi ymaith o’i dŷ . Pan elo hi allan o’i dŷ ef , a myned ymaith , a bod yn eiddo gŵr arall : Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi , ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi , ac a’i rhydd yn ei llaw hi , ac a’i gollwng hi o’i dŷ ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo : Ni ddichon ei phriod cyntaf , yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith , ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo , wedi iddi ymhalogi : canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd ; ac na wna i’r wlad bechu , yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth . Pan gymero gŵr wraig newydd , nac eled i ryfel , ac na rodder gofal dim arno : caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn , a llawenhau ei wraig a gymerodd . Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl : canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl . Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel , ac yn ymelwa arno , neu yn ei werthu ; yna lladder y lleidr hwnnw , a thyn di ymaith y drwg o’th fysg . Gwylia ym mhla y gwahanglwyf , ar ddyfal gadw , a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi : edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy . Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd , wedi eich dyfod allan o’r Aifft . Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim , na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef . Allan y sefi ; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti . Ac os gŵr tlawd fydd efe , na chwsg â’i wystl gyda thi . Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul , fel y gorweddo yn ei wisg , ac y’th fendithio di : a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw . Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus , o’th frodyr , neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di : Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog ; ac na fachluded yr haul arno : canys tlawd yw , ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes : fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn , a bod pechod ynot . Na rodder i farwolaeth dadau dros blant , ac na rodder plant i farw dros dadau : pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun . Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw . Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft , a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno : am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn . Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes , ac anghofio ysgub yn y maes , na ddychwel i’w chymryd : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw ; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo . Pan ysgydwych dy olewydden , na loffa ar dy ôl : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw . Pan gesglych rawnwin dy winllan , na loffa ar dy ôl : bydded i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw . Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft : am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn . Pan fyddo ymrafael rhwng dynion , a dyfod i farn i’w barnu ; yna cyfiawnhânt y cyfiawn , a chondemniant y beius . Ac o bydd y mab drygionus i’w guro , pared y barnwr iddo orwedd , a phared ei guro ef ger ei fron , yn ôl ei ddryganiaeth , dan rifedi . Deugain gwialennod a rydd iddo , ac na chwaneged : rhag os chwanega , a’i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn , a dirmygu dy frawd yn dy olwg . Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu . Os brodyr a drigant ynghyd , a marw un ohonynt , ac heb blentyn iddo ; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan : aed ei chyfathrachwr ati , a chymered hi yn wraig iddo , a gwnaed iddi ran cyfathrachwr . A bydded i’r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw ; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel . Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig ; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid , a dyweded , Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel : ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi . Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef , ac ymddiddanant ag ef : o saif efe , a dywedyd , Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi ; Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid , a datoded ei esgid ef oddi am ei droed , a phoered yn ei wyneb ef ; ac atebed , a dyweded , Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd . A gelwir ei enw ef yn Israel , Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid . Os ymryson dynion ynghyd , sef gŵr â’i frawd , a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd , ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef ; Tor ymaith ei llaw hi : nac arbeded dy lygad hi . Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys , mawr a bychan . Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur , mawr a bychan . Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn ; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn : fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti . Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn , sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder . Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd , pan ddaethoch allan o’r Aifft : Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd , ac a laddodd y rhai olaf ohonot , yr holl weiniaid o’th ôl di , a thi yn lluddedig , ac yn ddiffygiol ; ac nid ofnodd efe Dduw . Am hynny bydded , pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch , yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu , dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd : nac anghofia hyn . Aphan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth , a’i feddiannu , a phreswylio ynddo ; Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear , yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , a gosod mewn cawell , a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo : A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny , a dywed wrtho , Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r Arglwydd dy Dduw , fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni . A chymered yr offeiriad y cawell o’th law di , a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw : A llefara dithau , a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw , Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad ; ac efe a ddisgynnodd i’r Aifft , ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl , ac a aeth yno yn genedl fawr , gref , ac aml . A’r Eifftiaid a’n drygodd ni , a chystuddiasant ni , a rhoddasant arnom gaethiwed caled . A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau , clybu yr Arglwydd ein llais ni , a gwelodd ein cystudd , a’n llafur , a’n gorthrymder . A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn , ac â braich estynedig , ac ag ofn mawr , ac ag arwyddion , ac â rhyfeddodau . Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn , ac a roes i ni y tir hwn ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Ac yn awr , wele , mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi , O Arglwydd : a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw , ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , ac i’th deulu , tydi , a’r Lefiad , a’r dieithr a fyddo yn dy fysg . Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd , yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm ; yna y rhoddi i’r Lefiad , i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw ; fel y bwytaont yn dy byrth di , ac y digoner hwynt . A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw , Dygais y peth cysegredig allan o’m tŷ , ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad , ac i’r dieithr , i’r amddifad , ac i’r weddw , yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi : ni throseddais ddim o’th orchmynion ac nis anghofiais . Ni fwyteais ohono yn fy ngalar , ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid , ac ni roddais ohono dros y marw : gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw ; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi . Edrych o drigle dy sancteiddrwydd , sef o’r nefoedd , a bendithia dy bobl Israel , a’r tir a roddaist i ni , megis y tyngaist wrth ein tadau ; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl . Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau : cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti , ac i rodio yn ei ffyrdd ef , ac i gadw ei ddeddfau , a’i orchmynion , a’i farnedigaethau , ac i wrando ar ei lais ef . Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef , megis y llefarodd wrthyt , ac i gadw ohonot ei holl orchmynion : Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe , mewn clod , ac mewn enw , ac mewn gogoniant ; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw , megis y llefarodd efe . Yna y gorchmynnodd Moses , gyda henuriaid Israel , i’r bobl , gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw . A bydded , yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , osod ohonot i ti gerrig mawrion , a chalcha hwynt â chalch . Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon , pan elych drosodd , i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti , sef tir yn llifeirio o laeth a mêl ; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt . A phan eloch dros yr Iorddonen , gosodwch y cerrig hyn , yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw , ym mynydd Ebal , a chalcha hwynt â chalch . Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw , sef allor gerrig : na chyfod arnynt arf haearn . A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw ; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw . Offryma hefyd hedd‐aberthau , a bwyta yno , a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw . Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon , yn eglur iawn . A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel , gan ddywedyd , Gwrando a chlyw , O Israel : Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw . Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw , a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau , y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw . A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw , gan ddywedyd . Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim , wedi eich myned dros yr Iorddonen : Simeon , a Lefi , a Jwda , ac Issachar , a Joseff , a Benjamin . A’r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal : Reuben , Gad , ac Aser , a Sabulon , Dan , a Nafftali . A’r Lefiaid a lefarant , ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel , Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig , sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd , gwaith dwylo crefftwr , ac a’i gosodo mewn lle dirgel . A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant , Amen . Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr , yr amddifad , a’r weddw . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad ; oherwydd datguddiodd odre ei dad . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer , merch ei dad , neu ferch ei fam ef . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr , er dieneidio gwaed gwirion . A dyweded yr holl bobl , Amen . Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon , gan eu gwneuthur hwynt . A dyweded yr holl bobl , Amen . Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef , y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw ; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear . A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat , ac a’th oddiweddant , os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw . Bendigedig fyddi di yn y ddinas , a bendigedig yn y maes . Bendigedig fydd ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir , a ffrwyth dy anifail di , cynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid . Bendigedig fydd dy gawell a’th does di . Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn , a bendigedig yn dy fynediad allan . Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di : trwy un ffordd y deuant i’th erbyn , a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen . Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti , yn dy drysordai , ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno ; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti . Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun , megis y tyngodd wrthyt , os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , a rhodio yn ei ffyrdd ef . A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd , ac a ofnant rhagot . A’r Arglwydd a’th lwydda di mewn daioni , yn ffrwyth dy fru , ac yn ffrwyth dy anifeiliaid , ac yn ffrwyth dy ddaear , yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti . Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti , sef y nefoedd , i roddi glaw i’th dir di yn ei amser , ac i fendigo holl waith dy law : a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer , ac ni cheisi echwyn . A’r Arglwydd a’th wna di yn ben , ac nid yn gynffon ; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig , ac nid yn isaf : os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw , i’w cadw , ac i’w gwneuthur ; Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw , i’r tu deau neu i’r tu aswy , gan fyned ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt . A bydd , oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw ; y daw arnat yr holl felltithion hyn , ac y’th oddiweddant . Melltigedig fyddi di yn y ddinas , a melltigedig yn y maes . Melltigedig fydd dy gawell a’th does di . Melltigedig fydd ffrwyth dy fru , a ffrwyth dy dir , cynnydd dy wartheg , a diadellau dy ddefaid . Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn , a melltigedig yn dy fynediad allan . Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith , trallod , a cherydd , yn yr hyn oll y dodych dy law arno , ac yn yr hyn a wnelych ; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym ; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i . Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt , nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu . Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth , ac â llosgfa , ac â gwres , ac â chleddyf , ac â diflaniad , ac â mallter ; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha . Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres , a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn . Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear , lwch a lludw : o’r nefoedd y disgyn arnat , hyd oni’th ddinistrier . Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion : trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt , a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt : a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear . A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y ddaear ; ac ni bydd a’u tarfo . Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aifft , ac â chlwyf y marchogion , ac â chrach , ac ag ysfa ; o’r rhai ni ellir dy iacháu . Yr Arglwydd a’th dery di ag ynfydrwydd , ac â dallineb , ac â syndod calon . Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd , fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch ; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd : a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth , ac ni bydd a’th waredo . Ti a ymgredi â gwraig , a gŵr arall a gydorwedd â hi : ti a adeiledi dŷ , ac ni thrigi ynddo : ti a blenni winllan , ac ni chesgli ei ffrwyth . Dy ych a leddir yn dy olwg , ac ni fwytei ohono : dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb , ac ni ddaw adref atat : dy ddefaid a roddir i’th elynion , ac ni bydd i ti achubydd . Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill , a’th lygaid yn gweled , ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd ; ac ni bydd gallu ar dy law . Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost ; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser : A byddi wallgofus , gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych . Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus , yn y gliniau ac yn yr esgeiriau , yr hwn ni ellir ei iacháu , o wadn dy droed hyd dy gorun . Yr Arglwydd a’th ddwg di , a’th frenin a osodych arnat , at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di ; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr , pren a maen . A byddi yn syndod , yn ddihareb , ac yn watwargerdd , ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt . Had lawer a ddygi allan i’r maes , ac ychydig a gesgli : oherwydd y locust a’i hysa . Gwinllannoedd a blenni , ac a goleddi ; ond gwin nid yfi , ac ni chesgli y grawnwin : canys pryfed a’u bwyty . Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau , ac ag olew ni’th irir : oherwydd dy olewydden a ddihidla . Meibion a merched a genhedli , ac ni byddant i ti : oherwydd hwy a ânt i gaethiwed . Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust . Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel ; a thi a ddisgynni yn isel isel . Efe a fenthycia i ti , a thi ni fenthyci iddo ef : efe a fydd yn ben , a thi a fyddi yn gynffon . A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat , ac a’th erlidiant , ac a’th oddiweddant , hyd oni’th ddinistrier ; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef , y rhai a orchmynnodd efe i ti . A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti , ac ar dy had hyd byth . Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd , ac mewn hyfrydwch calon , am amldra pob dim : Am hynny y gwasanaethi di dy elynion , y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn , mewn newyn , ac mewn syched , ac mewn noethni , ac mewn eisiau pob dim ; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf , hyd oni ddinistrio efe dydi . Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell , sef o eithaf y ddaear , mor gyflym ag yr eheda yr eryr ; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith ; Cenedl wyneb‐galed , yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr , ac ni bydd raslon i’r llanc . A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid , a ffrwyth dy ddaear , hyd oni’th ddinistrier : yr hon ni ad i ti ŷd , gwin , nac olew , cynnydd dy wartheg , na diadellau dy ddefaid , hyd oni’th ddifetho di . A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth , hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau , y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt , trwy dy holl dir : hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth , o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti . Ffrwyth dy fru , sef cig dy feibion a’th ferched , y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti , a fwytei yn y gwarchae , ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat . Y gŵr tyner yn dy blith , a’r moethus iawn , a greulona ei lygad wrth ei frawd , ac wrth wraig ei fynwes , ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe : Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion , y rhai a fwyty efe ; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth . Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg , yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear , gan fwythau a thynerwch , a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes , ac wrth ei mab , ac wrth ei merch , Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorff , a’i meibion y rhai a blanta hi : canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel , pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra , â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth . Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon , y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn , gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn , YR ARGLWYDD DY DDUW ; Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd , a phlâu dy had ; sef plâu mawrion a pharhaus , a chlefydau drwg a pharhaus . Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft , y rhai yr ofnaist rhagddynt ; a glynant wrthyt . Ie , pob clefyd , a phob pla , yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon , a ddwg yr Arglwydd arnat , hyd oni’th ddinistrier . Felly chwi a adewir yn ychydig bobl , lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw . A bydd , megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi , ac i’ch amlhau ; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinistrio , ac i’ch difetha chwi : a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu . A’r Arglwydd a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd , o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear : a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr , y rhai nid adnabuost ti na’th dadau ; sef pren a maen . Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi , ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed : canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus , a darfodedigaeth llygaid , a thristwch meddwl . A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi ; a thi a ofni nos a dydd , ac ni byddi sicr o’th einioes . Y bore y dywedi , O na ddeuai yr hwyr ! ac yn yr hwyr y dywedi , O na ddeuai y bore ! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni , a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych . A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aifft , mewn llongau , ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt , na chwanegit ei gweled mwy : a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion , ac ni bydd a’ch pryno . Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel , yn nhir Moab , heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb . A Moses a alwodd ar holl Israel , ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft , i Pharo , ac i’w holl weision , ac i’w holl dir ; Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid , yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny : Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod , na llygaid i weled , na chlustiau i glywed , hyd y dydd hwn . Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd : ni heneiddiodd eich dillad amdanoch , ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed . Bara ni fwytasoch , a gwin neu ddiod gref nid yfasoch : fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi . A daethoch hyd y lle hwn : yna daeth allan Sehon brenin Hesbon , ac Og brenin Basan , i’n cyfarfod mewn rhyfel ; a ni a’u lladdasom hwynt : Ac a ddygasom eu tir hwynt , ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , ac i hanner llwyth Manasse . Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn , a gwnewch hwynt : fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch . Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw ; penaethiaid eich llwythau , eich henuriaid , a’ch swyddogion , a holl wŷr Israel , Eich plant , eich gwragedd , a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll , o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr : I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw , a than ei gynghrair ef , yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw : I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun , ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti , megis y llefarodd wrthyt , ac fel y tyngodd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob . Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn , a’r cynghrair yma ; Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw , ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw : ( Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft , a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt ; A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a’u heilun‐dduwiau , pren a maen , arian ac aur , y rhai oedd yn eu mysg hwynt : ) Rhag bod yn eich mysg ŵr , neu wraig , neu deulu , neu lwyth , yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw , i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn ; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod : A bod , pan glywo efe eiriau y felltith hon , ymfendithio ohono yn ei galon ei hun , gan ddywedyd , Heddwch fydd i mi , er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon , i chwanegu meddwdod at syched : Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo ; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw , a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef , a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd . A’r Arglwydd a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel , i gael drwg , yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon . A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl , sef eich plant chwi , y rhai a godant ar eich ôl chwi , a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell , pan welont blâu y wlad hon , a’i chlefydau , trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi ; A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen , na heuir ef , ac na flaendardda , ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra , Adma a Seboim , y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint : Ie , yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn ? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn ? Yna y dywedir , Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft . Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr , ac ymgrymasant iddynt ; sef duwiau nid adwaenent hwy , ac ni roddasai efe iddynt . Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon , i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn . A’r Arglwydd a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint , ac mewn dicter , ac mewn llid mawr , ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall , megis y gwelir heddiw . Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw , a’r pethau amlwg a roddwyd i ni , ac i’n plant hyd byth ; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon . A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat , sef y fendith a’r felltith , y rhai a roddais o’th flaen , ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt ; A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef , yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw , ti a’th blant , â’th holl galon , ac â’th holl enaid : Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed , ac y cymer drugaredd arnat , ac y try , ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di . Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd , oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw , ac oddi yno y’th gymerai . A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau , a thithau a’i meddienni : ac efe a fydd dda wrthyt , ac a’th wna yn amlach na’th dadau . A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon , a chalon dy had , i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid , er mwyn cael ohonot fyw . A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion , ac ar dy gaseion , y rhai a’th erlidiant di . Tithau a ddychweli , ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd , ac a wnei ei holl orchmynion ef , y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw . A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law , yn ffrwyth dy fru , ac yn ffrwyth dy anifeiliaid , ac yn ffrwyth dy dir , er daioni : canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot , i wneuthur daioni i ti , fel y llawenychodd yn dy dadau ; Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw , i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon ; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon , ac â’th holl enaid . Oherwydd y gorchymyn yma , yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw , nid yw guddiedig oddi wrthyt , ac nid yw bell . Nid yn y nefoedd y mae , i ddywedyd ohonot , Pwy a ddring drosom i’r nefoedd , ac a’i dwg i ni , fel y clywom , ac y gwnelom ef ? Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae , i ddywedyd ohonot , Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr , ac a’i dwg ef i ni , fel y clywom , ac y gwnelom ef ? Canys y gair sydd agos iawn atat , yn dy enau , ac yn dy galon , i’w wneuthur ef . Wele , rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni , ac angau a drygioni : Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw , i rodio yn ei ffyrdd ef , ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau , a’i farnedigaethau ef ; fel y byddych fyw , ac y’th amlhaer , ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu . Ond os try dy galon ymaith , fel na wrandawech , a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr , a’u gwasanaethu hwynt ; Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw , y difethir chwi yn ddiau , ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi . Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear , roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau , fendith a melltith : dewis dithau yr einioes , fel y byddych fyw , ti a’th had ; I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw , a gwrando ar ei lais ef , a glynu wrtho , ( canys efe yw dy einioes di , ac estyniad dy ddyddiau , ) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau , wrth Abraham , wrth Isaac , ac wrth Jacob , ar ei roddi iddynt . A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel ; Ac a ddywedodd wrthynt , Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw ; ni allaf mwy fyned allan , a dyfod i mewn : yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf , Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon . Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o’th flaen di ; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen , a thi a’u meddienni hwynt : Josua hefyd , efe a â drosodd o’th flaen , fel y llefarodd yr Arglwydd . A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og , brenhinoedd yr Amoriaid , ac i’w tir hwynt , y rhai a ddinistriodd efe . A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi ; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi . Ymgryfhewch , ac ymnerthwch ; nac ofnwch , ac na ddychrynwch rhagddynt : canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi ; ni’th edy , ac ni’th wrthyd . A Moses a alwodd ar Josua , ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel , Ymgadarnha , ac ymnertha : canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt ; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt . A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di ; efe a fydd gyda thi ; ni’th edy , ac ni’th wrthyd : nac ofna , ac na lwfrha . A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon , ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi , y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd , ac at holl henuriaid Israel . A Moses a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Yn ôl pob saith mlynedd , ar yr amser nodedig , ar flwyddyn y gollyngdod , ar ŵyl y pebyll , Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw , yn y lle a ddewiso efe ; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel , lle y clywant . Cynnull y bobl ynghyd , y gwŷr , y gwragedd , a’r plant , a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth ; fel y gwrandawont , ac fel y dysgont , ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw , ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon ; Ac y byddo i’w plant , y rhai ni wybuant ddim , glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw , yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , nesaodd y dyddiau i ti i farw : galw Josua , a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod , fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef . Yna yr aeth Moses a Josua , ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod . A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl : a’r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell . A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses , Wele , ti a orweddi gyda’th dadau ; a’r bobl yma a gyfyd , ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo , ac a’m gwrthyd i , ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef . A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw ; a mi a’u gwrthodaf hwynt , ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt ; a bwyteir ef , a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef ; a’r dydd hwnnw y dywed efe , Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi ? Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw , am yr holl ddrygioni a wnaeth efe , pan drodd at dduwiau dieithr . Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon : dysg hi hefyd i feibion Israel , a gosod hi yn eu genau hwynt ; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel . Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl , yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef ; fel y bwytao , ac y digoner , ac yr elo yn fras : ond efe a dry at dduwiau dieithr , ac a’u gwasanaetha hwynt , ac a’m dirmyga i , ac a ddiddyma fy nghyfamod . Yna , pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau , y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef : canys nid anghofir hi o enau ei had ef : oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw , cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw . A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw , ac a’i dysgodd hi i feibion Israel . Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun , ac a ddywedodd , Ymgryfha , ac ymnertha : canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw : a mi a fyddaf gyda thi . A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr , hyd eu diwedd hwynt ; Yna y gorchmynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , gan ddywedyd , Cymerwch lyfr y gyfraith hon , a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw ; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn . Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd , a’th wargaledrwydd : wele , a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw , gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch ; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw ? Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau , a’ch swyddogion : fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy , ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy . Canys mi a wn , wedi fy marw , gan lygru yr ymlygrwch , ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi ; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf ; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo . A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon , hyd eu diwedd hwynt . Gwrandewch , y nefoedd , a llefaraf ; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau . Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw : fy ymadrodd a ddifera fel gwlith ; fel gwlithlaw ar irwellt , ac fel cawodydd ar laswellt . Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi : rhoddwch fawredd i’n Duw ni . Efe yw y Graig ; perffaith yw ei weithred ; canys ei holl ffyrdd ydynt farn : Duw gwirionedd , a heb anwiredd , cyfiawn ac uniawn yw efe . Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai , heb fod yn blant iddo ef . Ai hyn a delwch i’r Arglwydd , bobl ynfyd ac angall ? onid efe yw dy dad a’th brynwr ? onid efe a’th wnaeth , ac a’th sicrhaodd ? Cofia y dyddiau gynt ; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth : gofyn i’th dad , ac efe a fynega i ti ; i’th henuriaid , a hwy a ddywedant wrthyt . Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd , pan neilltuodd efe feibion Adda , y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel . Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl ; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef . Efe a’i cafodd ef mewn tir anial , ac mewn diffeithwch gwag erchyll : arweinioddef o amgylch , a pharodd iddo ddeall , a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad . Fel y cyfyd eryr ei nyth , y castella dros ei gywion , y lleda ei esgyll , y cymer hwynt , ac a’u dwg ar ei adenydd ; Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau , ac nid oedd duw dieithr gydag ef . Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear , a bwyta cnwd y maes , a sugno mêl o’r graig , ac olew o’r graig gallestr ; Ymenyn gwartheg , a llaeth defaid , ynghyd â braster ŵyn , a hyrddod o rywogaeth Basan , a bychod , ynghyd â braster grawn gwenith , a phurwaed grawnwin a yfaist . A’r uniawn a aeth yn fras , ac a wingodd ; braseaist , tewychaist , pwyntiaist : yna efe a wrthododd Dduw , yr hwn a’i gwnaeth , ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth . A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno ; â ffieidd‐dra y digiasant ef . Aberthasant i gythreuliaid , nid i Dduw ; i dduwiau nid adwaenent , i rai newydd diweddar , y rhai nid ofnodd eich tadau . Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti , a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof . Yna y gwelodd yr Arglwydd , ac a’u ffieiddiodd hwynt ; oherwydd ei ddigio gan ei feibion , a’i ferched . Ac efe a ddywedodd , Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt , edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt : canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy , meibion heb ffyddlondeb ynddynt . Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw ; digiasant fi â’u hoferedd : minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl ; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt . Canys tân a gyneuwyd yn fy nig , ac a lysg hyd uffern isod , ac a ddifa y tir a’i gynnyrch , ac a wna i sylfeini’r mynyddoedd ffaglu . Casglaf ddrygau arnynt ; treuliaf fy saethau arnynt . Llosgedig fyddant gan newyn , ac wedi eu bwyta gan wres poeth , a chwerw ddinistr : anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod , ynghyd â gwenwyn seirff y llwch . Y cleddyf oddi allan , a dychryn oddi fewn , a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry hefyd , y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd . Dywedais , Gwasgaraf hwynt i gonglau , paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion ; Oni bai i mi ofni dig y gelyn , rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt , Ein llaw uchel ni , ac nid yr Arglwydd , a wnaeth hyn oll . Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy , ac heb ddeall ynddynt . O na baent ddoethion , na ddeallent hyn , nad ystyrient eu diwedd ! Pa fodd yr ymlidiai un fil , ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi , onid am werthu o’u Craig hwynt , a chau o’r Arglwydd arnynt ? Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt ; a bydded ein gelynion yn farnwyr . Canys o winwydden Sodom , ac o feysydd Gomorra , y mae eu gwinwydden hwynt : eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd ; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt . Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt , a chreulon wenwyn asbiaid . Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi , wedi ei selio ymysg fy nhrysorau ? I mi y perthyn dial , a thalu’r pwyth ; mewn pryd y llithr eu troed hwynt : canys agos yw dydd eu trychineb , a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt . Canys yr Arglwydd a farna ei bobl , ac a edifarha am ei weision ; pan welo ymado o’u nerth , ac nad oes na gwarchaeëdig , na gweddilledig . Ac efe a ddywed , Pa le y mae eu duwiau hwynt , a’r graig yr ymddiriedasant ynddi , Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau , ac a yfasant win eu diod‐offrwm ? codant a chynorthwyant chwi , a byddant loches i chwi . Gwelwch bellach mai myfi , myfi yw efe ; ac nad oes duw ond myfi : myfi sydd yn lladd , ac yn bywhau ; myfi a archollaf , ac mi a feddyginiaethaf : ac ni bydd a achubo o’m llaw . Canys codaf fy llaw i’r nefoedd , a dywedaf , Mi a fyddaf fyw byth . Os hogaf fy nghleddyf disglair , ac ymaflyd o’m llaw mewn barn ; dychwelaf ddial ar fy ngelynion , a thalaf y pwyth i’m caseion . Meddwaf fy saethau â gwaed , ( a’m cleddyf a fwyty gig , ) â gwaed y lladdedig a’r caeth , o ddechrau dial ar y gelyn . Y cenhedloedd , llawenhewch gyda’i bobl ef : canys efe a ddial waed ei weision , ac a ddychwel ddial ar ei elynion , ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun . A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu’r bobl , efe a Josua mab Nun . A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel : A dywedodd wrthynt , Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw ; y rhai a orchmynnwch i’ch plant , i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon . Canys nid gair ofer yw hwn i chwi : oherwydd eich einioes chwi yw efe ; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw , gan ddywedyd , Esgyn i’r mynydd Abarim hwn , sef mynydd Nebo , yr hwn sydd yn nhir Moab , ar gyfer Jericho ; ac edrych ar wlad Canaan , yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth . A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo , a chasgler di at dy bobl , megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor , ac y casglwyd ef at ei bobl : Oherwydd gwrthryfelasoch i’m herbyn ymysg meibion Israel , wrth ddyfroedd cynnen Cades , yn anialwch Sin ; oblegid ni’m sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel . Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer ; ond yno nid ei , i’r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel . Adyma’r fendith â’r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel , cyn ei farwolaeth . Ac efe a ddywedodd , Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai , ac a gododd o Seir iddynt ; ymlewyrchodd o fynydd Paran , ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint , a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt . Caru y mae efe y bobl : ei holl saint ydynt yn dy law : a hwy a ymlynasant wrth dy draed ; pob un a dderbyn o’th eiriau . Moses a orchmynnodd gyfraith i ni , yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob . Ac efe oedd frenin yn Israel , pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel . Bydded fyw Reuben , ac na fydded farw , ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi . Bydded hyn hefyd i Jwda . Ac efe a ddywedodd , Clyw , O Arglwydd , lais Jwda , ac at ei bobl dwg ef : digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun , a bydd gymorth rhag ei elynion . Ac am Lefi y dywedodd , Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa , ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba ; Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam , Ni welais ef ; a’i frodyr nis adnabu , ac nid adnabu ei blant ei hun : canys cadwasant dy eiriau , a chynaliasant dy gyfamod . Dysgant dy farnedigaethau i Jacob , a’th gyfraith i Israel : gosodant arogldarth ger dy fron , a llosg‐aberth ar dy allor . Bendithia , O Arglwydd , ei olud ef , a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef : archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn , a’i gaseion , fel na chodont . Am Benjamin y dywedodd efe , Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef ; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd , ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef . Ac am Joseff y dywedodd efe , Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd , â hyfrydwch y nefoedd , â gwlith , ac â dyfnder yn gorwedd isod ; Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul , ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau , Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain , ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb , Ac â hyfrydwch y ddaear , ac â’i chyflawnder , ac ag ewyllys da preswylydd y berth ; delo bendith ar ben Joseff , ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr . Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych , a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn : â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear : a dyma fyrddiwn Effraim , ie , dyma filoedd Manasse . Ac am Sabulon y dywedodd efe , Ymlawenycha , Sabulon , yn dy fynediad allan ; a thi , Issachar , yn dy bebyll . Galwant bobloedd i’r mynydd ; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder : canys cyfoeth y moroedd a sugnant , a chuddiedig drysorau y tywod . Ac am Gad y dywedodd efe , Bendigedig yw ehangydd Gad : megis llew y mae efe yn aros , fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen . Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad : canys yno , yn rhan y cyfreithwr , y gosodwyd ef : efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl ; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd , a’i farnedigaethau gydag Israel . Am Dan hefyd y dywedodd , Dan yn genau llew a neidia o Basan . Ac am Nafftali y dywedodd , O Nafftali , llawn o hawddgarwch , a chyflawn o fendith yr Arglwydd : meddianna di y gorllewin a’r deau . Ac am Aser y dywedodd , Bendithier Aser â phlant : bydded gymeradwy gan ei frodyr : ac efe a wlych ei droed mewn olew . Haearn a phres fydd dan dy esgid di ; a megis dy ddyddiau , y bydd dy nerth . Nid oes megis Duw Israel , yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti , a’r wybrennau yn ei fawredd . Dy noddfa yw Duw tragwyddol , ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o’th flaen , ac a ddywed , Difetha ef . Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel ; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin ; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith . Gwynfydedig wyt , O Israel ; pwy sydd megis ti , O bobl gadwedig gan yr Arglwydd , tarian dy gynhorthwy , yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd ! a’th elynion a ymostyngant i ti , a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt . A Moses a esgynnodd o rosydd Moab , i fynydd Nebo , i ben Pisga , yr hwn sydd ar gyfer Jericho : a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead , hyd Dan , A holl Nafftali , a thir Effraim a Manasse , a holl dir Jwda , hyd y môr eithaf , Y deau hefyd , a gwastadedd dyffryn Jericho , a dinas y palmwydd , hyd Soar . A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho , Dyma’r tir a fynegais i Abraham , i Isaac , ac i Jacob , gan ddywedyd , I’th had di y rhoddaf ef ; perais i ti ei weled â’th lygaid , ond nid ei di drosodd yno . A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno , yn nhir Moab , yn ôl gair yr Arglwydd . Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab , gyferbyn â Beth‐peor : ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn . A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw : ni thywyllasai ei lygad , ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef . A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain : a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses . A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb ; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno : a meibion Israel a wrandawsant arno , ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses , yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb ; Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aifft , ar Pharo , ac ar ei holl weision , ac ar ei holl dir ef , Ac yn yr holl law gadarn , ac yn yr holl ofn mawr , y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel . </passage></reply></GetPassage>