<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:53</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:53</urn><passage>Paul , a Silfanus , a Thimotheus , at eglwys y Thesaloniaid , yn Nuw ein Tad , a’r Arglwydd Iesu Grist : Gras i chwi , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch , frodyr , fel y mae yn addas , oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu , a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu ; Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw , oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef : Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw , fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw , er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef . Canys cyfiawn yw gerbron Duw , dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi ; Ac i chwithau , y rhai a gystuddir , esmwythdra gyda ni , yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef , gyda’i angylion nerthol , A thân fflamllyd , gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw , ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist : Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth , ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd , ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef ; Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint , ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu , ( oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu , ) yn y dydd hwnnw . Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch , ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon , a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni , a gwaith ffydd , yn nerthol : Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi , a chwithau ynddo yntau , yn ôl gras ein Duw ni , a’r Arglwydd Iesu Grist . Ac yr ydym yn atolwg i chwi , frodyr , er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist , a’n cydgynulliad ninnau ato ef , Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl , ac na’ch cynhyrfer , na chan ysbryd , na chan air , na chan lythyr , megis oddi wrthym ni , fel pe bai dydd Crist yn gyfagos . Na thwylled neb chwi mewn un modd : oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf , a datguddio’r dyn pechod , mab y golledigaeth ; Yr hwn sydd yn gwrthwynebu , ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw , neu a addolir ; hyd onid yw efe , megis Duw , yn eistedd yn nheml Duw , ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw . Onid cof gennych chwi , pan oeddwn i eto gyda chwi , ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi ? Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal , fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun . Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes : yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal , a etyl nes ei dynnu ymaith . Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw , yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau , ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad : Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan , gyda phob nerth , ac arwyddion , a rhyfeddodau gau , A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig ; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd , fel y byddent gadwedig . Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn , fel y credont gelwydd : Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd , ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder . Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi , frodyr caredig gan yr Arglwydd , oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth , trwy sancteiddiad yr Ysbryd , a ffydd i’r gwirionedd : I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni , i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist . Am hynny , frodyr , sefwch , a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch , pa un bynnag ai trwy ymadrodd , ai trwy ein hepistol ni . A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun , a Duw a’n Tad , yr hwn a’n carodd ni , ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol , a gobaith da trwy ras , A ddiddano eich calonnau chwi , ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda . Bellach , frodyr , gweddïwch drosom ni , ar fod i air yr Arglwydd redeg , a chael gogonedd , megis gyda chwithau ; Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus : canys nid oes ffydd gan bawb . Eithr ffyddlon yw’r Arglwydd , yr hwn a’ch sicrha chwi , ac a’ch ceidw rhag drwg . Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch , eich bod yn gwneuthur , ac y gwnewch , y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi . A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw , ac i ymaros am Grist . Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi , frodyr , yn enw ein Harglwydd Iesu Grist , dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus , ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni . Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni : oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi ; Ac ni fwytasom fara neb yn rhad ; ond trwy weithio mewn llafur a lludded , nos a dydd , fel na phwysem ar neb ohonoch chwi ; Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod , ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn . Canys pan oeddem hefyd gyda chwi , hyn a orchmynasom i chwi , Os byddai neb ni fynnai weithio , ni châi fwyta chwaith . Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus , heb weithio dim , ond bod yn rhodresgar . Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym , a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist , ar iddynt weithio trwy lonyddwch , a bwyta eu bara eu hunain . A chwithau , frodyr , na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni . Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma , hysbyswch hwnnw ; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef , megis y cywilyddio efe . Er hynny na chymerwch ef megis gelyn , eithr cynghorwch ef fel brawd . Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd . Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll . Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun ; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol : fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu . Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>