<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:50</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:50</urn><passage>Paul a Thimotheus , gweision Iesu Grist , at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi , gyda’r esgobion a’r diaconiaid : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch , Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll , gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd , Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl , o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon ; Gan fod yn hyderus yn hyn , y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da , ei orffen hyd ddydd Iesu Grist : Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll , am eich bod gennyf yn fy nghalon , yn gymaint â’ch bod chwi oll , yn gystal yn fy rhwymau , ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl , yn gyfranogion â mi o ras . Canys Duw sydd dyst i mi , mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist . A hyn yr wyf yn ei weddïo , ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr ; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt ; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist ; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder , y rhai sydd trwy Iesu Grist , er gogoniant a moliant i Dduw . Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod , frodyr , am y pethau a ddigwyddodd i mi , ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl ; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys , ac ym mhob lle arall ; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i , a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn . Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson ; a rhai hefyd o ewyllys da . Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen , nid yn bur , gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i : A’r lleill o gariad , gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd . Beth er hynny ? eto ym mhob modd , pa un bynnag ai mewn rhith , ai mewn gwirionedd , yr ydys yn pregethu Crist : ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen , ie , a llawen fyddaf . Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth , trwy eich gweddi chwi , a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist , Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith , na’m gwaradwyddir mewn dim , eithr mewn pob hyder , fel bob amser , felly yr awron hefyd , y mawrygir Crist yn fy nghorff i , pa un bynnag ai trwy fywyd , ai trwy farwolaeth . Canys byw i mi yw Crist , a marw sydd elw . Ac os byw fyddaf yn y cnawd , hyn yw ffrwyth fy llafur : a pha beth a ddewisaf , nis gwn . Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu , gan fod gennyf chwant i’m datod , ac i fod gyda Christ ; canys llawer iawn gwell ydyw . Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi . A chennyf yr hyder hwn , yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll , er cynnydd i chwi , a llawenydd y ffydd ; Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i , trwy fy nyfodiad i drachefn atoch . Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist ; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi , ai bod yn absennol , y clywyf oddi wrth eich helynt chwi , eich bod yn sefyll yn un ysbryd , ag un enaid , gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl ; Ac heb eich dychrynu mewn un dim , gan eich gwrthwynebwyr : yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth , ond i chwi o iachawdwriaeth , a hynny gan Dduw . Canys i chwi y rhoddwyd , bod i chwi er Crist , nid yn unig gredu ynddo ef , ond hefyd ddioddef erddo ef ; Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi , ac yr awron a glywch ei fod ynof fi . Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist , od oes dim cysur cariad , od oes dim cymdeithas yr Ysbryd , od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau , Cyflawnwch fy llawenydd ; fel y byddoch yn meddwl yr un peth , a’r un cariad gennych , yn gytûn , yn synied yr un peth . Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant , eithr mewn gostyngeiddrwydd , gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain . Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain , eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd . Canys bydded ynoch y meddwl yma , yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu : Yr hwn , ac efe yn ffurf Duw , ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw ; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun , gan gymryd arno agwedd gwas , ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion : A’i gael mewn dull fel dyn , efe a’i darostyngodd ei hun , gan fod yn ufudd hyd angau , ie , angau’r groes . Oherwydd paham , Duw a’i tra‐dyrchafodd yntau , ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw ; Fel yn enw Iesu y plygai pob glin , o’r nefolion , a’r daearolion , a thanddaearolion bethau ; Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd , er gogoniant Duw Dad . Am hynny , fy anwylyd , megis bob amser yr ufuddhasoch , nid fel yn fy ngŵydd yn unig , eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen , gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn . Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef . Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau ; Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed , yn blant difeius i Dduw , yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus , ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd ; Yn cynnal gair y bywyd ; er gorfoledd i mi yn nydd Crist , na redais yn ofer , ac na chymerais boen yn ofer . Ie , a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd , llawenhau yr wyf , a chydlawenhau â chwi oll . Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen , a chydlawenhewch â minnau . Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch , fel y’m cysurer innau hefyd , wedi i mi wybod eich helynt chwi . Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl , yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi . Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain , nid yr eiddo Crist Iesu . Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch , mai fel plentyn gyda thad , y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl . Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon , cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi . Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch . Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus , fy mrawd , a’m cyd‐weithiwr , a’m cyd‐filwr , ond eich cennad chwi , a gweinidog i’m cyfreidiau innau . Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll , ac yn athrist iawn , oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf . Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau : ond Duw a drugarhaodd wrtho ef ; ac nid wrtho ef yn unig , ond wrthyf finnau hefyd , rhag cael ohonof dristwch ar dristwch . Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef , fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn , y byddech chwi lawen , ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch . Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd ; a’r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt : Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau , ac y bu diddarbod am ei einioes , fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o’ch gwasanaeth tuag ataf fi . Weithian , fy mrodyr , byddwch lawen yn yr Arglwydd . Ysgrifennu yr un pethau atoch , gennyf fi yn wir nid yw flin , ac i chwithau y mae yn ddiogel . Gochelwch gŵn , gochelwch ddrwgweithwyr , gochelwch y cyd‐doriad . Canys yr enwaediad ydym ni , y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd , ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu , ac nid yn ymddiried yn y cnawd : Ac er bod gennyf achos i ymddiried , ie , yn y cnawd . Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd , myfi yn fwy : Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd , o genedl Israel , o lwyth Benjamin , yn Hebrëwr o’r Hebreaid ; yn ôl y ddeddf yn Pharisead ; Yn ôl sêl , yn erlid yr eglwys ; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf , yn ddiargyhoedd . Eithr y pethau oedd elw i mi , y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist . Ie , yn ddiamau , yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd : er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth , ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom , fel yr enillwyf Grist , Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun , yr hwn sydd o’r gyfraith , ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist , sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd : Fel yr adnabyddwyf ef , a grym ei atgyfodiad ef , a chymdeithas ei ddioddefiadau ef , gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef ; Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw : Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes , neu fod eisoes wedi fy mherffeithio ; eithr dilyn yr wyf , fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu . Y brodyr , nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael : ond un peth , gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn , ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen , Yr ydwyf yn cyrchu at y nod , am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu . Cynifer gan hynny ag ydym berffaith , syniwn hyn : ac os ydych yn synied dim yn amgen , hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi . Er hynny , y peth y daethom ato , cerddwn wrth yr un rheol , syniwn yr un peth . Byddwch ddilynwyr i mi , frodyr , ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly , megis yr ydym ni yn siampl i chwi . ( Canys y mae llawer yn rhodio , am y rhai y dywedais i chwi yn fynych , ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd , mai gelynion croes Crist ydynt ; Diwedd y rhai yw distryw , duw y rhai yw eu bol , a’u gogoniant yn eu cywilydd , y rhai sydd yn synied pethau daearol . ) Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd ; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr , yr Arglwydd Iesu Grist : Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni , fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef , yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe , ie , ddarostwng pob peth iddo ei hun . Am hynny , fy mrodyr annwyl a hoff , fy llawenydd a’m coron , felly sefwch yn yr Arglwydd , anwylyd . Yr ydwyf yn atolwg i Euodias , ac yn atolwg i Syntyche , synied yr un peth yn yr Arglwydd . Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau , fy ngwir gymar , cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi , ynghyd â Chlement hefyd , a’m cyd‐weithwyr eraill , y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd . Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol : a thrachefn meddaf , Llawenhewch . Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn . Y mae’r Arglwydd yn agos . Na ofelwch am ddim : eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch , gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw . A thangnefedd Duw , yr hwn sydd uwchlaw pob deall , a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu . Yn ddiwethaf , frodyr , pa bethau bynnag sydd wir , pa bethau bynnag sydd onest , pa bethau bynnag sydd gyfiawn , pa bethau bynnag sydd bur , pa bethau bynnag sydd hawddgar , pa bethau bynnag sydd ganmoladwy , od oes un rhinwedd , ac od oes dim clod , meddyliwch am y pethau hyn . Y rhai a ddysgasoch , ac a dderbyniasoch , ac a glywsoch , ac a welsoch ynof fi , y pethau hyn gwnewch : a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi . Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr , oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu ; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd , ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch . Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau : canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf , fod yn fodlon iddo . Ac mi a fedraf ymostwng , ac a fedraf ymhelaethu : ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd , i fod yn llawn ac i fod yn newynog , i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder . Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist , yr hwn sydd yn fy nerthu i . Er hynny , da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i . A chwithau , Philipiaid , hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl , pan euthum i ymaith o Facedonia , na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn , ond chwychwi yn unig . Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid . Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd : eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi . Ond y mae gennyf bob peth , ac y mae gennyf helaethrwydd : mi a gyflawnwyd , wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi ; sef arogl peraidd , aberth cymeradwy , bodlon gan Dduw . A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant , yng Nghrist Iesu . Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu . Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch . Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi , ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>