<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:51</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:51</urn><passage>Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , a Thimotheus ein brawd , At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , gan weddïo drosoch chwi yn wastadol , Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu , ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint ; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd , am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl : Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi , megis ag y mae yn yr holl fyd ; ac sydd yn dwyn ffrwyth , megis ag yn eich plith chwithau , er y dydd y clywsoch , ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd : Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd‐was , yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist ; Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd . Oherwydd hyn ninnau hefyd , er y dydd y clywsom , nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch , a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol ; Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd , gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda , a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw ; Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef , i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd ; Gan ddiolch i’r Tad , yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni : Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch , ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab : Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef , sef maddeuant pechodau : Yr hwn yw delw y Duw anweledig , cyntaf‐anedig pob creadur : Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd , ac sydd ar y ddaear , yn weledig ac yn anweledig , pa un bynnag ai thronau , ai arglwyddiaethau , ai tywysogaethau , ai meddiannau ; pob dim a grewyd trwyddo ef , ac erddo ef . Ac y mae efe cyn pob peth , ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll . Ac efe yw pen corff yr eglwys ; efe , yr hwn yw’r dechreuad , y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw ; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth . Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef ; Ac , wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef , trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun ; trwyddo ef , meddaf , pa un bynnag ai pethau ar y ddaear , ai pethau yn y nefoedd . A chwithau , y rhai oeddech ddieithriaid , a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg , yr awr hon hefyd a gymododd efe , Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth , i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd , ac yn ddifeius , ac yn ddiargyhoedd , ger ei fron ef : Os ydych yn parhau yn y ffydd , wedi eich seilio a’ch sicrhau , ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl , yr hon a glywsoch , ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef ; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog : Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch , ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i , er mwyn ei gorff ef , yr hwn yw’r eglwys : I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog , yn ôl goruchwyliaeth Duw , yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi , i gyflawni gair Duw ; Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau , ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef : I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd ; yr hwn yw Crist ynoch chwi , gobaith y gogoniant : Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu , gan rybuddio pob dyn , a dysgu pob dyn ym mhob doethineb ; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu : Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio , gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef , yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol . Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi , a’r rhai yn Laodicea , a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd ; Fel y cysurid eu calonnau hwy , wedi eu cydgysylltu mewn cariad , ac i bob golud sicrwydd deall , i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw , a’r Tad , a Christ ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig . A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd , fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel . Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd , er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd , yn llawenychu , ac yn gweled eich trefn chwi , a chadernid eich ffydd yng Nghrist . Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd , felly rhodiwch ynddo ; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef , a’ch cadarnhau yn y ffydd , megis y’ch dysgwyd , gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch . Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll , yn ôl traddodiad dynion , yn ôl egwyddorion y byd , ac nid yn ôl Crist . Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol . Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef , yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod : Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw , trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd , yn enwaediad Crist : Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd , yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw . A chwithau , pan oeddech yn feirw mewn camweddau , a dienwaediad eich cnawd , a gydfywhaodd efe gydag ef , gan faddau i chwi yr holl gamweddau ; Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau , yr hon oedd i’n herbyn ni , yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni , ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd , gan ei hoelio wrth y groes ; Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau , efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd , gan ymorfoleddu arnynt arni hi . Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd , neu am ddiod , neu o ran dydd gŵyl , neu newyddloer , neu Sabothau : Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod ; ond y corff sydd o Grist . Na thwylled neb chwi am eich gwobr , wrth ei ewyllys , mewn gostyngeiddrwydd , ac addoliad angylion , gan ruthro i bethau nis gwelodd , wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun ; Ac heb gyfatal y Pen , o’r hwn y mae’r holl gorff , trwy’r cymalau a’r cysylltiadau , yn derbyn lluniaeth , ac wedi ei gydgysylltu , yn cynyddu gan gynnydd Duw . Am hynny , os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd , paham yr ydych , megis petech yn byw yn y byd , yn ymroi i ordeiniadau , ( Na chyffwrdd ; ac nac archwaetha ; ac na theimla ; Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer ; ) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion ? Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd , a gostyngeiddrwydd , a bod heb arbed y corff , nid mewn bri i ddigoni’r cnawd . Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ , ceisiwch y pethau sydd uchod , lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw . Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod , nid ar bethau sydd ar y ddaear . Canys meirw ydych , a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw . Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni , yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant . Marwhewch gan hynny eich aelodau , y rhai sydd ar y ddaear ; godineb , aflendid , gwŷn , drygchwant , a chybydd‐dod , yr hon sydd eilun‐addoliaeth : O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod : Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt , pan oeddech yn byw ynddynt . Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn ; dicter , llid , drygioni , cabledd , serthedd , allan o’ch genau . Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd , gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd ; A gwisgo’r newydd , yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth , yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef : Lle nid oes na Groegwr nac Iddew , enwaediad na dienwaediad , Barbariad na Scythiad , caeth na rhydd : ond Crist sydd bob peth , ac ym mhob peth . Am hynny , ( megis etholedigion Duw , sanctaidd ac annwyl , ) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau , cymwynasgarwch , gostyngeiddrwydd , addfwynder , ymaros ; Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd , a maddau i’ch gilydd , os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb : megis ag y maddeuodd Crist i chwi , felly gwnewch chwithau . Ac am ben hyn oll , gwisgwch gariad , yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd . A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau , i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff ; a byddwch ddiolchgar . Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb ; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau , a hymnau , ac odlau ysbrydol , gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd . A pha beth bynnag a wneloch , ar air neu ar weithred , gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu , gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef . Y gwragedd , ymostyngwch i’ch gwŷr priod , megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd . Y gwŷr , cerwch eich gwragedd , ac na fyddwch chwerwon wrthynt . Y plant , ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth : canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda . Y tadau , na chyffrowch eich plant , fel na ddigalonnont . Y gweision , ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd ; nid â llygad‐wasanaeth , fel bodlonwyr dynion , eithr mewn symlrwydd calon , yn ofni Duw : A pha beth bynnag a wneloch , gwnewch o’r galon , megis i’r Arglwydd , ac nid i ddynion ; Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth : canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu . Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam , a dderbyn am y cam a wnaeth : ac nid oes derbyn wyneb . Y meistriaid , gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union ; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd . Parhewch mewn gweddi , gan wylied ynddi gyda diolchgarwch ; Gan weddïo hefyd drosom ninnau , ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd , i adrodd dirgelwch Crist , am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau : Fel yr eglurhawyf ef , megis y mae yn rhaid i mi ei draethu . Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan , gan brynu’r amser . Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol , wedi ei dymheru â halen , fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn . Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi , y brawd annwyl , a’r gweinidog ffyddlon , a’r cyd‐was yn yr Arglwydd : Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn , fel y gwybyddai eich helynt chwi , ac y diddanai eich calonnau chwi ; Gydag Onesimus , y ffyddlon a’r annwyl frawd , yr hwn sydd ohonoch chwi . Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma . Y mae Aristarchus , fy nghyd‐garcharor , yn eich annerch ; a Marc , nai Barnabas fab ei chwaer , ( am yr hwn y derbyniasoch orchmynion : os daw efe atoch , derbyniwch ef ; ) A Jesus , yr hwn a elwir Jwstus , y rhai ydynt o’r enwaediad . Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw , y rhai a fuant yn gysur i mi . Y mae Epaffras , yr hwn sydd ohonoch , gwas Crist , yn eich annerch , gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau , ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw . Canys yr ydwyf yn dyst iddo , fod ganddo sêl mawr trosoch chwi , a’r rhai o Laodicea , a’r rhai o Hierapolis . Y mae Luc y ffisigwr annwyl , a Demas , yn eich annerch . Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea , a Nymffas , a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef . Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi , perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid : a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea . A dywedwch wrth Archipus , Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd , ar i ti ei chyflawni hi . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun . Cofiwch fy rhwymau . Gras fyddo gyda chwi . Amen . </passage></reply></GetPassage>