<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:52</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:52</urn><passage>Paul , a Silfanus , a Thimotheus , at eglwys y Thesaloniaid , yn Nuw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist . Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll , gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau , Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi , a llafur eich cariad , ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist , gerbron Duw a’n Tad ; Gan wybod , frodyr annwyl , eich etholedigaeth chwi gan Dduw . Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig , eithr hefyd mewn nerth , ac yn yr Ysbryd Glân , ac mewn sicrwydd mawr ; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith , er eich mwyn chwi . A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni , ac i’r Arglwydd , wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr , gyda llawenydd yr Ysbryd Glân : Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia . Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd , nid yn unig ym Macedonia , ac yn Achaia , ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led ; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim . Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni , pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi , a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod , i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw ; Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd , yr hwn a gyfododd efe o feirw , sef Iesu , yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod . Canys chwi eich hunain a wyddoch , frodyr , ein dyfodiad ni i mewn atoch , nad ofer fu : Eithr wedi i ni ddioddef o’r blaen , a chael amarch , fel y gwyddoch chwi , yn Philipi , ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech . Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid , nac mewn twyll : Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl , felly yr ydym yn llefaru ; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion , ond i Dduw , yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni . Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus , fel y gwyddoch chwi , nac mewn rhith cybydd-dod ; Duw yn dyst : Nac yn ceisio moliant gan ddynion , na chennych chwi , na chan eraill ; lle y gallasem bwyso arnoch , fel apostolion Crist . Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi , megis mamaeth yn maethu ei phlant . Felly , gan eich hoffi chwi , ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi , nid yn unig efengyl Duw , ond ein heneidiau ein hunain hefyd , am eich bod yn annwyl gennym . Canys cof yw gennych , frodyr , ein llafur a’n lludded ni : canys gan weithio nos a dydd , fel na phwysem ar neb ohonoch , ni a bregethasom i chwi efengyl Duw . Tystion ydych chwi , a Duw hefyd , mor sanctaidd , ac mor gyfiawn , a diargyhoedd , yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu : Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori , ac yn eich cysuro , bob un ohonoch , fel tad ei blant ei hun , Ac yn ymbil , ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw , yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant . Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid , oherwydd i chwi , pan dderbyniasoch air Duw , yr hwn a glywsoch gennym ni , ei dderbyn ef nid fel gair dyn , eithr fel y mae yn wir , yn air Duw , yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu . Canys chwychwi , frodyr , a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw , y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu ; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl , megis hwythau gan yr Iddewon : Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu , a’u proffwydi eu hunain , ac a’n herlidiasant ninnau ymaith ; ac ydynt heb ryngu bodd Duw , ac yn erbyn pob dyn ; Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd , fel yr iacheid hwy , i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol : canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf . A ninnau , frodyr , wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr , yng ngolwg , nid yng nghalon , a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr . Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch ( myfi Paul , yn ddiau , ) unwaith a dwywaith hefyd ; eithr Satan a’n lluddiodd ni . Canys beth yw ein gobaith ni , neu ein llawenydd , neu goron ein gorfoledd ? onid chwychwi , gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef ? Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni . Am hynny , gan na allem ymatal yn hwy , ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen ; Ac a ddanfonasom Timotheus , ein brawd , a gweinidog Duw , a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist , i’ch cadarnhau chwi , ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd ; Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn : canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni . Canys yn wir pan oeddem gyda chwi , ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni ; megis y bu , ac y gwyddoch chwi . Oherwydd hyn , minnau , heb allu ymatal yn hwy , a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi ; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi , a myned ein llafur ni yn ofer . Eithr yr awron , wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych , a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad , a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol , gan hiraethu am ein gweled ni , megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau ; Am hynny y cawsom gysur , frodyr , amdanoch chwi , yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid , trwy eich ffydd chwi . Oblegid yr awron byw ydym ni , os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd . Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi , am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni , Gan weddïo mwy na mwy , nos a dydd , ar gael gweled eich wyneb chwi , a chyflawni diffygion eich ffydd chwi ? A Duw ei hun a’n Tad ni , a’n Harglwydd Iesu Grist , a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi . A’r Arglwydd a’ch lluosogo , ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd , ac i bawb , megis ag yr ydym ninnau i chwi : I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad , yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint . Ymhellach gan hynny , frodyr , yr ydym yn atolwg i chwi , ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu , megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw , ar i chwi gynyddu fwyfwy . Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu . Canys hyn yw ewyllys Duw , sef eich sancteiddiad chwi , ar ymgadw ohonoch rhag godineb : Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch ; Nid mewn gwŷn trachwant , megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw : Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim : canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll , megis y dywedasom i chwi o’r blaen , ac y tystiasom . Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid , ond i sancteiddrwydd . Am hynny y neb sydd yn dirmygu , nid dyn y mae yn ei ddirmygu , ond Duw , yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni . Ond am frawdgarwch , nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch : canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd . Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia : ond yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , gynyddu ohonoch fwyfwy ; A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd , a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain , a gweithio â’ch dwylo eich hunain , ( megis y gorchmynasom i chwi ; ) Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan , ac na byddo arnoch eisiau dim . Ond ni ewyllysiwn , frodyr , i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant , na thristaoch , megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith . Canys os ydym yn credu farw Iesu , a’i atgyfodi ; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu , a ddwg Duw hefyd gydag ef . Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd , na bydd i ni’r rhai byw , y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd , ragflaenu’r rhai a hunasant . Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd , â llef yr archangel , ac ag utgorn Duw : a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf : Yna ninnau’r rhai byw , y rhai a adawyd , a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau , i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr : ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd . Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn . Eithr am yr amserau a’r prydiau , frodyr , nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch . Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys , mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos . Canys pan ddywedant , Tangnefedd a diogelwch ; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf , megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog ; ac ni ddihangant hwy ddim . Ond chwychwi , frodyr , nid ydych mewn tywyllwch , fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr . Chwychwi oll , plant y goleuni ydych , a phlant y dydd : nid ydym ni o’r nos , nac o’r tywyllwch . Am hynny na chysgwn , fel rhai eraill ; eithr gwyliwn , a byddwn sobr . Canys y rhai a gysgant , y nos y cysgant ; a’r rhai a feddwant , y nos y meddwant . Eithr nyni , gan ein bod o’r dydd , byddwn sobr , wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad , ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm . Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint , ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist , Yr hwn a fu farw drosom ; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu , y byddom fyw gydag ef . Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd , ac adeiledwch bob un eich gilydd , megis ag yr ydych yn gwneuthur . Ac yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg , ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd , ac yn eich rhybuddio ; A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad , er mwyn eu gwaith . Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain . Ond yr ydym yn deisyf arnoch , frodyr , rhybuddiwch y rhai afreolus , diddenwch y gwan eu meddwl , cynheliwch y gweiniaid , byddwch ymarhous wrth bawb . Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb : eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda , tuag at eich gilydd , a thuag at bawb . Byddwch lawen yn wastadol . Gweddïwch yn ddi-baid . Ym mhob dim diolchwch : canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi . Na ddiffoddwch yr Ysbryd . Na ddirmygwch broffwydoliaethau . Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda . Ymgedwch rhag pob rhith drygioni . A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll : a chadwer eich ysbryd oll , a’ch enaid , a’ch corff , yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist . Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd , yr hwn hefyd a’i gwna . O frodyr , gweddïwch drosom . Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol . Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd , ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd . Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi . Amen . </passage></reply></GetPassage>